Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.45.0-wmf.4
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/42
104
69112
138344
2025-06-03T20:28:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138344
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>(''repression, not expression'') yw gelyn mwyaf marwol rhyddid a chynnydd dyn. Nid yw uniongrededd yn aml ond diogi meddyliol, na'r pulpud ond "castell llwfrddyn." (4) Yn lle edrych ar gredo a bywyd fel achos ac effaith, dylasem yn aml newid y berthynas, a chyfrif y bywyd yn achos, gan mai un o driciau'r natur foesol lygredig yw cyfaddasu ei chredo i'w gweithrediadau ei hun. (5) Yr heresi fawr yw heresi calon. Cyhyd ag y byddom yn deyrngar i gydwybod ac yn ufudd i'r Llais Dwyfol o'n mewn, nid oes dir gwaharddedig i'n deall, a phan yw'n calonnau mewn cytgord â chalon Duw, rhydd hyn inni'r defnydd goreu i'w weithio allan mewn syniadau cywir, ac mae'r sawl a fedd ysbryd anghywir dan anfantais fawr i ddyfod o hyd i'r gwirionedd. Ac ni fuasai Duw wedi gosod ynom gariad at unoliaeth, y ddawn i olrhain effeithiau i'w hachosion, onibâi Ei fod yn golygu inni i'w ddefnyddio.
Dengys y ddau gyfansoddiad hyn inni ei fod erbyn hyn wedi cyrraedd yr esgynlawr moesegol a diwinyddol y bu'n sefyll a siarad arno am lawer blwyddyn wedyn ; a gallwn gasglu ei fod yn pentyrru geiriau megis "caethter tyn reolau taglyd ffurfiau a rwym-efynna'r meddwl" gyd â bwriad neilltuol o ddangos ei atgasrwydd o'u gorthrwm. Nid oedd gwahanol adrannau ei gred eto, efallai, wedi eu cyfundrefnu, gan y gesyd ffydd, rheswm, y galon, mewnwelediad, a chydwybod yn ymyl ei gilydd. Nid oes arwydd, ychwaith, ei fod eto wedi dyfod dan ddylanwad Hegel a Green. Mill a Bain oedd ben y pryd hwnnw ym Mhrifysgol Llundain; ac er y gwyddom iddo gael help y Prifathro mewn Athroniaeth yn ogystal â'r Clasuron, a'i fod yntau wedi gadael Rhydychen (lle'r oedd T. H. Green yn awr yn dyfod i sylw a phoblogrwydd) yn 1866, dengys y lle canolog a rydd Adams i fewnwelediad nad oedd digon o ddelfrydiaeth Hegel wedi treiglo i'w feddwl i wneuthur argraff ddofn arno,
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
d30uvmms1yv90ateq4vtmv7c73ts6ay
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/43
104
69113
138345
2025-06-03T20:28:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138345
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gweledigaeth proffwyd oedd ganddo eto yn fwy na chyfundrefn yr athronydd a'r diwinydd, a gwelwn hi yn mynd yn dân goleu yma ac acw yn y bryddest a'r ysgrif uchod, fel nad ydym yn rhyfeddu ei fod yn awr wedi ymroddi i'r gwaith o bregethu. Osgôdd y pulpud hyd y gallodd; nid oedd wedi ei eni'n siaradwr naturiol, ac nid oedd ynddo ogwydd at fywyd cyhoeddus: anghenraid a osodwyd arno. Nid ydym yn sicr pa bryd y gwelodd y pulpud yn sefyll ar draws ei lwybr i hawlio'i wasanaeth ; efallai nad oedd wedi plygu ei ewyllys i'w alwad pan oedd yn cychwyn y dosbarth Beiblaidd yn Ystradgynlais; ond dïau iddo fynd i Aberystwyth â'i wyneb ar y weinidogaeth, fel y praw atgof Mr. Lloyd Owen.
Efallai mai yn y cyfeiriad hwn y daeth fwyaf dan ddylanwad y Prifathro, nid yn unig nac yn bennaf yn ei ddosbarth, ond mewn cyfathrach bersonol. "Yr oedd yn fwy yng nghyfrinach y Principal na neb arall o'r efrydwyr," meddai ei gyfaill y Parch. John Owen. Yr oedd gan yr Athro olwg fawr arno hyd y diwedd, a pha un bynnag a oedd yn cydsynio â phopeth a gyhoeddai, arferai alw sylw cyfeillion cydnaws at ei lyfrau. Ac er bod y disgybl cyn hyn wedi profi ei gariad at ryddid a gwirionedd, cafodd hwnnw ei gadarnhau a'i rymuso'n fawr gan gydymdeimlad yr Athro, fel y cydnebydd yn ei farwnad iddo:
{{center block|
<poem>
Gedrwydden fawr! ffynidwydd îr
A lechai dan dy gysgod gynt
Rhag rhuthr ystorm erlidgar wynt
O'th golli udant dymor hir.
"Cref darian fu d'athrylith fad
I wrol ymchwil barn a ffydd,
A bwyell dorrai'r cyffion sydd
Yn cloff gadwyno meddwl gwlad."
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
jkv6iwd8mgs22vkna5k2frmcbqo08va
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/44
104
69114
138346
2025-06-03T20:29:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138346
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae yn dra awgrymiadol bod y Prifathro T. F. Roberts —mewn llythyr a ddyfynnir ym Mhennod XXII.—yn cyplysu darlithiau ei ragflaenydd ar I. Cor. ag ysgrif ei gydddisgybl ar ''"Creed and Character."''
Parhaodd edmygedd a serch y disgybl at ei hen Athro hefyd hyd y diwedd: un o'r pethau olaf a ysgrifennodd oedd soned iddo ar achlysur dadorchuddio'i gerflun yn Aberystwyth:
{{center block|
<poem>
Boldly he eyes and scans the widening sea!
Behind him stands the College, to his praise,
Where he, of yore, spent his laborious days
Trusting in learning's immortality.
The impulse to full culture that we see
Sweeps like a tidal wave to—day o'er Wales
Flooding its youthful hearts o'er hills and dales
To find in culture life's deep mystery.
He's gone! We, orphaned, now bewail our loss,
Of teacher, guide, inspirer, and friend.
Not so. In heaven he spends for us his rest:
True child he was of our Redeemer's Cross:
His life was one of sacrifice to the end.
To-day, in love, Wales gives him of its best.
</poem>
}}
Yr ydym yn awr wedi dyfod i derfyn prif gyfnod cyntaf ei fywyd, ac wedi rhoddi cymaint o sylw iddo am fod gweddill ei hanes yn dibynnu arno. Wrth edrych yn ol, gwelwn fod iddo adrannau. Gallasai fod wedi gwneuthur y gwaith mŵn yn arhosfan, fel y gwnaeth eraill o'i gyfoedion; neu, ynteu, gallasai setlo i lawr i fywyd tawel yr ysgolfeistr, fel y gwnaeth y rhan fwyaf o'i gyfeillion yn y Coleg; ond ni wnaeth, er ei fod yn eithriadol o sensitif i swynion y bywyd teuluaidd ac mewn cyfathrach o bryd i bryd â mwy nag un a wnâi "ymgeledd gymwys" iddo (er nad mor gymwys, meddai ef, â'r un a gafodd). Dengys<noinclude><references/></noinclude>
qrylg15xdnhgle156pkeiljlgskke1m
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/45
104
69115
138347
2025-06-03T20:30:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138347
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyn fod gyrr ei uchelgais a'i benderfyniad yn fawr. Bu'n hir yn cyrraedd y nod, mae'n wir—lawer yn hwy nag a gymer i fechgyn yr oes hon, neu a gymerai i "ffafriaid rhagluniaeth" yr oes honno—ond nid am iddo hepian, na bod nac yn llesg nac yn llwfr, ond am fod y ffordd yn drofaog ac yn arw iddo ef, ac yntau'n gorfod pori ochr y ffordd wrth fynd, a'i gynnal ei hun.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ct8m9i22qsvs5yye4ximk9tpo817svu
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/46
104
69116
138348
2025-06-03T20:30:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
138348
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/47
104
69117
138349
2025-06-03T21:30:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138349
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|V.—DECHREU CYFNOD NEWYDD.}}}}
DEUWN yn awr at gyfnod newydd yn ei hanes cyfnod o adweithio ar ei gylchfyd. Hyd yma y mae wedi bod yn derbyn oddiwrth ei gylchfyd, ac yn cael ei wneuthur ganddo. Yn unig, mae'n rhaid inni gofio nad yw dyn, nac anifail, na hyd yn oed planhigyn byw, yn hollol oddefol. Bu ef hefyd yn flaenorol, pan oedd yn ysgolfeistr, yn ceisio dylanwadu ar eraill; a chawn y bydd ar ol hyn, yn neilltuol yn athronyddol, yn eistedd wrth draed athrawon newydd. Eto, ar y cyfan, gellir dywedyd ei fod o hyn allan wedi newid ei osgo tuag at ei fyd.
Beth, ynteu, am ei gylchfyd newydd? Pan ymsefydlodd yng ngwaelod Sir Aberteifi yn 1878, gellir dywedyd bod llanw mawr Diwygiad 1859-60 wedi treio, gan adael ambell welltyn o ddegymu'r mintys a'r anis a'r cwmin, megis peidio â throi'r gwallt yn ol, ambell ysmotyn o ewyn mewn tinc a hwyl, i ddangos y fan lle bu. Yr oedd crefydd yn gynwysedig mewn derbyn athrawiaethau neilltuol, mynychu moddion gras a chael hwyl, a byw i fyny â gofynion moesoldeb cyffredin. Pwysleisia'r meddylegwr diweddar na ellir hollti'r meddwl i adrannau neu gynheddfau annibynnol; eto, y mae'n ffaith ymarferol y gellir cadw athrawiaeth y deall, hwyl y teimlad, a moesoldeb yr ewyllys i raddau pell ar wahân i'w gilydd, er bod yn rhaid cydnabod, pan yw felly, nad yr athrawiaeth a goleddir sydd yn weithgar yn y teimlad a'r ewyllys, ond rhywbeth mwy byw ac agos.
Gwelwn, ymhellach, fod y Dwyfol yn cael ei gyfyngu i'r deall, yn fater o athrawiaeth neu gredo, a'r ewyllys ddynol yn unig oedd yn weithgar mewn moesoldeb. Deuai Duw a dyn i gyffyrddiad â'i gilydd<noinclude><references/></noinclude>
0eljj3pkbnn2iwzjasxqini93o00m7a
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/48
104
69118
138350
2025-06-03T21:31:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138350
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>drwy'r teimlad yn "y moddion"; ond nid oedd sôn am Dduw'n meddiannu'r ewyllys ac felly'n codi'r holl natur i foesoldeb uwch y Bregeth ar y Mynydd. Gwelir, ynteu, bod ffydd wedi mynd i golli mewn credo farw, ddiffrwyth, a chymaint o ynni ysbrydol (os ysbrydol hefyd) oedd ar ol yn codi o ''gyffyrddiad'' teimlad—nid o ''gysylltiad'' neu undeb ffydd. Y canlyniad oedd fod crefydd yn ffurfiol a moesoldeb yn isel, ac ar y goreu yn ''commonplace.''
Yr oedd y nodweddion hyn i'w gweld ym mhregethau'r cyfnod a'r ardal. Os cymerwn dri gweinidog y dref gyfagos—Castellnewydd Emlyn—i gynrychioli'r ardal, mae'n rhaid inni gofio eu bod yn wŷr eithriadol. Y mae sôn bod y Parch. John Williams, Ebenezer, ychydig flynyddoedd yn flaenorol, wedi rhoddi her gyhoeddus i unrhyw dref yng Nghymru i ddangos tri gŵr fel " Benjamin Thomas, y Graig;<ref>Yr oedd ef wedi gadael cyn i Adams ddyfod,</ref> Evan Phillips, Bethel; a John Williams, Ebenezer." Gellid rhoddi'r her o hyd wedi i Aeron Jones gymryd lle John Williams, petasai ysbryd John Williams yno i'w roddi. Yr oedd y tri, meddwn, yn uchraddol, yn feirdd gwych, yn llenorion cyfarwydd, yn meddu ar leferydd hyawdl a phersonoliaeth darawiadol. Yr oedd y tri yn orhoff o Natur: y Myfyr a Phillips o Natur ar "ddolau glân Teifi " yn arbennig, ac yn gosod "glannau afon Teifi hen" gyd â "glannau Afon Duw"; ac Aeron Jones o Natur yn gyffredinol, o flodau'r eithin hyd at fachlud haul a'r "comedau fflamllyd"! Yr oedd pob un o'r tri hefyd yn "big human." Yn sicr, ni wnaeth yr hen fam Natur erioed ddynoliaeth gyfoethocach, serchocach, hawddgarach nag eiddo Myfyr Emlyn. Gwir fod wmbredd o'r pagan ynddo—y pagan sydd yn gwingo yn erbyn porth cyfyng a'r ffordd gul, ond yr oedd yn bagan braf. Nid oedd cymaint o haul ar wyneb Evan Phillips ac Aeron<noinclude><references/></noinclude>
32no3qevpzfkzjo8f3qddb7lhwawpxa
138351
138350
2025-06-03T21:31:53Z
AlwynapHuw
1710
138351
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>drwy'r teimlad yn "y moddion"; ond nid oedd sôn am Dduw'n meddiannu'r ewyllys ac felly'n codi'r holl natur i foesoldeb uwch y Bregeth ar y Mynydd. Gwelir, ynteu, bod ffydd wedi mynd i golli mewn credo farw, ddiffrwyth, a chymaint o ynni ysbrydol (os ysbrydol hefyd) oedd ar ol yn codi o ''gyffyrddiad'' teimlad—nid o ''gysylltiad'' neu undeb ffydd. Y canlyniad oedd fod crefydd yn ffurfiol a moesoldeb yn isel, ac ar y goreu yn ''commonplace.''
Yr oedd y nodweddion hyn i'w gweld ym mhregethau'r cyfnod a'r ardal. Os cymerwn dri gweinidog y dref gyfagos—Castellnewydd Emlyn—i gynrychioli'r ardal, mae'n rhaid inni gofio eu bod yn wŷr eithriadol. Y mae sôn bod y Parch. John Williams, Ebenezer, ychydig flynyddoedd yn flaenorol, wedi rhoddi her gyhoeddus i unrhyw dref yng Nghymru i ddangos tri gŵr fel " Benjamin Thomas, y Graig;<ref>Yr oedd ef wedi gadael cyn i Adams ddyfod,</ref> Evan Phillips, Bethel; a John Williams, Ebenezer." Gellid rhoddi'r her o hyd wedi i Aeron Jones gymryd lle John Williams, petasai ysbryd John Williams yno i'w roddi. Yr oedd y tri, meddwn, yn uchraddol, yn feirdd gwych, yn llenorion cyfarwydd, yn meddu ar leferydd hyawdl a phersonoliaeth darawiadol. Yr oedd y tri yn orhoff o Natur: y Myfyr a Phillips o Natur ar "ddolau glân Teifi " yn arbennig, ac yn gosod "glannau afon Teifi hen" gyd â "glannau Afon Duw"; ac Aeron Jones o Natur yn gyffredinol, o flodau'r eithin hyd at fachlud haul a'r "comedau fflamllyd"! Yr oedd pob un o'r tri hefyd yn ''"big human."'' Yn sicr, ni wnaeth yr hen fam Natur erioed ddynoliaeth gyfoethocach, serchocach, hawddgarach nag eiddo Myfyr Emlyn. Gwir fod wmbredd o'r pagan ynddo—y pagan sydd yn gwingo yn erbyn porth cyfyng a'r ffordd gul, ond yr oedd yn bagan braf. Nid oedd cymaint o haul ar wyneb Evan Phillips ac Aeron<noinclude><references/></noinclude>
86xhum8d3bdppegzcic3wdcnmutxx9i
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/49
104
69119
138352
2025-06-03T21:32:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138352
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Jones efallai, ond yr oedd yn eu calon, fel y gŵyr llu o weinidogion y Methodistiaid a'r Annibynwyr a fu yn hogiau ysgol a choleg unwaith. Gallai'r tri chwerthin wrth fodd calon Carlyle, a gallent wylo hefyd.
Meddent deimladrwydd crefyddol bywiog iawn, a dorrai allan yn wenfflam oleu yn eu pregeth yn aml; ac yr oeddynt fel ei gilydd yn neilltuol sensitif i'r hyn sy'n oruchel ac achubol mewn Cristnogaeth, yn gystal â'r hyn sy'n ddramayddol ynddi—ei hapêl at y dychymig. Eto nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt ddysgeidiaeth ddatblygedig ''(explicit)'' gyd â golwg ar y ffordd i groesi o'r dwyfol i'r dynol, ac ymddengys na theimlent ei heisiau. Yr oeddynt yn ddiwinyddion mewn ffordd wahanol i'w gilydd, ac i raddau gwahanol. Y Myfyr oedd yr un a deimlai leiaf o ddiddordeb, efallai, mewn system ddiwinyddol fel y cyfryw; y darllenwr mwyaf, a'r mwyaf agored i syniadau newydd, oedd Aeron Jones; nid ydym yn cofio gweld Evan Phillips â llyfr newydd yn ei law erioed, ac efô, yn ddïau, a wnaeth yr hen athrawiaethau yn fwyaf o eiddo iddo'i hun, tra y cadwai myfyrdod cyson ei feddwl yn ffres a byw trwy gyswllt â dyfroedd mwy rhedegog. Ond y mae'n wir am y tri bod yr hen athrawiaethau yn ffurfio eu cefndir meddyliol; a rhwng y cefndir hwn a'r bywyd beunyddiol yr oedd yna dir eang i'w dychymig hwy a "chnawd " yr aelodau i redeg yn benrhydd ynddo. Gan y cymerent yr athrawiaethau yn ganiataol, a'u pregethu mewn modd hollol wrthrychol, nid gwaith hawdd fyddai iddynt eu dwyn i arweddu ar fywyd dyn. Ac yn wir, nid oedd eisiau, gan fod Iachawdwriaeth yn beth negyddol, yn achub ''oddiwrth'' y byd, a'r Ymgnawdoliad yn hollol iswasanaethgar i'r amcan o wneuthur Iawn dros bechod y byd.
Yr oedd eu darfelydd ysbrydoledig, fel eiddo Pantycelyn, yn aml yn eu harwain i ddywedyd yr hyn oedd<noinclude><references/></noinclude>
cei8jg3bsm0jv1lbjb8itemwllv6x4p
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/50
104
69120
138353
2025-06-03T21:33:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138353
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anghyson â llythyren eu diwinyddiaeth, ac yn awgrymiadol o undeb cyfrin â Duw; megis pan ddywedai Evan Phillips fod perthynas ewyllys y dyn ailanedig ag eiddo Duw yn debyg i berthynas olwyn fach â'r un fawr ganolog yn y peiriant yn troi dan yr un strap; neu Aeron Jones yn disgrifio'r mwg a godai o aelwydydd duwiol Dolgellau awyr las bore o haf fel arwyddlun o'u hysbrydoedd hwythau mewn addoliad yn ymgymysgu â Duw! Ond nid oedd ganddynt ddysgeidiaeth ddatblygedig i'r perwyl hwn a fyddai yn gwasgu'r gwirionedd adref i galonnau'r gwrandawyr drwy bwyslais mwy neu lai cyson arno.
Y canlyniad oedd fod y capel a'r tafarndy—fel blaidd ac oen y milflwyddiant—yn "trigo ynghyd," a'r tafarnwr, yn aml, yn brif ddyn y capel; ac ar ddyddiau ffair a marchnad yr oedd ystafelloedd y tafarndai, i fyny ac i lawr, yn llawn o hogiau a genethod yn cyd-ddiota-relic o'r dull paganaidd o garu. Nid oedd pwysigrwydd cylchfyd ffafriol i fywyd da yn cael ond ychydig sylw, nid yn unig nac yn gymaint am nad oedd bywydeg wedi ei boblogeiddio, ond am fod y syniad am y bywyd ysbrydol yn negyddol.
Yr oedd yna eithriadau yn y pulpud a'r seddau—un eithriad godidog yn Llechryd yn ymyl. Dyn nodedig oedd y Parch. William Rees, Llechryd: un mewn cyfathrach â Realiti ar lawer lefel. Cyfeillachai â'r adar, gan eu galw "wrth eu henwau," a chyfeillachent hwythau ag ef pan âi allan i rodianna yn gystal ag yn y tŷ, a dywedir bod Brongoch ar ei obennydd pan fu farw; ymddiddanai â'i wraig yn hyglyw wedi iddi hi adael y corff, er nad oedd ei geiriau hi yn hyglyw i neb arall; ac yr oedd angylion a dieif mor gyfarwydd iddo â'i gyfeillion a'i elynion yn y pentref a'r eglwys. Nid hawdd dywedyd beth oedd ei ddiwinyddiaeth; perthynai o ran ei ysbryd i broffwydi'r Hen Destament, i Boanerges yn galw tân<noinclude><references/></noinclude>
7yx6n22me4feqocrol5sfusdy19vcbj
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/51
104
69121
138354
2025-06-03T21:33:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138354
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i lawr o'r nef yn fwy nag i apostol cariad; caffai ei ddarfelydd ysbrydol borthiant a chyfeillach gydnaws yng ngweledigaethau Swedenborg; derbyniai'r Beibl fel Gair Duw, ac yr oedd yn dra hyddysg ynddo o glawr i glawr, er y mynnai'n aml ei esbonio'n allegol, megys pan ddywedai nad oedd y sarff (yn Eden) ond natur isaf dyn yn ymgripio ar hyd godreon creadigaeth Duw." Beth bynnag a ellir ei ddywedyd am ei ddaliadau, nid oes dwy farn ynghylch ei angerdd santaidd a'i burdeb moesol. Yn sicr, ni fu neb fel ef yn chwythu bygythion a chelanedd yn erbyn yr un drwg, yn neilltuol yn y ffurf o alcohol; neb a allai ddisgrifio ei alanas mewn lliwiau mor erchyll, ac yn neilltuol fflangellu'r "saint" a'i cefnogai â brawddegau mwy eirias. Ac nid brwdfrydedd di-ffrwyth oedd yr eiddo ef: heblaw y llewych a wasgarai dros wyneb yr ardaloedd cymdogaethol, casglodd o'i amgylch eglwys fyw, os bechan, o ysbrydoedd cydnaws, ac yn meddu ar gadernid a glendid a barai inni deimlo nid yn unig eu bod yn wahanol i'r "byd," ond hefyd i aelodau eglwysi eraill.
Pan ddeuwn at y cylchfyd agos y daeth Adams i weithio ynddo yn Hawen a Bryngwenith, yr ydym yn ddyledus, yn bennaf, i atgofion a llafur cariad Mr. Crowther. Yma eto, mae'n rhaid inni gofio bod yr hen gymeriadau a ddisgrifir ganddo ef i fesur yn eithriadol ond yn dangos nodweddion oedd yn gyffredinol. Wrth sôn am un o'r rhai hynaf—David Evans, Fronfach—fe ddywed:
Clywais rai yn dywedyd flynyddoedd yn ol bod gan "bob eglwys yn y rhan hon o Geredigion ei nodwedd arbennig ei hun. Nid wyf yn medru dwyn ar gof yn bresennol brif nodwedd pob eglwys yn ol y bobl gall yma, ond yr wyf yn cofio bod pobl Hawen yn cael eu cyfrif yn stoiciaid Stoiciaid Hawen." "Beth bynnag am y chwedl honno, ni chlywais erioed<noinclude><references/></noinclude>
tozszgl6zvu044lsvj943sedqvyloh7
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/52
104
69122
138355
2025-06-03T21:35:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138355
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn fy amser i neb o'r côr mawr yn dweyd yr un' Amen.' Yr wyf yn cyfaddef i mi fod yn coleddu y syniad hwnnw am David Evans hyd ryw brynhawn Sul. Yr oedd Mr. Adams wedi pregethu'n dda, a chafodd y cantorion a'r gynulleidfa hwyl neilltuol ar ganu'r emyn ar ol y bregeth ofni ddoe ac ofni heddiw.' Canwyd y pennill olaf ddwywaith:
{{center block|
<poem>
Dal fi, Arglwydd, dal fi ronyn,' etc.
Bryniau Canaan ddont i'r golwg yn y man.'
</poem>
}}
Wrth ddyblu'r ddwy linell olaf, gwelais ei lygaid yn llenwi â' ffynhonnau o ddagrau,' ac amlwg oedd bod ymdrech yn mynd ymlaen rhag torri i lawr yn deg; a byth ar ol hynny bu gennyf fwy o barch nag erioed i Dd. Evans.
Nid oedd Dd. Evans yn perthyn i'r dosbarth sydd eisiau bod yn y ''limelight'', ond yr oedd ei feddwl yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Llyfr Santaidd a llenyddiaeth yr enwad Annibynnol yn ehangach o lawer nag eiddo'r mwyafrif o'n harweinwyr eglwysig.
Ryw dro (yn y Tŷ Capel) siaradem ar lywodraeth eglwysig, yn cymharu—a beirniadu—ei gwahanol ffurfiau; a meddai'r hen ŵr, Wedi'r cwbl, gennym ni, yr Annibynwyr, y mae'r ffurflywodraeth eglwysig berffeithiaf.' 'Ai ie?' gofynnais. Dyna eich barn.' Edrychodd yn ddifrifol yn fy wyneb a dywedodd yr eilwaith Gyda ni, yr Annibynwyr, y mae'r ffurflywodraeth berffeithiaf, ond—mae eisiau dynion perffaith i'w chario allan.'
Cymeriad ar ei ben ei hun oedd David Phillips, Blaenbwch. Ychydig iawn yn yr oes o'r blaen, yn yr ardal lle preswyliai David Phillips, a fedrai ddigon o Saesneg i ddarllen llyfr neu newyddiadur yn yr iaith fain.' Dynion yr un llyfr oeddynt gan mwyaf,<noinclude><references/></noinclude>
lj38rfltfl5w73tovgg6wtb6h7k8o1t
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/53
104
69123
138356
2025-06-03T21:36:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138356
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r llyfr hwnnw y Beibl. Byddai rhai o'r hen chwiorydd yn treulio pob prynhawn Sul ymron yn y tŷ, i ddarllen ac i ddysgu'r emynau ar eu cof. Pe baech yn siarad am lyfrau eraill, neu am wledydd y Cyfandir, cyfyng iawn oedd eu gwybodaeth. Ond pe trôech at y Beibl a daearyddiaeth y Tir Santaidd, teimlent yn gartrefol ar unwaith. Un o'r dynion hyn oedd wedi treulio oes yn ei ffordd ei hun i efrydu'r Beibl oedd David Phillips. Ar brydiau—ar brynhawn Sul—deuai (gyd â David Griffiths, Cabidwl, Thomas Evans, Penffin, a minnau) hyd Benlan, Blaenwern, ac ambell waith mor bell â Glandwr i yfed cwpanaid o de gyd â'i gyfeillion 'Deio a Pegi Landŵr,' a sylwadau gwreiddiol a geid ganddo lawer gwaith. Dywedodd unwaith ei fod mor gyfarwydd â theithiau Paul ag oedd â'r ffordd o Hawen i Flaenbwch! Ar y map oedd yn ei feddwl, debig iawn. . . . . .
Un peth a flinai David Phillips oedd arferiad y gweinidog wrth holi'r ysgol o gyfeirio at y ''Revised Version.'' Ryw ddiwrnod yn ystod yr wythnos, ar ol nos Sul holi'r ysgol, cyfarfu'r gweinidog â Dd. Phillips, ac meddai'r olaf wrtho, Na le' chi'n cario arna' i—rych chi'n cwoto rhyw Feis Ferson o hyd. Beth yw hynny?' Chwarddodd y gweinidog a rhoddodd eglurhad, a chyn pen ychydig gofalodd fod gan ŵr Blaenbwch gopi o'r 'Feis Ferson.'
Eisteddai Dd. Phillips yn yr oriel mewn sedd ar y ffrynt yn ochr y ffenestr—lle manteisiol iddo arfer ei ddawn fel penofydd ''(phrenologist)''.... Ychydig a freuddwydiai'r rhai a eisteddai ar ganol y llawr, ac yn y sêt fawr, fod llygad craff Dd. Phillips yn eu gwylio dros ymyl yr oriel, ac yn tafoli eu penglogau a'u cynnwys. 'Ie,' meddai (wrth Mr. Adams un tro, er mawr ddifyrrwch iddo), ' 'rwy'n sylwi ar y'ch pen<noinclude><references/></noinclude>
dkkqprqfyhnxf5fyz0twt8r8xdnpl50
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/54
104
69124
138357
2025-06-03T21:37:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138357
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chi! 's dim o'r pen gore 'da chi—ma gwalle arno. Deuai'r addolwyr i'r gwasanaeth, rhai o gyfeiriad Rhydlewis, eraill o gymdogaeth Penrhiwpal, ac eraill o gyfeiriad Nanty. Ymhlith y rhai olaf, dychmygaf weld dau hen frawd yn dyfod heibio cornel gardd Dyffryn Ceri mewn ymddiddan cynnes a chyfeillgar —David Jones, Poplar, a John James, Gilfachgam.
Mi a'u gwelais felly gynifer o weithiau fel y mae'n bur anodd i mi feddwl am un ar wahan i'r llall.
Yr oedd David Jones (Dafi'r Poplar) yn un o ddisgynyddion gŵr adnabyddus yn ei ddydd, sef NathanViel Griffiths, Pantybrain—un a fu'n hynod o ymdrechgar gyd â sefydlu Ysgolion Sul yn yr ardaloedd 'cylchynol cyn sôn am Robert Raikes o Gaerloew yn y rhan hon o Gymru. Ceir ar ei feddfaen (gyd ag englyn anghywir):
{{center block|
<poem>
'Ar ben canmlwydd yr Ysgol Sul, coffhad
Am un o'i phrif sylfaenwyr yn ein gwlad
Yw'r garreg yma: plant ei blant a'i rhoes,
A phlant eu plant a'i cofiant oes 'rol oes.'<ref>Gwnaed y pennill hwn gan un o'r cofianwyr pan oedd yn fachgen, ar gais Mr. S. Davies, Cilfallen—un o'r wyrion.</ref>
</poem>
}}
Yr oedd David Jones yn frwdfrydig iawn dros ddirwest a daioni ymhob ffurf, yn neilltuol dros ei hoff gapel ei hun. Daw i'm cof ymddiddan a fu rhyngom tua dechreu gwanwyn 1877. Yr oeddym wedi cynnal cyfarfod brodyr ynglŷn ag adnewyddu'r capel, a digwyddodd Dd. Jones a minnau gyfarfod wrth neshau at y llidiart. Mae digon o angen gwella'r hen gapel,' meddai, ond y mae llawer mwy o angen gwella rhai o'r dodrefn'! Yr oeddis wedi penodi Dd. Griffiths, Cabidwl, yn drysorydd, a minnau'n ysgrifennydd y mudiad. Ryw nos Lun, a minnau<noinclude><references/></noinclude>
10so1k8m4q8xnj5xcb6cozw19d53q1t
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/55
104
69125
138358
2025-06-03T21:37:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138358
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn eistedd megis 'wrth y dollfa,' daeth David Jones, Poplar, â'i rodd. Wedi iddo fynd allan trodd cyfaill gerllaw ataf: 'Dyna,' meddai, 'fe werthodd Dafi Jones ei geffyl, ac y mae'r arian gyd â chi'n awr bob dime goch.' Cynnes iawn ydoedd ar ei liniau, ac yn y gyfeillach—un a ddygai fawr sêl dros Arglwydd Dduw y Lluoedd. Yng nghwrdd ymadawol Mr. Adams dywedodd yn gyhoeddus nad oedd un waith wedi mynd i fyny grisiau'r pulpud heb ei fod ef wedi offrymu gweddi ar ei ran.
Fel ei gyfaill Dd. Jones, un o 'heddychol ffyddloniaid' Hawen oedd John James, Gilfachgam,yn ddiddadl, un o'r 'tangnefeddwyr a elwir yn blant i Dduw.' Clywais weithiau am bleidiau mewn eglwys, ond nid oedd John James, mwy na'i gyfaill David Jones, yn gwybod am yr un blaid ond plaid Tywysog Tangnefedd. Dywedir mai un o'r cythreuliaid sydd yn aflonyddu Eglwys Dduw ydyw cythraul yr eisteddleoedd. Wedi gorffen adgyweirio'r capel ym mis Mai, 1878, galwyd cyfarfod o'r aelodau i benderfynu ar y ffordd oreu a mwyaf didramgwydd i osod yr eisteddleoedd. Bu y cyfarfod yn y prynhawn, ac yn y diwedd penderfynwyd bod y tanysgrifwyr i ddewis eu heisteddleoedd yn ol swm eu tanysgrifiadau, ac i mi, fel ysgrifennydd, alw'r enwau allan yn eu trefn briodol. Dywedais ar unwaith bod y llyfr casglu gartref, a'm bod yn ofni na fedrwn ddibynnu ar fy nghof i gofio pob enw yn ei drefn briodol. Y mae gennych gof da,' meddai rhywun; bodlonwn ni.' Yn y diwedd cydsyniais, er yn bur amharod, rhag ofn i mi wneuthur cam â rhywun. Gelwais yr enwau, a dewiswyd yr eisteddleoedd hyd nes oedd seti'r llawr wedi eu cymryd i gyd, a daeth y cyfarfod i ben heb i gythraul<noinclude><references/></noinclude>
50o9r43jfku53b3p9cu2rjudpzc4rku
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/56
104
69126
138359
2025-06-03T21:38:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138359
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr eisteddleoedd gael lle i roddi ei droed holltog i lawr. Ar ol y cyfarfod daeth John James ataf. Gwnaethoch un camgymeriad,' meddai. Nid oedd eisiau yr un gair pellach; cofiais fy mod wedi anghofio ei enw ef. Yr oedd tanysgrifiad John James yn hawlio sêt o flaen rhai oedd wedi cael dewis. Dywedais ei bod yn wir ddrwg gennyf, fy mod yn ofni yn y dechreu y buasai rhywbeth tebig yn digwydd. O, peidiwch â gofidio,' meddai'r hen Gristion, aiff Hannah a minnau i'r llofft gyd â'r bobol ifanc.' Ac
felly y bu am dros ddeuddeng mlynedd. (Gadewch imi ddywedyd yma i mi fod yn athro ar ddosbarth Hannah James yn yr Ysgol Sul. Bûm yn athro Ysgol Sul ar ddosbarthiadau merched mewn oed yn y De ac yn y Gogledd, ond ni chyfarfûm ag un oedd yn fwy gwybodus ac yn fwy parod yn yr Ysgrythyrau Santaidd na Hannah James. Mae'r amser y bûm yn ei dosbarth hi yn aros o hyd fel perarogl i mi). Aeth John James a'r teulu i'r oriel, ac yno y buont mewn sedd tu ol i'r cloc hyd nes y symudais i Fethesda, Arfon. Dywedais cyn mynd wrth rai o'r diaconiaid fy mod yn credu fod hawl gan John James i'n sêt ni, a'i fod yn ei theilyngu ar ol dangos y fath ysbryd tangnefeddus. Felly y bu, a daeth John James i lawr o'r oriel i'n hen sêt ni. Y tro cyntaf i mi ymweled â Hawen wedi i mi symud i'r Gogledd daeth yr hen frawd ataf yn y tŷ capel cyn dechreu'r gwasanaeth. Dewch i'ch hen gornel, fel arfer,' meddai; bydd pawb yn leicio'ch gweld chi 'no.' Bu farw Awst 22, 1898, yn 73 oed, a phan laniodd yr ochr draw, byddaf yn hoffi dychmygu mai un o'r rhai cyntaf i'w groesawu oedd ei hen gyfaill David Jones, Poplar.
Y mae Eglwys Hawen wedi magu llu o filwyr da i Iesu Grist,' ond dim un, mi gredaf, yn fwy eiddigus<noinclude><references/></noinclude>
oe43pogwa579rj53px1s1q7glvldjo0
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/57
104
69127
138360
2025-06-03T21:39:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138360
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am ei phurdeb a'i llwyddiant ysbrydol na'r ddau 'frawd annwyl David Jones, Poplar, a John James, Gilfachgam.
Hen ffrind annwyl i mi oedd David Griffith, Cabidwl: dyn o gyraeddiadau tuhwnt i'r cyffredin, ac wedi darllen ac astudio'i Feibl a gwrteithio'i feddwl i raddau mawr gyd â chymorth yr ychydig lyfrau oedd ganddo. Un tyn iawn am ei biniwn' oedd, yn myfyrio a barnu drosto'i hun. Nid anghofiaf byth yr ymgomio melys ar y ffordd adref o'r capel gannoedd o weithiau am y bregeth neu wers yr Ysgol Sul. Un arall a gyd-deithiai â ni fynychaf oedd Thomas Evans, Penffin—un o'r dynion galluocaf o feddwl yn yr ardal. Yr oedd Dd. Griffith yn fwy ceidwadol ei syniadau na ni ein dau; ac er mai un anodd ei symud ydoedd, cyfaddefodd i mi ryw brynhawn Sul wrth fynd adref—tuag adeg ymadawiad Mr. Adams—ei fod yn teimlo bod yn rhaid ymadael â rhai o'r hen syniadau. Yr oedd pregethau'r gweinidog, a'r ymgomio a'r dadleu parhaus ar y ffordd, wedi cael eu heffaith.
Rhai o oreuon yr eglwys yn ddïau oedd y rhai hyn, oblegid fe ddywed yr un awdurdod mewn ysgrif arall iddo weld rhai aelodau amlwg dan ddylanwad y ddiod yn y "Bwlchgwyn " nos Sadwrn, ac yn cymuno yn Hawen fore Sul, gan ychwanegu: "Nid wyf yn credu y buaswn ymhell o'm lle pe dywedaswn fod gwŷr amlycaf yr eglwys yn wrth—ddirwestol, a mwyafrif y gweddill yn ddifater." Y mae'r hyn a ddywedwyd eisoes am y lle a roddid i athrawiaeth yn yr ardaloedd yn wir am Hawen. Yr oedd yna duedd i gondemnio rhyddid meddyliol yn fwy na phenrhyddid cnawdol. Dyna pam y galwodd un wraig uniongred Adams, a Crowther, a Thomas Evans yn "dri<noinclude><references/></noinclude>
j53cvdmuk6i54q7egf1absmwxisc8v8
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/58
104
69128
138361
2025-06-03T21:40:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138361
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Sosin." Ac y mae lle i gredu mai ychydig effaith a gafodd pregethu'r gweinidog ac "ymgomio a dadleu" ei ddau gyfaill ar safle canolog uniongrededd ym meddwl Dd. Griffiths a'r ''veterans'' eraill, oblegid efô a ddefnyddid gan geidwaid y gredo i alw'r gweinidog i gyfrif am unrhyw wyrad oddiwrth uniongrededd ugain mlynedd yn ddiweddarach! Ond dïau i waith gael ei wneuthur ymysg y to ieuanc.
"Y tro diweddaf y bûm yn aros yn ardal Rhydlewis," meddai Mr. Crowther ymhellach, "mi dreuliais awr ryw brynhawn ym mynwent Hawen, a bu dau neu dri o'm hen gyfeillion caredig yn dangos i mi y mannau lle y gorwedd rhai o'r hen dadau, a chofiais am benhillion Dafi Castell Hywel:
{{center block|
<poem>
'Dall nac awel bêr y bore,
:Na gwaedd ceiliog uchel gân,
Na whit gwennol lon forêol
:Yn y lwfer uwch y tân,
Na chorn helwyr, bloedd medelwyr,
:Clych taranau na daear gryn,
Byth ddihuno'r rhai mewn amdo
:Sy yma heno'n drwm eu hûn.'
</poem>
}}
{{c|"Heddwch i lwch yr hen gedyrn ffyddlon a charedig!"}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6r5tn0hwd7mdubjqigey8rlfpe3ukz1
138362
138361
2025-06-03T21:40:30Z
AlwynapHuw
1710
138362
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Sosin." Ac y mae lle i gredu mai ychydig effaith a gafodd pregethu'r gweinidog ac "ymgomio a dadleu" ei ddau gyfaill ar safle canolog uniongrededd ym meddwl Dd. Griffiths a'r ''veterans'' eraill, oblegid efô a ddefnyddid gan geidwaid y gredo i alw'r gweinidog i gyfrif am unrhyw wyrad oddiwrth uniongrededd ugain mlynedd yn ddiweddarach! Ond dïau i waith gael ei wneuthur ymysg y to ieuanc.
"Y tro diweddaf y bûm yn aros yn ardal Rhydlewis," meddai Mr. Crowther ymhellach, "mi dreuliais awr ryw brynhawn ym mynwent Hawen, a bu dau neu dri o'm hen gyfeillion caredig yn dangos i mi y mannau lle y gorwedd rhai o'r hen dadau, a chofiais am benhillion Dafi Castell Hywel:
{{center block|
<poem>
'Dall nac awel bêr y bore,
:Na gwaedd ceiliog uchel gân,
Na whit gwennol lon forêol
:Yn y lwfer uwch y tân,
Na chorn helwyr, bloedd medelwyr,
:Clych taranau na daear gryn,
Byth ddihuno'r rhai mewn amdo
:Sy yma heno'n drwm eu hûn.'
</poem>
}}
<br>
{{c|"Heddwch i lwch yr hen gedyrn ffyddlon a charedig!"}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jdizyq6riqf8rdtujeqll7bbcreocy1
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/59
104
69129
138363
2025-06-03T23:02:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138363
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|VI.—EI WEINIDOGAETH YN HAWEN A BRYNGWENITH.}}}}
NID yn hir y bu Adams heb alwad wedi gadael ohono'r Coleg yn Aberystwyth, a honno'n alwad ar sail cred yn ei gymwysterau arbennig i waith y weinidogaeth. Wedi i'r eglwysi gydsynio i gael gweinidog, yr oedd rhai am gael gŵr ieuanc wedi cael manteision. athrofa, ac eraill am gael dyn profiadol o waith y weinidogaeth.
A phan ddygwyd enw Adams dan ystyriaeth cyfarfod neilltuol, gwnaed rhai sylwadau diddorol ynglŷn ag ef. Yr oedd un hen frawd yn erbyn rhoddi galwad iddo am "nad oedd y dinc bregethwrol ganddo." A pharodd y fath syniad i ŵr ieuanc godi ar ei draed, a dywedyd ei fod ef wedi darllen ei Destament amryw droeon, ond na allai alw i gof gymaint ag un cyfeiriad at "dinc bregethwrol" Iesu Grist. Ac yn nywediad y gŵr ieuanc hwnnw, ceir awgrym nacaol o nodwedd Adams fel pregethwr, —nad mewn hwyl a donioldeb yr oedd ei ogoniant, ond yn hytrach mewn bod yn wir ddysgawdwr, fel y dywedodd geneth ieuanc yn Hawen am dano, "Mae e' bob amser yn ceisio dysgu rhywbeth i ni." Fel yna, fe'i galwyd ar sail ymdeimlad yr eglwysi ei fod yn broffwyd yr Arglwydd, er ei fod yn amddifad o ryw ddoniau dymunol a brisid yn uchel gan eglwysi'r wlad. Ond euthai'r si allan, pan oedd yn dyfod i Hawen, nad oedd yn "iach yn y ffydd," —nad oedd yn credu mewn cosbedigaeth dragwyddol, a pharai hynny i'r gweinidogion a cheidwaid y ffydd deimlo rhagfarn yn ei erbyn, a thueddu i'w gadw yn y pellter. "'Dwy i ddim yn lico'r dyn," oedd dywediad un o wŷr amlycaf pulpud Ceredigion amdano. Ac nid<noinclude><references/></noinclude>
jrjh0b0dfxrigca1s6s2g3sskiln4ap
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/60
104
69130
138364
2025-06-03T23:03:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138364
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ychydig a wenwynwyd ar y farn gyhoedd amdano oherwydd y si grybwylledig.
Ordeiniwyd ef Mai, 1878, pryd y daeth cynulliadau. eithriadol o ran eu maint ynghyd, ac y cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan y Prifathro T. C. Edwards, D.D., Aberystwyth; y Parchn. W. Evans, Aberaeron; O. Thomas, Beulah; J. Davies, Talybont; a T. Rees, Maenygroes. Ynglŷn â'r gwasanaeth, gofynnwyd iddo "A oedd yn credu yng nghosbedigaeth dragwyddol yr annuwiol?" a'i ateb oedd "ei fod yn credu y byddai i'w gosbedigaeth barhau cyhyd ag y byddai iddo ef barhau yn ei bechod." Caed felly ar ei ordeiniad awgrym o'i wroldeb a'i annibyniaeth meddwl, ac awgrym hefyd o'r posibilrwydd iddo dorri tir newydd yn y pulpud. A pharai hynny i'r wlad deimlo diddordeb arbennig yng ngweinidog ieuanc Hawen; ac i'r rhai a'u tybiai eu hunain yn fwyaf uniongred ei wylio a'i feio, ond heb feiddio'i alw i gyfrif na'i gyfarfod mewn dadl.
Ond gwelwyd yn lled fuan ei fod yn gallu byw y rhagfarnau hyn i lawr, a bod galw cynhyddol yn dyfod o wahanol leoedd am ei wasanaeth ar y Suliau; a chymaint o hynny fel y dywedodd cyhoeddwr Hawen un Saboth: Mi fydd yma wasanaeth eto'r Saboth nesaf, ond nid wyf yn sicr pwy fydd yma'n pregethu." Ac i fwyafrif mawr yr aelodau llechai yn hyn achos llawenydd, wrth weled fod y fath alw am wasanaeth gweinidog ieuanc Hawen. Canys gŵr cartrefol iawn oedd ei ragflaenydd. A mwy na dim, llawenychent ei fod yn gallu gorfyw rhagfarnau; a bod y wlad yn dyfod i'w ddeall a'i werthfawrogi megis y gwnâi eglwysi ei ofal. Yn wir, dechreuodd llanw bywyd newydd lifo i mewn i eglwysi Hawen a Bryngwenith a'r ardal, trwyddo ef. Yn ystod ei amser ef y codwyd y capel newydd ym Mryngwenith, a gostiodd £6, ac erbyn agor yr hwn y casglwyd tros £714. (Hen<noinclude><references/></noinclude>
mfa6n5ey24q2oqyqcsjqepejmdluoun
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/61
104
69131
138365
2025-06-03T23:03:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138365
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arfer ein henwad yn sir Aberteifi oedd talu am gapel newydd wrth ei agor). A defnyddiwyd yr hyn oedd dros ben yr angen ym Mryngwenith i wneuthur dau dŷ o'r hen gapel, ac i wneuthur ystafell gyfleus i'r Gobeithlu a'r Ysgol Gân."
Fel gweinidog, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf ymroddgar a chydwybodol. Er ei fod, pan oedd yn Hawen, wedi dechreu llenydda'n llwyddiannus, eto ni bu iddo ar hyd ei holl oes weinidogaethol adael i'w duedd lenyddol ymyrreth â'i waith fel gweinidog. Yr oedd yn weithiwr diymarbed, a'i holl waith o duedd uniongyrchol i hyrwyddo moes a chrefydd. Ac yr oedd ei weithgarwch hefyd o duedd heintus. "Bob tro yr ymwelwn â Mr. Adams," ebe'r diweddar Barch. Dafydd Jones, Drewen, "tybiwn glywed llais yn dywedyd wrthyf,' Dos adref a gweithia A chyffelyb, hefyd, fyddai profiad ysgrifennydd y llinellau hyn. Er ei fod yn gwmnïwr diddan, ac yn wir roesawgar i'r rhai a ymwelai ag ef, eto ni allai oddef y cwmnïwr—lladdamser. Ac yr oedd ganddo ffordd effeithiol i'w amddiffyn ei hun rhag gormes cyfaill difeddwl felly, sef arwain yr ymddiddan at gynnwys rhyw lyfr newydd, neu fe ddichon ddarllen cyfran o'r llyfr; a buan y teimlai'r ymwelydd mai "caled oedd yr ymadrodd," ac ymaith ag ef. Ond er yn ddyn ''stern'', yr oedd yn bur fedrus i ganfod ochr chwareus a digrif pethau. Un tro euthai'r sôn drwy'r ardal ei fod wedi ennill cadair mewn rhyw Eisteddfod, ac un prynhawn cyfarfu ag un o'i bobl—edmygwr mawr ohono—ond tra—rhyddieithol ei feddwl, ac meddai wrtho, "Rhoswch i, be w' i'n glywed am danoch chi y dyddiau hyn? Ennill ''prize'', eto? Cadair, ai e? Wel, da iawn, wirions i." "A beth oedd testun y pishin?" "Y Briodas yn Cana," oedd yr ateb. "Wel, ta wir, ddala i bo chi wedi setlo faint oedd y ddau ffircyn neu dri 'ny."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
sil9b8a3eakqsga4axdqi4juqgakwaf
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/62
104
69132
138366
2025-06-03T23:04:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138366
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond er mor gydwybodol ydoedd, ac na pharai i na bygwth na ffafr neb iddo gau ei lygaid ar bechod, byddai bob amser yn dra gofalus rhag dolurio teimlad unrhyw droseddwr. Gallai gondemnio drwg gyd â llymder, ond gallai hefyd ymgeleddu'r drygionus yn dirion ac amyneddgar. A bu i'r pwyslais a roddai ar fuchedd dda roddi bri newydd ar fywyd crefyddol ei gylch, a rhoi syniad uwch i'r gwrandawyr am neges pregethu a gwaith pregethwr. Ynddo ef daeth llawer un i edrych ar weinidog nid fel dyn bach dymunol i fyw ar oddefgarwch a nodded ei bobl, ond fel presenoldeb crefyddol grymus, i'w deimlo bob dydd ac ymhob man. Yn yr anerchiad a roed iddo wrth adael Hawen, dywedir ei fod "bob amser yn anghenraid yn y gymdogaeth a'r wlad oddiamgylch, ynglŷn â phob symudiad a dueddai i ddyrchafu a gwella cymdeithas."
Pan oeddwn yn gofalu am Eglwysi Brynmair a Beulah cefais i y fraint o fod yn gymydog a chydweithiwr ag ef am bum mlynedd (1882—7), canys ni chyfyngai ei wasanaeth i eglwysi ei ofal yn unig, fel y dywed yr anerchiad a roddwyd iddo wrth adael Hawen:
"Yr oedd eangfrydedd eich ysbryd yn peri eich bod o ran eich dylanwad a'ch gwasanaethgarwch yn torri dros derfynau enwad a phlaid fel ag i'ch gwneuthur yn gyfaill a chynorthwywr pawb a phob achos da. Cawsom chwi fel dyn yn ddyn Duw mewn gwirioneddyn garedig a pharchus o bawb, yn un na chymerech fantais ar na'ch swyddogaeth na'ch safle uchraddol i I edrych i lawr ar neb, ond yn hytrach i fod fel cymwysterau i'ch dwyn yn agosach at bawb, ac i fod o fwy o wasanaeth i'r eglwysi a'r wlad. "
Ac ond cofio'i sêl o blaid Addysg, Gwleidyddiaeth, Llenyddiaeth, Sobrwydd, a'r<noinclude><references/></noinclude>
ti1uqsi1o3d7ushpwkp2uq8n6jxbtlp
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/63
104
69133
138367
2025-06-03T23:05:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138367
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cymanfaoedd Ysgolion, cadarnheir y dystiolaeth uchod amdano. Ac y mae llawer i'w
cael heddiw a gofia'n dda am ei Ddosbarthau Beiblaidd, a'r rhan a gymerodd i sefydlu Llyfrgell Gyhoeddus ym mhentref Rhydlewis. Yr oedd wrth ei fodd fel cymwynaswr i bersonau unigol, ac fel cynorthwywr i fudiadau cyhoeddus o duedd ddyrchafol.
Mae'n rhaid addef ei fod yn gryn feistr yn ystyr lythrennol y gair; ac nid rhyfedd hynny, gan mor gref ei bersonoliaeth; ond deuai'r meistr ynddo'n fwy i'r golwg yn ei ffordd bendant nag mewn geiriau traws ac awdurdodol. Hawdd gwel'd nad dyn gwan a gymerai ei lywio a'i arwain gan ddylanwadau allanol ydoedd ef, eithr gŵr cadarn ymhob ystyr—o feddwl, cydwybod, ac ewyllys. Barnai drosto'i hun, a byddai'n ffyddlon i'w argyhoeddiadau, heb adael i nac ofn na gwaseiddiwch barlysu dim ar ei nerth. Hwyrach y gallasai, rai prydiau, sefyll dros ei farn mewn ffordd a barai lai o dramgwydd i rai na chytunai ag ef. Eto, nid gŵr a hoffai dramgwyddo ydoedd, canys nodweddid ef â llawer o foneddigeiddrwydd a thegwch, eithr gŵr nodedig o ffyddlon i'w argyhoeddiad a'i farn ei hun ynglŷn â gwahanol faterion. Ac fe'n hargyhoeddid mor llwyr o'i gydwybodolrwydd a chywirdeb ei amcanion fel na allem lai nag edrych i fyny ato hyd yn oed pan na allem yn hollol gydweld ag ef. Yr oedd yn gofyn gŵr cadarn i gymryd y safle a gymerodd ef ynglŷn ag ambell fater, yn neilltuol felly ynglŷn â diwinyddiaeth, ac i allu dal y beirniadu a'r condemnio a fu arno. Ond daliodd ef ymlaen heb chwerwi, ac heb ymostwng i ymdderu â'r gwŷr galluog a fu'n ei ffonodio'n gas yn ein cylchgronnau.
Ond sôn yr oeddwn am Adams fel ''meistr''. Dywedir fod pob dyn, fel rheol, yn tueddu i gael ei gymryd am y pris a ddyry ef arno'i hun. Yr oedd gan Adams bris arno'i hun, a hwnnw'n bris go uchel, a hynny nid am ei fod yn hunanol, nac am gadw ymhell oddiwrth eraill er<noinclude><references/></noinclude>
3o9wtxziyd6glujydn87297jyofnds4
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/64
104
69134
138368
2025-06-03T23:05:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138368
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cuddio'i fychander, eithr am ei fod yn naturiol urddasol, ac yn ymwybodol o'i nerth a chywirdeb ei amcanion. Ond er yn synied yn uchel o'i swydd fel gweinidog yr Efengyl, eto ni chredai mewn honiadaeth swyddogol, na bod gogoniant ei swydd mewn na diwyg na thôn na dawn na cherddediad. Yr oedd ar ei ben ei hun yn ei gadach gwyn, yn y cwlwm beth bynnag, felly hefyd yn ei ddull o draddodi a'i gerddediad. Fel rheol, brasgamwr hoenus a fyddai, fel pe byddai brasgamau ei feddwl yn symud ei gorff. Yr oedd iddo rai arferion bychain yr hoffai lynu wrthynt yn hytrach na bod yn efelychwr neb arall; ac nid oedd y rhai hynny ond adlewychion o agweddau ar ei feddwl. Gallesid meddwl fod gŵr galluog fel oedd ef yn rhy fawr i sylwi ar fanion; ond nid un felly ydoedd, eithr sylwai ar bopeth. Pwy na sylwodd ar ei lygad? Yr oedd yn cynniwair i bob man; ac y mae mwy o'r dalent yna gan bregethwyr nag a dyb llawer.
Ond sut bynnag am olwg allanol Adams, yr oedd yn awgrymiadol iawn o'r hyn ydoedd fel dyn,—yn lân ac urddasol, er heb fod yn hollol fel pregethwyr yn gyffredin. Yr oedd ei bopeth yn adlewyrchu annibyniaeth ei feddwl a phurdeb ei gymeriad. A theimlid hyn yn ei holl gyflawniadau a'i gynhyrchion amryfal.
Ond yr oedd ei safon ymhopeth mor uchel fel nad ar unwaith y deuid i'w werthfawrogi. Yn wir, bu'n rhaid iddo yntau, megis y dywedir am ryw lenor Saesneg, "fagu'r chwaeth a allai ei werthfawrogi." Ac wedi unwaith ddyfod i'w ddeall fel dyn, ni ellid llai na chredu ynddo a'i barchu, a dyfod i deimlo ei fod yn creu awyrgylch ''bracing''—llawn o symbyliad i geisio ymgyrraedd at y goreu ymhob cyfeiriad.
"Pa weinidog yn y wlad a lwyddai i ennill ei bobl i gredu cymaint ynddo ag ef?" Evan, ebe un o brif ddynion Bryngwenith wrth ei was, "mae gyda chi gred fawr ym<noinclude><references/></noinclude>
kp7q8ftqinoeibjnw0kfxrdzgztxyoi
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/65
104
69135
138369
2025-06-03T23:06:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138369
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr. Adams. 'Rwy'n credu pe d'wedai wrthych ganol dydd, 'Evan, chododd yr haul ddim heddi,''Naddo wir, syr', a ddywedsech wrtho."
Llwyddai ef i ennill ei bobl i gredu ynddo nid trwy na gweniaith na gwaseiddiwch, ond trwy eu hargyhoeddi mai eu cyfaill ydoedd, ac mai amcan cynta'r cwbl a gyflawnai fel gweinidog oedd eu llesoli yng ngwir ystyr y gair. Yn wir, gellid meddwl bod ei bobl mewn perigl i g'lymu wrtho ef lawn cymaint, os nad mwy, nag wrth yr achos. Deuai'n gyfystyr â'r achos iddynt, gellid meddwl; megis yn gorfforiad gweledig iddynt o Grefydd ac Eglwys Crist, yn ei hegwyddorion a'i chymeriad. Gan nad pa mor ragorol y pregethai, efô ei hun oedd ei bregeth oreu, gan mor ffyddlon y byddai i'r goreu a fyddai ymhob cylch. A dyna a gyfrif mai math ar bregeth o radd uchel y teimlid ei bresenoldeb lle bynnag y byddai. Yr oedd yn "halen ddaear" yn ogystal ag yn oleuni'r byd," yn atalfa ar ffordd drygioni yn ogystal â bod yn feithrinwr daioni. A thramgwyddodd rhai wrth ei oleuni am fod gormod o'r halen ynddo, a digio mwy wrtho oherwydd ei burdeb nag oherwydd hyd yn oed ei ddiwinyddiaeth y condemnid cymaint arni. Safai mor gyson a phendant dros safon uchel o fywyd fel nad oedd byth ''off duty'' ynglŷn â hynny.
A pha weinidog, hefyd, a lwyddai i roddi cymaint o fin ar feddwl a chydwybod pregethwyr ieuainc a ymwasgai ato ag a wnâi ef? A hynny nid trwy awdurdodi a gorchymyn, na thrwy ymddwyn yn nawddogol tuag atynt, ond yn hytrach trwy fod o ddifrif, ac yn serchog ac agos atynt, ac oddiar awydd didwyll i fod o help iddynt. Mor ofalus y byddai rhag dolurio'u teimladau! Yr oedd yn wir gyfaill. Eto, ni chredai mewn na rhodres na gweniaith, a chlwyfid ef gan ymddygiad heb fod yn anrhydeddus. Gwerthfawrogai bob unplygrwydd a thiriondeb yn fawr;<noinclude><references/></noinclude>
5w01sfqxy4tobbzq6bxmzkjwiowky9a
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/66
104
69136
138370
2025-06-03T23:07:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138370
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>prin y ceid neb mwy byw i brydferthwch a mwynder nag ef. Yr oedd yn graff i ganfod troeon felly, a chyffyrddiadau felly mewn barddoniaeth a phregethau a cherddoriaeth; er nad oedd ef ei hun mor abl â llawer i osod allan syniadau felly yn ei gynhyrchion. Y peth agosaf i hynny oedd ei wên, canys gwenai'n brydferth iawn pan ddisgynnai'r heulwen ar ei galon. Y pethau prydferthaf a welais o'i eiddo erioed oedd ei wenau yn ei gystudd olaf a phan oedd wedi myned yn hollol orweiddiog. Ac i un mor fyw ag ef, ac un a fuasai mor ymroddedig i'w waith, dïau fod yr ymdeimlad fod adeg ei noswyl yn ymyl yn cynhyrchu ynddo feddyliau a theimladau dieithr iawn. Eto, gwelais ef yn gwenu'n brydferth yr adeg honno. Ac nid rhyfedd hynny i un a wnaethai ddiwrnod mor dda o waith yng Ngwinllan ei Arglwydd.
Cofiaf iddo gael cynnig ar ragor nag un swydd tuallan i gylch uniongyrchol y weinidogaeth. Ond er y buasai'r gwaith yn ysgafnach, a'r gydnabyddiaeth lawer yn fwy, eto ni fynnai adael y weinidogaeth. Yr oedd wrth ei fodd gyd â'i waith. Yn wir, dygai lawer o ysbryd y weinidogaeth i bob cylch y troai ynddo ac i bopeth a gyflawnai. Ac yr oedd ei syniad am hawliau a gofynion y weinidogaeth yn uchel iawn, a byddai ar ei oreu'n ceisio dyfod i fyny â'r gofynion. Mae'r nodiadau a ganlyn—rhan a ddigwydd fod ar gael o anerchiad o'i eiddo i fyfyrwyr—yn enghraifft o'i fanylwch ynglŷn â gofynion y weinidogaeth:
Hoffwn gyfeirio'n fyr at fater arall pwysig, ond anodd ei drafod ar lawer ystyr, sef meithrin difrifoldeb ac ysbrydolrwydd meddwl a theimlad. Yr wyf yn gryf o'r farn ein bod yn gwella, ac yn ymddiwygio ynglŷn â hyn. Ond eto y mae lle. Nid wyf am i unrhyw fyfyriwr na gweinidog fod yn wynebdrist, yn troi ei lygaid tua'r nef yn barhaus, fel y disgyblion<noinclude><references/></noinclude>
4zogz6bn3m27fahn7xg0ljg6dvola3e
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/67
104
69137
138371
2025-06-03T23:07:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138371
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar Fynydd yr Olewydd gynt, a chwyfio'u dwylaw yn ddefosiynol, ac ocheneidio'n drwmlwythog. Yn naturiol amheuwn wir grefyddolder y cyfryw un, am na byddai hynny ond ''mask'' o ragrith i guddio'i wir gymeriad.
Ond y mae yna eithafion eraill y dylid gwneuthur ymdrech i'w hosgoi. Cofiaf yn dda am un o'r Cyfarfodydd Chwarterol cyntaf i mi fyned iddo. Wedi cinio ymneilltuodd y gweinidogion i ystafell i ysmygu. Yr oedd mwg y myglys yn deffroi rhyw ysbrydiaeth gellweirus yn y brodyr. Deuai stori ar ol stori i beri crechwen. Atgofid rhyw frawd am dro trwstan o'i eiddo, a cheid chwerthiniad llawen. Atgofid un arall am ryw ''illustration'' o'i eiddo oedd wedi disgyn yn flat. Chwerthiniad arall. Poenid brawd arall oherwydd ei fethiant fel ymgeisydd am alwad i ryw eglwys wag neu'i gilydd.
I mi, yr oedd yr ymddiddan, y grechwen, a'r ''chaff'' yn fwy tebig i faldordd yfwyr yn y dafarn nag i gwmnïaeth gweinidogion yr Efengyl. Ac fe aeth y brodyr o ganol y baldordd ynfyd i'r addoldy i ganu mawl, i weddïo, ac i bregethu. Ceid amen gynnes gan y cellweiryn ar ol myned i'r capel. Gweddïai'n ddoniol yr un a fuasai cyn hynny yr un mor ddoniol gyd â'i stori, nad oedd ei chwaeth ry uchel a dywedyd y lleiaf.
Y mae ymddiraddio fel hyn yn annheilwng o urddas gweinidog yr Efengyl, ac yn rhwym o'i anghymhwyso i wneuthur ei waith yn effeithiol. Serthedd, ymadrodd ffol, a choeg ddigrifwch, pethau nad ydynt weddus,' yw ymddygiad o'r fath a enwyd. Gwareder ni rhagddo. Rai blynyddoedd yn ol deuai'r un ysbryd cellweirus i'r golwg yng nghyfarfodydd yr Undeb. Yn sicr y mae'n brawf o ysgafnder a diffyg urddas, ac o ddiffyg ymdeimlad o ddifrifoldeb bywyd. Ond yr ydym yn gwella yn hyn o beth hefyd. Y feddyg-<noinclude><references/></noinclude>
r3l596sf0ejseytdkg9sgoplhehs045
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/68
104
69138
138372
2025-06-03T23:08:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138372
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iniaeth yw meithrin ysbrydolrwydd mwy, fel canlyniad cymundeb agosach â Duw. Ymdeimlad o bwysig'rwydd ein swydd fel cenhadon dros Grist, ac fel rhai y disgwylir iddynt gynrychioli Crist gerbron y byd: hyn, meddaf, yn unig a all roddi i ni y difrifoldeb a'r urddas y sydd yn gweddu i'n safle a'n swydd.
Cawn gyffes ffydd Adams, fel y gwelsom, yn ei ysgrif ar "Credo a Chymeriad." Eithr wedi ymsefydlu yn y weinidogaeth, gwelodd fod yna rwystr ar ffordd ei sylweddoli, nid yn unig yng ngolygiadau'r saint, ond hefyd yn eu hymddygiadau. Daeth felly i wrthdarawiad â cheidwaid yr athrawiaeth a gwarchodlu'r dafarn; ac anodd dywedyd pa rai oedd ei elynion gwaethaf, er mai'r olaf a ddangosai hynny'n gyhoeddus mewn baldordd a rheg. Nid rhyfedd i un o'i frwdfrydedd moesol ef fynd yn bregethwr dyletswyddau di dderbyn wyneb yn gystal ag yn wrthwynebydd dogmâu meirw a marwol.
Ym mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth pregethai ddyletswyddau hyd adref; ac meddai un o ddiaconiaid Bryngwenith wrtho un diwrnod, "Buasai'n dda iawn gennyf, Syr, pe buaswn wedi marw cyn i chwi erioed dd'od yma'n weinidog, oherwydd y cyfrifoldeb ydych wedi ei roddi arnaf."
Credwn fod y braslun a ganlyn yn enghraifft deg o'i bregethau y pryd hwn. Ceir ef mewn dwy ffurf—un yn 1881 a'r llall yn 1883—ac y mae'r gwahaniaeth yn awgrymiadol. Y testun yw Mat. 13 33, a'r ddau ben cyntaf yn 1881 yw:
(1). Y mae Teyrnas Nefoedd yn ei hegwyddorion yn bur groes i dueddiadau naturiol y galon ddynol;
(2). Mae'n rhaid i wirioneddau'r Efengyl suddo i'r galon cyn y gwnânt les (y prif rwystrau i hyn yw ysgafnder gwamal yr ieuanc a bydolrwydd yr hen).
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
7mw4mpzl1rzj228eq9yzm9n7ldmftpz
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/69
104
69139
138373
2025-06-03T23:09:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Eithr yn ol yr ail fraslun y mae yna "gyfaddaster rhwng y lefain a'r blawd "; a'r ail ben yw Graddol ddylanwad Gwirionedd a Daioni," gan mai lefeinio y mae, nid gorfodi drwy rym. Ond y mae'r trydydd pen yr un yn y ddau, sef bod crefydd yn gofyn y cyfan o ddyn, "corff, meddwl ac ysbryd "; "ei amser, ei orchwylion, ei gyfoeth, ei gydymdeimlad gwirioneddol." "Y mae gormod o duedd i gyfyngu tiriogaeth crefydd i wasanaeth mewn capeli, ca...
138373
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eithr yn ol yr ail fraslun y mae yna "gyfaddaster rhwng y lefain a'r blawd "; a'r ail ben yw Graddol ddylanwad Gwirionedd a Daioni," gan mai lefeinio y mae, nid gorfodi drwy rym.
Ond y mae'r trydydd pen yr un yn y ddau, sef bod crefydd yn gofyn y cyfan o ddyn, "corff, meddwl ac ysbryd "; "ei amser, ei orchwylion, ei gyfoeth, ei gydymdeimlad gwirioneddol." "Y mae gormod o duedd i gyfyngu tiriogaeth crefydd i wasanaeth mewn capeli, canu emynau a gwrando pregethau," pan ddylai ymwneuthur â holl gysylltiadau bywyd pob dyn, yn y siop, y maes, y farchnad, a'r aelwyd." Yr oedd yr ymadrodd y pryd hwnnw yn ddieithr—a chaled.
Gosododd Adams sylfeini ei lwyddiant gweinidogaethol i lawr yn ddïau cyn dyfod i Hawen, yn ei ymgysegriad i Dduw a'i ymroddiad i astudiaeth o'i Wirionedd; ond ymhen tua blwyddyn wedi'r ymsefydlu gosododd un arall i lawr yn ei briodas â Miss Jane Evans, Pantygwenith.<ref>Wyres i'r enwog Ddr. Davies, Pant-teg</ref> Un o jokes ei gyfeillion oedd mai ei phriodi hi oedd ei amcan cyntaf, a phriodi'r eglwys yn ail; ac ni wadai ef hynny, er nad oedd yn wir i gyd. Gellir bod yn sicr o hyn, o leiaf, na fuasai yr un o'i briodasau eglwysig wedi bod agos mor llwyddiannus a dedwydd onibâi am ei uniad hapus ag un a anwyd—meddai rhywun—i fod yn wraig gweinidog, er fod ei breuddwydion hi i gyfeiriad tra gwahanol cyn ei weled ef. Nid bob amser, nac yn aml, y gellir proffwyd o fardd, ond ni wad neb na throdd proffwydoliaeth Tafolog, adeg eu priodas, allan yn wir (a gobeithiwn hefyd ei ddeisyfiad yn niwedd yr englyn):
Sian Ifans ei wen Efa—i Adams
::Wnâ'n Eden ei drigfa;
:I'w buchedd boed diwedd da—fel porth clyd
:I fyw lawenfyd y Nefol Wynfa.
Q
Y mae llawer o bregethau Adams yn ystod y cyfnod hwn wedi eu hysgrifennu yn y Saesneg. Eto, ni chlywodd na'i briod na'i gyfeillion sôn ganddo am unrhyw duedd i fynd i'r weinidogaeth Seisnig. Ni thybiwn fod y gwagogoniant o bregethu'r efengyl yn y Saesneg erioed wedi bod yn demtasiwn iddo. Mewn gwirionedd, nid oedd yn ogoniant yn ei olwg " oblegid y gogoniant tra rhagorol o bregethu'r Gwirionedd ei hun. Eto, pan fyddai galw, a phan roddid cyfleustra iddo i wasanaethu'r Gwirionedd yn yr iaith honno, ni pheidiodd â phregethu, a siarad, a darlithio ynddi hyd y diwedd.<noinclude><references/></noinclude>
jlaey5j7znfuluz1d2xbdp73w5to54h
138374
138373
2025-06-03T23:10:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
138374
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/71
104
69140
138375
2025-06-03T23:11:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138375
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eithr yn ol yr ail fraslun y mae yna "gyfaddaster rhwng y lefain a'r blawd "; a'r ail ben yw Graddol ddylanwad Gwirionedd a Daioni," gan mai lefeinio y mae, nid gorfodi drwy rym.
Ond y mae'r trydydd pen yr un yn y ddau, sef bod crefydd yn gofyn y cyfan o ddyn, "corff, meddwl ac ysbryd "; "ei amser, ei orchwylion, ei gyfoeth, ei gydymdeimlad gwirioneddol." "Y mae gormod o duedd i gyfyngu tiriogaeth crefydd i wasanaeth mewn capeli, canu emynau a gwrando pregethau," pan ddylai ymwneuthur â holl gysylltiadau bywyd pob dyn, yn y siop, y maes, y farchnad, a'r aelwyd." Yr oedd yr ymadrodd y pryd hwnnw yn ddieithr—a chaled.
Gosododd Adams sylfeini ei lwyddiant gweinidogaethol i lawr yn ddïau cyn dyfod i Hawen, yn ei ymgysegriad i Dduw a'i ymroddiad i astudiaeth o'i Wirionedd; ond ymhen tua blwyddyn wedi'r ymsefydlu gosododd un arall i lawr yn ei briodas â Miss Jane Evans, Pantygwenith.<ref>Wyres i'r enwog Ddr. Davies, Pant-teg</ref> Un o jokes ei gyfeillion oedd mai ei phriodi hi oedd ei amcan cyntaf, a phriodi'r eglwys yn ail; ac ni wadai ef hynny, er nad oedd yn wir i gyd. Gellir bod yn sicr o hyn, o leiaf, na fuasai yr un o'i briodasau eglwysig wedi bod agos mor llwyddiannus a dedwydd onibâi am ei uniad hapus ag un a anwyd—meddai rhywun—i fod yn wraig gweinidog, er fod ei breuddwydion hi i gyfeiriad tra gwahanol cyn ei weled ef. Nid bob amser, nac yn aml, y gellir proffwyd o fardd, ond ni wad neb na throdd proffwydoliaeth Tafolog, adeg eu priodas, allan yn wir (a gobeithiwn hefyd ei ddeisyfiad yn niwedd yr englyn):
{{center block|
<poem>
Sian Ifans ei wen Efa—i Adams
::Wnâ'n Eden ei drigfa;
:I'w buchedd boed diwedd da—fel porth clyd
:I fyw lawenfyd y Nefol Wynfa.
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
9aq8x1z2r0yqlbmygg20am7ogoyq442
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/72
104
69141
138376
2025-06-03T23:12:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138376
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae llawer o bregethau Adams yn ystod y cyfnod hwn wedi eu hysgrifennu yn y Saesneg. Eto, ni chlywodd na'i briod na'i gyfeillion sôn ganddo am unrhyw duedd i fynd i'r weinidogaeth Seisnig. Ni thybiwn fod y gwagogoniant o bregethu'r efengyl yn y Saesneg erioed wedi bod yn demtasiwn iddo. Mewn gwirionedd, nid oedd yn ogoniant yn ei olwg "oblegid y gogoniant tra rhagorol" o bregethu'r Gwirionedd ei hun. Eto, pan fyddai galw, a phan roddid cyfleustra iddo i wasanaethu'r Gwirionedd yn yr iaith honno, ni pheidiodd â phregethu, a siarad, a darlithio ynddi hyd y diwedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2qqwyyqrfqgrc5o0ibcpztsuijrdw5s
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/70
104
69142
138377
2025-06-03T23:16:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138377
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><br>
[[Delwedd:Jane (cynt Evans) gwraig y Parch David Adams (Hawen).jpg|canol|400px]]
{{c|MRS. ADAMS YNG NGHYFNOD BETHESDA.}}
<br>
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
crt7849ddp4qk3rcwljjiy513d8d9y3
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/263
104
69143
138378
2025-06-03T23:30:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138378
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BRASLUN O'I HANES}}}}
[Gall y braslun hwn fod yn gyfleus i rywrai, ond dylasai fod fwy na hynny, oblegid dengys annigonolrwydd pob cronicl o'r fath i gymhlethrwydd bywyd—ei ddyfnder a'i uchter yn neilltuol. Fe sylwa'r darllenydd mai'r blynyddoedd teneuaf ar yr wyneb oedd y rhai tewaf eu cynnyrch a mwyaf eu twf yn y dwfn yn ei hanes, sef 1880-1889 yn athronyddol a 1900-1906 yn ysbrydol. Efallai y byddai'n well gan rywrai edrych ar y cyfnod blaenaf fel un o fynd i mewn i benumbra ac umbra Hegel a Darwin, a'r olaf fel un o ddyfod allan ohonynt; ond hyd yn oed felly, yr oeddynt yn gyfnodau â'u hystyr ar y cyntaf islaw'r wyneb. Y mae'r blynyddoedd o 1914 ymlaen yn dra chynhyrchiol mewn rhoddi i'r byd wmbredd o feddyliau oedd "dros ben" ganddo ar ol ymchwil a myfyrdod oes, heb ddim o bwys arbennig i'w groniclo. Bid siŵr, croniclir ffeithiau llai pwysig yn nechreu ei fywyd, am eu bod, yn berthynasol, yn dra phwysig y pryd hwnnw, fel y mae nant y mynydd ar ddechreu taith afon o fwy pwys iddi nag afonig yn nês ymlaen, pan yw ei rhediad yn llydan a llawn yn y doldir].
{{Center block/s}}
<poem>
1845 Ganwyd yn Nhalybont, Awst 28.
1859: Gadael yr ysgol am y gwaith mŵn.
1862 Mynd yn ol i'r ysgol fel pupil teacher.
1865 Mynd i Goleg Normalaidd Bangor.
1866: Yn gydfuddugol â Gwilym Pennant am gân i "Weniaith."
1867 Yn Ysgolfeistr yn y Bryn, Llanelli.
1868: Ennill amryw wobrwyon Eisteddfodol.
1869 Mynd i Goleg Normalaidd Abertawe, a matriculatio ym Mhrifysgol Llundain.
1870: Ysgolfeistr yn Ystradgynlais.
1872: Gadael Ystradgynlais oblegid gwaelder iechyd.
1873: Ennill ar y bryddest i'r "Anialwch" ym Mrynamman.
1874 Ennill Ysgoloriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aber ystwyth.
1877 Graddio'n B.A. ym Mhrifysgol Llundain.
:Ennill Cadair Powys am bryddest ar "Addysg."
1878: Cael ei ordeinio'n weinidog Hawen a Bryngwenith.
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ecsfcvf90xu3zworth49e34eu7ymv5f
138381
138378
2025-06-03T23:35:09Z
AlwynapHuw
1710
138381
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BRASLUN O'I HANES}}}}
[Gall y braslun hwn fod yn gyfleus i rywrai, ond dylasai fod fwy na hynny, oblegid dengys annigonolrwydd pob cronicl o'r fath i gymhlethrwydd bywyd—ei ddyfnder a'i uchter yn neilltuol. Fe sylwa'r darllenydd mai'r blynyddoedd teneuaf ar yr wyneb oedd y rhai tewaf eu cynnyrch a mwyaf eu twf yn y dwfn yn ei hanes, sef 1880-1889 yn athronyddol a 1900-1906 yn ysbrydol. Efallai y byddai'n well gan rywrai edrych ar y cyfnod blaenaf fel un o fynd i mewn i benumbra ac umbra Hegel a Darwin, a'r olaf fel un o ddyfod allan ohonynt; ond hyd yn oed felly, yr oeddynt yn gyfnodau â'u hystyr ar y cyntaf islaw'r wyneb. Y mae'r blynyddoedd o 1914 ymlaen yn dra chynhyrchiol mewn rhoddi i'r byd wmbredd o feddyliau oedd "dros ben" ganddo ar ol ymchwil a myfyrdod oes, heb ddim o bwys arbennig i'w groniclo. Bid siŵr, croniclir ffeithiau llai pwysig yn nechreu ei fywyd, am eu bod, yn berthynasol, yn dra phwysig y pryd hwnnw, fel y mae nant y mynydd ar ddechreu taith afon o fwy pwys iddi nag afonig yn nês ymlaen, pan yw ei rhediad yn llydan a llawn yn y doldir].
{{Center block/s}}
<poem>
1845: Ganwyd yn Nhalybont, Awst 28.
1859: Gadael yr ysgol am y gwaith mŵn.
1862: Mynd yn ol i'r ysgol fel pupil teacher.
1865: Mynd i Goleg Normalaidd Bangor.
1866: Yn gydfuddugol â Gwilym Pennant am gân i "Weniaith."
1867: Yn Ysgolfeistr yn y Bryn, Llanelli.
1868: Ennill amryw wobrwyon Eisteddfodol.
1869: Mynd i Goleg Normalaidd Abertawe, a matriculatio ym Mhrifysgol Llundain.
1870: Ysgolfeistr yn Ystradgynlais.
1872: Gadael Ystradgynlais oblegid gwaelder iechyd.
1873: Ennill ar y bryddest i'r "Anialwch" ym Mrynamman.
1874: Ennill Ysgoloriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aber ystwyth.
1877: Graddio'n B.A. ym Mhrifysgol Llundain.
::Ennill Cadair Powys am bryddest ar "Addysg."
1878: Cael ei ordeinio'n weinidog Hawen a Bryngwenith.
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
7mi635p9y562hzyrajx2cnndh44wlw5
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/264
104
69144
138379
2025-06-03T23:32:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138379
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
1880: Ennill Coron Eisteddfod Tregaron am bryddest ar Wyrth Gyntaf Crist."
1884 Ennill ar draethawd ar "Hegel" yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl.
1888: Symud i Fethesda, Arfon.
1889: Ennill Cadair Eisteddfod Abermaw am bryddest ar "Orthrwm."
1891: Ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am bryddest ar "Cromwel."
1892: Ennill ar draethawd ar Athroniaeth Green a Martineau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl.
1893: Ennill hanner y wobr ar draethawd ar " Ddatblygiad " yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd.
1895: Symud i Grove Street, Lerpwl.
1897: Cyhoeddi Paul yng Ngoleuni'r Iesu.
1899: Ennill ar y traethawd ar "Foeseg Gristnogol" yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
1906: Cyhoeddi Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth.
1908: Cyhoeddi Esboniad ar y Galatiaid.
Cyhoeddi Llawlyfr yr Athro.
1913: Yn Gadeirydd yr Undeb Annibynnol Cymraeg. 1914: Cyhoeddi Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar.
1922: Yn cael ei daro'n glaf, a derbyn gwybodaeth o fwriad Prifysgol Cymru i roddi iddo deitl D.D.
1923: Huno yn yr angau (Gorff. 5), a'i gladdu yn Nhalybont (Gorff. 10).
</poem>
{{Div end}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
0883fve2calznkz86z8vpf0q4khyhwq
138380
138379
2025-06-03T23:34:18Z
AlwynapHuw
1710
138380
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
1880: Ennill Coron Eisteddfod Tregaron am bryddest ar Wyrth Gyntaf Crist."
1884: Ennill ar draethawd ar "Hegel" yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl.
1888: Symud i Fethesda, Arfon.
1889: Ennill Cadair Eisteddfod Abermaw am bryddest ar "Orthrwm."
1891: Ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am bryddest ar "Cromwel."
1892: Ennill ar draethawd ar Athroniaeth Green a Martineau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl.
1893: Ennill hanner y wobr ar draethawd ar " Ddatblygiad " yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd.
1895: Symud i Grove Street, Lerpwl.
1897: Cyhoeddi Paul yng Ngoleuni'r Iesu.
1899: Ennill ar y traethawd ar "Foeseg Gristnogol" yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
1906: Cyhoeddi Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth.
1908: Cyhoeddi Esboniad ar y Galatiaid.
::Cyhoeddi Llawlyfr yr Athro.
1913: Yn Gadeirydd yr Undeb Annibynnol Cymraeg. 1914: Cyhoeddi Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar.
1922: Yn cael ei daro'n glaf, a derbyn gwybodaeth o fwriad Prifysgol Cymru i roddi iddo deitl D.D.
1923: Huno yn yr angau (Gorff. 5), a'i gladdu yn Nhalybont (Gorff. 10).
</poem>
{{Div end}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
91mn54cqqhgslyrk8n9x5khvovi5y9r
Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/73
104
69145
138382
2025-06-04T00:23:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
138382
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr||VII. LLENYDDIAETH A DIRWEST.}}
Y FFORDD y deuthum i wybod gyntaf am Adams oedd trwy fynych gyfeiriadau'r newyddiaduron ato fel efrydydd ieuanc llwyddiannus iawn yng Ngholeg Aberystwyth yn 1874-7. A'r waith gyntaf erioed i mi ei weled oedd yng nghyfarfod ail-agor Capel Bwlch y Groes, Rhagfyr 7, 1881. Y Saboth cyn hynny y dechreuaswn fel gweinidog ym Mrynmair a Beulah. Yng nghyfarfod Bwlch y Groes y noson honno, eisteddai ef ar y dde i mi o'r pulpud. Ac yn y sêt fawr ar ddiwedd yr oedfa honno y cefais yr ysgwyd llaw a'r siarad cyntaf erioed ag ef. A bu'r geiriau caredig a ddywedodd wrthyf am fy mhregeth ar Phil. ii. 5-8 yn help i mi iawn-ddehongli'r olwg oedd arno'n gwrando. Canys gwrandawr pregeth rhyfedd ydoedd, ei ddau lygaid ynghau, gan dueddu i wyro'i ben, a gosod ei law yn awr ac eilwaith ar ei wyneb. A bu ei ddull o wrando yn dramgwydd i lawer brawd gwan. Eto, yr oedd yn gwrando o ddifrif, ac yn gweld mwy o'r bregeth, ac yn y bregeth, nag a welai ambell gynulleidfa gyfan.
Deuthai ef i Hawen yn agos i bedair blynedd cyn i mi ymsefydlu'n gymydog iddo, ac adnabyddid ef fel Mr. Adams, tra y sonnid am weinidogion eraill y cylch fel "Davies y Glyn," " Evans, Drewen," "Rees, Llechryd," a "Jones, Castellnewydd." Ond Mr. Adams oedd ef. A pherthynai iddo rywbeth anneffiniol a gyfiawnhâi gyfeirio ato felly. Ond wedi iddo ddyfod i'r Gogledd a dechreu dangos nad oedd mor ffyddlon a'r llïaws o'i frodyr i'r hen rigolau diwinyddol yn arbennig felly pan feiddiodd ddal "Paul yng ngoleuni'r Iesu "—collodd y Mr. į fesur a daeth i gael ei alw'n "Adams," enw a ddaeth<noinclude><references/></noinclude>
0gb9ux0lx7f5wnv48etk7vltzn84ljx
138383
138382
2025-06-04T00:23:46Z
AlwynapHuw
1710
138383
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|VII. LLENYDDIAETH A DIRWEST.}}}}
Y FFORDD y deuthum i wybod gyntaf am Adams oedd trwy fynych gyfeiriadau'r newyddiaduron ato fel efrydydd ieuanc llwyddiannus iawn yng Ngholeg Aberystwyth yn 1874-7. A'r waith gyntaf erioed i mi ei weled oedd yng nghyfarfod ail-agor Capel Bwlch y Groes, Rhagfyr 7, 1881. Y Saboth cyn hynny y dechreuaswn fel gweinidog ym Mrynmair a Beulah. Yng nghyfarfod Bwlch y Groes y noson honno, eisteddai ef ar y dde i mi o'r pulpud. Ac yn y sêt fawr ar ddiwedd yr oedfa honno y cefais yr ysgwyd llaw a'r siarad cyntaf erioed ag ef. A bu'r geiriau caredig a ddywedodd wrthyf am fy mhregeth ar Phil. ii. 5-8 yn help i mi iawn-ddehongli'r olwg oedd arno'n gwrando. Canys gwrandawr pregeth rhyfedd ydoedd, ei ddau lygaid ynghau, gan dueddu i wyro'i ben, a gosod ei law yn awr ac eilwaith ar ei wyneb. A bu ei ddull o wrando yn dramgwydd i lawer brawd gwan. Eto, yr oedd yn gwrando o ddifrif, ac yn gweld mwy o'r bregeth, ac yn y bregeth, nag a welai ambell gynulleidfa gyfan.
Deuthai ef i Hawen yn agos i bedair blynedd cyn i mi ymsefydlu'n gymydog iddo, ac adnabyddid ef fel Mr. Adams, tra y sonnid am weinidogion eraill y cylch fel "Davies y Glyn," " Evans, Drewen," "Rees, Llechryd," a "Jones, Castellnewydd." Ond Mr. Adams oedd ef. A pherthynai iddo rywbeth anneffiniol a gyfiawnhâi gyfeirio ato felly. Ond wedi iddo ddyfod i'r Gogledd a dechreu dangos nad oedd mor ffyddlon a'r llïaws o'i frodyr i'r hen rigolau diwinyddol yn arbennig felly pan feiddiodd ddal "Paul yng ngoleuni'r Iesu "—collodd y Mr. į fesur a daeth i gael ei alw'n "Adams," enw a ddaeth<noinclude><references/></noinclude>
gbmmn81lj5mvon0c7i67goeiwnxpuf7
138384
138383
2025-06-04T00:49:59Z
AlwynapHuw
1710
138384
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|VII. LLENYDDIAETH A DIRWEST.}}}}
Y FFORDD y deuthum i wybod gyntaf am Adams oedd trwy fynych gyfeiriadau'r newyddiaduron ato fel efrydydd ieuanc llwyddiannus iawn yng Ngholeg Aberystwyth yn 1874-7. A'r waith gyntaf erioed i mi ei weled oedd yng nghyfarfod ail-agor Capel Bwlch y Groes, Rhagfyr 7, 1881. Y Saboth cyn hynny y dechreuaswn fel gweinidog ym Mrynmair a Beulah. Yng nghyfarfod Bwlch y Groes y noson honno, eisteddai ef ar y dde i mi o'r pulpud. Ac yn y sêt fawr ar ddiwedd yr oedfa honno y cefais yr ysgwyd llaw a'r siarad cyntaf erioed ag ef. A bu'r geiriau caredig a ddywedodd wrthyf am fy mhregeth ar Phil. ii. 5-8 yn help i mi iawn-ddehongli'r olwg oedd arno'n gwrando. Canys gwrandawr pregeth rhyfedd ydoedd, ei ddau lygaid ynghau, gan dueddu i wyro'i ben, a gosod ei law yn awr ac eilwaith ar ei wyneb. A bu ei ddull o wrando yn dramgwydd i lawer brawd gwan. Eto, yr oedd yn gwrando o ddifrif, ac yn gweld mwy o'r bregeth, ac yn y bregeth, nag a welai ambell gynulleidfa gyfan.
Deuthai ef i Hawen yn agos i bedair blynedd cyn i mi ymsefydlu'n gymydog iddo, ac adnabyddid ef fel ''Mr.'' Adams, tra y sonnid am weinidogion eraill y cylch fel "Davies y Glyn," "Evans, Drewen," "Rees, Llechryd," a "Jones, Castellnewydd." Ond ''Mr.'' Adams oedd ef. A pherthynai iddo rywbeth anneffiniol a gyfiawnhâi gyfeirio ato felly. Ond wedi iddo ddyfod i'r Gogledd a dechreu dangos nad oedd mor ffyddlon a'r llïaws o'i frodyr i'r hen rigolau diwinyddol yn arbennig felly pan feiddiodd ddal "Paul yng ngoleuni'r Iesu"—collodd y ''Mr.'' į fesur a daeth i gael ei alw'n ''"Adams,"'' enw a ddaeth<noinclude><references/></noinclude>
mwex9ceg8wlonjwf2ln68yvcg0f37go