Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.45.0-wmf.4 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/554 104 3811 138394 7075 2025-06-04T18:37:47Z Tylopous 3717 138394 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>LLYFR Y PSALMAU. PSALM 1 1:1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia y’nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. 1:2 Ond ''sydd'' â’i ewyllys y’nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 1:3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar làn afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnel, efe a lwydda. 1:4 Nid felly ''y bydd'' yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwal y gwynt ymaith. 1:5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid y’nghynulleidfa y rhai cyfiawn. 1:6 Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir. PSALM 2 2:1 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? 2:2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, ''gan ddywedyd'', 2:3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. 2:4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a’u gwatwar hwynt. 2:5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt. 2:6 Minnau a osodais fy Mrenhin ar Sïon fy mynydd sanctaidd. 2:7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ''ydwyt'' ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 2:8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant. 2:9 Drylli hwynt â gwïalen haiarn; maluri hwynt fel llestr pridd. 2:10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. 2:11 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, ac ymlawenhêwch mewn dychryn. 2:12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi ''o''’r ffordd, pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef. PSALM 3 3:1 Psalm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab. ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer ''yw'' y rhai sydd yn codi i’m herbyn. 3:2 Llawer ''yw y rhai'' sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid ''oes'' iachawdwriaeth iddo yn ''ei'' DDUW. Selah. 3:3 Ond tydi, ARGLWYDD, ''ydwyt'' darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. 3:4 A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Selah. 3:5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ''ac'' a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd. 3:6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn. 3:7 Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy NUW: canys tarewaist fy holl elynion ''ar'' gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion. 3:8 Iachawdwriaeth ''sydd eiddo'' yr ARGLWYDD: dy fendith ''sydd'' ar dy bobl. Selah. PSALM 4 4:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Psalm Dafydd. Gwrando fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarhâ wrthyf, ac erglyw fy ngweddi. 4:2 O feibion dynion, pa hyd ''y trowch'' fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ''ac'' yr argeisiwch gelwydd? Selah. 4:3 Ond gwybyddwch i’r ARGLWYDD neillduo y duwiol iddo ei hun: yr<noinclude><references/></noinclude> 1eyga281ww5u81xmuogax4d5nkdbfk4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/777 104 4241 138396 7829 2025-06-04T19:07:34Z Tylopous 3717 138396 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Galarnad"/>5:11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Sïon, ''a'''r morwynion yn ninasoedd Judah. 5:12 Crogasant dywysogion â'u dwylaw; ni pherchid wynebau yr henafgwyr. 5:13 Hwy a gymmerasant y gwŷr ieuaingc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed. 5:14 Yr henafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwŷr ieuaingc â'u cerdd. 5:15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar. 5:16 Syrthiodd y goron ''oddi am'' ein pen: gwae ni yn awr bechu o honom! 5:17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid. 5:18 O herwydd mynydd Sïon, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo. 5:19 Ti, ARGLWYDD, a barhêi byth; dy orsedd-faingc yn oes oesoedd. 5:20 Paham yr anghofi ni byth, ''ac'' y gadewi ni dros hir ddyddiau? 5:21 Dychwel ni, O ARGLWYDD, attat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt. 5:22 Eithr ti a'n llwyr-wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr. <section end="Galarnad"/> <section begin="Eseciel"/>LLYFR Y PROPHWYD EZECIEL. PENNOD 1 1 A DARFU yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd ''mis'', ar y pumed ''dydd'' o'r mis, a mi ym mysg y gaethglud wrth afon Chebar, agoryd y nefoedd; a gwelwn weledigaethau DUW. 2 Yn y pumed ''dydd'' o'r mis, honno ''oedd'' y bummed flwyddyn o gaethgludiad brenhin Jehoiachin, 3 Y daeth gair yr ARGLWYDD yn eglur at Ezeciel yr offeiriad, mab Buzi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arno ef. 4 Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o'r gogledd gorwynt, ''a'' chwmmwl mawr, a thân yn ymgymmeryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o'i ganol, ''sef'' o ganol y tân, fel lliw ambr. 5 Hefyd o'i ganol ''y daeth'' cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; Dull dyn oedd iddynt. 6 A phedwar wyneb ''i bob'' un, a phedair aden ''i bob'' un o honynt. 7 A'u traed yn draed uniawn; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw. 8 Ac ''yr oedd'' dwylaw dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a'u hadenydd ''oedd'' ganddynt ill pedwar. 9 Eu hadenydd hwynt ''oedd'' wedi en cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni thröent; âent bob un yn uniawn rhag ei wyneb. 10 Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, ''oedd'' ar y tu dehau iddynt ill pedwar: ac wyneb ŷch o'r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar. 11 Dyma eu hwynebau hwynt; a'u hadenydd ''oedd'' wedi eu dosparthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cyssylltu â'u gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrph. 12 Aent hefyd bob un yn uniawn rhag ei wyneb; i'r lle y byddai yr yspryd ar fyned, yno yr âent; ni thröent pan gerddent. 13 Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ''ac'' fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân. 14 Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten. 15 Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyd â'i bedwar wyneb. 16 Dull yr olwynion a'u gwaith ''oedd'' fel lliw beryl: a'r un dull oedd iddynt ill pedair; a'u gwedd hwynt a'u gwaith fel pe byddai olwyn y'nghanol olwyn. 17 Pan elent, âent ar eu pedwar ochr: ni thröent pan gerddent. {{nop}}<section end="Eseciel"/><noinclude><references/></noinclude> axqw0ilaieiat2vbk7rrgiqo3z2d3q6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1115 104 5458 138395 10011 2025-06-04T18:51:08Z Tylopous 3717 138395 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Galatiaid"/>arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. 6:14 Eithr na atto Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. 6:15 Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dïenwaediad, ond creadur newydd. 6:16 A chynnifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. 6:17 O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorph nodau yr Arglwydd Iesu. 6:18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist ''a fyddo'' gyd â’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen. At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain. <section end="Galatiaid"/> <section begin="Effesiaid"/>{{c|{{uc:Epistol Paul yr Apostol at yr<br/>Ephesiaid.}}}} PENNOD 1 1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu: 1:2 Gras ''fyddo'' i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist. 1:3 Bendigedig ''fyddo'' Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion ''leoedd'' yng Nghrist: 1:4 Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: 1:5 Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef, 1:6 Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy yn yr Anwylyd: 1:7 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, ''sef'' maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef; 1:8 Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, 1:9 Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun: 1:10 Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhôi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef: 1:11 Yn yr hwn y'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun: 1:12 Fel y byddem ni er mawl i'w ogoniant ef, y rhai o'r blaen a obeithiasom yng Nghrist. 1:13 Yn yr hwn ''y gobeithiasoch'' chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y'ch seliwyd trwy Lân Yspryd yr addewid; 1:14 Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef. 1:15 O herwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tu ag at yr holl saint, 1:16 Nid wyf yn peidio â dïolch drosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddïau; 1:17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Yspryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: 1:18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth ''yw'' golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, 1:19 A pheth ''yw'' rhagorol fawredd ei nerth ef tu ag attom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef; 1:20 Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion ''leoedd'', {{nop}}<section end="Effesiaid"/><noinclude><references/></noinclude> 0lvfuytgon8k867kpytr2urd4rwcch9 Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/8 104 38227 138393 78153 2025-06-04T12:27:03Z AlwynapHuw 1710 138393 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[File:Parch David Adams (Hawen).jpg|400px|canol]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 51jji5lhxeoxhebhh7w8h8qkbgkfuev Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/98 104 69146 138385 2025-06-04T12:07:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 138385 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><br> [[Delwedd:Y Parch a Mrs David Adams (Hawen) ym 1879.jpg|canol|400px]] {{c|MR. A MRS. ADAMS YN 1879}} <br> {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 13nw87kykzxot72tt6m718868gg4l9m Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/97 104 69147 138386 2025-06-04T12:08:13Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 138386 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/134 104 69148 138387 2025-06-04T12:22:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 138387 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><br> [[Delwedd:Sarah Jane a Myfanwy merched David Adams (Hawen).jpg|400px|canol]] {{c|MISS ADAMS.{{bwlch|5em}}MISS MYFANWY ADAMS.}}<br> {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> pw19pviigc03ocwcdvhz04h3zu6hcwd Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/133 104 69149 138388 2025-06-04T12:22:56Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 138388 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/152 104 69150 138389 2025-06-04T12:23:36Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 138389 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/168 104 69151 138390 2025-06-04T12:24:04Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 138390 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/190 104 69152 138391 2025-06-04T12:24:40Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 138391 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/236 104 69153 138392 2025-06-04T12:25:14Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 138392 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/74 104 69154 138397 2025-06-05T00:59:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 138397 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i beri rhyw iâs ryfedd o arswyd trwy galon uniongrededd llawer o'r saint, a'u tybiai eu hunain agosaf i'r nefoedd. Y ddau gyfeiriad y cefais i y fraint o gydweithio mwyaf ag ef oedd gyda chyfarfodydd llenyddol a dirwest. Credem y gellid trwy y ddau gyfeiriad yna ennill y cymdogaethau i ymwneuthur â phethau a fyddai'n gynorthwy i'r bywyd goreu. Cawsom lawer o hyfrydwch wrth gefnogi'r cyfarfodydd llenyddol; cymerem ran yn eu trefnu,—a'u cario ymlaen, arwain neu feirniadu bron bopeth ond datganu. Caem ddigon o waith, llawer o fwynhâd, a'r rhan fynychaf caem gerdded adref yn bur hwyr y nos. Nid oedd dim yn ormod o drafferth gan Adams i lwyddo'r cyfarfodydd hyn a deffro'r meddwl ieuanc i gyfeiriad buddiol. Beirniadai'n fanwl ac adeiladol, gan annog yr ieuainc bob amser i roddi nod uchel o'u blaen a gwneuthur y goreu o'u talent a'u horiau hamdden. Ac nid ychydig o'n beio a gaem am anesmwytho ar y bobl ieuainc, a'u denu i ymgynnull at ei gilydd yma a thraw, ac i wario'u harian am hen lyfrau. Dyma a ddywedodd gwraig gweinidog wrthyf am yr ymdrechion hyn: "Mi gewch eich dau achos i edifarhau am ddysgu'r bobl ifanc yma i arfer eu doniau. Y nhw fydd y rhai cyntaf i godi yn eich erbyn eto." Ond ni wiriwyd hynny o gwbl. Ond y wedd fwyaf arbennig ar ein cydweithio oedd o blaid sobrwydd. A chawsom yr Hybarch Owen Thomas, fy rhagflaenydd ym Mrynmair a Beulah, yn gyfaill a chydweithiwr campus. Yr oedd ef yn llwyrymwrthodwr adnabyddus drwy'i oes, ond er maint ei sêl dros sobrwydd, prin oedd ei fedr i fagu dirwestwyr. Miniog ac ymosodol iawn oedd yn y cyfeiriad yma. Ac nid heb achos, mae'n debig, canys yr oedd mynd i'r dafarn ac yfeta yn beth cyffredinol. Eto, cofier fod tros 40 mlynedd<noinclude><references/></noinclude> 7jtzjvp6re3jdybiwf6dm6w1654r069 Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/75 104 69155 138398 2025-06-05T01:11:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 138398 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>er hynny, a bod y syniad am dafarn ac yfeta wedi newid llawer erbyn hyn. Prin, mae'n debig, bod gwaelod sir Aberteifi yn waeth yn hyn o beth na rhannau amaethyddol eraill o'r wlad. Sut bynnag am hynny, teimlai llawer o ddynion goreu'r ardaloedd fod eisiau dadgysylltu'r eglwys oddiwrth y dafarn. Gwyddai rhannau isaf Ceredigion i rai o'i gweinidogion syrthio'n aberth llwyr bron i yfeta, ond gwelodd ragor nag un o'r cyfryw yn cael eu gwared o gadwynau'r blys, ac yn troi'n apostolion sobrwydd o'r fath ragoraf. Ond, a chymryd y wlad yn gyffredinol, yr oedd Bchus yn eilun parchus, a'r eglwys mewn ambell ardal megis dan nawdd y dafarn. Heblaw hynny, gallasai braich y weinidogaeth fod gryn lawer yn gryfach i frwydro yn erbyn cyfeddach a medd'dod. Yn wyneb sefyllfa o'r fath, oedd gymaint rhwystr ar y ffordd i fagu plant a phobl ieuainc yr eglwysi fel y dylesid, dechreuasom godi'n llef o ddifrif o blaid sobrwydd. Ac wrth wneuthur hynny nid yn unig anesmwythem ar y bobl ieuainc, ond ar bobl mewn oed hefyd, a cheid mwy o wingo yn erbyn gwneuthur hynny nag yn erbyn aflonyddu'r ieuainc. Deuwyd i edrych arnom fel aflonyddwyr y byd a'r eglwys, a mawr y beio arnom. Yr unig ddau hynafgwr a gaem i'n cynorthwyo o ddifrif mewn cyfarfodydd oedd y Parch. Owen Thomas a'r Parch. David Oliver (M.C.), Tŵrgwyn (cymydog i Adams). Ond ni olyga hyn anghofio'r gwasanaeth gwerthfawr i sobrwydd a wnaethai'r Parchn. W. Rees, Llechryd, a W. Jones, Trewyddel, ar ffiniau sir Benfro. Yr ydys wedi cael mynych gymhelliad i ysgrifennu hanes yr ymgyrch ddirwestol y cefais i y fraint o gymryd rhan ynddi gydag Adams yn 1882—7, ond yn anffodus prin iawn yw'r cofnodion ynglŷn â hi. Eto, y mae digon ar gael i roddi help i'r darllenydd gael syniad am weithgarwch a sêl Adams o blaid sobrwydd. Ac wrth geisio<noinclude><references/></noinclude> gcx8siqcc5v24foyvqa7psjkdsar14r