Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.45.0-wmf.5
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/152
104
3402
139746
6536
2025-06-14T15:13:54Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
139746
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>dïosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylaw offrwm y coffa; offrwm eiddigedd ''yw'' efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri y felldith.
{{angor|5:19|19}} A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gwr gyd â thi, ac oni ŵyraist i aflendid ''gyd âg arall'' yn lle dy wr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri y felldith.
{{angor|5:20|20}} Ond os gŵyraist ti oddi wrth dy wr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heb law dy wr dy hun:
{{angor|5:21|21}} (Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig,) Rhodded yr {{sc|Arglwydd}} dydi yn felldith ac yn llw ym mysg dy bobl, pan wnelo yr {{sc|Arglwydd}} dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig;
{{angor|5:22|22}} Ac aed y dwfr melldigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.
{{angor|5:23|23}} Ac ysgrifened yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched ''hwynt'' ymaith â’r dwfr chwerw.
{{angor|5:24|24}} A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri y felldith: ac aed y dwfr sydd yn peri y felldith i’w mewn hi, yn chwerw.
{{angor|5:25|25}} A chymmered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ac offrymmed ef ar yr allor.
{{angor|5:26|26}} A chymmered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi ''hynny'' pared i’r wraig yfed y dwfr.
{{angor|5:27|27}} Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gwr, yr â y dwfr sydd yn peri y felldith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a’r wraig a fydd yn felldith ymysg ei phobl.
{{angor|5:28|28}} Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddïhangol, ac a blanta.
{{angor|5:29|29}} Dyma gyfraith eiddigedd, pan ŵyro gwraig ''at arall'' yn lle ei gwr, ac ymhalogi:
{{angor|5:30|30}} Neu os daw ar wr wŷn eiddigedd, a dal o hono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr {{sc|Arglwydd}}, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ol y gyfraith hon.
{{angor|5:31|31}} A’r gwr fydd dïeuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Cyfraith y Nazaread.'' 24 ''Y dull y bendithir y bobl.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|Llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|6:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneillduo gwr neu wraig i addaw adduned Nazaread, i ymneillduo i’r {{sc|Arglwydd}}:
{{angor|6:3|3}} Ymneilldued oddi wrth win a dïod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr dïod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytâed rawnwin irion, na sychion.
{{angor|6:4|4}} Holl ddyddiau ei Nazareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen.
{{angor|6:5|5}} Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni y dyddiau yr ymneillduodd efe i’r {{sc|Arglwydd}}, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.
{{angor|6:6|6}} Holl ddyddiau ei ymneillduaeth i’r {{sc|Arglwydd}}, na ddeued at gorff marw.
{{angor|6:7|7}} Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am ''fod'' Nazareaeth ei {{sc|Dduw}} ar ei ben ef.
{{angor|6:8|8}} Holl ddyddiau ei Nazareaeth, sanctaidd ''fydd'' efe i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|6:9|9}} Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymmwth, a halogi pen ei Nazareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.
{{angor|6:10|10}} Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr oifeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.
{{angor|6:11|11}} Ac offrymed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, a gwnaed gymmod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.
{{angor|6:12|12}} A neilldued i’r {{sc|Arglwydd}} ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd: ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef.
{{angor|6:13|13}} ¶ A dyma gyfraith y Nazaread: pan gyflawner dyddiau ei Nazareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.
{{angor|6:14|14}} A dyged yn offrwm drosto i’r {{sc|Arglwydd}}, un hespwrn blwydd,<noinclude><references/></noinclude>
h4my5x1h2363euqhleopndgiwv4wqoj
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/60
104
69411
139747
139155
2025-06-15T00:32:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139747
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Addef rhaid y ddeddf fawr hon
:Ym mhethau yr amaethon.
Hoen-dyrrant i’r rhandiroedd,—a synnanl
::Ar dwysennau filoedd;
:I'w rhan dyrneidiau gannoedd
:A leinw’u blys, a lonna'u bloedd.
Mae y plant yn mhob helyntion—yn swp
::O sypiau y lloffion;
:Mae cefn dan faich,—braich a bron
:Sy' haenfa tywys anfon.
Ar eu hol hwy, yr ail haid—ydyw’r gwyllt
::A’r gwâr anifeiliaid,
:A'r gwâr adar,—ehediaid
:Sy’ aml eu rhif, syml eu rhaid.
''Adgan ary gioenoliaidyn frarotoi i ymfudo.''
::Ust! tewch! mae acw ryw 'stwr,
::Ho! gwennol a wna gynnwr;—
::Beth yw’r gyfrinach ddi baid
::Gynalia y gwenoliaid
::Ar bennau tai, ar bwynt tŵr,
::Adein-dorf fawr ei dwndwr?—
::Paratoi y maenty pryd hyn
::I fudo a chwifio edyn
::Trwy'r ne, o un lle i'r llall,
::I diroedd rhyw wlad arall;
::O Walia gain i fol gwig,
::I siffrwd trwy gyrs Affrig;
Neu i fargod pagoda—i wrando
::Gwiriondeb y Bramah;
:Yn ol eu hynt, ni leiha
:Rhin eu hoender yn India.
</poem>
{{Div end}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
q1bytyjssn99mz7oxn31kwev2k2zdw3
139748
139747
2025-06-15T00:34:00Z
AlwynapHuw
1710
139748
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Addef rhaid y ddeddf fawr hon
:Ym mhethau yr amaethon.
Hoen-dyrrant i'r rhandiroedd,—a synnanl
::Ar dwysennau filoedd;
:I'w rhan dyrneidiau gannoedd
:A leinw’u blys, a lonna'u bloedd.
Mae y plant yn mhob helyntion—yn swp
::O sypiau y lloffion;
:Mae cefn dan faich,—braich a bron
:Sy' haenfa tywys anfon.
Ar eu hol hwy, yr ail haid—ydyw’r gwyllt
::A’r gwâr anifeiliaid,
:A'r gwâr adar,—ehediaid
:Sy’ aml eu rhif, syml eu rhaid.
''Adgan ar y gwenoliaid yn parotoi i ymfudo.''
::Ust! tewch! mae acw ryw 'stwr,
::Ho! gwennol a wna gynnwr;—
::Beth yw’r gyfrinach ddi baid
::Gynalia y gwenoliaid
::Ar bennau tai, ar bwynt tŵr,
::Adein-dorf fawr ei dwndwr?—
::Paratoi y maenty pryd hyn
::I fudo a chwifio edyn
::Trwy'r ne, o un lle i'r llall,
::I diroedd rhyw wlad arall;
::O Walia gain i fol gwig,
::I siffrwd trwy gyrs Affrig;
Neu i fargod pagoda—i wrando
::Gwiriondeb y Bramah;
:Yn ol eu hynt, ni leiha
:Rhin eu hoender yn India.
</poem>
{{Div end}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
rl0rgzq10ynk8rw0pu6dyy4r9whq1dq
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/61
104
69412
139749
139156
2025-06-15T00:45:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139749
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|III. YR HYDREF,}}<br>''Yr haul yn Alban Elfed, yn arwydd y Fantol.''}}
{{Center block/s}}
<poem>
::Down funud!—gadawn faenor
::A thwrw maes, a thir a môr,
::At droi ein nod tu a'r nen
::Ar hoewbryd teyrn y wybren,
::Tra'i aur gant yn troi ar gyrch
::I'r Fantol yn nhref entyrch,
::Eirian ei drych, o'r hon dref
::Ar ddidro y rhydd Hydref
::I addfedu nodd-fwydion
::Grawn y brig ar waen a bron.
::''Addfediad y coed ffrwythau.''
O boen ei wylfa yn Alban Elfed
'E dry ei euraidd belydri waered;
Wrth ei ddeddfau, coedd ffrwythydd addfed
Yn eu teg olwg fyddant i'w gweled;
O y perllennydd,—pwy ŵyr eu llawned?
Dyna gain froydd dan gnau afrifed;
Gwedd afal-lwyni, i'n gwadd, fel yned!
Y FLWYDDYN wych enfyn ar ei chanfed
Yn ddobr i'n gwaith, ddibrin ged,—ffrwyth di drai,
Ba fywiol osai! na bu'i felysed.
Melyna amliw Anian—drwy y tir,
::Daw'r twf i'w lawn oedran;
:Oi safle glwys afal glan
:A gwymp a hono'i bunan.
::''Sgrympiau Gŵyl y Grog.''
I gyfarch Sol, Eolus—a eilw
::Ei awelon grymus:
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
tofblkujsn6awnlu65k4aqmub88jx0d
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/62
104
69413
139750
139157
2025-06-15T02:42:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139750
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Yn nerthoedd croch a brochus
:Ar wedd dreng hyrddiau di rûs.
A'r gwynt o'i glwyd, ar gant glyn—dyrr osteg,
::O ddeutu'r adeg fe ddetry'i edyn;
:Ysgydwa ei fraisg aden,
:A'r chwa chwibana uwch ben.
Mewn troiadau mae'n trydar—hydr wyntoedd
::Drwy entyrch y ddaear;
:A gwynion genllysg anwar,
:Cerrig ôd yn curo gwarr.
::Bydd sgrympiau, rai dyddiau 'n dod,
::Dirybudd, diarwybod;
::R'nuthro wnant o werthyr nen
::Drwy ddybryd orddu wybren,
::Yn eirwlaw rhydd ar ael rhiw,
::Neu gymysg genllysg, gwynlliw.
:::''Haf bach Gwyl Fihangel.''
::Ond ennyd yw,—a daw'n deg,
::Mae haf wrid am ferr adeg.
::Y Taw mwyn yn neutu mŷr,
::Swyn yw! heb si yn awyr,
Namyn si, neu'n hytrach, mân son—wybrol
::Mal sibrwd angylion,
:Nad wyr hil daearolion
:O ble daw y barabl dôn.
Mae daear mewn amdoad—o osteg
::Distaw, digynhyrfiad;
:Oddigerth rhyw nerth arw nâd
:Bu, ar foreu'n breferâd.
:::''Cwymp y daìl.''
::At hyn, mae gwyrddliw y tw',
::Trwy wên haul, yn troi'n welw;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
4rxyvl3jlo833thu0l3fjhk822enbsf