Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.45.0-wmf.5
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf
106
13291
139766
111873
2025-06-15T16:49:24Z
AlwynapHuw
1710
139766
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Gweithiau Eben Fardd
|Author=Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
|Publisher=ab Owen, Llanuwchllyn
|Year=1906
|Source=pdf
|Image=9
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=

[[Categori:PD-old]]
[[Categori:Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
[[Categori:Gweithiau Eben Fardd]]
[[Categori:Cyfres y Fil]]
[[Categori:Barddoniaeth]]
[[Categori:Llyfrau 1906]]
s1unrc4so6lmrolo4nxzil1ma54mtqo
139768
139766
2025-06-15T17:18:40Z
AlwynapHuw
1710
139768
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Gweithiau Eben Fardd
|Author=Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
|Publisher=ab Owen, Llanuwchllyn
|Year=1906
|Source=pdf
|Image=9
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=

[[Categori:PD-old]]
[[Categori:Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
[[Categori:Gweithiau Eben Fardd]]
[[Categori:Cyfres y Fil]]
[[Categori:Barddoniaeth]]
[[Categori:Llyfrau 1906]]
[[Categori:Owen Morgan Edwards]]
bmig751kaghjdkjy6a6fjl6mlyrovxl
Categori:Gweithiau Eben Fardd
14
21429
139767
41668
2025-06-15T16:51:16Z
AlwynapHuw
1710
139767
wikitext
text/x-wiki
[[Delwedd:Eben Fardd (Ab Owen).pdf|bawd|tudalen=9]]
n7f4smj0tpdn05ma2ey52yy7rjkc9pt
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/63
104
69414
139751
139291
2025-06-15T15:08:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139751
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Anian yn troi yn henaidd,
::Maeth ei bron yn methu, braidd;
::Coed yn en hoed yn hadu,
::Y berth yn llai nag y bu
::Dail ar ol dail yn dilyn
::I lawr gwlad, neu i li'r glyn,
::Yn gawod trwy y gwiail,-
::Camp y dydd yw cwymp y dail.
::Ac ail i'r dail ydyw dyn,
::Fel addail mân y flwyddyn;
::Y addurnol am ddiwrnod,
::Pan dyf,—dyna'i gwymp yn dod;
::A'i wrid yn troi i edwi,
::A'i ddelw hardd,—O! ni ddeil hi.
::Ond ni pharha yr ha byr hwn,
::Hyd eithaf trideg dwthwn;
::Gwywa y wedd flug-ieuanc,
::Mal un trem yw ymlaen tranc.
''Adgan grefyddol ar y "Cynhaeaf adre."''
Cawn fydru cynhaeaf adref—yn wychr
::Yn nechreu yr hydref:—
:Mal yn awr y dyrch mawl nef
:Acw i entrych pob cantref,
::Pryd hau, caed priod dywydd,
::A ihwf i'r had, eithaf rhydd;
::A phob peth yn ddi feth a fu
::O duedd fad i'w addfedu;
::Gororau'n esgor irwellt,
::O gwrri gwri, gwair a gwellt.
"Awel a gwlaw, haul a gwlith,—in' oeddynt
::Weinyddion y fendith,
:Nes dwyn yn gyflawn, rawn rith,
:I gynnyrch gwair a gwenith.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
9e7oecgquyvqvf5d9d7bloo275sf0wo
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/64
104
69415
139752
139292
2025-06-15T15:22:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139752
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::"Pwy wnaeth hyn? Pennaeth Anian;
::Gwledd glws wnaeth ein Harglwydd Glân;
::I'w ofyniad elfennau
::Oedd o hyd yn ufuddhau.
::Yntau oedd yn tueddu
::Galluon teg oll o'u tu;
::Dwyn y gwlith, denu y gwlaw,
::Gwadd haul, a'i gu ddebeulaw,
::I Gangell fawr ei Gyngor,
::Cadair o'i mewn ceid i'r môr,
::A mainc i'r tir -mewn cwrr teg
::Eistedd wna'r gwynt ar osteg,
::At wrandaw y fad Drindod
::Yn erchi i ddyn gynnyrch ddod.
"Cyfleai bob elfen yu ei senedd,
A chu wrandawai ei chywrain duedd:
Cyd-dymherai a rhannai ei rhinwedd;
Hon-yma galwai i weini ymgeledd;
Hon-acw ataliai, seiliai ei sylwedd;
Fe warafunai un fyrr o fonedd;
Agorai llyfr trugaredd y tymor
I gyfri trysor ar gyfer trawsedd.
::"Y ddeddf ydoedd addfedu
::Gwair yn y cwm, a grawn cu
::Gwneyd moelydd yn gawd melyn,
::A chowd mawr ar glawr y glynn.
::"Duw yw'r llyw, awdwr y lles,
::Anian oedd y weinyddes;
::O'i law ddwyfol, addefir,
::Yn hael daeth foraeth y tir;
::Wedi'r fael, Duw lor folwn,
::A da yw hawl y Duw hwn.".
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
a2gxa4haossjvsn4rhadqkryk2kjp3p
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/65
104
69416
139753
139293
2025-06-15T15:22:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139753
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}
<poem></noinclude>
::Dyna un o dannau haf,
::Caneuon y cynhaeaf.
::::''Byrhud y dydd.''
::Ar ei chil, mewn gorchwyledd
::Y Flwyddyn a, gwywa'i gwedd!
::Tegwch y wawr gwtoga,
::Hyd wddf yr hwyr, dydd fyrha.
::Ddoe ddifyr yn fyrr a fu,
::Heddyw'n fyrr, i ddwyn foru;
::Foru bach, yu fyrrach fydd,
::Byrrach, truanach trennydd.
::::''Prudd-der yr adar.''
::Mae'r adar yn fwy gwaraidd
::Ger ein bron, yn bruddion, braidd;
::A'n chwiban yn gwynfan gwâr,
::Mewn tyle, ym mhen talar;
::Pa olwg glaf!—eu plu clyd,
::Eu swp hoewblu mor 'spyblyd.
::::''Cyffro y drycinoedd.''
::Cynnull a wna'r drycinoedd
::Eu holl rym, o'r man lle'r oedd
::Fel yn huno'n Ain, ennyd,
::Ar ol gwasgar bar trwy'r byd;
::Ymresiant i amryson
::Yn ddihir, ar dir, ar donn;
Gwae filyn, gwae ddyn, gwae dda—gwymp i'w mysg
I'w cau yn nherfysg eu cyniweirfa.
:::''Adgan ar "rwymo yr anifeiliaid."''
::Dyma adeg 'rhaid mudo
::Y praidd i rywfan dan do;
::Oddiar fynydd i'r faenawr,
::Cynnes loc yn is i lawr;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
n7ii7111cqrmxtkqbbj8dk1qrnc686k
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/66
104
69417
139754
139294
2025-06-15T15:27:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139754
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::O hafotir i fetws,
::Rhandir glyd yr hendre glws;
::Aerwyo o'r oer awel
::Y lo a'r fuwch yn llwyr fel
::gynnwys cymaint ag annai
::O'n buaid all yn eu beudai;
::A'r march dihafarch hefyd
::Yn glwm wrth ei resel glyd.
''Anrhaith y gwyntoedd ar fôr a thir''
::Gwynt wna helynt anaele
::A blinder mewn llawer lle;
::Hyrddia'r llong, a chordda'r lli,
::Gwna i fôr brigwyn ferwi;
::A gyrr o'i flaen y gref long,
::Addurnlwys hardd haiarn-long,
::Fawr, adeilgref, i'r dalgraig,
::Yn gandryll rhwng crigyll craig;
::A mi o'i hail, ant mal hi,
::I anoddyn yn eddi.
::Nid llai y tai ar y tir,
::A'r dasau, a ardysir;
::A'r coedydd, crwca ydynt,
::Heb wisg oll, dan bwys y gwynt.
:::''Y cur-wlaw, y llifogydd.''
::Ac wele, mwy, y gwlaw mawr
::Yn gyrru trwy ein gorawr;
::Agenir y clogwyni
::I eigion llawr gan y lli
::Y gofer cul a gyfyd
::Ei ddwr bach, ar foddi'r byd;
::Llafara y llifeiriant
::Ei daran hir drwy y nant;
::Ac ar fyrr, bydd yn cryfhan
::Afonydd di derfynau,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ngxs7xqff2fxdote8ccrduj7bw2ndzm
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/67
104
69418
139755
139295
2025-06-15T15:32:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139755
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
::Dros y tir, mal rhodres tonn
::Fai ar nawf o fôr Neifion.
::::''Yr hin anwadal.''
::Wedi saib, nid oes wybod
::Un dydd, pa dywydd sy'n dod {
::Ni edy hin anwadal
::I goel dyn am ddim gael dal.
:::::''Tarth, niwl.''
::Weithiau tarth, fel rhyw garth gwyn,
::Yn ei rwysg, wna presgyn
::Yr awyr, a'r holl riwiau
::A harddai bur wedd y bau;
::Yna'r niwl a leinw'r nen;
::Ni welir, gan y niwlen
::A fwriwyd fel cyfaredd
::Dros y fro, i guddio'i gwedd,
::Oddieithr rhyw fynydd uthrol,
::Nad oedd yn uwch, un dydd yn ol,
::Na'n meddwl, mewn un moddion,
::Yo garn a braich ger ein bran,
::Ond heddyw mae'i bwynt addien,
::Trwy'r niwl, fel yn taro'r nen.
::''Chwedl y Tylwyth Teg''
::Ni wiw son am hen syniad
::A ga'i hwyl glew ar goel gwlad,
::Mai nifwl oedd, mewn ofeg,
::Talaeth tai y Tylwyth Teg;
::Rhin a swyn yr hen syniant
::Fu i'n plith yn ofni plant;
::Ddydd fu, meddir, clybuwyd
::Eu erechwen dan y lenn lwyd;
::Hoen eu nwyf yn y nifwl,
::O olwg dyn halog, dwl.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
bm6utt4f9n5h0kx8m4gz04jrhncsi4i
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/68
104
69419
139756
139296
2025-06-15T15:38:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139756
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|IV. Y GAEAF.}}
''Y haul yn Alban Arthan, yn arwydd yr Afr. y dydd byr.''}}
{{Center block/s}}
<poem>
::Yr haul dry i'w wely'n wan,
::I werthyr Alban Arthan;
::O'r nos oer fe hwyr nesha
::I fuan dreiglo 'i fwa;
::Gyd a'i fod yn dod i'w daith,
::Isela i'r nos eilwaith.
::::''Y rhew distaw''
::Gad anian i gadwyni
::Yr Iâ mawr i'w rhwymo hi:
::A'r Iâ i arbeda'r hyd,
::Ei iasau arno esyd:
::Ei efyn rwym afon rydd
::Yn galed yn ei gilydd;
::A'r dŵr a lifai ar daen
::Sy eilfydd i risialfaen;
::Aber loew, glws, yn berl glân,
::Y llyn bir fel llenn arian;
::Y gwlybwr yn troi'n globyn,
::Eilydd talp o sylwedd tynni
::Maes yn llwm, ac ymson lli
::Ystwyol, y distewi;
::A'r awel fel yn rhewi,
::Y tywydd hwn tawodd hi:
::Pob annedd mewn pibonwy
::O loew rew main, welir mwy;
::A gleiniau rhew, fel glân-wydr,
::Bob gwedd fel rhyw bibau gwydr,
::A gydiant wrth fargodion
::O eirian bryd arian bron.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
tw05nrxci89hf2qaxzhqu5x5v04mffv
139757
139756
2025-06-15T15:38:33Z
AlwynapHuw
1710
139757
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|IV. Y GAEAF.}}
''Y haul yn Alban Arthan, yn arwydd yr Afr, y dydd byr.''}}
{{Center block/s}}
<poem>
::Yr haul dry i'w wely'n wan,
::I werthyr Alban Arthan;
::O'r nos oer fe hwyr nesha
::I fuan dreiglo 'i fwa;
::Gyd a'i fod yn dod i'w daith,
::Isela i'r nos eilwaith.
::::''Y rhew distaw''
::Gad anian i gadwyni
::Yr Iâ mawr i'w rhwymo hi:
::A'r Iâ i arbeda'r hyd,
::Ei iasau arno esyd:
::Ei efyn rwym afon rydd
::Yn galed yn ei gilydd;
::A'r dŵr a lifai ar daen
::Sy eilfydd i risialfaen;
::Aber loew, glws, yn berl glân,
::Y llyn bir fel llenn arian;
::Y gwlybwr yn troi'n globyn,
::Eilydd talp o sylwedd tynni
::Maes yn llwm, ac ymson lli
::Ystwyol, y distewi;
::A'r awel fel yn rhewi,
::Y tywydd hwn tawodd hi:
::Pob annedd mewn pibonwy
::O loew rew main, welir mwy;
::A gleiniau rhew, fel glân-wydr,
::Bob gwedd fel rhyw bibau gwydr,
::A gydiant wrth fargodion
::O eirian bryd arian bron.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
7eoq36vq998qzkjg6snd43f87e10b4y
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/69
104
69420
139758
139297
2025-06-15T15:45:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139758
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
''Adgan ar fechgyn yn ysglefrio.''
::Y bechgyn, er rhynn yr iâ,
::Wych rwyfant i'w chwareufa;
::Oll yn fyw a llawn o faidd
::Ar y lithren or-lathraidd;
::Hawdd gamp fydd llithro'n ddigur
::Ar ysglent, heb drwsgl antur,
::Fel ergyd gwefr i 'sglefrio,
::Ar frys, gryn hanner y fro.
''Y noswaith loergan, a golygfa y nef serenog.''
::Cawn gan Sol ryw nefol nos,
::Oriau hirion, er aros
::Agor ei ddor dde-ddwyrain
::I wthio i'n mysg ddwthwn main.
::Y mae'r lloer ym mro y Llew,
::Talaeth y tanbaid hoew-lew,
::Yn gron yn ei gogoniant
::Mewn asur gylch, mân ser, gant;
::Ar hynt deg, Oreion tyrr
::Fawr wib i yrfa'r wybyr;
::Gan ddwyn hoew a gloew "gledd,"
::Ar "wregys" eurwawr agwedd,
::Gwych yw gwawr y "Ci mawr," mâd,
::Dihual yn dyheuad.
::Raddau 'mlaen, ar ddim o le,
::A'u goglud ar y gwagle,
::Y chwery llu llachar, llon,
::Y Tewdws a'i atodion.
::O'r eang nen, rhyngyn' nhŵ;
::Terwyn lygada'r Tarw
::Ar y llachar Droell uchel,
::Loyw bur Rod, mal heibio'r el.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
pfzmb8vktluowmc0dfyd5twfljyta9s
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/123
104
69421
139810
139347
2025-06-16T02:00:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139810
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Ond pa fai, os teimlai tad?
:Di-ymliw gyd-ymdeimlad
:Haeddai gael; ond eiddig ŷm,
:A drwg iawn ei dro gennym,
:Yn dywystio mab destlus
:Erioed, i lofrudd di rus.
:Nacaesai Rhys waneus raib
:Ffrom feistr, i offrwm ei fab
:A'i rwymo'n swrth, er mwyn saib,
:Yngwystl gwir, fyth i'r fath âb;
:Ah Stanley Tynnaist donn-loes
:Dros dy dŷ, a dristâi d'oes.
:Ar Rhisiart ai'n ddyryswch,
:Fe welai dro 'r rhyfel drwch;
:Twrr o chwyrn gedyrn ei gâd
:Yn fferru'n un corfforiad
:O gelanedd gwael yno,
:Ym maes eu brad, ormes bro.
:A Stanley a'i estyn-lin
:Ato, mwy, yn troi 'r tu min;
:A Siaspar ar wasgar wysg
:Eu cefnan, dorfan i derfysg.
:Yn ei orddwy anarddun,
:Tra yn synio ynddo 'i hun,
Ar warchul effaith ei farchlu hyffordd,
A Siaspar yn ysgar rhan o'i osgordd,
Ai flaenwyr ffel, fil yn rhoi ffordd—yn chwai,
Gerwin gilwgai ar ein gwelygordd.
Ac at ei bencapteniaid—y melltia
::Ryw ymwylltiol amnaid,
:Gan floeddio,—"Chwyr ruthro raid,
:At Harri, ben traeturiaid!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ccz2lnqkyj5ty3bkvvit65dvq4gawy7
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/124
104
69422
139811
139358
2025-06-16T02:07:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139811
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Dewis 'n awr nid oes i ni―ond, nodwch,
::Dieneidio Harri;
:Herr i'w meib,—Harri a Mi
:Ymdynnwn mwy am dani.
:"Boed lym—boed gyflym eich gyrr,
:A phawb yn chwim a phybyr;
:Canlynwch eilfyddwch 6!
:Dwrn Coron wna dranc Harri.
:Mynn Sant Sior, mi a'i lloriaf!
:Y funud yw i fyned—Af!"
:Yn mroch y gair, y march gwyn
:Ymneidiai mewn munudyn;
:Hwnt a Rhisiart a'i ryswyr,
:O greulon wg, ar lawn yrr,
:Yn drinwyr diarynnaig,
:O dan ddrud edyn y Ddraig;
:Marc gem-res meiwyr Cymru,
:A llawr canolbwynt ein llu.
:At Richmond mewn eonder,
:Pwysai i ddigllon waywffon fferr;
:Yn hynny deuai 'n hoenwych
:Syr Rhys ab Thomas, gwas gwych,
:Fe wnai at fod yn Gu at fin,
:Gyfer-wyneb a'r gau-frenin;
:Arwrol oedd gweryriad
:A mawr wawch certh eu meirch cad.
:Dau farchog mewn hyrddiog hynt-
:Pin teyrnas pwyntiai arnynt.
:Bu galed y bygylu
:A'r hyrddio dewr, o'r ddau du;
:Ni ddorai y ddau wron
:Unrhyw ffurf wnai'r wayw ffon;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
deohuy5ynnx1plo93ehh64eey30sv1n
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/125
104
69423
139812
139349
2025-06-16T02:13:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139812
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:A theflynt o'u gwrthaflau
:Ddyrnod am ddyrnod, y ddau;
:Nes i Syr Rhys, aswy'r hwrdd,
:Gynddeiriogi 'n ddewr agwrdd,
:Ac a'i fraich fraisg a'i froch fryd,
:Daro i fwyallt drwy i fywyd.
:Ar ddyrod mor ddiwyrni-
:I lawr ag ef, mal rhyw gi!
A hi yn brin nawn, pen y Breninwyr
Poerid i'w wyneb dan draed Prydeinwyr;
A llywydd du, bradog,—lleiddiad y brodyr,
Felly obrwywyd trwy fwyallt breyr;
Ei gorffyn euog rwygai'r ffynwewyr,
A phwy ofalai?--ffoai ei filwyr,
Gan lwfr redeg o ganol y frwydyr;—
Gorhoenus ydoedd gawriau ein sawdwyr.
Daeth BUDDUGOLIAETH i'n gwyr—uchelfri,
A'n Draig yn hoewi drwy eigion awyr.
Y goron hwyliwyd o goryn halog
Dienaid fradwr, dyn diofrydog,
I'w throi i Harri 'n dalaeth oreurog,
Mal yr aer teilwng—mal arwr talog,
Yrrai bwynt dial ar ben y taeog:
Uwch-raddol linell âch hir-ddolennog
A'i nodasai i fod yn dywysog;
A'i boed yn hannu o edlin enwog
Yr Ynys, a'i choronog—Unbennaeth,
Drwy hen gadwraeth hawl deyrn-gadeiriog.
''Cyfryngiad Rhagluniaeth er adferu
Unbennarth Prydain ir Brython.''
O dŵr glan da Ragluniaeth,
I le 'r gâd Addoliad ddaeth;
A Heddwch, un llaw iddi,
A Mawl hardd, i'w hymyl hi,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
dm3q0wz8gxwg9lpa3e9qx0sskycyzwj
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/126
104
69424
139813
139350
2025-06-16T02:26:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139813
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:I fwrw llifo ofer llon
:I hoewalau'r awelon
:O ddifesur ddefosiwn,
:Am råd Duw 'r ymwared hwn;
:A'n byddin, gyda gwin y gwynt.
:Ehedlif gras anadlynt,
:I 'mostwng ar y maes-dir,
:Mewn Mwch ddiolchgarwch gwir,
:I Frenin y Brenhinoedd,
:Ddaeth a'r fuddugoliaeth goedd
:O du hen Gymru, fu 'n goll
:Trwy ystwrf trais diarfoll.
{{bwlch|4}}Harri Frenin
{{bwlch|4}}Gyda i fyddin,
{{bwlch|4}}Ar y ddeulin,
{{bwlch|5}}Ior addolent;
{{bwlch|4}}"Ti Dduw folwn,"
{{bwlch|4}}Mewn cyd-fyrdwn,
{{bwlch|4}}A'u gwlad-farwn,
{{bwlch|5}}Wiw glodforent.
:Llywydd dwrn enillodd deyrnas,
:Amhai i gred, ym mawl gras;
:Amhai i gerdd mawl gwir-Dduw,
:Dogn y dydd oedd-Digon Duw."
:Eu teyrnged hwynt, er ungwr,
:Ga'i Duw, hollalluog dŵr.
:Têr orchwyl patriarchaidd,
:O rywiog rin Cymreig wraidd.
''Canlyniadau dedwydd buddugoliaethau
Harri Tudur.''
:O gael y fudddugoliaeth,
:Nid oedd Cymru'n Gymru gaeth;
:Brydain nid oedd wobr heidwyr,
:Drawsiai i mewn dros y mur;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
gt7ia2q9fglpo3aics4vdtrbyl2ulzj
139814
139813
2025-06-16T02:27:59Z
AlwynapHuw
1710
139814
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:I fwrw llifo ofer llon
:I hoewalau'r awelon
:O ddifesur ddefosiwn,
:Am råd Duw 'r ymwared hwn;
:A'n byddin, gyda gwin y gwynt.
:Ehedlif gras anadlynt,
:I 'mostwng ar y maes-dir,
:Mewn Mwch ddiolchgarwch gwir,
:I Frenin y Brenhinoedd,
:Ddaeth a'r fuddugoliaeth goedd
:O du hen Gymru, fu 'n goll
:Trwy ystwrf trais diarfoll.
{{bwlch|4em}}Harri Frenin
{{bwlch|4em}}Gyda i fyddin,
{{bwlch|4em}}Ar y ddeulin,
{{bwlch|5em}}Ior addolent;
{{bwlch|4em}}"Ti Dduw folwn,"
{{bwlch|4em}}Mewn cyd-fyrdwn,
{{bwlch|4em}}A'u gwlad-farwn,
{{bwlch|5em}}Wiw glodforent.
:Llywydd dwrn enillodd deyrnas,
:Amhai i gred, ym mawl gras;
:Amhai i gerdd mawl gwir-Dduw,
:Dogn y dydd oedd-Digon Duw."
:Eu teyrnged hwynt, er ungwr,
:Ga'i Duw, hollalluog dŵr.
:Têr orchwyl patriarchaidd,
:O rywiog rin Cymreig wraidd.
''Canlyniadau dedwydd buddugoliaethau
Harri Tudur.''
:O gael y fudddugoliaeth,
:Nid oedd Cymru'n Gymru gaeth;
:Brydain nid oedd wobr heidwyr,
:Drawsiai i mewn dros y mur;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
m108j7xvunn4y2aznpuzc39hz64axrj
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/127
104
69425
139815
139351
2025-06-16T02:36:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139815
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Neu gau deyrn euog a du,
:O honi i hunan yn hannu;
:Ond dedwydd iawn dreftadaeth
:Unben mwyn o'i meibion maeth,
:Cain etifedd cyntefig.
:Yn nhwf ein bro—fon a brig;
:Pa wr, uwch pawb, mewn parch pur?
:Pwy y tad, ond Ap Tudur?
Bu llawer wyneb llewaidd—o Rufain,
::Ar ofwy milwraidd
:Llym, i godi'n grym a'n gwraidd,
:O'r tyner dir Brutanaidd,
A phlannu cyff o linach—yr Eryr
::Ar âr ein hen deyrn-âch;
:Ond erioed Prydeinwyr iach
:A fethrynt y gyfathrach.
Yn aml donn, Saeson nesasant—ar chŵydd
::I orchuddio'n meddiant;
:Ond essill Hu gadwasant
:Yn loyw i'n plith hawl ein plant.
Daniaid, Normaniaid, o'r minion—treisient
::Hir oesoedd ein coron;
:Ond heb rith, meddiant Brython
:Eto o hyd ytyw hon.
Rhyfedd ogonedd gwiwnef!—O gwelwn,
::Yn galw pawb adref,
:I hoenus droi 'n hynys dref
:O'i du ing i dangnef.
Er holl alar, arwyl Llywelyn,—trais
::Trwm arglwyddi'r terfyn,
:Aer o waed Cymry wedyn
:Rannai Naf yn frenin in'.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
e5c1z2bsqnr41wn4o8ga3exy9i6o8yy
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/128
104
69426
139816
139352
2025-06-16T02:42:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139816
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Os prid galondid Glyndwr a ballodd
::Heb wella ein cyflwr.
:Harri gaed a deulu'r gwr,
:Ac Harri fu'n gonewerwr;
:Enillodd ef hen allu
:A llonwych hawl llinach Hu,
:I'n dwylo 'n ol, a dal wnaeth
:Ein hanwyl hen frenhiniaeth.
:Llain Bosworth! Llyna i bwysi,—
:Elwa'n ol ein hawl i ni;
:Aeth prid Unbennaeth Prydain,
:I'r iawn le, ar hyn o lain;
:O Fosworth, ti wnei fiwsig,
:Hoen di drai ynnod a drig.
:Prydain Fawr, o dan wawr well,
:O hyn allan â'i 'n well-well
:Gwrthodai'r gorthoadol
:Wedd trais, oedd eto ar ol,
:A dygai wawr diwygiad
:I lanw ei le yn y wlad.
:Y wawr dorrai 'n wrid arab,
:Ar wersyll pebyll y Pab;
:Ac wele! y cywilydd
:I'w wyneb ddaeth pan bu ddydd ;
:Mwy, ofer goel myfyr gau
:Pobl dan enw y Pabau,
:I faglu ein prif eglwys.
:Gaffai 'i ddal a dial dwys;
:Y fin-ddu, rwym, drefn ddi ras,
:Byth daflwyd fel peth diflas.
:Bri ar seremoni mwys,
:Coeglyd, mewn gwlad ac eglwys,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ooz227g4e3u4lrsdmxy5wfw12y5redu
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/129
104
69427
139817
139353
2025-06-16T02:50:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139817
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:O ystryw nwyf estron aidd
:Rhith-ddenol an-Frythonaidd,—
:Hyn, weithion, a ddynoethwyd,
:Tynnwyd Ffydd yn rhydd o'r rhwyd.
:Rhith i gyd oedd ymborth gau
:O fwydion hen ddefodau;
:Eithr o lith Ysgrythyr Lân,
:Seigiau moethus gaem weithian.
:A derwen hen y deyrn hawl,
:Ymgodai'n wrysg mygedawl,
:I fawr agwedd tewfrigog.
:Yn dwng grair uwch byd yn grog;
:Derwen yr hen Duduriaid,
:Ei bon ffyrhai yn ddibaid,
:A'i cheinc aent mewn chwaon coedd
:Yn bleth am bobl a ieithoedd;
:Pleth llywodraeth plith lladron,
:Cerddai'r gwrysg i'r ddaear gron,
:Ac erbyn hyn o'i hanes,
:Hi blan ym mhob man ei mes;
:I'r wybr gyrr ei brig araul,
:Hi saif rhwng gorsalau 'r haul,
:O'r Eilir hyd orielau
:Haulfod glwys yr Elfed glau;
:Epil llwythau pell weithion
:Wasg ynghyd is cangau hon;
:I'w bro hwynt tardd ei braint hi,
:Gwynt Rhyddid a gant drwyddi;
:Oi thwf ir, byth ddyferyd
:Wna gwlith ei bendith i'r byd.
:Ym Mosworth planwyd mesen
:Wnelai brif frenhinol bren;
:A mesen oedd o'n maes ni,
:O iawn ddar ein hen dderi.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
aa07oih1s1esdow910lp6b3mxmwheu4
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/130
104
69428
139818
139354
2025-06-16T02:59:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139818
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
''Terfyn yr awdl, gyda "Byw fo'r Frenhines."''
:Felly o Gymru mae'r gwaed.
:Rhin eu hanwyl frenhinwaed
:A gerdd i sirioli 'n gain
:Wyneb wrid Banon Brydain.
:O Gymro teg, mae'r gwaed da
:Yn naturiaeth Victoria.
Gan hyny, ni gauwn hanes—Bosworth,
::A'n bys ar dant cynnes,
:Eiddunwn i'n prif ddynes—mewn trwyadl
:Ferw o un anadl, —
"Byw for Frenhines,"
:Eiddunwn in prif ddynes,
Mewn trwyadl ferw o un anad!,—
:"Byw fo'r Frenhines."
</poem>
{{Div end}}

[[Delwedd:Eben Fardd (Ab Owen) (tudalen 130 crop).jpg|canol|250px]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
i4pj9262z4a9hczn830bp6zequq3mzu
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/70
104
69429
139759
139298
2025-06-15T16:09:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139759
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:::::''Ystorm eira.''
::Y glaer wybren disgleirbryd
::Sy'n berlau a gemau i gyd;
::Noswaith deg, na, 'sywaeth! dydd
::Dry wychaf i'r edrychydd;
::Rhaid ystyr nad rhew distaw,
::Fel hyn, o ddydd i ddydd ddaw.
::Na dua haeniad awyr.
::Mewn cerbyd iâ, eira yrr;
::Ac o'i oerllyd gerbyd gwyn,
::Plua y byd, bob blewyn;
::Plu fydd drwy'u gilydd yn gwau
::Yn belydrog fân bledrau,
::I'w hebrwng trwy yr wybren,
::Mal afrifaid, gannaid genn,
::Neu flawriog feflau oerion,
::Nes loi oer grwst daear gron.
::::''Y llwchfeydd.''
Ar gantau'r awyr y gwynt a rua,
A chyfyd drycin erwin o eira;
Y nen yn dryfwl o'r plu, 'n un drofa;
Y gaenen d'w'llwch yn genn a'n dalla;
Ein daear farwol dan do oer fwria,
Ein llawr meudwyol yn llwyr amdoa;
A min y tro-wynt, yn awr, mewn traha,
Oddiar y llechwedd a'r rhiw, a'i lluwchia
I ffurf anghelfydd ddi-eilfydd walfa;
Y fro annedwydd a fawr newidia;
Cladd mewn llaid, ddefaid, neu dda;—a'r heol,
Antur amheuol, un a'i tramwya.
''Y ty clyd, a'r aelwyd gynnes, a'r teulu dedwydd.''
::Achles tân, a chael ystôl
::Oddi mewn, fydd ddymunol;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
dpyrx56q7pde1scna60yn7nfd1wli35
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/71
104
69430
139760
139299
2025-06-15T16:17:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139760
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Tŷ ac aelwyd deg, wiwlan,
::A chwedl yn gymysg â chân!—
::Gloewi marwor glo mirain,
::A phen ambell fawnen fain,
::A bregus flaenau briwgoed,
::Neu ddarnau boncyffiau coed,
::Noson eira, dyna dân
::Sy loni iasol anian!
''Y tân, y gân, a'r ymgomio, a'r gweini oddi-mewn''
::Goleuon ger bron, er bri,
::Benywaid heibio'n hoewi,
::Yn gwnio diwyg newydd,
::Drud, a da, at raid y dydd;
::Neu gellwair a'u gwiallen,
::Gwau, bob yn ail, a gwneyd gwên,
::A gweini bodd i'n gwyneb,
::A chalon iach uwchlaw neb.
::Rhynwynt tost, ar nen y tŷ
::Mal taran yn aml tery;
::I'r drysau ar hyrddiau 'r hêd,
::I glecian pob rhyw glicied;
::Y tŷ, yn nhreigl tonnau'r hin,
::Glecia mal rhyw glic melin;
::Ond deil ei fur gur y gwynt,
::A'i ddorau bwys byddarwynt;
::Cliciadau'r cloiau cedyrn
::Ni thyrr y chwa uthr a chwyrn.
''Y teulu yn swpera, yn darllen a gweddïo
cyn myned i orfwys.''
::Ac o fewn, nid Gaeaf yw,
::Haf nod Mehefin ydyw;
::Cynnes gongl, diddos gronglwyd,
::I burdda bobi, bwrdd a bwyd;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
2mpjbu9acsby27dbtgg9kolpnzbf7v9
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/72
104
69431
139761
139300
2025-06-15T16:26:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139761
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Ac wedi'r swper peraidd,
::Cu nesheir, mewn cynnes aidd,
::A dodir heibio'r dadwrdd,
::I agor Beibl ar gwrr bwrdd;
::'N ol lith a gweddi dda ddwys,
::Darffod, a mynd i orffwys.
''Parhad y eira ar y ddarar, gwasgfa y
gwylltfilod a'r adar, robin goch.''
::O! yr eira! Hir erys
::Ar y fro, ni thawdd ar frys;
::A'r milod oer eu maelawr,
::Newyn yw arnynt yn awr;
::Yr adar, dan eu rheidiau,
::Ynt yn 'swil i'n tai'n neshau:
::Cais rhan o'r digyngan gor
::Ddrws gobaith yr ysgubor,
::Am rawn, yn fan fymrynau,
::Er nerth, rhag eu llwyr wanbau;
::A robin yn finfin fud,
::Mal mewn siom lem yn symud,
::I'n drysau picia'n dra-sionc,
::I ddrws pawb fe ddyry sponc,
::Eto'n brudd, yn un 'spruddach,
::Heb ddim miwsig o'i big bach.
::Y llwyd folwag wylltfilod,
::Gwae ni ni chant ond gwyn ôd,
::Yn lle ymborth y llwm-bawr,
::Oedd er lles, cyn cuddio'r llawr.
''Estyniad y dydd yn arwyddo tymor gwell
gerllaw; rhag gysur am dymor o ddadmeriad.''
::Ond estyn dernyn mae'r dydd
::O un goleu bwygilydd;
::Argoel fod oriau Gŵyl Fair
::Ar agosi trwy gesair;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ca5i2ua74txsy84hrp8igpep52r7hx4
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/73
104
69432
139762
139301
2025-06-15T16:35:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139762
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Tywydd ir at doddi iâ,
::Tywydd er toddi eira;
::Gan y gwres, hyd gynhesir;
::Daw, o ddwr gwlaw, ddaear glir:
::''"Ni erys eira mis Mawrth''
::''Mwy na 'menyn ar dwymyn dorth,"''
::Ebe'r hen air—a barn hyn
::Yw, y tawdd ar bob tyddyn.
::O'r newydd daw tywydd teg,
::A ddetry'r iâ'n ddiatreg;
::Pan bydd, o dipyn i beth,
::Wyneb hapus gan bopeth;
::Daear rwym ddaw yn dir rhydd,
::Ac i'r arddwr ceir hirddydd,
::I'w chochi ac i'w chychwyn
::O lwm ddull i ail-ymddwyn.
''Yr haul yn arwydd y Pysg, ar gyffiniau
arwydd yr Hwrdd. Lle y gorffen ei dro yn ei
gylch, ac y dyry ail Wanwyn.''
Mae'r haul yn ymwroli—hyd ei daith
::O "dŷ "i "dŷ" 'n trosi;
:Ei le yn awr welwn ni,
:Ym mysg y Pysg yn pesgi.
O'r Pysg, diderfysg y daw—trwy ei rod,
::Tua'r Hwrdd i drigaw;
:A dyna ei gylch o dan gaw,
:A'i ddeupen yn nen yn unaw.
''Crynedd y nod angen Anian. Y testun
Yn flwyddyn gron," ac o ganlyniad yr adwl
Yn awdl gron''.
::Y ddau eithaf a ddaethant,
::I roi y cwlm ar y cant.
::Nes eilfydd yw ein sylfon
::I'w henw gwraidd—Blwyddyn gron.
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
f30d5vigml9jl3i8bv1utre2ihnsuo0
139763
139762
2025-06-15T16:36:33Z
AlwynapHuw
1710
139763
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Tywydd ir at doddi iâ,
::Tywydd er toddi eira;
::Gan y gwres, hyd gynhesir;
::Daw, o ddwr gwlaw, ddaear glir:
::''"Ni erys eira mis Mawrth''
::''Mwy na 'menyn ar dwymyn dorth,"''
::Ebe'r hen air—a barn hyn
::Yw, y tawdd ar bob tyddyn.
::O'r newydd daw tywydd teg,
::A ddetry'r iâ'n ddiatreg;
::Pan bydd, o dipyn i beth,
::Wyneb hapus gan bopeth;
::Daear rwym ddaw yn dir rhydd,
::Ac i'r arddwr ceir hirddydd,
::I'w chochi ac i'w chychwyn
::O lwm ddull i ail-ymddwyn.
''Yr haul yn arwydd y Pysg, ar gyffiniau
arwydd yr Hwrdd. Lle y gorffen ei dro yn ei
gylch, ac y dyry ail Wanwyn.''
Mae'r haul yn ymwroli—hyd ei daith
::O "dŷ "i "dŷ" 'n trosi;
:Ei le yn awr welwn ni,
:Ym mysg y Pysg yn pesgi.
O'r Pysg, diderfysg y daw—trwy ei rod,
::Tua'r Hwrdd i drigaw;
:A dyna ei gylch o dan gaw,
:A'i ddeupen yn nen yn unaw.
''Crynedd y nod angen Anian. Y testun
Yn "flwyddyn gron," ac o ganlyniad yr adwl
Yn awdl gron''.
::Y ddau eithaf a ddaethant,
::I roi y cwlm ar y cant.
::Nes eilfydd yw ein sylfon
::I'w henw gwraidd—Blwyddyn gron.
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
r5wr1fy73nl92izhewfv9rqc7s1cfkl
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/74
104
69433
139764
139302
2025-06-15T16:44:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139764
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Crynnedd yw'r marc ar anian,
::Crwn yw y glôb, cywrain, glân;
::Crwn ar len yr wybren rydd,
::Ei osodiad, yw'r sidydd;
::Os cron yw'r sylfon neu'r sail,
::Cron rod ceir yn ar-adail;
::Awdl gron yw hon, gan hynny,
::Yn fath o droell fyth a dry,
::I agos ddangos i ddyn,
::Yr aml wedd geir ym mlwyddyn.
''Ystyriaethan difrifol ar gylchyniad y flwyddyn.''
::Y flwyddyn i ddyn a ddwg
::Sylwedd ei oes i'w olwg;
::Herwydd hi a rydd i oes
::Ronynnol rannau einioes;
::Hi a dry yn hyd i'r oes,
::Hi, 'r unwedd, fyrha'r einioes;
::A'i thro, fel mewn gwrth-reol,
::Yn gwneyd, a dadwneyd yn ol.
::Rhyw olwyn yw, ar lawn waith,
::A yrr swm yr oes ymaith;
::Seml rôd, sy mal y rhedo,
::Bwynt tranc i bawb yn eu tro.
::Hi dry fyth, hyd awr y farn,
::Luosog ddynol wasarn
::Oddiar ei chant addoer, chwyrn,
::I gwsg, yn gnawd ac esgyrn;
::Hidla yr holl genhedloedd
::O'u hoes gylch; ddaw, sy, ac oedd;
::Treigla'r byd trwy glawr ei bwrdd,
::Er ei ddidor or-ddadwrdd,
::I isderau distawrwydd,
::A'u lle'n wag allan o wydd;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
d4m9ubadtuyrshf7d0lfly50syamq07
139765
139764
2025-06-15T16:46:21Z
AlwynapHuw
1710
139765
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Crynnedd yw'r marc ar anian,
::Crwn yw y glôb, cywrain, glân;
::Crwn ar len yr wybren rydd,
::Ei osodiad, yw'r sidydd;
::Os cron yw'r sylfon neu'r sail,
::Cron rod ceir yn ar-adail;
::Awdl gron yw hon, gan hynny,
::Yn fath o droell fyth a dry,
::I agos ddangos i ddyn,
::Yr aml wedd geir ym mlwyddyn.
''Ystyriaethau difrifol ar gylchyniad y flwyddyn.''
::Y flwyddyn i ddyn a ddwg
::Sylwedd ei oes i'w olwg;
::Herwydd hi a rydd i oes
::Ronynnol rannau einioes;
::Hi a dry yn hyd i'r oes,
::Hi, 'r unwedd, fyrha'r einioes;
::A'i thro, fel mewn gwrth-reol,
::Yn gwneyd, a dadwneyd yn ol.
::Rhyw olwyn yw, ar lawn waith,
::A yrr swm yr oes ymaith;
::Seml rôd, sy mal y rhedo,
::Bwynt tranc i bawb yn eu tro.
::Hi dry fyth, hyd awr y farn,
::Luosog ddynol wasarn
::Oddiar ei chant addoer, chwyrn,
::I gwsg, yn gnawd ac esgyrn;
::Hidla yr holl genhedloedd
::O'u hoes gylch; ddaw, sy, ac oedd;
::Treigla'r byd trwy glawr ei bwrdd,
::Er ei ddidor or-ddadwrdd,
::I isderau distawrwydd,
::A'u lle'n wag allan o wydd;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
sa8gerdajoxpvx6cwwkx5tatreo1dwh
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/75
104
69434
139769
139303
2025-06-15T17:30:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139769
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Dyna fydd;—a da in' fod
::Oll yn bur a llawn barod.
::dgan ar y Gwyliau.
::Nid yw ddrwg diweddu'r awdl,
::O rhy Awen air hyawdl,
::Yn fyrr, fyrr, i gyfeirio
::At Wyl, gan fod Gŵyl ar go'
::Byth ar Galendar glandeg,
::Cytun, pob Almanac teg.
Ym mlwyddyn Cristion, son sydd—am Wyliau
::I ymhel a chrefydd;
:Dwyfolaf yw'r dihefelydd
:Foesolaidd Wyl, sef y Sul Ddydd.
Nadolig noda alwad—i gynnal
::Dydd geni ein Ceidwad;
:A'r Croglith, ceir lith a llad
:Ar sylwedd y Croeshoeliad.
Ceir gwledd, pwysig hedd y Pasg hael,—a'r Oen,
::A'i rinwedd pur, diwael;
:A chofion fydd o'r Dyrchafael,
:Yn ei gylch, a'r Sulgwyn, i'w gael.
Gwyliau eraill a eglurir—yn rhes,
::Gan rai, ac fe'u cedwir;—
:A farno neb o'i fron yn wir,
:Bid siwr o'i garn, trwy'r farn fernir.
Gwladol, rhai Gwyliau ydynt,—at amod
::Pen-tymor,—a helynt
:Tir a'i Hawl;—at dwrw a hynt
:Ariannol, rai ohonynt.
::Ysgrif neu air, Wyl Fair fydd
::Ddiogel i'r iawn ddygydd;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
44cahr5eyki1xb2f1dyud4jye43s0ql
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/76
104
69435
139770
139304
2025-06-15T17:42:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139770
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Gwyl Fihangel, ei sel sai;
::Gwyl unmodd yw'r Galanmai;
::"Canol Haf," cawn Wyl Ifan
::Pur glws ar y papyr glân;
::Yr Holl Saint, wyl arall sydd,
::Hon yw Clangaua' newydd;
::Pen-tymor, pwynt diamwys,
::Tra bo dim mater o bwys;
::Gwyl Nadolig lân, deilwng,
::At raid byd a chred, cyd rhwng,
::Hawlia gario'r ŵyl-goron,
::Addien grair y Flwyddyn gron.
</poem>
{{Div end}}

{{c|{{mawr|MOLAWD CLYNOG.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
CAWN gynnyg hyn o ganu
I Glynog, coron Cymru,
:Sy'n llannerch deg ar fin y môr,
Iach oror hawdd ei charu.
Nid oes difyrrach mangre,
Dan wenlloer diau'n unlle,
:Am a wn, na lle mwy iach,
Na i glanach, ond goleune.
Rhyw olygfeydd godidog
A geir o fryniau Clynog
:Ar wastadedd Arfon hardd,
Fel diwael ardd flodeuog.
Di ri' yw 'r llwyni llawnion,
A'r meusydd eang ffrwythlon,
:Rhwng llawer lewfrig goedwig ha,
Ymlifa al i afon.
Oddiyma y golygir
Mon gywrain, man a gerir,
</poem>
<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
m5tezsr7wcv1rzurtiltzuq5oh6t79s
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/77
104
69436
139771
139305
2025-06-15T17:42:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139771
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Hanes bir o'r Ynys hon,
A'i beirdd, wyr llon, ddarllennir.
Mor glysion mae 'r eglwysydd
Rhwng cedyrn rengau coedydd,
:Byth y sai eu clochdai clau,
A'u pennau 'n uwch na'r pinwydd.
Ac acw 'r llongau mawrion,
Cywreindai, ar y wendon,
:Yn saethu rhagddynt trwy y lli,
Gan hollti'r toonau heilltion.
A finnau, o Eifionnydd
Y daethum fel ymdeithydd,
:I fyw a bod, am bennod bach,
Hyd Glynog iach ei glennydd.
</poem>
{{Div end}}

{{c|{{mawr|Y GWANWYN.}}}}
{{Center block
<poem>
MAE ael Anian yn ymlouni—mae'n brain
::Mewn brys am ddeori,
:Mae ein hadar yn mwyn nodi
:Miwsig y nef, yn ein mysg ni.
Mae ein gwanwyn yn min geni—y myrdd
::Myrddiwn math o dlysni;
:Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni,
:Mae tir a môr i'm trem i.
Main laswellt mynn ail oesi—man lle bu
::Mewn lliw balch yn codi;
:Mae allan drefn meillion di ri'
Mae ail olwg am y lili.
Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r donn
::Mor deneu'n ymlenwi;
:Moddion tyner meddant ini,—
:"Mae yn y Nef Un mwy na ni."
</poem>

<noinclude></noinclude>
8g3if6438mn1jcn33tqlifmz4d80flc
139772
139771
2025-06-15T17:44:01Z
AlwynapHuw
1710
139772
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Hanes bir o'r Ynys hon,
A'i beirdd, wyr llon, ddarllennir.
Mor glysion mae 'r eglwysydd
Rhwng cedyrn rengau coedydd,
:Byth y sai eu clochdai clau,
A'u pennau 'n uwch na'r pinwydd.
Ac acw 'r llongau mawrion,
Cywreindai, ar y wendon,
:Yn saethu rhagddynt trwy y lli,
Gan hollti'r toonau heilltion.
A finnau, o Eifionnydd
Y daethum fel ymdeithydd,
:I fyw a bod, am bennod bach,
Hyd Glynog iach ei glennydd.
</poem>
{{Div end}}

{{c|{{mawr|Y GWANWYN.}}}}
{{Center block|
<poem>
MAE ael Anian yn ymlonni—mae'n brain
::Mewn brys am ddeori,
:Mae ein hadar yn mwyn nodi
:Miwsig y nef, yn ein mysg ni.
Mae ein gwanwyn yn min geni—y myrdd
::Myrddiwn math o dlysni;
:Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni,
:Mae tir a môr i'm trem i.
Main laswellt mynn ail oesi—man lle bu
::Mewn lliw balch yn codi;
:Mae allan drefn meillion di ri'
Mae ail olwg am y lili.
Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r donn
::Mor deneu'n ymlenwi;
:Moddion tyner meddant ini,—
:"Mae yn y Nef Un mwy na ni."
</poem>

<noinclude></noinclude>
ft2lkds8jxoxm2gd7gon7xgsanof7yb
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/78
104
69437
139773
139306
2025-06-15T20:34:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139773
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|YMWELIAD A LLANGYBI}}
Yn Medi 23, 1854.}}
{{center block|
<poem>
:::LLANGYBI!—Os wyf fi fardd,
::Pa ehud!—pwy a wahardd
::Un awdl fer, o anadi 'foes,
::Un annerch, brydnawn einioes,
::I ti, fy Llangybi gu,
::Fan o'i gwrr wyf yn garu?
::Hoff o Fon oedd Goronwy,
::Tydi a garaf fi yn fwy;
::Yn dynn ar dy derfyn di
::Ynganaf gael fy ngeni;
::Mae bendith fy mabandod
::Yn wir ar dy dir yn dod.
:::Hiraeth heddyw yw'r arwr
::Egyr y gân o gwrr i gwrr;
::Y fynwent a'i beddfeini
::Yn flaenaf, fyfyriaf fi;
::Y mae rhan o'm rhieni
::O fewn ei swrth fynwes hi;
::Deil eu llwch, nes y del llaw
::Duw Anian i'w dihunaw.
:::Isaac Morys gymerwyd
::I gwrr ei llawr a'i gro llwyd;
::Ni eithrwyd yr hen Athro,
::Yn anad 'r un, yn ei dro.
Dyna fedd Dewi Wyn a fu—hen bardd,
::Heb neb uwch, yng Nghymru;
:Ond ple mae adsain cain, cu,
:Tinc enaid Dewi'n canu?
::Mae degau o'm cymdogion,
::A'u tai yn y fynwent hon:
</poem>

<noinclude></noinclude>
jg78r1mb5w4jv80b8o02z7b0tw11wcc
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/79
104
69438
139774
139356
2025-06-15T20:34:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
139774
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude></noinclude>
506k4kh16c1hszew1tvjo8ogwvmghaq
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/80
104
69439
139775
139184
2025-06-15T20:38:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139775
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

[[delwedd:Eben Fardd (Ab Owen) (tudalen 80 crop).jpg|canol|500px]]
{{center block|
<poem>
TYWYSENNAU'R HYDREF.
Duwiesaidd yw'r dywysen,
Grym ei phwys a grymai phen."
</poem>

<noinclude></noinclude>
6nibodf2kgpf9ajopk7f22e2d50nait
139776
139775
2025-06-15T20:40:45Z
AlwynapHuw
1710
139776
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

[[delwedd:Eben Fardd (Ab Owen) (tudalen 80 crop).jpg|canol|400px]]
{{center block|
<poem>
TYWYSENNAU'R HYDREF.
Duwiesaidd yw'r dywysen,
Grym ei phwys a grymai phen."
</poem>

<noinclude></noinclude>
ckifphfdn7ky0zo1fv03zndqasq0cpx
139777
139776
2025-06-15T20:42:13Z
AlwynapHuw
1710
139777
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

[[delwedd:Eben Fardd (Ab Owen) (tudalen 80 crop).jpg|canol|400px]]
{{center block|
<poem>
TYWYSENNAU'R HYDREF.
Duwiesaidd yw'r dywysen,
Grym ei phwys a grymai phen."
{{lein}}
</poem>

<noinclude></noinclude>
opz46uo4vmal1wf33e28vb7fbhw6ueh
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/81
104
69440
139778
139308
2025-06-15T20:48:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139778
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
::A mi'n ieuanc, mwyaheais,
::Ag aidd llon, eu gwedd a'u llais;
::Ond O! y modd! dyma hwy
::Isod, ar dde ac aswy,
::Yn fudion lwch-hanfodau,
::A neb o'i hun yn bywhau.
::Codwch codwch! lwch di lun,
::Gwyntiwch, o'ch tawel gyntun,
::Echwynwch un fach einioes,
::Neu ddarn o ryw newydd oes,
::I siarad hen amserau
::Gyda'ch gilydd, ddydd neu ddau;
::Buoch bobl, a baich y byd
::Ar eich gwarrau uwch gweryd;
::O! mor chwai, pan delai dydd
::A'ch galwad at eich gilydd,
::Fel hyn, gryn fil o honoch,
::Y gwnaech lawen grechwen groch;
::Gan annerch, yn gynhennid,
::Y naill y llall, heb un lliw llid:
::Torrech trwy holl faterion
::Hyn o blwy, yn wyneb lon;
::Dilynai eich dylanwad
::Trwy fywing lu tref a gwlad;
::Lloer eich dawn, fel llewyrch dydd
::Hwyliai'r genedl ar gynnydd.
::Ond wele'n awr, delw neb
::Ni ymwâna im wyneb;
::Heddyw'n dlawd-ddienaid lu,
::Mae'ch olion yn ymchwalu,
::Yn llwch, o un bedd i'r llall,
::Andwyol, heb un deall;
::Ebrwydd y llun, yn bridd llwyd,
::I aflerwch faluriwyd.
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
p488pd1yuf50ojbweq7nijda6abpb4z
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/82
104
69441
139779
139309
2025-06-15T20:52:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139779
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::O mae'n dost i'm henaid i,
::Raianach sal, arnoch sylwi;
::Ddof dorf!--mor ymddifad y'ch
::O'r ganwyll fu'n hir gennych!
::Y meddwl a'i ymwyddiant
::Ymaith ffodd, a chiliodd chwant.
::Cysgwch! cysgwch! lwch y wlad!
::Hyd foreu yr adferiad;
::Eich Duw yn unig a'ch deall
::Yn y llawr llwch, y naill a'r llall.
:::Af i'r Llan, fan o fonedd,
::Hyd yr hen Lan,—hi dry'n wledd;
::Cofion ar gofion gyfyd
::O lwybrau mêl boreu myd.
::Ah! dyma'r Fedyddfa deg,
::Man bedydd, 'min bo'i adeg;
::Er ystod faith cristiwyd fi
::Yn nawdd hon, newydd eni;
::Duw i fy rhan! a'i dwfr rhydd
::Fe'm mwydwyd yn fy medydd;
::Boed da y ffawd, bedydd ffydd
::Fo y ddefawd, fyw Ddofydd.
::Bedydd ffydd, boed da y ffawd,
::Fyw Ddofydd, fo y ddefawd.
:::Roberts, beriglor hybarch,
::Y mwyn wr, mae yn ei arch;
::Urddasai'r Llan ar Ddywsul,
::Am hir dalm, gyd â'i Salm Sul;
::Lle seiniai'r holl Wasanaeth
::Yn dawdd ffrwd o weddi ffraeth;
::Pan i'w bulpud symudai,
::Ar ol Pader ferr, ddi fai.
::O'i ben y gangen gyngor
::Ddeuai dwf yn ddi dorr;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
caf3qpgn92ekbzwv7c3zh3g4s2af93m
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/83
104
69442
139780
139310
2025-06-15T21:00:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139780
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::A llais lym, da'i rym, di rus,
::Seiniai eiriau soniarus;
::A'i ddygiad yn fon'ddigaidd,
::A iach o bryd, uwch ei braidd;
::O'r hen ddull ei rinwedd oedd,
::Caredig mewn cur ydoedd;
::Da i'r tlawd, er atal loes,
::A diddanu dydd einioes;
::Eto gwyllt, nid at y gwan,
::Wr gonest, rhywiog anian,
::Ond at y gweilch beilch, di bwyll,
::Na ddywedent yn ddidwyll;
::Ymawyddai am heddwch;
::Ni haeddai lai,—hedd i'w lwch.
::Trof yn awr, trwy y fan hon,
::Hyd y grisiau lled-groesion,
::Ar osgo, i le'r Ysgol,
::Oedd fwy o nwyf, ddydd fu'n ol,
::Sef llofft y Llan, man mwyniant,
::Ddesgiau'r plwyf at ddysgu'r plant.
::O! dyma olygfa lwys
::Ar waglofft brudd yr eglwys;
::Nid oes twrw!--hun distawrwydd
::Dwng yma'i le, ers tri deng mlwydd;
::Mae hynny'n oes, fel mewn un awr,—
::Fel dim onid dim yw'r tymawr!
::Onid dim, dim ond dameg,
::Yw ein hynt oll i henaint teg.
:::Estyll y lleoedd eistedd
::Ynt o'r un waith, eto'r un wedd,
::Lle gallwyd, â llaw-gyllell,
::Gwneyd bwlch, neu gnoad, o bell,
::A tharo brath i ryw bren,
::Neu ysu twll mewn ystyllen,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
fb0cr81x1e30tvlsry2scpj2x6b9ixb
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/84
104
69443
139781
139311
2025-06-15T21:04:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139781
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Gan hogiau go anhygar,
::Taeog o wedd, tew eu gwarr;
::Pery 'rhen graith i faith fyw,
::Ai naddiad yr un heddyw;
::Ond yr awdwyr o'r direidi,
::Neu ddim o'u nod, ni wyddom ni.
::Tonn ar ol tonn a'u laenodd,
::Pwy ŵyr eu rhan, na'u man, na'u modd?
::Dyma fainc, a chainc ar ei chwrr,
::O! 'r dyndod mawr ei dwndwr
::Hyd-ddi gynt ydoedd dda'i gwedd,
::Yn gostwng, codi, ac eistedd;
::A throi llyfr, a tharo llaw,
::Cynllwyn o boblu'r canllaw,
::Yn gu, rosynog, res anwyl,
::Yn gariad i gyd, mewn gwrid gwyl.
::Yr un fath yw yr hen fainc,
::Lle safai'r lluaws ifainc;
::Ond, O Dduw ne'! p'le, p'le mae'r plant
::Heinif, hoewon, yna fuant?
::Trosglwyddwyd yr ysgolyddion
::Fu yn eu cylch ar y fainc hon,
::I lawer math o leoedd
::O dreigl chwyrn, dirgel a choedd;
::Un i'w le yn yr hen wlad,
::Trofa ei hen gartrefiad;
::Rhyw bell fangre yw lle'r llall,
::Wyneb dŵr,—neu y byd arall!
::Rhyw gwm sy'n rhy drwm i'w dramwy,
::Am obaith mainc yma byth mwy.
:::Dyma fi, Langybi gu,
::A fannerch yn terfynu,
::Bellach, mae'm gwyneb allan
::O wynt y lle, fynwent a Llan;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
3zcxc98p67jscybikaam697jady6ay0
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/85
104
69444
139782
139355
2025-06-15T21:09:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139782
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Mae tynged yn mud longian,
::Gan ysgog at Glynog lan;
::Hi ddengys, pwy faidd wingo?
::A brwd frys, y briod fro;
::Cyfeiria'i bys cyfarwydd
::I greu i'm rhan awgrym rhwydd
::Mai Clynog, i'm cu lonni,
::Ar fin mor, yw'r fan i mi.
</poem>
{{Div end}}

{{c|{{mawr|EIFIONNYDD.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
EIFIONNYDD, Eifionydd, fy anwyl Eifionnydd,
:Eifionnydd, Eifionnydd ar gynnydd yw'r gân;
Er gwyched yw bronnydd goludog y gwledydd,
:Yng nghoedydd Eifionnydd mae fanian.
Hen finion Eifionydd a luniant lawenydd
:O galon bwygilydd, o fynydd i for;
Mi gara i magwyrydd, a'i llynau dŵr Ilonydd,
:Ei choedydd a'i dolydd hyd elor.
Mae bendith mabandod fel gwlith oddiuchod
:Yn disgyn yn gawod ar geudod dy gŵys;
Hen, iraidd, gynarol, fro awen forenol,
:Dewisol briodol baradwys.
Draw, copa Carn Bentyrch, dan wyntoedd yrentrych,
:Rydd achles i'w llennyrch, a chynnyrch ei choed;
Cysgododd yn ffyddlon oludog waelodion
:Hen Eifion a'i meibion o'u maboed.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
4kn78ru4xf0wbwu9rjsrjfhj7iaq6st
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/86
104
69445
139783
139313
2025-06-15T21:13:40Z
AlwynapHuw
1710
139783
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Llangybi, llwyn gwiber pob llondeb a llawnder,
:Islaw ar ei chyfer, heb chwerwder a chwardd;
Bro llawn o berlleni, a gwyrddion ei gerddi,
:Heb ynddi i 'mhoeni ddim anhardd.
Islaw tew gaeadfrig y Gadair a'r goedwig,
:Tardd ffynnon ſoneddig, nodedig, a da;
Daw iechyd diochain, er culed eu celain,
:I'r truain ar ddamwain ddaw yma.
Rhandiroedd Llanarmon a welir yn wiwlon,
:Mor siriol a Saron, yn minion y môr;
Di anair ei dynion, naturiol, nid taerion,
:Ond haelion, drwy gyrion eu goror.
Hyd Chwilog dychwelir, man glwysdeg mewn glasdir,
:Ddyfradwy hardd frodir, a gerir yn gu;
Ac yma'n ddigamwedd, Sion Wyn sy'n ei annedd,
:Tangnefedd diwaeledd i'w deulu.
Sion Wyn o Eifionnydd, fy anwyl Eifionnydd,
:Sion Wyn o Eifionnydd sy'n gelfydd ei gân;
Gwir Awen a grewyd, a Miwsig gymhwyswyd,
:Gyd-blethwyd, hwy unwyd a'i anian.
O Chwilog iach olau, bro anwyl a'i bryniau,
:Yn llon at Llanllynau a glannau y gwlith,
Rhown dremiad diatreg a chenir ychwaneg,
:Ychwaneg i fwyndeg fro'r fendith,
Gwlad her Llanystumdwy, olndog, fawladwy,
:Erioed cymeradwy, clodadwy, clyd yw;
Ireiddiawi fro addien, pau rywiog pêr awen,
:Nid amgen gardd Eden,—gwerdd ydyw.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
gp94ofg49xiuhufasssmz9pk1i0vqtd
139784
139783
2025-06-15T21:15:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139784
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Llangybi, llwyn gwiber pob llondeb a llawnder,
:Islaw ar ei chyfer, heb chwerwder a chwardd;
Bro llawn o berlleni, a gwyrddion ei gerddi,
:Heb ynddi i 'mhoeni ddim anhardd.
Islaw tew gaeadfrig y Gadair a'r goedwig,
:Tardd ffynnon ſoneddig, nodedig, a da;
Daw iechyd diochain, er culed eu celain,
:I'r truain ar ddamwain ddaw yma.
Rhandiroedd Llanarmon a welir yn wiwlon,
:Mor siriol a Saron, yn minion y môr;
Di anair ei dynion, naturiol, nid taerion,
:Ond haelion, drwy gyrion eu goror.
Hyd Chwilog dychwelir, man glwysdeg mewn glasdir,
:Ddyfradwy hardd frodir, a gerir yn gu;
Ac yma'n ddigamwedd, Sion Wyn sy'n ei annedd,
:Tangnefedd diwaeledd i'w deulu.
Sion Wyn o Eifionnydd, fy anwyl Eifionnydd,
:Sion Wyn o Eifionnydd sy'n gelfydd ei gân;
Gwir Awen a grewyd, a Miwsig gymhwyswyd,
:Gyd-blethwyd, hwy unwyd a'i anian.
O Chwilog iach olau, bro anwyl a'i bryniau,
:Yn llon at Llanllynau a glannau y gwlith,
Rhown dremiad diatreg a chenir ychwaneg,
:Ychwaneg i fwyndeg fro'r fendith,
Gwlad her Llanystumdwy, olndog, fawladwy,
:Erioed cymeradwy, clodadwy, clyd yw;
Ireiddiawi fro addien, pau rywiog pêr awen,
:Nid amgen gardd Eden,—gwerdd ydyw.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
j9p74im2mipskag3nuedqglnlm2cdrc
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/87
104
69446
139785
139314
2025-06-15T22:42:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139785
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Gwel glogwyn pinaglawg hen Griccieth gastellawg,
:Uwch annwfu trochioniawg, ardderchog ei ddull,
Uwch agwrdd grych eigion a'i lidiawg waelodion,
:Mor dirion i feirddion ei fawr-ddull.
Hyd Dreflys a'r Ynys fy nhuedd a nhywys,
:Tremadawg ymddengys yn drefnus ar draeth,
Goleidiawg waelodion, le treiglai y wendon,
:Yn feillion tra hylon, tir helaeth.
Ar fynwes Eifionnydd, fy anwyl Eifionnydd,
:Y magwyd ein Dafydd,<ref>Dewi Wyn.</ref> dieilfydd ei ddawn;
Mae'r Bardd Du<ref>Robert Ab Gwilym Ddu.</ref> 'n ymlonni oherwydd ei eni
:Rhwng llwyni a deri 'r fro diriawn.
Fy anwyl Eihonnydd, bwriadai yn brydydd
:Ei Phedr<ref>Pedr Fardd.</ref> sy mor gelfydd ei gywydd a'i gân.
Ac Eliss<ref>Ellis Owen, Cefn y Meusydd.</ref> o'i goledd, rhad awen o'r diwedd
:Droi 'n sylwedd o unwedd a'i anian.
Planhigyn o ganol Eifionydd wiw faenol,
:Yw Morys<ref>Nicander.</ref> awenol, farddonol ei ddawn;
Paradwys y prydydd yw f anwyl Eifionnydd,
:Bro lonydd llawenydd, le uniawn.
Clau wrandaw!-clyw'r wendon yn siaw yn gyson
:Hyd lenydd gwyrddleision bro Eifion bêr hardd,
Wrth weld ei wrth-gysgod ar Gantrefy Gwaelod,
:Myfyrdod sy'n gorfod y gwirfardd.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
pvxlqtv26mxa1chb4q0qedc8reb4h8j
139786
139785
2025-06-15T22:44:28Z
AlwynapHuw
1710
139786
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Gwel glogwyn pinaglawg hen Griccieth gastellawg,
:Uwch annwfu trochioniawg, ardderchog ei ddull,
Uwch agwrdd grych eigion a'i lidiawg waelodion,
:Mor dirion i feirddion ei fawr-ddull.
Hyd Dreflys a'r Ynys fy nhuedd a nhywys,
:Tremadawg ymddengys yn drefnus ar draeth,
Goleidiawg waelodion, le treiglai y wendon,
:Yn feillion tra hylon, tir helaeth.
Ar fynwes Eifionnydd, fy anwyl Eifionnydd,
:Y magwyd ein Dafydd,<ref>Dewi Wyn.</ref> dieilfydd ei ddawn;
Mae'r Bardd Du<ref>Robert Ab Gwilym Ddu.</ref> 'n ymlonni oherwydd ei eni
:Rhwng llwyni a deri 'r fro diriawn.
Fy anwyl Eihonnydd, bwriadai yn brydydd
:Ei Phedr<ref>Pedr Fardd.</ref> sy mor gelfydd ei gywydd a'i gân.
Ac Eliss<ref>Ellis Owen, Cefn y Meusydd.</ref> o'i goledd, rhad awen o'r diwedd
:Droi 'n sylwedd o unwedd a'i anian.
Planhigyn o ganol Eifionydd wiw faenol,
:Yw Morys<ref>Nicander.</ref> awenol, farddonol ei ddawn;
Paradwys y prydydd yw f anwyl Eifionnydd,
:Bro lonydd llawenydd, le uniawn.
Clau wrandaw!-clyw'r wendon yn siaw yn gyson
:Hyd lenydd gwyrddleision bro Eifion bêr hardd,
Wrth weld ei wrth-gysgod ar Gantrefy Gwaelod,
:Myfyrdod sy'n gorfod y gwirfardd.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude></noinclude>
sxgzxytymqtq2wzsdkfzap9xbzvxi2a
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/88
104
69447
139787
139315
2025-06-15T23:10:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139787
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|MARWNAD JOHN ELIAS.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
GWYLWYR Sion! Beth yw'r cynnwrf?
:Beth yw'r rhedeg yma a thraw
O dŵr i dŵr ar fur y Ddinas?
:Pa ryw berygl sydd gerllaw?
Pam yr ydych yn amneidio,
:Yn edrych mor gyffrous i gyd;
A oes ymgyrch o byrth uffern,
:Neu ryw newydd boen o'r byd?
Nac oes, Sion! Na frawychia,
:Ddinas deg y Brenin mawr-
Amlyga'r gwylwyr iti'r gofid,
:Yr hwn a'u gwnaeth mor brudd yn awr;
Nid pyrth uffern gymaint ofnwn,
:Gwyddom na orchfygant hwy,
Ein Dinas sydd ar Graig yr Oesoedd,
:Pwy a chwal ei meini mwy?
Un o'r gwylwyr heddyw gwympodd,
:Hyn a'n gwnaeth ni oll mor drist,
Un o'r tywysogion syrthiodd,
:Hen filwr da i Iesu Grist;
Angau gafodd le manteisiol
:I ergydio at ei fron,
Mae'r tŵr heb neb yn sefyll arno,
:Fel cysgod angau yr awr hon.
Sion! gwel ei gawell saethau,
:Edrych ar ei fwa dur;
A'i darian hefyd wedi ei gosod
:Yn esgeulus ar y mur;
Pwy o honom sydd ddigonal
:I drin ei arfau yn ei le?
Pwy mor ffraeth i gynnyg cymod
:I'r gelynion âg efe?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
1an5m2rw6sn0icg2pxbpobgt71grej9
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/89
104
69448
139788
139316
2025-06-15T23:11:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139788
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ar hyn Sion a edrychodd
:Yn ofidus ar y mûr;
A chraff sylwodd ar y gwylwyr
:Gyda chalon lawn o gur;
Troes ei golwg yn naturiol,
:I'r lle safai ei phrif gawr,
Sef Elias fywiog, nerthol,—
:Canfu yno'r rhwygiad mawr.
Ar amrantiad gwaeddai'r Ddinas,
:Ar lewygu gan y braw,
Nes i adsain ei hochenaid
:Dreiddio trwy y byd gerllaw,―
"O Elias efengylaidd,
:A fachludodd haul dy oes?
Pwy mor hyawdl bellach draetha
:Yr ymadrodd am y groes?"
Ciliais draw i un o'r tyrau
:Pellaf oll o boenau'r byd;
Tŵr sancteiddrwydd a gwir gariad,
:Lle mae nefol hedd o hyd:
Yno gwyliwr sobr, unigol,
:A eisteddai ar y mur,
Gan ddwys ddatgan wrtho i hunan,
:Rinwedd ein Elias bur.
Minnau'n ddirgel er mwyn clywed
:Ymsefydlais ar y tŵr;
Ysgrifennais ei gofnodau—
:Ynna canlyn geiriau'r gwr,—
"O fy mrawd, fy mrawd Elias!
:Ei fwa ef arhodd yn gryf
Nes ei alw gan ei Frenin
:O'i ymdrechfa lew a hyf.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ginefp7oqo5pqwt8n2nyrlyryoa011v
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/90
104
69449
139789
139317
2025-06-15T23:12:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139789
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Llawer brwydyr boeth ymladdodd
:Oddiar furiau'r ddinas hon,
Bu byddinoedd halogedig
:Y byd yn crynnu ger ei fron;
Pwy o'i fath am drin y cleddyf,
:Sydd yn clwyfo ac iachau?
Calon llawer gelyn lesu,
:Wrth ei lef fu'n meddalhau.
"O na allwn ei ddarlunio
:I feddyliau'r oes a ddel;
A dysgrifio'i araithyddiaeth,
:A ddiferai fel dil mêl;
Ni effeithiai presenoldeb
:Torf o ddysgedigion byw
Un gwanhad ar ei ewynau,
:Ei nerth a wyddai yn llaw Duw.
Pan esgynnai ir areithfa.
:Tawai myrddiwn ger ei fron;
Ei ddistaw wên wnai greu teimladau,
:Nad hawdd eu traethu y waith hon;
Edrychai, dro—yn fud, o amgylch
:Ar y lliaws fai gerllaw,
Ei lygad saethai'r fath ddylanwad
:Nes rhoddi'r dyrfa yn ei law.
Dywedai'r gair—tynerai Anian!
:Gostyngai'i law—ac wylai myrdd;
Pan wgai'n wrol,—beilchion grynnent,
:Arswydai'r coegddyn ffol ei ffyrdd:
Ei law dyrchafai—bloedd gorfoledd
:A ddadseiniai drwy y llu,
Roedd hyd yn oed ei atal-dwedyd,
:Yn gyfwng o hyawdledd cu.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
nixsobqo1rvmqd2hyvss2gxx9w4a4oy
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/91
104
69450
139790
139318
2025-06-15T23:13:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139790
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Pan fai rhês o feddyl-ddrychau
:Yn llenwi i enaid eang, mawr;
A throellau iaith yn rhy ddiffygiol,
:I gyfleu y rhain ar lawr:
Estynuai'i fraich—dyrchafai'i olwg,
:Crynhoai ei wefusau per,—
A'i ddull roi fawredd ar bob meddwl
:Uwchlaw un iaith o dan y ser.
Gwir mai gŵr a Gymru ydoedd,
:Ni chyfrifir Cymru'n fawr;
Eto ymgystadled Athen,
:Os myn, gyda ni yn awr;
Nid oedd Crist yn Araith Athen
:Rhyw blisgyn ydoedd, tlws a choeg,
Elias Cymru'n traeth am Iesu,
:Gwilyddia holl areithiau Groeg.
Fe allai'r eiddigedda Rhufain,
:Yn y gystadleuaeth hon,
Ei hareithiwr ddyry hithau,
:Yn y clorian ger ein bron;
Pwyser Araith Groeg a Rhufain,
:Ni cheir ynddi unrhyw foes
Dal ei ddangos wrth Elias
:Yn areithio gwaed y groes.
"Pam yr enwaf Gymru fechan?
:Maes ei lafur oedd y byd!
Gwnaeth gymwynas i'r holl ddaear
:Trwy ei ddawn a'i frawdol fryd:
Dweded rhyw negesydd cyflym,
:Ei farw yn Americ draw,
Bydd llawer mintai fawr yn wylo,
:Cwyn a galar ar bob llaw.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude></noinclude>
0r8i958shg58uaz2uormwmxkoxposi0
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/92
104
69451
139791
139319
2025-06-15T23:13:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139791
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
"Duon gynlleidfaoedd Affric
:A edrychant oll yn brudd,
Am na chwery dawn Elias
:Mwy i wneuthur iddynt fudd:
Hed ochenaid am brif golofn
:Achos Iesu ar y llawr,
Draw hyd lethrau'r Himalaya,
:Ac hyd lannau'r Ganges fawr.
Ynysoedd traffith Môr y Deau,
:Mae'ch dadleuwr yn y bedd!
Hawliodd rym ei holl ffraethineb
:I chwi gael cenadwri hedd:
Gwisged Cymdeithasau Prydain
:Alarwisgoedd oll yn awr.
Mae eu pen areithiwr cywrain
:Yn fud a llonydd yn y llawr.
"Trefnyddion Cymru ocheneidiant
:Am y sant a aeth o'u plith,
Yn eu cyfarfodydd pennaf
:Teimlant heb eu brawd yn chwith:
Pwy fel ef mewn Cymdeithasfa
:A ddwg sylw'r dyrfa'i gyd,
Trwy rin ei bêr hyawdledd nefol
:Nes cadwyno eu holl fryd?
"Nid trwy swyn doethineb ddynol
:Ond hyawdledd pêr y groes,
A thafod wedi ei ysbrydoli,
:Y rhagorodd yn ei oes;
Corff ac enaid efengylwr
:A dderbyniodd gan ei Dduw;
Meddwl eang, gwreiddiol, eglur;
:Genau ffraeth i'w ddwyn i'n clyw.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
gw0209mz0xnzcfduyrhxjjnd5yc794k
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/93
104
69452
139792
139320
2025-06-15T23:14:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139792
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
Porthai'r praidd â phob danteithion,
:Seigiau breision o fwyd cryf
Barotoai'n iach a maethlon,
:Heb un cyfeiliornad hyf;
A llaeth y gair meithrinai'r gweiniaid
:At fesur oed cyflawnder Crist,
Gan gyfaddasu'r bwyd ysbrydol
:At archwaeth gwael y baban trist.
Ei ddawn cyrhaeddgar a ymaflai
:Yn holl gyngor rhyfedd Duw,
Eglurai y ddarpariaeth ddwyfol
:Wnaed at achub dynol ryw;
O'r cyfamod cryf trag'wyddol
:Hyd ogoneddiad Crist a'i had,
Hysbysodd bob gor'chwyliaeth rasol
:Yn nhrefn iachawdwriaeth rad.
Pan fai'r Eglwys mewn rhyw syrthni
:Yn nghysgodau'r hwyr yn brudd;
Elias godai'i law i'r Nefoedd,
:Yn y fan fe wawriai'r dydd:
Ar ben Carmel yr amheuon
:Ymresymai'r tan i lawr;
Baal na Jezebel ni ddalient
:Y tanbaid bresenoldeb mawr.
Pan gyffyrddai o'r areithle
:A llinynau calon dyn,
Teimlid rywfodd fyw neu farw
:Fel wrth air ei enau 'nglŷn;
Pelydrai lewyrch pur, angylaidd,
:Fel cylch a choron am ei ben,
'R oedd ol y marwor ar ei wefus,
:O'r allor bur tu draw i'r llen.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
s2ll047ee5o5cw10q7n50vc1xfbeieo
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/94
104
69453
139793
139321
2025-06-15T23:23:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139793
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ffarwel Elias! hyd y bore,
:Pan yr adgyfodi'n fyw;
Os gadewaist di y gwersyll
:Cawn eto'r golofn dân a Duw;
Fel hyn gobeithiwn dy gyfarfod
:Yn y nefol Ganan gu;
Ac adnewyddu'n fil anwylach
:Yr hen gyfeillach yma fu.
</poem>
{{Div end}}

{{c|{{mawr|ANNERCH I'R PARCH. J. JONES, TALYSARN,}}
Ar farwolaeth ei eneth, yn 14 oed, Hydref, 1845.}}
{{center block|
<poem>
FRAWD! Cofiwch, bu Dafydd a'i blentyn ar dranc,
A phrofwyd ei grefydd trwy angau ei lanc;
A Dafydd ymolchodd a chododd drachefn,
Ei Dduw a addolodd pan drodd yn ei drefn.
Beth meddwch, frawd, eilwaith am Job yn y pant,
Ac angau ar unwaith yn llyncu'r holl blant?
"Yr Arglwydd" dywedai "a roddodd am dro,
Yr Arglwydd ddug ymaith, bendigaid a fo."
Ni chollodd eich geneth wrth basio y ser,
Mae'n byw yn ei phalas yn ninas ei Ner;
Yr Hanfod wys dyner a fuoch chwi'n drin,
Rhyw seraff a'i cymer yn awr ar ei lin.
Mae'r meddwl bach cymysg, y bu arnoch boen
I roi iddo addysg am rinwedd yr Oen,
Yn awr o ryw argraff mwy disglaer na dydd
Yn taflu, braidd, Seraff nen Gerub dan gudd.
Pan gaiff ei chorff cryno heb arno ol bedd,
I undeb a'i henaid, bydd gannaid ei gwedd;
I dan ewch i'r awyr, eich geneth ni'ch gâd,
Ond geilw'n ddiwewyr,—"Fy Nhad! O! Fy Nhad!"
</poem>

<noinclude></noinclude>
99f0hzwq08qyqz2sh4zkkn88mldy411
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/95
104
69454
139794
139322
2025-06-15T23:57:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139794
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|FY MHLANT,}}
Yn Mehefin 23ain, 1855.

Elin yng Nghaernarfon ar neges,—ei chwaer Elizabeth yn ei
lle yn y Bont.—James Ebenezer gartref:—a'u hanwyl chwaer
Catherine newydd ei chladdu.}}
{{center block|
<poem>
MAE un wrth Gei Caerseiont:—
Un yn y bedd;—un yn y Bont;
Dim ond un gartre, lle bu'r lleill,
Naturiol frawd y plant ereill:
Hwnnw a'i fam heno a fydd
I'w gweled gyd â'u gilydd.
:Deuddeng mlynedd ryfedd rifais
I gael ger bron yn llon eu llais,
Bedwar o blant i'w bwydo
Yn fwyn a hyd dan fy nho;
Dedwyddol i dad oeddynt,
Pan yn chware gartre gynt.
Ni welaf y rhain eilwaith
Yma yn wir, am un waith,
Yn galw oll gyd â'u gilydd
"Mam!" neu "dad!" mwy am un dydd;
Dychwelodd Duw i'w chwalu;
Cyfran foes fydd cofio'r hyn fu.
:Iesu'n nawdd i'r rhai sy'n ol!
Dedwydd fo'm, er ein didol;
Yr un waedd fawr yn weddi fo,
A'r un Duw a'n gwrandawo;
Er crwydro, suddo is âr,
Cymysgu, ac ymwasgar,
Undeb tragwyddoldeb ddaw,
Anwahanol i'n hunaw.
</poem>

<noinclude></noinclude>
69qd1b4f5c5a88m79cr2n8w7gzmfs9q
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/96
104
69455
139795
139323
2025-06-16T00:32:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139795
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BRWYDR MAES BOSWORTH.}}
''Gair at yr Awen.''}}
{{center block|
<poem>
:O AWEN, bydd imi'n borth,
:Am hysbysion Maes Bosworth.
:Maes can yw ym mysg cenedl
:Y Cymry, a chwery'i chwedl
:Yn awyr pob oes newydd.
:A ddel, hyd yr olaf ddydd.
:Ym Mosworth caed gormeswr,
:Dyn i ddiawl, a'i ben dan ddŵr;
:Yn Bosworth y bu asio
:Darnau brad, er unaw bro
:A dreisiasid dros oesau,
:Trwy nwydog wŷn teyrniaid gau,
:Asgennol oresgynwyr,
:Yn lladd eu gwell, eiddig wyr;
:Bosworth a wyntiai beiswyn
:Ach gyrrith, o'n gwenith gwyn;
:Us gwlad, a'i gwael asglodion,
:Fwriwyd draw yn y frwydr hon;
:Neshai Blaguryn i'n sedd,
:Orawn hen ein brenhinedd,—
:Rhuddin oedd o wreiddyn iach,
:Nid olynwr di linach.
''Rhagoriaeth brwydr Bosworth ar frwydrau dinod.''
:Na hidlwn drwy ein hawdlau
:Laeth afiach ymgeintach gau;
:Drud hawliau brwydrau teilwng,
:I'w hurdd da, y bardd a dwng;
:Adroddion brwydrau eiddil,
:I lawr a'u math, lawer mil!
</poem>

<noinclude></noinclude>
e2t00u755x95tmgolh8fv4a88o31oej
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/97
104
69456
139796
139201
2025-06-16T00:32:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
139796
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude></noinclude>
506k4kh16c1hszew1tvjo8ogwvmghaq
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/98
104
69457
139797
139202
2025-06-16T00:38:28Z
AlwynapHuw
1710
139797
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

[[Delwedd:Eben Fardd (Ab Owen) (Tudalen 98 crop).jpg|400px|canol]]
{{center block|
<poem>
FFRYDLIFOEDD Y GAEAF
Llafara y llifeiriant
Ei daran hir drwy y nant
</poem>

{{lein|7em}}

<noinclude></noinclude>
i8dmzwwhyoegw9genw4jefc9qqm5hng
139798
139797
2025-06-16T00:44:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139798
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

[[Delwedd:Eben Fardd (Ab Owen) (Tudalen 98 crop).jpg|400px|canol]]
{{center block|
<poem>
FFRYDLIFOEDD Y GAEAF
Llafara y llifeiriant
Ei daran hir drwy y nant
</poem>

{{lein|7em}}

<noinclude></noinclude>
tiybzqfjqgjopevlhxvn8lzbmwsxc0b
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/99
104
69458
139799
139324
2025-06-16T00:48:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139799
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
:Na laniont mewn ail einioes,
:Yn y dydd bo newid oes;
:Na roed cân iddynt anadl,
:Na beirdd dwys eu bwrdd i'w dadl:
:Ym mawl cledd, ni theimla clod
:Drydaniaeth brwydrau dinod;
:A ganmolir gwŷn malais,
:A bradwyr trwch brwydrau trais?
:Na edwant i ddinodedd.
:Pwnc diwrnod fydd clod eu cledd;
:Datroir blaenoriaid eu trin,
:Oedd ddoe'n wŷr, heddyw'n werin;
:A cheiff holl gleddyfau chwant
:Eu gweinio'n ddiogoniant.
:Ond ar hawl y brwydrau hedd,
:Nis dywaid un oes—"diwedd!"
:Ewybr dreiddia Brwydr Rhyddid
:Anad a bron cenedl brid,
:Yn ffun hunan-ddiffyniad,
:Yn gred Glyw, yn gariad Gwlad,
:Gwrthrym fydd i'r gorthrwm får,
:Dry'n adwyau drwy'n daear.
:Ar gleddyf, mae rhyglyddianı,
:A wano chŵydd hunan chwant,
:A ladd rwysg, a oludd red
:Y mathrwr, trwm ei weithred,
:Yr hwn gais drwy drais roi 'i droed
:Ar freiniau arfer henoed.
:Bosworth ar flaenau'n bysedd,
:A Waterloo, want hir wiedd;
:Brwydrau a gaed, heb rodres,
:Yn creu llwydd yn cario lles,
:Yn bwrw trais i'r obry trwch,
:I adnewyddu dawn heddwch;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
smdmdgsfnvevfllaxl8nybkhm48ku51
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/100
104
69459
139800
139325
2025-06-16T00:53:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139800
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Brwydr Bosworth fu'n borth i'r byd,
:I ddod drwyddo at Ryddyd;
:Bu'n borth i unben o barch
:Ddod yma'n Udd ddiamarch,
:I ddadrys ein hynys ni
:O wdennog gadwyni
:Weithiasai penbleth oesoedd
:O dreigl a chwymp, dirgel a choedd,
:I'm darostwng dan drawsder,
:A bwrw baich ar ein bro bêr.
:Myrierid im, a'r aur da,
:Câd Bosworth a'u cydbwysa.
::''Golwg yn ol ar gystudd Prydain.''
Ym moreu yr helbul mawr ar Albion,
Tremiai Rhufeinwyr tua'r môrfinion;
Ac, o syllu ar Ynys Caswallon,
O bleser golwg, âi blys i'r galon;—
Trwy gadau distryw y giwdawd estron,
A garw fradwriaeth gwyr o frodorion,
Dwrn swrth ar y deyrnas hon roes Caisar,
Galedodd afar ar ein gwlad—ddefion.
Hyd hyn o'n hanes, yn ein tŷ'n hunain,
Am hir adeg, yr oeddym ym Mhrydain;
Ni bai ymwelwr o wyneb milain,
Neu edn niweidiol daenai ei adain,
I ddwyn diowryd o dde na dwyrain,
Hyd yr awr rhwyfodd dewr Eryr Rhufain,
Ai oslef trwy'n hynyslain—yn cyrraedd,
Yn eres grochwaedd, gan oer ysgrechain.
:::''Gormes y Caisariaid,''
:Dyna drin wnai'n dwyn dan dreth,
:A dirdra, godai ardreth
:Echrys ar ein Hynys hon,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
20ahipp4wb71pfqii7etpnoch3sgwi8
139801
139800
2025-06-16T00:58:25Z
AlwynapHuw
1710
139801
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Brwydr Bosworth fu'n borth i'r byd,
:I ddod drwyddo at Ryddyd;
:Bu'n borth i unben o barch
:Ddod yma'n Udd ddiamarch,
:I ddadrys ein hynys ni
:O wdennog gadwyni
:Weithiasai penbleth oesoedd
:O dreigl a chwymp, dirgel a choedd,
:I'm darostwng dan drawsder,
:A bwrw baich ar ein bro bêr.
:Myrierid im, a'r aur da,
:Câd Bosworth a'u cydbwysa.
::''Golwg yn ol ar gystudd Prydain.''
Ym moreu yr helbul mawr ar Albion,
Tremiai Rhufeinwyr tua'r môrfinion;
Ac, o syllu ar Ynys Caswallon,
O bleser golwg, âi blys i'r galon;—
Trwy gadau distryw y giwdawd estron,
A garw fradwriaeth gwyr o frodorion,
Dwrn swrth ar y deyrnas hon—roes Caisar,
Galedodd afar ar ein gwlad-ddefion.
Hyd hyn o'n hanes, yn ein tŷ'n hunain,
Am hir adeg, yr oeddym ym Mhrydain;
Ni bai ymwelwr o wyneb milain,
Neu edn niweidiol daenai ei adain,
I ddwyn diowryd o dde na dwyrain,
Hyd yr awr rhwyfodd dewr Eryr Rhufain,
Ai oslef trwy'n hynyslain—yn cyrraedd,
Yn eres grochwaedd, gan oer ysgrechain.
:::''Gormes y Caisariaid,''
:Dyna drin wnai'n dwyn dan dreth,
:A dirdra, godai ardreth
:Echrys ar ein Hynys hon,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
bf9t1u6zhg6gg9ezbvq8ru2dcb4dm3g
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/101
104
69460
139802
139326
2025-06-16T01:02:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139802
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:I Gaisariaid go surion:
:A'u lengoedd mal llu angau,
:Oddifewn yn ymddofhau;
:Cestyll, gwersyll, a garsiwn,
:Yn taeru hawl i'n tir hwn;
:A'i holl hyd, i gyd o'i gwrr,
:A'i holl led gan allwleidiwr;
:Gwnaed ni yn dławd giwdawd gaeth,
:Heb enw o anibyniaeth;
:Ys taenodd Suetoniaid,
:Dros ein bro, drawsion, heb raid;
:Gwyr celyd Agricola,
:Gaseion dig, ysai'n da;
:Nes ein dwyn yn weision dôf,
:A thyngu'n nerth i anghof;
:Dinerth yr aethom danynt
:Am ganrif ar ganrif gynt.
::::''Brud Hen Dderwydd.''
:Yn nyddiau'r aflonyddwch,
:A ni yn llawn yn y llwch,—
:Yn gorfod, mewn gweddwdod gwâr,
:Rhoi cusan oer i Caisar,
Hen Dderwydd, canmlwydd, mewn coed.—a gofiai
::Ar gyfer ei faboed,
:Gan honni, er gwŷn henoed,
:Y drefn ddeuai eto ar droed.
:Dan dewfrig yn y wig werdd,
:Dan gangau rhyw edn-gyngherdd
:Oedd, o reddf, mewn dof leddfau
:Galar rhydd, yn eglurhau
:Cwymp Prydain, a'u sain a'u si
:Hynaws yn ei ddiloeni;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ceagx060ty7zj3sbjiv2eybe3lpde7v
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/102
104
69461
139803
139327
2025-06-16T01:06:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139803
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:O'r fan hon, ar fin einioes,
:I'w brid wlad y brudiai loes,
:Poen drom, ond yn y pen draw—
:Y diwedd yn blodeuaw;
:Dyma ei Frud am ei fro,
:Trwy niwlen, tra yn wylo,—
:"Dyn dybiai ddod ein diben,
:Hoedl bach ein cenedl, i ben;
:Nid felly Hi dyf allan,
:I enw mawr, yn y man¦
:Er fod, yn awr ar glawr gwlad
:Drwst ing ei darostyngiad,
:Ie, i sut ddaw'n is eto,—
:Ond o'i dwfn ing, dring ryw dro.
:"Syrth hirnos ar ei theyrnedd,
:A syfl ei brenhinol sedd;
:Cyll ei wyf, ac i'w lle naid
:Rhestr anwir o estroniaid.
Ei gwddf tega oddef tan—iau'r Eryr,
::O! 'r oeri wna'i hanian;
:Anad wyw y genedl wan
:Ddihoena ynddi 'i hunan.
"Wedi mesur ei gofid am oesoedd,
O dan estroniaid dawnus en trinoedd,
Wedi'r blin oddef drwy y blynyddoedd,
Diluw o aerwyr ddeuant, lawernedd:
Cry' rym anciddil cawri'r mynyddoedd,
Owyllt ymylan, 'n tywallt en miloedd
Ar Ddinas y Dinasoedd.-i'w chwympo
Ac i'w throedio, am draha'i gweithredoedd.
:Yn nhrofa'r farn, ar fyrr, fyrr,
:I'w ororau a'r Eryr,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ngydwcww1g7fowwg9k3tqzmecefj1ev
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/103
104
69462
139804
139328
2025-06-16T01:12:23Z
AlwynapHuw
1710
139804
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:A thasga'i anferth esgyll,
:Ar bwrdd o gyflymder hyll.
:"Awyr Prydain fydd yn daistain,
:Trwy ei lefain tra wylofus;
:Gedy dalaeth ein brodoriaeth,
:Fal ysglylaeth afles, glwyfus.
:Er arwain draw yr Eryr,
:A'i waedd, o gyrraedd ein gwyr;
:Oes drahaus a thost, er hyn,
:Arddelwaf i hir ddilyn;
:Y genedl, daroganir,
:Gyst ddyheu dan gystudd hir;
:Gorthrwm a glwm, am ein gwlad,
:Wrysgeni goresgyniad;
:A llwythau eraill weithion,
:Treisiant hi tros ewyn tonn.
Anwariaid a'u banerwyr—anrheithiant
::Yn rhith cynorthwywyr;
:Trwy linach ein teyrnach tyrr
:Ai estronol ystrinwyr:
Heidia'r marwol dramoriaid—i'n hynys,
::Yn hanner gwallgofaid,
:Hi ddaw i boen, a'i hedd baid
:Yn mhenbleth y drom ymblaid.
:"Sorrir y Llyw, sarheir Llys
:Cynhwynol mainc ein hynys;
:Bydd enw mainc, byddin, a mur,
:Boenydiol i benadur:
:Sefydlir gorsaf waedlyd
:Llid a'i hawl, trwy'i lled a'i hyd;
:Try n godwm i'n teyrngadair—
:Hon a gyll ei henwog air;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
7fapafytivch7f2ypr954cgh8po82me
139805
139804
2025-06-16T01:12:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139805
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:A thasga'i anferth esgyll,
:Ar bwrdd o gyflymder hyll.
:"Awyr Prydain fydd yn daistain,
:Trwy ei lefain tra wylofus;
:Gedy dalaeth ein brodoriaeth,
:Fal ysglylaeth afles, glwyfus.
:Er arwain draw yr Eryr,
:A'i waedd, o gyrraedd ein gwyr;
:Oes drahaus a thost, er hyn,
:Arddelwaf i hir ddilyn;
:Y genedl, daroganir,
:Gyst ddyheu dan gystudd hir;
:Gorthrwm a glwm, am ein gwlad,
:Wrysgeni goresgyniad;
:A llwythau eraill weithion,
:Treisiant hi tros ewyn tonn.
Anwariaid a'u banerwyr—anrheithiant
::Yn rhith cynorthwywyr;
:Trwy linach ein teyrnach tyrr
:Ai estronol ystrinwyr:
Heidia'r marwol dramoriaid—i'n hynys,
::Yn hanner gwallgofaid,
:Hi ddaw i boen, a'i hedd baid
:Yn mhenbleth y drom ymblaid.
:"Sorrir y Llyw, sarheir Llys
:Cynhwynol mainc ein hynys;
:Bydd enw mainc, byddin, a mur,
:Boenydiol i benadur:
:Sefydlir gorsaf waedlyd
:Llid a'i hawl, trwy'i lled a'i hyd;
:Try n godwm i'n teyrngadair—
:Hon a gyll ei henwog air;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
fd7c8imwryqbunq77ughgfoihwctmpq
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/104
104
69463
139806
139329
2025-06-16T01:19:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139806
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Ac o gostrel coeg estron,
:Yfir rhêg ar y fro hon;
:Wenwyna hawl gynhennid,
:Wna'i llyw, un llaw, yn llawn llid,
:Ar y llaw arall, gwall gwaeth
:A ddryga i rhydd wriogaeth.
:Prydain a wel gwymp brodyr,
:Ar y maes gwaed, gormes gwyr;
:Cyll ei thraed—a'i gwaed ar ei gwedd,
:Ymwyra mwy i orwedd.
Ond gwelaf draw y daw yn y diwedd,
Fal gwyrth arni, ryw flagur o'i theyrnedd,
O gyff y genedl—fe gaiff ogonedd,
Bywheir yn ei enw hawl ein brenhinedd,
Pennwn a baner impyn o'n bonedd
Yn awr a chwifia yn yr uchafedd,
Yng ngwên nwyfus Tangnefedd—cân Prydain
Hynod arwyrain wedi hir orwedd."
:Hyn oedd air yr hen Dderwydd,
:Ai Frud, cyn symud o'i swydd;
:Rhy faith ei araeth i'w oed,
:Blinai ei anabl henoed;
A phan y llawn orffennodd,— yn y fan
::Efe a ymliwiodd,
:A buan draw ei ben drodd,
:Yn hen, hen; yno hunodd.
:::''Gormes y Saeson.''
:Pur ffodus y proffwydai
:Ein diwrnod niwl, dirnad wnai
:Dynesiad y wae nosol,
:A hardd wawr hedd, ar ei hol.
:Bu'r tonnog chwŷl Brutanaidd,
:Yr un funud a'r Brud, braidd;
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
9rhzpqnn5o6a6apyoly401kks9lvsnl
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/105
104
69464
139807
139330
2025-06-16T01:32:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139807
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Oblegyd pan oblygwyd pennwn—Rhwyf
::Rhufain ym mro'r Brutwn,
:Ymwelodd llawer miliwn
:O wŷr trahaus â'r tir hwn.
:Prydain orfu gael llu llog
:Rhag aerwyr Brithwyr brathiog;
Ys, i'w gwasanaeth Sacsoniaid—buriodd
::I heriaw'r dieithriaid;
:Yn rhith dod i'n plith, o'n plaid,
:Anras trais wnai'r estrysiaid.
:Hurio Sais fu yn arw siom,
:Drud ernes o'i draed arnom;
:Hwt ei lawdrwm, frwnt ledrad,
:Dan annleg liw, dwyn ein gwlad.
''Gormes y Normaniaid, ymgystlyniad y
gormeswyr yn erbyn y Brython.''
:Wedi hyn, deuai i hawl
:Normaniaid,—yn rym unawl
:A'r Saeson,—a'u meibion maeth
:Yn honni ein brenhiniaeth;
:Dwyblaid yn un grym deublyg,
:Yn amlhau i'n dal ymhlyg:-
:O'n gwlad fras a'n dinas deg
:Y'n hwtiwyd, heb un ateg:
:Ag esgud nerth gwasgwyd ni
:Ar waered i Eryri;
:Talgreig Cymru fu y fan
:Ini oll o hyn allan:
''Darostyngiad y Cymry dan Iorwerth.''
Anorfod oeddym yn nhwrf y dyddiau,
Dan unfon nodded ein hien fynyddau;
Yno daliasem ein hanadl, oesau,
Yn curo y gelyn o'n creig-waliau,
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
gzq28m3qigx78uskkooy3h3ookvodmw
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/106
104
69465
139808
139331
2025-06-16T01:37:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139808
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Oni bai i Iorwerth hebu ei eiriau,
Nes y tarawodd ni a'i ystry wian;
Ai Dywysog di eisiau—fe'n twyllodd,
A dir wanychodd ein hen deyrnachau.
''Anghydfyddiaethau y Cymry a'r Saeson.''
:Rhyw fyd terfysglyd a fu,
:A phoen wedyn yn ffynmu;
:Hen ddant yn dwyn rhyw hin ddu
:A didoliad i deulu;
:Rhyw sem wŷn a droes aml waith
:Ddau deulu yn ddwy dalaeth;
:Neu ddau frawd yn ddwy Frydain,
:Oll yn ddrwg, a llawn o ddrain;
:A'r hen ddrwg droai'n ddreigiau
:I annog nwyd i'n gwanhau;
:Hen gas a arddai'n gwysi
:Ein gwyr nod a'n gwerin ni;
:O had-gwysi dygasedd,
:Cnwd gwlad ydoedd cnawd i gledd;
:A chenedl wrth genedl gynt,
:Trwy angau'r cledd y trengynt.
:Yn flin i bawb fel hyn bu
:Term oesoedd at ormesu;
:Odid oes—o daid i dad,
:Heb rifres sobr o afrad;
:Gnawd i boen ddygn a di baid
:Ddeillio oddiwrth rudd wylliaid,
:A grwydrent mewn gwrhydri,
:A'u dwrn brad i daro'n bri.
:A gwedd aethus goddeithiwyd
:Ein trefi nawdd, trwy fwy nwyd
:O ddial di faddeuant
:Yn un â chŵydd hunan chwant;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
1z1yeygczcqx9sun289gpnl3e3513jh
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/107
104
69466
139809
139332
2025-06-16T01:41:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139809
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Ein bonedd a'n hunbennaeth,
:Rhwng amryw weilch, yn deilch daeth.
:Hwn a darn or hen deyrnas
:Ai'n dreisiwr, o gyflwr gwas;
:Y llall â dan, ellyll du!
:Ar ei draws yn rhodresu;
:Ac aerod teg y goron,
:Cyfiawn feib or cyfan fôn,
:O'u gorsedd yn y gwersyll,
:Hawl-yn-hawl â'u halon hyll.
:::''Rhyfeloedd y Rhosynau''
Anrhaeth resennog yn rhith Rhosynau,
Ar fyrdd o bleidwyr, fwriodd ei blodau,
Yn haenfa sawyr y cynnen-fwysiau,
Gwnai eu dylanwad i genedl-wyniau
Waedu ein hynys a duo ein henwau;
Gwaed byw raiadrodd, oblegyd brwydrau
Hydra galanas â'i neidr-golynau.
Anferth ydoedd ei gwenwyn-frathiadau;
A Phrydain yng nghyffroadau—y pryd
Hyderai yn iechyd hen deyrnachau.
:Meddyliodd fod modd i alw
:Teyn i'r wlad, drinai ar lw
:Ei llywodraeth helaeth hi,
:Yn ddyddiwr a nawdd iddi;
:Hwn oedd deyrn na wyddid am
:Un mâd enw mwy dinam,
:O edryd ymerodron,
:Addurn sedd yr ynys hon,
:Rismwnt wnai arwr esmwyth,
:Yn llyw ar Brydain a'i llwyth;
:Oi ddod i'w sedd, hi daw sôn
:Am ei rhos a'i hymryson.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
eickylxh49ji2vxqlk6b6lywqrwxklo
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/108
104
69467
139819
139333
2025-06-16T03:09:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139819
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{center block/s}}</noinclude><poem>
Duw oi dosturi hefyd ystyriodd
Lidiog Rosynau 'r wlad, a gresynodd;
Neud y Ddau Rosyn a ddad-ddyrysodd,
Yn nodd gem-within y ddau gymhlethodd,
Eu dail gŵyr-drawsion, dialgar, drwsiodd—
Yr hedd ddilynai a arwydd-luniodd;
O'i benarglwyddiaeth, buan ryglyddodd
I roi ymwared;—i'w air ymwyrodd
Y dial-byrddiau;—nid ail waharddodd,
Nad, wele! 'n weddus, y nwyd lonyddodd,
A moddion ni omeddodd i'n hynys,
Tra gwaedai dinistr i'w gadw danodd.
::Rhyw ail wawr a leuerai
::Yn glir ar ein tir a'n tai;
{{bwlch|4em}}O'r prudd ochain,
{{bwlch|4em}}Angel Prydain,
{{bwlch|4em}}Fawr ei adain,
{{bwlch|5em}}Fry eliedodd;
{{bwlch|4em}}A chan gynted
{{bwlch|4em}}A'r chwai luched,
{{bwlch|4em}}Efi waered
{{bwlch|5em}}A gyfeiriodd.
::Gan y porthor yn nôr Nef
::Y di-ingnaws Ros-dangnef,
::Dderbyniai'n rhodd arbennig,
::Rhosyn Duw, er swyno dig;
::A thrwsiad y pleth-rosyn
::Oedd fal ei foch—goch a gwyn;
::Prydwedd dyfodol Prydain,
::Yn ardd rôs heb unrhyw ddrain!
::Pwy wisg y Rhosyn gwyngoch?
::Cymro da, o waed cyfa coch!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
gc7j3zpn0g4t7x5in49ksjk7hcoxcc3
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/109
104
69468
139820
139334
2025-06-16T03:13:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139820
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Sibrwd lw ysbryd y wlad
::Deg fwriai gydgyfeiriad
::At Harri, yn anturus,
::Yn deyrn da'i radd—dwrn di rus,
::I wisgo'r Rhosyn gwyngoch,
::Droai'n dawel ryfel rôch.
::Anogasant negesaeth,
::Sul a gwyl, o dan sêl gaeth;
::Gwyr o fri â gwladgar from,
::Freiniwyd i ddwyn cyfrinion
::I Armorig, drum eurwawr,
::Rhwng Harri â ni, yn awr.
::Mawr fael oedd caffael Kyffin,
::Wr hael, i goledd y rhin;
::Dyn doeth oedd y Deon Du,
::Wyddai ateb o'r ddeutu;
::Eon oedd y Deon Du,
::Wrth raid i bur weithredu;
::Oi fain fad nid ofnai fôr,
::Wrth ddwyn gair rhaith ein goror,
::I gyrraedd yr agoriad
::A driniai glo dôr ein gwlad;
::I Henry'n deilwng anrheg,
::Etifed ein teyrnedd teg.
::Y cennad gwych, Huw Conwy,
::Yn loew ei drefn, elai drwy
::Gyswynion ein gwasanaeth,
::Gan eu trin yn gyfrin gaeth,
::Hyd ddyfodiad addfedol
::Awr a rhaith agor y rhôl:
::Olwyn mewn olwyn elai,
::O bin i bin, heb un bai,
::A dirwynent i'r Ynys,
::Ar air lw, wir wr ei llys.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
247i5da0o110sdw61pkmce1y0bsgq5k
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/110
104
69469
139821
139335
2025-06-16T03:17:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139821
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
''Ymgyrch annhymig Buckingham.''
:Ond Buckingham roes gam gŵyr,
:Bras iawn a byr o synwyr:
:Rhy deneu'r gwaed Prydeiniawl
:Oedd ganddo i eilio'i hawl;
:Rhy fan yr ai 'i feiwyr
:Dros hawl eu gwlad, i gâd gwyr:
:Ow! Buckingham, a'i gam gyrch,
:Tra siomgar Iroes ei ymgyrch;
:Anffodus yn ei ffwdan
:Gyda'i lu, fu yn y fan:
:Ni wypai fyned nepell,
:Na phrofodd fin rhyw hin hell;
:Nef drodd, gwaharddodd ei hynt,
:A diluw oedai'i helynt;
:Hawdd y daliodd o'i dwylaw,
:Mal llestr, ryw gwmwl o'i llaw,
:Tywalltodd ef hyd holltau
:Cerygog ben creiging bau,
:I fyned yn afonydd
:O genllif a rhedlif rhydd.
:Ai lanw ar frys lynnai'r fro,
:O'r corneint, er cau arno,
:Och! Hafren! trech na chyfraith
:Oedd ei dŵr, i luddio'i daith:
:Dull o awgrym nad Lloegrwr
:Fyddai flaenaf, gyntaf gwr;
:Cymro, mal cynt, yr hynt hon
:A drigai yn Bendragon.
:Wb Weobley a ddiboblodd
:Buckingham, a pham, pan ffodd
:Croesodd i grafanc Risiart,
:A theimlodd gur ei ddur ddart?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
pg22xqitaj0a1wv5ekhx4f66pblm9ea
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/111
104
69470
139822
139336
2025-06-16T03:34:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
139822
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
:Ond, Risiart! na rodresa,
:Elyn hedd, na lawenha;
:Fe dyrr y rhwysg—fe dry'r rhod.
:Mwynha d' ofwy,—mae'n dyfod.
:Gwae di, daeog! daw dial,
:A myn Rhys y maen i'r wal.
:Mesur hawl y mae Syr Rhys,
:I'r Aer iawn ar yr Ynys,—
:Mesurir maes i Harri,
:Eang, teg,—ond ing i ti!
:Ai argoel drwg rhyw ddirgel drefn,
:Yn swcro ymgais y Crwmgefn,
:Oedd dryglam Buckingham? Ho!
:Na, digwyddiad, gwae iddo!
:Wnai ennyn tan o wyniau,
:I ysu i fron a'i oes frau,
:I droi'i arswyd o'r orsedd,
:A'i erwin fyddin i fedd.
''Llaw Cymru gyda Harri Tudur, iarll Rismwnt.''
:Coeliach, yn hytrach, oedd hyn
:I ddarbod nawdd i w erbyn:
:I rybuddio tair byddin
:I uno'u trâs mewn un trin,
:Er mysgu dan rwym-wasgiad,
:Wridog lu, i wared gwlad
:O afael teyrn anghyfiawn,
:A'i throï'n ol i'w theyrn iawn;
:Yn aerfa fawr anorfod
:Gurai falch, lle gore'i fod.
:Gwaeddi Her!" a gwa'wdd Harri,
:A'u habl nerth, wnai ein pobl ni,—
:"O tyred, tyred Harri!
:Dyweddia, a nodda ni!"
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
fnef84rroeid23gz465lhj2jf2747rp