Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.45.0-wmf.6
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/10
104
13788
140288
25893
2025-06-18T23:59:42Z
AlwynapHuw
1710
140288
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>G. I ba le yr a plant da wedi marw?
A. I'r nefoedd.
G. Pa fath le yw'r nefoedd?
A. Lle gogoneddus a hyfryd.
G. Pwy fydd gyd a ni yno?
A. Iesu Grist, yr angylion, a'r saint.
G. A fydd pechod yno?
A. Na fydd, na phechod na phoen byth.
<section begin="byth"/><section end="byth"/>
<section begin="Duw"/>{{canoli|DOSPARTH V}}
G. Pwy a anfonodd Duw i achub pechaduriaid?
A. Iesu Grist.
G. Pwy ydyw Iesu Grist?
A. Duw a dyn.
G. Pa berthynas ydyw Iesu Grist i Dduw?
A. Mae efe yn Fab Duw.
G. Pa berthynas ydyw efe i ni?
A. Brawd a chyfaill goreu.
{{nop}}
<section end="Duw"/><noinclude><references/></noinclude>
nm35fxx80c49rfsen9w02rb7pbozmuu
Rhodd Mam i'w Phlentyn
0
13810
140286
29791
2025-06-18T23:49:56Z
AlwynapHuw
1710
140286
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Rhodd Mam i'w Phlentyn]]
| author = John Parry, Caer
| translator =
| section =
| previous =
| next = [[/Dosparth I/]]
| notes = I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Rhodd Mam i'w Phlentyn (testun cyfansawdd)]]
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf" from=2 to=2/>
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Rhodd Mam i'w Phlentyn]]
[[Categori:John Parry, Caer]]
[[Categori:Testunau crefyddol]]
pqbvucfeq6ffaq77seusfpvmlm24ocn
Categori:Am Dro i Erstalwm
14
52701
140315
113974
2025-06-19T04:17:08Z
AlwynapHuw
1710
140315
wikitext
text/x-wiki
[[Delwedd:Am Dro i Erstalwm.djvu|bawd|tudalen=1]]
[[Categori:Dafydd Rhys Williams (Index)]]
[[Categori:Llyfrau 1905]]
[[Categori:Llyfrau'r 1910au]]
[[Categori:Ysgrifau]]
ghj1qddzwqpxb7si81kezlxm4q7deoh
Hen Fibl Fawr fy Mam
0
53702
140293
109718
2025-06-19T00:49:18Z
AlwynapHuw
1710
140293
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hen Fibl Fawr fy Mam
| author =John Phillips (Tegidon)
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =
| next = [[/Cyn y Frwydr/]]
| notes =
}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| {{Wicipedia|John Phillips (Tegidon)}}
|}
<br>
<br>
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hen Fibl Fawr fy Mam 01.djvu" from=1 to=2 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{PD-old}}
[[Categori:Hen Fibl Fawr fy Mam]]
[[Categori:John Phillips (Tegidon)]]
[[Categori:Baledi]]
6c4sgrqylh75lsoubezz0aoymjooatk
Dyddanwch yr Aelwyd/Hiraeth y Cymro am ei Wlad
0
56375
140314
114907
2025-06-19T02:54:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Nodiadau */
140314
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title = Dyddanwch yr Aelwyd
| author =Hughes a'i Fab, Wrecsam
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous = [[../Y Delyn|Y Delyn]]
| next = [[../Maith ddyddiau'n ol|Maith ddyddiau'n ol]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Dyddanwch yr aelwyd.djvu" from=45 to=47 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Hiraeth y Cymro am ei Wlad}}
[[Categori:Dyddanwch yr Aelwyd]]
[[Categori:William Ellis Jones (Cawrdaf)]]
326ydpiml1qoc6lk1jj3lkp3myrav55
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/12
104
69807
140232
2025-06-18T17:40:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
140232
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/13
104
69808
140233
2025-06-18T17:42:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140233
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmmm-mawr|Pentre'r Plant}}<br>Atgofion Bore Bywyd}}
{{c|PENNOD I.<br>{{mawr|AR Y RHINIOG.}}}}
"BORE da, Sadrac Jones. Y mae mistar yn gofyn a wnewch chwi drwsio'r sgidia yma erbyn nos Wener. Y mae arno eisiau mynd i'r farchnad ddydd Sadwrn i werthu'r perchyll."
"Hym! Trwsio o hyd! Ydi dy fistar yn meddwl bod pâr o sgidia i bara am byth? Dyma nhw, rwan, pâr campus yn eu dydd a'u tymor. Ond yr ydw i wedi eu clemio a'u gwadnu nes y mae nhw'n ddolur llygad i mi ac i bawb arall. Dywed wrth dy fistar, Tom, fod yn hen bryd iddo fo gael pâr newydd spon. Y mae'n ddisgrâs i ddyn fel y fo fynd i na ffair na marchnad efo sgidia y dylse fo fod wedi eu troi heibio ers llawer dydd."
"Ond mi wnewch eu trwsio y tro yma, Sadrac Jones ?"
"Mi wnaf fy ngorau, er na fedra i na neb arall wneud ''job'' daclus ar bethau mor sâl."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
j5przh1zauuqv9d5dqkgeqr5wfdo0n3
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/14
104
69809
140234
2025-06-18T19:26:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140234
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dyna ddull Sadrac Jones. Nid oedd ond crefftwr syml ym mhentre Llanaber, ond yr oedd yn hollol onest a di-dderbyn-wyneb. Gwyddai "fesur troed" ei gwsmeriaid mewn mwy nag un ystyr, a gwnai hynny wahaniaeth yn ei ymddygiad. Pe deuai rhyw gymydog tlawd â phâr o esgidiau gwael i'w trwsio, ni fuasai Sadrac Jones yn eu "beirniadu" o gwbl. Ond pan anfonai pobl mewn amgylchiadau cysurus bethau o'r fath i'w weithdy, nid oedd "blewyn ar ei dafod." Atgofiai hwynt, ambell dro, mai ''crydd'' oedd ef—nid cobler.
Gwnaeth esgidiau dan gamp i wladwyr y fro ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd sôn amdanynt ymhell ac yn agos. Gallai dyn fentro ar unrhyw dywydd ac i unrhyw daith, os byddai wedi ei ddiogelu ag esgidiau o weithdy Sadrac Jones.
Dyn bychan o gorff ydoedd: wyneb crwn, gwelw; llygaid duon, treiddgar—weithiau yn llym, a phryd arall yn pelydru gan hiwmor a natur da. Pan fyddai ar ei eistedd wrth ei waith gallesid tybio ei fod yn sionc a hoyw, ond wedi iddo godi gwelid ei fod, fel Jacob, yn "gloff o'i glun." Nid oedd yn fusgrell. Gallai ymlwybro yn weddol gyflym, er bod
y cloffni yn peri bod yn hawdd i'r cyfarwydd adnabod ei gerddediad. Nid arferai gerdded llawer nac ymhell. Dyn lled gartrefol oedd Sadrac Jones. Anfynych y gwelid ef yn unman ond yn ei weithdy, ac yn yr addoldy ar y Sul. Ond er nad ai lawer i "fysg pobl," fel y dywedir, deuai llawer ato ef. Deuai rhai ar fusnes, ac eraill i wybod sut yr ai pethau ymlaen yn y byd mawr, "yn gyffredinol." Deallai Sadrac Jones bethau o'r fath a medrai eu hegluro yn huawdl.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5i1rr6t3eembwac3tcgx7v0p4363wgo
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/15
104
69810
140235
2025-06-18T19:26:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140235
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y pryd hwnnw, gellid dweud mai ei weithdy ef oedd y "Neuadd Bentrefol " yn Llanaber.
Yr oedd safle'r gweithdy hwnnw ar lethr yr allt sydd yn arwain dros y mynydd i Dre Wen. Codasid capel ar y llecyn, ac yr oedd ryw adeg, nifer o dai wedi eu hadeiladu ar fin y ffordd. Nid oedd y "capel" wedi llanw disgwyliadau y rhai gychwynnodd yr "achos" yn y lle, ac ymhen rhai blynyddoedd caewyd ef. Wedi hynny gwerthwyd ef, a throwyd ef yn dŷ annedd. Yr oedd y tŷ hwnnw yn ddwy adran: dwy ystafell neu dair ar lawr, ac un ystafell gyffredinol uwchben. Yn ystafelloedd y llawr yr oedd preswylfod a gweithdy Sadrac Jones, ac yn yr ystafell uwchben y cartrefai Nansi Owen, gwraig weddw mewn cwrs o oedran, yr hon a adwaenid gan ei chydnabod fel " Nansi Owen y Llofft." Hi ofalai am gysuron beunyddiol Sadrac Jones, a goginiai ei ymborth, ac a lanhai'r tŷ.
Yr oedd y gweithdy ar lecyn amlwg, a golygfa lled eang i'w gweled oddi ar riniog y drws. Oddi tanodd yr oedd pentre Llanaber, a thros bennau'r tai gwelid y caeau gleision, a'r llwyni coed ar y llechweddau draw.
Ond er teced yr olygfa oddi allan oddi mewn yr oedd gogoniant y gweithdy, a hynny a bair iddo aros yn nyfnderau atgofion plant y pentre wedi eu gwasgar a'u chwalu i "bedwar ban y byd."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
r3rbjumu4b6f8xwsjjwhzvo389a261y
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/16
104
69811
140236
2025-06-18T19:27:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140236
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD II.<br>{{mawr|Y GWEITHDY. }}}}
ADWAENID adeilad ar ymylon pentre Llanaber wrth yr enw "Hen Gapel," a'r adeilad hwnnw, wedi ei droi i bwrpas arall, oedd gweithdy Sadrac Jones. Ond, er y cyfnewid, ni ellid dweud bod y fangre wedi ei darostwng mewn un modd. Yr oedd y gweithdy hwnnw yn rhywbeth mwy na lle i wneud esgidiau a'u trwsio. Y rheswm am hynny ydoedd fod byd meddwl Sadrac Jones yn lletach o gryn lawer na'i alwedigaeth feunyddiol. Cymerai ddiddordeb mewn llyfrau, a'i bleser ydoedd hyfforddi eraill i werthfawrogi addysg a gwybodaeth. Pan ddeuai bachgen ar neges i'r gweithdy, byddai Sadrac Jones yn sicr o ddefnyddio'r cyfle i ddysgu rhywbeth iddo, a chaniatau bod hynny yn bosibl. Gallai helpu'r anwybodus, ond y mae dylni yn drech na'r duwiau, a bu ambell dro yn drech nag amynedd Sadrac Jones.
Ond cyn manylu ar bethau o'r fath, gwahoddwn y darllennydd am dro i'r gweithdy, fel yr oedd yn y dyddiau dedwydd gynt. Cyn dod at y rhiniog, clywch guriadau'r morthwyl ar y ''lapstone''. Nid yw'r curo yn gwbl reolaidd, fel sŵn cloch y llan. Mae'n debyg fod gweithrediadau meddwl Sadrac Jones yn effeithio ar waith ei ddwylaw.
Chwi a welwch y ffenestr acw sydd yn wynebu'r ffordd ffenestr fawr, lydan, fel yr oedd yng nghyfnod yr addoldy. Erys honno fel cynt. Yng ngweithdy'r crydd y mae'r ffenestr orau yn y pentre, a'r wlad o ran hynny. Mae'n debyg fod yna flodau am-<noinclude><references/></noinclude>
nvlrww63tcb93y0s9mc0ii8y0se2g8j
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/17
104
69812
140237
2025-06-18T19:28:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140237
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ryliw ar silff y ffenestr. Ac os yw yn dywydd braf, siawns nad ydyw cath Nansi Owen y Llofft yn cymryd arni gysgu yn yr haul.
Ond dyna Dafydd Wyn y Ffridd yn mynd i mewn—hen ffrind i Sadrac Jones, ac un sydd wedi arfer dadlau llawer ag ef, yn enwedig ar bynciau ysgrythyrol. Gadewch i ni wrando'r ymgom.
"Bore da, Sadrac Jones.
A ydych yn brysur heddiw ?"
"Dim yn fwy felly nag arfer. Y mae rhywbeth i'w wneud bob dydd, ond tra bo iechyd a nerth ni ddylai neb gwyno. Dyna ddeddf fawr bywyd, fel y dywed y Salmydd, Dyn a â allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr.'
"Ie, fel y mae pethau'n bod; ond prin y mae'r adnod yna yn ffitio'ch galwedigaeth chwi, Sadrac Jones."
"Sut hynny?"
"Wel, a siarad yn fanwl, nid ewch chwi allan at eich gwaith. Daw'r gwaith yma atoch chwi. Adnod i ffermwr fel fi ydyw honna: dyn yn mynd allan i'r meysydd i aredig a hau, edrych ar ol yr anifeiliaid, a gweithio yn y cynhaeaf."
"Dim o'r fath. Darlunia'r Salmydd bob gweithiwr gonest, pa un bynnag ai i mewn neu allan y byddo'n dilyn ei orchwyl."
'Ie, ie; ond sut yr esboniwch y darn cyntaf yn yr adnod?' Dyn a â allan.' Rhaid bod rhyw ystyr i'r geiriau."
"Oes, siwr. Y mae ystyr i bob adnod yn y Beibl. Ond nid pwnc o le yn unig ydyw. Gall dyn fynd allan heb gyflawni dim gwaith o gwbl. Dyn yn<noinclude><references/></noinclude>
kz9wztjyr7hc80q3i30gntj95e1dogw
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/18
104
69813
140238
2025-06-18T19:30:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140238
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mynd allan ohono ei hun, er mwyn mynd i mewn i'w waith. Fel yna y dywed un esboniwr ar yr adnod."
Mynd i mewn i'w waith, aiê—Os felly, gellid dweud eich bod chwithau yn mynd i mewn i'r ''esgid'' sydd yn eich llaw."
"Dim o'r fath. ''Troed'' rhywun fydd yn mynd i mewn i hon un o'r dyddiau nesaf. Ond rhaid wrth feddwl i wneud esgid, mwy o ''feddwl'' nag a dybia rhai pobl."
"'Does neb yn ei bwyll yn amau hynny amdanoch chwi, Sadrac Jones. Ond gan eich bod wedi cyfeirio at yr adnod yn y Salmau hwyrach y medrwch roi goleuni ar bwnc arall. Sonia'r Beibl am wahanol grefftau: crefft y gof, y saer, a'r eurych; ond yn rhyfedd, nid oes gair amdanoch chwi, y cryddion."
"Tybed? Ddaru mi ddim meddwl am y peth fel yna o'r blaen. Ond, dyma'r ''Concordance''—gwaith Peter Williams,—gadewch i ni weld, rwan. . . . Na, wir, dydi'r ''gair'' ddim yma o gwbl. Ond onid enwir y ''crydd'' yn y Beibl, y mae yna gyfeiriadau lawer at ei ''waith''. Yr oedd esgidiau yn amser Abram, a rhaid bod cryddion yr adeg honno. A dywed Paul wrth yr Ephesiaid am wisgo am eu traed "esgidiau paratoad efengyl tangnefedd."
"Pa fath esgidiau fyddwch chwi'n feddwl ydyw'r rheiny, Sadrac Jones?"
"Fedra i ddim dweud hyd sicrwydd. Ond cofiaf yr adnod bob tro y gwnaf esgidiau i'r Parch. John Williams, Llwyn Onn, i fynd ar daith bregethu i'r South. Gofalaf am roi'r lledr gorau a'r gwaith gorau, yn yr esgidiau hynny, bob amser. A daw'r<noinclude><references/></noinclude>
52tcrpjhq9pcuqhlw3oepn8q4mbrumk
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/19
104
69814
140239
2025-06-18T19:31:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140239
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'hen weinidog yma wedi dod adref o'i daith i adrodd yr hanes :
"Gawsoch chwi amser lled gysurus, Mr. Williams ?"
"Hynod felly," ebr yntau. "Cefais dderbyniad caredig ym mhob man. Rhai felly ydyw cyfeillion y De, ond yr oedd amryw o'r hen ffrindiau a adwaenwn ers talwm wedi cadw noswyl."
"Fuoch chwi yn gysurus o ran eich iechyd ?"
"Rhagorol. Cefais dywydd oer a gwlyb, ambell dro, ond yr oedd fy nhraed yn sychion ac yn gynnes. Peth mawr i bregethwr ar daith ydyw cael esgidiau esmwyth, ac yn ''weather-proof''."
"Rhywbeth fel yna fyddai'n feddwl ydyw esgidiau 'paratoad efengyl tangnefedd.'"
"Digon tebyg. A chwithau wedi eu gwneud nhw, ynte? Dyna fel y mae hi, Sadrac Jones, y mae pawb yn medru troi'r dŵr at ei felin ei hun.' Ond y mae'r hyn a ddywedwch am hen weinidog Llwyn Onn yn eithaf gwir. Yr unig beth ''sych'' yn ei hanes ef ydyw—nid ei bregeth—ond ei ''draed''. Mi gymera inna bâr yr un fath, os gwelwch yn dda."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
315ay1kfk2lklfd8o8ins4vgnhopj75
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/20
104
69815
140240
2025-06-18T19:59:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140240
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD III.<br>{{mawr|DULL O GERDDED.}}}}
DYWEDIR bod tuedd mewn dynion i farnu eraill o gyferiad eu galwedigaeth eu hunain. Barna'r dyn fo yn gwerthu hetiau ei gwsmer yn ol maintioli ei ben. Y mae pen mawr, yn ei olwg ef, yn arwydd o ddyn mawr. Yr un modd gyda'r teiliwr. Un o'i wirebau yntau ydyw,—"y dillad yw'r dyn." Dibynna safle gymdeithasol, i gryn raddau, ar y dillad. Rhaid gwisgo yn drwsiadus neu fodloni eistedd yn y "seddau cefn." Gwelsoch bobl y "seddau blaen—yn dod i mewn i'r cyngerdd mawreddog," onid do? Onid oedd eu gwisgoedd yn orwych?
Cwestiwn pwysig ym mywyd y dosbarth etholedig hwnnw ydyw, "A pha beth yr ymddilladwn?" Y mae bod allan o'r ffasiwn iddynt hwy yn drychineb na ellir ei mynegi.
Ac y mae'n briodol i ni addef y gogwyddai Sadrac Jones at y gred hon, ar rai adegau, ac y barnai ei gyd-ddynion o safle ei alwedigaeth ei hun. Y peth cyntaf a welai ef pan ai heibio i ddyn dieithr ar y ffordd fyddai ei esgidiau.
Os credai Carlyle, ac os dysgai yr hyn a alwai ef yn "athroniaeth dillad"—''the philosophy of clothes''—credai Sadrac Jones yn ddiysgog, yn ei ffordd ei hun, fod y fath beth ag "athroniaeth esgidiau." Ac yn y peth hwn, o leiaf, safai'n deg ar ei diriogaeth ei hun. Oni ddywed dihareb hynafol y dylai'r crydd "lynu wrth ei esgid"? Os ydyw yn grydd da y mae yn aw-<noinclude><references/></noinclude>
q25d7dnjqfi6uk282tuxgtji1l1qgl8
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/21
104
69816
140241
2025-06-18T20:00:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140241
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>durdod ar honno, a dylai gadw at ei randir. Gŵr y ''traed'' ydyw ef, nid gŵr y fraich, na'r pen.
Ond torrai "athroniaeth" Sadrac Jones dros y terfynau gosodedig, a chynhwysai awgrymiadau am y sawl fyddai'n arfer ''gwisgo'' 'r esgidiau. Trinid hynny yn y gweithdy, ryw ddydd, pan anfonwyd pâr o esgidiau i'w trwsio a'u gwadnu, fel y dywedir yn iaith y grefft.
"Ddaru chwi sylwi ar y gwahaniaeth yn null pobl o gerdded? Dyma bâr o esgidiau a ddengys fod ei berchen yn arfer pwyso'n drwm ar y ''sawdl''. Hwnnw sy'n gwisgo allan gyntaf. Dyma un arall yn dangos bod y gwisgwr yn cerdded ar flaen ei droed."
Beth sydd yn cyfri am hynny, Sadrac Jones?" "Anodd ydyw esbonio'r peth. Ond y mae'n sicr o fod yn ffaith, ac yn perthyn i hanes teuluoedd yn yr ardal yma. Gellid eu rhannu yn ddau ddosbarth—teulu'r sawdl, a theulu blaen y troed. Dyna eu hanes ar hyd y blynyddoedd."
"Oes yna rywbeth yn wahanol yn eu nodweddion—eu dull o feddwl a gweithredu?"
"Mi fyddaf yn meddwl felly, wedi sylwi am gryn amser ar y peth."
"Beth ydyw'r gwahaniaeth?"
"O, y mae mwy o ''fynd'' yn nheulu blaen y troed, a mwy o ''sefydlogrwydd'' yn nheulu'r sawdl. Ond y mae yna beth arall sydd wedi fy nharo, lawer adeg, pan yn trwsio esgid."
"Beth ydyw hwnnw?"
"Dim ond peth eithaf syml—ffrwyth fy mhrofiad fel crydd. Dyna ydyw mewn gair,—ychydig iawn o<noinclude><references/></noinclude>
gm6pe83ue1lmdi10yoq4uxg0nnds6tv
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/22
104
69817
140242
2025-06-18T20:00:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140242
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bobl sydd yn arfer cerdded yn ''wastad''. Try'r rhan fwyaf i un ochr—y sawdl neu flaen y troed."
Wel, a chaniatau hynny, try'r peth yn fantais i chwi fel crydd. Onid ar gyfrif y diffygion yna—os dyna'r gair priodol—y cewch chwi gymaint o waith trwsio esgidiau?"
"Eithaf gwir. Ac erbyn meddwl, y mae'r un peth yn bod ym mhob cylch. Ni fuasai angen am blisman nac ustus heddwch pe cerddai pawb yn ''wastad''."
"A ydych yn awgrymu y dylid cosbi pobl am beidio â gwisgo esgidiau yn wastad, Sadrac Jones?"
"Dim o'r fath. Rhyw duedd naturiol ydyw hynny. Ond mi fuasai'n dda gennyf pe gellid cael rhyw foddion i gosbi'r sawl a ddaw i'r addoldy ar y Sul, yn ddiweddar, fel rheol,—a'u hesgidiau'n gwichian, nes tynnu sylw pawb."
"Dichon mai dyna sydd mewn golwg ganddynt—tynnu sylw, fel y dywedwch. Ond, fyddwch chwi ddim yn arfer gwneud esgidiau'n gwichian. ?"
"Na fyddaf, byth. Ond pryn y lodesi hwy yn y dre, a meddyliant y byd ohonynt eu hunain os bydd yr esgid yn gwichian ar lawr y capel. Dyna ferch y Weirglodd Lydan wedi bod am dymor yn Lerpwl, ac yn cerdded i'r 'moddion' fel tase consertina wrth ei thraed."
"Ie, ond cafodd y ferch fach yna bâr arall o esgidiau, mae'n amlwg. Cerddai i'w sêt yn hollol suful a distaw y Sul diwedda."
"Beth a barodd hynny, tybed? Gafodd hi gerydd gan rai o'r blaenoriaid?"
{{nop}} '<noinclude><references/></noinclude>
5e6lfqrha3se9y771fcq6mqsg1z7a1p
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/23
104
69818
140243
2025-06-18T20:01:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140243
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Naddo, hyd y gwyddom. Daeth y cyngor o le arall. Mae'r peth i raddau yn gyfrinach. Un o feirdd yr ardal—gellwch ddyfalu pwy ydyw—a anfonodd englyn iddi drwy'r post."
Englyn?" A ydych yn ei wybod?"
"Mi glywais yr awdur yn ei adrodd. Yr oedd yn debyg i hyn:—
Lodes y Weirglodd Lydan—rhag angof,
::Cymer gyngor bychan:
:Ar y Sul bydd suful, Siân,—
:Gochel esgidiau'n ''gwichian''.
"Campus. Dyna englyn wedi gwneud gwaith rhagorol, ac y mae hynny yn fwy nag ennill gwobr. Rhaid i chwi ei ysgrifennu, ac yna gosodir ef ar y sgrin.'"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ospxz9im7mxojgfx10raqb7prco4yh0
140244
140243
2025-06-18T20:02:23Z
AlwynapHuw
1710
140244
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Naddo, hyd y gwyddom. Daeth y cyngor o le arall. Mae'r peth i raddau yn gyfrinach. Un o feirdd yr ardal—gellwch ddyfalu pwy ydyw—a anfonodd englyn iddi drwy'r post."
Englyn?" A ydych yn ei wybod?"
"Mi glywais yr awdur yn ei adrodd. Yr oedd yn debyg i hyn:—
{{center block|
<poem>
Lodes y Weirglodd Lydan—rhag angof,
::Cymer gyngor bychan:
:Ar y Sul bydd suful, Siân,—
:Gochel esgidiau'n ''gwichian''.
</poem>
}}
<br>
"Campus. Dyna englyn wedi gwneud gwaith rhagorol, ac y mae hynny yn fwy nag ennill gwobr. Rhaid i chwi ei ysgrifennu, ac yna gosodir ef ar y sgrin.'"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hzw184c3sl5rx9synsrvrx5txzws3jg
140245
140244
2025-06-18T20:03:03Z
AlwynapHuw
1710
140245
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Naddo, hyd y gwyddom. Daeth y cyngor o le arall. Mae'r peth i raddau yn gyfrinach. Un o feirdd yr ardal—gellwch ddyfalu pwy ydyw—a anfonodd englyn iddi drwy'r post."
Englyn?" A ydych yn ei wybod?"
"Mi glywais yr awdur yn ei adrodd. Yr oedd yn debyg i hyn:—
{{center block|
<poem>
Lodes y Weirglodd Lydan—rhag angof,
::Cymer gyngor bychan:
:Ar y Sul bydd suful, Siân,—
:Gochel esgidiau'n ''gwichian''.
</poem>
}}
<br>
"Campus. Dyna englyn wedi gwneud gwaith rhagorol, ac y mae hynny yn fwy nag ennill gwobr. Rhaid i chwi ei ysgrifennu, ac yna gosodir ef ar y 'sgrin.'"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jkequ73ezqadfzwr5e79jl8w16jtcab
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/24
104
69819
140246
2025-06-18T20:13:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140246
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD IV.<br>{{mawr|HANES Y SGRIN.}}}}
CYFEIRIWYD at y "sgrîn" ar ddiwedd y bennod flaenorol. Ond ar gyfrif ei gwasanaeth yn y dyddiau a fu temtir ni i adrodd ychydig yn rhagor amdani. Rhyw ystyllennau teneuon oedd ei deunydd, a'r rheiny wedi eu cyd-gysylltu yn y fath fodd fel y gellid eu cau a'u hagor yn ol yr angen ar y pryd. Defnyddid hi i lawer pwrpas. Defnyddid hi weithiau fel cysgodlen rhag yr haul pan dywynnai'n danbaid ar ffenestr y gweithdy. Dro arall, ac yn fwy mynych, gosodid hi rhwng y fainc a'r drws fel amddiffyniad rhag y draft.
Ond gwnai Sadrac Jones ddefnydd arall o'r "sgrin," a hwnnw sydd wedi peri iddi aros yn ein hatgofion. Y mae gan blant y dydd heddiw eu "sgrin," ar ar honno y gwelant hud a lledrith y "darluniau byw." Gwelsom ninnau bethau rhyfedd oddi ar y "sgrîn yng ngweithdy Sadrac Jones cyn bod sôn ar ''cinema'' a'r "pictiwrs" a synna ac a swyna blant a phobl yr ugeinfed ganrif.
Ni honnai Sadrac Jones ei fod yn fardd wrth "fraint a defod," ond yr oedd ganddo chwaeth a hoffter at farddoniaeth. Gallasai yntau ddweud fel y Parch. Thomas Hughes, Machynlleth, pan werthai'r "Garnedd Arian"—detholiad a wnaethai ef ei hun,—"Nid wyf fi fardd, na mab i fardd, ond y mae gen i ''daste''. Oes, siwr, y mae gen i ''daste'', ac yr wyf yn adnabod blas barddoniaeth." Yr un modd gyda Sadrac Jones. Yr oedd ganddo yntau ''daste''. Ad-<noinclude><references/></noinclude>
dw7tz7szer1vmr17161oqixfdb0ais9
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/25
104
69820
140247
2025-06-18T20:13:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140247
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>waenai flas a cham-flas. Derbyniai'r newyddiaduron Cymraeg wythnosol a ledaenid yn y cyfnod hwnnw, a darllenai hwynt yn fanwl. Gwyddai am wleidyddiaeth, masnach, hanes crefydd, a digwyddiadau cymdeithasol.
Ond y mae gennym sail i dybied mai yr hyn a roddai fwyaf o adloniant i'w feddwl ydoedd y "Golofn Farddol," yn y papur poblogaidd a elwid ''Utgorn y Bobl''. Yr oedd yr adran farddonol o dan ofal un o boetau mwyaf adnabyddus y genedl; ac yn iaith flodeuog y cyfnod hwnnw dywedid bod y Golygydd yn pabellu yn rhywle ar "lethrau Parnasws," a bod ganddo ryw "wyntyll" anferth i nithio'r cynhyrchion a anfonid i'r swyddfa. Cipid llu ohonynt yn ddiseremoni gan y gwynt, ac ni chlywid dim amdanynt mwy. Llwyddai eraill i ddal y driniaeth, a rhestrid hwy gyda'r "gwenith gwyn.". Ac wedi iddynt fod ar y llawr-dyrnu cesglid hwy i'r ysgubor fel grawn aeddfed a chymeradwy." Yn eu tro ymhlith y lliaws rhoddid lle iddynt ar ddalennau ''Utgorny Bobl'', ac yr oedd hynny, yn ol barn y cyfarwydd, yn drwydded i anfarwoldeb.
Ond yr oedd gan Sadrac Jones ei ffordd ei hun i ddangos ei edmygedd o'r beirdd a'u gwaith. Wedi darllen cân a'i boddiai, ei arfer ef oedd ei thorri allan o'r papur newydd a'i phastio ar y "sgrîn." Ac yn y modd hwnnw daeth y sgrîn yn fath o amgueddfa i farddoniaeth y dydd. Ychwanegid at yr etholedigion yng nghwrs amser, a bu hynny'n gyfrwng i ddenu ambell un i lwybrau'r awen, ac i wybod rhywbeth am eu hyfrydwch a'u swyn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
k62mf7b09uaseidb5uvleo690wdgrjt
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/26
104
69821
140248
2025-06-18T20:14:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140248
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Erbyn i nifer o'r bechyn ddod i'r gweithdy fin nos, ond odid na fyddai Sadrac Jones wedi bod yn pastio rhyw ddarn newydd ar y "sgrîn." A'r peth nesaf fyddai ei symud yn ofalus er mwyn cael golau'r lamp o'r nenfwd i ddisgyn arni. Dichon bod y preint yn lled fân, ond pa waeth am hynny? Gallai ein llygaid weld y llythyren fanaf heb graffu dim. Ni wisgai neb ond Sadrac Jones spectol yn y gweithdy hwnnw.
'Rwan, fechgyn. Dyna i chwi gân newydd 'Pistyll y Llan.' Gadewch i mi eich clywed yn ei darllen. John, wnei di roi cynnyg arni i gychwyn?"
''(John yn darllen).''
"Ie, lled dda ar y cyfan, ond mi a'th glywais yn gwneud yn well. Mi ddylset dalu mwy o sylw i'r atal-nodau, a dangos mwy o deimlad. Ifan, dy dro di ydyw'r nesaf. Tyrd ymlaen."
''(Ifan yn darllen).''
"Braidd yn undonog oedd dy lais, Ifan. Yr oeddit yn rhy debyg i Dafydd Huws yn rhoi emyn allan yn y moddion,'—pob gair a llinell ar yr un nodyn o'r dechrau i'r diwedd. Y mae eisiau mwy o amrywiaeth wrth ddarllen, yn enwedig darnau disgrifiadol."
Ac wedi i'r naill a'r llall ddarllen y gân medrem hi ar dafod leferydd cyn diwedd y wers, wedi ei dysgu yn ddiarwybod!
Defnyddiai'r rhan fwyaf o feirdd yr Utgorn ffugenw, ac wrth yr enw hwnnw yr arferai Sadrac Jones sôn amdanynt. Un ohonynt ydoedd Idwal Ddu.<noinclude><references/></noinclude>
pciw073oviwieruajwn3ecn9vfd19bk
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/27
104
69822
140249
2025-06-18T20:15:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140249
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Byddai ganddo ef ryw gân newydd yn fynych yn y Golofn Farddol." Ac erbyn i ni sylwi, yr oedd mwy o waith Idwal Ddu ar y "sgrîn nag odid o waith neb arall, ac eithrio Ceiriog a Mynyddog. Ef oedd awdur y gân boblogaidd
{{center block|
<poem>
Cyfodwch y bin
:Ar lawr sydd yn gorwedd;
Efallai bydd hyn
:Yn dechrau anrhydedd.
</poem>
}}
<br>
A ydych yn ei 'nabod, Sadrac Jones?"
"Idwal Ddu?"
"Ie."
"Na, ni welais ef o gwbl. Ond yr wyf yn meddwl yn uchel amdano fel bardd. Pan welwch ei enw yn y 'Golofn Farddol' chwi ellwch fod yn sicr y bydd y Golygydd yn ei groesawu i "lethrau Parnasws," ac yn dweud—"Melus, moes mwy."
Ond yr oedd un peth arall na wyddem amdano ar y pryd oedd wedi effeithio'n ddistaw ar feddwl a barn Sadrac Jones. Beth ydoedd? Wel, dilynai'r bardd mwyn hwnnw yr un alwedigaeth ag ef ei hun! Crydd oedd Sadrac Jones, a dyna ydoedd Idwal Ddu—crydd a bardd!
{{center block|
<poem>
A shoemaker, did you say?
:Yes, what then?
A shoemaker and a poet?
:True again!
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
c86m1rplc3xa1rczxrfxtjrzvfzmpjt
140250
140249
2025-06-18T20:16:03Z
AlwynapHuw
1710
140250
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Byddai ganddo ef ryw gân newydd yn fynych yn y Golofn Farddol." Ac erbyn i ni sylwi, yr oedd mwy o waith Idwal Ddu ar y "sgrîn nag odid o waith neb arall, ac eithrio Ceiriog a Mynyddog. Ef oedd awdur y gân boblogaidd
{{center block|
<poem>
Cyfodwch y bin
:Ar lawr sydd yn gorwedd;
Efallai bydd hyn
:Yn dechrau anrhydedd.
</poem>
}}
<br>
A ydych yn ei 'nabod, Sadrac Jones?"
"Idwal Ddu?"
"Ie."
"Na, ni welais ef o gwbl. Ond yr wyf yn meddwl yn uchel amdano fel bardd. Pan welwch ei enw yn y 'Golofn Farddol' chwi ellwch fod yn sicr y bydd y Golygydd yn ei groesawu i "lethrau Parnasws," ac yn dweud—"Melus, moes mwy."
Ond yr oedd un peth arall na wyddem amdano ar y pryd oedd wedi effeithio'n ddistaw ar feddwl a barn Sadrac Jones. Beth ydoedd? Wel, dilynai'r bardd mwyn hwnnw yr un alwedigaeth ag ef ei hun! Crydd oedd Sadrac Jones, a dyna ydoedd Idwal Ddu—crydd a bardd!
{{center block|
<poem>
A shoemaker, did you say?
:Yes, what then?
A shoemaker and a ''poet''?
:True again!
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
m4j3mosm4i33r0o757ze09pr0bj4ru8
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/28
104
69823
140251
2025-06-18T20:26:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140251
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD V. }}<br>{{mawr|"FFAIR GLAMAI.}}}}
UN ffair a gynhelid yn ystod y flwyddyn yn Llanaber, ond yr oedd honno yn ffair fawr a phoblogaidd. Adeg ei dyfodiad ydoedd mis Mai, a gelwid hi ar lafar gwlad yn "Ffair Glamai" (talfyriad, mae'n bosibl, o Galan Mai). Dyna ddull y wlad o siarad, cyn geni'r "orgraff newydd "i'r byd. "Ffair Glamai!"
Ac i'r cyfarwydd â hanes y pentre gwledig y mae swyn a barddoniaeth yn yr ymadrodd.
I blant y cyfnod hwnnw, dyna "Ffair y Byd." A byd go wych oedd y byd cyn y dilyw! Ac, fel y dywed haneswyr, teifl digwyddiadau mawr eu cysgod ymlaen. Disgynnai cysgod "Ffair Glamai" yn gynnar, a phrysurai olwynion bywyd a gwaith. Deffroai'r pentre o'i gwsg gaeafol; gwyngalchid y tai, a phaentid hwy yn holl liwiau'r enfys! Deuai gweithdy Sadrac Jones yn lle prysur iawn. Ni cheid hamdden i drafod barddoniaeth o gwbl, dim ond y lledr a'r esgidiau newydd. Gosodid y "sgrin" yn y gornel o'r neilltu, hyd ryw "amser cyfaddas," a phrin y cai Sadrac Jones hamdden i edrych dros ddalennau ''Utgorn y Bobl'', yn ol ei arfer. Byddai mor brysur, ambell ddiwrnod, fel y byddai raid i "Nansi Owen " ei alw at ei "bryd bwyd."
"Y mae'r cinio'n oeri, Sadrac Jones; ac yr ydw i yn siwr eich bod bron a llwgu."
"Mi ddof ymhen ychydig funudau," dywedai Sadrac Jones, "wedi i mi roi'r pwyth olaf yn yr esgid yma."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gmt9d2ebwi4mogfex919ytlcs8d7zg9
140252
140251
2025-06-18T20:27:07Z
AlwynapHuw
1710
140252
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD V.<br>{{mawr|"FFAIR GLAMAI.}}}}
UN ffair a gynhelid yn ystod y flwyddyn yn Llanaber, ond yr oedd honno yn ffair fawr a phoblogaidd. Adeg ei dyfodiad ydoedd mis Mai, a gelwid hi ar lafar gwlad yn "Ffair Glamai" (talfyriad, mae'n bosibl, o Galan Mai). Dyna ddull y wlad o siarad, cyn geni'r "orgraff newydd "i'r byd. "Ffair Glamai!"
Ac i'r cyfarwydd â hanes y pentre gwledig y mae swyn a barddoniaeth yn yr ymadrodd.
I blant y cyfnod hwnnw, dyna "Ffair y Byd." A byd go wych oedd y byd cyn y dilyw! Ac, fel y dywed haneswyr, teifl digwyddiadau mawr eu cysgod ymlaen. Disgynnai cysgod "Ffair Glamai" yn gynnar, a phrysurai olwynion bywyd a gwaith. Deffroai'r pentre o'i gwsg gaeafol; gwyngalchid y tai, a phaentid hwy yn holl liwiau'r enfys! Deuai gweithdy Sadrac Jones yn lle prysur iawn. Ni cheid hamdden i drafod barddoniaeth o gwbl, dim ond y lledr a'r esgidiau newydd. Gosodid y "sgrin" yn y gornel o'r neilltu, hyd ryw "amser cyfaddas," a phrin y cai Sadrac Jones hamdden i edrych dros ddalennau ''Utgorn y Bobl'', yn ol ei arfer. Byddai mor brysur, ambell ddiwrnod, fel y byddai raid i "Nansi Owen " ei alw at ei "bryd bwyd."
"Y mae'r cinio'n oeri, Sadrac Jones; ac yr ydw i yn siwr eich bod bron a llwgu."
"Mi ddof ymhen ychydig funudau," dywedai Sadrac Jones, "wedi i mi roi'r pwyth olaf yn yr esgid yma."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0skbxhgs5luv6cdc9bifspeofhhotsr
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/29
104
69824
140253
2025-06-18T20:27:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140253
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond anghofiai wedyn, a deuai Nansi Owen o'r gegin i'r gweithdy.
"Welwch chi, Sadrac Jones, y mae'n rhaid i chi ddod at eich bwyd. 'D oes dim sens mewn gweithio am oriau heb yr un tamaid na llymaid. Mi fyddwch yn sâl, fel y buoch chi'r llynedd. Dowch at y bwrdd."
Ac wedi mynd i'r gegin, ond odid na ddywedai Nansi Owen fod yn rhaid iddo gael "gweithiwr i'w helpu". Yr oedd honno yn "hen stori," ond yn aros yn yr unfan y naill flwyddyn ar ol y llall.
"Rhaid i ni gysidro'r peth," dywedai Sadrac Jones. "Peth anodd iawn ydi taro ar weithiwr da."
Un hynod am 'gysidro' oedd Sadrac Jones. Dichon mai hynny oedd y rheswm ei fod yn para arwain bywyd "sengl." Anogai pobl hoff o ymyrryd â materion rhai eraill ef i briodi; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gael amser i "gysidro," a 'd oedd hwnnw byth yn dod i ben!
Ac felly gyda'r "gweithiwr" oedd i'w gynorthwyo. Deuai'r mater hwnnw i'r "bwrdd " yn gyson bob blwyddyn o flaen "Ffair Glamai," ac yna aros ar yr agenda am flwyddyn arall. Dyna'r drefn arferol,—Nansi Owen yn cyflwyno'r mater i sylw, a Sadrac Jones yn "cysidro."
Ond, wedi'r gweithio didor am wythnosau, dyna adeg y ffair yn nesau. Y dydd o'i blaen codai'r diddordeb i bwynt uchel, a "thorrid " yr ysgol ddydd yn gynnar yn y prynhawn. Pa ddiben oedd "cadw ysgol" a'r plant yn hanner gwallgof gan awydd am weld y "rhyfeddodau " a gludid i'r ffair? Dyna lle<noinclude><references/></noinclude>
s6s2ur7atjay2xns2ee27dy5qkchapn
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/30
104
69825
140254
2025-06-18T20:28:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140254
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byddai pob math o gertwyni a wageni, yn cael eu tynnu gan bob rhywogaeth o greaduriaid, a'r sŵn yn fyddarol! Codid stondinau ar yr heol, a phebyll yn y maes cyfagos. Yr oedd Llanaber yn lle gogoneddus ar "Ffair Glamai"; a chredai rhai o'r hen drigolion, na fuont erioed allan o'r plwy', nad oedd hanner cymaint o bobol yn Llundain ag a welid yn Llanaber ym mis Mai.
Ond ni cheir y rhosyn heb y drain. Ac y mae'n rhaid cydnabod fod yno un peth yn "Ffair Glamai oedd yn ddraen i Sadrac Jones. Beth ydoedd? Ai'r difyrrwch a'r chwareuon? Nage, yr oedd Sadrac Jones yn ddigon ieuanc ei ysbryd i fwynhau pethau o'r fath. Ond arferai rhyw ddieithriaid ddod i'r ffair i werthu esgidiau "parod "—''ready made''. A themtiai eu rhadlonrwydd bobl i'w prynu. Meddylient eu bod yn cael "bargen," ac y mae rhyw duedd ryfedd yn y natur ddynol i brynu os bydd "bargen" i'w chael.
Nid ai Sadrac Jones i'r ffair, rhag iddo gael ei boeni gan yr estroniaid teithiol hyn a werthai nwyddau heb dalu na rhent na threth. Ond ai Nansi Owen yno yn fwy fel ''detective'' na dim arall. Gwelid hi yn sefyll ar gwr y dorf yn ymyl stondin yr "esgidiau parod," ac yn gwylio pwy fyddai yn prynu, ac, wrth gwrs, yn talu. Rhaid oedd gwneud hynny yn y ffair. "Un pris, ac arian parod"-dyna'r arwyddair. Ac wedi dod adref dywedai'r hanes.
"Yr ydych yn rhy ffeind o lawer, Sadrac Jones. Yr ydych yn gwneud esgidiau dan gamp, ac yn gorfod aros am fisoedd am dâl, ac mi welais y bobl hynny<noinclude><references/></noinclude>
27n5mu9p59jygd4frhd8pwjnta699kj
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/31
104
69826
140255
2025-06-18T20:28:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140255
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y ffair, o gwmpas yr hen stondin yna, yn prynu esgidiau, ac yn talu amdanynt ar law."
"Y maent yn debyg o weld eu ffolineb cyn pen ychydig wythnose," dywedai Sadrac Jones. ""D oes neb a fedr wneud esgid iawn am y pris yna, heb iddo ladrata'r lledr. Ond, o ran hynny, nid lledr ydyn' nhw—dim ond papur wedi ei wneud i edrych fel lledr!"
"Digon gwir," dywedai Nansi Owen, ac mi ddaw'r teulu yna atoch chi i ofyn i chi drwsio 'r esgidiau. Hym! fuaswn i ddim yn gwneud ffasiwn beth. Mi deudwn wrthynt yn blaen am fynd â'r esgidiau i'w trwsio i'r un fan ag y daru nhw eu prynu. Ond wnewch chi mo hynny, mi wn, yr ydach chi yn rhy ffeind."
Ac erbyn hyn, byddai Sadrac wedi dod ato ei hun.
"Os ydach chi'n dweud y gwir, Nansi Owen, yr wyf yn hollol dawel. Mae'n well gen i gael yr enw o fod yn ffeind na bod yn grib-ddeiliwr. Ac i be yr ydw i'n siarad am ryw ddosbarth a fanteisia ar y ffair i gael bargen? Yr ydw i yn cael mwy na digon o waith, ac iechyd i'w wneud. Diolch am hynny."
Ac wedyn ymneilltuai Sadrac Jones i'w ystafell i ddarllen yr erthygl arweiniol yn ''Utgorn y Bobl'' ar "''Fasnach Rydd''."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mhan9etvdw2wypeyz8ydjgx4o7139sv
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/32
104
69827
140256
2025-06-18T20:49:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140256
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD VI.<br>{{mawr|NANSI OWEN.}}}}
Y MAE drama bywyd yn bod yn y pentre gwledig, tawel, fel yn y ddinas fawr a phoblog. Dichon nad oes ynddi nemawr o olygfeydd cyffrous ac anghyffredin yn y pentre, ac nid ydyw ei chylchdro ond bychan a chyfyngedig. Ond i'r sawl a fedd lygad i weled, a chlust i wrando, y mae rhyw ddiddordeb diddarfod mewn bywyd ym mhob man. Ac un o'r rhai gorau am sylwi a thynnu casgliadau oedd Nansi Owen y Llofft. Nid oedd yn arfer crwydro o dŷ i dŷ, ac ni pherthynai i'r tylwyth atgas a ddyfeisia chwedlau, a'u lledaenu yn llechwraidd a maleisus. Pe felly, ni fuasai yn gymeradwy gan Sadrac Jones; yr oedd ef wrth reddf natur yn casau enllib a chelwydd â'i holl galon. Ceuai ei glustiau rhag gwrando ar gelanedd, a ffieiddiai y sawl a wnai ddrwg i'w gymydog.
Ond sylwai Nansi Owen. Dyna ei harfer. Nid o ran chwilfrydedd yn unig y gwnai hynny, ond am fod y ddawn ganddi. Yn oriau ei hamdden, ac ar dywydd haf, eisteddai yn y gadair wellt yn ymyl ffenestr y Llofft. Ni byddai'n segur. Byddai'r "hosan" ganddi, a'r gweill disglair yn clecian rhwng ei bysedd. Ond medr rhai pobl ddiwyd wneud mwy nag un peth yn gydamserol. Gallai Nansi Owen wau, a sylwi yn ddi-goll. Yr oedd golygfa ddymunol o flaen ei llygaid. Ni flinai ar honno. Gwyddai am bob cae, gardd a bwthyn yn y fro. Sylwai ar y meysydd a'r llechweddau. Hyfryd fyddai cael ein gwahodd<noinclude><references/></noinclude>
bmb55q0mn7gw4kwz13gt6q3etpp2qi8
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/33
104
69828
140257
2025-06-18T20:50:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140257
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ganddi, ambell ddydd, i eistedd wrth y ffenestr, a'r haul yn goreuro'r bryniau pell. Ac os gwyddom rywbeth am swyn golygfeydd syml a hudolus, dyledus ydym, i gryn raddau, am hyn oll i'r cyfnod dedwydd hwnnw.
Yr oedd ganddi ddawn i sylwi ar bethau, ac yn enwedig ar fywyd y Pentre. Yr oedd ei ''safle'' yn fanteisiol, a chanddi hithau lygad craff. Yr oedd y Llofft iddi hi fel arsyllfa i'r seryddwr. Dilynai'r sêr yn eu graddau, a gwyddai am bob "comed" a ddeuai ar dro i orbit y Pentre. Rhyw gwch gwenyn cymdeithasol oedd Llanaber, a dichon fod rhai o'r trigolion yn perthyn i adran y gwenyn meirch," ac yn fwy tueddol i golynnu nag i gasglu'r mêl. Ond yr oedd Nansi Owen yn ddiogel rhag y colynnau, canys syllu ar y cyfan o bell oedd ei harfer hi.
Ac eto gallai wau stori'r Pentre, fel yr hosan oedd yn ei llaw, ar ddiwedd dydd. Gwyddai os byddai'r meddyg wedi galw mewn tŷ, a deallai os byddai rhyw brofedigaeth wedi digwydd. Weithiau deuai dieithrddyn i'r Pentre, a sylwai Nansi Owen ar ei wisg a'i wedd. Ac os ai i aros dros nos i'r Gwesty—yr unig un yn Llanaber—gwyddai nad oedd neb yn "perthyn" iddo yn y lle. Mae'n debyg yr adroddai hynny, adeg swper, i Sadrac Jones.
"Yr oedd golwg drwsiadus arno,—efallai ei fod yn rhyw ŵr bonheddig."
"A oedd ganddo gerbyd a cheffylau?"
"Na, ar ei draed y gwelais ef—a deuai o gyfeiriad Bryn Du."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0batibnebnv5xbyztqjb20azxy9k1py
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/34
104
69829
140258
2025-06-18T20:50:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140258
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hwyrach mai ''gwas'' gŵr bonheddig ydyw," dywedai Sadrac Jones. "Mae y rheiny yn gwisgo'n dda."
"Ydi o yn peidio â bod yn stiwart i'r Cyrnol Glyn? Mi glywais fod yr hen stiwart wedi colli'i le, a hwyrach mai dyma'r dyn newydd. Dichon ei fod wedi dod yma i weld drosto ei hun pa 'repârs' sydd eisiau ar y tai yn Lôn Isa. Ma 'nhw yn g'wilydd eu gweld, ac y mae'r tenantiaid wedi anfon at y Stiwart lawer gwaith, ond i ddim pwrpas hyd yn hyn."
"Gobeithio eich bod yn iawn, Nansi Owen; ond peidiwch â synnu os dod yma i godi'r rhenti y mae'r dyn diarth."
"Peth creulon fyddai hynny," ebe Nansi Owen, "a 'dydw i ddim yn meddwl, ar olwg y dyn, y gwnai'r fath beth."
Paham y craffai Nansi Owen gymaint ar y " dyn dieithr" a ddeuai i'r pentre? Gwnai hynny ers blynyddoedd lawer. A oedd hi yn disgwyl rhywun? Ni chrybwyllai hynny, ond yr oedd yn amlwg i'r sawl a wyddai orau fod ei meddwl yn cyffroi pan welai ryw estron yn dyfod ar hyd y ffordd i'r pentre. Nansi Owen! Ni wyddem ni'r plant am y "gofid cudd" oedd dan ei bron. Wedi hynny cawsom wybod. Yr oedd iddi hithau fachgen hoff—cannwyll ei llygaid, a heulwen ei bywyd. Ond ag ef yn llanc gwridog, hudwyd ef i adael ei gartref a'i ardal, i fynd i wlad bell. Nid oedd dim yn galw am iddo fynd—dim ond yr ysbryd aflonydd sydd yn gyrru rhai i eithafion byd, ysbryd anturio, a rhyw awydd anniwall am weled rhyfeddodau môr a thir. Ni ellid ei gadw o fewn terfynau cyfyng ardal wledig: yr oedd fel aderyn<noinclude><references/></noinclude>
k7iz2tgso3k840cc7nv4dx65v6gktar
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/35
104
69830
140259
2025-06-18T20:50:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140259
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mewn cell. A phan gafodd y drws yn agored, aeth ymaith i'w fyd ei hun. Bu tipyn o sôn am y peth dros dymor, ond daeth rhywbeth arall i fod yn destun siarad y pentre. Symudodd Nansi Owen o'r bwthyn ar fin y ffordd i'r Llofft, i weini ar Sadrac Jones. Llithrodd blynyddoedd ymaith; ond ni ddaeth gair o hanes y bachgen, Lewis Owen. Diflannodd y cof amdano yn yr ardal—dyna hanes y byd, popeth yn "myned heibio," a rhywbeth arall yn cymryd ei le. Nid felly yng nghalon mam."
Yr oedd hi'n disgwyl o hyd. A phan welai rywun dieithr yn ymlwybro i'r Pentre, deuai rhyw olau i'w llygad, a churai ei chalon yn gynt." Ac er ei siomi filwaith, ni flinai ddisgwyl.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
72fbh9e9o7pfwh7f2rlsnw2d24mtq60
140260
140259
2025-06-18T20:52:57Z
AlwynapHuw
1710
140260
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mewn cell. A phan gafodd y drws yn agored, aeth ymaith i'w fyd ei hun. Bu tipyn o sôn am y peth dros dymor, ond daeth rhywbeth arall i fod yn destun siarad y pentre. Symudodd Nansi Owen o'r bwthyn ar fin y ffordd i'r Llofft, i weini ar Sadrac Jones. Llithrodd blynyddoedd ymaith; ond ni ddaeth gair o hanes y bachgen, Lewis Owen. Diflannodd y cof amdano yn yr ardal—dyna hanes y byd, popeth yn "myned heibio," a rhywbeth arall yn cymryd ei le. Nid felly yng nghalon mam."
Yr oedd hi'n disgwyl o hyd. A phan welai rywun dieithr yn ymlwybro i'r Pentre, deuai rhyw olau i'w llygad, a churai ei chalon yn gynt." Ac er ei siomi filwaith, ni flinai ddisgwyl.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|PENNOD VII.<br>{{mawr|"BETH SYDD MEWN ENW?"}}}}
Ni feddai pentre Llanaber unrhyw hynodion allanol. Yn y pethau hyn yr oedd yn eithaf tebyg i lawer pentre arall. Rhedai dwy ffordd trwyddo ar ffurf croes. A phe buasech yn cychwyn o'r canolbwynt—rhyw sgwâr fechan-gallasech gyfeirio eich camre i'r un a fynnech o bedwar pwynt y byd! Cychwynasai aml un, ond nid aethant yn bell. Nid oedd ysbryd anturio yn gryf yn y trigolion. Dyna un gwahaniaeth rhwng pentre yn y wlad a phentre ar lan y môr. Huda cyfaredd yr eigion fechgyn y pentrefi ar finion y lli. Y mae antur yn berwi yn eu gwaed. Ond erys plant y
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
lt1mglblu363cr4fd4d6as7stm3y9q0
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/36
104
69831
140261
2025-06-18T22:17:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140261
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bythynnod a'r ffermydd gwledig yn eu cynefin, os gellir cael gwaith ar eu cyfer. O'r hyn lleiaf, felly yr ydoedd pethau gynt cyn i gyfleusterau teithio ymestyn i fannau oedd, i raddau, allan o olwg y byd. Cyfarfyddai'r bechgyn fin nos ar y sgwâr—croesffordd y pentre. Lle difyr oedd hwnnw. Rhyw argraffiad bychan oedd, mewn preint mân, o "Trafalgar Square," Llundain.
Yng nghanol y pentre yr oedd Eglwys y Plwy, a'r fynwent, â muriau uchel, hynafol, o'u hamgylch. Yr oedd y porth a'r "garreg farch" yn "siarad am hen amseroedd." Yr oedd delw hynafiaeth ar bopeth—y tô mwsoglyd, tŵr y gloch, a'r coed yw a estynnai eu cangau llaes dros "briddellau'r dyffryn." Ac eto ni wnai presenoldeb yr eglwys a'r fynwent mo'r pentre yn lle pruddglwyfus. Os oedd distawrwydd oddimewn i'r muriau yr oedd digon o dwrw ac afiaith oddi allan, pan ddeuai'r plant ynghyd ym min yr hwyr ar nos o haf-hirddydd haf! Y maent wedi chwalu erbyn heddiw—ambell un wedi mynd ymhell ac wedi gweld rhyfeddodau'r dinasoedd mawrion. Ond ar ambell funud breuddwydiol, rhoddent lawer am awr neu ddwy ar sgwâr y pentre bach—"Trafalgar Square," yn wir, peidiwch â sôn! Yng nghalon plentyn y mae sgwâr y pentre'n fwy ardderchog na dim a wêl ar daith droellog bywyd.
Ac wrth feddwl am y plant fu'n chwarae ar un cyfnod o gwmpas y "garreg farch" y tu allan i furiau mynwent y plwy, ni allwn lai na sylwi bod eu henwau-yr " enw bedydd "—yn enwau ysgrythyrol, wedi eu benthyca o'r Hen Destament a'r Newydd. Nid aent mor bell yn ol ag "Adda," ond yr oedd<noinclude><references/></noinclude>
ts968flfo9ede2r1v861bfsnzrhdbm2
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/37
104
69832
140262
2025-06-18T22:18:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140262
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Abram" yn eu plith. Ac yn eu tro ymhlith y lliaws deuai, Moses, Samuel, Ruth, Abigail, Dafydd, Solomon, a nifer o'r proffwydi. Sut y digwyddodd hyn?
Tybed mai dylanwad y Rhodd Mam ydoedd? Holid ac atebid "pennod yr enwau" yn fynych yn yr Ysgol Sul:
"Pwy oedd y dyn llarieithiaf?—Moses."
"Pwy oedd y dyn cryfaf?—Samson."
Nid anturiodd neb roddi enw "Samson" ar restr y plant, a chryn gamgymeriad oedd gosod enw "Solomon" ar fachgen na ddaeth i fysg y "doethion" yn ei ddydd.
Yr unig eithriad i'r rheol o roddi enwau Beiblaidd ar y bechgyn a'r genethod yn yr ardal oedd tylwyth Huw William y Felin. Yr oedd ef yn hanesydd o gryn fri, a darllennai lawer. Ei brif bwnc oedd y Diwygiad Protestannaidd, a chai enwau'r Diwygwyr a'u gwaith le mawr yn ei ymddiddanion. Dywedir bod y melinydd yn dueddol i droi'r "dŵr at ei felin ei hun." Digon tebyg. A medr ambell un nad ydyw felinydd wneud y gwaith hwnnw yn bur ddeheuig. Ond yn hanes Huw William arweiniai pob ymgom yn y Felin, a phobman arall, i'r un man. Gallai'r sgwrs gychwyn gyda phris yr yd, a sŵn y malu, ond byddai Huw William yn rhoi' "tro ar yr olwyn," ac yn dechrau sôn am y "Diwygiad Protestannaidd." Felly y gwnai hefyd ar y Saboth. Pan fyddai brawd yn "holi'r pwnc" yn yr Ysgol Sul ai Huw William at y "gair a'r dystiolaeth" yn ei farn ef,—yr hen esbonwyr, "hen ŷd y wlad."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
17nctc8k5vexlqymkv379bxr11mbmfz
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/38
104
69833
140263
2025-06-18T22:20:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140263
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Fel hyn y mae Calfin yn esbonio'r adnod."
Ac oni fyddai "Calfin" yn gyfleus, byddai "Luther " yn barod at yr alwad. Dadleuai eraill yn yr Ysgol Sul dros olygiadau mwy newydd—mwy diweddar; ond nid oedd dim a safai o flaen arwyr y "Diwygiad Protestannaidd." Ac nid isel fyddai "sŵn y malu" pan godai Huw William "fflodiart " y dyddiau gynt.
Yr oedd iddo ddau fachgen. Bedyddiwyd y naill yn" John Calfin," a'r llall yn "Martin Luther." Ni ddigwyddodd dim rhyfedd yn eu hanes hwy. Ym mhen rhai blynyddoedd troes "Calfin" at y Wesleaid, a diflannodd yr enw oedd mor bwysig yng ngolwg ei dad. Adwaenid ef o hynny allan fel "John C. Williams," a "Chalfin" a aeth i dir angof.
{{***|4|5em}}
Ryw ddydd, yn y gweithdy, gofynnodd un o'r cwmni,
"Sut y cawsoch chwi eich enw, Sadrac Jones?"
"Gan fy nhad a mam, wrth gwrs, yr un fath a chwithau."
"Ie, ond sut y cawsoch yr enw 'Sadrac' mwy na rhyw enw arall?"
"Wel, deud y gwir, mi fase'n llawn cystal gennyf gael enw mwy Cymreig. Ond 'd oes mo'r help am hynny, bellach, fel y mae gwaetha'r modd. 'D ydw i ddim am fynd mor bell â'r Gwyddel hwnnw a gredai y dylai dyn gael dewis ei ''dad a'i fam''. Ond yr wyf yn meddwl yn sobr y dylai dyn gael dewis ei enw. Meddyliwch am deulu yn rhoi yr enw "Boaz"—''gentleman farmer'' yn yr Hen Destament-ar fachgen<noinclude><references/></noinclude>
8mensajodb0u13v3azdagd9j2gcqeer
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/39
104
69834
140264
2025-06-18T22:21:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140264
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd i dreulio ei oes fel saer maen! ''Ffug''-enw noeth ydi peth felly."
"Rhoswch chwi, Sadrac Jones, onid ydyw'r beirdd y mae eu gwaith ar y sgrin' yma yn gwisgo ffug-enw?"
"Ydyn', wrth gwrs. Ond y nhw eu hunain sydd yn dewis hwnnw. Ac y mae'n rhaid cydnabod bod ambell un ohonynt wedi gwneud ''blunder'' ofnadwy."
"Sut hynny?"
Wel, dyma un wedi bedyddio ei hunan yn 'Eryr Bodabwy.' Dyn a'i helpo! 'Eryr! dim o'r fath beth. Buasai Robin Goch' yn nes at ei seis ef."
"Ie, ond beth am eich enw chwi?"
"Os rhaid i chwi gael gwybod, fechgyn, y mae'r stori yn debyg i hyn. Yr oedd fy nhad yn edmygydd mawr o'r 'tri llanc' ym Mabilon. Yr oedd eu llun yn y Beibl Teuluaidd a roesid yn anrheg iddo ef a mam ar adeg eu priodas. A oeddynt yn debyg i'r gwreiddiol—fedra'i ddim bod yn siwr. Ond meddyliai nhad y byd o'r darlun hwnnw, a phan anwyd fi, cefais fy medyddio yn 'Sadrac '—y cyntaf o'r tri. Wedi hynny daeth y mrawd, ac ennwyd yntau yn 'Mesac.' Hyd hynny yr oedd popeth yn dda. Yna, dryswyd y plan. Merch oedd y plentyn nesaf. Ni ellid ei galw hi yn Abednego,' am resymau digonol—enw bachgen ydi hwnnw. Ond er mwyn cael enw mor agos ag oedd yn bosibl o ran sain, bedyddiwyd hi'n 'Abigail.'"
"Llafurwr oedd y nhad, yn gweithio yn y ffermydd, ond yr oedd yn awyddus i roi ''crefft'' i'r plant. Ac felly y daeth 'Sadrac' yn grydd; Mesac' yn deiliwr, ac 'Abigail' yn wniadwraig. Fi ydi'r unig<noinclude><references/></noinclude>
axetpgljr73shj4urt6jels1o5r68ae
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/40
104
69835
140265
2025-06-18T22:22:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140265
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un o'r tri sydd wedi aros yn yr ardal yma. Aeth 'Mesac' i gadw busnes i un o drefi Lloegr. Y mae 'Abigail' wedi ymfudo i'r Merica ers blynyddoedd, ac wedi dod ymlaen yn dda iawn. Hi oedd yr ieuengaf ohonom—tua'r un oed â Lewis, bachgen Nansi Owen. Aeth yntau i ffwrdd i rywle pell, ond hwyrach y daw yn ol."
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|PENNOD VIII.<br>{{mawr|HELA'R LLWYNOG.}}}}
TRINID llawer o bethau yng ngweithdy Sadrac Jones. Os oedd Llanaber i gryn raddau o olwg y byd, deuai "helynt y byd hwn" yno, ar ei dro, fel yr ymlêd tonnau'r môr i gilfachau pell. Parai ei dyfodiad gyffro a siarad, ac am ennyd newidiai bywyd ei liw a'i flas. Un o'r digwyddiadau cynhyrfiol hynny oedd yr ''hunt'', fel y gelwid y peth ar lafar gwlad. Ystyr hynny ydoedd "hela'r llwynog." Ac yr oedd Llanaber, neu yn hytrach, yr ardal o amgylch, yn digwydd bod ar lwybr yr ymgyrch, fel y mae ambell bentref heddiw ar y ''main-line'' i'r brifddinas. Ond nid oedd ''time-table'' dyfodiad yr ''hunt'' mor sicr ag eiddo'r ffordd haearn. Dibynnai cwrs yr helfa i gryn fesur ar y llwynog ei hun! Gallai ef gymryd ei lwybr ei hun, oherwydd y mae, yn ol barn y cyfarwydd amdano, yn greadur llawn o ddyfais ac athrylith. Pe amgen, ni fuasai'n werth ei "hela " o gwbl. Gadewir y dôf a'r gwâr yn llonydd, ond am y gwyllt <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
8gdzdw1yow92so28v362w16fr46i173
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/41
104
69836
140266
2025-06-18T22:24:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140266
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r anturus rhaid ei "hela" ef ym mha le bynnag y bo. Yr oedd rhai o drigolion Llanaber mewn cydymdeimlad â'r llwynog,' a phe gwelent ef ar ffo o flaen ei erlidwyr, ni cheisient ei atal ar ei hynt. Rhoid chwarae teg iddo ddianc, os gallai. Pob peth a ddyry LLWYNOG am ei einioes. Yr oedd eraill yn wahanol, ac yn orawyddus am iddo gael ei ddal a'i flingo, am y credent iddo fyrhau einioes ieir a gwyddau yn yr ardal.
Ond yr oedd un peth yr oedd pawb oll yn unfryd amdano, ac yn awyddus i'w weld drostynt eu hunain, nid amgen, yr ''olygfa'' a geid am ychydig o amser ar ddydd mawr yr "hela llwynog."
"Ydach chi'n meddwl y daw yr ''hunt'' ffor' yma, Sadrac Jones?"
"Y mae yn siwr o ddwad, oni bydd y llwynog wedi ei ddal yng Nghraig y Garth."
"Ydach chi am weithio fory?"
"Dim strôc, nes bydd yr ''hunt'' wedi mynd o'r golwg. Ond rhaid i chi beidio â myddaru fi heddiw. Rhaid i mi orffen y pâr sgidia yma cyn nos. Ewch at y sgrîn yna. Welwch chwi gân yn y gornel bella—Cerdd Hela' y gelwir hi?"
"Dyma hi, Sadrac Jones. Pwy a'i gwnaeth
"Edrychwch ar yr enw sydd yn y gwaelod. Beth ydi o?"
"John Blackwell (Alun)."
"Ie, siwr. A ''chrydd'' oedd yntau cyn iddo fynd yn berson plwy. 'Rwan, darllennwch dipyn o'r gân a wnaeth o pan arosai'n Sir Drefaldwyn."
Ninnau yn darllen:—
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
j1ethbiczhhauj3uz1z0ypwedloucw3
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/42
104
69837
140267
2025-06-18T22:28:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140267
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{center block|
<poem>
"Mae awelon dydd yn deffro,
Gwelwch ruddiau'r bore'n gwrido:
A glywch chwi sain corn hela'r Gelli,
Yn rhoi tafod i'r clogwyni?
Twrf helyddion—cŵn yn udo,
Popeth megis yn cyd-floeddio—
Heddiw ydyw'r dydd i ddala
Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa."
</poem>
}}
<br>
Dyna i chi ddyn wedi gweld yr ''hunt'', ac yn medru ei disgrifio yn gampus. Ewch ymlaen at y pennill lle y mae o yn darlunio'r 'cŵn hela,' ac yn rhoi eu henwau."
{{center block|
<poem>
"Gwelwch, ni wna nant na chlogwyn
Beri i ''Nimrod'' ŵyro mymryn:
''Leader, Guider, Topper, German,''
Fel yn hedeg drwy Gwm-aman:
''Ringwood, Famous, Countess, Collier,''
''Blucher, Stately''—am gyflymder,
Haeddant sylw yng ngherdd hela
Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa."
</poem>
}}
<br>
"Bobol annwyl! dyna i chwi ''farddoniaeth''! Onid oes yna fiwsig yn ENWAU y cŵn hela? Yr wyf yn dotio arnynt. Ond dyna ddigon heddiw, neu ni allaf byth orffen yr esgid yma."
{{***|4|6em}}
Drannoeth, yr oeddym wedi codi heb i neb ein galw. Yr oedd pawb yn effro'r bore hwnnw, ac ni allai neb wneud "strôc o waith " nes deuai'r ''hunt'' ar draws y wlad. Ymffrostiai rhai o'r hen bobol yn y ffaith iddynt fod yn dystion o'r olygfa am dros han-<noinclude><references/></noinclude>
e53rguisvfmfhc9mhsbxvaxt4swrtbu
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/43
104
69838
140268
2025-06-18T22:29:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140268
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ner cant o flynyddoedd, ac yr oeddynt yn ail fyw dyddiau eu mebyd. Aethom gyda Sadrac Jones i ben craig fel y gallem weled yr holl wlad. Ac yn y man dyna sŵn y corn hela yn dod gyda'r gwynt o'r pellter, ac O! y teimladau a'n meddiannai. Yr oedd yr ''hunt'' yn dod, er nad oedd eto yn y golwg. "Dacw nhw!" ebe Sadrac Jones, "yn dod dros ffriddoedd y Clegir Mawr." Daeth y fintai yn nes, a gwelem y cotiau cochion, a'r meirch yn carlamu ar draws y caeau, yn neidio dros y ffosydd a'r gwrychoedd, a'r cŵn yn cyniwair ar bob llaw. Ond, yn sydyn, dyna'r cŵn yn crynhoi at ei gilydd, yn tynnu eu hanadl atynt, ac yna yn cydgychwyn fel llinyn unionsyth, a'r meirch yn carlamu ar eu holau.
"Mae nhw wedi cael y trywydd 'rwan," ebe Sadrac Jones. "D ydi'r llwynog ddim ymhell. Mi gewch glywed y corn yn canu toc."
Aeth y fintai o'r golwg i lawr y gelltydd, ac ai cyfarthiad y cŵn yn wannach, wannach. Ond ym mhen cryn amser gwelid y cŵn yn dychwel dros y clogwyn, a'r "helsman" yn clecian ei chwip.
"Y mae o wedi eu gwneud nhw'r tro yna," ebe Sadrac Jones.
"Pwy?"
"Ond y llwynog, debyg iawn. Mae'n bosib ei fod yn berthynas i'r llwynog hwnnw yr oedd Alun yn sôn amdano,—"Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa.' Ond, 'rhoswch, dacw Wil Troed Buan' yn rhedeg at yr helsman.' Synnwn i ddim nad ydi Wil wedi cael cip ar y llwynog. Mae o yn gweled fel cath."
Ac yn sicr, felly yr oedd. Canodd y "corn hela," daeth y byddigions' oedd ar wasgar i'r un lle, a<noinclude><references/></noinclude>
ijxgm1hyjmg8pfq9qhd38oft8zw6q6e
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/44
104
69839
140269
2025-06-18T22:29:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140269
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gostegwyd y cŵn gan yr helsman.' Yna cychwynnwyd eilwaith i gyfeiriad gwahanol, ac aethant o'n golwg.
"Waeth i ni heb aros yma yn hwy," ebe Sadrac Jones. "Yr ydym wedi gweled y cwbl sydd i'w weld heddiw."
Yr oedd y gyfaredd drosodd, a ninnau'n cofio bod arnom eisiau bwyd!
Drannoeth adroddai'r plant eraill eu hanes-rhai ohonynt yn byw yn lled bell o'r pentre. Yr wyf yn cofio stori Dafydd Glandŵr. Cymerasai ef ei safle ar ben llidiart yn agos i'w gartref. Daeth yr helwyr ar draws y cae fel corwynt, a phob un yn rhoddi naid dros y clawdd drain. Ond yr oedd yno un boneddwr hŷn na'r lleill. Daeth ef ar hyd y ffordd oedd yn pasio tŷ Glandŵr. Neidiodd Dafydd i lawr, ac agorodd y llidiart.
"Diolch i chwi, 'machgen i," ebe'r hen fonedd
"Mi fûm innau yn medru neidio dros bob gwrych a chlawdd, ond y mae'r amser hwnnw wedi mynd drosodd."
Estynnodd ei law, a rhoddodd bisin chwecheiniog i Dafydd am agor y llidiart—"chwech gwyn."
"Gwell i ti adael i mi gadw hwn," ebr ei fam, "i gofio am y diwrnod, a'r gŵr bonheddig ffeind."
"Gaf fi fynd a fo i'w ddangos i'r bechgyn yn yr ysgol?" ebe Dafydd.
"Cei, siwr; ond gofala am beidio â'i wario."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1qpw0lk5kurvsu3o35bhs63swv5qnht
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/45
104
69840
140270
2025-06-18T22:55:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140270
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD IX.<br>{{mawr|Y CRWYDRYN.}}
Y MAE i bob peth yn y fuchedd hon ei adeg a'i dymor. Dyna drefn natur, ac y mae pob perchen greddf yn ei dilyn. "Yr ych a edwyn ei feddiannydd a'r asyn breseb ei berchennog." Ac yr oedd dosbarth tebyg o'r hil ddynol yn arfer ymweled ag ardal Llanaber ar adegau neilltuol o'r flwyddyn. Sut y daeth y trefniant hwnnw i fod, anodd fyddai penderfynu. Perthynai'r tylwyth teithiol hynny, mewn rhyw ystyr, yn lled agos i'r ych a'r asyn. Deiliaid ''greddf'' oeddynt i gryn raddau, ac fel yr ych a'r asyn yn dibynnu am eu porthiant ar garedigrwydd pobl eraill. Nid oeddynt nac yn llafurio nac yn nyddu, er eu bod yn lled hoff o "gywain i ysguboriau" os byddai'r ffermwyr yn caniatau, nid i ddyrnu'r yd na'i nithio, ond yn hytrach i orffwys dros nos. Yr ysgubor neu'r beudy fyddai ''bungalow'' crwydraid yn y dyddiau gynt. Deuent yno ym min yr hwyr, ac yr oedd yn ddefod gwlad i roddi "swper" iddynt, a siars bendant i beidio â golau' matsys' yn yr ysgubor rhag digwydd i'r gwellt fynd ar dân. Fel rheol, yr oeddynt yn greaduriaid eithaf diniwed, ac ni fyddent yn arfer lladrata eiddo neb. Yr unig neges oedd ganddynt ydoedd "hel eu bwyd," ac ni warafunai'r sawl a'u hadwaenai hynny iddynt. Ac yr oedd ganddynt ddawn i fwyta! Gallent ddal ati heb flino dim drwy gydol y dydd. Ni phoenid hwy gan yr hyn a elwir yn "ddiffyg treuliad." Bu Sadrac Jones, un adeg, yn dioddef oddi wrth yr anhwyldeb hwnnw. Ni<noinclude><references/></noinclude>
1fjt7an88sl97yxygtxg94nsaa0i0kg
140271
140270
2025-06-18T22:56:07Z
AlwynapHuw
1710
140271
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD IX.<br>{{mawr|Y CRWYDRYN.}}}}
Y MAE i bob peth yn y fuchedd hon ei adeg a'i dymor. Dyna drefn natur, ac y mae pob perchen greddf yn ei dilyn. "Yr ych a edwyn ei feddiannydd a'r asyn breseb ei berchennog." Ac yr oedd dosbarth tebyg o'r hil ddynol yn arfer ymweled ag ardal Llanaber ar adegau neilltuol o'r flwyddyn. Sut y daeth y trefniant hwnnw i fod, anodd fyddai penderfynu. Perthynai'r tylwyth teithiol hynny, mewn rhyw ystyr, yn lled agos i'r ych a'r asyn. Deiliaid ''greddf'' oeddynt i gryn raddau, ac fel yr ych a'r asyn yn dibynnu am eu porthiant ar garedigrwydd pobl eraill. Nid oeddynt nac yn llafurio nac yn nyddu, er eu bod yn lled hoff o "gywain i ysguboriau" os byddai'r ffermwyr yn caniatau, nid i ddyrnu'r yd na'i nithio, ond yn hytrach i orffwys dros nos. Yr ysgubor neu'r beudy fyddai ''bungalow'' crwydraid yn y dyddiau gynt. Deuent yno ym min yr hwyr, ac yr oedd yn ddefod gwlad i roddi "swper" iddynt, a siars bendant i beidio â golau' matsys' yn yr ysgubor rhag digwydd i'r gwellt fynd ar dân. Fel rheol, yr oeddynt yn greaduriaid eithaf diniwed, ac ni fyddent yn arfer lladrata eiddo neb. Yr unig neges oedd ganddynt ydoedd "hel eu bwyd," ac ni warafunai'r sawl a'u hadwaenai hynny iddynt. Ac yr oedd ganddynt ddawn i fwyta! Gallent ddal ati heb flino dim drwy gydol y dydd. Ni phoenid hwy gan yr hyn a elwir yn "ddiffyg treuliad." Bu Sadrac Jones, un adeg, yn dioddef oddi wrth yr anhwyldeb hwnnw. Ni<noinclude><references/></noinclude>
r6kkwsc31s63hs455h416qgy2kxrz0z
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/46
104
69841
140272
2025-06-18T22:56:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140272
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>theimlai ddim archwaeth at fwyd, ac yr oedd Nansi Owen wedi mynd i ofni amdano. 'Dydi o'n bwyta dim mwy na chyw deryn," meddai, "a dim rhyfedd, chwaith; sut y gall dyn gael blas ar ei ymborth ac yntau'n aros yn yr hen weithdy yna o fore i hwyr yng nghanol arogl lledr a chŵyr crydd? Mi ddyle fynd allan yn amlach; ond waeth i mi heb ddeud wrtho. Dowch at eich swper, Sadrac Jones."
Wyddoch chi beth, Nansi Owen, mi fuaswn yn rhoi cryn lawer pe cawswn i fenthyg stumog Twm Pirs."
{{***|4|6em}}
Yr oedd pawb yn yr ardaloedd yn adnabod Twm, ac ni fyddai neb yn gâs wrtho. Deuai yn ei dro, tua'r un adeg, y naill flwyddyn ar ol y llall. O ran ei olwg, nid oedd nac yn ieuanc nac yn hen. Yr oedd yn drwm o gorff, â wyneb fel lleuad lawn, a cherddai'n araf a phwyllog Ni welwyd ef yn rhedeg erioed, canys nid oedd arno eisiau dal y trên na dim arall. Un o'r gwŷr traed oedd Twm Pirs, ac yr oedd ei esgidiau yntau, fel yr eiddo cenedl Israel yn yr anialwch, yn gorfod gwisgo'n hir. Trwsiai Sadrac Jones dipyn arnynt pan ddeuai Twm ar ei ymweliad blynyddol â'r gweithdy. Rhoddai eraill iddo hen ddillad wedi eu "troi heibio," a chan nad oedd gan Twm ystafell i'w cadw cludai'r cwbl amdano, ac ymddangosai fel siop ddillad symudol. Sut y medrai gerdded â'r fath lwyth oedd ddirgelwch i bawb ond iddo ef ei hun. Golwg digon afluniaidd oedd arno, ond yr oedd mor ddiniwed fel yr oedd pawb yn hollol dawel. Ni lechai'r plant o'r neilltu pan ddeuai Twm at y tŷ, a chaniatâi hyd yn<noinclude><references/></noinclude>
1b42ke68kxzmtv62tuoqhh8zsj8q8bm
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/47
104
69842
140273
2025-06-18T22:57:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140273
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oed y cŵn iddo fynd a dod trwy'r buarth. Dichon y dechreuai ambell gi gyfarth, a rhuthro at y llidiart. Ond, wedi sylwi, deuai yn ol, fel pe yn dweud wrtho ei hun: "Dim ond Twm Pirs sydd yna; nid yw yn werth ei gyfarth ef."
Cai Twm fwyd a llety yn rhad, ond edliwiai rhai o'r ffermwyr iddo na wnai ddim i dalu am ei fwyd. Ac un tro tybiodd John Llwyd, Dôl Gam, y gallai berswadio Twm Pirs i fod yn ddefnyddiol. Yr oedd y brain fel pla yn y cae lle'r oedd y maip a'r rwdins. Ai John Llwyd at y gwrych gyda'i wn, a thaniai ergyd. Chwalai'r fintai am ennyd, ond gwyliai'r pickets y dyn â'r gwn, ac wedi iddo droi ei gefn rhoddent arwydd i'r fintai fod y maes yn glir.
Meddyliodd am fynd ati i lunio yr hyn a elwir yn "Fwgan Brain," a'i wisgo â hen ddillad a het fawr. Ond daeth Twm Pirs yno ar ei dro, ac wedi treulio noson yn y sgubor a chael breswast aeth at y tŷ i ddiolch am ei fwyd, yn ol ei arfer. Dyna gyfle John Llwyd wedi dod.
"Hoffet ti wneud rhywbeth i'n helpu gyda gwaith y fferm yma, Twm?"
"Beth fedra i wneud, mistar bach?"
"Dim ond mynd i'r cae maip acw i ymlid y brain i ffwrdd. Y cwbl sydd eisiau i ti wneud ydi sefyll yng nghanol y rhesi maip ac ysgwyd dy freichiau. phan glywi di'r corn cinio tyrd i'r tŷ i fyta efo'r gweision, ac mi gei chwecheiniog y dydd am dy waith."
"O'r gorau," ebe Twm Pirs.
Aeth i'r cae, ac yr oedd yr olwg arno yn ddigon i ddychryn y brain. Yr oeddynt yn gyfarwydd â<noinclude><references/></noinclude>
o81f5zgjltkrlqdxa6w8vh5hyeg38sj
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/48
104
69843
140274
2025-06-18T22:57:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140274
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"bwgan," ond ysgydwai hwn ei freichiau, a medrai droi ei ben i edrych arnynt. Ond yr oedd y bore yn desog a mwll, a daeth rhyw drymder i lethu Twm Pirs. Methai â chadw ei lygaid yn agored, ac yn raddol a diarwybod iddo'i hun syrthiodd i'r llawr, a gorweddodd rhwng y rhesi maip. Aeth yr oriau heibio; canodd y corn cinio," ond nid oedd hanes am Twm. Aeth John Llwyd i olwg y cae maip; gwelai'r brain wedi disgyn yn gatrodau duon, ac yn difa'r cnwd.
Ple'r oedd Twm, tybed? Dichon iddo flino ar ei swydd, ac ymado i rywle arall. Dychwelodd John Llwyd i'r tŷ. Cymerodd y gwn ar ei ysgwydd, a chyfeiriodd dan gysgod y clawdd i ymyl y cae. Taniodd ergyd. Cododd y brain ar eu hedyn. Deffrodd Twm o'i drwmgwsg, a chododd ar ei eistedd.
Dyna ergyd arall! Chwalai'r mwg glas uwchben y llecyn yr oedd Twm wedi dihuno ynddo, a chredai yntau ei fod wedi ei glwyfo yn farwol. "Yr ydw'i wedi fy saethu'n gelain," meddai, a disgynnodd yn ddiymadferth rhwng y rhesi maip. Gorfu i John Llwyd fynd yno i'w godi, a gwaith mawr oedd ei berswadio y gallai gerdded cam.
Methiant oedd Twm Pirs ym mhob cylch o fywyd. Methiant fu fel "hogyn gyrru'r wedd" oes, a methiant fu fel "bwgan brain."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
dgi12ku29j9ytkin9vsza4woxpa62hg
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/49
104
69844
140275
2025-06-18T23:16:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140275
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD X.<br>{{mawr|"Y SAMARITAN."}}}}
YN nyddiau mebyd ni wyddem nemawr am un pentre ond yr un yr oeddym yn byw ynddo. Nid oedd oes y ''charabancs,'' a'r gwibdeithiau pell wedi gwawrio, ac nid oedd ''trip''—y gair clasurol hwnnw!—wedi ei gysylltu a'r Ysgol Sul. Rhoddai ambell un hael ei galon wledd o dê a bara brith i'r plant, ac enillent anfarwoldeb yn eu golwg hwy! Ond, yn y dyddiau hynny, ychydig o "fara brith" a welid ar ford y werin. Ni chyfaneddai nemawr o gyfoethogion yn ardal Llanaber. Yr oedd y lle yn rhy ddinod. Fe ddichon bod gŵr Plas Teg yn eithriad. Yr oedd ef yn dir-feddiannydd, ac yn berchennog y Felin Wen. Ef a gynrychiolai'r plwy fel Gwarcheidwad, ac ef yn unig a dderbyniai llythyrau â'r gair "Ysw." ar yr amlen—"Joseff Lloyd, Ysw." Derbyniai Sadrac Jones ambell lythyr wedi ei gyfeirio fel hyn: "Mr. Sadrac Jones, Shoemaker, Llanaber." Methem ni'r plant â deall y dirgelwch. Ond dywedai Sadrac Jones mai felly yr oedd yn briodol. Derbyniai gŵr y Plas Teg y teitl yn rhinwedd ei swydd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid.
"Y mae yna wahaniaeth go fawr rhwng ''gwaith'' a ''swydd''," ebe Sadrac Jones, "er eich bod chwi yn rhy ifanc i wybod am bethau dyrys o'r fath. Meddyliwch amdanaf fi yn gwneud esgidiau,—''gwaith'' ydi hwnnw, a gwaith lled galed, hefyd. Ond ''swydd'' ydi bod yn ''Guardian'' y plwy, ac y mae'n rhaid cydnabod<noinclude><references/></noinclude>
lj4bb0kn4yisbpwwgxipe6khvbym0v4
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/50
104
69845
140276
2025-06-18T23:17:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140276
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y peth. Fydd neb yn rhoi "Mr." o flaen fy enw i, ond ar gâs llythyr; ond pe buasech yn anfon llythyr at ŵr Plas Teg, ac yn anghofio rhoi "Ysw." ar ol ei enw, wn i ddim beth fuasai'n digwydd. Y mae'r gyfraith yn fanwl iawn gyda phobl mewn swydd."
Arferai gŵr arall ddod i Lanaber unwaith yn yr wythnos, ac yr oedd yntau yn dal swydd bwysig yn enwedig i'r bobl dlodion—ynglŷn â Bwrdd y Gwarcheidwaid. Ei enw ar dafod yr ardal oedd "Mistar Mason," ac ef oedd y swyddog elusennol," neu, a siarad yn iaith y pentre, y "Lifin-Offis." Dyn tal, main, a golwg llym arno ydoedd ef, ac yn siarad yn uchel ac awdurdodol. Arferai gymryd ystafell ar gornel y pentre, ac yno y deuai'r "tlodion," yr afiach, y llesg, gweddwon ac amddifaid, i dderbyn eu dogn wythnosol o'r "plwy." Nid oedd ond bychan ddigon, canys ni ddaethai "blwydd-dal yr hên" i fod am lawer blwyddyn wedi hynny. Ni hoffai neb fynd at y "Lifin-Offis " hwnnw, ond rhaid i'r tlawd geisio anghofio ei deimladau yn fynych. Fe ddichon y cwynai ambell un fod y pau" ''(pay)'' yn ychydig, a'i fod yntau yn methu â chael ymborth ac ymgeledd dyladwy. Ond yr oedd gan y "Lifin Offis" ffordd effeithiol i ddistewi'r cyfryw rai, ac i osod ei arswyd arnynt. "Onid ydych yn fodlon ar eich siâr," meddai, "'d oes dim i'w wneud ond anfon ordor i chi fynd i'r workhouse." Dyna ystyr y peth, ond gair byrrach a ddefnyddiai'r swyddog,—Rhaid i chi fynd i'r 'Hows.'" Ac yr oedd ar bawb fyddai " ar y plwy" ofn y lle hwnnw. "Mynd i'r 'Hows'!" Gwell fuasai marw ar fin y ffordd. Dyna'r argraff oedd yn bod cyn gweddnewid y ''workhouse''<noinclude><references/></noinclude>
42y9gdv7ych5ceu3uew0yvjf538xnyj
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/51
104
69846
140277
2025-06-18T23:18:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140277
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gan ddyngarwyr a wyddai am gyni'r tlawd a'r anghenus.
Ond yr oedd y "Samaritan"—cyfaill y dyn a syrthiodd ymhlith lladron--yn bod yn nyddiau'r deddfau celyd, ac ysbryd yr Efengyl yn gorffwys ar ei gymwynasau.
Ryw ddydd daeth y newydd i'r pentre fod Twm Pirs, y crwydryn, wedi ei gael yn gorwedd mewn llesmair ar fin y ffordd. Yr oedd yr hin yn eithafol o boeth, a dichon mai'r gwres oedd wedi ei orchfygu. Aeth y llanc a'i gwelodd wedi cŵympo i'r llawr i ffermdy oedd yn ymyl i hysbysu'r peth. Daeth y gweision gydag ef yn ol, ond yr oedd Twm Pirs, druan, yn gwbl ddiymadferth, ac ni chymerai sylw o ddim. Beth a ellid ei wneud ag ef? Ni ellid ei adael i drengi ar y ffordd. Ac nid oedd un o'r gweision yn abl i'w gario ar ei gefn. Ond y diwedd fu iddynt godi llidiart y cae oddi ar ei echel, a rhoi Twm Pirs i orwedd arno. Ac yn y dull hwnnw y cludwyd ef i'r ysgubor, a'i ddodi ar wely o wellt. Nid oedd y ffermwr yn fodlon iddo aros yno. Pa ddyled oedd arno ef i roddi llety i grwydryn? Gwaith y "plwy" oedd edrych ar ol cymeriadau o'r fath, yn fyw a marw. Ac yn hytrach nag anfon am y meddyg, anfonodd un o'r gweision i ddweud wrth y "Lifin-Offis am ddod yno, er mwyn symud Twm Pirs o'r ysgubor i'r "Hows."
Aeth y gwas i'w ffordd, a chan ei fod yn mynd trwy'r pentre, amlygodd y bobl awydd i wybod helynt Twm Pirs; ac wedi dweud yr hanes amlygai'r gwas ei fod ar frys. "Eisiau mynd i 'nol y ' Lifin-Offis' i fynd a Twm Pirs i'r 'Hows.'"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
i1bnx7ej33pkm1ci8nj0iwsbw69hh3s
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/52
104
69847
140278
2025-06-18T23:19:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140278
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Druan ohono," ebe rhywun o'r heol; "dyna'r lle gorau iddo fo, os caiff o fyw i fynd yno."
Rhedodd un o'r bechgyn i ddweud y newydd wrth Sadrac Jones, a gwelwodd ŵyneb Sadrac.
"Twm Pirs wedi ei daro'n sâl! Ble mae o, rwan?"
"Yn sgubor Cae Glas, ac y mae nhw am fynd a fo i'r Hows."
'Na, chaiff Twm Pirs ddim mynd i'r fan honno," ebe Sadrac Jones.
Ac yna galwodd ar Nansi Owen.
"Y mae arnaf eisiau i chwi wneud cymwynas," meddai. "Trefnwch y gwely sydd yn y stafell wag, a gwnewch y lle mor gysurus ag y medrwch.
Twm Pirs wedi ei daro'n wael iawn, ac y mae nhw yn trefnu i fynd a fo i'r 'Hows.' Ond chaiff o ddim ei lusgo i'r lle hwnnw. Mi âf i'w nol o yma, ac mi wnawn ein gorau iddo fo."
Yr oedd Nansi Owen fel un wedi ei syfrdanu. Tybed fod Sadrac Jones wedi mynd o'i bwyll? Ond y cwbl a ddywedodd oedd, "Mi wnaf bopeth a fedraf i wneud y lle'n barod."
Aeth Sadrac Jones i'r gwesty, a llogodd gerbyd. Yna aeth rhagddo i'r Cae Glas. Yr oedd Twm Pirs wedi agor ei lygaid, a daeth rhyw oleuni rhyfedd i'w wyneb llwyd, er na allai yngan gair. Codwyd ef yn dyner i'r cerbyd, ac wedi iddynt gyrraedd tŷ Sadrac Jones dodwyd ef i orwedd ar wely esmwyth yn yr ystafell wag. Ac yno y bu am wythnosau, a'i fywyd fel pendil cloc yn symud ol a blaen ar ffiniau deufyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
8nvposo5qf6plxfb3p56wkksktyfh27
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/53
104
69848
140279
2025-06-18T23:19:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140279
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond yn raddol dechreuodd wella, a rhyfedd y gwahaniaeth oedd ynddo rhagor y dyddiau gynt. Aethai ei ''feddwl'' trwy ryw gyfnewidiad distaw yn ystod ei selni trwm.
Ni fu Twm Pirs yn "grwydryn" ar ol hynny. Cafodd le fel gweithiwr ar ystâd boneddwr a wyddai am y gymwynas a wnaethai Sadrac Jones, ac ni fu gan y boneddwr achos i edifarhau. Deuai Twm Pirs ar adegau i dalu ymweliad â Sadrac Jones, ac nid oedd ball ar ei ddiolchgarwch am y gofal a'r tynerwch a gawsai ganddo ef a Nansi Owen.
"Wedi achub y mywyd i," ebe Twm Pirs, â'r dagrau yn ei lygaid. "Y chi ddaru nghadw i rhag mynd i'r Hows." "
"Paid a sôn am beth felly, rwan," ebe Sadrac Jones, dan wenu, "a thithau'n byw fel gŵr—bynheddig. Yr wyt ti yn edrych ar ol dy gyflog, onid wyt?"
"Ydw," ebe Twm Pirs, "ond"
"Ond beth?"
"Mi fûm yn y dre yr wsnos ddiwetha, yn y cerbyd efo mistar, ac mi brynes bresent bach. (Nid oedd Nansi Owen yn y tŷ ar y pryd). Dyma fo. ofynnis i'r siopwr bigo rhywbeth neis."
Agorodd Sadrac y parsel.
"Shôl newydd grand! Mi fydd Nansi Owen wedi rhyfeddu. Rhaid i ti aros nes daw hi yma."
"Na, mi wnewch chwi ei rhoi iddi drosta i. Dim ond deud, Presant bach gan yr hen Dwm Pirs.'"
Ac ymaith ag ef.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
c0n3uz1ij78e5lyyhphvhigfz5c6y26
140280
140279
2025-06-18T23:20:25Z
AlwynapHuw
1710
140280
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond yn raddol dechreuodd wella, a rhyfedd y gwahaniaeth oedd ynddo rhagor y dyddiau gynt. Aethai ei ''feddwl'' trwy ryw gyfnewidiad distaw yn ystod ei selni trwm.
Ni fu Twm Pirs yn "grwydryn" ar ol hynny. Cafodd le fel gweithiwr ar ystâd boneddwr a wyddai am y gymwynas a wnaethai Sadrac Jones, ac ni fu gan y boneddwr achos i edifarhau. Deuai Twm Pirs ar adegau i dalu ymweliad â Sadrac Jones, ac nid oedd ball ar ei ddiolchgarwch am y gofal a'r tynerwch a gawsai ganddo ef a Nansi Owen.
"Wedi achub y mywyd i," ebe Twm Pirs, â'r dagrau yn ei lygaid. "Y chi ddaru nghadw i rhag mynd i'r Hows." "
"Paid a sôn am beth felly, rwan," ebe Sadrac Jones, dan wenu, "a thithau'n byw fel gŵr—bynheddig. Yr wyt ti yn edrych ar ol dy gyflog, onid wyt?"
"Ydw," ebe Twm Pirs, "ond{{bar|2}}"
"Ond beth?"
"Mi fûm yn y dre yr wsnos ddiwetha, yn y cerbyd efo mistar, ac mi brynes bresent bach. (Nid oedd Nansi Owen yn y tŷ ar y pryd). Dyma fo. ofynnis i'r siopwr bigo rhywbeth neis."
Agorodd Sadrac y parsel.
"Shôl newydd grand! Mi fydd Nansi Owen wedi rhyfeddu. Rhaid i ti aros nes daw hi yma."
"Na, mi wnewch chwi ei rhoi iddi drosta i. Dim ond deud, Presant bach gan yr hen Dwm Pirs.'"
Ac ymaith ag ef.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
cplo4dhs2971beq17s81x8iiaogzaue
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/54
104
69849
140281
2025-06-18T23:38:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140281
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD XI.<br>{{mawr|YR ESGID A'R GAN.}}}}
YR oedd Sadrac Jones wedi cyflogi gweithiwr. Buasai'r peth yn ei feddwl lawer tro, yn enwedig ar adeg brysur yn ei hanes. Ond gohirio'r drafodaeth fyddai'r diwedd. Nid hawdd oedd ganddo wneud cyfnewidiad yn ei ddull o fyw. Ond, fel rheol, digwydd pethau o'r fath yn sydyn ac annisgwyliadwy. Yr oedd Sadrac Jones yn brysurach nag arfer. Y mae'n debyg i'w gymwynas garedig i Twm Pirs yn ei waeledd effeithio'n ddistaw ar bobl yr ardal. Gwyddai pawb ddarfod iddo aberthu llawer mewn amser a chysuron i gynorthwyo'r truan a'r anghenus. Fodd bynnag, yr oedd y llanw yn troi o'i du, a chwsmeriaid newydd yn dod ato yn feunyddiol. Ac eto ni chymellai Nansi Owen ef, yn ol ei harfer, i geisio gweithiwr. Fe ddichon ei bod hi wedi blino ar y gorchwyl, gan deimlo bod y "bregeth" yn hollol aflwyddiannus. Ond, ryw fore, daeth dyn dieithr at ddrws y gweithdy, a gofynnodd am waith.
"Dowch i mewn," ebe Sadrac Jones. "A ydych yn gyfarwydd â gwaith crydd gwlad?"
"Ydwyf," ebe'r dyn. "Yr wyf wedi gweithio'r grefft mewn gwlad a thre, ac yn gwybod y gwaith sydd yn eisiau mewn ardal wledig fel hon."
Faint o gyflog ydych yn ei ofyn?"
"Cewch chwi benderfynu hwnnw," ebe'r dyn, "yn ol gwerth y gwaith. Yr unig beth wyf yn awyddus i'w gael ydyw ymborth a llety, a thipyn o hamdden gyda'r nos."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fia4db8ow3rwn8lbjc0ivahtimnpksi
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/55
104
69850
140282
2025-06-18T23:40:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140282
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Yr wyf innau yn hoffi hamdden," ebe Sadrac Jones, "ond yn methu â'i gael. Gorfod bod wrthi yn hwyr yn fynych; ond, os gallwn gytuno ar delerau, dichon y bydd yn haws cadw oriau mwy rhesymol."
"Felly y gweddai i bethau fod," ebe'r dyn. "Ni ddylai un crefftwr fod yn gaethwas i'w orchwyl, beth bynnag a fo; y mae eisiau hamdden i ddarllen a meddwl, a gweld natur yn ei hamrywiaeth a'i golygfeydd."
Edrychodd Sadrac Jones ar y dyn. Mynegai'r hyn a deimlai ef ei hun. Hawdd i enaid dyn gael ei grebachu ym myd y pethau a berthyn i "fara beunyddiol," a cholli golwg ar y byd ehangach—byd gweledigaethau diddarfod.
"Pryd y gellwch fod yn barod i ddechre ar y gwaith?" ebe Sadrac Jones.
"Y funud hon," ebe'r dyn.
Tynnodd ei got, a chymerodd ffedog ledr o'r ysgrepan a ddodasai ar lawr y gweithdy.
"A wnewch chwi orffen yr esgid yma?" ebe Sadrac Jones, "ac af innau i'r tŷ i drefnu pethau gyda Nansi Owen." Troes yn ol wedi cyrraedd y drws,—"Esgusodwch fi am ofyn,—beth yw eich enw?"
"Edward James. A oes arnoch eisiau gwybod rhagor?"
"Dim byd," ebe Sadrac Jones.
Yr oedd Nansi Owen yn eithaf balch ei fod wedi cyflogi gweithiwr. Dylasai fod wedi gwneud hynny ers talwm. Ond onid gwell fuasai cael rhywun yr oedd yn ei adnabod? Yr oedd eisiau bod yn ofalus, a'r dyn yn hollol ddieithr.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
of0lyb63p8cfvav3yl7v7ob34enmzx5
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/56
104
69851
140283
2025-06-18T23:40:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140283
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Y mae hynny'n wir," ebe Sadrac Jones; "ond y mae rhywbeth yn dweud wrthyf mai Rhagluniaeth a'i gyrrodd o yma.
"Gobeithio eich bod yn dyfalu'n gywir," ebe Nansi Owen.
Profodd Edward James ei fod yn weithiwr cyflym a chelfydd. A rhoddai ei ymddygiad yn y tŷ fodlonrwydd mawr i Nansi Owen. Yr oedd mor syml a dirodres. Ni pharai na thrafferth na blinder. A phan ymgomiai gyda Sadrac Jones wrth y tân gyda'r nos, edrychai Nansi Owen arno dros ei hysgwydd, a meddyliai am y bachgen a aethai i ffwrdd ers llawer dydd. Mae'n wir nad oedd yn debyg iddo o ran pryd a gwedd. Gwallt golau oedd gan Lewis gwallt du, cyrliog, oedd gan Edward James. Ond parai'r olwg arno wrth y tân iddi freuddwydio breuddwydion,—anfarwol ydyw cariad mam!
Yn ei dro, siaradai Sadrac Jones am feirdd a barddoniaeth. Rhyfeddai braidd na sylwasai Edward James ar y "sgrîn" yn y gweithdy, er nad oedd wedi ei chyffwrdd ei hun yn ddiweddar, am fod y gwaith" yn llanw ei amser o fore hyd nos. Ond, yn ddiarwybod iddo ef, sylwasai Edward James ar y cynhyrchion " barddonol a orchuddiai'r "sgrin," a dichon iddo wenu 'n ddistaw, wrtho ei hun. Onid oedd darnau barddonol o'i waith ef wedi eu pastio'n ofalus ar y "sgrîn"? Ychydig a wyddai ef am Lanaber pan anfonai hwynt i'r wasg. A llai fyth y gwyddai am berchen y "sgrîn." Cadwodd y "gyfrinach" am gryn amser. Nid oedd ef, megis y mae arfer rhai, yn orawyddus am hysbysu eraill am ei<noinclude><references/></noinclude>
tq2wp0mbcyro96ihxdnsysiw8ogzyjd
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/57
104
69852
140284
2025-06-18T23:41:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140284
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>orchestion" awenyddol. Ni soniai beunydd am ddrychfeddyliau," ac ni synnai'r anghyfarwydd â geiriau swnfawr, megis "crebwyll darfelydd."
Gallai ymddiddan am feirdd a barddoniaeth fel dyn cyffredin, heb fradychu ei hunan-bwysigrwydd. Nid oedd Sadrac Jones wedi meddwl bod ei "weithiwr " yn fardd "wrth fraint a defawd." Ond daeth i wybod ar ddamwain. Rhyw "ddarganfyddiad " oedd hynny yn fwy na dim arall.
Crybwyllasom mewn pennod flaenorol mai newyddiadur dewisol Sadrac Jones ydoedd ''Utgorn y Bobl''. Darllennai ef bob gair, ond ei flasusfwyd ynddo oedd y "Golofn Farddol."
Ryw fin nos eisteddai Sadrac Jones yn ei gadair i ddarllen ''Utgorn y Bobl''. Aethai Edward James, yn ol ei arfer, am dro i'r ffriddoedd, gan ddilyn llwybrau'r defaid i froydd y rhedyn a'r grug. Wedi bwrw golwg ar "newyddion yr wythnos" a'r "erthygl arweiniol," daeth Sadrac Jones at y "Golofn Farddol." Disgynnodd ei olygon ar ddernyn disgrifiadol—"Hen Felin Llanaber," a hoffodd ef yn fawr. Gwyddai am y lle er yn fachgen, ac yr oedd y darlun awenyddol yn dyner ac yn dlws.
Ar waelod y dernyn yr oedd yr enw "Idwal Ddu." Gollygodd y newyddiadur ar y bwrdd. "Idwal Ddu!" onid oedd darnau o'i waith ar y "sgrîn"? Aeth i'w chyrchu o'r gweithdy i'r gegin. Darllennodd amryw o ganeuon "Idwal Ddu" wrth olau'r gannwyll. Ond anfonesid y rheiny o rannau eraill o Gymru. A oedd mwy nag un "Llanaber"? Ond, a chaniatau hynny, beth am yr "Hen Felin"? Rhaid fod yr awdur wedi gweld honno; pe amgen,<noinclude><references/></noinclude>
m51owqedw3r4nh7gz7g60pvglz4ldkl
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/58
104
69853
140285
2025-06-18T23:41:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140285
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni allasai ei disgrifio mor gywir. Pwy oedd "Idwal Ddu"? Tra y synfyfyriai ar y peth dychwelodd Edward James, wedi mwynhau ei daith yng nghwmni awel y nos.
"Wnewch chwi ddarllen y gân yma yn yr ''Utgorn''?" ebe Sadrac Jones. "Yr wyf fi wedi cael hyfrydwch mawr gyda hi. Ni welais ddim erioed o'r blaen ar y testun."
Cymerodd Edward James y papur yn ei law, a dechreuodd ddarllen—nid fel un yn gwneud hynny ar yr olwg gyntaf. Yn wir, nid darllen y gân yr oedd, ond ei hadrodd, a chyn iddo orffen gwyddai Sadrac Jones mai ef oedd "Idwal Ddu."
{{***|4|6em}}
Ni fu ei arhosiad yn hir yn Llanaber. Cyffesodd mai pererin ydoedd, yn tramwy o'r naill dreflan i un arall, ac yn gweithio'i grefft i dalu ei ffordd. Ond yr oedd wedi arfaethu ysgrifennu llyfr o ganeuon a darnau disgrifiadol—"Cymru trwy lygad Bardd." Ac i'r amcan hwnnw teithiai'r wlad er mwyn dod i gyffyrddiad personol â'i hynafiaethau, ei phentrefi a'i golygfeydd.
Aeth llawer blwyddyn heibio er yr adeg y bu "Idwal Ddu" yn gweithio gyda Sadrac Jones. Ni thybiwn gyhoeddi'r "gyfrol" lafurfawr hyd y dydd hwn. A aeth y llafur hwnnw yn ofer? Fe ddichon y daw rhyw lengarwr o ddylanwad ar ei thraws ryw dro, ac y daw allan fel un o drysorau coll y dyddiau fu—"Cymru trwy lygad Bardd," gan Idwal Ddu.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0u3t5sarye9iua7sls1dbvhf5h05pa6
Rhodd Mam i'w Phlentyn (testun cyfansawdd)
0
69854
140287
2025-06-18T23:54:47Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{Header | title = Rhodd Mam i'w Phlentyn (testun cyfansawdd) | author = John Parry, Caer | translator = | section = | previous = | next = [[/Dosparth I/]] | notes = I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Rhodd Mam i'w Phlentyn]] }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf" from=1 to=31/> </div> {{PD-old}} [[Categori:Rhodd Mam i'w Phlentyn]] [[Categori:John Parry, Caer]]..."
140287
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = Rhodd Mam i'w Phlentyn (testun cyfansawdd)
| author = John Parry, Caer
| translator =
| section =
| previous =
| next = [[/Dosparth I/]]
| notes = I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Rhodd Mam i'w Phlentyn]]
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf" from=1 to=31/>
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Rhodd Mam i'w Phlentyn]]
[[Categori:John Parry, Caer]]
[[Categori:Testunau crefyddol]]
[[Categori:Testunau cyfansawdd]]
47515sg6wotohy1tdrzjp1jkm8pdk1s
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/59
104
69855
140289
2025-06-19T00:28:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140289
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD XII.<br>{{mawr|NADOLIG Y PENTRE.}}}}
YN y dyddiau fu, ni wyddai pobl a phlant Llanaber nemawr ddim am "ddyddiau gŵyl," ac eithrio'r Saboth a'r Dydd Diolchgarwch am y Cynhaeaf. Ni ddaethai Gŵyl y Banc yn ddefod gwlad a thref. Ond cydnabyddid Dydd Nadolig gan bob gradd. Caeid y siop a'r gweithdy yn ystod y dydd hwnnw. Ac, fel rheol, byddai'r tywydd yn gydnaws â'r adeg, a'r pentre wedi ei orchuddio gan eira. Edrychai'n dlws iawn, ac ni chŵynai neb ar gyfrif yr oerni. Canai Cloch y Llan yn y plygain, a byddai bywiogrwydd ar bob aelwyd y bore hwnnw. Rhaid addef na wyddem ddim am yr ymwelydd poblogaidd a elwir yn "Santa Claus." Nid oedd ei gylchdaith ef, y pryd hwnnw, yn cyrraedd Llanaber, ond yr oedd ei ysbryd yno, er bod ei enw yn ddirgelwch. Darperid anrhegion yn ddistaw bach, a dygid hwy i'r golwg ar fore Nadolig. Syml oedd bywyd, a chyffredin oedd yr amgylchiadau. Ychydig o'r plant fuasai'n fodlon newid eu haelwyd fach eu hunain am yr eiddo arall. A ydyw pethau yn aros felly ni wyddom. Ond dysgwyd i ni feddwl mai gŵyl yr aelwyd a'r cartre yw'r Nadolig. "'D oes unman yn debyg i ''gartref,''" yr adeg honno.
Dyna oedd syniad Sadrac Jones; ond gwahoddai'r plant a arferai fynd i'r gweithdy i'r gegin fawr yn ystod y dydd. Ac ni cheid neb yn "esgeuluso ei gyd-gynulliad" ar yr achlysur hwnnw. Gwyddem ymlaen llaw y byddai Sadrac Jones wedi darparu<noinclude><references/></noinclude>
4imelajfw819nndk4ekoaohfzbg7w97
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/60
104
69856
140290
2025-06-19T00:30:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140290
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhywbeth ar ein cyfer. Yr oedd yn adnabod y plant—yn deall eu nodweddion; a chyfaddasai'r anrhegion yn ol y wybodaeth oedd ganddo amdanom. Dywed y ''Rhodd Mam'', yr ''[[Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth IV|hen Rodd Mam]]'', fod "plant da yn hoff o lyfr." Mae'n debyg eu bod, fel rheol, ond y mae llawer eithriad. Nid apelia llyfr at bob plentyn, mwy na phob dyn mewn oed, yr un fath. Nid ydyw darllen yn nwyd i bawb, er bod darllen yn anhepgor i gasglu gwybodaeth. Ond deallai Sadrac Jones y gwahaniaeth, ac amrywiai'r anrhegionllyfr i un a chyllell boced i'r llall. Ond pan rannai'r cyflath," a thamaid o'r "plwm pwdin," byddai pawb ar yr un tir. Dyna'r pethau yn nyddiau mebyd, sydd yn lefelu bywyd, ac yn profi gwirionedd llinell Dewi Wyn,—" Brodyr o'r un bru ydym."
Ond cyrhaeddai "deddf datblygiad" i Lanaber, ac un tymor, penderfynodd yr "arweinwyr " gynnal "Cyfarfod Llenyddol " ar nos Nadolig. Yr oedd hynny yn beth newydd ar y ddaear, a chlywsom fod rhywrai yn gwrthwynebu'r ymgais. Dyna hanes pob drychfeddwl newydd. Y mae'n aflonyddu ar ddefod ac arfer. Ond ni ellir atal y llanw. Ffurfiwyd Pwyllgor a threfnwyd y rhaglen.
Cwrdd lleol ydoedd i fod, ac nid oedd un o'r testunau'n "agored i'r byd." Lleol oedd y beirniaid, ac eithrio beirniaid yr adrannau cerddorol a barddonol. Yr oedd yn rhaid i'r rheiny fod yn wŷr adnabyddus drwy Gymru benbaladr, a dewiswyd Eos y Ffrwd i gloriannu'r cerddorion a Gwilym Hiraddug i ddal y fantol gyda'r beirdd. Fe ddichon nad oedd y rhaglen yn boddhau pawb. Ac un rheswm ydoedd, bod rhai o'r enwogion lleol wedi<noinclude><references/></noinclude>
o70ozl8oqtc0zljcjsybq4s7a6fi313
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/61
104
69857
140291
2025-06-19T00:30:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140291
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eu cau allan. Y mae'n sicr na wnaethid hynny'n fwriadol. Fe ddichon nad oedd gwaith cyfaddas ar eu cyfer. Ond, rhywfodd, felly y bu. Dewiswyd gwraig y Siop i feirniadu'r "Pâr Hosanau du'r ddafad"; John Llwyd y Teiliwr i feirniadu'r "Twll Botwm "; William Parri'r Saer i feirniadu'r "Llwy Bren," a Robert Huws y Bugail i feirniadu'r "Ffon Ddraenen." Ac felly yn y blaen. Cynrychiolid pob crefft a galwedigaeth yn y fro ar y rhaglen ac eithrio un.
'D oedd neb wedi enwi Sadrac Jones. Sut y digwyddodd hynny? Buasai'r peth dan sylw'r Pwyllgor, fel y deallwyd wedyn, ond methwyd â chael testun i ffitio galwedigaeth Sadrac Jones. Yr oedd y "Twll Botwm" yn taro i'r dim i'r teiliwr, ond ni fuasai "gwadnu esgid " yn destun y gallesid disgwyl cystadleuaeth arno. Nid oedd crydd arall yn y fro, ac ni fuasai'n briodol ei roddi yn "agored i'r byd."
Ni faliai Sadrac Jones ei hun ddim am yr anffawd, ond dywedai Nansi Owen ei barn hi yn eithaf difloesgni. Pa reswm oedd rhoi enw John Llwyd yn y Raglen? Nid oedd wedi bod yn Llanaber ond am ryw ddwy flynedd a Sadrac Jones wedi bod yno ar hyd ei oes."
Ond digwyddodd rhywbeth cyn y Nadolig oedd i newid y drefn, ac i godi Sadrac Jones uwchlaw rhandir y "Twll Botwm" a'r "Llwy Bren." Daeth gair i hysbysu bod Gwilym Hiraddug, y beirniad barddonol, wedi ei daro'n wael, ac na allai gloriannu'r cyfansoddiadau. Galwyd y Pwyllgor ynghyd, a mawr fu'r dyfalu beth a ellid ei wneud. Yr oedd yn rhy ddiweddar i alw'r gystadleuaeth yn ol. Cododd un brawd i gynnyg enw Sadrac Jones.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4fbwlbstylanp9o4z2o87y6qe2pidyu
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/62
104
69858
140292
2025-06-19T00:31:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140292
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Nid ydyw ef yn fardd," ebe amryw.
"Fe ddichon hynny," ebe'r cynygydd, "ond gŵyr fwy am farddoniaeth na phawb arall yn yr ardaloedd yma. Ble y cewch chwi gasgliad mor chwaethus ag a welir ar y ' sgrîn' yn ei weithdy ef? Ac efe ei hun sydd wedi dethol y cwbl. A gŵyr y sawl fu yno fod Sadrac Jones yn awdurdod ar waith y beirdd, er nad ydyw yn arfer anfon ei waith ei hun i'r 'papur newydd.'
Ar y diwedd dewiswyd ef yn unfrydol i lanw lle Gwilym Hiraddug.
Cyfarfod hwyliog a gaed ar nos Nadolig, ac un o'r pethau gorau oedd beirniadaeth Sadrac Jones. Nid wyf yn cofio'r manylion, ond yr wyf yn cofio rhai o sylwadau'r gwrandawyr ar eu ffordd adref.
"Onid oedd o yn deud yn dda?—ac mor gartrefol a phe buasai'n eistedd ar y fainc gyda'r esgid."
"Ie," meddai'r llall. "Am yr ''esgid'' yr oeddwn innau'n meddwl wrth ei wrando. Yr oedd o yn 'pwytho' ambell un yn enbyd, ac yn rhoi y mynawyd yn y llall."
"Yn hollol felly. Neu, mewn geiriau eraill, yn 'ffitio'r wadn i'r troed,' a dyna sydd eisiau mewn beirniad iawn."
Nid oedd Sadrac Jones wedi arfer à bod yn ŵr cyhoeddus" cyn hynny. Dewisai'r encilion. Ond wedi'r Nadolig hwnnw daeth tro ar fyd yn ei fywyd. Ymledodd yr hanes am y Cyfarfod Llenyddol i ardaloedd eraill, a daeth enw Sadrac Jones yn "eiddo cyhoeddus" fel dyn oedd yn "dallt" barddoniaeth, ac yn medru didoli'r us oddi wrth y gwenith gwyn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
snwp2nkmimev14m7hzrmounwf46rfs5
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/63
104
69859
140294
2025-06-19T01:07:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140294
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD XIII.<br>{{mawr|"Y TLWS ARIAN."}}}}
'NGHLENNIG I!--dyna'r ymadrodd atseiniai trwy bentre Llanaber ar ddydd cynta'r flwyddyn newydd. Nid oedd neb yn rhy hên na rhy falch i weiddi "Calennig," a'r cyntaf i weiddi ar ei gymydog a hawliai'r wobr. Ni fwynhâi pawb mo'r oruchwyliaeth honno, mwy nag unrhyw oruchwyliaeth arall sydd yn tybied ''rhoddi'' yn hytrach na derbyn. Eithriadau oedd y bobl hynny, ond gwyddai'r plant amdanynt, ac aent o'r tu arall heibio. Dyna ddedfryd y plant, mynd heibio'r drws, heb weiddi "Nghalennig i," a dywedai hynny gryn lawer am nodwedd y preswylwyr.
Ond yr oedd gweithdy Sadrac Jones yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar fore dydd Calan. Nid un neu ddau fyddai'n gweiddi, ond torf o blant, â'u lleisiau'n diaspedain tros y fro. Cymerai'r "Calennig" wahanol ffurfiau. Cacennau a melysion a geid yn y rhan fwyaf o'r tai. Ond meddyliai Sadrac Jones yn wahanol.
"Yr ydach chi wedi cael digon i'w fwyta yn ystod y Gwyliau," ebr ef, pan anerchai'r gynulleidfa fywiog oddi ar garreg y drws. "Ni ŵyr neb ohonoch am eisiau bwyd, a ŵyr?"
"Na ŵyr, Sadrac Jones."
"Y perigl ydyw fod rhai ohonoch wedi bwyta gormod. Ond cofiwch hyn,—os ydych am fod yn blant da, rhaid i chi ymroi ati i ddysgu, dysgu darllen a dysgu meddwl. A dyna ydw i am roi yn 'Galennig' i chwi, nid 'teisen' nac 'India-roc,' ond llyfr
Q
newydd. Dyma fo. A wnewch chi addo ei ddarllen a'i gadw'n lân?"
"Gwnawn."
"Codwch eich llaw. John Puw, wnei di gyfri'r dwylo?" (John yn gwneud).
"Deg ar hugain, Sadrac Jones."
O'r gorau. Ddaru ti dy gyfri dy hun?" "Naddo, mi anghofiais."
"Well i ti wneud. Faint ydi'r rhif yn awr?" "Un ar ddeg ar hugain."
Ie, ond rhag i ti fod yn odd number, mi alwaf ar Nansi Owen."
"Fuasech chwi yn leicio cael llyfr yn bresant, Nansi Owen?"
"Mae'n dibynnu sut lyfr fydd o, Sadrac Jones." "Wel, ei enw ydi'r Tlws Arian, gan Tegidon."<ref>John Phillips (Tegidon 1810-1877), ''Y Tlws Arian'', Wrecsam, Hughes a'i fab 1860</ref> "'Rhoswch am funud, Sadrac Jones. Onid y fo a wnaeth y gân gampus honno, [[Hen Fibl Fawr fy Mam|'Hên Feibil Mawr fy Mam]]'? Mi glywais hên bregethwr o Sir Fôn—yr ydw i'n meddwl mai Owen Rolant oedd ei enw—yn canu 'Hên Feibil Mawr fy Mam' ar ddiwedd yr oedfa nes oedd pawb yn crio'n hidl. Beth ydi enw'r bardd, Sadrac Jones?"
"Tegidon—un wedi ei fagu ar ymyl Llyn Tegid."
"Felly'n wir. 'D oes dim byd sal wedi dwad o'r Bala, er bod ambell i stiwdent digon tila yn dwad yma ar y Sul. Ond y mae Doctor Edwards yn medru rhoi rhywbeth ynddyn' nhw, os caiff o chware teg."
Wedi hynny estynnodd Sadrac Jones gopi newydd spon danlli o'r Tlws Arian, yn gyntaf oll i Nansi Owen, ac yna i'r bechgyn o gwmpas y drws. A<noinclude><references/></noinclude>
346o6918113m1tmd60pviz2byd90cuo
140299
140294
2025-06-19T01:12:21Z
AlwynapHuw
1710
140299
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD XIII.<br>{{mawr|"Y TLWS ARIAN."}}}}
'NGHLENNIG I!--dyna'r ymadrodd atseiniai trwy bentre Llanaber ar ddydd cynta'r flwyddyn newydd. Nid oedd neb yn rhy hên na rhy falch i weiddi "Calennig," a'r cyntaf i weiddi ar ei gymydog a hawliai'r wobr. Ni fwynhâi pawb mo'r oruchwyliaeth honno, mwy nag unrhyw oruchwyliaeth arall sydd yn tybied ''rhoddi'' yn hytrach na derbyn. Eithriadau oedd y bobl hynny, ond gwyddai'r plant amdanynt, ac aent o'r tu arall heibio. Dyna ddedfryd y plant, mynd heibio'r drws, heb weiddi "Nghalennig i," a dywedai hynny gryn lawer am nodwedd y preswylwyr.
Ond yr oedd gweithdy Sadrac Jones yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar fore dydd Calan. Nid un neu ddau fyddai'n gweiddi, ond torf o blant, â'u lleisiau'n diaspedain tros y fro. Cymerai'r "Calennig" wahanol ffurfiau. Cacennau a melysion a geid yn y rhan fwyaf o'r tai. Ond meddyliai Sadrac Jones yn wahanol.
"Yr ydach chi wedi cael digon i'w fwyta yn ystod y Gwyliau," ebr ef, pan anerchai'r gynulleidfa fywiog oddi ar garreg y drws. "Ni ŵyr neb ohonoch am eisiau bwyd, a ŵyr?"
"Na ŵyr, Sadrac Jones."
"Y perigl ydyw fod rhai ohonoch wedi bwyta gormod. Ond cofiwch hyn,—os ydych am fod yn blant da, rhaid i chi ymroi ati i ddysgu, dysgu darllen a dysgu meddwl. A dyna ydw i am roi yn 'Galennig' i chwi, nid 'teisen' nac 'India-roc,' ond llyfr<noinclude><references/></noinclude>
ddjlretqu66hc0u8agm91h2euedti57
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/64
104
69860
140295
2025-06-19T01:07:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""chalennig" i'w gofio ydoedd hwnnw. Yr oedd ei enw'n dlws, a'i gynnwys yn dlws i gyd. Enillodd un neu ddau o'r bechgyn hynny "arian-dlws " mewn cystadleuaeth ar ol hynny. Ond annwyl yn eu golwg ydyw y Tlws Arian a dderbyniwyd o law Sadrac Jones ar drothwy blwyddyn sydd wedi ymado i'r distaw dir. Y mae'r Tlws Arian yn aros ymhlith llyfrau Cymru. Fe ddichon bod rhywrai yn ei gyfrif yn "hen ffasiwn" erbyn heddiw. Ond, yn sicr, y mae ben...
140295
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"chalennig" i'w gofio ydoedd hwnnw. Yr oedd ei enw'n dlws, a'i gynnwys yn dlws i gyd. Enillodd un neu ddau o'r bechgyn hynny "arian-dlws " mewn cystadleuaeth ar ol hynny. Ond annwyl yn eu golwg ydyw y Tlws Arian a dderbyniwyd o law Sadrac Jones ar drothwy blwyddyn sydd wedi ymado i'r distaw dir. Y mae'r Tlws Arian yn aros ymhlith llyfrau Cymru. Fe ddichon bod rhywrai yn ei gyfrif yn "hen ffasiwn" erbyn heddiw. Ond, yn sicr, y mae bendith ynddo i blant oes newydd na ŵyr nemawr am Degidon ac eraill o awduron hawddgar y ganrif a fu.
{{***|4|6em}}
Ond heblaw'r Tlws Arian, y mae peth arall sydd wedi peri i'r flwyddyn honno gadw ei gwyrddlesni ar lenni atgof. Buasai brwydr addysg yn bwnc y dydd yn Llanaber—yr ymrysonfa galed rhwng yr hên a'r newydd. Yn y gorffennol cedwid math o ysgol ddydd mewn ystafell berthynol i'r capel. Gweinidog oedd yr athro, a chyfunai ef wahanol orchwylion, megis pregethu, ffarmio a chadw ysgol. Yn yr adeg honno ni allai'r ysgol ddydd ei gadw ef. Cynhelid hi trwy roddion gwirfoddol, a rhoddion lled fychain oedd y rheiny ar y gorau. Ysgol ddigon cyffredin ydoedd, ysgol at "iws gwlad." Ond wedi'r frwydr, daeth tro ar fyd. Adeiladwyd ysgoldy yn y pentre, ac yr oedd eisiau "athro trwyddedig" i ofalu am addysg y plant. Daethai'r hên oruchwyliaeth i ben. Mawr y disgwyl am weled y "sgŵl newydd." Dywedid ei fod yn sgolor dan gamp, wedi bod yn y Coleg, ac yn gwybod popeth. Yr
Q
oedd cryn bryder ym meddyliau'r mamau a'r plant. Tybed yr arferai'r wialen? Un ffeind iawn oedd yr hên athro. Ni fyddai rhaid i un o'r plant ond cŵyno ei fod yn sâl, cai gennad i fynd adre ar ei union. A phan fyddai plentyn wedi anghofio'r ''home-lesson'', byddai iddo fod ar neges dros ei fam yn esgusawd digonol. Ni orweithiai'r hên athro mo ymenyddiau'r plant, ond yr oedd ganddo ddawn arbennig i argraffu pethau ar eu cof. Beth am y dyn newydd? Tipyn yn geidwadol oedd pobl Llanaber gyda materion o'r fath. Yr oedd dieithrwch yn faen tramgwydd. Ond credai Sadrac Jones, fel arfer, mewn symud ymlaen gydag addysg a phopeth da. Ni fynnai ef ddychryn y plant, na chreu rhagfarn yn eu calonnau.
"Mi fyddwch wrth eich bodd," meddai, "efo'r athro newydd. Mae o wedi ei gymhwyso i gyfrannu addysg, ac arnoch chwi bydd y bai oni ddowch yn wybodus. Y mae bron yn amhosibl i un dyn fod yn ffarmwr ac yn ysgolfeistr. Buasai'n llawn mor hawdd i ddyn fod yn grydd ac yn deiliwr."
Nid oedd pawb mor selog dros addysg â Sadrac Jones. Oni ddaethai Hwn-a-Hwn ymlaen yn y byd heb gael ond "chwarter o ysgol."
Ond yr oedd y cyfnod newydd—fel llanw'r môryn dod i mewn, ac ar ei frig daeth yr athro newydd.<noinclude><references/></noinclude>
4hantkztqiz1n50rx3q6w00ql7ua2d1
140296
140295
2025-06-19T01:08:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140296
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"chalennig" i'w gofio ydoedd hwnnw. Yr oedd ei enw'n dlws, a'i gynnwys yn dlws i gyd. Enillodd un neu ddau o'r bechgyn hynny "arian-dlws " mewn cystadleuaeth ar ol hynny. Ond annwyl yn eu golwg ydyw y Tlws Arian a dderbyniwyd o law Sadrac Jones ar drothwy blwyddyn sydd wedi ymado i'r distaw dir. Y mae'r Tlws Arian yn aros ymhlith llyfrau Cymru. Fe ddichon bod rhywrai yn ei gyfrif yn "hen ffasiwn" erbyn heddiw. Ond, yn sicr, y mae bendith ynddo i blant oes newydd na ŵyr nemawr am Degidon ac eraill o awduron hawddgar y ganrif a fu.
{{***|4|6em}}
Ond heblaw'r Tlws Arian, y mae peth arall sydd wedi peri i'r flwyddyn honno gadw ei gwyrddlesni ar lenni atgof. Buasai brwydr addysg yn bwnc y dydd yn Llanaber—yr ymrysonfa galed rhwng yr hên a'r newydd. Yn y gorffennol cedwid math o ysgol ddydd mewn ystafell berthynol i'r capel. Gweinidog oedd yr athro, a chyfunai ef wahanol orchwylion, megis pregethu, ffarmio a chadw ysgol. Yn yr adeg honno ni allai'r ysgol ddydd ei gadw ef. Cynhelid hi trwy roddion gwirfoddol, a rhoddion lled fychain oedd y rheiny ar y gorau. Ysgol ddigon cyffredin ydoedd, ysgol at "iws gwlad." Ond wedi'r frwydr, daeth tro ar fyd. Adeiladwyd ysgoldy yn y pentre, ac yr oedd eisiau "athro trwyddedig" i ofalu am addysg y plant. Daethai'r hên oruchwyliaeth i ben. Mawr y disgwyl am weled y "sgŵl newydd." Dywedid ei fod yn sgolor dan gamp, wedi bod yn y Coleg, ac yn gwybod popeth. Yr<noinclude><references/></noinclude>
b1yqn5uy1veuf0b25adadgrfniojlc9
140300
140296
2025-06-19T01:13:35Z
AlwynapHuw
1710
140300
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>newydd. Dyma fo. A wnewch chi addo ei ddarllen a'i gadw'n lân?"
"Gwnawn."
"Codwch eich llaw. John Puw, wnei di gyfri'r dwylo?" (John yn gwneud).
"Deg ar hugain, Sadrac Jones."
O'r gorau. Ddaru ti dy gyfri dy hun?" "Naddo, mi anghofiais."
"Well i ti wneud. Faint ydi'r rhif yn awr?" "Un ar ddeg ar hugain."
Ie, ond rhag i ti fod yn ''odd number'', mi alwaf ar Nansi Owen."
"Fuasech chwi yn leicio cael llyfr yn bresant, Nansi Owen?"
"Mae'n dibynnu sut lyfr fydd o, Sadrac Jones."
"Wel, ei enw ydi'r ''Tlws Arian'', gan Tegidon."<ref>John Phillips (Tegidon 1810-1877), ''Y Tlws Arian'', Wrecsam, Hughes a'i fab 1860</ref> "
"Rhoswch am funud, Sadrac Jones. Onid y fo a wnaeth y gân gampus honno, [[Hen Fibl Fawr fy Mam|'Hên Feibil Mawr fy Mam]]'? Mi glywais hên bregethwr o Sir Fôn—yr ydw i'n meddwl mai Owen Rolant oedd ei enw—yn canu 'Hên Feibil Mawr fy Mam' ar ddiwedd yr oedfa nes oedd pawb yn crio'n hidl. Beth ydi enw'r bardd, Sadrac Jones?"
"Tegidon—un wedi ei fagu ar ymyl Llyn Tegid."
"Felly'n wir. 'D oes dim byd sal wedi dwad o'r Bala, er bod ambell i stiwdent digon tila yn dwad yma ar y Sul. Ond y mae Doctor Edwards yn medru rhoi rhywbeth ynddyn' nhw, os caiff o chware teg."
Wedi hynny estynnodd Sadrac Jones gopi newydd spon danlli o'r ''Tlws Arian'', yn gyntaf oll i Nansi Owen, ac yna i'r bechgyn o gwmpas y drws. A<noinclude><references/></noinclude>
60cg4g1xvpm6v0wcrxintlctuagdcxh
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/66
104
69861
140297
2025-06-19T01:10:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140297
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd cryn bryder ym meddyliau'r mamau a'r plant. Tybed yr arferai'r wialen? Un ffeind iawn oedd yr hên athro. Ni fyddai rhaid i un o'r plant ond cŵyno ei fod yn sâl, cai gennad i fynd adre ar ei union. A phan fyddai plentyn wedi anghofio'r ''home-lesson'', byddai iddo fod ar neges dros ei fam yn esgusawd digonol. Ni orweithiai'r hên athro mo ymenyddiau'r plant, ond yr oedd ganddo ddawn arbennig i ''argraffu'' pethau ar eu cof. Beth am y dyn newydd? Tipyn yn geidwadol oedd pobl Llanaber gyda materion o'r fath. Yr oedd dieithrwch yn faen tramgwydd. Ond credai Sadrac Jones, fel arfer, mewn symud ymlaen gydag addysg a phopeth da. Ni fynnai ef ddychryn y plant, na chreu rhagfarn yn eu calonnau.
"Mi fyddwch wrth eich bodd," meddai, "efo'r athro newydd. Mae o wedi ei gymhwyso i gyfrannu addysg, ac arnoch chwi bydd y bai oni ddowch yn wybodus. Y mae bron yn amhosibl i un dyn fod yn ffarmwr ac yn ysgolfeistr. Buasai'n llawn mor hawdd i ddyn fod yn grydd ac yn deiliwr."
Nid oedd pawb mor selog dros addysg â Sadrac Jones. Oni ddaethai Hwn-a-Hwn ymlaen yn y byd heb gael ond "chwarter o ysgol."
Ond yr oedd y cyfnod newydd—fel llanw'r môryn dod i mewn, ac ar ei frig daeth yr athro newydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
f2ivza2buiovbzbtxwrang9a5jj6v42
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/65
104
69862
140298
2025-06-19T01:11:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140298
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"chalennig" i'w gofio ydoedd hwnnw. Yr oedd ei enw'n dlws, a'i gynnwys yn dlws i gyd. Enillodd un neu ddau o'r bechgyn hynny "arian-dlws " mewn cystadleuaeth ar ol hynny. Ond annwyl yn eu golwg ydyw y Tlws Arian a dderbyniwyd o law Sadrac Jones ar drothwy blwyddyn sydd wedi ymado i'r distaw dir. Y mae'r Tlws Arian yn aros ymhlith llyfrau Cymru. Fe ddichon bod rhywrai yn ei gyfrif yn "hen ffasiwn" erbyn heddiw. Ond, yn sicr, y mae bendith ynddo i blant oes newydd na ŵyr nemawr am Degidon ac eraill o awduron hawddgar y ganrif a fu.
{{***|4|6em}}
Ond heblaw'r ''Tlws Arian'', y mae peth arall sydd wedi peri i'r flwyddyn honno gadw ei gwyrddlesni ar lenni atgof. Buasai brwydr addysg yn bwnc y dydd yn Llanaber—yr ymrysonfa galed rhwng yr hên a'r newydd. Yn y gorffennol cedwid math o ysgol ddydd mewn ystafell berthynol i'r capel. Gweinidog oedd yr athro, a chyfunai ef wahanol orchwylion, megis pregethu, ffarmio a chadw ysgol. Yn yr adeg honno ni allai'r ysgol ddydd ei gadw ef. Cynhelid hi trwy roddion gwirfoddol, a rhoddion lled fychain oedd y rheiny ar y gorau. Ysgol ddigon cyffredin ydoedd, ysgol at "iws gwlad." Ond wedi'r frwydr, daeth tro ar fyd. Adeiladwyd ysgoldy yn y pentre, ac yr oedd eisiau "athro trwyddedig" i ofalu am addysg y plant. Daethai'r hên oruchwyliaeth i ben. Mawr y disgwyl am weled y "sgŵl newydd." Dywedid ei fod yn sgolor dan gamp, wedi bod yn y Coleg, ac yn gwybod popeth. Yr<noinclude><references/></noinclude>
c7hrnccym325cvf664w8j4crpyapaow
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/67
104
69863
140301
2025-06-19T01:39:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140301
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD XIV.<br>{{mawr|YR ATHRO NEWYDD.}}}}
DIWRNOD i'w gofio'n hir oedd diwrnod agor yr Ysgoldy newydd yn Llanaber. Adeiladwyd hi ar fin y ffordd mewn lle cyfleus i blant y pentre a'r wlad oddiamgylch. Dichon na chyfrifid hi'n ddim amgen nag adeilad hen ffasiwn erbyn heddiw, ond i'r sawl a'i gwelodd yn y dyddiau gynt ymddangosai'n rhywbeth newydd ar y ddaear. Dyna'r peth mwyaf newydd yn Llanaber y pryd hwnnw. Yr oedd iddi ddau borth, un ar gyfer y bechgyn a'r llall ar gyfer y genethod. Yr oedd meinciau'n rhesi ar y naill ochr a'r llall i'r adeilad oddi mewn, "lle tân" yn y canol, a desg uchel, lle y safai'r athro i alw'r enwau ac i gadw trefn. Nid oedd cadw trefn yn waith anodd ar y dechrau. Yr oedd yr athro yn newydd ac yn ddieithr, a theimlai'r plant raddau o ofn yn ei ŵydd.
Yr oedd Sadrac Jones wedi bod yn paratoi'r ffordd yn ein meddyliau ar gyfer ei ddyfodiad.
"Mi gewch chware teg, 'rwan, i ddwad ymlaen efo'ch addysg, a chofiwch chi fynd i'r ysgol yn gyson, a mynd mewn pryd, ac nid 'loetran' fel y byddai rhai ohonoch gyda'r hên athro."
"Ydach chi yn 'nabod y' scŵl' newydd, Sadrac Jones?"
'Scŵl newydd' wir. Pwy fu yn dysgu i chwi siarad fel yna? Rhaid i chwi beidio ag arfer geiriau o'r fath. Athro ydyw Mr. Powel, a gŵr bonheddig yng ngwir ystyr y gair. Cofiwch ei barchu, a bod yn ufudd."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
rycho52e5b1lljqdozdhan4i2urwjss
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/68
104
69864
140302
2025-06-19T01:40:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140302
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ydi o yn ddyn ffeind, Sadrac Jones?"
'Dibynna hynny ar sut y byddwch chi'n ymddwyn, a gwneud eich gwaith. Chewch chi ddim hel esgusodion fel y byddai rhai ohonoch efo'r hên athro. Y mae Mr. Powel yn ddyn o ddifri, ond y mae yn sicr o ofalu y cewch chi bob chware teg."
Yr oedd yn eithaf amlwg fod Sadrac Jones yn meddwl yn fawr o'r athro newydd, a chan fod bechgyn y pentre yn meddwl mai Sadrac Jones oedd y dyn clyfra'n y wlad, fe fu hynny yn gryn fantais i Mr. Powel, er na wyddai ef ddim am y peth ar y pryd. Ond daeth i wybod yng nghwrs amser. Nid oedd plant Llanaber a'r cylch yn ddim gwell na phlant rhyw bentre arall, a buasai rhai ohonynt yn lled hy ar yr hên athro; parasant boen iddo lawer adeg, a dylasent gael eu ceryddu am y peth.
Ond daeth y rheiny i ddeall yn bur fuan nad gŵr i gellwair ag ef oedd yr athro newydd. Yr oedd rhywbeth yn ei edrychiad a barai i'r bechgyn fethu â bod yn ddibris ac yn afreolus. ''Gwelai'' i gyrrau pella'r ysgol, a chlywai'r ysmic lleiaf. Nid oedd yn bosibl ei dwyllo gyda dim. Ond pan wnaethai bachgen neu lodes ei orau, deuai gwen i wyneb yr athro, a rhyfedd y gwahaniaeth pan fyddai'n gwenu. Daethom i ddeall bob yn dipyn mai rhywbeth go fawr oedd ennill gwen yr athro. Nid arferai "wialen" na "chansen" i geryddu'r plant. Pan droseddai rhywun gofynnai iddo "aros ar ol," a siaradai ag ef yn bersonol. Ac i'r sawl a gofia'r munudau hynny—dim ond yr athro ag un o'r plant—ni raid dweud y buasai'n well gan rai ohonom gael curfa lled dost, na mynd trwy'r oruchwyliaeth honno drachefn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
rndco3an2bqo18sc45p2wlip2iziv70
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/69
104
69865
140303
2025-06-19T01:40:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140303
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond bu'r peth yn fendith i aml un, a daethom i wybod bod yr athro'n caru ein lles, ac yn awyddus am i ni droi ein cyfle i'r amcan gorau. Ni fyddem yn ail-adrodd yr hyn a ddywedai'r athro wrthym ar ein pennau'n hunain. Ac erbyn heddiw y mae'r atgofion yn rhy gysegredig i ni godi'r llen oddiarnynt, dim ond crybwyll y ffaith.
Ond efallai mai'r peth mwyaf boddhaol i ni yn yr athro newydd oedd ei fod ef, fel ninnau, yn "ffrindiau" i Sadrac Jones. Galwai yn y gweithdy wrth fynd i'w lety yn y ffermdy ar ben y bryn. Galwem ninnau ym min yr hwyr.
"Oes rhywbeth newydd ar y sgrin, Sadrac Jones?"
"Ydach chwi wedi gorffen eich tasgau ar gyfer yfory? Onid ydych, chewch chi ddim ymyrryd â'r sgrîn. Dysgu ydi'r peth cynta ac adloniant wedyn."
"Ydi Mr. Powel wedi gweld y sgrin, Sadrac Jones?"
"Ydi, ac y mae rhai englynion o'i waith wedi eu 'pastio' arni ers tro. Yr oedd hynny cyn i mi wybod amdano fel ysgolfeistr—dim ond fel bardd."
"Oes gyno fo ffugenw?"
"Nac oes. Y mae'n bodloni ar ddwy lythyren'J.P.'"
"Ydi o yn fardd da, Sadrac Jones?"
Campus. Mae o'n dallt y ' mesurau caethion,' ac wedi ennill gwobr am awdl mewn Eisteddfod."
"Beth ydi awdl?" ebem ninnau.
"Fedra i ddim sbonio'r peth i chi heddiw. Ond y mae'n rhaid cael bardd mawr i fedru gwneud awdl.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mk9odozbfy0qz3lkfrbjfar0fd6c3j1
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/70
104
69866
140304
2025-06-19T01:41:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140304
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'Does neb yn y plwy yma yn gwybod beth ydi awdl heblaw Mr. Powel."
Ond ni soniai'r athro ddim am bethau felly gyda ni yn yr ysgol. Rhoddai ei holl sylw i'r gwersi, ac yr oedd i bob dydd ei wersi arbennig. Ysgolfeistr oedd Mr. Powel yn ystod y dydd a dim arall. Ym misoedd y gaeaf arhosai yn yr ysgol wedi i'r plant fynd adref. Ac wedi iddi nosi tynnai'r llenni i lawr a goleuai'r lamp. Gwelid y golau yn y ffenestri. Sut na fuasai'n mynd i'w lety? Nid oedd Sadrac Jones yn barod i esbonio'r dirgelwch.
"Y mae'n debyg ei fod yn cael mwy o heddwch i ddarllen ac astudio yn yr ysgoldy," oedd ei ateb.
Ond ryw noson, o gywreinrwydd, aeth dau ohonom yn ddistaw i iard yr ysgol, ac yr oedd mymryn o'r blind ar un ffenestr heb ei ollwng i lawr i'r gwaelod. Ac wedi inni ddringo i ben y wal, gwelem i mewn i'r ysgoldy. Ac yno yr oedd Mr. Powel, ond yn ddyn gwahanol iawn i'r hyn fyddai'n arfer bod yn ystod y dydd. Cerddai yn gyflym yn ol a blaen. Tynnai ei fysedd trwy ei wallt, ac yr oedd rhyw dân yn ei lygaid. Wedi bod felly am ysbaid safai wrth y ddesg, a dechreuai ysgrifennu. Ac yna cerddai yn ol a blaen, â darn o bapur yn ei law. Beth oedd yn ei wneud?
Aethom adre heb wybod. Ond yr oedd Sadrac Jones yn gwybod.
"Peidiwch a dweud gair wrth neb," meddai, "ond y mae'n debyg mai yr awen sydd wedi disgyn arno, a'i fod yn cyfansoddi ''awdl'' newydd."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tp160oco6t3iv3andlyyjx79sp5t1m3
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/71
104
69867
140305
2025-06-19T01:42:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140305
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD XV. <br>{{mawr|Y TORRWR CERRIG. }}}}
DEUAI rhai o blant yr ysgol o'r wlad, a hwy, fel rheol, fyddai y rhai cyntaf i gyrraedd yno yn y bore. Arferai plant y pentre redeg wedi i'r gloch ddechrau canu, ac o'r braidd y byddent yno cyn i'r drws gau. Ond cychwynnai bechgyn a genethod y wlad yn gynnar, disgwylient i'r gloch ganu. Ychydig fyddai'n trafaelu'r ffordd honno yn y bore, ac eithrio dydd ffair neu farchnad. Ond yr oedd yno un dyn yn yr un llecyn ar bob tywydd. Ni fyddai ei le byth yn wag. Ei enw oedd Mathew Dafis, a'i waith oedd "torri cerrig" ar y ffordd. Dyn bychan o gorff ydoedd; ag wyneb gwridgoch, a dau lygad siriol fel haul ar ddydd o haf. Eisteddai ar y pentwr cerrig gyda chlustog odano, a sgrîn ar ffurf cadair wellt uchel o'r tu cefn iddo i'w gysgodi rhag yr hin. Symudai'r "cysgod" yn ol y galw, i gyfarfod â chyfeiriad y gwynt a'r glaw. Clywid sŵn ei forthwyl o'r pellter, a'i ergydion yn amrywio, fel nodau mewn alaw—ysgafn a thrwm,—cyflym ac araf, bob yn ail. Ac felly hefyd y symudai'r twr cerrig. Wedi i un gyfran gael ei hollti, deuai pentwr arall i lanw ei lle.
Arferai'r plant sefyll i gael sgwrs fach â Mathew Dafis ar eu ffordd i'r ysgol. Ac un o'u cwestiynau cyntaf iddo fyddai :
"Beth ydyw hi o'r gloch? Ydan ni mewn pryd heddiw?"
Yr oedd clociau'r wlad yr adeg honno o flaen clociau'r pentre. Ni fyddai'r teulu yn gysurus eu<noinclude><references/></noinclude>
gkm5gyg3zd542qi91g8dbdgx8zqt66u
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/72
104
69868
140306
2025-06-19T01:42:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140306
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddwl oni byddai'r cloc rhyw awr "o flaen yr amser." A dywedai rhai o bobl Llanaber mai yr unig beth oedd ar y blaen yn y "wlad" oedd y cloc!
Ond gwyddai Mathew Dafis beth oedd hi ar y gloch. Yr oedd ganddo oriawr fawr yn ei logell, a honno wedi ei chydio wrth gadwyn o ledr, ac un pen iddi wedi ei sicrhau wrth fotwm ei wasgod. Ac wedi i'r plant amgylchu'r twr cerrig dodai'r morthwyl o'i law, a chydag arafwch tynnai'r watch fawr o'i logell, a dywedai'n bwyllog:
"Yr ydach chi yn reit saff am yr amser. Hanner awr wedi wyth,—newydd droi. Peth da ydi bod mewn pryd. Gwnewch eich gorau i ddysgu. 'Ches i ddim diwrnod o ysgol; 'd oedd dim byd felly yn y wlad yma pan oeddwn i yn hogyn."
Ond nid dyn anwybodus oedd Mathew Dafis. Ni wyddai gymaint am lyfrau a barddoniaeth â Sadrac Jones, ond gwyddai drwy sylwi a gwrando am bethau mewn Natur. Iddo ef, yn ystod boreau cynnar bywyd, y mae rhai o blant y cyfnod hwnnw'n ddyledus am wybod enwau adar a blodau, a gwybod am y bywyd rhyfedd a lecha mewn clawdd a llŵyn.
Bychan oedd ei gylch a chyffredin oedd ei orchwyl. Ond yr oedd mor siriol â'r gwanwyn, ac mor gyson yn ei orchwyl â goleuni'r dydd. Dyn y gweithdy oedd Sadrac Jones: dyn yr awyr agored oedd Mathew Dafis. Mainc y crydd oedd gorsedd y naill; twr cerrig oedd gorsedd y llall.
Bwthyn ar fin y ffordd oedd ei gartref â gardd fechan o flaen y tŷ. Yno tyfai'r blodau yn eu tymor, â gwrych o "bren bocs" o gwmpas y lle. Ac yr oedd y gwrych hwnnw yn gampwaith llaw a gwellaif.<noinclude><references/></noinclude>
6afwb2iueqfpbdyo4aaqvokc5633ii0
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/73
104
69869
140307
2025-06-19T01:43:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140307
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd un ran ohono ar ffurf clochdy a "cheiliog gwynt" ar ei ben! Ni symudai'r ceiliog ddim. Ni allai. Pren bocs oedd ei ddeunydd. Ond troai pawb a ai heibio i edrych arno, a rhyfeddent at fedr y perchennog.
Trin y cerrig oedd ei orchwyl: trin yr ardd oedd ei bleser. Ond yr oedd mwy o ddelw'r ardd a'r blodau ar ei fywyd nag o ddelw'r cerrig a dorrai ar fin y ffordd. Gwyddai sut i hollti'r garreg, ac yr oedd celf yn ei ddull o ddefnyddio ei forthwyl. Awyddai ambell hogyn ysgol am " dreio ei law."
"Gaf i gynnyg torri'r cerrig yma, Mathew Dafis?"
'Cei, machgen i. Mi gaf innau gymryd fy anadl am funud neu ddau."
Ond methu y byddai'r bachgen er taro'n drwm. Ni ildiai'r mo'r garreg ddim.
"Nid yn y taro y mae'r dirgelwch," ebr Mathew Dafis. "Y mae eisiau dallt sut, a lle i daro, a rhaid iti ddysgu peth felly. Ond gwell i ti ddysgu dy wers yn yr ysgol, ac yna mi gei rywbeth gwell i'w wneud na thorri cerrig."
"Fuo chi'n hir yn dysgu eich gwaith, Mathew Dafis?"
"Wel, a deud y gwir, dysgu yr ydw i o hyd. Ar y dechrau mi fyddwn yn taro'n rhy drwm, ac yn torri coes y morthwyl wrth dreio torri'r garreg. Ond mi ddois i ddallt bob yn dipyn mai nid nerth braich ac ysgwydd ydi popeth. Weli di'r garreg yma? Daswn i yn ei gosod fel hyn, ni thorrai o gwbl. Ond wedi ei throi fel yma " (cnoc, a dyna'r garreg yn hollti'n llyfn a hwylus).
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pxcjlwladnot47b1ch4hiqxpusdndho
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/74
104
69870
140308
2025-06-19T01:43:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140308
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Fel yna y byddai Mathew Dafis yn diddori'r plant ac yn dysgu iddynt wersi syml, a ddaeth i feddu ystyr a gwerth gyda phethau eraill yn y blynyddoedd oedd i ddilyn.
Rywdro, wedi i ni droi allan i'r byd, gwelsom lyfr yn dwyn y pennawd—''"The Art of Doing Things."'' Y mae celf ym mhob gorchwyl, a gellir troi'r gwaith symlaf yn ''fine art''. Ond, erbyn meddwl, nid oedd cynnwys y llyfr hwnnw yn ddim amgen na gwedd arall ar y gwersi a gawsem gynt gan y torrwr cerrig ar fin y ffordd. Ac iddo ef a'i ddiwydrwydd syml yr oedd gwladwyr plwy Llanaber yn ddyledus am fod iddynt "ffordd dda " i'w thramwy yn feunyddiol. Mathew Dafis oedd ''road-mender'' ei fro, ac yr oedd ei orchwyl mor bwysig a'r eiddo'r athro ysgol, neu'r meddyg a ai heibio yn ei gerbyd i ofalu am y cleifion.
Y mae'r "torrwr cerrig" wedi ymado ers llawer dydd, a gwag yw'r bwthyn ar ymyl y ffordd. Ond pan yn ymweld â'r hên fro, ambell hirddydd haf, safwn ar y drofa, a dychmygwn glywed sŵn y morthwyl megis cynt!
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
896cx7jjbhycwlq827ulyap3pkqtzo5
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/75
104
69871
140309
2025-06-19T02:29:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140309
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD XVI.<br>{{mawr|DYDDIAU PRYSUR.}}}}
LLED farwaidd fyddai pentre Llanaber ym misoedd y gaeaf, ond ar drothwy Ebrill gwelid arwyddion o ddeffroad. Adeg brysur ar bob crefftwr yno fyddai'r Groglith a'r Pasg. Byddai eisiau cael rhywbeth newydd ar gyfer dyfodiad gwyliau'r gwanwyn. Gellid gwneud yn weddol gyda'r hên bethau yn ystod y dyddiau byrion a'r nosweithiau tywyll. Ni sylwai neb rhyw lawer ar y dillad na'r esgidiau y pryd hynny. Ond yr oedd yn rhaid cymryd pethau o'r fath i ystyriaeth pan fyddai'r dydd yn ymestyn, a'r haul yn dangos pethau yn eu lliw a'u llun priodol. Onid oedd y coed a'r gerddi yn gweddnewid bob dydd, a phopeth yn gwisgo newydd-deb a harddwch? Nid dilyn y ffasiwn" yr oedd pobl Llanaber yn y dyddiau gynt, ond dilyn Natur, ac ni ellid gwneud hynny yn weddus heb gael dillad newydd ac esgidiau newydd. Dywed Glasynys yn un o'i ganeuon fod Anian yn Ebrill yn gwisgo "esgid feillion am ei throed." Ond ni thalai'r esgid ysgafn honno i gerdded llwybrau'r wlad. Oherwydd paham byddai cyrchu mawr i weithdy Sadrac Jones cyn dyfod gŵyliau'r Pasg.
Dyna'r siars bendant ar yr aelwyd, "Cofia di fynd at Sadrac Jones yfory i gael mesur dy droed."
"Ond mi fesurodd y nhroed i'r llynedd."
"Eitha' gwir, ond y mae'n siwr fod dy droed di wedi tyfu er hynny. Y mae blaenau dy fysedd bron â thorri drwy'r esgidiau. Cofia di ddeud wrtho fo am eu gwneud nhw yn ddigon o faint y tro nesaf."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
es3d4a7dgvaysp54exot243dpbxmcn2
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/76
104
69872
140310
2025-06-19T02:29:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140310
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond i ni oedd yn adnabod Sadrac Jones nid oedd angen dim yn rhagor na "mesur y troed." Deallai ef ei waith, a deallai ei gwsmeriaid. Ac ymddiriedai pawb yn yr ardal yn ei onestrwydd a'i farn. A phan ddeuai rhywun anghyfarwydd i'r ardal, â thipyn o fursendod yn ei eiriau, ni byddai'n hir heb ddod i ddeall nad cydnaws ag annibyniaeth Sadrac Jones oedd goddef i neb ei "batroneisio " ynglŷn â'i alwedigaeth. Credai mewn prynu'r defnyddiau gorau, a rhoddai yntau'r gwaith gorau. Golyga hynny amser dyladwy i orffen y gwaith. Nid oedd Sadrac Jones yn berchen y ddawn i greu esgidiau, ac ni fynnai addaw ond yr hyn y gallai yn rhesymol ddisgwyl ei gyflawni. Ac am hynny gwrthodai gymhellion taer i wneud esgidiau ar yr "unfed awr ar ddeg."
"Os oes arnoch eu heisiau erbyn y Pasg ni allaf gymryd yr ordor. Y mae gennyf gymaint ag a allaf ddod i ben â nhw."
"'D oes dim i'w wneud ond mynd i'r dref am bâr ''ready made''," dywedai'r cwsmer.
"Fel y mynnoch am hynny," dywedai Sadrac Jones; "ond cofiwch mai gwerthu am arian parod y mae siopau'r dre."
Newidiai hynny'r rhagolygon. Ychydig fyddai'n arfer talu "ar law" i Sadrac Jones. Dyna arfer gwlad y pryd hynny,—y gwas fferm yn addo talu wedi derbyn ei gyflog am yr hanner blwyddyn, a'r ffermwr ei hun yn addo setlo'r bil wedi gwerthu'r bustych yn ffair Wyl Ifan, neu ryw ''landmark'' o'r fath yn ystod blwyddyn. Ond ni roesai Sadrac Jones na<noinclude><references/></noinclude>
38c13z1lxslutqrnu0ev911jcxzlpof
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/77
104
69873
140311
2025-06-19T02:31:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140311
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwas na morwyn erioed yn llys y mân—ddyledion. phan fyddai gweithiwr ynghanol trafferthion byw, a'i
{{c|"Dylwyth yn wyth neu naw,"}}
ni soniai Sadrac Jones ddim am ei ddyled.
"Mi gei dalu fel y medri di, John, ond pan fydd ar rai o'r plant acw eisiau pâr o esgidiau, tyrd yma fel arfer. Mi gei dy gefn atat yn y man, a daw'r plant i'th helpu dithau."
Ond trethai dyfodiad gwyliau'r Pasg amser ac amynedd Sadrac Jones. Câs beth oedd ganddo wrthod cais, ond yr oedd yn ormod o foneddwr i "dorri ei air." Gweithiai yn galed o fore i hwyr, a Nansi Owen yn "tendio" arno yn ddyfal, rhag iddo syrthio i wendid. Ond wedi iddo orffen y pâr olaf o esgidiau ar gyfer y Groglith byddai fel dyn wedi dod allan o'r caethiwed, llawenychai yn ei ollyngdod am ennyd o afaelion caledwaith hir.
"A glywodd rhai ohonoch y gog eleni?"
"Naddo, Sadrac Jones, ond dywedai Gruffudd Ffridd Wen iddo ei chlywed wrth fynd i nol y gwartheg bore ddoe."
Felly wir. A ddowch chwi am dro bore fory i edrych ydi'r peth yn wir? Mi awn i gyfeiriad y mynydd. Canodd un o'r beirdd yn glws iawn am y gog,—
{{center block|
<poem>
'Pwy feddyliai canai cog
Mewn mawnog yn y mynydd.'
</poem>
}}
"Ond mewn lle felly y mae hi'n arfer canu, ac yno y clywir hi gynta' yn y rhannau hyn o'r wlad."
Ac felly yr aem yng nghwmni Sadrac Jones i'r ffriddoedd pell i glywed y gog. Arferai ofalu am<noinclude><references/></noinclude>
c5q2iwjos6npeyx2ta8ljtaaxr44iw3
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/78
104
69874
140312
2025-06-19T02:32:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140312
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''geiniog'' i bob un ohonom i'w rhoddi yn ein llogell cyn cychwyn. A oedd Sadrac Jones yn ofergoelus? Mae'n debyg ei fod ar rai pethau. Onid ydyw pawb felly i raddau, os addef y gwir? Onid gwell gennych weld dwy frân nag un ar y ffordd yn y bore? Ai diystyr gennych pa ran o'r oen bach cyntaf a welwch yn y gwanwyn fydd nesaf atoch? A oes rhywbeth yn y traddodiad fod bod â cheiniog yn y llogell pan glywir deunod y gwcw—y gwcw gynta—ar fore o wanwyn mwyn yn ernes o ddedwyddwch? Barned y doeth a'r deallus. Ond er dyddiau Sadrac Jones hyd heddiw gwell gennym ei chlywed â'r geiniog yn ein llogell.
Ac os digwyddai na byddai'r gog wedi cyrraedd at ei chyhoeddiad mewn "mawnog yn y mynydd," ond odid na fyddem wedi darganfod nyth aderyn yn rhywle ar ein ffordd adref.
Ac os deuem ar draws nyth yn y drain, gwisgai Sadrac Jones ei ''spectol'' er mwyn cael golwg ar yr ŵyau.
Pwy a ddysgodd i'r aderyn wneud ei nyth, a'i wneud yr un fath drwy gydol y blynyddoedd? Y mae gwaith dyn yn newid.
"Crydd oedd y nhaid," ebr Sadrac Jones, "ond 'd ydw i ddim yn gwneud esgid heddiw fel y byddai ef. Ond gwna'r deryn du ei nyth eleni fel yr oedd yng ngardd Eden."
"Sut y gwyddoch chi fod yno aderyn du, Sadrac Jones?"
"Fuase'r ardd honno ddim yn Eden heb nyth aderyn. Ac mi welais ddarn o farddoniaeth rywdro yn deud bod rhai o'r adar bach wedi gofyn am<noinclude><references/></noinclude>
2gmjwxc6hw5g8q24gem8qnnlihtwaui
Tudalen:Pentre'r plant.djvu/79
104
69875
140313
2025-06-19T02:35:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
140313
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ganiatad i fynd efo Adda ac Efa wedi eu gyrru o Baradwys, ac wedi mynd yn gwmni iddynt yn yr anialwch. Hwyrach mai ffansi ydi peth fel yna, ond y mae yn glws iawn. Ac yn rhyfedd iawn, mi gewch nyth aderyn mewn lleoedd digon diffaith a llwm.
Erbyn heddiw gwelir ''Easter eggs'' o waith celfyddyd yn ffenestri'r siopau. Ond yn nyddiau Sadrac Jones gwelid "wyau'r Pasg" yn daclus mewn nyth aderyn, ac yno y gadewid hwy mewn gobaith y deuent yn gywion bach" cyn hir. O! hên weledigaethau mwyn:
{{center block|
<poem>
"Daeth aderyn bychan arall
:A'r lâs gangen yn y coed."
</poem>
}}
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|PENNOD XVII.<br>{{mawr|AR DROTHWY'R HAF.}}}}
PE digwyddai etholiad ynglŷn â misoedd y flwyddyn, pa un a gawsai'r nifer mwyaf o bleidleisiau? Wrth feddwl am y peth yng ngolau'r dyddiau fu, ac yn ol syniad plant y wlad, braidd na chredwn mai'r ymgeisydd llwyddiannus fuasai mis Mai. Yr oedd mor boblogaidd gyda phob gradd. Ac os byddai'r hin yn lled afrywiog yn Ebrill—"gwynt a glaw yma a thraw"—edrychai'r bobl siaradai am y tywydd yn ddoeth, a dywedent, "Mi ddaw'n braf yn union. Mae mis Mai yn dod."
{{center block|
<poem>
"Daw clymu, daw Clamai,
:Daw cywion gwyddau bach."
</poem>
}}
<br
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
3klfxuahb48un3oiedg6jus0zgryoyy