Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.45.0-wmf.7
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Categori:Robert Griffith, Madagascar
14
69657
141077
139824
2025-06-25T10:27:27Z
AlwynapHuw
1710
141077
wikitext
text/x-wiki
Roedd '''Robert Griffith, Madagascar''', (1873-19 Mehefin 1939) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn awdur. Fe'i annwyd yng Nghorwen, Sir Feirionnydd. Fe fu'n gweithio fel gof am gyfnod cyn cael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Bala Bangor ym 1895. Cafodd ei ordeinio yn ei gapel cartref yng Nghorwen ym 1899 ac aeth i weinidogaethu fel cenhadwr ym Madagascar o 1899 i 1915. Dychwelodd i ynysoedd Prydain ym 1915 a fu'n gweithio fel cynrychiolydd Cymru yn swyddfa Cymdeithas Genhadol Llundain. Bu farw yn Llundain ym 1939. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan amlaf ar bynciau cysylltiedig â'r maes cenhadol.
{{DEFAULTSORT:Griffith, Robert}}
[[Categori:Gweinidogion Annibynnol Cymreig]]
s088y2sg2yp4wz1ns05fsvxgdpg8nf2
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/36
104
70161
141053
2025-06-24T14:19:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141053
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|STORI V {{mawr|Y BWYD NEWYDD }}}}
ERS talwm iawn iawn, hynny yw, gannoedd lawer o flynyddoedd yn ôl yr oedd holl drigolion y ddaear yn byw fel y mae pobl y goedwig a'r diffeithwch yn byw heddiw. Nid oeddynt nac yn hau nac yn medi. Eu prif waith, yn wir eu hunig waith, oedd hela a chasglu'r ffrwythau gwyllt a ddigwyddai dyfu yn eu gwlad.
Ac yn y cyfnod pell iawn yma, yr oedd pennaeth yn byw yn Affrica a elwid Ababa. Ystyr Ababa yw Tad.
Yr oedd gan Ababa lawer iawn o blant yn feibion a merched a hefyd nifer lled dda o weision. Yr oedd ganddo nifer o wartheg; ond ni ellid ei alw yn gyfoethog nac ychwaith yn dlawd.
Ond yr oedd un peth da i'w ddywedyd amdano. Yr oedd yn barchus gan ei bobl am ei fod yn bennaeth cyfiawn a charedig. Dywedir na bu iddo erioed droi dyn newynnog i ffwrdd heb fwyd, ac yr oedd yn enwog am ei haelioni ym mhob<noinclude><references/></noinclude>
asz1eozs9e87hiaqf8xmzsep96jh0un
141054
141053
2025-06-24T14:19:53Z
AlwynapHuw
1710
141054
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|STORI V<br>{{mawr|Y BWYD NEWYDD }}}}
ERS talwm iawn iawn, hynny yw, gannoedd lawer o flynyddoedd yn ôl yr oedd holl drigolion y ddaear yn byw fel y mae pobl y goedwig a'r diffeithwch yn byw heddiw. Nid oeddynt nac yn hau nac yn medi. Eu prif waith, yn wir eu hunig waith, oedd hela a chasglu'r ffrwythau gwyllt a ddigwyddai dyfu yn eu gwlad.
Ac yn y cyfnod pell iawn yma, yr oedd pennaeth yn byw yn Affrica a elwid Ababa. Ystyr Ababa yw Tad.
Yr oedd gan Ababa lawer iawn o blant yn feibion a merched a hefyd nifer lled dda o weision. Yr oedd ganddo nifer o wartheg; ond ni ellid ei alw yn gyfoethog nac ychwaith yn dlawd.
Ond yr oedd un peth da i'w ddywedyd amdano. Yr oedd yn barchus gan ei bobl am ei fod yn bennaeth cyfiawn a charedig. Dywedir na bu iddo erioed droi dyn newynnog i ffwrdd heb fwyd, ac yr oedd yn enwog am ei haelioni ym mhob<noinclude><references/></noinclude>
cohl7b0d3pg4oaz55xay43rsor4r4ap
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/38
104
70162
141055
2025-06-24T14:20:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141055
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>achos da. Dywedai'r bobl amdano: "Y mae'n dad mewn gwirionedd i bob un ohonom."
Un diwrnod aeth gwartheg Ababa ar gyfeiliorn a bu raid iddo ef a'i feibion fyned ledled y wlad i chwilio amdanynt. Ababa a'u gwelodd gyntaf. Yr oeddynt yn pori'n hamddenol ar lan afon fawr sydd yn enwog iawn heddiw, sef yr afon Zambesi.
Sylwodd y pennaeth fod ei wartheg yn berffaith hapus a graenus ac yn bwyta rhywbeth oedd yn hollol newydd iddo ef. Ar y cyntaf meddyliodd mai math o gorsen ydoedd, a'i bod yn fain ac eiddil o herwydd prinder dŵr. Dro arall, meddyliai mai math o welltglas ydoedd, am ei fod yn debyg i ryw blanhigyn y clywodd amdano yn y gogledd. Modd bynnag, nid oedd neb yn y wlad wedi gweled y fath beth o'r blaen. Yr oedd tywysen arno, ac yn y dywysen yr oedd hadau, ac yr oedd y planhigyn o bump i chwe troedfedd o uchter. Casglodd y pennaeth y tywysennau ac aeth â hwynt adref, gan alw ei wraig i weled bwyd newydd y gwartheg, ac wedi iddynt ei chwilio mor fanwl ag y medrent hwy yr adeg hynny, meddai'r wraig:
"Gadewch i mi eu sychu a'u malu rhwng y cerrig. Feallai y byddant yn fwyd da i ninnau hefyd."
Mabana oedd enw gwraig y pennaeth, ac yn ôl yr hanes yr oedd nid yn unig yn wraig i ddyn mawr<noinclude><references/></noinclude>
emhdm56no9qd2htnbavmtbzuir243u3
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/39
104
70163
141056
2025-06-24T14:21:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141056
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a phwysig, ond yr oedd hithau hefyd yn ferch gall a synhwyrol. Wedi malu'r hadau rhwng y cerrig profodd hwynt ac meddai: Y maent yn dda, ond yn galed. Ys gwn i beth a ddigwyddai pe rhoddwn hwynt mewn dŵr berwedig?" Gwnaeth hynny ac meddai: "Dyma welliant, ond tipyn yn galed ydynt eto hefyd: mi a'u berwaf." Yr oeddynt mor dda fel y galwodd Mabana ei fawrhydi y pennaeth i'w profi.
"Dyma fwyd newydd a da," meddai. "Yr wyf fi wedi ei brofi, a dyma'r bwyd gorau a gefais erioed." Yna cyfranogodd y pennaeth ohono, ac yr oedd llawenydd mawr ymysg y llwyth am iddynt ddarganfod bwyd newydd.
Bob blwyddyn âi'r pennaeth a'i bobl i lan yr afon fawr i gasglu'r hadau, oblegid yr oedd llawer ohonynt erbyn hyn wedi profi'r bwyd newydd ac yr oedd fel amheuthion melys iddynt hwy.
Un gaeaf, pan oedd bwyd yn brin iawn yn y wlad, aeth y pennaeth a'i bobl i hela yn y diffeithwch, ac yn yr helfa clwyfwyd Gemsbok, math o ''antelope'' mawr a chryf sydd i'w weled yn aml yn neheudir Affrica. Tebyg i ful ydyw o ran maint, ac y mae ei gyrn hir a miniog yn ei wneuthur yn greadur gwir beryglus. Y mae hanes amdano yn lladd hyd yn oed lew. Wedi ei glwyfo aeth y pennaeth<noinclude><references/></noinclude>
9fav8fx8hhs1fg2e78tbb9fadn82wjd
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/40
104
70164
141057
2025-06-24T14:21:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141057
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymlaen i'w orffen â'i waywffon; ond er ei syndod neidiodd y Gemsbok a rhuthrodd at y pennaeth a lladdodd ef yn y fan. Yr oedd galar mawr ymysg y llwyth pan gyhoeddwyd y newydd prudd fod y pennaeth da wedi marw, a dywedir bod hyd yn oed y rhai nad oeddynt yn gallu wylofain wedi gwlychu eu llygaid gymaint fel y meddyliai pawb eu bod yn galaru.
Wedi rhai dyddiau daeth tyrfaoedd ynghyd i'r angladd, a chan mai pennaeth oedd wedi marw, credent y gallai ei ysbryd eu cynorthwyo a'u hamddiffyn, ac y deuai bendith a daioni iddynt os aberthent iddo. A hyd yn oed pe na allai ef ei hun ateb eu hymbil, yr oedd mor hawddgar a da pan yn fyw, fel y gwyddent y gwnai bopeth posibl i ddyfod o hyd i ryw un ym myd yr ysbrydion a fedrai wneuthur hynny.
Yr oedd ganddynt y fath ffydd yn eu pennaeth fel y meddylient yr elai ef oddiwrth un hynafgwr at hynafgwr arall hyd nes yn y diwedd ddyfod at y cyntaf i gyd, sef tad a chreawdr pob dyn.
Ar ôl yr angladd, a llawer o seremoniau ac aberthu, ymgasglodd tylwyth y pennaeth ynghyd i ystyried y modd gorau i anrhydeddu coffadwriaeth eu tad.
Modi, y mab hynaf, oedd ar yr orsedd yn awr, ac meddai: "Yr ydym yma i anrhydeddu coffadwriaeth<noinclude><references/></noinclude>
ma856m2lt68jcvg1h6c46aral2mvnpn
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/41
104
70165
141058
2025-06-24T14:22:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141058
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ein tad. Y mae rhai pennaethiaid enwog wedi eu claddu ac y mae'r teulu wedi dodi cerrig mawrion ar eu beddau. Pa beth a wnawn i ddangos ein parch i'n tad, yr hwn oedd mor hawddgar a phoblogaidd? O blant Ababa, yr wyf yn barod i dderbyn eich awgrymiadau."
Wedi peth ymddiddan, a gofyn rhai cwestiynau, cododd Mabele, merch hynaf Ababa, ar ei thraed ac meddai: "Blant Ababa, gwyddom oll mor annwyl a pharchus gan bawb oedd ein tad, ac yr oedd mor garedig i'w blant fel y dylem gofio ei weithredoedd da. Nid dyn cyffredin oedd ein tad ni. Cyflawnodd lawer o bethau a'i gwnelai yn ddyn mawr. Ond y peth yr wyf fi yn ei gofio orau am dano yw iddo ef ddarganfod y bwyd newydd; a hynny pan yr oedd y bobl yn dechrau blino ar yr aeron, a'r gwreiddiau. Fy ngair i yw hyn: Gadewch inni anfarwoli coffadwriaeth ein tad fel y gŵr a ddarganfu'r bwyd newydd sydd mor dderbyniol gan bawb yn y wlad.
Felly, dodwn ar ei fedd, hadau'r bwyd newydd, a bydd hyn yn arwydd nad ydym wedi ei anghofio, ond ein bod bob amser yn anrhydeddu ei goffadwriaeth. Dyma fy ngeiriau i."
Yna safodd Modi, pennaeth y llwyth, ac meddai: "Yr wyf yn cydfyned ag awgrym Mabele, ac yn<noinclude><references/></noinclude>
klb6gn5emokobqrimc32q5zo9xycss0
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/42
104
70166
141059
2025-06-24T14:25:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141059
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gorchymyn i'r hadau gael eu dodi ar fedd ei fawrhydi ein diweddar dad, a thrwy hyn cedwir ei goffadwriaeth yn fyw yn ein mysg.'
Mabele oedd i gael yr anrhydedd o ddodi'r hadau ar y bedd; a daeth rhywbeth drosti i ddywedyd y dylai balu tipyn cyn hau, rhag i'r adar ddyfod a bwyta'r hâd.
Nid oedd ganddi offer ar gyfer palu fel sydd gennym ni. Torrodd gangen coeden a rhwbiodd hi ar garreg nes cael blaen miniog arni, ac â hon y llwyddodd i wneuthur rhyw lun o balu. Yna gwasgarodd yr hadau.
"Mabele," meddai Modi, "yr ydych wedi gwasgaru'r hadau, beth am yr adar? Deuant yma i'w bwyta oni wneir rhywbeth i'w cuddio." "Dodaf bridd i'w cuddio" ebe Mabele, ond ni wyddai o gwbl ei bod wrth wneuthur hynny yn cyflawni gweithred oedd yn sicr o newid cyflwr bywyd y wlad.
Wedi rhai misoedd daeth y glawogydd, ac er syndod i bawb yr oedd y bedd a'r tir o'i amgylch yn lâs i gyd, a meddyliai pawb fod bedd Ababa yn dlysach nag unrhyw fedd yn y wlad. Ond cyn hir gwelodd y bobl y planhigion bach glâs yn tyfu fel y bwyd ar lan yr afon, a chyn pen ychydig wythnosau yr oedd tir fel cae ŷd mawr a'r tywy-
Q
sennau'n llawer mwy na'r rhai a gesglid ar lan yr afon.
Meddai Mabele: "Y mae ein tad yn ein bendithio am inni anrhydeddu ei enw drwy ei gydnabod fel darganfyddwr y bwyd newydd." A dyma, meddai traddodiad, y modd y daeth pobl Affrica i ystyried y ''Kaffir corn'' fel bwyd gorau'r wlad.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
equa11oh042imujl7wj5wlh5500eynw
141060
141059
2025-06-24T14:55:09Z
AlwynapHuw
1710
141060
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gorchymyn i'r hadau gael eu dodi ar fedd ei fawrhydi ein diweddar dad, a thrwy hyn cedwir ei goffadwriaeth yn fyw yn ein mysg.'
Mabele oedd i gael yr anrhydedd o ddodi'r hadau ar y bedd; a daeth rhywbeth drosti i ddywedyd y dylai balu tipyn cyn hau, rhag i'r adar ddyfod a bwyta'r hâd.
Nid oedd ganddi offer ar gyfer palu fel sydd gennym ni. Torrodd gangen coeden a rhwbiodd hi ar garreg nes cael blaen miniog arni, ac â hon y llwyddodd i wneuthur rhyw lun o balu. Yna gwasgarodd yr hadau.
"Mabele," meddai Modi, "yr ydych wedi gwasgaru'r hadau, beth am yr adar? Deuant yma i'w bwyta oni wneir rhywbeth i'w cuddio." "Dodaf bridd i'w cuddio" ebe Mabele, ond ni wyddai o gwbl ei bod wrth wneuthur hynny yn cyflawni gweithred oedd yn sicr o newid cyflwr bywyd y wlad.
Wedi rhai misoedd daeth y glawogydd, ac er syndod i bawb yr oedd y bedd a'r tir o'i amgylch yn lâs i gyd, a meddyliai pawb fod bedd Ababa yn dlysach nag unrhyw fedd yn y wlad. Ond cyn hir gwelodd y bobl y planhigion bach glâs yn tyfu fel y bwyd ar lan yr afon, a chyn pen ychydig wythnosau yr oedd tir fel cae ŷd mawr a'r tywy-<noinclude><references/></noinclude>
99q67a1rdjsp0y71i8ccui5v3pbqsk3
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/43
104
70167
141061
2025-06-24T14:55:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141061
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>sennau'n llawer mwy na'r rhai a gesglid ar lan yr afon.
Meddai Mabele: "Y mae ein tad yn ein bendithio am inni anrhydeddu ei enw drwy ei gydnabod fel darganfyddwr y bwyd newydd." A dyma, meddai traddodiad, y modd y daeth pobl Affrica i ystyried y ''Kaffir corn'' fel bwyd gorau'r wlad.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
c74y137u11834ii5n3o9i48qslgcuqg
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/44
104
70168
141062
2025-06-24T15:17:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141062
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|STORI VI <br>{{mawr|Y LLWYNOG A'R HWYADEN}}}}
UN diwrnod daeth llwynog at lan llyn mawr i yfed dŵr. Yr oedd arno gymaint o eisiau diod fel y meddyliai y byddai yn berffaith hapus a bodlon pe gallai dorri ei syched. Ond wedi yfed y dŵr daeth chwant bwyd arno; ac wrth syllu â'i lygaid craff gwelodd hwyaden braf yn nofi'n hamddenol ar wyneb y dŵr. Nid oedd gan y llwynog ryw feddwl uchel iawn o hwyaid dŵr, er y gwyddai'n iawn eu bod yn dda i'w bwyta.
Y gwirionedd yw, ni theimlai'r llwynog ei hun yn berffaith gartrefol yn y dŵr.
Gallai nofio, y mae'n wir, fel y medr pob anifail wneuthur, ond ni allai ddangos ei gyfrwysdra yn y dŵr fel y gallai ar y tir. Modd bynnag yr oedd cymaint o eisiau bwyd arno y tro hwn fel y teimlai fod yn rhaid mentro; a dechreuodd gynllunio.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6obko16d7bfo5qudhvlb5jfipmecm2k
Sgwrs Defnyddiwr:Зорана Филиповић
3
70169
141063
2025-06-24T15:24:37Z
Зорана Филиповић
3871
Dechrau tudalen newydd gyda "== Напомена == Ово је додатни налог главног налога [[m:User:Filipović Zoran|Filipović Zoran]] који је од 19. августа 2024. године на трајном вики-одмору. ~~~~"
141063
wikitext
text/x-wiki
== Напомена ==
Ово је додатни налог главног налога [[m:User:Filipović Zoran|Filipović Zoran]] који је од 19. августа 2024. године на трајном вики-одмору. [[Defnyddiwr:Зорана Филиповић|Зорана Филиповић]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Зорана Филиповић|sgwrs]]) 15:24, 24 Mehefin 2025 (UTC)
9sz0j0ycxw7axf12w6smiyg6dsr5gt6
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/46
104
70170
141064
2025-06-25T10:00:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141064
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn ei ymyl yr oedd darn cul o dir yn ymestyn ychydig lathenni i'r dŵr, nid tir mohono chwaith, ond llaid. Gwthiodd y cnaf cyfrwys ei ffordd yn hwn mor bell ag y gallai a chymerodd arno fod mewn perigl. Galwodd ar yr hwyaden i'w helpu a meddai: "O Meistres Hwyaden, dewch i'm helpu!
"'Rwyf wedi glynu yn y llaid, ac ni allaf symud!" Nofiai'r hwyaden falch heb wneuthur unrhyw sylw o'r llwynog. Yna dechreuodd y llwynog wenieithio iddi a dywedyd: "Gwyddoch Meistres Hwyaden fel yr wyf bob amser yn edmygu eich adenydd tlws: y maent mor gryf a phrydferth. Sylwais arnoch yn hedfan dros y llyn, ac ni welais aderyn tlysach erioed—a'r modd urddasol y disgynasoch ar y dŵr oedd y peth tecaf a welais i erioed."
"A! yr hen walch!" ebe'r hwyaden: "Mi hoffet ti fy mwyta, 'rwyn gweled: dydd da."
"Sut y gellwch feddwl y fath beth Meistres Hwyaden, a minnau yn edmygwr o honoch ar hyd f'oes? Dewch yn nes i helpu creadur tlawd mewn gwir berigl: un na all ei achub ei hun, llawer llai gwneuthur niwed i un y mae yn ei hoffi mor fawr."
"Er hynny, frawd, y mae arnaf dy ofn " ebe'r hwyaden; "ond os wyt am ddyfod yn rhydd o'r<noinclude><references/></noinclude>
7q0f5wmf8bn5llkl8f8z10y2bjygzg9
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/47
104
70171
141065
2025-06-25T10:01:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141065
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llaid, gwna fel hyn," a lledodd ei hadenydd gan eu hysgwyd ar y dŵr.
"Ol unwaith eto" meddai'r llwynog cyfrwys, "y mae mor dlws." Ac yr oedd yr hwyaden mor falch o'i hadenydd, ac mor barod i'w dangos ei hun fel yr anghofiodd gyfrwysdra'r llwynog. Tra'r oedd hi'n brysur yn dangos ei phranciau ar y dŵr symudodd y llwynog yn nesnes ati ac fel yr ysgydwai ei hadenydd heb edrych o'i chwmpas cydiodd y llwynog ynddi. A dyna ddiwedd yr hwyaden.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
8zqczao1ym4b8b7efw0gtoxntyn8q20
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/48
104
70172
141066
2025-06-25T10:15:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141066
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|STORI VII<br>{{mawr|KOBE A'R TABWRDD}}}}
RYW dro, yr oedd merch fach yn byw gyda'i thad a'i mam mewn pentref ar lan un o afonydd mawr Affrica.
Yr oedd ganddi un brawd, ac un chwaer. Yr oedd y brawd, er yn llawer hŷn na hi, yn hoff iawn o'i chwaer fach. Gofalai amdani ymhob modd, yn enwedig pan elai i chwarae ar lan yr afon. Ofnai iddi syrthio i mewn a chael ei llarpio gan un o'r crocodiliaid.
Yr oedd iddi chwaer hefyd dipyn yn hŷn, ond nid oedd hi yn byw gyda'i thad a'i mam er pan oedd yn dair ar ddeg oed. Yr oedd yn briod â'r pennaeth—hynny yw, yr oedd yn un wragedd y gŵr mawr hwnnw.
Pan oedd Mundi yn ddeuddeng mlwydd oed anfonodd yr un pennaeth gennad at ei thad gydag anrhegion lawer; nid am ei fod yn hoff ohono, ond am y ceisiai'r ferch fach hon hefyd yn wraig iddo.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gmi3zbo3axivh7u19p6465i4xmtforp
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/49
104
70173
141067
2025-06-25T10:16:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Ni ofynnwyd caniatad Mundi o gwbl. Yr oedd yr holl ymddiddan rhwng y tad a'r cennad. Gan KOBE A'R TABWRDD mai pennaeth oedd am ei chael, â'r anrhegion yn fwy na'r hyn a gawsai gan neb arall, cydsyniodd y tad, a dychwelodd y cennad â'r newydd. {{nop}} Q Pan dorrodd y tad y newydd i Mundi nid oedd ond un peth yn achosi pryder a gofid iddi— pa fodd i adael ei brawd? Gwyddai y rhoddai ei thad hi yn wraig i rywun, rywbryd, heb ofy...
141067
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ni ofynnwyd caniatad Mundi o gwbl. Yr oedd yr holl ymddiddan rhwng y tad a'r cennad. Gan
KOBE A'R TABWRDD
mai pennaeth oedd am ei chael, â'r anrhegion yn fwy na'r hyn a gawsai gan neb arall, cydsyniodd y tad, a dychwelodd y cennad â'r newydd.
{{nop}}
Q
Pan dorrodd y tad y newydd i Mundi nid oedd ond un peth yn achosi pryder a gofid iddi— pa fodd i adael ei brawd?
Gwyddai y rhoddai ei thad hi yn wraig i rywun, rywbryd, heb ofyn ei chaniatad o gwbl. Gallasai y rhywun hwnnw fod yn fwy dieithr na'r pennaeth. Heblaw hynny, yr oedd ei chwaer eisoes yn wraig iddo, a meddyliai y cawsai ei chwmni a'i chynorthwy hi.
Ond yr oedd rhywbeth yn anesmwytho meddwl Mundi. Teimlai y dylai ymgynghori ag un o'r swynwyr.
Dewisodd hen ŵr oedd yn byw heb fod ymhell o'r pentref ac yn enwog am ei fedr i ddehongli breuddwydion a dywedyd ffortiwn. Nid oedd yr hyn a ddywedodd y gŵr pwysig hwnnw yn galonogol iawn i Mundi. Yr oedd i gael un llawenydd mawr a dim ond un. Nid oedd i ddychwelyd byth yn ei hôl i'r hen gartref. Dyna'r cyfan oedd ei neges ef.
Ni wyddai Mundi yn iawn beth i feddwl o'r swynwr a'r hyn a ddywedodd. Yr oedd ei thad wedi derbyn anrhegion y pennaeth, a doed a ddelo yr oedd yn rhaid myned. Ymhen amser daeth y diwrnod iddi adael ei rhieni am ei chartref newydd yn nhref y pennaeth.
Q
Diwrnod mawr oedd hwnnw yn y pentref Daeth y cantorion ynghyd yn gwisgo pob math ar blu a chrwyn anifeiliaid gwylltion i ganu'n iach i Mundi. Ffurfiwyd gorymdaith fawr, ac er bod pob cam o'r ffordd yn orfoledd iddynt hwy, yr oedd Mundi yn pryderu llawer. Ni allai anghofio yr hyn a ddywedodd y swynwr wrthi rai misoedd cynt.
Yn yr orymdaith fawr yr oedd y gwragedd a'r cantorion ar y blaen a'r dynion a'r perthnasau yn dilyn. Dichon mai dyma paham y dywedir "Ni awn tan ganu." Tan ganu a gweiddi a bloeddio a dawnsio yr aethant hwy. Nid oeddynt wedi myned ymhell cyn cwrdd â thorf arall yn dyfod o gyfeiriad tref y pennaeth. Yr oedd ei bobl ef hefyd wedi ffurfio gorymdaith i gwrdd â'r wraig newydd, a mawr oedd y stŵr ar hyd y ffordd, nes derbyn Mundi i balastŷ ei gwr.
Ar y dechrau aeth popeth yn eithaf hwylus yn nhref y pennaeth. Yr oedd ef yn hoff iawn o Mundi ac yn garedig dros ben iddi. Ond ni pharhaodd hynny'n hir. Dechreuodd y gwragedd eraill eiddigeddu, ac yr oedd dyddiau blin a garw o flaen Mundi druan.
Ymhen amser ganwyd mab iddi, ac yr oedd llawenydd y fam fach a'r pennaeth yn anhraethol
Q
fawr yn awr. Yr oedd ganddynt fab. Benjamin bach wedi dyfod i'r palastŷ. mab wedi ei eni daeth Mundi i fwy o ffafr yng ngolwg y pennaeth nag erioed. Fel y dangosai ef ei serch tuag at Mundi felly hefyd y cynhyddai eiddigedd y gwragedd eraill. Ac yr oedd ei chwaer cynddrwg a neb ohonynt. Modd bynnag, penderfynodd Mundi ddioddef y cyfan heb ddywedyd dim wrth neb. Daliodd felly am nifer o flynyddoedd, nes bod y mab yn ddigon mawr i gael darn o liain coch am ei wregys.
Nid oedd hyd yn hyn wedi gwisgo dim o gwbl. Hon oedd ei siwt gyntaf. Clywodd rhai o'r gwragedd fod Mundi yn bwriadu cael darn o liain coch yn wisg i Kobe'r mab. Yr oedd ganddo enw hefyd erbyn hyn. Ymgynghorasant beth fyddai orau iddynt hwy ei wneuthur. Yr oedd ganddynt hwythau blant ac nid oeddynt am i fab Mundi gael dim yn well na'u plant hwy. Ebe un o'r gwragedd: "Anfonwn negesydd i'r dref fawr ar lan y môr i brynu digon o liain coch ar gyfer y bechgyn i gyd."
"Da iawn," ebe'r gwragedd eraill: "dyna gynllun rhagorol."
Clywodd Mundi am hyn ac aeth at ei chwaer i ddywedyd ei bod am i Kobe gael gwisg goch
Q
fel y bechgyn eraill, ac am iddi ofyn i'r negesydd ddyfod a digon ar ei gyfer ef hefyd.
O'r gorau," meddai'r chwaer, oblegid nid oedd am ddangos ei heiddigedd yn allanol.
Wedi rhai wythnosau daeth y negesydd yn ei ôl a'r lliain coch gydag ef, a mawr oedd y cyffro ymysg y gwragedd a'r plant hefyd. Mesurwyd y lliain, ac yr oedd yno union ddigon ar gyfer pawb ond Kobe, a chan mai efe oedd yr ieuengaf, efe hefyd oedd yr olaf i gael ei ddewisiad. Mesurwyd a mesurwyd y lliain ond i ddim pwrpas. Nid oedd ond prin ddigon ar gyfer y lleill.
Tra'r oedd y gwragedd yn brysur yn mesur ac yn torri, yr oedd mwnciod yn chwarae ar ganghennau'r coed yn ymyl, ac yn sylwi'n graff arnynt yn dadlau ynghylch y lliain.
Y mae'r hyn a ddigwyddodd wedyn yn ddirgelwch. Pa un a adawyd y lliain y tuallan tra bu'r gwragedd yn coginio'r uwd, ni wyddom.
Ond hyn sydd sicr: pan ddaethant yn eu hôl yr oedd y lliain wedi diflannu, ac ni wyddai neb i ble. Chwiliwyd a chwiliwyd ond nid oedd dim golwg O'r diwedd cyhuddwyd Mundi o ladrata neu o ddinistrio'r lliain.
Gwadodd Mundi hyn yn bendant, ac awgrymodd mai'r mwnciod oedd y lladron. Ond ni wrandawai'r
Q
swynwr ar ei hesboniad hi. Heb os nac oni bai, yr oedd y gwragedd wedi talu'n dda iddo am ei waith. Condemniodd Mundi i brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, a sefyll ei phraw ar doriad y wawr.
Meddai Mundi wrthi'i hun: "Yr oedd y swynwr yn yr hen gartref yn eithaf iawn. Un llawenydd oeddwn i'w gael ac nid oeddwn i ddychwelyd adref mwy. Dyma ei eiriau wedi dyfod yn wir." Clywodd Kobe fod ei fam i yfed gwenwyn ar doriad y wawr, ac ni wyddai beth i'w wneuthur. Meddyliodd yn ddistaw ynddo ei hun na chawsai ei yfed. Yr oedd wedi dysgu er pan yn faban bron i guro'r tabwrdd. Yr oedd nifer ohonynt at wahanol amgylchiadau yn nhref y pennaeth, ac yntau'n gyfarwydd â phob un. Chwiliodd am y tabwrdd a allai siarad, y tabwrdd a ddefynddid i yrru negesau o un pentref i'r llall.
Heb ddywedyd un gair wrth neb, daeth Kobe o hyd iddo a rhedodd ag ef i'r goedwig. Dringodd i ben coeden a dechreuodd guro, gan obeithio y clywai ei ewythr a phobl ei fam. Ystyr y neges a gurai ar y tabwrdd ydoedd:
'Ewythr a pherthnasau dewch i achub fy mam." Drwy'r nos eisteddodd Kobe yn y goeden gan barhau i guro'r tabwrdd. Ond ni ddaeth neb.
{nop}}
Pan ddechreuodd y wawr dorri aeth Kobe bach yn ddigalon iawn. Meddyliai nad oedd gobaith mwy yr achubid ei fam. Yr hyn a'i poenai'n awr oedd ei fod wedi ei gadael wrthi ei hun trwy'r nos, ac nad oedd yn bresennol i ffarwelio â hi cyn iddi yfed y gwenwyn.
Yr oedd y pennaeth a chwaer Mundi wedi deffro yn fore y diwrnod hwnnw. Nid oedd y pennaeth yn fodlon o gwbl ar waith y swynwr, ond ni feiddiai, hyd yn oed efe wrthwynebu. Ond yr oedd ei chwaer mor eiddigeddus ei hysbryd fel y gobeithiai na ddigwyddai dim i rwystro Mundi i yfed y gwenwyn.
"Ust! Clywch," meddai wrth y pennaeth. "Y mae rhywun yn curo'r tabwrdd yn y goedwig. Y mae'n dywedyd enw fy mrawd, ac yn ei alw ef a'r dynion i achub fy chwaer. Os yw i aros ei phraw, dylid myned ati ar unwaith."
Nid cyn i'r wawr dorri," meddai'r pennaeth. "Dyna eiriau'r swynwr." Torrodd y wawr, ac erbyn hyn clywai pawb sŵn y tabwrdd yn y goedwig, a daeth braw arnynt. Cerddai'r swynwr yn ôl a blaen yn gyffrous. Galwai am hyn, a gorchmynnai fel arall, oblegid clywai yntau hefyd y tabwrdd. O'r diwedd wedi llawer o seremoniau arweiniwyd Mundi allan i'w phraw.
{{nop}}
Yr oedd sŵn y tabwrdd yn uwch yn awr nag o'r blaen. Gwyddai Kobe fod pob munud yn golygu gobaith, ac yr oedd am ddal ati hyd y diwedd. Daeth yr awr ofnadwy. Cerddodd Mundi yn araf i ganol y pentref. Dilynnwyd hi gan y gwragedd eraill fel pe byddent mewn angladd. Eisteddai'r swynwr gyda'i gelfi a'r cwpan o wenwyn. Dywedodd nifer o bethau nad oedd neb yn eu deall, a chyflwynodd y cwpan i Mundi.
Yna gorchmynnodd iddi brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, ac meddai: "Mundi, os wyt ddieuog, ni ddigwydd dim niwed i ti. Os wyt euog, byddi farw mewn eiliad."
Edrychodd Mundi o'i chwmpas. Dymunai gael un olwg arall ar Kobe, ond nid oedd efe yno. Cymerodd y cwpan yn ei dwylo a chododd ef yn araf at ei gwefusau. Edrychodd unwaith eto o'i chwmpas. Trodd at ei chwaer. Estynnodd ei llaw at y pennaeth. Sibrydodd wrth y Swynwr:
Yr wyf yn ddieuog."
Daeth distawrywdd mawr dros lle. Yr oedd hyd yn oed sŵn y tabwrdd wedi distewi, a phan oedd Mundi ar fin yfed dyma waedd fawr nes bod yr holl le'n diasbedain.
2Aros, Mundi, paid ag yfed!" Rhedodd ei brawd ati a Kobe a'r tabwrdd ar ei ôl. Dilynnwyd
Q
hwy gan nifer o ddynion â gwaywffyn, ac meddent: "Y mae Mundi yn ddieuog. Y mae'r lliain coch yn y goedwig. Y mwnciod sydd wedi ei ddwyn."
Achubwyd Mundi trwy ffyddlondeb arwrol Kobe bach. Ac O! mor falch ydoedd o gael gweled ei fam. Yr oedd y swynwr yn fud; a daeth braw mawr dros y gwragedd. Ar eich traed, Mundi," ebe'r pennaeth. Arweiniodd hi'n ôl i'r palas, a Kobe â'r tabwrdd yn dilyn. Safodd y gwragedd o'r neilltu gan holi ymysg ei gilydd:<noinclude><references/></noinclude>
2ttrax8k8hd5zodjqdg3crn80ztbrit
141068
141067
2025-06-25T10:20:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141068
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ni ofynnwyd caniatad Mundi o gwbl. Yr oedd yr holl ymddiddan rhwng y tad a'r cennad. Gan
[[delwedd:Straeon Gwerin Affrica (tudalen 49 crop).jpg|bawd|300px|KOBE A'R TABWRDD]]
mai pennaeth oedd am ei chael, â'r anrhegion yn fwy na'r hyn a gawsai gan neb arall, cydsyniodd y tad, a dychwelodd y cennad â'r newydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nhnco5dsp5lwks0wyhlqi3cwbo8m2cy
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/50
104
70174
141069
2025-06-25T10:20:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141069
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan dorrodd y tad y newydd i Mundi nid oedd ond un peth yn achosi pryder a gofid iddi—pa fodd i adael ei brawd?
Gwyddai y rhoddai ei thad hi yn wraig i rywun, rywbryd, heb ofyn ei chaniatad o gwbl. Gallasai y rhywun hwnnw fod yn fwy dieithr na'r pennaeth. Heblaw hynny, yr oedd ei chwaer eisoes yn wraig iddo, a meddyliai y cawsai ei chwmni a'i chynorthwy hi.
Ond yr oedd rhywbeth yn anesmwytho meddwl Mundi. Teimlai y dylai ymgynghori ag un o'r swynwyr.
Dewisodd hen ŵr oedd yn byw heb fod ymhell o'r pentref ac yn enwog am ei fedr i ddehongli breuddwydion a dywedyd ffortiwn. Nid oedd yr hyn a ddywedodd y gŵr pwysig hwnnw yn galonogol iawn i Mundi. Yr oedd i gael un llawenydd mawr a dim ond un. Nid oedd i ddychwelyd byth yn ei hôl i'r hen gartref. Dyna'r cyfan oedd ei neges ef.
Ni wyddai Mundi yn iawn beth i feddwl o'r swynwr a'r hyn a ddywedodd. Yr oedd ei thad wedi derbyn anrhegion y pennaeth, a doed a ddelo yr oedd yn rhaid myned. Ymhen amser daeth y diwrnod iddi adael ei rhieni am ei chartref newydd yn nhref y pennaeth.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
r11qbtvt9l7yibhuylgkaf221jf8tfp
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/51
104
70175
141070
2025-06-25T10:21:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141070
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Diwrnod mawr oedd hwnnw yn y pentref Daeth y cantorion ynghyd yn gwisgo pob math ar blu a chrwyn anifeiliaid gwylltion i ganu'n iach i Mundi. Ffurfiwyd gorymdaith fawr, ac er bod pob cam o'r ffordd yn orfoledd iddynt hwy, yr oedd Mundi yn pryderu llawer. Ni allai anghofio yr hyn a ddywedodd y swynwr wrthi rai misoedd cynt.
Yn yr orymdaith fawr yr oedd y gwragedd a'r cantorion ar y blaen a'r dynion a'r perthnasau yn dilyn. Dichon mai dyma paham y dywedir "Ni awn tan ganu." Tan ganu a gweiddi a bloeddio a dawnsio yr aethant hwy. Nid oeddynt wedi myned ymhell cyn cwrdd â thorf arall yn dyfod o gyfeiriad tref y pennaeth. Yr oedd ei bobl ef hefyd wedi ffurfio gorymdaith i gwrdd â'r wraig newydd, a mawr oedd y stŵr ar hyd y ffordd, nes derbyn Mundi i balastŷ ei gwr.
Ar y dechrau aeth popeth yn eithaf hwylus yn nhref y pennaeth. Yr oedd ef yn hoff iawn o Mundi ac yn garedig dros ben iddi. Ond ni pharhaodd hynny'n hir. Dechreuodd y gwragedd eraill eiddigeddu, ac yr oedd dyddiau blin a garw o flaen Mundi druan.
Ymhen amser ganwyd mab iddi, ac yr oedd llawenydd y fam fach a'r pennaeth yn anhraethol<noinclude><references/></noinclude>
86hwzg2blg3i25qxbqf1e0ipkkkjlgw
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/52
104
70176
141071
2025-06-25T10:21:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141071
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fawr yn awr. Yr oedd ganddynt fab. Benjamin bach wedi dyfod i'r palastŷ. mab wedi ei eni daeth Mundi i fwy o ffafr yng ngolwg y pennaeth nag erioed. Fel y dangosai ef ei serch tuag at Mundi felly hefyd y cynhyddai eiddigedd y gwragedd eraill. Ac yr oedd ei chwaer cynddrwg a neb ohonynt. Modd bynnag, penderfynodd Mundi ddioddef y cyfan heb ddywedyd dim wrth neb. Daliodd felly am nifer o flynyddoedd, nes bod y mab yn ddigon mawr i gael darn o liain coch am ei wregys.
Nid oedd hyd yn hyn wedi gwisgo dim o gwbl. Hon oedd ei siwt gyntaf. Clywodd rhai o'r gwragedd fod Mundi yn bwriadu cael darn o liain coch yn wisg i Kobe'r mab. Yr oedd ganddo enw hefyd erbyn hyn. Ymgynghorasant beth fyddai orau iddynt hwy ei wneuthur. Yr oedd ganddynt hwythau blant ac nid oeddynt am i fab Mundi gael dim yn well na'u plant hwy. Ebe un o'r gwragedd: "Anfonwn negesydd i'r dref fawr ar lan y môr i brynu digon o liain coch ar gyfer y bechgyn i gyd."
"Da iawn," ebe'r gwragedd eraill: "dyna gynllun rhagorol."
Clywodd Mundi am hyn ac aeth at ei chwaer i ddywedyd ei bod am i Kobe gael gwisg goch<noinclude><references/></noinclude>
50gd1zfdhhuiqkic990wv8alokhe37s
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/53
104
70177
141072
2025-06-25T10:22:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141072
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel y bechgyn eraill, ac am iddi ofyn i'r negesydd ddyfod a digon ar ei gyfer ef hefyd.
O'r gorau," meddai'r chwaer, oblegid nid oedd am ddangos ei heiddigedd yn allanol.
Wedi rhai wythnosau daeth y negesydd yn ei ôl a'r lliain coch gydag ef, a mawr oedd y cyffro ymysg y gwragedd a'r plant hefyd. Mesurwyd y lliain, ac yr oedd yno union ddigon ar gyfer pawb ond Kobe, a chan mai efe oedd yr ieuengaf, efe hefyd oedd yr olaf i gael ei ddewisiad. Mesurwyd a mesurwyd y lliain ond i ddim pwrpas. Nid oedd ond prin ddigon ar gyfer y lleill.
Tra'r oedd y gwragedd yn brysur yn mesur ac yn torri, yr oedd mwnciod yn chwarae ar ganghennau'r coed yn ymyl, ac yn sylwi'n graff arnynt yn dadlau ynghylch y lliain.
Y mae'r hyn a ddigwyddodd wedyn yn ddirgelwch. Pa un a adawyd y lliain y tuallan tra bu'r gwragedd yn coginio'r uwd, ni wyddom.
Ond hyn sydd sicr: pan ddaethant yn eu hôl yr oedd y lliain wedi diflannu, ac ni wyddai neb i ble. Chwiliwyd a chwiliwyd ond nid oedd dim golwg O'r diwedd cyhuddwyd Mundi o ladrata neu o ddinistrio'r lliain.
Gwadodd Mundi hyn yn bendant, ac awgrymodd mai'r mwnciod oedd y lladron. Ond ni wrandawai'r<noinclude><references/></noinclude>
ad9gyhrwd4fywmdcvtfjil5e9ov2vpv
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/54
104
70178
141073
2025-06-25T10:22:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141073
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>swynwr ar ei hesboniad hi. Heb os nac oni bai, yr oedd y gwragedd wedi talu'n dda iddo am ei waith. Condemniodd Mundi i brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, a sefyll ei phraw ar doriad y wawr.
Meddai Mundi wrthi'i hun: "Yr oedd y swynwr yn yr hen gartref yn eithaf iawn. Un llawenydd oeddwn i'w gael ac nid oeddwn i ddychwelyd adref mwy. Dyma ei eiriau wedi dyfod yn wir." Clywodd Kobe fod ei fam i yfed gwenwyn ar doriad y wawr, ac ni wyddai beth i'w wneuthur. Meddyliodd yn ddistaw ynddo ei hun na chawsai ei yfed. Yr oedd wedi dysgu er pan yn faban bron i guro'r tabwrdd. Yr oedd nifer ohonynt at wahanol amgylchiadau yn nhref y pennaeth, ac yntau'n gyfarwydd â phob un. Chwiliodd am y tabwrdd a allai siarad, y tabwrdd a ddefynddid i yrru negesau o un pentref i'r llall.
Heb ddywedyd un gair wrth neb, daeth Kobe o hyd iddo a rhedodd ag ef i'r goedwig. Dringodd i ben coeden a dechreuodd guro, gan obeithio y clywai ei ewythr a phobl ei fam. Ystyr y neges a gurai ar y tabwrdd ydoedd:
'Ewythr a pherthnasau dewch i achub fy mam." Drwy'r nos eisteddodd Kobe yn y goeden gan barhau i guro'r tabwrdd. Ond ni ddaeth neb.
{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fu4j4lpwrccnq9ru6sv1bqfd79qjg3k
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/55
104
70179
141074
2025-06-25T10:23:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141074
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan ddechreuodd y wawr dorri aeth Kobe bach yn ddigalon iawn. Meddyliai nad oedd gobaith mwy yr achubid ei fam. Yr hyn a'i poenai'n awr oedd ei fod wedi ei gadael wrthi ei hun trwy'r nos, ac nad oedd yn bresennol i ffarwelio â hi cyn iddi yfed y gwenwyn.
Yr oedd y pennaeth a chwaer Mundi wedi deffro yn fore y diwrnod hwnnw. Nid oedd y pennaeth yn fodlon o gwbl ar waith y swynwr, ond ni feiddiai, hyd yn oed efe wrthwynebu. Ond yr oedd ei chwaer mor eiddigeddus ei hysbryd fel y gobeithiai na ddigwyddai dim i rwystro Mundi i yfed y gwenwyn.
"Ust! Clywch," meddai wrth y pennaeth. "Y mae rhywun yn curo'r tabwrdd yn y goedwig. Y mae'n dywedyd enw fy mrawd, ac yn ei alw ef a'r dynion i achub fy chwaer. Os yw i aros ei phraw, dylid myned ati ar unwaith."
Nid cyn i'r wawr dorri," meddai'r pennaeth. "Dyna eiriau'r swynwr." Torrodd y wawr, ac erbyn hyn clywai pawb sŵn y tabwrdd yn y goedwig, a daeth braw arnynt. Cerddai'r swynwr yn ôl a blaen yn gyffrous. Galwai am hyn, a gorchmynnai fel arall, oblegid clywai yntau hefyd y tabwrdd. O'r diwedd wedi llawer o seremoniau arweiniwyd Mundi allan i'w phraw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
kb6jg32jlnggxa144m0wpkqttzmgbef
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/56
104
70180
141075
2025-06-25T10:23:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141075
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd sŵn y tabwrdd yn uwch yn awr nag o'r blaen. Gwyddai Kobe fod pob munud yn golygu gobaith, ac yr oedd am ddal ati hyd y diwedd. Daeth yr awr ofnadwy. Cerddodd Mundi yn araf i ganol y pentref. Dilynnwyd hi gan y gwragedd eraill fel pe byddent mewn angladd. Eisteddai'r swynwr gyda'i gelfi a'r cwpan o wenwyn. Dywedodd nifer o bethau nad oedd neb yn eu deall, a chyflwynodd y cwpan i Mundi.
Yna gorchmynnodd iddi brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, ac meddai: "Mundi, os wyt ddieuog, ni ddigwydd dim niwed i ti. Os wyt euog, byddi farw mewn eiliad."
Edrychodd Mundi o'i chwmpas. Dymunai gael un olwg arall ar Kobe, ond nid oedd efe yno. Cymerodd y cwpan yn ei dwylo a chododd ef yn araf at ei gwefusau. Edrychodd unwaith eto o'i chwmpas. Trodd at ei chwaer. Estynnodd ei llaw at y pennaeth. Sibrydodd wrth y Swynwr:
Yr wyf yn ddieuog."
Daeth distawrywdd mawr dros lle. Yr oedd hyd yn oed sŵn y tabwrdd wedi distewi, a phan oedd Mundi ar fin yfed dyma waedd fawr nes bod yr holl le'n diasbedain.
2Aros, Mundi, paid ag yfed!" Rhedodd ei brawd ati a Kobe a'r tabwrdd ar ei ôl. Dilynnwyd<noinclude><references/></noinclude>
tgoiqawsau6wst9p6lmjdb7hqet4gle
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/57
104
70181
141076
2025-06-25T10:24:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141076
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwy gan nifer o ddynion â gwaywffyn, ac meddent: "Y mae Mundi yn ddieuog. Y mae'r lliain coch yn y goedwig. Y mwnciod sydd wedi ei ddwyn."
Achubwyd Mundi trwy ffyddlondeb arwrol Kobe bach. Ac O! mor falch ydoedd o gael gweled ei fam. Yr oedd y swynwr yn fud; a daeth braw mawr dros y gwragedd. Ar eich traed, Mundi," ebe'r pennaeth. Arweiniodd hi'n ôl i'r palas, a Kobe â'r tabwrdd yn dilyn. Safodd y gwragedd o'r neilltu gan holi ymysg ei gilydd: Pa beth a ddigwydd i ni'n awr?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
cguxqptm5csx93ksd4kxtzyqq6byt7s
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/58
104
70182
141078
2025-06-25T11:02:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141078
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|STORI VIII<br>{{mawr|CWNINGEN, ELIFFANT A'R HIPPO}}<ref>Gwel y Darlun ar y ddalen gyntaf.</ref>}}
UN tro aeth cwningen i ddadlau â'r eliffant. Meddai'r gwningen wrth yr eliffant: "'Rwyf yn gryfach na chwi, gallaf eich tynnu i'r dŵr." Chwarddodd yr eliffant, ond adroddodd y gwningen ei stori eilwaith, ac meddai: "Er eich bod yn fawr, gallaf eich tynnu i'r afon." Atebodd yr eliffant, "Rwyt mor fach wningen bert, ond os gelli fy nhynnu i'r afon cei un o'm cyrn fel rhodd i'th atgofio am yr orchest." "Reit" meddai'r gwningen.
Gyda hyn, aeth at lan yr afon ac meddai wrth yr hippo. "Meistr Hippo, gallaf eich tynnu i'r lan." "Ho!" ebe' yntau, a'i geg fawr yn agored, "Peth bach fel ti yn fy nhynnu i i'r lan!" Wel, os llwyddi, cei un o'm plant."
Yna taflodd y gwningen raff am wddf yr hippo ac meddai: "Pan deimlwch y rhaff yn dyn, tynnwch nerth eich pen." Yna rhedodd at yr eliffant a<noinclude><references/></noinclude>
r86fr4b9e2snon7uk8tguqp6fjku4lv
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/59
104
70183
141079
2025-06-25T11:03:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141079
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhwymodd ben arall y rhaff am dano ef, ac meddai: Pan glywch y rhaff yn dyn tynnwch gymaint fyth ag a allwch." Tynnodd yr eliffant a thynnodd yr hippo. Un ar y lan a'r llall yn y dŵr. Meddai'r hippo: Os tyn y creadur bach dipyn mwy mi a dagaf," ac meddai'r eliffant: "'Rwyf bron â mygu, âf ymlaen i ddywedyd wrth y gwningen fy mod wedi fy nghuro."
Wrth fyned yn ei flaen gwelodd yr hippo yn dyfod allan o'r dŵr ac meddai'r hippo wrth yr eliffant, "Dyna greadur ydi'r gwningen. Taflodd y rhaff yma am fy ngwddf ac ebe hi: "Gallaf eich tynnu o'r dŵr, a bu agos iddi fy nhagu. Oni bai i mi roi i mewn a dyfod allan yr wyf yn sicr y byddwn wedi marw."
"O" meddai'r eliffant, "gwnaeth yr peth â minnau, a bu agos i mi fygu; oni bai i mi ildio mi fyddwn yn gelain erbyn hyn." "A ellwch chwi ddatod y rhaff am fy ngwddf?" meddai'r hippo wrth yr eliffant.
Aeth yr eliffant ati gyda'i drwnc hir i'w datod a gwnaeth yr hippo yr un gymwynas ag ef. Gyda hyn, dyma'r gwningen yn rhuthro heibio iddynt gan chwerthin, ac wedi mynd yn ddigon pell o'u cyrraedd, meddai, gan ddal i chwerthin, "Wel, wel, eliffant mawr a hippo tew! Beth yw cryfder?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1d8pnnxj3wend4m4masoe1x6tp5rmif
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/60
104
70184
141080
2025-06-25T11:06:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141080
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|STORI<br>{{mawr|IX Y GASEL A'R LLEWPARD}}}}
UN tro yr oedd llewpard a gasel yn byw gyda'u gwragedd a'u plant yn yr un dref. "Gyfaill gasel," meddai'r llewpard un boreu, "Dewch gyda mi i wlad y Zombo i brynu tabyrddau. O'r gorau," ebe'r gasel, "ond beth am yr arian?"
"Y mae gennyf fi arian," meddai'r llewpard, ac i ffwrdd â hwy.
Wedi myned ychydig ffordd chwyrnodd y llewpard wrth y gasel: "Arhoswch yn y fan hyn, rhaid i mi ddychwelyd i'r dref; yr wyf wedi anghofio rhywbeth." Yn ôl a'r llewpard i'r dref, ac i dŷ'r gasel, a meddai wrth Meistres Gasel: "Y mae fy nghyfaill eich gŵr wedi fy anfon yn ôl i mofyn y plant."
Cyflwynodd Mrs. Gasel y plant iddo. Dododd yntau hwynt mewn sach a chariodd hwynt ar ei gefn i'r man lle y gadawodd ei gyfaill, ac ymlaen â
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
swrbfe94ehw4zayuon9vzz0653z91jl
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/62
104
70185
141081
2025-06-25T11:19:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141081
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwy ar eu taith. Wedi cerdded bellter, aroglodd y llewpard fêl gwyllt yn y goedwig oedd wrth ymyl. Dododd y sach i lawr a meddai wrth ei gyfaill y gasel: "Arhoswch amdanaf yn y fan hyn; y mae mêl heb fod ymhell—'rwyf wedi ei arogli; ond yn enw popeth peidiwch â datod y sach."
Yr oedd hyn yn ormod o demtasiwn i'r gasel, a phan oedd y llewpard o'r golwg, edrychodd i mewn i'r sach, ac er ei syndod mawr gwelodd mai ei blant ef ei hun oedd yn y sach. Caeodd y gasel enau'r sach, taflodd ef dros ei ysgwydd a rhedodd adref mor gyflym fyth ag a allai, a meddai wrth Mrs. Gasel: "Beth a wnaeth i chwi roi'r plant i'r llewpard?"
"Ond chwi a'i hanfonodd i'w mofyn," meddai hithau.
"Dim o'r fath beth," ebe'r gazel. "Cuddiwch hwy, a chuddiwch eich hun hefyd."
I ffwrdd â'r gasel i dŷ'r llewpard ac meddai wrth Meistres Llewpard: Y mae eich gŵr wedi fy anfon i mofyn y plant."
Un ddwl iawn oedd Meistres Llewpard a chyflwynodd y plant i'r gazel. Dododd yntau hwynt yn y sach a rhedodd yn ei ôl i'r man y gorchmynnodd y llewpard iddo aros; ac er ei syndod nid oedd y llewpard wedi dychwelyd. Ymhen amser<noinclude><references/></noinclude>
edyaxac0qid3vm5s6j2yn91qup4n156
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/63
104
70186
141082
2025-06-25T11:19:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141082
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>daeth allan o'r goedwig gan lyfu ei wefusau. Dododd y sach ar ei gefn, ac i ffwrdd â hwy i'r Zombo lle'r oedd marchnad y tabyrddau. Prynodd y llewpard y tabyrddau, ac fel rhan o'r tâl cyflwynodd y sach a'i gynnwys i'r marsiandwr, gan sibrwd yn ddistaw yn ei glust: "Peidiwch ag agor y sach hyd nes byddwn ni ymhell o'r golwg." "Reit," ebr yntau.
Ar ei ffordd adref yr oedd eisiau treio'r tabyrddau. Y llewpard oedd y cyntaf i dreio. Curodd y tabyrddau a chanodd: "Y mae rhai pobl ffôl ar eu teithiau." Cân yr oedd ef wedi ei chyfansoddi oedd hon, i wawdio'r gasel oedd wedi bod mor ffôl a gadael iddo ladrata ei blant.
Yna cymerodd y gasel y tabyrddau a chanodd: Collwyd sach callineb draw yn nhwll y mêl."
Aethant ymlaen trwy amryw bentrefi a'r ddau yn canu eu cân a'r bobl yn rhoddi arian iddynt.
Meddyliai'r llewpard o hyd ei fod ef yn gyfrwys a chall a'i gyfaill yn ffôl a gwirion.
O'r diwedd cyraeddasant y dref. Prysurodd y gasel i'r tŷ i ofalu bod y wraig a'r plant yn cuddio'n ddiogel.
Aeth y llewpard hefyd adref ac wedi cyfarch ei wraig, galwodd am y plant i'w pleseru eu hunain gyda'r tabyrddau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1jcg7g9vj0z97cfibkz613hsy50sr2j
Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/64
104
70187
141083
2025-06-25T11:20:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
141083
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Y plant?" meddai'r wraig," danfonasoch chwi'r gasel i'w mofyn. Pam yr ydych yn gofyn amdanynt?"
Yr oedd y llewpard yn gynddeiriog erbyn hyn. Aeth ar ei union i dŷ'r gasel, ond ffodd y gasel dan ganu:
Myfi sy'n dwp a ffôl ond y llewpard a gollodd ei blant, a chollwyd sach callineb yn nhwll y mêl."
Nid yw'r llewpard a'r gasel wedi bod yn gyfeillion byth oddiar hyn, ac meddai'r brodorion: "Er bod y llewpard yn gryf, y gasel a gadwodd ei blant."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pzb6ivpc9mix3ur92kj1y1kl5t8h1ct