Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.45.0-wmf.9 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/17 104 2516 143045 101757 2025-07-08T16:59:05Z Tylopous 3717 cenhedlaethau 143045 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac a alwodd ei enw ef Seth: O herwydd {{sc|Duw}}, ''eb hi'', a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef. {{angor|4:26|26}} I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr {{sc|Arglwydd}}. {{canoli|{{angor|Pennod_5}}{{uc|Pennod V.}}}} {{bach|1 ''Achau, oedran, a marwolaeth y aptrierch, o Adda hyd Noah.'' 24 ''Duwioldeb Enoch, a Duw yn ei gymmeryd ef ymaith.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Dyma}} lyfr cenhedlaethau Adda: yn y dydd y creodd {{sc|Duw}} ddyn, ar lun {{sc|Duw}} y gwnaeth efe ef. {{angor|5:2|2}} Yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crëwyd hwynt. {{angor|5:3|3}} ¶ Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd ''fab'' ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth. {{angor|5:4|4}} A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gàn mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:5|5}} A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw. {{angor|5:6|6}} ¶ Seth hefyd a fu fyw bùm mlynedd a chàn mlynedd, ac a genhedlodd Enos. {{angor|5:7|7}} A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:8|8}} A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw. {{angor|5:9|9}} ¶ Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan. {{angor|5:10|10}} Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:11|11}} A holl ddyddiau Enos oedd bùm mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw. {{angor|5:12|12}} ¶ Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Mahalaleel. {{angor|5:13|13}} A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:14|14}} A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw. {{angor|5:15|15}} A Mahalaleel a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain mlynedd, ac a genhedlodd Jered. {{angor|5:16|16}} A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:17|17}} A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gàn mlynedd; ac efe a fu farw. {{angor|5:18|18}} ¶ A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thri ugain a chàn mlynedd, ac a genhedlodd Enoch. {{angor|5:19|19}} A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:20|20}} A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thri ugain a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw. {{angor|5:21|21}} ¶ Enoch hefyd a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Methuselah. {{angor|5:22|22}} Ac Enoch a rodiodd gyd â {{sc|Duw}} wedi iddo genhedlu Methuselah, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:23|23}} A holl ddyddiau Enoch oedd bùm mlynedd a thri ugain a thri chant o flynyddoedd. {{angor|5:24|24}} A rhodiodd Enoch gyd â {{sc|Duw}}, ac ni ''welwyd'' ef; canys {{sc|Duw}} a’i cymmerodd ef. {{angor|5:25|25}} Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech. {{angor|5:26|26}} A Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:27|27}} A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thri ugain a naw càn mlynedd, ac efe a fu farw. {{angor|5:28|28}} ¶ Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chàn mlynedd, ac a genhedlodd fab; {{angor|5:29|29}} Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylaw, o herwydd y ddaear yr hon a felldigodd yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|5:30|30}} A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phùm càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. {{angor|5:31|31}} A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gàn mlynedd; a efe a fu farw. {{nop}}<noinclude> <references/></noinclude> cl6pb49a6uxkrg1yasplbbf8l2t5rk5 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/25 104 2618 143053 101721 2025-07-08T18:55:56Z Tylopous 3717 brenhin 143053 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brenhin Admah, a brenhin Seboim, a brenhin Bela, honno ''yw'' Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt; {{angor|14:9|9}} A Chedorlaomer brenhin Elam, a Thidal brenhin y cenhedloedd, ac Amraphel brenhin Sinar, ac Arioch brenhin Elasar: pedwar brenhin yn erbyn pump. {{angor|14:10|10}} A dyffryn Sidim ''oedd'' lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorrah a ffoisant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoisant i’r mynydd. {{angor|14:11|11}} A hwy a gymmerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorrah, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith. {{angor|14:12|12}} Cymmerasant hefyd Lot ''nai'' fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; o herwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo. {{angor|14:13|13}} A daeth un a ddïangasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo y’ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn ''oedd'' mewn cynghrair âg Abram. {{angor|14:14|14}} A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus ''weision'' a anesid yn ei dŷ ef, ddau naw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan. {{angor|14:15|15}} Ac efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u tarawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon ''sydd'' o’r tu aswy i Damascus. {{angor|14:16|16}} Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl. {{angor|14:17|17}} ¶ A brenhin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gyd âg ef,) i ddyffryn Safeh, hwn yw dyffryn y brenhin. {{angor|14:18|18}} Melchisedec hefyd, brenhin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe ''oedd'' offeiriad i {{sc|Dduw}} goruchaf: {{angor|14:19|19}} Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan {{sc|Dduw}} goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear: {{angor|14:20|20}} A bendigedig fyddo {{sc|Duw}} goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl. {{angor|14:21|21}} A dywedodd brenhin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymmer i ti y cyfoeth. {{angor|14:22|22}} Ac Abram a ddywedodd wrth frenhin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr {{sc|Arglwydd Dduw}} goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear, {{angor|14:23|23}} Na chymmerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll ''sydd'' eiddot ti; rhag dywedyd o honot, Myfi a gyfoethogais Abram: {{angor|14:24|24}} Ond yn unig yr hyn a fwyttaodd y llangciau, a rhan y gwŷr a aethant gyd â mi, Aner, Escol, a Mamre: cymmerant hwy eu rhan. {{angor|Pennod_15}}{{canoli|{{uc|Pennod XV}}}} {{bach|1 ''Duw yn cysuro Abram.'' 2 ''Abram yn cwyno nad oedd ganddo etifedd.'' 4 ''Duw yn addaw mab iddo, ac amlhâu ei had ef.'' 6 ''Abram a gyfiawnhêir trwy ffydd.'' 7 ''Addewid o wlad Canaan trachefn, a’i gadarnhâu trwy arwydd'', 12 ''a gweledigaeth.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Wedi}} y pethau hyn, y daeth gair yr {{sc|Arglwydd}} at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ''ydyw'' dy darian, dy wobr mawr iawn. {{angor|15:2|2}} A dywedodd Abram, {{sc|Arglwydd Dduw}}, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant, a goruchwyliwr fy nhŷ ''yw'' Eleazar yma o Damascus. {{angor|15:3|3}} Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd. {{angor|15:4|4}} Ac wele air yr {{sc|Arglwydd}} atto ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd. {{angor|15:5|5}} Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di. {{angor|15:6|6}} Yntau a gredodd yn yr {{sc|Arglwydd}}, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder. {{angor|15:7|7}} Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu. {{angor|15:8|8}} Yntau a ddywedodd, {{sc|Arglwydd Dduw}}, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi? {{angor|15:9|9}} Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colommen. {{angor|15:10|10}} Ac efe a gymmerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd ''eu'' canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer eu gilydd; ond ni holltodd efe yr adar. {{angor|15:11|11}} A phan ddisgynnai yr adar ar y<noinclude><references/></noinclude> 4zwzos0qlejzpj57chi2xlj732iey74 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/33 104 2685 143067 63910 2025-07-09T05:15:44Z Tylopous 3717 attebasant 143067 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poeth-offrwm? {{angor|22:8|8}} Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, {{sc|Duw}} a edrych iddo ei hun am oen y poeth-offrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd: {{angor|22:9|9}} Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai {{sc|Duw}} wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. {{angor|22:10|10}} Ac Abraham a estynodd ei law, ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fab; {{angor|22:11|11}} Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. {{angor|22:12|12}} Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni {{sc|Duw}}, gan nad atteliaist dy fab, dy unig ''fab'', oddi wrthyf fi. {{angor|22:13|13}} Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ''ef'' hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab. {{angor|22:14|14}} Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw {{uc|Jehofah}}-jire; fel y dywedir heddyw, Ym mynydd yr {{sc|Arglwydd}} y gwelir. {{angor|22:15|15}} ¶ Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd; {{angor|22:16|16}} Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr {{sc|Arglwydd}}, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fab, dy unig ''fab'': {{angor|22:17|17}} Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn ''sydd'' ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion; {{angor|22:18|18}} Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i. {{angor|22:19|19}} Yna Abraham a ddychwelodd at ei langciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba. {{angor|22:20|20}} ¶ Darfu hefyd, wedi y pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milcah hithau hefyd blant i Nachor dy frawd; {{angor|22:21|21}} Hus ei gyntaf-anedig, a Buz ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram, {{angor|22:22|22}} A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph, a Bethuel. {{angor|22:23|23}} A Bethuel a genhedlodd Rebeccah: yr wyth hyn a blantodd Milcah i Nachor brawd Abraham. {{angor|22:24|24}} Ei ordderch-wraig hefyd, a’i henw Reumah, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maachah. {{angor|Pennod_23}}{{canoli|{{uc|Pennod XXIII.}}}} {{bach|1 ''Oedran a marwolaeth Sarah.'' 3 ''Prynu Machpelah,'' 19 ''lle y claddwyd Sarah.''}} {{angor|23:1}} Ac oes Sara ydoedd gàn mlynedd a saith mlynedd ar hugain; ''dyma'' flynyddoedd oes Sarah. {{angor|23:2|2}} A Sara a fu farw yng Nghaer-Arba; honno ''yw'' Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sarah, ac i wylofain ''am dani'' hi. {{angor|23:3|3}} ¶ Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei ''gorph'' marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd, {{angor|23:4|4}} Dïeithr ac alltud ydwyf fi gyd â chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyd â chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg. {{angor|23:5|5}} A meibion Heth a attebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho, {{angor|23:6|6}} Clyw ni, fy arglwydd: tywysog {{sc|Duw}} ''wyt'' ti yn ein plith: cladd dy farw yn ''dy'' ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb o honom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw. {{angor|23:7|7}} Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymmodd i bobl y tir, ''sef'' i feibion Heth; {{angor|23:8|8}} Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandêwch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar; {{angor|23:9|9}} Ar roddi o hono ef i mi yr ogof Machpelah, yr hon ''sydd'' eiddo ef, ac ''sydd'' y’nghwrr ei faes, er ei llawn ''werth'' o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi. {{angor|23:10|10}} Ac Ephron oedd yn aros ym mysg meibion Heth: ac Ephron yr Hethiad a artebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, y’ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd, {{angor|23:11|11}} Nag ê, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof ''sydd'' ynddo, i ti y rhoddais hi, y’ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> l2lsals6j97474kdra3y4fw5bpbibn8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/34 104 2742 143037 63911 2025-07-08T16:46:36Z Tylopous 3717 attolwg 143037 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|23:12|12}} Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tir. {{angor|23:13|13}} Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Etto, os tydi ''a’i rhoddi'', attolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes; cymmer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno. {{angor|23:14|14}} Ac Ephron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho, {{angor|23:15|15}} Gwrando fi, fy arglwydd; y tir ''a dâl'' bedwar càn sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw. {{angor|23:16|16}} Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron: a phwysodd Abraham i Ephron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar càn sicl o ''arian'' cymmeradwy ym mhlith marchnadwyr. {{angor|23:17|17}} ¶ Felly y sicrhâwyd maes Ephron, yr hwn ''oedd'' ym Machpelah, yr hon ''oedd'' o flaen Mamre, y maes a’r ogof ''oedd'' ynddo, a phob pren a’r ''a oedd'' yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch, {{angor|23:18|18}} Yn feddiant i Abraham, y’ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef. {{angor|23:19|19}} Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sarah ei wraig yn ogof maes Machpelah, o flaen Mamre; honno ''yw'' Hebron, yn nhir Canaan. {{angor|23:20|20}} A sicrhâwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth. {{angor|Pennod_24}}{{canoli|{{uc|Pennod XXIV.}}}} {{bach|1 ''Abraham yn peri i’w was dyngu.'' 10 ''Taith y gwas:'' 12 ''Ei weddi:'' 14 ''Ei arwydd.'' 15 ''Rebeccah yn ei gyfarfod ei,'' 18 ''yn cwblhâu ei arwydd ef,'' 22 ''yn derbyn tlysau,'' 23 ''yn dangos ei chenedl,'' 25 ''ac yn ei wahodd ef adref.'' 26 ''Y gwas yn benditio Duw.'' 29 ''Laban yn ei groesawu ef.'' 34 ''Y gwas yn traethu ei neges.'' 50 ''Laban a Bethuel yn foddlawn.'' 58 ''Rebeccah yn cydsynio i fyned.'' 62 ''Isaac yn cyfarfod â hi.''}} {{angor|24:1}} {{uc|Ac}} Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r {{sc|Arglwydd}} a fendithiasai Abraham ym mhob dim. {{angor|24:2|2}} A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf ''yn'' ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r ''a oedd'' ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd: {{angor|24:3|3}} A mi a bataf i ti dyngu i {{sc|Arglwydd Dduw}} y nefoedd, a {{sc|Duw}} y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg. {{angor|24:4|4}} Ond i’m gwlad i yr âi, ac at fy nghenedl i yr âi di, ac a gymmeri wraig i’m mab Isaac. {{angor|24:5|5}} A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ol i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan o hono? {{angor|24:6|6}} A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno. {{angor|24:7|7}} ¶ {{sc|Arglwydd Dduw}} y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymmeri wraig i’m mab oddi yno. {{angor|24:8|8}} Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno. {{angor|24:9|9}} A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn. {{angor|24:10|10}} ¶ A chymmerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl ddâ ei feistr ''oedd'' dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor. {{angor|24:11|11}} Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai ''merched'' yn dyfod allan i dynnu dwfr. {{angor|24:12|12}} Ac efe a ddywedodd, O {{sc|Arglwydd Dduw}} fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddiant heddyw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham. {{angor|24:13|13}} Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: {{angor|24:14|14}} A bydded, mai y llangces y dywedwyf wrthi, Gogwydda, attolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddïodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â’m meistr. {{angor|24:15|15}} ¶ A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeccah yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milcah, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd. {{angor|24:16|16}} A’r llangces ''oedd'' dêg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r<noinclude><references/></noinclude> 4omio1tf8ko54yg0f1wdnp4kq88jy4v 143068 143037 2025-07-09T05:16:16Z Tylopous 3717 attebodd 143068 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|23:12|12}} Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tir. {{angor|23:13|13}} Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Etto, os tydi ''a’i rhoddi'', attolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes; cymmer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno. {{angor|23:14|14}} Ac Ephron a attebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho, {{angor|23:15|15}} Gwrando fi, fy arglwydd; y tir ''a dâl'' bedwar càn sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw. {{angor|23:16|16}} Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron: a phwysodd Abraham i Ephron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar càn sicl o ''arian'' cymmeradwy ym mhlith marchnadwyr. {{angor|23:17|17}} ¶ Felly y sicrhâwyd maes Ephron, yr hwn ''oedd'' ym Machpelah, yr hon ''oedd'' o flaen Mamre, y maes a’r ogof ''oedd'' ynddo, a phob pren a’r ''a oedd'' yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch, {{angor|23:18|18}} Yn feddiant i Abraham, y’ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef. {{angor|23:19|19}} Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sarah ei wraig yn ogof maes Machpelah, o flaen Mamre; honno ''yw'' Hebron, yn nhir Canaan. {{angor|23:20|20}} A sicrhâwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth. {{angor|Pennod_24}}{{canoli|{{uc|Pennod XXIV.}}}} {{bach|1 ''Abraham yn peri i’w was dyngu.'' 10 ''Taith y gwas:'' 12 ''Ei weddi:'' 14 ''Ei arwydd.'' 15 ''Rebeccah yn ei gyfarfod ei,'' 18 ''yn cwblhâu ei arwydd ef,'' 22 ''yn derbyn tlysau,'' 23 ''yn dangos ei chenedl,'' 25 ''ac yn ei wahodd ef adref.'' 26 ''Y gwas yn benditio Duw.'' 29 ''Laban yn ei groesawu ef.'' 34 ''Y gwas yn traethu ei neges.'' 50 ''Laban a Bethuel yn foddlawn.'' 58 ''Rebeccah yn cydsynio i fyned.'' 62 ''Isaac yn cyfarfod â hi.''}} {{angor|24:1}} {{uc|Ac}} Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r {{sc|Arglwydd}} a fendithiasai Abraham ym mhob dim. {{angor|24:2|2}} A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf ''yn'' ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r ''a oedd'' ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd: {{angor|24:3|3}} A mi a bataf i ti dyngu i {{sc|Arglwydd Dduw}} y nefoedd, a {{sc|Duw}} y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg. {{angor|24:4|4}} Ond i’m gwlad i yr âi, ac at fy nghenedl i yr âi di, ac a gymmeri wraig i’m mab Isaac. {{angor|24:5|5}} A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ol i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan o hono? {{angor|24:6|6}} A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno. {{angor|24:7|7}} ¶ {{sc|Arglwydd Dduw}} y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymmeri wraig i’m mab oddi yno. {{angor|24:8|8}} Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno. {{angor|24:9|9}} A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn. {{angor|24:10|10}} ¶ A chymmerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl ddâ ei feistr ''oedd'' dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor. {{angor|24:11|11}} Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai ''merched'' yn dyfod allan i dynnu dwfr. {{angor|24:12|12}} Ac efe a ddywedodd, O {{sc|Arglwydd Dduw}} fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddiant heddyw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham. {{angor|24:13|13}} Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: {{angor|24:14|14}} A bydded, mai y llangces y dywedwyf wrthi, Gogwydda, attolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddïodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â’m meistr. {{angor|24:15|15}} ¶ A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeccah yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milcah, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd. {{angor|24:16|16}} A’r llangces ''oedd'' dêg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r<noinclude><references/></noinclude> 496139vob4aibbos42w7elim2rh1hnj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/43 104 2949 143040 63920 2025-07-08T16:50:52Z Tylopous 3717 etto 143040 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>odd, Weithian y moliannaf yr {{sc|Arglwydd}}: am hynny y galwodd ei enw ef Judah. A hi a beidiodd â phlanta. {{angor|Pennod_30}}{{canoli|{{uc|Pennod XXX.}}}} {{bach|1 ''Rahel, gan fod yn ddigllawn nad oedd yn planta, yn rhoddi Bilhah ei llaw-forwyn i Jacob.'' 5 ''Hithau yn dwyn Dan a Naphtali.'' 9 ''Leah yn rhoddi Zilpah ei llaw-forwyn, yr hon a ymddûg Gad ac Aser.'' 14 ''Reuben yn cael mandragorau, am y rhai y mae Leah yn prynu ei gwr gan Rahel.'' 17 ''Leah yn dwyn Issachar, Zabulon, a Dinah.'' 22 ''Rahel yn dwyn Joseph.'' 25 ''Jacob yn deisyfu cael myned ymaith.'' 27 ''Laban yn ei attal ef ar gyfammod newydd.'' 37 ''Dyfais Jacob, trwy yr hon yr ymgyfoethogodd efe.''}} {{angor|30:1}} {{uc|Pan}} welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi, ac onid ê mi ''a fyddaf'' farw. {{angor|30:2|2}} A chynneuodd llid Jacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd, Ai myfi ''sydd'' yn lle {{sc|Duw}}, yr hwn a attaliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti? {{angor|30:3|3}} A dywedodd hithau, Wele fy llaw-forwyn Bilhah, dos i mewn atti hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd o honi hi. {{angor|30:4|4}} A hi a roddes ei llaw-forwyn Bilhah iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn atti. {{angor|30:5|5}} A Bilhah a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob. {{angor|30:6|6}} A Rahel a ddywedodd, {{sc|Duw}} a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan. {{angor|30:7|7}} Hefyd Bilhah, llaw-forwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob. {{angor|30:8|8}} A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Naphtali. {{angor|30:9|9}} Pan welodd Lea beidio o honi â phlanta, hi a gymmerth ei llaw-forwyn Zilpah, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob. {{angor|30:10|10}} A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg fab i Jacob. {{angor|30:11|11}} A Leah a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad. {{angor|30:12|12}} A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg yr ail mab i Jacob. {{angor|30:13|13}} A Leah a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser. {{angor|30:14|14}} ¶ Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhauaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Leah ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Leah, Dyro, attolwg, i mi o fandragorau dy fab. {{angor|30:15|15}} Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan ''yw'' dwyn o honot fy ngwr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyd â thi heno am fandragorau dy fab. {{angor|30:16|16}} A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Leah a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Attaf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyd â hi y nos honno. {{angor|30:17|17}} A {{sc|Duw}} a wrandawodd ar Leah, a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob. {{angor|30:18|18}} A Lea a ddywedodd, Rhoddodd {{sc|Duw}} fy ngwobr ''i mi'', o herwydd rhoddi o honof fi fy llaw-forwyn i’m gwr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar. {{angor|30:19|19}} Lea hefyd a feichiogodd etto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob. {{angor|30:20|20}} A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd {{sc|Duw}} fyfi â chynnysgaeth dda; fy ngwr a drig weithian gyd â mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Zabulon. {{angor|30:21|21}} Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dinah. {{angor|30:22|22}} ¶ A {{sc|Duw}} a gofiodd Rahel, a {{sc|Duw}} a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi. {{angor|30:23|23}} A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, {{sc|Duw}} a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith. {{angor|30:24|24}} A hi a alwodd ei enw ef Joseph, gan ddywedyd, Yr {{sc|Arglwydd}} a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall. {{angor|30:25|25}} ¶ A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseph, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun. {{angor|30:26|26}} Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais am danynt gyd â thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti. {{angor|30:27|27}} A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, ''na syfl'': da y gwn i’r {{sc|Arglwydd}} fy mendithio i o’th blegid di. {{angor|30:28|28}} Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9msv7cnf6pdxxowacu5stv0s126t38n Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/52 104 2965 143041 63929 2025-07-08T16:51:43Z Tylopous 3717 etto 143041 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|36:39|39}} A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef ''oedd'' Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab. {{angor|36:40|40}} A dyma enwau y duciaid o Esau, yn ol eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau, duc Timna, duc Alfah, dug Jetheth, {{angor|36:41|41}} Duc Aholibama, duc Ela, duc Pinon, {{angor|36:42|42}} Duc Cenaz, duc Teman, duc Mibsar, {{angor|36:43|43}} Duc Magdiel, duc Iram. Dyma y duciaid o Edom, yn ol eu preswylfeydd, y’ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid. {{angor|Pennod_37}}{{canoli|{{uc|Pennod XXXVII.}}}} {{bach|2 ''Joseph yn cael ei gasâu gan ei frodyr.'' 5 ''Ei ddau freuddwyd ef.'' 13 ''Jacob yn ei anfon ef i ymweled â’i frodyr.'' 18 ''Hwythau yn cydfwriadu ei ladd ef.'' 21 ''Reuben yn ei achub ef.'' 26 ''Hwynt yn ei werthu ef i’r Ismaeliaid.'' 31 ''Ei dad, wedi ei siommi trwy y siacced waedlyd, yn galaru am dano ef.'' 36 ''Ei werthu ef i Putiphar yn yr Aipht.''}} {{angor|37:1}} A {{uc|thrigodd}} Jacob y’ngwlad ymdaith ei dad, y’ngwlad Canaan. {{angor|37:2|2}} Dyma genhedlaethau Jacob. Joseph, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyd â’i frodyr ar y praidd: a’r llangc oedd gyd â meibion Bilha, a chyd â meibion Zilpah, gwragedd ei dad; a Joseph a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad. {{angor|37:3|3}} Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseph na’i holl feibion: oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef. {{angor|37:4|4}} A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ''âg'' ef yn heddychol. {{angor|37:5|5}} ¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg. {{angor|37:6|6}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch, attolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. {{angor|37:7|7}} Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddym ni y’nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymmasant i’m hysgub i. {{angor|37:8|8}} A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant etto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau. {{angor|37:9|9}} ¶ Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd etto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymmu i mi. {{angor|37:10|10}} Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti? {{angor|37:11|11}} A’i frodyr a genfigennasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth. {{angor|37:12|12}} ¶ A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem. {{angor|37:13|13}} Ac Israel a ddywedodd wrth Joseph, Onid ''yw'' dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf attynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi. {{angor|37:14|14}} A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych ''pa'' lwyddiant ''sydd'' i’th frodyr, a ''pha'' lwyddiant ''sydd'' i’r praidd: a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem. {{angor|37:15|15}} ¶ A chyfarfu gwr âg ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gwr a ymofynnodd ''âg'' ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio? {{angor|37:16|16}} Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, attolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio? {{angor|37:17|17}} A’r gwr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseph a aeth ar ol ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan. {{angor|37:18|18}} Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef attynt, hwy a gyd-fwriadasant ''yn'' ei ''erbyn'' ef, i’w ladd ef. {{angor|37:19|19}} A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod. {{angor|37:20|20}} Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef. {{angor|37:21|21}} A Reuben a glybu, ac a’i<noinclude><references/></noinclude> rcllsd0zvdc04ozarxdy4na47q15jyz Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/55 104 2968 143052 63932 2025-07-08T18:55:21Z Tylopous 3717 brenhin (4) 143052 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>efe yn ei fwytta: Joseph hefyd oedd dêg o bryd, a glân yr olwg. {{angor|39:7|7}} ¶ A darfu wedi y pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseph, a dywedyd, Gorwedd gyd â mi. {{angor|39:8|8}} Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth ''sydd'' gyd â mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll ''sydd'' eiddo dan fy llaw i. {{angor|39:9|9}} Nid oes ''neb'' fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef ''wyt'' ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn {{sc|Duw}}! {{angor|39:10|10}} A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseph beunydd, ac yntau heb wrandaw arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyd â hi. {{angor|39:11|11}} A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseph ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid ''oedd'' yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ. {{angor|39:12|12}} Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyd â mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan. {{angor|39:13|13}} A phan welodd hi adael o hono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi o hono allan; {{angor|39:14|14}} Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth attaf fi i orwedd gyd â myfi, minnau a waeddais â llef uchel; {{angor|39:15|15}} A phan glywodd efe ddyrchafu o honof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan. {{angor|39:16|16}} A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref. {{angor|39:17|17}} A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrëwas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth attaf i’m gwaradwyddo; {{angor|39:18|18}} Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan. {{angor|39:19|19}} A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr ennynodd ei lid ef. {{angor|39:20|20}} A meistr Joseph a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenhin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy. {{angor|39:21|21}} ¶ Ond yr {{sc|Arglwydd}} oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y’ngolwg pennaeth y carchardy. {{angor|39:22|22}} A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseph yr holl garcharorion y rhai ''oedd'' yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur. {{angor|39:23|23}} Nid ''oedd'' pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll ''a’r a oedd'' dan ei law ef, am ''fod'' yr {{sc|Arglwydd}} gyd âg ef; a’r hyn a wnai efe, yr {{sc|Arglwydd}} a’i llwyddai. {{angor|Pennod_40}}{{canoli|{{uc|Pennod XL.}}}} {{bach|1 ''Bwtler a phobydd Pharaoh y’ngharchar,'' 4 ''dan siars Joseph.'' 5 ''Efe yn deongli eu breuddwydion hwy;'' 20 ''a’r rhai hynny yn dyfod i ben yn ol ei ddehongliad ef.'' 25 ''Annïolchgarwch y bwtler.''}} {{angor|40:1|1}} A {{uc|darfu}} wedi’r pethau hynny, i drulliad brenhin yr Aipht, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenhin yr Aipht. {{angor|40:2|2}} A Pharaoh a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, ''sef'' wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd: {{angor|40:3|3}} Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain, ''sef'' yn y carchardy, y lle yr oedd Joseph yn rhwym. {{angor|40:4|4}} A’r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser. {{angor|40:5|5}} ¶ A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ol dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenhin yr Aipht, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy. {{angor|40:6|6}} A’r bore y daeth Joseph attynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist. {{angor|40:7|7}} Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharaoh, y rhai ''oedd'' gyd âg ef mewn dalfa ''yn'' nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham ''y mae'' eich wynebau yn ddrwg heddyw? {{angor|40:8|8}} A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid ''oes'' a’i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i {{sc|Dduw}} ''y perthyn'' dehongli? mynegwch, attolwg, i mi. {{angor|40:9|9}} A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseph; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd ''yr oeddwn'', ac wele winwydden o’m blaen; {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> lmhkoa3zg9baosgphgrlv6bjo9y4rru Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/56 104 2969 143057 101754 2025-07-08T20:00:55Z Tylopous 3717 ym mysg 143057 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|40:10|10}} Ac yn y winwydden ''yr oedd'' tair caingc: ac ''yr oedd'' hi megis yn blaen-darddu; ei blodeuyn a dorrasai allan, ei grawn-sypiau hi a ddug rawnwin aeddfed. {{angor|40:11|11}} Hefyd ''yr oedd'' cwppan Pharaoh yn fy llaw: a chymmerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwppan Pharaoh; a rhoddais y cwppan yn llaw Pharaoh. {{angor|40:12|12}} A Joseph a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tair caingc. {{angor|40:13|13}} O fewn tri diwrnod etto Pharaoh a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwppan Pharaoh yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddyt drulliad iddo. {{angor|40:14|14}} Etto cofia fi gyd â thi, pan fo daioni i ti, a gwna, attolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharaoh, a dwg fi allan o’r tŷ hwn: {{angor|40:15|15}} Oblegid yn lladrad y’m lladrattâwyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi y’ngharchar. {{angor|40:16|16}} Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseph, Minnau hefyd ''oeddwn'' yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen. {{angor|40:17|17}} Ac yn y cawell uchaf ''yr oedd'' peth o bob bwyd Pharaoh o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwytta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen. {{angor|40:18|18}} A Joseph a attebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell. {{angor|40:19|19}} O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat. {{angor|40:20|20}} ¶ Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharaoh: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a’r pen-pobydd ym mysg ei weision. {{angor|40:21|21}} Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwppan i law Pharaoh. {{angor|40:22|22}} A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehonglasai Joseph iddynt hwy. {{angor|40:23|23}} Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseph, eithr anghofiodd ef. {{angor|Pennod_41}}{{canoli|{{uc|Pennod XLI.}}}} {{bach|1 ''Dau freuddwyd Pharaoh.'' 25 ''Joseph yn eu dehongli hwy:'' 33 ''yn rhoddi cynghor i Pharaoh,'' 38 ''Codiad Joseph.'' 50 ''Mae efe yn cenhedlu Manasseh ac Ephraim.'' 54 ''Y newyn yn dechreu.''}} {{angor|41:1}} {{uc|Yna}} ym mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharaoh freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon. {{angor|41:2|2}} Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent. {{angor|41:3|3}} Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg ''eraill'', ar làn yr afon. {{angor|41:4|4}} A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwyttasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharaoh. {{angor|41:5|5}} Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o ''rai'' breisgion a da. {{angor|41:6|6}} Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hol hwynt. {{angor|41:7|7}} A’r tywysennau teneuon a lyngcasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharaoh; ac wele breuddwyd ''oedd''. {{angor|41:8|8}} A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid ''oedd'' a’u dehonglai hwynt i Pharaoh. {{angor|41:9|9}} ¶ Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharaoh, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw. {{angor|41:10|10}} Llidio a wnaethai Pharaoh wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar ''yn'' nhŷ y distain, myfi a’r pen-pobydd. {{angor|41:11|11}} A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd. {{angor|41:12|12}} Ac yr oedd yno gyd â nyni fab ieuangc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ol ei freuddwyd y dehonglodd efe. {{angor|41:13|13}} A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe. {{angor|41:14|14}} ¶ Pharaoh, gan hynny, a an-<noinclude><references/></noinclude> cq6hyx0kb6hyte65b6fvxt62s2hp12m Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/69 104 2982 143054 101759 2025-07-08T18:56:42Z Tylopous 3717 brenhin 143054 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude><section begin="Genesis"/>{{angor|50:24|24}} A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a {{sc|Duw}} gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob. {{angor|50:25|25}} A thyngodd Joseph feibion Israel, gan ddywedyd, {{sc|Duw}} gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fynu oddi yma. {{angor|50:26|26}} A Joseph a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i pêr-aroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aipht. {{lein|10em}} <section end="Genesis"/> <section begin="Exodus"/>{{canoli|{{uc|Ail lyfr Moses, yr hwn a elwir}} {{mawr|{{uc|Exodus.}}}} {{angor|Pennod_1|{{uc|Pennod I.}}}}}} {{bach|1 ''Plant Israel, ar ol marwolaeth Joseph, yn amlhâu.'' 8 ''Po mwyaf y mae y brenhin newydd yn eu gorthrymmu, mwyaf y maent yn amlhâu.'' 15 ''Duwioldeb y bydwragedd, yn cadw yn fyw y plant gwrryw.'' 22 ''Pharaoh yn gorchymyn bwrw y plant gwrryw i’r afon.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Dyma}} yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aipht: gyd â Jacob y ddaethant, bob un a'i deulu. {{angor|1:2|2}} Reuben, Simeon, Lefi, a Judah, {{angor|1:3|3}} Issachar, Zabulon, a Benjamin, {{angor|1:4|4}} Dan, a Naphtali, Gad, ac Aser. {{angor|1:5|5}} A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorph Jacob oedd ddeng henaid a thri ugain: a Joseph oedd yn yr Aipht. {{angor|1:6|6}} A Joseph a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno. {{angor|1:7|7}} ¶ A phlant Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth, a’r wlad a lanwyd ohonynt. {{angor|1:8|8}} Yna y cyfododd brenhin newydd yn yr Aipht, yr hwn nid adnabuasai mo Joseph. {{angor|1:9|9}} Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele, bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni. {{angor|1:10|10}} Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhag amlhâu o honynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgyssylltu o honynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fynu o’r wlad. {{angor|1:11|11}} Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid-gwaith, i’w gorthrymmu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharaoh ddinasoedd trysorau, ''sef'' Pithom a Raamses. {{angor|1:12|12}} Ond fel y gorthrymment hwynt, felly yr amlhâent, ac y cynnyddent: a drwg oedd ganddynt o herwydd plant Israel. {{angor|1:13|13}} A’r Aiphtiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed. {{angor|1:14|14}} A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy y gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo ''oedd'' galed. {{angor|1:15|15}} A brenhin yr Aipht a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebrëesau; o ba rai enw un ''oedd'' Siprah, ac enw yr ail Puah: {{angor|1:16|16}} Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebrëesau, a gweled o honoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw. {{angor|1:17|17}} Er hynny y bydwragedd a ofnasant {{sc|Dduw}}, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedasai brenhin yr Aipht wrthynt, eithr cadwasant y bechgyn yn fyw. {{angor|1:18|18}} Am hynny brenhin yr Aipht a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw? {{angor|1:19|19}} A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharaoh, Am nad ''yw'' yr Hebrëesau fel yr Aiphtiesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig attynt. {{angor|1:20|20}} Am hynny y bu {{sc|Duw}} dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn. {{angor|1:21|21}} Ac o herwydd i’r bydwragedd ofni {{sc|Duw}}, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau. {{angor|1:22|22}} A Pharaoh a orchymynodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch. {{angor|Pennod_2}}{{canoli|{{uc|Pennod II.}}}} {{bach|1 ''Geni Moses,'' 3 ''a’i fwrw mewn cawell yn yr hesg.'' 5 ''Merch Pharaoh yn ei gael ef, ac yn ei ddwyn i fynu.'' 11 ''Efe yn lladd Aiphtwr:'' 13 ''yn ceryddu Hebrëwr:'' 15 ''yn ffoi i Midian:'' 21 ''yn prïodi Sephorah.'' 22 ''Genedigaeth Gersom.'' 23 ''Duw yn ystyried uchenaid yr Israeliaid.''}} {{nop}}<section end="Exodus"/><noinclude><references/></noinclude> 7fg5cruwbpjq3jy6q1633f8il4r24pj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/71 104 3320 143055 63948 2025-07-08T18:57:44Z Tylopous 3717 frenhin, brenhin 143055 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa. {{angor|3:3|3}} A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw y berth wedi llosgi. {{angor|3:4|4}} Pan welodd yr {{sc|Arglwydd}} ei fod efe yn troi i edrych, {{sc|Duw}} a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi. {{angor|3:5|5}} Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: dïosg dy esgidiau oddi am dy draed; o herwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd. {{angor|3:6|6}} Ac efe a ddywedodd, Myfi ''yw'' {{sc|Duw}} dy dad, {{sc|Duw}} Abraham, {{sc|Duw}} Isaac, a {{sc|Duw}} Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar {{sc|Dduw}}. {{angor|3:7|7}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aipht, a’u gwaedd o achos eu meistriaid-gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau. {{angor|3:8|8}} A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid. {{angor|3:9|9}} Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth attaf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymmodd yr Aiphtiaid hwynt. {{angor|3:10|10}} Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharaoh; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aipht. {{angor|3:11|11}} ¶ A dywedodd Moses wrth {{sc|Dduw}}, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharaoh, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aipht? {{angor|3:12|12}} Dywedodd yntau, Dïau y byddaf gyd â thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a wasanaethwch {{sc|Dduw}} ar y mynydd hwn. {{angor|3:13|13}} A dywedodd Moses wrth {{sc|Dduw}}, Wele, ''pan'' ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, {{sc|Duw}} eich tadau a’m hanfonodd attoch; os dywedant wrthyf, Beth ''yw'' ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt? {{angor|3:14|14}} A {{sc|Duw}} a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, YDWYF a’m hanfonodd attoch. {{angor|3:15|15}} A {{sc|Duw}} a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; {{sc|Arglwydd Dduw}} eich tadau, {{sc|Duw}} Abraham, {{sc|Duw}} Isaac, a {{sc|Duw}} Jacob, a’m hanfonodd attoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. {{angor|3:16|16}} Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, {{sc|Arglwydd Dduw}} eich tadau, {{sc|Duw}} Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd. Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a ''gwelais'' yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aipht. {{angor|3:17|17}} A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl. {{angor|3:18|18}} A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenhin yr Aipht, a dywedwch wrtho, {{sc|Arglwydd Dduw}} yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, attolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}. {{angor|3:19|19}} ¶ A mi a wn na edy brenhin yr Aipht i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn. {{angor|3:20|20}} Am hynny mi a estynaf fy llaw, ac a drawaf yr Aipht â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith. {{angor|3:21|21}} A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn y’ngolwg yr Aiphtiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw; {{angor|3:22|22}} Ond ''pob'' gwraig a fenthyccia gan ei chymmydoges, a chan yr hon fyddo yn cyttal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch ''hwynt'' am eich meibion ac am eich merched; ac a yspeiliwch yr Aiphtiaid. {{angor|Pennod_4}}{{c|PENNOD IV.}} {{bach|1 ''Troi gwïalen Moses yn sarph.'' 6 ''Ei law ef yn gwahan-glwyfo.'' 10 ''Efe yn anewyllysgar i’w anfon.'' 14 ''Appwyntio Aaron i’w helpu ef.'' 18 ''Moses yn ymadael oddi wrth Jethro.'' 21 ''Cennadwriaeth Duw at Pharaoh.'' 24 ''Danfon Aaron i gyfarfod â Moses.'' 31 ''Y bobl yn credu iddynt.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9foet42aqep6fmva5c9mth0je05fzlo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/74 104 3323 143046 101725 2025-07-08T17:00:00Z Tylopous 3717 cenhedlaethau (2) 143046 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni ddrewi ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni. {{angor|5:22|22}} A dychwelodd Moses at yr {{sc|Arglwydd}}, ac a ddywedodd, O {{sc|Arglwydd}}, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist? {{angor|5:23|23}} Canys er pan ddeuthum at Pharaoh, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl. {{angor|Pennod_6}}{{c|PENNOD VI.}} {{bach|1 ''Duw yn adnewyddu ei addewid, trwy ei enw JEHOFAH.'' 14 ''Achau Reuben,'' 15 ''Simeon,'' 16 ''a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron.''}} {{angor|6:1}} Yna y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o’i wlad. {{angor|6:2|2}} {{sc|Duw}} hefyd a lefarodd with Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi ''yw'' JEHOFAH. {{angor|6:3|3}} A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw {{sc|Duw}} Hollalluog; ond ''erbyn'' fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt. {{angor|6:4|4}} Hefyd mi a sicrheais fy nghyfammod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi. {{angor|6:5|5}} A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Aiphtiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfammod. {{angor|6:6|6}} Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhyddhâf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion. {{angor|6:7|7}} Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn {{sc|Dduw}} i chwi: a chewch wybod mai myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid. {{angor|6:8|8}} A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|6:9|9}} ¶ A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled. {{angor|6:10|10}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|6:11|11}} Dos i mewn; dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad. {{angor|6:12|12}} A Moses a lefarodd ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharaoh, a minnau yn ddïenwaededig o wefusau? {{angor|6:13|13}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharaoh brenhin yr Aipht, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aipht. {{angor|6:14|14}} ¶ Dyma eu pen-cenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf-anedig i Israel: Hanoch, a Phàlu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben. {{angor|6:15|15}} A meibion Simeon; Jemuel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanees: dyma deuluoedd Simeon. {{angor|6:16|16}} ¶ Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ol eu cenhedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, Merari: a blynyddoedd oes Lefi ''oedd'' gant ac onid tair blynedd deugain. {{angor|6:17|17}} Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ol eu teuluoedd. {{angor|6:18|18}} A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Uzziel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chàn mlynedd. {{angor|6:19|19}} Meibion Merari ''oedd'' Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ol eu cenhedlaethau. {{angor|6:20|20}} Ac Amram a gymmerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram ''oedd'' onid tair deugain a chàn mlynedd. {{angor|6:21|21}} ¶ A meibion Ishar; Corah, a Nepheg, a Sicri. {{angor|6:22|22}} A meibion Uzziel; Misael, ac Elsaphan, a Sithri. {{angor|6:23|23}} Ac Aaron a gymmerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar. {{angor|6:24|24}} Meibion Corah hefyd; Assir, ac Elcanah, ac Abiasaph: dyma deuluoedd y Corahiaid. {{angor|6:25|25}} Ac Eleazar, mab Aaron, a gymmerodd yn wraig iddo ''un'' o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ol eu teuluoedd. {{angor|6:26|26}} Dyma Aaron a Moses, y rhai y<noinclude><references/></noinclude> tde64zqggd1cxx5klp60mj4cerf5y6p Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/77 104 3326 143042 101727 2025-07-08T16:52:22Z Tylopous 3717 etto 143042 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th dai, gymmysgbla: a thai yr Aiphtiaid a lenwir o’r gymmysgbla, a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni. {{angor|8:22|22}} A’r dydd hwnnw y neillduaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo’r gymmysgbla yno; fel y gwypech mai myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} y’nghanol y ddaear. {{angor|8:23|23}} A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di: y fory y bydd yr arwydd hwn. {{angor|8:24|24}} A’r {{sc|Arglwydd}} a wnaeth felly; a daeth cymmysgbla drom i dŷ Pharaoh, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aipht; a llygrwyd y wlad gan y gymmysgbla. {{angor|8:25|25}} ¶ A Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i’ch {{sc|Duw}} yn y wlad. {{angor|8:26|26}} A dywedodd Moses, Nid cymmwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i’r {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} ffieiddbeth yr Aiphtiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Aiphtiaid y’ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni? {{angor|8:27|27}} Taith tridiau yr awn i’r anialwch, a nyni a aberthwn i’r {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}, megis y dywedo efe wrthym ni. {{angor|8:28|28}} A dywedodd Pharaoh, Mi a’ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i’r {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} yn yr anialwch; ond nac ewch ym mhell: gweddïwch trosof fi. {{angor|8:29|29}} A dywedodd Moses, Wele, myfi a âf allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr {{sc|Arglwydd}}, ar gilio y gymmysgbla oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobi, y fory: ond na thwylled Pharaoh mwyach, heb ollwng ymaith y bobl, i aberthu i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|8:30|30}} A Moses a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|8:31|31}} A gwnaeth yr {{sc|Arglwydd}} yn ol gair Moses: a’r gymmysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un. {{angor|8:32|32}} A Pharaoh a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl. {{angor|Pennod_9}}{{c|PENNOD IX.}} {{bach|1 ''Haint yr anifeiliaid.'' 8 ''Pla y cornwydydd llinorog.'' 13 ''Cennadwriaeth Moses ynghylch y cennlysg.'' 22 ''Pla y cenllysg.'' 28 ''Pharaoh yn ymbil â Moses;'' 35 ''ac er hynny efe a galedir.''}} {{angor|9:1}} Yna y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Dos i mewn at Pharaoh, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd Dduw}} yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. {{angor|9:2|2}} Oblegid, os gwrthodi ''eu'' gollwng hwynt ymaith, ac attal o honot hwynt etto, {{angor|9:3|3}} Wele, llaw yr {{sc|Arglwydd}} fydd ar dy anifeiliaid, y rhai ''sydd'' yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, ''y daw'' haint trwm iawn. {{angor|9:4|4}} A’r {{sc|Arglwydd}} a neilldua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aiphtiaid; fel na byddo marw dim o gwbl ''a’r sydd'' eiddo meibion Israel. {{angor|9:5|5}} A gosododd yr {{sc|Arglwydd}} amser nodedig, gan ddywedyd, Y fory y gwna’r {{sc|Arglwydd}} y peth hyn yn y wlad. {{angor|9:6|6}} A’r {{sc|Arglwydd}} a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Aiphtiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un. {{angor|9:7|7}} A Pharaoh a anfonodd, ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharaoh a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl. {{angor|9:8|8}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses ac wrth Aaron, Cymmerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tu a’r nefoedd y’ngŵydd Pharaoh: {{angor|9:9|9}} Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aipht; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aipht. {{angor|9:10|10}} A hwy a gymmerasant ludw y ffwrn, ac a safasant ger bron Pharaoh: a Moses a’i taenodd tu a’r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail. {{angor|9:11|11}} A’r swynwyr ni allent sefyll ger bron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid. {{angor|9:12|12}} A’r {{sc|Arglwydd}} a galedodd galon Pharaoh, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses. {{angor|9:13|13}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd Dduw}} yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. {{angor|9:14|14}} Canys y waith hon yr anfonaf fy holl bläau ar dy galon, ac ar dy<noinclude><references/></noinclude> btgjk8zx6vfu8i93yem5kr5dgkzpr3a Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/79 104 3328 143043 101729 2025-07-08T16:53:29Z Tylopous 3717 etto 143043 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddaear; a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddïangol gan y cenllysg, difant hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes. {{angor|10:6|6}} Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Aiphtiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharaoh. {{angor|10:7|7}} A gweision Pharaoh a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr {{sc|Arglwydd}} eu {{sc|Duw}}: Oni wyddost ti etto ddifetha yr Aipht? {{angor|10:8|8}} A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharaoh: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}: ''ond'' pa rai sydd yn myned? {{angor|10:9|9}} A Moses a ddywedodd, A’n llangciau, ac â’n hynafgwyr, yr awn ni; a’n meibion hefyd, ac â’n merched, â’n defaid, ac â’n gwartheg, yr awn ni: oblegid ''rhaid'' i ni ''gadw'' gwyl i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|10:10|10}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo yr {{sc|Arglwydd}} gyd â chwi, ag y gollyngaf chwi, a’ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd. {{angor|10:11|11}} Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr {{sc|Arglwydd}}: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharaoh. {{angor|10:12|12}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid, fel y delont i fynu ar dir yr Aipht; ac y bwyttaont holl lysiau y ddaear, ''sef'' y cwbl a’r a adawodd y cenllysg. {{angor|10:13|13}} A Moses a estynodd ei wïalen ar dir yr Aipht: a’r {{sc|Arglwydd}} a ddug ddwyrein-wynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno; a ''phan'' ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid. {{angor|10:14|14}} A’r locustiaid a aethant i fynu dros holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i’r Aipht: blin iawn oeddynt; ni bu y fath locustiaid o’u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb. {{angor|10:15|15}} Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aipht. {{angor|10:16|16}} ¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, ac yn eich erbyn chwithau. {{angor|10:17|17}} Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig. {{angor|10:18|18}} A ''Moses'' a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|10:19|19}} A’r {{sc|Arglwydd}} a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymmerodd ymaith y locustiaid, ac a’u bwriodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aipht. {{angor|10:20|20}} Er hynny caledodd yr {{sc|Arglwydd}} galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith. {{angor|10:21|21}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo. {{angor|10:22|22}} A Moses a estynodd ei law tu a’r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod. {{angor|10:23|23}} Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau. {{angor|10:24|24}} ¶ A galwodd Pharaoh am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr {{sc|Arglwydd}}; arhôed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyd â chwi. {{angor|10:25|25}} A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylaw ebyrth a phoeth-offrymmau, fel yr aberthom i’r {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}. {{angor|10:26|26}} Aed ein hanifeiliaid hefyd gyd â ni; ni adewir ewin yn ol: oblegid o honynt y cymmerwn i wasanaethu yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr {{sc|Arglwydd}}, hyd oni ddelom yno. {{angor|10:27|27}} ¶ Ond yr {{sc|Arglwydd}} a galedodd galon Pharaoh, ac ni fynnai eu gollwng hwynt. {{angor|10:28|28}} A dywedodd Pharaoh wrtho. Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw. {{angor|10:29|29}} A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> g6fotntrugf0s5ktnjhf8lnsk9cg13j Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/86 104 3335 143047 101734 2025-07-08T17:00:52Z Tylopous 3717 cenhedlaethau (2) 143047 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwi yn yr hwyr gig i’w fwytta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r {{sc|Arglwydd}} eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ''ydym'' ni? nid yn ein herbyn ni ''y mae'' eich tuchan, ond yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|16:9|9}} ¶ A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nês ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi. {{angor|16:10|10}} Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tu a’r anialwch; ac wele, gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} a ymddangosodd yn y cwmmwl. {{angor|16:11|11}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|16:12|12}} Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr y cewch fwytta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi. {{angor|16:13|13}} Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll. {{angor|16:14|14}} A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dippynau crynion cyn faned a’r llwydrew ar y ddaear. {{angor|16:15|15}} Pan welodd meibion Israel ''hynny'', hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna ''yw'': canys ni wyddent beth ''ydoedd''. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn ''yw'' y bara a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} i chwi i’w fwytta. {{angor|16:16|16}} ¶ Hyn yw y peth a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}; Cesglwch o hono bob un yn ol ei fwytta: omer i bob un yn ol rhifedi eich eneidiau; cymmerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll. {{angor|16:17|17}} A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai. {{angor|16:18|18}} A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisieu ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ol ei fwytta. {{angor|16:19|19}} A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim o hono hyd y bore. {{angor|16:20|20}} Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gadaw a wnaeth rhai o hono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt. {{angor|16:21|21}} A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ol ei fwytta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai. {{angor|16:22|22}} ¶ Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymmaint o fara, dau omer i un: a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses. {{angor|16:23|23}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}}; Y fory ''y mae'' gorphwysfa Sabbath sanctaidd i’r {{sc|Arglwydd}}: pobwch ''heddyw'' yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore. {{angor|16:24|24}} A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchymynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo. {{angor|16:25|25}} A dywedodd Moses, Bwyttêwch hwn heddyw; oblegid Sabbath ''yw'' heddyw i’r {{sc|Arglwydd}}: ni chewch hwn yn y maes heddyw. {{angor|16:26|26}} Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn ''yw'' y Sabbath, ni bydd efe. {{angor|16:27|27}} ¶ Etto ''rhai'' o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim. {{angor|16:28|28}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchymynion a’m cyfreithiau? {{angor|16:29|29}} Gwelwch mai yr {{sc|Arglwydd}} a roddodd i chwi y Sabbath; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd. {{angor|16:30|30}} Felly y bobl a orphwysasant y seithfed dydd. {{angor|16:31|31}} A thŷ Israel, a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wỳn, a’i flas fel afrllad o fêl. {{angor|16:32|32}} ¶ A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}; Llanw omer o hono, i’w gadw i’ch cenhedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi âg ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aipht. {{angor|16:33|33}} A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna, a gosod ef ger bron yr {{sc|Arglwydd}} y’nghadw i’ch cenhedlaethau. {{angor|16:34|34}} Megis y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} i Moses, felly y gosododd<noinclude><references/></noinclude> dk76pi5zncy6x36c8m9dtq1gu3v902s Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/121 104 3371 143060 143019 2025-07-08T20:03:35Z Tylopous 3717 gymmysgu, o herwydd 143060 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a’u cyhw&shy;fanodd hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|8:28|28}} A Moses a’u cymmerth oddi ar eu dwylaw hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysseg&shy;riadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|8:29|29}} Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhw&shy;fanodd yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: rhan Moses o hwrdd y cysseg&shy;riad oedd hi; fel y gorchy&shy;mynasai yr {{sc|Arglwydd}} with Moses. {{angor|8:30|30}} A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed ''oedd'' ar yr allor, ac a’i tae&shy;nellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gysseg&shy;rodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef. {{angor|8:31|31}} ¶ A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwyttêwch ef, a’r bara hefyd sydd y’nghawell y cysseg&shy;riadau; megis y gorchy&shy;mynais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwytty ef. {{angor|8:32|32}} A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân. {{angor|8:33|33}} Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysseg&shy;riadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi. {{angor|8:34|34}} Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}} wneuthur, i wneuthur cymmod drosoch. {{angor|8:35|35}} Ac arhoswch ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliad&shy;wriaeth yr {{sc|Arglwydd}}, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchy&shy;mynwyd. {{angor|8:36|36}} A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}} trwy law Moses. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX.}}}} {{bach|1 ''Yr offrymmau cyntaf a offrym&shy;modd Aaron drosto ei hun a’r bobl.'' 8 ''Y pech-offrwm,'' 12 ''a’r poeth-offrwm drosto ei hun.'' 15 ''Yr offrymmau dros y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 24 ''Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor.''}} {{angor|9:1}} {{uc:Yna}} y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; {{angor|9:2|2}} Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg ''hwy'' ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|9:3|3}} Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwydd&shy;iaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm; {{angor|9:4|4}} Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu ger bron yr {{sc|Arglwydd}}; a bwyd-offrwm wedi ei gymmysgu trwy olew: o herwydd heddyw yr ymddengys yr {{sc|Arglwydd}} i chwi. {{angor|9:5|5}} ¶ A dygasant yr hyn a orchy&shy;mynodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynnu&shy;lleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|9:6|6}} A dywedodd Moses, Dyma y peth a orchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}} i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} i chwi. {{angor|9:7|7}} Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boeth-offrwm, a gwna gymmod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt; fel y gorchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|9:8|8}} ¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn ''oedd'' drosto ef ei hun. {{angor|9:9|9}} A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywall&shy;todd y gwaed arall wrth waelod yr allor. {{angor|9:10|10}} Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwer a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchy&shy;mynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses. {{angor|9:11|11}} A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll. {{angor|9:12|12}} Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i tae&shy;nellodd ar yr allor o amgylch. {{angor|9:13|13}} A dygasant y poeth-offrwm atto, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor. {{angor|9:14|14}} Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor. {{angor|9:15|15}} ¶ Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymmerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrym&shy;modd dros bechod, fel y cyntaf. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9ce52eyoa6w4euw31tolq9sj15ka3y1 143066 143060 2025-07-09T05:13:56Z Tylopous 3717 gyd â 143066 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a’u cyhw&shy;fanodd hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|8:28|28}} A Moses a’u cymmerth oddi ar eu dwylaw hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysseg&shy;riadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|8:29|29}} Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhw&shy;fanodd yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: rhan Moses o hwrdd y cysseg&shy;riad oedd hi; fel y gorchy&shy;mynasai yr {{sc|Arglwydd}} with Moses. {{angor|8:30|30}} A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed ''oedd'' ar yr allor, ac a’i tae&shy;nellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gysseg&shy;rodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef. {{angor|8:31|31}} ¶ A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwyttêwch ef, a’r bara hefyd sydd y’nghawell y cysseg&shy;riadau; megis y gorchy&shy;mynais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwytty ef. {{angor|8:32|32}} A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân. {{angor|8:33|33}} Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysseg&shy;riadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi. {{angor|8:34|34}} Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}} wneuthur, i wneuthur cymmod drosoch. {{angor|8:35|35}} Ac arhoswch ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliad&shy;wriaeth yr {{sc|Arglwydd}}, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchy&shy;mynwyd. {{angor|8:36|36}} A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}} trwy law Moses. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX.}}}} {{bach|1 ''Yr offrymmau cyntaf a offrym&shy;modd Aaron drosto ei hun a’r bobl.'' 8 ''Y pech-offrwm,'' 12 ''a’r poeth-offrwm drosto ei hun.'' 15 ''Yr offrymmau dros y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 24 ''Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor.''}} {{angor|9:1}} {{uc:Yna}} y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; {{angor|9:2|2}} Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg ''hwy'' ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|9:3|3}} Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwydd&shy;iaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm; {{angor|9:4|4}} Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu ger bron yr {{sc|Arglwydd}}; a bwyd-offrwm wedi ei gymmysgu trwy olew: o herwydd heddyw yr ymddengys yr {{sc|Arglwydd}} i chwi. {{angor|9:5|5}} ¶ A dygasant yr hyn a orchy&shy;mynodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynnu&shy;lleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|9:6|6}} A dywedodd Moses, Dyma y peth a orchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}} i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} i chwi. {{angor|9:7|7}} Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boeth-offrwm, a gwna gymmod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt; fel y gorchy&shy;mynodd yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|9:8|8}} ¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn ''oedd'' drosto ef ei hun. {{angor|9:9|9}} A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywall&shy;todd y gwaed arall wrth waelod yr allor. {{angor|9:10|10}} Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwer a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchy&shy;mynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses. {{angor|9:11|11}} A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll. {{angor|9:12|12}} Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i tae&shy;nellodd ar yr allor o amgylch. {{angor|9:13|13}} A dygasant y poeth-offrwm atto, gyd â’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor. {{angor|9:14|14}} Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor. {{angor|9:15|15}} ¶ Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymmerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrym&shy;modd dros bechod, fel y cyntaf. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 6d7gt5uwd6orerzn541y8vox7xtso99 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/131 104 3381 143061 142964 2025-07-08T20:04:10Z Tylopous 3717 ym mysg 143061 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gareddfa tu a’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa. {{angor|16:15|15}} ¶ Yna lladded fwch y pech-aberth ''fydd'' dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed ''â’i'' waed megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa: {{angor|16:16|16}} A glanhâed y cyssegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyd â hwynt, ym mysg eu haflendid hwynt. {{angor|16:17|17}} Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe ''i mewn'' i wneuthur cymmod yn y cyssegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur o hono ef gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynnulleidfa Israel. {{angor|16:18|18}} Ac aed efe allan at yr allor ''sydd'' ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, a gwnaed gymmod arni; a chymmered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch. {{angor|16:19|19}} A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys, a glanhâed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel. {{angor|16:20|20}} ¶ A phan ddarffo iddo lanhâu y cyssegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw: {{angor|16:21|21}} A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ''ef ymaith'' yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch. {{angor|16:22|22}} A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neillduaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch. {{angor|16:23|23}} Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a dïosged y gwisgoedd llïan a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cyssegr, a gadawed hwynt yno. {{angor|16:24|24}} A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymmed ei boeth-offrwm ei hun, a phoeth-offrwm y bobl, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros y bobl. {{angor|16:25|25}} A llosged wer y pech-aberth ar yr allor. {{angor|16:26|26}} A golched yr hwn a anfonodd y bwch ''i fod'' yn fwch dïangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll. {{angor|16:27|27}} A bustach y pech-aberth, a bwch y pech-aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymmod yn y cyssegr, a ddwg ''un'' i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân. {{angor|16:28|28}} A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll. {{angor|16:29|29}} ¶ A bydded ''hyn'' yn ddeddf dragywyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed ''dydd'' o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y prïodor a’r dïeithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith. {{angor|16:30|30}} O herwydd y dydd hwnnw y gwna ''yr offeiriad'' gymmod drosoch, i’ch glanhâu o’ch holl bechodau, ''fel'' y byddoch lân gerbron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|16:31|31}} Sabbath gorphwystra ''yw'' hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragywyddol. {{angor|16:32|32}} A’r offeiriad, yr hwn a enneinio efe, a’r hwn a gyssegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna y cymmod, ac a wisg y gwisgoedd llïan, ''sef'' y gwisgoedd sanctaidd: {{angor|16:33|33}} Ac a lanhâ y cyssegr sanctaidd, ac a lanhâ babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymmod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynnulleidfa. {{angor|16:34|34}} A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi, i wneuthur cymmod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII.}}}} {{bach|1 ''Rhaid yw offrwm i’r Arglwydd wrth ddrws y babell waed yr holl anifeiliaid a leddir.'' 7 ''Ni wasanaetha iddynt aberthu i gythreuliaid.'' 10 ''Gwahardd bwytta gawed,'' 15 ''a phob peth a fo marw ei hun, neu a ynglyfaethwyd.''}} {{angor|17:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|17:2|2}} Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, {{angor|17:3|3}} Pob un o dŷ Israel a laddo ŷch, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll, {{angor|17:4|4}} Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymmu offrwm i’r {{sc|Arglwydd}}, o flaen tabernacl yr {{sc|Arglwydd}}; gwaed a fwrir yn er-<noinclude><references/></noinclude> tfa1yts8a1osr2qcqsabsx0773ysmvl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/132 104 3382 143048 63999 2025-07-08T17:01:46Z Tylopous 3717 cenhedlaethau 143048 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byn y gwr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gwr hwnnw ymaith o blith ei bobl. {{angor|17:5|5}} O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ïe, dygant hwynt i’r {{sc|Arglwydd}}, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|17:6|6}} A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr {{sc|Arglwydd}}, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwer yn arogl peraidd i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|17:7|7}} Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn putteinio ar eu hol. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenhedlaethau. {{angor|17:8|8}} ¶ Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dïeithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymmo boeth-offrwm, neu aberth, {{angor|17:9|9}} Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymmu i’r {{sc|Arglwydd}}; torrir ymaith y gwr hwnnw o blith ei bobl. {{angor|17:10|10}} ¶ A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dïeithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwyttao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwyttao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. {{angor|17:11|11}} O herwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed, a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau; o herwydd y gwaed hwn a wna gyfaod dros yr enaid. {{angor|17:12|12}} Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwyttaed un enaid o honoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwyttaed waed. {{angor|17:13|13}} A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwyttaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch. {{angor|17:14|14}} O herwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwyttêwch waed un cnawd; o herwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwyttao, a dorrir ymaith. {{angor|17:15|15}} A phob dyn a’r a fwyttao y peth a fu farw ''o hono ei hun'', neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai prïodor, ai dïeithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd. {{angor|17:16|16}} Ond ''os'' efe nis gylch ''hwynt'', ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII.}}}} {{bach|1 ''Prïodasau anghyfreithlawn.'' 19 ''Chwantau anghyfreithlawn.''}} {{angor|18:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|18:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich Duw. {{angor|18:3|3}} Na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad yr Aipht, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt. {{angor|18:4|4}} Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}. {{angor|18:5|5}} Ië, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|18:6|6}} ¶ Na nesâed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi ''eu'' noethni: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|18:7|7}} Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni. {{angor|18:8|8}} Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad ''yw''. {{angor|18:9|9}} Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt. {{angor|18:10|10}} Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ''ydyw''. {{angor|18:11|11}} Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau ''yw'' hi; na ddinoetha ei noethni hi. {{angor|18:12|12}} Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad ''yw'' hi. {{angor|18:13|13}} Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam ''yw'' hi. {{angor|18:14|14}} Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb ''yw'' hi. {{angor|18:15|15}} Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab ''yw'' hi; na noetha ei noethni hi. {{angor|18:16|16}} Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd ''yw''. {{angor|18:17|17}} Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymmer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi<noinclude><references/></noinclude> p13jwmzvhhmv0c3had0qtn9b6skrpu9 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/134 104 3384 143058 64001 2025-07-08T20:01:54Z Tylopous 3717 cymmysg 143058 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mydog megis ti dy hun: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:19|19}} ¶ Cedwch fy neddfau: na âd i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na haua dy faes âg amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymmysg o lin a gwlan. {{angor|19:20|20}} ¶ A phan fyddo i wr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i wr, ac heb ei rhyddhâu ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded ''iddynt'' gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd. {{angor|19:21|21}} A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r {{sc|Arglwydd}}, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd. {{angor|19:22|22}} A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe. {{angor|19:23|23}} ¶ A phan ddeloch i’r tir, a phlannu o honoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddïenwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dïenwaededig i chwi: na fwyttâer o hono. {{angor|19:24|24}} A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr {{sc|Arglwydd}} ''âg ef''. {{angor|19:25|25}} A’r bummed flwyddyn y bwyttêwch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}. {{angor|19:26|26}} ¶ Na fwyttêwch ddim ynghyd â’i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau. {{angor|19:27|27}} Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf. {{angor|19:28|28}} Ac na wnewch dorriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nôd arnoch: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:29|29}} ¶ Na haloga dy ferch, gan beri iddi butteinio: rhag putteinio y tir, a llenwi y wlad o ysgelerder. {{angor|19:30|30}} ¶ Cedwch fy Sabbathau, a pherchwch fy nghyssegr: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:31|31}} ¶ Nac ewch ar ol dewiniaid, a nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:32|32}} ¶ Cyfod ger bron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy {{sc|Dduw}}: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:33|33}} ¶ A phan ymdeithio dïeithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef. {{angor|19:34|34}} Bydded y dïeithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo o honoch, a châr ef fel ti dy hun; o herwydd dïeithriaid fuoch y’ngwlad yr Aifft: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:35|35}} ¶ Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. {{angor|19:36|36}} Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, ephah gyfiawn, a hin gyfiawn: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht. {{angor|19:37|37}} Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Am yr hwn a roddo ei had i Moloch.'' 4 ''Am yr hwn a arbedo y cyfryw.'' 6 ''Am fyned at frudwyr.'' 7 ''Am ymsancteiddio.'' 9 ''Am yr hwn a felldithio ei rïeni.'' 10 ''Am odineb.'' 11, 14, 17, 19 ''Am ymlosgach.'' 13 ''Am orwedd gyd â gwrryw,'' 15 ''neu gyd âg anifail.'' 18 ''Am oflendid.'' 22 ''Gorchymyn ufudd-dod gyd â sancteiddrwydd.'' 27 ''Rhaid yw rhoddi brudwyr i farwolaeth.''}} {{angor|20:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|20:2|2}} Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dïeithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig. {{angor|20:3|3}} A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhâu fy nghyssegr, ac i halogi fy enw sanctaidd. {{angor|20:4|4}} Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef: {{angor|20:5|5}} Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei butteindra ef, gan butteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl. {{angor|20:6|6}} ¶ A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i butteinio ar eu hol hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. {{angor|20:7|7}} ¶ Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi. {{angor|20:8|8}} Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich sancteiddydd. {{angor|20:9|9}} ¶ Os bydd neb a felldigo ei dad<noinclude><references/></noinclude> dyzk5kbutwbz0ubaxwjhz05tcn23gul 143069 143058 2025-07-09T05:18:20Z Tylopous 3717 am danat 143069 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mydog megis ti dy hun: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:19|19}} ¶ Cedwch fy neddfau: na âd i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na haua dy faes âg amryw had; ac nac aed am danat ddilledyn cymmysg o lin a gwlan. {{angor|19:20|20}} ¶ A phan fyddo i wr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i wr, ac heb ei rhyddhâu ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded ''iddynt'' gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd. {{angor|19:21|21}} A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r {{sc|Arglwydd}}, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd. {{angor|19:22|22}} A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe. {{angor|19:23|23}} ¶ A phan ddeloch i’r tir, a phlannu o honoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddïenwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dïenwaededig i chwi: na fwyttâer o hono. {{angor|19:24|24}} A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr {{sc|Arglwydd}} ''âg ef''. {{angor|19:25|25}} A’r bummed flwyddyn y bwyttêwch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}. {{angor|19:26|26}} ¶ Na fwyttêwch ddim ynghyd â’i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau. {{angor|19:27|27}} Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf. {{angor|19:28|28}} Ac na wnewch dorriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nôd arnoch: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:29|29}} ¶ Na haloga dy ferch, gan beri iddi butteinio: rhag putteinio y tir, a llenwi y wlad o ysgelerder. {{angor|19:30|30}} ¶ Cedwch fy Sabbathau, a pherchwch fy nghyssegr: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:31|31}} ¶ Nac ewch ar ol dewiniaid, a nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:32|32}} ¶ Cyfod ger bron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy {{sc|Dduw}}: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:33|33}} ¶ A phan ymdeithio dïeithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef. {{angor|19:34|34}} Bydded y dïeithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo o honoch, a châr ef fel ti dy hun; o herwydd dïeithriaid fuoch y’ngwlad yr Aifft: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:35|35}} ¶ Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. {{angor|19:36|36}} Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, ephah gyfiawn, a hin gyfiawn: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht. {{angor|19:37|37}} Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Am yr hwn a roddo ei had i Moloch.'' 4 ''Am yr hwn a arbedo y cyfryw.'' 6 ''Am fyned at frudwyr.'' 7 ''Am ymsancteiddio.'' 9 ''Am yr hwn a felldithio ei rïeni.'' 10 ''Am odineb.'' 11, 14, 17, 19 ''Am ymlosgach.'' 13 ''Am orwedd gyd â gwrryw,'' 15 ''neu gyd âg anifail.'' 18 ''Am oflendid.'' 22 ''Gorchymyn ufudd-dod gyd â sancteiddrwydd.'' 27 ''Rhaid yw rhoddi brudwyr i farwolaeth.''}} {{angor|20:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|20:2|2}} Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dïeithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig. {{angor|20:3|3}} A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhâu fy nghyssegr, ac i halogi fy enw sanctaidd. {{angor|20:4|4}} Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef: {{angor|20:5|5}} Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei butteindra ef, gan butteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl. {{angor|20:6|6}} ¶ A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i butteinio ar eu hol hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. {{angor|20:7|7}} ¶ Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi. {{angor|20:8|8}} Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich sancteiddydd. {{angor|20:9|9}} ¶ Os bydd neb a felldigo ei dad<noinclude><references/></noinclude> ew6b91dp4ejob82d6a6hwhnaox3dkhp Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/136 104 3386 143059 64003 2025-07-08T20:02:27Z Tylopous 3717 ym mysg 143059 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chymmerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gwr; oherwydd sanctaidd ''yw'' efe i’w {{sc|Dduw}}. {{angor|21:8|8}} A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy {{sc|Dduw}} di y mae efe yn ei offrymmu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ''ydwyf'' fi yr {{sc|Arglwydd}} eich sancteiddydd. {{angor|21:9|9}} ¶ Ac os dechreu merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân. {{angor|21:10|10}} A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew yr enneiniad ar ei ben, ac a gyssegrwyd i wisgo y gwisgoedd, na ddïosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad: {{angor|21:11|11}} Ac na ddeued at gorph un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam: {{angor|21:12|12}} Ac nac aed allan o’r cyssegr, ac na haloged gyssegr ei {{sc|Dduw}}; am ''fod'' coron olew enneiniad ei {{sc|Dduw}} arno ef; myfi yw yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|21:13|13}} A chymmered efe wraig yn ei morwyndod. {{angor|21:14|14}} Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, ''na'' phutain; y rhai hyn na chymmered: ond cymmered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig. {{angor|21:15|15}} Ac na haloged ei had ym mysg ei bobl: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} ei sancteiddydd ef. {{angor|21:16|16}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|21:17|17}} Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesâed un o’th had di trwy eu cenhedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu bara ei {{sc|Dduw}}: {{angor|21:18|18}} Canys ni chaiff un gwr y byddo anaf arno nesâu; y gwr dall, neu y cloff, neu y trwyndwn, neu y neb y byddo dim gormod ynddo; {{angor|21:19|19}} Neu y gwr y byddo iddo droed tẁn, neu law dòn; {{angor|21:20|20}} Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gorr, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin. {{angor|21:21|21}} Na nesâed un gwr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu ebyrth tanllyd yr {{sc|Arglwydd}}; anaf sydd arno; na nesâed i offrymmu bara ei {{sc|Dduw}}. {{angor|21:22|22}} Bara ei {{sc|Dduw}}, o’r ''pethau'' sanctaidd cyssegredig, ac o’r ''pethau'' cyssegredig, a gaiff efe ei fwytta. {{angor|21:23|23}} Etto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesâed at yr allor, am ''fod'' anaf arno; ac na haloged fy nghyssegroedd: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eu sancteiddydd hwynt. {{angor|21:24|24}} A llefarodd Moses ''hynny'' wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII.}}}} {{bach|1 ''Rhaid i’r offeiriaid yn eu haflendid ymgadw oddi wrth y pethau cyssegredig.'' 6 ''Y modd y mae eu puro hwynt.'' 10 ''Pwy yn nhŷ yr offeiriaid a all fwytta o’r pethau cyssegredig.'' 17 ''Rhaid i’r aberthau fod yn ddïanaf.'' 26 ''Oedran yr aberth.'' 29 ''Y gyfraith am fwytta yr aberth dïolch.''}} {{angor|22:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|22:2|2}} Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneillduo oddi wrth bethau cyssegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, ''yn y pethau'' y maent yn eu cyssegru i mi: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|22:3|3}} Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenhedlaethau a nesao at y pethau cyssegredig a gyssegro meibion Israel i’r {{sc|Arglwydd}}, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|22:4|4}} Na fwyttâed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cyssegredig, ac yntau yn wahan-glwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhâer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had; {{angor|22:5|5}} Na’r un a gyffyrddo âg un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno: {{angor|22:6|6}} A’r dyn a gyffyrddo âg ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwyttâed o’r pethau cyssegredig, oddi eithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr. {{angor|22:7|7}} A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwyttâed o’r pethau cyssegredig: canys ei fwyd ef ''yw'' hwn. {{angor|22:8|8}} Ac na fwyttâed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|22:9|9}} Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod ''bob'' un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eu sancteiddydd hwynt. {{angor|22:10|10}} Ac na fwyttâed un alltud o’r peth cyssegredig: dïeithrddyn yr<noinclude><references/></noinclude> mm4zm92n5imqzojzfvail0qcmuom3xs Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/142 104 3392 143044 64009 2025-07-08T16:54:08Z Tylopous 3717 etto 143044 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fydd yn ol hyd flwyddyn y jubili, pan gyfrifo âg ef; taled ei ollyngdod yn ol ei flynyddoedd. {{angor|25:53|53}} Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gyd âg ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di. {{angor|25:54|54}} Ac os efe ni ollyngir o fewn ''y blynyddoedd'' hyn; yna aed allan flwyddyn y jubili, efe a’i blant gyd âg ef. {{angor|25:55|55}} Canys gweision i mi ''yw'' meibion Israel; fy ngweision ydynt, y rhai a ddygais o dir yr Aipht: myfi ''ydwyf'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi. {{angor|Pennod_26}}{{c|{{uc|Pennod}} XXVI.}} {{bach|1 ''Am ddelw-addoliaeth.'' 2 ''Am grefydd.'' 3. ''Bendith i’r rhai a gadwant y gorchymynion;'' 14 ''a melldith i’r rhai a’u torrant.'' 40 ''Duw yn addaw cofio y rhai edifarhânt.''}} {{angor|26:1}} {{uc|Na}} wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi. {{angor|26:2|2}} Fy Sabbathau i a gedwch, a’m cyssegr i a berchwch: myfi ''ydwyf'' yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|26:3|3}} ¶ Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchymynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt; {{angor|26:4|4}} Yna mi a roddaf eich gwlaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth. {{angor|26:5|5}} A’ch dyrnu a gyrhaedd hyd gynhauaf y grawnwin, a chynhauaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwyttêwch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddïogel. {{angor|26:6|6}} Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir. {{angor|26:7|7}} Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf. {{angor|26:8|8}} A phump o honoch a erlidia gant, a chant o honoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf. {{angor|26:9|9}} A mi a edrychaf am danoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhâf, ac a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi. {{angor|26:10|10}} A’r hen ystôr a fwyttêwch, ïe, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd. {{angor|26:11|11}} Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi. {{angor|26:12|12}} A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn {{sc|Dduw}} i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi. {{angor|26:13|13}} Myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, rhag eich bod yn gaeth-weision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion. {{angor|26:14|14}} ¶ Ond os chwi ni wrandêwch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchymynion hyn; {{angor|26:15|15}} Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchymynion, ond torri fy nghyfammod; {{angor|26:16|16}} Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: i gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer, canys eich gelynion a’i bwytty: {{angor|26:17|17}} Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid. {{angor|26:18|18}} Ac os er hyn ni wrandêwch arnaf, yna y chwanegaf eich cospi chwi saith mwy am eich pechodau. {{angor|26:19|19}} A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haiarn, a’ch tir chwi fel pres: {{angor|26:20|20}} A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth. {{angor|26:21|21}} ¶ Ac os rhodiwch y’ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ol eich pechodau. {{angor|26:22|22}} Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddiblant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleihâ chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch. {{angor|26:23|23}} Ac os wrth hyn ni chymmerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi; {{angor|26:24|24}} Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch cospaf chwi hefyd etto yn saith mwy am eich pechodau. {{angor|26:25|25}} A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddïal fy nghyfammod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn. {{nop}}<noinclude></noinclude> o34fx9xgj30c2gkd02kozrhxil42css Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/144 104 3394 143038 64011 2025-07-08T16:48:05Z Tylopous 3717 atto (2) 143038 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mlwydd, bùm sicl o arian; ac am fenyw dy bris ''fydd'' tri sicl o arian. {{angor|27:7|7}} Ac o fab tri ugeinmlwydd ac uchod, os gwrryw ''fydd'', bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl. {{angor|27:8|8}} Ond os tlottach fydd efe na’th bris di, yna safed ger bron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ol yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, ''felly'' y prisia yr offeiriad ef. {{angor|27:9|9}} ¶ Ond os anifail, yr hwn yr offrymmir o hono offrwm i’r {{sc|Arglwydd}}, ''fydd ei adduned;'' yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r {{sc|Arglwydd}}, sanctaidd fydd. {{angor|27:10|10}} Na rodded un arall am dano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia i anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd, {{angor|27:11|11}} Ac os ''adduneda efe'' un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymmu o hono offrwm i’r {{sc|Arglwydd}}; yna rhodded yr anifail i sefyll ger bron yr offeiriad: {{angor|27:12|12}} A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg ''fydd:'' fel y prisiech di yr offeiriad ''ef'', felly y bydd. {{angor|27:13|13}} Ac os efe gan brynu a’i pryn; yna rhodded at dy bris di ei bummed ''ran'' yn ychwaneg. {{angor|27:14|14}} ¶ A phan sancteiddio gwr ei dŷ yn sanctaidd i’r {{sc|Arglwydd}}; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif. {{angor|27:15|15}} Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bummed ''ran'' arian dy bris yn ychwaneg atto, a bydded eiddo ef. {{angor|27:16|16}} ¶ Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gwr i’r {{sc|Arglwydd}}; yna bydded dy bris yn ol ei hauad: hauad homer o haidd ''fydd'' er deg sicl a deugain o arian. {{angor|27:17|17}} Os o flwyddyn y jubili y sancteiddia efe ei faes, yn ol dy bris di y saif. {{angor|27:18|18}} Ond os wedi’r jubili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ol y blynyddoedd fyddant yn ol, hyd flwyddyn y jubili, a lleihâer dy bris di. {{angor|27:19|19}} Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a bryn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg atto, a bydded iddo ef. {{angor|27:20|20}} Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i wr arall, ni cheir ei ollwng mwy. {{angor|27:21|21}} A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jubili, yn gyssegredig i’r {{sc|Arglwydd}}, fel maes dïofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad. {{angor|27:22|22}} Ac os ei dir pryn, yr hwn ni ''bydd o'' dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r {{sc|Arglwydd}}, {{angor|27:23|23}} Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jubili, a rhodded yntau dy bris di yn gyssegredig i’r {{sc|Arglwydd}}, y dydd hwnnw. {{angor|27:24|24}} Y maes a â yn ei ol, flwyddyn y jubili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, ''sef'' yr hwn ''oedd'' eiddo etifeddiaeth y tir. {{angor|27:25|25}} A phob pris i ti fydd wrth sicl y cyssegr: ugain gerah fydd y sicl. {{angor|27:26|26}} ¶ Ond y cyntaf-anedig o anifail, yr hwn sydd flaen-ffrwyth i’r arglwydd, na chyssegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad ''fyddo:'' eiddo yr {{sc|Arglwydd}} ''yw'' efe. {{angor|27:27|27}} Ond os ''ei adduned ef fydd'' o anifail aflan; yna rhyddhâed ef yn dy bris di, a rhodded ei bummed ''ran'' yn ychwaneg atto: ac onis rhyddhâ, yna gwerther ef yn dy bris di. {{angor|27:28|28}} ¶ Ond pob dïofryd-beth a ddïofrydo un i’r {{sc|Arglwydd}}, o’r hyn oll ''a fyddo'' eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddhêir: pob dïofryd-beth ''sydd'' sancteiddiolaf i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|27:29|29}} Ni cheir gollwng yn rhydd un ''anifail'' dïofrydog, yr hwn a ddïofryder gan ddyn: lladder yn farw. {{angor|27:30|30}} ¶ A holl ddegwm y tir, o had y tir, ''ac'' o ffrwyth y coed, yr {{sc|Arglwydd}} a’u pïau: cyssegredig i’r {{sc|Arglwydd}} ''yw''. {{angor|27:31|31}} Ac os gwr gan brynu a bryn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg atto. {{angor|27:32|32}} A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cyssegredig i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|27:33|33}} Nac edryched pa un ai da ai drwg ''fydd efe'', ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gyssegredig, ni ellir ei ollwng yn rhydd. {{angor|27:34|34}} Dyma’r gorchymynion a orchymynnodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai. {{nop}}<noinclude></noinclude> 26o89er85orjpifkand2zvtf1o7kqx3 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/152 104 3402 143062 139746 2025-07-08T20:05:02Z Tylopous 3717 ym mysg 143062 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>dïosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylaw offrwm y coffa; offrwm eiddigedd ''yw'' efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri y felldith. {{angor|5:19|19}} A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gwr gyd â thi, ac oni ŵyraist i aflendid ''gyd âg arall'' yn lle dy wr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri y felldith. {{angor|5:20|20}} Ond os gŵyraist ti oddi wrth dy wr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heb law dy wr dy hun: {{angor|5:21|21}} (Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig,) Rhodded yr {{sc|Arglwydd}} dydi yn felldith ac yn llw ym mysg dy bobl, pan wnelo yr {{sc|Arglwydd}} dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig; {{angor|5:22|22}} Ac aed y dwfr melldigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen. {{angor|5:23|23}} Ac ysgrifened yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched ''hwynt'' ymaith â’r dwfr chwerw. {{angor|5:24|24}} A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri y felldith: ac aed y dwfr sydd yn peri y felldith i’w mewn hi, yn chwerw. {{angor|5:25|25}} A chymmered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ac offrymmed ef ar yr allor. {{angor|5:26|26}} A chymmered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi ''hynny'' pared i’r wraig yfed y dwfr. {{angor|5:27|27}} Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gwr, yr â y dwfr sydd yn peri y felldith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a’r wraig a fydd yn felldith ym mysg ei phobl. {{angor|5:28|28}} Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddïhangol, ac a blanta. {{angor|5:29|29}} Dyma gyfraith eiddigedd, pan ŵyro gwraig ''at arall'' yn lle ei gwr, ac ymhalogi: {{angor|5:30|30}} Neu os daw ar wr wŷn eiddigedd, a dal o hono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr {{sc|Arglwydd}}, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ol y gyfraith hon. {{angor|5:31|31}} A’r gwr fydd dïeuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Cyfraith y Nazaread.'' 24 ''Y dull y bendithir y bobl.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|6:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneillduo gwr neu wraig i addaw adduned Nazaread, i ymneillduo i’r {{sc|Arglwydd}}: {{angor|6:3|3}} Ymneilldued oddi wrth win a dïod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr dïod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytâed rawnwin irion, na sychion. {{angor|6:4|4}} Holl ddyddiau ei Nazareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen. {{angor|6:5|5}} Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni y dyddiau yr ymneillduodd efe i’r {{sc|Arglwydd}}, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu. {{angor|6:6|6}} Holl ddyddiau ei ymneillduaeth i’r {{sc|Arglwydd}}, na ddeued at gorff marw. {{angor|6:7|7}} Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am ''fod'' Nazareaeth ei {{sc|Dduw}} ar ei ben ef. {{angor|6:8|8}} Holl ddyddiau ei Nazareaeth, sanctaidd ''fydd'' efe i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|6:9|9}} Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymmwth, a halogi pen ei Nazareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef. {{angor|6:10|10}} Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr oifeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|6:11|11}} Ac offrymed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, a gwnaed gymmod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw. {{angor|6:12|12}} A neilldued i’r {{sc|Arglwydd}} ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd: ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef. {{angor|6:13|13}} ¶ A dyma gyfraith y Nazaread: pan gyflawner dyddiau ei Nazareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|6:14|14}} A dyged yn offrwm drosto i’r {{sc|Arglwydd}}, un hespwrn blwydd,<noinclude><references/></noinclude> 97rg5oeyobct2vy3w8ttn7hwb2qdx7g Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/157 104 3407 143063 143026 2025-07-08T20:05:37Z Tylopous 3717 ym mysg 143063 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|9:1|}} {{uc|A’r}} {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aipht, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd, {{angor|9:2|2}} Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor. {{angor|9:3|3}} Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymmor: yn ol ei holl ddeddfau, ac yn ol ei holl ddefodau, y cedwch ef. {{angor|9:4|4}} A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasc. {{angor|9:5|5}} A chadwasant y Pasc ar y ''mis'' cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel. {{angor|9:6|6}} ¶ Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasc ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant ger bron Moses, a cher bron Aaron, ar y dydd hwnnw. {{angor|9:7|7}} A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, ''Yr ydym'' ni wedi ein halogi wrth gorph dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymmu offrwm i’r {{sc|Arglwydd}} yn ei dymmor ym mysg meibion Israel? {{angor|9:8|8}} A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchymynno yr {{sc|Arglwydd}} o’ch plegid. {{angor|9:9|9}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|9:10|10}} Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorph marw, neu ''neb'' o honoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, etto cadwed Basc i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|9:11|11}} Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail mis, yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a ''dail'' chwerwon y bwyttânt ef. {{angor|9:12|12}} Na weddillant ''ddim'' o hono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ol holl ddeddf y Pasc y cadwant ef. {{angor|9:13|13}} A’r gwr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasc, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr {{sc|Arglwydd}} yn ei dymmor: ei bechod a ddwg y gwr hwnnw. {{angor|9:14|14}} A phan ymdeithio dïeithr gyd â chwi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r {{sc|Arglwydd}}; fel ''y byddo'' deddf y Pasc a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, ''sef'' i’r dïeithr ac i’r un fydd a’i enedigaeth o’r wlad. {{angor|9:15|15}} ¶ Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmmwl a gauodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore. {{angor|9:16|16}} Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmmwl a gauai am dano ''y dydd'', a’r gwelediad tân y nos. {{angor|9:17|17}} A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel. {{angor|9:18|18}} Wrth orchymyn yr {{sc|Arglwydd}} y cychwynai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr {{sc|Arglwydd}} y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll. {{angor|9:19|19}} A phan drigai y cwmmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr {{sc|Arglwydd}}, ac ni chychwynent. {{angor|9:20|20}} Ac os byddai y cwmmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr {{sc|Arglwydd}} y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr {{sc|Arglwydd}} y cychwynent. {{angor|9:21|21}} Hefyd os byddai y cwmmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmmwl y bore, hwythau a symmudent: pa un bynnag ai dydd ai nos ''fyddai'' pan gyfodai y cwmmwl, yna y cychwynent. {{angor|9:22|22}} Os deuddydd, os mis, os blwyddyn ''fyddai'', tra y trigai y cwmmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynent: ond pan godai efe, y cychwynent. {{angor|9:23|23}} Wrth air yr {{sc|Arglwydd}} y gwersyllent, ac wrth air yr {{sc|Arglwydd}} y cychwynent: ''felly'' y cadwent wyliadwriaeth yr {{sc|Arglwydd}}, yn ol gair yr {{sc|Arglwydd}} trwy law Moses. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Beth a wneid â’r udgyrn arian.'' 11 ''Yr Israeliaid yn symmudo o Sinai i Paran.'' 14 ''Trefn eu cerddediad hwy.'' 29 ''Moses yn attolwg ar Hobab nad ymadawai â hwynt.'' 33 ''Bendith Moses wrth symmudo a gorphwyso o’r arch.''}} {{angor|10:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|10:2|2}} Gwna i ti ddau udgorn arian, yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynnulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> l928xet7edtv5g149r6zzpcc3w9d7hj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/158 104 3408 143049 143025 2025-07-08T17:02:25Z Tylopous 3717 cenhedlaethau 143049 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|10:3|3}} A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynnulleidfa attat, wrth ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|10:4|4}} Ond os âg un y canant; yna y tywysogion, ''sef'' pennaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant. {{angor|10:5|5}} Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dwyrain, a gychwynant. {{angor|10:6|6}} Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dehau, a gychwynant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn. {{angor|10:7|7}} Ac wrth alw ynghyd y gynnulleidfa, cenwch yr udgyrn; ond na chenwch larwm. {{angor|10:8|8}} A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr udgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau. {{angor|10:9|9}} Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymmwr a’ch gorthrymmo chwi; cenwch larwm mewn udgyrn: yna y coffêir chwi ger bron yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion. {{angor|10:10|10}} Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechreu eich misoedd, y cenwch ar yr udgyrn uwch ben eich offrymmau poeth, ac uwch ben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth ger bron eich {{sc|Duw}}: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}. {{angor|10:11|11}} ¶ A bu yn yr ail flwyddyn, sef yr ail mis, ar yr ugeinfed ''dydd'' o’r mis, gyfodi o’r cwmmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth. {{angor|10:12|12}} A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmmwl a arhosodd yn anialwch Paran. {{angor|10:13|13}} Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr {{sc|Arglwydd}} trwy law Moses. {{angor|10:14|14}} ¶ Ac yn gyntaf y cychwynodd llumman gwersyll meibion Judah yn ol eu lluoedd: ac ar ei lu ef ''yr ydoedd'' Nahson mab Aminadab. {{angor|10:15|15}} Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar. {{angor|10:16|16}} Ac ar lu llwyth meibion Zabulon, Elïab mab Helon. {{angor|10:17|17}} Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl. {{angor|10:18|18}} ¶ Yna y cychwynodd llumman gwersyll Reuben yn ol eu lluoedd: ac ''yr ydoedd'' ar ei lu ef Elisur mab Sedëur. {{angor|10:19|19}} Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisàdai. {{angor|10:20|20}} Ac ar lu llwyth meibion Gad, Elïasaph mab Deuel. {{angor|10:21|21}} A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cyssegr; ''a’r lleill'' a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod. {{angor|10:22|22}} ¶ Yna llumman gwersyll meibion Ephraim a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac ''yr oedd'' ar ei lu ef Elisama mab Ammihud. {{angor|10:23|23}} Ac ar lu llwyth meibion Manasseh, Gamaliel mab Pedasur. {{angor|10:24|24}} Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni. {{angor|10:25|25}} ¶ Yna llumman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac ''yr ydoedd'' ar ei lu ef Ahïeser mab Ammisàdai. {{angor|10:26|26}} Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagïel mab Ocran. {{angor|10:27|27}} Ac ar lu llwyth meibion Naphtali, Ahira mab Enan. {{angor|10:28|28}} Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ol eu lluoedd, pan gychwynasant. {{angor|10:29|29}} ¶ A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyd â ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} ddaioni am Israel. {{angor|10:30|30}} Dywedodd yntau wrtho, Nid âf ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr âf. {{angor|10:31|31}} Ac efe a ddywedodd, Na âd ni, attolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni. {{angor|10:32|32}} A phan ddelych gyd â ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna yr {{sc|Arglwydd}} i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau. {{angor|10:33|33}} ¶ A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr {{sc|Arglwydd}} daith tri diwrnod: ac arch cyfammod yr {{sc|Arglwydd}} oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orphwysfa iddynt. {{angor|10:34|34}} A chwmmwl yr {{sc|Arglwydd}} ''oedd'' arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll. {{angor|10:35|35}} A hefyd pan gychwynai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod,<noinclude><references/></noinclude> k2wmssii1kqu36vv59gy9rbdwi4hvcf Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/162 104 3412 143050 142771 2025-07-08T17:04:39Z Tylopous 3717 diffaethwch 143050 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|13:31|31}} Ond y gwŷr y rhai a aethant i fynu gyd âg ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fynu yn erbyn y bobl, canys cryfach ''ydynt'' na nyni. {{angor|13:32|32}} A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe, a’r holl bobl a welsom ynddo ''ydynt'' wŷr corphol: {{angor|13:33|33}} Ac yno y gwelsom y cawri, meibion Anac, ''y rhai a ddaethant'' o’r cawri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Y bobl yn tuchan o ran y newyddion.'' 6 ''Josua a Chaleb yn ceisio eu llonyddu hwynt.'' 11 ''Duw yn eu bygwth.'' 13 ''Moses yn ymbil â Duw: ac yn caffael iddynt hwy faddeuant.'' 26 ''Y tuchanwyr heb gael myned i’r wlad.'' 36 ''Y gwŷr a roisant anghlod i’r tir yn marw o’r pla.'' 40 ''Y bobl a fynnai osod ar y wlad yn erbyn ewyllys Duw, yn cael eu taro.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Yna}} yr holl gynnulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno. {{angor|14:2|2}} A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn! {{angor|14:3|3}} A phaham y mae yr {{sc|Arglwydd}} yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn yspail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aipht? {{angor|14:4|4}} A dywedasant bawb wrth eu gilydd, Gosodwn ben ''arnom'', a dychwelwn i’r Aipht. {{angor|14:5|5}} Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau ger bron holl gynnulleidfa tyrfa meibion Israel. {{angor|14:6|6}} ¶ Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunneh, ''dau'' o ysbïwyr y tir, a rwygasant eu dillad; {{angor|14:7|7}} Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, ''sydd'' dir da odiaeth. {{angor|14:8|8}} Os yr {{sc|Arglwydd}} sydd foddlawn i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni, ''sef'' y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. {{angor|14:9|9}} Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r {{sc|Arglwydd}} ''sydd'' gyd â ni: nac ofnwch hwynt. {{angor|14:10|10}} A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel. {{angor|14:11|11}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Pa hyd y digia y bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? {{angor|14:12|12}} Tarawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt-hwy. {{angor|14:13|13}} ¶ A dywedodd Moses wrth yr {{sc|Arglwydd}}, Felly yr Aiphtiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fynu yn dy nerth,) {{angor|14:14|14}} Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, {{sc|Arglwydd}}, ymysg y bobl yma, a’th fod di, {{sc|Arglwydd}}, yn ymddangos ''iddynt'' wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) {{angor|14:15|15}} Os lleddi y bobl yma fel un gwr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn am danat, gan ddywedyd, {{angor|14:16|16}} O eisiau gallu o’r {{sc|Arglwydd}} ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaethwch. {{angor|14:17|17}} Yr awr hon, gan hynny, mawrhâer, attolwg, nerth yr {{sc|Arglwydd}}, fel y lleferaist, gan ddywedyd, {{angor|14:18|18}} Yr {{sc|Arglwydd}} ''sydd'' hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhâu ni chyfiawnhâ efe ''yr euog;'' ymweled y mae âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd ''genhedlaeth''. {{angor|14:19|19}} Maddeu, attolwg, anwiredd y bobl yma, yn ol dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aipht hyd yma. {{angor|14:20|}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Maddeuais, yn ol dy air: {{angor|14:21|21}} Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|14:22|22}} Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, {{angor|14:23|23}} Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; ''sef'' y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rx6753keaa3xzlyghrpcdm5k0qlfo7k 143064 143050 2025-07-08T20:06:25Z Tylopous 3717 ym mysg 143064 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|13:31|31}} Ond y gwŷr y rhai a aethant i fynu gyd âg ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fynu yn erbyn y bobl, canys cryfach ''ydynt'' na nyni. {{angor|13:32|32}} A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe, a’r holl bobl a welsom ynddo ''ydynt'' wŷr corphol: {{angor|13:33|33}} Ac yno y gwelsom y cawri, meibion Anac, ''y rhai a ddaethant'' o’r cawri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Y bobl yn tuchan o ran y newyddion.'' 6 ''Josua a Chaleb yn ceisio eu llonyddu hwynt.'' 11 ''Duw yn eu bygwth.'' 13 ''Moses yn ymbil â Duw: ac yn caffael iddynt hwy faddeuant.'' 26 ''Y tuchanwyr heb gael myned i’r wlad.'' 36 ''Y gwŷr a roisant anghlod i’r tir yn marw o’r pla.'' 40 ''Y bobl a fynnai osod ar y wlad yn erbyn ewyllys Duw, yn cael eu taro.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Yna}} yr holl gynnulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno. {{angor|14:2|2}} A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn! {{angor|14:3|3}} A phaham y mae yr {{sc|Arglwydd}} yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn yspail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aipht? {{angor|14:4|4}} A dywedasant bawb wrth eu gilydd, Gosodwn ben ''arnom'', a dychwelwn i’r Aipht. {{angor|14:5|5}} Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau ger bron holl gynnulleidfa tyrfa meibion Israel. {{angor|14:6|6}} ¶ Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunneh, ''dau'' o ysbïwyr y tir, a rwygasant eu dillad; {{angor|14:7|7}} Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, ''sydd'' dir da odiaeth. {{angor|14:8|8}} Os yr {{sc|Arglwydd}} sydd foddlawn i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni, ''sef'' y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. {{angor|14:9|9}} Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r {{sc|Arglwydd}} ''sydd'' gyd â ni: nac ofnwch hwynt. {{angor|14:10|10}} A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel. {{angor|14:11|11}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Pa hyd y digia y bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? {{angor|14:12|12}} Tarawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt-hwy. {{angor|14:13|13}} ¶ A dywedodd Moses wrth yr {{sc|Arglwydd}}, Felly yr Aiphtiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fynu yn dy nerth,) {{angor|14:14|14}} Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, {{sc|Arglwydd}}, ym mysg y bobl yma, a’th fod di, {{sc|Arglwydd}}, yn ymddangos ''iddynt'' wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) {{angor|14:15|15}} Os lleddi y bobl yma fel un gwr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn am danat, gan ddywedyd, {{angor|14:16|16}} O eisiau gallu o’r {{sc|Arglwydd}} ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaethwch. {{angor|14:17|17}} Yr awr hon, gan hynny, mawrhâer, attolwg, nerth yr {{sc|Arglwydd}}, fel y lleferaist, gan ddywedyd, {{angor|14:18|18}} Yr {{sc|Arglwydd}} ''sydd'' hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhâu ni chyfiawnhâ efe ''yr euog;'' ymweled y mae âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd ''genhedlaeth''. {{angor|14:19|19}} Maddeu, attolwg, anwiredd y bobl yma, yn ol dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aipht hyd yma. {{angor|14:20|}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Maddeuais, yn ol dy air: {{angor|14:21|21}} Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|14:22|22}} Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, {{angor|14:23|23}} Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; ''sef'' y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> d530bj5hc4dmueyn457mn7mljofky13 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/167 104 3417 143039 143017 2025-07-08T16:49:10Z Tylopous 3717 attoch 143039 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|16:46|46}} ¶ Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymmer thusser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl-darth ''arni'', a dos yn fuan at y gynnulleidfa, a gwna gymmod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, dechreuodd y pla. {{angor|16:47|47}} A chymmerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynnulleidfa; ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth gymmod dros y bobl. {{angor|16:48|48}} Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a attaliwyd. {{angor|16:49|49}} A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heb law y rhai a fuant feirw yn achos Corah. {{angor|16:50|50}} A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a attaliwyd. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Gwïalen Aaron ym mhlith holl wïail y llwythau yn unig yn blodeuo.'' 10 ''Ei gadael hi yn lle coffadwriaeth yn erbyn y gwrthryfelwyr.''}} {{angor|17:1}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|17:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, a chymmer gan bob un o honynt wïalen, yn ol tŷ eu tadau, ''sef'' gan bob un o’u pennaethiaid, yn ol tŷ eu tadau, deuddeg gwïalen; ysgrifena enw pob un ar ei wïalen. {{angor|17:3|3}} Ac ysgrifena enw Aaron ar wïalen Lefi: canys un wïalen ''fydd'' dros ''bob'' pennaeth tŷ eu tadau. {{angor|17:4|4}} A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi. {{angor|17:5|5}} A gwïalen y gwr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi. {{angor|17:6|6}} ¶ A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a’u holl bennaethiaid a roddasant atto wialen dros bob pennaeth, yn ol tŷ eu tadau, ''sef'' deuddeg gwïalen; a gwïalen Aaron ''oedd'' ym mysg eu gwïail hwynt. {{angor|17:7|7}} A Moses a adawodd y gwïail ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ym mhabell y dystiolaeth. {{angor|17:8|8}} A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwïalen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddygasai almonau. {{angor|17:9|9}} A dug Moses allan yr holl wïail oddi ger bron yr {{sc|Arglwydd}} at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymmerasant bob un ei wïalen ei hun. {{angor|17:10|10}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Dod wïalen Aaron drachefn ger bron y dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw. {{angor|17:11|11}} A gwnaeth Moses fel y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} iddo; felly y gwnaeth efe. {{angor|17:12|12}} A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu am danom, darfu am danom ni oll. {{angor|17:13|13}} Bydd farw pob un gan nesâu a nesao i dabernacl yr {{sc|Arglwydd}}. A wneir pen am danom gan drengi? {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Swydd yr offeiriaid a’r Lefiaid.'' 9 ''Rhan yr offeiriaid.'' 21 ''Rhan y Lefiaid.'' 25 ''Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid.''}} {{angor|18:1}} {{uc|A dywedodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd â thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth. {{angor|18:2|2}} A dwg hefyd gyd â thi dy frodyr ''o'' lwyth Lefi, ''sef'' llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyd â thi ''a wasanaethwch'' ger bron pabell y dystiolaeth. {{angor|18:3|3}} A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd. {{angor|18:4|4}} Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dïeithr yn agos attoch. {{angor|18:5|5}} Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cyssegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel. {{angor|18:6|6}} Ac wele, mi a gymmerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd ''hwynt'', ''megis'' rhodd i’r {{sc|Arglwydd}}, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod. {{angor|18:7|7}} Tithau a’th feibion gyd â thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth ''a berthyn'' i’r allor, ac o fewn y llèn wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhodd-<noinclude><references/></noinclude> mpq5r4xrvcv89mtv3q3idzn9b57g106 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/169 104 3419 143036 6554 2025-07-08T16:44:53Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 143036 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. {{angor|18:32|32}} Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon o hono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Y dwfr neillduaeth a wneid o ludw anner goch.'' 11 ''Y gyfraith pa fodd yr arferid ef wrth buro yr aflan.''}} {{angor|19:1}} {{uc|Llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, {{angor|19:2|2}} Dyma ddeddf y gyfraith a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt attat anner goch berffeith-gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni. {{angor|19:3|3}} A rhoddwch hi at Eleazar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded ''un'' hi ger ei fron ef. {{angor|19:4|4}} A chymmered Eleazar yr offeiriad ''beth'' o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith. {{angor|19:5|5}} A llosged ''un'' yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe. {{angor|19:6|6}} A chymmered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner. {{angor|19:7|7}} A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr. {{angor|19:8|8}} Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr. {{angor|19:9|9}} A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded y’nghadw i gynnulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neillduaeth: pech-aberth ''yw''. {{angor|19:10|10}} A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragywyddol. {{angor|19:11|11}} ¶ A gyffyrddo â chorph marw dyn, aflan fydd saith niwrnod. {{angor|19:12|12}} Ymlanhâed trwy ''y dwfr'' hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanhâ efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd. {{angor|19:13|13}} Pob un a gyffyrddo â chorph marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr {{sc|Arglwydd}}; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neillduaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid ''sydd'' etto arno. {{angor|19:14|14}} Dyma y gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un ''a fyddo'' yn y babell, fydd aflan saith niwrnod. {{angor|19:15|15}} A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan ''yw'' efe. {{angor|19:16|16}} Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, âg un wedi ei ladd â chleddyf, neu âg un marw, neu âg asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod. {{angor|19:17|17}} Cymmerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder atto ddwfr rhedegog mewn llestr; {{angor|19:18|18}} A chymmered isop, a golched un dihalogedig ''ef'' mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd âg asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd: {{angor|19:19|19}} A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhâed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr. {{angor|19:20|20}} Ond y gwr a haloger, ac nid ymlanhao, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynnulleidfa: canys efe a halogodd gyssegr yr {{sc|Arglwydd}}, ni thaenellwyd arno ddwfr y neillduaeth; aflan ''yw'' efe. {{angor|19:21|21}} A bydd iddynt yn ddeddf dragywyddol, bod i’r hwn a daenello ddwfr y neillduaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neillduaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr. {{angor|19:22|22}} A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan âg ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo ''â hynny'', fydd aflan hyd yr hwyr. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Plant Israel yn dyfod i Sin; lle y bu farw Miriam.'' 2 ''Hwynt-hwy yn tuchan o eisieu dwfr.'' 7 ''Moses yn taro y graig, ac yn dwyn allan ddwfr ym Meribah.'' 12 ''Cospedigaeth Moses ac Aaron, am eu petrusedd.'' 14 ''Moses yn Cades yn deisyfu ffordd i dramwy trwy Edom; ac yn cael ei naccâu.'' 22 ''Aaron yn rhoddi i fynu ei le i Eleazar, ac yn marw.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nrhs2dsb865ryib3mqv8co4g4szb3iq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/170 104 3420 143051 6555 2025-07-08T18:50:55Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 143051 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|20:1}} {{uc|A meibion}} Israel, ''sef'' yr holl gynnulleidfa, a ddaethant i anialwch Sin yn y mis cyntaf; ac arhôdd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. {{angor|20:2|2}} Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. {{angor|20:3|3}} Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr ger bron yr {{sc|Arglwydd}}! {{angor|20:4|4}} Paham y dygasoch gynnulleidfa yr {{sc|Arglwydd}} i’r anialwch hwn, i farw o honom ni a’n hanifeiliaid ynddo? {{angor|20:5|5}} A phaham y dygasoch ni i fynu o’r Aipht, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranadbren, ac heb ddwfr i’w yfed? {{angor|20:6|6}} A daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau: a gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} a ymddangosodd iddynt. {{angor|20:7|7}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|20:8|8}} Cymmer y wïalen, a chasgl y gynnulleidfa, ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dïoda y gynnulleidfa a’u hanifeiliaid. {{angor|20:9|9}} A Moses a gymmerodd y wïalen oddi ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, megis y gorchymynasai efe iddo. {{angor|20:10|10}} A Moses ac Aaron a gynnullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? {{angor|20:11|11}} A Moses a gododd ei law, ac a darawodd y graig ddwy waith â’i wïalen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynnulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid ''hefyd''. {{angor|20:12|12}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio y’ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. {{angor|20:13|13}} Dyma ddyfroedd Meribah; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r {{sc|Arglwydd}}; ac y sancteiddiwyd ef ynddynt. {{angor|20:14|14}} ¶ A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenhin Edom, ''gan ddywedyd,'' Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni: {{angor|20:15|15}} Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a’n tadau. {{angor|20:16|16}} A ni a waeddasom ar yr {{sc|Arglwydd}}; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aipht: ac wele ni yn Cades, dinas ''ar'' gwrr dy ardal di. {{angor|20:17|17}} Attolwg, gâd i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr ''un'' ffynnon: ''prif''-ffordd y brenhin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di. {{angor|20:18|18}} A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod. {{angor|20:19|19}} A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y brif-ffordd yr awn i fynu; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr âf trwodd yn ddiniwed. {{angor|20:20|20}} Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod âg ef, â phobl lawer, ac a llaw gref. {{angor|20:21|21}} Felly Edom a naccaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef. {{angor|20:22|22}} ¶ A meibion Israel, ''sef'' yr holl gynnulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor. {{angor|20:23|23}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd, {{angor|20:24|24}} Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhâu i’m gair, wrth ddwfr Meribah. {{angor|20:25|25}} Cymmer Aaron ac Eleazar ei fab, a dwg hwynt i fynu i fynydd Hor; {{angor|20:26|26}} A dïosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesglir ''at ei bobl'', ac a fydd farw yno. {{angor|20:27|27}} A gwnaeth Moses megis y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}: a hwy a aethant i fynu i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynnulleidfa. {{angor|20:28|28}} A dïosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleazar ei fab ef:<noinclude><references/></noinclude> kaomm3cerlz51w7sx4ur50xpye4mkg2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/171 104 3421 143056 6556 2025-07-08T19:57:29Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 143056 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynodd Moses ac Eleazar o’r mynydd. {{angor|20:29|29}} A’r holl gynnulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Israel trwy beth colled yn difetha y Canaaneaid yn Hormah.'' 4 ''Y bobl yn tuchan, ac yn cael eu brathu gan seirph tanllyd;'' 7 ''ac ar eu hedifeirwch yn cael eu hiachâu gan y sarph bres.'' 10 ''Amrwy deithiau yr Israeliaid.'' 21 ''Gorchfygu Sehon,'' 33 ''ac Og.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A’r}} brenhin Arad, y Canaanead, preswylydd y dehau, a glybu fod Israel yn dyfod ''ar hyd'' ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd ''rai'' o honynt yn garcharorion. {{angor|21:2|2}} Ac addunodd Israel adduned i’r {{sc|Arglwydd}}, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt. {{angor|21:3|3}} A gwrandawodd yr {{sc|Arglwydd}} ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid ''yn ei law'' ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle ''hwnnw'' Hormah. {{angor|21:4|4}} ¶ A hwy a aethant o fynydd Hor, ''ar hyd'' ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd. {{angor|21:5|5}} A llefarodd y bobl yn erbyn {{sc|Duw}}, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aipht, i farw yn yr anialwch? canys nid ''oes'' na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael ''hwn''. {{angor|21:6|6}} A’r {{sc|Arglwydd}} a anfonodd ym mysg y bobl seirph tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer. {{angor|21:7|7}} ¶ A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr {{sc|Arglwydd}}, ar yrru o hono ef y seirph oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl. {{angor|21:8|8}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Gwna i ti sarph danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw. {{angor|21:9|9}} A gwnaeth Moses sarph bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarph wr, ac edrych o hono ef ar y sarph bres, byw fyddai. {{angor|21:10|10}} ¶ A meibion Israel a gychwynasant ''oddi yno'', ac a wersyllasant yn Oboth. {{angor|21:11|11}} A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant y’ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn ''oedd'' ar gyfer Moab, tu a chodiad haul. {{angor|21:12|12}} ¶ Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Zared. {{angor|21:13|13}} Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon ''sydd'' yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Amon ''oedd'' derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid. {{angor|21:14|14}} Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr {{sc|Arglwydd}}, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon, {{angor|21:15|15}} Ac ''wrth'' raiadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab. {{angor|21:16|16}} Ac oddi yno ''yr aethant'' i Beer: honno ''yw'' y ffynnon lle y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr. {{angor|21:17|17}} ¶ Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi. {{angor|21:18|18}} Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ''ac'' a gloddiodd pennaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch ''yr aethant'' i Mattanah: {{angor|21:19|19}} Ac o Mattanah i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth: . {{angor|21:20|20}} Ac o Bamoth, ''yn'' y dyffryn ''sydd'' y’ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tu a’r diffaethwch. {{angor|21:21|21}} ¶ Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenhin yr Amoriaid, gan ddywedyd, {{angor|21:22|22}} Gâd i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr ''un'' ffynnon: ar hyd ffordd y brenhin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di. {{angor|21:23|23}} Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel. {{angor|21:24|24}} Ac Israel a’i tarawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn ''oedd'' terfyn meibion Ammon. {{angor|21:25|25}} A chymmerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel<noinclude><references/></noinclude> cced3ds0fydwdbv5hf22hyr7v39hjsr Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/172 104 3422 143065 6557 2025-07-09T05:10:32Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 143065 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd. {{angor|21:26|26}} Canys dinas Sehon, brenhin yr Amoriaid, ''ydoedd'' Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenhin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon. {{angor|21:27|27}} Am hynny y dywed y dïarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhâer dinas Sehon. {{angor|21:28|28}} Canys tân a aeth allan o Hesbon, ''a'' fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ''ym'' Moab, a pherchennogion Bamoth Arnon. {{angor|21:29|29}} Gwae di, Moab; darfu am danat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dïangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenhin yr Amoriaid. {{angor|21:30|30}} Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Nophah, yr hon ''sydd'' hyd Medeba. {{angor|21:31|31}} ¶ A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid. {{angor|21:32|32}} A Moses a anfonodd i chwilio Jazer: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrrasant ymaith yr Amoriaid y rhai ''oedd'' yno. {{angor|21:33|33}} ¶ Troisant hefyd ac aethant i fynu hyd ffordd Basan: ac Og brenhin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl. {{angor|21:34|34}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn ''oedd'' yn trigo yn Hesbon. {{angor|21:35|35}} Am hynny y tarawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|1 ''Cenhadon cyntaf Balac yn cael nâg gan Balaam.'' 15 ''Ei ail-genhadon ef yn cael ganddo ddyfod.'' 22 ''Angel a’i lladdasai ef, oni buasai i’w asen ei waredu ef.'' 36 ''Balac yn ei groesawu ef.''}} {{angor|22:1}} {{uc|A meibion}} Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho. {{angor|22:2|2}} ¶ A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid. {{angor|22:3|3}} ac ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer ''oedd:'' a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel. {{angor|22:4|4}} ¶ A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynnulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ŷch wellt y maes. A Balac mab Sippor ''oedd'' frenhin ar Moab yn yr amser hwnnw. {{angor|22:5|5}} Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon ''sydd'' wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele, bobl a ddaeth allan o’r Aipht: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i. {{angor|22:6|6}} Yr awr hon, gan hynny, tyred, attolwg, melldithia i mi y bobl yma; canys cryfach ''ydynt'' na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig ''fydd'' yr hwn a fendithiech di, a melldigedig ''fydd'' yr hwn a felldithiech. {{angor|22:7|7}} A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, ''a gwobr'' dewiniaeth yn eu dwylaw: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac. {{angor|22:8|8}} A dywedodd yntau wrthynt, Llettŷwch yma heno; a rhoddaf i chwi atteb megis y llefaro yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf. A thywysogion Moab a arhosasant gyd â Balaam. {{angor|22:9|9}} A daeth {{sc|Duw}} at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy ''yw'' y dynion hyn ''sydd'' gyd â thi? {{angor|22:10|10}} A dywedodd Balaam wrth {{sc|Dduw}}, Balac mab Sippor, brenhin Moab, a ddanfonodd attaf, ''gan ddywedyd'', {{angor|22:11|11}} Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aipht, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; ''felly'' ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan. {{angor|22:12|12}} A dywedodd {{sc|Duw}} wrth Balaam, Na ddos gyd â hwynt; na felldithia y bobl: canys bendigedig ''ydynt''. {{angor|22:13|13}} A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr {{sc|Arglwydd}} a naccaodd adael i mi fyned gyd â chwi. {{angor|22:14|14}} A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Naccaodd Balaam ddyfod gyd â ni. {{angor|22:15|15}} ¶ A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn. {{angor|22:16|16}} A hwy a ddaethant at Balaam;<noinclude><references/></noinclude> ijz2yvpm7hmvvvpmccstd0ltj55o8y4