Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.45.0-wmf.9
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/28
104
2661
143073
63905
2025-07-09T18:58:48Z
Tylopous
3717
o herwydd
143073
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|18:1}} {{uc|A’r}} {{sc|Arglwydd}} a ymddangosodd iddo ef y’ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd ''wrth'' ddrws y babell, y’ngwres y dydd.
{{angor|18:2|2}} Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwŷr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tu a’r ddaear,
{{angor|18:3|3}} Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, attolwg, oddi wrth dy was.
{{angor|18:4|4}} Cymmerer, attolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwyswch dan y pren;
{{angor|18:5|5}} Ac mi a ddygaf dammaid o fara, a chryfhêwch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: o herwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
{{angor|18:6|6}} Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sarah, ac a ddywedodd, Parottoa ar frys dair phïolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
{{angor|18:7|7}} Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymmerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llangc, yr hwn a frysiodd i’w barattôi ef.
{{angor|18:8|8}} Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a barattoisai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyd â hwynt tan y pren; a hwy a fwyttasant.
{{angor|18:9|9}} ¶ A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sarah dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele ''hi'' yn y babell.
{{angor|18:10|10}} Ac ''un'' a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sarah dy wraig. A Sarah oedd yn clywed ''wrth'' ddrws y babell, yr hwn ''oedd'' o’i ol ef.
{{angor|18:11|11}} Abraham hefyd a Sarah ''oedd'' hen, wedi myned mewn oedran; ''a'' pheidiasai fod i Sarah yn ol arfer gwragedd.
{{angor|18:12|12}} Am hynny y chwarddodd Sarah rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a’m harglwydd yn hen ''hefyd?''
{{angor|18:13|13}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sarah fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?
{{angor|18:14|14}} A fydd dim yn anhawdd i’r {{sc|Arglwydd}}? Ar yr amser nodedig y dychwelaf attat, ynghylch amser bywiolaeth, a mab ''fydd'' i Sarah.
{{angor|18:15|15}} A Sarah a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: o herwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nag ê, oblegid ti a chwerddaist.
{{angor|18:16|16}} ¶ A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tu a Sodom: ac Abraham a aeth gyd â hwynt, i’w hanfon hwynt.
{{angor|18:17|17}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?
{{angor|18:18|18}} Canys Abraham yn ddïau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.
{{angor|18:19|19}} Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr {{sc|Arglwydd}}, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr {{sc|Arglwydd}} ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
{{angor|18:20|20}} Yr {{sc|Arglwydd}} hefyd a ddywedodd, Am ''fod'' gwaedd Sodom a Gomorrah yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;
{{angor|18:21|21}} Disgynaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ol eu gwaedd a ddaeth attaf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid ê, mynnaf wybod.
{{angor|18:22|22}} A’r gwŷr a droisant oddi yno, ac a aethant tu a Sodom: ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|18:23|23}} ¶ Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol?
{{angor|18:24|24}} Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di ''hwynt'' hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi?
{{angor|18:25|25}} Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd â’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo ''hynny'' i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?
{{angor|18:26|26}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.
{{angor|18:27|27}} Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.
{{angor|18:28|28}} Ond odid bydd pump yn eisieu o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump?<noinclude><references/></noinclude>
i0ytwopm3bj3jugwcwm1pvbbltw2mtv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/31
104
2679
143074
142938
2025-07-09T18:59:44Z
Tylopous
3717
o herwydd
143074
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th atteliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.
{{angor|20:7|7}} Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gwr; o herwydd prophwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddïau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti.
{{angor|20:8|8}} Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.
{{angor|20:9|9}} Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod ''mor'' fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.
{{angor|20:10|10}} Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?
{{angor|20:11|11}} A dywedodd Abraham, Am ddywedyd o honof fi. Yn ddïau nid ''oes'' ofn {{sc|Duw}} yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig.
{{angor|20:12|12}} A hefyd yn wir fy chwaer ''yw'' hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.
{{angor|20:13|13}} Ond pan barodd {{sc|Duw}} i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed am danaf fi, Fy mrawd yw efe.
{{angor|20:14|14}} Yna y cymmerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morwynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sarah ei wraig drachefn.
{{angor|20:15|15}} A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.
{{angor|20:16|16}} Ac wrth Sarah y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ''ddarnau'' arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll ''sydd'' gyd â thi, a chyd â phawb ''eraill'': fel hyn y ceryddwyd hi.
{{angor|20:17|17}} ¶ Yna Abraham a weddïodd ar {{sc|Dduw}}: a {{sc|Duw}} a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forwynion; a hwy a blantasant.
{{angor|20:18|18}} O herwydd yr {{sc|Arglwydd}} gan gau a gauasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sarah gwraig Abraham.
{{angor|Pennod_21}}{{canoli|{{uc|Pennod XXI.}}}}
{{bach|1 ''Genedigaeth Isaac,'' 4 ''a’i enwaediad.'' 6 ''Llawenydd Sarah.'' 9 ''Bwrw Agar ac Ismael allan.'' 15 ''Agar mewn cyfyngdra.'' 17 ''Yr angel yn ei chysuro hi.'' 22 ''Cynghrair rhwng Abimelech ac Abraham yn Beer-seba.''}}
{{angor|21:1}} {{uc|A’r}} {{sc|Arglwydd}} a ymwelodd â Sarah fel y dywedasai, a gwnaeth yr {{sc|Arglwydd}} i Sarah fel y llefarasai.
{{angor|21:2|2}} O herwydd Sarah a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai {{sc|Duw}} wrtho ef.
{{angor|21:3|3}} Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo, (yr hwn a ymddygasai Sarah iddo ef) Isaac.
{{angor|21:4|4}} Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchymynasai {{sc|Duw}} iddo ef.
{{angor|21:5|5}} Ac Abraham ''oedd'' fab càn mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
{{angor|21:6|6}} ¶ A Sarah a ddywedodd, Gwnaeth {{sc|Duw}} i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyd â mi.
{{angor|21:7|7}} Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoisai Sarah sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
{{angor|21:8|8}} A’r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
{{angor|21:9|9}} ¶ A Sarah a welodd fab Agar yr Aiphtes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
{{angor|21:10|10}} A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaeth-forwyn hon a’i mab; o herwydd ni chaiff mab y gaethes hon gyd-etifeddu â’m mab i Isaac.
{{angor|21:11|11}} A’r peth hyn fu ddrwg iawn y’ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
{{angor|21:12|12}} ¶ A {{sc|Duw}} a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth-forwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sarah wrthyt, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
{{angor|21:13|13}} Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy had di ydyw ef.
{{angor|21:14|14}} Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymmerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, (gan osod ar ei hysgwydd hi ''hynny'',)<noinclude><references/></noinclude>
he0r2gkbo9jnuje50t639ugcasmynxh
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/32
104
2683
143075
142955
2025-07-09T19:00:27Z
Tylopous
3717
o herwydd
143075
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.
{{angor|21:15|15}} A darfu y dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd.
{{angor|21:16|16}} A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ''ei'' gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ''ei'' gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
{{angor|21:17|17}} A {{sc|Duw}} a wrandawodd ar lais y llangc; ac angel {{sc|Duw}} a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth ''a ddarfu'' i ti, Agar? nac ofna, o herwydd {{sc|Duw}} a wrandawodd ar lais y llangc lle y mae efe.
{{angor|21:18|18}} Cyfod, cymmer y llangc, ac ymafael ynddo â’th law, oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
{{angor|21:19|19}} A {{sc|Duw}} a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel ''o’r'' dwfr, ac a ddïododd y llangc.
{{angor|21:20|20}} Ac yr oedd Duw gyd â’r llangc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
{{angor|21:21|21}} Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymmerodd iddo ef wraig o wlad yr Aipht.
{{angor|21:22|22}} ¶ Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant âg Abraham, gan ddywedyd, {{sc|Duw}} ''sydd'' gyd â thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
{{angor|21:23|23}} Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i {{sc|Dduw}}, na fyddi anffyddlawn i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ol y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
{{angor|21:24|24}} Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.
{{angor|21:25|25}} Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
{{angor|21:26|26}} Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais ''hynny'' hyd heddyw.
{{angor|21:27|27}} Yna y cymmerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
{{angor|21:28|28}} Ac Abraham a osododd saith o hesbinod ''o’r'' praidd wrthynt eu hunain.
{{angor|21:29|29}} Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth ''a wna'' y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
{{angor|21:30|30}} Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymmeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
{{angor|21:31|31}} Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.
{{angor|21:32|32}} Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.
{{angor|21:33|33}} ¶ Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr {{sc|Arglwydd Dduw}} tragywyddol.
{{angor|21:34|34}} Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.
{{angor|Pennod_22}}{{center|{{uc|Pennod XXII.}}}}
{{bach|1 ''Profi Abraham i aberthu ei fab.'' 3 ''Yntau yn dangos ei ffydd a’i ufudd-dod.'' 11 ''Yr angel yn ei rwystro ef.'' 13 ''Newid Isaac am hwrdd.'' 14 ''Galw y lle Jehofah-jire.'' 15 ''Bendithio Abraham drachefn.'' 20 ''Cenhedlaeth Nachor hyd Rebeccah.''}}
{{angor|22:1}} {{uc|Ac}} wedi’r pethau hyn y bu i {{sc|Dduw}} brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
{{angor|22:2|2}} Yna y dywedodd ''{{sc|Duw}}'', Cymmer yr awr hon dy fab, sef dy unig ''fab'' Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Morïah, ac offrymma ef yno yn boeth-offrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
{{angor|22:3|3}} ¶ Ac Abraham a fore-gododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd âg ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poeth-offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai {{sc|Duw}} wrtho.
{{angor|22:4|4}} Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai y lle o hirbell.
{{angor|22:5|5}} Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langciau, Arhoswch chwi yma gyd â’r asyn; a mi a’r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.
{{angor|22:6|6}} Yna y cymmerth Abraham goed y poeth-offrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymmerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.
{{angor|22:7|7}} A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad.<noinclude><references/></noinclude>
pew867j0xaz0nln09wdjdh665twml0a
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/37
104
2900
143076
101733
2025-07-09T19:01:09Z
Tylopous
3717
o herwydd
143076
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|25:7|7}} A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; càn mlynedd a phymtheng mlynedd a thri ugain.
{{angor|25:8|8}} Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn ''o ddyddiau;'' ac efe a gasglwyd at ei bobl.
{{angor|25:9|9}} Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpelah, ym maes Ephron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn ''sydd'' o flaen Mamre;
{{angor|25:10|10}} Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
{{angor|25:11|11}} ¶ Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i {{sc|Dduw}} fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai-roi.
{{angor|25:12|12}} ¶ A dyma genhedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Aiphtes, morwyn Sara, i Abraham.
{{angor|25:13|13}} A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenhedlaethau: Nebaioth cyntaf-anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,
{{angor|25:14|14}} Misma hefyd, a Dumah, a Massa,
{{angor|25:15|15}} Hadar, a Themah, Jetur, Nephis, a Chedemah.
{{angor|25:16|16}} Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll: yn ddeuddeg o dywysogion yn ol eu cenhedloedd.
{{angor|25:17|17}} A dyma flynyddoedd einioes Ismael; càn mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.
{{angor|25:18|18}} Preswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon ''sydd'' o flaen yr Aipht, ffordd yr âi di i Assyria: ac y’ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
{{angor|25:19|19}} ¶ A dyma genhedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.
{{angor|25:20|20}} Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymmerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.
{{angor|25:21|21}} Ac Isaac a weddïodd ar yr {{sc|Arglwydd}} dros ei wraig, am ei bod hi yn
amhlantadwy, a’r {{sc|Arglwydd}} a wrandawodd arno ef, a Rebeccah ei wraig ef a feichiogodd.
{{angor|25:22|22}} A’r plant a ymwthiasant â’u gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth ''a wnaf'' fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|25:23|23}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl ''sydd'' yn dy groth di, a ''dau fath'' ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
{{angor|25:24|24}} ¶ A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid ''oedd'' yn ei chroth hi.
{{angor|25:25|25}} A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.
{{angor|25:26|26}} Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab tri ugeinmlwydd pan anwyd hwynt.
{{angor|25:27|27}} A’r llangciau a gynnyddasant: ac Esau oedd wr yn medru hela, ''a'' gwr o’r maes, a Jacob ''oedd'' wr disyml, yn cyfanneddu mewn pebyll.
{{angor|25:28|28}} Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwytta o’i helwriaeth ef: a Rebecca a hoffai Jacob.
{{angor|25:29|29}} ¶ A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol.
{{angor|25:30|30}} A dywedodd Esau wrth Jacob, Gâd i mi yfed, attolwg, o’r ''cawl'' coch yma; o herwydd diffygiol ''wyf'' fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
{{angor|25:31|31}} A dywedodd Jacob, Gwerth di heddyw i mi dy enedigaeth-fraint.
{{angor|25:32|32}} A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha lês a wna yr enedigaeth-fraint hon i mi?
{{angor|25:33|33}} A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob.
{{angor|25:34|34}} A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y dïystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.
{{angor|Pennod_26}}{{canoli|{{uc|Pennod XXVI.}}}}
{{bach|1 ''Isaac o achos newyn yn myned i Gerar.'' 2 ''Duw yn ei addysgu ac yn ei fenditihio ef.'' 7 ''Abimelech yn ei geryddu ef am wadu ei wraig.'' 12 ''Efe yn myned yn gyfoethog:'' 18 ''Yn cloddio ffynnon Esec, Sitnah, a Rehoboth.'' 26 ''Abimelech yn gwneuthur cynghrair âg ef yn Beer-seba.'' 34 ''Gwragedd Esau.''}}
{{angor|26:1}} A {{uc|bu}} newyn yn y tir, heb law y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth<noinclude><references/></noinclude>
f2e7rbkswc59s5kenf7nti1qwgvbl0g
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/41
104
2941
143077
63918
2025-07-09T19:01:53Z
Tylopous
3717
o herwydd
143077
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymmer wraig o ferched Canaan.
{{angor|28:2|2}} Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymmer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:
{{angor|28:3|3}} A {{sc|Duw}} Hollalluog a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th lïosogo, fel y byddech yn gynnulleidfa pobloedd:
{{angor|28:4|4}} Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyd â thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd {{sc|Duw}} i Abraham.
{{angor|28:5|5}} Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob, ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
{{angor|28:6|6}} ¶ Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymmeryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymmer wraig o ferched Canaan;
{{angor|28:7|7}} A gwrandaw o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a’i fyned i Mesopotamia;
{{angor|28:8|8}} Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan y’ngolwg Isaac ei dad;
{{angor|28:9|9}} Yna Esau a aeth at Ismael, ac gymmerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd ''eraill''.
{{angor|28:10|10}} ¶ A Jacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tu a Haran.
{{angor|28:11|11}} Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a lettŷodd yno dros nos; oblegid machludo yr haul: ac efe a gymmerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.
{{angor|28:12|12}} Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angelion {{sc|Duw}} yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.
{{angor|28:13|13}} Ac wele yr {{sc|Arglwydd}} yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi ''yw'' {{sc|Arglwydd Dduw}} Abraham dy dad, a {{sc|Duw}} Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
{{angor|28:14|14}} A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
{{angor|28:15|15}} Ac wele fi gyd â thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: o herwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
{{angor|28:16|16}} ¶ A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Dïau fod yr {{sc|Arglwydd}} yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.
{{angor|28:17|17}} Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid ''oes'' yma onid tŷ i {{sc|Dduw}}, a dyma borth y nefoedd.
{{angor|28:18|18}} A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymmerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
{{angor|28:19|19}} Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Luz ''fuasai'' enw y ddinas o’r cyntaf.
{{angor|28:20|20}} Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyd â myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwytta, a dillad i’w gwisgo,
{{angor|28:21|21}} A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr {{sc|Arglwydd}} yn {{sc|Dduw}} i mi.
{{angor|28:22|22}} A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ {{sc|Dduw}}; ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a’i degymmaf i ti.
{{angor|Pennod_29}}{{canoli|{{uc|Pennod XXIX.}}}}
{{bach|1 ''Jacob yn dyfod at ffynnon Haran.'' 9 ''Yn ymgaredigo â Rahel.'' 13 ''Laban yn ei groesawn ef i’w dŷ.'' 18 ''Jacob yn gwneuthur ammod am Rahel.'' 23 ''Ei siommi ef â Leah.'' 28 ''Yntau yn prïodi Rahel, ac yn gwasanaethu am dani hi saith mlynedd eraill.'' 32 ''Leah yn dwyn Reuben,'' 33 ''Simeon,'' 34 ''Lefi,'' 35 ''a Judah.''}}
{{angor|29:1}} A {{uc|Jacob}} a gymmerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.
{{angor|29:2|2}} Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair dïadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; o herwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhâent y dïadelloedd: a charreg fawr ''oedd'' ar enau y pydew.
{{angor|29:3|3}} Ac yno y cesglid yr holl ddïadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhâent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau y pydew yn ei lle.
{{angor|29:4|4}} A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ''ydych'' chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
86y2h145aimt94g9z0kweev2iwusuc0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/42
104
2947
143078
101740
2025-07-09T19:02:28Z
Tylopous
3717
o herwydd
143078
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|29:5|5}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.
{{angor|29:6|6}} Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A ''oes'' llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, ''Oes'', llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd â’r defaid.
{{angor|29:7|7}} Yna y dywedodd efe, Wele etto y dydd yn gynnar, nid ''yw'' bryd casglu yr anifeiliaid: dyfrhêwch y praidd, ac ewch, ''a'' bugeiliwch.
{{angor|29:8|8}} A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddïadelloedd, a threiglo o honynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhâwn y praidd.
{{angor|29:9|9}} ¶ Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyd â’r praidd ''oedd'' eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.
{{angor|29:10|10}} A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
{{angor|29:11|11}} A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
{{angor|29:12|12}} A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeccah oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad.
{{angor|29:13|13}} A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
{{angor|29:14|14}} A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddïau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gyd âg ef fis o ddyddiau.
{{angor|29:15|15}} ¶ A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai o herwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth ''fydd'' dy gyflog?
{{angor|29:16|16}} Ac i Laban ''yr oedd'' dwy o ferched: enw yr hynaf ''oedd'' Leah, ac enw yr ieuangaf Rahel.
{{angor|29:17|17}} A llygaid Leah ''oedd'' weiniaid; ond Rahel oedd dêg ''ei'' phryd, a glandeg yr olwg.
{{angor|29:18|18}} A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
{{angor|29:19|19}} A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i wr arall; aros gyd â mi.
{{angor|29:20|20}} Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
{{angor|29:21|21}} ¶ A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf atti hi.
{{angor|29:22|22}} A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.
{{angor|29:23|23}} Ond bu yn yr hwyr, iddo gymmeryd Leah ei ferch, a’i dwyn hi atto ef; ac yntau a aeth atti hi.
{{angor|29:24|24}} A Laban a roddodd iddi Zilpah ei forwyn, yn forwyn i Leah ei ferch.
{{angor|29:25|25}} A bu, y bore, wele Leah ''oedd'' hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist?
{{angor|29:26|26}} A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.
{{angor|29:27|27}} Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyd â mi etto saith mlynedd eraill.
{{angor|29:28|28}} A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
{{angor|29:29|29}} Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.
{{angor|29:30|30}} Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Leah, ac a wasanaethodd gyd âg ef etto saith mlynedd eraill.
{{angor|29:31|31}} A phan welodd yr {{sc|Arglwydd}} mai cas oedd Leah, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel ''oedd'' amhlantadwy.
{{angor|29:32|32}} A Leah a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: o herwydd hi a ddywedodd, Dïau edrych o’r {{sc|Arglwydd}} ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngwr a’m hoffa i.
{{angor|29:33|33}} A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r {{sc|Arglwydd}} mai cas ''ydwyf'' fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
{{angor|29:34|34}} A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngwr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.
{{angor|29:35|35}} A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywed-<noinclude><references/></noinclude>
732foqrf9zv54btiogfwu900b1pt6k7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/62
104
2975
143079
63939
2025-07-09T19:03:26Z
Tylopous
3717
o herwydd, ennynedd
143079
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y’nghlustiau fy arglwydd, ac na ennyned dy lid wrth dy was: o herwydd yr wyt ti megis Pharaoh.
{{angor|44:19|19}} Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
{{angor|44:20|20}} Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen wr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.
{{angor|44:21|21}} Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered attaf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
{{angor|44:22|22}} A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llangc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei ''dad''.
{{angor|44:23|23}} Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyd â chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
{{angor|44:24|24}} Bu hefyd, wedi ein myned ni i fynu at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.
{{angor|44:25|25}} A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
{{angor|44:26|26}} Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych ''yn'' wyneb y gwr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni.
{{angor|44:27|27}} A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;
{{angor|44:28|28}} Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddïau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:
{{angor|44:29|29}} Os cymmerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.
{{angor|44:30|30}} Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llangc gyd â ni; (gan fod ei hoedl ef y’nglŷn wrth ei hoedl yntau;)
{{angor|44:31|31}} Yna pan welo efe na ''ddaeth'' y llangc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.
{{angor|44:32|32}} Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llangc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef attat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.
{{angor|44:33|33}} Gan hynny weithian, attolwg, arhosed dy was dros y llangc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llangc i fynu gyd â’i frodyr:
{{angor|44:34|34}} Oblegid pa fodd yr âf i fynu at fy nhad, a’r llangc heb ''fod'' gyd â mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.
{{angor|Pennod_45}}{{canoli|{{uc|Pennod XLV.}}}}
{{bach|1 ''Joseph yn ei hysbysu ei hun i’w frodyr:'' 5 ''yn eu cysuro hwynt â rhagluniaeth Duw:'' 9 ''yn danfon am ei dad.'' 16 ''Pharaoh yn sicrhâu y peth.'' 21 ''Joseph yn gosod allan ei frodyr i’r daith, ac yn eu hannog hwynt i fod yn gyttûn.'' 25 ''Jacob yn ymlawenychu wrth y newyddion.''}}
{{angor|45:1}} {{uc|Yna}} Joseph ni allodd ymattal ger bron y rhai oll oedd yn sefyll gyd âg ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gyd âg ef, pan ymgydnabu Joseph a’i frodyr.
{{angor|45:2|2}} Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Aiphtiaid, a chlybu tŷ Pharaoh.
{{angor|45:3|3}} A Joseph a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi ''yw'' Joseph: ai byw fy nhad etto? A’i frodyr ni fedrent atteb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.
{{angor|45:4|4}} Joseph hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, attolwg, attaf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi ''yw'' Joseph eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aipht.
{{angor|45:5|5}} Weithian gan hynny na thristêwch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu o honoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd {{sc|Duw}} fyfi o’ch blaen chwi.
{{angor|45:6|6}} Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac ''fe a fydd'' etto bùm mlynedd, y rhai ''a fydd'' heb nac âr na medi.
{{angor|45:7|7}} A {{sc|Duw}} a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.
{{angor|45:8|8}} Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond {{sc|Duw}}: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharaoh, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aipht.
{{angor|45:9|9}} Brysiwch, ac ewch i fynu at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseph: {{sc|Duw}} a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht: tyred i waered attaf; nac oeda:
{{angor|45:10|10}} A chei drigo y’ngwlad Gosen, a bod yn agos attaf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll ''sydd'' gennyt:
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
q9e7n0afglhvqdwu2qsa4po3gu8glt4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/88
104
3337
143080
101735
2025-07-09T19:04:22Z
Tylopous
3717
o herwydd
143080
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod â’i chwegrwn; ac a ymgrymmodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell.
{{angor|18:8|8}} A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr {{sc|Arglwydd}} i Pharaoh ac i’r Aiphtiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r {{sc|Arglwydd}} hwynt.
{{angor|18:9|9}} A llawenychodd Jethro o herwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr {{sc|Arglwydd}} i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Aiphtiaid.
{{angor|18:10|10}} A dywedodd Jethro, Bendigedig ''fyddo'' yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Aiphtiaid, ac o law Pharaoh; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Aiphtiaid.
{{angor|18:11|11}} Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr {{sc|Arglwydd}} na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, ''yr oedd efe'' yn uwch na hwynt.
{{angor|18:12|12}} A Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd boeth-offrwm ac ebyrth i {{sc|Dduw}}: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwytta bara gyd â chwegrwn Moses, ger bron {{sc|Duw}}.
{{angor|18:13|13}} ¶ A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu y bobl: a safodd y bobl ger bron Moses, o’r bore hyd yr hwyr.
{{angor|18:14|14}} A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth ''yw'' hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr?
{{angor|18:15|15}} A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod attaf i ymgynghori â {{sc|Duw}}.
{{angor|18:16|16}} Pan fyddo iddynt achos, attaf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau {{sc|Duw}} a’i gyfreithiau.
{{angor|18:17|17}} A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.
{{angor|18:18|18}} Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyd â thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.
{{angor|18:19|19}} Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd {{sc|Duw}} gyd â thi: Bydd di dros y bobl ger bron {{sc|Duw}}, a dwg eu hachosion at {{sc|Dduw}}.
{{angor|18:20|20}} Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnant.
{{angor|18:21|21}} Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni, {{sc|Duw}}, gwŷr geirwir, yn casâu cybydd-dod; a gosod ''y rhai hyn'' arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
{{angor|18:22|22}} A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhêi arnat dy hun, a hwynt-hwy a ddygant ''y baich'' gyd â thi.
{{angor|18:23|23}} Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o {{sc|Dduw}} i ti; yna ti a elli barhâu, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch.
{{angor|18:24|24}} A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.
{{angor|18:25|25}} A Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
{{angor|18:26|26}} A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.
{{angor|18:27|27}} ¶ A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.
{{angor|Pennod_19}}{{c|PENNOD XIX.}}
{{bach|1 ''Y bobl yn dyfod i Sinai.'' 3 ''Cennadwriaeth Duw at y bobl trwy law Moses allan o’r mynydd.'' 8 ''Dwyn atteb y bobl at Dduw.'' 10 ''Parottôi y bobl erbyn y trydydd dydd.'' 12 ''Ni wasanaetha cyffwrdd â’r mynydd.'' 16 ''Dychrynllyd bresennoldeb Duw ar y mynydd.''}}
{{angor|19:1}}Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.
{{angor|19:2|2}} Canys hwy a aethant o Rephidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.
{{angor|19:3|3}} A Moses a aeth i fynu at {{sc|Dduw}}: a’r {{sc|Arglwydd}} a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;
{{angor|19:4|4}} Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais attaf fi fy hun.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6clm2vejgedhzciixls1mrz0w5at6dd
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/121
104
3371
143081
143066
2025-07-09T19:05:13Z
Tylopous
3717
o herwydd
143081
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a’u cyhw­fanodd hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|8:28|28}} A Moses a’u cymmerth oddi ar eu dwylaw hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysseg­riadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|8:29|29}} Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhw­fanodd yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: rhan Moses o hwrdd y cysseg­riad oedd hi; fel y gorchy­mynasai yr {{sc|Arglwydd}} with Moses.
{{angor|8:30|30}} A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed ''oedd'' ar yr allor, ac a’i tae­nellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gysseg­rodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef.
{{angor|8:31|31}} ¶ A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwyttêwch ef, a’r bara hefyd sydd y’nghawell y cysseg­riadau; megis y gorchy­mynais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwytty ef.
{{angor|8:32|32}} A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân.
{{angor|8:33|33}} Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysseg­riadau: o herwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.
{{angor|8:34|34}} Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}} wneuthur, i wneuthur cymmod drosoch.
{{angor|8:35|35}} Ac arhoswch ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliad­wriaeth yr {{sc|Arglwydd}}, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchy­mynwyd.
{{angor|8:36|36}} A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}} trwy law Moses.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX.}}}}
{{bach|1 ''Yr offrymmau cyntaf a offrym­modd Aaron drosto ei hun a’r bobl.'' 8 ''Y pech-offrwm,'' 12 ''a’r poeth-offrwm drosto ei hun.'' 15 ''Yr offrymmau dros y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 24 ''Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor.''}}
{{angor|9:1}} {{uc:Yna}} y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel;
{{angor|9:2|2}} Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg ''hwy'' ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:3|3}} Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwydd­iaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm;
{{angor|9:4|4}} Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu ger bron yr {{sc|Arglwydd}}; a bwyd-offrwm wedi ei gymmysgu trwy olew: o herwydd heddyw yr ymddengys yr {{sc|Arglwydd}} i chwi.
{{angor|9:5|5}} ¶ A dygasant yr hyn a orchy­mynodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynnu­lleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:6|6}} A dywedodd Moses, Dyma y peth a orchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}} i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} i chwi.
{{angor|9:7|7}} Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boeth-offrwm, a gwna gymmod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt; fel y gorchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:8|8}} ¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn ''oedd'' drosto ef ei hun.
{{angor|9:9|9}} A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywall­todd y gwaed arall wrth waelod yr allor.
{{angor|9:10|10}} Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwer a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchy­mynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses.
{{angor|9:11|11}} A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll.
{{angor|9:12|12}} Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i tae­nellodd ar yr allor o amgylch.
{{angor|9:13|13}} A dygasant y poeth-offrwm atto, gyd â’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor.
{{angor|9:14|14}} Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
{{angor|9:15|15}} ¶ Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymmerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrym­modd dros bechod, fel y cyntaf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
64zig7wy5f6c9i2vs935e7ss5r2unsl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/123
104
3373
143082
143034
2025-07-09T19:06:27Z
Tylopous
3717
o herwydd, {{sc}}, italig
143082
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dragy­wyddol; fel y gorchy­mynnodd yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|10:16|16}} ¶ A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleazar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd,
{{angor|10:17|17}} Paham na fwyt­tasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; o herwydd sanctei­ddiolaf yw, a ''{{sc|Duw}}'' a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleid­fa, gan wneuthur cymod drostynt, ger bron yr {{sc|Arglwydd}}?
{{angor|10:18|18}} Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cyssegr: ei fwytta a ddylasech yn y cyssegr; fel y gorchy­mynnais.
{{angor|10:19|19}} A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddyw yr offrym­masant eu haberth dros bechod, a’u poeth­offrwm, ger bron yr {{sc|Arglwydd}}; ac fel hyn y digwydd­odd i mi; am hynny os bwyttawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}?
{{angor|10:20|20}} A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod}} XI.}}
{{bach|1 ''Pa anifeil­iaid a ellir,'' 4 ''a pha rai ni ellir eu bwytta.'' 9 ''Pa bysgod hefyd,'' 13 ''a pha adar.'' 29 ''Pa ymlusg­iaid sydd aflan.''}}
{{angor|11:1}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,
{{angor|11:2|2}} Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma yr anifeil­iaid a fwyttêwch, o’r holl anifeil­iaid ''sydd'' ar y ddaear.
{{angor|11:3|3}} Beth bynnag a hollto yr ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o’r anifeil­iaid; hwnnw a fwyttêwch.
{{angor|11:4|4}} Ond y rhai hyn ni fwyttêwch; o’r rhai a gnoant eu cil, ac o’r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ''ei'' gil, am nad yw yn hollti yr ewin; aflan ''fydd'' i chwi.
{{angor|11:5|5}} A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ''ei'' chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan ''yw'' i chwi.
{{angor|11:6|6}} A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ''ei'' chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan ''yw'' i chwi.
{{angor|11:7|7}} A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi fforchog­edd yr ewin, a heb gnoi ''ei'' gil; aflan ''yw'' i chwi.
{{angor|11:8|8}} Na fwyttêwch o’u cig hwynt, ac na chyffyrdd­wch â’u burgyn hwynt: aflan ''ydynt'' i chwi.
{{angor|11:9|9}} ¶ Hyn a fwyttêwch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd: pob peth ''y mae'' iddo esgyll a chèn, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwyttêwch.
{{angor|11:10|10}} A phob dim nid ''oes'' iddo esgyll a chèn, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymmudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai ''fyddant'' yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.
{{angor|11:11|11}} Byddant ffiaidd gennych: na fwyttêwch o’u cig hwynt, a ffieidd­iwch eu burgyn hwy.
{{angor|11:12|12}} Yr hyn oll yn y dyfroedd ni ''byddo'' esgyll a chèn iddo, ffieidd­beth fydd i chwi.
{{angor|11:13|13}} ¶ A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar; na fwyttêwch ''hwynt'', ffieidd-dra ydynt: sef yr eryr, a’r ŵyddwalch, a’r fôr-wennol;
{{angor|11:14|14}} A’r fwltur, a’r barcud yn ei ryw;
{{angor|11:15|15}} Pob cigfran yn ei rhyw;
{{angor|11:16|16}} A chyw yr estrys, a’r fran nos, a’r gog, a’r gwalch yn ei ryw;
{{angor|11:17|17}} Ac aderyn y cyrph, a’r fulfran, a’r dylluan,
{{angor|11:18|18}} A’r gogfran, a’r pelican, a’r bïogen,
{{angor|11:19|19}} A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gorn­chwigl, a’r ystlum.
{{angor|11:20|20}} Pob ehediad a ymlusgo ''ac'' a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi.
{{angor|11:21|21}} Ond hyn a fwyttêwch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar ''troed'', yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;
{{angor|11:22|22}} O’r rhai hynny y rhai hyn a fwyttêwch: y locust yn ei ryw, a’r selam yn ei ryw, a’r hargol yn ei ryw, a’r hagab yn ei ryw.
{{angor|11:23|23}} A phob ehediad ''arall'' a ymlusgo, yr hwn ''y mae'' pedwar troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi.
{{angor|11:24|24}} Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.
{{angor|11:25|25}} A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
{{angor|11:26|26}} Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.
{{angor|11:27|27}} Pob un hefyd a gerddo ar ei<noinclude><references/></noinclude>
dqmpughvjvs6ijgouh3h1jlgfg1vtt1
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/124
104
3374
143083
63991
2025-07-09T19:07:18Z
Tylopous
3717
o herwydd (2)
143083
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar ''troed'', aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.
{{angor|11:28|28}} A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.
{{angor|11:29|29}} ¶ A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wengci, a’r llygoden, a’r llyffant yn ei ryw;
{{angor|11:30|30}} A’r draenog, a’r lysard, a’r ystelio, a’r falwoden, a’r wadd.
{{angor|11:31|31}} Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.
{{angor|11:32|32}} A phob dim y cwympo ''un'' o honynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwnelir dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd glân.
{{angor|11:33|33}} A phob llestr pridd yr hwn y syrthio ''un'' o’r rhai hyn i’w fewn, aflan fydd yr hyn oll ''fydd'' o’i fewn; a thorrwch yntau.
{{angor|11:34|34}} Aflan fydd pob bwyd a fwyttêir, o’r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob dïod a yfir mewn llestr aflan.
{{angor|11:35|35}} Ac aflan fydd pob dim y cwympo ''dim'' o’u burgyn arno; y ffwrn a’r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.
{{angor|11:36|36}} Etto glân fydd y ffynnon a’r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan.
{{angor|11:37|37}} Ac os syrth ''dim'' o’u burgyn hwynt ar ddim had hauedig, yr hwn a heuir; glân ''yw'' efe.
{{angor|11:38|38}} Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef aflan ''fydd'' efe i chwi.
{{angor|11:39|39}} Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.
{{angor|11:40|40}} A’r hwn a fwytty o’i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.
{{angor|11:41|41}} A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd-dra: na fwyttâer ef.
{{angor|11:42|42}} Pob peth a gerddo ar ei dorr, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwyttêwch hwynt: canys ffieidd-dra ydynt.
{{angor|11:43|43}} Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o’u plegid, fel y byddech aflan o’u herwydd.
{{angor|11:44|44}} O herwydd myfi yw yr {{sc|Arglwydd}} eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; o herwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
{{angor|11:45|45}} Canys myfi yw yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
{{angor|11:46|46}} Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a’r ehediaid, a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear,
{{angor|11:47|47}} I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng yr anifail a fwyttêir a’r hwn nis bwyttêir.
{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod}} XII.}}
{{bach|1 ''Paredigaeth gwraig ar ol esgor.'' 6 ''Ei hoffrymmau am ei phuredigaeth.''}}
{{angor|12:1}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|12:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wrryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei mis-glwyf y bydd hi aflan.
{{angor|12:3|3}} A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddïenwaediad ef.
{{angor|12:4|4}} A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys y’ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cyssegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.
{{angor|12:5|5}} Ond os ar fenyw yr esgor hi, yna y bydd hi aflan bythefnos, megis ''yn'' ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thri ugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth.
{{angor|12:6|6}} A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colommen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod:
{{angor|12:7|7}} Ac offrymmed efe hynny ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, a gwnaed gymmod drosti: a hi a lanhêir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma<noinclude><references/></noinclude>
58hzquf7vkxpsiac52ecwiqr80qnmmt
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/136
104
3386
143084
143059
2025-07-09T19:08:06Z
Tylopous
3717
o herwydd (3)
143084
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chymmerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gwr; o herwydd sanctaidd ''yw'' efe i’w {{sc|Dduw}}.
{{angor|21:8|8}} A chyfrif di ef yn sanctaidd; o herwydd bara dy {{sc|Dduw}} di y mae efe yn ei offrymmu: bydded sanctaidd i ti; o herwydd sanctaidd ''ydwyf'' fi yr {{sc|Arglwydd}} eich sancteiddydd.
{{angor|21:9|9}} ¶ Ac os dechreu merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân.
{{angor|21:10|10}} A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew yr enneiniad ar ei ben, ac a gyssegrwyd i wisgo y gwisgoedd, na ddïosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad:
{{angor|21:11|11}} Ac na ddeued at gorph un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam:
{{angor|21:12|12}} Ac nac aed allan o’r cyssegr, ac na haloged gyssegr ei {{sc|Dduw}}; am ''fod'' coron olew enneiniad ei {{sc|Dduw}} arno ef; myfi yw yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|21:13|13}} A chymmered efe wraig yn ei morwyndod.
{{angor|21:14|14}} Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, ''na'' phutain; y rhai hyn na chymmered: ond cymmered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig.
{{angor|21:15|15}} Ac na haloged ei had ym mysg ei bobl: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} ei sancteiddydd ef.
{{angor|21:16|16}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|21:17|17}} Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesâed un o’th had di trwy eu cenhedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu bara ei {{sc|Dduw}}:
{{angor|21:18|18}} Canys ni chaiff un gwr y byddo anaf arno nesâu; y gwr dall, neu y cloff, neu y trwyndwn, neu y neb y byddo dim gormod ynddo;
{{angor|21:19|19}} Neu y gwr y byddo iddo droed tẁn, neu law dòn;
{{angor|21:20|20}} Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gorr, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin.
{{angor|21:21|21}} Na nesâed un gwr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu ebyrth tanllyd yr {{sc|Arglwydd}}; anaf sydd arno; na nesâed i offrymmu bara ei {{sc|Dduw}}.
{{angor|21:22|22}} Bara ei {{sc|Dduw}}, o’r ''pethau'' sanctaidd cyssegredig, ac o’r ''pethau'' cyssegredig, a gaiff efe ei fwytta.
{{angor|21:23|23}} Etto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesâed at yr allor, am ''fod'' anaf arno; ac na haloged fy nghyssegroedd: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eu sancteiddydd hwynt.
{{angor|21:24|24}} A llefarodd Moses ''hynny'' wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.
{{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII.}}}}
{{bach|1 ''Rhaid i’r offeiriaid yn eu haflendid ymgadw oddi wrth y pethau cyssegredig.'' 6 ''Y modd y mae eu puro hwynt.'' 10 ''Pwy yn nhŷ yr offeiriaid a all fwytta o’r pethau cyssegredig.'' 17 ''Rhaid i’r aberthau fod yn ddïanaf.'' 26 ''Oedran yr aberth.'' 29 ''Y gyfraith am fwytta yr aberth dïolch.''}}
{{angor|22:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|22:2|2}} Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneillduo oddi wrth bethau cyssegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, ''yn y pethau'' y maent yn eu cyssegru i mi: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|22:3|3}} Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenhedlaethau a nesao at y pethau cyssegredig a gyssegro meibion Israel i’r {{sc|Arglwydd}}, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|22:4|4}} Na fwyttâed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cyssegredig, ac yntau yn wahan-glwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhâer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had;
{{angor|22:5|5}} Na’r un a gyffyrddo âg un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno:
{{angor|22:6|6}} A’r dyn a gyffyrddo âg ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwyttâed o’r pethau cyssegredig, oddi eithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.
{{angor|22:7|7}} A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwyttâed o’r pethau cyssegredig: canys ei fwyd ef ''yw'' hwn.
{{angor|22:8|8}} Ac na fwyttâed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|22:9|9}} Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod ''bob'' un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eu sancteiddydd hwynt.
{{angor|22:10|10}} Ac na fwyttâed un alltud o’r peth cyssegredig: dïeithrddyn yr<noinclude><references/></noinclude>
0awpjhk7ja1mx2dbwticstlnzc0epsb
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/138
104
3388
143085
64005
2025-07-09T19:08:48Z
Tylopous
3717
o herwydd
143085
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>werydd ''dydd'' ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, ''y bydd'' Pasg yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|23:6|6}} A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gwyl y bara croyw i’r {{sc|Arglwydd}}: saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw.
{{angor|23:7|7}} Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur.
{{angor|23:8|8}} Ond offrymmwch ebyrth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}} saith niwrnod; ar y seithfed dydd ''bydded'' cymmanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
{{angor|23:9|9}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,
{{angor|23:10|10}} Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi o honoch ei gynhauaf; yna dygwch ysgub blaen-ffrwyth eich cynhauaf at yr offeiriad.
{{angor|23:11|11}} Cyhwfaned yntau yr ysgub ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, i’ch gwneuthur yn gymmeradwy: trannoeth wedi y Sabbath y cyhwfana yr offeiriad hi.
{{angor|23:12|12}} Ac offrymmwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|23:13|13}} A’i fwyd-offrwm o ddwy ddegfed o beilliaid wedi ei gymmysgu âg olew, yn aberth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}, yn arogl peraidd; a’i ddïod-offrwm ''fydd'' o win, pedwaredd ''ran'' hin.
{{angor|23:14|14}} Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau îr, ni chewch eu bwytta hyd gorph y dydd hwnnw, nes dwyn o honoch offrwm eich {{sc|Duw}}. Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau, ''fydd hyn''.
{{angor|23:15|15}} ¶ A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi y Sabbath, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Sabbath cyflawn fyddant:
{{angor|23:16|16}} Hyd drannoeth wedi y seithfed Sabbath, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymmwch fwyd-offrwm newydd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|23:17|17}} A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobir hwynt, yn flaen-ffrwyth i'r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|23:18|18}} Ac offrymmwch gyd â’r bara saith oen blwyddiaid, perffeith-gwbl, ac un bustach ieuangc, a dau hwrdd: poeth-offrwm i’r {{sc|Arglwydd}} fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd-offrwm a’u dïod-offrwm; ''sef'' aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|23:19|19}} Yna aberthwch un bwch geifr yn bech-aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.
{{angor|23:20|20}} A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara y blaen-ffrwyth, yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ynghyd â'r ddau oen: cyssegredig i’r {{sc|Arglwydd}} ''ac'' eiddo’r offeiriad fyddant.
{{angor|23:21|21}} A chyhoeddwch, o fewn corph y dydd hwnnw, y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragywyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenhedlaethau, ''fydd hyn''.
{{angor|23:22|22}} ¶ A phan fedoch gynhauaf eich tir, na lwyr-feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhauaf; gâd hwynt i’r tlawd a’r dïeithr: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi.
{{angor|23:23|23}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|23:24|24}} Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Sabbath, yn goffadwriaeth caniad udgyrn, ''a'' chymmanfa sanctaidd.
{{angor|23:25|25}} Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymmwch ebyrth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|23:26|26}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|23:27|27}} Y degfed ''dydd'' o’r seithfed mis hwn, ''y bydd'' dydd cymmod; cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymmwch ebyrth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|23:28|28}} Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw: o herwydd dydd cymmod ''yw'', i wneuthur cymmod drosoch ger bron yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}.
{{angor|23:29|29}} Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corph y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
{{angor|23:30|30}} A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.
{{angor|23:31|31}} Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragywyddol, trwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau, ''yw hyn''.
{{angor|23:32|32}} Sabbath gorphwystra ''yw'' efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed ''dydd'' o’r mis,<noinclude></noinclude>
f24smilefw2u6hbuf3fiibwp5uqy0nv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/159
104
3409
143089
142686
2025-07-10T05:15:32Z
Tylopous
3717
ennynodd (2)
143089
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{sc|Arglwydd}}, a gwasgarer dy elynion; a fföed dy gaseion o’th flaen.
{{angor|10:36|36}} A phan orphwysai hi, y dywedai efe Dychwel, {{sc|Arglwydd}}, ''at'' fyrddiwn miloedd Israel.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{bach|1 ''Y llosgiad yn Taberah yn diffoddi trwy weddi Moses.'' 4 ''Y bobl yn blysio cig, ac yn alaru ar y manna.'' 10 ''Moses yn cwyno o ran ei siars.'' 16 ''Duw yn rhannu ei faich ef rhwng deg a thri ugain o henuriaid.'' 31 ''Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddigllonedd yn Cibroth-Hattaafah.''}}
{{angor|11:1|}} {{uc|A’r}} bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin y’nghlustiau yr {{sc|Arglwydd}}: a chlywodd yr {{sc|Arglwydd}} hyn; a’i ddig a ennynodd; a thân yr {{sc|Arglwydd}} a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwrr y gwersyll.
{{angor|11:2|2}} A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr {{sc|Arglwydd}}; a’r tân a ddiffoddodd.
{{angor|11:3|3}} Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Taberah: am gynneu o dân yr {{sc|Arglwydd}} yn eu mysg hwy.
{{angor|11:4|4}} ¶ A’r llïaws cymmysg yr hwn ''ydoedd'' yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwytta?
{{angor|11:5|5}} Côf yw gennym y pysgod yr oeddym yn ei fwytta yn yr Aipht yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cenhin, a’r winwyn, a’r garlleg:
{{angor|11:6|6}} Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.
{{angor|11:7|7}} A’r manna hwnnw ''oedd'' fel had coriander, a’i liw fel lliw bdèliwm.
{{angor|11:8|8}} Y bobl a aethant o amgylch, ac a’''i'' casglasant ac a’''i'' malasant mewn melinau, neu a’''i'' curasant mewn morter, ac a’''i'' berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant y deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew îr.
{{angor|11:9|9}} A phan ddisgynai y gwlith y nos ar y gwersyll, disgynai y manna arno ef.
{{angor|11:10|10}} ¶ A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac ennynodd dig yr {{sc|Arglwydd}} yn fawr; a drwg oedd gan Moses.
{{angor|11:11|11}} Dywedodd Moses hefyd wrth yr {{sc|Arglwydd}}, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?
{{angor|11:12|12}} Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau?
{{angor|11:13|13}} O ba le ''y byddai'' gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwytta.
{{angor|11:14|14}} Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ''ydyw'' i mi.
{{angor|11:15|15}} Ac os felly y gwnei i mi, attolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.
{{angor|11:16|16}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thri ugain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyd â thi.
{{angor|11:17|17}} Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymmeraf o’r yspryd ''sydd'' arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyd â thi faich y bobl, fel na ddygech di ''ef'' yn unig.
{{angor|11:18|18}} Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn y fory, a chewch fwytta cig: canys wylasoch y’nghlustiau yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwytta? canys ''yr ydoedd'' yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr {{sc|Arglwydd}} i chwi gig, a chwi a fwyttêwch.
{{angor|11:19|19}} Nid un dydd y bwyttêwch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;
{{angor|11:20|20}} ''Ond'' hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu yr {{sc|Arglwydd}} yr hwn ''sydd'' yn eich plith, ac wylo o honoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd, Paham y daethom allan o’r Aipht?
{{angor|11:21|21}} A dywedodd Moses, Chwe chàn mil o wŷr traed ''yw'' y bobl ''yr ydwyf'' fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau.
{{angor|11:22|22}} Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?
{{angor|11:23|23}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, A gwttogwyd llaw yr {{sc|Arglwydd}}? yr awr hon y cei di<noinclude><references/></noinclude>
sfwpq58eg6c1y0gdp59m3mhogm1twm5
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/169
104
3419
143086
143036
2025-07-09T19:20:54Z
Tylopous
3717
143086
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
{{angor|18:32|32}} Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon o hono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
{{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}}
{{bach|1 ''Y dwfr neillduaeth a wneid o ludw anner goch.'' 11 ''Y gyfraith pa fodd yr arferid ef wrth buro yr aflan.''}}
{{angor|19:1}} {{uc|Llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
{{angor|19:2|2}} Dyma ddeddf y gyfraith a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt attat anner goch berffeith-gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.
{{angor|19:3|3}} A rhoddwch hi at Eleazar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded ''un'' hi ger ei fron ef.
{{angor|19:4|4}} A chymmered Eleazar yr offeiriad ''beth'' o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.
{{angor|19:5|5}} A llosged ''un'' yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe.
{{angor|19:6|6}} A chymmered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner.
{{angor|19:7|7}} A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.
{{angor|19:8|8}} Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
{{angor|19:9|9}} A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded y’nghadw i gynnulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neillduaeth: pech-aberth ''yw''.
{{angor|19:10|10}} A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragywyddol.
{{angor|19:11|11}} ¶ A gyffyrddo â chorph marw dyn, aflan fydd saith niwrnod.
{{angor|19:12|12}} Ymlanhâed trwy ''y dwfr'' hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanhâ efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.
{{angor|19:13|13}} Pob un a gyffyrddo â chorph marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr {{sc|Arglwydd}}; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neillduaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid ''sydd'' etto arno.
{{angor|19:14|14}} Dyma y gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un ''a fyddo'' yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.
{{angor|19:15|15}} A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan ''yw'' efe.
{{angor|19:16|16}} Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, âg un wedi ei ladd â chleddyf, neu âg un marw, neu âg asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.
{{angor|19:17|17}} Cymmerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder atto ddwfr rhedegog mewn llestr;
{{angor|19:18|18}} A chymmered isop, a golched un dihalogedig ''ef'' mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd âg asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:
{{angor|19:19|19}} A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhâed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr.
{{angor|19:20|20}} Ond y gwr a haloger, ac nid ymlanhao, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynnulleidfa: canys efe a halogodd gyssegr yr {{sc|Arglwydd}}, ni thaenellwyd arno ddwfr y neillduaeth; aflan ''yw'' efe.
{{angor|19:21|21}} A bydd iddynt yn ddeddf dragywyddol, bod i’r hwn a daenello ddwfr y neillduaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neillduaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr.
{{angor|19:22|22}} A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan âg ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo ''â hynny'', fydd aflan hyd yr hwyr.
{{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}}
{{bach|1 ''Plant Israel yn dyfod i Sin; lle y bu farw Miriam.'' 2 ''Hwynt-hwy yn tuchan o eisieu dwfr.'' 7 ''Moses yn taro y graig, ac yn dwyn allan ddwfr ym Meribah.'' 12 ''Cospedigaeth Moses ac Aaron, am eu petrusedd.'' 14 ''Moses yn Cades yn deisyfu ffordd i dramwy trwy Edom; ac yn cael ei naccâu.'' 22 ''Aaron yn rhoddi i fynu ei le i Eleazar, ac yn marw.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
snt4esnx2nu0kpb6sjiunfewbfidopu
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/173
104
3423
143072
6558
2025-07-09T18:56:58Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
143072
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Attolwg, na luddier di rhag dyfod attaf:
{{angor|22:17|17}} Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, attolwg, rhega i mi y bobl hyn.
{{angor|22:18|18}} A Balaam a attebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr {{sc|Arglwydd}} fy {{sc|Nuw}}, i wneuthur na bychan na mawr.
{{angor|22:19|19}} Ond, attolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf yn ychwaneg.
{{angor|22:20|20}} A daeth {{sc|Duw}} at Balaam ''liw'' nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyd â hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.
{{angor|22:21|21}} Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyd â thywysogion Moab.
{{angor|22:22|22}} ¶ A dig {{sc|Duw}} a ennynodd, am iddo ef fyned: ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a’i ddau langc gyd âg ef.
{{angor|22:23|23}} A’r asen a welodd angel yr {{sc|Arglwydd}} yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a tharawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd.
{{angor|22:24|24}} Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, ''a'' magwyr o’r ddeutu.
{{angor|22:25|25}} Pan welodd yr asen angel yr {{sc|Arglwydd}}, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a’i tarawodd hi eilwaith.
{{angor|22:26|26}} Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a aeth ym mhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid ''oedd'' ffordd i gilio tu a’r tu dehau na’r tu aswy.
{{angor|22:27|27}} A gwelodd yr asen angel yr {{sc|Arglwydd}}; ac a orweddodd dan Balaam: yna yr ennynodd dig Balaam, ac efe a darawodd yr asen â ffon.
{{angor|22:28|28}} A’r {{sc|Arglwydd}} a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wnh Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan darewaist fi y tair gwaith hyn?
{{angor|22:29|29}} A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siommi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y’th laddwn.
{{angor|22:30|30}} A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi ''yw'' dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ''ydwyf eiddot'' ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Na ddo.
{{angor|22:31|31}} A’r {{sc|Arglwydd}} a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr {{sc|Arglwydd}} yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymmodd ar ei wyneb.
{{angor|22:32|32}} A dywedodd angel yr {{sc|Arglwydd}} wrtho, Paham y tarewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd ''i ti'': canys cyfeiliornus yw y ffordd hon yn fy ngolwg.
{{angor|22:33|33}} A’r asen a’m gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, dïau yn awr y lladdaswn di, ac a’i gadawswn hi yn fyw.
{{angor|22:34|34}} A Balaam a ddywedodd wrth angel yr {{sc|Arglwydd}}, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg ''yw'' yn dy olwg, dychwelaf adref.
{{angor|22:35|35}} A dywedodd angel yr {{sc|Arglwydd}} wrth Balaam, Dos gyd â’r dynion; a’r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyd â thywysogion Balac.
{{angor|22:36|36}} ¶ A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon ''sydd'' ar ardal Arnon, yr hon ''sydd'' ar gwrr eithaf y terfyn.
{{angor|22:37|37}} A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais attat i’th gyrchu? paham na ddeuit ti attaf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?
{{angor|22:38|38}} A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum attat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo {{sc|Duw}} yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi.
{{angor|22:39|39}} A Balaam a aeth gyd â Balac; a hwy a ddaethant i Gaer-Husoth.
{{angor|22:40|40}} A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ''ran'' i Balaam, ac i’r tywysogion ''oedd'' gyd âg ef.
{{angor|22:41|41}} A’r bore Balac a gymmerodd Balaam, ac a aeth âg ef i fynu i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno ''gwrr'' eithaf y bobl.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
8u11kiumdhirkzr41a7uasdp8bkj54c
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/174
104
3424
143087
6559
2025-07-10T04:48:26Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
143087
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}}
{{bach|1, 13, 28 ''Offrwm Balac.'' 7, 18 ''Dammeg Balaam.''}}
{{angor|23:1}} {{uc|A dywedodd}} Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; i darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod.
{{angor|23:2|2}} A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymmodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar ''bob'' allor.
{{angor|23:3|3}} A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boeth-offrwm; myfi a âf ''oddi yma'': ond odid daw yr {{sc|Arglwydd}} i’m cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth i le uchel.
{{angor|23:4|4}} A chyfarfu {{sc|Duw}} â Balaam; a dywedodd ''Balaam'' wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar ''bob'' allor.
{{angor|23:5|5}} A gosododd yr {{sc|Arglwydd}} air y’ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.
{{angor|23:6|6}} Ac efe a ddychwelodd atto. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boeth-offrwm.
{{angor|23:7|7}} Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balac brenhin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, ''gan ddywedyd'', Tyred, melldithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel.
{{angor|23:8|8}} Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd {{sc|Duw}}? a pha fodd y ffieiddiaf ''yr hwn'' ni ffieiddiodd yr {{sc|Arglwydd}}?
{{angor|23:9|9}} Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele, bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd.
{{angor|23:10|10}} Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ''ran'' Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.
{{angor|23:11|11}} A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y’th gymmerais; ac wele, gan fendithio ti a’''u'' bendithiaist.
{{angor|23:12|12}} Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr {{sc|Arglwydd}} yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd?
{{angor|23:13|13}} A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, attolwg, gyd â myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwrr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.
{{angor|23:14|14}} ¶ Ac efe a’i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymmodd fustach a hwrdd ar ''bob'' allor.
{{angor|23:15|15}} Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boeth-offrwm, a mi a âf accw i gyfarfod ''â’r {{sc|Arglwydd}}''.
{{angor|23:16|16}} A chyfarfu yr {{sc|Arglwydd}} â Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.
{{angor|23:17|17}} Ac efe a ddaeth atto. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boeth-offrwm, a thywysogion Moab gyd âg ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr {{sc|Arglwydd}}?
{{angor|23:18|18}} Yna y cymmerodd efe ei ddammeg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi.
{{angor|23:19|19}} Nid dyn ''yw'' {{sc|Duw}}, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhâu: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?
{{angor|23:20|20}} Wele, cymmerais ''arnaf'' fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ol.
{{angor|23:21|21}} Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr {{sc|Arglwydd}} ei {{sc|Dduw}} ''sydd'' gyd âg ef, ac ''y mae'' utgorn-floedd brenhin yn eu mysg hwynt.
{{angor|23:22|22}} {{sc|Duw}} a’u dug hwynt allan o’r Aipht; megis nerth unicorn ''sydd'' iddo.
{{angor|23:23|23}} Canys nid ''oes'' swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd ''hwn'' y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth {{sc|Duw}}!
{{angor|23:24|24}} Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuangc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwytta ''o''’r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.
{{angor|23:25|25}} ¶ A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regu na rega ef mwy; gan fendithio na fendithia ef chwaith.
{{angor|23:26|26}} Yna yr attebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr {{sc|Arglwydd}}, hynny a wnaf fi?
{{angor|23:27|27}} ¶ A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, attolwg, mi a’th ddygaf i le arall: ond odid boddlawn fydd gan {{sc|Dduw}} i ti ei regu ef i mi oddi yno.
{{angor|23:28|28}} A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych tu a’r diffaethwch.
{{angor|23:29|29}} A dywedodd Balaam wrth Ba-<noinclude><references/></noinclude>
n598q2o8tflbhswruegwmrhzounp515
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/175
104
3425
143088
6560
2025-07-10T05:10:24Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
143088
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>lac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach, a saith hwrdd.
{{angor|23:30|30}} A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymmodd fustach a hwrdd ar ''bob'' allor.
{{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}}
{{bach|1 ''Balaam yn rhoi heibio ddewiniaeth, ac yn prophwydo dedwyddwch i Israel.'' 10 ''Balac mewn digter yn ei anfon ef ymaith.'' 15 ''Yntau yn prophwydo am seren Jacob, a dinystr rhai gwledydd.''}}
{{angor|24:1}} {{uc|Pan}} welodd Balaam mai da oedd y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}} fendithio Israel; nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tu a’r anialwch.
{{angor|24:2|2}} A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel ''yn pebyllio'' yn ol ei lwythau: a daeth yspryd {{sc|Duw}} arno ef.
{{angor|24:3|3}} Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gwr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;
{{angor|24:4|4}} Gwrandawydd geiriau {{sc|Duw}} a ddywedodd, yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ''ei'' lygaid:
{{angor|24:5|5}} Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanneddau di, O Israel!
{{angor|24:6|6}} Ymestynant fel dyffrynoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr {{sc|Arglwydd}}, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.
{{angor|24:7|7}} Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had ''fydd'' mewn dyfroedd lawer, a’i frenhin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd.
{{angor|24:8|8}} {{sc|Duw}} a’i dug ef allan o’r Aipht; megis nerth unicorn ''sydd'' iddo: efe a fwytty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â’i saethau y gwana efe ''hwynt''.
{{angor|24:9|9}} Efe a grymma, ''ac'' a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef? Bendigedig ''fydd'' dy fendithwyr, a melldigedig dy felldithwyr.
{{angor|24:10|10}} ¶ Ac ennynodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a darawodd ei ddwylaw ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regu fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’''u'' bendithiaist y tair gwaith hyn.
{{angor|24:11|11}} Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, attaliodd yr {{sc|Arglwydd}} di oddi wrth anrhydedd.
{{angor|24:12|12}} A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist attaf, gan ddywedyd,
{{angor|24:13|13}} Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr {{sc|Arglwydd}}, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr {{sc|Arglwydd}}, hynny a lefaraf fi?
{{angor|24:14|14}} Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna y bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diweddaf.
{{angor|24:15|15}} ¶ Ac efe a gymmerth ei ddammeg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gwr a agorwyd ei lygaid a ddywed;
{{angor|24:16|16}} Dywedodd gwrandawydd geiriau {{sc|Duw}}, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:
{{angor|24:17|17}} Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw Seren o Jacob, a chyfyd teyrn-wïalen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinystria holl feibion Seth.
{{angor|24:18|18}} Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchennogir ''gan'' ei elynion; ac Israel a wna rymmusder.
{{angor|24:19|19}} Ac arglwyddiaetha ''un'' o Jacob, ac a ddinystria y gweddill o’r ddinas.
{{angor|24:20|20}} A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Dechreu y cenhedloedd ''yw'' Amalec; a’i ddiwedd ''fydd'' darfod am dano byth.
{{angor|24:21|21}} Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Cadarn ''yw'' dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig.
{{angor|24:22|22}} Anrheithir y Ceneaid, hyd oni’th gaethiwo Assur.
{{angor|24:23|23}} Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo {{sc|Duw}} hyn!
{{angor|24:24|24}} Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymmant Assur, ac a orthrymmant Eber; ac yntau a dderfydd am dano byth.
{{angor|24:25|25}} A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.
{{angor|Pennod_25}}{{c|{{uc|Pennod XXV}}.}}
{{bach|1 ''Israel yn Sittim yn godinebu, ac yn addoli delwau.'' 6 ''Phinees yn lladd Zimri a Chozbi.'' 10 ''Duw o herwydd hynny yn rhoddi iddo ef offeiriadaeth dragywyddol.'' 16 ''Rhaid yw blino y Midianiaid.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qtncve40npruo9xzfc5p09xad43mvaf
Indecs:Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Act 2022 (ASC 2022-2 qp).pdf
106
71069
143070
2025-07-09T17:45:37Z
ToxicPea
3816
Dechrau tudalen newydd gyda ""
143070
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=[[Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022]]
|Author=Senedd Cymru
|Publisher=The Stationery Office
|Year=2022
|Source=pdf
|Image=1
|Progress=C
|Pages=Recto in Welsh, Verso in English
<pagelist
1=Title
2=1
2to3=folioroman
4=1
4to13=folio
14to15=-
16=Cover
/>
|Remarks=
}}
3fx7bbawpymiy109f5y47owidif80mq
Indecs:Explanatory Notes - Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Act 2022 (ASC 2022-2 qp).pdf
106
71070
143071
2025-07-09T17:48:10Z
ToxicPea
3816
Dechrau tudalen newydd gyda ""
143071
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Nodiadau Esboniadol - [[Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022]]
|Author=Senedd Cymru
|Publisher=The Stationery Office
|Year=2022
|Source=pdf
|Image=1
|Progress=C
|Pages=Recto in Welsh, Verso in English
<pagelist
1=Title
2=1
2to13=folio
14to15=-
16=Cover
/>
|Remarks=
}}
8sqzpfzhjy5aotjapesxpo31j5vm7bv