Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.46.0-wmf.21 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Chwalfa.djvu/247 104 31828 161572 72671 2026-03-28T12:16:24Z ~2026-19240-27 4103 161572 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pethau ni welir : canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol. . . 'Canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." Caeodd y gweinidog y Beibl a phlethodd ei ddwylo o'i amgylch gan godi'i wyneb tua'r nef. Gwyrodd pawb yn y dorf fawr eu pennau mewn gweddi. "Yr ydym wedi cyfarfod yma, ein Tad trugarog, i estyn ein diolch iti. Mae dagrau yn ein llygaid, ond dagrau ydynt wedi'u goleuo gan lawenydd dwys—llawenydd am inni gael y fraint a'r fendith ryfeddol o adnabod dy was y rhown yr hyn sy farwol ohono i'r pridd heddiw. Fel dyn uniawn a charedig a hoff yn ei gartref ac yn ei ardal, fel crefyddwr, fel crefftwr yn ei waith, fel arweinydd ymhlith dynion—mawr— ygwn Dy enw, O Dad, am roi inni'r anrhydedd o gwmni'r gŵr da a chyfiawn hwn. Clywsom ei gyffelybu i'th was Moses yn arwain ei bobl drwy'r anialwch tua Chanaan. A chlywsom rai yn ein plith yn murmur yn chwerw na chafodd ef ddringo o rosydd llwyd Moab i fynydd Nebo, i ben Pisgah, ac na pheraist Ti iddo weled â'i lygaid y tir y cyrchai tuag ato. Ti yn unig, O Dduw, a wêl y dyfodol a ffrwyth ei lafur ef. Ni chenfydd ein golygon ffaeledig ni tu draw i yfory a thrennydd, ond mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg Di fel doe wedi yr êl heibio ac fel gwyliadwriaeth nos. Ond gwyddom ni, a gwyddai yntau cyn ein gadael, Dad tosturiol, nad ofer ei ymdrechion dewr. 'Efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd, a'i ddalen ni wywa.' ... Ac efe a ddwg ffrwyth lawer.'...O lafur ei enaid y gwêl.' "Dy nawdd tyner a fo tros ei weddw annwyl yn ei hunig— rwydd a'i hiraeth, O Dad, a throsom ninnau oll, y llafurwyr sydd eto'n aros ym maes yr ardal ddrylliedig hon. Rho ynom nerth i lunio, o dlodi a phryder a hagrwch y dyddiau blin, gyfoeth a hyder a phrydferthwch bywyd llawnach a helaethach nag a adnabu un ohonom erioed o'r blaen—o ymryson dang— nefedd, o drallod lawenydd, o elyniaeth gariad. Hyn fyddo'n braint ni oll yn enw Crist ein Harglwydd. Amen.' Cododd y bobl eu pennau, a chlywid llawer "Amen" yn furmur dwfn drwy'r stryd. Yna, lediodd y gweinidog yr emyn. Yr oedd tros fil yn yr angladd, a dywedid wedyn. fod y dôn i'w chlywed, ar flaen yr awel a chwythai tuag yno,<noinclude><references/></noinclude> mmpg4l40579s1pdgfx0j1oliz8w1y3m 161573 161572 2026-03-28T13:20:22Z ~2026-19315-17 4104 161573 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pethau ni welir : canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol. . . 'Canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." Caeodd y gweinidog y Beibl a phlethodd ei ddwylo o'i amgylch gan godi'i wyneb tua'r nef. Gwyrodd pawb yn y dorf fawr eu pennau mewn gweddi. "Yr ydym wedi cyfarfod yma, ein Tad trugarog, i estyn ein diolch iti. Mae dagrau yn ein llygaid, ond dagrau ydynt wedi'u goleuo gan lawenydd dwys—llawenydd am inni gael y fraint a'r fendith ryfeddol o adnabod dy was y rhown yr hyn sy farwol ohono i'r pridd heddiw. Fel dyn uniawn a charedig a hoff yn ei gartref ac yn ei ardal, fel crefyddwr, fel crefftwr yn ei waith, fel arweinydd ymhlith dynion—mawr— ygwn Dy enw, O Dad, am roi inni'r anrhydedd o gwmni'r gŵr da a chyfiawn hwn. Clywsom ei gyffelybu i'th was Moses yn arwain ei bobl drwy'r anialwch tua Chanaan. A chlywsom rai yn ein plith yn murmur yn chwerw na chafodd ef ddringo o rosydd llwyd Moab i fynydd Nebo, i ben Pisgah, ac na pheraist Ti iddo weled â'i lygaid y tir y cyrchai tuag ato. Ti yn unig, O Dduw, a wêl y dyfodol a ffrwyth ei lafur ef. Ni chenfydd ein golygon ffaeledig ni tu draw i yfory a thrennydd, ond mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg Di fel doe wedi yr êl heibio ac fel gwyliadwriaeth nos. Ond gwyddom ni, a gwyddai yntau cyn ein gadael, Dad tosturiol, nad ofer ei ymdrechion dewr. 'Efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd, a'i ddalen ni wywa.' ... Ac efe a ddwg ffrwyth lawer.'...O lafur ei enaid y gwêl.' "Dy nawdd tyner a fo tros ei weddw annwyl yn ei hunig— rwydd a'i hiraeth, O Dad, a throsom ninnau oll, y llafurwyr sydd eto'n aros ym maes yr ardal ddrylliedig hon. Rho ynom nerth i lunio, o dlodi a phryder a hagrwch y dyddiau blin, gyfoeth a hyder a phrydferthwch bywyd llawnach a helaethach nag a adnabu un ohonom erioed o'r blaen—o ymryson dang— nefedd, o drallod lawenydd, o elyniaeth gariad. Hyn fyddo'n braint ni oll yn enw Crist ein Harglwydd. Amen.' Cododd y bobl eu pennau, a chlywid llawer "Amen" yn furmur dwfn drwy'r stryd. Yna, lediodd y gweinidog yr emyn. Yr oedd tros fil yn yr angladd, a dywedid wedyn fod y dôn i'w chlywed, ar flaen yr awel a chwythai tuag yno,<noinclude><references/></noinclude> qjvtolemjvjnqviofkglo0o388mdg4h