Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.46.0-wmf.21 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/118 104 82694 161574 2026-03-30T09:51:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161574 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod namyn yr hyn ydyw yr awr hon. Yng Nghymru, ac yng Nghred, ni fynn hi fod yn ddim amgen nag ydyw. Yn Ne Cymru ni fynnai hi fod yn ffyddlon i'w Harglwydd pan oedd y melinau satanaidd yn malu dynion a gwragedd a phlant yn ulw mân. Yn Ne Affrica heddiw ni fynn eto godi bys bach i dystio bod ei Phen hi yn frawd i ddu a gwyn fel ei gilydd. Nid egyr ei genau yno, yr awr drychinebus hon, pan symudir trigain mil o bobl o'u cartrefi ar orchymyn Llywodraeth annuwiol. Yng Nghymru, ychwaith, nid agorai ei genau pan wnaed camwri yr un mor annuwiol â miloedd o deuluoedd. Ond cysgu'n braf. Dyna'r gwir amdani—cysgu y mae'r Eglwys, neu, ar y gorau, cysgu a hepian bob yn ail. A phan ddywed hi air o gwbl, siarad yn ei chwsg y mae hi,—siarad yn y gwagle, megis, ac yn orchestol o annelwig a gwag, am Grist, am Dduw, am yr Efengyl, gan eu bradychu i gyd, oherwydd nad ydyw hyd yn oed am y pared â'u byw a'u gweithredu yn y bywyd sydd o'i chwmpas. Ac oherwydd ei brad hi o'i Brawd bendigedig, y mae pob peth yn dryllio ac yn rhwygo—gwareiddiad a diwylliant, cymdeithas a chartrefi, ie, capel ac eglwys. Oni chlywodd hi o gwbl amdano Ef yn golchi traed y disgyblion? Oni ddeall hi ei fod Ef yn awr yn sibrwd i'w chlust hi:—"Am hynny, os myfi, yn Arglwydd ac yn Athraw, a olchais eich traed chwi, chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd." Paham, ynteu, na wrendy hi? Yn enw Duw, paham na ddeffry'r eglwys? Paham na chyffry ei Chariad hi a'i Thosturi, a'i Chyfiawnder? Paham na ddihuna? ac wedi dihuno, paham nad egyr ei llygaid, a gweld, a... gweith—redu; gweithredu Ei Gariad Ef mewn byd mor sychedig am Gariad? Yn yr hen wlad fach annwyl hon i ddechrau, paham nad ymgeledda mwy? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> epub67kyaxenzv0vxhxc26zktbrnmdn Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/117 104 82695 161575 2026-03-30T09:53:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161575 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wareiddiad di-galon. Dyma ymddyrchafu tuag at uchder ac arucheledd a mawrhydi yr Efengyl Gristionogol, yn ei holl gyfoeth. Dyma ''ddechrau'' siarad o ddifrif am anchwiliadwy olud Crist", a'i gyhwfan yn sicr a diymod a helaethion, mewn Ffydd, Gobaith, Cariad, hyd eithafoedd y ddaear. Diwedda'r datganiad o Evanston drwy haeru y dylai'r rhai a ŵyr fod Crist wedi atgyfodi, feddu ar y gwroldeb i ddisgwyl gallu newydd a fydd yn ysgubo ymaith bob rhwystr. Campus. Nid oes ond dywedyd bydded felly; amen, ac amen. Bydded felly yng Nghymru; mewn capel ac eglwys, mewn tref a gwlad, neu, yng ngeiriau hen fardd o'r Canrifoedd Canol,—mewn {{center block| <poem> Eglwys a changell A changell ac eglwys, :A gwastad a diffwys. </poem> }} <br> Bydded felly. Ac felly y bydd hi, ''pan fynnom ni''. Pan fynnom ni adael i'r Crist atgyfodedig gael Ei gyfle ar ein bychanderau cawraidd, ac ar ein gwahaniaethau pitw,—felly y bydd hi. Canys, fel yr amlhaodd ein pechodau ni, felly y rhagor-amlhaodd Ei gariad Ef a'i ras, i bob un sy'n edifar am ei bechod. Felly y bydd hi. Felly y mae hi eisoes. Eisoes y mae hi felly yn y nef, ac yn y byd anweledig sydd yn nes atom ni na'r anadl a dynnaf fi yn awr. Felly. Ac amen; Canys "ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant Ef." A phwy yw'r rheini? Chwychwi, ddarllenwyr annwyl? Nyni, Gymry bach tra choelgrefyddol? Myfi, bechadur balch a diedifar? Pwy? Nyni oll, pan fynnwn, un ac oll, pan fynnom Ei atgyfodiad Ef; oll, pan gredom Ei addewidion Ef. Nyni i gyd oll, ynddo Ef. "Yr wyf fi'n gallu pob peth trwy Grist." Mewn carchar, yntê? Mewn argyfwng yr un modd yn union. A charchar ac argyfwng ni bydd mwyach. Eithr, waethaf y modd, ni fynnwn ni ddim o'r fath. Ni fynnwn fod ond yr hyn ydym. Ni fynn yr Eglwys hithau<noinclude><references/></noinclude> 0zyjzvd99hn95uilq6we87by1n95gnv Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/116 104 82696 161576 2026-03-30T09:54:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161576 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Newynog, sychedig, dieithr, noeth, claf, carchar—a fu erioed fwy o hyn, a mwy o ddynion yn dioddef oddi wrth un neu ragor o'r pethau hyn, nag yn y ganrif hon? A ninnau heb na dilladu na di-sychedu, na datod o garchar na glanhau o glefyd y miloedd ar filoedd ar filoedd a brofodd o'r anrhaith hwn, ie, hyd yn oed yng Nghymru ei hun? Meddai Bertrand Russell yn ei lyfr diweddaraf—''Human Society in Ethics and Politics'':— ''"I do not think that the sum of human misery has ever in the past been as great as during the last twenty-five years."'' Os gwir yw hyn, yna ni bu erioed o'r blaen y fath alw am Ei Drugaredd, Ei Dosturi a'i Gariad Ef drwy gyfrwng ei Gorff Ef—yr Eglwys. Eithr nid erioed yn ei hanes hithau y bu hi mor ddiymgeledd i fyd mor adfydus. Y sefyllfa drychinebus hon ydyw'r un a elwais i'n argyfwng yn y gyntaf o'r wyth ysgrif. Hyhi eto a barodd i wahanol adrannau o'r Eglwys ymgynghori ynghyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, ac yn awr, yn ddiwethaf oll yn Evanston. Megis Eglwys wedi ei chorddi a'i chyffroi o'r diwedd, ac wedi ei hysbrydoli hefyd, galwodd ei chynrychiolwyr ynghyd dan yr arwyddair: {{c|YR ARGLWYDD IESU GRIST, EIN GOBAITH.}} Gweddus yw tynnu sylw yma'n awr at frawddeg neu ddwy sydd yn y neges a ddanfonwyd oddi yno i eglwysi Cred, y rhain, er enghraifft:— ''"Bu Crist farw drosom. Croeshoeliasom ni Ef, ond cyfododd Duw Ef o feirw. Atgyfododd. Gorchfygodd nerthoedd pechod a marwolaeth. Y mae bywyd newydd wedi dechrau. Ac, yng ngrym Ei atgyfodiad a'i esgyniad, an—fonodd Ef allan i'r byd Gymdeithas Newydd, a unwyd a'i gilydd gan ei Ysbryd Ef . . . "'' Dyma ni! Wele genadwri sy'n werth ei harddel a'i darlledu i'r holl fyd. Wele ffrwyth gweledigaeth gywir, mewn cyfnod caled, dan arweiniad y gwir Ysbryd. Dyma feddyginiaeth ddigonol i'r wlad a'r byd, i'r truan ac i'r gwan, i bublicanod ac i bechaduriaid, i'r dyn dau—ddyblyg ei feddwl ac i'r dyn unbenaethol ei fryd, i gartrefi rhwyg—edig ac i gapeli ymranedig, i gymdeithas ddi-amcan ac i<noinclude><references/></noinclude> jlm9zfb8mur68v1n9nqae668mu5lvv2 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/115 104 82697 161577 2026-03-30T09:54:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161577 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hithau mor gwbl annhebyg i'w Phen a'i Phriod, mor wahanol ei hanian i'w Gorff Ef? A dyna ydoedd hi yn ôl tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai hi orau, a'i carai hi fwyaf, ac a'i galwai hi daeraf yn ôl at ei Harglwydd? Canys dynion fel hynny ydoedd Puleston Jones a Miall Edwards. Nid fy marn i a fynegaf, ond eu barn hwy. Da y gwyddom ninnau mai cywir ydoedd eu barn. Ac ni ddywedant un gair am y pregethu sydd am y dim lleiaf â bod weithiau megis tân ar groen gŵr diwylliedig, a megis tramgwydd hyd yn oed i ŵr gostyngedig ei ysbryd. Unwaith eto, gan hynny, a hyd yn oed wrth resynu'n enbyd at frad y graddedigion a'r dysgedigion a heb gyfreithloni dim oll o'r brad hwnnw, y mae tystiolaeth ei charedigion pennaf yn ein cymell a'n gorfodi i weled diffygion adwythig yn yr Eglwys. Dyfod yn ôl a wnawn bob tro, ac o'n holl rodio ar led, o'n holl balfalu i bedwar cwr byd, o'n holl holi ac ymholi, chwilio a chwalu a chwipio—dyfod yn ôl at y drygau, fawr a mân, oddi mewn i fynwes yr Eglwys ei hun, ac at y Drwg cawraidd o fradychu Crist. Nid "aros gydag arwyddion y dolur a'r clefyd " ydyw hyn oll, ac nid "cael hwyl wrth eu trin a'u trafod" fel yr ofna Mr. Valentine. "Buom," meddai ef ymhellach, "am genhedlaeth gyfan wrth y dasg hon." Fy ateb i ydyw: "naddo Val, naddo, gyfaill! Buom yn chwarae â hi,—ac yn chwarae plant bach gyda hi,—yn tincran ac yn ffingran â'i hymylon. Eithr am ymenyddu uwch ei phen, ac yn arbennig am weddïo edifeirwch wrth ei phen, llai fyth am ei chyflwyno allan o'n dwylo aflan ni i ofal Duw, naddo, ni buom yn yr un cae â hynny. Hyd yn oed yr awr hon, wrth geisio'i chanmol fel y mae hi heddiw, ac wrth ymdrechu i'n clodfori ni ein hunain, a'r rhyfeddodau a wnaethom, yr ydym yn parhau'n ddiedifar dywyll a dall. Canys yr ydym yr un mor ffunud yn union â'r rheini a osodwyd ar y llaw aswy, am na welsant na'u cyfle na'u cyfrifoldeb. Fel hwythau, dyma ni'n gofyn: "pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig neu yn ddieithr, neu yn noeth neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom i ti?" Megis hwynt-hwy, yr ateb sy'n gweddu i ni ydyw hwn:— "Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig . . . " {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 5sikne3sxswy833z47t3etijwrz6in4 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/114 104 82698 161578 2026-03-30T09:56:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161578 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ddiarhebol o ddigri, fel y nodais yn fy llyfr ar Hanes Capel y Tŵr Gwyn, Bangor:—"A dyna amdani,—digrif a dagreuol, fel y mynnoch. Y mae mwy nag un o'r rhain i'w gael yn llenwi cadeiriau ein colegau yn dra boddog, os nad yn dra buddiol." Felly, Val'!—a heb dorchi llewys o gwbl. Nid wyf ond wedi prin gyffwrdd â dolur sydd yn wir ddolur calon i mi. Brad sydd,—mor llydan â drws ysgubor! Ac o bob brad, gwaethaf brad, brad gwŷr y Colegau,—nyni, gyfeillion annwyl, "yn raddedigion, ac athrawon a llenorion," chwedl Miall Edwards unwaith eto; ie {{center block| <poem> Nyni, yr hanner duwiau, llwch y llawr Na wyddom sut i fesur bach na mawr. </poem> }} <br> Eithr wedi cyfaddef hyn oll gyda phob gwyleidd-dra, y mae hi'n gystal â bod yn rhaid arnom gyfaddef hefyd, nad heb ryw gysgod o reswm da y dechreuodd y brad hwn. Onid bradychu yr Hon a fradychasai ei hun yn gyntaf a wnaeth y rhai a nodais? Onid troi cefn ar Eglwys a oedd eisoes yn cefnu ar ei gwir genhadaeth, a'i gwir Efengyl? Onid yw Miall Edwards yn cydnabod hynny eto,—wrth ysgrifennu fel hyn?— ''"Prin y mae gan yr Eglwys . . . syniad addas am fawredd y dasg a'r anturiaeth a ymddiriedwyd iddi, nac am grefydd yn ymwneud â bywyd i gyd . . . nac amdani fel offeryn Teyrnas Dduw . . . Ac y mae rhy fach o wir frawdoliaeth . . . ymhlith yr aelodau, ac o wir ddiddordeb brawdol tuag at y rhai o'r tu allan i'r Eglwys . . . "'' Yn yr un adeg yn union yr oedd y Parch. J. Puleston Jones yn mynegi beirniadaeth gyffelyb. Meddai yntau, am yr Eglwys:— ''"Y mae hi'n sicrach o bob peth nag o'i Duw . . . Pa ryfedd os yw'n tystiolaeth ni'n floesg, a'n safiad ni'n sigledig, a'n rhodiad yn fusgrell."'' Pa ryfedd, hefyd, i gynifer o eneidiau presiws, o weithwyr cyffredin, yn chwarelwyr ac yn lowyr, ac o wyrda cyffredin, yn raddedigion, athrawon a llenorion" lithro allan o Eglwys nad oedd ganddi "syniad addas am fawredd yr anturiaeth a ymddiriedwyd iddi", mor "floesg" ei thystiolaeth, mor "sigledig " ei safiad, mor "fusgrell ei rhodiad", ac mor fyr "o wir frawdoliaeth". Pa ryfedd, yn wir, a<noinclude><references/></noinclude> hln7v7yi32gzlwyymtxrftk83u0xynd Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/113 104 82699 161579 2026-03-30T09:57:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161579 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wrth gwrs, y mae hi'n rhaid arnaf gyfaddef yma'n awr fod y gŵyn yn deg. Heb un 'os' nac 'oni bai', y mae lliaws mawr o athrawon ysgolion Gramadeg, ac o athrawon Colegau wedi troi'n fradwyr i'n holl etifeddiaeth fel Cymry, ac yn enwedig, i'n hetifeddiaeth grefyddol. Ni wn i'n rhy dda pa bryd y dechreuodd hyn o frad; ond yr oedd yn ddigon eglur erbyn 1920 i'r diweddar Miall Edwards allu dweud mai "peth ffasiynol, erbyn hyn, hyd yn oed yng Nghymru " ydoedd "ymosod ar yr Eglwys". Gwir i gyd oedd hynny. A gwir oedd yr hyn a ddywedai yn y frawddeg nesaf,—sef y "cefnir" ar yr Eglwys "''gan rai o blant y deffroad addysgol, yn raddedigion, athrawon a llenorion."'' Yn ddiweddarach, ysgrifennodd ef erthygl ar "athroniaeth" un o'r athrawon a'r llenorion hyn, sef T. Gwynn Jones, gan ddangos mor faterol ac anffyddiol ydoedd llawer iawn ohono. Da y gwnaeth. A'r gwir a saif. Heb betruso cymaint â hynny, gellir olrhain y duedd hon, y cefnu ar yr Eglwys a'r ymwrthod â'i dysg hi—yn ôl at "nodiadau " Syr John Morris—Jones ar Omar Khayyâm. Yn eu plith hwy ceir brawddegau fel y rhain:— ''"Gellir disgrifio Omar fel gwrthryfelwr beiddgar yn erbyn y grefydd sefydledig. Ymwrthodai a'r credoau a dderbynnid gan y cyffredin; gwelai nad oeddynt ond damcaniaethau'r oesoedd cynt, a sylwai ar 'hunandyb' y rhai a'u lluniasai . . ."'' Wedi manylu ychydig ar syniadau Omar, dywed Syr John fel hyn:— ''"Dyma grefydd wedi cyrraedd tir uwch na'r rhan fwyaf o brofiad y Seiat. . . "'' Ergyd i'r post, er mwyn i'r pared gael clywed! Ac fe glywodd y pared. Pwy oedd y pared ond disgyblion Syr John? Pwy . . . ond graddedigion, athrawon a llenorion"? Pwy? a phwy arall? Ac am ba hyd? Yn y flwyddyn 1907 yr ymddangosodd cyfieithiad Syr John o Omar Khayyâm. O hynny hyd heddiw y mae agos i hanner canrif—hanner canrif o droi cefn ar eglwys a chapel, a moddion a gweddi gan fwy na mwy o blant y "manteision mawr." Da y gwn i am yr anhawster sydd i gael ambell un o'r rhain i roddi help llaw gyda'r Ysgol Sul. Am eu "rhesymau", neu'n hytrach, eu "hesgusodion" y maent<noinclude><references/></noinclude> gljcsb4717pmvd1p4fx5m1tihheky5w Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/112 104 82700 161580 2026-03-30T09:57:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161580 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan fyddo pregethwyr Cymru, pan fyddo crefyddwyr Cymru, yn dechrau cymryd y gair hwn o ddifrif, a holl eiriau Crist o ddifrif calon, a'r Gair ei hun uwchlaw'r cwbl, ni bydd eisiau ofni am lwydd yr Efengyl yn ein plith. Ni bydd eisiau pryderu am gapeli gweigion, ac ni bydd dim poeni am eglwysi'n cau drws. Ni bydd dim sôn am "Ymgyrch y Deffro", nac am ail-gychwyn hen "ddiwygiad". Canys bydd y wir a'r unig a'r gyflawn Efengyl yn cael ei dysgu a'i phregethu a'i byw, a Theyrnas Nefoedd yn cael ei sylweddoli "megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd ". Deallwn—a hyn yw dechreuad pob deall—mai Duw ei Hun biau ei "achos" ac nid ni ein hunain. Distawrwydd ei ewyllys Ef, nid trwst ein caniadau ni, tawelwch ei nerth ef ac nid peroriaeth ein nablau ni,—hynny sy'n dwyn ei waith Ef i ben. Gollwng ein gafael a'n gofal i'w ddwylo Ef, ymlacio o'n caethiwed i'w ryddid Ef,—ymorffwys ynddo Ef, ymdawelu, ymlonyddu—dyna ydyw'r alwad i chwi a minnau. Y mae yn hynny edifeirwch a sicrwydd maddeuant. Ac y mae ym maddeuant ollyngdod, rhyddid, bywyd; troedigaeth ac ail-enedigaeth; Ffydd, Gobaith, Cariad,—y cwbl hyn. A'r mwyaf o'r rhai hyn yw Cariad. Canys—Duw, Cariad yw. {{***|5}} Y mae dau neu dri o'r cyfeillion yn rhyw led synnu imi beidio â sôn gair am y lleygwyr, yn arbennig y lleygwyr "dysgedig". "Teimlaf," meddai'r Athro Oliver Stephens, "mai anffawd fawr yw difrawder nifer mor lluosog o raddedigion ein Prifysgol ynglŷn â bywyd crefyddol ein cenedl." Yr un modd, cwyna'r Parch. J. P. Davies oherwydd "diffyg diddordeb athrawon colegau"; ac am y Parch. Lewis Valentine, y mae ef yn mynd cyn belled ag awgrymu imi ychwanegu un ysgrif arall at y gyfres hon, dan y pennawd—Brad y Lleygwyr." Mewn llythyr i'm cyfaill, 'Val,' hanner addewais lunio'r ysgrif honno. Ac, yn wir, ac yn wir, ni buasai'n rhaid crafu pen am hir iawn, na chodi'r un llyfr o'r wâl, er mwyn ysgrifennu llith fach mor ddraenogaidd â'r un sydd yma. Ond, o ail feddwl, ac o sylwi fel y mae'r ffregod hon eisoes yn chwyddo, yr wyf yn gwrthod derbyn fy "arwain" i'r brofedigaeth" hon. Eithr nid mewn ofn, ac nid rhag digio carfan arall o'm cyd-Gymry. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 6pl4q6rhdfwvk1xv1zppmn6v4ky9h2r Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/111 104 82701 161581 2026-03-30T09:58:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161581 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>heddiw. Credaf fod yna gyfeiliornad arall—sef tybio bod rhyw rin arbennig yn perthyn i "bregeth" fel y cyfryw,—''pregeth fel pregeth'', ac ar wahân i bob ystyriaeth am ei naws a'i chynnwys hi ei hun, ac am ysbryd ac ymgysegriad yr hwn sydd yn ei thraethu. Yn hyn o beth, y mae gwerin Cymru yn dra choelgrefyddol; ac yn ofni yn ei henaid y Sul pryd na byddo pregethwr yn y pulpud. Onid prawf yw hynny fod y bregeth yn un o'r duwiau eraill a addolir gennym ni heddiw? Onid yw'n bosibl, o'r herwydd, y gall Duw fod yn dywedyd wrthym ni o'r awr hon, am y pregethau hyn? "Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau."? Yr ydych yn arswydo ers meitin, ac yr wyf innau. Arswydaf rhag ofn fy mod yn rhyfygu, ac ni fynnwn hynny am y byd. O ran hynny, y mae gen i le cynnes i bregeth,—nid yr un ddysgedig, o angenrheidrwydd, ac yn sicr nid yr un goegddysgedig, ond yr un ostyngedig, ddwys ddiamwys, glân ei gwead, pur ei meddwl, yn siffrwd gan angerdd ac argyhoeddiad, ac yn fflam o dân Cariad Crist. Ac fe'i gwrandawaf yn ebrwydd ac yn wylaidd. Gan hynny, nid dilorni pregethu a wnaf, ond dyheu am bregethu grymus a golau ac onest. Ac wrth ddisgwyl am y rheini, ein cymell i beidio â gwneud duw o bregeth, hyd yn oed o'r bregeth orau oll. Un yn unig o gyfryngau'r Efengyl ydyw hi. Y mae eraill. Y mae eraill, sydd yr un mor bwysig. Y mae eraill a esgeuluswn i raddau mwy neu lai llwyr gennym ni. Y mae dysgu, er enghraifft; y mae ymweled. Y mae gweini ar y claf. Ni ddichon bod gweinidogaeth yn gyfan heb y pethau hyn; ni ddichon iddi fod yn gwbl Efengylaidd, nac yn Apostolaidd nac yn Gristionogol. Y mae glanhau, wedyn. Ac y mae'r lleiaf o'r rhai hyn yn fwy yn Nheyrnas Nefoedd na phregethu. Daw geiriau Iesu Grist â mi wyneb yn wyneb â'r pethau hyn oll. Wrth ddanfon ei ddisgyblion allan am y tro cyntaf, fe'u hannog i bregethu, ar yr amod eu bod i bregethu "fod teyrnas nefoedd yn nesáu". Eithr, rhag iddynt ymollwng i bregethu pregethau ac ymffrostio mewn geiriau huawdl, fe'u gorchymyn i brofi y gwyddant rywbeth am y "Deyrnas" a gyhoeddant. Hwn yw'r prawf; sef eu bod yn iachau'r cleifion, yn glanhau'r rhai gwahanglwyfus, yn cyfodi'r meirw, ac yn bwrw allan gythreuliaid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> a4kj2mp5mq7ijrwn0b5w96i7m8ha5ad Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/110 104 82702 161582 2026-03-30T09:59:44Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161582 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhagymadroddi di-dor-derfyn rhag ofn y gwir. A'r unig reswm am hynny ydyw nad oes gan y pregethwr, yn rhy aml o lawer, nemor ddim rhithyn o wir argyhoeddiad, llai fyth o ganfyddiad ysbrydol. Dyna drychineb pulpud Cymru heddiw. Y mae yna wmbredd o waith glanhau ar y llawr dyrnu hwn. Ei dweud hi, yntê?—ac am fy ngwlad fach fy hun?— ac am bregethwyr "enwog" fy ngwlad fach! Cywilyddus o beth, heb un dwywaith amdani; a hynny gan un nad ydyw'n bregethwr nac yn fab i bregethwr, llai fyth yn broffwyd, nac yn fab i broffwyd, chwedl Amos,—ie eto, waetha'r modd, un na chafodd na galwad na chennad i wneud dim o'r fath. Ys truan o ddyn wyf i. Ond ni feiddiaf gystadlu â'r bugail hwnnw, pan ychwanegodd ef fod ei Arglwydd yn dywedyd: "Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd." Efallai fod gennyf hawl, er hynny, i atgoffa arweinwyr crefyddol Cymru heddiw,—a minnau, y lleiaf yn eu plith,—o ymadrodd gan yr Iesu sy'n gyfaddas iawn inni oll: "Gwae chwi . . . dywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwyb—edyn ac yn llyncu camel." Na ato Duw i mi gamfarnu fy ngwlad! Eithaf fy eithaf i ydyw gorfod cydnabod llawer o bregethu Cymru yn ddi—rym, yn ddi—rin, am ei fod yn ddi—gariad, yn ddi—Efengyl, ie, yn ddi—Grist. Ac eithafoedd fy nymuniad i ydyw cael gweled o'r newydd eu bod yn llawn o Gariad, "yn gwybod Cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch cyflawner â holl gyflawnder Duw." {{***|5}} Do, "J.P.," fe fwriais trwyddi'n enbyd, a neidio dros y tresi'n llamsachus iawn. Do, gyfaill annwyl, ac yr ydych chwi mor barod â neb i faddau imi, gan nad oes dwyll yn eich genau chwi nac ar y llwyfan nac ar y llawr, nac yn y gymanfa nac yn y gegin. Fe faddeuwch chwi imi am ddywedyd nad achubai can pregeth o'r fath a nodais yr un chwannen heb sôn am glamp o bechadur. Yn wir, yn wir, ni fwriadwyd iddi wneud dim o'r fath. Ni wna'r un arall, hefyd, oni bo hynny'n bennaf amcan ganddi, ac oni lanwer hi â chariad, ie, â chariad anfeidrol Crist ei Hun at bechadur. Yn fy ystyfnigrwydd, ynteu, yr wyf yn dal i gredu bod peth wmbredd o gyfeiliorni ffordd ym mhregethu Cymru<noinclude><references/></noinclude> qcouzm70nslptku8etlpwqyxvuwnl81 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/109 104 82703 161583 2026-03-30T10:00:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161583 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond—yn ei eiriau ef ei hun—"they are fed up!" A llyfu gwefusau fel pe dywedasai un o gyfrinachau'r duwiau, heb i'r meddwl gymaint â hanner gwawrio arno ei fod yn dweud y gwir am yr unig ymateb a allasai fod i'w hunan-foddhad di-Grist ac i'w bregeth ddi-Efengyl. Heb amlhau geiriau, a heb ddisgwyl i'm darllenwyr fy nghoelio, yr oedd y bregeth hon mor brin o chwaeth a chynnwrf grasol ag oedd hi'n fyr o ymroddiad ac eneiniad, ac mor goeg ei neges â chneuen wag. Rhag i chwi gredu i'r carn fy mod yn gwneud cam aruthr â'r pregethwr, ychwanegaf imi ymddiddan â dau weinidog arall o'r un enwad rai dyddiau'n ddiweddarach, ac i'r ddau gytuno â mi i ymofidio oblegid y bregeth. Ac yr oedd y bregeth mewn bri ddeng mlynedd ar hugain yn ôl! Wele ambell un o'th "bregethwyr mawr", O Gymru! Ac y mae mwy nag un o'r fath yn uwch o lawer yn dy olwg na Mab y Saer. Hwnnw'n rhy ostyngedig ac union, ac yn rhy addfwyn o galon, i ti eistedd wrth ei draed i'th ddysgu ganddo Ef, heb sôn am blygu i dderbyn Ei Efengyl. Ddoe ddiwethaf, (x: x: 54<ref>10 Hydref 1954</ref>) dyma bregethwr arall—nid anhysbys, ychwaith—yn pregethu ar destun godidog, sy'n sôn am wybod "bod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch." Siaradodd y pregethwr yn hir am y gwahanol fathau o edifeirwch, yn hir ac yn faith—ac yn fethiannus—am y gau a'r gwir, gan fynd â ni am dro gydag ef heibio i Socrates, Plato, a'r hen Ddoctor Johnson druan, fel y deallwn mor ddysgedig oedd y pregethwr. Eithr, ar ôl cyrraedd adre'n ôl, braidd yn fyr ei wynt, o siwrnai mor seithug, ni lwyddodd hyd yn oed i gyffwrdd—naddo, o hyd braich—ag ergyd yr adnod—sef bod Duw ei Hun, yn ei ddaioni, yn ein tywys ni i edifeirwch. Môr-a-mynydd o grwydro,—a heb gyrraedd. Hanner awr o fynd o'r tu arall heibio i'w destun,—a heibio i Dduw! Campwaith o din-droi. Ac nid oes gennyf i mo'r dewis ond dweud y gwir cas, bod degau o'n pregethwyr ni heddiw yn feistriaid ar y gelfyddyd satanaidd o gadw hyd braich rhyngddynt a'r gwirionedd. Siaradant ar draws ac ar hyd, weithiau'n ddifyr ac weithiau'n ddiflas, am ryw "agweddau" ar y testun, gan ddwn-dwr-dambar tua'r diwedd, ond heb fwrw'r hoelen ar ei phen gymaint ag unwaith. Mewn gair, nid yw pregeth yn aml yn ddim ond ymdrech dywyll i osgoi'r genadwri,—<noinclude><references/></noinclude> 7b7e12tishh8lix86ljhyyd82da6ge0 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/108 104 82704 161584 2026-03-30T10:01:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161584 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>daw i'r golwg yn amlycach fyth, nes llygadrythu arnoch yn y gosodiad hwn—mai "pregethu pregethau" a wna pregethwyr Cymru ac "nid pregethu Crist". Pwy a wad nad ydyw'r ymadrodd hwn yn gyhuddiad ofnadwy, ac yn ddatguddiad cyflawn o ddiffyg ein pregethu? Pwy ni chred fi pan ddyfynnaf yn olaf farn un o'r pregethwyr hyn sydd fyw heddiw? Yn gynnar yn y flwyddyn hon y bu nifer o ysgrifau ar y "Pulpud" yn y ''Goleuad'' gan y Parch. R. Ellis, Tŷ Croes. Cydnebydd yntau "nad yw nwyd ac afiaith ymhlith nodweddion amlwg y pulpud heddiw". Gorfydd arno gyfaddef, hefyd, nad yw'r pregethwr yn uchel" yn serch ein cenedl ", a hynny, meddai ef, "oherwydd marweidd-dra'r pulpud, a diffyg grym ac argyhoeddiad yn y sawl a esgyn iddo." Nid myfi biau'r un o'r dyfarniadau hyn. A chan mai pregethwyr eu hunain sy'n eu mynegi, fe ddylai fod llawer mwy o wrando arnynt,—ac wedi gwrando, gwrando eil-waith a thrachefn, hyd at gyffes ac edifeirwch, a hyd at ddiwygiad a gwedd-newidiad. Ysywaeth, er cyhoeddi'r barnau hyn mewn llyfrau a chylchgronau, nid ymddengys iddynt, hyd yma, esgor ar ddim cyfnewidiad. Hynny sydd yn fy nghymell innau'n awr i wasgu'r holl feirniadaeth hon i sylw ein pregethwyr; ie, sydd eto yn fy nghyfreithloni, ond odid, i roddi un enghraifft o'm heiddo fy hun. Dydd Gwener y Groglith oedd hi, o'r flwyddyn hon; ac un o'r pregethwyr a ystyrir ymysg cewri'r pulpud a oedd yn pregethu. Yr oedd y testun yn un digon gweddus i'r awr a'r dydd. Ond ni chododd y pregethwr o dir cyffredinedd ac ystrydeb o gwbl; ac ni ddangosodd na "nwyd nac afiaith" na "grym nac argyhoeddiad " yn ystod ei holl draethiad. Y peth tebycaf i afiaith a gafwyd ydoedd chwarae â sŵn geiriau yn awr ac eilwaith, gan ychwanegu di-chwaethdra at y diffygion eraill. Siom i mi oedd clywed hwnnw, o bawb, mor esgeulus ei Gymraeg ac mor chwannog i'w britho â geiriau Saesneg di-angen. Ond efallai mai'r hyn a'm trawodd fwyaf o ddim ydoedd ei glywed yn dyfynnu geiriau Milton am Lycidas: ''The hungry sheep look up and are not fed''; ac yna, heb ddirnad eu bod yn gymwys gywir am ei wrandawyr ef ar yr union adeg honno, mynd ymlaen i ddweud nad oedd y defaid yn edrych i fyny heddiw,<noinclude><references/></noinclude> 4bld3ivf967q6ujt9osr3pyzpx6jh1f Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/107 104 82705 161585 2026-03-30T10:02:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161585 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ni chlywais fod ein Colegau Diwinyddol wedi cymaint ag agor eu llygaid ar y wedd hon i'r wir Weinidogaeth gyflawn. Ac am yr Eglwys hithau, a ydyw hi hyd yn oed yn credu y pethau hyn? Fe'i geilw ei hun yn Gorff Crist, ond nid yw o fewn milltiroedd i ddirnad ystyr y meddwl cyfoethog hwn. Pa le y mae hi'n ymgeleddu? yn glanhau? yn myned o amgylch gan wneuthur daioni "? yn cynnig gwaredigaeth, heb sôn am ei chyfryngu? yn addo iechyd, heb sôn am ei drosglwyddo? Pa le, meddaf, a minnau mor ddiffrwyth â neb? {{***|5}} Oni eilw hyn oli am Edifeirwch? Ac wedi edifeirwch, am Gyflenwad o Ysbryd Crist? Ac o ganlyniad, am Ffydd, Gobaith, Cariad?—y drindod geiriau sydd mor ir ar ein gwefusau, ac mor grin yn ein bywydau, mor gryno ar ein tafodau, ac mor grintach ar ein teimladau? Edifeirwch, a'i holl Ffrwythau,—pa fodd y deuant i ni? Y mae mwy nag un yn gofyn; ac o leiaf un yn ateb nad drwy ym—ofidio ac ymboenydio, nac ychwaith drwy gyflawni gorchestion. Etyb ef mai Rhodd Duw ydyw; ac nid oes ateb arall. Ateb arall nid oes; ni bu; ni bydd,—rhodd Duw, i'r sawl sy'n ymostwng i ofyn amdani mewn Ffydd. Ac y mae'n galondid inni gofio "bod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch". Gofyn y Parch. J. P. Davies: "Sut y daw y rhodd fawr hon inni heddiw". Daw'r ateb iddo ef yn ebrwydd:—"onid trwy gyfrwng pregethu y daeth i Gymru gynt? Tybed a yw'r awdur wedi sôn digon am y cyfrwng mawr hwn?" Diau naddo. Nid oes gan yr awdur gymaint â hynny o ffydd mewn pregethu. Y mae'n gred ganddo, ysywaeth, fod rhywbeth o'i le ar lawer o bregethu Cymru heddiw. Maddeued Duw imi os wyf yn rhyfygu wrth ollwng y saeth hon o'm bwa yn ddi-gyngor, yn anghyfrifol ac yn anghyfiawn. Fel hyn y gollyngaf hi o law ansicr:—Ymddengys ar lawer adeg imi fod pregethu Cymru wedi cyfeiliorni yn ei ffordd. Nid yw hyn yn newydd i neb a ddarllenodd Ddaniel Owen, nac i'r ychydig a ddilynodd feddwl ei galon, gan Islwyn, nac i'r lliaws a ddarllenodd yng Nghofiant John Williams, Brynsiencyn, y "gall pregethwr poblogaidd bregethu unrhyw gyfeiliornad". Yn y clasur crefyddol hwnnw—''[[Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod IX|Fy Mhererindod Ysbrydol]]''—<noinclude><references/></noinclude> 4zszvhuqolybxuf2pq5w60ogcp4ko19 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/106 104 82706 161586 2026-03-30T10:02:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161586 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y Weinidogaeth o'r nodd y dylent ei sugno'n 'naturiol, a'u hamddifadu o'u gwreiddiau. Prin y mae modd gwneud mwy o gam â neb na'i ddi-wreiddio. Pair fod ei genedl i hwnnw yn farw, a'i gartref yn ddi-fywyd. I liaws o'n gweinidogion ni heddiw y mae Cymru mor farw â hoelen. Y mae gan Simone Weil benodau godidog ar y drwg hwn, ac ni wn am neb a'i dehongla'n well na hi, ac a ddyry'r bys mor wastad ar y perygl. A thrist hyd at ddagrau yw meddwl, mewn oes mor fyr ei gwreiddiau â hon, fod ein gweinidogion mor ddi-wreiddiau â neb. Rhaid yw magu gwreiddiau gan y sawl a faidd ddysgu eraill yn y gronyn lleiaf. Y mae'r gŵr sy'n fyr ei wreiddiau yn berygl bywyd i bawb o'i gwmpas. Pa faint mwy yr hwn sy'n cymryd arno fod yn weinidog i blant dynion? Cyhuddais Addysg y Weinidogaeth hefyd am hyfforddai ddim ar y modd i drin plant ac i'w dysgu,—ac yr oedd tystiolaeth y Parch. J. H. Howard yn gadarn o'm plaid. Fe'i gadawaf ar hynny yn awr, gan imi ymhelaethu arno mewn llawer lle arall o bryd i'w gilydd. Ymddengys i mi yn bwnc o bwys mawr, gan mai plant yr Eglwys ydyw ei gobaith hi yr awr hon, a'i gofid hi wedi myned heibio o'r awr hon, heb eu bachu unwaith ac am byth. Gweinidogaeth oludog a ddylai gweinidogaeth y plant fod, fel y gwelir oddi wrth feddwl a gofal yr Hwn a ddywedodd: "gadewch i blant bychain ddyfod ataf Fi"; ac a daer gymhellodd bawb ohonom i fod megis plentyn bach. Yn lle hynny, fe beidiodd â bod yn weinidogaeth o gwbl, yn amlach na heb, yn ein dwylo celyd ni. Chwaer iddi hithau ydyw Gweinidogaeth "y tlodion yn yr ysbryd" " a'r "rhai sydd yn galaru", y gweiniaid a'r anghenus, a phawb o'r rhai sydd yn "flinderog ac yn llwythog". Gallodd Iesu Grist gyhoeddi'r cyfryw rai yn "wyn eu byd", a'u gwahodd ato Ef i'w cysuro ganddo ac i'w codi ar eu traed, ac i dderbyn o'i dangnefedd, a'i ymgeledd ac o'i esmwythad. Cyfle oedd y rhain iddo Ef, i dywallt ei gariad ar eu briwiau, i'w glanhau, ac i'w rhyddhau o bob gofid a gwae. "Ynddo Ef yr oedd Bywyd, a'r Bywyd oedd oleuni dynion " medd un o'n tystion. Cytunant oll i ddweud mai dyfod i'n byd a wnaeth ef "fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach ". Gwelsom ninnau'n dda anwybyddu hyn gyn llwyred a chyn hwyred ag y beiddiasom.<noinclude><references/></noinclude> 9gm5pi8kw1mqo37jjplyhg2m8qi3auo Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/105 104 82707 161587 2026-03-30T10:03:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161587 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywys i'r meddwl a'r deall? a'r cymhellion ac i'r ewyllys?—o'r galon i'r enaid, ac o'r ymwybod i'r is-ymwybod? mewn gair, o'r wyneb i'r dyfnder? Anodd ydyw osgoi casgliad o'r fath. Ac anos yw credu nad oedd capel ac eglwys yn colli cyfle euraid i lwyr ddiwygio bywyd gwlad a thref am un genhedlaeth gyfan. Oherwydd paham, y mae hi'n gymharol hawdd coelio'r hyn a ddywed y Parch. Oliver Stephens, na chafodd y gweinidogion "nemor ddylanwad arno", ond yn hytrach, eu hysgubo "o'r neilltu yn anterth teimladau'r tyrfaoedd" Ffordd arall o ddweud hynny ydyw, nad oedd y gweinidogion yn barod i'r Diwygiad, nac yn dysgu nac yn deffro yn ystod ei ymdaith dros y byd a'r wlad. Am nad oedd ganddynt na gweledigaeth fawr eu hunain na ffydd ddisigl yng Nghrist, yr oeddynt yn rhy "gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt ". Beiwch hwy am hynny, os mynnwch, a dywedwch nad oeddynt wedi eu bedyddio â'r Ysbryd Glân. Ond ni wna hynny ronyn o les iddynt hwy nac i neb arall bellach. Cyd-gyffesu bai a gwendid sydd orau i bawb ohonom, a derbyn arnom ein hunain beth o faich y camgymeriadau a wnaed yr adeg honno. Bu nid ychydig o feio ac o fytheirio ar y pryd, yn ôl pob hanes; a gweddus i ni, o'r genhedlaeth hon, ydyw plygu i gydnabod nad hawdd mewn trobwll yw cadw uwchlaw'r dynfa enbyd; ac wedi plygu, plygu eilwaith i ymwrando â'r llef ddistaw fain a ddichon fod yr awr hon yn ymorol am glust i glywed, am lygad i weled, y pethau a ddarpara Duw i ni—heddiw, heddiw ac yfory, beunydd a byth. Nid wrth ddannod i ddoe ei ddinodedd y mae i heddiw ddirnad ei gyfle a'i gyfrifoldeb. Yn y pethau hyn oll, digon i'r dydd ei ddrwg ei hun. Eiddo i'r meirw yw claddu y meirw. {{***|5}} Addysg y Weinidogaeth—dyna bwnc arall a godwyd. Beio'n ddigon di-drugaredd a wneuthum i, ac ni welaf fod un o'r cyfeillion yn anghytuno. Fe'i beiais am nad oedd iddi gynnwys diwinyddol, am ei dysgu mewn gwagle megis, heb ei chysylltu â Hanes Crefydd yng Nghymru nac â nemor ddim arall o'r treftadaeth genedlaethol, o ran iaith, llenyddiaeth na diwylliant. Bai o'r mwyaf ydoedd hwn, gan nad ydyw'n ddim llai na difreinio ymgeiswyr am<noinclude><references/></noinclude> helcao05kps1cnyu1qxmd494wi9tjbk Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/104 104 82708 161588 2026-03-30T10:05:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161588 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r neilltu yn anterth teimladau'r tyrfaoedd." Dilynwn yr Athro hyd y diwedd, a chlust-ymwrandawn â'i eiriau olaf: "Canlyniad mwyaf amlwg y Diwygiad heddiw ydyw grym a chynnydd yr Eglwys Apostolaidd. Digwyddodd yr anffodion hyn am nad oedd gennym ''nac Eglwys unedig'', a allasai gynnull y dychweledigion oll, ''na phulpud digon goleuedig'' i'n diogelu rhag hygoeledd teimladol a rhy arallfydol." Dyna! Y mae digon o le i chwarae rhwng y dyfarniadau hyn. Dangosant i gyd fod rhyw ddiffyg yn y Diwygiad; er nad â'r un mor bell â dywedyd nad oedd ynddo ddaioni hefyd. Heb un dau, fe ddihunwyd llaweroedd, fe adfywiwyd llawer, ac fe loriwyd llaweroedd a llawer. Chwyldrowyd byd a bywyd ambell un, a llwyr newidiwyd buchedd a rhodiad mwy nag un. Llanwyd y capeli o'r newydd. Ysywaeth, nid am hir y parhaodd y llanw rhyfeddol hwn, na'r ymwrthod â thyngu a rhegi, ac â chodi'r bys bach o dafarn i dafarn. Ymddengys ei bod hi'n duedd mewn “diwygiadau crefyddol" o'r fath i ddiffodd mewn lludw llwyd cyn pen nemor amser onid esgorant ar amcanion gwrthrychol a phendant, ar weithgareddau unigol a chymdeithasol,—ac, yn enwedig, oni ffrwythant mewn bywyd wedi ei lwyr gysegru i Dduw drwy Grist. Ac yna y daw adwaith ac atgas, dihoender a diffrwythder, yn arwain i siom, chwerwder, oerfelgarwch, a throi cefn o'r newydd ar grefydd. Dyna a ddigwyddodd i bob golwg ar ôl Diwygiad 1904-5. Y mae cystal tystiolaeth â'r un i'w chael yn hunangofiant y diweddar J. H. Howard. Yn Saesneg yr ysgrifenna; ac efallai y maddeuir i minnau am ddyfynnu ei union eiriau:— ''"One-time enthusiasts backslided; we witnessed a landslide in Church membership for several years in succession. Once more drinking cells were full, and chapels deserted. We saw apostacy, hostility, and, worse still, growing hostility."'' Dyna ni eto. "Digwyddodd, darfu, megis seren wib," fel petai. A oes eglurhad, ar wahân i'r mymryn a awgrymwyd eisoes?—ar wahân, hefyd, i ddiffyg gofal o'r troedigion" gan gapel ac eglwys, gan weinidogion ac offeiriaid?—ar wahân i esgeuluso'r gwaith anhepgor o feithrin ac o adeiladu'r rhai a brofodd o'r gynnau dân? A adawyd i'r cynnwrf ysgubo dros y teimladau heb ei<noinclude><references/></noinclude> 1kba4rhy5hlf7m3d4vm2lvf3rbuglip Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/103 104 82709 161589 2026-03-30T10:05:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161589 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn gorfod byw ynddo beunydd a byth. Ni thâl hi ddim inni anghofio hynny na dydd na nos; nac anghofio ychwaith ffieidd-dod yr Eglwys yn hyn o beth lawer gwaith yn y gorffennol pell ac agos. Heb os nac oni bai, hwn ydyw un o'r rhesymau dros i'r werin a'r miloedd adael yr Eglwys, a rhedeg i fynwes gynhesach y ffydd Gomiwnyddol. Addefwn hyn oll mewn cymaint o edifeirwch ag y gallwn ei ennyn. Ac wedi hynny, dychwelwn at y meddwl hwn,—nad newid a diwygio'r drefn gymdeithasol ydyw gwir na phrif amcan yr Eglwys. Ei phriod waith hi ydyw bod yn gyfrwng i sylweddoli Teyrnas Nefoedd—ie ar y ddaear, yma'n awr, ynom ni, megis yn y Nef. Eithr nid trefn gymdeithasol mohoni ddim. Nid rhywbeth a lunnir gan ddyn ar ei ben ei hun. Y bywyd newydd ydyw hi, y "creadur newydd" ym mhob un ohonom, ansawdd newydd pawb o blant dynion a'r byd yn grwn ac yn gyfan. Duw ei Hun a ddwg hyn i ben. Po fwyaf y llanwer ninnau â gobaith ac â phrofiad o'r Deyrnas, mwyaf oll yr ymdeimlwn â'n cyfrifoldeb i adeiladu trefn gymdeithasol a fyddo'n ddynol ym mhob modd, yn gwbl gyfiawn, yn llawn tosturi a chariad, ac yn cymryd arni wir ddelw "Teyrnas Dduw " mewn gwirionedd. {{***|5}} Y mae mwy nag un o'n cyfeillion yn cyfeirio at Ddiwygiad 1904-1905. Nid oes gan Degla ryw feddwl goruchel ohono, ac fe'i disgrifia fel "fflach olaf yr hen gyfnod". Meddai ymhellach, "trwsio'r craciau a gloywi tipyn ac yr adeilad oedd Adfywiad Evan Roberts." Yn yr un cywair y mae dyfarniad y Parch. J. P. Davies yn cerdded. Cymhara ef Ddiwygiad Evan Roberts ag un Richard Owen, gan ddal i'r cyntaf ddylanwadu'n ddyfnach o gryn fesur, a pharhau'n hwy yn ei ganlyniadau. Cydnebydd ef fod y Dirywiad a darddwn i'n ôl i'r wythdegau wedi cyrraedd ymhell erbyn 1904-5, fel na chafodd Diwygiad y flwyddyn honno mo'i iawn gyfle, megis. "Ni fu paratoi digonol ar ei gyfer," meddai, "ac ni ddeallwyd ychwaith fod a wnelo Diwygiad crefyddol â holl fywyd ein cenedl." Am yr Athro Oliver Stephens, dywed ef fod ganddo "gof byw o'r amser rhyfedd hwnnw" ac "na bu gan y gweinidogion nemor ddylanwad arno." Newydd i mi, o leiaf, ydyw yr hyn sy'n dilyn am y gweinidogion—" Fe'u hysgubwyd<noinclude><references/></noinclude> g37dxquescfkm4aeilq4d4oah5w9smz Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/102 104 82710 161590 2026-03-30T10:07:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161590 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>blant Ef ei Hun, er gwaethaf eu cwymp a'u pechod. Canys, ai drwg di-obaith ydyw'r Cread a greodd Duw ei Hun, ac y dywedodd amdano mai "da" ydoedd? Ai llygredd yn unig ydyw'r Cnawd y ganed Crist Iesu iddo? Ac os cyfarchwn Dduw fel Tad, yn ôl dymuniad y Mab ei hun, oni olyga hynny ein bod i ryw raddau ac ar ryw gyfrif, yn cyfranogi o'i anian Ef, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd," fel y dywed Pedr, " fel . . . y byddech gyfranogion o'r duwiol anian"? "Ac os plant, etifeddion hefyd," chwedl Paul, "sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ." {{***|5}} Gyda'r Parch. J. P. Davies ynteu, ac ar ôl rhoddi pwyslais dyledus ar Ddiwinyddiaeth wir Gristionogol, cytunwn mai'r "peth pwysicaf i bob dyn yw adnabod Duw mewn maddeuant yn Iesu Grist." Dilynwn ef yn ebrwydd eto pan dystiolaetha mor ardderchog am bregethau ac am ysbrydiaeth yr Athro David Williams—yr hyn a gydnabyddir yn hael hefyd gan yr Athro Oliver Stephens. Eithr, a allwn gerdded gydag ef bob cam o'r ffordd pan ychwanega fod yr "efengyl gymdeithasol" yn bwysicach na Diwinyddiaeth? Nid yn llwyr, cyn belled ag y gwelaf i, am mai ''rhan'' yn unig o'r Efengyl ydyw hithau. Fe gynnwys hi hynny, heb ddim dwywaith, ond fe gynnwys lawer yn ychwaneg. Da y gwnaeth Emil Brunner, mewn llyfryn "Yr Eglwys a'r Drefn Gymdeithasol Newydd," bwysleisio nad gwaith cyntaf a hanfodol yr Eglwys ydyw brwydro dros raglen gymdeithasol o fath yn y byd, ond pregethu'r genadwri am iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol. "Y mae yr Eglwys" chwedl yntau, "yn cyrraedd y tu hwnt i unrhyw drefn gymdeithasol, am mai ei braint hi ydyw pregethu Efengyl Iesu Grist, Teyrnas Dduw, sydd yn ymddyrchafu uwchlaw pob trefn gymdeithasol, dda a drwg fel ei gilydd." Gydag yntau, cyfaddefwn yn ddiolchgar nad di-angen ydoedd y pwyslais ar yr "Efengyl Gymdeithasol," oherwydd i'r Eglwys fod, yn y ganrif ddiwethaf er enghraifft, yn bechadurus esgeulus o'r drefnneu'n hytrach,—yr anhrefn gymdeithasol, a methu'n druenus yn ei chyfrifoldeb tuag at ddynion a gwragedd a drinid mor anghyfiawn. Y mae ganddi hi ei dyletswydd diamwys tuag at y bywyd cymdeithasol y mae dynion a gwragedd a phlant bychain<noinclude><references/></noinclude> 23949ep3iabrwnsd25zvi2e72u4tsf8 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/101 104 82711 161591 2026-03-30T10:08:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161591 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>peth neu ddau yn ychwanegol. Wrth alw am ymgais deg i lunio corff o Ddiwinyddiaeth o'r iawn ryw, na themtier ni, nac i or-glodfori'r "hen " Ddiwinyddiaeth a oedd mewn bri yng Nghymru ganrif yn ôl, nac i gwbl ddifrïo'r un "newydd" a'i disodlodd hi yn nechrau'r ganrif hon. Yr oedd i bob un ohonynt ryw rin neu'i gilydd,—hynny sydd sicr. Ond yr oedd yr "hen" heb fod yn ddigon Cristionogol, a'r newydd heb fod bob amser nac yn grefyddol nac yn Gristionogol. Grym yr olaf, ei hamcan a'i nod yn rhy fynych, ydoedd bod yn newydd, ie, yn newydd-newydd. Wele, "newydd yma a newydd acw, newyddach heddiw na ddoe, newyddach gyda ni na chyda chwi"—dyna oedd nid ychydig o'i chymeriad. Gormod o gamp ydoedd ceisio bod yn newydd beunydd a byth, heb ymbellhau oddi wrth ei hangor yn y Beibl, ymwacáu oddi wrth hanfodion y Grefydd Gristionogol, ymnes au at y byd, ac ymlenwi â'i ddysgeidiaeth ef fwy-fwy'n barhaus. Erbyn heddiw, y mae'r rhod wedi troi eilwaith yn ôl, o'r tu arall heibio i'r Ddiwinyddiaeth newydd, at yr hen. Ac y mae i'r duedd hon ei harwyr yng Ngharl Barth a Brunner ac eraill. Rhaid diolch am y rhain, pe na bai ond yn unig am yr un peth hwn—iddynt fyned at eu gwaith o ddiwinydda mewn angerdd ac mewn ymgysegriad mawr, ac adfer i Ddiwinyddiaeth ei lle priod fel brenhines y gwyddorau. Nid ydynt eto wedi gorffen eu gwaith, ac ni ddaeth yr awr i'w pwyso mewn cloriannau. Diamau hefyd mai'r elfennau mwyaf amrwd, a negyddol efallai, yn eu dysg a enillodd fwyaf o sylw hyd yma gan lawer o'r rhai a sychedai am ddidwyll laeth y gair, ac estyn tafod sych i'w lyfu heb ymbwyllo dim. I amryw byd o'r rhain, ergyd y Ddiwinyddiaeth hon ydyw,—nid Iachawdwriaeth ond Pechawdwriaeth. Drwy nerth braich ac ysgwydd, ac yn enwedig â sgrech a bloedd a phob haerllugrwydd, y maent am ein darbwyllo mai'r erthygl gyntaf yn y Grefydd Gristionogol ydyw: "Credaf mewn Pechod, ac yn enwedig, yn y Pechod Gwreiddiol." Y mae mwy na digon o'r bwganod brain hyn yn ceisio codi dychryn ar aderyn y to ac ar y wennol a gafodd hyd yma nyth neu dŷ mewn capel ac eglwys. Deil y rheini i gredu mai "credaf yn Nuw Dad . . ." ydyw pob sylfaen pob credu Cristionogol; ac yna, os yn Nuw Dad ac yn Ei Fab Ef, nad cwbl lygredig ei grëedig<noinclude><references/></noinclude> 0y0spupgd3a6vkoc70ptbbno244ly3p Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/100 104 82712 161592 2026-03-30T10:09:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161592 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>J. P. Davies ein sylw at hynny. Mi af innau ran dda o'r ffordd gydag ef, pan ddywed bod rhai pobl yn ein mysg yn tueddu i wneuthur "Diwinyddiaeth " ei hun yn un o'r "duwiau" y soniais i amdanynt. "Cred y dynion hyn, ond inni gael Diwinyddiaeth Cymru yn uniongred y bydd ei chrefydd hefyd yn union." Y mae dynion o'r fath; oes, gyda ni; a dynion da eu bwriad ydynt, ac yn fawr eu gofal dros gyflwr adfydus y genedl fach hon sydd yn dioddef o gymaint pendro. Teg yw ceisio eu darbwyllo hwythau, yn eu sêl dros Ddiwinyddiaeth, a honno'n gwbl-gysylltiol a hunan-gynhaliol, fel petai, mai israddol ydyw hithau i rywbeth sydd yn uwch o lawer na hi, sef y Grefydd Gristionogol ei hun yn ei holl gyflawnder. Llawforwyn a ddylai Diwinyddiaeth fod, oddi mewn i'r tŷ a'i cynnwys hi, a holl Ysbryd y Gwirionedd a holl Gariad Crist " yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth "—a Diwinyddiaeth. Nid oes fawr ddim gronyn o le i amau na chafodd Diwinyddiaeth ei chyfle gan ddiwinyddion mawr yr Oesoedd Canol. Ac eto, nid oedd y Cristion anghymharol hwnnw, Sant Ffransis, ymhell ohoni pan feiddiodd eu beirniadu, a'u gosod yn is na'r angylion syrthiedig. Dwy ganrif a hanner yn ddiweddarach y mae Sant arall—a diamheuol sancteiddrwydd—yn taflu clobyn o ofyniad i'r rhai sy'n gwneud môr-a-mynydd o ddiwinyddiaeth yn unig. Bob yn llythyren, ac yn llin ar lin y gweddai inni ddarllen gofyniad Sant Thomas â Kempis. ''"Pa lesâd i chwi ddadlau'n ddwfn eich dysg am y Drindod os chwychwi ydych yn brin o ostyngeiddrwydd, ac am y rheswm hwnnw, yn digio'r Drindod ei hun? . . . Pe gwybyddech y Beibl cyfan ar dafod leferydd, ynghyd â gosodiadau'r philosoffyddion oll, pa les âd a fyddai, . . . heb feddu ar gariad a gras Duw?"'' Wedi eu darllen, a throchi ein llygaid ynddynt, nid oes ond cytuno, a chymhwyso'r un gofyniad atom ninnau, ac at y rheini ohonom sydd yn gor-ymffrostio yn eu deall diwinyddol. Rhy dda o lawer y gwyddom am y rhyw yma o ddiwinydd ac o bechadur—y gŵr sy'n ymollwng i wenu o glust i glust pan gaffo gysgod o gyfle i "ddangos y ddeddf ddiwinyddol a ŵyr, ac i lorio'r neb bynnag a feiddio gredu llythyren a sillaf yn wahanol iddo. Dygwn hyn o sôn am Ddiwinyddiaeth i ben drwy ddywedyd un<noinclude><references/></noinclude> 2pm0glp2rcr05gu0e4i6274cvc11unl Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/99 104 82713 161593 2026-03-30T10:11:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161593 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>blwmp ac yn blaen ar y Colegau Diwinyddol (fel y beiais hwy hefyd am ddiwreiddio'n myfyrwyr o gynysgaeddau eraill yn eu bywyd fel Cymry). Eithr condemniad llymach na dim o'r eiddof i ydyw hwn gan athro yn un o'r Colegau hyn. Ef ei hun sy'n dweud—ie, am y Coleg y mae ef yn athro ynddo, ei fod ''"yn gartref pob diawledigrwydd diwinyddol''". Fe ddylai athro fod yn siarad â chryn awdurdod am y Coleg y mae ef ei hun yn un o'r athrawon. Dyna'i dweud hi yn y frawddeg fechan hon. Unwaith eto, a allai Ddiawl ei hun ddymuno dim gwell na "diawledigrwydd diwinyddol"? Ac fe'i cafwyd, yn ôl addefiad yr athro hwn nad enwais—ond sy'n fyw heddiw, a hynny heb fod gan milltir i ffwrdd oddi wrth y llyfryn bach hwn ei hun. A gafwyd gwaeth na hynny sydd bwnc arall, ac anodd i'w ryfeddu i'w gredu. Eithr y mae un o bamffledi ''Urdd y Deyrnas'' mewn rhyw ystyr yn drosedd mwy fyth yn erbyn Diwinyddiaeth am ei fod gystal â gwatwar yr holl syniad o lafurio i adeiladu "corff" o Ddiwinyddiaeth o gwbl. Ni wnaem odid gam ag awduron y llyfryn hwnnw,—un o'r ddau'n Brifathro Coleg Diwinyddol ar y pryd, a'r llall i fod yn Brifathro cyn pen ychydig wedyn—ni wnaem gamwri mawr â hwy pe dywedem mai eu hagwedd hwy at Ddiwinyddiaeth ydoedd hwn:— {{center block| <poem> Rhoddwn y gorau iddi, ac ymwacáwn, Megis y gwnaethom ag Athrawiaeth yr Iawn. </poem> }} <br> Beth yw hyn namyn gwrthod y gwaith y mae hi'n ddylet—swydd ac yn fraint i ddiwinydd ei wneud â'i holl galon, â'i holl nerth ac â'i holl ysbryd? Beth arall ydyw ond poeri ar Frenhines y Gwyddorau oll? Y mae Cymru, y mae Colegau Diwinyddol Cymru, yn euog o'r anfad—waith hwn, heb un rhithyn bach o amheuaeth. A da i bawb ohonom, sydd o ychydig yn is na'r angylion, ei gydnabod a'i gyffesu—mewn gwir edifeirwch. {{***|5}} Yma, wrth reswm, y mae perygl arall, sef y perygl sydd efallai'n agored i bob rhinwedd, nid llai na'r perygl o fynd i eithafion. Y perygl yn y fan hon ydyw rhedeg i gredu mai Diwinyddiaeth ydyw pob peth, a chyhoeddi mai hi ydyw Alffa ac Omega crefydd i gyd. Da y geilw'r Parch.<noinclude><references/></noinclude> penqkm18ntbircpdzf4gwziu98cjhv5 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/98 104 82714 161594 2026-03-30T10:12:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161594 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r sail i'r to mewn gweithred o gariad at ein gilydd, dros ben "canolfur y gwahaniaeth," ac yn enw ein Gwaredwr ni oll? Neu, edrych am ryw hen Dŷ Cwrdd neu Gapel neu Eglwys—neu lecyn o dir moel yn unig,—a dyfod ynghyd yno i brofi o lawenydd ein Harglwydd mewn gweithgareddau creadigol ar y cyd? Drwy gyd-dynnu oll mewn gweithredoedd da, fe'n denid yn nes at Grist ac at ein gilydd. Fe ofala Duw am y canlyniadau. Ond odid na ddysgwn ninnau nad oes yr un oll o'n dulliau presennol o addoli yn gwbl ddigonol. Pa wedd bynnag am y dull a'r modd, y peth anhraethol bwysig ydyw ein bod yn cydnabod ein cyndynrwydd hyd yr awr hon, yn edifarhau am ein pechod hyd yma, ac yn ymroddi i wneud iawn am hynny, drwy faddau bawb i'w gilydd, ac ymdaflu i'r gorchwyl o chwilio am ffordd y cymod, glynu'n ddiflino ynddi nes dyfod ohonom at ddrws gobaith, a derbyn bendith yr Hwn a fydd yn ein tywys bob cam o'r ffordd honno, gan roddi inni nawdd a goleuni yn ôl ein hangen, a gras am ras. Duw ei Hun sydd yn ewyllysio i'r Dystiolaeth Gristionogol fod yn Dystiolaeth Unedig, ac Ef ei Hun yr un mor sicr â hynny, a'i dwg i ben, drwy roddi inni oll Ei Gariad Ef i'n harwain at Gyflawnder y Gwirionedd ynddo Ef. Hynny'n unig a ddyry ystyr i weddi Crist: ''"Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt Ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot Ti, fel y byddont hwythau un ynom ni, fel y credo y byd mai Tydi a'm hanfonaist I."'' {{***|5}} Trown eto at Ddiwinyddiaeth. Yma hefyd y mae mesur o gytundeb. Dywedais bethau celyd am y Ddiwinyddiaeth a ffynnai yng Nghymru a Phrydain oll, debyg—yn chwarter cyntaf y ganrif hon. A'm cwyn bennaf yn ei herbyn ydoedd,—nid ei bod hi'n "Newydd" neu'n Hen"; ond, yn hytrach ei bod hi weithiau'n Hen ac weithiau'n Newydd, a beunydd a byth, efallai, yn Newydd-newydd. Mewn gair, y feirniadaeth ydoedd ei bod hi'n newid ei lliw a'i llun o law i law, megis, yn anghyfrifol ac yn anwadal. Fe ellid, yn ddiau, enwi'r diwinyddion—os diwinyddion hefyd a fu'n rhy chwannog i gyhoeddi barn ar yr "Hen Ddiwinyddiaeth" cyn ymenyddu digon i osod gwell yn ei lle. Ond yn lle eu henwi a'u dilyn o un i un, yr hyn ni allwn mewn gwirionedd, fe roddais y bai yn<noinclude><references/></noinclude> knnqu87hhek2c9edp14ps36xe50uan3 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/97 104 82715 161595 2026-03-30T10:14:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161595 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gilydd—i ddarllen yr Ysgrythurau gyda'n gilydd; i weddïo dan nawdd ein gilydd ac yng ngŵydd ein gilydd. Ie deuwn a darllenwn, deuwn a gweddïwn; deuwn i ymarfer â bod yn un ac yn gytûn yn yr un lle. Ac eto, ie, deuwn i drin ac i drafod, i'n dysgu ac i ddysgu,—i gyd-ymddiddan am bynciau'r ffydd ac am yr athrawiaethau oll. Y mae'r Esgob yn dywedyd y peth ar ei ben, fel hyn:— ''"Y mae'n rhaid inni ddod at ein gilydd ar dir diwinyddiaeth, i geisio deall ein gilydd a pharchu ein gilydd; i geisio deall a gwerthfawrogi'r weledigaeth arbennig sydd gan bob un o'r Cyfundebau."'' Ardderchog! meddaf innau, gan hyderu â'm holl galon mai felly y bydd hi'n ebrwydd. Ac y mae mwy na hanner awydd arnaf grefu ar i'r Esgob fod yn broffwyd ac yn lladmerydd y meddwl hwn yng Nghymru heddiw. Fe ŵyr ef yn dda am un enghraifft o weithred gyffelyb pan wahoddodd Undeb yr Annibynwyr y Parch. G. O. Williams o'r Eglwys yng Nghymru i'w annerch ar ran bwysig o'r pwnc hwn, ac fel y gwnaeth yntau, gyda gwybodaeth a gwyleidd-dra yn ymblethu â'i gilydd, er budd ac adeiladaeth i'w wrandawyr. Cyn gadael pwnc yr "uno "—neu'n hytrach y cyd-dynnu a'r cyd-weithredu creadigol, gan ymestyn beunydd at nod yr eglwys Fuddugoliaethus—y mae cryn awydd ynof awgrymu gweithred adeiladol gytûn. Pwy ni chlywodd am waith y Dr. Macleod yn Ynys Iona? Pwy ni chafodd ryw glyw o sôn am ''Agapé'' ym mynyddoedd yr Eidal? Yno y mae brawdoliaeth o bobl yn dyfod ynghyd, i weddïo ac i weithio, i dorri bara ac i godi bywyd, i saernïo adeilad ac i sancteiddio Cymun, i estyn maen at faen ac i dywys meddwl at feddwl, ysbryd at ysbryd; mewn gair, i gyd-ymuno ac i gyd-ymgysegru, gorff, meddwl ac enaid, mewn llafur creadigol. Oni ellir rhywbeth tebyg—neu debyg-annhebyg-yng Nghymru?—rhyw gylchyn bach o fechgyn a merched Cymru, ymroddedig, ymeneiniedig, i ddyfod o hyd 'am dymor hud a miri haf,' i godi adeilad a ddeuai, yn y man, yn dynfa i eraill o gyffelyb fryd, ''o bob enwad yng Nghymru.'' A ydyw hi tu hwnt i'n calon, i'n dychymyg a'n darfelydd, ac i'r cariad Cristionogol, i fwrw bryd ar anturiaeth o'r fath? Ac a ydyw hi allan o bob rheswm inni droi'n llygaid tuag at un neu ragor o'r hen Fynachlogydd, i'w hail-adeiladu<noinclude><references/></noinclude> i1rb1xkwout4vgxvkd06p6ei6ehkmt7 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/96 104 82716 161596 2026-03-30T10:15:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161596 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Deyrnas . . . megis yn y Nef, ''felly ar y ddaear hefyd''"—h.y. ''yma yn awr'', yng Nghymru, ''yn awr'' yng Nghred, ''yr awr hon'' ar y ddaear ''heddiw''. Ac os yw Crist yn disgwyl sylweddoli ei Deyrnas Ef—sydd yn fwy na'r Eglwys ac yn lletach na hi—ymhlith dynion y dydd a'r dwthwn hwn, pa faint mwy y disgwyl Ef sylweddoli Y Wir Eglwys? ie, yma i lawr, ac yn ein plith ni? Oherwydd paham, yr ydwyf yn gorfod credu mai ewyllys Crist ydyw am inni ei gynorthwyo Ef i sylweddoli Y Wir Eglwys ar yr holl ddaear, ac, o ganlyniad, ymysg ei bobl yng Nghymru. Ni ellir hynny tra bo'r "darnau," fel y gelwir hwy, "y darnau drylliedig," yn byw ac yn bod ar wahân i'w gilydd, a hyd yn oed mewn rhyw lun o elyniaeth at ei gilydd; ie—gaf i fentro ychwaneg? a dweud elyniaeth at Grist ei Hun, Unig Ben yr Eglwys? Dyma paham yr amheuais i'n fawr a oedd gennym ni heddiw y fath beth â gwir Eglwys o gwbl—dim ond darnau drylliedig. Nid mor bell ydyw'r farn hon â'r un a fynegwyd gan y diweddar Archesgob Temple. ''"I believe in the Holy Catholic Church, and sincerely regret that it does not at present exist."'' Gwir yw fod llawer o sôn heddiw am "uno'r enwadau". Rhy aml, o dipyn, ydyw diweddu'r sôn i gyd mewn mwg a tharth, ac weithiau mewn gwg a gwarth. Deufis neu dri sydd er pan drafodwyd yr uno hwn rhwng y ddau gyfundeb Methodistaidd, a phryd y mynegwyd, gyda'r bychander arswydus a berthyn inni, yr ofn mai llyncu'r lleiaf gan y mwyaf a fyddai'r canlyniad! Dyna faint ein gofal calon ni dros Grist yng Nghymru heddiw, heb gymaint â breuddwydio am wneud "y ddau yn un" a datod canol-fur y gwahaniaeth rhyngom ni oll a'n gilydd! O epil yr Anghrist! Nid cymell yr amhosibl ydwyf i, nid annog yr hyn sydd yn dra anodd nid annog i ddifodi'r gwahaniaethau hanfodol, nac ychwaith i rith-ymgymodi drwy gau llygad ar y rhwystrau. Y mae onestrwydd unplyg o bob tu yn gwbl anhepgor, ac at hynny hyder gostyngedig, ac at hyder, dangnefedd, a Ffydd, Gobaith, Cariad, wedi blaenu'r cwbl gan Mewn edifeirwch oherwydd y rhwygiadau a fu ac a erys. ympryd a gweddi, fe ddylem yn ddioed ddyfod at ein<noinclude><references/></noinclude> f71kfcqpjzt3a8izuqrvu89xt5vtej9 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/95 104 82717 161597 2026-03-30T10:16:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161597 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''ffydd, un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll."'' Ninnau! a wnawn ni gymaint ag anelu at hynny; ond yn hytrach ymfodloni ar ein rhwygiadau? Nid oes modd inni osgoi casgliad yr Esgob, sef ein bod o'r herwydd "yn anghofio'r pechod a'r tramgwydd sydd yn ein hymraniadau". Ni ddywedaf mai mewn pechod yr esgorasom ar ein cyfundebau gwahanol, er methu â gwadu nad oedd yno bechod o'r naill du ac o'r llall pan ymddangosodd y rhain oll yn eu tro. Erbyn heddiw, prun bynnag, wedi hen fyned o'r achosion cychwynnol yn angof, ac ar ôl i amser â'i law feddyginiaethus leddfu llawer ar y gwahaniaethau arwynebol—erbyn heddiw, meddaf, daeth yn bryd inni nesu at ein gilydd, nid yn ddiau i doddi i'n gilydd, ond heb ddim dwywaith, i wynebu ein gwahaniaethau hanfodol yn deg, mewn hyder gostyngedig ac yn y cariad Cristionogol. Heddiw daeth yr awr inni oll edrych yn llygad cerydd yr Apostol wrth y Corinthiaid, sef "bod cynhennau yn eich plith chwi." Fel y Corinthiaid, yr ydym ninnau'n dywedyd, yn ein ffordd ein hunain:—" Yr ydwyf i yn eiddo Calvin neu Howel Harris; minnau yn eiddo John Wesley; myfinnau'n eiddo'r graig hon o'r enw Pedr neu yn eiddo'r graig arall a elwir Bedydd; a myfi yn eiddo'r Eglwys Lân Gatholig neu'n eiddo'r Fam Eglwys." Wele anghenfil o Bechod." Nid oes ond gofyn: "a rannwyd Crist"—ac fe wyddom yr ateb; fe'i rhanasom, ac fe'i rheibiasom. Onid pechod yw hyn? Ac onid y pechod hwn, ynghyd â'n lliaws bechodau eraill, a bair ein bod yn wrthrychau gwawd gan y byd? {{***|5}} Ai gwir a ddywed Valentine wrth ysgrifennu "na ellir yn y byd hwn ond darn o eglwys, ac na cheir yma fyth y Wir Eglwys, yr ''ecclesia''?" Ymddengys hynny i mi'n gystal â chyhoeddi na sylweddolir ewyllys Crist i'w Eglwys yn y byd hwn. Ac yn ôl y goleuni sydd gennyf ar hyn o bryd, nid oes mo'r rhithyn lleiaf o duedd ynof i gredu dim o'r fath. Digoned y prawf hwn am y tro; sef bod yr Eglwys yn un o gyfryngau pennaf Duw i sylweddoli ei Deyrnas ar y ddaear. Yn awr, yn y pader a ddysgais i ac a ddysgasom oll, y mae Crist yn ein tywys i weddïo—" Deled Dy<noinclude><references/></noinclude> 5g50bmczvltc1q6oorib3wdtbfyo52c Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/94 104 82718 161598 2026-03-30T10:17:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161598 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ydyw hynny. Llawenhawn, ond nid heb ddrwg-dybio mai'r rheswm am hynny ydyw—yng ngeiriau'r Esgob unwaith eto—"nid am ein bod yn caru ein gilydd yn fwy ac yn well, ond am ein bod yn ddifater, nid yn unig am egwyddorion crefyddol ond am lu o bethau pwysig eraill." Nid oes mo'i wadu. Ffaith alarus sydd wedi esgor ar y ffaith ddaionus hon. Difaterwch a goddefgarwch—hynny ac nid cariad mwy, na deall mwy. Ond y mae goddefgarwch yn rhinwedd er pob siarad, ac yn rhinwedd o bwys. Gyda'r rhinwedd hwn y mae peth gobaith inni ymhel â'n rhwygiadau, heb ymrwygo o'r newydd. Dyry'r Esgob ei hun esiampl odidog inni oll yn y frawddeg lifeiriol ymgeleddus hon:—"os am gymryd argyfwng Cymru o ddifrif, rhaid i ''mi'' edifarhau, a'r cyfundeb Cristionogol y perthynaf iddo." Gofynnaf innau o lawenydd fy nghalon: "a allai angel ei hun ddywedyd yn amgenach?" Gyda llai o lawenydd, nid gyda llawer o obaith, gofynnaf eto—a ydyw pob un o arweinwyr crefyddol Cymru'n barod? ie, yr un mor barod ag Esgob Bangor, i ymollwng i'r un datganiad? i ymdeimlo â'r un anghenraid? i ymeneinio â'r un meddwl hwn, ac i ymuno yn yr un a'r unrhyw edifeirwch? Dywedwn, ynteu, fod rhyw lun o oddefgarwch yn ffynnu rhwng yr enwadau a'i gilydd. Eithr gofynner hefyd, ai digon hynny? Ai ''godde''f ein gilydd ydyw'r unig beth a ddisgwylir gennym?—rhyw arddel math o gyfeillgarwch dros ysgwydd megis? rhyw fyw'n ddi-gynnen o hirbell, am ein bod yn llwyddo i fyned o'r tu arall heibio i'n gilydd? Ai hyn ydyw ''eitha''f gofyn Crist arnom ni, a ninnau'n rhwygo Ei gorff Ef? A ydyw cymaint â hyn, yn fwy na'r ''cam cyntaf'' un a fyn Ef inni ei gerdded? Sylwaf fod Tegla'n gallu cyfeirio ato fel canlyniad ein diymadferthedd crefyddol, ac fel "cymhwyso mân feddyginiaethau, megis cais i uno'r enwadau a phetheuach felly." Efallai mai'r hyn sy'n ei boeni ef ydyw mai o wendid y gwahanol enwadau y cyfyd y cri am uno ac aduno! Ac, yn wir, os o hynny y cyfyd, ac os o hynny'n unig, diau nad o gymhelliad ysbrydol a Christionogol. Bai mawr fuasai hynny, gan y dylai'r meddwl a'r delfryd o undeb Cristionogol godi o gymhellion mor deilwng â'r nod. A'r nod yn sicr ydyw—''"un corff ac un Ysbryd . . . Un Arglwydd, un''<noinclude><references/></noinclude> l9zqs8hh3smjfw1jplgvojq1dj98k7j Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/93 104 82719 161599 2026-03-30T10:19:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161599 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oddi mewn i Gapel ac Eglwys, yn esmwyth arni yn Seion, ac yn gwerthu'r ''"cyfiawn am arian a'r tlawd er pâr o esgidiau".'' Cododd proffwyd i'w barnu ac i'w rhybuddio, a'i enw oedd Keir Hardie. Ond yr oedd ef a'i genadwri mor wrthodedig gan yr Eglwys ag ydoedd y proffwyd Amos gan yr offeiriad Amaseia gynt, neu Iesu Grist gan ei offeiriaid cyfoes yntau. Medasom ninnau yr hyn a heuasom. Erbyn heddiw, y mae Archesgob Caerefrog yn cyfaddef bod Comiwnyddiaeth wedi dyfod yn "efengyl" i filoedd ar filoedd o'n bechgyn a'n merched gorau. Nid oes gennym le i ymwared rhag y farn hon ond drwy edifarhau mewn sachliain a lludw. Ni welaf fod yr un o'r ysgrifenwyr yn anghytuno ar hyn ychwaith, er na ddywed y mwyafrif fawr ddim amdano. Eithr yn fy myw, ni allaf i lai na datgan mai arnom ni, Gristionogion eiddil a gwir annheilwng, y mae'r bai am lwyddiant anghymharol Comiwnyddiaeth dros wyneb y rhan orau o'r byd, erbyn heddiw. Lle'r oedd ein crefydd ni'n wan ac yn annelwig, yr oedd eu crefydd hwy yn gadarn ac yn ddiymwad. Pan nad oeddym ni'n dymuno bod ond megis bwganod brain ar faes y ''Wir'' Efengyl, yr oeddynt hwy "megis yn ymguddfa rhag y gwynt ac yn lloches rhag y dymestl ar faes yr Au Efengyl. O nyni o ychydig ffydd! O nyni, o lai nag ychydig gariad! O nyni! na roddasom gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i Grist ei Hun pan ddaeth heibio inni yn ffurf gwas a morwyn, tlawd ac anghenus, y di-waith a'r di-obaith! {{***|5}} Wrth sôn am frad yr eglwysi, euthum yn fy mlaen, yn yr ail ysgrif, i ddywedyd mai "drylliau a darnau o Eglwys sydd gennym yng Nghymru heddiw,"—ac yn wir, do, i holi "a oes gennym ni'r dirgelwch hwnnw heddiw." Nid heb ryw gymaint o ymwrando ac o ymglustfeinio, ac yn sicr ddigon, nid heb ymdeimlo'n ddwys ag amheuon lawer o siom ac eiddigedd yr anturiais fynegi'r sylw hwn. Gafaelodd y rhan fwyaf o'r ysgrifenwyr ynddo. Efallai mai yma yr anghytunwn fwyaf â'n gilydd. Yn garedig iawn, gofyn yr Esgob am imi egluro ac ymhelaethu. Cyn gwneud hynny, hyfryd gen innau yw galw sylw at ei lawenydd ef oherwydd bod "hen frwydrau chwyrn y gorffennol, rhwng enwad ac enwad, wedi peidio". Peth i fod yn llawen iawn o'i blegid<noinclude><references/></noinclude> ne6wel44ib8fttejolgo63qw4xih8gf Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/92 104 82720 161600 2026-03-30T10:19:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161600 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>geisio dangos hynny'n ddiweddar iawn mewn llyfr dewr ar ''Dymer Gorllewin Ewrop.'' Gafaelwn, ynteu, â'n holl nerth yn y sicrwydd hwn,—na ddaeth y diwedd, nac yng Nghymru nac yng Nghred. Efallai ei bod hi'n unfed awr ar ddeg arnom oll. Ond nid yw hi'n ddeuddegfed awr o'r dydd eto. Fel Cristionogion, y mae gennym y gobaith mai Duw biau'r byd, a'r ffydd yn ei allu a'i ddymuniad Ef i'w achub a'r . . . Cariad. Na; rhaid imi gyfaddef fod hwn yn syndod o brin. Mwy onest yw cyfaddef mai dau o dri rhinwedd yr Apostol a feddwn ar y gorau, gan hyderu nad ydyw hynny'n ddigon i'n llwyr amddifadu o'r hawl i arddel yr enw Cristionogion. Sut bynnag am hynny, yr ydym ni, y cysgod ar bared o Gristionogion, yn ddigon parod i gredu mai Duw biau Gymru a'r Byd, a bod tynged y naill a'r llall yn ddiogel yn ei ddwylo Ef. Ond y mae hi'n anghenraid arnom ddeall hefyd na cheidw Duw na Chymru na Chred os ydynt yn ymgyndynnu yn eu pechod, ac yn ymgynghori ynghyd yn erbyn ei Enw Ef, ac yn erbyn ei Fab Ef, ac yn erbyn ei Deyrnas Ef. Rywfodd neu'i gilydd fe'n gyrrir i ofni mai hynny sydd yn digwydd, a myned ohonom ninnau, yng nghaledrwydd ein calon a'n hanghrediniaeth, yn rhy ddall i ganfod maint ein pechod a'n ffieidd-dod. Ai hyn yw colyn yr argyfwng? {{***|5}} Hyd yma, ynteu, hyd at gydnabod Argyfwng a'i weld yn anrheithio bywyd o'r bôn i'r brig, yr ydym oll yn gytûn. Yr ydym, gyda hynny, yn cytuno mai yn y peth gorau a feddwn y mae gwreiddyn yr Argyfwng, mai yn ein crefydd y mae'r gwenwyn yn gweithio gyntaf, gan fyned ar led oddi yno i lygru'r holl fywyd. Llawer o bethau chwerw a ddywedais i am ddrygau Crefydd Cymru; ac y mae Tegla yn ymhelaethu ar hynny, gan bwysleisio mor arwynebol oedd "y cymhwysiad ar Gristionogaeth" hyd yn oed yn nydd "ysblander crefyddol Cymru". Ysywaeth, nid oes gennym ond plygu pen, derbyn y cerydd a gwrido, a chydnabod, er cywilydd inni, mai yma y cafodd Comiwnyddiaeth y llaw uchaf arnom. Yr oedd ganddi hi, yn ei dyddiau cynnar, ddiddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol, a dig sanctaidd yn erbyn y camwrïau a wneid â gweithwyr a gwerinwyr gan Gymdeithas, pan oedd honno bron i gyd<noinclude><references/></noinclude> tn3mlslxe11cvoq26m2iozbkk43ou75 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/91 104 82721 161601 2026-03-30T10:20:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161601 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DIWEDDGLO.}} Fy mraint i yn awr ydyw ceisio bwrw golwg dros sylwadau'r cyfeillion a fu mor garedig â chyd-anturio i'r drafodaeth. A'm gweddi ydyw am allu gwneud hynny mewn gostyngeiddrwydd mawr ac mewn ysbryd wedi ei drochi gan frawdgarwch a chariad, ie, Cariad Crist, "yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth ". Y peth a'm tery'n eglur iawn ydyw'r graddau helaeth o gytundeb sydd rhyngom oll. Fe gytunir gan bob un o'r bron fod yna ryw ddiffyg mawr ar ein crefydd ni yng Nghymru heddiw. Cytunir hyd yn oed i fynd cyn belled â dweud bod y diffyg hwnnw mor enfawr nes haeddu'r enw—Argyfwng. Ni ddywedodd yr un ohonom fod yr argyfwng hwn yn gyfyngedig i Gymru, na dal ei fod yn waeth yma nag mewn unrhyw wlad arall y gwyddom amdani. Cydnabuwyd, yn wir, ei fod gyfled â holl wledydd Cred, onid gyfled â'r byd crwn cyfan. Eithr gan mai Cymry ydym ni, gan mai'r wlad fechan hon ydyw maes arbennig ein gofal ni, gan mai yma y dewisodd Duw le i ni roddi pen i lawr, a chartref—oblegid hynny, cyd-ddeallwyd mai yma y disgwylir inni weithredu'r ffydd sydd ynom, ac ymgeleddu'r gwerthoedd a ymddiriedwyd i'n gofal. Yn y fan yma, y mae gofyn bod yn dra gofalus. Peidiwn â disgrifio'r sefyllfa yng Nghymru—nac ar Gyfandir Ewrop yn waeth nag ydyw. Nid rhaid inni ymuno â'r gwŷr hynny na welant lygedyn o obaith yn holl Wareiddiad y Gorllewin. Lleng yw proffwydi barn a dinistr, er dyddiau Spengler hyd ddyddiau T. S. Eliot, Lewis Mumford, K. A. Porter a William Shiner, heb anghofio'r Cymro—T. Gwynn Jones. Nid rhaid inni ymrestru o dan yr un faner â'r rhain, ac nid rhaid, ychwaith, inni gredu gyda'r hanesydd Toynbee ein bod yn byw eisoes yn y cyfnod wedi darfod Cristionogaeth, y cyfnod ''post-Christian'' fel y'i gelwir ganddo ef. Nid oes mo'r fath raid o gwbl. Credwn â'n holl galon, a chyhoeddwn hynny'n groyw, nad ydyw hi ar ben arnom. Nid yw hi ar ben ar Gymru, er amled ei pheryglon. Nid yw hi ar ben ar Wareiddiad y Gorllewin,—a da odiaeth o beth ydoedd i'r Athro Crane Brenton<noinclude><references/></noinclude> lcnt9a8auwlsnhg2bwtj4ibyl9h8hj9 161602 161601 2026-03-30T10:20:59Z AlwynapHuw 1710 161602 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DIWEDDGLO.}}}} Fy mraint i yn awr ydyw ceisio bwrw golwg dros sylwadau'r cyfeillion a fu mor garedig â chyd-anturio i'r drafodaeth. A'm gweddi ydyw am allu gwneud hynny mewn gostyngeiddrwydd mawr ac mewn ysbryd wedi ei drochi gan frawdgarwch a chariad, ie, Cariad Crist, "yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth ". Y peth a'm tery'n eglur iawn ydyw'r graddau helaeth o gytundeb sydd rhyngom oll. Fe gytunir gan bob un o'r bron fod yna ryw ddiffyg mawr ar ein crefydd ni yng Nghymru heddiw. Cytunir hyd yn oed i fynd cyn belled â dweud bod y diffyg hwnnw mor enfawr nes haeddu'r enw—Argyfwng. Ni ddywedodd yr un ohonom fod yr argyfwng hwn yn gyfyngedig i Gymru, na dal ei fod yn waeth yma nag mewn unrhyw wlad arall y gwyddom amdani. Cydnabuwyd, yn wir, ei fod gyfled â holl wledydd Cred, onid gyfled â'r byd crwn cyfan. Eithr gan mai Cymry ydym ni, gan mai'r wlad fechan hon ydyw maes arbennig ein gofal ni, gan mai yma y dewisodd Duw le i ni roddi pen i lawr, a chartref—oblegid hynny, cyd-ddeallwyd mai yma y disgwylir inni weithredu'r ffydd sydd ynom, ac ymgeleddu'r gwerthoedd a ymddiriedwyd i'n gofal. Yn y fan yma, y mae gofyn bod yn dra gofalus. Peidiwn â disgrifio'r sefyllfa yng Nghymru—nac ar Gyfandir Ewrop yn waeth nag ydyw. Nid rhaid inni ymuno â'r gwŷr hynny na welant lygedyn o obaith yn holl Wareiddiad y Gorllewin. Lleng yw proffwydi barn a dinistr, er dyddiau Spengler hyd ddyddiau T. S. Eliot, Lewis Mumford, K. A. Porter a William Shiner, heb anghofio'r Cymro—T. Gwynn Jones. Nid rhaid inni ymrestru o dan yr un faner â'r rhain, ac nid rhaid, ychwaith, inni gredu gyda'r hanesydd Toynbee ein bod yn byw eisoes yn y cyfnod wedi darfod Cristionogaeth, y cyfnod ''post-Christian'' fel y'i gelwir ganddo ef. Nid oes mo'r fath raid o gwbl. Credwn â'n holl galon, a chyhoeddwn hynny'n groyw, nad ydyw hi ar ben arnom. Nid yw hi ar ben ar Gymru, er amled ei pheryglon. Nid yw hi ar ben ar Wareiddiad y Gorllewin,—a da odiaeth o beth ydoedd i'r Athro Crane Brenton<noinclude><references/></noinclude> pihw11gw4wfd4pngcnuopoqw50a26yn Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/90 104 82722 161603 2026-03-30T10:22:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161603 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>crefyddol? Aros gydag arwyddion y dolur a'r clefyd, a chael hwyl wrth eu trin a'u trafod? Buom am genhedlaeth gyfan wrth y dasg hon. A ydych yn cofio am y cyfarfod bythgofiadwy hwnnw yng Ngholeg Bangor pan oedd Saunders Lewis yn ymgeisydd am sedd y Brifysgol? Yno yr oedd myfyrwyr ac athrawon a dysgodron y ddinas yn llu mawr iawn. Ar ddiwedd ei anerchiad, cofiwch, gofynnwyd iddo a oedd rhyw amod arbennig y dylid ei chyflawni cyn y caffai Cymru sylweddoli ei gobeithion gwleidyddol, ac ennill braint a chyfrifoldeb cenedl rydd. Petrusodd Saunders Lewis am funud cyn ateb,—yna rhoddodd ateb a syfrdanodd y gynulleidfa fawr Oedd, yr oedd amod,—ni allai ef weled y genedl yn medru cyflawni unrhyw gamp heb i ddiwygiad crefyddol ei hadfywio hi. Y mae pob gweinidog yng Nghymru heddiw yn deisyf bendith ar eich pen am i chwi, a roes gymwynasau lawer i'ch cenedl, alw mor daer arni i dderbyn "y ffisigwriaeth nefol a elwir edifeirwch i gyfog y drwg cyn y greddfo'n rhybell". {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nz3vs9dupy0zzum7c68yqpdaxc0dmsw Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/89 104 82723 161604 2026-03-30T10:22:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161604 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr ydym yn ymdristáu wrth feddwl am y "darnau eglwysi " sydd yng Nghymru. Y mae hynny yn anochel,—ni ellir yn y byd hwn ond darn o eglwys, ac ni cheir yma byth y Wir Eglwys, yr ''ecclesia''. Nid yw honno gan neb na chan unrhyw enwad pa beth bynnag a fo eu honiadau. Ymgyrraedd at honno a wnawn, a methu yn ein hymgais yn aml, ond yn ôl ein hymgais y mae Duw yn bendithio y darnau eglwysi hyn. Y mae'r llythyr hwn yn rhy faith, y mae arnaf ofn, ond y mae'n rhaid imi ofidio oherwydd y paragraff hwn gennych: "Awgrymaf nad llawer o'n gweinidogion sydd yn ymgysegru o lwyr fryd calon i'r llafur difrif hwn o weddnewid capel ac eglwys i'r fath raddau nes dyfod ohonynt yn wir lun a delw Ei Eglwys Ef." Yn rhwydd y cyffesaf nad oes neb ohonom yn deilwng o fod yn weinidog yr Efengyl sanctaidd, na neb ohonom na ddichon iddo ymroi yn llwyrach i'w alwedigaeth arswydus sanctaidd. Nid oes gennyf wybodaeth fanwl am weinidogion unrhyw enwad ond f'enwad fy hun, a thyf fy mharch at y rheini yn fwy o flwyddyn i flwyddyn. Y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn llunio pedwar ugain o bregethau bob blwyddyn, ac yn ychwanegol at hynny yn llunio rhaglenni i'w Gobeithluoedd a Chyfarfodydd y Bobl Ieuainc, yn ymweld â chlaf, ac yn diddanu'r anghysurus, a beunydd yn codi rhyw gi cloff dros y gamfa. Hawyr bach! beth pe gofynnid i athro coleg am bedwar ugain darlith newydd bob blwyddyn? Ac y mae'r gydnabyddiaeth a roddir i weinidogion yn warth gwlad bellach, y mae'n syndod i mi, ac ystyried y cyni a'r pryder a'r tlodi sydd yn eu cartrefi, eu bod yn medru gwneud degwm y gwaith a wnânt. Awgrymaf eich bod yn ychwanegu un ysgrif arall at y gyfres hon dan y pennawd "Brad y Lleygwyr,"—nid oes fawr o argoelion bod hyn yn anesmwytho dim arnynt. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, darllenais gryn ddwsin o erthyglau meistrolgar yng nghyfnodolion y gwahanol enwadau yng Nghymru yn traethu mor ddewr â chwithau am y dirywiad enbyd sydd ymysg ein cenedl, ac yn galw mor ddurol â chwithau am inni oll edifarhau, a gweinidogion oedd eu hawduron. Cyn cloi y llythyr hwn, ac un digon blêr a sbonclyd ydyw hefyd, y mae chwant arnaf fynegi peth o'm hanesmwythyd. Onid oes perygl inni ddioddef oddi wrth ryw fath o ''hypochondria''<noinclude><references/></noinclude> dtuohsfzko6y1jarzwnwe96gd35idxs Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/88 104 82724 161605 2026-03-30T10:23:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161605 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude> peth nobl ydyw, llawforwyn crefydd a'i hamcan ydyw diogelu gwareiddiad, ac yng Nghymru codwyd ein gwareiddiad ar seiliau Cristnogol. Ymgroeswn rhag i'n gwleidyddiaeth ni fynd i ddwylo'r di-dduw ac i ddwylo'r bobl hynny nad oes ganddynt falchder yn yr etifeddiaeth Gristnogol Gymreig. Nid ydym yn hawlio y dylai pregethwyr a gweinidogion siarad yn awdurdodol ar bob pwnc politicaidd, ond ar bob pwnc sydd ag <nowiki>'</nowiki>''issues''<nowiki>'</nowiki> mawr moesol ynghlwm wrtho, dylent fedru llefaru yn ddiamwys, a phynciau felly ydyw pynciau'r dydd yng Nghymru heddiw Y mae'n rhaid wrthym ymyrraeth â gwleidyddiaeth, canys oni wnawn hyn yr ydym yn cydnabod bod un darn o fywyd na ddylai Crist fod yn Arglwydd arno, ac os oes darn o fywyd y mae'n hwyr bryd inni roddi cais ar ei ennill iddo Ef, y bywyd gwleidyddol Cymreig ydyw hwnnw." Yr wyf yn cyd-ofidio â chwi oherwydd yr esgeuluso sydd ar ddiwinyddiaeth, ac os caf ddyfynnu eto o araith a draddodais yn ein Hundeb yn Amlwch: "Aethom i gynnig atebion bach i gwestiynau bach, ac yn ôl un feirniadaeth ddeifiol yr ydym yn ceisio 'ateb cwestiynau nad oes neb yn eu gofyn'. Dyma sy'n digwydd pan yw'r pulpud yn gadael priffordd fawr athrawiaeth iachus a diwinyddiaeth gadarn. Pregethu athrawiaethau ydyw'r pregethu mawr. Aethom yn swil o ddiwinyddiaeth, a gwaeth na hynny, aethom i achwyn arni, a gwaeth eto, aethom i ymffrostio yn ein hanwybodaeth ohoni, a hawlio hynny'n rhinwedd. Ymgais dan ddisgyblaeth ydyw diwinyddiaeth i chwilio'n llawnach a mynegi'n effeithiolach neges yr Efengyl y gelwir arnom i'w chyhoeddi, ac ni allwn byth hepgor cymorth y llawforwyn deg hon". Y mae'n amheus gennyf a ellir beio'r colegau diwinyddol am y sefyllfa anfoddhaol hon,—o leiaf y mae'r athrawon sy'n hyfforddi'r myfyrwyr mewn diwinyddiaeth heddiw yn ein colegau diwinyddol yn wŷr go gadarn. A minnau'n ysgrifennu'r llythyr hwn y mae cyfrol ddiweddaraf y diwinydd praff hwnnw, Emil Brunner wrth fy mhenelin, "Eternal Hope," ac achwyn y mae ef ein bod wedi bwrw athrawiaeth y pethau diwethaf o'n diwinyddiaeth, a diwinyddiaeth heb obaith ynddi ydyw diwinyddiaeth felly, yn creu ofn llethol a dimyddiaeth (nihilism) ym mynwesau dynion, hi hefyd sydd yn peri i ddynion goluro marwolaeth mewn lliwiau teg ac yn gyfrifol am fraenaru'r tir i dotalitariaeth. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jwfkdddb8m36lc5cxeowg72jxeom399 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/87 104 82725 161606 2026-03-30T10:25:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161606 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymysg nodau'r dirywiad y mae diwylliant yn dihoeni, dylanwad crefydd ar drai, materoliaeth a'r iaith Gymraeg yn wrthodedig, eich rhestr chwi yw hon, ac yn yr wythdegau o'r ganrif ddiwethaf,—dyna eich awgrym, y dechreuwyd ymglywed ag ef o ddifrif. Dyna'r pryd y dechreuodd y gyfundrefn addysg estron ddwyn ffrwyth, yntê? Buoch yn rhy dirion, a dylai eich clatsian i'r gyfundrefn honno fod yn llawer iawn trymach. Buoch chwi a minnau ar daith genhadol droeon yn annerch tyrfaoedd yn Sir Gaernarfon dros Blaid Cymru, ac yn dwrdio llawer ar y "peiriant llofruddio",—brawddeg a luniwyd gan Padraig Pearce i ddisgrifio "y peiriant mwyaf erchyll a dychrynllyd a luniwyd gan Loegr i ddiraddio Iwerddon," sef, ei chyfundrefn addysg. Y mae eto yn wir am y rhan fwyaf o ysgolion Cymru, ac yr oedd yn wir mawr yn niwedd y ganrif ddiwethaf,—peiriannau oeddynt yn dysgu ein plant i wadu yr hyn a ddylai fod yn sanctaidd ganddynt, yn eu dysgu i wadu eu cenedl a'u tras a'u hawliau a'u cyfrifoldeb. Oni ddywedodd un o'n llenorion a'n proffwydi mawr ni y byddai plant llawer ardal yng Nghymru yn fwy diwylliedig a gwâr pe na chodid ysgol yn eu pentrefi erioed? Y mae eglwysi Ymneilltuol Cymru yn haeddu llawer iawn mwy o glod gennych—a'u gweinidogion—am iddynt wrthsefyll dylanwadau llofruddiol y peiriant addysg estron, ac oni bai am eu hymroddiad dewr buasai paganiaeth yn fwy o remp yng Nghymru heddiw. Yr oedd yn syn gennyf i chwi osgoi gwedd boliticaidd y dirywiad. Ai anghofio a wnaethoch am funud homili fawr Emrys ap Iwan ar "Gymru Gelwyddog?" "Paham, er enghraifft, y mae'r Cymry mor chwannog i ddywedyd celwydd? am eu bod yn llwfr. A phaham y maent yn llwfr? Am eu bod wedi eu llethu trwy hir ormes. Y mae pob cenedl gaeth yn chwanocach i ddywedyd celwydd na chenedl rydd ac annibynnol?" Ac yn chwanocach i oddef dihoeni ar ei diwylliant a thrai ar ei chrefydd a dygymod â materoliaeth, a gweld yr iaith yn wrthodedig. Rhowch gennad imi ddyfynnu darn go helaeth o ysgrif a ysgrifennais i ''Seren Gomer'': "Ni allwn beidio â chredu bod gwleidyddiaeth heddiw yn y trueni y mae hi ynddo oherwydd fynd o bregethwyr yn ddihidio ohoni. Aethpwyd i gredu mai gêm a chamchwarae ydyw ''politics'', ond<noinclude><references/></noinclude> 6xopcypyfnpor3iy5swyigzdj9ewy1k Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/86 104 82726 161607 2026-03-30T10:25:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161607 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y Parch. LEWIS VALENTINE.}}}} Diolch am roddi cyfle imi ddarllen eich ysgrifau ar "Argyfwng Cymru heddiw", ac ar y cyfan yr wyf, ysywaeth, yn gorfod cydnabod fod y darlun a roddwch o'r dirywiad yn un trist o gywir. Efallai bod eich ysgrifau yn awgrymu mai rhywbeth arbennig i Gymru ydyw'r dirywiad hwn, a phell wyf fi o gipio cysur o gyflwr gwaeth pobloedd eraill. Gwyddoch chwi yn dda am lyfr a gyhoeddwyd yn Lloegr ryw dair blynedd yn ôl,—"English Life and Leisure" gan B. Seebohm Rowntree a G. R. Lavers, a chafodd y llyfr eisoes sylw mawr yn y wasg ac mewn cynadleddau yn Lloegr a Chymru. Y mae'r awduron yn enwog am waith ymchwil manwl i ddulliau pobloedd o fyw, a cheir yr un manylrwydd cribaidd yn y llyfr diweddar hwn ag a gafwyd yn eu gwaith blaenorol. Y mae ynddo ffeithiau tra anhyfryd, ffeithiau na ellir eu hamau ddim, ffeithiau o orfod eu credu sy'n gwneuthur dyn yn sâl swp,—dros saith miliwn o wario ar bob un o'r triawd, gamblo, diod a baco;—y sinema yn dwyn dros gan miliwn o arian pobl—oedd bob blwyddyn—mwy nag a werir ar lyfrau a chylchgronau o bob math. Y mae cynnydd brawychus mewn anonestrwydd,—un cwmni a chanddo nifer o siopau cadwyn yn colli gwerth tri chan mil o bunnoedd bob blwyddyn. Y mae yn Llundain dros ddeng mil o buteiniaid hysbys, a rhai ohonynt yn ennill deuddeng mil o bunnoedd y flwyddyn. Tra chyffredin ymysg y cannoedd pobl a holwyd ydyw bywyd rhywiol cymysgryw,—yng Nghymru yn unig y mynegwyd gwrthwynebiad pendant i'r peth,—yn Lloegr fe'i derbynnir (ymysg yr agos mil pobl a gafodd eu croesholi ar gyfer yr Ymchwiliad) fel peth cwbl naturiol, ac fel peth na ellir dim wrtho. A dyma hefyd wrth fy mhenelin ysgrif gan gyfaill a fu ar ymweliad yn ddiweddar â'r Amerig, yno y mae eglwysi llawn a chenhadu brwd a diwinydda anoddefgar, ond rhwygiadau a holltiadau sydd yn nodweddu rhai o enwadau y wlad, ac yno y mae llawer o droseddau a drygioni; a syfrdanwyd y cyfaill gan dduwch a hacrwch y troseddau a gyflawnir yno, ac y mae mynd ar grefydd drwy gydol y wlad, a dywedir bod wyth deg o bob cant o'r trigolion yn aelodau eglwysig. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jjqbvr03lfzyi4ipf1egh7pls3sbisy Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/85 104 82727 161608 2026-03-30T10:59:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161608 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwaith yn yr union fan honno. Nid sefydliad yw'r Eglwys i'w gyfyngu rhwng muriau addoldy ac i drafodaethau cyfarfod blaenoriaid. Yr Eglwys yw pob aelod ohoni, lle bynnag y bo, sy'n hyrwyddo yn y lle hwnnw egwyddorion y Deyrnas, ai ar lawr senedd neu gyngor sir neu gyngor dinas, cyngor dosbarth neu gyngor plwy, neu mewn chwarel a glofa ac ysgol a phulpud, neu o'r tu ôl i gownter siop. Petai pob aelod eglwysig yn synio nad yw'n ymddihatru o'i aelodaeth eglwysig pan yw'n aelod o sefydliad arall, ond yn hytrach mai ef yw'r Eglwys yn y lle hwnnw, fel mai'r milwr unig yn gwylio mewn congl anghysbell yw'r fyddin yn y fan honno, byddai'r pwerau sy'n tynnu'r adeilad i'w sylfeini er mwyn ailadeiladu, wedi dechrau ar eu gwaith, a'r nef newydd a'r ddaear newydd yn dechrau cymryd ffurf yn ein plith. Eithr dyma'r cysur mwyaf. Y mae rhai yn ein plith o hyd nad yw nac undeb na diffyg undeb, na pherygl y byd na dinistr cyfundrefnau a sefydliadau, yn siglo dim arnynt, am eu bod yn sicr o'u ffydd, ac o'r herwydd yn disgwyl yn dawel a chadarn fel Anna a Simeon gynt am ddiddanwch yr Israel, gan wybod y daw. Pan ddaeth gynt, nis adnabuwyd gan yr offeiriad, ni welai hwnnw yn ei freichiau ond baban fel pob baban arall. Gwelsant hwy ynddo iachawdwriaeth yr Arglwydd. Pan ddeuai i lawr o'r mynydd yn y bore bach, heb le arall ganddo i roi ei ben i lawr, yn wrthodedig gan fyd ac eglwys, yn newynog, a'i ddillad yn llaith gan wlith neu farrug y nos, eu bath hwy a roddai groeso a chynhesrwydd aelwyd iddo, a'r hyn a oedd ar eu bwrdd yn damaid; a'u bath hwy ar hyd yr oes—oedd sy'n sicr ohono ac yn ei gadw rhag torri ei galon. Y maent hwy gyda ni o hyd, ac ni dderfydd y ffydd tra fyddant, ac ni phydra'r ddaear yn anobeithiol, canys hwy yw halen y ddaear. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0fb5zttsfe6yvptbd101lfd94rnhanc Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/84 104 82728 161609 2026-03-30T11:07:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161609 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mlynedd yn ôl trigai gŵr mewn plasty yn y cyffiniau hyn. Yr oedd yn aelod seneddol ac yn ŵr mawr mewn sasiwn a seiat a chyfarfod gweddi, a hwythau yn eu bri. Yr adeg honno yr oedd plant araf y pentrefi yn gyff gwawd a chocyn hitio i'r plant eraill, ac at drugaredd unrhyw un a gymerai ddigon o ddiddordeb ynddynt i daflu crystyn iddynt. Heddiw y mae'r gwyliau crefyddol mawr, a'r cyfarfodydd gweddi a'r seiadau yn edwino, a'r gwŷr mawr yn cadw ohonynt, ond y plasty hwnnw heddiw ac eraill tebyg yn ysgolion plant araf lle y cerir hwy a gofalu amdanynt gan ddefnyddio pob dull a modd i'w cymhwyso ar gyfer brwydr bywyd. Onid yw'r Arglwydd yn fyw iawn yn y mudiadau hynny? Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno. Ni ellir ei gynnwys ef rhwng muriau cyfundrefnau a chyfundebau crefyddol, ac y mae ganddo ffordd chwithig weithiau i godi storm a'u chwythu'n garnedd os byddant ar ei lwybr, a chraciau a llwydni ynddynt, a dal i fynd yn ei flaen i wneud ei waith fel pe na bai dim o bwys wedi digwydd yn eu cwymp. Yn ei grwydradau chwŷth ar wyneb ambell Ioan, fab Sachareias, yn y diffeithwch, tra fo Annas a Chaiaffas yn esmwyth ar eu glythau, gan gredu, druain, mai hwy yw ceidwaid y pŵerau. Ac y mae angerdd ac egni crefyddol aruthrol ar waith heddiw, a deiliaid mudiadau yn aberthu popeth er mwyn eu daliadau, a hynny hyd yn oed yng Nghymru. Eithr yn y crefyddau totalitaraidd yn unig y mae hyn,—Comiwnyddiaeth, Pabyddiaeth, Tystion Jehofa, Ysbrydegiaeth, a'u bath, totalitariaeth feddyliol bob un ohonynt. Cyfyd y math hwn ei ben bob amser pan fo cynrychiolwyr rhyddid yn ddifater. A'r egni hwn yw'r arwydd nad ydyw'n cyfnod yn anobeithiol. Galwer hwy'n chwyn os mynnir, ond ni thyf chwyn yn y gaeaf. Tyf chwyn yn unig pan fo posibilrwydd blodau a llysiau, gwair ac ŷd a ffrwythau, os trinir y tir gan rai a gweledigaeth ganddynt. Lle bo chwyn y mae egni'r gwanwyn yn galw. A phwysig yw peidio â gwneud yr Eglwys yn gyfystyr â'r cyfundrefnau. Cododd gŵr mewn cyngor tref yn ddiweddar i gynnig gwelliant a fyddai'n fendith foesol fawr i'r cylch, a synnai wrth lefaru na buasai'r eglwysi wedi meddwl am y peth. Blaenor eglwys ydoedd, ond nid oedd wedi gwawrio arno gwawrio arno mai ''ef'' oedd yr eglwys, a'r eglwys wrth ei<noinclude><references/></noinclude> 0ypqhjmhhrlvvuv90h53fvro4ty376j Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/83 104 82729 161610 2026-03-30T11:07:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161610 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddychwelwyd prin yr oedd neb heb draddodiad crefyddol iddo, a wylai'n hidl wrth glywed "Am achub hen rebel fel fi". Gwyddai am y drefn y bu'n rebel yn ei herbyn. Y mae myrddiynau heddiw heb fwy o draddodiad crefyddol na Hotentotiaid Affrica. Nid oes gan yr hen ddylanwadau ddim oll i'w ddweud wrthynt, ni wyddant beth yw ystyr "rebel," a job berygl i rywun fydd eu cyhuddo o fod yn rebeliaid. Y mae gan y Saeson ddau air am ddau beth gwahanol na ddefnyddiwn ni ond un gair amdanynt,—revival a reformation. ''"Protestant Reformation"'' y galwant ddiwygiad Martin Luther, ond "''Welsh Revival''" am ddiwygiad Evan Roberts. Trwsio'r craciau a gloywi tipyn ar yr adeilad oedd Adfywiad Evan Roberts; tynnu adeilad pwdr i lawr i'w sylfaen a wnaeth Luther a Wesley a Harris,—"job beryg i rywun." Arwydd o'r gwahaniaeth yw bod pob adfywiwr yn ŵr poblogaidd. Nid oedd adeilad a gynhaliai dyrfaoedd Evan Roberts, yn ei dduweiddio. Eithr y mae pob diwygiwr mewn perygl. Peth cyffredin oedd i Wesley a Harris a Phantycelyn fynd adref o'u cyhoeddiadau yn eu gwaed; ac am Luther, yr oedd mewn perygl am ei fywyd beunydd. Nid peth poblogaidd yw tynnu adeilad pwdr i lawr i'w sylfeini, a fagodd gysegredigrwydd cartref i rywun. Ofnaf yn wir mai dyna'n cyflwr heddiw, nad Adfywiad (''revival'') yw ein hangen, ond Diwygiad (''re-formation''). Eithr nid wyf yn ddiobaith hyd yn oed am hynny. Gwelais un neu ddau ymhlith gweinidogion ieuainc Cymru, â chyflwr eu cyfnod yn wewyr trwm iddynt, a'r athrylith ganddynt sy'n anhepgor diwygiwr. Os cânt eu Heglwys yn aelwyd a noddfa iddynt, yn lle'n garchar, y mae gobaith iddynt ddyfod yn bŵerau chwyldroadol aruthrol o'i mewn a all ail greu crefydd eu cyfnod. Yn niffyg hynny gallant ddyfod yn bŵerau dinistriol i'r Eglwys a chario gwaith yr Arglwydd ymlaen o'r tu allan, fel y rhan fwyaf o'r diwygwyr mawr, yn cynnwys hyd yn oed yr Arglwydd ei Hun, neu dorri eu calonnau. Hyd yn oed heddiw, â'r gwaith yn ei flaen " mewn modd nis gŵyr efe". Tua chan mlynedd yn ôl bu farw Ieuan Gwynedd o'r diciâu, yn ddiymgeledd,—"yn ôl ewyllys Duw," fel llu o ieuenctid ei ddydd. Heddiw buasai Ieuan Gwynedd yn gwella mewn sanatoriwm. Bedwar ugain<noinclude><references/></noinclude> ts45cujv4k3khlnzt5mqpx63tuf1igj Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/82 104 82730 161611 2026-03-30T11:08:15Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161611 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nos, heb feddwl mwy am y peth. Nid oes ferched pentref yng Nghymru heddiw a feiddiai wneud dim o'r fath os am gadw eu dillad. Gweithiodd y pydredd drwy bob agwedd a gradd ar fywyd, a thaflu ei lwydni hyd yn oed ar safonau eglwysig. Yn yr awyrgylch hwn y magwyd ein harweinwyr crefyddol, yn llên a lleyg, a'i ddiymadferthedd wedi gafael ynddynt. fel haint, nes ymollwng ohonynt i gymryd pethau fel y maent, heb na gweithgarwch nac egni i ymosod ar y dryswch. Canlyniad y diymadferthedd yw cymhwyso mân feddyginiaethau, megis cais i uno'r enwadau a phethau felly, fel ceisio gwella afiechyd angheuol drwy wasgu ploryn ar yr wyneb,—yr arwydd eiddilaf ohono. Ni fynnodd yr Arglwydd hyrwyddo'r Deyrnas drwy geisio uno enwadau crefyddol ei ddydd. Ni ellid cynnwys yr egni creu gwanwynol a gorddai yn ei enaid Ef yng nghodau hydrefol hen gyfundrefnau. Ofnaf yn wir fod angen meddyginiaeth aruthrol fwy na'r manion a gynigir. Deuir â gwŷr ar draws gwlad yn awr ac yn y man i geisio megina diwygiad. Chwŷth yr awel yn gryf am ennyd a chilio, a dychwel y myllni. Y mae'n cyflwr yn rhy arswydus o lawer i fân feddyginiaethau felly. Hiraethwn am yr hen adfywiadau, megis rhai Evan Roberts a '59, ond ni fyddent yn dda i fawr heddiw pe caem hwynt. Chwe blynedd yn ôl awn i lawr y stryd yn Lerpwl gyda chyfaill o adeiladydd, yn yr adeg pan nad oedd caniatâd i adeiladu preifat. Wrth fynd heibio i res o dai galwodd fy nghyfaill sylw ati, a dweud,—"Dyma'n gwaith yn awr, trwsio tai wedi eu blitsio." Gwelwn rai simneiau wedi eu trwsio, rhai tal—cennau ac wynebau tai, ffenestri newydd yma ac acw, craciau wedi eu plastro a thipyn o baent i'w twtio. Yng. nghanol y rhes yr oedd tŷ a ymddangosai'n gwbl ddianaf, heb y graith leiaf arno. "Pam y dihangodd 'nacw mor llwyr?" meddwn. Ateb y cyfaill oedd,—" Nacw a'i cafodd waethaf. Y mae wedi ei sgytio drwyddo fel nad oes dwy fricsen yn glynu'n dynn yn ei gilydd. Rhaid tynnu 'nacw i lawr i'r sylfaen, a bydd hynny'n job beryg i rywun." Fe gredwn y byddai i ddiwygiad fel yr eiddo Evan Roberts ddatrys ein problemau. Na fydd yn wir. Fflach olaf yr hen gyfnod oedd hwnnw, cyn marw. O'r miloedd a<noinclude><references/></noinclude> exr6cfd8i0xp3dlhyb7jc1oqvxmv2x3 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/81 104 82731 161612 2026-03-30T11:08:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161612 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>drwy'r unig rym a ddatguddiwyd yn yr Efengyl sy'n gyfaddas i hynny—grym y Cariad a weddïodd dros elynion a boerasai i'w wyneb,—"O! Dad, maddau iddynt, canys ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur." Dyna'r grym sy'n cynnal y Gwynfyd ynghyd, a chorfforiad o'r grym hwnnw—y Jerwsalem Newydd—yn dyfod i'r ddaear, yw'r unig rym a all wneud yr hyn yr honnai'r pregethwyr hynny y gellid ei wneud drwy ryfel. Yn ing cenhedloedd trodd arweinwyr crefyddol Cymru eu cefnau ar rym terfynol yr efengyl a bregethent,—na, nid yr efengyl honno, ond Efengyl eu Harglwydd. Dadrithiwyd y llanciau a ufuddhaodd i'w gorchymyn, a dychwelasant wedi colli eu ffydd yn eu crefydd. Yna daeth yr Ail Rhyfel Byd, a phlant y gwŷr a ddadrithiwyd gan y cyntaf ac a giliodd oddi wrth grefydd o'r herwydd, yn gorfod mynd iddo, heb yr argyhoeddiad a anfonodd eu tadau i ryfela, gan ddychwelyd adref wedi colli ffydd ym mhopeth. A'r bobl hyn yr ydym yn delio wrth geisio edfryd ein safonau moesol ac ysbrydol, a'r hyn a ystyriwn yn rym yr hen gyfnod. O'r herwydd, y mae safonau moesol ar chwâl a'n gwareiddiad yn dadfeilio. Y mae rhestr bechodau'r bennod gyntaf o'r Rhufeiniaid, a barai ddychryn inni gynt, fel yr ofnem ei darllen, yn bethau cyffredin heddiw. Gwelir hyn ym manion bywyd yn ogystal ag yn ei bechodau arswydus. Meddylier am y miloedd ar filoedd bylbiau trydan a ladrateir o gerbydau'r ffordd haearn bob blwyddyn. Aeth un o'n gweinidogion i ffatri yn Lloegr yn ddiweddar i annerch y bobl ar awr ginio. Pan oedd ar ddechrau gwaeddodd un o'r dyrfa arno,—"Does mo'ch eisiau yma, 'r ydym yn hollol fodlon ar ein cyflwr,—mwy o gyflog nag erioed, amodau llafur campus, a phob pleser o fewn cyrraedd." Trodd y gweinidog at rybudd a oedd ar y mur a darllenodd ef i'r dyrfa,—"Oherwydd bod cymaint o gyllyll a ffyrc a llwyau yn cael eu lladrata yn y ffatri hon rhaid i'r gweithwyr o hyn allan ddyfod â'r eiddynt eu hunain." "Wel," ebe'r gweinidog wedi gorffen darllen," mae un peth nad yw gennych,—onestrwydd." Pan oeddwn blentyn, arferiad cyffredin merched y fro oedd golchi ar fore Llun, a lle byddai perthi eithin wrth law, taenu'r dillad arnynt os byddai'n braf, a'u gadael allan drwy'r<noinclude><references/></noinclude> 2nff72ao9a5spao2gt7lv7qsbia6nb9 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/80 104 82732 161613 2026-03-30T11:10:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161613 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ffugient brofiadau seiat nad oeddynt ganddynt,—"a'r swynwyr a wnaethant felly drwy eu swynion, ond ni allasant." Oni chwyna Daniel Owen yn ''Y Siswrn'' oherwydd ffuantwch seiadau ei gyfnod ef? Ger fy mron y mae cyfrol gyntaf Cylchgrawn Cylchdeithiol a gychwynnodd yn y flwyddyn 1888, a dyma frawddeg gyntaf ei ysgrif gyntaf,—" Mae un dyn mawr yn priodoli y diffyg llwyddiant sydd yn bod gydag achos yr Arglwydd i amddifadrwydd o'r hyn a ellir ei alw yn Ysbryd Ymosodol'," a dyma frawddeg gyntaf yr ail rhifyn,—"Credwn mai nid yn ddisail yr ydys yn ofni nad ydyw hyd yn oed proffeswyr crefydd, yn y dyddiau hyn, mor gydnabyddus â chynwysiad y Beibl ag y dylent fod." Felly yr oedd ym mhobman lle nad oedd ond dynwaredwyr traddodiad yn arweinwyr. Heddiw y mae pob math o agoriadau i rai fel y gwŷr grymus y soniais amdanynt. Enillant ysgoloriaethau i Ysgol Ramadeg a Choleg, yna gadawant yr henfro am swyddi bras y trefi. Fel hyn y tynnir yr hufen oddi ar wyneb bywyd bro, gan adael y sgim yn unig ar ôl. A dyna ddau ryfel byd. Yr oedd digon o barch yng Nghymru ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf tuag at bregethwyr mawr i wrando ar ricriwtwyr parchedig a berswadiai'r bechgyn i fynd i ryfel i ymladd "dros Gristionogaeth a gwareiddiad a rhyddid " yn y "rhyfel sydd yn mynd i roi pen ar ryfel," gan eu sicrhau mai o ffosydd Ffrainc y deuai'r diwygiad nesaf, heb aros ennyd i ystyried na all rhyfel fod yn gyfrwng hyrwyddo gwir grefydd dan unrhyw amgylchiadau. Ni ellir hyrwyddo rhyfel ond pan fo pris dyn yn isel ryfeddol ym marchnad bywyd, mor isel nes gallu ohonom glywed am ladd deng mil, can mil, ar unwaith, a dinistrio dinas fawr ar drawiad â bom atomig, heb droi blewyn. Ni ellir hyrwyddo Cristionogaeth ond pan fo pris dyn mor fawr ym marchnad bywyd, oni fo'r bugail yn barod i beryglu ei fywyd er mwyn achub un ddafad, a sylweddoli ohonom fod pob dyn mor bwysig ag nad dros ddynoliaeth y bu Crist farw, ond dros bob dyn ar ei ben ei hun,—"dros yr ''hwn'' y bu Crist farw." Ni feddyliodd ein harweinwyr am hyn, oherwydd eu bod yn synio am Gristionogaeth yn nhermau eu hapêl boblogaidd hwy—yn nhermau cynulleidfaoedd mawrion a berw cyfarfodydd pregethu yn lle yn nhermau ail-greu dyn a chymdeithas<noinclude><references/></noinclude> 8rkj2ua80mr3azuql6i59x43vp4vgop Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/79 104 82733 161614 2026-03-30T11:11:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161614 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr oes honno, ac am raen Ysgol Sul a seiat a chyfarfod gweddi. Eithr lle na byddai gwŷr felly yr oedd yn dlawd yn wir. Dirywiai hyd yn oed y moddion diwylliant mawr—yr Ysgol Sul—i fod yn gyfrwng mân falu diystyr ar eiriau. Nid anghyffredin oedd peth fel hyn, gan y rhai a fynnai eu hystyried eu hunain yn ddoethion—dosbarth y dynion, yn treulio Suliau i geisio penderfynu pa anifail oedd "y creadur" yn Rhufeiniaid 8—"awyddfryd y creadur (y greadigaeth) sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw," gan roi'r atebion mwyaf chwithig. Bûm fy hun mewn Ysgol Sul lle y buwyd yn trafod yn hir a difrifol am Suliau, yn nosbarth y dynion, a oedd y gair "diafol " yn hanes temtiad yr Arglwydd Iesu, wedi ei ysbrydoli. Bob yn dipyn deellais mai rhywbeth oedd ysbrydoliaeth a chwistrellid i bob gair ar wahân. Gallwn ychwanegu enghreifftiau o hyn hyd ddiflastod. Trigai'r diweddar Dr. J. Lloyd Williams y drws nesaf imi pan oeddwn yn weinidog ym Mangor, a galwai heibio yn awr ac eilwaith am ymgom. Dywedodd wrthyf unwaith ei fod ef a Henry Hughes, Bryncir, wedi eu penodi rywdro i sgrifennu hanes Methodistiaeth Llŷn ac Eifionnydd. Ymhlith y llawysgrifau y daethant o hyd iddynt yr oedd Cofnodion rhyw Ysgol Sul (oni chamgofiaf, yn llawysgrif Ellis Owen, Cefn y Meysydd), ac ynddynt y penderfyniadau hyn: 1. Nad oedd yr Ysgol Sul i'w chynnal yn hwy na dwyawr. 2. Nad oedd yr athrawon i gadw eu hetiau am eu pennau yn ystod yr Ysgol Sul. 3. Nad oedd yr athrawon i fynd allan am fygyn ar ganol yr Ysgol. Mynnai Lloyd Williams eu rhoi i mewn fel dogfen bwysig yn taflu goleuni ar hanes cyfnod. Gwrthodai Henry Hughes am yr ystyriai eu cyhoeddi yn sarhad ar yr enwad, ac anrhydedd enwad yn bwysicach yn ei olwg na dweud y gwir. A dyna'r graig rwystr yr aeth y llong yn ddrylliau arni ac a roddodd ben ar ysgrifennu'r hanes hwnnw. Pethau fel yr uchod yw'r " pryf yn y pren sy'n gweithio'n ddistaw fel na welir ei ddifrod nes i'r pren ddisgyn yn sypyn o lwch, fel y gwna heddiw. Lle ceid gwŷr o ruddin fel y rhai y cyfeiriais atynt, yr oedd y seiat a'r cyfarfod gweddi yn ogystal â'r Ysgol Sul yn eu grym. Yn y pentrefi diarffordd y ceid hwy'n gyffredin, eithr difaol oedd dylanwad eu dynwaredwyr, heb wreiddyn y mater ganddynt, ac yr oeddynt yn llu mawr.<noinclude><references/></noinclude> h83ryb9revsh2ek3xv6ll2v8iz83kno Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/78 104 82734 161615 2026-03-30T11:11:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161615 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr eglwysi hwy mai "ewyllys Duw" oedd y diciâu, a pheth i'w dderbyn yn ddi-gŵyn. Am eu plant hwythau, na wyddent ddim am y gyfaredd, daethai iddynt hwy ddadrithiad llwyr. Iddynt hwy rhyw baent ar yr wyneb oedd Cristionogaeth i guddio tyllau gormes a gwae, a bywyd bob dydd yn cilio ymhellach, bellach oddi wrthi. Gwelent nad oedd y gormes ar y tlawd dan gysgod crefydd ond moddion duwiolaidd i hyrwyddo buddiannau'r ymerodraeth, a'i bwysau'n drymach na phwysau'r egwyddorion Cristionogol a bregethid iddynt. I'r lliaws Cymry crefyddol, gan hynny, yn y ganrif ddiwethaf, aeth crefydd yn rhyw fath o ddihangfa rhag problemau bywyd yn lle bod yn gyfrwng i'w datrys, yn union fel y mae'r lluniau llafar ac adloniannau eraill heddiw. Y cyfarfod pregethu oedd adloniant mawr y flwyddyn, a'r cwestiwn mawr ar ei ddiwedd oedd nid faint a achubwyd ond, o'r ddau bregethwr, "pwy aeth â hi?" A fuasai apêl y math hwn o grefydd gymaint yr adeg honno, tybed, petai adloniannau mwy lliwgar heddiw wrth law? I'r pulpud yr âi'r doniau mawr am nad oedd gyfle arall i'w hathrylith. Petai Emlyn Williams, Huw Griffith, Meredith Edwards, Richard Burton, fyw gan mlynedd a mwy yn ôl, byddent ym mhulpud Cymru yn swyno'r miloedd; a phetai John Elias, Christmas Evans, a'u tebyg o'u cyfnod yn fyw heddiw buasent yn theatrau Lloegr. Oni ddywedir yng Nghofiant John Jones, Tal y Sarn, fod y tyrfaoedd yn mathru ei gilydd yn eu rhuthr i wrando ar y pregethwr mawr hwnnw? Prin y mae mathru ei gilydd yn ffordd deilwng o fynegi ysbryd addoliad. Yr oedd John Jones ei hun, yng nghanol y berw crefyddol hwn, yn torri ei galon, oherwydd cyflwr gwir grefydd yn y tir. Cynulleidfaoedd adloniant oeddynt. Nid oedd agoriad yng Nghymru yr adeg honno i fachgen tlawd talentog heb dafod aur ganddo ond gwaith cyffredin ei fro, onid oedd ganddo ysbryd anturiaeth anghyffredin iawn. Am hynny arhosai gartref, yn y gwaith hwnnw, a threulio oriau hamdden i ddarllen a myfyrio, a thrwy hynny ddylanwadu'n fawr ar ei gymheiriaid. O'r herwydd, i'r gwŷr hyn yr ydym yn ddyledus, gan mwyaf, am hynny o wir ddiwylliant ag a oedd gan werin Cymru yn<noinclude><references/></noinclude> mb7txhsjv5pwa1jslnhjmx2fdhl3d4p Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/77 104 82735 161616 2026-03-30T11:12:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161616 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fodloni i ddarn lwgu mewn cut nad yw'n deilwng o anifail er mwyn cyfoethogi ei feistr. Wedi i'r gwledydd imperialaidd eu tlodi eu hunain yn anobeithiol drwy ryfeloedd, cyfyd cenhedloedd gormesedig y byd i fwrw eu hiau ymaith, yn cynnwys bwrw ymaith eu crefydd hefyd. Gwir fod Prydain a gwledydd eraill wedi lleddfu ychydig ar amodau byw y bobl hyn, ond er mwyn hyrwyddo'u buddiannau eu hunain. Gofynnodd Sais i Indiad,—"Beth yw'ch cwyn yn ein herbyn? Gwelwch fel yr ydym wedi gwella'ch amodau byw." "Ie," ebe'r Indiad," ond yr ydych wedi gwella amodau byw eich anifeiliaid hefyd, eithr pa un ai er mwyn yr anifeiliaid ai er eich mwyn eich hunain?" Petai'r cenhedloedd gwynion wedi mynd â Christionogaeth i'r byd i'r amcan yn unig o'i drawsnewid yn ôl ei gwir safon hi—"y mae'r deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed; y mae'r meirw yn cyfodi a'r tlodion yn cael pregethu'r efengyl iddynt"—o gariad pur at y cenhedloedd, ac nid â'r naill lygad ar Grist a'r llall ar ddarostwng y bobl i bolisïau ymerodrol, nid yr olwg sydd arni a fuasai ar Gristionogaeth heddiw. Ac olion y polisi hwn yn drwm iawn ar Gymru yw achos mawr ein cyni ysbrydol heddiw. Hyd yn oed yn nydd ysblander crefyddol Cymru, arwynebol iawn oedd y cymhwysiad ar Gristionogaeth. Y rheswm mawr dros Seisnigrwydd iaith ac ysbryd y colegau diwinyddol Cymraeg, y sonia Mr. Bebb amdano, oedd eu bod o dan gyfaredd crefydd imperialaidd Lloegr. Pan oedd y tyrfaoedd yn rhuthro ar ôl y cewri bregethwyr, trigai'r mwyafrif ohonynt mewn tai isel lloriau pridd a ffenestri bychain iddynt nad agorent, ac ar fwyd tlodaidd gan hanner newynu, heb i arweinwyr yr eglwysi fod ag unrhyw feddyginiaeth iddynt ond y cynnig o'r gwynfyd y Tu Hwnt, a hanner coron y plwy a'r tloty, i aros awr euraid yr ymddatodiad a mynd i mewn i'r ddinas â'i heolydd o aur pur. Bodlon oedd y rhai a ddaeth dan gyfaredd y pregethwyr mawr a chynyrfiadau crefyddol y dydd, i'r trefniant hwn; ond am eu plant, nad oedd y gyfaredd cyn drymed arnynt, a ddioddefai o eisiau bwyd a marw o'r diciâu, meddiennid hwy gan ryw ddadrithiad annelwig, yn enwedig gan y sicrhai arweinwyr<noinclude><references/></noinclude> 3i4isg0t71gvcc6r7usdm06w78i9khr Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/76 104 82736 161617 2026-03-30T11:13:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161617 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c{{mawr|Y Parch. E. TEGLA DAVIES.}}}} Trist, trist iawn, yw ysgrifau Mr. Bebb, a rhy wir o lawer i'n cysur. Cytunaf â hwy'n llawn, ond gan ei fod wedi trin ei fater mor loyw, diachos yw delio â'i wahanol bwyntiau ar wahân. Mewn manion, nad ydynt yn werth sylw, y gwahaniaethaf oddi wrtho, ond am ei bethau pwysig, megis ei alwad am edifeirwch trwyadl, a'r ail greadigaeth yng Nghrist Iesu, afraid dweud na ellir pwysleisio gormod arnynt. O brofiad ohonynt hwy y daw'r clirder athrawiaeth am Berson a Gwaith yr Arglwydd y sonia ef amdanynt. Nid yw'r drwg, wrth gwrs, yn gyfyngedig i Gymru a Phrydain. Y mae Cristionogaeth fel petai'n dadfeilio drwy'r byd cyfan, a chenhedloedd a deimlai'n garuaidd tuag ati, heddiw'n ymwrthod â hi. Dyma ddyfyniad o Gyhoeddiad Cymdeithas Genhadol ynglŷn â'r Eglwys y perthynaf iddi. Dywedir bod diwygiad crefyddol Bwdhwaidd yn Burma, a'r rheswm drosto, yn ôl yr arweinwyr Bwdhwaidd yw "''Because we Buddhists must do something before the Christian nations blow up the world. Within living memory the Christian nations of Europe and America have fought their bloodiest in two World Wars, and are preparing to wage a third which will put an end to man's civilization. Buddhism alone can provide the way out of this impending catastrophe."'' Yn agos i ddeugain mlynedd yn ôl dywedodd Buddhist ieuanc wrthyf na dderbyniai Gristionogaeth am nad oedd yn ddigon da iddo. Aed â Christionogaeth i'r byd dan gysgod y cenhedloedd imperialaidd, fel un ffordd o ledaenu eu himperialaeth. Dyna bolisi Prydain yn ystod oes Victoria, yn union fel polisi Rhufain yn oes Custennin Fawr. Ceisiwyd Cristioneiddio moesau'r bobl cyn belled ag na wrthdrawent yn erbyn y polisi ymerodrol. Gan hynny elfennau mwyaf arwynebol Cristionogaeth a bregethid iddynt, heb fynd at wraidd y drwg,—ail greu eu hamodau byw yn ogystal â'u hail greu hwy. Nid yw Cristionogaeth yn ddim onid yw'n rym creadigol ym mhob agwedd ar fywyd. Gan hynny, nid yn hir y gall dyn, a gafodd gip ar y foeseg Gristionogol,<noinclude><references/></noinclude> pwcb3v5i6jh2a7qqn7lwxwnek8m924w 161618 161617 2026-03-30T11:13:59Z AlwynapHuw 1710 161618 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y Parch. E. TEGLA DAVIES.}}}} Trist, trist iawn, yw ysgrifau Mr. Bebb, a rhy wir o lawer i'n cysur. Cytunaf â hwy'n llawn, ond gan ei fod wedi trin ei fater mor loyw, diachos yw delio â'i wahanol bwyntiau ar wahân. Mewn manion, nad ydynt yn werth sylw, y gwahaniaethaf oddi wrtho, ond am ei bethau pwysig, megis ei alwad am edifeirwch trwyadl, a'r ail greadigaeth yng Nghrist Iesu, afraid dweud na ellir pwysleisio gormod arnynt. O brofiad ohonynt hwy y daw'r clirder athrawiaeth am Berson a Gwaith yr Arglwydd y sonia ef amdanynt. Nid yw'r drwg, wrth gwrs, yn gyfyngedig i Gymru a Phrydain. Y mae Cristionogaeth fel petai'n dadfeilio drwy'r byd cyfan, a chenhedloedd a deimlai'n garuaidd tuag ati, heddiw'n ymwrthod â hi. Dyma ddyfyniad o Gyhoeddiad Cymdeithas Genhadol ynglŷn â'r Eglwys y perthynaf iddi. Dywedir bod diwygiad crefyddol Bwdhwaidd yn Burma, a'r rheswm drosto, yn ôl yr arweinwyr Bwdhwaidd yw "''Because we Buddhists must do something before the Christian nations blow up the world. Within living memory the Christian nations of Europe and America have fought their bloodiest in two World Wars, and are preparing to wage a third which will put an end to man's civilization. Buddhism alone can provide the way out of this impending catastrophe."'' Yn agos i ddeugain mlynedd yn ôl dywedodd Buddhist ieuanc wrthyf na dderbyniai Gristionogaeth am nad oedd yn ddigon da iddo. Aed â Christionogaeth i'r byd dan gysgod y cenhedloedd imperialaidd, fel un ffordd o ledaenu eu himperialaeth. Dyna bolisi Prydain yn ystod oes Victoria, yn union fel polisi Rhufain yn oes Custennin Fawr. Ceisiwyd Cristioneiddio moesau'r bobl cyn belled ag na wrthdrawent yn erbyn y polisi ymerodrol. Gan hynny elfennau mwyaf arwynebol Cristionogaeth a bregethid iddynt, heb fynd at wraidd y drwg,—ail greu eu hamodau byw yn ogystal â'u hail greu hwy. Nid yw Cristionogaeth yn ddim onid yw'n rym creadigol ym mhob agwedd ar fywyd. Gan hynny, nid yn hir y gall dyn, a gafodd gip ar y foeseg Gristionogol,<noinclude><references/></noinclude> bdcxacekotxw70046qpjal4976s4dcp Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/75 104 82737 161619 2026-03-30T11:14:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161619 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Richard Owen " yn yr wythdegau yn fwy parhaol ei ddylanwad na Diwygiad 1904-5. Gwrandawyr oedd dychweledigion y diwygiad cyntaf—aelodau o'r Ysgol Sul, yn "olau yn eu Beiblau" chwedl y dywediad, ond yn eu teimlo eu hunain yn annheilwng i fod yn aelodau o'r eglwys. Pobl wedi eu hyfforddi yn dda cyn eu derbyn yn aelodau eglwysig oeddynt. Fe'u daliwyd gan rwyd y pregethwr tanllyd o Fôn, ac fe'u daliwyd dros byth. Erbyn y cyfnod a ragflaenai Ddiwygiad 1904-5 daethai'r dirywiad y sonia Syr O. M. Edwards amdano, a dechreuasai ddweud yn drwm ar grefyddwyr Cymru. Oherwydd hyn, gallwn dybied i ganlyniadau'r diwygiad hwnnw fod i raddau yn siomedig. Ni fu paratoi digonol ar ei gyfer, ac ni ddeallwyd chwaith fod a wnelo diwygiad crefyddol â holl fywyd ein cenedl. Erbyn 1904-5 yr oedd deffroad Mudiad Cymru Fydd wedi cerdded ei gwrs, ond ni chlywais sôn fod cysylltu'r Diwygiad â'r Deffroad. Ond mater arall yw hwn, a chredaf y caem esboniad ar rai pethau ym mywyd crefyddol Cymru pe sylwem yn fanylach ar ddiwygiadau'r blynyddoedd hyn. Pa un bynnag, y mae'n amlwg na fu digon o feddwl cyn y Diwygiad ac ni fu digon wedyn chwaith. Eithr cyflwr crefydd Cymru heddiw yw'r broblem. Sonia'r awdur lawer am edifeirwch. Pe caem hwnnw byddai yma ddiwygiad. Ond atolwg, pa le y cawn ef? Ai drwy ein poenydio ein hunain neu drwy gyflawni rhyw orchestion? Nage, meddai'r Testament Newydd. Yn ôl Pedr yn Llyfr yr Actau, rhodd Duw ydyw. Dyrchafodd Duw yr Arglwydd Iesu yn "Dywysog ac yn Iachawdwr i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau." Sut y daw y rhodd fawr hon i ni heddiw? Onid trwy gyfrwng pregethu y daeth i Gymru gynt? Tybed a yw'r awdur wedi sôn digon am y cyfrwng mawr hwn? A oes yma bregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn enw yr Arglwydd Iesu? Y mae'n debyg mai dyma un o wendidau mawr crefydd Cymru. Os yw hynny'n wir, down yn ôl at un o osodiadau'r awdur mai arnom ni weinidogion y mae'r bai yn bennaf am gyflwr crefydd Cymru heddiw. Diolch lawer i'r awdur am ei gyfraniad gwerthfawr i gwestiwn dyrys dirywiad crefydd Cymru a'r feddyginiaeth iddo. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> msy9lmrwp9h26xkn1k23bnawew6l9nq Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/74 104 82738 161620 2026-03-30T11:15:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161620 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi eu disgyblu o dan yr un gyfundrefn o addysg ddiwinyddol â ninnau a'n hyfforddai. Gwnaethant waith rhagorol o fewn terfynau'r gyfundrefn honno. Ond pa bryd y cawn yr athrawon diwinyddol a rydd Gymru yn gefndir i'n haddysg ddiwinyddol? Ein hanfon allan i achub Cymru a ddylesid, ac onid teg rhoddi anghenion Cymru yn glir o'n blaenau? Bu raid cael plaid wleidyddol i ddod â'r anghenion hynny adref i'r rhan fwyaf ohonom. O'm rhan fy hunan, dof yn fwy ymwybodol bob dydd fod angen rhoddi anghenion Cymru nid yn unig o flaen ein gweinidogion ond o flaen pob enaid y ceisir ei achub. Dyna'r ffordd effeithiolaf i sicrhau'r cefndir cymdeithasol y gwelir cymaint o'i angen yn eglwysi Cymru heddiw. Nid awgrymaf am eiliad y dylid cyfyngu'r alwad i Gymru. Gall fod yn alwad i'r byd i rai o'r ymgeiswyr, ond galwad i Gymru yw hi i'r rhan fwyaf ohonynt. Yn y chweched llythyr cyhuddir y Colegau Diwinyddol o bum trosedd. Cytunaf â'r awdur eu bod yn euog o bedwar o'r pump ond ni allaf gytuno ag ef fod y Colegau wedi llwyr esgeuluso darparu ar gyfer gwaith ymarferol y Weinidogaeth. Credaf ei bod yn wybyddus i lawer, i un cyfundeb o leiaf, sef y Methodistiaid Calfinaidd, wneud ymgais deg rhwng 1923 a 1953 i roddi hyfforddiant ar gyfer gwaith ymarferol y Weinidogaeth,, ond nid gyda Chymru a'i hanghenion yn gefndir, ysywaeth. Sonia'r seithfed llythyr am ddiffyg ym mharatoad ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig. Ofnaf fod hyn yn wir. Paham ni wn. Ai disgwyl am ddiwygiad crefyddol yr ydym, a disgwyl i hwnnw wneud y gwaith yn ein lle? Cofier bod crefyddwyr Cymru, hyd yn weddol ddiweddar, os nad hyd heddiw, yn disgwyl diwygiad yn ysbeidiol. "Nid disgyblaeth feddyliol a wna'r plentyn yn gymwys i fod yn aelod eglwysig ond tywalltiad o'r Ysbryd Glân." Dyna a ddywedodd llawer ohonom. Serch hynny credaf y buasai yn llawer gwell inni, yn ôl awgrym yr awdur, ganolbwyntio ar wneud hyfforddiant ein cymunwyr ieuainc yn llawer mwy effeithiol nag y mae. Dylem eu hyfforddi yn llwyrach yn yr Ysgrythurau ac yn ffeithiau cred, fel pan ddelo'r tywalltiad y byddont barod. Yn ôl a ddeallaf am Ogledd Cymru, bu gweinidogaeth Richard Owen, neu fel y'i gelwir yn gyffredin, "Diwygiad<noinclude><references/></noinclude> eiwlf96d4qjw5vqhbuxy0e8576gznfm Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/73 104 82739 161621 2026-03-30T11:15:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161621 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nag astudio diwinyddiaeth gyfundrefnol. Diolch am bwyslais Barthiaeth, ond nid oedd cymaint â hynny o angen amdano ar y dyn a ddysgodd ystyr cyfiawnhad drwy ffydd wrth draed yr Athro David Williams. Daw diwinyddiaeth Cymru i'w lle eto ar ôl i'r chwalwyr a'r glanhawyr orffen eu gwaith. Y cwestiwn yw, a fydd yma bobl yn deall diwinyddiaeth ac yn ymddiddori ynddi er eu lles? Pobl wedi profi pethau mawr byd ysbrydol yw'r unig rai a all wneud hynny. Ni fydd raid poeni am ddiwinyddiaeth os bydd dychweledigion i Grist yn y wlad a thra bydd y Testament Newydd a chlasuron yr Eglwys yng nghyrraedd y werin. Cawn hefyd yr hyn sydd cyn bwysiced, neu'n bwysicach na diwinyddiaeth, sef yr hyn a elwir " yr efengyl gymdeithasol", os gwir ddychwelir dynion at Grist ac os llwyr waredir hwy ganddo, a bod yn ddigon onest i beidio ag aros i ddiwinydda ac anghofio'r byd y daeth yr Iesu i'w achub ym mhob rhan ohono. Ni cheir na diwinyddiaeth iach nac efengyl gymdeithasol ddiogel heb yn gyntaf droi dyn o gyfeiliorni ei ffyrdd, o "dywyllwch i oleuni, o feddiant Satan at Dduw " a'i wneud yn ddigon onest i edrych yn wyneb bywyd i gyd, yng ngoleuni'r droedigaeth honno. Dyma'r unig ffordd i'n gwaredu o afaelion duwiau fel Comiwnyddiaeth a phob rhyw dduw arall. Yn y pumed llythyr yn y gyfres, cyffyrddir â phwnc pwysig iawn, sef Addysg y Weinidogaeth. Gallaf finnau dystio i wirionedd gosodiad yr awdur na pharatoir ein hymgeiswyr ar gyfer y Weinidogaeth yng Nghymru. Y mae cyfaill i mi, sy'n llenor o fri, yn methu'n lân â deall na bai pregethwyr Cymru yn defnyddio rhagor ar lên a barddas eu gwlad yn eu pregethau. Y mae'n wir fod y gweinidogion sy'n llenorion a beirdd yn gwneuthur hynny, ond y mae dyfynnu Saesneg yn fwy cyffredin, hyd yn oed gan rai ohonynt hwy. Ond a yw i ryfeddu ato, pan gofir mai Seisnig yw cefndir ein haddysg ddiwinyddol ac mai llyfrgelloedd diwinyddol Saesneg sydd gennym. Nid awgrymwyd erioed imi, nac i neb o'm cyfoedion, y dylem gymryd Cymraeg yn ein cwrs. Gwnaed hynny gan nifer, ond nid i'r awdurdodau a reolai ein haddysg yr oedd y clod am hynny. Oni ddylid gwneud Cymraeg yn orfodol i ymgeiswyr am y Weinidogaeth yng Nghymru? Athrawon<noinclude><references/></noinclude> phtm1fd0p5ih6jpwhdirbc1uqfpbryj Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/72 104 82740 161622 2026-03-30T11:16:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161622 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwneuthur diwinyddiaeth yn un o'r "duwiau " y sonia'r Athro amdanynt. Cred y dynion hyn, ond i ni gael diwinyddiaeth Cymru yn uniongred y bydd ei chrefydd yn union hefyd. 'Rwyf yn ddigon hen i gofio diwinyddion miniog eu meddwl ymysg gwerin Cymru, ond ni fu crefydd ar ei mantais o'u herwydd bob amser; yn wir, amheuaf a fuont o gymorth i neb yn aml, nid am nad oeddent yn ddiwinyddion digon da, ond am nad oeddent yn Gristionogion digon da. Bu llawer ohonynt yn euog o'r camwri mawr hwnnw o wrthod agor dorau bywyd yn eu holl agweddau i'r Arglwydd Iesu. Aeth diwinyddiaeth yn ollbwysig yn eu meddwl, ac ni chyfrifai yr "efengyl gymdeithasol" ddim yn eu golwg. Nid hwyrach nad y gwendid hwn yng nghrefydd Syr Henry Jones a'r Parch. John Williams, ac nid eu totalitariaeth fel y myn yr Athro, a barodd iddynt beidio ag agor holl ddorau bywyd i'r Iesu. Caewyd drws gwleidyddiaeth ryngwladol yn hollol yn ei wyneb. Rhaid i mi gydnabod nad pregethwyr diwinyddol mawr Cymru a'r rhai hynny yn hollol uniongred a fu'r dylanwad mwyaf arnaf fi ond dynion fel yr Athro David Williams (a Studdert Kennedy yn Lloegr). Yr oedd y cyntaf, yn ôl pob tebyg, yn un o'r arweinwyr a ddaw o dan y fflangell am na roddai ormod o bwys ar ddiwinyddiaeth gyfundrefnol. Ni chredaf, am eiliad, fod yr Athro yn cyfeirio ato. Ond yr oedd ef yn un o'r gwŷr hynny na phoenai lawer pan gyfrifid ef yn anuniongred. Dywedwyd rhai pethau celyd amdano yn y cyfeiriad hwn. Mynnu ein dwyn at y Testament Newydd a wnâi ef. Nid anghofia neb ohonom ei ddarlithiau ar y Testament Newydd ac ar yr Apostol Paul. Gresyn na fai cofiant wedi ei ysgrifennu iddo fel y gwelai dynion heddiw ei ddylanwad ar fechgyn yn y fyddin yn ogystal â bechgyn yn y colegau. Nid eisiau rhagor o weinidogion uniongred sydd arnom ond rhagor o bregethwyr ar dân fel David Williams. Yr oedd ef yn ddigon onest i wrthod uniongrededd, os nad oedd yn cyd-fynd â Iesu'r Testament Newydd. Aeth ef, ac eraill, i'r afael â diwinyddiaeth yng ngoleuni'r Testament Newydd. Na ddiystyrwn eu llafur; nid teg yw dywedyd eu bod yn gyfrifol am y dirywiad crefyddol sydd yng Nghymru am nad oeddynt yn gweiddi byth a beunydd am ragor o ddiwinyddiaeth. Y mae deall y Testament Newydd yn bwysicach<noinclude><references/></noinclude> sv1ukgecy70aeq4bgtdrvpcdlwqdf0z Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/71 104 82741 161623 2026-03-30T11:16:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161623 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwlad yw'r diffyg diddordeb mewn crefydd a welir mewn nifer mawr o athrawon ein colegau a'n hysgolion. Eithr er imi gytuno â'r Athro ar aml i bwnc yn yr erthyglau, y mae un neu ddau o bethau yr hoffwn sylwi arnynt a gwahaniaethu peth oddi wrtho. I ddechrau, cydnebydd y rhan fwyaf o'r gweinidogion eu bod yn gyd-gyfrifol â'r aelodau am achosion y dirywiad crefyddol sydd yng Nghymru. Clywais lawer ohonynt yn esgusodi eu pobl am eu difaterwch ac yn cymryd y bai yn gyfan gwbl arnynt eu hunain. Dyna fyrdwn eu cwyn yn aml iawn yn y cylchoedd y trof fi ynddynt. Clywais yr un peth ar hyd y blynyddoedd. Cofiaf fod yn Sasiwn Daucanmlwyddiant y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhreffynnon yn 1935, a'r Parch. T. F. Jones, y Gopa, yn sôn am ogoniant pregethu Cymru yn yr oes o'r blaen. Wrth sôn am un o'r hen bregethwyr, meddai, "Byddai sôn am ei bregeth am fisoedd ar ôl yr oedfa a chlywid ei hadlais am filltiroedd o ffordd. Ond nid yw'r sôn am fy mhregethau i yn cyrraedd pen y stryd yr wyf yn byw ynddi, a byddant yn angof ymhen awr neu ddwy." Clywyd yr un nodyn bron ym mhob anerchiad yn y Sasiwn honno. Gwir fod ambell un ohonom yn torri allan yn awr ac yn y man i feio pawb a phopeth ond nyni ein hunain. Ond cofier mai pobl yng nghanol drysni anobaith ydym yn aml. Da oedd gwaith yr Athro, er hynny, yn ein hatgoffa y dylem beunydd, beunos, fod yn edifeiriol am gyflwr crefydd yng Nghymru. Pwynt arall, myn yr Athro mai yr esgeuluso ar ddiwinyddiaeth sydd yn gyfrifol i raddau helaeth am gyflwr crefydd Cymru heddiw. Gwn y cytuna llawer o weinidogion ag ef yn hyn; ond ofnaf fod hyn yn golygu rhoi'r drol o flaen y ceffyl. Perthyn crefydd a diwinyddiaeth yn agos iawn i'w gilydd, fel y dywaid yr Athro; ond y peth sylfaenol yw crefydd. Y peth pwysicaf i bob dyn yw adnabod Duw mewn maddeuant yn Iesu Grist. Fe ymddiddora mewn diwinyddiaeth wedyn. Peth academaidd hollol, neu ddiflas ddifrifol, yw diwinyddiaeth i ddyn na ŵyr am wir brofiad o Gristionogaeth. 'Rwy'n barod i gydnabod fod corff o ddiwinyddiaeth yn help i ddyn ddod i'r golau, ond nid yw'n ddim amgen na hynny. Ofnaf weithiau fod pobl yng Nghymru heddiw wedi<noinclude><references/></noinclude> lmg0rzcj6fk0hkmj0xbpyn7a809fp4w Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/70 104 82742 161624 2026-03-30T11:17:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161624 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gynt yr anghofiwyd yr ieuanc ynddynt. Nid cyffro yn y dyrfa yw ein hangen heddiw eithr cynnwrf dwfn yng nghalon y ffyddloniaid a gwaith tawel, caled, a chyson yn addysg grefyddol ein plant—gobaith y dyfodol. "Erys o hyd—a beunydd beunos, a byth,—yr angen am edifeirwch iasoer, iachusol." Diolch am glywed adlais Efengyl Galilea. "O'r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd." Er nad oes sôn amdani yn y credoau eglwysig, Teyrnas Dduw yw hanfod Efengyl ein Harglwydd, a throsti hi y rhoes ei hun yn aberth dwyfol. Ni sefydlodd Ef nac eglwys na diwinyddiaeth gyfundrefnol—na Christionogaeth ychwaith. Eithr cyhoeddi Teyrnas Dduw a gorchymyn edifeirwch ar gyfer ei dyfodiad. Rhaid meddwl am ein hiachawdwriaeth yn nhermau'r Deyrnas sydd gyfled â holl anghenion dynolryw—yn bersonol a chymdeithasol, yn ysbrydol a thymhorol. Fe unir Nef a Daear, y dwyfol a'r dynol, ynddi hi ac fe ddiflanna pob canolfur gwahaniaeth mewn byd ac eglwys wrth ei dyfodiad. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Y Parch. J. P. DAVIES, Porthmadog.}}}} Darllenais erthyglau Mr. Ambrose Bebb yn eiddgar ac awchus, a chytunaf â llawer o'u cynnwys. Da gennyf hynny, a chofio mai lleygwr yw ef. Dywedir yn aml iawn ein bod ni, weinidogion, allan o gysylltiad â'r byd, ac nad oes gennym y syniad lleiaf beth sy'n digwydd ym myd dynion. Da iawn gennyf na chyhuddwyd ni o hynny y tro hwn. Ond nid hwyrach nad oes peth gwir yn y cyhuddiad, ac o ganlyniad y mae mwy o werth ym marn lleygwr ar gwestiwn fel dirywiad crefydd yng Nghymru nag a fuasai ym marn un ohonom ni. Amheuthun yw gweled Athro Coleg a llenor o fri, ac yntau yn un o arweinwyr ei eglwys, yn ymdrafferthu i geisio deall pwnc sy'n poeni llawer ar y mae'n weinidogion y dyddiau hyn. Wrth fyned heibio ddigon tebyg mai un achos o'r dirywiad crefyddol yn ein <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> tvs4d8o87k2rmp54b0flnm9h2jsnfco Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/25 104 82743 161625 2026-03-30T11:17:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161625 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|HWYL AC AN—HWYL.}} Y mae hi'n Wyliau'r Pasg (1953) arnaf i, ac yn hamdden amheuthun iawn. Nid rhaid imi fynd i'r Coleg; nid rhaid imi ddarlithio; ac nid rhaid imi farcio papurau; na gwneud dim un o'r llu pethau a fydd yn galw fel cloc ar adeg arall. Hyfryd iawn yw hi arnaf. Gwir fod yr ardd yn galw am gymwynas neu ddwy; ond y mae hi'n gynefin â disgwyl. Un amyneddgar dros ben yw hi. Gwir hefyd fod pobl ar eu gwyliau, ac yn heigio o fan i fan, ac yn ymsegura'n galonnog braf. Ac y mae ambell un o'm cyfeillion innau'n cael y fraint o grwydro'r cyfandir. Gwyn eu byd, bawb ohonynt! Mi gefais innau f'awr i grwydro—ac fe'i caf eto gobeithio. Ydyw y mae hi'n Wyliau'r Pasg, ac y mae ''awyrgylch'' Gwyliau yn y gwynt yn y glaw a'r gwynt. Heddiw'r bore, y mae'r Haul wedi dyfod i'n plith unwaith eto. Ac unwaith yr ymddengys y brenin un—llygad hwnnw, y mae hi'n giprys mwy fyth am yfed o bêr ddiogi'r Gwyliau—naid dros y trothwy, cam drwy lidiart yr ardd, canu'n iach i'r hendre, a bant â ni i'r rhyddid di—ofal a di—lyffethair! Y demtasiwn fawr yw gadael pen ac inc, papur a llinell, bwrdd a chadair, ac ymddihatru o bob cyfrifoldeb. Ymaith reolau! I ffwrdd â'r hualau! Ond mi roddais i'r tresi amdanaf, ar awr wan, cyn dyfod y Gwyliau hyn. Do: ysywaeth! Ac mi addewais i Olygydd yr ''Herald'' lunio ysgrif neu ddwy, ac nid un neu ddwy yn unig, ond tair neu bedair. I fod yn berffaith onest, mi addewais bedair iddo. Pedair!—a hithau'n Wyliau'r Pasg. Onid oedd honno'n awr wan arnaf. Hyfryd. fyddai ymryddhau erbyn hyn! A mynd gyda'r llu—i Ffrainc, i Iwerddon, neu i ffordd y mynydd, neu hyd lwybr y dyffryn. Ond, waeth i mi heb nag osgoi. Os addewid, addewid—os addo, cyflawni. Nid y Pasg, o'r un adeg mewn blwyddyn, ydyw'r cyfnod i dorri addewid. Pum niwrnod yn ôl, yr oedd hi'n Ddydd Gwener y Groglith; ac ni welwyd erioed y fath gadw addewid ag a fu y dwthwn Q hwnnw. Ddeuddydd yn ôl yr oedd hi'n Ddydd Sul y Pasg. Ac ni fu mewn Hanes y fath gyflawni ag a welwyd y dydd hwnnw . . . 'Thâl hi ddim—'thâl hi ddim torri addewid yn ystod y Pasg! Heblaw, y mae eraill yn gweithio, mewn llawer dull a modd. O'r fan yma yn awr, mi glywaf briffordd y ddinas hon yn griddfan dan bwys a gwres y cerbydau sy'n llyfnu ei hwyneb. Ennyd bach yn ôl, mi ddarllenais yn y papur fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynadledda yn Llandrindod dros y dyddiau hyn. A phe gwyddai'r papur y cwbl, diau y gallai ddywedyd bod yr Anghydffurfwyr yn ymgynnull yn rhywle neu'i gilydd. Mi wn innau'n dda fod Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn cyfarfod tuag Aberhonddu. Ac y mae Plaid Cymru yn pwyllgora rywle'n agos i ganol yr hen wlad fach yma. Gweithio? Ie, gweithio y mae'r rhain i gyd; a gwae'r neb a wado hynny. Gwae hyd yn oed y neb a wado nad eu gwaith hwy ydyw'r union waith pwysig sydd—ie, yr ''unig'' waith pwysig sydd yng Nghymru heddiw. Gan fod cymaint cwmwl o weithwyr o'm cwmpas, gweddus yw i minnau geisio gwneud tipyn bach o waith. Pwy a gred fod hyn yn wir waith, sydd bwnc arall. Yr wyf i am ddadlau ei fod—ac ar yr un tir â'r gweithwyr a nodais uchod. Yr wyf am ddadlennu, o'r diwedd, wedi mwy na mwy o ogor—droi, mai yr un yn union fydd fy ngwaith ag eiddo'r uchel—gynadleddwyr a'r oracl—gynullwyr dywededig—y gwaith anhawsaf o'r un, yn y maes mwyaf anhydrin sy'n bod. Yr wyf yn cymryd llawer yn ganiataol, fel y gwelwch. Canys ni welais raglen gwaith mwy nag un o'r cyfarfodydd a enwais. Prin er hynny, y methaf ryw lawer, wrth awgrymu hyn y bydd y Clerigwyr a'r Gweinidogion yn ceisio datrys rhai o ddirgelion crefydd yng Nghymru heddiw; y bydd yr Addysgwyr yn wynebu'r benbleth sy'n bla ar addysg y wlad fach yma; ac y bydd y Pleidwyr ar ddeng ewin yn chwilio am ffordd ymwared i'r bywyd cymdeithasol a gwleidyddol. Ac os pwyllgorau eraill a fydd yn ystod y Gwyliau hyn, ac os cynadleddau a chymanfaoedd eraill, ac os cyd—eistedd ac os cyd—gyfarfod, mi a awgrymaf mai rhyw agwedd neu'i gilydd ar Gyflwr Cymru heddiw a fydd dan sylw pawb o'r cynrychiolwyr a ddaw at ei Q gilydd, i ba le bynnag y dônt, ac yn enw pwy bynnag y gelwir hwy ynghyd. Gan i minnau ddymuno "Gwyn eu byd" i'r rhai oll sydd yn ymddigrifo yn ddiofal ysmala, y mae'n deg imi hefyd ddymuno Gwyn eu byd" i bawb o'r rhai sydd yn ymddwysáu'n fawr eu gofal uwchben yr argyfwng a'n hwyneba ni oll. Yr wyf bellach wedi yngan y gair. Fe'i cedwais yn ôl mor hir ag y gallwn. Ond rhaid oedd ei ollwng allan o'r cwd rywbryd neu'i gilydd. A'r gair yw—ARGYFWNG. Cyfaddefaf y buasai'n dda gennyf ei osgoi. Nid ydyw'n air hyfryd iawn. Nid oes dim melys o'i gwmpas—na dim tangnefeddus. Hen air annifyr, a'i lond o ryw fraw ac arswyd. Efallai hefyd mai dynion braidd yn annifyr sydd yn hoff ohono. Ac nid oes amheuaeth nad ydynt yn ceisio creu rhyw ias anhyfryd ynoch pan ddefnyddiant ef. Nid oes i chwithau ddim diddanwch ynddo. Nid oes i minnau ychwaith. Llai fyth yn yr ergyd sydd yn saethu allan ohono. Aed y gair a'r ergyd allan o'n cof, ond yn unig pan fyddo hi yn . . . ie, yn ... Argyfwng. Ysywaeth, dyna yw'r sefyllfa. Nid myfi sy'n dywedyd hynny, ac nid carwyr y gair hwn yn unig sydd yn dywedyd. Y mae ar wefus un o bob deg o'r bobl a gwrddwch chwi heddiw ar y ffordd ac yn y ffair. Ydyw; ac y mae ei gyfystyr ar wefus pobl yn Ffrainc a Phrydain fel ei gilydd; ac ar wefusau Ewropeaid deallus ac Americanwyr hirben. Ystyr hynny ydyw bod y cyflwr hwn, a elwir "Argyfwng", yn gyflwr sy'n gyffredin i'r hil ddynol ar bum cyfandir. Fe ŵyr pob cenedl o bobl heddiw am ryw agwedd arno, neu am ryw gyfran ohono. Amrywia o fan i fan, o wlad i wlad, o ran ei faint ac o ran ei ansawdd. Ond nid oes odid genedl o ddynion heb fod yn yr afael ag ef. Naturiol yw hynny, gan ein bod yn frodyr i'n gilydd, yn etifeddion i'r un dreftadaeth ddynol, ac yn gydgyfranogion yn yr un pechod. Ar ryw gyfrif, ymddengys mai cyfiawn yw hyn; ac mai teg ydyw i ninnau ymddiddori yn argyfwng ein gilydd. Yr un pryd, Cymru ydyw ein cyfran ni o'r argyfwng dynol. Hi ydyw ein baich arbennig ni—nid am ei bod hi'n well na rhyw gongl arall o'r byd. Nac am ei bod hi'n waeth. Nac am fod ei hargyfwng hi'n fwy arswydus nag Q eiddo'r cenhedloedd eraill. Nage; ond am y rheswm symlach na syml, mai yma yr ydym ni'n byw. Yma y mae ein cyfrifoldeb arbennig ni yn debycaf o bwyso'n ddiriaethol arnom o ddydd i ddydd, ac o awr i awr. Yma'n unig y gallwn ni gyfrannu'n uniongyrchol at wella'r clwy. Bod yn hollol ymarferol a diffuant ydyw addef cymaint â hyn. Cais i edrych ym myw llygad y cyngor Cristionogol ydyw, hefyd. Fe wyddoch y cyngor mor dda â minnau: Câr dy gymydog fel tydi dy hun. Beth, gan hynny, ydyw'r argyfwng y sonnir amdano? Neu, o'r hyn lleiaf, beth yw rhai o'r elfennau sydd yn ei gyfansoddi? neu, yn well efallai, yr arwyddion ohono? Mi anturiaf ateb bod y rhai sy'n dilyn ymhlith yr amlycaf o'r arwyddion hyn, heb honni dim pwysigrwydd o gwbl i'r drefn y gosodaf hwy i lawr. 1. Y mae nodau afiechyd a gwendid ar Ddiwylliant Cymru yn gyfan. 2. Y mae crefydd yn ein plith yn llai ei dylanwad, ac ar lai o bobl nag er cyn cof yr hynaf sy'n fyw heddiw. Dywedir yn ddigon croyw fod mwy na thri chwarter ein cyd—ddynion heb ddim cysylltiad o gwbl ag unrhyw eglwys neu gapel. Yn wir, mi glywais ddywedyd nad oes fawr mwy na deg y cant mewn cyswllt cyson â chrefydd gyfundrefnol. Prun bynnag am yr ystadegau manwl gywir, fe gytunai pawb â hyn; mai llannau'n llefain, capeli'n griddfan, Ysgol Sul a chwrdd Gweddi a Seiat yn ubain, ydyw'r sefyllfa erbyn hyn ledled ein gwlad. 3. Y mae materoliaeth ronc yn rhodresa dros y tir; anffyddiaeth gadarn yn uchel ei phen o fôr i fynydd; a chomiwnyddiaeth yn gorymdeithio yn ein mysg fel llu banerog. 4. Y mae'r iaith Gymraeg, a luniwyd gan Dduw a dyn ar gyfer y genedl hon, yn wrthodedig gan fwyafrif ei phobl. Yma eto y mae ystadegau'n llefaru'n groyw iawn, ac yn ei dweud hi'n chwerw dost. Y maent yn dannod yn ein hwynebau mai pump y cant o blant ysgol sydd bellach yn medru Cymraeg gydag unrhyw lun o feistrolaeth; a bod dwy o siroedd Cymru bron â bod yn gwbl golledig i " iaith ein tadau". Dyna'r rhestr. Ac fe ddichon y gallai pob un ohonoch ychwanegu ati. Ac fe allwn innau'n hawdd ddigon, pe Q na bai'n unig ond i gyfaddef ymhellach, nad yw'r sefyllfa ddim yn wych iawn ym myd yr addysg a gyfrennir i'n plant ni, nac yn neilltuol o flodeuog, a dweud y lleiaf, yn hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Fe dorrwn y rhestr yn fyr, er hynny. Y mae eisoes nid yn unig yn ddigon hir, ond hefyd yn ddigon difrifol. Pwy ni chytuna â hynny? {{***|4}} Dyna ni, ynteu, wedi rhoddi ein bys, nid yn gymaint ar yr argyfwng ei hun, ond o leiaf ar ambell un o'r arwyddion mwyaf amlwg i lygad pawb. Gwaith yr oedd hi'n anhepgor ei wneud oedd hwn. Gwaith eithaf annifyr, ond un cymharol hawdd ei wneud. Y cam nesaf fydd yr un anodd—yr un ''gwirioneddol'' anodd ac a fydd, efallai, y tu hwnt i'n gallu ni i'w wneuthur. A'r cam hwnnw fydd ceisio egluro paham y daeth y drygau hyn arnom ni heddiw. Ie; paham? pa fodd? pa bryd? Ond rhaid fydd mynd i ymgodymu ag ef. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|AN—HWYL AC ANFRI.}}}} Cyn beiddio ateb y fath ofyniadau â'r rhai a enwyd, efallai y cytunir â mi i gydnabod mai'r dirywiad crefyddol ydyw'r un pwysicaf o'r cwbl. 'Dwn i ddim a fyddai pawb yn barod i gytuno ymhellach â mi, pan ryfygaf ychwanegu hyn; mai'r dirywiad crefyddol sydd hefyd wrth wraidd yr holl ddirywiadau eraill. Ymddengys i mi na ellir yn hawdd osgoi casgliad o'r fath. Y mae crefydd, wedi'r cyfan, yn ehangach ei harfod, yn ddyfnach ei dylanwad, na diwylliant na dim un agwedd unigol arall ar fywyd dynion. Gellir profi'r gosodiad hwn, hefyd, heb lawer iawn o ymdrech meddwl. Digon yw galw i'n cof ffaith neu ddwy fel y rhain; yn gyntaf y bydd diwylliant, a holl fywyd dyn yn gyffredinol, yn colli disgleirdeb a hoen pan fyddo hi'n ddydd o encilio oddi wrth grefydd; ac yn ail, y bydd graen a gogoniant yn perthyn i fywyd dyn a chenedl pan fyddo hi'n awel deg ar grefydd. Pob rhyddid i chwi anghytuno â'r ddau osodiad hyn, a chymryd eich pwyll a'ch hamdden i'w gwrthbrofi. Ni wnaf i ond galw eich Q sylw at farn neu ddwy a gredir yn lled gyffredinol gan ysgolheigion. Sef, yn gyntaf, i'r gymdeithas a'r gwareiddiad Groegaidd—Rufeinig siglo a suddo, o ddiffyg Duw a moesoldeb cymdeithasol; ac yn ail, i ddiwylliant a gwareiddiad ailflodeuo yng Ngorllewin Ewrop, dan arweiniad y Grefydd Gristionogol, a than ofal a swcwr yr Eglwys Gristionogol. Ac yn awr, yr wyf i'n fawr fy awydd i faentumio yn gadarn ''''mai'r dirywiad crefyddol ydyw achos blaenaf a phennaf pob dihoeni sydd ar fywyd Cymru heddiw.'''' Mewn gair; diffyg sydd ar grefydd, diffyg sy'n debyg o fod ar foes ac ar fasnach, ar feddwl ac ar foddau, ar iaith ac ar ddiwylliant; ie, nid yn unig yn debyg o fod, ond yn sicr o fod. Ni ellir ysgaru'r naill oddi wrth y llall. Am Gymru yr wyf i'n meddwl, fel y dywedais o'r blaen. Y mae eraill a llawer gwell dynion na mi—yn dywedyd yr un peth am fwy nag un wlad arall. Oes; ac y mae ambell un ag ystod ei sylw yn cyrraedd dros Wareiddiad y byd crwn cyfan. Ni ddyfynnaf ond un yn unig o'r rhain—yr athronydd o Ffrainc, Renouvier. O'i gyfieithu i'n hiaith ni, dyma ydyw ei ddyfarniad ef: ''"Y mae'r byd yn dioddef o ddiffyg ffydd mewn un Gwirionedd Trosgynnol."'' Blynyddoedd lawer sydd er pan wnaeth Renouvier y sylw hwn; ac y mae pob blwyddyn a ddilynodd er hynny, wedi ychwanegu at gywirdeb a grym ei ddedfryd. Ond i ddychwelyd i Gymru. Gan imi honni mai diffyg grym ein crefydd sy'n gyfrifol am y dihoeni cyffredinol, fe dâl inni, yn awr, arafu ychydig bach i edrych yn fanylach ar y sefyllfa grefyddol. Mor hawdd â chwarae yw gwneud hynny, gan fod pawb yn ei dro yn ei thrin a'i thrafod. 'D'oes dim eisiau mwy nag agor unrhyw un bron o'n papurau wythnosol i weld hyn yn digwydd. Dyma'r nesaf i law, a ddaeth allan o'r Wasg ddoe ddiwethaf (Ebrill yr 8fed, 1953). Y mae o leiaf dri neu bedwar o ddynion "trwm " yn rhoddi eu barn hwy eu hunain ar fywyd crefyddol y genedl fach fondigrybwyll hon. Dodwn ei gyfle i bob un, a gofod ar ei gyfer: Medd y cyntaf:— ''Rhyw gaffi ysbrydol ydyw'r Eglwys i rai pobol; ac ânt yno am fod yno bregethwr wrth eu bodd, neu am fod yno'' Q ''organ go dda. I eraill, rhyw ganolfan y Groes Goch ydyw, yn bod er mwyn doluriau'n unig Deuant i'r capel weithiau; ond pan ddaw i ran yr Eglwys i wneud pethau amhoblogaidd nid ydynt yno i sefyll yng ngwres y dydd. Mae dydd y proffwyd yn darfod, a dydd yr offeiriad yn dod i'r amlwg. Y mae seremoni'n dod i mewn, a sancteiddrwydd yn mynd allan."'' Y mae'r ail a'r trydydd yn "dal i chwythu" bob yn ail â'i gilydd, ac yn bwrw drwyddi fel hyn:— ''"Y mae'r bobol acw yn awchu am bregethau sentimental a thipyn o ganu ynddyn—nhw; ac os pregethwch chi'n weddol sylweddol, fe gwynant nad ydyn nhw yn eich deall—chi. Y mae fy mhobol i yn dechrau gwylio'r rhaglenni radio a thelefisiwn, ac mae arna'i ofn eu bod nhw'n colli blas ar yr hen bethau."'' ''Ysgrifennu'' y mae'r pedwerydd, ac, o ganlyniad, y mae mwy o bwyll ac o grebwyll yn ei ddadansoddiad ef. Hwdiwch—fel y galloch farnu drosoch eich hunain:— ''''Gwlad faterol yw Cymru . . . Yr ydym yn byw mewn gwlad baganaidd. Dim ond y dwl a'r dall fuasai'n gwadu. Yr ydym ni, Weinidogion, yn pregethu bob Sul i fwy o seddau gweigion nag o wynebau deallus. Awn ar ôl yr esgeuluswyr; ymresymu, crefu, dwrdio. I ddim pwrpas . . . Mae'r encilwyr allan o'n gafael, ac nid oes gennym foddion i'w cyrraedd . . .'''' Yr wyf i am fod mor hy yn awr â gwneud sylw neu ddau am y datganiadau uchod. Y mae'r cyntaf yn ddigon diniwed, nid yw'n ddim ond egluro'n gynnil mai pedwar gweinidog yr Efengyl yw awduron y dyfyniadau. Mi adwaen i ddau ohonynt yn weddol dda, ac y mae gennyf barch mawr iddynt (pe bai hynny o'r diddordeb lleiaf iddynt hwy neu i chwi). Nid adwaen y ddau arall; ac ni fynegir eu henwau. Nid ydynt hwythau ar eu colled o fod heb eu henwi. Y sylw nesaf a wnaf yw hwn—fy mod yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r ffeithiau a nodir ganddynt. Fy nhrydydd sylw, ynte? Y mae hwn yn fwy beiddgar o lawer. Ac yr wyf yn mentro mwy na mymryn bach wrth ei ddweud. Nid oes mo'i osgoi, er hynny. Prin, mi gredaf, yr anghytuna'r pedwarddyn hyn â'r hyn sydd gen—nyf i'w ddweud, er y gall fod yn feirniadaeth arnynt hwy, neu ar rai a berthyn i'r un alwedigaeth â hwy. {{nop}} Beth, gan hynny? Hyn; nad oes yr un ohonynt yn aros i holi, yn ddwys ac yn ddifrif, paham y daeth y pla hwn ar grefydd Cymru. Go brin y gallai gofyniad pwysicach ddyfod i feddwl gweinidog yr Efengyl. Eto, nis. gofynnir. Gwaeth fyth, fe gymerir yn ganiataol mai ar y gŵr arall y mae'r bai. Y mae'r bai ar y "bobol"—"y rhai pobol," "y bobol acw," "fy mhobol i," "paganiaid Cymru". Nid awgrymir y gall fod bai ar y gweinidog. Nid addefir hyd yn oed ei fod yn gyd—gyfrannog yn y bai. Ac nid oes affliw o awgrym y dichon fod bai ar ei grefydd ef. Nac oes ddim, gan dri ohonynt. Ond y ''mae'' gan y pedwerydd; ac, am hynny, y mae'n haeddu pluen yn ei gap. Cynnil iawn ydyw ei addefiad, ond y mae'n arwyddocaol i'w ryfeddu. Clywch: ''Gwyddom nad oes yn ein crefydd ni, fel y mae, ddim a all eu deffro (sef y bobl) i'w hangen, na diwallu'r angen wedi'i ddeffro."'' Ni allaf ddiolch hanner digon i'r gweinidog hwn am ei gyfaddefiad. Gwir mai moel ei wala ydyw. Ond y mae'n gyfaddefiad; ac yn gyfaddefiad o wendid ar du'r grefydd a gynigir i Gymru heddiw. Ni ddywed beth yn union ydyw'r gwendid. Ac ni phoenaf innau ddim am hynny. Yn hwyr neu'n hwyrach fe gawn gyfaddefiad llawnach ganddo ef. Os nad wyf innau'n camgymryd yn enbyd, fe gawn rywbeth pwysicach fyth ganddo ef maes o law. Fe gawn, efallai, ymdriniaeth lawn â'r gwendid; ac at hynny, ond odid, awgrym o'r modd y mae ei ddileu, a gosod cadernid ac iechyd yn ei le. Yr wyf i bron â bod mor hyderus â honni mai ef fydd un o'r rheini a gyfranna i weddnewid y sefyllfa ddigalon bresennol. Aed ati, ac ymarfoged â holl weledigaethau'r proffwyd gwir! Yn y peth hwn, ynteu, y mae ef yn mwy na rhagor—ragori ar ei frodyr a ddyfynnais, o gymaint â'i fod yn gweld bod y drwg ''nid'' yn y "bobl acw" a'r "paganiaid" yn unig, ond yn eu bugeiliaid, neu, o leiaf, yn y ddarpariaeth a ddelir o flaen y defaid di—fugail hyn. Gwir bod un o'r tri arall yn awgrymu meddyginiaeth, ond gan na chydnebydd ef ei gyfran o'r bai, ni welaf fod ganddo lawer o hawl i gynnig ffisig, na llawer o gymhwyster. Nodaf ei awgrym, er hynny, sef "galw am fwy o ffyddlondeb i'r Eglwys a'i gwasanaethau." Purion peth, efallai, ond inni gofio'n Q gyntaf mai galwad at berson, galwad at Grist, ac nid at sefydliad, ydyw gwir alwad ein Harglwydd a'n Hachubwr ni; ac, yn ail, mai drylliau a darnau o Eglwys sydd gennym yng Nghymru heddiw; a'r drylliau hynny heb ymwybod ond y lleiaf peth â'u cymdeithas â'i gilydd, ac â'i Ddioddefiadau Ef er eu mwyn hwy oll—ac er mwyn y myrdd nad oes ganddynt unrhyw gyswllt yn y byd â'r drylliau gwahanedig hyn. Yr Eglwys? Dduw Dad, a oes gennym ni'r dirgelwch hwnnw heddiw? Yr Eglwys? Onid hi—neu'r sefydliadau sy'n derbyn yr enw—sy'n cadw draw? Y mae Crist yn galw ac yn denu, â'i Groes yn denu ac yn tynnu sylw. Ond, am yr Eglwys, y mae hi, mor aml â pheidio, yn gyrru oddi wrthi. A ydwyf i'n dweud celwydd, neu'n cablu, wrth fwrw drwyddi fel hyn? Ofn sydd arnaf nad ydwyf i ddim. Mi roddwn i lawer iawn am weled gwir Eglwys, deilwng o Grist, yng Nghymru heddiw, ac yn denu'r myrdd miloedd i mewn i'w chôl. Ond nis gwelaf ar hyn o bryd. Na cham—ddeallwch fi—nid oes gen i fawr ddim cydymdeimlad â'r bobl hynny sydd yn beirniadu'r "Eglwys" ''oddi allan'', heb geisio gweithio o'r tu mewn iddi, a heb gyfranogi o'i baich. Felly, nid yw galwad y gweinidog am "fwy o ffyddlondeb i'r Eglwys " yn ddim llai na galwad ar y gweinidog—pob gweinidog a phob offeiriad i'w gysegru ei hun i wneud yr hyn a elwir yn "Eglwys", yn Eglwys mewn gwirionedd, a chysylltu'r darnau drylliedig, sef yr enwadau, â'i gilydd mewn un cyfamod a brawdoliaeth Cristionogol. Yn gynnil iawn, ond nid heb dipyn o feddwl ymlaen llaw, awgrymaf nad llawer o'n gweinidogion sydd yn ymgysegru o lwyr fryd calon i'r llafur difrif hwn o weddnewid capel ac eglwys i'r fath raddau nes dyfod ohonynt yn wir lun a delw Ei Eglwys Ef. Nid llawer ar lawer sy'n ymroddgar hyd yr eithaf yn ei gapel ei hun. Ac nid llaweroedd sy'n dwyn mawr ofal calon o weled yr enwadau crefyddol mor ddieithr i'w gilydd, mor wahanedig, ac yn aml, mor ryw ddirgel eiddigus y naill o'r llall. Am Grist y dywedodd Paul iddo "ddatod canolfur y gwahaniaeth rhwng yr Iddew a'r cenedl—ddyn." Ond amdanom ni, nyni a gloddiasom ganolfuriau gwahaniaeth hyd yn oed rhwng Cymro a Chymro. Pa sawl un o'n gweinidogion ni sy'n athrist, Q ni ddywedaf hyd angau, ond hyd ddioddefaint, oherwydd nad oes dim gobaith i'r eglwysi gymodi'r byd â hwy, heb yn gyntaf iddynt hwy ymgymodi â'i gilydd? <section end="bbb"/> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|ANFRI AC ANHREFN.}}}} A ydwyf yn euog o wneud môr a mynydd o ddatganiadau'r pedwar pregethwr? Efallai fy mod. Yr wyf am eich sicrhau nad o fwriad y mae hynny, beth bynnag. Ac, yn siwr ddigon, nid oes gen i yr un rhithyn o elyniaeth tuag at yr un ohonynt. Cyn belled ag y gwn i, dichon fod pob un o'r pedwar ymhlith y goreuon o'n holl weinidogion. Wrth fod mor hy ag ystyried eu barn yn y fan hon, fy unig fwriad ydyw ceisio deall y sefyllfa grefyddol sy'n ein hwynebu ni, bawb fel ein gilydd. Ac o iawn ddeall y sefyllfa, olrhain yr achosion, ac, yn fwy na dim, ceisio chwilio am ffordd ymwared. Daw hyn â mi, yn naturiol, at un arall o'u gosodiadau. Peidiwch â dychryn!—hwn fydd yr olaf a ystyriaf. Fe'i gosodaf ger eich bron, i ddechrau. Hwdiwch eto:— ''"Y mae'r drwg wedi cychwyn tuag adeg Diwygiad 1904—5. Daeth yr awel deimladol honno â digon o bysgod i'r rhwyd, ond pethau heb asgwrn cefn ydy' pysgod, ynte?"'' Sylw neu ddau ar hyn. "Yr awel deimladol honno," yn gyntaf. Dyna ydoedd hi, yn ôl pob tebyg. O leiaf, felly y dysgir ni i gredu. O'r gorau, bydded felly. Ond, ar bwy yr oedd y bai am hynny? Onid ar y "diwygwyr " eu hunain, hynny yw, ar y gweinidogion a'r pregethwyr? Hwynt—hwy oedd yn arwain, a hwynt—hwy a roddodd y math yma o nod ac ansawdd i'r Diwygiad. Nid oes fodd yn y byd iddynt hwy ddianc oddi wrth y cyfrifoldeb. Gosodwn ef yn blwmp ac yn blaen ar eu hysgwyddau hwy,—ac nid ar y "bobol acw". Y mae'r "bobol "—"y bobol acw," "fy mhobol i," 'paganiaid Cymru "—yn gwbl ddieuog. Ydynt—y mae'r pysgod," fel y gelwir hwy y tro hwn, yn lân eu dwylo. Ni wnaethant ddim namyn dilyn arweinwyr y Diwygiad. Os oedd rhywbeth allan o'i le ar y Diwygiad, arnynt hwy yr oedd y bai—ar y Diwygwyr, y Gweinidogion a'r Pregethwyr q Y mae geirwiredd ac onestrwydd yn galw arnom i bwysleisio hynny, eithr heb ddigio dim wrthynt, heb sôn am eu difrïo. Unwaith eto, fe'n cawn ein hunain yn gorfod tystio mai rhaid sydd ar Weinidogion y Gair i gydnabod eu bai. Nid oes ganddynt hwy le i orfoleddu. Nid oes ganddynt mo'r hawl i fyned o'r tu arall heibio i'r drwg "—os drwg, hefyd—a wnaed yr adeg honno. Wrth reswm, cenhedlaeth arall o weinidogion a wnaeth y drwg hwnnw. Ond ni all y genhedlaeth y sydd olchi ei dwylo oddi wrth y nam a wnaed gan y genhedlaeth a oedd yma yr adeg honno. A ydych yn cytuno? Yr ail sylw, yn awr; ie, yr olaf un! Ai cywir y gosodiad mai "tuag adeg Diwygiad 1904—5" y cychwynnodd "y drwg"? Mi glywais y farn â'm clustiau fy hun fwy nag unwaith. Ond y mae'n wir amheus gennyf ei bod yn gywir. 'Wyddoch chi paham, gyfeillion? Y paham ydyw hyn: (a) y gwelwch chwi, mewn cofnodion eglwysig, gyfeirio at golli mynychwyr o'r Cwrdd Gweddi a'r Seiat, yn ystod yr wythdegau o'r ganrif ddiwethaf; (b) y gall y neb a fynno fynd i'r drafferth o chwilio hanes yr Ysgol Sul mewn llawer ardal, weld drosto'i hun yr ymddengys y gŵyn am "esgeuluswyr", eto ynghylch yr un blynyddoedd. Yn awr, gyfeillion, pan welwch chwi gyfeiriadau, yn niwedd y ganrif o'r blaen, at "esgeuluswyr yr Ysgol Sul, ac at anfynychu o'r aelodau ddyfod i Gwrdd Gweddi a Seiat, pan welwch chwi hyn, meddaf, y mae'n gystal prawf â'r un fod y drwg yn y cosyn eisoes. Heb ryw lawer o betruso, yr wyf i'n dyfod i'r casgliad bod y dywededig "ddrwg" wedi dechrau ar ei waith o leiaf bymtheng mlynedd o flaen Diwygiad 1904—5. Rhaid bod yr eglwysi a'r swyddogion a wnaeth y sylwadau hyn yn ymwybod â rhyw golli gafael yn y blynyddoedd hynny. Ac nid hwynt—hwy yn unig ychwaith. Yr oedd Cymro mwyaf y dydd hwnnw, a'r Cymro a oedd â'i glust yn nes na'r un at guriad calon y genedl, yn ymglywed â'r un duedd. Owen Morgan Edwards oedd y Cymro hwnnw. Ac yn y flwyddyn 1894 yr oedd ef yn paratoi i osod o flaen ei genedl y cylchgrawn a alwodd—''Y Llenor''. Yn y rhifyn cyntaf ohono, y mae "O.M." yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:— {{nop}} ''"Ar ddiwedd canrif . . . dyma gwestiwn na ellir ei ofyn, yng Nghymru, heb fawr ofal calon. Yr ydym yn symud ac yn symud yn gyflym. Ond i ble? . . . A ydym yn symud oddi wrth ddiwinyddiaeth? . . . Os ydym yn symud, i ble? . . . Troir oddi wrth athrawiaethau diwinyddol at y dull manylaf o gyfrif symudiadau'r sêr, etc., etc. Ac wrth wneud hyn, diystyrir diwinyddiaeth, yn ddigon aml, fel yr anwybodaeth yr ymbalfala hen bregethwyr di—ddysg a hen wragedd Seiat yn ei thywyllwch." '' Ni thybiaf i na ellid mynd ymhellach yn ôl na hynny, ac yn nes yn ôl, hyd yn oed, na'r wythdegau y soniais i gyntaf amdanynt. Yn wir ac yn wir, fe geir mwy nag un awgrym o hynny yn Hunangofiant rhyfeddol Robert Roberts, a'r cyhuddiad llym fod y "dry rot", fel y dywed ef, wedi dechrau ysu rhuddin y goodly young tree, Methodism" gryn genhedlaeth yn gynt. Ond nid awn ni cyn belled yn ôl â hynny yma'n awr. Dechreuwn, ynteu, tua'r flwyddyn 1894. Y mae hynny eisoes ddeng mlynedd yn gynt na'r Diwygiad. A ellir can—fod rhyw arwydd o'r duedd i anwybyddu diwinyddiaeth y sonia O.M. amdano? Troer at lyfr neilltuol o ddiddorol gan y Parchedig. J. J. Morgan, gynt o'r Wyddgrug. Enw'r llyfr ydyw: ''A Welais ac a Glywais''. Yr oedd yr awdur yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth tua'r blynyddoedd 1895—1900. Ar dudalen arbennig o'r llyfr, y mae'n sôn am gydfyfyriwr ag ef, a baratoai, yntau, at y Weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dywed Mr. Morgan i'r gŵr ifanc arall hwnnw lwyddo i fynd drwy'r Cyfarfod Misol, drwy ei yrfa golegol, gan bregethu ar y Sul, a'i dderbyn i'r Weinidogaeth. Eithr, ar hyd yr adeg, Undodwr oedd ef yn ei gredo; ac ni chanfu na'r Coleg na'r Cyfarfod Misol, na dyn yn y byd, ddim oll o hynny. Wedi adrodd hyn o ffaith, ychwanega Mr. Morgan, braidd yn bigog efallai, y gallasai'r un peth ddigwydd ar hyd y blynyddoedd o'r adeg honno ymlaen hyd y dydd a'r awr hon. Ni wn i ddim. Ond dyna'i dweud hi'n lled finiog, yntê? Pan ofynnais i Mr. Morgan mewn llythyr a wyddai am un enghraifft arall o'r un peth, mi atebodd yn ebrwydd y gwyddai, a rhoddi, yn ychwanegol at hynny, frawddeg o'r eiddo'r llall hwnnw. Tebyg i hyn Q oedd honno: "Dyn da oedd Iesu Grist—dim ond dyn da. Fe welir ei well Ef eto ar y ddaear." A gawsom ni brawf fod mwy na dau fymryn o sail i ofn O.M.?—prawf o symud oddi wrth ddiwinyddiaeth? Y mae'n edrych braidd yn debyg, onid yw? Ymddengys hefyd mai yn y Colegau Diwinyddol yr oedd rhyw gymaint o gyfle iddo gael lloches dros dro cyn cael ei wasgar ar draws gwlad. Rhaid inni symud yn dra gofalus yn awr, rhag i rywun dybio ein bod yn sarhau Undodaeth ar y naill law, nac yn honni bod Colegau'r Methodistiaid yn dysgu diwinyddiaeth Undodaidd yn uniongyrchol, ar y llaw arall. Y mae'n ddyletswydd arnom, fel Cristionogion, roddi pob parch i safbwynt yr Undodiaid, a chydnabod hefyd yn ddiolchgar, gyfraniadau gwerthfawr ganddynt hwy i fywyd Cymru. Am Golegau Diwinyddol y Methodistiaid, go ryw brin y gallwn gredu eu bod yn ymwybodol ddysgu diwinyddiaeth sy'n annerbyniol gan eu henwad hwy eu hunain. Ond efallai y gellid dadlau na buont bob amser yn gwbl ddiesgeulus; a dadlau, efallai, i lawer tro ar ffasiwn fod yn ansawdd eu diwinyddiaeth drwy gydol yr hanner canrif ddiwethaf; a chasglu yn o lew o deg, nad cyfnod cadarn iawn ei ddiwinyddiaeth a fu'r ganrif hon, gyn belled ag yn awr, yn unrhyw un o'r Colegau Diwinyddol? Ni ddengys hyn fod symud bwriadol oddi wrth ddiwinyddiaeth fel y cyfryw. Ond yn siŵr ddigon fe ddengys symud go fwriadol a phendant oddi wrth yr hen ddiwinyddiaeth a oedd mewn bri yng Nghymru hyd flynyddoedd ieuenctid O. M. Edwards. Hynny, mi gredaf, a oedd ganddo yn ei feddwl—symud oddi wrth yr hen ddiwinyddiaeth Galfinaidd. Nid amheuaf i nad oes eisiau peth symud, o leiaf, symud digon i lwyr Gristioneiddio yr hyn nad oedd yn gyflawn o Grist yn yr hen ddiwinyddiaeth. Yn lle hynny, symud ar garlam a gafwyd, igam—o—gamu'n chwyrlïog—o'r "hen" i'r "newydd", o'r newydd i'r newydd—newydd" a'r newyddaf o hyd. Mynd hefyd drwy ryw ryfedd ddamwain, yn llwyr o gwmpas cylch, a chyrraedd yn ôl heddiw, yn llaw Karl Barth yn dalog at Galfin unwaith eto! Dyna ni, ynteu, wedi rhoddi trem ar yr yrfa ofnadwy a rhyfedd a fu i ddiwinyddiaeth yn y ganrif hon. Hawdd y Q gallaswn hefyd ddyfynnu geiriau, gan ddau o brifathrawon ein Colegau Diwinyddol, yn gwawdio'r holl syniad o geisio adeiladu corff o ddiwinyddiaeth o gwbl. Yn un o bamffledi Urdd y Deyrnas y bu hynny, tua'r flwyddyn 1924. Y mae un o'r ddau awdur yn fyw yn awr i weld y newid rhyfedd a ddaeth erbyn heddiw; ac mi welais ysgrif ganddo yn y "Traethodydd" tua blwyddyn yn ôl yn pleidio, y tro hwn, yr angen am ddiwinyddiaeth. Gwych iawn, onidê? Nid yw hi byth yn rhy hwyr i gywiro barn. Y mae Karl Barth wedi cael ei ddylanwad, welwch chi. I ddychwelyd at O.M. Onid oedd ei lygad yn gweld yn gywir gyfewin? Gwir ddigon yw'r gair, ysywaeth—bod yma symud oddi wrth ddiwinyddiaeth cyn diwedd y ganrif o'r blaen, a bod y symud hwnnw wedi parhau'n bendramwnwgl am hanner canrif. Yr un pryd, ac am yr un rheswm, bu yma symud hefyd oddi wrth grefydd. Nid yr un peth yw crefydd a diwinyddiaeth. Gwir arall yw hynny eto. Ond, rhaid yw pwysleisio eu bod yn perthyn yn agos i'w gilydd, fel dwy chwaer. Gwneler cam ag un, ac fe ddioddefa'r ddwy. Symud oddi wrth grefydd a diwinyddiaeth—dyna'i brofi. Ond symud tuag at beth? Tuag at wyddoniaeth ydoedd awgrym O.M. Llawer o wir, a mwy nag a dybiech ar un olwg. A fyddwn i'n ei methu hi'n aruthr ped anturiwn ddywedyd mai Gwyddoniaeth—gyda llythyren fras, welwch chi—a ddisodlodd ddiwinyddiaeth (llythyren fach iawn!)—mai hi, yn wir, a fu crefydd myrdd o bobl yn y ganrif hon? Nid unig grefydd y ganrif hon, ond un ymysg amryw. {{nop}} {{c|ANHREFN AC ANRHAITH.}} Nid oes eisiau i neb fod yn ŵr glew iawn, nac yn ŵr golau iawn, i gyhoeddi mai gwyddoniaeth ydyw un o'r delwau a godwyd i'w haddoli yn lle yr unig wir a bywiol Dduw. Nid rhyfedd ychwaith, pan daflwch eich meddwl yn ôl i rifo rhai o'r cymwynasau diamheuol a wnaeth hi i ddynion yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Y maent yn lleng; a byddai mor ynfyd eu gwadu â gwadu cyfodiad yr haul sy'n pelydrdreiddio i mewn i'r ystafell lle'r wyf i'n ysgrifennu'n awr. Eithr—a hyn yw'r cabledd—yn dâl am ei doniau da hi, aeth dynion i wneud duw o wyddoniaeth, a diorseddu Duw Abraham ac Eisac a Jacob yn ei ffafr hi a'i phroffwydi hi, a'i phariseaid a'i hysgrifenyddion hi. Cyffredin o beth, erbyn heddiw, ydyw clywed y geiriau hyn, hyd yn oed ar wefusau crefyddwyr—"mae Gwyddoniaeth yn dysgu" lle gynt y dywedent: "mae'r Eglwys yn dysgu." Ni bu'r fath chwyldro mewn safonau erioed. Gallwn ddywedyd yn unfryd gyda Bernard Shaw: "fe gredir pob ffwlbri yn enw gwyddoniaeth ond ni chredir dim gwirionedd yn enw crefydd." Nid rhyfedd, gan hynny, i un hanesydd o gryn fri ddatgan mai cwestisn mawr y dyfodol ydyw—a dry dynoliaeth yn erbyn y gwyddonwyr cyn iddynt. lwyddo i chwythu'r byd yn ulw mân? Un, er hynny, un yn unig ydyw gwyddoniaeth o'r lliaws duwiau a chrefyddau a ddyrchafwyd i'w haddoli yn lle'r unig wir Dduw a'i unig Grefydd ddatguddiedig Ef. Un? Pa rai ydyw'r lleill, ynteu? Nid yw hwn eto yn ofyniad anodd ei ateb, a dyma'i hwde i'r neb a'i gofyn. Comiwnyddiaeth? A oes amheuaeth am hynny? Pwy, yn ei lawn synnwyr, a wad nad ydyw Comiwnyddiaeth yn un o grefyddau mawr y byd yn y dyddiau diwethaf hyn? Y mae ganddi hi holl arfogaeth crefydd. Sefydlydd sydd ganddi, apostolion a phroffwydi, seintiau a santesau; ie, a merthyron fwy na mwy. Ganddi hithau, fel y grefydd Gristionogol, y mae eglwysi a chapeli, pabau a phenaethiaid, ysgrythurau santaidd ac esbonwyr swyddogol, cenhadaeth dramor, cenhadaeth gartref, seiadau ac ysgolion Sul; ie, pob cyfrwys barodi o'r offeiriadaeth Gristionogol. Q Y mae wedi rhannu'r byd yn ddwy garfan elyniaethus. Y mae un hanner o'r byd yn cymryd llw yn ei henw hi, a'r hanner arall yn ymswyno beunydd rhagddi. Heb ddim dwywaith, y mae Comiwnyddiaeth yn grefydd. Yn wir, ac yn wir, a fu crefydd erioed a aeth ar led y cyfandiroedd mor gyflym ag a wnaeth hi? Un rheswm am hynny ydyw bod ei gweinidogion a'i hoffeiriaid hi, ei blaenoriaid a'i haelodau cyffredin, yn ei chymryd hi'n aruthrol fwy o ddifrif nag a gymerwn ni ein Crist ni a'i Efengyl Ef. Yn hynny o beth fe ddylent godi'r cywilydd cochaf erioed i wyneb pawb ohonom. Mwy fyth, pan gymerwn ni un ennyd i ystyried hyn: mai ein difrawder ni fel Cristionogion ydyw un o'r cyfryngau mwyaf llwyddiannus i drosglwyddo y rhai a fu unwaith yn aelodau o'n heglwysi ni yn rhad ac am ddim i freichiau agored y grefydd hon. Peth ofnadwy i'w ddywedyd, onid e? Ond fe'i dywedaf yn groyw. A mentraf fy mhen fod y gwir sydd yn y gosodiad ysgubol hwn yn llawer mwy nag a freuddwydiodd odid neb ohonom. Dyma'i ail ddywedyd yn fwy pendant a di-addurn—nyni, Gristionogion di-lygad, di-ddiwinyddiaeth, di-Grist, sy'n gyfrifol am ledaeniad Comiwnyddiaeth yn Neheudir Cymru, ym Mhrydain, ac ar gyfandir Ewrop. Nyni oll! Hen ddigon o sôn am Gomiwnyddiaeth, fel un arall o'r crefyddau a ddisodlodd Gristionogaeth. A oes arall eto? Peidiwch â synnu os dywedaf fod, a mwy nag un arall eto. P'run, ynteu? Y ladi barchus hon, efallai—Totalitariaeth? Naw wfft i'r gair, i ddechrau. Yr unbennes lifreiog a elwir y wladwriaeth ydyw hon; neu, a newid ei rhyw, yr unben medalog a elwir y teyrn. Fel y gŵyr pawb, un o ddiwydiannau mwyaf llewyrchus y ganrif hon fu cynhyrchu teyrn ar deyrn. O beithdir Periw hyd barthau Korea y maent wedi bod yn pingo. Y brodyr enwocaf o'r rhywiogaeth ladronllyd yma ydoedd Mussolini a Hitler. Ond yr un nod ac amcan sydd i'r cwbl—crefu am dra arglwyddiaethu. Mewn gair, eisiau bod yn Dduw oedd arnynt. Ac am fod y ddynoliaeth wedi gollwng ei gafael yn Nuw, fe ostyngodd ar ei gliniau ger bron y duw-ddynion beilchion hyn. Pell o Gymru fach, gwlad y gân a'r diwygiadau,' oedd y Q rhain, meddwch chwithau. Nid mor bell, gyfeillion. Nage; na phell o gwbl. Ond, yn y fan a'r lle, ymhlith yr hen genedl glên ddi-wladwriaeth hon. Yr oedd Syr Henry Jones yn Gymro, os da y cofiaf. Ac y mae chwarelwyr Blaenau Ffestiniog yn Gymry glân-gloyw. Yn awr, heb fod nepell o ddechrau'r ganrif hon, aeth Henry Jones i annerch ei gyd-wladwyr o'r Blaenau. Ei destun ydoedd—Dinasyddiaeth Bur. Llawer o bethau a ddywedodd yng nghwrs yr anerchiad hwn am y wladwriaeth,—neu fel y galwai ef hi, y wladwrfa." Eithr swm y cwbl ydyw'r frawddeg ryfedd hon:— ''"Cysegredig ydyw'r Wladwrfa, fy nghyfeillion . . . Perth yn llosgi heb ei difa' ydyw; ac nid wyf fi yn petruso dweud wrth y neb a ddyneso ati hi—Diosg dy esgidiau oddi am dy draed'."'' A allai ddiawl ei hun ddywedyd yn amgenach? A fu nemor gwell enghraifft o gamddefnyddio geiriau cysegredig o'r Ysgrythur Lân? Cafodd Henry Jones fyw i weld un o ganlyniadau erchyll yr addoli hwn ar y "wladwrfa", sef y rhyfel byd cyntaf, rhyfel 1914-18; ac annog blodau'r genedl Gymraeg i aberthu eu heinioes o dan draed y Moloch hwn. Cafodd weld y pregethwr enwocaf o'r un yng Nghymru yn ymwisgo â lifrai'r "Wladwrfa", er mwyn ymroddi i'r un gwaith â Syr Henry. Nid wyf yr un mor siŵr a gafodd fyw i glywed y gŵr hwnnw'n cyfarch cymanfa o Weinidogion yr Efengyl, gan ddywedyd ''Gwyliwch chi ddigio hwn''. Gofynnwn hen gwestiwn yr Ysgol Sul yn y dyddiau gynt, ac ymholwn; pwy ydyw'r "hwn" sydd yn yr adnod? Pwy, hefyd? Ysywaeth, nid Crist, nid Duw, na'r un o dri phersonau'r Duwdod! Y gŵr y rhoddai'r Parchedig John Williams, Brynsiencyn, ei gyd-weinidogion ar eu gwyliadwriaeth rhag ei ddigio ydoedd—y Prifweinidog, D. Lloyd George. Canys, y dwthwn hwnnw, ef oedd Duw John Williams. Nid oedd John Williams ar ei ben ei hun yn y camwedd hwn—ie, yn yr eilunaddoliad hwn. Gydag ef yr oedd myrdd o Gymry, o bob lliw a llun, o bob dysg a dawn, o bob capel ac eglwys, o bob enw ac enwad. Ond y lleiaf yn Nheyrnas Nefoedd sydd fwy na'r mwyaf ohonynt. Dyma fi, welwch chi, wedi enwi trindod o dduwiau gau—gwyddoniaeth, comiwnyddiaeth, totalitariaeth. A oes Q duwiau eraill eto fyth? A dorrwyd y gorchymyn—' na wna iti dduwiau eraill, ac nac ymgryma iddynt '—mewn mwy na'r tair ffordd a enwais eisoes? Gwaetha'r modd y mae; y mae duwiau eraill, ac fe wnaed delwau eraill. Amser a ballai, chwedl un awdur enwog, i'w dilyn mor fanwl ag y dilynais y tri chedyrn uchod. Cystal enwi un neu ddau o'r brodyr breiniol eraill. Dyneiddiaeth, er enghraifft, h.y. addoli dyn ei hun oherwydd ei garlamus gampau yn ystod y canrifoedd diwethaf hyn. Ac at ddyneiddiaeth, anffyddiaeth, gefell o'r un bru yn union. Ac at ddyneiddiacth ac at anffyddiaeth,—materoliaeth, aelod arall o drindod eto. Pwy a wad nad ydyw'r tri hyn, hwythau, wedi rhodresa'n rhwysg-fawr o fôr i fynydd, a thros fôr a mynydd, ac i bellafoedd y ddaear? "Wele dy dduwiau, o Walia." Dyna ydoedd pennawd ysgrif nid anenwog o waith Emrys ap Iwan. Eithr yn ei restr ef nid oedd ond dau—ariangarwch, a Saisaddoliaeth. Druan ag Emrys! Mor ddiniwed yw ei restr ef wrth fy rhestr i. Druan gŵr meddal. 'Wyddai fe ddim o'i eni! A dim ond ''lloi'', wedi'r cyfan, oedd ei dduwiau ef—y llo aur, a'r llo arall! Nid oes yr un o'r rhai a nodais i yn llai nag "anifail bras", chwedl y proffwyd. Oes, y mae yna epilio bras wedi bod ar dduwiau er dyddiau Emrys ap Iwan. Rheswm da paham. Yn ei amser ef, yr oedd Duw yn codi; yr oedd Crist yn cadw; yr oedd crefydd yn cyfrif. Yr oedd diwinyddiaeth mewn bri. Rhoddai dynion eu meddwl a'u dawn, eu bryd a'u hyder ar y sylweddau di-syfl; ac nid oedd, o ganlyniad, ryw lawer o le a chyfle i dduwiau eraill." Yr oedd Duw yn llond pob lle iddynt. Nid oedd gwacter yn eu henaid a'u hysbryd. Eithr, fel y gwelsom, fe ddechreuwyd gwamalu, a gwan-afael yn yr holl bethau hyn, tua diwedd y ganrif. O dipyn i beth, bwriwyd crefydd a diwinyddiaeth allan o'r ymysgaroedd. Symudwyd oddi wrthynt, a defnyddio geiriau O.M. unwaith eto. Naturiol ac anhepgor ydoedd y cwbl a ddilynodd. Hyn sydd yn fy meddwl; rhaid i ddyn wrth wrthrych i'w addoli. Y gwrthrych gweddus—yr unig wrthrych teilwng a gweddus—ydyw y Duw a'n gwnaeth ni er ei fwyn Ef ei Hun. Unwaith y caewn Ef allan o'n bywyd, y mae yno wacter. Ni allwn ninnau oddef gwacter. Fe'i Q llanwn. Rhaid inni ei lanw. A'r cwestiwn sy'n aros wedyn ydyw—â pha beth y llanwn y gwacter sy'n crefu am ei lanw? Syml ac anorfod ydyw'r ateb. Fe'i llanwn ag unrhyw benhoeden o grefydd neu o gredo, a ddigwyddo fod yn y ffasiwn ar hynny o bryd—gwyddoniaeth, comiwnyddiaeth, totalitariaeth, dyneiddiaeth, anffyddiaeth, materoliaeth, etc. Weithiau bydd rhai ohonom yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwir grefydd a gau grefydd. Ond ni thâl hynny ddim ychwaith. Rhoddwyd yr ateb clasurol i'r math hwnnw o chwarae'r ffon ddwybig gan Iesu Grist, ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn y geiriau pendant hyn: Ni ellwch addoli Duw a Mamon. Gwell imi, bellach, ddirwyn fy ymson i ben. Dechreuais drwy nodi'r arwyddion amlycaf o'r malltod sydd wedi taro cynifer o agweddau ar fywyd yng Nghymru heddiw. Dilynais hynny gan ymgais i ddarnodi mai o ddiffyg gafael ar grefydd wir y tardda'r parlys hwn. Yna, olrhain y duedd hon o tua'r flwyddyn 1890 ymlaen, a chanlyn y ffrwythau a ddaeth allan o'r esgoreddfa yn hedeg yn wyllt, dros y môr a'r meysydd, hyd at y dydd a'r awr hon. Wrth wneuthur hyn, defnyddiais yn lled helaeth y pedair beirniadaeth a ddigwyddai fod yn "Y Faner" ddydd neu ddau wedi i mi ddechrau ar fy siwrnai. O barch i'r gwirionedd ac o dan orfod ffeithiau, mi welais yn dda roddi ergyd i'r syniad mai ar "y bobol" yr oedd ac y mae—y bai pennaf. Gelwais y gweinidogion yn ôl at eu coed, neu, fel y dywedir yn Ffrainc, yn ôl at eu defaid. Rhoddais y bai am gorff y farwolaeth hon, ag ydyw crefydd yn ein plith ni, ar weinidogion y gair. Nid am fy mod yn tybio mai arnynt hwy y mae'r holl fai, ond am fod gennyf argyhoeddiad cwbl sicr mai arnynt hwy y mae'r gyfran helaethaf o'r bai. Y mae yr un mor ddiogel gennyf mai hwynt—hwy a ddichon ein harwain o'r diffeithwch di-faol hwn, mai hwy hefyd a ddylai wneud hynny; ond nas gwnânt ac na fydd dichon iddynt ei wneud heb ddywedyd yn gyntaf yn eu cydwybod eu hunain: "Gwir, O Dduw. Ni a'th esgeulusasom Di. Buom yn weision tra anfuddiol. Pechasom i'th erbyn. Maddau inni, O Dad Trugarog. Maddau inni oll, a dyro inni wir edifeirwch, ymroddiad, ymgysegriad i wasanaethu Dy Fab Di, yr Hwn, er ein mwyn ni, a aeth yn dlawd, ac a ddioddefodd angau—ie Angau'r Q Groes". Dysgu pader i berson, onid e? Dyna, 'rwy'n ofni, fydd holl Alffa ac Omega ymateb ambell un i'm dehongliad i o'r sefyllfa yng Nghymru. Ofni a wnaf hefyd mai ateb llawer un arall fydd dywedyd ar ei gyfer, heb ymholi dim â'i gysegr sancteiddiolaf ei hun—"Ymosodiad yw'r cwbl i gyd; ymosodiad di-sail, ac anghyfrifol. Dyn yw o sy'n casáu'r gweinidogion i gyd, ac am godi gwrychyn y byd a'r wlad yn eu herbyn". A dyna ben, cwbl ben, ar bob ymgais i ddiwygio'r dyn ei hun, na'i deulu, na'i eglwys. Ond y mae ffordd arall: ffordd cyfaddef methiant. Ac y mae hi'n eirwir ac iachusol. Pan oedd Emrys ap Iwan yn ceryddu "Cymru Gelwyddog" ni phetrusodd roddi bai ar y dosbarth a enwais i. Fe gofiwch yr addefiad: "Y mae'n sicr ein bod ni, y pregethwyr, yn gyfrifol hyd ryw fesur am anfoesoldeb Cymru." Gwych o beth ydyw bod pregethwr moesoldeb yn ei uniaethu ei hun â llygredd ei genedl. Bob amser y digwydd peth cyffelyb i hyn y mae hi'n arwyddo'n o dda am y dyfodol. Pan ddelo arweinwyr unrhyw gymdeithas neu genedl—neu Grefydd—i gydnabod eu cyfrifoldeb eu hunain, nid yw'r sefyllfa fyth yn ddiobaith. <section end="bbb"/> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|ESGEULUSTOD Y GWYLIWR.}}}} 'Does dim ond dau ddewis gen i, naill ai ceisio dangos ffordd ymwared allan o'r anialwch sydd yn ein pennau ac o'n cwmpas; neu gydnabod na welaf i ddim rhithyn o obaith inni ddianc allan ohono. Gan mai llwfr o beth fyddai'r olaf, yn enwedig ar ôl bod mor hy â nodi'r drygau, yna nid erys imi ond wynebu'r dewis cyntaf, a datrys y dryswch, deued a ddelo, tynged a dyngo. Cyn ymosod ar y cawr hwn o gyrch y mae gennyf un gofyniad i'w gyflwyno i mi fy hun. Hwn, gyfeillion—"a chaniatáu, dros dro, mai gwir yw dy ddadl mai'r dirywiad crefyddol ydyw gwreiddyn y rhan fwyaf o'r drygau, beth am y difrod yn hanes yr iaith Gymraeg? Pa fodd y mae dy ddehongliad di yn egluro'r ffaith honno sydd, yn wir, mor alaethus ag unrhyw agwedd ar yr anrhaith cyffredinol?" {{nop}} Eithaf gofyniad, yn siŵr i chi, er mai fi sy'n ei osod i mi fy hun. Ni byddaf yn ei ateb fy hunan bach, ychwaith. Y mae yma gyfaill o gymwynaswr yn neidio i'r adwy i roddi help llaw imi. 'Fûm i erioed mor ffodus. Dim ond newydd agor un o'r papurau Cymraeg wythnosol, a dyma'r cyfaill hwn yn rhoddi clamp o anrheg imi gyda'r ateb. Fe gofiwch efallai imi sôn ar y dechrau, fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynadledda yn Llandrindod. O ganol y gynhadledd honno y daw imi gymorth mor annisgwyl, a hynny oddi wrth ŵr delfrydol ei safle a'i wylfa. Eglwyswr o'r iawn ryw, a Sais enwaededig, neb llai na Syr Idris Bell. Ef biau'r geiriau sy'n dilyn, fel y ceir hwy yn "Y Faner " heddiw (Ebrill 15, 1953). ''"Nid wyf yn siwr o lawer nad croeso mam-yng-nghyfraith a roddir heddiw gan yr Eglwys i'r traddodiad Cymreig ac i'r iaith Gymraeg."'' Onid clobyn golygus o addefiad ydyw hwn? Ni chefais i, naddo, ers tro byd, gystal cymorth cyfamserol. Ni saif yn unig ychwaith. Bu eraill hefyd yn siarad yn yr un gynhadledd, ac yn ei dweud hi'n o ryw hallt. Eglwyswyr selog bob un, chwarae teg i'w calon—ac i'w pen. Digon i mi yw dyfynnu i'm cefnogi un arall yn unig o'r cynadleddwyr hyn,—y Parchedig G. O. Williams. Clust ymwrandewch â'i gŵyn a'i gyfaddefiad yntau:— ''"Ni roddir, ar hyn o bryd, i'r Gymraeg safle gyfartal a'r Saesneg ym mywyd ac yng nghynghorau'r Eglwys yng Nghymru . . . Cafodd llawer fraw pan ddeallwyd bod yr holl ddarlithoedd a oedd i'w traddodi yn y gynhadledd hon i fod yn Saesneg."'' Amlwg ydyw i Gynhadledd yr Eglwys yn Llandrindod glywed mwy nag un gwirionedd yr oedd mawr angen am ei ddywedyd. Ni chymeraf fy hudo, ar gorn hynny, i gychwyn cyrch yn erbyn yr Eglwys honno, nac i gystwyo dim arni. Y mae mwy na digon o Anghydffurfwyr yn rhy barod i wneud hynny, heb gael dim gronyn o gefn gen i. Byddai'n well iddynt edrych yn nes adre, rhag ofn fod peth sail i ddwyn cwyn gyffelyb yn eu herbyn hwythau erbyn heddiw, ac mewn rhai mannau. O gyfeillion!—nid wyf yn amau na bu'r Anghydffurfwyr yn llawer mwy ffyddlon i'r Gymraeg na'r Eglwys. Dim o'r fath! Digon tebyg, o ran hynny, y cytunai llaweroedd o Eglwyswyr da eu gair a'u buchedd, Q â'r gosodiad hwn. Yn wir, yr hyn sydd yn gampus ganmoladwy yng ngeiriau Syr Idris Bell, a'r Parch. G. O. Williams ydyw eu bod yn cydnabod bai yn eu heglwys hwy eu hunain. Fel y dywedais o'r blaen—pan fydd arweinwyr cyfrifol, mewn byd neu eglwys, yn iawn sylweddoli maintioli'r drwg, ac yn cydnabod eu cyfrifoldeb hwy eu hunain amdano i ryw fesur, nid yw'r sefyllfa'n gwbl anobeithiol. Yn lle hynny, y mae hi eisoes yn dechrau gwella. Y mae iechyd a grym yn yr addefiad ei hun. Hyn—y llifa'r iechyd hwnnw, a'r grym, i iacháu ac i weddnewid yr holl sefyllfa. Bydded felly y tro hwn eto—ac yn ebrwydd. Wele fi, ynteu, drwy gymorth Cynhadledd Llandrindod, wedi cael ateb, neu gyfran o ateb, i'm gofyniad fy hun. Sef yw'r ateb hwnnw, yn fyr ac yn fras—bod cysylltiad agos rhwng y dirywiad crefyddol a'r dirywiad ieithyddol, pe na bai ond yn unig am na bu'r Eglwys bob amser mor deyrngar ag y gallasai fod i'r "traddodiad Cymreig ac i'r Iaith Gymraeg," fel y dywed Syr Idris. Ys gwir, hefyd, i'r Eglwys hithau orfod dioddef yn ei thro oherwydd ei brad hwn, fel y mae'r un Syr Idris yn ddigon awyddus i'n hatgoffa, mewn rhan arall o'i anerchiad. Gofyn y mae ef paham y collodd hi—yr Eglwys yng Nghymru—ei gafael ar genedl y Cymry; ac fel hyn yr etyb:— ''"Credai ef mai'r prif reswm oedd ddarfod i'r Eglwys erbyn y ddeunawfed ganrif, yn ei pholisi swyddogol, droi i gyfeiriad Lloegr. Pe cymerasai fantais ar y deffroad mawr crefyddol a llenyddol a ddigwyddasai yng Nghymru, fe ddichon y buasai wedi dyfod yn Eglwys Genedlaethol y Cymry mewn gwirionedd. Yn lle hynny, fe ddigwyddodd toriad nas cyfannwyd."'' Gwych o ddehongliad. Cytunaf o wirfodd calon ag ef, a llongyfarchaf yr Eglwys am fod ganddi arweinwyr sy'n wynebu eu cyfrifoldeb mor llygad-agored. Gofynnaf yn gynnil ac yn garedig: A ydyw'r Esgobion,—yr holl Esgobion—yr un mor llygad-agored i'w cyfrifoldeb? A ydyw'r Offeiriaid yr holl Offeiriaid—yr un mor gyfrifol ac argyhoeddedig? Hwynt-hwy biau ateb, nid myfi, gan mai hwy sy'n gwybod. Am un o leiaf o'r Esgobion y mae gen i—a chwithau—hawl i ddweud y gwn i yn lled dda beth yw ei safbwynt ef. Canys fe'i mynegodd ger bron y gynhadledd Q Esgob Bangor ydyw hwnnw, a dyma ran o'i ddatganiad:— ''"Problem fawr Cymru yw medru diogelu a datblygu ei thraddodiad a'i ffordd ei hun o fyw. Bydd yn rhaid i bob polisi i Gymru gael ei seilio ar y ffaith sylfaenol fod Cymru yn un . . . Y mae hi'n ddyletswydd ar yr Eglwys, fel y prif allu, i ddiogelu'r undod hwn."'' Afraid ychwanegu cymaint ag un gair at anogaeth yr Esgob. Fe'i croesawaf â dwylo agored. Nawdd y Nefoedd drosto! Yn awr, cystal yw bwrw ddarfod inni gael gafael ar un peth a eglura'r cysylltiad rhwng cyflwr crefydd a chyflwr iaith. Niweidier y naill, ac fe niweidir y llall. Bradycher un, a dyna fradu dau. Fe'i gwelsom. Fe'i cydnabuwyd. Yr iaith Gymraeg, ynteu, ydyw un o laddedigion crefydd un-llygeidiog, o'r ddaear yn ddaearol, ac o'r byd yn fydol. I grefydd ddi-gynnwys, ac anysbrydol, pa le a all fod i werthoedd ysbrydol,—i iaith y mae ei gogoniant nid ym maes y gad nac ym moes y god, nid yn aur y banc nac yn erw'r byd, ond mewn englyn a chywydd a chân, mewn emyn ac adnod a thôn? O mor fynych, yntê, y clyw ein clustiau'r baldordd am ddiffyg gwerth masnachol yr iaith Gymraeg. Beunydd y bwrir i'n dannedd y fregedd na thâl hi ddim ceiniog goch y delyn, na dimai na dim i chwi fedru Cymraeg. Sul ar ôl Sul, hefyd, fe ellir ymglywed â rhyw fwmial siarad am lwydni casgliad yr oedfaon Cymraeg, ac am lewyrch y gasgl Saesneg. Ger bron yr allor, welwch chwi, yng ngŵydd Duw ei Hun, rhaid yw pwyso gwerthoedd mewn cloriannau cwbl fasnachol. Onid yw hyn oll yn gabledd? Onis gwneir gan Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr yn eu tro? Ac, yn wir i chwi, y mae arnaf awydd gofyn: onid am weithredu braidd yn gyffelyb i hynny yr ymgynddeiriogodd hyd yn oed yr Iesu ei Hun, gan ffrewyllu'r cyfnewidwyr arian allan o'r Deml? Ef o bawb, gyda'i ddau lygad anghymharol, a welodd werth hatling y wraig dlawd. Ond, yr ydym ni wedi newid y cwbl yma. Yr ydym wedi bwrw Ei werthoedd Ef bendramwnwgl. Deuwch yr awr hon gam neu ddau yn nes at y cysegr sancteiddiolaf, a sylwn ar agwedd meddwl y Colegau Diwinyddol tuag at yr iaith Gymraeg a'r cwbl sydd ganddi hi i'w ddywedyd am Hanes y Genedl fechan hon, ac am ei Q chrefydd ar hyd y canrifoedd. Pa faint o le—heb sôn am barch a bri—a gânt yn y Colegau hyn? Ni chymeraf y cyfle i ateb. Rhoddaf y cyfle, yn hytrach, i'r rhai a ŵyr yn well, yn gymaint ag iddynt fod drwy'r melinau hyn. Yr Eglwys yng Nghymru yn bennaf a gafodd dystiolaethu yn yr ysgrif hon, hyd yma. Rhoddaf iddi un cyfle arall i'n goleuo ar addysg ei cholegau; a galwaf ar un o'i hoffeiriaid i wneud hynny, sef y Parchedig D. Parry Jones. Y mae ef bellach yn Rheithor neu'n Ficer yn Sir Fynwy. Yng ngholeg yr Eglwys yn Llanbedr-Pont-Steffan, Ceredigion, y paratowyd ef at waith y Weinidogaeth. Tua blynyddoedd cynnar y ganrif hon y bu hynny, ac ar dudalen 117 o'i lyfr eithriadol ddiddorol, ''"Welsh Country Upbringing,"'' fe gawn yr hanes ganddo. "Gofyn y mae: pa fodd y darparodd y Coleg fi at waith fy mywyd?" Union a diwastraff yw ei ateb. Maddeuir i minnau, gobeithio, am ei ddyfynnu yn ei iaith ei hun yn y llyfr:— ''"On my first day there I realised it was not a Welsh college at all; it was merely a college in Wales. Though built in honour of our patron saint, St. David, poor St. David had to be satisfied with that alone, for we were never told anything about him, or the Church to which he belonged. We read English history and English Church history, but never Welsh history or Welsh Church history, not even a reference was made in any of the lectures to the parallel happenings in the religious life of Wales, as a possible illustration or an afterthought. It began with St. Augustine and ended with Newman and the Oxford Movement. We might never have had a Church or a Religion at all in Wales for all the references that I have heard to it. And we were being prepared for the ministry of that church of whose existence not a word was mentioned." A allai ddiawl ei hun ddymuno dim yn amgenach at ei bwrpas ef? {{nop}} {{c|{{mawr|BRAD Y COLEGAU DIWINYDDOL.}}}} Cystal eich atgoffa imi orffen y llith ddiwethaf drwy ddyfynnu barn offeiriad yn yr Eglwys am yr addysg a gafodd yng Ngholeg Dewi Sant, yng nghanol Sir Aberteifi. Ys gwn i pa sawl un ohonoch chwi a synnodd at y farn honno? Pa sawl un a ddywedodd yn ei galon: "gresyn o beth! cywilydd wyneb iddyn' nhw!" Pa sawl un hefyd a safodd yn stond gan dorri allan i ddweud: "Coleg yr Eglwys! Beth arall sydd i'w ddisgwyl? Prawf ychwanegol fod yr Eglwys yn Seisnigaidd—ac. . . ie, ie,—yn wrth-Gymreig "? Os do, yr awgrym ydoedd: na cheffid esgeulustod o'r fath yng Ngholegau diwinyddol yr Anghydffurfwyr. Ai cabledd fyddai mynegi mymryn o amheuaeth ar y pwnc? Cabledd neu beidio, y mae gwirionedd a chwilfrydedd yn ein cymell i holi, i chwilio ac i chwalu; ac, os oes modd—i gael gafael ar y gwir. Nid rhaid wrth ryw fôr-a-mynydd o chwilio, ychwaith. Nid oes ond eisiau agor un neu ddau o gofiannau neu hunangofiannau rhai o bregethwyr mawr Cymru yn y ganrif hon. Bydd un yn gystal â chant. Dyma ichwi Hunangofiant mor ddiffuant â'r un y gallaf i feddwl amdano. Eiddo'r diweddar Barchedig J. H. Howard ydyw. Drwg—a mwy na drwg—gen i yw mai yn Saesneg yr ysgrifennodd Mr. Howard ei gofiant. Canys, er mai Sais ydoedd o darddiad, fe ddysgodd gystal Cymraeg ag unrhyw un o'i frodyr, a phregethu'n well na'r mwyafrif ohonynt. 'Does gen i ddim ond derbyn y llyfr fel y mae, yn Saesneg, a mynegi diolch am wir gyfraniad i hanes crefyddol Cymru yn y ganrif yr ydych chwi a minnau'n byw ynddi. Nid "Eglwyswr" oedd Mr. Howard, ond Methodist. Cychwyn yn y gwaelod yn lân, a myned i un o Golegau'r Brifysgol. Oddi yno aeth i un o'r Colegau Diwinyddol, i Goleg Trefeca, i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth Fethodistaidd (an-Wesleaidd!). Yr oedd yn fyfyriwr yn y coleg hwn agos yr un blynyddoedd ag ydoedd D. Parry-Jones yng Ngholeg Dewi Sant. Diddorol iawn yw sylwi ei fod yn gofyn yr un cwestiwn yn union â'i gyfoeswr o'r Coleg Q arall. "Pa beth a wnaeth Trefeca i'n cyfaddasu ar gyfer y bywyd newydd, gwaith y weinidogaeth?" Etyb ar ei union: "Apart from friendships formed, the college did very little to fit one for the practical work of the ministry." Cerfia lun cyfan yn y brawddegau sy'n dilyn:— "We had been cut from the world and its problems. Destined, as most of us were, for the Welsh pulpit, we had no Welsh class to study the language and the problems of Wales. We heard nothing about the difficulties of the Pastorate, the administration of the Sacraments and the conduct of public worship. Economics was an unknown science to us. The teaching of the young, so important in the work of a minister, was not mentioned. Protestantism received slight attention; but Nonconformity and Welsh Presbyterianism might not have existed so far as our curriculum was concerned. Although we then lived in the very birthplace of the Welsh Methodist Revival, our tutors never referred to that momentous Movement in our hearing . . . Trevecca was a great disappointment." Unwaith eto, gofynnwn yn bryderus: A allai'r hen fachgen ei hun drefnu dim a fyddai'n fwy at ei ddant? Dadleniadau nid llawer llai na thrychinebus ydyw'r rhain, am golegau Llanbedr a Threfeca fel ei gilydd. Yr hyn sydd yn eu gwneud yn waeth fyth ydyw'r ddrwgdybiaeth a ddaw yn eu sgil,—y ddrwgdybiaeth nad yw'r sefyllfa'n wahanol iawn yn y colegau eraill. Beth am y Bala, er enghraifft? Aberystwyth ac Aberhonddu? A Bangor Fawr yn Arfon? A dducpwyd y dadleniad uchod erioed ger bron uchel awdurdodau'r Methodistiaid Calfinaidd? A'r dadleniad arall hwnnw am Goleg Dewi Sant, o flaen awdurdodau'r Eglwys yng Nghymru? Os do, gyda pha fath ganlyniad? A lwyr newidiwyd y sefyllfa yn y colegau hyn? Ac yn y colegau oll? Ymysg yr enwadau sydd gennym yng Nghymru y mae un nad oes goleg ganddo o gwbl yma. Enwad y Wesleaid ydyw hwnnw—ymddiheuraf eto, ac ymgywiraf gan ddywedyd, yr Eglwys Fethodistaidd. Yn Lloegr y mae eu colegau diwinyddol hwy, ac yno yr ânt i'w darparu at y weinidogaeth yng Nghymru. Nid cyflwr delfrydol wrth reswm; canys, o ganlyniad, rhaid ydyw i'w haddysg hwy fod yn Q Seisnig. Hyn sy'n rhyfedd, er hynny, ac yn werth ei nodi. Nid oes neb o'n holl weinidogion yn well Cymry nac yn well eu Cymraeg na hwy. Dyna ryfeddod, heb ddim dwy-waith, sef bod i Golegau Seisnig, ac yn Lloegr, droi allan well Cymry na Cholegau—agos mor Saesneg?—yng Nghymru. Hyd y gwelaf, y mae'r rheswm yn syml; ni fradychir Cymru mewn colegau yn Lloegr, am mai Lloegr o anghenraid ydyw maes a myfyrdod yr addysg a gyfrennir yno. Oherwydd paham, nid oes gwyrdroi ar gydwybod yn digwydd yno; a daw'r myfyriwr o Gymro yn ôl i Gymru,. nid, yn wir, wedi ei drwytho mewn Cymraeg nac yn hanes. crefydd yng Nghymru, eithr o leiaf, heb ei ystumio i anwybyddu ei dreftadaeth a'i dirmygu. Y mae hynny yn rhinwedd o'r gwerth mwyaf. Wedi mynegi hyn o deyrnged i'r brodyr Wesleaidd, gallaf yn awr, mewn tegwch, ddal yn ddiogel bod y diffygion eraill a grybwyllwyd yn addysg ein colegau diwinyddol ni—megis ymbaratoi at waith ymarferol y weinidogaeth—bod y rheini i'w canfod yr un mor eglur yn hyfforddiant y rhai a addysgir yn Lloegr. Fy ngharn am hyn ydyw tystiolaeth y gŵr annwyl a rhadlon, y Parchedig E. Tegla. Davies. Nid cyfeirio yr wyf yn awr at ei ddisgrifiad byth-gofiadwy o'r prifathro bondigrybwyll, nad oedd nac yn Gristion nac yn athro. Gafael a wnaf mewn cyffes o'r eiddo ef wedi gadael y coleg a mynd i Abergele i gynorthwyo'r gweinidog eiddil ei iechyd, y Parch. Evan Jones:— ''"Dyn ardderchog iawn oedd Evan Jones, a dysgais fwy o lawer drwy ei esiampl ef, a thrwy ei gynghorion, am waith gweinidog, nag a wneuthum yn y coleg. Yn wir credaf fy mod yn ddyledus iddo ef am y cwbl o'r gwir baratoad a gefais ar gyfer gwaith arbennig y weinidogaeth, mewn pregethu ac ym mherthynas gweinidog a'i bobl; iddo ef ac Owen Baldwyn Jones, Ffynnon Groyw."" Felly Tegla. Yr un yw'r gân ag a glywsom gan y ddau weinidog arall, neu, yn hytrach, yr un fwy neu lai. Cydnabyddiaeth o ryw ryfedd ddiffyg yn addysg y weinidogaeth, dyna ydyw. Nid ymosod ar y colegau diwinyddol ydyw fy amcan. O ran hynny, nid myfi fy hun sydd yn llefaru o gwbl. Od oes yma feirniadaeth, ac od oes yma bigo i'r byw, nid myfi biau'r big. Eiddo ydyw i'r rhai a ŵyr yn llawer gwell na Q mi, oherwydd iddynt fod dan ddisgyblaeth y colegau hyn, a gweld y cam a wnaed â hwy pan wynebwyd hwy â llafur eu galwedigaeth. Ac yn yr holl ddadleniadau i gyd, hawdd yw gweld cysylltiad rhwng y camwri â chrefydd a'r camwri â Chymru, ei hiaith a'i holl etifeddiaeth. Prawf y cyfan fod yma berthynas annatod yn bod rhwng y dirywiad crefyddol a'r dirywiad sydd yn yr iaith Gymraeg a'i diwylliant. Ymddengys, gan hynny, y gellid haeru'n gryf i'w ryfeddu am y colegau diwinyddol,—iddynt fod yn gyfrifol am esgeulustod mwy na mwy o hanfodion eu hunion ddyletswyddau, sef 1. O wamalu ar y mwyaf mewn diwinyddiaeth. 2. O ddiffygio dysgu hanes crefydd yng Nghymru. 3. O osgoi darparu ar gyfer gwaith ymarferol y weinidogaeth gyflawn Gristionogol. 4. O esgeuluso'r iaith Gymraeg nid yn unig fel cyfrwng i ddysgu, ond hefyd fel pwnc i'w feistroli. 5. O beidio â gwneuthur swm sylweddol iawn o gyfraniad i lenyddiaeth ysgolheigaidd—Feiblaidd a diwinyddol. Trugaredd bellach! Gwir iawn. Ac yr wyf yn ymdeimlo â rhyw gymaint o gywilydd wrth bentyrru'r honiadau erchyll hyn ar ben ei gilydd. Drwy ddamwain y daeth y pumed cyhuddiad i'm meddwl; ac ni roeswn ef ar y rhestr, oni bai imi gofio i'r bardd a'r llenor, Gwili, wneud cyhuddiad mwy ysgubol fyth i'r un perwyl rai blynyddoedd yn ôl. Cyn gadael y cwbl, y mae yn fy mryd i bwysleisio hyn; mai diffygion ydyw'r cwbl hyn a oedd yng ngholegau Cymru tua dechrau'r ganrif hon. Ni wn i yn gymwys beth a ddigwyddodd ar ôl hynny. Prin y gwn i a wnaed iawn am y cyfan yn y blynyddoedd a ddilynodd. Nid oes mo'r hawl gen i i ddweud bod y sefyllfa wedi ei llwyr weddnewid. Ni wn i ddim,—o leiaf ni wn i mo'r hanner digon. Gweled drwy ddrych yr ydwyf, ac nid adwaen ond o ran. Daw rhyw led syniad i'm pen yn awr y bydd y darllenydd mwyn yn sicr o ddweud wrtho'i hun: "Wel, am haerllugrwydd! Ac am ymosodiadau creulon! . . . ac, ar y colegau Diwinyddol yn unig. Fel pe bae'n nhw'n waeth na'r lleill 'na." {{nop}} Ymbwylla, gyfaill annwyl. Caffed amynedd ei pherffaith waith ar dy dymer, ac ar dy dafod. Nid ydyw'r colegau eraill yn dyfod i mewn—o leiaf yn uniongyrchol—i'r unig a'r union beth sydd dan sylw gennyf. Nid hwynt-hwy sydd yn uniongyrchol gyfrifol am gyflwr crefydd yn ein gwlad. Arall ydyw eu gwaith hwy, arall eu cyfrifoldeb. O ganlyniad, arall eu rhan a'u cyfran o'r drwg. Fel y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, felly hefyd y mae rhagor rhwng coleg a choleg mewn cyfrifoldeb. Cystal cyngor â'r un i'r lleill ydyw hwn: "Yr hwn sydd ddi-bechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati "—sef at un o'r sêr a nodais. Dealler, gan hynny eu bod hwythau dan gerydd. Hwynt-hwy, onid e, a fu'n arwain y ddaear wyddonol ac yn tywys y ddewines falch gan Ddyneiddiaeth. <section end="bbb"/> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c{{mawr|BRAD Y CLERIGWYR.}}}} Cyn codi'n pac a mynd, cystal efallai fydd cael ail olwg ar y rhan sydd o'r tu ôl inni. Fe gofiwch am geg y ffordd, ac fel y sylwasom yno ar amlder dirywiadau ym mywyd ein Gwalia Wen?—Ddu! Galw sylw wedyn at waith pedwar pregethwr yn rhoi proc yn y tân, fel petai. Mynnai'r pedwar weld aruthredd o ddrwg yn ein crefydd, ac ni phoenai hynny ryw lawer ar neb ohonom. Ond pan sylwasom mor iach oeddynt, ac mor chwannog i roddi'r bai wrth ddrws y dyn arall, chwi a minnau a'n bath; wel, do, fe'n prociwyd ni'n dân gwyllt; a dyna gymryd y procer at y pregethwyr, a'u pwnio'n weddol bach o gas, gan geisio eu darbwyllo mai arnynt hwy yr oedd y bai. Toc ar ôl hynny, ac fel pererin Bunyan, dyma ni'n cwrdd â phererinion eraill ar y ffordd. Pererinion o'r iawn ryw, y tro hwn, newydd fod yn y Gynhadledd yn Llandrindod. Gyda'u bod yn canu'n iach i'r Gynhadledd, dyma nhw'n cyfarch gwell i ninnau. Am iddynt ein cymell i fynd gyda hwy un filltir ar y ffordd, fe aethom ninnau fel siamplau o Q Gristionogion bach eithaf ufudd, ddwy filltir gyfan gyda hwy. Yr oedd eu hymddiddan mor ddifyr, os cofiwch, a'u cyfaddefiadau mor galon-agored, fel na allem ond canlyn ymlaen gyda hwy, a rhoddi sêl ein bendith ar bob gair a ddeuai oddi ar eu genau. Cyn eu gadael yr oeddem wedi ein harwain filltir arall drachefn—y drydedd ai'r bedwaredd oedd honno? ar hyd ein ffordd. Fe'n cawsom ein hunain yn sefyll wrth borth un o'r colegau diwinyddol, ac o dipyn i beth yn cylchdroi rhwng ei ystafelloedd, ac yn llygadrythu ar bethau estronllyd eu pryd a'u gwedd. Nid heb beth syfrdandod y cychwynasom eilwaith ar ein ffordd ac yr ymdeithiasom nes cyrraedd at yr ail Goleg Diwinyddol. Porth oedd yma eto, a phyrth llai oddi mewn; ystafell hefyd, ac ystafelloedd. Ond nid llai estronllyd oedd y trugareddau a welsom yma ychwaith. Gan droi ymaith yn athrist, ni a'i rhoesom hi iddo yntau, heb flewyn ar ein tafod. Erbyn hynny, yr oedd ein hymchwil i ddatganiadau'r pedwar pregethwr wedi ein tywys o'r tu ôl iddynt hwy at y colegau a fu'n eu bras hyfforddi ar ben eu ffordd. A dyna lle'r oeddem ni ar ddiwedd y llith o'r blaen, yn dannod llawer math o anfadwaith i'n colegau diwinyddol. Duw a faddeuo inni—os ydym yn cyfeiliorni. Eithr os nad cyfeiliorni yr ydym, yna yr ydym yn symud ffynhonnell y drwg yn nes yn ôl na'r gweinidogion at y colegau. Y dolennau yn ei ddatblygiad a'i wasgariad ydyw'r rhain; o'r colegau diwinyddol i'r gweinidogion, o'r gweinidogion i'r eglwysi. Arhoswn am ennyd neu ddau i edrych ar un wedd ar yr olaf hwn. Rhan o waith gweinidog yn ei eglwys ydyw paratoi'r ieuenctid ar gyfer eu derbyn yn gyflawn aelodau. Ers tro byd, y mae'n argyhoeddiad gen i fod hwn yn waith o'r pwysigrwydd mwyaf, ac na ddichon yr un gweinidog fod yn rhy ddiesgeulus gydag ef. Dyma ei gyfle i roddi, unwaith ac am byth, hyfforddiant i'r rhai ifainc ar wir ystyr y grefydd Gristionogol ac ar fraint a chyfrifoldeb aelodaeth eglwysig. Cefais fwy na digon o le i gredu ragor nag un-waith na wneir y gwaith hwn gyda'r trylwyredd a'r ymroddiad a haedda. Y mae graddau o lwyddiant, wrth reswm, pryd yr ymgymerir â'r llafur hwn gyda mesur o ymdrech deg. Ac y mae graddau o fethiant llwyr, pryd na roddir iddo nemor ddim o'r sylw dyledus. Un ffordd sydd Q yn gwbl annheilwng ydyw honno a ddatguddir yn y frawddeg ddilynol:— ''"Pan dderbyniwyd fi'n aelod, a nifer o'r un oed â mi, yn ddwy ar bymtheg oed, ni bu pum munud o baratoi arnom, dim ond ein galw at fwrdd y Cymun ar nos Sul, a'r gweinidog yn ysgwyd llaw â ni ar y diwedd, a mynegi gobaith y mwynhaem ein crefydd."'' Dyfyniad ydyw'r frawddeg o atgofion gŵr sydd iddo le anrhydeddus i'r eithaf ym mywyd crefyddol a llenyddol Cymru. Y Parchedig E. Tegla Davies biau'r frawddeg. Ychydig cyn y Gwyliau—Gwyliau'r Nadolig a feddyliaf y tro hwn—fe gyhoeddodd ef y diweddaraf o'i lyfrau rhyfeddol. ''"Gyda'r Blynyddoedd"'' ydyw ei enw, ac y mae yntau'n glasur eisoes. Llyfr difyr a difrif i'w ryfeddu, a'r awdur yn eich tywys ar hyd hanner canrif o weithgarwch dyfal yn y weinidogaeth. Ni wn i'n dda yn awr am unrhyw lyfr cystal ag ef, ychwaith, am ddangos mor eglur inni, o "daith" i "daith", y camau yn y dirywiad crefyddol sydd dan yr ordd gennym yn yr ysgrifau hyn o'r dechrau. Dyna sy'n troi'r llyfr difyr hwn yn llyfr mor ddifrif—bron na ddywedaf, yn llyfr mor ddigalon. Yn fyr, yr hyn a edrydd Tegla ydyw am y dirywio parhaus a welodd â'i lygaid ei hun wrth ddychwelyd ac ail-ddychwelyd i'r naill eglwys ar ôl y llall. Nid oes un eithriad i'r sylwadaeth hon. Gwaeth na hynny, hyd yn oed, ydyw hyn—i fwy nag un o'r eglwysi y bu'n fugail arni, beidio â bod yn llwyr, ie, llwyr ddiflannu yn ystod y blynyddoedd hyn. Meddai am un ohonynt: prin y mae'n rhaid dweud bod yr Achos yno wedi marw ers blynyddoedd." Eglwys a oedd eisoes yn marw ar ei thraed, welwch chi, ac nid oedd fawr syndod iddi orffen trigo. Ond dyma un arall, "cynulleidfa dda" oedd yno, a'r" Eglwys yn raenus". Eithr "wedi marw". Y mae Tegla yn rhoddi'r rheswm a ymddengys iddo ef yn egluro'r diffrwythder hwn yn fwy na'r un arall. Sylwch: ''"Yr wyf yn argyhoeddedig mai'r rheswm mawr dros ein tlodi meddyliol ac ysbrydol, a'n diffyg dylanwad ar y byd, ydyw nid nad oes digon o ddoniau pregethu, ond ein bod wedi llacio yn y gwaith o ddisgyblu'r plant a'r bobl ieuainc a phob oed yn egwyddorion sylfaenol crefydd."'' Nid oes ond cytuno ar redeg amdani; ac wedi cytuno, Q cydymgroesi. Y mae ein methiant yn druenus—methiant ar fethiant. Yr ydym wedi methu yn ein diwinyddiaeth, wedi methu yn ein hyfforddiad yn y colegau, ac wedi methu yn ein haddysg i'r plant yn y capeli a'r eglwysi. Methiant ar fethiant, meddaf eto, diffygio ar hyd y ffordd. Wrth fethu dysgu "egwyddorion sylfaenol crefydd" i'r plant, yr ydym wedi gadael eu meddyliau ieuainc yn wag a'u bronnau'n hesb, a'u gosod at drugaredd pwy bynnag a ryfygai ddyfod gan gynnig llenwi'r gwacter a disychedu'r bronnau hesb. A phwy a ddaeth, os gwelwch chi'n dda, i lenwi'r gwacter? Pwy, hefyd? Y Comiwnyddion, meddaf i chwi—y Comiwnyddion a'r Efengyl yn ôl Marx. Y materolwyr, meddaf yn ychwaneg—y Materolwyr a'r Efengyl yn ôl Mater; ac at y rhai hyn, Anffyddwyr, Teyrnaddolwyr, Seiri "cadarn goncrit Philistia," heb enwi mwy o alluoedd y tywyllwch. Y gwir amdani ydyw inni fradychu'r etifeddiaeth deg a roddwyd inni, a bradychu hyd at "frad ein genedigaeth". Wrth amddifadu ein haelodau ieuainc o'r maeth a ddarparwyd gan Dduw ei hun ar eu cyfer, yr ydym yn euog o'u trosglwyddo i ddwylo'r gau-Gristiau a nodais. Yr ydym yn euog o gerydd llym ein Harglwydd Iesu Grist. ''A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn . . . da iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.'' Euog, gyfeillion annwyl, ger bron Duw a dyn. Euog o farn; ac y mae hi'n farn arnom ni. Onid dyna ystyr ein holl fethiant ysbrydol yng Nghymru ac yn y byd gorllewinol yn gyfan, o ran hynny? Onid hyn yn y bôn, ydoedd gwir ystyr y ddau ryfel byd? Onid ymdrech gawraidd y greadigaeth riddfannus i chwydu'r gwenwyn a blanasom ac a heuasom yn ei chrombil, ydoedd y gynddaredd fyd-eang a amlygwyd gan y ddau ryfel? Pa beth mwy a ddywedaf?—onid bod ein methiannau ysbrydol wedi ei gwneud hi'n anodd i ddiwylliant rhadlon a Christionogol fyw o gwbl yng Nghymru ac yn Ewrop achlân?—yn anos fyth i'r iaith Gymraeg gael y gronyn lleiaf o chwarae teg i fyw?—yn anos nag anos i neb dyn fyw bywyd y meddwl, bywyd y meddwl a'r ysbryd? Nid Cymro, ond Ffrancwr a dorrodd allan yn ddiweddar gan dystio bod y byd modern yn llythrennol anghyfaneddadwy—nad oes dichon byw ynddo o gwbl, ''i'r neb a garo ryddid yr ysbryd.'' {{nop}] Gormodiaith? Diolch i'r Nefoedd, ie! Ac eto . . . ? Eto, od oes gennych enaid, od oes gennych galon i deimlo, nid hawdd i chwi beidio ag ymglywed â dyfnderoedd o dlodi y byd sydd ohoni heddiw. Ymddengys ar rai adegau fel pe na byddai'n ddim llai na chynllwyn i ladd bywyd yr enaid. Gwareiddiad go ryw ddi-enaid bellach ydyw hwnnw y buom unwaith mor naturiol falch ohono. Nid yng Nghymru'n unig, ond ym mha le bynnag yr estynnodd ei gortynnau. Q Fy nghŵyn arbennig yn erbyn y pedwar pregethwr ydoedd eu bod hwy yn gweled rhan o'r drwg, ond heb ymdeimlo â dim cyfrifoldeb amdano. Yr oedd y bai, meddai'r pedwar, ar y dyn arall, "y bobol acw, fy mhobol i," "paganiaid Cymru," y pysgod di-asgwrn-cefn." Fy ateb innau ydoedd; nage! ffrwythau eich ymysgaroedd chwi ydynt hwy. Od ydynt ddiffrwyth, y maent felly oherwydd mai mewn diffrwythdra yr esgorwyd arnynt. Eich epil chwi ydynt. Chwithau—epil y colegau ydych. Hwythau, y colegau, epil rhyw bla ysgafala o flynyddoedd a gredai fod dynion yn mynd ar dragywydd daith anorfod o gynnydd i gynnydd. Nid Duw oedd dduw bellach, ond dyn. Bellach, nid dyn sydd dduw, ond ei dduw newydd ef—diafol. Pechasom. Crwydrasom oll fel defaid. Cyfeiliornasom. Aethom bawb i'n ffordd; a ffordd distryw ydyw'r ffordd honno. Ar hyd-ddi hi y collodd pawb ohonom ei wir hunan—ei ysbryd a'i enaid ef ei hun. Gallasem wybod hynny ymlaen llaw, oblegid fe'n rhybuddiwyd fwy nag unwaith. Gan hen wraig mor anllythrennog ag y gallai fod, mi glywais i'r rhybudd yn yr unig adnod a wyddai hi, ac a adroddai mewn Cwrdd Gweddi, Ysgol Sul a Seiat: ''Pa les âd i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?'' O'r bwthyn to gwellt lle y cyfarfyddem i gynnal Cwrdd Gweddi, Ysgol Sul a Seiat o gwmpas y tân mawn, y mae'r adnod hon wedi fy nilyn hyd y dydd a'r awr hon. Ni pheidiodd ychwaith â'm cyhuddo i, a'r genhedlaeth sy'n perthyn imi, a phob cenhedlaeth o ddechrau'r ganrif hon. Cyhudda ni oll o frad, o frad yn yr enaid, o frad yn yr ysbryd; ac wrth gyhuddo y mae'n dadanhuddo achos y malltod sy'n llethu ein holl wareiddiad. {{nop}} {{c|{{mawr|WEDI BRAD A GOFID.}}}} Amser yw bellach imi adael y dirywiadau. Y mae hi'n hwyr glas imi sôn am y feddyginiaeth. Mi wn yn dda mai hwn yw'r anhawsaf o'r gorchwylion a osodais o'm blaen. Diau mai dyna paham y gohiriais ef dro ar ôl tro. Ond ni thâl hi ddim ei osgoi. Yr oeddwn i fy hun mewn dosbarth Ysgol Sul brynhawn Ebrill 18, ac yn ebrwydd, chwedl Marc, fe ddaeth y gair "edifeirwch" gerbron; ac mor ebrwydd â hynny y diffiniad clasurol. Mor syml, meddech chi,—mor hawdd! Ond mi goeliaf i nad ydyw nemor un o'r cewri a oedd yn y dosbarth wedi dechrau ymgodymu o ddifri calon ag edifeirwch gwir. Newid meddwl; newid cyfeiriad eich meddwl; newid cynnwys eich meddwl; newid cymhellion eich meddwl; cyfnewidiad trwyadl yn y meddwl, a'r ymarweddiad, a'r bywyd:—nid yw hyn oll yn ddim llai na chwyldro. Hyn oll a olygir gan yr un gair hwn—Edifeirwch. Clamp o air, yn siwr ddigon i chi, a'i naw llythyren yn chwilio i mewn i ddyfnderoedd yr enaid, "ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon." Nid damwain, gyfeillion, ai ie? mai'r gair hwn oedd y cyntaf a ddaeth dros wefusau Iesu Grist, edifeirwch,' yn ei ffurf anogol neu orchmynnol—edifarhewch; ac ar ei ôl, hwn—credwch yr efengyl. Meddaf eto, nid damwain oedd hyn, ond diymwad ddewis un a ddeallai ddyfnderoedd enaid dyn. Pencampwr sydd yma, yn llwyr feistr ar ei waith; y mwyaf o'r meddygon, gyda'r pâr gloywaf o lygaid, yn treiddio'n llymach nag un cleddyf daufiniog i graidd y drwg; y ffisigwr digymar "nad oes greadur anamlwg yn ei olwg ef, eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef." Ei ymadrodd cyntaf Ef i'w oes ei hun ydoedd hwn—Edifarhewch! Dyna'r gair a oedd fel tân ar groen ei gyfoeswyr, y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion; eithr ni chlybu eu clustiau oddi wrtho Ef ddim cyngor, nac anogaeth na gorchymyn nad oedd wedi ei selio'n gyntaf yn y tân hwn—edifarhewch. I Ysgrifenyddion a Phariseaid Cymru heddiw,—ac y mae'n capeli yn llawn ohonynt,—yr un yw'r gorchymyn a ddisgyn oddi ar ei wefusau Ef. {{nop}} Dyna'r cam cyntaf—edifarhau mewn sachliain a lludw, a chydnabod ar ein gliniau inni bechu. Dywedwn gyda'r proffwyd Jeremeia: "yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom, nyni a'n tadau, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd." Â'n genau ac â'n calonnau, arddelwn eiriau Daniel: "Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir . . . I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wyneb—Yn y fan hon, y mae'n llawen gen i sylwi i un o'n henwadau ni ddywedyd hyn yn gyhoeddus. Fe'i gwnaed gan y Methodistiaid Calfinaidd mewn Sasiwn Unedig tua blwyddyn yn ôl. Dilynwyd hynny gan argymell pob enaid i ddatgan ynghyd, "ein bod ni, fel gweinidogion, yn edifarhau." Ardderchog! Yr wyf yn eu llongyfarch yn galonnog, ac yn diolch iddynt o waelod calon. Y mae cyffes o'r fath yn iach. Y mae'n golchi ac yn glanhau. Y mae'n clirio'r holl awyr yr un pryd. Ond a oes gan bechadur fel myfi hawl i ofyn ymhellach—a wnaed hyn oll mewn gwir a chywir ostyngeiddrwydd? a hawl gan un sy'n preswylio mor bell o fynwes Abraham i ail-ofyn: A wnaed y datganiad allanol hwn mewn gwir edifeirwch mewnol? Fe'i gofynnaf am fy mod yn clywed ac yn darllen, o enau'r gweinidogion hyn, ryw foli parhaus ar "ein henwad ni," yn "gwneud" fel hyn ac fel arall, yn "arwain" yn y peth hwn, ac yn "esiampl" yn y peth arall. Nid edifeirwch mo hyn, ac nid gostyngeiddrwydd yn y lleiaf; ond parhau i bechu, dal ati i wneuthur camwedd, a dirgel hawlio mai i ni "y perthyn cyfiawnder", yn union ar ôl cydnabod na pherthyn inni namyn "cywilydd wynebau". Ni allwn ni edifarhau am funud, ac ymffrostio y funud nesaf. Nid gwiw ymddarostwng ac ymddyrchafu. ''Ni allwn addoli Duw a Methodistiaeth.'' Creawdwr ydyw'r naill, cyfrwng ydyw'r llall. Erys o hyd—a beunydd beunos, a byth,—yr angen am edifeirwch iasoer, iachusol. Ac at hwn, yr angen am gofio cyngor arall o'r eiddo'r Iesu wrth rywun a oedd yr un ffunud ei gymeriad â ninnau. "Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn." Cyffelyb yw'r ail gyngor hwn i'r cyntaf ac nid haws, yn y gronyn lleiaf, yw ufuddhau iddo. Ni ddyry lai o benbleth heddiw i benaethiaid ein heglwysi ni nag a wnaeth ddwy fil o flynyddoedd yn ôl i Nicodemus, Q "pennaeth yr Iddewon". Nid ydyw'n llai o dramgwydd i'r penaethiaid nag i'r penbyliaid. Y mae wedi ei flaenllymu, a'i fin-anelu at y naill a'r llall, ac at bawb ohonom. "Eich geni chwi "—dyna a ddywed. Os cawsoch chwi, ddarllenwyr mwyn, y syniad gen i mai ymosod ar y gweinidogion a wnawn wrth ystyried ambell un o'u dyfarniadau, yr wyf am eich didwyllo yr awr hon. Yr ydym ninnau yn y camwedd. Y mae pob copa ohonom yn y camwri. Ni all yr un bod bedyddiol ohonom ddianc. Q Eich geni chwi; chwi a minnau, yn fawr ac yn fach, pob "myfi," pob "tydi," pob "chwi" a "chwithau," pob "nyni" a "hwythau," pob "hi' ac "ef "—pawb! Pawb ohonom yn gwbl dd-ieithriad, a di-wahaniaeth. Rhaid adnewyddu ein ffydd, ein gobaith, ein cariad ni bob yn un ac un. Gelwir ar bawb ohonom i geisio sylweddoli ''drwy ras Duw'', y fath weddnewidiad ynom ein hunain, ac yn holl gylchoedd ein bywyd beunyddiol—mewn cartref a gweithdy, mewn capel ac eglwys, mewn coleg ac ysgol, ar y ffald ac ar y ffordd—ag a ddyco orfoledd o gyfeillgarwch, o frawdgarwch ac o gariad i bawb o'r rhai y tery ein llygaid arnynt. Heb ddeall hyn, ni ddichon inni gymaint â dechrau deall dim o bwys,—o leiaf dim oll o bwys ynglŷn ag atgyweirio ein bywyd ein hunain,—heb sôn am adnewyddu bywyd yr Eglwys, a bywyd y Byd y mae'r Efengyl yn ddylanwad mor resynus o ddi-ymadferth ynddo, ac yn ddelw mor gwbl annheilwng o'i Phen a'i Phriod. Duw a faddeuo, a ddysgo ac a oleuo; ac a'n dyco i edifarhau, i dderbyn y Bywyd Newydd, ac i ymlenwi â'i Ysbryd Ef. Y mae'r cyfrifoldeb am y Byd, yn ei ddrych presennol, ar bob un ohonom; a'r cyfrifoldeb am y drych a'r drem a fydd arno yfory, er gwell ac er gwaeth, ar bob un enaid ohonom ni. Nid rhaid wrth dafodau dieithr, nac ychwaith wrth enwau dieithr, fel Karl Jaspers a Lewis Mumford a'u bath, i ddysgu'r hyn a ddylai fod mor olau â'r canol dydd cannaid hwn o Ebrill. Os ydym ni, gan hynny, yn gyd-gyfrifol am gyflwr byd a gwlad, pa faint mwy, frodyr annwyl, yr ydym yn gyfrifol am ein cyfair arbennig ni o'r byd?—am yr Eglwys yn ein plith ni?—am Wareiddiad yn ein mysg ni?—am Ddiwylliant, am yr Iaith, am Fywyd drwyddo draw, yn ein plith ni?—ac am y "pa bethau bynnag sydd Q wir, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy" yn ein mysg ni, yn y fro dirion hon a ymddiriedwyd i'n dwylo celyd? Daw; fe ddaw'r Oes Newydd i fod pan fyddo rhyw nifer o wŷr a gwragedd, o bob gwlad a diwylliant, yn cymryd ar eu hysgwyddau eu hunain y baich a osodent gynt ar war rhyw unben neu'i gilydd ac a daflant heddiw at drugaredd y wladwriaeth hollalluog. Daw'r Gymru Newydd hithau i fod pan fynno degwm o'i phlant edifarhau, hyd ddyfnderoedd edifeirwch; a dewis yn gyntaf, eu hail-eni eu hunain cyn ail-eni neb arall, ymroddi i gynnal ei baich hi, ymarddelwi â'i chleisiau hi, ac ymwybod â pheth o stigmata'r Sant o'i herwydd hi,—eithr heb wneuthur Duw o Gymru ychwaith, na gwneuthur Duw o'r Oes Newydd, nac o un dim arall a'r a grybwyllwyd. Dyna'r ddau gam cyntaf, ynteu; edifarhau, ail-eni. Nid oes na'r naill na'r llall heb Dduw, a heb brawf o hynny mewn bywyd cwbl newydd a buchedd ddifrycheulyd, a heb barodrwydd i ddwyn beichiau ein gilydd. Yng ngrym y gweddnewidiad hwnnw y gallwn ninnau lwyr lanhau ein llawr-dyrnu a'n haml-demlau, temlau Duw, a themlau dysg. Os gwelsom gymaint yr angen sydd am lanhau temlau Duw, gallwn yn haws, efallai, ddeall nad llawer llai ydyw'r angen am lanhau ein temlau dysg. Y mae'n haddysg ni gystal â bod yn gwbl faterol, o'r pridd yn briddlyd, ac eto heb ymglywed â rhwygo gwanwyn pêr o'r pridd hwnnw, a heb roi clust i'w gyfrinachau hen. Peirianwaith golygus ydyw'r gyfundrefn addysg aml-ffenestrog ac aml-ystafellog ar yr olwg gyntaf, ond heb nod nac amcan teilwng, heb weledigaeth a heb athroniaeth eangfrydig am fywyd. Peiriant heb enaid; peiriant yn ysborionni, ac nid enaid yn ysbrydoli. Gwir yw bod rhyw ofod i grefydd yn yr ysgolion cynradd, a rhyw oddef ar grefydd yn yr ysgolion uwch. Ond, yng ngholegau'r Brifysgol, nid oes na chadair i ddiwinyddiaeth na chapel i Dduw. Y mae yno ddysgu crefydd. Ond lle neilltuedig a gwahanedig sydd iddo, heb gymundeb rhyngddo a'r pynciau eraill, heb gyfle i'w cyfuno ac i'w cyfannu. Ni ddaw i feddwl neb i ofyn a ydyw gwybod am Dduw yn hanfodol neu beidio, er mwyn iawn ddirnad y Cread, a dehongli bywyd dynion oddi mewn iddo. I orffen, gydag ystori. Yr haf diwethaf, mi gefais y Q fraint o dywys dwy ferch ddiwylliedig iawn o'r India drwy un o Golegau'r Brifysgol. Mynd—rhwng y parwydydd academaidd o ystafell i ystafell, o neuadd i neuadd, ac o lyfrgell i lyfrgell. Rhaid yw cyfaddef i'r ddwy ferch edmygu'n fawr lawer o'r pethau a welsant. Eithr, pan ddywedais imi ddangos y cwbl a oedd i'w ddangos, dyma ryw giledrych ar ei gilydd, a gofyn imi—" Ond ple mae'r Capel?" Dwy ferch o'r India, meddaf eto. Ond Cristion oedd pob un o'r ddwy; ac etifeddion traddodiad hen o Gristionogaeth yn yr India. Yn eu colegau hwy yr oedd Capel i Grist. Yn wir, nid oedd coleg yn goleg heb ei Gapel i Grist. "Ond, ple mae'r Capel?" Ym Mangor, ac Aberystwyth, yng Nghaerdydd ac Abertawe—ple mae'r capel? Yn nhemlau dysg, ple mae'r Capel? Yn nhemlau diwydiant, wrth fainc y saer, wrth fwrdd y crydd, wrth bwll y glo, wrth ben y gwaith, wrth law y "dwylo" oll—ple mae'r Capel?—os nad fel adeilad, o leiaf fel cyfle i addoli, i ddiolch. Bendigedig oedd y meddwl gynt a fu am urddas a gwerth ysbrydol gwaith—mai gweithio ydyw addoli. A ellir ei edfryd? A oes modd inni sancteiddio bywyd oll?—cartref, capel, ysgol, coleg, egwyl gwaith, diwylliant a'r diwydiannau oll? Ac wrth ei edfryd, edfryd glendid a disgleirdeb, iechyd ac asbri—gogoniant dysgeidiaeth dyn, ac ardderchowgrwydd Crist. {{c|{{mawr|JOHN, ESGOB BANGOR}}<ref>[[w:John Charles Jones]]</ref>}} Os darllen wyt, ddarllenydd mwyn, er cael dy ddiddori neu dy ddiddanu, da ti, gad heibio'r llyfr hwn; llyfr i greu poen yn dy feddwl ac yn dy gydwybod yw. Y mae digon o lyfrau eraill a all dy ddifyrru, ond ni wna hwn ddim. Er hynny, dylet ei ddarllen, oherwydd y mae'n ymwneud â'r byd yr wyt yn byw ynddo ac yn rhan ohono; y mae'n dangos cyflwr ein cenedl ni, ac felly y mae ynddo genadwri sy'n hawlio dy sylw. Ffolineb i'r claf wrthod gwrando ar y doctor am fod ofn arno i newydd drwg am ei iechyd aflonyddu ar dawelwch ei feddwl. Newydd drwg sydd yn Q y llyfr hwn gan mwyaf; ond y mae'r awdur yn pwysleisio'r newydd drwg am fod ganddo hefyd newydd da am obaith sicr i'n byd. Y mae'r awdur yn dod â ni wyneb yn wyneb â'r argyfwng sydd ym mywyd Cymru heddiw, ac y mae argyhoeddiad yn ei eiriau llosg. Y mae'r hyn oll a ddywed yn hawlio ein sylw taer. Y mae'n dangos, ac yn profi, fod yr argyfwng ar ein bywyd diwylliannol a chymdeithasol yn tarddu'n uniongyrchol oddi wrth ein dirywiad crefyddol; ac y mae yn ein galw, a'n galw'n daer, i edifarhau tuag at ein Duw. Nodyn y proffwyd sydd yma: 'O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd. Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.' (Jer. ii. 12). Dengys yr awdur sut y llithrodd bywyd Cymru i'w gyflwr presennol; nid oes gennym, meddai, ond 'darnau o Eglwys'; nid ydym o ddifrif; y mae'n colegau diwinyddol ar fai; nid yw ein gweinidogion yn ddigon da; y mae'r iaith Gymraeg wedi ei hesgeuluso; y mae Cymry wedi mabwysiadu nifer o dduwiau gau ac wedi syrthio i lawr a'u haddoli. Cyhuddiadau difrifol, ond y mae gan yr awdur ffeithiau yn egluro'r hyn a ddywed. Rhaid gwrando arno ac ystyried. Ond a oes ganddo feddyginiaeth? Oes, y mae ganddo ffordd o waredigaeth i'w dangos a'i chymell. Geilw arnom i edifarhau. Mi hoffwn i iddo esbonio'r waredigaeth yn fwy manwl. Efallai y gwna hynny ryw dro, pan gaiff fwy o amser a mwy o ofod. Mi garwn iddo ymhelaethu ar rai pethau a gododd yn fy meddwl i wrth ddarllen ei eiriau. Yn gyntaf, y frawddeg 'darnau o Eglwys'. 'Rwy'n deall beth sydd ym meddwl yr athro da; ac ni allaf lai na gweld y bydd edifeirwch yn peri inni ystyried o ddifrif ein hymraniadau crefyddol. Ni ddywed yr awdur lawer o ddim am gwestiwn adundeb ond y mae wedi ei godi. Nid yw'n dweud nemor amdano, nid am nad yw'n malio am y peth ond am nad oedd ganddo na'r gofod na'r amser. Efallai y daw'n ôl ato eto. Ychydig iawn ohonom ni, Gymry, sy'n blino am y peth o gwbl. Yr ydym i fesur yn ein Q twyllo ein hunain oherwydd fod hen frwydrau chwyrn y gorffennol rhwng enwad ac enwad wedi peidio, i fesur mawr erbyn hyn. Diolch am hynny; ond tybed a ydynt. wedi peidio nid am ein bod yn caru ein gilydd yn fwy ac yn well, ond am ein bod yn ''ddifater'', nid yn unig am egwyddorion crefyddol ond am lu o bethau pwysig eraill? Ac y mae un peth arall (peth digon da ynddo'i hun) a all ein twyllo; yr ydym heddiw'n barod iawn ar achlysuron neilltuol i fynychu capeli ac eglwysi ein gilydd ''a thrwy hynny anghofio'r pechod a'r tramgwydd sydd yn ein hymraniadau''. Os oes gwirionedd yn yr hyn a ddywed yr athro, bydd edifeirwch yn gofyn inni feddwl yn ddwys am y pethau hyn. Nid hawdd fydd i'r cyfundebau crefyddol i edifarhau, yn fwy nag y bydd yn hawdd i unigolion edifarhau; bydd yn rhaid wrth ostyngeiddrwydd mawr. Sôn am gadw undeb yr Eglwys yn Philipi y mae'r Apostol Paul, onid e? pan yw'n annog y Philipiaid i feddiannu'r' meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu; yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais i fod yn ogyfuwch â Duw; eithr efe a'i dibrisiodd ei hun gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion; a'i gael mewn dull fel dyn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau'. Yr un gostyngeiddrwydd a barodd i'n Harglwydd Iesu Grist blygu a golchi traed ei apostolion a chadw undeb yr oruwchystafell. Y mae'n haws gennyf i ganmol y gostyngeiddrwydd hwn na'i efelychu; ond os am gymryd argyfwng Cymru o ddifrif rhaid i ''mi'' edifarhau a'r cyfundeb Cristnogol y perthynaf iddo. A'r ail beth y carwn ei danlinellu ydyw'r hyn a ddywed yr awdur am ein methiant diwinyddol. Y mae'r Testament Newydd yn llawn diwinyddiaeth gadarn, iach; ac y mae dogmâu'r Eglwys yn tarddu yn yr Efengylau. Nid Cristionogaeth y Testament Newydd ydyw Cristionogaeth ddi-gredo, ddi-ddogma; ac nid Cristionogaeth ddi-asgwrn-cefn felly a all achub Cymru yn yr argyfwng sydd arnom. Diolch i'r awdur am bwysleisio hyn. Nid ydym ni Gymry heddiw yn fodlon ymboeni â disgyblaeth ddiwinyddol. Yn wir, y mae lle i ofni nad ydym yn rhy barod i ymgymryd â disgyblaeth yn unrhyw faes; yr ydym yn rhy barod i ymarfer ein talentau o bob math heb ymdrafferthu i'w datblygu trwy ddisgyblaeth feddyliol. {{nop}} Un ystyr i'r gair edifeirwch, fel y gwyddai pob Cristion gynt, ydyw cyfnewidiad meddwl; fel y dywedodd ein Harglwydd wrth Simon Petr—"Nid wyt ti'n synied y pethau sydd o Dduw ond y pethau sydd o ddynion"; synied o newydd ydyw edifeirwch. Ac un o'r pethau sydd eisiau ydyw i feddylwyr diwinyddol y genedl ddod at ei gilydd i feddwl gyda'i gilydd ac i siarad â'i gilydd, ac i wneud hynny'n ddiwinyddol ac yn edifeiriol. Yr ydym yn rhy barod i gredu y gellir aduno'r enwadau trwy anwybyddu'r argyhoeddiadau a'r egwyddorion sydd yn ein gwahanu. Y mae'n rhaid inni ddod at ein gilydd ar dir diwinyddiaeth, i geisio deall ein gilydd a pharchu ein gilydd; i geisio deall a gwerthfawrogi'r weledigaeth arbennig sydd gan bob un o'r cyfundebau. Caed enghraifft o'r hyn sydd yn eisiau pan wahoddodd Undeb yr Annibynwyr ym mis Mai, 1954, y Parch. G. O. Williams o'r Eglwys yng Nghymru i annerch yr Undeb ar y pwnc hwn, ac iddo yntau wneuthur hynny, nid er beirniadaeth ond er adeiladaeth, ac iddo wneuthur hynny'n ddiwinyddol ac yn ostyngedig. Goddefed yr athro, a thithau ddarllenydd, imi godi un peth, a dim ond un peth eto. Nid yw'r awdur yn sôn dim am yr Eglwys fuddugoliaethus. Credaf y bydd edifeirwch yn agor ein llygaid i weld honno; heb ei gweld nid oes inni lawer o obaith. Y mae angen inni weld gogoniant yr Eglwys, ei Gorff gogoneddus Ef, ei briodasferch yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o'r nef, wedi ei thrwsio i'w gŵr. Yn y goleuni hwn y mae inni weld mor ofnadwy ac mor ogoneddus yw bod yn aelodau ohoni. Dyma a geir yn Llyfr y Datguddiad, onid e? Yn y dechrau, cawn ddarlun o'r Eglwys heb fod yn oer nac yn frwd, ar delerau rhy dda â'r byd ac yn rhy barod i groesawu gau-ddysgeidiaeth; yr Eglwys yn wan ac yn bechadurus; a'r byd o'i chwmpas yn feiddgar ac yn fygythiol. Ond y mae gan Sant Ioan obaith sicr oherwydd iddo weled hefyd (a dangos) un tebyg i Fab y Dyn yng nghanol ei Eglwys, Un a fu farw ond sydd fyw, ac wele, byw ydyw yn oes oesoedd; gwelodd Sant Ioan hefyd yr Arglwydd Dduw Hollalluog yn teyrnasu, a'r ddinas sanctaidd yn dyfod i waered oddi wrth Dduw. Ein Harglwydd Iesu Grist ei Hun a sefydlodd yr Eglwys; ei greadigaeth Ef ydyw. Nid ymwthio nac ymgyrraedd tuag ati a wnawn, ond trwy drugaredd Duw cawsom ein Q gwneud yn aelodau ohoni. Bydd edifeirwch yn dangos inni nid yn unig wendid yr Eglwys ond ei grym, yn ei dangos yn myned rhagddi yn ofnadwy fel llu banerog. Cawsom esiampl o hyn yn ein dyddiau ni, allan o Affrica o bair berw'r Mau-Mau. Ychydig flynyddoedd yn ôl, yr oeddem ni, yn Nwyreindir Affrica, yn cwyno bod yr Eglwys yn y wlad honno'n ddifater a difywyd, a'i haelodau'n rhy debyg o lawer i'r byd. Ond yn sydyn trawodd gelyn melltigedig, y Mau-Mau a'i holl gynllwynion dieflig—ymosododd yn bennaf ar yr Eglwys, am mai yr Eglwys ydyw; ac y mae'r Eglwys nid yn unig yn sefyll, ond y mae'n mynd rhagddi i orchfygu. Pan ddaeth yr Esgob i Brydain yn ddiweddar, cafodd gan yr Eglwys yn Kenya genadwri atom ni, cenadwri o ganol y ffwrn dân; a dyma hi: "Y mae pyrth uffern wedi codi'n erbyn Eglwys Crist yn ein plith ond nid ydynt wedi gorchfygu. Yr ydym wedi profi addewid y Gwaredwr, /'Wele, mi a roddais i chwi bob awdurdod ar holl nerthoedd y gelyn '." Rhodd Duw ydyw'r Eglwys. Rhodd Duw ydyw edifeirwch. Ond ni wna Duw wthio'r naill na'r llall arnom; a dyma un rheswm pwysig paham y dylem wrando a phwyso'n ofalus a gweddigar y pethau pwysig a ysgrifennodd yr awdur yn y llyfr hwn. {{c|{{mawr|YR ATHRO J. OLIVER STEPHENS.}}}} I werthfawrogi'r neges broffwydol hon ni raid cytuno â phopeth a ddywedir. O'm rhan fy hun, ni welaf nemor ddim i anghytuno amdano. Fe'm meddiennir, yn hytrach, gan ymdeimlad o galondid mawr wrth fod lleygwr o safle a dylanwad Ambrose Bebb yn cyffesu cymaint gofal calon dros gyflwr ysbrydol Cymru. Digon gennyf fi fyddai dywedyd "Ie ac Amen" ond gan i'r Athro fod mor hyfwyn â gofyn imi draethu fy marn, "yn gwbl rydd a di-ofn," cymeraf y cyfle nid i feirniadu yn gymaint â gosod y pwyslais, yma ac acw, ychydig bach yn wahanol, ac ychwanegu, o brofiad maith mewn coleg diwinyddol, rai ffeithiau yr eddyf ef ei fod yn ansicr amdanynt. {{nop}} Rhagorol o beth yw cael y neges mewn iaith mor goeth a grymus. Ni all hyn lai na hwyluso ei hannel at feddwl a chalon y dosbarth llengar a diwylliedig yr ymddibynna tynged Cymru yn gymaint arno. Teimlaf ers blynyddoedd mai anffawd fawr yw difrawder nifer mor lluosog o raddedigion ein Prifysgol ynglŷn â bywyd crefyddol ein cenedl. Pe deffroid ac ennill y rhai hyn gellid disgwyl am ddiwygiad o'r iawn ryw. A phwy fel Ambrose Bebb i wneuthur hynny? Dyma, o'r diwedd, yr union neges y bûm yn hiraethu am ei chlywed o enau lleygwr. Ymddengys i mi nad apelia'r pulpud, fel y dylai, at ein pobl oleuedig, am y saif, ym meddwl llawer ohonynt, dros fuddiannau enwadol ac eglwysig y maent hwy wedi diflasu arnynt. Rhagorfraint y lleygwr yw bod yn rhydd o'r anghaffael hwn. O'r herwydd ni rydd yr utgorn sain anhynod. Prin y gall neb gamddeall y neges hon na phriodoli iddi unrhyw amcan heblaw hyrwyddo buddiannau uchaf y genedl yn gyfan. Gan fod yr apêl at weinidogion a lleygwyr fel ei gilydd, gall fod yn foddion i sicrhau mwy o gydymdeimlad a chyd-ddealltwriaeth rhyngddynt. Ni all dim fel edifeirwch cyffredinol ein gwaredu o bob partïol farn a rhagfarn. Rhagorol eto, yw'r pwyslais a esyd yr Athro ar grefydd fel y sylfaen anhepgor i bob gwir ddiwylliant. Da y dywed fod crefydd yn ehangach ei harfod a dyfnach ei dylanwad na dim un agwedd unigol arall ar fywyd dynion. Oherwydd hyn "y dirywiad crefyddol sydd wrth wraidd yr holl ddirywiadau eraill." Y mae'n naturiol felly fod arweinwyr crefydd yn arbennig mewn golwg ganddo wrth alw'n ddwys am edifeirwch, ac ni chythruddir mohonynt. Cydnabyddir yn rhwydd na wynebwyd gweinidogion yr Efengyl erioed gan anawsterau mwy anferthol. Yn y gwewyr esgor ar ail-gyflunio cymdeithas, y mae materoliaeth ac annuwiaeth yn ysgubo dros y pum cyfandir. Anwybyddir crefydd fel sylfaen pob gwareiddiad teilwng ac er cymaint ei dyled i'r Efengyl ni ddihangodd Cymru rhag y pla. Ond er bod yr afiechyd yn gyffredin i'r byd gall fod iddo ansawdd arbennig yn ein gwlad ni ac achosion neilltuol y dylid eu holrhain. Gellir darllen y genadwri hon fel archwiliad meddygol i'r anhwyldeb fel y gafaelodd ynom ni yng Nghymru ac yn hyn y gorwedd ei gwerth pennaf. Q Wrth ymofidio ac edifarhau am ein cwymp rhaid wrth ymwybod o'r man a'r modd y llithrodd ein traed rhag tripio o'n cerddediad eto. Olrheinir y drwg ymhellach yn ôl na thrychineb y rhyfeloedd diweddar. Gwêl yr awdur arwyddion, os nad un o achosion, y dirywiad yn Niwygiad 1904-5. Awgrymir fod arweinwyr crefydd yn gyfrifol am natur a chwrs y Diwygiad. Y mae gennyf gof byw o'r amser rhyfedd hwnnw a'r argraff a erys yw na fu gan y gweinidogion nemor ddylanwad arno. Fe'u hysgubwyd o'r neilltu yn anterth teimladau'r tyrfaoedd. Pan geisiodd nifer ohonynt roddi cyfeiriad i'r dylanwadau, priodolwyd iddynt amcanion enwadol. Canlyniad mwyaf amlwg y Diwygiad heddiw ydyw grym a chynnydd yr Eglwys Apostolaidd. Digwyddodd yr anffodion hyn am nad oedd gennym nac Eglwys Unedig, a allasai gynnull y dychweledigion oll, na phulpud digon goleuedig i'n diogelu rhag hygoelledd teimladol a rhy arall-fydol. Pan gyfeiria'r awdur at yr ymadawiad mawr oddi wrth grefydd ym mharthau gweithfaol y Deheudir, cytunaf yn hollol ag ef nad oedd gan y pulpud yr union neges ar gyfer yr argyfwng hwnnw. Nid gwir, er hynny, mai diffyg "diwinyddiaeth uniongred" a gyfrifai am y trychineb. Diffyg diwinyddiaeth y blynyddoedd hynny oedd ei bod yn rhy "uniongred" yn yr ystyr ei bod yn rhy geidwadol ac arall-fydol. Y farn gyffredin ymysg gweinidogion heddiw ydyw i'r pulpud golli'r cyfle am nad oedd yn meddu ar neges gymdeithasol Efengyl yr Iesu am Deyrnas Dduw. Sylweddoli'r diffyg hwn a barodd i gynifer o fyfyrwyr diwinyddol ymroi i astudio yr hyn a elwid yn ''Political Economy'' yn y Brifysgol er mwyn ceisio cyfleu'r Efengyl at anghenion y cyfnod. Ansicr, er hynny, fu meddwl y pulpud ac, erbyn hyn, gwelsom yr adwaith yn nysgeidiaeth Karl Barth a'r anobaith am drefn Gristionogol ar gymdeithas. Mor wir y dywedir: "Nyni Gristionogion di-lygad, di-ddiwinyddiaeth, di-Grist sy'n gyfrifol am ledaeniad Comiwnyddiaeth yn Neheudir Cymru, ym Mhrydain ac ar gyfandir Ewrop. Nyni oll!" Am y peth nesaf y dymunwn ei ddweud aeth y Parch. J. P. Davies â'r gair o'm genau. "Nid eisiau rhagor o weinidogion uniongred sydd arnom ond rhagor o bregethwyr <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> ihac477n2fkx8mk6llpg9n6grgs42mx 161627 161625 2026-03-30T11:20:17Z AlwynapHuw 1710 Amnewidiwyd y cynnwys gyda "{{c|{{mawr|HWYL AC AN—HWYL.}}}} Y mae hi'n Wyliau'r Pasg (1953) arnaf i, ac yn hamdden amheuthun iawn. Nid rhaid imi fynd i'r Coleg; nid rhaid imi ddarlithio; ac nid rhaid imi farcio papurau; na gwneud dim un o'r llu pethau a fydd yn galw fel cloc ar adeg arall. Hyfryd iawn yw hi arnaf. Gwir fod yr ardd yn galw am gymwynas neu ddwy; ond y mae hi'n gynefin â disgwyl. Un amyneddgar dros ben yw hi. Gwir hefyd fod pobl ar eu gwyliau, ac yn heigio o fan i fan,..." 161627 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|HWYL AC AN—HWYL.}}}} Y mae hi'n Wyliau'r Pasg (1953) arnaf i, ac yn hamdden amheuthun iawn. Nid rhaid imi fynd i'r Coleg; nid rhaid imi ddarlithio; ac nid rhaid imi farcio papurau; na gwneud dim un o'r llu pethau a fydd yn galw fel cloc ar adeg arall. Hyfryd iawn yw hi arnaf. Gwir fod yr ardd yn galw am gymwynas neu ddwy; ond y mae hi'n gynefin â disgwyl. Un amyneddgar dros ben yw hi. Gwir hefyd fod pobl ar eu gwyliau, ac yn heigio o fan i fan, ac yn ymsegura'n galonnog braf. Ac y mae ambell un o'm cyfeillion innau'n cael y fraint o grwydro'r cyfandir. Gwyn eu byd, bawb ohonynt! Mi gefais innau f'awr i grwydro—ac fe'i caf eto gobeithio. Ydyw y mae hi'n Wyliau'r Pasg, ac y mae ''awyrgylch'' Gwyliau yn y gwynt yn y glaw a'r gwynt. Heddiw'r bore, y mae'r Haul wedi dyfod i'n plith unwaith eto. Ac unwaith yr ymddengys y brenin un—llygad hwnnw, y mae hi'n giprys mwy fyth am yfed o bêr ddiogi'r Gwyliau—naid dros y trothwy, cam drwy lidiart yr ardd, canu'n iach i'r hendre, a bant â ni i'r rhyddid di—ofal a di—lyffethair! Y demtasiwn fawr yw gadael pen ac inc, papur a llinell, bwrdd a chadair, ac ymddihatru o bob cyfrifoldeb. Ymaith reolau! I ffwrdd â'r hualau! Ond mi roddais i'r tresi amdanaf, ar awr wan, cyn dyfod y Gwyliau hyn. Do: ysywaeth! Ac mi addewais i Olygydd yr ''Herald'' lunio ysgrif neu ddwy, ac nid un neu ddwy yn unig, ond tair neu bedair. I fod yn berffaith onest, mi addewais bedair iddo. Pedair!—a hithau'n Wyliau'r Pasg. Onid oedd honno'n awr wan arnaf. Hyfryd. fyddai ymryddhau erbyn hyn! A mynd gyda'r llu—i Ffrainc, i Iwerddon, neu i ffordd y mynydd, neu hyd lwybr y dyffryn. Ond, waeth i mi heb nag osgoi. Os addewid, addewid—os addo, cyflawni. Nid y Pasg, o'r un adeg mewn blwyddyn, ydyw'r cyfnod i dorri addewid. Pum niwrnod yn ôl, yr oedd hi'n Ddydd Gwener y Groglith; ac ni welwyd erioed y fath gadw addewid ag a fu y dwthwn<noinclude><references/></noinclude> kvq7mkpxzdr23u7ajr20y258qwe0cc1 161628 161627 2026-03-30T11:20:32Z AlwynapHuw 1710 161628 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|HWYL AC AN-HWYL.}}}} Y mae hi'n Wyliau'r Pasg (1953) arnaf i, ac yn hamdden amheuthun iawn. Nid rhaid imi fynd i'r Coleg; nid rhaid imi ddarlithio; ac nid rhaid imi farcio papurau; na gwneud dim un o'r llu pethau a fydd yn galw fel cloc ar adeg arall. Hyfryd iawn yw hi arnaf. Gwir fod yr ardd yn galw am gymwynas neu ddwy; ond y mae hi'n gynefin â disgwyl. Un amyneddgar dros ben yw hi. Gwir hefyd fod pobl ar eu gwyliau, ac yn heigio o fan i fan, ac yn ymsegura'n galonnog braf. Ac y mae ambell un o'm cyfeillion innau'n cael y fraint o grwydro'r cyfandir. Gwyn eu byd, bawb ohonynt! Mi gefais innau f'awr i grwydro—ac fe'i caf eto gobeithio. Ydyw y mae hi'n Wyliau'r Pasg, ac y mae ''awyrgylch'' Gwyliau yn y gwynt yn y glaw a'r gwynt. Heddiw'r bore, y mae'r Haul wedi dyfod i'n plith unwaith eto. Ac unwaith yr ymddengys y brenin un—llygad hwnnw, y mae hi'n giprys mwy fyth am yfed o bêr ddiogi'r Gwyliau—naid dros y trothwy, cam drwy lidiart yr ardd, canu'n iach i'r hendre, a bant â ni i'r rhyddid di—ofal a di—lyffethair! Y demtasiwn fawr yw gadael pen ac inc, papur a llinell, bwrdd a chadair, ac ymddihatru o bob cyfrifoldeb. Ymaith reolau! I ffwrdd â'r hualau! Ond mi roddais i'r tresi amdanaf, ar awr wan, cyn dyfod y Gwyliau hyn. Do: ysywaeth! Ac mi addewais i Olygydd yr ''Herald'' lunio ysgrif neu ddwy, ac nid un neu ddwy yn unig, ond tair neu bedair. I fod yn berffaith onest, mi addewais bedair iddo. Pedair!—a hithau'n Wyliau'r Pasg. Onid oedd honno'n awr wan arnaf. Hyfryd. fyddai ymryddhau erbyn hyn! A mynd gyda'r llu—i Ffrainc, i Iwerddon, neu i ffordd y mynydd, neu hyd lwybr y dyffryn. Ond, waeth i mi heb nag osgoi. Os addewid, addewid—os addo, cyflawni. Nid y Pasg, o'r un adeg mewn blwyddyn, ydyw'r cyfnod i dorri addewid. Pum niwrnod yn ôl, yr oedd hi'n Ddydd Gwener y Groglith; ac ni welwyd erioed y fath gadw addewid ag a fu y dwthwn<noinclude><references/></noinclude> 24rx9t64yrr496lhuqvniyfy4ayliru Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/69 104 82744 161626 2026-03-30T11:18:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161626 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar dân fel David Williams. Yr oedd ef yn ddigon onest i wrthod uniongrededd os nad oedd yn cyd-fynd â Iesu'r Testament Newydd. Y mae deall y Testament Newydd yn bwysicach nag astudio diwinyddiaeth gyfundrefnol. Diolch am bwyslais Barthiaeth ond nid oedd cymaint â hynny o angen amdano ar y dyn a ddysgodd ystyr cyfiawnhâd trwy ffydd wrth droed yr Athro David Williams." Dyna fy marn bendant innau ar ôl oes gyfan mewn coleg diwinyddol. Nid amheuaf na chytuna'r Athro â hyn canys oni ddywed y dylem "gofio'n gyntaf mai galwad at berson, galwad at Grist, ac nid at sefydliad ydyw gwir alwad ein Harglwydd a'n Hachubwr ni." Gallai'r hyn a ddywedir am y colegau diwinyddol fod yn wir genhedlaeth yn ôl. Daeth cyfnewidiad mawr erbyn hyn. Oni bai am eu cyswllt agos â Phrifysgol Cymru gellid yn hawdd eu troi yn sefydliadau hollol Gymreig. Cytunaf o lwyrfryd calon â'r Parch. Tegla Davies pan gyfeiria at yr hyn y dylem yn fwyaf arbennig edifarhau amdano. "Yr wyf yn argyhoeddedig mai'r rheswm mawr dros ein tlodi meddyliol ac ysbrydol, a'n diffyg dylanwad ar y byd, ydyw nid nad oes ddoniau pregethu, ond ein bod wedi llacio yn y gwaith o ddisgyblu'r plant a'r bobl ieuainc a phob oed yn egwyddorion sylfaenol crefydd." Yr hyn a'm cynhyrfa'n bennaf wedi darllen y genadwri hon yw awydd taer am weled cyd-weithrediad brwdfrydig rhwng yr ysgolion a'r eglwysi yn addysg grefyddol ein hieuenctid. Meddiennir y plant am wythnos gyfan gan yr ysgolion tra na chaiff yr eglwysi ond ysbaid fechan ar y Saboth. Ond yn awr, agorwyd gan y Mesur Addysg newydd faes helaeth i'r ysgolion a'r eglwysi gydweithio ynddo. Ar draul enfawr na allai'r eglwysi mo'i gyfarfod, codir ysgolion cynradd ac eilradd ac addysg Gristionogol yn orfodol ymhob un. Dyma gyfle na welodd Cymru erioed mo'i debyg. Er a soniais am ddifaterwch nifer lluosog o blant y colegau y mae yn eu mysg, fel y tystia Urdd Gobaith Cymru a mudiadau eraill, lawer iawn o athrawon ac athrawesau sydd yn hufen y genedl ac y gellir ymddiried iddynt, gyda'r eglwysi, i greu cyfnod newydd yn hanes crefydd yng Nghymru. Ni thybiaf y synia'r Athro am ddiwygiad megys y rhai<noinclude><references/></noinclude> hndbtqyflzcuedek6yurscyj2i9mia1 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/68 104 82745 161629 2026-03-30T11:22:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161629 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wrth ymofidio ac edifarhau am ein cwymp rhaid wrth ymwybod o'r man a'r modd y llithrodd ein traed rhag tripio o'n cerddediad eto. Olrheinir y drwg ymhellach yn ôl na thrychineb y rhyfeloedd diweddar. Gwêl yr awdur arwyddion, os nad un o achosion, y dirywiad yn Niwygiad 1904-5. Awgrymir fod arweinwyr crefydd yn gyfrifol am natur a chwrs y Diwygiad. Y mae gennyf gof byw o'r amser rhyfedd hwnnw a'r argraff a erys yw na fu gan y gweinidogion nemor ddylanwad arno. Fe'u hysgubwyd o'r neilltu yn anterth teimladau'r tyrfaoedd. Pan geisiodd nifer ohonynt roddi cyfeiriad i'r dylanwadau, priodolwyd iddynt amcanion enwadol. Canlyniad mwyaf amlwg y Diwygiad heddiw ydyw grym a chynnydd yr Eglwys Apostolaidd. Digwyddodd yr anffodion hyn am nad oedd gennym nac Eglwys Unedig, a allasai gynnull y dychweledigion oll, na phulpud digon goleuedig i'n diogelu rhag hygoelledd teimladol a rhy arall-fydol. Pan gyfeiria'r awdur at yr ymadawiad mawr oddi wrth grefydd ym mharthau gweithfaol y Deheudir, cytunaf yn hollol ag ef nad oedd gan y pulpud yr union neges ar gyfer yr argyfwng hwnnw. Nid gwir, er hynny, mai diffyg "diwinyddiaeth uniongred" a gyfrifai am y trychineb. Diffyg diwinyddiaeth y blynyddoedd hynny oedd ei bod yn rhy "uniongred" yn yr ystyr ei bod yn rhy geidwadol ac arall-fydol. Y farn gyffredin ymysg gweinidogion heddiw ydyw i'r pulpud golli'r cyfle am nad oedd yn meddu ar neges gymdeithasol Efengyl yr Iesu am Deyrnas Dduw. Sylweddoli'r diffyg hwn a barodd i gynifer o fyfyrwyr diwinyddol ymroi i astudio yr hyn a elwid yn ''Political Economy'' yn y Brifysgol er mwyn ceisio cyfleu'r Efengyl at anghenion y cyfnod. Ansicr, er hynny, fu meddwl y pulpud ac, erbyn hyn, gwelsom yr adwaith yn nysgeidiaeth Karl Barth a'r anobaith am drefn Gristionogol ar gymdeithas. Mor wir y dywedir: "Nyni Gristionogion di-lygad, di-ddiwinyddiaeth, di-Grist sy'n gyfrifol am ledaeniad Comiwnyddiaeth yn Neheudir Cymru, ym Mhrydain ac ar gyfandir Ewrop. Nyni oll!" Am y peth nesaf y dymunwn ei ddweud aeth y Parch. J. P. Davies â'r gair o'm genau. "Nid eisiau rhagor o weinidogion uniongred sydd arnom ond rhagor o bregethwyr<noinclude><references/></noinclude> gno3bru3lyxgbshn9c043c7k24l6vo0 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/67 104 82746 161630 2026-03-30T11:23:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161630 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rhagorol o beth yw cael y neges mewn iaith mor goeth a grymus. Ni all hyn lai na hwyluso ei hannel at feddwl a chalon y dosbarth llengar a diwylliedig yr ymddibynna tynged Cymru yn gymaint arno. Teimlaf ers blynyddoedd mai anffawd fawr yw difrawder nifer mor lluosog o raddedigion ein Prifysgol ynglŷn â bywyd crefyddol ein cenedl. Pe deffroid ac ennill y rhai hyn gellid disgwyl am ddiwygiad o'r iawn ryw. A phwy fel Ambrose Bebb i wneuthur hynny? Dyma, o'r diwedd, yr union neges y bûm yn hiraethu am ei chlywed o enau lleygwr. Ymddengys i mi nad apelia'r pulpud, fel y dylai, at ein pobl oleuedig, am y saif, ym meddwl llawer ohonynt, dros fuddiannau enwadol ac eglwysig y maent hwy wedi diflasu arnynt. Rhagorfraint y lleygwr yw bod yn rhydd o'r anghaffael hwn. O'r herwydd ni rydd yr utgorn sain anhynod. Prin y gall neb gamddeall y neges hon na phriodoli iddi unrhyw amcan heblaw hyrwyddo buddiannau uchaf y genedl yn gyfan. Gan fod yr apêl at weinidogion a lleygwyr fel ei gilydd, gall fod yn foddion i sicrhau mwy o gydymdeimlad a chyd-ddealltwriaeth rhyngddynt. Ni all dim fel edifeirwch cyffredinol ein gwaredu o bob partïol farn a rhagfarn. Rhagorol eto, yw'r pwyslais a esyd yr Athro ar grefydd fel y sylfaen anhepgor i bob gwir ddiwylliant. Da y dywed fod crefydd yn ehangach ei harfod a dyfnach ei dylanwad na dim un agwedd unigol arall ar fywyd dynion. Oherwydd hyn "y dirywiad crefyddol sydd wrth wraidd yr holl ddirywiadau eraill." Y mae'n naturiol felly fod arweinwyr crefydd yn arbennig mewn golwg ganddo wrth alw'n ddwys am edifeirwch, ac ni chythruddir mohonynt. Cydnabyddir yn rhwydd na wynebwyd gweinidogion yr Efengyl erioed gan anawsterau mwy anferthol. Yn y gwewyr esgor ar ail-gyflunio cymdeithas, y mae materoliaeth ac annuwiaeth yn ysgubo dros y pum cyfandir. Anwybyddir crefydd fel sylfaen pob gwareiddiad teilwng ac er cymaint ei dyled i'r Efengyl ni ddihangodd Cymru rhag y pla. Ond er bod yr afiechyd yn gyffredin i'r byd gall fod iddo ansawdd arbennig yn ein gwlad ni ac achosion neilltuol y dylid eu holrhain. Gellir darllen y genadwri hon fel archwiliad meddygol i'r anhwyldeb fel y gafaelodd ynom ni yng Nghymru ac yn hyn y gorwedd ei gwerth pennaf.<noinclude><references/></noinclude> pe8hl0p8s6ly0yjigdmsdm54qfdl93w Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/66 104 82747 161631 2026-03-30T11:24:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161631 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwneud yn aelodau ohoni. Bydd edifeirwch yn dangos inni nid yn unig wendid yr Eglwys ond ei grym, yn ei dangos yn myned rhagddi yn ofnadwy fel llu banerog. Cawsom esiampl o hyn yn ein dyddiau ni, allan o Affrica o bair berw'r Mau-Mau. Ychydig flynyddoedd yn ôl, yr oeddem ni, yn Nwyreindir Affrica, yn cwyno bod yr Eglwys yn y wlad honno'n ddifater a difywyd, a'i haelodau'n rhy debyg o lawer i'r byd. Ond yn sydyn trawodd gelyn melltigedig, y Mau-Mau a'i holl gynllwynion dieflig—ymosododd yn bennaf ar yr Eglwys, am mai yr Eglwys ydyw; ac y mae'r Eglwys nid yn unig yn sefyll, ond y mae'n mynd rhagddi i orchfygu. Pan ddaeth yr Esgob i Brydain yn ddiweddar, cafodd gan yr Eglwys yn Kenya genadwri atom ni, cenadwri o ganol y ffwrn dân; a dyma hi: "Y mae pyrth uffern wedi codi'n erbyn Eglwys Crist yn ein plith ond nid ydynt wedi gorchfygu. Yr ydym wedi profi addewid y Gwaredwr, /'Wele, mi a roddais i chwi bob awdurdod ar holl nerthoedd y gelyn '." Rhodd Duw ydyw'r Eglwys. Rhodd Duw ydyw edifeirwch. Ond ni wna Duw wthio'r naill na'r llall arnom; a dyma un rheswm pwysig paham y dylem wrando a phwyso'n ofalus a gweddigar y pethau pwysig a ysgrifennodd yr awdur yn y llyfr hwn. {{c|{{mawr|YR ATHRO J. OLIVER STEPHENS.}}}} I werthfawrogi'r neges broffwydol hon ni raid cytuno â phopeth a ddywedir. O'm rhan fy hun, ni welaf nemor ddim i anghytuno amdano. Fe'm meddiennir, yn hytrach, gan ymdeimlad o galondid mawr wrth fod lleygwr o safle a dylanwad Ambrose Bebb yn cyffesu cymaint gofal calon dros gyflwr ysbrydol Cymru. Digon gennyf fi fyddai dywedyd "Ie ac Amen" ond gan i'r Athro fod mor hyfwyn â gofyn imi draethu fy marn, "yn gwbl rydd a di-ofn," cymeraf y cyfle nid i feirniadu yn gymaint â gosod y pwyslais, yma ac acw, ychydig bach yn wahanol, ac ychwanegu, o brofiad maith mewn coleg diwinyddol, rai ffeithiau yr eddyf ef ei fod yn ansicr amdanynt. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> oot7hz9wzz95989nipg62mpxomxvxgq Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/65 104 82748 161632 2026-03-30T11:24:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161632 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Un ystyr i'r gair edifeirwch, fel y gwyddai pob Cristion gynt, ydyw cyfnewidiad meddwl; fel y dywedodd ein Harglwydd wrth Simon Petr—"Nid wyt ti'n synied y pethau sydd o Dduw ond y pethau sydd o ddynion"; synied o newydd ydyw edifeirwch. Ac un o'r pethau sydd eisiau ydyw i feddylwyr diwinyddol y genedl ddod at ei gilydd i feddwl gyda'i gilydd ac i siarad â'i gilydd, ac i wneud hynny'n ddiwinyddol ac yn edifeiriol. Yr ydym yn rhy barod i gredu y gellir aduno'r enwadau trwy anwybyddu'r argyhoeddiadau a'r egwyddorion sydd yn ein gwahanu. Y mae'n rhaid inni ddod at ein gilydd ar dir diwinyddiaeth, i geisio deall ein gilydd a pharchu ein gilydd; i geisio deall a gwerthfawrogi'r weledigaeth arbennig sydd gan bob un o'r cyfundebau. Caed enghraifft o'r hyn sydd yn eisiau pan wahoddodd Undeb yr Annibynwyr ym mis Mai, 1954, y Parch. G. O. Williams o'r Eglwys yng Nghymru i annerch yr Undeb ar y pwnc hwn, ac iddo yntau wneuthur hynny, nid er beirniadaeth ond er adeiladaeth, ac iddo wneuthur hynny'n ddiwinyddol ac yn ostyngedig. Goddefed yr athro, a thithau ddarllenydd, imi godi un peth, a dim ond un peth eto. Nid yw'r awdur yn sôn dim am yr Eglwys fuddugoliaethus. Credaf y bydd edifeirwch yn agor ein llygaid i weld honno; heb ei gweld nid oes inni lawer o obaith. Y mae angen inni weld gogoniant yr Eglwys, ei Gorff gogoneddus Ef, ei briodasferch yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o'r nef, wedi ei thrwsio i'w gŵr. Yn y goleuni hwn y mae inni weld mor ofnadwy ac mor ogoneddus yw bod yn aelodau ohoni. Dyma a geir yn Llyfr y Datguddiad, onid e? Yn y dechrau, cawn ddarlun o'r Eglwys heb fod yn oer nac yn frwd, ar delerau rhy dda â'r byd ac yn rhy barod i groesawu gau-ddysgeidiaeth; yr Eglwys yn wan ac yn bechadurus; a'r byd o'i chwmpas yn feiddgar ac yn fygythiol. Ond y mae gan Sant Ioan obaith sicr oherwydd iddo weled hefyd (a dangos) un tebyg i Fab y Dyn yng nghanol ei Eglwys, Un a fu farw ond sydd fyw, ac wele, byw ydyw yn oes oesoedd; gwelodd Sant Ioan hefyd yr Arglwydd Dduw Hollalluog yn teyrnasu, a'r ddinas sanctaidd yn dyfod i waered oddi wrth Dduw. Ein Harglwydd Iesu Grist ei Hun a sefydlodd yr Eglwys; ei greadigaeth Ef ydyw. Nid ymwthio nac ymgyrraedd tuag ati a wnawn, ond trwy drugaredd Duw cawsom ein<noinclude><references/></noinclude> 387ryg2b7mi43fd50zj12fa3z16krrg Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/64 104 82749 161633 2026-03-30T11:27:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161633 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>twyllo ein hunain oherwydd fod hen frwydrau chwyrn y gorffennol rhwng enwad ac enwad wedi peidio, i fesur mawr erbyn hyn. Diolch am hynny; ond tybed a ydynt. wedi peidio nid am ein bod yn caru ein gilydd yn fwy ac yn well, ond am ein bod yn ''ddifater'', nid yn unig am egwyddorion crefyddol ond am lu o bethau pwysig eraill? Ac y mae un peth arall (peth digon da ynddo'i hun) a all ein twyllo; yr ydym heddiw'n barod iawn ar achlysuron neilltuol i fynychu capeli ac eglwysi ein gilydd ''a thrwy hynny anghofio'r pechod a'r tramgwydd sydd yn ein hymraniadau''. Os oes gwirionedd yn yr hyn a ddywed yr athro, bydd edifeirwch yn gofyn inni feddwl yn ddwys am y pethau hyn. Nid hawdd fydd i'r cyfundebau crefyddol i edifarhau, yn fwy nag y bydd yn hawdd i unigolion edifarhau; bydd yn rhaid wrth ostyngeiddrwydd mawr. Sôn am gadw undeb yr Eglwys yn Philipi y mae'r Apostol Paul, onid e? pan yw'n annog y Philipiaid i feddiannu'r' meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu; yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais i fod yn ogyfuwch â Duw; eithr efe a'i dibrisiodd ei hun gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion; a'i gael mewn dull fel dyn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau'. Yr un gostyngeiddrwydd a barodd i'n Harglwydd Iesu Grist blygu a golchi traed ei apostolion a chadw undeb yr oruwchystafell. Y mae'n haws gennyf i ganmol y gostyngeiddrwydd hwn na'i efelychu; ond os am gymryd argyfwng Cymru o ddifrif rhaid i ''mi'' edifarhau a'r cyfundeb Cristnogol y perthynaf iddo. A'r ail beth y carwn ei danlinellu ydyw'r hyn a ddywed yr awdur am ein methiant diwinyddol. Y mae'r Testament Newydd yn llawn diwinyddiaeth gadarn, iach; ac y mae dogmâu'r Eglwys yn tarddu yn yr Efengylau. Nid Cristionogaeth y Testament Newydd ydyw Cristionogaeth ddi-gredo, ddi-ddogma; ac nid Cristionogaeth ddi-asgwrn-cefn felly a all achub Cymru yn yr argyfwng sydd arnom. Diolch i'r awdur am bwysleisio hyn. Nid ydym ni Gymry heddiw yn fodlon ymboeni â disgyblaeth ddiwinyddol. Yn wir, y mae lle i ofni nad ydym yn rhy barod i ymgymryd â disgyblaeth yn unrhyw faes; yr ydym yn rhy barod i ymarfer ein talentau o bob math heb ymdrafferthu i'w datblygu trwy ddisgyblaeth feddyliol. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rygxfr9y8q7nvc6gse7azgcu2vy4ksv Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/63 104 82750 161634 2026-03-30T11:27:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161634 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y llyfr hwn gan mwyaf; ond y mae'r awdur yn pwysleisio'r newydd drwg am fod ganddo hefyd newydd da am obaith sicr i'n byd. Y mae'r awdur yn dod â ni wyneb yn wyneb â'r argyfwng sydd ym mywyd Cymru heddiw, ac y mae argyhoeddiad yn ei eiriau llosg. Y mae'r hyn oll a ddywed yn hawlio ein sylw taer. Y mae'n dangos, ac yn profi, fod yr argyfwng ar ein bywyd diwylliannol a chymdeithasol yn tarddu'n uniongyrchol oddi wrth ein dirywiad crefyddol; ac y mae yn ein galw, a'n galw'n daer, i edifarhau tuag at ein Duw. Nodyn y proffwyd sydd yma: 'O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd. Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.' (Jer. ii. 12). Dengys yr awdur sut y llithrodd bywyd Cymru i'w gyflwr presennol; nid oes gennym, meddai, ond 'darnau o Eglwys'; nid ydym o ddifrif; y mae'n colegau diwinyddol ar fai; nid yw ein gweinidogion yn ddigon da; y mae'r iaith Gymraeg wedi ei hesgeuluso; y mae Cymry wedi mabwysiadu nifer o dduwiau gau ac wedi syrthio i lawr a'u haddoli. Cyhuddiadau difrifol, ond y mae gan yr awdur ffeithiau yn egluro'r hyn a ddywed. Rhaid gwrando arno ac ystyried. Ond a oes ganddo feddyginiaeth? Oes, y mae ganddo ffordd o waredigaeth i'w dangos a'i chymell. Geilw arnom i edifarhau. Mi hoffwn i iddo esbonio'r waredigaeth yn fwy manwl. Efallai y gwna hynny ryw dro, pan gaiff fwy o amser a mwy o ofod. Mi garwn iddo ymhelaethu ar rai pethau a gododd yn fy meddwl i wrth ddarllen ei eiriau. Yn gyntaf, y frawddeg 'darnau o Eglwys'. 'Rwy'n deall beth sydd ym meddwl yr athro da; ac ni allaf lai na gweld y bydd edifeirwch yn peri inni ystyried o ddifrif ein hymraniadau crefyddol. Ni ddywed yr awdur lawer o ddim am gwestiwn adundeb ond y mae wedi ei godi. Nid yw'n dweud nemor amdano, nid am nad yw'n malio am y peth ond am nad oedd ganddo na'r gofod na'r amser. Efallai y daw'n ôl ato eto. Ychydig iawn ohonom ni, Gymry, sy'n blino am y peth o gwbl. Yr ydym i fesur yn ein<noinclude><references/></noinclude> 9p62w20h95xobvkaoz2sogf3l67imft Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/62 104 82751 161635 2026-03-30T11:29:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161635 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fraint o dywys dwy ferch ddiwylliedig iawn o'r India drwy un o Golegau'r Brifysgol. Mynd—rhwng y parwydydd academaidd o ystafell i ystafell, o neuadd i neuadd, ac o lyfrgell i lyfrgell. Rhaid yw cyfaddef i'r ddwy ferch edmygu'n fawr lawer o'r pethau a welsant. Eithr, pan ddywedais imi ddangos y cwbl a oedd i'w ddangos, dyma ryw giledrych ar ei gilydd, a gofyn imi—" Ond ple mae'r Capel?" Dwy ferch o'r India, meddaf eto. Ond Cristion oedd pob un o'r ddwy; ac etifeddion traddodiad hen o Gristionogaeth yn yr India. Yn eu colegau hwy yr oedd Capel i Grist. Yn wir, nid oedd coleg yn goleg heb ei Gapel i Grist. "Ond, ple mae'r Capel?" Ym Mangor, ac Aberystwyth, yng Nghaerdydd ac Abertawe—ple mae'r capel? Yn nhemlau dysg, ple mae'r Capel? Yn nhemlau diwydiant, wrth fainc y saer, wrth fwrdd y crydd, wrth bwll y glo, wrth ben y gwaith, wrth law y "dwylo" oll—ple mae'r Capel?—os nad fel adeilad, o leiaf fel cyfle i addoli, i ddiolch. Bendigedig oedd y meddwl gynt a fu am urddas a gwerth ysbrydol gwaith—mai gweithio ydyw addoli. A ellir ei edfryd? A oes modd inni sancteiddio bywyd oll?—cartref, capel, ysgol, coleg, egwyl gwaith, diwylliant a'r diwydiannau oll? Ac wrth ei edfryd, edfryd glendid a disgleirdeb, iechyd ac asbri—gogoniant dysgeidiaeth dyn, ac ardderchowgrwydd Crist. {{c|{{mawr|JOHN, ESGOB BANGOR}}<ref>[[w:John Charles Jones]]</ref>}} Os darllen wyt, ddarllenydd mwyn, er cael dy ddiddori neu dy ddiddanu, da ti, gad heibio'r llyfr hwn; llyfr i greu poen yn dy feddwl ac yn dy gydwybod yw. Y mae digon o lyfrau eraill a all dy ddifyrru, ond ni wna hwn ddim. Er hynny, dylet ei ddarllen, oherwydd y mae'n ymwneud â'r byd yr wyt yn byw ynddo ac yn rhan ohono; y mae'n dangos cyflwr ein cenedl ni, ac felly y mae ynddo genadwri sy'n hawlio dy sylw. Ffolineb i'r claf wrthod gwrando ar y doctor am fod ofn arno i newydd drwg am ei iechyd aflonyddu ar dawelwch ei feddwl. Newydd drwg sydd yn<noinclude><references/></noinclude> rk51l9oqwt1uw5li9e74avlbxxlk1or Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/61 104 82752 161636 2026-03-30T11:30:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161636 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wir, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy" yn ein mysg ni, yn y fro dirion hon a ymddiriedwyd i'n dwylo celyd? Daw; fe ddaw'r Oes Newydd i fod pan fyddo rhyw nifer o wŷr a gwragedd, o bob gwlad a diwylliant, yn cymryd ar eu hysgwyddau eu hunain y baich a osodent gynt ar war rhyw unben neu'i gilydd ac a daflant heddiw at drugaredd y wladwriaeth hollalluog. Daw'r Gymru Newydd hithau i fod pan fynno degwm o'i phlant edifarhau, hyd ddyfnderoedd edifeirwch; a dewis yn gyntaf, eu hail-eni eu hunain cyn ail-eni neb arall, ymroddi i gynnal ei baich hi, ymarddelwi â'i chleisiau hi, ac ymwybod â pheth o stigmata'r Sant o'i herwydd hi,—eithr heb wneuthur Duw o Gymru ychwaith, na gwneuthur Duw o'r Oes Newydd, nac o un dim arall a'r a grybwyllwyd. Dyna'r ddau gam cyntaf, ynteu; edifarhau, ail-eni. Nid oes na'r naill na'r llall heb Dduw, a heb brawf o hynny mewn bywyd cwbl newydd a buchedd ddifrycheulyd, a heb barodrwydd i ddwyn beichiau ein gilydd. Yng ngrym y gweddnewidiad hwnnw y gallwn ninnau lwyr lanhau ein llawr-dyrnu a'n haml-demlau, temlau Duw, a themlau dysg. Os gwelsom gymaint yr angen sydd am lanhau temlau Duw, gallwn yn haws, efallai, ddeall nad llawer llai ydyw'r angen am lanhau ein temlau dysg. Y mae'n haddysg ni gystal â bod yn gwbl faterol, o'r pridd yn briddlyd, ac eto heb ymglywed â rhwygo gwanwyn pêr o'r pridd hwnnw, a heb roi clust i'w gyfrinachau hen. Peirianwaith golygus ydyw'r gyfundrefn addysg aml-ffenestrog ac aml-ystafellog ar yr olwg gyntaf, ond heb nod nac amcan teilwng, heb weledigaeth a heb athroniaeth eangfrydig am fywyd. Peiriant heb enaid; peiriant yn ysborionni, ac nid enaid yn ysbrydoli. Gwir yw bod rhyw ofod i grefydd yn yr ysgolion cynradd, a rhyw oddef ar grefydd yn yr ysgolion uwch. Ond, yng ngholegau'r Brifysgol, nid oes na chadair i ddiwinyddiaeth na chapel i Dduw. Y mae yno ddysgu crefydd. Ond lle neilltuedig a gwahanedig sydd iddo, heb gymundeb rhyngddo a'r pynciau eraill, heb gyfle i'w cyfuno ac i'w cyfannu. Ni ddaw i feddwl neb i ofyn a ydyw gwybod am Dduw yn hanfodol neu beidio, er mwyn iawn ddirnad y Cread, a dehongli bywyd dynion oddi mewn iddo. I orffen, gydag ystori. Yr haf diwethaf, mi gefais y<noinclude><references/></noinclude> 2rpb19hwn0rx89hkt1lrhsvrojukns2 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/60 104 82753 161637 2026-03-30T11:32:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161637 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"pennaeth yr Iddewon". Nid ydyw'n llai o dramgwydd i'r penaethiaid nag i'r penbyliaid. Y mae wedi ei flaenllymu, a'i fin-anelu at y naill a'r llall, ac at bawb ohonom. "Eich geni chwi "—dyna a ddywed. Os cawsoch chwi, ddarllenwyr mwyn, y syniad gen i mai ymosod ar y gweinidogion a wnawn wrth ystyried ambell un o'u dyfarniadau, yr wyf am eich didwyllo yr awr hon. Yr ydym ninnau yn y camwedd. Y mae pob copa ohonom yn y camwri. Ni all yr un bod bedyddiol ohonom ddianc. Eich geni chwi; chwi a minnau, yn fawr ac yn fach, pob "myfi," pob "tydi," pob "chwi" a "chwithau," pob "nyni" a "hwythau," pob "hi' ac "ef "—pawb! Pawb ohonom yn gwbl ddieithriad, a di-wahaniaeth. Rhaid adnewyddu ein ffydd, ein gobaith, ein cariad ni bob yn un ac un. Gelwir ar bawb ohonom i geisio sylweddoli ''drwy ras Duw'', y fath weddnewidiad ynom ein hunain, ac yn holl gylchoedd ein bywyd beunyddiol—mewn cartref a gweithdy, mewn capel ac eglwys, mewn coleg ac ysgol, ar y ffald ac ar y ffordd—ag a ddyco orfoledd o gyfeillgarwch, o frawdgarwch ac o gariad i bawb o'r rhai y tery ein llygaid arnynt. Heb ddeall hyn, ni ddichon inni gymaint â dechrau deall dim o bwys,—o leiaf dim oll o bwys ynglŷn ag atgyweirio ein bywyd ein hunain,—heb sôn am adnewyddu bywyd yr Eglwys, a bywyd y Byd y mae'r Efengyl yn ddylanwad mor resynus o ddi-ymadferth ynddo, ac yn ddelw mor gwbl annheilwng o'i Phen a'i Phriod. Duw a faddeuo, a ddysgo ac a oleuo; ac a'n dyco i edifarhau, i dderbyn y Bywyd Newydd, ac i ymlenwi â'i Ysbryd Ef. Y mae'r cyfrifoldeb am y Byd, yn ei ddrych presennol, ar bob un ohonom; a'r cyfrifoldeb am y drych a'r drem a fydd arno yfory, er gwell ac er gwaeth, ar bob un enaid ohonom ni. Nid rhaid wrth dafodau dieithr, nac ychwaith wrth enwau dieithr, fel Karl Jaspers a Lewis Mumford a'u bath, i ddysgu'r hyn a ddylai fod mor olau â'r canol dydd cannaid hwn o Ebrill. Os ydym ni, gan hynny, yn gyd-gyfrifol am gyflwr byd a gwlad, pa faint mwy, frodyr annwyl, yr ydym yn gyfrifol am ein cyfair arbennig ni o'r byd?—am yr Eglwys yn ein plith ni?—am Wareiddiad yn ein mysg ni?—am Ddiwylliant, am yr Iaith, am Fywyd drwyddo draw, yn ein plith ni?—ac am y "pa bethau bynnag sydd<noinclude><references/></noinclude> lsnfjx2l1ptwsp96xyhjlut4w2ubw6z Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/59 104 82754 161638 2026-03-30T11:33:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161638 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dyna'r cam cyntaf—edifarhau mewn sachliain a lludw, a chydnabod ar ein gliniau inni bechu. Dywedwn gyda'r proffwyd Jeremeia: "yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom, nyni a'n tadau, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd." Â'n genau ac â'n calonnau, arddelwn eiriau Daniel: "Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir . . . I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wyneb—Yn y fan hon, y mae'n llawen gen i sylwi i un o'n henwadau ni ddywedyd hyn yn gyhoeddus. Fe'i gwnaed gan y Methodistiaid Calfinaidd mewn Sasiwn Unedig tua blwyddyn yn ôl. Dilynwyd hynny gan argymell pob enaid i ddatgan ynghyd, "ein bod ni, fel gweinidogion, yn edifarhau." Ardderchog! Yr wyf yn eu llongyfarch yn galonnog, ac yn diolch iddynt o waelod calon. Y mae cyffes o'r fath yn iach. Y mae'n golchi ac yn glanhau. Y mae'n clirio'r holl awyr yr un pryd. Ond a oes gan bechadur fel myfi hawl i ofyn ymhellach—a wnaed hyn oll mewn gwir a chywir ostyngeiddrwydd? a hawl gan un sy'n preswylio mor bell o fynwes Abraham i ail-ofyn: A wnaed y datganiad allanol hwn mewn gwir edifeirwch mewnol? Fe'i gofynnaf am fy mod yn clywed ac yn darllen, o enau'r gweinidogion hyn, ryw foli parhaus ar "ein henwad ni," yn "gwneud" fel hyn ac fel arall, yn "arwain" yn y peth hwn, ac yn "esiampl" yn y peth arall. Nid edifeirwch mo hyn, ac nid gostyngeiddrwydd yn y lleiaf; ond parhau i bechu, dal ati i wneuthur camwedd, a dirgel hawlio mai i ni "y perthyn cyfiawnder", yn union ar ôl cydnabod na pherthyn inni namyn "cywilydd wynebau". Ni allwn ni edifarhau am funud, ac ymffrostio y funud nesaf. Nid gwiw ymddarostwng ac ymddyrchafu. ''Ni allwn addoli Duw a Methodistiaeth.'' Creawdwr ydyw'r naill, cyfrwng ydyw'r llall. Erys o hyd—a beunydd beunos, a byth,—yr angen am edifeirwch iasoer, iachusol. Ac at hwn, yr angen am gofio cyngor arall o'r eiddo'r Iesu wrth rywun a oedd yr un ffunud ei gymeriad â ninnau. "Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn." Cyffelyb yw'r ail gyngor hwn i'r cyntaf ac nid haws, yn y gronyn lleiaf, yw ufuddhau iddo. Ni ddyry lai o benbleth heddiw i benaethiaid ein heglwysi ni nag a wnaeth ddwy fil o flynyddoedd yn ôl i Nicodemus,<noinclude><references/></noinclude> d9z5z7lksyru80fozkmq49e4xdua4ug Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/58 104 82755 161639 2026-03-30T11:34:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161639 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|WEDI BRAD A GOFID.}}}} Amser yw bellach imi adael y dirywiadau. Y mae hi'n hwyr glas imi sôn am y feddyginiaeth. Mi wn yn dda mai hwn yw'r anhawsaf o'r gorchwylion a osodais o'm blaen. Diau mai dyna paham y gohiriais ef dro ar ôl tro. Ond ni thâl hi ddim ei osgoi. Yr oeddwn i fy hun mewn dosbarth Ysgol Sul brynhawn Ebrill 18, ac yn ebrwydd, chwedl Marc, fe ddaeth y gair "edifeirwch" gerbron; ac mor ebrwydd â hynny y diffiniad clasurol. Mor syml, meddech chi,—mor hawdd! Ond mi goeliaf i nad ydyw nemor un o'r cewri a oedd yn y dosbarth wedi dechrau ymgodymu o ddifri calon ag edifeirwch gwir. Newid meddwl; newid cyfeiriad eich meddwl; newid cynnwys eich meddwl; newid cymhellion eich meddwl; cyfnewidiad trwyadl yn y meddwl, a'r ymarweddiad, a'r bywyd:—nid yw hyn oll yn ddim llai na chwyldro. Hyn oll a olygir gan yr un gair hwn—Edifeirwch. Clamp o air, yn siwr ddigon i chi, a'i naw llythyren yn chwilio i mewn i ddyfnderoedd yr enaid, "ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon." Nid damwain, gyfeillion, ai ie? mai'r gair hwn oedd y cyntaf a ddaeth dros wefusau Iesu Grist, edifeirwch,' yn ei ffurf anogol neu orchmynnol—edifarhewch; ac ar ei ôl, hwn—credwch yr efengyl. Meddaf eto, nid damwain oedd hyn, ond diymwad ddewis un a ddeallai ddyfnderoedd enaid dyn. Pencampwr sydd yma, yn llwyr feistr ar ei waith; y mwyaf o'r meddygon, gyda'r pâr gloywaf o lygaid, yn treiddio'n llymach nag un cleddyf daufiniog i graidd y drwg; y ffisigwr digymar "nad oes greadur anamlwg yn ei olwg ef, eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef." Ei ymadrodd cyntaf Ef i'w oes ei hun ydoedd hwn—Edifarhewch! Dyna'r gair a oedd fel tân ar groen ei gyfoeswyr, y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion; eithr ni chlybu eu clustiau oddi wrtho Ef ddim cyngor, nac anogaeth na gorchymyn nad oedd wedi ei selio'n gyntaf yn y tân hwn—edifarhewch. I Ysgrifenyddion a Phariseaid Cymru heddiw,—ac y mae'n capeli yn llawn ohonynt,—yr un yw'r gorchymyn a ddisgyn oddi ar ei wefusau Ef. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 16amwnr0d828x245xbcent5lim73tuu Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/57 104 82756 161640 2026-03-30T11:37:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161640 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gormodiaith? Diolch i'r Nefoedd, ie! Ac eto . . . ? Eto, od oes gennych enaid, od oes gennych galon i deimlo, nid hawdd i chwi beidio ag ymglywed â dyfnderoedd o dlodi y byd sydd ohoni heddiw. Ymddengys ar rai adegau fel pe na byddai'n ddim llai na chynllwyn i ladd bywyd yr enaid. Gwareiddiad go ryw ddi-enaid bellach ydyw hwnnw y buom unwaith mor naturiol falch ohono. Nid yng Nghymru'n unig, ond ym mha le bynnag yr estynnodd ei gortynnau. Fy nghŵyn arbennig yn erbyn y pedwar pregethwr ydoedd eu bod hwy yn gweled rhan o'r drwg, ond heb ymdeimlo â dim cyfrifoldeb amdano. Yr oedd y bai, meddai'r pedwar, ar y dyn arall, "y bobol acw, fy mhobol i," "paganiaid Cymru," y pysgod di-asgwrn-cefn." Fy ateb innau ydoedd; nage! ffrwythau eich ymysgaroedd chwi ydynt hwy. Od ydynt ddiffrwyth, y maent felly oherwydd mai mewn diffrwythdra yr esgorwyd arnynt. Eich epil chwi ydynt. Chwithau—epil y colegau ydych. Hwythau, y colegau, epil rhyw bla ysgafala o flynyddoedd a gredai fod dynion yn mynd ar dragywydd daith anorfod o gynnydd i gynnydd. Nid Duw oedd dduw bellach, ond dyn. Bellach, nid dyn sydd dduw, ond ei dduw newydd ef—diafol. Pechasom. Crwydrasom oll fel defaid. Cyfeiliornasom. Aethom bawb i'n ffordd; a ffordd distryw ydyw'r ffordd honno. Ar hyd-ddi hi y collodd pawb ohonom ei wir hunan—ei ysbryd a'i enaid ef ei hun. Gallasem wybod hynny ymlaen llaw, oblegid fe'n rhybuddiwyd fwy nag unwaith. Gan hen wraig mor anllythrennog ag y gallai fod, mi glywais i'r rhybudd yn yr unig adnod a wyddai hi, ac a adroddai mewn Cwrdd Gweddi, Ysgol Sul a Seiat: ''Pa les âd i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?'' O'r bwthyn to gwellt lle y cyfarfyddem i gynnal Cwrdd Gweddi, Ysgol Sul a Seiat o gwmpas y tân mawn, y mae'r adnod hon wedi fy nilyn hyd y dydd a'r awr hon. Ni pheidiodd ychwaith â'm cyhuddo i, a'r genhedlaeth sy'n perthyn imi, a phob cenhedlaeth o ddechrau'r ganrif hon. Cyhudda ni oll o frad, o frad yn yr enaid, o frad yn yr ysbryd; ac wrth gyhuddo y mae'n dadanhuddo achos y malltod sy'n llethu ein holl wareiddiad. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> scxgh9r6c1904ica1rybmx0952wtoyw Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/56 104 82757 161641 2026-03-30T11:38:30Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161641 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cydymgroesi. Y mae ein methiant yn druenus—methiant ar fethiant. Yr ydym wedi methu yn ein diwinyddiaeth, wedi methu yn ein hyfforddiad yn y colegau, ac wedi methu yn ein haddysg i'r plant yn y capeli a'r eglwysi. Methiant ar fethiant, meddaf eto, diffygio ar hyd y ffordd. Wrth fethu dysgu "egwyddorion sylfaenol crefydd" i'r plant, yr ydym wedi gadael eu meddyliau ieuainc yn wag a'u bronnau'n hesb, a'u gosod at drugaredd pwy bynnag a ryfygai ddyfod gan gynnig llenwi'r gwacter a disychedu'r bronnau hesb. A phwy a ddaeth, os gwelwch chi'n dda, i lenwi'r gwacter? Pwy, hefyd? Y Comiwnyddion, meddaf i chwi—y Comiwnyddion a'r Efengyl yn ôl Marx. Y materolwyr, meddaf yn ychwaneg—y Materolwyr a'r Efengyl yn ôl Mater; ac at y rhai hyn, Anffyddwyr, Teyrnaddolwyr, Seiri "cadarn goncrit Philistia," heb enwi mwy o alluoedd y tywyllwch. Y gwir amdani ydyw inni fradychu'r etifeddiaeth deg a roddwyd inni, a bradychu hyd at "frad ein genedigaeth". Wrth amddifadu ein haelodau ieuainc o'r maeth a ddarparwyd gan Dduw ei hun ar eu cyfer, yr ydym yn euog o'u trosglwyddo i ddwylo'r gau-Gristiau a nodais. Yr ydym yn euog o gerydd llym ein Harglwydd Iesu Grist. ''A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn . . . da iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.'' Euog, gyfeillion annwyl, ger bron Duw a dyn. Euog o farn; ac y mae hi'n farn arnom ni. Onid dyna ystyr ein holl fethiant ysbrydol yng Nghymru ac yn y byd gorllewinol yn gyfan, o ran hynny? Onid hyn yn y bôn, ydoedd gwir ystyr y ddau ryfel byd? Onid ymdrech gawraidd y greadigaeth riddfannus i chwydu'r gwenwyn a blanasom ac a heuasom yn ei chrombil, ydoedd y gynddaredd fyd-eang a amlygwyd gan y ddau ryfel? Pa beth mwy a ddywedaf?—onid bod ein methiannau ysbrydol wedi ei gwneud hi'n anodd i ddiwylliant rhadlon a Christionogol fyw o gwbl yng Nghymru ac yn Ewrop achlân?—yn anos fyth i'r iaith Gymraeg gael y gronyn lleiaf o chwarae teg i fyw?—yn anos nag anos i neb dyn fyw bywyd y meddwl, bywyd y meddwl a'r ysbryd? Nid Cymro, ond Ffrancwr a dorrodd allan yn ddiweddar gan dystio bod y byd modern yn llythrennol anghyfaneddadwy—nad oes dichon byw ynddo o gwbl, ''i'r neb a garo ryddid yr ysbryd.'' {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jc56l62b0zuwq5s84ihf2oo9ibx50nt Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/55 104 82758 161642 2026-03-30T11:39:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161642 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn gwbl annheilwng ydyw honno a ddatguddir yn y frawddeg ddilynol:— ''"Pan dderbyniwyd fi'n aelod, a nifer o'r un oed â mi, yn ddwy ar bymtheg oed, ni bu pum munud o baratoi arnom, dim ond ein galw at fwrdd y Cymun ar nos Sul, a'r gweinidog yn ysgwyd llaw â ni ar y diwedd, a mynegi gobaith y mwynhaem ein crefydd."'' Dyfyniad ydyw'r frawddeg o atgofion gŵr sydd iddo le anrhydeddus i'r eithaf ym mywyd crefyddol a llenyddol Cymru. Y Parchedig E. Tegla Davies biau'r frawddeg. Ychydig cyn y Gwyliau—Gwyliau'r Nadolig a feddyliaf y tro hwn—fe gyhoeddodd ef y diweddaraf o'i lyfrau rhyfeddol. ''"Gyda'r Blynyddoedd"'' ydyw ei enw, ac y mae yntau'n glasur eisoes. Llyfr difyr a difrif i'w ryfeddu, a'r awdur yn eich tywys ar hyd hanner canrif o weithgarwch dyfal yn y weinidogaeth. Ni wn i'n dda yn awr am unrhyw lyfr cystal ag ef, ychwaith, am ddangos mor eglur inni, o "daith" i "daith", y camau yn y dirywiad crefyddol sydd dan yr ordd gennym yn yr ysgrifau hyn o'r dechrau. Dyna sy'n troi'r llyfr difyr hwn yn llyfr mor ddifrif—bron na ddywedaf, yn llyfr mor ddigalon. Yn fyr, yr hyn a edrydd Tegla ydyw am y dirywio parhaus a welodd â'i lygaid ei hun wrth ddychwelyd ac ail-ddychwelyd i'r naill eglwys ar ôl y llall. Nid oes un eithriad i'r sylwadaeth hon. Gwaeth na hynny, hyd yn oed, ydyw hyn—i fwy nag un o'r eglwysi y bu'n fugail arni, beidio â bod yn llwyr, ie, llwyr ddiflannu yn ystod y blynyddoedd hyn. Meddai am un ohonynt: prin y mae'n rhaid dweud bod yr Achos yno wedi marw ers blynyddoedd." Eglwys a oedd eisoes yn marw ar ei thraed, welwch chi, ac nid oedd fawr syndod iddi orffen trigo. Ond dyma un arall, "cynulleidfa dda" oedd yno, a'r" Eglwys yn raenus". Eithr "wedi marw". Y mae Tegla yn rhoddi'r rheswm a ymddengys iddo ef yn egluro'r diffrwythder hwn yn fwy na'r un arall. Sylwch: ''"Yr wyf yn argyhoeddedig mai'r rheswm mawr dros ein tlodi meddyliol ac ysbrydol, a'n diffyg dylanwad ar y byd, ydyw nid nad oes digon o ddoniau pregethu, ond ein bod wedi llacio yn y gwaith o ddisgyblu'r plant a'r bobl ieuainc a phob oed yn egwyddorion sylfaenol crefydd."'' Nid oes ond cytuno ar redeg amdani; ac wedi cytuno,<noinclude><references/></noinclude> abofvcga7rw9xpst8b1inua4z9f5ixa Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/54 104 82759 161643 2026-03-30T11:39:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161643 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gristionogion bach eithaf ufudd, ddwy filltir gyfan gyda hwy. Yr oedd eu hymddiddan mor ddifyr, os cofiwch, a'u cyfaddefiadau mor galon-agored, fel na allem ond canlyn ymlaen gyda hwy, a rhoddi sêl ein bendith ar bob gair a ddeuai oddi ar eu genau. Cyn eu gadael yr oeddem wedi ein harwain filltir arall drachefn—y drydedd ai'r bedwaredd oedd honno? ar hyd ein ffordd. Fe'n cawsom ein hunain yn sefyll wrth borth un o'r colegau diwinyddol, ac o dipyn i beth yn cylchdroi rhwng ei ystafelloedd, ac yn llygadrythu ar bethau estronllyd eu pryd a'u gwedd. Nid heb beth syfrdandod y cychwynasom eilwaith ar ein ffordd ac yr ymdeithiasom nes cyrraedd at yr ail Goleg Diwinyddol. Porth oedd yma eto, a phyrth llai oddi mewn; ystafell hefyd, ac ystafelloedd. Ond nid llai estronllyd oedd y trugareddau a welsom yma ychwaith. Gan droi ymaith yn athrist, ni a'i rhoesom hi iddo yntau, heb flewyn ar ein tafod. Erbyn hynny, yr oedd ein hymchwil i ddatganiadau'r pedwar pregethwr wedi ein tywys o'r tu ôl iddynt hwy at y colegau a fu'n eu bras hyfforddi ar ben eu ffordd. A dyna lle'r oeddem ni ar ddiwedd y llith o'r blaen, yn dannod llawer math o anfadwaith i'n colegau diwinyddol. Duw a faddeuo inni—os ydym yn cyfeiliorni. Eithr os nad cyfeiliorni yr ydym, yna yr ydym yn symud ffynhonnell y drwg yn nes yn ôl na'r gweinidogion at y colegau. Y dolennau yn ei ddatblygiad a'i wasgariad ydyw'r rhain; o'r colegau diwinyddol i'r gweinidogion, o'r gweinidogion i'r eglwysi. Arhoswn am ennyd neu ddau i edrych ar un wedd ar yr olaf hwn. Rhan o waith gweinidog yn ei eglwys ydyw paratoi'r ieuenctid ar gyfer eu derbyn yn gyflawn aelodau. Ers tro byd, y mae'n argyhoeddiad gen i fod hwn yn waith o'r pwysigrwydd mwyaf, ac na ddichon yr un gweinidog fod yn rhy ddiesgeulus gydag ef. Dyma ei gyfle i roddi, unwaith ac am byth, hyfforddiant i'r rhai ifainc ar wir ystyr y grefydd Gristionogol ac ar fraint a chyfrifoldeb aelodaeth eglwysig. Cefais fwy na digon o le i gredu ragor nag un-waith na wneir y gwaith hwn gyda'r trylwyredd a'r ymroddiad a haedda. Y mae graddau o lwyddiant, wrth reswm, pryd yr ymgymerir â'r llafur hwn gyda mesur o ymdrech deg. Ac y mae graddau o fethiant llwyr, pryd na roddir iddo nemor ddim o'r sylw dyledus. Un ffordd sydd<noinclude><references/></noinclude> 6et3kqcp14wpt43cyubj7oznhu7wftv Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/53 104 82760 161644 2026-03-30T11:43:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161644 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymbwylla, gyfaill annwyl. Caffed amynedd ei pherffaith waith ar dy dymer, ac ar dy dafod. Nid ydyw'r colegau eraill yn dyfod i mewn—o leiaf yn uniongyrchol—i'r unig a'r union beth sydd dan sylw gennyf. Nid hwynt-hwy sydd yn uniongyrchol gyfrifol am gyflwr crefydd yn ein gwlad. Arall ydyw eu gwaith hwy, arall eu cyfrifoldeb. O ganlyniad, arall eu rhan a'u cyfran o'r drwg. Fel y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, felly hefyd y mae rhagor rhwng coleg a choleg mewn cyfrifoldeb. Cystal cyngor â'r un i'r lleill ydyw hwn: "Yr hwn sydd ddi-bechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati "—sef at un o'r sêr a nodais. Dealler, gan hynny eu bod hwythau dan gerydd. Hwynt-hwy, onid e, a fu'n arwain y ddaear wyddonol ac yn tywys y ddewines falch gan Ddyneiddiaeth. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c{{mawr|BRAD Y CLERIGWYR.}}}} Cyn codi'n pac a mynd, cystal efallai fydd cael ail olwg ar y rhan sydd o'r tu ôl inni. Fe gofiwch am geg y ffordd, ac fel y sylwasom yno ar amlder dirywiadau ym mywyd ein Gwalia Wen?—Ddu! Galw sylw wedyn at waith pedwar pregethwr yn rhoi proc yn y tân, fel petai. Mynnai'r pedwar weld aruthredd o ddrwg yn ein crefydd, ac ni phoenai hynny ryw lawer ar neb ohonom. Ond pan sylwasom mor iach oeddynt, ac mor chwannog i roddi'r bai wrth ddrws y dyn arall, chwi a minnau a'n bath; wel, do, fe'n prociwyd ni'n dân gwyllt; a dyna gymryd y procer at y pregethwyr, a'u pwnio'n weddol bach o gas, gan geisio eu darbwyllo mai arnynt hwy yr oedd y bai. Toc ar ôl hynny, ac fel pererin Bunyan, dyma ni'n cwrdd â phererinion eraill ar y ffordd. Pererinion o'r iawn ryw, y tro hwn, newydd fod yn y Gynhadledd yn Llandrindod. Gyda'u bod yn canu'n iach i'r Gynhadledd, dyma nhw'n cyfarch gwell i ninnau. Am iddynt ein cymell i fynd gyda hwy un filltir ar y ffordd, fe aethom ninnau fel siamplau o <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 9ps1jyut01dy6vhw37asyv0yu57tpe1 161645 161644 2026-03-30T11:43:38Z AlwynapHuw 1710 161645 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymbwylla, gyfaill annwyl. Caffed amynedd ei pherffaith waith ar dy dymer, ac ar dy dafod. Nid ydyw'r colegau eraill yn dyfod i mewn—o leiaf yn uniongyrchol—i'r unig a'r union beth sydd dan sylw gennyf. Nid hwynt-hwy sydd yn uniongyrchol gyfrifol am gyflwr crefydd yn ein gwlad. Arall ydyw eu gwaith hwy, arall eu cyfrifoldeb. O ganlyniad, arall eu rhan a'u cyfran o'r drwg. Fel y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, felly hefyd y mae rhagor rhwng coleg a choleg mewn cyfrifoldeb. Cystal cyngor â'r un i'r lleill ydyw hwn: "Yr hwn sydd ddi-bechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati "—sef at un o'r sêr a nodais. Dealler, gan hynny eu bod hwythau dan gerydd. Hwynt-hwy, onid e, a fu'n arwain y ddaear wyddonol ac yn tywys y ddewines falch gan Ddyneiddiaeth. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|BRAD Y CLERIGWYR.}}}} Cyn codi'n pac a mynd, cystal efallai fydd cael ail olwg ar y rhan sydd o'r tu ôl inni. Fe gofiwch am geg y ffordd, ac fel y sylwasom yno ar amlder dirywiadau ym mywyd ein Gwalia Wen?—Ddu! Galw sylw wedyn at waith pedwar pregethwr yn rhoi proc yn y tân, fel petai. Mynnai'r pedwar weld aruthredd o ddrwg yn ein crefydd, ac ni phoenai hynny ryw lawer ar neb ohonom. Ond pan sylwasom mor iach oeddynt, ac mor chwannog i roddi'r bai wrth ddrws y dyn arall, chwi a minnau a'n bath; wel, do, fe'n prociwyd ni'n dân gwyllt; a dyna gymryd y procer at y pregethwyr, a'u pwnio'n weddol bach o gas, gan geisio eu darbwyllo mai arnynt hwy yr oedd y bai. Toc ar ôl hynny, ac fel pererin Bunyan, dyma ni'n cwrdd â phererinion eraill ar y ffordd. Pererinion o'r iawn ryw, y tro hwn, newydd fod yn y Gynhadledd yn Llandrindod. Gyda'u bod yn canu'n iach i'r Gynhadledd, dyma nhw'n cyfarch gwell i ninnau. Am iddynt ein cymell i fynd gyda hwy un filltir ar y ffordd, fe aethom ninnau fel siamplau o <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> tdni7h2iwkuimx2m9kszt3sk3o8be4t Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/52 104 82761 161646 2026-03-30T11:44:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161646 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mi, oherwydd iddynt fod dan ddisgyblaeth y colegau hyn, a gweld y cam a wnaed â hwy pan wynebwyd hwy â llafur eu galwedigaeth. Ac yn yr holl ddadleniadau i gyd, hawdd yw gweld cysylltiad rhwng y camwri â chrefydd a'r camwri â Chymru, ei hiaith a'i holl etifeddiaeth. Prawf y cyfan fod yma berthynas annatod yn bod rhwng y dirywiad crefyddol a'r dirywiad sydd yn yr iaith Gymraeg a'i diwylliant. Ymddengys, gan hynny, y gellid haeru'n gryf i'w ryfeddu am y colegau diwinyddol,—iddynt fod yn gyfrifol am esgeulustod mwy na mwy o hanfodion eu hunion ddyletswyddau, sef 1. O wamalu ar y mwyaf mewn diwinyddiaeth. 2. O ddiffygio dysgu hanes crefydd yng Nghymru. 3. O osgoi darparu ar gyfer gwaith ymarferol y weinidogaeth gyflawn Gristionogol. 4. O esgeuluso'r iaith Gymraeg nid yn unig fel cyfrwng i ddysgu, ond hefyd fel pwnc i'w feistroli. 5. O beidio â gwneuthur swm sylweddol iawn o gyfraniad i lenyddiaeth ysgolheigaidd—Feiblaidd a diwinyddol. Trugaredd bellach! Gwir iawn. Ac yr wyf yn ymdeimlo â rhyw gymaint o gywilydd wrth bentyrru'r honiadau erchyll hyn ar ben ei gilydd. Drwy ddamwain y daeth y pumed cyhuddiad i'm meddwl; ac ni roeswn ef ar y rhestr, oni bai imi gofio i'r bardd a'r llenor, Gwili, wneud cyhuddiad mwy ysgubol fyth i'r un perwyl rai blynyddoedd yn ôl. Cyn gadael y cwbl, y mae yn fy mryd i bwysleisio hyn; mai diffygion ydyw'r cwbl hyn a oedd yng ngholegau Cymru tua dechrau'r ganrif hon. Ni wn i yn gymwys beth a ddigwyddodd ar ôl hynny. Prin y gwn i a wnaed iawn am y cyfan yn y blynyddoedd a ddilynodd. Nid oes mo'r hawl gen i i ddweud bod y sefyllfa wedi ei llwyr weddnewid. Ni wn i ddim,—o leiaf ni wn i mo'r hanner digon. Gweled drwy ddrych yr ydwyf, ac nid adwaen ond o ran. Daw rhyw led syniad i'm pen yn awr y bydd y darllenydd mwyn yn sicr o ddweud wrtho'i hun: "Wel, am haerllugrwydd! Ac am ymosodiadau creulon! . . . ac, ar y colegau Diwinyddol yn unig. Fel pe bae'n nhw'n waeth na'r lleill 'na." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bbqm6adlh1animzgkc38z8xgha5pfdk Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/51 104 82762 161647 2026-03-30T11:45:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161647 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Seisnig. Hyn sy'n rhyfedd, er hynny, ac yn werth ei nodi. Nid oes neb o'n holl weinidogion yn well Cymry nac yn well eu Cymraeg na hwy. Dyna ryfeddod, heb ddim dwy-waith, sef bod i Golegau Seisnig, ac yn Lloegr, droi allan well Cymry na Cholegau—agos mor Saesneg?—yng Nghymru. Hyd y gwelaf, y mae'r rheswm yn syml; ni fradychir Cymru mewn colegau yn Lloegr, am mai Lloegr o anghenraid ydyw maes a myfyrdod yr addysg a gyfrennir yno. Oherwydd paham, nid oes gwyrdroi ar gydwybod yn digwydd yno; a daw'r myfyriwr o Gymro yn ôl i Gymru,. nid, yn wir, wedi ei drwytho mewn Cymraeg nac yn hanes. crefydd yng Nghymru, eithr o leiaf, heb ei ystumio i anwybyddu ei dreftadaeth a'i dirmygu. Y mae hynny yn rhinwedd o'r gwerth mwyaf. Wedi mynegi hyn o deyrnged i'r brodyr Wesleaidd, gallaf yn awr, mewn tegwch, ddal yn ddiogel bod y diffygion eraill a grybwyllwyd yn addysg ein colegau diwinyddol ni—megis ymbaratoi at waith ymarferol y weinidogaeth—bod y rheini i'w canfod yr un mor eglur yn hyfforddiant y rhai a addysgir yn Lloegr. Fy ngharn am hyn ydyw tystiolaeth y gŵr annwyl a rhadlon, y Parchedig E. Tegla. Davies. Nid cyfeirio yr wyf yn awr at ei ddisgrifiad byth-gofiadwy o'r prifathro bondigrybwyll, nad oedd nac yn Gristion nac yn athro. Gafael a wnaf mewn cyffes o'r eiddo ef wedi gadael y coleg a mynd i Abergele i gynorthwyo'r gweinidog eiddil ei iechyd, y Parch. Evan Jones:— ''"Dyn ardderchog iawn oedd Evan Jones, a dysgais fwy o lawer drwy ei esiampl ef, a thrwy ei gynghorion, am waith gweinidog, nag a wneuthum yn y coleg. Yn wir credaf fy mod yn ddyledus iddo ef am y cwbl o'r gwir baratoad a gefais ar gyfer gwaith arbennig y weinidogaeth, mewn pregethu ac ym mherthynas gweinidog a'i bobl; iddo ef ac Owen Baldwyn Jones, Ffynnon Groyw."" Felly Tegla. Yr un yw'r gân ag a glywsom gan y ddau weinidog arall, neu, yn hytrach, yr un fwy neu lai. Cydnabyddiaeth o ryw ryfedd ddiffyg yn addysg y weinidogaeth, dyna ydyw. Nid ymosod ar y colegau diwinyddol ydyw fy amcan. O ran hynny, nid myfi fy hun sydd yn llefaru o gwbl. Od oes yma feirniadaeth, ac od oes yma bigo i'r byw, nid myfi biau'r big. Eiddo ydyw i'r rhai a ŵyr yn llawer gwell na<noinclude><references/></noinclude> byc6vweyl1cpa1qcgsjvw9ej1rcj1dk Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/26 104 82763 161648 2026-03-30T11:45:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161648 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnnw. Ddeuddydd yn ôl yr oedd hi'n Ddydd Sul y Pasg. Ac ni fu mewn Hanes y fath gyflawni ag a welwyd y dydd hwnnw . . . 'Thâl hi ddim—'thâl hi ddim torri addewid yn ystod y Pasg! Heblaw, y mae eraill yn gweithio, mewn llawer dull a modd. O'r fan yma yn awr, mi glywaf briffordd y ddinas hon yn griddfan dan bwys a gwres y cerbydau sy'n llyfnu ei hwyneb. Ennyd bach yn ôl, mi ddarllenais yn y papur fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynadledda yn Llandrindod dros y dyddiau hyn. A phe gwyddai'r papur y cwbl, diau y gallai ddywedyd bod yr Anghydffurfwyr yn ymgynnull yn rhywle neu'i gilydd. Mi wn innau'n dda fod Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn cyfarfod tuag Aberhonddu. Ac y mae Plaid Cymru yn pwyllgora rywle'n agos i ganol yr hen wlad fach yma. Gweithio? Ie, gweithio y mae'r rhain i gyd; a gwae'r neb a wado hynny. Gwae hyd yn oed y neb a wado nad eu gwaith hwy ydyw'r union waith pwysig sydd—ie, yr ''unig'' waith pwysig sydd yng Nghymru heddiw. Gan fod cymaint cwmwl o weithwyr o'm cwmpas, gweddus yw i minnau geisio gwneud tipyn bach o waith. Pwy a gred fod hyn yn wir waith, sydd bwnc arall. Yr wyf i am ddadlau ei fod—ac ar yr un tir â'r gweithwyr a nodais uchod. Yr wyf am ddadlennu, o'r diwedd, wedi mwy na mwy o ogor—droi, mai yr un yn union fydd fy ngwaith ag eiddo'r uchel—gynadleddwyr a'r oracl—gynullwyr dywededig—y gwaith anhawsaf o'r un, yn y maes mwyaf anhydrin sy'n bod. Yr wyf yn cymryd llawer yn ganiataol, fel y gwelwch. Canys ni welais raglen gwaith mwy nag un o'r cyfarfodydd a enwais. Prin er hynny, y methaf ryw lawer, wrth awgrymu hyn y bydd y Clerigwyr a'r Gweinidogion yn ceisio datrys rhai o ddirgelion crefydd yng Nghymru heddiw; y bydd yr Addysgwyr yn wynebu'r benbleth sy'n bla ar addysg y wlad fach yma; ac y bydd y Pleidwyr ar ddeng ewin yn chwilio am ffordd ymwared i'r bywyd cymdeithasol a gwleidyddol. Ac os pwyllgorau eraill a fydd yn ystod y Gwyliau hyn, ac os cynadleddau a chymanfaoedd eraill, ac os cyd—eistedd ac os cyd—gyfarfod, mi a awgrymaf mai rhyw agwedd neu'i gilydd ar Gyflwr Cymru heddiw a fydd dan sylw pawb o'r cynrychiolwyr a ddaw at ei Q gilydd, i ba le bynnag y dônt, ac yn enw pwy bynnag y gelwir hwy ynghyd. Gan i minnau ddymuno "Gwyn eu byd" i'r rhai oll sydd yn ymddigrifo yn ddiofal ysmala, y mae'n deg imi hefyd ddymuno Gwyn eu byd" i bawb o'r rhai sydd yn ymddwysáu'n fawr eu gofal uwchben yr argyfwng a'n hwyneba ni oll. Yr wyf bellach wedi yngan y gair. Fe'i cedwais yn ôl mor hir ag y gallwn. Ond rhaid oedd ei ollwng allan o'r cwd rywbryd neu'i gilydd. A'r gair yw—ARGYFWNG. Cyfaddefaf y buasai'n dda gennyf ei osgoi. Nid ydyw'n air hyfryd iawn. Nid oes dim melys o'i gwmpas—na dim tangnefeddus. Hen air annifyr, a'i lond o ryw fraw ac arswyd. Efallai hefyd mai dynion braidd yn annifyr sydd yn hoff ohono. Ac nid oes amheuaeth nad ydynt yn ceisio creu rhyw ias anhyfryd ynoch pan ddefnyddiant ef. Nid oes i chwithau ddim diddanwch ynddo. Nid oes i minnau ychwaith. Llai fyth yn yr ergyd sydd yn saethu allan ohono. Aed y gair a'r ergyd allan o'n cof, ond yn unig pan fyddo hi yn . . . ie, yn ... Argyfwng. Ysywaeth, dyna yw'r sefyllfa. Nid myfi sy'n dywedyd hynny, ac nid carwyr y gair hwn yn unig sydd yn dywedyd. Y mae ar wefus un o bob deg o'r bobl a gwrddwch chwi heddiw ar y ffordd ac yn y ffair. Ydyw; ac y mae ei gyfystyr ar wefus pobl yn Ffrainc a Phrydain fel ei gilydd; ac ar wefusau Ewropeaid deallus ac Americanwyr hirben. Ystyr hynny ydyw bod y cyflwr hwn, a elwir "Argyfwng", yn gyflwr sy'n gyffredin i'r hil ddynol ar bum cyfandir. Fe ŵyr pob cenedl o bobl heddiw am ryw agwedd arno, neu am ryw gyfran ohono. Amrywia o fan i fan, o wlad i wlad, o ran ei faint ac o ran ei ansawdd. Ond nid oes odid genedl o ddynion heb fod yn yr afael ag ef. Naturiol yw hynny, gan ein bod yn frodyr i'n gilydd, yn etifeddion i'r un dreftadaeth ddynol, ac yn gydgyfranogion yn yr un pechod. Ar ryw gyfrif, ymddengys mai cyfiawn yw hyn; ac mai teg ydyw i ninnau ymddiddori yn argyfwng ein gilydd. Yr un pryd, Cymru ydyw ein cyfran ni o'r argyfwng dynol. Hi ydyw ein baich arbennig ni—nid am ei bod hi'n well na rhyw gongl arall o'r byd. Nac am ei bod hi'n waeth. Nac am fod ei hargyfwng hi'n fwy arswydus nag Q eiddo'r cenhedloedd eraill. Nage; ond am y rheswm symlach na syml, mai yma yr ydym ni'n byw. Yma y mae ein cyfrifoldeb arbennig ni yn debycaf o bwyso'n ddiriaethol arnom o ddydd i ddydd, ac o awr i awr. Yma'n unig y gallwn ni gyfrannu'n uniongyrchol at wella'r clwy. Bod yn hollol ymarferol a diffuant ydyw addef cymaint â hyn. Cais i edrych ym myw llygad y cyngor Cristionogol ydyw, hefyd. Fe wyddoch y cyngor mor dda â minnau: Câr dy gymydog fel tydi dy hun. Beth, gan hynny, ydyw'r argyfwng y sonnir amdano? Neu, o'r hyn lleiaf, beth yw rhai o'r elfennau sydd yn ei gyfansoddi? neu, yn well efallai, yr arwyddion ohono? Mi anturiaf ateb bod y rhai sy'n dilyn ymhlith yr amlycaf o'r arwyddion hyn, heb honni dim pwysigrwydd o gwbl i'r drefn y gosodaf hwy i lawr. 1. Y mae nodau afiechyd a gwendid ar Ddiwylliant Cymru yn gyfan. 2. Y mae crefydd yn ein plith yn llai ei dylanwad, ac ar lai o bobl nag er cyn cof yr hynaf sy'n fyw heddiw. Dywedir yn ddigon croyw fod mwy na thri chwarter ein cyd—ddynion heb ddim cysylltiad o gwbl ag unrhyw eglwys neu gapel. Yn wir, mi glywais ddywedyd nad oes fawr mwy na deg y cant mewn cyswllt cyson â chrefydd gyfundrefnol. Prun bynnag am yr ystadegau manwl gywir, fe gytunai pawb â hyn; mai llannau'n llefain, capeli'n griddfan, Ysgol Sul a chwrdd Gweddi a Seiat yn ubain, ydyw'r sefyllfa erbyn hyn ledled ein gwlad. 3. Y mae materoliaeth ronc yn rhodresa dros y tir; anffyddiaeth gadarn yn uchel ei phen o fôr i fynydd; a chomiwnyddiaeth yn gorymdeithio yn ein mysg fel llu banerog. 4. Y mae'r iaith Gymraeg, a luniwyd gan Dduw a dyn ar gyfer y genedl hon, yn wrthodedig gan fwyafrif ei phobl. Yma eto y mae ystadegau'n llefaru'n groyw iawn, ac yn ei dweud hi'n chwerw dost. Y maent yn dannod yn ein hwynebau mai pump y cant o blant ysgol sydd bellach yn medru Cymraeg gydag unrhyw lun o feistrolaeth; a bod dwy o siroedd Cymru bron â bod yn gwbl golledig i " iaith ein tadau". Dyna'r rhestr. Ac fe ddichon y gallai pob un ohonoch ychwanegu ati. Ac fe allwn innau'n hawdd ddigon, pe Q na bai'n unig ond i gyfaddef ymhellach, nad yw'r sefyllfa ddim yn wych iawn ym myd yr addysg a gyfrennir i'n plant ni, nac yn neilltuol o flodeuog, a dweud y lleiaf, yn hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Fe dorrwn y rhestr yn fyr, er hynny. Y mae eisoes nid yn unig yn ddigon hir, ond hefyd yn ddigon difrifol. Pwy ni chytuna â hynny? {{***|4}} Dyna ni, ynteu, wedi rhoddi ein bys, nid yn gymaint ar yr argyfwng ei hun, ond o leiaf ar ambell un o'r arwyddion mwyaf amlwg i lygad pawb. Gwaith yr oedd hi'n anhepgor ei wneud oedd hwn. Gwaith eithaf annifyr, ond un cymharol hawdd ei wneud. Y cam nesaf fydd yr un anodd—yr un ''gwirioneddol'' anodd ac a fydd, efallai, y tu hwnt i'n gallu ni i'w wneuthur. A'r cam hwnnw fydd ceisio egluro paham y daeth y drygau hyn arnom ni heddiw. Ie; paham? pa fodd? pa bryd? Ond rhaid fydd mynd i ymgodymu ag ef. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|AN—HWYL AC ANFRI.}}}} Cyn beiddio ateb y fath ofyniadau â'r rhai a enwyd, efallai y cytunir â mi i gydnabod mai'r dirywiad crefyddol ydyw'r un pwysicaf o'r cwbl. 'Dwn i ddim a fyddai pawb yn barod i gytuno ymhellach â mi, pan ryfygaf ychwanegu hyn; mai'r dirywiad crefyddol sydd hefyd wrth wraidd yr holl ddirywiadau eraill. Ymddengys i mi na ellir yn hawdd osgoi casgliad o'r fath. Y mae crefydd, wedi'r cyfan, yn ehangach ei harfod, yn ddyfnach ei dylanwad, na diwylliant na dim un agwedd unigol arall ar fywyd dynion. Gellir profi'r gosodiad hwn, hefyd, heb lawer iawn o ymdrech meddwl. Digon yw galw i'n cof ffaith neu ddwy fel y rhain; yn gyntaf y bydd diwylliant, a holl fywyd dyn yn gyffredinol, yn colli disgleirdeb a hoen pan fyddo hi'n ddydd o encilio oddi wrth grefydd; ac yn ail, y bydd graen a gogoniant yn perthyn i fywyd dyn a chenedl pan fyddo hi'n awel deg ar grefydd. Pob rhyddid i chwi anghytuno â'r ddau osodiad hyn, a chymryd eich pwyll a'ch hamdden i'w gwrthbrofi. Ni wnaf i ond galw eich Q sylw at farn neu ddwy a gredir yn lled gyffredinol gan ysgolheigion. Sef, yn gyntaf, i'r gymdeithas a'r gwareiddiad Groegaidd—Rufeinig siglo a suddo, o ddiffyg Duw a moesoldeb cymdeithasol; ac yn ail, i ddiwylliant a gwareiddiad ailflodeuo yng Ngorllewin Ewrop, dan arweiniad y Grefydd Gristionogol, a than ofal a swcwr yr Eglwys Gristionogol. Ac yn awr, yr wyf i'n fawr fy awydd i faentumio yn gadarn ''''mai'r dirywiad crefyddol ydyw achos blaenaf a phennaf pob dihoeni sydd ar fywyd Cymru heddiw.'''' Mewn gair; diffyg sydd ar grefydd, diffyg sy'n debyg o fod ar foes ac ar fasnach, ar feddwl ac ar foddau, ar iaith ac ar ddiwylliant; ie, nid yn unig yn debyg o fod, ond yn sicr o fod. Ni ellir ysgaru'r naill oddi wrth y llall. Am Gymru yr wyf i'n meddwl, fel y dywedais o'r blaen. Y mae eraill a llawer gwell dynion na mi—yn dywedyd yr un peth am fwy nag un wlad arall. Oes; ac y mae ambell un ag ystod ei sylw yn cyrraedd dros Wareiddiad y byd crwn cyfan. Ni ddyfynnaf ond un yn unig o'r rhain—yr athronydd o Ffrainc, Renouvier. O'i gyfieithu i'n hiaith ni, dyma ydyw ei ddyfarniad ef: ''"Y mae'r byd yn dioddef o ddiffyg ffydd mewn un Gwirionedd Trosgynnol."'' Blynyddoedd lawer sydd er pan wnaeth Renouvier y sylw hwn; ac y mae pob blwyddyn a ddilynodd er hynny, wedi ychwanegu at gywirdeb a grym ei ddedfryd. Ond i ddychwelyd i Gymru. Gan imi honni mai diffyg grym ein crefydd sy'n gyfrifol am y dihoeni cyffredinol, fe dâl inni, yn awr, arafu ychydig bach i edrych yn fanylach ar y sefyllfa grefyddol. Mor hawdd â chwarae yw gwneud hynny, gan fod pawb yn ei dro yn ei thrin a'i thrafod. 'D'oes dim eisiau mwy nag agor unrhyw un bron o'n papurau wythnosol i weld hyn yn digwydd. Dyma'r nesaf i law, a ddaeth allan o'r Wasg ddoe ddiwethaf (Ebrill yr 8fed, 1953). Y mae o leiaf dri neu bedwar o ddynion "trwm " yn rhoddi eu barn hwy eu hunain ar fywyd crefyddol y genedl fach fondigrybwyll hon. Dodwn ei gyfle i bob un, a gofod ar ei gyfer: Medd y cyntaf:— ''Rhyw gaffi ysbrydol ydyw'r Eglwys i rai pobol; ac ânt yno am fod yno bregethwr wrth eu bodd, neu am fod yno'' Q ''organ go dda. I eraill, rhyw ganolfan y Groes Goch ydyw, yn bod er mwyn doluriau'n unig Deuant i'r capel weithiau; ond pan ddaw i ran yr Eglwys i wneud pethau amhoblogaidd nid ydynt yno i sefyll yng ngwres y dydd. Mae dydd y proffwyd yn darfod, a dydd yr offeiriad yn dod i'r amlwg. Y mae seremoni'n dod i mewn, a sancteiddrwydd yn mynd allan."'' Y mae'r ail a'r trydydd yn "dal i chwythu" bob yn ail â'i gilydd, ac yn bwrw drwyddi fel hyn:— ''"Y mae'r bobol acw yn awchu am bregethau sentimental a thipyn o ganu ynddyn—nhw; ac os pregethwch chi'n weddol sylweddol, fe gwynant nad ydyn nhw yn eich deall—chi. Y mae fy mhobol i yn dechrau gwylio'r rhaglenni radio a thelefisiwn, ac mae arna'i ofn eu bod nhw'n colli blas ar yr hen bethau."'' ''Ysgrifennu'' y mae'r pedwerydd, ac, o ganlyniad, y mae mwy o bwyll ac o grebwyll yn ei ddadansoddiad ef. Hwdiwch—fel y galloch farnu drosoch eich hunain:— ''''Gwlad faterol yw Cymru . . . Yr ydym yn byw mewn gwlad baganaidd. Dim ond y dwl a'r dall fuasai'n gwadu. Yr ydym ni, Weinidogion, yn pregethu bob Sul i fwy o seddau gweigion nag o wynebau deallus. Awn ar ôl yr esgeuluswyr; ymresymu, crefu, dwrdio. I ddim pwrpas . . . Mae'r encilwyr allan o'n gafael, ac nid oes gennym foddion i'w cyrraedd . . .'''' Yr wyf i am fod mor hy yn awr â gwneud sylw neu ddau am y datganiadau uchod. Y mae'r cyntaf yn ddigon diniwed, nid yw'n ddim ond egluro'n gynnil mai pedwar gweinidog yr Efengyl yw awduron y dyfyniadau. Mi adwaen i ddau ohonynt yn weddol dda, ac y mae gennyf barch mawr iddynt (pe bai hynny o'r diddordeb lleiaf iddynt hwy neu i chwi). Nid adwaen y ddau arall; ac ni fynegir eu henwau. Nid ydynt hwythau ar eu colled o fod heb eu henwi. Y sylw nesaf a wnaf yw hwn—fy mod yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r ffeithiau a nodir ganddynt. Fy nhrydydd sylw, ynte? Y mae hwn yn fwy beiddgar o lawer. Ac yr wyf yn mentro mwy na mymryn bach wrth ei ddweud. Nid oes mo'i osgoi, er hynny. Prin, mi gredaf, yr anghytuna'r pedwarddyn hyn â'r hyn sydd gen—nyf i'w ddweud, er y gall fod yn feirniadaeth arnynt hwy, neu ar rai a berthyn i'r un alwedigaeth â hwy. {{nop}} Beth, gan hynny? Hyn; nad oes yr un ohonynt yn aros i holi, yn ddwys ac yn ddifrif, paham y daeth y pla hwn ar grefydd Cymru. Go brin y gallai gofyniad pwysicach ddyfod i feddwl gweinidog yr Efengyl. Eto, nis. gofynnir. Gwaeth fyth, fe gymerir yn ganiataol mai ar y gŵr arall y mae'r bai. Y mae'r bai ar y "bobol"—"y rhai pobol," "y bobol acw," "fy mhobol i," "paganiaid Cymru". Nid awgrymir y gall fod bai ar y gweinidog. Nid addefir hyd yn oed ei fod yn gyd—gyfrannog yn y bai. Ac nid oes affliw o awgrym y dichon fod bai ar ei grefydd ef. Nac oes ddim, gan dri ohonynt. Ond y ''mae'' gan y pedwerydd; ac, am hynny, y mae'n haeddu pluen yn ei gap. Cynnil iawn ydyw ei addefiad, ond y mae'n arwyddocaol i'w ryfeddu. Clywch: ''Gwyddom nad oes yn ein crefydd ni, fel y mae, ddim a all eu deffro (sef y bobl) i'w hangen, na diwallu'r angen wedi'i ddeffro."'' Ni allaf ddiolch hanner digon i'r gweinidog hwn am ei gyfaddefiad. Gwir mai moel ei wala ydyw. Ond y mae'n gyfaddefiad; ac yn gyfaddefiad o wendid ar du'r grefydd a gynigir i Gymru heddiw. Ni ddywed beth yn union ydyw'r gwendid. Ac ni phoenaf innau ddim am hynny. Yn hwyr neu'n hwyrach fe gawn gyfaddefiad llawnach ganddo ef. Os nad wyf innau'n camgymryd yn enbyd, fe gawn rywbeth pwysicach fyth ganddo ef maes o law. Fe gawn, efallai, ymdriniaeth lawn â'r gwendid; ac at hynny, ond odid, awgrym o'r modd y mae ei ddileu, a gosod cadernid ac iechyd yn ei le. Yr wyf i bron â bod mor hyderus â honni mai ef fydd un o'r rheini a gyfranna i weddnewid y sefyllfa ddigalon bresennol. Aed ati, ac ymarfoged â holl weledigaethau'r proffwyd gwir! Yn y peth hwn, ynteu, y mae ef yn mwy na rhagor—ragori ar ei frodyr a ddyfynnais, o gymaint â'i fod yn gweld bod y drwg ''nid'' yn y "bobl acw" a'r "paganiaid" yn unig, ond yn eu bugeiliaid, neu, o leiaf, yn y ddarpariaeth a ddelir o flaen y defaid di—fugail hyn. Gwir bod un o'r tri arall yn awgrymu meddyginiaeth, ond gan na chydnebydd ef ei gyfran o'r bai, ni welaf fod ganddo lawer o hawl i gynnig ffisig, na llawer o gymhwyster. Nodaf ei awgrym, er hynny, sef "galw am fwy o ffyddlondeb i'r Eglwys a'i gwasanaethau." Purion peth, efallai, ond inni gofio'n Q gyntaf mai galwad at berson, galwad at Grist, ac nid at sefydliad, ydyw gwir alwad ein Harglwydd a'n Hachubwr ni; ac, yn ail, mai drylliau a darnau o Eglwys sydd gennym yng Nghymru heddiw; a'r drylliau hynny heb ymwybod ond y lleiaf peth â'u cymdeithas â'i gilydd, ac â'i Ddioddefiadau Ef er eu mwyn hwy oll—ac er mwyn y myrdd nad oes ganddynt unrhyw gyswllt yn y byd â'r drylliau gwahanedig hyn. Yr Eglwys? Dduw Dad, a oes gennym ni'r dirgelwch hwnnw heddiw? Yr Eglwys? Onid hi—neu'r sefydliadau sy'n derbyn yr enw—sy'n cadw draw? Y mae Crist yn galw ac yn denu, â'i Groes yn denu ac yn tynnu sylw. Ond, am yr Eglwys, y mae hi, mor aml â pheidio, yn gyrru oddi wrthi. A ydwyf i'n dweud celwydd, neu'n cablu, wrth fwrw drwyddi fel hyn? Ofn sydd arnaf nad ydwyf i ddim. Mi roddwn i lawer iawn am weled gwir Eglwys, deilwng o Grist, yng Nghymru heddiw, ac yn denu'r myrdd miloedd i mewn i'w chôl. Ond nis gwelaf ar hyn o bryd. Na cham—ddeallwch fi—nid oes gen i fawr ddim cydymdeimlad â'r bobl hynny sydd yn beirniadu'r "Eglwys" ''oddi allan'', heb geisio gweithio o'r tu mewn iddi, a heb gyfranogi o'i baich. Felly, nid yw galwad y gweinidog am "fwy o ffyddlondeb i'r Eglwys " yn ddim llai na galwad ar y gweinidog—pob gweinidog a phob offeiriad i'w gysegru ei hun i wneud yr hyn a elwir yn "Eglwys", yn Eglwys mewn gwirionedd, a chysylltu'r darnau drylliedig, sef yr enwadau, â'i gilydd mewn un cyfamod a brawdoliaeth Cristionogol. Yn gynnil iawn, ond nid heb dipyn o feddwl ymlaen llaw, awgrymaf nad llawer o'n gweinidogion sydd yn ymgysegru o lwyr fryd calon i'r llafur difrif hwn o weddnewid capel ac eglwys i'r fath raddau nes dyfod ohonynt yn wir lun a delw Ei Eglwys Ef. Nid llawer ar lawer sy'n ymroddgar hyd yr eithaf yn ei gapel ei hun. Ac nid llaweroedd sy'n dwyn mawr ofal calon o weled yr enwadau crefyddol mor ddieithr i'w gilydd, mor wahanedig, ac yn aml, mor ryw ddirgel eiddigus y naill o'r llall. Am Grist y dywedodd Paul iddo "ddatod canolfur y gwahaniaeth rhwng yr Iddew a'r cenedl—ddyn." Ond amdanom ni, nyni a gloddiasom ganolfuriau gwahaniaeth hyd yn oed rhwng Cymro a Chymro. Pa sawl un o'n gweinidogion ni sy'n athrist, Q ni ddywedaf hyd angau, ond hyd ddioddefaint, oherwydd nad oes dim gobaith i'r eglwysi gymodi'r byd â hwy, heb yn gyntaf iddynt hwy ymgymodi â'i gilydd? <section end="bbb"/> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|ANFRI AC ANHREFN.}}}} A ydwyf yn euog o wneud môr a mynydd o ddatganiadau'r pedwar pregethwr? Efallai fy mod. Yr wyf am eich sicrhau nad o fwriad y mae hynny, beth bynnag. Ac, yn siwr ddigon, nid oes gen i yr un rhithyn o elyniaeth tuag at yr un ohonynt. Cyn belled ag y gwn i, dichon fod pob un o'r pedwar ymhlith y goreuon o'n holl weinidogion. Wrth fod mor hy ag ystyried eu barn yn y fan hon, fy unig fwriad ydyw ceisio deall y sefyllfa grefyddol sy'n ein hwynebu ni, bawb fel ein gilydd. Ac o iawn ddeall y sefyllfa, olrhain yr achosion, ac, yn fwy na dim, ceisio chwilio am ffordd ymwared. Daw hyn â mi, yn naturiol, at un arall o'u gosodiadau. Peidiwch â dychryn!—hwn fydd yr olaf a ystyriaf. Fe'i gosodaf ger eich bron, i ddechrau. Hwdiwch eto:— ''"Y mae'r drwg wedi cychwyn tuag adeg Diwygiad 1904—5. Daeth yr awel deimladol honno â digon o bysgod i'r rhwyd, ond pethau heb asgwrn cefn ydy' pysgod, ynte?"'' Sylw neu ddau ar hyn. "Yr awel deimladol honno," yn gyntaf. Dyna ydoedd hi, yn ôl pob tebyg. O leiaf, felly y dysgir ni i gredu. O'r gorau, bydded felly. Ond, ar bwy yr oedd y bai am hynny? Onid ar y "diwygwyr " eu hunain, hynny yw, ar y gweinidogion a'r pregethwyr? Hwynt—hwy oedd yn arwain, a hwynt—hwy a roddodd y math yma o nod ac ansawdd i'r Diwygiad. Nid oes fodd yn y byd iddynt hwy ddianc oddi wrth y cyfrifoldeb. Gosodwn ef yn blwmp ac yn blaen ar eu hysgwyddau hwy,—ac nid ar y "bobol acw". Y mae'r "bobol "—"y bobol acw," "fy mhobol i," 'paganiaid Cymru "—yn gwbl ddieuog. Ydynt—y mae'r pysgod," fel y gelwir hwy y tro hwn, yn lân eu dwylo. Ni wnaethant ddim namyn dilyn arweinwyr y Diwygiad. Os oedd rhywbeth allan o'i le ar y Diwygiad, arnynt hwy yr oedd y bai—ar y Diwygwyr, y Gweinidogion a'r Pregethwyr q Y mae geirwiredd ac onestrwydd yn galw arnom i bwysleisio hynny, eithr heb ddigio dim wrthynt, heb sôn am eu difrïo. Unwaith eto, fe'n cawn ein hunain yn gorfod tystio mai rhaid sydd ar Weinidogion y Gair i gydnabod eu bai. Nid oes ganddynt hwy le i orfoleddu. Nid oes ganddynt mo'r hawl i fyned o'r tu arall heibio i'r drwg "—os drwg, hefyd—a wnaed yr adeg honno. Wrth reswm, cenhedlaeth arall o weinidogion a wnaeth y drwg hwnnw. Ond ni all y genhedlaeth y sydd olchi ei dwylo oddi wrth y nam a wnaed gan y genhedlaeth a oedd yma yr adeg honno. A ydych yn cytuno? Yr ail sylw, yn awr; ie, yr olaf un! Ai cywir y gosodiad mai "tuag adeg Diwygiad 1904—5" y cychwynnodd "y drwg"? Mi glywais y farn â'm clustiau fy hun fwy nag unwaith. Ond y mae'n wir amheus gennyf ei bod yn gywir. 'Wyddoch chi paham, gyfeillion? Y paham ydyw hyn: (a) y gwelwch chwi, mewn cofnodion eglwysig, gyfeirio at golli mynychwyr o'r Cwrdd Gweddi a'r Seiat, yn ystod yr wythdegau o'r ganrif ddiwethaf; (b) y gall y neb a fynno fynd i'r drafferth o chwilio hanes yr Ysgol Sul mewn llawer ardal, weld drosto'i hun yr ymddengys y gŵyn am "esgeuluswyr", eto ynghylch yr un blynyddoedd. Yn awr, gyfeillion, pan welwch chwi gyfeiriadau, yn niwedd y ganrif o'r blaen, at "esgeuluswyr yr Ysgol Sul, ac at anfynychu o'r aelodau ddyfod i Gwrdd Gweddi a Seiat, pan welwch chwi hyn, meddaf, y mae'n gystal prawf â'r un fod y drwg yn y cosyn eisoes. Heb ryw lawer o betruso, yr wyf i'n dyfod i'r casgliad bod y dywededig "ddrwg" wedi dechrau ar ei waith o leiaf bymtheng mlynedd o flaen Diwygiad 1904—5. Rhaid bod yr eglwysi a'r swyddogion a wnaeth y sylwadau hyn yn ymwybod â rhyw golli gafael yn y blynyddoedd hynny. Ac nid hwynt—hwy yn unig ychwaith. Yr oedd Cymro mwyaf y dydd hwnnw, a'r Cymro a oedd â'i glust yn nes na'r un at guriad calon y genedl, yn ymglywed â'r un duedd. Owen Morgan Edwards oedd y Cymro hwnnw. Ac yn y flwyddyn 1894 yr oedd ef yn paratoi i osod o flaen ei genedl y cylchgrawn a alwodd—''Y Llenor''. Yn y rhifyn cyntaf ohono, y mae "O.M." yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:— {{nop}} ''"Ar ddiwedd canrif . . . dyma gwestiwn na ellir ei ofyn, yng Nghymru, heb fawr ofal calon. Yr ydym yn symud ac yn symud yn gyflym. Ond i ble? . . . A ydym yn symud oddi wrth ddiwinyddiaeth? . . . Os ydym yn symud, i ble? . . . Troir oddi wrth athrawiaethau diwinyddol at y dull manylaf o gyfrif symudiadau'r sêr, etc., etc. Ac wrth wneud hyn, diystyrir diwinyddiaeth, yn ddigon aml, fel yr anwybodaeth yr ymbalfala hen bregethwyr di—ddysg a hen wragedd Seiat yn ei thywyllwch." '' Ni thybiaf i na ellid mynd ymhellach yn ôl na hynny, ac yn nes yn ôl, hyd yn oed, na'r wythdegau y soniais i gyntaf amdanynt. Yn wir ac yn wir, fe geir mwy nag un awgrym o hynny yn Hunangofiant rhyfeddol Robert Roberts, a'r cyhuddiad llym fod y "dry rot", fel y dywed ef, wedi dechrau ysu rhuddin y goodly young tree, Methodism" gryn genhedlaeth yn gynt. Ond nid awn ni cyn belled yn ôl â hynny yma'n awr. Dechreuwn, ynteu, tua'r flwyddyn 1894. Y mae hynny eisoes ddeng mlynedd yn gynt na'r Diwygiad. A ellir can—fod rhyw arwydd o'r duedd i anwybyddu diwinyddiaeth y sonia O.M. amdano? Troer at lyfr neilltuol o ddiddorol gan y Parchedig. J. J. Morgan, gynt o'r Wyddgrug. Enw'r llyfr ydyw: ''A Welais ac a Glywais''. Yr oedd yr awdur yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth tua'r blynyddoedd 1895—1900. Ar dudalen arbennig o'r llyfr, y mae'n sôn am gydfyfyriwr ag ef, a baratoai, yntau, at y Weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dywed Mr. Morgan i'r gŵr ifanc arall hwnnw lwyddo i fynd drwy'r Cyfarfod Misol, drwy ei yrfa golegol, gan bregethu ar y Sul, a'i dderbyn i'r Weinidogaeth. Eithr, ar hyd yr adeg, Undodwr oedd ef yn ei gredo; ac ni chanfu na'r Coleg na'r Cyfarfod Misol, na dyn yn y byd, ddim oll o hynny. Wedi adrodd hyn o ffaith, ychwanega Mr. Morgan, braidd yn bigog efallai, y gallasai'r un peth ddigwydd ar hyd y blynyddoedd o'r adeg honno ymlaen hyd y dydd a'r awr hon. Ni wn i ddim. Ond dyna'i dweud hi'n lled finiog, yntê? Pan ofynnais i Mr. Morgan mewn llythyr a wyddai am un enghraifft arall o'r un peth, mi atebodd yn ebrwydd y gwyddai, a rhoddi, yn ychwanegol at hynny, frawddeg o'r eiddo'r llall hwnnw. Tebyg i hyn Q oedd honno: "Dyn da oedd Iesu Grist—dim ond dyn da. Fe welir ei well Ef eto ar y ddaear." A gawsom ni brawf fod mwy na dau fymryn o sail i ofn O.M.?—prawf o symud oddi wrth ddiwinyddiaeth? Y mae'n edrych braidd yn debyg, onid yw? Ymddengys hefyd mai yn y Colegau Diwinyddol yr oedd rhyw gymaint o gyfle iddo gael lloches dros dro cyn cael ei wasgar ar draws gwlad. Rhaid inni symud yn dra gofalus yn awr, rhag i rywun dybio ein bod yn sarhau Undodaeth ar y naill law, nac yn honni bod Colegau'r Methodistiaid yn dysgu diwinyddiaeth Undodaidd yn uniongyrchol, ar y llaw arall. Y mae'n ddyletswydd arnom, fel Cristionogion, roddi pob parch i safbwynt yr Undodiaid, a chydnabod hefyd yn ddiolchgar, gyfraniadau gwerthfawr ganddynt hwy i fywyd Cymru. Am Golegau Diwinyddol y Methodistiaid, go ryw brin y gallwn gredu eu bod yn ymwybodol ddysgu diwinyddiaeth sy'n annerbyniol gan eu henwad hwy eu hunain. Ond efallai y gellid dadlau na buont bob amser yn gwbl ddiesgeulus; a dadlau, efallai, i lawer tro ar ffasiwn fod yn ansawdd eu diwinyddiaeth drwy gydol yr hanner canrif ddiwethaf; a chasglu yn o lew o deg, nad cyfnod cadarn iawn ei ddiwinyddiaeth a fu'r ganrif hon, gyn belled ag yn awr, yn unrhyw un o'r Colegau Diwinyddol? Ni ddengys hyn fod symud bwriadol oddi wrth ddiwinyddiaeth fel y cyfryw. Ond yn siŵr ddigon fe ddengys symud go fwriadol a phendant oddi wrth yr hen ddiwinyddiaeth a oedd mewn bri yng Nghymru hyd flynyddoedd ieuenctid O. M. Edwards. Hynny, mi gredaf, a oedd ganddo yn ei feddwl—symud oddi wrth yr hen ddiwinyddiaeth Galfinaidd. Nid amheuaf i nad oes eisiau peth symud, o leiaf, symud digon i lwyr Gristioneiddio yr hyn nad oedd yn gyflawn o Grist yn yr hen ddiwinyddiaeth. Yn lle hynny, symud ar garlam a gafwyd, igam—o—gamu'n chwyrlïog—o'r "hen" i'r "newydd", o'r newydd i'r newydd—newydd" a'r newyddaf o hyd. Mynd hefyd drwy ryw ryfedd ddamwain, yn llwyr o gwmpas cylch, a chyrraedd yn ôl heddiw, yn llaw Karl Barth yn dalog at Galfin unwaith eto! Dyna ni, ynteu, wedi rhoddi trem ar yr yrfa ofnadwy a rhyfedd a fu i ddiwinyddiaeth yn y ganrif hon. Hawdd y Q gallaswn hefyd ddyfynnu geiriau, gan ddau o brifathrawon ein Colegau Diwinyddol, yn gwawdio'r holl syniad o geisio adeiladu corff o ddiwinyddiaeth o gwbl. Yn un o bamffledi Urdd y Deyrnas y bu hynny, tua'r flwyddyn 1924. Y mae un o'r ddau awdur yn fyw yn awr i weld y newid rhyfedd a ddaeth erbyn heddiw; ac mi welais ysgrif ganddo yn y "Traethodydd" tua blwyddyn yn ôl yn pleidio, y tro hwn, yr angen am ddiwinyddiaeth. Gwych iawn, onidê? Nid yw hi byth yn rhy hwyr i gywiro barn. Y mae Karl Barth wedi cael ei ddylanwad, welwch chi. I ddychwelyd at O.M. Onid oedd ei lygad yn gweld yn gywir gyfewin? Gwir ddigon yw'r gair, ysywaeth—bod yma symud oddi wrth ddiwinyddiaeth cyn diwedd y ganrif o'r blaen, a bod y symud hwnnw wedi parhau'n bendramwnwgl am hanner canrif. Yr un pryd, ac am yr un rheswm, bu yma symud hefyd oddi wrth grefydd. Nid yr un peth yw crefydd a diwinyddiaeth. Gwir arall yw hynny eto. Ond, rhaid yw pwysleisio eu bod yn perthyn yn agos i'w gilydd, fel dwy chwaer. Gwneler cam ag un, ac fe ddioddefa'r ddwy. Symud oddi wrth grefydd a diwinyddiaeth—dyna'i brofi. Ond symud tuag at beth? Tuag at wyddoniaeth ydoedd awgrym O.M. Llawer o wir, a mwy nag a dybiech ar un olwg. A fyddwn i'n ei methu hi'n aruthr ped anturiwn ddywedyd mai Gwyddoniaeth—gyda llythyren fras, welwch chi—a ddisodlodd ddiwinyddiaeth (llythyren fach iawn!)—mai hi, yn wir, a fu crefydd myrdd o bobl yn y ganrif hon? Nid unig grefydd y ganrif hon, ond un ymysg amryw. {{nop}} {{c|ANHREFN AC ANRHAITH.}} Nid oes eisiau i neb fod yn ŵr glew iawn, nac yn ŵr golau iawn, i gyhoeddi mai gwyddoniaeth ydyw un o'r delwau a godwyd i'w haddoli yn lle yr unig wir a bywiol Dduw. Nid rhyfedd ychwaith, pan daflwch eich meddwl yn ôl i rifo rhai o'r cymwynasau diamheuol a wnaeth hi i ddynion yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Y maent yn lleng; a byddai mor ynfyd eu gwadu â gwadu cyfodiad yr haul sy'n pelydrdreiddio i mewn i'r ystafell lle'r wyf i'n ysgrifennu'n awr. Eithr—a hyn yw'r cabledd—yn dâl am ei doniau da hi, aeth dynion i wneud duw o wyddoniaeth, a diorseddu Duw Abraham ac Eisac a Jacob yn ei ffafr hi a'i phroffwydi hi, a'i phariseaid a'i hysgrifenyddion hi. Cyffredin o beth, erbyn heddiw, ydyw clywed y geiriau hyn, hyd yn oed ar wefusau crefyddwyr—"mae Gwyddoniaeth yn dysgu" lle gynt y dywedent: "mae'r Eglwys yn dysgu." Ni bu'r fath chwyldro mewn safonau erioed. Gallwn ddywedyd yn unfryd gyda Bernard Shaw: "fe gredir pob ffwlbri yn enw gwyddoniaeth ond ni chredir dim gwirionedd yn enw crefydd." Nid rhyfedd, gan hynny, i un hanesydd o gryn fri ddatgan mai cwestisn mawr y dyfodol ydyw—a dry dynoliaeth yn erbyn y gwyddonwyr cyn iddynt. lwyddo i chwythu'r byd yn ulw mân? Un, er hynny, un yn unig ydyw gwyddoniaeth o'r lliaws duwiau a chrefyddau a ddyrchafwyd i'w haddoli yn lle'r unig wir Dduw a'i unig Grefydd ddatguddiedig Ef. Un? Pa rai ydyw'r lleill, ynteu? Nid yw hwn eto yn ofyniad anodd ei ateb, a dyma'i hwde i'r neb a'i gofyn. Comiwnyddiaeth? A oes amheuaeth am hynny? Pwy, yn ei lawn synnwyr, a wad nad ydyw Comiwnyddiaeth yn un o grefyddau mawr y byd yn y dyddiau diwethaf hyn? Y mae ganddi hi holl arfogaeth crefydd. Sefydlydd sydd ganddi, apostolion a phroffwydi, seintiau a santesau; ie, a merthyron fwy na mwy. Ganddi hithau, fel y grefydd Gristionogol, y mae eglwysi a chapeli, pabau a phenaethiaid, ysgrythurau santaidd ac esbonwyr swyddogol, cenhadaeth dramor, cenhadaeth gartref, seiadau ac ysgolion Sul; ie, pob cyfrwys barodi o'r offeiriadaeth Gristionogol. Q Y mae wedi rhannu'r byd yn ddwy garfan elyniaethus. Y mae un hanner o'r byd yn cymryd llw yn ei henw hi, a'r hanner arall yn ymswyno beunydd rhagddi. Heb ddim dwywaith, y mae Comiwnyddiaeth yn grefydd. Yn wir, ac yn wir, a fu crefydd erioed a aeth ar led y cyfandiroedd mor gyflym ag a wnaeth hi? Un rheswm am hynny ydyw bod ei gweinidogion a'i hoffeiriaid hi, ei blaenoriaid a'i haelodau cyffredin, yn ei chymryd hi'n aruthrol fwy o ddifrif nag a gymerwn ni ein Crist ni a'i Efengyl Ef. Yn hynny o beth fe ddylent godi'r cywilydd cochaf erioed i wyneb pawb ohonom. Mwy fyth, pan gymerwn ni un ennyd i ystyried hyn: mai ein difrawder ni fel Cristionogion ydyw un o'r cyfryngau mwyaf llwyddiannus i drosglwyddo y rhai a fu unwaith yn aelodau o'n heglwysi ni yn rhad ac am ddim i freichiau agored y grefydd hon. Peth ofnadwy i'w ddywedyd, onid e? Ond fe'i dywedaf yn groyw. A mentraf fy mhen fod y gwir sydd yn y gosodiad ysgubol hwn yn llawer mwy nag a freuddwydiodd odid neb ohonom. Dyma'i ail ddywedyd yn fwy pendant a di-addurn—nyni, Gristionogion di-lygad, di-ddiwinyddiaeth, di-Grist, sy'n gyfrifol am ledaeniad Comiwnyddiaeth yn Neheudir Cymru, ym Mhrydain, ac ar gyfandir Ewrop. Nyni oll! Hen ddigon o sôn am Gomiwnyddiaeth, fel un arall o'r crefyddau a ddisodlodd Gristionogaeth. A oes arall eto? Peidiwch â synnu os dywedaf fod, a mwy nag un arall eto. P'run, ynteu? Y ladi barchus hon, efallai—Totalitariaeth? Naw wfft i'r gair, i ddechrau. Yr unbennes lifreiog a elwir y wladwriaeth ydyw hon; neu, a newid ei rhyw, yr unben medalog a elwir y teyrn. Fel y gŵyr pawb, un o ddiwydiannau mwyaf llewyrchus y ganrif hon fu cynhyrchu teyrn ar deyrn. O beithdir Periw hyd barthau Korea y maent wedi bod yn pingo. Y brodyr enwocaf o'r rhywiogaeth ladronllyd yma ydoedd Mussolini a Hitler. Ond yr un nod ac amcan sydd i'r cwbl—crefu am dra arglwyddiaethu. Mewn gair, eisiau bod yn Dduw oedd arnynt. Ac am fod y ddynoliaeth wedi gollwng ei gafael yn Nuw, fe ostyngodd ar ei gliniau ger bron y duw-ddynion beilchion hyn. Pell o Gymru fach, gwlad y gân a'r diwygiadau,' oedd y Q rhain, meddwch chwithau. Nid mor bell, gyfeillion. Nage; na phell o gwbl. Ond, yn y fan a'r lle, ymhlith yr hen genedl glên ddi-wladwriaeth hon. Yr oedd Syr Henry Jones yn Gymro, os da y cofiaf. Ac y mae chwarelwyr Blaenau Ffestiniog yn Gymry glân-gloyw. Yn awr, heb fod nepell o ddechrau'r ganrif hon, aeth Henry Jones i annerch ei gyd-wladwyr o'r Blaenau. Ei destun ydoedd—Dinasyddiaeth Bur. Llawer o bethau a ddywedodd yng nghwrs yr anerchiad hwn am y wladwriaeth,—neu fel y galwai ef hi, y wladwrfa." Eithr swm y cwbl ydyw'r frawddeg ryfedd hon:— ''"Cysegredig ydyw'r Wladwrfa, fy nghyfeillion . . . Perth yn llosgi heb ei difa' ydyw; ac nid wyf fi yn petruso dweud wrth y neb a ddyneso ati hi—Diosg dy esgidiau oddi am dy draed'."'' A allai ddiawl ei hun ddywedyd yn amgenach? A fu nemor gwell enghraifft o gamddefnyddio geiriau cysegredig o'r Ysgrythur Lân? Cafodd Henry Jones fyw i weld un o ganlyniadau erchyll yr addoli hwn ar y "wladwrfa", sef y rhyfel byd cyntaf, rhyfel 1914-18; ac annog blodau'r genedl Gymraeg i aberthu eu heinioes o dan draed y Moloch hwn. Cafodd weld y pregethwr enwocaf o'r un yng Nghymru yn ymwisgo â lifrai'r "Wladwrfa", er mwyn ymroddi i'r un gwaith â Syr Henry. Nid wyf yr un mor siŵr a gafodd fyw i glywed y gŵr hwnnw'n cyfarch cymanfa o Weinidogion yr Efengyl, gan ddywedyd ''Gwyliwch chi ddigio hwn''. Gofynnwn hen gwestiwn yr Ysgol Sul yn y dyddiau gynt, ac ymholwn; pwy ydyw'r "hwn" sydd yn yr adnod? Pwy, hefyd? Ysywaeth, nid Crist, nid Duw, na'r un o dri phersonau'r Duwdod! Y gŵr y rhoddai'r Parchedig John Williams, Brynsiencyn, ei gyd-weinidogion ar eu gwyliadwriaeth rhag ei ddigio ydoedd—y Prifweinidog, D. Lloyd George. Canys, y dwthwn hwnnw, ef oedd Duw John Williams. Nid oedd John Williams ar ei ben ei hun yn y camwedd hwn—ie, yn yr eilunaddoliad hwn. Gydag ef yr oedd myrdd o Gymry, o bob lliw a llun, o bob dysg a dawn, o bob capel ac eglwys, o bob enw ac enwad. Ond y lleiaf yn Nheyrnas Nefoedd sydd fwy na'r mwyaf ohonynt. Dyma fi, welwch chi, wedi enwi trindod o dduwiau gau—gwyddoniaeth, comiwnyddiaeth, totalitariaeth. A oes Q duwiau eraill eto fyth? A dorrwyd y gorchymyn—' na wna iti dduwiau eraill, ac nac ymgryma iddynt '—mewn mwy na'r tair ffordd a enwais eisoes? Gwaetha'r modd y mae; y mae duwiau eraill, ac fe wnaed delwau eraill. Amser a ballai, chwedl un awdur enwog, i'w dilyn mor fanwl ag y dilynais y tri chedyrn uchod. Cystal enwi un neu ddau o'r brodyr breiniol eraill. Dyneiddiaeth, er enghraifft, h.y. addoli dyn ei hun oherwydd ei garlamus gampau yn ystod y canrifoedd diwethaf hyn. Ac at ddyneiddiaeth, anffyddiaeth, gefell o'r un bru yn union. Ac at ddyneiddiacth ac at anffyddiaeth,—materoliaeth, aelod arall o drindod eto. Pwy a wad nad ydyw'r tri hyn, hwythau, wedi rhodresa'n rhwysg-fawr o fôr i fynydd, a thros fôr a mynydd, ac i bellafoedd y ddaear? "Wele dy dduwiau, o Walia." Dyna ydoedd pennawd ysgrif nid anenwog o waith Emrys ap Iwan. Eithr yn ei restr ef nid oedd ond dau—ariangarwch, a Saisaddoliaeth. Druan ag Emrys! Mor ddiniwed yw ei restr ef wrth fy rhestr i. Druan gŵr meddal. 'Wyddai fe ddim o'i eni! A dim ond ''lloi'', wedi'r cyfan, oedd ei dduwiau ef—y llo aur, a'r llo arall! Nid oes yr un o'r rhai a nodais i yn llai nag "anifail bras", chwedl y proffwyd. Oes, y mae yna epilio bras wedi bod ar dduwiau er dyddiau Emrys ap Iwan. Rheswm da paham. Yn ei amser ef, yr oedd Duw yn codi; yr oedd Crist yn cadw; yr oedd crefydd yn cyfrif. Yr oedd diwinyddiaeth mewn bri. Rhoddai dynion eu meddwl a'u dawn, eu bryd a'u hyder ar y sylweddau di-syfl; ac nid oedd, o ganlyniad, ryw lawer o le a chyfle i dduwiau eraill." Yr oedd Duw yn llond pob lle iddynt. Nid oedd gwacter yn eu henaid a'u hysbryd. Eithr, fel y gwelsom, fe ddechreuwyd gwamalu, a gwan-afael yn yr holl bethau hyn, tua diwedd y ganrif. O dipyn i beth, bwriwyd crefydd a diwinyddiaeth allan o'r ymysgaroedd. Symudwyd oddi wrthynt, a defnyddio geiriau O.M. unwaith eto. Naturiol ac anhepgor ydoedd y cwbl a ddilynodd. Hyn sydd yn fy meddwl; rhaid i ddyn wrth wrthrych i'w addoli. Y gwrthrych gweddus—yr unig wrthrych teilwng a gweddus—ydyw y Duw a'n gwnaeth ni er ei fwyn Ef ei Hun. Unwaith y caewn Ef allan o'n bywyd, y mae yno wacter. Ni allwn ninnau oddef gwacter. Fe'i Q llanwn. Rhaid inni ei lanw. A'r cwestiwn sy'n aros wedyn ydyw—â pha beth y llanwn y gwacter sy'n crefu am ei lanw? Syml ac anorfod ydyw'r ateb. Fe'i llanwn ag unrhyw benhoeden o grefydd neu o gredo, a ddigwyddo fod yn y ffasiwn ar hynny o bryd—gwyddoniaeth, comiwnyddiaeth, totalitariaeth, dyneiddiaeth, anffyddiaeth, materoliaeth, etc. Weithiau bydd rhai ohonom yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwir grefydd a gau grefydd. Ond ni thâl hynny ddim ychwaith. Rhoddwyd yr ateb clasurol i'r math hwnnw o chwarae'r ffon ddwybig gan Iesu Grist, ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn y geiriau pendant hyn: Ni ellwch addoli Duw a Mamon. Gwell imi, bellach, ddirwyn fy ymson i ben. Dechreuais drwy nodi'r arwyddion amlycaf o'r malltod sydd wedi taro cynifer o agweddau ar fywyd yng Nghymru heddiw. Dilynais hynny gan ymgais i ddarnodi mai o ddiffyg gafael ar grefydd wir y tardda'r parlys hwn. Yna, olrhain y duedd hon o tua'r flwyddyn 1890 ymlaen, a chanlyn y ffrwythau a ddaeth allan o'r esgoreddfa yn hedeg yn wyllt, dros y môr a'r meysydd, hyd at y dydd a'r awr hon. Wrth wneuthur hyn, defnyddiais yn lled helaeth y pedair beirniadaeth a ddigwyddai fod yn "Y Faner" ddydd neu ddau wedi i mi ddechrau ar fy siwrnai. O barch i'r gwirionedd ac o dan orfod ffeithiau, mi welais yn dda roddi ergyd i'r syniad mai ar "y bobol" yr oedd ac y mae—y bai pennaf. Gelwais y gweinidogion yn ôl at eu coed, neu, fel y dywedir yn Ffrainc, yn ôl at eu defaid. Rhoddais y bai am gorff y farwolaeth hon, ag ydyw crefydd yn ein plith ni, ar weinidogion y gair. Nid am fy mod yn tybio mai arnynt hwy y mae'r holl fai, ond am fod gennyf argyhoeddiad cwbl sicr mai arnynt hwy y mae'r gyfran helaethaf o'r bai. Y mae yr un mor ddiogel gennyf mai hwynt—hwy a ddichon ein harwain o'r diffeithwch di-faol hwn, mai hwy hefyd a ddylai wneud hynny; ond nas gwnânt ac na fydd dichon iddynt ei wneud heb ddywedyd yn gyntaf yn eu cydwybod eu hunain: "Gwir, O Dduw. Ni a'th esgeulusasom Di. Buom yn weision tra anfuddiol. Pechasom i'th erbyn. Maddau inni, O Dad Trugarog. Maddau inni oll, a dyro inni wir edifeirwch, ymroddiad, ymgysegriad i wasanaethu Dy Fab Di, yr Hwn, er ein mwyn ni, a aeth yn dlawd, ac a ddioddefodd angau—ie Angau'r Q Groes". Dysgu pader i berson, onid e? Dyna, 'rwy'n ofni, fydd holl Alffa ac Omega ymateb ambell un i'm dehongliad i o'r sefyllfa yng Nghymru. Ofni a wnaf hefyd mai ateb llawer un arall fydd dywedyd ar ei gyfer, heb ymholi dim â'i gysegr sancteiddiolaf ei hun—"Ymosodiad yw'r cwbl i gyd; ymosodiad di-sail, ac anghyfrifol. Dyn yw o sy'n casáu'r gweinidogion i gyd, ac am godi gwrychyn y byd a'r wlad yn eu herbyn". A dyna ben, cwbl ben, ar bob ymgais i ddiwygio'r dyn ei hun, na'i deulu, na'i eglwys. Ond y mae ffordd arall: ffordd cyfaddef methiant. Ac y mae hi'n eirwir ac iachusol. Pan oedd Emrys ap Iwan yn ceryddu "Cymru Gelwyddog" ni phetrusodd roddi bai ar y dosbarth a enwais i. Fe gofiwch yr addefiad: "Y mae'n sicr ein bod ni, y pregethwyr, yn gyfrifol hyd ryw fesur am anfoesoldeb Cymru." Gwych o beth ydyw bod pregethwr moesoldeb yn ei uniaethu ei hun â llygredd ei genedl. Bob amser y digwydd peth cyffelyb i hyn y mae hi'n arwyddo'n o dda am y dyfodol. Pan ddelo arweinwyr unrhyw gymdeithas neu genedl—neu Grefydd—i gydnabod eu cyfrifoldeb eu hunain, nid yw'r sefyllfa fyth yn ddiobaith. <section end="bbb"/> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|ESGEULUSTOD Y GWYLIWR.}}}} 'Does dim ond dau ddewis gen i, naill ai ceisio dangos ffordd ymwared allan o'r anialwch sydd yn ein pennau ac o'n cwmpas; neu gydnabod na welaf i ddim rhithyn o obaith inni ddianc allan ohono. Gan mai llwfr o beth fyddai'r olaf, yn enwedig ar ôl bod mor hy â nodi'r drygau, yna nid erys imi ond wynebu'r dewis cyntaf, a datrys y dryswch, deued a ddelo, tynged a dyngo. Cyn ymosod ar y cawr hwn o gyrch y mae gennyf un gofyniad i'w gyflwyno i mi fy hun. Hwn, gyfeillion—"a chaniatáu, dros dro, mai gwir yw dy ddadl mai'r dirywiad crefyddol ydyw gwreiddyn y rhan fwyaf o'r drygau, beth am y difrod yn hanes yr iaith Gymraeg? Pa fodd y mae dy ddehongliad di yn egluro'r ffaith honno sydd, yn wir, mor alaethus ag unrhyw agwedd ar yr anrhaith cyffredinol?" {{nop}} Eithaf gofyniad, yn siŵr i chi, er mai fi sy'n ei osod i mi fy hun. Ni byddaf yn ei ateb fy hunan bach, ychwaith. Y mae yma gyfaill o gymwynaswr yn neidio i'r adwy i roddi help llaw imi. 'Fûm i erioed mor ffodus. Dim ond newydd agor un o'r papurau Cymraeg wythnosol, a dyma'r cyfaill hwn yn rhoddi clamp o anrheg imi gyda'r ateb. Fe gofiwch efallai imi sôn ar y dechrau, fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynadledda yn Llandrindod. O ganol y gynhadledd honno y daw imi gymorth mor annisgwyl, a hynny oddi wrth ŵr delfrydol ei safle a'i wylfa. Eglwyswr o'r iawn ryw, a Sais enwaededig, neb llai na Syr Idris Bell. Ef biau'r geiriau sy'n dilyn, fel y ceir hwy yn "Y Faner " heddiw (Ebrill 15, 1953). ''"Nid wyf yn siwr o lawer nad croeso mam-yng-nghyfraith a roddir heddiw gan yr Eglwys i'r traddodiad Cymreig ac i'r iaith Gymraeg."'' Onid clobyn golygus o addefiad ydyw hwn? Ni chefais i, naddo, ers tro byd, gystal cymorth cyfamserol. Ni saif yn unig ychwaith. Bu eraill hefyd yn siarad yn yr un gynhadledd, ac yn ei dweud hi'n o ryw hallt. Eglwyswyr selog bob un, chwarae teg i'w calon—ac i'w pen. Digon i mi yw dyfynnu i'm cefnogi un arall yn unig o'r cynadleddwyr hyn,—y Parchedig G. O. Williams. Clust ymwrandewch â'i gŵyn a'i gyfaddefiad yntau:— ''"Ni roddir, ar hyn o bryd, i'r Gymraeg safle gyfartal a'r Saesneg ym mywyd ac yng nghynghorau'r Eglwys yng Nghymru . . . Cafodd llawer fraw pan ddeallwyd bod yr holl ddarlithoedd a oedd i'w traddodi yn y gynhadledd hon i fod yn Saesneg."'' Amlwg ydyw i Gynhadledd yr Eglwys yn Llandrindod glywed mwy nag un gwirionedd yr oedd mawr angen am ei ddywedyd. Ni chymeraf fy hudo, ar gorn hynny, i gychwyn cyrch yn erbyn yr Eglwys honno, nac i gystwyo dim arni. Y mae mwy na digon o Anghydffurfwyr yn rhy barod i wneud hynny, heb gael dim gronyn o gefn gen i. Byddai'n well iddynt edrych yn nes adre, rhag ofn fod peth sail i ddwyn cwyn gyffelyb yn eu herbyn hwythau erbyn heddiw, ac mewn rhai mannau. O gyfeillion!—nid wyf yn amau na bu'r Anghydffurfwyr yn llawer mwy ffyddlon i'r Gymraeg na'r Eglwys. Dim o'r fath! Digon tebyg, o ran hynny, y cytunai llaweroedd o Eglwyswyr da eu gair a'u buchedd, Q â'r gosodiad hwn. Yn wir, yr hyn sydd yn gampus ganmoladwy yng ngeiriau Syr Idris Bell, a'r Parch. G. O. Williams ydyw eu bod yn cydnabod bai yn eu heglwys hwy eu hunain. Fel y dywedais o'r blaen—pan fydd arweinwyr cyfrifol, mewn byd neu eglwys, yn iawn sylweddoli maintioli'r drwg, ac yn cydnabod eu cyfrifoldeb hwy eu hunain amdano i ryw fesur, nid yw'r sefyllfa'n gwbl anobeithiol. Yn lle hynny, y mae hi eisoes yn dechrau gwella. Y mae iechyd a grym yn yr addefiad ei hun. Hyn—y llifa'r iechyd hwnnw, a'r grym, i iacháu ac i weddnewid yr holl sefyllfa. Bydded felly y tro hwn eto—ac yn ebrwydd. Wele fi, ynteu, drwy gymorth Cynhadledd Llandrindod, wedi cael ateb, neu gyfran o ateb, i'm gofyniad fy hun. Sef yw'r ateb hwnnw, yn fyr ac yn fras—bod cysylltiad agos rhwng y dirywiad crefyddol a'r dirywiad ieithyddol, pe na bai ond yn unig am na bu'r Eglwys bob amser mor deyrngar ag y gallasai fod i'r "traddodiad Cymreig ac i'r Iaith Gymraeg," fel y dywed Syr Idris. Ys gwir, hefyd, i'r Eglwys hithau orfod dioddef yn ei thro oherwydd ei brad hwn, fel y mae'r un Syr Idris yn ddigon awyddus i'n hatgoffa, mewn rhan arall o'i anerchiad. Gofyn y mae ef paham y collodd hi—yr Eglwys yng Nghymru—ei gafael ar genedl y Cymry; ac fel hyn yr etyb:— ''"Credai ef mai'r prif reswm oedd ddarfod i'r Eglwys erbyn y ddeunawfed ganrif, yn ei pholisi swyddogol, droi i gyfeiriad Lloegr. Pe cymerasai fantais ar y deffroad mawr crefyddol a llenyddol a ddigwyddasai yng Nghymru, fe ddichon y buasai wedi dyfod yn Eglwys Genedlaethol y Cymry mewn gwirionedd. Yn lle hynny, fe ddigwyddodd toriad nas cyfannwyd."'' Gwych o ddehongliad. Cytunaf o wirfodd calon ag ef, a llongyfarchaf yr Eglwys am fod ganddi arweinwyr sy'n wynebu eu cyfrifoldeb mor llygad-agored. Gofynnaf yn gynnil ac yn garedig: A ydyw'r Esgobion,—yr holl Esgobion—yr un mor llygad-agored i'w cyfrifoldeb? A ydyw'r Offeiriaid yr holl Offeiriaid—yr un mor gyfrifol ac argyhoeddedig? Hwynt-hwy biau ateb, nid myfi, gan mai hwy sy'n gwybod. Am un o leiaf o'r Esgobion y mae gen i—a chwithau—hawl i ddweud y gwn i yn lled dda beth yw ei safbwynt ef. Canys fe'i mynegodd ger bron y gynhadledd Q Esgob Bangor ydyw hwnnw, a dyma ran o'i ddatganiad:— ''"Problem fawr Cymru yw medru diogelu a datblygu ei thraddodiad a'i ffordd ei hun o fyw. Bydd yn rhaid i bob polisi i Gymru gael ei seilio ar y ffaith sylfaenol fod Cymru yn un . . . Y mae hi'n ddyletswydd ar yr Eglwys, fel y prif allu, i ddiogelu'r undod hwn."'' Afraid ychwanegu cymaint ag un gair at anogaeth yr Esgob. Fe'i croesawaf â dwylo agored. Nawdd y Nefoedd drosto! Yn awr, cystal yw bwrw ddarfod inni gael gafael ar un peth a eglura'r cysylltiad rhwng cyflwr crefydd a chyflwr iaith. Niweidier y naill, ac fe niweidir y llall. Bradycher un, a dyna fradu dau. Fe'i gwelsom. Fe'i cydnabuwyd. Yr iaith Gymraeg, ynteu, ydyw un o laddedigion crefydd un-llygeidiog, o'r ddaear yn ddaearol, ac o'r byd yn fydol. I grefydd ddi-gynnwys, ac anysbrydol, pa le a all fod i werthoedd ysbrydol,—i iaith y mae ei gogoniant nid ym maes y gad nac ym moes y god, nid yn aur y banc nac yn erw'r byd, ond mewn englyn a chywydd a chân, mewn emyn ac adnod a thôn? O mor fynych, yntê, y clyw ein clustiau'r baldordd am ddiffyg gwerth masnachol yr iaith Gymraeg. Beunydd y bwrir i'n dannedd y fregedd na thâl hi ddim ceiniog goch y delyn, na dimai na dim i chwi fedru Cymraeg. Sul ar ôl Sul, hefyd, fe ellir ymglywed â rhyw fwmial siarad am lwydni casgliad yr oedfaon Cymraeg, ac am lewyrch y gasgl Saesneg. Ger bron yr allor, welwch chwi, yng ngŵydd Duw ei Hun, rhaid yw pwyso gwerthoedd mewn cloriannau cwbl fasnachol. Onid yw hyn oll yn gabledd? Onis gwneir gan Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr yn eu tro? Ac, yn wir i chwi, y mae arnaf awydd gofyn: onid am weithredu braidd yn gyffelyb i hynny yr ymgynddeiriogodd hyd yn oed yr Iesu ei Hun, gan ffrewyllu'r cyfnewidwyr arian allan o'r Deml? Ef o bawb, gyda'i ddau lygad anghymharol, a welodd werth hatling y wraig dlawd. Ond, yr ydym ni wedi newid y cwbl yma. Yr ydym wedi bwrw Ei werthoedd Ef bendramwnwgl. Deuwch yr awr hon gam neu ddau yn nes at y cysegr sancteiddiolaf, a sylwn ar agwedd meddwl y Colegau Diwinyddol tuag at yr iaith Gymraeg a'r cwbl sydd ganddi hi i'w ddywedyd am Hanes y Genedl fechan hon, ac am ei Q chrefydd ar hyd y canrifoedd. Pa faint o le—heb sôn am barch a bri—a gânt yn y Colegau hyn? Ni chymeraf y cyfle i ateb. Rhoddaf y cyfle, yn hytrach, i'r rhai a ŵyr yn well, yn gymaint ag iddynt fod drwy'r melinau hyn. Yr Eglwys yng Nghymru yn bennaf a gafodd dystiolaethu yn yr ysgrif hon, hyd yma. Rhoddaf iddi un cyfle arall i'n goleuo ar addysg ei cholegau; a galwaf ar un o'i hoffeiriaid i wneud hynny, sef y Parchedig D. Parry Jones. Y mae ef bellach yn Rheithor neu'n Ficer yn Sir Fynwy. Yng ngholeg yr Eglwys yn Llanbedr-Pont-Steffan, Ceredigion, y paratowyd ef at waith y Weinidogaeth. Tua blynyddoedd cynnar y ganrif hon y bu hynny, ac ar dudalen 117 o'i lyfr eithriadol ddiddorol, ''"Welsh Country Upbringing,"'' fe gawn yr hanes ganddo. "Gofyn y mae: pa fodd y darparodd y Coleg fi at waith fy mywyd?" Union a diwastraff yw ei ateb. Maddeuir i minnau, gobeithio, am ei ddyfynnu yn ei iaith ei hun yn y llyfr:— ''"On my first day there I realised it was not a Welsh college at all; it was merely a college in Wales. Though built in honour of our patron saint, St. David, poor St. David had to be satisfied with that alone, for we were never told anything about him, or the Church to which he belonged. We read English history and English Church history, but never Welsh history or Welsh Church history, not even a reference was made in any of the lectures to the parallel happenings in the religious life of Wales, as a possible illustration or an afterthought. It began with St. Augustine and ended with Newman and the Oxford Movement. We might never have had a Church or a Religion at all in Wales for all the references that I have heard to it. And we were being prepared for the ministry of that church of whose existence not a word was mentioned." A allai ddiawl ei hun ddymuno dim yn amgenach at ei bwrpas ef? {{nop}} {{c|{{mawr|BRAD Y COLEGAU DIWINYDDOL.}}}} Cystal eich atgoffa imi orffen y llith ddiwethaf drwy ddyfynnu barn offeiriad yn yr Eglwys am yr addysg a gafodd yng Ngholeg Dewi Sant, yng nghanol Sir Aberteifi. Ys gwn i pa sawl un ohonoch chwi a synnodd at y farn honno? Pa sawl un a ddywedodd yn ei galon: "gresyn o beth! cywilydd wyneb iddyn' nhw!" Pa sawl un hefyd a safodd yn stond gan dorri allan i ddweud: "Coleg yr Eglwys! Beth arall sydd i'w ddisgwyl? Prawf ychwanegol fod yr Eglwys yn Seisnigaidd—ac. . . ie, ie,—yn wrth-Gymreig "? Os do, yr awgrym ydoedd: na cheffid esgeulustod o'r fath yng Ngholegau diwinyddol yr Anghydffurfwyr. Ai cabledd fyddai mynegi mymryn o amheuaeth ar y pwnc? Cabledd neu beidio, y mae gwirionedd a chwilfrydedd yn ein cymell i holi, i chwilio ac i chwalu; ac, os oes modd—i gael gafael ar y gwir. Nid rhaid wrth ryw fôr-a-mynydd o chwilio, ychwaith. Nid oes ond eisiau agor un neu ddau o gofiannau neu hunangofiannau rhai o bregethwyr mawr Cymru yn y ganrif hon. Bydd un yn gystal â chant. Dyma ichwi Hunangofiant mor ddiffuant â'r un y gallaf i feddwl amdano. Eiddo'r diweddar Barchedig J. H. Howard ydyw. Drwg—a mwy na drwg—gen i yw mai yn Saesneg yr ysgrifennodd Mr. Howard ei gofiant. Canys, er mai Sais ydoedd o darddiad, fe ddysgodd gystal Cymraeg ag unrhyw un o'i frodyr, a phregethu'n well na'r mwyafrif ohonynt. 'Does gen i ddim ond derbyn y llyfr fel y mae, yn Saesneg, a mynegi diolch am wir gyfraniad i hanes crefyddol Cymru yn y ganrif yr ydych chwi a minnau'n byw ynddi. Nid "Eglwyswr" oedd Mr. Howard, ond Methodist. Cychwyn yn y gwaelod yn lân, a myned i un o Golegau'r Brifysgol. Oddi yno aeth i un o'r Colegau Diwinyddol, i Goleg Trefeca, i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth Fethodistaidd (an-Wesleaidd!). Yr oedd yn fyfyriwr yn y coleg hwn agos yr un blynyddoedd ag ydoedd D. Parry-Jones yng Ngholeg Dewi Sant. Diddorol iawn yw sylwi ei fod yn gofyn yr un cwestiwn yn union â'i gyfoeswr o'r Coleg <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> qdraa0ei559knhdrqve59oqo8qk6tt3 161649 161648 2026-03-30T11:47:11Z AlwynapHuw 1710 Amnewidiwyd y cynnwys gyda "hwnnw. Ddeuddydd yn ôl yr oedd hi'n Ddydd Sul y Pasg. Ac ni fu mewn Hanes y fath gyflawni ag a welwyd y dydd hwnnw . . . 'Thâl hi ddim—'thâl hi ddim torri addewid yn ystod y Pasg! Heblaw, y mae eraill yn gweithio, mewn llawer dull a modd. O'r fan yma yn awr, mi glywaf briffordd y ddinas hon yn griddfan dan bwys a gwres y cerbydau sy'n llyfnu ei hwyneb. Ennyd bach yn ôl, mi ddarllenais yn y papur fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynadledda yn Llandrindod dros..." 161649 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnnw. Ddeuddydd yn ôl yr oedd hi'n Ddydd Sul y Pasg. Ac ni fu mewn Hanes y fath gyflawni ag a welwyd y dydd hwnnw . . . 'Thâl hi ddim—'thâl hi ddim torri addewid yn ystod y Pasg! Heblaw, y mae eraill yn gweithio, mewn llawer dull a modd. O'r fan yma yn awr, mi glywaf briffordd y ddinas hon yn griddfan dan bwys a gwres y cerbydau sy'n llyfnu ei hwyneb. Ennyd bach yn ôl, mi ddarllenais yn y papur fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynadledda yn Llandrindod dros y dyddiau hyn. A phe gwyddai'r papur y cwbl, diau y gallai ddywedyd bod yr Anghydffurfwyr yn ymgynnull yn rhywle neu'i gilydd. Mi wn innau'n dda fod Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn cyfarfod tuag Aberhonddu. Ac y mae Plaid Cymru yn pwyllgora rywle'n agos i ganol yr hen wlad fach yma. Gweithio? Ie, gweithio y mae'r rhain i gyd; a gwae'r neb a wado hynny. Gwae hyd yn oed y neb a wado nad eu gwaith hwy ydyw'r union waith pwysig sydd—ie, yr ''unig'' waith pwysig sydd yng Nghymru heddiw. Gan fod cymaint cwmwl o weithwyr o'm cwmpas, gweddus yw i minnau geisio gwneud tipyn bach o waith. Pwy a gred fod hyn yn wir waith, sydd bwnc arall. Yr wyf i am ddadlau ei fod—ac ar yr un tir â'r gweithwyr a nodais uchod. Yr wyf am ddadlennu, o'r diwedd, wedi mwy na mwy o ogor—droi, mai yr un yn union fydd fy ngwaith ag eiddo'r uchel—gynadleddwyr a'r oracl—gynullwyr dywededig—y gwaith anhawsaf o'r un, yn y maes mwyaf anhydrin sy'n bod. Yr wyf yn cymryd llawer yn ganiataol, fel y gwelwch. Canys ni welais raglen gwaith mwy nag un o'r cyfarfodydd a enwais. Prin er hynny, y methaf ryw lawer, wrth awgrymu hyn y bydd y Clerigwyr a'r Gweinidogion yn ceisio datrys rhai o ddirgelion crefydd yng Nghymru heddiw; y bydd yr Addysgwyr yn wynebu'r benbleth sy'n bla ar addysg y wlad fach yma; ac y bydd y Pleidwyr ar ddeng ewin yn chwilio am ffordd ymwared i'r bywyd cymdeithasol a gwleidyddol. Ac os pwyllgorau eraill a fydd yn ystod y Gwyliau hyn, ac os cynadleddau a chymanfaoedd eraill, ac os cyd—eistedd ac os cyd—gyfarfod, mi a awgrymaf mai rhyw agwedd neu'i gilydd ar Gyflwr Cymru heddiw a fydd dan sylw pawb o'r cynrychiolwyr a ddaw at ei<noinclude><references/></noinclude> tibhwwtwcrto6ghirvuec9di4fqarb2 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/49 104 82764 161650 2026-03-30T11:48:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161650 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BRAD Y COLEGAU DIWINYDDOL.}}}} Cystal eich atgoffa imi orffen y llith ddiwethaf drwy ddyfynnu barn offeiriad yn yr Eglwys am yr addysg a gafodd yng Ngholeg Dewi Sant, yng nghanol Sir Aberteifi. Ys gwn i pa sawl un ohonoch chwi a synnodd at y farn honno? Pa sawl un a ddywedodd yn ei galon: "gresyn o beth! cywilydd wyneb iddyn' nhw!" Pa sawl un hefyd a safodd yn stond gan dorri allan i ddweud: "Coleg yr Eglwys! Beth arall sydd i'w ddisgwyl? Prawf ychwanegol fod yr Eglwys yn Seisnigaidd—ac. . . ie, ie,—yn wrth-Gymreig "? Os do, yr awgrym ydoedd: na cheffid esgeulustod o'r fath yng Ngholegau diwinyddol yr Anghydffurfwyr. Ai cabledd fyddai mynegi mymryn o amheuaeth ar y pwnc? Cabledd neu beidio, y mae gwirionedd a chwilfrydedd yn ein cymell i holi, i chwilio ac i chwalu; ac, os oes modd—i gael gafael ar y gwir. Nid rhaid wrth ryw fôr-a-mynydd o chwilio, ychwaith. Nid oes ond eisiau agor un neu ddau o gofiannau neu hunangofiannau rhai o bregethwyr mawr Cymru yn y ganrif hon. Bydd un yn gystal â chant. Dyma ichwi Hunangofiant mor ddiffuant â'r un y gallaf i feddwl amdano. Eiddo'r diweddar Barchedig J. H. Howard ydyw. Drwg—a mwy na drwg—gen i yw mai yn Saesneg yr ysgrifennodd Mr. Howard ei gofiant. Canys, er mai Sais ydoedd o darddiad, fe ddysgodd gystal Cymraeg ag unrhyw un o'i frodyr, a phregethu'n well na'r mwyafrif ohonynt. 'Does gen i ddim ond derbyn y llyfr fel y mae, yn Saesneg, a mynegi diolch am wir gyfraniad i hanes crefyddol Cymru yn y ganrif yr ydych chwi a minnau'n byw ynddi. Nid "Eglwyswr" oedd Mr. Howard, ond Methodist. Cychwyn yn y gwaelod yn lân, a myned i un o Golegau'r Brifysgol. Oddi yno aeth i un o'r Colegau Diwinyddol, i Goleg Trefeca, i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth Fethodistaidd (an-Wesleaidd!). Yr oedd yn fyfyriwr yn y coleg hwn agos yr un blynyddoedd ag ydoedd D. Parry-Jones yng Ngholeg Dewi Sant. Diddorol iawn yw sylwi ei fod yn gofyn yr un cwestiwn yn union â'i gyfoeswr o'r Coleg<noinclude><references/></noinclude> bmjrq8y88fi5x4svlnto4krcw5qa62h Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/50 104 82765 161651 2026-03-30T11:50:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161651 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arall. "Pa beth a wnaeth Trefeca i'n cyfaddasu ar gyfer y bywyd newydd, gwaith y weinidogaeth?" Etyb ar ei union: "Apart from friendships formed, the college did very little to fit one for the practical work of the ministry." Cerfia lun cyfan yn y brawddegau sy'n dilyn:— ''"We had been cut from the world and its problems. Destined, as most of us were, for the Welsh pulpit, we had no Welsh class to study the language and the problems of Wales. We heard nothing about the difficulties of the Pastorate, the administration of the Sacraments and the conduct of public worship. Economics was an unknown science to us. The teaching of the young, so important in the work of a minister, was not mentioned. Protestantism received slight attention; but Nonconformity and Welsh Presbyterianism might not have existed so far as our curriculum was concerned. Although we then lived in the very birthplace of the Welsh Methodist Revival, our tutors never referred to that momentous Movement in our hearing . . . Trevecca was a great disappointment." '' Unwaith eto, gofynnwn yn bryderus: A allai'r hen fachgen ei hun drefnu dim a fyddai'n fwy at ei ddant? Dadleniadau nid llawer llai na thrychinebus ydyw'r rhain, am golegau Llanbedr a Threfeca fel ei gilydd. Yr hyn sydd yn eu gwneud yn waeth fyth ydyw'r ddrwgdybiaeth a ddaw yn eu sgil,—y ddrwgdybiaeth nad yw'r sefyllfa'n wahanol iawn yn y colegau eraill. Beth am y Bala, er enghraifft? Aberystwyth ac Aberhonddu? A Bangor Fawr yn Arfon? A dducpwyd y dadleniad uchod erioed ger bron uchel awdurdodau'r Methodistiaid Calfinaidd? A'r dadleniad arall hwnnw am Goleg Dewi Sant, o flaen awdurdodau'r Eglwys yng Nghymru? Os do, gyda pha fath ganlyniad? A lwyr newidiwyd y sefyllfa yn y colegau hyn? Ac yn y colegau oll? Ymysg yr enwadau sydd gennym yng Nghymru y mae un nad oes goleg ganddo o gwbl yma. Enwad y Wesleaid ydyw hwnnw—ymddiheuraf eto, ac ymgywiraf gan ddywedyd, yr Eglwys Fethodistaidd. Yn Lloegr y mae eu colegau diwinyddol hwy, ac yno yr ânt i'w darparu at y weinidogaeth yng Nghymru. Nid cyflwr delfrydol wrth reswm; canys, o ganlyniad, ''rhaid'' ydyw i'w haddysg hwy fod yn<noinclude><references/></noinclude> 0xe5frglqurguh2t08wt6f1duyyt2et Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/48 104 82766 161652 2026-03-30T11:51:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161652 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chrefydd ar hyd y canrifoedd. Pa faint o le—heb sôn am barch a bri—a gânt yn y Colegau hyn? Ni chymeraf y cyfle i ateb. Rhoddaf y cyfle, yn hytrach, i'r rhai a ŵyr yn well, yn gymaint ag iddynt fod drwy'r melinau hyn. Yr Eglwys yng Nghymru yn bennaf a gafodd dystiolaethu yn yr ysgrif hon, hyd yma. Rhoddaf iddi un cyfle arall i'n goleuo ar addysg ei cholegau; a galwaf ar un o'i hoffeiriaid i wneud hynny, sef y Parchedig D. Parry Jones. Y mae ef bellach yn Rheithor neu'n Ficer yn Sir Fynwy. Yng ngholeg yr Eglwys yn Llanbedr-Pont-Steffan, Ceredigion, y paratowyd ef at waith y Weinidogaeth. Tua blynyddoedd cynnar y ganrif hon y bu hynny, ac ar dudalen 117 o'i lyfr eithriadol ddiddorol, ''"Welsh Country Upbringing,"'' fe gawn yr hanes ganddo. "Gofyn y mae: pa fodd y darparodd y Coleg fi at waith fy mywyd?" Union a diwastraff yw ei ateb. Maddeuir i minnau, gobeithio, am ei ddyfynnu yn ei iaith ei hun yn y llyfr:— ''"On my first day there I realised it was not a Welsh college at all; it was merely a college in Wales. Though built in honour of our patron saint, St. David, poor St. David had to be satisfied with that alone, for we were never told anything about him, or the Church to which he belonged. We read English history and English Church history, but never Welsh history or Welsh Church history, not even a reference was made in any of the lectures to the parallel happenings in the religious life of Wales, as a possible illustration or an afterthought. It began with St. Augustine and ended with Newman and the Oxford Movement. We might never have had a Church or a Religion at all in Wales for all the references that I have heard to it. And we were being prepared for the ministry of that church of whose existence not a word was mentioned." A allai ddiawl ei hun ddymuno dim yn amgenach at ei bwrpas ef? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jrnpq45eetbmckoq6zbvooqnrk9y49a Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/47 104 82767 161653 2026-03-30T11:51:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161653 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Esgob Bangor ydyw hwnnw, a dyma ran o'i ddatganiad:— ''"Problem fawr Cymru yw medru diogelu a datblygu ei thraddodiad a'i ffordd ei hun o fyw. Bydd yn rhaid i bob polisi i Gymru gael ei seilio ar y ffaith sylfaenol fod Cymru yn un . . . Y mae hi'n ddyletswydd ar yr Eglwys, fel y prif allu, i ddiogelu'r undod hwn."'' Afraid ychwanegu cymaint ag un gair at anogaeth yr Esgob. Fe'i croesawaf â dwylo agored. Nawdd y Nefoedd drosto! Yn awr, cystal yw bwrw ddarfod inni gael gafael ar un peth a eglura'r cysylltiad rhwng cyflwr crefydd a chyflwr iaith. Niweidier y naill, ac fe niweidir y llall. Bradycher un, a dyna fradu dau. Fe'i gwelsom. Fe'i cydnabuwyd. Yr iaith Gymraeg, ynteu, ydyw un o laddedigion crefydd un-llygeidiog, o'r ddaear yn ddaearol, ac o'r byd yn fydol. I grefydd ddi-gynnwys, ac anysbrydol, pa le a all fod i werthoedd ysbrydol,—i iaith y mae ei gogoniant nid ym maes y gad nac ym moes y god, nid yn aur y banc nac yn erw'r byd, ond mewn englyn a chywydd a chân, mewn emyn ac adnod a thôn? O mor fynych, yntê, y clyw ein clustiau'r baldordd am ddiffyg gwerth masnachol yr iaith Gymraeg. Beunydd y bwrir i'n dannedd y fregedd na thâl hi ddim ceiniog goch y delyn, na dimai na dim i chwi fedru Cymraeg. Sul ar ôl Sul, hefyd, fe ellir ymglywed â rhyw fwmial siarad am lwydni casgliad yr oedfaon Cymraeg, ac am lewyrch y gasgl Saesneg. Ger bron yr allor, welwch chwi, yng ngŵydd Duw ei Hun, rhaid yw pwyso gwerthoedd mewn cloriannau cwbl fasnachol. Onid yw hyn oll yn gabledd? Onis gwneir gan Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr yn eu tro? Ac, yn wir i chwi, y mae arnaf awydd gofyn: onid am weithredu braidd yn gyffelyb i hynny yr ymgynddeiriogodd hyd yn oed yr Iesu ei Hun, gan ffrewyllu'r cyfnewidwyr arian allan o'r Deml? Ef o bawb, gyda'i ddau lygad anghymharol, a welodd werth hatling y wraig dlawd. Ond, yr ydym ni wedi newid y cwbl yma. Yr ydym wedi bwrw Ei werthoedd Ef bendramwnwgl. Deuwch yr awr hon gam neu ddau yn nes at y cysegr sancteiddiolaf, a sylwn ar agwedd meddwl y Colegau Diwinyddol tuag at yr iaith Gymraeg a'r cwbl sydd ganddi hi i'w ddywedyd am Hanes y Genedl fechan hon, ac am ei<noinclude><references/></noinclude> ntor0iv1hz62z397qns5r45fdf0y203 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/46 104 82768 161654 2026-03-30T11:52:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161654 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>â'r gosodiad hwn. Yn wir, yr hyn sydd yn gampus ganmoladwy yng ngeiriau Syr Idris Bell, a'r Parch. G. O. Williams ydyw eu bod yn cydnabod bai yn eu heglwys hwy eu hunain. Fel y dywedais o'r blaen—pan fydd arweinwyr cyfrifol, mewn byd neu eglwys, yn iawn sylweddoli maintioli'r drwg, ac yn cydnabod eu cyfrifoldeb hwy eu hunain amdano i ryw fesur, nid yw'r sefyllfa'n gwbl anobeithiol. Yn lle hynny, y mae hi eisoes yn dechrau gwella. Y mae iechyd a grym yn yr addefiad ei hun. Hyn—y llifa'r iechyd hwnnw, a'r grym, i iacháu ac i weddnewid yr holl sefyllfa. Bydded felly y tro hwn eto—ac yn ebrwydd. Wele fi, ynteu, drwy gymorth Cynhadledd Llandrindod, wedi cael ateb, neu gyfran o ateb, i'm gofyniad fy hun. Sef yw'r ateb hwnnw, yn fyr ac yn fras—bod cysylltiad agos rhwng y dirywiad crefyddol a'r dirywiad ieithyddol, pe na bai ond yn unig am na bu'r Eglwys bob amser mor deyrngar ag y gallasai fod i'r "traddodiad Cymreig ac i'r Iaith Gymraeg," fel y dywed Syr Idris. Ys gwir, hefyd, i'r Eglwys hithau orfod dioddef yn ei thro oherwydd ei brad hwn, fel y mae'r un Syr Idris yn ddigon awyddus i'n hatgoffa, mewn rhan arall o'i anerchiad. Gofyn y mae ef paham y collodd hi—yr Eglwys yng Nghymru—ei gafael ar genedl y Cymry; ac fel hyn yr etyb:— ''"Credai ef mai'r prif reswm oedd ddarfod i'r Eglwys erbyn y ddeunawfed ganrif, yn ei pholisi swyddogol, droi i gyfeiriad Lloegr. Pe cymerasai fantais ar y deffroad mawr crefyddol a llenyddol a ddigwyddasai yng Nghymru, fe ddichon y buasai wedi dyfod yn Eglwys Genedlaethol y Cymry mewn gwirionedd. Yn lle hynny, fe ddigwyddodd toriad nas cyfannwyd."'' Gwych o ddehongliad. Cytunaf o wirfodd calon ag ef, a llongyfarchaf yr Eglwys am fod ganddi arweinwyr sy'n wynebu eu cyfrifoldeb mor llygad-agored. Gofynnaf yn gynnil ac yn garedig: A ydyw'r Esgobion,—yr holl Esgobion—yr un mor llygad-agored i'w cyfrifoldeb? A ydyw'r Offeiriaid yr holl Offeiriaid—yr un mor gyfrifol ac argyhoeddedig? Hwynt-hwy biau ateb, nid myfi, gan mai hwy sy'n gwybod. Am un o leiaf o'r Esgobion y mae gen i—a chwithau—hawl i ddweud y gwn i yn lled dda beth yw ei safbwynt ef. Canys fe'i mynegodd ger bron y gynhadledd<noinclude><references/></noinclude> ghcfnwo61k9b58hgmnvk8u2tl2ljg2m Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/45 104 82769 161655 2026-03-30T11:53:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161655 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eithaf gofyniad, yn siŵr i chi, er mai fi sy'n ei osod i mi fy hun. Ni byddaf yn ei ateb fy hunan bach, ychwaith. Y mae yma gyfaill o gymwynaswr yn neidio i'r adwy i roddi help llaw imi. 'Fûm i erioed mor ffodus. Dim ond newydd agor un o'r papurau Cymraeg wythnosol, a dyma'r cyfaill hwn yn rhoddi clamp o anrheg imi gyda'r ateb. Fe gofiwch efallai imi sôn ar y dechrau, fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynadledda yn Llandrindod. O ganol y gynhadledd honno y daw imi gymorth mor annisgwyl, a hynny oddi wrth ŵr delfrydol ei safle a'i wylfa. Eglwyswr o'r iawn ryw, a Sais enwaededig, neb llai na Syr Idris Bell. Ef biau'r geiriau sy'n dilyn, fel y ceir hwy yn "Y Faner " heddiw (Ebrill 15, 1953). ''"Nid wyf yn siwr o lawer nad croeso mam-yng-nghyfraith a roddir heddiw gan yr Eglwys i'r traddodiad Cymreig ac i'r iaith Gymraeg."'' Onid clobyn golygus o addefiad ydyw hwn? Ni chefais i, naddo, ers tro byd, gystal cymorth cyfamserol. Ni saif yn unig ychwaith. Bu eraill hefyd yn siarad yn yr un gynhadledd, ac yn ei dweud hi'n o ryw hallt. Eglwyswyr selog bob un, chwarae teg i'w calon—ac i'w pen. Digon i mi yw dyfynnu i'm cefnogi un arall yn unig o'r cynadleddwyr hyn,—y Parchedig G. O. Williams. Clust ymwrandewch â'i gŵyn a'i gyfaddefiad yntau:— ''"Ni roddir, ar hyn o bryd, i'r Gymraeg safle gyfartal a'r Saesneg ym mywyd ac yng nghynghorau'r Eglwys yng Nghymru . . . Cafodd llawer fraw pan ddeallwyd bod yr holl ddarlithoedd a oedd i'w traddodi yn y gynhadledd hon i fod yn Saesneg."'' Amlwg ydyw i Gynhadledd yr Eglwys yn Llandrindod glywed mwy nag un gwirionedd yr oedd mawr angen am ei ddywedyd. Ni chymeraf fy hudo, ar gorn hynny, i gychwyn cyrch yn erbyn yr Eglwys honno, nac i gystwyo dim arni. Y mae mwy na digon o Anghydffurfwyr yn rhy barod i wneud hynny, heb gael dim gronyn o gefn gen i. Byddai'n well iddynt edrych yn nes adre, rhag ofn fod peth sail i ddwyn cwyn gyffelyb yn eu herbyn hwythau erbyn heddiw, ac mewn rhai mannau. O gyfeillion!—nid wyf yn amau na bu'r Anghydffurfwyr yn llawer mwy ffyddlon i'r Gymraeg na'r Eglwys. Dim o'r fath! Digon tebyg, o ran hynny, y cytunai llaweroedd o Eglwyswyr da eu gair a'u buchedd,<noinclude><references/></noinclude> e44ihdzlyyha3pqtfv9wq5mlur6aeuu Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/44 104 82770 161656 2026-03-30T11:53:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161656 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Groes". Dysgu pader i berson, onid e? Dyna, 'rwy'n ofni, fydd holl Alffa ac Omega ymateb ambell un i'm dehongliad i o'r sefyllfa yng Nghymru. Ofni a wnaf hefyd mai ateb llawer un arall fydd dywedyd ar ei gyfer, heb ymholi dim â'i gysegr sancteiddiolaf ei hun—"Ymosodiad yw'r cwbl i gyd; ymosodiad di-sail, ac anghyfrifol. Dyn yw o sy'n casáu'r gweinidogion i gyd, ac am godi gwrychyn y byd a'r wlad yn eu herbyn". A dyna ben, cwbl ben, ar bob ymgais i ddiwygio'r dyn ei hun, na'i deulu, na'i eglwys. Ond y mae ffordd arall: ffordd cyfaddef methiant. Ac y mae hi'n eirwir ac iachusol. Pan oedd Emrys ap Iwan yn ceryddu "Cymru Gelwyddog" ni phetrusodd roddi bai ar y dosbarth a enwais i. Fe gofiwch yr addefiad: "Y mae'n sicr ein bod ni, y pregethwyr, yn gyfrifol hyd ryw fesur am anfoesoldeb Cymru." Gwych o beth ydyw bod pregethwr moesoldeb yn ei uniaethu ei hun â llygredd ei genedl. Bob amser y digwydd peth cyffelyb i hyn y mae hi'n arwyddo'n o dda am y dyfodol. Pan ddelo arweinwyr unrhyw gymdeithas neu genedl—neu Grefydd—i gydnabod eu cyfrifoldeb eu hunain, nid yw'r sefyllfa fyth yn ddiobaith. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|ESGEULUSTOD Y GWYLIWR.}}}} 'Does dim ond dau ddewis gen i, naill ai ceisio dangos ffordd ymwared allan o'r anialwch sydd yn ein pennau ac o'n cwmpas; neu gydnabod na welaf i ddim rhithyn o obaith inni ddianc allan ohono. Gan mai llwfr o beth fyddai'r olaf, yn enwedig ar ôl bod mor hy â nodi'r drygau, yna nid erys imi ond wynebu'r dewis cyntaf, a datrys y dryswch, deued a ddelo, tynged a dyngo. Cyn ymosod ar y cawr hwn o gyrch y mae gennyf un gofyniad i'w gyflwyno i mi fy hun. Hwn, gyfeillion—"a chaniatáu, dros dro, mai gwir yw dy ddadl mai'r dirywiad crefyddol ydyw gwreiddyn y rhan fwyaf o'r drygau, beth am y difrod yn hanes yr iaith Gymraeg? Pa fodd y mae dy ddehongliad di yn egluro'r ffaith honno sydd, yn wir, mor alaethus ag unrhyw agwedd ar yr anrhaith cyffredinol?" {{nop}}<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> kn7dfhq3bsp65yjltlir7cdpev51iq0 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/43 104 82771 161657 2026-03-30T11:54:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161657 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llanwn. Rhaid inni ei lanw. A'r cwestiwn sy'n aros wedyn ydyw—â pha beth y llanwn y gwacter sy'n crefu am ei lanw? Syml ac anorfod ydyw'r ateb. Fe'i llanwn ag unrhyw benhoeden o grefydd neu o gredo, a ddigwyddo fod yn y ffasiwn ar hynny o bryd—gwyddoniaeth, comiwnyddiaeth, totalitariaeth, dyneiddiaeth, anffyddiaeth, materoliaeth, etc. Weithiau bydd rhai ohonom yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwir grefydd a gau grefydd. Ond ni thâl hynny ddim ychwaith. Rhoddwyd yr ateb clasurol i'r math hwnnw o chwarae'r ffon ddwybig gan Iesu Grist, ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn y geiriau pendant hyn: Ni ellwch addoli Duw a Mamon. Gwell imi, bellach, ddirwyn fy ymson i ben. Dechreuais drwy nodi'r arwyddion amlycaf o'r malltod sydd wedi taro cynifer o agweddau ar fywyd yng Nghymru heddiw. Dilynais hynny gan ymgais i ddarnodi mai o ddiffyg gafael ar grefydd wir y tardda'r parlys hwn. Yna, olrhain y duedd hon o tua'r flwyddyn 1890 ymlaen, a chanlyn y ffrwythau a ddaeth allan o'r esgoreddfa yn hedeg yn wyllt, dros y môr a'r meysydd, hyd at y dydd a'r awr hon. Wrth wneuthur hyn, defnyddiais yn lled helaeth y pedair beirniadaeth a ddigwyddai fod yn "Y Faner" ddydd neu ddau wedi i mi ddechrau ar fy siwrnai. O barch i'r gwirionedd ac o dan orfod ffeithiau, mi welais yn dda roddi ergyd i'r syniad mai ar "y bobol" yr oedd ac y mae—y bai pennaf. Gelwais y gweinidogion yn ôl at eu coed, neu, fel y dywedir yn Ffrainc, yn ôl at eu defaid. Rhoddais y bai am gorff y farwolaeth hon, ag ydyw crefydd yn ein plith ni, ar weinidogion y gair. Nid am fy mod yn tybio mai arnynt hwy y mae'r holl fai, ond am fod gennyf argyhoeddiad cwbl sicr mai arnynt hwy y mae'r gyfran helaethaf o'r bai. Y mae yr un mor ddiogel gennyf mai hwynt—hwy a ddichon ein harwain o'r diffeithwch di-faol hwn, mai hwy hefyd a ddylai wneud hynny; ond nas gwnânt ac na fydd dichon iddynt ei wneud heb ddywedyd yn gyntaf yn eu cydwybod eu hunain: "Gwir, O Dduw. Ni a'th esgeulusasom Di. Buom yn weision tra anfuddiol. Pechasom i'th erbyn. Maddau inni, O Dad Trugarog. Maddau inni oll, a dyro inni wir edifeirwch, ymroddiad, ymgysegriad i wasanaethu Dy Fab Di, yr Hwn, er ein mwyn ni, a aeth yn dlawd, ac a ddioddefodd angau—ie Angau'r<noinclude><references/></noinclude> 2fkk1xps3kbwzfevno4mwym8tmpoifz Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/42 104 82772 161658 2026-03-30T11:54:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161658 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>duwiau eraill eto fyth? A dorrwyd y gorchymyn—' na wna iti dduwiau eraill, ac nac ymgryma iddynt '—mewn mwy na'r tair ffordd a enwais eisoes? Gwaetha'r modd y mae; y mae duwiau eraill, ac fe wnaed delwau eraill. Amser a ballai, chwedl un awdur enwog, i'w dilyn mor fanwl ag y dilynais y tri chedyrn uchod. Cystal enwi un neu ddau o'r brodyr breiniol eraill. Dyneiddiaeth, er enghraifft, h.y. addoli dyn ei hun oherwydd ei garlamus gampau yn ystod y canrifoedd diwethaf hyn. Ac at ddyneiddiaeth, anffyddiaeth, gefell o'r un bru yn union. Ac at ddyneiddiacth ac at anffyddiaeth,—materoliaeth, aelod arall o drindod eto. Pwy a wad nad ydyw'r tri hyn, hwythau, wedi rhodresa'n rhwysg-fawr o fôr i fynydd, a thros fôr a mynydd, ac i bellafoedd y ddaear? "Wele dy dduwiau, o Walia." Dyna ydoedd pennawd ysgrif nid anenwog o waith Emrys ap Iwan. Eithr yn ei restr ef nid oedd ond dau—ariangarwch, a Saisaddoliaeth. Druan ag Emrys! Mor ddiniwed yw ei restr ef wrth fy rhestr i. Druan gŵr meddal. 'Wyddai fe ddim o'i eni! A dim ond ''lloi'', wedi'r cyfan, oedd ei dduwiau ef—y llo aur, a'r llo arall! Nid oes yr un o'r rhai a nodais i yn llai nag "anifail bras", chwedl y proffwyd. Oes, y mae yna epilio bras wedi bod ar dduwiau er dyddiau Emrys ap Iwan. Rheswm da paham. Yn ei amser ef, yr oedd Duw yn codi; yr oedd Crist yn cadw; yr oedd crefydd yn cyfrif. Yr oedd diwinyddiaeth mewn bri. Rhoddai dynion eu meddwl a'u dawn, eu bryd a'u hyder ar y sylweddau di-syfl; ac nid oedd, o ganlyniad, ryw lawer o le a chyfle i dduwiau eraill." Yr oedd Duw yn llond pob lle iddynt. Nid oedd gwacter yn eu henaid a'u hysbryd. Eithr, fel y gwelsom, fe ddechreuwyd gwamalu, a gwan-afael yn yr holl bethau hyn, tua diwedd y ganrif. O dipyn i beth, bwriwyd crefydd a diwinyddiaeth allan o'r ymysgaroedd. Symudwyd oddi wrthynt, a defnyddio geiriau O.M. unwaith eto. Naturiol ac anhepgor ydoedd y cwbl a ddilynodd. Hyn sydd yn fy meddwl; rhaid i ddyn wrth wrthrych i'w addoli. Y gwrthrych gweddus—yr unig wrthrych teilwng a gweddus—ydyw y Duw a'n gwnaeth ni er ei fwyn Ef ei Hun. Unwaith y caewn Ef allan o'n bywyd, y mae yno wacter. Ni allwn ninnau oddef gwacter. Fe'i<noinclude><references/></noinclude> l2fg4tgii4ae9sn5kv58r5t1s7xde3u Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/41 104 82773 161659 2026-03-30T11:55:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161659 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhain, meddwch chwithau. Nid mor bell, gyfeillion. Nage; na phell o gwbl. Ond, yn y fan a'r lle, ymhlith yr hen genedl glên ddi-wladwriaeth hon. Yr oedd Syr Henry Jones yn Gymro, os da y cofiaf. Ac y mae chwarelwyr Blaenau Ffestiniog yn Gymry glân-gloyw. Yn awr, heb fod nepell o ddechrau'r ganrif hon, aeth Henry Jones i annerch ei gyd-wladwyr o'r Blaenau. Ei destun ydoedd—Dinasyddiaeth Bur. Llawer o bethau a ddywedodd yng nghwrs yr anerchiad hwn am y wladwriaeth,—neu fel y galwai ef hi, y wladwrfa." Eithr swm y cwbl ydyw'r frawddeg ryfedd hon:— ''"Cysegredig ydyw'r Wladwrfa, fy nghyfeillion . . . Perth yn llosgi heb ei difa' ydyw; ac nid wyf fi yn petruso dweud wrth y neb a ddyneso ati hi—Diosg dy esgidiau oddi am dy draed'."'' A allai ddiawl ei hun ddywedyd yn amgenach? A fu nemor gwell enghraifft o gamddefnyddio geiriau cysegredig o'r Ysgrythur Lân? Cafodd Henry Jones fyw i weld un o ganlyniadau erchyll yr addoli hwn ar y "wladwrfa", sef y rhyfel byd cyntaf, rhyfel 1914-18; ac annog blodau'r genedl Gymraeg i aberthu eu heinioes o dan draed y Moloch hwn. Cafodd weld y pregethwr enwocaf o'r un yng Nghymru yn ymwisgo â lifrai'r "Wladwrfa", er mwyn ymroddi i'r un gwaith â Syr Henry. Nid wyf yr un mor siŵr a gafodd fyw i glywed y gŵr hwnnw'n cyfarch cymanfa o Weinidogion yr Efengyl, gan ddywedyd ''Gwyliwch chi ddigio hwn''. Gofynnwn hen gwestiwn yr Ysgol Sul yn y dyddiau gynt, ac ymholwn; pwy ydyw'r "hwn" sydd yn yr adnod? Pwy, hefyd? Ysywaeth, nid Crist, nid Duw, na'r un o dri phersonau'r Duwdod! Y gŵr y rhoddai'r Parchedig John Williams, Brynsiencyn, ei gyd-weinidogion ar eu gwyliadwriaeth rhag ei ddigio ydoedd—y Prifweinidog, D. Lloyd George. Canys, y dwthwn hwnnw, ef oedd Duw John Williams. Nid oedd John Williams ar ei ben ei hun yn y camwedd hwn—ie, yn yr eilunaddoliad hwn. Gydag ef yr oedd myrdd o Gymry, o bob lliw a llun, o bob dysg a dawn, o bob capel ac eglwys, o bob enw ac enwad. Ond y lleiaf yn Nheyrnas Nefoedd sydd fwy na'r mwyaf ohonynt. Dyma fi, welwch chi, wedi enwi trindod o dduwiau gau—gwyddoniaeth, comiwnyddiaeth, totalitariaeth. A oes<noinclude><references/></noinclude> 4i952ok6apgnp5tef3631rcivrc536t Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/40 104 82774 161660 2026-03-30T11:56:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161660 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae wedi rhannu'r byd yn ddwy garfan elyniaethus. Y mae un hanner o'r byd yn cymryd llw yn ei henw hi, a'r hanner arall yn ymswyno beunydd rhagddi. Heb ddim dwywaith, y mae Comiwnyddiaeth yn grefydd. Yn wir, ac yn wir, a fu crefydd erioed a aeth ar led y cyfandiroedd mor gyflym ag a wnaeth hi? Un rheswm am hynny ydyw bod ei gweinidogion a'i hoffeiriaid hi, ei blaenoriaid a'i haelodau cyffredin, yn ei chymryd hi'n aruthrol fwy o ddifrif nag a gymerwn ni ein Crist ni a'i Efengyl Ef. Yn hynny o beth fe ddylent godi'r cywilydd cochaf erioed i wyneb pawb ohonom. Mwy fyth, pan gymerwn ni un ennyd i ystyried hyn: mai ein difrawder ni fel Cristionogion ydyw un o'r cyfryngau mwyaf llwyddiannus i drosglwyddo y rhai a fu unwaith yn aelodau o'n heglwysi ni yn rhad ac am ddim i freichiau agored y grefydd hon. Peth ofnadwy i'w ddywedyd, onid e? Ond fe'i dywedaf yn groyw. A mentraf fy mhen fod y gwir sydd yn y gosodiad ysgubol hwn yn llawer mwy nag a freuddwydiodd odid neb ohonom. Dyma'i ail ddywedyd yn fwy pendant a di-addurn—nyni, Gristionogion di-lygad, di-ddiwinyddiaeth, di-Grist, sy'n gyfrifol am ledaeniad Comiwnyddiaeth yn Neheudir Cymru, ym Mhrydain, ac ar gyfandir Ewrop. Nyni oll! Hen ddigon o sôn am Gomiwnyddiaeth, fel un arall o'r crefyddau a ddisodlodd Gristionogaeth. A oes arall eto? Peidiwch â synnu os dywedaf fod, a mwy nag un arall eto. P'run, ynteu? Y ladi barchus hon, efallai—Totalitariaeth? Naw wfft i'r gair, i ddechrau. Yr unbennes lifreiog a elwir y wladwriaeth ydyw hon; neu, a newid ei rhyw, yr unben medalog a elwir y teyrn. Fel y gŵyr pawb, un o ddiwydiannau mwyaf llewyrchus y ganrif hon fu cynhyrchu teyrn ar deyrn. O beithdir Periw hyd barthau Korea y maent wedi bod yn pingo. Y brodyr enwocaf o'r rhywiogaeth ladronllyd yma ydoedd Mussolini a Hitler. Ond yr un nod ac amcan sydd i'r cwbl—crefu am dra arglwyddiaethu. Mewn gair, eisiau bod yn Dduw oedd arnynt. Ac am fod y ddynoliaeth wedi gollwng ei gafael yn Nuw, fe ostyngodd ar ei gliniau ger bron y duw-ddynion beilchion hyn. Pell o Gymru fach, gwlad y gân a'r diwygiadau,' oedd y<noinclude><references/></noinclude> mwop6zl2dkpf3julqv8go1a0suekx0y Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/39 104 82775 161661 2026-03-30T11:57:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161661 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|ANHREFN AC ANRHAITH.}}}} Nid oes eisiau i neb fod yn ŵr glew iawn, nac yn ŵr golau iawn, i gyhoeddi mai gwyddoniaeth ydyw un o'r delwau a godwyd i'w haddoli yn lle yr unig wir a bywiol Dduw. Nid rhyfedd ychwaith, pan daflwch eich meddwl yn ôl i rifo rhai o'r cymwynasau diamheuol a wnaeth hi i ddynion yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Y maent yn lleng; a byddai mor ynfyd eu gwadu â gwadu cyfodiad yr haul sy'n pelydrdreiddio i mewn i'r ystafell lle'r wyf i'n ysgrifennu'n awr. Eithr—a hyn yw'r cabledd—yn dâl am ei doniau da hi, aeth dynion i wneud duw o wyddoniaeth, a diorseddu Duw Abraham ac Eisac a Jacob yn ei ffafr hi a'i phroffwydi hi, a'i phariseaid a'i hysgrifenyddion hi. Cyffredin o beth, erbyn heddiw, ydyw clywed y geiriau hyn, hyd yn oed ar wefusau crefyddwyr—"mae Gwyddoniaeth yn dysgu" lle gynt y dywedent: "mae'r Eglwys yn dysgu." Ni bu'r fath chwyldro mewn safonau erioed. Gallwn ddywedyd yn unfryd gyda Bernard Shaw: "fe gredir pob ffwlbri yn enw gwyddoniaeth ond ni chredir dim gwirionedd yn enw crefydd." Nid rhyfedd, gan hynny, i un hanesydd o gryn fri ddatgan mai cwestisn mawr y dyfodol ydyw—a dry dynoliaeth yn erbyn y gwyddonwyr cyn iddynt. lwyddo i chwythu'r byd yn ulw mân? Un, er hynny, un yn unig ydyw gwyddoniaeth o'r lliaws duwiau a chrefyddau a ddyrchafwyd i'w haddoli yn lle'r unig wir Dduw a'i unig Grefydd ddatguddiedig Ef. Un? Pa rai ydyw'r lleill, ynteu? Nid yw hwn eto yn ofyniad anodd ei ateb, a dyma'i hwde i'r neb a'i gofyn. Comiwnyddiaeth? A oes amheuaeth am hynny? Pwy, yn ei lawn synnwyr, a wad nad ydyw Comiwnyddiaeth yn un o grefyddau mawr y byd yn y dyddiau diwethaf hyn? Y mae ganddi hi holl arfogaeth crefydd. Sefydlydd sydd ganddi, apostolion a phroffwydi, seintiau a santesau; ie, a merthyron fwy na mwy. Ganddi hithau, fel y grefydd Gristionogol, y mae eglwysi a chapeli, pabau a phenaethiaid, ysgrythurau santaidd ac esbonwyr swyddogol, cenhadaeth dramor, cenhadaeth gartref, seiadau ac ysgolion Sul; ie, pob cyfrwys barodi o'r offeiriadaeth Gristionogol.<noinclude><references/></noinclude> 3jbkdfhanxm4s166gtxvz8bmhelpp53 Tudalen:Yr Argyfwng.djvu/38 104 82776 161662 2026-03-30T11:58:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 161662 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gallaswn hefyd ddyfynnu geiriau, gan ddau o brifathrawon ein Colegau Diwinyddol, yn gwawdio'r holl syniad o geisio adeiladu corff o ddiwinyddiaeth o gwbl. Yn un o bamffledi Urdd y Deyrnas y bu hynny, tua'r flwyddyn 1924. Y mae un o'r ddau awdur yn fyw yn awr i weld y newid rhyfedd a ddaeth erbyn heddiw; ac mi welais ysgrif ganddo yn y "Traethodydd" tua blwyddyn yn ôl yn pleidio, y tro hwn, yr angen am ddiwinyddiaeth. Gwych iawn, onidê? Nid yw hi byth yn rhy hwyr i gywiro barn. Y mae Karl Barth wedi cael ei ddylanwad, welwch chi. I ddychwelyd at O.M. Onid oedd ei lygad yn gweld yn gywir gyfewin? Gwir ddigon yw'r gair, ysywaeth—bod yma symud oddi wrth ddiwinyddiaeth cyn diwedd y ganrif o'r blaen, a bod y symud hwnnw wedi parhau'n bendramwnwgl am hanner canrif. Yr un pryd, ac am yr un rheswm, bu yma symud hefyd oddi wrth grefydd. Nid yr un peth yw crefydd a diwinyddiaeth. Gwir arall yw hynny eto. Ond, rhaid yw pwysleisio eu bod yn perthyn yn agos i'w gilydd, fel dwy chwaer. Gwneler cam ag un, ac fe ddioddefa'r ddwy. Symud oddi wrth grefydd a diwinyddiaeth—dyna'i brofi. Ond symud tuag at beth? Tuag at wyddoniaeth ydoedd awgrym O.M. Llawer o wir, a mwy nag a dybiech ar un olwg. A fyddwn i'n ei methu hi'n aruthr ped anturiwn ddywedyd mai Gwyddoniaeth—gyda llythyren fras, welwch chi—a ddisodlodd ddiwinyddiaeth (llythyren fach iawn!)—mai hi, yn wir, a fu crefydd myrdd o bobl yn y ganrif hon? Nid unig grefydd y ganrif hon, ond un ymysg amryw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3ajs1zwsbyw8of9yt4xn1ujkewvxllu