Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.22
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/208
104
82860
161802
161789
2026-03-31T12:42:48Z
AlwynapHuw
1710
161802
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENNOD X.
PERSONAU
Y Parch. Andrew Edwards; Elinor Evans (Elin Egryn); John Evans; Catherine Hughes; Dr. Arthur Jones; Edward Kenrick; Eos Llechid; Dr. Thomas Lloyd; John Llwyd; Gruffydd Owen; Hugh Owen; Plant Hugh Owen; Hugh Owen, Tal-y-bont; John Owen, Bronclydwr; Dr. John Owen; Lewis Owen; Morris Parry; Rhisiart Powel; Owen William; W. W. E. Wynne; Brodorion; Gwasanaeth—wyr Llys Lloegr; Siryfion; Aelodau Seneddol; Arglwydd—
Raglaw Meirion.
Y PARCH. ANDREW EDWARDS.
WELIR carreg fedd yr offeiriad gweithgar hwn yn hen fynwent Llanegryn. Ni bu'n dal dim math o swydd yn y plwyf, ond daliai gysylltiad â'r ardal drwy deulu ei wraig.
Priododd Timothy Edwards, Nanhoron, ag Ann, ferch ieuangaf Lewis Owen, Peniarth; a phriododd y Parch. Andrew Edwards ag Elisabeth, ferch Timothy Edwards, a thrwy hynny daeth ef i mewn i wehelyth Peniarth.
Ar un o'i ymweliadau â Pheniarth, sef ar y 5 o Fedi, 1763, a phan oedd wrth ei swper digwyddodd yn anffodus iddo lyncu asgwrn, a bu hynny yn achos ei farwolaeth ddiatreg ac alaethus. Adnabyddid ei fedd ar un adeg wrth yr enw "Bedd y dyn a dagodd," ond y mae hynny wedi mynd yn angof ers llawer blwyddyn. Gwelir ei fedd ar du'r gogledd i'r eglwys, yn ymyl bedd Hugh Owen, Tal-y-bont. Bu dwy garreg ar ei fedd; y mae'r hynaf yn gorwedd ar fur yr eglwys. Dywedir bod carreg fedd iddo hefyd ym mynwent Llangian, Llŷn.
Bu'n athro i Oronwy Owen, ac yn un o gefnogwyr Gruffydd Jones, Llanddowror. Dyheai'n fawr am swyddi. Bu farw flwyddyn yn gynt na'r dyddiad sydd ar ei garreg fedd.
184
HANES PLWYF LLANEGRYN
ELINOR EVANS (ELIN EGRYN).
185
Merch ydoedd i John a Rebecca Evans, Tyn-y-llan. Ganed hi ar y 12 o Dachwedd, 1807, a bedyddiwyd hi yn eglwys Llanegryn ar y 15 o'r un mis.
Dawn brin fu barddoni ymhlith ein hardalwyr. Prin fu cyfraniad y fro i farddoniaeth a llenyddiaeth ein cenedl. Dywedir bod y ddawn i rigymu yn naturiol yn nodwedd gyffredin i dalent yr ardal; arferai hen wragedd y pentref ffraeo â'i gilydd yn rhugl mewn rhigymau, a byddai rhigymu yn rhan hanfodol o ddonioldeb a difyrrwch y Noson Lawen a gynhelid yn nhyddynnod y plwyf. Ond ni ddatblygodd y ddawn yn rhan o lenyddiaeth ein cenedl ac eithrio un neu ddau. Llên gwerin ydoedd ar ei gorau ymhlith y werin.
Yr oedd Elin Egryn yn un o'r eithriadau, a saif hi ymhlith beirdd Cymru. Cyhoeddodd ddwy gyfrol fechan; y mae un ohonynt yn adnabyddus i feirdd Cymru o dan y teitl Telyn Egryn. Cyfrol fechan yw'r llall a gyhoeddwyd pan nad oedd hi yn ddim angen na geneth bedair ar ddeg oed.
Pa fodd y datblygodd y ddawn farddonol yn Elin Egryn? Etifeddodd ran o'r ddawn rigymu naturiol a ffynnai yn yr ardal, ac yr oedd diwylliant Cymreig ar ei haelwyd, ac yn ddiweddarach yn ei hoes daeth i gyfathrach â'r gŵr dawnus Gwilym Hiraethog. Yr oedd ef yn dad yng nghyfraith i'w brawd William Evans, Caer, a phan oedd hi'n gweini yn Lerpwl, ymaelodai yng nghapel Gwilym Hiraethog. Ac ef a'i perswadiodd i gyhoeddi Telyn Egryn, ac ymgymerodd yntau â'r gwaith o'i golygu; a cheir ei ddelw ar y penillion fel y maent yn y gyfrol. Y mae Telyn Egryn allan o brint ers llawer o flynyddoedd.
Bu Elin am gyfnod o'i hoes yng ngwlad y Gwyddel; ond daeth yn ôl i'w hen ardal, a chadwai fath o ysgol i ferched ieuainc yn Nhroed-y-rhiw. Dysgai hwynt yn arbennig i wnïo, a gwneuthur dillad i ferched a dynion. Cawsom gyfle lawer gwaith i gymdeithasu, ac i ymddiddan â rhai o'r hen chwiorydd a fu yn ei hysgol. Sylwasom y nodweddid bywyd
186
HANES PLWYF LLANEGRYN
a chymeriad y chwiorydd gan foneddigeiddrwydd urddasol a chariad cryf at grefftwaith a llenyddiaeth. Argraffodd ei phersonoliaeth yn ddwfn ar eu bywydau.
Bu farw yng Nghaer, yng nghartref ei brawd, yng ngwan—wyn 1876, a rhoddwyd ei chorff i orffwys ym mynwent y ddinas honno. Cofiwn amdani fel un o'r merched mwyaf dymunol a fagwyd yn Llanegryn.
Un o'i chaneuon yw "Myfyrdodau uwchben bedd Hugh Owen o Fronclydwr:
"Och athro ardderchog, ai yma mae'th drigfa? Rhyw syndod a'm llanwodd uwchben dy orweddfa; Mor ddirgel y llechi, mae'r llysiau bron cuddio Yr annedd ddiaddurn lle 'rwyt ti'n gorffwyso; Mudanaidd yw'r tafod fu gynt yn cyhoeddi Y ffordd i bechadur ochelyd trueni.
Ai yma gorweddi dan draed yr ynfydion
Yr hwn mae dy goffa'n ddifyrrwch gan ddoethion? Ar lwybr dy fywyd blodeuodd rhinweddau,
Y rhai sydd yr awron yn bêr eu haroglau; Er cryn erledigaeth, a thwrw bygythion,
Ni wyrwyd dy gamrau, ni lygrwyd dy goron.
Er amled dy wawdwyr, er cryfed eu byddin, Er carchar, ni siglwyd dy sêl dros dy Frenin; Gwroldeb goronodd dy holl ymdrechiadau, D'amynedd ni phallodd er amled y croesau; A'th bwys ar dy Briod wynebaist y tonnau, Dyrchefaist ei faner ynghanol y brwydrau.
Er maint anwadalwch fy meddwl crwydredig, Fe'i daliwyd wrth syllu ar d'annedd lygredig; Och, Owain ardderchog, paham ceir dy enw Ar garreg lwyd waeledd, ymhlith y rhai meirw? Oes modd dy ddihuno pe bloeddiwn yn uchel—Tyr'd allan oddiyna?—mae popeth yn dawel.
HANES PLWYF LLANEGRYN
Mae rhyddid trwy'r gwledydd, mae mwynder pregethu Mae mil o galonnau a garent dy gwmni;
Mae'r haul yn pelydru, fe ffodd y cymylau, Teyrnfradwyr dy Frenin daflasant eu harfau; Mae braidd yn rhyw syndod dy fod yn gorffwyso A'r gwaith heb ei orffen—mae'n bryd iti ddeffro.
Er dweud am felyster ein goruchel freintiau 'Does ond sŵn yr awel yn ysgwyd y llysiau; Ni chlywaf i'm hateb un llais o'r daeardy, Rwy'n ofni it' gyfarfod â pheth mwy na chysgu; A raid i mi adael dy wely mewn dagrau, Heb gael, er taer ymbil, un cyngor o'th enau?
Paham y dychmyga fy meddwl fath wagedd, 'Does yma ond mân lwch ei gorffyn mewn llygredd; Ymdrechodd deg ymdrech, ehedodd i wynfyd, Gorffennodd ei yrfa, coronwyd ef hefyd; Enillodd y rhyfel, ca'dd goncwest yn ddibrin, Boed dyfal fy ngweddi am gymorth i'w ddilyn."
187
Elin Egryn.
Y DEIGRYN.
Y deigryn yna, eneth dlos, Sy'n treiglo dros dy wridog rudd, I blith helyntion bore oes
Sy'n dwyn yn ôl fy meddwl prudd; Os chwythai'r byd ryw awel groes, Nes plygu i lawr fy meddwl llon, Cawn eli dagrau i wella'r loes, A golchi'r gofid o fy mron.
188
HANES PLWYF LLANEGRYN
Ni wyddwn fawr yr ennyd hon Am natur y gofidiau sydd Yn rhy wasgedig ar y fron, I'r deigryn wthio dros y rudd; Y dydd y gadewais gartref mad, Meddyliais nad oedd gofid mwy, O serch at deulu tŷ fy nhad, Hallt wylwn ar eu gyddfau hwy.
Ond amser dreiglai, twyll y byd A brofais innau'n fuan iawn; A gwasgwyd imi lawer pryd O ddyfroedd gofid, phiol lawn:
Y cartref aeth—y rhiaint cu
A guddiwyd yn y pridd mewn hedd, A chan y byw anghofiwyd fi,
yn y bedd.
Fel pe yn farw yn y
Yn awr edrychwn ar y byd, Heb ganfod cyfaill ynddo mwy, Pob cymorth ddarfu oll ynghyd, Gwrthodai'r deigryn dreiglo'n hwy; A'm gwedd yn syn, a'm bron yn friw, Eisteddwn dan oleuni'r lloer, I geisio marw wrth droed y rhiw, A'm calon fel y byd, yn oer.
Ond llygad cariad Brenin nef A'm canfu yn yr oriau hyn, A chennad fwyn anfonodd ef I'm harwain i Galfaria fryn; Wrth weled yno'm hannwyl Grist, Yn marw dros fy enaid prudd, Daeth serch yn ôl i'm calon drist, Ail dreiglai'r deigryn dros fy ngrudd.
HANES PLWYF LLANEGRYN
Rhyw deimlad newydd lanwai'm bron, Llonyddodd f'ofnau ar y pryd; O! henffych byth i'r funud hon, Anghofiais fy ngofidiau i gyd; Ac yma glynaf, Iesu mad,
I syllu ar dy wyneb gwyn;
Gad im â'm dagrau olchi'th draed,
A marw wrth gyflawni hyn.
OCHENAID.
Ochenaid, ai'th ddifyrrwch yw Datguddio briw fy mynwes? Er ymdrechiadau mwy na rhi, Ti fynni ddweud fy hanes.
'E lwyddodd ymdrechiadau gwych I gadw'n sych fy nwyrudd, Ond ni all dim dy atal di
I daenu dy adenydd.
Er ceisio cario wyneb iach,
A chelu afiach gwynion
Ti ddygi chwedl fod rhyw bwys
Yn gorffwys ar y galon.
Wrth gwrdd â chyfaill yma a thraw, Er estyn llaw yn llawen,
Dy chwedl yma mynni ddweud Er llwyr ddadwneud fy llonwen.
Ond er na fynni gelu'm brad, Wyd gufad i dy gofio;
Pan welwyf waethaf pawb o'r byd, Caf di i gydymdeimlo.
Ti wyddost fy nheimladau dwys, A dirfawr bwys fy mlinder; A mynych byddi'n dweud yn Mai buan derfydd amser.
brudd
189
Elin Egryn.
190
HANES PLWYF LLANEGRYN<noinclude><references/></noinclude>
po0cbfk0c1i15bsp55imor735qrlwke
161807
161802
2026-03-31T18:19:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161807
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD X.}}
PERSONAU}}
{{c|Y Parch. Andrew Edwards; Elinor Evans (Elin Egryn); John Evans; Catherine Hughes; Dr. Arthur Jones; Edward Kenrick; Eos Llechid; Dr. Thomas Lloyd; John Llwyd; Gruffydd Owen; Hugh Owen; Plant Hugh Owen; Hugh Owen, Tal-y-bont; John Owen, Bronclydwr; Dr. John Owen; Lewis Owen; Morris Parry; Rhisiart Powel; Owen William; W. W. E. Wynne; Brodorion; Gwasanaethwyr Llys Lloegr; Siryfion; Aelodau Seneddol; Arglwydd-Raglaw Meirion.}}
{{c|Y PARCH. ANDREW EDWARDS.}}
WELIR carreg fedd yr offeiriad gweithgar hwn yn hen fynwent Llanegryn. Ni bu'n dal dim math o swydd yn y plwyf, ond daliai gysylltiad â'r ardal drwy deulu ei wraig.
Priododd Timothy Edwards, Nanhoron, ag Ann, ferch ieuangaf Lewis Owen, Peniarth; a phriododd y Parch. Andrew Edwards ag Elisabeth, ferch Timothy Edwards, a thrwy hynny daeth ef i mewn i wehelyth Peniarth.
Ar un o'i ymweliadau â Pheniarth, sef ar y 5 o Fedi, 1763, a phan oedd wrth ei swper digwyddodd yn anffodus iddo lyncu asgwrn, a bu hynny yn achos ei farwolaeth ddiatreg ac alaethus. Adnabyddid ei fedd ar un adeg wrth yr enw "Bedd y dyn a dagodd," ond y mae hynny wedi mynd yn angof ers llawer blwyddyn. Gwelir ei fedd ar du'r gogledd i'r eglwys, yn ymyl bedd Hugh Owen, Tal-y-bont. Bu dwy garreg ar ei fedd; y mae'r hynaf yn gorwedd ar fur yr eglwys. Dywedir bod carreg fedd iddo hefyd ym mynwent Llangian, Llŷn.
Bu'n athro i Oronwy Owen, ac yn un o gefnogwyr Gruffydd Jones, Llanddowror. Dyheai'n fawr am swyddi. Bu farw flwyddyn yn gynt na'r dyddiad sydd ar ei garreg fedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
784hbfdbd8mu3rev7ovp0gdhytsh1du
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/211
104
82871
161803
2026-03-31T16:40:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161803
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae rhyddid trwy'r gwledydd, mae mwynder pregethu
Mae mil o galonnau a garent dy gwmni;
Mae'r haul yn pelydru, fe ffodd y cymylau,
Teyrnfradwyr dy Frenin daflasant eu harfau;
Mae braidd yn rhyw syndod dy fod yn gorffwyso
A'r gwaith heb ei orffen-mae'n bryd iti ddeffro.
Er dweud am felyster ein goruchel freintiau
'Does ond swn yr awel yn ysgwyd y llysiau;
Ni chlywaf i'm hateb un llais o'r daeardy,
Rwy'n ofni it' gyfarfod â pheth mwy na chysgu;
A raid i mi adael dy wely mewn dagrau,
Heb gael, er taer ymbil, un cyngor o'th enau?
Paham y dychmyga fy meddwl fath wagedd,
'Does yma ond mân lwch ei gorffyn mewn llygredd;
Ymdrechodd deg ymdrech, ehedodd i wynfyd,
Gorffennodd ei yrfa, coronwyd ef hefyd;
Enillodd y rhyfel, ca'dd goncwest yn ddibrin,
Boed dyfal fy ngweddi am gymorth i'w ddilyn."
{{bwlch}}—Elin Egryn.
</poem>
{{Div end}}

{{c|Y DEIGRYN.}}
{{Center block/s}}
<poem>
Y deigryn yna, eneth dlos,
Sy'n treiglo dros dy wridog rudd,
I blith helyntion bore oes
Sy'n dwyn yn ôl fy meddwl prudd;
Os chwythai'r byd ryw awel groes,
Nes plygu i lawr fy meddwl llon,
Cawn eli dagrau i wella'r loes,
A golchi'r gofid o fy mron.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
av861uuoa42gagozz09o1nybwwyvsh9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/212
104
82872
161804
2026-03-31T16:42:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161804
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ni wyddwn fawr yr ennyd hon
Am natur y gofidiau sydd
Yn rhy wasgedig ar y fron,
I'r deigryn wthio dros y rudd;
Y dydd y gadewais gartref mad,
Meddyliais nad oedd gofid mwy,
O serch at deulu tŷ fy nhad,
Hallt wylwn ar eu gyddfau hwy.
Ond amser dreiglai, twyll y byd
A brofais innau'n fuan iawn;
A gwasgwyd imi lawer pryd
O ddyfroedd gofid, phiol lawn:
Y cartref aeth—y rhiaint cu
A guddiwyd yn y pridd mewn hedd,
A chan y byw anghofiwyd fi,
Fel pe yn farw yn y bedd.
Yn awr edrychwn ar y byd,
Heb ganfod cyfaill ynddo mwy,
Pob cymorth ddarfu oll ynghyd,
Gwrthodai'r deigryn dreiglo'n hwy;
A'm gwedd yn syn, a'm bron yn friw,
Eisteddwn dan oleuni'r lloer,
I geisio marw wrth droed y rhiw,
A'm calon fel y byd, yn oer.
Ond llygad cariad Brenin nef
A'm canfu yn yr oriau hyn,
A chennad fwyn anfonodd ef
I'm harwain i Galfaria fryn;
Wrth weled yno'm hannwyl Grist,
Yn marw dros fy enaid prudd,
Daeth serch yn ôl i'm calon drist,
Ail dreiglai'r deigryn dros fy ngrudd.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ep0ujb1ylbkldbl33qqrrc7lxvyc3jm
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/213
104
82873
161805
2026-03-31T16:44:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161805
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Rhyw deimlad newydd lanwai'm bron,
Llonyddodd f'ofnau ar y pryd;
O! henffych byth i'r funud hon,
Anghofiais fy ngofidiau i gyd;
Ac yma glynaf, Iesu mad,
I syllu ar dy wyneb gwyn;
Gad im â'm dagrau olchi'th draed,
A marw wrth gyflawni hyn.
{{bwlch}}—Elin Egryn.
</poem>
{{Div end}}

{{c|OCHENAID.}}
{{Center block/s}}
<poem>
Ochenaid, ai'th ddifyrrwch yw
Datguddio briw fy mynwes?
Er ymdrechiadau mwy na rhi,
Ti fynni ddweud fy hanes.
'E lwyddodd ymdrechiadau gwych
I gadw'n sych fy nwyrudd,
Ond ni all dim dy atal di
I daenu dy adenydd.
Er ceisio cario wyneb iach,
A chelu afiach gwynion
Ti ddygi chwedl fod rhyw bwys
Yn gorffwys ar y galon.
Wrth gwrdd â chyfaill yma a thraw,
Er estyn llaw yn llawen,
Dy chwedl yma mynni ddweud
Er llwyr ddadwneud fy llonwen.
Ond er na fynni gelu'm brad,
Wyd gufad i dy gofio;
Pan welwyf waethaf pawb o'r byd,
Caf di i gydymdeimlo.
Ti wyddost fy nheimladau dwys,
A dirfawr bwys fy mlinder;
A mynych byddi'n dweud yn brudd
Mai buan derfydd amser.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
01sqdozp16vm89pac1lzvpkjkipm3of
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/210
104
82874
161806
2026-03-31T16:47:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161806
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a chymeriad y chwiorydd gan foneddigeiddrwydd urddasol a chariad cryf at grefftwaith a llenyddiaeth. Argraffodd ei phersonoliaeth yn ddwfn ar eu bywydau.
Bu farw yng Nghaer, yng nghartref ei brawd, yng ngwan—wyn 1876, a rhoddwyd ei chorff i orffwys ym mynwent y ddinas honno. Cofiwn amdani fel un o'r merched mwyaf dymunol a fagwyd yn Llanegryn.
Un o'i chaneuon yw "Myfyrdodau uwchben bedd Hugh Owen o Fronclydwr:
{{Center block/s}}
<poem>
"Och athro ardderchog, ai yma mae'th drigfa?
Rhyw syndod a'm llanwodd uwchben dy orweddfa;
Mor ddirgel y llechi, mae'r llysiau bron cuddio
Yr annedd ddiaddurn lle 'rwyt ti'n gorffwyso;
Mudanaidd yw'r tafod fu gynt yn cyhoeddi
Y ffordd i bechadur ochelyd trueni.
Ai yma gorweddi dan draed yr ynfydion
Yr hwn mae dy goffa'n ddifyrrwch gan ddoethion?
Ar lwybr dy fywyd blodeuodd rhinweddau,
Y rhai sydd yr awron yn bêr eu haroglau;
Er cryn erledigaeth, a thwrw bygythion,
Ni wyrwyd dy gamrau, ni lygrwyd dy goron.
Er amled dy wawdwyr, er cryfed eu byddin,
Er carchar, ni siglwyd dy sêl dros dy Frenin;
Gwroldeb goronodd dy holl ymdrechiadau,
D'amynedd ni phallodd er amled y croesau;
A'th bwys ar dy Briod wynebaist y tonnau,
Dyrchefaist ei faner ynghanol y brwydrau.
Er maint anwadalwch fy meddwl crwydredig,
Fe'i daliwyd wrth syllu ar d'annedd lygredig;
Och, ''Owain'' ardderchog, paham ceir dy enw
Ar garreg lwyd waeledd, ymhlith y rhai meirw?
Oes modd dy ddihuno pe bloeddiwn yn uchel—
Tyr'd allan oddiyna?—mae popeth yn dawel.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
8rhajjkbfzqdflvmpvostwtx1rhqkvb
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/209
104
82875
161808
2026-03-31T18:19:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161808
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|ELINOR EVANS (ELIN EGRYN).}}
Merch ydoedd i John a Rebecca Evans, Tyn-y-llan. Ganed hi ar y 12 o Dachwedd, 1807, a bedyddiwyd hi yn eglwys Llanegryn ar y 15 o'r un mis.
Dawn brin fu barddoni ymhlith ein hardalwyr. Prin fu cyfraniad y fro i farddoniaeth a llenyddiaeth ein cenedl. Dywedir bod y ddawn i rigymu yn naturiol yn nodwedd gyffredin i dalent yr ardal; arferai hen wragedd y pentref ffraeo â'i gilydd yn rhugl mewn rhigymau, a byddai rhigymu yn rhan hanfodol o ddonioldeb a difyrrwch y Noson Lawen a gynhelid yn nhyddynnod y plwyf. Ond ni ddatblygodd y ddawn yn rhan o lenyddiaeth ein cenedl ac eithrio un neu ddau. Llên gwerin ydoedd ar ei gorau ymhlith y werin.
Yr oedd Elin Egryn yn un o'r eithriadau, a saif hi ymhlith beirdd Cymru. Cyhoeddodd ddwy gyfrol fechan; y mae un ohonynt yn adnabyddus i feirdd Cymru o dan y teitl Telyn Egryn. Cyfrol fechan yw'r llall a gyhoeddwyd pan nad oedd hi yn ddim angen na geneth bedair ar ddeg oed.
Pa fodd y datblygodd y ddawn farddonol yn Elin Egryn? Etifeddodd ran o'r ddawn rigymu naturiol a ffynnai yn yr ardal, ac yr oedd diwylliant Cymreig ar ei haelwyd, ac yn ddiweddarach yn ei hoes daeth i gyfathrach â'r gŵr dawnus Gwilym Hiraethog. Yr oedd ef yn dad yng nghyfraith i'w brawd William Evans, Caer, a phan oedd hi'n gweini yn Lerpwl, ymaelodai yng nghapel Gwilym Hiraethog. Ac ef a'i perswadiodd i gyhoeddi Telyn Egryn, ac ymgymerodd yntau â'r gwaith o'i golygu; a cheir ei ddelw ar y penillion fel y maent yn y gyfrol. Y mae Telyn Egryn allan o brint ers llawer o flynyddoedd.
Bu Elin am gyfnod o'i hoes yng ngwlad y Gwyddel; ond daeth yn ôl i'w hen ardal, a chadwai fath o ysgol i ferched ieuainc yn Nhroed-y-rhiw. Dysgai hwynt yn arbennig i wnïo, a gwneuthur dillad i ferched a dynion. Cawsom gyfle lawer gwaith i gymdeithasu, ac i ymddiddan â rhai o'r hen chwiorydd a fu yn ei hysgol. Sylwasom y nodweddid bywyd<noinclude><references/></noinclude>
flhgnmx8dklq5mlzac2oplte3huww3x
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/207
104
82876
161809
2026-03-31T18:28:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161809
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|HEN BENILLION.}}
{{center block|
<poem>
Tra bo gwenith yn y Creuddyn,
Tra bo rhyg ym mhlwyf Llanegryn;
Tra bo haidd yn Abergelau,
Carai'r eneth dirion ruddiau.
::—Rhys Jones o'r Blaenau.
</poem>

{{center block|
<poem>
Fy nhaid oedd yn Llanbed' yn berson, wr hardd,
Fy hendaid yn Llanfair yn berson a bardd,
A minnau wyf beunydd a chur dan fy mron
Yn glochydd Llanegryn a'm pwys ar fy ffon.
::—Lewis Hartley, Glanmachlas.
</poem>

{{center block|
<poem>
Mae bachgen yn Llanegryn yn 'sgolor doeth a llon,
A fedr fesur tiroedd a gwneuthur dial gron;
Gall fesur Cadair Idris yn gywir yn ei lle,
Nid oes yn Sir Feirionnydd yr un o'i debyg e'.
</poem>

{{c|LLYFRAU}}
* Dogfennau Peniarth.
* Edwards, Ifan ab Owen: A Catalogue of Star Chamber Proceedings Relating to Wales. Cardiff, 1929.
* Glasynys: [[Cymru Fu (testun cyfansawdd)|Cymru Fu.]] Wrecsam, 1882.
* J. W. W. and H. A. C. Two former Curates: Memoir of Father Jones, Cardiff. London, 1907.
* Jones, Emyr Gwynne: Exchequer Proceedings (Equity) Concerning Wales. Cardiff, 1939.
* Jones, John Morris: Bardd Cwsc. Bangor, 1898.
* Llyfr Bedyddiadau Eglwys Llanegryn.
* Owen, Rice Jones: Gwaith Prydyddawl Rhys Jones o'r Blaenau. Dolgellau, 1818.
* Parry-Williams, T. H.: Hen Benillion. Gwasg Aberystwyth, 19
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5qf74uzbk09nf6bdak9gf9udmaowko8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/206
104
82877
161810
2026-03-31T19:36:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161810
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>
{{c|Y BEIBL AC OFERGOELIAETH. }}
Defnyddid y Beibl gynt i amcanion a ystyrir erbyn hyn yn ofergoel.
{{c|PENNOD RWTH.}}
Bu darllen pennod Rwth yn arferiad pur gyffredin. Pan amheuid gŵr o fod yn euog o gyflawni gweithred ddrwg, rhoddid allwedd y drws ar yr unfed adnod ar bymtheg o'r bennod gyntaf o Lyfr Rwth, a darllenid y bennod; os byddai'r gŵr a ddrwg-dybid yn euog troai'r allwedd ar y Beibl.
{{c|GOSTWNG YSBRYD.}}
Os aflonyddai ysbryd ar heddwch unrhyw ddyn neu deulu, y ffordd effeithiol i ostwng yr ysbryd fyddai darllen y Beibl yn ei wyddfod. Clywsom am Dafydd Dafis, y gof, a William Williams, y teiliwr, yn mynd yn wrol i ostwng ysbryd yn wtre Pencraig. Cariai Dafydd y Beibl, o dan ei gesail, a dygai William gannwyll yn ei ddwrn. Ysgythrodd rhywbeth yn wichlyd drwy'r gwrych wrth eu hymyl, a dychwelodd y ddau wron yn eu hôl yn chwys diferol.
{{c|CYFRIF YR EDAU.}}
Pan ofnai rhyw ddioddefydd fod y cryd melyn yn ei flino, gwelid ef yn ei choesio at wraig hysbys yn holl gyfrinion yr afiechyd. A'r modd diffael i wybod a oedd y dioddefydd yn dioddef oddi wrth yr afiechyd, oedd mynd ati i gyfrif yr edau, a sisial yn ddirgel adnodau o'r Salmau. Os digwyddai i'r edau fyrhau yr oedd yn arwydd sicr fod yr afiechyd arno. Mesurid ag edau wlân, a rhwymid hi am goes y dio-ddefydd; ac fel y gwellai'r afiechyd, ymestynnai'r edau nes syrthio oddi ar y goes.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5nrbnjxwcabv2irgd6huvtc2mnhkkzg
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/205
104
82878
161811
2026-03-31T19:37:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161811
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a rhyddhad i'r truan o afaelion caled y Diafol, ac i eiriol ar ei ran am i Dduw o'i drugaredd estyn gwaredigaeth i'w gorff a'i enaid. Golygfa gyffrous a welid yn yr ystafell y cynhelid y cwrdd gweddi ynddi. Teimlai'r gŵr ryw ddirfawr faich a gofid yn ei lethu, ac ocheneidiai'n drwm a dwys yn ei gadair yng nghornel yr aelwyd; a gweddiai ei gyfeillion yn gyffrous dros y truan gofidus a thrymlwythog. Clywsom ŵr yn adrodd iddo weled yr olygfa a'i ddau lygad ei hun mewn tŷ ym mhentref Llanegryn. Daeth torf ynghyd i'r amcan cynhyrfus, a daeth y gŵr anffodus, a drawodd y fath fargen â'r Diafol, yn rhydd o afaelion ei feistr newydd, ac o ddwylo ei hen ofynwyr yr un pryd.
{{c|SWYN LLAW FARW}}
Credid y meddai llaw un a fu farw ar ryw swyn a hud i guddio'r neb a'i cariai rhag llygad dyn. Clywsom am ddyn ieuanc a dorrodd ymaith law ei nain, ac a'i cludai yn ei fynwes ei hun i berwylion drygionus. Credid nad oedd dyn mewn unrhyw berygl o gael ei ddal os byddai llaw dyn marw yn ei feddiant, ac y gellid yn berffaith ddiogel dorri i mewn i dai a lladrata ac anrheithio oddi yno heb i lygad y byw ganfod hynny. Yr oedd dydd golau glân mor ddiogel â chanolnos yng nghwmni'r llaw farw.
{{c|CALON CATH DDU}}
Swyn a hud effeithiol arall er mwyn cuddio dyn rhag golygon ei gyd-ddyn oedd rhoddi carreg wen yng nghalon cath ddu. Gallai dyn os meddai'r hud hwn yn ei feddiant ddiflannu allan o olwg dynol, ar unrhyw adeg, ac mewn unrhyw le.
{{c|FFON DDU.}}
Hudlath o ffon ddu a alluogai unrhyw un i'w ddiogelu ei hun bob amser trwy daflu ei swyn drosto nes ei guddio yn llwyr o olwg pawb.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
81wbgvca1wwpber3tje0e52z14nu79u
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/204
104
82879
161812
2026-03-31T19:38:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161812
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>(1) I wybod pwy a reibiodd ddyn neu blentyn rhaid oedd torri ewinedd y rheibiedig a'u rhoddi mewn papur a'u taflu i'r tân, a thra byddai'r ewinedd yn llosgi, deuai'r sawl a fu'n rheibio i'r tŷ mewn dygn boenau.
(2) I wybod pwy a reibiodd anifail rhaid oedd tynnu calon yr anifail a'i phigo â phinnau, neu â phigau drain, a gorau oll, ei rhoddi mewn ffwrn i'w rhostio. Gwnâi hynny'r ddewines a achosodd y drygwaith yn annioddefol ei chyflwr, a byddai'n rhaid iddi ddyfod at y galon. Trawsymffurfiai ambell hen wits ei hun ar ffurf milgi neu ysgyfarnog ysgafndroed, a rhuthrai i ddwyn y galon ymaith; a buan y byddai cŵn y fro yn ei hymlid, ac os digwyddai i un o'r cŵn roddi ei ddant yn y milgi neu'r ysgyfarnog, gwelid yr archoll ar gorff yr un a achosodd y gyfaredd ddrwg.
Credai dynion diwylliedig y fro mewn dewiniaeth, ac adroddid pethau anhygoel fel gwirioneddau sicr. Ond diolch fod yr ofergoel wedi diflannu o'n hardal.
{{c|RHWYLL}}
Adroddid am ryw fod neu ysbryd dieithr a elwid yn Rhwyll. Yr oedd ei gampau ef yn debyg i gampau rheibio. Ond hoffai'r bod hwn bob amser chwarae â rhawn neu fwng y meirch, neu edafedd y gwragedd gweu. Profid amynedd y gŵr a edrychai ar ôl y ceffylau os digwyddai Rhwyll wneuthur ei ddichellion ar fwng ei feirch ac yntau ar frys yn cychwyn at ei waith. Anodd fyddai cael dim trefn ar y mwng ar ôl i ewinedd y Rhwyll fod arno.
{{c|GWERTHU EI HUN I'R DIAFOL}}
Clywsom gan hen breswylwyr y plwyf am arferiad rhyfedd a ffynnai yn y gymdogaeth tua dechrau'r ganrif ddiwethaf. Os digwyddai dyn fynd i anhawster ariannol, a methu â thalu ei ddyledion, yr oedd ganddo ffordd od i ddyfod allan o'i benbleth trwy ei werthu ei hun i'r Diafol. Trwy gyflawni'r weithred hon deuai'n rhydd o ofynion ei echwynwyr. Cyfrifid y weithred yn un feiddgar a dychrynllyd, a chreai anesmwythyd drwy'r holl ardal. Trefnai'r saint gwrdd gweddi i erfyn am ollyngdod<noinclude><references/></noinclude>
bqordurnhs2g2t9mlibafgiasykspl1
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/203
104
82880
161813
2026-03-31T19:39:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161813
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|WITSIO}}
Dyma aflwydd y bu'r ardal yn drwm yn ei afaelion am gan-rifoedd; ond y mae ei arswyd wedi cilio'n llwyr o'r gymdogaeth ers cryn amser bellach. Yr oedd rheibio'n digwydd yn feunyddiol yn rhywle neu'i gilydd yn yr ardal. Y mae Gwilym Hiraethog yn cyfeirio yn un o'i lyfrau at helyntion dewinio ardal Llanegryn. Edliwid dau ddrwg i'n bro, eu bod yn witswyr erioed, ac yn lladron coed.
Fel rheol hen wragedd oedd yn ddwylo medrus ar y ddawn o witsio; ni chlywsom am yr un dyn yr honnid y ddawn hon iddo. Honnid bod John Evans, Tyn-y-llan, yn dipyn o ddewin, a chlywsom am un dyn o'r enw Roberts yn byw yn un o'r Trychiadau a oedd yn ddewin; symudodd ef i Sir Drefaldwyn. Bu gan ddynion y fro law lân cyn belled ag yr oedd rheibio'n bod. Dadwneuthur rheibiaeth yr hen wragedd oedd eu gorchwyl hwy fel rheol.
Yn ôl traddodiad lleol, tua siroedd Amwythig a Threfaldwyn y cyrchai pobl Llanegryn at ddewiniaid i gael yr anffodusion yn rhydd o gyfaredd y neb a'u rheibiodd. Mewn achosion llai niweidiol na'i gilydd cyrchid at ddewinwyr a drigai'n nes adref. Pan ddirdynnid dyn neu blentyn gan y gyfaredd greulon, teithid un adeg at ddewin cyn belled â Sir Amwythig, a chychwynnid i'r daith bell gan ambell dad ar ôl gweithio diwrnod caled o waith. Yr oedd yr adeg honno cyn dyddiau'r gŵr hysbys o Langurig. Ond bu cyrchu cymharol ddiweddar i gyfeiriad Pumlumon gan wŷr o'r gymdogaeth.
Byddai dylanwad y gyfaredd ddrwg yn disgyn ar ddyn ac anifail, ac ar bopeth a fyddai at wasanaeth dyn. Clywid byth a hefyd fod rhyw ddyn, neu ryw blentyn neu'i gilydd wedi ei daro'n sydyn gan afiechyd rhyfedd, a bod damwain wedi digwydd i ryw anifail, a rhyw anghaffael wedi digwydd i'r corddi neu'r pobi mewn rhyw amaethdy a hynny bob dydd, a llawer gwaith yn y dydd yn aml.
Dywedid mai po hynawsaf fyddai'r dyn neu'r plentyn mai rhwyddaf yn y byd y rheibid ef.
Dywaid traddodiad fod dwy ffordd yn bosibl i ddyfod o hyd i bwy a fu wrth y drygwaith.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
e2sz6jgmh7uug7kxl37j8nj6dprz9gu
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/202
104
82881
161814
2026-03-31T19:40:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161814
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Deuai serchogrwydd hyd yn oed o furiau'r plas gorwych, a rhoddai pob dodrefnyn ryw esmwythyd swynol i'w ysbryd. Ni bu raid iddo ond prin yngan ei bris nad oedd yn ei ddwylo, ond ni chafodd ddim i'w fwyta yn sych nac yn wlyb. Arweiniwyd ef yn ei ôl yn dirion at enau'r ogof, a chafodd ei gymydog yn yr un fan â phan adawodd ef wedi ei syfrdanu'n llwyr oherwydd ei ddiflaniad sydyn a disymwth. Aeth y ddau yn eu hôl tuag adref fel rhai wedi ennill eu bywyd o enau marwolaeth, a'u rhyddhau o afaelion caethiwed. Yn ôl traddodiad Llanegryn yr oedd gwahaniaeth rhwng Tylwyth Teg a'i gilydd. Cartrefai un gangen arbennig o'r Tylwyth Teg yng nghymdogaeth Ffynnon Cadlad a Ffynnon Rhoserth (neu'n ôl rhai Ffynon Rosel). Saif y ffynnon hon yn agos i hen furddun Brynrhoserth, sy'n sefyll ar dir Hafoty. Ceir hanes am un ohonynt yn gweinyddu fel meddyg ar wraig ar amser genedigaeth. Yn ddiarwybod ymolchodd gŵr y tŷ yn yr un dŵr â'r meddyg, a digwyddodd i'r dŵr fynd i un o'i lygaid, ond ni theimlodd y gŵr fod dim wedi digwydd ar y pryd i'w lygad. Ymhen hir a hwyr aeth ar neges i un o ffeiriau Dolgellau, a gwelodd y meddyg yn pasio drwy'r dorf, a chyfarchodd well iddo'n serchog. Sorrodd y meddyg wrtho'n chwerw, a gofynnodd yn sarrug â pha lygad y gwelai ef. Atebodd yntau mai â'i lygad chwith, a thynnodd y meddyg ei lygad allan o'i ben ar amrantiad. A'r pryd hwnnw y deallwyd mai un o hil y Tylwyth Teg oedd y meddyg, ac y gallai ymlwybro ymhlith dynion heb fod yn weledig iddynt. Swynodd y dŵr lygad y gŵr fel y gwelai holl gyfrinion cudd byd y Tylwyth Teg.
Gallai Tylwyth Teg Ffynnon Cadlad drawsymffurfio'n hil ddynol pan fyddai arnynt eisiau ymgyfathrachu â dynion. Adroddid hefyd am wraig fechan a berthynai i hil y Tylwyth Teg, a gartrefai yng nghymdogaeth y Llwyn. Gallai hithau hefyd ymddangos a diflannu fel y dymunai heb wybod i neb. Byddai'n hoff o fara ceirch, a deuai'n feunyddiol at drothwy un o dai'r Llwyn i ofyn yn Gymraeg am fenthyg y radell at grasu torth geirch. Dychwelai'r radell yn ffyddlon fel yr addawsai hi, a rhoddai dorth geirch beraidd ei blas bob tro i'r wreigdda am ei benthyg.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
br0dx9e4xcck57cjm8yeknqufgjvcs8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/201
104
82882
161815
2026-03-31T19:40:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161815
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn fwy na'r llyn hwyaid oedd ger ei gartref.
Cyrhaeddodd dref Dolgellau, a dechreuai'r ffair fywiogi. Yr oedd y porth-myn ar eu gorau yn arfer eu huawdledd er ceisio prynu am y pris isaf, a'r gwerthwyr o'r tu arall a'u doniau'n llithrig er ceisio gwerthu am y pris uchaf.
Wedi methu â darbwyllo neb mai ei geffyl ef oedd y gorau yn y ffair, meddiannwyd yr amaethwr gan gryn ddigalondid. Sylweddolodd am y tro cyntaf fod yr un effaith yn hollol ar y ceffyl; a gwelodd fod awr y gwerthu wedi mynd heibio pan wrthododd gynnig y gŵr dieithr ar y mynydd, a throi tuag adref a wnaeth y truan a'i geffyl i'w ganlyn. Cyrhaeddodd Lanegryn yn hwyr o'r nos, ac wedi i'w wraig gyd-gyfranogi ag ef o'i siomedigaeth o fethu â gwerthu'r ceffyl, adroddodd wrthi mai'r cynnig gorau a gafodd oedd gan ŵr dieithr ar lethrau Esgair Berfedd, a dywedodd am y modd y dymunodd ar iddo ei gyfarfod bore drannoeth os digwyddai fethu â gwerthu'r ceffyl.
Yr oedd Esgair Berfedd a'r gymdogaeth yn hysbys iawn i'r ddau fel cartrefi'r Tylwyth Teg, ac ni buont yn fyr o feddwl y gallai'r gŵr dieithr fod yn un ohonynt. Ond gan mai pris da am y ceffyl a oedd arnynt ei eisiau, penderfynwyd mynd i'w gyfarfod yn unol â'i gais. Credai'r amaethwr yn ei galon fod ei geffyl wedi ei ledrithio eisoes ganddynt. Ni allai feddwl am fynd ei hunan, oherwydd ofnai ei fod ef ei hun yn yr un cyflwr â'i geffyl. Rhaid oedd cael cwmni cymydog rhadlon, ac yng nghwmni ei gilydd aethant at Esgair Berfedd erbyn naw o'r gloch y bore. Daeth y gŵr dieithr i'w gyfarfod yn ôl ei addewid. Pan gyrhaeddodd, llaesodd calon yr amaethwr o'i fewn, ond llamodd calon y ceffyl. Gydag awdurdod gorchmynnodd y dieithr-ddyn i'r amaethwr ei ddilyn a'i geffyl i'w ganlyn. Deisyfai yntau am gael cwmni ei gymydog, ond gwrthodwyd hynny'n bendant. Daethpwyd at enau ogof, pryd y gorchmynnodd y gŵr dieithr iddo yn llym beidio mewn un modd yn y byd â chyffwrdd â dŵr y fangre dan-ddaearol. Cyrhaeddwyd yn union i heol hardd, ac i neuaddau ysblennydd, ac fel yr âi'n bellach bellach i mewn, deuai rhyw hapusrwydd perlewygol yn eiddo iddo. Yr oedd pawb yn siriol a charedig wrtho.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
3buwh0lyfr1b471quexo9h9rdivij6s
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/200
104
82883
161816
2026-03-31T19:41:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161816
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>geffylau i dyddynwyr Llanegryn pan fyddent yn mynd a dod i ffeiriau Dolgellau. Dyma chwedl yr adroddid llawer arni hyd o fewn hanner can mlynedd yn ôl, ac nid yw amser wedi ei hysbeilio o'i chywreinrwydd.
Âi un o amaethwyr y fro â cheffyl i'w werthu i un o ffeiriau Dolgellau. Arweiniai ei lwybr dros y Ffordd-ddu. Wedi dringo i ben Blaen-y-bwlch-oer, ymegyr gweundir Rhyd-cryw ymlaen i Bant Gwely'r Meibion; ar y ddeau ymgyfyd Esgair Berfedd, ac ar y chwith ymddyrchaif Pen-y-garn. Rhed afon Cwm-llwyd ar waelod y dyffryn, ac ymuna nentydd Nantysberi a Nant-y-gwddw â hi gan chwyddo ei dyfroedd a chryfhau ei sŵn. A'r fangre hon oedd un o brif froydd y Tylwyth Teg. Gwŷr meirch oedd Tylwyth Teg y mynydd-oedd uchel hyn, a meddai'r meirch ar holl nodweddion y Tylwyth Teg eu hun.
Arwain y Ffordd-ddu ar hyd ochr Llanegryn i'r gweundir, a thywysai'r amaethwr ei geffyl ar hyd-ddi yng nghysgodion y bryniau heb ddim i darfu ar ei fyfyrdodau ond sŵn y cornentydd yn treiglo i lawr am y môr a brefiadau'r defaid mân. Breuddwydiai am ddynion rhadlon yn edmygu ei geffyl ac yn cynnig pris uchel iddo amdano, a chyflymai hynny ei gamau am y ffair. Ond yn unigrwydd Nantysberi troes ei freuddwydion yn gyffro gan gyfarchiad sydyn gŵr dieithr. Holai am bob manylion ynghylch ei geffyl mewn geiriau ac ysbryd dymunol, a cheisiai ei brynu; ond gan nad oedd yn barod i daro ar bris yr amaethwr, gwell oedd ganddo ef fynd ymlaen am y ffair er mwyn cael gwell cyfleustra am ei bris. Wrth ymadael dymunai'r gŵr dieithr arno, os methai â'i werthu, ac os bodlon ganddo ei gynnig ef, ddyfod i'w gyfarfod i'r man erbyn naw o'r gloch y bore drannoeth.
Aeth yr amaethwr yn ei flaen heb sylwi ar fawr o ddim ar y dde na'r aswy law. Yr oedd ei holl freuddwydion yn y ffair a'i phethau. Ni welai ddim yn ddwyfol yn yr hen Gader Idris yn codi ei chopa uwchlaw'r bryniau i agor y cwmwl i eneinio dyffryn a dôl, dyn ac anifail a gwlithlaw hyfrydlon; ac wrth basio Llyn Gwernen ar ei chwith ynghanol y bryniau, ni chanfyddai ddim ynddo yntau ond ei fod dipyn<noinclude><references/></noinclude>
8k9r8ndr9bzifrpowv5ja9g6dt0ags1
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/178
104
82884
161817
2026-03-31T19:41:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD IX}}}} {{Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nos-weithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedig-aethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion. }} {{c|GWYLLIAID Y F...
161817
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IX}}}}
{{Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nos-weithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedig-aethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion. }}
{{c|GWYLLIAID Y FFORDD-DDU}}
MAE'N sicr bod gwylltineb anwar yn nodweddu bywyd cymdeithasol ardaloedd gwledig Meirion yn yr ail ganrif ar bymtheg. Cartrefai gwylliaid yng ngheseiliau cymoedd cudd y mynyddoedd, gan ddisgwyl am ryw ysglyfaeth neu'i gilydd i syrthio i'w dwylo, a rhuthrent yn sydyn o'u cuddfeydd ar bersonau ac eiddo preswylwyr y dyffryn-noedd a'r gwastadeddau ar adegau llwm a chaled. Creai atgof am wylliaid y Ffordd-ddu ofn a dychryn ar ysbrydoedd dynion hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Cyfrifid gŵr yn wrol os anturiai dros y mynydd i Ddolgellau ar hyd y Ffordd-ddu, os oedd ganddo ychydig o arian yn ei boced. Gwyliadwrus a fyddai'r ehofnaf, gwyliai lwybrau'r lladron o gwm i gwm, ac o drum i drum, a gwibiai ei lygaid fel mellt o nant i nant, ac o drofa i drofa.
Bu tylwyth crwydrol, heb gartref arbennig, yn byw ar fynyddoedd godre Cader Idris; llochesent ym murddunnod hen Hafotai a oedd heb lwyr ddadfeilio ar yr hysfeydd. Cofiai'n tadau'n dda am yr olaf ohonynt. Hen ferch ydoedd a chysgodai rhag gerwinder y gwynt a'r glaw mewn magwyrydd adfeiliedig. Gwasgai angerdd y ddrycin hi at drothwy tai godre'r mynydd i ymofyn am damaid a llymaid.
Parai enwi Deio'r Ffowlar Du a Deio'r Twca Du gryn gyffro mewn cwmni. Y mae'n wir ddarfod rhoddi'r enwau
Q
hyn ar amryw gymeriadau'r mynydd-dir, ac nad oedd ar rai ohonynt fawr o ysfa am ddim mwy na herwhela a chrwydro. Nid oedd yr olaf a elwid yn Deio'r Ffowlar Du yn ddim angen na herwhelwr digon diniwed ar derfynau plwyfi Llanegryn a Chelynnin, a bu'r truan anghenus farw neu foddi mewn nant ar y mynydd. Disylw oedd ei darddiad ef wrth weithred-oedd ellyllig y Deio'r Ffowlar Du a fu'n frenin ar giwed greulon hen lwybrau'r mynyddoedd. A gŵr o'r un nwyd a dichell ag yntau oedd Deio'r Twca Du cyntaf. Cleddyf byr oedd y twca, a bu un ar gael am flynyddoedd wedi i'w berchennog fynd i ffordd yr holl ddaear. Dywedir mai yng Nghwm-ŷch y gwelwyd y Twca Du ddiwethaf.
Byddai rhuthriadau llechwraidd gan y gwŷr digydwybod hyn ar nosweithiau hirion a thywyll y gaeaf yn creu arswyd anaele ar wragedd a phlant yn yr hendrefi, ac anheddau'r gwaelodion, a dychwelent yn aml i'w llochesau a'u hanrhaith yn drwm. Ond nid dynion i ofni ac arswydo rhag yr ellyllon ysgeler oedd gwŷr y godreon a'r gwastadedd, a gadael iddynt gyflawni eu drygwaith yn ddiwarafun. Pan glywai clustiau meinion y bugeiliaid sŵn y gwylliaid yn symud dros ael y mynydd, codent eu cri gan alw ar y dewrion i'r gad, ac ar fyr amser byddai godreon y mynydd yn fyw gan wŷr traed, gwŷr meirch, a bytheiaid yn ymlid, a llawer ysgarmes waedlyd a fu rhwng y gwylliaid a thrigolion y fro. Gwyliwyd y gwyll-iaid lawer tro yn cludo eu meirwon a'u clwyfedigion ar doriad y wawr fore trannoeth yr heldrin i'w llochesau ar Allt-y-bedw a Phenbryn-y-foelas. Yr oedd tosturi a brawdoliaeth gref yn ffynnu ymhlith y gwylliaid eu hunain. Y mae anrhydedd, medd y ddihareb, ymhlith lladron. Cyd-ocheneidient yn sŵn dioddefaint ei gilydd, ac aberthent eu gwaed yn rhwydd er mwyn eu brodyr. Crwydrent hefyd filltiroedd lawer i hela cynhaliaeth i'w cymdeithion anffodus.
Enwau rhai o wylliaid y Ffordd-ddu ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg oedd, William Dafydd Goch, Huw ap Morris a Samuel William. Trigiannai William Dafydd Goch yn Nhir-y-pymtheg yn 1613, ond y rhan fynychaf, hoffai gael ei draed ar dir Llanegryn. Mangre a garai oedd
Q
Geufron-hen a'r Foel Drefa, a Phantllwyfog ar odre'r Foel, sef ar lwybrau oedd yn arwain o Ardudwy am Gyfeiliog. Yr oedd amryw o dylwyth y Cochiaid yn byw yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm a Chwm-Idnerth-uch. Yr olaf o'r cyfenw hwnnw y sylwasom arno oedd Huw Goch a drigiannai ar odre Esgair Berfedd tua dechrau'r ddeunawfed ganrif.
Anrheithiai'r gwylliaid hyn fyd ac eglwys. Cyflawnent bob ysgelerder ac anfadwaith yn eu nwyd. Prin y dihangai gŵr gyda'i hoedl os syrthiai i ddwylo'r mileiniaid hyn, a'i hoedl yn unig, bid sicr, a adewid iddo. Ni chredai pobl dda Llanegryn fod bywyd yr un dyn yn ddiogel ar ffiniau'r Ffordd-ddu oni byddai angel gwarcheidiol yr Arglwydd yn amddiffynydd iddo. Gosodwyd amryw groesau ar enau'r bylchau a arweiniai i'r mynyddoedd. Gelwid dwy ohonynt yn Groes Egryn. Ni feddai'r gwylliaid ar ddigon o haerllugrwydd i ymosod ar yr un truan diymadferth a gaffai ei law ar y groes. Bu llawer truan a'i afael yn ddiollwng yn y groes hyd nes deuai ymwared. Os digwyddai'r gwylliaid lofruddio gŵr mewn ymrafael ceisient ddileu pob olion o'r anfadwaith drwy daflu'r corff i ben tas o fawn a'i rhoi ar dân. Gwyddid yn dda am yr erchylltra hwnnw o'r eiddynt, ac os canfyddid tân o'r fath, brysid ar unwaith i'r lle, a cheisid achub y corff cyn ei lwyr ddifa, drwy dyrchu yn y gynnau dân amdano.
Yr oedd yn arferiad cyffredin yn yr ail ganrif ar bymtheg i nifer o wŷr ymgynghreirio â'i gilydd i ysbeilio eu cymdogion yn ystod oriau tywyll y nos. Aeth yr afreoleidd-dra hwn o ddrwg i waeth yn y plwyf. Ar adegau cynghreiriai uchelwyr y plwyf ag anrheithwyr y Ffordd-ddu i ysbeilio a dinistrio bywyd ac eiddo gwŷr y fro. Poenydient a chy-thryblent ddynion gymaint nes eu gorfodi i ymadael â'u cartrefi a moddion eu cynhaliaeth. Ysbeilient eu heiddo a'u hanifeiliaid, a llosgent eu hadeiladau i'w sylfeini, a chyhuddent ŵr ar gam er mwyn ei ddwyn o flaen yr Uchel lysoedd i geisio ei ddychrynu i ffoi o'r wlad, ac iddynt hwythau gael cyfle i ysbeilio ei dir a'i eiddo.
Ymgynghreiriodd rhai o brif uchelwyr Dyffryn Dysynni â gwylliaid Llanegryn i anrheithio uchelwr o'r enw William
Q
Dafydd ap William. Yn ei ddeiseb a anfonodd ef at Frenin Lloegr ceir enwau'r cynghreirwyr, sef James Pryce, Ynys-y-maengwyn, Humphrey Jones, Hugh Griffith Owen a Dafydd Llwyd ap Tudur, prif foneddwyr yr ardaloedd. Yr oedd Syr James Pryce yn fab Gogerddan,a phriododd ferch ac etifeddes Humphrey Wynn o Ynys-y-maengwyn. Bu'n Siryf Meirion-nydd ddwywaith, sef yn 1606 a 1621. Gwnaeth Iago I ef yn farwnig, ac ef oedd tywysog Cwmwd Tal-y-bont. Gwelsom enw Dafydd Llwyd ap Tudur fel un o brif dystion gweithred briodasol un o deuluoedd pennaf y plwyf. Llwyddasant i orfodi William Dafydd ap William i roddi llawer o arian iddynt. Ymosodasant ar ei dŷ, ei eiddo, a'i anifeiliaid yn nhrymder nos. Ysbeiliasant ei ŷd a'i wair a rhanasant y cyfan yn eu plith eu hunain, a rhoddasant ef ei hun yng ngharchar y sir yn Nolgellau.
Arfogasant eu hunain i'r carn â phob math o arfau dinistriol, fel mai gorchwyl anodd oedd dianc ac ymguddio rhag eu dialedd. Diolch am i'r wlad godi o ddyfnderoedd llygredig ac anfoesol y drefn "trechaf treisied a'r gwannaf gwaedded" a ffynnai yn gyffredin yn yr ail ganrif år bymtheg yng Nghymru, a hynny'n aml dan rith deddf gyfiawn. Ond y trueni mwyaf yw y goddefwyd i laweroedd o'r dihirwyr barhau i feddiannu eu hysbail anghyfiawn a hefyd eu hepil ar eu hôl.
A da y gwnaeth Dafydd ap William fynd â'r giwed annynol o flaen llysoedd ein gwlad, a dinoethi eu hystrywiau creulon. Pwy oedd y William Dafydd ap William hwn? Dyna'n hollol oedd enw perchennog ystâd Rhydcryw, a oedd yn briod â Margaret, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, ac wyres i'r Barwn Lewis Owen. A hwy oedd yr union dylwyth i ymlid Gwylliaid Cochion Mawddwy a'r Ffordd-ddu o'r tir.
Bu gan Owen Gruffydd, Peniarthuchaf, ran yn hela'r gwylliaid at eu coed, a'i briod yntau oedd Ursula, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, a chwaer i Lewis Owen o Ben-iarth. Dymchwelodd y giwed dŷ o'i eiddo, a elwid Tŷ-tan-y-bwlch, a fu'n dafarn enwog ar fin y Ffordd-du, a dug ef y dihirwyr William ap John ab Ifan ac Elin ei wraig, William Dafydd, ac eraill o flaen Llys y Seren am eu hanfadrwydd.
{{nop}}
Yn araf y daeth ein cymoedd yn ddiogel i ŵr ac anifail drigo ynddynt.
{{c|Y SIPSIWN}}
Sonnir yn nhraddodiadau Llanegryn am ddau dylwyth o Sipsiwn, a fu'n trigiannu ar froydd yn y plwyf, sef tylwyth Abram Wood, a thylwyth Alabeina. Daeth y ddau dylwyth i'r ardaloedd hyn oddeutu canol y ddeunawfed ganrif. Preswylient ar gytir Rhiwfelen; yr oedd aml furddun ar y cytir hwn yr adeg honno. Safai cytir Rhiwfelen ar y mynydd sy'n wynebu Tairmynydd, ac yn cyrraedd o'r Fign i'r Allt-lwyd. Hoff fangre gan un gainc ohonynt oedd wtre Rhiw-felen-fach. Yr oedd Sipsiwn yr wtre hon yn gartrefol yn y fro, ac ymgysgodent mewn hen furddun a oedd ym mhen draw'r wtre, a fu'n efail yn ôl y traddodiad.
Hoffai rhai ohonynt ymgysgodi yn Hafoty'r Waun; yr oedd yno amryw hen adeiladau o gwmpas, a thrigiannent oddi ar y Nant, ac ar y Fign yng nghymdogaeth Clawdd-du. O'r Clawdd-du y claddwyd Abram Wood, hen bennaeth cangen o'r Sipsiwn, ac mewn cyfnod diweddarach, hoffai amryw ohonynt breswylio oddeutu'r Corun, Glan-y-morfa-bach a'r Blaidd.
Ceir eu hanes yn priodi yn eglwys Llanegryn, a phan ddigwyddai hynny byddai gorohian mawr yn nhafarndai'r ardal. Treuliwyd llawer noson ddifyr hyd oriau mân y bore yng nghwmni'r sipsiwn llon yng Nghefn-coch, Tan-y-bwlch a gwahanol dafarndai'r gymdogaeth.
Cenid y telynau a'r crythau gan y sipsiwn, a chenid penillion gan y Cymry, a dawnsid gan y sipsiwn a'r Cymry yn gymysg. Perthynai i dylwyth Abram Wood gôr a elwid yn gôr y Tylwyth Teg, a difyrasant lawer calon ac aelwyd yn ystod y cyfnod maith y buont hwy'n trigiannu yn yr ardal.
Ystyrid hwy yn frodorion yr ardal, a cheir cofnodiad am fedyddio rhai o'u phlant yn eglwys Llanegryn.
{{c|TELYNORION}}
Rhestr o delynorion a fu'n byw o dro i dro yn y plwyf:—
1670. Richard Pugh. Telynor Peniarth.
Q
1778. Thomas Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1797. John Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1819-29. Robert William. Telynor Peniarth. Yr oedd ef yn frodor o'r plwyf; yr oedd yn frawd i Mari William, Llwyn-y-fynwent, a hoffai hithau farddoni dawnsio. Telynor dall oedd ef, ac ef oedd yr olaf a fu'n delynor teulu Peniarth. Bu farw'n gymharol ieuanc, a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn. Gwelir ei garreg fedd yn y fynwent a llun telyn arni. Y mae ei ffon ar gael gydag un o'r teulu, a'i enw Robert William, Telynor, Beddgelert, wedi ei dorri arni.
1859. Jeremiah Wood ac Elinor Wood.
1859. John Roberts. Priododd ag Elinor Wood, merch Jeremiah Wood.
Byddai Mathew Wood a Harri Wood yn ymweled yn feunyddiol â Llanegryn. Dau delynor gwych.
{{c|CYMDEITHAS CYMREIGYDDION LLUNDAIN}}
Yr oedd gŵr o'r enw Lewis Humphrey o Lanegryn yn un o'i haelodau mwyaf adnabyddus, ac yn un o ddatgeiniaid penillion gorau Llundain ar y pryd.
{{c|CANU}}
Yr oedd canu a dawnsio yn reddfol yn hen drigolion Llanegryn. Dawnsid a chenid yn hen dafarnau'r plwyf hyd y bore bach. Yr oedd offerynnau cerdd yng ngwasanaeth yr Eglwys; eisteddai gwŷr yr offerynnau yn y Groglofft.
Gydag Ymneilltuaeth y daeth canu cynulleidfaol i arferiad a sylw. Gwresogrwydd oedd nodwedd amlwg canu cynull-eidfaol yn Llanegryn. Byddai hen wragedd yn canu'n egnïol frach-ym-mraich gan ysgwyd eu holl gorff o ochr i ochr. Dywedid y byddai Hugh Pugh yn y capel Wesle, fel y gelwid ef yr adeg honno, yn chwibanu y dôn cyn dechrau ei chanu.
Dyn ieuanc o'r enw John Williams, Plascorniog, a ddechreuodd ddysgu'r Tonic Solffa i ieuenctid yr ardal.
{{nop}}
Bu canu corawl mewn bri yn y pentref. Bu Eglwys y plwyf yn enwog am ganu Corawl, a bu sôn mawr am gôr Eglwys Llanegryn yn eu gwenwisgoedd.
Enillodd côr meibion a chôr cymysg Llanegryn enw uchel ym myd eisteddfodol Gogledd Cymru o dan yr arweinyddion Owen Jones, Bryn-gwyn, Griffith Roberts a T. E. Humphreys.
{{c|GWYLIAU}}
Bu'r gwyliau eglwysig yn ddyddiau nodedig ym mywyd yr ardal oherwydd ynglŷn â rhyw ŵyl neu'i gilydd y cyflawnid pob rhyw orchwyl crefyddol, cymdeithasol a masnachol. Rhoddid enw da i bawb a gadwai'r gwyliau'n selog, ac a gerddai'n ffyddlon arnynt i'r eglwys.
Telid y trethi a'r rhenti yn yr hen amser ar Wyl y Pasg a Gŵyl Fihangel. Gosodid tyddynnod bob amser ar Ŵyl Fair, y 25ain o Fawrth neu ar Ŵyl Fihangel, y 29ain o Fedi. Ar un adeg dechreuai'r tyddynnwr drin tir ei dyddyn newydd ar yr Ŵyl Fair, a syrthiai ar y 13 o Chwefror, sef yr hen Ŵyl Fair; meddiannai hanner yr anedd-dy a'r adeiladau ar y 25 o Fawrth, a chymerai feddiant llwyr o'r tyddyn Glanmai, y 13 o Fai, sef yr hen Galanmai. Bu dydd Gŵyl Phylip ac Iago yn adeg y gwneid llawer o fusnes arni ynglŷn â phrynu a gwystlo tir.
Prif wyliau'r plwyf oedd y Nadolig, y Groglith, y Pasg a'r Sulgwyn. Dydd o rialtwch a phleser fu'r Nadolig hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Bu gwneud cyflaith ar nos cyn y Nadolig yn rhan amlwg ym mywyd yr ardal. Sonnid a pharatoid am y cyflaith wythnosau ymlaen llaw. Arferid dewis partïon at wneud y cyflaith yng ngwahanol dai'r gymdogaeth, a llawer o helyntion blin a fu oherwydd direidi llanciau'r fro yn ceisio taflu rhyw aflwydd neu'i gilydd i grochan cyflaith y naill barti a'r llall. Teflid rhywbeth annymunol i lawr y simnai heb funud o rybudd, a byddai'r holl gegin ar amrantiad yn huddygl a mwg a phawb yn mygu a thagu, ac yn gweiddi am yr uchaf. Byddai cyflwr y cyflaith yn waeth na chyflwr neb ohonynt, a thuhwnt i bob gobaith i'w adfer. Er gwaethaf y siom a'r golled am y cyflaith, ni ddinistrid dim ar londer na nwyfusrwydd
Q
ysbryd y parti. Ymolchent ac ymdrwsient at gychwyn i'r Plygain a fyddai yn yr eglwys am bump o'r gloch y bore. Goleuid yr eglwys â chanhwyllau, a byddai'n llawn o drigol-ion o wahanol ardaloedd. Treulid awr a hanner o amser difyr i wrando ar ganu soniarus yr hen garolwyr. Paratoid am wythnosau i ddysgu'r carolau, a byddai awyrgylch y geni ym Methlehem Effrata wedi eneinio ysbryd y cantorion a'r gwrandawyr. Bu'r Plygain yn foddion i wneuthur hanes geni'r Iesu yn hyddysg iawn i'n cenedl.
Wedi gwledda ar yr ŵydd, y rhynion a'r triagl du, llysiau'r ardd, a'r plwm pwdin, treulid y prynhawn gan yr ieuenctid i chwarae. Cicio pêl droed oedd y prif chwarae, a'r hoff fan oedd y Pymtheg. Chwaraeid yn yr hen amser rhwng trigolion Llanegryn a Chelynnin. Yr oedd ar y Pymtheg garreg derfyn o faintioli mawr, a hi oedd y garreg goel. Ymdrechai ieuenctid Llanegryn gadw'r bêl ar dir Celynnin, a byddai ieuenctid Celynnin o'r ochr arall yn ceisio eu gorau ei chadw ar dir Llanegryn. Gyda'r hwyr cyrchid i dafarndai y ddau blwyf i ymyfed, canu a dawnsio. Byddai telynorion tylwyth Abram Wood yn rhan anhepgor yng ngorohïan llon nos Nadolig y fro. Byddai gwledda mawr am ddyddiau ar ddiwedd y flwyddyn, a chedwid nosweithiau llawen drwy'r fro.
Yr oedd herwhela'n arferiad pwysig ar Wyliau'r Nadolig yn y plwyf. Ymgasglai'r herwhelwyr yn dorf ar fore dydd Nadolig ar fan arbennig, ac aent gyda'i gilydd drwy'r plwyf heb i neb eu gwarafun i unman yn fwy na'i gilydd; yr oedd tir y plwyf yn dir rhydd iddynt yn ystod y Gwyliau.
Nodweddid bywyd Llanegryn gan afiaith anghyffredin ar rai o'r hen wyliau. Ystyrid y Groglith y gysegredicaf o'r holl wyliau; ymwrthodid yn llwyr rhag cyflawni dim gwaith afraid ar yr ŵyl hon. Credid nad oedd adar yr awyr yn gwneuthur dim ar yr ŵyl, hyd yn oed ar eu nythod eu hunain. Ymlonyddai pawb a phopeth ar ddydd angau chwerw'r Groes.
Gŵyl y Pasg oedd prif ŵyl yr eglwys, a rhoddid pwys mawr ar gydgyfranogi yng nghymundeb Sul y Pasg. Dywedai'r Parch. Vincent Humphreys, curad Llanegryn, bod tua dau gant yn cymuno yn yr eglwys ar Sul y Pasg yn 1776.
Q
Chwaraeid ar wyliau'r Pasg, Iau Dyrchafael, a'r Sulgwyn, a hyd yn oed ar Ŵyl y Groglith. Byddai ymladd ceiliogod yn uchel ei fri ar y gwyliau hyn. Ystyriai'r hen bobl fod gwenwyn yn codi oddi ar y dŵr ar ddydd Iau Dyrchafael, ac y gallai pawb fentro ymdrochi wedi hynny mewn unrhyw afon neu'r môr.
Dydd poblogaidd oedd Mawrth Ynyd, a gwleddid yn fawr arno. Byddai crempogau yn helaeth ar bob aelwyd, a chig rhost lle y gellid fforddio hynny. Hoffai'r plant ddyddiau Mercher Lludw ac Iau Dyrchafael, oherwydd cydgerddid i'r eglwys o'r ysgol yn y bore, a cheid y prynhawn yn rhydd i chwarae. Bu'n arferiad ar un cyfnod gan blant ysgol Llanegryn fynychu'r eglwys am 8.30 bob bore yn ystod y Grawys. Dywedir mai'n ystod tymor y Grawys yr arferid â gweinyddu'r gosb o gario'r Welsh Note am siarad Cymraeg yn yr ysgol, cyn i'r arferiad taeogaidd ddiflannu'n llwyr o'r ysgol.
Llwyddodd yr hen wyliau a'u hen arferion i gadw rhyw undod ynom fel plwyf a chenedl.
{{c|GWYL MABSANT}}
Disgyn dydd Nawddsant yr Eglwys ar ddydd Dyrchafael (''Assumption'') Mair, y 15ed o Awst, neu'n ôl yr hen gyfrif, y 26ain; a chynhelid yr Wyl Mabsant ar y Sul a'r Llun cyntaf ar ôl dydd Dyrchafael Mair, neu ar y dydd hwnnw os di-gwyddai iddo fod ar y Sul.
Dydd mwya'r flwyddyn yn y plwyf oedd dydd Gŵyl Mabsant. Cynhesai calon pawb a feddai waed Llanegryn yn ei wythiennau wrth glywed sôn am yr Wyl. Cyrchai hil tir Llanegryn yn hen ac ieuanc tuag adref o bell ac agos erbyn dyddiau'r Ŵyl. Deuai cyfeillion ac ymrysonwyr o'r plwyfi cyfagos yn lluoedd i'r pentref i gymryd rhan yn y rhialtwch a'r hwyl.
Hawliai'r plwyfolion gael dechrau dathlu'r Ŵyl yn gynnar ar y Sul, er gwaethaf pob rhybuddion o eiddo'r awdurdodau. Cyn bron y byddai'r Gwasanaeth Boreol yn eglwys y plwyf drosodd, cyniweiriai rhyw gynnwrf drwy'r fro, ac anesmwyth-ai'r swyddogion eglwysig a phlwyfol rhag i'r rhialtwch gychwyn
Q
yn annhymig ac afreolaidd, cyn cyflawni'n weddus ofynion crefyddol y dydd. Wedi cinio cynnar ymdeithiai'r Wardeiniaid tua'r pentref i ymorol bod popeth yn weddaidd a heddychol. Gwyddai'r pentrefwyr yn dda'r awr y byddent hwy ar bont y pentref, a gofelid bod tawelwch yn teyrnasu ymhob man, a gwedduster yn ffynnu ar bob aelwyd. Trefnid y cyfan i weithio'n gymwys er mwyn i'r Wardeiniaid fel gwarcheidwaid heddwch y fro droi eu cefnau a dychwelyd i'w cartrefi yn ddiymdroi. Gwyddai'r Wardeiniaid yn dda nad oedd y tawelwch a'r gwedduster yn ddim ond y distawrwydd sydd yn digwydd o
digwydd o flaen storm, ac y byddai'r rhialtwch ar fyrder yn ei lawn afiaith yn y pentref. Ni throesant erioed yn eu hôl i fwrw tramgwydd na rhwystr ar hen arfer a phleser hir-ddisgwyliedig y plwyfolion. Mor gynhyrfus a nwyfus oedd pawb fel y byddai'r pentref yn ferw gwyllt ymron ar amrantiad, a phawb wedi colli eu pennau'n llwyr mewn dawnsio, canu, chwarae, ymyfed, a gwledda. Byddent wedi eu rhannu eu hunain yn gwmnïoedd yn ôl eu chwaeth ar fyr dro. Yr oedd hanner dwsin o dafarndai yn y plwyf, a chyrch-ai'r rhai o'r un afiaith gyda'i gilydd i'r tafarndai a fyddai wedi eu dethol ganddynt ymlaen llaw.
Tynnu torch, codi pwysau, bwrw maen, ymaflyd codwm, neidio, a rhedeg oedd y campau ymryson pennaf yn ystod yr Wyl.
Cynhelid y chwaraeon a'r mabolgampau mewn gwahanol fannau yn y plwyf. Cynhelid llawer o'r mabolgampau ar Flaen Talwrn yn agos i'r eglwys a Thyn-llan, a dywedir bod rhai o'r hen gerrig pwysau neu gerrig gorchest wedi eu gosod ar ochr y ffos sydd ar fin y ffordd ar Flaen Talwrn. Deuai'r trigolion yn dorf at Gored Peniarth at yr hwyr. Goleuid y coed â llusernau canhwyllau gŵer wedi iddi ddechrau nosi. Canai'r crythorion uwchben oddi ar ganghennau'r coed, a dawnsiai a chanai'r dorf yn gylchoedd o amgylch y coed; gelwid un o'r coed hyn hyd yn ddiweddar yn Goeden y ffidlers. Daliai'r rhialtwch ymlaen hyd doriad y wawr fore dydd Mawrth.
Adroddai amryw hen drigolion Llanegryn wrth y Parch. Griffith Arthur Jones yn 1862, cu bod yn cofio'r Wyl yn cael
Q
ei chynnal ym mhlwyf Llanegryn. Ceisiodd ef ei orau adfer yr hen Ŵyl Mabsant yn Llanegryn ar linellau mwy diweddar, ond ni bu fawr o lwyddiant ar ei ymgais i roddi ail-fywyd i'r hen sefydliad a fu o gymaint bri yn y fro. Cyflawnodd yr hen Ŵyl ei gwasanaeth; cadwodd gariad at fro a chymdogaeth i losgi'n gynnes ym mynwesau'r Cymry.
{{c|YMLADD CEILIOGOD}}
Y pechod mwyaf ar a wneir
Rhoi arfau dur ar 'winedd ieir.
Bu ymladd ceiliogod mewn bri yn Llanegryn. Trefnid ymladdfeydd ar ororau'r plwyf a phlwyfi'r cylch. Ymleddid oddeutu'r Pymtheg a'r Clawdd-du â phlwyf Celynnin; a thua Hafoty-fach ag ochr Dolgellau. Cyfarfyddid â Machynlleth yn Abergynolwyn. Teithid weithiau cyn belled â Dinas Mawddwy. Ar wyliau Iau Dyrchafael, Llun y Pasg, a'r Groglith y byddai miri'r ymladd yn ei anterth. Dywedir mai dyn dall oedd prif gefnogydd chwarae cocyn yn Llanegryn am flynyddoedd meithion.
Ceir pit ymladd ceiliogod yn aros o hyd ar y ddôl o flaen plasty Peniarthuchaf. Adeiladwyd ef yn gelfyddgar o gerrig. a grisiau wedi eu codi i fynd a dyfod iddo. Ceir morteisi au yn y cerrig at roddi math o reiliau o'i amgylch rhag i un o'r ceil-iogod ddianc pan gollai'r dydd yn y frwydr. Yr oedd amryw bitiau ar y Ceunant, a cheid un ar Gae Gwyn yn agos i goed Peniarth. Pitiau wedi eu cloddio yn y ddaear oeddynt fel rheol. Anodd yw canfod yr un ohonynt erbyn hyn. Ar ffridd Bredyn-fach y mae'r rhai amlycaf.
{{c|CASEG FEDI}}
Yn ystod y cynhaeaf ŷd y disgwylid clywed sŵn y Gaseg Fedi yn carlamu i chwarae ei champau direidus a chyffrous. Byddai cryn ymryson tawel ymhlith y medelwyr pwy a'i gollyngai gyntaf yn rhydd, oherwydd ystyrid hwy y medelwyr blaenaf yn y plwyf. Yr oedd defod ddiddorol a hynod ynglŷn â'r chwarae hwn. Pan gyrhaeddid at y crymaniad olaf o'r cynhaeaf ŷd ar
Q
unrhyw dyddyn, casglai'r medelwyr o'i ddeutu i wylio rhag i ysbryd yr ŷd ddianc. Gadewid y tusw olaf heb ei dorri. Plethid ef yn blethen; ac wedi ei blethu yn blethen gelwid hi mwy yn Gaseg Fedi. Safai'r medelwyr yr un pellter oddi wrthi gan geisio ei gollwng yn rhydd drwy daflu eu crymanau amdani a'i thorri. Wedi i un lwyddo ei gollwng, taflai hi ar draws ei ysgwydd gan redeg a phawb yn ei ddilyn am yr amaethdai a ddigwyddai fod heb orffen medi. Yn llawn direidi ac asbri aflywodraethus gollyngent y lloi a'r moch o'u cutiau gan eu harwain i'r meysydd ŷd oedd heb eu medi. Caseg gynhyrfus a llawn castiau drwg oedd y Gaseg Fedi. Maddeuai pawb iddi am y direidi a'r cyffro a achosai ar ei rhawd wyllt.
{{c|NOSWEITHIAU LLAWEN}}
Y mae'r atgofion am y nosweithiau llawen bron wedi diflannu'n gyfangwbl o'r plwyf.
Nos Glangaeaf oedd y noson fawr ymhlith nosweithiau llawen y flwyddyn; rhyw oroesiad oedd hi o'r hen ŵyl a gyn-helid pan ddeuid i lawr o'r hafotai i'r hendrefi ar ddiwedd yr haf. Heblaw gwledda a chwarae a dawnsio ar nos Glangaeaf, llosgid coelcerthi ar ben y bryniau nes bod yr holl fryniau yn wenfflam olau.
Bu noson lawen ar ddiwedd y cynhaeaf mewn bri mawr. Wedi hynny bu'n arferiad a chryn bwys arni fynd am ddiwrnod o fôr; âi teulu'r fferm a'r gwasanaethyddion i gyd gyda'i gilydd yn y wagen i lan y môr. Trefnid pob math o ymborth a mwynheid dydd llawen yn sŵn y don, a phawb ohonynt yn eu tro yn ymdrochi, yn chwarae, ac yn gwledda. Dychwelent adref gyda'r hwyr a phawb yn llawn asbri a direidi.
Cedwid math o noson lawen yn feunyddiol yn nhyddynnod y plwyf yn ystod y gaeaf; deuai cyfeillion y gymdogaeth at ei gilydd ar fyr rybudd i gegin fawr un o'r tyddynnod i gyd-wledda, ymyfed a dawnsio, yn gymysg a chanu, barddoni, ac adrodd ystraeon.
Cynhelid nosweithiau a elwid yn noson lawen wau a noson lawen bilio pabwyr; gelwid hwy hefyd yn gymorth gwau a philnos. Ymgasglai'r teuluoedd at ei gilydd i helpu eu
Q
cymdogion drwy gyd-wau hosanau, neu gyd-bilio'r pabwyr. A byddai rhyw ymborth ac enllyn wedi eu paratoi i bawb gyd-wledda arnynt gyda'i gilydd, a phawb yn ymroi i wneuthur eu gorau i gadw'r cwmni'n ddiddan ac yn eu hwyliau da. Clywsom mai yn y Rhos y cynhelid y gwyliau hyn ddiwethaf. Bu'r nosweithiau llawen yn gyfryngau rhagorol i ddiwyllio doniau canu, barddoni, ac adrodd yn yr ardal; a hefyd i gadw traddodiadau'r gorffennol yn fyw, a meithrin ysbryd cymdeithasol iach a diddanus yn y plwyf. Cadwai hefyd ysbryd crefft yn llawn nwyf yn y fro. Gofynnai pilio pabwyr law ysgafn a chywrain ac un a fyddai'n sicr iawn o'i phlwc, ac nid pawb a allai gadw'r bilen yn fain a chyfan, ac nid pob math o frwyn a wnâi babwyr da. Yr oedd eisiau llygad a llaw dda i hel y pabwyr.
Yr oedd gweu hosan a fyddai yn unffurf â choes a throed yn gryn gamp. Bu dwylo mamau a gwragedd yn ddiwyd gyda'u gweill; ychwanegodd y dwylo prysur gryn lawer at gyfalaf prin yr aelwydydd. Byddai'r dwylo a'r gweill yn mynd yn ddidor o fore hyd hwyr; os eistedd i hamdena neu os cerdded ar siwrnai a wneid, dal i fynd a wnâi'r dwylo a'r gweill. Cerddai llawer mam a'i baban ar ei chefn am fill-tiroedd a'r gweill yn mynd yn ddiball yn ei dwylo. Hongid y bellen edafedd ar fach melyn wrth linyn y ffedog, a gweithiai'r bysedd yn rheolaidd fel melin. Gweai rhai ag offeryn a elwid yn wain wau, a rhoddid ef yn rhwym wrth y wasg. Gweai ambell hen wraig oedrannus ddwsinau o barau hosanau i deuluoedd lluosog bob blwyddyn. Dwylo gweithgar a darbodus fu dwylo mamau a gwragedd Llanegryn.
{{c|CANU YN DRWS.}}
Hoffai'r hen frodorion sôn am arferiad ddiddorol oedd ynglŷn â'r Noson Lawen a elwid Canu yn drws. Math o ymryson oedd y canu yn drws rhwng y rhai oedd oddi mewn a'r rhai oedd oddi allan yn ceisio cael eu gollwng i mewn i'r neuadd neu'r gegin lle y cynhelid y Noson Lawen. Yr oedd yr ymryson ar ffurf gofyn ac ateb.
{{nop}}
Cesglid at y drws a hawlid mynd i mewn drwy adrodd neu ganu darn o farddoniaeth. Ai'r ymryson ymlaen am gryn amser pan ddigwyddai'r doniau fod yn llithrig o'r ddeutu. Agorid y drws pan gydnabyddid bod y rhai oedd o'r tu allan wedi trechu'r ymrysonwyr oedd o'r tu mewn. Byddai miri mawr pan gyd-ddawnsiai'r ymrysonwyr â'i gilydd ar lawr y neuadd wedi i'r ymrysonfa fynd heibio. Meithrinodd yr arferiad ddawn ymadrodd parod yn ein cenedl.
{{c|CARU A PHRIODI}}
Prin yw'r ardal o draddodiadau caru a phriodi. Prif gwestiwn pob merch ieuanc fyddai "Pwy fydd fy annwyl briod?" neu'n hytrach "Pwy fydd fy annwyl gariad?" Ac y mae rhai o'r moddion a arferid ganddynt er mwyn cael hyd i brif gyfrinach eu bywyd wedi treiglo i lawr i'n dyddiau ni. Un modd tra sicr oedd torri deilen onnen, a dwy ddeilen yn fforchi ar ei blaen, a rhaid oedd ei thorri a'i phlethu â'r llaw chwith, ac adrodd y rhigwm a ganlyn:—
Deilen onnen 'rwyf yn dy dorri,
Ar y pren lle 'rwyt ti'n tyfu.
Cyntaf fachgen a ddaw i'm cyfarfod
Hwnnw fydd fy annwyl briod.
Modd arall gan bobl hygoelus oedd gwneuthur teisen naw rhyw, a mynd â hi i'r ystafell wely'r nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn, a thaflu pellen o edafedd drwy'r ffenestr, ac yna ei dirwyn hi'n ôl gan adrodd:—
Myfi sy'n dirwyn
Pwy sy'n dal?
A'r sawl sy'n dal
Doed yma,
a thaflu carreg fach drwy'r ffenestr ar bob nawfed tro ar y bellen. Dywedir i lawer un drwy'r ddefod hon weled ei gŵr ymlaen llaw. Hoffai'r merched hefyd guro bacsen ar y
Q
garreg olchi wrth y pistyll gan ddywedyd:—Dyma'r facsen, pa le mae'r troed? gan ddisgwyl gweled ei chariad yn dyfod i'r golwg.
Arferiad i fechgyn oedd mynd o amgylch i'r eglwys gan edrych yn nhwll y clo ac adrodd:—Dyma'r llanc, pa le mae'r ferch? neu, Dyma'r llanc, pa le mae'r allwedd? A rhaid oedd gwneuthur y ddefod hon ar nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn.
Anfonid ffon onnen i ŵr ieuanc a gollai ei gariad drwy gael ei redeg gan gyd-ymgeisydd.
Hanes tipyn yn dorcalonnus sydd i'r briodas fawr ar feirch a welwyd olaf yn y plwyf. Daeth y cwmni llon dros y mynydd ar garlam ar gefn meirch porthiannus yn llawn asbri a gorohïan. Gŵr gweddw oedd y priodfab a digwyddai'r briodasferch fod yn chwaer i'r wraig drancedig. Gwrthododd ficer defosiynol Llanegryn weinyddu'r ddefod briodasol, dychwelodd y cwmni siomedig dros y mynydd ar hyd y Ffordd-ddu, ac os digwyddodd y Ffordd-ddu fod yn ddu erioed, yr oedd yn gaddugol y dwthwn hwnnw. Aeth y briodasferch i'w gwely a'i hysbryd yn ddrylliog gan boen a gofid; ac ni bu'n hir cyn y gwelwyd ei chorff yn cael ei gario yn oer ar elor i fynwent y plwyf.
Y mae priodas wedi mynd yn ddigwyddiad dof a diramant yn yr ardal rhagor yr hyn oedd yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Byddai bywyd a rhialtwch yn llond y pentref ar fore dydd y briodas yr adeg honno. Addurnid y pentref a'r ffordd at yr eglwys gan lumanau, a rhwymid mannau ar y ffyrdd rhwng yr eglwys a chartref y briodasferch â rhaffau gan wŷr ieuanc cryfion, a chyn y datodid hwy rhaid oedd ar y briodasferch daflu arian i'r awyr fel y byddai'r un chwarae tegi bawb fel ei gilydd ymgiprys amdanynt. Dydd da oedd diwrnod priodas y pryd hwnnw am geiniog i blant y fro. A churid y pâr ieuanc â reis gan eu caredigion yn arwydd o'u dymuniad am bob llawnder iddynt yn ystod eu bywyd priodasol.
{{nop}}
{{c|FALANTAU}}
Cyfnod cyffrous yn y plwyf oedd dydd Falantau, Chwefror 14, pryd yr anfonai bechgyn a merched ieuainc Falantau i'w gilydd drwy'r post.
Arddangosid y Falantau yn ffenestri mân-siopau'r pentref yn gynnar fel y câi pawb ddigon o amser i ddewis. Yr oedd y detholiad gorau bob amser yn ffenestr siop Mari Puw. Anfonai cariadon Falantau prydferth i'w gilydd i gynnau'r serch yn wresocach nag erioed, ond byddai'r cariadon a ddigiasai wrth ei gilydd yn anfon Falantau sbeitlyd y naill i'r llall, a gwnâi'r rhai a oedd yn eiddigeddus a chenfigenllyd yr un modd. Balchder llawer merch a bachgen ieuanc oedd derbyn Falantau prydferth oddi wrth eu cariadon, a loes chwerw i eraill oedd derbyn rhai sbeitlyd a hagr. Ciliodd yr arferiad ers llawer o flynyddoedd.
{{c|CLADDEDIGAETHAU}}
Ar elor gyffredin y cludid yr eirch i'r fynwent yng ngladdedigaethau'r plwyf. Ni chlywsom fod elor-feirch wedi bod yn perthyn i'r eglwys. Perthynai i'r plwyf arch a elwid yn "arch y plwyf," a arferid i gario'r tlodion a gleddid mewn dim ond amdo'n unig. Cludid hwy yn arch y plwyf o'u cartrefi i'r fynwent, ac yna gollyngid hwy i'r bedd yn eu hamdo.
Pan wnaed y Llyfr Tir (Terrier) yn y flwyddyn 1776, yr oedd dwy elor at wasanaeth y plwyf. Ond ni ddywedir pa fath elorau oeddynt hwy. Yn ddiweddar y daeth elorgerbyd at wasanaeth y plwyf.
Arferid gynt pan gleddid dyn neu ferch ieuanc roddi gor-chudd gwyn dros yr arch; a phan gleddid gŵr a gwraig briod, neu rywun mewn oed rhoddid gorchudd du.
Cenid mewn hen gladdedigaethau ar hyd y ffordd o gartref y marw i'r fynwent. Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf, rhoddid pregeth angladdol wrth y tŷ cyn cychwyn â'r corff am y fynwent. Arferiad ymhlith yr Ymneilltuwyr oedd honno.
{{nop}]
Offrymid mewn cynhebryngau yn Llanegryn yn gyffredin hyd tua'r flwyddyn 1885. Offrymid rhan yr offeiriad ar yr allor yn yr eglwys, a rhan y clochydd ar lan y bedd ar ôl y gwasanaeth claddu, pryd y daliai ef ei raw allan i dderbyn yr offrwm a ewyllysiai pawb ei roddi arni'n wirfoddol.
Byddid yn rhannu diod boeth mewn angladdau; ystyrid ef yn amarch ar y marw oni rennid diod boeth cyn cychwyn oddi wrth y tŷ, a chyrchid i'r dafarn i yfed ar ôl yr angladd. Telid swllt y llaw at gael y cwrw, a pho fwyaf a delid mewn angladd, mwyaf y parch yr ystyrid hynny i'r marw a'i deulu.
Os teimlid bod angen ar deulu'r trancedig, rhoddid yr arch i lawr wrth y dafarn ac offrymid ar ei chaead i'w cynorthwyo, a gosodid bwrdd hefyd wrth y dafarn i dderbyn rhoddion. Wedi i'r arferiad hynod hon ddarfod, gwelid cyfeillion yn cerdded â rhoddion yn eu dwylo a'u mynwesau tua chartref y marw yn swcwr i'r teulu yn eu profedigaeth.
Bu cynnal gwylnos yn arfer yn y plwyf, ond y mae wedi darfod ers llawer blwyddyn. Yr oedd yn arferiad aros dros nos i wylio'r corff tra gorweddai yn y tŷ cyn ei gladdu. Wedi hynny rhoddid canhwyllau wedi eu goleuo yn ystafell y marw dros y nos.
Ceir yng nghyfrifon Lewis Owen, Peniarth, 4/- wedi ei dalu am ganhwyllau claddedigaeth yn 1669, a'r swm o 1/- wedi ei dalu am ganhwyllau gwylnos William Tudur, a rhydd y swm o 18/- a dreuliwyd ganddo yn ei ffordd ei hun yng nghladdedigaethau Dafydd Ellis a Mr. Vaughan.
Gwelir bod y boneddwyr yn hoff o wario eu harian yng nghladdedigaethau eu cyfeillion. Bu talu'r gymwynas olaf yn rhwymedigaeth bwysig yn y plwyf.
{{c|LLÊN GWERIN}}
Er ein bod wedi treulio llawer o'n dyddiau bore yng nghanol hen bobl, ac wedi eu clywed yn adrodd am draddodiadau'r plwyf, eto nid oes fawr o ddim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r rhai a geir yn nhraddodiadau unrhyw blwyf arall yng Nghymru. Rhyfedd fel y clywir yr un traddodiadau'n hollol yr un fath mewn gwahanol ardaloedd ugeiniau o filltiroedd
Q
oddi wrth ei gilydd, a cheir yr un traddodiadau ymhlith gwahanol genhedloedd y byd.
Bu gan ysbrydion ran amlwg yn llên gwerin Llanegryn. Credid bod gan eneidiau'r meirw ddiddordeb mewn dynion ar y ddaear, ond rywfodd neu'i gilydd credid mwy yn ymddangosiad ysbrydion dynion drwg ac annuwiol nag yn ymddangosiad dynion da a duwiol.
Pan ymddangosai ysbryd, neu pan flinid unrhyw un gan ysbryd, meddylid yn sicr bob amser fod ar yr ysbryd eisiau hysbysu neu ddatguddio rhywbeth neu'i gilydd i rywun neilltuol, a phan fyddai wedi datguddio'i gyfrinach, na ddeuai ef byth wedyn ar ei deithiau nosawl o fro'r meirw.
Achosid cryn boen a blinder i deulu'r ymadawedig pan ddeuai'r si fod ei ysbryd yn teithio ar hyd llwybrau'r fro ar hyd y nos, ac yn ddychryn i'w cymdogion, oherwydd credent yn sicr fod rhywbeth neilltuol yn ei anesmwytho, ac mai da fyddai ei ryddhau o'i anesmwythyd. Gwnaed sôn unwaith fod ysbryd gŵr ieuanc prydferth o'r enw William, mab Nansi William, yn ymddangos ar ôl ei farwolaeth, a cherddodd ei fam bob awr o'r nos rhwng y pentref a'r fynwent, er mwyn rhoddi cyfleustra iddo ymddangos iddi hi ei hun, ac iddo gael ymadael â'i ofid a'i anesmwythder.
Clywsom wraig yn adrodd fod ei gŵr wedi ymddangos iddi hi ar ddyddiau o ofid mawr yn ei hanes; yr oedd yn wraig a'i theimladau yn ddigon caled, ac ni flinid mohoni o gwbl gan ryw fân ofnau. Yr oedd siopwr yn ei herlyn am arian, a chredai hi'n sicr fod ei gŵr wedi eu talu cyn ei farwolaeth, ond methai yn lan â chael hyd i'r llyfr cyfrifon a ddangosai hynny. Un noson yn nistawrwydd ei bwthyn unig, ym-ddangosodd ei phriod iddi yn y man lle'r oedd yr hen lyfr cyfrifon wedi ei roddi i'w gadw.
Ffynnai dau neu dri o draddodiadau am ysbrydion ym mhlwyf Llanegryn. Un traddodiad oedd mai ysbryd y byw a gymdeithasai gyda dynion; tystiai amryw y byddent hwy beunydd yn cymdeithasu â'r byw ar wahan i'r corff a phellter lle. Credai'r lleill mai ysbrydion y meirw a ddychwelai o'r byd anweledig i gyfeillachu â dynion ar y ddaear. Y
Q
traddodiad arall ydoedd y byddai rhai'n gweled eu teulu neu eu cyfeillion yn crwydro ar eu hen lwybrau pan fyddent yn croesi glyn cysgod angau. Clywsom am wraig o'r wlad yn mynd adref o'r pentref yn hwyr ar y nos, a'i mab bychan yn ei llaw; a phan oedd ar fan arbennig gwelai ei chymdoges, Beti Llwyd, yn ei phasio ar yr ochr arall i'r ffordd a'i chlog arferol dros ei gwar; a chyn gynted ag y cyrhaeddodd hi garreg ei haelwyd, curai cyfeilles y drws gan ofyn a ddeuai i ddiweddu'r hen chwaer Beti Llwyd, a fu farw ar yr adeg y gwelodd hi yn ei phasio ar y ffordd o'r pentref.
Adroddai eraill yn ddifloesgni iddynt weled ysbryd dyn a dynes fyw. Adroddid am hen wraig a drigiannai yng Nghefn-coch-bach a fyddai yn rhodianna oddi amgylch ar lasiad y dydd ar hyd y meysydd yn y gwanwyn a dechrau'r haf. Gwelai morynion Waun-fach hi beunydd yn rhodio ymhlith y meillion yng nghae Llety Dyfrgi pan fyddent hwy yn mynd yn gynnar yn y bore i odro. Ond cysgai hi ei hunan yn dawel yn ei bwthyn bach gerllaw.
Gelwid ysbryd Gwyddfryniau yn ysbryd Cadi'r forwyn. Geneth brydferth lawn hoen a wasanaethai yn forwyn yn y lie, ac a oedd yn byw gyda'i rhieni mewn bwthyn gerllaw. Aflonyddai'r ysbryd gymaint yng Ngwyddfryniau nes bod yn rhaid ar y teulu ffoi oddi yno beunos yn nhrymder y nos i un o dai eu cymdogion; a ffoesant cyn belled rai gweithiau â'r Celmi, a dilynai'r ysbryd hwy gan beri cynnwrf mawr. Tystid yn bendant gan ddynion geirwir a chyfrifol fod amryw gyffroadau rhyfedd ac arswydus yn digwydd yng Ngwyddfryniau, pa esboniad bynnag a gynigir i egluro'r peth. Adrodd-id
gan Lewis William, un o hen ysgolfeistriaid y Parch. Thomas Charles o'r Bala, iddo ef fod yn gwylio yno am un noson, ac iddo glywed a theimlo pethau rhy ofnadwy i'w mynegi mewn iaith ddynol. Cymerodd gydag ef Feibl a channwyll, ac aeth i'r ystafell a gythryblid yn fwyaf gan yr ysbryd, gan bender-fynu treulio'r noson mewn gweddi ac ymbil, a darllen y gair dwyfol ar yn ail. Ymhell cyn hanner nos dechreuodd yr ysbryd ar ei ystrywiau mwyaf ofnadwy. Llanwodd y lle â'r drewdod ffieiddiaf, a bu'n rhaid ar Lewis William er cryfed
Q
ei ysbryd a'i ffydd afaelyd yn ei Feibl a ffoi o'r ystafell. Gwnâi'r ysbryd gymaint o ystrywiau yn ystod y dydd golau glân ag a wnâi yn ystod tywyllwch dudew'r nos. Taflai a chwalai'r ysgubau yng nghanol y cae ŷd yng ngŵydd y medel-wyr, ond ni welid ac ni chlywid dim na neb oddi mewn i'r Yn y diwedd nid oedd dim i'w wneuthur ond anfon am yr hen Ficer Williams, a adwaenid fel yr offeiriad a fedrai ostegu'r cythraul. Brwydr fawr a fu rhyngddynt; ymladdodd yr ysbryd â holl ystrywiau'r fall ei hun, a dywedai chwaer yr hen Ficer Williams fod ei gnawd ef yn arogli'n enbyd gan sawr satanaidd am ddyddiau lawer wedi'r ornest. Edrydd y chwedl fod y Ficer wedi llwyddo i botelu'r ysbryd, a'i fod wedi ei roddi i orwedd yn dawel yng ngwely'r afon wrth bont Dysynni.
Un o draddodiadau byd yr ysbrydion oedd mai peth peryglus a fyddai gweled tân disglair yn uniongyrchol ar ôl i ddyn ddigwydd gweld ysbryd. Os digwyddai hynny syrthia'r sawl a'i gwelai'n ddiatreg i lewyg. Gwaeddai un hen gymeriad yn groch ar i Betsan ei wraig roddi'r radell ar y tân, am ei fod wedi gweled ysbryd wrth ddychwelyd adref oddi wrth ei waith.
Dywedid hefyd os byddai'r ysbryd yn teimlo yn garedig tuag at y neb yr ymddangosai iddo, y cymerai ffurf rhyw greadur caredig ac addfwyn. Ond os teimlai yn gas a chwerw yr ymddangosai ar ffurf creadur creulon ac arswydus. Ei ffurfiau cas oedd teirw, cŵn, hychod, ac adar ysglyfaethus, neu dân. Ei ffurf garedig fel rheol oedd dafad. Clywsom hen ferch o'r enw Beti Dafis yn diolch am i ysbryd arbennig ymddangos iddi hi ar ffurf dafad hynaws. Poenid ambell lannerch gan ysbryd plentyn; nadai gydol y nos ar goeden gelyn, a hynny'r naill flwyddyn ar ôl y llall. Ar nos Galan-gaeaf byddai ysbryd ar ben pob camfa; ac ar ddydd Gŵyl y Meirw byddai'r holl feirw yn y fynwent yn codi o'u beddau ac yn gorymdeithio o amgylch yr eglwys gan wrando ar y gweddïau a offrymid ar eu rhan.
Credai llawer mewn rhag-gladdedigaeth. Tystid y gwelwyd claddedigaeth llawer gŵr a hynny cyn ei farwolaeth
Q
Byddai rhai personau yn fwy agored na'i gilydd i weled claddedigaeth ymlaen llaw. A honnai rhai i hyn ddigwydd yn gymharol ddiweddar yn yr ardal.
Ofergoel arall oedd Cannwyll Gorff. Rhagflaenai hithau'r claddedigaeth a ddigwyddai'n ddiffael, ymhen ychydig ddyddiau wedi iddi hi ymddangos. Dangos y ffordd y deuai'r claddedigaeth ar hyd-ddi oedd ei neges hi. Yr oedd yr hen ffordd i gladdedigaeth fynd ar hyd-ddi o Gellisarrog am eglwys Llanegryn yn arwain heibio i Fredyn-fawr. Ond un noson yng nghorff y gaeaf gwelwyd goleuni'n arwain oddi wrth y Gelli at Nantmadyn. Beth a allai'r goleuni fod? Amhosibl ei fod yn Gannwyll Gorff, oherwydd nad oedd yr un ffordd i gladdedigaeth fynd ar hyd-ddi o'r Gelli at y Nant. Ond cyn sicred â'r pader bu penteulu Gellisarrog farw'n sydyn un o'r dyddiau dilynol, ac aed â'i gorff i fynwent Llanegryn i lawr heibio i'r Nant, ar hyd y llwybr a rodiodd y goleuni a welwyd un o'r nosweithiau cynt; a hwn oedd y claddedigaeth cyntaf yr aed ag ef ar hyd y llwybr. Yr oedd yn draddodiad yn Llanegryn os eid â chladdedigaeth unwaith ar hyd llwybr, y byddai y llwybr yn un agored i fynd ag unrhyw beth ar hyd-ddo byth wedyn.
Ffynnai yn y plwyf tua chanol y ganrif ddiwethaf hen ofergoel bur anghyffredin. Rhagfynegai bob tro farwolaeth un o'r prif aelodau mewn teulu. Cyfeirir ati yng Nghofiant Father Jones, Caerdydd. Heuid cae o wenith, neu feillion fel y digwyddai fod, ac eginai'r holl gae trwyddo'n dda, ac eithrio o un llain o'r naill ben i'r cae. Byddai honno wedi gwywo'n llwyr. Pan ddigwyddai'r llain wywedig ymddangos, byddai dychryn mawr ar aelwyd y tyddyn hwnnw, gan y cyfrifid hynny yn arwydd sicr y digwyddai marwolaeth fuan ym-hlith y teulu, neu'n sicr o fewn y flwyddyn honno. Dywedid gan ddynion cyfrifol iddynt weled y llain wywedig lawer gwaith yn y plwyf, ac yn rhyfedd iawn tystiolaethent yn un-frydol y byddai marwolaeth yn dilyn yr arwydd bob amser.
Arwyddion byd y meirw hefyd oedd ceiliog yn canu cyn hanner nos, cŵn yn udo, ac ysgrechiadau adar y nos. Pan glywid y lleisiau annaearol hyn byddai ofnau yn codi ym
Q
mynwesau llawer truan gwan.
Gwyddai Thomas Thomas, y saer, noson ymlaen llaw bob amser ei fod i wneuthur ysgrîn (arch) i ryw druan neu'i gilydd drannoeth. Clywai sŵn llifio, plaenio, a morthwylio yn ei weithdy yn ystod y nos bob amser yn rheolaidd cyn gwneuthur ysgrîn.
{{c|Y TYLWYTH TEG}}
Gelwid y Tylwyth Teg gan hen bobl Llanegryn yn "Bobl Fach Deufyd." Diwrnod ffafriol i'r Tylwyth Teg ym-ddangos fel rheol oedd diwrnod tywyll, niwlog. Ym-ddangosent mewn ffurfiau a lliwiau amryliw prydferth, a hoffent ddawnsio ar gylch crwn ar ddôl dlos. Meddent ar ryw hoywder ysgafn a chwim a chanent ar adegau'n soniarus a pheraidd. Adroddid amdanynt weithiau yn lladrata ambell enethig hawddgar, a gofynnid am fedr neilltuol i gael yr eneth a ladratawyd yn ôl oddi arnynt. Un dull oedd eu gwylio yn dyfod allan i ddawnsio a'r eneth yn eu cwmni ar un o'u hoff ddolydd, a phan fyddai'r dawnsio yn ei lawn asbri, nesu yn ysgafn-droed at eu cylch a chipio'r eneth ymaith ar yr amrantiad lleiaf. Caeau Corlan-yr-ŵyn, a chae'r Moel-mon oedd rhai o'u hoffaf dolydd i ddawnsio arnynt. Byddai eu cylchoedd gleision ar y dolydd hyn bob amser yn lliwgar ac yn beraidd eu harogl. Sonnid am Dylwyth Teg yn cadw gwartheg. Adroddid llawer am wartheg blithion a lliwus Tylwyth Teg llyn Cyri. Gosodid y treiddgaraf ei olwg o'r Tylwyth i wylio'r gwartheg oddi ar Graig y Llyn, a phan ddigwyddai iddo weled dyn yn dyfod i'r golwg o rywle ar Flaen-cwm-llwyd, galwai ar y gwartheg i'w ddilyn a neidient hwythau ar ei ôl o'r golwg i ganol y Llyn. Galwai arnynt mewn rhigwm fel hyn:—
Camwig, camilig, a phedair Alarig Alarig din egwan, a Nodiad y Llyn Dowch adref yn un godowdy.
Hoffid yn yr amser gynt adrodd am geffylau Tylwyth Teg Esgair Berfedd a Nantysberi. Meddent ar ystabl eang a hardd o'r golwg ym mherfedd y mynydd. Prynent a gwerthent<noinclude><references/></noinclude>
jbi66orcyhycz9lvshwczzft5bs51ic
161822
161817
2026-03-31T21:08:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161822
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IX}}}}
{{c|Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nos-weithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedig-aethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion. }}
{{c|GWYLLIAID Y FFORDD-DDU}}
MAE'N sicr bod gwylltineb anwar yn nodweddu bywyd cymdeithasol ardaloedd gwledig Meirion yn yr ail ganrif ar bymtheg. Cartrefai gwylliaid yng ngheseiliau cymoedd cudd y mynyddoedd, gan ddisgwyl am ryw ysglyfaeth neu'i gilydd i syrthio i'w dwylo, a rhuthrent yn sydyn o'u cuddfeydd ar bersonau ac eiddo preswylwyr y dyffryn-noedd a'r gwastadeddau ar adegau llwm a chaled. Creai atgof am wylliaid y Ffordd-ddu ofn a dychryn ar ysbrydoedd dynion hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Cyfrifid gŵr yn wrol os anturiai dros y mynydd i Ddolgellau ar hyd y Ffordd-ddu, os oedd ganddo ychydig o arian yn ei boced. Gwyliadwrus a fyddai'r ehofnaf, gwyliai lwybrau'r lladron o gwm i gwm, ac o drum i drum, a gwibiai ei lygaid fel mellt o nant i nant, ac o drofa i drofa.
Bu tylwyth crwydrol, heb gartref arbennig, yn byw ar fynyddoedd godre Cader Idris; llochesent ym murddunnod hen Hafotai a oedd heb lwyr ddadfeilio ar yr hysfeydd. Cofiai'n tadau'n dda am yr olaf ohonynt. Hen ferch ydoedd a chysgodai rhag gerwinder y gwynt a'r glaw mewn magwyrydd adfeiliedig. Gwasgai angerdd y ddrycin hi at drothwy tai godre'r mynydd i ymofyn am damaid a llymaid.
Parai enwi Deio'r Ffowlar Du a Deio'r Twca Du gryn gyffro mewn cwmni. Y mae'n wir ddarfod rhoddi'r enwau
Q
hyn ar amryw gymeriadau'r mynydd-dir, ac nad oedd ar rai ohonynt fawr o ysfa am ddim mwy na herwhela a chrwydro. Nid oedd yr olaf a elwid yn Deio'r Ffowlar Du yn ddim angen na herwhelwr digon diniwed ar derfynau plwyfi Llanegryn a Chelynnin, a bu'r truan anghenus farw neu foddi mewn nant ar y mynydd. Disylw oedd ei darddiad ef wrth weithred-oedd ellyllig y Deio'r Ffowlar Du a fu'n frenin ar giwed greulon hen lwybrau'r mynyddoedd. A gŵr o'r un nwyd a dichell ag yntau oedd Deio'r Twca Du cyntaf. Cleddyf byr oedd y twca, a bu un ar gael am flynyddoedd wedi i'w berchennog fynd i ffordd yr holl ddaear. Dywedir mai yng Nghwm-ŷch y gwelwyd y Twca Du ddiwethaf.
Byddai rhuthriadau llechwraidd gan y gwŷr digydwybod hyn ar nosweithiau hirion a thywyll y gaeaf yn creu arswyd anaele ar wragedd a phlant yn yr hendrefi, ac anheddau'r gwaelodion, a dychwelent yn aml i'w llochesau a'u hanrhaith yn drwm. Ond nid dynion i ofni ac arswydo rhag yr ellyllon ysgeler oedd gwŷr y godreon a'r gwastadedd, a gadael iddynt gyflawni eu drygwaith yn ddiwarafun. Pan glywai clustiau meinion y bugeiliaid sŵn y gwylliaid yn symud dros ael y mynydd, codent eu cri gan alw ar y dewrion i'r gad, ac ar fyr amser byddai godreon y mynydd yn fyw gan wŷr traed, gwŷr meirch, a bytheiaid yn ymlid, a llawer ysgarmes waedlyd a fu rhwng y gwylliaid a thrigolion y fro. Gwyliwyd y gwyll-iaid lawer tro yn cludo eu meirwon a'u clwyfedigion ar doriad y wawr fore trannoeth yr heldrin i'w llochesau ar Allt-y-bedw a Phenbryn-y-foelas. Yr oedd tosturi a brawdoliaeth gref yn ffynnu ymhlith y gwylliaid eu hunain. Y mae anrhydedd, medd y ddihareb, ymhlith lladron. Cyd-ocheneidient yn sŵn dioddefaint ei gilydd, ac aberthent eu gwaed yn rhwydd er mwyn eu brodyr. Crwydrent hefyd filltiroedd lawer i hela cynhaliaeth i'w cymdeithion anffodus.
Enwau rhai o wylliaid y Ffordd-ddu ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg oedd, William Dafydd Goch, Huw ap Morris a Samuel William. Trigiannai William Dafydd Goch yn Nhir-y-pymtheg yn 1613, ond y rhan fynychaf, hoffai gael ei draed ar dir Llanegryn. Mangre a garai oedd
Q
Geufron-hen a'r Foel Drefa, a Phantllwyfog ar odre'r Foel, sef ar lwybrau oedd yn arwain o Ardudwy am Gyfeiliog. Yr oedd amryw o dylwyth y Cochiaid yn byw yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm a Chwm-Idnerth-uch. Yr olaf o'r cyfenw hwnnw y sylwasom arno oedd Huw Goch a drigiannai ar odre Esgair Berfedd tua dechrau'r ddeunawfed ganrif.
Anrheithiai'r gwylliaid hyn fyd ac eglwys. Cyflawnent bob ysgelerder ac anfadwaith yn eu nwyd. Prin y dihangai gŵr gyda'i hoedl os syrthiai i ddwylo'r mileiniaid hyn, a'i hoedl yn unig, bid sicr, a adewid iddo. Ni chredai pobl dda Llanegryn fod bywyd yr un dyn yn ddiogel ar ffiniau'r Ffordd-ddu oni byddai angel gwarcheidiol yr Arglwydd yn amddiffynydd iddo. Gosodwyd amryw groesau ar enau'r bylchau a arweiniai i'r mynyddoedd. Gelwid dwy ohonynt yn Groes Egryn. Ni feddai'r gwylliaid ar ddigon o haerllugrwydd i ymosod ar yr un truan diymadferth a gaffai ei law ar y groes. Bu llawer truan a'i afael yn ddiollwng yn y groes hyd nes deuai ymwared. Os digwyddai'r gwylliaid lofruddio gŵr mewn ymrafael ceisient ddileu pob olion o'r anfadwaith drwy daflu'r corff i ben tas o fawn a'i rhoi ar dân. Gwyddid yn dda am yr erchylltra hwnnw o'r eiddynt, ac os canfyddid tân o'r fath, brysid ar unwaith i'r lle, a cheisid achub y corff cyn ei lwyr ddifa, drwy dyrchu yn y gynnau dân amdano.
Yr oedd yn arferiad cyffredin yn yr ail ganrif ar bymtheg i nifer o wŷr ymgynghreirio â'i gilydd i ysbeilio eu cymdogion yn ystod oriau tywyll y nos. Aeth yr afreoleidd-dra hwn o ddrwg i waeth yn y plwyf. Ar adegau cynghreiriai uchelwyr y plwyf ag anrheithwyr y Ffordd-ddu i ysbeilio a dinistrio bywyd ac eiddo gwŷr y fro. Poenydient a chy-thryblent ddynion gymaint nes eu gorfodi i ymadael â'u cartrefi a moddion eu cynhaliaeth. Ysbeilient eu heiddo a'u hanifeiliaid, a llosgent eu hadeiladau i'w sylfeini, a chyhuddent ŵr ar gam er mwyn ei ddwyn o flaen yr Uchel lysoedd i geisio ei ddychrynu i ffoi o'r wlad, ac iddynt hwythau gael cyfle i ysbeilio ei dir a'i eiddo.
Ymgynghreiriodd rhai o brif uchelwyr Dyffryn Dysynni â gwylliaid Llanegryn i anrheithio uchelwr o'r enw William
Q
Dafydd ap William. Yn ei ddeiseb a anfonodd ef at Frenin Lloegr ceir enwau'r cynghreirwyr, sef James Pryce, Ynys-y-maengwyn, Humphrey Jones, Hugh Griffith Owen a Dafydd Llwyd ap Tudur, prif foneddwyr yr ardaloedd. Yr oedd Syr James Pryce yn fab Gogerddan,a phriododd ferch ac etifeddes Humphrey Wynn o Ynys-y-maengwyn. Bu'n Siryf Meirion-nydd ddwywaith, sef yn 1606 a 1621. Gwnaeth Iago I ef yn farwnig, ac ef oedd tywysog Cwmwd Tal-y-bont. Gwelsom enw Dafydd Llwyd ap Tudur fel un o brif dystion gweithred briodasol un o deuluoedd pennaf y plwyf. Llwyddasant i orfodi William Dafydd ap William i roddi llawer o arian iddynt. Ymosodasant ar ei dŷ, ei eiddo, a'i anifeiliaid yn nhrymder nos. Ysbeiliasant ei ŷd a'i wair a rhanasant y cyfan yn eu plith eu hunain, a rhoddasant ef ei hun yng ngharchar y sir yn Nolgellau.
Arfogasant eu hunain i'r carn â phob math o arfau dinistriol, fel mai gorchwyl anodd oedd dianc ac ymguddio rhag eu dialedd. Diolch am i'r wlad godi o ddyfnderoedd llygredig ac anfoesol y drefn "trechaf treisied a'r gwannaf gwaedded" a ffynnai yn gyffredin yn yr ail ganrif år bymtheg yng Nghymru, a hynny'n aml dan rith deddf gyfiawn. Ond y trueni mwyaf yw y goddefwyd i laweroedd o'r dihirwyr barhau i feddiannu eu hysbail anghyfiawn a hefyd eu hepil ar eu hôl.
A da y gwnaeth Dafydd ap William fynd â'r giwed annynol o flaen llysoedd ein gwlad, a dinoethi eu hystrywiau creulon. Pwy oedd y William Dafydd ap William hwn? Dyna'n hollol oedd enw perchennog ystâd Rhydcryw, a oedd yn briod â Margaret, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, ac wyres i'r Barwn Lewis Owen. A hwy oedd yr union dylwyth i ymlid Gwylliaid Cochion Mawddwy a'r Ffordd-ddu o'r tir.
Bu gan Owen Gruffydd, Peniarthuchaf, ran yn hela'r gwylliaid at eu coed, a'i briod yntau oedd Ursula, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, a chwaer i Lewis Owen o Ben-iarth. Dymchwelodd y giwed dŷ o'i eiddo, a elwid Tŷ-tan-y-bwlch, a fu'n dafarn enwog ar fin y Ffordd-du, a dug ef y dihirwyr William ap John ab Ifan ac Elin ei wraig, William Dafydd, ac eraill o flaen Llys y Seren am eu hanfadrwydd.
{{nop}}
Yn araf y daeth ein cymoedd yn ddiogel i ŵr ac anifail drigo ynddynt.
{{c|Y SIPSIWN}}
Sonnir yn nhraddodiadau Llanegryn am ddau dylwyth o Sipsiwn, a fu'n trigiannu ar froydd yn y plwyf, sef tylwyth Abram Wood, a thylwyth Alabeina. Daeth y ddau dylwyth i'r ardaloedd hyn oddeutu canol y ddeunawfed ganrif. Preswylient ar gytir Rhiwfelen; yr oedd aml furddun ar y cytir hwn yr adeg honno. Safai cytir Rhiwfelen ar y mynydd sy'n wynebu Tairmynydd, ac yn cyrraedd o'r Fign i'r Allt-lwyd. Hoff fangre gan un gainc ohonynt oedd wtre Rhiw-felen-fach. Yr oedd Sipsiwn yr wtre hon yn gartrefol yn y fro, ac ymgysgodent mewn hen furddun a oedd ym mhen draw'r wtre, a fu'n efail yn ôl y traddodiad.
Hoffai rhai ohonynt ymgysgodi yn Hafoty'r Waun; yr oedd yno amryw hen adeiladau o gwmpas, a thrigiannent oddi ar y Nant, ac ar y Fign yng nghymdogaeth Clawdd-du. O'r Clawdd-du y claddwyd Abram Wood, hen bennaeth cangen o'r Sipsiwn, ac mewn cyfnod diweddarach, hoffai amryw ohonynt breswylio oddeutu'r Corun, Glan-y-morfa-bach a'r Blaidd.
Ceir eu hanes yn priodi yn eglwys Llanegryn, a phan ddigwyddai hynny byddai gorohian mawr yn nhafarndai'r ardal. Treuliwyd llawer noson ddifyr hyd oriau mân y bore yng nghwmni'r sipsiwn llon yng Nghefn-coch, Tan-y-bwlch a gwahanol dafarndai'r gymdogaeth.
Cenid y telynau a'r crythau gan y sipsiwn, a chenid penillion gan y Cymry, a dawnsid gan y sipsiwn a'r Cymry yn gymysg. Perthynai i dylwyth Abram Wood gôr a elwid yn gôr y Tylwyth Teg, a difyrasant lawer calon ac aelwyd yn ystod y cyfnod maith y buont hwy'n trigiannu yn yr ardal.
Ystyrid hwy yn frodorion yr ardal, a cheir cofnodiad am fedyddio rhai o'u phlant yn eglwys Llanegryn.
{{c|TELYNORION}}
Rhestr o delynorion a fu'n byw o dro i dro yn y plwyf:—
1670. Richard Pugh. Telynor Peniarth.
Q
1778. Thomas Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1797. John Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1819-29. Robert William. Telynor Peniarth. Yr oedd ef yn frodor o'r plwyf; yr oedd yn frawd i Mari William, Llwyn-y-fynwent, a hoffai hithau farddoni dawnsio. Telynor dall oedd ef, ac ef oedd yr olaf a fu'n delynor teulu Peniarth. Bu farw'n gymharol ieuanc, a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn. Gwelir ei garreg fedd yn y fynwent a llun telyn arni. Y mae ei ffon ar gael gydag un o'r teulu, a'i enw Robert William, Telynor, Beddgelert, wedi ei dorri arni.
1859. Jeremiah Wood ac Elinor Wood.
1859. John Roberts. Priododd ag Elinor Wood, merch Jeremiah Wood.
Byddai Mathew Wood a Harri Wood yn ymweled yn feunyddiol â Llanegryn. Dau delynor gwych.
{{c|CYMDEITHAS CYMREIGYDDION LLUNDAIN}}
Yr oedd gŵr o'r enw Lewis Humphrey o Lanegryn yn un o'i haelodau mwyaf adnabyddus, ac yn un o ddatgeiniaid penillion gorau Llundain ar y pryd.
{{c|CANU}}
Yr oedd canu a dawnsio yn reddfol yn hen drigolion Llanegryn. Dawnsid a chenid yn hen dafarnau'r plwyf hyd y bore bach. Yr oedd offerynnau cerdd yng ngwasanaeth yr Eglwys; eisteddai gwŷr yr offerynnau yn y Groglofft.
Gydag Ymneilltuaeth y daeth canu cynulleidfaol i arferiad a sylw. Gwresogrwydd oedd nodwedd amlwg canu cynull-eidfaol yn Llanegryn. Byddai hen wragedd yn canu'n egnïol frach-ym-mraich gan ysgwyd eu holl gorff o ochr i ochr. Dywedid y byddai Hugh Pugh yn y capel Wesle, fel y gelwid ef yr adeg honno, yn chwibanu y dôn cyn dechrau ei chanu.
Dyn ieuanc o'r enw John Williams, Plascorniog, a ddechreuodd ddysgu'r Tonic Solffa i ieuenctid yr ardal.
{{nop}}
Bu canu corawl mewn bri yn y pentref. Bu Eglwys y plwyf yn enwog am ganu Corawl, a bu sôn mawr am gôr Eglwys Llanegryn yn eu gwenwisgoedd.
Enillodd côr meibion a chôr cymysg Llanegryn enw uchel ym myd eisteddfodol Gogledd Cymru o dan yr arweinyddion Owen Jones, Bryn-gwyn, Griffith Roberts a T. E. Humphreys.
{{c|GWYLIAU}}
Bu'r gwyliau eglwysig yn ddyddiau nodedig ym mywyd yr ardal oherwydd ynglŷn â rhyw ŵyl neu'i gilydd y cyflawnid pob rhyw orchwyl crefyddol, cymdeithasol a masnachol. Rhoddid enw da i bawb a gadwai'r gwyliau'n selog, ac a gerddai'n ffyddlon arnynt i'r eglwys.
Telid y trethi a'r rhenti yn yr hen amser ar Wyl y Pasg a Gŵyl Fihangel. Gosodid tyddynnod bob amser ar Ŵyl Fair, y 25ain o Fawrth neu ar Ŵyl Fihangel, y 29ain o Fedi. Ar un adeg dechreuai'r tyddynnwr drin tir ei dyddyn newydd ar yr Ŵyl Fair, a syrthiai ar y 13 o Chwefror, sef yr hen Ŵyl Fair; meddiannai hanner yr anedd-dy a'r adeiladau ar y 25 o Fawrth, a chymerai feddiant llwyr o'r tyddyn Glanmai, y 13 o Fai, sef yr hen Galanmai. Bu dydd Gŵyl Phylip ac Iago yn adeg y gwneid llawer o fusnes arni ynglŷn â phrynu a gwystlo tir.
Prif wyliau'r plwyf oedd y Nadolig, y Groglith, y Pasg a'r Sulgwyn. Dydd o rialtwch a phleser fu'r Nadolig hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Bu gwneud cyflaith ar nos cyn y Nadolig yn rhan amlwg ym mywyd yr ardal. Sonnid a pharatoid am y cyflaith wythnosau ymlaen llaw. Arferid dewis partïon at wneud y cyflaith yng ngwahanol dai'r gymdogaeth, a llawer o helyntion blin a fu oherwydd direidi llanciau'r fro yn ceisio taflu rhyw aflwydd neu'i gilydd i grochan cyflaith y naill barti a'r llall. Teflid rhywbeth annymunol i lawr y simnai heb funud o rybudd, a byddai'r holl gegin ar amrantiad yn huddygl a mwg a phawb yn mygu a thagu, ac yn gweiddi am yr uchaf. Byddai cyflwr y cyflaith yn waeth na chyflwr neb ohonynt, a thuhwnt i bob gobaith i'w adfer. Er gwaethaf y siom a'r golled am y cyflaith, ni ddinistrid dim ar londer na nwyfusrwydd
Q
ysbryd y parti. Ymolchent ac ymdrwsient at gychwyn i'r Plygain a fyddai yn yr eglwys am bump o'r gloch y bore. Goleuid yr eglwys â chanhwyllau, a byddai'n llawn o drigol-ion o wahanol ardaloedd. Treulid awr a hanner o amser difyr i wrando ar ganu soniarus yr hen garolwyr. Paratoid am wythnosau i ddysgu'r carolau, a byddai awyrgylch y geni ym Methlehem Effrata wedi eneinio ysbryd y cantorion a'r gwrandawyr. Bu'r Plygain yn foddion i wneuthur hanes geni'r Iesu yn hyddysg iawn i'n cenedl.
Wedi gwledda ar yr ŵydd, y rhynion a'r triagl du, llysiau'r ardd, a'r plwm pwdin, treulid y prynhawn gan yr ieuenctid i chwarae. Cicio pêl droed oedd y prif chwarae, a'r hoff fan oedd y Pymtheg. Chwaraeid yn yr hen amser rhwng trigolion Llanegryn a Chelynnin. Yr oedd ar y Pymtheg garreg derfyn o faintioli mawr, a hi oedd y garreg goel. Ymdrechai ieuenctid Llanegryn gadw'r bêl ar dir Celynnin, a byddai ieuenctid Celynnin o'r ochr arall yn ceisio eu gorau ei chadw ar dir Llanegryn. Gyda'r hwyr cyrchid i dafarndai y ddau blwyf i ymyfed, canu a dawnsio. Byddai telynorion tylwyth Abram Wood yn rhan anhepgor yng ngorohïan llon nos Nadolig y fro. Byddai gwledda mawr am ddyddiau ar ddiwedd y flwyddyn, a chedwid nosweithiau llawen drwy'r fro.
Yr oedd herwhela'n arferiad pwysig ar Wyliau'r Nadolig yn y plwyf. Ymgasglai'r herwhelwyr yn dorf ar fore dydd Nadolig ar fan arbennig, ac aent gyda'i gilydd drwy'r plwyf heb i neb eu gwarafun i unman yn fwy na'i gilydd; yr oedd tir y plwyf yn dir rhydd iddynt yn ystod y Gwyliau.
Nodweddid bywyd Llanegryn gan afiaith anghyffredin ar rai o'r hen wyliau. Ystyrid y Groglith y gysegredicaf o'r holl wyliau; ymwrthodid yn llwyr rhag cyflawni dim gwaith afraid ar yr ŵyl hon. Credid nad oedd adar yr awyr yn gwneuthur dim ar yr ŵyl, hyd yn oed ar eu nythod eu hunain. Ymlonyddai pawb a phopeth ar ddydd angau chwerw'r Groes.
Gŵyl y Pasg oedd prif ŵyl yr eglwys, a rhoddid pwys mawr ar gydgyfranogi yng nghymundeb Sul y Pasg. Dywedai'r Parch. Vincent Humphreys, curad Llanegryn, bod tua dau gant yn cymuno yn yr eglwys ar Sul y Pasg yn 1776.
Q
Chwaraeid ar wyliau'r Pasg, Iau Dyrchafael, a'r Sulgwyn, a hyd yn oed ar Ŵyl y Groglith. Byddai ymladd ceiliogod yn uchel ei fri ar y gwyliau hyn. Ystyriai'r hen bobl fod gwenwyn yn codi oddi ar y dŵr ar ddydd Iau Dyrchafael, ac y gallai pawb fentro ymdrochi wedi hynny mewn unrhyw afon neu'r môr.
Dydd poblogaidd oedd Mawrth Ynyd, a gwleddid yn fawr arno. Byddai crempogau yn helaeth ar bob aelwyd, a chig rhost lle y gellid fforddio hynny. Hoffai'r plant ddyddiau Mercher Lludw ac Iau Dyrchafael, oherwydd cydgerddid i'r eglwys o'r ysgol yn y bore, a cheid y prynhawn yn rhydd i chwarae. Bu'n arferiad ar un cyfnod gan blant ysgol Llanegryn fynychu'r eglwys am 8.30 bob bore yn ystod y Grawys. Dywedir mai'n ystod tymor y Grawys yr arferid â gweinyddu'r gosb o gario'r Welsh Note am siarad Cymraeg yn yr ysgol, cyn i'r arferiad taeogaidd ddiflannu'n llwyr o'r ysgol.
Llwyddodd yr hen wyliau a'u hen arferion i gadw rhyw undod ynom fel plwyf a chenedl.
{{c|GWYL MABSANT}}
Disgyn dydd Nawddsant yr Eglwys ar ddydd Dyrchafael (''Assumption'') Mair, y 15ed o Awst, neu'n ôl yr hen gyfrif, y 26ain; a chynhelid yr Wyl Mabsant ar y Sul a'r Llun cyntaf ar ôl dydd Dyrchafael Mair, neu ar y dydd hwnnw os di-gwyddai iddo fod ar y Sul.
Dydd mwya'r flwyddyn yn y plwyf oedd dydd Gŵyl Mabsant. Cynhesai calon pawb a feddai waed Llanegryn yn ei wythiennau wrth glywed sôn am yr Wyl. Cyrchai hil tir Llanegryn yn hen ac ieuanc tuag adref o bell ac agos erbyn dyddiau'r Ŵyl. Deuai cyfeillion ac ymrysonwyr o'r plwyfi cyfagos yn lluoedd i'r pentref i gymryd rhan yn y rhialtwch a'r hwyl.
Hawliai'r plwyfolion gael dechrau dathlu'r Ŵyl yn gynnar ar y Sul, er gwaethaf pob rhybuddion o eiddo'r awdurdodau. Cyn bron y byddai'r Gwasanaeth Boreol yn eglwys y plwyf drosodd, cyniweiriai rhyw gynnwrf drwy'r fro, ac anesmwyth-ai'r swyddogion eglwysig a phlwyfol rhag i'r rhialtwch gychwyn
Q
yn annhymig ac afreolaidd, cyn cyflawni'n weddus ofynion crefyddol y dydd. Wedi cinio cynnar ymdeithiai'r Wardeiniaid tua'r pentref i ymorol bod popeth yn weddaidd a heddychol. Gwyddai'r pentrefwyr yn dda'r awr y byddent hwy ar bont y pentref, a gofelid bod tawelwch yn teyrnasu ymhob man, a gwedduster yn ffynnu ar bob aelwyd. Trefnid y cyfan i weithio'n gymwys er mwyn i'r Wardeiniaid fel gwarcheidwaid heddwch y fro droi eu cefnau a dychwelyd i'w cartrefi yn ddiymdroi. Gwyddai'r Wardeiniaid yn dda nad oedd y tawelwch a'r gwedduster yn ddim ond y distawrwydd sydd yn digwydd o
digwydd o flaen storm, ac y byddai'r rhialtwch ar fyrder yn ei lawn afiaith yn y pentref. Ni throesant erioed yn eu hôl i fwrw tramgwydd na rhwystr ar hen arfer a phleser hir-ddisgwyliedig y plwyfolion. Mor gynhyrfus a nwyfus oedd pawb fel y byddai'r pentref yn ferw gwyllt ymron ar amrantiad, a phawb wedi colli eu pennau'n llwyr mewn dawnsio, canu, chwarae, ymyfed, a gwledda. Byddent wedi eu rhannu eu hunain yn gwmnïoedd yn ôl eu chwaeth ar fyr dro. Yr oedd hanner dwsin o dafarndai yn y plwyf, a chyrch-ai'r rhai o'r un afiaith gyda'i gilydd i'r tafarndai a fyddai wedi eu dethol ganddynt ymlaen llaw.
Tynnu torch, codi pwysau, bwrw maen, ymaflyd codwm, neidio, a rhedeg oedd y campau ymryson pennaf yn ystod yr Wyl.
Cynhelid y chwaraeon a'r mabolgampau mewn gwahanol fannau yn y plwyf. Cynhelid llawer o'r mabolgampau ar Flaen Talwrn yn agos i'r eglwys a Thyn-llan, a dywedir bod rhai o'r hen gerrig pwysau neu gerrig gorchest wedi eu gosod ar ochr y ffos sydd ar fin y ffordd ar Flaen Talwrn. Deuai'r trigolion yn dorf at Gored Peniarth at yr hwyr. Goleuid y coed â llusernau canhwyllau gŵer wedi iddi ddechrau nosi. Canai'r crythorion uwchben oddi ar ganghennau'r coed, a dawnsiai a chanai'r dorf yn gylchoedd o amgylch y coed; gelwid un o'r coed hyn hyd yn ddiweddar yn Goeden y ffidlers. Daliai'r rhialtwch ymlaen hyd doriad y wawr fore dydd Mawrth.
Adroddai amryw hen drigolion Llanegryn wrth y Parch. Griffith Arthur Jones yn 1862, cu bod yn cofio'r Wyl yn cael
Q
ei chynnal ym mhlwyf Llanegryn. Ceisiodd ef ei orau adfer yr hen Ŵyl Mabsant yn Llanegryn ar linellau mwy diweddar, ond ni bu fawr o lwyddiant ar ei ymgais i roddi ail-fywyd i'r hen sefydliad a fu o gymaint bri yn y fro. Cyflawnodd yr hen Ŵyl ei gwasanaeth; cadwodd gariad at fro a chymdogaeth i losgi'n gynnes ym mynwesau'r Cymry.
{{c|YMLADD CEILIOGOD}}
Y pechod mwyaf ar a wneir
Rhoi arfau dur ar 'winedd ieir.
Bu ymladd ceiliogod mewn bri yn Llanegryn. Trefnid ymladdfeydd ar ororau'r plwyf a phlwyfi'r cylch. Ymleddid oddeutu'r Pymtheg a'r Clawdd-du â phlwyf Celynnin; a thua Hafoty-fach ag ochr Dolgellau. Cyfarfyddid â Machynlleth yn Abergynolwyn. Teithid weithiau cyn belled â Dinas Mawddwy. Ar wyliau Iau Dyrchafael, Llun y Pasg, a'r Groglith y byddai miri'r ymladd yn ei anterth. Dywedir mai dyn dall oedd prif gefnogydd chwarae cocyn yn Llanegryn am flynyddoedd meithion.
Ceir pit ymladd ceiliogod yn aros o hyd ar y ddôl o flaen plasty Peniarthuchaf. Adeiladwyd ef yn gelfyddgar o gerrig. a grisiau wedi eu codi i fynd a dyfod iddo. Ceir morteisi au yn y cerrig at roddi math o reiliau o'i amgylch rhag i un o'r ceil-iogod ddianc pan gollai'r dydd yn y frwydr. Yr oedd amryw bitiau ar y Ceunant, a cheid un ar Gae Gwyn yn agos i goed Peniarth. Pitiau wedi eu cloddio yn y ddaear oeddynt fel rheol. Anodd yw canfod yr un ohonynt erbyn hyn. Ar ffridd Bredyn-fach y mae'r rhai amlycaf.
{{c|CASEG FEDI}}
Yn ystod y cynhaeaf ŷd y disgwylid clywed sŵn y Gaseg Fedi yn carlamu i chwarae ei champau direidus a chyffrous. Byddai cryn ymryson tawel ymhlith y medelwyr pwy a'i gollyngai gyntaf yn rhydd, oherwydd ystyrid hwy y medelwyr blaenaf yn y plwyf. Yr oedd defod ddiddorol a hynod ynglŷn â'r chwarae hwn. Pan gyrhaeddid at y crymaniad olaf o'r cynhaeaf ŷd ar
Q
unrhyw dyddyn, casglai'r medelwyr o'i ddeutu i wylio rhag i ysbryd yr ŷd ddianc. Gadewid y tusw olaf heb ei dorri. Plethid ef yn blethen; ac wedi ei blethu yn blethen gelwid hi mwy yn Gaseg Fedi. Safai'r medelwyr yr un pellter oddi wrthi gan geisio ei gollwng yn rhydd drwy daflu eu crymanau amdani a'i thorri. Wedi i un lwyddo ei gollwng, taflai hi ar draws ei ysgwydd gan redeg a phawb yn ei ddilyn am yr amaethdai a ddigwyddai fod heb orffen medi. Yn llawn direidi ac asbri aflywodraethus gollyngent y lloi a'r moch o'u cutiau gan eu harwain i'r meysydd ŷd oedd heb eu medi. Caseg gynhyrfus a llawn castiau drwg oedd y Gaseg Fedi. Maddeuai pawb iddi am y direidi a'r cyffro a achosai ar ei rhawd wyllt.
{{c|NOSWEITHIAU LLAWEN}}
Y mae'r atgofion am y nosweithiau llawen bron wedi diflannu'n gyfangwbl o'r plwyf.
Nos Glangaeaf oedd y noson fawr ymhlith nosweithiau llawen y flwyddyn; rhyw oroesiad oedd hi o'r hen ŵyl a gyn-helid pan ddeuid i lawr o'r hafotai i'r hendrefi ar ddiwedd yr haf. Heblaw gwledda a chwarae a dawnsio ar nos Glangaeaf, llosgid coelcerthi ar ben y bryniau nes bod yr holl fryniau yn wenfflam olau.
Bu noson lawen ar ddiwedd y cynhaeaf mewn bri mawr. Wedi hynny bu'n arferiad a chryn bwys arni fynd am ddiwrnod o fôr; âi teulu'r fferm a'r gwasanaethyddion i gyd gyda'i gilydd yn y wagen i lan y môr. Trefnid pob math o ymborth a mwynheid dydd llawen yn sŵn y don, a phawb ohonynt yn eu tro yn ymdrochi, yn chwarae, ac yn gwledda. Dychwelent adref gyda'r hwyr a phawb yn llawn asbri a direidi.
Cedwid math o noson lawen yn feunyddiol yn nhyddynnod y plwyf yn ystod y gaeaf; deuai cyfeillion y gymdogaeth at ei gilydd ar fyr rybudd i gegin fawr un o'r tyddynnod i gyd-wledda, ymyfed a dawnsio, yn gymysg a chanu, barddoni, ac adrodd ystraeon.
Cynhelid nosweithiau a elwid yn noson lawen wau a noson lawen bilio pabwyr; gelwid hwy hefyd yn gymorth gwau a philnos. Ymgasglai'r teuluoedd at ei gilydd i helpu eu
Q
cymdogion drwy gyd-wau hosanau, neu gyd-bilio'r pabwyr. A byddai rhyw ymborth ac enllyn wedi eu paratoi i bawb gyd-wledda arnynt gyda'i gilydd, a phawb yn ymroi i wneuthur eu gorau i gadw'r cwmni'n ddiddan ac yn eu hwyliau da. Clywsom mai yn y Rhos y cynhelid y gwyliau hyn ddiwethaf. Bu'r nosweithiau llawen yn gyfryngau rhagorol i ddiwyllio doniau canu, barddoni, ac adrodd yn yr ardal; a hefyd i gadw traddodiadau'r gorffennol yn fyw, a meithrin ysbryd cymdeithasol iach a diddanus yn y plwyf. Cadwai hefyd ysbryd crefft yn llawn nwyf yn y fro. Gofynnai pilio pabwyr law ysgafn a chywrain ac un a fyddai'n sicr iawn o'i phlwc, ac nid pawb a allai gadw'r bilen yn fain a chyfan, ac nid pob math o frwyn a wnâi babwyr da. Yr oedd eisiau llygad a llaw dda i hel y pabwyr.
Yr oedd gweu hosan a fyddai yn unffurf â choes a throed yn gryn gamp. Bu dwylo mamau a gwragedd yn ddiwyd gyda'u gweill; ychwanegodd y dwylo prysur gryn lawer at gyfalaf prin yr aelwydydd. Byddai'r dwylo a'r gweill yn mynd yn ddidor o fore hyd hwyr; os eistedd i hamdena neu os cerdded ar siwrnai a wneid, dal i fynd a wnâi'r dwylo a'r gweill. Cerddai llawer mam a'i baban ar ei chefn am fill-tiroedd a'r gweill yn mynd yn ddiball yn ei dwylo. Hongid y bellen edafedd ar fach melyn wrth linyn y ffedog, a gweithiai'r bysedd yn rheolaidd fel melin. Gweai rhai ag offeryn a elwid yn wain wau, a rhoddid ef yn rhwym wrth y wasg. Gweai ambell hen wraig oedrannus ddwsinau o barau hosanau i deuluoedd lluosog bob blwyddyn. Dwylo gweithgar a darbodus fu dwylo mamau a gwragedd Llanegryn.
{{c|CANU YN DRWS.}}
Hoffai'r hen frodorion sôn am arferiad ddiddorol oedd ynglŷn â'r Noson Lawen a elwid Canu yn drws. Math o ymryson oedd y canu yn drws rhwng y rhai oedd oddi mewn a'r rhai oedd oddi allan yn ceisio cael eu gollwng i mewn i'r neuadd neu'r gegin lle y cynhelid y Noson Lawen. Yr oedd yr ymryson ar ffurf gofyn ac ateb.
{{nop}}
Cesglid at y drws a hawlid mynd i mewn drwy adrodd neu ganu darn o farddoniaeth. Ai'r ymryson ymlaen am gryn amser pan ddigwyddai'r doniau fod yn llithrig o'r ddeutu. Agorid y drws pan gydnabyddid bod y rhai oedd o'r tu allan wedi trechu'r ymrysonwyr oedd o'r tu mewn. Byddai miri mawr pan gyd-ddawnsiai'r ymrysonwyr â'i gilydd ar lawr y neuadd wedi i'r ymrysonfa fynd heibio. Meithrinodd yr arferiad ddawn ymadrodd parod yn ein cenedl.
{{c|CARU A PHRIODI}}
Prin yw'r ardal o draddodiadau caru a phriodi. Prif gwestiwn pob merch ieuanc fyddai "Pwy fydd fy annwyl briod?" neu'n hytrach "Pwy fydd fy annwyl gariad?" Ac y mae rhai o'r moddion a arferid ganddynt er mwyn cael hyd i brif gyfrinach eu bywyd wedi treiglo i lawr i'n dyddiau ni. Un modd tra sicr oedd torri deilen onnen, a dwy ddeilen yn fforchi ar ei blaen, a rhaid oedd ei thorri a'i phlethu â'r llaw chwith, ac adrodd y rhigwm a ganlyn:—
Deilen onnen 'rwyf yn dy dorri,
Ar y pren lle 'rwyt ti'n tyfu.
Cyntaf fachgen a ddaw i'm cyfarfod
Hwnnw fydd fy annwyl briod.
Modd arall gan bobl hygoelus oedd gwneuthur teisen naw rhyw, a mynd â hi i'r ystafell wely'r nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn, a thaflu pellen o edafedd drwy'r ffenestr, ac yna ei dirwyn hi'n ôl gan adrodd:—
Myfi sy'n dirwyn
Pwy sy'n dal?
A'r sawl sy'n dal
Doed yma,
a thaflu carreg fach drwy'r ffenestr ar bob nawfed tro ar y bellen. Dywedir i lawer un drwy'r ddefod hon weled ei gŵr ymlaen llaw. Hoffai'r merched hefyd guro bacsen ar y
Q
garreg olchi wrth y pistyll gan ddywedyd:—Dyma'r facsen, pa le mae'r troed? gan ddisgwyl gweled ei chariad yn dyfod i'r golwg.
Arferiad i fechgyn oedd mynd o amgylch i'r eglwys gan edrych yn nhwll y clo ac adrodd:—Dyma'r llanc, pa le mae'r ferch? neu, Dyma'r llanc, pa le mae'r allwedd? A rhaid oedd gwneuthur y ddefod hon ar nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn.
Anfonid ffon onnen i ŵr ieuanc a gollai ei gariad drwy gael ei redeg gan gyd-ymgeisydd.
Hanes tipyn yn dorcalonnus sydd i'r briodas fawr ar feirch a welwyd olaf yn y plwyf. Daeth y cwmni llon dros y mynydd ar garlam ar gefn meirch porthiannus yn llawn asbri a gorohïan. Gŵr gweddw oedd y priodfab a digwyddai'r briodasferch fod yn chwaer i'r wraig drancedig. Gwrthododd ficer defosiynol Llanegryn weinyddu'r ddefod briodasol, dychwelodd y cwmni siomedig dros y mynydd ar hyd y Ffordd-ddu, ac os digwyddodd y Ffordd-ddu fod yn ddu erioed, yr oedd yn gaddugol y dwthwn hwnnw. Aeth y briodasferch i'w gwely a'i hysbryd yn ddrylliog gan boen a gofid; ac ni bu'n hir cyn y gwelwyd ei chorff yn cael ei gario yn oer ar elor i fynwent y plwyf.
Y mae priodas wedi mynd yn ddigwyddiad dof a diramant yn yr ardal rhagor yr hyn oedd yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Byddai bywyd a rhialtwch yn llond y pentref ar fore dydd y briodas yr adeg honno. Addurnid y pentref a'r ffordd at yr eglwys gan lumanau, a rhwymid mannau ar y ffyrdd rhwng yr eglwys a chartref y briodasferch â rhaffau gan wŷr ieuanc cryfion, a chyn y datodid hwy rhaid oedd ar y briodasferch daflu arian i'r awyr fel y byddai'r un chwarae tegi bawb fel ei gilydd ymgiprys amdanynt. Dydd da oedd diwrnod priodas y pryd hwnnw am geiniog i blant y fro. A churid y pâr ieuanc â reis gan eu caredigion yn arwydd o'u dymuniad am bob llawnder iddynt yn ystod eu bywyd priodasol.
{{nop}}
{{c|FALANTAU}}
Cyfnod cyffrous yn y plwyf oedd dydd Falantau, Chwefror 14, pryd yr anfonai bechgyn a merched ieuainc Falantau i'w gilydd drwy'r post.
Arddangosid y Falantau yn ffenestri mân-siopau'r pentref yn gynnar fel y câi pawb ddigon o amser i ddewis. Yr oedd y detholiad gorau bob amser yn ffenestr siop Mari Puw. Anfonai cariadon Falantau prydferth i'w gilydd i gynnau'r serch yn wresocach nag erioed, ond byddai'r cariadon a ddigiasai wrth ei gilydd yn anfon Falantau sbeitlyd y naill i'r llall, a gwnâi'r rhai a oedd yn eiddigeddus a chenfigenllyd yr un modd. Balchder llawer merch a bachgen ieuanc oedd derbyn Falantau prydferth oddi wrth eu cariadon, a loes chwerw i eraill oedd derbyn rhai sbeitlyd a hagr. Ciliodd yr arferiad ers llawer o flynyddoedd.
{{c|CLADDEDIGAETHAU}}
Ar elor gyffredin y cludid yr eirch i'r fynwent yng ngladdedigaethau'r plwyf. Ni chlywsom fod elor-feirch wedi bod yn perthyn i'r eglwys. Perthynai i'r plwyf arch a elwid yn "arch y plwyf," a arferid i gario'r tlodion a gleddid mewn dim ond amdo'n unig. Cludid hwy yn arch y plwyf o'u cartrefi i'r fynwent, ac yna gollyngid hwy i'r bedd yn eu hamdo.
Pan wnaed y Llyfr Tir (Terrier) yn y flwyddyn 1776, yr oedd dwy elor at wasanaeth y plwyf. Ond ni ddywedir pa fath elorau oeddynt hwy. Yn ddiweddar y daeth elorgerbyd at wasanaeth y plwyf.
Arferid gynt pan gleddid dyn neu ferch ieuanc roddi gor-chudd gwyn dros yr arch; a phan gleddid gŵr a gwraig briod, neu rywun mewn oed rhoddid gorchudd du.
Cenid mewn hen gladdedigaethau ar hyd y ffordd o gartref y marw i'r fynwent. Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf, rhoddid pregeth angladdol wrth y tŷ cyn cychwyn â'r corff am y fynwent. Arferiad ymhlith yr Ymneilltuwyr oedd honno.
{{nop}]
Offrymid mewn cynhebryngau yn Llanegryn yn gyffredin hyd tua'r flwyddyn 1885. Offrymid rhan yr offeiriad ar yr allor yn yr eglwys, a rhan y clochydd ar lan y bedd ar ôl y gwasanaeth claddu, pryd y daliai ef ei raw allan i dderbyn yr offrwm a ewyllysiai pawb ei roddi arni'n wirfoddol.
Byddid yn rhannu diod boeth mewn angladdau; ystyrid ef yn amarch ar y marw oni rennid diod boeth cyn cychwyn oddi wrth y tŷ, a chyrchid i'r dafarn i yfed ar ôl yr angladd. Telid swllt y llaw at gael y cwrw, a pho fwyaf a delid mewn angladd, mwyaf y parch yr ystyrid hynny i'r marw a'i deulu.
Os teimlid bod angen ar deulu'r trancedig, rhoddid yr arch i lawr wrth y dafarn ac offrymid ar ei chaead i'w cynorthwyo, a gosodid bwrdd hefyd wrth y dafarn i dderbyn rhoddion. Wedi i'r arferiad hynod hon ddarfod, gwelid cyfeillion yn cerdded â rhoddion yn eu dwylo a'u mynwesau tua chartref y marw yn swcwr i'r teulu yn eu profedigaeth.
Bu cynnal gwylnos yn arfer yn y plwyf, ond y mae wedi darfod ers llawer blwyddyn. Yr oedd yn arferiad aros dros nos i wylio'r corff tra gorweddai yn y tŷ cyn ei gladdu. Wedi hynny rhoddid canhwyllau wedi eu goleuo yn ystafell y marw dros y nos.
Ceir yng nghyfrifon Lewis Owen, Peniarth, 4/- wedi ei dalu am ganhwyllau claddedigaeth yn 1669, a'r swm o 1/- wedi ei dalu am ganhwyllau gwylnos William Tudur, a rhydd y swm o 18/- a dreuliwyd ganddo yn ei ffordd ei hun yng nghladdedigaethau Dafydd Ellis a Mr. Vaughan.
Gwelir bod y boneddwyr yn hoff o wario eu harian yng nghladdedigaethau eu cyfeillion. Bu talu'r gymwynas olaf yn rhwymedigaeth bwysig yn y plwyf.
{{c|LLÊN GWERIN}}
Er ein bod wedi treulio llawer o'n dyddiau bore yng nghanol hen bobl, ac wedi eu clywed yn adrodd am draddodiadau'r plwyf, eto nid oes fawr o ddim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r rhai a geir yn nhraddodiadau unrhyw blwyf arall yng Nghymru. Rhyfedd fel y clywir yr un traddodiadau'n hollol yr un fath mewn gwahanol ardaloedd ugeiniau o filltiroedd<noinclude><references/></noinclude>
rayywi0zondiig6sujxf8ojprt45uy5
161828
161822
2026-03-31T21:14:49Z
AlwynapHuw
1710
Amnewidiwyd y cynnwys gyda "{{c|{{mawr|PENNOD IX}}}} {{c|Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nos-weithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedig-aethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion. }} {{c|GWYLLIAID Y FFORDD-DDU}} MAE'N sicr bo..."
161828
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IX}}}}
{{c|Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nos-weithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedig-aethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion. }}
{{c|GWYLLIAID Y FFORDD-DDU}}
MAE'N sicr bod gwylltineb anwar yn nodweddu bywyd cymdeithasol ardaloedd gwledig Meirion yn yr ail ganrif ar bymtheg. Cartrefai gwylliaid yng ngheseiliau cymoedd cudd y mynyddoedd, gan ddisgwyl am ryw ysglyfaeth neu'i gilydd i syrthio i'w dwylo, a rhuthrent yn sydyn o'u cuddfeydd ar bersonau ac eiddo preswylwyr y dyffryn-noedd a'r gwastadeddau ar adegau llwm a chaled. Creai atgof am wylliaid y Ffordd-ddu ofn a dychryn ar ysbrydoedd dynion hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Cyfrifid gŵr yn wrol os anturiai dros y mynydd i Ddolgellau ar hyd y Ffordd-ddu, os oedd ganddo ychydig o arian yn ei boced. Gwyliadwrus a fyddai'r ehofnaf, gwyliai lwybrau'r lladron o gwm i gwm, ac o drum i drum, a gwibiai ei lygaid fel mellt o nant i nant, ac o drofa i drofa.
Bu tylwyth crwydrol, heb gartref arbennig, yn byw ar fynyddoedd godre Cader Idris; llochesent ym murddunnod hen Hafotai a oedd heb lwyr ddadfeilio ar yr hysfeydd. Cofiai'n tadau'n dda am yr olaf ohonynt. Hen ferch ydoedd a chysgodai rhag gerwinder y gwynt a'r glaw mewn magwyrydd adfeiliedig. Gwasgai angerdd y ddrycin hi at drothwy tai godre'r mynydd i ymofyn am damaid a llymaid.
Parai enwi Deio'r Ffowlar Du a Deio'r Twca Du gryn gyffro mewn cwmni. Y mae'n wir ddarfod rhoddi'r enwau<noinclude><references/></noinclude>
etc34e898goqhjty6duxt34o5bh8tpi
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/199
104
82885
161818
2026-03-31T20:59:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161818
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mynwesau llawer truan gwan. Gwyddai Thomas Thomas, y saer, noson ymlaen llaw bob amser ei fod i wneuthur ysgrîn (arch) i ryw druan neu'i gilydd drannoeth. Clywai sŵn llifio, plaenio, a morthwylio yn ei weithdy yn ystod y nos bob amser yn rheolaidd cyn gwneuthur ysgrîn.
{{c|Y TYLWYTH TEG}}
Gelwid y Tylwyth Teg gan hen bobl Llanegryn yn "Bobl Fach Deufyd." Diwrnod ffafriol i'r Tylwyth Teg ym-ddangos fel rheol oedd diwrnod tywyll, niwlog. Ym-ddangosent mewn ffurfiau a lliwiau amryliw prydferth, a hoffent ddawnsio ar gylch crwn ar ddôl dlos. Meddent ar ryw hoywder ysgafn a chwim a chanent ar adegau'n soniarus a pheraidd. Adroddid amdanynt weithiau yn lladrata ambell enethig hawddgar, a gofynnid am fedr neilltuol i gael yr eneth a ladratawyd yn ôl oddi arnynt. Un dull oedd eu gwylio yn dyfod allan i ddawnsio a'r eneth yn eu cwmni ar un o'u hoff ddolydd, a phan fyddai'r dawnsio yn ei lawn asbri, nesu yn ysgafn-droed at eu cylch a chipio'r eneth ymaith ar yr amrantiad lleiaf. Caeau Corlan-yr-ŵyn, a chae'r Moel-mon oedd rhai o'u hoffaf dolydd i ddawnsio arnynt. Byddai eu cylchoedd gleision ar y dolydd hyn bob amser yn lliwgar ac yn beraidd eu harogl. Sonnid am Dylwyth Teg yn cadw gwartheg. Adroddid llawer am wartheg blithion a lliwus Tylwyth Teg llyn Cyri. Gosodid y treiddgaraf ei olwg o'r Tylwyth i wylio'r gwartheg oddi ar Graig y Llyn, a phan ddigwyddai iddo weled dyn yn dyfod i'r golwg o rywle ar Flaen-cwm-llwyd, galwai ar y gwartheg i'w ddilyn a neidient hwythau ar ei ôl o'r golwg i ganol y Llyn. Galwai arnynt mewn rhigwm fel hyn:—
{{center block|
<poem>
Camwig, camilig, a phedair Alarig
Alarig din egwan, a Nodiad y Llyn
:Dowch adref yn un godowdy.
</poem>

Hoffid yn yr amser gynt adrodd am geffylau Tylwyth Teg Esgair Berfedd a Nantysberi. Meddent ar ystabl eang a hardd o'r golwg ym mherfedd y mynydd. Prynent a gwerthent<noinclude><references/></noinclude>
gi8q9674i4cs9q9d7pu5j1hsramoalm
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/198
104
82886
161819
2026-03-31T21:06:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161819
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Byddai rhai personau yn fwy agored na'i gilydd i weled claddedigaeth ymlaen llaw. A honnai rhai i hyn ddigwydd yn gymharol ddiweddar yn yr ardal.
Ofergoel arall oedd Cannwyll Gorff. Rhagflaenai hithau'r claddedigaeth a ddigwyddai'n ddiffael, ymhen ychydig ddyddiau wedi iddi hi ymddangos. Dangos y ffordd y deuai'r claddedigaeth ar hyd-ddi oedd ei neges hi. Yr oedd yr hen ffordd i gladdedigaeth fynd ar hyd-ddi o Gellisarrog am eglwys Llanegryn yn arwain heibio i Fredyn-fawr. Ond un noson yng nghorff y gaeaf gwelwyd goleuni'n arwain oddi wrth y Gelli at Nantmadyn. Beth a allai'r goleuni fod? Amhosibl ei fod yn Gannwyll Gorff, oherwydd nad oedd yr un ffordd i gladdedigaeth fynd ar hyd-ddi o'r Gelli at y Nant. Ond cyn sicred â'r pader bu penteulu Gellisarrog farw'n sydyn un o'r dyddiau dilynol, ac aed â'i gorff i fynwent Llanegryn i lawr heibio i'r Nant, ar hyd y llwybr a rodiodd y goleuni a welwyd un o'r nosweithiau cynt; a hwn oedd y claddedigaeth cyntaf yr aed ag ef ar hyd y llwybr. Yr oedd yn draddodiad yn Llanegryn os eid â chladdedigaeth unwaith ar hyd llwybr, y byddai y llwybr yn un agored i fynd ag unrhyw beth ar hyd-ddo byth wedyn.
Ffynnai yn y plwyf tua chanol y ganrif ddiwethaf hen ofergoel bur anghyffredin. Rhagfynegai bob tro farwolaeth un o'r prif aelodau mewn teulu. Cyfeirir ati yng Nghofiant Father Jones, Caerdydd. Heuid cae o wenith, neu feillion fel y digwyddai fod, ac eginai'r holl gae trwyddo'n dda, ac eithrio o un llain o'r naill ben i'r cae. Byddai honno wedi gwywo'n llwyr. Pan ddigwyddai'r llain wywedig ymddangos, byddai dychryn mawr ar aelwyd y tyddyn hwnnw, gan y cyfrifid hynny yn arwydd sicr y digwyddai marwolaeth fuan ym-hlith y teulu, neu'n sicr o fewn y flwyddyn honno. Dywedid gan ddynion cyfrifol iddynt weled y llain wywedig lawer gwaith yn y plwyf, ac yn rhyfedd iawn tystiolaethent yn un-frydol y byddai marwolaeth yn dilyn yr arwydd bob amser.
Arwyddion byd y meirw hefyd oedd ceiliog yn canu cyn hanner nos, cŵn yn udo, ac ysgrechiadau adar y nos. Pan glywid y lleisiau annaearol hyn byddai ofnau yn codi ym<noinclude><references/></noinclude>
6jd5vhay4rnmky8qfj5pth9okgc4yps
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/197
104
82887
161820
2026-03-31T21:07:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161820
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei ysbryd a'i ffydd afaelyd yn ei Feibl a ffoi o'r ystafell. Gwnâi'r ysbryd gymaint o ystrywiau yn ystod y dydd golau glân ag a wnâi yn ystod tywyllwch dudew'r nos. Taflai a chwalai'r ysgubau yng nghanol y cae ŷd yng ngŵydd y medel-wyr, ond ni welid ac ni chlywid dim na neb oddi mewn i'r Yn y diwedd nid oedd dim i'w wneuthur ond anfon am yr hen Ficer Williams, a adwaenid fel yr offeiriad a fedrai ostegu'r cythraul. Brwydr fawr a fu rhyngddynt; ymladdodd yr ysbryd â holl ystrywiau'r fall ei hun, a dywedai chwaer yr hen Ficer Williams fod ei gnawd ef yn arogli'n enbyd gan sawr satanaidd am ddyddiau lawer wedi'r ornest. Edrydd y chwedl fod y Ficer wedi llwyddo i botelu'r ysbryd, a'i fod wedi ei roddi i orwedd yn dawel yng ngwely'r afon wrth bont Dysynni.
Un o draddodiadau byd yr ysbrydion oedd mai peth peryglus a fyddai gweled tân disglair yn uniongyrchol ar ôl i ddyn ddigwydd gweld ysbryd. Os digwyddai hynny syrthia'r sawl a'i gwelai'n ddiatreg i lewyg. Gwaeddai un hen gymeriad yn groch ar i Betsan ei wraig roddi'r radell ar y tân, am ei fod wedi gweled ysbryd wrth ddychwelyd adref oddi wrth ei waith.
Dywedid hefyd os byddai'r ysbryd yn teimlo yn garedig tuag at y neb yr ymddangosai iddo, y cymerai ffurf rhyw greadur caredig ac addfwyn. Ond os teimlai yn gas a chwerw yr ymddangosai ar ffurf creadur creulon ac arswydus. Ei ffurfiau cas oedd teirw, cŵn, hychod, ac adar ysglyfaethus, neu dân. Ei ffurf garedig fel rheol oedd dafad. Clywsom hen ferch o'r enw Beti Dafis yn diolch am i ysbryd arbennig ymddangos iddi hi ar ffurf dafad hynaws. Poenid ambell lannerch gan ysbryd plentyn; nadai gydol y nos ar goeden gelyn, a hynny'r naill flwyddyn ar ôl y llall. Ar nos Galan-gaeaf byddai ysbryd ar ben pob camfa; ac ar ddydd Gŵyl y Meirw byddai'r holl feirw yn y fynwent yn codi o'u beddau ac yn gorymdeithio o amgylch yr eglwys gan wrando ar y gweddïau a offrymid ar eu rhan.
Credai llawer mewn rhag-gladdedigaeth. Tystid y gwelwyd claddedigaeth llawer gŵr a hynny cyn ei farwolaeth<noinclude><references/></noinclude>
czq2kmxrfp190grno3pge4acfb8qqsf
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/196
104
82888
161821
2026-03-31T21:08:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161821
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>traddodiad arall ydoedd y byddai rhai'n gweled eu teulu neu eu cyfeillion yn crwydro ar eu hen lwybrau pan fyddent yn croesi glyn cysgod angau. Clywsom am wraig o'r wlad yn mynd adref o'r pentref yn hwyr ar y nos, a'i mab bychan yn ei llaw; a phan oedd ar fan arbennig gwelai ei chymdoges, Beti Llwyd, yn ei phasio ar yr ochr arall i'r ffordd a'i chlog arferol dros ei gwar; a chyn gynted ag y cyrhaeddodd hi garreg ei haelwyd, curai cyfeilles y drws gan ofyn a ddeuai i ddiweddu'r hen chwaer Beti Llwyd, a fu farw ar yr adeg y gwelodd hi yn ei phasio ar y ffordd o'r pentref.
Adroddai eraill yn ddifloesgni iddynt weled ysbryd dyn a dynes fyw. Adroddid am hen wraig a drigiannai yng Nghefn-coch-bach a fyddai yn rhodianna oddi amgylch ar lasiad y dydd ar hyd y meysydd yn y gwanwyn a dechrau'r haf. Gwelai morynion Waun-fach hi beunydd yn rhodio ymhlith y meillion yng nghae Llety Dyfrgi pan fyddent hwy yn mynd yn gynnar yn y bore i odro. Ond cysgai hi ei hunan yn dawel yn ei bwthyn bach gerllaw.
Gelwid ysbryd Gwyddfryniau yn ysbryd Cadi'r forwyn. Geneth brydferth lawn hoen a wasanaethai yn forwyn yn y lie, ac a oedd yn byw gyda'i rhieni mewn bwthyn gerllaw. Aflonyddai'r ysbryd gymaint yng Ngwyddfryniau nes bod yn rhaid ar y teulu ffoi oddi yno beunos yn nhrymder y nos i un o dai eu cymdogion; a ffoesant cyn belled rai gweithiau â'r Celmi, a dilynai'r ysbryd hwy gan beri cynnwrf mawr. Tystid yn bendant gan ddynion geirwir a chyfrifol fod amryw gyffroadau rhyfedd ac arswydus yn digwydd yng Ngwyddfryniau, pa esboniad bynnag a gynigir i egluro'r peth. Adrodd-id
gan Lewis William, un o hen ysgolfeistriaid y Parch. Thomas Charles o'r Bala, iddo ef fod yn gwylio yno am un noson, ac iddo glywed a theimlo pethau rhy ofnadwy i'w mynegi mewn iaith ddynol. Cymerodd gydag ef Feibl a channwyll, ac aeth i'r ystafell a gythryblid yn fwyaf gan yr ysbryd, gan bender-fynu treulio'r noson mewn gweddi ac ymbil, a darllen y gair dwyfol ar yn ail. Ymhell cyn hanner nos dechreuodd yr ysbryd ar ei ystrywiau mwyaf ofnadwy. Llanwodd y lle â'r drewdod ffieiddiaf, a bu'n rhaid ar Lewis William er cryfed<noinclude><references/></noinclude>
flg0eain7d7uyd0hj1vxz6eq3htwr9w
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/195
104
82889
161823
2026-03-31T21:10:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161823
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oddi wrth ei gilydd, a cheir yr un traddodiadau ymhlith gwahanol genhedloedd y byd.
Bu gan ysbrydion ran amlwg yn llên gwerin Llanegryn. Credid bod gan eneidiau'r meirw ddiddordeb mewn dynion ar y ddaear, ond rywfodd neu'i gilydd credid mwy yn ymddangosiad ysbrydion dynion drwg ac annuwiol nag yn ymddangosiad dynion da a duwiol.
Pan ymddangosai ysbryd, neu pan flinid unrhyw un gan ysbryd, meddylid yn sicr bob amser fod ar yr ysbryd eisiau hysbysu neu ddatguddio rhywbeth neu'i gilydd i rywun neilltuol, a phan fyddai wedi datguddio'i gyfrinach, na ddeuai ef byth wedyn ar ei deithiau nosawl o fro'r meirw.
Achosid cryn boen a blinder i deulu'r ymadawedig pan ddeuai'r si fod ei ysbryd yn teithio ar hyd llwybrau'r fro ar hyd y nos, ac yn ddychryn i'w cymdogion, oherwydd credent yn sicr fod rhywbeth neilltuol yn ei anesmwytho, ac mai da fyddai ei ryddhau o'i anesmwythyd. Gwnaed sôn unwaith fod ysbryd gŵr ieuanc prydferth o'r enw William, mab Nansi William, yn ymddangos ar ôl ei farwolaeth, a cherddodd ei fam bob awr o'r nos rhwng y pentref a'r fynwent, er mwyn rhoddi cyfleustra iddo ymddangos iddi hi ei hun, ac iddo gael ymadael â'i ofid a'i anesmwythder.
Clywsom wraig yn adrodd fod ei gŵr wedi ymddangos iddi hi ar ddyddiau o ofid mawr yn ei hanes; yr oedd yn wraig a'i theimladau yn ddigon caled, ac ni flinid mohoni o gwbl gan ryw fân ofnau. Yr oedd siopwr yn ei herlyn am arian, a chredai hi'n sicr fod ei gŵr wedi eu talu cyn ei farwolaeth, ond methai yn lan â chael hyd i'r llyfr cyfrifon a ddangosai hynny. Un noson yn nistawrwydd ei bwthyn unig, ym-ddangosodd ei phriod iddi yn y man lle'r oedd yr hen lyfr cyfrifon wedi ei roddi i'w gadw.
Ffynnai dau neu dri o draddodiadau am ysbrydion ym mhlwyf Llanegryn. Un traddodiad oedd mai ysbryd y byw a gymdeithasai gyda dynion; tystiai amryw y byddent hwy beunydd yn cymdeithasu â'r byw ar wahan i'r corff a phellter lle. Credai'r lleill mai ysbrydion y meirw a ddychwelai o'r byd anweledig i gyfeillachu â dynion ar y ddaear. Y<noinclude><references/></noinclude>
lxw37z4736siann04sjp2jzf9htl01o
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/194
104
82890
161824
2026-03-31T21:11:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161824
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Offrymid mewn cynhebryngau yn Llanegryn yn gyffredin hyd tua'r flwyddyn 1885. Offrymid rhan yr offeiriad ar yr allor yn yr eglwys, a rhan y clochydd ar lan y bedd ar ôl y gwasanaeth claddu, pryd y daliai ef ei raw allan i dderbyn yr offrwm a ewyllysiai pawb ei roddi arni'n wirfoddol.
Byddid yn rhannu diod boeth mewn angladdau; ystyrid ef yn amarch ar y marw oni rennid diod boeth cyn cychwyn oddi wrth y tŷ, a chyrchid i'r dafarn i yfed ar ôl yr angladd. Telid swllt y llaw at gael y cwrw, a pho fwyaf a delid mewn angladd, mwyaf y parch yr ystyrid hynny i'r marw a'i deulu.
Os teimlid bod angen ar deulu'r trancedig, rhoddid yr arch i lawr wrth y dafarn ac offrymid ar ei chaead i'w cynorthwyo, a gosodid bwrdd hefyd wrth y dafarn i dderbyn rhoddion. Wedi i'r arferiad hynod hon ddarfod, gwelid cyfeillion yn cerdded â rhoddion yn eu dwylo a'u mynwesau tua chartref y marw yn swcwr i'r teulu yn eu profedigaeth.
Bu cynnal gwylnos yn arfer yn y plwyf, ond y mae wedi darfod ers llawer blwyddyn. Yr oedd yn arferiad aros dros nos i wylio'r corff tra gorweddai yn y tŷ cyn ei gladdu. Wedi hynny rhoddid canhwyllau wedi eu goleuo yn ystafell y marw dros y nos.
Ceir yng nghyfrifon Lewis Owen, Peniarth, 4/- wedi ei dalu am ganhwyllau claddedigaeth yn 1669, a'r swm o 1/- wedi ei dalu am ganhwyllau gwylnos William Tudur, a rhydd y swm o 18/- a dreuliwyd ganddo yn ei ffordd ei hun yng nghladdedigaethau Dafydd Ellis a Mr. Vaughan.
Gwelir bod y boneddwyr yn hoff o wario eu harian yng nghladdedigaethau eu cyfeillion. Bu talu'r gymwynas olaf yn rhwymedigaeth bwysig yn y plwyf.
{{c|LLÊN GWERIN}}
Er ein bod wedi treulio llawer o'n dyddiau bore yng nghanol hen bobl, ac wedi eu clywed yn adrodd am draddodiadau'r plwyf, eto nid oes fawr o ddim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r rhai a geir yn nhraddodiadau unrhyw blwyf arall yng Nghymru. Rhyfedd fel y clywir yr un traddodiadau'n hollol yr un fath mewn gwahanol ardaloedd ugeiniau o filltiroedd<noinclude><references/></noinclude>
bdrv3um4cd6uo8xbrci6wt33rve4zke
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/193
104
82891
161825
2026-03-31T21:11:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161825
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|FALANTAU}}
Cyfnod cyffrous yn y plwyf oedd dydd Falantau, Chwefror 14, pryd yr anfonai bechgyn a merched ieuainc Falantau i'w gilydd drwy'r post.
Arddangosid y Falantau yn ffenestri mân-siopau'r pentref yn gynnar fel y câi pawb ddigon o amser i ddewis. Yr oedd y detholiad gorau bob amser yn ffenestr siop Mari Puw. Anfonai cariadon Falantau prydferth i'w gilydd i gynnau'r serch yn wresocach nag erioed, ond byddai'r cariadon a ddigiasai wrth ei gilydd yn anfon Falantau sbeitlyd y naill i'r llall, a gwnâi'r rhai a oedd yn eiddigeddus a chenfigenllyd yr un modd. Balchder llawer merch a bachgen ieuanc oedd derbyn Falantau prydferth oddi wrth eu cariadon, a loes chwerw i eraill oedd derbyn rhai sbeitlyd a hagr. Ciliodd yr arferiad ers llawer o flynyddoedd.
{{c|CLADDEDIGAETHAU}}
Ar elor gyffredin y cludid yr eirch i'r fynwent yng ngladdedigaethau'r plwyf. Ni chlywsom fod elor-feirch wedi bod yn perthyn i'r eglwys. Perthynai i'r plwyf arch a elwid yn "arch y plwyf," a arferid i gario'r tlodion a gleddid mewn dim ond amdo'n unig. Cludid hwy yn arch y plwyf o'u cartrefi i'r fynwent, ac yna gollyngid hwy i'r bedd yn eu hamdo.
Pan wnaed y Llyfr Tir (Terrier) yn y flwyddyn 1776, yr oedd dwy elor at wasanaeth y plwyf. Ond ni ddywedir pa fath elorau oeddynt hwy. Yn ddiweddar y daeth elorgerbyd at wasanaeth y plwyf.
Arferid gynt pan gleddid dyn neu ferch ieuanc roddi gor-chudd gwyn dros yr arch; a phan gleddid gŵr a gwraig briod, neu rywun mewn oed rhoddid gorchudd du.
Cenid mewn hen gladdedigaethau ar hyd y ffordd o gartref y marw i'r fynwent. Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf, rhoddid pregeth angladdol wrth y tŷ cyn cychwyn â'r corff am y fynwent. Arferiad ymhlith yr Ymneilltuwyr oedd honno.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
akqemwtl5dj5tsh4xk1aurpq0wdh3fc
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/192
104
82892
161826
2026-03-31T21:12:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161826
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>garreg olchi wrth y pistyll gan ddywedyd:—Dyma'r facsen, pa le mae'r troed? gan ddisgwyl gweled ei chariad yn dyfod i'r golwg.
Arferiad i fechgyn oedd mynd o amgylch i'r eglwys gan edrych yn nhwll y clo ac adrodd:—Dyma'r llanc, pa le mae'r ferch? neu, Dyma'r llanc, pa le mae'r allwedd? A rhaid oedd gwneuthur y ddefod hon ar nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn.
Anfonid ffon onnen i ŵr ieuanc a gollai ei gariad drwy gael ei redeg gan gyd-ymgeisydd.
Hanes tipyn yn dorcalonnus sydd i'r briodas fawr ar feirch a welwyd olaf yn y plwyf. Daeth y cwmni llon dros y mynydd ar garlam ar gefn meirch porthiannus yn llawn asbri a gorohïan. Gŵr gweddw oedd y priodfab a digwyddai'r briodasferch fod yn chwaer i'r wraig drancedig. Gwrthododd ficer defosiynol Llanegryn weinyddu'r ddefod briodasol, dychwelodd y cwmni siomedig dros y mynydd ar hyd y Ffordd-ddu, ac os digwyddodd y Ffordd-ddu fod yn ddu erioed, yr oedd yn gaddugol y dwthwn hwnnw. Aeth y briodasferch i'w gwely a'i hysbryd yn ddrylliog gan boen a gofid; ac ni bu'n hir cyn y gwelwyd ei chorff yn cael ei gario yn oer ar elor i fynwent y plwyf.
Y mae priodas wedi mynd yn ddigwyddiad dof a diramant yn yr ardal rhagor yr hyn oedd yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Byddai bywyd a rhialtwch yn llond y pentref ar fore dydd y briodas yr adeg honno. Addurnid y pentref a'r ffordd at yr eglwys gan lumanau, a rhwymid mannau ar y ffyrdd rhwng yr eglwys a chartref y briodasferch â rhaffau gan wŷr ieuanc cryfion, a chyn y datodid hwy rhaid oedd ar y briodasferch daflu arian i'r awyr fel y byddai'r un chwarae tegi bawb fel ei gilydd ymgiprys amdanynt. Dydd da oedd diwrnod priodas y pryd hwnnw am geiniog i blant y fro. A churid y pâr ieuanc â reis gan eu caredigion yn arwydd o'u dymuniad am bob llawnder iddynt yn ystod eu bywyd priodasol.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
i914z4e70swwyzf82htxm9b949hupte
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/191
104
82893
161827
2026-03-31T21:13:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161827
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cesglid at y drws a hawlid mynd i mewn drwy adrodd neu ganu darn o farddoniaeth. Ai'r ymryson ymlaen am gryn amser pan ddigwyddai'r doniau fod yn llithrig o'r ddeutu. Agorid y drws pan gydnabyddid bod y rhai oedd o'r tu allan wedi trechu'r ymrysonwyr oedd o'r tu mewn. Byddai miri mawr pan gyd-ddawnsiai'r ymrysonwyr â'i gilydd ar lawr y neuadd wedi i'r ymrysonfa fynd heibio. Meithrinodd yr arferiad ddawn ymadrodd parod yn ein cenedl.
{{c|CARU A PHRIODI}}
Prin yw'r ardal o draddodiadau caru a phriodi. Prif gwestiwn pob merch ieuanc fyddai "Pwy fydd fy annwyl briod?" neu'n hytrach "Pwy fydd fy annwyl gariad?" Ac y mae rhai o'r moddion a arferid ganddynt er mwyn cael hyd i brif gyfrinach eu bywyd wedi treiglo i lawr i'n dyddiau ni. Un modd tra sicr oedd torri deilen onnen, a dwy ddeilen yn fforchi ar ei blaen, a rhaid oedd ei thorri a'i phlethu â'r llaw chwith, ac adrodd y rhigwm a ganlyn:—
{{center block|
<poem>
Deilen onnen 'rwyf yn dy dorri,
Ar y pren lle 'rwyt ti'n tyfu.
Cyntaf fachgen a ddaw i'm cyfarfod
Hwnnw fydd fy annwyl briod.
</poem>

Modd arall gan bobl hygoelus oedd gwneuthur teisen naw rhyw, a mynd â hi i'r ystafell wely'r nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn, a thaflu pellen o edafedd drwy'r ffenestr, ac yna ei dirwyn hi'n ôl gan adrodd:—
{{center block|
<poem>
Myfi sy'n dirwyn
Pwy sy'n dal?
A'r sawl sy'n dal
::Doed yma,
</poem>

a thaflu carreg fach drwy'r ffenestr ar bob nawfed tro ar y bellen. Dywedir i lawer un drwy'r ddefod hon weled ei gŵr ymlaen llaw. Hoffai'r merched hefyd guro bacsen ar y<noinclude><references/></noinclude>
6zcuzays12uywwi6e04oi73g1fp467e
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/190
104
82894
161829
2026-03-31T21:15:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161829
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdogion drwy gyd-wau hosanau, neu gyd-bilio'r pabwyr. A byddai rhyw ymborth ac enllyn wedi eu paratoi i bawb gyd-wledda arnynt gyda'i gilydd, a phawb yn ymroi i wneuthur eu gorau i gadw'r cwmni'n ddiddan ac yn eu hwyliau da. Clywsom mai yn y Rhos y cynhelid y gwyliau hyn ddiwethaf. Bu'r nosweithiau llawen yn gyfryngau rhagorol i ddiwyllio doniau canu, barddoni, ac adrodd yn yr ardal; a hefyd i gadw traddodiadau'r gorffennol yn fyw, a meithrin ysbryd cymdeithasol iach a diddanus yn y plwyf. Cadwai hefyd ysbryd crefft yn llawn nwyf yn y fro. Gofynnai pilio pabwyr law ysgafn a chywrain ac un a fyddai'n sicr iawn o'i phlwc, ac nid pawb a allai gadw'r bilen yn fain a chyfan, ac nid pob math o frwyn a wnâi babwyr da. Yr oedd eisiau llygad a llaw dda i hel y pabwyr.
Yr oedd gweu hosan a fyddai yn unffurf â choes a throed yn gryn gamp. Bu dwylo mamau a gwragedd yn ddiwyd gyda'u gweill; ychwanegodd y dwylo prysur gryn lawer at gyfalaf prin yr aelwydydd. Byddai'r dwylo a'r gweill yn mynd yn ddidor o fore hyd hwyr; os eistedd i hamdena neu os cerdded ar siwrnai a wneid, dal i fynd a wnâi'r dwylo a'r gweill. Cerddai llawer mam a'i baban ar ei chefn am fill-tiroedd a'r gweill yn mynd yn ddiball yn ei dwylo. Hongid y bellen edafedd ar fach melyn wrth linyn y ffedog, a gweithiai'r bysedd yn rheolaidd fel melin. Gweai rhai ag offeryn a elwid yn wain wau, a rhoddid ef yn rhwym wrth y wasg. Gweai ambell hen wraig oedrannus ddwsinau o barau hosanau i deuluoedd lluosog bob blwyddyn. Dwylo gweithgar a darbodus fu dwylo mamau a gwragedd Llanegryn.
{{c|CANU YN DRWS.}}
Hoffai'r hen frodorion sôn am arferiad ddiddorol oedd ynglŷn â'r Noson Lawen a elwid Canu yn drws. Math o ymryson oedd y canu yn drws rhwng y rhai oedd oddi mewn a'r rhai oedd oddi allan yn ceisio cael eu gollwng i mewn i'r neuadd neu'r gegin lle y cynhelid y Noson Lawen. Yr oedd yr ymryson ar ffurf gofyn ac ateb.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mh5a7jkwkkiw6775eaw2z17jhe24610
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/189
104
82895
161830
2026-03-31T21:16:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161830
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>unrhyw dyddyn, casglai'r medelwyr o'i ddeutu i wylio rhag i ysbryd yr ŷd ddianc. Gadewid y tusw olaf heb ei dorri. Plethid ef yn blethen; ac wedi ei blethu yn blethen gelwid hi mwy yn Gaseg Fedi. Safai'r medelwyr yr un pellter oddi wrthi gan geisio ei gollwng yn rhydd drwy daflu eu crymanau amdani a'i thorri. Wedi i un lwyddo ei gollwng, taflai hi ar draws ei ysgwydd gan redeg a phawb yn ei ddilyn am yr amaethdai a ddigwyddai fod heb orffen medi. Yn llawn direidi ac asbri aflywodraethus gollyngent y lloi a'r moch o'u cutiau gan eu harwain i'r meysydd ŷd oedd heb eu medi. Caseg gynhyrfus a llawn castiau drwg oedd y Gaseg Fedi. Maddeuai pawb iddi am y direidi a'r cyffro a achosai ar ei rhawd wyllt.
{{c|NOSWEITHIAU LLAWEN}}
Y mae'r atgofion am y nosweithiau llawen bron wedi diflannu'n gyfangwbl o'r plwyf.
Nos Glangaeaf oedd y noson fawr ymhlith nosweithiau llawen y flwyddyn; rhyw oroesiad oedd hi o'r hen ŵyl a gyn-helid pan ddeuid i lawr o'r hafotai i'r hendrefi ar ddiwedd yr haf. Heblaw gwledda a chwarae a dawnsio ar nos Glangaeaf, llosgid coelcerthi ar ben y bryniau nes bod yr holl fryniau yn wenfflam olau.
Bu noson lawen ar ddiwedd y cynhaeaf mewn bri mawr. Wedi hynny bu'n arferiad a chryn bwys arni fynd am ddiwrnod o fôr; âi teulu'r fferm a'r gwasanaethyddion i gyd gyda'i gilydd yn y wagen i lan y môr. Trefnid pob math o ymborth a mwynheid dydd llawen yn sŵn y don, a phawb ohonynt yn eu tro yn ymdrochi, yn chwarae, ac yn gwledda. Dychwelent adref gyda'r hwyr a phawb yn llawn asbri a direidi.
Cedwid math o noson lawen yn feunyddiol yn nhyddynnod y plwyf yn ystod y gaeaf; deuai cyfeillion y gymdogaeth at ei gilydd ar fyr rybudd i gegin fawr un o'r tyddynnod i gyd-wledda, ymyfed a dawnsio, yn gymysg a chanu, barddoni, ac adrodd ystraeon.
Cynhelid nosweithiau a elwid yn noson lawen wau a noson lawen bilio pabwyr; gelwid hwy hefyd yn gymorth gwau a philnos. Ymgasglai'r teuluoedd at ei gilydd i helpu eu<noinclude><references/></noinclude>
d8rahw7s6j6yssm9jvpr8f6fl5x9k8a
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/188
104
82896
161831
2026-03-31T21:17:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161831
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei chynnal ym mhlwyf Llanegryn. Ceisiodd ef ei orau adfer yr hen Ŵyl Mabsant yn Llanegryn ar linellau mwy diweddar, ond ni bu fawr o lwyddiant ar ei ymgais i roddi ail-fywyd i'r hen sefydliad a fu o gymaint bri yn y fro. Cyflawnodd yr hen Ŵyl ei gwasanaeth; cadwodd gariad at fro a chymdogaeth i losgi'n gynnes ym mynwesau'r Cymry.
{{c|YMLADD CEILIOGOD}}
{{center block|
<poem>
Y pechod mwyaf ar a wneir
Rhoi arfau dur ar 'winedd ieir.
</poem>

Bu ymladd ceiliogod mewn bri yn Llanegryn. Trefnid ymladdfeydd ar ororau'r plwyf a phlwyfi'r cylch. Ymleddid oddeutu'r Pymtheg a'r Clawdd-du â phlwyf Celynnin; a thua Hafoty-fach ag ochr Dolgellau. Cyfarfyddid â Machynlleth yn Abergynolwyn. Teithid weithiau cyn belled â Dinas Mawddwy. Ar wyliau Iau Dyrchafael, Llun y Pasg, a'r Groglith y byddai miri'r ymladd yn ei anterth. Dywedir mai dyn dall oedd prif gefnogydd chwarae cocyn yn Llanegryn am flynyddoedd meithion.
Ceir pit ymladd ceiliogod yn aros o hyd ar y ddôl o flaen plasty Peniarthuchaf. Adeiladwyd ef yn gelfyddgar o gerrig. a grisiau wedi eu codi i fynd a dyfod iddo. Ceir morteisi au yn y cerrig at roddi math o reiliau o'i amgylch rhag i un o'r ceil-iogod ddianc pan gollai'r dydd yn y frwydr. Yr oedd amryw bitiau ar y Ceunant, a cheid un ar Gae Gwyn yn agos i goed Peniarth. Pitiau wedi eu cloddio yn y ddaear oeddynt fel rheol. Anodd yw canfod yr un ohonynt erbyn hyn. Ar ffridd Bredyn-fach y mae'r rhai amlycaf.
{{c|CASEG FEDI}}
Yn ystod y cynhaeaf ŷd y disgwylid clywed sŵn y Gaseg Fedi yn carlamu i chwarae ei champau direidus a chyffrous. Byddai cryn ymryson tawel ymhlith y medelwyr pwy a'i gollyngai gyntaf yn rhydd, oherwydd ystyrid hwy y medelwyr blaenaf yn y plwyf. Yr oedd defod ddiddorol a hynod ynglŷn â'r chwarae hwn. Pan gyrhaeddid at y crymaniad olaf o'r cynhaeaf ŷd ar<noinclude><references/></noinclude>
o7fcn4x9y7xdco586mqbidz3wbgomes
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/187
104
82897
161832
2026-03-31T21:18:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161832
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn annhymig ac afreolaidd, cyn cyflawni'n weddus ofynion crefyddol y dydd. Wedi cinio cynnar ymdeithiai'r Wardeiniaid tua'r pentref i ymorol bod popeth yn weddaidd a heddychol. Gwyddai'r pentrefwyr yn dda'r awr y byddent hwy ar bont y pentref, a gofelid bod tawelwch yn teyrnasu ymhob man, a gwedduster yn ffynnu ar bob aelwyd. Trefnid y cyfan i weithio'n gymwys er mwyn i'r Wardeiniaid fel gwarcheidwaid heddwch y fro droi eu cefnau a dychwelyd i'w cartrefi yn ddiymdroi. Gwyddai'r Wardeiniaid yn dda nad oedd y tawelwch a'r gwedduster yn ddim ond y distawrwydd sydd yn digwydd o
digwydd o flaen storm, ac y byddai'r rhialtwch ar fyrder yn ei lawn afiaith yn y pentref. Ni throesant erioed yn eu hôl i fwrw tramgwydd na rhwystr ar hen arfer a phleser hir-ddisgwyliedig y plwyfolion. Mor gynhyrfus a nwyfus oedd pawb fel y byddai'r pentref yn ferw gwyllt ymron ar amrantiad, a phawb wedi colli eu pennau'n llwyr mewn dawnsio, canu, chwarae, ymyfed, a gwledda. Byddent wedi eu rhannu eu hunain yn gwmnïoedd yn ôl eu chwaeth ar fyr dro. Yr oedd hanner dwsin o dafarndai yn y plwyf, a chyrch-ai'r rhai o'r un afiaith gyda'i gilydd i'r tafarndai a fyddai wedi eu dethol ganddynt ymlaen llaw.
Tynnu torch, codi pwysau, bwrw maen, ymaflyd codwm, neidio, a rhedeg oedd y campau ymryson pennaf yn ystod yr Wyl.
Cynhelid y chwaraeon a'r mabolgampau mewn gwahanol fannau yn y plwyf. Cynhelid llawer o'r mabolgampau ar Flaen Talwrn yn agos i'r eglwys a Thyn-llan, a dywedir bod rhai o'r hen gerrig pwysau neu gerrig gorchest wedi eu gosod ar ochr y ffos sydd ar fin y ffordd ar Flaen Talwrn. Deuai'r trigolion yn dorf at Gored Peniarth at yr hwyr. Goleuid y coed â llusernau canhwyllau gŵer wedi iddi ddechrau nosi. Canai'r crythorion uwchben oddi ar ganghennau'r coed, a dawnsiai a chanai'r dorf yn gylchoedd o amgylch y coed; gelwid un o'r coed hyn hyd yn ddiweddar yn Goeden y ffidlers. Daliai'r rhialtwch ymlaen hyd doriad y wawr fore dydd Mawrth.
Adroddai amryw hen drigolion Llanegryn wrth y Parch. Griffith Arthur Jones yn 1862, cu bod yn cofio'r Wyl yn cael<noinclude><references/></noinclude>
4ix0bapwxndptnxykv6o1qgc8zt39c4
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/186
104
82898
161833
2026-03-31T21:19:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161833
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Chwaraeid ar wyliau'r Pasg, Iau Dyrchafael, a'r Sulgwyn, a hyd yn oed ar Ŵyl y Groglith. Byddai ymladd ceiliogod yn uchel ei fri ar y gwyliau hyn. Ystyriai'r hen bobl fod gwenwyn yn codi oddi ar y dŵr ar ddydd Iau Dyrchafael, ac y gallai pawb fentro ymdrochi wedi hynny mewn unrhyw afon neu'r môr.
Dydd poblogaidd oedd Mawrth Ynyd, a gwleddid yn fawr arno. Byddai crempogau yn helaeth ar bob aelwyd, a chig rhost lle y gellid fforddio hynny. Hoffai'r plant ddyddiau Mercher Lludw ac Iau Dyrchafael, oherwydd cydgerddid i'r eglwys o'r ysgol yn y bore, a cheid y prynhawn yn rhydd i chwarae. Bu'n arferiad ar un cyfnod gan blant ysgol Llanegryn fynychu'r eglwys am 8.30 bob bore yn ystod y Grawys. Dywedir mai'n ystod tymor y Grawys yr arferid â gweinyddu'r gosb o gario'r ''Welsh Note'' am siarad Cymraeg yn yr ysgol, cyn i'r arferiad taeogaidd ddiflannu'n llwyr o'r ysgol.
Llwyddodd yr hen wyliau a'u hen arferion i gadw rhyw undod ynom fel plwyf a chenedl.
{{c|GWYL MABSANT}}
Disgyn dydd Nawddsant yr Eglwys ar ddydd Dyrchafael (''Assumption'') Mair, y 15ed o Awst, neu'n ôl yr hen gyfrif, y 26ain; a chynhelid yr Wyl Mabsant ar y Sul a'r Llun cyntaf ar ôl dydd Dyrchafael Mair, neu ar y dydd hwnnw os di-gwyddai iddo fod ar y Sul.
Dydd mwya'r flwyddyn yn y plwyf oedd dydd Gŵyl Mabsant. Cynhesai calon pawb a feddai waed Llanegryn yn ei wythiennau wrth glywed sôn am yr Wyl. Cyrchai hil tir Llanegryn yn hen ac ieuanc tuag adref o bell ac agos erbyn dyddiau'r Ŵyl. Deuai cyfeillion ac ymrysonwyr o'r plwyfi cyfagos yn lluoedd i'r pentref i gymryd rhan yn y rhialtwch a'r hwyl.
Hawliai'r plwyfolion gael dechrau dathlu'r Ŵyl yn gynnar ar y Sul, er gwaethaf pob rhybuddion o eiddo'r awdurdodau. Cyn bron y byddai'r Gwasanaeth Boreol yn eglwys y plwyf drosodd, cyniweiriai rhyw gynnwrf drwy'r fro, ac anesmwyth-ai'r swyddogion eglwysig a phlwyfol rhag i'r rhialtwch gychwyn<noinclude><references/></noinclude>
leux7oz6vrusukra5jqxw9puetlt46s
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/185
104
82899
161834
2026-03-31T21:20:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161834
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ysbryd y parti. Ymolchent ac ymdrwsient at gychwyn i'r Plygain a fyddai yn yr eglwys am bump o'r gloch y bore. Goleuid yr eglwys â chanhwyllau, a byddai'n llawn o drigol-ion o wahanol ardaloedd. Treulid awr a hanner o amser difyr i wrando ar ganu soniarus yr hen garolwyr. Paratoid am wythnosau i ddysgu'r carolau, a byddai awyrgylch y geni ym Methlehem Effrata wedi eneinio ysbryd y cantorion a'r gwrandawyr. Bu'r Plygain yn foddion i wneuthur hanes geni'r Iesu yn hyddysg iawn i'n cenedl.
Wedi gwledda ar yr ŵydd, y rhynion a'r triagl du, llysiau'r ardd, a'r plwm pwdin, treulid y prynhawn gan yr ieuenctid i chwarae. Cicio pêl droed oedd y prif chwarae, a'r hoff fan oedd y Pymtheg. Chwaraeid yn yr hen amser rhwng trigolion Llanegryn a Chelynnin. Yr oedd ar y Pymtheg garreg derfyn o faintioli mawr, a hi oedd y garreg goel. Ymdrechai ieuenctid Llanegryn gadw'r bêl ar dir Celynnin, a byddai ieuenctid Celynnin o'r ochr arall yn ceisio eu gorau ei chadw ar dir Llanegryn. Gyda'r hwyr cyrchid i dafarndai y ddau blwyf i ymyfed, canu a dawnsio. Byddai telynorion tylwyth Abram Wood yn rhan anhepgor yng ngorohïan llon nos Nadolig y fro. Byddai gwledda mawr am ddyddiau ar ddiwedd y flwyddyn, a chedwid nosweithiau llawen drwy'r fro.
Yr oedd herwhela'n arferiad pwysig ar Wyliau'r Nadolig yn y plwyf. Ymgasglai'r herwhelwyr yn dorf ar fore dydd Nadolig ar fan arbennig, ac aent gyda'i gilydd drwy'r plwyf heb i neb eu gwarafun i unman yn fwy na'i gilydd; yr oedd tir y plwyf yn dir rhydd iddynt yn ystod y Gwyliau.
Nodweddid bywyd Llanegryn gan afiaith anghyffredin ar rai o'r hen wyliau. Ystyrid y Groglith y gysegredicaf o'r holl wyliau; ymwrthodid yn llwyr rhag cyflawni dim gwaith afraid ar yr ŵyl hon. Credid nad oedd adar yr awyr yn gwneuthur dim ar yr ŵyl, hyd yn oed ar eu nythod eu hunain. Ymlonyddai pawb a phopeth ar ddydd angau chwerw'r Groes.
Gŵyl y Pasg oedd prif ŵyl yr eglwys, a rhoddid pwys mawr ar gydgyfranogi yng nghymundeb Sul y Pasg. Dywedai'r Parch. Vincent Humphreys, curad Llanegryn, bod tua dau gant yn cymuno yn yr eglwys ar Sul y Pasg yn 1776.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
7rtg9l2sshsz1viqfspvsruqhz7nb5d
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Sir Fflint.djvu/7
104
82900
161835
2026-03-31T21:23:30Z
~2026-20064-12
4106
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "RHAGYMADRODD. Aeth dros ugain mlynedd heibio bellach, er pan y penderfynwyd gan y Cyfarfod Misol i gyhoeddi hanes yr achos o fewn âei derfyn- au, ac y gofynnwyd i’r Parcs. Griffith Owen ymgymeryd â’r gorchwyl. Am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw bu yntau yn ddi- wyd yn chwilota am ffeithiau’r hanes a’u casglu ynghyd, ac am y pum mlynedd olaf oi oes ymroddodd yn ddiorffwys bron i’r gwaith; ond ni chafodd fyw i weled ei lafur wedi ei goro...
161835
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="2.124.78.187" /></noinclude>RHAGYMADRODD.
Aeth dros ugain mlynedd heibio bellach, er pan y penderfynwyd
gan y Cyfarfod Misol i gyhoeddi hanes yr achos o fewn âei derfyn-
au, ac y gofynnwyd i’r Parcs. Griffith Owen ymgymeryd â’r
gorchwyl. Am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw bu yntau yn ddi-
wyd yn chwilota am ffeithiau’r hanes a’u casglu ynghyd, ac am
y pum mlynedd olaf oi oes ymroddodd yn ddiorffwys bron i’r
gwaith; ond ni chafodd fyw i weled ei lafur wedi ei goroni.
Daeth yr alwad i’r gweithiwr, noswylio, a bu raid iddo adael yr
ysgubau ar y maes i arall i'w cynnull i ddiddosrwydd.
Disgynnodd i’m rhan i, ar gais: Pwyllgor o gynrychiolwyr y
ddau Gyfarfod Misol presennol, i gwblhau’r gwaith a’i olygu.
Ceisiais wneuthur hynny yn ol fel y tybiwn y buasai'r awdwr ei
hun yn gwneud, Bum mewn cysylltiad agos ag ef am y rhan
fwyaf o’r amser y bu’n ysgrifennu’r hanes, dc yn ystod ei gystudd
olaf soniodd lawer wrthyf am y gwaith, ac am ‘ei fwriadau ynglyn
ag ef. Er fod torraeth y gwaith wedi ei orffen ganddo, eto i gyd nid oedd o lawer yn barod i’w gyhoeddi. Yr oedd eisoes wedi myned
yn rhy helaeth, er fod rhai rhannau o’r maes heb eu cynhaeafu a’u
eynnull ynghyd; fel yr oedd yn angenrheidiol ail-ysgrifennu rhai
rhannau o hono a’u talfyrru, a gadael allan rhannau eraill yn
gyfangwbl. Yn wir, pe y cynhwysid yn y Hyfr yr oll a ysgrifen-
nodd, buasai'n ddigon i wneuthur cyfrol arall o leiaf hanner maint
yr un bresennol ; ond rhoddodd ef gyfarwyddiadau manwl pa fodd
i weithredu gyda hyn hefyd. Ei syniad ef unwaith, wrth weled y
defnyddiau yn chwyddo, oedd dwyn yr hanes allan yn ddwy gyfrol,
ond rhoddodd y syniad hwnnw heibio, am y byddai hynny yn
gosod y gwaith allan o gyrraedd y Iliaws. Ceisiais innau gadw
mewn cof o hyd, y bwriedid y Iyfr ar gyfer cyfangorff yr eglwysi,
ac y dylasai, o ran ei bris, fod o fewn eu cyrraedd. Ond aid
gwaith hawdd oedd gwneuthur cyfiawnder a’r hanes, ac ar yr un
pryd gadw’r gyfrol o fewn terfynau; ac ofnid hy wrth geisio
hwylio'n glir ag un graig, daro yn erbyn craig arall. Ond wrth
ysgafnhau’r llwyth, nid wyf yn tybio y bwriwyd dim dros
oedd yn anhebgorol i gyfanrwydd y gwaith.<noinclude><references/></noinclude>
9158xk16yem9ez4ehkzc5x1y34nc7e8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/184
104
82901
161836
2026-03-31T21:31:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161836
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bu canu corawl mewn bri yn y pentref. Bu Eglwys y plwyf yn enwog am ganu Corawl, a bu sôn mawr am gôr Eglwys Llanegryn yn eu gwenwisgoedd.
Enillodd côr meibion a chôr cymysg Llanegryn enw uchel ym myd eisteddfodol Gogledd Cymru o dan yr arweinyddion Owen Jones, Bryn-gwyn, Griffith Roberts a T. E. Humphreys.
{{c|GWYLIAU}}
Bu'r gwyliau eglwysig yn ddyddiau nodedig ym mywyd yr ardal oherwydd ynglŷn â rhyw ŵyl neu'i gilydd y cyflawnid pob rhyw orchwyl crefyddol, cymdeithasol a masnachol. Rhoddid enw da i bawb a gadwai'r gwyliau'n selog, ac a gerddai'n ffyddlon arnynt i'r eglwys.
Telid y trethi a'r rhenti yn yr hen amser ar Wyl y Pasg a Gŵyl Fihangel. Gosodid tyddynnod bob amser ar Ŵyl Fair, y 25ain o Fawrth neu ar Ŵyl Fihangel, y 29ain o Fedi. Ar un adeg dechreuai'r tyddynnwr drin tir ei dyddyn newydd ar yr Ŵyl Fair, a syrthiai ar y 13 o Chwefror, sef yr hen Ŵyl Fair; meddiannai hanner yr anedd-dy a'r adeiladau ar y 25 o Fawrth, a chymerai feddiant llwyr o'r tyddyn Glanmai, y 13 o Fai, sef yr hen Galanmai. Bu dydd Gŵyl Phylip ac Iago yn adeg y gwneid llawer o fusnes arni ynglŷn â phrynu a gwystlo tir.
Prif wyliau'r plwyf oedd y Nadolig, y Groglith, y Pasg a'r Sulgwyn. Dydd o rialtwch a phleser fu'r Nadolig hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Bu gwneud cyflaith ar nos cyn y Nadolig yn rhan amlwg ym mywyd yr ardal. Sonnid a pharatoid am y cyflaith wythnosau ymlaen llaw. Arferid dewis partïon at wneud y cyflaith yng ngwahanol dai'r gymdogaeth, a llawer o helyntion blin a fu oherwydd direidi llanciau'r fro yn ceisio taflu rhyw aflwydd neu'i gilydd i grochan cyflaith y naill barti a'r llall. Teflid rhywbeth annymunol i lawr y simnai heb funud o rybudd, a byddai'r holl gegin ar amrantiad yn huddygl a mwg a phawb yn mygu a thagu, ac yn gweiddi am yr uchaf. Byddai cyflwr y cyflaith yn waeth na chyflwr neb ohonynt, a thuhwnt i bob gobaith i'w adfer. Er gwaethaf y siom a'r golled am y cyflaith, ni ddinistrid dim ar londer na nwyfusrwydd<noinclude><references/></noinclude>
irpyty7n1ergbria3i3lowdc2clymw3
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/183
104
82902
161837
2026-03-31T21:31:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161837
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1778. Thomas Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1797. John Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1819-29. Robert William. Telynor Peniarth. Yr oedd ef yn frodor o'r plwyf; yr oedd yn frawd i Mari William, Llwyn-y-fynwent, a hoffai hithau farddoni dawnsio. Telynor dall oedd ef, ac ef oedd yr olaf a fu'n delynor teulu Peniarth. Bu farw'n gymharol ieuanc, a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn. Gwelir ei garreg fedd yn y fynwent a llun telyn arni. Y mae ei ffon ar gael gydag un o'r teulu, a'i enw Robert William, Telynor, Beddgelert, wedi ei dorri arni.
1859. Jeremiah Wood ac Elinor Wood.
1859. John Roberts. Priododd ag Elinor Wood, merch Jeremiah Wood.
Byddai Mathew Wood a Harri Wood yn ymweled yn feunyddiol â Llanegryn. Dau delynor gwych.
{{c|CYMDEITHAS CYMREIGYDDION LLUNDAIN}}
Yr oedd gŵr o'r enw Lewis Humphrey o Lanegryn yn un o'i haelodau mwyaf adnabyddus, ac yn un o ddatgeiniaid penillion gorau Llundain ar y pryd.
{{c|CANU}}
Yr oedd canu a dawnsio yn reddfol yn hen drigolion Llanegryn. Dawnsid a chenid yn hen dafarnau'r plwyf hyd y bore bach. Yr oedd offerynnau cerdd yng ngwasanaeth yr Eglwys; eisteddai gwŷr yr offerynnau yn y Groglofft.
Gydag Ymneilltuaeth y daeth canu cynulleidfaol i arferiad a sylw. Gwresogrwydd oedd nodwedd amlwg canu cynull-eidfaol yn Llanegryn. Byddai hen wragedd yn canu'n egnïol frach-ym-mraich gan ysgwyd eu holl gorff o ochr i ochr. Dywedid y byddai Hugh Pugh yn y capel Wesle, fel y gelwid ef yr adeg honno, yn chwibanu y dôn cyn dechrau ei chanu.
Dyn ieuanc o'r enw John Williams, Plascorniog, a ddechreuodd ddysgu'r Tonic Solffa i ieuenctid yr ardal.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
j5imljkd4amc9c0thm7qsed9f4qglqd
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/182
104
82903
161838
2026-03-31T21:32:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161838
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn araf y daeth ein cymoedd yn ddiogel i ŵr ac anifail drigo ynddynt.
{{c|Y SIPSIWN}}
Sonnir yn nhraddodiadau Llanegryn am ddau dylwyth o Sipsiwn, a fu'n trigiannu ar froydd yn y plwyf, sef tylwyth Abram Wood, a thylwyth Alabeina. Daeth y ddau dylwyth i'r ardaloedd hyn oddeutu canol y ddeunawfed ganrif. Preswylient ar gytir Rhiwfelen; yr oedd aml furddun ar y cytir hwn yr adeg honno. Safai cytir Rhiwfelen ar y mynydd sy'n wynebu Tairmynydd, ac yn cyrraedd o'r Fign i'r Allt-lwyd. Hoff fangre gan un gainc ohonynt oedd wtre Rhiw-felen-fach. Yr oedd Sipsiwn yr wtre hon yn gartrefol yn y fro, ac ymgysgodent mewn hen furddun a oedd ym mhen draw'r wtre, a fu'n efail yn ôl y traddodiad.
Hoffai rhai ohonynt ymgysgodi yn Hafoty'r Waun; yr oedd yno amryw hen adeiladau o gwmpas, a thrigiannent oddi ar y Nant, ac ar y Fign yng nghymdogaeth Clawdd-du. O'r Clawdd-du y claddwyd Abram Wood, hen bennaeth cangen o'r Sipsiwn, ac mewn cyfnod diweddarach, hoffai amryw ohonynt breswylio oddeutu'r Corun, Glan-y-morfa-bach a'r Blaidd.
Ceir eu hanes yn priodi yn eglwys Llanegryn, a phan ddigwyddai hynny byddai gorohian mawr yn nhafarndai'r ardal. Treuliwyd llawer noson ddifyr hyd oriau mân y bore yng nghwmni'r sipsiwn llon yng Nghefn-coch, Tan-y-bwlch a gwahanol dafarndai'r gymdogaeth.
Cenid y telynau a'r crythau gan y sipsiwn, a chenid penillion gan y Cymry, a dawnsid gan y sipsiwn a'r Cymry yn gymysg. Perthynai i dylwyth Abram Wood gôr a elwid yn gôr y Tylwyth Teg, a difyrasant lawer calon ac aelwyd yn ystod y cyfnod maith y buont hwy'n trigiannu yn yr ardal.
Ystyrid hwy yn frodorion yr ardal, a cheir cofnodiad am fedyddio rhai o'u phlant yn eglwys Llanegryn.
{{c|TELYNORION}}
Rhestr o delynorion a fu'n byw o dro i dro yn y plwyf:—
1670. Richard Pugh. Telynor Peniarth.<noinclude><references/></noinclude>
idhay8etb9um3splfcaxaxzekyt5zmr
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/181
104
82904
161839
2026-03-31T21:33:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161839
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dafydd ap William. Yn ei ddeiseb a anfonodd ef at Frenin Lloegr ceir enwau'r cynghreirwyr, sef James Pryce, Ynys-y-maengwyn, Humphrey Jones, Hugh Griffith Owen a Dafydd Llwyd ap Tudur, prif foneddwyr yr ardaloedd. Yr oedd Syr James Pryce yn fab Gogerddan,a phriododd ferch ac etifeddes Humphrey Wynn o Ynys-y-maengwyn. Bu'n Siryf Meirion-nydd ddwywaith, sef yn 1606 a 1621. Gwnaeth Iago I ef yn farwnig, ac ef oedd tywysog Cwmwd Tal-y-bont. Gwelsom enw Dafydd Llwyd ap Tudur fel un o brif dystion gweithred briodasol un o deuluoedd pennaf y plwyf. Llwyddasant i orfodi William Dafydd ap William i roddi llawer o arian iddynt. Ymosodasant ar ei dŷ, ei eiddo, a'i anifeiliaid yn nhrymder nos. Ysbeiliasant ei ŷd a'i wair a rhanasant y cyfan yn eu plith eu hunain, a rhoddasant ef ei hun yng ngharchar y sir yn Nolgellau.
Arfogasant eu hunain i'r carn â phob math o arfau dinistriol, fel mai gorchwyl anodd oedd dianc ac ymguddio rhag eu dialedd. Diolch am i'r wlad godi o ddyfnderoedd llygredig ac anfoesol y drefn "trechaf treisied a'r gwannaf gwaedded" a ffynnai yn gyffredin yn yr ail ganrif år bymtheg yng Nghymru, a hynny'n aml dan rith deddf gyfiawn. Ond y trueni mwyaf yw y goddefwyd i laweroedd o'r dihirwyr barhau i feddiannu eu hysbail anghyfiawn a hefyd eu hepil ar eu hôl.
A da y gwnaeth Dafydd ap William fynd â'r giwed annynol o flaen llysoedd ein gwlad, a dinoethi eu hystrywiau creulon. Pwy oedd y William Dafydd ap William hwn? Dyna'n hollol oedd enw perchennog ystâd Rhydcryw, a oedd yn briod â Margaret, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, ac wyres i'r Barwn Lewis Owen. A hwy oedd yr union dylwyth i ymlid Gwylliaid Cochion Mawddwy a'r Ffordd-ddu o'r tir.
Bu gan Owen Gruffydd, Peniarthuchaf, ran yn hela'r gwylliaid at eu coed, a'i briod yntau oedd Ursula, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, a chwaer i Lewis Owen o Ben-iarth. Dymchwelodd y giwed dŷ o'i eiddo, a elwid Tŷ-tan-y-bwlch, a fu'n dafarn enwog ar fin y Ffordd-du, a dug ef y dihirwyr William ap John ab Ifan ac Elin ei wraig, William Dafydd, ac eraill o flaen Llys y Seren am eu hanfadrwydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
na2ozbnk63is9f6e5k6caa4nsueulj8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/180
104
82905
161840
2026-03-31T21:33:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161840
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Geufron-hen a'r Foel Drefa, a Phantllwyfog ar odre'r Foel, sef ar lwybrau oedd yn arwain o Ardudwy am Gyfeiliog. Yr oedd amryw o dylwyth y Cochiaid yn byw yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm a Chwm-Idnerth-uch. Yr olaf o'r cyfenw hwnnw y sylwasom arno oedd Huw Goch a drigiannai ar odre Esgair Berfedd tua dechrau'r ddeunawfed ganrif.
Anrheithiai'r gwylliaid hyn fyd ac eglwys. Cyflawnent bob ysgelerder ac anfadwaith yn eu nwyd. Prin y dihangai gŵr gyda'i hoedl os syrthiai i ddwylo'r mileiniaid hyn, a'i hoedl yn unig, bid sicr, a adewid iddo. Ni chredai pobl dda Llanegryn fod bywyd yr un dyn yn ddiogel ar ffiniau'r Ffordd-ddu oni byddai angel gwarcheidiol yr Arglwydd yn amddiffynydd iddo. Gosodwyd amryw groesau ar enau'r bylchau a arweiniai i'r mynyddoedd. Gelwid dwy ohonynt yn Groes Egryn. Ni feddai'r gwylliaid ar ddigon o haerllugrwydd i ymosod ar yr un truan diymadferth a gaffai ei law ar y groes. Bu llawer truan a'i afael yn ddiollwng yn y groes hyd nes deuai ymwared. Os digwyddai'r gwylliaid lofruddio gŵr mewn ymrafael ceisient ddileu pob olion o'r anfadwaith drwy daflu'r corff i ben tas o fawn a'i rhoi ar dân. Gwyddid yn dda am yr erchylltra hwnnw o'r eiddynt, ac os canfyddid tân o'r fath, brysid ar unwaith i'r lle, a cheisid achub y corff cyn ei lwyr ddifa, drwy dyrchu yn y gynnau dân amdano.
Yr oedd yn arferiad cyffredin yn yr ail ganrif ar bymtheg i nifer o wŷr ymgynghreirio â'i gilydd i ysbeilio eu cymdogion yn ystod oriau tywyll y nos. Aeth yr afreoleidd-dra hwn o ddrwg i waeth yn y plwyf. Ar adegau cynghreiriai uchelwyr y plwyf ag anrheithwyr y Ffordd-ddu i ysbeilio a dinistrio bywyd ac eiddo gwŷr y fro. Poenydient a chy-thryblent ddynion gymaint nes eu gorfodi i ymadael â'u cartrefi a moddion eu cynhaliaeth. Ysbeilient eu heiddo a'u hanifeiliaid, a llosgent eu hadeiladau i'w sylfeini, a chyhuddent ŵr ar gam er mwyn ei ddwyn o flaen yr Uchel lysoedd i geisio ei ddychrynu i ffoi o'r wlad, ac iddynt hwythau gael cyfle i ysbeilio ei dir a'i eiddo.
Ymgynghreiriodd rhai o brif uchelwyr Dyffryn Dysynni â gwylliaid Llanegryn i anrheithio uchelwr o'r enw William<noinclude><references/></noinclude>
cq4bra1dvy17l7wgru9y2c31p6q8wpx
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/179
104
82906
161841
2026-03-31T21:33:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161841
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyn ar amryw gymeriadau'r mynydd-dir, ac nad oedd ar rai ohonynt fawr o ysfa am ddim mwy na herwhela a chrwydro. Nid oedd yr olaf a elwid yn Deio'r Ffowlar Du yn ddim angen na herwhelwr digon diniwed ar derfynau plwyfi Llanegryn a Chelynnin, a bu'r truan anghenus farw neu foddi mewn nant ar y mynydd. Disylw oedd ei darddiad ef wrth weithred-oedd ellyllig y Deio'r Ffowlar Du a fu'n frenin ar giwed greulon hen lwybrau'r mynyddoedd. A gŵr o'r un nwyd a dichell ag yntau oedd Deio'r Twca Du cyntaf. Cleddyf byr oedd y twca, a bu un ar gael am flynyddoedd wedi i'w berchennog fynd i ffordd yr holl ddaear. Dywedir mai yng Nghwm-ŷch y gwelwyd y Twca Du ddiwethaf.
Byddai rhuthriadau llechwraidd gan y gwŷr digydwybod hyn ar nosweithiau hirion a thywyll y gaeaf yn creu arswyd anaele ar wragedd a phlant yn yr hendrefi, ac anheddau'r gwaelodion, a dychwelent yn aml i'w llochesau a'u hanrhaith yn drwm. Ond nid dynion i ofni ac arswydo rhag yr ellyllon ysgeler oedd gwŷr y godreon a'r gwastadedd, a gadael iddynt gyflawni eu drygwaith yn ddiwarafun. Pan glywai clustiau meinion y bugeiliaid sŵn y gwylliaid yn symud dros ael y mynydd, codent eu cri gan alw ar y dewrion i'r gad, ac ar fyr amser byddai godreon y mynydd yn fyw gan wŷr traed, gwŷr meirch, a bytheiaid yn ymlid, a llawer ysgarmes waedlyd a fu rhwng y gwylliaid a thrigolion y fro. Gwyliwyd y gwyll-iaid lawer tro yn cludo eu meirwon a'u clwyfedigion ar doriad y wawr fore trannoeth yr heldrin i'w llochesau ar Allt-y-bedw a Phenbryn-y-foelas. Yr oedd tosturi a brawdoliaeth gref yn ffynnu ymhlith y gwylliaid eu hunain. Y mae anrhydedd, medd y ddihareb, ymhlith lladron. Cyd-ocheneidient yn sŵn dioddefaint ei gilydd, ac aberthent eu gwaed yn rhwydd er mwyn eu brodyr. Crwydrent hefyd filltiroedd lawer i hela cynhaliaeth i'w cymdeithion anffodus.
Enwau rhai o wylliaid y Ffordd-ddu ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg oedd, William Dafydd Goch, Huw ap Morris a Samuel William. Trigiannai William Dafydd Goch yn Nhir-y-pymtheg yn 1613, ond y rhan fynychaf, hoffai gael ei draed ar dir Llanegryn. Mangre a garai oedd<noinclude><references/></noinclude>
cn702ui96k8shbzhejvg7stvt75t580
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/123
104
82907
161842
2026-03-31T22:11:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161842
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
| colspan="3" align="center" |Pantllwyfog

| colspan="3" align="center" |Cyfrifon Hugh ab Humphrey

|align="center" |1712
|£ s. d.

| colspan="2" |Pedwar mesur o wenith a rhyg
| 0 14 8

| colspan="2" |Dau fesur o geirch mân i'r ceffylau
| 0 1 6

| colspan="2" |Aredig deg acer o dir unwaith drosodd yn Nhirgawen
| 0 18 0

|align="center" |1713

| colspan="2" |Gwerthu dau eidion
| 5 5 0

|£6 19 2

| colspan="3" align="center" |Gilfach-hen.

| colspan="3" align="center" |Cyfrifon John Pugh a Lewis Owen, Peniarth.

|Rent due
|£ s. d.

| colspan="2" |3 years rent due May 1, 1717
|9 12 0

| colspan="2" |3 years rent due May 1, 1718
|9 12 0

| colspan="2" |1 years rent due May 1, 1719
| 3 4 0

|£22 8 0

|align="center" | Payments
|£ s. d.

| colspan="2" |1715 By cash received by John Griffith
| 4 5 6

| colspan="2" |1717 By cash received and work
| 5 15 3

| colspan="2" |1717 By cash received and allowed him on a/c Margt. Pugh
| 1 0 0

| colspan="2" |1718 Self
| 1 0 0

| colspan="2" |Oct. 2 By Cash Self
| 1 10 0

| colspan="2" |Due to balance
|13 10 9

| 8 17 3

|£22 8 0
|}<noinclude><references/></noinclude>
skziqyhg1c1hlih1x735i42adwnadwu
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/124
104
82908
161843
2026-03-31T22:40:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161843
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
| colspan="3" align="center"|Cyfrifon rhwng John Pugh, Rhydcryw, a Lewis Owen, Peniarth.

| colspan="3" align="center"|Rhwym ar John Pugh i Lewis Owen

|£ s. d.

| colspan="2" |1719 5 Bullocks at
|14 5 0

| colspan="2" | 1 Mare at
| 2 9 6

| colspan="2" |1720 4 Bullocks at
|7 10 0

|£24 4 6

| colspan="3" align="center"|Witness payment, examined and allowed by us.

|Morgan Evan

|Lewis Owen

|John Yeoman

|John Pugh

| colspan="2" align="center"|1721 Contra

|£ s. d.

| colspan="2" |For 5 years rent for Bodowyn due and ending the 29 Sept. 1721
| 20 0 0

| colspan="2" |For wintering 1 heifer and mare
| 0 14 0

| colspan="2" |To John Humphrey for farming 14 head cattle 1719
| 0 10 0

|colspan="2" | To John Humphrey 11 Beast and Mare
| 0 6 0

| 21 10 0

| colspan="2" |Balance owing to John Pugh from Lewis Owen Esq.
| 4 14 6

|£24 4 6

{{c|AMAETHYDDIAETH YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG.}}
Dulliau a chelfi cyntefig oedd gan amaethwyr y plwyf hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daliwyd i'w harfer ymhell i'r ganrif. Sonnid am gae bating, batingo, a llosgi bating. Codid yr un cnydau yn yr un maes o flwyddyn i flwyddyn. Symbylodd cyfnod rhyfeloedd Napoleon lawer ar<noinclude><references/></noinclude>
d59ap6pu6k2jkq4il77s612lbehr6ma
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/130
104
82909
161844
2026-03-31T22:45:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161844
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar hyd y gaeaf. Yn Nhairmynydd yr oedd un o'r hen beir-iannau malu a ddaeth gyntaf i'r plwyf. Nid oedd na choesau nac olwynion yn rhan ohono. Gwthid y gwellt i'w enau â dwylo a melid y gwellt drwy daro'r gyllell ar i lawr â nerth braich. Pa bryd y daeth y bladur i ddisodli'r cryman coes hir? Yr oedd pladur yn Rhydcryw yn 1718. Masnachai John Pugh, Rhydcryw, yng Nghaer, cadwai siop Ironmonger, a thebyg felly mai o Gaer y daeth y bladur i Rhydcryw. Clywsom yr arferai Dafydd Dafis, gof Pencraig, wneuthur pladuriau at dorri eithin. Byddai ymryson ar ddolydd, gweirgloddiau a rhosydd y plwyf. Lladd gwair rhos a brofai fedr y pladurwr. Rhai o hanfodion pladurwr da oedd:—
:1 Torri'r ystod yn union a gwastad.
:2 Gochel rhag gadael gwrychyn o wair heb ei dorri.
:3 Gosod yr arfod yn unfon.
:4 Cyflymaf ei ystod; gorchest oedd "pwyso ar gefn" un fyddai ar y blaen.
:5. Cadw min; hanner y gamp fyddai min da.
:6. Dal ati heb ymlâdd.
Yr orchest bennaf fyddai torri'r arfod yn droedfedd o drwch ac yn dair llath o led. Soniai'r hen bladurwyr am wahanol fathau o wair a roddai'r prawf llymaf ar fedr y pladurwr. Gelwid un gweiryn yn Droell gorun, a'r llall yn Gawnen ddu; ond Gwrychyn yr hwch a ragorai arnynt i gyd. Syml oedd yr offerynnau a berthynai i'r bladur, pren grut, cyrn grut, un hir at gadw'r grut, ac un byr o'r man praffaf o'r corn at gadw'r bloneg; darn o ledr meddal, neu ryw ddefnydd arall at arllwys y grut arno. Irid y pren grut yn dda â'r bloneg, a threwid y pren ar y grut. Pwysid a llyfnid y grut â chyllell boced. Defnyddid cefn llafn y gyllell boced i droi'r rhint ar fin y bladur cyn hogi. Rhoddid "hwyl" ar fôn coes y bladur wrth fedi'r ŷd. Yn ystod y cynhaeaf ŷd y gwelid gogoniant y bywyd amaethyddol ar ei orau; byddai bywiogrwydd a hoen-usrwydd yn cyniwair drwy fywyd y plwyf. Cynorthwyai'r amaethwyr lawer ar ei gilydd yn ystod y cynhaeaf ŷd. Talai pawb eu cymwynas adref ddydd y Fedel. Arferiad y plwyf oedd rhoddi diwrnod yn y Fedel am ryw gymwynas neu'i<noinclude><references/></noinclude>
nm7qs0wciiq4io92hhlvb9kc2sxmmk2