Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.22
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/20
104
46319
161881
161082
2026-04-01T18:03:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161881
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/38
104
82315
161901
161103
2026-04-01T18:15:35Z
AlwynapHuw
1710
Amnewidiwyd y cynnwys gyda ""
161901
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
faisrlv11i65z34e5mlsda3xoytk2d9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/105
104
82372
161967
161165
2026-04-01T19:11:43Z
AlwynapHuw
1710
Amnewidiwyd y cynnwys gyda ""
161967
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
faisrlv11i65z34e5mlsda3xoytk2d9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/199
104
82885
162069
161818
2026-04-01T21:14:15Z
AlwynapHuw
1710
Amnewidiwyd y cynnwys gyda ""
162069
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
faisrlv11i65z34e5mlsda3xoytk2d9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/130
104
82909
161997
161844
2026-04-01T19:32:07Z
AlwynapHuw
1710
Amnewidiwyd y cynnwys gyda ""
161997
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
faisrlv11i65z34e5mlsda3xoytk2d9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/159
104
82910
161845
2026-04-01T13:26:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161845
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwarter olaf o'r ganrif ddiwethaf. Bu hi ei hun ar ôl priodi yn gweithio yn y cynhaeaf am 1/- yn y dydd, a hynny erbyn hyn yn yr ugeinfed ganrif.
Trwy fod y cyflog yn fychan yr oedd yn rhaid cael help o rywle neu'i gilydd i gael y ddau ben llinyn ynghyd. Cardota oedd un o ddrysau ymwared yr hen fyd, a drws arall oedd anfon y plant dros y trothwy i wasanaethu heb iddynt gael cymaint â diwrnod o ysgol. Dywedai hynafgwyr nad oedd rhieni'n magu fawr ar eu plant unwaith y deuent yn abl i ymlwybro o gwmpas yn weddol rwydd. Anfonid hwy ar hyd a lled y plwyf i wneuthur mân negesau am eu bwyd. Cyflogid hwy cyn y byddent yn naw mlwydd oed i borthi buches o wartheg ac i aredig cyn y byddent yn ddeuddeg oed. Heliai tlodion Llanegryn lawer o'u hymborth drwy fynd yn rheolaidd o amgylch y fro am gardod. Deil ôl y cardota ar enwau llwybrau'r plwyf. Enwir un yn Llwybr y cardotyn, arall yn Llwybr llaeth, a'r llall yn Llwybr maidd. Bu'n rhaid ar lawer mam fynd allan yn syth o'i gwely i grwydro am ei brecwast ei hun a'i phlant. Cesglid digon o gig oddeutu'r Nadolig i ddigoni llawer aelwyd am y gweddill o'r gaeaf. Paratoid ymlaen llaw gyfran y cardotwyr yn y rhan fwyaf o'r amaethdai. Byddai dogn pawb yn barod wrth y drws mewn rhai ffermydd. Rhoddid dogn helaethach i gardotwyr o Lanegryn gan ambell wraig nag a roddai i gardotwyr o'r plwyfi cylchynol. Gwlana oedd yn arferiad a ddug lawer bendith i gartref yr anghenus. Cesglid digon o wlân at wneud plancedi, hosanau, ac edafedd i gyfarfod ag anghenion aelwydydd y werin. Rhannai'r tyddynwyr gnufiau i'r cardotwyr a alwai wrth eu drysau: a chrwydrid i wlana ar hyd a lled y mynyddoedd ar ôl amser cneifio.
Er bod prinder ymhlith y werin, eto nid oedd pawb yn ddi-eiddo. Llochesodd ymffrost a balchder yn hir ym mynwes y Cymro cyffredin, am fod ganddo fuwch neu ddafad yn pori ar dir ei blwyf. Anodd fu gan y Cymro ollwng ei afael ar y tir. Meddai amryw bentrefwyr Llanegryn fuwch, nifer o ddefaid, mochyn, a gwyddau. Perchenogai ambell un geffyl, a pheth cyffredin oedd cadw mul. Yr oedd gwaed ac anian y tyddynwyr ym mhawb drwy'r fro. Gosodai'r ffermwyr dir i'w gweision<noinclude><references/></noinclude>
lv01n7uyuld75euc9tn9fe342d1tip6
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/158
104
82911
161846
2026-04-01T13:27:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161846
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Deallwn y cymerai rhai o'r hen ddwylo feysydd cyfain o'r ŷd i'w medi am swm arbennig, a gweithiai eraill iddynt wrth hyn a hyn y dydd. Telid iddynt fel rheol o 2/- i 2/6 y dydd. Gofalai pawb am eu bwyd eu hunain. Darperid digon o ddiod iddynt gan yr amaethwyr Seisnig. Y ddiod a ddarperid iddynt fyddai seidr (cider). Gweithient yn y fedel am oddeutu chwech wythnos, a balch fyddent os dychwelent â phedair punt yn eu meddiant.
Y prif fedelwyr o ardal Llanegryn oedd Griffith Thomas, William Joseph, a Jac Jones, gŵr Nansi William. Bu Griffith Thomas yn teithio'n rheolaidd i'r fedel am dros ddeugain mlynedd, a dywedid y câi ef amser da gyda'r merched ieuainc oherwydd hawddgared fyddai'r llanciau ieuainc a berthynai bob amser i'w fedel.
Bu rhai helyntion cyffrous rhwng llanciau Llanegryn a Ilanciau Seisnig sir Amwythig. Dywaid traddodiad i un ysgarmes chwerw brofi'n angau i Sais ieuanc.
Tua'r flwyddyn 1860 enillai llafuwyr 10/-yn yr wythnos ar eu bwyd eu hunain, ond ychydig oedd y gweithwyr yn y plwyf a weithiai ar eu bwyd eu hunain. Telid o 4/- i 7/- yn yr wythnos a'u bwyd a'u diod i weithwyr medrus, a châi ambell weithiwr cyfarwydd a charedig bwys o ymenyn gan feistr hawddgar i fynd adref ar nos Sadwrn. Cododd y cyflogau wedi'r flwyddyn 1870, ond gweithiai hwsmonwyr yn yr adeg honno am oddeutu £20 yn y flwyddyn. Bu gwŷr ieuainc newydd briodi yn ennill cyn lleied â £16 yn y flwyddyn yn 1871: hynny a enillai William Dafis a oedd yn hwsmon yn Waun-fach, ac wedi priodi yn y flwyddyn 1871.
Truenus i'r eithaf oedd cyflwr cymdeithasol y werin hyd yn gymharol ddiweddar. Yn y flwyddyn 1886 deg swllt yn yr wythnos a delid i'r llafurwyr gorau, oherwydd yr oedd yn fyd caled ar yr amaethwyr eu hunain. Clywsom am ddynion yn teithio i odre Cader Idris i weithio am bum swllt yn yr wythnos. Pan ystyrir bod y peilliaid yn £2/10/0 y pwn, gwelir bod y sefyllfa'n wir ddifrifol. Adroddai gwraig barchus wrthym iddi fod am ddeng mlynedd cyntaf ei bywyd priodasol heb gael cymaint ag un pâr o esgidiau newydd, a hynny yn ystod y<noinclude><references/></noinclude>
37332v1704vwgncb1ekd5prv52uos4u
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/157
104
82912
161847
2026-04-01T13:28:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161847
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>at wneuthur potes i'r teulu yn ystod y gaeaf. Llwyddodd yn yr un flwyddyn i brynu tunnell o lo am y pris o 15/8. Y pryd hwnnw y dechreuwyd llosgi glo ym mhentai'r fro am y tro cyntaf. Gŵr priod diblant oedd ef.
Nid y cyflog prin oedd yr unig faich a wasgai ar y dosbarth gweithiol yn y plwyf yn ystod y cyfnod hwn; eu baich mwyaf annioddefol oedd yr unffurfiaeth llethol a'i nodweddai. Yr unig orchwyl a dorrai ar yr unffurfiaeth oedd mynd gyda'r fedel i sir Amwythig, neu ymfudo yn gyfangwbl o'r ardal.
Adeg ramantus yn hanes gweithwyr Llanegryn oedd mynd gyda'r fedel yn dorf i fedi'r cynhaeaf ŷd yn sir Amwythig. Cychwynnent o'r pentref ar ganol dydd yn sŵn a dwndwr y gwragedd a'r plant. Edrychai'r gwragedd ymlaen am ychydig mwy nag arfer o gyflog at lenwi rhyw fwlch neu'i gilydd a alwai arnynt, a disgwylient hwythau'r plant am afalau melys Wem neu Market Drayton.
Syml iawn oedd y darpariadau gogyfer â'r daith i feysydd y fedel. Cynnwys y walet oedd planced, crys, a thwca bach Trawsfynydd. Cludai pob un o'r medelwyr ei gryman medi ar ei fraich. Darperid y blanced at gysgu ynddi, oherwydd mewn rhyw adeilad neu'i gilydd y cysgai'r medelwyr. Nid oedd gwelyau wedi eu darparu ar eu rhan tra byddent ar feysydd y fedel. Rhoddid tamaid hefyd yn y walet iddynt i'w fwyta ar y ffordd, ond byddai'r hen ddwylo'n sicr iawn o damaid ar eu llwybrau oherwydd adwaenent wragedd caredig a gartrefai ar y llwybrau i'r meysydd. Ar hyd y nos y cerddent y rhan helaethaf o'r daith wrth fynd a dyfod. Gofalent am gyrraedd y Bont Gymreig yn nhref Amwythig yn gynnar bore trannoeth, fel y gallent gytuno gyda'r amaethwyr a chyrraedd y meysydd medi yn ystod yr un dydd. Teithiai rhai o wŷr Llanegryn cyn belled â Wem a Market Drayton. Deil hen ddywediadau ar lafar yn yr ardal sy'n mynd yn ôl i ddyddiau'r fedel. Edliwid hyd yn ddiweddar i ambell gymeriad "Dos i Wem," neu'n gasach fyth "Dos i Wem i gyfrif dannedd ieir." Tipyn yn sarhaus oedd y dywediadau bob amser.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fu0m9mf8c1fex49dufnjovonycfv80w
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/156
104
82913
161848
2026-04-01T13:29:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161848
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi i Griffith Morgan ddyfod i amaethu Tŷ-mawr lladdai Dafydd Rowland wair iddo ar weirgloddiau Butcher Row am chwe cheiniog yn y dydd. Wrth adrodd y ffaith ddigalon hon, ychwanegai Griffith Morgan fod toreth da o datws am bris isel yn yr oes honno. Os ydoedd y cyflog yn fach yr oedd y tatws yn rhad.
Gweithiai Daniel Rowland a Hugh Griffith yn ddiweddarach am chwech a saith geiniog y dydd am ddyrnu, ac ni bu dau weithiwr mwy diwyd a gonest na hwy yn y plwyf. Ai y ddau a'u cyflog adref mewn haidd ar eu cefnau bob nos Sadwrn, yn ddigon o fara i'r teuluoedd am wythnos. Llwyddodd Hugh Griffith i roddi crefft i'w dri mab er gwaethaf y prinder a'r bywyd chwerw.
Gwelodd Daniel Rowland gyda'i ffydd ddisigl fwy na digon ar ddiwedd ei oes hir.
Yr ydym erbyn hyn wedi cyrraedd terfyn yr hanner can mlynedd cyntaf o'r ganrif ddiwethaf. Deil cyflog y gweithiwr yn isel, nid enillai'r gweithiwr gorau ond ychydig geiniogau yn y dydd. Dechreuodd y cyflog wella wedi 1850. Daeth gweithwyr i ennill pum swllt yn yr wythnos, a daeth si bod rhai yn ennill mwy na hynny. Yr arferiad oedd fod y cyflog yn cynnwys bwyd a diod i wŷr priod, a bwyd, diod a llety i wŷr sengl.
Dau frawd a enillai dros goron yn yr wythnos yn gyntaf o bawb yn y fro oedd Dafydd Rees, Maesonnen, ac Evan Thomas, Ysgubor-wen. Bu Evan Thomas yn gweini yn Nhir-gawen am ddeugain mlynedd, a honnai pawb ei fod yn meddu ar lawer o gyfoeth. Yr oedd cael hyd i weithiwr yn meddu ar ychydig o gyfoeth yn ffaith i ryfeddu ati yn y fro'r adeg honno. Swm cyfoeth Evan Thomas ar ddiwedd ei oes oedd £40, a bu am ddeugain mlynedd yn ddiwyd yn eu casglu at ei gilydd. Arferai roddi £1 heibio bob blwyddyn. Cynhwysai ei lyfrgell rai llyfrau gwerthfawr, a chariai ei Destament Groeg i'r Ysgol Sul. Prynai ei ymenyn yn Nhirgawen: hanner pwys yn yr wythnos oedd ei gyfran, a gwenith oedd defnydd ei dorth bob amser. Cofnodwyd ganddo iddo brynu dafad yn 1857 am 6/6; byddid yn gyffredin yn prynu dafad a'i halltu<noinclude><references/></noinclude>
n3ktstz4rfovyh06yi152z1qtwdvjpj
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/155
104
82914
161849
2026-04-01T13:29:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161849
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Glawiodd yn drwm drwy gydol yr haf, a bu'n rhaid cwalio'r ŷd ar holl feysydd llafur y plwyf. Aeth yn Glangaeaf cyn y llwyddwyd i gludo i'r ydlannau hynny a oedd yn weddill ohono. Tlododd y gwlybaniaeth mawr yr amaethwyr yn ddifrifol, a bu'n gyfyng ar bawb drwy'r gymdogaeth am fara ac enllyn, a gwaith ac arian.
Y gweithwyr a lafuriai galetaf o bawb yn y cyfnod hwn oedd y cloddwyr cloddiau cerrig. Telid iddynt o rôt i bum ceiniog y rhwd. Gweithient yn galed a diwyd fore a hwyr er mwyn codi ychydig ar eu cyflog a phrin fyddai wedi pob diwydrwydd.
Yn ystod y blynyddoedd 1830-50 y gwelodd gwerin Llanegryn yr ugain mlynedd llymaf yn hanes yr ardal. fuwyd i lawer pâr ieuanc droi eu hwynebau at yr ''overseers'' i ofyn am gynhorthwy plwyf er mwyn prynu mân ddodrefn i sefydlu cartref iddynt eu hunain. Yr oedd cyflog y gweithwyr gorau yn odiaethol o fychan. Bu James Thomas, y Llwyn, yn dyrnu â'r ffust yn Nhŷ-mawr am rôt yn y dydd. Rhaid oedd taro ar ffustiwr da a allai ddyrnu pwn o ŷd mewn diwrnod, a grôt a delid am ddyrnu pwn yr adeg honno. Adroddid am Hugh Lewis, Garth-fach, iddo ar ddechrau ei fywyd priodasol weithio am gyflog bach. Lladdai wair ar rosydd uchel ar lechweddau Cader Idris am cyn lleied â grôt yn y dydd.
Dyrnai Dafydd Morgan ym Mronclydwr ychydig yn ddiweddarach am chwe cheiniog yn y dydd, ac yr oedd yn un o'r dynion gorau a fu mewn ysgubor. Bu Edward Rees, Pentre-uchaf, yn lladd gwair ar weirgloddiau'r fro, ac yn ffustio ŷd y degwm yn Ysgubor Rabat am chwe cheiniog y dydd yn yr un cyfnod. A dywedir mai ef oedd y gweithiwr cyntaf a gerddodd dros y Ffordd-ddu ag arian i'r Banc i Ddolgellau.
Nid enillodd Griffith Joseph ddim mwy na chwe cheiniog yn y dydd wrth ddyrnu a gweithio yn ffermydd y fro, a cherddodd ymhell at ei orchwyl lawer tro. Magodd naw o blant, a thrwy ei ddiwydrwydd ef a'i wraig, Catrin Huws, yr oedd eu hamgylchiadau uwchlaw pob pryder.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4n9el27uvvdmkuz7cf21x7ida2lgzs7
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/154
104
82915
161850
2026-04-01T13:30:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161850
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><poem>
A common carpenter, with ditto, 4d.
Tithers by the rood, the great assize, with quicksets: with-out ditto, 6d.
Ditto, ditto, the lesser assize, with ditto, ditto 4d.
A sawyer, with his own saw, meat and drink, by the day, 4d.
For weaving kersey, yard wide, 1d.
Ditto, above a yard wide 1d.
For spinnings and carding every pound of wool (5lbs) Dolgelley 5d.
</poem>
Dyma safon cyflogau a delid ym Meirion dros dri chan mlynedd yn ôl, a daliodd y cyflogau hyn mewn grym yn y sir i raddau mwy neu lai am ganrifoedd. Dirwasgiad a thlodi oedd yr achos am hynny, ac nid oedd neb yn dychmygu y dylai teuluoedd fyw uwchlaw tlodi ac angen.
Telid gan Lewis Owen, Peniarth, yn 1669 i ŵr o'r enw Rhys Morgan a'i fab rôt yn y dydd am y naw diwrnod y buont hwy'n adeiladu mur tu ôl i ystablau Glanmachlas. Ceir hefyd ei fod yn talu i Lewis Rowland yn yr un flwyddyn am atgyweirio clawdd perthynol i'r Waun yn ôl dwy geiniog y rhwd, a thalu tair ceiniog y rhwd am atgyweirio clawdd Bodowyn. Gwelir mai mewn ceiniogau'r oedd tâl y llafurwyr.
Yr oedd sŵn paratoi adeiladu yn y plwyf oddeutu 1735. Adeiladwyd Tal-y-bont a Thyn-y-llan gan John Rowland, Afon-ddu, a'i dâl oedd byw yn Afon-ddu heb dalu rhent tra byddai wrth y gorchwyl, a rhent Afon-ddu oedd £10 y flwyddyn. Y mae gennym gyfrifon cyflogau a delid i weision Rhydcryw yn 1718. Telid i John Hugh, yr hwsmon, £4 y flwyddyn a bwyd a diod; a châi gwraig John Hugh borfa ugain dafad am ei gynorthwyo. Telid i was £2/6/0 y flwyddyn a bwyd a diod, a'i orchwyl oedd gofalu am y gweddoedd ceffylau a'r ychen. Telid i hogyn £1 y flwyddyn am helpu ynglŷn â gwaith y fferm. Cawn Lewis Thomas o Lanaber yn hawlio ei blwyf yn Llanegryn yn y flwyddyn 1816 oherwydd iddo wasanaethu yn was am flwyddyn gron gyfan yn y Waun, a'i gyflog oedd £6/16/6. Blwyddyn wasgedig fu 1816, ac achosodd lawer o bryder ac anesmwythyd ymhlith yr amaethwyr a'r gweithwyr<noinclude><references/></noinclude>
0wa2vbaje3u6gqbl2gv9iniyj9qy9iy
161851
161850
2026-04-01T13:32:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161851
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><poem>
A common carpenter, with ditto, 4d.
Tithers by the rood, the great assize, with quicksets: with-out ditto, 6d.
Ditto, ditto, the lesser assize, with ditto, ditto 4d.
A sawyer, with his own saw, meat and drink, by the day, 4d.
For weaving kersey, yard wide, 1d.
Ditto, above a yard wide 1d.
For spinnings and carding every pound of wool (5lbs) Dolgelley 5d.
</poem>
Dyma safon cyflogau a delid ym Meirion dros dri chan mlynedd yn ôl, a daliodd y cyflogau hyn mewn grym yn y sir i raddau mwy neu lai am ganrifoedd. Dirwasgiad a thlodi oedd yr achos am hynny, ac nid oedd neb yn dychmygu y dylai teuluoedd fyw uwchlaw tlodi ac angen.
Telid gan Lewis Owen, Peniarth, yn 1669 i ŵr o'r enw Rhys Morgan a'i fab rôt yn y dydd am y naw diwrnod y buont hwy'n adeiladu mur tu ôl i ystablau Glanmachlas. Ceir hefyd ei fod yn talu i Lewis Rowland yn yr un flwyddyn am atgyweirio clawdd perthynol i'r Waun yn ôl dwy geiniog y rhwd, a thalu tair ceiniog y rhwd am atgyweirio clawdd Bodowyn. Gwelir mai mewn ceiniogau'r oedd tâl y llafurwyr.
Yr oedd sŵn paratoi adeiladu yn y plwyf oddeutu 1735. Adeiladwyd Tal-y-bont a Thyn-y-llan gan John Rowland, Afon-ddu, a'i dâl oedd byw yn Afon-ddu heb dalu rhent tra byddai wrth y gorchwyl, a rhent Afon-ddu oedd £10 y flwyddyn. Y mae gennym gyfrifon cyflogau a delid i weision Rhydcryw yn 1718. Telid i John Hugh, yr hwsmon, £4 y flwyddyn a bwyd a diod; a châi gwraig John Hugh borfa ugain dafad am ei gynorthwyo. Telid i was £2/6/0 y flwyddyn a bwyd a diod, a'i orchwyl oedd gofalu am y gweddoedd ceffylau a'r ychen. Telid i hogyn £1 y flwyddyn am helpu ynglŷn â gwaith y fferm. Cawn Lewis Thomas o Lanaber yn hawlio ei blwyf yn Llanegryn yn y flwyddyn 1816 oherwydd iddo wasanaethu yn was am flwyddyn gron gyfan yn y Waun, a'i gyflog oedd £6/16/6. Blwyddyn wasgedig fu 1816, ac achosodd lawer o bryder ac anesmwythyd ymhlith yr amaethwyr a'r gweithwyr<noinclude><references/></noinclude>
btxjtbu75ky4q0slh0cle7wcmdi68aj
161852
161851
2026-04-01T13:33:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161852
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><poem>
A common carpenter, with ditto, 4d.
Tithers by the rood, the great assize, with quicksets: with-out ditto, 6d.
Ditto, ditto, the lesser assize, with ditto, ditto 4d.
A sawyer, with his own saw, meat and drink, by the day, 4d.
For weaving kersey, yard wide, 1d.
Ditto, above a yard wide 1d.
For spinnings and carding every pound of wool (5lbs) Dolgelley 5d.
</poem>
Dyma safon cyflogau a delid ym Meirion dros dri chan mlynedd yn ôl, a daliodd y cyflogau hyn mewn grym yn y sir i raddau mwy neu lai am ganrifoedd. Dirwasgiad a thlodi oedd yr achos am hynny, ac nid oedd neb yn dychmygu y dylai teuluoedd fyw uwchlaw tlodi ac angen.
Telid gan Lewis Owen, Peniarth, yn 1669 i ŵr o'r enw Rhys Morgan a'i fab rôt yn y dydd am y naw diwrnod y buont hwy'n adeiladu mur tu ôl i ystablau Glanmachlas. Ceir hefyd ei fod yn talu i Lewis Rowland yn yr un flwyddyn am atgyweirio clawdd perthynol i'r Waun yn ôl dwy geiniog y rhwd, a thalu tair ceiniog y rhwd am atgyweirio clawdd Bodowyn. Gwelir mai mewn ceiniogau'r oedd tâl y llafurwyr.
Yr oedd sŵn paratoi adeiladu yn y plwyf oddeutu 1735. Adeiladwyd Tal-y-bont a Thyn-y-llan gan John Rowland, Afon-ddu, a'i dâl oedd byw yn Afon-ddu heb dalu rhent tra byddai wrth y gorchwyl, a rhent Afon-ddu oedd £10 y flwyddyn. Y mae gennym gyfrifon cyflogau a delid i weision Rhydcryw yn 1718. Telid i John Hugh, yr hwsmon, £4 y flwyddyn a bwyd a diod; a châi gwraig John Hugh borfa ugain dafad am ei gynorthwyo. Telid i was £2/6/0 y flwyddyn a bwyd a diod, a'i orchwyl oedd gofalu am y gweddoedd ceffylau a'r ychen. Telid i hogyn £1 y flwyddyn am helpu ynglŷn â gwaith y fferm. Cawn Lewis Thomas o Lanaber yn hawlio ei blwyf yn Llanegryn yn y flwyddyn 1816 oherwydd iddo wasanaethu yn was am flwyddyn gron gyfan yn y Waun, a'i gyflog oedd £6/16/6. Blwyddyn wasgedig fu 1816, ac achosodd lawer o bryder ac anesmwythyd ymhlith yr amaethwyr a'r gweithwyr<noinclude><references/></noinclude>
0wa2vbaje3u6gqbl2gv9iniyj9qy9iy
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/153
104
82916
161853
2026-04-01T13:33:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */ wedi ei sganio eilwaith
161853
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/152
104
82917
161854
2026-04-01T13:33:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161854
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/151
104
82918
161855
2026-04-01T13:36:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|PENNOD VIII}} {{c|Cyflogau. Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.}} {{c|CYFLOGAU }} MEDDWN fanylion am gyflogau a delid ym Meirionnydd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Penodid cyflogau crefftwyr, a llafurwyr y tir gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd, a dyma'r symiau a basiwyd ganddi yn y Bala, 25, Mai 1601. Rhoddwn hwy fel y'u ceir...
161855
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD VIII}}
{{c|Cyflogau. Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.}}
{{c|CYFLOGAU }}
MEDDWN fanylion am gyflogau a delid ym Meirionnydd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Penodid cyflogau crefftwyr, a llafurwyr y tir gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd, a dyma'r symiau a basiwyd ganddi yn y Bala, 25, Mai 1601. Rhoddwn hwy fel y'u ceir yng nghyfrol y Parch. Walter Davies, ''General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales'' 1810.
<poem>
A bailiff of husbandry by the year, meat and drink, £1/6/8.
A ploughwright for making a plough, with meat and drink, 4d.
A mower by the day, with meat and drink, 4d., without meat, &c., 6d.
A reaper by the day, with meat and drink, 2d.; without ditto, 6d.
Reaping oats by the acre, with ditto, 5d; without ditto, 1/-.
Ditto rye and wheat, with ditto, 6d.; without ditto, 1/-.
Ditto barley, with ditto, 7d.; without ditto, 11d.
A common labourer by the day from Michaelmas to May, meat and drink, 1d.
Ditto from May to Michaelmas, the best, with ditto, 2d. Ditto, without meat and drink, 4d.
A woman-servant by the year, the best, 10/-.
The mean 6/8.
A master mason by the day, meat and drink 6d, without ditto, 1/2.
A rough mason, with meat and drink, 4d., without, ditto, 8d.
</poem><noinclude><references/></noinclude>
r10mshkgqnvqaog7v4qmvb3i09pb1v9
161856
161855
2026-04-01T13:36:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161856
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD VIII}}
{{c|Cyflogau. Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.}}
{{c|CYFLOGAU }}
MEDDWN fanylion am gyflogau a delid ym Meirionnydd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Penodid cyflogau crefftwyr, a llafurwyr y tir gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd, a dyma'r symiau a basiwyd ganddi yn y Bala, 25, Mai 1601. Rhoddwn hwy fel y'u ceir yng nghyfrol y Parch. Walter Davies, ''General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales'' 1810.
<poem>
A bailiff of husbandry by the year, meat and drink, £1/6/8.
A ploughwright for making a plough, with meat and drink, 4d.
A mower by the day, with meat and drink, 4d., without meat, &c., 6d.
A reaper by the day, with meat and drink, 2d.; without ditto, 6d.
Reaping oats by the acre, with ditto, 5d; without ditto, 1/-.
Ditto rye and wheat, with ditto, 6d.; without ditto, 1/-.
Ditto barley, with ditto, 7d.; without ditto, 11d.
A common labourer by the day from Michaelmas to May, meat and drink, 1d.
Ditto from May to Michaelmas, the best, with ditto, 2d. Ditto, without meat and drink, 4d.
A woman-servant by the year, the best, 10/-.
The mean 6/8.
A master mason by the day, meat and drink 6d, without ditto, 1/2.
A rough mason, with meat and drink, 4d., without, ditto, 8d.
</poem><noinclude><references/></noinclude>
b4cnozkyghx79jh7bmwitdk9y2efxpy
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/150
104
82919
161857
2026-04-01T13:37:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161857
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"One thousand tons of Lime wanted at Abersynny near Towyn, Merionethshire. The vessels that bring it will be immediately loaded with either Oak Poles, or Cordwood or Crooked Timber well adapted for the purpose of building vessels from 25 to 50 tons burthen on Sale or by Charter.
:N.B. No Port Fees are paid at the above place.
::Apply Wm. Richard,
:::Pentrebach, near Abersynny.
:May 3rd, 1814.
Rhydd yr hysbysiad hwn ryw syniad inni am y busnes a ffynnai ar enau afon Dysynni ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Cymaint oedd y prysurdeb fel y bu'n rhaid troi amaethdy'r Corun yn dafarn.
{{c |LLYFRAU}}
* Dogfennau Peniarth.
* Dodd, A. H., Industrial Revolution in North Wales. Cardiff, 1933.
* Ellis, T. P.: History of Dolgelley and Llanelltyd. Newtown, 1928.
* Gweithredoedd Ystâd Rhydcryw.
* Jones, Lewis: Cydymaith y Bugail. Machynlleth, 1888.
* Lewis, E. A.: The Mediaeval Boroughs of Snowdonia. 1912.
* Llyfrau Eglwys Llanegryn.
* Llythyrau John Pugh, Rhydcryw.
* Seren Gomer, 1814.
* Ystent Meirionnydd. London,
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
exu2ly1qf7isoki3tcadbso743g1pu2
161859
161857
2026-04-01T13:40:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161859
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/131
104
82920
161858
2026-04-01T13:39:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161858
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gilydd a fyddid wedi ei derbyn gan yr amaethwr. Byddai'r Fedel yn aml yn cynnwys hanner cant o ddynion a merched pan fyddai y tyddynnod mwyaf yn medi. Symudai'r Fedel o ddydd i ddydd i'r naill dyddyn ar ôl y llall. Byddai holi mawr pa bryd y byddai'r Fedel yn debyg o gyrraedd y tyddyn a'r tyddyn. Dydd llawen oedd diwrnod y Fedel. Ychydig o gwsg a gorffwys a syrthiai i ran neb y noson flaenorol. Paratoid y bwydydd yn helaeth gan y feistres a'r morynion hyd oriau'r bore; a gwylid yn bryderus gyfeiriad y gwynt a'r tywydd gan y meistr a'r hwsmon. Ar y wawr clywid corn y Fedel yn datseinio drwy'r fro, a buan y gwelid degau o lanciau a llancesau yn ymryson am y cyntaf i gyrraedd maes y Fedel.
Y mae dydd y cryman wedi llwyr ddarfod, a dydd y bladur yn ei ddilyn yn gyflym. Oes y peiriannau yw hi ers yn agos i gan mlynedd yn y plwyf. Gweithid y peiriannau â llaw ar y cynnig cyntaf; dilynwyd hynny gan beiriannau a weithid gan geffylau. Dywedir mai i Waun-fach, Clos-bach, Bronclydwr, a'r Crynllwyn y daeth peiriannau torri gwair gyntaf tua 1865. Dynion wedi bod yn y mwngloddiau yn Awstralia ac America oedd y gwŷr a ddug y rhain i'r fro ac wedi dychwelyd i fyw i'w hen ardal. Prynid y peiriannau hyn ar y cyd ar y cyntaf, a huriai arall ei beiriant i amaethwyr y gymdogaeth. Daeth Dafydd Thomas, Crynllwyn, â pheiriant a dorrai ystod o ddwy lath, neu rywle'n agos at hynny. A daeth peiriant torri ŷd yn gynnar i'r Rhydcryw na feddai ar ddim ond un olwyn ar y canol; ceisiwyd torri gwair ag ef ond aflwyddiannus fu'r cynnig.
{{c|DYRNU}}
Â'r ffust yn unig y dyrnid yr ŷd yn ystod cyfnod y degwm. Meddai'r ffust ar ddwy ran, sef y droedffust oedd tua phum troedfedd o hyd, a'r walffust oedd tua thair troedfedd o hyd. Yn y droedffust y gafaelai'r dyrnwr, ac â'r walffust y dyrnid yr ŷd. Gwneid y walffust fel rheol o bren draenen ddu, onnen neu dderw. Y ddraenen ddu oedd yr orau, yn enwedig os meddai geinciau da tua'r blaen i'w hatal rhag hollti. Rhoddid penguwch, math o gap lledr, ac wyth llygad ynddo ar ben y
Q
walffust, a sicrheid ef yn dynn â charai ledr gref; a meddai'r droedffust ar ddolen haearn wedi ei sicrhau ar ei phen, a chysylltid y ddolen haearn wrth y penguwch â charai ledr o'r croen gwytnaf.
Â'r ffust y dyrnid ŷd y plwyf hyd tua'r flwyddyn 1865. Cyflog bach a dderbyniai'r ffustiwr; ni chyrhaeddai'n aml ddim mwy na grôt y dydd. Derbyniai'r ffustiwr gorau o bum swllt i chwe swllt yn yr wythnos ar ddiwedd cyfnod y ffust.
Brwydr flin fu eiddo'r ffustwyr i ennill dim mwy na phrin ddigon o fara'n unig i'r teulu. Ymffrostient wedi'r cyfan yn y penderfyniad i ennill eu cynhaliaeth eu hunain. Gwell oedd gan James Thomas, y Llwyn, fynd ar ei ffyn baglau fore a hwyr i'w lawr dyrnu nag ymgreinio am geiniog y plwyf.
Dygwyd amryw gydymgeiswyr i'r maes yn erbyn y ffust cyn ei gyrru'n llwyr o'n plith. Y math cyntaf oedd peiriant dyrnu â dwylo; meddai ar ddwy olwyn i'w weithio, un ar bob ochr, a gweithidefgan bedwar o ddynion cryfion, dau wrth bob olwyn, a chan nad oedd olwynion o dano, cludid ef gan ddynion o'r naill amaethdy i'r llall.
Bob yn dipyn daeth amryw dyddynnod i feddu peiriant dyrnu, a pheiriant nithio o'r eiddynt eu hunain, a gweithid hwy â cheffylau neu rod ddŵr.
Daeth peiriannau ager i'n plwyf tua 1870. Dywedid bod y peiriannau cyntaf yn rhy lydain ar eu holwynion i fynd ar hyd wrtreydd y plwyf, fel y bu'n rhaid eu cludo ar draws y caeau gan achosi trafferth ac anhwylustod mawr. Tueddu at fod yn hwyrfrydig i'w mabwysiadu yr oedd amaethwyr ar y cyntaf, a daliodd ambell un yn ystyfnig i'r eithaf rhag caniatáu iddynt ddyfod i'w ydlan. Yr oedd rhyw gysegredigrwydd ynghlwm â sŵn y ffust iddynt. Clywsom mai gŵr o sir Drefaldwyn, o'r enw Newell, a ddaeth â'r peiriant ager cyntaf i'n hardal, ac mai peiriant un gwynt oedd. Wedi hynny daeth Sais â pheiriant dyrnu a nithio i'n bro. Ar ôl hyn daeth Dafydd Pugh a Griffith Pugh, Bronclydwr, â pheiriannau dyrnu i'r gymdogaeth. Dau o ddyrnwyr yr ardal oedd Edward a William Dafis. Ni ddyrnodd yr un dyn yng Nghymru fwy nag a wnaeth William Dafis yn ei oes. Ar y cychwyn dyrnai ryg, ffa, a phys.
{{nop}}
Dyrnai am saith mis o'r flwyddyn, a'r dydd yn fynych yn bymtheg a deunaw awr, ac weithiau gosodai'r peiriant fwy na dwy waith yn y dydd.
Tueddu at fod yn eiddigeddus wrth y peiriannau yr oedd y gweithwyr ar y dechrau. Ofnent y byddent yn drygu eu gobaith am waith a chyflog, a llawenychent os digwyddai rhyw aflwydd i'r peiriannau drwy ddamwain neu drwy fwriad drwg.
{{c|CNEIFIO YN YR HEN AMSER}}
Cneifid y rhoniau tua thair wythnos o'r haf. Tybid os cneifid y rhoniau yn gynharach, yr âi'r mamogiaid yn hesbion. Tua'r adeg yma o'r haf gwelid y cneifwyr yn hel i'r mynydd, a chyrchid sacheidiau o wlân adref o'r mynyddoedd. Gelwid ef yn wlân rhoniau, oherwydd hen air Cymraeg yw rhoniau am gynffonnau.
Tua Gŵyl Ifan yr Haf y byddai'r diwrnod cneifio mawr, hynny yw, tua diwedd mis Mehefin. Cneifid y defaid i gyd drostynt. Yn yr hen amser helid y defaid y noson flaenorol oddi ar y mynydd, fel y byddent yn barod yn y buarth i ddechrau cneifio ben bore.
Arferid cneifio'r defaid eilwaith hyd tua thrigain mlynedd yn ôl. Cneifid yr ail waith ar Ŵyl Fihangel. Cneifient o'r lwyn dros y pen, a chredent y tueddai hynny at wasgu'r gwlân yn dynn at ei gilydd ar groen y ddafad, ac y cedwid hi rhag gwlychu ar dywydd glawog.
Wedi cyfnod yr hafotai bu'r corlannau mewn bri a phwysig-rwydd mawr ar y mynyddoedd. Edrychid ar ôl y corlannau â gofal arbennig, a chedwid hwy mewn cyflwr glân a da.
Ar un adeg corlennid y defaid dros y nos, a dywedir y byddai rhai bugeiliaid yn aros yn eu corlannau ar hyd y nos, yn arbennig pan ledaenid y si fod lladron yn llechu ar y mynydd. Adroddir mai bugail Braich-du pan oedd yn hysfa Peniarth oedd yr olaf a fu'n aros yn y gorlan gyda'i braidd dros y nos.
Meddai pob hysfa ei chorlan ei hun. Yr oedd cadw'r defaid ar eu hysfa eu hun yn rhan hanfodol o waith y bugeiliaid, a theimlai'r bugeiliaid yn eiddigeddus rhag i neb ddefnyddio'r corlannau, a phori ar yr hysfeydd ond eu perchenogion
Q
yn unig. Gweithred anghyfreithlon oedd ymyrryd mewn unrhyw fodd â'r corlannau, ac amheuid unrhyw ddyn a grwydrai ar hyd y mynyddoedd wedi i'r bugeiliaid noswylio.
Gwelir yr hen gorlannau adfeiliedig yn gorwedd yn llu mud ar y mynyddoedd. Diarddelwyd hwy'n llwyr gan y bugeiliaid a'u cŵn, a chan y defaid yn llwyrach fyth.
{{c|NODAU CLUSTIAU DEFAID}}
Gwyddor a chelfyddyd gywrain yn perthyn iddi yw Nodau Clustiau Defaid. Torrir y nodau ar y clustiau er mwyn dangos i ba dyddyn y perthyn y defaid. Medd y Nodau ar enwau a ffurfiau arbennig bob un, a cheir chwech ar hugain ohonynt i gyd, ac y mae'r holl gyfundrefn wedi ei sylfaenu'n gywrain arnynt. Gellir lluosogi'r nodau drwy amrywio'r gwahanol ffurfiau â'i gilydd. Y mae tua hanner cant o wahanol Nodau yn perthyn i'r hysfeydd sydd ar fynydd Llanegryn.
Adwaenir y Nodau wrth eu henwau priod eu hunain:—1. Torri'r blaen. 2. Bwlch plyg. 3. Bwlch tri thoriad. 4. Canwair. 5. Bwlch grisiau. 6. Bwlch clicied. 7. Stwb. 8. Carrai. 9. Cornpicin byr. 10. Cornpicin hir. 11. Cwliad. 12. Sgiw. 13. Carrai slent. 14. Carrai lipa. 15. Fforch. 16. Picfforch. 17. Bachiad. 18. Bachiad cam. 19. Dyrnod cyllell. 20. Cilhollt. 21. Twll. 22. Torri yn ei hanner. 23. Hollti. 24. Hollti'n dair. 25. Bwlch dau doriad. 26. Grisiau.
Y mae nodau Clustiau canolbarth Cymru yn seiliedig ar y toriadau hyn, ac y mae pob dafad yn eiddo diogel i'w pherchennog o dan eu harwydd. Anodd iawn yw dwyn dafad oddi ar ei hysfa. Cosbi trwm a wnaed erioed am ladrata defaid yng Nghymru. Yn hen lyfr Chwarter Sesiwn Meirionnydd am ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ceir hanes torcalonnus am drueiniaid yn cael eu cosbi'n drwm a chreulon am ladrata defaid yng nghymdogaeth Dolgellau. Gelwir gan y Siryf ar holl Gwnstabliaid a Swyddogion heddwch Meirion i gydgyfarfod yn Nolgellau ar fore Llun, 13, Mai 1793. Yn eu plith gwelir Cwnstabliaid Llanegryn yn mynd dros y Ffordd-ddu. A'u gorchwyl digalon oedd cynorthwyo i ddienyddio truan o ŵr am
Q
ddwyn defaid. Gelwir hefyd yn yr un flwyddyn ar oruchwylwyr plwyf ac eglwys Llangelynnin i gyfrannu swllt yr wythnos at gynhaliaeth plentyn; yr oedd ei fam yng ngharchar Dolgellau dan benyd marwolaeth am ladrata defaid.
Diolch nad yw'r trosedd na'r gosb drom yn aros mwy ar fryniau Meirion.
{{c|NODAU CLUSTIAU DEFAID}}
<poem>
Celmi: Torri blaen y ddwy, a bwlch tri thoriad o dan y dde.
Bredyn-fawr: Torri blaen y dde, a stwb oddi ar y chwith.
:Arferwyd gan Richard Vaughan, Tŷ mawr.
Tŷ-mawr: Cornpicin hir yn y dde, a thwll yn y chwith.
:Arferwyd gan Richard Vaughan, Tŷ mawr.
(1) Bredyn-fach: Torri blaen y dde, a sgiw o dan y chwith.
(2) Bredyn-fach: Cornpicin byr yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Pant: Torri blaen y dde, a'i hollti, a bwlch tri thoriad o dan y chwith.
Gellisarrog: Torri blaen y dde, a'i hollti'n dair, a hollti'r chwith.
(1) Cemaes: Torri blaen y ddwy; bwlch plyg boptu i'r dde, ac o dan y chwith.
(2) eto: Torri blaen y dde; bwlch plyg boptu, a chilhollt tan y chwith.
Cyfannedd-fach: Torri blaen y ddwy, a thwll yn y dde. Peniarth: Torri'r dde yn ei hanner.
Bryn: Canwair yn y dde, a bwlch grisiau oddi ar y ddwy. Celynnen-fach: Canwair yn y dde, a bwlch tri thoriad tan y chwith.
Tynewydd: Canwair yn y dde, a bwlch plyg oddi arni, a hollti'r chwith.
Rhiwfelen: Canwair yn y ddwy, a dyrnod cyllell tan y dde. Tyn-y-cornel, Peniarthuchaf: Hollti'r dde; torri blaen y chwith, a dyrnod cyllell o dani.
Pen-y-ceunant: Hollti'r dde; dau fwlch plyg o dan y chwith. Bryneglwys: Hollti'r dde; torri blaen y chwith, a'i hollti'n dair.
</poem>
Q
<poem>
Brynderw: Hollti'r dde yn dair, a chilhollt o boptu'r chwith.
Waun: Tri bwlch grisiau tan y dde, a sgiw o dan y chwith.
Nant: Bwlch tri thoriad o dan y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Cyfannedd-fawr: Bwlch tri thoriad o dan y dde, ac oddi ar y chwith.
Cwm, Peniarthuchaf: Bwlch plyg oddi ar y dde; torri blaen y chwith, a bwlch plyg o dani.
Bodowyn: Stwb oddi ar y dde, a thorri blaen y chwith.
Glan-y-wern: Stwb o dan y dde; canwair yn y chwith, a bwlch plyg o dani.
Garth-fach: Stwb oddi ar y ddwy.
Pen-y-wern: Sgiw o dan y ddwy, a hollti'r dde.
Fron-newydd: Sgiw o dan y dde, a fforch yn y chwith.
Blaidd: Sgiw o dan y ddwy.
Tirgawen: Sgiw oddi ar y dde, a thwll yn y ddwy.
Waun-fach: Sgiw o dan y dde, ac oddi ar y chwith.
Hen-siop: Sgiw o dan y dde; torri blaen y chwith, a'i hollti.
Cil-sarn: Sgiw o dan y ddwy.
Bron-eunydd: Sgiw o dan y dde, torri blaen y chwith, a'i hollti'n dair.
Tre-faes: Sgiw o dan y dde; torri blaen y chwith, a bwlch plyg o boptu.
Tal-y-bont: Carrai oddi ar y dde, ac o dan y chwith.
Rhydcryw: Carrai o dan y dde, a chornpicin byr yn y chwith.
Trychiaduchaf: Carrai o dan y ddwy, a bwlch plyg oddi ar y dde. Hafoty: Carrai oddi ar y dde, a bwlch tri thoriad boptu'r chwith.
Peniarth-ganol: Carrai o dan y dde, a thorri blaen y chwith. Tairmynydd: Carrai oddi ar y dde, a dau fwlch plyg o dan y chwith.
Caermynach: Twll yn y dde, a dau dwll yn y chwith. Glanmachlas: Torri'r chwith yn ei hanner.
Tyn-llan: Cilhollt tan y dde.
Nant-y-cynog: Cilhollt tan y dde, a thorri blaen y chwith. Tyddynpadrig: Dyrnod cyllell tan y dde, a chanwair yn y chwith.
</poem>
Q
<poem>
Clos-bach: Cilhollt o boptu'r dde, a bwlch tri thoriad o dan y chwith.
Trychiadisaf: Fforch yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Cyfannedd-uchaf: Fforch yn y dde; torri blaen y chwith, a'i hollti.
Gwyddfryniau: Cornpicin byr yn y dde, a chanwair yn y chwith.
Goleuwern: Torri blaen y ddwy; bwlch plyg o boptu'r ddwy, a hollti'r dde.
Deallwn fod Tyn-y-llan wedi mabwysiadu nod clust a briodolir yn y rhestr i Bryn-yr-ywen:—Hollti'r dde'n dair, a bwlch plyg o dan y chwith.
Ceir yn rhestr Llanegryn le o'r enw Bryn-yr-ywen, ond nid oes lle o'r enw yn y plwyf, ac ni bu lle o'r enw chwaith. Copïwyd y rhestr o Gydymaith y Bugail, gan Lewis Jones, Bwlch, Dinas Mawddwy. Casglwyd Nodau Clustiau Defaid Llanegryn gan Ellis Evans, Hafotaliadau, a oedd yn fab i Evan Evans, bugail, Llanegryn.
Meddai bugeiliaid Bredyn-fawr ar nod clust o'r eiddynt eu hunain:—Cornpicin hir yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
{{c|MERLOD Y MYNYDD}}
Cedwid nifer mawr o ferlod y mynydd gan amaethwyr Llanegryn, a phorent yn rhydd ar y mynyddoedd. Ni feddent hwy hysfa fel yr oedd gan y defaid, ond torrid nod clust arnynt. Bychain oeddynt o ran maint, ond yr oeddynt yn llawn bywyd a hoenusrwydd, a golygfa hardd oedd eu gweled yn llamu'n ysgafndroed o gefnen i gefnen ar y mynyddoedd.
Anfonid gyrroedd ohonynt i ffair Dinas yr haf i'w gwerthu, a bu galw mawr amdanynt un adeg.
Diwrnod helyntus ydoedd dydd cneifio'r merlod. Yr arferiad gyffredin oedd eu cneifio hwy ar y mynydd. Helid hwy i fan arbennig a elwid y Ddalfa, neu Bant-y-gafael. Cornel hwylus at y gorchwyl oedd y Ddalfa a'r tir o duedd wlyb, a safai rhwng ffridd Blaen-y-cwm, a ffridd uchaf Cwm-uchaf. Rhaid oedd cael dynion ieuainc cryfion ar eu sodlau, ac yn eu breichiau at ddal y merlod chwim eu cyrff. Cneifid eu mwng a blaen
Q
eu cynffonnau er mwyn cael rhawn at wneuthur rhaffau a gograu llaeth. Bu gwneuthur rhaffau rhawn yn grefft arbennig, a chlywsom sôn am Hwmphra'r Rhaffwr.
Cliriwyd y merlod oddi ar y mynyddoedd ar ddechrau hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Ymlidiwyd hwynt mewn modd creulon gan gŵn ysglyfaethus dros greigiau serth ac i byllau dyfnion.
{{c|GWYDDAU}}
Megid llawer o wyddau ar fynyddoedd y plwyf yn y ddeunawfed ganrif, ac ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hysfa i wyddau a feddai rhai tyddynnod bychain. Megid gwyddau gan y pentrefwyr, a gwerthid hwy'n gywion. Cyrchid y gwyddau o flaen y Nadolig i'w gwerthu yn Nolgellau. Cychwynnid eu cerdded o Lanegryn tua hanner nos, a chyrhaeddent y dref erbyn yr amser y byddai trefwyr Dolgellau'n codi o'u gwelâu ben bore.
cc <br>
Hen wraig fach yn gyrru gwyddau,
O Lanegryn i Ddolgellau,
::Ar hyd y nos.
Nid i Langollen yn unig y perthyn y geiriau hyn; cenid hwy gan blant Llanegryn.
{{c|PITFAL}}
Sonnir am bitfal yng nghymdogaeth Llanegryn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Bu pitfal ar fin y ffordd ar ochr y morfa o dan Dirgawen. Ond nid oes dim o'i hanes ar gael. Yr oedd yno dŷ annedd hefyd hyd ddwy genhedlaeth yn ôl.
Codwyd pitfal ar y cytir o dan Droed-y-rhiw, yn ystod tlodi a phrinder tua diwedd y tri degau o'r ganrif ddiwethaf, pryd yr oedd anifeiliaid pawb yn crwydro'n wyllt ar hyd a lled y plwyf. Yr oedd y gweithwyr hefyd wrthi â'u holl egni yn cadw moch, gwartheg, mulod, defaid, ac ieir a gwyddau a'r rheini'n crwydro'n newynllyd ar hyd y ffyrdd, ac yn ymwthio i bob
Q
cornel. Codwyd y pitfal yn y Ceunant at garcharu'r anifeiliaid crwydr hyn. Ond ni roddwyd yr un anifail yn gaeth ym mhitfal y Ceunant, oherwydd iddo gael ei adeiladu ar y cytir, ac ni bu'r pentrefwyr yn fyr o'i chwalu i'w sylfeini ar fyr dro. Canfyddid ei olion ar y cytir hyd yn ddiweddar. Ceir dywediad ar dafod leferydd yr ardal sy'n treiglo i lawr o oes y pitfal; os digwydd i dŷ fod yn fudr ac yn aflêr ei gyflwr dywedir ei fod fel pitfal.
Tua'r un adeg ag y codwyd y pitfal ar y Ceunant ceisiwyd cau darn o'r cytir yn eiddo preifat. Pan godid y clawdd yn ystod y dydd, chwelid ef i lawr i'w sylfeini yn ystod y nos. Methiant fu'r ymgais i gau'r anifeiliaid yn y pitfal, a'r ymgais hefyd i gau darn o'r cytir yn eiddo preifat.
{{c|Y DDEDDF BLWYFO YN LLANEGRYN}}
Nid erys dim o olion yr hen ddeddf hon yn y plwyf. Y dystiolaeth hon yw'r unig beth a welsom yn dal cysylltiad â hi:—Merioneth. Re Examination of Lewis Thomas of the Parish of Llanaber in the said County . . . taken on oath before me G. Owen, Clerk, One of His Majesty's Justices for the said County, the Eighth day of February, 1816, touching the place of his legal settlement. Who said:—that about 12 years ago, he the said Lewis Thomas was hired to Ellis Lewis of Waen in the Parish of Llanegryn in the said County for one whole year for the wages of Six Guineas and half. That he served the said year and received his wages accordingly, That since the above time, he never has been hired for a year-neither hath he done any act or deed to gain a subsequent settlement.
Taken before me the day and year Above written.
Griffith Owen.
Lewis Thomas.
{{c|FFEIRIAU}}
Prif ffeiriau pleser yr ardal oedd ffair y Blodau a ffair Dyniewaid yn Nolgellau, a ffeiriau'r Pasg a Chalanmai yn Nhywyn. Byddai'r gaeaf a'i ofalon a'i bryderon wedi cilio pan welid ffair y Blodau. Hebryngai'r porthwr y gwartheg o'i flaen i'r ffridd-oedd ar ei ffordd i'r ffair, a hongiai'r crefftwyr eu canwyllbrenni
Q
dros yr haf, a phan welid ffair Dyniewaid tynnid hwy i lawer gogyfer â'r gaeaf.
Prif ffair bleser Llanegryn am gyfnod maith oedd ffair Dyniewaid. Paratoid am wythnosau gogyfer â'r daith dros y Ffordd-ddu. Codid ar yr ugeinfed dydd o Fedi am bedwar o'r gloch y bore, a chychwynnid o bump i chwech o'r gloch. Gwelid gwragedd darbodus y pentref yn cychwyn o dan eu beichiau o boteli cetsyp '(ketchup)' a chyrn o ganhwyllau brwyn. Y gwragedd y cawn yr hanes diwethaf amdanynt yn cyflawni'r gorchwylion hyn oedd Mari Sion, Jenny Jones, Pegi Pugh a Margaret Griffith.
Gwerthid y cetsyp yn y blynyddoedd diwethaf am 1/-y botel, a'r canhwyllau brwyn am geiniog y corn.
Wrth gorn golygid cymaint ag y medrai un gau amdano â'i fys a'i fawd. A chludid beichiau trymion adref o'r ffair; clywsom am Humphrey Ifan yn cario hanner pwn o beilliaid adref bob cam. Y ffair bwysicafi wragedd tyddynnod oedd ffair Gaws, a gynhelid yn Nolgellau ar y 9 o Hydref. Cyrchid iddi o bob cyfeiriad gyda llwythi o ymenyn ystyciau a photiau pridd, a hefyd ugeiniau o gosynnau caws; paratoid bwyd ac enllyn yn helaeth at fynd â hwy i'r ffair hon. Bu ymenyn, caws, ac wyau yn rhad yn ystod yr hanner can mlynedd cyntaf o'r ganrif ddiwethaf. Gwerthid yr ymenyn am rôt y pwys, a chyfrifid ef yn ddrud pan gododd i chwe cheiniog y pwys; a gwerthid yr wyau yn ddeugain am swllt, ac ystyrid grôt y dwsin yn bris da. Cludid ymenyn ffres ac wyau dros y Ffordd-ddu ar freichiau ac ar feirch i dref Dolgellau, o wythnos i wythnos o rai amaethdai. Cyfrifid Dolgellau yn dref yr ardal.
Bu llawer o gerdded gan amaethwyr, a gweision amaethyddol i'r Ffair Fach a gynhelid yn Nolgellau. Âi'r amaethwyr yn gyffredin ar eu meirch i brynu celfi a nwyddau at y cynhaeaf, a chyrchai'r gweision iddi ar eu traed dros y Ffordd-ddu i gyflogi dros y cynhaeaf.
Sefydliad pwysig yn hanes amaethyddiaeth oedd ffair Dinas yr haf, a gynhelid yn Ninas Mawddwy. Bu gyrru mawr ar wartheg i'r ffair hon. Cychwynnid y noson flaenorol er mwyn bod yn brydlon yn y ffair bore drannoeth. Nid oedd fawr o wely
Q
na chysgu i'w gael wedi cyrraedd Dinas Mawddwy, dim mwy na cheisio gorffwys a chysgu yn yr un man a'r anifeiliaid oedd hi fel rheol. Gwerthid eidionau pedair blwydd yn y ffair hon i fynd yn eu blaen i ffeiriau Lloegr. Arferid yr adeg honno bedoli'r ychen y byddid yn eu hanfon i farchnadoedd Lloegr. Clywsom mai yn Cann Office yr arferid pedoli ychen a gwartheg Llanegryn. Ni bu llawer o gerdded i ffair Dinas yr haf, nac o gerdded y gwartheg i Loegr wedi i gyfnod y rheilffordd gychwyn. Ataliwyd yn raddol gyrchu iddi o'r ardal, ond parhaodd ambell hen amaethwr i droi ei wyneb tua ffair Dinas yr haf bob blwyddyn hyd yn gymharol ddiweddar.
Pan oedd y ffair yn ei llawn dwf gwelid cymaint ag ugain o ychen pedair blwydd yn mynd i'w gwerthu iddi o dyddynnod o faintioli Llanfendigaid, a gwerthid hwy am bum punt y pen, a hynny tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrid can punt am ugain o ychen yn gryn orchest yn yr oes honno. Ar ddechrau'r ganrif gwethid hwy am o £1/5/- i £4 y pen. Gwelid amaethwr yn cyrchu am ffair a phwn o wenith ar gefn ei farch, ac yn dychwelyd gyda'r hwyr wedi cyfnewid y pwn gwenith am fuwch raenus.
I ffeiriau Machynlleth yr eid â'r ceffylau fel rheol i'w gwerthu, yn arbennig ceffylau gwedd.
Mewn cyfnod diweddar ffair Galanmai yn Nhywyn oedd y brif ffair at gyflogi. Adeg bryderus oedd Calanmai; y gweision yn ofni colli eu lleoedd, a'r meistri, hwythau, yn ofni colli eu gweision; o'r tu arall dyheai llawer gwas a meistr am weled Calanmai'n dyfod iddynt gael gwared â'i gilydd.
Dyma hen linellau gwerin yr adroddid llawer arnynt gan wasanaethyddion y fro:
Daw Clamai daw clymu,
Daw dail ar bob twyn;
Daw meistr a meistres
I siarad yn fwyn.
Cywion gwyddau ac ebolion bach
Pam na ddaw Calanmai bellach.
{{nop}}
Cyfnod o ddatguddio a chelu oedd Calanmai. Sylweddolodd llawer gwas am y tro cyntaf yn brudd ei ysbryd, fod ei hen feistr caredig wedi colli ei ymddiriedaeth a'i ddiddordeb ynddo, ar ôl iddo wasanaethu am ddegau o flynyddoedd. Byddai gweision yn gwasnaethu yr adeg honno gymaint â deugain a hanner can mlynedd gyda'r un meistr, a thorrodd llawer un ei galon wrth orfod ymadael â thŷ ei feistr. O'r ochr arall teimlodd llawer meistr i'r byw wrth weled ei hen was onest a ffyddlon wedi dewis meistr newydd; yr oedd ei hen was wedi mynd yn rhan o'i fywyd.
Dibynnodd Llanegryn ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ar gael ton ar ôl ton o wasanaethyddion oddi allan i'r plwyf. Un tro deuai'r don o gyfeiriad Ardudwy, throeon eraill deuai'r don o Ddolgellau, o Bennal, o Sir Aberteifi, ac o Sir Dref-aldwyn. Deil y gwasanaethyddion i ddyfod i'r plwyf.
Erbyn hyn y mae'r arferiad o gyrchu i ffair Galanmai i gyflogi wedi llwyr ddarfod, a'r ffair ei hun i bob diben wedi peidio â bodoli. Bu ffair Pasg yn enwog am ei rhialtwch, a deil ei phoblogrwydd yn y cyfeiriad yma o hyd.
Edrychid ymlaen gydag awch am y ffeiriau er mwyn cwrdd â'r hen gymeriadau a'u mynychai, a'u clywed yn canu cerddi Cymraeg. Prif gyfle'r werin gynt i gael hanes digwyddiadau'r oes honno oedd y ffeiriau, a'r cerddi oedd eu newyddiaduron. Yn y ffair, yn aml, fisoedd wedi'r digwyddiad y clywid am y tro cyntaf am y ddamwain neu'r trychineb; dyna fyddai testun yr ymddiddanion ar aelwydydd y fro am wythnosau, a chlywid canu ar y cerddi ar lechweddau'r bryniau, ac ar hyd llwybrau'r plwyf. Adeg syml, ond dedwydd.
{{c|CREFFTWYR}}
Bu plwyfi gwledig Cymru yn byw yn gyfangwbl arnynt eu hunain. Yr oeddynt yn unedau economaidd i raddau helaeth. Cynhyrchid a gwneid popeth oddi mewn i'w terfynau hwy eu hunain.
Gofaint, seiri coed, a seiri maen oedd crefftwyr anhepgor gwlad. Gŵr breiniol oedd y gof gynt yng Nghymru, a dwylo cywrain odiaeth a fu gan ofaint ein gwlad.
Q
Cawn hanes am of yn nhref Rhydcryw yn 1635. Enw'r gof cyntaf a geir ar gadw oedd Lewys ap Hugh, ond y mae'n sicr fod gofaint yn Llanegryn o ddyddiau'r llys yn Nhal-y-bont. Bu gefeiliau yn wtre Rhiwfelen-fach, yn Ysgubor-wen a Broneunydd.
Y gof olaf a fu'n gweithio yn efail Pencraig oedd gŵr o'r enw Dafydd Dafis a fu farw yn 1881. Rhoddid gair uchel iddo fel gof yn meddu ar ddwylo cywrain ac ar hunan-ddiwylliant eang.
Bu teulu o ofaint o'r cyfenw Rees yn gweithio yn Butcher Row am ddau gant o flynyddoedd.
Ychydig o waith dwylo'r gofaint a erys yn ein plwyf. Gwelir ambell drybedd, canhwyllarn frwyn, a chwim (math o fachau at hongian tegell), yn dal i aros yn ein plith.
Bu seiri coed yn grefftwyr enwog yn y plwyf, a bu ganddynt ddau weithdy prysur yn y gymdogaeth, sef gweithdy Brynbloeddyn a gweithdy Llwynhensel; bu gan y turnwyr, hwythau, weithdy yn y Llwyn. Gwnâi'r seiri a'r turnwyr bob math o ddodrefn cegin, parlwr, ac ystafell gysgu. Gwnaent bob math o lestri a chelfi at wasanaeth tŷ a fferm. Gwerthid treseli, cypyrddau cornel, fframiau clociau, a phob math o fyrddau, cadeiriau, setlau a chistiau at wasanaeth y gegin. Gwnaent beiriannau dyrnu a nithio, gwagenni a throliau.
Diwydiant prysur oedd gwneuthur hetiau a boneti; o wellt gwenith y plethid yr hetiau. Yr oedd rhai yn gywrain ryfeddol gyda'r gwaith plethu. Gwneid dau fath o hetiau a boneti, un math ar gyfer cyfoethogion, a'r math arall ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd.
Gweithiai'r teilwriaid, gwniadwragedd, a chryddion o dŷ i dŷ ar hyd a lled y plwyf. Chwipio'r gath y gelwid ymweliad y teilwriaid. Crefftwyr pwysig oedd y gwehyddion hwythau. Byddai'r droell fach ymhob tŷ. Nyddid edau lin yn y pentref. Ymhlith crefftwyr eraill y plwyf yr oedd towyr, garddwyr, cigyddion, gwydrwyr, basgedwyr, cyfrwywyr, canhwyllwyr, menygwyr, crwynwyr, eurychod a chraswyr. Byddai dynion yn torri a llifio coed ar hyd y flwyddyn. Yn y flwyddyn 1834 y gwelsom am y tro cyntaf yr enw saer troliau.
{{nop}}
Dyma restr o wahanol grefftwyr y digwyddodd inni sylwi arnynt:—
Cryddion 1769-1799. Pump.
Teilwriaid 1744-1789. Saith.
Seiri Maen 1772-1812. Un ar ddeg.
Melinyddion 1774-1808. Naw.
Seiri Coed 1773-1840. Tri ar hugain.
Gofaint 1635-1835. Pymtheg.
Darllawyr 1799-1824. Dau.
Gwehyddion 1756-1852. Deg.
Eurych 1850. Un.
Nyddwraig 1859. Un.
Canhwyllydd 1890. Un.
Bu argraffu'n apelio at fechgyn Llanegryn unwaith, ond y mae'r swyn hwnnw wedi cilio o'r ardal ers llawer blwyddyn.
Daeth Evan Jones, y Trawst, yn argraffydd pwysig yn nhref Dolgellau; bu'n argraffu'r "Dysgedydd" am flynyddoedd.
Bu Lewis Jones, Pentre-uchaf, yn ŵr llwyddiannus fel argraffydd yn y Rhyl. Daeth yn berchennog ar swyddfa ei hun, a'r newyddiadur wythnosol "Clwyd Journal." Apwyntiwyd ef yn is-olygydd y "Llan" yn 1881.
Daeth Jacob Rees, y Llwyn, yn berchennog ar ei swyddfa ei hun yn y Wyddgrug; bu ef yn gweithio yn swyddfa'r Feibl Gymdeithas yn Llundain, ac yn cysodi rhai o weithiau cynnar Daniel Owen.
{{c|DIWYDIANNAU}}
Agwedd wan ar fywyd y plwyf fu ei ddiwydiannau. Ni bu na ffatri na phandy oddi mewn i derfynau'r plwyf.
Diau i'r ffaith bod tair o felinau dŵr at falu ŷd wedi eu hadeiladu'n gynnar yn y plwyf, filwrio yn erbyn i ddim math o ffatri na phandy gael cychwyn o gwbl, oherwydd hawliai'r melinau holl nentydd y fro at eu gwasanaeth. Ond bu llawer o wehyddion yn y plwyf yn ystod y canrifoedd diwethaf.
Bu mwy nag un Barcty yn yr ardal, neu Danws fel y'i gelwid yn y fro. Gweithid mewn dau Danws; codwyd un yn
Q
gynnar y tu ôl i Siop isaf, a bu'r llall yn Nhyn-y-pwll. Bu Barcty ar gwr y plwyf ar fin afon Dysynni yn agos i'r Crynllwyn. Perchennog y Crynllwyn, gŵr o'r enw John Jones, a'i cododd yn nechrau'r ddeunawfed ganrif. Arferai John Jones roddi benthyg arian ar log i drigolion y dyffryn, a rhoddai hwy'n fynych yn bur ddihid. Dywedir iddo fod yn golledwr trwm; cadwai ei gyfrifon a'i arian yn Amwythig. Âi yno weithiau ar ei farch, a thro arall ar ei draed, a cheir traddodiad amdano yn cychwyn cerdded oddi ar Bont Amwythig pan godai'r haul, ac yn cyrraedd Pont Dysynni pan fachludai'r un dydd. Rhoddodd fenthyg arian yn bur hael amryw amaethwyr un tymor, ac ni chafodd ond swm enfawr o grwyn yn ôl yn lle'r arian, oherwydd iddi fod yn flwyddyn golledus ar ddefaid. Cychwynnodd yntau'r Barcty ger ei gartref i droi'r crwyn yn lledr, a bu'n gweithio hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Gweithiwyd ef am y tro olaf gan Dafydd Thomas, y Crynllwyn, a phrynwyd ei ystôr olaf o ledr gan John Robert, crydd, Llanegryn.
Dechreuwyd crasu priddfeini yn gynnar yn y plwyf. Gwnaed llawer o briddfeini o'r cleidir a oedd ar waelod caeau Bodowyn, ac yng nghoed Peniarth ar lan afon Dysynni.
Wedi
Chwarelid yn y plwyf ymhell cyn y dechreuwyd gweithio yn Abergynolwyn ac Arthog. Defnyddid llechau i doi yn y plwyf yn 1667, a chodid llechau yn nechrau'r ddeunawfed ganrif, yng Nghloddfa Pirs a chloddfa Pont-y-garth. hynny y gweithiwyd y lefel ar gwr uchaf yr Allt-lwyd. Dechreuwyd gweithio chwarel Nant-y-Gwddw ar raddau helaeth ar y mynydd, ond ataliwyd ei gyrfa yn sydyn. Cyfeirir ati wrth drafod hanes cytir y plwyf. Gweithiwyd chwareli llechau ar diroedd Cyfannedd-fawr a Chyfannedd-fach, a'r Goleuwern.
Ar dir Cyfan-
Codwyd mwyn ar diroedd y Cyfanheddi. nedd-fach y codid y mwyn yn bennaf. Rhed nant gref o'r mynydd, a chodwyd melin yn y ceunant rhwng Cyfannedd-fawr a Phanteinion. Bu merched o Lanfyrnach yn golchi mwyn yn y gwaith hwn. Ar un adeg rhedai trafnidiaeth brysur i lawr am y Friog o fro'r Cyfanheddi. Ceisiwyd am
Q
fwyn ar amryw dyddynnod yn y plwyf, ond siomedig fu pob ymgais i'w gweithio.
Bu amryw Fractai yn y plwyf. Ond y prif Fracty oedd yr un a elwid yn Fragddu. Daliwyd i ddarllawio yn hwn hyd y trydydd chwarter yn y ganrif ddiwethaf. Y bragwr olaf y sylwasom arno oedd gŵr o'r enw William Owen, Llwyn-hensel, yn y flwyddyn 1826. Yr oedd Humphrey Pugh, Tonfannau, yn ŵr adnabyddus yn ei ddydd, a phrynai haidd yr ardaloedd i'w fragu'n gwrw yn Narllawdy Tynewydd. Perthynai'r Bracty hwn i felin y Tywysogion.
Rhestr fer o renti a delid yn y flwyddyn 1821, ar rai diwydiannau:—
Melin Beniarth. Tenant, John Lewis. £30/0/0.
Bracty, Tynewydd. Tenant, David Lloyd. £20/0/0.
Chwarel Pont-y-garth. Tenant, Hugh Lloyd (Moiety). £7/10/0.
Efail Newydd (Butcher Row). Tenant, William Rees. £2/5/0.
{{c|ABERDYSYNNI }}
Ceir adroddiad swyddogol am borthladdoedd a geneuau afonydd Meirionnydd am y flwyddyn 1565. Nid oedd, yn ôl yr adroddiad hwnnw, ddim y gellid ei alw'n borthladd yn perthyn i afonydd Mawddach, Dysynni a Dyfi. Pedwar tŷ oedd yn Abermaw, a meddai Rees ap Rees a Harri ab Eden ddau gwch bychan at groesi teithwyr dros afon Mawddach. Tri thŷ oedd yn Aberdyfi, ac ni alwai llongau yno ond yn ystod tymor dal penwaig. Yn ystod y tymor hwnnw galwai lliaws o longau yn Aberdyfi;. hwylient yno yn lluoedd o bob parth. Ac arferid dewis un o'r penaethiaid am y cyfnod yn llyngesydd ar yr holl longau. Byddai bywiogrwydd anghyffredin yn Aberdyfi yn ystod tymor dal penwaig.
Nid oedd Aberdysynni'n ddim amgen na math o gilfach. Rhoddwyd gofal y lle ar Lewys Gethyn a John ap Gruff ap Harri, dau o'r preswylwyr agosaf a mwyaf cyfrifol. Perchennog Rhyd-y-garnedd oedd Lewys Gethyn.
{{nop}}
Pa bryd y dechreuodd llongau alw yn Aberdysynni? Y mae'n anodd nodi dim amser arbennig. Galwai un o longau hwyliau Caernarfon a elwid Racehorse yn Aberdysynni yn 1761. Ar un o'i theithiau chwythwyd y Racehorse i borth-ladd Pwllheli, a gwelodd gwŷr y Cyllid fod y Capten Thomas Jones yn cludo baco a snisin heb drwydded, oddi wrth Richard Evans, gwneuthurwr baco, Caernarfon, i siopwyr yn Llanegryn, a bu'r awdurdodau yn chwilio i'r mater, ond trodd popeth allan yn onest. Dyledus ŷm i Mr. David Thomas, M.A., Bangor, am hanes y Racehorse.
Yr oedd prysurdeb mawr yn Aberdysynni ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd cannoedd o aceri o goed ym mhlwyf Llanegryn, a bu llawer o gwympo coed a chludid hwy i lawr o'r dyffryn ar hyd yr afon mewn cychod, a gweithid ddydd a nos ar adegau. Cludai'r llongau hefyd galch a glo i enau'r afon, a dygent nwyddau i fasnachwyr Llanegryn. Deuai'r llongau i fyny cyn belled â chae'r Corun ar ben llanw i'w dadlwytho.
Cerrig calch heb eu llosgi a ddygid i'r fro'r adeg honno, a llosgid hwy mewn odynnau a oedd wedi eu codi ar hyd a lled y wlad. Yr oedd dau o'r odynnau oddeutu cymdogaeth genau afon Dysynni, ac un yn uwch i fyny yn agos i bont Dysynni. Y mae traddodiad y llosgid calch yn gynnar ar lan yr afon wrth Dal-y-bont. Ond ni losgwyd dim calch o gwbl yn yr odyn newydd a adeiladodd Peniarth tua chanol y ganrif ddiwethaf. Gofynnai perchennog Peniarth ddeg punt o godiad yn rhent Tal-y-bont amdano a gwrthododd y tenant dalu'r swm.
Adeiladwyd rhai odynnau calch ar dyddynnod uchel ar lechweddau mynyddig. Yr oedd un ar fin nant ar dir Tyddyn-padrig, ac ar ffridd uwchlaw Cyfannedd-fawr. Gwelsom hysbysiad diddorol yn "Seren Gomer" am y flwyddyn 1814. Hysbysai gŵr o'r gymdogaeth fod arno eisiau mil o dunelli o gerrig calch yn Aberdysynni; rhoddwn ef yn yr iaith fel y'i gwelir yn "Seren Gomer."
{{nop}}
"One thousand tons of Lime wanted at Abersynny near Towyn, Merionethshire. The vessels that bring it will be immediately loaded with either Oak Poles, or Cordwood or Crooked Timber well adapted for the purpose of building vessels from 25 to 50 tons burthen on Sale or by Charter.
:N.B. No Port Fees are paid at the above place.
::Apply Wm. Richard,
:::Pentrebach, near Abersynny.
:May 3rd, 1814.
Rhydd yr hysbysiad hwn ryw syniad inni am y busnes a ffynnai ar enau afon Dysynni ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Cymaint oedd y prysurdeb fel y bu'n rhaid troi amaethdy'r Corun yn dafarn.
{{c |LLYFRAU}}
* Dogfennau Peniarth.
* Dodd, A. H., Industrial Revolution in North Wales. Cardiff, 1933.
* Ellis, T. P.: History of Dolgelley and Llanelltyd. Newtown, 1928.
* Gweithredoedd Ystâd Rhydcryw.
* Jones, Lewis: Cydymaith y Bugail. Machynlleth, 1888.
* Lewis, E. A.: The Mediaeval Boroughs of Snowdonia. 1912.
* Llyfrau Eglwys Llanegryn.
* Llythyrau John Pugh, Rhydcryw.
* Seren Gomer, 1814.
* Ystent Meirionnydd. London,
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
l54xvfnqiw9e6d5n5bqx916jqm82gah
Indecs:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu
106
82921
161860
2026-04-01T17:34:38Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda ""
161860
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=
|Author=
|Publisher=
|Year=
|Source=djvu
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=
}}
2nptte41okumni1hv6sis68b8b0a17y
162142
161860
2026-04-01T23:43:17Z
AlwynapHuw
1710
162142
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Hanes Plwyf Llanegryn
|Author=William Davies, Llanegryn
|Publisher=Hugh Evans, Lerpwl
|Year=1948
|Source=djvu
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=
}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
[[Categori:William Davies, Llanegryn]]
[[Categori:Llyfrau gydag erthygl ar Wicipedia]]
[[Categori:Llyfrau 1948]]
[[Categori:PD-old-70]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
[[Categori:Hanes Lleol]]
[[Categori:Llanegryn]]
0u60rb76vhext7y8ujry9wgyehh4r3j
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/1
104
82922
161861
2026-04-01T17:35:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161861
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[File:Hanes Plwyf Llanegryn(1948).djvu|center|600px|page=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0g5fwrjd53lfg0dr8pbosvbp24tk3v5
161862
161861
2026-04-01T17:36:11Z
AlwynapHuw
1710
161862
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[File:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu|center|600px|page=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lp4ynuvdrb0ajbvt8qry2k30gv143a4
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/2
104
82923
161863
2026-04-01T17:36:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161863
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/3
104
82924
161864
2026-04-01T17:37:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161864
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|<big><big>HANES</big></big>}}
{{canoli|<big><big>PLWYF LLANEGRYN</big></big>}}
<br>
<br>
{{canoli|<small>GAN</small>}}
{{canoli|WILLIAM DAVIES}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
g0cfi4wybfhe7kg4s6o0t9c5xdsxewe
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/4
104
82925
161865
2026-04-01T17:38:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161865
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><br>
<br>
{{canoli|Argraffwyd dros yr Awdur gan}}
{{canoli|Hugh Evans a'i Feibion, Cyf.. 9 Hackins Hey. a 350-360 Stanley Road, Liverpool}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
a5fk4d6grtcofqv8l32qjlrs27z2dds
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/5
104
82926
161866
2026-04-01T17:39:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161866
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGYMADRODD}}}}
Cefais lawer o gynhorthwy gan hen gyfeillion i gasglu hanes a thraddodiadau'r plwyf. Y mae eu nifer yn ormod imi allu eu henwi er cymaint y carwn wneuthur hynny.
Un o wendidau hanes lleol yw nad oes gobaith inni allu nodi'r ffynonellau, oherwydd casgliad yw o draddodiadau llafar yn fwy na dim arall. Elfennau prin yn fynych yw dogfennau a llyfrau y gellir dibynnu arnynt.
Dyledus wyf i Mr. Evan Davies, clerc Peniarth, am ei gynhorthwy i fynd drwy ddogfennau a gweithredoedd ystâd Peniarth. Derbyniais bob caredigrwydd gan ficer y plwyf, y Parch. Stephen Davies, i droi i lyfrau'r Eglwys a'r Festri. Cefais groeso bob tro y gelwais yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a phan ysgrifennais atynt. Ymgynghorais â rhai o'n llenorion a'n hysgolheigion a derbyniais gyfarwyddyd parod ganddynt. Cynorthwyodd y Parch. R. Rhys Hughes, ficer Glanogwen, i drefnu'r rhestr o offeiriaid ac athrawon y plwyf. Bu'r Parch. Henry Thomas, B.A., ficer Tywyn, yn barod i estyn help llaw pan alwn arno, a rhoddodd ganiatâd caredig gyhoeddi rhai o'r ysgrifau a ymddangosodd yn "Yr Haul."
Diolchaf i Dr. R. T. Jenkins am edrych dros yr hanes, a rhoddi llawer awgrym. Rhwymedig wyf i Mr. Richard Jones, B.A., Tywyn, am gywiro'r gwaith. Diolchaf i Dr. Iorwerth C. Peate am ei Ragair a llawer cyngor. Mi fy hun sy'n gyfrifol am bob gwall.
WILLIAM DAVIES.
Calan, 1948<noinclude><references/></noinclude>
3vdianu835qiqgzhws6npmr9z2cvkoo
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/6
104
82927
161867
2026-04-01T17:39:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161867
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/7
104
82928
161868
2026-04-01T17:40:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161868
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGAIR}}}}
Teimlaf hi'n fraint ac yn anrhydedd i gael cyflwyno'r gwaith hwn i sylw'r cyhoedd. Darllenais ef gyda blas a budd, ac y mae'n sicr gennyf y rhydd darllenwyr Cymru groeso mawr iddo. Un o rinweddau'r Cymro yw ei frogarwch, ac amheuthun yw gweld gŵr fel Mr. William Davies, yn y llyfr hwn, yn rhoi ffurf sylweddol ar ei gariad tuag at ei fro trwy gasglu'r holl ffeithiau amdani a'u rhoddi inni ar glawr fel hyn. Y mae'r gwaith yn gyfraniad sylweddol at hanes Cymru.
Nid rhaid i awdur y gyfrol hon wrth unrhyw ganmoliaeth wenieithus. Fe berthyn, fel awdur Cwm Eithin gynt, i ddosbarth o werinwyr diwylliedig sy'n halen daear Cymru. Yn wir hebddynt, ni buasai Cymru o gwbl. Ynddynt hwy y cyfiawnheir pob ymdrech a wneir gan bawb ohonom i gadw yn fyw gymreictod a chymeriad arbennig ein cenedl. Hwy yw pendefigion ein diwylliant.
Petasai ym mhob ardal yng Nghymru un gŵr a wnâi gyffelyb gymwynas â'i fro, buasai'r gwaith garw ar hanes Bywyd Gwerin wedi'i gyflawni a gallem wedyn fentro'n eofn ar y synthesis sy'n angenrheidiol. Cymeradwyaf yr astudiaeth hon o eiddo Mr. Davies yn galonnog i sylw pob hanesydd lleol gan obeithio y ceir ynddi ysbrydoliaeth i lawer eraill. Ac o'm rhan i fy hun diolchaf iddo o lwyrfryd calon am ei egni a'i ddyfalbarhad, a'r defnydd a wnaeth o'i ddawn.
IORWERTH C. PEATE.
Calan, 1948.<noinclude><references/></noinclude>
3wtqzp97fyfl427452evmmk7hujhzfe
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/8
104
82929
161869
2026-04-01T17:40:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161869
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/9
104
82930
161870
2026-04-01T17:41:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161870
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|ERRATA}}}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
! Tud.!! |Llinell !! Yn lle !!darllener
|-
| align="right" |2
| align="right" |31
|Fordd-las
|Ffordd-las
|-
| align="right" |5
| align="right" |16
|pedawr
|pedwar-gŵr-du
|-
| align="right" |28
| align="right" |4
|hen ffordd
|ben ffordd y Waun
|-
| align="right" |44
| align="right" |3
|ar ei
|at ei
|-
| align="right" |55
| align="right" |2
|gwaddolau
|gwaddoliadau
|-
| align="right" |59
| align="right" |13
|John Lloyd
|John Llwyd
|-
| align="right" |70
| align="right" |9
|Wolton
|Wotton
|-
| align="right" |79
| align="right" |35
|ym mhlwf
|ym mhlwyf
|-
| align="right" |80
| align="right" |25
|perchenogion
|perchennog
|-
| align="right" |103
| align="right" |2
|ar eiddo ar
|ar eiddo
|-
| align="right" |136
| align="right" |18
|llafuwyr
|llafurwyr
|-
| align="right" |141
| align="right" |29
|gwch
|cwch
|-
| align="right" |166
| align="right" |19
|hamdena
|hamddena
|-
| align="right" |171
| align="right" |7
|dynion da
|ysbrydion dynion da
|-
| align="right" |185
| align="right" |18
|angen
|amgen
|-
| align="right" |197
| align="right" |27
| align="right" |£20
| align="right" |£4
|-
| align="right" |216
| align="right" |16
| align="right" |1857
| align="right" |1867
|-
| align="right" |216
| align="right" |17
| align="right" |1836
| align="right" |1886
|-
| align="right" |218
| align="right" |22
|pethynol
|perthynol
|}<noinclude><references/></noinclude>
hetdvk1w32psbbqjq5n23ees32sa4bp
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/10
104
82931
161871
2026-04-01T17:42:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161871
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/11
104
82932
161872
2026-04-01T17:43:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161872
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNNWYS}}}}
I Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y-bont. Maenor Tal-y-bont. Y Normaniaid. Maerdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.
II Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.
III Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.
IV Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddoliadau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.
V Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.
VI Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint. Cynghorau Llywodraeth Leol
VII Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Čneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Defaid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y Ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.
VIII Cyflogau Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
3hmp5093jhggr4dzto8b6os62m4ntw5
162158
161872
2026-04-02T01:45:17Z
AlwynapHuw
1710
162158
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNNWYS}}}}
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Cynnwys|Cynnwys]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod I]] Llanegr yn Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y-bont. Maenor Tal-y-bont. Y Normaniaid. Maerdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.
II Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.
III Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.
IV Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddoliadau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.
V Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.
VI Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint. Cynghorau Llywodraeth Leol
VII Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Čneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Defaid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y Ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.
VIII Cyflogau Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
86bk3951j888g3yhjlsdif79nta7i3j
162159
162158
2026-04-02T01:57:09Z
AlwynapHuw
1710
162159
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNNWYS}}}}
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Errata|Errata]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Cynnwys|Cynnwys]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod I]] Llanegr yn Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y-bont. Maenor Tal-y-bont. Y Normaniaid. Maerdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod II]] Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod III|Pennod III]] Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod IV|PennodIV]] Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddoliadau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod V|Pennod V]] Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VI|Pennod VI]] Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint. Cynghorau Llywodraeth Leol
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VII|Pennod VII]] Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Čneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Defaid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y Ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VIII|Pennod VIII]] Cyflogau Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
awiswvvc1uvsn7gyqnhjghesa0i32dg
162162
162159
2026-04-02T02:08:08Z
AlwynapHuw
1710
162162
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNNWYS}}}}
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Errata|Errata]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Cynnwys|Cynnwys]]
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod I]]}}
Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y-bont. Maenor Tal-y-bont. Y Normaniaid. Maerdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod II]]}}
Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod III|Pennod III]]}}
Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod IV|PennodIV]]}}
Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddoliadau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod V|Pennod V]]}}
Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VI|Pennod VI]]}}
Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint. Cynghorau Llywodraeth Leol
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VII|Pennod VII]]}}
Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Čneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Defaid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y Ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VIII|Pennod VIII]]}}
Cyflogau Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qy611hxope2u5p1lcby5jtknrtpqvmt
162163
162162
2026-04-02T02:08:37Z
AlwynapHuw
1710
162163
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNNWYS}}}}
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Errata|Errata]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Cynnwys|Cynnwys]]
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod I]]}}
Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y-bont. Maenor Tal-y-bont. Y Normaniaid. Maerdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod II]]}}
Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod III|Pennod III]]}}
Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod IV|Pennod IV]]}}
Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddoliadau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod V|Pennod V]]}}
Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VI|Pennod VI]]}}
Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint. Cynghorau Llywodraeth Leol
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VII|Pennod VII]]}}
Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Čneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Defaid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y Ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VIII|Pennod VIII]]}}
Cyflogau Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ae1l9pa42ow724jqpt1k6hahiqv9gf2
162164
162163
2026-04-02T02:24:05Z
AlwynapHuw
1710
162164
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNNWYS}}}}
{{center block|
<poem>
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Errata|Errata]]
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Cynnwys|Cynnwys]]
</poem>
}}
<br>
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod I]]}}
Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y-bont. Maenor Tal-y-bont. Y Normaniaid. Maerdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I|Pennod II]]}}
Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod III|Pennod III]]}}
Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod IV|Pennod IV]]}}
Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddoliadau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod V|Pennod V]]}}
Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VI|Pennod VI]]}}
Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint. Cynghorau Llywodraeth Leol
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VII|Pennod VII]]}}
Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Čneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Defaid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y Ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VIII|Pennod VIII]]}}
Cyflogau Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
egzmba9s01y2c854jpv5zt1ybergm4d
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/12
104
82933
161873
2026-04-01T17:49:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161873
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>IX Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nosweithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedigaethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion.
{{c|PERSONAU.}}
X Y Parch. Andrew Edwards; Elinor Evans (Elin Egryn); John Evans; Catherine Hughes; Dr. Arthur Jones; Edward Kenrick; Eos Llechid; Dr. Thomas Lloyd; John Llwyd; Gruffydd Owen; Hugh Owen; Plant Hugh Owen; Hugh Owen, Tal-y-bont; John Owen, Bronclydwr; Dr. John Owen; Lewis Owen; Morris Parry; Rhisiart Powel; Owen Williams; W. W. E. Wynne; Brodorion; Gwasanaethwyr Llys Lloegr; Siryfion; Aelodau Seneddol; Arglwydd Rhaglaw Meirion.
XI Cerrig Hynod. Carreg y Big. Bedd Gwell. Llys Meirion. Cistfaen. Cistfaen Hir. Hen Fynwent Bronclydwr. Mynwent Cyfannedduchaf. Y Domen Ddreiniog. Tomen Cae- gwyn. Gweirglodd Waun-Llywelyn. Adeilad Enwog. Ffynhonnau. Buddai Gnoc. AwrDeial. Gefeiliau Cŵn. Trap Moch. Ugain Gwyddelig. Ewyllysiau. Cymdeithas Gyfeillgar. Cosbi Trwm. Cosb Celwydd ac Enllib. Ymweliad Tywysog.
XII Disgrifiad o Dai Trigiannol. Minffordd. Plascorniog. Pen-y-banc. Amaethdai. Tyn-y-pwll. Gwyddfryniau. Tal-y-bont. Cyfannedd-fach. Hen Dyddynnod Adfeiliedig. Enwau Lleoedd. Enwau llennyrch ar y Mynydd a'i odre. Hen enwau crefyddol. Creaduriaid Gwylltion.
{{c|DARLUNIAU}}
<poem>
Bwyall Garreg a Bwyall Bres
Dwy Fwyall Bres
Eglwys Llanegryn o'r Allor
</poem><noinclude><references/></noinclude>
owsinyt1gsxvgqg8b43ovcjd5a50qwn
162160
161873
2026-04-02T02:00:16Z
AlwynapHuw
1710
162160
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod IX|Pennod IX]] Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nosweithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedigaethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion.
{{c|PERSONAU.}}
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod X|Pennod X]] Y Parch. Andrew Edwards; Elinor Evans (Elin Egryn); John Evans; Catherine Hughes; Dr. Arthur Jones; Edward Kenrick; Eos Llechid; Dr. Thomas Lloyd; John Llwyd; Gruffydd Owen; Hugh Owen; Plant Hugh Owen; Hugh Owen, Tal-y-bont; John Owen, Bronclydwr; Dr. John Owen; Lewis Owen; Morris Parry; Rhisiart Powel; Owen Williams; W. W. E. Wynne; Brodorion; Gwasanaethwyr Llys Lloegr; Siryfion; Aelodau Seneddol; Arglwydd Rhaglaw Meirion.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod XIPennod XI]] Cerrig Hynod. Carreg y Big. Bedd Gwell. Llys Meirion. Cistfaen. Cistfaen Hir. Hen Fynwent Bronclydwr. Mynwent Cyfannedduchaf. Y Domen Ddreiniog. Tomen Cae- gwyn. Gweirglodd Waun-Llywelyn. Adeilad Enwog. Ffynhonnau. Buddai Gnoc. AwrDeial. Gefeiliau Cŵn. Trap Moch. Ugain Gwyddelig. Ewyllysiau. Cymdeithas Gyfeillgar. Cosbi Trwm. Cosb Celwydd ac Enllib. Ymweliad Tywysog.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod XII|Pennod XII]] Disgrifiad o Dai Trigiannol. Minffordd. Plascorniog. Pen-y-banc. Amaethdai. Tyn-y-pwll. Gwyddfryniau. Tal-y-bont. Cyfannedd-fach. Hen Dyddynnod Adfeiliedig. Enwau Lleoedd. Enwau llennyrch ar y Mynydd a'i odre. Hen enwau crefyddol. Creaduriaid Gwylltion.
{{c|DARLUNIAU}}
<poem>
Bwyall Garreg a Bwyall Bres
Dwy Fwyall Bres
Eglwys Llanegryn o'r Allor
</poem><noinclude><references/></noinclude>
rh67ijoe3mcdc9ns4uy3xdf88brlfnz
162161
162160
2026-04-02T02:03:43Z
AlwynapHuw
1710
162161
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod IX|Pennod IX]]}}Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nosweithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedigaethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion.
{{c|PERSONAU.}}
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod X|Pennod X]]}}
Y Parch. Andrew Edwards; Elinor Evans (Elin Egryn); John Evans; Catherine Hughes; Dr. Arthur Jones; Edward Kenrick; Eos Llechid; Dr. Thomas Lloyd; John Llwyd; Gruffydd Owen; Hugh Owen; Plant Hugh Owen; Hugh Owen, Tal-y-bont; John Owen, Bronclydwr; Dr. John Owen; Lewis Owen; Morris Parry; Rhisiart Powel; Owen Williams; W. W. E. Wynne; Brodorion; Gwasanaethwyr Llys Lloegr; Siryfion; Aelodau Seneddol; Arglwydd Rhaglaw Meirion.
[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod XI|Pennod XI]] Cerrig Hynod. Carreg y Big. Bedd Gwell. Llys Meirion. Cistfaen. Cistfaen Hir. Hen Fynwent Bronclydwr. Mynwent Cyfannedduchaf. Y Domen Ddreiniog. Tomen Cae- gwyn. Gweirglodd Waun-Llywelyn. Adeilad Enwog. Ffynhonnau. Buddai Gnoc. AwrDeial. Gefeiliau Cŵn. Trap Moch. Ugain Gwyddelig. Ewyllysiau. Cymdeithas Gyfeillgar. Cosbi Trwm. Cosb Celwydd ac Enllib. Ymweliad Tywysog.
{{c|[[Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod XII|Pennod XII]]}}
Disgrifiad o Dai Trigiannol. Minffordd. Plascorniog. Pen-y-banc. Amaethdai. Tyn-y-pwll. Gwyddfryniau. Tal-y-bont. Cyfannedd-fach. Hen Dyddynnod Adfeiliedig. Enwau Lleoedd. Enwau llennyrch ar y Mynydd a'i odre. Hen enwau crefyddol. Creaduriaid Gwylltion.
{{c|DARLUNIAU}}
{{center block|
<poem>
Bwyall Garreg a Bwyall Bres
Dwy Fwyall Bres
Eglwys Llanegryn o'r Allor
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
5db14budg3n6un3w4ubzsq6epitqjio
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/13
104
82934
161874
2026-04-01T17:50:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161874
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD I}}}}
{{c|Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y- bont. Maenor Tal-y-Bont. Y Normaniaid. Maesdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.}}
{{c|OES Y CERRIG}}
NI wyddom enw'r llwyth a ymlwybrodd gyntaf ar fryniau a mynyddoedd ardal Llanegryn. Nid erys ond ychydig o olion Oes y Cerrig yn ein plwyf. Dwy fwyall garreg yw'r olion hynaf a ddarganfuwyd hyd yn hyn yn Llanegryn; cafwyd hyd i'r ddwy ar dir y Celmi. Bwyall garreg gleifaen ''(shale)'' gaboledig yw un ohonynt, o ffurf hirgron, wedi ei hamharu ychydig ar yr wyneb. Deuwyd o hyd iddi mewn clawdd yn agos i dŷ'r Celmi, Medi 1871. Bwyall garreg ''(diabase)'' gaboledig yw'r llall, o ffurf hirgron, a chafwyd hyd iddi wrth aredig yn un o'r caeau y gwanwyn 1922. Perthyn y ddwy i'r cyfnod rhwng Hen Oes y Cerrig ac Oes Newydd y Cerrig.
Darganfuwyd fflaw ''(Flake)'' o gallestr llwyd mewn carnedd ar ben yr Allt-lwyd. Cafwyd hyd iddi Gorff. 1868. Ceir darluniau o'r ddwy fwyall yn y Guide To The Collection Illustrating the Prehistory of Wales.
Perthyn y Cromlechau a'r Meini Hirion i Oes Olaf y Cerrig, a dechrau Oes y Pres. Nid erys yr un Gromlech ym mhlwyf Llanegryn, ond deil rhai Meini Hirion nodedig i sefyll hyd heddiw. Saif dau ohonynt ar fin yr hen ffordd sy'n arwain o Lwyngwril i'r Ffordd-ddu yng nghymdogaeth Cyfannedd-fawr. Y mae uchder y cyntaf yn saith troedfedd a hanner. Saif yr ail drigain llath yn is i lawr ar y ffordd, ac y mae ei uchder yntau tua phum troedfedd a hanner. A gwelir ar Fynydd Braich-du faen llydan ar ei ben yn y ddaear, a'i uchder yn bedair troedfedd. Ceir maen ar un o gaeau Waun-fach yn mesur tua phum troedfedd o uchder, a chredir bod hynafiaeth yn perthyn iddo.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
efvk149ftryv3luvj0qtnx0qvps81by
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/14
104
82935
161875
2026-04-01T17:59:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161875
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|OES Y PRES.}}
Y mae gennym le i gredu bod Oes y Pres wedi torri'n gynnar ar ein cymdogaeth. Cafwyd bwyall ar dir Goleuwern yn 1855; yr oedd mewn cyflwr da, ac o waith celfydd a dolen ar ei chanol. Deuwyd o hyd i fwyall bres a dolen iddi, a streip ganolog ar ei llafn, ar un o gaeau Hen-siop wrth ddal tyrchod, Rhagfyr 1873; a chafwyd bwyall bres â dolen iddi a thair streip gyfochrog ar ddeutu'r llafn; a hefyd bwyall bres arall yn meddu ar soced, â'i hwyneb yn ddiaddurn, pan oeddid yn hela cwningod yng Nghoed-y-graig, Peniarth-uchaf yn y flwyddyn 1886. Ceir darluniau o'r bwyeill hyn yn y ''Guide To The Collection Illustrating The Prehistory of Wales''. Tebyg yw y deuai'r Gwyddyl i'n gwlad draws y môr a glanio yn ardal Aberdysynni mewn math o gychod. Deuwyd o hyd i ddwy wayw-bicell yn chwarel Tonfannau yn 1932. Dywedir gan wŷr profiadol eu bod yn perthyn i'r cyfnod bore 1700 cyn Crist. Tebyg yw y byddai'r Gwyddyl yn masnachu mewn nwyddau pres yn ardal Dysynni â thrigolion Meirionnydd a chanolbarth Cymru.
{{c|CAERAU A CHARNEDDAU.}}
Bu Pen-y-bwch yn drigfan cynhanes. Ceir yma olion hen gaerfa sy'n mynd yn ôl i ddechrau'r cyfnod Cristionogol, a gwelir olion amryw hen gaerau o Ben-y-bwch i ben y Gaer, tucefn i Gastell-mawr. Bu preswylio bore ar y braich tir sydd ar ochr Llanegryn i afon Dysynni, fel yr awgryma'r enwau Cae'r-garn, y Garnedd-uchaf, y Garnedd-goch, a Rhyd-y-garnedd. Ceir olion amlwg o'r hen fywyd cyntefig hefyd ar fynyddoedd Llanegryn yn y "Cutiau Gwyddelig" lle y cyfanheddai'r hen drigolion, ac yn y carneddau lle y claddent eu meirw. Gwelir hwy ar fynyddoedd Cyfannedd, Braich- du, Rhydcryw, Allt-lwyd, a Rhiwfelen. Ceir sylfeini dwy garnedd ar ochr y Fordd-las uwchben Caermynach; mesura un ohonynt ddeugain troedfedd yn dryfesur, tra nad yw'r llall ond deg troedfedd. Nid oes llecyn mwy diddorol i hynafiaethwyr na phen uchaf yr Allt-lwyd. Saif olion tair<noinclude><references/></noinclude>
j9pg1t9qdd38nx8ej9gr7nm9q0a77ae
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/15
104
82936
161876
2026-04-01T18:01:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161876
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>carnedd ar frig yr allt. Y mae'r ganol ohonynt tua phum troedfedd a deugain o dryfesur a phum troedfedd o uchder. Agorwyd hon a chafwyd olion esgyrn llosgedig ynddi. Agorwyd yr isaf hefyd a chynhwysai hithau weddillion llosgedig.
Y mae mwy nag un bedd a elwir yn Fedd-y-brenin ar fynydd Llanegryn. Cysylltir un â'r garnedd a elwir Carnedd Pant-gwely'r-meibion. Saif hon ar y gefnen a gysyllta fynydd Pen-y-garn â Chraig Cwm-llwyd; gelwir hi hefyd yn Garnedd Cwm-llwyd, ac yn Garnedd Bedd-y-brenin. Agorwyd hi yn 1852, a chaed cistfaen oddi mewn iddi, a charreg orchudd fawr ar ei hwyneb. Yn y gist yr oedd ychydig esgyrn llosgedig. Mesura tua phum troedfedd ar hugain o dryfesur a phum troedfedd o uchder. Ceir carnedd a elwir yn Garnedd Goleuwern neu'r Gleuwer. Agorwyd hon hefyd yn 1852 a chafwyd cistfaen â charreg orchudd arni o fewn rhyw droedfedd a hanner i'r wyneb. Mesura ddeu naw troedfedd ar hugain o dryfesur, ac y mae ei hwyneb yn wastad â'r ddaear. Ceir casgliad bychan o'r esgyrn mân a gafwyd yng ngharneddau Goleuwern a Bedd-y-brenin yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.
Pwy oedd yr hen frenin a gladdwyd yng ngharnedd Cwm- llwyd? Nid oes neb a etyb. Ni chafodd unrhyw deyrn erioed feddrod ar fangre fwy rhamantus i orwedd ynddi dros ei hir gwsg.
Ar y llennyrch uchaf y canfyddir y carneddau fel rheol, yn llygad haul ac yn yr awelon iach. Deuir ar draws amryw ohonynt ar y trumiau a'r esgeiriau sydd uwchlaw Peniarth- uchaf, ac i fyny i odre Cader Idris.
Gwelir yr olion amlycaf o'r "Cutiau Gwyddelig" ar fynydd Cyfannedd fawr. Cylch crwn yw'r cut, a medd rhai ohonynt hanner cylch y tu mewn i'r cylch allanol. Gwaith da fyddai diogelu'r gweddill o'r carneddau, y cutiau, a'r meini hirion sy'n aros ar fynyddoedd y plwyf cyn iddynt lwyr ddiflannu.<noinclude><references/></noinclude>
i8ng67xp7eprrika37fpr74rj51soy9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/16
104
82937
161877
2026-04-01T18:01:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161877
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|OES YR HAEARN A'R CYFNOD RHUFEINIG.}}
Cyfnod pwysig yn hanes yr ynys hon oedd y chweched a'r bumed ganrif cyn Crist. Yma am y tro cyntaf y dechreuwn drafod hanes ein gwlad gyda'r ymwybyddiaeth ein bod yn ymwneud â gwreiddiau'r Gymdeithas Gymreig. Daeth haid dros y môr a dechreuasant oresgyn deau-orllewin Lloegr; ac yn ddiweddarach daeth heidiau o Ffrainc a Llydaw ar draws Môr Hafren i ddeau Cymru. Bu dyfodiad yr heidiau hyn yn gychwyn chwyldro ym mywyd ein gwlad, trwy eu bod yn defnyddio arfau haearn. Yr oeddynt yn enwog am eu medr i godi "dinasoedd" (hill-forts). Wrth edrych dros fap diweddar o'r "dinasoedd" yng Nghymru, ni chanfyddwn gymaint ag un ohonynt ar fryniau Cantref Meirionnydd. Tystir, fodd bynnag, gan draddodiad fod caerau mynyddig wedi eu codi ar fryniau a godreon Cader Idris a Chraig Aderyn. Y mae olion caerfa Craig Aderyn yn dal yn amlwg, a dywedir bod olion caer ar lwybr Cam Redynen-neu yng ngodre Cader Idris yn Islaw'r-dre. Gelwir yr hen lwybr hwn gan rai yn Ffordd Rufeinig. Yn agos i gaerfa llwybr Cam Redynen y mae darn o dir a elwir yn Erw Gwyddyl, a darganfuwyd pridd-lestri Rhufeinig yn y gaerfa ar ben Craig Aderyn.
Codwyd dwy gaerfa, un ar bob ochr i Feirion, gan y Rhufeiniaid: Tomen-y-mur yn ardal Trawsfynydd a Chefn- caer ym Mhennal; a rhedai ffordd Rufeinig ar draws Meirion o Bennal i Domen-y-mur. Arferid meddwl mai unig lwybr y Rhufeiniaid oedd dros y mynyddoedd o Bennal, a thrwy Abergynolwyn am Lanfihangel-y-pennant, a thros Ben- rhiw'r-dilan am Bont-cwm-llwyd ym mhlwyf Llanegryn. Tueddir rhai i gredu bod ffordd Rufeinig arall yn arwain dros Fynydd Bychan, Sarn Dysynni, ac ar draws plwyf Llanegryn am y Ffordd-ddu, i gyfeiriad Tomen-y-Mur. Os bu Castell-y-gaer sydd tucefn i Gastell-mawr o dan reolaeth y Rhufeiniaid rhaid bod ffordd o'r eiddynt ar waelod y plwyf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
bqpe0d44f0g28i5rjqty5l3xfvf0ka8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/17
104
82938
161878
2026-04-01T18:02:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161878
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bwyell Carreg Llanegryn 01.jpg|canol|bawd|{{c|BWYALL GARREG. Cafwyd ar dir y Celmi}}]]
[[Delwedd:Bwyell Carreg Llanegryn 02.jpg|canol|bawd|{{c|BWYALL BRES. Cafwyd ar dir Hen-siop}}]]
{{c|(Trwy garedigrwydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru)}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
46k0ft7jowh7g2uvaw4b9pofu7w1z17
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/18
104
82939
161879
2026-04-01T18:02:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161879
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/19
104
82940
161880
2026-04-01T18:03:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161880
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|Y DANIAID}}
Anodd yw nodi beth fu cysylltiad y Daniaid neu wŷr Llychlyn â Dyffryn Dysynni. Diffeithiwyd y Tywyn gan y Cenhedloedd yn y flwyddyn 963, ond yn ôl Brut y Tywysogion a Brut y Saeson digwyddodd yr ymosodiad ddwy flynedd yn flaenorol. Dinistriwyd eglwys y Tywyn yng nghwrs yr ymgyrch. Adroddir am Gruffydd ap Cynan yn ymladd brwydr waedlyd yng nglyn Cyning yn erbyn Cynwrig a Thrahaearn. Meddai Gruffydd ar fyddin a nifer mawr o wŷr Llychlyn ynddi; a gelwid maes y Gyflafan yn Waeterw, a dyfelir i'r frwydr hon ddigwydd yng nghymdogaeth y Tywyn. Dywaid traddodiad fod y Daniaid wedi cartrefu ar fanc Ynys-las ar fin afon Dysynni. Gelwir y Domen a saif ar y morfa rhwng gweirgloddiau Ysguboriau a Rhyd-y-garnedd yn Ynys-las, a honnir mai'r Daniaid a'i cododd ac iddynt osod eu gwersyll arni. Gelwir gweirglodd berthynol i Ysguboriau yn Weirglodd-pedawr-gŵr-du, a gelwir tyddyn ar ochr Lanegryn i'r afon yn Fryn-y-gweision-duon. Bu hefyd dyddyn yn agos i'r Pant a adnabyddid wrth yr enw Tirgwadan-ddu; a gelwid y Daniaid gynt, y Llu Du, y Cenhedloedd Duon, a'r Paganiaid Duon.
{{c|OES Y TYWYSOGION}}
Ychydig o hanes y plwyf sydd yn wybyddus inni yn ystod oes y Tywysogion. Cefndir y plwyf yw Cantref Meirionnydd a Chwmwd Tal-y-bont. Yr oedd Cantref Meirionnydd yn wreiddiol yn rhan o Bowys. Rhoddwyd ef dan amod gwrogaeth i Uchtryd ab Edwin o Degeingl. Cafodd ei oresgyn gan Gadwallon ac Owain, feibion Owain Gwynedd, ac felly daeth yn rhan o Wynedd, fel y bu byth wedyn.
Daliai Cantref Meirionnydd ryw fath o "Status Dominiwn." Yr oedd ef megis yn is-deyrnas o Wynedd, dan linach o dywysogion o deulu Aberffraw. Cynan ab Owain Gwynedd a ystyrir yn gychwyn y llinach, ac felly gelwir y Cantref weithiau'n "wlad Cynan." Gelwid ef felly gan<noinclude><references/></noinclude>
5p2k90sbdeyjiv639erbv6zy5m6ktc6
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/20
104
82941
161882
2026-04-01T18:04:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161882
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gerallt Gymro pan deithiai ar hyd Cymru gyda'r Archesgob
Baldwin.
Dyma linach y tywysogion a fu'n teyrnasu ar y Cantref.
{| style="text-align: center; margin: auto; border: none;"
|
|(Owain Gwynedd)
|
|-
|
|<nowiki>|</nowiki>
|
|-
|
|Cynan (Bu farw 1173)
|
|-
| colspan="3" |{{lein}}
|-
|<nowiki>|</nowiki>
|
|<nowiki>|</nowiki>
|-
|Gruffydd (Bu farw 1200)
|
|Maredydd (Bu farw 1212)
|-
|<nowiki>|</nowiki>
|
|<nowiki>|</nowiki>
|-
|Hywel (Bu farw 1216)
|
|Llywelyn
|-
|
|
|<nowiki>|</nowiki>
|-
|
|
|Maredydd (Bu farw 1255)
|-
|
|
|<nowiki>|</nowiki>
|-
|
|
|Llywelyn (Bu farw 1263)
|-
|
|
|(Credir mai mab i'r Llywelyn
|-
|
|
|hwn oedd y Madog a
|-
|
|
|arweiniodd wrthryfel enwog
|-
|
|
|1294-5 yn erbyn Edward I)
|}
Tybiodd Llywelyn ab Iorwerth ei bod hi'n amser iddo roi terfyn ar yr hanner-annibyniaeth hon, a chwplawyd y gwaith yn 1256 gan Lywelyn y Llyw Olaf.
{{c|CANTREF MEIRIONNYDD}}
Cyrhaeddai'r Cantref o Bennal ar lan afon Dyfi hyd afon Mawddach, ac ymestynnai o lan y môr i ben y Garneddwen, at ffin plwyf Llanuwchllyn; a chylchynnid ef gan Ardudwy, Penllyn, Cyfeiliog, a Genau'r Glyn. Rhennid ef ar un adeg yn dri chwmwd a elwid yn Dal-y-bont, Ystumanner a Phennal. Ond byr fu arhosiad Pennal fel Cwmwd. Hoffai Tywysogion Gwynedd Gantref Meirionnydd, a phan ymwelent â'r fro eu dewis-fan i gartrefu oedd Llys Tal-y-bont ar lan Dysynni.
{{c|CWMWD TAL-Y-BONT}}
Rhennid Cwmwd Tal-y-bont oddi wrth Gwmwd Ystumanner gan afon Dysynni a hollt Tal-y-llyn; a rhennid<noinclude><references/></noinclude>
kvm00zmk7d4lhg6djsnc2mlq17x2ynm
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/21
104
82942
161883
2026-04-01T18:04:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161883
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y Cwmwd yn ddau ranbarth, sef Tal-y-bont Is Cregennen a Thal-y-bont Uwch Cregennen. Cynhwysai Tal-y-bont Is Cregennen blwyfi Llanegryn, Llangelynnin, a threddegwm Uwchgarreg ym mhlwyf Llanfihangel-y-pennant; a chyn- hwysai Tal-y-bont Uwch Cregennen blwyfi Islaw'r-dre, Brithdir, Llanfachreth, a rhyw gymaint o blwyf Llanelltyd. Safai llys y Cwmwd ym mhlwyf Llanegryn.
{{c|MAENOR TAL-Y-BONT}}
Cydnabyddir bod Maenor Tal-y-bont yn cynnwys plwyf Llanegryn, a honnir bod yr hawliau maenorol yn ymestyn dros ffiniau'r plwyf. Gellir ystyried i bob pwrpas ymarferol mai plwyf gwladol Llanegryn oedd tiriogaeth maenor Tal-y- bont. Sonnir yn gynnar yn yr ystentiau Seisnig am Faenor Tal-y-bont, ac yn llys y faenor y ffynnai awdurdod y Cwmwd. Safai'r llys yn agos i amaethdy Tal-y-bont, a cherllaw'r Domen Ddreiniog, yr unig olion a erys o'r hen lys. Ysgrifennodd Llywelyn Ein Llyw Olaf lythyr o Dal-y-bont ar y 6 o Hydref 1275 at Archesgobion Caergaint a Chaerefrog a gyfarfyddai mewn cyngor yn Llundain.
Pan syrthiodd Llywelyn yn 1282 aeth tiroedd Tywysogion Gwynedd yn eiddo Coron Lloegr, ac aeth maenor Tal-y-bont yn eu plith.
{{c|Y NORMANIAID}}
Gyda buddugoliaeth Edward I, daeth y Normaniaid i aros i'n gwlad. Y mae'n sicr fod Edward I wedi bwriadu Normaneiddio Dyffryn Dysynni a gwlad Meirion. Yn y flwyddyn. 1285 rhoddodd ef Siarter i Gastell-y-Bere, a golygai hynny roddi llywodraeth dros ran amhenodol o wlad, i wŷr y dref. Tref gastellog y Bere yw'r unig un o drefi Siarteredig Edward I a ddadfeiliodd yn llwyr o fodolaeth.
Dywedir gan W. W. E. Wynne i Edward I arwyddo Siarter yn Nhal-y-bont yn y flwyddyn 1295; Gwel. ''History of Llanegryn''.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
q65begnsq8uxpzebicwfmha83kclchg
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/22
104
82943
161884
2026-04-01T18:05:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161884
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|YSTENT MEIRIONNYDD}}
Gwnaed Ystent Meirionnydd gan John Havering a Richard Abingdon, a gwnaed hi'n fuan wedi'r gorchfygiad. Ceir ynddi fanylion am fywyd ac arferion y Cwmwd a'r Faenor. Nodir y taliadau a wneid, a'r gwasanaethau, yr arferion, a phob math o lafur yn yr oes honno. Crybwyllir yn yr Ystent am dri thaeog ar y faenor, a rhoddid arnynt dalu 17/4 am eu tir, a 2/6 am eu llafur. Gyda'r ystent hon daeth talu mewn arian yn arferiad, yn hytrach na thrwy lafur ac eiddo. Son- nir am daeog o'r enw Heilyn ap Roger yn prynu ei ryddid am 3/4 er mwyn mynd dros afon Dysynni yn ŵr rhydd yn Nhywyn. Telid ar y gored a oedd ar cchr isaf maenor Tal- y-bont 6/8, ac ar felin Llanegryn, £4 yn lle deugain crynog o flawd ceirch yn ôl 2/- y crynog.
{{c|MAERDREF LLANEGRYN}}
Prin yw'r cyfeiriadau a geir am Faerdref Llanegryn. Daw ei henw i'r amlwg ynglŷn â gweithredoedd y faenor a thir y Tywysogion yn Llanegryn a Thal-y-bont. Y Faerdref a gynhyrchai ymborth a chynhaliaeth y llys, ac yr oedd yn eiddo i arglwydd y llys. Yr oedd yn llawer pwysicach na'r un o'r trefi caeth cyffredin. Dywaid Hugh Owen, Tal-y-bont, mewn ewyllys o'i eiddo mai tir amaethdy a elwir Tal-y-bont oedd tir maerdref Llanegryn.
{{c|Y DREF GAETH}}
Adnabyddid y dref gaeth hon fel Gwely Dafydd Goch, ac y mae'n enghraifft ddiddorol o daeogion wedi dyfod i etifeddu eu tir eu hunain ar farwolaeth eu tadau. Cydnabyddid eu hawl iddynt i etifeddu eu tir gwelyog o genhedlaeth i gen- hedlaeth, ond ni feddent yr hawl i'w werthu nac i ymadael â'r gwely. Sonnir am ardreth arbennig ynglŷn â Gwely Dafydd Goch wrth yr enw Punt Ceulo. Ni cheir yr enw<noinclude><references/></noinclude>
akuhs0lq9j4scf77rs52qn9ctiupxuu
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/23
104
82944
161885
2026-04-01T18:06:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161885
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ynglŷn â'r un gwely arall yn Record of Caernarvon. Ceir hanes am yr un ardreth yng nghyfrifon siryf Meirionnydd yn nheyrnasiad Edward II ynglŷn â dirwyon ar gaethion yn Is- Cregennen yng Nghwmwd Tal-y-bont. Talai Gwely Dafydd Goch i'r Arglwydd Dywysog bob chwarter 11/3, cyfanswm 45/- bob blwyddyn. Byddai gorfod iddynt falu eu holl ŷd ym melin y Tywysogion yn Llanegryn. Eu taliadau eraill o bryd i bryd oedd Ebediw 6/8, Gobr 4/8, Amobr 4/8; a rhaid oedd arnynt gludo pob nwyddau at wasanaeth y Tywysog, a thelid iddynt am eu gwaith ddwy geiniog y dydd a bwyd i ddyn a cheffyl. Talent hefyd bob blwyddyn y rhan ddyledus o'r ystôr fwyd fel pawb arall o wŷr caeth yr Arglwydd Dywysog. Diflannodd pob olion o hen fywyd y dref gaeth o'r plwyf.
{{c|TREF RHYDCRYW}}
Cynhwysai tref Rhydcryw y rhan isaf o'r plwyf, a thref Peniarth y rhan uchaf. Gwahenid y ddwy dref gan linell unionsyth ar draws y plwyf o'r Garlwyd i bwynt o'r tu deau i Beniarth. Mewn cyfnod diweddarach rhedai'r llinell o Fredyn-fach ar draws y plwyf i fan y tu deau i Beniarth.
Yn ôl ''Record of Caernarvon'', un gwely rhydd oedd yn nhref Rhydcryw, ac adwaenid ef wrth yr enw Gwely Iestyn. Talai deiliaid y gwely hwn i'r Arglwydd Dywysog 9/- y flwyddyn, ac yr oeddynt i falu ym melin y Tywysog. Talent hefyd chweugain bob tro wrth gymryd tir, a chweugain o Obr, a chweugain yn Amobr bob tro y gelwid am hynny. Ym- hellach talent hefyd 3/1 yn arian Gogr ac Ebran bob blwyddyn ar ddau dro, y Pasg a Gŵyl Fihangel.
Yr oedd yn y dref hon, hefyd, barsel o dir yn perthyn i Wely Wyrion Madog, a thelid arno i'r Arglwydd Dywysog un geiniog ar bymtheg bob chwarter. Rhaid oedd i etifedd y parsel hwn fod yn atebol i lys y Cwmwd a'r Cantref; a thalai chweugain bob tro wrth gymryd tir, chweugain o Obr, a chweugain yn Amobr bob tro y gelwid am hynny.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qatvrzkk6wzzlt7qhcqcjb7qudqoktj
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/24
104
82945
161886
2026-04-01T18:07:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161886
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd yn nhref Rhydcryw hefyd barsel o dir rhydd yn perthyn i Wely Wyrion Einion, a thelid o'r parsel i'r Arglwydd Dywysog bob tymor un geiniog ar bymtheg a dimai. Yr oedd yn y dref hon barsel o dir ardrethol o'r enw Tir yr Ynys yn Rhydcryw, a Madog ap Dafydd Bwl oedd deiliad y parsel hwn pan wnaed ''Record of Caernarvon'', a thalai fel ei hynafiaid o'i flaen i'r Arglwydd Dywysog 5/- bob blwyddyn, i'w dalu y Pasg a Gŵyl Fihangel.
Yr oedd yn y dref barsel o dir ardrethol o'r enw Pen-y-wern a'r deiliad oedd Ieuan ap Dafydd Duppa a thalai i'r Arglwydd Dywysog 6/8 bob blwyddyn, i'w dalu ar ddwywaith, sef y Pasg a Gŵyl Fihangel. Rhaid oedd i'r deiliad hwn fynd â'i fâl i felin yr Arglwydd Dywysog yn Llanegryn. Talai 6/8 o Ebediw, 6/8 o Obr, 6/8 o Amobr bob tro y geiwid am hynny. Yr oedd yn y dref hon barsel o dir ardrethol o'r enw ''Turkayll'' heb ddeiliad, a'r ardreth bob blwyddyn yn 5/-, i'w dalu'r Pasg a Gŵyl Fihangel. Yr oedd hefyd barsel arall o dir heb ddeiliad a elwid ''Tir Gwyon Gway y Vam'', a'r ardreth yn saith ceiniog y flwyddyn, i'w dalu'r Pasg a Gŵyl Fihangel. Ceid hefyd y parseli a ganlyn:—''Gwadenerthe'', ardreth flynyddol 3/2; ''Garthlloit'', 5/-; ''Y Kevyn Coch''e 4/-; ''Aluegale'' 1/3; ''Tir Einion Ryngill'' yn ''Coythoryn'' 6/8; ''Llety Eden'' 7 ceiniog.
Telid yr ardrethi ar wyliau'r Pasg a Mihangel. Rhent oedd y taliadau ar y parseli uchod, a thelid hwy mewn arian.
{{c|TREF PENIARTH}}
Tref o wŷr rhydd, o'r un gwehelyth, oedd tref Peniarth; yr un teuluoedd a etifeddai'r cytir, neu'r tir rhyddog, ag a etifeddai'r tir gwelyog. Cyd-dalai'r tenantiaid rhydd eu hardreth fel y gwnâi etifeddion gwelyog. Cyd-dalu oedd y drefn, ond rhennid yr ardreth fel y syrthiai rhan ar bob tyddyn. Talent 22/8 bob tymor: cyfanswm o £4/10/8 bob blwyddyn. Rhaid oedd iddynt fynd â'r ŷd i Lanegryn. Talent Ebediw o 10/-, Gobr o 10/-, Amobr o 10/- fel y byddai'r galw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mj4x0j99o46zwivaco6smtmhy3ijarb
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/25
104
82946
161887
2026-04-01T18:07:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161887
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y tenantiaid rhydd oedd:
{{center block|
<poem>
Hywel ap Gwenhwyfar ferch Madog.
Einion ap Hywel Madog.
Ieuan ap Ieuan ap Dafydd ap Gronw.
Ieuan ap Gruffydd ap Dafydd ap Gronw.
Einion ap Ieuan ap Madog ap Meuric.
Deio ap Ieuan ap Gruffydd.
Tudur ap Ieuan ap Gruffydd.
ac eraill
</poem>
}}
Yr oedd pedwar o welyau yn nhref Peniarth, ond nid oes awgrym am eu safle daearyddol.
{{c|I.-GWELY WYN AP IDRIS.}}
{{center block|
<poem>
Gwely Hywel ap Gwenhwyfar ferch Madog.
Tudur ap Dafydd ap Gwenhwyfar, ac eraill.
</poem>
}}
{{c|Talent Ogr ac Ebran 3/1 bob blwyddyn; amser talu, y Pasg a Gŵyl Fihangel.}}
{{c|II.-GWELY GORRETH.}}
{{center block|
<poem>
Gwely Ieuan ap Gruffydd ap Madog.
Einion ap Ieuan Fychan.
Ieuan ap Ieuan ap Dafydd ap Gronw, ac eraill.
</poem>
}}
{{c|Talent Ogr ac Ebran 3/1 bob blwyddyn; amser talu, y Pasg a Gŵyl Fihangel.}}
{{c|III.-GWELY GRONW AP MORGAN.<br>Gwely Einion ap Ieuan ap Madog ap Meurig, ac eraill.}}
{{c|Talent Ogr ac Ebran 3/1 bob blwyddyn; amser talu, y Pasg a Gŵyl Fihangel.}}
{{c|IV.-GWELY DYFNWAL WILT.<br>Gwely Gruffydd ap Hywel ap Meilir, ac eraill.<br>Talent Ogr ac Ebran 3/1 bob blwyddyn; amser talu, y Pasg a Gŵyl Fihangel.}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
7re6srembpwf07fynyx9xm8x1o6qijp
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/26
104
82947
161888
2026-04-01T18:08:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161888
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Talai'r holl denantiaid rhydd wrogaeth i lys y Cantref yn unig, oddieithr Ieuan ap Gruffydd ap Dafydd ap Gronw, Ieuan ap Ieuan ap Dafydd ap Gronw, Llywelyn ap Hywel ab Einion Offeiriad, Dafydd ab Einion Offeiriad, Einion ap Ieuan ab Einion Saes. Talent hwy wrogaeth Cwmwd a Chantref. Arhosodd y gyfundrefn welyog am ganrifoedd yn ein plith. Sylfaenasid hi i raddau helaeth ar y gwahanol ddosbarthiadau a fodolai yn ein plith, sef tywysogion, gwŷr rhydd, taeogion, a chaethion. Trigiannai tywysogion, gwŷr rhydd, a thaeogion yn nhref Rhydcryw, tra trigiannai gwŷr rhydd yn fwyaf arbennig yn nhref Peniarth: meddai'r dref hon bedwar o welyau rhydd.
Erbyn yr Oesau Canol yr oedd pedwar dosbarth yn y gymdeithas Gymreig: Tywysogion; uchelwyr; gwŷr bonheddig; a thaeogion. Ar ôl concwest 1282 diflannodd y tywysogion; a bellach y mae tri dosbarth: uchelwyr; boneddigion rhydd (hynny yw Cymry o waed pa mor gyffredin bynnag oedd eu hamgylchiadau); a thaeogion. Erbyn amser y Tuduriaid yr oedd y taeogion hefyd bellach yn gyfreithiol rydd.
Bu enwau rhai o gymeriadau amlycaf y gyfundrefn welyog yn aros ar dyddynnod y plwyf hyd y ddeunawfed ganrif. Sylwasom ar yr enwau a ganlyn:-Ystent Gronw, Tyddyn Einion, Llety Einion, Tir Eden, Tyddyn Meuric Pengam, Dafydd Bwl a Gwern Arian Einion Fardd.
Diddorol yw'r enwau benywaid a geir yn y ddwy dref, sef Molly, Gwladus, Tanglust, Gwenllian, a Gwenhwyfar.
Dengys y ffeithiau a gofnodir yn ''Record of Caernarvon'' fod cyfreithiau, defodau, a thraddodiadau Cymreig yn gollwng eu gafael yng Nghwmwd Tal-y-bont, yn arbennig yn Nhref Rhydcryw. Erbyn hyn yr oedd saith deg o flynyddoedd wedi mynd heibio er pan oresgynnwyd Cymru yn 1282, ac ni ellir llai na sylwi bod gwreiddiau yr hen gyfundrefn Gymreig yn dechrau rhyddhau yn naear Cymru. Yr oedd y gyfundrefn welyog yn dal mewn grym; ond ceir taliadau eraill yn bur frith yn Nhref Rhydcryw. Gwnaed Record of Caernarvon yn y chweched flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Edward III.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
oxs8p44np4x34fd45fpnv3t8hbl1cp8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/27
104
82948
161889
2026-04-01T18:09:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161889
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/28
104
82949
161890
2026-04-01T18:09:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161890
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Dwy fwyell pres.jpg|canol|400px|bawd|{{c|DWY FWYALL BRES. Cafwyd yng Nghoed-y-graig<br>(Trwy garedigrwydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru)}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
81uom6tcrp05e3cz2xxghwwtro4fq2b
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/29
104
82950
161891
2026-04-01T18:10:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161891
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|LLYFRYDDIAETH}}
* Ancient Monuments in Merioneth.
* Archaelogia Cambrensis 1852.
* Ellis, T. P., Dreams and Memories. Newtown, 1936.
* Grimes, W, F.: Guide To The Collection Illustrating The Prehistory of Wales. Cardiff, 1939.
* Jones, A.: The History of Gruffydd ap Cynan. Manchester, 1910.
* Jones, Thomas. Brut y Tywysogion. Caerdydd, 1941.
* Lewis, E. A.: The Mediaeval Boroughs of Snowdonia. London, 1912.
* Lloyd, J. E.: History of Wales. London, 1912.
* Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890.
* Record of Caernarvon.
* Vaughan, Robert: Survey of Merioneth. Llyfrgell. Genedlaethol Cymru.
* Williams, A. H.: An Introduction to the History of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1941.
* Wynne, W. W. E. History of the Parish of Llanegryn. London, 1879.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
bd70egmtmprxpe9qr15w7hcmh1grch5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/30
104
82951
161892
2026-04-01T18:11:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161892
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD II}}<br>Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.}}
{{c|TERFYNAU'R PLWYF}}
MAE'r plwyf heddiw yn fyr o gyrraedd glan y môr; bu adeg pan gurai tonnau'r môr ar ei ffiniau. Yr amser hwnnw'r oedd Bronclydwr, Gofolion, a Thonfannau Uchaf yn rhan o'r plwyf. Pa bryd yr aeth y tyddynnod hyn yn rhan o blwyf Llangelynnin? Y mae'n anodd penderfynu hynny. Nodir yn y gyfrol Ancient Monuments in Merioneth mai yn 1817 yr aeth Bronclydwr yn rhan o blwyf Celynnin. Yn llyfr Priodasau eglwys Llanegryn ceir hanes priodas Mary Evans, Bronclydwr, yn 1822, ac yr oedd y tyddyn ym mhlwyf Llanegryn y pryd hwnnw. A chawn enw Hugh Pugh, Bronclydwr, yn gwnstabl Rhydcryw yn 1827.
Afon Dysynni yw'r terfyn rhwng plwyf Llanegryn a phlwyf Tywyn o waelod tir Pen-y-wern i fyny at Bont-y-garth, ac eithrio ychydig o wyriadau. Tyr tir Rhyd-y-garnedd i mewn i blwyf Tywyn, ac ymestyn Tywyn dros dir y Crynllwyn ac ychydig o dir Rhyd-y-garnedd. Ar gwr uchaf coed Peniarth tyr plwyf Llanegryn dros yr afon i ochr Tywyn; a daw plwyf Tywyn i mewn i forfa Cemaes. Ychydig cyn cyrraedd Pont-y-garth cymer plwyf Llanegryn yr ochr bellaf i'r afon, a chroesa'r ffin y bont yn ei hôl gan ganlyn y ffos am forfa Dysefin, ac â ymlaen nes cyrraedd ffos redegog; a chymer gwrs honno ar draws y morfa i gyfeiriad Coed-y-graig gan gau'r Percydd a Brynglasan tu mewn i blwyf Llanegryn. Yna dring am graig Tyn-y-cornel, a gogwydda tua'r gorllewin gan basio Carreg-llun-pen-dyn gan ymestyn ar hyd Cwm-Idnerth-uch a chyrraedd Esgair Berfedd. Gydag ychydig wyrni â ymlaen am Drawsfynydd, a llama at ymyl Llyn Cyri, a chymer ddolen heibio i Graig Cwm-llwyd; a chroesa'r Ffordd-ddu gan ymestyn am y nant sy ar gwr pellaf mynydd Llanegryn rhwng Cyfannedd-uchaf a Bron-llety-ifan. Daw ar i lawr at<noinclude><references/></noinclude>
dwd0rh6n1ns7fak636gldywrdvyw3ad
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/31
104
82952
161893
2026-04-01T18:12:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161893
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>derfyn Tyddynsieffra a rhed ymlaen gyda thop y Gest-ddu am Banteinion. Saif ochr isaf rhaeadr Panteinion ar dir plwyf Llanegryn, ac â'r terfyn i lawr gyda'r afon at y llidiart, a chyfeiria am Fryn-y-fuches gan fynd drwy'r pantle a elwir Cyfyng, a chyrraedd yn agos at y Graig-wen uwchben y Friog. Yna cymer ogwydd ar i fyny i gyfeiriad Pen-y-garn, a daw clawdd y mynydd yn derfyn, ond gogwydda ychydig oddi wrtho fel y nesir at yr afon. A'r terfyn dros yr afon yn Rhyd-y-dyffryn, yn agos i Gut-y-bugail; a brath megis i mewn i blwyf Llanegryn nes cyrraedd carreg derfyn, a thry ar i lawr at garreg derfyn arall, a dychwel heibio i dair o gerrig terfyn i ffordd Croes Egryn. Wedyn gŵyra ar i lawr tua'r Rhos gan gyrraedd Croes Egryn. Yn ôl y map daw'r terfyn ar ei union am y Gelli a thry gyda gwaelod y Fign am yr hen gerrig terfyn, ac â drosodd i'r Pymtheg, a chymer gongl helaeth ohono, a chroesa ar draws y ffriddoedd am Bant-gwyn gan ymestyn i gae Pant-gwyn-bach. Daw i lawr am Dre-faes, a rhed rhwng Broneunydd a Chastell-mawr gan gyrraedd ffridd Fron-newydd, a daw am yr afon ar derfyn Fron-newydd a Thal-y-garreg.
Terfyna'r plwyf â phlwyfi Tywyn, Llanfihangel-y-pennant, a Llangelynnin. Bu llawer ysgarmes flin ar y mynyddoedd ar derfynau'r plwyf oherwydd trachwant ambell amaethwr. Ond sefydlwyd y terfynau'n derfynol gan gyfreithiwr o'r enw Boydell yn y flwyddyn 1817.
Arferid cerdded terfynau'r plwyfi unwaith bob blwyddyn gan yr hen dyddynwyr, a chyfrifent y cerrig terfyn yn fanwl gan sylwi'n graff ar bob llecyn hynod, a rhediad y ffosydd a'r Ilwybrau; a phinsid clustiau'r hogiau i'r byw er mwyn iddynt gofio'n dda am ambell lannerch bwysicach na'i gilydd ar y terfynau. Cerddid y terfynau gan dorf o tua deugain o wŷr Llanegryn mor ddiweddar â 1820.
{{c|ARWYNEBEDD A PHOBLOGAETH Y PLWYF}}
Arwynebedd y plwyf yw 6559 o aceri. Nifer yr aceri o dan glawdd y mynydd, neu o dir pori a llafur, yw 3909; a nifer aceri'r mynydd neu'n ôl llafar y fro, yr hysfeydd, yw 2650.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gy6l4yub5016ebu6ny6lx44f12mdcnk
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/32
104
82953
161894
2026-04-01T18:12:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161894
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hirgul yw arwynebedd y plwyf, tua saith milltir a hanner o hyd, a thua dwy filltir a chwarter o led ar y man lletaf, a thua thri chwarter milltir ar y man culaf, ac y mae darn helaeth o forfa ar y gwaelod.
Y mae poblogaeth y plwyf wedi lleihau'n fawr o'r hyn ydoedd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Anodd yw mynd ymhellach yn ôl na dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i chwilio am gyfrif o'r boblogaeth. Cofnodir mai rhif tai annedd y plwyf yn y flwyddyn 1563 oedd 60, a sylwasom mai nifer y teuluoedd a drigiannai yn y plwyf yn y flwyddyn 1749 oedd 95. A defnyddio'r rheol gyffredin, cawn gyfrif o boblogaeth y plwyf am y blynyddoedd a ganlyn:-
{| style="text-align: center; margin: auto; border: none;"
! Blynyddoedd !! Rhif y boblogaeth
|-
| 1543|| 300
|-
|1749 ||475
|}
Y mae gennym gyfrifon y Llywodraeth o boblogaeth y plwyf o'r flwyddyn 1801 ymlaen. A dyma'r cyfrifon am y tri deg cyntaf:—
{| style="text-align: center; margin: auto; border: none;"
|-
| 1801 || — || 623
|-
| 1811 || — || 666
|-
| 1821 || — || 799
|}
Cyrhaeddodd poblogaeth ein plwyf ei phen llanw yn y flwyddyn 1821, ac ar drai yr aeth ar hyd y ganrif bresennol.
{| style="text-align: center; margin: auto; border: none;"
|-
| 1901 || — ||582
|-
| 1911 || — ||560
|-
|1921 || — ||505
|-
| 1931 || — ||456
|}
Nifer y tai annedd yn y plwyf yn y flwyddyn 1851 oedd 171; ac yr oedd llawer ohonynt yn salw a bychain anghyffredin, a salw fu tai'r gweithwyr erioed yn Llanegryn. Ni thelid ond ychydig sylltau o rent amdanynt yn y flwyddyn, a bu goruchwylwyr y tlodion yn talu rhent amryw dai yn<noinclude><references/></noinclude>
1ks5h69sc77ctfj65qmweqt3hyxzmd3
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/33
104
82954
161895
2026-04-01T18:12:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161895
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ystod y rhan gyntaf o'r ganrif ddiwethaf gan mor ddirwasgedig oedd cyflwr y dosbarth tlotaf. Meddai goruchwylwyr y tlodion dŷ coed o'r eiddynt eu hunain i'w osod i ambell hen chwaer anghenus.
Arferai teulu fyw mewn tŷ un ystafell, a cheid dau deulu'n byw mewn tŷ bychan heb fod yn cynnwys dim mwy na dwy ystafell. Trigiannai un teulu ar y llawr, a'r teulu arall yn y llofft uwchben, a thrwy risiau oddi allan yr esgynnid i'r llofft fel rheol. Muriau a lloriau pridd oedd i'r rhan fwyaf o'r tai, ac yr oedd eu ffenestri'n fychain a'u nennau'n isel. Ychydig o dai to gwellt oedd yn y plwyf ar ddechrau'r bedwaredd gan-rif ar bymtheg. Plethid nennau y tai yn gywrain â chyll, a thoid hwy â llechau digon anghelfydd a thrymion. Ail-wnaethpwyd llawer ar dai Llanegryn yn ystod yr hanner olaf o'r ganrif ddiwethaf.
Bu'r boneddwr W. W. E. Wynne, perchennog ystâd Peni-arth, a'i wraig Mrs. Wynne, yn gymwynaswyr mawr i werin Llanegryn. Llafuriasant gan wario eu cyfoeth yn haelionus i wella a dyrchafu cyflwr cymdeithasol yr ardal a'i thrigolion. Ail-adeiladwyd tai cymwys a gweddus i famau fyw a magu eu plant ynddynt, hynny yw, yn ôl syniad eu hoes hwy am dai cymwys. Pell ydynt hwy heddiw o fod yn dai cymwys. Cychwynasant Arddangosfa Cynhyrchion Gerddi ym Mhen-iarth ar gyfer bythynwyr tua'r flwyddyn 1874. Rhoddent wobrwyon am y cynhyrchion gorau, yr ardd orau, y tŷ glanaf, a'r baban harddaf a glanaf.
Erbyn y flwyddyn 1901 yr oedd rhif y tai wedi disgyn i 131. Disgynnodd rhif y tai ddeugain mewn hanner can mlynedd. Ond rhaid dywedyd bod cyflyrau'r tai wedi gwella'n fawr rhagor yr hyn oeddynt. Gwellhaodd tai'r pen-tref yn fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ail-adeil-adwyd hanner dwsin o dai yng nghanol y pentref, ac y mae hynny wedi gwella ei olwg, a chyfododd Cyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau wyth o dai ar gae yn ymyl y pentref yn y flwyddyn 1939.
Rhydd y tabl a ganlyn ryw syniad inni am fywyd cymdeithasol Llanegryn yn ystod y deng mlynedd cyntaf o'r<noinclude><references/></noinclude>
myyeqkjaz6mp7ffi8mgiaf1zn2gwkno
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/34
104
82955
161896
2026-04-01T18:13:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161896
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bedwaredd ganrif ar bymtheg. Codwyd ef o Lyfr Cofnodion yr Eglwys.
{| style="text-align: center; margin: auto; border: none;"
|
|
| colspan="2" |Bedyddiadau
| colspan="2" |Marwolaethau
|-
|Blwyddyn
|Rhif Priodasau
|Gwryw
|Benyw
|Gwryw
|Benyw
|-
| align="right" |1801
| align="right" |4
| align="right" |8
| align="right" |3
| align="right" |4
| align="right" |3
|-
| align="right" |1802
| align="right" |6
| align="right" |14
| align="right" |11
| align="right" |3
| align="right" |6
|-
| align="right" |1803
| align="right" |6
| align="right" |9
| align="right" |6
| align="right" |6
| align="right" |7
|-
| align="right" |1804
| align="right" |4
| align="right" |7
| align="right" |6
| align="right" |3
| align="right" |7
|-
| align="right" |1805
| align="right" |8
| align="right" |9
| align="right" |13
| align="right" |7
| align="right" |4
|-
| align="right" |1806
| align="right" |4
| align="right" |7
| align="right" |13
| align="right" |6
| align="right" |12
|-
| align="right" |1807
| align="right" |10
| align="right" |10
| align="right" |16
| align="right" |5
| align="right" |2
|-
| align="right" |1808
| align="right" |4
| align="right" |9
| align="right" |11
| align="right" |5
| align="right" |6
|-
| align="right" |1809
| align="right" |4
| align="right" |10
| align="right" |16
| align="right" |7
| align="right" |5
|-
| align="right" |1810
| align="right" |5
| align="right" |15
| align="right" |4
| align="right" |4
| align="right" |5
|-
|Cyfanswm
| align="right" |55
| align="right" |98
| align="right" |99
| align="right" |50
| align="right" |57
|}
Diau fod rhif y priodasau a'r marwolaethau a ddigwyddodd yn y plwyf yn ystod y blynyddoedd uchod yn gywir. Ond dichon nad yw rhif y bedyddiadau yn hollol gywir, gan fod Ymneilltuaeth wedi dechrau yn y plwyf yn ystod y cyfnod hwn.
Sylwn fod nifer y marwolaethau yn uwch ymhlith y merched nag oeddynt ymhlith y dynion. Anodd yw peidio â sylwi wrth fynd drwy lyfrau'r eglwys ar nifer y marwol-aethau ymhlith gwragedd ieuainc, a hynny y mae'n amlwg ar enedigaethau. Y mae meddygaeth a gofal cymwys gweinydd-esau wedi gwella pethau'n fawr yn y cyfeiriad hwn yn ein plith.
{{c|DAEAREG.}}
Tir pori yw daear Llanegryn ar ei orau, ond ceir parthau o dir llafur da yn y plwyf.
Nid yw'n gyfoethog mewn mwnau, llechau, na gwenith-faen. Rhed haen dda o wenithfaen ar hyd y gefnen rhwng Llanegryn a Llangelynnin. Y mae'n cychwyn wrth y Corun gan ymestyn heibio i fuarth Castell-mawr gan gyrraedd at Bant-gwyn. Tyr i mewn i blwyf Llanegryn ar ffridd Ysgol Rhydcryw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6ytj3isw3g323kgdq5pf5g2dbjxcj6n
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/35
104
82956
161897
2026-04-01T18:13:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161897
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ceir gwenithfaen rhwng Afon-ddu a Thyddynpadrig. O'r wenithfaen hon yr adeiladwyd yr ysgol a thŷ'r ysgol, a hefyd y Ficerdy.
Rhed llechfaen ar draws mynydd-dir y plwyf o Bont-y-garth i'r Friog.
Y mae plwm ar dir Cyfannedd-fach, a chloddiwyd amdano ar dir Hafoty, Tre-faes a Broneunydd.
Ceir tir mawnog rhwng y tir sych ac afon Dysynni, ac ar lawer llannerch ar y mynydd.
Dywedir bod carreg haearn ar y mynydd, ac y mae elfen gref o haearn yn nŵr y mynydd o ffridd Tyddynpadrig i ffridd Blaen-y-cwm.
{{c|FFYRDD.}}
Priffordd y plwyf am ganrifoedd oedd y Ffordd-ddu, ac ystyrid hi yn ffordd y brenin yn y gymdogaeth. Mewn helynt ynghylch hawl ffordd arbennig yn y plwyf a ddygwyd o flaen llys y Gororau, yn 1615, tystiwyd bod ffordd y brenin yn arwain o Ddyfi i Ddolgellau trwy dir tyddyn a elwid Bryn-Tudur-ap-Meurig yn nhref Peniarth. Felly'r ffordd a arweiniai o Dal-y-bont drwy'r pentref at Fryn-gwyn, a heibio i Gwm-ych oedd ffordd y brenin yn y plwyf. Ychydig a newidiodd y ffordd hon ar ei chwrs a'i chyflwr yn ystod y canrifoedd. Bu dwylo celfydd yn torri ei sylfeini, dwylo neb amgen na'r Rhufeiniaid eu hun, medd rhai awdurdodau Esgeuluswyd y ffyrdd yn fawr wedi i'r Rhufeiniaid ymadael â'n gwlad. Hwyrfrydig fu'r genedl Gymreig i symud at wneuthur ffyrdd hwylus i'w tramwy.
O dan Ddeddf 1555 yr oedd y plwyfi'n gyfrifol am y ffyrdd o fewn i'w terfynau eu hunain, a gellid galw ar unrhyw un o'r plwyfolion i weithio am chwe diwrnod o'r flwyddyn ar ffyrdd y plwyf. Yn hanner olaf y ddeunawfed ganrif daeth deffroad drwy'r holl wlad am atgyweirio ffyrdd, gwneuthur rhai newydd, a chodi pontydd newyddion. Ond anodd fu gan rai plwyfi symud ar y gorch-wyl o wella cyflwr eu ffyrdd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hkem1ets15tu8jobgv7znbnbojcly1h
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/36
104
82957
161898
2026-04-01T18:14:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161898
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ceisiodd Chwarter Sesiwn Meirion ddarbwyllo trefi Peniarth a Rhydcryw ym mhlwyf Llanegryn i atgyweirio eu ffyrdd, a bu'n rhaid defnyddio mesurau llym i'w hystwytho i ufuddhau i'r gorchymyn. Yn y flwyddyn 1788 y mae Chwarter Sesiwn Meirion yn dirwyo'r ddwy dreddegwm yn Llanegryn, y naill i'r swm o £44, a'r llall i'r swm o £47/6/0. Anodd yw penderfynu pa rai o ffyrdd y plwyf a atgyweiriwyd rhag-blaen yr adeg honno. Gwnaed ffordd oddi wrth Gil-sarn dros Gilfach-hen i Lwyngwril a rhoddwyd cerrig milltir arni; a lledwyd ffordd Rhiwfelen, a defnyddiai llawer hon i fynd i Ddolgellau a Llwyngwril. Ar y Ffordd-ddu yr oedd pwysau trymaf y plwyf. Ar hyd-ddi y tramwyid yn ôl a blaen i Ddolgellau, ac i brif farchnadoedd Gogledd Cymru. Tua dechrau y bedwaredd ganrif ar bymtheg atgyweiriwyd hi'n drwyadl am filltiroedd, a gwnaed darnau helaeth ohoni o'r newydd gan Wm. Wynne, Peniarth. Bwriadwyd iddi fod yn un o ffyrdd tyrpeg y sir unwaith, ond methwyd â chario'r bwriad hwnnw i ben ei dda.
Yn yr adeg honno dechreuodd trafnidiaeth rhwng Llanegryn a Thywyn gynyddu a bywiogi. Ond yr oedd y ffordd rhyngddynt mewn cyflwr gresynus, a chyflwr Pont Dysynni'r un modd, heblaw ei bod yn beryglus.
Rhaid oedd cael pont newydd dros afon Dysynni, a hwyr-frydig oedd Chwarter Sesiwn Meirion i ddechrau ar y gorch-wyl, neu'n hytrach, bu'n anffortunus yn y pwyllgorau a apwyntiwyd ganddi i drefnu'r gorchwyl. Fodd bynnag, gosodwyd y bont yn y flwyddyn 1796 i'w hail-adeiladu gan ddau ddyn o'r enwau Richard Humphreys a Thomas Jones, seiri maen, Tywyn, am y swmo£449, a gorffennwyd ei hadeil-adu yn 1797. Anodd yw penderfynu ai pont ynteu rhyd oedd yno cyn hynny; sonnid gan yr hen bobl am ryd Tal-y-bont. Tebyg bod yno bont a rhyd yn croesi Dysynni ar un adeg.
Gosodwyd y gwaith o godi Pont-y-garth yn y flwyddyn 1797 i ddau ddyn o'r enwau Richard Roberts, saer coed, a David Jones, saer maen, o Lanegryn, am y swm o £103, a gorffennwyd ei hadeiladu yn 1798.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ofsglju3rsw5il6vd62e1qsr4mb9kis
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/37
104
82958
161899
2026-04-01T18:14:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161899
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi pasio'r ''Turnpike Act'' yn y flwyddyn 1784, daeth gwneuthur ffyrdd newyddion yn gri ymhob ardal. Mewn deng mlynedd wedi pasio'r ddeddf y daeth y ffordd dyrpeg gyntaf i Ddyffryn Dysynni. Erbyn 1794 yr oedd y ffordd o Dywyn i Fryncrug yn ffordd dyrpeg. Yr oedd gwneuthur ffordd dyrpeg drwy Lanegryn ac Arthog ar un llaw, a thrwy Dal-y-llyn ar y llaw arall, i Ddolgellau mewn bwriad yn 1794. Ond nid ydynt wedi eu marcio'n ffyrdd tyrpeg ar fap Cary yn 1794, nac ar fap Furnival yn 1814 a 1820, ac nid ydynt ar fap Laurie am 1826. Pan oedd Samuel Lewis yn paratoi ei fapiau gogyfer â'i ''Topographical Dictionary of Wales'' yn 1833, nodir bod y ffordd o Dywyn cyn belled â'r Llyn-bach yn ffordd dyrpeg, ac yr oedd hi wedi cyrraedd o Ddolgellau am tua milltir i'r deau o bentref Llwyngwril, a delid i'w gwneuthur ymlaen ar hyd plwyf Llangelynnin. Gwnaed y ffordd heibio i Gefn-coch tua'r flwyddyn 1833. Gwelir yn yr ''Ordnance Map'' a gyhoeddwyd 1, Mehefin 1836, bod y ffordd dyrpeg wedi ei gwneuthur ar hyd y plwyf, ac yn cyrraedd o Ddolgellau i Dywyn. Nodir yn ''Fullarton's Parliamentary Gazette'' am 1840-44 bod ''Turnpike Trust'' newydd gael ei ffurfio yn nosbarth Tywyn.
Sylwasom fod y swm o 16/-wedi ei dalu gan ystâd Peniarth yn 1831 yn doll ffyrdd.
Y mae'n sicr fod trafnidiaeth wedi dechrau rhwng Llanegryn ac Abermaw tua 1835. Gwelir carreg fedd ym mynwent Llanegryn ar ŵr o'r enw John Roberts a fu farw yn 1835, a dywedir arni iddo brynu lle i gario dros afon Mawddach. Credodd ef y buasai'r ffordd dyrpeg yn creu trafnidiaeth rhwng Llanegryn ac Abermaw. Torrwyd y ffordd newydd allan o wely'r hen ffordd mewn amryw fannau. Deuai'r hen ffordd o Dal-y-bont at Dyn-y-pwll led cae yn is i lawr. Yr oedd ei chwrs hefyd yn mynd yn uwch na Chilsarn, a throai ar hyd gwaelod cae Criblin, ac âi ymlaen drwy fuarth Bodowyn, a chyfeiriai am waelod cae'r Erw, ac âi allan o dan dŷ Tre-faes.
Ceir llawer o wrtreydd yn y plwyf, a thair neu bedair o ffyrdd gleision. Arweiniai'r ffyrdd gleision i'r mynyddoedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
r9dt4stz3qj0sn6hzyf9q25mbg4op9a
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/38
104
82959
161900
2026-04-01T18:15:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161900
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|FFYRDD Y CYFANHEDDI.}}
Daw ffordd o Lwyngwril am y Cyfanheddi. Canghenna wrth gorlannau Cyfannedd-fawr, â un gangen heibio i Fron-llety-ifan am Hafotaliadau; gelwir hon yn Ffordd-ganol, ac â'r gangen arall ar draws y mynydd am y Ffordd-ddu; gelwir hon yn Ffordd-goch. Daw ffordd o'r Friog heibio i Bant-einion am Gyfannedd-fawr a Chyfannedd-fach.
Arwain ffordd oddi wrth Afon-y-morfa am Gyfannedd-uchaf a Chyfannedd-fach.
Daw llwybr march o gyfeiriad Pont Cwm-llwyd am Gyfan-nedd-fawr, y Gest-ddu, Tyddynsieffra ac i'r brif-ffordd.
{{c|HEN FFYRDD.}}
Pan oedd Bronclydwr yn rhan o blwyf Llanegryn arweiniai hen ffordd ddegwm dros ffriddoedd Bronclydwr a Chastell-mawr, ac ar draws caeau Broneunydd, a deuai i'r wrtre drwy lidiart y Cae-mawr yn agos i Dy-bach-y-ffordd. Arweiniai hen ffordd o gyfeiriad Tyddyn-perth-y-re, Pant-llwyfog, Maesonnen, a Thyn-llwyn ac ymlaen am Barc-y-felin a heibio i Dŷ-mawr am yr eglwys.
Arweiniai'r ffordd am Bant-yr-efail a Glandysynni gyda glan afon Dysynni oddi wrth Bont Dysynni.
Bu hen ffordd yn arwain oddi wrth Dyn-y-pwll drwy gaeau Tyn-y-cae a Brynbloeddyn am y pentref.
Byddai hen ffordd yn arwain drwy Barc-y-felin, Parc-afon-ddu, Parc Ystalwyn, a ffriddoedd Tyddynpadrig, ac ar draws y mynydd am gyfeiriad y Gelli, Clawdd-du, a'r Felin-uchaf; hen ffordd y Felin oedd hi'n fwyaf arbennig. Arweiniai ffordd drwy gae Cemaes at Bren-hir, a Gwern-y-merched, a heibio i Faesonnen am y Ffordd-ddu. Âi'r ffordd hon heibio i Bren-hir am Dirgawen ar un ochr, ac am Dyddyn-bach ar yr ochr arall. Ai ffordd y Gelli am Fredyn-fawr a heibio i Fredyn-fach am Ben-y-gilfach. Arweiniai hen ffordd oddi wrth Bodowyn am Waun-fach. Ceir cyfeiriadau at rai hen ffyrdd ymhlith y llwybrau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
exvw7l6tpp3dp23u1cy4te7vmccz54a
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/39
104
82960
161902
2026-04-01T18:16:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161902
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|TOLLBYRTH}}
Ni fu'r un tollborth ym mhlwyf Llanegryn, ond amgylchid y plwyf â phump o dollbyrth, sef, Ysguboriau, Caethle, Rhos-lefain, Friog, a Dolgellau wrth fynd ar hyd y Ffordd-ddu. Os eid am Ddinas Mawddwy, byddai ychwaneg o dollbyrth i fynd drwyddynt, sef, Cedris a safai rhwng Abergynolwyn a Thal-y-llyn, a Chefn-neclo yng Nghwm-hafod-oer.
Y rheol ynglŷn â'r tollbyrth oedd bod talu yn y tollborth cyntaf yn clirio'r agosaf ato. Gweithiai'r rheol fel hyn; trwy dalu toll yn Nhyrpeg Ysguboriau, eid yn rhydd drwy Dyrpeg Caethle. Arferai tenant Tyrpeg Rhoslefain wneuthur cytundeb â phrif amaethwyr ei ardal i fynd drwy ei dollborth am hyn a hyn y flwyddyn, a byddai ffermwr Ysguboriau yn mynd fel y mynnai drwy Dyrpeg Ysguboriau am roddi tir at blannu tatws.
Daeth y ffordd Dyrpeg i Dywyn yn y flwyddyn 1827. Yng nghorff y pedwar degau o'r ganrif y daeth o gyfeiriad Llwyngwril i Lanegryn. Diwrnod pwysig yn Nolgellau oedd dydd gosod y gwahanol dollbyrth. I'r cynnig uchaf y syrthiai'r tollborth.
Rhent Rhoslefain fel rheol oedd £30, ac Ysguboriau £120. Tenant olaf Tyrpeg Ysguboriau oedd John Robert, crydd, Llanegryn, a thenant olaf Rhoslefain oedd James Thomas, gof, Rhoslefain.
{{c|Y taliadau am fynd drwy'r tollbyrth oedd fel a ganlyn:—}}
{{center block|
<poem>
Cert a cheffyl, grôt y goler:
:a'r un pris oedd am fynd a gwagenni drwodd.
Cerbyd ysbring un ceffyl, chwe cheiniog.
eto dau geffyl, swllt.
Ceffyl a chyfrwy, chwecheiniog.
eto{{bwlch|2em}}llymesg, ceiniog a dimai.
Gwartheg, swllt yr ugain.
Mul, dimai: cert a mul, dwy geiniog.
Moch, dimai'r un.
Defaid, chwe cheiniog yr ugain.
Barc, grôt y dunnell am ei bwyso.
</poem>
}}
<br>
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mscxvcsuc2q08823sngbhbz0vdgo18h
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/40
104
82961
161903
2026-04-01T18:17:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161903
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Byddai peiriannau dyrnu yn mynd drwodd yn rhad, a phob math o gladdedigaethau. Eid hefyd yn ddi-doll i le o addoliad ar y Sul.
Eid â cheffylau i'w pedoli heb dalu dim.
Gan mai'r arferiad oedd codi grôt y goler ar gerti a gwagenni a âi drwy'r tyrpeg, byddai cryn gynllwynio i gael y ceffylau drwodd heb eu coleri. Tynnid y coleri oddi ar warrau'r meirch, ond coler y ceffyl bôn; a chlymid y meirch tu ôl i'r gert neu'r wagen, er mwyn eu cael drwodd ar dalu dim ond ceiniog a dimai'r ceffyl, yn hytrach na thalu grôt y goler.
Bu helyntion blin wrth geisio rhedeg y tyrpeg heb dalu dim toll o gwbl, ac ymffrostiai llawer un fel y llwyddodd i wneuthur hynny heb gael ei ddal.
Hoffai ein tadau adrodd am ymrafael chwerw fu ynglŷn â'r toll-byrth yn y plwyf mewn amser cymharol ddiweddar, rywbryd oddeutu 1846. Ni bu cythrwfl tebyg iddo yng nghof neb erioed yn Llanegryn. Bu ei ochain fel hunllef ar ysbryd yr ardal am flynyddoedd lawer. Ymddengys i'r helynt ddigwydd wrth Gefn-coch. Gelwid y terfysgwyr yn Bobl Drenewydd. Ymdeithient ar draws y wlad gan falurio'r tollbyrth. Erbyn iddynt gyrraedd Cefn-coch yr oeddynt yn sychedig a newynllyd, ac ymosodasant ar y dafarn gan yfed a bwyta'r cyfan oedd yn y tŷ. Codwyd y cri am help, ac ymgasglodd y gweision, a'r ffustwyr, o'r gwahanol amaethdai a dechreuwyd ffustio a dyrnu'r terfysgwyr yn ddidrugaredd. Curwyd hwy yn eu hôl cyn belled ag Aberdyfi, a'r dorf ymosodol yn cryfhau a'r terfysgwyr yn gwanhau'n gyflym. Yn Aberdyfi ymwasgarodd y terfysgwyr i bob cyfeiriad gan ymguddio mewn unrhyw loches, a dychwelodd gwŷr Llanegryn yn fuddugoliaethus. Ni ddigwyddodd inni weled dim cyfeiriad at y digwyddiad cyffrous hwn mewn unrhyw lyfr na chylchgrawn. Tystiai dynion cyfrifol i'r helynt ddigwydd. A fu Merched Rebeca yn teithio cyn belled â hyn oddi cartref i derfysgu gwlad? Os do, croeso chwerw a gawsant gan wŷr Llanegryn. Ynteu a fu Siartwyr y Dre-newydd ar un o'u hymdeithiau ym Meirion.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gg4lswhbgnwvrgy2ypsgfevd47bqslf
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/41
104
82962
161904
2026-04-01T18:17:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161904
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Blwyddyn olaf yr hen ''Turnpike Trust'' oedd 1888, a'r swm a gasglwyd ym Meirionnydd yn ystod y flwyddyn honno oedd £2,288.
{{c|LLWYBRAU'R PLWYF}}
Yn ôl cyfreithiau ein cenedl meddid hawl ar ddau lwybr troed, un i'r eglwys a'r llall i'r ffynnon; galwai ein tadau rai o lwybrau'r plwyf yn llwybrau Cymun. Meddid hefyd hawl gyfreithiol ar fath o ffordd a elwid hwylfa a fesurai saith troedfedd o led; yr hen hwylfa yw'r wtre heddiw. Gelwid gynt ddau o gaeau Bodowyn, a dau o gaeau Rhydcryw yn hwylfa, sef y caeau yr âi'r hen ffordd drwyddynt.
Dywedir y deuai dau lwybr o blwyf Celynnin i dir Fron-newydd; deuai un o fuarth Tal-y-garreg a'r llall o ffridd y Llechlwyd.
(1) Arwain y llwybr oddi wrth Fron-newydd am Nant-y-pwl, Nant-y-cynog, Clos-bach, Waun-fach, Bryneglwys, ac at yr eglwys. Gelwid hwn yn llwybr yr eglwys, a llwybr y Cardotwyr.
(2). Cychwyn llwybr oddi wrth Dal-y-bont, croesa ffriddoedd Tal-y-bont a'r Pant am y Trawst gan groesi top caeau Nant-y-cynog a gwaelod Cae-mawr y Castell a chyr-raedd yr wtre'n agos i Froneunydd.
Gelwid hwn yn Llwybr Bela.
(3). Ceir llwybr yn cychwyn yn agos i Dŷ-coch, ac â drwy fuarth y Pant, am y Bryn a Rhyd-y-garnedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
h14ohrwrs9w5qjb2688csvwihysylug
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/42
104
82963
161905
2026-04-01T18:18:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161905
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae ffordd yn arwain o lidiart ffridd Tal-y-bont am wtre'r Morgrug, a hefyd dros y ffridd am y Pant, Bryn, a Rhyd-y-garnedd.
(7). Daw llwybr o wtre Bryneglwys a thros gaeau Bod-owyn, a heibio i Waun-fach am Gamfa Beti Bwt. Gelwid hwn yn Llwybr y Morwyr.
(8). Cychwyn llwybr o lidiart Waun-fach ac â drwy fuarth Waun-fach, ac ymlaen am Froneunydd. Arwain y llwybr hwn am Fronclydwr a Chefncamberth.
(9). Arwain llwybr o'r briffordd yn agos i lidiart Bryn-eglwys a chroesa forfa Bodowyn, ac â dros y Bompren-goch i forfa Castell-mawr, ac â am Froneunydd. Â un gainc o'r Bompren-goch heibio i Frynperfedd am Daicroesion; daw llwybr arall o lidiart morfa Bodowyn am y Bompren-goch. Bu llwybr yn arwain oddi wrth Froneunydd yn unionsyth am fuarth Bodowyn, ac âi heibio i dŷ Bodowyn am ffridd Ysgol Rhydcryw, ac âi i'r ffordd sy'n arwain dros Gilfach-hen. (10). Cychwyn llwybr o fuarth Bryneglwys am Droed-y-rhiw a'r Ceunant.
(11). Arwain llwybr oddi wrth yr eglwys am Ben-y-ceunant, Troed-y-rhiw, a'r Ceunant.
(12). Arwain llwybr oddi wrth yr eglwys drwy goed Cefn-yr-ynys am Rhydcryw.
(13). Arwain llwybr oddi wrth yr eglwys drwy gaeau Llwyn-y-fynwent am y Blaidd. Wedi croesi rhyd afon Cryw â cainc o'r llwybr hwn am Rhydcryw. Cyfrifid hwn yn Llwybr march.
(14). Arwain llwybr o'r briffordd gyferbyn â llidiart gweirglodd Rhoslefain yn ymyl Bodowyn, ac â ymlaen am Rhydcryw, Blaidd, Nant, Waun ac allan i'r ffordd yn agos i Hen-siop.
(15). Arwain llwybr oddi wrth lidiart sy'n arwain at dŷ Rhydcryw, ac â drosodd i ffridd Bodowyn ac ymlaen am Feudy-cwm Tre-faes.
(16). A llwybr oddi ar y Blaidd dros Gilfach-hen a ffridd Tre-faes am Graigfadan-uchaf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
b9v4pd2nx90bn46ok7ehj0e94v40w0n
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/43
104
82964
161906
2026-04-01T18:18:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161906
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>(17). Daw llwybr heibio i Bant-gwyn-bach am Fredyn-fach, a Bredyn-fawr, ac â ar draws y Rhosydd am wtre Rhiw-felen-fach. Ceir cainc o lwybr rhif 17 yn cychwyn wrth Fredyn-fach ac yn arwain i ffordd y Gelli. Y mae hen ffordd yn arwain o ffordd Gilfach-hen am Fredyn-fach a Bredyn-fawr. Hon oedd ffordd Bredyn-fawr.
(18). Ceir llwybr yn arwain oddi wrth y Gelli am Fredyn-fawr a'r Nant. Daw un gainc o'r llwybr hwn ar hyd caeau Bredyn-fawr, a daw'r gainc arall ar hyd caeau'r Nant.
(19). Daw llwybr o blwyf Celynnin dros y terfyn o'r Pymtheg i lwybr Rhif 18.
(20). Daw llwybr o blwyf Celynnin ar draws y Fign am Gaermynach, ac â ymlaen dros ffridd Hen-siop am Dyddyn-padrig. Afon-ddu, ac am Fryntudur. Cychwyn cainc o'r llwybr hwn oddi wrth Dyddynpadrig am Barc Ystalwyn, ac â am Barc Tŷ-mawr ac am y llidiart sy'n arwain i Barc Bryn-tudur.
(21). Daw llwybr oddi wrth y Gelli ar draws caeau Foty-waun, Caermynach, am fuarth Tairmynydd, ac â ymlaen am Hafoty, Cwm-ych, Cwm-uchaf, a thrwy goed Peniarthuchaf am Bont-y-garth.
(22). Arwain llwybr oddi wrth lidiart Pedwar Cyfer am Dyddynpadrig a'r Hafoty, ac arwain cainc o'r llwybr hwn am y Fron.
(23). Arwain llwybr oddi wrth Hafoty ar draws y Fron am Fryntudur.
(24). A llwybr oddi wrth Dairmynydd ar draws ffridd Tyddynpadrig am y Foty, ac ymlaen am Lanfihangel-y-pennant.
(25). Cychwyn llwybr oddi wrth lidiart Parc-y-felin, a thrwy Barc Tŷ-mawr ar draws coed y Llwyn am yr eglwys. Daw cainc o'r llwybr hwn ar draws Parc-y-felin o gyfeiriad Piasjolly. Bu hwn yn Llwybr march.
(26). Arwain llwybr oddi wrth lidiart Tŷ-mawr ar hyd y Weirglodd-fach i wtre'r Nant.
(27). Arwain llwybr heibio i Dŷ-mawr am yr Efail. Y mae hwn yn Llwybr march. Bu'n hen ffordd i'r efail a'r felin.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
s31twsfh07izlvhrs77zlhagubpzph5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/44
104
82965
161907
2026-04-01T18:19:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161907
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>(28). Cychwyn llwybr oddi wrth Blascorniog am Hen-siop, Afon-ddu, Parc Tŷ-mawr, a throsodd i'r Fron, ac ymlaen am y Foty a Chwm-ŷch, a hefyd i'r mynydd. Daw ffordd i hwn o hen ffordd y Waun.
(29). Arwain llwybr heibio i Dyn-y-pwll am Glan-y-morfa-bach, Glan-y-morfa-mawr, a thrwy fuarth Trychiad-isaf am y Rhos. Cychwynnai'r llwybr hwn yn yr hen amser o'r hen ffordd yn nes at Dal-y-bont, a defnyddid yr hen ffordd yn llwybr at Bont Dysynni hyd yn ddiweddar.
(30). Arwain llwybr drwy wtre Pencraig am Glan-y-morfa-bach, Tyn-y-pwll ac i'r briffordd.
(31). Arwain llwybr o bont y pentref am Llwynhensel a Glan-y-morfa-bach.
(32). Arwain llwybr o blwyf Celynnin dros y mynydd a thrwy ffridd Blaen-y-cwm am Gwm-uchaf, Tyn-y-cornel, Peniarthuchaf, a Phont-y-garth.
(33). Daw llwybr o'r Ffordd-ddu heibio i Gwm-uchaf am Beniarthganol. Arwain hefyd am ryd Glan-y-wern, a'r Tyno. Y mae hon yn hen ffordd hefyd. Cyfrifid hi'n ffordd dreddegwm Peniarth.
(34). Arwain cainc o lwybr 32 ar draws ffridd Tyn-y-cornel am Feudy Brynglasan a Llanfihangel-y-pennant.
(35). Y mae cainc arall o Rif 32 yn mynd ar hyd caeau Peniarthganol am Garth-fach a Phont-y-garth. Try cainc ohono ar gornel agosaf i Gwm-uchaf yn ffridd fach Peniarth-ganol, ac â heibio i gornel "Nyrsi 'lyb" am Beniarthganol.
(36). Cychwyn llwybr o'r briffordd oddi wrth Glanmachlas, heibio i Dyddyn-bach, Tirgawen, Ysgubor-wen, ac allan i'r briffordd.
(37). Cychwyn llwybr o fuarth Glanmachlas, a thrwy'r Ffridd-fach, Maesonnen, a throsodd i foel Tirgawen, ac am Gwm-uchaf. Gelwid hwn yn yr hen amser yn Llwybr Llaeth. Daw cainc i hwn oddi wrth felin Peniarth.
(38). Arwain llwybr o Fanc Cemaes am Dyddyn-bach ac ymuna â llwybr sy'n cychwyn o fuarth Glanmachlas, ac â cainc ymlaen am Dyn-llwyn, ac allan drwy'r llidiart i'r ffordd oddi ar Blasjolly. A dywedir bod cainc yn arwain o lwybr<noinclude><references/></noinclude>
mbair3a1f5hyx52v9bynjotjz0uevdz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/45
104
82966
161908
2026-04-01T18:20:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161908
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ffridd-fach am lidiart Cwm-isaf, ac yn arwain ar hyd hen ffordd y Fronuchaf am y Foty, ac ymlaen am Gelynnin.
(39). Ceir llawer o lwybrau yn canghennu o Groes Egryn. Y mae hen ffordd a llwybr y Gelli yn arwain am y Ffordd-ddu, ac y mae llwybr yn arwain am Riwgaeron; ceir ffordd yn arwain am Felinuchaf, a daw ffordd a llwybr oddi wrth Gaer-mynach; a bu ffordd a llwybr yn arwain am Glawdd-du, ac arwain llwybr am Faesffynnon.
{{c|RHYDIAU.}}
Rhyd afon Cryw ar gwr uchaf Coed Cefn-yr-ynys. Rhyd Winau dros afon Winau. Rhyd Glan-y-wern yn arwain am Abertrinant. Rhyd Tal-y-bont. Rhyd Rhyd-y-garnedd yn arwain am Dywyn. Rhyd-y-bryn. Dywedir bod Rhyd-y-bryn wedi ei balmantu â cherrig. Rhyd-y-dyffryn.
{{c|COREDAU.}}
Lle byddai cored yn y plwyf fe fyddai llwybr yn arwain drosti fel rheol. Gwnaethpwyd y coredau at ddal pysgod. Ystyrid hwy'n eiddo gwerthfawr, a threthwyd hwy o ddydd-iau'r goresgyniad gan Loegr. Cored Peniarth-uchaf, a elwir heddiw yn Beniarth-ganol. Yr oedd y gored ar draws yr afon ar fin y weirglodd. Arweiniai llwybr drosti am y Tyno. Cored Peniarth. Gelwir y fangre'n gored hyd heddiw. Bu tramwy mawr drosti i ochr Bryncrug a Thywyn. Cored Glan Dysynni; arweiniai llwybr drosti o waelod y plwyf i i gyfeiriad Rhyd-yr-onnen. Cored Ynysmaengwyn. Arweiniai llwybr o waelod y plwyf drosti am Dywyn. Y mae'r coredau wedi llwyr ddarfod ers llawer blwyddyn.
{{c|LLYFRYDDIAETH.}}
* Ancient Monuments in Merioneth.
* Fullerton's Parliamentary Gazette. 1840-41.
* Jones, R. W.: Bywyd Cymdeithasol Cymru. Llundain, 1931.
* Lewis, S.: Topographical Dictionary of Wales. London, 1833.
* Llyfr Priodasau Eglwys Llanegryn. 1822.
* Merioneth Quarter Session Minute Book.
* Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890.
* Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
m9nqdmuf1hx5mh2xi4k822jtio0bqgw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/46
104
82967
161909
2026-04-01T18:20:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161909
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD III}}<br>Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.}}
{{c|YR EGLWYS}}
PRIN yw'r traddodiadau eglwysig ym mhlwyf Llanegryn.
A fu Egryn Sant yn pregethu neu'n gweinyddu'r sagrafennau ar y bryn sydd ar fin y nant a ylch ei odre? Ynteu rhyw Gymry twymgalon a gysegrodd yr eglwys yn ei enw? Naturiol inni yw casglu mai Egryn ei hun a sefydlodd yr eglwys, ac a'i cysegrodd ar ei enw ei hun, gan na feddwn ar ddim hanes i wrthbrofi hynny; y mae'n sicr mai ef oedd ei nawdd-sant ar y cyntaf. Mab oedd ef i Gwydr Drwm, ap Gwedrog, ap Geraint o hil Cadell Deyrnllwg. Perthynai i Fynachlog Llanilltud-fawr. Nid oes dim atgof na thraddodiad am ddydd Gŵyl Mabsant Egryn Sant yn aros yn y plwyf. Ceir enw Santes Fair yn ''Ecton's Thesaurus'':—Llanegryn, V, alias Llanegrin (St. Mary). Ond yn y ''Diocesan Directories'' rhoddir enw Egryn Sant. Yn ''Parochiale'' Browne Willis, 1733, ni roddir ond Egryn fel nawddsant yr eglwys. (''Y Cymmrodor'', xxii, 94).
Collodd Egryn Sant ei le fodd bynnag fel nawddsant ei unig eglwys yng Nghymru pan ymsefydlodd y Mynaich Gwynion ym Meirion. Meddai'r Sistersiaid serch ac ymlyniad cryf wrth y Santes Fair, i'r wyryf sanctaidd y cysegrwyd Mynachlog y Cymer; a phan daeth eglwys Llanegryn o dan nawdd y Fynachlog cysegrwyd hithau hefyd yn enw'r Santes Fair.
Cwestiwn a ofynnir yn fynych yw, pa fodd yr aeth eglwys, degwm, a thiroedd eglwysig Llanegryn yn eiddo i Fynachlog y Cymer? Yr oedd Tal-y-bont yn llys Maenor Cwmwd Tal-y-bont, ac yn rhan o etifeddiaeth Tywysogion Gogledd<noinclude><references/></noinclude>
4kstx5ru6gn1bc5cqiik8765u2bceb8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/47
104
82968
161910
2026-04-01T18:21:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161910
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Eglwys Llanegryn o'r allor.jpg|canol|400px|bawd|{{c|(Trwy garedigrwydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru)<br>EGLWYS LLANEGRYN O'R ALLOR}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
94yrj7jngqklznhusdfxdeaibatz1yd
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/48
104
82969
161911
2026-04-01T18:21:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
161911
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/49
104
82970
161912
2026-04-01T18:22:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161912
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cymru, ac yr oedd hefyd, fel y dywaid Mr. T. P. Ellis, yn hoff gartref Llywelyn ab Iorwerth a Llywelyn ap Gruffydd. Bu Llywelyn ab Iorwerth yn noddwr i'r Cymer, a chadarnhaodd ei Siarter gan roddi iddi hawl ar amryw o diroedd a degymau; a thalai Llywelyn Ein Llyw Olaf yntau ei deyrgned o edmygedd i'r Urdd. Trwy'r Tywysogion hyn yn ddiamau yr aeth eglwys Llanegryn o dan nawdd y Cymer, ac y daeth hithau i feddiant o'r degwm a'r tiroedd yn Llanegryn.
Y tiroedd a drosglwyddwyd i'r Cymer oedd Bodowyn, Tre-faes, Hirdir, Rhedynog, Panteinion, Bredyn, Adda, Gwaun-y-bwlch, Cynydd, Gellisarrog, Goleuwern a Chyfannedd. Perthyn rhan o'r tiroedd hyn i blwyf Celynnin erbyn heddiw. Y prisiad cyntaf a geir ar werth y Fynachlog yw un am 1291, a chyfanswm ei gwerth oedd £11 8s. 8c.; a deuai yr elw oddi wrth 60 o wartheg a 25 o ddefaid yn £3 6s. 3c. Cyfrannai Llanegryn a'r gymdogaeth £4 4s. 0c. o'r swm uchod. Gwerth y Fynachlog yn 1538 oedd £57 13s. 4c., a chyfraniad Llanegryn am yr un flwyddyn oedd £9 13s. 4c.
Bu Urdd y Sistersiaid yn dal cysylltiad â Llanegryn am tua thri chant a hanner o flynyddoedd. Cerid yr Urdd yn fawr gan drigolion y cymdogaethau; gwelir hyn oddi wrth hen ewyllysiau sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mewn ewyllys sydd wedi ei dyddio 24, Ion. 1526, sylwn fod gŵr o'r enw Thomas ap William ap Jenkyn yn dymuno cael ei gladdu ym Mynachlog Santes Fair y Cymer, a rhydd rôt i Thomas ap William, a chofiai am y ddyled oedd arno i'r Brenin fel rhent ar Felin Llanegryn. Gwelir mewn ewyllys arall a ddyddiwyd 26, Ion. 1529, ŵr o'r enw Ieuan ap Ieuan ap Madog yn rhoddi 12 ceiniog i'r Fynachlog.
Y cyfeiriad cyntaf sy at eglwys Llanegryn mewn hanes yw'r hyn a welir yn y ''Norwich Taxation'' am 1253, pryd yr enwir hi ynghyd â nifer o eglwysi eraill ym Meirionnydd.
Y mae'n sicr fod yr eglwys wedi ei hadeiladu yn ystod y cyfnod y bu o dan nawdd y Sistersiaid. Yr oedd porth yr eglwys wedi ei adeiladu cyn 1536. Anodd meddwl y buasai cafn dŵr santaidd yn cael ei roddi yn y mur wedi'r cyfnod<noinclude><references/></noinclude>
1zko19i195yelc85jh2neqzmfa5ruh9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/50
104
82971
161913
2026-04-01T18:22:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161913
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Protestannaidd. Yr oedd y cafn yn rhan o'r porth pan adeiladwyd ef ar y cychwyn. Perthyn i'r eglwys rai pethau sydd yn mynd ymhellach yn ôl na chyfnod y Cymer. Perthyn iddi fedyddfaen a â yn ôl i gyfnod cynnar y Normaniaid, a myn rhai fod y garreg sydd â ffurf croes arni, a saif yn y mur ar fin y ffenestr ar yr ochr ddeau i'r eglwys yn mynd yn ôl i gyfnod yr Eglwys Geltig, tra dywaid eraill mai'r Groes Faltig yw hi. Perthyn yr adeilad i gyfnod yr arddull a elwir Perpendicular, a ffynnai yn ystod y blynyddoedd 1360-1550. Dywedir gan wŷr cyfarwydd mai eglwys Llanegryn yw'r enghraifft fwyaf nodedig o'r arddull hwn sydd ar gael ym Meirionnydd. Perthyn dwy o'r ffenestri i'r unfed ganrif ar bymtheg; symudwyd un ohonynt o'r gangell i ochr ogleddol yr eglwys. Cron oedd y fynwent ar y cyntaf, cyn ychwanegu'r darn newydd ati yn 1883.
Campwaith a phrydferthwch yr eglwys yw'r groglofft. Y mae'n gyfanwaith perffaith yn ôl y cynllun eglwysig Celtaidd. Ni welir ei thebyg ond yn eglwys Llananno, Sir Faesyfed. Y traddodiad yw iddi gael ei symud o'r Cymer i Lanegryn pan ddymchwelwyd y Mynachlogydd gan Harri VIII. Ond nid yw pawb yn unfarn am hynny.
Gwnaed cryn atgyweiriadau ar yr eglwys yn 1573. Trefnai Rhys ap Gruffydd, Tyddyn Gwyn ym Modowyn mewn ewyllys a wnaed ganddo yn 1573 fod cyfran o'i eiddo i fynd at yr atgyweirio a ddygid ymlaen ar eglwys Llanegryn. Ail-goediwyd ac ail-dowyd hi yn y ddeunawfed ganrif; a gwnaed atgyweiriadau trwyadl arni yn 1878, o dan arolygiaeth Mr. E. B. Ferrey. Y mae'n un o'r eglwysi prydferthaf yng Nghymru.
Anodd yw inni heddiw sylweddoli'r lle a'r dylanwad a feddai'r eglwys a'r Gwyliau ym mywyd ein cenedl. Ar y Gwyliau yr arferid cyflawni pob math o fusnes, a dygid y gwaith ymlaen bob amser oddeutu'r eglwys. Ond nid eid â'r busness ddim ymhellach na'r porth, lle y ceid meinciau cerrig at eistedd a gorffwys. Prynid a gwerthid yn y fynwent, ac mewn gweithredoedd yn ddieithriad nodid porth yr eglwys fel y man i setlo'r cyfrifon; gwastateid y cyfrifon bob amser ar<noinclude><references/></noinclude>
er77wuf4i832ksmhvd0dxwp3p2y6brm
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/51
104
82972
161914
2026-04-01T18:23:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161914
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wyliau neilltuol. Y mae un tirfeddiannwr a gadwai fusnes yng Nghaer, yn nodi mewn llythyr o'i eiddo fod amryw eglwysi oddeutu'r ystâd ac awgrymai y byddent yn lleoedd pwrpasol i werthu ei anifeiliaid. Cyhoeddid yn y fynwent bob math o arwerthiannau amaethyddol, cyn y gwasgarai'r gynulleidfa o'r gwasanaeth bore Sul; ac arferai awdurdodau ffeiriau Tywyn ymweled ar fore Sul â gwahanol eglwysi plwyfi Llanegryn a Chelynnin i gyhoeddi eu ffeiriau, a thelid swllt i glochydd y lle am gyflawni'r gorchwyl. Byddai aml feistr a meistres yn anfon y gwas bach i wasanaeth bore Sul er mwyn gwybod pa ddydd o'r mis ydoedd. Gwelid cosbi drwgweithredwyr yn fynych wrth borth y fynwent. Lle diddorol oedd y fynwent oddeutu'r Llan yn yr hen amser gynt. Yn yr oes honno llanwai bwysicach lle nag efail y gof a gweithdy'r crydd y sonnir cymaint amdanynt mewn cyfnod diweddarach gan garedigion hanes Cymru.
Yr oedd eisteddleoedd eglwysi gwledig Cymru fel rheol yn eiddo i berchenogion tyddynnod y plwyf, a gwerthid eisteddleoedd eglwys Llanegryn pan werthid y tyddynnod. Gwerthwyd eisteddle Nantmadyn yn eglwys Llanegryn pan werthwyd y tyddyn yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg.
Gwasanaethodd yr eglwys ein plwyfolion ar hyd y canrifoedd ar fedyddiadau, a phriodasau a chladdedigaethau. Bu ei phorth yn agored ar y Sul a'r Gwyliau o oes i oes i'n plwyfolion.
{{c|OFFEIRIAID LLANEGRYN.}}
Bwlch go lydan sydd o oes Egryn nes dyfod o hyd i enw'r offeiriad cyntaf a geir yn hanes y plwyf. Nid yw enwau ond dau offeiriad yn hysbys inni yn y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Gelwid offeiriaid Llanegryn am gyfnod helaeth yn gurad. Mewn cyfnod diweddar y daeth ficer yn deitl cyffredin yn y plwyf. Bu rhai yn eu galw eu hunain yn Caplan, Minister, Preacher, a Presbyter. Arferid Syr un amser yn deitl i wŷr eglwysig yn gyfystyr â Pharch., pan na byddai gradd prifysgol ganddo.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
smv093z3xhpcupsuh5m0ixdaaxsjeur
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/52
104
82973
161915
2026-04-01T18:24:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161915
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1. 1469—JOHN AP LLYWELYN: Ceir un o'r enw Dominus John ap Llywelyn yn arwyddo gweithred ynglŷn â thyddyn o'r enw Bryn-y-froches ym Maes Peniarth, 6, Ion. yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Edward IV.
2. 1520—SYR THOMAS AP ROBERT: Pt. Bu'n rheithor Meyllteyrn, Lleyn o 1543 hyd 1555.
3. 1548—ROBERT AP HUGH: Pr. Symudodd i Niwbwrch, Môn yn 1554.
4. 1564—THOMAS LLOYD: Clerigwr. Yr oedd yn berchennog Tyddyn-llwffranc yn 1564.
5. 1573—JOHN THOMAS: Clerigwr. Ceir ei enw wrth weithred berthynol i ŵr o'r enw Rhys ap Gruffydd ap Rhys, 25, Chwef. 1573. Yr oedd yn ficer Clynnog Fawr yn Arfon ar yr un pryd.
6. 1582—HUGH HOLLAND: Ficer. Mab oedd i Piers Holland, Cinmel.
7. 1584—LEWIS EVANS: Caplan. Bu yn Llanegryn am 53 o flynyddoedd. Gall mai curad cynorthwyol oedd i Hugh Holland a Mr. Herbert.
8. 1623—HERBERT: Person. Gwelir ei enw yn y Presentments 1623. "But 2 Sermons there. Impr Mr. Herbert being parson there. No perambulation on Rogacon week."
9. 1648—EVAN EVANS: Curad. Yr oedd yn gurad Llangelynnin yn y flwyddyn 1633. Daeth i wasanaethu i Lanegryn yn 1648. Tebyg iddo dderbyn curadiaeth Llanegryn gan y Werin-lywodraeth, ac felly nis difuddiwyd.
10. 1650—EVAN JONES: Curad. Mab oedd i John Jones o dref Caernarfon, a Thŷ-isaf, Llanfihangel Bachelleth, Lleyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Rhydychen. Ceir ei enw wrth ewyllys Hugh Owen, Tal-y-bont, 18, Gorff. 1650. Symudodd i Lanbedrog yn 1658.
11. 1651—THOMAS VAUGHAN: Curad. Yr oedd yn gurad yn Nhywyn yn 1633; a bu'n gurad cynorthwyol Llanegryn o 1651 hyd 1653.
12. 1658—WILLIAM BAYLEY: Offeiriad. Tua'r un cyfnod bu offeiriad o'r un enw yn dal rheithoriaeth Penstrowed, a ficeriaeth Llanwnog ym Maldwyn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mw6qtxobyfx0uf97desx37tihq5nnoz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/53
104
82974
161916
2026-04-01T18:25:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161916
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1684—MAURICE JONES: Curad. Ceir ei enw ymhlith personiaid Meirionnydd a dyngodd lw o ffyddlondeb i William a Mary yn Chwarter Sesiwn Pwllheli, 29, Ion. 1689.
14. 1693—HENRY LLOYD: Curad. Yr oedd yn dyst i ewyllys Lewis Owen, Peniarth, 20, Mai 1693.
15. 1712—WILLIAM DAVIES, B.A.: Curad. Penodwyd ef gan Richard Owen, Peniarth; Maurice Jones, rheithior Dolgellau; a Rice Pierce, curad Llangelynnin.
16. 1713—WILLIAM HUMPHREY: Curad. Yr oedd yn fab i William Humphrey, Maerdy, Gwyddelwern. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
17. 1726—OWEN OWEN: Curad. Ail fab oedd i Maurice Owen, Tŷ-gwyn, Dolgellau. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
18. 1733—THOMAS JONES: Curad. Tebyg iddo fod yn gurad cynorthwyol am fyr amser i Owen Owen. Gwasanaethai yn fynych yn eglwys Llanegryn ar hyd y blynyddoedd a bu'n athro ar yr ysgol.
19. 1733—VINCENT HUMPHREYS: Curad. Galwai ei hun yn Minister. Mab oedd i Humphrey Humphreys, Tywyn Meirionnydd. Addysgwyd ef yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, matr 20, Chwef. 1731-2, oed 23. Ni wyddys a raddiodd o gwbl. Urddwyd yn ddiacon 2, Medi 1733. "'tr. Hon. Arthur Herbert, Impropriator of Llanegryn." Pennwyd ef yn ficer Llanfihangel-y-pennant, Meirion, 29, Mawrth 1769, gyda Thal-y-llyn. Nid yw'n gywir iddo roddi Llanegryn o'i ddwylo yn 1755 neu 1769. Ceir ei enw'n rheolaidd ar lyfrau'r eglwys hyd 1782. Arwyddodd ei enw am y tro olaf yn "Vincent Humphreys, Minister." Bu farw 26, Tachwedd 1783, a chladdwyd ef yn Nhywyn.
20. 1777—RICHARD THOMAS, B.A.: Ficer. Ei rieni oedd Thomas a Jane Rowland, Tuhwnt i'r Bwlch, Ynys-cynhaearn, Eifionydd. Yr oedd yn frawd i'r Parch. John Thomas, M.A., prifathro Ysgol Ramadeg Biwmaris. Cyfrifid y ddau frawd yn ysgolheigion Cymreig o'r radd flaenaf yn eu dydd.
21. 1781—WILLIAM JONES: Curad. Hanai o hil Esgair Ifan, Llanbryn-Mair. Bu'n gwasanaethu yn gurad i Vincent<noinclude><references/></noinclude>
2mipcnonra6bsmhd8j66mqerwra300d
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/54
104
82975
161917
2026-04-01T18:25:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161917
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Humphreys a John Roberts. Cartrefai yn Nhynewydd. Bu farw 9, Ebrill 1830 yn 90 mlwydd oed.
22. 1783—JOHN ROBERTS, B.A.: Curad. Mab oedd i Robert Robert, Llanaber, Meirion. Addysgwyd ef yn Neuadd St. Mair, Rhydychen. Daliai ficeriaeth Aberdaron, a churadiaethau parhaus Bryncroes a Llanegryn.
23. 1783—GRIFFITH OWEN, B.A.: Curad. Mab oedd i Griffith Owen, Pen-y-gadair, Dolgellau. Yr oedd ei fam yn ferch i Anthony Thomas, Hendre, Llwyngwril. Curad cynorthwyol ydoedd i John Roberts. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Aeth i Lanendwyn yn 1797.
24. 1786—RICHARD PUGHE, B.A.: Ficer. Deuai o Fachynlleth, ac yr oedd yn fab i Richard Pughe, meddyg ac apothecari. Symudodd y teulu i'r Hendre yn Abergynolwyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Priododd Elizabeth, gweddw Dafydd Davies, Pant, Llanegryn. Adeiladwyd tŷ newydd ychydig cyn hynny yn y Pant ac yno y cartrefodd y pâr ieuanc. Ond o Wyddfryniau yr ysgrifennai Richard Pughe ei lythyrau mewn blynyddoedd yn ddiweddarach. Ganwyd teulu lluosog iddo yn Llanegryn. Symudodd oddi yma i Lanfrothen.
25. 1811—THOMAS JONES: Ficer. Mab ieuangaf Thomas Jones, Esgair Ifan, Llanbryn-Mair, ydoedd ef. Priododd Mary Hartley. Cartrefai ym Mryn-gwyn. Gwasanaethodd y plwyf am dros 40 mlynedd. Bu farw Ebrill 1857 yn 87 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llanegryn.
26. 1828—F. JONES: Curad. Daeth i gynorthwyo Thomas Jones. Cartrefai yn Nghelynnin.
27. 1851—EDWARD OWEN, B.A.: Addysgwyd ef yng Ngholeg Clare, Caergrawnt. Byr fu ei arhosiad yma.
28. 1855—JOHN KENSEY DAVIES: Curad. Cartrefai yng Nghastell-mawr.
29. 1857—GRIFFITH ARTHUR JONES, M.A.: Ficer. Unig fab oedd i'r Parch. John Jones, rheithor Llangwm. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Bu ei ddylanwad yn fawr yn Llanegryn. Symudodd oddi yma yn ficer Eglwys Fair, Caerdydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
f252p822cnjuzp82j68l4d448ppa9li
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/55
104
82976
161918
2026-04-01T18:26:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161918
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>30. 1872—WILLIAM OWEN: Ficer. Byr fu ei arhosiad, oherwydd bu farw yn ystod y flwyddyn y daeth yma.
31. 1873—GRIFFITH ROBERTS, M.A.: Ficer. Mab Griffith Roberts, Tyn-y-coed, Meyllteyrn. Addysgwyd ef yn Ysgol Botwnog, a Choleg y Drindod, Dulyn. Symudodd yn 1880 yn rheithior Dowlais. Gwnaed ef yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Bangor yn 1903.
32. 1880—DAVID HUGHES, B.A.: Ficer. Hanai o deulu Glanrafon, Llanbadarn Fawr. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Bu'n gwasanaethu yn Llanegryn am 44 o flynyddoedd. Ymddiswyddodd yn 1924, gan fynd i fyw i Dywyn.
33. 1924—THOMAS WOODINGS, B.A.: Ficer. Addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Cymru ym Mangor, a Choleg Mi-hangel, Llandaf. Symudodd yn 1934 i Lanbedrog, Lleyn.
34. 1934—STEPHEN DAVIES: Ficer. Addysgwyd ef yng Ngholeg Llanbedr, a Choleg Diwinyddol Lincoln. Deil i wasanaethu'r plwyf yn fawr ei barch.
{{c|Y DEGWM.}}
Yn ôl ''Valor Ecclesiasticus'' (27 o deyrnasiad Harri VIII) gwerth y fywoliaeth, a thiroedd perthynol i Fynachlog y Cymer ym mhlwyf Llanegryn oedd fel hyn: Rheithoriaeth Llanegryn: Degwm ŷd blynyddol £4. Degwm gwlân ŵyn blynyddol £2/13/4. Cyfanswm £6/13/4. Treddegwm Rhydcryw: Ardreth y gwahanol denantiaid £3. Y taliadau oedd: Cyflog blynyddol Ifan ap John, Hwsmon y tiroedd yn Llanegryn, neu Rydcryw 13/4. Tâl blynyddol yr Esgob o Reithoriaeth Llanegryn 10/-. Tâl blynyddol yr Archddiacon o'r cyfryw Reithoriaeth 3/4. Tâl blynyddol Ficer Llanegryn £1/6/8.
Yn ôl cyfrif a wnaed gan Dugdale yn y 29 flwyddyn o deyrnasiad Harri VIII, yr oedd ardreth flynyddol Rhydcryw yn £3/5/4, a gwerth degwm Rheithoriaeth Llanegryn yn £13/13/4.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5jsvfm4dw75ltam5thiz6rtbopxuz4z
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/56
104
82977
161919
2026-04-01T18:27:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161919
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn y flwyddyn 1634 bu achos cyfreithiol ynglŷn â degwm Rheithoriaeth Llanegryn yn Llys yr Exchequer gan Francis Herbert, Ysw., a Margaret Herbert, gweddw, yn erbyn William Moye, Ysw., Cyfreithiwr Cyffredinol ei Fawrhydri'r Brenin. Gwrandawyd yr achos yn nhŷ Griffith Swayne ym Machynlleth, 22 o Ebrill 1634. Dywedai y Parch. Lewys Evans, Curad Llanegryn, ei fod yn adnabod y diffynwyr a'r ymadawedig Mathew Herbert, a'i fod yn gwybod am Reithoriaeth Llanegryn am y cyfnod o 60 mlynedd, a'i fod wedi gwasanaethu fel Caplan yn y plwyf am 50 mlynedd, a thystiai yr adnabyddid y Rheithoriaeth bob amser fel rhan o eiddo mynachlog y Cymer. Pan ddaethai ef yn gaplan i'r lle ynghylch hanner can mlynedd yn ôl, Edward Powys mab John Powys oedd tenant ei Fawrhydri ar y Rheithoriaeth, ac arferai dalu iddo ef y swm o £5/6/8 yn flynyddol yn ystod ei fywyd. A phan oedd Hugh Nanney yn denant y Rheithoriaeth, gwnaeth apêl at yr awdurdodau ynghylch ei gyflog, oherwydd iddo ganfod cyn lleied a delid iddo fel curad Llanegryn, a'u hateb oedd na ellid talu dim mwy na'r £5/6/8. Talai Mathew Herbert yr un swm iddo, ac wedi ei farwolaeth talai Margaret Herbert yr un modd.
Tystiai Owen Gruffydd, Llanegryn, ei fod yn adnabod y diffynwyr a Mathew Herbert, a gwyddai am Reithoriaeth neu Bersoniaeth Llanegryn ers dros 40 mlynedd, ac mai gwerth y Rheithoriaeth oedd £13/13/4, a thelid £5/6/8 i'r caplan yn Llanegryn. Bu ef yn is-denant i Mathew Herbert am ddeng mlynedd ar hugain, ac am oddeutu chwe blynedd cyn iddo ef ei phwrcasu, a thelid bob amser £8/6/8 i'r Goron, a chanateid £5/6/8 i'r caplan am wasanaethu yn y lle.
Y mae'n amlwg bod gwŷr y goron yn teimlo fod y rhan a delid i Lewys Evans o Reithoriaeth Llanegryn yn rhy helaeth. Y mae'r hanes yn ddiddorol inni oherwydd cyrhaedda'n ôl i ddyddiau'r Powysiaid a fu'n rhentu eiddo Mynachlog y Cymer, a dywedir mai boneddigion o blwyf Llanegryn oedd y Powysiaid. Canfyddir eu hanes am y tro cyntaf yn y cofnod am Lewys ap Thomas, abad olaf y Cymer, yn prydlesu tyddyn Pantcynerth yn nhref Rhydcryw i Lywelyn<noinclude><references/></noinclude>
q9bg2iieuytj0gdlm5k7r8mrbkne0r5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/57
104
82978
161920
2026-04-01T18:27:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161920
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ap Dafydd Powys. Dywedir bod John Powys a fu'n denant cyntaf ar Reithoriaeth Llanegryn, yn Sergeant-at-arms i Harri VIII, a chredwn mai cysylltiad teulu Powys â Llanegryn a rydd gyfrif am ddwyn y Groglofft o'r Cymer i eglwys Llanegryn.
Perthyn i deulu Dolguog a Pheniarth yr oedd Mathew Herbert a Margaret Herbert. Yr oedd Margaret Herbert yn ferch Lewis Owen, Peniarth, a pherchennog Peniarthganol oedd Owen Gruffydd.
Bu anghydwelediad ynglŷn â'r 10/-a hawliai'r Esgob oddi ar y Rheithoriaeth yn y flwyddyn 1639. Anfonodd Esgob Bangor gais am y 10/—tâl blynyddol oedd yn ddyledus ar Reithoriaeth Llanegryn. Atebodd Hugh Owen, Tal-y-bont "that the Rectory of Llanegryn was never charged before with any charge or task from Bangor and that the Curate who served the place this 39 years never heard of any demand from that Rectory, but only £8/6/8 yearly to the King." Hawliai'r Esgob bob ceiniog o'r 10/-, er ei fod wedi esgeuluso ers rhai blynyddoedd, y mae'n amlwg. Fel y sylwasom eisoes, aeth degwm ac eiddo Mynachlog y Cymer a Rheithoriaeth Llanegryn i ddwylo personau unigol. Gwerthid y degwm fel rhyw eiddo cyffredin arall gan y naill berchennog i'r llall yn aml; ac arferai rhai perchenogion ei brydlesu i eraill ar rent blynyddol, ac achoswyd llawer o anfoddogrwydd oherwydd hynny. Dyma restr o berchenogion a fu yn ei rentu o dro i dro, John Powys a'i fab Edward Powys; John Roberts, o dras Anwyliaid y Parc; Hugh Nanney; Owen Gruffydd; Mathew Herbert; Margaret Herbert; S. Davies; Y Parch. John Tamberlain, Rheithor Dolgellau. Yn 1784 gwerthwyd y degwm gan y Parch. John Tamberlain ei hun neu un o'i deulu i deulu Titley, Llanrwst. Dywedir mai meddyg ac apothecari oedd Peter Titley, sefydlydd y teulu hwn yn Llanrwst. Gwerthwyd hanner y degwm gan un o'r Titleyaid i Griffith William, Dolgellau. Bu wedi hynny yn nwylo ystâd Peniarth, a gwerthwyd ef yn gyfangwbl i'r Dirprwywyr dan Ddeddf Datgysylltiad 1914.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nevx3c5wrm3cll3klnqwykwpewwjl5h
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/58
104
82979
161921
2026-04-01T18:28:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161921
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|Y DEGWM BACH.}}
Gelwid un rhan o'r Degwm yn Ddegwm Bach, ac yr oedd yn mynd i Gurad y plwyf fel rhan o'i gyflog.
Degymid ar bob tyddyn drwy'r plwyf, Grôt. Gelwid hwn yn Ddegwm Gwair.
{{center block|
<poem>
Am bob anner ar ei llo cyntaf. Ceiniog.
Am bob buwch flith. Ceiniog a dimai.
Am bob ugain mamog. Dwy geiniog.
Am bob ebol. Grôt.
</poem>
}}
Cyflwynid degwm blynyddol ar Wyl y Pasg i'r Curad, a hefyd gyfran i'r Clerc fel y ganlyn:—
{{center block|
<poem>
Am bob gŵr priod. Chwe cheiniog; cyfran y Clerc, ceiniog.
Am bob gŵr a gwraig weddw. Tair ceiniog; cyfran y Clerc, dimai.
Am bob person dibriod. Dwy geiniog.
Am bob celfyddydwr a chrefftwr. Grôt.
</poem>
}}
Yn ôl y Valor dim ond ŷd a gwlân ŵyn a ddegymid yn Llanegryn. Yn ystod 1767-9 degymwyd moch, gwyddau, wyau a mêl fel rhan o'r Degwm Bach. Prydlesid y Degwm Bach i bersonau o dro i dro, ac achosodd hynny deimladau chwerw. Bu teulu Trychiad-uchaf, James Davies a'i frawd David Davies, yn ei brydlesu yn eu tro, a hefyd teulu Waun-fach. Bu ymrafael cas ynglŷn â degwm a elwid yn Ddegwm Gwair. Bu'r teimlad yn cronni am flynyddoedd yn erbyn ei dalu, a thorrodd yr argae yn 1784 pryd y gwrthododd amryw ffermwyr cefnog ei dalu, tenantiaid Cwm-ych, Tyn-llwyn, a Pheniarth. Ceir manylion am yr helynt blin hwnnw yng nghasgliad Syr Thomas-Stanford yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
{{c|TAL AM DDYLETSWYDDAU EGLWYSIG.}}
Am bob priodas a weinyddid yn yr eglwys drwy drwydded, 7/-; cyfran y Clerc 1/-.
Am bob priodas a weinyddid yn yr eglwys drwy ostegion, 6/-; cyfran y Clerc 1/-
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tjz169wi3xigi453rvie1zeoy121jr6
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/59
104
82980
161922
2026-04-01T18:28:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161922
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwirfoddol oedd yr offrymau ar gladdedigaethau, ac ar ôl genedigaethau.
Hawlid i'r Clerc ran o ddillad y sawl a gleddid yn ogystal â'r offrwm.
Y rhan o ddillad dynion fyddai cyfran o'r hetiau, yr esgidiau, yr hosanau, a'r gwregys.
Y rhan o ddillad merched fyddai cyfran o'r hyn a wisgid am y pen, yr esgidiau, yr hosanau, a'r ffedog.
Ni hawlid dim oni byddai'r perchennog wedi eu gwisgo yn eglwys Llanegryn. Telid grôt neu ginio gan y rhieni i'r Clerc am bob bedydd. Derbyniai'r Clochydd hefyd ddegwm a elwid Ysgub y Gloch, sef ysgub o bob rhyw ŷd oddi ar bob tyddyn drwy'r plwyf.
{{c|YSGUBOR YR ABOT.}}
Hen ysgubor ddegwm y plwyf oedd hon, a deil rhai o goed yr hen ysgubor yn eu lle o hyd; y maent yn edrych yn gryf a chywrain. Y maent wedi eu gweithio ar yr un dull â choed yr eglwys, ac y maent yn perthyn i'r unfed ganrif ar bymtheg. Cludid ŷd degwm y plwyf i'w ddyrnu i'r hen ysgubor, a bu cyrchu mawr iddi yn yr hen amser.
{{c|YR ANNIBYNWYR.}}
Clywodd bro Llanegryn lais cynnar Annibyniaeth yn ystod y rhan olaf o'r ail ganrif ar bymtheg, o enau Hugh Owen, a bu ganddo ddau dŷ trwyddedig yn y plwyf i bregethu ac addoli ynddynt; a bu ei fab yng nghyfraith, Edward Kenrick, yn gweinidogaethu yma ar ei ôl yn ystod y rhan gyntaf o'r ddeunawfed ganrif.
Pa fodd y bu hi wedyn yn hanes Annibyniaeth y plwyf y mae'n anodd inni benderfynu. Yr oedd John Kenrick, mab hynaf Edward Kenrick, wedi ymbaratoi at bregethu'r Efengyl. Bu'n efrydydd yng Ngholeg Caerfyrddin o Nadolig 1730 hyd Nadolig 1734; a symudodd oddi yno i Brifysgol Glasgow, a graddiodd yn M.A. yn 1736. Gorchwyl anodd yw dilyn ei hanes ar ôl gorffen ei gwrs Colegol. Gwyddom y cydnabyddid<noinclude><references/></noinclude>
gj3hc67dx20x4d1td99w1x9rxa39si7
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/60
104
82981
161923
2026-04-01T18:29:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161923
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef yn Annibynnwr yn 1745, pan wnaed ef yn ymddiriedolwr ar Hen Gapel Llanuwchllyn; y mae amheuaeth ai ef oedd y John Kenrick a wnaed yn ymddiriedolwr ar yr Hen Gapel yn 1783. Enwir ef a gwraig weddw fel yr unig ''Protestant Dissenters'' a oedd yn y plwyf yn y flwyddyn 1749 yn ôl adroddiad ficer Llanegryn.
Dyma'i ach mor bell ag y gellir ei threfnu:
[[Delwedd:Ach Edward Kenrick.jpg|canol|500px]]
Y cam nesaf a gawn yn hanes Annibyniaeth Llanegryn yw cais John Williams, Plasjolly, am drwydded i bregethu mewn tŷ annedd yn Llanegryn yn 1796. Rhoddwn y drwydded fel y mae yn Saesneg. "Ordered that the house of John Williams, called by the name of the Chapel of Pentreissa in the parish of Llanegryn in this County be and the same is hereby registered as a place for Protestant Dissenters to meet in and perform divine Worship according to the Statutes in that case made and provided. By the Court."
Tŷ at wasanaeth yr Annibynwyr yn sicr oedd hwn. Yr oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd dŷ trwyddedig at eu gwasanaeth; ac nid oedd y Wesleyaid wedi cychwyn eto yn y plwyf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4n2vnfhdu4lpx0eqo53rmj2joj7dhmc
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/61
104
82982
161924
2026-04-01T18:31:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161924
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dywedir mai un o'r tai a saif yn nhop y pentref oedd y tŷ capel y cododd John Williams drwydded at addoli ynddo. Adnewyddwyd y tai yn drylwyr wedi hynny. Edrydd y Parch. Evan Evans, Llangollen, am anffawd a ddigwyddodd yn y flwyddyn 1810, pan oedd ef yn hogyn yn ysgol Llanegryn. Yn ôl ei adroddiad ef am y flwyddyn honno, cynhelid moddion gras gan yr Annibynwyr o dŷ i dŷ fel y byddai'r drysau'n agoryd. Y mae'r hanes a edrydd y Parch. Evan Evans yn werth ei ail-adrodd: "Wrth ddechreu ar y gorchwyl o gyfansoddi y rhan a benodwyd i mi o Gofiant fy anwyl dad yn yr efengyl y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones o Ddolgellau, nis gallaf lai na mynegu fy adgof ''cyntaf'' am dano, a hyny mewn amgylchiad tra hynod a ddygwyddodd yn Llanegryn tua phymtheg mlynedd a deugain yn ol. Nid oedd gan yr Annibynwyr un capel yn y pentref y pryd hwnw, ond cedwid moddion gras yn y naill dŷ a'r llall. Ar un prydnhawn Sabboth yn yr haf, dygwyddodd fod y gwr parchus yn pregethu yno mewn llofft i'r hon yr esgynid ar hyd grisiau oddiallan. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a'r hin yn hynod o frwd. Cyn i'r pregethwr fyned yn mhell ar ei wasanaeth, ''torodd'' y llofft yn ddisymwth gan fyned fel hopran melin! Disgynai y pregethwr a'i bulpud gyda'u gilydd i'r pentwr. Crochlefai amryw o'r bobl am eu bywyd, yn enwedig y rhai isaf o honynt. Yno y clywid gwyr a gwragedd, a rhieni a phlant, yn dolefain am eu gilydd; a da yr wyf yn cofio fy mod inau yn ymlithro i lawr ar fainc tua'r canol, i'r lle yr oedd pawb yn myned. Gwelid un dyn tâl, ïe, y talaf yn y wlad, wedi cael gafael ag un llaw mewn rhywbeth, ac yn hongian felly uwchben y gynulleidfa. Ond trwy drugaredd yr Arglwydd, ni chollodd neb ei fywyd yno, ac ni anafwyd neb yn dost iawn. Yr hyn sydd fwyaf cofus genyf bob tro y meddyliwyf am yr amgylchiad yw disgyniad y pregethwr i'r pentwr megys un a ddisgynai oddiar geulan i lyn i nofio ynddo; a mwy na'r cwbl, ei ''dawelwch'' wedi iddo allu ymryddhau o ganol y tryblith meinciau a dynion; ïe, meddaf ei ''dawelwch!'' Ar ol iddo gael ei draed dano, efe a ddywedai yn hollol ''ddigyffro''—"Yn enw dyn, sut y bu hyn." Braidd na fernid ef gan rai a fuasent yn gwaeddi am eu bywyd,<noinclude><references/></noinclude>
4j6megotiun002pax0b7gapoetnn4km
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/62
104
82983
161925
2026-04-01T18:32:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161925
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn bregethwr go anystyriol, am na buasai yntau hefyd yn cyffroi drwyddo ac yn crochlefain fel hwythau. Rhyfedd ar ei dawelwch! Pwy ond Cadwaladr Jones o Ddolgellau a allasai feddianu ei hun felly yn y fath amgylchiad cyffrous?"
Clywsom ar sail dda y byddai'r Annibynwyr yn addoli mewn tŷ yn y man y saif rhesdai Glan-dŵr, cyn iddynt gael eu hadnewyddu. Ond y mae'r traddodiad yn gryf o blaid mai'r llofft yn nhop y pentref, oedd yr un a dorrodd o dan y gynulleidfa yn oedfa Cadwaladr Jones.
Anodd yw dweud pa weinidogion a fu â llaw yng nghychwyniad yr achos. Cofiwn fod Richard Tibbot, yr hen wron o Lanbryn-Mair, yn yr oedfa yn nhŷ Catherine Humphreys pan ddirwywyd hi a John Williams a'i wraig, ac Arthur Evans yn 1795. A fu gan Richard Tibbot law yng nghychwyniad yr achos? Credwn y buasai ef yn caru gwneuthur tro da â Llanegryn am y gwasanaeth a wnaeth Hugh Owen i Lanbryn-Mair.
Dechreuodd gŵr ieuanc o'r enw Hugh Pugh, y Brithdir, sefydlu achosion Annibynnol yng ngorllewin Meirionnydd; a phan roddodd George Lewis ofalaeth am eglwysi Rhyd-y-main a'r Brithdir i fyny yn 1802, ordeiniwyd Hugh Pugh yn weinidog arnynt, a dywedir iddo ofalu'n ddiwyd am yr achos ieuanc yn Llanegryn; ond ni fu'n un o eglwysi ei weinidogaeth ef.
Ymunodd Annibynwyr Llanegryn â Machynlleth. Y Gweinidog oedd y Parch. James Griffiths; ordeiniwyd ef yn weinidog ym Machynlleth, 7, Mawrth 1807; yr un pryd cymerodd ofal am eglwysi Annibynnol Llanegryn, Tywyn a Llwyngwril. Ymryddhaodd y tair eglwys o gylch Machynlleth drwy foddlonrwydd o bob ochr, a rhoddasant alwad i Mr. David Morgan a oedd yn gynorthwywr i'r Parch. James Griffiths. Ordeiniwyd ef yn yr awyr agored yn Nhywyn, Mawrth 1813. Byr fu ei arhosiad fel gweinidog ar y tair eglwys, trwy iddo symud i Fachynlleth yn 1814.
Codwyd y capel cyntaf i'r Annibynwyr yn Llanegryn yn 1816, a helaethwyd ef yn 1829.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
j93erybzmcz4jsrvluxaqrhlydfrloz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/63
104
82984
161926
2026-04-01T18:32:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161926
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bu'r gweinidogion a ganlyn yn gwasanaethu yn eu tro yn Llanegryn a'r cylch.
Y Parch. Hugh Lloyd. Ordeiniwyd ef yn Llanegryn, 3, Hydref 1817. Symudodd Hugh Lloyd i Dywyn, ac aeth Tywyn allan o'r cylch; a bu rhaid ail-drefnu, a daeth eglwys Llanfihangel-y-pennant i'r cylch o'r newydd.
Y Parch. Evan Griffiths, 1836-49. Yn ystod ei amser ef ail-adeiladwyd y capel yn 1839, a chychwynnwyd achos yn Nasareth yn 1845. Ymfudodd i'r America yn 1849 ac ymsefydlodd yn Utica.
Y Parch. John Owen, 1850-60. Daeth i Lanegryn o Nefyn.
Y Parch. R. P. Jones, 1863. Ganed ef ym Mryncrug. Ymbriododd â Miss Anne Lloyd, Nant, a oedd yn aelod yn ei gapel. Yn ystod ei weinidogaeth ef y sefydlwyd achos Abergynolwyn, 25, Ion. 1868, a daeth Abergynolwyn i'r cylch, ac aeth Llwyngwril allan ohono.
Y Parch. John Owen, 1878. Daeth ef yn ôl am yr ail waith i weinidogaethu ar Lanegryn a Nasareth. Ymddeolodd yn 1884.
Y Parch. Evan Evans, 1899. Cafodd afael ar galon ei eglwys ar ei union. Cynyddodd ei aelodau ddeugain mewn rhif o fewn ychydig flynyddoedd, a gwnaed atgyweiriadau helaeth ar gapel Ebeneser a chyfodwyd Festri newydd; ail-adeiladwyd hefyd gapel Nasareth. Profedigaeth lem i'r eglwysi oedd ei farwolaeth yng nghanol ei ddyddiau a'i waith yn 1926. Gwelodd ddyddiau llwyddiannus ar ei eglwys yn ystod 27 o flynyddoedd y bu ef yn gwasanaethu yn eu plith.
Y Parch. P. J. Peregrine, 1931. Daeth ef i wasanaethu ar eglwysi Llanegryn, Nasareth, Llanfihangel-y-pennant, ac Abergynolwyn. Daeth yma yn ŵr ieuanc o Goleg Caerfyrddin i wasanaethu ar y pedair eglwys, a deil i wasanaethu yn gymeradwy a llwyddiannus yn ein plith.
Codwyd o blith aelodau eglwys Llanegryn amryw weinidogion a fu'n weithgar a ffyddlon yng Nghymru ac America.
Daeth John Williams i Lanegryn yn ddyn ieuanc i weini yn un o'r amaethdai; brodor o Bennal oedd ef. Bu'n weinidog<noinclude><references/></noinclude>
a01ewr38je1qpa6ewutm97826vabd45
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/64
104
82985
161927
2026-04-01T18:33:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161927
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn Ninas Mawddwy, ac yn ddiwethaf gweinidogaethai ar eglwysi Aberhosan a Phenegoes.
Magwyd Evan Evans yn eglwys Ebeneser, a dechreuodd bregethu yn Llanegryn, ond cefnodd yn ieuanc ar ei hen ardal. Symudodd i'r America a daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Williamsburg.
Bu John Griffith yn bregethwr cynorthwyol, ac ymfudodd yntau i'r America. Adweinid ef fel bardd wrth yr enw Ioan. Bu farw yn Dakota.
Gwasanaethodd Griffith Roberts eglwysi Annibynnol Gogledd Cymru'n gymeradwy fel pregethwr cynorthwyol am ddegau o flynyddoedd, a bu'n ffyddlon i'r moddion wythnosol, ac yn arbennig i'r Seiadau yn ei eglwys ei hun yn Llanegryn.
Breintiwyd yr eglwys bob amser â nifer o wŷr lleyg gwych.
{{c|Y BEDYDDWYR.}}
Dyma'r unig un o'r enwadau Ymneilltuol a fethodd ffynnu yn y pentref. Hoffem pe baem yn meddu ar fwy o hanes y brodyr a gychwynnodd yr achos. Gwyddom fod Mr. John Ellis, Aberystwyth, yn hanfod o hen deuluoedd a fu'n cartrefu yng Nghwm-pen-neuadd a Thyn-y-pwll yn y plwyf, a Bedyddwyr oedd y teuluoedd hyn. Yr oedd Mr. John Ellis yn un o brif leygwyr yr enwad o Aberystwyth i fyny hyd lannau Meirion.
Bu'r Parchedigion John James, Aberystwyth a B. James, Castell-newydd-bach, yn cynnal cwrdd mawr ar ddôl yn agos i'r pentref ac yn bedyddio pump, a digwyddodd hynny ar ddydd Sul, 16, Ebrill 1816. Y mae'n sicr fod y cyfarfod hwn yn fath o ŵyl gan y Bedyddwyr, oherwydd dywaid y Parch. B. James fod oddeutu hanner cant o Fedyddwyr o Aberystwyth, Machynlleth a Dolgellau wedi cydymgynnull yn Llanegryn y dydd hwnnw. Bu'n ddydd nodedig yn hanes Ym-neilltuaeth y gymdogaeth am lawer o amser. Yn ystod y cyfarfod gweinyddwyd Sacrament Swper yr Arglwydd ar y maes. Cawsant fenthyg bwrdd ac ychydig feinciau, ac eisteddodd corff y gynulleidfa i gyfranogi o'r elfennau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4mub3v9x7ru6jxj4thba5l5f1auoqdl
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/65
104
82986
161928
2026-04-01T18:33:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161928
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Perthynai'r ddiadell fechan yn Llanegryn i'r achos yn Nolgellau, a mwy na thebyg na sefydlwyd yr un eglwys yma o gwbl gan y Bedyddwyr. Cymerwyd ystafell ym mhentref Llanegryn, a chynhaliwyd cyrddau mawr i ddathlu'r achlysur o'i hagor, a digwyddodd hynny 22-24, Ebrill 1834. Safai'r ystafell honno lle y saif Brynegryn yn bresennol. Byddent yn bedyddio yn llyn Brynderw yn y cytir.
Y mae'r Parch. Ellis Egryn Davies, mab Dafydd a Sarah Davies, Bredyn-fawr, yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr ym Mhisgah, Llanfair-ym-Muallt.
{{c|Y CRYNWYR}}
Ni wyddom pa gysylltiad a fu rhwng y Crynwyr a phlwyf Llanegryn. Bu iddynt gefnogwyr sy'n sicr, oherwydd y mae iddynt fynwent o fewn terfynau'r plwyf. Y mae traddodiad hefyd yr arferent addoli ar y bryniau rhwng Llanegryn a Chelynnin. Ond ni feddwn ar ddim sicrwydd eu bod wedi arfer cydaddoli mewn dim math o adeilad o fewn y plwyf. Dywedir bod math o gapel wedi ei godi ganddynt ar un O gaeau Bredyn-fach. Tystiai Margaret Evans, y Gelli, fod ei olion i'w canfod yn amlwg pan oedd hi'n cael ei magu yno, ac arferai ei mam ei alw'n gapel.
Bu Bredyn-fach yn llecyn diddorol i'r hen saint. Adroddir y byddai pererinion Methodistaidd pan ymdeithient o Sir Gaernarfon i Langeitho, yn arfer eistedd a chanu wrth ffynnon sydd yn byrlymu gerllaw. Bu sôn yn y plwyf am ganu Bredyn-fach, neu'r canu yn yr awyr, fel y galwai pobl y pentref ef.
{{c|Y METHODISTIAID CALFINAIDD}}
Dywedir mai un yma ac acw ydoedd o'r Methodistiaid yn y plwyf rhwng y blynyddoedd 1790 a 1795, ac nad oeddynt ond dau neu dri ar y cryfaf. Eu harfer oedd cydgyfarfod yn nhai ei gilydd i addoli yn eu dull syml eu hun.
Tua 1794 daeth teulu gŵr o'r enw Richard Humphreys i drigiannu i Beniarth, a gogwydd cryf yn rhai ohonynt at<noinclude><references/></noinclude>
l8notka2vp6vroqp70dndxkvilbkig7
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/66
104
82987
161929
2026-04-01T18:34:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161929
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>grefydd. Ymunodd Catherine Humphreys, mam yng nghyf-raith Richard Humphreys, â'r ychydig gymdeithion a chyd-addolai â hwy, a bu'n dŵr cadarn iddynt mewn llawer cyfyng-der.
Yn ystod 1795 bu erlid yn Nyffryn Dysynni am addoli mewn tai annedd a oedd heb eu trwyddedu, a chododd Catherine Humphreys drwydded yn ddiatreg ar Dŷ-yn-y-rhos i'r Methodistiaid addoli ynddo. Er cymaint brys a wnaeth Catherine Humphreys i godi'r drwydded, llwyddodd Edward Corbet, Ynys-y-maengwyn, i weinyddu gwŷs arni cyn iddi gael ei thrwydded ei hun i'w dwylo. Ac ar y 8 o Orffennaf 1795, dygwyd hi o flaen Price Maurice ac Edward Corbet yn Ynys-y-maengwyn am iddi, ar Fehefin 20, addoli yn anghyfreithlon yn ei thŷ ei hun yn Llanegryn, a bod pump o bersonau eraill yn addoli yn yr un lle ar yr un pryd.
Cosbwyd Catherine Humphreys £20, traean o'r swm i fynd at wasanaeth y Brenin i'w defnyddio fel y mynnai, traean i dlodion Llanegryn, a'r gweddill i Thomas Pugh a Hugh Humphrey am roddi help llaw i ddal y troseddwyr.
Cosbwyd John Williams, Plasjolly, 5/- am fod yn bresennol, a Catherine Williams, ei wraig, 5/-am yr un trosedd.
Yr oedd Richard Tibbot, Llanbryn-Mair yn bresennol yn y cwrdd, ond ni chosbwyd mohono ef.
Cawn yr hanes nesaf am Fethodistiaid yr ardal gan Lewis William yn 1799. Tri yw'r nifer a dynnodd ei sylw ef, un gŵr tlawd o'r enw Edward Jones, a dwy wraig, un yn gyfoethog o'r enw Jane Humphreys, Peniarth, a'r llall yn dlawd iawn o bethau'r byd hwn, a adnabyddid wrth yr enw Beti Ifan, ond yr oedd yn gyfoethog mewn dawn a gras. Arferai'r tri gydgyfarfod i gyd-ddarllen y Beibl, cydweddïo, ac i ym-gynghori a nerthu ei gilydd. Sylwn mai enw Jane Humphreys, gwraig Peniarth, a rydd Lewis William. Nid yw ef yn cymaint ag enwi Catherine Humphreys, mam Jane Humphreys, a mwy na thebyg yw iddi hi dynnu ei chŵys i'r pen yn union wedi'r cosbi trwm a fu arni; a chofnodir yn llyfr yr eglwys am gladdedigaeth gwraig o'r un enw â hi, Tachwedd 1795. Byr<noinclude><references/></noinclude>
1a80rlzmvo8pb0orbd6uc5qh7pfsevh
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/67
104
82988
161930
2026-04-01T18:35:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161930
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fu ei dyddiau wedi llwyddo ohoni i sicrhau heddwch i'r praidd bychan i gydaddoli yn y deml yn y Rhos.
Y symudiad nesaf y cawn gyfeiriad ato yw dyfodiad Owen William i blith y Methodistiaid. Gwasanaethai ef yn ŵr ieuanc ym Mronclydwr, ac yr oedd yn hanfod o'r plwyf; o'r un gwehelyth â'r Parch. Edward Anwyl. Daeth ef i gysylltiad â Methodistiaid Llanegryn yn 1805. Cawn fod eu nifer erbyn hyn wedi cynyddu i bump, pedwar o wŷr ac un ferch ieuanc. Gosodwyd y cyfrifoldeb ar Owen William i ofalu am yr Ysgol Sul, a llanc ieuanc oedd pan wnaed ef yn arolygwr. Ceir ei hanes ef mewn man arall. Symudodd y Methodistiaid o'r Rhos i Ben-y-banc, ac addolent yn y parlwr. Y drefn oedd pregethu yn y bore, neu am ddau y prynhawn; cynhelid yr Ysgol Sul yn y prynhawn neu'r bore fel y trefnid y bregeth, a chynhelid cyfarfod gweddi'r nos. Ym Mhen-y-banc y dechreuodd Owen Williams bregethu. Tua'r pryd hwn deuai gŵr duwiol o Ddolgellau i Lanegryn i gynnal cyfarfodydd gweddi. Gŵr o'r enw Robert Griffith oedd ef, a deuai ag un neu ddau o gyfeillion gydag ef dros y Ffordd-ddu i gynnal moddion gras yn y pentref. Byddai'r bobl yn mynd a dod i mewn ac allan tra gweddïai'r cyfeillion, a gweai'r gwragedd hosanau trwy gydol y gwasanaeth.
Ychydig o weinidogion a godwyd o blith Methodistiaid Llanegryn. Dechreuodd gŵr o'r enw Edward Rees bregethu yn Llanegryn; crydd oedd ef wrth ei alwedigaeth. Ymfudodd i Ffestiniog, ac aeth oddi yno i'r America. Dechreuodd Evan Morris bregethu, priododd â gweddw a drigiannai yn Nhrychiad, a symudodd yntau i Ddolgellau. Nid arhosodd yn hir yno, oherwydd aeth gyda'r lliaws i'r America. Cyfyng oedd ei amgylchiadau, a chasglodd y Cyfarfod Misol £40 iddo.
Bu Griffith Anwyl yn pregethu yn gymeradwy gyda'r Methodistiaid. Prif gymeriad yr achos yn Llanegryn oedd John Llwyd; brodor o'r fro oedd ef, a bu'n gwasanaethu ym mhrif drefi Cymru a Lloegr yn ystod y rhan gynharaf o'i oes, a dychwelodd i gartrefu i'r pentref yn fasnachwr tua 1820. Ni bu ef yn flaenor, a hynny o'i ddewisiad ei hun, ond bu'n arweinydd i'r achos am ddegau o flynyddoedd, a dysgodd yr<noinclude><references/></noinclude>
iuvknefei32cw18p03b90uty3gifc15
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/68
104
82989
161931
2026-04-01T18:36:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161931
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>achos yn Llanegryn i sefyll ar ei sodlau ei hun, yn hytrach na gorffwys ar eglwysi'r cylch.
Daeth y Parch. W. Davies i breswylio i'r pentref tua 1859. Ni bu ef yn fugail i'r achos, ond bu'n gefn ac yn arweinydd iddynt am lawer blwyddyn. Gŵr hardd ei wedd a gwisgi ei gerddediad oedd ef, ac yn nodedig o ddoeth a chraff ei feddwl. Colled i'r achos a'r ardal oedd ei golli.
Daeth y Parch. David James yn fugail i'r eglwys yn 1897, a bugeiliodd hi yn ffyddlon am bymtheng mlynedd ar hugain yn gysylltiedig â chapel y Bwlch. Gŵr aml ei gymwynas a fu ef i'r gymdogaeth. Y mae'r achos yn bresennol yn gysylltiedig â'r Bwlch a Bryncrug ac o dan ofal y Parch. J. H. Williams.
Ystyrid hi'n eglwys urddasol bob amser.
{{c|YR EGLWYS FETHODISTAIDD}}
Dechreuodd yr achos yn yr awyr agored, a dan gysgod ceirioswydden ar fuarth Tynewydd. Daeth Mr. Griffith Jones, Llannor, ar ymweliad â'r ardal yn 1804, a chyrhaeddodd fuarth Tynewydd, a gofynnodd i'r wreigdda am ganiatâd i bregethu ac am fenthyg cadair. Effeithiodd ei bregeth yn ddwys ar y gynulleidfa. Ymhen pythefnos, meddir, ymwelodd Mr. Edward Jones, Bathafarn, â Dyffryn Dysynni ac ymwelodd â Llanegryn; pregethodd yntau dan gysgod y geirioswydden, a phenderfynodd gychwyn achos yn y pentref. Dywaid haneswyr yn unfrydol mai yn Nhynewydd y cynhelid y moddion nes adeiladu'r Capel yn 1808.
Bu gan amryw deuluoedd ran amlwg ym meithriniad y ffydd yn hanes cynnar Bethel. Cyfeiriwn yn gyntaf at deulu Tynewydd. Ni feddwn ar fawr o hanes John Thomas, ond bu ef yn gymwynaswr ffyddlon i'r achos, a chroesawai ef a'i wraig yr eglwys fechan ar eu haelwyd ar bob achlysur. Teulu anadnabyddus yw tras gwraig Griffith Anwyl. Cartrefai gyda'i hewythr a'i modryb, ffyddloniaid yr achos, a byddai'r achos yn ôl tystiolaeth Griffith Anwyl ei hun yn fynych yn ymgynnull ar eu haelwyd hwy ogystal ag yn Nhynewydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fb3c9e8clkccqwhlyfemm7021p7mkpi
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/69
104
82990
161932
2026-04-01T18:36:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Bu gan deulu Pen-y-wern law amlwg yng nghychwyniad yr achos. Yr oedd Lewis Jones a'i chwaer, Anne Lewis, yn yr oedfa gyntaf a gynhaliwyd ym muarth Tynewydd, a gwasanaethodd Lewis Jones yn flaenor yn Llanegryn, ac yn bregethwr cynorthwyol am oddeutu pedair blynedd; a galwyd ef i'r gwaith teithiol yn 1810. Gwasanaethodd yn Neau a Gogledd Cymru, a bu llwyddiant ar ei weinidogaeth. Y mae ei fedd ar lan afon Dyfrdwy yn Llangollen. Mab i'r P...
161932
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bu gan deulu Pen-y-wern law amlwg yng nghychwyniad yr achos. Yr oedd Lewis Jones a'i chwaer, Anne Lewis, yn yr oedfa gyntaf a gynhaliwyd ym muarth Tynewydd, a gwasanaethodd Lewis Jones yn flaenor yn Llanegryn, ac yn bregethwr cynorthwyol am oddeutu pedair blynedd; a galwyd ef i'r gwaith teithiol yn 1810. Gwasanaethodd yn Neau a Gogledd Cymru, a bu llwyddiant ar ei weinidogaeth. Y mae ei fedd ar lan afon Dyfrdwy yn Llangollen. Mab i'r Parch. Lewis Jones oedd y Parch. John Spencer Jones a enillodd safle uchel ymhlith y Saeson. Cyfrannodd teulu Pen-y-wern yn helaeth at lwyddiant yr achos.
Daw teulu Tyn-llan i'n sylw yn gynnar, aelwyd Edward, Cati, a Griffith Anwyl; plant oeddynt i Owen ac Anne Anwyl. Ganed Edward yn 1786, a honnir ei fod yn llanc nwyfus ac yn llawn direidi. Edrychai ymlaen am yr Wyl Mabsant, a chyfrifid ef yn un o'i phrif gampwyr; a hoffai ddilyn nosweithiau llawen, a'r mabol-gampau fel un â greddf chwarae ynddo. Yr oedd yn llanc tal ac esgyrnog, ac yn nodedig am ysgafnder a chwimder ei droed. Yr oedd yn gerddwr cyflym a diflino; cerddai dros drigain milltir mewn diwrnod; ac nid ef yn unig a wnâi y gamp honno yn Llanegryn. Dysgai gyda'r gorau yn yr ysgol, a rhagorai ar yr efrydwyr mewn rhifyddiaeth a Lladin. Cyflwynodd ei hun i'r eglwys yn oedfa'r Parch. Robert Humphreys, yn ŵr ieuanc 20 mlwydd oed, a gwelwyd ar unwaith mai dyn at wasanaeth crefydd oedd y llanc o Dyn-y-llan. Traddododd ei bregeth gyntaf yn Abergynolwyn, Ionawr 1808. Llafur caled a gweithredoedd da oedd y cyfryngau a ddewisodd y Parch. Edward Anwyl i wasanaethu ei enwad a'i genedl trwyddynt. Dengys ei gamre yn ystod ei flwyddyn gyntaf y mynd diorffwys a fu arno trwy gydol ei fywyd. Dywedir bod ei bersonoliaeth yn gyfuniad o awdurdod a hawddgarwch. Gallai fod yn naturiol addfwyn, a medrai daro'n galed os gelwid am hynny. Bu farw yn Nhreffynnon, 23, Ionawr 1857.
Dywedir am Griffith Anwyl ei fod yn ŵr cywir, yn wladwr da, ac yn gymydog caredig a ffyddlon. Meddai ar air da i<noinclude></noinclude>
qb4k8pfist72cx0w7t5b8yo03s3re6v
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/70
104
82991
161933
2026-04-01T18:38:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "bawb, ac yr oedd yn onest a dihoced. Bu'n ymroddgar gyda phob dyletswydd ymhlith eglwysi'r Gylchdaith a phregethai athrawiaethau ei enwad yn ddifloesgni. Ond rywfodd ni weithiodd popeth yn esmwyth yn ei hanes, a'r diwedd fu iddo ymaelodi â'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw yn Aberdyfi yn 1865. Bu gan deulu Llwyn-y-fynwent ran nodedig yng nghychwyniad yr achos yn Llanegryn. Yr oedd Humphrey Evans yn un o ddychweledigion oedfa'r geir...
161933
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bawb, ac yr oedd yn onest a dihoced. Bu'n ymroddgar gyda phob dyletswydd ymhlith eglwysi'r Gylchdaith a phregethai athrawiaethau ei enwad yn ddifloesgni. Ond rywfodd ni weithiodd popeth yn esmwyth yn ei hanes, a'r diwedd fu iddo ymaelodi â'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw yn Aberdyfi yn 1865.
Bu gan deulu Llwyn-y-fynwent ran nodedig yng nghychwyniad yr achos yn Llanegryn. Yr oedd Humphrey Evans yn un o ddychweledigion oedfa'r geirioswydden ym muarth Tynewydd; teimlodd effeithiau'r bregeth ar hyd ei oes. Gallasai adrodd profiad a gafodd Pantycelyn wedi iddo wrando ar Hywel Harris:—
{{center block|
<poem>
"Daliwyd fi gan wŷs oddi uchod
Gan ei sŵn dychrynllyd ef."
</poem>
}}
<br>
Magodd Humphrey a Catherine Evans dyaid o blant, a phlannwyd yr had yn ddwfn yn eu calonnau, a deil i dyfu'n amlwg yn eu gwehelyth byth er hynny.
Daw teulu William Williams i amlygrwydd yn hanes yr achos. Daeth ef a'i wraig i Lanegryn o Fachynlleth yn 1818, a bu'r ddau yn gaffaeliad i'r achos trwy eu sêl a'u gweithgarwch diorffwys. Yr oedd eu mab, Lewis Williams, yn hogyn o wyth i naw mlwydd oed pan ddaeth gyda'i rieni i Lanegryn. Bu gyda John Evans yn ysgol Llanegryn am chwech neu saith mlynedd. Gafaelodd awydd ynddo am bregethu yn gynnar yn ei fywyd, a rhoes oes o wasanaeth i'w enwad fel gweinidog ffyddlon. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac ymwnâi ryw gymaint â barddoniaeth o dan yr enw Lewys Egryn, a chyhoeddodd lyfryn yn 1846 yn dwyn y teitl Diferion y Beirdd. Bu farw yng Nghasnewydd, 29, Awst 1886. Cyfrifid ei frawd, Richard Williams, yn un o fechgyn hawddgaraf y pentref, a bu'n bregethwr cynorthwyol cymeradwy; cerddai cyn belled â Dinas Mawddwy mewn gwendid a lludded i draddodi'r Efengyl a garai mor fawr. Bu farw 16, Ionawr 1849, yn 29 mlwydd oed.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
bj6lhlxkpix9owz98drr16qu996vm8r
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/71
104
82992
161934
2026-04-01T18:39:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Magwyd tri o feibion glewion yn Nhyddyn-bach, plant Lewis a Catherine Jones. Aeth John Jones yn gynnar at y Bedyddwyr, a rhoddwyd gair uchel i'w ddoniau a'i gymeriad fel gweinidog. Trodd Lewis Jones at yr Annibynwyr; ond arhosodd y Parch. David Jones yn ffyddlon yn ei enwad, a bu'n efrydydd yng Ngholeg Richmond am dair blynedd. Ond oherwydd gwendid corff bu'n rhaid iddo ildio a mynd yn Uwchrif yn 1860. Etifeddodd yn helaeth y rhinwedda...
161934
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Magwyd tri o feibion glewion yn Nhyddyn-bach, plant Lewis a Catherine Jones. Aeth John Jones yn gynnar at y Bedyddwyr, a rhoddwyd gair uchel i'w ddoniau a'i gymeriad fel gweinidog. Trodd Lewis Jones at yr Annibynwyr; ond arhosodd y Parch. David Jones yn ffyddlon yn ei enwad, a bu'n efrydydd yng Ngholeg Richmond am dair blynedd. Ond oherwydd gwendid corff bu'n rhaid iddo ildio a mynd yn Uwchrif yn 1860. Etifeddodd yn helaeth y rhinweddau Cristnogol, mwyneidd-dra a thawelwch ysbryd. Gorffennodd ei yrfa yn Aberhonddu, 12, Medi 1861, yn 38 mlwydd oed.
Gweinidogion eraill a aned yn Llanegryn oedd y Parchedigion John Evans, Eglwys-fach, Ceredigion; a Robert Jones; deilliai ef o deulu Rhydcryw.
Pregethwyr cynorthwyol oedd John Ellis, a Lewis Jones, brawd Humphrey Jones, y pregethwr.
Un o saint y ddaear oedd Humphrey Griffith. Bu wrthi'n ddiwyd yn ei ddiwyllio ei hun mewn dysg a gras. Meddai serch at bregethu'r Efengyl; hoffai ei phregethu hyd yn oed i anifeiliaid y maes. Carai'n fwy na dim bregethu'r Efengyl drwy ei byw yn ei gymeriad ef ei hun.
Gwinllan gynhyrchiol fu Bethel.
{{c|LLYFRAU}}
* Archaelogia Cambrensis. 1945.
* [[Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau|Cadwaladr Jones, Dolgellau.]] Dan Olygiaeth R. Thomas, Bangor. Lerpwl, 1870.
* Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf, III, rhifynnau 1, 2, 3, a 4.
* Dogfennau Peniarth.
* Harlech Studies. Cardiff, 1938.
* James, Spinther: Hanes y Bedyddwyr. Caerfyrddin, 1896-1907.
* Jenkins, R. T.: Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchlyn. Bala, 1937.
* Jones, Hugh: Hanes y Wesleyaid Cymreig. Cyf I. Bangor, 1911.
* Jones, Richard: Crynwyr Bore Cymru. Abermaw, 1931.
* Llawysgrif David Lloyd, Pant. Hanes Annibynwyr Llanegryn.
* Llyfr Festri Llanegryn. 1735-1783.
* Llyfrau Eglwys Llanegryn.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
ecw0iru1yg4yldjae5mu3an7543p799
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/72
104
82993
161935
2026-04-01T18:39:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "* Owen, Robert: [[Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I|Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd, Cyf. 1.]] Dolgellau, 1889. * Palmer, A. N.: History of the Old Nonconformity of Wrexham and Neighbourhood. Wrexham, 1888. * Pryce, A. Ivor: The Diocese of Bangor in the Sixteenth Century. Bangor, 1923. * Pryce, A. Ivor: The Diocese of Bangor During Three Centuries. Caerdydd, 1929. * Rees, Thomas a John Thomas: Hanes Eglwysi A...
161935
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>* Owen, Robert: [[Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I|Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd, Cyf. 1.]] Dolgellau, 1889.
* Palmer, A. N.: History of the Old Nonconformity of Wrexham and Neighbourhood. Wrexham, 1888.
* Pryce, A. Ivor: The Diocese of Bangor in the Sixteenth Century. Bangor, 1923.
* Pryce, A. Ivor: The Diocese of Bangor During Three Centuries. Caerdydd, 1929.
* Rees, Thomas a John Thomas: [[Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanegryn|Hanes Eglwysi Annibynol Cymru.]] 1871-1875.
* Richards, Thomas: Wales under the Indulgence. National Eisteddfod Association, 1928.
* Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.
* Y Cymmrodor, XX, ii, 96.
* Yr Annibynwr. 1862.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
20egqh1fa7d0il47u6bsbprs55l3y2e
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/73
104
82994
161936
2026-04-01T18:39:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD IV}}<br>Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddolau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.}} {{c|Y PENTREF}} YCHYDIG a wyddom am hanes cychwyn y pentref, ond y mae hanes tebyg i bentref Llanegryn ag sydd i bob pentref gwledig a hynafol yng Nghymru. Y trefydd oedd sylfaen y bywyd Cymreig ar y cyntaf; daliai pob gŵr rhydd ei dyddyn ei hun, ar bwys ei waedolaeth, a bywyd annibynnol oedd n...
161936
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IV}}<br>Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddolau Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.}}
{{c|Y PENTREF}}
YCHYDIG a wyddom am hanes cychwyn y pentref, ond y mae hanes tebyg i bentref Llanegryn ag sydd i bob pentref gwledig a hynafol yng Nghymru.
Y trefydd oedd sylfaen y bywyd Cymreig ar y cyntaf; daliai pob gŵr rhydd ei dyddyn ei hun, ar bwys ei waedolaeth, a bywyd annibynnol oedd nodwedd cymeriad y trefydd rhydd. Yr oedd math arall o drefydd, sef y faerdref, a'r dref gaeth, a nodweddid hwy gan fath o fywyd cymdeithasol. Cartrefent gyda'i gilydd gan gydweithio i'w pennaeth; gweithient yn y felin a'r cilyn, ac yr oeddynt yn gaeth i'w trefydd. Carai'r penaethiaid Cymreig i'r caethion hyn fyw encyd go helaeth oddi wrth eu trigfan hwy, a thrigent ar y pen pellaf i'r dref gyda'i gilydd, ac felly y gelwid trigfan y caethion yn bentref.
Hen enw Tynewydd oedd y Felindre, a thrigiennid ym Mhentre-ciln yn gymharol ddiweddar yn hanes y pentref. Y Felindre a Phentre-ciln oedd cychwyn y pentref.
Bu dwy dreflan yn nhref Peniarth, sef y Llwyn a Phentre-uchaf, a cheid dwy dreflan hefyd yn nhref Rhydcryw, sef Cefn-coch a Phentre-isaf fel y'i gelwid gynt. Yr oedd ar un adeg ddeuddeg o dai annedd yng nghymdogaeth Cefn-coch, a deg ym Mhentre-uchaf.
Y cyfeiriad cynharaf a welsom at bentref Llanegryn oedd am y flwyddyn 1627, pryd y bu helynt flin rhwng nifer o ddynion a ymgynullodd i'r pentref. Gallwn felly gymryd yn ganiataol ei fod yn bodoli mewn ystyr ddiweddar flynydd-oedd lawer cyn hynny.
Pa bryd y codwyd yr efail ym Mhencraig, y dafarn ym Mhen-y-banc, y barcty ym Mhenpompren, a'r bracty wrth
Adeiladwyd y tŷ helaeth a elwir heddiw'n Llwyn-teg gan Hugh Jones, Clos-bach. Atgyweiriwyd a helaethwyd y lle gan Richard Lewis, a bu'n cadw masnach helaeth ynddo, a gelwid y lle Yr Hen-siop.
Safai Brynbloeddyn ar yr ochr uchaf i'r Exchange, a bu'n dafarn ac yn dŷ busnes. Cedwid y Festri yno, a galwai'r meddygon a goruchwylwyr y tlodion yno hefyd i wneuthur eu dyletswyddau. Adeiladodd Ellis Edwards yn y flwyddyn 1843, siop yn uwch i fyny, ac ar yr un ochr. Nid oedd yr un tŷ wedi ei godi rhwng Islwyn a Phen-y-banc ar ddechrau 1800. Adeiladodd Hugh Jones, Trychiadisaf, y rhes-dai o Siop-isaf at yr adwy sy'n mynd i gefn y tai, a hynny yn 1815.<noinclude></noinclude>
qb5iqpinur57j5vra8l558tu8dud0dw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/74
104
82995
161937
2026-04-01T18:40:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Dynewydd? Methasom â chael hyd i ddim dyddiad ynglŷn â hwynt. Y maent yn hen ond ni wyddom pa mor hen. Yr oedd llannerch yn y plwyf a elwid yn Llanegryn, ac y mae'n sicr mai cymdogaeth y pentref oedd hi. Gelwid Melin y Tywysogion yn Felin Llanegryn, a gelwid maerdref llys Tal-y-bont yn faerdref Llanegryn, a dywedid bod Gwely Dafydd Goch yn Llanegryn. Cychwynnwyd y pentref yn gynnar ym Mhentre-draw a'r Rhos, ac oddeutu'r Felindre. N...
161937
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dynewydd? Methasom â chael hyd i ddim dyddiad ynglŷn â hwynt. Y maent yn hen ond ni wyddom pa mor hen.
Yr oedd llannerch yn y plwyf a elwid yn Llanegryn, ac y mae'n sicr mai cymdogaeth y pentref oedd hi. Gelwid Melin y Tywysogion yn Felin Llanegryn, a gelwid maerdref llys Tal-y-bont yn faerdref Llanegryn, a dywedid bod Gwely Dafydd Goch yn Llanegryn.
Cychwynnwyd y pentref yn gynnar ym Mhentre-draw a'r Rhos, ac oddeutu'r Felindre. Ni ddigwyddodd inni daro ar yr un weithred ynglŷn â thai Pentre-draw a'r Rhos ynghynt na'r flwyddyn 1703. A'r pryd hwnnw yr oedd y tai ym meddiant Martha Owen, Bronclydwr, a'i phedair merch.
Daeth y darn tir a elwid yn Gae-yn-y-pentref i feddiant Edward Williams, perchennog ystâd Peniarth, yn y flwyddyn 1760. Perthynai i'r darn tir dŷ trigiannol a elwid yn Dŷ-yn-y-pentref. Yr oedd yn dyddyn bychan ac yn meddu ar adeiladau allanol, yr oedd hefyd yn fath o dŷ busnes. Perthynai ar y cyntaf i ystâd Waun-fach, a chyfnewidiwyd ef am ddarn o gae Lluman a berthynai i ystâd Peniarth yr adeg honno.
Adeiladodd Edward Williams dŷ newydd arno gan ei alw yn ''Exchange'', a throsglwyddodd ef yn eiddo i'w deulu ef ei hun a breswyliai yng Nghaer. Bu busnes Llanegryn yn cael ei ddwyn ymlaen am ugeiniau o flynyddoedd yn y faelfa hon.<noinclude></noinclude>
dl2ls6jwt5sd3uj22yml5hb7433a020
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/75
104
82996
161938
2026-04-01T18:41:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Bu'r anturiaeth yn ormod coflaid i Hugh Jones, a gwerthodd hwy i Beniarth. Yn fuan wedyn adeiladwyd tafarn ar ystlys Penpompren a elwid yn Blasnewydd neu'n ''White Horse''. Clywsom mai Thomas Rowland, Cwm-ŷch, oedd ei pherchennog, ac mai ef ei hun a fu'n denant y tŷ ar y cyntaf. Yr oedd yn fardd gwlad da. Ysgrifennai ei farddoniaeth ar lechau, a daeth â llwyth cert o'r llechau barddonol gydag ef i'r dafarn newydd. Codwyd y pedwar t...
161938
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bu'r anturiaeth yn ormod coflaid i Hugh Jones, a gwerthodd hwy i Beniarth.
Yn fuan wedyn adeiladwyd tafarn ar ystlys Penpompren a elwid yn Blasnewydd neu'n ''White Horse''. Clywsom mai Thomas Rowland, Cwm-ŷch, oedd ei pherchennog, ac mai ef ei hun a fu'n denant y tŷ ar y cyntaf. Yr oedd yn fardd gwlad da. Ysgrifennai ei farddoniaeth ar lechau, a daeth â llwyth cert o'r llechau barddonol gydag ef i'r dafarn newydd.
Codwyd y pedwar tŷ a saif dan Ben-y-banc gan David Roberts, saer, Brynbloeddyn. Ar ystlys isaf y tai hyn adeiladodd fferyllydd o'r enw Hugh Pugh siop hardd a hylaw; dinistrwyd hi drwy dân yn 1902. Gŵr diwylliedig oedd Hugh Pugh, a ffyddlon i'w egwyddorion.
Adeiladwyd pedwar o dai yn y Talwrn gan William Vincent, saer coed wrth ei alwedigaeth, a drodd ei wyneb yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf am yr America.
Aeth dau o dai Pentre-draw i feddiant Thomas Pugh, tafarnwr, Abergynolwyn, a chedwid tafarn yn un ohonynt a elwid yn ''Raven''. Ail-adeiladwyd y tai presennol gan un o'i deulu.
Aeth tri o'r tai ar yr ochr arall i'r ffordd i feddiant W. R. M. Wynne yn 1882, ac adeiladodd bedwar o dai newydd ar eu sylfeini.
Adeiladwyd Glanrafon gan deulu Cemaes.
Codwyd dau dŷ Waterloo gan seiri coed Llwynhensel. Adeiladwyd Siop-isaf tua 1825 gan John Llwyd. Ail-adeiladodd ystâd Peniarth dai Glan-dŵr a Thop-y-pentref tua'r flwyddyn 1870. Ail-adeiladwyd y tri thŷ oddi ar y Neuadd ychydig yn ddiweddarach gan ystâd Peniarth.
Yr oedd y ddau dŷ y tu isaf i'r bont yn rhan o'r Bracty. Ail-wnaed un gan Dafydd Pugh, a'r llall gan Beniarth.
Cafwyd cyflenwad o ddŵr glân at wasanaeth y pentref, yn 1915. Daw o ffridd Tyddyn-padrig.
Gwnaed llawer o welliannau ar y pentref o dro i dro.
Yn gymharol ddiweddar gwnaed gwelliannau gan Mr. W. Aled Williams a Mr. R. J. Roberts, ac adeiladwyd Maesgwyn gan Mr. R. W. Pugh yn 1936.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
e52m3e49aaoqk6wnzbylrlvrrout9yx
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/76
104
82997
161939
2026-04-01T18:41:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Adeiladodd Cyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau wyth o dai yn 1939; ac wyth arall yn 1947. {{c|SIOPWYR}} Casglwyd y rhestr o lyfrau'r Eglwys, a gwahanol ddogfennau perthynol i'r plwyf. * 1675—Henry Parry, Groser, Hen-siop. * 1735—John Morris, Gwerthu pabwyr, bara gwyn a hoelion. * 1760—Owen a Hugh Pugh, Tenantiaid cyntaf "''Exchange."'' * 1761—C. Blore, Gwerthwr baco a snisin. * 1776—Hugh Vaughan, Siopwr. * 1776—Francis Davies, P...
161939
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Adeiladodd Cyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau wyth o dai yn 1939; ac wyth arall yn 1947.
{{c|SIOPWYR}}
Casglwyd y rhestr o lyfrau'r Eglwys, a gwahanol ddogfennau perthynol i'r plwyf.
* 1675—Henry Parry, Groser, Hen-siop.
* 1735—John Morris, Gwerthu pabwyr, bara gwyn a hoelion.
* 1760—Owen a Hugh Pugh, Tenantiaid cyntaf "''Exchange."''
* 1761—C. Blore, Gwerthwr baco a snisin.
* 1776—Hugh Vaughan, Siopwr.
* 1776—Francis Davies, Pysgodwr.
* 1798—Edward Richard, Siopwr.
* 1830—James Roberts, Gwerthwr potiau pridd.
* 1833—John Griffith, Gwneuthurwr tyniau.
* 1833—Wm. Knight, Masnachwr gwinoedd.
* 1835—Edward Williams, Cigydd.
* 1842—Moses Evans, Gwneuthurwr tyniau.
* 1845—Richard Davies, Mân-werthwr.
* 1845—Evan Rowland, Cigydd.
* 1845—John Richard, Masnachwr.
* 1852—Evan Davies, Masnachwr blawd.
Cyflogai John Llwyd amryw ddynion i werthu hetiau a boneti. Ymwelent â ffeiriau a marchnadoedd Meirionnydd, Ceredigion, Maldwyn, Caernarfon, a threfi'r gororau, Amwythig a Chroesoswallt. Ei brif weithwyr oedd William Vincent, William Joseph ac Evan Joseph.
Dywedir bod nwyddau tramor yn dyfod i'r pentref o flaen odid i le ym Meirion. Deuai Hugh Vaughan â nwyddau tramor i'w siop pan ddychwelai adref o'i fordeithiau. Gwerthid nwyddau tramor yn yr Exchange, a deuai mân siopwyr o gylch eang i Lanegryn i brynu nwyddau i'w hail-werthu.
Gwyddai uchelwyr Llanegryn am faco cyn gynhared â'r flwyddyn 1687. Hawliai hen ferch o'r enw Elisabeth Lloyd ddigon o faco da oddi ar ei hymddiriedolwyr yn y flwyddyn honno.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
mgu6h6e6uu8bzst57k91puh9n56drmh
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/77
104
82998
161940
2026-04-01T18:42:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Derbyniai E. Pugh a C. Blore faco a snisin o Gaernarfon yn 1761. Derbyniodd E. Pugh ar un tro "22 li Wt Tobacco in a paper parcell; 51 li Pigtail Tobo in 5 Rolls, 22 li Snuff in a box; 6 li, 6 oz of Do in Bladder;" a chafodd C. Blore "7 li Wt Shag Tobacco in a paper parcell; 19 li Pigtail in 2 Rolls; 11 li Snuff in a Bladder." Yr oedd Dafydd Arthur, y Moelmon, yn feddiannol ar ddeuddeg rhol o faco yn 1762. Daeth te i Beniarthuchaf...
161940
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Derbyniai E. Pugh a C. Blore faco a snisin o Gaernarfon yn 1761. Derbyniodd E. Pugh ar un tro "22 li Wt Tobacco in a paper parcell; 51 li Pigtail Tobo in 5 Rolls, 22 li Snuff in a box; 6 li, 6 oz of Do in Bladder;" a chafodd C. Blore "7 li Wt Shag Tobacco in a paper parcell; 19 li Pigtail in 2 Rolls; 11 li Snuff in a Bladder."
Yr oedd Dafydd Arthur, y Moelmon, yn feddiannol ar ddeuddeg rhol o faco yn 1762.
Daeth te i Beniarthuchaf yn 1700 o Lundain, a dywedir yn hen lyfr Rhyfeddodau y Byd Mawr a gyhoeddwyd yn Nolgellau yn 1827, mai dyma'r pwys o de cyntaf a wyddys a ddaeth i Gymru.
Deuid o bentrefi'r cylch i brynu at John Lloyd; gwerthai ef haearn, celfi, dillad, bwydydd, olew a phob math o nwyddau fferyllol. Cerddai John Llwyd i ffeiriau'r gororau i brynu ei nwyddau. Daliodd y siop hon yn boblogaidd pan oedd yn nwylo William Davies, a digiodd llawer o amaethwyr Dyffryn Dysynni wrtho am iddo ddechrau gwerthu blawd gwyn i weithwyr Llanegryn. Amheuthun i'r gweithwyr oedd cael torth o beilliaid gwyn ar eu bord.
{{c|TAFARNDAI}}
Bu llawer o dafarndai yn y plwyf o dro i dro ar hyd y canrifoedd. Yr oedd yma fath o dafarn mor gynnar â'r flwyddyn 1326, oherwydd ceir hanes am un o'r enw Dafydd y crydd yn y flwyddyn hon yn cael ei gosbi am gadw tafarn heb drwydded yn nhref Rhydcryw. Y gosb oedd 2/-.
Cedwid tafarn yn Nhynewydd, a pherthynai iddi fracty helaeth, a ddeil yn gadarn ar ei sylfeini hyd heddiw. Ni wyddom pa mor gynnar y cedwid tafarn yn Nhynewydd; yr oedd tafarn yno yn y flwyddyn 1764.
Yr oedd Richard Anthony yn fragwr wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn dafarnwr yn Nhynewydd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Bu ef yn ŵr bywiog ym mywyd y pentref. Gwneid busnes prysur yn y bracty a oedd ar fin y pentref; prynid holl haidd y wlad at ei alwad. Byddai uchelwyr yr<noinclude></noinclude>
3gvcxchq0s5x5lm695jyi972mi4pyco
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/78
104
82999
161941
2026-04-01T18:42:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ardal yn cydgyfarfod â'i gilydd yn y dafarn hon i ddawnsio ac yfed. Gelwid hi yn "Peniarth Arms." Yr oedd Pen-y-banc yn dafarn yn bur gynnar, oherwydd adeiladwyd y lle i'r amcan hwnnw. Ceir seler eang a ffynnon ynddi o dan y tŷ. Dywedir bod Twm o'r Nant wedi bod yn chwarae ei Anterliwdiau yma un tro. Bu amryw yn cadw siop yma o dro i dro, a gweithiai crefftwyr yr ardal yn yr adeiladau. Perthynai bracty i'r dafarn. Gwraig weddw o'r en...
161941
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ardal yn cydgyfarfod â'i gilydd yn y dafarn hon i ddawnsio ac yfed. Gelwid hi yn "Peniarth Arms."
Yr oedd Pen-y-banc yn dafarn yn bur gynnar, oherwydd adeiladwyd y lle i'r amcan hwnnw. Ceir seler eang a ffynnon ynddi o dan y tŷ. Dywedir bod Twm o'r Nant wedi bod yn chwarae ei Anterliwdiau yma un tro. Bu amryw yn cadw siop yma o dro i dro, a gweithiai crefftwyr yr ardal yn yr adeiladau. Perthynai bracty i'r dafarn. Gwraig weddw o'r enw Margaret Owen a'i cadwai ddiwethaf, a hynny tua'r flwyddyn 1860.
Yr oedd tafarn ar ystâd Peniarth-ganol yn y flwyddyn 1711, a gelwid hi yn ''Red Lion''.
Bu Tyn-y-llan yn westy. Ail-adeiladwyd y gwesty hwn yn 1735 gan Lady Jane Bulkeley, gwraig Viscount Richard Bulkeley, Peniarth. Yr adeg honno perthynai teulu Peniarth i blaid y Jacobiaid a oedd yn ffynnu'n gryf ymhlith pendefigion gogledd Cymru. Cerfiwyd arwydd y Jacobiaid ar faen a gosodwyd ef ym mur un o ystafelloedd gwesty newydd Tyn-y-llan, a chydgyfarfyddai'r Jacobiaid yn yr ystafell ar Sul a gŵyl i yfed iechyd da i'r Brenin dros y dŵr ac i ddymuno ei lwyddiant, a gwnaent y seremoni drwy yfed mewn gwydrau arbennig dros lestr o ddŵr. Y mae'r arwydd wedi ei diogelu, a saif yn y mur uwchben y tân yn y gegin.
Tafarn fywiog oedd Brynbloeddyn ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Mewn cyfnod diweddar cynhelid y Festri yn y gwesty hwn, a gedwid gan Richard Roberts.
Bu Plasnewydd yn dafarn a gelwid hi yn ''White Horse''. Meddai ystablau eang.
Ym Mhentredraw y bu tafarn a elwid ''Raven'', a chedwid hi gan un o'r enw Hugh Jones yn 1865.
Tafarn fywiog oedd Tyn-y-pwll.
Bu ar y Ffordd-ddu dafarnau yn Nhan-y-bwlch a Thy-celyn yn Ffridd Blaen-y-cwm.
Y dafarn olaf a fu yn y plwyf oedd Cefn-coch.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
l3l780il4kyzrf7uuh88h6bo7z876k7
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/79
104
83000
161942
2026-04-01T18:43:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|HEN YSGOL LLANEGRYN.}} Adroddir yr awyddai Hugh Owen, Tal-y-bont, ar hyd ei oes am godi ysgol i gyfrannu addysg i'w berthynasau a'i gymdogion. Yr oedd yn ddolur calon iddo weled Meirion heb ysgolion i ddiwyllio meddyliau a chymeriadau ei meibion a'i merched, a threfnodd fod ysgol i'w sefydlu yng nghwmwd Tal-y-bont yn ddiatreg wedi dydd ei farwolaeth. Y mae ei ewyllys wedi ei dyddio 18, Gorffennaf 1650, a threfnodd ynddi fod £400 i...
161942
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|HEN YSGOL LLANEGRYN.}}
Adroddir yr awyddai Hugh Owen, Tal-y-bont, ar hyd ei oes am godi ysgol i gyfrannu addysg i'w berthynasau a'i gymdogion. Yr oedd yn ddolur calon iddo weled Meirion heb ysgolion i ddiwyllio meddyliau a chymeriadau ei meibion a'i merched, a threfnodd fod ysgol i'w sefydlu yng nghwmwd Tal-y-bont yn ddiatreg wedi dydd ei farwolaeth. Y mae ei ewyllys wedi ei dyddio 18, Gorffennaf 1650, a threfnodd ynddi fod £400 i fynd tuag at sefydlu ysgol rydd am byth i blant plwyf Llanegryn a chwmwd Tal-y-bont. Yr oedd yr athro i fod yn ŵr gradd o un o'r Prifysgolion, ac yn gymwys i ddysgu Groeg a Lladin. Ymddiriedolwyr yr ysgol oedd ei nai Lewis Owen, Peniarth, y Parch. Robert Owen, rheithor Llangelynnin, a Dr. John Ellis, rheithor Dolgellau.
Gwelodd Gruffydd Owen, Peniarthuchaf, fod yn anodd i blant gweithwyr yr ardal fanteisio'n fawr ar y cwrs addysg glasurol a drefnodd ei ewythr Hugh Owen, ac yn ei ewyllys, sydd wedi ei dyddio 3, Chwefror 1668, gedy yntau £400 i waddoli addysg a chrefft a oedd yn taro anghenion plant gweithwyr y plwyf.
Trefnodd fod traean o log yr arian i fynd at gyflog athro i hyfforddi'r plant i ysgrifennu, ac i bwrcasu papur ac inc at eu gwasanaeth. Bwriadodd i'r ail ran o'r llog fynd at brentisio plant tlodion yr ysgol i ddysgu crefftau, ac âi'r drydedd ran o'r llog at egwyddori'r plant yn "Egwyddorion Cristnogaeth" yn eglwys Llanegryn.
Dywedir bod adeilad yr hen ysgol yn un helaeth, yn chwe duad o hyd, ac yn meddu ar un ar ddeg o ffenestri mawr, chwech ar yr ochr ddeau, a phump ar du'r gogledd. Adeiladwyd tŷ'r athro ar dalcen dwyreiniol yr ysgol.
Dywaid traddodiad i un o esgobion Iwerddon gael ei addysg yn Llanegryn; gwelir cyfeiriad at y traddodiad yn y Charity Commission Report, 1897, ac yma hefyd y derbyniodd y Deon Tucker o Gaerloyw gwrs cyntaf ei addysg yn ôl un awdur. Cyfeiria Richard Fenton at hyn yn ei Tours in Wales 1804-1813. Y mae'n wybyddus i Ellis Wynne o Lasynys<noinclude></noinclude>
1jxgx5tct3bieop33z0l8bxb6voraij
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/80
104
83001
161943
2026-04-01T18:43:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "dynnu ei fab William Wynne o Ysgol Caer a oedd yng ngofal Dr. Henchman, a'i symud i ysgol Llanegryn, ac ohoni hi aeth i Goleg yr Iesu yn Rhydychen. I Lanegryn yr anfonwyd y Parch. John Thomas am ei gwrs addysg, o gyn belled ffordd ag Ynyscynhaearn yn Eifionydd. Bu ef yn brif athro ysgol Biwmaris, ac ef oedd awdur ''History of Anglesey.'' Yr oedd yr hen ysgol a thŷ'r athro wedi dadfeilio'n fawr erbyn 1845, a daeth codi ysgol a thŷ new...
161943
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dynnu ei fab William Wynne o Ysgol Caer a oedd yng ngofal Dr. Henchman, a'i symud i ysgol Llanegryn, ac ohoni hi aeth i Goleg yr Iesu yn Rhydychen. I Lanegryn yr anfonwyd y Parch. John Thomas am ei gwrs addysg, o gyn belled ffordd ag Ynyscynhaearn yn Eifionydd. Bu ef yn brif athro ysgol Biwmaris, ac ef oedd awdur ''History of Anglesey.''
Yr oedd yr hen ysgol a thŷ'r athro wedi dadfeilio'n fawr erbyn 1845, a daeth codi ysgol a thŷ newydd yn faterion pwysig i'r Ymddiriedolwyr. Aed ati ar unwaith i adeiladu ysgol newydd, ac ail-agorwyd hi yn nechrau'r flwyddyn 1847, a chodwyd tŷ i'r athro'n fuan ar ôl codi'r ysgol. Mynychid yr ysgol newydd gan yn agos i gant o blant, a deuent o dri phlwyf, Llanegryn, Celynnin, a Llanfihangel-y-pennant.
{{c|RHESTR O'R YSGOLFEISTRI}}
1659—WILLIAM BAYLEY, neu Bailey: Ef oedd yr athro cyntaf a fu ar yr ysgol. Apwyntiwyd ef yn glerigwr y plwyf flwyddyn yn flaenorol.
1671—Penodwyd athro yn y flwyddyn hon, ond y mae ei enw ar goll.
1680—OWEN JONES, B.A.: Addysgwyd ef yng Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt. Dewiswyd ef gan Lewis Owen, Peniarth.
1688—NATHANIEL HUMPHREYS, M.A.: Penodwyd ef yn athro gan Richard Owen, Peniarth; y Parch. Maurice Jones, rheithor Dolgellau; a'r Parch. Edward Morgan, rheithor Llangelynnin. Priododd Jane, ferch y Parch. Edward Morgan, rheithor Llangelynnin.
1712—WILLIAM DAVIES, B.A.: Dewiswyd ef gan Richard Owen, Peniarth; Parch. Maurice Jones, rheithor Dolgellau; a Rice Pierce, curad Llangelynnin.
1717—JOHN EDWARD: Yr oedd yn athro yn y flwyddyn hon, pan dynnodd Ellis Wynne ei fab William o ysgol Ramadeg Caer, a'i anfon i ysgol Llanegryn.
1728—OWEN OWENS:
1732—THOMAS JONES: Athro ac Offeiriad. Dewiswyd ef yn athro'r tro cyntaf 5, Awst 1732.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
o3ecr056wlwoh7mc5hvd6uw07tf6rp6
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/81
104
83002
161944
2026-04-01T18:44:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "1738-ELLIS HUGHES, B.A.: Mab oedd i Rice Hughes, Pennal. Hanai o deulu Erwfaethlon, Tywyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. 1755—THOMAS JONES: Bu'n athro ddwywaith. Yr oedd hefyd yn gurad Talyllyn, Meirion. Cwynir yn y flwyddyn 1776 bod yr ysgol wedi dirywio'n fawr o dan ei ofal. 1777—RICHARD THOMAS: Brawd y Parch. John Thomas, M.A., athro Ysgol Ramadeg, Biwmaris. 1782—RICHARD PUGHE, B.A.: Apwyntiwyd ef yn athro cyn e...
161944
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1738-ELLIS HUGHES, B.A.: Mab oedd i Rice Hughes, Pennal. Hanai o deulu Erwfaethlon, Tywyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
1755—THOMAS JONES: Bu'n athro ddwywaith. Yr oedd hefyd yn gurad Talyllyn, Meirion. Cwynir yn y flwyddyn 1776 bod yr ysgol wedi dirywio'n fawr o dan ei ofal.
1777—RICHARD THOMAS: Brawd y Parch. John Thomas, M.A., athro Ysgol Ramadeg, Biwmaris.
1782—RICHARD PUGHE, B.A.: Apwyntiwyd ef yn athro cyn ei ddewis yn ficer y plwyf.
1798—DAVID JONES: Yr oedd yn frawd i Hugh Jones, Hengwrtuchaf. Gwasanaethai'n gurad yn Llanwnog a Charno yn 1811.
1805—JOHN OWEN, B.A.: Mab oedd i Owen Thomas, Llangurig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Hertford, Rhydychen. Ymddiswyddodd yn 1812. Bu cyfnod llwyddiannus ar yr ysgol yn ystod ei dymor ef.
1812—JOHN EVANS: Dewiswyd ef yn "athro ysgrifennu" o dan ewyllys Gruffydd Owen. Bu'n athro llwyddiannus.
1864—PHILLIPS, B.A.: Dewiswyd ef gan W. W. E. Wynne, Peniarth. Bu farw'n fuan wedi ei ddewis.
—OWEN LLOYD GRIFFITH: "Athro ysgrifennu" dros dymor.
1857—GRIFFITH ARTHUR JONES, M.A.: Apwyntiwyd ef yn athro cyn ei ddewis yn ficer y plwyf.
1863—R. H. OWEN: Athro cynorthwyol. Brodor o Bow Street, Ceredigion. Bu farw a chladdwyd ef yn Llanegryn. Rhoddodd y Parch. Griffith Arthur Jones garreg ar ei fedd.
1870—J. GOODMAN HUMPHREYS: Athro cynorthwyol.
1872—WILLIAM OWEN: Athro a ficer. 1873-GRIFFITH ROBERTS: Athro a ficer.
1873—OWEN E. DAVIES: Mab oedd i'r Parch. Owen Davies (Eos Llechid). Symudodd i Lanwddyn. Bu farw Ebrill 1881, yn 28 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Nant Peris.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
fz4drsvdk9o1h7iqpkenk9foi3fnvnj
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/82
104
83003
161945
2026-04-01T18:44:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "1877—DAVID JOHN WILLIAMS: Athro cynorthwyol. 1879—JOHN EDWARD JACKSON: Athro cynorthwyol. 1880—DAVID HUGHES, B.A.: Athro a ficer. Apwyntiwyd y Parch. David Hughes yn brifathro, a rhoddai wersi mewn Lladin i ychydig o blant yn ei dŷ ef ei hun. Ond ysgol elfennol oedd erbyn hyn i bob diben ymarferol. 1881—EDWARD WILLIAMS: O dan ei ofal ef y dechreuwyd arholi'r ysgol i ennill grant y Llywodraeth. 1884—JOHN SMITH: Sais uniaith. 1...
161945
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1877—DAVID JOHN WILLIAMS: Athro cynorthwyol.
1879—JOHN EDWARD JACKSON: Athro cynorthwyol.
1880—DAVID HUGHES, B.A.: Athro a ficer. Apwyntiwyd y Parch. David Hughes yn brifathro, a rhoddai wersi mewn Lladin i ychydig o blant yn ei dŷ ef ei hun. Ond ysgol elfennol oedd erbyn hyn i bob diben ymarferol.
1881—EDWARD WILLIAMS: O dan ei ofal ef y dechreuwyd arholi'r ysgol i ennill grant y Llywodraeth.
1884—JOHN SMITH: Sais uniaith.
1887—ROBERT ROBERTS:
1901—HENRY WILLIAMS: Brodor o Langoed, Môn. Bu farw a chladdwyd ef yn Llanegryn.
1912—JOHN EVANS: Brodor o'r plwyf, ac un o blant yr ysgol. Bu farw a chladdwyd ef yn Aberdyfi.
1925—GWILYM ARWEL HUGHES: Brodor o Ffestiniog. Bu farw a chladdwyd ef yn Llanegryn.
1941—JOHN EVANS: Brodor o Ddyffryn Ardudwy, a'n hathro presennol.
Aeth yr ysgol o dan ofal Cyngor Sir Meirion, 17, Tachwedd, 1913.
{{c|GWADDOLIADAU YSGOL LLANEGRYN}}
Bydd braslun o hanes buddsoddi'r gwaddoliadau'n ddi-ddorol.
Pan wnaeth Hugh Owen, Tal-y-bont, ei ewyllys a threfnu fod £400 i fynd at waddoli ysgol Llanegryn, yr oedd y £400 yr adeg honno yn nwylo Griffith Nanney, Dolau-gwyn, ar ymrwymiad am £800, gyda meichiafon i'w talu'n ôl yn llawn erbyn Mai 1650.
Ymddengys oddi wrth adroddiad o eiddo Dirprwywyr Elusennau a wnaed 4, Mehefin 1652, nad oedd yr ymddiriedolwyr wedi gwneuthur dim i roddi'r ewyllys mewn grym.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
6qxqsmprofooxyjj64i0kei11ofo0xy
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/83
104
83004
161946
2026-04-01T18:45:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Penderfynwyd ei bod yn rhaid symud ymlaen rhag blaen; a dymunwyd drwy gydsyniad unol ar ran pawb fod Lewis Owen, Peniarth, i gymryd y £400 i'w ddwylo ei hun, a'u buddsoddi ar ei diroedd ei hun yn Llanegryn i'r gwerth o £22 yn y flwyddyn, a bod £20 yn ddigoll i'w trosglwyddo bob blwyddyn at dalu cyflog yr athro. Y cam cyntaf oedd sicrhau darn o dir pwrpasol at adeiladu'r ysgol arno. Dewiswyd safle'r ysgol gan Dr. John Ellis a'r Parch....
161946
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Penderfynwyd ei bod yn rhaid symud ymlaen rhag blaen; a dymunwyd drwy gydsyniad unol ar ran pawb fod Lewis Owen, Peniarth, i gymryd y £400 i'w ddwylo ei hun, a'u buddsoddi ar ei diroedd ei hun yn Llanegryn i'r gwerth o £22 yn y flwyddyn, a bod £20 yn ddigoll i'w trosglwyddo bob blwyddyn at dalu cyflog yr athro.
Y cam cyntaf oedd sicrhau darn o dir pwrpasol at adeiladu'r ysgol arno. Dewiswyd safle'r ysgol gan Dr. John Ellis a'r Parch. Robert Owen, a chynhwysai tua dwy acer a hanner o dir a ddelid gan ŵr o'r enw Dafydd ab Ifan; a threfnwyd bod y llogau am y ddwy flynedd a aeth heibio i fynd yn dâl amdano, a bod y llogau am y pum mlynedd nesaf i'w cronni at dalu am adeiladu'r ysgol; a gofynnid am orffen popeth cyn Gŵyl yr Holl Saint, 1659. Buddsoddwyd y £400 ar diroedd perthynol i ystâd Peniarth, a gynhwysai Cilmyn-troed-du, Waun-fawr, Cefn-coch, dau ddarn o dir a elwid Perthi'r-celyn, a'r cyfan a ddywedid am y darn arall oedd ei fod ym meddiant Edward Williams. Safai'r cyfan yn nhref Rhyd-cryw. Diddorol yw deall mai'r tyddyn a elwid yn Gilmyn-troed-du yw'r tyddyn a elwir yn Gelmi heddiw. Yr oedd Waun-fawr yn dyddyn ar waelod tir Bodowyn; yn ddiweddarach cysylltwyd y lle â Bodowyn, a hefyd tir Perthi'r-celyn yn ôl pob tebyg, a chysylltwyd darn o Gefn-coch â'r Celmi.
Cwblhawyd yr adeilad ynghynt na'r amser penodedig. Agorwyd yr ysgol yn Ionawr, 1659, a saif y flwyddyn honno fel carreg filltir nodedig yn hanes addysg Meirion.
Gwnaed ewyllys gan Gruffydd Owen yn y flwyddyn 1668, a threfnodd fod y swm o £400 yn mynd yn waddol at roddi addysg a chrefftau i blant ysgol Llanegryn. Buddsoddwyd gwaddol Gruffydd Owen tua'r flwyddyn 1675 drwy brynu Nant-y-pwl, Nant-y-cynog, Bryn, a phenty o'r enw Ty-coch; nodir fod Bwlch-y-gloddfa yn rhan o'r pryniant hwn. Bu cryn anesmwythyd ar un adeg, oherwydd tybid bod dau dyddyn arall wedi eu prynu ag arian gwaddol Gruffydd Owen, sef Trawst-mawr a Phant-y-cefn, ond llwyddodd etifedd Peniarth i glirio'r ddrwgdybiaeth.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
funwq6l2yol9w945f9firgsl0mz8qhc
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/84
104
83005
161947
2026-04-01T18:45:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Ceir gwahanol gyfrifon am faintioli'r tri thyddyn. {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:750px" |Adroddiad 1834 |Ar hen fap |Map diweddar |- |Nant-y-pwl, 30 i 40 acer. |12 acer ac ychydig mwy. |15 acer ac ychydig mwy. |- |Nant-y-cynog, oddeutu 60 acer. |42 acer ac ychydig mwy. |26 acer ac ychydig mwy. |- |Tyddyn-y-bryn, oddeutu 60 acer. |45 acer ac ychydig mwy. |45 acer ac ychydig mwy. |} Dyma'r rhenti a...
161947
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ceir gwahanol gyfrifon am faintioli'r tri thyddyn.
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:750px"
|Adroddiad 1834
|Ar hen fap
|Map diweddar
|-
|Nant-y-pwl, 30 i 40 acer.
|12 acer ac ychydig mwy.
|15 acer ac ychydig mwy.
|-
|Nant-y-cynog, oddeutu 60 acer.
|42 acer ac ychydig mwy.
|26 acer ac ychydig mwy.
|-
|Tyddyn-y-bryn, oddeutu 60 acer.
|45 acer ac ychydig mwy.
|45 acer ac ychydig mwy.
|}
Dyma'r rhenti a delid ar y tyddynnod hyn tua'r flwyddyn 1700.
* Nant-y-pwl-£2/10/0.
* Tyddyn-y-bryn-£10/0/0.
* Nant-y-cynog-£4/0/0.
* Bwlch-y-gloddfa-5/0.
Trwy ryw fodd neu'i gilydd cronnodd y gwaddoliadau yn swm helaeth yn ystod y blynyddoedd.
Cronnodd gwaddol Hugh Owen yn £722/14/9; a buddsoddwyd hwy i ddwyn £19/17/4 yn flynyddol i drysorfa'r ysgol.
Cronnodd gwaddol Gruffydd Owen yn £517/10/1 a buddsoddwyd hwythau i ddwyn £14/4/4 yn flynyddol i gyllid yr ysgol.
{{c|RHAGOR AM ADDYSG Y PLWYF}}
Dywedir mai plant teuluoedd cefnog y gymdogaeth a fynychai Ysgol Ramadegol Llanegryn yn fwyaf arbennig, a bod llawer o blant y dosbarth tlotaf heb gael diwrnod o ysgol o gwbl. Ataliai tlodi hwy rhag mwynhau'r fraint honno.
Ond bu rhyw ddyngarwyr neu'i gilydd a'u pryder yn fawr am addysg y plant anffodus hyn, a cheisiasant o dro i dro sefydlu cwrs o addysg elfennol iddynt yn y pentref. Cychwynnwyd<noinclude></noinclude>
itm3q71hyetp2bo1482s9aumq2yjhlw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/85
104
83006
161948
2026-04-01T18:46:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ysgol Madam Bevan ym mhentref Llanegryn, eithr ni pharhaodd ond oddeutu dwy flynedd. Yn ystod 1761-2 mynychai 27 o blant yr ysgol, ac yn 1762-3 cododd eu rhif i 33. Y cam nesaf yn hanes addysg y plwyf oedd gweled Ysgol Gylchynnol Charles o'r Bala yn cyrraedd y pentref yn awr ac eilwaith; a ffaith ddiddorol yw mai yn Llanegryn y dechreuodd un o ysgolfeistriaid Charles o'r Bala ar ei waith am y tro cyntaf, a llwyddodd i ddysgu plant y...
161948
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ysgol Madam Bevan ym mhentref Llanegryn, eithr ni pharhaodd ond oddeutu dwy flynedd. Yn ystod 1761-2 mynychai 27 o blant yr ysgol, ac yn 1762-3 cododd eu rhif i 33.
Y cam nesaf yn hanes addysg y plwyf oedd gweled Ysgol Gylchynnol Charles o'r Bala yn cyrraedd y pentref yn awr ac eilwaith; a ffaith ddiddorol yw mai yn Llanegryn y dechreuodd un o ysgolfeistriaid Charles o'r Bala ar ei waith am y tro cyntaf, a llwyddodd i ddysgu plant y pentref i ddarllen Cymraeg ac yntau ei hun yn gwbl anllythrennog.
Adwaenid ef mewn blynyddoedd diweddarach fel [[Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala/Y Parch Lewis William, Llanfachreth I|Lewis William, Llanfachreth]], a thystid yn uchel amdano fel gŵr a feddai gymeriad unplyg ac onest. Bu ar ei dro yn was fferm yng Nghlos-bach, Celmi a Thrychiad, a thosturiai wrth gyflwr anwybodus plant pentref Llanegryn, oherwydd gwyddai yn bersonol mai'r bywyd heb addysg yw'r bywyd tlotaf o bob bywyd. Trigiannai perthynas iddo yn Nhrychiad, a chyflogodd ato ar yr amod ei fod i gael ei ryddid i ddilyn moddion crefyddol yn ffyddlon. Yr oedd ei holl fryd ar y plant, a phenderfynodd gychwyn ysgol o'i ben ei hun i'w haddysgu'n grefyddwyr ac yn ddinasyddion teilwng. Ymdrechodd yn ddewr a dygn i'w gymhwyso ei hunan at eu hyfforddi i ddarllen Cymraeg. Mynychai eglwysi Llanegryn a Thywyn i wrando ar ddarllen Cymraeg da gan yr offeiriaid, a cherddai at hen wraig o'r enw Beti Ifan am gyfarwyddiadau a chynhorthwy i feistroli'r gwersi y bwriadai eu rhoddi i blant yr ysgol. Dewisai hefyd nifer o'r darllenwyr gorau o'r Ysgol Ramadegol i fynd drwy ei wersi, a rhoddai wobr i'r gorau ohonynt am ddarllen y Beibl. Y darnau a roddai i gystadlu arnynt fyddai'r gwersi y bwriadai eu dwyn i sylw ei ysgol, ac ef ei hun a feirniadai'r gystadleuaeth bob tro. Trwy gynlluniau diddorol fel hyn yr oedd ef yn abl i hyfforddi'r plant i ddarllen Cymraeg yn gywir; amcanai'n arbennig at ynganu'r Gymraeg yn gywir a hyglyw.
Yr oedd Lewis Williams yn ŵr ieuanc defosiynol, a byddai'n dechrau ac yn diweddu ei ysgol drwy weddi, ond<noinclude></noinclude>
4cpfy0miii5jzyo2um8r2vrznkokcys
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/86
104
83007
161949
2026-04-01T18:47:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gorchwyl anodd a fyddai hynny'n aml yn sŵn a helynt gwyllt paganiaid bach y pentref. I ennill sylw'r plant a'u cael i drim go hywedd i hepgor orig iddo ef ei hun i weddïo, gorchmynnai iddynt hwy chwarae'r hyn a alwai'n "filwyr bach" fel yr oedd ef wedi dysgu pan fu gyda'r Militia. Pan orchmynnai â llais awdurdodol "Stand at ease" ac "Attention," safent fel milwyr disgybledig heb symud na llaw na throed; ac yn ystod y llonyddwch byr hwn...
161949
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gorchwyl anodd a fyddai hynny'n aml yn sŵn a helynt gwyllt paganiaid bach y pentref. I ennill sylw'r plant a'u cael i drim go hywedd i hepgor orig iddo ef ei hun i weddïo, gorchmynnai iddynt hwy chwarae'r hyn a alwai'n "filwyr bach" fel yr oedd ef wedi dysgu pan fu gyda'r Militia. Pan orchmynnai â llais awdurdodol "Stand at ease" ac "Attention," safent fel milwyr disgybledig heb symud na llaw na throed; ac yn ystod y llonyddwch byr hwn dyrchafai yntau ei weddi drostynt hwy a'r ysgol. Ei gynllun gyda'r plant ieuangaf oedd dysgu'r wyddor iddynt trwy ei chanu ar y gainc "Ymgyrch Gŵyr Harlech."
Cynhaliai Lewis William Ysgol Sul yn Llanegryn yn y flwyddyn 1798, a chadwai hi ymlaen i ddysgu ieuenctid gyda'r nos yng nghorff yr wythnos. Dyledus ydym i gymeriadau syml a dinod fel Lewis William a Beti Ifan am sefydlu'r Ysgol Sul ac Ysgol Nos i'n plant a'n pobl ieuainc ar adeg anghenus iawn. Ni rydd ysgol Lewis William ond un agwedd ar fywyd ein hardal, a honno'r agwedd dlotaf arni. Ffynnai diwylliant Cymreig da yn ein plwyf yr adeg honno, fel y dengys y ffaith y ceir cymaint â thri dwsin o enwau tanysgrifwyr o Lanegryn ar diwedd llyfr Afalau Aur Hugh Jones, Maes-glasau. Cyhoeddwyd yr Afalau Aur yn y flwyddyn 1783.
{{c|YSGOL PENTRE-DRAW, 1860}}
Adeiladodd Mrs. Mary Wynne, ysgol ym Mhentre-draw gogyfer â phlant bach, rhag iddynt orfod dringo'r graig i ysgol yr ardal. Cynhelid ynddi hefyd ddosbarthiadau gwnïo i'r merched.
{{c|YSGOL GWAELOD Y PLWYF, 1868}}
Ymunodd amaethwyr gwaelod y plwyf i gynnal ysgol i blant oedd yn rhy eiddil i gerdded i ysgol Llanegryn. Addaswyd granar Tal-y-garreg yn ysgol, a chyflogwyd athrawes i ofalu amdani.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
pjam8k7jxce5bzs700jv2yl91vyadxo
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/87
104
83008
161950
2026-04-01T18:47:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|LLYFRAU}} * Brooks, T.: Afalau Aur i'r Bobl Ifaingc. Amwythig, 1783. Cyhoeddwr, Hugh Jones, Maesglasau. * Charity Commission Report, 1897. * Dogfennau Peniarth. * Llawlyfr Dathliad Dauganmlwyddiant Ellis Wynne. Aberystwyth, 1934. * Llawysgrifau John Lloyd, Siop-isaf. * Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890. * [[Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I|Owen, Robert: Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionyd...
161950
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|LLYFRAU}}
* Brooks, T.: Afalau Aur i'r Bobl Ifaingc. Amwythig, 1783. Cyhoeddwr, Hugh Jones, Maesglasau.
* Charity Commission Report, 1897.
* Dogfennau Peniarth.
* Llawlyfr Dathliad Dauganmlwyddiant Ellis Wynne. Aberystwyth, 1934.
* Llawysgrifau John Lloyd, Siop-isaf.
* Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890.
* [[Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I|Owen, Robert: Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd, Cyf.I.]] Dolgellau, 1889.
* [[Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala|Owen, Robert: Hanes Ysgolfeistriaid Charles o'r Bala, 1898.]]
* Rhyfeddodau y Byd Mawr. Dolgellau, 1827.
* The Journal of The Welsh Bibliographical Society. May, 1920.
* Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
4vj9wx89sc5rjcjntyc5ymzlcjao8lw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/88
104
83009
161951
2026-04-01T18:59:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD V}}</br>Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.}} {{c|ETIFEDDIAETHAU TIR}} AETH etifeddiaethau Tywysogion Cymru yn eiddo Coron Lloegr wedi marwolaeth Llywelyn Ein Llyw Olaf. Yn ystod teyrnasiad Iago I gwerthwyd rhan o etifeddiaeth y Tywysogion yn Llanegryn i farchogion o'r enwau John Wolton a George Bingly. Rhentwyd hi ganddynt hwythau...
161951
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD V}}</br>Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.}}
{{c|ETIFEDDIAETHAU TIR}}
AETH etifeddiaethau Tywysogion Cymru yn eiddo Coron Lloegr wedi marwolaeth Llywelyn Ein Llyw Olaf. Yn ystod teyrnasiad Iago I gwerthwyd rhan o etifeddiaeth y Tywysogion yn Llanegryn i farchogion o'r enwau John Wolton a George Bingly. Rhentwyd hi ganddynt hwythau i farchog o'r enw Robert Wood. Y cam nesaf oedd ei phrynu gan Gruffydd Owen ac Elizabeth ei briod, ynghyd â Lewis Owen eu mab a'u hetifedd. Arwyddwyd y pryniad 16, Tachwedd 1615. Yr oedd Gruffydd Owen yn fab i Lewis Owen, y Barwn, ac yr oedd Elisabeth ei briod, yn aeres Peniarth. Ni bu oes hir i Gruffydd Owen wedi i'r etifeddiaeth ddyfod i'w ddwylo; bu farw ymhen llai na thair blynedd, 29, Ionawr 1618.
Dyma fraslun o'i ystâd:
* Tyddyn Edward ap Dafydd Fychan, 40 acer o dir âr, a morfa a rhosydd.
* Tyddyn Ieuan Rhys Llwyd, 8 acer o dir âr, a 12 acer o forfa.
* Tyddyn Gregor, 4 acer o dir pori, a 4 acer o dir âr, a mynydd. A'r cyfan o diroedd maerdref Llanegryn a hawliau maenor Talybont.
Wedi marwolaeth Gruffydd Owen, gwerthodd Elisabeth Owen a'i mab hynaf, Lewis Owen, ystâd Tal-y-bont i Hugh Owen, mab ieuangach, am y swm o £200, a throsglwyddodd Hugh Owen hi i'w nai, Lewis Owen, yn ei ewyllys a wnaed ganddo, 18, Gorffennaf 1650.
Bu ystâd Peniarth a Thal-y-bont yn un wedyn, ac yn eiddo aer Peniarth.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
g5a2utclg7i1ioyvs9ssbhln2hanen4
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/89
104
83010
161952
2026-04-01T19:00:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|RHAN O YSTAD Y TYWYSOGION}} Aeth rhan o ystâd y Tywysogion yn Llanegryn yn eiddo i Syr Richard Lloyd, Arglwydd Brif Farnwr Gogledd Cymru. Gosodai ef ei ystâd ar brydlesau o un flynedd ar hugain i wahanol bersonau. Enwau ei dyddynnod oedd: Gwyddfryniau. Gelwid mwy nag un tyddyn yn y plwyf yn Wyddfryniau yr adeg honno. * Cilmyn-Troed-du. * Waun-fawr. * Perthi'r-celyn. Brynbloeddyn. * Darn o dir Tyn-y-llan. * Darn o dir yn agos...
161952
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|RHAN O YSTAD Y TYWYSOGION}}
Aeth rhan o ystâd y Tywysogion yn Llanegryn yn eiddo i Syr Richard Lloyd, Arglwydd Brif Farnwr Gogledd Cymru. Gosodai ef ei ystâd ar brydlesau o un flynedd ar hugain i wahanol bersonau. Enwau ei dyddynnod oedd:
Gwyddfryniau. Gelwid mwy nag un tyddyn yn y plwyf yn Wyddfryniau yr adeg honno.
* Cilmyn-Troed-du.
* Waun-fawr.
* Perthi'r-celyn. Brynbloeddyn.
* Darn o dir Tyn-y-llan.
* Darn o dir yn agos i Lwyn Mab Eignion Llwyged. Cefn-coch.
Prynodd Lewis Owen, Peniarth, yr ystâd hon am £700. Yr oedd ef yn fab yng nghyfraith i Syr Richard Lloyd, drwy iddo ymbriodi â Jane, ei ail ferch.
{{c|RHAN ARALL O YSTAD Y TYWYSOGION}}
Aeth rhan hefyd o ystâd y Tywysogion yn Nhal-y-bont i ddwylo Syr Thomas Trevor. Safai rhan o'i diroedd ef tu-allan i blwyf Llanegryn fel y mae'r terfynau heddiw.
Ei ystâd ef oedd y tyddynnod a ganlyn:
* Pen-y-wern.
* Gilfach-hen.
* Tyddyn dienw. Tenant, Lewis Patrick.
* Tyddyn-y-waun.
* Tyddyn dienw.
* Tan-y-corun.
* Tir-y-pymtheg.
* Tyddyn Bach-y-sil.
* Tyddyn dienw.
* Rhan o dyddyn
* Meriddig.
Daeth y tyddynnod hyn i ddwylo Lewis Owen.
Prydleswyd rhan o diroedd Tywysogion Gogledd Cymru gan y frenhines Elisabeth i John Walker. Bu gan amryw<noinclude></noinclude>
exx88s3w3ks8tfuk5ebk8uell18k1tt
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/90
104
83011
161953
2026-04-01T19:03:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "wŷr Llundain afael ar yr ystâd hon fel ar diroedd y Tywysogion yn gyffredinol. Yr oedd y tiroedd hyn yn rhan o blwyfi Llanegryn, Llangelynnin a'r Brithdir. Bu'r cyfan o diroedd tref Rhydcryw yn rhan o ystâd y Tywysogion yng Nghwmwd Tal-y-bont, ynghyd â chyfran o blwyfi Llangelynnin a'r Brithdir. {{c|HEN YSTADAU}} Daliodd rhai o hen uchelwyr y plwyf afael dynn ar eu hetifeddiaethau, ond ciliasant o un i un. Gwystlo'r tir a methu â tha...
161953
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wŷr Llundain afael ar yr ystâd hon fel ar diroedd y Tywysogion yn gyffredinol. Yr oedd y tiroedd hyn yn rhan o blwyfi Llanegryn, Llangelynnin a'r Brithdir. Bu'r cyfan o diroedd tref Rhydcryw yn rhan o ystâd y Tywysogion yng Nghwmwd Tal-y-bont, ynghyd â chyfran o blwyfi Llangelynnin a'r Brithdir.
{{c|HEN YSTADAU}}
Daliodd rhai o hen uchelwyr y plwyf afael dynn ar eu hetifeddiaethau, ond ciliasant o un i un. Gwystlo'r tir a methu â thalu'r echwyn yn ôl oedd yr achos i lawer o'r perchenogion golli eu hetifeddiaethau. Dydd du oedd diwrnod ymadael â'r hen anheddau i'r lliaws ohonynt.
{{c|1521.}}
Pant Cynerth. Prydleswyd gan Lewis, abad y Cymer, a'i gwfaint, i Lywelyn ap Dafydd Powys a Dyddyn, ei wraig, ferch Llywelyn ap Dafydd. Yn nhref Rhydcryw.
{{c|1560}}
Tyddyn Piod-y-meirch, alias Bodowyn. Perchennog, John ab Ednyfed ap Bedog.
Tir Wyrion Eignion Hen. Yn gorwedd uwch Hirion Cefn Tanfod. Perchennog, Lewis ap Guto.
Tyddyn-y-Wern, Nantmadyn. Perchennog, Gruffydd ap John ap Lewis.
Braich-y-mynydd, yn bodoli yn nechrau teyrnasiad Elisabeth. Ni wyddys pwy oedd y perchennog.
{{c|1564}}
Tyddyn-glas-march, Tyddyn-llw-ffranc, Tyddyn Nannau, Tyddyn-du-yn-y-Llan. Perchennog, Thomas Lloyd, offeiriad Llanegryn.
Glandysynni, Rhyd-y-garnedd. Perchennog, Lewis Gethin.
{{c|1572}}
Llannerch-y-nant, Tyddyn-y-gelli, Tir-y-fallen. Perchennog, John ap Rhys Llwyd.
{{c|1573}}
Tyddyn-y-tŷ-gwyn ym Modowyn. Perchennog, Rhys ap Gryffydd ap Rhys ap Gruffydd ab Eden ab Aron.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
7o4ewkzqo8hthrjii47xkxshskdn3fz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/91
104
83012
161954
2026-04-01T19:04:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|1576}} Tyddyn-y-stent neu Erw'r Hwch, Erw Fadog, Erw Fforchog a oedd yn rhan o Erw Fadog, Cyfer Mihangel. Dyma'r unig diroedd ym mhen uchaf tref Peniarth y sylwasom arnynt fel eiddo Coron Lloegr, ac a fu'n rhan o ystâd y Tywysogion. Prydleswyd y tyddynnod hyn yn yr ail flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad Elisabeth i foneddwr o'r enw John Charmes am un flynedd ar hugain. Wedi hynny buont yn nwylo amryw foneddwyr cyn iddynt ddyfod i...
161954
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1576}}
Tyddyn-y-stent neu Erw'r Hwch, Erw Fadog, Erw Fforchog a oedd yn rhan o Erw Fadog, Cyfer Mihangel.
Dyma'r unig diroedd ym mhen uchaf tref Peniarth y sylwasom arnynt fel eiddo Coron Lloegr, ac a fu'n rhan o ystâd y Tywysogion.
Prydleswyd y tyddynnod hyn yn yr ail flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad Elisabeth i foneddwr o'r enw John Charmes am un flynedd ar hugain. Wedi hynny buont yn nwylo amryw foneddwyr cyn iddynt ddyfod i afael Hugh ap John ap Meredith. Cawn hwy nesaf yn nwylo ei fab, Dafydd ap Huw, boneddwr o dref Peniarth, ac wedi hynny o Lanfihangel-y-pennant. Hawliai tenantiaid y tyddynnod hyn hawl pori ar gytir cyffredin a elwid Cae-glas a Chae-coch; a hawlid ffordd rydd ganddynt o Dyddyn-y-stent a Chyfer Mihangel i'r mynydd yn y gyfryw dreddegwm. Cynhwysai'r hawl pori ar gytir y mynydd 1000 o aceri, a gorweddai rhwng Bwlch-y-llin a Nant-esgair-ddu.
Gwrthwynebid hawl ystâd Dafydd ap Huw gan amryw gymdogion o'r enw Hywel ap Dafydd ap Siencyn, Hwmphre ap Hywel ap Dafydd ap Siencyn, Hugh ap Hywel ap Dafydd Siencyn, a Huw ap Dafydd ap Morgan. Torrwyd ganddynt drwy orthrech i'w eiddo gan feddiannu Cae-glas a Chae-coch.
Ynghwrs amser daeth Dafydd ap Huw i feddiant o Ddysefin-uchaf, a thyddyn yn nhref Peniarth o'r enw Ffynnon-y-berwe, a mynnai'r tenantiaid eu hen hawl i bori ar gytir y mynydd. Ond gwrthwynebwyd eu hawl gan Hywel Huw a Lewis Gruffydd, a thystient fod y cytir yn perthyn i dir y Goron a elwid yn Ffridd Pennant yn nhreddegwm Pennant. Bu cyfreithio a helyntion blin, a dinistriwyd llawer o dai ac adeiladau ar y cytir ganddynt, gan gario'r cerrig a'r coed ymaith gyda hwynt.
Tyddyn-y-wern,
{{c|1586}}
Tyddyn-y-garth.
Perchennog, John Gruffydd ap Llywelyn ab Eignion.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
3klkqu8s9igez0ajrc4sad77t71c79d
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/93
104
83013
161955
2026-04-01T19:04:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|1615}} Tyddyn Bryn ap Meurig a'r Weirglodd-ddu. Perchennog, Hugh Dafydd ap John. {{c|1628}} Tyddyn-y-Pren-hir. Perchennog, Dafydd ap Humphrey. Tyddyn Muriau {{c|1629.}} Ieuan ab Owen Gutta (sic), Anghare-glas, neu Cwm-pen-neuadd. Perchennog, Thomas William ap John ab Evan. {{c|1629}} Tyddyn-y-bryn, Tir-y-Gregor ab Evan ap Llywelyn, Erw-gwadan-ddu, Tyn-y-gweision-duon, Bwlch-y-gloddfa. Perchennog, Lewis Evans, offeiriad Llan...
161955
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1615}}
Tyddyn Bryn ap Meurig a'r Weirglodd-ddu. Perchennog, Hugh Dafydd ap John.
{{c|1628}}
Tyddyn-y-Pren-hir. Perchennog, Dafydd ap Humphrey.
Tyddyn Muriau
{{c|1629.}}
Ieuan ab Owen Gutta (sic), Anghare-glas, neu Cwm-pen-neuadd. Perchennog, Thomas William ap John ab Evan.
{{c|1629}}
Tyddyn-y-bryn, Tir-y-Gregor ab Evan ap Llywelyn, Erw-gwadan-ddu, Tyn-y-gweision-duon, Bwlch-y-gloddfa. Perchennog, Lewis Evans, offeiriad Llanegryn.
Tyddyn Gwern-y-brain, Tyddyn-yr-oen, a Thir Wyrion Eignion. Perchennog, John Dafydd ap Gutta.
Gwaun-y-pant ym Modowyn. Perchennog, Dafydd ab Evan Gruffydd.
{{c|1632}}
Rhoddodd Lewis Owen, Peniarth, y ddau dyddyn Bron-clydwr a'r Moelmon yn gynhysgaeth i'w ferch, Susannah, ar ei phriodas â Humphrey Owen. Dyma rieni Hugh Owen "Apostol y Gogledd." Yr oedd y Gofolion yn rhan o Fron-clydwr, a thri neu bedwar o dai'r Moelmon; yr oedd hefyd ddau dŷ ym Mhentre-uchaf a'r Minffordd yn rhan o'r Moelmon.
Adferwyd y Moelmon i Beniarth drwy i Wm. Wynne ei brynu.
{{c|1633}}
Tirgawen, alias Bryn Llywelyn. Perchennog, Elisha ap Dafydd ap Gawen.
Rhydcryw-fawr, alias Tyn-coed; Tir Mab Gwilym,
Rhydcryw-fechan, Tyddyn-y-tŷ-gwyn, Bryn-y-gadair, alias Gilfach-hen; Mur-cefn-yr-ynys, Bodowyn, Tŷ-yn-y-ceunant. Perchennog, William Dafydd ap William. Y perchennog olaf o'r gwehelyth hwn oedd Isaac Jones, nai John Pugh.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
05pnzscm59yntq5r34apnaq6tfjpi96
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/94
104
83014
161956
2026-04-01T19:05:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|1663}} Bryn Llywelyn neu Tirgawen, Tir-yr-ysgubor, a Thir-pwll-du. Prydleswr, Reinallt ap William Reinallt. Bu amryw a gafael ar yr ystâd hon, megis Francis Herbert, Dolguog, a William Wynne, Glyn. {{c|1664}} Tyn-llwyn, Mynydd Mawr. Perchennog, John Watkin, o'r un teulu â Bryn-yr-orsedd. Bu cyfraith ynglŷn â'r etifeddiaeth hon yn Sesiwn Fawr y Bala yn Awst 1739. Cynhwysai 50 acer o ddoldir, 60 acer o dir pori, un acer o goed, 20...
161956
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1663}}
Bryn Llywelyn neu Tirgawen, Tir-yr-ysgubor, a Thir-pwll-du. Prydleswr, Reinallt ap William Reinallt. Bu amryw a gafael ar yr ystâd hon, megis Francis Herbert, Dolguog, a William Wynne, Glyn.
{{c|1664}}
Tyn-llwyn, Mynydd Mawr. Perchennog, John Watkin, o'r un teulu â Bryn-yr-orsedd. Bu cyfraith ynglŷn â'r etifeddiaeth hon yn Sesiwn Fawr y Bala yn Awst 1739. Cynhwysai 50 acer o ddoldir, 60 acer o dir pori, un acer o goed, 20 acer o forfa, 10 acer o fawnog, 20 acer o dir rhos.
{{c|1667}}
Trychiad-isaf. Parchennog, Hugh Owen. Bron-clydwr.
{{c|1672}}
Trawst-mawr, Pant-y-cefn. Perchennog, David Lewis.
{{c|1673}}
Caermynach a Nantmadyn. Perchenogion, dau frawd o'r enw William a David Morris.
{{c|1676}}
Tyddyn-bach a'r Foty, Tir Wyrion Eignion Hen. Perchennog, Wm. ab Ifan ap Rhys.
Tyddynpengam. Perthyn i'r tyddyn hwn amryw fân dyddynnod a elwid Gweirglodd-y-llan, Gweirglodd-ddu, Afon-ddu, Gilfach-y-gog, Fron-uchaf, Drain-llwyn-du, a rhan o dir ar brydles yn nwylo Hugh Belis; hefyd pedwar cyfer ar riw Foty i lawr yn Rhiwfelen. Perchennog, Humphrey Reinallt.
{{c|1687}}
Tyn-y-pwll. Perchennog, Humphrey Reinallt.
Tyddyn-bach-yr-adfa-uchaf. Perchenogion, David Evans a Gwen, ei wraig, o Lanegryn, a Lewis Evans o Langelynnin.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
6fsr5ap2gfj5c40jh9li3cn6seyhkqd
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/95
104
83015
161957
2026-04-01T19:06:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|1695}} Tyddyn Penglasan-uchaf, Tyddyn Penglasan-isaf, Muriau-mawr neu Gelli-yng-Nghynyddfa, Tir-yr-esgair, Eignion ap Hywel, Dôl a elwid Gwern Prydderch, Y Cae-glas yn gorwedd ar y gogledd i afon Dysynni. Perchennog, William Williams. {{c|1698}} Pantllwyfog, Tyddyn-y-garth, Perth-y-re, Glan-y-wern. Perchennog, Hugh ap Humphrey Thomas. {{c|1703<br>Peniarthganol.}} Hen enw'r ystâd hon oedd Peniarthuchaf. Yma y cartrefai Owen Gruf...
161957
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1695}}
Tyddyn Penglasan-uchaf, Tyddyn Penglasan-isaf, Muriau-mawr neu Gelli-yng-Nghynyddfa, Tir-yr-esgair, Eignion ap Hywel, Dôl a elwid Gwern Prydderch, Y Cae-glas yn gorwedd ar y gogledd i afon Dysynni. Perchennog, William Williams.
{{c|1698}}
Pantllwyfog, Tyddyn-y-garth, Perth-y-re, Glan-y-wern. Perchennog, Hugh ap Humphrey Thomas.
{{c|1703<br>Peniarthganol.}}
Hen enw'r ystâd hon oedd Peniarthuchaf. Yma y cartrefai Owen Gruffydd a briododd Ursula, ferch Gruffydd Owen, Tal-y-bont. Hwynt-hwy oedd rhieni'r Gruffydd Owen a waddolodd ysgol Llanegryn. Perthynai'r lleoedd a ganlyn i'r ystâd. Peniarthganol, Cwm-pen-neuadd, Tan-y-bwlch, Tycelyn, Ty-croes, Penpinnant, Hafoty-Peniarthganol, a bu Tirgawen ac Ysgubor-wen yn rhan ohoni. Gwerthodd Rowland Jones, Plascanol, yr ystâd i Richard Owen, Peniarth, yn 1703.
{{c|1717}}
Cemmaes, Cemmaes-Uchaf, Gwern-y-Merched neu'r Wern-fach, Maes-onnen, Rhyd-y-gemmaes. Perchennog, John Davies. Bu'n rhan o ystâd Cyfronydd.
{{c|1727}}
Bredyn-fawr, Tyn-y-waun. Perchennog, Wm. Thomas.
{{c|1754}}
Gellisarrog, Buarthau. Perchennog, Evan Thomas.
{{c|1774}}
Tairmynydd. Perchennog, Thomas Owen.<noinclude></noinclude>
pj0417xinno2tk55sizl932o4c9m8cr
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/96
104
83016
161958
2026-04-01T19:06:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|1842}} Broneunydd. Perchennog, Hugh Jones. {{c|Tyddynnod Ystâd Peniarth Yn y flwyddyn 1674.<br> (Yr adeg yr ymbriododd Richard Owen ag Elisabeth, ferch Humphrey Pughe, Aberffrydlan).}} :1. Anghereglas. Safai yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm. :2. Cwm-ŷch a Gweirglodd-y-fron. :3. Llannerch-y-nant. Oddi ar Cwm-ŷch. :4. Geufron-hen. Safai ar Foel Drefa, neu Foel Tirgawen. :5. Tyddyn-y-Gawen, Tirgawen heddiw. :6. Tyddynprenhir...
161958
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1842}}
Broneunydd. Perchennog, Hugh Jones.
{{c|Tyddynnod Ystâd Peniarth Yn y flwyddyn 1674.<br> (Yr adeg yr ymbriododd Richard Owen ag Elisabeth, ferch Humphrey Pughe, Aberffrydlan).}}
:1. Anghereglas. Safai yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm.
:2. Cwm-ŷch a Gweirglodd-y-fron.
:3. Llannerch-y-nant. Oddi ar Cwm-ŷch.
:4. Geufron-hen. Safai ar Foel Drefa, neu Foel Tirgawen.
:5. Tyddyn-y-Gawen, Tirgawen heddiw.
:6. Tyddynprenhir.
:7. Bryntudur. Rhwng Tyddyn-bach a Thirgawen.
:8. Gweirglodd-ddu. Gweirglodd Butcher Row.
:9. Llwyn.
:10. Tyddyn-y-plas, neu Plas Tynewydd. Darn newydd o Dynewydd.
:11. Tynewydd.
:12. Tal-y-bont a Gwyddfryniau. Yr oedd y Gwydd-fryniau hwn ar ffridd Tal-y-bont.
:13. Trawst-mawr.
:14. Tyddynsiencyn. Glanmorfa-bach.
:15. Glandysynni, yn agos i Bant-yr-efail, os nad Pant-yr-efail oedd.
:16. Waun-fawr. Tyddyn ar waelod tir Bodowyn.
:17. Tyddyn Cilmin Troed-ddu, a elwir Celmi heddiw. 18. Tir-y-pymtheg.
:19. Tyddyn-y-blaidd.
:20. Cyfer-gam. Perthynai gynt i Dyddynpengam.
:21. Cefn-coch.
:22. Plas Peniarth.
:23. Melin Beniarth.
:24. Extent Mawr: Fee Farm.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
aji1v5kvms8jeyfc9soee2b0kvl6xm8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/97
104
83017
161959
2026-04-01T19:07:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|YSTADAU'R PLWYF HEDDIW}} {{c|Peniarth.}} Gelwid y lle gynt yn Faes Peniarth, ac wedi hynny Plas Peniarth, Peniarth-fawr a Pheniarth-isaf. Daeth yr ystâd i feddiant Gruffydd ap Aron drwy dirwystl "in prida." Rhoddodd saith bunt yn dirwystl yn 1418 ar Faes Peniarth a Bryn-y-froches am ysbaid o bedair blynedd, ac felly ymlaen o bedair blynedd i bedair blynedd nes telid yr arian yn ôl. Priododd â Gwenhwyfar, ferch Hywel ap Ieuan Fy...
161959
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|YSTADAU'R PLWYF HEDDIW}}
{{c|Peniarth.}}
Gelwid y lle gynt yn Faes Peniarth, ac wedi hynny Plas Peniarth, Peniarth-fawr a Pheniarth-isaf.
Daeth yr ystâd i feddiant Gruffydd ap Aron drwy dirwystl "in prida." Rhoddodd saith bunt yn dirwystl yn 1418 ar Faes Peniarth a Bryn-y-froches am ysbaid o bedair blynedd, ac felly ymlaen o bedair blynedd i bedair blynedd nes telid yr arian yn ôl.
Priododd â Gwenhwyfar, ferch Hywel ap Ieuan Fychan. Hanoedd gwehelyth Gruffydd ab Aron o linach Ednywain ap Bradwen, a elwid yn Arglwydd Meirionnydd.
Canodd Lewys Glyn Cothi farwnad i Ruffydd
"Wyneb Gruffydd a guddiwyd
 gro yn Llanegryn llwyd."
Dywedir mai brawd iddo oedd Ednyfed ab Aron a fu'n gyfaill ffyddlon i Owain Glyn Dŵr, drwy ddwyn lluniaeth iddo pan ymguddiai yn yr ogof ar lan y môr yn agos i Felin-fraenan, yn ôl y traddodiad.
Daliodd ystâd Peniarth ym meddiant ei ddisgynyddion am genedlaethau nes ei throsglwyddo drwy gytundeb gan William Dafydd Llwyd i'w nai Lewis Owen, ŵyr i Lewis Owen y Barwn. Aeth o ddwylo'r Oweniaid hyn drwy briodas â theulu Morben yn agos i Dderwen-las a oedd o'r un cyfenw, a bu am ysbaid ym meddiant teulu o'r cyfenw Williams, Wynnstay a Bodelwyddan. Daeth i ddwylo'r Wynniaid drwy i Jane Williams, ferch Edward Williams, Peniarth, briodi â William Wynne, Pen-y-morfa, a dyna gychwyn y cyfenw Wynne sy'n parhau hyd heddiw yn nheulu Peniarth. Canwyd molawd gwehelyth Peniarth gan Lewis Glyn Cothi, Rhys ap Ieuan ap Meredyth, Wiliam Llŷn, a Rhys Jones o'r Blaenau. Y perchennog presennol yw Lt. Col. J. F. Williams-Wynne.
{{c|Peniarthuchaf.}}
Hen ystâd Penglasan neu Brynglasan yw Peniarthuchaf, yn fwyaf arbennig, ym mhlwf Llanegryn. Y mae'n un o<noinclude></noinclude>
egzqc1s5wcvx4lsb9zwf7ue989n4j15
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/98
104
83018
161960
2026-04-01T19:07:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ystadau hynaf y plwyf; bu ym meddiant uchelwyr Cymreig am ganrifoedd; yma y cartrefai Idnerth Uch, arglwydd mynydd-dir y plwyf. Y perchennog presennol yw Col. Charles Corbett. {{c|Pant Cynfarch a Gwyddfryniau.}} Aeth y ddwy ystâd hyn yn un drwy briodas David Lloyd, Gwyddfryniau â Mary, ferch ac aeres Humphrey Davies, {{c|Pant.}} Ceir enw William Lloyd, Gwyddfryniau, wrth weithred a wnaed, 10, Medi 1637. Ymbriododd ef â Catherine,...
161960
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ystadau hynaf y plwyf; bu ym meddiant uchelwyr Cymreig am ganrifoedd; yma y cartrefai Idnerth Uch, arglwydd mynydd-dir y plwyf.
Y perchennog presennol yw Col. Charles Corbett.
{{c|Pant Cynfarch a Gwyddfryniau.}}
Aeth y ddwy ystâd hyn yn un drwy briodas David Lloyd, Gwyddfryniau â Mary, ferch ac aeres Humphrey Davies,
{{c|Pant.}}
Ceir enw William Lloyd, Gwyddfryniau, wrth weithred a wnaed, 10, Medi 1637. Ymbriododd ef â Catherine, ferch Syr John,—yr oedd Syr yn y dyddiau hynny yn gyfystyr â Pharch.,—a dywedir mai offeiriad oedd ei thad.
Y perchennog presennol yw Mr. Griffith Ieuan Pugh.
{{c|Waun-fach.}}
Dywaid W. W. E. Wynne fod yr ystâd hon o hynafiaeth mawr. Daeth i ddwylo teulu Lewis Owen, y Barwn. Bu Waun-fach a'r Erw-goed yn un etifeddiaeth unwaith. Y perchennog presennol yw Mr. Richard Jones.
:Glan-y-morfa-mawr. Caeau Sarnhelygen. Caeau Felin-fach, Cae'r-abot. Arferid galw Caeau Sarnhelygen yn Gaeau'r Abot. Y perchenogion yw Titley a Wynne.
:Nant-y-cynog. Nant-y-pwl. Bryn. Perchennog, Pwyllgor Addysg Meirion.
{{c|Tyddynnod rhydd-ddaliadol yn y plwyf yn 1948.}}
:Bron-eunydd, rhan O Gastell-mawr. Perchenogion, James Thomas Gabriel.
:Clos-bach. Perchennog, Arthur Hancox.
:Cyfannedd-uchaf. Perchennog, S. Andrew a'i Fab. Bu'r dreftadaeth hon yn eiddo i wehelyth Maurice Robert Pugh, Bronclydwr.
:Cyfannedd-fach. Perchennog, H. Freer
:Cyfannedd-fawr. Hen dreftadaeth. Perchennog, E. W. Stevens.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
gr061v0aqsb3kpa35hb2edrjrc9q7pz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/99
104
83019
161961
2026-04-01T19:08:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda ":Fron-newydd. Perchennog, D. N. Kirkby. :Garth-fach. Perchennog, F. N. Chell. :Goleuwern. Perchennog, Col. P. R. Simner. :Pen-y-wern. Perchennog, Eleanor Catherine Owen. :Rhyd-y-garnedd. Perchennog, Joseph Griffith Davies. :Tŷ-bach-y-ffordd. Perchennog, Laura Jane Lloyd. {{c|HEN ARFERION Y TIR.}} Bu rhai hen rwymedigaethau tir yn aros yn hir yn y plwyf. Sylwasom ar rai o'r rhwymedigaethau a hawlid yn ystod 1711-1715. :Peniarth...
161961
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>:Fron-newydd. Perchennog, D. N. Kirkby.
:Garth-fach. Perchennog, F. N. Chell.
:Goleuwern. Perchennog, Col. P. R. Simner.
:Pen-y-wern. Perchennog, Eleanor Catherine Owen.
:Rhyd-y-garnedd. Perchennog, Joseph Griffith Davies.
:Tŷ-bach-y-ffordd. Perchennog, Laura Jane Lloyd.
{{c|HEN ARFERION Y TIR.}}
Bu rhai hen rwymedigaethau tir yn aros yn hir yn y plwyf. Sylwasom ar rai o'r rhwymedigaethau a hawlid yn ystod 1711-1715.
:Peniarthganol:—Cadw bytheiad, ci neu ast, mewn cyflwr da.
:Pen-y-wern:—Cadw bytheiad, a malu ym melin Peniarth y cyfan o'r ŷd.
:Tyn-y-llan:—Cadw bytheiad.
:Tyddyn-y-berth:—Cadw bytheiad.
:Tyddyn-padrig:—Rhoi i Beniarth ddwy iâr a gŵydd dew, neu dalu mewn arian 2/6c.
:Tyddyn-y-blaidd:—Elw'r ŵyn i'w gyflwyno bob Llun y Pasg ym mhorth yr eglwys, i etifedd Peniarth i'w rannu er budd tlodion Llanegryn, a'r warden eglwysig i roddi derbyneb amdano. Tebyg mai Elusen Hugh Owen oedd yr elw hwn.
:Waun-fawr:—Rhoddi un lladdiad o wair, a hawl pori i wartheg blithion y dreftadaeth.
:Geufron:—Porfa ŵyn.
:Llidiart Rhiwfelen:—Rhoddi ceiliog bob blwyddyn i Beniarth.
:Bryn-y-blaidd:—I falu'r ŷd ym melin Peniarth.
:Butcher Row:—Hawl flynyddol i gael cymaint o fawn ag y gallai un dyn ei dorri mewn diwrnod o Fawnog Trychiad.
:Llwyn-bren-llwyged:—Hawl i dorri mawn ym Mawnog Trychiad i Wm. Humphrey, cymaint ag a allai un dyn ei dorri mewn diwrnod.
:Rhan o ystâd y Tywysogion:—Dyledus ar Hugh Thomas, Llwyngwril, i Lewis Owen, Peniarth, bob blwyddyn, pedwar mesur o ryg da a phur, gŵydd dew'r Nadolig, a dwy iâr dew Ŵyl Ynyd.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
9c4z4g8qsfovx42llf62rr5ibsd70th
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/100
104
83020
161962
2026-04-01T19:08:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|CYTIR.}} Araf y peidiodd hen bobl y plwyf â siarad am y cytiroedd. Loes iddynt fu eu colli. Soniai'r hen dadau am gytir a gyrhaeddai o afon Dysynni i fyny i'r mynydd at y Gelli, ac am gytir a ymestynnai oddi wrth yr Efail i fyny i'r mynydd o boptu'r nant a red o ffynnon Cadlad. Porai gwartheg, mulod, defaid, moch, a gwyddau'r pentref ar y cytiroedd hyn o fewn cof diweddar. Yn raddol y daethpwyd i gydnabod mynydd Llanegryn yn eidd...
161962
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|CYTIR.}}
Araf y peidiodd hen bobl y plwyf â siarad am y cytiroedd. Loes iddynt fu eu colli. Soniai'r hen dadau am gytir a gyrhaeddai o afon Dysynni i fyny i'r mynydd at y Gelli, ac am gytir a ymestynnai oddi wrth yr Efail i fyny i'r mynydd o boptu'r nant a red o ffynnon Cadlad. Porai gwartheg, mulod, defaid, moch, a gwyddau'r pentref ar y cytiroedd hyn o fewn cof diweddar.
Yn raddol y daethpwyd i gydnabod mynydd Llanegryn yn eiddo ystâd Peniarth. Edrychai hen dirfeddianwyr y plwyf ar y mynydd fel cytir cyffredin i bawb o'r plwyfolion, a bu cwerylon blin a chwerw rhyngddynt a'r tirfeddianwyr a'i hawliai yn eiddo iddynt eu hunain. Yn ystod yr helyntion hyn y dinistriwyd llawer o hafotai'r mynydd, a hen drigfannau'r bryniau.
Daeth ystâd Peniarth i'w hawlio yn rhan o'i hetifeddiaeth gyfreithlon hi ei hunan. Rhoddodd William Wynne drwydded i bersonau i weithio chwarel arno yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a gweithiai ef ei hun chwarel ar y mynydd yn 1818; a gwnaeth hefyd o dair i bedair milltir o ffordd newydd ar draws y mynydd i wella'r Ffordd-ddu, ar ei draul ei hun yn 1800. Gwrthwynebodd i drigolion y plwyf roddi'r ''Enclosure Act'' mewn grym yn y plwyf gan yr hawliai bob cornel o dir agored yn eiddo iddo'i hun.
Cafodd cwmni o Gelynnin hawl gan y Llywodraeth i gychwyn agor chwarel ar fynydd Llanegryn, ac yr oeddynt wedi dechrau ei gweithio a chodi tŷ gerllaw; ond pan ddeallodd William Wynne am hynny protestiodd ac anfonodd ei weithredoedd i fyny i Lundain, a thynnwyd yn ôl ar unwaith yr hawl i weithio'r chwarel; ac nid amheuwyd hawl gyfreithiol Peniarth i'r mynydd wedi hynny. Medd amryw ystadau ar hawl i bori ar y mynydd, ond ni feddant hawl o dan y dywarchen.
Bu helyntion blin ynglŷn â hawliau i dorri mawn ar Fawnog Morfa Trychiad. Honnai perchenogion y tri thyddyn Llwynhensel, Trychiad-isaf, a Thrychiad-uchaf mai cytir<noinclude></noinclude>
cfamikb6v8h1c9crvp76yzs7ev251xw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/101
104
83021
161963
2026-04-01T19:09:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "perthynol iddynt hwy'n unig oedd y Fawnog. O'r ochr arall hawliai William Dafydd Llwyd, Lewis Owen, a Margaret Herbert, etifeddion Peniarth, y morfa fel Cytir y Fawnog, a bod ganddynt hawl i dorri, codi, a sychu mawn ar unrhyw fan ar y Cytir, a bod ganddynt hawl i'w cyrchu adref. Pan aeth Melin-y-brenin a Llwynhensel yn Llanegryn i feddiant Syr John Lloyd, Aberllefenni, ail-ddechreuodd helynt Morfa Trychiad, canys ceisiodd ef ei orau...
161963
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>perthynol iddynt hwy'n unig oedd y Fawnog. O'r ochr arall hawliai William Dafydd Llwyd, Lewis Owen, a Margaret Herbert, etifeddion Peniarth, y morfa fel Cytir y Fawnog, a bod ganddynt hawl i dorri, codi, a sychu mawn ar unrhyw fan ar y Cytir, a bod ganddynt hawl i'w cyrchu adref.
Pan aeth Melin-y-brenin a Llwynhensel yn Llanegryn i feddiant Syr John Lloyd, Aberllefenni, ail-ddechreuodd helynt Morfa Trychiad, canys ceisiodd ef ei orau gyfyngu ar hawliau ystâd Peniarth, a bu brwydro chwerw rhyngddynt. Trefnwyd i wrando achos Cytir Mawnog Trychiad yn Ficerdy Tywyn, 16, Hydref 1649, o flaen Dirprwywyr wedi eu hapwyntio gan Sesiwn Fawr Meirionnydd.
Hawliai perchenogion y tri thyddyn mai eu heiddo hwy'n unig oedd Cytir Mawnog Trychiad, a thystient ei bod yn arferiad ganddynt godi tâl oddi ar bawb am yr hawl i dorri'r mawn a'u cario; ac y byddent hwythau'n rhannu arian y Fawnog rhyngddynt yn dair rhan gyfartal. Ar yr ochr arall honnai etifeddion Peniarth fod ganddynt bob amser hawl a rhyddid i fynd i'r Fawnog fel y dewisent hwy eu hunain. Mynd yn eiddo preifat fu diwedd hanes Cytir Mawnog Trychiad, ac etifedd Peniarth yw'r perchennog presennol.
{{c|MELIN Y TYWYSOGION}}
Ceir hanes am y felin gyntaf yn y plwyf ynglŷn â Maenor Tal-y-bont, a pherthynai i lys y Tywysogion yng Nghwmwd Tal-y-bont. Codwyd hi ar enau'r Ceunant yn agos i'r pentref. Adeiladwyd hi pan oedd Cymru'n wlad annibynnol, ac yn cael ei llywodraethu gan ei thywysogion a'i chyfreithiau ei hun. Wedi cwymp Llywelyn ein Llyw Olaf, a darostwng Cymru yn 1282, ac i eiddo'r Dywysogaeth fynd i ddwylo Coron Lloegr, collodd y felin ei henw urddasol cyntaf, a gelwid hi ar ôl hynny'n Felin-y-brenin. Ond ei phriod enw oedd Melin Llanegryn. Yn ystod y ganrif ddiwethaf gelwid hi'n Felin-fach.
Bu digasedd chwerw rhwng uchelwyr Cwmwd Tal-y-bont a'r hen felin wedi iddi fynd i ddwylo Coron Lloegr. Yr oedd<noinclude></noinclude>
hnkv2c9bsxt7yxmavo4doiq61fmlnz5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/102
104
83022
161964
2026-04-01T19:09:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "hi'n ddolur llygad i bawb ohonynt fel ei gilydd. Mynnai'r awdurdodau Seisnig fod y felin yn meddu'r un hawliau ag a feddai pan oedd hi yn nwylo Tywysogion Cymru. Ni chydnabyddai'r uchelwyr ei bod hi'n meddu dim breintiau na hawliau o gwbl wedi iddi fynd o ddwylo'r Tywysogion. Honnai Coron Lloegr fod y felin yn meddu hawl i falu a tholli ŷd y rhanbarth a adwaenid fel Tal-y-bont Is-Cregennen. Cynhwysai'r rhanbarth dreddegymau Cregennen,...
161964
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi'n ddolur llygad i bawb ohonynt fel ei gilydd. Mynnai'r awdurdodau Seisnig fod y felin yn meddu'r un hawliau ag a feddai pan oedd hi yn nwylo Tywysogion Cymru. Ni chydnabyddai'r uchelwyr ei bod hi'n meddu dim breintiau na hawliau o gwbl wedi iddi fynd o ddwylo'r Tywysogion. Honnai Coron Lloegr fod y felin yn meddu hawl i falu a tholli ŷd y rhanbarth a adwaenid fel Tal-y-bont Is-Cregennen. Cynhwysai'r rhanbarth dreddegymau Cregennen, Morfa Mawnog, Llwyngwril, Llanfendigaid, Rhydcryw, Peniarth, a hefyd ran o Ddyffrydan. Yr oedd y felin gyflawn yn malu, gwyntyllio, a bragu fel y byddai'r angen a'r galw. Trethid hi, yn ôl Ystent Meirionnydd, i'r swm o £4, a gosodid hi am y rhent o £1/0/8 y flwyddyn.
Dyma restr o rai o'r tenantiaid y digwyddodd inni sylwi arnynt. (Bu gan amryw wŷr Seisnig afael arni o dro i dro). Thomas ap William ap Jenkin, a phan fu ef farw yr oedd arno'n ddyledus i'r Brenin 7 nobles am rent y felin. Yr ail enw yw Syr Humphrey Gilbert. Wedi'r gŵr hwn aeth i ddwylo John Lewis Owen, mab hynaf Lewis Owen, y Barwn. Yna cawn y Frenhines Elizabeth yn ei gosod ar brydles i ŵr o'r cyfenw Cardwell a fu'n gogydd yng nghegin ei Llys.
Yn y flwyddyn 1622, cawn enw'r cyfreithiwr enwog, Syr John Lloyd, Aberllefenni, yn denant, ac ar ei ôl yntau ei fab yng nghyfraith, John Lloyd, Rhiwaedog. Cododd helyntion blin rhyngddynt hwy a theulu Peniarth. Tystiai uchelwyr y plwyf fod Melin-y-brenin wedi ei llosgi i'r llawer yn ystod gwrthryfel Owen Glyn Dŵr, neu yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, ac na wyddai neb i sicrwydd ym mha le'r oedd ei safle, ac aent mor bell â gwadu na bu Melin Llanegryn yn un o felinau'r Tywysogion, a thystient fod melin Peniarth yn bodoli o'i blaen yn Llanegryn. Mynnai'r uchelwr a'r Ustus Heddwch, William Dafydd Llwyd, perchennog ystâd Peniarth, fod ei felin ef yn hŷn melin na'r un a elwid yn Felin-y-brenin. Ond rhoddodd Hugh Owen, Tal-y-bont, ei air mai'r un a elwid yn Felin Llanegryn oedd Melin-y-brenin.
Colli'r dydd yn raddol a wnaeth yr hen felin enwog a wasanaethodd yr ardaloedd yn ffyddlon am ganrifoedd lawer.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
s8pwe5itnfm80ba9sdtg4ngmgwhamyy
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/103
104
83023
161965
2026-04-01T19:10:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Cadwai pob ystâd felin at wasanaeth ei thenantiaid hi ei hun, ond nid oedd yr un ystâd wrth gefn Melin-y-brenin. Tawelodd sŵn ei dwndwr malu yn 1847, pryd yr ymfudodd ei melinydd olaf, Cadwaladr Jones, i'r America. Y mae hiraeth a chwithdod yn y fro am nad oes ynddi ddwndwr cymaint ag un felin yn malu ŷd y wlad. Erys un ffaith yn ddiddorol inni ynglŷn â helynt Melin-y-brenin neu Felin y Tywysogion, yn hen hanes Cymru. Tystid mewn rha...
161965
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cadwai pob ystâd felin at wasanaeth ei thenantiaid hi ei hun, ond nid oedd yr un ystâd wrth gefn Melin-y-brenin. Tawelodd sŵn ei dwndwr malu yn 1847, pryd yr ymfudodd ei melinydd olaf, Cadwaladr Jones, i'r America. Y mae hiraeth a chwithdod yn y fro am nad oes ynddi ddwndwr cymaint ag un felin yn malu ŷd y wlad.
Erys un ffaith yn ddiddorol inni ynglŷn â helynt Melin-y-brenin neu Felin y Tywysogion, yn hen hanes Cymru. Tystid mewn rhai hen ddogfennau ei bod hi'n sefyll yn nhref ddegwm Llanegryn, a honnai Syr John Lloyd, Aberllefenni, yr un peth pan oedd ef yn yr helynt cyfreithiol ynghylch y felin gyda theulu Peniarth.
Nid oes air o sôn am drefddegwm Llanegryn yn llyfrau'r eglwys, na'r Festri. Sonnid gynt am wely Dafydd Goch yn Llanegryn, a hefyd am Faerdref Llanegryn. Ond dieithr inni yw'r enw "trefddegwm Llanegryn."
{{c|LLYFRAU}}
*Dogfennau Peniarth.
*Cambrian Journal, 1868.
*Edwards, Ifan ab Owen: A Catalogue of Star Chamber Proceedings Relating to Wales. Cardiff, 1929.
*Gwallter Mechain ac Ioan Tegid: Gwaith Lewis Glyn Cothi, 1837.
*Hen weithredoedd perthynol i'r plwyf.
*Jones, Emyr Gwynne: Exchequer Proceedings (Equity) Concerning Wales. Cardiff, 1939.
*Morrice, J. C.: Gwaith Wiliam Llŷn. Bangor, 1908.
*Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890.
*Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
411gwmyzszn1cksuez2dgdpq5odxqwn
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/104
104
83024
161966
2026-04-01T19:11:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD VI}}</br>Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint Cynghorau Llywodraeth Leol.}} {{c|Y FESTRI.}} CEIR y cofnodion cyntaf o eiddo Festri'r plwyf am y flwyddyn 1735. Bodolai'r Festri cyn hynny, ond, yn anffodus, llosgwyd y llyfrau drwy gamgymeriad. Cymerodd y Parch. Arthur Jones, ficer y plwyf, dyddyn a elwid Tyn-y-llan, gan fwriadu ei droi'n dŷ'r eglwys, a chynnal y Festri ynddo fel y bu'n hen arferiad yn y plwyf. Rhoddodd y...
161966
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD VI}}</br>Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint Cynghorau Llywodraeth Leol.}}
{{c|Y FESTRI.}}
CEIR y cofnodion cyntaf o eiddo Festri'r plwyf am y flwyddyn 1735. Bodolai'r Festri cyn hynny, ond, yn anffodus, llosgwyd y llyfrau drwy gamgymeriad. Cymerodd y Parch. Arthur Jones, ficer y plwyf, dyddyn a elwid Tyn-y-llan, gan fwriadu ei droi'n dŷ'r eglwys, a chynnal y Festri ynddo fel y bu'n hen arferiad yn y plwyf. Rhoddodd y tŷ o dan ofal gwraig o'r enw Mari Dafydd, ac un gwanwyn aeth hithau ati i glirio a glanhau'r tŷ drwyddo'n drwyadl. Digwyddodd sylwi ar nifer o lyfrau llychlyd, a meddyliodd mai'r tro gorau y gallai hi ei wneuthur â hwy fyddai eu llosgi; ac felly y digwyddodd yr anffawd ofidus.
Y drefn ynglŷn â'r Festri oedd cadw cofnodion a chyfrifon y ddwy dreddegwm, sef Rhydcryw a Pheniarth, ar wahan; cyfrifid y treddegymau yn fath o blwyfi annibynnol ar ei gilydd yr adeg honno.
Swyddogion y Festri oedd y ficer, y wardeiniaid, goruchwylwyr y tlodion, a'r clerc. Mewn amser diweddarach daeth goruchwyliwr y ffordd fawr, fel y'i gelwid, yn aelod o'r Festri a bu felly am lawer o flynyddoedd. Casglai'r wardeiniaid y trethi, a thalent gyfrifon yr eglwys a'r plwyf, a gwnaent y cyfan ar awdurdod y Festri.
Gelwid y Festri ynghyd drwy ei chyhoeddi yn yr eglwys, neu drwy rybudd cyhoeddus. Dewisid ei swyddogion ganddi hi ei hunan, a derbynid ac archwilid eu cyfrifon ganddi hi hefyd, a chedwid cofnodion o'u gwaith a'u treuliau'n ofalus.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
qfihb1dn0iakc96erzqmfmzjvqxuv8b
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/105
104
83025
161968
2026-04-01T19:13:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Yr oedd y Festri'n gyfangwbl yn nwylo'r tyddynwyr a'r tirfeddianwyr. Yr amaethwyr, yn fwyaf arbennig, a dalai'r trethi, a hwy a drefnai pa fodd i'w defnyddio, a pho fwyaf fyddai'r tyddyn mwyaf fyddai awdurdod y tenant. Meddai'r tyddynnwr mawr, felly, ar fwy o bleidleisiau na'r tyddynnwr bach. Syml oedd gwaith y Festri a chyfyng oedd ei hadnoddau. Cylch ei gwaith oedd cynorthwyo'r tlodion a'r anffodusion, cadw'r eglwys a'r fynwent mew...
161968
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd y Festri'n gyfangwbl yn nwylo'r tyddynwyr a'r tirfeddianwyr. Yr amaethwyr, yn fwyaf arbennig, a dalai'r trethi, a hwy a drefnai pa fodd i'w defnyddio, a pho fwyaf fyddai'r tyddyn mwyaf fyddai awdurdod y tenant. Meddai'r tyddynnwr mawr, felly, ar fwy o bleidleisiau na'r tyddynnwr bach. Syml oedd gwaith y Festri a chyfyng oedd ei hadnoddau. Cylch ei gwaith oedd cynorthwyo'r tlodion a'r anffodusion, cadw'r eglwys a'r fynwent mewn trefn, a thalu am ddifa anifeiliaid ac adar rheibus, megis llwynogod, ffwlbartiaid, a chigfrain.
Ceir enwau'r wardeiniaid o flwyddyn i flwyddyn, ac nid ydynt ond enwau'n unig inni erbyn heddiw; ni wyddom ni ddim am y mwyafrif mawr ohonynt, nac ychwaith am enwau goruchwylwyr y tlodion, a llai fyth a wyddom am enwau'r plwyfolion a gefnogai weithrediadau'r Festri. Sylwasom ar ychydig enwau fel Edward Williams, Peniarth, mab ieuangaf John Williams, Bodelwyddan a Chaer, ac ŵyr Syr William Williams, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn nheyrnasiad Siarl II. John Kenrick, Bronclydwr; Thomas Jones ac Ellis Hughes, athrawon yr ysgol, a gwelir yn y cofnodion lawysgrif Rhisiart Powel, yr ysgolfeistr a'r bardd adnabyddus a gollodd ei fywyd mewn ystorm o eira ar fynydd Llech yn agos i Benmachno. Dewisai William Wynne, Peniarth, gynrychiolydd i weithredu drosto ef ei hun fel warden; a diddorol yw sylwi ar enw Owen Anwyl, tad y Parch. Edward Anwyl. Gan mai Festri oedd y ffurf gyntaf ar fath o Lywodraeth Leol fu yn ein plwyf, rhoddwn restr o enwau'r wardeiniaid a goruchwylwyr y tlodion fel y'u ceir yn yr unig lyfr a erys o eiddo'r Festri. Saif yr enw cyntaf yn ddieithriad dros Rhydcryw, a'r ail enw dros dref Peniarth:
:1735. Robert Owen, Waun-fach, Hugh Rees, Tyddyn-padrig.
:1736. Lewis Humphrey, Pen-y-ceunant, Hugh Jones, Hafoty.
:1737. John David, David John.
:1738. Jonathan Griffith, David John.
:1739. Hugh Owen, Richard David.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
6gd91eqydu4b51ytndyedger0xbbmgm
161969
161968
2026-04-01T19:13:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */
161969
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd y Festri'n gyfangwbl yn nwylo'r tyddynwyr a'r tirfeddianwyr. Yr amaethwyr, yn fwyaf arbennig, a dalai'r trethi, a hwy a drefnai pa fodd i'w defnyddio, a pho fwyaf fyddai'r tyddyn mwyaf fyddai awdurdod y tenant. Meddai'r tyddynnwr mawr, felly, ar fwy o bleidleisiau na'r tyddynnwr bach. Syml oedd gwaith y Festri a chyfyng oedd ei hadnoddau. Cylch ei gwaith oedd cynorthwyo'r tlodion a'r anffodusion, cadw'r eglwys a'r fynwent mewn trefn, a thalu am ddifa anifeiliaid ac adar rheibus, megis llwynogod, ffwlbartiaid, a chigfrain.
Ceir enwau'r wardeiniaid o flwyddyn i flwyddyn, ac nid ydynt ond enwau'n unig inni erbyn heddiw; ni wyddom ni ddim am y mwyafrif mawr ohonynt, nac ychwaith am enwau goruchwylwyr y tlodion, a llai fyth a wyddom am enwau'r plwyfolion a gefnogai weithrediadau'r Festri. Sylwasom ar ychydig enwau fel Edward Williams, Peniarth, mab ieuangaf John Williams, Bodelwyddan a Chaer, ac ŵyr Syr William Williams, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn nheyrnasiad Siarl II. John Kenrick, Bronclydwr; Thomas Jones ac Ellis Hughes, athrawon yr ysgol, a gwelir yn y cofnodion lawysgrif Rhisiart Powel, yr ysgolfeistr a'r bardd adnabyddus a gollodd ei fywyd mewn ystorm o eira ar fynydd Llech yn agos i Benmachno. Dewisai William Wynne, Peniarth, gynrychiolydd i weithredu drosto ef ei hun fel warden; a diddorol yw sylwi ar enw Owen Anwyl, tad y Parch. Edward Anwyl. Gan mai Festri oedd y ffurf gyntaf ar fath o Lywodraeth Leol fu yn ein plwyf, rhoddwn restr o enwau'r wardeiniaid a goruchwylwyr y tlodion fel y'u ceir yn yr unig lyfr a erys o eiddo'r Festri. Saif yr enw cyntaf yn ddieithriad dros Rhydcryw, a'r ail enw dros dref Peniarth:
:1735. Robert Owen, Waun-fach, Hugh Rees, Tyddyn-padrig.
:1736. Lewis Humphrey, Pen-y-ceunant, Hugh Jones, Hafoty.
:1737. John David, David John.
:1738. Jonathan Griffith, David John.
:1739. Hugh Owen, Richard David.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
lobxtkox9lio1vutjzkzz8m00dp79yo
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/106
104
83026
161970
2026-04-01T19:13:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda ":1740. Edward Pugh, Anthony Richard. :1741. John Lloyd, Thomas Pugh. :1742. Hugh Richard, Edward Williams. :1743. Thomas Edward, Richard Humphrey. :1744. James Williams, John Lewis. :1745. David Rees, John Williams. :1746. Vincent Humphreys, Rees Owen. :1747. Vincent Humphreys, John David. :1748. Owen Hugh Bevan, John Lloyd. :1749. Evan Thomas, Humphrey David. :1750. Ellis Rowland, Hugh Powel. :1751. Francis Richard, John Wi...
161970
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>:1740. Edward Pugh, Anthony Richard.
:1741. John Lloyd, Thomas Pugh.
:1742. Hugh Richard, Edward Williams.
:1743. Thomas Edward, Richard Humphrey.
:1744. James Williams, John Lewis.
:1745. David Rees, John Williams.
:1746. Vincent Humphreys, Rees Owen.
:1747. Vincent Humphreys, John David.
:1748. Owen Hugh Bevan, John Lloyd.
:1749. Evan Thomas, Humphrey David.
:1750. Ellis Rowland, Hugh Powel.
:1751. Francis Richard, John William Morgan.
:1752. Thomas Richards, John Kenrick, Edward Williams.
:1753. John Hugh, Humphrey Hugh.
:1754. Humphrey Richard, William Jones.
:1755. William Griffith, Richard Humphrey.
:1756. Morris David, William Pugh.
:1757. David Rees, Griffith Humphrey.
:1758. Griffith Ellis, Owen Hugh.
:1759. Richard David, John Pugh.
:1760.William Lloyd, Thomas Rees.
:1761. Hugh Jones, John Kenrick, Thomas Pugh.
:1762. Jonathan Griffith, William David.
:1763. Robert Owen, John Davies.
:1764. Robert Owen, John Kenrick, John Davies.
:1765. Lewis Morgan, Lewis Pugh.
:1766. John Edward, Vincent Humphreys.
:1767. Humphrey David, William Jones.
:1768. Lewis Jones, Richard Humphrey.
:1769. Thomas Pugh, William Anthony.
:1770. Rowland William (warden), William Lloyd (overseer).
:1771. Griffith Jones, Thomas Daniel (wardeiniaid), Morris David, Evan Lewis (overseers).
:1772. Richard David, David William (wardeiniaid), Owen Hugh, Lewis Pugh (overseers).
{{nop}}<noinclude></noinclude>
j91jtz8fc1pvhll9rqj6ngymplvx5jv
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/107
104
83027
161971
2026-04-01T19:15:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda ":1773. David Rees (warden), Humphrey David, David Edward (overseers). :1774. Hugh Griffith, Jonathan Griffith (wardeiniaid), John William Morgan, John Evan (overseers). :1775. Thomas Rees, John Lewis (wardeiniaid), Robert Pugh, Rhys ab Edward (overseers). :1776. Morgan Evan, Thomas Rees, cynrychiolydd W. Wynne (wardeiniaid), Evan Morgan, William Jones (over-seers). :1777. Morris David, William Pugh (wardeiniaid), Rowland William Th...
161971
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>:1773. David Rees (warden), Humphrey David, David Edward (overseers).
:1774. Hugh Griffith, Jonathan Griffith (wardeiniaid), John William Morgan, John Evan (overseers).
:1775. Thomas Rees, John Lewis (wardeiniaid), Robert Pugh, Rhys ab Edward (overseers).
:1776. Morgan Evan, Thomas Rees, cynrychiolydd W. Wynne (wardeiniaid), Evan Morgan, William Jones (over-seers).
:1777. Morris David, William Pugh (wardeiniaid), Rowland William Thomas Pugh (overseers).
:1778. William Bevan Richard William (wardeiniaid), Humphrey David (overseer).
:1779. Rhys ab Edward, Owen Anwyl (wardeiniaid), William Lloyd, Humphrey Richard (overseers).
:1780. Evan David, Owen Richard (wardeiniaid), Richard Anthony, David Edward (overseers).
:1781. John Pugh, David Thomas (wardeiniaid), Thomas Rees, Lewis Jones (overseers).
:1782. Robert Pugh, Owen Rees (wardeiniaid), Lewis Jones, David Thomas (overseers).
:1783. Owen Richard (overseer).
:1784. Hugh Humphrey (warden), John Lewis (overseer).
Gwnaed y trethiant cyntaf y meddwn hanes amdano yn y flwyddyn 1735; bu trethiant o flaen hwn, ond y mae'r hanes ar goll. Swm y dreth a godwyd oedd pedair ceiniog yn y bunt am flwyddyn; rhennid hwn yn gyfartal rhwng Treth yr Eglwys a Threth y Tlodion, a chesglid treth y ddwy dre-ddegwm ar wahan.
Cyfrifon Robert Owen, Waun-fach, am dref Rhydcryw am y flwyddyn 1735:
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| || || £ s. c.
|-
| Treth y Tlodion || ..... || 2 18 2
|-
| Treth Eglwys || ..... || {{Underline|2 18 2 }}
|-
| || ||{{Underline|£5 16 4}}
|}
{{nop}}<noinclude></noinclude>
9nkp5rp83ge72cpd6u4hp0is0mr9m11
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/108
104
83028
161972
2026-04-01T19:17:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Cyfrifon Hugh Rees, Tyddynpadrig, am dre Peniarth, am yr un flwyddyn: {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | || || £ s. c. |- | Treth y Tlodion || ..... || 2 15 5 |- | Treth Eglwys || ..... || {{Underline|2 15 5}} |- | || ||{{Underline|£5 10 10}} |} Gwelir bod trethiant y ddwy dreddegwm yn gyfartal bron o ran gwerth; cyrhaeddai cyfanswm treth Rhydcryw 5/6 yn fwy na threth tref Peniarth. Gwerth tre...
161972
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cyfrifon Hugh Rees, Tyddynpadrig, am dre Peniarth, am yr un flwyddyn:
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| || || £ s. c.
|-
| Treth y Tlodion || ..... || 2 15 5
|-
| Treth Eglwys || ..... || {{Underline|2 15 5}}
|-
| || ||{{Underline|£5 10 10}}
|}
Gwelir bod trethiant y ddwy dreddegwm yn gyfartal bron o ran gwerth; cyrhaeddai cyfanswm treth Rhydcryw 5/6 yn fwy na threth tref Peniarth.
Gwerth trethiannol tref Rhydcryw oedd £349, a gwerth trethiannol tref Peniarth oedd £332/10/0.
Aeth y dreth yn chwe cheiniog yn y bunt yn y flwyddyn 1740 a methwyd â chasglu trethi Tyn-llwyn, 7/-, a Bryn-yr-orsedd, 2/3.
Gwelwn drwy swm y trethi hyn mai gwerth trethiant Tyn-llwyn oedd £14, ac mai gwerth Bryn-y-rorsedd oedd £4/10/0.
Yr un swm oedd y dreth am y flwyddyn 1744, a methwyd a chasglu treth Caermynach, 3/9; gwerth trethiannol Caermynach oedd £7/10/0. Yn y flwyddyn 1746 disgynnodd y dreth i bedair ceiniog yn y bunt, a methodd Tŷ-mawr â thalu'r dreth, 2/10; gwerth trethiannol Tŷ-mawr oedd £8/10/0. Cododd treth y tlodion yn y flwyddyn 1779 i swllt yn y bunt, ac erbyn 1783 aeth i fyny i 1/6 yn y bunt.
Yn y flwyddyn 1770 dechreuodd goruchwylwyr y tlodion gymryd achosion y tlodion i'w dwylo eu hunain o ddwylo'r wardeiniaid. O hyn allan cyfyngwyd gwaith y wardeiniaid i ofalu am yr eglwys a'r fynwent. Gofalent am win y Cymun, gwenwisg y ficer, a llyfrau fel y Beibl, Llyfr Gweddi Gyffredin, a'r Homiliau, ac edrych ar ôl yr adeilad, gwydro'r ffenestri, a thrwsio'r drws a'r to.
Dyma restr o rai pethau y telid amdanynt gan y Festri: Gwin y Cymun. Pris y gwin oedd 2/-y chwart, a chyrchid ef o Ddolgellau. Gwerid symiau mawr am winoedd.
Beibl, 1/10/0 (yn 1738).
Llyfr Gweddi Gyffredin, 18/-(yn 1738.)
{{nop}}<noinclude></noinclude>
dxo9rbpu298d0az266z7thyibvduubu
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/109
104
83029
161973
2026-04-01T19:18:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Lladd Llwynog, 2/6. Lladd Ffwlbart, 1/3 a 2/6. Lladd cigfran, 1/-i 1/4. Lladdwyd 9 cigfran yn 1777 a thalwyd 12/-am hynny. Ychydig ar y cyfan oedd y taliadau am ladd adar ac anifeiliaid rheibus. Nid oedd llawer ohonynt yn y plwyf y mae'n amlwg. Talwyd 7/- am bost y Ddeial 1760. Telid am amdo o 2/- i 3/-. Cleddid pobl mewn amdo'n unig yr adeg hon. Cafodd Bess Evan Thomas amdo gwerth 2/- yn y flwyddyn 1763. Talwyd 2/6 i ''overs...
161973
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Lladd Llwynog, 2/6.
Lladd Ffwlbart, 1/3 a 2/6.
Lladd cigfran, 1/-i 1/4. Lladdwyd 9 cigfran yn 1777 a thalwyd 12/-am hynny. Ychydig ar y cyfan oedd y taliadau am ladd adar ac anifeiliaid rheibus. Nid oedd llawer ohonynt yn y plwyf y mae'n amlwg.
Talwyd 7/- am bost y Ddeial 1760.
Telid am amdo o 2/- i 3/-. Cleddid pobl mewn amdo'n unig yr adeg hon. Cafodd Bess Evan Thomas amdo gwerth 2/- yn y flwyddyn 1763.
Talwyd 2/6 i ''overseer'' y ffordd fawr, a 2/6 am fesur ffyrdd y plwyf yn 1766.
Gwerth cwrw'r Festri fel rheol fyddai 2/6 y tro ac unwaith yn y flwyddyn y byddai hynny. Teithid llawer ar ran y Festri, a thelid am daith i Ffestiniog o 4/6 i 5/-. Taith i Fachynlleth, 1/6. Taith i Ddolgellau, 1/-. Telid am eirch, 1/-, 3/6, 6/-, 7/-, 8/-, 9/- a 10/6.
Problem ddyrys yn y cyfnod hwn oedd y tlodion crwydrol. Gan fod pob tlawd i bwyso ar ei blwyf ei hunan, cadwai ''overseers'' Llanegryn ofal manwl rhag i neb dieithr ddyfod yn faich ar y plwyf, a rhag i neb o blwyfi eraill drigiannu yn y plwyf fel y meddai ar hawl i blwyfo. Er gwaethaf pob gofal o'u heiddo enillai ambell un ei hawl i blwyfo drwy breswylio yn y plwyf am flwyddyn. Gofelid, fel rheol, am gyflogi gwasanaethyddion o blwyfi eraill am lai na blwyddyn rhag iddynt ennill eu plwyf. Ymladdwyd llawer brwydr galed yn Chwarter Sesiwn Meirionnydd gan oruchwylwyr y tlodion am hawl i symud tlodion cyndyn yn eu hôl i'w plwyfi hwy eu hunain. Ceir hanes am un o'r brwydrau hyn o Lanegryn ar dudalen gyntaf o'r llyfr cyntaf sydd ar gael o'r ''Merionethshire Quarter Session Order Book.'' Goruchwylwyr y tlodion a ofalai o'u pen a'u pastwn eu hunain am dlodion y plwyf. Yr oedd y cynhorthwy a estynnid ganddynt i'r trueiniaid yn ddifrifol o fychan yn aml. Estynnid torth geiniog weithiau i dlawd anghenog. A pha ymwared oedd hynny? Daeth y<noinclude></noinclude>
rshhtmdhfl8t06t1nlejp6v57k8wr63
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/110
104
83030
161974
2026-04-01T19:18:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Festri ei hun mewn amser diweddarach i roddi mwy o amser a mwy o sylw i achosion y tlodion, ac i estyn ymwared ac ymgeledd iddynt, a thruenus oedd hynny ar y gorau'n fynych. Rhoddwn y cyfrifon a ganlyn yn yr iaith fel y mae yn llyfr y Festri am Hydref 24, 1782. A list of the Poor of Llanegryn whose dividend have been fixed at a Vestry held 24th of Oct, 1782. {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" | | |£ s. d...
161974
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Festri ei hun mewn amser diweddarach i roddi mwy o amser a mwy o sylw i achosion y tlodion, ac i estyn ymwared ac ymgeledd iddynt, a thruenus oedd hynny ar y gorau'n fynych. Rhoddwn y cyfrifon a ganlyn yn yr iaith fel y mae yn llyfr y Festri am Hydref 24, 1782.
A list of the Poor of Llanegryn whose dividend have been fixed at a Vestry held 24th of Oct, 1782.
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|
|
|£ s. d.
|-
|John Lewis
|
|4 0 0
|-
|Wm. James
|
|4 0 0
|-
|Wm. Pughe.
|1/6 per week
|
|-
|Evan Thomas
|
|3 0 0
|-
|Margaret Hugh Williams
|
|1 8 0
|-
|Jane David
|
|1 6 6
|-
|Griffith Ellis
|
|3 6 9
|-
|Elinor Ellis
|
|1 0 0
|-
|Catherine Evan
|
|0 10 0
|-
|Catherine Humphrey
|.
|2 0 0
|-
|Ellis Humphrey's widow
|
|1 0 0
|-
|Thomas Edward
|
|2 0 0
|}
Sylwasom ar y cytundebau a ganlyn a wnaed yn y flwyddyn 1784.
Llanegryn, January 9th, 1784. At the public Vestry, Agreed with Jane Rees to keep Hugh Vaughan a pauper for 1 twelve month from the date hereof in meat, lodging, and clothing for £2/0/0.
Likewise the same agreed with Anne John to keep John Vaughan a pauper for the same Term, in meat, lodging and clothing for £2/0/0.
:John Lewis
::Overseer of the Poor.
Likewise the same day agreed with Hugh Pughe to keep Morgan Hugh a pauper in meat, lodging, and clothing from the first of December last to the first of May next for £2/2/0.
:John Lewis.
::Overseer for the Poor.<noinclude></noinclude>
ardxzka0tfp58afduovaf20gp82n48v
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/111
104
83031
161975
2026-04-01T19:19:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "1783 fel y sylwasom eisoes, effaith y ''County Rate'' heb ddim amheuaeth. Swm y ''County Rate'' oedd chwe cheiniog yn y bunt, ac i'w dalu i ''Surveyors of the High Ways.'' Deffrodd y Sir i'w chyfrifoldeb ynglŷn â'r ffyrdd, a sefydlwyd yr ''Highway Board'' yn 1784. Tebyg yw mai ymarhous fu Festri Llanegryn i symud at roddi ffyrdd y plwyf mewn trefn, a bu cŵyn oherwydd hynny, a arweiniodd i'r helynt flin a fu rhwng Awdurdodau'r Sir a'r...
161975
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1783 fel y sylwasom eisoes, effaith y ''County Rate'' heb ddim amheuaeth. Swm y ''County Rate'' oedd chwe cheiniog yn y bunt, ac i'w dalu i ''Surveyors of the High Ways.''
Deffrodd y Sir i'w chyfrifoldeb ynglŷn â'r ffyrdd, a sefydlwyd yr ''Highway Board'' yn 1784. Tebyg yw mai ymarhous fu Festri Llanegryn i symud at roddi ffyrdd y plwyf mewn trefn, a bu cŵyn oherwydd hynny, a arweiniodd i'r helynt flin a fu rhwng Awdurdodau'r Sir a'r ddwy dreddegwm yn Llanegryn yn 1788.
Cyndyn fu'r bywyd gwledig i symud o'i hen rigolau; o gam i gam y symudwyd ymlaen ym Meirion ar y gorau.
{{c|CWNSTABLIAID.}}
Apwyntid dau gwnstabl dros y plwyf, y naill dros dref Rhydcryw a'r llall dros dref Peniarth, a dewisid hwy gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd. Dewisid hefyd brif gwnstabl dros Hwndrwd Tal-y-bont. Methasom â chael y rhestr yn gyflawn:
:1778. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Rhyd-y-garnedd. Rhydcryw, Edward Roberts, Gwyddfryniau. Peniarth, John Rees, Bredyn-fawr.
:1788. Peniarth, Robert Jones, Cemaes.
:1789. Rhydcryw, Lewis Ellis, Glan-y-Morfa.
:1790. Prifgwnstabl, John Lewis, Pen-y-wern. Rhydcryw, Robert Frederick, Glan-y-morfa. Peniarth, Owen Thomas, Nant.
:1791. Rhydcryw, Hugh Owen, Ty-bach-y-ffordd. 1794. Prifgwnstabl, Richard Humphreys, Peniarth. 1796. Rhydcryw, Griffith Davies,
:Peniarth, Ellis Roberts, Hen-siop, Ty-bach-y-ffordd.
:1797 Rhydcryw. Obednego Price, Tyn-y-pwll. Peniarth, John Frederick, Bredyn-fach.
:1798. Peniarth. Owen Thomas, Nant.
:1799. Rhydcryw, William Griffith, Fron-newydd.
:1801. Prifgwnstabl, David Evan, Bodowyn. Peniarth, Richard Owen, Glan-y-wern. Rhydcryw, Edward Roberts, Caermynach.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
kon5xcilmmzs64hevbst3m17omb9ky3
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/113
104
83032
161976
2026-04-01T19:19:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda ":1802. Rhydcryw, Robert Frederick, Glan-y-morfa. 1803. Rhydcryw, Richard Roberts, Peniarth, Edward Roberts, Hafoty, Brynbloeddyn. :1804. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Trychiad. Rhydcryw, Vincent Jones, Tal-y-bont. :1805. Rhydcryw, William Jones, Tal-y-bont. :1807. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf. :1808. Prifgwnstabl, Wm. Jones, Hen-siop. Rhydcryw, David Jones, Pen-y-ceunant. Peniarth, Lewis Roberts, Waun. :1809. Rhydcryw, Hugh Jones...
161976
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>:1802. Rhydcryw, Robert Frederick, Glan-y-morfa. 1803. Rhydcryw, Richard Roberts, Peniarth, Edward Roberts, Hafoty, Brynbloeddyn.
:1804. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Trychiad. Rhydcryw, Vincent Jones, Tal-y-bont.
:1805. Rhydcryw, William Jones, Tal-y-bont.
:1807. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
:1808. Prifgwnstabl, Wm. Jones, Hen-siop. Rhydcryw, David Jones, Pen-y-ceunant. Peniarth, Lewis Roberts, Waun.
:1809. Rhydcryw, Hugh Jones, Trychiad.
:1813. Peniarth, John Evans, Peniarthganol.
:1814-15. Prifgwnstabl, John Davies, Celmi.
:1815. Rhydcryw, David Davies, Trychiad.
:1817. Rhydcryw, John Roberts, Nant-y-cynog.
:1818. Peniarth, Lewis Pugh, Cemaes.
:1819. Rhydcryw, Edward Humphreys, Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf. Rhydcryw.
:1821. Prifgwnstabl, David Davies, Trychiad. Rhydcryw, Lewis Humphreys, Rhydcryw. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
:1822. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
:1823. Peniarth, Rees Thomas, Bredyn-fawr.
:1824. Rhydcryw, Edward Richards. Peniarth, Rees Thomas, Bredyn-fawr.
:1825-26. Yr uchod.
:1827. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Rhyd-y-garnedd. Peniarth, Henry Lloyd, Caermynach. Rhydcryw, Hugh Pugh, Bronclydwr. .
:1831. Prifgwnstabl, Isaac Thomas, Waun-fach. Rhydcryw, Hugh Jones, Clos-bach.
:1832. Prifgwnstabl, Isaac Thomas, Waun-fach. Rhydcryw, John Lewis, Pen-y-wern. Peniarth, Evan David, Bredyn-fawr.
:1833. Rhydcryw, Hugh Jones, Fron-newydd. Peniarth, Wm. Price, Hen-siop.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
32paarbn4uhsesx3w2vh9baz7qrbv1q
161978
161976
2026-04-01T19:20:45Z
AlwynapHuw
1710
161978
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>:1834. Rhydcryw, Wm. Jones, Llwyn-y-fynwent. Peniarth, John Evans, Peniarth-ganol.
:1835. Rhydcryw, Evan Humphreys, Peniarth, Mathias Jones, Blaidd. Glan-y-morfa.
:1836. Rhydcryw, Robert Roberts, Rhydcryw. Peniarth, John Evans, Peniarth-ganol.
:1837. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, John Evans, Peniarth-ganol.
:1838. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, William Ellis, Tyddyn-bach.
:1840. Prifgwnstabl, Richard Rowlands, Tal-y-bont. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, William Ellis, Tyddyn-bach.
:1841. Prifgwnstabl, Richard Rowlands, Tal-y-bont. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, William Jones, Waun.
:1842. Prifgwnstabl, Richard Rowlands, Tal-y-bont. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, John Evans, Tyn-cornel.
:1844. Rhydcryw, Richard Lewis, Pen-y-banc, Groser. Peniarth, Hugh Lewis, Garth-fach.
:1845. Rhydcryw, Robert Rees, Peniarth, William Ellis, Tyddyn-bach. Ty-bach-y-ffordd.
:1846. Rhydcryw, John Lewis, Tyn-llan. Peniarth, Hugh Lewis, Garth-fach.
{{c|YR ETHOLFRAINT.}}
Yr etholrestr gyntaf a welsom oedd yr un a wnaed ryw-bryd cyn y flwyddyn 1782 o dirfeddianwyr Hwndrwd Tal-y-bont. Erbyn yr adeg yma gelwid Cwmwd Tal-y-bont yn Hwndrwd Tal-y-bont. O dan yr hen gyfraith ni feddid hawl pleidleisio gan neb ond a berchenogai dir ''"freehold"'' gwerth £2 a throsodd yn y flwyddyn.
Pleidleisiai etholwyr yr Hwndrwd yn nhref Ddolgellau. Mewn llawysgrif y gwelsom yr Etholrestr hon.
Cynhwysai'r enwau a ganlyn o blwyf Llanegryn:
{{nop}}<noinclude></noinclude>
o7hr1arfiar6iukl5nkp1szbbnu9a24
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/112
104
83033
161977
2026-04-01T19:20:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda ":1802. Rhydcryw, Robert Frederick, Glan-y-morfa. 1803. Rhydcryw, Richard Roberts, Peniarth, Edward Roberts, Hafoty, Brynbloeddyn. :1804. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Trychiad. Rhydcryw, Vincent Jones, Tal-y-bont. :1805. Rhydcryw, William Jones, Tal-y-bont. :1807. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf. :1808. Prifgwnstabl, Wm. Jones, Hen-siop. Rhydcryw, David Jones, Pen-y-ceunant. Peniarth, Lewis Roberts, Waun. :1809. Rhydcryw, Hugh Jones...
161977
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>:1802. Rhydcryw, Robert Frederick, Glan-y-morfa. 1803. Rhydcryw, Richard Roberts, Peniarth, Edward Roberts, Hafoty, Brynbloeddyn.
:1804. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Trychiad. Rhydcryw, Vincent Jones, Tal-y-bont.
:1805. Rhydcryw, William Jones, Tal-y-bont.
:1807. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
:1808. Prifgwnstabl, Wm. Jones, Hen-siop. Rhydcryw, David Jones, Pen-y-ceunant. Peniarth, Lewis Roberts, Waun.
:1809. Rhydcryw, Hugh Jones, Trychiad.
:1813. Peniarth, John Evans, Peniarthganol.
:1814-15. Prifgwnstabl, John Davies, Celmi.
:1815. Rhydcryw, David Davies, Trychiad.
:1817. Rhydcryw, John Roberts, Nant-y-cynog.
:1818. Peniarth, Lewis Pugh, Cemaes.
:1819. Rhydcryw, Edward Humphreys, Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf. Rhydcryw.
:1821. Prifgwnstabl, David Davies, Trychiad. Rhydcryw, Lewis Humphreys, Rhydcryw. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
:1822. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
:1823. Peniarth, Rees Thomas, Bredyn-fawr.
:1824. Rhydcryw, Edward Richards. Peniarth, Rees Thomas, Bredyn-fawr.
:1825-26. Yr uchod.
:1827. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Rhyd-y-garnedd. Peniarth, Henry Lloyd, Caermynach. Rhydcryw, Hugh Pugh, Bronclydwr. .
:1831. Prifgwnstabl, Isaac Thomas, Waun-fach. Rhydcryw, Hugh Jones, Clos-bach.
:1832. Prifgwnstabl, Isaac Thomas, Waun-fach. Rhydcryw, John Lewis, Pen-y-wern. Peniarth, Evan David, Bredyn-fawr.
:1833. Rhydcryw, Hugh Jones, Fron-newydd. Peniarth, Wm. Price, Hen-siop.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
32paarbn4uhsesx3w2vh9baz7qrbv1q
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/114
104
83034
161979
2026-04-01T19:21:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |'''Enwau'r Rhydd-ddeiliaid''' |'''Lle byw''' |'''Mangre'r Rhydd-ddaliad''' |- |C. David Humphrey |Llabwst |Pant 2 who is his Ten 428 499 |- |N. David John |Cemmaes |Cemmaes 452 |- |N. David Morris |Trychiad |Trychiad 509 |- |C. Humphreys, Rev. Mr |Tal-y-bont |Rhetcriw 502 |- |V. William |Rhiwfelen |Rhiwfelen 476 |- |V. Jones, Rev. Mr |Tynewydd |Nantcynog 511 |- |V. Lloyd...
161979
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|'''Enwau'r Rhydd-ddeiliaid'''
|'''Lle byw'''
|'''Mangre'r Rhydd-ddaliad'''
|-
|C. David Humphrey
|Llabwst
|Pant 2 who is his Ten 428 499
|-
|N. David John
|Cemmaes
|Cemmaes 452
|-
|N. David Morris
|Trychiad
|Trychiad 509
|-
|C. Humphreys, Rev. Mr
|Tal-y-bont
|Rhetcriw 502
|-
|V. William
|Rhiwfelen
|Rhiwfelen 476
|-
|V. Jones, Rev. Mr
|Tynewydd
|Nantcynog 511
|-
|V. Lloyd, Mr.
|Gwyddfryniau
|Gwyddfryniau
|-
|V. Owen, Rev. Mr. Lewis
|Llanllechid
|Waenfach 579
|-
|V. Wynne, Wm. Esq.
|Peniarth
|Peniarth 451
|-
|C. Wms. William, Esq.
|Peniarthucha
|Peniarthuchaf 519 460. 2 attend
|-
|C. David
|Camaes
|Cemmaes 2 lease 452
|}
Rhaniad Seisnig yw Cwmwd Tal-y-bont erbyn hyn.
{{c|1833}}
Wedi pasio Mesur Diwygiad 1832, pleidleisiai'r lleoedd canlynol yn Nhywyn:—Tywyn, Pennal, Llanegryn, Llanfihangel-y-pennant, Tal-y-llyn a Chelynnin.
{{c|1872}}
Gwnaed cyfnewidiadau ychwanegol trwy wneuthur Llanegryn yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai'r lleoedd a ganlyn yn Llanegryn:—Llanegryn, Llanfihangel-y-pennant, a threddegymau Llanfendigaid, Bodgadfan, a Llwyngwril.
{{c|1886}}
Llanegryn eto yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai'r lleoedd a ganlyn yn Llanegryn:—Llanegryn, a threddegymau Llanfendigaid, Bodgadfan a Llwyngwril.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
ccemjp682wka9gixq8t3gokytrz2b2l
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/115
104
83035
161980
2026-04-01T19:21:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |'''Enwau'r Rhydd-ddeiliaid''' |'''Lle byw''' |'''Mangre'r Rhydd-ddaliad''' |- |C. David Humphrey |Llabwst |Pant 2 who is his Ten 428 499 |- |N. David John |Cemmaes |Cemmaes 452 |- |N. David Morris |Trychiad |Trychiad 509 |- |C. Humphreys, Rev. Mr |Tal-y-bont |Rhetcriw 502 |- |V. William |Rhiwfelen |Rhiwfelen 476 |- |V. Jones, Rev. Mr |Tynewydd |Nantcynog 511 |- |V. Lloyd...
161980
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|'''Enwau'r Rhydd-ddeiliaid'''
|'''Lle byw'''
|'''Mangre'r Rhydd-ddaliad'''
|-
|C. David Humphrey
|Llabwst
|Pant 2 who is his Ten 428 499
|-
|N. David John
|Cemmaes
|Cemmaes 452
|-
|N. David Morris
|Trychiad
|Trychiad 509
|-
|C. Humphreys, Rev. Mr
|Tal-y-bont
|Rhetcriw 502
|-
|V. William
|Rhiwfelen
|Rhiwfelen 476
|-
|V. Jones, Rev. Mr
|Tynewydd
|Nantcynog 511
|-
|V. Lloyd, Mr.
|Gwyddfryniau
|Gwyddfryniau
|-
|V. Owen, Rev. Mr. Lewis
|Llanllechid
|Waenfach 579
|-
|V. Wynne, Wm. Esq.
|Peniarth
|Peniarth 451
|-
|C. Wms. William, Esq.
|Peniarthucha
|Peniarthuchaf 519 460. 2 attend
|-
|C. David
|Camaes
|Cemmaes 2 lease 452
|}
Rhaniad Seisnig yw Cwmwd Tal-y-bont erbyn hyn.
{{c|1833}}
Wedi pasio Mesur Diwygiad 1832, pleidleisiai'r lleoedd canlynol yn Nhywyn:—Tywyn, Pennal, Llanegryn, Llanfihangel-y-pennant, Tal-y-llyn a Chelynnin.
{{c|1872}}
Gwnaed cyfnewidiadau ychwanegol trwy wneuthur Llanegryn yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai'r lleoedd a ganlyn yn Llanegryn:—Llanegryn, Llanfihangel-y-pennant, a threddegymau Llanfendigaid, Bodgadfan, a Llwyngwril.
{{c|1886}}
Llanegryn eto yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai'r lleoedd a ganlyn yn Llanegryn:—Llanegryn, a threddegymau Llanfendigaid, Bodgadfan a Llwyngwril.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
ccemjp682wka9gixq8t3gokytrz2b2l
161981
161980
2026-04-01T19:23:03Z
AlwynapHuw
1710
161981
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1888}}
At amcanion Etholiad y Cyngor Sir gwnaed Llanegryn yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai Llanegryn a Llanfihangel-y-pennant yn eu plwyfi'u hunain. Un aelod sy'n cynrychioli'r ddau blwyf. A dyma'r aelodau a fu'n cynrychioli'r ddau blwyf o'r cychwyn:—
*W. R. M. Wynne, Peniarth. David Lloyd, Pant.
*Hugh Vaughan, Caerberllan.
*Hugh Tudor, U.H., Glanmachlas.
*Robert Jones, Caerberllan.
*Hugh Tudor, Henadur, U.H., Glanmachlas.
{{c|CYNGOR DOSBARTH.}}
Methasom â chael enwau'r aelodau cyntaf. Nid yw ein rhestr oherwydd hynny'n gyflawn.
*William Phillips, Glanmachlas.
*William Lloyd, Waun.
*William Davies, Fron-newydd.
*David Tudor, Glanmachlas.
*David Owen, Pen-y-wern.
*Ellis Lewis, Llwynhensel.
*Cadwaladr Lloyd, Nant.
*Mary Elisabeth Davies, Siop-isaf.
{{c|CYNGOR PLWYF.}}
Dewiswyd yr aelodau cyntaf mewn Cwrdd Plwyf a gynhaliwyd Rhagfyr 4ydd, 1894.
*W. R. M. Wynne, Peniarth.
*Robert Vaughan, Rhos.
*William Davies, Siop-isaf.
*William Phillips, Glanmachlas.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
6mus752p4phpv13fndxeq0630v8jsza
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/116
104
83036
161982
2026-04-01T19:23:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "*David Davies, Bredyn-fawr. *David Humphreys, Tirgawen. *Hugh Lloyd, Nant. *Ellis Edwards, New Bank. *William Davies, Fron-newydd. {{c|LLYFRAU}} *Dogfennau Peniarth. *Etholrestri Cantref Meirionnydd. *Llyfr Cofnodion Cwrdd Plwyf Llanegryn 1894. *Llyfr Festri Llanegryn. *Merioneth Quarter Session Minute Book. {{nop}}"
161982
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>*David Davies, Bredyn-fawr.
*David Humphreys, Tirgawen.
*Hugh Lloyd, Nant.
*Ellis Edwards, New Bank.
*William Davies, Fron-newydd.
{{c|LLYFRAU}}
*Dogfennau Peniarth.
*Etholrestri Cantref Meirionnydd.
*Llyfr Cofnodion Cwrdd Plwyf Llanegryn 1894.
*Llyfr Festri Llanegryn.
*Merioneth Quarter Session Minute Book.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
onho1mu01zd8razre2jby44v0g05r3a
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/117
104
83037
161983
2026-04-01T19:23:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD VII}}<br>Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Cneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Def-aid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.}} DAETH newid trylwyr ar hen fywyd gwledig Cymru pan sefydlwyd y gyfundrefn Normanaidd yn ein gwlad. Hawlid ganddi arian yn dâl mewn trethi a thollau yn hytrach na'r dull Cymreig a elwid gwestfa...
161983
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD VII}}<br>Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Cneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Def-aid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.}}
DAETH newid trylwyr ar hen fywyd gwledig Cymru pan sefydlwyd y gyfundrefn Normanaidd yn ein gwlad. Hawlid ganddi arian yn dâl mewn trethi a thollau yn hytrach na'r dull Cymreig a elwid gwestfa a dawnbwyd. Bu'n anghenraid ar y tyddynwyr gyrchu eu hanifeiliaid a'u nwyddau i ffair a marchnad, a dechreuodd y Llywodraeth sefydlu ffeiriau yn nhref Dolgellau, a gorfodi pob tyddynnwr yng Nghwmwd Tal-y-bont i fynd â'i anifeiliaid a chynnyrch ei dyddyn i'w gwerthu i'r ffeiriau hyn. Cynhelid y ffeiriau ar y 5 a'r 6 o Fai; ar yr 28 a'r 29 o Fedi; a hefyd ar y 5 a'r 6 o Ragfyr. Tollid popeth a werthid ynddynt. Toll ar geffyl, grôt; ar fuwch neu eidion, dwy geiniog; a dimai'r llwyth ceffyl ar fêl, ymenyn, ŷd neu unrhyw nwydd marchnadol arall. Am sachaid (bale) o wlân, grôt; croen buwch neu eidion, dimai; toll ar fochyn neu ddafad, dimai. Codid yr un tollau yn ffeiriau Tywyn, ond tyddynwyr Cwmwd Ystumanner a âi i ffeiriau Tywyn.
Hwyrfrydig oedd tyddynwyr Llanegryn i arwain eu hanifeiliaid i'w gwerthu yn Nolgellau, a chawn hanes am ddau dyddynnwr o'n plwyf o'r enwau Ieuan Fawr ac Iorwerth Llwyd yn cael eu dirwyo, y naill i 2/-a'r llall i 1/6 am werthu eu hanifeiliaid tu allan i ffeiriau Dolgellau yn y flwyddyn 1326.
Dengys Ystent Meirionnydd fod llawer o drin tir llafur yng Nghwmwd Tal-y-bont ar ddiwedd Oes y Tywysogion. Codid yr ŷd yn gynhaliaeth i drigolion y Cwmwd, ac nid i'w werthu. Codid ŷd ar y mynyddoedd ar un cyfnod, a gwelwyd ŷd yn<noinclude></noinclude>
nt94ghnv43qxaimvoiwzfx7ltunp4ot
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/118
104
83038
161984
2026-04-01T19:24:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gwynnu llethrau Esgair Berfedd mor ddiweddar â dechrau'r ddeunawfed ganrif. Tybid bod unrhyw dir yn ddigon da i dyfu ceirch. Cynhyrchid a gwerthid ugeiniau o dunelli o ŷd ein plwyf yn ystod blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Codid gwenith ar lechwedd uchel, a gwerthid llwythi gwagenni ohono yn nhref Dolgellau yn ddiweddar yn y ganrif. Magu a gwerthu anifeiliaid oedd prif nodwedd amaethyddiaeth y gymdogaeth yn ystod y cy...
161984
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwynnu llethrau Esgair Berfedd mor ddiweddar â dechrau'r ddeunawfed ganrif. Tybid bod unrhyw dir yn ddigon da i dyfu ceirch. Cynhyrchid a gwerthid ugeiniau o dunelli o ŷd ein plwyf yn ystod blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Codid gwenith ar lechwedd uchel, a gwerthid llwythi gwagenni ohono yn nhref Dolgellau yn ddiweddar yn y ganrif.
Magu a gwerthu anifeiliaid oedd prif nodwedd amaethyddiaeth y gymdogaeth yn ystod y cyfnod diweddar yn hanes ein gwlad. Aeth yr hen ddulliau Cymreig heibio'n raddol, a daeth arferion newydd i ffynnu yn ein plith.
Dechreuwyd gwahanu tyddynnod oddi wrth ei gilydd, a chychwynnwyd codi cloddiau o amgylch y meysydd yn fuan ym mhlwyf Llanegryn wedi pasio Deddf yr Uniad yn y flwyddyn 1536.
Cawn hanes am blannu cloddiau drain o amgylch Tyddyn-llw-ffranc yn 1564; gorchmynnid edrych ar ôl y cloddiau a'r ffosydd ar etifeddiaeth Rhydcryw yn nechrau'r ddeunawfed ganrif; a gosodid gorchymyn pendant mewn prydles a roddwyd ar Dirgawen yn y flwyddyn 1715, am hwsmoniaeth ofalus ynglŷn â theilo, a chadw'r ffosydd a'r cloddiau mewn trefn dda. Pwysid hefyd am gadw ceffylau, gwartheg a defaid Celynnin oddi ar fynyddoedd Llanegryn, a daeth gwrychoedd yn eiddo gwerthfawr i'r amaethwyr. Dechreuwyd codi cnwd o ddrain ar ddarnau o diroedd at wneud cloddiau terfyn o wrychoedd.
Arferiad a ffynnai'n gyffredin ar un cyfnod, yn enwedig ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed oedd gosod tyddyn i ddau neu dri o denantiaid i gyd-fyw arno. Ac yr oedd math o is-denantiaeth yn arferiad ddigon cyffredin. Cymerai un dyn fferm gan ei hail osod i denant arall i'w thrin, a sylwasom y byddai Lewis Owen, perchennog Peniarth, yn tueddu i gymryd fferm o ddwylo perchennog arall i'w thrin iddo ef ei hun. Cymerodd Trychiadisaf felly a oedd yn rhan Y mae'r rhent a roddai o ystâd Hugh Owen, Bronclydwr. amdani yn ddiddorol inni heddiw:—
Rhent Trychiadisaf yn 1667, £7/3/11.<br>
{{bwlch|10em}}1669, £6/0/0.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
29bugtr41whihfq9cwcketm6qvfwg7h
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/119
104
83039
161985
2026-04-01T19:24:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Yr oedd gostwng £1/3/11 yn y rhent mewn dwy flynedd o amser, yn ostyngiad mawr yn yr oes honno. Boneddwr diddorol oedd Lewis Owen. Meddai ar lygad craff, a hoffai brynu a gwerthu anifeiliaid iddo ei hun ac i'w berthnasau ar hyd a lled Gogledd Cymru a rhoddi benthyg arian ar dyddynnod yn y plwyf, a rhoddai fenthyg ar log i bersonau ar wahan i dir. Trwy foddion felly helaethodd ystâd Peniarth yn ystod ei oes. Uchelwr nodedig arall oe...
161985
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd gostwng £1/3/11 yn y rhent mewn dwy flynedd o amser, yn ostyngiad mawr yn yr oes honno.
Boneddwr diddorol oedd Lewis Owen. Meddai ar lygad craff, a hoffai brynu a gwerthu anifeiliaid iddo ei hun ac i'w berthnasau ar hyd a lled Gogledd Cymru a rhoddi benthyg arian ar dyddynnod yn y plwyf, a rhoddai fenthyg ar log i bersonau ar wahan i dir. Trwy foddion felly helaethodd ystâd Peniarth yn ystod ei oes.
Uchelwr nodedig arall oedd John Pugh, perchennog ystâd Rhydcryw, ac y mae ei hanes yn bennod bwysig ynglŷn ag amaethyddiaeth y plwyf. Hanai o hen gyff o uchelwyr amlwg yn yr ardal, ond yr oedd nwyd casglu cyfoeth wedi mynd i'w waed yn hytrach nag aros gartref i edrych ar ôl ei ystâd. Cadwai, fusnes Ironmongery yng Nghaer. A goruchwyliai Lewis Owen, Peniarth, drosto ar ei ystâd yn Llanegryn. Cwynfanwr diail oedd ef am bopeth a wnâi Lewis Owen. Rhoddai ormod o gyflog i'w weithwyr, a gwerthai'r anifeiliaid am brisiau rhy isel, a phan ddigwyddai osod un o i dyddynnod, byddai'r rhent bob tro yn rhy fach o ddim rheswm.
Gwelodd John Pugh yn ddiamau amser caled ar amaethyddiaeth, ac anodd oedd taro ar denantiaid yn aml, a bychain oedd y rhenti a dderbyniai am ei dyddynnod, fel y dengys y symiau canlynol:—
Rhydcryw, £16. Bodowen, £8.
Cefn-yr-ynys, £6/10/-. Gilfach-hen, £3/4/-.
Gosodwyd Rhydcryw a Bodowen i ŵr o'r enw Owen Pugh Tudor am y rhent o £17 yn y flwyddyn 1719.
Meddai John Pugh ar galon radlon; ceir ef yn gofalu yn ei ewyllys am arian i brentisio dau o blant perthynas iddo, fel y byddai ganddynt foddion i ennill eu bywoliaeth, a gofalai am eu cynhaliaeth a'u haddysg.
Wedi ei ddyddiau ef aeth yr ystâd i ddwylo Isaac Jones, mab ei chwaer. Cartrefai ym Mryste, a chadwai fusnes groser yn y dref honno. I flinfyd y'i ganed cyn belled ag yr oedd a fynnai<noinclude></noinclude>
quvomio55t3dea5p3sc76l067srf2t4
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/120
104
83040
161986
2026-04-01T19:25:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ef ag ystâd Rhydcryw, ac ar fydrer penderfynodd ymadael yn llwyr â gwlad ei enedigaeth. Mae islais o siomedigaeth a thristwch yn ei eiriau wrth dorri ohono ei gysylltiad â hen fro ei wehelyth. Daeth ystâd Rhydcryw yn rhan o ystâd Peniarth drwy i Lewis Owen ei phrynu o ddwylo Isaac Jones, 4, Mai 1725. Y prisiad amaethyddol cyntaf a feddwn ym mhlwyf Llanegryn yw eiddo Hugh Owen, Bronclydwr. Profwyd ei ewyllys 16, Gorff. 1700. {{c|PR...
161986
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef ag ystâd Rhydcryw, ac ar fydrer penderfynodd ymadael yn llwyr â gwlad ei enedigaeth. Mae islais o siomedigaeth a thristwch yn ei eiriau wrth dorri ohono ei gysylltiad â hen fro ei wehelyth.
Daeth ystâd Rhydcryw yn rhan o ystâd Peniarth drwy i Lewis Owen ei phrynu o ddwylo Isaac Jones, 4, Mai 1725.
Y prisiad amaethyddol cyntaf a feddwn ym mhlwyf Llanegryn yw eiddo Hugh Owen, Bronclydwr. Profwyd ei ewyllys 16, Gorff. 1700.
{{c|PRISIAD BONCLYDWR}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Naw buwch odro
|align="right" |—
|align="right" |18 0 0
|-
|Pedwar bustach
|align="right" |—
|align="right" |5 0 0
|-
|Dwy heffer
|align="right" |—
|align="right" |2 10 0
|-
|Pump o wartheg
|align="right" |—
|align="right" |6 0 0
|-
|Pum dyniawed
|align="right" |—
|align="right" |3 0 0
|-
|85 o ddefaid o bob math
|align="right" |—
|align="right" |17 0 0
|-
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Caseg, ffrwyn, cyfrwy &c
|align="right" |—
|align="right" |8 0 0
|-
|Dau fochyn
|align="right" |—
|align="right" |0 14 0
|-
|Pump o geffylau
|align="right" |—
|align="right" |9 0 0
|-
|Dofednod.
|align="right" |—
|align="right" |0 3 0
|-
|Tri chwch gwenyn 4/- yr un
|align="right" |—
|align="right" |0 12 0
|-
|
|
|
|-
|Yn yr ysgubor yr<br>oedd y symiau a ganlyn:
|—
|
|-
|20 Stryciaid o ryg
|align="right" |—
|align="right" |5 0 0
|-
|40 Stryciaid o haidd
|align="right" |—
|align="right" |8 0 0
|-
|120 Stryciaid o geirch
|align="right" |—
|align="right" |9 0 0
|-
|5 Stryciaid o wenith
|align="right" |—
|align="right" |1 10 0
|-
|
|
|align="right" |£ 93 9 0
|}
Yn y flwyddyn y bu farw Hugh Owen yr oedd 10 acer o ryg a 9 acer o wenith wedi eu hau ym Mronclydwr. Dyledus ydym i Mr. Bob Owen, M.A., am brisiad Bronclydwr.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
6vsz2bjcdlzy4kxaejhgmcjtov7qqyc
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/121
104
83041
161987
2026-04-01T19:25:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|1708<br>PRISIAD GILFACH-HEN.}} Prisiad a wnaed ar eiddo ar John Moses, Gilfach-hen, 17, Mai 1708. Gwnaed y prisiad drwy rym y gyfraith. {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" | | |align="right" |£ s. d. |- |Chwe ŷch |—— |align="right" |10 0 0 |- |Dau ŷch |—— |align="right" |2 0 0 |- |Dwy fuwch odro a llo |—— |align="right" |2 12 0 |- |Tair swynog |—— |align="right" |1 8 0 |- |Dwy heffer ddwyflwydd |—— |ali...
161987
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1708<br>PRISIAD GILFACH-HEN.}}
Prisiad a wnaed ar eiddo ar John Moses, Gilfach-hen, 17, Mai 1708. Gwnaed y prisiad drwy rym y gyfraith.
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Chwe ŷch
|——
|align="right" |10 0 0
|-
|Dau ŷch
|——
|align="right" |2 0 0
|-
|Dwy fuwch odro a llo
|——
|align="right" |2 12 0
|-
|Tair swynog
|——
|align="right" |1 8 0
|-
|Dwy heffer ddwyflwydd
|——
|align="right" |1 18 0
|-
|Dwy heffer deirblwydd
|——
|align="right" |1 19 6
|-
|Dau eidion teirblwydd
|——
|align="right" |1 8 0
|-
|Tri dyniawed
|——
|align="right" |5 5 0
|-
|Deuddeg ar hugain o ddefaid<br>cryfion ac wyth o famogiaid ac wyn
|——
|align="right" |0 10 0
|-
|Saith o fân ddefaid eraill
|——
|align="right" |1 0 0
|-
|Ceffyl, caseg, ac ebol blwydd at aredig
|——
|align="right" |3 0 0
|-
|
|
|align="right" |£33 12 6
|}
Pedair cist, 15/-. Bwrdd, buddai, ystên odro, a dau biser, 8/6. Llestr mesur ŷd 9/-Padell, crochan, a dwy ddysgl biwtar, 1/4.
{{c|1718<br>Prisiad Rhydcryw, 17, Mai 1718.<br>Eiddo John Pugh.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Pedair buwch odro, a phedwar llo
|——
|align="right" |2 15 0
|-
|Buwch ieuanc gyflo, a buwch heb lo
|——
|align="right" |5 10 0
|-
|Dwy Swynog
|——
|align="right" |5 0 0
|-
|Un tarw
|——
|align="right" |2 10 0
|-
|Pedwar ŷch
|——
|align="right" |13 0 0
|-
|Un eidion
|——
|align="right" |2 10 0
|-
|Pedwar eidion ddwyflwydd
|——
|align="right" |6 0 0
{{nop}}<noinclude></noinclude>
s3jxt3an4odwpybadsl9gvvcoaiene2
161989
161987
2026-04-01T19:27:58Z
AlwynapHuw
1710
161989
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1708<br>PRISIAD GILFACH-HEN.}}
Prisiad a wnaed ar eiddo ar John Moses, Gilfach-hen, 17, Mai 1708. Gwnaed y prisiad drwy rym y gyfraith.
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Chwe ŷch
|——
|align="right" |10 0 0
|-
|Dau ŷch
|——
|align="right" |2 0 0
|-
|Dwy fuwch odro a llo
|——
|align="right" |2 12 0
|-
|Tair swynog
|——
|align="right" |1 8 0
|-
|Dwy heffer ddwyflwydd
|——
|align="right" |1 18 0
|-
|Dwy heffer deirblwydd
|——
|align="right" |1 19 6
|-
|Dau eidion teirblwydd
|——
|align="right" |1 8 0
|-
|Tri dyniawed
|——
|align="right" |5 5 0
|-
|Deuddeg ar hugain o ddefaid<br>cryfion ac wyth o famogiaid ac wyn
|——
|align="right" |0 10 0
|-
|Saith o fân ddefaid eraill
|——
|align="right" |1 0 0
|-
|Ceffyl, caseg, ac ebol blwydd at aredig
|——
|align="right" |3 0 0
|-
|
|
|align="right" |£33 12 6
|}
Pedair cist, 15/-. Bwrdd, buddai, ystên odro, a dau biser, 8/6. Llestr mesur ŷd 9/-Padell, crochan, a dwy ddysgl biwtar, 1/4.
{{c|1718<br>Prisiad Rhydcryw, 17, Mai 1718.<br>Eiddo John Pugh.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Pedair buwch odro, a phedwar llo
|——
|align="right" |2 15 0
|-
|Buwch ieuanc gyflo, a buwch heb lo
|——
|align="right" |5 10 0
|-
|Dwy Swynog
|——
|align="right" |5 0 0
|-
|Un tarw
|——
|align="right" |2 10 0
|-
|Pedwar ŷch
|——
|align="right" |13 0 0
|-
|Un eidion
|——
|align="right" |2 10 0
|-
|Pedwar eidion ddwyflwydd
|——
|align="right" |6 0 0
{{nop}}<noinclude>|}</noinclude>
7ndn7wlaly9xq18rffy9h0rypkk0yzw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/122
104
83042
161988
2026-04-01T19:27:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{nopt}} |- | | |align="right" |£ s. d. |- |Dwy heffer ddwyflwydd |—— |align="right" |3 5 0 |- |Pedwar dyniawed |—— |align="right" |4 2 0 |- |Tair ar hugain o famogiaid |—— |align="right" |6 14 0 |- | | |align="right" |£51 6 0 |- | | |align="right" |£ s. d. |- |Ugain o ddefaid |—— |align="right" |5 10 0 |- |Un ar bymtheg o wyn blwydd |—— |align="right" |3 12 0 |- |Deuddeg o ddefaid eraill |—— |align="right" |2 8 0 |- |Caseg gyfeb, ac..."
161988
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"</noinclude>{{nopt}}
|-
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Dwy heffer ddwyflwydd
|——
|align="right" |3 5 0
|-
|Pedwar dyniawed
|——
|align="right" |4 2 0
|-
|Tair ar hugain o famogiaid
|——
|align="right" |6 14 0
|-
|
|
|align="right" |£51 6 0
|-
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Ugain o ddefaid
|——
|align="right" |5 10 0
|-
|Un ar bymtheg o wyn blwydd
|——
|align="right" |3 12 0
|-
|Deuddeg o ddefaid eraill
|——
|align="right" |2 8 0
|-
|Caseg gyfeb, ac eboles flwydd
|——
|align="right" |6 0 0
|-
|Un ceffyl
|——
|align="right" |2 2 6
|-
|Hen gaseg
|——
|align="right" |0 10 0
|-
|Dwy fuwch a dau lo ym meddiant<br>Mgt. Pugh ar hyn o bryd.
|——
|align="right" |5 3 0
|-
|
|
|align="right" |£76 11 6
|-
|
|
|align="right" |£ s. d.
|-
|Tri Stryciaid ar ddeg o ryg
|——
|align="right" |2 16 0
|-
|Deugain stryciaid o geirch
|——
|align="right" |2 0 0
|-
|
|
|align="right" |£81 7 6
|}
Gorchmynnodd John Pugh gloi'r ysgubor yn ystod gaeaf 1717-18, oherwydd bod ei wasanaethwyr yn ddiddarbodus gyda'r ŷd. Bu'n rhaid ar John Griffith ei hwsmon fenthyca tri mesur o ryg oddi ar ei gymydog Hugh ab Ellis, a threfnwyd i'w dychwelyd.
{{c|RHESTR O HEN GELFI HWSMONAETH RHYDCRYW}}
Un aradr a chwlltwr a swch; dwy og, a deugain o ddannedd ymhob un; un bladur; tri chryman; tair batog; un bâl; un fforch haearn; bilwg a chaib.
Rhydd y cyfrifon a ganlyn ychydig o oleuni inni ar amaethyddiaeth yn y plwyf ddechrau'r ddeunawfed ganrif.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
8z6b7qdcjkdu6niop0n2hrzewdtxd5c
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/123
104
83043
161990
2026-04-01T19:28:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" | colspan="3" align="center" |Pantllwyfog |- | colspan="3" align="center" |Cyfrifon Hugh ab Humphrey |- | |align="center" |1712 |£ s. d. |- | colspan="2" |Pedwar mesur o wenith a rhyg | 0 14 8 |- | colspan="2" |Dau fesur o geirch mân i'r ceffylau | 0 1 6 |- | colspan="2" |Aredig deg acer o dir unwaith drosodd yn Nhirgawen | 0 18 0 |- | |align="center" |1713 | |- | col...
161990
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
| colspan="3" align="center" |Pantllwyfog
|-
| colspan="3" align="center" |Cyfrifon Hugh ab Humphrey
|-
|
|align="center" |1712
|£ s. d.
|-
| colspan="2" |Pedwar mesur o wenith a rhyg
| 0 14 8
|-
| colspan="2" |Dau fesur o geirch mân i'r ceffylau
| 0 1 6
|-
| colspan="2" |Aredig deg acer o dir unwaith drosodd yn Nhirgawen
| 0 18 0
|-
|
|align="center" |1713
|
|-
| colspan="2" |Gwerthu dau eidion
| 5 5 0
|-
|
|
|£6 19 2
|-
| colspan="3" align="center" |Gilfach-hen.
|-
| colspan="3" align="center" |Cyfrifon John Pugh a Lewis Owen, Peniarth.
|-
|
|Rent due
|£ s. d.
|-
| colspan="2" |3 years rent due May 1, 1717
|9 12 0
|-
| colspan="2" |3 years rent due May 1, 1718
|9 12 0
|-
| colspan="2" |1 years rent due May 1, 1719
| 3 4 0
|-
|.
|.
|£22 8 0
|-
|
|align="center" | Payments
|£ s. d.
|-
| colspan="2" |1715 By cash received by John Griffith
| 4 5 6
|-
| colspan="2" |1717 By cash received and work
| 5 15 3
|-
| colspan="2" |1717 By cash received and allowed him on a/c Margt. Pugh
| 1 0 0
|-
| colspan="2" |1718 Self
| 1 0 0
|-
| colspan="2" |Oct. 2 By Cash Self
| 1 10 0
|-
| colspan="2" |Due to balance
|13 10 9
|-
|
|
| 8 17 3
|-
|
|
|£22 8 0
|}<noinclude></noinclude>
2xzvgcvjw5mcuj2fzq8mnl59e1xshfw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/124
104
83044
161991
2026-04-01T19:29:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" | colspan="3" align="center"|Cyfrifon rhwng John Pugh, Rhydcryw, a Lewis Owen, Peniarth. |- | colspan="3" align="center"|Rhwym ar John Pugh i Lewis Owen |- |. |. |£ s. d. |- | colspan="2" |1719 5 Bullocks at |14 5 0 |- | colspan="2" | 1 Mare at | 2 9 6 |- | colspan="2" |1720 4 Bullocks at |7 10 0 |- | | |£24 4 6 |- | colspan="3" align="center"|Witness payment, e...
161991
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
| colspan="3" align="center"|Cyfrifon rhwng John Pugh, Rhydcryw, a Lewis Owen, Peniarth.
|-
| colspan="3" align="center"|Rhwym ar John Pugh i Lewis Owen
|-
|.
|.
|£ s. d.
|-
| colspan="2" |1719 5 Bullocks at
|14 5 0
|-
| colspan="2" | 1 Mare at
| 2 9 6
|-
| colspan="2" |1720 4 Bullocks at
|7 10 0
|-
|
|
|£24 4 6
|-
| colspan="3" align="center"|Witness payment, examined and allowed by us.
|-
|Morgan Evan
|
|Lewis Owen
|-
|John Yeoman
|
|John Pugh
|-
| colspan="2" align="center"|1721 Contra
|
|-
|
|
|£ s. d.
|-
| colspan="2" |For 5 years rent for Bodowyn due and ending the 29 Sept. 1721
| 20 0 0
|-
| colspan="2" |For wintering 1 heifer and mare
| 0 14 0
|-
| colspan="2" |To John Humphrey for farming 14 head cattle 1719
| 0 10 0
|-
|colspan="2" | To John Humphrey 11 Beast and Mare
| 0 6 0
|-
|
|
| 21 10 0
|-
| colspan="2" |Balance owing to John Pugh from Lewis Owen Esq.
| 4 14 6
|-
|
|
|£24 4 6
|}
{{c|AMAETHYDDIAETH YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG.}}
Dulliau a chelfi cyntefig oedd gan amaethwyr y plwyf hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daliwyd i'w harfer ymhell i'r ganrif. Sonnid am gae bating, batingo, a llosgi bating. Codid yr un cnydau yn yr un maes o flwyddyn i flwyddyn. Symbylodd cyfnod rhyfeloedd Napoleon lawer ar<noinclude></noinclude>
ci9qulfzsygljssad41z6whs9md7rt4
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/125
104
83045
161992
2026-04-01T19:29:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "amaethyddiaeth. Daeth dylanwadau newydd i fywyd ein gwlad a'n cenedl. Dechreuwyd cynhyrchu mwy o amrywiaeth, gelwid am well ffyrdd a thrafnidiaeth, a daeth ymfudiaeth a chyfalaf i effeithio ar fywyd cefn gwlad. Daeth nodau banc yn gyfrwng prynu a gwerthu yn y plwyf. Gwelwyd prinder mawr a chododd y prisiau, a chafodd y werin amser du a chwerw. Gwyddai'r ardal am brinder bara ers llawer o flynyddoedd, a cheisiwyd rhoddi math o drefn ar...
161992
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>amaethyddiaeth. Daeth dylanwadau newydd i fywyd ein gwlad a'n cenedl. Dechreuwyd cynhyrchu mwy o amrywiaeth, gelwid am well ffyrdd a thrafnidiaeth, a daeth ymfudiaeth a chyfalaf i effeithio ar fywyd cefn gwlad. Daeth nodau banc yn gyfrwng prynu a gwerthu yn y plwyf. Gwelwyd prinder mawr a chododd y prisiau, a chafodd y werin amser du a chwerw. Gwyddai'r ardal am brinder bara ers llawer o flynyddoedd, a cheisiwyd rhoddi math o drefn ar y fasnach ŷd. Cawn Chwarter Sesiwn Meirionnydd yn y flwyddyn 1789 yn apwyntio goruchwylwyr ar fasnach ŷd y Sir. Cedwid rheolaeth fanwl ar y fasnach ŷd drwy'r wlad, a daeth ''wins'' yn fesur gorfodol drwy gyfraith ym Meirionnydd. Nid prinder bwyd oedd yr unig ofid a bwysai ar y werin, yr oedd yn anodd hefyd daro ar geiniog i gyfarfod ag angen dyn a theulu. Ar eu gorau y gallai'r llafurwyr medrusaf fforddio cael dim mwy na dau bryd o fwyd yn y dydd. Codwyd cannoedd o rydau o gloddiau cerrig gan lafurwyr hylaw ar ddau bryd o fwyd yn y dydd, tamaid cyn cychwyn a thamaid wedi dychwelyd.
Wedi'r heddwch a wnaed yn 1815-16 daeth dirwasgiad dirfawr ar amaethyddiaeth. Dywedir mai'r tyddynwyr bychain a deimlodd lymaf oddi wrth y dirwasgiad. Aeth amryw fân-dyddynnod i gyflwr dadfeiliedig a chysylltwyd hwy â thyddynnod mwy. Yr adeg honno yr aeth Glanmachlas a Thirgawen yn dyddynnod mwyaf y plwyf. Dywediad a glywid yn fynych oedd "Tirgawen mawr naw tyddyn". Dyddiau blin a gafodd tenantiaid Glanmachlas a Thirgawen; anodd fu iddynt gael y ddau ben llinyn ynghyd. Tenant Glanmachlas oedd ''Lewis Hartley & Co.'', a'r rhent yn 1819 oedd £250 y flwyddyn. Methwyd â thalu'r rhent am dair blynedd yn olynol. Erbyn y flwyddyn 1821 yr oedd ar y tenant £750 o rent yn ddyledus. Bu'n rhaid arno symud i Dyddyn-y-blaidd, un o dyddynnod lleiaf y plwyf.
Bu helaethu'r tyddynnod yn foddion i amaethu ar raddau ehangach nag a arferid wneud yn y plwyf. Heuid dau gae o wenith mewn tyddynnod canolig eu maint, a heuid tri chae yn y tyddynnod mwyaf. Heuid y gwenith mewn tri math o wahanol dir. (1) Tir tatws, maip, a rwdins y flwyddyn flaenorol.<noinclude></noinclude>
atnslf8vqki3nhsv3w7nqbxzp70exli
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/126
104
83046
161993
2026-04-01T19:30:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Yr oedd tatws, maip, a rwdins yn cael eu cynhyrchu yn yr ardal ar raddau helaeth er diwedd y ddeunawfed ganrif. (2) Tir glas wedi ei aredig am y tro cyntaf. (3) Braenar haf. Prif gynnyrch amaethyddiaeth y plwyf oedd ŷd, gwartheg, a defaid. Yr oedd ŷd yn cynnwys gwenith, rhyg, haidd, a cheirch. Arnynt hwy y dibynnai'r amaethwyr yn bennaf am eu cyfalaf at dalu rhent a chyflog. Deuai ceffylau, geifr, a moch â chyfalaf i gyfarfod â mân ofy...
161993
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd tatws, maip, a rwdins yn cael eu cynhyrchu yn yr ardal ar raddau helaeth er diwedd y ddeunawfed ganrif. (2) Tir glas wedi ei aredig am y tro cyntaf. (3) Braenar haf. Prif gynnyrch amaethyddiaeth y plwyf oedd ŷd, gwartheg, a defaid. Yr oedd ŷd yn cynnwys gwenith, rhyg, haidd, a cheirch. Arnynt hwy y dibynnai'r amaethwyr yn bennaf am eu cyfalaf at dalu rhent a chyflog. Deuai ceffylau, geifr, a moch â chyfalaf i gyfarfod â mân ofynion. Gofalai'r gwragedd am gynhaliaeth mewn bwyd a dillad ag arian a dderbynient am ymenyn, caws, ac wyau. Y mae'n anodd nodi'n bendant y prisiau a delid am ŷd, blawd, ac anifeiliaid ar ddiwedd cyfnod rhyfeloedd Napoleon. Gwerthid gwartheg am £1/5/-, ac i fyny i £4 y pen. Telid y prisiau a ganlyn yn y Bermo yn y flwyddyn 1818. Cig dafad, tair ceiniog y pwys; cywion, o ddeg ceiniog i swllt y cwpl; pysgod, o geiniog i ddwy geiniog y pwys. Gwerthid cig eidion a gafr o ddwy a dimai i dair ceiniog y pwys. Gwerthid nwyddau a chynnyrch y plwyf yn Nolgellau a'r Bermo. Enillai rhai gwragedd eu bywoliaeth drwy brynu a gwerthu ymenyn, wyau, a chywion. Hoffai'r gwragedd hyn fasnachu yn y Bermo, ond gwaith blinderus iddynt oedd cario tua thrigain pwys ar eu breichiau o Lanegryn i'r Bermo. Nid oedd trên yn rhedeg yr amser hwnnw. Hoffai gwragedd y tyddynnod fynd â'u nwyddau i dref Dolgellau. Bu gan dref Dolgellau afael dynn ar wŷr a gwragedd Llanegryn hyd amser cymharol ddiweddar.
Yr oedd pris y gwenith tua thair punt y pwn a galw mawr amdano. Gwerthid llawer ohono gartref yn y plwyf. Byddai pobwyr y pentref yn prynu tunelli o wenith a haidd gan y tyddynwyr mwyaf. Ond i dref Dolgellau yr âi'r doreth o'r ŷd ar y pilyn pwn, ac mewn gwagenni yn ddiweddarach. Yr oedd gwŷr a cheffylau Llanegryn beunydd ar y Ffordd-ddu. Gwelid amaethwr yn cychwyn ben bore o Lanegryn am un o ffeiriau Dolgellau a phwn o wenith ar gefn ei farch. Dychwelai gyda'r
nos gan arwain buwch raenus wedi talu amdani â'r arian a dderbyniodd am y pwn gwenith.
Gwelwyd llawer o adegau gwasgedig a chyfyng pan fyddai'r hen ystôr ŷd wedi darfod yn llwyr yn y granar cyn i'r cynhaeaf<noinclude></noinclude>
9vteoqzfqzelqnyn0otz26raqo6o3kj
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/127
104
83047
161994
2026-04-01T19:30:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "newydd gyrraedd yr ydlan. Clywsom sôn am William Dafis, Tairmynydd, oedd ar y pryd yn hwsmon yng Nghastell-mawr, ac yn ŵr ieuanc yn anterth ei nerth. Yr oedd wedi priodi ac yn byw yng Nghastell-y-delyn tua chanol y pum degau o'r ganrif ddiwethaf. Lladdai wair yn galed gyda nifer o weision eraill ym mhiysurdeb y cynhaeaf ar fwyd pur salw ei ansawdd ac ar ychydig ohono. Galwodd ei feistr yn gyffrous arno un bore i'w hysbysu'n ddigalon i'...
161994
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>newydd gyrraedd yr ydlan. Clywsom sôn am William Dafis, Tairmynydd, oedd ar y pryd yn hwsmon yng Nghastell-mawr, ac yn ŵr ieuanc yn anterth ei nerth. Yr oedd wedi priodi ac yn byw yng Nghastell-y-delyn tua chanol y pum degau o'r ganrif ddiwethaf. Lladdai wair yn galed gyda nifer o weision eraill ym mhiysurdeb y cynhaeaf ar fwyd pur salw ei ansawdd ac ar ychydig ohono. Galwodd ei feistr yn gyffrous arno un bore i'w hysbysu'n ddigalon i'r eithaf fod yn rhaid arnynt i gyd ymadael, a gadael y gwair fel yr oedd, oherwydd na feddai ef ar gymaint â chrystyn o fara ar ei fwrdd i'w gynnig yn fwyd iddynt. Ond nid gŵr oedd William Dafis i adael neb mewn trybini gwaeth na'r un yr oedd ynddo eisoes. Dywedodd wrth ei feistr am geisio hel rhyw damaid a llymaid iddynt, ac yn sicr y deuai pethau'n well yn fuan. Ni feddai'r amaethwyr i gyd ar yr un tynerwch calon â'i gilydd bob amser; tueddai rhai cefnog ohonynt at ddal yr ŷd a'r blawd yn ôl o'r farchnad, gan ddisgwyl i'r prisiau fynd yn uwch. Teimlodd ambell ŵr â chalon garedig yn curo yn ei fynwes fod hynny'n ormod o raib i'w oddef yn dawel. Daeth boneddwr o'r enw Price, Dolau-gwyn i'r adwy, a llwyddodd i ddyfod â blawd tramor gyntaf i'r ardal wedi tynnu treth yr ŷd yn 1846. Medrodd werthu'r blawd tramor am bris is na blawd y gwenith a fedwyd gartref. Trodd cyndynrwydd yr amaethwyr cefnog yn chwerw iddynt. Yn hytrach na mynd i fyny aeth y prisiau ar i lawr, a difrododd llygod ffrengig eu graneri a'u hydlannau.
Trwy gymwynas dda y gŵr rhadlon o Ddolau-gwyn daeth gwaredigaeth i amaethwr Castell-mawr. Trannoeth i'r ymddiddan a fu rhwng meistr Castell-mawr a William Dafis daeth si ar hyd y wlad fod llwyth llong o flawd wedi glanio yn Aberdyfi. Gwelwyd cert Castell-mawr yn cychwyn ar lasiad y dydd am flawd i'r gweision ffyddlon. Gwerthai gŵr Dolau-gwyn flawd rhyg, a dywedai'r hen bobl fod bara rhyg o ran ei olwg yn debyg i fara haidd.
Y cyntaf i werthu blawd tramor ym mhentref Llanegryn oedd y Parch. William Davies, Siop-isaf. Dechreuodd werthu peilliaid tua diwedd y chwe degau yn y ganrif ddiwethaf. Aeth William Davies yn rhannog â masnachwr blawd yn nhref<noinclude></noinclude>
e9v7y7cga45uijba5p90gw4vdccg4t1
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/128
104
83048
161995
2026-04-01T19:31:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Dolgellau am lwyth o beilliaid; ofnai'r masnachwr gymryd y cyfrifoldeb o geisio gwerthu'r llwyth peilliaid i gyd ei hunan. Anfonodd at William Davies i ofyn iddo am fynd yn rhannog ag ef am y llwyth. Cytunodd William Davies i gymryd hanner y llwyth ar yr amod ei fod i anfon y blawd hanner y ffordd i Lanegryn. Cyrhaeddodd y blawd a gwerthwyd y cyfan mewn byr amser. Bu'r Parch. William Davies yn gwerthu blawd am ddegau o flynyddoedd ar e...
161995
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dolgellau am lwyth o beilliaid; ofnai'r masnachwr gymryd y cyfrifoldeb o geisio gwerthu'r llwyth peilliaid i gyd ei hunan. Anfonodd at William Davies i ofyn iddo am fynd yn rhannog ag ef am y llwyth. Cytunodd William Davies i gymryd hanner y llwyth ar yr amod ei fod i anfon y blawd hanner y ffordd i Lanegryn. Cyrhaeddodd y blawd a gwerthwyd y cyfan mewn byr amser. Bu'r Parch. William Davies yn gwerthu blawd am ddegau o flynyddoedd ar ei gyfrifoldeb ei hun byth wedyn. Deuai'r blawd i Barmouth Junction, a chludid ef oddi yno mewn gwagenni i Lanegryn. Yn ddiweddarach byddai yn dyfod i Aberdyfi, a byddai gwagen Llanegryn ar ei ffordd i Aberdyfi bob dydd o'r wythnos. Pris y peilliaid gan y Parch. William Davies ar y cychwyn oedd £3 y pwn. Bu rhai'n talu £3/8/6 i fasnachwyr o Dywyn. Bu tyddynwyr mawr Dyffryn Dysynni yn teimlo yn ddigofus wrth bawb am ddwyn blawd o wledydd tramor i'w werthu yn yr ardal. Mewn casgenni y cludid y blawd ar y cychwyn.
Adroddir llawer ystori am y frwydr i gael torth ar y ford. Clywsom am dyddyn lle y darfu'r blawd cyn i'r cynhaeaf newydd gyrraedd yr ydlan, pryd y medwyd, y dyrnwyd, y peilliwyd, y pobwyd, ac y bwytawyd y dorth ar yr un dydd. Byddai llu o anawsterau'n dyfod i gyfarfod â'n hen dadau a'n mamau na wyddom ni ddim amdanynt. Digwyddai rhyw anghaffael neu'i gilydd i'r felin weithiau nes peri angenoctid mawr. Bu'n rhew mawr un gaeaf nes cloi olwynion y felin am chwech wythnos. Cariwyd llwythi o eithin a choed i gynnau coelcerth i geisio meirioli'r rhew er mwyn cael ail gychwyn ar olwynion y felin. Sychter hafa fyddai ar adeg arall yn achosi i'r nentydd sychu, a hynny weithiau am gyfnod mor faith nes peri poenau newyn yn yr ardal. Adfyd a blinder a ddaeth o lawer cyfeiriad, ond bu calon ein hardalwyr yn drech na'r helyntion i gyd.
Dygid pob trafnidiaeth a holl waith amaethyddiaeth ymlaen yn bur hen ffasiwn. Dibynnid yn gyfan-gwbl ar y ceffyl, yr ŷch, a'r asyn; cludid popeth ar eu cefnau hwy. Yr oedd y ffyrdd yn hollol anghymwys i fynd â dim math o gerbydau ar hyd-ddynt. Defnyddid y car llusg at ddibenion oddeutu'r tyddyn, ac yr oedd gwahanol fathau ohonynt; meddai rhai<noinclude></noinclude>
ngpcci5r900jm2aofoi1wym1u1oyd0h
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/129
104
83049
161996
2026-04-01T19:31:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ddwy olwyn, ac yr oedd y car a ddefnyddid at gario gwair ac ŷd yn lletach na'r car a ddefnyddid at gario mawn. At wneuthur taith bell y march a'r pilyn pwn a arferid bob amser. Wrth y pwn y gwerthid popeth ar un adeg, ac nid wrth y dunnell fel y gwneir heddiw. Golygfa gyffredin oedd gweled hanner dwsin o geffylau a'u cefnau yn llwythog o dan wenith neu ryw rawn arall, yn cyfeirio am y Ffordd-ddu, ar eu taith i dref Dolgellau. Cludid...
161996
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddwy olwyn, ac yr oedd y car a ddefnyddid at gario gwair ac ŷd yn lletach na'r car a ddefnyddid at gario mawn. At wneuthur taith bell y march a'r pilyn pwn a arferid bob amser.
Wrth y pwn y gwerthid popeth ar un adeg, ac nid wrth y dunnell fel y gwneir heddiw. Golygfa gyffredin oedd gweled hanner dwsin o geffylau a'u cefnau yn llwythog o dan wenith neu ryw rawn arall, yn cyfeirio am y Ffordd-ddu, ar eu taith i dref Dolgellau. Cludid gwair ac ŷd i'r ydlannau ar y pilyn pwn mewn rhai tyddynnod. Eid â pherchyll i'r ffeiriau mewn cewyll a osodid ar boptu i gefn y ceffyl. Teilid y tir mewn math o gewyll a gludid ar gefn y ceffyl; gosodid hwythau ar boptu i'w gefn. Yr oedd math o gaead ar waelod y cawell, a dwy wialen haearn hir yn ei ddal yn gaeedig. Pan fyddai eisiau arllwys cynnwys y cewyll tynnid y ddwy wialen yn rhydd ar unwaith, a syrthiai eu cynnwys ar y tir. Gwrteithid yn y dull hwn yn Nhyddyn-y-blaidd yn 1865.
Bu'r ŷch yn anifail gwasanaethgar i'r amaethwyr. Delid i aredig â gwedd o ychen o fewn cof ein tadau. Sonnid am aredig Parc Afon-ddu â gwedd o ychen. Yr oedd traddodiad gan yr hen bobl am wedd o ychen yn aredig ym Mredyn-fawr. Hurid y wedd gan ystâd Peniarth. Awgrymid i denant Bredyn-fawr y buasai'r wedd yn mynd â Bredyn-fawr cyn y diwedd i Beniarth. A hynny a fu y diwedd. Clywsom am Hugh Lewis, Garth-fach, yn aredig a gwedd o deirw. Dywedid bod yn ddiogelach aredig tir caregog â gwedd o ychen nag â gwedd o geffylau. Daeth dydd yr ŷch i aredig i derfyn tua chanol y ganrif ddiwethaf. Enwau'r ddau ŷch a fu'n aredig ddiwethaf oedd Molenex a Chrisp. Meddid ar fath arbennig o aradr a elwid llamog at aredig tir caregog. Pren oedd defnydd y llamog ac eithrio'r swch, y cwlltwr, a'r asgell. Yr oedd yr asgell yn fechan, a'r swch yn hir à main er mwyn iddi fynd yn hwylus rhwng y cerrig. Byddai tri o geffylau fel rheol yn rhwym wrth y llamog. Gosodid y ceffylau i aredig, y naill o flaen y llall, gan yr hen aradrwyr. Arferiad ddiweddar yw gosod ceffylau yn gyfochrog i aredig.
Melid gwellt a gwair â pheiriannau a weithid â dwylo. Cedwid gwas yn bwrpasol at falu torion yn y tyddynnod mwyaf<noinclude></noinclude>
9lcjh8f095slzcqj1ejyiibkxvq0itz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/130
104
83050
161998
2026-04-01T19:32:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ar hyd y gaeaf. Yn Nhairmynydd yr oedd un o'r hen beir-iannau malu a ddaeth gyntaf i'r plwyf. Nid oedd na choesau nac olwynion yn rhan ohono. Gwthid y gwellt i'w enau â dwylo a melid y gwellt drwy daro'r gyllell ar i lawr â nerth braich. Pa bryd y daeth y bladur i ddisodli'r cryman coes hir? Yr oedd pladur yn Rhydcryw yn 1718. Masnachai John Pugh, Rhydcryw, yng Nghaer, cadwai siop Ironmonger, a thebyg felly mai o Gaer y daeth y bladur...
161998
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar hyd y gaeaf. Yn Nhairmynydd yr oedd un o'r hen beir-iannau malu a ddaeth gyntaf i'r plwyf. Nid oedd na choesau nac olwynion yn rhan ohono. Gwthid y gwellt i'w enau â dwylo a melid y gwellt drwy daro'r gyllell ar i lawr â nerth braich. Pa bryd y daeth y bladur i ddisodli'r cryman coes hir? Yr oedd pladur yn Rhydcryw yn 1718. Masnachai John Pugh, Rhydcryw, yng Nghaer, cadwai siop Ironmonger, a thebyg felly mai o Gaer y daeth y bladur i Rhydcryw. Clywsom yr arferai Dafydd Dafis, gof Pencraig, wneuthur pladuriau at dorri eithin. Byddai ymryson ar ddolydd, gweirgloddiau a rhosydd y plwyf. Lladd gwair rhos a brofai fedr y pladurwr. Rhai o hanfodion pladurwr da oedd:—
:1 Torri'r ystod yn union a gwastad.
:2 Gochel rhag gadael gwrychyn o wair heb ei dorri.
:3 Gosod yr arfod yn unfon.
:4 Cyflymaf ei ystod; gorchest oedd "pwyso ar gefn" un fyddai ar y blaen.
:5. Cadw min; hanner y gamp fyddai min da.
:6. Dal ati heb ymlâdd.
Yr orchest bennaf fyddai torri'r arfod yn droedfedd o drwch ac yn dair llath o led. Soniai'r hen bladurwyr am wahanol fathau o wair a roddai'r prawf llymaf ar fedr y pladurwr. Gelwid un gweiryn yn Droell gorun, a'r llall yn Gawnen ddu; ond Gwrychyn yr hwch a ragorai arnynt i gyd. Syml oedd yr offerynnau a berthynai i'r bladur, pren grut, cyrn grut, un hir at gadw'r grut, ac un byr o'r man praffaf o'r corn at gadw'r bloneg; darn o ledr meddal, neu ryw ddefnydd arall at arllwys y grut arno. Irid y pren grut yn dda â'r bloneg, a threwid y pren ar y grut. Pwysid a llyfnid y grut â chyllell boced. Defnyddid cefn llafn y gyllell boced i droi'r rhint ar fin y bladur cyn hogi. Rhoddid "hwyl" ar fôn coes y bladur wrth fedi'r ŷd. Yn ystod y cynhaeaf ŷd y gwelid gogoniant y bywyd amaethyddol ar ei orau; byddai bywiogrwydd a hoen-usrwydd yn cyniwair drwy fywyd y plwyf. Cynorthwyai'r amaethwyr lawer ar ei gilydd yn ystod y cynhaeaf ŷd. Talai pawb eu cymwynas adref ddydd y Fedel. Arferiad y plwyf oedd rhoddi diwrnod yn y Fedel am ryw gymwynas neu'i<noinclude></noinclude>
orevy5nq3ki0gxdmh0avfvavioljhxn
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/92
104
83051
161999
2026-04-01T19:37:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
161999
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|1615}}
Tyddyn Bryn ap Meurig a'r Weirglodd-ddu. Perchennog, Hugh Dafydd ap John.
{{c|1628}}
Tyddyn-y-Pren-hir. Perchennog, Dafydd ap Humphrey.
Tyddyn Muriau
{{c|1629.}}
Ieuan ab Owen Gutta (sic), Anghare-glas, neu Cwm-pen-neuadd. Perchennog, Thomas William ap John ab Evan.
{{c|1629}}
Tyddyn-y-bryn, Tir-y-Gregor ab Evan ap Llywelyn, Erw-gwadan-ddu, Tyn-y-gweision-duon, Bwlch-y-gloddfa. Perchennog, Lewis Evans, offeiriad Llanegryn.
Tyddyn Gwern-y-brain, Tyddyn-yr-oen, a Thir Wyrion Eignion. Perchennog, John Dafydd ap Gutta.
Gwaun-y-pant ym Modowyn. Perchennog, Dafydd ab Evan Gruffydd.
{{c|1632}}
Rhoddodd Lewis Owen, Peniarth, y ddau dyddyn Bron-clydwr a'r Moelmon yn gynhysgaeth i'w ferch, Susannah, ar ei phriodas â Humphrey Owen. Dyma rieni Hugh Owen "Apostol y Gogledd." Yr oedd y Gofolion yn rhan o Fron-clydwr, a thri neu bedwar o dai'r Moelmon; yr oedd hefyd ddau dŷ ym Mhentre-uchaf a'r Minffordd yn rhan o'r Moelmon.
Adferwyd y Moelmon i Beniarth drwy i Wm. Wynne ei brynu.
{{c|1633}}
Tirgawen, alias Bryn Llywelyn. Perchennog, Elisha ap Dafydd ap Gawen.
Rhydcryw-fawr, alias Tyn-coed; Tir Mab Gwilym,
Rhydcryw-fechan, Tyddyn-y-tŷ-gwyn, Bryn-y-gadair, alias Gilfach-hen; Mur-cefn-yr-ynys, Bodowyn, Tŷ-yn-y-ceunant. Perchennog, William Dafydd ap William. Y perchennog olaf o'r gwehelyth hwn oedd Isaac Jones, nai John Pugh.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
bsml6h7xmdtmukxx5yiqn7blzqeqbvz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/148
104
83052
162000
2026-04-01T19:40:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162000
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"One thousand tons of Lime wanted at Abersynny near Towyn, Merionethshire. The vessels that bring it will be immediately loaded with either Oak Poles, or Cordwood or Crooked Timber well adapted for the purpose of building vessels from 25 to 50 tons burthen on Sale or by Charter.
:N.B. No Port Fees are paid at the above place.
::Apply Wm. Richard,
:::Pentrebach, near Abersynny.
:May 3rd, 1814.
Rhydd yr hysbysiad hwn ryw syniad inni am y busnes a ffynnai ar enau afon Dysynni ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Cymaint oedd y prysurdeb fel y bu'n rhaid troi amaethdy'r Corun yn dafarn.
{{c |LLYFRAU}}
* Dogfennau Peniarth.
* Dodd, A. H., Industrial Revolution in North Wales. Cardiff, 1933.
* Ellis, T. P.: History of Dolgelley and Llanelltyd. Newtown, 1928.
* Gweithredoedd Ystâd Rhydcryw.
* Jones, Lewis: Cydymaith y Bugail. Machynlleth, 1888.
* Lewis, E. A.: The Mediaeval Boroughs of Snowdonia. 1912.
* Llyfrau Eglwys Llanegryn.
* Llythyrau John Pugh, Rhydcryw.
* Seren Gomer, 1814.
* Ystent Meirionnydd. London,
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
exu2ly1qf7isoki3tcadbso743g1pu2
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/147
104
83053
162001
2026-04-01T19:40:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162001
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pa bryd y dechreuodd llongau alw yn Aberdysynni? Y mae'n anodd nodi dim amser arbennig. Galwai un o longau hwyliau Caernarfon a elwid Racehorse yn Aberdysynni yn 1761. Ar un o'i theithiau chwythwyd y Racehorse i borth-ladd Pwllheli, a gwelodd gwŷr y Cyllid fod y Capten Thomas Jones yn cludo baco a snisin heb drwydded, oddi wrth Richard Evans, gwneuthurwr baco, Caernarfon, i siopwyr yn Llanegryn, a bu'r awdurdodau yn chwilio i'r mater, ond trodd popeth allan yn onest. Dyledus ŷm i Mr. David Thomas, M.A., Bangor, am hanes y Racehorse.
Yr oedd prysurdeb mawr yn Aberdysynni ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd cannoedd o aceri o goed ym mhlwyf Llanegryn, a bu llawer o gwympo coed a chludid hwy i lawr o'r dyffryn ar hyd yr afon mewn cychod, a gweithid ddydd a nos ar adegau. Cludai'r llongau hefyd galch a glo i enau'r afon, a dygent nwyddau i fasnachwyr Llanegryn. Deuai'r llongau i fyny cyn belled â chae'r Corun ar ben llanw i'w dadlwytho.
Cerrig calch heb eu llosgi a ddygid i'r fro'r adeg honno, a llosgid hwy mewn odynnau a oedd wedi eu codi ar hyd a lled y wlad. Yr oedd dau o'r odynnau oddeutu cymdogaeth genau afon Dysynni, ac un yn uwch i fyny yn agos i bont Dysynni. Y mae traddodiad y llosgid calch yn gynnar ar lan yr afon wrth Dal-y-bont. Ond ni losgwyd dim calch o gwbl yn yr odyn newydd a adeiladodd Peniarth tua chanol y ganrif ddiwethaf. Gofynnai perchennog Peniarth ddeg punt o godiad yn rhent Tal-y-bont amdano a gwrthododd y tenant dalu'r swm.
Adeiladwyd rhai odynnau calch ar dyddynnod uchel ar lechweddau mynyddig. Yr oedd un ar fin nant ar dir Tyddyn-padrig, ac ar ffridd uwchlaw Cyfannedd-fawr. Gwelsom hysbysiad diddorol yn "Seren Gomer" am y flwyddyn 1814. Hysbysai gŵr o'r gymdogaeth fod arno eisiau mil o dunelli o gerrig calch yn Aberdysynni; rhoddwn ef yn yr iaith fel y'i gwelir yn "Seren Gomer."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6vd93x99694ksp7dqi05izh4uljuhas
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/146
104
83054
162002
2026-04-01T19:41:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162002
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fwyn ar amryw dyddynnod yn y plwyf, ond siomedig fu pob ymgais i'w gweithio.
Bu amryw Fractai yn y plwyf. Ond y prif Fracty oedd yr un a elwid yn Fragddu. Daliwyd i ddarllawio yn hwn hyd y trydydd chwarter yn y ganrif ddiwethaf. Y bragwr olaf y sylwasom arno oedd gŵr o'r enw William Owen, Llwyn-hensel, yn y flwyddyn 1826. Yr oedd Humphrey Pugh, Tonfannau, yn ŵr adnabyddus yn ei ddydd, a phrynai haidd yr ardaloedd i'w fragu'n gwrw yn Narllawdy Tynewydd. Perthynai'r Bracty hwn i felin y Tywysogion.
Rhestr fer o renti a delid yn y flwyddyn 1821, ar rai diwydiannau:—
Melin Beniarth. Tenant, John Lewis. £30/0/0.
Bracty, Tynewydd. Tenant, David Lloyd. £20/0/0.
Chwarel Pont-y-garth. Tenant, Hugh Lloyd (Moiety). £7/10/0.
Efail Newydd (Butcher Row). Tenant, William Rees. £2/5/0.
{{c|ABERDYSYNNI }}
Ceir adroddiad swyddogol am borthladdoedd a geneuau afonydd Meirionnydd am y flwyddyn 1565. Nid oedd, yn ôl yr adroddiad hwnnw, ddim y gellid ei alw'n borthladd yn perthyn i afonydd Mawddach, Dysynni a Dyfi. Pedwar tŷ oedd yn Abermaw, a meddai Rees ap Rees a Harri ab Eden ddau gwch bychan at groesi teithwyr dros afon Mawddach. Tri thŷ oedd yn Aberdyfi, ac ni alwai llongau yno ond yn ystod tymor dal penwaig. Yn ystod y tymor hwnnw galwai lliaws o longau yn Aberdyfi;. hwylient yno yn lluoedd o bob parth. Ac arferid dewis un o'r penaethiaid am y cyfnod yn llyngesydd ar yr holl longau. Byddai bywiogrwydd anghyffredin yn Aberdyfi yn ystod tymor dal penwaig.
Nid oedd Aberdysynni'n ddim amgen na math o gilfach. Rhoddwyd gofal y lle ar Lewys Gethyn a John ap Gruff ap Harri, dau o'r preswylwyr agosaf a mwyaf cyfrifol. Perchennog Rhyd-y-garnedd oedd Lewys Gethyn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
s18r0rg6xum8gx2eytui86ynujg2gvd
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/145
104
83055
162003
2026-04-01T19:42:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162003
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gynnar y tu ôl i Siop isaf, a bu'r llall yn Nhyn-y-pwll. Bu Barcty ar gwr y plwyf ar fin afon Dysynni yn agos i'r Crynllwyn. Perchennog y Crynllwyn, gŵr o'r enw John Jones, a'i cododd yn nechrau'r ddeunawfed ganrif. Arferai John Jones roddi benthyg arian ar log i drigolion y dyffryn, a rhoddai hwy'n fynych yn bur ddihid. Dywedir iddo fod yn golledwr trwm; cadwai ei gyfrifon a'i arian yn Amwythig. Âi yno weithiau ar ei farch, a thro arall ar ei draed, a cheir traddodiad amdano yn cychwyn cerdded oddi ar Bont Amwythig pan godai'r haul, ac yn cyrraedd Pont Dysynni pan fachludai'r un dydd. Rhoddodd fenthyg arian yn bur hael amryw amaethwyr un tymor, ac ni chafodd ond swm enfawr o grwyn yn ôl yn lle'r arian, oherwydd iddi fod yn flwyddyn golledus ar ddefaid. Cychwynnodd yntau'r Barcty ger ei gartref i droi'r crwyn yn lledr, a bu'n gweithio hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Gweithiwyd ef am y tro olaf gan Dafydd Thomas, y Crynllwyn, a phrynwyd ei ystôr olaf o ledr gan John Robert, crydd, Llanegryn.
Dechreuwyd crasu priddfeini yn gynnar yn y plwyf. Gwnaed llawer o briddfeini o'r cleidir a oedd ar waelod caeau Bodowyn, ac yng nghoed Peniarth ar lan afon Dysynni.
Wedi
Chwarelid yn y plwyf ymhell cyn y dechreuwyd gweithio yn Abergynolwyn ac Arthog. Defnyddid llechau i doi yn y plwyf yn 1667, a chodid llechau yn nechrau'r ddeunawfed ganrif, yng Nghloddfa Pirs a chloddfa Pont-y-garth. hynny y gweithiwyd y lefel ar gwr uchaf yr Allt-lwyd. Dechreuwyd gweithio chwarel Nant-y-Gwddw ar raddau helaeth ar y mynydd, ond ataliwyd ei gyrfa yn sydyn. Cyfeirir ati wrth drafod hanes cytir y plwyf. Gweithiwyd chwareli llechau ar diroedd Cyfannedd-fawr a Chyfannedd-fach, a'r Goleuwern.
Ar dir Cyfan-
Codwyd mwyn ar diroedd y Cyfanheddi. nedd-fach y codid y mwyn yn bennaf. Rhed nant gref o'r mynydd, a chodwyd melin yn y ceunant rhwng Cyfannedd-fawr a Phanteinion. Bu merched o Lanfyrnach yn golchi mwyn yn y gwaith hwn. Ar un adeg rhedai trafnidiaeth brysur i lawr am y Friog o fro'r Cyfanheddi. Ceisiwyd am<noinclude><references/></noinclude>
hmgtgbt2yhz5p1f14sn2bmeeu24qky1
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/144
104
83056
162004
2026-04-01T19:43:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162004
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dyma restr o wahanol grefftwyr y digwyddodd inni sylwi arnynt:—
* Cryddion 1769-1799. Pump.
* Teilwriaid 1744-1789. Saith.
* Seiri Maen 1772-1812. Un ar ddeg.
* Melinyddion 1774-1808. Naw.
* Seiri Coed 1773-1840. Tri ar hugain.
* Gofaint 1635-1835. Pymtheg.
* Darllawyr 1799-1824. Dau.
* Gwehyddion 1756-1852. Deg.
* Eurych 1850. Un.
* Nyddwraig 1859. Un.
* Canhwyllydd 1890. Un.
Bu argraffu'n apelio at fechgyn Llanegryn unwaith, ond y mae'r swyn hwnnw wedi cilio o'r ardal ers llawer blwyddyn.
Daeth Evan Jones, y Trawst, yn argraffydd pwysig yn nhref Dolgellau; bu'n argraffu'r "Dysgedydd" am flynyddoedd.
Bu Lewis Jones, Pentre-uchaf, yn ŵr llwyddiannus fel argraffydd yn y Rhyl. Daeth yn berchennog ar swyddfa ei hun, a'r newyddiadur wythnosol "Clwyd Journal." Apwyntiwyd ef yn is-olygydd y "Llan" yn 1881.
Daeth Jacob Rees, y Llwyn, yn berchennog ar ei swyddfa ei hun yn y Wyddgrug; bu ef yn gweithio yn swyddfa'r Feibl Gymdeithas yn Llundain, ac yn cysodi rhai o weithiau cynnar Daniel Owen.
{{c|DIWYDIANNAU}}
Agwedd wan ar fywyd y plwyf fu ei ddiwydiannau. Ni bu na ffatri na phandy oddi mewn i derfynau'r plwyf.
Diau i'r ffaith bod tair o felinau dŵr at falu ŷd wedi eu hadeiladu'n gynnar yn y plwyf, filwrio yn erbyn i ddim math o ffatri na phandy gael cychwyn o gwbl, oherwydd hawliai'r melinau holl nentydd y fro at eu gwasanaeth. Ond bu llawer o wehyddion yn y plwyf yn ystod y canrifoedd diwethaf.
Bu mwy nag un Barcty yn yr ardal, neu Danws fel y'i gelwid yn y fro. Gweithid mewn dau Danws; codwyd un yn<noinclude><references/></noinclude>
loc1hr9qhe5cqjdz35pzf5mjixb18gu
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/143
104
83057
162005
2026-04-01T19:43:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162005
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cawn hanes am of yn nhref Rhydcryw yn 1635. Enw'r gof cyntaf a geir ar gadw oedd Lewys ap Hugh, ond y mae'n sicr fod gofaint yn Llanegryn o ddyddiau'r llys yn Nhal-y-bont. Bu gefeiliau yn wtre Rhiwfelen-fach, yn Ysgubor-wen a Broneunydd.
Y gof olaf a fu'n gweithio yn efail Pencraig oedd gŵr o'r enw Dafydd Dafis a fu farw yn 1881. Rhoddid gair uchel iddo fel gof yn meddu ar ddwylo cywrain ac ar hunan-ddiwylliant eang.
Bu teulu o ofaint o'r cyfenw Rees yn gweithio yn Butcher Row am ddau gant o flynyddoedd.
Ychydig o waith dwylo'r gofaint a erys yn ein plwyf. Gwelir ambell drybedd, canhwyllarn frwyn, a chwim (math o fachau at hongian tegell), yn dal i aros yn ein plith.
Bu seiri coed yn grefftwyr enwog yn y plwyf, a bu ganddynt ddau weithdy prysur yn y gymdogaeth, sef gweithdy Brynbloeddyn a gweithdy Llwynhensel; bu gan y turnwyr, hwythau, weithdy yn y Llwyn. Gwnâi'r seiri a'r turnwyr bob math o ddodrefn cegin, parlwr, ac ystafell gysgu. Gwnaent bob math o lestri a chelfi at wasanaeth tŷ a fferm. Gwerthid treseli, cypyrddau cornel, fframiau clociau, a phob math o fyrddau, cadeiriau, setlau a chistiau at wasanaeth y gegin. Gwnaent beiriannau dyrnu a nithio, gwagenni a throliau.
Diwydiant prysur oedd gwneuthur hetiau a boneti; o wellt gwenith y plethid yr hetiau. Yr oedd rhai yn gywrain ryfeddol gyda'r gwaith plethu. Gwneid dau fath o hetiau a boneti, un math ar gyfer cyfoethogion, a'r math arall ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd.
Gweithiai'r teilwriaid, gwniadwragedd, a chryddion o dŷ i dŷ ar hyd a lled y plwyf. Chwipio'r gath y gelwid ymweliad y teilwriaid. Crefftwyr pwysig oedd y gwehyddion hwythau. Byddai'r droell fach ymhob tŷ. Nyddid edau lin yn y pentref. Ymhlith crefftwyr eraill y plwyf yr oedd towyr, garddwyr, cigyddion, gwydrwyr, basgedwyr, cyfrwywyr, canhwyllwyr, menygwyr, crwynwyr, eurychod a chraswyr. Byddai dynion yn torri a llifio coed ar hyd y flwyddyn. Yn y flwyddyn 1834 y gwelsom am y tro cyntaf yr enw saer troliau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
kkxvoge3hsflentehowvvti7pnogddk
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/142
104
83058
162006
2026-04-01T19:44:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162006
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cyfnod o ddatguddio a chelu oedd Calanmai. Sylweddolodd llawer gwas am y tro cyntaf yn brudd ei ysbryd, fod ei hen feistr caredig wedi colli ei ymddiriedaeth a'i ddiddordeb ynddo, ar ôl iddo wasanaethu am ddegau o flynyddoedd. Byddai gweision yn gwasnaethu yr adeg honno gymaint â deugain a hanner can mlynedd gyda'r un meistr, a thorrodd llawer un ei galon wrth orfod ymadael â thŷ ei feistr. O'r ochr arall teimlodd llawer meistr i'r byw wrth weled ei hen was onest a ffyddlon wedi dewis meistr newydd; yr oedd ei hen was wedi mynd yn rhan o'i fywyd.
Dibynnodd Llanegryn ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ar gael ton ar ôl ton o wasanaethyddion oddi allan i'r plwyf. Un tro deuai'r don o gyfeiriad Ardudwy, throeon eraill deuai'r don o Ddolgellau, o Bennal, o Sir Aberteifi, ac o Sir Dref-aldwyn. Deil y gwasanaethyddion i ddyfod i'r plwyf.
Erbyn hyn y mae'r arferiad o gyrchu i ffair Galanmai i gyflogi wedi llwyr ddarfod, a'r ffair ei hun i bob diben wedi peidio â bodoli. Bu ffair Pasg yn enwog am ei rhialtwch, a deil ei phoblogrwydd yn y cyfeiriad yma o hyd.
Edrychid ymlaen gydag awch am y ffeiriau er mwyn cwrdd â'r hen gymeriadau a'u mynychai, a'u clywed yn canu cerddi Cymraeg. Prif gyfle'r werin gynt i gael hanes digwyddiadau'r oes honno oedd y ffeiriau, a'r cerddi oedd eu newyddiaduron. Yn y ffair, yn aml, fisoedd wedi'r digwyddiad y clywid am y tro cyntaf am y ddamwain neu'r trychineb; dyna fyddai testun yr ymddiddanion ar aelwydydd y fro am wythnosau, a chlywid canu ar y cerddi ar lechweddau'r bryniau, ac ar hyd llwybrau'r plwyf. Adeg syml, ond dedwydd.
{{c|CREFFTWYR}}
Bu plwyfi gwledig Cymru yn byw yn gyfangwbl arnynt eu hunain. Yr oeddynt yn unedau economaidd i raddau helaeth. Cynhyrchid a gwneid popeth oddi mewn i'w terfynau hwy eu hunain.
Gofaint, seiri coed, a seiri maen oedd crefftwyr anhepgor gwlad. Gŵr breiniol oedd y gof gynt yng Nghymru, a dwylo cywrain odiaeth a fu gan ofaint ein gwlad.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ejidb5eqpkqbhq6ci8zbvzc9nsp7dfd
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/141
104
83059
162007
2026-04-01T19:45:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162007
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na chysgu i'w gael wedi cyrraedd Dinas Mawddwy, dim mwy na cheisio gorffwys a chysgu yn yr un man a'r anifeiliaid oedd hi fel rheol. Gwerthid eidionau pedair blwydd yn y ffair hon i fynd yn eu blaen i ffeiriau Lloegr. Arferid yr adeg honno bedoli'r ychen y byddid yn eu hanfon i farchnadoedd Lloegr. Clywsom mai yn Cann Office yr arferid pedoli ychen a gwartheg Llanegryn. Ni bu llawer o gerdded i ffair Dinas yr haf, nac o gerdded y gwartheg i Loegr wedi i gyfnod y rheilffordd gychwyn. Ataliwyd yn raddol gyrchu iddi o'r ardal, ond parhaodd ambell hen amaethwr i droi ei wyneb tua ffair Dinas yr haf bob blwyddyn hyd yn gymharol ddiweddar.
Pan oedd y ffair yn ei llawn dwf gwelid cymaint ag ugain o ychen pedair blwydd yn mynd i'w gwerthu iddi o dyddynnod o faintioli Llanfendigaid, a gwerthid hwy am bum punt y pen, a hynny tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrid can punt am ugain o ychen yn gryn orchest yn yr oes honno. Ar ddechrau'r ganrif gwethid hwy am o £1/5/- i £4 y pen. Gwelid amaethwr yn cyrchu am ffair a phwn o wenith ar gefn ei farch, ac yn dychwelyd gyda'r hwyr wedi cyfnewid y pwn gwenith am fuwch raenus.
I ffeiriau Machynlleth yr eid â'r ceffylau fel rheol i'w gwerthu, yn arbennig ceffylau gwedd.
Mewn cyfnod diweddar ffair Galanmai yn Nhywyn oedd y brif ffair at gyflogi. Adeg bryderus oedd Calanmai; y gweision yn ofni colli eu lleoedd, a'r meistri, hwythau, yn ofni colli eu gweision; o'r tu arall dyheai llawer gwas a meistr am weled Calanmai'n dyfod iddynt gael gwared â'i gilydd.
Dyma hen linellau gwerin yr adroddid llawer arnynt gan wasanaethyddion y fro:
{{center block|
<poem>
Daw Clamai daw clymu,
Daw dail ar bob twyn;
Daw meistr a meistres
I siarad yn fwyn.
Cywion gwyddau ac ebolion bach
Pam na ddaw Calanmai bellach.
</poem>
}}
<br>
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6lu8hp2a6nl3mz88r7b1nmm83b4f6v1
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/131
104
83060
162008
2026-04-01T19:46:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162008
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gilydd a fyddid wedi ei derbyn gan yr amaethwr. Byddai'r Fedel yn aml yn cynnwys hanner cant o ddynion a merched pan fyddai y tyddynnod mwyaf yn medi. Symudai'r Fedel o ddydd i ddydd i'r naill dyddyn ar ôl y llall. Byddai holi mawr pa bryd y byddai'r Fedel yn debyg o gyrraedd y tyddyn a'r tyddyn. Dydd llawen oedd diwrnod y Fedel. Ychydig o gwsg a gorffwys a syrthiai i ran neb y noson flaenorol. Paratoid y bwydydd yn helaeth gan y feistres a'r morynion hyd oriau'r bore; a gwylid yn bryderus gyfeiriad y gwynt a'r tywydd gan y meistr a'r hwsmon. Ar y wawr clywid corn y Fedel yn datseinio drwy'r fro, a buan y gwelid degau o lanciau a llancesau yn ymryson am y cyntaf i gyrraedd maes y Fedel.
Y mae dydd y cryman wedi llwyr ddarfod, a dydd y bladur yn ei ddilyn yn gyflym. Oes y peiriannau yw hi ers yn agos i gan mlynedd yn y plwyf. Gweithid y peiriannau â llaw ar y cynnig cyntaf; dilynwyd hynny gan beiriannau a weithid gan geffylau. Dywedir mai i Waun-fach, Clos-bach, Bronclydwr, a'r Crynllwyn y daeth peiriannau torri gwair gyntaf tua 1865. Dynion wedi bod yn y mwngloddiau yn Awstralia ac America oedd y gwŷr a ddug y rhain i'r fro ac wedi dychwelyd i fyw i'w hen ardal. Prynid y peiriannau hyn ar y cyd ar y cyntaf, a huriai arall ei beiriant i amaethwyr y gymdogaeth. Daeth Dafydd Thomas, Crynllwyn, â pheiriant a dorrai ystod o ddwy lath, neu rywle'n agos at hynny. A daeth peiriant torri ŷd yn gynnar i'r Rhydcryw na feddai ar ddim ond un olwyn ar y canol; ceisiwyd torri gwair ag ef ond aflwyddiannus fu'r cynnig.
{{c|DYRNU}}
Â'r ffust yn unig y dyrnid yr ŷd yn ystod cyfnod y degwm. Meddai'r ffust ar ddwy ran, sef y droedffust oedd tua phum troedfedd o hyd, a'r walffust oedd tua thair troedfedd o hyd. Yn y droedffust y gafaelai'r dyrnwr, ac â'r walffust y dyrnid yr ŷd. Gwneid y walffust fel rheol o bren draenen ddu, onnen neu dderw. Y ddraenen ddu oedd yr orau, yn enwedig os meddai geinciau da tua'r blaen i'w hatal rhag hollti. Rhoddid penguwch, math o gap lledr, ac wyth llygad ynddo ar ben y<noinclude><references/></noinclude>
bjss9cmfq44s8y0h36c27y2egaqznxg
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/132
104
83061
162009
2026-04-01T19:48:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162009
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>walffust, a sicrheid ef yn dynn â charai ledr gref; a meddai'r droedffust ar ddolen haearn wedi ei sicrhau ar ei phen, a chysylltid y ddolen haearn wrth y penguwch â charai ledr o'r croen gwytnaf.
Â'r ffust y dyrnid ŷd y plwyf hyd tua'r flwyddyn 1865. Cyflog bach a dderbyniai'r ffustiwr; ni chyrhaeddai'n aml ddim mwy na grôt y dydd. Derbyniai'r ffustiwr gorau o bum swllt i chwe swllt yn yr wythnos ar ddiwedd cyfnod y ffust.
Brwydr flin fu eiddo'r ffustwyr i ennill dim mwy na phrin ddigon o fara'n unig i'r teulu. Ymffrostient wedi'r cyfan yn y penderfyniad i ennill eu cynhaliaeth eu hunain. Gwell oedd gan James Thomas, y Llwyn, fynd ar ei ffyn baglau fore a hwyr i'w lawr dyrnu nag ymgreinio am geiniog y plwyf.
Dygwyd amryw gydymgeiswyr i'r maes yn erbyn y ffust cyn ei gyrru'n llwyr o'n plith. Y math cyntaf oedd peiriant dyrnu â dwylo; meddai ar ddwy olwyn i'w weithio, un ar bob ochr, a gweithidefgan bedwar o ddynion cryfion, dau wrth bob olwyn, a chan nad oedd olwynion o dano, cludid ef gan ddynion o'r naill amaethdy i'r llall.
Bob yn dipyn daeth amryw dyddynnod i feddu peiriant dyrnu, a pheiriant nithio o'r eiddynt eu hunain, a gweithid hwy â cheffylau neu rod ddŵr.
Daeth peiriannau ager i'n plwyf tua 1870. Dywedid bod y peiriannau cyntaf yn rhy lydain ar eu holwynion i fynd ar hyd wrtreydd y plwyf, fel y bu'n rhaid eu cludo ar draws y caeau gan achosi trafferth ac anhwylustod mawr. Tueddu at fod yn hwyrfrydig i'w mabwysiadu yr oedd amaethwyr ar y cyntaf, a daliodd ambell un yn ystyfnig i'r eithaf rhag caniatáu iddynt ddyfod i'w ydlan. Yr oedd rhyw gysegredigrwydd ynghlwm â sŵn y ffust iddynt. Clywsom mai gŵr o sir Drefaldwyn, o'r enw Newell, a ddaeth â'r peiriant ager cyntaf i'n hardal, ac mai peiriant un gwynt oedd. Wedi hynny daeth Sais â pheiriant dyrnu a nithio i'n bro. Ar ôl hyn daeth Dafydd Pugh a Griffith Pugh, Bronclydwr, â pheiriannau dyrnu i'r gymdogaeth. Dau o ddyrnwyr yr ardal oedd Edward a William Dafis. Ni ddyrnodd yr un dyn yng Nghymru fwy nag a wnaeth William Dafis yn ei oes. Ar y cychwyn dyrnai ryg, ffa, a phys.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
77mmnvdrtn3nfr04w938v7ckoupwe88
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/140
104
83062
162010
2026-04-01T19:48:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162010
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dros yr haf, a phan welid ffair Dyniewaid tynnid hwy i lawer gogyfer â'r gaeaf.
Prif ffair bleser Llanegryn am gyfnod maith oedd ffair Dyniewaid. Paratoid am wythnosau gogyfer â'r daith dros y Ffordd-ddu. Codid ar yr ugeinfed dydd o Fedi am bedwar o'r gloch y bore, a chychwynnid o bump i chwech o'r gloch. Gwelid gwragedd darbodus y pentref yn cychwyn o dan eu beichiau o boteli cetsyp '(ketchup)' a chyrn o ganhwyllau brwyn. Y gwragedd y cawn yr hanes diwethaf amdanynt yn cyflawni'r gorchwylion hyn oedd Mari Sion, Jenny Jones, Pegi Pugh a Margaret Griffith.
Gwerthid y cetsyp yn y blynyddoedd diwethaf am 1/-y botel, a'r canhwyllau brwyn am geiniog y corn.
Wrth gorn golygid cymaint ag y medrai un gau amdano â'i fys a'i fawd. A chludid beichiau trymion adref o'r ffair; clywsom am Humphrey Ifan yn cario hanner pwn o beilliaid adref bob cam. Y ffair bwysicafi wragedd tyddynnod oedd ffair Gaws, a gynhelid yn Nolgellau ar y 9 o Hydref. Cyrchid iddi o bob cyfeiriad gyda llwythi o ymenyn ystyciau a photiau pridd, a hefyd ugeiniau o gosynnau caws; paratoid bwyd ac enllyn yn helaeth at fynd â hwy i'r ffair hon. Bu ymenyn, caws, ac wyau yn rhad yn ystod yr hanner can mlynedd cyntaf o'r ganrif ddiwethaf. Gwerthid yr ymenyn am rôt y pwys, a chyfrifid ef yn ddrud pan gododd i chwe cheiniog y pwys; a gwerthid yr wyau yn ddeugain am swllt, ac ystyrid grôt y dwsin yn bris da. Cludid ymenyn ffres ac wyau dros y Ffordd-ddu ar freichiau ac ar feirch i dref Dolgellau, o wythnos i wythnos o rai amaethdai. Cyfrifid Dolgellau yn dref yr ardal.
Bu llawer o gerdded gan amaethwyr, a gweision amaethyddol i'r Ffair Fach a gynhelid yn Nolgellau. Âi'r amaethwyr yn gyffredin ar eu meirch i brynu celfi a nwyddau at y cynhaeaf, a chyrchai'r gweision iddi ar eu traed dros y Ffordd-ddu i gyflogi dros y cynhaeaf.
Sefydliad pwysig yn hanes amaethyddiaeth oedd ffair Dinas yr haf, a gynhelid yn Ninas Mawddwy. Bu gyrru mawr ar wartheg i'r ffair hon. Cychwynnid y noson flaenorol er mwyn bod yn brydlon yn y ffair bore drannoeth. Nid oedd fawr o wely<noinclude><references/></noinclude>
69u7l671ne6roadjfmaizfe1geitpjn
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/139
104
83063
162011
2026-04-01T19:51:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162011
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cornel. Codwyd y pitfal yn y Ceunant at garcharu'r anifeiliaid crwydr hyn. Ond ni roddwyd yr un anifail yn gaeth ym mhitfal y Ceunant, oherwydd iddo gael ei adeiladu ar y cytir, ac ni bu'r pentrefwyr yn fyr o'i chwalu i'w sylfeini ar fyr dro. Canfyddid ei olion ar y cytir hyd yn ddiweddar. Ceir dywediad ar dafod leferydd yr ardal sy'n treiglo i lawr o oes y pitfal; os digwydd i dŷ fod yn fudr ac yn aflêr ei gyflwr dywedir ei fod fel pitfal.
Tua'r un adeg ag y codwyd y pitfal ar y Ceunant ceisiwyd cau darn o'r cytir yn eiddo preifat. Pan godid y clawdd yn ystod y dydd, chwelid ef i lawr i'w sylfeini yn ystod y nos. Methiant fu'r ymgais i gau'r anifeiliaid yn y pitfal, a'r ymgais hefyd i gau darn o'r cytir yn eiddo preifat.
{{c|Y DDEDDF BLWYFO YN LLANEGRYN}}
Nid erys dim o olion yr hen ddeddf hon yn y plwyf. Y dystiolaeth hon yw'r unig beth a welsom yn dal cysylltiad â hi:—Merioneth. Re Examination of Lewis Thomas of the Parish of Llanaber in the said County . . . taken on oath before me G. Owen, Clerk, One of His Majesty's Justices for the said County, the Eighth day of February, 1816, touching the place of his legal settlement. Who said:—that about 12 years ago, he the said Lewis Thomas was hired to Ellis Lewis of Waen in the Parish of Llanegryn in the said County for one whole year for the wages of Six Guineas and half. That he served the said year and received his wages accordingly, That since the above time, he never has been hired for a year-neither hath he done any act or deed to gain a subsequent settlement.
Taken before me the day and year Above written. Griffith Owen.
<br>{{bwlch|7em}}Lewis Thomas.
{{c|FFEIRIAU}}
Prif ffeiriau pleser yr ardal oedd ffair y Blodau a ffair Dyniewaid yn Nolgellau, a ffeiriau'r Pasg a Chalanmai yn Nhywyn. Byddai'r gaeaf a'i ofalon a'i bryderon wedi cilio pan welid ffair y Blodau. Hebryngai'r porthwr y gwartheg o'i flaen i'r ffridd-oedd ar ei ffordd i'r ffair, a hongiai'r crefftwyr eu canwyllbrenni<noinclude><references/></noinclude>
k1cr85itehrddle1jrhwbpatx13o5kb
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/138
104
83064
162012
2026-04-01T19:52:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162012
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eu cynffonnau er mwyn cael rhawn at wneuthur rhaffau a gograu llaeth. Bu gwneuthur rhaffau rhawn yn grefft arbennig, a chlywsom sôn am Hwmphra'r Rhaffwr.
Cliriwyd y merlod oddi ar y mynyddoedd ar ddechrau hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Ymlidiwyd hwynt mewn modd creulon gan gŵn ysglyfaethus dros greigiau serth ac i byllau dyfnion.
{{c|GWYDDAU}}
Megid llawer o wyddau ar fynyddoedd y plwyf yn y ddeunawfed ganrif, ac ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hysfa i wyddau a feddai rhai tyddynnod bychain. Megid gwyddau gan y pentrefwyr, a gwerthid hwy'n gywion. Cyrchid y gwyddau o flaen y Nadolig i'w gwerthu yn Nolgellau. Cychwynnid eu cerdded o Lanegryn tua hanner nos, a chyrhaeddent y dref erbyn yr amser y byddai trefwyr Dolgellau'n codi o'u gwelâu ben bore.
cc <br>
Hen wraig fach yn gyrru gwyddau,
O Lanegryn i Ddolgellau,
::Ar hyd y nos.
Nid i Langollen yn unig y perthyn y geiriau hyn; cenid hwy gan blant Llanegryn.
{{c|PITFAL}}
Sonnir am bitfal yng nghymdogaeth Llanegryn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Bu pitfal ar fin y ffordd ar ochr y morfa o dan Dirgawen. Ond nid oes dim o'i hanes ar gael. Yr oedd yno dŷ annedd hefyd hyd ddwy genhedlaeth yn ôl.
Codwyd pitfal ar y cytir o dan Droed-y-rhiw, yn ystod tlodi a phrinder tua diwedd y tri degau o'r ganrif ddiwethaf, pryd yr oedd anifeiliaid pawb yn crwydro'n wyllt ar hyd a lled y plwyf. Yr oedd y gweithwyr hefyd wrthi â'u holl egni yn cadw moch, gwartheg, mulod, defaid, ac ieir a gwyddau a'r rheini'n crwydro'n newynllyd ar hyd y ffyrdd, ac yn ymwthio i bob<noinclude><references/></noinclude>
1nb6rczgr8bco4kl76kok4hhv0oac27
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/137
104
83065
162013
2026-04-01T19:53:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162013
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><poem>
Clos-bach: Cilhollt o boptu'r dde, a bwlch tri thoriad o dan y chwith.
Trychiadisaf: Fforch yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Cyfannedd-uchaf: Fforch yn y dde; torri blaen y chwith, a'i hollti.
Gwyddfryniau: Cornpicin byr yn y dde, a chanwair yn y chwith.
Goleuwern: Torri blaen y ddwy; bwlch plyg o boptu'r ddwy, a hollti'r dde.
</poem>
Deallwn fod Tyn-y-llan wedi mabwysiadu nod clust a briodolir yn y rhestr i Bryn-yr-ywen:—Hollti'r dde'n dair, a bwlch plyg o dan y chwith.
Ceir yn rhestr Llanegryn le o'r enw Bryn-yr-ywen, ond nid oes lle o'r enw yn y plwyf, ac ni bu lle o'r enw chwaith. Copïwyd y rhestr o ''Gydymaith y Bugail'', gan Lewis Jones, Bwlch, Dinas Mawddwy. Casglwyd Nodau Clustiau Defaid Llanegryn gan Ellis Evans, Hafotaliadau, a oedd yn fab i Evan Evans, bugail, Llanegryn.
Meddai bugeiliaid Bredyn-fawr ar nod clust o'r eiddynt eu hunain:—Cornpicin hir yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
{{c|MERLOD Y MYNYDD}}
Cedwid nifer mawr o ferlod y mynydd gan amaethwyr Llanegryn, a phorent yn rhydd ar y mynyddoedd. Ni feddent hwy hysfa fel yr oedd gan y defaid, ond torrid nod clust arnynt. Bychain oeddynt o ran maint, ond yr oeddynt yn llawn bywyd a hoenusrwydd, a golygfa hardd oedd eu gweled yn llamu'n ysgafndroed o gefnen i gefnen ar y mynyddoedd.
Anfonid gyrroedd ohonynt i ffair Dinas yr haf i'w gwerthu, a bu galw mawr amdanynt un adeg.
Diwrnod helyntus ydoedd dydd cneifio'r merlod. Yr arferiad gyffredin oedd eu cneifio hwy ar y mynydd. Helid hwy i fan arbennig a elwid y Ddalfa, neu Bant-y-gafael. Cornel hwylus at y gorchwyl oedd y Ddalfa a'r tir o duedd wlyb, a safai rhwng ffridd Blaen-y-cwm, a ffridd uchaf Cwm-uchaf. Rhaid oedd cael dynion ieuainc cryfion ar eu sodlau, ac yn eu breichiau at ddal y merlod chwim eu cyrff. Cneifid eu mwng a blaen<noinclude><references/></noinclude>
mphmq2shhlqhzd79o5n6n1fxkh4tlee
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/136
104
83066
162014
2026-04-01T19:54:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162014
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><poem>
Brynderw: Hollti'r dde yn dair, a chilhollt o boptu'r chwith.
Waun: Tri bwlch grisiau tan y dde, a sgiw o dan y chwith.
Nant: Bwlch tri thoriad o dan y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Cyfannedd-fawr: Bwlch tri thoriad o dan y dde, ac oddi ar y chwith.
Cwm, Peniarthuchaf: Bwlch plyg oddi ar y dde; torri blaen y chwith, a bwlch plyg o dani.
Bodowyn: Stwb oddi ar y dde, a thorri blaen y chwith.
Glan-y-wern: Stwb o dan y dde; canwair yn y chwith, a bwlch plyg o dani.
Garth-fach: Stwb oddi ar y ddwy.
Pen-y-wern: Sgiw o dan y ddwy, a hollti'r dde.
Fron-newydd: Sgiw o dan y dde, a fforch yn y chwith.
Blaidd: Sgiw o dan y ddwy.
Tirgawen: Sgiw oddi ar y dde, a thwll yn y ddwy.
Waun-fach: Sgiw o dan y dde, ac oddi ar y chwith.
Hen-siop: Sgiw o dan y dde; torri blaen y chwith, a'i hollti.
Cil-sarn: Sgiw o dan y ddwy.
Bron-eunydd: Sgiw o dan y dde, torri blaen y chwith, a'i hollti'n dair.
Tre-faes: Sgiw o dan y dde; torri blaen y chwith, a bwlch plyg o boptu.
Tal-y-bont: Carrai oddi ar y dde, ac o dan y chwith.
Rhydcryw: Carrai o dan y dde, a chornpicin byr yn y chwith.
Trychiaduchaf: Carrai o dan y ddwy, a bwlch plyg oddi ar y dde. Hafoty: Carrai oddi ar y dde, a bwlch tri thoriad boptu'r chwith.
Peniarth-ganol: Carrai o dan y dde, a thorri blaen y chwith. Tairmynydd: Carrai oddi ar y dde, a dau fwlch plyg o dan y chwith.
Caermynach: Twll yn y dde, a dau dwll yn y chwith. Glanmachlas: Torri'r chwith yn ei hanner.
Tyn-llan: Cilhollt tan y dde.
Nant-y-cynog: Cilhollt tan y dde, a thorri blaen y chwith. Tyddynpadrig: Dyrnod cyllell tan y dde, a chanwair yn y chwith.
</poem><noinclude><references/></noinclude>
35vd3xbbg0m751z6b9bxqwbi4a6ts1s
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/135
104
83067
162015
2026-04-01T19:55:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162015
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddwyn defaid. Gelwir hefyd yn yr un flwyddyn ar oruchwylwyr plwyf ac eglwys Llangelynnin i gyfrannu swllt yr wythnos at gynhaliaeth plentyn; yr oedd ei fam yng ngharchar Dolgellau dan benyd marwolaeth am ladrata defaid.
Diolch nad yw'r trosedd na'r gosb drom yn aros mwy ar fryniau Meirion.
{{c|NODAU CLUSTIAU DEFAID}}
<poem>
Celmi: Torri blaen y ddwy, a bwlch tri thoriad o dan y dde.
Bredyn-fawr: Torri blaen y dde, a stwb oddi ar y chwith.
:Arferwyd gan Richard Vaughan, Tŷ mawr.
Tŷ-mawr: Cornpicin hir yn y dde, a thwll yn y chwith.
:Arferwyd gan Richard Vaughan, Tŷ mawr.
(1) Bredyn-fach: Torri blaen y dde, a sgiw o dan y chwith.
(2) Bredyn-fach: Cornpicin byr yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Pant: Torri blaen y dde, a'i hollti, a bwlch tri thoriad o dan y chwith.
Gellisarrog: Torri blaen y dde, a'i hollti'n dair, a hollti'r chwith.
(1) Cemaes: Torri blaen y ddwy; bwlch plyg boptu i'r dde, ac o dan y chwith.
(2) eto: Torri blaen y dde; bwlch plyg boptu, a chilhollt tan y chwith.
Cyfannedd-fach: Torri blaen y ddwy, a thwll yn y dde. Peniarth: Torri'r dde yn ei hanner.
Bryn: Canwair yn y dde, a bwlch grisiau oddi ar y ddwy. Celynnen-fach: Canwair yn y dde, a bwlch tri thoriad tan y chwith.
Tynewydd: Canwair yn y dde, a bwlch plyg oddi arni, a hollti'r chwith.
Rhiwfelen: Canwair yn y ddwy, a dyrnod cyllell tan y dde. Tyn-y-cornel, Peniarthuchaf: Hollti'r dde; torri blaen y chwith, a dyrnod cyllell o dani.
Pen-y-ceunant: Hollti'r dde; dau fwlch plyg o dan y chwith. Bryneglwys: Hollti'r dde; torri blaen y chwith, a'i hollti'n dair.
</poem><noinclude><references/></noinclude>
sobth77gm8h3hl1iz0skzdwb503fri5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/134
104
83068
162016
2026-04-01T19:55:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162016
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn unig. Gweithred anghyfreithlon oedd ymyrryd mewn unrhyw fodd â'r corlannau, ac amheuid unrhyw ddyn a grwydrai ar hyd y mynyddoedd wedi i'r bugeiliaid noswylio.
Gwelir yr hen gorlannau adfeiliedig yn gorwedd yn llu mud ar y mynyddoedd. Diarddelwyd hwy'n llwyr gan y bugeiliaid a'u cŵn, a chan y defaid yn llwyrach fyth.
{{c|NODAU CLUSTIAU DEFAID}}
Gwyddor a chelfyddyd gywrain yn perthyn iddi yw Nodau Clustiau Defaid. Torrir y nodau ar y clustiau er mwyn dangos i ba dyddyn y perthyn y defaid. Medd y Nodau ar enwau a ffurfiau arbennig bob un, a cheir chwech ar hugain ohonynt i gyd, ac y mae'r holl gyfundrefn wedi ei sylfaenu'n gywrain arnynt. Gellir lluosogi'r nodau drwy amrywio'r gwahanol ffurfiau â'i gilydd. Y mae tua hanner cant o wahanol Nodau yn perthyn i'r hysfeydd sydd ar fynydd Llanegryn.
Adwaenir y Nodau wrth eu henwau priod eu hunain:—1. Torri'r blaen. 2. Bwlch plyg. 3. Bwlch tri thoriad. 4. Canwair. 5. Bwlch grisiau. 6. Bwlch clicied. 7. Stwb. 8. Carrai. 9. Cornpicin byr. 10. Cornpicin hir. 11. Cwliad. 12. Sgiw. 13. Carrai slent. 14. Carrai lipa. 15. Fforch. 16. Picfforch. 17. Bachiad. 18. Bachiad cam. 19. Dyrnod cyllell. 20. Cilhollt. 21. Twll. 22. Torri yn ei hanner. 23. Hollti. 24. Hollti'n dair. 25. Bwlch dau doriad. 26. Grisiau.
Y mae nodau Clustiau canolbarth Cymru yn seiliedig ar y toriadau hyn, ac y mae pob dafad yn eiddo diogel i'w pherchennog o dan eu harwydd. Anodd iawn yw dwyn dafad oddi ar ei hysfa. Cosbi trwm a wnaed erioed am ladrata defaid yng Nghymru. Yn hen lyfr Chwarter Sesiwn Meirionnydd am ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ceir hanes torcalonnus am drueiniaid yn cael eu cosbi'n drwm a chreulon am ladrata defaid yng nghymdogaeth Dolgellau. Gelwir gan y Siryf ar holl Gwnstabliaid a Swyddogion heddwch Meirion i gydgyfarfod yn Nolgellau ar fore Llun, 13, Mai 1793. Yn eu plith gwelir Cwnstabliaid Llanegryn yn mynd dros y Ffordd-ddu. A'u gorchwyl digalon oedd cynorthwyo i ddienyddio truan o ŵr am<noinclude><references/></noinclude>
9c9spdjlcb1xuco298k2fm1i47arbos
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/133
104
83069
162017
2026-04-01T19:56:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162017
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dyrnai am saith mis o'r flwyddyn, a'r dydd yn fynych yn bymtheg a deunaw awr, ac weithiau gosodai'r peiriant fwy na dwy waith yn y dydd.
Tueddu at fod yn eiddigeddus wrth y peiriannau yr oedd y gweithwyr ar y dechrau. Ofnent y byddent yn drygu eu gobaith am waith a chyflog, a llawenychent os digwyddai rhyw aflwydd i'r peiriannau drwy ddamwain neu drwy fwriad drwg.
{{c|CNEIFIO YN YR HEN AMSER}}
Cneifid y rhoniau tua thair wythnos o'r haf. Tybid os cneifid y rhoniau yn gynharach, yr âi'r mamogiaid yn hesbion. Tua'r adeg yma o'r haf gwelid y cneifwyr yn hel i'r mynydd, a chyrchid sacheidiau o wlân adref o'r mynyddoedd. Gelwid ef yn wlân rhoniau, oherwydd hen air Cymraeg yw rhoniau am gynffonnau.
Tua Gŵyl Ifan yr Haf y byddai'r diwrnod cneifio mawr, hynny yw, tua diwedd mis Mehefin. Cneifid y defaid i gyd drostynt. Yn yr hen amser helid y defaid y noson flaenorol oddi ar y mynydd, fel y byddent yn barod yn y buarth i ddechrau cneifio ben bore.
Arferid cneifio'r defaid eilwaith hyd tua thrigain mlynedd yn ôl. Cneifid yr ail waith ar Ŵyl Fihangel. Cneifient o'r lwyn dros y pen, a chredent y tueddai hynny at wasgu'r gwlân yn dynn at ei gilydd ar groen y ddafad, ac y cedwid hi rhag gwlychu ar dywydd glawog.
Wedi cyfnod yr hafotai bu'r corlannau mewn bri a phwysig-rwydd mawr ar y mynyddoedd. Edrychid ar ôl y corlannau â gofal arbennig, a chedwid hwy mewn cyflwr glân a da.
Ar un adeg corlennid y defaid dros y nos, a dywedir y byddai rhai bugeiliaid yn aros yn eu corlannau ar hyd y nos, yn arbennig pan ledaenid y si fod lladron yn llechu ar y mynydd. Adroddir mai bugail Braich-du pan oedd yn hysfa Peniarth oedd yr olaf a fu'n aros yn y gorlan gyda'i braidd dros y nos.
Meddai pob hysfa ei chorlan ei hun. Yr oedd cadw'r defaid ar eu hysfa eu hun yn rhan hanfodol o waith y bugeiliaid, a theimlai'r bugeiliaid yn eiddigeddus rhag i neb ddefnyddio'r corlannau, a phori ar yr hysfeydd ond eu perchenogion<noinclude><references/></noinclude>
4sf9t0czjwfkltf95wakgo8vx9j1e60
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/149
104
83070
162018
2026-04-01T19:58:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162018
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENNOD VIII}}
{{c|Cyflogau. Ymfudiaeth. Lloffa. Mela. Cwch Gwenyn. Bwydydd. Dillad. Halen. Cigyddion. Tanwydd. Goleuni. Llythyrau. Ysgubellau. Cerrig Taflau. Byw ar y Cyd.}}
{{c|CYFLOGAU }}
MEDDWN fanylion am gyflogau a delid ym Meirionnydd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Penodid cyflogau crefftwyr, a llafurwyr y tir gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd, a dyma'r symiau a basiwyd ganddi yn y Bala, 25, Mai 1601. Rhoddwn hwy fel y'u ceir yng nghyfrol y Parch. Walter Davies, ''General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales'' 1810.
<poem>
A bailiff of husbandry by the year, meat and drink, £1/6/8.
A ploughwright for making a plough, with meat and drink, 4d.
A mower by the day, with meat and drink, 4d., without meat, &c., 6d.
A reaper by the day, with meat and drink, 2d.; without ditto, 6d.
Reaping oats by the acre, with ditto, 5d; without ditto, 1/-.
Ditto rye and wheat, with ditto, 6d.; without ditto, 1/-.
Ditto barley, with ditto, 7d.; without ditto, 11d.
A common labourer by the day from Michaelmas to May, meat and drink, 1d.
Ditto from May to Michaelmas, the best, with ditto, 2d. Ditto, without meat and drink, 4d.
A woman-servant by the year, the best, 10/-.
The mean 6/8.
A master mason by the day, meat and drink 6d, without ditto, 1/2.
A rough mason, with meat and drink, 4d., without, ditto, 8d.
</poem><noinclude><references/></noinclude>
sd6bfwqpj6qb7xq0rqm5sc9desb5qzc
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/150
104
83071
162019
2026-04-01T19:59:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162019
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><poem>
A common carpenter, with ditto, 4d.
Tithers by the rood, the great assize, with quicksets: with-out ditto, 6d.
Ditto, ditto, the lesser assize, with ditto, ditto 4d.
A sawyer, with his own saw, meat and drink, by the day, 4d.
For weaving kersey, yard wide, 1d.
Ditto, above a yard wide 1d.
For spinnings and carding every pound of wool (5lbs) Dolgelley 5d.
</poem>
Dyma safon cyflogau a delid ym Meirion dros dri chan mlynedd yn ôl, a daliodd y cyflogau hyn mewn grym yn y sir i raddau mwy neu lai am ganrifoedd. Dirwasgiad a thlodi oedd yr achos am hynny, ac nid oedd neb yn dychmygu y dylai teuluoedd fyw uwchlaw tlodi ac angen.
Telid gan Lewis Owen, Peniarth, yn 1669 i ŵr o'r enw Rhys Morgan a'i fab rôt yn y dydd am y naw diwrnod y buont hwy'n adeiladu mur tu ôl i ystablau Glanmachlas. Ceir hefyd ei fod yn talu i Lewis Rowland yn yr un flwyddyn am atgyweirio clawdd perthynol i'r Waun yn ôl dwy geiniog y rhwd, a thalu tair ceiniog y rhwd am atgyweirio clawdd Bodowyn. Gwelir mai mewn ceiniogau'r oedd tâl y llafurwyr.
Yr oedd sŵn paratoi adeiladu yn y plwyf oddeutu 1735. Adeiladwyd Tal-y-bont a Thyn-y-llan gan John Rowland, Afon-ddu, a'i dâl oedd byw yn Afon-ddu heb dalu rhent tra byddai wrth y gorchwyl, a rhent Afon-ddu oedd £10 y flwyddyn. Y mae gennym gyfrifon cyflogau a delid i weision Rhydcryw yn 1718. Telid i John Hugh, yr hwsmon, £4 y flwyddyn a bwyd a diod; a châi gwraig John Hugh borfa ugain dafad am ei gynorthwyo. Telid i was £2/6/0 y flwyddyn a bwyd a diod, a'i orchwyl oedd gofalu am y gweddoedd ceffylau a'r ychen. Telid i hogyn £1 y flwyddyn am helpu ynglŷn â gwaith y fferm. Cawn Lewis Thomas o Lanaber yn hawlio ei blwyf yn Llanegryn yn y flwyddyn 1816 oherwydd iddo wasanaethu yn was am flwyddyn gron gyfan yn y Waun, a'i gyflog oedd £6/16/6. Blwyddyn wasgedig fu 1816, ac achosodd lawer o bryder ac anesmwythyd ymhlith yr amaethwyr a'r gweithwyr<noinclude><references/></noinclude>
0wa2vbaje3u6gqbl2gv9iniyj9qy9iy
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/151
104
83072
162020
2026-04-01T19:59:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162020
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Glawiodd yn drwm drwy gydol yr haf, a bu'n rhaid cwalio'r ŷd ar holl feysydd llafur y plwyf. Aeth yn Glangaeaf cyn y llwyddwyd i gludo i'r ydlannau hynny a oedd yn weddill ohono. Tlododd y gwlybaniaeth mawr yr amaethwyr yn ddifrifol, a bu'n gyfyng ar bawb drwy'r gymdogaeth am fara ac enllyn, a gwaith ac arian.
Y gweithwyr a lafuriai galetaf o bawb yn y cyfnod hwn oedd y cloddwyr cloddiau cerrig. Telid iddynt o rôt i bum ceiniog y rhwd. Gweithient yn galed a diwyd fore a hwyr er mwyn codi ychydig ar eu cyflog a phrin fyddai wedi pob diwydrwydd.
Yn ystod y blynyddoedd 1830-50 y gwelodd gwerin Llanegryn yr ugain mlynedd llymaf yn hanes yr ardal. fuwyd i lawer pâr ieuanc droi eu hwynebau at yr ''overseers'' i ofyn am gynhorthwy plwyf er mwyn prynu mân ddodrefn i sefydlu cartref iddynt eu hunain. Yr oedd cyflog y gweithwyr gorau yn odiaethol o fychan. Bu James Thomas, y Llwyn, yn dyrnu â'r ffust yn Nhŷ-mawr am rôt yn y dydd. Rhaid oedd taro ar ffustiwr da a allai ddyrnu pwn o ŷd mewn diwrnod, a grôt a delid am ddyrnu pwn yr adeg honno. Adroddid am Hugh Lewis, Garth-fach, iddo ar ddechrau ei fywyd priodasol weithio am gyflog bach. Lladdai wair ar rosydd uchel ar lechweddau Cader Idris am cyn lleied â grôt yn y dydd.
Dyrnai Dafydd Morgan ym Mronclydwr ychydig yn ddiweddarach am chwe cheiniog yn y dydd, ac yr oedd yn un o'r dynion gorau a fu mewn ysgubor. Bu Edward Rees, Pentre-uchaf, yn lladd gwair ar weirgloddiau'r fro, ac yn ffustio ŷd y degwm yn Ysgubor Rabat am chwe cheiniog y dydd yn yr un cyfnod. A dywedir mai ef oedd y gweithiwr cyntaf a gerddodd dros y Ffordd-ddu ag arian i'r Banc i Ddolgellau.
Nid enillodd Griffith Joseph ddim mwy na chwe cheiniog yn y dydd wrth ddyrnu a gweithio yn ffermydd y fro, a cherddodd ymhell at ei orchwyl lawer tro. Magodd naw o blant, a thrwy ei ddiwydrwydd ef a'i wraig, Catrin Huws, yr oedd eu hamgylchiadau uwchlaw pob pryder.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4n9el27uvvdmkuz7cf21x7ida2lgzs7
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/152
104
83073
162021
2026-04-01T20:00:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162021
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi i Griffith Morgan ddyfod i amaethu Tŷ-mawr lladdai Dafydd Rowland wair iddo ar weirgloddiau Butcher Row am chwe cheiniog yn y dydd. Wrth adrodd y ffaith ddigalon hon, ychwanegai Griffith Morgan fod toreth da o datws am bris isel yn yr oes honno. Os ydoedd y cyflog yn fach yr oedd y tatws yn rhad.
Gweithiai Daniel Rowland a Hugh Griffith yn ddiweddarach am chwech a saith geiniog y dydd am ddyrnu, ac ni bu dau weithiwr mwy diwyd a gonest na hwy yn y plwyf. Ai y ddau a'u cyflog adref mewn haidd ar eu cefnau bob nos Sadwrn, yn ddigon o fara i'r teuluoedd am wythnos. Llwyddodd Hugh Griffith i roddi crefft i'w dri mab er gwaethaf y prinder a'r bywyd chwerw.
Gwelodd Daniel Rowland gyda'i ffydd ddisigl fwy na digon ar ddiwedd ei oes hir.
Yr ydym erbyn hyn wedi cyrraedd terfyn yr hanner can mlynedd cyntaf o'r ganrif ddiwethaf. Deil cyflog y gweithiwr yn isel, nid enillai'r gweithiwr gorau ond ychydig geiniogau yn y dydd. Dechreuodd y cyflog wella wedi 1850. Daeth gweithwyr i ennill pum swllt yn yr wythnos, a daeth si bod rhai yn ennill mwy na hynny. Yr arferiad oedd fod y cyflog yn cynnwys bwyd a diod i wŷr priod, a bwyd, diod a llety i wŷr sengl.
Dau frawd a enillai dros goron yn yr wythnos yn gyntaf o bawb yn y fro oedd Dafydd Rees, Maesonnen, ac Evan Thomas, Ysgubor-wen. Bu Evan Thomas yn gweini yn Nhir-gawen am ddeugain mlynedd, a honnai pawb ei fod yn meddu ar lawer o gyfoeth. Yr oedd cael hyd i weithiwr yn meddu ar ychydig o gyfoeth yn ffaith i ryfeddu ati yn y fro'r adeg honno. Swm cyfoeth Evan Thomas ar ddiwedd ei oes oedd £40, a bu am ddeugain mlynedd yn ddiwyd yn eu casglu at ei gilydd. Arferai roddi £1 heibio bob blwyddyn. Cynhwysai ei lyfrgell rai llyfrau gwerthfawr, a chariai ei Destament Groeg i'r Ysgol Sul. Prynai ei ymenyn yn Nhirgawen: hanner pwys yn yr wythnos oedd ei gyfran, a gwenith oedd defnydd ei dorth bob amser. Cofnodwyd ganddo iddo brynu dafad yn 1857 am 6/6; byddid yn gyffredin yn prynu dafad a'i halltu<noinclude><references/></noinclude>
n3ktstz4rfovyh06yi152z1qtwdvjpj
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/153
104
83074
162022
2026-04-01T20:00:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162022
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>at wneuthur potes i'r teulu yn ystod y gaeaf. Llwyddodd yn yr un flwyddyn i brynu tunnell o lo am y pris o 15/8. Y pryd hwnnw y dechreuwyd llosgi glo ym mhentai'r fro am y tro cyntaf. Gŵr priod diblant oedd ef.
Nid y cyflog prin oedd yr unig faich a wasgai ar y dosbarth gweithiol yn y plwyf yn ystod y cyfnod hwn; eu baich mwyaf annioddefol oedd yr unffurfiaeth llethol a'i nodweddai. Yr unig orchwyl a dorrai ar yr unffurfiaeth oedd mynd gyda'r fedel i sir Amwythig, neu ymfudo yn gyfangwbl o'r ardal.
Adeg ramantus yn hanes gweithwyr Llanegryn oedd mynd gyda'r fedel yn dorf i fedi'r cynhaeaf ŷd yn sir Amwythig. Cychwynnent o'r pentref ar ganol dydd yn sŵn a dwndwr y gwragedd a'r plant. Edrychai'r gwragedd ymlaen am ychydig mwy nag arfer o gyflog at lenwi rhyw fwlch neu'i gilydd a alwai arnynt, a disgwylient hwythau'r plant am afalau melys Wem neu Market Drayton.
Syml iawn oedd y darpariadau gogyfer â'r daith i feysydd y fedel. Cynnwys y walet oedd planced, crys, a thwca bach Trawsfynydd. Cludai pob un o'r medelwyr ei gryman medi ar ei fraich. Darperid y blanced at gysgu ynddi, oherwydd mewn rhyw adeilad neu'i gilydd y cysgai'r medelwyr. Nid oedd gwelyau wedi eu darparu ar eu rhan tra byddent ar feysydd y fedel. Rhoddid tamaid hefyd yn y walet iddynt i'w fwyta ar y ffordd, ond byddai'r hen ddwylo'n sicr iawn o damaid ar eu llwybrau oherwydd adwaenent wragedd caredig a gartrefai ar y llwybrau i'r meysydd. Ar hyd y nos y cerddent y rhan helaethaf o'r daith wrth fynd a dyfod. Gofalent am gyrraedd y Bont Gymreig yn nhref Amwythig yn gynnar bore trannoeth, fel y gallent gytuno gyda'r amaethwyr a chyrraedd y meysydd medi yn ystod yr un dydd. Teithiai rhai o wŷr Llanegryn cyn belled â Wem a Market Drayton. Deil hen ddywediadau ar lafar yn yr ardal sy'n mynd yn ôl i ddyddiau'r fedel. Edliwid hyd yn ddiweddar i ambell gymeriad "Dos i Wem," neu'n gasach fyth "Dos i Wem i gyfrif dannedd ieir." Tipyn yn sarhaus oedd y dywediadau bob amser.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fu0m9mf8c1fex49dufnjovonycfv80w
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/154
104
83075
162023
2026-04-01T20:01:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162023
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Deallwn y cymerai rhai o'r hen ddwylo feysydd cyfain o'r ŷd i'w medi am swm arbennig, a gweithiai eraill iddynt wrth hyn a hyn y dydd. Telid iddynt fel rheol o 2/- i 2/6 y dydd. Gofalai pawb am eu bwyd eu hunain. Darperid digon o ddiod iddynt gan yr amaethwyr Seisnig. Y ddiod a ddarperid iddynt fyddai seidr (cider). Gweithient yn y fedel am oddeutu chwech wythnos, a balch fyddent os dychwelent â phedair punt yn eu meddiant.
Y prif fedelwyr o ardal Llanegryn oedd Griffith Thomas, William Joseph, a Jac Jones, gŵr Nansi William. Bu Griffith Thomas yn teithio'n rheolaidd i'r fedel am dros ddeugain mlynedd, a dywedid y câi ef amser da gyda'r merched ieuainc oherwydd hawddgared fyddai'r llanciau ieuainc a berthynai bob amser i'w fedel.
Bu rhai helyntion cyffrous rhwng llanciau Llanegryn a Ilanciau Seisnig sir Amwythig. Dywaid traddodiad i un ysgarmes chwerw brofi'n angau i Sais ieuanc.
Tua'r flwyddyn 1860 enillai llafuwyr 10/-yn yr wythnos ar eu bwyd eu hunain, ond ychydig oedd y gweithwyr yn y plwyf a weithiai ar eu bwyd eu hunain. Telid o 4/- i 7/- yn yr wythnos a'u bwyd a'u diod i weithwyr medrus, a châi ambell weithiwr cyfarwydd a charedig bwys o ymenyn gan feistr hawddgar i fynd adref ar nos Sadwrn. Cododd y cyflogau wedi'r flwyddyn 1870, ond gweithiai hwsmonwyr yn yr adeg honno am oddeutu £20 yn y flwyddyn. Bu gwŷr ieuainc newydd briodi yn ennill cyn lleied â £16 yn y flwyddyn yn 1871: hynny a enillai William Dafis a oedd yn hwsmon yn Waun-fach, ac wedi priodi yn y flwyddyn 1871.
Truenus i'r eithaf oedd cyflwr cymdeithasol y werin hyd yn gymharol ddiweddar. Yn y flwyddyn 1886 deg swllt yn yr wythnos a delid i'r llafurwyr gorau, oherwydd yr oedd yn fyd caled ar yr amaethwyr eu hunain. Clywsom am ddynion yn teithio i odre Cader Idris i weithio am bum swllt yn yr wythnos. Pan ystyrir bod y peilliaid yn £2/10/0 y pwn, gwelir bod y sefyllfa'n wir ddifrifol. Adroddai gwraig barchus wrthym iddi fod am ddeng mlynedd cyntaf ei bywyd priodasol heb gael cymaint ag un pâr o esgidiau newydd, a hynny yn ystod y<noinclude><references/></noinclude>
lxcvwx8mvoofe6b7s6osia3txvj7hmk
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/155
104
83076
162024
2026-04-01T20:02:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162024
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwarter olaf o'r ganrif ddiwethaf. Bu hi ei hun ar ôl priodi yn gweithio yn y cynhaeaf am 1/- yn y dydd, a hynny erbyn hyn yn yr ugeinfed ganrif.
Trwy fod y cyflog yn fychan yr oedd yn rhaid cael help o rywle neu'i gilydd i gael y ddau ben llinyn ynghyd. Cardota oedd un o ddrysau ymwared yr hen fyd, a drws arall oedd anfon y plant dros y trothwy i wasanaethu heb iddynt gael cymaint â diwrnod o ysgol. Dywedai hynafgwyr nad oedd rhieni'n magu fawr ar eu plant unwaith y deuent yn abl i ymlwybro o gwmpas yn weddol rwydd. Anfonid hwy ar hyd a lled y plwyf i wneuthur mân negesau am eu bwyd. Cyflogid hwy cyn y byddent yn naw mlwydd oed i borthi buches o wartheg ac i aredig cyn y byddent yn ddeuddeg oed. Heliai tlodion Llanegryn lawer o'u hymborth drwy fynd yn rheolaidd o amgylch y fro am gardod. Deil ôl y cardota ar enwau llwybrau'r plwyf. Enwir un yn Llwybr y cardotyn, arall yn Llwybr llaeth, a'r llall yn Llwybr maidd. Bu'n rhaid ar lawer mam fynd allan yn syth o'i gwely i grwydro am ei brecwast ei hun a'i phlant. Cesglid digon o gig oddeutu'r Nadolig i ddigoni llawer aelwyd am y gweddill o'r gaeaf. Paratoid ymlaen llaw gyfran y cardotwyr yn y rhan fwyaf o'r amaethdai. Byddai dogn pawb yn barod wrth y drws mewn rhai ffermydd. Rhoddid dogn helaethach i gardotwyr o Lanegryn gan ambell wraig nag a roddai i gardotwyr o'r plwyfi cylchynol. Gwlana oedd yn arferiad a ddug lawer bendith i gartref yr anghenus. Cesglid digon o wlân at wneud plancedi, hosanau, ac edafedd i gyfarfod ag anghenion aelwydydd y werin. Rhannai'r tyddynwyr gnufiau i'r cardotwyr a alwai wrth eu drysau: a chrwydrid i wlana ar hyd a lled y mynyddoedd ar ôl amser cneifio.
Er bod prinder ymhlith y werin, eto nid oedd pawb yn ddi-eiddo. Llochesodd ymffrost a balchder yn hir ym mynwes y Cymro cyffredin, am fod ganddo fuwch neu ddafad yn pori ar dir ei blwyf. Anodd fu gan y Cymro ollwng ei afael ar y tir. Meddai amryw bentrefwyr Llanegryn fuwch, nifer o ddefaid, mochyn, a gwyddau. Perchenogai ambell un geffyl, a pheth cyffredin oedd cadw mul. Yr oedd gwaed ac anian y tyddynwyr ym mhawb drwy'r fro. Gosodai'r ffermwyr dir i'w gweision<noinclude><references/></noinclude>
gy7ghg91wtv3xe3jzls823epc7cmq4v
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/172
104
83077
162025
2026-04-01T20:04:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD IX}}}} {{c|Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nos-weithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedig-aethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion. }} {{c|GWYLLIAID Y F...
162025
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IX}}}}
{{c|Gwylliaid y Ffordd-ddu. Y Sipsiwn. Telynorion. Cymdeithas Cymreigyddion Llundain. Canu. Gwyliau. Gŵyl Mabsant. Ymladd Ceiliogod. Caseg Fedi. Nos-weithiau Llawen. Caru a Phriodi. Ffalantau. Claddedig-aethau. Llên Gwerin. Ysbrydion. Tylwyth Teg. Witsio. Rhwyll. Gwerthu ei hun i'r Diafol. Swyn Llaw Farw. Calon Cath Ddu. Ffon Ddu. Pennod Rwth. Gostwng Ysbryd. Cyfrif yr Edau. Hen Benillion. }}
{{c|GWYLLIAID Y FFORDD-DDU}}
MAE'N sicr bod gwylltineb anwar yn nodweddu bywyd cymdeithasol ardaloedd gwledig Meirion yn yr ail ganrif ar bymtheg. Cartrefai gwylliaid yng ngheseiliau cymoedd cudd y mynyddoedd, gan ddisgwyl am ryw ysglyfaeth neu'i gilydd i syrthio i'w dwylo, a rhuthrent yn sydyn o'u cuddfeydd ar bersonau ac eiddo preswylwyr y dyffryn-noedd a'r gwastadeddau ar adegau llwm a chaled. Creai atgof am wylliaid y Ffordd-ddu ofn a dychryn ar ysbrydoedd dynion hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Cyfrifid gŵr yn wrol os anturiai dros y mynydd i Ddolgellau ar hyd y Ffordd-ddu, os oedd ganddo ychydig o arian yn ei boced. Gwyliadwrus a fyddai'r ehofnaf, gwyliai lwybrau'r lladron o gwm i gwm, ac o drum i drum, a gwibiai ei lygaid fel mellt o nant i nant, ac o drofa i drofa.
Bu tylwyth crwydrol, heb gartref arbennig, yn byw ar fynyddoedd godre Cader Idris; llochesent ym murddunnod hen Hafotai a oedd heb lwyr ddadfeilio ar yr hysfeydd. Cofiai'n tadau'n dda am yr olaf ohonynt. Hen ferch ydoedd a chysgodai rhag gerwinder y gwynt a'r glaw mewn magwyrydd adfeiliedig. Gwasgai angerdd y ddrycin hi at drothwy tai godre'r mynydd i ymofyn am damaid a llymaid.
Parai enwi Deio'r Ffowlar Du a Deio'r Twca Du gryn gyffro mewn cwmni. Y mae'n wir ddarfod rhoddi'r enwau<noinclude></noinclude>
k1l1egy2whunkr2zhlehfjhkuopys15
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/173
104
83078
162026
2026-04-01T20:04:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "hyn ar amryw gymeriadau'r mynydd-dir, ac nad oedd ar rai ohonynt fawr o ysfa am ddim mwy na herwhela a chrwydro. Nid oedd yr olaf a elwid yn Deio'r Ffowlar Du yn ddim angen na herwhelwr digon diniwed ar derfynau plwyfi Llanegryn a Chelynnin, a bu'r truan anghenus farw neu foddi mewn nant ar y mynydd. Disylw oedd ei darddiad ef wrth weithred-oedd ellyllig y Deio'r Ffowlar Du a fu'n frenin ar giwed greulon hen lwybrau'r mynyddoedd. A gŵr...
162026
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyn ar amryw gymeriadau'r mynydd-dir, ac nad oedd ar rai ohonynt fawr o ysfa am ddim mwy na herwhela a chrwydro. Nid oedd yr olaf a elwid yn Deio'r Ffowlar Du yn ddim angen na herwhelwr digon diniwed ar derfynau plwyfi Llanegryn a Chelynnin, a bu'r truan anghenus farw neu foddi mewn nant ar y mynydd. Disylw oedd ei darddiad ef wrth weithred-oedd ellyllig y Deio'r Ffowlar Du a fu'n frenin ar giwed greulon hen lwybrau'r mynyddoedd. A gŵr o'r un nwyd a dichell ag yntau oedd Deio'r Twca Du cyntaf. Cleddyf byr oedd y twca, a bu un ar gael am flynyddoedd wedi i'w berchennog fynd i ffordd yr holl ddaear. Dywedir mai yng Nghwm-ŷch y gwelwyd y Twca Du ddiwethaf.
Byddai rhuthriadau llechwraidd gan y gwŷr digydwybod hyn ar nosweithiau hirion a thywyll y gaeaf yn creu arswyd anaele ar wragedd a phlant yn yr hendrefi, ac anheddau'r gwaelodion, a dychwelent yn aml i'w llochesau a'u hanrhaith yn drwm. Ond nid dynion i ofni ac arswydo rhag yr ellyllon ysgeler oedd gwŷr y godreon a'r gwastadedd, a gadael iddynt gyflawni eu drygwaith yn ddiwarafun. Pan glywai clustiau meinion y bugeiliaid sŵn y gwylliaid yn symud dros ael y mynydd, codent eu cri gan alw ar y dewrion i'r gad, ac ar fyr amser byddai godreon y mynydd yn fyw gan wŷr traed, gwŷr meirch, a bytheiaid yn ymlid, a llawer ysgarmes waedlyd a fu rhwng y gwylliaid a thrigolion y fro. Gwyliwyd y gwyll-iaid lawer tro yn cludo eu meirwon a'u clwyfedigion ar doriad y wawr fore trannoeth yr heldrin i'w llochesau ar Allt-y-bedw a Phenbryn-y-foelas. Yr oedd tosturi a brawdoliaeth gref yn ffynnu ymhlith y gwylliaid eu hunain. Y mae anrhydedd, medd y ddihareb, ymhlith lladron. Cyd-ocheneidient yn sŵn dioddefaint ei gilydd, ac aberthent eu gwaed yn rhwydd er mwyn eu brodyr. Crwydrent hefyd filltiroedd lawer i hela cynhaliaeth i'w cymdeithion anffodus.
Enwau rhai o wylliaid y Ffordd-ddu ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg oedd, William Dafydd Goch, Huw ap Morris a Samuel William. Trigiannai William Dafydd Goch yn Nhir-y-pymtheg yn 1613, ond y rhan fynychaf, hoffai gael ei draed ar dir Llanegryn. Mangre a garai oedd<noinclude></noinclude>
e28g0pnntp8i5ahnz7bu4rxh6b1ug0i
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/174
104
83079
162027
2026-04-01T20:06:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Geufron-hen a'r Foel Drefa, a Phantllwyfog ar odre'r Foel, sef ar lwybrau oedd yn arwain o Ardudwy am Gyfeiliog. Yr oedd amryw o dylwyth y Cochiaid yn byw yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm a Chwm-Idnerth-uch. Yr olaf o'r cyfenw hwnnw y sylwasom arno oedd Huw Goch a drigiannai ar odre Esgair Berfedd tua dechrau'r ddeunawfed ganrif. Anrheithiai'r gwylliaid hyn fyd ac eglwys. Cyflawnent bob ysgelerder ac anfadwaith yn eu nwyd. Prin y...
162027
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Geufron-hen a'r Foel Drefa, a Phantllwyfog ar odre'r Foel, sef ar lwybrau oedd yn arwain o Ardudwy am Gyfeiliog. Yr oedd amryw o dylwyth y Cochiaid yn byw yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm a Chwm-Idnerth-uch. Yr olaf o'r cyfenw hwnnw y sylwasom arno oedd Huw Goch a drigiannai ar odre Esgair Berfedd tua dechrau'r ddeunawfed ganrif.
Anrheithiai'r gwylliaid hyn fyd ac eglwys. Cyflawnent bob ysgelerder ac anfadwaith yn eu nwyd. Prin y dihangai gŵr gyda'i hoedl os syrthiai i ddwylo'r mileiniaid hyn, a'i hoedl yn unig, bid sicr, a adewid iddo. Ni chredai pobl dda Llanegryn fod bywyd yr un dyn yn ddiogel ar ffiniau'r Ffordd-ddu oni byddai angel gwarcheidiol yr Arglwydd yn amddiffynydd iddo. Gosodwyd amryw groesau ar enau'r bylchau a arweiniai i'r mynyddoedd. Gelwid dwy ohonynt yn Groes Egryn. Ni feddai'r gwylliaid ar ddigon o haerllugrwydd i ymosod ar yr un truan diymadferth a gaffai ei law ar y groes. Bu llawer truan a'i afael yn ddiollwng yn y groes hyd nes deuai ymwared. Os digwyddai'r gwylliaid lofruddio gŵr mewn ymrafael ceisient ddileu pob olion o'r anfadwaith drwy daflu'r corff i ben tas o fawn a'i rhoi ar dân. Gwyddid yn dda am yr erchylltra hwnnw o'r eiddynt, ac os canfyddid tân o'r fath, brysid ar unwaith i'r lle, a cheisid achub y corff cyn ei lwyr ddifa, drwy dyrchu yn y gynnau dân amdano.
Yr oedd yn arferiad cyffredin yn yr ail ganrif ar bymtheg i nifer o wŷr ymgynghreirio â'i gilydd i ysbeilio eu cymdogion yn ystod oriau tywyll y nos. Aeth yr afreoleidd-dra hwn o ddrwg i waeth yn y plwyf. Ar adegau cynghreiriai uchelwyr y plwyf ag anrheithwyr y Ffordd-ddu i ysbeilio a dinistrio bywyd ac eiddo gwŷr y fro. Poenydient a chy-thryblent ddynion gymaint nes eu gorfodi i ymadael â'u cartrefi a moddion eu cynhaliaeth. Ysbeilient eu heiddo a'u hanifeiliaid, a llosgent eu hadeiladau i'w sylfeini, a chyhuddent ŵr ar gam er mwyn ei ddwyn o flaen yr Uchel lysoedd i geisio ei ddychrynu i ffoi o'r wlad, ac iddynt hwythau gael cyfle i ysbeilio ei dir a'i eiddo.
Ymgynghreiriodd rhai o brif uchelwyr Dyffryn Dysynni â gwylliaid Llanegryn i anrheithio uchelwr o'r enw William<noinclude></noinclude>
fl75730rakig84ciu0h7vip1144hkz9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/175
104
83080
162028
2026-04-01T20:06:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Dafydd ap William. Yn ei ddeiseb a anfonodd ef at Frenin Lloegr ceir enwau'r cynghreirwyr, sef James Pryce, Ynys-y-maengwyn, Humphrey Jones, Hugh Griffith Owen a Dafydd Llwyd ap Tudur, prif foneddwyr yr ardaloedd. Yr oedd Syr James Pryce yn fab Gogerddan,a phriododd ferch ac etifeddes Humphrey Wynn o Ynys-y-maengwyn. Bu'n Siryf Meirion-nydd ddwywaith, sef yn 1606 a 1621. Gwnaeth Iago I ef yn farwnig, ac ef oedd tywysog Cwmwd Tal-y-bont...
162028
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dafydd ap William. Yn ei ddeiseb a anfonodd ef at Frenin Lloegr ceir enwau'r cynghreirwyr, sef James Pryce, Ynys-y-maengwyn, Humphrey Jones, Hugh Griffith Owen a Dafydd Llwyd ap Tudur, prif foneddwyr yr ardaloedd. Yr oedd Syr James Pryce yn fab Gogerddan,a phriododd ferch ac etifeddes Humphrey Wynn o Ynys-y-maengwyn. Bu'n Siryf Meirion-nydd ddwywaith, sef yn 1606 a 1621. Gwnaeth Iago I ef yn farwnig, ac ef oedd tywysog Cwmwd Tal-y-bont. Gwelsom enw Dafydd Llwyd ap Tudur fel un o brif dystion gweithred briodasol un o deuluoedd pennaf y plwyf. Llwyddasant i orfodi William Dafydd ap William i roddi llawer o arian iddynt. Ymosodasant ar ei dŷ, ei eiddo, a'i anifeiliaid yn nhrymder nos. Ysbeiliasant ei ŷd a'i wair a rhanasant y cyfan yn eu plith eu hunain, a rhoddasant ef ei hun yng ngharchar y sir yn Nolgellau.
Arfogasant eu hunain i'r carn â phob math o arfau dinistriol, fel mai gorchwyl anodd oedd dianc ac ymguddio rhag eu dialedd. Diolch am i'r wlad godi o ddyfnderoedd llygredig ac anfoesol y drefn "trechaf treisied a'r gwannaf gwaedded" a ffynnai yn gyffredin yn yr ail ganrif år bymtheg yng Nghymru, a hynny'n aml dan rith deddf gyfiawn. Ond y trueni mwyaf yw y goddefwyd i laweroedd o'r dihirwyr barhau i feddiannu eu hysbail anghyfiawn a hefyd eu hepil ar eu hôl.
A da y gwnaeth Dafydd ap William fynd â'r giwed annynol o flaen llysoedd ein gwlad, a dinoethi eu hystrywiau creulon. Pwy oedd y William Dafydd ap William hwn? Dyna'n hollol oedd enw perchennog ystâd Rhydcryw, a oedd yn briod â Margaret, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, ac wyres i'r Barwn Lewis Owen. A hwy oedd yr union dylwyth i ymlid Gwylliaid Cochion Mawddwy a'r Ffordd-ddu o'r tir.
Bu gan Owen Gruffydd, Peniarthuchaf, ran yn hela'r gwylliaid at eu coed, a'i briod yntau oedd Ursula, merch Gruffydd Owen, Tal-y-bont, a chwaer i Lewis Owen o Ben-iarth. Dymchwelodd y giwed dŷ o'i eiddo, a elwid Tŷ-tan-y-bwlch, a fu'n dafarn enwog ar fin y Ffordd-du, a dug ef y dihirwyr William ap John ab Ifan ac Elin ei wraig, William Dafydd, ac eraill o flaen Llys y Seren am eu hanfadrwydd.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
9g8k5l8olc9vlprygkavknnvmpo5u72
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/176
104
83081
162029
2026-04-01T20:07:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Yn araf y daeth ein cymoedd yn ddiogel i ŵr ac anifail drigo ynddynt. {{c|Y SIPSIWN}} Sonnir yn nhraddodiadau Llanegryn am ddau dylwyth o Sipsiwn, a fu'n trigiannu ar froydd yn y plwyf, sef tylwyth Abram Wood, a thylwyth Alabeina. Daeth y ddau dylwyth i'r ardaloedd hyn oddeutu canol y ddeunawfed ganrif. Preswylient ar gytir Rhiwfelen; yr oedd aml furddun ar y cytir hwn yr adeg honno. Safai cytir Rhiwfelen ar y mynydd sy'n wynebu Tair...
162029
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn araf y daeth ein cymoedd yn ddiogel i ŵr ac anifail drigo ynddynt.
{{c|Y SIPSIWN}}
Sonnir yn nhraddodiadau Llanegryn am ddau dylwyth o Sipsiwn, a fu'n trigiannu ar froydd yn y plwyf, sef tylwyth Abram Wood, a thylwyth Alabeina. Daeth y ddau dylwyth i'r ardaloedd hyn oddeutu canol y ddeunawfed ganrif. Preswylient ar gytir Rhiwfelen; yr oedd aml furddun ar y cytir hwn yr adeg honno. Safai cytir Rhiwfelen ar y mynydd sy'n wynebu Tairmynydd, ac yn cyrraedd o'r Fign i'r Allt-lwyd. Hoff fangre gan un gainc ohonynt oedd wtre Rhiw-felen-fach. Yr oedd Sipsiwn yr wtre hon yn gartrefol yn y fro, ac ymgysgodent mewn hen furddun a oedd ym mhen draw'r wtre, a fu'n efail yn ôl y traddodiad.
Hoffai rhai ohonynt ymgysgodi yn Hafoty'r Waun; yr oedd yno amryw hen adeiladau o gwmpas, a thrigiannent oddi ar y Nant, ac ar y Fign yng nghymdogaeth Clawdd-du. O'r Clawdd-du y claddwyd Abram Wood, hen bennaeth cangen o'r Sipsiwn, ac mewn cyfnod diweddarach, hoffai amryw ohonynt breswylio oddeutu'r Corun, Glan-y-morfa-bach a'r Blaidd.
Ceir eu hanes yn priodi yn eglwys Llanegryn, a phan ddigwyddai hynny byddai gorohian mawr yn nhafarndai'r ardal. Treuliwyd llawer noson ddifyr hyd oriau mân y bore yng nghwmni'r sipsiwn llon yng Nghefn-coch, Tan-y-bwlch a gwahanol dafarndai'r gymdogaeth.
Cenid y telynau a'r crythau gan y sipsiwn, a chenid penillion gan y Cymry, a dawnsid gan y sipsiwn a'r Cymry yn gymysg. Perthynai i dylwyth Abram Wood gôr a elwid yn gôr y Tylwyth Teg, a difyrasant lawer calon ac aelwyd yn ystod y cyfnod maith y buont hwy'n trigiannu yn yr ardal.
Ystyrid hwy yn frodorion yr ardal, a cheir cofnodiad am fedyddio rhai o'u phlant yn eglwys Llanegryn.
{{c|TELYNORION}}
Rhestr o delynorion a fu'n byw o dro i dro yn y plwyf:—
1670. Richard Pugh. Telynor Peniarth.<noinclude></noinclude>
swcthscha6nf11vymsg1r3mblierxab
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/177
104
83082
162030
2026-04-01T20:08:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "1778. Thomas Wood. Telynor. Mab i Abram Wood. 1797. John Wood. Telynor. Mab i Abram Wood. 1819-29. Robert William. Telynor Peniarth. Yr oedd ef yn frodor o'r plwyf; yr oedd yn frawd i Mari William, Llwyn-y-fynwent, a hoffai hithau farddoni dawnsio. Telynor dall oedd ef, ac ef oedd yr olaf a fu'n delynor teulu Peniarth. Bu farw'n gymharol ieuanc, a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn. Gwelir ei garreg fedd yn y fynwent a llun telyn ar...
162030
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1778. Thomas Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1797. John Wood. Telynor. Mab i Abram Wood.
1819-29. Robert William. Telynor Peniarth. Yr oedd ef yn frodor o'r plwyf; yr oedd yn frawd i Mari William, Llwyn-y-fynwent, a hoffai hithau farddoni dawnsio. Telynor dall oedd ef, ac ef oedd yr olaf a fu'n delynor teulu Peniarth. Bu farw'n gymharol ieuanc, a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn. Gwelir ei garreg fedd yn y fynwent a llun telyn arni. Y mae ei ffon ar gael gydag un o'r teulu, a'i enw Robert William, Telynor, Beddgelert, wedi ei dorri arni.
1859. Jeremiah Wood ac Elinor Wood.
1859. John Roberts. Priododd ag Elinor Wood, merch Jeremiah Wood.
Byddai Mathew Wood a Harri Wood yn ymweled yn feunyddiol â Llanegryn. Dau delynor gwych.
{{c|CYMDEITHAS CYMREIGYDDION LLUNDAIN}}
Yr oedd gŵr o'r enw Lewis Humphrey o Lanegryn yn un o'i haelodau mwyaf adnabyddus, ac yn un o ddatgeiniaid penillion gorau Llundain ar y pryd.
{{c|CANU}}
Yr oedd canu a dawnsio yn reddfol yn hen drigolion Llanegryn. Dawnsid a chenid yn hen dafarnau'r plwyf hyd y bore bach. Yr oedd offerynnau cerdd yng ngwasanaeth yr Eglwys; eisteddai gwŷr yr offerynnau yn y Groglofft.
Gydag Ymneilltuaeth y daeth canu cynulleidfaol i arferiad a sylw. Gwresogrwydd oedd nodwedd amlwg canu cynull-eidfaol yn Llanegryn. Byddai hen wragedd yn canu'n egnïol frach-ym-mraich gan ysgwyd eu holl gorff o ochr i ochr. Dywedid y byddai Hugh Pugh yn y capel Wesle, fel y gelwid ef yr adeg honno, yn chwibanu y dôn cyn dechrau ei chanu.
Dyn ieuanc o'r enw John Williams, Plascorniog, a ddechreuodd ddysgu'r Tonic Solffa i ieuenctid yr ardal.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
impzm5nlrk2p8alihj9o38luue76v1j
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/178
104
83083
162031
2026-04-01T20:09:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Bu canu corawl mewn bri yn y pentref. Bu Eglwys y plwyf yn enwog am ganu Corawl, a bu sôn mawr am gôr Eglwys Llanegryn yn eu gwenwisgoedd. Enillodd côr meibion a chôr cymysg Llanegryn enw uchel ym myd eisteddfodol Gogledd Cymru o dan yr arweinyddion Owen Jones, Bryn-gwyn, Griffith Roberts a T. E. Humphreys. {{c|GWYLIAU}} Bu'r gwyliau eglwysig yn ddyddiau nodedig ym mywyd yr ardal oherwydd ynglŷn â rhyw ŵyl neu'i gilydd y cyflawnid...
162031
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bu canu corawl mewn bri yn y pentref. Bu Eglwys y plwyf yn enwog am ganu Corawl, a bu sôn mawr am gôr Eglwys Llanegryn yn eu gwenwisgoedd.
Enillodd côr meibion a chôr cymysg Llanegryn enw uchel ym myd eisteddfodol Gogledd Cymru o dan yr arweinyddion Owen Jones, Bryn-gwyn, Griffith Roberts a T. E. Humphreys.
{{c|GWYLIAU}}
Bu'r gwyliau eglwysig yn ddyddiau nodedig ym mywyd yr ardal oherwydd ynglŷn â rhyw ŵyl neu'i gilydd y cyflawnid pob rhyw orchwyl crefyddol, cymdeithasol a masnachol. Rhoddid enw da i bawb a gadwai'r gwyliau'n selog, ac a gerddai'n ffyddlon arnynt i'r eglwys.
Telid y trethi a'r rhenti yn yr hen amser ar Wyl y Pasg a Gŵyl Fihangel. Gosodid tyddynnod bob amser ar Ŵyl Fair, y 25ain o Fawrth neu ar Ŵyl Fihangel, y 29ain o Fedi. Ar un adeg dechreuai'r tyddynnwr drin tir ei dyddyn newydd ar yr Ŵyl Fair, a syrthiai ar y 13 o Chwefror, sef yr hen Ŵyl Fair; meddiannai hanner yr anedd-dy a'r adeiladau ar y 25 o Fawrth, a chymerai feddiant llwyr o'r tyddyn Glanmai, y 13 o Fai, sef yr hen Galanmai. Bu dydd Gŵyl Phylip ac Iago yn adeg y gwneid llawer o fusnes arni ynglŷn â phrynu a gwystlo tir.
Prif wyliau'r plwyf oedd y Nadolig, y Groglith, y Pasg a'r Sulgwyn. Dydd o rialtwch a phleser fu'r Nadolig hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Bu gwneud cyflaith ar nos cyn y Nadolig yn rhan amlwg ym mywyd yr ardal. Sonnid a pharatoid am y cyflaith wythnosau ymlaen llaw. Arferid dewis partïon at wneud y cyflaith yng ngwahanol dai'r gymdogaeth, a llawer o helyntion blin a fu oherwydd direidi llanciau'r fro yn ceisio taflu rhyw aflwydd neu'i gilydd i grochan cyflaith y naill barti a'r llall. Teflid rhywbeth annymunol i lawr y simnai heb funud o rybudd, a byddai'r holl gegin ar amrantiad yn huddygl a mwg a phawb yn mygu a thagu, ac yn gweiddi am yr uchaf. Byddai cyflwr y cyflaith yn waeth na chyflwr neb ohonynt, a thuhwnt i bob gobaith i'w adfer. Er gwaethaf y siom a'r golled am y cyflaith, ni ddinistrid dim ar londer na nwyfusrwydd<noinclude></noinclude>
9vyf78dx2a4lppsfdk1wgvr2mz9nu8f
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/179
104
83084
162032
2026-04-01T20:09:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ysbryd y parti. Ymolchent ac ymdrwsient at gychwyn i'r Plygain a fyddai yn yr eglwys am bump o'r gloch y bore. Goleuid yr eglwys â chanhwyllau, a byddai'n llawn o drigol-ion o wahanol ardaloedd. Treulid awr a hanner o amser difyr i wrando ar ganu soniarus yr hen garolwyr. Paratoid am wythnosau i ddysgu'r carolau, a byddai awyrgylch y geni ym Methlehem Effrata wedi eneinio ysbryd y cantorion a'r gwrandawyr. Bu'r Plygain yn foddion i wne...
162032
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ysbryd y parti. Ymolchent ac ymdrwsient at gychwyn i'r Plygain a fyddai yn yr eglwys am bump o'r gloch y bore. Goleuid yr eglwys â chanhwyllau, a byddai'n llawn o drigol-ion o wahanol ardaloedd. Treulid awr a hanner o amser difyr i wrando ar ganu soniarus yr hen garolwyr. Paratoid am wythnosau i ddysgu'r carolau, a byddai awyrgylch y geni ym Methlehem Effrata wedi eneinio ysbryd y cantorion a'r gwrandawyr. Bu'r Plygain yn foddion i wneuthur hanes geni'r Iesu yn hyddysg iawn i'n cenedl.
Wedi gwledda ar yr ŵydd, y rhynion a'r triagl du, llysiau'r ardd, a'r plwm pwdin, treulid y prynhawn gan yr ieuenctid i chwarae. Cicio pêl droed oedd y prif chwarae, a'r hoff fan oedd y Pymtheg. Chwaraeid yn yr hen amser rhwng trigolion Llanegryn a Chelynnin. Yr oedd ar y Pymtheg garreg derfyn o faintioli mawr, a hi oedd y garreg goel. Ymdrechai ieuenctid Llanegryn gadw'r bêl ar dir Celynnin, a byddai ieuenctid Celynnin o'r ochr arall yn ceisio eu gorau ei chadw ar dir Llanegryn. Gyda'r hwyr cyrchid i dafarndai y ddau blwyf i ymyfed, canu a dawnsio. Byddai telynorion tylwyth Abram Wood yn rhan anhepgor yng ngorohïan llon nos Nadolig y fro. Byddai gwledda mawr am ddyddiau ar ddiwedd y flwyddyn, a chedwid nosweithiau llawen drwy'r fro.
Yr oedd herwhela'n arferiad pwysig ar Wyliau'r Nadolig yn y plwyf. Ymgasglai'r herwhelwyr yn dorf ar fore dydd Nadolig ar fan arbennig, ac aent gyda'i gilydd drwy'r plwyf heb i neb eu gwarafun i unman yn fwy na'i gilydd; yr oedd tir y plwyf yn dir rhydd iddynt yn ystod y Gwyliau.
Nodweddid bywyd Llanegryn gan afiaith anghyffredin ar rai o'r hen wyliau. Ystyrid y Groglith y gysegredicaf o'r holl wyliau; ymwrthodid yn llwyr rhag cyflawni dim gwaith afraid ar yr ŵyl hon. Credid nad oedd adar yr awyr yn gwneuthur dim ar yr ŵyl, hyd yn oed ar eu nythod eu hunain. Ymlonyddai pawb a phopeth ar ddydd angau chwerw'r Groes.
Gŵyl y Pasg oedd prif ŵyl yr eglwys, a rhoddid pwys mawr ar gydgyfranogi yng nghymundeb Sul y Pasg. Dywedai'r Parch. Vincent Humphreys, curad Llanegryn, bod tua dau gant yn cymuno yn yr eglwys ar Sul y Pasg yn 1776.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
mpiobotuoj3ybeic90qvzsy9cq4aln3
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/180
104
83085
162033
2026-04-01T20:10:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Chwaraeid ar wyliau'r Pasg, Iau Dyrchafael, a'r Sulgwyn, a hyd yn oed ar Ŵyl y Groglith. Byddai ymladd ceiliogod yn uchel ei fri ar y gwyliau hyn. Ystyriai'r hen bobl fod gwenwyn yn codi oddi ar y dŵr ar ddydd Iau Dyrchafael, ac y gallai pawb fentro ymdrochi wedi hynny mewn unrhyw afon neu'r môr. Dydd poblogaidd oedd Mawrth Ynyd, a gwleddid yn fawr arno. Byddai crempogau yn helaeth ar bob aelwyd, a chig rhost lle y gellid fforddio hy...
162033
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Chwaraeid ar wyliau'r Pasg, Iau Dyrchafael, a'r Sulgwyn, a hyd yn oed ar Ŵyl y Groglith. Byddai ymladd ceiliogod yn uchel ei fri ar y gwyliau hyn. Ystyriai'r hen bobl fod gwenwyn yn codi oddi ar y dŵr ar ddydd Iau Dyrchafael, ac y gallai pawb fentro ymdrochi wedi hynny mewn unrhyw afon neu'r môr.
Dydd poblogaidd oedd Mawrth Ynyd, a gwleddid yn fawr arno. Byddai crempogau yn helaeth ar bob aelwyd, a chig rhost lle y gellid fforddio hynny. Hoffai'r plant ddyddiau Mercher Lludw ac Iau Dyrchafael, oherwydd cydgerddid i'r eglwys o'r ysgol yn y bore, a cheid y prynhawn yn rhydd i chwarae. Bu'n arferiad ar un cyfnod gan blant ysgol Llanegryn fynychu'r eglwys am 8.30 bob bore yn ystod y Grawys. Dywedir mai'n ystod tymor y Grawys yr arferid â gweinyddu'r gosb o gario'r ''Welsh Note'' am siarad Cymraeg yn yr ysgol, cyn i'r arferiad taeogaidd ddiflannu'n llwyr o'r ysgol.
Llwyddodd yr hen wyliau a'u hen arferion i gadw rhyw undod ynom fel plwyf a chenedl.
{{c|GWYL MABSANT}}
Disgyn dydd Nawddsant yr Eglwys ar ddydd Dyrchafael (''Assumption'') Mair, y 15ed o Awst, neu'n ôl yr hen gyfrif, y 26ain; a chynhelid yr Wyl Mabsant ar y Sul a'r Llun cyntaf ar ôl dydd Dyrchafael Mair, neu ar y dydd hwnnw os di-gwyddai iddo fod ar y Sul.
Dydd mwya'r flwyddyn yn y plwyf oedd dydd Gŵyl Mabsant. Cynhesai calon pawb a feddai waed Llanegryn yn ei wythiennau wrth glywed sôn am yr Wyl. Cyrchai hil tir Llanegryn yn hen ac ieuanc tuag adref o bell ac agos erbyn dyddiau'r Ŵyl. Deuai cyfeillion ac ymrysonwyr o'r plwyfi cyfagos yn lluoedd i'r pentref i gymryd rhan yn y rhialtwch a'r hwyl.
Hawliai'r plwyfolion gael dechrau dathlu'r Ŵyl yn gynnar ar y Sul, er gwaethaf pob rhybuddion o eiddo'r awdurdodau. Cyn bron y byddai'r Gwasanaeth Boreol yn eglwys y plwyf drosodd, cyniweiriai rhyw gynnwrf drwy'r fro, ac anesmwyth-ai'r swyddogion eglwysig a phlwyfol rhag i'r rhialtwch gychwyn<noinclude></noinclude>
n30kbpvjp914o6okm23bdqnraqnkxae
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/181
104
83086
162034
2026-04-01T20:11:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn annhymig ac afreolaidd, cyn cyflawni'n weddus ofynion crefyddol y dydd. Wedi cinio cynnar ymdeithiai'r Wardeiniaid tua'r pentref i ymorol bod popeth yn weddaidd a heddychol. Gwyddai'r pentrefwyr yn dda'r awr y byddent hwy ar bont y pentref, a gofelid bod tawelwch yn teyrnasu ymhob man, a gwedduster yn ffynnu ar bob aelwyd. Trefnid y cyfan i weithio'n gymwys er mwyn i'r Wardeiniaid fel gwarcheidwaid heddwch y fro droi eu cefnau a dyc...
162034
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn annhymig ac afreolaidd, cyn cyflawni'n weddus ofynion crefyddol y dydd. Wedi cinio cynnar ymdeithiai'r Wardeiniaid tua'r pentref i ymorol bod popeth yn weddaidd a heddychol. Gwyddai'r pentrefwyr yn dda'r awr y byddent hwy ar bont y pentref, a gofelid bod tawelwch yn teyrnasu ymhob man, a gwedduster yn ffynnu ar bob aelwyd. Trefnid y cyfan i weithio'n gymwys er mwyn i'r Wardeiniaid fel gwarcheidwaid heddwch y fro droi eu cefnau a dychwelyd i'w cartrefi yn ddiymdroi. Gwyddai'r Wardeiniaid yn dda nad oedd y tawelwch a'r gwedduster yn ddim ond y distawrwydd sydd yn digwydd o
digwydd o flaen storm, ac y byddai'r rhialtwch ar fyrder yn ei lawn afiaith yn y pentref. Ni throesant erioed yn eu hôl i fwrw tramgwydd na rhwystr ar hen arfer a phleser hir-ddisgwyliedig y plwyfolion. Mor gynhyrfus a nwyfus oedd pawb fel y byddai'r pentref yn ferw gwyllt ymron ar amrantiad, a phawb wedi colli eu pennau'n llwyr mewn dawnsio, canu, chwarae, ymyfed, a gwledda. Byddent wedi eu rhannu eu hunain yn gwmnïoedd yn ôl eu chwaeth ar fyr dro. Yr oedd hanner dwsin o dafarndai yn y plwyf, a chyrch-ai'r rhai o'r un afiaith gyda'i gilydd i'r tafarndai a fyddai wedi eu dethol ganddynt ymlaen llaw.
Tynnu torch, codi pwysau, bwrw maen, ymaflyd codwm, neidio, a rhedeg oedd y campau ymryson pennaf yn ystod yr Wyl.
Cynhelid y chwaraeon a'r mabolgampau mewn gwahanol fannau yn y plwyf. Cynhelid llawer o'r mabolgampau ar Flaen Talwrn yn agos i'r eglwys a Thyn-llan, a dywedir bod rhai o'r hen gerrig pwysau neu gerrig gorchest wedi eu gosod ar ochr y ffos sydd ar fin y ffordd ar Flaen Talwrn. Deuai'r trigolion yn dorf at Gored Peniarth at yr hwyr. Goleuid y coed â llusernau canhwyllau gŵer wedi iddi ddechrau nosi. Canai'r crythorion uwchben oddi ar ganghennau'r coed, a dawnsiai a chanai'r dorf yn gylchoedd o amgylch y coed; gelwid un o'r coed hyn hyd yn ddiweddar yn Goeden y ''ffidlers''. Daliai'r rhialtwch ymlaen hyd doriad y wawr fore dydd Mawrth.
Adroddai amryw hen drigolion Llanegryn wrth y Parch. Griffith Arthur Jones yn 1862, cu bod yn cofio'r Ŵyl yn cael<noinclude></noinclude>
sbq3uam2s7wgwoqj9om26go68dptoam
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/182
104
83087
162035
2026-04-01T20:11:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|YMLADD CEILIOGOD}} {{center block| <poem> Y pechod mwyaf ar a wneir Rhoi arfau dur ar 'winedd ieir. </poem> }} <br> Bu ymladd ceiliogod mewn bri yn Llanegryn. Trefnid ymladdfeydd ar ororau'r plwyf a phlwyfi'r cylch. Ymleddid oddeutu'r Pymtheg a'r Clawdd-du â phlwyf Celynnin; a thua Hafoty-fach ag ochr Dolgellau. Cyfarfyddid â Machynlleth yn Abergynolwyn. Teithid weithiau cyn belled â Dinas Mawddwy. Ar wyliau Iau Dyrchafael, Llu...
162035
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|YMLADD CEILIOGOD}}
{{center block|
<poem>
Y pechod mwyaf ar a wneir
Rhoi arfau dur ar 'winedd ieir.
</poem>
}}
<br>
Bu ymladd ceiliogod mewn bri yn Llanegryn. Trefnid ymladdfeydd ar ororau'r plwyf a phlwyfi'r cylch. Ymleddid oddeutu'r Pymtheg a'r Clawdd-du â phlwyf Celynnin; a thua Hafoty-fach ag ochr Dolgellau. Cyfarfyddid â Machynlleth yn Abergynolwyn. Teithid weithiau cyn belled â Dinas Mawddwy. Ar wyliau Iau Dyrchafael, Llun y Pasg, a'r Groglith y byddai miri'r ymladd yn ei anterth. Dywedir mai dyn dall oedd prif gefnogydd chwarae cocyn yn Llanegryn am flynyddoedd meithion.
Ceir pit ymladd ceiliogod yn aros o hyd ar y ddôl o flaen plasty Peniarthuchaf. Adeiladwyd ef yn gelfyddgar o gerrig. a grisiau wedi eu codi i fynd a dyfod iddo. Ceir morteisi au yn y cerrig at roddi math o reiliau o'i amgylch rhag i un o'r ceil-iogod ddianc pan gollai'r dydd yn y frwydr. Yr oedd amryw bitiau ar y Ceunant, a cheid un ar Gae Gwyn yn agos i goed Peniarth. Pitiau wedi eu cloddio yn y ddaear oeddynt fel rheol. Anodd yw canfod yr un ohonynt erbyn hyn. Ar ffridd Bredyn-fach y mae'r rhai amlycaf.
{{c|CASEG FEDI}}
Yn ystod y cynhaeaf ŷd y disgwylid clywed sŵn y Gaseg Fedi yn carlamu i chwarae ei champau direidus a chyffrous. Byddai cryn ymryson tawel ymhlith y medelwyr pwy a'i gollyngai gyntaf yn rhydd, oherwydd ystyrid hwy y medelwyr blaenaf yn y plwyf. Yr oedd defod ddiddorol a hynod ynglŷn â'r chwarae hwn. Pan gyrhaeddid at y crymaniad olaf o'r cynhaeaf ŷd ar<noinclude></noinclude>
bgic12xip2491vsl9e0i8b91bvtdtes
162036
162035
2026-04-01T20:11:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */
162036
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|YMLADD CEILIOGOD}}
{{center block|
<poem>
Y pechod mwyaf ar a wneir
Rhoi arfau dur ar 'winedd ieir.
</poem>
}}
<br>
Bu ymladd ceiliogod mewn bri yn Llanegryn. Trefnid ymladdfeydd ar ororau'r plwyf a phlwyfi'r cylch. Ymleddid oddeutu'r Pymtheg a'r Clawdd-du â phlwyf Celynnin; a thua Hafoty-fach ag ochr Dolgellau. Cyfarfyddid â Machynlleth yn Abergynolwyn. Teithid weithiau cyn belled â Dinas Mawddwy. Ar wyliau Iau Dyrchafael, Llun y Pasg, a'r Groglith y byddai miri'r ymladd yn ei anterth. Dywedir mai dyn dall oedd prif gefnogydd chwarae cocyn yn Llanegryn am flynyddoedd meithion.
Ceir pit ymladd ceiliogod yn aros o hyd ar y ddôl o flaen plasty Peniarthuchaf. Adeiladwyd ef yn gelfyddgar o gerrig. a grisiau wedi eu codi i fynd a dyfod iddo. Ceir morteisi au yn y cerrig at roddi math o reiliau o'i amgylch rhag i un o'r ceil-iogod ddianc pan gollai'r dydd yn y frwydr. Yr oedd amryw bitiau ar y Ceunant, a cheid un ar Gae Gwyn yn agos i goed Peniarth. Pitiau wedi eu cloddio yn y ddaear oeddynt fel rheol. Anodd yw canfod yr un ohonynt erbyn hyn. Ar ffridd Bredyn-fach y mae'r rhai amlycaf.
{{c|CASEG FEDI}}
Yn ystod y cynhaeaf ŷd y disgwylid clywed sŵn y Gaseg Fedi yn carlamu i chwarae ei champau direidus a chyffrous. Byddai cryn ymryson tawel ymhlith y medelwyr pwy a'i gollyngai gyntaf yn rhydd, oherwydd ystyrid hwy y medelwyr blaenaf yn y plwyf. Yr oedd defod ddiddorol a hynod ynglŷn â'r chwarae hwn. Pan gyrhaeddid at y crymaniad olaf o'r cynhaeaf ŷd ar<noinclude></noinclude>
hz16hfexgna5slup88svd164dymvpwj
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/183
104
83088
162037
2026-04-01T20:12:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "unrhyw dyddyn, casglai'r medelwyr o'i ddeutu i wylio rhag i ysbryd yr ŷd ddianc. Gadewid y tusw olaf heb ei dorri. Plethid ef yn blethen; ac wedi ei blethu yn blethen gelwid hi mwy yn Gaseg Fedi. Safai'r medelwyr yr un pellter oddi wrthi gan geisio ei gollwng yn rhydd drwy daflu eu crymanau amdani a'i thorri. Wedi i un lwyddo ei gollwng, taflai hi ar draws ei ysgwydd gan redeg a phawb yn ei ddilyn am yr amaethdai a ddigwyddai fod heb o...
162037
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>unrhyw dyddyn, casglai'r medelwyr o'i ddeutu i wylio rhag i ysbryd yr ŷd ddianc. Gadewid y tusw olaf heb ei dorri. Plethid ef yn blethen; ac wedi ei blethu yn blethen gelwid hi mwy yn Gaseg Fedi. Safai'r medelwyr yr un pellter oddi wrthi gan geisio ei gollwng yn rhydd drwy daflu eu crymanau amdani a'i thorri. Wedi i un lwyddo ei gollwng, taflai hi ar draws ei ysgwydd gan redeg a phawb yn ei ddilyn am yr amaethdai a ddigwyddai fod heb orffen medi. Yn llawn direidi ac asbri aflywodraethus gollyngent y lloi a'r moch o'u cutiau gan eu harwain i'r meysydd ŷd oedd heb eu medi. Caseg gynhyrfus a llawn castiau drwg oedd y Gaseg Fedi. Maddeuai pawb iddi am y direidi a'r cyffro a achosai ar ei rhawd wyllt.
{{c|NOSWEITHIAU LLAWEN}}
Y mae'r atgofion am y nosweithiau llawen bron wedi diflannu'n gyfangwbl o'r plwyf.
Nos Glangaeaf oedd y noson fawr ymhlith nosweithiau llawen y flwyddyn; rhyw oroesiad oedd hi o'r hen ŵyl a gyn-helid pan ddeuid i lawr o'r hafotai i'r hendrefi ar ddiwedd yr haf. Heblaw gwledda a chwarae a dawnsio ar nos Glangaeaf, llosgid coelcerthi ar ben y bryniau nes bod yr holl fryniau yn wenfflam olau.
Bu noson lawen ar ddiwedd y cynhaeaf mewn bri mawr. Wedi hynny bu'n arferiad a chryn bwys arni fynd am ddiwrnod o fôr; âi teulu'r fferm a'r gwasanaethyddion i gyd gyda'i gilydd yn y wagen i lan y môr. Trefnid pob math o ymborth a mwynheid dydd llawen yn sŵn y don, a phawb ohonynt yn eu tro yn ymdrochi, yn chwarae, ac yn gwledda. Dychwelent adref gyda'r hwyr a phawb yn llawn asbri a direidi.
Cedwid math o noson lawen yn feunyddiol yn nhyddynnod y plwyf yn ystod y gaeaf; deuai cyfeillion y gymdogaeth at ei gilydd ar fyr rybudd i gegin fawr un o'r tyddynnod i gyd-wledda, ymyfed a dawnsio, yn gymysg a chanu, barddoni, ac adrodd ystraeon.
Cynhelid nosweithiau a elwid yn noson lawen wau a noson lawen bilio pabwyr; gelwid hwy hefyd yn gymorth gwau a philnos. Ymgasglai'r teuluoedd at ei gilydd i helpu eu<noinclude></noinclude>
px2iswrd2n2jsarr8myw589q6jknbvg
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/184
104
83089
162038
2026-04-01T20:12:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "cymdogion drwy gyd-wau hosanau, neu gyd-bilio'r pabwyr. A byddai rhyw ymborth ac enllyn wedi eu paratoi i bawb gyd-wledda arnynt gyda'i gilydd, a phawb yn ymroi i wneuthur eu gorau i gadw'r cwmni'n ddiddan ac yn eu hwyliau da. Clywsom mai yn y Rhos y cynhelid y gwyliau hyn ddiwethaf. Bu'r nosweithiau llawen yn gyfryngau rhagorol i ddiwyllio doniau canu, barddoni, ac adrodd yn yr ardal; a hefyd i gadw traddodiadau'r gorffennol yn fyw, a...
162038
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdogion drwy gyd-wau hosanau, neu gyd-bilio'r pabwyr. A byddai rhyw ymborth ac enllyn wedi eu paratoi i bawb gyd-wledda arnynt gyda'i gilydd, a phawb yn ymroi i wneuthur eu gorau i gadw'r cwmni'n ddiddan ac yn eu hwyliau da. Clywsom mai yn y Rhos y cynhelid y gwyliau hyn ddiwethaf. Bu'r nosweithiau llawen yn gyfryngau rhagorol i ddiwyllio doniau canu, barddoni, ac adrodd yn yr ardal; a hefyd i gadw traddodiadau'r gorffennol yn fyw, a meithrin ysbryd cymdeithasol iach a diddanus yn y plwyf. Cadwai hefyd ysbryd crefft yn llawn nwyf yn y fro. Gofynnai pilio pabwyr law ysgafn a chywrain ac un a fyddai'n sicr iawn o'i phlwc, ac nid pawb a allai gadw'r bilen yn fain a chyfan, ac nid pob math o frwyn a wnâi babwyr da. Yr oedd eisiau llygad a llaw dda i hel y pabwyr.
Yr oedd gweu hosan a fyddai yn unffurf â choes a throed yn gryn gamp. Bu dwylo mamau a gwragedd yn ddiwyd gyda'u gweill; ychwanegodd y dwylo prysur gryn lawer at gyfalaf prin yr aelwydydd. Byddai'r dwylo a'r gweill yn mynd yn ddidor o fore hyd hwyr; os eistedd i hamdena neu os cerdded ar siwrnai a wneid, dal i fynd a wnâi'r dwylo a'r gweill. Cerddai llawer mam a'i baban ar ei chefn am fill-tiroedd a'r gweill yn mynd yn ddiball yn ei dwylo. Hongid y bellen edafedd ar fach melyn wrth linyn y ffedog, a gweithiai'r bysedd yn rheolaidd fel melin. Gweai rhai ag offeryn a elwid yn wain wau, a rhoddid ef yn rhwym wrth y wasg. Gweai ambell hen wraig oedrannus ddwsinau o barau hosanau i deuluoedd lluosog bob blwyddyn. Dwylo gweithgar a darbodus fu dwylo mamau a gwragedd Llanegryn.
{{c|CANU YN DRWS.}}
Hoffai'r hen frodorion sôn am arferiad ddiddorol oedd ynglŷn â'r Noson Lawen a elwid Canu yn drws. Math o ymryson oedd y canu yn drws rhwng y rhai oedd oddi mewn a'r rhai oedd oddi allan yn ceisio cael eu gollwng i mewn i'r neuadd neu'r gegin lle y cynhelid y Noson Lawen. Yr oedd yr ymryson ar ffurf gofyn ac ateb.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
2nucq0b641nxinfz4bnnw5jx9erkfcr
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/185
104
83090
162039
2026-04-01T20:13:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Cesglid at y drws a hawlid mynd i mewn drwy adrodd neu ganu darn o farddoniaeth. Ai'r ymryson ymlaen am gryn amser pan ddigwyddai'r doniau fod yn llithrig o'r ddeutu. Agorid y drws pan gydnabyddid bod y rhai oedd o'r tu allan wedi trechu'r ymrysonwyr oedd o'r tu mewn. Byddai miri mawr pan gyd-ddawnsiai'r ymrysonwyr â'i gilydd ar lawr y neuadd wedi i'r ymrysonfa fynd heibio. Meithrinodd yr arferiad ddawn ymadrodd parod yn ein cenedl....
162039
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cesglid at y drws a hawlid mynd i mewn drwy adrodd neu ganu darn o farddoniaeth. Ai'r ymryson ymlaen am gryn amser pan ddigwyddai'r doniau fod yn llithrig o'r ddeutu. Agorid y drws pan gydnabyddid bod y rhai oedd o'r tu allan wedi trechu'r ymrysonwyr oedd o'r tu mewn. Byddai miri mawr pan gyd-ddawnsiai'r ymrysonwyr â'i gilydd ar lawr y neuadd wedi i'r ymrysonfa fynd heibio. Meithrinodd yr arferiad ddawn ymadrodd parod yn ein cenedl.
{{c|CARU A PHRIODI}}
Prin yw'r ardal o draddodiadau caru a phriodi. Prif gwestiwn pob merch ieuanc fyddai "Pwy fydd fy annwyl briod?" neu'n hytrach "Pwy fydd fy annwyl gariad?" Ac y mae rhai o'r moddion a arferid ganddynt er mwyn cael hyd i brif gyfrinach eu bywyd wedi treiglo i lawr i'n dyddiau ni. Un modd tra sicr oedd torri deilen onnen, a dwy ddeilen yn fforchi ar ei blaen, a rhaid oedd ei thorri a'i phlethu â'r llaw chwith, ac adrodd y rhigwm a ganlyn:—
{{center block|
<poem>
Deilen onnen 'rwyf yn dy dorri,
Ar y pren lle 'rwyt ti'n tyfu.
Cyntaf fachgen a ddaw i'm cyfarfod
Hwnnw fydd fy annwyl briod.
</poem>
}}
<br>
Modd arall gan bobl hygoelus oedd gwneuthur teisen naw rhyw, a mynd â hi i'r ystafell wely'r nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn, a thaflu pellen o edafedd drwy'r ffenestr, ac yna ei dirwyn hi'n ôl gan adrodd:—
{{center block|
<poem>
Myfi sy'n dirwyn
Pwy sy'n dal?
A'r sawl sy'n dal
::Doed yma,
</poem>
}}
<br>
a thaflu carreg fach drwy'r ffenestr ar bob nawfed tro ar y bellen. Dywedir i lawer un drwy'r ddefod hon weled ei gŵr ymlaen llaw. Hoffai'r merched hefyd guro bacsen ar y<noinclude></noinclude>
a29of9lajhroo4nn9lv0lhdgplevzdi
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/186
104
83091
162040
2026-04-01T20:13:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "garreg olchi wrth y pistyll gan ddywedyd:—Dyma'r facsen, pa le mae'r troed? gan ddisgwyl gweled ei chariad yn dyfod i'r golwg. Arferiad i fechgyn oedd mynd o amgylch i'r eglwys gan edrych yn nhwll y clo ac adrodd:—Dyma'r llanc, pa le mae'r ferch? neu, Dyma'r llanc, pa le mae'r allwedd? A rhaid oedd gwneuthur y ddefod hon ar nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn. Anfonid ffon onnen i ŵr ieuanc a gollai ei gariad drwy gael ei redeg gan...
162040
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>garreg olchi wrth y pistyll gan ddywedyd:—Dyma'r facsen, pa le mae'r troed? gan ddisgwyl gweled ei chariad yn dyfod i'r golwg.
Arferiad i fechgyn oedd mynd o amgylch i'r eglwys gan edrych yn nhwll y clo ac adrodd:—Dyma'r llanc, pa le mae'r ferch? neu, Dyma'r llanc, pa le mae'r allwedd? A rhaid oedd gwneuthur y ddefod hon ar nos Iau cyntaf wedi'r lleuad llawn.
Anfonid ffon onnen i ŵr ieuanc a gollai ei gariad drwy gael ei redeg gan gyd-ymgeisydd.
Hanes tipyn yn dorcalonnus sydd i'r briodas fawr ar feirch a welwyd olaf yn y plwyf. Daeth y cwmni llon dros y mynydd ar garlam ar gefn meirch porthiannus yn llawn asbri a gorohïan. Gŵr gweddw oedd y priodfab a digwyddai'r briodasferch fod yn chwaer i'r wraig drancedig. Gwrthododd ficer defosiynol Llanegryn weinyddu'r ddefod briodasol, dychwelodd y cwmni siomedig dros y mynydd ar hyd y Ffordd-ddu, ac os digwyddodd y Ffordd-ddu fod yn ddu erioed, yr oedd yn gaddugol y dwthwn hwnnw. Aeth y briodasferch i'w gwely a'i hysbryd yn ddrylliog gan boen a gofid; ac ni bu'n hir cyn y gwelwyd ei chorff yn cael ei gario yn oer ar elor i fynwent y plwyf.
Y mae priodas wedi mynd yn ddigwyddiad dof a diramant yn yr ardal rhagor yr hyn oedd yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Byddai bywyd a rhialtwch yn llond y pentref ar fore dydd y briodas yr adeg honno. Addurnid y pentref a'r ffordd at yr eglwys gan lumanau, a rhwymid mannau ar y ffyrdd rhwng yr eglwys a chartref y briodasferch â rhaffau gan wŷr ieuanc cryfion, a chyn y datodid hwy rhaid oedd ar y briodasferch daflu arian i'r awyr fel y byddai'r un chwarae tegi bawb fel ei gilydd ymgiprys amdanynt. Dydd da oedd diwrnod priodas y pryd hwnnw am geiniog i blant y fro. A churid y pâr ieuanc â reis gan eu caredigion yn arwydd o'u dymuniad am bob llawnder iddynt yn ystod eu bywyd priodasol.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
ki9zrtsckgf60ej8ggugyztzh298u49
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/187
104
83092
162041
2026-04-01T20:14:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|FALANTAU}} Cyfnod cyffrous yn y plwyf oedd dydd Falantau, Chwefror 14, pryd yr anfonai bechgyn a merched ieuainc Falantau i'w gilydd drwy'r post. Arddangosid y Falantau yn ffenestri mân-siopau'r pentref yn gynnar fel y câi pawb ddigon o amser i ddewis. Yr oedd y detholiad gorau bob amser yn ffenestr siop Mari Puw. Anfonai cariadon Falantau prydferth i'w gilydd i gynnau'r serch yn wresocach nag erioed, ond byddai'r cariadon a ddig...
162041
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|FALANTAU}}
Cyfnod cyffrous yn y plwyf oedd dydd Falantau, Chwefror 14, pryd yr anfonai bechgyn a merched ieuainc Falantau i'w gilydd drwy'r post.
Arddangosid y Falantau yn ffenestri mân-siopau'r pentref yn gynnar fel y câi pawb ddigon o amser i ddewis. Yr oedd y detholiad gorau bob amser yn ffenestr siop Mari Puw. Anfonai cariadon Falantau prydferth i'w gilydd i gynnau'r serch yn wresocach nag erioed, ond byddai'r cariadon a ddigiasai wrth ei gilydd yn anfon Falantau sbeitlyd y naill i'r llall, a gwnâi'r rhai a oedd yn eiddigeddus a chenfigenllyd yr un modd. Balchder llawer merch a bachgen ieuanc oedd derbyn Falantau prydferth oddi wrth eu cariadon, a loes chwerw i eraill oedd derbyn rhai sbeitlyd a hagr. Ciliodd yr arferiad ers llawer o flynyddoedd.
{{c|CLADDEDIGAETHAU}}
Ar elor gyffredin y cludid yr eirch i'r fynwent yng ngladdedigaethau'r plwyf. Ni chlywsom fod elor-feirch wedi bod yn perthyn i'r eglwys. Perthynai i'r plwyf arch a elwid yn "arch y plwyf," a arferid i gario'r tlodion a gleddid mewn dim ond amdo'n unig. Cludid hwy yn arch y plwyf o'u cartrefi i'r fynwent, ac yna gollyngid hwy i'r bedd yn eu hamdo.
Pan wnaed y Llyfr Tir (Terrier) yn y flwyddyn 1776, yr oedd dwy elor at wasanaeth y plwyf. Ond ni ddywedir pa fath elorau oeddynt hwy. Yn ddiweddar y daeth elorgerbyd at wasanaeth y plwyf.
Arferid gynt pan gleddid dyn neu ferch ieuanc roddi gor-chudd gwyn dros yr arch; a phan gleddid gŵr a gwraig briod, neu rywun mewn oed rhoddid gorchudd du.
Cenid mewn hen gladdedigaethau ar hyd y ffordd o gartref y marw i'r fynwent. Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf, rhoddid pregeth angladdol wrth y tŷ cyn cychwyn â'r corff am y fynwent. Arferiad ymhlith yr Ymneilltuwyr oedd honno.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
1kx4tlmp5vuv6jkmfq8iyp69iw1ia5z
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/188
104
83093
162042
2026-04-01T20:14:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Offrymid mewn cynhebryngau yn Llanegryn yn gyffredin hyd tua'r flwyddyn 1885. Offrymid rhan yr offeiriad ar yr allor yn yr eglwys, a rhan y clochydd ar lan y bedd ar ôl y gwasanaeth claddu, pryd y daliai ef ei raw allan i dderbyn yr offrwm a ewyllysiai pawb ei roddi arni'n wirfoddol. Byddid yn rhannu diod boeth mewn angladdau; ystyrid ef yn amarch ar y marw oni rennid diod boeth cyn cychwyn oddi wrth y tŷ, a chyrchid i'r dafarn i yfe...
162042
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Offrymid mewn cynhebryngau yn Llanegryn yn gyffredin hyd tua'r flwyddyn 1885. Offrymid rhan yr offeiriad ar yr allor yn yr eglwys, a rhan y clochydd ar lan y bedd ar ôl y gwasanaeth claddu, pryd y daliai ef ei raw allan i dderbyn yr offrwm a ewyllysiai pawb ei roddi arni'n wirfoddol.
Byddid yn rhannu diod boeth mewn angladdau; ystyrid ef yn amarch ar y marw oni rennid diod boeth cyn cychwyn oddi wrth y tŷ, a chyrchid i'r dafarn i yfed ar ôl yr angladd. Telid swllt y llaw at gael y cwrw, a pho fwyaf a delid mewn angladd, mwyaf y parch yr ystyrid hynny i'r marw a'i deulu.
Os teimlid bod angen ar deulu'r trancedig, rhoddid yr arch i lawr wrth y dafarn ac offrymid ar ei chaead i'w cynorthwyo, a gosodid bwrdd hefyd wrth y dafarn i dderbyn rhoddion. Wedi i'r arferiad hynod hon ddarfod, gwelid cyfeillion yn cerdded â rhoddion yn eu dwylo a'u mynwesau tua chartref y marw yn swcwr i'r teulu yn eu profedigaeth.
Bu cynnal gwylnos yn arfer yn y plwyf, ond y mae wedi darfod ers llawer blwyddyn. Yr oedd yn arferiad aros dros nos i wylio'r corff tra gorweddai yn y tŷ cyn ei gladdu. Wedi hynny rhoddid canhwyllau wedi eu goleuo yn ystafell y marw dros y nos.
Ceir yng nghyfrifon Lewis Owen, Peniarth, 4/- wedi ei dalu am ganhwyllau claddedigaeth yn 1669, a'r swm o 1/- wedi ei dalu am ganhwyllau gwylnos William Tudur, a rhydd y swm o 18/- a dreuliwyd ganddo yn ei ffordd ei hun yng nghladdedigaethau Dafydd Ellis a Mr. Vaughan.
Gwelir bod y boneddwyr yn hoff o wario eu harian yng nghladdedigaethau eu cyfeillion. Bu talu'r gymwynas olaf yn rhwymedigaeth bwysig yn y plwyf.
{{c|LLÊN GWERIN}}
Er ein bod wedi treulio llawer o'n dyddiau bore yng nghanol hen bobl, ac wedi eu clywed yn adrodd am draddodiadau'r plwyf, eto nid oes fawr o ddim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r rhai a geir yn nhraddodiadau unrhyw blwyf arall yng Nghymru. Rhyfedd fel y clywir yr un traddodiadau'n hollol yr un fath mewn gwahanol ardaloedd ugeiniau o filltiroedd<noinclude></noinclude>
opkdng83k7hkpprn3rext2tul9j4spk
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/189
104
83094
162043
2026-04-01T20:15:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "oddi wrth ei gilydd, a cheir yr un traddodiadau ymhlith gwahanol genhedloedd y byd. Bu gan ysbrydion ran amlwg yn llên gwerin Llanegryn. Credid bod gan eneidiau'r meirw ddiddordeb mewn dynion ar y ddaear, ond rywfodd neu'i gilydd credid mwy yn ymddangosiad ysbrydion dynion drwg ac annuwiol nag yn ymddangosiad dynion da a duwiol. Pan ymddangosai ysbryd, neu pan flinid unrhyw un gan ysbryd, meddylid yn sicr bob amser fod ar yr ysbryd...
162043
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oddi wrth ei gilydd, a cheir yr un traddodiadau ymhlith gwahanol genhedloedd y byd.
Bu gan ysbrydion ran amlwg yn llên gwerin Llanegryn. Credid bod gan eneidiau'r meirw ddiddordeb mewn dynion ar y ddaear, ond rywfodd neu'i gilydd credid mwy yn ymddangosiad ysbrydion dynion drwg ac annuwiol nag yn ymddangosiad dynion da a duwiol.
Pan ymddangosai ysbryd, neu pan flinid unrhyw un gan ysbryd, meddylid yn sicr bob amser fod ar yr ysbryd eisiau hysbysu neu ddatguddio rhywbeth neu'i gilydd i rywun neilltuol, a phan fyddai wedi datguddio'i gyfrinach, na ddeuai ef byth wedyn ar ei deithiau nosawl o fro'r meirw.
Achosid cryn boen a blinder i deulu'r ymadawedig pan ddeuai'r si fod ei ysbryd yn teithio ar hyd llwybrau'r fro ar hyd y nos, ac yn ddychryn i'w cymdogion, oherwydd credent yn sicr fod rhywbeth neilltuol yn ei anesmwytho, ac mai da fyddai ei ryddhau o'i anesmwythyd. Gwnaed sôn unwaith fod ysbryd gŵr ieuanc prydferth o'r enw William, mab Nansi William, yn ymddangos ar ôl ei farwolaeth, a cherddodd ei fam bob awr o'r nos rhwng y pentref a'r fynwent, er mwyn rhoddi cyfleustra iddo ymddangos iddi hi ei hun, ac iddo gael ymadael â'i ofid a'i anesmwythder.
Clywsom wraig yn adrodd fod ei gŵr wedi ymddangos iddi hi ar ddyddiau o ofid mawr yn ei hanes; yr oedd yn wraig a'i theimladau yn ddigon caled, ac ni flinid mohoni o gwbl gan ryw fân ofnau. Yr oedd siopwr yn ei herlyn am arian, a chredai hi'n sicr fod ei gŵr wedi eu talu cyn ei farwolaeth, ond methai yn lan â chael hyd i'r llyfr cyfrifon a ddangosai hynny. Un noson yn nistawrwydd ei bwthyn unig, ym-ddangosodd ei phriod iddi yn y man lle'r oedd yr hen lyfr cyfrifon wedi ei roddi i'w gadw.
Ffynnai dau neu dri o draddodiadau am ysbrydion ym mhlwyf Llanegryn. Un traddodiad oedd mai ysbryd y byw a gymdeithasai gyda dynion; tystiai amryw y byddent hwy beunydd yn cymdeithasu â'r byw ar wahan i'r corff a phellter lle. Credai'r lleill mai ysbrydion y meirw a ddychwelai o'r byd anweledig i gyfeillachu â dynion ar y ddaear. Y<noinclude></noinclude>
buxw00q76grfx1baezyryg7tibtwyi3
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/190
104
83095
162044
2026-04-01T20:16:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "traddodiad arall ydoedd y byddai rhai'n gweled eu teulu neu eu cyfeillion yn crwydro ar eu hen lwybrau pan fyddent yn croesi glyn cysgod angau. Clywsom am wraig o'r wlad yn mynd adref o'r pentref yn hwyr ar y nos, a'i mab bychan yn ei llaw; a phan oedd ar fan arbennig gwelai ei chymdoges, Beti Llwyd, yn ei phasio ar yr ochr arall i'r ffordd a'i chlog arferol dros ei gwar; a chyn gynted ag y cyrhaeddodd hi garreg ei haelwyd, curai cyfei...
162044
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>traddodiad arall ydoedd y byddai rhai'n gweled eu teulu neu eu cyfeillion yn crwydro ar eu hen lwybrau pan fyddent yn croesi glyn cysgod angau. Clywsom am wraig o'r wlad yn mynd adref o'r pentref yn hwyr ar y nos, a'i mab bychan yn ei llaw; a phan oedd ar fan arbennig gwelai ei chymdoges, Beti Llwyd, yn ei phasio ar yr ochr arall i'r ffordd a'i chlog arferol dros ei gwar; a chyn gynted ag y cyrhaeddodd hi garreg ei haelwyd, curai cyfeilles y drws gan ofyn a ddeuai i ddiweddu'r hen chwaer Beti Llwyd, a fu farw ar yr adeg y gwelodd hi yn ei phasio ar y ffordd o'r pentref.
Adroddai eraill yn ddifloesgni iddynt weled ysbryd dyn a dynes fyw. Adroddid am hen wraig a drigiannai yng Nghefn-coch-bach a fyddai yn rhodianna oddi amgylch ar lasiad y dydd ar hyd y meysydd yn y gwanwyn a dechrau'r haf. Gwelai morynion Waun-fach hi beunydd yn rhodio ymhlith y meillion yng nghae Llety Dyfrgi pan fyddent hwy yn mynd yn gynnar yn y bore i odro. Ond cysgai hi ei hunan yn dawel yn ei bwthyn bach gerllaw.
Gelwid ysbryd Gwyddfryniau yn ysbryd Cadi'r forwyn. Geneth brydferth lawn hoen a wasanaethai yn forwyn yn y lie, ac a oedd yn byw gyda'i rhieni mewn bwthyn gerllaw. Aflonyddai'r ysbryd gymaint yng Ngwyddfryniau nes bod yn rhaid ar y teulu ffoi oddi yno beunos yn nhrymder y nos i un o dai eu cymdogion; a ffoesant cyn belled rai gweithiau â'r Celmi, a dilynai'r ysbryd hwy gan beri cynnwrf mawr. Tystid yn bendant gan ddynion geirwir a chyfrifol fod amryw gyffroadau rhyfedd ac arswydus yn digwydd yng Ngwyddfryniau, pa esboniad bynnag a gynigir i egluro'r peth. Adrodd-id
gan Lewis William, un o hen ysgolfeistriaid y Parch. Thomas Charles o'r Bala, iddo ef fod yn gwylio yno am un noson, ac iddo glywed a theimlo pethau rhy ofnadwy i'w mynegi mewn iaith ddynol. Cymerodd gydag ef Feibl a channwyll, ac aeth i'r ystafell a gythryblid yn fwyaf gan yr ysbryd, gan bender-fynu treulio'r noson mewn gweddi ac ymbil, a darllen y gair dwyfol ar yn ail. Ymhell cyn hanner nos dechreuodd yr ysbryd ar ei ystrywiau mwyaf ofnadwy. Llanwodd y lle â'r drewdod ffieiddiaf, a bu'n rhaid ar Lewis William er cryfed<noinclude></noinclude>
43djfst7vbp6d1ofnat253qyje4v7fl
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/191
104
83096
162045
2026-04-01T20:16:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ei ysbryd a'i ffydd afaelyd yn ei Feibl a ffoi o'r ystafell. Gwnâi'r ysbryd gymaint o ystrywiau yn ystod y dydd golau glân ag a wnâi yn ystod tywyllwch dudew'r nos. Taflai a chwalai'r ysgubau yng nghanol y cae ŷd yng ngŵydd y medel-wyr, ond ni welid ac ni chlywid dim na neb oddi mewn i'r Yn y diwedd nid oedd dim i'w wneuthur ond anfon am yr hen Ficer Williams, a adwaenid fel yr offeiriad a fedrai ostegu'r cythraul. Brwydr fawr a fu rhy...
162045
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei ysbryd a'i ffydd afaelyd yn ei Feibl a ffoi o'r ystafell. Gwnâi'r ysbryd gymaint o ystrywiau yn ystod y dydd golau glân ag a wnâi yn ystod tywyllwch dudew'r nos. Taflai a chwalai'r ysgubau yng nghanol y cae ŷd yng ngŵydd y medel-wyr, ond ni welid ac ni chlywid dim na neb oddi mewn i'r Yn y diwedd nid oedd dim i'w wneuthur ond anfon am yr hen Ficer Williams, a adwaenid fel yr offeiriad a fedrai ostegu'r cythraul. Brwydr fawr a fu rhyngddynt; ymladdodd yr ysbryd â holl ystrywiau'r fall ei hun, a dywedai chwaer yr hen Ficer Williams fod ei gnawd ef yn arogli'n enbyd gan sawr satanaidd am ddyddiau lawer wedi'r ornest. Edrydd y chwedl fod y Ficer wedi llwyddo i botelu'r ysbryd, a'i fod wedi ei roddi i orwedd yn dawel yng ngwely'r afon wrth bont Dysynni.
Un o draddodiadau byd yr ysbrydion oedd mai peth peryglus a fyddai gweled tân disglair yn uniongyrchol ar ôl i ddyn ddigwydd gweld ysbryd. Os digwyddai hynny syrthia'r sawl a'i gwelai'n ddiatreg i lewyg. Gwaeddai un hen gymeriad yn groch ar i Betsan ei wraig roddi'r radell ar y tân, am ei fod wedi gweled ysbryd wrth ddychwelyd adref oddi wrth ei waith.
Dywedid hefyd os byddai'r ysbryd yn teimlo yn garedig tuag at y neb yr ymddangosai iddo, y cymerai ffurf rhyw greadur caredig ac addfwyn. Ond os teimlai yn gas a chwerw yr ymddangosai ar ffurf creadur creulon ac arswydus. Ei ffurfiau cas oedd teirw, cŵn, hychod, ac adar ysglyfaethus, neu dân. Ei ffurf garedig fel rheol oedd dafad. Clywsom hen ferch o'r enw Beti Dafis yn diolch am i ysbryd arbennig ymddangos iddi hi ar ffurf dafad hynaws. Poenid ambell lannerch gan ysbryd plentyn; nadai gydol y nos ar goeden gelyn, a hynny'r naill flwyddyn ar ôl y llall. Ar nos Galan-gaeaf byddai ysbryd ar ben pob camfa; ac ar ddydd Gŵyl y Meirw byddai'r holl feirw yn y fynwent yn codi o'u beddau ac yn gorymdeithio o amgylch yr eglwys gan wrando ar y gweddïau a offrymid ar eu rhan.
Credai llawer mewn rhag-gladdedigaeth. Tystid y gwelwyd claddedigaeth llawer gŵr a hynny cyn ei farwolaeth<noinclude></noinclude>
rlrk8zbmnm1ucuiehuc2ogw7tdfqs8q
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/266
104
83097
162046
2026-04-01T20:17:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
162046
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/265
104
83098
162047
2026-04-01T20:18:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
162047
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/264
104
83099
162048
2026-04-01T20:18:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
162048
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/263
104
83100
162049
2026-04-01T20:18:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
162049
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/262
104
83101
162050
2026-04-01T20:18:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
162050
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/156
104
83102
162051
2026-04-01T20:24:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162051
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel y gallent gadw buwch neu ddefaid i bori arno, a chaent lwyth gwagen o wair yn borthiant i'r fuwch dros y gaeaf. Arferiad ddigon cyffredin yn y plwyfar un amser oedd gosod caei ddyn i'w drin ar ei draul ei hun. Trwy nad oedd llawer o dramwy ar hyd wtreydd a ffyrdd y plwyf porai gwartheg gryn lawer ar hyd-ddynt yn ystod yr haf, a gwylid hwy gan y gwragedd. Hawliai rhai teuluoedd rannau arbennig o'r wtreydd a'r ffyrdd i'w gwartheg hwy'n unig, ni châi neb arall anfon ei fuwch ar eu cyfyl. Câi'r pentrefwyr blannu cymaint o datws ag a gyrhaeddai eu gwrtaith, ac ymdrechid i gasglu tomen helaeth o wrtaith. Helid dail coed yn yr hydref i bydru a chesglid rhedyn, brwyn, a glaswellt i'w taenu ar hyd y ffyrdd oddeutu'r gwahanol gartrefi er mwyn eu pydru'n wrtaith. Llwyddid felly i gael toreth o datws yn ymborth i'r teulu.
Edrychid ar y cymwynasau a'r troeon caredig fel rhan o'r cyflog, ac yn rhoddion llawer cysegredicach na hynny gan lawer Diddanwch pennaf pawb oedd estyn ymwared i'w gyd-ddyn pan fyddai'n gyfyng arno.
{{c|YMFUDIAETH}}
Bu sŵn ymfudo yn y plwyf o ddiwedd rhyfel Waterloo i derfyn y ganrif ddiwethaf. Teimlodd pob dosbarth y dir-wasgiad llethol a ddilynodd ryfeloedd Napoleon, ac achosodd hynny anesmwythder ar lawer aelwyd yn yr ardal. Bywyd caled a chwerw oedd bywyd pawb fel ei gilydd.
Bu'r ysbryd ymfudo yn cynhyrfu'r plwyf er yn gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg. Teimlodd yr uchelwyr Cymreig ddirwasgiad yn y ganrif honno; yr oedd yr hen gyfundrefn dirol yn mynd yn ddrylliau o dan y dylanwadau economaidd a ddylifai i'n gwlad. Anodd oedd byw ar renti ystadau bychain, a chynnyrch amaethyddol. Cawn Gruffydd Owen wedi ymfudo i Lundain, a John Pugh yn masnachu yng Nghaer, a symudodd Isaac Jones i Fryste.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gwelwyd ymfudiaeth yn ennill ei nerth a'i grym. Yr oedd yr ysbryd i symud wedi disgyn yn glefyd ar y fro. Yr hanes cyntaf sydd gennym yw am William Vinsent a'i deulu yn ymfudo i'r America<noinclude><references/></noinclude>
tkdyhhrb9mqhm61x2cdxzm56fk9pmao
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/157
104
83103
162052
2026-04-01T20:25:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162052
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y flwyddyn 1825. Hanoedd ef o gyff enwog yn y fro am ei ddiwylliant mewn llên a chrefft. Bu'n saer ym Mheniarth a daliai felin Peniarth ar ei ddwylo. Yr oedd yn ŵr o gyfrifoldeb ac ymddiriedaeth yn ei ardal. Bu'n gefnogydd selog i Ymneilltuaeth yn Llanegryn, ac yn weithiwr diwyd gyda phob symudiad i ddyrchafu moes a diwylliant y pentref.
Cartrefodd yn yr America mewn cymdogaeth o'r enw Marcy, yn agos i Utica, canolfan bwysig yn hanes y Cymry. Er iddo ymsefydlu mewn gwlad ddieithr ymgyflwynodd yn llwyr i fywyd ei fyd newydd. Daeth y capel Cymraeg yn ganol-bwynt ei ymdrechion. Cafodd y Cymro gwiw faes wrth fodd ei galon gyda'r ddiadell Gymreig ym Marcy. Bu hanes rhamantus i gapel Salem ymhlith Cymry America. Bu'n fangre cysur a llawenydd i gannoedd o Gymry hiraethus am Dduw a bywyd gwell.
Siomedig a thrist yw meddwl fod grym llanw yr hen fywyd Cymreig wedi llwyr gilio o Salem ers llawer blwyddyn. Erys un peth yno; deil y fynwent a'r cerrig beddau o hyd i dystiolaethu am y bywyd a'r gweithgarwch, y cariad a'r sêl a losgai yng nghalonnau'r tadau Cymreig a ymfudodd i gyfandir mawr yr America yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Hunodd William Vinsent, 24, Rhagfyr 1859, yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Salem, lle y buasai yn golofn gref, ac yn ddylanwad mawr yn ystod ei oes. Wrth ei ochr y gorwedd Elin, ei wraig, a'r plant.
Adroddir am deulu Cadwaladr Richards a symudodd o'r ardal am yr America yn y flwyddyn 1830. Cychwynasant yn deulu o ŵr a gwraig a deg o blant. Yn ystod y fordaith bu pump o'r plant farw; a gofid anaele i'r rhieni oedd gollwng eu cyrff bychain i'r dyfroedd dyfnion.
Ymfudodd y Parch. Evan Griffiths, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanegryn, i'r America yn y flwyddyn 1848, ac aeth cynifer â thrigain o drigolion yr ardal gydag ef.
Cododd yr ysbryd ymfudo'n uchel yr adeg honno. Sonnir am ŵr dall wedi troi ei wyneb i fynd gyda'r dorf i'r gorllewin pell. Taith hirfaith oedd i'r America ar long hwyliau yn y blynyddoedd hynny. Croesodd llawer drosodd tua chanol<noinclude><references/></noinclude>
az5mia1rvd97jcxjdneofzj2y8p5pc4
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/158
104
83104
162053
2026-04-01T20:25:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162053
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y ganrif ddiwethaf ar y llong hwyliau a elwid Credo a oedd dan ofal Capten Humphreys, Aberystwyth. Cymerai dri mis i groesi'r moroedd i'r America mewn llong hwyliau.
Gofalai pawb am ei ymborth ei hunan gogyfer â'r fordaith, a darperid bwydydd yn helaeth am y daith hir. Trefnid bara, cig, ymenyn, caws, a bara ceirch; a phan fyddai'r teulu'n lluosog eid â chasgenni o beilliaid rhag i newyn eu goddiweddyd. Darparai'r mamau a'r gwragedd bob math o ddillad plaen i'r teulu, a byddai'r teilwriaid a'r cryddion wedi bod yn brysur ar y gwahanol aelwydydd. Bu ton gref o ymfudiaeth i'r America oddeutu'r flwyddyn 1870.
Nid i gyfandir yr America'n unig yr ymfudai trigolion Llanegryn. Bu cyrchu i Awstralia, Canada, a Phatagonia. Ni bu odid dŷ yn y plwyf na bu ymfudo ohono yn ystod y ganrif ddiwethaf i ryw wlad neu'i gilydd dros y moroedd. Arafwyd ychydig ar ymfudo dros y moroedd pan ddaeth sôn am y pyllau glo yn y Deheudir, a'r chwareli yn y Gogledd. Bu gan y trefi Seisnig swyn i ieuenctid Llanegryn bob amser. Colled i'r plwyf fu'r ymfudo mewn llawer ystyr, ond bu yn ei dro yn foddion i wella bywyd cymdeithasol y fro. Tystiai un hen ŵr wrthym mai'r llythyrau a ddeuai o'r gwledydd dros y dŵr a fu'n brif foddion i godi cyflogau, ac i wella ansawdd bwyd ym mhlwyf Llanegryn. Pan dderbyniai dyn lythyr o'r America adroddid ei gynnwys o ben i ben drwy'r plwyf ar fyr dro. Trafodid llawer ar y cyflogau a delid i wahanol weision a chrefftwyr, a sonnid am yr ymborth a roddid ar y byrddau i bawb fel ei gilydd.
Nwyd naturiol trigolion Llanegryn yw caru eu bro.
{{c|LLOFFA}}
Edrychid ymlaen at dymor lloffa gydag ysbryd calonnog. Lloffid fel rheol ddigon o ŷd i yrru'r cartref ymlaen heb brynu dim blawd am o fis i chwech wythnos ar ddiwedd yr haf, ac arbedid drwy hynny ychydig ar y cyflog at dalu'r rhent, a chael rhyw gawiau newydd i'r teulu, chwedl hen wraig wrthym.
Arferent fynd allan ben bore yn llu gyda'i gilydd i loffa i'r meysydd ŷd. Aent yn hen ac ieuainc, yn wŷr a gwragedd, a'r<noinclude><references/></noinclude>
4ucoo88wuip1hmfgjhap4u08cxc6n9d
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/159
104
83105
162054
2026-04-01T20:26:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162054
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>plant yn eu dilyn, a chariai llawer o'r gwragedd ieuainc eu babanod wrth eu bronnau. Os digwyddai bod bwthyn yn agos i'r meysydd lloffa ni byddai'n syn gweled llond gwely o fabanod yn cysgu ynddo tra lloffai'r mamau. Gwelid golygfa felly yn aml yn Nhy-coch yn ystod amser lloffa (safai'r bwthyn hwn ar fin yr wtre yn agos i'r Pant). Yr oedd y gweithwyr a'u gwragedd yn drugarog a chymwynasgar wrth ei gilydd bob amser. Rhoddai aml fam laeth ei bron i blentyn ei chyfeilles er mwyn ei gadw'n ddiddig a thawel. Derbyniai'r lloffwyr lawer cymwynas a thro caredig wrth symud o dyddyn i dyddyn yn ystod tymor lloffa. Rhai cyflym i adnabod calon gŵr a gwraig oedd y lloffwyr. Caent rai tyddynwyr yn rhydd a hael, a'r lleill yn galed a chwta. Byddai mwy o loffion ym meysydd rhai tyddynwyr na'i gilydd; gallai ambell dyddynwr fod yn ddreng, a chlywsom am un amaethwr yn troi'r tarw i'r maes er mwyn gyrru'r lloffwyr ar ffo.
Pan gesglid llond gafael llaw o'r ŷd, gelwid ef yn lloffyn a phlethid ef yn gywrain, gan ei ddodi gan y merched rhwng eu gwasg a llinyn eu ffedog; ac wedi iddynt amgylchu eu gwasg â'r lloffynnau gwnaent hwy'n ysgub. Ar ôl eu cywain adref, fe'u ffustid a gwyntyllid hwy yn yr awel iach; yna byddai'r ŷd yn barod i fynd i'r felin i'w falu'n ymborth i'r teulu.
{{c|MELA}}
Cymwynaswyr da a fu'r gwenyn i lawer teulu gael bwyd, a chael y ddau ben llinyn ynghyd. Cedwid gwenyn ar raddau helaeth yn Llanegryn am un cyfnod hir. Y mae'r arferiad ar raddau helaeth wedi mynd â'i phen iddi ers llawer dydd, ond clywir sŵn ail hybu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwel-som wyth gwch ar hugain o wenyn gan Dafydd Dafis yng Nghilfach-y-gog, a gwaith dwylo Dafydd Dafis ei hun oedd y cychod. Gwarchodid hwy'n ofalus rhag pob gelyn yn ystod yr haf, a rhag iddynt heidio yn ddiarwybod i neb. Diwrnod cyffrous oedd y dydd pan ddigwyddai i'r gwenyn heidio, a heidient i bellter mawr weithiau. Y diwrnod hwnnw byddai'r plant yn eu hafiaith yn curo llestri'n fawr eu sŵn. Arwriaeth<noinclude><references/></noinclude>
ni0zkkge80qs4swiq10g28h9qiknk15
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/160
104
83106
162055
2026-04-01T20:27:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162055
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anghyffredin yng ngolwg y plant oedd gwylio Dafydd Dafis yn cychu'r haid wenyn â'i ddwylo.
Mygid y gwenyn dwyflwydd ar ddiwedd yr haf er mwyn cael mêl allan o'r diliau, ac fel rheol gyda'r nos y gwneid y gorchwyl hwnnw. A channwyll frwmstan y mygid y gwenyn, a darn o bapur llwyd wedi ei fwydo mewn brwmstan oedd y gannwyll. Pan sychai rhoddid hi mewn hollt ar flaen darn o bren, a gwthid y pren ar ei ben i'r ddaear yn agos i'r cwch. Rhoddid tân ar y gannwyll, a chodid y cwch uwch ei phen, a byddai tynged y gwenyn wedi 'i setlo'n fuan. Byddai rhai'n rhoddi'r gannwyll frwmstan tu mewn i'r cwch, ac yn ei or-chuddio'n fanwl rhag i ddim o'r mwg ddianc.
Deuai'r mêl o'r diliau ond ei gael i dymheredd gynnes. Amgylchiad llawen ar ddegau o aelwydydd oedd darllaw y medd, neu'r meth, fel y'i gelwid yn Llanegryn. Golchid y crwybr â dŵr cynnes i gael y mêl allan ohono'n llwyr. Rhoddid y crwybr mewn lliain cymwys a gwesgid y cyfan ohono. Hidlid y cynnwys yn lân. Ar gyfer dau alwyn o'r cynnwys hwn rhoddid hanner wns o sbeisus at ei nawsio'n briodol. Cresid darn o fara, a mwydid ef mewn hanner wns o furum gwlyb, a gosodid yntau ar wyneb y meth. Yna ei adael i weithio am naw diwrnod. Berwid y cyfan ar y tân gan rai cyn ei adael i weithio. Wedi iddo weithio, potelid ef at ei ddefnyddio. Gorau oll po hwyaf y cedwid ef heb ei ddefnyddio. Ymffrostid mewn yfed medd blwydd.
At wneuthur cŵyr berwid y crwybr mewn crochan, ac ysgumid y cwyr fel y deuai i'r wyneb, a rhoddid ef mewn llestri wedi eu dyfrio'n briodol. Byddai rhai ar ôl ysgumio'r cŵyr yn ei ail-ferwi, ac yna yn ei roddi mewn llestri i werio. Defnyddid y cŵyr at loywi'r dodrefn, a byddai'n rhaid i'r teilwriaid wrtho bob amser at gwyrio'r edau.
Gofelid bod digonedd o Hopys yn tyfu bob amser oddeutu'r hen fythynnod at wneuthur burum, a daliasant i dyfu'n wyllt mewn cornelau diarffordd am ugeiniau o flynyddoedd wedi i'r bythynnod gael eu gwasgaru.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
08ml5iy8ks92s7a8uccmpgfhstmnv5u
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/161
104
83107
162056
2026-04-01T20:31:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162056
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|CWCH GWENYN}}
Crwn oedd ffurf hen gwch gwenyn yr ardal. Cyllell law, a chorn eidion oedd yr unig offerynnau angenrheidiol at ei wneuthur; gwellt llathraidd gwenith a rhisgl miaren farch oedd ei ddefnydd.
Torrid ymaith ddarn o ben meinaf y corn eidion i gael twll o'r maint priodol. Ni chyfrodeddid y gwellt gwenith wrth ei wneuthur yn rhaff; ni wneid dim ond gwthio'r gwellt yn galed drwy'r corn, a'i wasgu'n dynn bob hyn a hyn â rhisgl y fiaren farch. Gweithid y cwch drwy ddirwyn y rhaff wellt ar ei gilydd yn gwpan crwn, a'i phwytho bob yn hyn a hyn â rhisgl y fiaren farch. A phan orffennid y cwch, trewid ef ar y ddaear a neidiai fel pêl os byddai o wneuthuriad iawn. Gwnaent hefyd fath o orchudd dros y cwch. Cesglid coflaid o wellt detholedig gwenith a rhwymid un pen iddynt, ac agorid y gwaelod yn llydan i'w roddi'n gapan am y cwch; rhwbid oddi mewn i'r cwch yn dda â dail cyll er mwyn i'w aroglau fod yn ddymunol i'r gwenyn. Coed cyll a roddid yn ffram yn y cwch i'r gwenyn weithio'r crwybr arnynt.
{{c|BWYDYDD}}
Cynnyrch tir y plwyf fu lluniaeth yr ardal am ganrifoedd. Blawd haidd, ceirch, rhyg, a gwenith wedi tyfu ar feysydd y fro oedd defnydd bara beunyddiol y cartrefi; a llefrith, llaeth enwyn, maidd, medd, a chwrw wedi ei fragu gartref oedd y diodydd.
I frecwast arlwyid potes, brywes, a grual. Sonnid ambell dro am rual tatws a grual seithryw. Gwneid math arbennig o botes at wneud brywes, a gelwid ef yn isgell,—potes oedd heb ddim llysiau wedi eu berwi ynddo. Gwnâi'r tlodion frywes yn aml â darn o wer. Sonnid hefyd am frywes y ddysgl, a brywes neu sincin pig y tegell.
Cig hallt a geid i ginio ar hyd y flwyddyn. Cig biff a chig moch hallt, a thatws crynion yn eu pil a welid amlaf ar y byrddau, a thywelltid y tatws ar hyd y bwrdd fel y câi pawb ran hwylus wrth eu dwylo. Ceid tatws a llaeth enwyn i<noinclude><references/></noinclude>
1aizjpr2ijrrhiuvsu6est1zxhrv1dt
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/162
104
83108
162057
2026-04-01T20:32:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162057
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddechrau, a thatws a chig yn ail gwrs. Pryd archwaethus i ddynion cryfion.
I swper fach, neu amser te, ceid bara llaeth enwyn a bara a chaws; anaml y gwelid ymenyn ar y bwrdd ond ar y Sul.
Gorffennid y dydd gyda phryd o uwd blawd ceirch a llaeth enwyn. Yr oedd uwd rhynion wedi ei ferwi mewn maidd glas i'w weled ar fwrdd ambell dyddyn. Yr oedd llymru'n fwyd cyffredin yn yr haf.
Bara haidd a bobid fel rheol gogyfer â bwrdd y gweision a'r morynion, a phobid bara surgeirch weithiau, bara wedi ei wneuthur o flawd haidd yn gymysg ag ychydig o flawd ceirch. Cyfrifent frechdan grimsi yn groeso. Tafell o fara haidd neu wenith oedd brechdan grimsi, a darn o dorth geirch wedi ei gwasgu arni ac ymenyn da rhyngddynt.
Helai ein tadau gyda llawer o ryddid hyd yn ddiweddar yn y plwyf. Cofiai hynafgwr am yr adeg pan oedd pysgod yr afonydd ac adar yr awyr yn rhydd i bawb eu dal. Dalient eogiaid yn afon Dysynni ac aent â hwy i Ddolgellau a'r trefi o gwmpas i'w gwerthu, a chochent lawer ohonynt yn yr hen simneiau mawr fel y byddent yn fwyd i'r teulu am fisoedd. Gwaith o gryn bwys oedd cochi'r eogiaid. Wedi eu glanhau helltid hwy am noson, yna sychid hwy'n sych. Agorid hwy'n llydan, ac os digwyddai'r eog fod o faintioli anghyffredin holltid ei gefn o'r adain i fyny. Gofelid am gadw eu geneuau'n agored. Wedi'r driniaeth hon hongid hwy yn y simnai, a chedwid hwy yno am ddiwrnod a noson yng nghanol mwg dail, brigau, neu ysglodion coed gwern. Gwnâi dail, brigau, neu ysglodion derw'r tro'n iawn, ond rhoddai gwern well ysglein ar groen yr eog.
Adroddai'r hynafgwr fel y byddai ef a'i frodyr a'i chwiorydd yn ymborthi ar rawn yr eogiaid, pan oeddynt gartref ar yr aelwyd ar adegau caled. Gwerthid yr eogiaid fel y caffai eu rhieni y ddau ben llinyn ynghyd. Cyfyngwyd ar eu rhyddid i bysgota fel y mynnent a'r lle y dewisent pan sefydlwyd Bwrdd Pysgota Afon Dysynni yn y flwyddyn 1840. Y personau a apwyntiwyd ar y Bwrdd oedd W. W. E. Wynne, Peniarth; David Jones, Tal-y-garreg; Evan Rowland, Bryngwyn;<noinclude><references/></noinclude>
6bp9cp6rqasurd6uf4k4hhamr6b0aiw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/163
104
83109
162058
2026-04-01T20:32:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162058
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wm. Parr, Tafarnwr; a John Lloyd, Siop-isaf. Nid oedd yn rhydd pysgota o Dachwedd 30 i Fawrth 1. pysgod y gwaherddid eu dal oedd eogiaid, brithylliaid, neu unrhyw bysgod o rywogaeth yr eog. Hugh Lewis, Garth-fach, oedd ceidwad cyntaf yr afon. Rhwydid ysgadan yn y môr oddeutu genau afon Dysynni. A heliai hynafgwyr y pentref wichiaid a llygaid meheryn i'w gwerthu oherwydd byddai llawer o fwyta arnynt. Byddid yn hela ysgyfarnogod a chwningod â chŵn, rhwydi, a maglau, a chyrchid i'r mynydd i ddal cyffylogod; gosodid maglau i'w dal yn wastad ar y ddaear, mewn lleoedd gwlyb, hoff gyrchfan y cyffylogod.
Dyddiau prysur i'r helwyr oedd Gwyliau'r Nadolig. Cyfarfyddai'r helwyr yn dorf a helid y plwyf o ben bwy gilydd am bob math o adar ac anifeiliaid gwyllt. Nid oedd neb a warafunai iddynt eu hawl i hela.
Fel yna y deuai cynhaliaeth i'n hynafiaid o lawer cyfeiriad pryd yr oedd eu ceiniog yn brin. Yr oedd prynu allan o'r cwestiwn i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr; ac nid oedd llawer o'r tyddynwyr yn ddim llawer amgenach eu byd na hwythau'n aml. Â'u cynnyrch y talai'r mwyafrif ohonynt gyflog eu gweision, a daliodd rhai'n gyndyn rhag talu cyflog ag arian hyd yn ddiweddar; mynnent dalu drwy "kind," chwedl hwythau. Clywsom hen wraig a dderbyniai ei phensiwn yn tystio fod yn rhwyddach gweld papur chweugain ar ddiwedd ei hoes nag ydoedd gweled ceiniog ar ei dechrau. Dysgodd ein hen famau fyw heb weled ceiniog, ond caled oedd hi arnynt beunydd.
{{c|DILLAD}}
Plaen a syml oedd y dillad ar y gorau. Sonnid am bais a becwn y merched, a hefyd am eu ffedog wen o liain, neu ffedog ddu o sidan; a gwisgid gownau sidan gan rai gwragedd a allai fforddio hynny. Yr oedd yr hosanau o amryw liwiau, gwynion, gleision, a chochddu. Defnyddid linsi amryliw at wneuthur peisiau. A daliwyd i wisgo'r het gorun uchel hyd ddiwedd yr hanner cyntaf o'r ganrif ddiwethaf.<noinclude><references/></noinclude>
4vriezz8mgk5xjbyujve46bht9xr84l
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/164
104
83110
162059
2026-04-01T20:33:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162059
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hoffai'r dynion wisgo clos-pen-glin, a hosanau gleision neu gochddu'r ddafad, ac esgidiau isel cryfion.
Llin a gwlân fel rheol oedd y defnyddiau at wneuthur dillad. Byddai llawer o wisgo clocsiau gan bawb, yn ddynion, merched, a phlant. Ceid lledr, y gwadnau, a'r pedolau wedi eu gwneuthur gan grefftwyr yn y plwyf. Yr oedd clocsiwr neu ddau yn byw bob amser yn yr ardal. Yr olaf y clywsom amdano oedd Rhys y Clocsiwr, Maesonnen. Pedolid y clocsiau bob amser yn yr efail, ac yn yr efail y pedolid yr esgidiau hyd yn ddiweddar.
Gan weithwyr cyffredin gwisgid dilledyn a elwid yn smoc-ffrog, math o wisg o liain cryf a wisgid dros y corff. Gwelid rhai'n gwisgo'r dilledyn hwn hyd yn gymharol ddiweddar.
Yn aml ni feddai'r tlawd ddim ond un siwt o ddillad a golchid honno yn fynych ar nos Sadwrn i'w chael yn lân at y Sul. Un pâr o esgidiau a feddent, a glanheid hwnnw bob amser ar nos Sadwrn i fynd i'r addoliad ar y Sul. Noson brysur oedd nos Sadwrn yn paratoi gogyfer â'r Saboth drwy mai'r un dillad ac esgidiau oedd ganddynt Sul, gŵyl a gwaith.
Clywsom am rai yn cael siwt briodas, ac yn ei chael wedyn yn amdo mewn hanner can mlynedd neu well. Ei siwt briodas fu'r unig siwt orau a gafodd llawer gweithiwr ar hyd ei oes. A mawr fu'r gofal ohoni! Ni wisgid hi ond ar achlysur arbennig. Byddid yn mynd i'r capel ar y Sul a noson waith yn nillad pob dydd; ond gwisgid y siwt orau gan lawer sant ar nos Sul y
nos Sul y gweinyddid Sacrament Swper yr Arglwydd. Ar fore Llun dilynol brwsid hi'n ofalus i'w chadw am fis arall. Byddai'r siwt yn mynd trwy'r oruchwyliaeth ddeuddeg gwaith bob blwyddyn. Gwnaethpwyd holl ddillad yr ardal gan deilwriaid a gwniadwragedd y plwyf am ganrifoedd lawer. Erbyn hyn mae'r rhod wedi troi'n ddirfawr.
{{c|HALEN}}
Bu halen yn brin a drud, ac yr oedd yn anodd cael digon ohono at alwad y wlad, ac yr oedd hynny yn fater difrifol pan oedd y bobl yn byw yn gyfangwbl ar gig hallt. Yn fynych fe fyddai'r cig mewn cyflwr drwg oherwydd diffyg digon o<noinclude><references/></noinclude>
ex6u03s51p1qmpkilw081fxy0azrgi9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/165
104
83111
162060
2026-04-01T21:00:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162060
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>halen i'w halltu'n briodol, ac effeithiai hynny'n niweidiol ar iechyd y bobl. Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd goruchwyliwr yr halen yn swyddog pwysig yn yr ardaloedd hyn. Ysmyglid llawer o halen ar hyd glannau'r môr; deuai llongau bychain â'r halen gyda'r nos i gymdogaeth Felin Fraenen, a dadlwythid ef ar y garreg fawr, a elwir hyd heddiw yn Garreg Halen, a saif yng nghymdogaeth Ogof Owen Glyn-dŵr.
Cerddai gwragedd a phlant Llanegryn filltiroedd er mwyn cael caniaid o heli biff. Defnyddid yr heli i flasu'r gwahanol fwydydd yn lle halen. Anodd yw inni sylweddoli'r anawsterau a chyfyngderau a berthynai i fwyd ein mamau. Yr oedd gweithiwr a gyfrifid yn werth ei halen yn ŵr pwysig. Yn y dyddiau hynny cyfrifid rhai dynion heb fod yn werth eu halen. Pris halen yn 1817 oedd pum ceiniog y pwys.
{{c|CIGYDDION}}
Trwy y lleddid llawer o wartheg, defaid a moch yn yr amser gynt, byddai dau neu dri o gigyddion yn yr ardal bob amser. A chan fod y porthiant yn brin dros y gaeaf, lleddid cryn nifer o anifeiliaid oddeutu Clangaeaf i'w halltu'n gigfwyd i deuluoedd am flwyddyn. Oherwydd drudaniaeth a phrinder, yn denau y taenid yr halen ar y cig, fel mai drycsawrus oedd ei gyflwr yn aml.
{{c|TANWYDD}}
Nid oedd dim yn bwysicach na'r fawnog yn yr hen amser, oherwydd hi a gyflenwai'r ardal â thanwydd. Y prif fawnogydd oedd mawnog Morfa Trychiad, mawnog y Goedwig, a mawnog y Cytir. Codid mawn o Bont Dysynni i derfyn pellaf Trychiad. Yr oedd mawnog yn y Fign-isaf, a mawnog yn Nhrefer ar derfyn hysfa'r Pant a hysfa Glanmachlas, a mawn neu dywyrch ar weundir Rhydcryw yng nghymdogaeth Cwm-llwyd.
Bu llawer o helyntion cas ynglŷn â hawliau'r fawnog, yn enwedig felly rhwng Margaret Herbert, aeres Peniarth, a Syr<noinclude><references/></noinclude>
ti8s46xnyzqqrapuf0n5wo923s98tde
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/166
104
83112
162061
2026-04-01T21:00:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162061
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>John Lloyd, Aberllefenni, ynghylch mawnog Morfa Llwyn-hensel, oherwydd Syr John Lloyd oedd perchennog Llwyn-hensel yr adeg honno. Hawliai Peniarth ryddid i dorri mawn ar unrhyw fan ar fawnog Morfa Trychid, er nad oedd yr ystâd yn perchenogi'r un fodfedd ohoni'r amser hwnnw.
Meddai amryw dyddynnod ar hawl etifeddol neu draddodiadol i dorri mawn ar fawnog Morfa Trychiad. Yr oedd Llwynbrenllwyged yn meddu hawl i godi mawn o'r fawnog hon, gymaint ag a allai un dyn ei dorri mewn diwrnod, a hynny bob blwyddyn. Hawlid hefyd gan dyddynnwr Butcher Row ryddid i gyrchu o fawnog Trigiad (Trychiad) gymaint ag a allai un dyn ei dorri mewn diwrnod, a hynny bob blwyddyn. A meddai trigolion y Blaidd a'r Nant a'r gymdogaeth ar hawl ffordd ar hyd pantle Cefn-yr-ynys i fawnog Tyn-y-pwll. Croesai'r ffordd o'r Ceunant am ffald Pen-y-banc, ac âi ymlaen drwy gaeau Brynbloeddyn am Dyn-y-pwll.
Dechreuid ar y cynhaeaf mawn yn uniongyrchol ar ôl Ffair y Blodau, a chludid hwy adref i ddiddosrwydd yn fuan wedi Ffair Dyniewaid. Ar ôl torri'r mawn codid hwy bob yn bedair, wedi hynny codid hwy bob yn wyth, ac yna teisid hwy'n barod i'w cludo adref yn gyflenwad o danwydd am y flwyddyn. Yr oedd dau fath o fawn, mawn o liw coch, a mawn o liw du. Y fawnen ddu oedd y tanwydd gorau.
Delid i losgi mawn yng Nghyfannedd-fawr hyd yn ddiweddar—yr oedd mawnog ar y tir.
{{c|GOLEUNI}}
Anodd yw inni heddiw sylweddoli pa fodd y gallodd ein hynafiaid ddwyn ymlaen waith cegin a gweithdy yng ngoleuni'r gannwyll frwyn, yr unig oleuni a feddai y rhan fwyaf o dai ein bro hyd o fewn oddeutu can mlynedd yn ôl. Y pryd hwnnw dechreuai'r gannwyll wêr ei disodli. Dengys y canwyllerni fod y gannwyll wêr wedi dyfod yn gydymgeisydd trwm â'r gannwyll frwyn. Cynhwysai'r canwyllbrenni le i'r ddwy gannwyll fel ei gilydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
s2sut3h93lmtjanh24rtehd8df5vaup
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/167
104
83113
162062
2026-04-01T21:02:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162062
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y morfa oedd ystorfa fawr y pabwyr. Wedi sychu morfa Dysynni yn y blynyddoedd 1863-71 ataliwyd pawb rhag cyrchu dim allan ohono na phabwyr na mawn. Pasiwyd mesur Seneddol i hyrwyddo'r gwaith o dreinio'r morfa a chostiodd y gorchwyl dros £26,105. Gwnaed y dreinio dan arolygiaeth Mr. Bailey Denton. A diffoddodd llawer goleuni pan sychwyd y morfa heblaw'r gannwyll frwyn. Darfu'r gannwyll gorff a phallodd llusern Sion y Gors. Bu'r sychu'n lles anhraethol i iechyd y plwyf.
Hen wraig o'r enw Beti Dafis oedd yr olaf i werthu cyrn o ganhwyllau brwyn. Cedwid y canhwyllau brwyn mewn math o gafn alcan bychan a elwid Gleuar ac yn Bilbren, a gosodid ef bob amser yn agos i'r simnai.
Bu'r gannwyll wêr yn llanw lle pwysig ym mywyd y plwyf. Byddai pob tyddyn yn lladd buwch yn ystod y gaeaf; lleddid y fuwch y rhan amlaf yn gynnar yn y gaeaf. Gofelid yn arbennig am y gwêr er mwyn cael stoc dda o ganhwyllau at wasanaeth y tŷ a'r fferm. Gwnâi rhai ffermydd eu canhwyllau eu hunain. Aent at y canhwyllwr i ymofyn am wig. Anfonai eraill eu gwêr i'r canhwyllwr. Arafwyd â lladd y gwartheg, a dechreuodd oel ddyfod i siopau'r pentref, fel y daeth dydd y gannwyll wêr i derfyn erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Lampau oel tlodaidd yr olwg, a'u goleuni'n wan oedd y math cyntaf a ddaeth i dai'r pentref. Gwneid hwy drwy dorri twll mewn corcyn neu ddarn o bren a'i roddi yng ngwddf potel gyffredin, a cheisid ychydig o ddefnydd priodol yn wig. Gwnâi ambell ŵr â llaw gelfydd ganddo ffrâm gywrain am y botel. Yn gamau mân y daeth breintiau gwareiddiad i'n bythynnod. Erbyn hyn y mae goleuni trydan wedi dechrau dyfod i dai'r pentref.
Daeth goleuni trydan at wasanaeth y pentref yn gyffredinol wedi ysgrifennu'r sylwadau uchod. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i ddathlu'r achlysur, 4, Medi 1947.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
sw0qofxvt5bkvi8wlek9mwf1yrotpev
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/168
104
83114
162063
2026-04-01T21:02:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162063
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|LLYTHYRAU}}
Taith go anniben oedd eiddo'r llythyr o rai o brif drefi'r deyrnas i Lanegryn ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Anfonid y llythyr i ddechrau i Gaer, ac oddi yno i'r Bala, ac yna ymlaen am Ddolgellau a gelwid amdano mewn rhyw dŷ neu'i gilydd yn Nolgellau gan rywun o Lanegryn. Postid llythyr o Fryste i Lanegryn drwy Lundain ym mag Croesoswallt, ac oddi yno deuai i Ddolgellau, a byddai'n rhaid i rywun o Lanegryn alw amdano yn Nolgellau.
Daeth y Llythyrdy i bentref Llanegryn oddeutu 1860; yn nhŷ Mary Russell yn y Rhos yr oedd y Llythyrdy ar y cyntaf, a delir i alw'r tŷ wrth yr enw Hen-bost. Cludid y llythyrau o Dywyn gan fachgen cloff o'r enw Jack Williams, Felin-fach, a byddai ei fam yn mynd i'w gyfarfod at Dal-y-bont i'w gynorthwyo i gario'r bag. Rhaid oedd i bawb alw am eu llythyrau yn y Llythyrdy. Aeth y Llythyrdy tua'r flwyddyn 1875 i siop Hugh Pugh y fferyllydd, a bu yno hyd y flwyddyn 1900, pryd y symudwyd ef i Siop-isaf; ac aeth oddi ynoi Ben-y-banc yn 1943.
Cludai Hugh Evans y llythyrau o Dywyn i Lanegryn am flynyddoedd meithion, a dechreuwyd rhannu'r llythyrau o dŷ i dŷ ddwy waith yn yr wythnos; yn raddol y daeth breintiau'r llythyrdy inni. Ychydig o weithwyr a allasai fforddio derbyn llythyr ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Costiai llythyr yr adeg honno o ddeg ceiniog i un geiniog ar ddeg am ei anfon o Lundain i Ddolgellau, a'r neb a dderbyniai'r llythyr a dalai amdano.
{{c|YSGUBELLAU}}
Ysgubell oedd yr unig fath o frws a ddefnyddid gan deuluoedd y plwyf. Peth diweddar yw brws llawr heddiw. Gwneid yr ysgubellau o wahanol ddefnyddiau; byddai ysgubell o bilion pabwyr, ysgubell o bren bedw, ysgubell o rug, ac ysgubell o fanadl. Byddai ysgubell gan ambell law gywrain yn edrych yn hardd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hyyv36488fetyl4yocm6nntot33ybjr
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/171
104
83115
162064
2026-04-01T21:11:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162064
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn yr hydref gwelid rhoddion yn cyrraedd at ddegau o ddrysau bythynnod y wlad a'r pentref. Estynnai rhyw law hynaws roddion o flawd, gwenith, haidd, a cheirch, neu foron a thatws yn gynhaliaeth i wragedd a phlant. Rhwymai ysbryd brawdol y plwyf bawb ohonynt ar bob achlysur i gynorthwyo ei gilydd o lwyrfryd calon. Ond nid anghofid y dyn dieithr pan fyddai ar ei daith drwy'r gymdogaeth. Darperid gogyfer â'r Cymro crwydr. Byddai llestr wedi ei osod ar y bwrdd ar bob pryd bwyd gan ddisgwyl y galwai'r dyn dieithr heibio am damaid ar ei grwydr. Croeso cynnes oedd croeso Cymro ar daith o bell. Ynghanol y fath ysbryd rhadlon a haelionus nid rhyfedd bod dedwyddwch yn ffynnu ym mywyd gwledig Llanegryn. Carai pawb ddaear y plwyf.
Blynyddoedd pwysig yn hanes y fro oedd 1860-70. Daeth ymfudiaeth ar raddau helaeth yn ôl a blaen rhwng y plwyf a'r Trefedigaethau Prydeinig, a hefyd a Chyfandir America. Daeth y Ffyrdd Haearn i'r gymdogaeth, a sefydlwyd Llythyr-dy yn y pentref. Dechreuwyd sychu'r morfa yn haf 1865, a gorffennwyd y gorchwyl ym Mehefin 1871.
Trengai'r hen fyd ar ôl cartrefu yn y gymdogaeth am ganrifoedd, a dieithr i bawb a aned wedi 1870, yw'r hen fywyd a fu'n nodweddiadol o ardal Llanegryn am oesoedd maith.
Crefydd newydd, gwleidyddiaeth newydd, ac ymfudiaeth i wlad newydd, fu prif achosion y bywyd newydd, a rhaid priodoli'r rhan helaethaf o'r achos i ymfudiaeth. Clywsom hen grefyddwyr selog yn disgrifio dylanwad yr ymfudiaeth ar fywyd Llanegryn. Datblygodd y bywyd gartref yn gyfatebol i'r bywyd newydd oddi cartref. Methodd llawer o nodweddion yr hen fywyd â goroesi 1870.
Llawenhawn am farwolaeth rhai nodweddion, ond carem weled rhai arferion ac agweddau neilltuol wedi aros a byw.
{{c|LLYFRAU}}
* Davies, Walter: General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales. 1810.
* Thomas, Evan. Llyfr Cyfrifon, pan oedd yn was yn Nhirgawen.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1km220oeqzidxqpub7j38d12sukse1b
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/169
104
83116
162065
2026-04-01T21:12:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162065
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Byddid yn mynd cyn belled â mynyddoedd godre'r Gader i gael grug at wneuthur ysgubellau. Arferid gwneuthur math o frws ysgwrio dillad o wellt a philion pabwyr, a hefyd gwneid basgedi o goed a rhisgl cyll. Yr oedd angen yn troi popeth at ryw wasanaeth neu'i gilydd. Gwneid gwialen fedw at geryddu'r plant; plethid canghennau o fedw ieuainc a rhoddid y wialen bob amser i gadw o dan silff pen-tân. Byddai'r wialen o flaen llygaid y plant bob amser.
{{c|CERRIG TAFLAU}}
Bu Cerrig Taflau mewn bri yn y plwyf ar un adeg. Gwaith llaw gartref oedd y Taflau eu hunain, wedi eu gwneuthur gan y saer neu'r gof fel y byddai'r defnydd.
Pwysid yr ymenyn â charreg gron bwys, neu â charreg gron hanner pwys; gwelid hwy'n gymharol ddiweddar mewn tyddynnod bychain. Ceir carreg bwys o blwyf Llanegryn yn yr Amgueddfa Brydeinig. Anfonwyd hi o Beniarth. Yr oedd hefyd yn y plwyf gerrig taflau 112 o bwysi. Cerrig oeddynt wedi eu dwyn o lan afon neu lan y môr, cerrig llyfn, a dolen haearn wedi ei gosod ar eu canol. Defnyddid hwy at bwyso gwlân. Bu dwy ohonynt yn Nhirgawen yn pwyso hanner canpwys yr un, ond nid oes hanes amdanynt erbyn hyn.
{{c|BYW AR Y CYD}}
Meithrinodd y gyfundrefn welyog ymlyniad di-droi'n-ôl yn y Cymry tuag at ei gilydd, a dygid beichiau ei gilydd gan y gwely neu'r dref. Y gwely a erlynid ac a gosbid am bob trosedd, ac i'r gwely y telid pob iawn. A dyna fu tuedd y cyfreithiau Normanaidd. Pan ddaeth y siryf cyntaf i gynnal ei Lys ym Meirion yn 1326, yr oedd gŵr o'r enw Cadwgan wedi colli anifail, a bu'n rhaid i dref y Rhydcryw, lle y preswyliai, ei ddigolledu. Ni feddai neb hawl i droi ei gefn ar ei blwyf, ac ni chaniateid i neb dieithr drigo o fewn i'w derfynau. Magodd y gogwydd hwn ysbryd teuluaidd ymhob plwyf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
28og034roebf21ejidxanopqu7lo080
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/170
104
83117
162066
2026-04-01T21:12:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162066
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Un o eiriau pwysicaf Llanegryn oes neu ddwy'n ôl oedd y gair "arddel," a daliai i feddu ar yr ystyr a'r ysbryd a'i nodweddai bedwar a phum can mlynedd yn ôl. Golygai ffyddlondeb i'r carn mewn pob argyfwng ac o dan bob amgylchiad. Ymffrostiai dyn ei fod yn meddu ar rym cymeriad i arddel ei gyd-ddyn mewn rhyw adfyd neu'i gilydd. Pechod anfaddeuol oedd peidio ag arddel perthynas neu gymydog.
Gair grymus arall yn y plwyf oedd "croeso." Yr oedd croeso rhai teuluoedd yn ddihareb. Bendithid y croesawgar gan bawb ar bob llaw. Troai haelioni'r cymwynaswr yn weddïau ac yn fendithion yng ngeneuau'r dioddefwyr a'r trueiniaid, a chreai gymdogaeth dda rhwng pawb. Nid ysbryd nawddogol tuag at y tlawd oedd, ond yn hytrach yr hen ysbryd "cymorth" a fu'n ffynnu yn hanes ein cenedl. Gwelid ef yn yr hen Nosweithiau Llawen ac ar gae'r Fedel, a byddai'n amlwg yn y Neithiorau, ac yn y Gwylnosau. Dyheai'r ysbryd am gyfrannu ag arall gyfreidiau anhepgor bywyd. Rhannai'r amaethwr ei ŷch wedi ei ladd ar ddydd Clangaeaf â'i gymdogion, a chyfrannai'r gwerinwr o'i fochyn cyn ei roddi yn yr heli. Os digwyddai corlan defaid ambell amaethwr fynd heb ddafad ynddi, anfonai cymydog ei ddefaid i'w hysfa, a chydrennid yr ŵyn rhwng y naill a'r llall yn yr Hydref. Os trengai ceffyl neu fuwch mewn tyddyn bychan, buan y gwelid cyfeillion yn casglu briff at adfer y golled. Byddai gweddoedd ardal yn cynorthwyo tenant newydd yn y gwanwyn ond nid yw hynny mwy mor amlwg ag y bu.
Prin yn gyffredin oedd ceiniog y llafurwr, ond croesawai'r amaethwr ef i blannu ei datws yn ei gae ar y cyd, a rhennid y tatws yn yr hydref rhyngddo ef a'r amaethwr. Rhoddai'r gweithiwr yr hadyd, a rhoddai'r amaethwr y tir, y gwrtaith, a'i lafur; a rhoddai'r amaethwr dir i blannu tatws yn gyfnewid am wrtaith. Bu'r amaethwraig yn rhydd iawn â'i llaeth enwyn; cariai'r plant ef yn rheolaidd oddi wrth ei drws i liaws o deuluoedd bob wythnos ar hyd y flwyddyn, a rhoddid printen o ymenyn yn fynych yn y llaeth i lonni calon llawer mam.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
sqgiog7m1dl2qu851zrgqj2z5nmcppj
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/192
104
83118
162067
2026-04-01T21:13:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Byddai rhai personau yn fwy agored na'i gilydd i weled claddedigaeth ymlaen llaw. A honnai rhai i hyn ddigwydd yn gymharol ddiweddar yn yr ardal. Ofergoel arall oedd Cannwyll Gorff. Rhagflaenai hithau'r claddedigaeth a ddigwyddai'n ddiffael, ymhen ychydig ddyddiau wedi iddi hi ymddangos. Dangos y ffordd y deuai'r claddedigaeth ar hyd-ddi oedd ei neges hi. Yr oedd yr hen ffordd i gladdedigaeth fynd ar hyd-ddi o Gellisarrog am eglwys L...
162067
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Byddai rhai personau yn fwy agored na'i gilydd i weled claddedigaeth ymlaen llaw. A honnai rhai i hyn ddigwydd yn gymharol ddiweddar yn yr ardal.
Ofergoel arall oedd Cannwyll Gorff. Rhagflaenai hithau'r claddedigaeth a ddigwyddai'n ddiffael, ymhen ychydig ddyddiau wedi iddi hi ymddangos. Dangos y ffordd y deuai'r claddedigaeth ar hyd-ddi oedd ei neges hi. Yr oedd yr hen ffordd i gladdedigaeth fynd ar hyd-ddi o Gellisarrog am eglwys Llanegryn yn arwain heibio i Fredyn-fawr. Ond un noson yng nghorff y gaeaf gwelwyd goleuni'n arwain oddi wrth y Gelli at Nantmadyn. Beth a allai'r goleuni fod? Amhosibl ei fod yn Gannwyll Gorff, oherwydd nad oedd yr un ffordd i gladdedigaeth fynd ar hyd-ddi o'r Gelli at y Nant. Ond cyn sicred â'r pader bu penteulu Gellisarrog farw'n sydyn un o'r dyddiau dilynol, ac aed â'i gorff i fynwent Llanegryn i lawr heibio i'r Nant, ar hyd y llwybr a rodiodd y goleuni a welwyd un o'r nosweithiau cynt; a hwn oedd y claddedigaeth cyntaf yr aed ag ef ar hyd y llwybr. Yr oedd yn draddodiad yn Llanegryn os eid â chladdedigaeth unwaith ar hyd llwybr, y byddai y llwybr yn un agored i fynd ag unrhyw beth ar hyd-ddo byth wedyn.
Ffynnai yn y plwyf tua chanol y ganrif ddiwethaf hen ofergoel bur anghyffredin. Rhagfynegai bob tro farwolaeth un o'r prif aelodau mewn teulu. Cyfeirir ati yng Nghofiant Father Jones, Caerdydd. Heuid cae o wenith, neu feillion fel y digwyddai fod, ac eginai'r holl gae trwyddo'n dda, ac eithrio o un llain o'r naill ben i'r cae. Byddai honno wedi gwywo'n llwyr. Pan ddigwyddai'r llain wywedig ymddangos, byddai dychryn mawr ar aelwyd y tyddyn hwnnw, gan y cyfrifid hynny yn arwydd sicr y digwyddai marwolaeth fuan ym-hlith y teulu, neu'n sicr o fewn y flwyddyn honno. Dywedid gan ddynion cyfrifol iddynt weled y llain wywedig lawer gwaith yn y plwyf, ac yn rhyfedd iawn tystiolaethent yn un-frydol y byddai marwolaeth yn dilyn yr arwydd bob amser.
Arwyddion byd y meirw hefyd oedd ceiliog yn canu cyn hanner nos, cŵn yn udo, ac ysgrechiadau adar y nos. Pan glywid y lleisiau annaearol hyn byddai ofnau yn codi ym<noinclude></noinclude>
hbl4znzha26h0klejcy54vt2hcx44v4
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/193
104
83119
162068
2026-04-01T21:14:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "mynwesau llawer truan gwan. Gwyddai Thomas Thomas, y saer, noson ymlaen llaw bob amser ei fod i wneuthur ysgrîn (arch) i ryw druan neu'i gilydd drannoeth. Clywai sŵn llifio, plaenio, a morthwylio yn ei weithdy yn ystod y nos bob amser yn rheolaidd cyn gwneuthur ysgrîn. {{c|Y TYLWYTH TEG}} Gelwid y Tylwyth Teg gan hen bobl Llanegryn yn "Bobl Fach Deufyd." Diwrnod ffafriol i'r Tylwyth Teg ym-ddangos fel rheol oedd diwrnod tywyll, niwlo...
162068
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mynwesau llawer truan gwan. Gwyddai Thomas Thomas, y saer, noson ymlaen llaw bob amser ei fod i wneuthur ysgrîn (arch) i ryw druan neu'i gilydd drannoeth. Clywai sŵn llifio, plaenio, a morthwylio yn ei weithdy yn ystod y nos bob amser yn rheolaidd cyn gwneuthur ysgrîn.
{{c|Y TYLWYTH TEG}}
Gelwid y Tylwyth Teg gan hen bobl Llanegryn yn "Bobl Fach Deufyd." Diwrnod ffafriol i'r Tylwyth Teg ym-ddangos fel rheol oedd diwrnod tywyll, niwlog. Ym-ddangosent mewn ffurfiau a lliwiau amryliw prydferth, a hoffent ddawnsio ar gylch crwn ar ddôl dlos. Meddent ar ryw hoywder ysgafn a chwim a chanent ar adegau'n soniarus a pheraidd. Adroddid amdanynt weithiau yn lladrata ambell enethig hawddgar, a gofynnid am fedr neilltuol i gael yr eneth a ladratawyd yn ôl oddi arnynt. Un dull oedd eu gwylio yn dyfod allan i ddawnsio a'r eneth yn eu cwmni ar un o'u hoff ddolydd, a phan fyddai'r dawnsio yn ei lawn asbri, nesu yn ysgafn-droed at eu cylch a chipio'r eneth ymaith ar yr amrantiad lleiaf. Caeau Corlan-yr-ŵyn, a chae'r Moel-mon oedd rhai o'u hoffaf dolydd i ddawnsio arnynt. Byddai eu cylchoedd gleision ar y dolydd hyn bob amser yn lliwgar ac yn beraidd eu harogl. Sonnid am Dylwyth Teg yn cadw gwartheg. Adroddid llawer am wartheg blithion a lliwus Tylwyth Teg llyn Cyri. Gosodid y treiddgaraf ei olwg o'r Tylwyth i wylio'r gwartheg oddi ar Graig y Llyn, a phan ddigwyddai iddo weled dyn yn dyfod i'r golwg o rywle ar Flaen-cwm-llwyd, galwai ar y gwartheg i'w ddilyn a neidient hwythau ar ei ôl o'r golwg i ganol y Llyn. Galwai arnynt mewn rhigwm fel hyn:—
{{center block|
<poem>
Camwig, camilig, a phedair Alarig
Alarig din egwan, a Nodiad y Llyn
:Dowch adref yn un godowdy.
</poem>
}}
<br>
Hoffid yn yr amser gynt adrodd am geffylau Tylwyth Teg Esgair Berfedd a Nantysberi. Meddent ar ystabl eang a hardd o'r golwg ym mherfedd y mynydd. Prynent a gwerthent<noinclude></noinclude>
jreibgw80mn8tlztodqs2o0zhn3tq3q
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/194
104
83120
162070
2026-04-01T21:14:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "geffylau i dyddynwyr Llanegryn pan fyddent yn mynd a dod i ffeiriau Dolgellau. Dyma chwedl yr adroddid llawer arni hyd o fewn hanner can mlynedd yn ôl, ac nid yw amser wedi ei hysbeilio o'i chywreinrwydd. Âi un o amaethwyr y fro â cheffyl i'w werthu i un o ffeiriau Dolgellau. Arweiniai ei lwybr dros y Ffordd-ddu. Wedi dringo i ben Blaen-y-bwlch-oer, ymegyr gweundir Rhyd-cryw ymlaen i Bant Gwely'r Meibion; ar y ddeau ymgyfyd Esgair Be...
162070
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>geffylau i dyddynwyr Llanegryn pan fyddent yn mynd a dod i ffeiriau Dolgellau. Dyma chwedl yr adroddid llawer arni hyd o fewn hanner can mlynedd yn ôl, ac nid yw amser wedi ei hysbeilio o'i chywreinrwydd.
Âi un o amaethwyr y fro â cheffyl i'w werthu i un o ffeiriau Dolgellau. Arweiniai ei lwybr dros y Ffordd-ddu. Wedi dringo i ben Blaen-y-bwlch-oer, ymegyr gweundir Rhyd-cryw ymlaen i Bant Gwely'r Meibion; ar y ddeau ymgyfyd Esgair Berfedd, ac ar y chwith ymddyrchaif Pen-y-garn. Rhed afon Cwm-llwyd ar waelod y dyffryn, ac ymuna nentydd Nantysberi a Nant-y-gwddw â hi gan chwyddo ei dyfroedd a chryfhau ei sŵn. A'r fangre hon oedd un o brif froydd y Tylwyth Teg. Gwŷr meirch oedd Tylwyth Teg y mynydd-oedd uchel hyn, a meddai'r meirch ar holl nodweddion y Tylwyth Teg eu hun.
Arwain y Ffordd-ddu ar hyd ochr Llanegryn i'r gweundir, a thywysai'r amaethwr ei geffyl ar hyd-ddi yng nghysgodion y bryniau heb ddim i darfu ar ei fyfyrdodau ond sŵn y cornentydd yn treiglo i lawr am y môr a brefiadau'r defaid mân. Breuddwydiai am ddynion rhadlon yn edmygu ei geffyl ac yn cynnig pris uchel iddo amdano, a chyflymai hynny ei gamau am y ffair. Ond yn unigrwydd Nantysberi troes ei freuddwydion yn gyffro gan gyfarchiad sydyn gŵr dieithr. Holai am bob manylion ynghylch ei geffyl mewn geiriau ac ysbryd dymunol, a cheisiai ei brynu; ond gan nad oedd yn barod i daro ar bris yr amaethwr, gwell oedd ganddo ef fynd ymlaen am y ffair er mwyn cael gwell cyfleustra am ei bris. Wrth ymadael dymunai'r gŵr dieithr arno, os methai â'i werthu, ac os bodlon ganddo ei gynnig ef, ddyfod i'w gyfarfod i'r man erbyn naw o'r gloch y bore drannoeth.
Aeth yr amaethwr yn ei flaen heb sylwi ar fawr o ddim ar y dde na'r aswy law. Yr oedd ei holl freuddwydion yn y ffair a'i phethau. Ni welai ddim yn ddwyfol yn yr hen Gader Idris yn codi ei chopa uwchlaw'r bryniau i agor y cwmwl i eneinio dyffryn a dôl, dyn ac anifail a gwlithlaw hyfrydlon; ac wrth basio Llyn Gwernen ar ei chwith ynghanol y bryniau, ni chanfyddai ddim ynddo yntau ond ei fod dipyn<noinclude></noinclude>
kdniym8pv2sjky89flivpgbqtvl5940
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/195
104
83121
162071
2026-04-01T21:14:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Rydych wedi creu tudalen wag
162071
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude></noinclude>
knt9697boubqhndiyw081zn8sckd1yy
162072
162071
2026-04-01T21:17:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */
162072
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn fwy na'r llyn hwyaid oedd ger ei gartref.
Cyrhaeddodd dref Dolgellau, a dechreuai'r ffair fywiogi. Yr oedd y porth-myn ar eu gorau yn arfer eu huawdledd er ceisio prynu am y pris isaf, a'r gwerthwyr o'r tu arall a'u doniau'n llithrig er ceisio gwerthu am y pris uchaf.
Wedi methu â darbwyllo neb mai ei geffyl ef oedd y gorau yn y ffair, meddiannwyd yr amaethwr gan gryn ddigalondid. Sylweddolodd am y tro cyntaf fod yr un effaith yn hollol ar y ceffyl; a gwelodd fod awr y gwerthu wedi mynd heibio pan wrthododd gynnig y gŵr dieithr ar y mynydd, a throi tuag adref a wnaeth y truan a'i geffyl i'w ganlyn. Cyrhaeddodd Lanegryn yn hwyr o'r nos, ac wedi i'w wraig gyd-gyfranogi ag ef o'i siomedigaeth o fethu â gwerthu'r ceffyl, adroddodd wrthi mai'r cynnig gorau a gafodd oedd gan ŵr dieithr ar lethrau Esgair Berfedd, a dywedodd am y modd y dymunodd ar iddo ei gyfarfod bore drannoeth os digwyddai fethu â gwerthu'r ceffyl.
Yr oedd Esgair Berfedd a'r gymdogaeth yn hysbys iawn i'r ddau fel cartrefi'r Tylwyth Teg, ac ni buont yn fyr o feddwl y gallai'r gŵr dieithr fod yn un ohonynt. Ond gan mai pris da am y ceffyl a oedd arnynt ei eisiau, penderfynwyd mynd i'w gyfarfod yn unol â'i gais. Credai'r amaethwr yn ei galon fod ei geffyl wedi ei ledrithio eisoes ganddynt. Ni allai feddwl am fynd ei hunan, oherwydd ofnai ei fod ef ei hun yn yr un cyflwr â'i geffyl. Rhaid oedd cael cwmni cymydog rhadlon, ac yng nghwmni ei gilydd aethant at Esgair Berfedd erbyn naw o'r gloch y bore. Daeth y gŵr dieithr i'w gyfarfod yn ôl ei addewid. Pan gyrhaeddodd, llaesodd calon yr amaethwr o'i fewn, ond llamodd calon y ceffyl. Gydag awdurdod gorchmynnodd y dieithr-ddyn i'r amaethwr ei ddilyn a'i geffyl i'w ganlyn. Deisyfai yntau am gael cwmni ei gymydog, ond gwrthodwyd hynny'n bendant. Daethpwyd at enau ogof, pryd y gorchmynnodd y gŵr dieithr iddo yn llym beidio mewn un modd yn y byd â chyffwrdd â dŵr y fangre dan-ddaearol. Cyrhaeddwyd yn union i heol hardd, ac i neuaddau ysblennydd, ac fel yr âi'n bellach bellach i mewn, deuai rhyw hapusrwydd perlewygol yn eiddo iddo. Yr oedd pawb yn siriol a charedig wrtho.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
tgkehxsazisklajabxsvpzlxcml8c4g
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/196
104
83122
162073
2026-04-01T21:18:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Deuai serchogrwydd hyd yn oed o furiau'r plas gorwych, a rhoddai pob dodrefnyn ryw esmwythyd swynol i'w ysbryd. Ni bu raid iddo ond prin yngan ei bris nad oedd yn ei ddwylo, ond ni chafodd ddim i'w fwyta yn sych nac yn wlyb. Arweiniwyd ef yn ei ôl yn dirion at enau'r ogof, a chafodd ei gymydog yn yr un fan â phan adawodd ef wedi ei syfrdanu'n llwyr oherwydd ei ddiflaniad sydyn a disymwth. Aeth y ddau yn eu hôl tuag adref fel rhai wedi...
162073
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Deuai serchogrwydd hyd yn oed o furiau'r plas gorwych, a rhoddai pob dodrefnyn ryw esmwythyd swynol i'w ysbryd. Ni bu raid iddo ond prin yngan ei bris nad oedd yn ei ddwylo, ond ni chafodd ddim i'w fwyta yn sych nac yn wlyb. Arweiniwyd ef yn ei ôl yn dirion at enau'r ogof, a chafodd ei gymydog yn yr un fan â phan adawodd ef wedi ei syfrdanu'n llwyr oherwydd ei ddiflaniad sydyn a disymwth. Aeth y ddau yn eu hôl tuag adref fel rhai wedi ennill eu bywyd o enau marwolaeth, a'u rhyddhau o afaelion caethiwed. Yn ôl traddodiad Llanegryn yr oedd gwahaniaeth rhwng Tylwyth Teg a'i gilydd. Cartrefai un gangen arbennig o'r Tylwyth Teg yng nghymdogaeth Ffynnon Cadlad a Ffynnon Rhoserth (neu'n ôl rhai Ffynon Rosel). Saif y ffynnon hon yn agos i hen furddun Brynrhoserth, sy'n sefyll ar dir Hafoty. Ceir hanes am un ohonynt yn gweinyddu fel meddyg ar wraig ar amser genedigaeth. Yn ddiarwybod ymolchodd gŵr y tŷ yn yr un dŵr â'r meddyg, a digwyddodd i'r dŵr fynd i un o'i lygaid, ond ni theimlodd y gŵr fod dim wedi digwydd ar y pryd i'w lygad. Ymhen hir a hwyr aeth ar neges i un o ffeiriau Dolgellau, a gwelodd y meddyg yn pasio drwy'r dorf, a chyfarchodd well iddo'n serchog. Sorrodd y meddyg wrtho'n chwerw, a gofynnodd yn sarrug â pha lygad y gwelai ef. Atebodd yntau mai â'i lygad chwith, a thynnodd y meddyg ei lygad allan o'i ben ar amrantiad. A'r pryd hwnnw y deallwyd mai un o hil y Tylwyth Teg oedd y meddyg, ac y gallai ymlwybro ymhlith dynion heb fod yn weledig iddynt. Swynodd y dŵr lygad y gŵr fel y gwelai holl gyfrinion cudd byd y Tylwyth Teg.
Gallai Tylwyth Teg Ffynnon Cadlad drawsymffurfio'n hil ddynol pan fyddai arnynt eisiau ymgyfathrachu â dynion. Adroddid hefyd am wraig fechan a berthynai i hil y Tylwyth Teg, a gartrefai yng nghymdogaeth y Llwyn. Gallai hithau hefyd ymddangos a diflannu fel y dymunai heb wybod i neb. Byddai'n hoff o fara ceirch, a deuai'n feunyddiol at drothwy un o dai'r Llwyn i ofyn yn Gymraeg am fenthyg y radell at grasu torth geirch. Dychwelai'r radell yn ffyddlon fel yr addawsai hi, a rhoddai dorth geirch beraidd ei blas bob tro i'r wreigdda am ei benthyg.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
2wvzofinouuwxof7k03lcx635f2q8y8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/197
104
83123
162074
2026-04-01T21:22:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|WITSIO}} Dyma aflwydd y bu'r ardal yn drwm yn ei afaelion am ganrifoedd; ond y mae ei arswyd wedi cilio'n llwyr o'r gymdogaeth ers cryn amser bellach. Yr oedd rheibio'n digwydd yn feunyddiol yn rhywle neu'i gilydd yn yr ardal. Y mae Gwilym Hiraethog yn cyfeirio yn un o'i lyfrau at helyntion dewinio ardal Llanegryn. Edliwid dau ddrwg i'n bro, eu bod yn witswyr erioed, ac yn lladron coed. Fel rheol hen wragedd oedd yn ddwylo medrus...
162074
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|WITSIO}}
Dyma aflwydd y bu'r ardal yn drwm yn ei afaelion am ganrifoedd; ond y mae ei arswyd wedi cilio'n llwyr o'r gymdogaeth ers cryn amser bellach. Yr oedd rheibio'n digwydd yn feunyddiol yn rhywle neu'i gilydd yn yr ardal. Y mae Gwilym Hiraethog yn cyfeirio yn un o'i lyfrau at helyntion dewinio ardal Llanegryn. Edliwid dau ddrwg i'n bro, eu bod yn witswyr erioed, ac yn lladron coed.
Fel rheol hen wragedd oedd yn ddwylo medrus ar y ddawn o witsio; ni chlywsom am yr un dyn yr honnid y ddawn hon iddo. Honnid bod John Evans, Tyn-y-llan, yn dipyn o ddewin, a chlywsom am un dyn o'r enw Roberts yn byw yn un o'r Trychiadau a oedd yn ddewin; symudodd ef i Sir Drefaldwyn. Bu gan ddynion y fro law lân cyn belled ag yr oedd rheibio'n bod. Dadwneuthur rheibiaeth yr hen wragedd oedd eu gorchwyl hwy fel rheol.
Yn ôl traddodiad lleol, tua siroedd Amwythig a Threfaldwyn y cyrchai pobl Llanegryn at ddewiniaid i gael yr anffodusion yn rhydd o gyfaredd y neb a'u rheibiodd. Mewn achosion llai niweidiol na'i gilydd cyrchid at ddewinwyr a drigai'n nes adref. Pan ddirdynnid dyn neu blentyn gan y gyfaredd greulon, teithid un adeg at ddewin cyn belled â Sir Amwythig, a chychwynnid i'r daith bell gan ambell dad ar ôl gweithio diwrnod caled o waith. Yr oedd yr adeg honno cyn dyddiau'r gŵr hysbys o Langurig. Ond bu cyrchu cymharol ddiweddar i gyfeiriad Pumlumon gan wŷr o'r gymdogaeth.
Byddai dylanwad y gyfaredd ddrwg yn disgyn ar ddyn ac anifail, ac ar bopeth a fyddai at wasanaeth dyn. Clywid byth a hefyd fod rhyw ddyn, neu ryw blentyn neu'i gilydd wedi ei daro'n sydyn gan afiechyd rhyfedd, a bod damwain wedi digwydd i ryw anifail, a rhyw anghaffael wedi digwydd i'r corddi neu'r pobi mewn rhyw amaethdy a hynny bob dydd, a llawer gwaith yn y dydd yn aml.
Dywedid mai po hynawsaf fyddai'r dyn neu'r plentyn mai rhwyddaf yn y byd y rheibid ef.
Dywaid traddodiad fod dwy ffordd yn bosibl i ddyfod o hyd i bwy a fu wrth y drygwaith.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
b8cvsf5bjfatlqld2nolug0eweyv3e6
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/198
104
83124
162075
2026-04-01T21:23:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "(1) I wybod pwy a reibiodd ddyn neu blentyn rhaid oedd torri ewinedd y rheibiedig a'u rhoddi mewn papur a'u taflu i'r tân, a thra byddai'r ewinedd yn llosgi, deuai'r sawl a fu'n rheibio i'r tŷ mewn dygn boenau. (2) I wybod pwy a reibiodd anifail rhaid oedd tynnu calon yr anifail a'i phigo â phinnau, neu â phigau drain, a gorau oll, ei rhoddi mewn ffwrn i'w rhostio. Gwnâi hynny'r ddewines a achosodd y drygwaith yn annioddefol ei chyfl...
162075
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>(1) I wybod pwy a reibiodd ddyn neu blentyn rhaid oedd torri ewinedd y rheibiedig a'u rhoddi mewn papur a'u taflu i'r tân, a thra byddai'r ewinedd yn llosgi, deuai'r sawl a fu'n rheibio i'r tŷ mewn dygn boenau.
(2) I wybod pwy a reibiodd anifail rhaid oedd tynnu calon yr anifail a'i phigo â phinnau, neu â phigau drain, a gorau oll, ei rhoddi mewn ffwrn i'w rhostio. Gwnâi hynny'r ddewines a achosodd y drygwaith yn annioddefol ei chyflwr, a byddai'n rhaid iddi ddyfod at y galon. Trawsymffurfiai ambell hen wits ei hun ar ffurf milgi neu ysgyfarnog ysgafndroed, a rhuthrai i ddwyn y galon ymaith; a buan y byddai cŵn y fro yn ei hymlid, ac os digwyddai i un o'r cŵn roddi ei ddant yn y milgi neu'r ysgyfarnog, gwelid yr archoll ar gorff yr un a achosodd y gyfaredd ddrwg.
Credai dynion diwylliedig y fro mewn dewiniaeth, ac adroddid pethau anhygoel fel gwirioneddau sicr. Ond diolch fod yr ofergoel wedi diflannu o'n hardal.
{{c|RHWYLL}}
Adroddid am ryw fod neu ysbryd dieithr a elwid yn Rhwyll. Yr oedd ei gampau ef yn debyg i gampau rheibio. Ond hoffai'r bod hwn bob amser chwarae â rhawn neu fwng y meirch, neu edafedd y gwragedd gweu. Profid amynedd y gŵr a edrychai ar ôl y ceffylau os digwyddai Rhwyll wneuthur ei ddichellion ar fwng ei feirch ac yntau ar frys yn cychwyn at ei waith. Anodd fyddai cael dim trefn ar y mwng ar ôl i ewinedd y Rhwyll fod arno.
{{c|GWERTHU EI HUN I'R DIAFOL}}
Clywsom gan hen breswylwyr y plwyf am arferiad rhyfedd a ffynnai yn y gymdogaeth tua dechrau'r ganrif ddiwethaf. Os digwyddai dyn fynd i anhawster ariannol, a methu â thalu ei ddyledion, yr oedd ganddo ffordd od i ddyfod allan o'i benbleth trwy ei werthu ei hun i'r Diafol. Trwy gyflawni'r weithred hon deuai'n rhydd o ofynion ei echwynwyr. Cyfrifid y weithred yn un feiddgar a dychrynllyd, a chreai anesmwythyd drwy'r holl ardal. Trefnai'r saint gwrdd gweddi i erfyn am ollyngdod<noinclude></noinclude>
obv7t1hsorm6hro1nd7gk8p8uiqokqw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/199
104
83125
162076
2026-04-01T21:24:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a rhyddhad i'r truan o afaelion caled y Diafol, ac i eiriol ar ei ran am i Dduw o'i drugaredd estyn gwaredigaeth i'w gorff a'i enaid. Golygfa gyffrous a welid yn yr ystafell y cynhelid y cwrdd gweddi ynddi. Teimlai'r gŵr ryw ddirfawr faich a gofid yn ei lethu, ac ocheneidiai'n drwm a dwys yn ei gadair yng nghornel yr aelwyd; a gweddiai ei gyfeillion yn gyffrous dros y truan gofidus a thrymlwythog. Clywsom ŵr yn adrodd iddo weled yr oly...
162076
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a rhyddhad i'r truan o afaelion caled y Diafol, ac i eiriol ar ei ran am i Dduw o'i drugaredd estyn gwaredigaeth i'w gorff a'i enaid. Golygfa gyffrous a welid yn yr ystafell y cynhelid y cwrdd gweddi ynddi. Teimlai'r gŵr ryw ddirfawr faich a gofid yn ei lethu, ac ocheneidiai'n drwm a dwys yn ei gadair yng nghornel yr aelwyd; a gweddiai ei gyfeillion yn gyffrous dros y truan gofidus a thrymlwythog. Clywsom ŵr yn adrodd iddo weled yr olygfa a'i ddau lygad ei hun mewn tŷ ym mhentref Llanegryn. Daeth torf ynghyd i'r amcan cynhyrfus, a daeth y gŵr anffodus, a drawodd y fath fargen â'r Diafol, yn rhydd o afaelion ei feistr newydd, ac o ddwylo ei hen ofynwyr yr un pryd.
{{c|SWYN LLAW FARW}}
Credid y meddai llaw un a fu farw ar ryw swyn a hud i guddio'r neb a'i cariai rhag llygad dyn. Clywsom am ddyn ieuanc a dorrodd ymaith law ei nain, ac a'i cludai yn ei fynwes ei hun i berwylion drygionus. Credid nad oedd dyn mewn unrhyw berygl o gael ei ddal os byddai llaw dyn marw yn ei feddiant, ac y gellid yn berffaith ddiogel dorri i mewn i dai a lladrata ac anrheithio oddi yno heb i lygad y byw ganfod hynny. Yr oedd dydd golau glân mor ddiogel â chanolnos yng nghwmni'r llaw farw.
{{c|CALON CATH DDU}}
Swyn a hud effeithiol arall er mwyn cuddio dyn rhag golygon ei gyd-ddyn oedd rhoddi carreg wen yng nghalon cath ddu. Gallai dyn os meddai'r hud hwn yn ei feddiant ddiflannu allan o olwg dynol, ar unrhyw adeg, ac mewn unrhyw le.
{{c|FFON DDU.}}
Hudlath o ffon ddu a alluogai unrhyw un i'w ddiogelu ei hun bob amser trwy daflu ei swyn drosto nes ei guddio yn llwyr o olwg pawb.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
k697smkcft4dywjax9govibpixgsh72
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/200
104
83126
162077
2026-04-01T21:24:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|Y BEIBL AC OFERGOELIAETH. }} Defnyddid y Beibl gynt i amcanion a ystyrir erbyn hyn yn ofergoel. {{c|PENNOD RWTH.}} Bu darllen pennod Rwth yn arferiad pur gyffredin. Pan amheuid gŵr o fod yn euog o gyflawni gweithred ddrwg, rhoddid allwedd y drws ar yr unfed adnod ar bymtheg o'r bennod gyntaf o Lyfr Rwth, a darllenid y bennod; os byddai'r gŵr a ddrwg-dybid yn euog troai'r allwedd ar y Beibl. {{c|GOSTWNG YSBRYD.}} Os aflonyddai y...
162077
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|Y BEIBL AC OFERGOELIAETH. }}
Defnyddid y Beibl gynt i amcanion a ystyrir erbyn hyn yn ofergoel.
{{c|PENNOD RWTH.}}
Bu darllen pennod Rwth yn arferiad pur gyffredin. Pan amheuid gŵr o fod yn euog o gyflawni gweithred ddrwg, rhoddid allwedd y drws ar yr unfed adnod ar bymtheg o'r bennod gyntaf o Lyfr Rwth, a darllenid y bennod; os byddai'r gŵr a ddrwg-dybid yn euog troai'r allwedd ar y Beibl.
{{c|GOSTWNG YSBRYD.}}
Os aflonyddai ysbryd ar heddwch unrhyw ddyn neu deulu, y ffordd effeithiol i ostwng yr ysbryd fyddai darllen y Beibl yn ei wyddfod. Clywsom am Dafydd Dafis, y gof, a William Williams, y teiliwr, yn mynd yn wrol i ostwng ysbryd yn wtre Pencraig. Cariai Dafydd y Beibl, o dan ei gesail, a dygai William gannwyll yn ei ddwrn. Ysgythrodd rhywbeth yn wichlyd drwy'r gwrych wrth eu hymyl, a dychwelodd y ddau wron yn eu hôl yn chwys diferol.
{{c|CYFRIF YR EDAU.}}
Pan ofnai rhyw ddioddefydd fod y cryd melyn yn ei flino, gwelid ef yn ei choesio at wraig hysbys yn holl gyfrinion yr afiechyd. A'r modd diffael i wybod a oedd y dioddefydd yn dioddef oddi wrth yr afiechyd, oedd mynd ati i gyfrif yr edau, a sisial yn ddirgel adnodau o'r Salmau. Os digwyddai i'r edau fyrhau yr oedd yn arwydd sicr fod yr afiechyd arno. Mesurid ag edau wlân, a rhwymid hi am goes y dio-ddefydd; ac fel y gwellai'r afiechyd, ymestynnai'r edau nes syrthio oddi ar y goes.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
b3c52645v4lvancqw3s32nzerferhs5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/201
104
83127
162078
2026-04-01T21:26:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|HEN BENILLION.}} {{center block| <poem> Tra bo gwenith yn y Creuddyn, Tra bo rhyg ym mhlwyf Llanegryn; Tra bo haidd yn Abergelau, Carai'r eneth dirion ruddiau. ::—Rhys Jones o'r Blaenau. </poem> }} <br> {{center block| <poem> Fy nhaid oedd yn Llanbed' yn berson, wr hardd, Fy hendaid yn Llanfair yn berson a bardd, A minnau wyf beunydd a chur dan fy mron Yn glochydd Llanegryn a'm pwys ar fy ffon. ::—Lewis Hartley, Glanmach...
162078
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|HEN BENILLION.}}
{{center block|
<poem>
Tra bo gwenith yn y Creuddyn,
Tra bo rhyg ym mhlwyf Llanegryn;
Tra bo haidd yn Abergelau,
Carai'r eneth dirion ruddiau.
::—Rhys Jones o'r Blaenau.
</poem>
}}
<br>
{{center block|
<poem>
Fy nhaid oedd yn Llanbed' yn berson, wr hardd,
Fy hendaid yn Llanfair yn berson a bardd,
A minnau wyf beunydd a chur dan fy mron
Yn glochydd Llanegryn a'm pwys ar fy ffon.
::—Lewis Hartley, Glanmachlas.
</poem>
}}
<br>
{{center block|
<poem>
Mae bachgen yn Llanegryn yn 'sgolor doeth a llon,
A fedr fesur tiroedd a gwneuthur dial gron;
Gall fesur Cadair Idris yn gywir yn ei lle,
Nid oes yn Sir Feirionnydd yr un o'i debyg e'.
</poem>
}}
<br>
{{c|LLYFRAU}}
* Dogfennau Peniarth.
* Edwards, Ifan ab Owen: A Catalogue of Star Chamber Proceedings Relating to Wales. Cardiff, 1929.
* Glasynys: [[Cymru Fu (testun cyfansawdd)|Cymru Fu.]] Wrecsam, 1882.
* J. W. W. and H. A. C. Two former Curates: Memoir of Father Jones, Cardiff. London, 1907.
* Jones, Emyr Gwynne: Exchequer Proceedings (Equity) Concerning Wales. Cardiff, 1939.
* Jones, John Morris: Bardd Cwsc. Bangor, 1898.
* Llyfr Bedyddiadau Eglwys Llanegryn.
* Owen, Rice Jones: Gwaith Prydyddawl Rhys Jones o'r Blaenau. Dolgellau, 1818.
* Parry-Williams, T. H.: Hen Benillion. Gwasg Aberystwyth, 19
{{nop}}<noinclude></noinclude>
q191vw0gg7h0y7g9jqvc2u605o0at4h
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/202
104
83128
162079
2026-04-01T21:27:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD X.}}<br>PERSONAU}} {{c|Y Parch. Andrew Edwards; Elinor Evans (Elin Egryn); John Evans; Catherine Hughes; Dr. Arthur Jones; Edward Kenrick; Eos Llechid; Dr. Thomas Lloyd; John Llwyd; Gruffydd Owen; Hugh Owen; Plant Hugh Owen; Hugh Owen, Tal-y-bont; John Owen, Bronclydwr; Dr. John Owen; Lewis Owen; Morris Parry; Rhisiart Powel; Owen William; W. W. E. Wynne; Brodorion; Gwasanaethwyr Llys Lloegr; Siryfion; Aelodau Seneddo...
162079
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD X.}}<br>PERSONAU}}
{{c|Y Parch. Andrew Edwards; Elinor Evans (Elin Egryn); John Evans; Catherine Hughes; Dr. Arthur Jones; Edward Kenrick; Eos Llechid; Dr. Thomas Lloyd; John Llwyd; Gruffydd Owen; Hugh Owen; Plant Hugh Owen; Hugh Owen, Tal-y-bont; John Owen, Bronclydwr; Dr. John Owen; Lewis Owen; Morris Parry; Rhisiart Powel; Owen William; W. W. E. Wynne; Brodorion; Gwasanaethwyr Llys Lloegr; Siryfion; Aelodau Seneddol; Arglwydd-Raglaw Meirion.}}
{{c|Y PARCH. ANDREW EDWARDS.}}
WELIR carreg fedd yr offeiriad gweithgar hwn yn hen fynwent Llanegryn. Ni bu'n dal dim math o swydd yn y plwyf, ond daliai gysylltiad â'r ardal drwy deulu ei wraig.
Priododd Timothy Edwards, Nanhoron, ag Ann, ferch ieuangaf Lewis Owen, Peniarth; a phriododd y Parch. Andrew Edwards ag Elisabeth, ferch Timothy Edwards, a thrwy hynny daeth ef i mewn i wehelyth Peniarth.
Ar un o'i ymweliadau â Pheniarth, sef ar y 5 o Fedi, 1763, a phan oedd wrth ei swper digwyddodd yn anffodus iddo lyncu asgwrn, a bu hynny yn achos ei farwolaeth ddiatreg ac alaethus. Adnabyddid ei fedd ar un adeg wrth yr enw "Bedd y dyn a dagodd," ond y mae hynny wedi mynd yn angof ers llawer blwyddyn. Gwelir ei fedd ar du'r gogledd i'r eglwys, yn ymyl bedd Hugh Owen, Tal-y-bont. Bu dwy garreg ar ei fedd; y mae'r hynaf yn gorwedd ar fur yr eglwys. Dywedir bod carreg fedd iddo hefyd ym mynwent Llangian, Llŷn.
Bu'n athro i Oronwy Owen, ac yn un o gefnogwyr Gruffydd Jones, Llanddowror. Dyheai'n fawr am swyddi. Bu farw flwyddyn yn gynt na'r dyddiad sydd ar ei garreg fedd.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
o2xltn5s21nut0ssmomcneih9e4w2ks
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/203
104
83129
162080
2026-04-01T21:27:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|ELINOR EVANS (ELIN EGRYN).}} Merch ydoedd i John a Rebecca Evans, Tyn-y-llan. Ganed hi ar y 12 o Dachwedd, 1807, a bedyddiwyd hi yn eglwys Llanegryn ar y 15 o'r un mis. Dawn brin fu barddoni ymhlith ein hardalwyr. Prin fu cyfraniad y fro i farddoniaeth a llenyddiaeth ein cenedl. Dywedir bod y ddawn i rigymu yn naturiol yn nodwedd gyffredin i dalent yr ardal; arferai hen wragedd y pentref ffraeo â'i gilydd yn rhugl mewn rhigymau,...
162080
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|ELINOR EVANS (ELIN EGRYN).}}
Merch ydoedd i John a Rebecca Evans, Tyn-y-llan. Ganed hi ar y 12 o Dachwedd, 1807, a bedyddiwyd hi yn eglwys Llanegryn ar y 15 o'r un mis.
Dawn brin fu barddoni ymhlith ein hardalwyr. Prin fu cyfraniad y fro i farddoniaeth a llenyddiaeth ein cenedl. Dywedir bod y ddawn i rigymu yn naturiol yn nodwedd gyffredin i dalent yr ardal; arferai hen wragedd y pentref ffraeo â'i gilydd yn rhugl mewn rhigymau, a byddai rhigymu yn rhan hanfodol o ddonioldeb a difyrrwch y Noson Lawen a gynhelid yn nhyddynnod y plwyf. Ond ni ddatblygodd y ddawn yn rhan o lenyddiaeth ein cenedl ac eithrio un neu ddau. Llên gwerin ydoedd ar ei gorau ymhlith y werin.
Yr oedd Elin Egryn yn un o'r eithriadau, a saif hi ymhlith beirdd Cymru. Cyhoeddodd ddwy gyfrol fechan; y mae un ohonynt yn adnabyddus i feirdd Cymru o dan y teitl Telyn Egryn. Cyfrol fechan yw'r llall a gyhoeddwyd pan nad oedd hi yn ddim angen na geneth bedair ar ddeg oed.
Pa fodd y datblygodd y ddawn farddonol yn Elin Egryn? Etifeddodd ran o'r ddawn rigymu naturiol a ffynnai yn yr ardal, ac yr oedd diwylliant Cymreig ar ei haelwyd, ac yn ddiweddarach yn ei hoes daeth i gyfathrach â'r gŵr dawnus Gwilym Hiraethog. Yr oedd ef yn dad yng nghyfraith i'w brawd William Evans, Caer, a phan oedd hi'n gweini yn Lerpwl, ymaelodai yng nghapel Gwilym Hiraethog. Ac ef a'i perswadiodd i gyhoeddi Telyn Egryn, ac ymgymerodd yntau â'r gwaith o'i golygu; a cheir ei ddelw ar y penillion fel y maent yn y gyfrol. Y mae Telyn Egryn allan o brint ers llawer o flynyddoedd.
Bu Elin am gyfnod o'i hoes yng ngwlad y Gwyddel; ond daeth yn ôl i'w hen ardal, a chadwai fath o ysgol i ferched ieuainc yn Nhroed-y-rhiw. Dysgai hwynt yn arbennig i wnïo, a gwneuthur dillad i ferched a dynion. Cawsom gyfle lawer gwaith i gymdeithasu, ac i ymddiddan â rhai o'r hen chwiorydd a fu yn ei hysgol. Sylwasom y nodweddid bywyd<noinclude></noinclude>
65rjbkgkj3pnxvhgbfzaguicmw1q46u
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/204
104
83130
162081
2026-04-01T21:28:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a chymeriad y chwiorydd gan foneddigeiddrwydd urddasol a chariad cryf at grefftwaith a llenyddiaeth. Argraffodd ei phersonoliaeth yn ddwfn ar eu bywydau. Bu farw yng Nghaer, yng nghartref ei brawd, yng ngwan—wyn 1876, a rhoddwyd ei chorff i orffwys ym mynwent y ddinas honno. Cofiwn amdani fel un o'r merched mwyaf dymunol a fagwyd yn Llanegryn. Un o'i chaneuon yw "Myfyrdodau uwchben bedd Hugh Owen o Fronclydwr: {{Center block/s}} <...
162081
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a chymeriad y chwiorydd gan foneddigeiddrwydd urddasol a chariad cryf at grefftwaith a llenyddiaeth. Argraffodd ei phersonoliaeth yn ddwfn ar eu bywydau.
Bu farw yng Nghaer, yng nghartref ei brawd, yng ngwan—wyn 1876, a rhoddwyd ei chorff i orffwys ym mynwent y ddinas honno. Cofiwn amdani fel un o'r merched mwyaf dymunol a fagwyd yn Llanegryn.
Un o'i chaneuon yw "Myfyrdodau uwchben bedd Hugh Owen o Fronclydwr:
{{Center block/s}}
<poem>
"Och athro ardderchog, ai yma mae'th drigfa?
Rhyw syndod a'm llanwodd uwchben dy orweddfa;
Mor ddirgel y llechi, mae'r llysiau bron cuddio
Yr annedd ddiaddurn lle 'rwyt ti'n gorffwyso;
Mudanaidd yw'r tafod fu gynt yn cyhoeddi
Y ffordd i bechadur ochelyd trueni.
Ai yma gorweddi dan draed yr ynfydion
Yr hwn mae dy goffa'n ddifyrrwch gan ddoethion?
Ar lwybr dy fywyd blodeuodd rhinweddau,
Y rhai sydd yr awron yn bêr eu haroglau;
Er cryn erledigaeth, a thwrw bygythion,
Ni wyrwyd dy gamrau, ni lygrwyd dy goron.
Er amled dy wawdwyr, er cryfed eu byddin,
Er carchar, ni siglwyd dy sêl dros dy Frenin;
Gwroldeb goronodd dy holl ymdrechiadau,
D'amynedd ni phallodd er amled y croesau;
A'th bwys ar dy Briod wynebaist y tonnau,
Dyrchefaist ei faner ynghanol y brwydrau.
Er maint anwadalwch fy meddwl crwydredig,
Fe'i daliwyd wrth syllu ar d'annedd lygredig;
Och, ''Owain'' ardderchog, paham ceir dy enw
Ar garreg lwyd waeledd, ymhlith y rhai meirw?
Oes modd dy ddihuno pe bloeddiwn yn uchel—
Tyr'd allan oddiyna?—mae popeth yn dawel.
</poem>
<br><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
8rhajjkbfzqdflvmpvostwtx1rhqkvb
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/205
104
83131
162082
2026-04-01T21:29:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "<poem> Mae rhyddid trwy'r gwledydd, mae mwynder pregethu Mae mil o galonnau a garent dy gwmni; Mae'r haul yn pelydru, fe ffodd y cymylau, Teyrnfradwyr dy Frenin daflasant eu harfau; Mae braidd yn rhyw syndod dy fod yn gorffwyso A'r gwaith heb ei orffen-mae'n bryd iti ddeffro. Er dweud am felyster ein goruchel freintiau 'Does ond swn yr awel yn ysgwyd y llysiau; Ni chlywaf i'm hateb un llais o'r daeardy, Rwy'n ofni it' gyfarfod â pheth...
162082
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae rhyddid trwy'r gwledydd, mae mwynder pregethu
Mae mil o galonnau a garent dy gwmni;
Mae'r haul yn pelydru, fe ffodd y cymylau,
Teyrnfradwyr dy Frenin daflasant eu harfau;
Mae braidd yn rhyw syndod dy fod yn gorffwyso
A'r gwaith heb ei orffen-mae'n bryd iti ddeffro.
Er dweud am felyster ein goruchel freintiau
'Does ond swn yr awel yn ysgwyd y llysiau;
Ni chlywaf i'm hateb un llais o'r daeardy,
Rwy'n ofni it' gyfarfod â pheth mwy na chysgu;
A raid i mi adael dy wely mewn dagrau,
Heb gael, er taer ymbil, un cyngor o'th enau?
Paham y dychmyga fy meddwl fath wagedd,
'Does yma ond mân lwch ei gorffyn mewn llygredd;
Ymdrechodd deg ymdrech, ehedodd i wynfyd,
Gorffennodd ei yrfa, coronwyd ef hefyd;
Enillodd y rhyfel, ca'dd goncwest yn ddibrin,
Boed dyfal fy ngweddi am gymorth i'w ddilyn."
{{bwlch}}—Elin Egryn.
</poem>
{{Div end}}
<br>
{{c|Y DEIGRYN.}}
{{Center block/s}}
<poem>
Y deigryn yna, eneth dlos,
Sy'n treiglo dros dy wridog rudd,
I blith helyntion bore oes
Sy'n dwyn yn ôl fy meddwl prudd;
Os chwythai'r byd ryw awel groes,
Nes plygu i lawr fy meddwl llon,
Cawn eli dagrau i wella'r loes,
A golchi'r gofid o fy mron.
</poem>
<br><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
av861uuoa42gagozz09o1nybwwyvsh9
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/206
104
83132
162083
2026-04-01T21:30:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "<poem> Ni wyddwn fawr yr ennyd hon Am natur y gofidiau sydd Yn rhy wasgedig ar y fron, I'r deigryn wthio dros y rudd; Y dydd y gadewais gartref mad, Meddyliais nad oedd gofid mwy, O serch at deulu tŷ fy nhad, Hallt wylwn ar eu gyddfau hwy. Ond amser dreiglai, twyll y byd A brofais innau'n fuan iawn; A gwasgwyd imi lawer pryd O ddyfroedd gofid, phiol lawn: Y cartref aeth—y rhiaint cu A guddiwyd yn y pridd mewn hedd, A chan y byw anghof...
162083
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ni wyddwn fawr yr ennyd hon
Am natur y gofidiau sydd
Yn rhy wasgedig ar y fron,
I'r deigryn wthio dros y rudd;
Y dydd y gadewais gartref mad,
Meddyliais nad oedd gofid mwy,
O serch at deulu tŷ fy nhad,
Hallt wylwn ar eu gyddfau hwy.
Ond amser dreiglai, twyll y byd
A brofais innau'n fuan iawn;
A gwasgwyd imi lawer pryd
O ddyfroedd gofid, phiol lawn:
Y cartref aeth—y rhiaint cu
A guddiwyd yn y pridd mewn hedd,
A chan y byw anghofiwyd fi,
Fel pe yn farw yn y bedd.
Yn awr edrychwn ar y byd,
Heb ganfod cyfaill ynddo mwy,
Pob cymorth ddarfu oll ynghyd,
Gwrthodai'r deigryn dreiglo'n hwy;
A'm gwedd yn syn, a'm bron yn friw,
Eisteddwn dan oleuni'r lloer,
I geisio marw wrth droed y rhiw,
A'm calon fel y byd, yn oer.
Ond llygad cariad Brenin nef
A'm canfu yn yr oriau hyn,
A chennad fwyn anfonodd ef
I'm harwain i Galfaria fryn;
Wrth weled yno'm hannwyl Grist,
Yn marw dros fy enaid prudd,
Daeth serch yn ôl i'm calon drist,
Ail dreiglai'r deigryn dros fy ngrudd.
</poem>
<br><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ep0ujb1ylbkldbl33qqrrc7lxvyc3jm
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/207
104
83133
162084
2026-04-01T21:31:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "<poem> Rhyw deimlad newydd lanwai'm bron, Llonyddodd f'ofnau ar y pryd; O! henffych byth i'r funud hon, Anghofiais fy ngofidiau i gyd; Ac yma glynaf, Iesu mad, I syllu ar dy wyneb gwyn; Gad im â'm dagrau olchi'th draed, A marw wrth gyflawni hyn. {{bwlch}}—Elin Egryn. </poem> {{Div end}} <br> {{c|OCHENAID.}} {{Center block/s}} <poem> Ochenaid, ai'th ddifyrrwch yw Datguddio briw fy mynwes? Er ymdrechiadau mwy na rhi, Ti fynni ddweud fy...
162084
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Rhyw deimlad newydd lanwai'm bron,
Llonyddodd f'ofnau ar y pryd;
O! henffych byth i'r funud hon,
Anghofiais fy ngofidiau i gyd;
Ac yma glynaf, Iesu mad,
I syllu ar dy wyneb gwyn;
Gad im â'm dagrau olchi'th draed,
A marw wrth gyflawni hyn.
{{bwlch}}—Elin Egryn.
</poem>
{{Div end}}
<br>
{{c|OCHENAID.}}
{{Center block/s}}
<poem>
Ochenaid, ai'th ddifyrrwch yw
Datguddio briw fy mynwes?
Er ymdrechiadau mwy na rhi,
Ti fynni ddweud fy hanes.
'E lwyddodd ymdrechiadau gwych
I gadw'n sych fy nwyrudd,
Ond ni all dim dy atal di
I daenu dy adenydd.
Er ceisio cario wyneb iach,
A chelu afiach gwynion
Ti ddygi chwedl fod rhyw bwys
Yn gorffwys ar y galon.
Wrth gwrdd â chyfaill yma a thraw,
Er estyn llaw yn llawen,
Dy chwedl yma mynni ddweud
Er llwyr ddadwneud fy llonwen.
Ond er na fynni gelu'm brad,
Wyd gufad i dy gofio;
Pan welwyf waethaf pawb o'r byd,
Caf di i gydymdeimlo.
Ti wyddost fy nheimladau dwys,
A dirfawr bwys fy mlinder;
A mynych byddi'n dweud yn brudd
Mai buan derfydd amser.
</poem>
<br><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
01sqdozp16vm89pac1lzvpkjkipm3of
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/208
104
83134
162085
2026-04-01T21:32:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "<poem> Ond er fod sŵn dy ddwysaidd gri Yn cywir gyhoeddi tristwch, Pa rin ddysgedig is y nen All ddarllen dy ddirgelwch? Mae dofn alarnad yn dy gri Pan fyddych di'n ymdreiglo; Ti ddygi beth o'm baich i'r lan Pan 'r wyf ry wan i'w gario. Rho dy gymdeithas ymhob ton Mae nghalon yn dy garu; Ti ydwyt unig eli'm cur, A'm cysur mewn caledi. Ond pan fo'm baich ry drwm i'w ddwyn, Caf roddi'm cwyn a'm trallod, Ai anfon yn dy gôl...
162085
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ond er fod sŵn dy ddwysaidd gri
Yn cywir gyhoeddi tristwch,
Pa rin ddysgedig is y nen
All ddarllen dy ddirgelwch?
Mae dofn alarnad yn dy gri
Pan fyddych di'n ymdreiglo;
Ti ddygi beth o'm baich i'r lan
Pan 'r wyf ry wan i'w gario.
Rho dy gymdeithas ymhob ton
Mae nghalon yn dy garu;
Ti ydwyt unig eli'm cur,
A'm cysur mewn caledi.
Ond pan fo'm baich ry drwm i'w ddwyn,
Caf roddi'm cwyn a'm trallod,
Ai anfon yn dy gôl i fan
Lle na cha'r gwan ei wrthod.
::—Elin Egryn.
</poem>
{{Div end}}
<br>
{{c|LLYFR GAN ENETH DAIR AR DDEG OED.}}
Cyhoeddwyd llyfryn gan eneth dair ar ddeg oed, ond nid yw enw'r awdur wrtho, ac nid oes dyddiad iddo. Anghofiwyd am y llyfr yn llwyr yn Llanegryn. Tueddwn i gredu mai gwaith Elin Egryn yw, ac os yw hynny'n gywir cyhoeddwyd ef yn 1820. Dyma'r wyneb ddalen:
{{c|Ychydig<br>o<br>Hymnau<br>O Waith<br>Geneth 13 oed<br>Perthynol i<br>Ysgol Sabbathol<br>Yr Ymneulltuwyr yn Llanegryn<br>"O enau plant bychain. . . . y peraist nerth"—Salm 8, 2.<br>R. Jones, Argraffydd, Dolgellau.}}
{{nop}}<noinclude></noinclude>
spc301ji0jmz3bnztflfr3t21b43ui3
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/209
104
83135
162086
2026-04-01T21:32:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Cynhwysa ugain o emynau, ac un englyn, a dyma'r englyn: {{center block| <poem> "Ysgol o fuddiol foddion,—y Sabboth, ::Sydd syber fendithion; :Dysgu'r iengctyd llawnfryd llon :Agwedd ddewr egwyddorion." </poem> }} <br> {{c|JOHN EVANS, YR YSGOLFEISTR.}} Clywsom lawer o sôn am enw John Evans fel un o'r athrawon gorau a fu yn ysgol Llanegryn. Gyda'i gyfnod ef newidiodd yr ysgol ei chymeriad. Daliodd yn dynn hyd hynny at ei chymeriad f...
162086
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cynhwysa ugain o emynau, ac un englyn, a dyma'r englyn:
{{center block|
<poem>
"Ysgol o fuddiol foddion,—y Sabboth,
::Sydd syber fendithion;
:Dysgu'r iengctyd llawnfryd llon
:Agwedd ddewr egwyddorion."
</poem>
}}
<br>
{{c|JOHN EVANS, YR YSGOLFEISTR.}}
Clywsom lawer o sôn am enw John Evans fel un o'r athrawon gorau a fu yn ysgol Llanegryn. Gyda'i gyfnod ef newidiodd yr ysgol ei chymeriad. Daliodd yn dynn hyd hynny at ei chymeriad fel ysgol ramadegol, a'i hamcan pennaf oedd dysgu'r ieithoedd Groeg a Lladin. Y mae'r gweithiwr olaf a gariai ei Destament Newydd Groeg i'r Ysgol Sul wedi ei gladdu dros drigain mlynedd.
Ychydig o hanes John Evans sydd ar gof a chadw. Diogelwyd ei ysbryd o fewn ffiniau'r plwyf, ond esgeuluswyd cofnodi ei hanes. Brodor oedd ef o ardal Dolgellau, a dywedir bod ei dad yn swyddog Ardreth yr Incwm. Cesglir mai un o ysgolheigion Ysgol Ramadeg Amwythig ydoedd ef. Yr oedd yn ei feddiant Feibl ag enw yr ysgol honno wedi ei ysgrifennu arno.
Ni chlywsom neb yn disgrifio'n fanwl pa fath ddyn oedd ef o ran pryd, gwedd, a chorff. Nodweddid ei hiliogaeth gan hoywder a gosgeiddrwydd corff, a chasglwn y meddai yntau ar gorffolaeth hyblyg a lluniaidd. Yr oedd asbri bywyd yn llenwi ei wythiennau, a rhoddai le amlwg a phwysig i hyfforddiant corff yn amser yr ysgol. Yr oedd ymarferion corff yn hen draddodiad yn hanes yr ysgol, a bu mabolgampau yn orchest y plwyf. Bu ganddo ran flaenllaw yng nghychwyn a hyfforddi Gwirfoddolwyr Cader Idris yn ystod rhyfeloedd<noinclude></noinclude>
tqzt74voeyaj43pjptsf0yqk1b5ccgi
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/210
104
83136
162087
2026-04-01T21:33:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Napoleon. Daeth John Evans i Lanegryn yn ddyn ieuanc 27 mlwydd oed. Gwasanaethodd am flynyddoedd fel is-athro yn yr ysgol cyn ei apwyntio yn brifathro. Ymbriododd John Evans â Rebecca, merch William ac Ernol Vincent, 9, Chwefror 1805, yn eglwys Llanegryn; a chartrefodd y ddeuddyn ieuanc yn Nhyn-y-llan, a bu eu haelwyd yn ganolfan diwylliant yn yr ardal am ddeugain mlynedd. Yr oedd aelwyd Tyn-y-llan yn goleg i'r gwŷr a garai ddysg a g...
162087
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Napoleon. Daeth John Evans i Lanegryn yn ddyn ieuanc 27 mlwydd oed. Gwasanaethodd am flynyddoedd fel is-athro yn yr ysgol cyn ei apwyntio yn brifathro.
Ymbriododd John Evans â Rebecca, merch William ac Ernol Vincent, 9, Chwefror 1805, yn eglwys Llanegryn; a chartrefodd y ddeuddyn ieuanc yn Nhyn-y-llan, a bu eu haelwyd yn ganolfan diwylliant yn yr ardal am ddeugain mlynedd. Yr oedd aelwyd Tyn-y-llan yn goleg i'r gwŷr a garai ddysg a gwybodaeth.
Ni wyddom pa gynllun a feddai John Owen o gario ymlaen waith yr ysgol yn ystod yr amser y bu John Evans yn is—athro iddo. Y mae gennym le cryf i gredu y dysgid yr iaith Gymraeg yn yr ysgol yn y cyfnod hwnnw. Ceir hanes am ysgolheigion o ysgol ramadegol Llanegryn yn cynorthwyo Lewis William, Llanfachreth, i hyfforddi ieuenctid Llanegryn i ddarllen Cymraeg. Dechreuodd ef sefydlu ysgol ar y Sul ac ar noson waith ym mhentref Llanegryn, cyn ei fod ef ei hun yn medru darllen Cymraeg o gwbl. Sut y cyfrifir am y ffaith fod plant ysgol ramadegol Llanegryn yn medru darllen Cymraeg cyn bod yr ysgol Sul wedi ei chychwyn yn yr ardal? Nid oes amheuaeth am fedr y plant ar y Gymraeg, a meddai rhai ohonynt ar sêl a chariad tuag ati. Cawn Edward Anwyl, un o ysgolheigion hyglod yr ysgol, yn mynd i gadw ysgol Gymraeg i Benrhyndeudraeth tua'r flwyddyn 1808.
Dywedir nad oedd John Evans yn awyddus am ddosbarthiadau yn ei ysgol. Adwaenai ei blant yn drylwyr, a rhoddai sylw personol i bob un ohonynt; astudiai eu hanian a'u cyneddfau, a natur a nerth eu meddyliau. Nid yn unig astudiai holl natur y plentyn, ond hefyd nodweddion ei dylwyth. Ni cheisiai gyfrannu yr un math o addysg, nac arfer yr un dull gyda phob un o'r plant. Addysgai bob un ohonynt yn ôl ei briod dalent gynhenid ei hun. Argraffodd yn ddwfn ar bob un o'r plant am iddynt eu hadnabod eu hunain yn llwyr. Ac aeth y dull hwn o astudio personoliaeth yn gelfyddyd gain i natur rhai o'i ysgolheigion. Trodd allan o'i ysgol nifer helaeth o weinidogion Ymneilltuol; a bu nifer ohonynt yn arwain bywyd eu cyd-Cymry gartref, ac yn America hefyd.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
s4s8gk0ugqjj192mklo88t7ijrfc7rz
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/211
104
83137
162088
2026-04-01T21:34:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Daeth yr ysgol yn nyddiau John Evans yn enwog am y cwrs a roddai ef mewn Morwriaeth, a deuai morwyr ato o bob parth o'r wlad. Yn yr adeg yma yr oedd mwy na hanner bechgyn y pentref yn forwyr; gwasanaethent ar longau bychain a hwyliai ar hyd glannau Bae Ceredigion, ac yn ymhellach na hynny, ar droeon. Yn ystod y gaeaf yr oedd llawer ohonynt yn segur oherwydd yr oedd morio'n ystod y gaeaf ar hyd y glannau yn orchwyl rhy beryglus mewn llo...
162088
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Daeth yr ysgol yn nyddiau John Evans yn enwog am y cwrs a roddai ef mewn Morwriaeth, a deuai morwyr ato o bob parth o'r wlad. Yn yr adeg yma yr oedd mwy na hanner bechgyn y pentref yn forwyr; gwasanaethent ar longau bychain a hwyliai ar hyd glannau Bae Ceredigion, ac yn ymhellach na hynny, ar droeon. Yn ystod y gaeaf yr oedd llawer ohonynt yn segur oherwydd yr oedd morio'n ystod y gaeaf ar hyd y glannau yn orchwyl rhy beryglus mewn llongau hwyliau bychain, a mynychent ddosbarth John Evans ar Forwriaeth. Byddai prysurdeb mawr yn yr ysgol bob gaeaf, a ffynnodd yr arferiad yma'n hir yn yr ardal; arferai bechgyn a fu'n gwasanaethu am flynyddoedd, fynd am chwarter o ysgol ym misoedd y gaeaf. Ymgynullai'r efrydwyr oddeutu'r bwrdd mawr oedd ar ganol llawr yr ysgol, a byddai map o'u blaenau, a'r athro yn dawnsio yn ei afiaith yn egluro'r cyfan iddynt. Nodweddid y dosbarth gan asbri anghyffredin, a byddai dadlau brwd yn codi'n aml yn eu plith. Ond ni chollai'r athro ei reolaeth arno byth; yr oedd yr awenau yn ei afael bob amser. Ni feiddiai'r mwyaf beiddgar ohonynt ddiystyru ei air na'i olwg. Yr oedd iawn lywodraeth yn ddeddf bendant ganddo.
Daeth rhai o'i ysgolheigion ar Forwriaeth yn berchenogion ar longau hwyliau o'u heiddynt eu hunain. Un ohonynt oedd Hywel Owen, Bach-y-sil, a oedd yn berchen dwy long hwyliau. Yr oedd un ohonynt a'i henw'n Wennol o faintioli da. Cludai lo, calch, a nwyddau eraill i Aberdysynni, hwyliai'n fynych cyn belled â Phen Caergybi. Cyfarfu Hywel Owen â'i ddiwedd torcalonnus ar lannau Ynys Fôn drwy iddo'i saethu ei hun yn ddamweiniol. Un yn hoff o'i wn oedd ef, a digwyddodd rhyw anghaffael ar ei wn un dydd, a chafwyd ef wrtho'i hun yn gelain ar fwrdd ei hoff long, heb neb i adrodd pa fodd y digwyddodd y trychineb.
Aeth y gred drwy'r wlad fod John Evans yn gyfarwydd yn nirgelion dewiniaeth. Y mae'n berffaith wybyddus iddo ef ei hun achlesu'r gyfryw grediniaeth, a chaniatodd i'r bobl gredu ei fod yn ŵr "cyfarwydd," ac yn ddehonglwr cyfrinion ynglŷn â bywyd pobl y fro. Ffynnai pob math o ofergoeliaeth<noinclude></noinclude>
gr5x2pkqbp7wqc05vldw85hwnawdn9w
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/212
104
83138
162089
2026-04-01T21:34:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn y plwyf ac yn Nyffryn Dysynni yn ystod y rhan gyntaf o'r ganrif ddiwethaf. Efrydai John Evans lawer ar lyfrau yn ymwneud â chyfriniaeth a sêr-ddewiniaeth. Clywsom un hynafgwr rhadlon a diwylliedig yn dweud i rai o lyfrau'r ysgolfeistr fod yn ei ddwylo ef pan oedd yn hogyn, trwy i'w gydymaith Jac Felin-fach lwyddo i'w lladrata o'r ysgol. Dengys hyn nad oedd fawr o ofn dewiniaeth John Evans ar ambell un o'i ysgolheigion. Meddyliai'r h...
162089
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y plwyf ac yn Nyffryn Dysynni yn ystod y rhan gyntaf o'r ganrif ddiwethaf. Efrydai John Evans lawer ar lyfrau yn ymwneud â chyfriniaeth a sêr-ddewiniaeth. Clywsom un hynafgwr rhadlon a diwylliedig yn dweud i rai o lyfrau'r ysgolfeistr fod yn ei ddwylo ef pan oedd yn hogyn, trwy i'w gydymaith Jac Felin-fach lwyddo i'w lladrata o'r ysgol. Dengys hyn nad oedd fawr o ofn dewiniaeth John Evans ar ambell un o'i ysgolheigion. Meddyliai'r hynafgwr wedi'r cwbl fod rhywbeth anghyffredin yn llyfrau John Evans, a bu ef ar hyd ei oes yn hoff o lyfrau oedd yn ymwneud â chyfriniaeth a phersonoliaeth. Nid yw hyn ond un enghraifft o'r argraffiadau dyfnion a wnâi yr hen athro ar feddyliau ei blant. Yr oedd yr athro'n adnabod trigolion y plwyf yn well nag yr adwaenent hwy eu hunain, a bu cred y bobl yng ngallu John Evans fel gŵr "cyfarwydd" yn foddion i wella moesoldeb yr ardal. Ofnai llawer ohonynt rhag lladrata, a dweud anwiredd, oherwydd credent yn ddi-sigl y datguddiai ef y cyfan amdanynt. Daliai'r hen bobl i adrodd llawer hanesyn gyda blas am fedr a gallu'r athro fel dewin.
Digwyddai un o aelwydydd y fro fod yn bur llwm o fwyd un nos Sadwrn, a phoenai hynny'r tad yn fawr. Yr oedd iddo dŷaid o blant, ac yntau wedi bod am wythnos heb ennill yr un geiniog. Wedi iddo fethu â chael ymwared o ddim cyfeiriad, penderfynodd dorri i gae Tyn-y-llan i geisio meipen i'w rhoddi yn y crochan potes at ginio dydd Sul. Gwaith anodd iddo oedd cael ei ddwy goes dros y gwrych i'r cae, a gwaeth na'r cyfan, yr oedd buarth Tyn-y-llan am y clawdd. Ar amrantiad gwelodd feipen ddymunol ei golwg, a phan oedd ar y gwaith o afaelyd ynddi clywodd lais John Evans yn galw am rywbeth neu'i gilydd, a dychrynodd gymaint nes diffrwythodd ei holl gorff, fel na allai yn ei fyw na thynnu'r feipen o'r pridd na'i gollwng o'i law, a dyna lle y bu drwy'r nos yn ei grwmach a'i afael yn dynn yn y feipen. A bu felly yng ngŵydd y bobl a basiai i'r eglwys gerllaw, nes dyfod John Evans i'w ollwng yn rhydd o'i gaethiwed.
Gorchwyl â chryn ystŵr ynglŷn ag ef oedd cychwyn y fedel o Lanegryn am Sir Amwythig. Byddai hiraeth ar y<noinclude></noinclude>
9zv2ommhctzxpbkqq87j521qvofmvpf
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/213
104
83139
162090
2026-04-01T21:35:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "mamau a'r plant, a disgwyl mawr am i'r fedel ddychwelyd, a llawenydd mwyaf y plant fyddai derbyn eu rhan o'r afalau melys a ddygai'r tadau adref yn eu gwaledau o Sir Amwythig. Digwyddodd un tro i un o wŷr y fedel ddychwelyd adref heb afalau yn ei waled, ond ni feiddiai groesi dros hiniog drws ei gartref heb afalau i'w rhannu i'r plant, a meddyliodd am berllan gyfleus a oedd yn enwog am ei hafalau. Yn hwyr nos Sadwrn cyn cyrraedd adref...
162090
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mamau a'r plant, a disgwyl mawr am i'r fedel ddychwelyd, a llawenydd mwyaf y plant fyddai derbyn eu rhan o'r afalau melys a ddygai'r tadau adref yn eu gwaledau o Sir Amwythig. Digwyddodd un tro i un o wŷr y fedel ddychwelyd adref heb afalau yn ei waled, ond ni feiddiai groesi dros hiniog drws ei gartref heb afalau i'w rhannu i'r plant, a meddyliodd am berllan gyfleus a oedd yn enwog am ei hafalau. Yn hwyr nos Sadwrn cyn cyrraedd adref aeth am y berllan, a phrysurodd lenwi ei waled â'r afalau. A cherddodd tuag adref yn ysgafndroed a llawen ei fron oherwydd iddo lwyddo gyda'i ysbail. Cadwai perchennog y berllan ei lygaid yn graff ar ei afalau, a deallodd fod lleidr wedi dringo dros y muriau. Aeth yn gyflym ei gamau tua Thyn-y-llan, a deallwyd ei neges. Aeth sôn drwy'r fro ar amrantiad fod achos yr afalau yn nwylo John Evans. Dychrynodd y medelwr euog gymaint fel y rhedodd â'r cyfan oedd yng ngweddill o'r afalau yn ôl i'w perchennog dialgar.
Trigiannai clochydd Llanegryn ar un adeg mewn bwthyn ar fin y ffordd a arweiniai o'r eglwys am y pentref. Bu rhywun yn ddigon beiddgar i ddwyn ei het silc orau o'r eglwys ar un o'r prif wyliau. Aeth yntau â'i anadl yn ei ddwrn at John Evans i'w hysbysu am y weithred gywilyddus. Cyfarwydd-wyd ef ganddo i aros ar ben carreg y drws ar yr adeg ar adeg, a dywedwyd wrtho y byddai i'r gŵr a ladrataodd ei het silc basio heibio â'r het am ei ben, ac am iddo ei hawlio yn ôl yn y fan a'r lle y'i cafodd. Safodd yntau ar hiniog y drws ar yr adeg benodedig yn welw ei wedd ac yn grynedig drosto, a dyma'r gŵr yn dyfod heibio'r gongl yn dalog anghyffredin â'r het silc am ei ben. Cyffrôdd y clochydd druan gymaint nes rhuthro ohono i mewn i'r tŷ o'r golwg, ac ni soniodd air byth mwy am yr het silc.
Digwyddiad a roddodd friw i ysbryd bonheddig John Evans oedd direidi rhyfygus Jac William y Llwyn, ei ddisgybl gwychaf yn holl hanes yr ysgol. Cyfaill mwyaf mynwesol yr hen athro oedd Jac, ac nid anadlodd bachgen mwyneiddiach nag ef erioed. Meddai Jac y llaw gywreiniaf yn y byd, ac yr oedd yn ddihafal fel ysgrifennwr. Gallai efelychu pob math o<noinclude></noinclude>
kk8hdv59lffg2u2oqi5ht79ui0ybxzl
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/214
104
83140
162091
2026-04-01T21:35:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ffigurau a llythrennau. Arferodd Jac ei fedr a'i ddawn i dwyllo'r Llywodraeth drwy newid gwerth arian papur, nodau ariandy, i'w gyfoethogi ef ei hun. Achosodd cwymp Jac loes i ysbryd diwylliedig ac urddasol Llanegryn, ond nid i neb yn fwy na'i hen athro gwiw. Yr oedd ar Jac ei hun fwy o ofn ysbryd pur a hynaws ei hen athro na holl rwysg a nerth gwŷr y gyfraith. Byddai meddwl am wyneb siomedig ei athro annwyl yn ei wasgu i'r ddaear; a g...
162091
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ffigurau a llythrennau. Arferodd Jac ei fedr a'i ddawn i dwyllo'r Llywodraeth drwy newid gwerth arian papur, nodau ariandy, i'w gyfoethogi ef ei hun. Achosodd cwymp Jac loes i ysbryd diwylliedig ac urddasol Llanegryn, ond nid i neb yn fwy na'i hen athro gwiw. Yr oedd ar Jac ei hun fwy o ofn ysbryd pur a hynaws ei hen athro na holl rwysg a nerth gwŷr y gyfraith. Byddai meddwl am wyneb siomedig ei athro annwyl yn ei wasgu i'r ddaear; a gormod gorchwyl gan Jac fu ymddangos yn Llanegryn byth wedyn.
Credai John Evans yn nhraddodiadau gorau diwylliant Cymru. Hyfforddai ei blant yn llên ei genedl ar ei aelwyd ei hun, dysgai hwynt i ganu a barddoni hyd yn oed o'u plentyn-dod. Seiliodd eu cymeriad ar ddiwylliant Cymreig. Carodd ei ysgol yn angerddol, ac ymlusgodd iddi hyd ei ddyddiau olaf. Cadwodd ddiwylliant ac addysg Llanegryn ar lefel uchel am 47 o flynyddoedd, a bu ei ddylanwad yn rhan o fywyd ei ardal am ddegau o flynyddoedd wedi dydd ei arwyl.
Gorffennodd ei yrfa ar yr 21 o Chwefror, 1845, yn 74 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Llanegryn. Saif ei garreg fedd ar ochr y mur yng nghongl uchaf y fynwent. Braint yw cael talu'r deyrnged hon i'w enw da.
{{c|CATHERINE HUGHES.}}
Tynnodd Catherine Hughes lawer o sylw yn ei dydd. Merch oedd i Thomas Jones, athro ysgol Llanegryn, a churad Tal-y-llyn, Meirion. Ganed hi yn y flwyddyn 1732, a hanai o deulu awengar Rhys Jones o'r Blaenau. Rhoddodd Thomas Jones yr addysg orau i'w blant; aeth dau o'i feibion yn offeiriaid, un yn apothecari i deulu Sior III, a'r pedwerydd i'r fasnach win. Dangosodd Catherine yn gynnar yn ei hieuenctid ei bod yn meddu ar ddawn i ragori mewn ieithoedd a llenyddiaeth glasurol. Ysgrifennai ei llythyrau mewn rhyddiaith a barddoniaeth a nodweddid gan deilyngdod uchel fel llenyddiaeth bur.
Priododd â Rice Hughes, cyfreithiwr adnabyddus ar gyffiniau Meirion a Maldwyn. Bu ei phriod farw cyn iddi hanner magu ei phlant. Amaethai Cemaesbychan, a<noinclude></noinclude>
aczg2d2zdzv6bzkrsnu3tu8ld7m06aw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/215
104
83141
162092
2026-04-01T21:36:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "llwyddodd i fagu ei phlant mewn anrhydedd. Un ohonynt oedd y Parch. Robert Hughes a fu'n rheithor Dolgellau. Cyfrifid hi yn un o wragedd gorau Cymru yn ei dydd, a meddai ar gyfeillion ymhlith arweinwyr amlycaf ein cenedl. Colledus ydym fel cenedl am i'w gweithiau fynd ar goll. Bu farw yn 1813 yn 81 mlwydd oed. Gweler Enwogion Cymru am ei hanes. {{c|Dr. ARTHUR JONES, BANGOR.}} Bu tad Dr. Arthur Jones yn felinydd yn Felin-fach, Llanegr...
162092
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llwyddodd i fagu ei phlant mewn anrhydedd. Un ohonynt oedd y Parch. Robert Hughes a fu'n rheithor Dolgellau. Cyfrifid hi yn un o wragedd gorau Cymru yn ei dydd, a meddai ar gyfeillion ymhlith arweinwyr amlycaf ein cenedl. Colledus ydym fel cenedl am i'w gweithiau fynd ar goll. Bu farw yn 1813 yn 81 mlwydd oed. Gweler Enwogion Cymru am ei hanes.
{{c|Dr. ARTHUR JONES, BANGOR.}}
Bu tad Dr. Arthur Jones yn felinydd yn Felin-fach, Llanegryn, a dywedir iddo symud o'r ardal pan nad oedd Dr. Jones yn ddim ond baban ychydig wythnosau o oed. Yr oedd hwn yn draddodiad cryf ymhlith ein hen famau.
{{c|EDWARD KENRICK.}}
Galwyd ar Edward Kenrick i lenwi'r bwlch a wnaed gan farwolaeth Hugh Owen a'i fab. Hanoedd Edward Kenrick o Wrecsam; mab hynaf oedd o bump o feibion i Samuel Kenrick, y Fawnog.
Priododd â Susannah, merch hynaf Hugh Owen, ac aeres Bronclydwr. Dywaid W. W. E. Wynne fod pedair merch Hugh Owen yn gydetifeddion. Beth bynnag am hynny, Susannah a drigiannai ym Mronclydwr.
Urddwyd Edward Kenrick yn Wrecsam, 17 Awst, 1702, gan y Parchn. James Owen a Matthew Henry. Nid oes gennym le i gasglu bod maes bugeilio Edward Kenrick yn ddim helaethach na Bronclydwr, Dolgellau, Llanuwchllyn a'r Bala. Oddeutu'r Bala y gwelodd ef y maes mwyaf gobeithiol iddo fwrw ei draul a'i ddiwydrwydd arno. Derbyniai £20 y flwyddyn o'r Gronfa Gynulleidfaol.
Bu ganddo law yng nghychwyn ysgol Dr. Williams yn y Bala a Llanuwchllyn. Yn yr un flwyddyn ag y symudwyd ysgol Dr. Williams i Lanuwchllyn y bu yntau farw ym Mronclydwr, Mai 1741.
Gorwedd ei lwch ym mynwent Llanegryn heb gymaint â charreg syml i gofio amdano.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
drox8ugxxd70grn1m7nat6udaj8vuyw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/216
104
83142
162093
2026-04-01T21:36:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|EOS LLECHID.}} Un adeg bu mam Eos Llechid yn forwyn gyda Ficer Llanegryn. Syrthiodd i drwbl gydag un o lanciau'r plwyf, gŵr ieuanc o'r enw David Humphreys. Aeth hithau adref i'w hen ardal, Llanllechid, lle y ganwyd ac y magwyd y cerddor a'r offeiriad adnabyddus, Eos Llechid. {{c|Y DEON THOMAS LLOYD, BANGOR.}} Un o wehelyth Gwyddfryniau oedd Dr. Thomas Lloyd, Deon Bangor, a mab i Thomas Lloyd, Gwyddfryniau. Bu iddo ddau o frodyr...
162093
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|EOS LLECHID.}}
Un adeg bu mam Eos Llechid yn forwyn gyda Ficer Llanegryn. Syrthiodd i drwbl gydag un o lanciau'r plwyf, gŵr ieuanc o'r enw David Humphreys. Aeth hithau adref i'w hen ardal, Llanllechid, lle y ganwyd ac y magwyd y cerddor a'r offeiriad adnabyddus, Eos Llechid.
{{c|Y DEON THOMAS LLOYD, BANGOR.}}
Un o wehelyth Gwyddfryniau oedd Dr. Thomas Lloyd, Deon Bangor, a mab i Thomas Lloyd, Gwyddfryniau. Bu iddo ddau o frodyr, Griffith Lloyd, Brynadda, a Lewis Lloyd, cyllidwr yng Nghaergybi. Cyfeiria Lewys Morris at Lewis Lloyd yn un o'i lythyrau.
Addysgwyd Thomas Lloyd yn Ysgol Rhuthun a Choleg y Drindod, Caergrawnt; graddiodd yn B.A., 1730, M.A., 1734, D.D., 1754.
Bu'n gurad yn Nolgellau am oddeutu deng mlynedd. Apwyntiwyd ef yn ficer Bangor a Phentir, Ebrill 12, 1740. Wedi hyn bu ei apwyntiadau yn fynych a phwysig. Rheithor Llanddeiniolen, 9, Gorffennaf 1744. Prifgantor (Precentor) 18, Awst yr un flwyddyn. Canghellor Eglwys Gadeiriol, Bangor, 16, Ebrill 1748. Dewiswyd ef yn Ddeon Bangor, 19, Medi 1753. Rhoddodd ef i fyny ficeriaeth Bangor, a derbyniodd reithoriaeth Llanbeulan, Môn, 12, Rhagfyr 1753; ac yn ddiwethaf derbyniodd reithoriaeth Llanllechid, 17, Rhagfyr 1762. Rhoddodd Landdeiniolen o'i ddwylo yn 1763.
A phan fu ef farw 21, Hydref 1794, yr oedd yn Ddeon Bangor, rheithor Llanbeulan a rheithor Llanllechid.
Erys yn Llanllechid waddol o'i eiddo a elwir yn "Elusen Dr. Lloyd." Cymynroddodd y swm o £20 i'w rannu yn ôl doethineb y rheithor at wasanaeth y plwyf. Y mae nifer dda o'i bregethau ar gael mewn llawysgrif.
Un o'i guradiaid oedd Lewis Owen mab Robert Owen ap Lewis Owen, Dolserau, Dolgellau. Bu Lewis Owen yn gurad<noinclude></noinclude>
m5wctruczqyku4le3xexkb3phu65nhh
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/217
104
83143
162094
2026-04-01T21:37:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Llanllechid o 1763 hyd 1783, a gwasanaethai hefyd yn ddeiniolen. Yr oedd Lewis Owen, y chweched genhedlaeth o Lewis Owen y Barwn; a'r drydedd genhedlaeth o Robert Vaughan, yr hynafiaethydd o Hengwrt. Trigiannai ar ddiwedd ei oes yn Waun-fach, Llanegryn. {{c|JOHN LLWYD.}} Gofynnai am gael ei alw'n John Llwyd, a bu'n ei arddel ei hun fel Ioan Llwyd. Ei enw'n llawn ar goler bres Pluto, ei hoffgi, oedd "John Llwyd, Maelierydd, Llanegryn....
162094
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Llanllechid o 1763 hyd 1783, a gwasanaethai hefyd yn ddeiniolen. Yr oedd Lewis Owen, y chweched genhedlaeth o Lewis Owen y Barwn; a'r drydedd genhedlaeth o Robert Vaughan, yr hynafiaethydd o Hengwrt. Trigiannai ar ddiwedd ei oes yn Waun-fach, Llanegryn.
{{c|JOHN LLWYD.}}
Gofynnai am gael ei alw'n John Llwyd, a bu'n ei arddel ei hun fel Ioan Llwyd. Ei enw'n llawn ar goler bres Pluto, ei hoffgi, oedd "John Llwyd, Maelierydd, Llanegryn."
Ei rieni oedd John Lloyd, etifedd y Gwyddfryniau, a Jane Lloyd, ferch Dafydd Jones, y Crynllwyn. Yr oedd ei fam yn chwaer i dad y Parch. Owen Jones, y Gelli, Sir Drefaldwyn. Dywedir mai yn Rhydcryw y ganed John Llwyd, yn 1796. Rhoddodd ei dad y gorau i amaethu, ac aeth yn ''Inland Revenue Officer''.
Prentisiwyd ef yn siopwr yn nhref Rhuthun, a mwy na thebyg mai yn nhref Rhuthun y cartrefai ei rieni ar y pryd, oherwydd cawn fod gŵr o'r enw John Lloyd yn ''Excise Officer'' yn y dref honno ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac y mae gennym brofion ei fod yn cymryd ddiddordeb helaeth ym mywyd Llanegryn.
Wedi gorffen tymor ei brentisiaeth yn Rhuthun, symudodd i dref Aberystwyth. Ond symud oedd yng ngwaed John Llwyd, ac ni bu'n hir yn y dref ar lan y môr yng Ngheredigion. Aeth oddi yno am Lundain pan oedd Dr. William Owen Pughe mewn cryn fri (a hanoedd yntau o Ddyffryn Dysynni), a chafodd gartref i'w anian Gymreig ynghanol llenorion y Brifddinas. Bu ymlyniad cryf a chynhesol rhwng y ddau Gymro o fro Dysynni. Denodd Dr. W. O. Pughe ei fryd yn lân, a bu ei ddylanwad yn fawr arno ar hyd ei oes. Cymerodd ran helaeth ac amlwg yng ngweithrediadau'r Cymmrodorion, a daeth yn llenor Cymraeg da. Bwriadodd unwaith ymgyflwyno'n llwyr i ysgrifennu a chyhoeddi llyfrau. Daeth i gyffyrddiad â rhai o brif arweinwyr Cymru tra bu'n aros yn Llundain, a thrwy'r cyfan daeth i feddu ar ddiwylliant eang, ac ar bersonoliaeth gref. Gallai lenwi pob swydd a safle<noinclude></noinclude>
6k5q0bwtc5qixpybnpz16tlwdje3ziu
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/218
104
83144
162095
2026-04-01T21:37:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gydag urddas. Bu ei dad farw yn ddyn cymharol ieuanc, a dychwelodd ef at ei fam a'i ddwy chwaer i fyw i dref Dolgellau. Cefnodd ef ar Lundain, wedi treulio saith mlynedd bwysig o'i fywyd yno, a daeth yn swcwr ac yn gefn i'w deulu ym Meirion. Yr oedd yr asbri llenyddol wedi mynd yn ddwfn i'w waed, a dechreuodd lenydda'n fuan ar ôl dyfod i aros yn Nolgellau. Y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd ganddo yn 1819 oedd casgliad o ddillynion doethineb...
162095
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gydag urddas. Bu ei dad farw yn ddyn cymharol ieuanc, a dychwelodd ef at ei fam a'i ddwy chwaer i fyw i dref Dolgellau. Cefnodd ef ar Lundain, wedi treulio saith mlynedd bwysig o'i fywyd yno, a daeth yn swcwr ac yn gefn i'w deulu ym Meirion. Yr oedd yr asbri llenyddol wedi mynd yn ddwfn i'w waed, a dechreuodd lenydda'n fuan ar ôl dyfod i aros yn Nolgellau.
Y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd ganddo yn 1819 oedd casgliad o ddillynion doethineb cenedl y Cymry yn cynnwys Trioedd Moes a Defawd a Thrioedd Doethineb Beirdd Ynys Prydain, ac Athrawiaeth y Bardd Glas o'r Gadair. Ni bu gwerthu da ar y gyfrol. Ond yn hytrach na digalonni, aeth ati i drefnu cyhoeddi yn yr un flwyddyn lyfr o natur wahanol, yn meddu ar fwy o naws grefyddol, a dechreuodd gyfieithu The Christian Inheritance gan Dr. Samuel Clarke. Rhoddwyd gwell derbyniad i Etifeddiaeth y Cristion, a bu ail argraffiad ohono yn ddiweddarach gan J. Jones, Llanrwst. Argraffwyd y ddau lyfr a gyhoeddodd ef ei hun gan wasg Richard Jones, Dolgellau. Dywedir iddo gytuno â Richard Jones i gyfieithu Esboniad Mathew Henry ar yr Hen Destament a'r Newydd. Cyflawnodd y gorchwyl hyd yn agos i ddiwedd Llyfr Lefiticus, pryd y rhoddodd y gorau i'r gwaith, trwy iddo gael ei alw i Lanegryn i gynorthwyo ei gyfnither. Cadwai ei deulu fasnach helaeth ym mhentref Llanegryn, a meddent ar un o fasnachdai gorau Meirion yr adeg honno. Nid ydym yn gwybod hanes cyfieithu na chyhoeddi Esboniad Mathew Henry. Ond sylwasom fod argraffiad ardderchog o'r Esboniad hwnnw wedi ei gyhoeddi gan John Jones a William Jones, Argraffwyr, Abertawe, yn y flwyddyn 1828. Enwau'r cyfieithwyr ar y wyneb-ddalen yw'r Parchn. Simon Llwyd, A.C., Bala, Michael Jones, Llanuwchllyn, Mr. J. Lloyd, Meirion, a'r Parch. E. Griffith, Browyr. Gwelir felly fod y rhan a gyfieithodd John Llwyd, Llanegryn, wedi ei ddiogelu yn argraffiad Abertawe.
Ni feddai ei gyfnither ar fawr o ddawn nac o awydd at gario'r siop ymlaen yn y pentref, ac ni bu'n hir heb ymbriodi â gweinidog perthynol i'r Annibynwyr, y Parch. Llewelyn<noinclude></noinclude>
3g0ekrvl9djls02dgfhst1h1ctgyk7q
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/219
104
83145
162096
2026-04-01T21:38:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Samuel, Bethesda, Arfon. Felly daeth y masnachdy yn sydyn yn eiddo John Llwyd ei hun. Ymgyflwynodd yn drylwyr i'w fusnes, ac adeiladodd fasnachdy eang, a thŷ newydd helaeth ynghanol y pentref yn 1825. Yr oeddynt yn adeiladau heirdd iawn y cyfnod hwnnw. Yr oedd anturiaeth yn llond ei ysbryd. Datblygodd fusnes mawr mewn gwneuthur hetiau a boneti ymhlith gwragedd a phlant yr ardal. Gwariodd gannoedd o bunnoedd i agor a gweithio chwarel l...
162096
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Samuel, Bethesda, Arfon. Felly daeth y masnachdy yn sydyn yn eiddo John Llwyd ei hun. Ymgyflwynodd yn drylwyr i'w fusnes, ac adeiladodd fasnachdy eang, a thŷ newydd helaeth ynghanol y pentref yn 1825. Yr oeddynt yn adeiladau heirdd iawn y cyfnod hwnnw. Yr oedd anturiaeth yn llond ei ysbryd. Datblygodd fusnes mawr mewn gwneuthur hetiau a boneti ymhlith gwragedd a phlant yr ardal.
Gwariodd gannoedd o bunnoedd i agor a gweithio chwarel lechau Penguwch, neu'n fwy adnabyddus wrth yr enw Cloddfa Perfeddnant. Cludai'r llechau dros afon Dysynni i ochr Llanegryn mewn cwch cryf a helaeth. Yng Nghorswen yr ystoriai'r llechau. Chwiliodd lawer am fwyn yng nghyffiniau'r chwarel, a daeth o hyd i fwyn ond nid oedd digon ohono i dalu am ei weithio.
Yr oedd ei siop yn llawn o bob math o nwyddau, defnyddiau, ac offerynnau at wasanaeth gwlad. Cyrchid yn lluoedd o'r plwyfi cyfagos i brynu, a deuai'r gofaint o bell ac agos ato am haearn; a phrynai mân-werthwyr ganddo at ail-werthu, yn arbennig dybaco.
Bu'n feddyg i'r pentrefwyr; gosodai esgyrn yn eu lle, a phwythai archollion, a thriniai friwiau fel y byddai'r galw. Cafwyd ef yn gynghorydd doeth ymhob angen. Ei brif hyfrydwch oedd dysgu ei ddosbarth o fechgyn yn yr Ysgol Sul; deuai â globe i'r dosbarth i ddysgu iddynt ddaearyddiaeth y Beibl. Yr oedd yn hoff o ddarllen pennau'r bechgyn i weled drosto'i hun ym mha dueddiadau y rhagorai'r hogiau, a phlannodd yr ysfa gymaint yn rhai o'i ddisgyblion, fel y bu astudio penofyddiaeth yn ddiddordeb iddynt ar hyd eu hoes.
Carai lyfrau a chasglodd lyfrgell gyfoethog anghyffredin. Llanwai ei chynnwys gatalog o un tudalen ar bymtheg yn ddwy golofn o lythyren fân, a meddai ar rai llyfrau prin a gwerthfawr. Beth a ddigwyddodd i'r miloedd llyfrau? Dywaid rhai iddynt gael eu gwerthu. Gwyddom ddarfod ffurfio pwyllgor unwaith i edrych ar eu hôl, ac i ofalu bod y wlad yn cael y defnydd gorau ohonynt. Ond tebyg yw i'r pwyllgor a'r llyfrau fynd ar wasgar fel na ŵyr neb ddim o'u hanes mwy. Rhoddodd arian mawr am Feibl a hysbyswyd fel Beibl<noinclude></noinclude>
g540wisf2vtz8o7hrwrzkctsrds5w0e
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/220
104
83146
162097
2026-04-01T21:39:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "llythyren ddu yr Esgob William Morgan, a siomwyd ef yn chwerw pan ddeallodd mai Beibl yr Esgob Parry ydoedd. Rhoddodd y gorau yn llwyr i lenydda ar ôl cartrefu yn Llanegryn, y cyfan a wnâi oedd cyfansoddi emyn neu ddau at eu canu ar bob Cyfarfod Diolchgarwch. Yr oedd yn gerddwr diguro; cerddodd bob cam o Lanegryn i Bethesda yn Arfon i edrych am ei gyfnither, a hynny mewn un dydd; a cherddai yn ôl a blaen i ffeiriau Wrecsam i brynu nw...
162097
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llythyren ddu yr Esgob William Morgan, a siomwyd ef yn chwerw pan ddeallodd mai Beibl yr Esgob Parry ydoedd. Rhoddodd y gorau yn llwyr i lenydda ar ôl cartrefu yn Llanegryn, y cyfan a wnâi oedd cyfansoddi emyn neu ddau at eu canu ar bob Cyfarfod Diolchgarwch.
Yr oedd yn gerddwr diguro; cerddodd bob cam o Lanegryn i Bethesda yn Arfon i edrych am ei gyfnither, a hynny mewn un dydd; a cherddai yn ôl a blaen i ffeiriau Wrecsam i brynu nwyddau i'w fasnachdy. Nid oedd mynd dros y Ffordd-ddu i Ddolgellau ond siwrnai fer iddo.
Bu'n ymddiriedolwr Ysgol Llanegryn am flynyddoedd meithion. Yr adeg honno cynhelid pwyllgorau'r Ymddiriedolwyr yn nhref Dolgellau, a cherddai ôl a blaen iddynt dros y mynyddoedd. Caniateid arian cinio i'r Ymddiriedolwyr a fyddai wedi teithio o gryn bellter, ond ni fanteisiodd ef erioed ar yr haelioni; hoffai roddi yn hytrach na derbyn. Diwylliodd ysbryd gwasanaethgar a gostyngedig yn ei bersonoliaeth gref, a brwydr galed fu honno iddo yn ôl ei dystioliaeth ef ei hun, oherwydd tuedd naturiol ei deulu oedd bod yn llym a diymarbed mewn rhai amgylchiadau.
Carodd a gwasanaethodd ei bentref, a bu'n fwynaidd wrth deimladau gwragedd a phlant a ddeuai ato am gymwynas yn ei siop. Rhoddodd urddas ar fywyd ei ardal. Bu farw 31, Gorffennaf 1858, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef o dan yr ywen ym mynwent Llanegryn. Bu bwlch a hiraeth mawr ar ei ôl.
{{c|GRUFFYDD OWEN.}}
Dyngarwr a waddolodd addysg a chrefftau i blant gweithwyr Llanegryn yn 1668. Yr oedd yn fab i Owen ac Ursula Gruffydd, Peniarthuchaf, ac yn nai i Hugh Owen, Tal-y-bont. Disgrifir ef fel groser yn Llundain, a gwelsom ei ddisgrifio fel darllawr. Dieithr yw ei hanes ar y cyfan inni; bu'n briod a chanddo blant. Bu ei ŵyr John Owen, Middle Temple, Llundain, yn un o ymddiriedolwyr ysgol Llanegryn.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
7tht4thdgj6gr8tla1zfkww2xir9055
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/221
104
83147
162098
2026-04-01T21:39:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|HUGH OWEN, BRONCLYDWR.}} Cyntaf-anedig Humphrey a Susan Owen, Bronclydwr, oedd Hugh Owen. Bu mab arall iddynt o'r enw Lewis Owen, Lincoln's Inn, a ganed iddynt eneth. Prin yw hanes bore oes ein harwr. Yr hanes cyntaf a geir amdano yw yn ddyn ieuanc yn Rhydychen. Cymerodd ei matriculation yn 23 oed. Yr oedd wedi bwriadu mynd ym-laen am ei urddau eglwysig, a pha ddylanwadau a newidiodd ei fwriad nid oes gennym ond dyfalu. I haneswy...
162098
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|HUGH OWEN, BRONCLYDWR.}}
Cyntaf-anedig Humphrey a Susan Owen, Bronclydwr, oedd Hugh Owen. Bu mab arall iddynt o'r enw Lewis Owen, Lincoln's Inn, a ganed iddynt eneth.
Prin yw hanes bore oes ein harwr. Yr hanes cyntaf a geir amdano yw yn ddyn ieuanc yn Rhydychen. Cymerodd ei matriculation yn 23 oed. Yr oedd wedi bwriadu mynd ym-laen am ei urddau eglwysig, a pha ddylanwadau a newidiodd ei fwriad nid oes gennym ond dyfalu. I haneswyr Seisnig yr ydym yn ddyledus am yr ychydig hanes a geir amdano; yn arbennig felly i Edmund Calamy, Samuel Palmer, a'i ŵyr ef ei hun, Hugh Farmer.
Trodd ei gefn ar Rhydychen yn y flwyddyn 1662, pan ddaeth deddf Unffurfiaeth i rym. Treuliodd ryw gymaint o'i amser yn Llundain, lle'r oedd ei frawd yn efrydu'r gyfraith, ond dychwelodd yn fuan i Fronclydwr.
Priododd yn 1668 â boneddiges o'r enw Martha Brown, Little Ness, ger Croesoswallt. Yr oedd Martha Brown yn ferch i John Brown, a cheir hanes gŵr o'r enw John Brown yn arolygu Deddf Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru. Ganed i Hugh a Martha Owen wyth o blant.
O dan ofal Cynulleidfa Wrecsam y dechreuodd Annibyniaeth Meirion. Y Gynulleidfa honno a urddodd Hugh Owen yn Henuriad Athrawiaethol, ac a'i cymhellodd i fynd i'w hen fro i arfer ei ddoniau, ac i arolygu Cynulleidfa Meirion. Cychwynnodd Hugh Owen ar ei weinidogaeth ymhlith ei gymdogion tua 1662. Ymhen deng mlynedd daeth trwydded i'w dŷ ef yn Llanegryn ar yr 22 o Fai, 1672, a daeth ail drwydded i'n plwyf ar y 25 o Orffennaf, 1672. Codwyd hon yn enw Dafydd William yn ei dŷ ei hun ym Mheniarth. Trigiannai Dafydd William yn ei dŷ ei hun ym Mrynglasan, a chodwyd y drwydded ar yr adeg y dechreuid galw'r hen blasty yn Beniarthuchaf. Yr oedd perthynas agos rhwng teulu Hugh Owen a theulu Brynglasan. Cafwyd tair trwydded arall yn ystod yr un haf ym Meirionnydd. Daethant i Erw-goed yn Arthog, Bodwenni yn ardal Llandderfel,<noinclude></noinclude>
sdobqbblqoas17kirnwche5rdqkzmm2
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/222
104
83148
162099
2026-04-01T21:43:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a Chynfal yn ardal Maentwrog. A myn rhai mai'r pum tŷ trwyddedig hyn oedd cnewyllyn eglwys Hugh Owen ym Meirionnydd. Yn ôl adroddiad a wnaed yn 1773, ym Meirion yn unig y gweinidogaethai Hugh Owen, un Sul yn ei dŷ ei hun ym Mronclydwr, yr ail Sul yn Nolgellau, y trydydd yn Llanuwchllyn a'r Bala, a'r pedwerydd mewn tŷ annedd arall yn y sir. Ceir adroddiad a wnaed yn 1690, ac yn ôl hwnnw pregethai Hugh Owen mewn tri neu bedwar o wahanol...
162099
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a Chynfal yn ardal Maentwrog. A myn rhai mai'r pum tŷ trwyddedig hyn oedd cnewyllyn eglwys Hugh Owen ym Meirionnydd. Yn ôl adroddiad a wnaed yn 1773, ym Meirion yn unig y gweinidogaethai Hugh Owen, un Sul yn ei dŷ ei hun ym Mronclydwr, yr ail Sul yn Nolgellau, y trydydd yn Llanuwchllyn a'r Bala, a'r pedwerydd mewn tŷ annedd arall yn y sir. Ceir adroddiad a wnaed yn 1690, ac yn ôl hwnnw pregethai Hugh Owen mewn tri neu bedwar o wahanol fannau ym Meirion i bobl a elwid yn Gynulleidfa sir Feirionnydd, ac i gynifer â hynny ym Maldwyn a ffurfiai Gynulleidfa Maldwyn, hen faes Henry Williams. Bu'n bugeilio oddeutu deuddeg o wahanol leoedd ar un adeg yn ei fywyd.
Derbyniai ar un adeg £8 y flwyddyn o gronfa'r Bwrdd Unedig. Tynnwyd y swm i lawr wedi hynny i £4 y flwyddyn. Gwelodd lawer o ddyddiau chwerw a blin yn ystod ei oes. Ond llawen oedd am gael pregethu Crist i werin Cymru. Teithiodd a phregethodd lawer tu hwnt i gylch ei ddwy Gynulleidfa. Priodol y gelwid ef yn ei ddydd yn "Apostol y Gogledd"; gŵr ydoedd wedi ei anfon at ei genedl â chenadwri ddifrifol yn llosgi yn ei galon.
Bu farw ym Mronclydwr, 15, Mawrth 1670 (1699 yn yr hen ddull), a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn.
Dyma geir ar blât pres ar garreg ei fedd:
{{c|Hugh Owen o Fron-y-clydwr<br>Pregethwr yr Efengyl yn ol ei lafur<br>Sydd yma'n gorffwys<br>Oed 60 a hanner<br>Bu farw y 15 o Fawrth 1699.}}
{{center block|
<poem>
"Y Cymro anwyl, edrych yma
Ar fy medd, a dwys ystyria;
Fel yr wyt ti y bum inau,
Fel yr wyf fi y byddi dithau:
Gan nad wyf mwy i bregethu,
O'm bedd mynnwn wneuthyr hynny:
O cred yn Nghrist a bydd grefyddol
Casa pob drwg, a bydd fyw'n dduwiol."
</poem>
}}
<br><noinclude></noinclude>
hguu9rdze7j8gw1ew0oa3l31td2blvi
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/223
104
83149
162100
2026-04-01T21:44:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Codwyd cofgolofn iddo o flaen Capel Annibynnol Llanegryn, 27, Medi 1906. Rhoddwyd carreg fedd newydd arno ym mynwent Llanegryn yn 1908. Deil ei enw'n annwyl ac iraidd yn yr ardal. {{c|PLANT HUGH A MARTHA OWEN, BRONCLYDWR}} Susannah a aned 1672. Priododd ag Edward Kenrick. Mary a aned 1674. Priododd â William Farmer, amaethwr cyfoethog yn Whitby, Sir Amwythig. A mab iddynt hwy oedd y Parch. Hugh Farmer, gweinidog Annibynnol Walthams...
162100
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Codwyd cofgolofn iddo o flaen Capel Annibynnol Llanegryn, 27, Medi 1906. Rhoddwyd carreg fedd newydd arno ym mynwent Llanegryn yn 1908. Deil ei enw'n annwyl ac iraidd yn yr ardal.
{{c|PLANT HUGH A MARTHA OWEN, BRONCLYDWR}}
Susannah a aned 1672. Priododd ag Edward Kenrick.
Mary a aned 1674. Priododd â William Farmer, amaethwr cyfoethog yn Whitby, Sir Amwythig. A mab iddynt hwy oedd y Parch. Hugh Farmer, gweinidog Annibynnol Walthamstow a Salter's Hall, ac awdur y ddau lyfr Saesneg ''The Demoniacs'' a ''Christ's Temptation in the Wilderness.'' Trwyddo ef a cafwyd yr hanes am ei daid a geir yn y ''Nonconformist Memorial.'' Cafodd ei addysg fore yn Llanegryn.
Abigail a aned 1677. Priododd â Thomas Owen, Llynlloedd, Trefaldwyn. Eu plant hwy oedd Dr. Thomas Owen, meddyg Woodhouse, Amwythig, a merch o'r enw Martha, yr un enw â'i nain, Bronclydwr. Dywedir bod Martha yn meddu ar lawer o sêl grefyddol ei thaid; ymaelododd hi yn eglwys Bres-byteraidd Gwrecsam.
Jane a aned 1679. Bu hi farw'n eneth ifanc, 13, Gorffennaf 1796, yn 17 oed, a cheir y pennill a ganlyn ar ei charreg fedd ym mynwent Llanegryn:—
{{c|Cyngor i'r byw.}}
{{center block|
<poem>
"Mewn daear oer dan draed fel finne
Pwy bynnag wyt y byddi dithe
Oh: cred yn Nghrist, casa bob pechod,
A dim dan haul na char yn ormod
Y rhybydd yma os diystyri
Mewn byd arall di roi gyfri."
</poem>
}}
Elisabeth, a aned 1688. Ni wyddom am ddim o'i hanes.
Bu iddynt blant eraill, ond tebyg iddynt farw ar eu genedigaeth.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
jf2g4didknj0jkxjz5xe3dwfzl0bjbd
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/224
104
83150
162101
2026-04-01T21:44:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|HUGH OWEN, TAL-Y-BONT.}} Un o gymwynaswyr y plwyf a Chwmwd Tal-y-bont oedd Hugh Owen. Y pumed mab ydoedd i Gruffydd ac Elisabeth Owen, a ganed ef tua 1579. Trigiannai yn Nhal-y-bont, ond cawn ef yn prydlesu Tal-y-bont i ŵr o'r enw R. ap Evan am ugain mlynedd am £30 y flwyddyn, a symudodd yntau i fyw at ei chwaer Margaret i'r Rhydcryw. Daeth i feddiant o'r tyddynnod a ganlyn heblaw ystâd Tal-y-bont: :Tir-y-pymtheg. :Tyddyn-y-Fel...
162101
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|HUGH OWEN, TAL-Y-BONT.}}
Un o gymwynaswyr y plwyf a Chwmwd Tal-y-bont oedd Hugh Owen. Y pumed mab ydoedd i Gruffydd ac Elisabeth Owen, a ganed ef tua 1579. Trigiannai yn Nhal-y-bont, ond cawn ef yn prydlesu Tal-y-bont i ŵr o'r enw R. ap Evan am ugain mlynedd am £30 y flwyddyn, a symudodd yntau i fyw at ei chwaer Margaret i'r Rhydcryw.
Daeth i feddiant o'r tyddynnod a ganlyn heblaw ystâd Tal-y-bont:
:Tir-y-pymtheg.
:Tyddyn-y-Felindre, alias Tynewydd.
:Tyddyn Gwern-y-brain.
:Tyddyn Pren-hir, alias Tyddyn Humphrey.
:Tyddyn-y-gwyrbren.
:Tyddyn-y-blaidd.
Trefnodd yn ei ewyllys fod £4 i'w rhannu flynyddol er budd tlodion plwyf Llanegryn. Deuai'r elusen hon o rent dau o'i dyddynnod, y Blaidd a Thir-y-pymtheg. Rhoddodd ar ei nai, Lewis Owen, Peniarth, a'i etifeddion ar ei ôl i dalu'r swm yn flynyddol i Weinidogion a wardeiniaid y plwyf, a hwythau i rannu £1 bob chwarter i'r tlodion
Ail-adeiladodd Dyddyn-y-Felindre, a newidiodd yr enw a'i alw'n Dynewydd neu Plas Tynewydd.
Claddwyd ef ar du'r gogledd i eglwys Llanegryn, a gwelir ar ei feddfaen y cofnod a ganlyn mewn priflythrennau:—
{{c|"HUGO: OWEN: DE: TALYBONT: GEN: OBIIT: XI: CAL: APRIL: AN: DNI: M: DC: L:"}}
Dyma yw o'i drosi i'r Gymraeg:
{{c|"Hugh Owen o Dal-y-bont. Boneddwr. A fu farw ar yr unfed dydd ar ddeg cyn Calan Ebrill. Blwyddyn ein Harglwydd 1650".}}
Carodd addysg plant Llanegryn, a chydymdeimlodd â'i thlodion.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
94n7408hwolnsuws98db8ocgak2v0u0
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/225
104
83151
162102
2026-04-01T21:45:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|JOHN OWEN, BRONCLYDWR}} Cyntafanedig ac unig fab Hugh a Martha Owen oedd John Owen, a ganed ef 14, Medi 1669. Yn ddyn ieuanc ugain oed aeth i Academi y Parch. Richard Frankland, a dywedir iddo gael cynnig cario yr academi ymlaen wedi marwolaeth Frank-land, ac iddo yntau fod yn brifathro ar y sefydliad. Erbyn hyn yr oedd John Owen tua naw ar hugain oed, wedi treulio ei holl amser mewn ysgolion. Yr oedd ei dad yn llesg a lluddedig yn...
162102
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|JOHN OWEN, BRONCLYDWR}}
Cyntafanedig ac unig fab Hugh a Martha Owen oedd John Owen, a ganed ef 14, Medi 1669. Yn ddyn ieuanc ugain oed aeth i Academi y Parch. Richard Frankland, a dywedir iddo gael cynnig cario yr academi ymlaen wedi marwolaeth Frank-land, ac iddo yntau fod yn brifathro ar y sefydliad. Erbyn hyn yr oedd John Owen tua naw ar hugain oed, wedi treulio ei holl amser mewn ysgolion. Yr oedd ei dad yn llesg a lluddedig yn ceisio dal ati i fugeilio ei braidd ym Maldwyn a Meirion.
Yr oedd tynfa meddwl ac ysbryd John Owen i Gymru er mwyn cadw llwybrau ei dad yn gochion a muriau ei gorlannau yn gyfain. Prin yw'r ffeithiau amdano yn ystod y cyfnod hwn o'i hanes. Y cyfan a ddywedir yw ei urddo i weinidogaethu ar eglwys Sir Drefaldwyn yn 1699.
Oes fer a gafodd. Ynghanol haf 1700 aeth ar ryw orchwyl i dref Amwythig, a chymerwyd ef yn wael yn nhŷ cyfaill iddo. Nychodd yn drwm, ac ymhen naw diwrnod bu farw, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys St. Chad, Amwythig, 27, Mehefin 1700. Traddodwyd pregeth angladdol iddo gan y Parch. Matthew Henry yng nghapel Dafydd Jones. Cwmwl du ar Feirion a Maldwyn fu colli Hugh Owen a'i fab, a hynny o fewn tri mis i'w gilydd.
{{c|DR. JOHN OWEN}}
Yr oedd yn ŵyr i Gruffydd Owen, Tal-y-bont, ac yn orwyr i Lewis Owen y Barwn.
Mab ydoedd i Harri Owen, yntau'n fab Tal-y-bont. Bu Harri Owen yn Rheithor Harpsden, ac yno y ganed Dr. John Owen, a fu'n Ddeon Eglwys Crist. Bu ei ddylanwad yn fawr yng nghyfnod y Weriniaeth, ac ar Oliver Cromwell ei hun.
{{c|LEWIS OWEN, BRONCLYDWR}}
Yr oedd ef yn ail fab i Humphrey a Susannah Owen, ac yn frawd i Hugh Owen; bu'n gyfreithiwr ar hyd ei oes yn Lincoln's Inn. Ni wyddom am fawr o'i hanes mwy nag iddo<noinclude></noinclude>
lml2zba9rz0vpe1gcpuf5jjdd0cg9vs
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/226
104
83152
162103
2026-04-01T21:46:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "dreulio'r rhan helaethaf o'i oes yn Llundain. Dywedir bod cysylltiad agos rhyngddo â Chrynwyr Cymreig yn Llundain, ac iddo ymwneud llawer â theulu Morgan Liwyd o Wynedd. Yr oedd yn un o ysgutorion David Lloyd, mab hynaf Morgan Llwyd. Bu'n un o ymddiriedolwyr ysgol Llanegryn yn 1668, ac ynglŷn â'r ysgol gwnaeth Weithred Ymddiried, Deed of Trust, y rhoddid pwys arbennig arni fel dogfen werthfawr, a bu colled fawr ar ei hôl pan aeth ryw...
162103
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dreulio'r rhan helaethaf o'i oes yn Llundain. Dywedir bod cysylltiad agos rhyngddo â Chrynwyr Cymreig yn Llundain, ac iddo ymwneud llawer â theulu Morgan Liwyd o Wynedd. Yr oedd yn un o ysgutorion David Lloyd, mab hynaf Morgan Llwyd.
Bu'n un o ymddiriedolwyr ysgol Llanegryn yn 1668, ac ynglŷn â'r ysgol gwnaeth Weithred Ymddiried, Deed of Trust, y rhoddid pwys arbennig arni fel dogfen werthfawr, a bu colled fawr ar ei hôl pan aeth rywfodd ar goll. Ar un adeg nid oedd yn aros o'r ymddiriedolwyr ond ef ei hun, a'i frawd Hugh Owen, ac apwynt-iodd y ddau ymddiriedolwyr newydd. Gwelir fel hyn nad ymddieithriodd ef yn llwyr â'i hen fro.
{{c|HEN GERDD O EIDDO MORRIS PARRY}}
Trigiannai Morris Parry yn Llidiart Rhiwfelen yn 1752.
Y mae dechrau cerdd Morris Parry ar goll, a'r penillion a ganlyn yn unig sydd yn y llawysgrif NLW 1690A yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
{{Center block/s}}
<poem>
.... .... .... ....
A nettia dda i Nattur a difir ar Dir
Gyriadus a llawen bydd Byrwen yn byr.
4 Ond hon su'n i feddwl iawn fanwyl drwy serch
Y nôs ar Dydd hefyd fyn hyfryd lan ferch
Os byddi yn Drigarog liosog lliwr tes
Iw helpu yn feddyges lon Dduwies er lles.
5. Na choeliwch mor athrod lliw'r manod dda i moes
Cynsidrwch Diellwch na byddwch rhy groes
Ond hwn sy'n ych Dewis gyriadus i gwedd
Na yrwch mewn nychdod o'i Waelod i fedd.
6. Os mentrwch trwy heddwch gwybyddwch hyn Anne
Mae ngobeth i am llwyddiant a ffyniant i'ch rhan
Fel Abraham a Sara mewn tyngfa gyttun
Y byddwch chwi eich Deywedd lon hafedd hardd lun
</poem>
<br><noinclude></noinclude>
l5wl4iviay2gswc3cdw31mgfsyco0sm
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/227
104
83153
162104
2026-04-01T21:47:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "<poem> 7. Hir hoedel ag Iechyd bob munud'n yr awr A gras i chwi yn wastad rhwng lleuad a llawr Yn niwedd yr amser dwys hyder di sen Dod ini Drygaredd Dad mwynedd Amen. Morris Parry o Lanegrin a'i Cant. Diwedd. </poem> {{Div end}} <br> {{c|RHISIART POWEL}} Gwerthfawrogwn enw Rhisiart Powel am mai ef yw un o feirdd prin ein bro. Galwai ei hun weithiau yn Rhisiart ap Hywel. Ei rieni oedd Hugh a Gwen Powel. Dilynai Hugh Powel ei gr...
162104
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><poem>
7. Hir hoedel ag Iechyd bob munud'n yr awr
A gras i chwi yn wastad rhwng lleuad a llawr
Yn niwedd yr amser dwys hyder di sen
Dod ini Drygaredd Dad mwynedd Amen.
Morris Parry o Lanegrin a'i Cant. Diwedd.
</poem>
{{Div end}}
<br>
{{c|RHISIART POWEL}}
Gwerthfawrogwn enw Rhisiart Powel am mai ef yw un o feirdd prin ein bro. Galwai ei hun weithiau yn Rhisiart ap Hywel.
Ei rieni oedd Hugh a Gwen Powel. Dilynai Hugh Powel ei grefft fel gwehydd ar ddechrau ei fywyd priodasol, a bu' cartrefu yn Nhyn-cae a Phlascorniog, a threuliodd ddiwedd ei oes yn yr Hafoty. Ganed Rhisiart Powel yn yr Hafoty, Tachwedd 1753. Daeth yn ei flaen yn rhagorol yn Ysgol Ramadegol Llanegryn, a bu'n fath o is-athro ynddi; a gwelsom ei fod wedi arwyddo ei enw wrth gofnodion y Festri yn 1782. Meddai ar lawysgrif dda.
Ymfudodd o Lanegryn i Ysbyty Ifan i gadw ysgol yr eglwys yn y plwyf. Dywaid traddodiad mai merch Ochr-y-cefn, Ysbyty Ifan, oedd ei fam.
Yng ngaeaf 1795 croesai Rhisiart Powel Fynydd Llech, a oedd yn nodedig am ei lymder a'i oerni yn ystod y gaeaf. Croesai ar brynhawn byr ym mis Hydref. Ar ryw neges neu'i gilydd yr âi i Benmachno, a phan oedd ef ar ganol y mynydd unig a digysgod daeth yn ystorm echryslon o rewynt ac eira mawr. Goddiweddodd y lluwchfeydd ei gamre fel bytheiaid creulon, a phallodd bywyd Rhisiart Powel druan. Claddwyd ef o dan y lluwchfeydd trwm a diawel, ac nid heb hir chwilio y deuwyd o hyd i'w gorff oer. Claddwyd ei gorff ym mynwent Ysbyty Ifan, 17, Hydref 1795, a gwelir ar ei garreg fedd wedi ei gerfio, "Richard Powel of Llan". Tebyg yw na wyddai neb o'i gyfeillion i ba ‘Lan' y perthynai ef. A syn yw meddwl hynny am ddyn fel Rhisiart Powel. Diddorol fuasai gwybod pwy a roddodd y garreg ar ei fedd. Da gennym am y weithred garedig.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
anjbhdqx4jgntummv8djct4kjormma5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/228
104
83154
162105
2026-04-01T21:48:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Enillodd Rhisiart Powel gadair Eisteddfod y Gwyneddigion a gynhaliwyd yn y Bala yn 1793. Testun yr awdl oedd "Tymhorau'r Flwyddyn". Cyhoeddwyd hi yn yr ''Eurgawn Wesleyaidd'' am y flwyddyn 1814, a cheir hi yn y Y Brython am 1863. A chyhoeddwyd hi'n llyfr gan Dr. W. O. Pughe yn 1793. Y mae delw Dr. W. O. Pughe yn drwm ar y nodiadau a'r argraff. Dywedir i Risiart Powel gario'r dydd ar ddeg o brif feirdd Cymru yn yr Eisteddfod honno. Cano...
162105
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Enillodd Rhisiart Powel gadair Eisteddfod y Gwyneddigion a gynhaliwyd yn y Bala yn 1793. Testun yr awdl oedd "Tymhorau'r Flwyddyn". Cyhoeddwyd hi yn yr ''Eurgawn Wesleyaidd'' am y flwyddyn 1814, a cheir hi yn y Y Brython am 1863. A chyhoeddwyd hi'n llyfr gan Dr. W. O. Pughe yn 1793. Y mae delw Dr. W. O. Pughe yn drwm ar y nodiadau a'r argraff. Dywedir i Risiart Powel gario'r dydd ar ddeg o brif feirdd Cymru yn yr Eisteddfod honno. Canodd awdl fer ar y testun: "Da yw'r Maen gyda'r Efengyl", ac yn y llyfryn ''Difrifol Ystyriaeth'' ceir carol o'i eiddo "Plygain Ddydd Natolic". Cyfarfyddir â'i gynhyrchion barddol yng nghylchgronau dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dywedai'r Parch. T. Shankland ei fod ef yn derbyn y Cylchgrawn Cymmraeg ac yn gohebu â'i olygydd, Morgan John Rhys. Gallwn ddweud yn ddibetrus fod Rhisiart Powel yn gefnogwr i'r Eisteddfod a llenyddiaeth Gymraeg.
Da gennym ddyfynnu Thomas Parry, M.A., o'i gyfrol ''Hanes Llenyddiaeth Cymraeg'' am ddawn Rhisiart Powel i drin geiriau. "Anaml iawn y ceir dim ymdeimlad â dewiniaeth geiriau syml, fel yn nwy linell Rhisiart Powel am y gaeaf yn ei awdl ar Dymhorau'r Flwyddyn (1793).:—
{{center block|
<poem>
Mae'n syn, yn nyffryn a nant,
Leferydd mawr lifeiriant. "
</poem>
}}
Wele englyn o'i awdl fer "Da yw'r Maen gyda'r Efyngyl":—
{{center block|
<poem>
Da yw'r Maen, sylfaen ddi-serth,—wiw gadarn
::Gyda'r newydd prydferth;
:Efengyl fawr, gwawr y gwerth
:Y Mab rhad mwya' pridwerth.
</poem>
}}
A gorffennwn hyn o goffâd am fardd a mab teilwng o'n plwyf drwy ddyfynnu englyn arall o'i eiddo:—
{{center block|
<poem>
Dwg fi, Ion, union Arweinydd,—i sail
::Y Gaersalem newydd;
:Llyna Bau lle ni bydd
:Un drwg aea'n dragywydd.
</poem>
}}
<br><noinclude></noinclude>
any4dzc7m8jv9dkr8ojad5qwno2e3w6
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/229
104
83155
162106
2026-04-01T21:49:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Awgrymiadol yw "un drwg aea" yn ei englyn. A ofnai weld gaeaf yn y Nef? A oedd wedi rhagweled ystorm echrydus ei angau creulon? {{c|OWEN WILLIAM }} Er mai gŵr a aned ym Mryncrug yn 1784, ac a fu byw yn Nhywyn oedd Owen William, bu ganddo gysylltiad amlwg â'n hardal yn nyddiau ei ieuenctid, a hanai ei deulu o Lanegryn. Dywaid ef mai'r atgof cyntaf a feddai oedd dychwelyd adref gyda'i rieni o dŷ ei nain wedi bod yng Ngŵyl Mabsant Llane...
162106
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Awgrymiadol yw "un drwg aea" yn ei englyn. A ofnai weld gaeaf yn y Nef? A oedd wedi rhagweled ystorm echrydus ei angau creulon?
{{c|OWEN WILLIAM }}
Er mai gŵr a aned ym Mryncrug yn 1784, ac a fu byw yn Nhywyn oedd Owen William, bu ganddo gysylltiad amlwg â'n hardal yn nyddiau ei ieuenctid, a hanai ei deulu o Lanegryn. Dywaid ef mai'r atgof cyntaf a feddai oedd dychwelyd adref gyda'i rieni o dŷ ei nain wedi bod yng Ngŵyl Mabsant Llanegryn. Perthynai i'r un tras â'r Parch. Edward Anwyl.
Daeth yn fachgen ieuanc i wasnaethu at William Wallis i Fronclydwr. Gŵr defosiynol oedd ei feistr, a bryderai'n fawr am gymeriad ei wasanaethyddion, a bu ganddo ofal tyner am-danynt. Tra oedd ef ym Mronclydwr cafodd argyhoeddiad ysbrydol grymus, ac awyddai am bregethu'r Efengyl, ond bu cryn frwydr cyn y rhoddwyd iddo dderbyniad croesawus i fynd ymlaen gyda'r gorchwyl. Yr oedd y brodyr yn y Bwlch yn barod i'w osod yn fath o arolygwr ar yr Ysgol Sul a gynhelid ym Mhen-y-banc, Llanegryn. Tipyn yn ddiymadferth a diantur oedd yr Ysgol Sul ym Mhen-y-banc, lle y cyfarfyddai'r ddiadell Fethodistaidd i addoli tua 1805.
Derbyniodd Owen William y swydd yn llawen, a llwyddodd i ennyn sêl a diddordeb yn yr ysgol ymhlith pobl dda'r pentref fel yr oedd ganddo'n fuan ysgol lewyrchus, a rhai aelodau hefyd wedi ymuno â'r Seiat.
Cyffesai ef ei hun ymhen blynyddoedd mai'r adeg ddedwydd-af a fu yn ei hanes oedd y dyddiau a dreuliodd yn gwasnaethu yn yr ysgol ieuanc ym mharlwr Pen-y-banc.
Yr oedd ei fryd o hyd ar ddechrau pregethu'r Efengyl, a hiraethai am i'r dydd hwnnw wawrio. Ond caled fu ysbryd pobl y Bwlch tuag ato fel pregethwr, oherwydd na allent gredu ei fod wedi ei gymhwyso at bregethu'r efengyl, eithr tueddai gwŷr Llanegryn at fod yn ffafriol a chefnogol iddo gael pregethu. Yr oedd iddo gefnogydd selog yn byw ym Mhentre-uchaf, a chynhesai hynny ei galon yntau'n fawr. Yn yr argyfwng<noinclude></noinclude>
cpgxhwei2p9ckhhx3zezc01troz9io5
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/230
104
83156
162107
2026-04-01T21:50:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "daeth y Parch. John Elias o Fôn i bregethu ar fore Saboth i Fryn-crug, a manteisiodd pobl y Bwlch ar y cyfle i ddwyn achos Owen William ger ei fron. A'u cwyn bennaf oedd ei fod wedi rhyfygu pregethu yn Llanegryn, ac wedi dal ati am Hwyrfrydig oedd John Elias i ddweud dim gair ar y mater, ond o'r diwedd dywedodd wrtho, "Dos ati hi, fy machgen bach i, a phregetha dy orau". Edrychwn arno fel un o arloeswyr addysg grefyddol a diwylliant...
162107
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>daeth y Parch. John Elias o Fôn i bregethu ar fore Saboth i Fryn-crug, a manteisiodd pobl y Bwlch ar y cyfle i ddwyn achos Owen William ger ei fron. A'u cwyn bennaf oedd ei fod wedi rhyfygu pregethu yn Llanegryn, ac wedi dal ati am Hwyrfrydig oedd John Elias i ddweud dim gair ar y mater, ond o'r diwedd dywedodd wrtho, "Dos ati hi, fy machgen bach i, a phregetha dy orau".
Edrychwn arno fel un o arloeswyr addysg grefyddol a diwylliant ym mhentref Llanegryn; cynorthwyodd achos a oedd yn llawer mwy nag ef ei hun.
{{c|W. W. E. WYNNE, PENIARTH}}
Mab cyntafanedig oedd ef i William Wynne ac Elizabeth ei briod, ac etifedd yr ystâd. Ganed ef yn Pickhill Hall, Sir Ddinbych, 23, Rhagfyr 1801.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Westminster a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Cydnabyddid ef yn ysgolor o'r rheng flaenaf. Cymerai ddiddordeb arbennig yn hanes a thraddodiadau Cymru.
Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd yn y blynyddoedd 1852, 1857, a 1859. Yr oedd yn Uchel Siryf dros Feirion yn 1867. Gwnaed ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol yn 1852, ac yr oedd yn un o'i hysgrifenyddion pan fu ef farw. Apwyntiwyd ef yn Geidwad Castell Harlech wedi marwolaeth T. Pryce Lloyd; a chydweithiai â'i gyfaill, Mr. Clark, i ddwyn allan y gyfrol ar hanes Castell Harlech. Cyhoeddodd lyfryn ar hanes Llanegryn yn 1879; a gwelir nodiadau o'i eiddo yn llyfr Lewis Dwnn ar Heraldic Visitation of Wales. Ceir nodiadau wedi iddo eu hysgrifennu yn y Kalendars of Gwynedd, a gyhoeddwyd gan Mr. Edward Breese, Porthmadog. Canfyddir ei waith hefyd yn History of the Gwydir Family, a gyhoeddwyd gan y diweddar Mr. Askew Roberts. Cydnebydd Syr Henry Ellis yr help a dderbyniodd ganddo wrth baratoi i gyhoeddi Record of Caernarvon yn 1838. Ysgrifennai o dan y llythyren W i'r Bye-Gones. Gohebai ag ugeiniau o brif awduron Cymru o dro i dro ar hyd a lled y wlad. Yr oedd yn hyddysg mewn pensaernïaeth<noinclude></noinclude>
kqryt6un0nyypk566g7bwbuwvgoppux
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/231
104
83157
162108
2026-04-01T21:50:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "eglwysig. Atgyweiriwyd eglwys enwog Llanaber o dan ei gyfarwyddyd ef tua 1860. Daeth Llawysgrifau Hengwrt i'w feddiant yn 1859. Adnabyddir hwy fel Peniarth MSS. Bu farw ym Mheniarth, 9, Mehefin 1880, a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn. Bu'n gyfaill ac yn gymwynaswr i lên a chelfyddyd Cymru. {{c|BRODORION<br>Nodion byr am bersonau na chyfeiriwyd atynt eisioes.}} {{c|AMRYW ALWEDIGAETHAU}} David Evans: Ganed yn y pentref. Ysgolfeistr...
162108
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eglwysig. Atgyweiriwyd eglwys enwog Llanaber o dan ei gyfarwyddyd ef tua 1860. Daeth Llawysgrifau Hengwrt i'w feddiant yn 1859. Adnabyddir hwy fel Peniarth MSS.
Bu farw ym Mheniarth, 9, Mehefin 1880, a chladdwyd ef ym mynwent Llanegryn. Bu'n gyfaill ac yn gymwynaswr i lên a chelfyddyd Cymru.
{{c|BRODORION<br>Nodion byr am bersonau na chyfeiriwyd atynt eisioes.}}
{{c|AMRYW ALWEDIGAETHAU}}
David Evans: Ganed yn y pentref. Ysgolfeistr. Bu farw yn 1901.
John Cadwaladr Evans: Prifathro Ysgol Ramadeg y Bala. Bu farw yn ei swydd yn y Bala yn 1915. Preswyliai ei rieni yn yr Hen-bost, a'u heiddo hwy oedd y tŷ.
Meredydd Evans: Y Pentref. Darlithiwr yng Ngholeg Harlech.
Lewis Gethin: Trigiannai yn 1526. Hanoedd o wehelyth Rhyd-y-garnedd. Offeiriad ydoedd ef.
Robert Hughes: Y Pentref. Arglwydd Faer cyntaf Caerdydd, 1905-6.
Dr. David Jones: Un o blant ysgol Llanegryn. Hanoedd o hen dras yn y plwyf. Bu'n weinidog a meddyg yng Nghymru ac Awstralia. Ymdrechodd ef a'i briod yn egniol dros gadw'r "Achos Cymraeg" yn fyw ym Melbourne. Bu farw yn 1934.
John Owen Jones: "Owen Bryn-gwyn". Athro yn Rhydychen, a cherddor o radd uchel.
Richard Jones: Milfeddyg adnabyddus. Bu farw yn 1930. W. E. Jones: Bryn-gwyn. Is-reolwr Banc y Midland. Câr yr ardal.
David Egryn James: Glan-aber, Ficer yn Llundain. David Thomas Owen: Ficerdy, Ficer Llan-ddewi Velfrey
Richard Owen: Peniarth. Barnwr yn Decca, Bengal. Bu farw yn yr India yn 1821.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
0pgt31djesarougi8aej3mkb2oz21mc
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/232
104
83158
162109
2026-04-01T21:51:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Lewis Owen: Trigiannai yn 1773. Perchennog ystâd Waun-fach. Bu'n un o ymddiriedolwyr ysgol Llanegryn. Offeiriad ydoedd ef. Dr. Hugh P. Rowlands: Bryn-gwyn. Meddyg adnabyddus yn Nhywyn. Bu'n ofalus a thyner o weiniaid y plwyf. Bu farw yn 1929. Lewis Rowlands: Tal-y-bont. Aeth i weinidogaeth yr Eglwys Fethodistaidd yn 1884. Ymfudodd i Awstralia. Dr. Richard Rowlands: Tal-y-bont. Meddyg yn Harley Street, Llundain. Hoff ganddo sgwrsi...
162109
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Lewis Owen: Trigiannai yn 1773. Perchennog ystâd Waun-fach. Bu'n un o ymddiriedolwyr ysgol Llanegryn. Offeiriad ydoedd ef.
Dr. Hugh P. Rowlands: Bryn-gwyn. Meddyg adnabyddus yn Nhywyn. Bu'n ofalus a thyner o weiniaid y plwyf. Bu farw yn 1929.
Lewis Rowlands: Tal-y-bont. Aeth i weinidogaeth yr Eglwys Fethodistaidd yn 1884. Ymfudodd i Awstralia.
Dr. Richard Rowlands: Tal-y-bont. Meddyg yn Harley Street, Llundain. Hoff ganddo sgwrsio am drigolion y fro.
Dr. Robert Rowlands: Tal-y-bont. Meddyg yn Llundain. Yr oedd ei glod yn eang. Bu farw yn Llundain yn 1938.
Abi Williams: Glan-y-wern. Arolygwr y ffyrdd yn sir Fflint. Câr fryniau'r fro.
William R. Aled Williams: Heulfre. Athro yn Ysgol y Sir, Tywyn. Bu farw yn 1932.
William Williams: Ganed ym Mheniarthuchaf yn 1785. Cyfreithiwr yn Amwythig.
{{c|PERSONAU YM MYD DIWYDIANT A MASNACH.}}
William Glyn Davies: Siop-isaf. Trydanwr ieuanc gobeith-iol yn Birmingham. Bu farw drwy ddamwain wrth deithio at ei waith yn 1946.
Ellis Edwards: Bryneglwys. Bu'n gyllidwr yn Iwerddon. Treuliodd y rhan ddiwethaf o'i oes yn fasnachwr yn y pentref. Yr oedd yn ŵr diwylliedig. Bu farw yn 1933.
John Ellis: Ganed yng Nghwm-pen-neuadd yng nghym-dogaeth Ffridd-blaen-y-cwm yn 1789. Bu'n fasnachwr llwyddiannus yn Aberystwyth. Adeiladodd Foundry Ellis fel y gelwid hi yn bell ac agos. Ystyrid hi'n Foundry enwog yn ei dydd. Bu ganddo ran amlwg yn natblygiad tref Aberystwyth. Bu'n garcharor yn nwylo Ffrainc yn ystod rhyfeloedd Napoleon. Morwr ydoedd ef, a daliwyd ei long gan y Ffrancod. Yn ystod ei garchariad cyfarfu â'i frawd yn ddamweiniol,<noinclude></noinclude>
98ylpen3c6hx1wqwr8zr3nkic2xh3n8
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/233
104
83159
162110
2026-04-01T21:51:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a oedd hefyd fel yntau, yn garcharor. Dysgodd lawer celfyddyd yn ystod ei garchariad yn Ffrainc. Bu iddo nai o'r enw John Ellis a fu'n cadw siop ''Silversmith'' yn Aberystwyth. o blant Tyn-y-pwll ydoedd ef. Un William Evans: Ganed yn Nhyn-y-llan. Bu'n fasnachwr yng Nghaer. Yr oedd ei siop yn ganolfan brysur ym mywyd Cymry'r dref yn 1876. Edmund R. Jones: Trychiaduchaf. Ymfudodd i Awstralia. Cartrefodd yn Sidney, lle y bu'n fasnachw...
162110
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a oedd hefyd fel yntau, yn garcharor. Dysgodd lawer celfyddyd yn ystod ei garchariad yn Ffrainc. Bu iddo nai o'r enw John Ellis a fu'n cadw siop ''Silversmith'' yn Aberystwyth. o blant Tyn-y-pwll ydoedd ef.
Un William Evans: Ganed yn Nhyn-y-llan. Bu'n fasnachwr yng Nghaer. Yr oedd ei siop yn ganolfan brysur ym mywyd Cymry'r dref yn 1876.
Edmund R. Jones: Trychiaduchaf. Ymfudodd i Awstralia. Cartrefodd yn Sidney, lle y bu'n fasnachwr llwyddiannus, ac yn ddinesydd parchus. Deuwyd â'i lwch dros y moroedd i'w gladdu i fynwent Llanegryn, 5 Hydref, 1946.
Mary Morgan: Ganed yn Nhy-mawr. Prynai i ffyrm yn Llundain a Pharis tua'r flwyddyn 1886.
David Roberts: Brynbloeddyn. Masnachwr yn Birmingham yn 1885.
Edward Richards: Bu ef yn ŵr blaenllaw ym mywyd y pentref. Priododd â Prudence, ferch John Lloyd, Gwydd-fryniau. Yr oedd ei siop, a elwid Exchange, yn hysbys drwy orllewin Meirionnydd am bob math o nwyddau cartref a thramor. Un dydd aeth ef a dau gydymaith mewn cwch i gyrchu llwyth o goed o Abermaw. Wedi iddynt droi tuag adref dymchwelodd y cwch a bu'r tri foddi yn agos i'r lan yn Abermaw. Digwyddodd y trychineb tua'r flwyddyn 1816.
Robert Roberts: Ganed ym Mhen-y-ceunant. Peiriannydd oedd ef ar long. Hanes torcalonnus yw eiddo Robert Roberts. Suddodd yr agerlong, Florence, pan oedd ar ei mordaith o Gaerdydd i Genoa, 11 Mawrth, 1891. Boddodd pawb oedd ar y bwrdd a Robert Roberts yn eu plith.
John Rowlands: Brodor o'r plwyf. Yr oedd yn bartner mewn ffyrm yn Deansgate, Manchester. Bu farw yn 1865. Claddwyd ef ym mynwent Llanegryn.
William Rowlands: Hen-Siop: Cadwai fusnes ym Mhont-y pridd yn 1890.
Ellis Williams: Ganed yn y pentref. Capten llong. Cwympodd ar ei long a pharlyswyd ef am ei oes. Cartrefai gyda'i chwaer yn y pentref. Bu farw yn 1905.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
g6ubdfz3n6sesr8tg4h4f8u1f2oka0v
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/234
104
83160
162111
2026-04-01T21:52:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|RHAI A FU'N GWASANAETHU YN Y LLYS BRENHINOL.}} {{center block| <poem> Dafydd ap William Reinallt ar Harri VI. John Powys ar Harri VIII. William Cardwell ar Elisabeth. </poem> }} <br> {{c|RHESTR O SIRYFON AC AELODAU SENEDDOL DROS FEIRIONNYDD O BLWYF LLANEGRYN.}} {{c|Y SIRYFON}} {{center block| <poem> 1647-Lewis Owen, Peniarth. 1695-Richard Owen, Peniarth. 1715-Lewis Owen, Peniarth. 1745-Edward Williams, Peniarth. 1776-William...
162111
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|RHAI A FU'N GWASANAETHU YN Y LLYS BRENHINOL.}}
{{center block|
<poem>
Dafydd ap William Reinallt ar Harri VI.
John Powys ar Harri VIII.
William Cardwell ar Elisabeth.
</poem>
}}
<br>
{{c|RHESTR O SIRYFON AC AELODAU SENEDDOL DROS FEIRIONNYDD O BLWYF LLANEGRYN.}}
{{c|Y SIRYFON}}
{{center block|
<poem>
1647-Lewis Owen, Peniarth.
1695-Richard Owen, Peniarth.
1715-Lewis Owen, Peniarth.
1745-Edward Williams, Peniarth.
1776-William Williams, Peniarth-uchaf.
1812-William Wynne, Peniarth.
1833-George Jonathan Scott, Peniarth-uchaf.
1857-William Watkin Edward Wynne, Peniarth.
1836-William Robert Maurice Wynne, Peniarth.
</poem>
}}
<br>
{{c|YR AELODAU SENEDDOL}}
{{center block|
<poem>
1658-Lewis Owen, Peniarth.
1852-William Watkin Edward Wynne, Peniarth.
1857-William Watkin Edward Wynne, Peniarth.
1859-Willam Watkin Edward Wynne, Peniarth.
1865-William Robert Maurice Wynne, Peniarth.
</poem>
}}
<br>
{{c|ARGLWYDD-RAGLAW MEIRION.}}
{{c|Apwyntiwyd William Robert Maurice Wynne, Peniarth, yn Arglwydd-Raglaw Sir Feirionnydd ym mis Hydref, 1891.}}
{{nop}}<noinclude></noinclude>
8sqhu257ot6u02l8t8el1bzx6vgg0fx
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/235
104
83161
162112
2026-04-01T21:52:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|LLYFRAU}} * Breese, Edward: The Kalendars of Gwynnedd. London, 1873. Cymru. Cyf, xxii, 89, 141, 163, 279; * Cyf. xxiii, 186, 238. Elin Egryn: Telyn Egryn. Dan olygiaeth W. Rees. 1850. * Foulkes, I.: Enwogion Cymru. Lerpwl, 1870. Dolgellau. * Jenkins, R. T.: Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn. Bala, 1939. * Mather, Z.: Hugh Owen, Bronclydwr. Wrecsam, 1899. * Owen, Robert: Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I|Ha...
162112
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|LLYFRAU}}
* Breese, Edward: The Kalendars of Gwynnedd. London, 1873. Cymru. Cyf, xxii, 89, 141, 163, 279;
* Cyf. xxiii, 186, 238. Elin Egryn: Telyn Egryn. Dan olygiaeth W. Rees. 1850.
* Foulkes, I.: Enwogion Cymru. Lerpwl, 1870. Dolgellau.
* Jenkins, R. T.: Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn. Bala, 1939.
* Mather, Z.: Hugh Owen, Bronclydwr. Wrecsam, 1899.
* Owen, Robert: [[Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I|Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd. Cyf. I.]] Dolgellau, 1889.
* Palmer A. N.: History of the Old Nonconformity of Wrexham and Neighbourhood. Wrexham, 1888.
* Parry, Thomas: Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Hyd 1900. Gwasg Prifysgol Cymru. Caerdydd, 1944.
* Roberts, T. R.: A Dictionary of Eminent Welshmen. Cardiff, 1908. Williams, Robert: Eminent Welshmen. Llandovery, 1852.
* Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.
* Y Gwyddoniadur Cymreig. Dinbych, 1890.
* Y Traethodydd, 1852, 290; 1868, 295.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
rj40tkgqr4tnei3s96txealoagit7bl
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/236
104
83162
162113
2026-04-01T21:53:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD XI}}}} {{c|Cerrig Hynod. Carreg y Big. Bedd Gwell. Llys Meirion. Cistfaen. Cistfaen Hir. Hen Fynwent Bronclydwr. Mynwent Cyfannedd-uchaf. Y Domen Ddreiniog. Tomen Cae-gwyn. Gweirglodd Waun-Llywelyn. Adeilad Enwog. Ffynhonnau. Buddai Gnoc. Awr. Gefeiliau Cŵn. Trap Moch. Ugain Gwyddelig. Ewyllysiau. Cymdeithas Gyfeillgar. Cosbi Trwm. Cosb Celwydd ac Enllib. Ymweliad Tywysog.}} {{c|CERRIG HYNOD}} BU cerrig yn arwyddion p...
162113
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XI}}}}
{{c|Cerrig Hynod. Carreg y Big. Bedd Gwell. Llys Meirion. Cistfaen. Cistfaen Hir. Hen Fynwent Bronclydwr. Mynwent Cyfannedd-uchaf. Y Domen Ddreiniog. Tomen Cae-gwyn. Gweirglodd Waun-Llywelyn. Adeilad Enwog. Ffynhonnau. Buddai Gnoc. Awr. Gefeiliau Cŵn. Trap Moch. Ugain Gwyddelig. Ewyllysiau. Cymdeithas Gyfeillgar. Cosbi Trwm. Cosb Celwydd ac Enllib. Ymweliad Tywysog.}}
{{c|CERRIG HYNOD}}
BU cerrig yn arwyddion pwysig ym mywyd yr hen Gymry. Buont yn gyfrwng enwau ar dyddynnod, caeau, a mynyddoedd. Nid oedd dim yn anwylach, nac yn gysegredicach ganddynt na charreg yr aelwyd a charreg y trothwy ac yn arbennig felly garreg yr allor. Soniai'r hen dadau am gerrig derwyddyd, cerrig arwain, a cherrig terfynau plwyfi a threddegymau.
Bu cerrig hynod ym mhlwyf Llanegryn, ond erbyn hyn y mae llaw ddidostur dyn wedi eu malu a'u symud i leoedd nas gŵyr neb.
Yr oedd carreg enfawr, yn hynotach am ei hyd a'i lled nag am ei huchder, ar y cytir a fu'n agos i'r eglwys, ac arferid chwarae llawer arni ar y Sul a'r Gwyliau. Ystyrid hi'n garreg berthynol i'r eglwys.
Bu carreg ar y mynydd uwchben Brynglasan a elwid yn Hen Garreg, ond erbyn hyn ni wyddys o gwbl ym mha le y safai. Math o garreg hawl oedd hi; hawliai ei pherchennog bopeth o fewn pellter arbennig iddi.
Ceir Carreg-llun-pen-dyn rhwng hysfa Tyn-y-cornel a hysfa Dysefin. Y mae'n hi'n garreg derfyn rhwng plwyfi Llanegryn a Llanfihangel-y-pennant, a saif hefyd ar fin llwybr Celynnin. Cychwyn y llwybr hwn o eglwys Llangelynnin, a daw heibio i Brysgae i'r mynydd wrth Glawdd<noinclude></noinclude>
kxw0e36ch3s7dgv0s9fpm9cjn0s4038
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/237
104
83163
162114
2026-04-01T21:54:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "-du, ac wedi cyrraedd Croes Egryn ymuna â'r Ffordd-ddu gan ei dilyn at y Banc Melyn, ac yna croesa'r Banc gan gyfeirio am y Garreg-llun-pen-dyn. Wedi cyrraedd y garreg â ymlaen drwy Ffridd-bant am waelod Pen-rhiw-bodilan, a heibio i Ben-y-meini am eglwys Llanfihangel. Y mae hefyd lwybr arall yn cychwyn oddi wrth Felinuchaf, Llwyngwril, a daw yntau allan o ffridd Tonfannau i'r Ffordd-ddu, ac ymuna â llwybr Celynnin hyd at y Garreg-llun-...
162114
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>-du, ac wedi cyrraedd Croes Egryn ymuna â'r Ffordd-ddu gan ei dilyn at y Banc Melyn, ac yna croesa'r Banc gan gyfeirio am y Garreg-llun-pen-dyn. Wedi cyrraedd y garreg â ymlaen drwy Ffridd-bant am waelod Pen-rhiw-bodilan, a heibio i Ben-y-meini am eglwys Llanfihangel. Y mae hefyd lwybr arall yn cychwyn oddi wrth Felinuchaf, Llwyngwril, a daw yntau allan o ffridd Tonfannau i'r Ffordd-ddu, ac ymuna â llwybr Celynnin hyd at y Garreg-llun-pen-dyn. Ac yna y mae'n arwain am Goed-y-graig, a daw allan ym mhen pellaf morfa Dysefin. Galwai'r hen bobl hwn yn llwybr y Felin am ei fod yn arwain o Felinuchaf, Llwyngwril, i Felin Dysefin. A phan gaeodd Peniarthuchaf y tir a elwir Coed-y-graig yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, bu'n rhaid iddynt gydnabod hawl y cyhoedd i'r llwybr drwy osod llidiart arno, a digon o led iddo fel y gallai march a philyn pwn fynd drwyddo.
Helaethwn ar y llwybrau hyn oherwydd ar hyd-ddynt hwy y gellir mynd a dyfod at y Garreg-llun-pen-dyn. Adnabyddir y garreg hon ers canrifoedd gan drigolion y cymdogaethau, a gelwir hi wrth yr enw hynod am fod twll ynddi sydd ar ffurf pen dyn. Carreg deirongl yw ac y mae'r twll ar yr ochr sy'n wynebu'r gogledd-ddwyrain. Canfyddir hi'n hawdd drwy sefyll yn Nant-y-gwddw ychydig uwchlaw Corlan Dysefin, ac edrych i gyfeiriad y Banc Melyn. Dywedai'r hen dadau mai'r man pellaf a welid drwy sefyll yn y Nant hon oedd terfyn y ddau blwyf, a gwelir y garreg hefyd a oedd yn cael ei chydnabod heb os yn garreg derfyn; gerllaw iddi y mae cadair wedi ei gwneuthur o gerrig; saif y gadair ar ochr y graig sydd gyferbyn â'r garreg. Bu rhyw gysegredigrwydd yn perthyn i'r garreg hon yn yr hen amser, a chredai pawb mai braint a rhinwedd oedd iddynt roddi eu pennau yn y twll. Dywedir yr arferai Celynnin Sant orffwys a gweddïo arni, a gwnâi'r hen saint yr un peth yn hollol wrth fynd am y Cymun Sanctaidd i eglwys Sant Mihangel.
Saif y garreg yn y cwm a adwaenid gynt wrth yr enw Cwm Idnerth-uch a ymestynnai o gyfeiriad Coed-y-graig heibio i Drum-y-brain ar i fyny am Esgair Berfedd rhwng y ddau blwyf. Yn y Cwm hwn y safodd Hafoty olaf y plwyf, a gelwid<noinclude></noinclude>
tmg2ff63xel21oua73j2rju4m80izii
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/238
104
83164
162115
2026-04-01T21:55:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ef yn Hafoty William Dafydd, a hefyd yn Hafoty Cwm-Idnerth-uch. Ei berchennog a'i drigiannydd olaf oedd William Dafydd, Brynglasan. Cyrchai preswylwyr pentref Llanegryn yn niferoedd tua'r hen Hafoty yn ystod misoedd yr haf am ymenyn, caws, llaeth a maidd. Ac adnabyddid y llwybr a arweiniai heibio i Gwm-uchaf at yr Hafoty hwn wrth yr enw Llwybr Maidd. A bu rhialtwch mawr lawer noson yno hyd oriau mân y bore yn ystod y misoedd o Fai hy...
162115
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef yn Hafoty William Dafydd, a hefyd yn Hafoty Cwm-Idnerth-uch. Ei berchennog a'i drigiannydd olaf oedd William Dafydd, Brynglasan.
Cyrchai preswylwyr pentref Llanegryn yn niferoedd tua'r hen Hafoty yn ystod misoedd yr haf am ymenyn, caws, llaeth a maidd. Ac adnabyddid y llwybr a arweiniai heibio i Gwm-uchaf at yr Hafoty hwn wrth yr enw Llwybr Maidd. A bu rhialtwch mawr lawer noson yno hyd oriau mân y bore yn ystod y misoedd o Fai hyd Hydref.
Dyma safleoedd nifer o gerrig y ceir eu henwau'n dal i aros yn y plwyf:—
* Carreg Grwydr.
* Cae Carreg lwyd. Gwelir hi ar dop y Fron.
* Cae ar dir Bryneglwys.
* Cae Bryn carreg lwyd. Cae ar dir Hen-siop.
* Carreg Llun-carn-y-cythraul.
* Carreg Pompren-goch, sy'n croesi o dir Bodowyn i forfa Bron-eunydd.
* Cae'r Garreg-fawr. Ar dir y Waun.
* Carreg farch. Arferai fod wrth yr eglwys.
* Cerrig-y-rhyd. A oedd yn croesi'r afon cyn bod pont y pentref. Y maent yn dal yn yr afon ond bod y gro wedi eu cuddio.
Ceir Cae Carreg-hir a chae Carreg Lwyd ar dir Waun-fach. Clywsom fod unwaith garreg las ar waelod cae ar lan y môr perthynol i Donfannau-uchaf yn hysbysu bod y fan yn rhan o dreddegwm Rhydcryw ym mhlwyf Llanegryn. Tebyg mai'r môr a'i symudodd hi ymaith.
Deil cerrig mawr Llys Meirion i sefyll ar y mynydd ar gwr uchaf wyneb Rhiwfelen. Ac erys y maen ar y gistfacn ar garnedd Allt-lwyd. Rhed llinell o gerrig terfyn ar draws y Fign a fu unwaith yn ffin rhwng plwyfi Llanegryn a Chel-ynnin; gogwydda eu cribau o'r naill at y llall ar hyd y ffin. Gwelir carreg derfyn ar gae Bredyn-fawr ar fin ffordd y Gelli. Gosododd W. W. E. Wynne nifer o gerrig terfyn ar y mynydd ar ochr Llanfihangel-y-pennant a'i enw wedi ei dorri arnynt.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
alouwrm9xsp2nuv16dkto2kaq3mqm4l
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/261
104
83165
162116
2026-04-01T21:58:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162116
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|
|Adar
|
|-
|Boda neu'r Bwncath
|
|Brân
|-
|Brân Dyddyn
|
|Cornchwiglen neu Glicied y Waun
|-
|Cudyll Coch
|
|Cudyll Glas neu'r Creyr
|-
|Tylluan
|
|Gylfinir
|-
|Iâr Ddŵr
|
|Petrisen
|-
|Pioden
|
|Ysgrech y Coed
|-
|Y Gaseg Wanwyn
|
|Ysguthan
|-
|
|Anifeiliaid
|
|-
|Carlwm
|
|Cwningen
|-
|Draenog
|
|Ffwlbart
|-
|Gwenci
|
|Gwiwer
|-
|Liwynog
|
|Mochyn Daear neu'r Pry Llwyd
|-
|Ysgyfarnog
|
|
|}
{{c|LLYFRAU}}
* Dogfennau Peniarth.
* Peate, Iorwerth C.: Diwylliant Cymru. Lerpwl, 1942.
* Williams, Ifor: Enwau Lleoedd. Lerpwl, 1945.
* Ystyron Enwau: Cyfrol Eisteddfod Gadeiriol Tywyn, 1907.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
q317n8hwpe2ep8h4zvua4w1d1j6ivrq
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/260
104
83166
162117
2026-04-01T21:59:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162117
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|Hen Enwau Crefyddol}}
{{center block|
<poem>
Caerabad.
{|
| Abad uchaf.
| rowspan=3|{{brace2|4|r}}Caeau Sarnhelygen.
|-
| Abad ganol.
|-
| Abad isaf.
|}Caermynach.
Talar-y-mynach. Ar dir Caermynach.
Yr Abad. Pentŷ.
Ysgubor-yr-abad. Ysgubor ddegwm y plwyf.
Croes Egryn. Yn ôl rhai awduron bu dwy Groes Egryn ar y mynydd,
:un ar y dwyrain a'r llall ar y gorllewin.
Maes-y-groes. Ar dir y Nant.
Talar-y-Groeswirion. Ar dir Gwyddfryniau.
Trum-y-groes. Ar derfyn hysfa Peniarthganol.
Tŷ-croes. Ar ffridd Blaen-y-cwm.
Y Groeswirion. Ar dir Gwyddfryniau.
</poem>
}}
<br>
{{c|Creaduriaid Gwylltion}}
Ciliodd y Barcud a'r Bela'n llwyr o'r plwyf ers llawer o flynyddoedd. Bu'r Bela'n lluosog ar y mynyddoedd, a soniai'r hen drigolion am ddau fath, sef Bela'r Coed a Bela'r Graig, a gelwir y llwybr sy'n arwain heibio i'r Trawst am ffriddoedd y Pant a Thal-y-bont yn Llwybr Bela hyd heddiw. Gwelwyd yr olaf ohonynt yng nghymdogaeth Coed Cefn-yr-ynys tua'r flwyddyn 1890.
Nid erys y Gigfran yn y plwyf mwy; nythai'r ddiwethaf ohonynt tua Chloddfa Pirs. Daw i'r bryniau a'r ffriddoedd yn y gwanwyn. Deil y Fulfran i ehedeg ar draws y plwyf i'r môr bob dydd. Erys yr adar a'r anifeiliaid a ganlyn yn y plwyf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fqar3wjvkqo0n6s2q1zz91cfcwwthkh
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/259
104
83167
162118
2026-04-01T22:01:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162118
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tyddyn-y-blaidd. Ei hen enw oedd Tir-y-blaidd. Tebyg mai gŵr o'r enw Blaidd oedd ei berchennog gynt.
Waun (y). Ei hen enw oedd Waun-oer.
{{c|Enwau Llennyrch ar y Mynydd a'i odre}}
{{center block|
<poem>
Afon Dyffryn.
Bancmelyn, a'r garnedd.
Brynrhoserth neu Frynrhosel.
Braich-y-mynydd.
Carnedd-yr orwedd.
Cloddfa Pirs.
Craig Cwm-llwyd a'r carneddi.
Croes Egryn ar gwr y Fign.
Cut-y-bugail.
Cwm-Idnerth-uch.
Dyffryn.
Esgair-ddu.
Golchfa.
Ffynnon Cadlad.
Llwybr Celynnin.
Mign.
Moel Drefa.
Nant-y-gwddw.
Pant Gwely'r Meibion.
Pen-y-bwlch-oer.
Pwll-y-darren.
Rhyd-y-dyffryn.
Trawsfynydd.
Trum-y-groes.
Tynodda.
Y Groes-lon neu'r Groes-lwrw.
Allt-lwyd, a'r carneddi.
Bedd-y-brenin.
Braich-du.
Bwlch-llin.
Carreg-y-big.
Corlan-fawr.
Craig Tyn-y-cornel.
Croes Egryn ar gwr uchaf
:Moel Tirgawen.
:Cwm-mamau.
Dalfa, neu Bant-y-gafael.
Esgair berfedd.
Eisteddfa Celynnin..
Ffordd-las.
Llys Meirion.
Llywelyn.
Moel Gwely'r Sarff.
Nant Ysberi.
Nant Esgair-ddu.
Pant-y-defaid.
Pen-y-gorlan.
Rhydcryw-Rhyd ar afon
Dyffryn a gweundir.
Sywyd.
Trefer.
Tŷ-croes.
Yr Ogof.
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
gp5t4x2qv5s3l4putqbtnpy4piczwoo
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/258
104
83168
162119
2026-04-01T22:02:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162119
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Glan-y-morfa-mawr. Gelwid y tyddyn hwn hyd yn gymharol ddiweddar yn Llwynhensel. Golyga ''hensel'' ernes neu anrheg.
Glan-y-morfa-bach. Ei hen enw oedd Tyddynsiencyn. Bu'n eiddo gŵr o'r enw Siencyn.
Gwyddfryniau. Y mae tuedd i ynganu'r enw hwn yn Wyrddfryniau. Ceir y ffurf hon mewn hen ddogfennau; ystyr ''gwŷdd'' yw coed.
Hen-siop. Cedwid siop yma yn 1679. Ei hen enw oedd Tyddyn-du-yr-arfod.
Nantmadyn. Hen enw Cymraeg ar lwynog yw madyn. Nant-y-pwl. Yr enw ar y lle yn 1696 oedd Tyddyn Llywelyn Bwl. Wedi hynny ceir y ffurf Nant-y-Bwl.
Pant (y). Ei hen enw oedd Pantcynfarch. Enw personol yw Cynfarch.
Peniarth. Daw o ddau enw pen a garth. Ystyr garth yw codiad tir neu le wedi ei gau.
Rhiwfelen. Hoffai'r hen Gymry ddisgrifio eu tyddynnod yn lliwgar. Bu Rhiwfelen yn enw ar ran o'r plwyf. Sonnid am ''wyneb'' a ''llawr'' Rhiwfelen a gelwid rhan o'r mynydd yn gytir Rhiwfelen. Bu Rhiwfelen a Rhiwfelen-fach yn ystâd. Rhydcryw. Ystyr cryw yw cawell a osodid mewn nant neu afon at ddal pysgod. Gelwid dau dyddyn yn Rhydcryw-fawr a Rhydcryw-fechan. Y mae gweundir a rhyd ar y mynydd a elwir yn Rhydcryw.
Rhyd-y-garnedd. Yr oedd yma ryd i groesi afon Dysynni, a bu carnedd un amser ar lan yr afon.
Tirgawen. Perchenogid y tyddyn hwn un adeg gan ŵr o'r enw Gawen. Ei hen enw oedd Bryn-llywelyn.
Trychiad-uchaf.Trychiad-isaf. Enw ar y morfa a'r fawnog oedd Trychiad. Tebyg mai ei ystyr yw torri neu dyrchu.
Tyddyn-bach. Ei hen enw oedd oedd Tyddyn-bach-yr-adfa-uchaf. Bu'n etifeddiaeth.
Tyddynpadrig. Bu'n dreftadaeth i deulu Gwyddelig o'r enw Lewis Partick a Patrick Fenn. Preswylid yn y tŷ hyd yn ddiweddar.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
r2ey3obw9qjcctxob747wzac0hv8a56
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/257
104
83169
162120
2026-04-01T22:03:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162120
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Afon-ddu. Enw ar y nant a red heibio i'r lle. Bu'n dyddyn, ac yn ddau neu dri o bentai. Gelwid rhan o'r plwyf o bobtu i'r nant i lawr at afon Dysynni yn Afon-ddu.
Bodowyn. Ei hen enw oedd Bodowen. Bu Bodowyn yn enw ar ran o'r plwyf yn yr hen amser.
Bredyn-fawr.Bredyn-fach. Awgrymwyd inni mai ystyr Bredyn yw Bre-rhedyn, hynny yw, ucheldir rhedynog
Bryn. (Y). Ei hen enw oedd Bryn-y-gweision-duon; gelwid ef hefyd yn Fryn-y-gwysion-duon. Y ffurf gyntaf yw'r hynaf.
Brynbloeddyn. Sylwasom y gelwid ef yn Fryn-y-blaidd, Bryn blauddin, a Bryn bleddyn. Bu'n dyddyn er yn gynnar yn hanes yr ardal. Saif y tir rhwng wtre Glan-y-morfa-mawr ac wtre Glan-y-morfa-bach. Gelwid yr hen dŷ lle saif y Neuadd, yn Frynbloeddyn.
Caerabod. Perthynai i Fynachlog y Cymer. Safai hen ysgubor ddegwm ar ymyl y cae hwn, a gelwir y tŷ sy'n perthyn iddo yn 'Rabad. Gelwid tri chae arall yn y plwyf yn Abad-uchaf, Abad-ganol, ac Abad-isaf.
Caermynach. Gelwid hefyd gae yn y gymdogaeth yn Dalar-y-mynach. Tebyg y bu myneich y Cymer yn dal rhyw gysylltiad â'r lleoedd hyn pan oedd eglwys Llanegryn o dan y Cymer.
Celmi. (Y). Daw o'r enw Cilmyn. Enw'r lle ar y cyntaf oedd Cilmyn-Troed-du.
Cemaes. Gelwid dau le arall yn y plwyf yn Gemaes-uchaf a Rhyd-y-Gemaes. Dysgir ni mai ystyr Cemaes yw tro mewn afon neu gilfach. Bu Dysynni yn dolennu ar y morfa sydd islaw. Gelwid rhan o'r morfa yn Ddolennen.
Cil-sarn. ''Cil'' yw congl neu gilfach a ''sarn'' yw cerrig wedi eu gosod i groesi lle gwlyb, a golyga ffordd.
Cŵm-ŷch. Bu rhyw ŷch yn dal cysylltiad â'r fangre hon. Ceir Ffynnon-llygad-ŷch yn is i lawr ar fin y briffordd.
Glanmachlas. Y mae rhai o elfennau'r enw hwn yn ddieithr inni erbyn heddiw. Dywedir y daw o dair elfen, golyga ''glan'', fin neu ymyl, ''ma'', maes neu wastadedd, ''chlas'', treigliad o ''clas'' ac yn golygu lle wedi eu gau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
enjuj5q6i1qe0ryxebwl8bgd65pd8yq
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/256
104
83170
162121
2026-04-01T22:05:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162121
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-</noinclude>{{nopt}}
|-
|Rhyd-y-gemaes.
|John Williams.
|-
|Moelmon.
|Griffith Humphrey.
|-
|Minffordd.
|Edward Davies.
|-
|Ty-coch.
|Hugh Davies.
|-
|Ysgubor-wen (fel Penty).
|William Griffith.
|}
{{c|Hen Dyddynnod. Ni wyddom eu hoed.}}
{{center block|
<poem>
Talfryniau.
{|
| Tir Wyrion Eignion.
| rowspan=4|{{brace2|6|r}}Ar ystâd Gwyddfryniau.
|-
| Cefntanfod.
|-
| Tyddyn-bach.
|-
| Bwlch-y-gloddfa.
|-
|}Cefn-y-meysydd.
Ty-croes.
Tir-y-Gregor. Yr oedd tyddyn neu ddarn o dir a elwid<br>Tir-y-Gregor yn rhan o bob un o ystadau Tal-y-bont,<br>Bryn, a Gwyddfryniau.
Tyddyn Gwilym.
Geufron-hen.
Llety Ednyfed.
Tyddyn-y-gwyrbren.
Glandysynni. Bu'n dreftadaeth i uchelwyr o'r enw Gethin,<br>disgynyddion Gruffydd Derwas.
Maes-y-neuadd.
</poem>
}}
<br>
{{c|ENWAU LLEOEDD.}}
Y mae egluro enwau lleoedd yn orchwyl rhy ddyrys inni honni dim awdurdod arno. Gall ambell ddogfen dirol ein cynorthwyo i raddau helaeth lawer tro. Y mae'r rhan fwyaf o enwau lleoedd ein plwyf yn syml a chlir eu hystyr, fel nad oes eisiau inni ond sylwi ar nifer fechan ohonynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9inm6ya9xfxac95orz1p7ziqth4ic2u
162123
162121
2026-04-01T22:31:52Z
AlwynapHuw
1710
162123
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
|Rhyd-y-gemaes.
|John Williams.
|-
|Moelmon.
|Griffith Humphrey.
|-
|Minffordd.
|Edward Davies.
|-
|Ty-coch.
|Hugh Davies.
|-
|Ysgubor-wen (fel Penty).
|William Griffith.
|}
{{c|Hen Dyddynnod. Ni wyddom eu hoed.}}
{{center block|
<poem>
Talfryniau.
{|
| Tir Wyrion Eignion.
| rowspan=4|{{brace2|6|r}}Ar ystâd Gwyddfryniau.
|-
| Cefntanfod.
|-
| Tyddyn-bach.
|-
| Bwlch-y-gloddfa.
|-
|}Cefn-y-meysydd.
Ty-croes.
Tir-y-Gregor. Yr oedd tyddyn neu ddarn o dir a elwid<br>Tir-y-Gregor yn rhan o bob un o ystadau Tal-y-bont,<br>Bryn, a Gwyddfryniau.
Tyddyn Gwilym.
Geufron-hen.
Llety Ednyfed.
Tyddyn-y-gwyrbren.
Glandysynni. Bu'n dreftadaeth i uchelwyr o'r enw Gethin,<br>disgynyddion Gruffydd Derwas.
Maes-y-neuadd.
</poem>
}}
<br>
{{c|ENWAU LLEOEDD.}}
Y mae egluro enwau lleoedd yn orchwyl rhy ddyrys inni honni dim awdurdod arno. Gall ambell ddogfen dirol ein cynorthwyo i raddau helaeth lawer tro. Y mae'r rhan fwyaf o enwau lleoedd ein plwyf yn syml a chlir eu hystyr, fel nad oes eisiau inni ond sylwi ar nifer fechan ohonynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
c16n1gcvfejgofweoqsgbvmnihnvnrb
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/255
104
83171
162122
2026-04-01T22:06:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{nopt}} |- |Gellisarrog. |Margaret Evans. |- |Brynbloeddyn. |Hugh ab Edward. |- |Corlan-yr-Wyn. (Locklamb). |Evan Humphrey. |- |Fron. |Hugh Pugh. |- |Pen-y-ceunant. |William Roberts. |- |Y Garth. |Hugh Lloyd. |- |Pentre-ciln. |Evan Hugh. |- |Tan-y-bwlch.<br>Tycelyn neu Pant-y-gelynnen. |Dau dŷ Tafarn. |- |Hen-fwlch. Unwyd â'r Groeswirion. |David Davies. |- |Pant-y-cefn. | |} {{C|PENTAI WEDI'R CYFNOD UCHOD}}"
162122
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" />{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-</noinclude>{{nopt}}
|-
|Gellisarrog.
|Margaret Evans.
|-
|Brynbloeddyn.
|Hugh ab Edward.
|-
|Corlan-yr-Wyn. (Locklamb).
|Evan Humphrey.
|-
|Fron.
|Hugh Pugh.
|-
|Pen-y-ceunant.
|William Roberts.
|-
|Y Garth.
|Hugh Lloyd.
|-
|Pentre-ciln.
|Evan Hugh.
|-
|Tan-y-bwlch.<br>Tycelyn neu Pant-y-gelynnen.
|Dau dŷ Tafarn.
|-
|Hen-fwlch. Unwyd â'r Groeswirion.
|David Davies.
|-
|Pant-y-cefn.
|
|}
{{C|PENTAI WEDI'R CYFNOD UCHOD}}<noinclude><references/></noinclude>
da8u5tcshv801mdm1oyexdnpv83c29i
162124
162122
2026-04-01T22:38:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162124
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-</noinclude>{{nopt}}
|-
|Gellisarrog.
|Margaret Evans.
|-
|Brynbloeddyn.
|Hugh ab Edward.
|-
|Corlan-yr-Wyn. (Locklamb).
|Evan Humphrey.
|-
|Fron.
|Hugh Pugh.
|-
|Pen-y-ceunant.
|William Roberts.
|-
|Y Garth.
|Hugh Lloyd.
|-
|Pentre-ciln.
|Evan Hugh.
|-
|Tan-y-bwlch.<br>Tycelyn neu Pant-y-gelynnen.
|Dau dŷ Tafarn.
|-
|Hen-fwlch. Unwyd â'r Groeswirion.
|David Davies.
|-
|Pant-y-cefn.
|
|}
{{C|PENTAI WEDI'R CYFNOD UCHOD}}
{|style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
|Yr Abad.
|
|Elias Davies.
|-
|Cefn-coch-mawr.
|Ar groesffordd Tywyn
|Lewis Owen.
|-
|Cefn-coch-uchaf.
|
|Owen Humphrey.
|-
|Cefn-coch-bach.
|Ar ffordd Brynderw; llosgwyd<br>i'r llawr oherwydd y Frech-wen.
|Anne Richards.
|-
| colspan="3" |Cliriwyd chwech o dai o'r Talwrn.
|-
| colspan="3" |Yr oedd dau deulu'n byw yn Nhycelyn Pentreuchaf, un ar y llawr, a'r llall yn y llofft.<br>Yr oedd grisiau cerrig yn esgyn i'r llofft o'r tucefn yn yr ardd.
|-
| colspan="3" |Trigennid yn ddiweddar yn Nhy-talcen<br>a Thy-canol, Pentre uchaf.
|-
|Wain Siswrn.
|Penty perthynol i'r Hen-bost
|Sarah Evans.
|-
|Y Gotal.
|Safai ymhen draw gardd Preswylfa.
|Henry Parry.
|-
|Y Bitfal.
|Safai rhwng y ffordd morfa Tirgawen.
|Joseph Jones.
|-
| colspan="3" |Codwyd Pitfal ar y Ceunant i garcharu anifeiliaid crwydrol, ond tynnwyd ef i lawr<br>gan drigolion y pentref.
|-
|Pwll-y-wilgi.
| colspan="2" |Hen enw ar le yn y pentref.
|}<noinclude><references/></noinclude>
jgmna684bctqlfj9x8pzb1orwxo53dv
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/254
104
83172
162125
2026-04-01T22:41:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162125
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-</noinclude>{{nopt}}
|-
|Brynrhoserth neu Brynrhosel.
|Evan Richard.
|-
|Mynydd.
|Thomas Morris.
|-
|Mynydd.
|Richard William.
|-
|Llidiart Rhiwfelen.<br>(Cyfansoddai M. Parry gerddi ar gytir y mynydd)
|Morris Parry.
|-
|Cae-cam.
|Hugh Arthur.
|-
|Tyn-y-pinnant.
|William Arthur.
|-
|Y Groeswirion.
|David Davies.
|-
|Cae moelmon neu'r Moelmon.
|Evan Richard.
|-
|Tyn-llwyn.
|Thomas Edward.
|-
|Tyn-y-cae.
|Hugh Powel.
|-
|Tyn-yr-allt.
|Morgan Rees.
|-
|Yr Allt-lwyd.
|Evan Gabriel.
|-
|Sarnhelygen.
|Robert Evan.
|-
|Gwern-y-merched. (Gwern-fach).
|Thomas William.
|-
|Cwm-ŷch.
|John Richard.
|-
|Sarn.
|Humphrey Lewis.
|-
|Pantllwyfog.
|Owen Hughes.
|-
|Maesonnen.
|Dafydd Rees.
|-
|Broneunydd.
|Hugh Jones.
|-
| colspan="2" |{{bwlch}}Bu'n benty wedi bod yn dyddyn, a'r tenant olaf oedd Charles Williams.
|-
|Cwm-pen-neuadd.
|Mary Thomas.
|-
|Hafoty'r Waun.
|John a Mary Lewis.
|-
|Bredyn-fach.
|Rhys Evans.
|-
|Tyddynprenhir.
|Wm. Jones.
|-
|Gelynnen-fach, neu Dyn-y-gelynnen.
|Griffith Jones.
|-
|Esgair Berfedd.
|William David.
|-
|Cwm-Idnerth-uch.
|William David ap Ieuan Reinallt.
|-
|Pwll-y-march. Unwyd a'r Gelynnen-fach.
|John David.
|-
| colspan="2" |Tyddynpadrig. Yr olaf i'w ddal fel tyddyn oedd Morris Evans.
|-
| colspan="2" |Rhiwfelen-fach. Sipsiwn a fu'n byw ddiwethaf yma.
{{nop}}<noinclude>|}</noinclude>
dinh57xfvjxrwkzb2tk9c5aq79v33fl
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/253
104
83173
162126
2026-04-01T22:42:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162126
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddiddorol. Y mae trafas ym mur gogleddol y gegin yn agor yn gul tuag allan, ac yn lledu yn llydan tuag at i mewn. Ystabl bresennol Tal-y-bont oedd y tŷ annedd yn yr ail ganrif ar bymtheg, pan drigiannai Gruffydd Owen, mab Lewis Owen y Barwn, ac Elizabeth, aeres Peniarth, yno.
Y mae ffenestri bwaog yr hen dai yn graddol gilio o'r fro. Ar lawr y byddai'r tân mewn llawer o dai. Ar garreg wastad drwchus ar lawr yr aelwyd yr oedd tân Cyfannedd-fach hyd yn gymharol ddiweddar. Nid oes yn aros chwaith fawr o'r hen ratiau na'r craeniau. Ceir craen yn dal ar arfer ym Modowyn, Peniarthganol a'r Pant; nid yw wedi llwyr gilio o'r plwyf.
Cynhwysa'r amaethdai fel rheol gegin, cegin fach, parlwr, a cheir bwtri a phantri. Ni wyddom ond am un enghraifft lle y bu'r rhan uchaf yn gegin a'r pen isaf yn feudy, a mynediad o'r naill i'r llall, a hen dŷ Tairmynydd oedd hwnnw.
Y mae cyflyrau'r amaethdai wedi gwella'n fawr mewn amser cymharol ddiweddar, ac y mae llawer o le i wella eto. Ond trueni yw colli'r hen arddull a oedd iddynt.
{{c|HEN DYDDYNNOD A PHENTAI ADFEILIEDIG. Rhwng y blynyddoedd 1710-1852.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|ENW'R LLE.
|ENW'R TENANT.
|-
|Hafoty Peniarthganol
|Humphrey John.
|-
|Tyddyn Pengam.
|Reinallt William.
|-
|Ysgubor-wen—Hen enw, Tyn-y-pwll-du.<br>(Hen enwau eraill oedd Tir-y-sgubor a Thir-y-pwll-du).
|John Anwyl.
|-
|Tyddyn Llwyn ab Einion Llwygedd a Thyddyn Bryn-yr-ysgubor fach.
|David Rees.
|-
|Tyn-y-ceunant.
|Elinor John.
|-
|Fronuchaf.
|Elizabeth Owen.
|-
|Tyddyn drain llwyn-du.
|John David Evan.
|-
|Tyn-y-berth neu Tyddyn Perth-y-re.
|Hugh ap Humphreys.
|-
|Tyn-y-graig.
|John William.
{{nop}}<noinclude>|}</noinclude>
gngf9vcu0a3fu66t3zxzgg45nzwd6m3
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/239
104
83174
162127
2026-04-01T22:43:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|CARREG-Y-BIG.}} Canfyddir Carreg y Big ar linell union oddi wrth Lys Meirion i gyfeiriad yr Allt-lwyd, ar derfyn hysfa'r Waun a'r Hen-siop. Sonnid llawer am y llecyn hwn hanner can mlynedd yn ôl. Dywaid traddodiad y cleddid y neb a gyflawnai hunanladdiad ar un o groesffyrdd y plwyf, am na chaniateid ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Os digwyddai ysbryd y truan aflonyddu ar heddwch y trigolion a ddigwyddai a bod yn agos i'r groesfford...
162127
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|CARREG-Y-BIG.}}
Canfyddir Carreg y Big ar linell union oddi wrth Lys Meirion i gyfeiriad yr Allt-lwyd, ar derfyn hysfa'r Waun a'r Hen-siop. Sonnid llawer am y llecyn hwn hanner can mlynedd yn ôl. Dywaid traddodiad y cleddid y neb a gyflawnai hunanladdiad ar un o groesffyrdd y plwyf, am na chaniateid ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Os digwyddai ysbryd y truan aflonyddu ar heddwch y trigolion a ddigwyddai a bod yn agos i'r groesffordd, ail-gleddid ef wrth Garreg y Big, a gosodid darn o bren i nodi man ei fedd; daeth Carreg-y-big felly yn fangre ofn a dychryn i bawb pan oddiweddid hwy gan y nos. Adroddir bod hogyn un tro wedi colli ei lwybr ar y mynydd, ac wrth iddo grwydro aeth ar draws un o'r beddau nes syrthio'n bendramwnwgl, a dychrynodd gymaint nes cael llwyr iachâd o'r afiechyd a'i blinai.
{{c|BEDD GWELL.}}
Ceir yn llawysgrif Edward Jones, Bardd y Brenin, y nodiadau diddorol a ganlyn ynglŷn â Llanegryn, a chododd yntau hwynt o lyfr Cofnodion Dr. Thomas Williams, Trefriw.
1. Yn agos i Lanegryn neu Gelynin y mae mangre a elwir yn Llys Meirion a Charnedd-yr-orwedd.
2. Yn Rhiwfelen ym mhlwyf Llanegryn, a saif ar fin y ffordd sy'n arwain o Lanegryn am Ddolgellau, ac o fewn milltir a hanner i Lwyngwril, dangosir man lle y gorwedd Gwell mab Llywarch Hen.
{{Center block/s}}
<poem>
"Bedd gwell yn Rhiwfelen
Bedd Sawyl yn Llangollen
Gwercheidw Llafyr Bwlch Llorien."
</poem>
{{Div end}}
<br>
Cynnwys y bedd ddwy garreg ar eu hochrau, ac o fewn un fodfedd ar bymtheg i'w gilydd.
Anodd erbyn heddiw yw taro ar fangre'r bedd yn Rhiw-felen. Gelwid gynt wyneb y mynydd oddi ar Dairmynydd yn Wyneb Rhiwfelen, a'r gwastad i lawr at ben ffordd y Waun yn Llawr Rhiwfelen.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
49bep69vb7cnk0tzdqdnbln90cc4yht
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/240
104
83175
162128
2026-04-01T22:44:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Y mae mangre ddiddorol ar y gwastad ar fin y Ffordd-las, ar gwr uchaf wyneb Rhiwfelen, a adnabyddid gan ein hen-dadau fel Llannerch-bedd-y-brenin; y mae'r bedd hwn yn wahanol i'r garnedd a elwir Bedd-y-brenin. Oes neu ddwy yn ôl byddai llawer o'r amaethwyr ar ddechrau'r haf yn cyrchu i'r mynydd i gneifio'r rhoniau a golchi'r defaid. Cneifid y rhoniau yn y Gorlan-fawr, a golchid y defaid yng Ngolchfa Afon Dyffryn. Wedi gorffen eu gwai...
162128
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae mangre ddiddorol ar y gwastad ar fin y Ffordd-las, ar gwr uchaf wyneb Rhiwfelen, a adnabyddid gan ein hen-dadau fel Llannerch-bedd-y-brenin; y mae'r bedd hwn yn wahanol i'r garnedd a elwir Bedd-y-brenin.
Oes neu ddwy yn ôl byddai llawer o'r amaethwyr ar ddechrau'r haf yn cyrchu i'r mynydd i gneifio'r rhoniau a golchi'r defaid. Cneifid y rhoniau yn y Gorlan-fawr, a golchid y defaid yng Ngolchfa Afon Dyffryn. Wedi gorffen eu gwaith âi'r ieuenctid bob blwyddyn yn llawn afiaith a chwil-frydedd i weled Bedd-y-brenin. Ni chyfrifid yr un dyn wedi plwyfo'n iawn yn Llanegryn oni byddai wedi ymweled â'r hen fedd enwog. Trwy anadlu awyrgylch y bedd yr etifeddid cyfrinion ac ysbryd y plwyf.
{{c|LLYS MEIRION.}}
Saif Llys Meirion a Charnedd-yr-orwedd bron ar yr un llecyn. Y mae'n hawdd darganfod y llys gan fod nifer o gerrig mawrion ar y llannerch, a gwelir Carnedd-yr-orwedd heb fod yn nepell oddi wrtho, ond nid erys dim ohoni ond ei sylfaen yn unig.
I ba Feirion y perthynai'r hen lys hwn? Y gŵr cyntaf o'r enw Meirion y gwyddom amdano yw Meirion ap Tybiawn ap Cunedda Wledig. Ai olion ei hen lys ef yw'r cerrig a saif ar fynydd Llanegryn? Dywaid traddodiad mai ei lys ef yw'r cerrig a ddeil i aros yng nghwmni ei gilydd ar fin yr hen Ffordd-las. Hoffem pe bai'r cerrig yn ail-adrodd yr helyntion a fu, pan oedd y llys oddi mewn i'w cylch.
{{c|CISTFAEN.}}
Tua'r flwyddyn 1885 pan oedd gweithiwr yn atgyweirio clawdd pridd rhwng cae Felin-fach a chae Glan-y-morfa-bach daeth ar draws meini beddrod. Fel y bu gwaethaf y modd ni alwyd sylw neb cyfarwydd at y darganfyddiad. Deallwn mai meini tywodfaen oeddynt, a defnyddiwyd y meini yn rut at hogi pladuriau.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
rzj1fojl52xdoaed6qs3s33z3l9t327
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/241
104
83176
162129
2026-04-01T22:44:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|CISTFAEN HIR.}} Gwelir olion Cistfaen Hir ar fynydd Cyfannedd-fawr. Saif ar y gorllewin i dŷ Cyfannedd-fawr, a thua chant a saith deg o lathenni islaw'r hwyaf o'r ddau Faen Hir sydd yn y gym-dogaeth. Nid gweddillion corff llosgedig a gladdwyd yn y Gistfaen hir, ond corff un yn ei faint a'i ffurf naturiol. Tebyg mai gweddill yw o garnedd a fu yma gynt. {{c|HEN FYNWENTYDD.}} Y mae coed yw yn rhan o berllan Bronclydwr, a dywedir...
162129
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|CISTFAEN HIR.}}
Gwelir olion Cistfaen Hir ar fynydd Cyfannedd-fawr. Saif ar y gorllewin i dŷ Cyfannedd-fawr, a thua chant a saith deg o lathenni islaw'r hwyaf o'r ddau Faen Hir sydd yn y gym-dogaeth.
Nid gweddillion corff llosgedig a gladdwyd yn y Gistfaen hir, ond corff un yn ei faint a'i ffurf naturiol.
Tebyg mai gweddill yw o garnedd a fu yma gynt.
{{c|HEN FYNWENTYDD.}}
Y mae coed yw yn rhan o berllan Bronclydwr, a dywedir bod esgyrn dynol wedi eu cael wrth dyrchu ynddi o dro i dro, a cheir traddodiad mai hen fynwent oedd y darn pellaf o'r berllan. Tystid hefyd fod math o gapel neu eglwys wedi ei godi yno rywdro. Yr oedd yr olion o hynny'n amlycach tua chanol y ganrif ddiwethaf.
{{c|MYNWENT CYFANNEDD-UCHAF.}}
Ar du'r dwyrain i amaethdy Cyfannedd-uchaf ceir mynwent fechan wedi ei chau i mewn â chlawdd cerrig; saif yn agos i Fron-llety-ifan. Dywedir mai mynwent berthynol i'r Crynwyr oedd hi, ond nid oes air o'i hanes wedi ei groniclo gan yr un hanesydd. Gwyddom y bu gan y Crynwyr fynwentydd o'r eiddynt eu hunain yng Ngwanas a Llwyngwril.
Bu rhyw ŵr chwilfrydig yn cloddio ym mynwent Cyfannedd-uchaf, a daeth o hyd i feddrod wedi ei dorri yn y graig. Yr oedd coed yr arch wedi dadfeilio ond yr oedd y caead mewn cyflwr da a'r ddwy lythyren H.O. wedi eu gwneuthur o hoelion arno. Trueni na byddai rhyw gymdeithas neu gyfeillion i'r hen Grynwyr selog yn rhoddi'r fynwent a anghofiwyd mewn trefn.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
chpk5cxjej24jwpyzan8rj99ndk05dd
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/242
104
83177
162130
2026-04-01T22:45:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|TOMENNYDD.<br>Y DOMEN DDREINIOG.}} Y mae un o'r tomennydd hyn yn adnabyddus i haneswyr Cymru; saif ar lan afon Dysynni ar dir Tal-y-bont, a gelwir hi'n Domen Ddreiniog. Plannodd W. W. E. Wynne goed arni er mwyn ei diogelu rhag i ddwylo dibris neb ei distrywio. Tomen gelfyddydol yw hi, ac wedi ei chodi â phridd yn unig. Hyhi yw'r unig weddill a erys o hen lys Maenor Tal-y-bont. O'i deutu hi'r oedd y llys y cartrefai Tywysogion Cymru...
162130
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|TOMENNYDD.<br>Y DOMEN DDREINIOG.}}
Y mae un o'r tomennydd hyn yn adnabyddus i haneswyr Cymru; saif ar lan afon Dysynni ar dir Tal-y-bont, a gelwir hi'n Domen Ddreiniog. Plannodd W. W. E. Wynne goed arni er mwyn ei diogelu rhag i ddwylo dibris neb ei distrywio. Tomen gelfyddydol yw hi, ac wedi ei chodi â phridd yn unig. Hyhi yw'r unig weddill a erys o hen lys Maenor Tal-y-bont. O'i deutu hi'r oedd y llys y cartrefai Tywysogion Cymru ynddo pan ymwelent â Chartref Meirionnydd.
{{c|TOMEN CAE-GWYN.}}
Llwyr anghofiwyd y domen hon gan drigolion Llanegryn. Safai tomen fawr ar y Cae-gwyn oddeutu dechrau'r ganrif ddiwethaf. Gwelid hi'n amlwg o gryn bellter pan oedd y teithiwr a'r hanesydd Richard Fenton ar un o'i ymweliadau â Dyffryn Dysynni yn y flwyddyn 1808.
Plannodd W. W. E. Wynne goed ar hon yr un adeg ag y gwnaeth ar y Domen Ddreiniog, ond yr oedd hi wedi ei gwasgaru bron yn llwyr cyn iddo wneuthur hynny. Adeil-adodd hefyd glawdd o'i deutu, a gelwid hi wedi hynny yn Nyrsigron.
{{c|GWEIRGLODD WAUN-LLYWELYN.}}
Y mae'r weirglodd hon yn rhan o amaethdy Tal-y-bont, a saif ar y llaw ddehau pan eir i wtre'r Crynllwyn. Dywaid traddodiad i frwydr gael ei hymladd ar y tir hwn rhwng milwyr Cwmwd Ystumanner a milwyr Cwmwd Tal-y-bont. Bu aml ysgarmes waedlyd rhwng y ddwy fyddin ar wastatir Dyffryn Dysynni. Byddai meibion Tal-y-bont weithiau wedi cyrraedd i gyffiniau Castell Cynfal, ac ymladdwyd brwydr waedlyd ar Ddôl-y-ffrwd. Tro arall byddai gwŷr Ystumanner wedi croesi afon Dysynni ac yn ymladd ar dir<noinclude></noinclude>
gbx5k0sxyc8yj5vlxg4r3ffzeiizexw
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/243
104
83178
162131
2026-04-01T22:46:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "llys Tal-y-bont. Digwyddodd un o'r brwydrau hyn ar weirglodd Waun-Llywelyn, a dywedir bod daear y weirglodd ar un cyfnod yn rhy lawn o esgyrn dynol i neb allu ei haredig. Cafwyd hyd o dro i dro yn y fan hon i weddillion hen arfau rhyfel, darnau o fwyeill, pennau saethau, a blaenau gwayw-ffyn. {{c|ADEILAD ENWOG.}} Safai gynt ym mhlwyf Llanegryn hen adeilad enwog a dengys y disgrifiad a roddir ohono arwyddion ei fod yn adeilad Rhufeini...
162131
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llys Tal-y-bont. Digwyddodd un o'r brwydrau hyn ar weirglodd Waun-Llywelyn, a dywedir bod daear y weirglodd ar un cyfnod yn rhy lawn o esgyrn dynol i neb allu ei haredig. Cafwyd hyd o dro i dro yn y fan hon i weddillion hen arfau rhyfel, darnau o fwyeill, pennau saethau, a blaenau gwayw-ffyn.
{{c|ADEILAD ENWOG.}}
Safai gynt ym mhlwyf Llanegryn hen adeilad enwog a dengys y disgrifiad a roddir ohono arwyddion ei fod yn adeilad Rhufeinig, ac yr oedd o wneuthuriad celfydd. Ceir disgrifiad ohono gan Gruffydd Hiraethog yn y flwyddyn 1560.
Ll. egryn-tre beniarth: yn y dre hon lle gelwir llwyn y gardd yn ymyl maes yneuadd rrwng moel gwely y sarff a deau or llewin? yni lle bu adail mawr y brigs etto iw gweled a ffenestri yn y ddayar ac ir oedd yllawr wedi pafio o geric ysgwar ar lun disie kasestric yn disgeimo to o glai yn gyntaf to o dywod yn nesaf a tho o galch ac yn hwnnw y keric ysgwar wedi gosod.
Anodd yw dyfalu ym mha le y gallasai'r adeilad fod. Os y Fron oedd Moel Gwely'r Sarff gallasai fod yn y llwyn o Fryntudur i fyny i gyfeiriad Afon-ddu.
{{c|FFYNHONNAU.}}
Prif ffynnon y fro yw Ffynnon-y-fron; saif hon yng Nghoed-y-fron, uwchben Lleiniau Tyn-llwyn, yn y pen agosaf i Barc-y-felin. Bu'n meddu enwogrwydd mawr, am y credid bod ei dyfroedd oerion yn meddu ar rinwedd i iacháu. Crwydrodd llawer musgrell tuag ati o bell ac agos i ymolchi yn ei dyfroedd er mwyn cael gwared o'r crydcymalau. Y mae'n ffynnon helaeth, tua thair troedfedd ar ddeg wrth naw troed-fedd. Adeiladwyd hi'n drefnus â cherrig, ac y mae grisiau cerrig yn disgyn i mewn iddi, a bu bwthyn at ddatwisgo ac ymwisgo gerllaw iddi unwaith.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
2zwheiwhrvr1jr92yby70btoxlts71x
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/244
104
83179
162132
2026-04-01T22:46:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Nid oes dim math o draddodiad ynglŷn â hi. Ni chysyllt-id yr un sant o fath yn y byd â hi, ac nid oes atgof fod a fynno hi ddim â'r Forwyn Fair, ac y mae hynny'n od ac ystyried y sylw a'r bri a roddid iddi ar hyd y canrifoedd. Bu'n boblog-aidd ymhlith uchelwyr yr ardal yn yr ail ganrif ar bymtheg. Defnyddid y fan fel ymdrochle, a ile i ymbleseru gan brif deuluoedd pendefigol y fro. Gwnaed amryw ffynhonnau ymdrochi yma, a'r rheiny wedi...
162132
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nid oes dim math o draddodiad ynglŷn â hi. Ni chysyllt-id yr un sant o fath yn y byd â hi, ac nid oes atgof fod a fynno hi ddim â'r Forwyn Fair, ac y mae hynny'n od ac ystyried y sylw a'r bri a roddid iddi ar hyd y canrifoedd. Bu'n boblog-aidd ymhlith uchelwyr yr ardal yn yr ail ganrif ar bymtheg. Defnyddid y fan fel ymdrochle, a ile i ymbleseru gan brif deuluoedd pendefigol y fro. Gwnaed amryw ffynhonnau ymdrochi yma, a'r rheiny wedi eu gorchuddio, a chyfleusterau i ymddiosg ac ymwisgo wedi'u cysylltu â hwynt. Edrychai'r fan fel bro'r Tylwyth Teg,-merched gwisgi a bechgyn chwimwth yn prancio yn y dyfroedd ac yn dawnsio a llamu yn yr awyr rydd.
Atgyweiriwyd hi'n drylwyr gan Mr. John Llwyd yn y flwyddyn 1825. Credai ef yn fawr yn nyfroedd iachusol Cwm-ŷch. Breuddwydiodd am dref brydferth a phoblog wedi ei chodi o gwmpas y ffynnon, a byddai cyrchu mawr iddi o bob cwr o Gymru i yfed ei dyfroedd iachusol. Y mae'r hen ffynnon enwog wedi peidio â bod yn eiddo rhydd i'r cyhoedd ers llawer o flynyddoedd.
FFYNNON-Y-BERWE. Ni wyddom ymha le yr oedd y ffynnon hon. Yr oedd ymhen uchaf y plwyf.
FFYNNON CADLAD. Saif hon ar y mynydd yn nharddle'r dŵr rhwng hysfa'r Hafoty a hysfa'r Hen-shop. Y mae digonnedd o ddŵr glân yn y fangre hon. Rhed nant oddi yma i gyfeiriad Ceunant-y-mefus, ac i lawr am Dyddyn-padrig. Gwarchodai'r Tylwyth Teg y ffynnon hon; yr oeddynt yn eiddigeddus o bawb a ddeuai'n agos ati.
FFYNNON LLANNERCH-Y-NANT. Ceir hon yn ffridd uchaf Cwm-ŷch. Rhed ffrwd dryloyw allan o grombil y mynydd, ac y mae'n oer fel yr ia yng nghanol haf. Cyfrifid ei dyfr-oedd yn iachusol i wan a chlaf. Dŵr duraidd.
FFYNNON BRYN-GWYN. Dŵr duraidd.
FFYNNON-Y-FOEL. Difethwyd hon i raddau drwy dorri lefel yn rhy agos ati.
FFYNNON TYCELYN. Saif hon ar ffridd Blaen-y-cwm. Dŵr da at lygaid clwyfus.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
kn4gokvsyfrs4surb4mmpd0hnh6yiek
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/245
104
83180
162133
2026-04-01T22:47:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "FFYNNON-LYGAD-YCH. Saif hon yn y coed ar fin y ffordd rhwng yr efail a Bryn-gwyn. Dŵr duraidd. FFYNNON-Y-FUWCH. Gwelir hon ar fin yr wtre, ac ar derfyn cae Sarnhelygen, ochr Tŷ-bach-y-ffordd. FFYNNON-Y-FYNWENT. Safai gynt yng nghanol yr hen fynwent, ond gwnaed cwter i'w gollwng allan i'r ceunant yn agos i'r hen borth. Rhed i'r ceunant yn agos i'r gamfa. Cyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth at wella llygaid clwyfus. Peth cyffredi...
162133
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>FFYNNON-LYGAD-YCH. Saif hon yn y coed ar fin y ffordd rhwng yr efail a Bryn-gwyn. Dŵr duraidd.
FFYNNON-Y-FUWCH. Gwelir hon ar fin yr wtre, ac ar derfyn cae Sarnhelygen, ochr Tŷ-bach-y-ffordd.
FFYNNON-Y-FYNWENT. Safai gynt yng nghanol yr hen fynwent, ond gwnaed cwter i'w gollwng allan i'r ceunant yn agos i'r hen borth. Rhed i'r ceunant yn agos i'r gamfa. Cyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth at wella llygaid clwyfus. Peth cyffredin oedd gweld rhywun neu'i gilydd yn mynd â photelaid o'r dŵr adref pan oeddem yn yn blant.
NENTYDD. Arferid dywedyd y byddai ymdrochi ben bore yn un o nentydd mynyddoedd Llanegryn yn foddion at wella crydcymalau. Nodid Nantysberi'n arbennig.
PISTYLL BYRBWYLL. Safai hwn yn agos i Beniarthuchaf. Dywedid y gwerthai un hen feddyg lawer o'i ddyfroedd yn ffisig i wahanol gleifion.
{{c|HEN OFFERYNNAU:—<br>BUDDAI GNOC.}}
Yr oedd un o'r buddeiau hyn yn Nhyn-y-llan. Corddid y llaeth drwy ei gnocio ôl a blaen â math o forthwyl pren drwy dwll yn ei chaead.
{{c|AWR.}}
Yr oedd hefyd awr yn Nhyn-y-llan. Dwy belen neu chwysigen wedi eu cysylltu â math o wddf oedd yr awr, a chymerai cynnwys y belen lawn awr gron i ymarllwys i'r belen wag. Byddai rhai wedi eu marcio yn chwarter, hanner, a thri chwarter awr. Offeryn defnyddiol iawn lle nad oedd cloc.
{{c|DEIAL.}}
Dyma offeryn arall at wybod pa faint o'r gloch ydoedd hi. Gwelid deialau wedi eu gosod yn aml o flaen pyrth eglwysi. Yr oedd un ohonynt o flaen eglwys Llanegryn; aed â'r ddeial hon i ardd Peniarth, ond deil y garreg yn y fynwent.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
19ul5lutwprpf09803eo9h96vru1ydj
162134
162133
2026-04-01T22:47:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */
162134
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>FFYNNON-LYGAD-YCH. Saif hon yn y coed ar fin y ffordd rhwng yr efail a Bryn-gwyn. Dŵr duraidd.
FFYNNON-Y-FUWCH. Gwelir hon ar fin yr wtre, ac ar derfyn cae Sarnhelygen, ochr Tŷ-bach-y-ffordd.
FFYNNON-Y-FYNWENT. Safai gynt yng nghanol yr hen fynwent, ond gwnaed cwter i'w gollwng allan i'r ceunant yn agos i'r hen borth. Rhed i'r ceunant yn agos i'r gamfa. Cyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth at wella llygaid clwyfus. Peth cyffredin oedd gweld rhywun neu'i gilydd yn mynd â photelaid o'r dŵr adref pan oeddem yn yn blant.
NENTYDD. Arferid dywedyd y byddai ymdrochi ben bore yn un o nentydd mynyddoedd Llanegryn yn foddion at wella crydcymalau. Nodid Nantysberi'n arbennig.
PISTYLL BYRBWYLL. Safai hwn yn agos i Beniarthuchaf. Dywedid y gwerthai un hen feddyg lawer o'i ddyfroedd yn ffisig i wahanol gleifion.
{{c|HEN OFFERYNNAU:—<br>BUDDAI GNOC.}}
Yr oedd un o'r buddeiau hyn yn Nhyn-y-llan. Corddid y llaeth drwy ei gnocio ôl a blaen â math o forthwyl pren drwy dwll yn ei chaead.
{{c|AWR.}}
Yr oedd hefyd awr yn Nhyn-y-llan. Dwy belen neu chwysigen wedi eu cysylltu â math o wddf oedd yr awr, a chymerai cynnwys y belen lawn awr gron i ymarllwys i'r belen wag. Byddai rhai wedi eu marcio yn chwarter, hanner, a thri chwarter awr. Offeryn defnyddiol iawn lle nad oedd cloc.
{{c|DEIAL.}}
Dyma offeryn arall at wybod pa faint o'r gloch ydoedd hi. Gwelid deialau wedi eu gosod yn aml o flaen pyrth eglwysi. Yr oedd un ohonynt o flaen eglwys Llanegryn; aed â'r ddeial hon i ardd Peniarth, ond deil y garreg yn y fynwent.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
pcnd8secfdc7fjrsjd566m5ewuxfc4o
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/246
104
83181
162135
2026-04-01T22:48:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Yr oedd yr hen dadau drwy hir sylwi wedi troi mynyddoedd, creigiau, a cherrig nodedig yn ddeialau. Gwyddent drwy sylwi ar faint a ffurf cysgod yr haul arnynt pa oriau o'r dydd a pha dymor o'r flwyddyn ydoedd. Yr oedd y cysgodion hefyd yn arwyddion iddynt o'r tywydd. {{c|GEFEILIAU CŴN.}} Perthynai i'r eglwys unwaith efeiliau cŵn. Deuai llawer o gŵn y gymdogaeth i'r eglwys gyda'r amaethwyr, a gosodid hwy yn y gyfeiliau rhag iddynt ymla...
162135
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd yr hen dadau drwy hir sylwi wedi troi mynyddoedd, creigiau, a cherrig nodedig yn ddeialau. Gwyddent drwy sylwi ar faint a ffurf cysgod yr haul arnynt pa oriau o'r dydd a pha dymor o'r flwyddyn ydoedd. Yr oedd y cysgodion hefyd yn arwyddion iddynt o'r tywydd.
{{c|GEFEILIAU CŴN.}}
Perthynai i'r eglwys unwaith efeiliau cŵn. Deuai llawer o gŵn y gymdogaeth i'r eglwys gyda'r amaethwyr, a gosodid hwy yn y gyfeiliau rhag iddynt ymladd â'i gilydd, ac anesmwytho ar y gwasanaeth.
{{c|TRAP MOCH.}}
Yr oedd llawer o foch crwydr yn y plwyf yn yr hen amser. Cadwai pawb foch a byddent yn crwydro i bob cornel drwy'r plwyf i chwilio am ymborth. Ofnid iddynt fynd i'r fynwent i dyrchu'r beddau, ac er mwyn eu rhwystro gosodid barrau o haearn ar draws gwaelod porth y fynwent, a thorrid twll gweddol ddwfn o danynt, fel yr âi traed y moch rhwng y barrau i'r twll, ac felly eu hatal rhag mynd i mewn i'r fynwent; gelwid y trefniant hwn yn drap moch.
{{c|UGAIN GWYDDELIG.}}
Cyfrifid yr ugain Gwyddelig yn hen ddull o gyfrif ugain o ddefaid gan hen fugeiliaid Llanegryn. Ond nid oes dim byd Gwyddelig yn perthyn iddo o gwbl. Credir mai hen enwau ar anifeiliaid yw'r rhigwm geiriau.
Tón an tón, paén an pedair an pen, uth an cluth, ewth an clewth, hartlu, clen, tonglen, pangclen, pedair clen, poffi, un poffi, dwy poffi, tair poffi, pedair poffii, ug.
{{c|EWYLLYSIAU.}}
Ewyllys:—24 Ionawr, 1526-7.
{{c|Thomas ap William ap Jenkin.}}
Dymuna gael ei gladdu ym Mynachdy Santes Fair y<noinclude></noinclude>
il6kgbfiknkddxlv3v2cxj62t4pwhog
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/247
104
83182
162136
2026-04-01T22:49:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Cymer. Rhydd 4 ceiniog i'r Parch. Thomas ap William am weddio ar ei ran, a rhydd 12 ceiniog i Reithor Dolgellau am ddegwm, &c. Cyffesa fod arno 7 nobles yn ddyledus i'r Brenin am Felin Llanegryn. Ewyllys:—20 Ionawr, 1529. {{c|Ieuan ap Ieuan ap Madog.}} Dymuna gael ei gladdu yn eglwys y Plwyf Llanegryn. Rhydd i Fynachlog y Cymer 12 ceiniog; i Fynachlog Bangor 4 ceiniog; i'r Parch. Thomas ap Robert, Ficer Llanegryn 12 ceiniog, a rhydd...
162136
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cymer. Rhydd 4 ceiniog i'r Parch. Thomas ap William am weddio ar ei ran, a rhydd 12 ceiniog i Reithor Dolgellau am ddegwm, &c. Cyffesa fod arno 7 nobles yn ddyledus i'r Brenin am Felin Llanegryn.
Ewyllys:—20 Ionawr, 1529.
{{c|Ieuan ap Ieuan ap Madog.}}
Dymuna gael ei gladdu yn eglwys y Plwyf Llanegryn. Rhydd i Fynachlog y Cymer 12 ceiniog; i Fynachlog Bangor 4 ceiniog; i'r Parch. Thomas ap Robert, Ficer Llanegryn 12 ceiniog, a rhydd 5/-am weinyddu'r Uchel Offeren ar ran ei enaid yn eglwys Llanegryn.
Ewyllys:—20 Gorff., 1580.
{{c|William ap John ap Ieuan ap Llywelyn.}}
Rhydd i Eglwys Gadeiriol Bangor 4 ceiniog. Rhydd "I'm plwyf fy hun" 8 geiniog. Trigiannai yn Nhyddyn Llannerch-y-nant, Llanegryn.
Ewyllys-14 Mehefin, 1608.
{{c|Lewys Gwyn, Dolau-gwyn.}}
Rhydd i'w ferch Gwen Gwyn ei brydles ar felin falu ŷd a elwir Melin Llanegryn, sef Melin-y-brenin ym mhlwyf Llanegryn.
Ewyllys 1762.
{{c|Dafydd Arthur, y Moelmon.}}
Rhoddodd £20 i'w rhannu bob yn £10 am ddwy flynedd i dlodion Llanegryn a Chelynnin. Yr ymddiriedolwr oedd Edward Kenrick, Bronclydwr.
{{c|CYMDEITHAS GYFEILLGAR.}}
Cafwyd trwydded gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd i sefydlu Cymdeithas Gyfeillgar yn Llanegryn yn y flwyddyn 1833. Teulu Peniarth, yn arbennig Mrs. Mary Wynne, a'r Ficer oedd yn hyrwyddo'r Gymdeithas. Bu'n gynorthwy mawr i dlodion y pentref. Cychwynnwyd y Gymdeithas yn nyddiau Wm. Wynne a fu farw 15 Chwefror, 1834. Carai ef ddaear Llanegryn.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
swo93pzpec4vjvvmwmaesf1tbgr24fi
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/248
104
83183
162137
2026-04-01T22:50:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|COSBI TRWM.}} Yn y flwyddyn 1833 digwyddodd i ddwy wraig o'r pentref ddwyn gwerth punt a naw ceiniog o fân bethau o dŷ yn y plwyf. Dedfrydwyd Elizabeth Pugh i ddwy flynedd o garchar, ac anfonwyd Catherine Pugh i benyd-wasanaeth am saith mlynedd dros y moroedd. Yn yr un flwyddyn anfonwyd dyn o'r enw Dafydd Jones, crydd wrth ei grefft, i benyd-wasanaeth am saith mlynedd dros y moroedd. Ei drosedd oedd cael arian drwy dwyll oddi ar...
162137
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|COSBI TRWM.}}
Yn y flwyddyn 1833 digwyddodd i ddwy wraig o'r pentref ddwyn gwerth punt a naw ceiniog o fân bethau o dŷ yn y plwyf. Dedfrydwyd Elizabeth Pugh i ddwy flynedd o garchar, ac anfonwyd Catherine Pugh i benyd-wasanaeth am saith mlynedd dros y moroedd.
Yn yr un flwyddyn anfonwyd dyn o'r enw Dafydd Jones, crydd wrth ei grefft, i benyd-wasanaeth am saith mlynedd dros y moroedd. Ei drosedd oedd cael arian drwy dwyll oddi ar Mathias Jones, y Blaidd.
{{c|COSB CELWYDD AC ENLLIB.}}
Gweinyddai awdurdodau'r plwyf gosb am gelwydd ac enllib â'u dwylo eu hunain. Y gosb oedd:—(1) Cerdded o amgylch yr eglwys mewn cynfas wen. (2) Rhannu gwerth hyn a hyn o dorthau gwynion i'r tlodion. (3) Cyffesu edifeirwch yn gyhoeddus am y trosedd. Rhennid y torthau a chyffesid yr edifeirwch wrth borth y fynwent.
Gweinyddid y gosb hon yn y tri degau o'r ganrif ddiwethaf. Teithiai trigolion y plwyf o bell ac agos i fod yn llygad-dystion o'r gosb, ac i gael rhan o'r torthau.
{{c|YMWELIAD TYWYSOG.}}
Mewn hen gylchgrawn o'r enw ''Charles o'r Bala'', am 1859, ceir hanes am ymweliad o eiddo'r Tywysog Louis Lucien Bonaparte â phentref Llanegryn; gwelir hanes am yr ymweliad hefyd yng nghyfrol Idris Fychan ar ''Hanes Dolgellau a'r Cymydogaethau.'' Ymwelodd y Tywysog â Chymru yn ystod haf 1855, i'r diben o brynu llyfrau i gyfoethogi ei lyfrgell â gweithiau yn ymwneud ag ieithoedd ac arferion Celtaidd.
Ar ei daith cyrhaeddodd Aberdyfi gan aros yno am rai dyddiau. Arhosai'r bardd a'r hanesydd enwog Gwallter Mechain yn Mhenmaendyfi, a thrwy ei fod yn meddu ar lyfrgell ardderchog yr oedd y lle yn hoff fan gan y Tywysog.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
gu5umorwn69aexcpnmfltvijdd6s2dh
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/249
104
83184
162138
2026-04-01T22:51:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Ymhen rhai dyddiau ffarweliodd â'r hen foneddwr diddorol, a symudodd ymlaen yn ei gerbyd am Ddolgellau, a phan gyrhaeddodd groesffordd Cefn-coch, ni allai'r Tywysog fynd heibio heb droi i lawr am bentref Llanegryn,—yr oedd yno ryw atyniad na allai'r Tywysog yn ei fyw mo'i wrth-sefyll. Cafodd dderbyniad croesawgar gan y pentrefwyr, a chan John Llwyd, llenor a hanesydd y fro. Rhoddodd y trigolion a chartrefi'r pentref ynghyd â siop John...
162138
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymhen rhai dyddiau ffarweliodd â'r hen foneddwr diddorol, a symudodd ymlaen yn ei gerbyd am Ddolgellau, a phan gyrhaeddodd groesffordd Cefn-coch, ni allai'r Tywysog fynd heibio heb droi i lawr am bentref Llanegryn,—yr oedd yno ryw atyniad na allai'r Tywysog yn ei fyw mo'i wrth-sefyll. Cafodd dderbyniad croesawgar gan y pentrefwyr, a chan John Llwyd, llenor a hanesydd y fro. Rhoddodd y trigolion a chartrefi'r pentref ynghyd â siop John Llwyd syn-iad newydd i'r Tywysog am gymeriad cenedl y Cymry. Canfu werin gyffredin y pentref yn garwyr llên a natur, gwelodd fod pawb ohonynt yn meddu nifer o lyfrau ar eu haelwydydd, a bod ganddynt erddi blodau o amgylch eu hanedd-dai, ac ebe'r Tywysog—"Nid fel hyn y mae hi yn Ffrainc; 'rwyf yn cywilyddio." A meddai John Llwyd ar ddigon o ddawn a dysg i ymddiddan ag ef ar unrhyw bwynt o lenyddiaeth a hanes, a rhyfeddai'r Tywysog at werth a maintioli ei lyfrgell, a hynny mewn pentref anghysbell. Wrth ymadael â'r pentref rhoddodd y siopwr gyfrol brin yn anrheg iddo, a derbyniodd yntau hi gyda diolchgarwch cynnes i gofio am ei ymweliad â gwladwyr llengar Meirion.
Dywedir i'r olygfa hardd a geir oddi ar y briffordd uwch-ben hen eglwys Llangelynnin ei swyno'n fawr ac ebe ef:—"Italy with its blue skies—Florence—The Arno, and his own tasteful villa on the margin of its waters, were not more winningly beautiful."—Hanes Dolgellau.
Hyderwn nad estroniaid yn unig a wêl harddwch bywyd ein cenedl, ac arddunedd ein tir a'n môr.
{{c|LLYFRAU}}
* Ancient Monuments in Merioneth.
* Cathral, W.: The History of North Wales.
* Charles o'r Bala. 1859. Cylchgrawn.
* Manchester, 1828.
* Evans, J. Gwenogfryn: Report on MSS. in the Welsh Language. Fenton, Richard: Tours in Wales 1804-1813. London, 1917.
* Fychan, Idris: Hanes Dolgellau a'r Cymydogaethau. Dolgellau, 1872. Jones, Edward, Bardd y Brenin. Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
* Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd, Dolgellau, 1890.
* Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.
{{nop}}<noinclude></noinclude>
7ea1nfgallzhuau6jxjah57vgi7gcsu
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/250
104
83185
162139
2026-04-01T22:51:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD XII}}}} {{c|Disgrifiad o Dai Trigiannol. Minffordd. Plascorniog. Pen-y-banc. Amacthdai. Tyn-y-pwll. Gwyddfryniau. Tal-y-bont. Cyfannedd-fach. Hen Dyddynnod Adfeil-iedig. Enwau Lleoedd. Enwau llennyrch ar y Mynydd a'i odre. Hen enwau crefyddol. Creaduriaid Gwylltion.}} {{c|Disgrifiad o Dai Trigiannol.}} {{c|MINFFORDD.}} SAFAI ar ochr ddeau i'r ffordd oddi ar Pentref uchaf. Yr oedd yn un o dai hynaf y dosbarth gweithio...
162139
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XII}}}}
{{c|Disgrifiad o Dai Trigiannol. Minffordd. Plascorniog. Pen-y-banc. Amacthdai. Tyn-y-pwll. Gwyddfryniau. Tal-y-bont. Cyfannedd-fach. Hen Dyddynnod Adfeil-iedig. Enwau Lleoedd. Enwau llennyrch ar y Mynydd a'i odre. Hen enwau crefyddol. Creaduriaid Gwylltion.}}
{{c|Disgrifiad o Dai Trigiannol.}}
{{c|MINFFORDD.}}
SAFAI ar ochr ddeau i'r ffordd oddi ar Pentref uchaf. Yr oedd yn un o dai hynaf y dosbarth gweithiol yn y plwyf, a pherthynai i ystâd Hugh Owen, Bronclydwr, neu i'w wraig a'i merched.
Tŷ un ystafell oedd a'i nen yn isel, ac yr oedd eil ar ei dalcen isaf. Muriau pridd oedd iddo, a thowyd ef â llechi trymion o greigiau'r fro. Tyfai iorwg drosto. Yr oedd un ffenestr i'r gegin ar ochr y ffordd, ac un i'r siamber wely ar ochr yr ardd a phaenau mân o wydr wedi eu gosod arnynt yn ddestlus mewn plwm; yr oedd top y ffenestri wedi eu gweithio'n fwaog â cherrig chwarel, ac edrychent yn hardd yn y mur pridd.
Agorai drws y tŷ i'r eil, ac arweiniai math o dwnnel o'r eil i'r gegin drwy dalcen dwy lath o drwch. Llawr pridd oedd iddo, a charreg las ar ben y drws ac ar yr aelwyd. Lle bychan oedd i'r pentanau, ac yr oedd y grât o'r math symlaf, dim ond ychydig farrau ar draws o bentan i bentan. Yr oedd nenbren uwchben llawr y gegin at hongian cig moch.
Gwahenid yr ystafell wely drwy osod talcen y gwely wensgod ar un ochr a'r dreser ar yr ochr arall, a rhoddid math o hulyn ar draws yr agoriad oedd rhyngddynt i wasanaethu yn lle drws. Llwyddid felly i wneuthur y tŷ'n fath o ddwy ystafell. Yr oedd gardd helaeth yn perthyn iddo, ac ar dalcen uchaf<noinclude></noinclude>
98t4xfifvpp61gu7u3axlr5mo692sfg
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/251
104
83186
162140
2026-04-01T22:52:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yr ardd yr oedd cut mochyn a choeden onnen yn ei gysgodi. Ystyrid gardd a chut mochyn yn rhan hanfodol o gartref y gweithiwr yn y dyddiau pan ddibynnid ar gynnyrch cartref am gynhaliaeth dyn ac anifail. Ar yr ochr allan i ddrws y tŷ yr oedd carreg olchi fawr. Buom yn chwarae llawer arni. Yr oedd yn deip cyffredin o dŷ gweithiwr yn y plwyf yn ystod y ddeunawfed ganrif a hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf, pryd y chwalwyd ei waliau pri...
162140
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr ardd yr oedd cut mochyn a choeden onnen yn ei gysgodi. Ystyrid gardd a chut mochyn yn rhan hanfodol o gartref y gweithiwr yn y dyddiau pan ddibynnid ar gynnyrch cartref am gynhaliaeth dyn ac anifail. Ar yr ochr allan i ddrws y tŷ yr oedd carreg olchi fawr. Buom yn chwarae llawer arni. Yr oedd yn deip cyffredin o dŷ gweithiwr yn y plwyf yn ystod y ddeunawfed ganrif a hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf, pryd y chwalwyd ei waliau pridd ac y gwnaed ef yn rhan o gae Moelmon.
{{c|PLASCORNIOG.}}
Hen enw Plascorniog oedd Tyddyn Eignion, ac yr oedd yn rhan o etifeddiaeth Bryn-yr-orsedd. Ond penty yw ers ugeiniau o flynyddoedd a pherthyn i ystâd Peniarth. Tua chanol y ganrif ddiwethaf atgyweiriwyd ef yn drwyadl gan W. W. E. Wynne, a saif yn deip o dŷ a ystyrid yr adeg honno fel un teilwng i weithiwr fyw a magu ei blant ynddo. Tŷ un uchder oedd, a'r gegin ar y chwith wrth fynd iddo, a dwy siamber ar yr ochr ddeau, a drws ar bob siamber ar ei phen ei hun. Meddai ar aelwyd helaeth, a grât gyffredin ddiweddar a ffwrn ar un ochr iddi, a boiler neu gelwrn dŵr poeth ar yr ochr arall. Y mae ffwrn at grasu bara ar ochr y simnai, a phantri at gadw bwyd ar un ochr i dalcen y simnai. Y mae ei furiau wedi eu gwneuthur o gerrig. Y mae eil a chut mochyn un wrth bob talcen i'r tŷ, perthyn gerddi helaeth iddo, a thelid degwm arnynt. Ceid dŵr at wasanaeth y tŷ o'r Pistyll Uchaf, ac yr oedd carreg olchi ar un ochr iddo.
Rhoddwyd llofft iddo mewn cyfnod diweddar, ond nid adeiladwyd y tŷ gogyfer â llofft.
Byddai math o daflod dros ran o rai tai yn y plwyf, er mwyn cadw celfi; weithiau hongid darn o daflod wrth raffau gwellt cryfion, a chodid a gostyngid hi drwy dynnu neu lacio'r raffau fel y byddai'r galw.
{{c|PEN-Y-BANC.}}
Tŷ tafarn a adeiladwyd tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, neu ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg oedd Pen-y-banc.<noinclude></noinclude>
nlnsoaajwn30lf5cn89t1ocr6ei0cz6
Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu/252
104
83187
162141
2026-04-01T22:52:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Perthynai i ystâd Waun-fach, ac i deulu Lewis Owen y Barwn. Y mae'r gegin ar yr ochr chwith i'r tŷ a'r parlwr ar yr ochr ddeau. Y mae seler eang o dan y parlwr a grisiau cerrig llydain yn disgyn iddi, ac yr oedd ffynnon ynddi. Esgynnid i'r llofft o'r gegin ar hyd grisiau troellog o dderw du. Yr oedd tair ystafell ar y llofft, a'r holl waith coed o dderw du disglair. Medd y gegin ar simnai fawr; bu meinciau byr ar bob ochr iddi. Ar...
162141
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Perthynai i ystâd Waun-fach, ac i deulu Lewis Owen y Barwn.
Y mae'r gegin ar yr ochr chwith i'r tŷ a'r parlwr ar yr ochr ddeau. Y mae seler eang o dan y parlwr a grisiau cerrig llydain yn disgyn iddi, ac yr oedd ffynnon ynddi. Esgynnid i'r llofft o'r gegin ar hyd grisiau troellog o dderw du. Yr oedd tair ystafell ar y llofft, a'r holl waith coed o dderw du disglair.
Medd y gegin ar simnai fawr; bu meinciau byr ar bob ochr iddi. Ar un ochr i'r simnai yr oedd ffwrn at grasu bara. Ychydig o farrau haearn hirion oedd grât y gegin, a'r bar uchaf yn codi ac yn gostwng fel y byddai'r galw, a chloig ar yr ochr ddeau yn ei ddal yn ei le. Yr oedd pyst haearn ar bob ochr i'r grât tua throedfedd yn uwch na bar uchaf y grât, a seren felen loyw ar ben bob un. Bu craen yn rhan o'r grât unwaith. Simnai gul oedd i'r parlwr a'r grât yn ddim amgen nag ychydig o farrau byr.
Gwnaed y muriau o gerrig trymion; yr oedd ffenestri ffrynt y llofft yn fwaog. Bu bracty ar un ochr i'r tŷ at wasanaeth y dafarn.
Bu'n dŷ gwasanaethgar ar hyd y canrifoedd. Bu'r Methodistiaid Calfinaidd yn cynnal Ysgol Sul a moddiannau crefyddol yn y parlwr ar eu cychwyniad yn y pentref. A chwaraeodd Twm o'r Nant rai o'i Anterliwtiau ar ei fuarth. Bu'n dŷ busnes gan fasnachwyr o dro i dro, a gweithiai cyfrwywyr a chryddion yn yr adeiladau allan ar gyfnodau. Dinistriwyd ei hen arddull wrth ei atgyweirio tua dechrau'r ganrif bresennol.
{{c|AMAETHDAI.}}
Bychain iawn oedd tai'r uchelwyr a'r amaethwyr at ei gilydd heb fynd ymhell iawn yn ôl, ond yr oeddynt yn helaethach na'r pentai cyffredin.
Dywedir mai'r amaethdai hir ac isel eu nen yw'r rhai hynaf. Y mae Gwyddfryniau yn enghraifft o'r arddull hynaf. Beudai presennol Tyn-y-pwll oedd y tŷ annedd ar y cyntaf, ac y mae ei arddull yntau mewn muriau a gwaith coed yn<noinclude></noinclude>
irl22mghe16m9k3ieyzdxsaqlh9gehx
Hanes Plwyf Llanegryn
0
83188
162143
2026-04-01T23:55:49Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author = | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd)]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}} | {{Wicipedia|Llanegryn}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hane..."
162143
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =
| next = [[/Pennod Nesaf/]]
| notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd)]]
}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}}
| {{Wicipedia|Llanegryn}}
|}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=5 to=6 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{PD-old}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegrynl]]
[[Categori:Awdur]]
[[Categori:Llyfrau blwyddyn]]
[[Categori:Llyfrau'r (degawd)au]]
[[Categori:Testun]]
js15xgcjimd9jsi39yphym6jrxg1hn0
162144
162143
2026-04-02T00:03:57Z
AlwynapHuw
1710
162144
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =
| next = [[/Rhagymadrodd/]]
| notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd)]]
}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}}
| {{Wicipedia|Llanegryn}}
|}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=3 to=4 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{PD-old-70}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegrynl]]
[[Categori:William Davies, Llanegryn]]
[[Categori:Llyfrau 1948]]
[[Categori:Llyfrau'r 1940au]]
[[Categori:Llanegryn]]
[[Categori:Hanes Lleol]]
cjjxuoe0usldk68kjkyalk753i1lwvw
162146
162144
2026-04-02T00:08:25Z
AlwynapHuw
1710
162146
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =
| next = [[/Rhagymadrodd/]]
| notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd)]]
}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}}
| {{Wicipedia|Llanegryn}}
|}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=3 to=4 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{PD-old-70}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
[[Categori:William Davies, Llanegryn]]
[[Categori:Llyfrau 1948]]
[[Categori:Llyfrau'r 1940au]]
[[Categori:Llanegryn]]
[[Categori:Hanes Lleol]]
m6gfpmbmawelhfj5hhw1a3joazhaubt
Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd)
0
83189
162145
2026-04-02T00:07:33Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd) | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = | notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Hanes Plwyf Llanegryn]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}} | {{Wicipedia|Llanegryn}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf..."
162145
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd)
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =
| next =
| notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Hanes Plwyf Llanegryn]]
}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}}
| {{Wicipedia|Llanegryn}}
|}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=1 to=261 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{PD-old-70}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegrynl]]
[[Categori:William Davies, Llanegryn]]
[[Categori:Llyfrau 1948]]
[[Categori:Llyfrau'r 1940au]]
[[Categori:Llanegryn]]
[[Categori:Hanes Lleol]]
[[Categori:Testunau cyfansawdd]]
0cif136032ubmd814xbkjwzgce019lm
162147
162145
2026-04-02T00:08:43Z
AlwynapHuw
1710
162147
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn (testun cyfansawdd)
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =
| next =
| notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Hanes Plwyf Llanegryn]]
}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}}
| {{Wicipedia|Llanegryn}}
|}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=1 to=261 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{PD-old-70}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
[[Categori:William Davies, Llanegryn]]
[[Categori:Llyfrau 1948]]
[[Categori:Llyfrau'r 1940au]]
[[Categori:Llanegryn]]
[[Categori:Hanes Lleol]]
[[Categori:Testunau cyfansawdd]]
6djt0b58sniktuk2l5w665urrtfkovy
Categori:Hanes Plwyf Llanegryn
14
83190
162148
2026-04-02T00:20:31Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "[[File:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu|bawd|page=1]] {{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}} [[Categori:William Davies, Llanegryn]] [[Categori:Llyfrau 1948]] [[Categori:Llyfrau'r 1940au]] [[Categori:Llanegryn]] [[Categori:Hanes Lleol]]"
162148
wikitext
text/x-wiki
[[File:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu|bawd|page=1]]
{{Wicipedia|Hanes Plwyf Llanegryn}}
[[Categori:William Davies, Llanegryn]]
[[Categori:Llyfrau 1948]]
[[Categori:Llyfrau'r 1940au]]
[[Categori:Llanegryn]]
[[Categori:Hanes Lleol]]
ji6ebp7msgvqn5vg2jlaj47941fw6xw
Categori:William Davies, Llanegryn
14
83191
162149
2026-04-02T01:07:40Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "Roedd '''William Davies''' (1874 - 1949) tad y gwleidydd Gwilym Prys Davies yr Arglwydd Prys-Davies o Lanegryn, yn was llywodraeth leol ac yn hanesydd lleol a gyfrannodd lawer o erthyglau ar ei hoff bwnc i gylchgronau Cymru. [https://bywgraffiadur.cymru/article/c2-DAVI-WIL-1874 DAVIES, WILLIAM (1874 - 1949), hanesydd lleol ar y Bywgraffiadur] {{DEFAULTSORT:Davies, William}} [[Categori:Hanes Lleol]]"
162149
wikitext
text/x-wiki
Roedd '''William Davies''' (1874 - 1949) tad y gwleidydd Gwilym Prys Davies yr Arglwydd Prys-Davies o Lanegryn, yn was llywodraeth leol ac yn hanesydd lleol a gyfrannodd lawer o erthyglau ar ei hoff bwnc i gylchgronau Cymru. [https://bywgraffiadur.cymru/article/c2-DAVI-WIL-1874 DAVIES, WILLIAM (1874 - 1949), hanesydd lleol ar y Bywgraffiadur]
{{DEFAULTSORT:Davies, William}}
[[Categori:Hanes Lleol]]
tn8ybsoe7mcn6j07xlmclzww2j7jd74
Hanes Plwyf Llanegryn/Rhagymadrodd
0
83192
162150
2026-04-02T01:17:29Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../]] | next = [[../Rhagyair|Rhagyair]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=5 to=5 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagymadrodd}} [[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]"
162150
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../]]
| next = [[../Rhagyair|Rhagyair]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=5 to=5 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Rhagymadrodd}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
15vjdw33w25h0rwt6r8h9389wswj1i3
162151
162150
2026-04-02T01:20:06Z
AlwynapHuw
1710
162151
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../]]
| next = [[../Rhagair|Rhagair]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=5 to=5 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Rhagymadrodd}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
cyccux4skklc2sob6roqni3zb6k3kj0
Hanes Plwyf Llanegryn/Rhagair
0
83193
162152
2026-04-02T01:24:03Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]] | next = [[../Errata|Errata]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=7 to=7 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagair}} [[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]"
162152
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]]
| next = [[../Errata|Errata]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=7 to=7 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Rhagair}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
j17cziezrzpgagxdu00igzyou11e0fx
Hanes Plwyf Llanegryn/Errata
0
83194
162153
2026-04-02T01:32:11Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Errata|Errata]] | next = [[../Cynnwys|Cynnwys]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=9 to=9 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Errata}} [[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]"
162153
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Errata|Errata]]
| next = [[../Cynnwys|Cynnwys]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=9 to=9 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Errata}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
iio2yazioo600rljsg7xry39r3amdf5
162154
162153
2026-04-02T01:34:04Z
AlwynapHuw
1710
162154
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Rhagair|Rhagair]]
| next = [[../Cynnwys|Cynnwys]]
| notes =
}}r
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=9 to=9 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Errata}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
2x2fuofnq29aksny0d3h6nf973hkswx
162155
162154
2026-04-02T01:35:30Z
AlwynapHuw
1710
162155
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Rhagair|Rhagair]]
| next = [[../Cynnwys|Cynnwys]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=9 to=9 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Errata}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
d36bwcne585nnbmi5aongj7dg54csxg
Hanes Plwyf Llanegryn/Cynnwys
0
83195
162156
2026-04-02T01:39:11Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Errata|Errata]] | next = [[../Pennod I|Pennod I]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=9 to=9 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Cynnwys}} [[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]"
162156
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Errata|Errata]]
| next = [[../Pennod I|Pennod I]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=9 to=9 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Cynnwys}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
o16nm3sgh2iywel32u3k2bfwe77l53d
162157
162156
2026-04-02T01:40:23Z
AlwynapHuw
1710
162157
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Errata|Errata]]
| next = [[../Pennod I|Pennod I]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=11 to=12 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Cynnwys}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
kgr6dah5b13043wqmnaick74z1hloaw
Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod I
0
83196
162165
2026-04-02T02:28:12Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Cynnwys|Cynnwys]] | next = [[../Pennod II|Pennod II]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=13 to=29 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Pennod I}} [[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]"
162165
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Cynnwys|Cynnwys]]
| next = [[../Pennod II|Pennod II]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=13 to=29 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Pennod I}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
lz2f0caklzaianhs340e2uhphv0jh7v
Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod II
0
83197
162166
2026-04-02T02:31:38Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Pennod I|Pennod I]] | next = [[../Pennod III|Pennod III]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=30 to=45 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Pennod I}} [[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]"
162166
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Pennod I|Pennod I]]
| next = [[../Pennod III|Pennod III]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=30 to=45 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Pennod I}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
e4gcfw3ru47f6cbi9sv72f45qs0otyw
162167
162166
2026-04-02T02:32:31Z
AlwynapHuw
1710
162167
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Pennod I|Pennod I]]
| next = [[../Pennod III|Pennod III]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=30 to=45 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Pennod II}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
30o8escoddvy1f183w3ygp7xhl60eow
Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod III
0
83198
162168
2026-04-02T02:34:48Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Hanes Plwyf Llanegryn | author =William Davies, Llanegryn | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Pennod II|Pennod II]] | next = [[../Pennod IV|Pennod IV]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=46 to=72 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Pennod III}} [[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]"
162168
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =Hanes Plwyf Llanegryn
| author =William Davies, Llanegryn
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =[[../Pennod II|Pennod II]]
| next = [[../Pennod IV|Pennod IV]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu" from=46 to=72 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Pennod III}}
[[Categori:Hanes Plwyf Llanegryn]]
86299huke75jiwtj3w2dvmgxcyggapp