Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.22
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Pwyll Pendeuic Dyuet
0
1363
162707
162687
2026-04-07T08:56:43Z
Mahagaja
11
162707
wikitext
text/x-wiki
:''Yn nesaf: [[Branwen uerch Lyr]]''
Pwyll Pendeuic Dyuet a oed yn arglwyd ar seith cantref Dyuet. A threigylgweith yd oed yn Arberth, prif lys idaw, a dyuot yn y uryt ac yn y uedwl uynet y hela. Sef kyueir o'y gyuoeth a uynnei y hela, Glynn Cuch. Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a doeth hyt ym Penn Llwyn Diarwya, ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth yn ieuengtit y dyd kyuodi a oruc, a dyuot y Lynn Cuch i ellwng e gwn dan y coet. A chanu y gorn a dechreu dygyuor yr hela, a cherdet yn ol y cwn, ac ymgolli a'y gydymdeithon. Ac ual y byd yn ymwarandaw a llef yr erchwys, ef a glywei llef erchwys arall, ac nit oedynt unllef, a hynny yn dyuot yn erbyn y erchwys ef. Ac ef a welei lannerch yn y coet o uaes guastat; ac ual yd oed y erchwys ef yn ymgael ac ystlys y llannerch, ef a welei carw o ulaen yr erchwys arall. A pharth a pherued y llannerch, llyma yr erchwys a oed yn y ol yn ymordiwes ac ef, ac yn y uwrw y'r llawr.
Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys, heb hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac o'r a welsei ef o helgwn y byt, ny welsei cwn un lliw ac wynt. Sef lliw oed arnunt, claerwyn llathreit, ac eu clusteu yn gochyon. Ac ual y llathrei wynnet y cwn, y llathrei cochet y clusteu. Ac ar hynny at y cwn y doeth ef, a gyrru yr erchwys a ladyssei y carw e ymdeith, a llithyaw y erchwys e hunan ar y carw.
Ac ual y byd yn llithiau y cwn, ef a welei uarchauc yn dyuot yn ol yr erchwys y ar uarch erchlas mawr; a chorn canu am y uynwgyl, a gwisc o urethyn llwyt tei amdanaw yn wisc hela. Ac ar hynny y marchawc a doeth attaw ef, a dywedut ual hynn wrthaw, "A unben," heb ef, "mi a wnn pwy wyt ti, ac ny chyuarchaf i well it."
"Ie," heb ef, "ac atuyd y mae arnat o anryded ual nas dylyei."
"Dioer," heb ef, "nyt teilygdawt uy anryded a'm etteil am hynny."
"A unben," heb ynteu, "beth amgen?"
"Y rof i a Duw," hep ynteu, "dy anwybot dy hun a'th ansyberwyt."
"Pa ansyberwyt, unben, a weleist ti arnaf i?"
"Ny weleis ansyberwyt uwy ar wr," hep ef, "no gyrru yr erchwys a ladyssei y carw e ymdeith, a llithiau dy erchwys dy hun arnaw; hynny," hep ef, "ansyberwyt oed: a chyn nyt ymdialwyf a thi, y rof i a Duw," hep ef, "mi a wnaf o anglot itt guerth can carw."
"A unbenn," hep ef, "o gwneuthum gam, mi a brynaf dy gerennyd."
"Pa delw," hep ynteu, "y pryny di?"
"Vrth ual y bo dy anryded, ac ny wnn i pwy wyt ti."
"Brenhin corunawc wyf i yn y wlat yd hanwyf oheni."
"Arglwyd," heb ynteu, "dyd da itt; a pha wlat yd hanwyt titheu oheni?"
"O Annwuyn," heb ynteu. "Arawn urenhin Annwuyn wyf i."
"Arglwyd," heb ynteu, "pa furyf y caf i dy gerennyd di?"
"Llyma wyd y kyffy," heb ynteu. "Gwr yssyd gyuerbyn y gyuoeth a'm kyuoeth inheu yn ryuelu arnaf yn wastat. Sef yw hwnnw, Hafgan urenhin o Annwuyn. Ac yr guaret gormes hwnnw y arnaf (a hynny a elly yn haut) y keffy uy gherennyd."
"Minnheu a wnaf hynny," heb ynteu, "yn llawen. A manac ditheu y mi pa furyf y gallwyf hynny."
"Managaf," heb ynteu. "Llyna ual y gelly; mi a wnaf a thi gedymdeithas gadarn. Sef ual y gwnaf, mi a'th rodaf di y'm lle i yn Annwuyn, ac a rodaf y wreic deccaf a weleist eiroet y gyscu gyt a thi beunoeth, a'm pryt innheu a'm ansawd arnat ti, hyt na bo na guas ystauell, na swydawc, na dyn arall o'r a'm canlynwys i yroet, a wyppo na bo miui uych ti. A hynny," heb ef, "hyt ym penn y ulwydyn o'r dyd auory. An kynnadyl yna yn y lle hon."
"Ie," heb ynteu, "kyt bwyf i yno hyt ympenn y ulwydyn, pa gyuarwyd a uyd ymi o ymgael a'r gwr a dywedy di?"
"Blwydyn," heb ef, "y heno, y mae oet y rof i ac ef, ar y ryt. A byd di i'm rith yno," heb ef, "ac un dyrnaut a rodych di idaw ef; ny byd byw ef o hwnnw. A chyt archo ef yti rodi yr eil, na dyro, yr a ymbilio a thi. Yr a rodwn i idau ef hagen, kystal a chynt yd ymladei a mi drannoeth."
"Ie," heb y Pwyll, "beth a wnaf i y'm kyuoeth?"
"Mi a baraf," hep yr Arawn, "na bo i'th gyuoeth na gwr na gwreic a wyppo na bo tidi wwyf i. A miui a af i'th le di."
"Yn llawenn," hep y Pwyll, "a miui a af ragof."
"Dilesteir uyd dy hynt ac ny russya dim ragot, yny delych y'm kyuoeth i: a mi a uydaf hebryngyat arnat."
Ef a'y hebryghaud yny welas y llys a'r kyuanned. "Llyna," hep ef, "y llys a'r kyuoeth i'th uedyant. A chyrch y llys. Nit oes yndi nep ni'th adnappo; ac wrth ual y guelych y guassanaeth yndi, yd adnabydy uoes y llys."
Kyrchu y llys a oruc ynteu. Ac yn y llys ef a welei hundyeu ac yneuadeu, ac ysteuyll, a'r ardurn teccaf a welsei neb o adeiladeu. Ac y'r neuad y gyrchwys y diarchenu. Ef a doeth makwyueit a gueisson ieueinc y diarchenu, a phaup ual y delynt kyuarch guell a wneynt idaw. Deu uarchauc a doeth i waret i wisc hela y amdanaw, ac y wiscaw eurwisc o bali amdanaw.
A'r neuad a gyweirwyt. Llyma y guelei ef teulu ac yniueroed, a'r niuer hardaf a chyweiraf o'r a welsei neb yn dyuot y mywn, a'r urenhines y gyt ac wynt, yn deccaf gwreic o'r a welsei neb, ac eurwisc amdanei o bali llathreit. Ac ar hynny, e ymolchi yd aethant, a chyrchu y bordeu a orugant, ac eisted a wnaethant ual hynn — y urenhines o'r neill parth idaw ef, a'r iarll, debygei ef, o'r parth arall. A dechreu ymdidan a wnaeth ef a'r urenhines. Ac o'r a welsei eiryoet wrth ymdidan a hi, dissymlaf gwreic a bonedigeidaf i hannwyt a'y hymdidan oed. A threulaw a wnaethant bwyt a llynn a cherdeu a chyuedach. O'r a welsei o holl lyssoed y dayar, llyna y llys diwallaf o uwyt a llynn, ac eur lestri, a theyrndlysseu.
Amser a doeth udunt e uynet e gyscu, ac y gyscu yd aethant, ef a'r urenhines. Y gyt ac yd aethant yn y guely ymchwelut e weneb at yr erchwyn a oruc ef, a'y geuyn attei hitheu. O hynny hyt trannoeth, ny dywot ef wrthi hi un geir. Trannoeth, tirionwch ac ymdidan hygar a uu y ryngthunt. Peth bynnac o garueidrwyd a wei y rungthunt y dyd, ni bu unnos hyt ym pen y ulwydyn amgen noc a uu y nos gyntaf.
Treulaw y ulwydyn a wnaeth trwy hela, a cherdeu, a chyuedach, a charueidrwyd, ac ymdidan a chedymdeithon, hyt y nos yd oet y gyfranc. Yn oet y nos honno, kystal y doi y gof y'r dyn eithaf yn yr holl gyuoeth yr oet [ac idaw ynteu]. Ac ynteu a doeth i'r oet, a guyrda y gyuoeth y gyt ac ef. Ac y gyt ac y doeth i'r ryt, marchawc a gyuodes y uynyd, ac a dywot wal hynn:
"A wyrda," heb ef, "ymwerendewch yn da. Y rwng y deu wrenhin y mae yr oet hwnn, a hynny y rwng y deu gorff wylldeu. A fob un o honunt yssyd hawlwr ar y gilyd, a hynny am dir a dayar. A ssegur y digaun pawn o honawch uot, eithyr gadu y ryngthunt wylldeu."
Ac ar hynny y deu urenhin a nessayssant y gyt am perued y ryt e ymgyuaruot. Ac ar y gossot kyntaf, y gwr a oed yn lle Arawn, a ossodes ar Hafgan ym perued bogel y daryan yny hyllt yn deu hanner, ac yny dyrr yr arueu oll, ac yny uyd Hafgan hyt y ureich a'e paladyr dros pedrein y uarch y'r llawr, ac angheuawl dyrnawt yndaw ynteu.
"A unben," heb yr Hafgan, "pa dylyet a oed iti ar uy angheu i? Nit yttoydwn i yn holi dim i ti. Ni wydwn achos it heuyt y'm llad i; ac yr Duw," heb ef, "canys dechreueist uy llad, gorffen."
"A unbenn," heb ynteu, "ef a eill uot yn ediuar gennyf gwneuthur a wneuthum itt. Keis a'th lado; ni ladaf i di."
"Vy ngwyrda kywir," heb yr Hafgan, "dygwch ui odyma: neut teruynedic angheu y mi. Nit oes ansawd y mi y'ch kynnal chwi bellach."
"Vy ngwyrda innheu," heb y gwr a oed yn lle Arawn, "kymerwch ych kyuarwyd, a gwybydwch pwy a dylyo bot yn wyr ymi."
"Arglwyd," heb y gwyrda, "pawb a'y dyly, canyt oes urenhin ar holl Annwuyn namyn ti."
"Ie," heb ynteu, "a del yn waredauc, iawn yw [y] gymryt. Ar ny del yn uuyd, kymmeller o nerth cledyueu."
Ac ar hynny, kymryt gwrogaeth y gwyr a dechreu guereskynn y wlat. Ac erbyn hanner dyd drannoeth, yd oed yn y uedyant y dwy dyrnas.
Ac ar hynny, ef a gerdwys parth a'y gynnadyl, ac a doeth y Lynn Cuch. A phan doeth yno, yd oed Arawn urenhin Annwuyn yn y erbyn. Llawen uu pob un wrth y gilid o honunt.
"Ie," heb yr Arawn, "Duw a dalo itt dy gydymdeithas; mi a'y kygleu."
"Ie," heb ynteu, "pan delych dy hun i'th wlat, ti a wely a wneuthum i yrot ti."
"A wnaethost," heb ef, "yrof i, Duw a'y talo itt."
Yna y rodes Arawn y furuf, a'y drych e hun y Pwyll, Pendeuic Dyuet, ac y kymerth ynteu y furuf e hun a'y drych. Ac y kerdaud Arawn racdaw parth a'y lys y Annwuyn, ac y bu digrif ganthaw ymwelet a'y eniuer ac a'y deulu, canis rywelsei ef wy ys blwydyn. Wynteu hagen ni wybuyssynt i eisseu ef, ac ni bu newydach ganthunt y dyuodyat no chynt.
Y dyd hwnnw a dreulwys trwy digrifwch a llywenyd, ac eisted ac ymdidan a'y wreic ac a'y wyrda. A phan uu amserach kymryt hun no chyuedach, y gyscu yd aethant. Y vely a gyrchwys, a'y vreic a aeth attaw. Kyntaf y gwnaeth ef ymdidan a'y wreic, ac ymyrru ar digriwwch serchawl a charyat arnei. A hynny ny ordifnassei hi ys blwydyn, a hynny a uedylywys hi.
"Oy a Duw," heb hi, "pa amgen uedwl yssyd yndaw ef heno noc ar a uu yr blwydyn y heno?"
A medylyaw a wnaeth yn hir. A guedy y medwl hwnnw, duhunaw a wnaeth ef, a farabyl a dywot ef wrthi hi, a'r eil, a'r trydyt; ac attep ny chauas ef genthi hi yn hynny.
"Pa achaws," heb ynteu, "na dywedy di wrthyf i?"
"Dywedaf wrthyt," heb hi, "na dywedeis ys blwydyn y gymmeint yn y kyfryw le a hwnn."
"Paham?" heb ef. "Ys glut a beth yd ymdidanyssam ni."
"Meuyl im," heb hi, "yr blwydyn y neithwyr o'r pan elem yn nyblyc yn dillat guely, na digrifwch, nac ymdidan, nac ymchwelut ohonot dy wyneb attaf i — yn chwaethach a uei uwy no hynny o'r bu y rom ni."
Ac yna y medylywys ef, "Oy a Arglwyd Duw," heb ef, "cadarn a ungwr y gydymdeithas, a diffleeis, a geueis i yn gedymdeith." Ac yna y dywot ef wrth y wreic:
"Arglwydes," heb ef, "na chapla di uiui. Y rof i a Duw," heb ynteu, "ni chyskeis inheu gyt a thi, yr blwydyn y neithwyr, ac ni orwedeis."
Ac yna menegi y holl gyfranc a wnaeth idi.
"I Duw y dygaf uy nghyffes," heb hitheu, "gauael gadarn a geueist ar gedymdeith yn herwyd ymlad a frouedigaeth y gorff, a chadw kywirdeb wrthyt titheu."
"Arglwydes," heb ef, "sef ar y medwl hwnnw yd oedwn inheu, tra deweis wrthyt ti."
"Diryued oed hynny," heb hitheu.
Ynteu Pwyll, Pendeuic Dyuet, a doeth y gyuoeth ac y wlat. A dechreu ymouyn a gwyrda y wlat, beth a uuassei y arglwydiaeth ef arnunt hwy y ulwydyn honno y wrth ryuuassei kynn no hynny.
"Arglwyd," heb wy, "ny bu gystal dy wybot; ny buost gyn hygaret guas ditheu; ny bu gyn hawsset gennyt titheu treulaw dy da; ny bu well dy dosparth eiroet no'r ulwydyn honn."
"Y rof i a Duw," heb ynteu, "ys iawn a beth iwch chwi, diolwch y'r gwr a uu y gyt a chwi, a llyna y gyfranc ual y bu" — a'e datkanu oll o Pwyll.
"Ie, Arglwyd," heb wy, "diolwch y Duw caffael o honot y gydymdeithas honno; a'r arglwydiaeth a gaussam ninheu y ulwydyn honno, nys attygy y gennym, ot gwnn."
"Nac attygaf, y rof i a Duw," heb ynteu Pwyll.
Ac o hynny allan, dechreu cadarnhau kedymdeithas y ryngthunt, ac anuon o pop un y gilid meirch a milgwn a hebogeu a fob gyfryw dlws, o'r a debygei bob un digrifhau medwl y gilid o honaw. Ac o achaws i drigiant ef y ulwydyn honno yn Annwuyn, a gwledychu o honaw yno mor lwydannus, a dwyn y dwy dyrnas yn un drwy y dewred ef a'y uilwraeth, y diffygywys y enw ef ar Pwyll, Pendeuic Dyuet, ac y gelwit Pwyll Penn Annwuyn o hynny allan.
A threigylgueith yd oed yn Arberth, priflys idaw, a gwled darparedic idaw, ac yniueroed mawr o wyr y gyt ac ef. A guedy y bwyta kyntaf, kyuodi y orymdeith a oruc Pwyll, a chyrchu penn gorssed a oed uch llaw y llys, a elwit Gorssed Arberth. "Arglwyd," heb un o'r llys, "kynnedyf yr orssed yw, pa dylyedauc bynnac a eistedo arnei, nat a odyno heb un o'r deupeth, a'y ymriw neu archolleu, neu ynteu a welei rywedawt." "Nyt oes arnaf i ouyn cael kymriw, neu archolleu, ym plith hynn o niuer. Ryuedawt hagen da oed gennyf pei ys guelwn. Mi a af," heb ynteu, "y'r orssed y eisted." Eisted a wnaeth ar yr orssed. Ac wal y bydynt yn eisted, wynt a welynt gwreic ar uarch canwelw mawr aruchel, a gwisc eureit, llathreit, o bali amdanei, yn dyuot ar hyt y prifford a gerdei heb law yr orssed. Kerdet araf, guastat oed gan y march ar uryt y neb a'y guelei, ac yn dyuot y ogyuuch a'r orssed. "A wyr, heb y Pwyll, "a oes ohonawchi, a adnappo y uarchoges?" "Nac oes, Arglwyd," heb wynt. "Aet un," heb ynteu, "yn y herbyn y wybot pwy yw." Un a gyuodes y uynyd, a phan doeth yn y'herbyn y'r ford, neut athoed hi heibaw. Y hymlit a wnaeth ual y gallei gyntaf o pedestric. A fei mwyaf uei y urys ef, pellaf uydei hitheu e wrthaw ef. A phan welas na thygyei idaw y hymlit, ymchwelut a oruc at Pwyll a dywedut wrthaw, "Arglwyd," heb ef, ni thykya y pedestric yn y byt e hymlit hi." "Ie," heb ynteu Pwyll," dos y'r llys, a chymer y march kyntaf a wypych, a dos ragot yn y hol." Y march a gymerth, ac racdaw yd aeth; y maestir guastat a gauas, ac ef a dangosses yr ysparduneu y'r march. A ffei uwyaf y lladei ef y march, pellaf uydei hitheu e wrthaw ef. Yr vn gerdet a dechreuyssei hitheu, yd oed arnaw. Y uarch ef a ballwys; a phan wybu ef ar y uarch pallu y bedestric, ymchwelut yn yd oed Pwyll a wnaeth. "Arglwyd," heb ef, "ny thykya y neb ymlit yr unbennes racco. Ny wydwn i varch gynt yn y kyuoyth no hwnnw, ac ni thygyei ymi y hymlit hi." "Ie," heb ynteu Pwyll, "y mae yno ryw ystyr hut. Awn parth a'r llys." Y'r llys y doethant, a threulau y dyd hwnnw a wnaethant.
A thrannoeth, kyuodi e uynyd a wnaethant, a threulaw hwnnw yny oed amser mynet y uwyta. A gwedy y bwyta kyntaf, "Ie," heb ynteu Pwyll," ni a awn yr yniuer y buam doe, y penn yr orssed. A thidy," heb ef, "wrth vn o'y uakwyueit, dwg gennyt y march kyntaf a wypych yn y mays." A hynny a wnaeth y makwyf. Yr orssed a gyrchyssant, a'r march ganthunt.
Ac val y bydynt yn eiste, wynt a welynt y wreic ar yr vn march, a'r vn wisc amdanei, yn dyuot yr un ford. "Llyma," heb y Pwyll, "y uarchoges doe. Bid parawt," heb ef, "was, e wybot pwy yw hi." "Arglwyd," heb ef, "mi a wnaf hynny yn llawen." Ar hynny, y uarchoges a doeth gywerbyn ac wynt. Sef a oruc y mukwyf yna, yskynnu ar y march, a chynn daruot idaw ymgueiraw yn y gyfrwy neu ry adoed hi heibaw, a chynnwll y rygthunt. Amgen urys gerdet nit oed genthi hi no'r dyd gynt. Ynteu a gymerth rygyng y gan y uarch, ac ef a dybygei yr araued y kerdei y uarch yr ymordiwedei a hi. A hynny ny thy gywys idaw. Ellwg y uarch a oruc wrth auwyneu ; nyt oed nes idi yna no chytl bei ar y gam; a phei wyaf y lladei ef y uarch, pellaf uydei hitheu e wrthaw ef: y cherdet hitheu nit oed uwy no chynt. Cany welas ef tygyaw idaw e hymlit ymchwelut a wnueth a dyuot yn yd oet Pwyll. "Arglwyd," heb ef, "nyt oess allu gan y march amgen noc a weleisti." "Mi a weleis," heb ynteu, " ny thykya y neb y herlit hi. Ac y rof i a Duw," heb ef, "yd oed neges idi wrth rei o'r maes hwnn pei gattei wrthpwythi idi y dywedut; a ni a awn parth a'r llys."
Y'r llys y doethant, a threulaw y nos honno a orugant drwy gerdeu a chyuedach, ual y bu llonyd ganthunt. A thrannoeth diuyrru y dyd a wnaethant yny oed amser mynet y wwyta. A phan daruu udunt y bwyd Pwyll a dywot, "Mae yr yniuer y buom ni doe ac echtoe ym penn yr orssed?" "Llymma, Arglwyd," heb wynt. "Awn," heb ef, "y'r orssed y eiste, a thitheu," heb ef, wrth was y uarch," kyfrwya uy march yn da, a dabre ac ef y'r ford, a dwc uy ysparduneu gennyt." Y gwas a wnaeth hynny.
Dyuot yr orssed a orugant y eisted. Ny buant hayach o enkyt yno, yny welynt y uarchoges yn dyuot yr vn ford, ac yn un ansawd, ac vn gerdet. "Ha was," heb y Pwyll, "mi a welaf y uarchoges. Moes uy march." Yskynnu a oruc Pwyll ar y uarch, ac nyt kynt yd yskynn ef ar y uarch, noc yd a hitheu hebdaw ef. Troi yn y hol a oruc ef, a gadel y uarch drythyll, llamsachus y gerdet. Ac ef a debygei, ar yr eil neit, neu ar y trydyd, y gordiwedei. Nyt oed nes hagen idi no chynt. Y uarch a gymhellaud o'r kerdet mwyaf a oed ganthaw. A guelet a wnaeth na thygyei idaw y hymlit.
Yna y dywot Pwyll. "A uorwyn," heb ef, " yr mwyn y gwr mwyhaf a gery, arho ui." "Arhoaf yn llawen," heb hi, "ac oed llessach y'r march, pei ass archut yr meityn." Sewyll, ac arhos a oruc y uorwyn, a gwaret y rann a dylyei uot am y hwyneb o wisc y phenn, ac attal y golwc arnaw, a dechreu ymdidan ac ef. "Arglwydes," heb ef, " pan doy di, a pha gerdet yssyd arnat ti?" "Kerdet wrth uy negesseu," heb hi, "a da yw gennyf dy welet ti." "Crassaw wrthyt y gennyf i," heb ef. Ac yna medylyaw a wnaeth, bot yn diuwyn ganthaw pryt a welsei o uorwyn eiroet, a gwreic, y wrth y ffryt hi. "Arglwydes," heb ef, "a dywedy di ymi dim o'th negesseu?" "Dywedaf, y rof a Duw," heb hi. "Pennaf neges uu ymi, keissaw dy welet ti." "Llyna," heb y Pwyll, " y neges oreu gennyf i dy dyuot ti idi. Ac a dywedy di ymi pwy wyt?" "Dywedaf, Arglwyd," heb hi. "Riannon, uerch Heueyd Hen, wyf i, a'm rodi y wr o'm hanwod yd ydys. Ac ny mynneis innheu un gwr, a hynny o'th garyat ti. Ac nys mynnaf etwa, onyt ti a'm gwrthyt. Ac e wybot dy attep di am hynny e deuthum i." "Rof i a Duw," heb ynteu Pwyll, "llyna uy attep i iti, pei caffwn dewis ar holl wraged a morynnyon y byt, y mae ti a dewisswn." "Ie," heb hitheu, "os hynny a uynny, kyn uy rodi y wr arall, gwna oed a mi." "Goreu yw gennyf i," heb y Pwyll, "bo kyntaf; ac yn y lle y mynnych ti, gwna yr oet." "Gwnaf, Arglwyd," heb hi, "blwydyn y heno, yn llys Heueyd, mi a baraf bot gwled darparedic yn barawt erbyn dy dyuot." "Yn llawen," heb ynteu, "a mi a uydaf yn yr oet hwnnw." "Arglwyd," heb hi, "tric yn iach, a choffa gywiraw dy edewit, ac e ymdeith yd af i.
A guahanu a wnaethont, a chyrchu a wnaeth ef parth a'e teulu a'e niuer. Pa ymouyn bynnac a uei ganthunt wy y wrth y uorwyn, y chwedleu ereill y trossei ynteu. Odyna treulaw y ulwydyn hyt yr amser a wnaethont; ac ymgueiraw [o Pwyll] ar y ganuet marchauc. Ef a aeth ryngtaw a llys Eueyd Hen, ac ef a doeth y'r llys, a llawen uuwyt wrthaw, a dygyuor a llewenyd ac arlwy mawr a oed yn y erbyn, a holl uaranned y llys wrth y gynghor ef y treulwyt. Kyweiryaw y neuad a wnaethpwyt, ac y'r bordeu yd aethant. Sef ual yd eistedyssont, Heueyd Hen ar neill law Pwyll, a Riannon o'r parth arall idaw; y am hynny pawb ual y bei y enryded. Bwyta a chyuedach ac ymdidan a wnaethont.
Ac ar dechreu kyuedach gwedy bwyt, wynt a welynt yn dyuot y mywn, guas gwineu, mawr, teyrneid, a guisc o bali amdanaw. A phan doeth y gynted y neuad, kyuarch guell a oruc y Pwyll a'y gedymdeithon. "Cressaw Duw wrthyt, eneit, a dos y eisted," heb y Pwyll. "Nac af," heb ef, "eirchat wyf, a'm neges a wnaf." "Gwna yn llawen," heb y Pwyll. "Arglwyd," heb ef, " wrthyt ti y mae uy neges i, ac y erchi it y dodwyf." "Pa arch bynnac a erchych di ymi, hyt y gallwyf y gaffael, itti y byd." "Och!" heb y Riannon, "paham y rody di attep yuelly?" "Neus rodes y uelly, Arglwydes, yg gwyd gwyrda," heb ef. "Eneit," heb y Pwyll, "beth yw dy arch di?" "Y wreic uwyaf a garaf yd wyt yn kyscu heno genthi. Ac y herchi hi a'r arlwy a'r darmerth yssyd ymma y dodwyf i." Kynhewi a oruc Pwyll, cany bu attep a rodassei.
"Taw, hyt y mynnych," heb y Riannon, "ny bu uuscrellach gwr ar y ssynnwyr e hun nog ry uuost ti." "Arglwydes," heb ef, " ny wydwn i pwy oed ef." "Llyna y gwr y mynyssit uy rodi i idaw o'm hanuod," heb hi, "Guawl uab Clut, gwr tormyn nawc, kyuoethawc. A chan derw yt dywedut y geir a dywedeist, dyro ui idaw rac anglot yt." "Arglwydes," heb ef, "ny wnn i pa ryw attep yw hwnnw. Ny allaf ui arnaf a dywedy di uyth." "Dyro di ui idaw ef, "heb hi," a mi a wnaf na chaffo ef uiui uyth." "Pa furyf uyd hynny?" heb y Pwyll. "Mi a rodaf i'th law got uechan," heb hi, "a chadw honno gennyt yn da. Ac ef a eirch y wled a'r arlwy a'r darmerth. Ac nit oes y'th uedyant di hynny. A mi ui a rodaf y wled y'r teulu a'r niueroed," heb hi, "a hwnnw uyd dy attep am hynny. Amdanaf innheu," heb hi, "mi a wnaf oet ac ef, ulwydyn y heno, y gyscu gennyf; ac ym penn y ulwydyn," heb hi, "byd ditheu a'r got honn genhyt, ar dy ganuet marchawc yn y perllan uchot. A phan uo ef ar perued y digrifwch a'y gyuedach dyret titheu dy hun ymywn a dillat reudus amdanat, a'r got y'th law," heb hi, "ac nac arch dim namyn lloneit y got o uwyt. Minheu," heb hi, "a baraf, bei dottit yssyd yn y seith cantref hynn o uwyt a llynn yndi, na bydei launach no chynt. A guedy byryer llawer yndi, ef a ouyn yt, "A uyd llawn dy got ti uyth?" Dywet titheu, "Na uyd, ony chyuyt dylyedauc tra chyuoethauc, a guascu a'y deudroet y bwyt yn y got, a dywedut, "Digawn rydodet ymman." A minheu a baraf idaw ef uynet y sseghi y bwyt yn y got. A phan el ef, tro ditheu y got, yny el ef dros y pen yn y got. Ac yna llad glwm ar garryeu y got. A bit corn canu da am dy uynwgyl, a phan uo ef yn rwymedic yn y got, dot titheu lef ar dy gorn, a bit hynny yn arwyd y rot a'th uarchogyon; pan glywhont llef dy gorn, diskynnent wynteu am ben y llys."
"Arglwyd," heb y Guawl," madws oed ymi cael attep am a ercheis." "Kymeint ac a ercheist," heb y Pwyll, "o'r a uo y'm medyant i, ti a'y keffy." "Eneit," heb hitheu Riannon, "am y wled a'r darpar yssyd yma, hwnnw a rodeis i y wyr Dyuet a" y'r teulu, a'r yniueroed yssyd ymma. Hwnnw nit eidawaf y rodi y neb. Blwydyn y heno ynteu, y byd gwled darparedic yn y llys honn i titheu, eneit, y gyscu gennyf innheu."
Gwawl a gerdawd ryngthaw a'y gyuoeth. Pwyll ynteu a doeth y Dyuet. A'r ulwydyn honno a dreulwys pawb o honunt hyt oet y wled a oed yn llys Eueyd Hen. Gwaul uab Clut a doeth parth a'r wled a oed darparedic idaw, a chyrchu y llys a wnaeth, a llawen uuwyt wrthaw. Pwyll ynteu Penn Annwn a doeth y'r berllan ar y ganuet marchauc, ual y gorchymynnassei Riannon idaw, a"r got ganthaw. Gwiscaw bratteu trwm ymdan[a]w a oruc Pwyll, a chymryt lloppaneu mawr am y draet. A phan wybu y bot ar dechreu kyuedach wedy bwyta, dyuot racdaw y'r neuad ; a guedy y dyuot y gynted y neuad kyuarch guell a wnaeth y Wawl uab Clut a'y gedymdeithon o wyr a gwraged. "Duw a ro da yt," heb y Gwawl," a chraessaw Duw wrthyt." "Arglwyd," heb ynteu, "Duw a dalo yt. Negessawl wyf wrthyt." "Craessaw wrth dy neges," heb ef. "Ac os arch gyuartal a erchy ymi, yn llawen ti a'e keffy." "Kyuartal, Arglwyd, " heb ynteu, " nyt archaf onyt rac eisseu. Sef arch a archaf, lloneit y got uechan a wely di o uwyt." "Arch didraha yw honno," heb ef, "a thi a'y keffy yn llawen. Dygwch uwyt idaw," heb ef. Riuedi mawr o sswydwyr a gyuodassant y uynyd, a dechreu llenwi y got. Ac yr a uyrit yndi ny bydei lawnach no chynt. "Eneit," heb y Guawl, "a uyd llawn dy got ti uyth?" "Na uyd, y rof a Duw," heb ef, "yr a dotter yndi uyth, ony chyuyt dylyedauc tir a dayar a chyuoeth, a ssenghi a'y deudroet y bwyt yn y got a dywedut, "Digawn ry dodet yma."" "A geimat," heb y Riannon, "kyuot y uynyd ar uyrr," wrth Gwawl vab Clut. "Kyuodaf yn llawen," heb ef. A chyuodi y uynyd, a dodi y deudroet yn y got, a troi o Pwyll y got yny uyd Guawl dros y penn yn y got ac yn gyflym caeu y got, a llad clwm ar y carryeu, a dodi llef ar y gorn. Ac ar hynny, llyma y teulu am penn y llys, ac yna kymryt pawb o'r niuer a doeth y gyt a Guawl, a'y dodi yn y carchar e hun. A bwrw y bratteu a'r loppaneu a'r yspeil didestyl y amdanaw a oruc Pwyll.
Ac mal y delei pob un o'e niuer ynteu y mywn, y trawei pob un dyrnawt ar y got, ac y gouynnei, "Beth yssyd ymma?" "Broch," medynt wynteu. Sef kyfryw chware a wneynt, taraw a wnai pob un dyrnawt ar y got, ae a'e droet ae a throssawl; ac yuelly guare a'r got a wnaethont. Pawb, ual y delei, a ouynnei, "Pa chware a wnewch chwi uelly?" "Guare broch yg got," medynt wynteu. Ac yna gyntaf y guarywyt broch yg got.
"Arglwyd," heb y gwr o'r got, "pei guarandawut uiui, nyt oed dihenyd arnaf uy llad y mywn got." "Arglwyd," heb Eueyd Hen, "guir a dyweit. Iawn yw yt y warandaw; nyt dihenyt arnaw hynny." "Ie," heb y Pwyll," mi a wnaf dy gynghor di amdanaw ef." "Llyna dy gynghor di," heb Riannon yna. Yd wyt yn y lle y perthyn arnat llonydu eircheit a cherdoryon. Gat yno ef y rodi drossot y pawb," heb hi, "a chymer gedernit y ganthaw na bo ammouyn na dial uyth amdanaw, a digawn yw hynny o gosp arnaw." "Ef a geif hynny yn llawen," heb y gwr o'r got. "A minheu a'e kymmeraf yn llawen," heb y Pwyll, "gan gynghor Heueyd a Riannon." "Kynghor yw hynny gynnym ni," heb wynt. "Y gymryt a wnaf," heb y Pwyll. "Keis ueicheu drossot." "Ni a uydwn drostaw," heb Heueyd, "yny uo ryd y wyr y uynet drostaw." Ac ar hynny y gollyngwyt ef o'r got ac y rydhawyt y oreugwyr. "Gouyn ueithon y Wawl weicheu," heb yr Heueyd. "Ni a adwaenwn y neb a dylyer y kymryt y ganthaw." Riuaw y meicheu a wnaeth Heueyd. "Llunnya dy hunn," heb y Guawl, "dy ammot." "Digawn yw gennyf i," heb y Pwyll, "ual y llunnyawd Riannon." Y meicheu a aeth ar yr ammot hwnnw. "Ie, Arglwyd," heb y Guawl, "briwedic wyf i, a chymriw mawr a geueis, ac ennein yssyd reit ymi, ac y ymdeith yd af i, gan dy gannyat ti. A mi a adawaf wyrda drossof yma, y attep y pawb o'r a'th ouynno di." "Yn llawen," heb y Pwyll," "a gwna ditheu hynny." Guawl a aeth parth a'y gyuoeth.
Y neuad ynteu a gyweirwyt y Pwyll a'e niuer, ac yniuer y llys y am hynny. Ac y'r bordeu yd aethont y eisted, ac ual yd eistedyssant ulwydyn o'r nos honno, yd eistedwys paub y nos [honno]. Bwyta a chyuedach a wnaethont, ac amser a doeth y uynet y gyscu. Ac y'r ystauell yd aeth Pwyll a Riannon, a threulaw y nos honno drwy digriuwch a llonydwch.
A thrannoeth, yn ieuengtit y dyd, "Arglwyd," heb Riannon, "kyuot y uynyd, a dechreu lonydu y kerdoryon, ac na ommed neb hediw, o'r a uynno da." "Hynny a wnaf i, yn llawen," heb y Pwyll, "a hediw a pheunyd tra parhao y wled honn." Ef a gyuodes Pwyll y uynyd, a pheri dodi gostec, y erchi y holl eircheit a cherdoryon dangos, a menegi udunt y llonydit pawb o honunt wrth y uod a'y uympwy ; a hynny a wnaethpwyd. Y wled honno a dreulwyt, ac ny ommedwyt neb tra barhaud. A phan daruu y wled, "Arglwyd," heb y Pwyll wrth Heueyd, "mi a gychwynnaf, gan dy gannyat, parth a Dyuet auore." "Ie," heb Heueyd, "Duw a rwydhao ragot; a gwna oet a chyfnot y del Riannon i'th ol." "Y rof i a Duw," heb ynteu Pwyll, "y gyt y kerdwn odymma." "Ay uelly y mynny di, Arglwyd?" heb yr Heueyd. "Uelly, y rof a Duw," heb y Pwyll.
Wynt a gerdassant trannoeth parth a Dyuet, a Llys Arberth a gyrchyssant, a gwled darparedic oed yno udunt. Dygyuor y wlat a'r kyuoeth a doeth attunt o'r gwyr goreu a'r gwraged goreu. Na gwr na gwreic o hynny nyt edewis Riannon, heb rodi rod enwauc idaw, ae o gae, ae o uodrwy, ae o uaen guerthuawr. Gwledychu y wlat a wnaethont yn llwydannus y ulwydyn honno, a'r eil. Ac yn [y] dryded ulwydyn, y dechreuis gwyr y wlat dala trymuryt yndunt, o welet gwr kymeint a gerynt a'e harglwyd ac eu brawduaeth, yn dietiued; a'e dyuynnu attunt a wnaethont. Sef lle y doethont y gyt, y Bresseleu yn Dyuet. "Arglwyd," heb wynt, "ni a wdom na bydy gyuoet ti a rei o wyr y wlat honn, ac yn ouyn ni yw, na byd it etiued o'r wreic yssyd gennyt. Ac wrth hynny, kymmer wreic arall y bo ettiued yt ohonei. Nyt byth," heb wynt, "y perhey di, a chyt kerych di uot yuelly, nys diodefwn y gennyt." "Ie," heb y Pwyll, "nyt hir ettwa yd ym y gyt, a llawer damwein a digawn bot. Oedwch a mi hynn hyt ym pen y ulwydyn; a blwydyn y'r amser hwnn, ni a wnawn yr oet y dyuot y gyt, ac wrth ych kynghor y bydaf." Yr oet a wnaethant. Kynn dyuot cwbyl o'r oet, mab a anet idaw ef, ac yn Arberth y ganet. A'r nos y ganet, y ducpwyt gwraged y wylat y mab a'y uam. Sef a wnaeth y gwraged kyscu, a mam y mab, Riannon. Sef riuedi o wraged a ducpwyt y'r ystauell hwech wraged. Gwylat a wnaethont wynteu dalym o'r nos, ac yn hynny eisswys, kyn hanner noss, kyscu a wnaeth pawb ohonunt, a thu a'r pylgeint deffroi. A phan deffroyssant, edrych a orugant y lle y dodyssynt y mab, ac nyt oed dim ohonaw yno. "Och!" heb vn o'r gwraged, "neur golles y mab." "Ie," heb arall, "bychan a dial oed yn lloski ni, neu yn dienydyaw am y mab." "A oes," heb un o'r guraged, "kynghor o'r byt am hynn?" "Oes," heb arall, "mi a wnn gynghor da," heb hi. "Beth yw hynny?" heb wy. "Gellast yssyd yma," heb hi, "a chanawon genti. Lladwn rei o'r canawon, ac irwn y hwyneb hitheu Riannon a'r gwaet, a'y dwylaw, a byrwn yr eskyrn gyr y bron, a thaerwn arnei e hun diuetha y mab. Ac ni byd yn taered ni an chwech wrthi hi e hun." Ac ar y kynghor hwnnw y trigwyt.
Parth a'r dyd Riannon a deffroes, ac a dywot, "A wraged," heb hi, "mae y mab?" "Arglwydes," heb wy, "na ouyn di yni y mab. Nyt oes ohonam ni namyn cleisseu a dyrnodeu yn ymdaraw a thi ; a diamheu yw gennym na welsam eiroet uilwraeth yn un wreic kymeint ac ynot ti. Ac ny thygyawd ynni ymdaraw a thi. Neur diffetheeist du hun dy uab, ac na hawl ef ynni." "A druein," heb y Riannon, "yr yr Arglwyd Duw a wyr pob peth, na yrrwch geu arnaf. Duw, a wyr pob peth, a wyr bot yn eu hynny arnaf i. Ac os ouyn yssyd arnawchi, ym kyffes y Duw, mi a'ch differaf." "Dioer," heb wy, "ny adwn ni drwc arnam ny hunein yr dyn yn y byt." "A druein," heb hitheu, "ny chewch un drwc yr dywedut y wirioned." Yr a dywettei hi yn dec ac yn druan, ny chaffei namyn yr un atteb gan y gwraged.
Pwyll Penn Annwn ar hynny a gyuodes, a'r teulu a'r yniueroed, a chelu y damwein hwnnw ny allwyt. Y'r wlat yd aeth y chwedyl, a phawb o'r guyrda a'e kigleu. A'r guyrda a doethant y gyt y wneuthur kynnadeu at Pwyll, y erchi idaw yscar a'e wreic, am gyflauan mor anwedus ac ar y wnaethoed. Sef attep a rodes Pwyll, "Nyt oed achaws ganthunt wy y erchi y mi yscar a'm gwreic namyn na bydei plant idi. Plant a wnn i y uot idi hi. Ac nyt yscaraf a hi. O gwnaeth hitheu gam, kymeret y phenyt amdanaw." Hitheu Riannon a dyuynnwys attei athrawon a doethon. A gwedy bot yn degach genthi kymryt y phenyt nog ymdaeru a'r gwraged, y phenyt a gymerth. Sef penyt a dodet erni, bot yn y llys honno yn Arberth hyt ym penn y seith mlyned. Ac yskynuaen a oed odieithyr y porth, eisted gyr llaw hwnnw beunyd, a dywedut y pawb a delei o'r a debygei nas gwyppei, y gyffranc oll, ac o'r a attei idi y dwyn, kynnic y westei a phellynic y dwyn ar y cheuyn y'r llys. A damwein y gadei yr un y dwyn. Ac yuelly treulaw talym o'r ulwydyn a wnaeth.
Ac yn yr amser hwnnw yd oed yn arglwyd ar Wynt Ys Coet, Teirnon Twryf Uliant, a'r gwr goreu yn y byt oed. Ac yn y ty yd oed cassec. Ac nyt oed yn y dyrnas, na march na chassec degach no hi; a phob nos Calanmei y moei, ac ny wybydei neb un geir e wrth y hebawl. Sef a wnaeth Teirnon, ymdidan nosweith a'y wreic, "Ha wreic," heb ef; "llibin yd ym pob blwydyn yn gadu heppil yn cassec, heb gaffel yr un o honunt." "Peth a ellir wrth hynny?" heb hi. "Dial Duw arnaf," heb ef, "nos Calanmei yw heno, ony wybydaf i pa dileith yssyd yn dwyn yr ebolyon." Peri dwyn y gassec y mywn ty a wnaeth, a gwiscaw arueu amdanaw a oruc ynteu, a dechreu gwylat y nos. Ac ual y byd dechreu noss, moi y gassec ar ebawl mawr telediw, ac yn seuyll yn y lle. Sef a wnaeth Teirnon, kyuodi ac edrych ar prafter yr ebawl, ac ual y byd yuelly, ef a glywei twrwf mawr, ac yn ol y twrwf, llyma grauanc uawr drwy fenestyr ar y ty, ac yn ymauael a'r ebawl geir y uwng. Sef a wnaeth ynteu Teirnon, tynnu cledyf, a tharaw y ureich o not yr elin e ymdeith, ac yny uyd hynny o'r ureich a'r ebawl ganthaw ef y mywn. Ac ar hynny twrwf, a diskyr a gigleu y gyt. Agori y drws a oruc ef a dwyn ruthyr yn ol y twrwf. Ny welei ef y twrwf rac tywyllet y nos. Ruthyr a duc yn y ol, a'y ymlit. A dyuot cof idaw adaw y drws y agoret, ac ymhwelut a wnaeth. Ac wrth y drws, llyma uab bychan yn y gorn, guedy troi llenn o bali yn y gylch. Kymryt y mab a wnaeth attaw, a llyma y mab yn gryf yn yr oet a oed arnaw.
Dodi cayat ar y drws a wnaeth, a chyrchu yr ystauell yd oed y wreic yndi. "Arglwydes," heb ef, ay kyscu yd wyt ti?" "Nac ef, Arglwyd," heb hi. "Mi a gyskeis, a phan doethost ti y mywn mi a deffroeis." "Mae ymma mab it," heb ef, " os mynny, yr hwnn ny bu yt eiroet." "Arglwyd," heb hi, "pa gyfranc uu hynny?" "Llyma oll," heb y Teirnon, a menegi y dadyl oll. "Ie, Arglwyd," heb hi, "pa ryw wisc yssyd am y mab?" "Llen o bali," heb ynteu. "Mab y dynnyon mwyn yw," heb hi. "Arglwyd," heb hi, "digrifwch a didanwch oed gennyf i, bei mynnut ti, mi a dygwn wraged yn un a mi, ac a dywedwn uy mot y ueichawc." "Myui a duunaf a thi yn llawen," heb ef, "am hynny." Ac yuelly y gwnaethpwyt. Peri a wnaethont bedydyaw y mab, o'r bedyd a wneit yna. Sef enw a dodet arnaw, Gwri Wallt Euryn. Yr hynn a oed ar y ben o wallt, kyuelynet oed a'r eur.
Meithryn y mab a wnaethpwyt yn y llys yny oed ulwyd. A chynn y ulwyd yd oed yn kerdet yn gryf, a breiscach oed no mab teir blwyd, a uei uawr y dwf a'e ueint. A'r eil ulwydyn y magwyt y mab, a chyn ureisket oed a mab chweblwyd. A chynn penn y pedwyryd ulwydyn, yd oed yn ymoprau a gueisson y meirch, am y adu o'e dwyn y'r dwuyr. "Arglwyd," heb y wreic wrth Teirnon, "mae yr ebawl a differeist ti y noss y keueist y mab?" "Mi a'e gorchymynneis y weisson y meirych," heb ef, "ac a ercheis synnyaw wrthaw," "Ponyt oed da iti, Arglwyd," heb hi, "peri y hywedu, a'y rodi y'r mab? Kanys y noss y keueist y mab y ganet yr ebawl ac y differeist." "Nyt af i yn erbyn hynny," heb y Teirnon. "Mi a adaf y ti y rodi idaw." "Arglwyd," heb hi, "Duw a dalo yt, mi a'e rodaf idaw." Y rodet y march y'r mab, ac y deuth hi at y guastrodyon, ac at weisson y meirch, y orchymyn synyeit wrth y march, a'e uot yn hywed erbyn pan elei y mab y uarchogaeth, a chwedyl wrthaw.
Emysc hynny, wynt a glywssont chwedlydyaeth y wrth Riannon, ac am y phoen. Sef a wnaeth Teirnon Twryf Uliant, o achaws y douot a gawssei, ymwarandaw am y chwedyl, ac amouyn yn lut ymdanaw yny gigleu gan lawer o luossogrwyd, o'r a delei y'r llys, mynychu cwynaw truanet damwein Riannon, a'y phoen. Sef a wnaeth Teirnon ynteu, medylyaw am hynny, ac edrych ar y mab yn graf. A chael yn y uedwl, yn herwyd gueledigaeth, na rywelsei eiroet mab a that kyn debycket a'r mab y Pwyll Penn Annwn. Ansawd Pwyll hyspys oed gantaw ef, canys gwr uuassei idaw kynn no hynny. Ac yn ol hynny, goueileint a dellis yndaw, o gamhet idaw attal y mab ganthaw, ac ef yn gwybot y uot yn uab y wr arall. A phan gauas gyntaf o yscaualwch ar y wreic, ef a uenegis, idi hi, nat oed iawn udunt wy attal y mab ganthunt, a gadu poen kymmeint ac a oed, ar wreicda kystal a Riannon o'r achaws hwnnw, a'r mab yn uab y Pwyll Penn Annwn.
A hitheu wreic Teirnon a gytsynnywys ar anuon y mab y Pwyll. "A thripheth, Arglwyd," heb hi, "a gaffwn o hynny, diolwch ac elwissen o ellwg Riannon o'r poen y mae yndaw, a diollwch gan Pwyll am ueithryn y mab, a'e eturyt idaw. A'r trydyd peth, os gwr mwyn uyd y mab, mab maeth ynni uyd, a goreu a allo uyth a wna inni." Ac ar y kynghor hwnnw y trigyssant. Ac ny bu hwy ganthunt no thrannoeth, ymgueiraw a oruc Teirnon ar y drydyd marchawc, a'r mab yn petwyryd y gyt ac wynt ar y march a rodyssei Teirnon idaw. A cherdet parth ac Arberth a wnaethont. Ny bu hir y buont yny doethont y Arberth. Pan doethant parth a'r llys, wynt a welynt Riannon yn eisted yn emmyl yr yskynuaen. Pan doethont yn ogyuuch a hi, "A unbenn," heb hi, "nac ewch bellach hynny. Mi a dygaf pob un o honawch hyt y llys. A hynny yw uym penyt am lad o honaf uu hun uy mab, a'e diuetha." "A wreicda," heb y Teirnon, "ny thebygaf i y un o hyn uynet ar dy geuyn di." "Aet a'y mynho," heb y mab, "nyt af i." "Dioer, eneit," heb Teirnon, "nyt awn ninheu." Y llys a gyrchyssant. A diruawr llywenyd a uu yn y herbyn. Ac yn dechreu treulaw y wled yd oedit yn y llys. Ynteu Pwyll a oed yn dyuot o gylchaw Dyuet. Y'r yneuad yd aethont, ac y ymolchi. A llawen uu Pwyll wrth Teirnon, ac y eisted yd aethont. Sef ual yd eistedyssont, Teirnon y rwg Pwyll a Riannon, a deu gedymdeith Teirnon uch llaw Pwyll a'r mab y ryngthunt. Guedy daruot bwyta, ar dechreu kyuedach, ymdidan a wnaethon. Sef ymdidan a uu gan Teirnon, menegi y holl gyfranc am y gassec ac am y mab, a megys y buassei y mab ar y hardelw wy, Teirnon a'e wreic, ac y megyssynt. "Ac wely dy yna dy uab, Arglwydes," heb y Teirnon. "A phwy bynnac a dywot geu arnat, cam a wnaeth. A minheu pann gigleu y gouut a oed arnat, trwm uu gennyf, a doluryaw a wneuthum. Ac ny thebygaf o'r yniuer hwnn oll, nit adnappo not y mab yn uab y Pwyll," heb y Teirnon. "Nyt oes neb," heb y pawb, "ny bo diheu gantaw hynny." "Y rof i a Duw," heb y Riannon, oed escor uym pryder im, pei gwir hynny." "Arglwydes," heb y Pendaran Dyuet, "da yd enweist dy uab, Pryderi. A goreu y gueda arnaw Pryderi uab Pwyll Penn Annwn. " "Edrychwch," heb y Riannon, "na bo goreu y gueda arnaw y enw e hun." "Mae yr enu?" heb y Pendaran Dyuet. "Gwri Wallt Euryn a dodyssom ni arnaw ef." "Pryderi," heb Pendaran Dyuet, "uyd y enw ef." "Yawnahaf, yw hynny," heb y Pwyll, "kymryt enw y mab y wrth y geir a dywot y uam, pann gauas llawen chwedyl y wrthaw." Ac ar hynny y trigwyt.
"Teirnon," heb y Pwyll, "Duw a dalo yt ueithryn y mab hwn hyt yr awr hon. A iawn yw idaw ynteu, o'r byd gwr mwyn, y dalu ytti." "Arglwyd," heb y Teirnon, "y wreic a'e magwys ef, nyt oes yn y byt dyn uwy y galar no hi yn y ol. Iawn yw idaw coffau ymi, ac y'r wreic honno, a wnaethom yrdaw ef." "Y rof i a Duw," heb y Pwyll, "tra parhawyf i, mi a'th kynhalyaf, a thi a'th kyuoeth, tra allwyf kynnhal y meu uy hun. Os ynteu a uyd, iawnach yw idaw dy gynnhal nogyt y mi. Ac os kynghor gennyt ti hynny, a chan hynn o wyrda, canys megeist ti ef hyt yr awr.hon, ni a'e rodwn ar uaeth at Pendaran Dyuet o hynn allan. A bydwch gedymdeithon chwitheu a thatmaetheu idaw." "Kynghor iawn," heb y pawb, "yw hwnnw." Ac yna y rodet y mab y Pendaran Dyuet, ac yd ymyrrwys gwyrda y wlat y gyt ac ef. Ac y kychwynnwys Teirnon Toryfliant a'y gedymdeithon y ryngtaw a'y wlat ac a'e gyuoeth, gan garyat a llywenyd. Ac nyt aeth heb gynnhic ydaw y tlysseu teccaf a'r meirych goreu a'r cwn hoffaf. Ac ny mynnwys ef dim.
Yna y trigyssant wynteu ar eu kyuoeth, ac y magwyt Pryderi uab Pwyll Pen Annwn yn amgeledus, ual yd oed dylyet, yny oed delediwhaf gwass, a theccaf, a chwpplaf o pob camp da, o'r a oed yn y dyrnas. Uelly y treulyssant blwydyn a blwydyned, yny doeth teruyn ar hoedyl Pwyll Penn Annwn, ac y bu uarw. Ac y gwledychwys ynteu Pryderi seith cantref Dyuet, yn llwydannus garedic gan y gyuoeth, a chan pawb yn y gylch. Ac yn ol hynny y kynydwys trychantref Ystrat Tywi a phedwar cantref Keredigyawn. Ac y gelwir y rei hynny, seith cantref Seissyllwch. Ac ar y kynnyd hwnnw y bu ef, Pryderi uab Pwyll Penn Annwn, yny doeth yn y uryt wreika. Sef gwreic a uynnawd, Kicua, uerch Wynn Gohoyw, uab Gloyw Walltlydan, uab Cassnar Wledic o dyledogyon yr ynys hon.
Ac yuelly y teruyna y geing hon yma o'r Mabynnogyon.
[[Categori:Mabinogion]]
[[en:The Mabinogion (Guest 1877)/Pwyll Prince of Dyved]]
etepeloy4x2h5x7421pnvoy57vcdw9d