Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.46.0-wmf.23 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/1 104 83483 162709 2026-04-09T00:46:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162709 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu|canol|600px|tudalen=1]] {[nop}}<noinclude><references/></noinclude> mllzrr8jtv1cckbjogz91h43dcd1yrj Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/82 104 83484 162710 2026-04-09T00:47:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162710 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu|canol|600px|tudalen=82]]<noinclude><references/></noinclude> q8al4zvdys7p0746jcowtgjr11milq8 Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/81 104 83485 162711 2026-04-09T00:47:46Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 162711 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/2 104 83486 162712 2026-04-09T00:53:25Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 162712 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/3 104 83487 162713 2026-04-09T01:01:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162713 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|HENRY JAMES;}}}}

{{c|NEU}}
{{c|{{Mm-mawr|Y MEDDWYN DIWYGIEDIG,}}}}
{{c|gan}} {{c|{{Mm-mawr|E. JONES (EGRYN),}}}}
{{c|GYDA
RHAGDRAETH
GAN Y}}
{{c|{{M-mawr|PARCH. T. JONES (GLAN ALUN).}}}}

{{c|CAERNARFON
ARGRAPHWYD GAN GWMNI'R WASG GENEDLAETHOL GYMREIG (CYF.),
SWYDDFA'R "GENEDL GYMREIG."}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude> mz5g88rz0qojja77jzxoymwlffkg588 162714 162713 2026-04-09T01:02:02Z AlwynapHuw 1710 162714 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|HENRY JAMES;}}}}
{{c|NEU}}
{{c|{{Mm-mawr|Y MEDDWYN DIWYGIEDIG,}}}}
{{c|gan}} {{c|{{Mm-mawr|E. JONES (EGRYN),}}}}
{{c|GYDA
RHAGDRAETH
GAN Y}}
{{c|{{M-mawr|PARCH. T. JONES (GLAN ALUN).}}}}

{{c|CAERNARFON
ARGRAPHWYD GAN GWMNI'R WASG GENEDLAETHOL GYMREIG (CYF.),
SWYDDFA'R "GENEDL GYMREIG."}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude> pej41a9f4mfqf855hu33ffjz2rih3y7 Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/4 104 83488 162715 2026-04-09T01:02:30Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 162715 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/5 104 83489 162716 2026-04-09T01:07:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162716 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNWYSIAD.}}}} {{Center block/s}} <poem> RHAGDRAETH PENNOD I. :Rhagaraeth—Teulu Mr. James, a'i ddyddiau boreuol PENNOD II. :Priodas Mr. James PENNOD III. :Ymweliad Mr. James a Llundain, ac yno yn syrthio yn mhlith ''sharpers'' PENNOD IV. :Marwolaeth unig ferch Mr. James, a'i droedigaeth PENNOD V. :Mr. James yn ddirwestwr, ac yn grefyddwr selog </poem>
<noinclude>{{Div end}}</noinclude> c7hj15v6cu5zyydzc2oceuqbonk8lxb 162717 162716 2026-04-09T01:07:31Z AlwynapHuw 1710 162717 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNWYSIAD.}}}} {{Center block/s}} <poem> RHAGDRAETH PENNOD I. :Rhagaraeth—Teulu Mr. James, a'i ddyddiau boreuol PENNOD II. :Priodas Mr. James PENNOD III. :Ymweliad Mr. James a Llundain, ac yno yn syrthio yn mhlith ''sharpers'' PENNOD IV. :Marwolaeth unig ferch Mr. James, a'i droedigaeth PENNOD V. :Mr. James yn ddirwestwr, ac yn grefyddwr selog </poem>
<noinclude>{{Div end}}</noinclude> d37n54hb594ggio83pp48fpdd7pb9e5 162718 162717 2026-04-09T01:10:19Z AlwynapHuw 1710 162718 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNWYSIAD.}}}} {{Center block| <poem> RHAGDRAETH PENNOD I. :Rhagaraeth—Teulu Mr. James, a'i ddyddiau boreuol PENNOD II. :Priodas Mr. James PENNOD III. :Ymweliad Mr. James a Llundain, ac yno yn syrthio yn mhlith ''sharpers'' PENNOD IV. :Marwolaeth unig ferch Mr. James, a'i droedigaeth PENNOD V. :Mr. James yn ddirwestwr, ac yn grefyddwr selog </poem> }}
<noinclude></noinclude> jkekq5yw2wtmnznqb2ic1ma8l8id5b5 Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/6 104 83490 162719 2026-04-09T01:30:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162719 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGYMADRODD.}}}} CYHOEDDIR "HENRY JAMES" ar annogaeth a dymuniad amryw gyfeillion galluog, eu tystiolaeth unol ydyw, "y bydd yn foddion i wneuthur llawer iawn o lês." Os llwydda i ddattod cadwynau rhai o'n cyd ddynion ac sydd yn gaeth gan feddwdod, ac i dueddu eraill i osgôi ei rhwydau, bydd efallai yr unig elw a dderbynia yr awdwr am ei gyhoeddi. Buasai y traethawd yn helaethach ar y rhan hono ag sydd yn dal perthynas â "Mr. James" fel Arwr ar faes dirwest, oni buasai iselder ei bris ein gorfodi i'w gwttogi. Os bydd yn foddion i greu casineb at y pechod hwn, bydd yn meddiant pob un i enwogi ei hunan fel arwr ar y maes yma. Dymuna yr awdwr sicrhau, nad oes un cyfeiriad personol at neb byw o'i fewn. Ac ni chymerwyd bywyd un meddwyn neillduol yn gynllun i ysgrifenu arno, yn unig gwnawd defnydd o'r cymeriadau, y dygwyddiadau, a'r darluniadau o blith miloedd ag sydd yn cael eu gweithredu yn llyth'renol er pan mae natur lygredig wedi dyfeisio y gelfyddyd o droi ffrwythau yn ddïodydd meddwol. :YR AWDWR. ::Mawrth, 1855. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> gjhvimeabd16zqjldhn015c8udwf99d Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/7 104 83491 162720 2026-04-09T01:32:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162720 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGDRAETH.}}}} Un o'r galluoedd hynotaf yn y meddwl dynol ydyw y crebwyll neu'r dychymyg, trwy pa un y mae yr efrydydd megis yn creu delweddau a chysylltiadau newyddion. Meddwl hapus gan gynghor Eisteddfod Merthyr oedd rhoddi testyn ymgystadleuaeth i'r dychymyg, ac yn enwedig ei gyfeirio at ddiben mor ddaionus a Dirwest a Sobrwydd. Yr ydys wedi cael cryn doraeth o rigwm heb farddoniaeth yn gynnyrch Eisteddfodau, os dilynir yr esiampl uchod, fe allai y cawn bellach ychydig farddoniaeth heb rigwm. Y mae rhai o'r prif foes-wersi wedi eu traddodi yn mhob oes o'r byd ar ddull dammegion, ac y mae rhai o orchestion penaf llenyddiaeth, wedi bod ar ddull Ffughanesion. Ffughanes, wedi ei seilio ar ffeithiau mewn rhan, oedd Iliad y Prif-fardd Groegaidd Homer, ac Ænid y Prif-fardd Lladinaidd Virgil; Ffughanes Farddonol, gan mwyaf, oedd Dinystr Jerusalem, gan Tasso; a Choll Gwynfa, gan yr anfarwol Filtwn. Ffughanes, seiliedig ar ffeithiau, ydyw y byd-enwog Caban f'Ewythr Tom, o'r hwn y gwerthwyd yn agos i dri-chan-mil o gopiau gan un argraffydd, a'r hwn sydd wedi rhoddi y dyrnod trymaf i gaethfasnach America ag a gafodd erioed. Ffughanes ydyw y Cymreigiad o hono ar Aelwyd<noinclude><references/></noinclude> 4ywfpgca9j9mem08h817br3q6ir0gne Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/8 104 83492 162721 2026-04-09T01:32:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162721 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>f'Ewythr Robert, â pha un yr anrhegwyd ei wlad yn ei ddull mwyaf dedwydd, gan y gor-ddawnus Gwilym Hiraethog. Nid wyf fi ddim yn amheu, os ydyw Ffughanesion ereill Eisteddfod Merthyr, mor dda a HENRY JAMES, ac os ceir cylchrediad priodol iddynt, nad allant fod mor efieithiol i feithrin Dirwest, ac i ddarostwng y fasnach feddwol, a dim a ymddangosodd yn Nghymru eto. Ac yn wir, nid sobrwydd yn unig a arddyrchefir yn y Ffughanes hwn, ond fe ddangosir tynerwch teuluaidd, ac uchelfrydedd crefyddol, mewn lliwiau grymus a tharawiadol. Fe ddywedir weithiau, fod "y gwir yn fwy hynod na'r ffug;" ac yn Ffughanes Henry James, y mae yn anmhosibl i'r ystyriol beidio teimlo mae y gwir a adroddir, er mae ar ddull ffugiol. Nis gall y dychymyg cryfaf prin orliwio y trueni personol a theuluaidd sydd wedi tarddu oddiar feddwdod a chyfeddach. Gyda golwg ar ragoroldeb cyfansoddiadol y Ffughanes Henry James, byddai yn drosedd ar rëolau lledneisrwydd i mi fanylu yn ormodol, a rhagflaenu barn y darllenydd. Ond fe allaf ddatgan fy mod i yn bersonol wedi cael pleser mawr, a syndod, wrth ddarllen yr ysgrif. Tarawyd fi yn neillduol gan y darluniad o garacter pur, a thyner, y rhinweddol Mrs. James. Y mae y gwrthgyferbyniad rhwng nodweddiad Jane, morwyn Mr. James, â Mary, morwyn y Lion, yn ymddangos i mi yn dra hapus, ac y mae Catherine Margaret bach yn berlewygol o "gywir i natur." Gwelir fod fy nghyfaill, yr awdwr, wedi cymeryd ei enghraifft o effeithiau meddwdod o blith uchelwyr ei wlad; o herwydd hyn, yr oedd yn naturiol iddo ei arwain i'r Brif-ddinas i gyfarfod â phrif achlysur ei gwymp. Fe allai fod y beirniaid Eisteddfodol wedi meddwl y buasai enghraifft o blith y canol neu iselradd, ac felly wedi ei gyfyngu o ran achlysuron ac amgylchiadau i gylch cymdeithas Gymreig yn unig yn fwy defnyddiol. O ran<noinclude><references/></noinclude> ciorlmwal808l5bpauurl7l7lyd6tuf Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/9 104 83493 162722 2026-04-09T01:33:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162722 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>teleidrwydd y cyfansoddiad nid yw hyn o ddim pwys, ac y mae canlyniadau meddwdod yr un mor echrydus ei natur yn mhob gradd a sefyllfa. Gobeithiaf y bydd i'r cyfansoddiadau hyn oll gael darlleniad helaeth, a chyraedd eu hamcan daionus mewn cynydd ar sobrwydd ein gwlad; ac yn enwedig y calonogir awdwr Henry James i gydio yn ei ysgrifell etto yn y dull hwn, ag y mae yn amlwg ei fod wedi ei gynysgaeddu ag athrylith iddo. GLAN ALUN. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sf5n0try1cn7ckjz871zbj0yau3lhzi Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/10 104 83494 162723 2026-04-09T01:34:00Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 162723 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/11 104 83495 162724 2026-04-09T01:36:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162724 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD I.
RHAGARAETH—TEULU MR. JAMES, A'I DDYDDIAU BOREUOL.}}}} YN mis Medi, 1832. amgylchiad â'n dygodd i gydnabyddiaeth â theulu Mr. Humphrey James, Tyddyn Ucha, swydd(bar|2}} Buom am ddyddiau yn mwynhau eu llettygarwch; ac nid ydym yn cofio i ni dreulio dyddiau mwy hafaidd yn ein hoes. Dangoswyd i ni sirioldeb mwy na chyffredin, efallai am ryw dro caredig a wnaeth ein hên daid i daid Mr. James, yn un o ryfeloedd yr India, yn niwedd y ganrif ddiweddaf, pryd y bu fy nhaid yn foddion i achub bywyd taid Mr. Humphrey James. Ond derbyniasom eu caredigrwydd fel pe yn anhaeddiannol o'r ffafr leiaf, trwy hyny yr oedd pob peth yn myned ymlaen yn fwy siriol a dymunol. Yr oedd Mr. Humphrey James, wedi hanu o deulu parchus a boneddigaidd, - wedi derbyn dysg rhagorol, addas i'w sefyllfa. Bwriadwyd ef i'r gyfraith, ac yr oedd ei ddysg wedi ei gyfeirio yn benaf at hyny: ond rywfodd yr oedd Mr. H. James, er pan yn hogyn, a'i fryd ar amaethyddiaeth. Cawsom lawer o hyfrydwch wrth wrandaw ar ei fam yn darlunio ei dyddiau boreuaf. "Yn wir, welwch chi," meddai yr hen wraig, "yr oedd<noinclude><references/></noinclude> bg0smvh47bf94sid82w6wen9oq7126v Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/12 104 83496 162725 2026-04-09T03:29:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162725 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Humphrey, fel y gwelwch chi gi, am ddilyn ei feistr i bob man; felly yr oedd yntau am ddilyn y gweision, trwy dywydd hyfryd a garw." Adroddodd i ni fel y byddai ar gefn ''Boxer'', fel y byddai ei esgidiau yn wynion, ei ddillad yn briddlyd, ac yn garpiau; y modd y byddai ei dad yn ei guro: a mil o anturiaethau dychymygol o eiddo ei phlentyn, yn maesydd a choedwigoedd amaeyddiaeth. Gan fod Mr. Humphrey James, yn ail fab, aeth yr etifeddiaeth i'r brawd hynaf, wedi marwolaeth y tad: a gorfu ar Humphrey James, a'i fam, ymadael o Ysbytty Evan, i le o'r eiddynt eu hunain, Y Tyddyn Ucha. Y tir oedd yn canlyn y Pladŷ hwn (478 o erwau o dir, a 45 o erwau o goed) ydoedd eiddo eu diweddar fam, yr hwn a ddisgynodd iddi hi. Yr oedd yr etifeddiaeth hon yn ddiatfaeledig, h.y., yn rhydd oddi wrth ddyled, a blwydd-daliadau. Ac yn ol y weithred brïodasol rhyngddi â'i diweddar ŵr, nid oedd ganddo hawl ar y lle. Yn mhen amser bu farw mam Mr. Humphrey James, a gadawodd yr eiddo, ac yn agos i 3,000p, yn arian parod. Y pryd yr oeddym yn ymwelwyr yn y Tyddyn Ucha, cynnwysai y teulu, yr hên fam, Mr. Humphrey James ei mab, ei merch ynghyfraith, a'i hŵyr Henry James, 16 oed; yr hwn oedd newydd ddychwelyd o ysgol Shrewsbury: ymddangosai yn fachgenyn bywiog, cyflym ei amgyffrediadau, a chraffus, hyd i fanyldra. Hoffai ddigrifwch ac ysmaldod, -dywedodd ei nain, "fod Henry mewn rhyw ddrwg diniwed o'r boreu hyd y nos." Gorfu arnom ddatgan ein cymeradwyaeth a'n canmoliaeth am ei ddull celfyddgar o ymryddhâu ei hun o bob dyrysni, ac o esgusodi ei hun, fel ag i osgoi gŵg ei rieni; medrai droi ei fam "â blaen ei fys." Yr oedd ei lygaid dûon, bychain, cyflym, a threiddgar, yn peri i ni dybied fod ffrwd hylifaidd o dynerwch a hynawsedd yn dyfod allan; ac ymddangosai, fel pe buasai fôr annhysbyddadwy o ddyngarwch yn gorwedd y tu cefn iddynt: yr oedd hyn yn hynodrwydd neillduol yn ei edrychiad. Er ei fod yn un tra anturiaethus a rhyfygus, etto yr oedd ymlyniad<noinclude><references/></noinclude> qp4h6o81gd95u6mkzig5przj5xzuzi7 Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/13 104 83497 162726 2026-04-09T03:30:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162726 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cryf ynddo wrth ei rieni, ei gartref, a golygfeydd boreuaf ei oes: heb y briodoledd hon ynddo, mwy na thebyg, na lanwasid ei ddychymyg cyflym a hynodrwydd golygfeydd gwledydd pellenig y ddaear, ac y buasai wedi hwylio ei gerddediad tuag atynt, ymhell cyn hyn. Nid oedd dim yn boddhau ei fam yn fwy na'i glywed yn dywedyd, nad oedd yn teimlo yn ddedwydd yn un man, ond gyda'i anwyl rïeni, ac ynghymydogaeth y Tyddyn Ucha. Cymerodd rhieni Henry lawer iawn o drafferth yn nygiad i fynu eu plentyn, mewn moesau da. Nis clywid un gair anfoesol yn treiglo tros ei wefusau un amser. Sarugrwydd a gwrthguriad, nis gwyddai ddim am danynt. Un o'i nodweddiadau penaf ydoedd ufudd-dod perffaith i orchymynion ei rïeni; a byddai yn nodedig am efelychu esiampl ei rieni ymhob peth, mewn gair a gweithred. Er nad oes genym yr anmheuaeth lleiaf nad oedd ei les tragywyddol, yn gystal ag amserol, yn un o bethau penaf eu gofalwch etto dylasent hyd yr oedd ynddynt ymdrechu cadw eu plentyn o gyfeillach a chyfathrach â dynion annuwiol, rhag llygru ei feddwl pur. Mae plant bob amser yn hynod am efelychu dynion, yn eu hiaith, a'u gweithrediadau. Yr oedd Mrs. James yn ddynes grefyddol, a Mr. Humphrey James yn ddyn sobr, moesol, a dichlynaidd ei gymeriad; etto yr oedd yn myned gydâ ffrwd arferiad y byd, a'r oes, o fynychu y tafarndai. Meddyliai gymaint o Henry, fel na byddai braidd un amser yn myned i'r dref, heb Henry yn y Pheaton gyd âg ef. Ac yn y dafarn, byddai Henry naill ai ar ei lin, neu yn eistedd yn ei ochr. Er yn blentyn pedair oed, yr oedd wedi arfer ag yfed o wydr ei dad; ac os dygwyddai ei dad fyned heibio y Black Lion, heb alw; "Dad, dad, Black Lion, dad," meddai y bachgen; gan ei thybied o'r pwys mwyaf alw yno i borthi blys. Gwrandawodd ar ei lais ddegau o weithiau, yn unig er mwyn ei foddloni. Bu yr arferiad yn foddion i fagu tuedd mor gryf ynddo yn ei ddyddiau bachgenaidd, fel na roddodd hi<noinclude><references/></noinclude> poagd9s2oy805h4ppcmlc2ygli5mt2r Tudalen:Henry James neu Y Meddwyn Diwygiedig.djvu/14 104 83498 162727 2026-04-09T03:31:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 162727 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>heibio, heb ollwng i'w deulu, ffrwd o'r gofidiau mwyaf torcalonus a ellid grynhôi ar ben teulu mewn ychydig amser; a niweidiodd ei iechyd i'r fath raddau, fel ag i'w beryglu yn fawr. Costiodd iddo yr ymdrechion mwyaf er ymadael â'r arferiad oedd wedi ei feistroli gydag esmwythder, -dim ond tuedd naturiol plentyn i efelychu ymarferiad ei dad, yr hwn a dybiai uwchlaw ffaeledd. Os bydd y tad yn lleidr, yn dyngwr, yn feddwyn, neu yn euog o bechodau hynod eraill, a hyny yn ngolwg ei blant, byddant hwy yn sicr o fod o gyffelyb ymddygiadau. Rïeni, os rhaid i chwi fabwysiadu rhyw bechod cyhoeddus, ymdrechwch ei gyflawni dan lèni y tywyllwch allan o olwg eich plant; ac na chyfrifwch hi yn fraint, yn hyfrydwch, ac yn ogoniant, weled eich plant yn dilyn esiamplau, yn eich gweithredoedd annuwiol. I bethau mwy gogoneddus y crëwyd hwy a chwithau. Tad fel hyn oedd Mr. Humphrey James, ac un a efelychodd esiampl ei dad i berffeithrwydd oedd Henry; ac yn wir, a draragorodd arno, cymaint felly, fel yr ydym yn credu fod yr Hollalluog wedi myned allan o'i drefn gyffredinol i achub y cyfryw o'r angeu arswydus oedd yn barod iddo yn ngwaelod y glyn, lle yr ymarllwys y ffrydiau meddwol tros y clogwyni. Cafodd ei achub, pan oedd megis yn troi yn ymyl disgyniad gwyllt y rhaiadr! Pan adawsom y Tyddyn Ucha, yr oedd Henry ar gael ei anfon i un o Golegau Rhydychain. Gan nad ydym yn ddigon hysbys o ymddygiadau Henry tra yn yr Athrofa, dychwelwn at bethau mwyaf nodedig ei fywyd ag sydd yn dal perthynas â'n testyn. Gadawn y llythyrau ag oedd yn gynifer o gadwynau euraidd, yn cydio calon Henry wrth galonau ei rieni, tra yno. Yr oeddym yn meddwl eu rhoddi yn y fan hon, ond chwyddasai hyny ein traethawd yn ormodol. Hyn a ddywedwn, gwnaeth Henry gynydd rhagorol yngwahanol ganghenau gwybodaeth, ac ennillodd lawer o gyfeillion mynwesol a chywir; yr oedd yn anwylgu neillduol ganddynt. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rvcszla7i8td2k9qz6720bontb9ouut