Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/113
104
83499
162729
2026-04-16T01:42:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162729
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond adgofir ni fod Michael Roberts, pan yr ysgrifenodd y nodiad, a'i feddwl yn dechreu dyrysu. Am ddau, pregethai "Mr. Lewis, o Fôn," 'sef, yn ol pob tebyg, William Lewis, Glasinfryn, yr hwn a safasai i fynu i amddiffyn Dafydd Morris pan y ceisiai bregethu yn Beaumaris. Dywedir iddo gael odfa rymus, ac y clywid ei lais yn hawdd am filltir o bellder. Ar ei ol llefarai Dafydd Morris, a chafodd odfa i'w chofio byth. Meddai y Parch. Michael Roberts: "Ar ol haner awr, yr oedd pob proffeswr byw ag oedd yno yn ymryson mewn neidio rhyngddynt a'r nefoedd, yr erlidwyr wedi diflanu oll, a'r bobl oll naill ai yn wylo neu ynte yn gwaeddi." Ar derfyn yr odfa, dywedai Dafydd Williams, rhwng difrif a chellwair, wrth Robert Jones, Rhoslan: "Dyna i ti, Robin, y mae Dafydd Morris yn myned mor dewed nes y mae arnaf braidd gywilydd ei weled ar y stage. Ond a wyddost ti beth, Robin? nid oes arnaf gywilydd i neb yn Nghymru na Lloegr, ïe, yn uffern, ei glywed pan y gwelwyf ef unwaith yn dechreu twymno enaid a chorph. Dyna i ti hogiau gwych, Robin! Yn enw yr Arglwydd, gallwn ni, yr hen bobl, farw bellach pan ewyllysio'r Pen Bugail." Nis gwyddom pwy gyda Dafydd Morris a olygai Dafydd Williams wrth yr "hogiau," efallai mai William Lewis a bregethasai o'i flaen.
Diau y meddai John Roberts ran helaeth, mewn undeb a'i frawd enwog, Robert Roberts, ac eraill, yn efengyleiddiad Gwyn edd. Yr oedd efe yn un o'r arloeswyr. Yn mha ardaloedd y cafodd y fraint o fod y cyntaf i seinio udgorn yr efengyl, nis gwyddom; nid oes gofnodiad ychwaith am y peryglon y bu ynddynt, nac am yr erlidiau a ddyoddefodd. Ond y maent oll yn ysgrifenedig yn llyfr Duw. Modd bynag, yn ol tystiolaeth ei fab, efe, mewn undeb a'r Parch. Evan Richardson, oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn nhref Caernarfon, a dywed i hyn gymeryd lle naill ai yn y flwyddyn 1785, neu 1786. Y mae yn syn i Fethodistiaeth fod cyhyd cyn ymosod ar Gaernarfon. Flynyddoedd lawer cyn hyn sefydlasid seiadau yn Waenfawr, Clynog, Beddgelert, Llanrug, a Llanllyfni, yn gystal a'r ochr arall i gulfor Menai, yn Sir Fôn; ond am y dref ei hun, ni wnaethid unrhyw ymgais effeithiol i sefydlu pregethu rheolaidd ynddi. Araf oedd y Methodistiaid cyntaf i ymosod ar y trefydd. Ac yr oedd yn ddealledig fod Caernarfon yn llawn o yspryd erledigaeth.
Cynygiasai Williams, Pantycelyn, bregethu yma ar ei ffordd adref o Sir Fôn; daeth i'r dref i'r pwrpas hwnw; ond er fod ei ffraethder naturiol, a'r ffaith ei fod yn meddu y ddawn brydyddol mewn helaethrwydd, yn sicrhau gwrandawiad iddo mewn aml i fan na chaffai unrhyw bregethwr arall dderbyniad, methiant fu ei ran y tro hwn. Gwedi dyfod i'r dref, a hyny yn bur llechwraidd, deallodd fod yr erlidwyr wedi gwneyd eu meddwl i fynu i'w rwystro a'i ammharchu, os nad yn wir i'w ladd; a barnodd mai doethineb ynddo oedd llechu yno mor ddystaw ag y medrai dros y nos, a chychwyn i'w daith foreu tranoeth gyda glasiad y wawr. Byddai yr ychydig Fethodistiaid oedd yn y dref, y rhai oeddynt yn aelodau yn y Waenfawr, yn fynych mewn perygl am eu bywyd. Elai yr erlidwyr i'w cyfarfod ar hyd ffordd Llanbeblig ar eu dychweliad adref, a chamdrinient hwy yn greulon. Arferent hwythau yn aml, er ceisio ysgoi yr erledigaeth, groesi trwy fynwent Llanbeblig i ffordd Llanberis, neu ynte ddyfod i'r dref ar hyd llwybr Morfa-y-saint. Pan y gwnaeth Richard Tibbot gais at bregethu yma, cafodd ei garcharu yn y castell, a bu yno, efe a'i anifail, am noswaith gyfan. Cafodd ei fab hefyd, y Parch. Abraham Tibbot, ei ammharchu yn enbyd yma, a dywedir fod yr erlidwyr wedi bwriadu ei ladd.
Ond penderfynodd y ddau bregethwr, John Roberts ac Evan Richardson, y gwnaent ymgais effeithiol i fyned a'r efengyl i'r dref, bydded y canlyniadau y peth a fyddent. Meddai y Parch. Michael Roberts: " Y mae yn dra chofus genyf am y Sabbath yr aeth fy nhad i gyfarfod Mr. Richardson i Gaernarfon, i gynyg pregethu, y waith gyntaf i'r Methodistiaid fod yno. Nid oeddwn ond bachgenyn pur ieuanc. Ond y mae yn gof genyf ddarfod i fy mam ddwyn ei ddillad goreu i fy nhad, y Sabbath hwnw, gan y bwriadai fyned i dref Caernarfon i bregethu. Ond fy nhad, pan ei gwelodd, a ddywedodd wrthi: 'Nid yw o un defnydd i chwi ddwyn i mi y dillad goreu heddyw, oblegyd, mae yn debyg, mai budreddi a fydd drosof oll cyn y nos. Gwell i mi gael rhyw ddillad gwaelach!' Wedi i mi dyfu i fynu y deallais ystyr geiriau fy nhad, mai ofni yr oedd y gorfyddai iddo ddyoddef erlid a'i faeddu yn y dref." Deuai Evan Richardson i gyfarfod ei gyfaill, o Sir Fôn, gwedi bod yn pregethu yn yr ynys yn ystod gwyliau y Pasg. Tua chanol dydd, y Sul gwedi y Pasg,<noinclude><references/></noinclude>
sn28fjq3ba1153yc99izy69lqsihlsi
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/114
104
83500
162730
2026-04-16T01:52:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
162730
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi cael gafael ar eu gilydd, aethant i chwilio am le i bregethu, er eu bod yn ofnus am eu bywyd. Wrth gymharu adroddiad Michael Roberts, yr hwn a ddywed ei fod wedi ymholi llawer yn nglyn a'r mater, a'r hanes a roddir yn Methodistiaeth Cymru, credwn mai yn y modd a ganlyn y cynhaliwyd yr odfa. Yr oeddynt yn adwaen siopwr parchus yno, sef Mr. Owen Owens, diacon yn eglwys yr Annibynwyr, yr hon a gawsai ei sefydlu yn y dref ychydig amser yn flaenorol. oedd mwy o ddyogelwch i'r Annibynwyr nag i'r Methodistiaid, gan y byddent hwy yn trwyddedu eu capelau, a thrwy hyny yn sicrhau iddynt eu hunain amddiffyniad y gyfraith. Dywedodd y ddau bregethwr Methodistaidd eu helynt wrth Mr. Owen, eu bod yn methu cael lle i bregethu ynddo. Cymerodd yntau hwy at y gweinidog Annibynol, y Parch. George Lewis; wedi hyny, Dr. Lewis, awdwr amryw o lyfrau da, ac yn mysg eraill y Corph o Dduwinyddiaeth y darfu i'r Parch. Lewis Edwards, D.D., ysgrifenu rhagdraeth iddo. Holodd Mr. Lewis hwy am eu credo. Dywedodd John Roberts eu bod o ran eu ffydd yn cytuno â Chatecism Westminster. Mewn canlyniad, rhoddodd ganiatad iddynt lefaru yn y llofft lle y cynhaliai yr Annibynwyr eu cyfarfodydd. Yno yr aed erbyn dau o'r gloch, a dechreuai y Parch. George Lewis y cyfarfod. Ond ni ddaliai yr ystafell chwarter y bobl oedd wedi ym- gynull. Aed allan i lain o dir oedd wrth dalcen y capel, ar fin y ffordd, yr hwn a ganiatawyd iddynt gan un Mrs. Morgans, siopwraig barchus. Aeth John Roberts i weddi, a thywalltodd y nefoedd arno; daeth rhyw arswyd dros y dorf, fel na feiddiai neb aflonyddu, a chwalwyd holl ofnau cenhadon Duw. Wedi gweddïo, cymerodd ei destun oddiar 1 Tim. i. 15: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad," &c. Ac meddai y Parch. Michael Roberts: "Ni bu chwarter awr yn llefaru, nes y cafodd dau eu hargyhoeddi, a llawer eraill eu clwyfo, na iachawyd mo honynt nes dyfod at y Ceidwad."
Yn ol Michael Roberts, dyma y bregeth gyntaf a fu gan y Methodistiaid yn Nghaernarfon er cred. Gweddus sylwi fod cryn amheuaeth am gywirdeb hyn. Yn ol Methodistiaeth Cymru, Jones, Llangan, oedd y cyntaf o'r Methodistiaid a lwyddodd i allu pregethu yma. Yr ydym wedi rhoddi hanes yr odfa yn flaenorol. Dywedir mai yn y flwyddyn 1786 y pregethai Mr. Jones yn y dref, ac mai yn y flwyddyn ganlynol y daeth John Roberts ac Evan Richardson yma. Nis gellir penderfynu i sicrwydd pwy sydd gywir; ond os mai Jones, Llangan, bia y flaenoriaeth, y mae agos yn sicr na fu ef yn offeryn i blanu eglwys 'yma. Tad y seiat yw John Roberts, ac fel hyn y cafodd ei sefydlu: Yr wythnos gyntaf wedi yr odfa, yr oedd John Roberts yn marchnad Caernarfon, a sylwai fod rhyw ddyn yn ei ganlyn pa le bynag yr elai. Aeth i deimlo yn anesmwyth, gan wyddai pwy ydoedd, na pheth allai fod ei amcan. O'r diwedd, trodd ato, a gofynodd: "A oes rhywbeth a fynech à mi?" "Y mae yn dda iawn genyf gael siarad gair â chwi," ebai yntau; "yr wyf mewn blinder mawr, ac yn methu cael gorphwydra meddwl, er pan fuoch chwi, a gwr arall, yma yn pregethu y Sabbath o'r blaen." Ac meddai y Parch. Michael Roberts "Fy nhad, gyda syndod a llawenydd, a gymerodd y gŵr gydag ef, i ystafell o'r neilldu, mewn tafarn a elwid yr Angel, ac yma y cafodd hamdden i gyfarwyddo a chysuro yr enaid trallodedig, yn nghylch y pethau a berthynent i'w heddwch. Hwn oedd y cyfarfod eglwysig cyntaf a fu gan y Methodistiaid yn Nghaernarfon. Nid oedd ynddo ond dau, ond yr oeddynt yn wystl o dyrfa fawr. Ac er lleied oedd y nifer, ac anghymwysed y gellid golygu y lle, eto, nid oes amheuaeth nad oedd ynddo fwy o fwynhad ysprydol nag a gaed lawer gwaith ar ol hyn, pan y cafwyd addoldy cyfleus, a lliaws mawr of ddysgyblion yn nghyd." Enw y gŵr hwn oedd Richard Owen, a bu yn ffyddlon gyda chrefydd tra fu byw. Gwedi iddo ef farw, priododd ei weddw a'r Parch. Evan Richardson. Y llall, y dywedir iddo gael ei argyhoeddi, oedd William Williams, siopwr yn y Porthmawr, ond a aeth yn ganlynol yn swyddog y cyllid. Glynodd yntau wrth achos Duw hyd ei fedd. O hyn allan, bu pregethu cyson gan y Methodistiaid yn Nghaernarfon. Cedwid yr odfaeon ar y cychwyn mewn rhan o'r dref a elwid Treffynon; eithr symudwyd yr achos heb fod yn hir i Danyrallt.
Fel prawf o'r safle a feddai John Roberts yn y Cyfundeb, gallwn sylwi ei fod yn cael ei wahodd bob blwyddyn i brif Gymdeithasfa y Deheudir, a gynhelid yn Llangeitho. Byddai yno yn gyffredin y Sul o flaen y Gymdeithasfa, a chafodd rai odfaeon i'w cofio byth. Adroddai mam Mr. Daniel Davies, y Ton, yr hon oedd yn<noinclude><references/></noinclude>
5z9heyc95fqg45zpo0v0spuyp33pyi0