Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/291
104
83845
163492
163279
2026-04-19T22:58:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163492
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddwyn i fyny yn y wlad, crefyddol, synwyrol, zelog—dyn yr un llyfr, ac yn gwirio, ''Beware of the man of one book.'' Dau brif beth oedd gan Dafydd Dafis-ei grefydd a'i fferm. Ni wyddai fwy am ''politics'' nag a wyddai Abel (nid Abel Hughes—Abel fab Adda). Dau feistr oedd ganddo, Duw a'r meistr tir. I'r olaf rhoddai barch dyladwy, i'r blaenaf ei holl galon, a chaffai y ddau ef yn was ffyddlawn, gonest a chywir. Buasai ganddo fwy o arian yn y banc oni buasai iddo roddi cymaint o'i amser a'i feddwl i wneyd iddo ei hun bwrs na heneiddiai. Gofidiai fwy am aelod o'r eglwys a wrthgiliasai nag am y ddafad a aethai ar ddisperod oddiar y fferm. Pan fu tri o'i fustych feirw gan y blaned, diolchai i Dduw fod ganddo rai eraill cystal a hwythau yn fyw; ond pan fu farw chwaer grefyddol o'r seiat bu Dafydd Dafis mewn tristwch am wythnosau. Nid oedd y clwyf ar y pytatws yn hyfryd ganddo, ond yr oedd adeg ddilewyrch ar grefydd yn ei boeni yn fwy. Diolchai o'i galon am gynauaf toreithiog, ond diolchai ganwaith mwy am ddiwygiad crefyddol. Ar ddamwain a phan gofiai yn unig yr ymgynghorai a'r ''weather-glass;'' ond nid aï un dirwnod heibio heb iddo ymgynghori a'r Bibl am y tywydd oedd yn aros ei enaid—pa un ai ystorm ai tegwch oedd mewn ystôr iddo. Yr oedd y byd a'i amgylchiadau prysur mor ddyeithr iddo ymron ag ydynt i ddyn mewn llong ar ganol y môr; ond yr oedd gan Dafydd Dafis hefyd ei gwmpawd, a gwyddai yn lled sicr am y porthladd yr oedd yn cyfeirio ato. Yr oedd yn ŵr o deimladau dwys, ac ni chlywais ef erioed yn chwerthin; ond gwisgai ei wyneb wên anymwybodol a ddangosai gydwybod ddirwystr-gwên nad yw yn hoff gan y diafol. Weithiau cyfarfyddir âg ambell un â rhyw fenyweidd—dra gwlanenaidd ynglŷn â'i grefydd, ac a bâr i un feddwl y buasai yn llai crefyddol pe buasai yn fwy goleuedig. Nid un felly oedd Dafydd Dafis. Cymerai y Bibl yn brif astudiaeth ei fywyd, a'r Bibl ei hun oedd ei esboniad penaf ar y Bibl. Wrth ddarllen cyfran o hanes Iesu Grist gan un efengylwr, ymddangosai i mi fod pob gair a ddywedodd yr efengylwyr eraill am yr un gyfran o flaen ei feddwl, a gallai ei dyfynu o'i gof. Edmygwn ef yn fawr, a synwn fod dyn oedd heb allu deall Saesoneg yn gallu deall ei Fibl mor dda. Dichon wedi'r cwbl mai yr achos fy mod yn coleddu meddwl mor uchel am Dafydd Dafis ydyw y ffaith iddo wneyd y fath sylw o honof, iddo fy nghymeryd<noinclude></noinclude>
9tvz1nvovgtjpikl4vjs1chzzp6omh2
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/292
104
83846
163493
163280
2026-04-19T23:05:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163493
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gydag ef i gynnal cyfarfodydd gweddïo mewn tai annedd, ac am mai efe a'm cymhellodd gyntaf i "ddyweyd gair." Yr oeddwn yn ddeunaw mlwydd oed, ac yr oeddwn eisoes wedi bod yn ysgrifenydd yr Ysgol Sul, ac wedi bod yn dechreu yr ysgol trwy weddi lawer gwaith; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim yn gyhoeddus. Buaswn gyda Dafydd Dafis amryw weithiau yn cynnal cyfarfodydd gweddïo yn y tai; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim. Wrth ddyfod o un o'r cyfarfodydd hyn, cymerodd Dafydd Dafis afael yn fy mraich, ac ebe fe, "Rhys, mi fydd y cyfarfod gweddi nesaf yn nhŷ Thomas Bartley, a mi leiciwn i ti ddeyd tipyn ar bennod. Mi wnei, oni wnei di? Mi fydd yn dda gan y cyfeillion dy glywed di. Yn gwneuthur daioni na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn oni ddiffygiwn.' Mae gynnat ti wythnos o amser i barotoi, a mi wnei, oni wnei di?" Aeth ei eiriau fel trydan drwy fy nghalon. Dywedais rywbeth oedd yn briodol i wyleidd-dra, fel y tybiwn, ond ni ddywedais, "Na wnaf." Hwyrach mai gwell fuasai i mi ddyweyd "na wnaf," neu "gwell genyf beidio," fel y câf ddangos yn y bennod nesaf.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXXII.<br>Amlder Cynghorwyr.}}}}
Yn mynwesau hen adgofion y nifer mwyaf o honom y mae rhyw hen dŷ ymron yn ddïeithriad yn mynu ei le. Mae yn gu genyf finnau gofio am y Twmpath—tŷ Thomas Bartley—gyda'i gegin glyd, ei ddodrefn du hynafol, ei settle fawr, ei blâts piwtar, a'i bentanau llydain, ar y rhai yr eisteddais gannoedd o weithiau. Mae pobpeth ynglŷn â'r gegin hono o flaen fy meddwl y foment hon—hyd yn nôd y nhorobenau bacwn a hongient yn nhop y tŷ, a'r drês wynwyn, a'r wermod lwyd wedi ei lapio mewn hen bapyr newydd. Yn hongian wrth garai ledr ar y mur yr oedd hen ffon gwnstabl wedi ei phaentio â glas a chôch cyn i'r "bobby" gael ei eni, mae yn debygol; a chofus genyf y byddai Wil Bryan wrth edrych arni yn gofyn megys iddo ei hun—''"I wonder how many a poor fellow was knocked over with that very weapon?"'' Yn y cyfnod rhwng yr amser yr arferwn fyned yn llaw fy mam i'r Twmpath—a phryd mai fy nifyrwch penaf a fyddai estyn tân ar getyn Thomas Bartley, hyd at yr adeg pan ehedodd ysbryd fy mam oddiyno i fyd arall y mae fy adgofion yn tyru arnaf. Mae gallu dyweyd gyda sicrwydd am y bwthyn distadlaf ei fod wedi bod yn ''nursery'' i'r nefoedd, yn ei amgylchu â chysegredigaeth godidocach na'r palas, ystafelloedd gorwych yr hwn na welsant ddim ond gloddest a rhialtwch. Enaid diniwed Seth—hyd y gwn i—oedd y cyntaf i fyned i ogoniant o'r Twmpath; ond yr wyf yn sicr nad efe oedd yr olaf. Pan ä un aelod o'r teulu oddicartref, peth gwerthfawr ydyw gwybod i ba wlad y mae wedi myned; ac os bydd y wlad yn un dda odiaeth, odid fawr na chréa hyny ysbryd ymfudo yn yr holl deulu. Anhawdd fuasai perswadio Jacob i fyned i'r Aipht oni buasai fod ei fab Joseph yno. Yr oedd Thomas a Barbara Bartley, ys dywedai fy mam, yn barotach i wrando am fyd arall wedi i Seth fyned yno i fyw; ac edrychent ar y cyfarfod gweddïo a gynnelid yn eu tŷ fel cyfarfod i sôn am y wladychfa hono. Fel y crybwyllais, yr oeddwn er ys peth amser wedi arfer cymeryd rhan yn y cyfarfodydd hyn, er boddhad mawr i Thomas Bartley, yr hwn a ddywedai fy mod yn gallu darllen "fel person." Yr oedd yn destun syndod yn ddiau i Thomas, yr hwn nad oedd ganddo ond crap ar y llythrene," fod neb ieuanc yn gallu darllen o gwbl.
Nid anhyfryd genyf oedd, mai yn nhŷ Thomas Bartley y byddai y cyfarfod gweddïo y noswaith y dysgwylid i mi ddyweyd gair ar bennod, yn ol annogaeth Dafydd Dafis. Ar hyd yr wythnos nid oedd dim arall ymron yn cael lle yn fy meddwl. Bum mewn tipyn o benbleth pa gyfran o'r Ysgrythyrau a gymerwn fel testun. Ar un adeg tybiwn y buasai un o'r dammegion yn gyfaddas iawn; ond wedi myfyrio ychydig ar y ddammeg ddewisedig, gwelwn nad allwn ddyweyd nemawr ddim arni; a meddyliwn mai mwy priodol fuasai i mi geisio egluro un o'r gwyrthiau, a thynu rhyw wersi oddiwrthi. Nid cynt yr oeddwn wedi sefydlu fy meddwl ar un o'r gwyrthiau nag y deuai rhyw rwystr a barai i mi gredu fy mod wedi camgymeryd drachefn. Meddyliwn mai hawddach fuasai genyf ddyweyd tipyn ar adnod nag ar bennod; ond buasai hyny yn peri i mi ymddangos fel pe buaswn am fod yn bregethwr ar unwaith, ac nid gwiw oedd meddwl am wneyd y fath beth. Pe buasai Dafydd Dafis wedi nodi allan ryw gyfran neillduol o'r Bibl i mi geisio parotoi ychydig arni, credwn y gallaswn wneyd rhywbeth o hyny. Cofus genyf mai yr<section end="bbb"/><noinclude></noinclude>
hwmb8vyloyniybbdvppqwfglyefjwf6
163494
163493
2026-04-19T23:07:50Z
AlwynapHuw
1710
163494
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gydag ef i gynnal cyfarfodydd gweddïo mewn tai annedd, ac am mai efe a'm cymhellodd gyntaf i "ddyweyd gair." Yr oeddwn yn ddeunaw mlwydd oed, ac yr oeddwn eisoes wedi bod yn ysgrifenydd yr Ysgol Sul, ac wedi bod yn dechreu yr ysgol trwy weddi lawer gwaith; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim yn gyhoeddus. Buaswn gyda Dafydd Dafis amryw weithiau yn cynnal cyfarfodydd gweddïo yn y tai; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim. Wrth ddyfod o un o'r cyfarfodydd hyn, cymerodd Dafydd Dafis afael yn fy mraich, ac ebe fe, "Rhys, mi fydd y cyfarfod gweddi nesaf yn nhŷ Thomas Bartley, a mi leiciwn i ti ddeyd tipyn ar bennod. Mi wnei, oni wnei di? Mi fydd yn dda gan y cyfeillion dy glywed di. Yn gwneuthur daioni na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn oni ddiffygiwn.' Mae gynnat ti wythnos o amser i barotoi, a mi wnei, oni wnei di?" Aeth ei eiriau fel trydan drwy fy nghalon. Dywedais rywbeth oedd yn briodol i wyleidd-dra, fel y tybiwn, ond ni ddywedais, "Na wnaf." Hwyrach mai gwell fuasai i mi ddyweyd "na wnaf," neu "gwell genyf beidio," fel y câf ddangos yn y bennod nesaf.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXXII.<br>Amlder Cynghorwyr.}}}}
Yn mynwesau hen adgofion y nifer mwyaf o honom y mae rhyw hen dŷ ymron yn ddïeithriad yn mynu ei le. Mae yn gu genyf finnau gofio am y Twmpath—tŷ Thomas Bartley—gyda'i gegin glyd, ei ddodrefn du hynafol, ei ''settle'' fawr, ei blâts piwtar, a'i bentanau llydain, ar y rhai yr eisteddais gannoedd o weithiau. Mae pobpeth ynglŷn â'r gegin hono o flaen fy meddwl y foment hon—hyd yn nôd y nhorobenau bacwn a hongient yn nhop y tŷ, a'r drês wynwyn, a'r wermod lwyd wedi ei lapio mewn hen bapyr newydd. Yn hongian wrth garai ledr ar y mur yr oedd hen ffon gwnstabl wedi ei phaentio â glas a chôch cyn i'r "bobby" gael ei eni, mae yn debygol; a chofus genyf y byddai Wil Bryan wrth edrych arni yn gofyn megys iddo ei hun—''"I wonder how many a poor fellow was knocked over with that very weapon?"'' Yn y cyfnod rhwng yr amser yr arferwn fyned yn llaw fy mam i'r Twmpath—a phryd mai fy nifyrwch penaf a fyddai estyn tân ar getyn Thomas Bartley, hyd at yr adeg pan geisio parotoi ychydig arni, credwn y gallaswn wneyd rhywbeth o hyny. Cofus genyf mai yr<section end="bbb"/><noinclude></noinclude>
ntgg9v1vw39byj77r49bw3447iv8ty1
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/293
104
83847
163495
163281
2026-04-19T23:08:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163495
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ehedodd ysbryd fy mam oddiyno i fyd arall y mae fy adgofion yn tyru arnaf. Mae gallu dyweyd gyda sicrwydd am y bwthyn distadlaf ei fod wedi bod yn ''nursery'' i'r nefoedd, yn ei amgylchu â chysegredigaeth godidocach na'r palas, ystafelloedd gorwych yr hwn na welsant ddim ond gloddest a rhialtwch. Enaid diniwed Seth—hyd y gwn i—oedd y cyntaf i fyned i ogoniant o'r Twmpath; ond yr wyf yn sicr nad efe oedd yr olaf. Pan ä un aelod o'r teulu oddicartref, peth gwerthfawr ydyw gwybod i ba wlad y mae wedi myned; ac os bydd y wlad yn un dda odiaeth, odid fawr na chréa hyny ysbryd ymfudo yn yr holl deulu. Anhawdd fuasai perswadio Jacob i fyned i'r Aipht oni buasai fod ei fab Joseph yno. Yr oedd Thomas a Barbara Bartley, ys dywedai fy mam, yn barotach i wrando am fyd arall wedi i Seth fyned yno i fyw; ac edrychent ar y cyfarfod gweddïo a gynnelid yn eu tŷ fel cyfarfod i sôn am y wladychfa hono. Fel y crybwyllais, yr oeddwn er ys peth amser wedi arfer cymeryd rhan yn y cyfarfodydd hyn, er boddhad mawr i Thomas Bartley, yr hwn a ddywedai fy mod yn gallu darllen "fel person." Yr oedd yn destun syndod yn ddiau i Thomas, yr hwn nad oedd ganddo ond crap ar y llythrene," fod neb ieuanc yn gallu darllen o gwbl.
Nid anhyfryd genyf oedd, mai yn nhŷ Thomas Bartley y byddai y cyfarfod gweddïo y noswaith y dysgwylid i mi ddyweyd gair ar bennod, yn ol annogaeth Dafydd Dafis. Ar hyd yr wythnos nid oedd dim arall ymron yn cael lle yn fy meddwl. Bum mewn tipyn o benbleth pa gyfran o'r Ysgrythyrau a gymerwn fel testun. Ar un adeg tybiwn y buasai un o'r dammegion yn gyfaddas iawn; ond wedi myfyrio ychydig ar y ddammeg ddewisedig, gwelwn nad allwn ddyweyd nemawr ddim arni; a meddyliwn mai mwy priodol fuasai i mi geisio egluro un o'r gwyrthiau, a thynu rhyw wersi oddiwrthi. Nid cynt yr oeddwn wedi sefydlu fy meddwl ar un o'r gwyrthiau nag y deuai rhyw rwystr a barai i mi gredu fy mod wedi camgymeryd drachefn. Meddyliwn mai hawddach fuasai genyf ddyweyd tipyn ar adnod nag ar bennod; ond buasai hyny yn peri i mi ymddangos fel pe buaswn am fod yn bregethwr ar unwaith, ac nid gwiw oedd meddwl am wneyd y fath beth. Pe buasai Dafydd Dafis wedi nodi allan ryw gyfran neillduol o'r Bibl i mi<noinclude></noinclude>
5832i6pi5r0q3dvd3oyje1cyrax9s02
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/294
104
83848
163496
163282
2026-04-19T23:11:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163496
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adeg hono y teimlais gyntaf yr hyn a deimlais laweroedd o weithiau ar ol hyny-sef mor hawdd, mor ddidrafferth a diorchest yr ymddengys siarad synwyr ar adnod neu bennod wrth wrando un arall yn gwneyd hyny, ac mor anhawdd ydyw pan eir ati ein hunain i geisio parotoi rhywbeth cyffelyb. Ar ol gwrando pregeth heb fod dim neillduol ynddi, clywir ambell un digon diallu yn dyweyd, ac yn credu yr hyn a ddywed yn ddiammheu—"Mi fedrwn wneyd gwell pregeth na honyna fy hun." Ceisiwch, ŵr da, a chewch weled yn fuan na fedrwch, na'i chystal; onidê pam yr ydych yn y fath drafferth yn ysgrifenu pwt o lythyr at eich modryb, a pham y mae arnoch gywilydd o hono ar ol ei orphen? A wyddoch chwi hefyd, ŵr da, mai yr hyn sydd yn darllen yn fwyaf naturiol a syml, neu sydd yn disgyn dros wefus y llefarwr yn fwyaf esmwyth, sydd fynychaf wedi costio mwyaf o lafur? Ond dyna oeddwn yn ddyweyd bum am rai dyddiau yn newid fy nhestynau, ac yn methu syrthio ar gyfran o'r Bibl y teimlwn y gallwn ddyweyd rhywbeth arni, gan nad pa mor hawdd oedd hyny yn fy ngolwg cyn i mi wneyd y cais. Wedi cael fy ngwasgu gan amser i ddewis fy nhestun, ymroddais ati o ddifrif—darllenais bob esboniad oedd o fewn fy nghyrhaedd—ysgrifenais bob gair a fwriadwn "ddyweyd"—rhoddais y cyfan yn fy nghof—ac wrth fyned drosto, cymerwn sylw manwl o'r amser a gymerai i mi i'w draddodi, rhag i mi fod yn rhy hir neu yn rhy fyr-ac erbyn i noswaith y cyfarfod gweddïo ddyfod, teimiwn fy mod yn lled barod at y gwaith, ac yn lled hyderus y byddai i mi wneyd argraff dda ar feddyliau y cyfeillion a ddygwyddent fod yn bresenol. Edrychwn ar yr amgylchiad yn bwysig iawn i mi, ac fel agoriad i fy nghyrfa bregethwrol. Portreiadais yn fy meddwl lawer o bethau fel canlyniad uniongyrchol fy ngwaith yn dyweyd tipyn ar bennod yn nhŷ Thomas Bartley. Ni waeth i mi ddyweyd y gwir yn onest meddyliwn gan nad oedd neb ond Dafydd Dafis a minnau yn gwybod am yr hyn oedd i gymeryd lle, y byddai i mi gymeryd amryw by surprise, ac y byddent yn ymddyddan â'u gilydd wrth fyned adref o'r cyfarfod, ac un yn dyweyd rhywbeth fel hyn, "Wel, on'd oedd y bachgen yna yn dyweyd yn dda ar y bennod heno? Mae ynddo ddefnydd pregethwr yn siwr i chwi. Roeddwn i wedi synu;" ac un arall yn ateb, "Doeddwn i ddim yn synu cymin ato, achos mae yna<noinclude></noinclude>
fzfxrp2z1w1vf7p29rha0l0jbwqlieg
163497
163496
2026-04-19T23:28:20Z
AlwynapHuw
1710
163497
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adeg hono y teimlais gyntaf yr hyn a deimlais laweroedd o weithiau ar ol hyny-sef mor hawdd, mor ddidrafferth a diorchest yr ymddengys siarad synwyr ar adnod neu bennod wrth wrando un arall yn gwneyd hyny, ac mor anhawdd ydyw pan eir ati ein hunain i geisio parotoi rhywbeth cyffelyb. Ar ol gwrando pregeth heb fod dim neillduol ynddi, clywir ambell un digon diallu yn dyweyd, ac yn credu yr hyn a ddywed yn ddiammheu—"Mi fedrwn wneyd gwell pregeth na honyna fy hun." Ceisiwch, ŵr da, a chewch weled yn fuan na fedrwch, na'i chystal; onidê pam yr ydych yn y fath drafferth yn ysgrifenu pwt o lythyr at eich modryb, a pham y mae arnoch gywilydd o hono ar ol ei orphen? A wyddoch chwi hefyd, ŵr da, mai yr hyn sydd yn darllen yn fwyaf naturiol a syml, neu sydd yn disgyn dros wefus y llefarwr yn fwyaf esmwyth, sydd fynychaf wedi costio mwyaf o lafur? Ond dyna oeddwn yn ddyweyd bum am rai dyddiau yn newid fy nhestynau, ac yn methu syrthio ar gyfran o'r Bibl y teimlwn y gallwn ddyweyd rhywbeth arni, gan nad pa mor hawdd oedd hyny yn fy ngolwg cyn i mi wneyd y cais. Wedi cael fy ngwasgu gan amser i ddewis fy nhestun, ymroddais ati o ddifrif—darllenais bob esboniad oedd o fewn fy nghyrhaedd—ysgrifenais bob gair a fwriadwn "ddyweyd"—rhoddais y cyfan yn fy nghof—ac wrth fyned drosto, cymerwn sylw manwl o'r amser a gymerai i mi i'w draddodi, rhag i mi fod yn rhy hir neu yn rhy fyr—ac erbyn i noswaith y cyfarfod gweddïo ddyfod, teimiwn fy mod yn lled barod at y gwaith, ac yn lled hyderus y byddai i mi wneyd argraff dda ar feddyliau y cyfeillion a ddygwyddent fod yn bresenol. Edrychwn ar yr amgylchiad yn bwysig iawn i mi, ac fel agoriad i fy nghyrfa bregethwrol. Portreiadais yn fy meddwl lawer o bethau fel canlyniad uniongyrchol fy ngwaith yn dyweyd tipyn ar bennod yn nhŷ Thomas Bartley. Ni waeth i mi ddyweyd y gwir yn onest meddyliwn gan nad oedd neb ond Dafydd Dafis a minnau yn gwybod am yr hyn oedd i gymeryd lle, y byddai i mi gymeryd amryw by surprise, ac y byddent yn ymddyddan â'u gilydd wrth fyned adref o'r cyfarfod, ac un yn dyweyd rhywbeth fel hyn, "Wel, on'd oedd y bachgen yna yn dyweyd yn dda ar y bennod heno? Mae ynddo ddefnydd pregethwr yn siwr i chwi. Roeddwn i wedi synu;" ac un arall yn ateb, "Doeddwn i ddim yn synu cymin ato, achos mae yna<noinclude></noinclude>
1bdviqmnyvyeq5jsftc6a840xx1u0au
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/295
104
83849
163498
163283
2026-04-19T23:36:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163498
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rywbeth digon selied yno fo'n wastad." A llawer o bethau ynfyd eraill a ddychymygwn. Ac eithrio Dafydd Dafis, meddyliwn nad oedd raid i mi ofni neb a arferent fynychu y cyfarfodydd gweddio yn y tai; ac yr oedd Dafydd bob amser mor garedig ataf fel nad oedd raid i mi ei ofni yntau, ac ni theimlwn yn nervous o gwbl. Anfynych y deuai Wil Bryan i'r cyfarfodydd gweddïo oddieithr pan nad allai, chwedl yntau, fod yn ''"better employed,"'' ac felly nid oeddwn yn dysgwyl ei weled ef yno. A phe buasai yno, pa wahaniaeth a wnaethai hyny i mi? Nos Fercher a ddaeth, aethum i'r cyfarfod yn llawn wel, yn llawn o rywbeth. Yr oeddwn dipyn ar ol yr amser er mwyn bod yn debycach i bregethwr hwyrach. Yr oedd brawd wrthi yn darllen, ac yr oedd yr ystafell yn lled lawn. Eisteddais yn ymyl y drws. Pan godais fy mhen, amneidiodd Thomas Bartley arnaf i ddyfod yn nês ymlaen. Amneidiais innau yn ol y gwnawn yn burion yn y lle yr oeddwn. Nid oeddwn i yn neb fel bydasai yn ol fy amnaid, er fy mod yn meddwl fy hun yn rhywbeth y noson hono. Teimlwn ryw fath o bleser mewn ffug-ostyngeiddrwydd. Daliai Thomas i amneidio arnaf, a rhag tynu sylw ufuddheais. Pan ddaethum i sefyllfa lle gallwn fwynhau gwasanaeth y ganwyll, pwy welwn yn eistedd mewn cornel ond Wil Bryan. Pan edrychais arno, rhoddodd winc arnaf, fel y gallai ef—tuag un ran o ddeg o lêd ei lygad ond yn llawn ystyr. Cododd lwmp mawr yn fy mrest y foment hono; a chredwn mai y gŵr drwg oedd wedi anfon Wil i'r cyfarfod, oblegid ni fuasai mewn un o'r blaen er ys misoedd lawer. Amy waith gyntaf teimlais yn ofnus. Pan oedd y brawd yn gweddïo, nid oeddwn yn gwrando dim arno. Ceisiwn feddiannu fy hun oreu y gallwn, a hel fy meddyliau at eu gilydd; ond er fy ngwaethaf yr oedd y lwmp yn fy mrest yn mwyhâu, ac yn dyfod yn nês o hyd at fy ngwddf. Nid oedd arnaf fymryn o ofn Wil, fel y tybiwn, ac eto buasai yn well genyf na llawer pe na buasai yno. Galwodd Dafydd Dafis ar frawd arall i arfer moddion; a phan oeddym yn canu pennill crynai fy nghoesau yn enbyd, ac nid oedd o un dyben i mi ymresymu a hwynt na gofyn iddynt beidio. Er fy nghysur, cofiais nad oeddwn wedi trefnu gyda Dafydd Dafis am iddo, wrth fy ngalw ymlaen, ofyn i mi ddyweyd gair, rhag i mi ymddangos fel yn gwneyd hyny o fy mhen<noinclude></noinclude>
cx553mppk8xmo90ugsy7p88wfl84re6
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/296
104
83850
163499
163284
2026-04-19T23:37:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163499
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy hun. Tybiais na fuasai Dafydd yn dygwydd meddwl am hyny; ac os felly y byddai, penderfynais na wnawn ond gweddïo yn unig. Parodd yr ystyriaeth hon nerth yn fy nghoesau, a lleihâodd y lwmp yn fy mrest. Gorphenodd yr ail frawd weddio; ac ebe Dafydd Dafis, "Rhys Lewis, dowch ymlaen 'y machgen i, i arfer moddion, a dywedwch dipyn ar bennod." Chwalwyd fy ngobaith, ac aethum ymlaen gyda'r bwriad o wneyd oreu y gallwn. Pan oeddym yn canu pennill drachefn, yr oedd yn rhaid i mi edrych ar Wil Bryan neu ynte gau fy llygaid. Deallwn ei edrychiad cystal a phe buasai yn siarad â mi, yr hwn a ddywedai, "Ddaru mi ddim deyd wrthat ti fod ti'n ''bound'' o fod yn bregethwr?" Darllenais y bennod a fwriadwn ei hesbonio, a phrin yr oeddwn yn adnabod fy llais fy hun gan mor gryglyd ydoedd. Pan ddechreuais "ddyweyd tipyn," ehedodd ymaith bob meddwl a gair o'r hyn yr oeddwn wedi ei barotoi, ac ni welais ddim o honynt o'r dydd hwnw hyd heddyw. Gwelwn yr ystafell yn dechre tywyllu, a'r bobl yn ymddangos fel pe buasent yn llai o ran eu cyrff ac ymhellach oddiwrthyf nag oeddynt pan aethum "ymlaen," a'r ganwyll fel pe buasai ar fyned allan fel yr oedd fy anadl innau. Y peth nesaf wyf yn gofio ydoedd clywed Dafydd Dafis yn gweddïo yn uchel a hwyliog. Teimlwn erbyn hyn fy nhu mewn yn cael ei fwyta i fyny gan gywilydd. Yr oedd y castell a adeiladaswn wedi myned yn ganddryll, a fy nghalon, druan, o dan y garnedd. Gwyddwn fy mod yn wrthddrych tosturi pawb oedd yn y tŷ—sefyllfa sydd wywol i ysbryd uchelgeisiol. Yr oeddwn yn llosgi am i'r cyfarfod ddybenu, er mwyn i mi gael dianc i rywle allan o olwg pobl, a chael llonyddwch i gladdu fy holl obeithion. Un peth yn unig oedd genyf i ymgysuro ynddo, sef na wyddai neb ond Dafydd Dafis nad yn hollol ddifyfyr y ceisiaswn ddyweyd gair ar y bennod, ac ni wyddai yntau fy mod wedi bod yn y fath drafferth yn parotoi. Can gynted ag y dybenodd y cyfarfod, llechiais ymaith yn ddystaw a phrysur heb edrych ar neb. Ond nid oedd yn bosibl i mi ddianc rhag fy hen gydymaith. Yr oedd Wil yn nghonglog a mi cyn i mi allu myned drwy lidiart y buarth, ac ebe fe
"Wel, old ''fellow'', yr ydw i'n meddwl y medra i dranslatio dy deimladau di yn o lew heno, a mae'n ddrwg gan 'y nghalon i drostat ti, mi gymra fy llw. Doeddat ti ddim ''quite up to the occasion'', a<noinclude></noinclude>
31l44f0m7f5973j4v6vtd0i1lm098dc
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/297
104
83851
163500
163285
2026-04-20T00:14:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163500
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>waeth ''split fair'', mi gest ''break down''. Ond paid a thori dy galon ''never say die''. Dy fai di dy hun oedd o; ddylaset ti ddim attemptio sponio yn ddifyfyr—achos ychydig iawn o'r ''dons'' feder neyd dim byd o honi ''on the spur of the moment'', fel y byddan nhw'n deyd. Bydase Dafydd Dafis yn 'i sense mi fase wedi rhoi notis i ti er's diwrnod neu ddau er mwyn i ti gael parotoi. On'd ydi o yn ddigon i ddantio y dyn gore i gael ei alw there and then i sponio pennod? Bydaset ti ddım ond wedi cael dwyawr o notis mi faset yn deyd rhwbeth digon teidi, mi gymra fy llw; ond fel roedd hi, doedd dim byd arall i ddysgwyl ond i ti neyd ffŵl o honot dy hun. Pan glywes i Dafydd yn gofyn i ti ddwad ymlaen, mi gymis yn ganiatäol fod yna ''understanding'' rhyngoch chi; ond mi weles mewn mynyd nad oedd ene ddim; a roeddwn i yn synu atat ti yn attemptio a thithe yn gwbod dim hyd y mynyd hwnw. Weles i rioed siwn biti. Mi fase yn dda gen i bydaswn i yn gwbod cymin o'r Sgrythyr â ti, ac yr ydw i'n meddwl nad wyt ddim yn fyr o gommon sens; ond yr wyt ti yn ddiffygiol iawn o un peth—a hwnw ydi ''cheek''. Be ydi'r gair Cymraeg am ''cheek'', dywed? Dydi cheek ddim run peth, cofia, â gwynebgledwch, er 'i fod o yn perthyn yn agos. Mae ''cheek'', yn ol 'y meddwl i, yn un o'r ''fine arts'', ac yn beth y dyle pob dyn ei gyltifatio ''to a certain extent''. Wni ddim fedra i neyd 'y meddwl yn glir i ti. Sut y deyda i? Wel, dydi ''cheek'' ddim mor ''vulgar'' a gwynebgledwch—mae o o order uwch. Mae y mul yn wynebgaled, hyny ydi, dydi o ddim yn swil; ond dellir ddim deyd fod y mul yn ''cheeky''. Mae y ceiliog dandy yn cheeky, ond does neb yn meddwl ei fod yn wynebgaled. Mae cheek yn cynnwys s''elf—confidence'' hyd yn nôd pan na bydd ene ddim i fod yn gonffident o hono. Mi faswn yn leicio gneyd y mater yma yn ddigon clir i ti; ond yr ydw i run fath ag yr oeddet tithe yn y cyfarfod yn labouring under great ''disadvantages'' trwy nad ydw i ddim wedi parotoi. Dydw i ddim yn deyd fod cheek yn dda ynddo'i hun ond fel y mae o'n foddion i gyrhaedd pethe erill. Dydi o ddim mor ddrwg â ''humbug'', a dydi o ddim mor enethig âg ''affectation''. Mae ene lawer dyn da wedi byw a marw heb i'r byd wbood dim am dano am nad oedd ganddo ''cheek'', a llawer un wedi mynd i ''top of the tree'' heb ddim i ddiolch iddo ond ''cheek''. Mae ''cheek'' yn cymeryd yn ganiatäol nad wyt ti ddim yn nabod gwell dyn na thi dy hun nes i ti gael<noinclude></noinclude>
11248k8xlmnqpfoex42un5lvh1wi4hs
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/298
104
83852
163501
163286
2026-04-20T00:27:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163501
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''sufficient evidence''. Os gweli di ddyn o ''retiring disposition'', mi elli gymryd dy lw na neiff o ddim o honi yn y byd yma. Mi neiff yn o lew yn y byd nesa, achos y mae'r Brenin mawr, on'd ydi o, yn rhoi value ar ostyngeiddrwydd am ei fod o yn gwbod y bydde gostyngeiddrwydd yn ''very rare thing''. Ond gan mai yn y byd yma yr ydan ni, ac nid yn y byd arall, yr ydw i yn dal fod ''cheek'' yn beth i'w gyltifatio ''to a certain exten''t. Rhaid i ti gofio fod 99 allan o bob cant o ddynion yn ''duffers'', ac yn y rhan fwyaf o ''cases'' mi neiff ''cheek'' y tro yn lle talent a gwybodaeth. Dydw i ddim yn awgrymu, cofia, nad oes gynat ti dalent, ''honour bright''. Dyn â thalent heb ddim ''cheek'', a dyn â ''cheek'' heb ddim talent, ''three to one'' ar yr ola i mi. Bydaet ti ddim ond yn meddwl am y ddau drafaeliwr sydd yn galw acw: dyna Mr. Davies—dyn call, llonydd, yn gwisgo run fath bob amser, ac yn deall y ''grocery trade to the T''. Ddeidiff o byth gelwydd, ac mi gymriff 'i ateb yn syth gan 'y nhad nad oes ene ''run order'' iddo. Ond dyna Mr. Hardcastle—dyn nad oes dim mwy yn 'i ben o nag sydd mewn pen llygoden—ond fod gyno fo siwt newydd am dano bob tri mis yn bocede i gyd yn gyffs, yn golars, ac yn fodrwyau i gyd drosto—chymriff o mo'i ateb, a does dim posib ei ''insultio''. Mae o wedi dysgu rhw ugen o set phrases cyn cychwyn oddicartre, a'u hanner nhw yn gelwydd, ac yn'u deyd nhw bob tro yr un fath, a mae o yn siŵr o gael ''order'' gan 'y nhad am i fod o yn ''cheeky'' a nhad yn ''duffer''. Wyst ti be? pan fydde'r ''gaffer'' ddim adre, mi fum i yn rhoi ''thundering good order'' i Mr. Davies o biti drosto, ac am 'i fod o'n ''true to nature''. Ond am Mr. Hardcastle, mi fedrwn boeri ar 'i wasgod wen o. Ond wedi'r cwbl Mr. Hardcastle ydi'r dyn i'r byd yma, am fod y ''majority'' o'r siopwrs yn ''duffers''. Ond dyna ydi'r ''point'': os wyt ti am ddwad ymlaen, rhaid i ti gyltifatio cheek. Fydd dy dalent a dy wybodaeth di yn werth dim heb cheek. Mae'r Bibl yn rhoi engreifftiau i ni o hyn, os ydw i yn cofio yn dda, Mi wna i gyfadde nad ydw i ddim yn ''authority'' ar y Bibl, ac os ydw i yn camgymeryd, hwyrach y gwnai di nghorectio i. Ydi o ddim yn cael ei admittio gan ddysgedigion fod Ioan yn glyfrach dyn na Pheder? ond pwy oedd y meistar? pwy oedd ar y blaen hefo pob peth? Ac ar ol iddo wneyd y tro sâl hwnw just meddwl am 'i ''check'' o yn'u cyfarfod misol cynta nhw yn stepio ymlaen i bregethu, a<noinclude></noinclude>
jjybsz2wk38b82t8h0gs1mctxwd7b7r
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/299
104
83853
163502
163287
2026-04-20T00:38:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163502
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>phawb yn gwbod be oedd o wedi wneyd! Dyna'r ''cheek'' tosta glywes i rioed sôn am dano, mi gymra fy llŵ. Bydase Ioan wedi gwneyd tro mor ''shabby'', mi fase gyno fo ormod o gywilydd i ddyweyd gair byth—a drycha di ffasiwn golled fase hyny. Dyna'r wraig o Samaria hefyd yn dwad at Iesu Grist i ofyn iddo fendio 'i bachgen hi (mi wyddwn mai at y wraig o Ganaan y cyfeiriai Wil)—chymre hi mo'i hateb, ac am fod gyni ''cheek'' mi gafodd 'i neges. Wyst di be? mi fum i yn meddwl y base y wraig hono yn gwneyd ''commercial'' iawn daethai hi byth allan o siop neb heb ''order''. Wrth siarad yn ddifyfyr fel hyn, mae gen i ofn nad ydw i ddim yn gallu gneyd fy meddwl yn ddigon clir be ydw i yn 'i olygu wrth ''cheek''. Mi wyddost na fedri di neyd dim o honi os byddi di yn ''nervous''; ond y mae ''cheek'' yn ''perfect'' cure i ''nervousness''. Er mwyn cyltifatio ''cheek'', sylwa ar y pethe canlynol:—Paid byth a chochi. Yr ydw i wedi sylwi arnat ti pan fyddi di yn hapno deyd rhwbeth gwirion, neu pan fyddi di wedi gneyd ''mistake'', y byddi di yn cochi at dy glustie run fath a geneth. Paid byth a chochi, achos dydi peth felly ddim yn manly. Os byddi di wedi gwneyd ''blunder'', drycha run fath a bydaset ti wedi gneyd y peth gore yn y byd, a neiff naw o bob deg ddim gwbod fod ti wedi gneyd ''blunder at all''. Mae ''cheek'' yn cynnwys bod yn ''cool''. Ymhob cyfarfod cyhoeddus paid namser ag eistedd wrth y drws—gofala am fod yn y ffrynt; a phan fyddi yn sefyll, safa ar flaene dy draed, achos dwyt ti ddim yn rhy dal mwy na fine. Gwna fo'n ''point'' i bawb wbod fod ti yno. Siarada mor amal fyth ag y cei di ''chance'', ac ym amlach; ac er mwyn bod yn barod at hyny gofala fod gynat ti rw ugen o ''set phrases'' neiff y tro ''with slight variation'' ar unrhyw bwnc; rhag ofn na fydd gynat ti ddim byd newydd i'w ddeyd. Beth bynag, cofia siarad. Wyst ti be? mi weles cyn heddyw ambell i ddyn dwl wrth godi ar 'i draed i siarad yn amal yn gneyd sylw da ''by sheer accident'', ac yn cael rhoi ei enw i lawr gan y ''duffers'' fel ''man of genius''. O flaen ac ar ol pob cyfarfod cyhoeddus, gofala am ysgwyd llaw yn gynhes hefo'r ''reporters'', a chadw dy ddigniti run pryd. Fyddi di byth ar dy golled. Mi glywes fod rhai yn ''reportio'' 'u hunain—paid byth a gneyd hyny—dydi peth felly ddim yn ''true to nature''. Mi wn o'r gore be sy'n rhedeg drwy dy feddwl di—mai son yr ydw i am ''the way of the world''—ond mi gei weled ''by and by'' fod mwy o hyn hefo<noinclude></noinclude>
iaix0te5qg3vgn1isvxga2ypq4u33rt
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/300
104
83854
163503
163288
2026-04-20T01:08:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163503
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pethe crefyddol nag wyt ti wedi freuddwydio. Rwyt ti'n ''bound'' o ffeindio y bydd ene ddau beth yn dy erbyn di: un peth, does gynat ti ddim llais cry'; a pheth arall, yn ol 'y meddwl i, does dim gobaith i ti byth fod yn ddyn tew, achos does dim natur pesgi yn ych teulu chi. Gei di wel'd y bydd hyn yn d'erbyn di. Dyma ti'n meddwl rwan am ddyn tene yn deyd rhwbeth mewn llais gwichlyd—''falsetto''—fel y bydd y cantwrs yma yn deyd—a dyn mawr tew—''regular thorough bass''—yn deyd yr un peth yn union mewn ''double eff'', prun sy'n ffeithio fwya ar y ''duffers''? Yr ydwi yn deyd wrthat ti y ceiff y ''double eff chap'' roi ei enw i lawr am ddyn mawr, a'r ''falsetto chap'' am ''snob''. Gan y ''duffers'', cofia, yr ydw i yn deyd, nid gan y ''wide-awakes''. Ond mi wela nad ydw i ddim yn canlyn at 'y nhestyn. Y pwnc ydi ''cheek''. Mi wyddost cystal â mine mai yn hyn mae y Saeson yn ein curo ni y Cymry. Chlywi di byth Sais yn deyd na feder o ddim gneyd y peth yma a'r peth arall; mae o yn medryd pob peth ar 'i siarad, ac mae'r ''duffers'' yn 'i gredu. Mi gei weled ambell i John Jones—sydd yn ''real good sort'', bydae o'n credu hyny â'i law wrth 'i het, ac fel bydae o'n cael pleser wrth edrach ar John Bull yn byta 'i fara a chaws o. Be ydi'r ''grand secret''? —''cheek''. Wyt ti'n dallt y point? Mae'r dyn sydd heb ''cheek'' yn ymddangos yn salach na fo'i hun, a'r dyn ''cheeky'' yn ymddangos yn well na fo'i hun. Paid di meddwl 'y mod i yn ''inconsistent''; mi ddeydaf eto fod yn gas gen i ''humbug'', a mod i'n leicio dyn ''true to nature''. Ond y mae perygl i ddyn heb ''cheek'' ymddangos yn llai na fo'i hun. ''Notabini'': gofala fod gynat ti ''cheek'', a gofala fod gynat ti rwbeth gwell. Mae ''cheek'' yn ''handy'' dros ben ac yn pasio hefo llawer; ond os na fydd gynat ti rwbeth gwell rwyt ti'n ''bound'' o gael dy ffeindio allan ''gan y wideawakes. At all events'' dyna ydi syniad ''yours truly.'' Cofia be ddeydodd Lord Brougham—What is the first secret of eloquence; Preparation. What is the second? Preparation. What is the third? Preparation.' Paid byth attemptio siarad yn gyhoeddus heb barotoi, nes y byddi di wedi magu ''cheek'' a dysgu lot o ''set phrases'' neiff y tro ar bobpeth—''with a slight variation'', fel y deydes i. Dydw i ddim yn ''quite square'' hefo'r ''governor'', ne mi faswn yn dy wâdd di acw i swper; ac o dan yr amgylchiade mi wn na fedrwn i ddim dwad i fyny â ''demands of ordinary etiquette. Cheer up,'' a phaid ag edrych mor ''down in the mouth''. Ac felly—''so long.''"
{{nop}}<noinclude></noinclude>
aikd0d61805v8y93wtx382nayiya9mu
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/301
104
83855
163504
163289
2026-04-20T01:27:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
163504
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bychan a wyddai Wil, fel oedd oreu i mi, fy mod wedi cael wythnos o "notis" i barotoi, ac fod ei eiriau yn lle fy nghysuro, yn fy mwrw i'r ffwrnes. Da oedd genyf gael ymadael âg ef, ac aethum i'r tŷ heb fawr feddwl fod ffwrnes arall yn fy aros. Yr oedd fy swper ar y bwrdd, ac Abel yn ysmocio yn ei gadair ddwyfraich—y ddau fel pe buasent yn fy nysgwyl. Aethai Miss Hughes i orphwys am nad oedd, fel y buasai Wil Bryan yn dyweyd, ''up to the mark''. Tra yr oeddwn yn bwyta fy swper, teimlwn yn ddiolchgar nad oedd Abel yn gwybod am fy ''break-down'', a theimlwn yn anghyfforddus hefyd wrth feddwl y byddai yn sicr o ddyfod i wybod, a hyny yn fuan. Yn y man dechreuodd Abel fy holi am y cyfarfod gweddio—pwy oedd yno—pa fath gyfarfod a gawsom—pwy oedd wedi cymeryd rhan ynddo, &c. Atebais yn gynnil; a dyfalwn wrth ganfod y wên hanner cellweirus oedd ar ei wyneb fod rhywun wedi rhedeg o fy mlaen a dyweyd wrtho fy mod wedi tori i lawr. Yn y man ebe fe
"Sut y doist di ymlaen wrth ddyweyd tipyn ar y bennod?"
"Mae rhywun wedi dyweyd wrthych," ebe fi, ac heb allu dyweyd ychwaneg, gorchfygwyd fi gan fy nheimladau yn erbyn fy ngwaethaf, a thorais allan i wylo yn hidl. Wedi i mi ymdawelu, ebe Abel
"Beth sy arnat ti? Yr unig beth a wn i ydyw fod Dafydd Dafis wedi dy annog yr wythnos ddiweddaf i barotoi rhywbeth i'w ddyweyd yn y cyfarfod gweddio heno. Beth sy wedi dygwydd? Pam yr wyt yn y fath ofid?"
Adroddais wrtho am fy methiant hollol, ac ebe fe
"Na hidia; gall fod yn fendith i ti tra fyddi byw. Yr wyf yn cofio dwy linell o hen gerdd Saesoneg anghelfydd
{{center block|
<poem>
There's many a dark and cloudy morning
:That turns out to be a sun-shining day.'
</poem>
}}
Dywed i mi, wyt ti'n meddwl am bregethu?"
"Yr wyf wedi ''bod'' yn meddwl am hyny, ond ni feddyliaf byth eto," ebe fi yn drist.
"Paid a gwirioni," ebe fe. "Welaist di erioed gertiwr da nad oedd rywdro wedi taflu'r drol, ac hwyrach anafu ei hun a'r anifail. Mi ges ti a minnau aml i godwm cyn i ni ddysgu cerdded. Fuaset ti byth wedi dysgu nofio bydaset ti wedi tori dy galon pan aeth ''dy ben o dan y dŵr''. Mae y ''step'' gyntaf i fywyd defnyddiol yn fynych<noinclude></noinclude>
md0cyzgbb4trhwihoma3dm6w968dyqa