Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.46.0-wmf.24 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/302 104 83856 163505 163290 2026-04-20T23:15:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163505 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ''false step'', a'r llwyddiant mwyaf yn aml wedi ei ddechre mewn methiant. Yr oeddwn yn dyfalu er ys amser fod dy fryd di ar bregethu; a dyna'r achos fy mod wedi caniatâu y fath ryddid i ti i fyned i bob moddion a chyfarfod. Ac oni b'ai fy mod yn credu fod ynot ryw gymaint o gymhwysder at y gwaith, buaswn wedi siarad hefot ti er ys tro. Os wyt ti wedi rhoi dy feddwl ar bregethu, paid a gadael i ddim dy rwystro na dy ddigaloni. Ni fuasai yn bosibl i ti feddwl am ddim gwell nac anrhydeddusach. Pe cawswn ail ddechre byw, yr wyf yn meddwl y buaswn yn gweddïo ddydd a nos am gael fy nhueddu a'm cymhwyso i fod yn bregethwr. Yn ol fy meddwl i, nid oes cylch mewn bywyd cyffelyb i eiddo'r pregethwr, yn yr hwn y gall dyn fod yn wir ddefnyddiol. Y mae yn yr enw pregethwr swyn mawr i mi er pan ydwyf yn cofio. Hwyrach mai tipyn o wendid ydi o yno' i; ond gwell gen i yr enw pregethwr na'r enw 'person,' gweinidog,' a 'bugail.' Mae yr enw pregethwr yn awgrymu i mi y pulpud, y cymanfaoedd, y dylanwadau nerthol o orchfygodd Gymru; ac y mae yn yr enw ryw gysegredigaeth nad ydyw yn cael ei awgrymu yn yr enwau eraill. Paid a fy nghamddeall yrwan. Y mae i'r enw 'gweinidog' a 'bugail' ei ystyr ddymunol i mi, ac i'r enw 'person,' ystyr o bosibl, ag y mae cryn lawer o ragfarn yn ei wneyd i fyny. Sôn yr ydwyf am yr ''association of ideas'' sydd ynglŷn â'r enw pregethwr, a phan gyll Cymru ystyr yr enw pregethwr yn y ''clergyman'', gwae hi. Nid wyf heb ofni fod tuedd at hyny yn y dyddiau hyn, a'i fod i'w weled mewn pethau bychain, megys wrth gyhoeddi. Pan oeddwn i yn llanc, cyhoeddai y blaenor, "Yr ydan ni yn dysgwyl Mr. Lias yma i bregethu y Sabboth nesa'; ond yrwan clywir yn fynych—Bydd y Parchedig Peter Smart yn gweinidogaethu yma y Sabboth nesaf.' Paid a fy nghamddeall, meddaf eto. Y peth wyf yn ei ofni ydyw i'r parch fod i'r Parchedig ac nid i Peter Smart. Diolch i Dduw! nid oes deitl daearol a all gyfleu y parchedigaeth a'r hoffder sydd yn nghalon y Cymro at y gwir bregethwr. Mae yn ymylu ymron ar addoliad, a hir y parhâo felly, cyhyd ag na byddo yn bechadurus, meddaf fi. Ond rhaid ennill y parchedigaeth hwn yn y pulpud. Mi wyddost nad oes neb yn fwy aiddgar nag ydwyf fi dros roi yr addysg oreu i bregethwyr. Pe bae pawb o'r un syniad a mi, ni chaniateid i neb gael ei ystyried yn bregethwr yn y dyddiau goleuedig<noinclude></noinclude> bg5ujyog575fyo4svdwirr0eybsip7k Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/303 104 83857 163506 163291 2026-04-20T23:17:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163506 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyn, heb iddo yn gyntaf fyned drwy gwrs o addysg athrofäol, os na fyddai rhywbeth neillduol iawn yn ei ddawn naturiol a'i ysbryd. Ond er pob addysg, os nad ydyw y dyn yn bregethwr, nid ydyw ei M.A. yn ateb dim mwy o ddyben iddo yn y pulpud nag oedd addysg yr eneth a anfonwyd i'r ''boarding school'', ac a ddaeth adre wedi dysgu dyweyd 'ma' yn lle mam. Mae y parch, yr hoffder, yr hanner addoliad, fel y dywedais, ag sydd yn nghalon y Cymro at y pregethwr ei hun wedi ei ennill yn naturiol a haeddiannol. Y dydd o'r blaen mi welais yn y papyr newydd ryw greadur hunandybus yn edliw i Gymru ei pharch i'r pregethwr, heb wybod, druan, mai dyna y compliment goreu allasai efe ei dalu i'n hen wlad. Mi fydd arnaf ofn yn aml rhag i'n heglwysi gael eu gollwng i ganiatâu i rywun a ddygwyddo gynnyg ei hun gael pregethu, ac i'r parchedigaeth i'r pregethwr gael ei aflonyddu, ac o'r diwedd ei golli o'n gwlad. Fel y dywedais i, ni fuasai yn bosibl i ti feddwl am sefyllfa uwch ac anrhydeddusach na bod yn bregethwr. Mae yr enw pregethwr i'w berchenog yn ''introduction'' i'r dynion goreu ar y ddaear, ac yn warant o gymeriad pur a dilychwin, neu o leiaf a ddylai fod felly. Mi fum yn dyfalu lawer gwaith pa beth ydyw ymwybyddiaeth pregethwr. Mae yn rhaid ei fod yn rhywbeth gogoneddus. Y mae ei waith yn gyfryw ag a ddylai ei gynnysgaethu â'r dedwyddwch uchaf sydd yn gyrhaeddadwy ar y ddaear, ac y mae hefyd y parotoad goreu ar gyfer dychrynfeydd marwolaeth ac ysbrydolrwydd y byd a ddaw. Yn y byd hwn fe gaiff y pethau goreu y mae dynion eraill yn eu cael, a llawer iawn mwy; ac ar ei fynediad i'r byd tragywyddol fe gaiff ei groesawu gan y Brenin ei hun fel gwas da a ffyddlawn. Yn ol fy meddwl i, nid ydyw y merchant mwyaf llwyddiannus ond cardotyn mewn carpiau wrth ochr y gwir bregethwr. Y pregethwr ydyw cyfaill penaf dyn a chymydog drws nesaf Duw, os ydwyf yn peidio rhyfygu wrth ddyweyd felly. Pa le mae enwau ein cyfoethogion a loddestent yn ein castelli driugain mlynedd yn ol? Y maent wedi braenu fel eu hesgyrn ac esgyrn eu cwn hela? Ondy mae enwau eu cydoeswyr a gyhoeddent y newyddion da yn fyw hyd yn nôd yn nghalonau rhai na chlywsant hwy erioed! Wel, dyna un ffordd o edrych ar y pregethwr; ond y mae ffordd arall. Ddymunwn i ddim dy ddigaloni na dy ddychrynu, ond mi<noinclude></noinclude> 5z6qhw1brfwejggam72acz34bd3usj1 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/304 104 83858 163507 163292 2026-04-20T23:18:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163507 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddymunwn dy sobreiddio. Yr hyn sydd yn penderfynu cymeriad dyn ydyw ei amcanion; ac hwyrach nad oes dim ag y mae dyn, yn enwedig dyn difrifol, yn teimlo mor analluog ynddo ag ydyw deall ei wir amcanion. Mae cymaint o lygredd a hunan yn nghymeriad pawb o honom nes ydym yn dychrynu pan awn i geisio analysio ein hamcanion. Dylai pob dyn ifanc sydd yn meddwl am bregethu ofni a chrynu. Os nad ydyw yn cael ei gynhyrfu gan yr amcanion puraf, gwell fyddai iddo ymgrogi. Mae genyf gydymdeimlad dwfn âg ambell un a adwaenwn a fwriadodd, a ymbarotodd, ac a ddechreuodd bregethu, ond a ddychrynwyd i ddystawrwydd gan ofnadwyaeth cyfrifoldeb y gwaith. Y dyn sydd â'i lygaid ar y pulpud i borthi ei uchelgias, i gyrhaedd sefyllfa o anrhydedd, neu i foddio rhywbeth sydd yn ei galon nad all roi enw arno, ni chaiff y dyn hwnw ond gwg Duw, a chaiff ei hunan ryw ddiwrnod yn îs na chythreuliaid yn uffern, ac yn destyn gwawd lladron a llofruddion. Mae un o'r beirdd Saesoneg yn rhoi desgrifiad ofnadwy o hono. Mae yn dechre fel hyn: {{center block| <poem> 'Among the accursed who sought a hiding place In vain, from fierceness of Jehovah's rage, And from the hot displeasure of the Lamb— Most wretched, most contemptible—most vile— Stood the false priest, and in his conscience felt The fellest gnaw of the undying worm!' </poem> }} Mi fum yn meddwl fod Paul wedi teimlo math o ''electric shock'' pan ddywedai, Rhag wedi i mi bregethu i eraill fod fy hun yn anghymeradwy.' Ond, fel y dywedais, ddymunwn i ddim dy ddychrynu i roi y bwriad o bregethu o'r neilldu; yn hytrach mi ddymunwn fod o ryw gynnorthwy i ti fyned ymlaen os ydyw dy ddybenion yn gywir. Hwyrach y byddai o fantais i ti chwilio tipyn eto i hanes y pregethwyr cyntaf yr apostolion. Doeddan hwythau ddim yn berffaith yn eu syniadau a'u hamcanion mwy na ninnau. Ond yr oedd un peth yn eu nodweddu a ddylai nodweddu pob pregethwr: yr oedd eu cariad at a'u hymlyniad wrth eu Meistr yn genuine—doedd dim doubt i fod ar y cwestiwn hwnw. At bwy yr awn ni?' meddai Pedr—nid at bwy yr ''af fi''? roedd o yn siarad dros bob un o honynt ar y pen hwnw,—Genyt ti mae geiriau<noinclude></noinclude> j09nwsstzi4r0cne0accumsjfe0cavb Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/305 104 83859 163508 163293 2026-04-20T23:22:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163508 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bywyd tragywyddol;' hebot ti mi fyddwn heb eiriau—fydd genym ni ddim i'w ddyweyd. Wn i ddim a oedd Pedr yn ymwybodol ar y pryd mai dyweyd a fyddai ''business'' pob un o honynt yn fuan; ond mi gredaf ei fod yn teimlo y pryd hwnw nad oedd neb yn werth dyweyd dim yn ei gylch ond Crist. Gofala dithau fod yn ''right'' ar y pen yna. Os ysfa anianol sydd yn dy gymhell i bregethu, fe losga interest hwnw allan yn fuan i ti, a mi ffeindi dy hun yn dalp oer yn byw dan ''act of toleration'' yr eglwysi—yn llenwi cyhoeddiadau mewn lleoedd rhag bod heb un math o bregethwr ac i arbed cael cyfarfod gweddïo, ac i basio y Sabboth heibio rywsut—yn faich i ti dy hun ac i bawb arall. Ond os byddi yn cael dy gynhyrfu gan dân Duw, nid aiff y tân hwnw byth allan; a mi ffeindi y bydd pechaduriaid yn tyru o dy gwmpas i gynhesu eu heneidiau oerion ac i ymdwymno wrth dy bentan. Nid wyf yn gwybod am greadur mwy truenus na phregethwr yn cael ei oddef gan ddynion, a'i ysgornio gan Dduw, o herwydd ei fydolrwydd a'i ddaearoldeb. Wrth sôn am fydolrwydd, penderfyna yn y dechre, os wyt ti am fod yn bregethwr, ymroddi yn hollol i'r gwaith. Paid a dychymygu am shopa a phregethu. Fel pregethwr mi fydd y ''stock'' y rhaid i ti edrych ar ei hol yn rhy fawr i ti gael amser i edrych ar ol ''stock'' arall cwbl wahanol o ran ei natur. Yr hyn a fedraf fi ei wneyd i ti, mi gwnaf o. Er nad ydw i yn dlawd, mi wyddost nad ydw i yn gyfoethog; ond hwyrach y medraf wneyd rhywbeth i ti yn y ffordd o arian, achos arian raid i ti gael. Mi fyddaf yn synu yn aml càn lleiad a wneir gan ein cyfoethogion tuag at gynnorthwyo ein pregethwyr ieuainc, y rhai fel rheol sydd yn dlodion. Mi fum yn meddwl lawer gwaith mor anhawdd ydyw i ''student'', er fod ganddo galon fawr a chynes—mor anhawdd ydyw iddo fyned ymlaen gyda phoced wag, ac mor werthfawr iddo yn fynych a fyddai papyr degpunt oddiwrth un o'r cyfoethogion. Pan roddir ychydig i'r ''student'' druan, rhaid cael cyhoeddi hyny ar g'oedd gwlad yn y Cyfarfod Misol, a'i ''brandio'' fel cardotyn ymhlith ei gyfeillion. Mae peth fel hyn yn ''scandalous''; ac nid ydyw yn rhyfedd fod ambell i fachgen gwir deilwng—a'r rhai mwyaf teilwng sydd felly—yn dyoddef caledi yn ddystaw, yn hytrach na goddef i'w enw gael ei gluro hyd y papyrau fel derbynydd pum' punt. Mi obeithiaf ac mi gredaf am danat nad wyt yn dysgwyl i'r gwaith o<noinclude></noinclude> dgso23gb3bs3kqsl094lac6w7h63kih Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/306 104 83860 163509 163294 2026-04-20T23:40:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163509 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bregethu fod yn un ennillgar mewn ystyr fydol. Os wyt, cei dy siomi. Mae mil o ffyrdd rhagorach i wneyd arian. Clywir yn fynych fod pregethwyr yn ariangar. Mae'r cyhuddiad yn ''libel'' cywilyddus, yn ol fy meddwl i; a phobl ariangar ymron yn ddïeithriad sydd yn rhoi y cyhuddiad yn eu herbyn. O'r llaw i'r genau ydyw sefyllfa y nifer mwyaf o bregethwyr a adwaenwn i sydd yn byw ar bregethu. Mae yn wir fod yna ''special providence'' wedi ei ddarparu ar gyfer y rhai teilyngaf, sef fod Duw yn caniatâu iddynt ffafr yn nghalonau merched cyfoethog. Gwylia a gweddïa rhag diogi a hunan. Fe wyddost di—wn i ddim—a oedd a fyno hunan rywbeth â dy fethiant yn y cyfarfod gweddïo heno? Pa un ai ennill clod ai rhoi clod, oedd wedi cael mwyaf o le yn dy galon?" Rhyfedd! yr oedd Abel yn deall fy nhu mewn cystal â mi fy hun, ymron. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXXIII<br>Ychwaneg am Wil Bryan.}}}} DARFU i sylwadau bydolddoeth Wil Bryan, a chynghorion difrifol a chynhyrfiol Abel Hughes, fy ngyru, mi gredaf, i'r man lle dylwn fod yn amlach bob dydd. Fy mhenderfyniad ar y pryd oedd rhoddi heibio am byth y meddwl am bregethu; a gweddïais lawer am gael ymwared o'r awydd; ac eto ofnwn yn fy nghalon gael fy ngwrando. Teimlwn fel pe buaswn yn ddau berson gwahanol-un yn ymawyddu am gael pregethu, a'r llall yn gwneyd ei oreu i'w rwystro a'i ddigaloni. Credwn mai yr olaf oedd yn ei le; ond yr oedd fy nghydymdeimlad gyda'r blaenaf, a gobeithiwn o hyd mai efe a ennillai y dydd. Dichon y gallaswn mewn amser orchfygu fy nhuedd pe cawswn lonydd gan Dafydd Dafis; ond llonydd ni chawn. Yr oeddwn yn lled sicr nad oedd ynof y duedd leiaf at fy hen arferion drwg, a theimlwn mai fy ngelyn penaf oedd hunan. Wedi i Abel Hughes fy rhybuddio rhagddo, yr oeddwn yn gweled y gelyn hwn yn mynu rhoi ei fŷs ymhob peth a wnawn; a bum ar fin penderfynu peidio ceisio gwneyd dim yn gyhoeddus gydag achos crefydd nes i mi trwy roddi fy holl sylw arnaf fi fy hun, yn fy nhu mewn—ddinystrio hunan, ac yna —. Pan wnes fy meddwl yn hysbys i Dafydd Dafis, bu agos iddo a chwerthin; ond fel pe buasai yn cofio na byddai yn arferol â chwerthin, gwenodd yn llydan, ac ebe fe,— {{nop}}<section end="bbb"/><noinclude></noinclude> 4plybuvg99nut2e26sjfe526hq6d9xz Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/307 104 83861 163510 163295 2026-04-20T23:45:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163510 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Amcan rhagorol; ond y moddion mwyaf hunanol fedret ti ddyfeisio. Fyddi di damaid gwell ymhen ugain mlynedd hefo'r cynllun yna. A sut y deui di o hyd i hunan wrth beidio gwneyd dim? Wrth gyflawni dyledswyddau yn unig y medri gael gafael ynddo i roi ei ben ar y blocyn. Os êi di i dreulio dy amser gwerthfawr i chwilio am dano, mae o yn siŵr o ymguddio yn rhywle. Mae hunan, wel di, fel hogyn direidus yn leicio i ti redeg ar ei ol er mwyn iddo gael y difyrwch o ymguddio. Nid wrth ymgâu ynot dy hun y gelli ladd hunan—rhaid ei groeshoelio tu allan i'r gwersyll. A phaid a synu os cei di fod hunan yn fyw erbyn i ti gyrhaedd fy oedran i. Mi glywes am ryw bobl i lawr yn Lloegr sydd yn trin y peth y mae nhw yn ei alw yn sleit o' hand-bod nhw yn gallu gyda'r llaw chwith afael yn ngwallt eu coryn, a chyda'r llaw dde gymeryd cleddyf a thori eu pen ymaith—hyny ydyw i olwg pobl, a'r mynyd nesaf y mae yna ben arall yn dyfod yn ei le. Pan glywes i yr hanes mi feddyliais fy mod innau wedi bod yn trin sleit o' hand hefo hunan. Ambell ddiwrnod mi fyddwn yn meddwl fy mod i wedi cael ei ben o yn deg ar y blocyn, ac wedi ei dori yn '''snug off'',' chwedl Evan Harris, Merthyr; ond erbyn drannoeth mi fydde hunan mor fyw ag erioed. Sôn yr wyt ti am beidio gwneyd dim nes i ti ladd hunan! Wnei di byth stroke os arosi di hyd hyny. Chymeriff hunan mo'i ladd ar chware bach; ond mi fyddaf yn meddwl fod yn bosibl ei lwgu o, a'r ffordd oreu i hyny ydyw ei anghofio—ei esgeuluso, ac ymroddi gorph ac enaid i wasanaeth Duw drwy wneyd daioni. Ac y mae yn rhaid dysgu gwneuthur daioni fel y mae Esaiah yn dyweyd. Nid rhywbeth ydyw hyny y medri di ei wneyd mewn diwrnod i foddio hyd yn nôd dy feddwl dy hun heb sôn am foddio Duw. Dyma'r peth cyntaf y mae'r efengyl yn ei wneyd ydyw prentisio dyn i ddysgu gwneuthur daioni. A mi a ddeydaf i ti beth arall—prentisiaid fyddwn ni o hyd yn y byd yma—fyddwn ni ddim wedi dysgu yn berffaith, nac wedi dod yn rhydd o'n prentisiaeth nes yr awn ni i'r byd arall. Ac y mae'r amser mor fyr, wel di, fel y rhaid i ni ymroi ati i ddysgu rhag i ni ymddangos yn od, ac fel rhai heb orphen dysgu pan awn ni i fysg rhai sydd yn grefftwrs. Mi fyddaf finnau yn aml yn ammheu fy amcanion—a phwy sydd heb?—ond pan fyddaf yn methu codi i dir uwch,mi fyddaf yn ceisio gwneyd tipyn o ddaioni o speit i'r<noinclude></noinclude> 2bdpyklby6maqf85c27gr3jvt6kqa4x Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/308 104 83862 163511 163296 2026-04-20T23:48:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163511 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>diafol, ac i ddangos iddo, beth bynag arall ydwyf, nad oes gen i eisio dim o'i ''gwentans'' o." Gyda llawer o ymadroddion eraill y cynghorodd efe fi; ac yr wyf yn meddwl i mi dderbyn lles drwyddynt. Wrth gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yr oedd yr ystyriaeth nad oeddwn yn gwneyd hyny o fy mhen fy hun, nac heb fy nghymhell gan frodyr o farn a duwioldeb, yn tawelu cryn lawer ar fy ofnau, ac yn gosod peth o'r cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau hwy. Nid anghysurus ychwaith ydoedd y ffaith na chawswn "''break down''," chwedl Wil Bryan, cyffelyb i'r tro yn nhŷ Thomas Bartley, er iddi fod yn ddigon tỳn arnaf lawer gwaith. Pan gawn ychydig rwyddineb wrth siarad yn y cyfarfodydd gweddïo, teimlwn yn hapus iawn, a byddwn yn dal fy hun yn rhyw hwmian canu ar ol dyfod o'r cyfarfod. Credwn nad oedd yn bechadurus llawenhau yn ddystaw yn fy ysbryd pan roddai Dafydd Dafis neu rywun arall air o annogaeth neu o ganmoliaeth i mi; oblegid cofiwn i mi sylwi droion ar bregethwyr yn nhŷ Abel Hughes os byddent wedi cael oedfa lewyrchus, ac os byddai Abel yn siarad yn uchel am y bregeth, eu bod ymron yn ddïeithriad yn mwynhau eu swper, a vice versa. Dichon mai y rheswm am hyny oedd fod ynddynt ymwybyddiaeth eu bod yn haeddu eu swper, a vice versa eto. O dipyn i beth deallais yr edrychid arnaf yn lled gyffredinol fel " ymgeisydd;" a phan sylweddolais hyny yr wyf yn cofio mai yr effaith cyntaf a gafodd ar fy meddwl oedd math o ffrwyniad, ac ymwybyddiaeth fod gan bawb hawl i gydio yn fy ffrwyn. Pan ddygwyddwn fod allan yn hwyr, teimlwn fod gan y dyn cyntaf a gyfarfyddwn awdurdod i ofyn i mi, Beth wyt ti yn ei geisio allan yr adeg yma ar y nos? Pan chwarddwn, gofynwn i mi fy hun y foment hono a oeddwn, tybed, wedi chwerthin yn rhy uchel. Os dygwyddwn siarad â merched ieuainc—yr hyn y mae yn rhaid i mi gyfaddef a wnawn ar adegau—teimlwn fod rhywun o hyd yn fy ngwylio, ac yn gosod eu dwy droedfedd ar fy ngwyneb a fy ngwenau. Heb i mi fanylu, meddyliwn fy mod wedi colli fy rhyddid. Mwyach nid oedd genyf yr hawl a fwynhai eraill i ysgwyd pen a gwrthod myned ymlaen pan elwid arnaf i gynnal moddion mewn cyfarfod gweddïo; ac ni feiddiwn ddyweyd "gwell genyf beidio" pa orchwyl bynag a orchymynai arolygwr yr ysgol i mi ei gyflawni. Mewn gair, collais y teimlad o<noinclude></noinclude> 7cnj7xz22w0cum35m7f1znec4b6v2t6 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/309 104 83863 163512 163297 2026-04-20T23:54:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163512 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>feddiant arnaf fy hun, a theimlwn fy hun wedi fy nhrawsffurfio i fod yn ''piece of public property.'' Yr oedd bach a mawr, còr a chawr, yn ei hystyried yn ddyledswydd arno roi cynghorion i mi, y rhai a amrywient yn ddiderfyn, ac a roddid yn ddiammheu gyda'r amcanion goreu. Cymaint oedd y dyddordeb, yr oedd yn ymddangos, a gymerid ynof, ac mor llïosog oedd fy nghyfarwyddwyr, fel yr oeddwn o'r diwedd yn dysgwyl i bob un a gyfarwyddwn roddi cynghor i mi, ac anaml y siomid fi. Dywedai rhai, os oeddwn yn bwriadu dechreu ar y gwaith o bregethu, y dylwn gymeryd pwyll a chamu yn araf; a dywedai eraill y dylwn brysuro a pheido colli amser. Cynghorai rhai fi i ymroi ati i ddarllen yn hwyr ac yn fore, a pheidio dyfetha fy amser drwy rodio oddiamgylch; a chynghorai eraill fi i ddarllen llai, a mwynhau mwy o'r awyr agored, os oeddwn yn meddwl am gael byw i fyn'd yn hen a bod yn ddefnyddiol. Annogai ambell un fi i wneyd fy hun yn gydnabyddus â llenyddiaeth a gwleidyddiaeth a gwybodaethau cyffredin, ac â phob llyfr newydd hyd y gallwn—fod hyny yn anhebgorol i bregethwr ieuanc y dyddiau hyn; a chymhellai eraill fi i adael llonydd i bethau felly, ac i roi fy holl amser i astudio yr Ysgrythyrau, gan ychwanegu, mai bai mawr pregethwyr ieuainc oedd eu bod yn anghyfarwydd yn y Bibl, ac yn rhoi gormod o'u hamser gyda llyfrau eraill. "Beth bynag ar a wnei di," meddai un wrthyf, "paid a myn'd i'r coleg i gael dy andwyo, ac i gael dy wneyd run fath â nhw i gyd." "Wrth gwrs," meddai un arall, mi fydd ''raid'' i ti fyn'd i'r coleg, ne wnei di ddim byd o honi. Bydàet ti yn dysgu dim yno, mi feddyliff pobl fwy o honot ti." "Cofia," ebe un brawd, "fod yn ffri ac yn llawen efo phawb; mae'n gas gen i bregethwr stiff." "Yr ydw i yn gobeithio, os byddan nhw yn caniatâu i ti gael pregethu, y bydd i ti gofio bod yn wyliadwrus arnat dy hun, ac yn syml, a pheidio rhoi lle i neb siarad," ebe hen chwaer wrthyf. Pan oeddwn ryw noswaith yn sôn wrth W. B. am y gwahanol gynghorion da a gawswn, ebe ef, "Iwsia dy gomon sens, ddyn, os oes gynat ti gomon sens; ac os nad oes, paid son am bregethu. Mi wna i gyfadde y bydd raid i ti rwan dendio dy ''hegs an' pegs'', a gofalu am dy ''centre of gravity''; ond paid a bod fel bydaet ti yn byw mewn câs cloc. Waeth i ti heb fod fel ceiliog yn cerdded mewn eira; dydi peth felly ddim yn ''true to nature'', a choelia i byth fod gras yn groes<noinclude></noinclude> mshxm0f2mx714bhtigc49hlqld0t53n Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/310 104 83864 163513 163298 2026-04-21T00:02:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163513 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i ''nature''—hyny ydi nature dibechod. Ddyliwn fod ene adnod ar y pwnc, ond dydw i ddim yn cofio un just rwan. ''Trust in God and keep your powder dry'', medde'r hen Gromwell, a doedd o ddim yn ''duffer''. Os ei di i drio gneyd cynghor pawb, mi fydd raid i ti weithio dros oriau bob dydd, a mi fydd yn ''hic jacet'' ac yn ''Alas poor Yorick'' arnat ti yn fuan. Mi fyddaf fi yn deyd wrth y ''duffers'' am fyn'd i Jerico; ond thaliff hi ddim i ti neyd hyny; rhaid i ti fod yn civil hefo pawb, a thrio spotio'r ''wide-awakes'' a gwrando arnyn nhw." Credwn fod cryn lawer o synwyr yn sylw Wil, er ei fod yn cael ei ddyweyd mewn arddull na pherthynai i neb ond efe ei hun. Bum am yspaid maith yn nghyflwr yr "ymgeisydd" cyn i fy achos gael ei ddwyn yn ffurfiol o flaen yr eglwys; a'r rheswm penaf am hyny oedd mai dyna oedd fy nymuniad i fy hun. Nid oeddwn ond ieuanc, ac yr oeddwn yn awyddus i gael prawf teg o honof fy hun, ac i roddi prawf i eraill, rhag fy mod yn gwneyd camgymeriad, ac eraill wneyd camgymeriad y byddai yn edifar ganddynt o hono. Yr oedd genyf amcan arall mewn golwg, sef arbed rhoi y bregeth brawf yn y seiat. Gwyddwn mai dyna oedd y rheol gyffredin gyda'r rhai a geisient ganiatâd i bregethu, sef fod iddynt roi pregeth yn seiat i ddangos beth a allent ei wneyd. Ystyriwn fod y dull hwn i brofi gallu a chymhwysder dyn ieuanc y peth mwyaf annaturiol ac annheg a allesid ei ddyfeisio, ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl nad allwn fyned drwyddo. Mynych y ffansiwn fy hun yn y cyflwr hwnw o geisio pregethu i gynnulleidfa o feirniaid, a dim ond beirniaid; pregethu nid er adeiladaeth, ond i ddangos faint o allu oedd genyf. Gwyddwn nad allwn ''actio''; a gwell fuasai genyf aros blwyddyn yn rhagor yn y cyflwr yr oeddwn ynddo na cheisio myned drwy y prawf hwnw. Ac yr oedd digon o gyfleusderau—ac y mae eto ddigon o gyfleusderau—i bob dyn ieuanc i ddangos i'r eglwys a'r gymydogaeth a oes rhyw gymhwysder ynddo i fod yn ŵr cyhoeddus, heb ei osod yn y sefyllfa anheg ac anfanteisiol y cyfeiriwyd ati. Rheswm arall a barai i mi oedi cael dwyn fy achos o flaen yr eglwys oedd, bod ynof wir awydd am fwy o sicrwydd o gywirdeb fy amcanion a'm galwad i'r gwaith. Cofiwn glywed Abel Hughes yn sôn am rywrai oeddynt wedi bod yn cael eu blino gan "ffit pregethu" ac yn ddilynol wedi gwellhâu yn hollol o'r afiechyd. Ofnwn innau rhag mai<noinclude></noinclude> 799o50hnwg9hs83cu0v9u1yp4vansjm Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/311 104 83865 163514 163299 2026-04-21T00:11:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163514 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"ffit" oedd arnaf, ac ymresymwn os dyna ydoedd, yr elai heibio yn fuan. Yr oedd ynof hefyd rywbeth nad ydwyf yn hollol rydd oddiwrtho hyd yn nôd yn awr, sef awydd dwfn am brawf amlwg a phendant o wirioneddau neillduol a'm blinent—prawf, mae yn debygol, nad oedd yn bosibl i mi ei gael, a phe buasai yn bosibl, a wnaethai ffydd yn ofer. Pa fodd y mae hyny yn bod nis gwn, ond y mae ynof yn fynych ryw ddyhead am yr anmhosibl. Aeth misoedd heibio, ond ni adawai y "ffit" fi. Pob cyfleusdra a gawn i siarad â phregethwyr y gallwn fod yn hyf arnynt, ceisiwn dynu o honynt gymaint ag a allwn o wybodaeth am eu profiad a'u hymwybyddiaeth pan oeddynt yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i ynddi; ond ychydig iawn a allent ddyweyd wrthyf am yr orchwyliaeth yr aethai eu meddwl drwyddi nad oeddwn i fy hun yn brofiadol o hono. Ac eto credwn o hyd eu bod wedi cael rhywbeth na chawswn i mohono, ond eu bod yn analluogi'w ddesgrifio. Rhoddwn fin ar fy nychymygialw ymlaen ddychrynfeydd oedd mewn ystôr i mi os oeddwn yn twyllo fy hun; ac yn fy meddwl ceisiwn osod fy hun mewn sefyllfa mor danllyd na fuasai gan uffern ei hun, mi gredaf, gywilydd o honi fel ei chreadigaeth. Yr eithaf a allwn ei ddyweyd-ac yr oeddwn yn gallu dyweyd hyny-nad oeddwn, hyd y gwyddwn, yn cael fy nghynhyrfu gan gau ddybenion. Meddyliwn ei fod yn eithaf posibl fy mod yn gwneyd camgymeriad ac yn arddangos diffyg barn wrth feddwl am bregethu; ond yr oeddwn yn sicr nad oedd ynof amcan annheilwng ag oedd yn wybyddus i mi. Nid gwiwimi wadu nad oeddwn yn feunyddiol yn dyfalu pa beth a dybygai pobl am danaf; a gofynwn yn fynych i mi fy hun y cwestiwn a ofynodd y Mwyaf i rywrai-Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? Fel un a'i fryd a'r bregethu, ac yn gwneyd ychydig yn y ffordd hono heb ''license'', yr oedd ynof ymwybyddiaeth nad oeddwn yn ymddangos i lawer mewn goleuni mor ffafriol ag a allaswn. Gwyddwn fod amryw yn ystyried y dylai yr hwn sydd yn dadgan dymuniad am gael pregethu, fod â'i ysbryd yn danllyd, ei brofiad yn uchel, a'i zel yn gyfryw ag a roddai wedd gymhelliadol ar yr hyn a ddywedai. Nis gallwn i fod felly. Yr oedd cofio fy ieuenctyd yn fy analluogi i gynghori. Yr oeddwn hefyd yn cofio sylw o eiddo Abel Hughes, "Ni fyddaf byth yn hoffi clywed dyn ieuanc yn rhyw gynghori llawer, ac yn siarad wrth gynnulleidfa gymysg fel hen<noinclude></noinclude> gk4o1mb8kbxkt6n70ihy9937dfs36m4 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/312 104 83866 163515 163300 2026-04-21T00:36:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163515 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ŵr profiadol. Mae yn hollol annaturiol yn ol fy meddwl i; ac y mae yn gwestiwn gen i a ydyw y rhai sydd yn gwneyd hyny yn gwneyd rhyw lês. Gwell gen i weled bachgen ifanc o bregethwr yn hanner boddi na'i wel'd o yn yslotian wrth y lan. Mae clywed bachgen ugain oed yn dynwared hynafgwr yn swnio mor chwithig ar fy nghlust i ag a fyddai clywed henwr pedwair ugain yn taeru wrth chware marbles. Ac eto fe welir peth mor chwithig a hyny weithiau; ac yn y ddau amgylchiad y mae yn arwydd o wendid." Gwyddwn a'r gore fod fy anerchiadau yn y cyfarfodydd yn y tai a chapelau bychain y gymydogaeth yn sychlyd a thraethodol yn fwy felly nag y dylasent fod, oblegid yr oeddwn yn llyffetheirio fy hun. Ar adegau teimlwn yn zelog, ond gwnawn ymdrech i ymoeri rhag i mi ymddangos yn ymhongar ac yn hŷn nag oeddwn. Gwnaethpwyd argraff ddofn ar fy meddwl ryw dro yn y seiat pan elai gŵr ieuanc o bregethwr o amgylch i ymddyddan â'r cyfeillion. Pan ddaeth efe at yr hen Feti Cynrig, gofynodd, "Wel, yr hen chwaer, a ydach chi'n meddwl eich bod yn adnabod Iesu Grist erbyn hyn?" ac ebe yr hen Feti, "Wel, mi obeithiwn y mod i cyn geni dy dad di, y mhwt i." Nid wyf yn canmol Beti am roddi y fath atebiad i fachgen ifanc dyeithr; ond gwnaeth argraff ar fy meddwl, serch hyny, ac yr wyf yn credu nad oedd y gŵr ifanc yn teimlo ei hun yn llenwi ei ddillad lawn mor dýn ar ddiwedd y seiat hono ag ydoedd ar ei dechreu. Teimlwn raddau o bleser wrth gynnorthwyo y cyfeillion mewn capelau bychain yn y wlad i gynnal cyfarfodydd pan fyddent heb bregethwr; ond pan ddywedodd Dafydd Dafis wrthyf un diwrnod ei fod am ddwyn fy achos yn ffurfiol o flaen yr eglwys fel ymgeisydd am y weinidogaeth, llanwyd fi â braw ac iselder ysbryd. Mewn un ystyr buasai yn well genyf dynu yn ol, ond yr un pryd nid allwn oddef y syniad. Yr oedd yn amlwg i mi nad allwn aros yn y cyflwr yr oeddwn ynddo. Os caniatäwn i fy achos gael ei ddwyn ymlaen, teimlwn y byddwn yn hòni pethau mawrion, ac yn gosod fy hun mewn sefyllfa wahanol i bawb yn yr eglwys, ac yn cymeryd arnaf rywbeth a wnai i mi arswydo. Mynych y ffansïwn lais yn gofyn i mi, Pa beth sydd a fynegych di ar fy neddfau? Dyheuwn am weledigaeth eglur, ond ni ddeuai; a meddyliwn pa reswm a allwn ei roddi dros geisio cael pregethu, pryd nad allwn ddadgan yn groew a phendant fy<noinclude></noinclude> 0y8ctj9hgb88jf1jfe3sn6megf60d7v Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/313 104 83867 163516 163301 2026-04-21T01:40:55Z AlwynapHuw 1710 /* Gwallus */ tudalen heb ei sganio'n iawn, trawsysgrif wedi ei godi o destun amgen 163516 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="2" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude></noinclude> 891gcn4a0lxkxdgobik5tb0lm4r7ihy 163517 163516 2026-04-21T01:53:54Z AlwynapHuw 1710 /* Gwallus */ 163517 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="2" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ngalwad? Ar y llaw arall, fel y dywedais, nid allwn oddef y syniad o roi heibio fy nghymhellion i'r gwaith, a mygu fy nhueddiadau mwyaf dymunol. Nid oeddwn yn deall fy hun, a meddyliwn fod hyny yn rhyfedd. Pa fodd y gallai eraill fy neall? A oedd yn bossibl i bobl eraill ffurfio cywirach syniad am danaf nag a allwn i fy hun? Penderfynais adael i amgylchiadau gymeryd eu cwrs; ac ymhen ychydig ddyddiau dygwyd fy achos o flaen yr eglwys. Nid wyf yn bwriadu rhoi hanes manwl o'r amgylchiad. Gofynwyd llawer o gwestiynau i mi, y rhai a atebais yn union fel yr oeddwn yn meddwl ac yn teimlo, heb geisio rhoi lliw gwahanol arnaf fy hun, na hóni mwy nag a allwn mewn gwirionedd. Anfonwyd fi allan tra yr oedd y brodyr yn dadgan eu syniadau am danaf. Pan oeddwn yn aros am eu dedfryd, ofnwn fy mod yn fy atebion wedi rhoi lle i rywrai gredu nad oeddwn glir yn fy mhen. Prin yr oeddwn yn dysgwyl i fy achos gael edrych arno yn ffafriol, ac o'r braidd nad oeddwn yn dymuno iddi fod felly. Yn y man galwyd fi i mewn; a hysbyswyd fi fod yr eglwys yn foddlawn i gyflwyno fy nghais i'r Cyfarfod Misol i ofyn iddo anfon brodyr i chwilio i fy achos, ac i gymeryd llais yr eglwys ar y mater. Da i mi nad oedd eisieu i mi ddyweyd gair; oblegid pe buasai hyny yn anghenrheidiol, nis gallaswn. Aeth llawer o feddyliau drwy fy nghalon y noswaith hono, y rhai y buaswn yn ceisio eu desgrifio oni buasai fod rhywbeth arall a ddigwyddodd yr un noswaith yn fwy byw ar fy nghof—rhywbeth nad allaf byth ei anghofio —a hawddach ei adrodd am ei fod yn dwyn perthynas â rhywun arall. Dichon fy mod wedi sôn ar y mwyaf am Wil Bryan. Ni soniaf ryw lawer eto am dano. Fel y dywedais fwy nag unwaith, yr oedd Wil wedi gwneyd argraff ddofn ar fy meddwl er pan oeddwn yn hogyn. Er ei fod yn rhyw fath o aelod eglwysig, gwyddwn, a gwyddai eraill hefyd, nad oedd o ran ansawdd ei ysbryd a'i dueddiadau yr hyn y dylasai fod. Ofnwn fod ei galon yn ddyeithr iawn i grefydd; ac ar un adeg yr oeddwn wedi penderfynu tori pob cys sylltiad ag ef; ond yr oedd hyny yn fwy o orchwyl nag a dybiasiwn. Yr oedd mawrfrydigrwydd ei ysbryd, ei galon agored, ei graffder, ac yn enwedig ei dafod llyfn a pharod, yn peri i mi ei edmygu yn adnewyddol bob tro y siaradwn âg ef, ac yn gwneyd i mi anghofio ar y<noinclude></noinclude> n7s6xpyie7p5psw701z4ll9zeupzu5w Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/314 104 83868 163518 163302 2026-04-21T02:04:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163518 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pryd ei holl ddiffygion, er eu bod yn llawer. Er na fyddai byth yn gwneyd proffes o hyny, nid allwn beidio canfod ei fod yn hoff o honof; ac yr oeddwn yn sicr nad oedd neb byw yn teimlo mwy o ddyddordeb yn fy llwyddiant nag a deimlai Wil. Yr oeddwn wedi sylwi yn ddiweddar gyda gofid fod Wil yn fwy cloff nag arferol yn moddion gras; a'r hyn oedd wir am dano ef oedd wir hefyd am ei rieni. Pa fodd bynag, yr oedd fy hen gydymaith yn bresennol yn y seiat pryd y dygwyd fy achos yn mlaen; a da oedd genyf ei weled yno, yn benaf, mi addefaf, am y credwn y cawn ganddo adroddiad manwl o bob gair a ddywedwyd wedi i mi gael fy anfon allan. Yn ddigon naturiol yr oedd ynof gywreingarwch am gael gwybod pa beth a ddywedwyd gan hwn a'r llall am danaf yn fy absennoldeb; a gwyddwn y gallai Wil fy nghynnysgaethu a'r cyfan. Yr wyf wedi ceisio cyfleu ar bapyr yr hyn a ystyriwn yn werth ei groniclo o eiriau Wil mor agos ag y gallwn o ran arddull a swm, i'r modd y deuent dros ei wefusau, a hyny a geisiaf eto. Pan ddaethom allan o'r seiat, yr wyf yn meddwl mai fi am unwaith oedd yn edrych am Wil, ac nid Wil am danaf fi; ac ebe fe. "''Just'' y peth—roeddwn i eisio cael mygóm hefot ti." "Mi wyddwn, Wil," ebe fi "y cawn i'r hanes i gyd genyt. Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyru i allan?" "Bydawn i yn rhoi ''verbatim et literatim report'' i ti wnai o les yn y byd i ti. Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar fy ffansi i oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat gael iddyn nhw weled ffasiwn stwff sydd ynot ti, a'r hen Abel yn 'i ateb o y base y cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r 'Merica, a neb yn gwbod dim am danat ti. Dydw i ddim yn gwbod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen ''thorough—bred'' Thomas Bartley, pan oeddan ni yn codi'n llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law—'run fath a pictiwr Whitefield—a hyny, 'roeddwn i yn meddwl, ''fel apology am the unavoidable absense of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism''. Ond gâd i hyny fod. 'Rwyt ti heno wedi cyrhaedd ''point'' yr ydw i wedi bod yn edrach am dano er's talwm; a 'does dim ond eisio i ti fyn'd yn dy flaen yrŵan. Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel. Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y ''metals''; a mi freuddwydies y nosweth y bu ''just''<noinclude></noinclude> 6z8wqwpvvraejl2dbzlhj5gecihcf9c Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/315 104 83869 163519 163303 2026-04-21T02:06:22Z AlwynapHuw 1710 /* Gwallus */ 163519 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="2" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude></noinclude> 891gcn4a0lxkxdgobik5tb0lm4r7ihy 163520 163519 2026-04-21T02:28:17Z AlwynapHuw 1710 /* Gwallus */ Dim sgan, trawsgrifiad wedi dod o ffynhonnell arall 163520 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="2" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i ni a chrogi Jones, fod dy fam wedi dwad o'r byd arall i roi cerydd i mi, a roedd hi yn edrach yn ddig arna i; anghofia i byth mo'i golwg hi. Fûm i byth yn hapus ar ol y nosweth hono, er 'y mod i yn gneyd gwyneb, nes i mi dy weled di ar y ''metals'' yn d'ol. 'Rwyt ti a fine heno wedi dwad i'r ''junction'' y gwyddwn i o hyd fydde'n siŵr o ddwad. Yr ydan ni wedi trafaelio llawer hefo'n gilydd; ond yr oeddwn i yn gwbod o hyd nad oeddan ni ddim yn myn'd i'r un fan—a dyma'r ''junction''. Rydw i'n siarad dipyn yn ffugyrol, ond rwyt ti'n nallt i yn rïol, mi wn. 'Y fact o'r matter'' ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r {{c|Dear happy hours that can return no more.}} Yr ydw i am i gloewi hi, a hwyrach na wela i byth monot ti eto; a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrthimi ddeyd hyny, mi gymra fy llw. Glywes di rwbeth am danon ni acw?" "Clywed beth, Wil? Dydw i ddim yn dy ddallt," ebe fi. "Mae hi yn U P acw," ebe Wil; "a mi fydd pawb yn gwbod hyny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. Ddaru mi ddim deyd wrthat ti mai ''duffer'' oedd y 'nhad? Yr ydw i'n cofio'r amser pan oeddwn i'n credu fod o yn gneyd arian fel 'u cweinio nhw, a'i fod o yn ''clever at a bargain;'' ond pan ddois i wbod be oedd be, a sut oedd pethe yn sefyll, dyma oedd y ''verdict,—duffer''. Yr ydw i wedi gwel'd hi er's talwm, ond doedd dim iws sôn am ''change of policy''; yn yr hen ''rut'' y myne nhad gerdded. 'Roedd o run fath a chreadur arall yr ydan ni yn 'i nabod—''more noted for the length of his ears than for the sweetness of his voice''—yn mynu croesi'r cae ''clover'', ac yn myn'd yn syth at y clawdd i bori dalan poethion, dail tafol, carne'r ebol, a rhw shafflach felly. Be ydi'r canlyniad? Mae pobl eraill wedi hel y clover, a does ene ddim wedi adel ar y clawdd—dim cymin a hen nyth Robyn Goch, ne Snosen Felen. Be ydi'r ''prospect? Liquidation by arrangement, a starvation!'' ac am hyny yr ydwi am i gloewi hi. I ble? Wn i ddim. Be fedra i neyd? ''There's the rub!'' Mi fyddaf yn dwad i fy oed yr wythnos nesa, D.V., a mi fyddaf mor ''well off ''ag oeddwn i ''twenty one years back to the date.'' Mi wyddost na chês i fawr mwy o ysgol nag a gest dithe, ac eto mi fyddaf yn meddwl weithie nad ydw i ddim yn ''perfect greenhorn.'' Pan ddoes i yn ddigon call i wel'd 'y ngholled,<noinclude></noinclude> kaqoii2ypgrq823gkjn1rv126xwnxik Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/316 104 83870 163521 163304 2026-04-21T02:42:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163521 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'n ''point'' i gadw ''close observation'' ar y natur ddynol, ne fel y bydd y Wesleys yn deyd, y ddynol natur. Dyma'r peth gore feder dyn heb gael llawer o ysgol neyd, ydi studio ''human nature''. Ond yr ydw i wedi gneyd un camgymeriad mawr—ddaru mi ddim studio fy mara a chaws. Be fedra i ddeyd ydw i? Dydw i na gŵr boneddig na theiliwr. Dydw i ddim wedi bod digon tu ol i'r ''counter'' i ddysgu ''servio''—doedd gen i namser blâs at hyny, a fy nyleit i, fel y gwyddost di, oedd ''''drivio'''' ceffyl; a doedd o ddim ods gen i prun ai ''drivio'' llwyth o fara ai llwyth o ferched ifinc nawn i, am y cawn i geffyl i'w d''drivio''; a mi fedra 'ddrivio'' am y gore âg undyn, waeth gen i o ble daw o. Ond yr wythnos nesa fydd gan Hugh Bryan, ''Provision Dealer', yr un ceffyl i'w ''ddrivio''. A mae gwahaniaeth rhwng ''drivio'' dy geffyl dy hun â ''drivio'' ceffyl rhwfun arall. Wyt ti'n meddwl yr awn i yn was gŵr bonheddig? Byth, bydawn i yn gorfod pwnio ceryg. Dyna'r job fwya ''degrading'' y gwn i am dani. Fedre fy stymog i byth ddal i dderbyn cyflog am roi fy llaw wrth fy het o hyd, a rhoi benthyg fy nghoesau i ddangos ''cashmere'' fy meistr. Wel, be ydwi i neyd? Sut yr ydw i gael bara a chaws? Mae'r cwestiwn yn newydd ''span'' i mi, a wn i ddim sut i'w ateb o. Mi wyddost sut y cês i'm magu; ni fu arna i 'rioed eisio dim ond gras a chynghor. Dydw i 'rioed yn cofio i mi fod ddiwrnod heb gael cinio da. Ond sut y bydd hi yr wythnos nesa? Wyddost di? fum i 'rioed o'r blaen yn really ''down in the mouth''." "Wil," ebe fi, "yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt i. Sut y daeth pethau i hyn? "Rhy faith i fyn'd drostyn nhw, was," ebe fe. "Dydw i ddim isio bod yn rhy galed ar y gaffer—mae'n ddrwg gan y nghalon i drosto—mi gymra fy llw. Ond ei fai o'i hun i gyd ydi o. Bydase fo wedi cadw at ei fusness ei hun, mi fase pethe yn ''all right''. Mi wyddost fod 'y nhad bob amser yn I ac wedi iddo wneyd tipyn o arian mi perswadiodd rhwfun o i speculatio. Mi grefais arno flwyddyn yn ol 'i dropio hi; ond doedd dim iws. I, ddyn bach! sut yr oedd yn bosibl iddo ddal? Bydase fo wedi nysgu i i ennill 'y nhamed, faswn i ddim yn hidio cymint. Mae o yn ''idea'' od; ond mi fum yn meddwl lawer gwaith yn ddiweddar bydaswn i wedi hapno bod yn dad i mi fy hun, y buaswn<noinclude></noinclude> rpi918j9yonkch3dj03b54qqxfyjphj