Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/317
104
83871
163527
163305
2026-04-24T23:45:59Z
AlwynapHuw
1710
163527
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi dwyn fy hun i fyny yn well o lawer. Hwyrach y bydd pobl yn 'y ngweld i yn ''selfish'' wrth ''skidadlo'', ond fedra i ddim dal y ''disgrace''. A dyna Sus,—''poor girl!'' —fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi. Mae'n lwe nad oes ene ddim byd ''definite'' rhyngom ni. Mae'n rhaid i mi fyn'd—mae rhwbeth yn 'y ngyru i."
'Rwyt wedi fy ngwneyd yn brudd, Wil," ebe fi; "yr wyf yn cofio llawer amgylchiad pryd yr oedd dy gydymdeimlad a'th gynnorthwy yn werthfawr iawn i mi; ond nid wyf yn cofio i ti erioed, cyn heno, fod mewn amgylchiad ag yr oedd eisieu cydymdeimlo â thi. Wnei di un cynghor?"
"Beth ydi hwaw, old fellow?"
"Pa bryd bynag ac i ba le bynag yr wyt am fyn'd, wnei di ofalu cael tocyn aelodaeth—ac wedi i ti sefydlu yn dy gartref newydd ofalu hefyd ymorol am y capel, a chyflwyno dy doeyn i'r blaenoriaid? Waeth i mi ddyweyd y gwir yn onest, Wil; mae arnaf ofn i ti fyn'd yn wrong."
"Roeddwn i yn gobeithio," ebe Wil, "na faset ti ddim yn sôn am hyny, ond gan fod ti wedi sôn, mae rhaid i minne gael deyd rhwbeth sydd ar fy meddwl i'w ddeyd ers llawer o amser. Mi gymre i mi ddiwrnod i ddeyd y cwbl. Fydde i mi ofyn am docyn ddim ond ''humbug''. Yr ydw i wedi rhagrithio gormod o lawer. Rwyt ti yn meddwl, mi wn, fod ti yn gwbod fy hanes i yn go lew, ond dwyt ti yn gwbod dim. Fedra i ddim celu'r ffaith oddiwrtho fy hun nad oes gen i ddim spark o grefydd. Wyt ti yn cofio dy fam yn deyd wrtha i fod ene hen ddyn yn y nghalon i, a fine yn gneyd sport am 'i pheni? Roedd yr hen wraig yn llygad 'i lle. Y peth oedd hi yn 'i feddwl, fel y gwyddost di, oedd llygredigaeth, ond fod gyni hi enw od Wni ddim sut i ddeyd wrthot ti hanes 'y nhu mewn, a mi fase yn well gen i beidio trio. Yr ydw i yn teimlo rywsut fel bydawn i yn gospel proof; a fedra i ddim ers llawer o amser rwan gofio adnod ond y rheiny sydd yn f'erbyn i. Mae ene lot o'r rheiny yn dwad i meddwl i weithie. Deyd y gwir i ti, dydw i ddim wedi darllen y Bibl ers gwn i pryd—achos pan oeddwn i yn 'i ddarllen o, yr adnode oedd yn f'erbyn i oeddwn i yn 'u spotio yno fo o hyd. Dydw i ddim ond youngster, ac eto yr ydw i yn teimlo fel bydawn i wedi ennill march ar yr efengyl, ne fel arall y dylwn i ddeyd—fel bydawn arno.
i wedi cael fy ngadel ar ol. Ddaru mi ladd rhwfun? no danger. Ddaru mi neyd cam a rhwfun? Dydw i ddim yn gwbod. Ddaru mi feddwi? never. Does dim isio i chap neyd y pethe ene i gael ei adel. Be ydw i wedi neyd? Lot o bethe bychain: dysgu comic songs yn lle dysgu'r Bibl ar 'Fforddwr, myn'd at y billiard table yn gan' amlach nag at fwrdd yr Arglwydd, gneyd sport am ben pawb a phobpeth, a gneyd parodies o hymns Williams Pantycelyn. Yn y capel pan fydde ambell i bregethwr just a fy mowlio i allan, mi fyddwn yn ymroi ati i iwsio fy bat; a rwan y mae'r pregethe i gyd ynwides.' Mi fydde gen i ofn i neb weled deigryn yn fy llygad i; a phan fydde un just a dwad, mi fyddwn yn galw fy hun i account, ac yn 'i ordro fo yn 'i ol. Does run deigryn isio dwad rwan ers talwm. Hwyrach nad ydi'r bai i gyd ddim arna i. Ches i mo'm magu run fathati. Mi fydde nhad yn gneyd i mi fyn'd i'r capel ar y Sul; ond fydde ene byth sên am gapel nac am grefydd gartre, ond hwi, a hai, a row bob dydd. Roedd 'y nhad yn gneyd hefo fi run fath âg y gwelest di Ned y gô yn gneyd hefo'r heyarn. Ar y Sul wrth 'y ngyru i'r capel mi fydde yn rhoi 'y nghydwybod i yn tân, ac ar ddydd Llun mi fydde yn 'i rhoi hi yn y cafn dŵr, a'r canlyniad ydi fod hi can gleted a phedol ceffyl."
"Wil" ebe fi.
"Waeth i ti heb siarad, mi wn be wyt ti'n mynd i ddeyd—edifarhâu, ail gychwyn, ac felly yn y blaen. Mi wn y pethe ene i gyd. Nid isio gwbod yr ydw i, ond isio teimlo. Feder dyn ddim edifarhâu run fath â seinio dirwest. Rhaid cael cyfnewidiad yn y meddwl, fel y mae'r Rhodd Mam yn deyd. A dydi'r Bibl yn deyd am rwfun na chafodd o ddim lle i edifeirwch—dene un o'r adnode sydd yn f'erbyn i—mae ene lot o honyn nhw. Y peth gwaetha ydi nad ydw i rywsut ddim fel bydâwn i isio edifarhâu. Yr ydw i yn teimlo rhyw bwysau tu ol i mi yn y ngyru i yn ymlaen, fel bydawn i yn cael 'y nghario gan growd o bobl, ac fel bydâe gen i ddim help am dano, ac ar yr un pryd yr ydw i yn teimlo o hyd 'y mod i yn myn'd i'r lle wrong. Mi ddaru dy fam, chware teg i'r hen wraig, roi llawer cynghori mi; ac yr ydw i yn cofio i ti braidd ddigio wrtha i am i mi galw hi yn 'Hen Ddeg—gorchymyn,' ond y peth oeddwn i yn i feddwl oedd bod hi wastad yn deyd i mi sut i neyd. Ac felly<noinclude></noinclude>
ob5zajfatu7xuuu9d9tw8e2nh6hme7d