Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/19
104
33232
163533
163532
2026-04-26T14:13:50Z
~2026-25470-74
4120
163533
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>llencyn dieithr ysgafndroed. Fel y gwawdiai'r edrychwyr wrth weld ei lorio mor ddidrafferth a lladd ysgall!
Nid oedd cymaint galw am "nwyddau'r " crythor a geisiai roddi difyrrwch o natur wahanol mewn cwr arall. Ond yn awr ac yn y man gwelid mintai fwy neu lai o'i gylch yntau, a cheid dawns, a gwenai ffawd am ennyd ar y crythor. Ond pan ddechreuid ymryson neidio, neu ymaflyd codwm, gan fintai arall, buan y diflannai pleidwyr oriog cerdd a dawns.
Fel y darfyddai'r dydd ac y dynesai cysgodion nos, ac fel y gwaceid y naill gasgen gwrw ar ôl y llall yn y Dafarn, symudai lle'r diddordeb. Âi y dorf yn fwy penrhydd a thyrfus, rhegfeydd y gwehilion ynddi yn amlach a mwy rhyfygus. A chae'r "glapsant" yn gwacâu, symudai canolbwynt y twrw i lawr yr allt i'r groeslon o flaen Tafarn y Cwch.
Llwyrymwrthodwr perffaith—â diod gadarn—fyddai Siôn Ifan ar ddiwrnod y "glapsant." Rhyw hanner mesur a gymerai ar noson y cwch. Adegau felly teimlai'n ddigon annibynnol i wrthod cymhellion y mwyaf taer ar iddo "gymryd llymad." Y noswaith yma yr oedd yn ddyn sobr yng nghanol meddwon, er mantais fawr i'r drysorfa. Yr oedd yn rhy brysur i sylwi llawer ar ysmaldod lled uchel dau neu dri o'i gwsmeriaid oedd wedi cymryd meddiant o gongl y set hir. Yr oedd un o'r rhain yn uwch ei gloch na neb yn y lle. Rhyw asglodyn hirfain oedd hwn, ystwyth a gewynog, siaradus a gwawdlyd. Eisteddai yn y gornel yn ymyl y simdde fawr, ac wrth ei ochr ŵr arall mwy ei faintioli ond arafach ei dafod. Rhoddai teulu'r setl y lle blaenaf i Wil Llanfihangel, a lle blaenllaw i'w gydymaith corffol Robin y Pandy. Rhyw helynt a ddigwyddodd yn y cae oedd pwnc yr ymddiddan. Sonnid am Twm Bach Pen y Bont mewn gwawd, ac adroddid eilwaith sut y bu. Deuai enwau eraill gerbron, ac yn eu plith enw Dic Tafarn y Cwch.
Pan ddaeth Sion Ifan heibio nesaf gofynnodd Wil, "Ple mae Dic, Siôn Ifan?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4967v430oxtv4shaaepoqysnprbm31x
Tudalen:Madam Wen.djvu/20
104
33233
163534
69024
2026-04-26T14:42:41Z
~2026-25470-74
4120
163534
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Gad di lonydd i Dic tra bydd o 'n llonydd!" atebodd y tafarnwr yn chwyrn, gan frasgamu heibio, mewn brys i gyrraedd pen ei daith cyn i'r ewyn dorri dros ymylon y llestri cwrw, dri neu bedwar, oedd yn ei ddwylo hyfedr. Aeth wedyn ar daith i gyfeiriad y drws, a phan ddychwelodd, dygai yn ei law nifer syn o lestri gweigion oedd fel pe'n tincian pa mor sychedig oedd tyrfa fawr y gororau hynny.
"Aeth Dic allan, Siôn Ifan?" gofynnodd Wil wedyn ymhen ychydig.
"Wn i ddim amdano. Gad lonydd iddo," atebodd yr hen ŵr yn wgus.
"Wyt ti'n meddwl y byddai'n ddiogel i Robin a minnau fynd allan, a Thwm bach o gwmpas?" gwawdiai Wil. Ond ar hynny
Ond ar hynny tynnodd sylw rhyw lanc cyhyrog a bleidiai Twm, a bu agos iddi fynd yn ymgiprys yn y tŷ. Doethineb Siôn Ifan a ostegodd yr ystorm.
"Paid â gwrando arno, machgen i," meddai'r tafarnwr yn llariaidd wrth y llanc, mae o wedi cael mwy na digon ers meityn."
"Tyrd â chegiad eto!" meddai Wil.
"Dim dafn ! meddai'r hen ŵr. "Mae'n amser iti fynd. Robin, 'rwyt tithau wedi cael llawn digon. Codwch, mechgyn i, rhowch le i rywun arall.'
Cododd Robin yn sorllyd, ond dechreuodd Wil ddadlau. Yr oedd ei gloch yn mynd braidd yn uchel pan dawodd yn sydyn. Nid ofn nac edifeirwch a barodd iddo'r tro yma dorri ei stori mor fyr, ond ymddangosiad gŵr dieithr ryw deirllath yn nes i'r drws.
Nid pob math ar ddyn dieithr ychwaith fuasai'n gwneud y tro i roddi taw mor sydyn ar Wil, fel y gwyddai pawb o'i gydnabod. Ond yr oedd hwn yn ddyn i syllu arno. Yn un peth yr oedd yn tynnu at saith troedfedd o daldra, gan wneud corach hyd yn oed o Robin y Pandy, a pheri i nen Tafarn y Cwch edrych yn isel.
Yr oedd yn gorffol hefyd, ryfeddol, yn creu<noinclude><references/></noinclude>
gofp405v5stps2sh31hpc350pa53g3r
163535
163534
2026-04-26T14:54:52Z
~2026-25470-74
4120
163535
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Gad di lonydd i Dic tra bydd o 'n llonydd!" atebodd y tafarnwr yn chwyrn, gan frasgamu heibio, mewn brys i gyrraedd pen ei daith cyn i'r ewyn dorri dros ymylon y llestri cwrw, dri neu bedwar, oedd yn ei ddwylo hyfedr. Aeth wedyn ar daith i gyfeiriad y drws, a phan ddychwelodd, dygai yn ei law nifer syn o lestri gweigion oedd fel pe'n tincian pa mor sychedig oedd tyrfa fawr y gororau hynny.
"Aeth Dic allan, Siôn Ifan?" gofynnodd Wil wedyn ymhen ychydig.
"Wn i ddim amdano. Gad lonydd iddo," atebodd yr hen ŵr yn wgus.
"Wyt ti'n meddwl y byddai'n ddiogel i Robin a minnau fynd allan, a Thwm bach o gwmpas?" gwawdiai Wil. Ond ar hynny tynnodd sylw rhyw lanc cyhyrog a bleidiai Twm, a bu agos iddi fynd yn ymgiprys yn y tŷ. Doethineb Siôn Ifan a ostegodd yr ystorm.

co50fbntyzycq5lozmwfitpbhhc7q0h
163536
163535
2026-04-27T06:53:25Z
~2026-25736-05
4122

"Paid â gwrando arno, machgen i," meddai'r tafarnwr yn llariaidd wrth y llanc, "mae o wedi cael mwy na digon ers meityn."

bj16wz6g5l1l2sf91surjtx18mxxdo2
163537
163536
2026-04-27T06:58:00Z

"Dim dafn!" meddai'r hen ŵr. "Mae'n amser iti fynd. Robin, 'rwyt tithau wedi cael llawn digon. Codwch, mechgyn i, rhowch le i rywun arall."

1de5fb3rde5kplo8sd4arxywb67mg2h
163538
163537
2026-04-27T07:54:02Z

Nid pob math ar ddyn dieithr ychwaith fuasai'n gwneud y tro i roddi taw mor sydyn ar Wil, fel y gwyddai pawb o'i gydnabod. Ond yr oedd hwn yn ddyn i syllu arno. Yn un peth yr oedd yn tynnu at saith troedfedd o daldra, gan wneud corach hyd yn oed o Robin y Pandy, a pheri i nen Tafarn y Cwch edrych yn isel. Yr oedd yn gorffol hefyd, ryfeddol, yn creu<noinclude><references/></noinclude>
al91hjlxrs7eqqx2topzxsysl5lef8f
Tudalen:Madam Wen.djvu/21
104
33234
163539
69025
2026-04-27T09:42:16Z
~2026-25736-05
4122
163539
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>argraff o gawr ymhlith dynion. Buasai ei ddull a'i ddiwyg yn unig yn ddigon i dynnu sylw ato yn y fath gwmpeini ag oedd yn y dafarn. Nid bob dydd y gwelid yno gôt o bali du drudfawr, a'i hymylon yn dangos lleiniad hardd o sider aur, na gwasgod ledr wedi ei haddurno â'r fath gywreinwaith o sidan. Hyn, ynghyda wig daclus a chostus y gŵr dieithr, a barodd i Wil a'r lleill edrych arno am ennyd mewn mudandod.
Ond ni pharhaodd y syndod cyntaf, mwy na'r distawrwydd, yn hir. Yr oedd gormod o gwrw wedi llifo—lefelydd y dosbarthiadau wedi bod ar waith yn gwerino awyrgylch Tafarn y Cwch: yn tynnu'r cloddiau i lawr rhwng gwreng a bonedd. Er diflasdod amlwg i Siôn Ifan dechreuodd Wil gellwair a gwawdio ar draul y gŵr dieithr, ac ar bwys ei faintioli anghyffredin, heb arbed y dull na'r wisg oedd yn ei nodi fel un a berthynai i raddfa uwch cymdeithas.
Gresynai Wil os oedd y tafarnwr truan am ymgymryd â llenwi'r fath wagle y noson honno, gan awgrymu amgylchedd enfawr gwasgod y gŵr bonheddig. Chwarddai'r cwmni o'i gylch yn braf, a gwgai Siôn Ifan.
Mynd â fo i'r llyn yn ddiymdroi fyddai orau iti, Siôn Ifan!" meddai Wil.
Daeth yr hen ŵr gam yn nes, ac meddai yng nghlust Wil, yn llym ond yn ddistaw,
ddistaw, "Paid â bod yn gymaint ynfytyn. Bydd yn edifar gennyt yfory. Beth ŵyr neb pwy na all y gŵr fod? Mae'n rhywun o bwys."
Effeithiodd y geiriau ychydig ar Wil, ac ni bu'n hir wedi hynny cyn myned o'r tŷ, a'i gyfeillion y naill un ar ôl y llall yn ei ddilyn.
Ac erbyn hyn yr oedd ar y groeslon o flaen y tŷ dyrfa fawr, ac o'i chanol deuai uchel sŵn ymrafael, canys yr oedd yr ymladd arferol wedi dechrau. Ar bennau'r cloddiau pridd o amgylch sathrai ugeiniau draed ei gilydd mewn ymryson am le i weled sut y digwyddai gyda'r ymladdwyr. Aeth Wil ar draws y ffordd a dringodd i ben clawdd, a'r rhai yr ymwthiai<noinclude><references/></noinclude>
1xyhgb47m54nhhw2hmdeqp8jmt9ora6
163540
163539
2026-04-27T10:18:42Z
~2026-25736-05
4122
163540
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>argraff o gawr ymhlith dynion. Buasai ei ddull a'i ddiwyg yn unig yn ddigon i dynnu sylw ato yn y fath gwmpeini ag oedd yn y dafarn. Nid bob dydd y gwelid yno gôt o bali du drudfawr, a'i hymylon yn dangos lleiniad hardd o sider aur, na gwasgod ledr wedi ei haddurno â'r fath gywreinwaith o sidan. Hyn, ynghyda wig daclus a chostus y gŵr dieithr, a barodd i Wil a'r lleill edrych arno am ennyd mewn mudandod.
Ond ni pharhaodd y syndod cyntaf, mwy na'r distawrwydd, yn hir. Yr oedd gormod o gwrw wedi llifo—lefelydd y dosbarthiadau wedi bod ar waith yn gwerino awyrgylch Tafarn y Cwch: yn tynnu'r cloddiau i lawr rhwng gwreng a bonedd. Er diflasdod amlwg i Siôn Ifan dechreuodd Wil gellwair a gwawdio ar draul y gŵr dieithr, ac ar bwys ei faintioli anghyffredin, heb arbed y dull na'r wisg oedd yn ei nodi fel un a berthynai i raddfa uwch cymdeithas.
Gresynai Wil os oedd y tafarnwr truan am ymgymryd â llenwi'r fath wagle y noson honno, gan awgrymu amgylchedd enfawr gwasgod y gŵr bonheddig. Chwarddai'r cwmni o'i gylch yn braf, a gwgai Siôn Ifan.
"Mynd â fo i'r llyn yn ddiymdroi fyddai orau iti, Siôn Ifan!" meddai Wil.

d0exe5yfkq1jx5uge9wjgf4f1hqipz6
163541
163540
2026-04-27T10:37:41Z

Daeth yr hen ŵr gam yn nes, ac meddai yng nghlust Wil, yn llym ond yn ddistaw, "Paid â bod yn gymaint ynfytyn. Bydd yn edifar gennyt yfory. Beth ŵyr neb pwy na all y gŵr fod? Mae'n rhywun o bwys."
Effeithiodd y geiriau ychydig ar Wil, ac ni bu'n hir wedi hynny cyn myned o'r tŷ, a'i gyfeillion y naill un ar ôl y llall yn ei ddilyn.
Ac erbyn hyn yr oedd ar y groeslon o flaen y tŷ dyrfa fawr, ac o'i chanol deuai uchel sŵn ymrafael, canys yr oedd yr ymladd arferol wedi dechrau. Ar bennau'r cloddiau pridd o amgylch sathrai ugeiniau draed ei gilydd mewn ymryson am le i weled sut y digwyddai gyda'r ymladdwyr. Aeth Wil ar draws y ffordd a dringodd i ben clawdd, a'r rhai yr ymwthiai<noinclude><references/></noinclude>
5yyio5v67zokahrl8le58xk32gz3dll