Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.46.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/22
104
33235
163542
69026
2026-04-27T12:48:20Z
~2026-25736-05
4122
163542
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>yn eu herbyn yn ei regi yn enbyd. Buan y canfu, yng ngolau'r lleuad, mai Dic Tafarn y Cwch oedd un o'r rhai blaenllaw yn y canol, ac yn ôl pob tebyg mai setlo'r cweryl yr oedd efo Twm Pen y Bont. Wrth weled hyn, ymwthiodd Wil drwy'r dyrfa nes dyfod i'r fan.
Rhywfaint o dan bum troedfedd oedd hyd Twm, ond gan fod ei led heb fod ymhell o hynny, nid hollol deg oedd ei alw yn Dwm bach. Yr oedd ei gefn, o ysgwydd i ysgwydd, yn llydan fel drws ysgubor, a'i freichiau yn hynod o hirion, ac yn cyrraedd at bennau ei liniau. Yr oedd ganddo galon llew, a gewynnau arth. Yr oedd y gwaed a orchuddiai un ochr i'w wyneb yn braw fod dyrnau meibion Siôn Ifan wedi bod hyd—ddo droeon. Ond safai Twm fel craig, yn bwyllog ac ystyfnig. Er bod amryw o'r edrychwyr yn gweiddi am chwarae teg iddo, yr oedd Meic yn cynorthwyo Dic gymaint ag a allai, a Thwm yn gorfod wynebu dau.
"Tâl iddo fo, Dic!" gwaeddai Wil. "Lladd o i'w g——." Anaml y siaradai Wil heb lw fel clo ar ei ymadrodd.
"Cau di dy geg!" meddai hwsmon Tre Hwfa, pen ymladdwr Bodedern, gan droi at Wil fel llew, a bygwth ei larpio. Ond gafaelodd dau neu dri o'i gymdeithion ynddo yntau, yn benderfynol o'i atal, os gallent, rhag myned i helynt llanciau'r Dafarn. Nid gwaith hawdd fuasai hynny ychwaith onibai i Wil wrthgilio'n fuan o afael y bygythiwr.
Glawiai dyrnodiau celyd ar fron Twm bach mor ddieffaith a phetai honno yn blât o bres. Daliai ei freichiau hirion yntau i droi fel esgyll melin wynt. Anturiodd Meic gam yn rhy agos, a daeth i wrthdrawiad brwnt ag un o ddyrnau Twm, a chlywyd ef yn tuchan, ac mewn eiliad ysgubai droedfeddi o'r llawr. Rhuthrodd Dic i'r adwy, ond cafodd yntau ddyrnod a ddaeth a thywyllwch dudew i'w wybren heblaw sŵn dyfroedd lawer i'w glustiau. Curwyd dwylo yn y dorf. Yr oedd Twm bach yn dal ei dir.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gzdg1engjbghqohjmweu14tt49sn3di
Tudalen:Madam Wen.djvu/23
104
33236
163543
69027
2026-04-28T08:44:24Z
~2026-25930-42
4126
163543
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Ond dadebrodd Dic, a chododd Meic, wedi ymgynddeiriogi. Aeth y gweiddi o'u cylch yn fyddarol. Neidiodd Meic am Twm fel cath i'w hysglyfaeth, a gwelwyd Dic a Wil Llanfihangel yn ei helpu. Rhwng y tri caed Twm i'r llawr, a phlannodd Meic ei ddannedd yn ei glust, tra ffustiai y ddau arall.
Aeth y twrw o amgylch hwsmon Tre Hwfa yn fwy nag erioed; hwnnw, â llwon bygythiol, am fynnu ymyrryd; am fynnu cadw chwarae teg i'r bychan fel mater o egwyddor, ei gyfeillion yr un mor benderfynol o'i gadw allan o'r twrw, egwyddor neu beidio. Clywyd y dwndwr o'r tŷ, a rhuthrodd pawb allan ond Siôn Ifan.
"Codwch o! Chwarae teg! Maent yn ei ladd yn siwr! Tri yn erbyn un! Chwarae teg! Codwch o!" Dyna a glywid o ddegau o eneuau ar unwaith. Ond nid oedd neb a ymyrrai.
Ar hyn daeth gŵr dieithr Siôn Ifan i'r fan, gan dorri'r dyrfa'n ddwy yng ngrym ei bwysau enfawr. Clywyd ei lais uwchlaw'r dadwrdd a'r oernadau, ac wrth weled ei ysgwyddau eang yn uwch na phennau pawb arall, aeth rhai hanner meddw i ofni mai rhyw ddialydd goruwch—naturiol oedd wedi dyfod.
Gafaelodd yn y pentwr dynionach a chododd hwynt oddi ar y llawr fel y cyfyd dyn gowlaid o raffau gwellt. Ysgydwodd hwynt i'w gwahanu fel y chwâl dyn ysgub o yd. Ciliodd y dyrfa ofergoelus yn ôl, mewn dychryn ac ofn. Daliodd yntau afael ar Twm Pen y Bont, a gosododd ef ar ei draed. Yr oeddynt wedi baeddu llawer ar y bychan. Nid oedd arlliw o'i wyneb i'w weled gan waed a llwch, ac yr oedd ei ddwylo yn resynus. Prin y gallai symud gan gloffni.
Safai Dic a Meic fel dau ddaeargi yn barod i ail— ymosod, ac yn gwylied eu cyfle. Ac wedi i Wil ei hel ei hun at ei gilydd dechreuodd yntau roddi tafod, yn ôl ei arfer, i'r dyn mawr.
"Pwy wyt ti?" meddai hwnnw'n ddigyffro. "Dos di adre'n ddistaw rhag digwydd a fyddo gwaeth i ti."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
g96cll4zmc409zblgxikfiv53nl5r2b