Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.46.0-wmf.26 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Indecs:Bugail y Cwm.djvu 106 84256 163956 2026-05-03T21:10:36Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "" 163956 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Bugail y Cwm |Author= |Publisher= |Year= |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} f12al5fxje4pzkzac5m9us4nxb24ia6 163957 163956 2026-05-03T21:12:17Z AlwynapHuw 1710 163957 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Bugail y Cwm |Author=Robert David Rowland (Anthropos) |Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam |Year=1912 |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} [[Categori:Bugail y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Llyfrau 1913]] [[Categori:PD-old-70]] [[Categori:Tudalen Indecs]] [[Categori:Nofelau]] dcic74bq0uah0xh4edq86egt3anha49 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/1 104 84257 163958 2026-05-03T21:13:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163958 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bugail y Cwm.djvu|canol|600px|tudalen=1]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9wyshwe3wuvijoynreg3zhe4maf83ju Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/128 104 84258 163959 2026-05-03T21:13:57Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163959 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bugail y Cwm.djvu|canol|600px|tudalen=128]]<noinclude><references/></noinclude> m0rtigryg0mpx7sdijluonszy18abw8 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/127 104 84259 163960 2026-05-03T21:14:11Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 163960 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/126 104 84260 163961 2026-05-03T21:14:21Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 163961 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/125 104 84261 163962 2026-05-03T21:14:34Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 163962 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/2 104 84262 163963 2026-05-03T21:14:57Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 163963 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/3 104 84263 163964 2026-05-03T21:15:08Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 163964 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/4 104 84264 163965 2026-05-03T21:15:21Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 163965 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/5 104 84265 163966 2026-05-03T21:15:34Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 163966 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/6 104 84266 163967 2026-05-03T21:19:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163967 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bugail y Cwm (Llwybrau Adgof).jpg|canol|400px|bawd|{{c|LLWYBRAU ADGOF}}]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> n8bwxfptd6t4gyrwm7yave8vvtqs5gs Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/7 104 84267 163968 2026-05-03T21:24:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163968 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{bwlch|3em}}CYFRES Y PORTH PRYDFERTH."—VIII;

{{c|{{Mmmm-mawr|BUGAIL Y CWM:}}}}
{{c|{{Mm-mawr|GAN ANTHROPOS.}}}}
{{center block| <poem> Os mawredd yw coledd cail, Bagad gofalon bugail. :::{{bar|2}}GORONWY OWAIN. </poem> }}

{{c|GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1913.}}

<noinclude><references/></noinclude> 2yrocwf8o1w7nrv11ryaj7ww802n6oy Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/8 104 84268 163969 2026-05-03T21:29:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163969 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|LLYFRAU ANTHROPOS.}} {{c|Cyhoeddedig gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam.}} {{center block| <poem> Oriau Hamdden 6ch. Y Porth Prydferth 1/-, a 6ch. [[Oriau Gydag Enwogion|Oriau gydag Enwogion]]. Gyda Darluniau. 1/-, a 6ch. Ty Capel y Cwm. 1/-, a 6ch. Y Golud Gwell 1/-, a 6ch. Merch y Telynor. 1/-, a 6ch. Y Pentre Gwyn. Gyda Darluniau. 1/- Bugail y Cwm. Gyda Darluniau... 1/- </poem> }}
<noinclude><references/></noinclude> dc4yz8stwro3elt4x4ko7tumcjy9vks Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/9 104 84269 163970 2026-05-03T21:33:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163970 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGAIR YR AWDWR.}}}} TRWY gydgyfarfyddiad amgylchiadau na raid manylu arnynt, hyd-ddenwyd ni i roddi tro i'r ardal wledig y ceisiwyd portreadu rhai o'i phobl a'i helyntion, mewn ystori flaenorol,—TY CAPEL Y CWM. Yn y cyfamser, yr oedd yspaid o flynyddau wedi treiglo heibio, a llawer o bethau wedi newid, ond yr oedd amryw o'r hen drigolion yn aros, a'r sawl oedd yn blant, yng nghyfnod y Tŷ Capel cyntaf, wedi dod yn bennau teuluoedd eu hunain, ac yn gosod eu delw ar fywyd a chynnydd yr ardal. Ni ddiorseddwyd yr hen bethau eto, ond ymwthiai blaen llanw cyfnod newydd i wahanol gyfeiriadau. Amcanwyd desgrifio y cyfnewidiad yn yr ystori sydd yn dilyn,—y modd y symudwyd ymlaen gyda'r "achos," a hynny heb beri anghydfod na thramgwydd. Erbyn hyn, y mae cyfnewidiadau mwy yn cael eu cynllunio, a'r Cwm yn graddol golli ei neilltuolion cyntefig, ac yn dyfod yr un fath a phobman arall. Ar y cyfrif hwn, y mae'n fwy na thebyg mai dyma'r waith olaf i ni son am dano. Gweddus ydyw gadael ei "ddatblygiad" dyfodol i nofelydd arbennig yr ugeinfed ganrif. Dichon y gall ein braslun syml wasanaethu fel rhagymadrodd" i waith mwy a gwell. Yr ydym yn ddyledus i garedigrwydd arferol Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam, yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb o gyhoeddi ein "llyfr bychan," ac i'r Parch. D. O'Brien Owen am ganiatad i ddefnyddio'r darluniau sydd ynddo. Ac wrth gefnu ar y Cwm, a syllu ar "Foel y Rhedyn dan lewyrch machlud haul, yr ydym yn sibrwd geiriau'r Salmydd, -" Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr-Heddwch fyddo i ti." {{c|ANTHROPOS.}} ::''Rhagfyr'', 1913. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> b3f3v93ak1b2tp50yzljboe9qg5i5gw Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/10 104 84270 163971 2026-05-03T21:43:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163971 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNHWYSIAD.}}}} {{center block| <poem> [[Bugail y Cwm/Y Capel Newydd|I. Y CAPEL NEWYDD]] [[Bugail y Cwm/Y Llawr Dyrnu|II. Y LLAWR DYRNU]] [[Bugail y Cwm/Symud Ymlaen|III. SYMUD YMLAEN]] [[Bugail y Cwm/Profi'r Ysbrydion|IV. "PROFI'R YSBRYDION"]] [[Bugail y Cwm/Yr Arwerthiant|V. YR ARWERTHIANT]] [[Bugail y Cwm/Pentre Y Rhyd|VI. PENTRE Y RHYD]] [[Bugail y Cwm/Bardd O'r Cwm|VII. "BARDD O'R CWM"]] [[Bugail y Cwm/Miri Etholiad|VIII. MIRI ETHOLIAD]] [[Bugail y Cwm/Y Dosbarth Diwinyddol|IX. Y DOSBARTH DIWINYDDOL]] [[Bugail y Cwm/Cyfrinach A Darganfyddiad|X. CYFRINACH A DARGANFYDDIAD]] [[Bugail y Cwm/Seiat Y Plant|XI. SEIAT Y PLANT]] [[Bugail y Cwm/Salmau'r Nef|XII. SALMAU'R NEF]] </poem> }}
{{c|DARLUNIAU.}} {{center block| <poem> LLWYBRAU ADGOF{{bar|2}}Wyneb-ddarlun. NEUADD WERDD Y LLWYN YN HAFNAU'R CWM AROS MAE'R MYNYDDAU MAWR </poem> }}
<noinclude><references/></noinclude> l46pe06eeq3lj22c2r0g0a9getwf5l5 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/11 104 84271 163972 2026-05-03T22:00:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163972 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|Mm-mawr|BUGAIL Y CWM:}}}} {{lein|15em}} {{c|{{mawr|PENNOD I.
Y Capel Newydd.}}}} TRO yn ol, pan yn adrodd hanes a digwyddiadau yr achos yn y Cwm, yr oeddym yn treulio y rhan fwyaf o'r amser yn y "Tŷ Capel," pan ydoedd dan ofal calon Marged Parri. Coffa da am dani! Ond, ar ddiwedd y llyfr, dywedasom fod cyfnod arall yn ymyl ymddangos. Yr oedd y brodyr (a'r chwiorydd hefyd) wedi cyd-olygu i gael capel newydd, teilwng o'r achos a'i draddodiadau yn y gorffennol. Ac yr oedd hynny yn tybied cyfnewidiadau lawer. Ond nid arfer pobl y Cwm oedd "rhuthro i mewn nac allan," gyda phethau yn perthyn i'r "achos." Nid oedd brys a ffwdan yn gymeradwy yn eu golwg. "Gwneler popeth yn weddaidd, ac mewn trefn." Ond yr oeddynt ''yn'' symud, er yn araf, ac yn ochelgar, i gyfeiriad y dyfodol. Cytunent ar y prif bethau o'r cychwyn.<noinclude><references/></noinclude> r8mfqz7d4vbb1pmbcekcomwtkvntuor 163973 163972 2026-05-03T22:00:20Z AlwynapHuw 1710 163973 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mm-mawr|BUGAIL Y CWM:}}}} {{lein|15em}} {{c|{{mawr|PENNOD I.
Y Capel Newydd.}}}} TRO yn ol, pan yn adrodd hanes a digwyddiadau yr achos yn y Cwm, yr oeddym yn treulio y rhan fwyaf o'r amser yn y "Tŷ Capel," pan ydoedd dan ofal calon Marged Parri. Coffa da am dani! Ond, ar ddiwedd y llyfr, dywedasom fod cyfnod arall yn ymyl ymddangos. Yr oedd y brodyr (a'r chwiorydd hefyd) wedi cyd-olygu i gael capel newydd, teilwng o'r achos a'i draddodiadau yn y gorffennol. Ac yr oedd hynny yn tybied cyfnewidiadau lawer. Ond nid arfer pobl y Cwm oedd "rhuthro i mewn nac allan," gyda phethau yn perthyn i'r "achos." Nid oedd brys a ffwdan yn gymeradwy yn eu golwg. "Gwneler popeth yn weddaidd, ac mewn trefn." Ond yr oeddynt ''yn'' symud, er yn araf, ac yn ochelgar, i gyfeiriad y dyfodol. Cytunent ar y prif bethau o'r cychwyn.<noinclude><references/></noinclude> jsag9qjuv8n6px8guow9ssan0inyz9n Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/12 104 84272 163974 2026-05-03T22:02:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163974 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd yn rhaid cael capel ''newydd'',—capel wedi ei adeiladu yn gadarn, o'i sail i'w nenfwd, heb lawer o ryw addurniadau celfyddydol,—rhyw "ffigiari" dibwrpas, fel y byddai Shôn William yn arfer eu galw. Nid oedd galeri" yn y deml gyntaf, ond danghosai y cynllunydd fod plan y capel newydd yn galw am oriel o gylch yr adeilad; a chan fod y Cwm yn cynhyddu yn ei boblogaeth, rhagolygon y gwaith ym Moel Rhedyn mor addawol, y dylid darpar digon o eisteddleoedd. Lled amharod oedd yr hen frodyr i gydsynio â'r gwelliant hwn. Ofnent hwy y buasai'r gwasanaeth yn "oeri" wrth rannu'r gynulleidfa yn ddwy adran,—un i fyny a'r llall i lawr. Ond yr oedd Rolant Owen, Bryn Goleu, fel arfer, yn cefnogi y cynhygiad. "Fedra i ddim dringo i'r galeri byth," ebai yr hen flaenor siriol. "Ar y ngore glas y bydda i yn medru codi fy nhroed i'r 'sêt fawr.' Ond mi weles i gapel newydd yn Llawr y Glyn, ac yr oedd yno gôr o bobl ifinc ar front y galeri, ac yn canu fel eosiaid. Yn wirionedd i, mi gês fendith wrth edrych arnynt, a gwrando eu lleisiau ardderchog. Yr ydw i o blaid cael 'galeri' yn y capel newydd, ar bob cyfrif. Peth hyfryd ydi gweld llond capel o wynebau, a digon o le i bawb." Ac felly y bu yn y diwedd. Yr oedd pawb yn gweld mai nid er ei fwyn ei hun yr oedd Rolant Owen yn dadleu o<noinclude><references/></noinclude> rhsl3woa22ketfmaez5rtopcgh32vye Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/13 104 84273 163975 2026-05-03T22:03:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163975 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>blaid yr ychwanegiad pwysig hwn at yr addoldy. Ond un o'r pethau y cafwyd mwyaf o drafferth gydag ef oedd y "Tŷ Capel." Cawsai yr hen dŷ cysegredig ei dynnu i lawr, o angenrheidrwydd, fel y gwnaed gyda'r hen gapel. Ac, yn ffodus, nid oedd y "tir" yn brin, yr oedd y diweddar (ie, y diweddar, bellach) Mr. Meredydd, o Blas y Wern, wedi llwyddo i gael darn newydd o dir gan berchen ystâd y Gwynfaes, a hynny yn rhydd—ddaliadol hyd ddiwedd amser! Nid oedd eisieu cynilo a chrintachu lle i gynteddau'r achos yn y Cwm. Cadeirydd pwyllgor y Capel newydd oedd David Parry, yr hwn ddaethai yn fab yng nghyfraith ac yn olynydd i Mr. Meredydd ym Mhlas y Wern. Nid oedd efe wedi ei alw yn "ddiacon" hyd yn hyn; ond edrychid arno fel un oedd i lanw'r swydd pan ddeuai yr adeg briodol i ddewis "rhagor o swyddogion." Cawsai ei ddewis yn unfrydol i weithredu fel cadeirydd y pwyllgor adeiladu. Nid oedd yn chwenych y swydd, mewn un modd; ond wrth weld yr hen frodyr mor awyddus iddo ymgymeryd â'r gwaith, nis gallai wrthod heb ymddangos yn ystyfnig ac anufudd. Am hynny, cynhygiodd Joseph Jones, ac eiliodd Shôn William, mewn araeth danllyd, fod y brawd David Parry i gael ei benodi yn gadeirydd y gweithrediadau. Yr oedd pawb yn codi eu llaw o blaid y penderfyniad. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> h833k3sr6wukua5gujgdjcvvfwf796w Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/14 104 84274 163976 2026-05-03T22:05:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163976 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond pan ddaethpwyd at fater y "Tŷ Capel," teimlai y cadeirydd ei hun mewn lle cyfyng. Yr oedd y syniad wedi ei feddiannu ef, a rhai o aelodau mwyaf gweithgar yr achos, y dylesid cael gweinidog, neu fugail, i ofalu am y ddeadell. Credai fod yr amseroedd yn galw am hynny, ac na allai y plant a'r bobl ieuainc gael yr hyfforddiant dyladwy mewn gwybodaeth Feiblaidd a duwinyddol heb rywun cymhwys i fod yn arweinydd iddynt, ac i gynnal dosbarthiadau a chyfarfodydd addas iddynt hwy. Ond, yr oedd yn lled sicr yn ei feddwl nad oedd y syniad hwn wedi aeddfedu digon i'w ddwyn i'r golwg, na'i ddadleu, yn yr adeg yr oeddynt yn cydweithio gyda'r capel newydd. Buasai son am "weinidog" yn y cyfwng hwn yn debyg o darfu y gwersyll, a pheri anghydfod a blinder. Ac eto, yr oedd David Parry a'i gyfeillion mynwesol yn credu y deuai y dydd, a hynny yn weddol fuan, i alw gweinidog;" a doeth ydoedd darparu ar gyfer hynny, heb gynhyrfu dyfroedd meddwl hen ffyddloniaid yr achos. "Y peth nesaf i ddyfod dan sylw," ebai'r cadeirydd un noson, "ydyw y 'Tŷ Capel.' Beth fydd ei ffurf a'i faintioli, a'r gôst yr ydym am fynd iddo gyda'i adeiladu? Am yr hen 'Dŷ Capel,' yr oedd hwnnw{[bar|2}}." Daeth rhyw atalfa ar ei lais a lleithder i'w lygaid, a gwelai foreu ei oes yn ymrithio o'i flaen. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> aqsybrj47pnyr9a0ozufvavhken1ack Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/15 104 84275 163977 2026-05-03T22:07:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163977 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Neidiodd Shôn William ar ei draed. "Mae gen inne hiraeth am yr hen 'Dŷ Capel," meddai, un o'r lleoedd dedwyddaf ar y ddaear. A waeth i mi gyfadde'r gwir, y mae yn 'difar gan y nghalon i, lawer diwrnod, fod wedi codi fy llaw i'w dynnu o i lawr. Mi faswn i yn cynnyg ein bod i godi un arall yr un fath a fo yn union,—gardd fach o flaen y drws,—a gofyn i Marged Parri ddwad yn ei hol i edrych ar ein hole ni i gyd." Erbyn hyn, yr oedd David Parry wedi adfeddiannu ei hun. "Yr ydw i yn diolch i'r brawd Shôn William," meddai, "am ei eiriau cynnes a charedig. Yr oeddynt yn cyffwrdd llinynau tyner yn fy meddwl a'm côf. Ond fedrwn ni ddim cael yr hen bethau yn ol. Mae yr hen 'Dŷ Capel' wedi mynd am byth. Ac er i chwi godi un arall yr un fath, nis gellwch ei wneud yr un peth. Y mae mam wedi mynd yn rhy fusgrell i gadw 'Tŷ Capel' byth eto. Ond y mae teimladau dyn yn cael y llaw uchaf arno, er ei waethaf, os eir i gyffwrdd y pethau a fu. Soniai yr hen frawd am yr 'ardd fach'; ie, un fach ydoedd, a bychan iawn oedd y tŷ, o ran hynny. Oni fyddai yn ddoeth ynnom gael y tŷ newydd gryn dipyn yn fwy ac yn eangach na'r un blaenorol? Y mae'r capel newydd i fod yn llawer helaethach. Oni ddylai y 'Tŷ Capel' gael ei wneud yn gymesur â'r adeilad newydd? Felly y mae yn fy nharo i, gyfeillion. Y mae rhyw dŷ<noinclude><references/></noinclude> fcnyrtnb66k4qwy3hn5re3udsvli60b Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/16 104 84276 163978 2026-05-03T22:08:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163978 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bychan, cyfyng ei ystafelloedd, yn lled anghyson âg adeilad eang a golygus, fel y mae'n digwydd mewn rhai mannau." Yr oedd syniadau y llywydd yn wahanol i'r hyn fuasid yn ei dybied ymlaen llaw. Ond gan mai efe wyddai oreu am anfanteision y tŷ blaenorol, cytunwyd â'r awgrym i godi'r tŷ capel newydd ar gynllun gwahanol, os gellid gwneud hynny heb ychwanegu llawer at y draul. Ac felly, yn ddistaw a chynnil, y dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Capel y Cwm. Yn y cyfamser, yr oedd y "moddion" yn cael eu cynnal mewn lle nad ydoedd o'r blaen yn fangre "gysegredig," yn ol syniad rhyw ddosbarth ar y pwnc hwnnw. Ond gellir dweyd gyda sicrwydd iddo ddyfod yn wir gysegredig ym meddyliau y sawl fuont ynddo rhwng y "ddwy oruchwyliaeth,"—cyfnod adeiladu y deml newydd. Nid oedd yn y Cwm un ystafell gyhoeddus y gallesid ei defnyddio ar adeg o'r fath,—dim "neuadd bentrefol,"—fel y gwelir heddyw mewn amryw fannau yn y wlad. Ond yr oedd "ysgubor" helaeth a glanwedd ym Mhlas y Wern, ac yno yr aed âg "arch Duw" am ysbaid, fel y gwnaed yn Israel gynt pan yr arhosai "arch y cyfamod" yn nhŷ Obededom. A lle hwylus, ar lawer cyfrif, i gynnal gwasanaeth crefyddol ynddo ydoedd ysgubor Plas y Wern. Yr oedd yr hin<noinclude><references/></noinclude> fh0xvo9ga1ja6kpddfdy18hgqfftp73 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/17 104 84277 163979 2026-05-03T22:09:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163979 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn hafaidd, canys nid oedd pobl dda y Cwm yn ddigon ffôl i adeiladu eu teml newydd ym misoedd y gaeaf. Dyddorol oedd gweld yr addolwyr, ar fore Saboth, yn dod ar hyd y gwahanol lwybrau i'r odfa. Yr oedd y ffordd yn nes i rai, ac yn bellach, o dipyn, i ereill. Parodd hyn ychydig o drafferthu ynghylch yr amser i gychwyn. Yr oedd un dosbarth,—pobl y pentre,—yn arfer cychwyn am chwarter i ddeg i'r hen gapel. A byddent yn gwneud felly i'r funud, gydag un neu ddau o eithriadau. Ond, dan y drefn newydd, rhaid oedd cychwyn am hanner awr wedi naw. Ond am bobl ochrau'r Cwm, yr oeddynt hwy wedi arfer cychwyn yn gynnar, a chan fod y ffordd yn nes, yr oedd amryw ohonynt wedi cyrraedd Plas y Wern ymhell cyn amser dechreu. Yr oedd Bryn Goleu yn nes i Blas y Wern na'r hen gapel, ac yr oedd hynny yn llawenydd nid bychan i Rolant Owen. Clywid ei lais clochaidd ym muarth y Plas tua naw o'r gloch y boreu, ac elai rhag ei flaen i'r tŷ. Yno, yr adeg hon, y byddai y "pregethwr" yn lletya ar nos Sadwrn, a hoffai Rolant Owen gael tipyn o ymgom gyda'r "genau cyhoeddus cyn mynd i'r moddion. "Fuoch chi yn pregethu ryw dro mewn 'sgubor?" meddai. "Na, nid wyf wedi cael y fraint honno hyd heddyw," ebai'r pregethwr,—dyn lled ieuanc, ac yn gwybod mwy am dref na gwlad. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 15gbz2svqiaikgf9l900y8zffo9idvq Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/18 104 84278 163980 2026-05-03T22:11:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163980 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ie, ie, fel yna mae hi. Mi fydde'r hen bregethwyr yn arfer mynd i leoedd o'r fath, yn aml, yn niffyg capelau, wyddoch. Pregethu mewn tai annedd, ac, weithiau, heb dŷ o gwbl. Ond welsoch chi 'rioed le mor braf ag ydi'r 'sgubor yma i bregethu, ac i wrando hefyd. Pawb yn agos at eu gilydd, a rhyw gynhesrwydd yn y canu, a phopeth. Mi fydda i yn cael rhyw fwynhad,—braidd na fyddai'n mynd yn ysgafn, weithiau, wrth weld y wenoliaid yn picio drwy agenau'r adeilad, a'r adar tô yn canu'n braf ar lintars y drysau. Yr oedd yma un pregethwr yn ddiweddar, ac yr oeddwn yn sicr ei fod yn meddwl am danyn nhw fel finnau. Mi roddodd y pennill hwnnw i'w ganu cyn y bregeth, {{center block| <poem> ::'Hoff gan aderyn tô :::Gael yno i'w gywion le, ::A'r wennol, ar ei thro, :::Hiraetha am ei thre'; Mae hiraeth f' enaid i'r un faint, Am gael preswylio 'mhlith y saint.' </poem> }}
A chanu iawn fu yno. Weles i ddim cymaint o wenoliaid ac adar tô yn y 'sgubor un amser. Yr oedden nhw fel pe yn dallt fod y pennill yn eu 'siwtio' i'r dim." Gyda hyn, clywid Rolant Owen yn clustfeinio ar rywbeth. "Meddwl mod i'n clywed sŵn y cerbyd ar y buarth," medde fo. "Cerbyd pwy? ebai'r pregethwr." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> he4jwbk7elw63tf9jzj0z1myycfk0o5 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/19 104 84279 163981 2026-05-03T22:12:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163981 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"O, cerbyd y Plas yma. Mi glywsoch am Marged Parri, fydde'n arfer cadw yr hen 'Dŷ Capel?'" "Ie, wel, feder hi ddim cerdded i'r moddion, 'rwan, neu mi fuase yn dwad dros y Bont Bren drwy'r Dolau Gleision. Ond y mae Dafydd Parri yn mynd i'w chyrchu yn y cerbyd bach bob boreu Sul, ac yma y bydd hi yn llawn ffwdan yn tendio, yn nyrsio, ac yn gofalu, drwy'r dydd. Mae yr hen ysbryd caredig oedd ynddi yn aros fel cynt, a mi fase 'ma le rhyfedd iawn heb Marged Parri." Wedi cael gafael yn ei ffon, cododd Rolant Owen. Rhaid i mi fynd i'r buarth," meddai, "er mwyn i Marged Parri weld mod i yma o'i blaen." Hen ffyddloniaid anwyl! Y mae'r Saboth a chwithau yn cynghaneddu'n dlws. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> o8uzadygzbbzmj6xouzuhad81a5qyjq Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/20 104 84280 163982 2026-05-03T22:25:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163982 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD II.
Y Llawr Dyrnu.}}}} YR Roedd y cynulliadau yn yr "Ysgubor" yn para'n llewyrchus yn ystod yr adeg y bu yr "achos " heb addoldy, yn ystyr arferol y gair. Braidd nad oeddynt yn fwy lliosog. Deuai rhai yno i wrando nad oeddynt yn arfer mynychu'r gwasanaeth mewn llan na chapel ers blynyddau. Nid oedd "dillad Sabothol" yn meddu cymaint o ystyr yn oedfaon yr ysgubor, a chafodd y "maen tramgwydd" hwnnw ei symud am dymor, os nad am byth. Ymhlith y rhai a ddaethant "o'r newydd" i'r moddion yr oedd Harri Llwyd, Tyddyn Drain. Gweithiwr cyffredin oedd ef, yn arfer ennill ei damaid drwy chwys ei wyneb, wrth dorri ffosydd, tacluso gwrychoedd, a "dyrnu," pan oedd hynny yn y ffasiwn. Ond yr oedd y "ffûst," yn y Cwm, fel mewn mannau ereill, wedi rhoddi ei lle i'r "dyrnwr mawr." Nid oedd y cyfnewidiadau hyn wedi gwella byd Harri Llwyd; ac yn sicr, yr oeddynt wedi chwerwi cryn fesur ar ei dymer. Dichon mai hynny, yn un peth, a barodd iddo gilio o'r capel, a pheidio mynd i unman ar y Saboth, ond nid dyn difeddwl nac anystyriol oedd Harri Llwyd. Darllennai<noinclude><references/></noinclude> sdqocz2inl53d24qehv3a9dl2nr5vlz 164002 163982 2026-05-04T00:53:06Z AlwynapHuw 1710 164002 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD II.
Y Llawr Dyrnu.}}}} YR oedd y cynulliadau yn yr "Ysgubor" yn para'n llewyrchus yn ystod yr adeg y bu yr "achos " heb addoldy, yn ystyr arferol y gair. Braidd nad oeddynt yn fwy lliosog. Deuai rhai yno i wrando nad oeddynt yn arfer mynychu'r gwasanaeth mewn llan na chapel ers blynyddau. Nid oedd "dillad Sabothol" yn meddu cymaint o ystyr yn oedfaon yr ysgubor, a chafodd y "maen tramgwydd" hwnnw ei symud am dymor, os nad am byth. Ymhlith y rhai a ddaethant "o'r newydd" i'r moddion yr oedd Harri Llwyd, Tyddyn Drain. Gweithiwr cyffredin oedd ef, yn arfer ennill ei damaid drwy chwys ei wyneb, wrth dorri ffosydd, tacluso gwrychoedd, a "dyrnu," pan oedd hynny yn y ffasiwn. Ond yr oedd y "ffûst," yn y Cwm, fel mewn mannau ereill, wedi rhoddi ei lle i'r "dyrnwr mawr." Nid oedd y cyfnewidiadau hyn wedi gwella byd Harri Llwyd; ac yn sicr, yr oeddynt wedi chwerwi cryn fesur ar ei dymer. Dichon mai hynny, yn un peth, a barodd iddo gilio o'r capel, a pheidio mynd i unman ar y Saboth, ond nid dyn difeddwl nac anystyriol oedd Harri Llwyd. Darllennai<noinclude><references/></noinclude> 6nd3f0c6rdsre6hbsnc9cdp6vyn20tg Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/21 104 84281 163983 2026-05-03T22:27:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163983 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lawer, yn ol ei gyfleusdra a'i fanteision, a thybid ei fod yn darllen llyfrau nad oeddynt yn cael eu cyfrif yn gwbl uniongred. Nid oedd efe ei hun yn sôn nemawr am hynny, ond yr oedd rhywrai wedi taenu y gair ar led nad ydoedd yr "hen Dyddyn Drain" yn credu yr un fath â'i gymdogion am athrawiaethau yr Efengyl, nad ydoedd yn "iach yn y ffydd." Creodd hyn ddrwg-dybiaeth ym meddwl rhyw ddosbarth sydd yn cyfrif uniongrededd yn gyfystyr a pharchusrwydd. Ond er yn condemnio Harri Llwyd am feddwl yn wahanol iddynt hwy, nis gellid ei feio fel ''gweithiwr'' diwyd ac egniol. Yn y peth hwn, nid oedd ei ragorach yn y fro. Ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn, elai yn gyson i Blas y Wern, a'r ffermydd cyfagos; ond, fel rheol, ni sonid dim am "bethau crefydd" yn ei bresenoldeb. Dywedid fod un ffermwr lled hunan-ddoeth wedi ceisio ei argyhoeddi am esgeuluso'r moddion, ond yr oedd Harri Llwyd yn un anodd ei drin o'r safbwynt hwnnw. Yr oedd y ffermwr yn ŵr pur fydol, ac yn gyrru ei weision yn drwm bob amser, fel nad oedd y Saboth yn gwneud llawer o wahaniaeth yn eu bywyd hwy. "Y mae gen i barch i'r Saboth," ebai Harri Llwyd, "digon o barch i beidio gweithio, beth bynnag, na gorfodi neb arall i wneud hynny. A dyna mae'r Beibl yn ei orchymyn am y Saboth,—<noinclude><references/></noinclude> 5yhpkpb9knrj6skudo4qcsld2ew8t3v Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/22 104 84282 163984 2026-05-03T22:28:44Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163984 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'na wna ynddo ddim ''gwaith'', tydi, na'th was, na'th forwyn.' " Collodd y ffermwr ei dymer. "Mi ŵyr pawb fod yna bethau y rhaid eu gwneud ar y Sul fel pob diwrnod arall. Ond mi ddyle dyn fel chi fynd i ryw le o addoliad, ac nid segura yn y tŷ." "Rhoswch," ebai Harri Llwyd, "nid yw 'segura' yn fy hanes i. Welsoch chi ryw arwydd o hynny yn fy ngwaith? Ac nid segura yr ydw i ar y Sul. Yr wyf yn ceisio defnyddio yr amser i ddarllen a meddwl. Ai segura yr ydych chi yn galw hynny? Ac mi fase yn burion peth i chithau roi cyngor i'r llanciau yma sydd yn eich gwasanaeth i ddarllen mwy, a rhoi ystafell gysurus iddynt i wneud hynny, yn enwedig ar y Sul." "Y musnes i ydi hynny," ebai'r ffermwr, ac nid oes arnaf eisio i chwi na neb arall fy nysgu. A chan mai fel yna yr ydych chwi yn dewis siarad, mi dalaf eich cyflog yrwan, a fydd dim eisieu i chwi ddwad yma eto." Ac felly y bu. Nid oedd Harri Llwyd i'w weld am flynyddau yn y gwasanaeth crefyddol ar y Saboth. Ond yn ystod yr adeg y cynhelid y moddion yn ysgubor Plas y Wern, digwyddodd i Rolant Owen fod yn pasio Tyddyn Drain, ryw foreu Sul yn niwedd haf; ac yr oedd Harri Llwyd yn eistedd gyda'i lyfr yng nghongl yr ardd. "Bore da," ebai Rolant Owen, gyda'i lais mwyn, "wrthi yn darllen, mi wela.<noinclude><references/></noinclude> t4f8e52p2m4eovw0wpiv7crpapckok4 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/23 104 84283 163985 2026-05-03T22:30:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163985 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ac y mae ganddoch chi le ardderchog. Yr ydych yn peri i mi feddwl am yr adnod honno yn Genesis,—' yn yr ardd gydag awel y dydd.' Fydd rhyw 'lais' yn dod atoch chi yn y tawelwch yma weithia? "Beth ydach chi'n feddwl, Rolant Owen? Ai llais yr awel, neu sŵn y gwenyn yma?" "Na, meddwl am lais Rhywun arall yr oeddwn i, y llais a ddaeth i ardd Eden, ac i bob man lle y mae dyn wedi bod, Pa le yr wyt ti? Wyt ti yn dy le? Wyt ti'n gwneud yn iawn?" Ni ddwedodd Harri Llwyd ddim, ond yr oedd difrifwch yn ei lygad. "Mynd i'r moddion yr ydw i," ebai Rolant Owen, "i'r ysgubor, lle yr ydan ni am dipyn nes y bydd y capel yn barod. Dowch efo mi, Harri Llwyd, mi fydd gwell blas ar y llyfr i chi wedi bod yn gwrando'r Efengyl." "Mae cryn amser er pan fuom i yn y moddion, ac y mae arna i ofn y bydd y bobl yn edrych arna i fel dase gyrn ar 'y mhen i." "Peidiwch a gwneud bwgan o beth bychan fel ene," ebai Rolant Owen, "yr yden yn weddol gynefin â 'chyrn" yn y 'sgubor, digon o gyrn bustych o gwmpas y drysau, wyddoch. Dowch, wir, mi fydd yn llawenydd ganddo ni eich cael, ac Ann, y wraig yma, os y gall hi ddod." "Dydw i'n ameu dim am danoch chi, a Dafydd Parry, ond am {{bar|2}}". {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 7jvviov0wtsqc4pno7ci0p6ibgrzrrw Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/24 104 84284 163986 2026-05-03T22:31:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163986 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Welwch chi, Harri bach, ddowch chi byth os ewch i lochesu rhyw feddyliau fel yna. Trwy lawer o orthrymderau' y rhaid iddi fod o hyd. Mi fydda i yn mynd i'r moddion fy hun, lawer adeg, yn ddigon drwg fy hwyl; ond wedi canu ambell i bennill, mi fydd y cwbl yn diflannu fel eira'r llynedd. 'Rwan am dani, frawd, neu fyddwn i ddim yno mewn pryd." Yr oedd Harri Llwyd wedi gwisgo ei ddillad Sul. Gwnai felly bob amser, er nad oedd yn cyrchu i'r gwasanaeth. Cododd o'i eisteddle, ac aeth â'i lyfr i'r tŷ. Yr oedd Ann Llwyd yn tacluso y gegin ar ol brecwast. "Yr ydw i'n mynd efo Rolant Owen," meddai Harri Llwyd. "Mae'n dda gen i glywed," ebai Ann. (Yr oedd hi wedi "clywed" tipyn o'r sgwrs yn yr ardd). Estynnodd yr het a'r cadach poced, a thynnodd y brws dros ei ddillad goreu. "Mi newch y tro, 'rwan, ac mi fydd y cinio ar y bwrdd erbyn y dowch yn eich ol." Yr oedd Ann Llwyd yn deall y sefyllfa, a gwyddai mai ychydig eiriau oedd yn gweddu ar y pryd. Aeth at lidiart yr ardd i ysgwyd llaw a Rolant Owen. "Cymrwch ofol o hono fo," ebai hi, "hwyrach y caiff o fynd i 'sêt Bryn Goleu." Chwarddodd Rolant Owen. "Ann bach," meddai, " yr wyt ti wedi gollwng yn ango mai yn y 'sgubor yr<noinclude><references/></noinclude> kqr7q69y65tdinanbd3c3pvtyzoc6u0 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/25 104 84285 163987 2026-05-03T22:32:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163987 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yden ni. 'Does acw ddim 'sêt' o gwbl, —pawb ar y meinciau yn gyfforddus, a phawb yr un fath a'u gilydd. wranta dy fod wedi clywed am 'gythrel y seti.' Ond er mor gethin ydi hwnnw, feder o ddim dwad i'r 'sgubor, —'does yno ddim 'seti,' a rhaid i'r ysbryd drwg fynd i rywle arall. Wel, dyma ni'n cychwyn. Bore da, Ann, hwyrach y deui dithau y Sul nesa'." "Mi gawn weld," ebai Ann Llwyd, " ond os bydd o yn mynd, dydi o ddim yn debyg y medra i aros yma ar 'y mhen fy hun." Yr oedd Ann Llwyd, pan yn ferch ieuanc, wedi bod yn forwyn ym Mryn Goleu, ac oddi yno y priododd. "Un o'r lodesi gore fu acw erioed," meddai Rolant Owen am dani, a pharhai i'w chyfarch fel y gwnelai yn y dyddiau gynt. "Cofia di, Ann, am fod yn barod, os cawn ni fyw, y Sul nesa." Oherwydd y pethau a adroddwyd uchod, yr oedd Rolant Owen a'i gydymaith yn ddiweddarach nag arfer yn cyrraedd Plas y Wern y boreuddydd hwnnw. Yr oedd Marged Parri wedi cyrraedd ers meityn. Daeth yn amser dechre, ond nid oedd yr hen flaenor selog wedi cyrraedd. Peth rhyfedd iawn! Aed i'r 'sgubor, a rhoddodd y pregethwr bennill i'w ganu, {{c|"Melus yw dydd y Saboth llon."}} A melus ydoedd y boreu hwnnw, anian yn ei thlysni a'i harddwch. Ar<noinclude><references/></noinclude> f6o6xh7z61o8rt7c9hzigasssqba6p4 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/26 104 84286 163988 2026-05-03T22:33:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163988 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ganol y pennill, llithrodd Rolant Owen a'i gyfaill i fainc yn agos i ddrws agored yr ysgubor, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa a'u cefnau atynt. Mwynhaodd Harri Llwyd y gwasanaeth yn fawr, ac yr oedd llawer o feddyliau yn ymdaith heibio iddo, fel y gwenoliaid drwy agenau'r adeilad. Cofiai am dano ei hun yn dyrnu yn yr ysgubor, ac yn deol yr ûs oddiwrth y gwenith. Ac yn hynod, iddo ef, dyna oedd testyn y pregethwr y bore hwnnw, Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr-dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'r ysgubor: eithr yr ûs a lysg efe â thân anniffoddadwy." Yr oedd cyd-darawiad amlwg rhwng yr adnod a'r lle yr oeddynt ynddo. Soniai'r pregethwr am waith y "wyntyll," ac am llawr-dyrnu." Soniodd am glanhau" a'r "casglu" sydd i fod ar wenith Duw. "Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law." Braidd nad oedd Harri Llwyd yn clywed sŵn ei hesgyll. Ond dyna lais y pregethwr yn toddi ac yn tyneru. "Yn llaw'r Gwaredwr y mae'r wyntyll heddyw,—'y Gŵr a fu gynt o dan hoelion.' Fel yna y mae yr hen bennill yn dweyd,—y Gŵr sydd imi yn ''ymguddfan,'' yn gysgod rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymhestl, Efe sydd yn dal y wyntyll yn ei law. Gwnawn yn fawr o'r 'llawr-dyrnu,' yno y mae'r Iesu yn glanhau ac yn cymhwyso'r gwenith i'w ysgubor." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> eleqmvxct3zoea0xa8l4pdiuh00404x Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/27 104 84287 163989 2026-05-03T22:33:44Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163989 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ar derfyn y bregeth, galwyd seiat am ychydig funudau;" ac wedi i amryw fynd allan, gofynwyd, yn ol yr arfer, a oedd rhywun wedi aros ar ol." Ar y funud, dyna Rolant Owen ar ei draed. "Mae yma frawd yn y fan yma," meddai, "Harri Llwyd, Tyddyn Drain. Ond nid y drain sydd i gael ei sylw o hyn allan,—nid y drain, ond y gwenith. Yr ydw i yn cynnyg ein bod yn ei dderbyn, yn ol ein dull arferol, fel aelod ar brawf," ac yn gobeithio y cawn ni groesawu ei briod yma ar fyrder. Diolch am y 'llawrdyrnu,' ac am y Gŵr sydd a'r wyntyll yn ei law!" Cafodd Harri Llwyd ei dderbyn yn siriol, a phan aed allan, yr oedd y brodyr a'r chwiorydd yn gwasgu ato, ac yn ysgwyd llaw yn gynnes. Yr oedd Marged Parri yn crefu arno aros ym Mhlas y Wern i "gael tamaid o ginio." "Diolch i chwi," meddai, "ond mi fydd Ann yn disgwyl." "Ie," meddai Rolant Owen, "digon naturiol ydi hynny, a chofiwch chi ddweyd ar ol cyrraedd adre y byddwn ninnau yn disgwyl Ann efo chi y Sul nesa'." Saboth cofiadwy oedd hwnnw, a daeth "blodau hyfryd i fywyd a phrofiad Harri Llwyd. Bu ei briod ac yntau yn ffyddlon hyd angeu. Daeth efe yn flaenllaw yn y deml newydd ar ol ei gorffen; ond, pan yn adrodd ei hanes crefyddol, am y "Llawr Dyrnu" y byddai yn debyg o grybwyll. Yn y<noinclude><references/></noinclude> 8qtv9wgvi4bmyw2yegqs76ltnibc1oj Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/28 104 84288 163990 2026-05-03T22:34:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163990 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'sgubor, lle y buasai yn dyrnu gwenith, y cafodd olwg ar y Gŵr sydd a'r "wyntyll yn ei law." Canys nid âg ôg y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn menn ar gwmin." A thrwy foddion tyner yr oedd y goreu yn enaid Harri Llwyd i gael ei gasglu i'r ysgubor. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tj20s5wxtwyxam0v90df3qd7j8p9i22 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/29 104 84289 163991 2026-05-03T23:30:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163991 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{c|{{mawr|PENNOD III.
Symud ymlaen.}}}} AWN heibio i hanes agoriad y deml newydd, canys y mae yr adroddiad wedi ei gyhoeddi'n weddol gyflawn yng nghylchgrawn misol yr enwad. Cafwyd cyfarfod pregethu, yn ol y ddefod ar adegau o'r fath; ac, yn ol yr adroddiad uchod, yr oedd yr oedfaon yn llewyrchus a'r casgliadau at ddi-ddyledu'r capel yn sylweddol. Ac nid gormodiaeth oedd hynny. Wedi mantoli'r cyfrifon, nid oedd ond deucant o bunnau yn aros o'r ddyled ar y capel a'r adeiladau. A chafodd y swm hwnnw ei addaw yn ddi-lôg gan frawd o'r eglwys, ar yr amod fod yr oll o'r ddyled i gael ei chlirio yn ystod y tair blynedd dilynol. Yn lled fuan, aed at y gorchwyl oedd wedi cael ei awgrymu ers tro,—galw rhagor o flaenoriaid. Teimlai'r brodyr oedd yn y swydd fod eu nifer yn rhy fychan i gyfarfod â'r gwaith, ac mai mantais i'r achos fuasai symud ymlaen yn y cyfeiriad hwn. Siaradwyd ar y mater yn y seiat, a gofynnodd Joseph Jones am ganiatad yr eglwys i fynd a'r achos i'r Cyfarfod Misol. Nid oedd pawb o'r brodyr yn codi eu llaw, rhag ofn i rywrai dybied eu bod hwy yn awyddu am y swydd. Ond gwnaed y diffyg hwnnw i<noinclude><references/></noinclude> nvdkro1x911gn0fj2qmiw9gmgve3qmn 163992 163991 2026-05-03T23:31:23Z AlwynapHuw 1710 163992 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD III.
Symud ymlaen.}}}} AWN heibio i hanes agoriad y deml newydd, canys y mae yr adroddiad wedi ei gyhoeddi'n weddol gyflawn yng nghylchgrawn misol yr enwad. Cafwyd cyfarfod pregethu, yn ol y ddefod ar adegau o'r fath; ac, yn ol yr adroddiad uchod, yr oedd yr oedfaon yn llewyrchus a'r casgliadau at ddi-ddyledu'r capel yn sylweddol. Ac nid gormodiaeth oedd hynny. Wedi mantoli'r cyfrifon, nid oedd ond deucant o bunnau yn aros o'r ddyled ar y capel a'r adeiladau. A chafodd y swm hwnnw ei addaw yn ddi-lôg gan frawd o'r eglwys, ar yr amod fod yr oll o'r ddyled i gael ei chlirio yn ystod y tair blynedd dilynol. Yn lled fuan, aed at y gorchwyl oedd wedi cael ei awgrymu ers tro,—galw rhagor o flaenoriaid. Teimlai'r brodyr oedd yn y swydd fod eu nifer yn rhy fychan i gyfarfod â'r gwaith, ac mai mantais i'r achos fuasai symud ymlaen yn y cyfeiriad hwn. Siaradwyd ar y mater yn y seiat, a gofynnodd Joseph Jones am ganiatad yr eglwys i fynd a'r achos i'r Cyfarfod Misol. Nid oedd pawb o'r brodyr yn codi eu llaw, rhag ofn i rywrai dybied eu bod hwy yn awyddu am y swydd. Ond gwnaed y diffyg hwnnw i<noinclude><references/></noinclude> 5vblnyvcds7shd9kynxa041vkmc5a9p Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/30 104 84290 163993 2026-05-03T23:33:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163993 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fyny gan y chwiorydd a'r bobl ieuainc, a chaed fod y "mwyafrif" o blaid y cynhygiad. Yn y cyfamser, anfonwyd y "cais" o eglwys y Cwm i'r Cyfarfod Misol, drwy law Edward Puw. Nid oedd yr hyn elwir yn Bwyllgor y "Cenadwrïau" wedi dod i fod yn y dyddiau hynny. Trosglwyddid pob cenadwri yn uniongyrchol i'r cyfarfod, yng ngwyddfod yr holl aelodau. A phan gododd Edward Puw i draethu ei neges, cafodd dderbyniad siriol. Dywedai'r llywydd eu bod, fel brawdoliaeth, yn llawenhau wrth weld y cyfeillion yn y Cwm yn mynd rhagddynt. Yr oedd ganddynt gapel newydd hardd, ac yr oeddynt wedi dangos haelfrydedd eithriadol ynglŷn â'r gwaith o dalu am dano. Bellach, yr oeddynt am gyfnerthu y swyddogaeth, capel newydd a blaenoriaid newydd. Beth nesaf, tybed? "Gweinidog newydd," ebai George Lewis, un o leygwyr mwyaf goleuedig yr ardaloedd. "Daeth gwên i wyneb y llywydd. Awgrym dda iawn," meddai, "hwyrach y bydd Edward Puw mor garedig ag adgoffa eich sylw ar ol iddo fynd adref. Ond un peth ar y tro. Yr hyn sydd yn ofynnol yn awr ydyw enwi dau neu dri o frodyr i gymeryd llais yr eglwys ynglŷn â dewis rhagor o flaenoriaid." Cyn i neb gael amser i gynnyg fod "y personau a ganlyn" i wneud y gwaith, cododd Edward Puw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> n14o0cpbxbujjsx9y5fr5x4i8x3y0ao Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/31 104 84291 163994 2026-05-03T23:34:30Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163994 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Os nad wyf yn afreolaidd," meddai, "ac yr ydw i yn siarad dros y brodyr acw, mi f'aswn yn cynnyg y Parch. Jacob Davies yn un. Y mae o yn ein hadnabod, ac yn deall ein hamgylchiadau yn drwyadl." "Y mae hynny yn ddigon o reswm dros benodi Mr. Davies," ebai'r llywydd. "Pwy arall?" Cynhygiwyd a chefnogwyd, a phasiwyd yn unfrydol fod enwau y Parch. William Richards, Llwyn Bedw, a Mr. George Lewis, yr Hafod, i gael eu 'chwanegu at yr eiddo Jacob Davies fel cynrychiolwyr dros y Cyfarfod Misol. Wedi i Edward Puw gludo ei adroddiad i'r frawdoliaeth yn y Cwm, daeth y peth yn bwnc y dydd. Dyna oedd byrdwn yr ymddiddanion, a gofynnai y naill i'r llall," Pwy ydech chi am eu henwi?" Gofynnid hynny i un neu ddau o frodyr ag y tybid eu bod yn chwenych y swydd," er mwyn eu gweld yn dangos anesmwythder. Yr oedd un ffermwr wedi rhoddi y "wedd " i gludo cerrig at y capel newydd, a chan nad ydoedd wedi bod yn neilltuol am ddim gyda'r achos yn flaenorol, awgrymid ei fod yn cadw ei lygad ar y "sêt fawr." Tebyg nad oedd dim sail i'r dybiaeth honno, ond dyna ddull y byd hwn o feddwl, a barnu, yn bur aml. Elai rhai lled chwilfrydig i weithdy'r crydd i gael barn Shôn William ar y mater. Ond yr oedd efe yn lled dawedog, yn<noinclude><references/></noinclude> bznrsh5fh239vcjph7oy0ozmbrjl39a Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/32 104 84292 163995 2026-05-03T23:35:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163995 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fwy felly nag arfer. Nis gellid ei " dynnu allan," fel y dywedir. Ceisiodd un neu ddau o'r bechgyn" wneud hynny drwy ofyn cwestiwn, "Pwy ydech chi'n feddwl fuasai yn gwneud blaenoriaid da, Shôn William? Yr ydan ni yn ifanc a dibrofiad, ond y mae ganddoch chi farn ar bethe, ac y mae eich barn chi yn werth ei chael bob amser." Ond "nid âg ûs y delir hen adar." Yr oedd yr hen frawd yn ddigon craff i weld drwy y cynllwyn, ac ni fynnai gael ei arwain i'r rhwyd. "Fydda i byth yn deyd fy marn ar bersonau," meddai. "Pey buasech yn gofyn am eglurhad ar ryw bwnc o athrawiaeth, gwnawn fy ngoreu i'ch goleuo a'ch arwain at y gwirionedd. Ond gyda mater fel hwn,—dewis blaenoriaid,—rhaid i chi ddysgu meddwl drostoch eich hunain. Ac os cym'rwch fy nghyngor i, peidiwch a siarad gormod am y peth, neu fe greda rhywrai fod arnoch eisieu mynd yn flaenoriaid eich hunain. Hyn a ddywedaf, y mae eglwys y Cwm wedi cael blaenoriaid campus hyd yma, a gobeithio y bydd y brodyr a ddewisir yr wythnos nesa' o gyffelyb ysbryd a gras." Chwareu têg i'r bechgyn, yr oeddynt yn hoffi cael tipyn o "hwyl," ond nid oedd malais yn agos atynt. Cafodd geiriau Shôn William effaith ar eu meddyliau.<noinclude><references/></noinclude> c9u7xpgkau2e4ki6o7e49v1otlswaca Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/33 104 84293 163996 2026-05-03T23:37:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163996 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwelsant ef ei hun, rywfodd, mewn goleuni newydd. Rhoddodd hynny syniad newydd i un ohonynt. Wyddost ti beth," ebai Wmphre Cae Haidd, "yr ydw i am roi fôt i'r hen frawd. Mae o yn un o'r dynion mwya galluog yn y capel, ac y mae ei ysbryd wedi altro yn rhyfedd er pan fu'r dyn hwnnw o sir Aberteifi yn pregethu yma ar 'Elias yn yr ogo'.' " "Yr ydw i yr un feddwl yn hollol," ebai Ifan Berth Ddu. "Ond—ydi o 'n peidio bod dros yr oed, dywed? Yr oedd Rolant Owen yn siarsio arnom ni feddwl am ddynion heb fod yn hen, dynion yn eu man gore, fel y dywedai, er mwyn iddyn' nhw fedru rhoi eu gore gyda'r achos." "Tydi Shôn William ddim hynach na Rolant Owen, a 'does neb yn sôn am ei henaint ef. A dase Shôn William yn llai anibynnol ei ddull, ac yn hawddach ei drin, mi fase, yn ol pob tebyg, wedi cael ei ddewis yr un amser a Rolant Owen. Ond y mae o wedi altro, Ifan, y llew wedi mynd fel oen bach. Yr ydw i am fotio iddo fo, dase neb arall yn gwneud." Felly finne," ebai Ifan, "a hwyrach fod llawer yn meddwl yr un fath, o ran hynny." Wrth fynd adref, yr oeddynt yn pasio ''Rose Cottage'', cartref Marged Parri ar ol iddi ymado o'r hen "Dŷ Capel." Nid ydoedd yn hwyr, a throisant i mewn i edrych am dani. Yr oedd y bobl ieuainc, yn feibion a merched, yn hoff o<noinclude><references/></noinclude> 37xhfyxz59g52j0opnlxt3a7qi14xb9 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/34 104 84294 163997 2026-05-03T23:38:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163997 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gael ymgom efo Marged Parri, ac yn ymddiried ynddi am lawer cyfrinach. Yr oedd hithau yn dra gochelgar gyda phwnc y "galw blaenoriaid." Ond pan ddywedodd un o'r bechgyn eu bod wedi meddwl am Shôn William, ac iddi hithau ddeall eu bod o ddifri, dywedodd, — "Yr ydw i yn meddwl eich bod o gwmpas eich lle," meddai. Dyn da ydi Shôn William. Yr oedd o felly bob amser; ond y mae'n bosib i bobl dduwiol, ar adegau, golli naws crefydd oddiar eu hysbryd. Trin 'pwnc' oedd popeth ganddo yntau am flynyddau. Ond, 'rwan, y mae pob arwydd fod y 'pwnc yn ei drin ef. Y mae ei 'brofiad' wedi altro, a phob pregethwr ddaw yma yn ei 'blesio,' os bydd o yn sianel yr hen Efengyl. Dydw i ddim yn meddwl am funud fod Shôn William yn dychmygu am gael ei godi'n flaenor, erbyn hyn, ond mi fase'n dda gan 'y nghalon i dase'r eglwys yn ei alw i'r swydd. Ac mi ddeyda ragor, dase Harri Llwyd, Tyddyn Drain, wedi dwad ato ni dipyn yn gynt, mi faswn yn rhoi fy fôt iddo yntau. Sut bynnag, mi ga i fy siomi yn fawr os na thrŷ Harri Llwyd yn un o'r dynion mwya' defnyddiol, yn enwedig efo'r Ysgol Sul." "Wel, diolch i chi am alw, fechgyn; ond waeth i chi heb sôn am hyn wrth bobol yr ardal yma. Gadewch i ni obeithio y caiff yr eglwys 'arweiniad' gyda'r gwaith." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> s5n3wxnw66ia8rsaccb99tafibgtjuz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/35 104 84295 163998 2026-05-03T23:39:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163998 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan ddaeth y noson ddisgwyliedig, yr oedd y cynulliad yn dra lliosog, ac yr oedd cynrychiolwyr y Cyfarfod Misol yn y "sêt fawr." Nid oedd yr un ohonynt wedi bod yn y "capel newydd" o'r blaen, ag eithrio'r Parch. Jacob Davies. Yr oedd efe, ar gyfrif hen gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch, wedi cael y fraint o draddodi'r bregeth "gyntaf " yn y deml newydd. Nid oedd pobl y Cwm yn credu mai arddunol yw y pell ar bob achlysur. Medrent werthfawrogi yr agos; ac nid oedd eu llygaid yn eithafoedd y byd" gyda gweinidogaeth y Gair. Ar y cyfrif hwn, ei fod yno mor fynych,—mynnai Jacob Davies roddi yr holl amser i'r ddau frawd arall. Siaradodd y ddau yn wresog ac ymarferol. Gosodent bwys ar feddylgarwch ac arfer cydwybod; peidio gadael i deimlad na mympwy gymylu barn a phwyll. Yr oedd George Lewis yn awyddus am iddynt alw brodyr deallus ac eang eu syniadau, dynion yn edrych ymlaen gyda chrefydd, ac yn deall arwyddion yr amseroedd. Dylai blaenor fod yn arweinydd, ac yn barod i roesawu pob goleuni newydd ar y Beibl ac ar gwestiynau mawr bywyd. Ar derfyn yr anerchiadau, aeth y cynrychiolwyr i'r festri newydd, derbynient y pleidleisiau yn y dull arferol. Ac wedi i'r gwaith gael ei orffen, daethant yn ol i'r sêt fawr. Nid oedd angen gofyn am ''ddistawrwydd,''<noinclude><references/></noinclude> 2p2qzdilp7mrtyihic6kr797l2n0b2x Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/36 104 84296 163999 2026-05-03T23:39:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 163999 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>canys yr oedd y peth ei hun yno yn barod, distawrwydd perffaith. Hysbysodd George Lewis fod pedwar o frodyr wedi derbyn y nifer angenrheidiol o bleidleisiau, ac yna darllennodd eu henwau fel y canlyn,—David Parry, John Williams, Edward Edwards, ac Evan Rhys. Yr oedd golwg ddyddorol ar wynebau'r gynulleidfa, —y mwyafrif yn foddhaus, ereill yn awgrymu syndod, a hwyrach fod cysgod siom ar ambell un! Cododd y Parch. Jacob Davies i longyfarch yr eglwys ar y dewisiad. Yr ydych wedi sicrhau gwasanaeth brodyr cymhwys," meddai, "yr wyf yn eu hadwaen oll. Nid oes yr un ohonynt yn 'newyddian yn y ffydd,' er fod dau yn gymharol ieuanc, a mantais iddynt hwy ac i'r eglwys a fydd hynny. Yr oedd Edward Edwards, Melin y Rhyd, er ei holl ofalon, yn un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r achos, ac yn bleidiwr selog i bob mudiad da yn yr ardal. Ac am—wel, rhaid i mi, fel hen ffrynd, gael arfer yr enw cartrefol—am Shôn William, y mae'n llawenydd calon i mi weld fod yr eglwys wedi ei ddewis yn 'flaenor.' Cawsom lawer dadl frwd, ac un anodd ei orchfygu mewn dadl ydyw efe. Ond y mae ar grefydd Iesu yn y dyddiau hyn angen dynion yn deall athrawiaethau mawr yr Efengyl, dynion sydd yn medru gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, ac yn 'gadarn yn yr Ysgrythyrau. " {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 466vwfxp1ubrutb1e9u04lpcodzu36m Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/37 104 84297 164000 2026-05-03T23:54:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164000 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd Rolant Owen yn "porthi'r gwasanaeth" â'i holl galon, a phan soniai Mr. Davies am "Shôn William," curai y llawr gyda'i ffon, i arwyddo ei gymeradwyaeth. Edrychai Shôn William ei hun fel gŵr wedi synnu, a phan ofynwyd a oedd yn cydsynio â'r alwad, nis gallai ddweyd gair. Cododd Joseph Jones i ddiolch i'r cynrychiolwyr am ddyfod yno, ac am y cynghorion gwerthfawr roddwyd ganddynt i'r eglwys. Cydnabyddwyd hyn gan George Lewis, a throes yn sydyn at Joseph Jones, "Yden ni wedi gwneud ein gwaith yn ddigon da i gael 'cyhoeddiad' yma eto?" meddai. Edrychai Joseph Jones yn lled hurt, ond atebodd Rolant Owen, "Dowch yma pan fynoch chi," meddai, "ond dyda ni ddim yn codi blaenoriaid fel codi tatws." "Na, nid at godi blaenoriaid yr oeddwn i yn cyfeirio," ebai George Lewis, "ond at y peth ddeydais i yn y Cyfarfod Misol. Yr ydw i yn disgwyl y byddwch chi fel eglwys yn symud ymlaen i alw ''gweinidog''." Ac fel yna y terfynodd y gwasanaeth y noswaith honno. Yr oedd George Lewis wedi bwrw hedyn i faes meddwl yr eglwys. A ydoedd i gael dyfnder daear? Cawn weld. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2hho45kdf4bl2h86o50v8b3s2o3c0gj Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/38 104 84298 164001 2026-05-04T00:51:52Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD IV.
"Profi'r Ysbrydion."}}}} YR oedd eglwys y Cwm wedi arfer dibynnu ar y "weinidogaeth deithiol," ac yn credu mewn newid doniau ar y Saboth. Tybid fod unwaith yn y flwyddyn yn gylchdro cyfaddas i'r gwahanol bregethwyr a ddeuent i'r daith. Deuent yno, fel rheol, ar gyfer yr un adegau, rhai yn y gaeaf, ac ereill yn yr haf. Prin yr oedd eisieu "taflen cyhoeddiadau y pryd hwnnw. Gwyddai y bobl ymlaen llaw pwy oedd i... 164001 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IV.
"Profi'r Ysbrydion."}}}} YR oedd eglwys y Cwm wedi arfer dibynnu ar y "weinidogaeth deithiol," ac yn credu mewn newid doniau ar y Saboth. Tybid fod unwaith yn y flwyddyn yn gylchdro cyfaddas i'r gwahanol bregethwyr a ddeuent i'r daith. Deuent yno, fel rheol, ar gyfer yr un adegau, rhai yn y gaeaf, ac ereill yn yr haf. Prin yr oedd eisieu "taflen cyhoeddiadau y pryd hwnnw. Gwyddai y bobl ymlaen llaw pwy oedd i ddod, a pha bryd y digwyddai eu dyddgylch, fel y gwyddent am adeg ffair a marchnad. Ond er fod y trefniant hwn wedi gweithio yn ddigon esmwyth am flynyddau maith, yr oedd amgylchiadau yr eglwys a gogwydd yr amseroedd yn distaw arwain at gyfnewidiad. Yr oedd eglwysi ereill wedi "galw brodyr i'w gwasanaethu fel bugeiliaid." Un o'r cyfryw oedd y Parch. Jacob Davies; ac efe a elwid yn gyffredin i'r Cwm pan fyddai angen gwasanaeth "gweinidog" ar achlysuron arbennig. Daeth achos o'r fath dan sylw, un noson, yn y cylch swyddogol; ac erbyn hynny, yr oedd y blaenoriaid newydd wedi eu cyflawn urddo. Cynhygiodd Joseph Jones eu bod yn anfon cais at Mr. Jacob Davies, fel arfer. "Yr wyf yn cefnogi hynny am y tro," ebai David Parry, "ac nid oes ungwr у mae gennyf fwy o barch iddo fel gweinidog yr Efengyl na Mr. Davies. Ond paham y rhaid i ni fenthyca gweinidog o eglwys arall yn barhaus? Onid ydyw'n bryd i ni alw rhywun i'n gwasanaethu yn gyfangwbl?" "Yr ydech chi wedi mynd i gredu yr un fath a George Lewis," ebai Shôn William. "Yr oeddwn i 'n credu hynny cyn iddo ef fod yma," ebai David Parry. "Ac mi ddylech chithe gredu hynny bellach, oherwydd yr ydych chi yn cyfri fod Doctor Edwards yn ei le ar bob pwnc duwinyddol, a 'does neb wedi ysgrifennu yn gryfach ar fugeiliaeth eglwysig nag efe." Yr oedd parch Shôn William i enw Doctor Edwards mor ddwfn fel nas gallai lai na derbyn ei ddysgeidiaeth ar faterion eglwysig, yn ogystal a phynciau athrawiaethol. Gwyddai David Parry am ei edmygedd, a defnyddiodd ei wybodaeth i'w ddiarfogi y noswaith honno. "Oes ganddoch chi rywun mewn golwg?" ebai Evan Rhys. "Nac oes," ebai David Parry, "yr wyf yn gadael hynny yn hollol i farn yr eglwys." "Ond sut y mae'r eglwys i ffurfio ei barn?" ebai Joseph Jones. Q "Beth a ddywedwch chi ar hyn, Rolant Owen?" "Chewch chi ddim gwell at wneud hynny na chyngor yr Apostol Ioan," ebai Rolant Owen. "Beth ydi hwnnw?" "Profwch yr ysbrydion." Cymerwyd yr awgrym. Rhoddwyd y mater gerbron yr eglwys, gydag anogaeth i feddwl am dano hyd nes y ceid gweledigaeth eglur. Ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd dilynol, yr oedd yr "ysbrydion gwasanaethgar " a ddeuent ar eu hymdaith Sabothol i'r Cwm, yn cael eu profi," er nas gwyddent hynny eu hunain. Yn y cyfamser, yr oedd y Tŷ Capel wedi ei orffen, a dechreuai rhywrai ddyfalu beth oedd gan David Parry mewn golwg pan yn dadleu yn y Pwyllgor am iddo fod yn helaethach, ac yn well adeilad na'r un blaenorol. Yr oedd efe yn arfaethu iddo fod yn "Dŷ Gweinidog," er nad oedd neb arall, o bosibl, yn meddwl am hynny ar y pryd. Nid oedd neb yn ei gyhuddo o dwyll-ymresymiad; ond yr oeddynt yn awgrymu, yn hanner chwareus, fod byw yn yr Amerig wedi gwneud David Parry yn ddyn oedd yn medru gweld gryn dipyn o'i flaen. Fodd bynnag, yr oedd y "tŷ" yn barod. Ond beth am y gweinidog oedd i fyw ynddo, ac i fugeilio'r praidd? Yr oedd amryw frodyr cymeradwy wedi bod yn gweinidogaethu yn ystod y cyfnod yr ydys yn son am dano. Eithr ni ddaeth y weledigaeth eglur y disgwylid am dani. Yr oedd rhai yn dechreu anesmwytho, ac yn awgrymu ei bod yn llawn bryd cael rhywun i fyw i'r "tŷ" newydd. "Na," meddai Rolant Owen, "gwell ydyw cymeryd pwyll. Fydda i 'n meddwl am hanes Samuel yn mynd i chwilio am frenin ar Israel. Yr oedd o yn gweld meibion Jesse yn fechgyn nobl iawn. Ond yr oedd rhyw lais yn dweyd wrth yr hen broffwyd, —'Cadw'r corn olew am dipyn eto. Dydi'r brenin ddim wedi dwad i'r golwg.' Ond pan ddaeth y llanc gwridgoch i'r tŷ, a ffon y bugail yn ei law, dyma'r llais yn sibrwd yng nghlust Samuel,—' 'Rwan am dani. Dyma'r dyn, eneinia ef.' Ryfeddwn i ddim na fydd rhywbeth tebyg yn hanes yr eglwys yma cyn bo hir." Tybed fod ysbryd proffwydo wedi disgyn ar hen sant Bryn Goleu? Pam lai? Yr oedd efe yn cerdded llwybr y gweledigaethau, a'i lygaid tua'r wawr. Un Saboth, yn nechreu'r gwanwyn, yr oedd gweinidog oedrannus, o'ran arall y sir, wedi methu dod i'w gyhoeddiad, a gŵr ieuanc, newydd orffen ei dymor yn yr athrofa, wedi dod yno yn ei le. Ei enw ydoedd Meredydd Owen, mab i dyddynwr bychan yn ardal Glyn Têg. Yr oedd wedi bod yn y Cwm yn ystod ei "flwyddyn brawf," a gwyddai David Parry, ac ereill, ei fod yn sefyll yn uchel yn ei arholiadau. Cafodd Saboth cysurus, er ei fod yn teimlo mai llanw bwlch yr ydoedd, a bod yr hen weinidog a ddisgwylid yn ŵr o ddylanwad yn holl gylchoedd ei swydd. Pregethodd yn syml a hollol ddiymhongar. Yr oedd ei genadwri, yn fwyaf neilltuol, at fywyd ieuanc yr eglwys a'r gynulleidfa, ac yn sylfaenedig ar un o eiriau'r Iesu i'w ddisgyblion cyntaf. Nid oedd yn gwaeddi nac yn dyrchafu ei lef, ond yr oedd grym ysbryd yn ei genadwri;—y peth hwnnw sydd yn cyrhaeddyd trwodd o galon y pregethwr i galonnau ei wrandawyr. Ac yn y seiat, ar ddiwedd y dydd, yr oedd rhyw deimlad distaw yn meddiannu'r frawdoliaeth oedd yn awgrymu fod gair Rolant Owen ar fedr cael ei sylweddoli. Yr oedd y weledigaeth wedi neshau, fel y gwna, yn fynych, heb udganu o'i blaen. "Pan y mynn y daw." Ac heb yn wybod iddynt eu hunain, rywfodd, dechreuodd y bobl ymddiddan am y peth hwn. Yr oedd David Parry yn awyddus i wybod beth oedd barn Shôn William, a gwnaeth esgus i alw yn y gweithdy un o'r dyddiau dilynol. Ond yr oedd yr hen frawd mor graff ag yntau, a dechreuodd siarad am bethau "yn gyffredinol." Gwelodd David Parry fod yn rhaid iddo "agor y mater" ei hun. "Beth oeddych yn ei feddwl am y pregethau a gawsom y Saboth?" meddai. "Da iawn, ag ystyried mai dyn ifanc oedd o," ebai Shôn William, "ond mi faswn yn hoffi ei glywed yn trin rhyw Q bwnc o athrawiaeth, fel y buase yr hen weinidog o Lawr y Ddôl, dase fo wedi medru cyrraedd i'w gyhoeddiad." "Ydech chi'n peidio disgwyl gormod?" ebai David Parry, yn fwynaidd, "disgwyl i ŵr ieuanc, newydd orffen ei addysg, wneud fel un o weinidogion hynaf y sir? Yr oeddwn i 'n teimlo ei fod yn pregethu ar ei destyn, ac yn gosod allan y wedd ymarferol ar yr Efengyl." "Ie, ie," meddai Shôn William, "ond gofyn y marn i 'roeddych, onide? Ond peidiwch a thybied am funud mod i yn coll-farnu y pregethwr na'r bregeth. Mi fum yn cael ychydig o 'sgwrs efo fo fore Llun, ac mi ofynnais oedd o wedi darllen gweithiau yr hen Biwritaniaid. 'Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod. Fe gymer flynyddoedd i ddyn wneud hynny, fel y clywais Doctor Edwards yn deyd lawer gwaith. Ond yr oedd arna i eisio gwybod sut yr oedd o yn meddwl am y Piwritaniaid. Mae rhyw duedd mewn pobol sydd wedi cael tipyn o ddysg, 'rwan, i siarad yn ddibris am yr hen gewri gynt. "Be ddeydodd o?" ebai David Parry. Wel, mi ddeydodd yn onest nad oedd wedi darllen llawer arnynt eto, fod gwersi y coleg wedi mynd a'i amser. Ond wedi cael ei anadl ato, meddai, y mae o am brynnu a darllen gweithiau Doctor Owen a Goodwin. Ac yr oeddwn i flŷs a churo ei gefn am feddwl felly am yr hen dduwinyddion enwog." "Be ddyliech chi am roi cyfle iddo C astudio y llyfrau mawr yna, a llyfrau mwy diweddar, efo ni yn y Cwm?" ebai David Parry. Mi gawse eich cynhorthwy chi i feistroli yr athrawiaethau, ac i fedru trin 'pwnc,' fel y byddwch yn arfer deyd." Nid gweniaith oedd y geiriau hyn. Yr oedd gan David Parry barch calon i allu a gwybodaeth Shôn William, a gwyddai yntau hynny. "Os ydech chi, a'r brodyr, yn teimlo fod yr adeg wedi dwad i alw gweinidog," meddai, "nid wyf yn ameu nad oes deunydd dyn da a defnyddiol yn y gŵr ifanc yma, ac mi gaiff bob help a fedraf fi ei roi iddo." Aeth David Parry i'w ffordd yn llawen. Yr oedd wedi ennill Shôn William o blaid y symudiad. Ac yr oedd Rolant Owen yn barod efo'r corn olew. "Dyn ifanc digon tebyg i'r llanc o Ephrata," meddai, "y mae golwg iach a gwridog arno, ac un felly ddylid gael mewn lle fel y Cwm yma. Dyn fedr gerdded a gwynebu pob tywydd. Mi fum inne yn medru gwneud felly ers talwm. Ac er fy mod i yn gloff a musgrell erbyn hyn, mi fyddaf yn hoffi gweld dyn ifanc yn sionc ac yn ysgafn ar ei droed." "Rhyw ffansi ydi peth fel ene," meddai Evan Rhys. "Yr hyn sydd yn bwysig i weinidog ydi fod ganddo ben da." "Eithaf gwir," ebai Rolant Owen, "ond y mae'r Beibl yn rhoi tipyn o le i'w draed o yn gystal a'i ben. 'Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu.'" "Yr ydw inne yn cymeradwyo y gŵr ieuanc," ebai Edward Edwards, y Felin, am fy mod yn credu fod ganddo galon hawddgar a da. Y mae hynny o'r pwys mwyaf i 'fugail' ym mhob cysylltiad, ei fod yn serchog a chymdeithasgar, ac yn teimlo dyddordeb, nid mewn llyfre yn unig, ond yn y bobol a'r plant fydd o dan ei ofal. Pob parch i'r Piwritaniaid a'u gweithie ardderchog, ond rhaid i'r 'bugail' wybod am hanes y bobl, a cheisio eu denu i'r porfeydd gwelltog. Ac y mae yr hyn a welais ynglŷn â'r gŵr ieuanc yr ydym yn sôn am dano yn peri i mi synied yn uchel am ei hynawsedd a'i dynerwch. Ac heb y pethe yna nis gall wir ofalu am y praidd, na chyd-ddwyn â'r diffygion sydd yn perthyn iddynt." Fel yna, drwy ymddiddan a chyfnewid meddyliau, daeth y pwnc yn ddigon aeddfed i'w osod o flaen yr eglwys. "A oeddynt yn cydsynio i anfon cais at y gŵr ieuanc ac i fynd a'r achos i'r Cyfarfod Misol? " Rhoddwyd arwydd drwy godiad llaw, a chafwyd unfrydedd, o'r braidd, o blaid y cynhygiad. Ac felly, wedi cyflawni y defodau arferol, y cafodd Meredydd Owen ei alw i fod yn "weinidog" i gapel y Cwm. Yr oedd ei fynediad yno yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes yr ardal, a cheisir adrodd rhannau o hono yn y penodau dilynol.<noinclude><references/></noinclude> sj00heath1p3w2p66xep08vwrinqqrr 164003 164001 2026-05-04T00:54:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164003 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IV.
"Profi'r Ysbrydion."}}}} YR oedd eglwys y Cwm wedi arfer dibynnu ar y "weinidogaeth deithiol," ac yn credu mewn newid doniau ar y Saboth. Tybid fod unwaith yn y flwyddyn yn gylchdro cyfaddas i'r gwahanol bregethwyr a ddeuent i'r daith. Deuent yno, fel rheol, ar gyfer yr un adegau, rhai yn y gaeaf, ac ereill yn yr haf. Prin yr oedd eisieu "taflen cyhoeddiadau y pryd hwnnw. Gwyddai y bobl ymlaen llaw pwy oedd i ddod, a pha bryd y digwyddai eu dyddgylch, fel y gwyddent am adeg ffair a marchnad. Ond er fod y trefniant hwn wedi gweithio yn ddigon esmwyth am flynyddau maith, yr oedd amgylchiadau yr eglwys a gogwydd yr amseroedd yn distaw arwain at gyfnewidiad. Yr oedd eglwysi ereill wedi "galw brodyr i'w gwasanaethu fel bugeiliaid." Un o'r cyfryw oedd y Parch. Jacob Davies; ac efe a elwid yn gyffredin i'r Cwm pan fyddai angen gwasanaeth "gweinidog" ar achlysuron arbennig. Daeth achos o'r fath dan sylw, un noson, yn y cylch swyddogol; ac erbyn hynny, yr oedd y blaenoriaid newydd wedi eu cyflawn urddo. Cynhygiodd Joseph Jones<noinclude><references/></noinclude> deplu6173ow57ekb3lcejkbrkxg6lzu Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/39 104 84299 164004 2026-05-04T00:55:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164004 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eu bod yn anfon cais at Mr. Jacob Davies, fel arfer. "Yr wyf yn cefnogi hynny am y tro," ebai David Parry, "ac nid oes ungwr у mae gennyf fwy o barch iddo fel gweinidog yr Efengyl na Mr. Davies. Ond paham y rhaid i ni fenthyca gweinidog o eglwys arall yn barhaus? Onid ydyw'n bryd i ni alw rhywun i'n gwasanaethu yn gyfangwbl?" "Yr ydech chi wedi mynd i gredu yr un fath a George Lewis," ebai Shôn William. "Yr oeddwn i 'n credu hynny cyn iddo ef fod yma," ebai David Parry. "Ac mi ddylech chithe gredu hynny bellach, oherwydd yr ydych chi yn cyfri fod Doctor Edwards yn ei le ar bob pwnc duwinyddol, a 'does neb wedi ysgrifennu yn gryfach ar fugeiliaeth eglwysig nag efe." Yr oedd parch Shôn William i enw Doctor Edwards mor ddwfn fel nas gallai lai na derbyn ei ddysgeidiaeth ar faterion eglwysig, yn ogystal a phynciau athrawiaethol. Gwyddai David Parry am ei edmygedd, a defnyddiodd ei wybodaeth i'w ddiarfogi y noswaith honno. "Oes ganddoch chi rywun mewn golwg?" ebai Evan Rhys. "Nac oes," ebai David Parry, "yr wyf yn gadael hynny yn hollol i farn yr eglwys." "Ond sut y mae'r eglwys i ffurfio ei barn?" ebai Joseph Jones. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> p21h6jrxeh97qgs9c22zzydlm65ihfg Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/40 104 84300 164005 2026-05-04T00:56:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164005 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Beth a ddywedwch chi ar hyn, Rolant Owen?" "Chewch chi ddim gwell at wneud hynny na chyngor yr Apostol Ioan," ebai Rolant Owen. "Beth ydi hwnnw?" "Profwch yr ysbrydion." Cymerwyd yr awgrym. Rhoddwyd y mater gerbron yr eglwys, gydag anogaeth i feddwl am dano hyd nes y ceid gweledigaeth eglur. Ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd dilynol, yr oedd yr "ysbrydion gwasanaethgar " a ddeuent ar eu hymdaith Sabothol i'r Cwm, yn cael eu profi," er nas gwyddent hynny eu hunain. {{Mmmm-mawr|{{***|4}}}} Yn y cyfamser, yr oedd y Tŷ Capel wedi ei orffen, a dechreuai rhywrai ddyfalu beth oedd gan David Parry mewn golwg pan yn dadleu yn y Pwyllgor am iddo fod yn helaethach, ac yn well adeilad na'r un blaenorol. Yr oedd efe yn arfaethu iddo fod yn "Dŷ Gweinidog," er nad oedd neb arall, o bosibl, yn meddwl am hynny ar y pryd. Nid oedd neb yn ei gyhuddo o dwyll-ymresymiad; ond yr oeddynt yn awgrymu, yn hanner chwareus, fod byw yn yr Amerig wedi gwneud David Parry yn ddyn oedd yn medru gweld gryn dipyn o'i flaen. Fodd bynnag, yr oedd y "tŷ" yn barod. Ond beth am y gweinidog oedd i fyw ynddo, ac i fugeilio'r praidd? Yr oedd amryw frodyr cymeradwy wedi bod yn gweinidogaethu yn ystod y cyfnod yr<noinclude><references/></noinclude> 1j47nnxcgitfrdwmpapfpvbc7q80uys 164006 164005 2026-05-04T00:57:28Z AlwynapHuw 1710 164006 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Beth a ddywedwch chi ar hyn, Rolant Owen?" "Chewch chi ddim gwell at wneud hynny na chyngor yr Apostol Ioan," ebai Rolant Owen. "Beth ydi hwnnw?" "Profwch yr ysbrydion." Cymerwyd yr awgrym. Rhoddwyd y mater gerbron yr eglwys, gydag anogaeth i feddwl am dano hyd nes y ceid gweledigaeth eglur. Ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd dilynol, yr oedd yr "ysbrydion gwasanaethgar " a ddeuent ar eu hymdaith Sabothol i'r Cwm, yn cael eu profi," er nas gwyddent hynny eu hunain. {{M-mawr|{{***|4}}}} Yn y cyfamser, yr oedd y Tŷ Capel wedi ei orffen, a dechreuai rhywrai ddyfalu beth oedd gan David Parry mewn golwg pan yn dadleu yn y Pwyllgor am iddo fod yn helaethach, ac yn well adeilad na'r un blaenorol. Yr oedd efe yn arfaethu iddo fod yn "Dŷ Gweinidog," er nad oedd neb arall, o bosibl, yn meddwl am hynny ar y pryd. Nid oedd neb yn ei gyhuddo o dwyll-ymresymiad; ond yr oeddynt yn awgrymu, yn hanner chwareus, fod byw yn yr Amerig wedi gwneud David Parry yn ddyn oedd yn medru gweld gryn dipyn o'i flaen. Fodd bynnag, yr oedd y "tŷ" yn barod. Ond beth am y gweinidog oedd i fyw ynddo, ac i fugeilio'r praidd? Yr oedd amryw frodyr cymeradwy wedi bod yn gweinidogaethu yn ystod y cyfnod yr<noinclude><references/></noinclude> qvlk5936x5wh711so5kru5ximkk0dtb Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/41 104 84301 164007 2026-05-04T01:01:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164007 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ydys yn son am dano. Eithr ni ddaeth y weledigaeth eglur y disgwylid am dani. Yr oedd rhai yn dechreu anesmwytho, ac yn awgrymu ei bod yn llawn bryd cael rhywun i fyw i'r "tŷ" newydd. "Na," meddai Rolant Owen, "gwell ydyw cymeryd pwyll. Fydda i 'n meddwl am hanes Samuel yn mynd i chwilio am frenin ar Israel. Yr oedd o yn gweld meibion Jesse yn fechgyn nobl iawn. Ond yr oedd rhyw lais yn dweyd wrth yr hen broffwyd, —'Cadw'r corn olew am dipyn eto. Dydi'r brenin ddim wedi dwad i'r golwg.' Ond pan ddaeth y llanc gwridgoch i'r tŷ, a ffon y bugail yn ei law, dyma'r llais yn sibrwd yng nghlust Samuel,—' 'Rwan am dani. Dyma'r dyn, eneinia ef.' Ryfeddwn i ddim na fydd rhywbeth tebyg yn hanes yr eglwys yma cyn bo hir." Tybed fod ysbryd proffwydo wedi disgyn ar hen sant Bryn Goleu? Pam lai? Yr oedd efe yn cerdded llwybr y gweledigaethau, a'i lygaid tua'r wawr. {{M-mawr|{{***|4}}}} Un Saboth, yn nechreu'r gwanwyn, yr oedd gweinidog oedrannus, o'ran arall y sir, wedi methu dod i'w gyhoeddiad, a gŵr ieuanc, newydd orffen ei dymor yn yr athrofa, wedi dod yno yn ei le. Ei enw ydoedd Meredydd Owen, mab i dyddynwr bychan yn ardal Glyn Têg. Yr oedd wedi bod yn y Cwm yn ystod ei "flwyddyn brawf," a gwyddai David Parry, ac ereill, ei fod yn sefyll yn uchel yn ei arholiadau. Cafodd Saboth<noinclude><references/></noinclude> 5r9lxz2zpapie8rihuinopoeww9lf2d Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/42 104 84302 164008 2026-05-04T01:02:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164008 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cysurus, er ei fod yn teimlo mai llanw bwlch yr ydoedd, a bod yr hen weinidog a ddisgwylid yn ŵr o ddylanwad yn holl gylchoedd ei swydd. Pregethodd yn syml a hollol ddiymhongar. Yr oedd ei genadwri, yn fwyaf neilltuol, at fywyd ieuanc yr eglwys a'r gynulleidfa, ac yn sylfaenedig ar un o eiriau'r Iesu i'w ddisgyblion cyntaf. Nid oedd yn gwaeddi nac yn dyrchafu ei lef, ond yr oedd grym ysbryd yn ei genadwri;—y peth hwnnw sydd yn cyrhaeddyd trwodd o galon y pregethwr i galonnau ei wrandawyr. Ac yn y seiat, ar ddiwedd y dydd, yr oedd rhyw deimlad distaw yn meddiannu'r frawdoliaeth oedd yn awgrymu fod gair Rolant Owen ar fedr cael ei sylweddoli. Yr oedd y weledigaeth wedi neshau, fel y gwna, yn fynych, heb udganu o'i blaen. "Pan y mynn y daw." Ac heb yn wybod iddynt eu hunain, rywfodd, dechreuodd y bobl ymddiddan am y peth hwn. Yr oedd David Parry yn awyddus i wybod beth oedd barn Shôn William, a gwnaeth esgus i alw yn y gweithdy un o'r dyddiau dilynol. Ond yr oedd yr hen frawd mor graff ag yntau, a dechreuodd siarad am bethau "yn gyffredinol." Gwelodd David Parry fod yn rhaid iddo "agor y mater" ei hun. "Beth oeddych yn ei feddwl am y pregethau a gawsom y Saboth?" meddai. "Da iawn, ag ystyried mai dyn ifanc oedd o," ebai Shôn William, "ond mi faswn yn hoffi ei glywed yn trin rhyw<noinclude><references/></noinclude> 2ukhwam0nasgdjog4dwa9z4fqwsqvqo Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/43 104 84303 164009 2026-05-04T01:03:41Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164009 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/45 104 84304 164010 2026-05-04T01:04:06Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "bwnc o athrawiaeth, fel y buase yr hen weinidog o Lawr y Ddôl, dase fo wedi medru cyrraedd i'w gyhoeddiad." "Ydech chi'n peidio disgwyl gormod?" ebai David Parry, yn fwynaidd, "disgwyl i ŵr ieuanc, newydd orffen ei addysg, wneud fel un o weinidogion hynaf y sir? Yr oeddwn i 'n teimlo ei fod yn pregethu ar ei destyn, ac yn gosod allan y wedd ymarferol ar yr Efengyl." "Ie, ie," meddai Shôn William, "ond gofyn y marn i 'roeddych, onid... 164010 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bwnc o athrawiaeth, fel y buase yr hen weinidog o Lawr y Ddôl, dase fo wedi medru cyrraedd i'w gyhoeddiad." "Ydech chi'n peidio disgwyl gormod?" ebai David Parry, yn fwynaidd, "disgwyl i ŵr ieuanc, newydd orffen ei addysg, wneud fel un o weinidogion hynaf y sir? Yr oeddwn i 'n teimlo ei fod yn pregethu ar ei destyn, ac yn gosod allan y wedd ymarferol ar yr Efengyl." "Ie, ie," meddai Shôn William, "ond gofyn y marn i 'roeddych, onide? Ond peidiwch a thybied am funud mod i yn coll-farnu y pregethwr na'r bregeth. Mi fum yn cael ychydig o 'sgwrs efo fo fore Llun, ac mi ofynnais oedd o wedi darllen gweithiau yr hen Biwritaniaid. 'Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod. Fe gymer flynyddoedd i ddyn wneud hynny, fel y clywais Doctor Edwards yn deyd lawer gwaith. Ond yr oedd arna i eisio gwybod sut yr oedd o yn meddwl am y Piwritaniaid. Mae rhyw duedd mewn pobol sydd wedi cael tipyn o ddysg, 'rwan, i siarad yn ddibris am yr hen gewri gynt. "Be ddeydodd o?" ebai David Parry. Wel, mi ddeydodd yn onest nad oedd wedi darllen llawer arnynt eto, fod gwersi y coleg wedi mynd a'i amser. Ond wedi cael ei anadl ato, meddai, y mae o am brynnu a darllen gweithiau Doctor Owen a Goodwin. Ac yr oeddwn i flŷs a churo ei gefn am feddwl felly am yr hen dduwinyddion enwog." "Be ddyliech chi am roi cyfle iddo C astudio y llyfrau mawr yna, a llyfrau mwy diweddar, efo ni yn y Cwm?" ebai David Parry. Mi gawse eich cynhorthwy chi i feistroli yr athrawiaethau, ac i fedru trin 'pwnc,' fel y byddwch yn arfer deyd." Nid gweniaith oedd y geiriau hyn. Yr oedd gan David Parry barch calon i allu a gwybodaeth Shôn William, a gwyddai yntau hynny. "Os ydech chi, a'r brodyr, yn teimlo fod yr adeg wedi dwad i alw gweinidog," meddai, "nid wyf yn ameu nad oes deunydd dyn da a defnyddiol yn y gŵr ifanc yma, ac mi gaiff bob help a fedraf fi ei roi iddo." Aeth David Parry i'w ffordd yn llawen. Yr oedd wedi ennill Shôn William o blaid y symudiad. Ac yr oedd Rolant Owen yn barod efo'r corn olew. "Dyn ifanc digon tebyg i'r llanc o Ephrata," meddai, "y mae golwg iach a gwridog arno, ac un felly ddylid gael mewn lle fel y Cwm yma. Dyn fedr gerdded a gwynebu pob tywydd. Mi fum inne yn medru gwneud felly ers talwm. Ac er fy mod i yn gloff a musgrell erbyn hyn, mi fyddaf yn hoffi gweld dyn ifanc yn sionc ac yn ysgafn ar ei droed." "Rhyw ffansi ydi peth fel ene," meddai Evan Rhys. "Yr hyn sydd yn bwysig i weinidog ydi fod ganddo ben da." "Eithaf gwir," ebai Rolant Owen, "ond y mae'r Beibl yn rhoi tipyn o le i'w draed o yn gystal a'i ben. 'Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu.'" "Yr ydw inne yn cymeradwyo y gŵr ieuanc," ebai Edward Edwards, y Felin, am fy mod yn credu fod ganddo galon hawddgar a da. Y mae hynny o'r pwys mwyaf i 'fugail' ym mhob cysylltiad, ei fod yn serchog a chymdeithasgar, ac yn teimlo dyddordeb, nid mewn llyfre yn unig, ond yn y bobol a'r plant fydd o dan ei ofal. Pob parch i'r Piwritaniaid a'u gweithie ardderchog, ond rhaid i'r 'bugail' wybod am hanes y bobl, a cheisio eu denu i'r porfeydd gwelltog. Ac y mae yr hyn a welais ynglŷn â'r gŵr ieuanc yr ydym yn sôn am dano yn peri i mi synied yn uchel am ei hynawsedd a'i dynerwch. Ac heb y pethe yna nis gall wir ofalu am y praidd, na chyd-ddwyn â'r diffygion sydd yn perthyn iddynt." Fel yna, drwy ymddiddan a chyfnewid meddyliau, daeth y pwnc yn ddigon aeddfed i'w osod o flaen yr eglwys. "A oeddynt yn cydsynio i anfon cais at y gŵr ieuanc ac i fynd a'r achos i'r Cyfarfod Misol? " Rhoddwyd arwydd drwy godiad llaw, a chafwyd unfrydedd, o'r braidd, o blaid y cynhygiad. Ac felly, wedi cyflawni y defodau arferol, y cafodd Meredydd Owen ei alw i fod yn "weinidog" i gapel y Cwm. Yr oedd ei fynediad yno yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes yr ardal, a cheisir adrodd rhannau o hono yn y penodau dilynol.<noinclude><references/></noinclude> fpw7st3jqugsg4ppaijcmeov9xtx1ck 164012 164010 2026-05-04T01:07:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164012 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bwnc o athrawiaeth, fel y buase yr hen weinidog o Lawr y Ddôl, dase fo wedi medru cyrraedd i'w gyhoeddiad." "Ydech chi'n peidio disgwyl gormod?" ebai David Parry, yn fwynaidd, "disgwyl i ŵr ieuanc, newydd orffen ei addysg, wneud fel un o weinidogion hynaf y sir? Yr oeddwn i 'n teimlo ei fod yn pregethu ar ei destyn, ac yn gosod allan y wedd ymarferol ar yr Efengyl." "Ie, ie," meddai Shôn William, "ond gofyn y marn i 'roeddych, onide? Ond peidiwch a thybied am funud mod i yn coll-farnu y pregethwr na'r bregeth. Mi fum yn cael ychydig o 'sgwrs efo fo fore Llun, ac mi ofynnais oedd o wedi darllen gweithiau yr hen Biwritaniaid. 'Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod. Fe gymer flynyddoedd i ddyn wneud hynny, fel y clywais Doctor Edwards yn deyd lawer gwaith. Ond yr oedd arna i eisio gwybod sut yr oedd o yn meddwl am y Piwritaniaid. Mae rhyw duedd mewn pobol sydd wedi cael tipyn o ddysg, 'rwan, i siarad yn ddibris am yr hen gewri gynt. "Be ddeydodd o?" ebai David Parry. Wel, mi ddeydodd yn onest nad oedd wedi darllen llawer arnynt eto, fod gwersi y coleg wedi mynd a'i amser. Ond wedi cael ei anadl ato, meddai, y mae o am brynnu a darllen gweithiau Doctor Owen a Goodwin. Ac yr oeddwn i flŷs a churo ei gefn am feddwl felly am yr hen dduwinyddion enwog." "Be ddyliech chi am roi cyfle iddo<noinclude><references/></noinclude> ps0u1otwex91qcx8oghdduemqgm4vjv Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/44 104 84305 164011 2026-05-04T01:06:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164011 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bugail y Cwm (Neuadd werdd y llwyn).jpg|canol|400px|bawd|{{c|NEUADD WERDD Y LLWYN.}}]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> cc4zm8zz9zq29hkq1mr7yrayd693kex Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/46 104 84306 164013 2026-05-04T01:08:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164013 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>astudio y llyfrau mawr yna, a llyfrau mwy diweddar, efo ni yn y Cwm?" ebai David Parry. Mi gawse eich cynhorthwy chi i feistroli yr athrawiaethau, ac i fedru trin 'pwnc,' fel y byddwch yn arfer deyd." Nid gweniaith oedd y geiriau hyn. Yr oedd gan David Parry barch calon i allu a gwybodaeth Shôn William, a gwyddai yntau hynny. "Os ydech chi, a'r brodyr, yn teimlo fod yr adeg wedi dwad i alw gweinidog," meddai, "nid wyf yn ameu nad oes deunydd dyn da a defnyddiol yn y gŵr ifanc yma, ac mi gaiff bob help a fedraf fi ei roi iddo." Aeth David Parry i'w ffordd yn llawen. Yr oedd wedi ennill Shôn William o blaid y symudiad. Ac yr oedd Rolant Owen yn barod efo'r corn olew. "Dyn ifanc digon tebyg i'r llanc o Ephrata," meddai, "y mae golwg iach a gwridog arno, ac un felly ddylid gael mewn lle fel y Cwm yma. Dyn fedr gerdded a gwynebu pob tywydd. Mi fum inne yn medru gwneud felly ers talwm. Ac er fy mod i yn gloff a musgrell erbyn hyn, mi fyddaf yn hoffi gweld dyn ifanc yn sionc ac yn ysgafn ar ei droed." "Rhyw ffansi ydi peth fel ene," meddai Evan Rhys. "Yr hyn sydd yn bwysig i weinidog ydi fod ganddo ben da." "Eithaf gwir," ebai Rolant Owen, "ond y mae'r Beibl yn rhoi tipyn o le i'w draed o yn gystal a'i ben. 'Mor<noinclude><references/></noinclude> tszbtto8skhepon2vag1hfqgghgakq9 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/47 104 84307 164014 2026-05-04T01:08:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164014 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu.'" "Yr ydw inne yn cymeradwyo y gŵr ieuanc," ebai Edward Edwards, y Felin, am fy mod yn credu fod ganddo galon hawddgar a da. Y mae hynny o'r pwys mwyaf i 'fugail' ym mhob cysylltiad, ei fod yn serchog a chymdeithasgar, ac yn teimlo dyddordeb, nid mewn llyfre yn unig, ond yn y bobol a'r plant fydd o dan ei ofal. Pob parch i'r Piwritaniaid a'u gweithie ardderchog, ond rhaid i'r 'bugail' wybod am hanes y bobl, a cheisio eu denu i'r porfeydd gwelltog. Ac y mae yr hyn a welais ynglŷn â'r gŵr ieuanc yr ydym yn sôn am dano yn peri i mi synied yn uchel am ei hynawsedd a'i dynerwch. Ac heb y pethe yna nis gall wir ofalu am y praidd, na chyd-ddwyn â'r diffygion sydd yn perthyn iddynt." Fel yna, drwy ymddiddan a chyfnewid meddyliau, daeth y pwnc yn ddigon aeddfed i'w osod o flaen yr eglwys. "A oeddynt yn cydsynio i anfon cais at y gŵr ieuanc ac i fynd a'r achos i'r Cyfarfod Misol? " Rhoddwyd arwydd drwy godiad llaw, a chafwyd unfrydedd, o'r braidd, o blaid y cynhygiad. Ac felly, wedi cyflawni y defodau arferol, y cafodd Meredydd Owen ei alw i fod yn "weinidog" i gapel y Cwm. Yr oedd ei fynediad yno yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes yr ardal, a cheisir adrodd rhannau o hono yn y penodau dilynol. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> b89p4o64huwfcztndfyebssyz3vdk4s Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/48 104 84308 164015 2026-05-04T01:30:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164015 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD V
Yr Arwerthiant.}}}} NID oedd y tŷ newydd yn gwbl barod pan ddaeth Meredydd Owen i fugeilio'r praidd yn y Cwm. Yn y cyfamser, bu yn trigo mewn lluestai, fel y patriarchiaid gynt,—un oedd Plas y Wern, un arall oedd siop Joseph Jones. A chan nad oedd efe hyd yma wedi teimlo grym yr adnod a ddywed mai "nid da bod dyn ei hunan," nid oedd symud ei lety yn gwneud llawer o wahaniaeth yn ei hanes. A dichon fod hynny yn un rheswm paham yr oedd cynifer o deuluoedd yn ewyllysgar i'w dderbyn, a'i roesawu o dan eu cronglwyd. Fodd bynnag, yr ydoedd yn ddealledig, pan fyddai y tŷ newydd yn barod, mai y "gweinidog " oedd i fynd iddo i fyw. Nid ydoedd yn dŷ mawr na gorwych, ond yr oedd yn fwy ac yn well o gryn lawer na'r hen "Dŷ Capel." Ond gan mai gŵr sengl, hyd yma, oedd y gweinidog, ymddangosai y tŷ newydd yn rhy fawr, rywfodd, ac yr oedd cryn ddyfalu ynghylch y dyfodol. A oedd efe yn debyg o roddi "galwad i rywun i ofalu am ei dŷ?" Cawsai lawer " cyngor" ar y dull goreu o weithredu, pe y gofynasai am dano. Dewisodd gadw'r gyfrinach iddo ei hun. Nid oedd yn meddwl am<noinclude><references/></noinclude> h4wbmv7fk0ay9e3gqa09asb4sp8xc3a Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/49 104 84309 164016 2026-05-04T01:31:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164016 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i'r tŷ fod yn wag, ond yr oedd yn awyddus am iddo fod yn "Dŷ'r Capel," yn ogystal a thŷ'r gweinidog. Perthyn i'r "achos" yr oedd y tŷ yn ei olwg ef, ac ewyllysiai roddi yr ystafell oreu oedd ynddo at wasanaeth yr "achos," fel y gallai'r brodyr gyd-gyfarfod rhwng y "moddion " ar y Saboth, a nosweithiau'r wythnos, megis yn y dyddiau gynt. A phe buasai'n bosibl cael Marged Parri i ofalu am dano ef, a phopeth arall, cawsai yr hen drefn ei gogoneddu dan yr oruchwyliaeth newydd. Gresyn na fuasai hynny yn bosibl! Dyna oedd delfryd Meredydd Owen, ac yr oedd yn cydgordio â theimladau y sawl oedd yn arfer mynychu yr hen "dŷ capel," pan fyddai gwahanol deuluoedd yr ardal yn dod yno yn eu tro i "gadw'r mis." Ond tra yr oedd pethau yn ymddangos yn lled niwliog ac aneffiniol ynglŷn â'r cwestiwn dyrus hwn, cafodd sylw y bobl ei droi, yn anisgwyliadwy, i gyfeiriad arall. Ac fel hyn y bu. Yr oedd y rhan fwyaf o'r tir, ffermdai, a'r tyddynod yn y Cwm yn perthyn i ystâd Gwynfaes, a dyna hanes Pentre y Rhyd, gan mwyaf. Ychydig o eiddo rhydd-ddaliadol oedd yn y Cwm, ac eithrio Plas y Wern, ac ychydig o dai annedd yma a thraw. Nid oedd llawer o gwyno oherwydd y peth; yr oedd Yswain y Gwynfaes yn dir-feddianydd caredig; nid oedd y rhenti yn afresymol o uchel, a darparai adeiladau da ar gyfer dyn ac anifail. Ond bu efe<noinclude><references/></noinclude> j544nkvjtj1tj9jtmoul7t2niu5cx39 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/50 104 84310 164017 2026-05-04T01:32:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164017 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>farw, a daeth yr ystâd yn eiddo ei ddisgynyddion. Nid oeddynt hwy yn byw yn y wlad, nac yn bwriadu cario'r traddodiadau yn eu blaen. A rhyw ddiwrnod, daeth y newydd i'r Cwm fod y rhan fwyaf o ystâd y Gwynfaes i fynd dan y morthwyl. Parodd hyn gryn gyffro, a disgwylid ei fod yn gamarweiniol. Ond yn bur fuan, gwelid yr hysbysleni mawrion ar furiau'r Pentre, yn rhoddi manylion yr arwerthiant. Creodd hyn anesmwythder cyffredinol. Ofnid y buasai'r bobl oedd wedi eu geni a'u magu yn y Cwm yn colli eu cartrefi, ac yn gorfod troi allan i roddi lle i estroniaid. Cyfarfu y ffermwyr â'u gilydd, a phenderfynwyd nad oedd neb i ymddwyn yn anfrawdol. Os byddai tenant yn awyddus i brynnu ei dyddyn, nid oedd yr un o'i gymdogion i gynnyg yn ei erbyn, nac i godi y pris uwchlaw yr hyn oedd yn wir werth y tir. Cytunwyd ar hyn, ac y mae'n dda gennym wybod, wedi i'r helynt fynd drosodd, fod y "cyfamod wedi ei gadw yn ffyddlon, ac na wnaed "brad Cymru fâd," gan neb o drigolion y Cwm. Ond nis gallai pobl y fro feddu un dylanwad ar ddieithriaid oedd yn berchen golud, ac yn awyddus i fod yn "dirfeddianwyr." Daeth amryw o'r rhain, yn lled lechwraidd, i'r Cwm yn ystod y dyddiau oedd yn rhagflaenu'r arwerthiant. Ysbiwyr oeddynt, wedi dod i weld "ansawdd y tir." Daeth un ohonynt heibio Tyddyn Drain, ac wrth weld Ann<noinclude><references/></noinclude> 9932s3cicqt6koou1y2nrwlxff48sws Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/51 104 84311 164018 2026-05-04T01:33:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164018 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Llwyd yn taenu dillad" ar glawdd yr ardd, arhosodd wrth y llidiart, a gofynnodd am lymaid o ddiod. Meddyliodd Ann Llwyd mai teithiwr lluddedig ydoedd, ac yn ei diniweidrwydd, gofynnodd iddo ddod i'r tŷ, i orffwyso ychydig. Pe y gwybuasai beth oedd ei neges, a phaham yr holai am y lle, a'i hanes, prin y cawsai roddi ei droed ar y buarth, heb sôn am gael ei wahodd i'r tŷ. Gwyddid fod perchenogion chwarel "Moel y Rhedyn" yn dra awyddus i brynnu rhagor o dir er mwyn eangu terfynau'r gwaith, ac yr oedd rhai o'r ffermydd oddi amgylch yn debyg o gael eu cyfyngu, os nad eu cymeryd yn gyfangwbl gan Gwmni'r chwarel. Ac felly y troes pethau allan. Prynwyd y tir oedd rhwng y "ffordd fawr" a Moel y Rhedyn gan y Cwmni, a daeth y ffermydd yn eiddo iddynt hwy. Nid oedd hyn yn golygu fod y tenantiaid yn gorfod ymadael; ond yr oedd y tir, o hynny allan, at alwad y Cwmni, os byddai ei eisieu i ddibenion y chwarel. Troes pethau yn well na'r ofnau, yn y rhanbarth yma, gydag un neu ddau o eithriadau. Yr oedd hen dŷ o'r enw Hafod Las, un o'r ychydig aneddau rhydd-ddaliadol yn y Cwm,-ar ymylon Moel y Rhedyn, ac erbyn hyn yr oedd tomen y chwarel yn lled agos ato. Awyddai'r perchenogion brynnu'r tŷ, ac yna buasai'r ffordd yn rhydd i estyn terfynau y gwaith." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 7oasmhfped1uylb90w64z2zb0gj9pda Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/52 104 84312 164019 2026-05-04T01:34:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164019 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ac wedi iddynt brynnu'r tir oedd o amgylch yr Hafod Las, yr oeddynt yn fwy awyddus i feddiannu'r hen dŷ, a'i gladdu yn barchus o dan domen y chwarel. Perchennog yr Hafod Las ydoedd Rhobet Pirs, yr hwn oedd, weithian, yn hen a methiantus, ac yn dibynnu am ymgeledd ar garedigrwydd ei unig ferch, Elin Pirs. Eglwyswr oedd Rhobet Pirs, ond aelod yn y capel oedd Elin. Pan yn abl i fynd oddiamgylch, treuliai efe lawer o amser yng nghwmni'r " person," y Parch. Hugh Williams, gŵr o sir Aberteifi, a hen lanc," yn ol ei "ddaliadau," am fywyd cysurus a di-ofalon. Erbyn hyn, yr oedd y person a Rhobet Pirs wedi cyrraedd gwth o oedran; ac, yn bur hynod, bu y ddau farw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd. Ac yr oedd hynny o fewn amser byrr i'r adeg y bu'r arwerthiant mawr yn y Cwm. Ac wedi i ddyddiau'r arwyl fynd drosodd, ac i Gwmni'r chwarel brynnu y tir, daeth cyfreithiwr i ymweld âg Elin Pirs i ofyn ei hewyllys da. Dywedai fod ansicrwydd yn bod am y terfynau rhwng y tir a brynwyd a'r hyn oedd yn perthyn i'r Hafod Las. A fuasai hi mor garedig a gadael iddo weld y "gweithredoedd? " Nid oedd yn meddwl eu cymeryd ymaith, dim ond edrych drostynt yn ei phresenoldeb hi, er mwyn tynnu y ffiniau yn dêg. "Mae'n ddrwg gennyf eich trafferthu fel hyn," ebai'r cyfreithiwr, "a chwithau yn eich profedigaeth. Ond, gyda'ch<noinclude><references/></noinclude> 44d41ezsfdujn2xsflf2p88lxrdyezu Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/53 104 84313 164020 2026-05-04T01:37:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164020 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>caniatad, galwaf yma yfory, wedi i chwi gael hamdden i gael y ''deeds'' at eu gilydd." Aeth ymaith yn foesgar ddigon, ac aeth Elin Pirs i chwilio am yr hen weithred oedd yn nghadw yn y gist dderw. Ond er ei syndod a'i braw, nid oedd hi yno. Goleuodd ganwyll, manwl chwiliodd bob twll a chornel; ond nid oedd hanes am dani! Erbyn bore drannoeth, yr oedd wedi chwilio pob dror a chwpwrdd yn y tŷ, ond nid oedd yr hen femrwn i'w gael yn un man! Daeth y cyfreithiwr yn ol ei air. Gwelai fod Elin Pirs mewn trallod meddwl, deallodd yn fuan nad oedd y "weithred " ar gael. Cymerodd arno ei chysuro, ond yr oedd mwy o ragrith nag o onestrwydd o dan ei eiriau. "Mae'n ddrwg gennyf drosoch," meddai yn frysiog, "ond fel cyfreithiwr, dylwn ddweyd wrthych fod yr hawl i eiddo yn dibynnu ar fod y ''deeds'' yn eich meddiant, neu mewn rhyw le y gellwch gael gafael arnynt. Yn awr, nid oes gennych ddim i ddangos mai chwi bia'r Hafod Las, ac nis gellwch ei werthu fel yr eiddoch eich hun. Y peth gore i chwi ydyw derbyn ewyllys da y Cwmni, a chwilio am dŷ yn y Pentre." Disgynnodd y geiriau hyn fel talpau o iâ ar galon Elin Pirs; ond, yn ei dychryn a'i phenbleth, cytunodd â'r cynnyg, a llaw-nododd y papur a roddid iddi gan gyfreithiwr y Cwmni. Nid oedd y swm<noinclude><references/></noinclude> lhyooljqmujn1wtdn2hmy4wh826pco1 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/54 104 84314 164021 2026-05-04T01:40:43Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "a "ganiateid" yn agos i werth y tyddyn, ond beth ellid wneud ? Yr oedd "gweithredoedd " Hafod Las wedi eu lladrata, neu wedi eu colli am byth. Tybed? Y mae gan bethau o'r fath ryw ddull hynod o "adgyfodi" ambell dro. Ond rhaid gadael yr Hafod Las o dan domen y chwarel ar hyn o bryd, a dychwelyd at yr hanes oedd gennym mewn llaw. Yn ei dro, daeth "Tyddyn Drain" i gael ei drafod yn yr arwerthiant. "Faint am y lle prydferth hwn?" ebai'... 164021 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a "ganiateid" yn agos i werth y tyddyn, ond beth ellid wneud ? Yr oedd "gweithredoedd " Hafod Las wedi eu lladrata, neu wedi eu colli am byth. Tybed? Y mae gan bethau o'r fath ryw ddull hynod o "adgyfodi" ambell dro. Ond rhaid gadael yr Hafod Las o dan domen y chwarel ar hyn o bryd, a dychwelyd at yr hanes oedd gennym mewn llaw. Yn ei dro, daeth "Tyddyn Drain" i gael ei drafod yn yr arwerthiant. "Faint am y lle prydferth hwn?" ebai'r arwerthwr. Yr oedd David Parry wedi cyflenwi Harri Llwyd, yn ychwanegol at yr hyn a feddai ef ei hun, â'r "cyfalaf" i brynnu'r tyddyn. Yr oeddynt wedi gosod y marc yn ddigon uchel, fel y credent, ac nid oedd neb yn debyg o gynnyg yn erbyn, ac ystyrrid y fargen yn sicr. Ond, er syndod, dyna lais dieithr yn "codi" ar y cynhygiad blaenorol. "Cododd" Harri Llwyd bum punt yn uwch nag yr oedd wedi meddwl. Ond yr oedd y gŵr dieithr yn "codi" pum punt arall yn y fan. Edrychai Harri Llwyd yn synllyd. "Mynd," ebai'r arwerthwr, "yn mynd, —wedi mynd." A'r gŵr dieithr oedd piau "Tyddyn Drain." Aeth Harri Llwyd ymlaen ato, a gwelodd Ann, ei wraig, ar unwaith mai efe oedd y dyn fu yn ei holi hi ynghylch y "tŷ." "Fedrwch chi ganiatau i mi gael byw yno fel tenant?" meddai Harri Llwyd.<noinclude><references/></noinclude> dfu70147kuu4m5c98to7ryvkdb8brx7 164023 164021 2026-05-04T01:42:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164023 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a "ganiateid" yn agos i werth y tyddyn, ond beth ellid wneud ? Yr oedd "gweithredoedd " Hafod Las wedi eu lladrata, neu wedi eu colli am byth. Tybed? Y mae gan bethau o'r fath ryw ddull hynod o "adgyfodi" ambell dro. Ond rhaid gadael yr Hafod Las o dan domen y chwarel ar hyn o bryd, a dychwelyd at yr hanes oedd gennym mewn llaw. Yn ei dro, daeth "Tyddyn Drain" i gael ei drafod yn yr arwerthiant. "Faint am y lle prydferth hwn?" ebai'r arwerthwr. Yr oedd David Parry wedi cyflenwi Harri Llwyd, yn ychwanegol at yr hyn a feddai ef ei hun, â'r "cyfalaf" i brynnu'r tyddyn. Yr oeddynt wedi gosod y marc yn ddigon uchel, fel y credent, ac nid oedd neb yn debyg o gynnyg yn erbyn, ac ystyrrid y fargen yn sicr. Ond, er syndod, dyna lais dieithr yn "codi" ar y cynhygiad blaenorol. "Cododd" Harri Llwyd bum punt yn uwch nag yr oedd wedi meddwl. Ond yr oedd y gŵr dieithr yn "codi" pum punt arall yn y fan. Edrychai Harri Llwyd yn synllyd. "Mynd," ebai'r arwerthwr, "yn mynd, —wedi mynd." A'r gŵr dieithr oedd piau "Tyddyn Drain." Aeth Harri Llwyd ymlaen ato, a gwelodd Ann, ei wraig, ar unwaith mai efe oedd y dyn fu yn ei holi hi ynghylch y "tŷ." "Fedrwch chi ganiatau i mi gael byw yno fel tenant?" meddai Harri Llwyd.<noinclude><references/></noinclude> nzumal3nzd114k2y8agtsab2fo2e8m4 164024 164023 2026-05-04T01:43:24Z AlwynapHuw 1710 164024 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a "ganiateid" yn agos i werth y tyddyn, ond beth ellid wneud ? Yr oedd "gweithredoedd " Hafod Las wedi eu lladrata, neu wedi eu colli am byth. Tybed? Y mae gan bethau o'r fath ryw ddull hynod o "adgyfodi" ambell dro. Ond rhaid gadael yr Hafod Las o dan domen y chwarel ar hyn o bryd, a dychwelyd at yr hanes oedd gennym mewn llaw. Yn ei dro, daeth "Tyddyn Drain" i gael ei drafod yn yr arwerthiant. "Faint am y lle prydferth hwn?" ebai'r arwerthwr. Yr oedd David Parry wedi cyflenwi Harri Llwyd, yn ychwanegol at yr hyn a feddai ef ei hun, â'r "cyfalaf" i brynnu'r tyddyn. Yr oeddynt wedi gosod y marc yn ddigon uchel, fel y credent, ac nid oedd neb yn debyg o gynnyg yn erbyn, ac ystyrrid y fargen yn sicr. Ond, er syndod, dyna lais dieithr yn "codi" ar y cynhygiad blaenorol. "Cododd" Harri Llwyd bum punt yn uwch nag yr oedd wedi meddwl. Ond yr oedd y gŵr dieithr yn "codi" pum punt arall yn y fan. Edrychai Harri Llwyd yn synllyd. "Mynd," ebai'r arwerthwr, "yn mynd, —wedi mynd." A'r gŵr dieithr oedd piau "Tyddyn Drain." Aeth Harri Llwyd ymlaen ato, a gwelodd Ann, ei wraig, ar unwaith mai efe oedd y dyn fu yn ei holi hi ynghylch y "tŷ." "Fedrwch chi ganiatau i mi gael byw yno fel tenant?" meddai Harri Llwyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kzlzf4nn9q5azmveokb8usi04tkxra1 Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/56 104 84315 164022 2026-05-04T01:41:53Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "pasio'r tŷ, wedi i Marged Parri glywed yr hanes uchod, gallasai ei chlywed yn hymio " canu emyn Charles, Caerfyrddin, [[Rhagluniaeth fawr y nef|"Rhagluniaeth fawr y nef,]] Mor ryfedd yw Esboniad helaeth hon O arfaeth Duw; Mae'n gwylied llwch y llawr, Yn trefnu llu y nef, Cyflawna'r cwbl oll O'i gyngor Ef."" 164022 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pasio'r tŷ, wedi i Marged Parri glywed yr hanes uchod, gallasai ei chlywed yn hymio " canu emyn Charles, Caerfyrddin, [[Rhagluniaeth fawr y nef|"Rhagluniaeth fawr y nef,]] Mor ryfedd yw Esboniad helaeth hon O arfaeth Duw; Mae'n gwylied llwch y llawr, Yn trefnu llu y nef, Cyflawna'r cwbl oll O'i gyngor Ef."<noinclude><references/></noinclude> oj0620adfnz7lrd91vx6k1ghlecqzmx 164026 164022 2026-05-04T01:47:54Z AlwynapHuw 1710 164026 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pasio'r tŷ, wedi i Marged Parri glywed yr hanes uchod, gallasai ei chlywed yn hymio "canu emyn Charles, Caerfyrddin, {{center block| <poem> [[Rhagluniaeth fawr y nef|"Rhagluniaeth fawr y nef,]] :Mor ryfedd yw Esboniad helaeth hon :O arfaeth Duw; Mae'n gwylied llwch y llawr, :Yn trefnu llu y nef, Cyflawna'r cwbl oll :O'i gyngor Ef." </poem> }}
<noinclude><references/></noinclude> genxnn4eb582ymnhydcvgoibm38pwhw 164027 164026 2026-05-04T01:48:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164027 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pasio'r tŷ, wedi i Marged Parri glywed yr hanes uchod, gallasai ei chlywed yn hymio "canu emyn Charles, Caerfyrddin, {{center block| <poem> [[Rhagluniaeth fawr y nef|"Rhagluniaeth fawr y nef,]] :Mor ryfedd yw Esboniad helaeth hon :O arfaeth Duw; Mae'n gwylied llwch y llawr, :Yn trefnu llu y nef, Cyflawna'r cwbl oll :O'i gyngor Ef." </poem> }}
<noinclude><references/></noinclude> jbl0hz5adglo19ui97rado4bac4jnsy Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/55 104 84316 164025 2026-05-04T01:46:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164025 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Na," meddai'r dyn, "rhaid i chi ymadael ar ddiwedd y tymor. Yr ydw i 'n meddwl dod i fyw yno fy hun. Hen gartre fy nhaid oedd Tyddyn Drain, ac yr wyf wedi cael dymuniad mawr fy oes,— dod yn berchennog y lle y bu fy henafiaid yn byw." Nis gallai Harri Llwyd, ac nis gallai neb arall, deimlo yn ddig at y dyn dieithr wedi gwybod yr holl fanylion. Ond pa le yr oedd Harri ac Ann Llwyd i gael cartref? Aeth Meredydd Owen i edrych am danynt wedi clywed yr helynt, a chyn gorffen yr ymgom, dywedodd wrthynt yn siriol,— "Y mae gen i hanes tŷ i chwi, ac mi gewch fynd iddo pan y mynnoch." "Ydi y rhent yn peidio bod yn uchel ? " meddai Ann Llwyd. "Nag ydyw, llai na hwn o gryn dipyn, ac eto, y mae yn fwy tŷ. 'Does neb wedi bod yn byw ynddo o'r blaen. Y chwi a finnau fydd y tenantiaid cyntaf. Ddowch chwi?" {{M-mawr|{{***|4}}}} Ac felly y daeth Ann a Harri Llwyd i gadw'r tŷ capel, ac i ofalu am gysuron y gweinidog. Credai Marged Parri fod Rhagluniaeth wedi goruwch—reoli cyffro yr arwerthiant, a cholli Tyddyn Drain, er mwyn lles yr "achos yn y Cwm. A phe buasai ymdeithydd yn digwydd<noinclude><references/></noinclude> hgyfpw9q4y1fi0s6iqvaai7wegiuy6z 164028 164025 2026-05-04T01:49:50Z AlwynapHuw 1710 164028 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Na," meddai'r dyn, "rhaid i chi ymadael ar ddiwedd y tymor. Yr ydw i 'n meddwl dod i fyw yno fy hun. Hen gartre fy nhaid oedd Tyddyn Drain, ac yr wyf wedi cael dymuniad mawr fy oes,— dod yn berchennog y lle y bu fy henafiaid yn byw." Nis gallai Harri Llwyd, ac nis gallai neb arall, deimlo yn ddig at y dyn dieithr wedi gwybod yr holl fanylion. Ond pa le yr oedd Harri ac Ann Llwyd i gael cartref? Aeth Meredydd Owen i edrych am danynt wedi clywed yr helynt, a chyn gorffen yr ymgom, dywedodd wrthynt yn siriol,— "Y mae gen i hanes tŷ i chwi, ac mi gewch fynd iddo pan y mynnoch." "Ydi y rhent yn peidio bod yn uchel ? " meddai Ann Llwyd. "Nag ydyw, llai na hwn o gryn dipyn, ac eto, y mae yn fwy tŷ. 'Does neb wedi bod yn byw ynddo o'r blaen. Y chwi a finnau fydd y tenantiaid cyntaf. Ddowch chwi?" {{M-mawr|{{***|4}}}} Ac felly y daeth Ann a Harri Llwyd i gadw'r tŷ capel, ac i ofalu am gysuron y gweinidog. Credai Marged Parri fod Rhagluniaeth wedi goruwch—reoli cyffro yr arwerthiant, a cholli Tyddyn Drain, er mwyn lles yr "achos yn y Cwm. A phe buasai ymdeithydd yn digwydd<noinclude><references/></noinclude> jjgflx5hg6hyai58vb5avx66lr7wpb4 164029 164028 2026-05-04T01:50:25Z AlwynapHuw 1710 164029 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Na," meddai'r dyn, "rhaid i chi ymadael ar ddiwedd y tymor. Yr ydw i 'n meddwl dod i fyw yno fy hun. Hen gartre fy nhaid oedd Tyddyn Drain, ac yr wyf wedi cael dymuniad mawr fy oes,— dod yn berchennog y lle y bu fy henafiaid yn byw." Nis gallai Harri Llwyd, ac nis gallai neb arall, deimlo yn ddig at y dyn dieithr wedi gwybod yr holl fanylion. Ond pa le yr oedd Harri ac Ann Llwyd i gael cartref? Aeth Meredydd Owen i edrych am danynt wedi clywed yr helynt, a chyn gorffen yr ymgom, dywedodd wrthynt yn siriol,— "Y mae gen i hanes tŷ i chwi, ac mi gewch fynd iddo pan y mynnoch." "Ydi y rhent yn peidio bod yn uchel ? " meddai Ann Llwyd. "Nag ydyw, llai na hwn o gryn dipyn, ac eto, y mae yn fwy tŷ. 'Does neb wedi bod yn byw ynddo o'r blaen. Y chwi a finnau fydd y tenantiaid cyntaf. Ddowch chwi?" {{M-mawr|{{***|4}}}} Ac felly y daeth Ann a Harri Llwyd i gadw'r tŷ capel, ac i ofalu am gysuron y gweinidog. Credai Marged Parri fod Rhagluniaeth wedi goruwch-reoli cyffro yr arwerthiant, a cholli Tyddyn Drain, er mwyn lles yr "achos yn y Cwm. A phe buasai ymdeithydd yn digwydd<noinclude><references/></noinclude> bwf2eiikt4wnl3budhzp0jvgo1uih0v