Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.2 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/8 104 84542 164478 164318 2026-05-14T23:33:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164478 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen (Thomas Richard, Abergwaun).jpg|canol|400px|bawd|{{c|Y PARCH. THOS. RICHARD, ABERGWAEN.}}]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1zdk1stzhzmo3q3ti2ufgd2vpnuggru Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/9 104 84543 164479 164319 2026-05-14T23:40:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164479 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|BYWGRAFFIAD}}}}
{{c|{{bach|Y}}}}
{{c|{{Mmmm-mawr|PARCH. THOS. RICHARD,}}}}
{{c|{{mawr|ABERGWAEN;}}}}
{{c|NODIADAU ARNO
{{M-mawr|FEL DYN, CRISTION, A PHREGETHWR;}}}}
{{c|PENODAU OI YMADRODDION DETHOLEDIG, YN NGHYDA PHIGION
O'I AREITHIAU, LLYTHYRAU, &c.}}
{{c|{{M-mawr|GAN EDWARD MATTHEWS.}}}}
{{lein|10em}} {{c|"Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei
wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd
a drodd efe oddiwrth anwiredd," Malachi ii. 6.}} {{lein|10em}}

{{c|ABERTAWY:
ARGRAFFWYD GAN JOSEPH ROSSER, HEOL HEATHFIELD.
MDCCCLXIII.}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> a2wwze7fhs8gh57lhopvsvn84eouwt7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/11 104 84545 164477 164321 2026-05-14T23:28:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164477 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGDRAETH.}}
PREGETHWYR A PHREGETHU CYMRU.}} PREGETHWYR A PHREGETHU sydd eiriau bob dydd a braidd pob ymddyddan yn Nghymru. Siarad cyffredin tai ydyw pregethwyr a phregethu; ïe, dyna y prif bethau siaredir ar hen aelwydydd Cymru. Geiriau cysegredig ydynt gan y genedl; delir hwynt mewn parch goruwch-naturiol, a gwarogir iddynt pa bryd bynag eu clywir gan y mwyafrif. Nid yw hyn yn rhyfedd; canys y mae meddyliau y bobl wedi derbyn pethau mawrion trwy eu pregethwyr; ïe, wedi derbyn eu cwbl oll. Yma y cawsant eu cysuron penaf mewn gofidiau, eu dinas noddfa mewn peryglon, eu tŵr cadarn yn enw yr Arglwydd yn nhir y gelyn, a'u gobeithion am ddiangfa byth gan eu Barnwr y tu draw i'r byd presenol. Yn y pregethu y teimlodd y tlodion gyfoeth yn dyfod i'w rhan hwythau; ïe, anrhydedd a bywyd yn dragywydd. Yn yr amddifadrwydd o lawer o gysuron y byd hwn, ac heb obaith eu cyrhaedd byth, cawsant eu gwala a'u gweddill yn yr efengyl, nes "gorfoleddu mewn gorthrymderau," ïe, neidio yn aml "o dan obaith gogoniant Duw." Y. geiriau glywyd yn y pregethu, yr adnodau esboniwyd ac a weithiwyd trwy y pregethau at feddyliau y bobl, oedd y ceryg deimlasant o dan eu traed yn afon yr Iorddonen, nes bloeddio concwest yn nghanol y dyfroedd. Clywodd y ferch ei mam yn gorfoleddu yn angau wrth gofio adnod yn mhregeth y Parch. Ebenezer Morris, John Elias, Christmas Evans, Williams o'r Wern, y ddau Richard, a chanoedd gyda hwy; y mae yr hen adnod yn cydio yn hono, ac yn y bachgen sydd yn sefyll yn yr ymyl; ac y mae y pregethu barodd i'w mam orfoleddu yn yr afon yn myned yn dra chysegredig yn eu meddyliau, ac yn siarad teuluol trwy yr holl berthynasau. Peth cyffredin yn Nghymru yn y nos, yn y gauaf trymaidd, fydd siarad am yr hen bregethwyr, y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymanfaoedd er ys llawer<noinclude><references/></noinclude> b2s96qled0dz91o8a5fiu65rqoy2kvq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/13 104 84547 164462 164323 2026-05-14T23:13:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164462 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A bregethodd y gwr hwnw o'r Gogledd wedi'n, nid wyf fi ya cofio dim yn y byd am hyny." "Do, do, fe bregethodd yn sicr; yr wyf yn cofio ei destun yn burion; yr oedd yn pregethu yn nghylch y blaguryn yn y Prophwyd Zechariah. Pregethwr neillduol ydoedd hefyd; ond aeth Richard â'r hwyl i gyd o'i flaen ef. Yr wyf yn cofio yn burion iddo droi oddiwrth y bobl ag oedd yn yr hwyliau, ac aeth y lleill o'i flaen, gan adael y gorfoleddu ryw ychydig i'r cefn. Yr oedd hi yn bregeth fuddiol, ond yr oedd y gwynt wedi myned." "Dyn anwyl, Thomas bach, nid wyf fi yn cofio un tipyn erioed am yna." "Am na; pa fodd y gelli di gofio, Mari fach? oblegyd yr oeddit ti c'uwch dy gloch a neb; a thyna lle y buasit eto, am wn i, oni fuasai i mi dy gario i'r pentref. Cwrdd da iawn hefyd oedd cwrdd chwech y boreu, o dan yr hen Ishmael Jones; yr oedd yr hen ddyn yn dân poeth, a bu gryn orfoleddu yr odfa hono. Am ddeg, pregethodd John Elias; nid wyf yn cofio yn iawn pwy oedd gydag ef, os nad Thomas Jones Caerfyrddin. Beth bynag, y mae yn gofus genyf am yr odfa hono, a mi gofiaf byth, yr wyf yn meddwl. Yr oeddwn yn meddwl fod ei wyneb yn dysgleirio; yr oedd y bobl yn cwympo fel derw o'i flaen; a'r pregethwyr yn wylo ac yn llefain fel plant ar ben y ''stage''. Yr oedd Mr. Ebenezer Morris yno, a Mr. Richard, Tregaron; yr oeddynt yn wylo fel y gallasech eu golchi â dagrau. O ryfedd! y fath olwg oedd ar y dorf fawr; yr wyf yn meddwl fy mod yn eu gweled y fynyd hon. Yr oedd yno filoedd wedi annghofio eu ciniaw, a'r cyfarfod dau yn dechreu cyn bod y llall yn dybenu. Pregethodd John Roberts o'r Gogledd, a William Morris am ddau; ac yr oedd yn gwella o hyd; parhaodd y gorfoleddu hyd nos; torodd diwygiad allan wedi y Gymanfa hon, a cherddodd drwy yr holl wlad. Daeth miloedd at grefydd yn y tymhor hwnw; llawer o honynt sydd wedi myned i'r nefoedd yn eu cariad cyntaf, ac y mae canoedd yn aelodau hardd drwy yr holl eglwysi. Diwygiad rhyfedd oedd hwnw hefyd; welais i erioed bethau mor nerthol." Byddai y wraig yn gofyn aml gwestiwn, y plant hwythau<noinclude><references/></noinclude> ibk68xiyzmw8kvtaror1u4fg3jikcof Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/18 104 84548 164467 164324 2026-05-14T23:17:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164467 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nid ydym wrth hyny yn rhoi fyny y cwbl oll. Y mae gyda ni ein hathronwyr, ein hieithwyr, ein hastronomyddion, ein cyfreithwyr, ein gwladeiddwyr, ein llenorion, ein celfyddydwyr, y rhai sydd yn alluog i gystadlu â'n cymydogion, yn enwedig os cawsant yr un manteision a hwythau; eithr am ein pregethwyr, yr ydym yn barod i herio yr holl greadigaeth. Nid ydym yn diystyru am foment Athen a'i hathronwyr a'i beirdd, na Rhufain a'i chadfridogion a'i cherfwyr; yr ydym yn eu parchu, ac yn edmygu eu heneidiau mawrion; eithr yr ydym yn dal allan Gymru a'i phregethwyr yn ngoleu haul a llygad goleuni, heb gywilyddio eu dangos hyd derfynau eithaf y ddaear. Pa fodd y gall hyn fod? oblegyd darllenir y traethodau mwyaf dysgedig a champus, ac argreffir hwynt yn gyfrolau teilwng o astudiaeth yr efrydwr dyfnaf. Y mae hyn oll yn wir; ac yn hyn nis gallasai pregethwyr Cymru gystadlu a hwy; eithr y mae rhyw beth mewn pregethu heblaw darllen traethawd dysgedig; ac yn hyn yn gyffredin y bydd pobl yn ymddyrysu ac yn ymrwystro. Dynion annysgedig yw poblogaeth y byd, y werin; ac y mae y nefoedd wedi darpar yr efengyl i achub dyn; nid dyn dysgedig, eithr dyn fel y cyfryw. Yn gymaint, gan hyny, fod yr efengyl yn drefniant i'r dyben hwnw, yr oedd yn angenrheidiol fod y datguddiad dwyfol mewn ffurf mor syml fel y gallai yr annysgedig ei ddeall, a chael lles drwyddo i fywyd tragywyddol. Felly y mae. Er yn guddiedig oddiwrth y doethion a'r deallus yn aml, y mae yn amlwg ac yn ddealladwy i rai bychain, y rhai sydd yn ei dderbyn ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth lawer. Yr ydym yn teimlo anhawsder mawr i ddyweyd beth yw pregethu yr efengyl; ond y mae yn ddigon amlwg mai nid darllen ''lecture'' ddysgedig ar ryw ran o dduwinyddiaeth; y mae y rhai hyny yn fuddiol i ryw ddosbarth eu darllen; ond nid oes nemawr o rinwedd ynddynt fel pregethau i'r dyben o achub dyn rhag colledigaeth, nerthu y gwan, cysuro y galarus, a dwyn heddwch i gydwybod yr euog. Na, rhaid cael rhyw beth heb y ''Bampton Lectures'' at hyn. Dywedwch a fynoch am bregethu fel proffesiwn ddysgedig,<noinclude><references/></noinclude> cqdw09stj4gt5xmds7l66nf6f9bux72 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/23 104 84549 164472 164325 2026-05-14T23:23:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164472 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ysbleddach a llonedigaeth. Y mae eisiau pwys o ''beef steak, a can of Burton, and recreation'', beunydd arnynt hwy. Nefoedd bwyta, yfed, ac ymddifyru yn gnawdol, yw eu nefoedd hwynt. Am y Cymry tlodion, byddant yn foddlon i redeg a chrwstyn sych yn eu dwylaw heb yr un giniaw, yn hytrach na methu clywed rhai o'u pregethwyr mwyaf dewisol. Y maent hwy yn cael digon o ''recreation'' wrth deithio dwy a thair gwaith yr wythnos dwy a thair milldir o ffordd i foddion gras, ac yn cael iechyd corph ac ysbryd yn y canlyniad. Clywir y Sais yn siarad wythnos yn nghylch ciniaw dda, neu swper dda; ond am y Cymro, pregeth dda yw testun ei siarad ef. Fe gaiff y glwth Saesoneg y cwrw, y ''steaks'', a'r ''recreation''; a bydd y Cymro yn foddlon ar fwyd a diod ''gyffredin''; ond bydd yn rhaid iddo gael pregethu ''annghyffredin''. Os ydyw yn ymfoddloni yn weddol heb ddanteithion y byd, ni cheir ganddo fod yn dawel er dim heb ddanteithion goreu yr efengyl. O na, rhaid iddo gael "gwledd o basgedigion" yma, o "basgedigion breision, a gloyw win puredig." Wel, y mae miloedd yn Nghymru a gydsyniant â ni pan yn datgan ein boddlonrwydd iddynt gael gwell tir, gwell tai, gwell bwyd, ond yn unig i ni gael cadw gwell pregethu. Fe ddichon y bydd rhai yn barod i ddyweyd mai rhyw sel ddall yw peth fel yna-nad oes dim ynddo mewn gwirionedd. Nid ydym am gablu y cyfryw; nid ydynt yn wrthddrychau i'w cablu, ond i dosturio wrthynt. Yr ydym yn ymryddhau yn llwyr oddiwrth bob teimlad cenedlaethol pan yn siarad fel hyn, oblegyd nid ydym yn rhoi y goreu i'n gwlad a'n hiaith mewn dim ond eu cysylltiadau â'r efengyl yn unig. Saesoneg yw iaith masnach ein gwlad, a iaith llysoedd ein gwlad, ïe, iaith yn agos pob peth ein gwlad; ac y mae yn un dda iawn hefyd; fe allai yn rhagori yn mhell; nid ydym yn dadleu dim ar y fath bwnc, am hyny gwelwch ein bod yn ddigon rhydd oddiwrth sel daleithiol; eithr barn deg, tebygem ni, yw dyweyd fod rhyw beth yn y Gymraeg fel iaith ag y mae yr efengyl a hithau yn ymdoddi i'w gilydd mor dyner, nes peri rhyw ragoriaeth, buom bron a dyweyd anfeidrol;<noinclude><references/></noinclude> crlrvinxs8n43v10box1cadozgaxrng Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/28 104 84550 164480 164326 2026-05-14T23:43:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164480 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gallu cydfarnu, am hyny yn myned bob un i'w ffordd ei hun, ac yn aml iawn y ffyrdd hyny yn myned am draws eu gilydd, ac yn peri blinder beunydd. Beth bynag, byddai cystal i chwi, gan i chwi ddyfod i'r fan a'r lle, aros i gael ei glywed yn pregethu, canys bydd genych ddwy siawns i'w farnu wed'yn—wrth yr olwg ac wrth y clywed. Nis gellwch ddyweyd eto ond "yr hyn a welsom;" ond ar ol ei glywed gellwch ychwanegu "a'r hyn a glywsom;" bydd y dystiolaeth yn gryfach o lawer iawn. Dan gofio, dywedir wrthym am beidio barnu "wrth yr olwg, eithr barnu barn gyfiawn." Gall dyn, digon tebyg, gael ei dwyllo wrth yr olwg weithiau; canys bydd ambell beth yn troi allan yn well na'r olwg, a'r llall yn waeth. Da iawn yw arfer pwyll, a cheisio barnu barn gyfiawn. Wel, dacw ef yn dechreu ymlwybro at ein hanerch, Thomas; y mae wedi carthu ei geg ddwywaith, ac wedi myned drwy y seremoni o chwythu ei drwyn deirgwaith yn y neisied boced wen. Beth sydd ar gymalau ei gefn? Gellid meddwl eu bod wedi colli eu holew, canys nid yw yn plygu yn fwy na pholyn; nid yw yn symud y naill ffordd na'r llall, mwy na phe bai wedi ei hoelio wrth y llawr. Mor ddystaw y mae yn siarad, yn union fel pe bai yn dyweyd ''cwnsel'' wrth ryw rai, ac yn dymuno arnynt er mwyn pob peth na ddywedent wrth neb. Syndod! a oes rhyw un yn clywed diwedd y brawddegau yna? Heblaw ei hun, nid ydym yn deall fod neb yn eu clywed, gan mor ddystaw, mor syw, ac mor foneddigaidd y bydd yn ymadroddi. Wel, y mae yn wr boneddig! Y mae yn rhyw fodd, ys dywed y dynion, yn bwyta ei eiriau cyn eu bod yn dyfod o'i enau. Ydyw, felly y mae; efe ac nid neb arall sydd yn eu bwyta; ymddengys ei fod ef yn cael blas arnynt; am bawb eraill, y maent yn lled ddigonol. Hi fydd weithiau fel hyny; dyn yn cael blas mawr arno ei hunan, a phawb arall yn ei chwydu allan; a phrydiau eraill pawb yn cael blas, a phawb yn gwledda, a'r dyn ei hunan yn methu cael dim blas arno ei hun, eithr yn "ffieiddio ei hun mewn llwch a lludw." Help mawr, serch hyny, i ddyn fyned yn y blaen yw ei fod yn<noinclude><references/></noinclude> snujignetupgvqciymdcr7dtap8897g Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/33 104 84551 164486 164328 2026-05-15T00:00:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164486 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a dyffryn prydferth Towy o dano ar y llaw arall, a'r afon droellog, brydferth yn llifo i lawr drwyddo, gydag awdurdod breninol, i ddyfrhau ac i adloni y baradwys ardderchog. Eisteddodd Dyer ieuanc ganoedd o oriau ar y Grongar, i edmygu y golygfeydd mawreddus a phrydferth hyn, nes i'w enaid ymgolli yn fynych ynddynt, a'r awen yn cymeryd tân oddiwrth y gallestr nes gwreichioni a fflamio hyd entrych nen, Wele engraifft yn y ddwy iaith, ar gyfer eu gilydd: {{center block| <poem> "Ah! Eigren fud a'th gywraint drem, Borphora'r nawn â gwridog hem, Ar lonydd gôb unigol fryn, Uwch cyrhaedd 'stwr ffwdanus ddyn; Arliwi wedd pob peth yn dêr, Tra cathla'r felen linos bêr; Neu'r eos fwyn yn eiliaw cerdd A swyna'r oll o'r goedwig werdd, Dwyrea a'th amryfal sain I gynorthwyo'r Awen gain; Tra'r huan claer o'i orsedd fry Fantella'r nef a'r llawr mewn bri! Hardd fryn y Grongar huda'm cerdd, I dynu'r dirwedd lwys a gwerdd; Yn dy fwswog gelloedd cu Llonyddwch mewn pêr fyfyr sy'; Ac yn dy gysgod fwyna'i nawd, Llys addas i'r awenau wnawd; mynych yn nhawelwch nawn At ffrwd arianliw'th ffynon awn, Gan orwedd ar flodeuog len, A'm llaw yn esmwyth dan fy mhen; Tra tremio wnawn ar Dywi deg, Ar elltydd llawn, a broydd chweg; O dŷ i dy, o fryn i fryn, Gwledd i fyfyrdod byth oedd hyn. Ei ddringo wnaf, gan adael dôl, A'r neint trydanol ar fy ol, A'r ffauau dail, lle awn yn rhydd, Rhag poeth belydrau teyrn y dydd; Eanga gwyneb glwys y glyn, Fel cylch y don ar dawel lyn; Y bryniau gylch (annedwydd ffawd)! Eu cobau o bob uchder wnawd, Sarheir eu balchder, draw fe gwyd Rhai'u penau'n uwch i'r asur glwyd; Y drem eanga yn fwy taen, Gan amlu coed a broydd cain; </poem> }}
<noinclude><references/></noinclude> lrjhw4ii03392kom4dhy71cqntd7951 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/38 104 84552 164492 164329 2026-05-15T00:05:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164492 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>duon ac annghelfydd arnynt. Bid a fyno, ni adawn hwn, canys nid oes ond y peth nesaf i ddim o bleser i siarad am dano, i edrych ychydig ar y lleill. Edrychwch ar Christmas Evans, yr hen Gristmas anwyl; dyna ddyn wrth ychydig o addurniadau dysgeidiaeth, ond fel y darfu iddo lafurio a diwyllio ei feddwl ei hun; gwnaeth lawer o hyny, fel nad oedd yn sefyll yn annghyfrifol yn mysg llawer ag oedd wedi cael manteision gwell; ond edrychwch arno fel pregethwr, a dangoswch ryw un yn ngwlad y Sais yn gyffelyb iddo. Hawyr! ni thyfodd un o'r fath erioed yno. Tebyg iawn fod Kent ac Essex yn wledydd da iawn i dyfu gwenith, nid gwiw i'n gwlad dlawd ni gystadlu a hwynt yn hyny; ond ni thyfodd yr un Christmas erioed yn y tir hwnw. Hen Gymru sydd yn tyfu Christmasiaid; yhi sydd wedi magu y pregethwyr mwyaf gwreiddiol, talentog, athrylithgar, a nerthol o wledydd y byd. Wrth gofio anfanteision Christmas Evans, ac edrych arno yn anerch deng mil ar ddydd y Gymanfa, y mae yn sefyll o'ch blaen y peth nesaf at wyrth. Y dyn aew wrth un llygad, ond un llygad rhyfedd ydyw, y mae fel y seren ddydd, yn dysgleirio ac yn llewyrchu fel pe byddai yn barod i gymeryd tân, ac i roi y byd ar dân mewn eiliad. Yr un llygad yna sydd yn treiddio i bob peth, yn edrych dyn yn ei wyneb gyda'r fath awdurdod nes y mae yn barod i lesmeirio ger ei fron. Yr un llygad yna sydd yn fwy tarawiadol ac arwyddocaol na deng mil o lygaid ag sydd yn edrych arno. Y mae rhyw beth mawr y tu cefn i'r llygad yna; nid ydyw ond fel rhyw arwydd o beth yn yr ystafelloedd mawrion y tu draw. Nid yw y llygad treiddgar ond rhyw ddangoseg o feddwl treiddgar a goleuedig. Pan yn pregethu, teflir y meddwl hwnw allan gydag effeithioldeb annghydmarol, yn mhob lliw, ac yn holl ffurfiau y byd naturiol a dychymygol. Arglwyddiaethai ar bob teimlad yn y natur ddynol, a byddai dynion yn llai na phlant yn ei law. Cyffyrddai â'r gydwybod trwy bortreadu dychrynfeydd uffern mewn lliwiau dychrynllyd, nes y byddai pawb yn brudd, yn sobr, yn ofnus, a dychrynedig. Cyffyrddai eilwaith â'r serchiadau,<noinclude><references/></noinclude> gq4lvq0ct5l8sw2yd7991lr7dk31c4t Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/43 104 84553 164497 164330 2026-05-15T00:20:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164497 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>at Dduw i'r nefoedd. Yr ydym yn tueddu i feddwl, er holl ardderchawgrwydd a gallu Whitfield, pe buasai yn Gymro, a phregethu yn yr iaith oedd yn gymaint yn fwy cydnawsol a'i ysbryd tanllyd a'i fater na'r Saesoneg, y buasai yn uwch ac yn fwy gwresog nag ydoedd; ac y buasai yn llawn cymaint os nid yn fwy na'n pregethwyr goreu ni. Yr oedd ei ysgolheigdod mewn cysylltiad a natur yn beth mawr er mwyhau cylch ei ddefnyddioldeb, ac ychwanegu at ei ddylanwad; ond fel pregethwr yn unig nid oedd yn fwy, os cymaint, a'n rhai ni. Nid oes genym fwriad i fyned i mewn i gymeriadau yr enwogion a enwasom, ond yn unig gwneyd cyffyrddiad megys ag ymylon eu gwisgoedd, er mwyn esiamplau. Gobeithio ein bod trwy hyny wedi bod yn alluog i egluro rhyw gymaint ar bwne tywyll. Ein gorchwyl ni yn awr yw neillduo un o bregethwyr mawr Cymru, ac ymdrech goreu y gallom i gyfrif am nerth a mawredd hwnw. Wrth edrych gyda manylwch dros hanes Richard, Abergwaen, o'i febyd, a chanfod mor ychydig mewn cymhariaeth oedd ei fanteision, nis gellir lai na synu wrth ei gymhwysderau at y pwlpud a holl waith yr Arglwydd; ei rym aruthrol, ei dalentau annghyffredinol, ei ddoniau helaeth, a'i athrylith ryfeddol. Yn ddiau yr oedd y dyn hwn, yn mysg llawer eraill, yn un o wyrthiau ei oes. Barn gyffredinol pob gwlad yn Nghymru yw fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei oes. Nid ydym yn caru byth gwneyd dyn yn dduw, a myned i'w addoli; ac ni charem ddyweyd mai efe oedd y pregethwr mwyaf yn ei oes; byddai peth felly yn blentynaidd. Dywedyd yr ydym, ac y mae hyny yn sicr o fod yn wir, fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei oes. Mewn gwirionedd, yr oedd mor fawr fel nad oedd yn bosibl gwneyd dyn bach o hono. Nid ceisio bod yn fawr, cofiwch; bydd rhai felly yn bur aml yma a thraw ar hyd y greadigaeth yma; nid ydynt yn guddiedig chwaith rhag llygaid y craffus; ac yn wir, y maent yn gweithio eu hunain i'r amlwg o flaen pawb yn fuan; canys nid yw peth felly yn para yn hir byth. Un<noinclude><references/></noinclude> fwnvr7o2xm7t3ekywvrwuy9h6afnezj Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/48 104 84554 164502 164331 2026-05-15T00:23:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164502 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymadrodd a ddyferai arnynt hwy. A hwy a ddysgwylient am dano fel am y gwlaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-wlaw." Gwell yw peidio udganu yn yr udgorn o flaen dynion, gadewch iddynt ganu eu hunain nes y byddo y bobl yn clywed, onide byddant yn sicr o gael eu siomi. Cenir udgorn o flaen ambell un nes y bydd yr holl wlad yn codi; ac erbyn y delo y pregethwr, dacw y bobl yn troi eu cefnau yn siomedig, ac yn gosod y pregethwr i lawr yn mhlith yr allanolion. Pe codai un oddiwrth y meirw i geisio perswadio dynion fod rhyw un yn bregethwr mawr, ni chredant, oddieithr ei fod ef ei hun yn gallu gwneyd hyny yn ei weinidogaeth. Nid oedd eisiau un cymwynaswr i chwythu yn yr udgorn pan y deuai Mr. Richard; yr oedd yn llawn digon i ddyweyd yn araf a dystaw; byddai y bobl yn sicr o fod yno yn ei ddysgwyl. Yr oedd Shon o'r Scubor, hen bregethwr o ardal Llangeitho, wedi danfon cyhoeddiad drwy ryw wlad, a chlywodd fod y Parch. Ebenezer Morris yn myned y ffordd hono; dywedodd Shon wrth Mr. Morris, "Yr wyf yn clywed eich bod chwi yn myned trwy y wlad lle mae fy nghyhoeddiad i; er mwyn dyn, os dygwydd i chwi ei weled yn ymlusgo ar hyd ochr y cloddiau ar hyd y ffordd, gwnewch ei chwipio yn y blaen, canys yn lled anhwylus, fas-dygwydd y bydd yn trafaelu; am eich cyhoeddiad chwi, pe bai yn mhig y frân, y mae yn sicr o fyned. Peidiwch chwi a gofalu am eich cyhoeddiad eich hun; chwipiwch Shon o'r Scubor yn y blaen." Yr oedd llawer o wir yn ymadroddion yr hen Shon, ac yг oedd llawer o synwyr yn Shon, gan ei fod ef yn deall peth felly; canys mae llawer yn yr un sefyllfa a Shon, ond heb erioed wedi cael agoriad llygaid i weled hyny. Gellir dywedyd yr un fath am gyhoeddiad Mr. Richard ag oedd Shon yn dywedyd am yr eiddo Mr. Morris; byddai yn sicr o fyned yn gyflym, ac i'r pen draw; a chodai y wlad o unfryd calon ar ei ol. Fe allai fod cymaint a hyny o ddyweyd yn gystal ag ychwaneg, er mwyn dangos fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei ddydd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rcod338ci8ujwrq7ieq5bgpwq6rvi9i Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/53 104 84555 164507 164332 2026-05-15T00:32:21Z AlwynapHuw 1710 164507 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdeithasol a phriodol, y maent yn brydferth, yn hardd, ac yn ddefnyddiol. Felly nid ydym yn meddwl fod yr un lle yn nghreadigaeth Duw y buasai Mr. Richard yn ymddangos yn brydferth ynddo ond y pwlpud. Yma yr oedd gartref; ac yma yr oedd pawb yn foddlon iddo gael bod; ac oni bai eu bod yn ofni temtio Duw, buasent yn gweddio am iddo gael bod yno dros ddyddiau y ddaear. Ond yn gymaint ag mai llestr pridd ydoedd fel ei holl frodyr, rhaid oedd iddo fyned o dan yr un dynged—cael ei ddryllio gan angau, a myned i'r briddell i orwedd. Eto o drugaredd nid yw y trysor oedd ynddo yn myned— yno; y mae hwnw yn cael ei osod mewn rhyw lestr darparedig arall; rhaid i'r weinidogaeth aros yn elfen anfarwol ar y ddaear hyd ddiwedd y byd, mewn llestri newyddion o genedlaeth i genedlaeth.

{{c|{{mawr|Cynwysiad.}}}} {{c|PENOD I.
Dyddiau boreuol Mr. Richard—ei argyhoeddiad a'i ddygiad i wybodaeth y gwirionedd}} {{c|PENOD II.
Dychweliad Mr. Richard at grefydd}} {{c|PENOD III.
Cychwyniad Mr. Richard gyda gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i ymlwybriad am amryw o'i flynyddau boreuol}} {{c|PENOD IV.
Claddu ei dad—ei ordeiniad—claddu ei fam, a'i deimladau mewn cysylltiad â'r amgylchiadau hyn}} {{c|PENOD V.
Mr. Richard, wedi claddu ei fam, yn edrych allan am wraig—yn ei chael, ac yn priodi {{c|PENOD VI.
Ei ddyddlyfr, o amser ei briodas yn Ebrill, 1819, hyd y flwyddyn 1826, yr hwn sydd yn cynwys ei symudiadau, ei drafferthion bydol, genedigaeth ei fab, yn nghyda'i lafur gweinidogaethol yn y blynyddau hyny
<noinclude><references/></noinclude> 07b8mtwy280katxuak62ruao8d6dzhi 164509 164507 2026-05-15T00:34:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164509 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdeithasol a phriodol, y maent yn brydferth, yn hardd, ac yn ddefnyddiol. Felly nid ydym yn meddwl fod yr un lle yn nghreadigaeth Duw y buasai Mr. Richard yn ymddangos yn brydferth ynddo ond y pwlpud. Yma yr oedd gartref; ac yma yr oedd pawb yn foddlon iddo gael bod; ac oni bai eu bod yn ofni temtio Duw, buasent yn gweddio am iddo gael bod yno dros ddyddiau y ddaear. Ond yn gymaint ag mai llestr pridd ydoedd fel ei holl frodyr, rhaid oedd iddo fyned o dan yr un dynged—cael ei ddryllio gan angau, a myned i'r briddell i orwedd. Eto o drugaredd nid yw y trysor oedd ynddo yn myned— yno; y mae hwnw yn cael ei osod mewn rhyw lestr darparedig arall; rhaid i'r weinidogaeth aros yn elfen anfarwol ar y ddaear hyd ddiwedd y byd, mewn llestri newyddion o genedlaeth i genedlaeth.

{{c|{{mawr|Cynwysiad.}}}} {{c|PENOD I.
Dyddiau boreuol Mr. Richard—ei argyhoeddiad a'i ddygiad i wybodaeth y gwirionedd}} {{c|PENOD II.
Dychweliad Mr. Richard at grefydd}} {{c|PENOD III.
Cychwyniad Mr. Richard gyda gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i ymlwybriad am amryw o'i flynyddau boreuol}} {{c|PENOD IV.
Claddu ei dad—ei ordeiniad—claddu ei fam, a'i deimladau mewn cysylltiad â'r amgylchiadau hyn}} {{c|PENOD V.
Mr. Richard, wedi claddu ei fam, yn edrych allan am wraig—yn ei chael, ac yn priodi}} {{c|PENOD VI.
Ei ddyddlyfr, o amser ei briodas yn Ebrill, 1819, hyd y flwyddyn 1826, yr hwn sydd yn cynwys ei symudiadau, ei drafferthion bydol, genedigaeth ei fab, yn nghyda'i lafur gweinidogaethol yn y blynyddau hyny}} {{c|PENOD VII.
Adolygiad ar ei flynyddoedd priodasol hyd 1828}} {{c|PENOD VIII.
Mr. Richard yn un o brif bregethwyr ei oes}} {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> hxfj5xar6fe4u3bbx7w3xhjjmwutkcy Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/58 104 84556 164515 164333 2026-05-15T00:54:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164515 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>amgylchiadau eraill, wedi peri iddynt feddwl am godi maen coffadwriaethol yn y bachgen hwn, gan ei enwi yn Ebenezer ; neu "hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd ni." Aeth y teulu duwiol yn y blaen gyda'u galwedigaethau, gan "ddiolch i Dduw a chymeryd cysur," a chan ymddiried eu cwbl i ragluniaeth ddwyfol. Yr oedd Henry Richard yn pregethu yn ffyddlon efengyl rad, ac yn byw wrth ei orchwylion amaethyddol. Aeth hen amser yn y blaen yn debyg i'w arfer, gan droi llawer o bethau at yr hen, a dyfod â llawer o bethau newyddion i'r golwg. Yr oedd swn rhyfel yn y pellder; ond yr oedd pentref Trefin yn sefyll yn wylaidd ar y graig uwch ben y weilgi, fel pe na buasai yr un ystorm i fod, na dim dryc-hin yn môn y gwynt. Yr oedd y môr yn rhuo ac yn terfysgu islaw; ond yn gymaint mai felly yr ydoedd yn arfer, nid oedd neb yn cyffro, mwy na phe buasai maban yn cael ei ysgwyd yn ei gryd. Byddai Henry Richard yn pregethu tangnefedd i ddynion, ac yn amaethyddu yn ddiddig, a Hannah y wraig yn bob cysur a chynorthwy iddo gyda'r ddau orchwyl. Tra yr oedd pob peth yn myned yn y blaen fel hyn yn dra llyfn, y mae Hannah yn anrhydeddu Henry Richard a'r byd â mab eto; a galwyd ei enw ef THOMAS, yr hwn yw gwrthddrych y llyfr hwn. Chwefror yr 11eg, 1783, y cafodd y byd yr anrhydedd o weled gwyneb Thomas Richard; ac ar y 3ydd o Ionawr, 1856, у cafodd y nefoedd y pleser o weled ei enaid anfarwol yn dyfod i mewn yno, i gyduno â'r dyrfa sydd "wedi golchi eu gynau, a'u cànu yn ngwaed yr Oen." Ganwyd merch ar ol hyn, a galwyd ei henw yn Mary; a throdd hon allan yn wir grefyddol, ac yn addurn i achos Iesu yn ei holl ymarweddiad. Yn fuan gwelwyd Eben a Tommy yn hogiau bychain yn chwareu ar hyd greigydd Trefin, yn casglu cregin ar lan y môr, gan neidio a llamu fel ŵyn defaid. Yr oeddent fel un enaid, yn frodyr yn wir, er yn wahanol iawn eu tymherau naturiol. Yr oedd y bachgen Ebenezer yn fwy llwfr, llariaidd, gwarog, a gwar-ffals; ac felly yn fwy araf ei symudiadau. Yr oedd Tommy, o'r tu arall, yn wyllt, yn gyflym, yn anwyliadwrus, yn dyweyd y peth casaf yn gyntaf, ac yn myned i dymher ddrwg mewn moment; ac mewn tymher dda y foment nesaf eilwaith. Dan redeg i'r ysgol gyda'u gilydd, a chwareu o fryn i fryn, ac o dwyn i dwyn, y daethant yn fuan yn hogiau cryfion. Pwnc mawr y dydd erbyn hyny oedd Napoleon a'r rhyfeloedd, yn nghyda'r arswyd oedd ar bawb<noinclude><references/></noinclude> hqfm2iouvm2s87habsiz92qg5tm3igb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/63 104 84557 164520 164334 2026-05-15T01:08:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164520 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gruddfanau poenus yn ganiadau gorfoleddus. Mor swynol y byddai yn dodi ei breichiau am wddf Tommy, ac yn ei gusanu dan wylo. Rhyw fath o wylo hapus ydoedd, -wylo o lawenydd, nid tristwch; neu fel y dywed y Salmydd, "llawenhau mewn dychryn." A'i breichiau am ei wddf y dywedai Hannah Richard, "Dros y bachgen hwn y gweddiais; a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo. Minau hefyd a'i rhoddais ef i'r Arglwydd yr holl ddyddiau y byddo efe byw." Dyna undeb newydd yn cael ei ffurfio rhwng Tommy a'i fam, ag sydd yn gryfach na'r undeb cyntaf, ac a bery yn hwy; pery pan y bydd natur wedi malurio yn Ilwch, a chyfamodau dynol wedi eu datod am byth. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rn67jt4jcrbs9ymlssdglspmipt6qah Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/173 104 84585 164525 164363 2026-05-15T01:17:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164525 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac yn iachusol; ei daear yn fwy cynyrchiol na dim a welsom; ei choedydd yn fawrion, cysgod-frigog, ac fel tyrau gwyrddleision yn codi i fyny i entrych nen; ei hafonydd yn fawrion, ond yn brydferth, yn ymddolenu yn ogoneddus drwy wledydd llawn o ffrwythlondeb; gwledydd lle mae haf yn parhau beunydd, a'r holl fryniau yn ber-lysieuog. Gwlad dda iawn yw hon; y mae miloedd wedi taro allan ar daith ymchwiliadol; eithr wedi dychwelyd, ar ol llawer o helynt, yn bur aflwyddianus; nid yn unig wedi methu ei darganfod, ond hefyd wedi colli llawer, ac ambell un y cwbl, yn yr anturiaeth. Mewn cysylltiad â Miss Gwyn, Maenorowen, y mae Mr. Richard yn penderfynu hwylio allan o un o borthladdoedd Sir Benfro, mewn ymchwil am wlad yr haf, gan feddwl, fel y mae pawb, mai iddo ef y cadwodd Rhagluniaeth y fraint o fod yn ddarganfyddwr. Yr oedd y môr dipyn yn arw ychydig o ddiwrnodau cyn hyny ar fin traeth Wdig, ac yn lluchio i fyny hyd at Maenorowen, fel yr oedd Mrs. Jones, modryb Miss Gwyn, yn hytrach yn glaf o herwydd arogl y dwfr hallt; yr oedd dwfr mwy croyw na hwnw yn cytuno yn well â chyfansoddiad Mrs. Jones. Beth bynag, aeth yr ystorm hono heibio fel y rhan fwyaf o ystormydd o'r fath. Yn blygeiniol dranoeth, dacw y ddau yn ymuno mewn glân briodas, fel y cam cyntaf ar daith ddarganfyddiadol. Dacw y llong fechan yn codi hwyliau yn yr hafan, ac yn cychwyn yn araf i'r fordaith bell, am y gwledydd heulog draw. Mae yn myned yn hwylus; y gwynt yn deg, y môr yn llyfn, a morio yn ymddangos weithian yn dra chysurus; wrth bob tebyg bydd wedi myned yn mhell cyn nemawr amser; ac wedi cyrhaedd y tir pell a dymunol yn dra dirwystr. Yn fuan collwyd golwg arni yn y pellder, fel yr oedd pawb yn troi cefn arni a myned gartref, gan adael iddi wneyd y goreu drosti ei hun. Aeth hen amser ar ei yrfa yn y blaen, aeth cymdeithas rhagddi fel arferol, nes i'r amser ddyfod i ddysgwyl llythyr oddiwrth Mr. Richard, ei fod ef a'i briod wedi gwneyd y darganfyddiad, a'u bod wedi dechreu meddianu y wlad. Aeth ychydig o siarad yn awr ac eilwaith am lythyr, ac awd i gyfarfod pob llythyr-god i edrych am dano; eithr nid oedd un i'w gael, fel y tybiwyd mai llongddrylliad oedd wedi cymeryd lle, ac fel llawer eraill eu bod wedi colli eu bywydau, a'u claddu mewn gwely dyfrllyd. Ond ar foreu tywyll ystormus iawn canfyddwyd llong fechan yn agos i draeth Wdig, yn ymyl Abergwaen, mewn cyfyngder, ar fyned yn ganddryll o flaen y gwynt,<noinclude><references/></noinclude> 0z3vhnntrd86vvqm1ec9pvvl0qt0g81 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/14 104 84667 164463 2026-05-14T23:14:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164463 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn holi yn nghylch y pregethwyr, pwy oeddynt, a ydynt yn fyw yn awr, a llawer o bethau eraill, nes yr arweiniai hyny at ymddyddan diddarfod yn mron. Byddai y plant mor gydnabyddus ag enwau yr hen bregethwyr a'u hanes a phe magesid hwynt yn eu plith. Byddent yn siarad am danynt fel rhan o'u heiddo, neu fel rhai yn dal yr undeb agosaf a hwy. Ië, pregethwyr a phregethu yn Nghymru sydd yn siarad tŷ, yn ymddyddanion aelwydydd, yn ymrafaelion weithiau, yn heddwch a mwynhad brydiau eraill; yn ddadleuon creulon, yn gytundeb hapus, yn llafur a lludded gwŷr a gwragedd, ac yn chwareu plant. Yr oedd pregethu yn aml yn myned yn destum dadl mor boeth, nes y codai ymrafael gwyllt o hono; ond wed'yn yr oeddynt yn dyfod i gytundeb yn yr un man. Llawer o fechgyn wedi codi fyny gyda chrefydd, ond wedi troi yn wyllt, pe clywsent ryw rai yn taflu dirmyg ar eu pregethwyr hoff, byddent yn barod i golli eu gwaed mewn moment. Nid peth annghyffredin fyddai ffrae lled boeth rhwng gwr a gwraig yn nghylch talentau a doniau pregethwyr; ond darfyddai y ffrae yn fuan mewn cytundeb hapus o dan deimlad o effeithiau cysurol y weinidogaeth ar eu meddyliau. "Wel," meddai y wraig, "nid oes genyf fi ddim i ddyweyd ond hyn: mi deimlais i fy meichiau i gyd yn myned i lawr, y rhai oedd yn pwyso arnaf fel mynyddoedd o blwm cyn y cwrdd." "Ië, ïe," ebe y gwr, "dyna'r cwbl, ferch, yw hyny yn y diwedd, cael y fraint o deimlo y weinidogaeth yn ein cynorthwyo i fyned drwy y byd, ac i obeithio am fywyd tragywyddol; y mae hyn yn well na 'miloedd o aur ac arian." Fel hyn chwi welwch fod yr ymrafaelion yn nghylch y pregethu yn wahanol i lawer peth; y maent yn ymdoddi i hapusrwydd tawel yn y teimlad o'u rhinwedd. Llafur penaf llawer gwr a gwraig dduwiol yw cael lle cysurus i'r pregethwyr, gan eu lletya fel angylion. Y maent yn llafurio gyda'r byd yn ddiwyd, er mwyn cael peth i gyfranu, er gwneyd achos crefydd yn brydferth a llwyddianus yn eu teuluoedd a'u hardaloedd. Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, fyddo gydag ysbrydoedd<noinclude><references/></noinclude> 6kx6hvml8dmaf5bbrybza84tdy12zvr Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/15 104 84668 164464 2026-05-14T23:15:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164464 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y cyfryw, ac a'u cadwo i fywyd tragywyddol. Yn ddiddadl y mae genym lawer o'r cyfryw heddyw, er bod dynion yn barod i feddwl mai wedi myned heibio y mae pob peth da. Na; o drugaredd mae lluoedd eto heb blygu eu gliniau i Baal, y rhai sydd yn gwasanaethu Duw yn eu cyrph ac yn eu hysbrydoedd, yn gorfoleddu yn Nghrist, heb ymddiried yn y cnawd. Pan y bydd peth mewn bri uchel mewn gwlad, fe welir y plant o bob oedran yn ymaflyd ynddo. Gwelsom chwareu bando yn flodeuog; y pryd hwnw gwelsech y dynion ieuainc yn pentyru at eu gilydd i'r caeau, i chwareu o foreu hyd nos; yr hogiau hwythau mewn man arall yn chwareu am fywyd; y plant hefyd, y rhai sydd heb fod yn gallu gwneyd nemawr ond cerdded, oedd yn gwneyd pob ymdrech i ymaflyd mewn bando, a chwareu gymaint y medrent. Ymddengys fod rhyw ysbryd yn perthyn i wahanol bethau, ac y mae hwnw yn cymeryd pawb ar amserau, fel y maent yn gweithio am fywyd o dan ei ddylanwad. Bid a fyno, gellir deall cyn hir beth sydd mewn bri mawr yn y wlad wrth weled y genedl yn ymgymeryd yn fywiog ag ef, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf. Nid peth annghyffredin yw gweled pregethu yn chwareu plant yn Nghymru, yr hyn sydd yn myned yn mhell i egluro mai un o brif bethau Cymru yw eu pregethwyr a'u pregethu. Gwelir plant canoedd o deuluoedd, eu prif chwareu yw chwareu cyrddau bach. Byddant yn ymgrynhoi at eu gilydd, a'u llyfrau ganddynt; un yn rhoi hymn allan, yn dechreu canu, yn darllen, yn myned ar eu gliniau, pawb mor ddystaw a'r bedd; yn codi, yn canu eilwaith, un o honynt yn myned i ben ystol, yn pregethu yn ei lwybr ef, tra y byddai yr holl blant yn ddystaw a defosiynol iawn eu hymddangosiad. Efallai ar ddiwedd y cyfarfod y byddai rhyw un yn codi ac yn cyhoeddi rhyw bregethwr adnabyddus i fod yn pregethu y Sabbath nesaf. Y maent yn gwneyd pob peth fel y gwneir yn y capel; ac y mae y pregethwr a'r pregethu mewn bri uchel ganddynt. Pan yr elo rhyw beth yn chwareu plant mewn gwlad, y mae yn sicr fod cryn fri ar hwnw gan y<noinclude><references/></noinclude> 2zvkt53ni4qhslba57gdgrf25eaenow Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/16 104 84669 164465 2026-05-14T23:15:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164465 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhieni, canys cynhyrfir y plant gan yr hyn a glywant yn cael ei siarad gartref. Llawer iawn o bregethwyr enwog Cymru sydd wedi bod yn chwareu pregethu yn blant, wedi dal yr ysbryd hwnw er eu cof cyntaf, ac y mae heb ymadael byth. Elai y tad a'r fam yn mhell i wrando pregethu, trwy lawer o lafur a lludded, a'r plant hwythau yn chwareu pregethu o gwmpas y tŷ; a pha beth a wyddom ni na ddaliodd llawer o honynt ysbryd pregethu o'r amser hyny, ac y bu rhyw neillduaeth arnynt o'u mebyd at waith y weinidogaeth? Fel gwlad orchfygedig, ac yn ddarostyngedig i lywodraeth estronol mewn cymhariaeth, dyoddefodd Cymru lawer o gam a cholled am oesoedd; ac amddifadwyd hi o ragorfreintiau y dylasai fwynhau fel rhanau eraill o'r Deyrnas Gyfunol. Nid yw y llywodraeth wedi gwneyd yn deg å Chymru; nid ydyw wedi cael y sylw priodol gyda golwg ar addysg; y mae yn haeddu university, a llawer o bethau eraill, lawn cystal a'r Iwerddon, 'does posibl, os nid ychydig yn well; ond wedi ei hesgeuluso y mae yn ddirfawr, a hyny i fesur helaeth gan ei meibion ei hunan. Eithr yn yr amddifadrwydd o lawer o ragorfreintiau a fwynheir gan genedloedd eraill, y mae Cymru wedi ei breintio a'i bendithio â phregethu mwy pur, mwy tanbaid, ac efengylaidd, er gwneyd i fyny am yr holl golledion hyn, ïe, a mil mwy. Yr oedd y Brenin tragywyddol, Brenin y breninoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yn codi, yn donio, ac yn cymhwyso dynion i bregethu yr efengyl, nad oedd neb ond ei hunan allasai wneyd y cyfryw. Gwaith y Duw Goruchaf, a gweision y Duw Goruchaf, oedd y dynion hyn, y rhai a neillduwyd i'r unig bwrpas, i fynegi i'w cydgenedl ffordd iachawdwriaeth. Taflodd yr Arglwydd lygad tosturiol ar ein gwlad dlawd, yr hon oedd yn ymdrybaeddu yn ei gwaed, a dywedodd, "Yn dy waed bydd fyw." Cododd iddi athrawon wrth fodd ei galon, ac wrth fodd ei chalon hithau hefyd, y rhai oedd iddi fel cân cariad yn canu yn dda. Llafuriodd y dynion anwyl hyn ar eu traul eu hunain, trwy lawer o dlodi ac erledigaethau, i bregethu yr efengyl a chodi Ysgolion Sabbathol, er gwareiddiad ac<noinclude><references/></noinclude> elenqgm40uzsenwnetew4zwn4qwyncq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/17 104 84670 164466 2026-05-14T23:16:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164466 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>efengyleiddiad y genedl. Llwyddodd Duw eu llafur caled; ac er na feddent ryw lawer o ddysg na nemawr o aur, gwnawd hwynt yn allu mawr er daioni yn y dalaeth; ac erbyn heddyw y mae Cymru yn dechreu dyweyd wrth y byd fod yma fywyd eto. Yr oedd pregethwyr Cymru yn ol urdd Melchisedec, yr urdd nad oedd dim dyn yn cyfryngu rhwng Duw a hwy; yr oeddent yn derbyn eu swyddau drwy alwad uniongyrchol oddiwrtho; ac argraff ddwyfol oedd ar ei gweinyddiad. Dyma oedd yn gwneyd Cymru yn uchel, hyn oedd yn gwneyd ei heddwch fel yr afon, a dyma y peth oedd yn ei dal i fyny yn ei gorthrymderau, ac yn peri iddi orfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Do, do, gwelodd ein Harglwydd yn dda i fendithio Cymru a phregethu heb fod yn ail i un wlad dan haul. Eu llwch sydd yn gysegredig yn meddwl y genedl; ac y mae hi yn falch o'i meibion sydd heddyw yn chwythu yn yr udgorn, gan alw byddinoedd y Duw byw yn nghyd. Yr ydym yn gwybod y gall gwledydd eraill ymffrostio yn eu hathronwyr, eu hareithwyr hyawdl a dysgedig, eu hastronomyddion, eu cyfreithwyr, eu deddfroddwyr, eu gwladeiddwyr, eu llenorion, a'u celfyddydwyr, yn fwy na Chymru; a hyny o herwydd y manteision helaeth a fwynheir ganddynt uwchlaw Cymru. Nid ydynt yn rhagori o ran galluoedd gwreiddiol; canys yr ydym yn gweled pan y bydd y Cymro yn cael yr un manteision a'r Sais neu ryw genedl arall, ei fod yn gyffredin yn rhagori ar ei gymydogion. Cedwch hyny yn ddystaw hefyd, peidiwch a gadael iddo fyned allan; nid oes eisiau canu y gloch uwchben pob peth; y mae rhyw bethau o'r goreu rhyngoch chwi a ninau, na fyddent yn edrych cystal pe baent yn myned rhwng pawb. Y mae ambell beth yn ddigon cysurus rhyngom ni a'n gilydd mewn ffordd o gyfeillach a mwynhad, heb yn wybod iddynt hwy; canys digon cyfiawn i ninau, fel pawb eraill, gael rhyw bethau ar ein penau ein hunain weithiau, er mwyn bod yn gyfeillgar, a chael tipyn o gymydogaeth dda. Wedi yr holl ganiatau a wnaethom o herwydd manteision,<noinclude><references/></noinclude> 3e1kwyxgf8r8cxergqe3fybfrkd0if6 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/19 104 84671 164468 2026-05-14T23:20:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164468 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymddengys fod rhyw beth gwahanol ynddi i broffes o'r gyfraith neu physigwriaeth; yr ydym yn rhwym o feddwl fod rhyw beth dwyfol uniongyrchol yn cymhwyso y meddwl at ei phregethu, a goruchwyliaethau trymion beunydd ar y meddwl, er mwyn cadw dyn o dan argraff briodol i'w phregethu. Nid traethodwr mawr oedd Whitfield, ond pregethwr mawr; nid ydyw ei bregethau argraffedig ond y pethau symlaf; ond yr oedd rhyw beth yn ei bregethu ag oedd yn peri i wallt areithwyr a ffug-chwareuwyr penaf Llundain sefyll ar eu penau yn syth. Yr oedd Duw fel yn llenwi ei enaid â theimlad yr efengyl a bregethai, nes oedd geiriau yn codi yn naturiol allan o'r cynhyrfiad hyny, ac yn disgyn fel tân poeth ar feddyliau y gwrandawyr, nes cynyrchu teimlad nad oedd neb yn gallu ei effeithio ond Duw ei hun. Duw yn unig all wneyd pregethwr mawr. Pe gosodech ddeng mil o ddynion o flaen y ''Bampton Lecturer'', ni wnaent gymaint a gwrando arno; ond gosodwch John Elias, yr hen Gristmas, Ebenezer Morris, neu un o'r Richards o'u blaen, dacw allu! dacw effeithiau! Y mae rhyw beth yn ''myned'', ys dywed y bobl; rhyw wynt nerthol fel yn cerdded trwy yr eneidiau; yn eu hysgwyd hyd eu gwraidd; a'u cyrph yn cael eu hysgwyd o'u penau i'w traed hefyd. Beth ydyw? Goruwch natur ydyw, goruwch dysgeidiaeth ddynol; ïe, goruwch pob peth ag sydd yn y byd hwn. Dynion ydyw y rhai yna wedi eu gwneyd gan Dduw i bregethu yr efengyl i'r werin er eu hachubiaeth; dynion ydynt o dan oruchwyliaeth Ysbryd Duw yn gyson, er mwyn eu cadw o dan argraff briodol i'w phregethu; a dynion o dan ddylanwad dwyfol yn traddodi; a'u hunig amcan yn eu llafur oll, ïe, yn mhob pregeth, i droi rhyw rai o gyfeiliorni eu ffyrdd, a chadw eneidiau rhag angau. Dyweyd fel y mae y cwestiwn duwinyddol yn sefyll, gyda golwg ar ei hanesyddiaeth, a'i athroniaeth, a llawer o bethau cyffelyb, y mae y ''Bampton Lecturer''; ond siarad â'r eneidiau y mae y weinidogaeth yna; cario cenadwri uniongyrchol o orsedd Duw i eneidiau mewn gwlad bell; ymaflyd ynddynt a'u gosod i sefyll o flaen y Barnwr; yn trin eu hachos yno,<noinclude><references/></noinclude> 0dau2toq2s0u040huz7dh266d6emggb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/20 104 84672 164469 2026-05-14T23:20:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164469 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn eu condemnio byth yn eu pechodau, yn eu trosglwyddo i gosp dragywyddol, ac yn cloi y carchar arnynt byth. Y mae y dynion yn teimlo hyn oll yn myned yn y blaen yn eu heneidiau; yn gwaeddi allan am drugaredd, ac yn gweddio am ddiangfa; gyda hyny dyma genadwri o faddeuant pechodau yn gyfeiriol at yr eneidiau hyny sydd yn teimlo eu colledigaeth, ac yn cael ei harllwys i mewn fel balm i'w calonau drylliedig. Duw ysbrydoedd pob cnawd sydd yn teyrnasu yn y byd ysbrydol, ac yn cynyrchu effeithiau ysbrydol drwy ei Ysbryd; nid yn unig y mae yno hollalluawgrwydd yn gweithio, ond hollwybodaeth hefyd, canys canfyddir y teimlad pell a dwfn yn y galon, a chyfeirir cenadwri at hyny. "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno; a thi a glywi ei swn ef; ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned; felly y mae pob un a'r a aned o'r Ysbryd." Nid yw y gwynt yn ymddibynu ar ewyllys dyn, nac wrth ei ewyllys; oblegyd ef, fe chwyth lle y myno. Eithr y mae ewyllys, serch hyny, yn uwch nag ef, ar yr hwn y mae yn ymddibynu, ac yn ol yr hwn rhaid iddo chwythu; canys y mae efe yn ei ddal yn ei ddwrn; ei swn ef a'i effeithiau glywir ac a welir; efe ei hun sydd yn guddiedig. Dacw y coed draw yn rhwygo fel dellt; ïe, lluaws o honynt yn cwympo i'r llawr o flaen yr ystorm gref; ond pwy all ei alw i gyfrif? Yr ydych yn gweled y coedydd yn rhwygo; eithr nid ydych yn gweled yr achos; nid ydych yn clywed dim ond swn. Rhaid yw fod peth felly yn ngoruchwyliaeth yr efengyl; nid oes amheuaeth nad yw Duw yn wir yn y pethau hyn, mewn ffordd o ddylanwad uniongyrchol ar feddyliau. Goruchwyliaeth yr Ysbryd ydyw; ysbryd a bywyd yw y geiriau; byd ysbrydol yw byd y meddwl, lle y bydd Duw yn eistedd, ac yn goruchwyliaethu. Y mae rhyw ddynion yn mhob oes wedi bod o dan ddylanwad Duw mor fawr, a than ei gyfarwyddiadau anffaeledig, fel ag y maent yn cael ffordd i ymerodraeth y meddwl, a'r agoriadau ganddynt, yn agor y drysau, ac yn myned i mewn i'r celloedd tywyllaf. Y maent yn eu gweinidogaeth yn gallu myned i mewn, a gwysio y<noinclude><references/></noinclude> nmukr3iuxtiij9kfp6qyztk2fj7wgap Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/21 104 84673 164470 2026-05-14T23:21:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164470 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>troseddwr ger bron Duw, yn ei gondemnio i gosp dragywyddol; ac ar ei edifeirwch eilwaith yn myned i mewn â llonaid cawg eu gweinidogaeth o waed y taenelliad, yn cyhoeddi y troseddwr yn rhydd, ac yn glanhau yr aflan oddiwrth ei holl aflendid. Wel, y mae llawer o swn i bethau fel hyn weithiau; bydd y cyffroadau anweledig yn y byd ysbrydol neu feddyliol yn ysgwyd y corph bron yn chwilfriw, fel y bydd y gwynt yn ysgwyd y dderwen gref. Nid yw y dderwen gryfaf ond fel brwynen neu gorsen ysig o flaen y gwynt nerthol yn chwythu; a phan y delo Ysbryd Duw gyda gweinidogaeth yr efengyl, nid gwiw siarad am weddeidd-dra a boneddigeiddrwydd, a rhyw res o eiriau gardd-flodau y cnawd; yn chwilfriw yr å y cwbl o'i flaen yn anwrthwynebol. Yr ydym yn ofni mai aflwyddianus y byddwn wedi ein holl drafferth, i roi rhyw lawer i ddeall yr hyn yr ydym yn amcanu; pwnc tywyll ydyw i'r cyffredin. Bydd llawer yn deall fod gwahaniaeth annghyffredin rhwng gwir bregethu yr efengyl a darllen traethawd dysgedig, ond nid ydynt yn gallu cyfrif am y peth mewn modd yn y byd. Yr unig ffordd y maent hwy yn deall, yw y gwahaniaeth annhraethol yn eu teimladau o dan y naill a'r llall. Y mae y traethawd yn darllen yn dda, yn ffrwyth ymchwiliad mawr, ac yn ymborth i'r deall, ond yn rhyw fodd nid ydyw yn cydio yn yr enaid, a'i ysgwyd ger bron Duw, yn ei rwymo, yn ei gondemnio, yn ei ollwng yn rhydd, yn cyhoeddi maddeuant, nes ei godi o ddyfnderoedd i'r lan. Gweinidogaeth yn gwneyd hyny yw dirgelwch y peth. Gall fod pregeth o'r cyfansoddiad goreu, yn unol a'r rheolau goreu; yn llawn synwyr cyffredin, a synwyr Biblaidd, a beirniadaeth ysgrythyrol fuddiol, ac yn cael ei darllen neu ei thraddodi yn weddus ac mewn trefn; pob pen yn daclus, a'r holl gasgliadau ar flaen y gynffon yn drefnus; eto corph heb enaid ydyw. Nid ydym yn amcanu dysgu nad oes eisiau y pethau uchod, eithr ymdrechu yr ydym i ddangos fod rhyw beth ag sydd yn fwy a thu hwnt i hyny mewn gwir bregethu. Nid mawredd pregeth Luther, fel cyfansoddiad ysgolheigaidd,<noinclude><references/></noinclude> kbie6veumm7cho2hxdyjdlkl0culreq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/22 104 84674 164471 2026-05-14T23:21:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164471 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd yn ei wneuthur y pregethwr ofnadwy ag oedd yn cydio yn ngyddfau ymerawdwyr, a'u hysgwyd fel plant; yn peri i Harri yr Wythfed edrych fel ffwl, ac ysgwyd gorsedd Prydain o dano; yn cydio yn ngwallt y pab, ei dynu yma ac acw wrth ei gudyn, yn lluchio hetiau y cardinaliaid am draws eu gilydd, ac yn peri i'r offeiriaid waeddi allan yn groch, Beth ddaw o'n Diana ni? Yr oedd gweinidogaeth Luther yn bwrw cestyll i'r llawr, yn lluchio dychymygion i'r pedwar gwynt, yn tynu y bobl ar ei ol, ac yn eu hachub oddiwrth eu pechodau. Nid penau pregeth, nid tlysni cyfansoddiad, oedd yn gwneyd hyn, ond ysbryd gweinidogaeth yn cael ei chynaliaeth mewn cymdeithas a Duw, ac yn tori allan yn sel danllyd dros y Gwr fu farw, ac yn dosturi at eneidiau dynion. Rhai felly oedd ein tadau ni; hyn oedd eu prif enwogrwydd; ac y mae yn ddigon tebyg na fendithiwyd gwlad erioed â mwy cyflawnder o weinidogaeth ysbrydol na Chymru dlawd. O drugaredd y mae heb ymadael eto; y mae y peth hwnw heb ymatal; cyfrenir ef gan y Bod Goruchaf yn ein dyddiau ni fe allai gymaint yn Nghymru ag un wlad arall dan haul. Wel, a chymeryd pob peth o dan sylw, gall Cymru ymffrostio eto, er yn amddifad o lawer o bethau, mai ynddi hi y mae y pregethu goreu yn y byd; ac ynddi hi hefyd y lletya y teimlad cryfaf at wrando pregeth. Pa bethau bynag a gollir eto, cadwer hyn yn fyw yn mhlith ein cenedl ac yn ein gwlad hyd y dydd olaf. Pan y teithir tiroedd Lloegr, yr ydym yn cyffesu yn rhwydd fod yno well tir, gwell tai, ac fe allai gwell bywioliaeth; ond a oes yno well pregethu? A ydyw tlodion Lloegr yn gwybod cymaint am yr efengyl a thlodion Cymru? A ydynt wedi eu dysgu fel yn Nghymru, i ddysgwyl cysuron cryf drwy yr efengyl? A ydynt yn pentyru i wrando pregethu, gan ddylyn pregethwr am ddiwrnodau? Ah, y mae hyn oll yn beth dyeithr iddynt hwy. Gwelir fod gwerin Lloegr, ar y cyfan, yn esgeulusedig, yn ymdroi mewn arferion isel, ac mewn cryn anwybodaeth o'r efengyl. Bwyta ac yfed yw eu prif efrydiaeth hwynt, a chael y Sabbath yn ddiwrnod<noinclude><references/></noinclude> rxykvjw5vjd5ctro9uvh5cd4f4rweeq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/24 104 84675 164473 2026-05-14T23:24:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164473 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>beth bynag, cymaint o ragoriaeth fel y mae yn anhawdd ei ddesgrifio. Pa brydferthion neu anmhrydferthion bynag ddichon fod yn yr iaith Gymraeg, nid ydym yn ewyllysio ymwneyd dim â hyny; eithr dywedyd yr ydym fod pregethu yr efengyl ynddi yn rhyw brydferthwch a gallu annghydmarol; a bod yn werth y drafferth o'i dysgu er mwynhau hyny. Y mae digon o ddynion i gael ag sydd yn gwybod Saesoneg lawn gystal a Chymraeg, a gwell am hyny; eithr nis gallent gael yr un teimlad hyfryd wrth wrando pregeth Saesoneg ag un Gymraeg. Clywsom amryw o'r fath yn dywedyd, "Y mae yn well gyda ni Saesoneg at bob peth ag sydd yn y byd, ac y mae yn well gyda ni ddarllen Saesoneg; eithr y mae yn hyfrytach genym wrando un o brif bregethwyr Cymru yn pregethu yn Gymraeg nag ugain o Saeson." "Wel, hawyr, rhyw beth digrif dros ben yw peth fel hyn, onide?" Ië, gellir galw y peth yn ddigrif, am ddim a wyddom ni, ac eto yn wirionedd hollol. "Yr un peth yw pregethu Crist yn mhob iaith, onide?” Yr un peth yw athrawiaeth y groes yn Gymraeg ag yn Saesoneg; a rhyw beth o'r un natur yw credu yn hyny hefyd, tebygem. Ië, felly y mae; nid oes dim i ddyweyd yn erbyn y gwirionedd yna, canys yr un yw Crist, yr un yw angau y groes, a'r un yw credu ynddo, yn Gymraeg a Saesoneg; ac eto, wedi y cwbl, y mae pregethu yr efengyl yn Gymraeg yn llawer mwy hapus a mwy effeithiol nag yn Saesoneg. Gellid meddwl fod yr iaith, bywiogrwydd y genedl, hynodion y cymeriad Cymroaidd, wedi cael bod i ddybenion efengyl; y maent yn rhyw fodd yn taro eu gilydd, ac yn dra chydnawsol. Y pethau hyny a edrychid arnynt yn gywilyddus yn Saesoneg mewn cysylltiad â phregethu yr efengyl, sydd yn ogoneddus yn y Gymraeg. Dyma y llais, y donaeth, ag sydd yn swyno Cymry y ffordd y mae yn cerdded, a ystyrid yn farbariaeth perffaith mewn cysylltiad a phregethu Saesoneg. Ac fe fyddai hefyd; oblegyd peth perthynol i bregethu Cymraeg ydyw; a phan ceisir ei gario i un iaith arall, barbariaeth yw. Nid oes gan y Saeson un drychfeddwl am seiniadaeth ''(intonation)''<noinclude><references/></noinclude> bfehbvjwsz0kjg3mwrzrx0yhwssejbt Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/25 104 84676 164474 2026-05-14T23:25:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164474 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y Gymraeg; ac y mae yn anmhosibl iddynt ffurfio drychfeddwl cywir ond trwy ddysgu yr iaith a gwrando pregethu ynddi. Pan toddai ysbryd Richard, pan tynai ei law dros y cap du oedd ar ei ben, a'i thaflu allan bob yn ail, pan ymddyrehafai ei lais o dan y teimladau toddedig hyn, ac y gollyngai allan ei floeddiadau melusber, dan gario y cwbl o'i flaen yn deg, nid oedd yr un Cymro, bydded yn ddysgedig neu yn annysgedig, a gyfrifai hyny yn farbariaeth. Ah, na, cân cariad ydoedd i'w clustiau a'u calonau, yn eu swyno ac yn codi eu meddyliau yn mhell pell uwchlaw gwrthddrychau daear. Bydd rhai dynion yn meddwl mai rhyw beth yn perthyn i'r oesoedd tywyll oedd peth felly; a phan y delo dynion i sefyllfa uwch o ddiwylliant, y bydd yn farbariaeth yn eu barn. Nid ydym yn meddwl hyny. Yr ydym yn cyffesu fod llawer yn gwneyd eu hunain yn ffyliaid, ac yn gwneyd eraill yn annghysurus wrth wneyd ystumiau annaturiol, a lleisiau ansoniarus ac annymunol. Byddai llawer dylluan dwl, wrth geisio efelychu per-acenion yr eos, yn myned yn fwy dylluanaidd byth; eithr nid am y cyfryw yr ydym yn dywedyd. Yr oedd Cymry dysgedig yn gwrando Elias, Richard, a Jones Talsarn, ac yn edmygu eu talentau; ïe, yn myned fel plant o dan eu gweinidogaeth. Pwy fuasai yn anturio dyweyd, sydd yn deall Cymraeg, mai rhyw beth yn perthyn i'r oesoedd tywyll oedd bloeddiadau treiddgar Jones Talsarn, pan gynhyrfid ef gan wir deimlad yr efengyl? Pan y bydd diffyg teimlad, pan na fydd dim ond adroddiad sych, a dibrisdod o wirioneddau yr efengyl, y mae yno ffurfioldeb i'r pen; ymddengys y dyn fel pe bai wedi ei osod yn dyn mewn cadwynau gan ddiafol a chnawd. Dyna lle y bydd yn bwyta ei eiriau, yn gwneyd ystumiau, a bron hollti o falchder a hunanoldeb; bydd peth felly yn atgas. Ond dyna, fe gaiff rhyw un felly bregethu iddo ei hun, oddieithr iddo ddarpar ciniaw dda Nadolig i ychydig o hen wragedd a phlant. Edrychwch ar Jones Talsarn, yn dechreu gwresogi yn yr ysbryd; edrychwch arno yn ysgwyd yr hen bwlpud, nes<noinclude><references/></noinclude> czjmfpdnovbd1ylccq006pd7fvcji0h Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/26 104 84677 164475 2026-05-14T23:26:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164475 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ydoedd mewn perygl o ddyfod yn ganddryll; clywch ei floeddiadau yn treiddio drwy y dorf, nes oedd eneidiau gwreng a boneddig megys yn ymddolenu weithiau, yn llamu brydiau eraill, yn curo dwylaw, ac yn gorfoleddu, ac yn fynych ddim yn deall eu hunain beth i wneyd, na pha beth yr oeddent yn ei ddweyd ar y pryd. Chwychwi sydd yn gwybod Saesoneg gystal a Chymraeg, dywedwch yn awr, a glywsoch chwi bregethu yn Llundain ag oedd yn effeithio arnoch fel hyny? Pell yw hen floeddiadau Jones Talsarn, oddiwrth fod yn farbariaeth. Ond caniatewch fod yr un dynion yn gystal Saeson a Chymry, a phregethu yr un bregeth ac yn yr un dull yn Saesoneg ag y maent yn Gymraeg, a fyddai hyny yn boblog i'r Saeson? Y mae yn ddigon tebyg na fyddai; ni oddef y Saesoneg ddullwedd na theimlad y Gymraeg; dyna sydd yn gosod y fath gymhwysder yn y Gymraeg at bregethu yr efengyl. Digon tebyg, pe anturiai rhyw un i gario allan holl hynodion y Gymraeg yn Saesoneg, y meddyliai y Saeson am ei osod i lawr mewn sefyllfa o orphwylldra, ac y danfonent yn uniongyrchol at ei berthynasau agosaf yn Nghymru i edrych ato. Yn wir, dan gofio hefyd, y mae pregethu Cymraeg mewn dull a threfn Saesoneg yn lled ddiflas. Nid yw yn edrych nemawr gwell na "modrwy aur yn nhrwyn hwch." Ymddengys fod yn rhaid gwneyd pob peth yn ei drefn ei hun cyn y bydd rhyw lawer o lewyrch arno. Clywsom ambell un wedi iddo fod yn yr ysgol am flwyddyn neu ddwy, ac wedi cwympo mewn serch a chariad â'r Saeson, yn pregethu yn Nghymraeg mewn dullwedd Saesoneg: a dyna un o'r pethau mwyaf atgas ac annyoddefol a glywsom yn ein bywyd erioed. Yr ydym wedi clywed ysgrechfeydd adar ysglyfaethus yn oriau trymaidd tywyllwch y nos, yr ydym wedi clywed moch yn tuchan yn y twle, ac wedi dychrynu yn ddirfawr wrth glywed eu lleisiau ansoniarus pan y byddai y gyllell yn eu cegau; yr ydym wedi clywed oernadau echrydus asynod; eto wrth ymdrech gallwn gyd-ddwyn a hwy yn weddol; canys er fod yno seiniau<noinclude><references/></noinclude> qbrbe3d9642g5pz5cir066oqz16e8pv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/27 104 84678 164476 2026-05-14T23:27:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164476 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>digon annymunol, nid ydynt yn annaturiol. Na, y maent yn perthyn i ryw ran o'r greadigaeth isod; ac fe ddichon yn rhyw gymaint o ddaioni ynddi. Nid ydys, fel y gwyddoch, yn dysgwyl dim oddiwrth fochyn ond y peth sydd yn fochynaidd; nid ydys yn dysgwyl lleisiau soniarus na cherddoriaeth felus oddiwrth asynod; oernadau asynaidd a ddysgwylir; a phan y bydd yn rhoi allan ei lais, ac yn canu yn ei udgorn, ei lais ei hun a'i udgorn ei hun ydyw; felly y bydd pawb yn dysgwyl iddo fod, fel nad oes neb yn cael eu siomi. Ond pan y bydd Cymro yn pregethu yn Gymraeg yn nullwedd Saesoneg, bobl anwyl, y mae yn anferth! Nid oes yr un mochyn yn y byd yn haner mor fochynaidd; nid oes yr un asyn yn debyg mor asynaidd; nid oes o fewn y greadigaeth faith ddim i'w gydmaru ag ef am anferthwch; nid oes dim genym i ddyweyd ond fod ei annymunoldeb yn annhraethadwy. Edrychwch yn awr; y mae efe yn sefyll o'ch blaen yn syth, fel haner gwr boneddig; ei wallt fel gwrŷch mochyn cynhyrfiedig, ei wyneb yn chwerw-ddefosiynol, heb yr arwydd leiaf o wylder; ei got wedi ei botymio i fyny hyd y gwddf yn y modd mwyaf testlus, a'i lais yn iach ac yn orchymynol, heb yr arwydd leiaf o deimlad yn ei doddi i ffurf yr efengyl, a'i holl agweddiad yn benderfynol a beiddgar. Wel, dyna y gwalch; beth feddyliech am hwnw, Thomas Jones? "Y mae ei olwg yn ddigon i mi," meddai Thomas; "nid oes arnaf eisiau clywed un gair byth o enau hwna; yr wyf yn meddwl fod gweled hwna yn ddigon heb glywed un gair; pregethu ei hunan ydyw ei waith ef, nid pregethu Crist." Y mae yn un go bert yn sicr; gellir meddwl ei fod yn llawer o'r ''ladies' man,'' ys dywed y Sais; ac ymddengys hefyd ei fod mewn heddwch a chariad mawr ag ef ei hun. Gellir meddwl wrth ei darawiad ei fod yn edmygu ei hun yn fawr; efe yw y tecaf o feibion dynion yn ei farn ef; nid yw yn gweled neb o'r cyffelyb feddwl na'r cyffelyb gorph; y mae wrth fodd ei galon ei hun. Y prif beth sydd yn flinderus iddo yw na bai pawb eraill yn gweled lygad yn llygad ag ef yn y materion hyn. Yn rhyw fodd, nid ydyw y bobl ac yntau yn<noinclude><references/></noinclude> 2fk3dbcii1rd2rsy4xgxv0r2jqpggbn Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/29 104 84679 164481 2026-05-14T23:45:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164481 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddwl yn uchel am dano ei hun, ac yn cael blas mawr arno ei hun; y mae yn naturiol iawn iddo ef feddwl fod pawb yn meddwl am dano fel y bydd ef yn meddwl am dano ei hun. Cynorthwyir ef, gan hyny, i fyned rhagddo yn galonog o dan ddylanwad teimlad felly; a chan fwynhau ei hun yn ddirfawr, gan dybied ei fod yn well na neb arall, â rhagddo dan ganu yn fuddugoliaethus. Bydd ef, druan, yn troi mewn byd o'i greadigaeth ddychymygol ei hun, wedi cael allan bob meddwl ond ei feddwl hunan-ddiwylliedig. Am ba beth ydym yn siarad? yr ydym bron wedi myned y tu hwnt i ni ein hunain, neu wedi ymgolli mewn anialwch gwag erchyll. Wel yn wir, erbyn cofio, nid rhyfedd ychwaith, canys yr hynt hon sydd yn un lled ddyrys; canys yr ydym yn erlid creadur trwy y coedydd a'r dyrysni, gan geisio ei ddal a'i ddyfetha, ond methu yr ydym yn rhyw fodd. "Pa greadur?" Ond Cymro gwyllt yn nghroen Sais, fel pe tai dyn yn ceisio pregethu Cymraeg yn nullwedd Saesoneg; creadur dyeithr i'r dalaeth ydyw; blaidd sydd yn difa y defaid ydyw; ïe, anghenfil sydd yn ddychryn i'r holl braidd. Pan y gwelwch Gymro yn siarad yn null Sais, Cymro gwladaidd yn Saesonegeiddio y Gymraeg, y mae yn debyg i ddyn tlawd wedi cael cot ddu a ''choler'' melfed wedi haner ei threulio ar ol rhyw wr boneddig. Bydd pawb yn gwybod mai nid ei got ef ydyw, mai dyn tlawd wedi cael cardod yw y dyn sydd yn ei gwisgo yn bresenol. Trueni annhraethol fyddai gweled creadur tlawd mor ddwl a myned yn falch a thrwyn-uchel, gan dybio ei hun yn wr boneddig, wedi cael gafael ar hen got seimlyd a ''choler'' melfed arni. Ië yn wir, byddai yn wrthddrych teilwng iawn o dosturi, ac yn berson cymhwys dros ben i wneyd gwallgofdy yn artref. Wedi y cwbl, ar ol defnyddio pob cydmariaethau, y mae pob peth yn syrthio yn fyr i weithio allan anferthwch y Cymro mewn dillad Sais yn pregethu yr efengyl. Y mae yn syn i'r pen gweled dyn yn ddylach na phawb wrth geisio bod yn gall. Gwneir pob math o luniau, o ystumiau, o leisiau, ac o wynebau,<noinclude><references/></noinclude> 6heaiegm698mmokojbqivj4olnbbhis Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/30 104 84680 164482 2026-05-14T23:46:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164482 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>er mwyn bod yn Seisnigaidd; ac yn y diwedd y Sais a'r Cymro yn myned i golli yn yr anghenfil. Edrychwch, clywch; os nad ydych wedi cael digon ar y gwrthddrych eisoes, ac os nad yw wedi myned yn rhy ffiaidd i chwi allu aros yn hwy yn ei bresenoldeb. Aroswch dipyn er mwyn cywreinrwydd, ac er ychwanegu gwybodaeth hefyd, canys goreu gyd ein bod yn deall pethau, er eu bod yn fynych yn ddigon atgas ac annymunol. Anogir ni i wneyd rhai pethau er "mwyn cydwybod;" ac y mae llawer o bethau eraill yn ddiau, er nad ydynt yn flasus yn y byd, eto y maent yn dda eu gwybod, canys dygwydd na fyddant o ddefnydd mewn rhyw amgylchiad yn y byd. Wel, gwrandewch; dacw y dyn yn dechreu siarad eto. Mor fun-sych, mor fun-sur, onide? A glywsoch chwi beth mor fwngleraidd o'r blaen? Wel, y mae yn greadur rhyfedd yn ceisio ymlwybro yn y blaen, onid ydyw? Gallem ni feddwl ei fod ef ei hun yn bur annedwydd ac annyddan, heblaw ei fod yn gwneyd pawb eraill felly ag sydd wedi bod mor anffortunus a syrthio o dan y gospedigaeth i orfod gwrando arno. Gadewch iddo; "codwn ac awn oddiyma," a diolchwn lawer am ryddid cydwybod, ein bod yn gallu troi ein cefnau arno, a myned lle y mynom. Gobeithiwn na fydd neb mor fyrbwyll a meddwl ein bod yn ceisio taflu dirmyg ar y Saeson, a'u hiaith enwog; pell iawn ydym ni oddiwrth ddim o'r fath; yr ydym ni yn caru y Sais a'r Saesoneg, ond cael Sais a Saesoneg, cofiwch; nid Cymro yn gwisgo hen ddillad llaprog Sais: gwaeth na hyny, yn ceisio clytio Cymraeg a Saesoneg yn nghyd, nes colli rhagoriaethau y naill a'r llall. Eithaf peth yw Saesoneg, fel Saesoneg; ond peth tlawd iawn yw Saesoneg yn nullwedd Gymraeg, ac y mae Cymraeg yr un mor dloted yn nullwedd Saesoneg; pob peth yn ei drefn ei hun sydd oreu. Pan y byddis yn rhoi delweddau Saesoneg ar y Gymraeg, nid yw nemawr gwell na rhoi "gwin newydd mewn hen fotelau, neu lain o frethyn newydd ar hen ddilledyn;" fe dyr y gwin newydd y potelau, ac fe â i golli, ac fe rwyga y brethyn<noinclude><references/></noinclude> hthz8i77g31zfhnp2yh1h2un1gxnkne Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/31 104 84681 164483 2026-05-14T23:52:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164483 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>newydd yr hen ddilledyn, ac felly y rhwyg a wneir yn waeth. Y mae y fath gysylltiadau rhwng iaith a phob peth cenedl, fel y mae yn rhan o honi ei hun. Nid yw yn bosibl rhwygo y naill oddiwrth y llall heb ddinystrio y cwbl; rhaid trawsnewid y genedl, a'i suddo i mewn yn raddoli genedl arall, fel ag i gymeryd yn llwyr holl elfenau ac arferion y genedl hono. Y mae yr iaith yn gyfrwng y teimladau cenedlaethol, yn trosglwyddo yr awgrymiadau cenedlaethol yn hapus ac yn arwyddocaol: mewn gair, y mae holl hanfodion a theimladau cenedlaethol yn ymweithio drwyddi, ac yn gymhlethedig ynddi. Mae y genedl a'r iaith wedi tyfu yn nghyd, wedi ymgymysgu yn eu gilydd a thrwy eu gilydd, wedi eu cydwau wrth gael eu magu yn nghyd, ac wedi ymgordeddu y naill yn y llall. Tebyg ydynt i'r ddaear a thyfiant, y naill sydd yn ymwreiddio yn y llall, fel y mae y ddau yn un, yn hollol naturiol, heb na thrais na gorchest. Trais na gorchest yn siwr! na, yn hollol wahanol; bydd yr hen ddaear yn arllwys maeth a rhinwedd o honi ei hun i'r gwreiddiau mân, hwythau yn sugno bronau yr hen fam dyner a chymwynasgar, nes ffrwythloni ar ei gwyneb, a'i gwisgo â phrydferthion ieuenctyd bob blwyddyn. Ah! y maent yn gorfoleddu yn nghyd; nid oes dim grwgnach na thuchan; nid oes dim gorchestion tuag at newid gwyneb prydferth natur, na'i hiaith ardderchog i ffurf rhyw blaned arall. Na; gadawer hi fel y mae; harddwch a phrydferthwch annghydmarol ydyw; ei lleferydd hefyd sydd yn "hyfrydlais," ac yn iaith ddealladwy i holl drigolion y byd. Mae y bobl yn deall ei hiaith, ac yn deall ei hawgrymiadau, ac yn curo dwylaw yn llon gyda holl goedydd y maes. Iaith yr hen Gymry, eu mynyddoedd cribog, certh, a mawreddus, sydd yn gymhlethedig drwy eu gilydd; y maent wedi eu cydfagu, ac yn caru eu gilydd fel rhieni a phlant. Dacw y bardd ieuanc yn dechreu cael ei wefru wrth draed y bryn draw, sydd yn codi i fyny ac yn cuddio ei ben yn y nefoedd fry. Enaid y bardd sydd yn codi yn raddol gydag ef, yn ei ddringo yn araf, ond yn benderfynol, nes ymgodi o hono i'r nefoedd uchod, a chyrhaedd yr ystafell lle y mae y<noinclude><references/></noinclude> seqdcds90c7t69ccj66dppi1hvauyp7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/32 104 84682 164484 2026-05-14T23:57:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164484 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mynydd tywysogaidd yn golchi ei wyneb â'r gwlith boreuol. Oddiyno, gyda'r bardd Dyer ar fryn Grongar, y mae mil a mwy o ddrychfeddyliau yn ymgodi yn yr enaid, y rhai sydd yn dyrchafu yn uwch na'r bryn y sefir arno, y rhai sydd yn cynyrchu iaith goeth, ac yn ei henyn â than seraphaidd. Ar fryn y Grongar, yn Nyffryn Towy, yr eisteddai y bardd Dyer yn nyddiau ei ieuenctyd, yn edrych ar fryn yn codi uwchlaw bryn, dan saethu y tu cefn i'w gilydd i'r cymylau ar un llaw, {{Center block/s}} <poem> "Silent Nymph, with curious eye, Who the purple evening lie, On the mountain's lonely van, Beyond the noise of busy man, Painting fair the form of things, While the yellow linnet sings; Or the tuneful nightingale Charms the forest with her tale; Come with all their various hues, Come and aid thy sister Muse; Now while Phœbus riding high Gives lustre to the land and sky! Grongar Hill invites my song, Draw the landscape bright and strong; Grongar, in whose mossy cells Sweetly musing quiet dwells; Grongar, in whose silent shade For the modest muses made; So oft I have, the evening still At the fountain of a rill, Sate upon a flowery bed, With my hand beneath my head; While stray'd my eyes o'er Towy's flood, Over mead and over wood, From house to house, from hill to hill, 'Til contemplation had her fill. About his chequer'd sides I wind, And leave his brooks and meads behind, And groves and grottoes where I lay, And vistas shooting beams of day: Wide and wider spreads the vale As circles on a smooth canal; The mountains round (unhappy fate)! Sooner or later, of all height, Withdrew their summits from the skies, And lessen as the others rise; Still the prospect wider spreads, Adds a thousand woods and meads; </poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude> tdja8d0a7fdj1cqlkhcaeuj0j42wknr 164485 164484 2026-05-14T23:58:44Z AlwynapHuw 1710 164485 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mynydd tywysogaidd yn golchi ei wyneb â'r gwlith boreuol. Oddiyno, gyda'r bardd Dyer ar fryn Grongar, y mae mil a mwy o ddrychfeddyliau yn ymgodi yn yr enaid, y rhai sydd yn dyrchafu yn uwch na'r bryn y sefir arno, y rhai sydd yn cynyrchu iaith goeth, ac yn ei henyn â than seraphaidd. Ar fryn y Grongar, yn Nyffryn Towy, yr eisteddai y bardd Dyer yn nyddiau ei ieuenctyd, yn edrych ar fryn yn codi uwchlaw bryn, dan saethu y tu cefn i'w gilydd i'r cymylau ar un llaw, {{Center block| <poem> "Silent Nymph, with curious eye, Who the purple evening lie, On the mountain's lonely van, Beyond the noise of busy man, Painting fair the form of things, While the yellow linnet sings; Or the tuneful nightingale Charms the forest with her tale; Come with all their various hues, Come and aid thy sister Muse; Now while Phœbus riding high Gives lustre to the land and sky! Grongar Hill invites my song, Draw the landscape bright and strong; Grongar, in whose mossy cells Sweetly musing quiet dwells; Grongar, in whose silent shade For the modest muses made; So oft I have, the evening still At the fountain of a rill, Sate upon a flowery bed, With my hand beneath my head; While stray'd my eyes o'er Towy's flood, Over mead and over wood, From house to house, from hill to hill, 'Til contemplation had her fill. About his chequer'd sides I wind, And leave his brooks and meads behind, And groves and grottoes where I lay, And vistas shooting beams of day: Wide and wider spreads the vale As circles on a smooth canal; The mountains round (unhappy fate)! Sooner or later, of all height, Withdrew their summits from the skies, And lessen as the others rise; Still the prospect wider spreads, Adds a thousand woods and meads; </poem> }}<noinclude></noinclude> b6megfoczk5hkp38pjaiv1saolwp3zb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/34 104 84683 164487 2026-05-15T00:02:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164487 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{center block| <poem> Still it widens—widens still, And sinks the newly—risen hill; Now I gain the mountain's brow— What a landscape lies below! No clouds, no vapours intervene, But the gay, the open scene, Does the face of nature show In all the hues of heaven's bow! And, swelling to embrace the light, Spreads around beneath the sight." </poem> }}
Ni a welwn yn y llinellau uchod fod Saesoneg Dyer yn dda, a Chymraeg y Bardd Teilo yn dda a phrydferth; ond y peth yr ydym yn ceisio ei ddangos ydyw, anferthwch yr arferiad o bregethu Cymraeg mewn dullwedd Saesoneg. Y mae y Gymraeg mor hapus i bregethu yr efengyl ynddi, fel mai trueni yw ei therfysgu trwy daflu am ei thraws ryw elfen elynol. Y mae ei heddwch gyda'r efengyl fel yr afon; a bydded barn cydwybod ar bwy bynag a derfysgo yr heddwch hwn. Mor dawel y mae yr hen iaith yn gorwedd ac yn ymestyn ar lechweddau y bryniau, yn chwerthin ar wylltineb y golygfeydd gyferbyn, yn chwareu â'r awen megys â'i chyntafanedig, ac yn canu yn y cysgod, yn nhrigle dystawrwydd. Y mae yn anhawdd iawn i neb ddeall ei llais ond ei defaid ei hun. Fe ddichon y gellir dywedyd fel hyn am lawer cenedl; ond gellid meddwl fod y Saesoneg yn un o'r eithriadau mwyaf; canys ymddengys mai rhyw gaboliad celfydd ydyw o wahanol ieithoedd, a cheisio gwneyd rhyw un o lawer, er mwyn cyfleusdra a dyben masnachol. Iaith masnach yn benaf yw iaith y Sais; iaith efengyl yw iaith y Cymro. Oni bai yr efengyl, yr ydym yn petruso yn fawr, ac ystyried pob peth, a fyddai yn werth cymeryd trafferth wrthi i'w chadw o dan amgylchiadau presenol. Ond er mwyn yr efengyl y mae o werth ei charu a'i chadw; canys y mae rhyw beth ynddi mewn cysylltiad â'r efengyl na cheir ddim o hono o fewn holl derfynau y Saesoneg; gellid meddwl weithiau ei bod yn gysegredig, ac wedi ei chadw yn ofalus gan Ragluniaeth i ddybenion yr efengyl. Y mae llawer o ddynion mwyaf y byd mewn pregethu wedi eu codi yn Nghymru, heb {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9etunsccxpubvashckkow97whhm1ctm 164488 164487 2026-05-15T00:02:50Z AlwynapHuw 1710 164488 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{center block| <poem> Still it widens—widens still, And sinks the newly-risen hill; Now I gain the mountain's brow— What a landscape lies below! No clouds, no vapours intervene, But the gay, the open scene, Does the face of nature show In all the hues of heaven's bow! And, swelling to embrace the light, Spreads around beneath the sight." </poem> }}
Ni a welwn yn y llinellau uchod fod Saesoneg Dyer yn dda, a Chymraeg y Bardd Teilo yn dda a phrydferth; ond y peth yr ydym yn ceisio ei ddangos ydyw, anferthwch yr arferiad o bregethu Cymraeg mewn dullwedd Saesoneg. Y mae y Gymraeg mor hapus i bregethu yr efengyl ynddi, fel mai trueni yw ei therfysgu trwy daflu am ei thraws ryw elfen elynol. Y mae ei heddwch gyda'r efengyl fel yr afon; a bydded barn cydwybod ar bwy bynag a derfysgo yr heddwch hwn. Mor dawel y mae yr hen iaith yn gorwedd ac yn ymestyn ar lechweddau y bryniau, yn chwerthin ar wylltineb y golygfeydd gyferbyn, yn chwareu â'r awen megys â'i chyntafanedig, ac yn canu yn y cysgod, yn nhrigle dystawrwydd. Y mae yn anhawdd iawn i neb ddeall ei llais ond ei defaid ei hun. Fe ddichon y gellir dywedyd fel hyn am lawer cenedl; ond gellid meddwl fod y Saesoneg yn un o'r eithriadau mwyaf; canys ymddengys mai rhyw gaboliad celfydd ydyw o wahanol ieithoedd, a cheisio gwneyd rhyw un o lawer, er mwyn cyfleusdra a dyben masnachol. Iaith masnach yn benaf yw iaith y Sais; iaith efengyl yw iaith y Cymro. Oni bai yr efengyl, yr ydym yn petruso yn fawr, ac ystyried pob peth, a fyddai yn werth cymeryd trafferth wrthi i'w chadw o dan amgylchiadau presenol. Ond er mwyn yr efengyl y mae o werth ei charu a'i chadw; canys y mae rhyw beth ynddi mewn cysylltiad â'r efengyl na cheir ddim o hono o fewn holl derfynau y Saesoneg; gellid meddwl weithiau ei bod yn gysegredig, ac wedi ei chadw yn ofalus gan Ragluniaeth i ddybenion yr efengyl. Y mae llawer o ddynion mwyaf y byd mewn pregethu wedi eu codi yn Nghymru, heb {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ng9pc2jbyptt6toiam7l6xh8880tnp9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/35 104 84684 164489 2026-05-15T00:03:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164489 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{center block| <poem> Ymledu wna yn dêl a ffraw, Nes una fel â'r gorwel draw; Cyrhaeddais grib y bryn heb ludd— Fath orwemp dirwedd danaf sydd! Ni lwyd gyfrynga niwl—darth dwys Rhyngwyf a'r deg olygfalwys; Ymddengys gwyneb anian gref Yn nhlysion liwiau enfys nef! Ymewydda i gofleidio'r gwawl, A daen o gylch ei fri didawl." </poem> }}
fod yn gwybod nemawr ond yr iaith Gymraeg; ac y mae yn amheus genym a fuasai hyny yn beth posibl yn Saesoneg. Nid yw yr iaith a'r rheolau caethion yn rhyw fodd yn gallu goddef rhyw lawer o deimlad, o ddawn, ac athrylith naturiol, heb fyned yn chwilfriw; a thanau gant mewn moment yn rhedeg, ac yn gwaeddi, Peidiwch a lladd yr iaith, hawyr; peidiwch a gwneyd cam â Saesoneg ei Mawrhydi. Gofal am y Saesoneg yn benaf sydd gan y Sais, nid am y meddyliau mawrion sydd fel afon gref yn llifo allan, yn treiglo i lawr, yn cwympo yn ogoneddus heb drefn drwy y creigiau certh a llafraidd, gan ymuno â'r byd dyfrllyd islaw, lle y preswylia ac y llonydda. Na, y Saesoneg yw ei gwbl ef; gofalwch am y Saesoneg, beth bynag ddaw o Grist ac eneidiau dynion. Os dygwyddodd i chwi glywed Saeson yn siarad wedi dyfod o gyfarfod crefyddol, nid siarad am y bregeth, yr athrylith, yr effeithioldeb, neu y meddyliau mawrion y maent, ond am y Saesoneg. Yr oedd y Saesoneg yn dda neu yn ddrwg, yn ardderchog neu yn wael, yn farddonol neu yn sâl, yn hedegog neu yn domenaidd. Ychydig iawn sydd gan lawer o honynt ond Saesoneg y cwrdd. Y Saesoneg, nid y meddwl, yw eu bwyd; y maent yn bwyta Saesoneg, ac yn gadael Iesu Grist. Pobl o archwaeth ryfedd ydynt; yn tynu y plisgyn Seisnig sydd o gwmpas pob peth, ac yn bwyta hwnw, ac yn gadael y cynwysiad, serch ei fod yn fêl, i bwy bynag a ewyllysio ei gymeryd. Byw sal iawn yw byw ar Saesoneg, bydded cystal ag y byddo. Y mae yn ddigon tebyg mai rhyw archwaeth fel hyn sydd wedi dwyn yr efengyl i ffurf yn Lloegr, fel y mae uwchlaw y werin, ac felly y tlodion<noinclude><references/></noinclude> mrorrt9mvxwxgpa0i95hrnnzri65l60 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/36 104 84685 164490 2026-05-15T00:04:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164490 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi myned i golli iddo. Nid yw gwerin Lloegr ond y peth nesaf at baganiaid, mewn cydmariaeth i werin Cymru; nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am ddim ond am eu gwaith, a bwyta ac yfed. Pan yr ydym yn son am baganiaeth, dealler mai mewn cysylltiad â'r efengyl yr ydym yn siarad, canys nid ydym yn trin dim ond yhi. Fe ddichon fod Lloegr, ar y cwbl, o flaen Cymru ryw gant neu ddau o flynyddoedd; y mae ei manteision hi wedi bod yn fawr pan yr oedd Cymru yn esgeulusedig, heb ysgolion na mantais i ddysgu dim. Y mae ganddynt fwy o wybodaeth gyffredinol; y maent yn fwy cydnabyddus â'r byd yn gyffredinol, â masnach, â chelfyddydau, ac â llenyddiaeth. Y mae yn rhaid i bob math o Sais yn mron ar brydnawn Sadwrn i gael a can of beer and the "News of the World." Ond beth yw eu gwybodaeth am yr efengyl? pa beth a wyddant am dduwinyddiaeth? Beth yw eu gwybodaeth am y Bibl a'i hanes? Mor sier ag yr ydych yn fyw, y mae y werin Saesoneg yn baganiaid yn ymyl y Cymry yn y materion hyn. Y pregethwr Saesoneg sydd yn astudio ac yn siarad iaith glasurol nad ydyw y bobl yn deall; ac felly siarad â'r ysgolheigion y bydd y pregethwr, nid â'r tlodion; ceisio dangos Saesoneg ogoneddus yn y bregeth, nid Crist gogoneddus. Ond am y pregethwyr Cymreig, yr oeddynt yn siarad iaith y bobl, yr oeddynt yn eu canol—yn eu teimladau, yn eu calonau, ac yn dyfod ag efengyl Crist i gyffyrddiad â'u teimladau bob dydd, fel yr oeddynt yn ei mwynhau, yn ei chofleidio, ac yn derbyn eu cysuron a'u gobeithion penaf oddiwrthi. Goddefai y Gymraeg ei hestyn allan gyda theimlad ac athrylith y pregethwr; yr oedd yn ymeangu, nid yn tori, i dderbyn llifogydd mawrion ar ol y gwlaw taranau; yr oedd yn ystwytho ac yn ymestyn gyda phob cynhyrfiad. Nid oedd y bobl yn meddwl nemawr am yr iaith, ond yn ei gadael hi i ofalu am dani ei hun, gan dderbyn ei chynwysiad i'w heneidiau, o dan ddylanwad pa un y gorfoleddent dan obaith gogoniant Duw. Byddai y pregethwyr hyn yn codi yn uchel iawn mewn areithyddiaeth efengylaidd, ac yn cario y cwbl o'u blaen heb<noinclude><references/></noinclude> 27e2e1kiw68zj4mbbuy24lb64ndgwf1 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/37 104 84686 164491 2026-05-15T00:04:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164491 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn wybod iddynt eu hunain. Byddent weithiau fel y rhaiadr, yn disgyn yn ofnadwy, nes boddi pob swn arall; weithiau fel yr afon ddofn, yn araf, ond yn gryf ac yn brydferth; weithiau fel y cornant wedi cael cawod o wlaw y tu cefn iddi, yn ffrochwyllt yn rhedeg i lawr i'r glyn, nes ymarllwys i ddwr mwy llonydd a gloyw. Byddai eu pregethu yn ofnadwy weithiau, a phechaduriaid fel yn ymollwng o'u blaen; yn fwyneidd—dra efengylaidd brydiau eraill, nes denu y meddwl allan o bob peth at hynawsedd Crist; ac er yn ffrochwyllt ar ryw amserau, eto yn terfynu mewn dyfroedd tawel yn nghyflawnder y Duwdod yn Nghrist Iesu. Ah, fe gofir Ebenezer Morris gan y rhai a'i clywsant tra y byddont byw; pregethai nes y byddai cynulleidfa o ddeng mil yn ymgolli yn eu teimladau, fel plant yn ymwylltu, heb wybod i ba le i fyned am noddfa. Ebe cyfaill wrthym unwaith, "Yr oeddwn yn ei wrando yn nghapel Aberteifi; gallaswn gymeryd fy llw fod y planciau o dan fy nhraed yn myned yn ddellt." Efengylai eilwaith nes codi yr holl deimladau cythryblus yn dawel at Iesu, ac yno yn eu gadael yn ei fynwes i ymesmwythau. Nid yw yn debyg fod mwy pregethwyr wedi bod mewn un wlad erioed na'r dosbarth hyn o bregethwyr Cymru; yn wir, y maent yn sefyll ger ein bron fel gwyrthiau dwyfol. Yr ydym wedi bod yn dyweyd fod rhyw beth yn yr iaith yn fanteisiol, ac yr ydym yn caniatau iddynt yr holl fanteision sydd yn hyny; ond ar yr un pryd, cofier mai nid hyny oedd y cwbl hefyd. Dymunem roi gwerth ar hyny, a llawn werth hefyd; ond dymunem beidio rhoi rhagor na'i werth. Yr ydym am edrych arni fel cyfrwng da, os nid y goreu, i drosglwyddo yr efengyl yn ei theimladau a'i phrydferthion; eithr y mae rhyw allu a chymhwysder y tu cefn i hyny, onide ni buasai y dynion hyny byth y peth oeddynt. Gwelwn fod yr iaith yn cael ei siarad y dyddiau hyn gan ganoedd, mewn llwybr o bregethu, ac eto y pregethwyr mor ddirmygedig ag mae yn ddichonadwy i un creadur fod. Nid oes na phryd na thegwch ynddo; a gwaeth na'r cwbl, y mae yn anafu y pethau ag y mae pryd a thegwch ynddynt, wrth roi ei fysedd<noinclude><references/></noinclude> djab5vf7vd58u91kchp4pxdv3oww8dw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/39 104 84687 164493 2026-05-15T00:07:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164493 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nes y byddai pawb yn ymdoddi, ac yn wylo fel plant, ada neu yn bloeddio cân a gorfoleddu yn ddiarbed. Taflai y bobl i chwerthin mewn moment trwy ryw ddesgrifiad bywiog a anw gwreiddiol; taflai hwynt y foment nesaf i ryw bangfeydd o Onde wylo; felly o deimlad i deimlad yr arweiniai hwynt, trwy mae olygfeydd newyddion a phrydferth, nes y byddai amser yn cael ei lwyr annghofio. Dywedir fod dynion wedi eu dwyn che i mewn i gylch y tylwyth teg, a dawnsio am bythefnos cyfan, a phan yn dychwelyd adref, yn meddwl mai rhyw le o gwmpas pum mynyd yr oeddynt wedi bod o gartref. Yr oedd gan dnt Christmas Evans ryw gylch tra swynol; ac unwaith yr âi dyn at i mewn, gallai fod yno dro; weithiau yn llefain, weithiau yn chwerthin ei oreu, weithiau yn neidio, weithiau yn llesmeirio, wed weithiau yn canu, weithiau yn dawnsio; ac yn y cwbl mor lith ddedwydd fel nad oedd cyfrif amser. Yr oedd y gallu annhraethol i gynyrchu y gwahanol deimladau hyn yn cael ei droi yn gwbl at wasanaeth yr efengyl; cysegrwyd y cwbl i'r weinidogaeth fawr, fel y bu yn allu er bendith i ganoedd a edi miloedd yn Nghymru. Dyna Elias o Fon yn dyfod drosodd i'r Ynys o Sir Gaerdar narfon, pryd oedd y campau yn eu grym a'u gogoniant; yr eth ymladd ceiliogod a chŵn, gyrfaoedd ceffylau, a rhedegfeydd dynion, yn nghyda'r bando a'r bêl mewn bri ac anrhydedd mawr, a phawb yn rhedeg ar eu hol. Mae efe yn codi ei lais fel udgorn yn erbyn yr holl bethau hyn, nes oedd y cestyll yn crynu ger ei fron, ac yn dyfod yn ganddryll i'r llawr. Ei bregethu sydd yn tynu y wlad allan i'w wrando a'i ddylyn o gwmpas o fan i fan, gan adael y campau annuwiol. Nid oedd dim arall yn y byd fuasai yn cynyrchu y fath effeithiau, ac nid oedd dim pregethu allasai ei wneyd ond pregethu o'r fath hyny. Yr oedd y dyn mewn cymundeb a Duw yn ei weinidogaeth, a thrwy hyny yn dyfod i gymundeb â dynion; ac felly yn sefyll rhwng Duw a dynion yn siarad oddiwrth un at y llall. Yr oedd ei ddylanwad yn annhraethol, gan hyny; yr oedd Ysbryd Duw arno; ac yr oedd yn ddifrifol yn ei orchwyl; ei ddyben unigol oedd achub pechaduriaid, a<noinclude><references/></noinclude> ls4iody6zfjo4nsy54m2a3ekkui6aib Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/40 104 84688 164494 2026-05-15T00:07:44Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164494 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chodi Iesu Grist i fri ac anrhydedd yn meddyliau dynion. Yr oedd gweinidogaeth fel hyn, ag oedd yn llosgi fel tân yn enaid y gweinidog, yn rhwym o losgi yn nghydwybodau y gwrandawyr hefyd. Byddai llawer yn darllen pregethau yn yr amser hwnw bob Sabbath yn gyson, a phregethau digon iachus hefyd fe ddichon; ond pawb yn meddwi, yn chwareu pêl, yn rhedeg ceffylau, ac yn byw yn annuwiol, yn ddirwystr. Ond byddai gweinidogaeth aruthrol Elias yn tynu teyrnas Satan yn ganddryll i'r llawr; yr oedd yn anmhosibl byw yn ei swn hi, a byw yn ddigywilydd mewn pechod. Yr oedd un o wyl-mabsantau penaf y wlad yn Llanbedr ar fynydd, yn Sir Forganwg; bu am oesau yn cynyddu fwyfwy, nes ydoedd yn dipyn o bob peth-yn ffair, yn farchnad, yn siopau, a thafarndai. Byddent ar ddydd Sul y mabsant yn llanw y mynydd, a masnach y crymanau, y bladuriau, y cwrw, y dawnsio, yn nghyda phob rhialtwch yn myned yn y blaen yn hwylus. Yr oedd nid yn unig yr holl fynydd, ond yr holl wlad hefyd yn meddiant y cythraul. Yr oedd darllen pregethau bob dydd Sul yn yr amser hwnw; ond nid oedd yn effeithio dim ar y mabsant, na neb yn amcanu gwneyd hyny ychwaith, am ddim a wyddom ni. Yn yr amser annuwiol hyn, pan yr oedd Satan yn teyrnasu yn ddirwystr, daeth dyn ieuanc yn offeiriad i Langan, yr hwn oedd o dan eneiniad Ysbryd Duw, ac wedi ei wisgo yn brydferth â chymhwysderau gweinidogaethol; y mae efe yn dechreu codi ei lais yn erbyn llygredigaethau yr oes, ac fe glywir y llais hwnw yn treiddio i galon lygredig yr oes. Ei weinidogaeth sydd yn dyfod i gyffyrddiad â chydwybodau y werin; y maent yn sefyll yn sydyn, ac yn ymwrando. Yr eglwys sydd yn llanw o wrandawyr; ac yn fuan gwelir ef yn myned allan i'r prif ffyrdd a'r caeau, i'w cymhell i ddyfod at Iesu Grist. Ar Sul gwyl mabsant Llanbedr, penderfyna i fyned yno i bregethu i ganol y campau, i ben y mynydd. Yr oedd yn gryn anturiaeth; ond waeth beth a fo, bydd y dynion ag y mae Ysbryd Duw arnynt yn teimlo eu hunain y peth nesaf at fod yn hollalluog pan yn ymroddi i'w wasanaethu ef, o dan deimlad o<noinclude><references/></noinclude> nf71gz7ruk4ghmmw2bowgu1pb9o8qnr Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/41 104 84689 164495 2026-05-15T00:08:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164495 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gydwybodolrwydd, a pherffeithrwydd dybenion. Beth bynag, i ben y mynydd yr aeth, a safodd yn eu canol ar gareg fawr ag oedd yn dygwydd bod yno, yr hon oedd yn ateb y pwrpas i'r dim; ac atebodd y pwrpas am flynyddau wed'yn, oblegyd efe a gyrchai yno ar Sul gwyl mabsant yn gyson hyd y parhaodd. Cafodd y gareg yr enw anrhydeddus, "Pwlpud Jones, Llangan." Oddiar y gareg hon y dechreuodd bregethu i'r dorf annuwiol hyn, yn nghanol gwawd, chwerthin, tafod drwg, ac ymddygiadau anweddus miloedd. Yr oedd y pregethwr yn teimlo ei hun yn gryf ac yn ddedwydd, serch hyny; a byddai ei ddull serchog, a'i floeddiadau tyner a melusber, yn mynu gwrandawiad, er gwaethaf penderfyniadau calonau llygredig. Yn mhen ychydig, enillodd pregethu Jones y werin oddiwrth y campau; aeth y mabsant lai-lai, a'r gwrandawyr fwyfwy, nes i'r mabsant ddarfod yn llwyr, a throwyd hi yn gwrdd pregethu. Dyna ddyn wedi ei wneyd gan Dduw i bregethu yr efengyl; a phwy all ddatgan byth werth un dyn felly mewn gwlad? canys nid yn unig y mae yn werth yn ei oes, ond y mae gwaith ei oes yn effeithio ac yn gweithredu ar oesoedd dyfodol, fe allai hyd ddiwedd y byd. Yr oedd hwn yn un o'r pregethwyr nad oes neb ond Duw yn gallu eu gwneyd; am hyny yr oedd efe trwy Dduw yn gallu gwneyd pethau anhygoel yn y weinidogaeth. Coffadwriaeth y diweddar Barch. John Jones, Talsarn, sydd yn awr yn newydd ar feddyliau miloedd, ac y maent yn cofio y gallu annhraethol oedd yn y dyn hwnw i bregethu yr efengyl. Yr oedd yn ddiffygiol mewn llawer o bethau ag sydd yn dda eu meddianu; ni chafodd fanteision addysg foreuol; yr oedd digon o ddynion bach yn gwybod mwy nag ef mewn gwybodaeth gyffredinol; ond dewch at dduwinyddiaeth, lle yr oedd ef yn canolbwyntio ei feddwl, yr oedd yn gyf. rifol, ïe, yn rhagori. A dewch at bregethu, ac yna yr ydych yn ymgolli mewn syndod. Gosodwch y dynion yna sydd yn gyfrifus mewn gwybodaeth o herwydd manteision boreuol yn ei ymyl gerllaw y pwlpud; hawyr! dyna rai pitw bach; nid yw deng mil o honynt yn werth un Jones, Talysarn. Nid<noinclude><references/></noinclude> ie9jrpz59fdadnm5x348bwctj6vq91r Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/42 104 84690 164496 2026-05-15T00:09:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164496 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llawer o'r fath y bydd y Nefoedd yn greu; un yn awr ac eilwaith sydd yn ymweled â'r ddaear; y maent fel ymweliadau angel, ''few and far between.'' Yr oedd natur a gras wedi gweinyddu eu doniau a'u rhagoriaethau yn afradus ar y dyn hwn, nes nad oedd yr un diffyg yn y golwg. Pa ddiffygion bynag allasai fod o herwydd anfanteision, yr oedd natur a gras wedi penderfynu eu cuddio yn llwyr, trwy roi helaethrwydd o'u doniau digymhar hwy. Yr ydym ni, beth bynag, yn dawel iawn yn ein meddyliau na fu gwell pregethwyr yn y byd erioed na phrif bregethwyr Cymru. Fe ddichon hefyd fod yn Nghymru rai mor saled ag sydd yn y byd; nid ydym yn amheu yn y mesur lleiaf; eithr nid am y rhai hyny yr ydym ni yn dywedyd. Yr oedd Whitfield yn ddyn mawr; hyny yw, yn bregethwr mawr; yr oedd llaw Duw arno, ac y mae yn ddigon tebyg na fu yn Lloegr erioed bregethwr y gallesid ei gystadlu ag ef, Yr oedd yn ardderchog, yn hyawdl, yn ddoniol, yn areithyddol. fel yr oedd hyd yn oed Garrick, a lluaws eraill yn yr un dosbarth, yn colli hunan-feddiant wrth ei wrando; yn codi yn sydyn ar eu traed yn anwybyddus iddynt eu hunain, ac yn dywedyd, "''That is super-human''." Wel, peth ''super-human'', neu oruwch-ddynol, ydoedd hefyd. Yr oedd Whitfield yn ardderchog o ran cymhwysderau naturiol; ond pan y cymerai ei areithyddiaeth dân oddiwrth gariad Crist yn cymhell, a phan fflamiai hwnw i uchder nefoedd, nes tywyllu yr haul, gan losgi a goleuo i ddyfnder calon pechadur, yr oedd yno deimladau cymysgedig o edmygiad ac arswyd, nad oedd dim tebyg iddo o fewn y greadigaeth. Fe ddichon fod Garrick y chwareuyddwr, a rhai o'i gyfeillion, yn gymaint mewn doniau naturiol ag yntau; a gallasent wneyd pethau rhyfedd ar y teimladau dynol; eithr dynol oedd y cwbl; nid oedd dim super-human yn eu hareithyddiaeth hwynt. Ond dyna sydd yn ardderchog, nid yn unig fod olew natur yn llosgi yn fywiog ac yn glir, ond fod Ysbryd Duw yn tywallt olew gras a gweinidogaeth, nes fflamio deng mil uwch nag y gall fflamiau natur gyrhaedd. Y peth ''goruwch-ddynol'' yma sydd yn codi<noinclude><references/></noinclude> ba6j44012lgif2hdeywu5wmbc5tzxeb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/44 104 84691 164498 2026-05-15T00:21:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164498 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r pethau ydyw sydd "dros amser," eithr yn gwywo yn fuan; y troion cyntaf oedd y goreu. Gwelir pregethwyr mawr yn oychwyn, ac yn myned lai-lai bob tro. Ymddangosant fel pe baent wedi cychwyn oddiwrth y "gamp uchel," ac yn tynu cymaint ag y gallant tua'r isel. Y maent fel dynion yn rhedeg cymaint byth y gallant, ac wedi colli y pwynt. Fe ddichon y gall fod cryn lawer o ffolineb yn ngwahanol gylchoedd cymdeithas yn y byd yma; ond ar y cwbl nid mor ffoled ag y bydd llawer coegddyn yn lled-dybio; nid yw mor hawdd eu twyllo ag y mae efe wedi meddwl; bydd yn rhaid cael gwell peth at eu twyllo na'i ûs ef. Rhaid iddynt gael profion gweddol gryf cyn rhoi cydsyniad i honiadau dynion. Nid yw y cwbl ag y bydd pob quack yn roi ar y bill yn cael ei gredu gan y cyffredin. Os oes ambell un dwl yn credu y gall wella pob dolur ag sydd îs y nefoedd â'r un bilsen, nid yw pawb yn meddwl fel hyny; ond yn dra gwahanol. Ond pan y byddo ffeithiau digonol er profi, a phob peth mewn amser yn egluro gwirionedd unrhyw beth, a hyny yn naturiol a diorchest wedi enill ffydd a chrediniaeth ynddo, bydd yn anhawdd iawn dadwneyd hyny. Gwelwn fod cymdeithas yn wydn iawn i annghredu y peth y mae wedi ei gredu unwaith; rhaid cael pethau cryfion i droi hyny yn ol. Yr ydym yn meddwl fod Mr. Richard fel pregethwr wedi argyhoeddi Cymru yn llwyr a hollol ei fod yn bregethwr mawr; yr oedd y pwnc hwn wedi ei benderfynu yn meddwl y cyffredin, ac fel llawer o bethau o'r fath, wedi ei roi heibio yn dawel yn hen gist y pethau penderfynedig, nad oedd dim eisiau ail droi mwy yn eu cylch. Bydd pethau yn cael eu hamheu am dro, eu hail edrych, eu dadleu, a dynion yn methu cydweled am dymhor hir; y mae y rhai hyn, cyn cael eu cadw o dan ystyriaeth felly, heb eu penderfynu; ond unwaith y daw peth uwchlaw amheuaeth, penderfynir arno, troir ef y naill ochr i'r gist, ac yno yr erys, oddieithr i ryw beth annghyffredin gymeryd lle, fel y bydd yn rhaid chwilio yr hen bapyrau o'r newydd. Yr ydym yn meddwl nad oedd dim dadl mewn<noinclude><references/></noinclude> e5f9z1xc8ggnm8h2ys7mfrz9qq555h9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/45 104 84692 164499 2026-05-15T00:21:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164499 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>unrhyw gylch cymdeithasol am Mr. Richard fel pregethwr; byddai pawb yn ddiwahan yn ei ystyried yn bregethwr mawr; yr oedd hyny wedi ei benderfynu drwy gydsyniad cyffredinol, ac wedi ei droi i blith y papyrau annadleuol. Beth bynag yn y byd y buasai cenfigen, atgasrwydd, neu ryw beth arall yn dewis ddyweyd am dano, nid oeddent yn beiddio, ar berygl erledigaeth gyffredinol, i daflu cymaint ag awgrymiad allan nad oedd yn bregethwr mawr. Byddai pobl, o dan wahanol deimladau, yn dyweyd braidd pob peth am dano; dywedai rhai ei fod yn rhy chwerw, eraill ei fod yn rhy benstiff, yn rhy dra-arglwyddaidd, ac yn rhy Doriaidd, yn nghyda llawer o bethau eraill anhawdd i'w cofio a'u cyfrif; ond ni feiddient ddywedyd nad oedd yn bregethwr mawr. Nid ydym yn cofio, yn wir, yn mysg yr holl bethau a glywsom siarad am dano, i ni glywed neb yn ceisio dyweyd ei fod yn bregethwr bach. Buasai yn bosibl, fe ddichon, rhoi y byd i gredu y gallasai fod rhyw gymaint o wir yn y cyhuddiadau uchod; ond buasai yn anmhosibl cael ganddo i gredu un iot na thipyn, pe cyhuddid ef o fod yn bregethwr bach. Beth pe anturiai rhyw ffwl i ddyweyd nad oedd yn bregethwr mawr -mai pregethwr bach ydoedd, a dyn bach hefyd yn mhob ystyr; pa beth fyddai tynged hwnw? Pa beth a ddeuai o hono? I ba le yr elai am noddfa? I bwy y gadawai ei ogoniant? Pa gysgod fyddai o fewn y greadigaeth i'r penwan dwl? Tynai y coedydd tewfrig eu cysgod oddiwrtho, gan ei fygwth â gwyneb sarug; rhedai pob anifail rhagddo, a byddai cywilydd ar afresymoliaid daear ei arddel fel aelod o'r frawdoliaeth. I ba le, ynte, yr âi am gynorthwy? Nid oes yr un lle i gael; byddai pawb a phob peth mewn arfau angeuol uwchben hwn, ac yn gwaeddi yn groch, Os nad ydyw Richard yn bregethwr mawr, pwy ydyw, dywed? Pa fodd y gellir ei osod yn mhlith y pregethwyr bach? pa fodd yr ymddangosai yn y fan hono? A fyddai y fath le yn ei weddu? A fyddai efe yn gweddu y fath sefyllfa? "Clyw, y dyhiryn, y ti sydd yn fach, ac yn anfeidrol fach, cyn y gallesit ddyweyd y fath beth." Yn ddiddadl byddai yn berygl<noinclude><references/></noinclude> 50qsyj35jeks14m2m1lwbpyr5whtp1i Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/46 104 84693 164500 2026-05-15T00:22:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164500 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bywyd i ddyn ddyweyd y fath ffolineb a bod Mr. Richard yn bregethwr bach; ni wnai ddim ond codi gwaed cymdeithas i'w wyneb, a'i gyru yn wallgof mewn ffyrnigrwydd. Dyweyd y cyfryw beth hefyd fyddai y moddion effeithiolaf i ddyn wneyd ei hun yn fach yn ngolwg pawb. Rhaid yw cyfaddef ei fod yn bregethwr mawr; ei fod yn mhlith y rhai mwyaf ei oes, ac yn sefyll yn anrhydeddus yno hefyd. Do, do; fe ddarfu iddo guddio gwaeledd Cymanfa y Methodistiaid lawer gwaith; boed coffa da am dano. Nid yn unig yr oedd Mr. Richard yn bregethwr mawr plaid, ond hefyd yn bregethwr mawr gwlad; nid oedd yn gyfyngedig i sect, canys pregethwr cenedl ydoedd. Mae pregethwyr mawr pleidiau i'w cael; nid ydynt yn codi mor fawr nes hollti holl rwymau cyfundebol, a throi allan yn ddynion cenedl. Bydd y bobl hyn yn ddefnyddiol yn eu cylch, a'u brodyr yn edrych i fyny atynt; eithr y mae tywod mân y cyfundeb yn ddeddf dragywyddol iddynt, ac yn dywedyd wrthynt, "Hyd yma yr âi, ac nid yn mhellach." Yr oedd Richard yn tori dros y tywod oedd yn ffin cyfundebol, yn ymledu drwy holl gymdeithas, crefyddol ac annghrefyddol, bach a mawr, tlawd a chyfoethog-yn bregethwr cenedl, nid yn bregethwr sect. Byddai pob sect yn ei wrando ef, yn saint ac yn bechaduriaid; a phawb yn ddiwahan yn ei roi i lawr yn bregethwr mawr; canys nis gallent, er chwilio, gael un man arall i'w osod. Bydd dynion weithiau yn ffurfio rhyw fath o undeb, er ceisio myned yn fawr, amcanu twyllo y byd i gredu eu bod yn fawr; ond yn rhyw fodd, peth anhawdd iawn yw gwneyd dim yn fawr yn ngolwg y byd, os na fydd felly mewn gwirionedd. Bydd William yn canmol Dafydd, a Dafydd yn canmol William; er hyny oll nid yw y byd yn awchus i dderbyn eu tystiolaeth am eu gilydd. Y mae yn rhaid i William wrth dystiolaeth fwy na Dafydd, a Dafydd wrth dystiolaeth fwy na William, cyn y bydd yn debygol y derbynir y dystiolaeth. Yr ydym yn darllen am "dystiolaeth ynddo ei hun;" a digon tebyg fod. yn rhaid cael rhyw beth cyffelyb yn y mater hwn. Nid<noinclude><references/></noinclude> hyhwgt3kyc3ad4of4djlndjx6zyq7u9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/47 104 84694 164501 2026-05-15T00:22:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164501 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yw bod dynion yn cosi cefnau eu gilydd yn myned yn mhell bellach; rhaid cael rhyw beth fyddo yn cyrhaedd cydwybodau, ac yn gwneyd ei hun yn hysbys yno. Cyn bod yn wir fawr rhaid bod yn alluog i wneyd pethau mawrion; canys gweithredoedd sydd yn cyfiawnhau, ys dywed Iago. A phan y byddo yn gwneyd gweithredoedd mawrion, nid yw holl siarad y byd yn gallu gwneyd hwnw yn fach. Yr oedd Paul yn gwneyd ei hun yn "hysbys yn nghydwybodau dynion. Yr oedd Mr. Richard hefyd yn bregethwr mawr yn nghydwybodau y werin; yr oedd y cwestiwn wedi ei benderfynu a'i sefydlu mewn llys pwysig iawn, y llys uchaf ar y ddaear, y llys nad oes dim posibl ag apelio oddiwrtho ond at Farnwr pawb. Byddai yr afael ag oedd gan ei weinidogaeth ar y wlad yn cael ei egluro yn amlwg yn maint y cynulleidfaoedd a godai i'w gwrando. Byddai y wlad pan y delai drwyddi yn codi yn bur lwyr i'w wrando; ac yn gyffredin byddai rhyw les yn dylyn hyny. Yr oedd peth mwy yn Mr. Richard na gallu codi cynulleidfa wrth fyned unwaith neu ddwy drwy y wlad; yr oedd efe yn gallu eu cadw. Cadw rhyw beth wedi ei gael yw y prawf o fawredd, yn enwedig cadw y cynulleidfaoedd. Gwelwyd ambell un yn codi cynulleidfaoedd am dro, ond yn methu eu cadw, daethant o herwydd rhyw swn, eithr ni ddaethant wedi hyny; cawsant eu siomi, eu twyllo, a'u diflasu. "Unwaith am byth yn ddigon," meddent; ac ymaith a hwy, un i'w "faes, ac arall i'w fasnach;" ac yr oedd yn rhaid cael rhyw un heblaw efe i'w cyrchu oddiyno eilwaith. Eithr am Mr. Richard, nid codi cynulleidfaoedd i'w siomi wnaeth efe, ond i'w cadw. Cadwodd hwy nes i'w nerth ballu; a chadwodd hwy yn ddifyr hefyd. Bydd ambell un yn burion os bydd hwyl, ond yn druenus heb hyny; eithr am Mr. Richard, hwyl neu beidio, yr oedd yn ddigon galluog i ddysgu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi, a rhoi digon o foddlonrwydd i bawb am eu trafferth, fel, pan y deuai eilwaith, byddent yn ei ddysgwyl yn serchog, gan obeithio cael rhyw beth ganddo. Ië, "hwy a wrandawent arno, ac a ddysgwylient; dystawent wrth ei gynghor; a'i<noinclude><references/></noinclude> 4rio3gmwzvl1bat2ezv60llu19i63zq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/49 104 84695 164503 2026-05-15T00:24:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164503 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bydd ambell bregethwr yn bregethwr mawr ei ddydd, ac yn addurn i'w oes, ond nis gellir dyweyd y buasai yn bregethwr mawr yr oes ddyfodol. Y mae ei fawredd, i fesur mawr iawn, i'w briodoli i anwybodaeth a thywyllwch yr oes yr oedd yn byw ynddi. Ymddengys y buasai Mr. Richard yn bregethwr mawr mewn unrhyw oes: yr oedd y Nefoedd wedi ei ddonio mor fawr â chymhwysderau gweinidogaethol, fel nad allasai gymeryd lle bach yn un man, nac un amser. Buasai yn bregethwr mawr yn awr yn Nghymru yn mhlith pob enwad; ïe, gyda'r mwyaf sydd ar y maes; ac yn bregethwr mawr yn yr oes nesaf hefyd, a'r un ar ol hono. Yr oedd wedi ei greu i fod yn fawr; nis gallasai fod yn ddim ond yn fawr, ac nis gallasai neb ei wneyd yn fach, er gwneyd eu heithaf at hyny. Pe buasech yn cyfarfod ag ef heb ei adnabod, buasech yn meddwl mewn moment ei fod yn rhyw un allan o'r cyffredin, a buasech yn sicr o ymholi yn ei gylch. Yr oedd ei lygaid mawrion, prydferth, arwyddocaol, yn peri i chwi edrych, a throi yn ol i edrych wed'yn; a byddai y galon yn sicr o sibrwd yn ddystaw, "Nid yw hwnw yn rhyw un cyffredin." Pe buasai Sais yn ei weled yn rhyw fan, er heb glywed son am dano erioed, buasai hwnw yn sicr o holi yn union, "Who is that gentleman?" Yr oedd yn anmhosibl peidio, canys ymddangosai fel tywysog mewn llu yn mhob man; a byddai ei olwg dywysogaidd yn tynu sylw unrhyw ddyn, bydded ef yn Sais neu yn Gymro, neu yn rhyw genedl arall ag sydd dan y nef. Yr oedd pob awgrym, pob symudiad, pob gair, a phob ystum, yn cynorthwyo y meddwl mewn moment i ffurfio y penderfyniad ei fod yn sicr o fod yn rhyw un mawr. Daeth Esgob Tyddewii'r penderfyniad hynar unwaith. Yr oedd cyfarfod offeiriadol, rhyw fath o ymweliad, pryd y cyfarfyddai yr esgob å holl offeiriaid ei esgobaeth, i'w cyfarch yn nghylch pethau perthynol i'w gweinidogaeth. Dygwyddodd Mr. Richard fod yn Nhyddewi ar y pryd, ac aeth i'r cyfarfod. Yr oedd yn barchus iawn o'r Eglwys Sefydledig; ni chlywid ef un amser yn siarad yn isel a dirmygus am dani fel y bydd llawer; ond yr oedd yn ddigon mawr i weled daioni yn yr<noinclude><references/></noinclude> qxxn8zyihj58if03pahyjdx7i5jneah Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/50 104 84696 164504 2026-05-15T00:24:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164504 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eglwys hono, ac yn y gwahanol enwadau Ymneillduol, ac hefyd i beidio edrych ar yr un o honynt wedi cyrhaedd perffeithrwydd. Yr ydym yn edmygu hyn ynddo yn fawr; ac y mae yn myned yn mhell iawn i brofi yr hyn y buom yn son er ys meityn-ei fod yn bregethwr ac yn ddyn mawr. Bydd ambell ddyn pitw bach yn dirmygu ac yn poeri ar bob peth nad yw o fewn terfynau y sect y mae efe gyda hi; bydd efe yn gweled anmherffeithrwydd yn mhob cyfundraeth grefyddol ond ei gyfundraeth Utopaidd ei hun; ac nid yn unig anmherffeithrwydd, ond cymaint o anmherffeithrwydd, fel nad ydyw yn ddichonadwy iddo ef gydnabod y gall eglwys i Dduw fodoli o gwbl yn y gyfundraeth hono. Druan! cylch bychan iawn yw yr un y bydd ei enaid ef yn troi ynddo: nid yw byth yn tori allan y tu hwnt i derfynau sect. Yr oedd Mr. Richard yn Fethodist, fel y dywedir; ar yr un pryd ni welodd berffeithrwydd erioed mewn Methodistiaeth; eithr gwelodd lawer o ddaioni yno, fe allai fwy nag yn un man arall, onide buasai yn myned wrth gwrs i'r man y gwelai fwyaf o ddaioni. Nid oedd yn Annibynwr, yn Fedyddiwr, yn Wesleyad, nac yn Eglwyswr; eto yr oedd yn gweled daioni mawr yn mhob un o honynt, a pharchai hwynt am eu bod yn gydweithwyr Duw. Chwi welwch ei fod yn ddigon mawr i gymeryd i mewn egwyddorion haelfrydig fel yna; ac yn sicr bydd dyn felly yn llawer dedwyddach mewn cymdeithas na rhyw grebychyn diras a disynwyr. Ond yr oeddym yn dyweyd, yn gymaint a bod Mr. Richard yn Nhyddewi yn amser y cyfarfod, aeth yno i wrando yr esgob. Yr esgob a edrychai arno yn aml iawn; nis gallasai er dim beidio edrych tuag ato, er na wyddai yn y byd pwy ydoedd. Eisteddai ryw gymaint naill ochr, mewn eisteddfa wrtho ei hun, yn syml a difrifol, gan dalu y parch dyledus i'r gwasanaeth. Yr oedd yr esgob da yn methu deall pwy a pheth allasai fod; ond nid oedd yn gweled un dyn o fewn yr eglwys gadeiriol gyffelyb iddo mewn mawredd. Sylwai y prelad dysgedig ar ei dalcen uchel a lluniaidd, ei wynebpryd llewaidd a phenderfynol, yn cynwys llinellau o foneddigeiddrwydd<noinclude><references/></noinclude> 85eza7aoyw9jevdqtu5awlyb6gx4f6b Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/51 104 84697 164505 2026-05-15T00:26:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164505 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>prydferth, yn nghyda'i lygaid eryraidd a threiddgar, nes y daeth i'r penderfyniad yn y pwlpud ei fod yn sicr o fod yn rhyw un mawr. Sylwai y bobl fod llygaid yr esgob ar y bregeth ac ar wyneb Mr. Richard bob yn ail; yr oedd fel pe buasai yn darllen y ddau gyda difrifwch mawr. Aeth y cyfarfod heibio, a phawb yn dechreu ymwahanu, pryd y nesaodd yr esgob at ryw berson adnabyddus o'r wlad, a gofynodd, "Syr, a ellwch chwi ddyweyd wrthyf pwy oedd y gwr boneddig hwnw oedd yn eistedd naill ochr, a chap melfed ar ei ben?" Gwenodd yr offeiriad, a dywedodd, "Wel, fy arglwydd esgob, fel chwithau mae y gwr hwnw. Efe yw esgob y Methodistiaid Calfinaidd; mae efe, fel chwithau, wedi ordeinio llawer iawn at waith y weinidogaeth." "Wel," ebe yr esgob, "pwy bynag ydyw, y mae yn sicr o fod yn ddyn allan o'r cyffredin yn mhell; yr oedd mwy o fawredd i'w weled arno na neb ag oedd yn yr eglwys heddyw." Mewn gweinidogaeth yr eglurwyd y mawredd hyn; dyna'r gamlas trwy yr hon yr amcanodd y nefoedd egluro y talentau naturiol ac ysbrydol mawrion hyn. Yr oedd ei wisgo â chymaint o gymhwysderau gwreiddiol yn rhagbarotoad yn ddiau i'w alwedigaeth i fod yn bregethwr. Nid dygwydd yw galwad i bregethu yr efengyl; fel pe bai Ysbryd Duw yn neillduo rhyw un ar y pryd, a rhoi pob cymhwysder iddo ar unwaith, naturiol ac ysbrydol. Na, na; y mae y pregethwr mewn amcan gan y Creawdwr; ac y mae efe wrth ei lunio, a gwneyd gwaith Creawdwr arno, yn ei ddarpar ar gyfer y gwaith a fwriedir iddo ei wneuthur. Creadigaeth barod a chymhwys y bydd yr Ysbryd Glân yn ei chymeryd i wneyd gwaith ysbrydol arni, er ei chymhwyso yn llestr etholedig i ddal ac i gario trysorau gras i bechaduriaid. Dacw y Creawdwr yn estyn y llestr i'r Gwaredwr; y Gwaredwr yn ei estyn i'r Santeiddydd, a'r Santeiddydd yn ei lanw a doniau y nef, a'i estyn at fyd o bechaduriaid. Dyma y trysor mewn "llestr pridd, fel y byddo godidawgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni;" ac fel yr efengylid yn mhlith y Cenedloedd, "anchwiliadwy olud Crist."<noinclude><references/></noinclude> 6kpce32ahju1cpvnavh77h065ia3ozz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/52 104 84698 164506 2026-05-15T00:26:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164506 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nid ydym yn cofio gweled erioed fwy o gymhwysder naturiol i bregethu yr efengyl nag oedd yn Mr. Richard; yr oedd braidd pob peth ag y gallesid dymuno ynddo. Nid oedd un man ond y pwlpud yn ei weddu; ni edrychai yn dda yn un lle arall. Pe buasech yn ei roi mewn siop, ymddangosai yn chwithig yno; ni byddai y siop ac yntau yn gydnawsol, nac yn gydrywiog ychwaith, tebygem; byddent yn lled debyg i ieuo ých ac asyn yn nghyd i aredig. Rhyw siopwr lledchwith iawn a wnelai; ond dyna, y mae yn fwy na thebyg na fuasent yn gallu cydfyned yn hir gyda'u gilydd; byddai yr asyn yn cicio yr ŷch, neu yr ŷch yn cornio yr asyn beunydd, nes y lladdai un y llall, a diane o un o honynt o gaethiwed. Pe baech yn meddwl am ei roi yn dafarnwr, gwaeth byth fyddai; ni wnaech dafarnwr yn oes oesoedd o hono, canys nid oedd ynddo weniaith; ni wyddai pa beth oedd hyny; ac yr oedd yn ei chasâu cymaint nes oedd yn tynu yn mhell at y terfynau i'r ochr arall. Ac y mae yn fwy na thebyg y byddai wrth y bobl o hyd yn nghylch yfed gormod, ac nid eu cymhell yn y blaen, gan ddangos mewn iaith ac ymarweddiad nad oes dim yn ein byd ni sydd gyffelyb i gwrw mewn rhinwedd. Ond ni raid myned y ffordd yna, canys ni chrewyd ef erioed at fod yn dafarnwr; nis gellid gwneyd tafarnwr o hono. Y mae yn debyg, fel y gwelir yn y Bywgraffiad, iddo feddwl am fod yn ffermwr; ond rhyw ffermwr afler, digwmpas, difedr i'r pen ydoedd. Bu yn ffermu, eithr yn hytrach yn ymdrybaeddu, nes iddo bron myned dros ei ben a'i glustiau i'r "pridd tew a'r clai tomlyd." Nid oedd efe yn edrych yn dda yn un man ond yn y pwlpud; yr oedd fel tywysog yno; canys at hyny yn ddiau y neillduwyd ef o groth ei fam, ac y galwyd ef drwy ras. Pan y bydd pethau yn eu lle priodol, ymddangosant yn brydferth a hawddgar; eithr unwaith yr ant allan o'u lleoedd priodol, nid oes na phryd na thegwch ynddynt. Pan elo menyw yn wrywaidd, a chymeryd lle gwryw, neu wryw yn fenywaidd, a chymeryd lle menyw, у maent yn anmhrydferth ac yn annefnyddiol; ond pan y bydd pob un o honynt yn troi yn eu lle, yn eu cylchoedd<noinclude><references/></noinclude> 6euei48ihqrthoz5jy1ycfsa6smgmao Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/54 104 84699 164508 2026-05-15T00:32:33Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda " Cyfamodau Mr. Richard & Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd PENOD XIV. Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c. 176 189 PENOD XV. Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr. 196 PENOD XVI. Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio—cyflwyno Tysteh iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth—ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw PENOD XVII. Ychydig o ymadroddio... 164508 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude> Cyfamodau Mr. Richard & Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd PENOD XIV. Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c. 176 189 PENOD XV. Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr. 196 PENOD XVI. Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio—cyflwyno Tysteh iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth—ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw PENOD XVII. Ychydig o ymadroddion annghysylltiol ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas. 202 209 , PENOD XVIII. Penod arall i bawb 219 PENOD XIX. Mr. Richard yn weithiwr cyffredinol gyda gwaith yr Arglwydd, ac yn darpar pethau priodol ar gyfer pob gwaith—ei areithiau ar y Bibl Gymdeithas 230 PENOD Xx. Mr. Richard yn ymsymud ac yn llafurio gyda phob peth er llesoli dynoliaeth—ei areithiau dirwestol. 244 PENOD XXI. Llafur Mr. Richard gyda'r Ysgol Sabbathol. 252 PENOD XXII. Gofal Mr. Richard am bob peth y Cyfundeb y perthynai iddo—Coleg Trefecca. 257 PENOD XXIII. Cwynfan glanau yr Iorddonen, yn cynwys ychydig o lythyrau Mr. Richard o'r fan hono 262 PENOD XXIV. Afiechyd Mr. Richard yn cynyddu—marwolaeth Mrs. Richard 270 PENOD XXV. Mr. Richard yn cael ei adael mewn unigolrwydd—pryderwch rhosydd Moab. [blocks in formation] BYWGRAFFIAD Y PARCH. T. RICHARD. PENOD I. Dyddiau boreuol Mr. Richard—Ei argyhoeddiad, a'i ddygiad i wybod aeth y gwirionedd. Y MAE Duw mewn dystawrwydd dwfn ac anweledig yn fynych yn cario gwaith mawr yn y blaen, neu ynte yn darparu at waith mawr, yr hyn sydd yn gyfystyr, yn nghanol twrf a therfysg y byd a'i amgylchiadau. Pan y bydd dynion yn fynych yn gweled dim ond gwae a dinystr, fe allai y pryd hwnw y bydd Duw yn cario yn y blaen y pethau mwyaf gogoneddus er helaethiad a lles ei deyrnas yn y byd"pethau i'w datguddio ar ol hyn." Bydd y datguddiad yn esboniad ar filoedd o ddirgeledigaethau blaenorol. Gwelir fod cynddaredd dyn yn troi yn fawl, a theimladau drwg a melldigedig y rhai oedd yn bygwth llyncu y ddaear a'i thrigolion, yn ymdoddi i "ganiadau ymwared." Yr oedd Duw yn gwneyd rhyw beth gyda'r deml yn nghanol yr amseroedd mwyaf blin, a hyny yn dyfod i eglurdeb gogoneddus yn y dyfodol. "Gwybydd, gan hyny, a deall y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerusalem, hyd y Blaenor Messiah, saith wythnos, a dwy wythnos a thriugain; yr heol a adeiledir drachefn, a'r mur, sef mewn amseroedd blinion. Ac wedi dwy wythnos a thriugain y lleddir y Messiah, ond nid o'i achos ei hun; a phobl y tywysog, yr hwn a ddaw a ddinystria y ddinas a'r cysegr; a'i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinystr annhraethol; ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn haner yr wythnos y gwna efe i'r aberth a'r bwyd—offrwm beidio, a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y dyben terfynedig ar yr anrheithiedig." Ni a welwn wrth yr ymadroddion uchod fod terfysg, chwyldroadau, a phethau ofnadwy yn cymeryd lle yn llywodraethau y byd; eithr yn nghanol y cwbl yr oedd y llywodraeth ddwyfol yn darparu y byd trwy hyn i dderbyn rhodd anfeidrol yn nyfodiad y Messiah. Y mae yr heol a'r mur yn cael eu hadeiladu, er fod yr "amseroedd yn flinion." Tra y B bydd breninoedd y ddaear yn ymderfysgu, yn bygwth, ac yn ymladd â'u gilydd am eangu eu llywodraethau, bydd Duw yn ddigynhwrf ac yn anweledig ar y pryd yn rhoddi y llywodraeth i'w saint. "Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y freniniaeth, ac a feddianant y freniniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd." Yn nghanol terfysg y cenedloedd a meddyliau ofer y bobloedd, pan oedd cymdeithas yn siglo drwyddi, a dirmyg ar grefydd wedi codi yn uchel, yr oedd y Bod Goruchaf y pryd hwnw yn sefydlu gorsedd Immanuel, gan osod ei Frenin ar Sion, ei fynydd santaidd. Yn yr amser y ganwyd Napoleon Bonaparte, a thra yr oedd yn ymddarparu, yn Brienne a Paris, gogyfer a bywyd cyhoeddus, ac yn codi i fyny fel arch—derfysgwr y byd, nes oedd pawb yn crynu yn eu cartrefleoedd, yr oedd hefyd bregethwr gwladaidd a diymhongar, ar lan môr St. Sior, yn Sir Benfro, yr hwn a adnabyddid yn y gymydogaeth yr oedd yn byw wrth yr enw Henry Richard. Pan yr oedd enw Napoleon yn berwi y byd, wedi myned yn air teuluaidd, ac yn arswyd hefyd ar bob aelwyd, nid oedd nemawr son am Henry Richard, ond yn unig ei fod yn cynghori pechaduriaid yn awr ac cilwaith, ac yn pregethu tangnefedd trwy waed y groes. Yn nghanol holl derfysg rhyfelgar y byd, cyhoeddi heddwch ac ewyllys da Duw i ddynion a wnai Henry Richard, yn ol hyd ei ddawn. Yr oedd yn un o gynghorwyr cyntaf y diwygiad Methodistaidd o dan Rowlands; Jones, Llangan; Williams, Pantycelyn, a'r offeiriaid eraill ag oedd mewn cysylltiad â hwy. Nid oedd yn bregethwr mawr; bychan mewn cymhariaeth oedd ei ddawn; ac nid oedd ei wybodaeth ychwaith yn rhyw eang iawn. Nid oedd yn ddoniol, eithr yn lled sylweddol; nid oedd yn ehedeg yn uchel, ond yn hynod o fuddiol; nid oedd yn boblogaidd, ac eto yn lled gymeradwy. Ymddengys mai pregethwr bach yr ystyrid Henry Richard, ond ei fod yn Gristion go fawr; neu ynte, fel y bydd rhai yn dewis dyweyd, "yr oedd yn un bach ffyddlon." "Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Canmolai ei weithredoedd ef yn ddirfawr yn mhob man, canys yr oedd yn ofni yr Arglwydd yn sicr, ac yn ei wasanaethu mewn gwirionedd. Trigianai mewn amaethdŷ bychan, isel a gwylaidd ei ymddangosiad, mewn pentref bychan heb fod yn rhyw enwog yn y byd am ei balasau a'i dyrau. Na, safai y pentref gwladaidd yn nghanol creigiau llwydion, yn agos i'r mor, yr hwn odditano sydd yn rhuo, yn curo yr hen greigydd, ac yn ymddangos fel yn benderfynol i lyncu y cwbl iddo ei hun. Er hyn oll, dyna lle y mae yr hen bentref byth, ac yntau, y môr gerwyn, yn ymddangos yn yr un dymher gynddeiriog ag yn nyddiau y tadau. Y pentref hwn sydd yn eistedd yn dawel a llonydd, ac yn hollol ddigyffro ar y graig uwchben y weilgi; ac ymddengys fel pe bai yn trigo mewn perffaith ddyogelwch heb ofni niwed. Yn rhywle tua chanol y pentref y mae amaethdy Henry Richard, hen bregethwr y Methodistiaid Calfinaidd. Amaethwr a phregethwr, neu bregethwr ac amaethwr, nid gwaeth pa un, ydoedd Henry Richard. Nid oedd neb yn y dyddiau hyny yn gallu gwneyd allan beth oedd pregethwr, heb ei fod yn rhyw beth arall. Un o'r cwestiynau cyntaf a ofynid i bregethwr yn y dyddiau hyny, ac wedi hyny hefyd, oedd, Dyn o ba alwad ydych chwi? A oes gwraig gyda chwi? A oes plant? pa sawl un? Ond i ragflaenu cwestiynau felly, yr ydym yn dyweyd mai amaethwr a phregethwr oedd Henry Richard; a bod gwraig ganddo; dwy, yn wir, dan gofio; ond cofied y darllenydd mai nid yr un pryd; wedi claddu un y cymerodd y llall. Bu yn ffortunus iawn, y mae yn debyg, yn ei wragedd; cafodd gysuron lawer mewn cysylltiad â'r ddwy. Yr oeddent ill dwy yn dda. Yr oedd hyny yn beth digon rhyfedd hefyd, canys y mae cael un dda yn gryn gamp, ac yn beth ag y mae llawer wedi methu; eithr cafodd Henry Richard ddwy wraig, a dwy dda. Ymddengys fod iddo blant o'r ddwy,—dau fab o'r cyntaf, a dau fab a merch o'r ddiweddaf; ac y mae gwrthddrych ein Cofiant ni yn awr yn un o'r meibion o'r ddiweddaf, sef y diweddar Barch. THOMAS RICHARD, Abergwaen. Y mae yn debyg fod Hannah, gwraig Henry Richard, a mam y Parchn. Ebenezer a Thomas Richard, yn wraig tra hynod o ran synwyr a duwioldeb, fel yr ymddengys yn eglur wrth ddyddlyfr gwrthddrych ein Cofiant, yr hwn a roddwn ger bron ein darllenwyr yn fuan. Pan oedd holl Ewrop yn berwi fel crochan, a phan oedd Napoleon eto yn laslanc o goleg i goleg, heb ymddadblygu fel rhyfelwr mawr, y Duc Wellington heb ddechreu eillio ei farf eto, a'r crochan heb ferwi yn hollol drosto, yn y pentref gwladaidd a dystaw, ganwyd dyn bach ar y 5ed o Ragfyr, 1781; a galwyd ei enw EBENEZER. Y mae yn ddigon tebyg fod y trugareddau a'r gwaredigaethau dwyfol a dderbyniwyd gan Henry a Hannah yn yr amgylchiad hwn yn gystal ag<noinclude><references/></noinclude> a2gobnazfdleo034qx6h1teiellde66 164510 164508 2026-05-15T00:48:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164510 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENOD IX.
Penodi Bregethwyr}} {{c|PENOD XI.
Penod i'r Doethion.}} {{c|PENOD XII.
Penod i bawb.}} {{c|PENOD XIII.
Cyfamodau Mr. Richard & Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd}} {{c|PENOD XIV.
Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c.}} {{c|PENOD XV.
Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr.}} {{c|PENOD XVI.
Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio—cyflwyno Tysteb iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw}} {{c|PENOD XVII.
Ychydig o ymadroddion annghysylltiol ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas.}} {{c|PENOD XVIII
Penod arall i bawb.}} {{c|PENOD XIX.
Mr. Richard yn weithiwr cyffredinol gyda gwaith yr Arglwydd, ac yn darpar pethau priodol ar gyfer pob gwaith—ei areithiau ar y Bibl Gymdeithas {{c|PENOD XX.
Mr. Richard yn ymsymud ac yn llafurio gyda phob peth er llesoli dynoliaeth ei areithiau dirwestol.}} {{c|PENOD XXI.
Llafur Mr. Richard gyda'r Ysgol Sabbathol.}} {{c|PENOD XXII.
Gofal Mr. Richard am bob peth y Cyfundeb y perthynai iddo—Coleg Trefecca.}} {{c|PENOD XXIII.
Cwynfan glanau yr Iorddonen, yn cynwys ychydig o lythyrau Mr. Richard o'r fan hono}} {{c|PENOD XXIV
Afiechyd Mr. Richard yn cynyddu—marwolaeth Mrs. Richard}} {{c|PENOD XXV.
Mr. Richard yn cael ei adael mewn unigolrwydd—pryderwch rhosydd Moab.}} {{c|PENOD XXVI.
Marwolaeth Mr. Richard, &c.}} {{c|Galareb Fuddugol}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ltenztziqm6m5ptocc1mr7duxvg9o7a 164511 164510 2026-05-15T00:49:15Z AlwynapHuw 1710 164511 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|PENOD IX.
Penodi Bregethwyr}} {{c|PENOD XI.
Penod i'r Doethion.}} {{c|PENOD XII.
Penod i bawb.}} {{c|PENOD XIII.
Cyfamodau Mr. Richard & Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd}} {{c|PENOD XIV.
Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c.}} {{c|PENOD XV.
Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr.}} {{c|PENOD XVI.
Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio—cyflwyno Tysteb iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw}} {{c|PENOD XVII.
Ychydig o ymadroddion annghysylltiol ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas.}} {{c|PENOD XVIII
Penod arall i bawb.}} {{c|PENOD XIX.
Mr. Richard yn weithiwr cyffredinol gyda gwaith yr Arglwydd, ac yn darpar pethau priodol ar gyfer pob gwaith—ei areithiau ar y Bibl Gymdeithas}} {{c|PENOD XX.
Mr. Richard yn ymsymud ac yn llafurio gyda phob peth er llesoli dynoliaeth ei areithiau dirwestol.}} {{c|PENOD XXI.
Llafur Mr. Richard gyda'r Ysgol Sabbathol.}} {{c|PENOD XXII.
Gofal Mr. Richard am bob peth y Cyfundeb y perthynai iddo—Coleg Trefecca.}} {{c|PENOD XXIII.
Cwynfan glanau yr Iorddonen, yn cynwys ychydig o lythyrau Mr. Richard o'r fan hono}} {{c|PENOD XXIV
Afiechyd Mr. Richard yn cynyddu—marwolaeth Mrs. Richard}} {{c|PENOD XXV.
Mr. Richard yn cael ei adael mewn unigolrwydd—pryderwch rhosydd Moab.}} {{c|PENOD XXVI.
Marwolaeth Mr. Richard, &c.}} {{c|Galareb Fuddugol}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9i05nbvsxark51db6mrp51fsxsuf10u Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/55 104 84700 164512 2026-05-15T00:51:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164512 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mm-mawr|BYWGRAFFIAD Y PARCH. T. RICHARD.}}}} {{c|{{mawr|PENOD I.}}
Dyddiau boreuol Mr. Richard—Ei argyhoeddiad, a'i ddygiad i wybodaeth y gwirionedd.}} Y MAE Duw mewn dystawrwydd dwfn ac anweledig yn fynych yn cario gwaith mawr yn y blaen, neu ynte yn darparu at waith mawr, yr hyn sydd yn gyfystyr, yn nghanol twrf a therfysg y byd a'i amgylchiadau. Pan y bydd dynion yn fynych yn gweled dim ond gwae a dinystr, fe allai y pryd hwnw y bydd Duw yn cario yn y blaen y pethau mwyaf gogoneddus er helaethiad a lles ei deyrnas yn y byd"pethau i'w datguddio ar ol hyn." Bydd y datguddiad yn esboniad ar filoedd o ddirgeledigaethau blaenorol. Gwelir fod cynddaredd dyn yn troi yn fawl, a theimladau drwg a melldigedig y rhai oedd yn bygwth llyncu y ddaear a'i thrigolion, yn ymdoddi i "ganiadau ymwared." Yr oedd Duw yn gwneyd rhyw beth gyda'r deml yn nghanol yr amseroedd mwyaf blin, a hyny yn dyfod i eglurdeb gogoneddus yn y dyfodol. "Gwybydd, gan hyny, a deall y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerusalem, hyd y Blaenor Messiah, saith wythnos, a dwy wythnos a thriugain; yr heol a adeiledir drachefn, a'r mur, sef mewn amseroedd blinion. Ac wedi dwy wythnos a thriugain y lleddir y Messiah, ond nid o'i achos ei hun; a phobl y tywysog, yr hwn a ddaw a ddinystria y ddinas a'r cysegr; a'i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinystr annhraethol; ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn haner yr wythnos y gwna efe i'r aberth a'r bwyd—offrwm beidio, a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y dyben terfynedig ar yr anrheithiedig." Ni a welwn wrth yr ymadroddion uchod fod terfysg, chwyldroadau, a phethau ofnadwy yn cymeryd lle yn llywodraethau y byd; eithr yn nghanol y cwbl yr oedd y llywodraeth ddwyfol yn darparu y byd trwy hyn i dderbyn rhodd anfeidrol yn nyfodiad y Messiah. Y mae yr heol a'r mur yn cael eu hadeiladu, er fod yr "amseroedd yn flinion." Tra y<noinclude><references/></noinclude> tdjamuzix6m8vda30lgwt8mok3l2fz1 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/56 104 84701 164513 2026-05-15T00:52:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164513 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bydd breninoedd y ddaear yn ymderfysgu, yn bygwth, ac yn ymladd â'u gilydd am eangu eu llywodraethau, bydd Duw yn ddigynhwrf ac yn anweledig ar y pryd yn rhoddi y llywodraeth i'w saint. "Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y freniniaeth, ac a feddianant y freniniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd." Yn nghanol terfysg y cenedloedd a meddyliau ofer y bobloedd, pan oedd cymdeithas yn siglo drwyddi, a dirmyg ar grefydd wedi codi yn uchel, yr oedd y Bod Goruchaf y pryd hwnw yn sefydlu gorsedd Immanuel, gan osod ei Frenin ar Sion, ei fynydd santaidd. Yn yr amser y ganwyd Napoleon Bonaparte, a thra yr oedd yn ymddarparu, yn Brienne a Paris, gogyfer a bywyd cyhoeddus, ac yn codi i fyny fel arch—derfysgwr y byd, nes oedd pawb yn crynu yn eu cartrefleoedd, yr oedd hefyd bregethwr gwladaidd a diymhongar, ar lan môr St. Sior, yn Sir Benfro, yr hwn a adnabyddid yn y gymydogaeth yr oedd yn byw wrth yr enw Henry Richard. Pan yr oedd enw Napoleon yn berwi y byd, wedi myned yn air teuluaidd, ac yn arswyd hefyd ar bob aelwyd, nid oedd nemawr son am Henry Richard, ond yn unig ei fod yn cynghori pechaduriaid yn awr ac cilwaith, ac yn pregethu tangnefedd trwy waed y groes. Yn nghanol holl derfysg rhyfelgar y byd, cyhoeddi heddwch ac ewyllys da Duw i ddynion a wnai Henry Richard, yn ol hyd ei ddawn. Yr oedd yn un o gynghorwyr cyntaf y diwygiad Methodistaidd o dan Rowlands; Jones, Llangan; Williams, Pantycelyn, a'r offeiriaid eraill ag oedd mewn cysylltiad â hwy. Nid oedd yn bregethwr mawr; bychan mewn cymhariaeth oedd ei ddawn; ac nid oedd ei wybodaeth ychwaith yn rhyw eang iawn. Nid oedd yn ddoniol, eithr yn lled sylweddol; nid oedd yn ehedeg yn uchel, ond yn hynod o fuddiol; nid oedd yn boblogaidd, ac eto yn lled gymeradwy. Ymddengys mai pregethwr bach yr ystyrid Henry Richard, ond ei fod yn Gristion go fawr; neu ynte, fel y bydd rhai yn dewis dyweyd, "yr oedd yn un bach ffyddlon." "Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Canmolai ei weithredoedd ef yn ddirfawr yn mhob man, canys yr oedd yn ofni yr Arglwydd yn sicr, ac yn ei wasanaethu mewn gwirionedd. Trigianai mewn amaethdŷ bychan, isel a gwylaidd ei ymddangosiad, mewn pentref bychan heb fod yn rhyw enwog yn y byd am ei balasau a'i dyrau. Na, safai y pentref gwladaidd yn nghanol creigiau llwydion, yn agos i'r mor, yr hwn odditano<noinclude><references/></noinclude> 3wo3lisygxktm6ru7v2282gcc2urd6t Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/57 104 84702 164514 2026-05-15T00:53:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164514 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>sydd yn rhuo, yn curo yr hen greigydd, ac yn ymddangos fel yn benderfynol i lyncu y cwbl iddo ei hun. Er hyn oll, dyna lle y mae yr hen bentref byth, ac yntau, y môr gerwyn, yn ymddangos yn yr un dymher gynddeiriog ag yn nyddiau y tadau. Y pentref hwn sydd yn eistedd yn dawel a llonydd, ac yn hollol ddigyffro ar y graig uwchben y weilgi; ac ymddengys fel pe bai yn trigo mewn perffaith ddyogelwch heb ofni niwed. Yn rhywle tua chanol y pentref y mae amaethdy Henry Richard, hen bregethwr y Methodistiaid Calfinaidd. Amaethwr a phregethwr, neu bregethwr ac amaethwr, nid gwaeth pa un, ydoedd Henry Richard. Nid oedd neb yn y dyddiau hyny yn gallu gwneyd allan beth oedd pregethwr, heb ei fod yn rhyw beth arall. Un o'r cwestiynau cyntaf a ofynid i bregethwr yn y dyddiau hyny, ac wedi hyny hefyd, oedd, Dyn o ba alwad ydych chwi? A oes gwraig gyda chwi? A oes plant? pa sawl un? Ond i ragflaenu cwestiynau felly, yr ydym yn dyweyd mai amaethwr a phregethwr oedd Henry Richard; a bod gwraig ganddo; dwy, yn wir, dan gofio; ond cofied y darllenydd mai nid yr un pryd; wedi claddu un y cymerodd y llall. Bu yn ffortunus iawn, y mae yn debyg, yn ei wragedd; cafodd gysuron lawer mewn cysylltiad â'r ddwy. Yr oeddent ill dwy yn dda. Yr oedd hyny yn beth digon rhyfedd hefyd, canys y mae cael un dda yn gryn gamp, ac yn beth ag y mae llawer wedi methu; eithr cafodd Henry Richard ddwy wraig, a dwy dda. Ymddengys fod iddo blant o'r ddwy,—dau fab o'r cyntaf, a dau fab a merch o'r ddiweddaf; ac y mae gwrthddrych ein Cofiant ni yn awr yn un o'r meibion o'r ddiweddaf, sef y diweddar Barch. THOMAS RICHARD, Abergwaen. Y mae yn debyg fod Hannah, gwraig Henry Richard, a mam y Parchn. Ebenezer a Thomas Richard, yn wraig tra hynod o ran synwyr a duwioldeb, fel yr ymddengys yn eglur wrth ddyddlyfr gwrthddrych ein Cofiant, yr hwn a roddwn ger bron ein darllenwyr yn fuan. Pan oedd holl Ewrop yn berwi fel crochan, a phan oedd Napoleon eto yn laslanc o goleg i goleg, heb ymddadblygu fel rhyfelwr mawr, y Duc Wellington heb ddechreu eillio ei farf eto, a'r crochan heb ferwi yn hollol drosto, yn y pentref gwladaidd a dystaw, ganwyd dyn bach ar y 5ed o Ragfyr, 1781; a galwyd ei enw EBENEZER. Y mae yn ddigon tebyg fod y trugareddau a'r gwaredigaethau dwyfol a dderbyniwyd gan Henry a Hannah yn yr amgylchiad hwn yn gystal ag<noinclude><references/></noinclude> ju5l8p96mu3oqvicelpgvd3jfwih5am Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/59 104 84703 164516 2026-05-15T01:05:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164516 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhag iddynt dirio yn ein gwlad. Hwn oedd testun siarad pob aelwyd y dyddiau hyny, a hyn, wrth gwrs, oedd y prif bwne yn mysg y plant. Os byddai ychydig o longau yn dygwydd tramwy llwybrau y moroedd gyda'u gilydd heibio glanau Sir Benfro, byddai hen ac ieuainc yn edrych, yn hylldremu, os nid yn ymholi yn bruddaidd, "Beth ydyw y rhai acw?" Felly yr oeddent o ddydd i ddydd, nes o'r diwedd galedi o honynt, ac aethant braidd i feddwl fod y Ffrancod wedi myned o'r byd, a bod y peryglon drosodd. "Pan y dywedant, Tangnefedd a dyogelwch," yn fynych "y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf." Hawyr! ar yr eilfed ar ugain o Chwefror, yn y flwyddyn 1797, canfyddwyd llynges fechan y Ffrancod ar fôr-gyffiniau Sir Benfro. Y mae yr holl wlad mewn cyffro, gwryw a benyw, hen wŷr a gwragedd, bechgyn a merched, oll yn wylltion yn rhedeg yma ac acw, gan waeddi yn groch, "O dear anwyl, dyma'r French yn dyfod." Byddai cynyg rhoi desgrifiad o'r cyffroad aruthrol o dan y fath amgylchiad hyn, yn sicr o droi yn fethiant cywilyddus. Yr oedd y gwylltineb, y rhedeg yma a thraw, ysgrechfeydd y benywod, Ilefain y plant, a baldorddiad y gwrywiaid, yn profi yn eglur fod y wlad yn nghynhyrfiad y foment wedi ei tharo â gorphwylldra. Yr oedd pawb yn siarad, a neb yn gwybod beth i wneyd. Beth bynag, oddiar arfordir Sir Benfro edrychai miloedd o lygaid ar y llynges Ffrengig yn nofio yn araf gyda'r glanau, ac yn dyfod heibio Dinas Dewi, gogyfer Trefin, yr hwn le oedd ryw beth o gwmpas haner y ffordd o'r Ddinas i Abergwaen. Yn mhlith y lluaws eraill o edrychwyr, yr oedd Tommy Richard, y pryd hwnw yn llanc o gwmpas pedair ar ddeg oed. Agorai ei lygaid mawrion mewn syndod, a gwelai long fechan Brydeinig, cutter, yr hon a wasanaethai y custom house, yn ddiarwybod yn dyfod i gyfarfod y llynges Ffrengig. Penderfynodd gwŷr y cutter ymladd pe ymosodid arni; a gwnaethant bob darpariaeth, trwy roi eu drylliau mewn trefn, yr hyn pan welodd y Ffrancod, aethant heibio, rhag, y mae yn bosibl, aflonyddu y wlad, fel y gallent dirio yn fwy dyogel. Aeth y llongau Ffrengig yn y blaen, angorasant ar gyfer Llanwnda, yn agos i Abergwaen, a thiriodd pedwar cant ar ddeg a dwy fenyw, ac ymaith yr aeth y llongau a'u dygasant yn ol i'w gwlad. Wedi gwneyd peth ystranciau a cholledion, daeth milwyr i'r dref, a gosodasant eu harfau i lawr ar draeth Wdig, ddydd Gwener, Chwefror 24ain.<noinclude><references/></noinclude> c5kex1sy6bl0odyneips1ovkgakykk7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/60 104 84704 164517 2026-05-15T01:06:44Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164517 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cyfarfyddasom â Mr. Richard yn Wdig ychydig o flynyddoedd cyn ei farwolaeth, a bu yn adrodd yr helynt hyn wrthym yn bur ddoniol. Gwnaeth ei frawd, Ebenezer Richard, gân o ddiolchgarwch ar yr achlysur, yr hon, er nad oes ynddi ddim sydd yn teilyngu yr enw o ''farddoniaeth'', sydd yn ddangoseg o dalent, yn enwedig crefydd, bachgen syw oedd ar y pryd rhwng 15 ac 16 oed. Yr oedd Mr. Jones, Llangan, wedi priodi boneddiges yn Sir Benfro, ac yn byw yno yn yr amser hyn, mewn lle a elwir Maenorowen, yn agos i draeth Wdig, lle y rhoddodd y Ffrancod eu harfau i lawr. Buont o gwmpas tŷ Maenorowen, ond cyfryngodd trugaredd ddwyfol, fel na wnaethant nemawr o niwed. Yn ganlyniad i hyn cadwyd cyfarfod ar draeth Wdig, yn goffadwriaethol am y waredigaeth, yr hwn a barhaodd yn gyfarfod blynyddol am amser maith. Pregethwyd yn y cyfarfod cyntaf gan Mr. Jones, Llangan, y pryd hyn o Maenorowen, a Mr. Griffiths, Nevern. Gellir gweled y pwlpud a wnawd at y cyfarfod hwn yn awr yn Abergwaen, a gobeithiwn y gofelir am dano o oes i oes, o herwydd ei gysylltiadau hanesyddol. Trwy yr amser terfysglyd hyn ar lanau môr Sir Benfro, y cyfaneddai yn mhentref Trefin ddau fachgen bach syml a disylw gyda'u tad a'u mam, y rhai wedi hyn a ysgydwasant Gymru trwy ddylanwad daionus, yn fwy nag y gallasai y Ffrancod ei hysgwyd trwy ddrygioni ac arfau angeuol. Cynhyrfwyd un o honynt i ganu am y waredigaeth goreu y gallai; ond am y llall trigodd mewn dystawrwydd anadnabyddus. Nid oedd neb yn gwybod dim am dano, ond yn unig o fewn cylch bychan ei g gymydogaeth ei hun am flynyddau wedi hyn. Yr ydym wedi cyffwrdd â rhai pethau, yn enwedig dyfodiad Mr. Jones, Llangan, i fyw i Maenorowen cyn amser tiriad y Ffrancod, yn gymaint ag y bydd Mr. Richard yn dyfod i gyffyrddiad â'r pethau hyny eto yn ei fywyd mwy cyhoeddus. Aeth helynt y Ffrancod heibio, ac yr ydym yn cael Henry Richard, yr hen bregethwr duwiol, yn myned yn y blaen yn ddystaw a'i waith yn ngwinllan yr Arglwydd Iesu, gan wneyd ei oreu i lesoli ei gydgenedl, ac yn amaethyddu bob yn ail, gan wneyd ei oreu i gynal ei deulu. Ni adawyd yr hen bregethwr wrtho ei hun gyda'r gorchwylion hyny, canys yr oedd ganddo gydmar, bron heb ei hail, er ei gynorthwyo i fyw yn dduwiol, i bregethu, ac i drin y byd. Ymddengys mai benyw hynod dros ben oedd Hannah Richard. Y mae efe ei hun yn cyfeirio at ei fam<noinclude><references/></noinclude> 5d1bghhvd1p3vxx4dwtivzi1rygf4ig Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/61 104 84705 164518 2026-05-15T01:07:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164518 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ei ddyddlyfr, gyda pharch mawr iawn; ac yn priodoli ei argraffiadau boreuol iddi, ac yn dywedyd, "Nid ant byth o'm cof." Yr oedd Hannah Richard mewn rhyw bethau fel Hannah yr Iuddewes, yn enwedig yn nghyflwyniad ei bechgyn i Dduw holl ddyddiau eu heinioes. Bydd rhai yn meddwl fod rhagluniaeth ddwyfol yn aml, pan y bydd ganddi ryw waith mawr i ddyn wneyd, yn gofalu am fam gymhwys i gynorthwyo i'w gaboli. Y mae rhyw beth yn hyn, yn sicr, heblaw dychymyg. Y mae gyda'r plant yn wastad; ac heblaw hyny, y mae rhyw beth toddedig, cariadus, hynaws, yn nhymher benyw dda, nes gwneyd calonau a theimladau y plant yn dyner, nes y mae yn gallu rhoi yr argraff arnynt na annghofir byth. Yr argraff hyny a wneir mewn cariad pur sydd yn anmhosibl ei dileu; y mae wedi myned yn rhan o ddyn ei hunan; rhaid dinystrio ei fod cyn y gellir dyddimu yr argraff. Gosododd Hannah Richard argraff annileadwy ar feddwl ei mab; yr oedd yn ei gof a'i deimlad hyd ddydd ei ymddatodiad. Byddai ei gofal am ei phlant yn angerddol; cynghorai hwynt å dagrau yn aml, a gweddiai yn ddibaid drostynt, yn ddirgel a chyhoeddus, canys bob amser pan na byddai Henry Richard gartref, byddai Hannah Richard yn ymgymeryd â'r offeiriadaeth, ac yn offrymu moliant i Dduw drosti ei hun a'r teulu. Yn yr amgylchiadau hyn clywid hi yn gweddio dros y plant gyda thaerni rhyfeddol; ïe, gweddio yn y fath fodd nes ylgadawyd argraff ar eu meddyliau byth mai gweddiau gwirioneddol oeddynt, ac i'r Nefoedd eu hateb yn eu hachubiaeth, ac yn y defnyddiad rhyfeddol wnawd o honynt mewn cysylltiad å gwaith yr Arglwydd mewn blynyddoedd dyfodol. Ymdrechodd yn rhyfeddol gyda Tommy i'w gael i'r cyfarfodydd, canys yr oedd pan yn fachgenyn yn mhell o fod yn dduwiol. Wylodd lawer, eb efe, uwch ei ben, gan ei gynghori, a dymuno arno gyda dagrau i ddyfod gyda hi i'r cwrdd; cafodd hyn argraff annhraethol ar ei feddwl, ac arosodd gydag ef am ei oes. Y mae yn amlwg, oddiwrth ei ysgrifeniadau, ei fod yn cofio hyn yn aml ac yn awchus, canys bydd yn cyfeirio yn aml at lafur a lludded ei fam anwyl, a'i hymdrechion duwiol gydag ef pan ydoedd yn fachgenyn. Ymddengys ei fod yn llane gwyllt, afrywiog, tymherog, a phenderfynol, ac yn meddwl ei fod mewn caethiwed tost wrth orfod myned i'r cwrdd, amgen i blant eraill ag oedd yn cael rhedeg o gwmpas, tori Sabbath, a bod yn benrhydd. Yr holl bethau hyn a gynwysir mewn ychydig eiriau o'i eiddo ef ei hun, yn nechreu<noinclude><references/></noinclude> mvat67szldfuqlcrc18e3g74q6vu8mf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/62 104 84706 164519 2026-05-15T01:07:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164519 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei ddyddlyfr; ac fe allai y bydd yn well eu gosod i lawr fel y maent. Y mae yn cychwyn ei ddyddlyfr fel y canlyn:"Fe'm ganwyd yn Trefin yn mhlwyf Llanon, Sir Benfro, yn Nghymru, o rieni duwiol, ac fe'm dygwyd i fyny gyda llawer o hyfforddiadau crefyddol, ac mewn poen mawr i'm rhieni, oblegyd fy annuwioldeb a'm hystyfnigrwydd; er hyny ni roisant heibio gweddio drosof, ac ymbil am fy nhywys i'r ffordd dda. Llawer gwaith y bu fy anwyl fam dduwiol yn wylo dagrau uwch fy mhen am ddod gyda hi i'r ''society'',一 cyfeillachau neillduol; minau yn gwrthwynebu ar wastad fy nghefn ar y llawr, fel y mae y dylluan yn arfer ymladd, yn llawn llid a chynddaredd: fel hyn y parheais mewn pob gwylltineb ac ynfydrwydd, yn maeddu ac yn gorchfygu pawb, hyd oddeutu pedair ar ddeg oed." Ni a welwn gyfrolau yn y geiriau uchod. Y mae llawn ddigon wedi ei ddyweyd i ddangos y bachgen drwg yn gwrthwynebu mam dyner a duwiol hyd yr eithaf; yr oedd mor galed a'r gallestr, fel nad oedd dagrau poethion y fam anwyl yn toddi dim o hono. Y fath arlun! Y bachgen drwg ar ei gefn yn gwrthwynebu, a'i faglau i fyny fel dylluan, a'i fam deimladwy yn doddedig yn ymbil uwch ei ben, ar iddo ddyfod i'r cyfarfod. Tommy yn codi ei goesau i fyny gan grochlefain, "Ni ddeuaf, ni ddeuaf, cerddwch eich hunan os mynwch;" a chalon y fam anwyl a duwiol yn ymdoddi ac yn ymarllwys allan yn ddagrau trwy y llygaid, mewn tosturi at, a gofal am fachgen drwg. Gellir meddwl wrth ei ysgrifeniadau fod llais crynedig ei anwyl fam uwch ei ben, yn dywedyd, "O Tommy, dewch i'r cwrdd, fy nghariad," wedi aredig ei galon ganwaith; a pheri iddo ei gweled yn sefyll uwch ei ben, ac yn tywallt dagrau, yn mhen blynyddau wedi iddi hi fyned i orphwys oddiwrth ei llafur. Fel hyn yr aeth pethau yn y blaen hyd bedair ar ddeg oed, pan yr ymddengys i gyfnewidiad o bwys gymeryd lle. Yr ydym yn ei ganfod yn llanc arall i'r hyn ydoedd, canys nid yw am beidio myned i'r cyfarfodydd crefyddol mwy, eithr yn hytrach yn ymdrech hyd yr eithaf i gyrhaedd pob cwrdd oedd yn y gymydogaeth. Nid oedd gan ei anwyl fam y drafferth leiaf yn awr i'w berswadio i fyned; yr oedd hyny wedi dyfod yn duedd ynddo; yr unig waith fyddai ganddi hi bellach oedd ei barotoi i fyned; ac yr oedd yn gwneyd hyny dan ganu. Yn nghyfnewidiad amlwg y bachgen hwn yr oedd tristwch y fam dduwiol wedi troi yn llawenydd, a'i<noinclude><references/></noinclude> 4qprqpb31tuku13tdyiskvto3dxg6z7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/64 104 84707 164521 2026-05-15T01:10:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164521 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD II.}}
Dychweliad Mr. Richard at grefydd.}} Y MAE yn dyfod yn helynt bwysig yn awr am grefydd, a mater bywyd tragywyddol; a pha le, tebygech, y mae yn troi am gyfarwyddyd? Ah, at ei anwyl fam; y fam hono fu yn ymdrechu ei gael i'r odfaon, yr hon a wylodd allan ei chalon dyner, ac yntau yn galed a dideimlad; yr hon a ymbilodd mewn gweddi ar Dduw drosto, ac yntau yn "ymladd fel dylluan," fel y dywed, gan ymosod yn erbyn ei chymhellion tyner. Eithr pan ddaeth yn deimlad ofnadwy am gyflwr, pan y gwelodd ei fod yn sefyll mewn peryglon tragywyddol, pan agorodd uffern ei safn yn anferth, a phan edrychwyd yn ei wyneb gan Farnwr y byd, dacw ef yn gostwng ei ben. yn cuddio ei wyneb â'i ddwylaw, ac yn rhedeg am gyfarwyddyd at fynwes mam dyner. Y mae yn debyg, o herwydd gwylltineb ac anufudd-dod, ei fod wedi tynu gwg ei dad, a bod ei dad wedi myned i gadw draw oddiwrtho, gan ymddwyn tuag ato yn hytrach yn sarug; felly yr oedd yn teimlo yn bur yswilgar ac ofnus i nesu at ei dad. Ond ei fam, pan oedd yn nghanol ei wylltineb mwyaf, ni chadwai draw oddiwrtho; eithr tynai ei ben ati, a gwasgai yn ei mynwes gynes; a chan chwareu a'i wallt a'i llaw, dywedai a chalon dyner a llygaid yn llawn o ddagrau, "Tommy bach, paham y byddwch yn fachgen drwg?" Pan y daeth yn galed arno, gan hyny, pan y daliwyd ac y rhwymwyd ef å chadwynau newyddion, ac yntau yn ceisio ymysgwyd, ac heb wybod pa beth i wneyd, gwyddai fod mynwes gynes a groesaw calon iddo mewn mam dyner; ac yno y mae yn troi i geisio nodded. "Llawenydd mwy na hwn" nis gallasai hithau byth gael tu yma i'r nefoedd, sef gweled fod ei mab cyndyn ac anufudd yn ymgais am rodio yn y gwirionedd. Dyma yr had ag y bu er ys ychydig yn ol yn ei hau mewn dagrau, nid yn unig yn dechreu tyfu, eithr yn dechreu addfedu, a hithau yn cychwyn ar "fedi mewn gorfoledd." Pan yr ydych yn hau had gwerthfawr yn meddyliau y plant, ni wyddoch pa mor gynted y rhydd Duw yr anrhydedd i chwi ddychwelyd ar hyd y grynau yna, i gasglu ysgubau y ffrwyth toreithiog. Rhaid i ni eto droi i'r dyddlyfr, gan adael iddo ef ddyweyd yr hanes yn ei ffordd ei hun. "Pan yn bedair ar ddeg oed y dechreuwyd sobri fy meddwl, nes gorfod arnaf amlygu<noinclude><references/></noinclude> fgxtfdzc93orst8hlknuntwuulugyl6 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/65 104 84708 164522 2026-05-15T01:13:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164522 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyny i fy mam, er nas gwyddai neb; ac yr oeddwn am le yn mhlith y brodyr. Ond nis gwyddwn pa fodd i'w amlygu i'm tad, am fy mod yn ofni ei anfoddlonrwydd oblegyd fy nrygioni." Y mae yr ychydig eiriau yna yn dyweyd llawer. Gellir casglu yn naturiol nad oedd ryw lawer o gymdeithas gariadus rhwng y tad a'r mab, ac nid oedd yn ddichonadwy iddi fod ar y tir ag yr oedd Tommy wedi bod yn rhodio hyd yn hyn. Eithr pan hysbysodd y fam i'r tad y teimlad newydd hwn, a bod y bachgen mewn tywydd garw am ei gyflwr, a chwant ymwasgu at y dysgyblion, braidd y gwyddai yn mha le y safai; yr oedd yn orlawn o lawenydd; nid oedd dim gorchest i faddeu i Tommy ei holl anufudd-dod a'i ystyfnigrwydd; y mae gwawr byd newydd yn codi mewn mynyd. Yr oedd yr hen Henry Richard, y pregethwr a'r amaethwr, yr un peth yn union a thad yr afradlon yn y ddameg; yr oedd yn anmhosibl iddo fod yn debycach; yn wir, am ddim a wyddom ni, fe allai mai Henry Richard oedd hwnw; canys mor gynted ag y gwelodd ei dad y teimlad hwn, dyma fe yn maddeu y cwbl iddo mewn moment, yn rhedeg i'w gusanu, yn foddlon iddo gael y peth goreu oedd yn ei feddiant, "y wisg oreu;" ac er ei fod wedi cilio oddiwrtho mewn mesur, y mae yn ail adnewyddu y gyfeillachyn gwneyd cyfamod newydd, ac yn rhoi y fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; lladdwyd y llo pasgedig, a dechreuwyd bod yn llawen. Ai nid Henry Richard oedd y tad yn y ddameg, wys? Y maent yr un peth yn eu teimladau yn union, bid a fyno. Beth bynag, yr oedd yn ddigon naturiol i'r tad a'r fam lawenychu yn nghyd, gan eu bod o'r un teimladau crefyddol wrth weled cyfnewidiad yn cymeryd lle yn y bachgen gwyllt; nid yw hyn ond y peth y gallesid ddysgwyl. Ar foreu y gyfeillach neillduol, neu y society, fel y gelwid y cyfarfod, gwelwn Henry Richard ac Hannah ei wraig yn ymddyddan å Tommy bach, ac yn ei galonogi a'i gysuro, ac yn rhoddi pob cyfarwyddiadau angenrheidiol iddo i fyned yn y blaen. Y bachgen yntau nid yw yn dyweyd yr un gair, canys y galon sydd fel yn chwyddo yn y fynwes, yn myned yn rhy fawr, fel y gellid meddwl ei bod yn codi i'r gwddf, a bron yn ei dagu, a'r llygaid yn methu gweled yn glir gan ddagrau. Y tad a'r fam anwyl ydynt yn sefyll uwch ei ben, yn cydymdeimlo, ac yn fynych yn cydwylo, gan geisio yn mhob rhyw fodd ei gysuro, a'i arwain allan o'i ofnau a'i<noinclude><references/></noinclude> czuzrx3h8kealpzfo9t9mmr4ovne20b Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/66 104 84709 164523 2026-05-15T01:14:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164523 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddyryswch, trwy ddangos Crist wedi marw dros bechaduriaid, a bod maddeuant i'r pechaduriaid penaf trwy ei waed. Y maent oll yn ymostwng ar eu gliniau ger bron Duw, ac y mae Henry Richard yn cyfarch yr orsedd, ac yn cario Tommy yn neillduol yn mreichiau ei weddiau at "waed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Wedi hyn, yn gymaint a bod amser y cwrdd eglwysig yn agosâu, dacw Hannah ei fam yn ei gymeryd yn ei llaw, gan ddywedyd, "Tyr'd gyda mi, i gael ymolch dy wyneb, Tommy bach, ac i rói siaced arall am danat i gael myned i'r cwrdd." Yn llonydd a marwaidd y gwelir ef yn awr yn dylyn ei fam, i'w barotoi i fyned i'r cyfarfod; nid gwaeddi ac ysgrechian ar wastad ei gefn, yn ei gwrthwynebu fel cynt; na, gwelir cyfnewidiad mawr ynddo heddyw; beth bynag ydyw, amser yn unig a ddywed. Wedi ei ymolch a rhoi rhyw beth yn ei gylch, dacw Hannah anwyl yn ymaflyd yn ei law, gan ei ddwyn ef gyda hi, "fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo yno byth." Tra yr ydym yn myned yn y blaen, cedwch eich golwg ar y bachgen, canys y "bachgen yw tad y dyn." Peidiwch a meddwl, os gellwch, am y Parchedig Thomas Richard, Abergwaen, eithr am Tommy bach yn myned yn llaw Hannah ei fam i dŷ yr Arglwydd, a'i galon dyner yn rhy friwedig i'w chyffwrdd. Peidiwch a meddwl am hyawdledd Mr. Richard, fel y clywsoch ef yn Nghymanfaoedd Cymru; eithr edrychwch am dipyn bach ar y bachgen Tommy yn fud o flaen hen flaenoriaid eglwys Trefin, mewn ofn a braw yn methu dyweyd dim. Edrychwch yn weddol fanol ar y bachgen cyn dyfod at y dyn; fe allai y byddwch yn alluog i adnabod y dyn yn well o hyny. Yr oedd cysylltiad agos, fel y gwyddoch, rhwng y "bachgen Samuel" a'r prophwyd Samuel. Yr oedd y prophwyd Samuel yn adnabyddus "o Dan i Beerseba," mai "prophwyd ffyddlon i'r Arglwydd ydoedd;" eithr ychydig iawn o'r holl werin hyny wyddai nemawr am y bachgen Samuel, am yr hwn y gweddiodd Hannah, yr hwn a ddygwyd ganddi i fyny i dŷ yr Arglwydd yn Siloh, gyda thri bustach, un epha o beilliaid, a chostrelaid o win, yn offrymau. Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu yr Arglwydd ger bron Eli, cyn bod y prophwyd Samuel yn adnabyddus o Dan i Beerseba. Cyn bod Cymru, o Gaerdydd i Gaergybi, yn adnabod y Parch. Thomas Richard, yr oedd iddo fywyd annghyhoedd mewn cysylltiad a thad a mam dduwiol; ac y<noinclude><references/></noinclude> 3e7xqdqgrhwoq0ffezz3ylx1weg0kpf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/67 104 84710 164524 2026-05-15T01:14:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164524 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae perthynas agos rhwng Tommy yn myned yn llaw Hannah ei fam i'w gyflwyno i eglwys Trefin, â'r Parch. Thomas Richard, Abergwaen, a adnabyddwyd wedi hyny fel prif bregethwr Cymru. Ond dyna, gadawn bob peth yn llonydd, nes y byddont yn dyfod i'n golwg yn naturiol, canys y mae ffrwyth anaddfed yn gyffredin yn afiachus. Y mae y bachgen yn myned i'r ''society'', ac yno yn sefyll yn fud, heb allu dyweyd un gair. Y dyn welwyd wedi hyny heb ddiwedd ar ei ffraethineb yn manau mwyaf cyhoeddus Cymru, sydd yn awr yn methu gan deimlad a thywyllwch ag agor ei enau. "Pwy a ddiystyra ddydd y pethau bychain?" Gellid meddwl fod digon o brofion bellach mewn hanesyddiaeth fod pethau bychain yn cynwys ynddynt hadau pethau mawrion, ac y dylai hyny fod yn ddigon o reswm i beidio eu diystyru. Pwy yn y byd fuasai yn meddwl y diwrnod yr oedd Tommy yn myned yn llaw Hannah i dŷ yr Arglwydd, y diwrnod yr oedd yn sefyll yn fud o flaen y rhai oedd yn ei holi, yn methu gwneyd dim ond wylo, mai hwnw fyddai y Parchedig Thomas Richard, Abergwaen? Mor ychydig yr ydym yn ei wybod; "na fernwch ddim cyn yr amser," ac na chymerwch arnoch eich bod yn brophwydi, rhag eich cael yn gelwyddog. Y mae yn bosibl y byddai yn ddewisol gan ein darllenwyr i roi ychydig o'i eiriau ef ei hun ar y mater hwn, canys yr ydym yn bwriadu iddo gael dyweyd drosto ei hun gymaint ag sydd yn bosibl yn y Gwaith hwn. "Aethum i'r cyfarfod; a phan dechreuwyd fy holi, yn ol trefn y Corph, nid oedd genyf ond ychydig iawn i ateb gan fy ofn, canys yr. oedd hi i mi fel lladdfa; felly y treuliais lawer o fy amser mewn tywyllwch ac anwybodaeth dan amrywiol fath ar dywydd." "Yr oedd i mi fel lladdfa." Ystyriwch y frawddeg yna yn fanol; y mae rhyw beth ynddi, ac fe ddaw rhyw beth mawr o honi, chwi gewch weled. "Yr oedd i mi fel lladdfa." Ië, lladdfa oedd hi hefyd; ac nid oes nemawr o ddaioni yn nghrefydd neb os na ddechreuodd mewn lladdfa. Mewn lladdfa y mae egin byw byth yn ymwreiddio; mewn lladdfa y bydd gwraidd defnyddioldeb mawr yn ymledu; mewn lladdfa y gwelir cydymdeimlad crefyddol yn cael bod; ac mewn lladdfa y gwelir datguddiad o ddiangfa yn dyfod i'r golwg. Dynion cyfain, hunanol, penuchel, hunan-ddoethion yw y dynion sydd heb fod yn y lladdfa, yn siarad llawer, ac yn gallu gwneyd dim. Pan y dygir dyn i'r lladdfa, daw i ddeall rhyw beth wedi hyny, a bydd yn debyg o fod â rhyw<noinclude><references/></noinclude> b18mffkqebefotysscardgvmg0wqpvq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/174 104 84711 164526 2026-05-15T01:18:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164526 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn taro yn erbyn y creigydd oedd yn gorwedd i'r ochr aswy. Ymdrechodd y morwyr â'u holl egni i fyned ati; ac wedi ei chyrhaedd, pwy oedd yno ond ein cyfaill Mr. Richard a'i wraig gariadus, wedi cyfarfod â môr garw iawn, ac ystormydd enbyd; wedi colli y cwbl yn agos ond eu hunain. Fel hyn y gwelir pawb yn taro allan, ac yn dechreu myned i mewn i fyd dychymygol, mewn ymchwiliad am wledydd a dedwyddwch dychymygol, nes y daw siomedigaethau a phrofedigaethau y byd sylweddol i ddysgu mai yn ofer ac am ddim y treulir y nerth. Os nad ydym ni yn deall mai nid yma mae ein gorphwysfa, fe ddaw yr hen fyd i'n dysgu a'n dysgyblu yn fuan. Ni a welsom Mr. Richard yn myned yn gryf iawn i amaethyddu i ymyl Trefdraeth, gan feddwl wrth gwrs gwneyd yn dda, fel pawb eraill; ond rhwng fod y tyddyn yn rhy ddrud, ac yntau yn bur ddiddefnydd gyda pheth o'r fath, y mae ei brofedigaethau yn dechreu yn awchus. Y mae yn ofni i bob peth fyned yn ddrylliau yn llongddrylliad am y byd, y grefydd, a'r weinidogaeth. Ah, y mae hwn yn amser enbyd. Dyma wynt cryf, dyma fôr garw! Y mae yn methu myned nemawr o gartref, y mae yn methu pregethu! Ei ysbryd sydd yn llesmeirio; y dyn duwiol, a'r gweinidog ffyddlon sydd yn mron tori ei galon; a'i anwyl wraig, wrth geisio ei gysuro, yn sefyll yn llwydaidd a gwelw uwch ei ben. Gwelwch ef yn gweddio, clywch ei ruddfan ar Dduw, yr hwn oedd abl i'w waredu o'r awr hono. Pa galon all edrych heb waedu? Yn y cyfyngderau hyn cyfryngodd Rhagluniaeth ddwyfol, rhyddhawyd ef o'i gadwynau, achubwyd ef a Mrs. Richard o'r llong ddrylliedig; ond am y taclau, a'r rhan fwyaf o'r llwyth, collwyd hwynt yn y dyfnder. Fe allai, serch hyny, fod lles os nid mel yn ysgerbwd y llew hwn, canys fel yr ydym yn deall, y mae profedigaethau amserol yn troi yn fynych yn llesâd a gogoniant tragywyddol. Heblaw llawer o brofedigaethau mawrion yn ysbaid y blynyddau hyn, cafodd beth cysuron hefyd; canys er cynddrwg yw profedigaethau y byd, nid profedigaethau yw y cwbl; y mae cysuron lawer i'w cael, onide byddem yn anobeithiol bob amser, ac o ganlyniad yn ddiwerth i ni ein hunain ac i gymdeithas. Pan y mae y wybr yn ddu ac yn guchiog, yn bygwth gwlaw mawr i foddi yr holl fyd, bydd man glas megys lled llaw yn ymddangos yn rhyw le yn arwydd tywydd teg eto, ac na foddai y ddaear y tro hwn. Fel y gwelsom er ys<noinclude><references/></noinclude> hifjl63o4xcs8z0mrvmyxd3sg9tl1lw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/175 104 84712 164527 2026-05-15T01:19:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164527 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ychydig yn ol, dymunodd lawer gwaith ar ei liniau gael mab yn gyntafanedig, a llawer gwaith wedi hyny am i'r mab hwnw gael ei achub, a'i neillduo at waith yr Arglwydd, a rhodio ger ei fron holl ddyddiau ei fywyd mewn ephod lian. Yn Drellewelyn, Maenorowen, Mehefin 3, 1820, anrhegwyd ef â mab yn ol dymuniad ei galon, a galwyd ef David Jones, ar ol y Parch. David Jones, Llangan, yr hwn, fel y gwelsom, oedd yn briod â modryb Mrs. Richard, gyda'r hon y cadwyd hi, a chyda'r hon ydoedd pan briododd. Yr ydym yn meddwl i Mr. Richard gael ei ail ddymuniad hefyd mewn perthynas i'r mab hwn, sef ei fod yn dduwiol, ac yn gysegredig i waith yr Arglwydd drwy ei wasanaethu yn ngweinidogaeth yr efengyl. Cafodd Mr. Richard weled hyn mewn rhan, er nad yn gwbl oll, cyn ei ymadawiad. Cafodd weled Mr. David Jones yn ddyn ieuanc duwiol, gwybodus, dysgedig, a phrydferth cyn ei angau; eithr wedi hyny y dechreuodd ar waith y weinidogaeth. Y mae yn debyg fod tuedd Mr. D. Jones Richard at y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, ac astudiodd at hyny; ond yn gymaint nad oedd ei dad yn cydymdeimlo â'r amcan, ni chymerodd ei ordeinio nes ar ol ei farwolaeth, er ei fod wedi myned trwy ei astudiaeth ychydig o flynyddoedd cyn hyny. Yr oedd hyn yn dangos gwir fawredd mewn parchu teimlad tad. Beth bynag, wedi marw ei dad, cymerodd ei ordeinio yn ol trefn Eglwys Loegr, lle y mae yn awr yn weinidog cyfrifol. Er fod y Parch. David Jones Richard yn cael ei ystyried yn ddyn call, gwybodus, a dysgedig, er hyny nid yw yn perchenogi dawn a galluoedd pregethu ei dad anrhydeddus. Y gwirionedd yw, pwy sydd yn perchenogi y gallu i bregethu ag oedd yn Richard, Abergwaen? Y mae yn anffortunus iawn i ddyn ieuanc a fo yn cychwyn ar bregethu i fod yn fab, nac yn frawd ychwaith, i un ag oedd wedi codi i fod yn ddyn oes a chenedl, canys y mae y bobl yn myned i gydmaru y dyn ieuanc â'i dad, nid â dynion ieuainc eraill. Pan y bydd dynion ieuainc eraill yn cael siarad am danynt, cydmerir hwynt â'u cyfoedion yn gyffredin; ond pan eir i edrych ar ddyn ieuane sydd yn fab i un o enwogion oes, eir i edrych am holl fawredd y tad yn y mab; ac os na cheir hyny dywedir, "O, nid yw yn debyg i'w dad, ac ni fydd byth;" a dyna hwnw wedi ei gondemnio, nid am nad yw yn gyfartal i'w gyfoedion, ond am nad yw gystal a'i dad. Y mae peth fel hyn yn dra anfanteisiol i ddyn ieuanc, ac eto yn rhyw fodd,<noinclude><references/></noinclude> 2xel16x35m9x9uxr6snqasv6jmm9qml Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/176 104 84713 164528 2026-05-15T01:20:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164528 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y mae yn beth rhyfedd na fyddai hen ddynion yn gosod eu synwyrau ar waith wrth farnu, gan ystyried pethau fel hyn. Symudodd Mr. Richard o Drellewelyn, fel y gwelsom, i'r Cnwcca, yn agos i Drefdraeth, lle y bu yn helynt y tyddyn hwnw, a lle y cafodd, fe allai, ei ofidiau mwyaf; ond gyda llaw cafodd yno ryw gysuron hefyd; canys Chwefror 3ydd, 1822, y ganwyd Bridget Hannah, ei anwyl ferch, yr hon fu yn gysur iddo hyd y diwedd. Hon yw ei anwyl Bridget y sonia mor fynych am dani, ac am yr hon y cawn glywed ychwaneg yn fuan o'i enau ef ei hun, canys yr ydym am ei osod, hyd y medrom, i ddyweyd pob peth drosto ei hun. Yr oedd hon yr un ffunud a'i thad; ni welsom ferch erioed mor debyg i ddyn ag oedd Bridget i'w thad. Yr oedd ei thrwyn yr un peth; braidd na fuasech yn meddwl wrth ei gweled ei bod wedi cipio ei drwyn ef, a'i roi ar ei gwyneb ei hun. Yr oedd y llygaid hefyd yr un peth, a'r un ffurf; yn fawrion, treiddgar; ar y wyneb yn dangos meddylgarwch, synwyr, a threiddgarwch. Yr ydym yn cofio ei gweled mewn cynulleidfa o ddau neu dri chant o bobl am y tro cyntaf, ac nid oedd yn bosibl peidio ei hadnabod. Yr oedd pob symudiad, gwefus a llygad, yn ddelw Mr. Richard, Abergwaen. Yr hyn oedd yn fwy na'r cwbl, trodd allan yn ferch ieuane dduwiol, hoff o foddion gras a dyledswyddau crefydd, ac yr oedd ei gofal am ei thad a'i mam y fath, nes yr oedd yn teimlo pleser mewn gwneyd ei hun yn aberth i'w cysur. Dau lygad ei hanwyl dad ydoedd, ac ni bydd yn coffa braidd byth yn ei ysgrifeniadau am dani ond o dan yr enw, "Fy anwyl Bridget." Wedi symud yn ol o'r fferm hono i Abergwaen, lle y terfynodd ei ddyddiau, ganwyd yn Mehefin 6, 1826, merch arall, yr hon a alwyd Margaret, yr hon a gladdwyd Hydref 31, 1826. Gwelwn, gan hyny, mai dau blentyn godwyd i faintioli, David Jones a'i anwyl Bridget. O'r flwyddyn 1828 hyd y flwyddyn 1850 y mae bywyd Mr. Richard yn fwy llyfn, er iddo gyfarfod â llawer o brofedigaethau, ond profedigaethau oeddynt gan mwyaf mewn cysylltiad ag achos crefydd; yn lleol ac yn gyfundebol. Siomedigaethau mewn dynion, dyoddefiadau oddiwrth hen gyfeillion, a llawer o bethau cyffelyb; y llythyrau mewn cysylltiad â'r cyfryw bethau ni wnant les i neb, am hyny yr ydym yn eu dedfrydu i ebargofiant. Darllen, myfyrio, a phregethu oedd prif orchwylion ei fywyd yn y blynyddoedd hyny; ac yn wir, nid ydoedd o werth at ddim arall ychwaith.<noinclude><references/></noinclude> 747fv5p2kkaq6i9yjlf7qoi2x63gnoz