Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.5 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Indecs:Brenin yr Ellyllon.djvu 106 85655 165983 165925 2026-06-05T03:10:07Z AlwynapHuw 1710 165983 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Brenin yr Ellyllon |Author=Nicholas Gogol |Publisher=Cwmni Cyhoeddi Addysgol |Year=1920 |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} [[Categori:Nicholas Gogol]] [[Categori:Gwilym Aneurin Tudor Davies]] 87ikj3e2bvcd474tz4rwfg3i40bib8o 165987 165983 2026-06-05T03:16:34Z AlwynapHuw 1710 165987 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Brenin yr Ellyllon |Author=Nicholas Gogol |Publisher=Cwmni Cyhoeddi Addysgol |Year=1920 |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} [[Categori:Nicholas Gogol]] [[Categori:Gwilym Aneurin Tudor Davies]] [[Categori:PD-old]] [[Categori:Cyfres y Werin]] [[Categori:Straeon byrion]] [[Categori:Llên gwerin]] [[Categori:Cyfieithiadau]] [[Categori:Tudalen Indecs]] d3g94g46zxxncghs415b2yv1sxunpc2 Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/29 104 85687 165968 165962 2026-06-05T00:03:01Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 165968 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a dwfr yn ymledu drosto a oedd mor glir â ffynnon y mynydd. Yr oedd y glaswellt yn debig i wely rhyw fôr disglair, gloew i'w ddyfnderoedd. Pa fodd bynnag, gallai weld yn eglur ynddo ei lun ei hun â'r hen wraig yn eistedd ar ei gefn. Gwelai ryw fath o haul yn tywynnu yno yn lle'r lloer. Clywai flodau'r gog yn tincial wrth ysgwyd eu pennau. Gwelai fôr—forwyn yn nofio allan o'r hesg, ei chefn a'i thraed yn disgleirio, ei chorff yn lluniaidd a heinif, fel llewych pefrol. Troes hi ato, a dyna'i hwyneb,—â'r llygaid treiddiol yn fflachio, a chân ar ei gwefus a glwyfai ei galon,— yn dod tuag at ei wyneb yntau, ac wedi prin gyffwrdd ag wyneb y dwfr yn dychwelyd eto, dan grynu wrth chwerthin. Ac yna, trodd ar ei chefn, ac ymloewai ei bronnau tywyll yn yr haul, fel llestr tseini di-owmal, ar ymyl ei chorff meinwisgi. Yr oedd clych y dwfr fel perlau bychain yn wisg am dani. Gwenai yn y dwfr dan grynu o'i phen i'w thraed. A welai ef hyn, ai peidio? A oedd yn effro ai'n breuddwydio? Ond pa beth oedd y sŵn? y gwynt neu fiwsig? a hynny'n canu, yn dirwyn, yn dringo, ac yn treiddio i'w enaid ag ing annioddefol. "Pa beth yw?" meddyliai'r athronydd Choma Brwt, gan edrych i lawr wrth chwyrnellu ymlaen ar ei gyflymaf. Llifai'r chwŷs allan ohono. Clywai ryw ddieflig drythyllwch yn ei feddiannu—rhyw felyschwant treiddiol lluddedus anaele. Tybiodd droeon ei fod wedi colli ei galon, a rhoes ei law, yn ei ddychryn, i chwilio am dani. Yr oedd yn ddiffygiol ac yn hurt, ceisiodd alw i'w gof yr holl weddïau a wyddai. Adroddodd yr holl felltithion ar y drwg ysbrydion, ac yn sydyn fe'i clywai ei hun yn adfywio rywsut; yr oedd yn teithio'n arafach, arafach. Eisteddai'r wrach yn llai tyn ar<noinclude></noinclude> 3msxyyu2w9nsd6tpgkzrgmxbyoz4lpy Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/30 104 85688 165969 165963 2026-06-05T00:03:46Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 165969 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei gefn. Cyffyrddai'r gwair tew ag ef, ac ni welai mwyach ddim eithriadol ynddo. Disgleiriai'r lleuad glaer yn yr wybren. "Da iawn," meddyliai'r athronydd Choma ynddo'i hun, a dechreu adrodd y melltithion yn uchel bron. O'r diwedd, neidiodd fel mellten oddi tan yr hen wraig, a llamodd ar ei chefn hithau. Rhedai'r hen wraig â thuth mor fân ag iddo brin gael ei anadl. Yr oedd y ddaear fel petai'n chwyrnellu heibio danynt. Goleuid popeth yn eglur gan y lloer, er bod honno'n newydd. Nid oedd dim rhyngddynt â'r gwastadedd, eithr teithient mor gyflym ag mai egwan a chymysglyd y gwelai hwnnw.. Cipiodd ffon a orweddai ar yr heol, a dechreuodd faeddu'r hen wraig â'i holl nerth. Ysgrechiodd honno'n wyllt, dan fygwth yn llidiog ar y cyntaf, ond buan yr aeth ei gweiddi'n wannach, dawelach, gliriach, ac o'r diwedd yn dyner, heb brin seinio, fel clychau arian lleddf. Suddodd hynny i'w galon, a heb wybod iddo fflach— iodd i'w feddwl, "Ai'r hen wraig yn wir yw hon? "Och fi! ni allaf fynd ymlaen," llefai hithau, dan lewygu, a syrthio i'r llawr. Safodd yntau, ac edrych i'w llygaid. Yr oedd y wawr yn torri, a disgleiniai aur gromennau eglwysi Kiev yn y pellter. O'i flaen, gorweddai morwyn brydferth, a'i main lywethau'n anhrefnus, a'i hamranflew'n hir fel saethau. Curai ei dwy law wen, noeth bob ochr iddi yn ei hanymwybod, ac edrychai i fyny dan riddfan, a'i llygaid yn llawn dagrau. Crynai Choma fel y ddeilen. Yr oedd wedi ei orchfygu gan drueni, a rhyw gyffro rhyfedd, a rhyw yswildod a oedd ddieithr beth iddo ef. Dechreuodd redeg ei eithaf. Ar y ffordd, curai ei galon yn wyllt, ac ni allai esbonio iddo'i<noinclude></noinclude> 7ry4y3plptp2clh7m37dwiqwz85em7v Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/31 104 85689 165970 165964 2026-06-05T00:03:54Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 165970 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hunan pa fath deimlad newydd a rhyfedd a'i meddiannai. Penderfynodd nad ai'n ol i'r fferm, a brysiodd ymlaen i Kiev, gan fyfyrio'r holl ffordd ar y digwyddiad dirgelaidd hwn. Nid oedd neb braidd o'r ysgolheigion yn y ddinas. Yr oeddynt oll ar wasgar yn y ffermydd, neu "mewn gwasanaeth," neu heb fod mewn unrhyw "wasanaeth" o gwbl, canys digon hawdd yn ffermydd Wcraina gael twmplenni, caws, llaeth enwyn, a phwdin berwi gymaint â het, heb dalu ffyrlling. Yr oedd yr aneddle mawr candryll lle y preswyliai'r byrddwyr yn hollol wag, ac er i'r athronydd chwilota ymhob cornel a phalfalu yn yr holl dyllau yn y to, ni chafodd yn unman yr un darn o fraster, na hyd yn oed o hen fara a fyddai'r ysgolheigion yn ei guddio. Pa fodd bynnag, cafodd yr athronydd yn fuan gyfle i newid ei gyflwr tostur. Wrth ymdroi deirawr o gwmpas y marchnadle, llwyddodd i daro ar weddw ifanc a wisgai fonet felen, yn gwerthu rhubanau, pelenni saethu, ac olwynion. Y diwrnod hwnnw, fe'i llanwyd â chig adar a phwdin berwi-yn wir ni ellir cyfrif y pethau a arlwyai'r ford o'i flaen yn y caban bach clai ynghanol y berllan geirios. A'r nos honno, gwelid yr athronydd yn nhafarn y pentref. Lledorweddai ar y sgiw, gan smygu ei bib fel arfer, a thaflu chweugain aur at y tafarnwr o Iddew yng ngŵydd y cwmni. Yr oedd godard o'i flaen. Edrychai'n dawel ddidaro ar y gwesteion yn mynd a dod, wedi llwyr beidio â meddwl am ei brofiad dieithr. Yn y cyfamser, lledai'r sôn dros yr holl le fod merch un o'r capteiniaid Cosac cyfoethocaf, â'i fferm tua phymtheng milltir o Kiev, wedi dychwelyd i'r tŷ'n llwyr ddiffygiol, a phrin ddigon cryf i allu cyrraedd yno ar ol bod am dro;<noinclude></noinclude> 290eh3frjjgn9et8cky3c7zkvregqnt Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/32 104 85690 165971 165965 2026-06-05T00:05:26Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 165971 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei bod hi ar farw, ac yn dymuno, cyn marw, am adrodd gweddïau dros y meirw am dri diwrnod ar ol ei dydd hi gan ryw fyfyriwr o Kiev, Choma Brwt. Torrwyd y newydd hwn i'r athronydd gan y rheithor ei hun, a'i galwodd yn naturiol i'w ystafell a dywedyd wrtho y dylai frysio'n ddiymdroi ar ei daith, fod cyrnol o Gosac wedi gyrru cerbyd a gwŷr yn arbennig i'w gyrchu. Crynai'r athronydd gan ryw deimlad dieithr na allai mo'i egluro iddo'i hunan. Dywedai rhywbeth dirgel wrtho fod rhyw chwithdod ar ddod i'w ran. Mynegodd yn bendant, heb wybod ei hun paham, nad elai. "Nawr, edrych yma, meistr Choma," ebe'r rheithor, a fedrai ar brydiau annerch y rhai dano'n eithriadol foesgar, "does yr un cythraul yn gofyn i ti a fynni di fynd ai peidio. Yn unig mi ddwedaf hyn wrthyt, os dechreui di ryw ffwlbri i'm twyllo i, neu ddechreu dadleu, y rhof i'r gair i olchi dy gefn â bwndel o fedw fel na allit fyth ddymuno'i well." Aeth yr athronydd allan dan grafu ei glust, heb ateb gair, gan arofun y cyfle cyntaf roi ei draed yn y tir. Yr oedd yn disgyn yn fyfyriol dros y grisiau serth a arweiniai i'r cwrt ynghanol y poplys. Arhosodd ennyd, canys clywai'n eglur lais y rheithor yn gorchymyn i'w stiward ac i ryw un arall hefyd—un o'r gweision oddiwrth y Cosac i'w gyrchu, debig iawn. "Diolch i'w Anrhydedd am y blawd a'r wyau," ebr y rheithor," a dywed wrtho yr anfonaf y llyfrau yr ysgrifenna am danynt yn union pan fônt yn barod; rwyf i eisoes wedi eu rhoi i sgrifennydd i'w copio. A phaid ag anghofio, 'machgen da i, ddywedyd wrth ei Anrhydedd fy mod yn gwybod bod pysgota da ar ei stâd, yn enwedig stwrsiwn. Rwy'n gobeithio yr enfyn beth imi pan gaffo gyfle. Gwael<noinclude></noinclude> clp28dx8oqd2vsfss4c5wwq5wcnnr50 Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/33 104 85691 165972 165966 2026-06-05T00:06:05Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 165972 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a drud yw'r pysgod yn y basarau yma. Iaftwch, rho wydraid o licwr yr un i'r bechgyn da yma; ïe, a rhwyma'r athronydd neu y mae'n siwr o ddianc ar unwaith." "Cei weld, yr hen fab gast!" meddyliai'r athronydd. "Fe'i sbectodd, yr hen gnaf hirgoes!" Disgynnodd i'r cwrt, ac yno gwelodd fen, a feddyliai gyntaf ei bod yn ysgubor ar olwynion—yr oedd yn wir mor fawr ag odyn i bobi priddfeini. Un o gerbydau cyffredin Cracof ydoedd, y byddai rhyw drigain o Iddewon, ynghyda'u gosgorddwyr, yn teithio ynddynt i ba le bynnag y clywent ei bod yn ddydd ffair. Yr oedd chwe Chosac corffol, cadarn, gweddol oedrannus yn ei ddisgwyl. Dangosai eu cotiau brodiog o liain main eu bod yn weision i ryw ŵr cyfrifol, cefnog arno. Yr oedd rhyw fân greithiau'n dystiolaeth iddynt wasnaethu, nid heb glod, yn y brwydrau. Beth a allaf ei wneuthur? Ni all neb osgoi ei ran,' meddyliai'r athronydd. Felly, cerddodd at y Cosaciaid. 'Dydd da, frodyr gydfforddolion," meddai wrthynt yn arw. 'Dydd da, meistr athronydd," atebai rhai ohonynt. 'Wel, ac mae'n rhaid i mi eistedd gyda chi? Cerbyd rhagorol," meddai, gan fyned i mewn iddo. "Pe gallem hurio cerddorion, gallem gael dawns ynddo." "Gallem, mae digon o le ynddo, "ebr un o'r Cosaciaid, gan eistedd yn ymyl y gyrrwr. Gwisgai'r olaf ddarn o frethyn am ei ben, yn lle'i gap a lwyddasai i'w roi'n adneu yn y tŷ tafarn. Dringodd y pump arall, gyda'r athronydd, i mewn i ganol y cerbyd, a gorwedd i lawr ar y sachau a oedd yn llawn o'r gwahanol bethau a brynasent yn Kiev. {{nop}}<noinclude></noinclude> rgoytzr6kqkblknsogrzd8auyzxuntm Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/34 104 85692 165973 165967 2026-06-05T00:06:31Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 165973 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Carwn wybod," eb yr athronydd, "pa sawl ceffyl a fyddai'n rhaid eu cael i dynnu'r cerbyd hwn pe llenwid ef â rhyw nwydd fel halen, neu gynion haearn." "Ie," meddai'r Cosac ar y bocs ar ol aros, " byddai'n rhaid i ni gael cryn nifer o geffylau." Ar ol yr ateb llawn hwn, tybiai'r Cosac fod ganddo hawl i barhau'n ddistaw weddill y siwrnai. Yr oedd yr athronydd yn awchus iawn i wybod yn fwy manwl pwy a pha fath oedd y cyrnol o Gosac, ac am ei ferch hithau, a ddychwelodd adref mor rhyfedd ei chyflwr, ac a orweddai'n awr ar farw, a'i thynged wedi ei chymhlethu mor dyn yn yr eiddo yntau; pa fath oedd eu bywyd, a pha beth oedd trefn eu tŷ. Holai'r Cosaciaid, eithr yr oeddynt hwy, debig, yn athronwyr megis yntau, canys pwffian y mwg yn unig a wnaent yn ateb iddo, wedi eu rhoi eu hunain yn gomfforddus ar y sachau. Ond rhoddes un ohonynt orchymyn byr i'r gyrrwr ar y bocs. "Edrych yma, Oferco, yr hen ffwl, pan ddown ni at yr heol fawr—heol Tswchrail, wrth gwrs,—paid di ag anghofio aros yno a'm deffro i a'r bechgyn eraill os digwydd i ni gwympo i gysgu." Yna, fe gwympodd i gysgu, gan chwyrnu'n uchel. Pa fodd bynnag, nid aeth y cyfarwyddiadau hyn yn gwbl ofer, oherwydd y munud y dechreuodd y fen anferth nesu at yr heol fawr neu heol Tswchrail," gwaeddodd yr holl gwmni ag un llais "Aros." Heblaw hynny, yr oedd ceffylau Oferco wedi ymgyfarwyddo gymaint â'r drefn hon ag yr arferent aros o'u rhan eu hunain y tu allan i bob tŷ tafarn. Er mai diwrnod mwrn yng Ngorffennaf ydoedd, deuthant oll allan o'r cerbyd, a mynd i mewn i ystafell front isel, a'r<noinclude></noinclude> f70467duup701acb6oulvgrrs4wwf21 Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/35 104 85693 165974 2026-06-05T00:06:46Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "tafarnwr o Iddew'n rhuthro ymlaen gan lawenhau i groesawu ei hen gydnabod. Tynnodd selsigod porc allan o blygion ei siaced, eu rhoi ar y ford, a throi ar unwaith oddiwrth y cig hwn a waharddai'r Talmud. Eistedd ohonynt i gyd o gwmpas y bwrdd; godardau pridd yn dod ger bron pob gwestai. Gorfu i Choma Brwt gymryd rhan yn y wledd gyffredin. A chan fod trigolion Wcraina yn ddieithriad yn ymgofleidio neu'n cyd-wylo pan fônt ar y sbri, ni bu... 165974 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>tafarnwr o Iddew'n rhuthro ymlaen gan lawenhau i groesawu ei hen gydnabod. Tynnodd selsigod porc allan o blygion ei siaced, eu rhoi ar y ford, a throi ar unwaith oddiwrth y cig hwn a waharddai'r Talmud. Eistedd ohonynt i gyd o gwmpas y bwrdd; godardau pridd yn dod ger bron pob gwestai. Gorfu i Choma Brwt gymryd rhan yn y wledd gyffredin. A chan fod trigolion Wcraina yn ddieithriad yn ymgofleidio neu'n cyd-wylo pan fônt ar y sbri, ni bu ohir nad oedd yr holl gaban yn atseinio â mwytheiriau. "Dere mlaen, Spirid, gad i ni gusanu'n gilydd." "Dere 'ma, Dorosh, i mi gael dy gofleidio." Pwysai un Cosac â thrawswch brith, yr hynaf ohonynt, ei ên ar ei law, a dechreu ubain o galon am nad oedd ganddo na thad na mam, a'i fod yn unig yn y byd. Yr oedd un arall, clebrwr mawr, yn dal i'w gysuro. "Paid â llefain, er mwyn Duw, paid â llefain! Beth sy draw?—Duw'n unig a ŵyr beth sydd, na sut y mae, draw." Aeth y Cosac a elwid Dorosh yn holgar dros ben, a dechreuodd annerch yr athronydd Choma, a'i groes holi'n ddi-daw. "Carwn wybod beth a ddysgant i chi yn yr athrofa; ai'r un peth ag a ddarllen yr offeiriad yn yr eglwys i ni, ai'n wahanol?" "Paid â'i holi!" meddai'r clebrwr, yn araf, "“gad iddynt ddysgu'r peth a gânt yn wastad. Duw a ŵyr beth sy raid. Gŵyr Duw bopeth." "Na, mae arnaf eisiau gwybod," ebe Dorosh," rwyf i am wybod beth sy'n ysgrifenedig yn y llyfrau yna sy ganddynt. Efallai ei fod yn hollol wahanol i'r hyn sydd yn llyfr yr offeiriad." {{nop}}<noinclude></noinclude> lza8j615keql9crc9qsm6at5xem2a6w Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/36 104 85694 165975 2026-06-05T00:07:49Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Duw! Duw!" meddai ei deilwng hyfforddwr wrtho, beth yw'r holl siarad hyn. Ewyllys Duw ydyw, meddaf i ti, Duw a'i hordeiniodd. Ni ellir newid a drefno Duw felly." Mae arnaf eisiau gwybod popeth sy'n ysgrifenedig. Mi af innau i athrofa; af, myn Duw. Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy hen i ddysgu? Mi ddysgaf bopeth, meddaf wrthyt, popeth!" "Duw! Duw!" meddai ei gysurwr, gan ostwng ei ben ar y ford, yn gwbl analluog i'w gynnal i fyny'n h... 165975 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Duw! Duw!" meddai ei deilwng hyfforddwr wrtho, beth yw'r holl siarad hyn. Ewyllys Duw ydyw, meddaf i ti, Duw a'i hordeiniodd. Ni ellir newid a drefno Duw felly." Mae arnaf eisiau gwybod popeth sy'n ysgrifenedig. Mi af innau i athrofa; af, myn Duw. Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy hen i ddysgu? Mi ddysgaf bopeth, meddaf wrthyt, popeth!" "Duw! Duw!" meddai ei gysurwr, gan ostwng ei ben ar y ford, yn gwbl analluog i'w gynnal i fyny'n hwy. Siaradai'r Cosaciaid eraill am y gwŷr mawr, a hefyd paham yr oedd lleuad yn yr wybr. Pan welodd yr athronydd Choma fod y gyfeddach wedi codi i'w pennau, penderfynodd ddal ar y cyfle a llithro ymaith. I ddechreu, anerchodd y Cosac gwalltfrith a fuasai'n cwyno dros ei dad a'i fam. "Am beth y buoch chi'n cwyno'r hen frawd?" ebr ef. Bachgen amddifad wyf innau! Gedwch fi'n rhydd, fechgyn! Beth a wneuthum i chi?" "Gad e'n rhydd," atebai rhai ohonynt, "meddwl, bachgen amddifad yw e. Gad iddo fynd lle mynno." "Duw! Duw!" meddai'r cysurwr, gan godi ei ben oddiar y ford, "gad iddo fynd. Gad iddo fynd ei ffordd." Ac yr oedd y Cosaciaid ar fynd ag ef allan eu hunain, pan ataliwyd hwy gan hwnnw a fuasai mor awyddus am ddysg. Rhowch lonydd iddo," meddai wrthynt, "rwyf i'n mynd i siarad ag e' ynghylch yr athrofa. Rwyf innau'n mynd i'r athrofa fy hunan." Ar wahân i hynny, y mae'n amheus a allasai'r athronydd gyflawni ei gynllun, canys pan geisiodd godi o'i gadair,<noinclude></noinclude> o6zijkckqa14e4fzt3twohjkwqirhj3 Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/37 104 85695 165976 2026-06-05T00:08:53Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "aeth ei draed fel pren, a daeth niferoedd o ddrysau i'r golwg yn yr ystafell, fel yr oedd yn bwnc a allasai daro ar y drws iawn. Nid cyn nos y cofiodd y cwmni fod yn rhaid iddynt fyned ymlaen ar eu taith. Ymwthiasant yn llwyr frwysg i'r fen, dan weiddi ar y ceffylau a chanu cân na allasai neb ddeall na'r alaw na'r geiriau. Teithio felly gryn hanner y nos, a cholli'n barhaus y ffordd a wyddent yn dda pan fyddent sobr. O'r diwedd, drin... 165976 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aeth ei draed fel pren, a daeth niferoedd o ddrysau i'r golwg yn yr ystafell, fel yr oedd yn bwnc a allasai daro ar y drws iawn. Nid cyn nos y cofiodd y cwmni fod yn rhaid iddynt fyned ymlaen ar eu taith. Ymwthiasant yn llwyr frwysg i'r fen, dan weiddi ar y ceffylau a chanu cân na allasai neb ddeall na'r alaw na'r geiriau. Teithio felly gryn hanner y nos, a cholli'n barhaus y ffordd a wyddent yn dda pan fyddent sobr. O'r diwedd, dringo llethr serth, a dod i wastadedd, lle y sylwai'r athronydd ar berth wedi ei phlethu yn ymestyn ar ddwy ochr yr heol, a thu ol i'r berth goed bychain iawn, a thoau yn ymddangos uwchlaw iddynt. Yr oedd hwn yn bentref mawr, rhan o stâd y Cyrnol. Yr oedd erbyn hyn ymhell dros ganol nos. Yr oedd yr wybr yn dywyll, er bod sêr bychain yn pefrio hwnt ac yma. Ni welid goleu yn un o'r bwthynnod. Udai ci wrth eu bod yn myned i mewn i'r cwrt. Yr oedd ysguboriau a bwthynnod to cawn ar bob tu i hwnnw. Yr oedd un o'r tai, a wynebai'r glwyd, yn fwy na'r lleill, a thebig mai hwnnw oedd tŷ'r Cyrnol. Safodd y cerbyd o flaen math o ysgubor fach, ac aeth y teithwyr i'w hundyau. Yr oedd ar yr athronydd eisiau edrych tipyn ar y tuallan i dŷ'r gŵr mawr, ond er iddo rwbio a rhwbio'i lygaid yn galed, nid oedd dim yn glir iddo. Yn lle tŷ, gwelai arth, a throai'r simnai'n rheithor. Ysgydwodd ei law'n ddiobaith, ac aeth ymaith i gysgu. Pan ddeffroes, cafodd fod rhyw gyffro yn y tŷ. Buasai'r ferch ifanc farw yn y nos. Rhuthrai'r morynion yn ol ac ymlaen; wylai rhyw hen wragedd; safai nifer o bobl ymofyngar yn edrych drwy'r cledrau i'r cwrt, fel ped fai<noinclude></noinclude> k95xr1the2gu9ur4hq7bkenf1yqcnxn Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/38 104 85696 165977 2026-06-05T00:09:47Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "rhywbeth neilltuol i'w weled. Dechreuodd yr athronydd yn awr edrych ar y lle mewn modd na buasai bosibl iddo'r Adeilad bach isel oedd aneddle'r gŵr mawr, y math a godid yn yr hen amser yn Wcraina. To cawn oedd iddo. Codai'r piniwn bychan i big fain. Yr oedd ynddo ffenestr fechan fel llygad wedi ei godi. Yr oedd wedi ei baentio drosto â blodau glas a melyn, a hanner—lleuadau coch. Safai ar golofnau deri, â'u hanner uchaf yn gylch, a'u h... 165977 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhywbeth neilltuol i'w weled. Dechreuodd yr athronydd yn awr edrych ar y lle mewn modd na buasai bosibl iddo'r Adeilad bach isel oedd aneddle'r gŵr mawr, y math a godid yn yr hen amser yn Wcraina. To cawn oedd iddo. Codai'r piniwn bychan i big fain. Yr oedd ynddo ffenestr fechan fel llygad wedi ei godi. Yr oedd wedi ei baentio drosto â blodau glas a melyn, a hanner—lleuadau coch. Safai ar golofnau deri, â'u hanner uchaf yn gylch, a'u hanner isaf yn chweochrog; yr oedd addurniadau cwafarog wedi eu torri ar eu pennau. Dan y piniwn, safai rhes fach o risiau â seddau ar yr ochrau. O flaen y tŷ, tyfai pren pêr mawr, fel pyramid, a'i ddail yn siffrwd yn ddibaid. Ynghanol y cwrt, ffurfiai nifer o ysguboriau, yn ddwy res, fath o rodfa a arweiniai at y tŷ. Wrth gefn yr ysguboriau, tuag at y porth, safai dwy wingell drionglog do cawn. Yr oedd drws bychan ym mur pob un, ac amryw ddarluniau wedi eu paentio ar y mur. Er enghraifft, ar y naill, llun Cosac yn marchogaeth baril, gan ddal tanced uwch ei ben, gyda'r geiriau " Yfaf o hyd." Ar y llall, yr oedd wedi eu paentio gostrelau a fflagenni, ac yn crogi o'u hochrau, meirch llamsachus, pib, a thympan, gyda'r geiriau," Gwin yw gorhoffedd y Cosac." Yn llofft un o'r ysguboriau, gwelai ddrwm a thrwmpedi prês y tu ol i ffenestr nenlofft fawr. Safai dwy fagnel wrth y glwyd. Yr oedd popeth yn dyst bod y perchennog yn hoff o firi, a bod y cwrt yn aml yn datseinio gan lais y cyfeddachwyr. O flaen y glwyd, yr oedd dwy felin wynt. Yng nghefn y tŷ, ymestynnai'r gerddi, a rhwng brigau'r coed pennau duon simneiau'r bwthynnod yn unig a welid—yr oedd y bwthynnod eu hunain wedi eu cuddio yn y prysgwydd glas. Safai'r pentref yn gyfan<noinclude></noinclude> ftafpdn3kd61nxy0zjcq2tu718f0xbh Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/40 104 85697 165978 2026-06-05T00:10:35Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ar fron lefn, eang y mynydd. Caeai'r mynydd serth bopeth allan ar ochr y gogledd—yr oedd ei droed ar y cwrt. Ymddangosai'n serthach byth wrth edrych arno o'r gwaelod. Ar ei gopaon uchel, safai bonau anghyfartal gwair sych y rhostir, yma a thraw, yn ddu yn erbyn y ffurfafen oleu. Parai ei olwg gleiog noethlwm ryw bruddglwyf i ddyn; yr oedd yn dyllau ac yn gwysi gan y glaw. Codai dau fwthyn allan o'i lethr serth. Ysgydwai pren afalau lly... 165978 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar fron lefn, eang y mynydd. Caeai'r mynydd serth bopeth allan ar ochr y gogledd—yr oedd ei droed ar y cwrt. Ymddangosai'n serthach byth wrth edrych arno o'r gwaelod. Ar ei gopaon uchel, safai bonau anghyfartal gwair sych y rhostir, yma a thraw, yn ddu yn erbyn y ffurfafen oleu. Parai ei olwg gleiog noethlwm ryw bruddglwyf i ddyn; yr oedd yn dyllau ac yn gwysi gan y glaw. Codai dau fwthyn allan o'i lethr serth. Ysgydwai pren afalau llydanfrig, a gynhelid yn y bôn â pholion bychain wedi eu sicrhau â phridd, ei gangau dros un ohonynt. Pan chwythid yr afalau oddiar y pren gan y gwynt, treiglent i lawr i fuarth y gŵr bonheddig. Dirwynai'r heol i lawr o gopa'r mynydd, ac ar y gwaelod, arweiniai heibio i'r buarth i mewn i'r pentref. Pan syllodd yr athronydd ar y llethr arswydus, a chofio gyrru'r diwrnod cynt, penderfynodd naill ai bod gan y gŵr bonheddig geffylau eithriadol o gall, ai bod gan ei Gosaciaid bennau eithriadol o gryf, am iddynt lwyddo, hyd yn oed yn eu cyflwr brwysg, i ymgadw rhag mynd bendramwnwgl, y fen lwythog anferth a chwbl. Yr oedd yr athronydd yn sefyll ar fan uchaf y buarth, a phan droes i'r gwrthwyneb, gwelai olygfa hollol wahanol. Ymestynnai'r pentref i lawr dros y llethr at y gwastadedd. Ymledai meysydd aneirif draw i'r pellter. gan dywyllu eu glesni disglair wrth bellhau. Gwelid rhesi cyfain o bentrefi yn y pellter glas, er eu bod dros ugain milltir i ffwrdd. Ar y dde i'r meysydd hyn, ymestynnai mynyddoedd, a thraw ymhell, cerddai Dnieper loew-dywyll, fel rhuban, bron yn anweledig. Gwlad wych," meddai'r athronydd, "dyma'r lle y carwn drigo; pysgota yn Dnieper a'r llynnau, maglu gwernieir, a saethu hwyaid gwyllt a chyffylogod. Gellid<noinclude></noinclude> 0o7uutkmma36awv2ck3gil5eiqifs4v 165980 165978 2026-06-05T00:11:55Z AlwynapHuw 1710 165980 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>sychu'r ffrwyth a'i werthu'n y crynswth yn y dref—neu well byth, gwneuthur fodca ohono, oherwydd fodca wedi ei wneuthur o ffrwyth yw'r ddiod oreu sydd. Ond wedi'r cwbl, does dim i'm cadw rhag meddwl am ddianc oddiyma." Y tu cefn i'r berth, gwelai lwybr bach wedi ei lwyr guddio gan orthwf y rhoswair. Camodd arno'n hollol ddidaro, gan fwriadu rhodianna ymlaen yn unig i ddechreu, ac yna fyned heb ei weled o neb rhwng tai'r llafurwyr, ac yna allan i'r wlad agored, pan glywai daro llaw drom ar ei ysgwydd. Yr oedd yr hen Gosac yn sefyll o'i ôl, hwnnw a fuasai'r diwrnod cynt yn galaru mor dost uwchben marwolaeth ei dad a'i fam, a'i gyflwr ei hun fel amddifad. "Ni waeth i ti heb feddwl dianc o'r fferm, Mr. Athronydd," meddai, "nid hwn yw'r sefydliad iawn i allu rhedeg ohono. Hefyd mae'r heolydd yn ddrwg i'r sawl sy'n cerdded. Na, tyrd at y gŵr bonheddig; y mae'n dy ddisgwyl ers amser yn y parlwr." Gad i mi fynd! Hy-y-y, wel, da iawn," meddai'r athronydd, a dyma fe'n dechreu dilyn y Cosac. Yr oedd y gŵr bonheddig—dyn oedrannus, â thrawswch frith, a golwg brudd, alarus arno—yn eistedd wrth y ford yn y parlwr, â'i ben ar ei ddwylo. Yr oedd tua hanner cant oed; ond dangosai'r anobaith dwys yn ei wynepryd, a'i liw gwelw fod ei ysbryd wedi ei ddryllio mewn un munud, a bod holl firi a llawenydd y bywyd gynt wedi darfod am byth. Pan ddaeth Choma i mewn gyda'r hen Gosac, tynnodd un llaw'n ol, ac ymgrymodd ychydig wrth eu hymostyngiad isel hwy. Arhosodd Choma a'r Cosac yn foesgar wrth y drws. {{nop}}<noinclude></noinclude> 7vppc79wplzxzw6nqdxllqshhy29dsg Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/39 104 85698 165979 2026-06-05T00:11:05Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ar fron lefn, eang y mynydd. Caeai'r mynydd serth bopeth allan ar ochr y gogledd—yr oedd ei droed ar y cwrt. Ymddangosai'n serthach byth wrth edrych arno o'r gwaelod. Ar ei gopaon uchel, safai bonau anghyfartal gwair sych y rhostir, yma a thraw, yn ddu yn erbyn y ffurfafen oleu. Parai ei olwg gleiog noethlwm ryw bruddglwyf i ddyn; yr oedd yn dyllau ac yn gwysi gan y glaw. Codai dau fwthyn allan o'i lethr serth. Ysgydwai pren afalau lly... 165979 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar fron lefn, eang y mynydd. Caeai'r mynydd serth bopeth allan ar ochr y gogledd—yr oedd ei droed ar y cwrt. Ymddangosai'n serthach byth wrth edrych arno o'r gwaelod. Ar ei gopaon uchel, safai bonau anghyfartal gwair sych y rhostir, yma a thraw, yn ddu yn erbyn y ffurfafen oleu. Parai ei olwg gleiog noethlwm ryw bruddglwyf i ddyn; yr oedd yn dyllau ac yn gwysi gan y glaw. Codai dau fwthyn allan o'i lethr serth. Ysgydwai pren afalau llydanfrig, a gynhelid yn y bôn â pholion bychain wedi eu sicrhau â phridd, ei gangau dros un ohonynt. Pan chwythid yr afalau oddiar y pren gan y gwynt, treiglent i lawr i fuarth y gŵr bonheddig. Dirwynai'r heol i lawr o gopa'r mynydd, ac ar y gwaelod, arweiniai heibio i'r buarth i mewn i'r pentref. Pan syllodd yr athronydd ar y llethr arswydus, a chofio gyrru'r diwrnod cynt, penderfynodd naill ai bod gan y gŵr bonheddig geffylau eithriadol o gall, ai bod gan ei Gosaciaid bennau eithriadol o gryf, am iddynt lwyddo, hyd yn oed yn eu cyflwr brwysg, i ymgadw rhag mynd bendramwnwgl, y fen lwythog anferth a chwbl. Yr oedd yr athronydd yn sefyll ar fan uchaf y buarth, a phan droes i'r gwrthwyneb, gwelai olygfa hollol wahanol. Ymestynnai'r pentref i lawr dros y llethr at y gwastadedd. Ymledai meysydd aneirif draw i'r pellter. gan dywyllu eu glesni disglair wrth bellhau. Gwelid rhesi cyfain o bentrefi yn y pellter glas, er eu bod dros ugain milltir i ffwrdd. Ar y dde i'r meysydd hyn, ymestynnai mynyddoedd, a thraw ymhell, cerddai Dnieper loew-dywyll, fel rhuban, bron yn anweledig. Gwlad wych," meddai'r athronydd, "dyma'r lle y carwn drigo; pysgota yn Dnieper a'r llynnau, maglu gwernieir, a saethu hwyaid gwyllt a chyffylogod. Gellid<noinclude></noinclude> 0o7uutkmma36awv2ck3gil5eiqifs4v Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/41 104 85699 165981 2026-06-05T00:13:29Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Pwy ydych, o ble y deuthoch, a pha beth ydych, wrda," gofynnai'r gŵr bonheddig, mewn llais nad oedd na meddal na garw. "Ysgolhaig wyf i, myfyriwr mewn athroniaeth, a Choma Brwt yw f'enw." "A phwy oedd eich tad?" "Ni wn, syr." "A'ch mam?" "Ni wn hynny chwaith. Rhaid bod gennyf fam, bid siwr y mae synnwyr cyffredin yn dangos hynny i mi; ond pwy oedd, neu o ble yr oedd, neu ymhle y trigai, y nefoedd fawr, syr, ni wn i!" Arhos... 165981 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Pwy ydych, o ble y deuthoch, a pha beth ydych, wrda," gofynnai'r gŵr bonheddig, mewn llais nad oedd na meddal na garw. "Ysgolhaig wyf i, myfyriwr mewn athroniaeth, a Choma Brwt yw f'enw." "A phwy oedd eich tad?" "Ni wn, syr." "A'ch mam?" "Ni wn hynny chwaith. Rhaid bod gennyf fam, bid siwr y mae synnwyr cyffredin yn dangos hynny i mi; ond pwy oedd, neu o ble yr oedd, neu ymhle y trigai, y nefoedd fawr, syr, ni wn i!" Arhosodd yr hen ŵr bonheddig, fel ped ymgollasai yn ei feddwl. "Pa fodd y deuthoch i adnabod fy merch?" "Nid adnabûm i mohoni erioed, syr; yn enw'r nef, naddo erioed! Ni bu a fynnwn i erioed â boneddigesau ifainc, naddo yn fy myw. Dangio nhw!—heb ddywedyd dim cryfach." Wel, sut y rhoes hi gyfarwyddyd mai chwi, ac nid neb arall, a ddylai weddïo drosti? Ysgydwodd yr athronydd ei ysgwyddau. "Duw'n unig a ŵyr sut i esbonio hynny! Gŵyr yr holl fyd fod ar y gwŷr mawr weithiau eisiau'r fath bethau ag na all y dynion mwyaf dysgedig mo'u hamgyffred. Ac fel y dywed y ddihareb, Dawnsiwch, y cythreuliaid, a'r gŵr mawr yn dywedyd wrthych.' "Onid ŷch yn dywedyd anwiredd yn awr, Mr. Athronydd?" "Tarawed y fellten fi'n farw y fan yma, os wyf." {{nop}}<noinclude></noinclude> hlsbqgcg0vxsw46c2tmgh2o1pgrpqgy Categori:Gwilym Aneurin Tudor Davies 14 85700 165982 2026-06-05T03:09:58Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "[[Delwedd:Gwilym Aneurin Tudor Davies 1881-1923.jpg|bawd]]" 165982 wikitext text/x-wiki [[Delwedd:Gwilym Aneurin Tudor Davies 1881-1923.jpg|bawd]] ed3rkxo3fwc4ytmqr5r8hj2hp4o6w9g 165988 165982 2026-06-05T03:23:15Z AlwynapHuw 1710 165988 wikitext text/x-wiki [[Delwedd:Gwilym Aneurin Tudor Davies 1881-1923.jpg|bawd]] Roedd '''Gwilym Aneurin Tudor Davies''' (1881–1923) yn awdur ac yn academydd Cymreig. Bu'n ddarlithydd hanes Rhufain ym Mhrifysgol Aberdeen ac yn athro Lladin yng Ngholeg Prifysgol Cymru, De Cymru a Mynwy (Prifysgol Caerdydd, bellach) i15puimwazkc65pu91wz3xhfo5par5x Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/1 104 85701 165984 2026-06-05T03:12:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165984 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Brenin yr Ellyllon.djvu|canol|600px|tudalen=1]] {{nop}]<noinclude><references/></noinclude> 9bthapx77r9m844httyfkhfi5z6mi3q Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/11 104 85702 165985 2026-06-05T03:13:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165985 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Brenin yr Ellyllon.djvu|canol|600px|tudalen=11]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 07ckaopjq22y8csr3491o4sor1phbrh Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/72 104 85703 165986 2026-06-05T03:14:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165986 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Brenin yr Ellyllon.djvu|canol|600px|tudalen=72]]<noinclude><references/></noinclude> c2bcnfqns7iqny17wg36dtcy3t7878c