Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.6
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/32
104
33245
166578
69036
2026-06-15T11:28:15Z
~2026-34942-65
4158
166578
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>{{c|III.<br>ADDUNED EINIR WYN }}
DAETH Cwmni urddasol o fonedd Gwynedd i'r Penrhyn i brif ddawns y flwyddyn. Er nad oedd ef ei hunan yn dwyn yr enw Gruffydd, tarddai barwnig y Penrhyn o'r hen foncyff godidog hwnnw, ac yr oedd yn ŵr a hawliai flaenoriaeth ymysg mawrion y wlad. Er mai cangen israddol o deulu'r Penrhyn oedd teulu Cwchwillan, yr oedd un ohonynt ym mherson yr Archesgob Williams wedi codi'r gangen honno i fri, ac yn Syr Robert Williams y Penrhyn gwelai'r wlad olynydd teilwng i Piers Gruffydd yn ogystal a châr agos i'r Arglwydd Geidwad enwog ei hun.
Aethai blynyddoedd heibio er pan fu Morys ar ymweliad o'r blaen â chartref ei hynafiaid; blynyddoedd a dreuliodd ymhell o'i wlad. Er dyddiau ei febyd nid oedd wedi bod y tu mewn i'w furiau cedyrn, oedd wedi goroesi'r canrifoedd yng nghanol ei dderwydd hen.
Ag yntau'n Gymro calon—gynnes, carai Morys Wlad y Bryniau â chariad anniwall. Uwchben Menai ar ei daith a'i wyneb tua mynyddoedd mawreddog Arfon, gwleddai ei olygon ar brydferthwch yr harddaf o'r siroedd.
Croesawodd Syr Robert ei gâr ieuanc yn gynnes, ac er amlygu diddordeb cyfeiriodd yr ymddiddan at gartref newydd Morys ym Môn. "Clywais am yr ardal," meddai'r barwnig gyda gwên, "lle gwyllt a rhyfedd, onid e? Ac yn llawn o beryglon rhyfedd, os gwir pob sôn."
"Felly y dywedir," atebodd Morys. "A chredaf i mi gyfarfod rhai o'r lladron un noson."
"Aie? Nid rhai llwfr mohonynt os darfu iddynt ryfygu ymyrraeth â chwi," chwarddodd y barwnig, gan fwrw golwg ar berson cadarn y gŵr ifanc.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lnqcc4jbv2mig4hwg4c6mqb1ivqb2qd
Tudalen:Madam Wen.djvu/33
104
33246
166579
69037
2026-06-15T11:39:47Z
~2026-35246-05
4159
166579
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Do, bu Lewys a minnau yng nghanol yr haid un noson, ac y mae ef druan ar hyn o bryd gartref yn gwella o'i glwyfau."
Yr oedd yn ddrwg gan Syr Robert glywed am anffawd y ceffyl du. Ac wedi holi ymhellach, a chael hanes yr ymgiprys, dywedodd mewn hanner cellwair, "Ond ni thalodd eich cymdoges deg ymweliad â chwi yng Nghymunod hyd yma?"
"Na wnaeth. Ac fel eraill, yr wyf wedi mynd i ddechrau credu mai enw yn unig yw Madam Wen."
Chwarddodd y barwnig yn iach Onibai," meddai, "eich bod wedi treulio blynyddoedd allan o'ch gwlad buasai'ch ffydd yn gryfach bod Madam Wen yn fwy nag enw'n unig. Hir y cadwo hi chwi heb y praw. Tybiai Morys y clywai ryw atsain o ddifrifoldeb yng ngeiriau Syr Robert, er fod ei ddull yn ysgafn. Dyna wnaeth iddo ofyn i'r barwnig adrodd iddo sut yr oedd hi wedi ennill cymaint o anfri.
"Mae'n hysbys i bawb ei bod hi'n ddychryn i wŷr y brenin,' meddai'r barwnig, "a'r casgliad ydyw nad ydyw yn elyn i ladron môr a mynydd, nac i gêl—fasnachwyr glannau'r môr." Wrth glywed hynny daeth Tafarn y Cwch ag wyneb cyfrwys—gall Siôn Ifan yn fyw i feddwl Morys. Ond gofynnodd i'w gydymaith fyned ymlaen efo'r hanes.
"Os wy'n cofio'n iawn, mae ganddi ryw gweryl personol a'i gwna'n wrthryfelydd digymod yn erbyn deddf a rheol. Dywedir amdani mai merch lân o berson ydyw, y tu hwnt i'r cyffredin mewn dysg a gwybodaeth. Clywais ddywedyd mai ei harfer yw ysbeilio'r cyfoethog er difyrrwch, ac yna helpu'r tlawd o'r ysbail."
Hwyrach mai dyna'r esboniad sydd i'w roddi ar ddistawrwydd syn rhai o'r bobl acw o berthynas iddi hi a'i gweithredoedd," meddai Morys.
Digon tebyg. Mae tu hwnt i amheuaeth y bydd yr haid sydd yn ei dilyn yn cymryd gwibdaith dros yr afon ar adegau. Clywais sôn amdanynt cyn belled<noinclude><references/></noinclude>
89i15ufo162u74i0wjy1ma0vy4nat6p
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/293
104
86096
166512
166511
2026-06-14T19:19:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166512
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lah, hawdd iawn oedd ei ddybenu mewn ''modd'' arall. Yr oedd y bendithion a ddilynodd y gymdeithas hon yn lliosog ac amlwg iawn. O dan oruchwyliaeth yr hen gymdeithas lenyddol a duwinyddol yr oedd y gwŷr ieuainc yn yswil, anhyderus, ac yn wir yn rhy wylaidd, fel pe na buasent yn gwybod dim. Ond pan ddaethant o dan ddylanwad cymdeithas y Sol-ffa, dysgwyd hwy i ddal eu penau i fyny fel dynion, ac i ddangos i'r byd eu bod yn gwybod "be oedd be." Y pryd hyny y daethant i ddeall eu bod yn ddynion, ac fod eisieu iddynt actio fel dynion, a rhoi ar ddeall i'r crachfoneddigion nad hwy oedd i gael yr holl fenyg a'r modrwyau. Ffurfiodd y gymdeithas hon gyfnod pwysig yn hanes y gymydogaeth, a hyny mewn ychydig amser. Yn fuan gwelwyd yr hen arfer a fyddai gan ddynion ieuainc o gario Bibl i'r capel yn dechreu diflanu, a'r Llyfr Tônau yn cymeryd ei le. Mae yn wir y byddai ambell i hen wreigan, na wyddai yn ymgenach, yn myned yn wyllt wrth weled y llyfr hwn yn cymeryd lle ei flaenorydd; ond nid gwiw oedd gwingo yn erbyn ''progress'' yr oes. Fel pob diwygiad arall, cafodd y wêdd hon ar bethau yr wyf yn sôn am dani, wrthwynebiad mawr gan bobl hen ffasiwn. Yr oedd fy meistr, Abel Hughes, er ei fod yn ŵr call, dipyn yn Doryaidd gyda phethau newyddion; a gwelais ef yn gwrthod ar rai amgylchiadau droi y seiat nos Sul yn gyfarfod canu, ac hefyd yn gwneyd ''stand'' penderfynol yn erbyn ''practisio'' darnau cerddorol ar y Sabboth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol. Mi a'i clywais ef a'm clustiau fy hun yn dadgan nad oedd canu yn fwy pwysig na phregethu, ac nad oedd y Llyfr Tônau i gael mwy o sylw na'r Bibl. Gwrthodai hefyd ofyn i'r pregethwr "ei thori yn fyr" er mwyn cael ychwaneg o amser gyda'r canu. Er fod ''Eos Prydain'' yn gwneyd llygaid mawr a milain arno, gwrthodai Abel beidio slurio, a chanu allan â'i holl egni eiriau megys
{{center block|
<poem>
"Ei arwain i Galfari fryn,
A'i hoelio ar groesbren o'i fodd."
</poem>
}}
Pe cawsai Abel fyw ychydig o flynyddau yn hwy, diammheu y buasai yn dysgu amgenach pethau. Wrth weled effeithiau rhyfeddol cymdeithas y Sol-ffa, ymunais â hi yn galonog. Bum yn aelod o honi am fis; a dysgais nid yn unig nad oedd genyf lais addawol, ond nad<noinclude><references/></noinclude>
36clfhnlum0z9lu65xwa4q0vrr1mzl1
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/294
104
86097
166513
2026-06-14T19:21:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166513
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd genyf amynedd na'r ymenydd i ragori yn nghyfrinion y gelfyddyd. Aci mi ddyweyd y gwir yn onest, teimlwn braidd yn yswil, oblegid cefais allan ar unwaith mai bachgen bach 8 oed, digon dwl hefyd, a'r hwn yr oeddwn yn cael trafferth fawr i'w ddysgu i sillebu yn yr Ysgol Sul-cefais allan, meddaf, mai hwn o holl aelodau y gymdeithas oedd y ''sight-singer'' goreu. Gwelais fod perygl i mi golli fy nylanwad arno yn y dosbarth ar y Sabboth; a "gloewais hi," chwedl Wil Bryan. Mae yn edifar genyf hyd heddyw na buaswn wedi ymroi ati i feistroli y Sol-ffa; canys y mae yn amlwg i un sydd "yn talu rhyw gymaint o sylw i arwyddion yr amserau mai hon fydd y wybodaeth anhebgorol yn fuan iawn. Diammheu y gwêl yr oes sydd yn codi mewn cyfarfod ordeinio yn y Sasiwn y cwestiynau o'r ''Cyffes Ffydd'' yn gorfod rhoi lle i'r ''black board'' ac arholiad yn y Solffa; ac i gyfarfod a ''llais'' ein heglwysi, ni ddychymygir pasio neb fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd heb ei fod yn gallu egluro yn fanwl y gwahaniaeth rhwng y cywair lleiaf a'r mwyaf. Drwg genyf i mi esgeuluso y cyfleusderau oeddynt o fewn fy nghyrhaedd y pryd hwnw; ac erbyn hyn yr wyf yn rhy hen i ddysgu.
Ond gwelaf fy mod yn ymollwng yn ormodol i wneyd sylwadau, ac fod perygl, os darllenir y llinellau hyn gan rywrai, iddynt feddwl mai cellwair yr ydwyf. Yr oedd yn y capel lawer o gyfnewidiadau eraill; ac nid y lleiaf oedd absennoldeb amryw o'r hen frodyr y coleddwn barch mawr iddynt pan oeddwn yn hogyn. Edward Peters, y soniais am dano o'r blaen, y gŵr crabed, gofalus hefo'r llyfrau, oedd er ys amser wedi ei gaethiwo i'w dy; ond nid âi efe byth i'w wely ar nos Sabboth heb yn gyntaf gael gwybod swm y casglad. Rhag i mi anghofio dyweyd hyny eto, un o'i eiriau olaf cyn marw oedd, cofiwch fod chwarter y seti i fyny nos Lun nesaf." Cocoa-nut oedd efe: yr oedd ei blisgyn yn galed, ond yr oedd sap gwir grefydd yn ei galon. Hugh Bellis, y gŵr a fyddai yn aml yn wylo o dan y bregeth a'r hwn a elwid gan Wil Bryan ''"yr hen water works,"''—yr oedd ef wedi gadael "plant y dagrau a'r ocheneidiau," ac wedi myned drosodd mewn llawn hwyliau i'r llawenydd am yr hwn nis gallai sôn tra ar y ddaear heb wylo dagrau melus iawn. O'r hen flaenoriaid nid oedd yn aros ond Abel Hughes, a dywedai fy holl galon—O frenin, bydd fyw byth! Yr oedd Dafydd Dafis, yr hwn a ddaethai atom o eglwys arall, yn flaenor eisoes, a chydnabyddwyd ef felly ar ei<noinclude><references/></noinclude>
d3lw6bd5nwjd3dgo6iwav85cvl178tb
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/295
104
86098
166514
2026-06-14T19:22:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166514
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddyfodiad atom. Bydd raid i mi sôn am dano ef eto. Thomas Bowen, y pregethwr, a ffrynd mawr y plant, am yr hwn y dymunaswn ddyweyd llawer pe buasai amser yn caniatâu,— yr oedd yntau wedi ein gadael, a chred pawb ai hadwaenai oedd mai i'r un wlad a Hugh Bellis yr aethai yntau. Yr oedd John Llwyd, y dyn a fyddai bob amser yn beïo, a'r hwn a elwid gan Wil Bryan "yr hen grafwr," eto yn aros yn ein plith. Yr oedd Wil er ys tro wedi newid ei enw i ''"chapel nuisance inspector."'' Thomas a Barbara Bartley a ddalient yn ffyddlawn, a gloewai eu crefydd. Erbyn hyn hwy oeddynt y ddau ''originals'' yn y seiat; a phan deimlai Abel fod yr ymddyddan yn cerdded yn drwm, troai ar ei sawdl yn sydyn a gofynai, "Thomas Bartley, be sy ar y'ch meddwl chi heno?" ac odid fawr na chaem rywbeth a godai hwyl. Nid gwneyd ond dyweyd profiad a fyddai Thomas bob amser; ond byddai hwnw yn fynych yn ddigrifol, ac yn fwy felly, am ei fod yn ''true to nature'', ys dywedai Wil Bryan. Bydd raid i mi roddi ychydig engreifftiau o hyn cyn gorphen yr hanes hwn. Yr wyf wedi crybwyll amryw weithiau am William y glo, yr hwn oedd dueddol i feddwi, ac a roddai y bai bob amser ar Satan. Yr oedd William erbyn hyn yn rhy hen i "ganlyn y cynhauaf," ac felly yr oedd yn lled grefyddol. Cofus genyf y dywedai Abel Hughes wrth sôn am William, fod tlodi yn anhebgorol i dduwioldeb rhai pobl. Er fod Abel yn Galfin zelog, yr oedd yn ''liberal'' iawn ei syniadau gyda rhai pethau; a chlywais ef yn dyweyd ei fod yn gobeithio pan ddeuai angeu at William y glo y byddai iddo ei gael yn dlawd; "oblegid," ebe fe, mae William druan yn dduwiol iawn pan fydd ei boced yn wag." Yr wyf yn sôn am y cymeriadau hyn, a hwy yn unig am fy mod wedi cael achlysur i grybwyll am danynt yn flaenorol.
Nifer y blaenoriaid ar y pryd oedd tri—sef Abel Hughes, Alexander Phillips ''(Eos Prydain)'', a Dafydd Dafis. Ni fu tri mwy annhebyg. Yr oedd Abel, fel yr wyf wedi desgrifio, yn hen ŵr meddylgar ac o argyhoeddiadau dwfn, wedi darllen llawer yn Gymraeg a Saesoneg, yn un yr oedd pregethwyr yn talu gwarogaeth i'w farn yn y Cyfarfod Misol, ac o dduwioldeb diammheuol. Yr oedd yn araf ond sicr fel tynged. ''Eos Prydain'' oedd ŵr ieuanc dibriod, medrus ac ymroddgar gyda'r canu, bywiog ei yspryd, ac mewn ffafr gan y bobl ieuainc. Rhoddasai ei flynyddau goreu i astudio cerddoriaeth yn<noinclude><references/></noinclude>
s2zcvzwwhkm3p4iveaa67xcl6h5vtte
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/296
104
86099
166515
2026-06-14T19:27:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166515
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>unig, a llwyddodd i wneyd ei hun yn feistr ar y gelfyddyd. Anfynych y gwelais ei gyffelyb am drefnu a chario allan gyngherdd, Yr oedd ei ffyddlondeb gyda'r mawl yn y capel yn "siampal," chwedl yr hen bobl. Ei fuchedd oedd ddifrycheulyd; a'i unig fai, os bai hefyd, oedd ei fod ar adegau yn troi dalenau y llyfr tônau yn ystod y bregeth, ac yn gwneyd ei geg yn gron fel pe buasai yn chwibianu yn ei frest. Dyn canol oed oedd Dafydd Dafis, unieithog, wedi ei ddwyn i fyny yn y wlad, crefyddol, synwyrol, zelog—dyn yr un llyfr, ac yn gwirio, ''Beware of the man of one book.'' Dau brif beth oedd gan Dafydd Dafis-ei grefydd a'i fferm. Ni wyddai fwy am ''politics'' nag a wyddai Abel (nid Abel Hughes—Abel fab Adda). Dau feistr oedd ganddo, Duw a'r meistr tir. I'r olaf rhoddai barch dyladwy, i'r blaenaf ei holl galon, a chaffai y ddau ef yn was ffyddlawn, gonest a chywir. Buasai ganddo fwy o arian yn y banc oni buasai iddo roddi cymaint o'i amser a'i feddwl i wneyd iddo ei hun bwrs na heneiddiai. Gofidiai fwy am aelod o'r eglwys a wrthgiliasai nag am y ddafad a aethai ar ddisperod oddiar y fferm. Pan fu tri o'i fustych feirw gan y blaned, diolchai i Dduw fod ganddo rai eraill cystal a hwythau yn fyw; ond pan fu farw chwaer grefyddol o'r seiat bu Dafydd Dafis mewn tristwch am wythnosau. Nid oedd y clwyf ar y pytatws yn hyfryd ganddo, ond yr oedd adeg ddilewyrch ar grefydd yn ei boeni yn fwy. Diolchai o'i galon am gynauaf toreithiog, ond diolchai ganwaith mwy am ddiwygiad crefyddol. Ar ddamwain a phan gofiai yn unig yr ymgynghorai a'r ''weather-glass;'' ond nid aï un dirwnod heibio heb iddo ymgynghori a'r Bibl am y tywydd oedd yn aros ei enaid—pa un ai ystorm ai tegwch oedd mewn ystôr iddo. Yr oedd y byd a'i amgylchiadau prysur mor ddyeithr iddo ymron ag ydynt i ddyn mewn llong ar ganol y môr; ond yr oedd gan Dafydd Dafis hefyd ei gwmpawd, a gwyddai yn lled sicr am y porthladd yr oedd yn cyfeirio ato. Yr oedd yn ŵr o deimladau dwys, ac ni chlywais ef erioed yn chwerthin; ond gwisgai ei wyneb wên anymwybodol a ddangosai gydwybod ddirwystr-gwên nad yw yn hoff gan y diafol. Weithiau cyfarfyddir âg ambell un â rhyw fenyweidd—dra gwlanenaidd ynglŷn â'i grefydd, ac a bâr i un feddwl y buasai yn llai crefyddol pe buasai yn fwy goleuedig. Nid un felly oedd Dafydd Dafis. Cymerai y Bibl yn brif astudiaeth ei fywyd, a'r Bibl ei hun oedd ei esboniad penaf ar y Bibl. Wrth ddarllen cyfran o hanes Iesu Grist<noinclude><references/></noinclude>
mf1pmwnbxww47q4b9yv3k6oiib09jg5
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/297
104
86100
166516
2026-06-14T19:28:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166516
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gan un efengylwr, ymddangosai i mi fod pob gair a ddywedodd yr efengylwyr eraill am yr un gyfran o flaen ei feddwl, a gallai ei dyfynu o'i gof. Edmygwn ef yn fawr, a synwn fod dyn oedd heb allu deall Saesoneg yn gallu deall ei Fibl mor dda. Dichon wedi'r cwbl mai yr achos fy mod yn coleddu meddwl mor uchel am Dafydd Dafis ydyw y ffaith iddo wneyd y fath sylw o honof, iddo fy nghymeryd gydag ef i gynnal cyfarfodydd gweddïo mewn tai annedd, ac am mai efe a'm cymhellodd gyntaf i "ddyweyd gair." Yr oeddwn yn ddeunaw mlwydd oed, ac yr oeddwn eisoes wedi bod yn ysgrifenydd yr Ysgol Sul, ac wedi bod yn dechreu yr ysgol trwy weddi lawer gwaith; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim yn gyhoeddus. Buaswn gyda Dafydd Dafis amryw weithiau yn cynnal cyfarfodydd gweddïo yn y tai; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim. Wrth ddyfod o un o'r cyfarfodydd hyn, cymerodd Dafydd Dafis afael yn fy mraich, ac ebe fe, "Rhys, mi fydd y cyfarfod gweddi nesaf yn nhŷ Thomas Bartley, a mi leiciwn i ti ddeyd tipyn ar bennod. Mi wnei, oni wnei di? Mi fydd yn dda gan y cyfeillion dy glywed di. Yn gwneuthur daioni na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn oni ddiffygiwn.' Mae gynnat ti wythnos o amser i barotoi, a mi wnei, oni wnei di?" Aeth ei eiriau fel trydan drwy fy nghalon. Dywedais rywbeth oedd yn briodol i wyleidd-dra, fel y tybiwn, ond ni ddywedais, "Na wnaf." Hwyrach mai gwell fuasai i mi ddyweyd "na wnaf," neu "gwell genyf beidio," fel y câf ddangos yn y bennod nesaf.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXXII.<br>Amlder Cynghorwyr.}}}}
Yn mynwesau hen adgofion y nifer mwyaf o honom y mae rhyw hen dŷ ymron yn ddïeithriad yn mynu ei le. Mae yn gu genyf finnau gofio am y Twmpath—tŷ Thomas Bartley—gyda'i gegin glyd, ei ddodrefn du hynafol, ei ''settle'' fawr, ei blâts piwtar, a'i bentanau llydain, ar y rhai yr eisteddais gannoedd o weithiau. Mae pobpeth ynglŷn â'r gegin hono o flaen fy meddwl y foment hon—hyd yn nôd <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
c2vc3k5m4lq04l84mkr6lq7m8ee6qc0
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/298
104
86101
166517
2026-06-14T19:29:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166517
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y nhorobenau bacwn a hongient yn nhop y tŷ, a'r drês wynwyn, a'r wermod lwyd wedi ei lapio mewn hen bapyr newydd. Yn hongian wrth garai ledr ar y mur yr oedd hen ffon gwnstabl wedi ei phaentio â glas a chôch cyn i'r "bobby" gael ei eni, mae yn debygol; a chofus genyf y byddai Wil Bryan wrth edrych arni yn gofyn megys iddo ei hun—''"I wonder how many a poor fellow was knocked over with that very weapon?"'' Yn y cyfnod rhwng yr amser yr arferwn fyned yn llaw fy mam i'r Twmpath—a phryd mai fy nifyrwch penaf a fyddai estyn tân ar getyn Thomas Bartley, hyd at yr adeg pan geisio parotoi ychydig arni, credwn y gallaswn wneyd rhywbeth o hyny. Cofus genyf mai yr ehedodd ysbryd fy mam oddiyno i fyd arall y mae fy adgofion yn tyru arnaf. Mae gallu dyweyd gyda sicrwydd am y bwthyn distadlaf ei fod wedi bod yn ''nursery'' i'r nefoedd, yn ei amgylchu â chysegredigaeth godidocach na'r palas, ystafelloedd gorwych yr hwn na welsant ddim ond gloddest a rhialtwch. Enaid diniwed Seth—hyd y gwn i—oedd y cyntaf i fyned i ogoniant o'r Twmpath; ond yr wyf yn sicr nad efe oedd yr olaf. Pan ä un aelod o'r teulu oddicartref, peth gwerthfawr ydyw gwybod i ba wlad y mae wedi myned; ac os bydd y wlad yn un dda odiaeth, odid fawr na chréa hyny ysbryd ymfudo yn yr holl deulu. Anhawdd fuasai perswadio Jacob i fyned i'r Aipht oni buasai fod ei fab Joseph yno. Yr oedd Thomas a Barbara Bartley, ys dywedai fy mam, yn barotach i wrando am fyd arall wedi i Seth fyned yno i fyw; ac edrychent ar y cyfarfod gweddïo a gynnelid yn eu tŷ fel cyfarfod i sôn am y wladychfa hono. Fel y crybwyllais, yr oeddwn er ys peth amser wedi arfer cymeryd rhan yn y cyfarfodydd hyn, er boddhad mawr i Thomas Bartley, yr hwn a ddywedai fy mod yn gallu darllen "fel person." Yr oedd yn destun syndod yn ddiau i Thomas, yr hwn nad oedd ganddo ond crap ar y llythrene," fod neb ieuanc yn gallu darllen o gwbl.
Nid anhyfryd genyf oedd, mai yn nhŷ Thomas Bartley y byddai y cyfarfod gweddïo y noswaith y dysgwylid i mi ddyweyd gair ar bennod, yn ol annogaeth Dafydd Dafis. Ar hyd yr wythnos nid oedd dim arall ymron yn cael lle yn fy meddwl. Bum mewn tipyn o benbleth pa gyfran o'r Ysgrythyrau a gymerwn fel testun. Ar un adeg tybiwn y buasai un o'r dammegion yn gyfaddas iawn; ond wedi myfyrio ychydig ar y ddammeg ddewisedig, gwelwn nad allwn ddyweyd nemawr ddim arni; a meddyliwn mai mwy priodol fuasai i mi geisio egluro un o'r gwyrthiau, a thynu rhyw wersi oddiwrthi.<noinclude><references/></noinclude>
iembnl271ohwznjfg9mlxrc9vpbu6hf
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/299
104
86102
166518
2026-06-14T19:33:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166518
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nid cynt yr oeddwn wedi sefydlu fy meddwl ar un o'r gwyrthiau nag y deuai rhyw rwystr a barai i mi gredu fy mod wedi camgymeryd drachefn. Meddyliwn mai hawddach fuasai genyf ddyweyd tipyn ar adnod nag ar bennod; ond buasai hyny yn peri i mi ymddangos fel pe buaswn am fod yn bregethwr ar unwaith, ac nid gwiw oedd meddwl am wneyd y fath beth. Pe buasai Dafydd Dafis wedi nodi allan ryw gyfran neillduol o'r Bibl i mi adeg hono y teimlais gyntaf yr hyn a deimlais laweroedd o weithiau ar ol hyny-sef mor hawdd, mor ddidrafferth a diorchest yr ymddengys siarad synwyr ar adnod neu bennod wrth wrando un arall yn gwneyd hyny, ac mor anhawdd ydyw pan eir ati ein hunain i geisio parotoi rhywbeth cyffelyb. Ar ol gwrando pregeth heb fod dim neillduol ynddi, clywir ambell un digon diallu yn dyweyd, ac yn credu yr hyn a ddywed yn ddiammheu—"Mi fedrwn wneyd gwell pregeth na honyna fy hun." Ceisiwch, ŵr da, a chewch weled yn fuan na fedrwch, na'i chystal; onidê pam yr ydych yn y fath drafferth yn ysgrifenu pwt o lythyr at eich modryb, a pham y mae arnoch gywilydd o hono ar ol ei orphen? A wyddoch chwi hefyd, ŵr da, mai yr hyn sydd yn darllen yn fwyaf naturiol a syml, neu sydd yn disgyn dros wefus y llefarwr yn fwyaf esmwyth, sydd fynychaf wedi costio mwyaf o lafur? Ond dyna oeddwn yn ddyweyd bum am rai dyddiau yn newid fy nhestynau, ac yn methu syrthio ar gyfran o'r Bibl y teimlwn y gallwn ddyweyd rhywbeth arni, gan nad pa mor hawdd oedd hyny yn fy ngolwg cyn i mi wneyd y cais. Wedi cael fy ngwasgu gan amser i ddewis fy nhestun, ymroddais ati o ddifrif—darllenais bob esboniad oedd o fewn fy nghyrhaedd—ysgrifenais bob gair a fwriadwn "ddyweyd"—rhoddais y cyfan yn fy nghof—ac wrth fyned drosto, cymerwn sylw manwl o'r amser a gymerai i mi i'w draddodi, rhag i mi fod yn rhy hir neu yn rhy fyr—ac erbyn i noswaith y cyfarfod gweddïo ddyfod, teimiwn fy mod yn lled barod at y gwaith, ac yn lled hyderus y byddai i mi wneyd argraff dda ar feddyliau y cyfeillion a ddygwyddent fod yn bresenol. Edrychwn ar yr amgylchiad yn bwysig iawn i mi, ac fel agoriad i fy nghyrfa bregethwrol. Portreiadais yn fy meddwl lawer o bethau fel canlyniad uniongyrchol fy ngwaith yn dyweyd tipyn ar bennod yn nhŷ Thomas Bartley. Ni waeth i mi ddyweyd y gwir yn onest—<noinclude><references/></noinclude>
7l1dv2qtdog93vw7jbydg15miscx4be
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/300
104
86103
166519
2026-06-14T19:34:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166519
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddyliwn gan nad oedd neb ond Dafydd Dafis a minnau yn gwybod am yr hyn oedd i gymeryd lle, y byddai i mi gymeryd amryw by surprise, ac y byddent yn ymddyddan â'u gilydd wrth fyned adref o'r cyfarfod, ac un yn dyweyd rhywbeth fel hyn, "Wel, on'd oedd y bachgen yna yn dyweyd yn dda ar y bennod heno? Mae ynddo ddefnydd pregethwr yn siwr i chwi. Roeddwn i wedi synu;" ac un arall yn ateb, "Doeddwn i ddim yn synu cymin ato, achos mae yna rywbeth digon selied yno fo'n wastad." A llawer o bethau ynfyd eraill a ddychymygwn. Ac eithrio Dafydd Dafis, meddyliwn nad oedd raid i mi ofni neb a arferent fynychu y cyfarfodydd gweddio yn y tai; ac yr oedd Dafydd bob amser mor garedig ataf fel nad oedd raid i mi ei ofni yntau, ac ni theimlwn yn nervous o gwbl. Anfynych y deuai Wil Bryan i'r cyfarfodydd gweddïo oddieithr pan nad allai, chwedl yntau, fod yn ''"better employed,"'' ac felly nid oeddwn yn dysgwyl ei weled ef yno. A phe buasai yno, pa wahaniaeth a wnaethai hyny i mi? Nos Fercher a ddaeth, aethum i'r cyfarfod yn llawn wel, yn llawn o rywbeth. Yr oeddwn dipyn ar ol yr amser er mwyn bod yn debycach i bregethwr hwyrach. Yr oedd brawd wrthi yn darllen, ac yr oedd yr ystafell yn lled lawn. Eisteddais yn ymyl y drws. Pan godais fy mhen, amneidiodd Thomas Bartley arnaf i ddyfod yn nês ymlaen. Amneidiais innau yn ol y gwnawn yn burion yn y lle yr oeddwn. Nid oeddwn i yn neb fel bydasai yn ol fy amnaid, er fy mod yn meddwl fy hun yn rhywbeth y noson hono. Teimlwn ryw fath o bleser mewn ffug-ostyngeiddrwydd. Daliai Thomas i amneidio arnaf, a rhag tynu sylw ufuddheais. Pan ddaethum i sefyllfa lle gallwn fwynhau gwasanaeth y ganwyll, pwy welwn yn eistedd mewn cornel ond Wil Bryan. Pan edrychais arno, rhoddodd winc arnaf, fel y gallai ef—tuag un ran o ddeg o lêd ei lygad ond yn llawn ystyr. Cododd lwmp mawr yn fy mrest y foment hono; a chredwn mai y gŵr drwg oedd wedi anfon Wil i'r cyfarfod, oblegid ni fuasai mewn un o'r blaen er ys misoedd lawer. Amy waith gyntaf teimlais yn ofnus. Pan oedd y brawd yn gweddïo, nid oeddwn yn gwrando dim arno. Ceisiwn feddiannu fy hun oreu y gallwn, a hel fy meddyliau at eu gilydd; ond er fy ngwaethaf yr oedd y lwmp yn fy mrest yn mwyhâu, ac yn dyfod yn nês o hyd at fy ngwddf. Nid oedd arnaf fymryn o ofn Wil, fel y tybiwn, ac eto buasai yn well genyf na llawer pe na<noinclude><references/></noinclude>
1o6i0m4g3hlmlrbamc2wir3ljwvhrtv
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/301
104
86104
166520
2026-06-14T19:35:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166520
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>buasai yno. Galwodd Dafydd Dafis ar frawd arall i arfer moddion; a phan oeddym yn canu pennill crynai fy nghoesau yn enbyd, ac nid oedd o un dyben i mi ymresymu a hwynt na gofyn iddynt beidio. Er fy nghysur, cofiais nad oeddwn wedi trefnu gyda Dafydd Dafis am iddo, wrth fy ngalw ymlaen, ofyn i mi ddyweyd gair, rhag i mi ymddangos fel yn gwneyd hyny o fy mhen fy hun. Tybiais na fuasai Dafydd yn dygwydd meddwl am hyny; ac os felly y byddai, penderfynais na wnawn ond gweddïo yn unig. Parodd yr ystyriaeth hon nerth yn fy nghoesau, a lleihâodd y lwmp yn fy mrest. Gorphenodd yr ail frawd weddio; ac ebe Dafydd Dafis, "Rhys Lewis, dowch ymlaen 'y machgen i, i arfer moddion, a dywedwch dipyn ar bennod." Chwalwyd fy ngobaith, ac aethum ymlaen gyda'r bwriad o wneyd oreu y gallwn. Pan oeddym yn canu pennill drachefn, yr oedd yn rhaid i mi edrych ar Wil Bryan neu ynte gau fy llygaid. Deallwn ei edrychiad cystal a phe buasai yn siarad â mi, yr hwn a ddywedai, "Ddaru mi ddim deyd wrthat ti fod ti'n ''bound'' o fod yn bregethwr?" Darllenais y bennod a fwriadwn ei hesbonio, a phrin yr oeddwn yn adnabod fy llais fy hun gan mor gryglyd ydoedd. Pan ddechreuais "ddyweyd tipyn," ehedodd ymaith bob meddwl a gair o'r hyn yr oeddwn wedi ei barotoi, ac ni welais ddim o honynt o'r dydd hwnw hyd heddyw. Gwelwn yr ystafell yn dechre tywyllu, a'r bobl yn ymddangos fel pe buasent yn llai o ran eu cyrff ac ymhellach oddiwrthyf nag oeddynt pan aethum "ymlaen," a'r ganwyll fel pe buasai ar fyned allan fel yr oedd fy anadl innau. Y peth nesaf wyf yn gofio ydoedd clywed Dafydd Dafis yn gweddïo yn uchel a hwyliog. Teimlwn erbyn hyn fy nhu mewn yn cael ei fwyta i fyny gan gywilydd. Yr oedd y castell a adeiladaswn wedi myned yn ganddryll, a fy nghalon, druan, o dan y garnedd. Gwyddwn fy mod yn wrthddrych tosturi pawb oedd yn y tŷ—sefyllfa sydd wywol i ysbryd uchelgeisiol. Yr oeddwn yn llosgi am i'r cyfarfod ddybenu, er mwyn i mi gael dianc i rywle allan o olwg pobl, a chael llonyddwch i gladdu fy holl obeithion. Un peth yn unig oedd genyf i ymgysuro ynddo, sef na wyddai neb ond Dafydd Dafis nad yn hollol ddifyfyr y ceisiaswn ddyweyd gair ar y bennod, ac ni wyddai yntau fy mod wedi bod yn y fath drafferth yn parotoi. Can gynted ag y dybenodd y cyfarfod, llechiais ymaith yn ddystaw a phrysur heb edrych ar neb. Ond nid oedd yn bosibl i mi ddianc<noinclude><references/></noinclude>
guu4mpwir4a41612oalej0le76oz1dd
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/302
104
86105
166521
2026-06-14T19:36:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166521
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhag fy hen gydymaith. Yr oedd Wil yn nghonglog a mi cyn i mi allu myned drwy lidiart y buarth, ac ebe fe
"Wel, old ''fellow'', yr ydw i'n meddwl y medra i dranslatio dy deimladau di yn o lew heno, a mae'n ddrwg gan 'y nghalon i drostat ti, mi gymra fy llw. Doeddat ti ddim ''quite up to the occasion'', a waeth ''split fair'', mi gest ''break down''. Ond paid a thori dy galon ''never say die''. Dy fai di dy hun oedd o; ddylaset ti ddim attemptio sponio yn ddifyfyr—achos ychydig iawn o'r ''dons'' feder neyd dim byd o honi ''on the spur of the moment'', fel y byddan nhw'n deyd. Bydase Dafydd Dafis yn 'i sense mi fase wedi rhoi notis i ti er's diwrnod neu ddau er mwyn i ti gael parotoi. On'd ydi o yn ddigon i ddantio y dyn gore i gael ei alw there and then i sponio pennod? Bydaset ti ddım ond wedi cael dwyawr o notis mi faset yn deyd rhwbeth digon teidi, mi gymra fy llw; ond fel roedd hi, doedd dim byd arall i ddysgwyl ond i ti neyd ffŵl o honot dy hun. Pan glywes i Dafydd yn gofyn i ti ddwad ymlaen, mi gymis yn ganiatäol fod yna ''understanding'' rhyngoch chi; ond mi weles mewn mynyd nad oedd ene ddim; a roeddwn i yn synu atat ti yn attemptio a thithe yn gwbod dim hyd y mynyd hwnw. Weles i rioed siwn biti. Mi fase yn dda gen i bydaswn i yn gwbod cymin o'r Sgrythyr â ti, ac yr ydw i'n meddwl nad wyt ddim yn fyr o gommon sens; ond yr wyt ti yn ddiffygiol iawn o un peth—a hwnw ydi ''cheek''. Be ydi'r gair Cymraeg am ''cheek'', dywed? Dydi cheek ddim run peth, cofia, â gwynebgledwch, er 'i fod o yn perthyn yn agos. Mae ''cheek'', yn ol 'y meddwl i, yn un o'r ''fine arts'', ac yn beth y dyle pob dyn ei gyltifatio ''to a certain extent''. Wni ddim fedra i neyd 'y meddwl yn glir i ti. Sut y deyda i? Wel, dydi ''cheek'' ddim mor ''vulgar'' a gwynebgledwch—mae o o order uwch. Mae y mul yn wynebgaled, hyny ydi, dydi o ddim yn swil; ond dellir ddim deyd fod y mul yn ''cheeky''. Mae y ceiliog dandy yn cheeky, ond does neb yn meddwl ei fod yn wynebgaled. Mae cheek yn cynnwys s''elf—confidence'' hyd yn nôd pan na bydd ene ddim i fod yn gonffident o hono. Mi faswn yn leicio gneyd y mater yma yn ddigon clir i ti; ond yr ydw i run fath ag yr oeddet tithe yn y cyfarfod yn labouring under great ''disadvantages'' trwy nad ydw i ddim wedi parotoi. Dydw i ddim yn deyd fod cheek yn dda ynddo'i hun ond fel y mae o'n foddion i gyrhaedd pethe erill. Dydi o ddim mor ddrwg â ''humbug'', a dydi o ddim mor enethig âg ''affectation''. Mae<noinclude><references/></noinclude>
73d9wv6ul0f7vntarcegwodkiwrgyx7
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/303
104
86106
166522
2026-06-14T19:38:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166522
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ene lawer dyn da wedi byw a marw heb i'r byd wbood dim am dano am nad oedd ganddo ''cheek'', a llawer un wedi mynd i ''top of the tree'' heb ddim i ddiolch iddo ond ''cheek''. Mae ''cheek'' yn cymeryd yn ganiatäol nad wyt ti ddim yn nabod gwell dyn na thi dy hun nes i ti gael ''sufficient evidence''. Os gweli di ddyn o ''retiring disposition'', mi elli gymryd dy lw na neiff o ddim o honi yn y byd yma. Mi neiff yn o lew yn y byd nesa, achos y mae'r Brenin mawr, on'd ydi o, yn rhoi value ar ostyngeiddrwydd am ei fod o yn gwbod y bydde gostyngeiddrwydd yn ''very rare thing''. Ond gan mai yn y byd yma yr ydan ni, ac nid yn y byd arall, yr ydw i yn dal fod ''cheek'' yn beth i'w gyltifatio ''to a certain exten''t. Rhaid i ti gofio fod 99 allan o bob cant o ddynion yn ''duffers'', ac yn y rhan fwyaf o ''cases'' mi neiff ''cheek'' y tro yn lle talent a gwybodaeth. Dydw i ddim yn awgrymu, cofia, nad oes gynat ti dalent, ''honour bright''. Dyn â thalent heb ddim ''cheek'', a dyn â ''cheek'' heb ddim talent, ''three to one'' ar yr ola i mi. Bydaet ti ddim ond yn meddwl am y ddau drafaeliwr sydd yn galw acw: dyna Mr. Davies—dyn call, llonydd, yn gwisgo run fath bob amser, ac yn deall y ''grocery trade to the T''. Ddeidiff o byth gelwydd, ac mi gymriff 'i ateb yn syth gan 'y nhad nad oes ene ''run order'' iddo. Ond dyna Mr. Hardcastle—dyn nad oes dim mwy yn 'i ben o nag sydd mewn pen llygoden—ond fod gyno fo siwt newydd am dano bob tri mis yn bocede i gyd yn gyffs, yn golars, ac yn fodrwyau i gyd drosto—chymriff o mo'i ateb, a does dim posib ei ''insultio''. Mae o wedi dysgu rhw ugen o set phrases cyn cychwyn oddicartre, a'u hanner nhw yn gelwydd, ac yn'u deyd nhw bob tro yr un fath, a mae o yn siŵr o gael ''order'' gan 'y nhad am i fod o yn ''cheeky'' a nhad yn ''duffer''. Wyst ti be? pan fydde'r ''gaffer'' ddim adre, mi fum i yn rhoi ''thundering good order'' i Mr. Davies o biti drosto, ac am 'i fod o'n ''true to nature''. Ond am Mr. Hardcastle, mi fedrwn boeri ar 'i wasgod wen o. Ond wedi'r cwbl Mr. Hardcastle ydi'r dyn i'r byd yma, am fod y ''majority'' o'r siopwrs yn ''duffers''. Ond dyna ydi'r ''point'': os wyt ti am ddwad ymlaen, rhaid i ti gyltifatio cheek. Fydd dy dalent a dy wybodaeth di yn werth dim heb cheek. Mae'r Bibl yn rhoi engreifftiau i ni o hyn, os ydw i yn cofio yn dda, Mi wna i gyfadde nad ydw i ddim yn ''authority'' ar y Bibl, ac os ydw i yn camgymeryd, hwyrach y gwnai di nghorectio i. Ydi o ddim yn cael ei admittio gan ddysgedigion fod Ioan yn glyfrach dyn na<noinclude><references/></noinclude>
f5p9nv0hmx7h4jl3q8gf56bd0qd3hmo
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/304
104
86107
166523
2026-06-14T19:39:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166523
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pheder? ond pwy oedd y meistar? pwy oedd ar y blaen hefo pob peth? Ac ar ol iddo wneyd y tro sâl hwnw just meddwl am 'i ''check'' o yn'u cyfarfod misol cynta nhw yn stepio ymlaen i bregethu, a phawb yn gwbod be oedd o wedi wneyd! Dyna'r ''cheek'' tosta glywes i rioed sôn am dano, mi gymra fy llŵ. Bydase Ioan wedi gwneyd tro mor ''shabby'', mi fase gyno fo ormod o gywilydd i ddyweyd gair byth—a drycha di ffasiwn golled fase hyny. Dyna'r wraig o Samaria hefyd yn dwad at Iesu Grist i ofyn iddo fendio 'i bachgen hi (mi wyddwn mai at y wraig o Ganaan y cyfeiriai Wil)—chymre hi mo'i hateb, ac am fod gyni ''cheek'' mi gafodd 'i neges. Wyst di be? mi fum i yn meddwl y base y wraig hono yn gwneyd ''commercial'' iawn daethai hi byth allan o siop neb heb ''order''. Wrth siarad yn ddifyfyr fel hyn, mae gen i ofn nad ydw i ddim yn gallu gneyd fy meddwl yn ddigon clir be ydw i yn 'i olygu wrth ''cheek''. Mi wyddost na fedri di neyd dim o honi os byddi di yn ''nervous''; ond y mae ''cheek'' yn ''perfect'' cure i ''nervousness''. Er mwyn cyltifatio ''cheek'', sylwa ar y pethe canlynol:—Paid byth a chochi. Yr ydw i wedi sylwi arnat ti pan fyddi di yn hapno deyd rhwbeth gwirion, neu pan fyddi di wedi gneyd ''mistake'', y byddi di yn cochi at dy glustie run fath a geneth. Paid byth a chochi, achos dydi peth felly ddim yn manly. Os byddi di wedi gwneyd ''blunder'', drycha run fath a bydaset ti wedi gneyd y peth gore yn y byd, a neiff naw o bob deg ddim gwbod fod ti wedi gneyd ''blunder at all''. Mae ''cheek'' yn cynnwys bod yn ''cool''. Ymhob cyfarfod cyhoeddus paid namser ag eistedd wrth y drws—gofala am fod yn y ffrynt; a phan fyddi yn sefyll, safa ar flaene dy draed, achos dwyt ti ddim yn rhy dal mwy na fine. Gwna fo'n ''point'' i bawb wbod fod ti yno. Siarada mor amal fyth ag y cei di ''chance'', ac ym amlach; ac er mwyn bod yn barod at hyny gofala fod gynat ti rw ugen o ''set phrases'' neiff y tro ''with slight variation'' ar unrhyw bwnc; rhag ofn na fydd gynat ti ddim byd newydd i'w ddeyd. Beth bynag, cofia siarad. Wyst ti be? mi weles cyn heddyw ambell i ddyn dwl wrth godi ar 'i draed i siarad yn amal yn gneyd sylw da ''by sheer accident'', ac yn cael rhoi ei enw i lawr gan y ''duffers'' fel ''man of genius''. O flaen ac ar ol pob cyfarfod cyhoeddus, gofala am ysgwyd llaw yn gynhes hefo'r ''reporters'', a chadw dy ddigniti run pryd. Fyddi di byth ar dy golled. Mi glywes fod rhai yn ''reportio'' 'u hunain—paid byth a gneyd hyny—dydi peth felly ddim yn ''true to nature''. Mi wn o'r<noinclude><references/></noinclude>
nbei2g6goh5f9bhtv24bhtz3fv5xa2d
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/305
104
86108
166524
2026-06-14T19:40:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166524
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gore be sy'n rhedeg drwy dy feddwl di—mai son yr ydw i am ''the way of the world''—ond mi gei weled ''by and by'' fod mwy o hyn hefo pethe crefyddol nag wyt ti wedi freuddwydio. Rwyt ti'n ''bound'' o ffeindio y bydd ene ddau beth yn dy erbyn di: un peth, does gynat ti ddim llais cry'; a pheth arall, yn ol 'y meddwl i, does dim gobaith i ti byth fod yn ddyn tew, achos does dim natur pesgi yn ych teulu chi. Gei di wel'd y bydd hyn yn d'erbyn di. Dyma ti'n meddwl rwan am ddyn tene yn deyd rhwbeth mewn llais gwichlyd—''falsetto''—fel y bydd y cantwrs yma yn deyd—a dyn mawr tew—''regular thorough bass''—yn deyd yr un peth yn union mewn ''double eff'', prun sy'n ffeithio fwya ar y ''duffers''? Yr ydwi yn deyd wrthat ti y ceiff y ''double eff chap'' roi ei enw i lawr am ddyn mawr, a'r ''falsetto chap'' am ''snob''. Gan y ''duffers'', cofia, yr ydw i yn deyd, nid gan y ''wide-awakes''. Ond mi wela nad ydw i ddim yn canlyn at 'y nhestyn. Y pwnc ydi ''cheek''. Mi wyddost cystal â mine mai yn hyn mae y Saeson yn ein curo ni y Cymry. Chlywi di byth Sais yn deyd na feder o ddim gneyd y peth yma a'r peth arall; mae o yn medryd pob peth ar 'i siarad, ac mae'r ''duffers'' yn 'i gredu. Mi gei weled ambell i John Jones—sydd yn ''real good sort'', bydae o'n credu hyny â'i law wrth 'i het, ac fel bydae o'n cael pleser wrth edrach ar John Bull yn byta 'i fara a chaws o. Be ydi'r ''grand secret''? —''cheek''. Wyt ti'n dallt y point? Mae'r dyn sydd heb ''cheek'' yn ymddangos yn salach na fo'i hun, a'r dyn ''cheeky'' yn ymddangos yn well na fo'i hun. Paid di meddwl 'y mod i yn ''inconsistent''; mi ddeydaf eto fod yn gas gen i ''humbug'', a mod i'n leicio dyn ''true to nature''. Ond y mae perygl i ddyn heb ''cheek'' ymddangos yn llai na fo'i hun. ''Notabini'': gofala fod gynat ti ''cheek'', a gofala fod gynat ti rwbeth gwell. Mae ''cheek'' yn ''handy'' dros ben ac yn pasio hefo llawer; ond os na fydd gynat ti rwbeth gwell rwyt ti'n ''bound'' o gael dy ffeindio allan ''gan y wideawakes. At all events'' dyna ydi syniad ''yours truly.'' Cofia be ddeydodd Lord Brougham—What is the first secret of eloquence; Preparation. What is the second? Preparation. What is the third? Preparation.' Paid byth attemptio siarad yn gyhoeddus heb barotoi, nes y byddi di wedi magu ''cheek'' a dysgu lot o ''set phrases'' neiff y tro ar bobpeth—''with a slight variation'', fel y deydes i. Dydw i ddim yn ''quite square'' hefo'r ''governor'', ne mi faswn yn dy wâdd di acw i swper; ac o dan yr amgylchiade mi wn na fedrwn i ddim<noinclude><references/></noinclude>
l0zw246kbh8cfpxmbfyd9k6nsix2ftl
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/306
104
86109
166525
2026-06-14T19:41:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166525
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dwad i fyny â ''demands of ordinary etiquette. Cheer up,'' a phaid ag edrych mor ''down in the mouth''. Ac felly—''so long.''" Bychan a wyddai Wil, fel oedd oreu i mi, fy mod wedi cael wythnos o "notis" i barotoi, ac fod ei eiriau yn lle fy nghysuro, yn fy mwrw i'r ffwrnes. Da oedd genyf gael ymadael âg ef, ac aethum i'r tŷ heb fawr feddwl fod ffwrnes arall yn fy aros. Yr oedd fy swper ar y bwrdd, ac Abel yn ysmocio yn ei gadair ddwyfraich—y ddau fel pe buasent yn fy nysgwyl. Aethai Miss Hughes i orphwys am nad oedd, fel y buasai Wil Bryan yn dyweyd, ''up to the mark''. Tra yr oeddwn yn bwyta fy swper, teimlwn yn ddiolchgar nad oedd Abel yn gwybod am fy ''break-down'', a theimlwn yn anghyfforddus hefyd wrth feddwl y byddai yn sicr o ddyfod i wybod, a hyny yn fuan. Yn y man dechreuodd Abel fy holi am y cyfarfod gweddio—pwy oedd yno—pa fath gyfarfod a gawsom—pwy oedd wedi cymeryd rhan ynddo, &c. Atebais yn gynnil; a dyfalwn wrth ganfod y wên hanner cellweirus oedd ar ei wyneb fod rhywun wedi rhedeg o fy mlaen a dyweyd wrtho fy mod wedi tori i lawr. Yn y man ebe fe
"Sut y doist di ymlaen wrth ddyweyd tipyn ar y bennod?"
"Mae rhywun wedi dyweyd wrthych," ebe fi, ac heb allu dyweyd ychwaneg, gorchfygwyd fi gan fy nheimladau yn erbyn fy ngwaethaf, a thorais allan i wylo yn hidl. Wedi i mi ymdawelu, ebe Abel
"Beth sy arnat ti? Yr unig beth a wn i ydyw fod Dafydd Dafis wedi dy annog yr wythnos ddiweddaf i barotoi rhywbeth i'w ddyweyd yn y cyfarfod gweddio heno. Beth sy wedi dygwydd? Pam yr wyt yn y fath ofid?"
Adroddais wrtho am fy methiant hollol, ac ebe fe
"Na hidia; gall fod yn fendith i ti tra fyddi byw. Yr wyf yn cofio dwy linell o hen gerdd Saesoneg anghelfydd
{{center block|
<poem>
There's many a dark and cloudy morning
:That turns out to be a sun-shining day.'
</poem>
}}
Dywed i mi, wyt ti'n meddwl am bregethu?"
"Yr wyf wedi ''bod'' yn meddwl am hyny, ond ni feddyliaf byth eto," ebe fi yn drist.
"Paid a gwirioni," ebe fe. "Welaist di erioed gertiwr da nad oedd rywdro wedi taflu'r drol, ac hwyrach anafu ei hun a'r anifail.<noinclude><references/></noinclude>
f76s26jg1qqon0hplv0kuucc4awp8gm
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/307
104
86110
166526
2026-06-14T19:44:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166526
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mi ges ti a minnau aml i godwm cyn i ni ddysgu cerdded. Fuaset ti byth wedi dysgu nofio bydaset ti wedi tori dy galon pan aeth ''dy ben o dan y dŵr''. Mae y ''step'' gyntaf i fywyd defnyddiol yn fynych yn ''false step'', a'r llwyddiant mwyaf yn aml wedi ei ddechre mewn methiant. Yr oeddwn yn dyfalu er ys amser fod dy fryd di ar bregethu; a dyna'r achos fy mod wedi caniatâu y fath ryddid i ti i fyned i bob moddion a chyfarfod. Ac oni b'ai fy mod yn credu fod ynot ryw gymaint o gymhwysder at y gwaith, buaswn wedi siarad hefot ti er ys tro. Os wyt ti wedi rhoi dy feddwl ar bregethu, paid a gadael i ddim dy rwystro na dy ddigaloni. Ni fuasai yn bosibl i ti feddwl am ddim gwell nac anrhydeddusach. Pe cawswn ail ddechre byw, yr wyf yn meddwl y buaswn yn gweddïo ddydd a nos am gael fy nhueddu a'm cymhwyso i fod yn bregethwr. Yn ol fy meddwl i, nid oes cylch mewn bywyd cyffelyb i eiddo'r pregethwr, yn yr hwn y gall dyn fod yn wir ddefnyddiol. Y mae yn yr enw pregethwr swyn mawr i mi er pan ydwyf yn cofio. Hwyrach mai tipyn o wendid ydi o yno' i; ond gwell gen i yr enw pregethwr na'r enw 'person,' gweinidog,' a 'bugail.' Mae yr enw pregethwr yn awgrymu i mi y pulpud, y cymanfaoedd, y dylanwadau nerthol o orchfygodd Gymru; ac y mae yn yr enw ryw gysegredigaeth nad ydyw yn cael ei awgrymu yn yr enwau eraill. Paid a fy nghamddeall yrwan. Y mae i'r enw 'gweinidog' a 'bugail' ei ystyr ddymunol i mi, ac i'r enw 'person,' ystyr o bosibl, ag y mae cryn lawer o ragfarn yn ei wneyd i fyny. Sôn yr ydwyf am yr ''association of ideas'' sydd ynglŷn â'r enw pregethwr, a phan gyll Cymru ystyr yr enw pregethwr yn y ''clergyman'', gwae hi. Nid wyf heb ofni fod tuedd at hyny yn y dyddiau hyn, a'i fod i'w weled mewn pethau bychain, megys wrth gyhoeddi. Pan oeddwn i yn llanc, cyhoeddai y blaenor, "Yr ydan ni yn dysgwyl Mr. Lias yma i bregethu y Sabboth nesa'; ond yrwan clywir yn fynych—Bydd y Parchedig Peter Smart yn gweinidogaethu yma y Sabboth nesaf.' Paid a fy nghamddeall, meddaf eto. Y peth wyf yn ei ofni ydyw i'r parch fod i'r Parchedig ac nid i Peter Smart. Diolch i Dduw! nid oes deitl daearol a all gyfleu y parchedigaeth a'r hoffder sydd yn nghalon y Cymro at y gwir bregethwr. Mae yn ymylu ymron ar addoliad, a hir y parhâo felly, cyhyd ag na byddo yn bechadurus, meddaf fi. Ond rhaid ennill y parchedigaeth hwn yn y pulpud. Mi wyddost nad oes neb yn fwy aiddgar nag ydwyf fi dros roi yr<noinclude><references/></noinclude>
5n8jsf7pms6b6sfrbmjrc1bplvi84fj
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/308
104
86111
166527
2026-06-14T19:47:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166527
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>addysg oreu i bregethwyr. Pe bae pawb o'r un syniad a mi, ni chaniateid i neb gael ei ystyried yn bregethwr yn y dyddiau goleuedig hyn, heb iddo yn gyntaf fyned drwy gwrs o addysg athrofäol, os na fyddai rhywbeth neillduol iawn yn ei ddawn naturiol a'i ysbryd. Ond er pob addysg, os nad ydyw y dyn yn bregethwr, nid ydyw ei M.A. yn ateb dim mwy o ddyben iddo yn y pulpud nag oedd addysg yr eneth a anfonwyd i'r ''boarding school'', ac a ddaeth adre wedi dysgu dyweyd 'ma' yn lle mam. Mae y parch, yr hoffder, yr hanner addoliad, fel y dywedais, ag sydd yn nghalon y Cymro at y pregethwr ei hun wedi ei ennill yn naturiol a haeddiannol. Y dydd o'r blaen mi welais yn y papyr newydd ryw greadur hunandybus yn edliw i Gymru ei pharch i'r pregethwr, heb wybod, druan, mai dyna y compliment goreu allasai efe ei dalu i'n hen wlad. Mi fydd arnaf ofn yn aml rhag i'n heglwysi gael eu gollwng i ganiatâu i rywun a ddygwyddo gynnyg ei hun gael pregethu, ac i'r parchedigaeth i'r pregethwr gael ei aflonyddu, ac o'r diwedd ei golli o'n gwlad. Fel y dywedais i, ni fuasai yn bosibl i ti feddwl am sefyllfa uwch ac anrhydeddusach na bod yn bregethwr. Mae yr enw pregethwr i'w berchenog yn ''introduction'' i'r dynion goreu ar y ddaear, ac yn warant o gymeriad pur a dilychwin, neu o leiaf a ddylai fod felly. Mi fum yn dyfalu lawer gwaith pa beth ydyw ymwybyddiaeth pregethwr. Mae yn rhaid ei fod yn rhywbeth gogoneddus. Y mae ei waith yn gyfryw ag a ddylai ei gynnysgaethu â'r dedwyddwch uchaf sydd yn gyrhaeddadwy ar y ddaear, ac y mae hefyd y parotoad goreu ar gyfer dychrynfeydd marwolaeth ac ysbrydolrwydd y byd a ddaw. Yn y byd hwn fe gaiff y pethau goreu y mae dynion eraill yn eu cael, a llawer iawn mwy; ac ar ei fynediad i'r byd tragywyddol fe gaiff ei groesawu gan y Brenin ei hun fel gwas da a ffyddlawn. Yn ol fy meddwl i, nid ydyw y merchant mwyaf llwyddiannus ond cardotyn mewn carpiau wrth ochr y gwir bregethwr. Y pregethwr ydyw cyfaill penaf dyn a chymydog drws nesaf Duw, os ydwyf yn peidio rhyfygu wrth ddyweyd felly. Pa le mae enwau ein cyfoethogion a loddestent yn ein castelli driugain mlynedd yn ol? Y maent wedi braenu fel eu hesgyrn ac esgyrn eu cwn hela? Ondy mae enwau eu cydoeswyr a gyhoeddent y newyddion da yn fyw hyd yn nôd yn nghalonau rhai na chlywsant hwy erioed!
Wel, dyna un ffordd o edrych ar y pregethwr; ond y mae ffordd<noinclude><references/></noinclude>
f6zass99afxq1wkpaf9iltrcgofocdt
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/309
104
86112
166528
2026-06-14T19:48:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166528
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arall. Ddymunwn i ddim dy ddigaloni na dy ddychrynu, ond mi ddymunwn dy sobreiddio. Yr hyn sydd yn penderfynu cymeriad dyn ydyw ei amcanion; ac hwyrach nad oes dim ag y mae dyn, yn enwedig dyn difrifol, yn teimlo mor analluog ynddo ag ydyw deall ei wir amcanion. Mae cymaint o lygredd a hunan yn nghymeriad pawb o honom nes ydym yn dychrynu pan awn i geisio analysio ein hamcanion. Dylai pob dyn ifanc sydd yn meddwl am bregethu ofni a chrynu. Os nad ydyw yn cael ei gynhyrfu gan yr amcanion puraf, gwell fyddai iddo ymgrogi. Mae genyf gydymdeimlad dwfn âg ambell un a adwaenwn a fwriadodd, a ymbarotodd, ac a ddechreuodd bregethu, ond a ddychrynwyd i ddystawrwydd gan ofnadwyaeth cyfrifoldeb y gwaith. Y dyn sydd â'i lygaid ar y pulpud i borthi ei uchelgias, i gyrhaedd sefyllfa o anrhydedd, neu i foddio rhywbeth sydd yn ei galon nad all roi enw arno, ni chaiff y dyn hwnw ond gwg Duw, a chaiff ei hunan ryw ddiwrnod yn îs na chythreuliaid yn uffern, ac yn destyn gwawd lladron a llofruddion. Mae un o'r beirdd Saesoneg yn rhoi desgrifiad ofnadwy o hono. Mae yn dechre fel hyn:
{{center block|
<poem>
'Among the accursed who sought a hiding place
In vain, from fierceness of Jehovah's rage,
And from the hot displeasure of the Lamb—
Most wretched, most contemptible—most vile—
Stood the false priest, and in his conscience felt
The fellest gnaw of the undying worm!'
</poem>
}}
Mi fum yn meddwl fod Paul wedi teimlo math o ''electric shock'' pan ddywedai, Rhag wedi i mi bregethu i eraill fod fy hun yn anghymeradwy.' Ond, fel y dywedais, ddymunwn i ddim dy ddychrynu i roi y bwriad o bregethu o'r neilldu; yn hytrach mi ddymunwn fod o ryw gynnorthwy i ti fyned ymlaen os ydyw dy ddybenion yn gywir. Hwyrach y byddai o fantais i ti chwilio tipyn eto i hanes y pregethwyr cyntaf yr apostolion. Doeddan hwythau ddim yn berffaith yn eu syniadau a'u hamcanion mwy na ninnau. Ond yr oedd un peth yn eu nodweddu a ddylai nodweddu pob pregethwr: yr oedd eu cariad at a'u hymlyniad wrth eu Meistr yn genuine—doedd dim doubt i fod ar y cwestiwn hwnw. At bwy yr<noinclude><references/></noinclude>
eywioq816h0ybdqj5zv4whsr2zoua6f
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/310
104
86113
166529
2026-06-14T19:49:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166529
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>awn ni?' meddai Pedr—nid at bwy yr ''af fi''? roedd o yn siarad dros bob un o honynt ar y pen hwnw,—Genyt ti mae geiriau bywyd tragywyddol;' hebot ti mi fyddwn heb eiriau—fydd genym ni ddim i'w ddyweyd. Wn i ddim a oedd Pedr yn ymwybodol ar y pryd mai dyweyd a fyddai ''business'' pob un o honynt yn fuan; ond mi gredaf ei fod yn teimlo y pryd hwnw nad oedd neb yn werth dyweyd dim yn ei gylch ond Crist. Gofala dithau fod yn ''right'' ar y pen yna. Os ysfa anianol sydd yn dy gymhell i bregethu, fe losga interest hwnw allan yn fuan i ti, a mi ffeindi dy hun yn dalp oer yn byw dan ''act of toleration'' yr eglwysi—yn llenwi cyhoeddiadau mewn lleoedd rhag bod heb un math o bregethwr ac i arbed cael cyfarfod gweddïo, ac i basio y Sabboth heibio rywsut—yn faich i ti dy hun ac i bawb arall. Ond os byddi yn cael dy gynhyrfu gan dân Duw, nid aiff y tân hwnw byth allan; a mi ffeindi y bydd pechaduriaid yn tyru o dy gwmpas i gynhesu eu heneidiau oerion ac i ymdwymno wrth dy bentan. Nid wyf yn gwybod am greadur mwy truenus na phregethwr yn cael ei oddef gan ddynion, a'i ysgornio gan Dduw, o herwydd ei fydolrwydd a'i ddaearoldeb. Wrth sôn am fydolrwydd, penderfyna yn y dechre, os wyt ti am fod yn bregethwr, ymroddi yn hollol i'r gwaith. Paid a dychymygu am shopa a phregethu. Fel pregethwr mi fydd y ''stock'' y rhaid i ti edrych ar ei hol yn rhy fawr i ti gael amser i edrych ar ol ''stock'' arall cwbl wahanol o ran ei natur. Yr hyn a fedraf fi ei wneyd i ti, mi gwnaf o. Er nad ydw i yn dlawd, mi wyddost nad ydw i yn gyfoethog; ond hwyrach y medraf wneyd rhywbeth i ti yn y ffordd o arian, achos arian raid i ti gael. Mi fyddaf yn synu yn aml càn lleiad a wneir gan ein cyfoethogion tuag at gynnorthwyo ein pregethwyr ieuainc, y rhai fel rheol sydd yn dlodion. Mi fum yn meddwl lawer gwaith mor anhawdd ydyw i ''student'', er fod ganddo galon fawr a chynes—mor anhawdd ydyw iddo fyned ymlaen gyda phoced wag, ac mor werthfawr iddo yn fynych a fyddai papyr degpunt oddiwrth un o'r cyfoethogion. Pan roddir ychydig i'r ''student'' druan, rhaid cael cyhoeddi hyny ar g'oedd gwlad yn y Cyfarfod Misol, a'i ''brandio'' fel cardotyn ymhlith ei gyfeillion. Mae peth fel hyn yn ''scandalous''; ac nid ydyw yn rhyfedd fod ambell i fachgen gwir deilwng—a'r rhai mwyaf teilwng sydd felly—yn dyoddef caledi yn ddystaw, yn hytrach na goddef i'w enw gael ei gluro hyd y papyrau fel derbynydd pum' punt. Mi<noinclude><references/></noinclude>
owj3s7vtvume1qpksvk2u8wxlzu6cs5
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/311
104
86114
166530
2026-06-14T19:50:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166530
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>obeithiaf ac mi gredaf am danat nad wyt yn dysgwyl i'r gwaith o bregethu fod yn un ennillgar mewn ystyr fydol. Os wyt, cei dy siomi. Mae mil o ffyrdd rhagorach i wneyd arian. Clywir yn fynych fod pregethwyr yn ariangar. Mae'r cyhuddiad yn ''libel'' cywilyddus, yn ol fy meddwl i; a phobl ariangar ymron yn ddïeithriad sydd yn rhoi y cyhuddiad yn eu herbyn. O'r llaw i'r genau ydyw sefyllfa y nifer mwyaf o bregethwyr a adwaenwn i sydd yn byw ar bregethu. Mae yn wir fod yna ''special providence'' wedi ei ddarparu ar gyfer y rhai teilyngaf, sef fod Duw yn caniatâu iddynt ffafr yn nghalonau merched cyfoethog. Gwylia a gweddïa rhag diogi a hunan. Fe wyddost di—wn i ddim—a oedd a fyno hunan rywbeth â dy fethiant yn y cyfarfod gweddïo heno? Pa un ai ennill clod ai rhoi clod, oedd wedi cael mwyaf o le yn dy galon?"
Rhyfedd! yr oedd Abel yn deall fy nhu mewn cystal â mi fy hun, ymron.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXXIII<br>Ychwaneg am Wil Bryan.}}}}
DARFU i sylwadau bydolddoeth Wil Bryan, a chynghorion difrifol a chynhyrfiol Abel Hughes, fy ngyru, mi gredaf, i'r man lle dylwn fod yn amlach bob dydd. Fy mhenderfyniad ar y pryd oedd rhoddi heibio am byth y meddwl am bregethu; a gweddïais lawer am gael ymwared o'r awydd; ac eto ofnwn yn fy nghalon gael fy ngwrando. Teimlwn fel pe buaswn yn ddau berson gwahanol-un yn ymawyddu am gael pregethu, a'r llall yn gwneyd ei oreu i'w rwystro a'i ddigaloni. Credwn mai yr olaf oedd yn ei le; ond yr oedd fy nghydymdeimlad gyda'r blaenaf, a gobeithiwn o hyd mai efe a ennillai y dydd. Dichon y gallaswn mewn amser orchfygu fy nhuedd pe cawswn lonydd gan Dafydd Dafis; ond llonydd ni chawn. Yr oeddwn yn lled sicr nad oedd ynof y duedd leiaf at fy hen arferion drwg, a theimlwn mai fy ngelyn penaf oedd hunan. Wedi i Abel Hughes fy rhybuddio rhagddo, yr oeddwn yn gweled y gelyn hwn yn mynu <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
noglkjofer7u5ri9nkufwi8d5o3ud8b
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/312
104
86115
166531
2026-06-14T19:53:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166531
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhoi ei fŷs ymhob peth a wnawn; a bum ar fin penderfynu peidio ceisio gwneyd dim yn gyhoeddus gydag achos crefydd nes i mi trwy roddi fy holl sylw arnaf fi fy hun, yn fy nhu mewn—ddinystrio hunan, ac yna —. Pan wnes fy meddwl yn hysbys i Dafydd Dafis, bu agos iddo a chwerthin; ond fel pe buasai yn cofio na byddai yn arferol â chwerthin, gwenodd yn llydan, ac ebe fe,—
"Amcan rhagorol; ond y moddion mwyaf hunanol fedret ti ddyfeisio. Fyddi di damaid gwell ymhen ugain mlynedd hefo'r cynllun yna. A sut y deui di o hyd i hunan wrth beidio gwneyd dim? Wrth gyflawni dyledswyddau yn unig y medri gael gafael ynddo i roi ei ben ar y blocyn. Os êi di i dreulio dy amser gwerthfawr i chwilio am dano, mae o yn siŵr o ymguddio yn rhywle. Mae hunan, wel di, fel hogyn direidus yn leicio i ti redeg ar ei ol er mwyn iddo gael y difyrwch o ymguddio. Nid wrth ymgâu ynot dy hun y gelli ladd hunan—rhaid ei groeshoelio tu allan i'r gwersyll. A phaid a synu os cei di fod hunan yn fyw erbyn i ti gyrhaedd fy oedran i. Mi glywes am ryw bobl i lawr yn Lloegr sydd yn trin y peth y mae nhw yn ei alw yn sleit o' hand-bod nhw yn gallu gyda'r llaw chwith afael yn ngwallt eu coryn, a chyda'r llaw dde gymeryd cleddyf a thori eu pen ymaith—hyny ydyw i olwg pobl, a'r mynyd nesaf y mae yna ben arall yn dyfod yn ei le. Pan glywes i yr hanes mi feddyliais fy mod innau wedi bod yn trin sleit o' hand hefo hunan. Ambell ddiwrnod mi fyddwn yn meddwl fy mod i wedi cael ei ben o yn deg ar y blocyn, ac wedi ei dori yn '''snug off'',' chwedl Evan Harris, Merthyr; ond erbyn drannoeth mi fydde hunan mor fyw ag erioed. Sôn yr wyt ti am beidio gwneyd dim nes i ti ladd hunan! Wnei di byth stroke os arosi di hyd hyny. Chymeriff hunan mo'i ladd ar chware bach; ond mi fyddaf yn meddwl fod yn bosibl ei lwgu o, a'r ffordd oreu i hyny ydyw ei anghofio—ei esgeuluso, ac ymroddi gorph ac enaid i wasanaeth Duw drwy wneyd daioni. Ac y mae yn rhaid dysgu gwneuthur daioni fel y mae Esaiah yn dyweyd. Nid rhywbeth ydyw hyny y medri di ei wneyd mewn diwrnod i foddio hyd yn nôd dy feddwl dy hun heb sôn am foddio Duw. Dyma'r peth cyntaf y mae'r efengyl yn ei wneyd ydyw prentisio dyn i ddysgu gwneuthur daioni. A mi a ddeydaf i ti beth arall—prentisiaid fyddwn ni o hyd yn y byd yma—fyddwn ni ddim wedi dysgu yn berffaith, nac wedi dod yn rhydd o'n prentisiaeth nes yr awn ni i'r byd arall. Ac y mae'r amser mor fyr, wel di, fel y rhaid i ni ymroi ati i ddysgu rhag i ni ymddangos yn od, ac fel rhai heb orphen dysgu pan awn ni i fysg rhai sydd yn grefftwrs. Mi fyddaf finnau yn aml yn ammheu fy amcanion—a phwy sydd heb?—ond pan fyddaf yn methu codi i dir uwch,mi fyddaf yn ceisio gwneyd tipyn o ddaioni o speit i'r<noinclude><references/></noinclude>
q5omlafhou2y3pd5don3jfsgykzsdx8
166532
166531
2026-06-14T19:57:51Z
AlwynapHuw
1710
166532
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhoi ei fŷs ymhob peth a wnawn; a bum ar fin penderfynu peidio ceisio gwneyd dim yn gyhoeddus gydag achos crefydd nes i mi trwy roddi fy holl sylw arnaf fi fy hun, yn fy nhu mewn—ddinystrio hunan, ac yna —. Pan wnes fy meddwl yn hysbys i Dafydd Dafis, bu agos iddo a chwerthin; ond fel pe buasai yn cofio na byddai yn arferol â chwerthin, gwenodd yn llydan, ac ebe fe,—
"Amcan rhagorol; ond y moddion mwyaf hunanol fedret ti ddyfeisio. Fyddi di damaid gwell ymhen ugain mlynedd hefo'r cynllun yna. A sut y deui di o hyd i hunan wrth beidio gwneyd dim? Wrth gyflawni dyledswyddau yn unig y medri gael gafael ynddo i roi ei ben ar y blocyn. Os êi di i dreulio dy amser gwerthfawr i chwilio am dano, mae o yn siŵr o ymguddio yn rhywle. Mae hunan, wel di, fel hogyn direidus yn leicio i ti redeg ar ei ol er mwyn iddo gael y difyrwch o ymguddio. Nid wrth ymgâu ynot dy hun y gelli ladd hunan—rhaid ei groeshoelio tu allan i'r gwersyll. A phaid a synu os cei di fod hunan yn fyw erbyn i ti gyrhaedd fy oedran i. Mi glywes am ryw bobl i lawr yn Lloegr sydd yn trin y peth y mae nhw yn ei alw yn sleit o' hand-bod nhw yn gallu gyda'r llaw chwith afael yn ngwallt eu coryn, a chyda'r llaw dde gymeryd cleddyf a thori eu pen ymaith—hyny ydyw i olwg pobl, a'r mynyd nesaf y mae yna ben arall yn dyfod yn ei le. Pan glywes i yr hanes mi feddyliais fy mod innau wedi bod yn trin sleit o' hand hefo hunan. Ambell ddiwrnod mi fyddwn yn meddwl fy mod i wedi cael ei ben o yn deg ar y blocyn, ac wedi ei dori yn '''snug off'',' chwedl Evan Harris, Merthyr; ond erbyn drannoeth mi fydde hunan mor fyw ag erioed. Sôn yr wyt ti am beidio gwneyd dim nes i ti ladd hunan! Wnei di byth stroke os arosi di hyd hyny. Chymeriff hunan mo'i ladd ar chware bach; ond mi fyddaf yn meddwl fod yn bosibl ei lwgu o, a'r ffordd oreu i hyny ydyw ei anghofio—ei esgeuluso, ac ymroddi gorph ac enaid i wasanaeth Duw drwy wneyd daioni. Ac y mae yn rhaid dysgu gwneuthur daioni fel y mae Esaiah yn dyweyd. Nid rhywbeth ydyw hyny y medri di ei wneyd mewn diwrnod i foddio hyd yn nôd dy feddwl dy hun heb sôn am foddio Duw. Dyma'r peth cyntaf y mae'r efengyl yn ei wneyd ydyw prentisio dyn i ddysgu gwneuthur daioni. A mi a ddeydaf i ti beth arall—prentisiaid fyddwn ni o hyd yn y byd yma—fyddwn ni ddim wedi dysgu yn berffaith, nac wedi dod yn rhydd o'n prentisiaeth nes yr awn ni i'r byd arall.<noinclude><references/></noinclude>
rxcohsrvgo3l16dyjqbdmvusnean8q5
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/313
104
86116
166533
2026-06-14T20:02:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166533
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ac y mae'r amser mor fyr, wel di, fel y rhaid i ni ymroi ati i ddysgu rhag i ni ymddangos yn od, ac fel rhai heb orphen dysgu pan awn ni i fysg rhai sydd yn grefftwrs. Mi fyddaf finnau yn aml yn ammheu fy amcanion—a phwy sydd heb?—ond pan fyddaf yn methu codi i dir uwch,mi fyddaf yn ceisio gwneyd tipyn o ddaioni o speit i'r diafol, ac i ddangos iddo, beth bynag arall ydwyf, nad oes gen i eisio dim o'i ''gwentans'' o."
Gyda llawer o ymadroddion eraill y cynghorodd efe fi; ac yr wyf yn meddwl i mi dderbyn lles drwyddynt. Wrth gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yr oedd yr ystyriaeth nad oeddwn yn gwneyd hyny o fy mhen fy hun, nac heb fy nghymhell gan frodyr o farn a duwioldeb, yn tawelu cryn lawer ar fy ofnau, ac yn gosod peth o'r cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau hwy. Nid anghysurus ychwaith ydoedd y ffaith na chawswn "''break down''," chwedl Wil Bryan, cyffelyb i'r tro yn nhŷ Thomas Bartley, er iddi fod yn ddigon tỳn arnaf lawer gwaith. Pan gawn ychydig rwyddineb wrth siarad yn y cyfarfodydd gweddïo, teimlwn yn hapus iawn, a byddwn yn dal fy hun yn rhyw hwmian canu ar ol dyfod o'r cyfarfod. Credwn nad oedd yn bechadurus llawenhau yn ddystaw yn fy ysbryd pan roddai Dafydd Dafis neu rywun arall air o annogaeth neu o ganmoliaeth i mi; oblegid cofiwn i mi sylwi droion ar bregethwyr yn nhŷ Abel Hughes os byddent wedi cael oedfa lewyrchus, ac os byddai Abel yn siarad yn uchel am y bregeth, eu bod ymron yn ddïeithriad yn mwynhau eu swper, a vice versa. Dichon mai y rheswm am hyny oedd fod ynddynt ymwybyddiaeth eu bod yn haeddu eu swper, a vice versa eto. O dipyn i beth deallais yr edrychid arnaf yn lled gyffredinol fel " ymgeisydd;" a phan sylweddolais hyny yr wyf yn cofio mai yr effaith cyntaf a gafodd ar fy meddwl oedd math o ffrwyniad, ac ymwybyddiaeth fod gan bawb hawl i gydio yn fy ffrwyn. Pan ddygwyddwn fod allan yn hwyr, teimlwn fod gan y dyn cyntaf a gyfarfyddwn awdurdod i ofyn i mi, Beth wyt ti yn ei geisio allan yr adeg yma ar y nos? Pan chwarddwn, gofynwn i mi fy hun y foment hono a oeddwn, tybed, wedi chwerthin yn rhy uchel. Os dygwyddwn siarad â merched ieuainc—yr hyn y mae yn rhaid i mi gyfaddef a wnawn ar adegau—teimlwn fod rhywun o hyd yn fy ngwylio, ac yn gosod eu dwy droedfedd ar fy ngwyneb a fy ngwenau. Heb i mi fanylu, meddyliwn fy mod wedi colli fy rhyddid. Mwyach nid oedd genyf<noinclude><references/></noinclude>
3w3z3p1saqlzeiyz6qkco7suhu9h9iw
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/314
104
86117
166534
2026-06-14T20:08:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166534
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr hawl a fwynhai eraill i ysgwyd pen a gwrthod myned ymlaen pan elwid arnaf i gynnal moddion mewn cyfarfod gweddïo; ac ni feiddiwn ddyweyd "gwell genyf beidio" pa orchwyl bynag a orchymynai arolygwr yr ysgol i mi ei gyflawni. Mewn gair, collais y teimlad o feddiant arnaf fy hun, a theimlwn fy hun wedi fy nhrawsffurfio i fod yn ''piece of public property.'' Yr oedd bach a mawr, còr a chawr, yn ei hystyried yn ddyledswydd arno roi cynghorion i mi, y rhai a amrywient yn ddiderfyn, ac a roddid yn ddiammheu gyda'r amcanion goreu. Cymaint oedd y dyddordeb, yr oedd yn ymddangos, a gymerid ynof, ac mor llïosog oedd fy nghyfarwyddwyr, fel yr oeddwn o'r diwedd yn dysgwyl i bob un a gyfarwyddwn roddi cynghor i mi, ac anaml y siomid fi. Dywedai rhai, os oeddwn yn bwriadu dechreu ar y gwaith o bregethu, y dylwn gymeryd pwyll a chamu yn araf; a dywedai eraill y dylwn brysuro a pheido colli amser. Cynghorai rhai fi i ymroi ati i ddarllen yn hwyr ac yn fore, a pheidio dyfetha fy amser drwy rodio oddiamgylch; a chynghorai eraill fi i ddarllen llai, a mwynhau mwy o'r awyr agored, os oeddwn yn meddwl am gael byw i fyn'd yn hen a bod yn ddefnyddiol. Annogai ambell un fi i wneyd fy hun yn gydnabyddus â llenyddiaeth a gwleidyddiaeth a gwybodaethau cyffredin, ac â phob llyfr newydd hyd y gallwn—fod hyny yn anhebgorol i bregethwr ieuanc y dyddiau hyn; a chymhellai eraill fi i adael llonydd i bethau felly, ac i roi fy holl amser i astudio yr Ysgrythyrau, gan ychwanegu, mai bai mawr pregethwyr ieuainc oedd eu bod yn anghyfarwydd yn y Bibl, ac yn rhoi gormod o'u hamser gyda llyfrau eraill. "Beth bynag ar a wnei di," meddai un wrthyf, "paid a myn'd i'r coleg i gael dy andwyo, ac i gael dy wneyd run fath â nhw i gyd." "Wrth gwrs," meddai un arall, mi fydd ''raid'' i ti fyn'd i'r coleg, ne wnei di ddim byd o honi. Bydàet ti yn dysgu dim yno, mi feddyliff pobl fwy o honot ti." "Cofia," ebe un brawd, "fod yn ffri ac yn llawen efo phawb; mae'n gas gen i bregethwr stiff." "Yr ydw i yn gobeithio, os byddan nhw yn caniatâu i ti gael pregethu, y bydd i ti gofio bod yn wyliadwrus arnat dy hun, ac yn syml, a pheidio rhoi lle i neb siarad," ebe hen chwaer wrthyf. Pan oeddwn ryw noswaith yn sôn wrth W. B. am y gwahanol gynghorion da a gawswn, ebe ef, "Iwsia dy gomon sens, ddyn, os oes gynat ti gomon sens; ac os nad oes, paid son am bregethu. Mi wna i gyfadde y bydd raid i ti rwan dendio dy ''hegs an' pegs'', a gofalu am<noinclude><references/></noinclude>
gi9bwzdrpk3qu1wibaw0ly262wqnd9o
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/315
104
86118
166535
2026-06-14T20:09:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166535
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dy ''centre of gravity''; ond paid a bod fel bydaet ti yn byw mewn câs cloc. Waeth i ti heb fod fel ceiliog yn cerdded mewn eira; dydi peth felly ddim yn ''true to nature'', a choelia i byth fod gras yn groes i ''nature''—hyny ydi nature dibechod. Ddyliwn fod ene adnod ar y pwnc, ond dydw i ddim yn cofio un just rwan. ''Trust in God and keep your powder dry'', medde'r hen Gromwell, a doedd o ddim yn ''duffer''. Os ei di i drio gneyd cynghor pawb, mi fydd raid i ti weithio dros oriau bob dydd, a mi fydd yn ''hic jacet'' ac yn ''Alas poor Yorick'' arnat ti yn fuan. Mi fyddaf fi yn deyd wrth y ''duffers'' am fyn'd i Jerico; ond thaliff hi ddim i ti neyd hyny; rhaid i ti fod yn civil hefo pawb, a thrio spotio'r ''wide-awakes'' a gwrando arnyn nhw."
Credwn fod cryn lawer o synwyr yn sylw Wil, er ei fod yn cael ei ddyweyd mewn arddull na pherthynai i neb ond efe ei hun. Bum am yspaid maith yn nghyflwr yr "ymgeisydd" cyn i fy achos gael ei ddwyn yn ffurfiol o flaen yr eglwys; a'r rheswm penaf am hyny oedd mai dyna oedd fy nymuniad i fy hun. Nid oeddwn ond ieuanc, ac yr oeddwn yn awyddus i gael prawf teg o honof fy hun, ac i roddi prawf i eraill, rhag fy mod yn gwneyd camgymeriad, ac eraill wneyd camgymeriad y byddai yn edifar ganddynt o hono. Yr oedd genyf amcan arall mewn golwg, sef arbed rhoi y bregeth brawf yn y seiat. Gwyddwn mai dyna oedd y rheol gyffredin gyda'r rhai a geisient ganiatâd i bregethu, sef fod iddynt roi pregeth yn seiat i ddangos beth a allent ei wneyd. Ystyriwn fod y dull hwn i brofi gallu a chymhwysder dyn ieuanc y peth mwyaf annaturiol ac annheg a allesid ei ddyfeisio, ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl nad allwn fyned drwyddo. Mynych y ffansiwn fy hun yn y cyflwr hwnw o geisio pregethu i gynnulleidfa o feirniaid, a dim ond beirniaid; pregethu nid er adeiladaeth, ond i ddangos faint o allu oedd genyf. Gwyddwn nad allwn ''actio''; a gwell fuasai genyf aros blwyddyn yn rhagor yn y cyflwr yr oeddwn ynddo na cheisio myned drwy y prawf hwnw. Ac yr oedd digon o gyfleusderau—ac y mae eto ddigon o gyfleusderau—i bob dyn ieuanc i ddangos i'r eglwys a'r gymydogaeth a oes rhyw gymhwysder ynddo i fod yn ŵr cyhoeddus, heb ei osod yn y sefyllfa anheg ac anfanteisiol y cyfeiriwyd ati. Rheswm arall a barai i mi oedi cael dwyn fy achos o flaen yr eglwys oedd, bod ynof wir awydd am fwy o sicrwydd o gywirdeb fy amcanion a'm galwad i'r gwaith. Cofiwn glywed Abel Hughes yn sôn am rywrai<noinclude><references/></noinclude>
docyhz1m0s3t0nen2f2lupv5w2kyayg
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/316
104
86119
166536
2026-06-14T20:10:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166536
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oeddynt wedi bod yn cael eu blino gan "ffit pregethu" ac yn ddilynol wedi gwellhâu yn hollol o'r afiechyd. Ofnwn innau rhag mai "ffit" oedd arnaf, ac ymresymwn os dyna ydoedd, yr elai heibio yn fuan. Yr oedd ynof hefyd rywbeth nad ydwyf yn hollol rydd oddiwrtho hyd yn nôd yn awr, sef awydd dwfn am brawf amlwg a phendant o wirioneddau neillduol a'm blinent—prawf, mae yn debygol, nad oedd yn bosibl i mi ei gael, a phe buasai yn bosibl, a wnaethai ffydd yn ofer. Pa fodd y mae hyny yn bod nis gwn, ond y mae ynof yn fynych ryw ddyhead am yr anmhosibl. Aeth misoedd heibio, ond ni adawai y "ffit" fi. Pob cyfleusdra a gawn i siarad â phregethwyr y gallwn fod yn hyf arnynt, ceisiwn dynu o honynt gymaint ag a allwn o wybodaeth am eu profiad a'u hymwybyddiaeth pan oeddynt yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i ynddi; ond ychydig iawn a allent ddyweyd wrthyf am yr orchwyliaeth yr aethai eu meddwl drwyddi nad oeddwn i fy hun yn brofiadol o hono. Ac eto credwn o hyd eu bod wedi cael rhywbeth na chawswn i mohono, ond eu bod yn analluogi'w ddesgrifio. Rhoddwn fin ar fy nychymygialw ymlaen ddychrynfeydd oedd mewn ystôr i mi os oeddwn yn twyllo fy hun; ac yn fy meddwl ceisiwn osod fy hun mewn sefyllfa mor danllyd na fuasai gan uffern ei hun, mi gredaf, gywilydd o honi fel ei chreadigaeth. Yr eithaf a allwn ei ddyweyd-ac yr oeddwn yn gallu dyweyd hyny-nad oeddwn, hyd y gwyddwn, yn cael fy nghynhyrfu gan gau ddybenion. Meddyliwn ei fod yn eithaf posibl fy mod yn gwneyd camgymeriad ac yn arddangos diffyg barn wrth feddwl am bregethu; ond yr oeddwn yn sicr nad oedd ynof amcan annheilwng ag oedd yn wybyddus i mi. Nid gwiwimi wadu nad oeddwn yn feunyddiol yn dyfalu pa beth a dybygai pobl am danaf; a gofynwn yn fynych i mi fy hun y cwestiwn a ofynodd y Mwyaf i rywrai-Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? Fel un a'i fryd a'r bregethu, ac yn gwneyd ychydig yn y ffordd hono heb ''license'', yr oedd ynof ymwybyddiaeth nad oeddwn yn ymddangos i lawer mewn goleuni mor ffafriol ag a allaswn. Gwyddwn fod amryw yn ystyried y dylai yr hwn sydd yn dadgan dymuniad am gael pregethu, fod â'i ysbryd yn danllyd, ei brofiad yn uchel, a'i zel yn gyfryw ag a roddai wedd gymhelliadol ar yr hyn a ddywedai. Nis gallwn i fod felly. Yr oedd cofio fy ieuenctyd yn fy analluogi i gynghori. Yr oeddwn hefyd yn cofio sylw o eiddo Abel Hughes, "Ni fyddaf byth yn hoffi clywed dyn ieuanc yn<noinclude><references/></noinclude>
azwv3rxmozdf8wzsdjcooekzbgvqg5t
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/317
104
86120
166537
2026-06-14T20:12:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166537
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhyw gynghori llawer, ac yn siarad wrth gynnulleidfa gymysg fel hen ŵr profiadol. Mae yn hollol annaturiol yn ol fy meddwl i; ac y mae yn gwestiwn gen i a ydyw y rhai sydd yn gwneyd hyny yn gwneyd rhyw lês. Gwell gen i weled bachgen ifanc o bregethwr yn hanner boddi na'i wel'd o yn yslotian wrth y lan. Mae clywed bachgen ugain oed yn dynwared hynafgwr yn swnio mor chwithig ar fy nghlust i ag a fyddai clywed henwr pedwair ugain yn taeru wrth chware marbles. Ac eto fe welir peth mor chwithig a hyny weithiau; ac yn y ddau amgylchiad y mae yn arwydd o wendid." Gwyddwn a'r gore fod fy anerchiadau yn y cyfarfodydd yn y tai a chapelau bychain y gymydogaeth yn sychlyd a thraethodol yn fwy felly nag y dylasent fod, oblegid yr oeddwn yn llyffetheirio fy hun. Ar adegau teimlwn yn zelog, ond gwnawn ymdrech i ymoeri rhag i mi ymddangos yn ymhongar ac yn hŷn nag oeddwn. Gwnaethpwyd argraff ddofn ar fy meddwl ryw dro yn y seiat pan elai gŵr ieuanc o bregethwr o amgylch i ymddyddan â'r cyfeillion. Pan ddaeth efe at yr hen Feti Cynrig, gofynodd, "Wel, yr hen chwaer, a ydach chi'n meddwl eich bod yn adnabod Iesu Grist erbyn hyn?" ac ebe yr hen Feti, "Wel, mi obeithiwn y mod i cyn geni dy dad di, y mhwt i." Nid wyf yn canmol Beti am roddi y fath atebiad i fachgen ifanc dyeithr; ond gwnaeth argraff ar fy meddwl, serch hyny, ac yr wyf yn credu nad oedd y gŵr ifanc yn teimlo ei hun yn llenwi ei ddillad lawn mor dýn ar ddiwedd y seiat hono ag ydoedd ar ei dechreu. Teimlwn raddau o bleser wrth gynnorthwyo y cyfeillion mewn capelau bychain yn y wlad i gynnal cyfarfodydd pan fyddent heb bregethwr; ond pan ddywedodd Dafydd Dafis wrthyf un diwrnod ei fod am ddwyn fy achos yn ffurfiol o flaen yr eglwys fel ymgeisydd am y weinidogaeth, llanwyd fi â braw ac iselder ysbryd. Mewn un ystyr buasai yn well genyf dynu yn ol, ond yr un pryd nid allwn oddef y syniad. Yr oedd yn amlwg i mi nad allwn aros yn y cyflwr yr oeddwn ynddo. Os caniatäwn i fy achos gael ei ddwyn ymlaen, teimlwn y byddwn yn hòni pethau mawrion, ac yn gosod fy hun mewn sefyllfa wahanol i bawb yn yr eglwys, ac yn cymeryd arnaf rywbeth a wnai i mi arswydo. Mynych y ffansïwn lais yn gofyn i mi, Pa beth sydd a fynegych di ar fy neddfau? Dyheuwn am weledigaeth eglur, ond ni ddeuai; a meddyliwn pa reswm a allwn ei roddi dros geisio cael pregethu, pryd nad allwn ddadgan yn groew a phendant fy<noinclude><references/></noinclude>
546oyxgr15zfbxkhjjjg07ten0n8aex
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/318
104
86121
166538
2026-06-14T20:15:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166538
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ngalwad? Ar y llaw arall, fel y dywedais, nid allwn oddef y syniad o roi heibio fy nghymhellion i'r gwaith, a mygu fy nhueddiadau mwyaf dymunol. Nid oeddwn yn deall fy hun, a meddyliwn fod hyny yn rhyfedd. Pa fodd y gallai eraill fy neall? A oedd yn bossibl i bobl eraill ffurfio cywirach syniad am danaf nag a allwn i fy hun? Penderfynais adael i amgylchiadau gymeryd eu cwrs; ac ymhen ychydig ddyddiau dygwyd fy achos o flaen yr eglwys. Nid wyf yn bwriadu rhoi hanes manwl o'r amgylchiad. Gofynwyd llawer o gwestiynau i mi, y rhai a atebais yn union fel yr oeddwn yn meddwl ac yn teimlo, heb geisio rhoi lliw gwahanol arnaf fy hun, na hóni mwy nag a allwn mewn gwirionedd. Anfonwyd fi allan tra yr oedd y brodyr yn dadgan eu syniadau am danaf. Pan oeddwn yn aros am eu dedfryd, ofnwn fy mod yn fy atebion wedi rhoi lle i rywrai gredu nad oeddwn glir yn fy mhen. Prin yr oeddwn yn dysgwyl i fy achos gael edrych arno yn ffafriol, ac o'r braidd nad oeddwn yn dymuno iddi fod felly. Yn y man galwyd fi i mewn; a hysbyswyd fi fod yr eglwys yn foddlawn i gyflwyno fy nghais i'r Cyfarfod Misol i ofyn iddo anfon brodyr i chwilio i fy achos, ac i gymeryd llais yr eglwys ar y mater. Da i mi nad oedd eisieu i mi ddyweyd gair; oblegid pe buasai hyny yn anghenrheidiol, nis gallaswn. Aeth llawer o feddyliau drwy fy nghalon y noswaith hono, y rhai y buaswn yn ceisio eu desgrifio oni buasai fod rhywbeth arall a ddigwyddodd yr un noswaith yn fwy byw ar fy nghof—rhywbeth nad allaf byth ei anghofio —a hawddach ei adrodd am ei fod yn dwyn perthynas â rhywun arall.
Dichon fy mod wedi sôn ar y mwyaf am Wil Bryan. Ni soniaf ryw lawer eto am dano. Fel y dywedais fwy nag unwaith, yr oedd Wil wedi gwneyd argraff ddofn ar fy meddwl er pan oeddwn yn hogyn. Er ei fod yn rhyw fath o aelod eglwysig, gwyddwn, a gwyddai eraill hefyd, nad oedd o ran ansawdd ei ysbryd a'i dueddiadau yr hyn y dylasai fod. Ofnwn fod ei galon yn ddyeithr iawn i grefydd; ac ar un adeg yr oeddwn wedi penderfynu tori pob cys sylltiad ag ef; ond yr oedd hyny yn fwy o orchwyl nag a dybiasiwn. Yr oedd mawrfrydigrwydd ei ysbryd, ei galon agored, ei graffder, ac yn enwedig ei dafod llyfn a pharod, yn peri i mi ei edmygu yn adnewyddol bob tro y siaradwn âg ef, ac yn gwneyd i mi anghofio ar y pryd ei holl ddiffygion, er eu bod yn llawer. Er na fyddai byth<noinclude><references/></noinclude>
ke718rqrz4k3uqz5gbi0eoksymos9u7
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/319
104
86122
166539
2026-06-14T20:18:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166539
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn gwneyd proffes o hyny, nid allwn beidio canfod ei fod yn hoff o honof; ac yr oeddwn yn sicr nad oedd neb byw yn teimlo mwy o ddyddordeb yn fy llwyddiant nag a deimlai Wil. Yr oeddwn wedi sylwi yn ddiweddar gyda gofid fod Wil yn fwy cloff nag arferol yn moddion gras; a'r hyn oedd wir am dano ef oedd wir hefyd am ei rieni. Pa fodd bynag, yr oedd fy hen gydymaith yn bresennol yn y seiat pryd y dygwyd fy achos yn mlaen; a da oedd genyf ei weled yno, yn benaf, mi addefaf, am y credwn y cawn ganddo adroddiad manwl o bob gair a ddywedwyd wedi i mi gael fy anfon allan. Yn ddigon naturiol yr oedd ynof gywreingarwch am gael gwybod pa beth a ddywedwyd gan hwn a'r llall am danaf yn fy absennoldeb; a gwyddwn y gallai Wil fy nghynnysgaethu a'r cyfan. Yr wyf wedi ceisio cyfleu ar bapyr yr hyn a ystyriwn yn werth ei groniclo o eiriau Wil mor agos ag y gallwn o ran arddull a swm, i'r modd y deuent dros ei wefusau, a hyny a geisiaf eto. Pan ddaethom allan o'r seiat, yr wyf yn meddwl mai fi am unwaith oedd yn edrych am Wil, ac nid Wil am danaf fi; ac ebe fe.
"''Just'' y peth—roeddwn i eisio cael mygóm hefot ti."
"Mi wyddwn, Wil," ebe fi "y cawn i'r hanes i gyd genyt. Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyru i allan?"
"Bydawn i yn rhoi ''verbatim et literatim report'' i ti wnai o les yn y byd i ti. Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar fy ffansi i oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat gael iddyn nhw weled ffasiwn stwff sydd ynot ti, a'r hen Abel yn 'i ateb o y base y cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r 'Merica, a neb yn gwbod dim am danat ti. Dydw i ddim yn gwbod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen ''thorough—bred'' Thomas Bartley, pan oeddan ni yn codi'n llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law—'run fath a pictiwr Whitefield—a hyny, 'roeddwn i yn meddwl, ''fel apology am the unavoidable absense of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism''. Ond gâd i hyny fod. 'Rwyt ti heno wedi cyrhaedd ''point'' yr ydw i wedi bod yn edrach am dano er's talwm; a 'does dim ond eisio i ti fyn'd yn dy flaen yrŵan. Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel. Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y ''metals''; a mi freuddwydies y nosweth y bu ''just'' i ni a chrogi Jones, fod dy fam wedi dwad o'r byd arall i roi cerydd i mi, a roedd hi yn edrach yn ddig arna i; anghofio i<noinclude><references/></noinclude>
ho8gsp78zedw7yk8ymo1vrgypn0vwgr
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/320
104
86123
166540
2026-06-14T20:19:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166540
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byth mo'i golwg hi. Fûm i byth yn hapus ar ol y nosweth hono, er 'y mod i yn gneyd gwyneb, nes i mi dy weled di ar y ''metals'' yn d'ol. 'Rwyt ti a fine heno wedi dwad i'r ''junction'' y gwyddwn i o hyd fydde'n siŵr o ddwad. Yr ydan ni wedi trafaelio llawer hefo'n gilydd; ond yr oeddwn i yn gwbod o hyd nad oeddan ni ddim yn myn'd i'r un fan—a dyma'r ''junction''. Rydw i'n siarad dipyn yn ffugyrol, ond rwyt ti'n nallt i yn rïol, mi wn. 'Y fact o'r matter'' ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r
{{c|Dear happy hours that can return no more.}}
Yr ydw i am i gloewi hi, a hwyrach na wela i byth monot ti eto; a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrthimi ddeyd hyny, mi gymra fy llw. Glywes di rwbeth am danon ni acw?"
"Clywed beth, Wil? Dydw i ddim yn dy ddallt," ebe fi.
"Mae hi yn U P acw," ebe Wil; "a mi fydd pawb yn gwbod hyny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. Ddaru mi ddim deyd wrthat ti mai ''duffer'' oedd y 'nhad? Yr ydw i'n cofio'r amser pan oeddwn i'n credu fod o yn gneyd arian fel 'u cweinio nhw, a'i fod o yn ''clever at a bargain;'' ond pan ddois i wbod be oedd be, a sut oedd pethe yn sefyll, dyma oedd y ''verdict,—duffer''. Yr ydw i wedi gwel'd hi er's talwm, ond doedd dim iws sôn am ''change of policy''; yn yr hen ''rut'' y myne nhad gerdded. 'Roedd o run fath a chreadur arall yr ydan ni yn 'i nabod—''more noted for the length of his ears than for the sweetness of his voice''—yn mynu croesi'r cae ''clover'', ac yn myn'd yn syth at y clawdd i bori dalan poethion, dail tafol, carne'r ebol, a rhw shafflach felly. Be ydi'r canlyniad? Mae pobl eraill wedi hel y clover, a does ene ddim wedi adel ar y clawdd—dim cymin a hen nyth Robyn Goch, ne Snosen Felen. Be ydi'r ''prospect? Liquidation by arrangement, a starvation!'' ac am hyny yr ydwi am i gloewi hi. I ble? Wn i ddim. Be fedra i neyd? ''There's the rub!'' Mi fyddaf yn dwad i fy oed yr wythnos nesa, D.V., a mi fyddaf mor ''well off ''ag oeddwn i ''twenty one years back to the date.'' Mi wyddost na chês i fawr mwy o ysgol nag a gest dithe, ac eto mi fyddaf yn meddwl weithie nad ydw i ddim yn ''perfect greenhorn.'' Pan ddoes i yn ddigon call i wel'd 'y ngholled, o'n ''point'' i gadw ''close observation'' ar y natur ddynol, ne fel y bydd y<noinclude><references/></noinclude>
htgapongqjaveshkruiafi60zofkvxi
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/321
104
86124
166541
2026-06-14T20:23:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166541
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wesleys yn deyd, y ddynol natur. Dyma'r peth gore feder dyn heb gael llawer o ysgol neyd, ydi studio ''human nature''. Ond yr ydw i wedi gneyd un camgymeriad mawr—ddaru mi ddim studio fy mara a chaws. Be fedra i ddeyd ydw i? Dydw i na gŵr boneddig na theiliwr. Dydw i ddim wedi bod digon tu ol i'r ''counter'' i ddysgu ''servio''—doedd gen i namser blâs at hyny, a fy nyleit i, fel y gwyddost di, oedd ''''drivio'''' ceffyl; a doedd o ddim ods gen i prun ai ''drivio'' llwyth o fara ai llwyth o ferched ifinc nawn i, am y cawn i geffyl i'w ''ddrivio''; a mi fedra ''ddrivio'' am y gore âg undyn, waeth gen i o ble daw o. Ond yr wythnos nesa fydd gan Hugh Bryan, ''Provision Dealer', yr un ceffyl i'w ''ddrivio''. A mae gwahaniaeth rhwng ''drivio'' dy geffyl dy hun â ''drivio'' ceffyl rhwfun arall. Wyt ti'n meddwl yr awn i yn was gŵr bonheddig? Byth, bydawn i yn gorfod pwnio ceryg. Dyna'r job fwya ''degrading'' y gwn i am dani. Fedre fy stymog i byth ddal i dderbyn cyflog am roi fy llaw wrth fy het o hyd, a rhoi benthyg fy nghoesau i ddangos ''cashmere'' fy meistr. Wel, be ydwi i neyd? Sut yr ydw i gael bara a chaws? Mae'r cwestiwn yn newydd ''span'' i mi, a wn i ddim sut i'w ateb o. Mi wyddost sut y cês i'm magu; ni fu arna i 'rioed eisio dim ond gras a chynghor. Dydw i 'rioed yn cofio i mi fod ddiwrnod heb gael cinio da. Ond sut y bydd hi yr wythnos nesa? Wyddost di? fum i 'rioed o'r blaen yn really ''down in the mouth''."
"Wil," ebe fi, "yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt i. Sut y daeth pethau i hyn?
"Rhy faith i fyn'd drostyn nhw, was," ebe fe. "Dydw i ddim isio bod yn rhy galed ar y gaffer—mae'n ddrwg gan y nghalon i drosto—mi gymra fy llw. Ond ei fai o'i hun i gyd ydi o. Bydase fo wedi cadw at ei fusness ei hun, mi fase pethe yn ''all right''. Mi wyddost fod 'y nhad bob amser yn I ac wedi iddo wneyd tipyn o arian mi perswadiodd rhwfun o i speculatio. Mi grefais arno flwyddyn yn ol 'i dropio hi; ond doedd dim iws. I, ddyn bach! sut yr oedd yn bosibl iddo ddal? Bydase fo wedi nysgu i i ennill 'y nhamed, faswn i ddim yn hidio cymint. Mae o yn ''idea'' od; ond mi fum yn meddwl lawer gwaith yn ddiweddar bydaswn i wedi hapno bod yn dad i mi fy hun, y buaswn wedi dwyn fy hun i fyny yn well o lawer. Hwyrach y bydd pobl yn 'y ngweld i yn ''selfish'' wrth ''skidadlo'', ond fedra i ddim dal y ''disgrace''.<noinclude><references/></noinclude>
ihh3th5e0qdnpck1dl162i8e2pqyiq3
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/322
104
86125
166542
2026-06-14T20:26:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166542
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A dyna Sus,—''poor girl!'' —fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi. Mae'n lwc nad oes ene ddim byd ''definite'' rhyngom ni. Mae'n rhaid i mi fyn'd—mae rhwbeth yn 'y ngyru i."
'Rwyt wedi fy ngwneyd yn brudd, Wil," ebe fi; "yr wyf yn cofio llawer amgylchiad pryd yr oedd dy gydymdeimlad a'th gynnorthwy yn werthfawr iawn i mi; ond nid wyf yn cofio i ti erioed, cyn heno, fod mewn amgylchiad ag yr oedd eisieu cydymdeimlo â thi. Wnei di un cynghor?"
"Beth ydi hwaw, ''old fellow''?"
"Pa bryd bynag ac i ba le bynag yr wyt am fyn'd, wnei di ofalu cael tocyn aelodaeth—ac wedi i ti sefydlu yn dy gartref newydd ofalu hefyd ymorol am y capel, a chyflwyno dy doeyn i'r blaenoriaid? Waeth i mi ddyweyd y gwir yn onest, Wil; mae arnaf ofn i ti fyn'd yn ''wrong''."
"Roeddwn i yn gobeithio," ebe Wil, "na faset ti ddim yn sôn am hyny, ond gan fod ti wedi sôn, mae rhaid i minne gael deyd rhwbeth sydd ar fy meddwl i'w ddeyd ers llawer o amser. Mi gymre i mi ddiwrnod i ddeyd y cwbl. Fydde i mi ofyn am docyn ddim ond ''humbug''. Yr ydw i wedi rhagrithio gormod o lawer. Rwyt ti yn meddwl, mi wn, fod ti yn gwbod fy hanes i yn go lew, ond dwyt ti yn gwbod dim. Fedra i ddim celu'r ffaith oddiwrtho fy hun nad oes gen i ddim ''spark'' o grefydd. Wyt ti yn cofio dy fam yn deyd wrtha i fod ene hen ddyn yn y nghalon i, a fine yn gneyd ''sport'' am 'i pheni? Roedd yr hen wraig yn llygad 'i lle. Y peth oedd hi yn 'i feddwl, fel y gwyddost di, oedd llygredigaeth, ond fod gyni hi enw od Wni ddim sut i ddeyd wrthot ti hanes 'y nhu mewn, a mi fase yn well gen i beidio trio. Yr ydw i yn teimlo rywsut fel bydawn i yn ''gospel proof''; a fedra i ddim ers llawer o amser rwan gofio adnod ond y rheiny sydd yn f'erbyn i. Mae ene lot o'r rheiny yn dwad i meddwl i weithie. Deyd y gwir i ti, dydw i ddim wedi darllen y Bibl ers gwn i pryd—achos pan oeddwn i yn 'i ddarllen o, yr adnode oedd yn f'erbyn i oeddwn i yn 'u spotio yno fo o hyd. Dydw i ddim ond ''youngster'', ac eto yr ydw i yn teimlo fel bydawn i wedi ennill march ar yr efengyl, ne fel arall y dylwn i ddeyd—fel bydawn arno.<noinclude><references/></noinclude>
fimt41p25vlh8883lzr2fka41g4h1kd
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/323
104
86126
166543
2026-06-14T20:29:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166543
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i wedi cael fy ngadel ar ol. Ddaru mi ladd rhwfun? ''no danger''. Ddaru mi neyd cam a rhwfun? Dydw i ddim yn gwbod. Ddaru mi feddwi? never. Does dim isio i chap neyd y pethe ene i gael ei adel. Be ydw i wedi neyd? Lot o bethe bychain: dysgu comic songs yn lle dysgu'r Bibl ar 'Fforddwr, myn'd at y ''billiard table'' yn gan' amlach nag at fwrdd yr Arglwydd, gneyd sport am ben pawb a phobpeth, a gneyd ''parodies'' o hymns Williams Pantycelyn. Yn y capel pan fydde ambell i bregethwr just a fy mowlio i allan, mi fyddwn yn ymroi ati i iwsio fy bat; a rwan y mae'r pregethe i gyd yn ''wides''.' Mi fydde gen i ofn i neb weled deigryn yn fy llygad i; a phan fydde un just a dwad, mi fyddwn yn galw fy hun i account, ac yn 'i ordro fo yn 'i ol. Does run deigryn isio dwad rwan ers talwm. Hwyrach nad ydi'r bai i gyd ddim arna i. Ches i mo'm magu run fathati. Mi fydde nhad yn gneyd i mi fyn'd i'r capel ar y Sul; ond fydde ene byth sên am gapel nac am grefydd gartre, ond hwi, a hai, a row bob dydd. Roedd 'y nhad yn gneyd hefo fi run fath âg y gwelest di Ned y gô yn gneyd hefo'r heyarn. Ar y Sul wrth 'y ngyru i'r capel mi fydde yn rhoi 'y nghydwybod i yn tân, ac ar ddydd Llun mi fydde yn 'i rhoi hi yn y cafn dŵr, a'r canlyniad ydi fod hi can gleted a phedol ceffyl."
"Wil"—ebe fi.
"Waeth i ti heb siarad, mi wn be wyt ti'n mynd i ddeyd—edifarhâu, ail gychwyn, ac felly yn y blaen. Mi wn y pethe ene i gyd. Nid isio gwbod yr ydw i, ond isio teimlo. Feder dyn ddim edifarhâu run fath â seinio dirwest. Rhaid cael cyfnewidiad yn y meddwl, fel y mae'r ''Rhodd Mam'' yn deyd. A dydi'r Bibl yn deyd am rwfun na chafodd o ddim lle i edifeirwch—dene un o'r adnode sydd yn f'erbyn i—mae ene lot o honyn nhw. Y peth gwaetha ydi nad ydw i rywsut ddim fel bydâwn i isio edifarhâu. Yr ydw i yn teimlo rhyw bwysau tu ol i mi yn y ngyru i yn ymlaen, fel bydawn i yn cael 'y nghario gan growd o bobl, ac fel bydâe gen i ddim help am dano, ac ar yr un pryd yr ydw i yn teimlo o hyd 'y mod i yn myn'd i'r lle wrong. Mi ddaru dy fam, chware teg i'r hen wraig, roi llawer cynghori mi; ac yr ydw i yn cofio i ti braidd ddigio wrtha i am i mi galw hi yn 'Hen Ddeg—gorchymyn,' ond y peth oeddwn i yn i feddwl oedd bod hi wastad yn deyd i mi sut i neyd. Ac felly roedd hi. Paid a gneyd fel hyn, a gna fel arall, oedd ganddi yn wastad i mi. Mi wyddwn yr adeg hono fod yr hen wraig yn 'i lle ac yr oeddwn i yn penderfynu gneyd fel yr oedd hi yn deyd ar ol i mi gael fy ''fling''. Ond mi gymres ormod o ''fling'', ac rydw i'n ffeilio<noinclude><references/></noinclude>
3ui3wulcj1sv9yej5v75u7g4zjfc3w7
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/324
104
86127
166544
2026-06-14T20:30:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166544
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dwad yn f'ôl. Rydw i yn ''past feeling'' mae gen i ofn—does dim byd yn effeithio arna i. Dydw i ddim ond ''youngster'', ond yr ydw i yn teimlo yn hen mewn rhyfyg a chledwch. Just ffansïa! mor ifanc! Yr ydw i yn teimlo run fath bron â Wolsey—<nowiki>'</nowiki>''Had I served my God''<nowiki>'</nowiki> —mi wyddost am y geirie. Yr ydw i yn teimlo yn ddigalon, ac wedi blino arnaf fy hun, ac eto dydw i ddim yn edifeiriol. Yr ydw i yn teimlo ''remorse'', ond yr un blewyn o edifeirwch—os ydw i'n dallt beth ydi edifeirwch."
"Wil bach," ebe fi, "rwyt yn anghofio fod Duw yn {{bar|2}}.
"Waeth i ti heb siarad, fedri di ddeyd dim byd newydd i mi. Mi wn bewt ti'n myn'd i ddeyd—fod Duw yn drugarog, ac am i mi weddïo arno, ac felly yn y blaen. Ond dydw i wedi bod yn trio ar y sly, ac yn teimlo bob tro mai ''spwngio'' roeddwn i. Wyddost ti be ydw i yn 'i gredu? y mod i wedi digio Duw am byth wrth neyd parodies o hymne yr hen Bantycelyn—achos mi gymra fy llw fod y Brenin mawr a'r hen Bant yn chums, a faddeuiff o byth i mi am hyny. Ond waeth tewi—Nos dawch."
Wedi gwasgu fy llaw aeth Wil ymaith yn brysur cyn i mi gael dyweyd dim wrtho; ond yr oeddwn yn benderfynol o gael ei weled drannoeth i'r dyben o geisio rhoi cyfeiriad arall i'w feddwl. Pafodd bynag, yn gynnar bore drannoeth daeth hogyn oedd was gyda Hugh Bryan â nodyn i mi wedi ei gyfeirio "Revd. Rhys Lewis," ac wedi i mi ei agor darllenais fel hyn,
"Dear old Fellow.<br>
{{bwlch|7em}}Exit W. B. As the old song says,
{{center block|
<poem>
It may be for years,
And it may be for ever.
</poem>
}}
{{c|Cadw ymlaen ar y llwybr yr wyt wedi cychwyn, and profit by the example of<br>Yours Truly.}}
P.S.—I have snatched the honour of first addressing you as Revd., trusting that you will always well sustain the title.—W. B.<noinclude><references/></noinclude>
q7krl6rtqneb3wso0xb6jtjcx3vyw5t
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/325
104
86128
166545
2026-06-14T20:32:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166545
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XXXIV.<br>Thomas Bartley ar Addysg Athrofäol.}}}}
PA beth ydyw anhebgor cyfeillgarwch? Pob cyffelyb ymgais. Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle. A ydyw y ffaith fod dau yn gyfeillion yn tybio bob amser eu bod o'r un dueddiadau, os nad o'r un syniadau? Nid bob amser, mi gredaf. Pan na fyddo y syniadau na'r tueddiadau yn unrhyw yn y cyfeillion, o ba beth y gwneir i fyny y cyfeillgarwch? Nid all edmygiad y naill y llall roddi cyfrif am dano, oblegid gall edmygiad fod heb gyfeillgarwch, a chyfeillgarwch heb edmygiad. Gwelais ambell un yn chwerthin am ben ei gyfaill nad allai oddef i neb arall wneyd hyny. Ai rhyw ragorfraint benarglwyddiaethol o eiddo y galon, tybed, ydyw cyfeillgarwch, yr hon y mae hi yn ei ddal heb fod yn gyfrifol i un o gynneddfau yr enaid? Nis gwn. Mi wn hyn—nad oedd Wil Bryan a minnau o'r un dueddiadau na syniadau; ond pan wnaeth efe ei "exit," chwedl yntau, rhoddodd fy nghalon dro ynof, ac wylais yn fy nhu mewn. Ni wyddwn hyd hyny fod genym y fath gydafael, a theimlais oddiwrth effeithiau y dattodiad am fisoedd. Aeth Wil ymaith, fel y dywedais, a theimlais wagder mawr ar ei ol, ac y mae arnaf ofn y byddaf yn teimlo gwagder yn yr hanes hwn yn y dyfodol, oblegid ni ddaw Wil o dan sylw eto am beth amser. Cyflawnwyd ei brophwydoliaeth am ei dad cyn pen yr wythnos, ond nid oes a wnelwyf fiâ hyny. Ni dderbyniais air oddiwrth fy hen gyfaill ar ol iddo fyned ymaith, a chymerwn hyny fel arwydd ddrwg, oblegid cofiwn ei glywed yn dyweyd un diwrnod, os dygwyddai iddo fyned oddicartref na chaffai neb o'i gyfeillion glywed dim o'i helynt oni fyddai ganddo ryw newydd da i'w anfon, neu rywbeth i'w adrodd cyffelyb mewn dyddordeb i ddal elephant gwyllt neu ymdrechfa gyda theigr.
Mae dyn yn blino sôn llawer am dano ei hun; ac nid wyf yn meddwl yr ymgymerai neb âg ysgrifenu hunangofiant ond oddiar yr ystyriaeth y byddai i eraill y daeth i gysylltiad â hwynt ffigro yn helaeth yn y gwaith. Yr hyn sydd o fwyaf dyddordeb i mi fy hun ydyw yr hyn a ddysgais wrth sylwi ar ragoriaethau a diffygion eraill. Yn mywyd pregethwr ieuanc cyffredin y mae cryn lawer o unrhywiaeth: yr hyn ydyw ei hanes yr wythnos hon fydd ei hanes yr wythnos<noinclude><references/></noinclude>
mhj7ny646cm29ujfgn4qm87h4nv2lem
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/326
104
86129
166546
2026-06-14T20:34:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166546
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nesaf, a phrin ydyw yr amgylchiadau y byddai desgrifiad o honynt o ddyddordeb ''neillduol'' i neb ond efe ei hun. Aceto, fel y dywedais yn y bennod gyntaf o'r hanes hwn, mae dygwyddiadau bywyd dyn cyffredin mor gyffredin, fel na thybiodd neb yn werth rhoddi ffurf arnynt mewn ysgrifen. Mae miloedd o bennillion a dywediadau ar lafar gwlad sydd yn mynegu yn gywir deimlad a phrofiad y bobl gyffredin. Nid ydynt yn farddonol nac yn ddoniol," ac nid ŵyr neb pwy ydyw eu hawdwyr. Ië, ''cyfansoddodd'' rhywun yr ymadroddion "Bore da i chwi," a "Nos dawch." Pwy oedd yr awdwyr? Nid oes dim yn "ddoniol" yn yr ymadroddion hyn a'r cyffelyb, a'u hunig nodwedd ydyw cyffredinedd y syniadau a a gyfleant; ac eto y maent yn anfarwol! Yr ydym ni y bobl gyffredin yn defnyddio yr un geiriau ac ymadroddion bob dydd mewn mil o wahanol fanau ac amgylchiadau, ac nid ydym byth yn blino arnynt nac yn dychymygu cyhuddo ein gilydd o fod yn ''stale''. Os dygwydd i'r diwrnod fod yn hyfryd, pa sawl mil o dafodau sydd yn dyweyd ei bod "yn braf," ac yn dyweyd hyny fel pe byddai y syniad mwyaf gwreiddiol a ddywedwyd erioed! Dywed yr un dyn ei bod "yn braf" ugain o weithiau mewn diwrnod, a'r tro olaf gyda chymaint o bwyslais â'r tro cyntaf. Yr ydys ymron a chredu mai y pethau mwyaf cyffredin sydd yn meddu dyddordeb gwirioneddol a pharhâus. Nid ydyw y dyn iach byth yn blino ar y dorth sydd ar y bwrdd deirgwaith a phedair gwaith yn y dydd, tra y mae lle i feddwl y diflasai ar "ginio clwb" hyd yn nod unwaith yn yr wythnos.
Er na ddygwyddodd dim ''neillduol'', fel y dywedir, am amser yn fy hanes ar ol yr hyn a gofnodais yn y bennod ddiweddaf, nad ellir dyweyd ei fod wedi dygwydd yn hanes agos bob pregethwr ieuanc, ac er fy mod yn awr yn camu dros flwyddyn o fy oes, nid ydwyf yn gweled na allasai adroddiad manwl am y cyfnod hwnw fod yn ddyddorol pe gallaswn hel gwroldeb i ddesgrifio pethau cyffredin sydd yn dygwydd bob dydd, a golygu y byddai y desgrifiad yn ''true to nature'', chwedl W. B. A sôn am wroldeb, y mae eisieu gwroldeb i alw rhaw yn rhaw. Yr anffawd ydyw fod yna ymwybyddiaeth mewn dyn fod pawb yn gwybod neu o leiaf y dylent wybod enw y rhaw, ac felly nid ydyw yn cael sôn am dani. Oni ddarfu i bob pregethwr ieuanc gyda'r Methodistiaid Calfinaidd golli ambell awr o gysgu mewn ofn a<noinclude><references/></noinclude>
9hl8vfy2npod82r5wwg0zztdm66ggej
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/327
104
86130
166547
2026-06-14T20:44:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166547
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>phryder wrth feddwl am y noswaith y byddai dau genad yn dyfod dros y Cyfarfod Misol i'w holi a'i stilio? Ac oni chafodd efe ei siomi wedi i'r amgylchiad ddyfod? Onid oedd yr arholwyr yn llawer llai arswydus nag y portreadodd efe hwynt yn ei feddwl, a'u cwestiynau yn llawer haws eu hateb nag yr ofnodd efe? Sut yr oedd yn teimlo ar ol gwneyd y bregeth gyntaf? Oni theimlai ei fod wedi dyhysbyddu ei hun, ac nad allai byth wneyd pregeth arall? Oni phrofodd fod y bregeth yn y traddodiad o honi yn rhywbeth gwahanol iawn i'r hyn ydoedd ar y papyr? Oni theimlodd fod ynddi ambell dwll a cham gwâg, nad oedd wedi eu darganfod cyn ei thraddodi? Wrth bregethu oni feddiannwyd ef gan ymdeimlad poenus fod y bregeth yn meinhau at y diwedd, a'i bod yn diweddu yn swta ac anorphenol? Lawer nos Sabboth yn ei ystafell wely, oni ddarfu iddo deimlo ei hun yu fychan a llygredig wrth synio gymaint mwy yr oedd efe wedi meddwl pwy a edmygodd na phwy a gredodd? Oni syrthiodd yn ei olwg ei hun pan mai ei unig gynnulleidfa oedd y nos a Duw? Oni anobeithiodd efe ganwaith allu cyrhaedd y sefyllfa ddymunol hono o fedru cau allan o'i feddwl bob ystyriaeth hunanol, ac ymgolli mewn awydd angerddol i wasanaethu Duw a lleshau ei gyd-ddynion? Onid oedd efe ar un adeg yn teimlo gormod o ledneisrwydd i ganiat. Au i ryw bethau-y degwm er engraifft-gael lle yn ei ystyriaethau? ac oni chafodd efe ei hun ryw ddiwrnod wedi cynnefino & chymeryd pethau felly i'r cyfrif? Oni synwyd ef lawer gwaith wrth feddwl mor debyg oedd efe i bobl eraill na phroffesent yr hyn a broffesai efe? Pa syniad oedd ganddo am y Cyfarfod Misol cyn ymgydnabyddu ág ef? A gafodd efe yr hen sefydliad mor ysbrydol a nefolaidd ag a ddysgwyliodd Gwyddai, wrth gwrs, fod pob un yno naill ai pregethwr neu flaenor, ac oni ffurfiodd efe ryw syniad ffol y bydd- ent ymron fel angelion Duw? Wedi ymgydnabyddu & hwynt oni synwyd ef mor debyg oeddynt i bobl eraill, ac yn enwedig iddo ef ei hun? Oni edrychai ar y peth fel darganfyddiad eu bod actually yn bwyta ac yn yfed fel pobl eraill a dyweyd y lleiaf?-fod rhai yn gallu chwerthin yn galonog?-fod amryw yn gallu sibrwd a'u gilydd tra yr oedd brawd yn gweddio wrth ddechreu neu ddiweddu cyfarfod Ie, oni welodd efe rai yn colli eu tymher? Yr oedd wedi arfer meddwl, onid oedd, yn uchel am {{bar|3}} fel un hynod ysbrydol a defosiynol A oedd efe yn meddwl lawn can uched am dano pan gafodd allan ei<noinclude><references/></noinclude>
fry91wjfbwli5avt49833vju9ldf95z
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/328
104
86131
166548
2026-06-14T20:49:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166548
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod yn aros yn nhe'r capel i ysmocio nes i'r brawd orphen gweddio wrth ddechre'r cyfarfod? Wrth ddychwelyd o'r cyfarfod onid oedd efe ar well telerau âg ef ei hun, ac yn ymson, "Wel, o'r un clai y'n gwnaed ni oll; mae gan bawb o honom ein gwendidau." Beth ydyw ei brofiad gyda golwg ar aelodau y Cyfarfod Misol? Oni chafodd mai y rhai galluocaf a duwiolaf oedd ei gyfeillion goreu a ffyddlonaf, ac a wnaethant fwyaf drosto? Onid y rhai bach yn Nghrist a fu fwyaf anffyddlawn iddo, ac a'i hanghefnogasant fwyaf? Pan bregethai o flaen gweinidogion y Sir, onid y rhai a ofnai efe fwyaf oeddynt y rhai tyneraf a mwyaf annogaethol ? a'r rhai a ofnai efe leiaf oeddynt y rhai mwyaf patronising a ffroen-uchel? Wrth fyned i bregethu yma ac acw y naill Sabboth ar ol y llall, oni frawychodd fwy nag unwaith wrth ganfod ei fod wedi oeri i lawr i allu gwneyd hyny ymron yn mechanical? Oni siomwyd ef nad oedd pregethu yn lladd ei bechod ef ei hun? ac oni chafodd fod y gwaith cysegredig yn gosod temtasiynau newyddion o'i flaen ac yn deffro tueddiadau yn ei natur oeddynt hyd hyny yn nghwsg Onid ofnodd efe lawer gwaith fod ei bregethu yn cynnyrchu effeithiau mwy daionus ar eraill nag a feddai ef ei hun? Oni sylweddolodd yn fynych nad oedd mor sanctaidd a difrycheulyd ag y gwyddai y credai rhywrai ei fod ac oni ddiolchodd efe ganwaith i Dduw nad oedd ei wrandawyr yn gwybod cymaint am lygredigaeth ei galon ac ystâd ei feddwl ag a wyddai ef ei hun? Pan gaffai allan fod rhywrai yn synio yn rhy uchel am dano a ddarfu iddo eu didwyllo? Naddo. Pan gai allan fod eraill yn coleddu syniad cyffelyb am dano ag a goleddai ef ei hun am dano ei hun, oni theimlai yn ddig atynt? Oni edrychai ar y rhai y gwyddai eu bod yn meddwl yn dda am dano fel dynion cywir a gall. uog, ac ar y rhai a goleddent syniad gwahanol fel rhai diffygiol mewn barn? Ar ol Sabboth dilewyrch a flat, oni phenderfynodd beidio pregethu mwy? a phan gaffai Sabboth hapus, oni lawenychai na roddasai y penderfyniad hwnw mewn gweithrediad Er yr ymwybyddiaeth poenus o hunan a llygredigaeth, yr hwn a achosai lawer a brudd-der dwfn, onid oedd yr awgrymiadau a gai weithiau ei fod yn gwneyd ychydig o ddaioni yn fforddio iddo bleser nad allai ei ddesgrifio na rhoddi pris arno Onid allai efe ddyweyd ar adegau, "Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon yn fwy na'r amser yr amlhaodd eu hyd a'u gwin hwynt?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
83cb3jai0xkxx4cwcysor7gqv2b0n1d
166553
166548
2026-06-14T21:15:40Z
AlwynapHuw
1710
166553
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod yn aros yn nhŷ'r capel i ysmocio nes i'r brawd orphen gweddio wrth ddechre'r cyfarfod? Wrth ddychwelyd o'r cyfarfod onid oedd efe ar well telerau âg ef ei hun, ac yn ymson, "Wel, o'r un clai y'n gwnaed ni oll; mae gan bawb o honom ein gwendidau." Beth ydyw ei brofiad gyda golwg ar aelodau y Cyfarfod Misol? Oni chafodd mai y rhai galluocaf a duwiolaf oedd ei gyfeillion goreu a ffyddlonaf, ac a wnaethant fwyaf drosto? Onid y rhai bach yn Nghrist a fu fwyaf anffyddlawn iddo, ac a'i hanghefnogasant fwyaf? Pan bregethai o flaen gweinidogion y Sir, onid y rhai a ofnai efe fwyaf oeddynt y rhai tyneraf a mwyaf annogaethol ? a'r rhai a ofnai efe leiaf oeddynt y rhai mwyaf patronising a ffroen-uchel? Wrth fyned i bregethu yma ac acw y naill Sabboth ar ol y llall, oni frawychodd fwy nag unwaith wrth ganfod ei fod wedi oeri i lawr i allu gwneyd hyny ymron yn mechanical? Oni siomwyd ef nad oedd pregethu yn lladd ei bechod ef ei hun? ac oni chafodd fod y gwaith cysegredig yn gosod temtasiynau newyddion o'i flaen ac yn deffro tueddiadau yn ei natur oeddynt hyd hyny yn nghwsg Onid ofnodd efe lawer gwaith fod ei bregethu yn cynnyrchu effeithiau mwy daionus ar eraill nag a feddai ef ei hun? Oni sylweddolodd yn fynych nad oedd mor sanctaidd a difrycheulyd ag y gwyddai y credai rhywrai ei fod ac oni ddiolchodd efe ganwaith i Dduw nad oedd ei wrandawyr yn gwybod cymaint am lygredigaeth ei galon ac ystâd ei feddwl ag a wyddai ef ei hun? Pan gaffai allan fod rhywrai yn synio yn rhy uchel am dano a ddarfu iddo eu didwyllo? Naddo. Pan gai allan fod eraill yn coleddu syniad cyffelyb am dano ag a goleddai ef ei hun am dano ei hun, oni theimlai yn ddig atynt? Oni edrychai ar y rhai y gwyddai eu bod yn meddwl yn dda am dano fel dynion cywir a gall. uog, ac ar y rhai a goleddent syniad gwahanol fel rhai diffygiol mewn barn? Ar ol Sabboth dilewyrch a flat, oni phenderfynodd beidio pregethu mwy? a phan gaffai Sabboth hapus, oni lawenychai na roddasai y penderfyniad hwnw mewn gweithrediad Er yr ymwybyddiaeth poenus o hunan a llygredigaeth, yr hwn a achosai lawer a brudd-der dwfn, onid oedd yr awgrymiadau a gai weithiau ei fod yn gwneyd ychydig o ddaioni yn fforddio iddo bleser nad allai ei ddesgrifio na rhoddi pris arno Onid allai efe ddyweyd ar adegau, "Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon yn fwy na'r amser yr amlhaodd eu hyd a'u gwin hwynt?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
12qs7bluj1n1gqbvt5kroz3h6k6p2lv
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/329
104
86132
166549
2026-06-14T20:57:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166549
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nid ydyw y pethau hyn ond pethau cyffredin yn mywyd pob pre- gethwr ieuanc, a gallesid ysgrifenu pennod ar bob un o honynt; ond pwy erioed a wnaeth hyny? Maent yn bethau mor gyffredin i brof- lad pregethwr, fel y dywedwyd, fel na thybiodd neb yn werth rhoddi ffurf arnynt mewn ysgrifen. Yr oeddwn wedi bwriadu ceisio eu des- grifio yn fanwl, ond gwelaf, wrth ystyried maint yr hunangofiant hwn, y bydd raid i minnau fel fy mlaenoriaid adael y gwaith i rywun arall. Yr oeddwn wedi bod wrthi yn pregethu ymron bob Sabboth am oddeutu deunaw mis-wedi fy nerbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, ac wedi myned drwy yr arholiad am dderbyniad i'r athrofa. Gwyddwn yn dda nad oeddwn wedi "sheinio," fel y dywedir, ond yr oedd genyf gydwybod dawel fy mod wedi gwneyd fy ngoreu. Er y teimlai fy mam druan pan oedd yn fyw ei bod wedi gwneyd yn dda drwy roddi i mi ysgol am yn agos i "flwyddyn gron," teimlwn i fy mod yn gorfod ymladd yr holl ffordd gyda mwy o egni, dyfalwch ac ym. roddiad o herwydd na chawswn yn more fy oes nemawr mwy o addysg a chyfarwyddyd nag a allasai goruchwyliaeth cansen Robyn y Sowldiwr ei chyfranu i mi. Ac eto cynnelid fi i fyned ymlaen gan annogaethau a charedigrwydd cyfeillion, yn enwedig fy meistr, Abel Hughes. Teimlwn fy hun mor bell ar ol fel yr arswydwn fyned i fysg dynion ieuainc a gawsent addysg dda, ac yr wyf yn sicr na fuas- wn yn dychymygu am fyned i'r coleg oni bae fod Abel yn cadw hyny fel nôd o flaen fy meddwl yn barhaus, ac yn fy ngwthio ymlaen. Daethum drwy yr arholiad am dderbyniad i'r athrofa tua chanol y rhestr, a bellach nid gwiw oedd i mi feddwl troi yn ol. Nid oedd genyf ond ychydig arian wrth fy ymyl, oblegid yr oeddwn wedi gwar lo ymron yr oll o fy ennillion am lyfrau a dillad ; a dibynwn am yr hyn a fyddai yn anghenrheidiol arnaf tra yn y coleg ar yr addewid a roisai Abel Hughes i mi. Ymddiriedwn yn llwyr yn fy meistr y gwnai fy helpio, ac y gwnai hyny yn ddystaw. Yr oedd efe yn gyf- aill calon i mi, ac yr oedd wedi adnewyddu ei addewid i mi lawer gwaith pan ymgomiem yn gyfrinachol. Gwyddwn nad oedd wedi sôn gair am ei fwriadau da tuag ataf hyd yn nôd wrth ei chwaer ei hun. Pan wnai garedigrwydd yr oedd ei ledneisrwydd a'i barch i deimladau y derbynydd mor fawr fel y tybiwn weithiau yr hoffasai allu cuddio ei roddion hyd yn nôd oddiwrtho ei hun. Sylwais arno<noinclude><references/></noinclude>
mll89q7yyc3g4cfrc306od7j0qfcnek
166554
166549
2026-06-14T21:16:43Z
AlwynapHuw
1710
166554
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nid ydyw y pethau hyn ond pethau cyffredin yn mywyd pob pregethwr ieuanc, a gallesid ysgrifenu pennod ar bob un o honynt; ond pwy erioed a wnaeth hyny? Maent yn bethau mor gyffredin i brof- lad pregethwr, fel y dywedwyd, fel na thybiodd neb yn werth rhoddi ffurf arnynt mewn ysgrifen. Yr oeddwn wedi bwriadu ceisio eu desgrifio yn fanwl, ond gwelaf, wrth ystyried maint yr hunangofiant hwn, y bydd raid i minnau fel fy mlaenoriaid adael y gwaith i rywun arall. Yr oeddwn wedi bod wrthi yn pregethu ymron bob Sabboth am oddeutu deunaw mis-wedi fy nerbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, ac wedi myned drwy yr arholiad am dderbyniad i'r athrofa. Gwyddwn yn dda nad oeddwn wedi "sheinio," fel y dywedir, ond yr oedd genyf gydwybod dawel fy mod wedi gwneyd fy ngoreu. Er y teimlai fy mam druan pan oedd yn fyw ei bod wedi gwneyd yn dda drwy roddi i mi ysgol am yn agos i "flwyddyn gron," teimlwn i fy mod yn gorfod ymladd yr holl ffordd gyda mwy o egni, dyfalwch ac ym. roddiad o herwydd na chawswn yn more fy oes nemawr mwy o addysg a chyfarwyddyd nag a allasai goruchwyliaeth cansen Robyn y Sowldiwr ei chyfranu i mi. Ac eto cynnelid fi i fyned ymlaen gan annogaethau a charedigrwydd cyfeillion, yn enwedig fy meistr, Abel Hughes. Teimlwn fy hun mor bell ar ol fel yr arswydwn fyned i fysg dynion ieuainc a gawsent addysg dda, ac yr wyf yn sicr na fuaswn yn dychymygu am fyned i'r coleg oni bae fod Abel yn cadw hyny fel nôd o flaen fy meddwl yn barhaus, ac yn fy ngwthio ymlaen. Daethum drwy yr arholiad am dderbyniad i'r athrofa tua chanol y rhestr, a bellach nid gwiw oedd i mi feddwl troi yn ol. Nid oedd genyf ond ychydig arian wrth fy ymyl, oblegid yr oeddwn wedi gwar lo ymron yr oll o fy ennillion am lyfrau a dillad; a dibynwn am yr hyn a fyddai yn anghenrheidiol arnaf tra yn y coleg ar yr addewid a roisai Abel Hughes i mi. Ymddiriedwn yn llwyr yn fy meistr y gwnai fy helpio, ac y gwnai hyny yn ddystaw. Yr oedd efe yn gyfaill calon i mi, ac yr oedd wedi adnewyddu ei addewid i mi lawer gwaith pan ymgomiem yn gyfrinachol. Gwyddwn nad oedd wedi sôn gair am ei fwriadau da tuag ataf hyd yn nôd wrth ei chwaer ei hun. Pan wnai garedigrwydd yr oedd ei ledneisrwydd a'i barch i deimladau y derbynydd mor fawr fel y tybiwn weithiau yr hoffasai allu cuddio ei roddion hyd yn nôd oddiwrtho ei hun. Sylwais arno<noinclude><references/></noinclude>
abk8g7xrstuareusashk5vat0eunnyc
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/330
104
86133
166550
2026-06-14T20:58:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166550
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lawer gwaith pan yn estyn rhodd i dlotyn y byddai bob amser yn siarad am rywbeth arall, fel pe buasai yn ceisio galw sylw ei feddwl ei hun a meddwl y derbynydd oddiwrth yr hyn a wnelai ei law. Yr wyf yn cofio yn dda un noswaith yn mis Awst-oddeutu pythefnos cyn yr adeg y bwriadwn fyned i'r athrofa. Yr oeddwn eisoes yn dechreu parotoi ar gyfer y siwrnai ac yn teimlo dipyn yn fidgety, canys ni fuaswn oddicartef fwy na dwy noswaith hefo'u gilydd yn fy mywyd. Yr oeddwn newydd gau y siop, ac eisteddai fy meistr Abel ar y soffa wrth y ffenestr yn y parlwr. Edrychai yn lluddedig, prudd a diegni. Dechreuodd ar unwaith siarad am yr amser y byddwn yn myned i'r athrofa. Wrth fy ngweled yn rhoi fy het ar fy mhen, gof- ynodd i ba le yr oeddwn yn myned, ac atebais innau fy mod wedi addaw galw i edrych am Thomas Bartley. "A fyddi di yn hir?” gofynai; ac ebe fi, "Nid wyf yn meddwl y byddaf ond ychydig am- ser." Ac ychwanegais, "Beth sydd? a ddymunech chwi i mi aros i mewn?" "Na ddymunwn ar un cyfrif; ond 'dydw i ddim yn teimlo yn hollol fel fi fy hun heno rywsut," ebe fe. "Arosaf i mewn ac af i'r Twmpath nos yfory," ebe fi. Ond ni fynai Abel i mi wneyd hyny, ac ebe fe, "Does dim llawer o harm arnaf-mi ddof yn well toc, a mi ddaw Marged i mewn yn union deg. Mae Thomas Bartley, yn ddiammheu, yn dysgwyl am danat." Pan oeddwn yn myned drwy y drws galwodd arnaf ac ebe fe, "Aros am fynyd. Be ŵyr dyn beth all ddygwydd?" Yna agorodd gwp- bwrdd oedd yn ei ymyl a thynodd allan y cash box, ac wedi agor hwnw cymerodd o hono un neu ddau o bank notes, ond yn sydyn dododd hwynt yn eu holau a gwenodd, ac ebe fe, "Beth sydd arnaf? A ydwyf yn dechre myn'd yn blentynaidd dywed? On'd oes pythefnos dan hyny. Ffwrdd a ti, a phaid a fy meindio, a brysia yn d'ol." Ar y ffordd i dŷ Thomas Bartley nid allwn beidio meddwl fod rhywbeth yn rhyfedd yn ymddygiad Abel y noswaith hono, a phen- derfynwn ddychwelyd yn gynnar. Ond wedi unwaith fyned o dan gronglwyd y Twmpath nid hawdd oedd cael dyfod oddiyno yn fuan, Yr oedd gwneyd hyny cyn cael swper allan o'r cwestiwn, oblegid cyn i mi prin eistedd i lawr taflai Thomas lygad bygythiol at yr ham oedd yn nhop y tŷ. Croesaw goreu Thomas oedd ham a wyau a thê, ac nid oedd anghen ei well i dywysog. Ymhlith llawer iawn o<noinclude><references/></noinclude>
acnxc5knfsk1z75vouya1ppo4es9dkk
166555
166550
2026-06-14T21:19:02Z
AlwynapHuw
1710
166555
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lawer gwaith pan yn estyn rhodd i dlotyn y byddai bob amser yn siarad am rywbeth arall, fel pe buasai yn ceisio galw sylw ei feddwl ei hun a meddwl y derbynydd oddiwrth yr hyn a wnelai ei law. Yr wyf yn cofio yn dda un noswaith yn mis Awst—oddeutu pythefnos cyn yr adeg y bwriadwn fyned i'r athrofa. Yr oeddwn eisoes yn dechreu parotoi ar gyfer y siwrnai ac yn teimlo dipyn yn fidgety, canys ni fuaswn oddicartef fwy na dwy noswaith hefo'u gilydd yn fy mywyd. Yr oeddwn newydd gau y siop, ac eisteddai fy meistr Abel ar y soffa wrth y ffenestr yn y parlwr. Edrychai yn lluddedig, prudd a diegni. Dechreuodd ar unwaith siarad am yr amser y byddwn yn myned i'r athrofa. Wrth fy ngweled yn rhoi fy het ar fy mhen, gofynodd i ba le yr oeddwn yn myned, ac atebais innau fy mod wedi addaw galw i edrych am Thomas Bartley. "A fyddi di yn hir?" gofynai; ac ebe fi, "Nid wyf yn meddwl y byddaf ond ychydig amser." Ac ychwanegais, "Beth sydd? a ddymunech chwi i mi aros i mewn?" "Na ddymunwn ar un cyfrif; ond 'dydw i ddim yn teimlo yn hollol fel fi fy hun heno rywsut," ebe fe. "Arosaf i mewn ac af i'r Twmpath nos yfory," ebe fi. Ond ni fynai Abel i mi wneyd hyny, ac ebe fe, "Does dim llawer o harm arnaf—mi ddof yn well toc, a mi ddaw Marged i mewn yn union deg. Mae Thomas Bartley, yn ddiammheu, yn dysgwyl am danat." Pan oeddwn yn myned drwy y drws galwodd arnaf ac ebe fe, "Aros am fynyd. Be ŵyr dyn beth all ddygwydd?" Yna agorodd gwpbwrdd oedd yn ei ymyl a thynodd allan y cash box, ac wedi agor hwnw cymerodd o hono un neu ddau o bank notes, ond yn sydyn dododd hwynt yn eu holau a gwenodd, ac ebe fe, "Beth sydd arnaf? A ydwyf yn dechre myn'd yn blentynaidd dywed? On'd oes pythefnos dan hyny. Ffwrdd a ti, a phaid a fy meindio, a brysia yn d'ol." Ar y ffordd i dŷ Thomas Bartley nid allwn beidio meddwl fod rhywbeth yn rhyfedd yn ymddygiad Abel y noswaith hono, a phenderfynwn ddychwelyd yn gynnar. Ond wedi unwaith fyned o dan gronglwyd y Twmpath nid hawdd oedd cael dyfod oddiyno yn fuan, Yr oedd gwneyd hyny cyn cael swper allan o'r cwestiwn, oblegid cyn i mi prin eistedd i lawr taflai Thomas lygad bygythiol at yr ham oedd yn nhop y tŷ. Croesaw goreu Thomas oedd ham a wyau a thê, ac nid oedd anghen ei well i dywysog. Ymhlith llawer iawn o<noinclude><references/></noinclude>
g8hvr1fcwspd4qxsfx5ehnv3i7j2nfh
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/331
104
86134
166551
2026-06-14T21:01:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166551
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bethau eraill yr wyf yn cofio yr ymadroddion canlynol o eiddo Thomas yn ystod fy ymweliad. "Bwyd cry anwêdd, wel di, ydi ham a ŵye os cei di'r ''quality''. Rown i'run ffig am lon'd trol o hamie'r 'Merice 'ma. Be wyddost di ar be mae'r moch druen yn cael 'u pesgi? A wn i ddim sut y mae pobol y trefydd 'ma yn mentro byta ŵye. Wyddost di be glywes i Ned 'y nghefnder yn ddeyd oedd o wedi wel'd â'i lygid 'i hun un tro mewn tŷ reit spectol yn Lerpwl? Dyma oedd 'i stori o—ar amser brecwest mi fydde'r forwyn yn dŵad efo gryn ddwsin o wye wedi berwi ar ddesgil ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd ; a dene lle bydde'r teulu yn tori un ac yn tori'r llall ac yn eu hogle nhw, a'r forwyn yn eu cario nhw yn'u hole ffastied ag y medre hi, ac o'r diwedd, hwyrach y ffeindie nhw ddau ne dri allan o'r dwsin yn ffit 'u byta ! A dene oedd yn od, 'doeddan nhw 'n meddwl dim byd ato—roeddan nhw 'n gneyd hyny bob dydd. Wel wfft i'w clone glân nhw, meddwn inne. Barbara, gad i ni gael wye ene sydd ar y silff ganol rhwng y plâts ene—reit gyferbyn â ti—ïe, dene nhw. Mae rhai ene wedi ’u dodwy heddyw—wye'r ieir ''game''. A mi 'rwyt ti wedi pendrafynu myn'd i'r Bala? Wyst di be, mi fydd yn chwith arw gynon ni am danat ti, on' fydd, Barbara? (rhoddodd Barbara nòd). Bydd, twbi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala nac yn lle'n y byd yn y wlad ucha, a dydw i ddim yn nabod neb yno ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sanau ar y stryt—a dynion digon clên ydi'r dynion. Mi faswn yn leicio yn anwêdd mynd i'r Bala am unwaith ya'y mywyd, bydase fo ddim ond i weld y llyn y daru i'r dyn hwnw gerdded ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnw pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y ''spot''. glywes James Pwlford yn deyd englyn i'r Bala unwaith o waith Kobyn Ddu—dydw i ddim yn 'i gofio fo—'Bala aeth a'r Bala eiff'— rhywbeth fel ene oedd o—mi clywi o, ddyliwn, pan ei di yno. Yr ydw i'n cofio y bydde nhad yn deyd am rywbeth fydde reit sâff, fod o can sowndied a chloch y Bala. Just cymer notis o honi pan ei di yno. Wyst di be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a fine 'r un blaen pwyntryd a dwad i edrach am danat ti. Ië, mi leiciet? Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gwel'd ni. Clecia arni, fachgen, dydw I'n gweld monot ti'n byta fawr; mi wyddost fod i ti gan' croeso. Oes ene lawer o honyn nhw yn y Bala yn dysgu pregethu? Sut y deudes Mi<noinclude><references/></noinclude>
iitf1ca2pbrfh1fsbfu7n5618fizvpw
166552
166551
2026-06-14T21:07:15Z
AlwynapHuw
1710
166552
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bethau eraill yr wyf yn cofio yr ymadroddion canlynol o eiddo Thomas yn ystod fy ymweliad. "Bwyd cry anwêdd, wel di, ydi ham a ŵye os cei di'r ''quality''. Rown i'run ffig am lon'd trol o hamie'r 'Merice 'ma. Be wyddost di ar be mae'r moch druen yn cael 'u pesgi? A wn i ddim sut y mae pobol y trefydd 'ma yn mentro byta ŵye. Wyddost di be glywes i Ned 'y nghefnder yn ddeyd oedd o wedi wel'd â'i lygid 'i hun un tro mewn tŷ reit spectol yn Lerpwl? Dyma oedd 'i stori o—ar amser brecwest mi fydde'r forwyn yn dŵad efo gryn ddwsin o wye wedi berwi ar ddesgil ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd ; a dene lle bydde'r teulu yn tori un ac yn tori'r llall ac yn eu hogle nhw, a'r forwyn yn eu cario nhw yn'u hole ffastied ag y medre hi, ac o'r diwedd, hwyrach y ffeindie nhw ddau ne dri allan o'r dwsin yn ffit 'u byta ! A dene oedd yn od, 'doeddan nhw 'n meddwl dim byd ato—roeddan nhw 'n gneyd hyny bob dydd. Wel wfft i'w clone glân nhw, meddwn inne. Barbara, gad i ni gael wye ene sydd ar y silff ganol rhwng y plâts ene—reit gyferbyn â ti—ïe, dene nhw. Mae rhai ene wedi ’u dodwy heddyw—wye'r ieir ''game''. A mi 'rwyt ti wedi pendrafynu myn'd i'r Bala? Wyst di be, mi fydd yn chwith arw gynon ni am danat ti, on' fydd, Barbara? (rhoddodd Barbara nòd). Bydd, twbi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala nac yn lle'n y byd yn y wlad ucha, a dydw i ddim yn nabod neb yno ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sanau ar y stryt—a dynion digon clên ydi'r dynion. Mi faswn yn leicio yn anwêdd mynd i'r Bala am unwaith ya'y mywyd, bydase fo ddim ond i weld y llyn y daru i'r dyn hwnw gerdded ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnw pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y ''spot''. Mi glywes James Pwlford yn deyd englyn i'r Bala unwaith o waith Kobyn Ddu—dydw i ddim yn 'i gofio fo—'Bala aeth a'r Bala eiff'— rhywbeth fel ene oedd o—mi clywi o, ddyliwn, pan ei di yno. Yr ydw i'n cofio y bydde nhad yn deyd am rywbeth fydde reit sâff, fod o can sowndied a chloch y Bala. Just cymer notis o honi pan ei di yno. Wyst di be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a fine 'r un blaen pwyntryd a dwad i edrach am danat ti. Ië, mi leiciet? Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gwel'd ni. Clecia arni, fachgen, dydw I'n gweld monot ti'n byta fawr; mi wyddost fod i ti gan' croeso. Oes ene lawer o honyn nhw yn y Bala yn dysgu pregethu? Sut y deudes<noinclude><references/></noinclude>
hkyfw3dmqjbii30ltmx3s5ra9nk551l
166556
166552
2026-06-14T21:19:56Z
AlwynapHuw
1710
166556
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bethau eraill yr wyf yn cofio yr ymadroddion canlynol o eiddo Thomas yn ystod fy ymweliad. "Bwyd cry anwêdd, wel di, ydi ham a ŵye os cei di'r ''quality''. Rown i'run ffig am lon'd trol o hamie'r 'Merice 'ma. Be wyddost di ar be mae'r moch druen yn cael 'u pesgi? A wn i ddim sut y mae pobol y trefydd 'ma yn mentro byta ŵye. Wyddost di be glywes i Ned 'y nghefnder yn ddeyd oedd o wedi wel'd â'i lygid 'i hun un tro mewn tŷ reit spectol yn Lerpwl? Dyma oedd 'i stori o—ar amser brecwest mi fydde'r forwyn yn dŵad efo gryn ddwsin o wye wedi berwi ar ddesgil ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd ; a dene lle bydde'r teulu yn tori un ac yn tori'r llall ac yn eu hogle nhw, a'r forwyn yn eu cario nhw yn'u hole ffastied ag y medre hi, ac o'r diwedd, hwyrach y ffeindie nhw ddau ne dri allan o'r dwsin yn ffit 'u byta ! A dene oedd yn od, 'doeddan nhw 'n meddwl dim byd ato—roeddan nhw 'n gneyd hyny bob dydd. Wel wfft i'w clone glân nhw, meddwn inne. Barbara, gad i ni gael wye ene sydd ar y silff ganol rhwng y plâts ene—reit gyferbyn â ti—ïe, dene nhw. Mae rhai ene wedi ’u dodwy heddyw—wye'r ieir ''game''. A mi 'rwyt ti wedi pendrafynu myn'd i'r Bala? Wyst di be, mi fydd yn chwith arw gynon ni am danat ti, on' fydd, Barbara? (rhoddodd Barbara nòd). Bydd, twbi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala nac yn lle'n y byd yn y wlad ucha, a dydw i ddim yn nabod neb yno ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sanau ar y stryt—a dynion digon clên ydi'r dynion. Mi faswn yn leicio yn anwêdd mynd i'r Bala am unwaith ya'y mywyd, bydase fo ddim ond i weld y llyn y daru i'r dyn hwnw gerdded ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnw pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y ''spot''. Mi glywes James Pwlford yn deyd englyn i'r Bala unwaith o waith Kobyn Ddu—dydw i ddim yn 'i gofio fo—'Bala aeth a'r Bala eiff'— rhywbeth fel ene oedd o—mi clywi o, ddyliwn, pan ei di yno. Yr ydw i'n cofio y bydde nhad yn deyd am rywbeth fydde reit sâff, fod o can sowndied a chloch y Bala. Just cymer notis o honi pan ei di yno. Wyst di be, pan glywn ni am ''cheap trip'', hidie Barbara a fine 'r un blaen pwyntryd a dwad i edrach am danat ti. Ië, mi leiciet? Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gwel'd ni. Clecia arni, fachgen, dydw I'n gweld monot ti'n byta fawr; mi wyddost fod i ti gan' croeso. Oes ene lawer o honyn nhw yn y Bala yn dysgu pregethu? Sut y deudes<noinclude><references/></noinclude>
nqfgop7pgy85khz734h1uj79b1ev4nq
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/332
104
86135
166557
2026-06-14T21:51:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166557
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>di? nad ydyn nhw ddim yn dysgu pregethu yno? O! wel, yn wir, dywed di hyny, achos mi glwes i rai o honyn nhw fydde yn hapno dwad yma i bregethu, a doeddwn i'n gweld dim byd ''extra'' yn'yn nhw—i nhâst i. Mi fase'n well gen i glywed William Hughes, Abercwmnant, na'r gore o honyn nhw-ond dydw i ddim llawer o ''judge''. Wel, be' yn y byd mawr mae nhw yn 'i ddysgu yno os nad ydyn nhw'n dysgu pregethu?"
"Ieithoedd, Thomas Bartley," ebe fi.
"Hyhy! pw ieithodd, dywed?"
"Lladin a Groeg," ebe fi.
"Hoho! mi gwela hi rŵan! rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ac er mwyn iddyn nhw fedryd pregethu i'r Blacks, ynte Riol peth, yn wir. Wyt ''ti'' ddim am fyned at y Blacks, wyt ti? Roeddwn inne'n meddwl hyny. Fedri di ddeyd wrtha i be ydi'r achos fod cyn lleied o honyn nhw yn myn'd i'r India i bregethu i'r Blacks, a nhwthe wedi dysgu'r ieithodd yn y ''college''? Mae nhw'n deyd i mi fod ene geinie o'r Blacks heb yrioed glywed gair am Iesu Grist, a mae hyny yn biti ofnadwy. Waeth iddyn nhw heb ddysgu'r ieithodd, os nad a'n nhw i bregethu yn yr ieithodd. Fase waeth i mi heb fynd yn brentis o grydd bydaswn i ddim yn meddwl gneyd sgidie ar ol hyny. Wyt ti ddim yn rhoi pen arni rŵan? Cymer paned arall, fachgen. Wel, arnat ti ma'r bai. Ond am yr ieithodd yr oeddwn i'n sôn—be ddaru ti 'u galw nhw? Twbi shwar, Lladin a Groeg—iaith y Blacks, ynte."
"Nage, Thomas, nid iaith y Blacks ydyw Lladin a Groeg," ebe fi.
"Iaith pwy ynte?" gofynai Thomas.
"O, ieithoedd rhyw hen bobl sydd wedi marw er's canrifoedd," ebe fi.
"Ieithodd pobol wedi marw? Wel be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu iaith pobol wedi marw? Ai gneyd ''sport'' am 'y mhen i rwyt ti, dywed, fel y bydde Bob dy frawd?"
"Yr wyf yn dyweyd y gwir gonest wrthych, Thomas. Maent yn dysgu yr ieithoedd er eu mwyn eu hunain a'r trysorau sydd ynddynt," ebe fi.
"Wel, 'da i byth gam i geibio ys clwes i ffasiwn beth! 'Roeddwn i'n wastad yn meddwl mai rhwbeth i'w siarad oedd iaith. Wel<noinclude><references/></noinclude>
5suav4clewpbdxzv5hhv4r79b2ocq99
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/333
104
86136
166558
2026-06-14T21:54:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166558
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywed i mi, prun ydi iaith y Black? Mae'n siwr fod nhw yn dysgu hono, ne fedren nhw ddim mynd yn fisionaries?"
"Dydi iaith y Blacks ddim yn cael ei dysgu yn y ''college'', Thomas Bartley; mae yn rhaid i'r ''missionarie''s fyn'd at y Blacks eu hunain i ddysgu hono," ebe fi. "Wel, ys clwes i â'm clustie ffasiwn beth," ebe Thomas "dysgu—ieithodd pobol sydd wedi marw a ddim yn dysgu ieithodd pobol sydd yn fyw! Ond gan y'n bod ni wedi dechre sôn am y peth, be arall mae nhw yn 'i ddysgu, dywed?"
"Maent yn dysgu ''mathematics''," ebe fi.
"Matthew Mattis? be ydi hwnw, dywed?"
"Sut i fesur a phwyso a gwneyd pob math o gyfrifon a phethau felly," ebe fi.
"Dene rwbeth digon handi," ebe Thomas, "a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o bregethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn siopwrs. Ydyn nhw yn dysgu rhwbeth arall yno?"
"Saesoneg a hanesiaeth," atebais.
"Eitha peth," ebe Thomas, "achos yr ydw i'n gwel'd os na feder dyn dipyn o Saesneg y dyddie yma fod o'n ''bound'' o fod ar ol. A pheth digon difyr ydi hanesiaeth. Un o'r dynion gore a glwes i rioed am ddeyd stori ydi James Pwlfford. Pan fyddwn i yn arfer myn'd i'r tafarne mi fyddwn yn dotio arno fo; a does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na thipyn o hanes. Pan fydd Barbara a fine wedi anghofio y bregeth i gyd, mi fydd gynon ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi ddeyd. Ond dydw i fy hun ddim yn gweld fod y bechgyn yna sydd yn y ''college'' yn rhw helynt am ddeyd stori. Yr ydw i yn gwel'd William Hughes, Abercwmnant, yn llawn top iddyn nhw. Wyst di be, mi ddeydodd William stori y tro diwaetha oedd o yma am eneth bach yn marw, anghofia i byth moni tra bydd chwythad yno i. Bydaswn i'n marw ar y clwt faswn i ddim yn medryd peidio crio pan oedd o yn 'i deyd hi. Mae'n dda gan 'y nghalon i glywed fod nhw yn dysgu hanesiaeth yn y ''college''. Ond y mae rhai o honyn nhw yn hir ofnadwy yn dysgu. 'Roedd yma fachgen yn pregethu yn ddiweddar, a 'roeddan nhw'n deyd fod o yn y ''college'' er's tair blynedd—faswn i yn y myw lâs yn gneyd na rhych na gwellt o hono fo. 'Roedd o yn sôn am rw 'olwynieth' ne 'unolieth' ne rwbeth, a fedrwn i neyd na rhawn na bwgar o hono. Ond<noinclude><references/></noinclude>
kn871588is90e4ybr1m4qadag43vp4p
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/334
104
86137
166559
2026-06-14T22:00:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166559
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywed i mi—mi fu ''just'' i mi anghofio—mi wyddwn fod gen i rwbeth isio 'i ofyn i ti—ffasiwn fwyd mae nhw yn 'i brofeidio i chi yno Ddyliwn fod y ffâr yn go lew?"
"Nid ydynt yn profeidio i neb, Thomas; mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun," atebais.
"Wel sut yn y byd mawr y mae'r bechgyn yn cael ''profisiwns''? Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yn 'r wythnos at fw?" gofynai Thomas.
"O, nac ydynt," ebe fi; "mae pob un o'r bechgyn yn gorfod gofalu drosto ei hun am fwyd a diod, ''lodgin''g a golchi. Maent yn cael mynd yma ac acw i bregethu, ac yn cael ychydig am hyny ac yn byw arno."
"Wel 'da i byth i ffair Gaerwys os nad y ''college'' ydi'r lle rhyfedda y clwis i rioed sôn am dano!" ebe Thomas. "Dydi'r bechgyn, rwyt ti'n deyd, ddim yn dysgu pregethu yno—dydyn nhw ddim yn dysgu iaith y Blacks, ond yn dysgu iaith rhw hen bobol wedi marw er's cantodd—dydyn nhw ddim yn cael cyflog, ond pawb yn byw ar i liwt 'i hun—clemio ne beidio—a'r unig beth gwerth sôn am dano mae nhw ''yn'' 'i ''ddysgu'' ydi Hanesiaeth a'r peth arall hwnw—be' ddaru ti alw fo—Mathew {{bar|3}} twbi shwar—Mathew Mattis;—I be yn y byd mawr rwyt ti'n mynd yno, dywed? Ydyn nhw yn dysgu rhwbeth am Iesu Grist yno chlywes i monot ti'n menshion hyny."
"Mae yn ddiammheu eu bod, Thomas," ebe fi; "ond y mae y lle ymron mor ddyeithr i mi ag ydyw i chwithau."
"''Most the pity''. Bydawn ni yn dy le di, mi fynwn i fis o dreial, a mi gymrwn fwyd efo fi. Wyst di be? mae o'n taro i meddwl i'r mynyd yma fod pob un a weles i yn dŵad yma i bregethu o'r ''college'' â golwg eisio bwyd arno; a dydi o ryfedd yn y byd erbyn i ti ddeyd fel mae nhw yn managio yno. Hwya bydd dyn byw, mwya wêl, a mwya glyw. 'Roeddwn i yn arfer meddwl mai lle clên arw oedd y ''college''; ac eto mi fyddwn yn synu sut yr oedd y bechgyn, druen, i gyd yn edrach mor llwyd a digalon; ac mi fyddwn yn meddwl mai tipyn yn ofnus oeddan nhw—'run fath a'r witnes yn y bocs, a mi fyddwn yn meddwl bydaswn i yn hapno 'u gwel'd nhw ar ddydd Llun y base nhw yn edrach yn reiol, hwyrach. Mae'n rhaid y bydde nhw yn byw yn well er's talwm yn y ''college'', achos yr ydw i yn cofio pan<noinclude><references/></noinclude>
ajswxkzlki757kf7ec96erut9sax9g5
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/335
104
86138
166560
2026-06-14T22:05:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166560
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oeddwn i yn hogyn i mi hapno myn'd i'r capel; a phwy oedd yn pregethu blaw John Jones, Llanllyfni—yn y ''college'' roedd o 'radeg hono, ddyliwn i ti—a roedd ei ddwy foch o fel y rhosyn. Dywed i mi: be bydaet ti ddim yn hapno cael dy alw i bregethu am fis neu ddau ar ol i ti fynd i'r ''college'', be ddoe o honot ti?" "Wel," ebe fi, "rhaid i mi ymddiried i Ragluniaeth.
"Weles i rioed ddaioni o'r stori ene," ebe Thomas. "Mae Rhaglunieth yn gofalu am bawb sydd yn gofalu am dano ei hun. 'Roedd yma ddyn yn byw yn y gymdogeth yma er's talwm—cyn dy amser di—a roedd o'n dipyn o grefyddwr hefyd y dyn mwya disut at fyw a weles i rioed, a mi fydde'n wastad yn sôn am ymddiried i Raglunieth. A wyddost di b'le bu o farw? Yn ''workhouse'' Treffynnon! ''poor fellow''! Mewn ffordd o siarad, mi fase'n dda gen' i bydaset ti heb ddeyd wrtha i ffasiwn le ydi'r ''college'', achos ar ol i ti fynd yno mi fydd Barbara a fine o hyd yn meddwl a fyddi di tybed yn cael digon o fwyd. Yr ydw i yn dy weld di yn gadel lle da, ac yn mentro mynd i'r wlad ucha, lle mae nhw yn byw yn galed—fel roedd y sneuwrs yn deyd wrtha i; ac o'm rhan i, dydw i ddim yn gweld y giâm yn werth y ganwyll. Mi faswn yn rhoi care bydase nhw yn dysgu pregethu yno. Ond ti ŵyr ore, a dydi o ddim o musnes i i myreth; bydase dy fam yn fyw, mae yn ddowt geni a fase hi yn lowio i ti fynd. Be mae Abel yn ddeyd? Ydi o am i ti fynd?"
"O ydyw," ebe fi, "mae Abel yn fy annog i fynd."
"Wel, mi ro i mewn iddo fo; hen warmon garw ydi Abel; weles i rioed mono fo'n gneyd ''mistake''," ebe Thomas.
"Mae sôn am Abel, Thomas Bartley," ebe fi, "yn gwneyd i mi gofio fod yn bryd i mi fyn'd gartref. Nid ydyw Abel yn hollol iach heno, ac mi addewais fynd yn ol yn gynnar."
"Gwaetha gwbwl," ebe Thomas; "gobeithio nad oes dim byd seriws arno. Wn i ddim be ddoe o honom ni yn y capel ene bydas rhwbeth yn digwydd i'r hen ''sarja majar''; mi fydde yn higyldipi. gyldi arnou ni. Wyst ti be? pan oedd dy fam yn fyw roedd o gystal â phregeth clywed y ddau yn mygomio. Doeddan nhw byth yn sôn am 'olwynieth,' wyddost, a phethe felly, ond am Iesu Grist a'r nefoedd, a fine yn gwrando arnyn nhw fel hwch yn 'r haidd; faswn i ddim yn blino arnyn nhw drwy y nos, a mi fydde'n gâs gen i weld Abel yn codi i fynd i ffwrdd—mi fyddwn yn teimlo fel bydaswn i heb<noinclude><references/></noinclude>
1jkr9v1kh5oyxnw2bu0t4gb4nr7leos
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/336
104
86139
166561
2026-06-14T22:08:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166561
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gael hanner digon. Wyst di be fum i'n neyd—gobeithio doedd o ddim yn bechod—pan welwn i Abel yn dŵad, mi fyddwn yn troi bys y cloc hanner awr yn 'i ol; ond doedd wiw i mi adel i dy fam 'y ngweld i'n gneyd hyny, achos roedd hi mor gysact, wyddost, hefo pethe felly. Wel, na i mo dy stopio di, gan fod Abel yn gwla. Cofia ni i'n dau ato fo, a nos dawch. Aros! dyma ti, gan fod ti wedi pen— drafynu mynd i'r ''college'', os na fydd o'n ormod o drafferth gynot i'w gario, mi gei ddarn o'r nhorob yma a chroeso, mi fydd gynon ni ddigon wedyn. Wel, wel, arnat ti mae'r bai, mi wyddost fod i ti gan' croeso o hono. Nos Dawch."
Da oedd genyf gael myned allan er mwyn i mi gael "''roario'',' chwedl Wil Bryan; a meddyliwn beth pe buasai Wil druan, gyda mi yn y Twmpath y noson hono, y fath adroddiad campus a allasai efe ei roddi o'r ymgom gyda'r "hen ''thoroughbred'' Thomas Bartley," ys dywedai yntau. Daeth cant o adgofion i fy meddwl wrth brysuro tua chartref, am y modd y gallai Bob fy mrawd dynu y crychau o wyneb difrifol a phrofedigaethus fy mam, pan fyddai efe wedi bod yn nhŷ Thomas Bartley yn ei "dynu allan." Gallai Bob ei ddynwared i'r blewyn; a gwelais ef yn gwneyd i fy mam deimlo yn ddig wrthi hi ei hun am ei bod yn gorfod chwerthin er ei gwaethaf. Dichon fod adegau yn mywyd pob dyn pryd y mae ei ymddangosiad yn debyg i wallgofddyn. Pe cymerasid ''photograph'' o honof finnau y noswaith hono, pan gerddwn yn gyflym heibio coed y Plâs, buasai yr olwg arnaf yn rhyfedd, oblegid chwarddwn ac wylwn bob yn ail. Yn awr, wrth feddwl am y peth, y mae yn rhyfedd genyf gofio fod a fyno Thomas Bartley rywbeth â rhai o brif ddygwyddiadau fy mywyd; ond bychan a dybiwn i y mynydau yr oeddwn yn dychwelyd o'r Twmpath, y buasai raid i mi byth adgofio y noswaith ond yn unig fel defnydd dyddanwch i'm cymdeithion. Nid oedd fwy nag awr a hanner o amser er pan adawswn Siop y Gornel; a phan oeddwn o fewn ychydig latheni iddi wrth ddychwelyd gartref, cyfarfuais â Jones, yr hwn a fuasai yn chwilio am danaf ymhobman ond yn y Twmpath. Dywedodd wrthyf fod Abel yn wael iawn. Ni ddeallais un gair arall a ddywedodd; a'r mynyd nesaf yr oeddwn yn ystafell fy hen feistr anwyl. Ni faddeuaf byth i mi fy hun am ei adael y noswaith hono. Cefais ef yn lledorwedd ar y soffa, ymha le y gadawswn ef pan gychwynais i'r Twmpath. Yn<noinclude><references/></noinclude>
pty4tu6oggn8gc4fdzm7ecd3sorbb3r
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/337
104
86140
166562
2026-06-14T22:11:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166562
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eistedd ar gadair wrth ei ochr yr oedd Dr. Bennett, neu, fel y galwem ef, Doctor y Gwaith. Tu ol iddo, wrth ben y soffa, yr oedd Miss Hughes, ac mewn ymdrech ofnadwy yn ceisio cuddio dirdyniadau ei chalon. Mae yr olygfa yn fyw o flaen fy meddwl; på fodd y gallwn ei hanghofio! Gyda'i braich chwith, yr hon a ymddangosai fel un darn o dynerwch, cynnaliai Miss Hughes ben patriarchiadd yr unig ŵr a garasai hi â'i holl galon yn ystod ei hoes; a daliai yn ei llaw ddehau wydryn gyda rhyw gordial ynddo, yr hyn a wrthodid gan ei brawd, neu yn hytrach nad allai ei gymeryd. Yr wyf yn meddwl fod dwy wraig arall yn yr ystafell, ond nid wyf yn cofio pwy oeddynt. Cyn hyny ni fuaswn yn credu fod yn bosibl i ddyn fyned trwy y fath gyfnewidiad mewn càn lleied amser heb i ddim ymosod arno oddiallan. Yr oedd y "''fine old fellow,''" fel y galwai Wil Bryan ef, yn swp diymadferth a dinerth, fel pig—adail wedi ei daro yn ei fôn gan fellten, a'i ogoniant wedi ei lorio. Y wyneb, yr hwn a belydrai gan bwyll, deall a hawddgarwch ddwyawr yn ol, oedd erbyn hyn fel wyneb ynfytyn yn ei feddwdod. Y tafod na ddywedai un amser ond yr hyn oedd synwyrol ac adeiladol oedd yn awr wedi anghofio ei swyddogaeth; ac ni ddeuai bellach o enau ei berchenog ond sŵn aflafar, cyffelyb i lais anhyfryd y mûd a'r byddar. Oddieithr ei fraich ddehau, ymddangosai fod holl gorff fy hoff feistr wedi ei barlysu. Yr oeddwn wedi bod yn yr ystafell rai mynydau cyn iddo gymeryd un sylw o honof. Pa fodd bynag, pan edrychodd arnaf, cynhyrfodd; a dechreuodd wylo fel plentyn. Y mynyd nesaf pwyntiai ataf ac yna at y cwpbwrdd, gan wneyd ymdrech galed i siarad Gwyddwn yn dda ei ddymuniad, ond ni chymerais arnaf fy mod yn ei ddeall. Drachefn a thrachefn y ceisiai wneyd ei ddymuniad yn hysbys; a gofynodd y doctor i mi a wyddwn pa beth a geisiai, a dywedais innau—wel, dywedais yr hyn nad oedd wir, sef na wyddwn. Yr oedd yn amlwg i bawb oedd yn yr ystafell fod Abel yn dymuno dyweyd rhywbeth wrthyf. Gwyddwn i yn burion beth ydoedd hwnw. Ond beth pe dywedaswn wrth y doctor a Miss Hughes mai dymuniad fy meistr caredig oedd i mi gael rhai o'r ''bank notes'' oedd yn y ''cash box'', oni fussent yn fy ammheu? Ond yr oeddwn yn sicr—mor sicr a fy mod yn ysgrifenu y geiriau y fynyd hon—mai dyna oedd ei unig ddymuniad ar y pryd. Credwn fod cynneddfau ei enaid heb anmharu dim, ond fod y cyfryngau a'u gwasanaethasant am bymtheg<noinclude><references/></noinclude>
f4v2pg3ivdg90rfy28ewvotzywv1c6l
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/338
104
86141
166563
2026-06-14T22:12:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166563
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mlynedd a thriugain yn awr yn gwrthod ufuddhau iddynt. Unwaith ac eilwaith ceisiai siarad â mi, ac wedi methu torai i wylo. Annogai y doctor fi i adael yr ystafell, gan fod yn amlwg fy mod yn cynhyrfu y dyoddefydd; ond gwrthodais yn barchus. Yr oeddwn wedi ei adael pryd na ddylaswn, ac nid oeddwn am wneyd hyny eilwaith. Yr oedd yn galed iawn arnaf. Gwaedai fy nghalon o gydymdeimlad a'r gŵr goreu, caredicaf, a duwiolaf a adwaenais erioed. Yr oedd yr fy ngallu i dawelu ei feddwl drwy wneyd yn hysbys ei ddymuniad; ac yr oedd hyny yn bwysig iawn i mi yn bersonol, a fy nyfodol yn dibynu ar hyny i raddau mawr; ond ni feiddiwn wneyd hyny heb beri i rywrai ammheu fy nghymeriad. Gweddïwn yn ddystaw a thaer am i fy meistr gael nerth i siarad; ond yr oedd pob mynyd fel pe buasai yn ei yru ymhellach oddiwrthym, ac yn lleihau ein gobaith am iddo byth mwyach allu dal cymundeb â neb o honom. Gyda llawer o drafferth dodasom ef yn ei wely, ac arferwyd pob moddion oedd yn bosibl i geisio ei adferu; ond ni thyciai dim. Fel y dywedais, nid oedd wedi colli yn hollol nerth ei fraich ddehau. Eisteddwn wrth ochr ei wely, ac yr oedd fy llaw yn ei law. Ymddangosai fel mewn cwsg hapus am oriau lawer, ond pan gynnygiwn dynu fy llaw allan o'i law ef, deffröai yn anesmwyth. Dywedai y meddyg y gallai fod yn y sefyllfa hono am ddyddiau, ac aeth ymaith gan addaw dyfod yn ol yn y bore. Yr oedd y meddyg eisoes wedi perswadio Miss Hughes i fyned i orphwyso, gan nad allai hi wneyd dim i'w brawd; ac yr oedd wedi sicrhau ''nurse'' brofiadol i aros gyda mi i wylio y claf. Yr oedd y tywydd yn gynhes, a'r ystafell yn ddystaw, a thoc syrthiodd y ''"nurse'' brofiadol" i gwag trwm. Ni choleddai Dr. Bennett un gobaith am adferiad fy hen feistr hoff, a bellach ni wnawn innau; ond parhawn i weddio yn daer ar Ddu —nid oddiar un amcan hunangar—am i'w dafod gael ei ryddhau pe ond am un mynyd. A wrandäwyd fi? Pe dywedaswn do, pwy fuasai yn fy nghredu? Yr oeddwn wedi bod yn gwylio am awr—am ddwy, y ''"nurse'' brofiadol" wedi bod yn cysgu am yr un faint o amser yn union. Yr oedd anadliadau fy hen noddwr caredig mor ysgafn a dystaw, fel yr ofnwn ei fod wedi myned. Gollyngais ei law yn esmwyth, a deffrôdd yntau fel plentyn yn ei gryd. Edrychodd arnaf a dywedodd—wel, ni adroddais ei ychydig eiriau wrth neb erioed; oblegid meddyliais y gallai Dr. Bennett ddyweyd fod y peth<noinclude><references/></noinclude>
h59e06rvyczkv6rhjb0eyv30iqv4zi7
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/339
104
86142
166564
2026-06-14T22:17:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166564
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn anmhosibl, ac mai breuddwydio yr oeddwn, ac y gallasai eraill ddyweyd fod genyf amcan hunangar wrth adrodd y chwedl, ac eraill mai ''animal magnetism'' oedd y cwbl. Nid yw o bwys erbyn hyn. Mi wn hyn—na ddarfu i mi wneyd defnydd o'i eiriau i gyrhaedd fy amcanion fy hun; ond yr wyf yn eu cadw yn fy nghalon yn goffadwriaeth mor bur yr oedd efe i mi yn ei fynydau olaf. Y mynyd nesaf yr oedd ei ysbryd wedi croesi y gagendor mawr; ac yn annals angeu yr wyf yn credu nad aeth drwy ei borth tywyll ei gywirach, ei ffyddionach, na'i dduwiolach, ond Un
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXXV.<br>HELBULUS.}}}}
Yn yr ystorm pan syrthiodd yr hen dderwen, yr hon yr oedd ei gwreiddiau wedi ymestyn ymhell ac yn ddwfn, rhwygwyd y ddaear o'i chwmpas, a'r deri eraill am bellder a wnaethpwyd yn llai diogel Y deri oeddynt agosaf ati a deimlasant fwyaf oddi wrth yr ysgytiad; ac yn y codwm ysgrafwyd rhai o honynt mor ddwfn fel nad allodd awelon haf, gwlaw, gwlith, a gwres, byth iachau eu creithiau. Yn marwolaeth Abel Hughes, collwyd un oedd wedi cario argyhoeddiad i galonau y corner-men a'r cymeriadau gwaethaf yn y dref ei fod yn ddyn da. Collodd masnachwyr engraifft o'u plith o ddyn yn gallu trin y byd heb ddyweyd celwydd, ac ar yr un pryd yn cael tamaid gonest ac heb brinder.
Gadewch i ni obeithio nad efe oedd yr olaf o'r bobl hen ffasiwn hyny! Ond i'r capel, a'r achos, yr oedd y golled fwyaf. Nis gallai trigolion y dref feddwl am yr achos Methodistaidd heb feddwl am Abel; ac iawn y galwodd Seth—y bachgen gwirion—y capel yn gapel Abel; a phan syrthiodd ef, teimlai pawb fel pe buasai y capel wedi colli ei du mewn. Nid oedd dwsin yn perthyn i'r eglwys yn cofio y sêt fawr heb Abel ynddi: ac yr oedd y mwyafrif o honynt wedi bod yn adrodd eu hadnodau iddo yn y seiat plant, ac wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau ganddo. Yr oedd helyntion tymmorol ac ysbrydol agos bob teulu perthynol i'r eglwys yn wybyddus
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
2cmxxf5yqutaagmbdp9lawudpdnu3co
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/340
104
86143
166565
2026-06-14T22:20:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166565
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i Abel; ac nid oedd brin dŷ Methodistaidd yn y dref nad oedd efe wedi bod wrth erchwyn gwely rhywun ynddo yn gweddïo ac yn cynghori. Gallai yr hen wŷr a'r hen wragedd ar y plwyf, fel rhai eraill uwch eu sefyllfa, ddyweyd eu 'stori wrth Abel heb ofni i'w cyfrinach gael ei dadguddio. Am lawer o flynyddoedd yr oedd Abel wedi actio fel bugail i'r eglwys, gyda'r fantais arbenig hon, y gallai efe ddyweyd y gwir yn gyhoedd ac yn gêl heb ofni cael ei anfon ymaith, na gweled lleihad amlwg yn y casgliad. Y gwir a saif; ond pa nifer o honom sydd yn barod i sefyll wrth y gwir heb geisio ei daclu yn ein ''trimmings'' ein hunain? "A gwybuant eu bod yn noethion." Pan feddiennir ni gan wirioneddau y gwyddom y dylid eu dyweyd, onid ydym yn dueddol i'w gwisgo yn ein harffedogau ein hunain? O'r ochr arall cyfarfyddir weithiau â rhai dynion sydd yn ymffrostio eu bod yn onest ac yn hoff o ddyweyd y gwir a "siarad yn blaen," ond ydynt yn arddangos cymaint o wynebgaledwch ac afledneisrwydd nes peri i'r synwyrol edrych ar eu "siarad plaen" fel cynnyrch anfoneddigeiddrwydd ac ''ignorance''. Y gyllell ydyw y gwir yn syniad y bobl hyn, a'r "gwir sydd yn lladd" ydyw eu hunig wir. Cedwir hyd y dydd hwn mewn ambell eglwys gigydd a dïenyddwr crefyddol. Difyrwch penaf y blaenaf ydyw tori i fyny ei gydfrawd yn bedwar aelod a phen, a'i arddangos ar ei stondin; a hyfrydwch yr olaf ydyw ei grogi a darfod âg ef. A siarad yn gyffelybiaethol, gallai Abel ddefnyddio y gyllell, ond nid cyllell y cigydd. Defnyddiai efe hi nid i gymeryd bywyd, ond i'w arbed. Unwaith y credai Abel fod perygl yn bod, ni fynai efe ddim ''dilly dally'', ond cariai argyhoeddiad i feddwl y dyoddefydd fod ei fywyd yn annhraethol werthfawr, ac fod ei arhediad yn galw am lymder yr oruchwyliaeth. Ac fel rheol y rhai oeddynt wedi bod hwyaf dan ei ddwylaw oeddynt ei gyfeillion mwyaf zelog a ffyddlawn. Yr wyf yn meddwl mai profiad pawb a fagwyd yn yr eglwys ydoedd, eu bod pan yn blant yn ystyried Abel yn rhy fanwl, llym, a chwerw, ond wrth dyfu i fyny i oed a synwyr fod eu syniad yn tyneru am dano. Yn ystod eu plentyndod edrychent arno fel crebyn glâs a godai y dincod ar eu dannedd; ond wedi tyfu i fyny ystyrient ef fel afal mawr, crwn, melyn, addfed, a melus i'r genau. Anaml, fel y dywedai Thomas Bartley, y byddai Abel yn gwneyd camgymeriad; ac mewn llawer amgylchiad gwelais amryw o aelodau yr eglwys yn zelog a phenderfynol dros y peth yma neu'r<noinclude><references/></noinclude>
ik6mvv82v9ky0hstpdtl6eah86dtt50
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/341
104
86144
166566
2026-06-14T22:24:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166566
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>peth arall, ond wedi deall fod Abel yn meddwl yn wahanol iddynt, dechreuent ammheu—nid Abel—ond eu hunain. Yn y seiat lawer tro, gwelais John Llwyd yn codi ar ei draed i siarad yn danbaid ar ryw gwyn neu gilydd a fyddai ganddo ef; a gallesid meddwl weithiau ar ei araeth fod crefydd wedi darfod o'r tir, ac fod rhyw bersonau neillduol yn yr eglwys, y rhai nad oedd efe yn eu henwi, yn euog o bob drwg dychymygadwy. Yna codai Abel, a chyda rhyw ddwsin o eiriau pwyllog, cliriai yr awyr a thawelai yr holl gyffro, a cherddai yn syth at yr hen Feti Cynrig neu Thomas Bartley i ofyn gair o'u profiad; ac ymhen y ddau fynyd byddai pawb wedi anghofio John Llwyd a'i araeth. Yr oedd yn gâs gan Wil Bryan John Llwyd; ac nid oedd dim a'i difyrai yn fwy na gweled Abel yn "eistedd arno," chwedl yntau. Ambell dro wrth ddyfod o'r seiat, gofynai Wil i mi, "Ddaru ti spotio Abel yn rhoi ''bonfire'' yr Hen Grafwr allan wrth boeri arno? Dene'r tro smartia weles i ers gwn i pryd, mi gymra fy llw." Yr oedd gan Abel ryw fynawyd na fyddai byth yn methu tynu y gwynt o bledren gŵr bostfawr a choegfawr. Wedi gwneyd gorchestwaith felly, ni byddai byth yn sôn am dano; ond bum yn meddwl lawer gwaith y byddai y gorchwyl yn fforddio ychydig o bleser iddo; oblegid ar ol iddo ddyfod gartref, a phan fyddai yn eistedd yn ei gornel wrth y tân, taenai gwên foddhâus dros ei wyneb fel pe buasai yn mwynhau rhywbeth rhyngddo ag ef ei hun. Yr oedd yn ŵr manwl, fel y dywedais, ac nid allai oddef ''harum scarum'' o broffeswr; ond gan nad beth a fyddai colledion a diffygion dyn, os credai Abel ei fod yn onest, cydymdeimlai yn ddwfn ag ef. Yr wyf wedi dyweyd mewn pennod flaenorol na welais gyffelyb Abel am adnabod calon dyn. Yr oedd efe wedi astudio ei galon ei hun am oes, a chlywais ef yn dyweyd amryw weithiau ei bod yn fwy ei thwyll na dim. O herwydd hyny gallai efe ddeall a chyfarwyddo y gŵr ieuanc fyddai yn ymladd â themtasiynau ac ammheuon; gallai gydymdeimlo â'r trafferthus a'r helbulus, cyd-ddwyn â'r anwybodus os byddai ynddo beth daioni, a chydgyfranogi o lawenydd a thristwch ysbrydol yr hen bobl brofiadol. Ond seguryd, difaterwch, rhagrith, a ffugsancteiddrwydd, nid allai efe oddef o gwbl. Cefais well mantais na neb arall i'w adnabod yn drwyadl. I mi nid ymddangosai un amser yn balchïo yn ei rinweddau ei hun; ond pan welai y rhinweddau hyny yn dysgleirio hyd yn nôd mewn graddau llai yn eraill, tywynai ei<noinclude><references/></noinclude>
7lx7qfl2q7yzk2rs9u56nvssh3555bf
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/342
104
86145
166567
2026-06-14T22:30:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166567
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wyneb gan ddedwyddwch. Yr oedd wedi gosod y safon iddo ef ei hun mor uchel fel yr oedd ei ddiffygion yn wastadol ger ei fron; ond edrychai ar eraill, y rhai, yn ol fy meddwl i, nad oeddynt yn haeddu eu cymharu âg ef, gydag eiddigedd. Rhoddasai ei ddiffuantrwydd a'i allu meddyliol iddo awdurdod yn yr eglwys na feiddiai ac na ddymunai neb ei ammheu na'i aflonyddu.
Rhaid i mi gydnabod nad yr ystyriaethau hyn a lanwent fy meddwl pan fu farw Abel Hughes. Yr oeddynt yn llawer mwy hunangar. Teimlwn fy mod wedi colli fy nghyfaill gwerthfawrocaf, a hyny ar adeg pryd yr oedd fy nyfodol, a siarad yn ddynol, yn dibynu ymron yn gwbl arno. Yr wyf yn cywilyddio wrth feddwl mor hunangar oeddwn. Ar y pryd ofnwn fod fy rhagolygon wedi eu handwyo. Yr wyf yn cofio yn dda fy mod yn synu ac yn teimlo yn glwyfedig nad oedd neb yn ymddangos yn cydymdeimlo dim â mi. Soniai pawb am y golled a fyddai i'r achos, a rhedai yr holl gydymdeimlad tuag at Miss Hughes. "Druan oedd Miss Hughes!" "Beth a wnaiff Miss Hughes yn awr?" "Wel, mi fydd Miss Hughes, druan, yn unig ar ol colli ei brawd." Pwy gaiff Miss Hughes i edrych ar ol y ''business''? Dene'r bachgen ene yn mynd i'r ''college''; ond mi fydde yn llawer ffitiach iddo aros gartre a helpio Miss Hughes os oes rhw deimlad ynddo." "Neiff Rhys Lewis ddim meddwl, tybed, am adael Miss Hughes yn yr helynt y mae hi ynddo yrwan? Mi fydd yn gywilydd i'w galon o os gwnaiff o." Fel yna y siaradai pobl. Meddyliai pawb am Miss Hughes, ac am a wyddwn i ni feddyliai neb am Rhys Lewis. Pam? Am na wyddai neb mai dymuniad penaf Abel oedd i mi fyned i'r coleg, ac am na ddywedodd efe wrth un enaid byw ond wrthyf fi fy hun na chawn fod mewn eisieu o geiniog tra y byddwn yno, ac am i mi ystyried bob amser Siop y Gornel, fel fy nghartref. Sylweddolais chwerwder y golled a gawswn yn ei farwolaeth, a theimlais fy hun yn unig a di-gefn. Gwyddwn fy mod yn hunangar, ond nid allwn ei helpio. Gwelwn fod fy nghynlluniau wedi eu dyrysu, ac ar y pryd meddyliwn nad oedd dim yn agored i mi i'w wneyd ond rhoi heibio y bwriad o fyned i'r coleg, ac ymroi ati gyda'r business drachefn. Yr un fynyd daeth gair Abel i fy meddwl, "Paid a dychymygu am siopa a phregethu," a meddyliais y byddai raid i mi roi heibio'r pregethu hefyd. Syrthiodd fy nghalon ynof. Nid oedd genyf ronyn o chwaeth at fasnach,<noinclude><references/></noinclude>
h4aglkb6bj05szwb9r1e4m99taizld1
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/343
104
86146
166568
2026-06-14T22:31:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166568
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ïe yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai—fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflasdod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill. Er's amser cyn ei farwolaeth caniatâi y rhyddid mwyaf i mi; ac ni fyddai yn gofyn i mi wneyd ond y nesaf peth i ddim yn y siop os gwelai efe fi yn ddiwyd gyda fy llyfrau, ac nad oeddwn yn segura. Ond erbyn hyn ofnwn fod yr holl drafferth a gymerasai efe gyda mi wedi myned yn ofer, ac fod fy holl ymdrechion innau wedi myned gyda'r gwynt. A mwyaf a feddyliwn am hyn, mwyaf oll a dosturiwn wrthyf fy hun, ac anmharotaf oeddwn i ddygymmod â'r drefn. Fel yr wyf wedi desgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn nôd pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr. Hen ferch syml a diniwed oedd hi, ac nid oedd yn debyg i'w brawd Abel mewn dim ond yn ei ffyddlondeb a'i charedigrwydd. Ni chymerasai ddim dyddordeb yn y pethau yr arferai Abel a minnau ymgomio yn eu cylch; a bum yn synu lawer gwaith wrth feddwl mor ddiamgyffred oedd hi am y pethau yr oedd ei brawd yn enwog ynddynt. Iddi hi nid oedd gwahaniaeth rhwng pregethwr a phregethwr; yr oeddynt oll yn dda, a dangosai gymaint o barch i'r lleiaf ag i'r mwyaf. Darllenai bennod o'r Bibl yn ei hystafell wely yn ddiffael bob nos, a chysgai yn dawel ar ol hyny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Sabboth, pryd yr arferai gymeryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain, ac yn union deg dechreuai bendympio. Ni wyddai Miss Hughes ond y nesaf peth iddim am y ''business'', ac ofnwn pan fu farw Abel na wyddai hi ond ychydig am ei amgylchiadau; ac eto yr oedd Miss Hughes yn fenyw dda ac yn llenwi y cylch y galwyd hi iddo yn rhagorol. Cadwai hi y tŷ yn lân a phrydferth, ac yr oedd ei lletygarwch yn ddiragrith i bawb a ddygid gan Abel o dan ei gronglwyd. Bu marwolaeth sydyn ei brawd yn ergyd drom iddi, a chydymdeimlwn yn ddwys â hi; ac felly y gwnai eraill fel yr oedd yn ymddangos; oblegid "llawer a ddaethant i'w chysuro hi am ei brawd." Wrth weled nifer yr ymwelyddesau—caredig a da eu hamcan yn ddiammheu—yr wyf yn meddwl ddarfod i mi wneuthur yn gall drwy ofyn i wraig synwyrol gymeryd gofal o Miss Hughes a'i chadw rhag cael ei boddi gan gydymdeimlad. Ac un o'r pethau sydd yn fforddio<noinclude><references/></noinclude>
7xwi77e070ep0qjhqk7fs4cmp0mu3k5
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/344
104
86147
166569
2026-06-14T22:37:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166569
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mwyaf o gysuri mi y fynyd hon ydyw, ddarfod i mi fy hun gario allan drefniadau claddedigaeth fy hen feistr er boddhâd pawb, heb ymgynghori a neb ond Dafydd Davis. Na, nid felly chwaith. Mae yn syn genyf gofio am yr ystâd freuddwydiol yr oeddwn ynddi ar y pryd. Gyda'r holl drefniadau, teimlwn o hyd fod fy hen feistr hoff yn fy ymyl; ac yr oeddwn megys yn gwneyd pobpeth yn ol ei orchymyn. Y diwrnod prudd hwnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweled y cannoedd pobl a ddaethant ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ol nad allai neb ei lenwi. Pan ddychwelai Dafydd Dafis a minnau o'r fynwent, dychymygwn glywed fy hen feistr yn dyweyd wrthym, "Thanciw, Rhys—thanciw, Dafydd Dafis; gwnaethoch yn dda," a Dafydd a minnau megys yn cydateb, "Yr hyn a ddylasem yn unig a wnaethom i ti."
Daeth Dafydd gyda mi i'r tŷ, ac eisteddasom yn yr hen gegin, canys yr oedd "gwragedd rai" gyda Miss Hughes yn y parlwr. [Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diammheu yr ystyrir fi yn ffol yn cofnodi pethau mor wirion.] Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gader ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hyny, a chymerodd y gader yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw. Yr oedd yr hen gader yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymhwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiweddaf bedwar diwrnod cyn y noswaith hono. Ni ddywedodd Dafydd hyny wrthyf, ac ni ddywedais innau wrtho ef; ond gwyddwn ein bod ein dau fel pe buasem o hyd yn dysgwyl i Abel ddyfod i mewn. Mor anhawdd ydyw sylweddoli ymadawiad bythol un fyddo wedi bod am flynyddoedd yn rhan o'n bywyd! Wedi siarad am y peth yma a'r peth arall, gofynodd Dafydd i mi yn y man pa beth a fwriadwn ei wneyd; a oeddwn yn ystyried mai doeth ynof o dan yr amgylchiadau oedd myned i'r coleg. Dywedais nad oeddwn yn barod i ateb y cwestiwn.
"Ni wnai neb dy feïo," ebe Dafydd, "am beidio myned i'r Bala yrwan—fel y mae pethe—Abel wedi 'i gymyd i ffwrdd yn sydyn—Miss Hughes wedi ei gadael yn unig—ac yn gwybod dim am y ''business''. Yn wir yr ydw i'n meddwl y meddyliai pobl fwy o honot<noinclude><references/></noinclude>
qiuhhhaktwugb6847fa75kimfvpf530
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/345
104
86148
166570
2026-06-14T22:41:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166570
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ti bydaet ti'n peidio myn'd. Be bydaet ti yn aros am flwyddyn eto i edrych sut y bydde pethe?"
Siaradai yn dyner a pherswadiol; ond aeth ei eiriau fel brâth i fy nghalon. Beth, meddwn, Dafydd Dafis yn fy annog i beidio myned i'r coleg! Teimlwn yn glwyfedig, ac ebe fi, dipyn yn gynhyrfus, "Dafydd Dafis, os nad af fi i'r athrofa yrŵan, nid af yno byth. Os gwelaf, ar ol i mi gael amser i ystyried y mater, mai fy nyledswydd ydyw aros yma, mi rof fling bythol i'r pregethu; ond os fel arall, nid all dim fy attal rhag myned yno. Ond heno nid ydwyf yn gweled yn eglur beth ydyw fy nyledswydd, ac nid wyf yn dewis siarad ar y mater."
"Gweddïa am oleuni, ynte," ebe Dafydd, a chododd i fyned adref. Ond cyn iddo fyned ymaith, cymerais ef i'r parlwr at Miss Hughes. Yr oedd ei chyfeillesau wedi ei gadael oddigerth y "wraig synwyrol," Nid oeddwn wedi cael ond ychydig siarad â hi er pan fu farw ei brawd. Yn ei thrallod gadawsai bobpeth yn fy llaw; a phan geisiwn ymgynghori a hi—"Y ti ŵyr ore," oedd yr unig beth a gawn ganddi. Yn ddigon naturiol, pan aethom i'w golwg torodd i wylo, ac nid allai ddyweyd dim am beth amser. Ac felly y gwnaethum innau, oblegid ar fy ngwir, er fy mod yn hunangar nid oeddwn yn galon—galed. Yn y man, ebe hi
"Dafydd Dafis, on'd ydi Rhys wedi gneyd yn dda? Roeddwn wastad yn 'i leicio fo—mae o'n gwbod 'i hun. Pan ddaeth o yma gynta, roedd o'n ''wicked'' iawn, ac Abel mor ''strict'', a mi fyddwn wastad yn cymyd 'i bart o, mae o'n gwbod. 'Nei di mo ngadel i i fyned i'r hen gollege ene, a 'nei di, Rhys?"
Atebodd Dafydd drosof, ac yr oeddwn yn ddiolchgar iddo" Mi gewch siarad am hyny eto, Miss Hughes," ac wedi ychwanegu ychydig o eiriau cysurus, aeth Dafydd ymaith.
Teimlwn yn druenus iawn y noswaith hono. Eisteddais wrth y tân yn y gegin am rai oriau yn synfyfyrio. Yr oedd yr hen gloc wedi sefyll, a phawb wedi bod yn rhy ddifater i'w osod i ail gychwyn. Ofnwn fod Rhagluniaeth yn dyweyd yn eglur nad oeddwn i fyned i'r coleg, ac os felly ei bod yn dyweyd ychwaneg—sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddau yn yr athrofa; a<noinclude><references/></noinclude>
iy2hz2trhn609jfz0b7oyzjul3odf32
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/346
104
86149
166571
2026-06-14T23:01:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166571
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>thybiwn y pryd hyny fod yn anmhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn. Syniwn os aroswn gyda Miss Hughes y byddai holl ofal y fasnach yn disgyn arnaf, oblegid nad oedd Jones ond math ''fixture'' defnyddiol. Buasai cyfrifoldeb y ''business'' yn cymeryd fy holl amser ymron, a buasai darllen a gwneyd pregethau allan o'r cwestiwn i mi. O'r ochr arall, os awn i'r athrofa, o ba le y cawn foddion cynnaliaeth? Nid allwn obeithio allu ennill gwobrwyon. Gwelwn y byddai i'r rhai hyny gael eu hennill gan fechgyn parchus a chefnog, y rhai a gawsent addysg dda yn more eu hoes. Ond cofiwn glywed rhai o'r bechgyn yn dyweyd eu bod yn gallu byw ar ychydig iawn yn y Bala; a meddyliwn y buasai yn dda genyf gael dangos iddynt y gallwn i fyw ar lai na neb o honynt. Oddieithr ychydig sylltau oeddynt yn rhydd yn fy mhoced, yr oedd yr holl arian a feddwn yn fy mhwrs. Pa faint oedd genyf? Cymerais y pwrs o fy mhoced, a gwaghêais ef ar fy llaw a rhoddais y pwrs ar y bwrdd. Cyfrifais fy eiddo yn fanwl: chwe' phunt mewn aur, a deg swllt a chwe' cheiniog mewn arian—yr wyf yn cofio yn dda. Pan oeddwn yn edrych ar fy eiddo ar gledr fy llaw ddehau, clywn Miss Hughes a'i chyfeilles yn dyfod ar hyd y passage i ganu nos dawch i mi cyn myned i'r gwely; a rhoddais fy nghyfoeth yn brysur yn fy mhoced, a gwthiais y pwrs o'r neilldu, rhag iddynt ganfod fy mod mor ddaearol fy myfyrdodau. Ymhen ychydig fynydau yr oedd y tŷ yn berffaith ddystaw; a thrachefn dechreuais bendroni ynghylch fy sefyllfa, a gofidio wrth feddwl fel yr oedd fy amgylchiadau a fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi newid yn hollol mewn llai nag wythnos a amser. Nis gwyddwn am ba hyd y buaswn yn pensynu, ond gwyddwn ei bod yn hwyr ar y nos, oblegid yr oedd pob twrw yn yr heolydd wedi darfod, ac ni chlywn ddim ond rhywun yn cerdded yn araf heibio cornel y tŷ. Meddyliwn mai yr heddgeidwad ydoedd, a chlywais ef yn pasio deirgwaith neu bedair. Gwyddwn nad allwn gysgu pe yr aethwn i'r gwely; a theimlwn erbyn hyn yn anesmwyth a chlaf fy nghalon. Credwn y buasai tro cyflym yn yr awyr agored yn llesol i mi, ac allan a mi yn ddystaw, gan gloi y drws yn ofalus ar fy ol. Yr oedd yn noswaith hyfryd a dymunol—leuad—oleu—a'r awyr yn iach a theneu, heb fod yn oer, ac y mae mân ddygwyddiadau y noswaith yn fyw iawn yn fy nghof. Teyrnasai dystawrwydd dwfn yn yr ystrydoedd fel pe buasai yr holl drigolion wedi marw.<noinclude><references/></noinclude>
2jl75nqzc7hqwqiw1f1it734e4ulbuo
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/347
104
86150
166572
2026-06-14T23:05:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166572
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Troais i lawr un heol, ac i fyny heol arall, fel pe buaswn yn cyfeirio i rywle neillduol, er nad oeddwn felly. Yn yr ail heol gwelwn oleuni yn ffenestr lloft tŷ bychan, a chofiais fod yno ferch ieuainc yn glaf iawn. Oedd, meddyliwn, yr oedd hi yn waeth arni na mi; ac yr oedd eraill o'i chwmpas nad allent roi cwsg i'w llygaid gan bryder ac "amlder eu meddyliau o'u mewn." Wrth fyned ymlaen, clywn sŵn yn y pellder, a gwrandewais—sŵn berfa ar balmant ydoedd a deallais mai "Ned Barod" oedd wrth ei nos-orchwyl. Yn y nos y gweithiai Ned bob amser, ac yn y nos yr oedd raid gwneyd ei waith ef. Am fwy nag un rheswm cymerais gyfeiriad arall, ac yr wyf yn cofio i gath wén groesi fy llwybr fel ysbryd. Prysurais ymlaen, a chyn i mi gyrhaedd pen y brif heol cyfarfyddais â dyn bychan ysgafn a het feddal am ei ben, a'i thu blaen wedi ei thynu yn lled isel dros ei lygaid. Ymddangosai fel tramp blinedig a chaled arno. Cyferchais ef gyda "nos dawch," ond nid atebodd, ac ni feddyliwn yn waeth o hono am hyny; canys dichon, meddwn wrthyf fy hun, ei fod yn lluddedig a gwâg ei ystumog, ac wedi digio wrth galedwch y byd, ac yn rhy flin a difater i ateb, a'i fod yn dyweyd ynddo ei hun, "Beth mae dy nos dawch' di da os na roi di rywbeth imi?" Yr oeddwn yn union deg tu allan i'r dref, ac ni welais un creadur arall oddieithr mul William y glo yn pori ar y clawdd. Gwyddwn cyn i mi ddyfod ato, wrth drwst y llyffethair, mai mul William ydoedd. Cofus genyf fod "Duke" o dueddiadau crwydrol, a byddai William yn gorfod rhoi llyffethair arno er mwyn ei gadw o fewn terfynau ei blwyf ei hun. Yr oedd Duke yn prysur bori, ac yn ysgwyd ei ben yn bwysleisiol, fel pe buasai yn ymresymu rhywbeth yn ei feddwl mewn dull nacäol; oblegid yr adeg hono ar y nos nid oedd yn bosibl fod y gwibed yn ei flino. Pan glywodd Duke fi yn agosâu, rhoes heibio bori, gorphwysodd clicied ei ên ar ganol bwyta tamaid, ac ymddangosai yn synu os oedd William wedi dyfod i'w nol mor gynnar, a chododd ei ddwy glust i fyny fel dau ryfeddnod!! Pa fodd bynag, pan welodd ei gamgymeriad, aeth Duke ymlaen gyda'i bori a'i ''argument''. Ac felly yr euthum innau ymlaen. Meddyliwn am y peth yma a'r peth arall, ond deuwn o hyd adref ataf fy hun. Yr oeddwn yn ymwybodol o awydd dwfn a gonest am wybodaeth a bod o ryw wasanaeth i Dduw a dyn, ac eto yr oedd pobpeth fel pe buasai yn fy ngorfodi ac yn fy ngwthio tu ol i'r counter am fy oes i werthu<noinclude><references/></noinclude>
kaelim7m1uvf3skj8iz0qqo2gftrw72
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/348
104
86151
166573
2026-06-14T23:08:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166573
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brethynau, gwlaneni, a chalico. Ceisiwn ymgysuro ac edrych ar bethau mewn gwedd arall. Pa bwys ydoedd? Nid oedd prinder dynion ieuainc rhagorach na mi i'r weinidogaeth, ac mewn amgylchiadau manteisiol i barotoi eu hunain i'r gwaith. Edrychwn ar yr wybren anferth uwch fy mhen wedi ei thryfritho a ser. Pa wahaniaeth wnai hyny, meddyliwn, pe gordôai tywyllwch bythol y seren fechan acw yn y pellder draw? Ni wyddai neb ei cholli. Eto mae hi yn edrych yn brydferth wrth ddysgleirio, a diammheu ei bod yn gwasanaethu rhywun neu rywbeth. Oes, y mae ychydig gymylau yn yr wybren las. Mor hardd y mae y lloer ganaid yn tywynu! Ond dacw gwmwl yn dyfod drosti ac yn ei chuddio yn llwyr. Mor debyg yn awr ydyw hi i mi! Ond gwelaf fod y cwmwl yn myned heibio—mae un darn o'i hwyneb eisoes yn y golwg—ïe, dyna y cwmwl wedi ei gadael yn glir, ac y mae y lloer fwyn yn ddysgleiriach nag o'r blaen. A all y cwmwl fyned heibio i minnau, tybed? Pobpeth sydd bosibl iddo Ef. Y cyfryw oedd y meddyliau aent drwy fy nghalon, pryd y dychymygwn glywed rhywun yn cerdded tu ol i mi. Edrychais yn ol, ond ni welwn neb. Troais yn sydyn ar fy sawdl, a chyfeiriais tua chartref. Nid oeddwn wedi myned nemawr latheni pryd y gwelwn ddyn yn codi o ochr y clawdd ac yn cerdded i fy nghyfarfod. Canfyddais mai y tramp a gyfarfuaswn ar y ffordd ydoedd; ond yn awr nid ymddangosai yn flinedig o gwbl. Nid oedd cantel ei het mwyach yn cuddio ei lygaid. Credwn fod ganddo ddrwgfwriad tuag ataf, a meddyliais am ddianc—ond beth a wyddwn i pa arfau oedd ganddo? a thybiais mai doethach oedd ei wynebu a gwneyd y goreu o'r gwaethaf. Pan ddaethom i wynebau ein gilydd, adwaenais ef yn y fynyd, ac ebe fe
"Rhaid i ti beidio meddwl mai rhy falch i siarad hefot ti oeddwn i gynne wrth beidio d'ateb di. Na, na, fydda i byth yn rhy falch i onio fy nheulu; ond mi fyddaf yn cymyd gofal i beidio lorio fy hun drwy siarad hefo pob sort. Wel, sut"
"F'ewythr," ebe fi, gan dori ar ei stori ynfyd—"a ydych yn cofio beth ddywedais wrthych y tro diweddaf y gwelais chwi?"
"Nos dawch," ebe fe.
"Gwyddoch nad at gynnau yr wyf yn cyfeirio," ebe fi. "A ydych yn cofio beth ddywedais wrthych yn ngardd Niclas y Garth ddu?"
"Wel, aros di, dydi ngho i ddim yn ddrwg. Beth oedd o hefyd?<noinclude><references/></noinclude>
1dxxu91jt5t4teopv2gtxho5io6sh6y
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/349
104
86152
166574
2026-06-14T23:15:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166574
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"O! 'rwyf yn cofio rwan—y rhoet ti sofren i mi y tro nesaf y gwelit ti fi. Fel y mae dyn yn anghofio pethau!"
"Gwyddoch yn amgenach," ebe fi, "ac mai hyny ddywedais i wrthych—os byth y dangosech eich wyneb yn y gymydogaeth yma wed'yn y rhown chwi yn llaw y ''police,'' ac mi wnaf hyny hefyd."
"Bosh!" ebe efe yn ddiystyrllyd. "Drycha di? Pan fyddi di eisio gwneyd ''good aim'', paid byth a chymyd gwn dau faril. Dyna ydi anfantais revolver. Dydi o dda i ddim blaw i short range. Ydw i ddim yn ewyrth i ti, frawd dy dad? I bwy y byddai y ''disgrace'' pe rhoit fi yn llaw y ''police''? I James Lewis, ynte Rhys Lewis? Be mae James Lewis yn hidio am ''disgrace''; ond mi wni am ryw ''proud chap'' na leicie fo mono ''at all''. Eh? Ond does gen i ddim eisio ffraeo â ti. Dydi o ddim yn beth ''respectable'' i berthnasau ffraeo â'u gilydd. ''Let bygones be bygones''. Ac mae'r hen Abel wedi myn'd i'w ateb, ydi o? Yr hen gyb, mi fydd ganddo lot i'w ateb hefyd, fel y bydd gen innau."
"Dyma i chwi, fewyrth," ebe fi, "gwell gen i i chwi fy lladd na'ch clywed yn siarad yn anmharchus am fy hen feistr caredig."
"Wel, wel," ebe fe, "does gen i ddim isio brifo dy deimlade di. Job iawn i ti oedd i Abel i glowi hi; y ti fydd y bos rwan, achos be wyr yr hen ferch a'r ''born idiot'' gan Jones am y ''business''? Os na wnei di dy ffortun yrŵan, arnat ti fydd y bai, a mi obeithia na fyddi di ddim yn ''shabby'' hefo finnau. Y fi ydi'r unig berthynas sydd gynat ti rwan; ac yr ydw i wedi bod yn reit anlwcus yn ddiweddar. Chês i run ''haul'' ers gwn i pryd, a fu ond y dim na faswn wedi fy nabio yr wythnos diwaetha. Mi fu raid i mi ymladd fel {{bar|3}}."
"Fedra i ddim dyoddef eich siarad annuwiol chwi, fewyrth, a rhaid i mi eich gadael," ebe fi.
"Dydw i ddim isio i ti gymryd ''apartments'' hefo fi, achos mi fydde hyny yn golled i ti ac i minnau; ond rydw i isio pres, a phres raid i mi gael neu starfio. Hwyrach nad oes gynat ti ddim llawer hefot ti heno, ond mi fedraf ddwad acw yrŵan ac yn y man gan mai ti fydd y bos, achos mi welaf dy fod di yn ''late bird'' fel finnau."
"Tra y byddaf fi acw ni chewch roi ei eich troed o fewn y tŷ," ebe fi. "Ac heblaw hyny yr wyf can dloted a chwithau."
"Dy fai di ydi hyny," ebe fe. "Bydaset ti heb lyncu y lol botes<noinclude><references/></noinclude>
0ccghjp36v8287nqe2orkrmpqq3yrr6
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/350
104
86153
166575
2026-06-14T23:19:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166575
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Q
oedd dy fam yn ei ddysgu i ti, faset ti ddim yn dlawd. Faswn i ddim yn dlawd cawswn i dy ''chance'' di."
Rhaid i mi ddyweyd y gwir yn onest, pan soniodd efe am y "lol botes a ddysgodd fy mam i mi," teimlwn ar y fynyd y gallaswn ei lindagu gyda phleser; a bu raid i mi gosbi fy hun i beidio rhuthro i'w wddf. Yr oeddwn yn y fath ymdrech yn llywodraethu fy natur lygredig fel nad allwn siarad am fynyd. Pan ellais feddiannu fy hun—Duw faddeuo i mi fy ngeiriau ynfyd—dywedais wrtho,
"Y ''scoundrel''! os dywedwch un gair anmharchus arall am fy mam mi'ch tynaf chwi yn gareïau! Dysgodd fy mam fi i fyw yn onest."
Pan oeddwn yn dyweyd y geiriau hyn, ciliodd fy ewythr yn ol ryw ddwylath neu dair, edrychodd arnaf yn synedig, a gwelwn ef yn ffymblo ei bocedau. Ni ddychrynais; ac yr oeddwn yn eithaf bodd lawn i syrthio yn aberth i'w lid wrth amddiffyn cymeriad y fam oreu yn y byd, yn ol fy meddwl i. Ar ol mynyd o ddystawrwydd, ebe efe yn berffaith hunanfeddiannol,
"Mae'n dda gen i wel'd tipyn o ''pluck'' y teulu gynot ti. Roeddwn i'n wastad yn meddwl mai tipyn o ''chicken'' oeddet ti. Yr ydw'n meddwl mwy o honot ganwaith rwan. Os dywedes i rywbeth ammharchus am dy fam yr ydwi'n apologisio. Rodd dy fam yn ''good sort'' yn 'i ffordd hi, a mi wnaeth ambell i gymwynas i mi. Pam rwyt ti wastad isio ffraeo â fi? Gad ini fod yn ''chums''. Dyna lle roedd dy dad yn dy guro di, roedd o mor ''cool'' â meipen. Mae'n ddrwg gen i os ydw i wedi dy ddigio di; a mi wyddost fy neges. Yr ydw i isio pres, does gen i ddim i gael bwyd, a mi wn y leiciet ti'n nghadw i rhag gwneyd drwg."
"Nid oes genyf eisieu gwneyd dim â chwi," ebe fi. "Dywedwch pa ffordd yr ydych am fynd, a mi af finnau ffordd arall. Ni cherddaf gam gyda chwi."
''"Agreed,"'' ebe fe, "ond dyro i mi hyny sydd gynat—hwyrach nad oes gynat ti ddim llawer hefot ti."
Yr oeddwn yn fab fy mam, fel y dywedais o'r blaen. Meddyliwn nad oedd genyf ond ychydig sylltau ymysg ychydig bres yn rhydd yn fy mhoced, a gwaghëais hi iddo. Diolchodd i mi, ac aeth yn ei flaen, ac aethum innau gartref.
Yr oedd fy nghyfarfyddiad âg ef wedi creu penderfyniad ynof er's<noinclude><references/></noinclude>
58a79idhxnl6e2pqlim7guoi2sztu24
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/351
104
86154
166576
2026-06-14T23:23:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166576
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meityn. Bellach ni feiddiwn aros gartref i gael fy mlino gan y creadur melldigedig hwn. Teimlwn ei fod wedi cael y llaw uchaf arnaf, a'i fod yn deall fy ngwendid, ac na feiddiwn ei roddi yn nwylaw yr awdurdodau heb ddwyn fy hunan i warth. Yr oedd yn amlwg nad oedd efe yn gwybod fy mod yn pregethu; ac wrth i mi fyned i'r coleg byddai iddo golli y scent arnaf, ac ni feiddiai wneyd ymholiad am danaf. Credwn mai Rhagluniaeth oedd wedi fy nwyn i wyneb y dyhiryn y noson hono, a'i bod yn fy annog i daflu fy hunan i'w breichiau; a phenderfynais wneyd hyny, a myned i'r coleg deued a ddeuo. A theimlwn yn ddiolchgar wrth feddwl pan fyddwn gyda'r bechgyn yn y coleg na wyddai neb o honynt fy hanes, er nad allwn i ddim wrth fy nghysylltiadau teuluaidd. Ac hwyrach, meddwn, fod gan ambell un o honynt hwythau ei hanes na ddymunai i neb ei wybod. Wedi gwneyd fy mhenderfyniad, teimlwn yn hapus ac yn fy elfen. Yn wir. yr oeddwn mor ddedwydd fel yr oeddwn yn gallu mwynhau yr olwg wahanol oedd ar "Duke" pan oeddwn yn myned heibio iddo. Yr oedd yr hen frawd wedi ei ddigoni, ac yn hepian ar ei sefyll, ac un goes iddo yn gorphwys yn llac, a'i ben yn isel a llonydd, fel pe buasai wedi cario ei bwynt yn yr ''argument'' er's meityn. Meddyliwn fod gan Duke ei 'stori fel finnau pe gallasai ei hadrodd, ac i ragflaenu eraill—un fwy dyddorol hwyrach. Cerddais ymlaen yn gyflym ac aethum i'r tŷ mor ddystaw ag y medrwn. Pan oleuais y gas, un o'r pethau cyntaf a welais oedd fy mhwrs ar y naill ochr i'r bwrdd. Cymerais ef i fyny; yr oedd yn wag! Och fi! yr oeddwn wedi rhoi pob dimai oedd ar fy helw i'r "Gwyddel," fel y galwn ef pan oeddwn yn hogyn. Sylweddolais fy sefyllfa gyda gofid. Yr oeddwn wedi penderfynu myned i'r coleg, ac nid oedd genyf geiniog hyd yn nôd tuag at dalu am fy nghludiad yno! Sefais yn syn a thrist ar ganol llawr y gegin, lle yr annogodd Abel Hughes fi lawer gwaith i ymddiried yn Nuw. Meddyliwn ei fod yn fy mhrofi yn galed. Eisteddais, a rhoddais fy mhen rhwng fy nwylaw ar y bwrdd, ac wylais fy llygaid allan ymron.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
o01wpfse123olz8644rgc0nb676knxw
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/352
104
86155
166577
2026-06-15T00:04:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166577
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XXXVI.<br>Cymeriad Adnabyddus.}}}}
YR wyf yn edrych ar y noswaith y ceisiais ei desgrifio yn y bennod ddiweddaf fel un o nosweithiau mawr fy mywyd bychan i. Teimlwn yn unig a digefn, ac fod pobpeth wedi ymgynghreirio i fy amddifadu o'r hyn yr oeddwn wedi gosod fy nghalon arno. Ofnais nad oeddwn yn ffafr Duw, ac nad oedd fy argyhoeddiadau a fy holl ymwneyd â chrefydd ond ffug a rhagrith. Heb wenieithio i mi fy hun, gwyddwn fy mod fel pregethwr yn weddol gymeradwy gyda dynion; ond paham, gofynwn, y mae Duw yn ei ragluniaeth fel pe byddai yn gosod pob rhwystr ar fy ffordd? Gallaf ddyweyd yn groew a gonest nad oeddwn yn ariangar, a bod meddylfryd fy nghalon ar bregethu a chymhwyso fy hun a chael fy nghymhwyso i'r gwaith; ac eto yr oeddwn yn gorfod teimlo nad allwn wneyd dim heb arian, ac yr oeddwn o herwydd fy ffolineb. "can dloted a llygoden eglwys." Meddyliaswn can lleied am arian fel nad oeddwn wedi dysgu cymeryd gofal o honynt. Fel y dywedais o'r blaen, credwn fod ynof awydd dwfn am fod yn ddefnyddiol yn fy nydd a fy nhymmor; ac erbyn hyn nid oedd genyf geiniog ar fy helw i gymhwyso fy hun at hyny. Meddyliwn, mewn ysbryd grwgnachlyd y mae arnaf ofn, am ugeiniau o ddynion a adwaenwn oeddynt yn berwi mewn arian, ac heb erioed ddychymygu am wasanaethu neb ond eu hunain, a daeth gair Wil Bryan i fy nghof yn rymus—"Yr hen bocedau! dydyn nhw ddim ond ''intelligent pigs!'' Mae'n rhaid, wel di, nad ydi y Brenin mawr yn rhoi llawer o ''value'' ar arian ne fase fo ddim yn rhoi cymin o honyn nhw i'r cacimwcwns;" ac ychwanegai—"Syr, medde Mr. Fox, mae nhw'n sur?"
Daeth gofyniad i fy meddwl yn sydyn, a oeddwn i, tybed, wedi arfer ymddiried gormod i Abel Hughes, ac a oedd Rhagluniaeth, drwy fy niosg o bob cynnorthwy, yn fy annog i daflu fy hun fel yr oeddwn i'w breichiau? Ymddangosai yn rhyfyg ynof feddwl am fyned i'r Athrofa heb ddim o fy nghwmpas oddieithr cyflawnder o ddillad ac ychydig lyfrau. Cofiwn am y gŵr y soniasai Thomas Bartley am dano, yr hwn, ar ol ymddiried yn Rhagluniaeth, a fu farw yn ''workhouse'' Treffynnon. Pa fodd bynag, penderfynais wneyd<noinclude><references/></noinclude>
lzs2hjgzzxqz5adsdme8jx1lfjqh5pz