Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.6
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/33
104
33246
166580
166579
2026-06-16T10:15:44Z
~2026-35210-08
4160
166580
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Do, bu Lewys a minnau yng nghanol yr haid un noson, ac y mae ef druan ar hyn o bryd gartref yn gwella o'i glwyfau."
Yr oedd yn ddrwg gan Syr Robert glywed am anffawd y ceffyl du. Ac wedi holi ymhellach, a chael hanes yr ymgiprys, dywedodd mewn hanner cellwair, "Ond ni thalodd eich cymdoges deg ymweliad â chwi yng Nghymunod hyd yma?"
"Na wnaeth. Ac fel eraill, yr wyf wedi mynd i ddechrau credu mai enw yn unig yw Madam Wen."
Chwarddodd y barwnig yn iach "Onibai," meddai, "eich bod wedi treulio blynyddoedd allan o'ch gwlad buasai'ch ffydd yn gryfach bod Madam Wen yn fwy nag enw'n unig. Hir y cadwo hi chwi heb y praw." Tybiai Morys y clywai ryw atsain o ddifrifoldeb yng ngeiriau Syr Robert, er fod ei ddull yn ysgafn. Dyna wnaeth iddo ofyn i'r barwnig adrodd iddo sut yr oedd hi wedi ennill cymaint o anfri.
"Mae'n hysbys i bawb ei bod hi'n ddychryn i wŷr y brenin,' meddai'r barwnig, "a'r casgliad ydyw nad ydyw yn elyn i ladron môr a mynydd, nac i gêl—fasnachwyr glannau'r môr." Wrth glywed hynny daeth Tafarn y Cwch ag wyneb cyfrwys—gall Siôn Ifan yn fyw i feddwl Morys. Ond gofynnodd i'w gydymaith fyned ymlaen efo'r hanes.
"Os wy'n cofio'n iawn, mae ganddi ryw gweryl personol a'i gwna'n wrthryfelydd digymod yn erbyn deddf a rheol. Dywedir amdani mai merch lân o berson ydyw, y tu hwnt i'r cyffredin mewn dysg a gwybodaeth. Clywais ddywedyd mai ei harfer yw ysbeilio'r cyfoethog er difyrrwch, ac yna helpu'r tlawd o'r ysbail."
Hwyrach mai dyna'r esboniad sydd i'w roddi ar ddistawrwydd syn rhai o'r bobl acw o berthynas iddi hi a'i gweithredoedd," meddai Morys.
Digon tebyg. Mae tu hwnt i amheuaeth y bydd yr haid sydd yn ei dilyn yn cymryd gwibdaith dros yr afon ar adegau. Clywais sôn amdanynt cyn belled<noinclude><references/></noinclude>
dcvrzwnpk7lr303ytgwv0wwfrblxulv
166581
166580
2026-06-16T11:35:27Z
~2026-35210-08
4160
166581
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Do, bu Lewys a minnau yng nghanol yr haid un noson, ac y mae ef druan ar hyn o bryd gartref yn gwella o'i glwyfau."
Yr oedd yn ddrwg gan Syr Robert glywed am anffawd y ceffyl du. Ac wedi holi ymhellach, a chael hanes yr ymgiprys, dywedodd mewn hanner cellwair, "Ond ni thalodd eich cymdoges deg ymweliad â chwi yng Nghymunod hyd yma?"
"Na wnaeth. Ac fel eraill, yr wyf wedi mynd i ddechrau credu mai enw yn unig yw Madam Wen."
Chwarddodd y barwnig yn iach "Onibai," meddai, "eich bod wedi treulio blynyddoedd allan o'ch gwlad buasai'ch ffydd yn gryfach bod Madam Wen yn fwy nag enw'n unig. Hir y cadwo hi chwi heb y praw." Tybiai Morys y clywai ryw atsain o ddifrifoldeb yng ngeiriau Syr Robert, er fod ei ddull yn ysgafn. Dyna wnaeth iddo ofyn i'r barwnig adrodd iddo sut yr oedd hi wedi ennill cymaint o anfri.
"Mae'n hysbys i bawb ei bod hi'n ddychryn i wŷr y brenin," meddai'r barwnig, "a'r casgliad ydyw nad ydyw yn elyn i ladron môr a mynydd, nac i gêl—fasnachwyr glannau'r môr." Wrth glywed hynny daeth Tafarn y Cwch ag wyneb cyfrwys—gall Siôn Ifan yn fyw i feddwl Morys. Ond gofynnodd i'w gydymaith fyned ymlaen efo'r hanes.
"Os wy'n cofio'n iawn, mae ganddi ryw gweryl personol a'i gwna'n wrthryfelydd digymod yn erbyn deddf a rheol. Dywedir amdani mai merch lân o berson ydyw, y tu hwnt i'r cyffredin mewn dysg a gwybodaeth. Clywais ddywedyd mai ei harfer yw ysbeilio'r cyfoethog er difyrrwch, ac yna helpu'r tlawd o'r ysbail."
Hwyrach mai dyna'r esboniad sydd i'w roddi ar ddistawrwydd syn rhai o'r bobl acw o berthynas iddi hi a'i gweithredoedd," meddai Morys.
Digon tebyg. Mae tu hwnt i amheuaeth y bydd yr haid sydd yn ei dilyn yn cymryd gwibdaith dros yr afon ar adegau. Clywais sôn amdanynt cyn belled<noinclude><references/></noinclude>
qtjsii90f7p1jspvl6f83odi30xlucj