Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.7
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/33
104
33246
166582
166581
2026-06-16T12:07:08Z
~2026-35210-08
4160
166582
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Do, bu Lewys a minnau yng nghanol yr haid un noson, ac y mae ef druan ar hyn o bryd gartref yn gwella o'i glwyfau."
Yr oedd yn ddrwg gan Syr Robert glywed am anffawd y ceffyl du. Ac wedi holi ymhellach, a chael hanes yr ymgiprys, dywedodd mewn hanner cellwair, "Ond ni thalodd eich cymdoges deg ymweliad â chwi yng Nghymunod hyd yma?"
"Na wnaeth. Ac fel eraill, yr wyf wedi mynd i ddechrau credu mai enw yn unig yw Madam Wen."
Chwarddodd y barwnig yn iach "Onibai," meddai, "eich bod wedi treulio blynyddoedd allan o'ch gwlad buasai'ch ffydd yn gryfach bod Madam Wen yn fwy nag enw'n unig. Hir y cadwo hi chwi heb y praw." Tybiai Morys y clywai ryw atsain o ddifrifoldeb yng ngeiriau Syr Robert, er fod ei ddull yn ysgafn. Dyna wnaeth iddo ofyn i'r barwnig adrodd iddo sut yr oedd hi wedi ennill cymaint o anfri.
"Mae'n hysbys i bawb ei bod hi'n ddychryn i wŷr y brenin," meddai'r barwnig, "a'r casgliad ydyw nad ydyw yn elyn i ladron môr a mynydd, nac i gêl—fasnachwyr glannau'r môr." Wrth glywed hynny daeth Tafarn y Cwch ag wyneb cyfrwys—gall Siôn Ifan yn fyw i feddwl Morys. Ond gofynnodd i'w gydymaith fyned ymlaen efo'r hanes.
"Os wy'n cofio'n iawn, mae ganddi ryw gweryl personol a'i gwna'n wrthryfelydd digymod yn erbyn deddf a rheol. Dywedir amdani mai merch lân o berson ydyw, y tu hwnt i'r cyffredin mewn dysg a gwybodaeth. Clywais ddywedyd mai ei harfer yw ysbeilio'r cyfoethog er difyrrwch, ac yna helpu'r tlawd o'r ysbail."
"Hwyrach mai dyna'r esboniad sydd i'w roddi ar ddistawrwydd syn rhai o'r bobl acw o berthynas iddi hi a'i gweithredoedd," meddai Morys.
Digon tebyg. Mae tu hwnt i amheuaeth y bydd yr haid sydd yn ei dilyn yn cymryd gwibdaith dros yr afon ar adegau. Clywais sôn amdanynt cyn belled<noinclude><references/></noinclude>
nnbzh4rgn9juw0p8zhzkxjk0bek7oiw
166583
166582
2026-06-16T12:17:03Z
~2026-35210-08
4160
166583
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Do, bu Lewys a minnau yng nghanol yr haid un noson, ac y mae ef druan ar hyn o bryd gartref yn gwella o'i glwyfau."
Yr oedd yn ddrwg gan Syr Robert glywed am anffawd y ceffyl du. Ac wedi holi ymhellach, a chael hanes yr ymgiprys, dywedodd mewn hanner cellwair, "Ond ni thalodd eich cymdoges deg ymweliad â chwi yng Nghymunod hyd yma?"
"Na wnaeth. Ac fel eraill, yr wyf wedi mynd i ddechrau credu mai enw yn unig yw Madam Wen."
Chwarddodd y barwnig yn iach "Onibai," meddai, "eich bod wedi treulio blynyddoedd allan o'ch gwlad buasai'ch ffydd yn gryfach bod Madam Wen yn fwy nag enw'n unig. Hir y cadwo hi chwi heb y praw." Tybiai Morys y clywai ryw atsain o ddifrifoldeb yng ngeiriau Syr Robert, er fod ei ddull yn ysgafn. Dyna wnaeth iddo ofyn i'r barwnig adrodd iddo sut yr oedd hi wedi ennill cymaint o anfri.
"Mae'n hysbys i bawb ei bod hi'n ddychryn i wŷr y brenin," meddai'r barwnig, "a'r casgliad ydyw nad ydyw yn elyn i ladron môr a mynydd, nac i gêl—fasnachwyr glannau'r môr." Wrth glywed hynny daeth Tafarn y Cwch ag wyneb cyfrwys—gall Siôn Ifan yn fyw i feddwl Morys. Ond gofynnodd i'w gydymaith fyned ymlaen efo'r hanes.
"Os wy'n cofio'n iawn, mae ganddi ryw gweryl personol a'i gwna'n wrthryfelydd digymod yn erbyn deddf a rheol. Dywedir amdani mai merch lân o berson ydyw, y tu hwnt i'r cyffredin mewn dysg a gwybodaeth. Clywais ddywedyd mai ei harfer yw ysbeilio'r cyfoethog er difyrrwch, ac yna helpu'r tlawd o'r ysbail."
"Hwyrach mai dyna'r esboniad sydd i'w roddi ar ddistawrwydd syn rhai o'r bobl acw o berthynas iddi hi a'i gweithredoedd," meddai Morys.
"Digon tebyg. Mae tu hwnt i amheuaeth y bydd yr haid sydd yn ei dilyn yn cymryd gwibdaith dros yr afon ar adegau. Clywais sôn amdanynt cyn belled<noinclude><references/></noinclude>
fch0nrrl0w7drqilmf5y7pzevns7ip1
Tudalen:Madam Wen.djvu/34
104
33247
166584
69038
2026-06-16T12:37:16Z
~2026-35210-08
4160
166584
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>â chyrrau eithaf Llŷn, a byddant yn fynych yn Arfon ac Eifionydd. Cenawon beiddgar ydynt, ufudd i'w gorchymyn lleiaf, a hynny, meddir, nid yn hollol er mwyn elw iddynt eu hunain, ond oherwydd y dylanwad rhyfedd sydd ganddi arnynt."
"Rhyfedd iawn," meddai Morys, amheus hefyd."
"Gall mai ie," atebodd Syr Robert. "Tebyg nad ydyw'r dyhirod heb elwa ar eu ffyddlondeb iddi, achos cyfrifir iddi, ymysg pethau eraill anghyffredin, ryw uniondeb rhyfedd er gwaethaf pob camwri arall ynddi. Dywedir amdani y bydd yn dal clorian deg rhwng y smugglers a'u cwsmeriaid, a gwae fydd i hwnnw, boed was boed estron, a amcano dwyllo yn ei henw hi."
Ar hyn daeth y ddau i'r neuadd eang, lle yr oedd llawer o'r gwahoddedigion eisoes wedi ymgynnull ar gyfer y ddawns. Tynnai person ac arddull Morys sylw llawer, ac am ysbaid bu'r barwnig yn brysur yn cyflwyno'r gŵr ieuanc i rai nad oeddynt yn ei adnabod. Yr oedd yno eraill oedd yn hen gydna— byddion iddo, er bod amser wedi cyfnewid llawer arno ef ac arnynt hwythau.
Difyr oedd cymdeithas o'r fath, a boddhad oedd gweled gwisgoedd amryliw'r dynion a chlywed siffrwd sidanau gorwych y merched. Saesneg oedd ar bob gwefus o'r bron, ac nid oedd ryfedd i Morys droi yn chwim wrth glywed rhywun yn ei ymyl yn siarad Cymraeg dilediaith, mewn llais dymunol.
Gwelodd ddau lygad chwareus y tu ôl i wyntyll o ifori, a syllodd ar eu perchen mewn edmygedd mud; syllodd mor hir nes ofni ei fod yn ddifoes wrth wneuthur hynny. Ond ni bu'n hir wedyn heb gael yswain y Penrhyn i'w gyflwyno i'r ferch harddaf a welsai erioed.
"Morys Williams o Gymunod ym Môn," meddai Syr Robert, a gwenodd hithau wrth ymgrymu.
Ac wrth Morys, "Eich cares, Einir Wyn..."
"O le yn y byd!" ychwanegodd hithau ar ei draws yn ddireidus.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tw1np8t9ac3axu648juwpj482vtv9i4