Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.7 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/34 104 33247 166585 166584 2026-06-17T14:40:42Z ~2026-35527-39 4161 166585 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>â chyrrau eithaf Llŷn, a byddant yn fynych yn Arfon ac Eifionydd. Cenawon beiddgar ydynt, ufudd i'w gorchymyn lleiaf, a hynny, meddir, nid yn hollol er mwyn elw iddynt eu hunain, ond oherwydd y dylanwad rhyfedd sydd ganddi arnynt." "Rhyfedd iawn," meddai Morys, amheus hefyd." "Gall mai ie," atebodd Syr Robert. "Tebyg nad ydyw'r dyhirod heb elwa ar eu ffyddlondeb iddi, achos cyfrifir iddi, ymysg pethau eraill anghyffredin, ryw uniondeb rhyfedd er gwaethaf pob camwri arall ynddi. Dywedir amdani y bydd yn dal clorian deg rhwng y smugglers a'u cwsmeriaid, a gwae fydd i hwnnw, boed was boed estron, a amcano dwyllo yn ei henw hi." Ar hyn daeth y ddau i'r neuadd eang, lle yr oedd llawer o'r gwahoddedigion eisoes wedi ymgynnull ar gyfer y ddawns. Tynnai person ac arddull Morys sylw llawer, ac am ysbaid bu'r barwnig yn brysur yn cyflwyno'r gŵr ieuanc i rai nad oeddynt yn ei adnabod. Yr oedd yno eraill oedd yn hen gydnabyddion iddo, er bod amser wedi cyfnewid llawer arno ef ac arnynt hwythau. Difyr oedd cymdeithas o'r fath, a boddhad oedd gweled gwisgoedd amryliw'r dynion a chlywed siffrwd sidanau gorwych y merched. Saesneg oedd ar bob gwefus o'r bron, ac nid oedd ryfedd i Morys droi yn chwim wrth glywed rhywun yn ei ymyl yn siarad Cymraeg dilediaith, mewn llais dymunol. Gwelodd ddau lygad chwareus y tu ôl i wyntyll o ifori, a syllodd ar eu perchen mewn edmygedd mud; syllodd mor hir nes ofni ei fod yn ddifoes wrth wneuthur hynny. Ond ni bu'n hir wedyn heb gael yswain y Penrhyn i'w gyflwyno i'r ferch harddaf a welsai erioed. "Morys Williams o Gymunod ym Môn," meddai Syr Robert, a gwenodd hithau wrth ymgrymu. Ac wrth Morys, "Eich cares, Einir Wyn..." "O le yn y byd!" ychwanegodd hithau ar ei draws yn ddireidus. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9vlkigf30vzglv05eojwtg5cfospqdk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/353 104 86156 166586 2026-06-17T20:38:24Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166586 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy ngoreu gyda'r gwaith y dechreuaswn arno; a cheisiwn gredu y byddai i Dduw yn fuan roddi goleuni i mi ar fy amgylchiadau. Yn fore iawn drannoeth, hysbysais Miss Hughes am fy mhenderfyniad i fyned i'r Coleg. Yr oedd wedi ei syfrdanu! nid oedd yn credu, meddai, y gallaswn fod mor greulawn tuag ati. Ceisiais ymresymu â hi, ond nid oedd hyny o un dyben. Drwy ei chalon yr edrychai Miss Hughes ar bobpeth, ac nid drwy ei rheswm. Cynnygiodd i mi gyflog da os aroswn gyda hi; ond gwrthodais ef. Wedi llawer o siarad, cynnygiodd yn haelfrydig iawn gyfran i mi yn y fasnach; a gwrthodais hyny hefyd. Yna syrthiodd Miss Hughes yn ol ar yr argument fwyaf effeithiol a fedd merch—torodd i wylo. Dannododd yr holl garedigrwydd a ddangosasai hi i mi—mor dlawd oeddwn pan ddaethum i Siop y Gornel—y fath gartref cysurus a gawswn yno—y fath drugaredd i mi oedd cael dyfod dan addysg Abel —a pha lun fuasai arnaf oni buasai am hyny. Dywedodd fy mod yn ddideimlad, yn angharedig, yn galongaled, yn anniolchgar, ac yn hunangar. Llawer o ansoddeiriau eraill a arferodd hi. Protestiai na ofalwn am neb ond fy hunan, ac na fuasai hyny yn effeithio dim arnaf pe gwelwn hi yn gorfod "mynd ar y plwy." Nid oedd y ffaith, meddai, na wyddai hi ddim am y fasnach, nac am amgylchiadau ei brawd, yn ennyn un cydymdeimlad ynof. Am a wyddai, ychwanegai, gallai hi fod yn ddigartref cyn pen tri mis. Gwrandewais arni yn dawel, ond teimlwn fel pe buaswn yn euog o'r holl gyhuddiadau. Cadarnhäwyd fy ofnau, sef na wyddai Miss Hughes ddim am amgylchiadau ei brawd. Gofynais iddi ymdawelu ac aros hyd drannoeth, pryd, fel y credwn, y gallwn roddi cynghor da iddi. Atebodd yn bigog, os gallai hi wneyd heb fy ngwasanaeth, y gallai wneyd heb fy nghynghor hefyd. Ni ddywedais un gair mewn atebiad ag y rhaid i mi heddyw edifarhâu o'i herwydd. Aethum i'r siop, a chyda chynnorthwy Jones, gweithiais yn galed drwy y dydd, a thrwy y nos. Ni wyddai Miss Hughes, ac ni ofalai, yr wyf yn meddwl, pa beth yr oeddym yn ei gylch, ac ni siaradodd hi air ag un o honom. Dylaswn fod wedi dyweyd ddarfod i Miss Hughes, yn union wedi marw Abel, gyflwyno ei holl agoriadau i fy ngofal; oblegid yr oedd hi yn yr oriau hyny yn berffaith ddihidio ac yn barod i roddi i fyny yr ysbryd. Ar ol dechreu ar fy ngorchwyl, ni orphwysais nes cymeryd bras-gyfrif o'r ystóc. Gan na fyddai Abel yn arfer rhoi coel i'w gwsmeriaid oddieithr<noinclude><references/></noinclude> lqrtw781eotuy5gykgcfielv2a26qa3 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/354 104 86157 166587 2026-06-17T20:40:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166587 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mewn ychydig eithriadau, nid gorchwyl anhawdd oedd archwilio llyfrau y siop mewn byr amser. Ymhen pedair awr ar hugain, yr oedd genyf syniad gweddol gywir am yr eiddo a adawsai fy meistr ar ei ol. Pan oeddwn yn rhoi yr item olaf i lawr, eisteddodd Jones ar yr ystôl; gosododd ei ben—yr hwn oedd er ys meityn yn nofio—ar y counter, a chysgodd fel top. Dan amgylchiadau eraill buasai yn hyfdra anfaddeuol ynof; ond wrth ystyried mor ddiymadferth oedd Miss Hughes, ac hefyd yr ymwybyddiaeth a feddwn nad oedd fy meistr ymadawedig yn gwgu arnaf, ni phetrusais agor pob cwpbwrdd, cist, a drawer, ac archwylio eu cynnwysiad. Ac yr wyf yn cofio yn dda pan agorais un drawer, yr hon oedd tu mewn i gwpbwrdd derw yn yr hwn y cadwai Abel ei holl bapyrau preifat—yr wyf yn cofio, meddaf, pan agorais y drawer hon, i'r diafol ddyfod allan o honi, a bum mewn brwydr galed ag ef. Yn y drawer hon yr oedd swpo bank notes, ac ebe'r diafol wrthyf, "Wyt ti yn clywed Jones yn chwyrnu? wyt ti yn cofio fod yn mwriad Abel dy anrhegu â nifer o'r rhai hyn? Gwyddost nad oes yma yr un memorandum o honynt; a phe buasai, hawdd iawn fuasai ei ddinystrio. Pe baet yn cymeryd dau neu dri, neu bedwar o honynt, ni fyddai hyny ond yr hyn a gawsit gan Abel pe buasai yn fyw. Yr un peth yn union ydyw i ti eu cymeryd ag a fuasai i Abel eu rhoi i ti. Nid lladrad a fydd o gwbl, achos, mewn ystyr, y ti bïau rai o honynt. Y tebygolrwydd ydyw na chei yr un ''thank you'' gan Miss Hughes am dy holl drafferth. Wel os nad ydwyt yn barod i gymeryd dau new dri o honynt, cymer un—dim ond un; yr wyt yn sicr y buasai Abel yn rhoi mwy nag un i ti. Cofia nad oes genyt yr un swllt ar dy helw, ac nad ydyw yn bosibl i ti fyned ymlaen heb arian; a pha swm bynag a gymeri, yr wyt ti yn siwr o wneyd defnydd da o hono." Gyda llawer o ymadroddion eraill y ceisiodd y gelyn fy ngorchfygu; ond diolch i Dduw! cofiais am yr arfogaeth a gefais gan fy mam; ac ni bu erioed mor ddefnyddiol i mi a'r tro hwn, a chyda hi gwnês i'r diafol ddianc. Wedi cwblhau y dasg a gymeraswn arnaf fy hun, aethum i siarad a Miss Hughes gyda chydwybod dawel, a dwylaw heb flew arnynt; ac yr oedd hyn yn fwy gwerth i mi na miliwn o bunnoedd. Derbyniad oer a didaro a gefais ganddi; ond ni ofalwn am hyny, a chyferchais hi mor agos ag y gallaf gofio gyda'r geiriau hyn:— {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 81wztgisg2i44jvgbchtpe9qpl2fx2r Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/355 104 86158 166588 2026-06-17T20:42:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166588 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Miss Hughes, nid oedd eisieu i chwi fy adgofio am eich holl garedigrwydd i mi, oblegid yr wyf yn meddwl na ddarfu i mi ei anghofio am un diwrnod. Gwn eich bod yn fy ystyried yn galongaled am fy mod yn eich gadael a mynd i'r coleg. Ond yr wyf yn meddwl eich bod yn credu fy mod yn onest, onidê ni fuasech yn ymddiried cymaint dan fy nwylaw; ac ni fuaswn innau yn gwneyd yr hyn yr wyf wedi ei wneyd. Mae genyf le i gredu na wyddoch chwi ddim am y sefyllfa yr ydych wedi eich gadael ynddi drwy farwolaeth fy meistr; ac y mae yn rhyfedd genyf i ŵr mor gall ag ef gadw y wybodaeth hon oddiwrthych, ac yn fwy rhyfedd genyf na ddarfu iddo wneyd ewyllys. Heb ofyn eich caniatâd, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i'w holl amgylchiadau; ac yr wyf yn cael, ar ol talu ei holl ofynwyr, fod fy meistr wedi gadael ar ei ol—rhwng yr ystóc, yr arian ar y llyfrau, yn y banc, ac yn y tŷ—werth pymtheg cant o bunnau. Bydd y swm hwn yn ddigon i'ch cadw chwi yn weddol gysurus, ac i chwi gael byw i fyn'd yn hen; a fy nghynghor ydyw gellwch ei wrthod os dewiswch i chwi werthu yr ystóc a'r busnes. Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd pobpeth oddiar eich llaw. Ond ami mi aros yma i ofalu am y busnes, mae hyny allan o'r cwestiwn. Yr wyf yn benderfynol i fyned i'r coleg; ac yr wyf yn sicr pe gallech ymgynghori a fy hen feistr y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle." Effeithiodd fy ngeiriau arni fel magic: toddodd ei surni fel iâ ar lechen yn mhelydr haul, ond yn llawer cyflymach. Edrychodd arnaf am foment yn anghrediniol—yna yn foddhâus a charedig fel y byddai arferol; oblegid buasai hi a minnau yn gyfeillion mawr bob amser, ac ebe hi, "Yr ydw i wedi siarad yn gâs iawn hefot ti, Rhys; wyddwn i ddim be oeddwn i'n ddeyd. Mi wn y gnei di fadde i mi. Roeddwn i'n wastad yn dy leicio di, mi wyddost dy hun, a mi wn fod gynat ti fwy o sens na fi. Roedd Abel druan yn wastad yn deyd pan oeddit ti'n hogyn y medret ti nhroi i o gwmpas dy fys. Y ti ŵyr ore, a mi wnâf fel wyt ti yn deyd. Bydawn i yn cael rhwfun yma yn dy le di, fy robio i wnae o hwyrach, yntê? Mi wyddwn er's talwm fod natur mynd i'r Bala ynot ti, a wna i ddim trio dy stopio di. Mi gei yn y Bala bob peth fyddi di isio, a mi fyddi yn dy elfen. Raid i ti fyn'd<noinclude><references/></noinclude> lpi9rfcxqkzz0hdvamcjgasqm9oxppi Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/356 104 86159 166589 2026-06-17T20:44:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166589 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr wythnos nesa? Fedri di ddim aros am bythefnos? Be gymi di i dy ginio? Ga i neyd ''stewed kidneys'' i ti?" &c., &c. ''Simple woman''! ebe rhywbeth wrthyf; gofyn iddi am yr hyn y rhaid i ti ei gael—arian. Na wnaf ebe fi: na, mae annibyniaeth yn werth rhywbeth; ac ni ofynaf iddi am geiniog, er y gwn na ommeddai hi pe gofynwn. Yr oedd yn eithaf amlwg i mi na wyddai Miss Hughes fwy am y coleg nag a wyddai Thomas Bartley, a'i bod yn edrych ar y Bala fel y lle nesaf i'r nefoedd, a bod y students yno fel angylion Duw heb wreica na bwyta nac yfed. Druan oedd! pe chwiliasai hi y peth allan, cawsai fod y students yn euog o'r naill a'r llall i raddau mwy neu lai. Nid Thomas Bartley a Miss Hughes oedd yr unig rai, yr oedd yn ymddangos, a dybient mai tref yn llifeirio o laeth a mêl oedd y Bala, ac unwaith y cai bachgen fyned yno y byddai yn ''all right'' Hyd y gwn i, nid oedd gwrthwynebiad gan neb o'r eglwys yr oeddwn yn aelod o honi i mi fyned i'r Coleg; ac yr oedd y Cyfarfod Misol yn unfrydol wedi fy annog i fyned yno. Ond ni ofynodd neb byw i mi, ac eithrio Thomas Bartley, pa olwg oedd genyf am gynnal fy hun yno, er nad oeddwn y pryd hwnw wedi colli cymaint ag un o fy nannedd. Nid wyf yn dyweyd hyn mewn ysbryd grwgnachlyd. Yr unig ŵr, fel y tybiwn, a sylweddolai bwysigrwydd yr anturiaeth i fachgen tlawd fyned i'r athrofa oedd Abel Hughes, ac yr oedd yntau erbyn hyn yn ei fedd. Eto yr oeddwn yn benderfynol o roddi hèr i Ragluniaeth. A gymerodd hi yr hér? Cawn weled. Ystyriwn mai fy nyledswydd oedd gwneyd yr hyn a allwn i Miss Hughes cyn i mi ymadael â hi. I dori yr hanes yn fyr, llwyddais gyda chynnorthwy gŵr profiadol gyda phethau felly, i wneyd trefniadau i drosglwyddo y fasnach i'r cyfaill oedd yn awyddus am dani; a chyfrifwn y byddai Miss Hughes, wedi i bobpeth gael ei wastadhâu, yn werth pedwar cant ar ddeg o bunnoedd, neu gan' punt llai nag a dybiwn i ar y dechreu. Ond ar gyfer hyn, yr oeddwn wedi trefnu gyda'r prynwr ar i Jones bach gael ei ystyried fel rhan o'r fixtures; a chyda hyn teimlwn fod y baich oedd ar fy nghydwybod er yr adeg y bu agos i Wil Bryan a minnau grogi y creadur druan yn cael ei ysgafnhâu nid ychydig. Pan oeddwn yn hel fy mhethau at eu gilydd, ac yn pacio fy llyfrau mewn hen gist tê, sefais yn llonydd a mud amryw weithiau; a dywedai rhywbeth ''wrthyf'', "Y fath ynfytyn fuost yn gollwng dy<noinclude><references/></noinclude> 9yjiwy7ehk5a47jdcrne0zgy8ex9sv9 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/357 104 86160 166590 2026-06-17T20:45:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166590 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>afael o le da, yn gwrthod cyflog rhagorol, ac yn colli y cyfleusdra i ddyfod ryw ddydd yn fasnachwr llwyddiannus! Mae yn rhaid dy fod yn wallgof!" Ond dywedai rhywbeth arall ynof, "Beth waeth? Caiff yr hen bocedau' y busnes a'r arian i gyd o'm rhan i, os gallaf mewn unrhyw fodd fyn'd i'r Coleg a chael rhyw lun o damaid yno." Credwn fod fy amcan yn syml ac uniawn a cheisiwn gredu hefyd na adawai Rhagluniaeth i mi lewygu. Gwyddwn pe buaswn yn dyweyd wrth fy nghyfeillion goreu, am fy nhlodi, y buasent yn fy nghynnorthwyo yn galonog; ond yr oeddwn yn rhy falch i wneyd hyny. Nos Wener ydoedd, a'r Llun canlynol yr oeddwn i fyned i'r Coleg. Nid oedd genyf gyhoeddiad i bregethu y Sabboth, oblegid yr oeddwn wedi gwrthod ei addaw, gan dybied y buasai raid i mi fyned i'r Athrofa yn gynt, ac erbyn hyn yr oedd yn edifar genyf. Cofiwn sylw o eiddo Wil Bryan am danaf, sef fy mod yn ''"poor and proud."'' Ond nid allwn am hyny; yr oeddwn wedi etifeddu yr annibyniaeth ffol hwn oddiwrth fy mam; a gweddïwn yn daer am help i'w gadw oblegid yr oedd yn werthfawr iawn yn fy ngolwg. Ond y nos Wener hono yr oedd yn ymddangos i mi fod Rhagluniaeth yn penderfynu fy narostwng, a fy ngorfodi i wneyd yr hyn na wnaethum erioed o'r blaen, sef gofyn am fenthyg sofren, a hyny heb fod genyf olwg am fodd i'w thalu yn ol. Gan bwy y benthyciwn? Nid oedd ond un dyn ar y ddaear y gallwn ofyn iddo, a hwnw oedd Thomas Bartley. Gyda golwg ar Thomas, teimlwn fod y sofren yn fy llaw cyn gofyn o honof iddo; ac yr oedd ef mor ddiniwed, meddyliwn, fel y gallwn gyda thipyn o fedrusrwydd gadw fy ''dignity'' wrth fenthyca. Thomas oedd y dyn. Ond yr oeddwn yn benderfynol o beidio gofyn hyd yn nôd i Thomas hyd yr awr ddiweddaf, rhag fy mod yn myned o flaen Rhagluniaeth; oblegid yr oeddwn yn ymdrechu credu y gofalai hi am danaf. Y pethau hyn a gynniweirient drwy fy meddwl pryd y curodd Miss Hughes ddrws fy ystafell, ac y daeth i mewn; ac ebe hi, "Rhys, mae William Williams, blaenor Blaenycwm, eisio dy weld." Yr oeddwn i lawr yn y gegin cyn y gallasai neb gyfrif deg, er fy mod i wedi cyfrif cant o bethau. Wrth gwrs, hen greadur noble oedd William, a'i neges oedd eisieu i mi fyned i bregethu i'r Cwm y Sabboth, am fod y Parch. {{bar|3}} "wedi tori heb roi un rheswm am hyny." Sythais yn fy nghefn y foment hono; ac nid wyf yn cofio i mi erioed ond y tro hwnw lawenhâu am fod neb wedi tori ei gyhoeddiad.<noinclude><references/></noinclude> kdlwldnto3l1q271afmgt7iv9qxqitk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/358 104 86161 166591 2026-06-17T20:50:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166591 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond y fath gnâf oeddwn! Cynnygiais amryw resymau dros beidio myned i'r Cwm, a'r penaf oedd am fy mod yn myned i'r Coleg y Llun canlynol. Ond dywedai William mai dyna oedd y rheswm goreu dros i mi ufuddhâu, ac os gwnawn y gofalai ef am i mi gael fy anfon gartref nos Sul. Wedi cryn berswadio addewais fyned. Yr oeddwn, fe welir, wedi dysgu rhodresu yn fore wrth roddi cyhoeddiad; ond, diolch! mi ddysgais roddi hyny heibio yn fuan. Teimlwn fod Rhagluniaeth yn dechreu gwenu arnaf; ac yr oeddwn mewn ysbryd rhagorol y Sabboth hwnw, yn enwedig nos Sabboth, pan oeddwn yn cael fy nghludo gartref â chweigen yn fy mhoced. Ond er hyny, credwn mai doeth fuasai i mi fenthyca y sofren gan Thomas er mwyn i mi gael "rhywbeth wrth gefn." Addawsai Thomas a Barbara ddyfod i'r ''station'' fore Llun i ffarwelio a mi. Pan oeddwn ar frecwast, tarawodd i fy meddwl beth os na fyddai gan Thomas sofren yn ei logell. Erbyn ystyried, nid oedd yn debygol fod Thomas yn cario aur gydag ef, er y gwyddwn ei fod yn weddol gefnog. Gwelwn y byddai raid i mi fyned i'r Twmpath er mwyn sicrhâu y sofren; a phrysurais gyda'r brecwast am nad oedd ond dwy awr hyd yr adeg yr oeddwn i gychwyn ymaith i'r Coleg. "Pam rwyt ti yn byta mor ffast?" gofynai Miss Hughes i mi. "Am fod yr amser yn brin," atebais. "Cofia di, Rhys," ebe Miss Hughes, " y bydda i'n dysgwyl i ti ddwad i dreulio ''holiday'' y Nadolig hefo fi, os na fyddi di yn rhy falch. Mi gadwaf dy wely i ti, a mi fydda erbyn hyny wedi mynd i fyw i'r ''cottage''." Diolchais iddi, a meddyliais fod Rhagluniaeth yn gweithio o ddifrif. "Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti?" gofynai Miss Hughes. "Dim," ebe fi; "yr oeddwn er ys mis wedi codi fy nghyflog hyd i ddydd Sadwrn diweddaf." "Dyma ti," ebe hi; "mi wn y cei yn y ''college'' bobpeth fyddi di isio, ond hwyrach na chei di fawr o boced myni; dyma i ti bum' punt os gnei di gyseptio o honyn nhw." Bu agos i mi a gwaeddi, Haleliwiah! Daeth dagrau i fy llygaid er fy ngwaethaf; ond er mwyn eu cuddio pesychais yn enbyd fel pe buasai darn o fara wedi myned y ffordd chwith, a diolchais iddi yn galonog; a gwyddwn fod Miss Hughes yn llawen am nad oeddwn yn eu gwrthod. Nid oedd raid, bellach, myned i'r Twmpath, na gofyn benthyg sofren. Yr oeddwn wedi fy gwneyd i fyny ac mor llawen a'r gôg. Ymadewais â Miss Hughes ar delerau campus. A dyweyd y gwir, gwnaethum yr hyn<noinclude><references/></noinclude> n9b6gy9jo3gempst2nx01n3yz16busp Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/359 104 86162 166592 2026-06-17T20:52:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166592 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nad oeddwn wedi ei wneyd er ys llawer blwyddyn, er pan oeddwn yn fachgen drwg ac eisieu swllt ganddi—rhoddais gusan ar ei bôch grychlyd; a thra yr oedd yr hen ferch syml a charedig yn sobian am i mi fod yn siwr o "gysfenu ati," gwnaethum innau fy "exit." chwedl W. B. Teimlwn yn hapus iawn y bore yr oeddwn yn gadael cartref am y waith gyntaf, a hyny o herwydd dau beth: yn un peth, am fod Rhagluniaeth fel pe buasai yn dangos yn eglur i mi ei bod yn cymeradwyo fy ngwaith yn myned i'r Coleg; ac hefyd am fod genyf le cryf i gredu fod i mi le cynhes yn mynwesau amryw gyfeillion y rhai a ddaethant i ganu yn iach a mi. Nid y rhai lleiaf o'r rhai hyn oedd Dafydd Dafis a Thomas a Barbara Bartley. Pan fyddai Thomas a Barbara yn myned oddicartref gyda'r trên, byddent yn yr orsaf o leiaf awr cyn yr amser. Er fy mod yn y ''station'' y bore Llun hwnw chwarter awr cyn yr adeg anghenrheidiol, protestiai Thomas na fu ond y dim i mi golli'r trên. Eisteddai Barbara ar ''hamper'' oedd ar y ''platform'' gan roddi nòd â'i phen yn niwedd pob paragraph o eiddo Thomas, yr hwn a siaradai yn ddidòr; a cheisiwn innau gymeryd i mewn bob gair a ddywedai, gan feddwl y byddai hyny rywdro yn ddefnydd dyddanwch i fy nghydlettŷwr yn y Bala pwy bynag a fyddai hwnw. Pan ddaeth y trên i mewn, ysgydwais law â'r cyfeillion, ac â Barbara, yr hon oedd yn rhy flinedig i godi oddiar yr ''hamper'', fel y tybiwn. Ond can gynted ag y cymerais fy eisteddle yn y gerbydres neidiodd Barbara ar ei thraed; a gafaelodd Thomas yn yr ''hamper'', gan ei dodi ar y fainc wrth fy ochr, ac ebe fe yn ddystaw yn fy nghlust—" I ti y mae hon ene—cymer ofal o honi; a chofia gynted y clywn ni am cheap trip i'r Bala, mae Barbara a fine yn bound o ddwad i edrach am danat ti;" a chyn i mi gael deyd gair yr oedd Thomas yn powdro o'r ''station'', a Barbara yn pwyso ar ei fraich. Yr oeddwn wedi fy synu, ac eto yr oedd yr amgylchiad fel Thomas Bartley ''all over''. Gwyddwn fod yn yr ''hamper'' drysorau gwerthfawr i fachgen ieuanc iach ei ystymog; ond ni ddangosais ddim cywreingarwch i wybod beth oedd ei chynnwysiad, megys drwy brofi ei phwysau, neu osod fy nhrwyn ar ei chauad i arogli; oblegid yr oedd dyn ieuanc arall yn yr un compartment a mi—fy unig gyd-deithiwr ac nid oedd arnaf eisieu iddo wybod nad oeddwn yn berffaith hysbys o'i chynnwysiad. Chwyrnellai y gerbydres tua Chorwen; ac yn y<noinclude><references/></noinclude> 230h2uw9xup3v0i02gtlwmrdxv28pw7 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/360 104 86163 166593 2026-06-17T20:53:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166593 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>man dechreuais gymeryd ystòc o fy nghyd-deithiwr. Nis gwn a fydd rhywrai eraill yn teimlo yr un fath a mi; hwyrach y bydd, er ei fod yn beth ynfyd iawn; wrth deithio gyda'r trên, gan nad faint ydyw nifer y rhai fyddant yn yr un ''compartment'' a mi, daw argraff ar fy meddwl wedi i mi fod yn eu cwmni am ychydig amser, fy mod wedi eu gweled o'r blaen yn rhywle, ac y dylwn eu hadnabod. Wrth gwrs nid ydyw hyn ond twyll, ac nis gwn pa fodd i roddi cyfrif am dano. A ydys, tybed, yn anymwybodol yn dosbarthu wynebau—yn eu clasiffeio—a phan ddeuwn i wyddfod dyeithriaid ac edrych arnynt am yspaid, a ydym, heb yn wybod i ni ein hunain, yn eu nodi allan fel yn perthyn i'r dosbarth hwn neu arall, ac a ydym ar ol edrych ac edrych yn tybied y dylem adnabod yr unigolyn—yr ''individual''—a hyny o herwydd ein cydnabyddiaeth â'r dosbarth y perthyna iddo? Nis gwn. Teimlwn y dylaswn adnabod fy nghyd-deithiwr, er y dywedai fy synwyr na welswn ef erioed o'r blaen. Dyfalwn ei fod dair neu bedair blynedd yn hyn na mi. Yr oedd ei groen yn wyn a'i wallt a'i aeliau yn dduon iawn, a'i ddillad braidd yn ddigotwm, a chredwn mai o Sir Gaernarfon y deuai. Yr oedd ganddo lyfr yn ei law, ond nid oedd yn ei ddarllen, eithr edrychai yn brudd drwy y ffenestr—nid ar y wlad, yr oeddwn yn sicr—ond ar rywbeth arall na wyddwn i am dano—hwyrach ei gartref, neu ei deulu, neu ei ddyfodol ansicr. Ymddangosai mewn myfyrdod dwfn am hir amser. Ymawyddwn am gael siarad ag ef, ac yr oeddwn yn siwr yn fy meddwl pa fath lais oedd ganddo, ac yn ddiddadl mai Cymro oedd fy nghydymaith. Yn y man dywedais yn Saesonaeg fod y tywydd yn hyfryd, ac atebodd yntau fi yn yr un iaith gydag acen Gymreig. Nid ymddangosai yn awyddus i siarad, a gofidiwn am hyny, oblegid hoffwn ei wyneb yn fawr; a theimlwn gan nad pa mor ffol oedd hyny, fod ysbryd fy nghyd-deithiwr a minnau wedi bod yn cymdeithasu cyn i ni erioed weled ein gilydd yn y cnawd. Yn fuan ymgollais innau fel yntau yn fy myfyrdodau fy hun. Disgynasom ein dau yn Nghorwen, oblegid y pryd hwnw nid allem fyned ymhellach gyda'r gerbydres. Wedi i mi sicrhâu fy ''hamper'' werthfawr, a phan oeddwn yn ymorol am y bocs dillad a'r gist dê y rhai oeddynt yn y van, ac ar y rhai yr oedd fy enw—tarawodd dyn fi yn ysgafn ar fy ysgwydd, ac ebe fe, "Mr. Lewis, ai chi bia'r ''hamper'' acw, syr?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bee4v99stlimty3rjopihfxadxos40q Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/361 104 86164 166594 2026-06-17T20:54:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166594 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ië," ebe fi, "beth sydd am hyny?" "O, dim," ebe fe, "ond y mod i isio cymyd 'i gofal hi i chi. Be ydi'r mater? a ydach chi wedi streicio? 'does ena ddim ond dau o honoch chi wedi dwad heddyw, a fine'n meddwl y baswn i'n cael llwyth go lew. Dyma fel rydach chi wastad—drib drab, yn lle dwad hefoch gilydd a gneyd un job o honi. Oes gynoch chi rwbeth heblaw y ddau focs yma a'r ''hamper'' acw?" Ar y dechreu, methwn a'i wneyd allan. Yr oedd efe yn ddyn mawr, siriol, hyf, ac eto yr oedd ei hyfdra yn gweddu iddo. Buasai yn anhawdd dyfalu pa un ai cigydd, ffarmwr, ai ''horse dealer'' ydoedd. Pa fodd bynag, cefais allan yn fuan ei fod am gymeryd fy ngofal i a a fy mhethau i'r Bala. Pan ofynais iddo pa fodd y gwyddai mai i'r Bala yr oeddwn yn myned, atebodd, "Ddyn bach, bydaswn i heb ddarllen y drecshwn ar ych bocs chi, mi faswn yn gwbod mewn mynyd. Mi fedrwn bigo student a rhw sort o bregethwr Methodus allan o fil o bobol. Yr ydw i wedi arfer cymaint hefo nhw, syr. Wyddoch chi? mi biges y llall allan, a mi rhois o yn y cerbyd cyn i chi edrach o'ch cwmpas." "Dyma ddyn rhyfedd," meddwn wrthyf fy hun;" ni wyddwn hyd y fynyd hon fy mod yn debyg i student; a pha fodd y gallwn fod, achos ni bum erioed yn y Bala?" Yr un pryd nid oedd yn ddrwg genyf i'r dyn hwn, pwy bynag ydoedd, fy nghymeryd am student, a dilynwn ef fel y gwna ci ei feistr. Gwelais ar unwaith fod fy angel yn adnabyddus iawn, ac wrth y cyfarchiadau deallais mai ei enw oedd E{{bar|3}}. Sylwais fod ambell un a ymddangosai yn lled hyf arno yn ei gyfarch gydag enw y defnydd y gwneir ''pudding'' o hono yn fynych. Ni wyddwn ar y pryd pa un ai enw priodol ai llysenw ydoedd hwn. Pan arweiniodd efe fi at ei gerbyd synais ganfod mai y "llall" y soniasai Mr. E{{bar|3}} wrthyf am dano oedd fy nghyd-deithiwr prudd yn y trên. Ac yr oedd y "llall" hwn yn myned i'r Coleg fel finnau! Y fath resyn na fuaswn yn gwybod hyny yn gynt! Pa fodd yr oedd Mr. E{{bar|3}} wedi deall hyn y foment gyntaf y gwelodd efe ef, a minnau wedi bod yn ei gwmni am gryn amser a'r ffaith heb groesi fy meddwl? Ymgysurwn fod y "llall" mor ddwl a minnau. Pan oedd Mr. E{{bar|3}} yn rhoi fy mhethau yn ei gerbyd, edrychais ar ei geffylau; a'r argraff gyntaf a wnaethant ar fy meddwl oedd nad oedd berygl iddynt redeg i ffwrdd a'n gadael ar ol. Yr oeddwn<noinclude><references/></noinclude> 7ddrpc93jngq5ebvrqz07l4vtyyjx57 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/362 104 86165 166595 2026-06-17T21:14:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166595 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mewn tipyn o benbleth yn eu cylch; pa un ai cynllun o geffylau newyddion oeddynt heb hel cnawd ac ymberffeithio, ai hen geffylau agos i ddiflanu. Er nad oeddwn gyfarwydd mewn ''horseflesh'', tybiwn, wedi edrych ac edrych, fod ''points'' yr ysgrubliaid hyn yn amlwg; a phenderfynais yn fy meddwl mai perthyn yr oeddynt i'r dosbarth agos i ddiflanu. Sylwadaeth fanwl a barodd i mi ddyfod i'r penderfyniad hwn. Ni fuasai ceffylau newyddion,' meddwn, 'yn ddigon call i fanteisio ar y seibiant a chymeryd cyntyn.' Sylwais hefyd fod un o honynt â gwên ar ei wyneb wrth hepian, fel pe buasai yn breuddwydio am yr amser yr arferai gael ceirch, bod y llall yn deffro yn frawychus yrwan ac yn man fel pe buasai yn sylweddoli fod y tanner yn y barcdŷ yn annelu ei wn ato. Meddyliais yn sydyn eu bod hwythau, hwyrach, fel y clywswn fod y ''students'', "yn byw ar ychydig iawn." Yr oedd fy nghyd-deithiwr yn y trên eisoes wedi cymeryd ei eisteddle yn y cerbyd, ac yn ymddangos wedi ymgolli drachefn mewn myfyrdod. Nid oedd Mr. E {{bar|3}} yn barod iawn i gychwyn gyda llwyth mor fychan; ac wedi cogrdroi, ymofyn, chwilio a bargeinio, llwyddodd o'r diwedd i ychwanegu dwy wreigan at y llwyth; ac fel ''apology'' am yr oediad, ebe fe wrthyf pan oeddwn yn cymeryd fy lle wrth ei ochr ar y ''dicky'', —" Mae'n rhaid i ni gael tipyn o ''ballast'', wyddoch, Mr. Lewis, ne fyddwn ni ddim yn sâff." Yr oedd yn un o'r pethau rhyfeddaf a welais erioed. Effeithiodd crac chwip Mr E{{bar|3}}, a rhyw sŵn gyddfol, nid anhebyg i regfa, o'i eiddo ar y ceffylau, yn llythyrenol, fel y llef uwch ben yr esgyrn sychion! Yr oedd y creaduriaid truain mewn eiliad yn fywyd i gyd; a chan faint eu harswyd o'r gyrwr, yr oedd yn amlwg mai mwy dymunol ganddynt a fuasai syrthio yn farw gelain ar y ffordd na gwrthod ufuddhau i'w perchenog. "Mae genych geffylau rhagorol am deithio, Mr. E {{bar|3}}, " ebe fi. "Mae hyny ''just'' yn dependio pwy fydd yn 'u gyru nhw, syr," ebe fe. "Cwyno yn ofnadwy mae'r ''students'' nad oes dim posib gneyd iddyn nhw fynd. ''Just ''drychwch yma," a thrachefn gwnaeth Mr. E{{bar|3}} y sŵn gyddfol y cyfeiriais ato, a defnyddiodd y chwip yn ddibrin, ac ymestynai y ceffylau eu goreu glas, a phantient yn eu cefnau yn frawychus fel y gwelais anifeiliaid yn gwneyd pan dorai taran yn sydyn uwch eu penau. Ychwanegodd Mr. E {{bar|3}}, "Y fi,<noinclude><references/></noinclude> s3agoxkrykgh0akmfcodcadfmt85u09 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/363 104 86166 166596 2026-06-17T21:15:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166596 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wyddoch, syr, sydd yn llogi ceffylau i'r ''students'' i fynd i'w cyhoeddiadau; a bydae nhw yn gneyd fel y bydda i'n deyd wrthyn nhw, fe äi y ceffylau yn riol. Rhy ddiniwed ydyn nhw o'r hanner. Wyddoch chi be? ma pob ceffyl sy gen i yn nabod y ''students''. Mae nhw yn gwbod fod y ''students'' yn bregethwrs, a mae nhw yn cymyd hyfdra arnyn nhw. Dydi o ddim iws, wyddoch, syr, bod yn rhy barticilar; os ydach chi am i'r ceffylau fynd, rhaid i chi eu {{bar|3}} nhw. ''Ynogodariochiwaliaid''! Ydach chi'n gweld rwan fel mae nhw'n mynd? Lledach chi fod yn pregethu y Sul nesa? Ddyliwn y byddwch chi isio ceffyl. Dowch chi ata i nos Wener. Heb yr un cyhoeddiad? Rydach chi'n siwr o gael cyhoeddiad y Sul nesa, achos fydd hanner y ''students'' ddim wedi dwad yn eu hole, a mi fydd ene lot o lythyre isio pregethwrs, gewch chi wel'd. Rydw i'n gwybod cymin am danyn nhw, wyddoch, syr. Fuoch chi yn y Bala o'r blaen? Lledach chi'n myn'd i lodgio?" Anmhosibl a fyddai i mi ddesgrifio yn gywir a manwl y wybodaeth a'r cyfarwyddyd a dderbyniais gan Mr. E {{bar|3}} yn ystod fy nhaith o Gorwen i'r Bala; ac yr oedd y wybodaeth o ran ei natur o ddyddordeb llosgol i mi, a chymerwn i mewn bob tipyn o honi. Adroddodd Mr. E {{bar|3}} hanes y teulu yr oeddwn yn myned attynt i lettŷa, o bant i bentan. Hebi mi ofyn ond ychydig gwestiynau iddo, cynnysgaeddodd fi âg amlinelliad, yn ei ffordd ef ei hun, o brif gymeriadau y Bala. Cyn i mi gyrhaedd pen fy siwrnai, gwyddwn pwy oedd yn byw yn y Rhiwlas, yn y ''Bull'' mawr, y ''Bull'' bach, y ''White Lion'', y Plas Coch, y ''Post Office''; beth oedd enwau blaenoriaid y capel, y doctoriaid duwinyddol a meddygol, a llawer eraill. Ond yr hyn y carai efe aros arno oedd y myfyrwyr. Gwyddai enwau pob un o honynt, o ba sir y deuent, a chyda phwy y llettyent. Dywedai am un mai "un garw oedd o," am un arall, "nad oedd dim byd ynddo," ac am y trydydd, mai "tipyn o swell oedd o," &c. Adroddodd i mi amryw ystraeon yn eu cylch, a sylwais fod a syno pob ystori rywbeth a'i geffylau. Ystyriwn Mr. E {{bar|3}} yn gymeriad dyddorol iawn, ac yr wyf yn sicr na ddysgais gymaint mewn can lleied o amser yn ystod fy oes. Hoffwn ef am ei fod yn dangos cymaint o ddyddordeb yn y ''students''. Methwn wneyd allan pa un a oedd fy nghydymaith yn grefyddwr ai peidio, a buasai yn ormod hyfdra ynof ofyn iddo. Yr oedd ei gydnabyddiaeth fanol â phobl y capel a'r achos, a'i<noinclude><references/></noinclude> jv3fhhn1kpcj8eyr7luzu4wtyk2fnra Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/364 104 86167 166597 2026-06-17T21:16:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166597 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddyddordeb yn y myfyrwyr, yn peri i mi feddwl ei fod yn broffeswr; ond pan anerchai efe ei geffylau megys rhwng cromfachau gyda'i "''ynogodariochiwaliaid,"'' ofnwn nad oedd. Ychydig a dybiwn i y pryd hwnw y byddai a wnelwyf gymaint â Mr. E {{bar|3}} yn ystod fy arosiad yn y Bala. Daw i fy meddwl yn fyw y fynyd hon lawer dygwyddiad dyddorus ynglŷn âg ef, y rhai a fu borfa fras o ddigrifwch yn rhesel y ''students'', a chofnodi y rhai a fuasai yn bleser mawr i mi. Ond gan nad cofiant Mr. E {{bar|3}} yr wyf yn ei gylch, rhaid i mi ei adael i law fedrusach. Tybed, mewn byd sydd mor llawn o ocheneidiau, a chyda'r fath ddefnyddiau diniwed ond effeithiol i anfon y pruddglwyf ymaith, na chymer rhywun cyfarwydd mewn llaw osod allan mewn trefn gymeriad un oedd mor wahanol i bawb arall, ac yn ei ffordd ef ei hun mor wasanaethgar i Fethodistiaeth? Gan faint fy nyddordeb yn fy ngyrwr, yr oeddwn wedi anghofio yn llwyr fy nghyd—deithiwr; ond nid felly yr oedd Mr. E{{bar|3}}, oblegid cyn i ni gyrhaedd pont Tryweryn, trodd Mr. E {{bar|3}} . ei ben ar ei ysgwydd, ac ebe fe, "Mr. Williams, lledach chi'n mynd i lodgio?" ac wedi cael atebiad, "Mor accas! rydach chi'ch dau yn mynd i'r un tŷ. Mi rown i y peisiau ma (gan gyfeirio at y gwragedd) i lawr ar y bont." Yr oedd y dygwyddiad yn fwy "accas" lawer yn fy ngolwg i; canys teimlwn ddyddordeb mawr yn fy nghyd-efrydwr tawedog. Ymhen ychydig fynydau, yr oedd ef a minnau yn eistedd mewn parlwr bychan pruddaidd, a gwraig y tŷ—gwraig fechan lawen, garedig a Chymreigaidd, yn parotoi tê i ni, yr hon a'n hysbysodd mai ni ein dau oeddynt yr unig ''students'' y diwrnod hwnw yn y Bala. "Ond," ebe hi, " mi fyddan i gyd wedi cyrhaedd, yr ydw i'n meddwl, o hyn i ben yr wythnos, neu bythefnos fan bellaf." Pan gyferfydd dau ddyn o gyffelyb feddwl ac amcan, ac yn gwybod eu bod yn debyg o gydfyw am rai blynyddau—o drigo yn yr un tŷ, a chysgu yn yr un gwely, ychydig seremoni sydd yn anghenrheidiol i ddwyn oddiamgylch gyd-ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth. Cymer y briodas le heb y "wers." Dianghenrhaid ydyw dyweyd fod Mr. Williams a minnau yn gwybod llawer am ein gilydd cyn pen hanner awr, a'n bod yn hen gyfeillion cyn i'r myfyrwyr hel yn gryno at eu gilydd. Yr oedd Mr. Williams yn dyfod o Sir Gaernarfon fel y tybiaswn, ac yr oedd yn hollol fel y dywedai ei wyneb ei fod, yn fachgen gonest, difrifol, a chywir. Nid fy lle i ydyw dyweyd pa fodd y teimlai<noinclude><references/></noinclude> 008g4so1hbpma07y7otj41dwpy9prup Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/365 104 86168 166598 2026-06-17T21:17:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166598 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef; ond teimlwn fy hun yn hapus a ffortunus gael dyfod i gyssylltiad âg un am y tro cyntaf oedd fy neall—un oedd yn cerdded yr un llwybr, yn cael ei feddiannu gan yr un amcan, ac yn ymladd â'r un anhawsderau, a chyda yr hwn y gallwn siarad heb ''reserve'', ac heb ofni iddo chwerthin ar fy mhen. Er ei fod rai blynyddau yn hŷn na mi yr oeddwn yn sicr fy mod yn amgenach Sais nag ef, ac yn gwybod mwy am ''the way of the world''; ac i Wil Bryan a'r gymydogaeth lle magwyd fi yr oeddwn yn ddyledus am hyny. Ond wedi ychydig ymddyddan gyda Williams, gwelais ei fod yn well duwinydd na mi, a gwyddwn cyn i mi erioed ei wrando ei fod yn well pregethwr na mi. Ac felly yr oedd efe, ac felly y mae efe heddyw, yn annhraethol well pregethwr na mi. Rhai garw am bregethu ydyw bechgyn Sir Gaernarfon. Yr wyf yn credu mai po fwyaf Seisnigaidd fyddo y gymydogaeth y dygir dyn i fyny ynddi, mai salaf yn y byd y bydd efe fel pregethwr, a ''vice versa''. Yr oedd Williams yn dyfod i fyny yn gymhwys a'r hyn y buaswn yn breuddwydio a fyddai fy nghydlettŷwr; ac nis gallaf beidio dadgan fy nyled fawr iddo. Mae un dygwyddiad yn dyfod yn ffres i fy nghof y fynyd hon, ac nis gallaf ymattal rhag chwerthin wrth feddwl am dano. Yr wyf yn meddwl i mi ddyweyd o'r blaen y byddai Abel Hughes yn gofalu bob amser am i mi wisgo yn dda. Y diwrnod yr aethum i'r Bala, yr oedd am danaf suit o ddillad duon da. Tra yr ymgomiai Williams yn rhydd â mi, sylwais ei fod yn craffu ar fy niwyg, ac fel pe buasai yn meddwl am rywbeth arall pan yn siarad a mi. Dyfalwn yn gywir beth oedd yn cynniwair drwy ystafell gefn ei feddwl. Wedi i ni fod yn rhoi tro i weled y dref a'r llyn, a phan oeddym yn ail ddechreu ymgomio wrth y, bu agos i mi ddyweyd tân—ond gan gofio nid oedd pobl y Bala yn credu mewn tân mor gynnar ar y flwyddyn, fel y byddwn ni yn Sir. Ebe Williams, "Mr. Lewis (nid oedd efe yr adeg hon wedi dechreu fy ngalw yn Rhys, na minnau ei alw yntau yn Jack), mae arnaf ofn ein bod wedi ieuo dipyn yn anghymharus. Gwell i mi ddyweyd y gwir wrthych ar unwaith: bachgen tlawd ydwyf; mae fy mam yn weddw a dibynol arnaf, a'r hyn sydd yn blino mwyaf ar fy meddwl heno ydyw a wnaethum yn iawn wrth ei gadael. Ond y mae yn amlwg i mi eich bod chwi o deulu parchus a chefnog ——." Cyn iddo gael dyweyd gair arall chwarddais yn uchel, ac ebe fi,—<noinclude><references/></noinclude> 4edbqp9dmky73xisodpe5bv28bqiagq Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/366 104 86169 166599 2026-06-17T21:19:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166599 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mr. Williams, yr wyf yn dipyn o fardd, ac a wyddoch chwi beth ydyw fy ffugenw, — Job ar y Domen.' Wrth gwrs gwelsoch yr enw lawer gwaith, a fi ydi o, syr." Yna rhoddais iddo grynodeb o hanes fy nheulu (heb sôn am fy nhad a'r Gwyddel fel y cyfryw), ac o fy adnoddau ''actual and probable''. A rhyfedd! yr oedd Williams yn berffaith hapus wedi clywed am fy nhlodi! Er mwyn ei gadarnhâu fy mod yn dyweyd y gwir, adroddais iddo hanes yr hamper yr hon yr oedd efe wedi fy nghynnorthwyo i'w chario i'r tŷ. Ac i'w sicrhau ymhellach, oni ddarfu iddo ef a minnau nôl yr hamper i'r parlwr i archwilio ei chynnwysiad? ac oni ddarfu i ni y noswaith hono, roddi prawf pellach ar natur ei chynnwysiad? ac felly bob dydd yn olynol nes y gwelsom ei gwaelod? Gall Williams ei hun ddwyn tystiolaeth mai gwir ydyw yr hanes. A rhag i mi anghofio dyweyd hyny eto, ni welodd y ddau fachgen hyny, calonau y rhai a lonwyd gan gynnwysiad yr hamper, ddiwrnod yn ystod eu harosiad yn yr athrofa heb fod ganddynt bryd o fwyd i fyned ato; oblegid yr oedd y ddau, mi gredaf, yn ceisio ymddiried yn ngofal y Meistr, ac ni siomwyd hwy. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXXVII.<br>Ymweliad Thomas Bartley a'r Bala.}}}} Cyn i mi gychwyn oddicartref, yr oeddwn, ac yn ddigon ffol, mis wn, wedi ffurfio syniad rhyfedd am fywyd colegol; ac nis gwn yn iawn pa fodd i ddesgrifio y syniad hwnw. Gwyddwn mai pregethwyr ymron yn ddieithriad a fyddai yr holl ''students''; a phortreadwn hwynt yn fy meddwl fel nifer o bobl ieuainc sad, difrifol a phrudd; wedi hel at eu gilydd o wahanol barthau o Gymru, a'u cydgyfarfyddiad yn dwyshâu ac yn dyfnhâu prudd-der y naill y llall. Ffansiwn yr hyn a elwid yn term fel pedwar mis o gynhebrwng maith, yn yr hwn yr oedd deugain, mwy neu lai, o wahoddedigion ieuainc, a'r oll mewn ''mourning'' yn gwrandaw ar y prifathraw, neu un o'i gynnorthwywyr, yn darllen y wers gladdu uwch ben yr ieithoedd meirwon, <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> tijvj4t8fzx7h8nupsvcwsc668abv8i Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/367 104 86170 166600 2026-06-17T21:23:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166600 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (White Lion).jpg|canol|400px]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> j5s7z0h8j2r6cozkgw2xhal01kikogn Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/368 104 86171 166601 2026-06-17T21:26:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166601 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a rhyw fendith yn deilliaw na wyddwn o ba le na pha sut. Rhywbeth fel yna oedd fy syniad; ac nid fel yna ychwaith, yr oedd. yn fwy vague. Ond O fel y siomwyd fi! Cefais allan yn fuan y gallai y ''students'' chwerthin a bod yn llawen fel bechgyn eraill—y gallent fwynhau digrifwch diniwed a dilyffetheirio eu hunain heb friwio eu cydwybod. Yn wir, yr wyf yn credu pe buasai Wil Bryan yn bresennol lawer tro, y dywedasai nad oedd ynddynt ddim "''humbug''," a'u bod yn " ''true to nature''." Ac yr wyf yn meddwl i minnau ddysgu yn fuan nad yr un peth oedd prudd—der a duwioldeb, ac fod an—> nhraethol wahaniaeth rhwng santwynebogrwydd a phurdeb, ac mai y bechgyn mwyaf naturiol, rhydd, a diofal—yn ystyr dda y gair, oedd. 1 ynt y rhai cywiraf, a mwyaf dihoced. Mi a adwaenwn ddau aderyn sydd yn gwisgo côb o'r un lliw a chôb pregethwr, sef y frân a'r aderyn du. Mae y naill yn crawcio, a'r llall yn canu, ac nid ydwyf eto wedi fy argyhoeddi fod y frân yn rhoi mwy o ogoniant i'w Chreawdwr na'r aderyn du, serch fod ei hiliogaeth hi yn lliosocach ac y cyfarfyddir â hi yn amlach. Ond lawer tro nid allwn beidio gofyn i mi fy hun, Beth pe buasai Dafydd Dafis yn ein clywed ac yn ein gweled ni y ''students''? Oni ddywedasai ein bod yn llawer rhy iach ein hysbryd, ac fod ganddo "ddowt" a oeddym wedi ein galw i bregethu yr efengyl? Ond pe buasai Dafydd yno, ni chawsai efe weled dim nad oedd yn dyfod i fyny â'i ''ideal'' o ddifrifwch. Ond a fuasai Dafydd Dafis yn gweled y bechgyn? Na fuasai; ni welsai ond yn unig y wêdd neillduol a osodasent arnynt eu hunain. Beth oedd y casgliad a wnawn yn fy meddwl? Hyn: na welwyd erioed student ond gan student. Onid ydyw yn ffaith gyffredinol i allu teimlo yn rhydd, naturiol, a dilyffethair, y rhaid meddu ymwybyddiaeth fod y cwmni yn un o ran dosbarth ac anianawd? Mae presennoldeb Dafydd Dafis yn peri i ddyn dynu y llèn dros ran o hono ei hun, os nad rhywbeth gwaeth, sef ceisio dangos yr hyn nid yw yn ei feddu. A siarad yn gyffelybiaethol, onid oes i bob dyn ac i bob dosbarth o gymdeithas eu Dafydd Dafis sydd yn eu gorfodi i osod gwêdd bennodol arnynt eu hunain? Ac onid oes i'r holl greaduriaid eu Dafydd Dafis? Gwelaf y defaid ar ŵyn yn chware ar lethr y bryn, ac yn mwynhau eu hunain mewn unrhywiaeth elfen a thuedd; ond dacw Dafydd Dafis ar ffurf ci bach diniwed yn gwneyd ei ymddangosiad, a derfydd y chware yn y fan. Ar fore brâf yn y gwanwyn telora yr<noinclude><references/></noinclude> fq8js8r7dn9pie4s20j04zj47uoelx8 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/369 104 86172 166602 2026-06-17T22:25:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166602 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adar yn y llwyn gerllaw y brif-ffordd, ac wrth fyned heibio erys y teithiwr i glustfeinio arnynt; ond y mae y telorion wedi ei ganfod, a pheidiant â'u cerdd. Dafydd Dafis fyth. Yn mis Mehefin mae deiliaid Ysgol Sabbothol y dref fawr fyglyd yn cael trip i'r wlad. Mae ieuainc a hen yn eu plith. Ar ol mwynhau y danteithion ar y glaswellt, gwelir ugain neu ragor o'r bobl ieuainc yn cilio yn ddystaw i fan neillduol, i ddifyru eu hunain. Yn y man, wrth roi tro, daw i'w hymyl hen ŵr duwiol a pharchus. Maent yn ei adnabod yn dda, ac yn meddwl yn uchel o hono, ac yn gobeithio y byddant hwythau ryw ddydd fel y mae efe yn awr; ond y mae ei ymddangosiad yn andwyo y difyrwch. Dafydd Dafis! Onid oes rhyw ''freemasonry'', neu beth y gelwir ef, yn rhedeg drwy holl gylchoedd cymdeithas i lawr hyd at y dyn ei hun? Nid ydyw dyn yn hollol fel efe ei hun ond pan fyddo ar ei ben ei hun. Ymhob amgylchiad arall, ymagweddu y mae i gyfarfod llygaid a syniadau rhyw Ddafydd Dafis. A ydyw yn canlyn na welodd dyn erioed ddyn ond efe ei hun, ac na welodd efe ei hun ond pan fyddai ar ei ben ei hun? Aca ydyw yn canlyn mai goreu po fwyaf iddo fod ar ei ben ei hun? Nac ydyw, y peth olaf, o leiaf, goeliaf fi. {{***|6}} Pa mor wahanol bynag oedd y Bala a'r myfyrwyr i'r hyn a ddychymygaswn eu bod cyn eu gweled, yr wyf yn sicr eu bod yn fwy felly i fy hen gyfaill Thomas Bartley pan dalodd ymweliad â mi, yr hyn a wnaeth efe pan nad oeddwn, os wyf yn cofio yn dda, ond rhyw ddeufis oed fel student. Er mwyn adfywiad i fy ysbryd prudd, a rhag i mi anghofio, hwyrach mai yn y fan hon y byddai oreu i mi wneyd býr grybwylliad am yr ymweliad hwnw. Dydd Llun ydoedd. Yr oeddwn yn dychwelyd o Drawsfynydd, lle buaswn yn pregethu y Sabboth, ac yr oeddwn wedi bod yn aros yn hir yn Rhyd-y-fen, yn yfed tê ac yn bwyta bara ceirch tra yn dysgwyl am ddau gyfaill gyda'r car, y rhai oeddynt wedi bod yn pregethu—un yn Llan, Ffestiniog, a'r llall yn Llanbedr a'r Gwynfryn. Yr oedd rhwng un a dau ar y gloch y prydnawn arnaf yn cyrhaedd y Bala, a phan euthum i fy lletty prin y gallwn gredu fy llygaid pan welais Thomas Bartley yn eistedd yn fy nghadair ac wedi llenwi<noinclude><references/></noinclude> ntz03168pfzskfaxzmvft1g8emzsry4 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/370 104 86173 166603 2026-06-17T22:29:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166603 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr ystafell â mŵg tybaco, a Williams yn eistedd gyferbyn ag ef ac yn wenau o glust bwygilydd. Yr oedd yr olwg ar Thomas yn gomical hyd yn nôd i mi oedd wedi hen arfer ag ef, ac yn fwy felly o herwydd na welswn ef er ys amser yn troi allan yn ei dress coat lâs. Ond gwyddwn mai yr hyn oedd yn goglais fwyaf ar ffansi Williams oedd coler crys y cyfaill o'r Twmpath, yr hon oedd yn anferthol. Pe buasai Thomas wedi parddüo ei wyneb edrychasai yn gymwys fel christy minstrel. Ar amgylchiadau neillduol yn unig y gwisgai efe y goler fawr, a chôf genyf yr arferai fy mrawd Bob yn y cyfryw amgylchiadau sylwi "fod Thomas Bartley yn mynd i nôl cokes," gan gyfeirio at yr arferiad a fyddai gan y certwyr o osod ofergyfanau ar y troliau pan yn nôl y nwydd hwnw. Yr wyf yn sicr fod i'r goler hon ei hanes pe buasai bosibl dod o hyd iddo. Yr oedd yn nodedig! Pan fyddai Thomas yn ei gwisgo, megys ar ddydd "cinio clwb," yr oeddis, rywfodd, yn teimlo mai y goler oedd yn myned i'r cinio ac mai myned i gadw cwmpeini iddi yr oedd Thomas. Ac er y teimlid fel hyn mai y goler oedd y prif beth ac mai ail beth mewn cymhariaeth oedd Thomas, eto gwasanaethai hi fel rhagredegydd iddo; oblegid byddid yn gweled y goler er ys meityn cyn gweled Thomas. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi sylwi o'r blaen fod coryn Thomas yn uchel, a'i drwyn yn hir a phigfain, a'i ên yn encilio ymhell i'w wddf, ac felly yr oedd ffurf ei ben a'i wyneb yn peri i ''student'' feddwl am broblem yn Euclid. Ond, fel y sylwais, yr wyf ymron yn sicr mai y peth mwyaf tarawgar yn ei ymddangosiad i fy nghyfaill Williams oedd y goler ''outrageous'', canys canfyddwn ef yn ei llygadu yn fanwl. Ac yn wir nid allwn innau, er fy mod wedi ei gweled lawer gwaith o'r blaen, beidio ei hedmygu, ac edmygu Thomas hefyd wrth ei weled yn ymnythu o fewn ei chaerau, fel y gwelir gŵr comfforddus ei amgylchiadau yn ymsuddo yn ei gadair freichiau glustogaidd. Ond yr wyf yn crwydro. Synais, meddaf, weled Thomas Bartley yn fy ystafell; ac ebe fe—fel pe buasai heb fy ngweled er ys blynyddoedd. "Wel, fachgen, sut rwyt ti, ers cantodd a milodd?" "Reit iach, Thomas," atebais. "Pwy yn y byd fuasai yn dysgwyl eich gweled chwi yn y Bala?" "Twbi shwar; ond chwech o'r gloch, wel di, bore heddyw, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn, mi gymes ffit yn y mhen y<noinclude><references/></noinclude> 2r6g2948kq1xfg2ad4156xpix9f5m9l 166611 166603 2026-06-18T09:58:45Z AlwynapHuw 1710 166611 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr ystafell â mŵg tybaco, a Williams yn eistedd gyferbyn ag ef ac yn wenau o glust bwygilydd. Yr oedd yr olwg ar Thomas yn gomical hyd yn nôd i mi oedd wedi hen arfer ag ef, ac yn fwy felly o herwydd na welswn ef er ys amser yn troi allan yn ei ''dress coat'' lâs. Ond gwyddwn mai yr hyn oedd yn goglais fwyaf ar ffansi Williams oedd coler crys y cyfaill o'r Twmpath, yr hon oedd yn anferthol. Pe buasai Thomas wedi parddüo ei wyneb edrychasai yn gymwys fel ''christy minstrel''. Ar amgylchiadau neillduol yn unig y gwisgai efe y goler fawr, a chôf genyf yr arferai fy mrawd Bob yn y cyfryw amgylchiadau sylwi "fod Thomas Bartley yn mynd i nôl cokes," gan gyfeirio at yr arferiad a fyddai gan y certwyr o osod ofergyfanau ar y troliau pan yn nôl y nwydd hwnw. Yr wyf yn sicr fod i'r goler hon ei hanes pe buasai bosibl dod o hyd iddo. Yr oedd yn nodedig! Pan fyddai Thomas yn ei gwisgo, megys ar ddydd "cinio clwb," yr oeddis, rywfodd, yn teimlo mai y goler oedd yn myned i'r cinio ac mai myned i gadw cwmpeini iddi yr oedd Thomas. Ac er y teimlid fel hyn mai y goler oedd y prif beth ac mai ail beth mewn cymhariaeth oedd Thomas, eto gwasanaethai hi fel rhagredegydd iddo; oblegid byddid yn gweled y goler er ys meityn cyn gweled Thomas. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi sylwi o'r blaen fod coryn Thomas yn uchel, a'i drwyn yn hir a phigfain, a'i ên yn encilio ymhell i'w wddf, ac felly yr oedd ffurf ei ben a'i wyneb yn peri i ''student'' feddwl am broblem yn Euclid. Ond, fel y sylwais, yr wyf ymron yn sicr mai y peth mwyaf tarawgar yn ei ymddangosiad i fy nghyfaill Williams oedd y goler ''outrageous'', canys canfyddwn ef yn ei llygadu yn fanwl. Ac yn wir nid allwn innau, er fy mod wedi ei gweled lawer gwaith o'r blaen, beidio ei hedmygu, ac edmygu Thomas hefyd wrth ei weled yn ymnythu o fewn ei chaerau, fel y gwelir gŵr comfforddus ei amgylchiadau yn ymsuddo yn ei gadair freichiau glustogaidd. Ond yr wyf yn crwydro. Synais, meddaf, weled Thomas Bartley yn fy ystafell; ac ebe fe—fel pe buasai heb fy ngweled er ys blynyddoedd. "Wel, fachgen, sut rwyt ti, ers cantodd a milodd?" "Reit iach, Thomas," atebais. "Pwy yn y byd fuasai yn dysgwyl eich gweled chwi yn y Bala?" "Twbi shwar; ond chwech o'r gloch, wel di, bore heddyw, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn, mi gymes ffit yn y mhen y<noinclude><references/></noinclude> 77vju5lgtk9yi9wuq801xqvs2ivnsuv Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/371 104 86174 166604 2026-06-17T22:45:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166604 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>down i i edrach am danat ti. Ond ddylies i rioed fod y Bala mor bell. Wyst di be, mae ene gryn step odd acw yma; a roeddwn i wastad yn meddwl fod ene drên ar hyd y ffordd, ond erbyn dallt, Corwen ydi'r ''station'' ola. Ond welest di rioed mor lwcus fumil Yn Nghorwen mi ddaru Mr. Williams 'ma fy nabod i wyddwn i rioed fod o wedi ngweld i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngwel'd i yn y ''station'' acw pan oeddat ti yn mynd i ffwrdd—a mi gês ride efo lot o ''students'', a mi gawson mygom reit difyr, on do, Mr. Williams? Bechgyn clên ryfeddol oeddan nhw hefyd, ond yr ydach chi'n debyg i'ch gilydd—yn ods felly. Lle buost di cyd, dywed? Roedd Mr. Williams yn deyd y baset ti yma ers meityn. Lle roeddat ti wrthi ddoe?" "Trawsfynydd, Thomas," ebe fi. "Trawsfynydd? wel aros di, nid un odd yno ydi M Ll{{bar|3}}? Roeddwn inne yn meddwl hyny. Un garw ydi M{{bar|3}} Mi fydda wastad yn deyd bydawn i yn hapno mynd i rw drwbwl mai gymrwn i yn gwnsler. Glywsoch chi am y tro hwnw yn Rhuthyn ers talwm, Mr. Williams? Naddo? wel mi deuda fo ichi—mae o can wired a'r pader. Wel i chi, roedd ene ddyn—adeg y Seisus oedd hi—yn cael i dreial am ddwyn bacyn—bacyn ddalltwch—a roedd pawb yn ofni y cawse fo i dransportio. Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddiarno—bacyn cofiwch—wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio, a'r dyn, druan, wedi pluo M{{bar|3}} Ll{{bar|3}} i myddiffyn o. Wel i chi, roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y mán mi ddoth tyrn M{{bar|3}}; a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynodd iddo" Be oedd o'n feddwl wrth facyn?" A be'r cigydd— Bacyn ydi nhorobene mochyn wedi'u halltu a sychu.'" 'Twbi shwar,' ebe M{{bar|3}} a mi alwodd y siopwr ymlaen a mi ofynodd iddo,—''oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn—a oedd o wedi halltu a sychu? Nag oedd, be'r siopwr. Ffals deitment 'be M{{bar|3}} a mi nillodd y case yn syth! Un garw ydi M{{bar|3}} Dywed i mi? oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Nhrawsfynydd rŵan? I mae Bydase gen i amser mi faswn yn myn'd yno 'u gwel'd nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be, fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma—agor dipyn ar y ffenest ene, Rhys. Dydio ryfedd<noinclude><references/></noinclude> mhe4jtihz4swlipn7tg55inswysipyf 166605 166604 2026-06-17T23:00:06Z AlwynapHuw 1710 166605 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>down i i edrach am danat ti. Ond ddylies i rioed fod y Bala mor bell. Wyst di be, mae ene gryn step odd acw yma; a roeddwn i wastad yn meddwl fod ene drên ar hyd y ffordd, ond erbyn dallt, Corwen ydi'r ''station'' ola. Ond welest di rioed mor lwcus fumil Yn Nghorwen mi ddaru Mr. Williams 'ma fy nabod i wyddwn i rioed fod o wedi ngweld i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngwel'd i yn y ''station'' acw pan oeddat ti yn mynd i ffwrdd—a mi gês ''ride'' efo lot o ''students'', a mi gawson mygom reit difyr, on do, Mr. Williams? Bechgyn clên ryfeddol oeddan nhw hefyd, ond yr ''ydach'' chi'n debyg i'ch gilydd—yn ods felly. Lle buost di cyd, dywed? Roedd Mr. Williams yn deyd y baset ti yma ers meityn. Lle roeddat ti wrthi ddoe?" "Trawsfynydd, Thomas," ebe fi. "Trawsfynydd? wel aros di, nid un odd yno ydi M{{bar|3}} Ll{{bar|3}}?<ref>[[w:Morgan Lloyd|Morgan Llwyd Q.C, A.S.]]</ref> Roeddwn inne yn meddwl hyny. Un garw ydi M{{bar|3}} Mi fydda wastad yn deyd bydawn i yn hapno mynd i rw drwbwl mai gymrwn i yn gwnsler. Glywsoch chi am y tro hwnw yn Rhuthyn ers talwm, Mr. Williams? Naddo? wel mi deuda fo ichi—mae o can wired a'r pader. Wel i chi, roedd ene ddyn—adeg y Seisus oedd hi—yn cael i dreial am ddwyn bacyn—bacyn ddalltwch—a roedd pawb yn ofni y cawse fo i dransportio. Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddiarno—bacyn cofiwch—wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio, a'r dyn, druan, wedi pluo M{{bar|3}} Ll{{bar|3}} i myddiffyn o. Wel i chi, roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y mán mi ddoth tyrn M{{bar|3}}; a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynodd iddo "Be oedd o'n feddwl wrth facyn?" A be'r cigydd—Bacyn ydi nhorobene mochyn wedi'u halltu a sychu.' 'Twbi shwar,' ebe M{{bar|3}} a mi alwodd y siopwr ymlaen a mi ofynodd iddo,—''oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn—a oedd o wedi halltu a sychu? Nag oedd, be'r siopwr. Ffals deitment 'be M{{bar|3}} a mi nillodd y ''case'' yn syth! Un garw ydi M{{bar|3}} Dywed i mi? oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Nhrawsfynydd rŵan? I mae Bydase gen i amser mi faswn yn myn'd yno 'u gwel'd nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be, fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma—agor dipyn ar y ffenest ene, Rhys. Dydio ryfedd<noinclude><references/></noinclude> j44dies4p59nlplmvgjgvv0veccxyyt 166606 166605 2026-06-17T23:01:28Z AlwynapHuw 1710 166606 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>down i i edrach am danat ti. Ond ddylies i rioed fod y Bala mor bell. Wyst di be, mae ene gryn step odd acw yma; a roeddwn i wastad yn meddwl fod ene drên ar hyd y ffordd, ond erbyn dallt, Corwen ydi'r ''station'' ola. Ond welest di rioed mor lwcus fumil Yn Nghorwen mi ddaru Mr. Williams 'ma fy nabod i wyddwn i rioed fod o wedi ngweld i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngwel'd i yn y ''station'' acw pan oeddat ti yn mynd i ffwrdd—a mi gês ''ride'' efo lot o ''students'', a mi gawson mygom reit difyr, on do, Mr. Williams? Bechgyn clên ryfeddol oeddan nhw hefyd, ond yr ''ydach'' chi'n debyg i'ch gilydd—yn ods felly. Lle buost di cyd, dywed? Roedd Mr. Williams yn deyd y baset ti yma ers meityn. Lle roeddat ti wrthi ddoe?" "Trawsfynydd, Thomas," ebe fi. "Trawsfynydd? wel aros di, nid un odd yno ydi M{{bar|3}} Ll{{bar|3}}?<ref>[[w:Morgan Lloyd|Morgan Llwyd Q.C, A.S.]]</ref> Roeddwn inne yn meddwl hyny. Un garw ydi M{{bar|3}} Mi fydda wastad yn deyd bydawn i yn hapno mynd i rw drwbwl mai gymrwn i yn gwnsler. Glywsoch chi am y tro hwnw yn Rhuthyn ers talwm, Mr. Williams? Naddo? wel mi deuda fo ichi—mae o can wired a'r pader. Wel i chi, roedd ene ddyn—adeg y Seisus oedd hi—yn cael i dreial am ddwyn bacyn—bacyn ddalltwch—a roedd pawb yn ofni y cawse fo i dransportio. Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddiarno—bacyn cofiwch—wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio, a'r dyn, druan, wedi pluo M{{bar|3}} Ll{{bar|3}} i myddiffyn o. Wel i chi, roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y mán mi ddoth tyrn M{{bar|3}}; a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynodd iddo "Be oedd o'n feddwl wrth facyn?" A be'r cigydd—Bacyn ydi nhorobene mochyn wedi'u halltu a sychu.' 'Twbi shwar,' ebe M{{bar|3}} a mi alwodd y siopwr ymlaen a mi ofynodd iddo,—'oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn—a oedd o wedi halltu a sychu'? 'Nag oedd', be'r siopwr. Ffals deitment 'be M{{bar|3}} a mi nillodd y ''case'' yn syth! Un garw ydi M{{bar|3}} Dywed i mi? oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Nhrawsfynydd rŵan? I mae Bydase gen i amser mi faswn yn myn'd yno 'u gwel'd nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be, fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma—agor dipyn ar y ffenest ene, Rhys. Dydio ryfedd<noinclude><references/></noinclude> tg9m9zx97aucbk1myg31byk00r5sukl Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/372 104 86175 166607 2026-06-17T23:32:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166607 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y byd fod chi'ch dau yn edrach mor llwyd does 'ma lwchyn o wynt. Waeth i chi fyw mewn bambocs nag mewn ''room'' fechan fel hon a'r drws wedi gau, a dim ar affeth hon y ddaear yni blaw bwrdd a chadeirie a llyfre—rydach chi'n bownd o golli 'ch iechyd! Bydawn i mewn lle fel hyn am ddau ddiwrnod mi fyddwn farw ar y spot. Henel dene rwbeth! mi gawn dipyn o wynt rwan. Wel, Rhys, sut mae hi'n dwad ymlaen? wyt ti 'n leicio dy le? wyt ti 'n cael digon o brofsiwns yma, dywed?" "Mae hi yn dyfod ymlaen yn eithaf da hyd yn hyn, Thomas," ebe fi. "Sut mae pawb acw? sut mae Barbara? a sut na fase hi yma gyda chwi?" "Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siŵr iti; mae hi'n cael i thrwblo yn anwedd gan y riwmatis a phoen yn i lode, a mi gês sgyffyl ryfeddol i gael dwad yma heddyw, a mi fydd yn rhŵyr glas gyni ngweld i'n dwad yn ôl. Mae hi yn cofio atat ti 'n ods. Wyst ti be, fum i ddim oddi cartre o'r blaen ers pum mlynedd-ar-hugain." "Beth ydych yn feddwl o'r Bala, Thomas?" gofynais. "Dydw i wedi gweld fawr o honi eto," ebe Thomas, "ond yn ol hyny weles i, mae hi 'n edrach yn debyg iawn, yn ol y meddwl i, i dre wedi 'i bildio ar ganol cae. Sut ar affeth hon y ddaear na thoren nhw 'r coed ene? ydi'r brain ddim yn drwblus weithie, dywed? Weles i rioed o'r blaen rês o goed mawr, fel coed y Plâs, ar ganol stryt. Ond ddyliwn nad oes gynoch chi run ''Local Board'' yma?" "Mae pobl y Bala yn meddwl llawer iawn o'r coed, Thomas Bartley, ac yn rhoi pris mawr arnynt," ebe Williams. "Erbyn meddwl, wir, Mr. Williams, ebe Thomas, "synwn i ddim nad ydyn nhw yn ddigon handi ar ddiwrnod ffair i rwymo catel, ond mi ddaru nhw yn nharo i yn od pan weles i nhw. Ond dyma ti, Rhys, wyt ti am y nghymyd i dipyn o gwmpas i weld y dre? Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes â i'n ol. Oes gynat ti amser?" "Oes debyg," ebe fi. "Mi ddangosaf gymaint ag a allaf i chwi. Yr wyf yn cymeryd yn ganiatäol Thomas, eich bod wedi cael bwyd." "Do neno dyn, mi gês ginio efo Mr. Williams yma, syffisiant i undyn, a mi wnês yn harti dros ben." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4kwy7tha1a8zpu6nz9flpcb9nal4b9d Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/373 104 86176 166608 2026-06-18T00:07:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166608 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Purion," ebe fi, " wedi i mi ymolchi mi'ch cymeraf o gwmpas." "Ymolchi? i be wyt ti isio molchi? ond wyt ti fel pin mewn papyr—does ene run specyn arnat ti. Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?" Chwarddodd Williams, a rhedais innau i ymolchi. Yn y fynyd, daeth Williams ar fy ol i'r ystafell ac ymroliodd ar y gwely gan chwerthin nes cael poen yn ei ochr. Ebe fe—"Rhys, dyma'r ''original'' mwyaf a welais erioed am llygaid. Mae'r bechgyn wedi cael gwerth punt o sport hefo fo o Gorwen i'r Bala; a mae nhw wedi fy siarsio i ddeyd wrthat ti am ei gadw yma cyd ag y medri di. Fedre ni mo'i smyglo fo i'r class, dywed? Mi fyddai yn ''''perfect treat'''' "Fydde hyny ddim ''quite'' y peth," ebe fi. Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd ''raid'' i mi fynd ag ef o gwmpas. Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre mi fase yn dda gen i; mi fydd pawb yn edrych ar ein holau." "Paid a chyboli," ebe Williams, "fasa fo ddim chwartar cystal heb y golar. Mae'r golar yn werth can' punt! Gai ddod hefo chi? os ca' i, mi gaiff y mathematics, am heddyw'r prydnawn, fynd i Jerico." "Gei di, wir!" ebe fi, " yr oeddwn ar fedr cynyg pum swllt i ti am ddyfod i gymeryd peth o'r cywilydd." Pan euthom i lawr i'r parlwr, yr oedd Thomas yn sefyll ar ei draed ac yn ail lwytho ei bibell; a phan welodd efe ein bod yn barod i gychwyn, ebe fe—" Ydi Mr. Williams yn dwad? Wel clên shoe! Aros di, Rhys, weles i monot ti yn cymyd dim byd at dy ben er's pan ydw i yma? chês di ddim bwyd? "Do, Thomas," ebe fi, "mi gês fwyd yn Rhyd-y-fen." "Rhyd-y-fen? lle mae fan hono, dywed? ydi hi yn daith?" "Na, tŷ tafarn ydyw Rhyd-y-fen, hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog," ebe fi. "Be, be!" ebe Thomas, "ydyn nhw yn lowio yn y wlad ucha 'ma i bygethwrs fynd i dafarne? Ond does dim harm yn y peth ynddo'i hun, yn ol y meddwl i, a mi fyddwn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy ''strict'' hefo hyny. Ond gadewch i ni fynd, bobol," a thaniodd Thomas ei bibell. "Hwyrach mai gwell fyddai i chwi beidio smocio yn dref, Thomas,' ebe fi. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> pny1m4hs3qppxf7ablbsrfbtoodcnpd 166609 166608 2026-06-18T00:09:46Z AlwynapHuw 1710 166609 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Purion," ebe fi, " wedi i mi ymolchi mi'ch cymeraf o gwmpas." "Ymolchi? i be wyt ti isio molchi? ond wyt ti fel pin mewn papyr—does ene run specyn arnat ti. Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?" Chwarddodd Williams, a rhedais innau i ymolchi. Yn y fynyd, daeth Williams ar fy ol i'r ystafell ac ymroliodd ar y gwely gan chwerthin nes cael poen yn ei ochr. Ebe fe—"Rhys, dyma'r ''original'' mwyaf a welais erioed am llygaid. Mae'r bechgyn wedi cael gwerth punt o sport hefo fo o Gorwen i'r Bala; a mae nhw wedi fy siarsio i ddeyd wrthat ti am ei gadw yma cyd ag y medri di. Fedre ni mo'i smyglo fo i'r ''class'', dywed? Mi fyddai yn ''perfect treat'' "Fydde hyny ddim ''quite'' y peth," ebe fi. Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd ''raid'' i mi fynd ag ef o gwmpas. Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre mi fase yn dda gen i; mi fydd pawb yn edrych ar ein holau." "Paid a chyboli," ebe Williams, "fasa fo ddim chwartar cystal heb y golar. Mae'r golar yn werth can' punt! Gai ddod hefo chi? os ca' i, mi gaiff y mathematics, am heddyw'r prydnawn, fynd i Jerico." "Gei di, wir!" ebe fi, " yr oeddwn ar fedr cynyg pum swllt i ti am ddyfod i gymeryd peth o'r cywilydd." Pan euthom i lawr i'r parlwr, yr oedd Thomas yn sefyll ar ei draed ac yn ail lwytho ei bibell; a phan welodd efe ein bod yn barod i gychwyn, ebe fe—" Ydi Mr. Williams yn dwad? Wel clên shoe! Aros di, Rhys, weles i monot ti yn cymyd dim byd at dy ben er's pan ydw i yma? chês di ddim bwyd? "Do, Thomas," ebe fi, "mi gês fwyd yn Rhyd-y-fen." "Rhyd-y-fen? lle mae fan hono, dywed? ydi hi yn daith?" "Na, tŷ tafarn ydyw Rhyd-y-fen, hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog," ebe fi. "Be, be!" ebe Thomas, "ydyn nhw yn lowio yn y wlad ucha 'ma i bygethwrs fynd i dafarne? Ond does dim harm yn y peth ynddo'i hun, yn ol y meddwl i, a mi fyddwn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy ''strict'' hefo hyny. Ond gadewch i ni fynd, bobol," a thaniodd Thomas ei bibell. "Hwyrach mai gwell fyddai i chwi beidio smocio yn dref, Thomas,' ebe fi. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> k2xz5lcn8vgt07oflp9e54r1aal8vq4 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/374 104 86177 166610 2026-06-18T09:56:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166610 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Oes drwg am hyny? ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala 'ma?" gofynai yr hen frawd. "'Does dim drwg yn y peth, am a wn i, Thomas; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hyny yma," ebe fi. "Hyhy! a finne'n clywed mai rhai garw oeddach chi yma am smocio. Ond bid a fyno, chwadel y dyn od hwnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn ni. Mae gen i isio gweld tri pheth—Green y Bala, y bydde dy fam byth a hefyd yn bethma yn 'i gylch o —y llyn—a'r gloch. Mi glywes y nhad yn deyd gantodd o weithie am rwbeth fydde reit sâff—'can sowndied a chloch y Bala." "Ni a awn yn gyntaf i weld y llyn, Thomas," ebe fi, oblegid yr oeddwn yn awyddus am gael myned drwy y dref yn gyflym tua chyfeiriad Llanycil rhag i ni dynu sylw y trigolion. Ond yr oedd hyny yn fwy o orchwyl nag a dybiaswn. Mynai Thomas gael aros i edrych ar bobpeth. Safodd ar ganol yr heol a'i ddwylaw dan labedi ei gôb, a'i het ar ei wegil, a phan gerddais ymlaen ychydig, gwaeddodd yn uchel arnaf, "Rhys, aros, cymer dy wynt fachgen! Wel mae'r coed yma yn bethe digri ar ganol stryt, bydawn i byth o'r fan yma! Dyma champion o dafarn, be ydi henw hi, dywed?" ''"White Lion,"'' ebe fi yn ddystaw, gan obeithio y buasai yntau yn siarad yn yr un cywair. "Oh ''White Lion!''" ebe fe yn uchder ei ben. Safai pobl i edrych arnom—deuai masnachwyr i'r drysau—ymdyrai plant o'n cwmpas; ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl fod ''coler'' fawr Thomas, a'r olwg ryfedd oedd arno yn peri iddynt oll ddysgwyl ei weled yn gwneyd cylch ac yn dechreu perfformio rhyw gampau o flaen y ''White Lion'', ac ni wyddwn pa beth i'w wneyd gan gywilydd. Yr oeddwn hefyd yn teimlo yn ddig at Williams, oblegid yr oeddwn yn sicr ei fod yn mwynhau cymaint ar fy mhenbleth i ag oedd ar Thomas Bartley ei hunan, wrth ochr yr hwn y glynai yn glòs. Symudais ymlaen a chlywn Thomas yn gwaeddi yn uchel, "Be sy arnoch chi blant? Ar be dach chi'n rhythu? Welsoch chi rioed ddyn o'r blaen? Dyma'r plant rhyfedda a weles i rioed am llygid. Mi glywes lawer o sôn am blant y Bala bach.' Wyddoch chi be, os nad ewch chi oddma mi ro'r ffon yma ar ych cefne chi, a mi wna! Rhys, be ydi dy frys di? Ai un stryt ydi'r dre' ma, Mr. Williams? Dydw i'n gweld dim neillduol yni, a does 'ma ddim shope ''extra'' yt ol, a mae'r lle yn edrach yn ddigon ''quiet''. Roeddwn i wastad yn meddwl am y Bala<noinclude><references/></noinclude> r1odzi3x1fm4rfyh2k5supm7re3xmz1 166612 166610 2026-06-18T10:00:29Z AlwynapHuw 1710 166612 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Oes drwg am hyny? ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala 'ma?" gofynai yr hen frawd. "'Does dim drwg yn y peth, am a wn i, Thomas; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hyny yma," ebe fi. "Hyhy! a finne'n clywed mai rhai garw oeddach chi yma am smocio. Ond bid a fyno, chwadel y dyn od hwnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn ni. Mae gen i isio gweld tri pheth—''Green'' y Bala, y bydde dy fam byth a hefyd yn bethma yn 'i gylch o —y llyn—a'r gloch. Mi glywes y nhad yn deyd gantodd o weithie am rwbeth fydde reit sâff—'can sowndied a chloch y Bala." "Ni a awn yn gyntaf i weld y llyn, Thomas," ebe fi, oblegid yr oeddwn yn awyddus am gael myned drwy y dref yn gyflym tua chyfeiriad Llanycil rhag i ni dynu sylw y trigolion. Ond yr oedd hyny yn fwy o orchwyl nag a dybiaswn. Mynai Thomas gael aros i edrych ar bobpeth. Safodd ar ganol yr heol a'i ddwylaw dan labedi ei gôb, a'i het ar ei wegil, a phan gerddais ymlaen ychydig, gwaeddodd yn uchel arnaf, "Rhys, aros, cymer dy wynt fachgen! Wel mae'r coed yma yn bethe digri ar ganol stryt, bydawn i byth o'r fan yma! Dyma champion o dafarn, be ydi henw hi, dywed?" ''"White Lion,"'' ebe fi yn ddystaw, gan obeithio y buasai yntau yn siarad yn yr un cywair. "Oh ''White Lion!''" ebe fe yn uchder ei ben. Safai pobl i edrych arnom—deuai masnachwyr i'r drysau—ymdyrai plant o'n cwmpas; ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl fod ''coler'' fawr Thomas, a'r olwg ryfedd oedd arno yn peri iddynt oll ddysgwyl ei weled yn gwneyd cylch ac yn dechreu perfformio rhyw gampau o flaen y ''White Lion'', ac ni wyddwn pa beth i'w wneyd gan gywilydd. Yr oeddwn hefyd yn teimlo yn ddig at Williams, oblegid yr oeddwn yn sicr ei fod yn mwynhau cymaint ar fy mhenbleth i ag oedd ar Thomas Bartley ei hunan, wrth ochr yr hwn y glynai yn glòs. Symudais ymlaen a chlywn Thomas yn gwaeddi yn uchel, "Be sy arnoch chi blant? Ar be dach chi'n rhythu? Welsoch chi rioed ddyn o'r blaen? Dyma'r plant rhyfedda a weles i rioed am llygid. Mi glywes lawer o sôn am blant y Bala bach.' Wyddoch chi be, os nad ewch chi oddma mi ro'r ffon yma ar ych cefne chi, a mi wna! Rhys, be ydi dy frys di? Ai un stryt ydi'r dre' ma, Mr. Williams? Dydw i'n gweld dim neillduol yni, a does 'ma ddim shope ''extra'' yt ol, a mae'r lle yn edrach yn ddigon ''quiet''. Roeddwn i wastad yn meddwl am y Bala<noinclude><references/></noinclude> 03kspjxkjegw3d518eqe0zczyp8imgf Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/375 104 86178 166613 2026-06-18T10:03:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166613 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae tre oedd hi yn llawn o gapelydd, glwysi, a chlyche, a sgolion. Wyddoch chi be, Mr. Williams, dyma dafarn arall nobyl anwêdd, be ydi enw hon?" "''Bull'' mawr," ebe Williams." "''Bull'' mawr?" ebe Thomas, "enw go smala, yntê Mr. Williams. Ydach chi'n siarad yn y Bala 'ma run fath a phobol Bwcle, deudwch? tipyn o Gymraeg a thipyn o Sasneg? Helo Scwiar! yr ydw i wedi do'd o hyd iddo, mi welwch, oes posib cael tân?" Y "scwiar" hwn oedd Mr. Rice Edwards, yr hwn a safai ar y palmant o flaen ei dy a phibell wen yn ei safn. Croesodd Thomas Bartley ato, a dilynodd Williams ef, ac euthum innau ymlaen yn araf. Wedi cerdded ychydig gamrau, edrychais yn ol a gwelwn olygfa ryfedd. Ymddangosai Mr. Edwards a Mr. Bartley fel dwy golomen yn paru. Yr oedd pigau y goler fawr mewn agosrwydd peryglus i lygaid Mr. Edwards, tra yr oedd Thomas wedi gosod ffroen ei bibell ar ffroen pibell Edwards. Yr oedd yr olaf yn chwythu a'i fochau yn plympio allan fel pe buasai yn chwareu bugle, a'r blaenaf yn ''tynu'', ai fochau yn pantio, gan ddangos yn eglur ei fod wedi colli ei gil-ddannedd. Canfyddwn mai yr amcan mawr mewn golwg oedd cael tân ar Bibell Thomas Bartley, a chanfyddwn hefyd fod Williams yn cynnal ei ochrau wrth fwynhau yr olygfa. Yr oedd fy nghynghor i Thomas am beidio smocio ar yr heol, yn ofer, a chlywn ef yn chwibanu ac wed'yn yn gwaeddi arnaf—"Cymer yn ara' ddyn—dydi diwedd y byd ddim eto!" Yr oeddwn mewn brys am gael myned tuallan i'r dref, oblegid yr oedd pawb yn edrych yn gellweirus arnom, a theimlwn yn ddig enbyd wrth Williams am ei fod yn swcro ymgòm rhwng Mr. Edwards a Thomas Bartley, yr hwn olaf, ar ol cael tân ar ei bibell, a edrychai yn ddigon hamddenol. Cerddais ymlaen yn ddioglyd fel dyn wedi móni, ac yn y man clywn Thomas o fy lledol yn siarad yn nhop ei lais. "Capel y Batus ddaru ichi ddeyd oedd o, Mr. Williams? Ho! dydio fawr o beth. Ddyliwn nad ydyn nhw'n prifio fawr yma? Twbi shwar. Dydw i fy hun ddim yn leicio 'u trefn nhw yt ol. Bydae chi'n meddwl rŵan am rwfun fel Barbara acw sy'n cael 'i thrwblo gan y riwmatis a phoen yn 'i lode, wel on fydde fo yn ddigon am 'i bywyd hi. Bydde neno dyn. Mi glywes—wn i ddim ydio'n wir ond mi glywes fod nhw mewn ''case'' felly yn twmo'r dŵr, ond y mae hyny, yn ol y meddwl i, yn rhy debyg i fel bydae nhwyn mynd i ladd<noinclude><references/></noinclude> 9kqkx93y0c4e96pw49laglqbch5983i Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/376 104 86179 166614 2026-06-18T10:05:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166614 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (tanio cetyn).jpg|canol|400px]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bdezkfa0pkc30xivp4uw9mk72djx6fp 166615 166614 2026-06-18T10:06:17Z AlwynapHuw 1710 166615 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (tanio cetyn).jpg|canol|500px]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fl8dq0d3t7xvz4x1p8kdgh2wcnogi2s Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/377 104 86180 166616 2026-06-18T10:08:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166616 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mochyn. Well gen i drefn y Methadus o lawer, er mai yn reglwys y cês i 'y medyddio yn y flwyddyn—gadewch i mi weld?—dydw i ddim yn cofio, ond yr oedd o lawr yn meibil y nhad—yn henwe ni gyd. Rhys, oes gynat ti flys yn sgornio ni, dywed?" Er fod yr olwg ar fy hen gyfaill yn rhyfedd, ac yn tynu sylw nid ychydig, ni buaswn yn gofalu cymaint am hyny pe buasai yn peidio gwaeddi wrth siarad; a da gan fy nghalon oedd cael myned tuallan i'r dref. Ond nid cynt yr oeddwn allan o un brofedigaeth nag y cefais fy hunan mewn un arall. Wedi myned rhyw ganllath allan o'r dref, rhoddodd Williams bwniad i mi yn fy ystlys gyda'i benelin gan am neidio arnaf i edrych ymlaen, pryd y gwelwn un o'n hathrawon yn dyfod i'n cyfarfod, wedi bod yn cymeryd tro, yn ol ei arfer. O'r badell ffrio i'r tân, ebe fi wrthyf fy hun, a dechreuais gynllunio yn fy meddwl pa fodd y gallem fyned heibio heb wneyd mwy na rhoi y llaw wrth yr het, pryd y dywedodd Thomas "Hoswch chi, fechgyn, pwy ydi'r dyn yma sy'n dwad in cyfarfod ni? Ai nid hwn ydi'r mistar?" "Ië siwr," ebe Williams, yn barod ddigon. "Roeddwn inne'n meddwl hyny," ebe Thomas, "a dyn nobyl anwêdd ydio hefyd. Mae nhw'n deyd i mi fod o yn un doeth iawn, ac yn dallt dialedd o ieithodd; a ddyliwn fod o—mi feder dyn ddeyd hyny ar 'i olwg o. Mi glywes mae fo ydi'r dyn mwya o'r lot pan ddaw hi i'r pwsh. Ond dwyweth yrioed y clywes i o'n pygethu, a roeddwn i yn i leicio fo yn anwêdd. Roeddwn i yn dallt pob gair o'i bregeth o, achos roedd o yn rhoi amser i ddyn gysidro, ac nid run fath a John Hughes Llangollen yn dal ac yn gollwng ac yn ych gadel chi ar ol na wyddech chi ddim lle roeddech chi. Weles i rioed mor lwcus! rhaid i mi gael mygóm hefo fo, gael i mi gael deyd hyny wrth Barbara pan â i adre." "Mae ei amser yn brin, Thomas," ebe fi, "ac hwyrach mai gwell i ni fyned heibio gyda dyweyd prydnawn da." "Dim perygl," ebe Williams, "chwi ellwch fod yn siwr, Thomas Bartley, y bydd yn dda ganddo gael ymgóm â chwi, gan mai gŵr diarth ydych yn y Bala. A phe baech yn gofyn am gael dyfod i'r ysgol yr wyf yn sicr y caech ganiatâd ganddo, ac felly mi fyddai genych fwy o lawer i'w adrodd ar ol mynd adref." "Twbi shwar," ebe Thomas. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 7ll0r0ex4khnttcu2gdkmx1s8fkke3i Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/378 104 86181 166617 2026-06-18T10:14:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166617 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Teimlwn mor ddig at Williams fel y gallaswn, ymron, ei lindagu, a gwyddai yntau hyny yn burion. Gwelwn nad oedd o un dyben i mi geisio perswadio Thomas i ymwadu a'i fwriad gan fod Williams yn benderfynol o'i swcro. Yr oeddwn yn chwys dyferol, a Williams yn ddyferol o ddifyrwch. Hyd yn nod pe na buasai Thomas Bartley yn nghwmni dau ''student'', gwyddwn y buasai ei ymddangosiad yn tynu sylw ein Hathraw parchus, ac ymhell cyn dyfod ato, canfyddwn ar ei wyneb fynegai o'r ''sense of humour'' y mae dynion gwir fawr, ymron yn ddieithriad yn ei feddu. Cyn i mi gael amser i introducio fy nghyfaill o'r Twmpath, brasgamodd o fy mlaen, a chan ddal ei het yn ei law, ebe fe "Wel sut yr ydach chi er's talwm, syr? Weles i monoch chi er amser y Sysasiwn acw, a mae bylnyddoedd er hyny, a rydach chi'n edrach ''just'' run fath o hyd, syr." "Mr. Thomas Bartley, syr, un o'n haelodau ni acw—wedi dyfod i weld y Bala," ebe fi. "Da iawn," ebe ein Hathraw. "Mae yn dda genyf eich gweled, Mr. Bartley, a gobeithio eich bod yn cael eich boddhâu yn y Bala." "Welsoch chi rioed lai ydw i wedi weld o honi eto, syr, dim ond un stryt, ond ddyliwn i, yn ol hyny weles i, fod hi yn syffisiant," ebe Thomas. "Sut mae'r achos yn dyfod ymlaen acw y dyddiau hyn, Mr. Bartley? Mi gawsoch gryn golled yn marwolaeth Mr. Abel Hughes?" "Siampal, syr, siampal! Am beth amser ar ol marw Abel, roedd hi yn higyldipigyldi acw, ond erbyn hyn yr ydan ni wedi dwad yn reit clên, a chysidro. Pryd ydach chi'n dwad acw i bygethu eto, syr? Mi leiciwn yn shoe bydaech chi'n dwad, achos rydw i'n dallt pob gair o'ch pregeth chi; a mi leiciwn yn anwêdd bydae chi'n dysgu y pygethwrs ifinc yma i bygethu yn fwy plaen—mae nhw yn rhy ddufn o lawer i mi a fy sort. Wyddoch chi be, syr? roedd ene un o honyn nhw acw yn ddiweddar, a fedrwn i neyd na rhych na gwellt o hono fo. Roedd o yn sôn am rw 'olwynieth,' ne 'unolieth,' ne rwbeth, dydw i ddim yn cofio'r gair, i fod yn siwr, a fedre Barbara na finne neyd na rhawn na bwgan o'r peth oedd o'n ddeyd; a mi brotesties wrth Dafydd Dafis y deudwn i wrthoch chi y tro cynta gwelwn i chi, syr." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tsd34dhzw5ieaktfi36kefzfl7ebgx7