Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.7
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Defnyddiwr:AlwynapHuw
2
3113
166642
161212
2026-06-18T20:11:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Bracedi Cyrliog */
166642
wikitext
text/x-wiki
Angen gwirio [[:Categori:Deleteme]] yn rheolaidd!
==Categoriau uwchlwytho comin==
{{Div col|3}}
*Uploads by User:AlwynapHuw
*Literature of Wales
*Novels in Welsh
*Books from Wales
*Poetry books from Wales
*Poetry of Wales
*Plays from Wales
*Welsh poets
*History books from Wales
*History of Wales by historic county
*Book covers from Wales
*Folklore of Wales
*Mythology of Wales
*Welsh National Assembly Acts
*Welsh Parliament Acts
*Biographical compilations
*Christianity in Wales
*Religious Welsh text
*Theologians from Wales
*Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
*History of towns in Wales
*Music of Wales
*Welsh musicians
*Politics of Wales
*Wikipedia screenshots
{{Div end}}
==Cerdd==
<nowiki><poem></nowiki>

<nowiki></poem></nowiki>
<poem>
Un dau tri
Mam yn dal y pry
</poem>
===Cadw canoli dros nifer o dudalennau===
[https://en.wikisource.org/wiki/Help:Page_breaks#Tables_across_page_breaks| am dablau dros nifer o dud]
====Tud 1af====
Ar y dalen

<nowiki>{{Center block/s}}</nowiki>

<nowiki><poem></nowiki>

Testun

<nowiki></poem></nowiki>

Yn y blwch troednodyn

<nowiki>{{Div end}}</nowiki>
====Tudalennau canol====
Yn y blwch pennyn

<nowiki>{{Center block/s}}</nowiki>

Ar y dalen

<nowiki><poem></nowiki>

Testun

<nowiki></poem></nowiki>

Yn y blwch troednodyn

<nowiki>{{Div end}}</nowiki>
====Tudalen olaf====
Yn y blwch pennyn

<nowiki>{{Center block/s}}</nowiki>

Ar y dalen

<nowiki><poem></nowiki>

Testun

<nowiki></poem></nowiki>

<nowiki>{{Div end}}</nowiki>
===Canoli===
<nowiki>{{center block|</nowiki>
<nowiki><poem></nowiki>
<nowiki></poem></nowiki>
<nowiki>}}</nowiki>
<nowiki>
</nowiki>
{{center block|
<poem>
Un dau tri
Mam yn dal y pry
</poem>

<nowiki>{{Center block/s}}</nowiki>

<nowiki><poem></nowiki>

<nowiki></poem></nowiki>

<nowiki>{{Div end}}</nowiki>

<nowiki>
</nowiki>
===Dyfynodau mewn cerdd===
<nowiki>{{fqm|"}}</nowiki> I gadw dyfynodau allan o ganoli cerdd
Mae
{{center block|
<poem>
<nowiki>{{fqm|"}}</nowiki>Un dau tri
Mam yn dal y pry
</poem>

yn creu
{{center block|
<poem>
{{fqm|"}}Un dau tri
Mam yn dal y pry
</poem>

yn hytrach na
{{center block|
<poem>
"Un dau tri
Mam yn dal y pry
</poem>

==Tablau==
===Canol efo ymyl===
<nowiki>{| class="wikitable" style="margin: auto; border: none;"</nowiki>

<nowiki>|-</nowiki>
efo ymyl canoli testun

<nowiki>{| class="wikitable" style="text-align: center; margin: auto; border: none;"</nowiki>
|align="right" | 10
|align="center" | 10
===Llinell gyntaf tabl canol heb ymyl===
<nowiki>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"</nowiki>
efo hyd tabl
<nowiki>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:260px"</nowiki>
hyd colofn
<nowiki>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"</nowiki>

<nowiki>|-</nowiki>

<nowiki>! scope=col style="width: 350px;" |</nowiki>

<nowiki>! scope=col style="width: 350px;" |</nowiki>

<nowiki>|-</nowiki>
===Tabl dros nifer o dudalenau llyfr===
Enghraifft o dabl drost nifer o dudalenau [[Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/135]]
Rhoi elfenau agor tabl yn y bocs pennyn (heb yr |- olaf).
Rhoi:

<nowiki>{{nopt}}</nowiki>

ar y dalen o flaen y tabl a <nowiki>{{nop}}</nowiki> ar y dalen ar ôl y tabl
Rhoi elfenau cau tabl yn y bocs troedyn
==Fformatio==
<nowiki>Ctrl+|=<nowiki>Rhowch destun heb ei fformatio yma</nowiki></nowiki>
<nowiki>Ctrl+i=''Testun italig''</nowiki>
<nowiki>Ctrl+b='''Testun trwm'''</nowiki>
<nowiki>Ctrl+<=Testun isysgrif</nowiki>
<nowiki>Ctrl+>=Testun uwchysgrif</nowiki>
<nowiki>Ctrl+k=Mewnosod dolen</nowiki>
<nowiki>{{italic block|Italig dros sawl llinell neu baragraff}}</nowiki>
(mewn cerdd rhoi cyn y bloc ''poem'',
rhoi yn y bylchau mewn cerdd dros dalen)
<nowiki>{{uc|abcdefg}}</nowiki> {{uc|abcdefg}}
<nowiki>{{lc|ABCDEFG}}</nowiki> {{lc|ABCDEFG}}
<nowiki>{{Canoli| }} neu {{c| }}</nowiki>
<nowiki>{{right|}} neu {{r|}}</nowiki>
<nowiki>{{Underline|Gair}}</nowiki> {{Underline|Gair}}
<nowiki>{{Div col}}</nowiki>
<nowiki>{{Div col end}}</nowiki>
===Maint===
Testun

<nowiki>{{bach|}}</nowiki> {{bach|Testun}}

<nowiki>{{Mawr|}}</nowiki> {{Mawr|Testun}}

<nowiki>{{M-mawr|}}</nowiki>{{M-mawr|Testun}}

<nowiki>{{Mm-mawr|}}</nowiki>{{Mm-mawr|Testun}}

<nowiki>{{Mmm-mawr|}}</nowiki>{{Mmm-mawr|Testun}}

<nowiki>{{Mmmm-mawr|}}</nowiki>{{Mmmm-mawr|Testun}}

===Bwlch===
<nowiki>{{bwlch}}</nowiki> yn creu bwlch{{bwlch}}2em rhwng geiriau

<nowiki>{{bwlch|5em}}</nowiki> yn creu{{bwlch|5em}}bwlch mwy rhwng geiriau (gellir newid y rhif "em" yn ôl y gofyn. em = hyd y briflythyren M yn y ffont sy'n cael ei ddefnyddio <nowiki>{{bwlch|5em}}=</nowiki>''tua'' hyd MMMMM)
<nowiki>{{c|{{bwlch|5em}}</nowiki>
==Llinellau==
<nowiki>{{lein|15em}}</nowiki>{{lein|15em}}
<nowiki>{{bar|6}}</nowiki> {{bar|6}}llinell heb ei ganoli
<nowiki></nowiki>llinell<nowiki></nowiki>
<nowiki>{{Sfrac|3|2}}</nowiki> yn rhoi {{Sfrac|3|2}}
<nowiki>{{rule|height=4px}}</nowiki>
{{rule|height=4px}}
<nowiki>{{rule}}</nowiki>
{{rule}}
<nowiki>{{rule|height=4px}}{{rule}}</nowiki>
{{rule|height=4px}}{{rule}}
Llinell nodau:
<nowiki>{{***|5}}</nowiki> (dewis rhif y * sydd angen){{***|5}}
<nowiki>{{***|5|4em}}</nowiki> yn newid hyd y bwlch rhwng y nodau {{***|5|4em}}
<nowiki>{{***|5|char=@}} {{***|5|3em|char=x}} {{***|5|4m|char=♥}}</nowiki> ac ati, yn ffeirio * am nod arall{{***|5|char=@}}{{***|5|char=x}}{{***|5|3em|char=♥}}
nodau mwy:
<nowiki>{{Mawr|{{***|5}}}} {{Mmmm-mawr|{{***|3}}}}</nowiki>{{Mawr|{{***|5}}}}
{{Mmmm-mawr|{{***|3}}}}
==Priflythrenau ==
[[Defnyddiwr:AlwynapHuw/priflythrennau]]
<nowiki>{{Initial|[[File:Dringo'r Andes M.jpg|50px]]}}</nowiki>
<nowiki>{{Initial|[[File:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I (page 13 crop).jpg|50px]]}}</nowiki>
{{Initial|[[File:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I (page 13 crop).jpg|55px]]}}LAIN o wlad ydyw yr hyn a elwir 'Rhwng y Ddwy Afon,' ar gwr De-Orllewinol Sir Feirionydd, oddentu deuddeng milldir o led, a deunaw neu ugain milldir o hyd, rhwng dwy afon, sef yr Afon Mawddach ac Afon Dyfi. Ymestyna o ran ei hyd o Lwyngwril i gwr uchaf Aberllyfeni, a'i lled o Arthog i Bennal. Amgylchynir y rhandir o du y Gorllewin gan ran o'r môr a elwir Cardigan Bay; o du y Dwyrain, gan Gadair Idris, a Llyn Tal-y-llyn; o du y Gogledd, gan yr Afon Mawddach, neu Afon yr Abermaw; o du y De, gan Afon Dyfi. Ac o'r tu arall i Afon Dyfi
===Dropinitial===
<nowiki>{{Dropinitial|'''C'''}}YN y gellid gwneuthur dim</nowiki>
{{Dropinitial|'''C'''}}YN y gellid gwneuthur dim
==Lliw==
<nowiki>{{color|red|Testun}}</nowiki> {{color|red|Testun Coch}}

<nowiki>{{color|green|Testun}}</nowiki> {{color|green|Testun Gwyrdd}}
{{color|darkred|darkred}}
{{color|maroon|maroon}}
{{color|orange|orange}}
{{color|yellow|yellow}}
{{color|lime|lime}}
{{color|olive|olive}}
{{color|teal|teal}}
{{color|aqua|aqua}}
{{color|blue|blue}}
{{color|navy|navy}}
{{color|indigo|indigo}}
{{color|violet|violet}}
{{color|fuchsia|fuchsia}}
{{color|purple|purple}}
{{color|RebeccaPurple|RebeccaPurple}}
{{color|greyed|greyed}}
{{color|silver|silver}} Mae black a white hefyd ar gael ond braidd yn afraid
<nowiki>{{serif|Serif text here}}</nowiki>
{{serif|FFONT Serif}}
==Linc i destun iaith arall==
<nowiki>[[:en:The_Song_of_Hiawatha|''Hiawatha'']]</nowiki> [[:en:The_Song_of_Hiawatha|''Hiawatha'']]
==Bracedi Cyrliog==
Defnyddio "Golygu cod" i weld y cod

| Item 1
| rowspan=2|{{brace2|2|r}}targed

| Item 2

| Item 1
| rowspan=3|{{brace2|4|r}}

| Item 2

| Item 3

| Item 1
| rowspan=4|{{brace2|6|r}}

| Item 2

| Item 3

| Item 4

Canoli. Defnyddio:
<nowiki>{|style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;</nowiki> ar y rhes uchaf
{|style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;
| Ci
| rowspan=3|{{brace2|4|r}}Anifeiliaid

| Cath

| Ceffyl

Cael y bracedi mewn rhes fertigol
{|style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;
| Ci
| rowspan=3|{{brace2|4|r}}Anifeiliaid

| Cath

| Ceffyl

| Moron
| rowspan=4|{{brace2|5|r}}Llysiau

| Tatws

| Maip

|Bresych Brwsel

==Cyfeiriadau==
<nowiki>=={{Cyfeiriadau}}==</nowiki>
<nowiki>{{Cyfeiriadau}}</nowiki>
<nowiki>==Ffynhonnell==</nowiki>

<nowiki>{{Cyfeiriadau}}</nowiki>
<nowiki><ref>Emyn rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930</ref></nowiki>
===Paragraff mewn <nowiki><ref></ref></nowiki>===
<nowiki>{{Paragraph break}}</nowiki>{{Paragraph break}}
neu <nowiki>{{prbr}}</nowiki>
===Cyfeiriad dros 2 dalen===
<nowiki><ref name="tud51">Ar y dudalen 1af</ref></nowiki>

<nowiki><ref follow="tud51">Ar yr ail</ref></nowiki>
==Dyfynnu==
<nowiki>{{dyfyniad| }}</nowiki>
{{dyfyniad|Yn golygu Defnyddiwr:AlwynapHuw}}
neu
<nowiki>{{quote| }}</nowiki> i hepgor y "" cyrliog glas
{{quote|Yn golygu Defnyddiwr:AlwynapHuw}}
==Diwedd/Dechrau Adran==
<nowiki>## Diwedd A ##</nowiki>
<nowiki>## Dechrau B ##</nowiki>
tosection="Diwedd A"
fromsection="Dechrau B"
fromsection="bbb" tosection="ccc"
<nowiki>==Nodiadau==</nowiki>

<nowiki><references/></nowiki>
==Gorffen paragraff ar waelod tudalen==
(ar linell newydd)¶

<nowiki>{{nop}}</nowiki>
===Gorffen pennill cerdd===
<nowiki>
</nowiki>
==Llyfrau i'w gwneud==
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/ Llyfrau ar y gweill]]
* [[Rhestr o dudalennau Indecs]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Pwll Tywod]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Cychwyn llyfr]]
* [[Llyfrau wedi eu cyhoeddi sydd angen gwirio]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Indecs ar ei hanner]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau wedi eu Cyhoeddi mewn melyn]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Camau Cymorth]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau 2026]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Blociau Ab Owen]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/logos gweisg]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Lyfrau Hathi wedi 1900]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau/Ab Owen]]
* [[Cod cerddi ac englynion]]
* [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/tudalen rhagolwg]]
==Cynwys darlun o dudalen llyfr==
[https://croptool.toolforge.org/? Crop Tool]
<nowiki>[[Delwedd:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu|bawd|tudalen=1]]</nowiki>
<nowiki>[[Delwedd:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu|canol|600px|tudalen=1]]</nowiki>
==Bocs sylw ar yr ochor==
<nowiki>{{Sidebox|Drych feddyliau byw.}}</nowiki>
<nowiki>{{Sidebox|Gwladgarwch.|right}}</nowiki>
Yr oedd wedi cael y fantais oreu i weled beth godai Gymru hefyd, treuliodd ei febyd yn nyffryn y Dyfrdwy ac ar lethrau'r Berwyn, a deffrodd ei feddwl tra'n astudio cyfraith yn Llundain, a thra'n dwyn arfau y milwr oedd wedi {{Sidebox|Drych feddyliau byw.}} crwydro mwyaf, mae'n debig, o holl filwyr yr oes. Ond cafodd gyfleustra hefyd. Prun bynnag a oedd hynny wrth ei fodd ai peidio, rhoddwyd angenrhaid arno i arwain cenedl, a chenedl fwy unol nag a welwyd ar fynyddoedd Cymru erioed o'r blaen. Tybiodd ef ei fod yn codi tarian ac yn dadweinio cledd Llywelyn, ac yr oedd yn credu'n gryf fod gwaed hen dywysogion Cymru yn ei wythienau. Yr oedd ysfa am wybodaeth yn y byd hefyd. Yr oedd y dwyrain yn dechre tywallt ei thrysorau i'r gorllewin; yr oedd {{Sidebox|Gwladgarwch.|right}} Cyngor Vienne, yn 1311, wedi argymell dysgu Hebraeg, Caldaeg, ac Arabaeg. Yr oedd dysg yr Eidal yn anterth ei gogoniant, yr oedd y ganrif y ganwyd Owen Glyn Dŵr ynddi wedi gweled blodeuad Dante, Petrarca, a Boccaccio. Yn Ffrainc, yr oedd athroniaeth a meddyginiaeth yn eu llawn flodau, a'r ddrama'n dechre. Yn yr Almaen, yr oedd cyfnod y prifysgolion yn dilyn cyfnod y serch ganeuon; sylfaenwyd prifysgol Heidelburg. Yn Lloegr, yr oedd Chaucer a Langlande yn cyd—fyw âg Owen Glyn Dŵr; a hwyrach i'r yswain Cymreig weled Wyclif, seren fore'r Diwygiad. Yn ystod y ganrif hon,—y bedwaredd ar ddeg, sylfaenwyd deunaw o brifysgolion newydd.
==Rhifau Rhufeinig==
<nowiki>
<pagelist</nowiki>

1to9=-

10to20=roman 10=1

21=1

==Trwyddedau==
<poem>
<nowiki>{{Pd-old}}</nowiki> Awdur wedi marw dros 100 ml yn ôl
<nowiki>{{PD-old-70}}</nowiki> Awdur wedi marw rhwng 70 a 100 ml yn ôl
<nowiki>{{PD-US-expired}}</nowiki> Gweithiau a gyhoeddwyd cyn {{#expr:{{CURRENTYEAR}}-95}}, hyd yn oed pe boed yr awdur wedi marw ar ôl <nowiki>{{PD-old-70}}</nowiki>
<nowiki>{{OGL3}}</nowiki> Llywodraeth y DU neu Gymru
</poem>
==Ystadegau==
[[https://meta.wikimedia.org/wiki/Wikisource/Table]]
5narhcfely84kmiji7br742x9qq4mmd
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/380
104
86182
166618
2026-06-18T17:36:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166618
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac yn dop. Gyda pharodrwydd mawr y cymerodd Williams arno ei hun y gorchwyl o "ddangos pethau," i Thomas, a gwyddwn ei fod yn cael dirfawr bleser yn ''matter of fact way'' Thomas o edrych ar bobpeth. Pan daethom i sefyllfa fanteisiol i gael llawn olwg ar y llyn, y dadganiadau mwyaf barddodol a ddisgynasant dros wefusau Thomas oeddynt Wyddoch chi be, Mr. Williams, mi fase'r llyn yma yn gneyd mor go lew ar binch. Ddyliwn fod yma lawer o bysgod? Pw bluen sy'n cymyd? Coch-y-bonddu? Weles i le cleniach yn y mywyd i fagu chwiad." Gwrthododd Thomas ymweliad â mynwent Llanycil, am, meddai ef, fod pob mynwent a welodd erioed yr un fath, ac yn gwneyd iddo feddwl am Seth, ac hefyd, am fod arno eisieu dychwelyd i'r Bala i gael gweled y "gloch." Cymerodd Williams drafferth i egluro i Thomas mai yn nychymyg pobl yn unig yr oedd y gloch enwog, neu o leiaf ei fod ef a minnau wedi methu dod o hyd iddi. "Ho!" ebe Thomas, "ddyliwn mai tipyn o scit ydi hi, run fath ag y bydd pobol yn deyd mae'r peth gore fu rioed at fendio briwiau ydi oil traed malwod."
Er maint a ymdrechwn i oedi ein dychweliad, gyda'r amcan o gadw fy hen gymydog am noddwr rhag myned i'r dosbarth, yr oedd Williams yn rhy gyfrwys i mi, a gofalodd am i ni gyrhaeddyd ein llety erbyn hanner awr wedi pedwar, yr adeg, fel y deallais ar ol hyny, yr oedd efe wedi gorchymyn tê i fod yn barod. Pan welais y darpariaethau yr oedd Williams wedi eu harchebu—er mai prin y gallai efe a minnau eu fforddio—deallais ei fod wedi gwneyd yr hyn a ddylaswni fod wedi ei wneyd, sef rhoi croesaw i Thomas Bartley; a theimlais yn euog, a da oedd genyf na wyddai Thomas hyny. Gwelwn hefyd berygl i Thomas dybied fod ein "''profisiwns''," chwedl yntau, yn well nag oeddynt mewn gwirionedd, ac y byddai iddo ddyweyd hyny wrth laweroedd, oblegid gwyddwn nad oedd ganddo attalfa ar ei dafod. Prin yr oedd y syniad wedi myned drwy fy meddwl nag y dywedodd Thomas— "Wyddoch chi be, fechgyn? rydach chi'n byw fel ''fighting cocks''! Ond newch chi byth ddim gwell, achos os na chaiff dyn fwyd go lew waeth iddo fo roi ei gardia yn tô." Bychan a wyddai Thomas mai "cinio clwb " oedd hi gyda ni y diwrnod hwnw.
Aeth y pryd drosodd ymhen ychydig fynydau, a mynai Williams i ni fyned i'r dosbarth ar unwaith, a gwyddwn mai ei amcan oedd<noinclude><references/></noinclude>
33frfy29u9av1agoautbbg5g4k5pmnt
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/381
104
86183
166619
2026-06-18T17:51:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166619
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhoi i'r bechgyn ychydig ''insight'' i Thomas Bartley cyn i'r Athraw ddyfod yno. Ond curais ef y tro hwn: Ebe fi. "Mae Thomas eisieu mygyn yn gyntaf."
"Twbi shwar, os oes amser," ebe Thomas Pa fodd bynag gofalodd Williams am i ni fod yn y dosbarth erbyn pump o'r gloch i'r fynyd. Dosbarth ydoedd hwn lle y darllenid y Testament Groeg. Er nad oeddym ni "y myfyrwyr newydd" yn deall dim o'r Groeg, yr oeddym, serch hyny, yn cael holl fanteision yr esboniadaeth mewn iaith a ddeallem, ac yr oedd ymron yr oll o'r myfyrwyr yn rhoddi eu presennoldeb ynddo. Yr oedd yno gynnulliad cryno iawn y noswaith hono, ac ar ein mynediad i mewn rhoddwydi ni ''cheers'' byddarol, a gwelais ar unwaith fod cyd-deithwyr Thomas Bartley o Gorwen i'r Bala wedi bod wrthi yn " cyboli," chwedl Williams. Yr oedd ynof ymwybyddiaeth anhyfryd mai nid i Thomas, fel y cyfryw, y bwriedid y ''cheers'', ond i'r goler anferthol. Gwnaeth Thomas foesymgrymiad gweddeiddlwys, yr hyn a gynyrchodd ''cheers'' arall; yna eisteddodd rhwng Williams a minnau. Yn y fynyd, cododd Williams ar ei draed, ac ebe fe "Mr. Thomas Bartley, feneddigion,—cyfaill Mr. Rhys Lewis—" ond cyn iddo gael dyweyd ychwaneg, daeth yr Athraw i mewn, ac wele bu tawelwch mawr. Sibrydodd Thomas yn fy nghlust—" Wyst di be, mae 'ma lot ryfeddol o honoch chi, ac yr ydach chi'n debyg i'ch gilydd, blaw y dyn acw â'r trwyn cam. Ydi o yn ''biwpyl têchar''?" Rhoddodd Thomas nòd ar yr Athraw fel pe buasai yn hen ''chum'' iddo, a chydnabyddodd yntau y nód yn barchus a thrôdd ei wyneb draw, a sylwais fod ei war yn nodedig o gôch—fel pe buasai wedi llosgi yn ngwres yr haul. Yna aethpwyd ymlaen gyda gwaith y dosbarth am oddeutu ugain mynyd. Yn ystod y pum' mynyd cyntaf edrychai Thomas yn gywrain a beirniadol fel gŵr yn clorianu cerddorion; yn ystod yr ail bum' mynyd, edrychai dipyn yn patronising; y trydydd pum' mynyd, arwyddodd gryn anesmwythder, a gofynodd i mi yn ddystaw—"fyddwch chi'n hir eto?" a'r pum mynyd olaf, ymsuddodd i'w goler fawr, ac ofnwn ei glywed yn dechreu chwyrnul Ar hyd yr amser, yr oedd y bechgyn yn edrych dan eu cuwch ar Thomas ac ar Williams a minnau, ac yn gwneyd gwynebau â siaradent gyfrolau. Yr oedd arnaf ofn mawr, meddaf, i Thomas ddechreu chwyrnu, ac hwyrach mai ofn cyffelyb a barodd i'r Athraw, ar derfyn yr ugain mynyd, lefaru i'r perwyl canlynol—
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
av4rzdyhh07dc83p1u4pu1nx7y8my18
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/382
104
86184
166620
2026-06-18T17:55:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166620
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Perhaps we had better leave off there. You see that Mr. Lewis, with my permission, has brought a friend with him to the class this evening. This is an unusual thing, and must not be looked upon as establishing a precedent. But I thought that Mr. Lewis's friend might give you as preachers a word of advice. Words of wisdom are not to be despised from whatever quarter they come. Yr oeddwn yn dyweyd, Mr. Bartley, (deffrôdd Thomas, ac ymgododd o'i goler fel pe buasai yn dyweyd—"ie dene fenw i,") wrth y dynion ieuainc y gallai fod genych air o gynghor iddynt. Dywedwch air Mr. Bartley, mae eisieu dyweyd llawer y dyddiau hyn wrth ein dynion ieuainc."
"Welsoch chi rioed fy salach i am ddeyd rhwbeth, syr," ebe Thomas. "Ond fydda i byth yn leicio bod yn od ac yn anufudd. Mi glywes lawer o són am y Bala, syr; a phan ddôth Rhys 'ma attoch chi {{bar|3}} roedd i fam o a finne yn ffrindie mawr—y hi ddaru nwyn i at grefydd, a doeddwn i yn gwbod dim nes iddi hi sponio i mi, a gwraig ryfeddol oedd hi—mi ddeudes wrthi lawer gwaith bydase hi yn hapno bod yn perthyn i'r ''Ranters'' y base hi yn gneyd champion o bygethwr ''(cheers)'' — Hoswch chi—be oeddwn i'n mynd i ddeyd? O ïe! pan ddôth Rhys attoch chi mi bendrafynes y down i i weld y Bala rwdro, a heddyw bore, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn (''cheers'') be fi—heddyw am dani. O Gorwen i'r Bala mi ges ride hefo lot o'r pygethwrs ifinc yma, a mi ges fy synu yn fawr ynyn nhw, syr. Roeddwn i wastad yn meddwl am y ''students'' mai rhw bethe a'u pene yn 'u ply' oeddan nhw—wedi hanner dori 'u clone, ac yn darnlwgu hunen. Ond weles i fechgyn cleniach yrioed—doeddan nhw ddim byd tebyg i bygethwrs, achos roeddan nhw yn od o ddifyr. Wyddoch chi be, syr? roedd Mr. Williams yma (gan roddi ei law ar ei ysgwydd) yn medryd ych actio chi i'r blewyn; bydaswn i yn cau fy llygid faswn i ddim yn gwbod nad y chi oedd o."
Pan ddywedodd Thomas hyn, cafodd daranau o gymeradwyaeth gan yr holl fechgyn oddigerth Williams, yr hwn a wridodd at fôn ei wallt. Ac nid drwg oedd genyf ei weled yn cael ei roddi yn y pair, canys yn ystod y prydnawn hwnw yr oedd efe wedi ei ddifyru fwy nag unwaith ar fy nghost i. Am eiliad neu ddau, edrychodd Thomas fel pe buasai yn methu gwneyd allan ystyr y gymeradwyaeth—pa<noinclude><references/></noinclude>
6h1uy8pjn2mmzfynfa9rh7f5ssyhbvv
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/383
104
86185
166621
2026-06-18T17:56:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166621
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un ai ''good hit'' ai camgymeriad a wneuthai. Wedi petruso tipyn ychwanegodd—" Mae o can wired â'r pader, syr," yr hyn a dynodd allan gymeradwyaeth arall ac a sefydlogodd feddwl Thomas ei fod wedi dyweyd rhywbeth rhagorol, ac aeth ymlaen.
"Ond rhaid i mi ddyweyd y gwir yn 'u gwynebe nhw, syr; dydw i ddim yn 'u gweld nhw mor glyfar wrth bygethu. Mi na i gyfadde mod i'n ddwl—achos roeddwn i yn hen yn dwad at grefydd; a mi na gyfadde mai ychydig o honyn nhw glywes i yn pygethu, a hwyrach nad oedd rheiny y rhai gore. Pan fyddwch chi yn pygethu, syr, yr ydw i yn ych dallt chi yn champion; ond a deyd y gwir yn onest fedrwn i neyd na rhawn na bwgan o'r ''students'' fu acw, a fedre Barbara neyd dim ar chwyneb y ddaear o honyn nhw. Dydyn nhw ddim yn sôn digon, syr, am Iesu Grist ac am y nefoedd. Mae gan rwfun fel fi grap go lew ar hyny. Yr oedd ene un o honyn nhw acw yn sôn mwy na digon am 'olwynieth,' ne rwbeth tebyg, a wyddwn i tŷ nesa i lidiart y mynydd be oedd o'n feddwl wrth hyny. Roedd Rhys yn deyd wrtha i nad oeddach chi ddim yn 'u dysgu nhw i bygethu, a mae hyny yn biti garw. Mi wnych bod chi yn fwy doeth na fi, ond bydaswn i yn ych lle chi, syr, mi faswn yn gneyd iddyn nhw bygethu o'ch blaen chi un bob wythnos—ac ar ol iddo fo ddarfod mi faswn yn deyd wrtho lle roedd o wedi misio, ac os na fase fo yn gneyd fel roeddach chin deyd wrtho, mi faswn yn rhoi ''hold out'' iddo. Wrth bygethu yn Gymraeg y mae'r bechgyn yn dysgwyl ynill 'u byfolieth, a waeth iddyn nhw heb ddysgu ieithodd pobol sy wedi marw er's cantodd o flynyddodd os na fedra nhw bygethu mewn iaith y meder pawb 'u dallt nhw. Dene meddwl i, syr, hwyrach mod i'n misio, achos does gen i fy hun ddim ond crap ar y llythrene. Yr ydw i wedi synu mai mewn tŷ gwâg yr ydach chi yn cadw'r ysgol, a mae'n dda gen i, ar ol i mi 'ch gweld chi, y mod i wedi rhoi hanner sorfen i'r dyn bychan gwael 'i iechyd hwnw oedd yn casglu at i chi gael ysgol newydd. Dene un o'r dynion noblia, syr, a weles yrioed a'm llygid—faswn i byth yn blino gwrando arno fo. Roedd o'n deyd mai o'r Bala roeddan ni yn cael ceiliogod i ganu, a fydda i byth yn clywed y ceiliogod ifinc acw yn canu ar y buarth heb gofio am 'i air o. Os daru chi sylwi, syr, rhw nâd ddigon rhyfedd fydd y ceiliogod ifinc yn 'i neyd am gryn bedwar mis, yn enwedig os na fydd ene hen geiliog i roi patrwm iddyn nhw. Ond<noinclude><references/></noinclude>
efzfdi9703rn7krheagduuspci2trmc
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/384
104
86186
166622
2026-06-18T17:59:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166622
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>waeth i chi prun mae nhw yn dwad bob yn dipyn i diwnio yn nobyl. Yr ydw i yn cymyd tipyn o interest, syr, mewn fowls—mae Rhys yn gwbod —a'r cywion casa ar y ddaear gen i ydi rheiny, na wyddoch chi prun ai iar ai ceiliog ydyn nhw. Os na fyddan nhw yn dangos yn o fuan be ydyn nhw, mi fydda yn tori 'u pene nhw. Wel, mae yn dda gen i o nghalon ych gweld i gyd mor gyfforddus, a gybeithio y gnewch chi fadde i mi am gymyd cymin o'ch hamser chi."
Eisteddodd Thomas ynghanol cymeradwyaeth maith ac uchel, a chlywn ef yn gofyn i Williams, "Be ydi menin y ''cheers'' yma, Mr. Williams? ddaru mi siarad yn o deidi?" "Campus!" ebe Williams.
"Wel, Mr. Bartley," ebe yr Athraw, "yr ydw i yn gobeithio yn fawr y bydd i'r dynion ieuainc ddal ar eich cynghorion gwerthfawr, a'ch sylwadau pwrpasol. Y troion nesaf y bydd y ''students'' yn pregethu acw, cymerwch sylw manwl o honynt—a ydynt yn gwella. Os na fyddant yn dangos yn eglur pa un ai iar ai ceiliog ydynt, gadewch i ni gael gwybod, Mr. Bartley, er mwyn i ni gael tori eu pene nhw!"
Ynghanol cymeradwyaeth fyddarol ysgydwodd yr Athraw ddwylaw â Thomas Bartley ac aeth ymaith. Can gynted ag y gadawodd efe yr ystafell, cyfododd un o'r myfyrwyr a chlôdd y drŵs. "Be sy fod yrwan?" gofynai Thomas i mi. "Wn i ddim," ebe fi, mwy ni wyddwn, ond deallais fod rhywbeth i fod. Yn ddiattreg, ebe D. H. Aberdaron (efe oedd y gŵr yr ymholasai Thomas yn ei gylch a ydoedd yn biwpyl têchar"). "Gyfeillion, mae'n ymddangos mai nid sôn am yr 'olwynieth,' y cyfeiriwyd ato gan Mr. Bartley, ydyw yr unig fai yr ydym ni fel ''students'' yn euog o hono, er fod cyssylltiad agos rhwng yr 'olwynieth' a'r hyn y rhaid ei ddwyn ger eich bron. Ymddengys fod y brawd {{bar|3}} o Sir Ff{{bar|3}} sir galed—wrth ddyfod o'i gyhoeddiad, bore heddyw, drwy esgeulusdra ac anfedrusrwydd anfaddeuol, wedi achlysuro, a pheri i ''geffyl'' gwerthfawr Mr. Rice Edwards syrthio, a thori ei liniau, a thrwy hyny achosi colled fawr i'r dywededig Mr. Rice Edwards, a phoen echryslawn i'r dywededig ''geffyl''. Nid gwiw i ni edrych ar beth fel hyn yn ysgafn—rhaid ydyw i ni gael trin ei achos. Yn ol ein rheolau, rhaid gosod y brawd ar ei dreial. Gweithredaf fi fel barnwr; gwna Mr. V. P. actio fel erlynydd, ac er mwyn rhoddi pob chware têg i'r cyhuddedig, caiff Mr.<noinclude><references/></noinclude>
nce23tuzki8y0pwq308nm2it5xgjh6v
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/385
104
86187
166623
2026-06-18T18:09:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166623
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rhys Lewis, am ei fod yn dyfod o'r un sir ag ef, ei amddiffyn. Yr wyf yn penu Mr. Thomas Bartley yn ''foreman of the jury'', a Mr. John Jones yn ''interpreter.''"
"Ai o ddifri, ai o fregedd, mae o'n siarad, dywed?" gofynai Thomas i mi. "O fregedd," ebe fi. "Ho! tipyn o scit, ddyliwn," ebe Thomas yn fywiog.
Mewn llai o amser nag y gallaf fi ysgrifenu y geiriau, yr oedd y " prawf" mewn llawn weithrediad. Nid wyf am gynyg rhoi adroddiad manwl o hono, er y gallwn wneyd hyny. Yn Saesonaeg y dygid y prawf ymlaen. Edrychai y cyhuddedig fel cyhuddedig—yn isel ei ysbryd. Eisteddai D. H., y barnwr, yn nghadair yr Athraw, yr hon a osodwyd ar dop y bwrdd. Yr oedd cadach gwyn wedi ei lapio am ei ben, yn lle wig. Yn ol ei ymddangosiad, sylweddolai Thomas Bartley bwysfawredd ei swydd fel ''foreman,'' ac nid oedd yn colli gair. Yr oedd V. P. yn fachgen doniol a siaradus, ac yn gwneyd ei ran fel erlynydd yn ddiguro. Galwodd ymlaen amryw dystion i roddi caritor i'r ceffyl fel un o ymddiried a hollol annhueddol i fyned ar ei liniau ond drwy esgeulusdra gwaradwyddus y gyrwr. Er maint a ymdrechwn i ysgwyd eu tystiolaethau am iachusrwydd a chyfander gliniau y ceffyl, nid oedd dim yn tycio. Ymhlith y ''students'', a hwy yn unig, yr oeddwn wedi colli y caethiwed y buaswn ynddo ar hyd y prydnawn, a theimlwn yn hollol ddilyffethair, ac ymdaflais gyda fy holl ysbryd i amddiffyn y cyfaill o'r un sir a mi. Ond nid oedd o un dyben—yr oedd yr achos yn ddrwg, a phob tyst yn rhoi gair da i'r ceffyl. Parhâodd y prawf am awr a hanner, a chafwyd cryn ddifyrwch yn ngwaith y tystion oeddynt yn Saeson rhagorol yn gwrthod siarad yn yr iaith hono, ac felly yn gorfodi Mr. John Jones i gyfieithu, yr hwn oedd y Sais gwaelaf o honom oll. Gwnaethum yr araeth oreu a fedrwn o blaid fy nghyfaill, ond yr oedd ynof ymwybyddiaeth nad oedd genyf droed i sefyll arno; ac yr oedd fy unig obaith yn nghydymdeimlad Thomas Bartley fel ''foreman of the jury.'' Chwalwyd fy ymresymiadau gan y barnwr pan oedd efe yn crynhoi, ac yr wyf yn credu mai gwendid fy amddiffyniad a barodd iddo ef fyned allan o'i lwybr a rhoddi cyfleusdra i'r cyhuddedig i ychwanegu ei hun rywbeth fel hunanamddiffyniad at yr hyn a ddywedaswn o'i ochr—cyn iddo ef (y barnwr) roddi y matter i ystyriaeth y rheithwyr. Yn nghanol dystawrwydd fel y bedd, ebe'r cyhuddedig—<noinclude><references/></noinclude>
3wa2pcrqn27rk3z3j0var5vx4s9u9l0
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/386
104
86188
166624
2026-06-18T18:11:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166624
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''"False indictment'' fy arglwydd ''caseg'' oedd genyf fi ac nid ''ceffyl''!"
Mae yr olygfa a ddilynodd yn fyw o flaen fy meddwl y foment hon. Wedi eu gorchfygu yn lân gan chwerthin gorweddai rhai o'r bechgyn ar eu hyd—gyhyd ar y meinciau; eraill yn hollol ddibris o'u dillad, a ymrolient hyd lawr Safai Thomas Bartley ar ben mainc gan chwifio ei het o gwmpas ei ben, a gwaeddai a'i holl nerth, fel pe buasai mewn lecsiwn! Yn nghanol pangfeydd o lawenydd, torwyd y cyfarfod i fyny. Ar y ffordd i fy lletty, cefais gryn drafferth i gadw Thomas rhag gwaeddi yn uchel ar yr heol a thynu sylw y trigolion. Dywedodd unwaith ac eilwaith "cystal a M{{bar|3}} Ll{{bar|3}} yn Rhuthyn am ei ên a'i ddannedd! am ei ên a'i ddannedd bydawn i byth o'r fan yma. Wyst ti be, dene'r cyfarfod clenia y bum ynddo rioed, ond am y cyfarfod cynta, dene'r peth mwya diflas a weles i rioed a'm llygid, doeddwn i yn dallt dim ar chwyneb y ddaear o'r peth oedd yn mynd ymlaen. Lle mae Mr. Williams wedi snecio, dywed? Bachgen iawn ydi Mr. Williams. Wyt ti ddim yn i weld o yn debyg anwedd i Bob dy frawd? Be fydd gynoch chi ar droed nos yfory? Mi faswn yn leicio'n ryfeddol bod hefo chi am wythnos, ond rhaid i mi hwylio gartre ne mi fydd Barbara mewn ffit." Pan eglurais i Thomas nad oedd yn bosibl iddo ddychwelyd adref y noswaith hono, dychrynodd wrth feddwl am Barbara yn treulio noswaith ar ei phen ei hun. Ond bu raid iddo roddi i mewn i'r anocheladwy. Er hyny, dadganodd lawer gwaith fod yn edifar ganddo am na ddygasai Barbara gydag ef "fel ag yr oedd hi." Pan wnaeth Williams ei ymddangosiad, a chydag ef dri o fyfyrwyr eraill, llonwyd Thomas nid ychydig. Canfyddwn fod fy nghydlettŷwr yn benderfynol o wneyd y goreu o Thomas Bartley. Yr oedd chwech o honom ni wedi ein pacio i fyny mewn ystafell fechan yn cael swper y noswaith hono. Y swper oedd y peth goreu gan Thomas Bartley; Thomas Bartley oedd y peth goreu gan y pump eraill. Oni buasai fy mod eisoes wedi ymdroi gormod, rhoddaswn grynodeb o'r ymgóm. Mwynhaodd y bechgyn y noswaith yn fawr, ond yr oedd yr ochenaid a ollyngai Thomas yn awr a phryd arall yn dangos yn eglur i mi fod ei feddwl gyda Barbara yn y Twmpath. Achosodd ei arosiad gyda ni ''thorough change of billet''; aeth gwraig y tŷ i gysgu gyda'r forwyn—euthum innau i gysgu gyda'r gŵr—a Thomas a<noinclude><references/></noinclude>
9fnovyb190qwttenwpdfaub9hdim620
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/379
104
86189
166625
2026-06-18T18:17:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166625
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wel, yn wir, Mr. Bartley, yr ydw i yn dyweyd llawer wrthyn nhw; ond y mae eisieu i rywun fel chwi, ac eraill o ddylanwad, roi gair o gynghor iddynt, a hyny yn aml, mi wnai les mawr iddynt." "Twbi shwar, syr," ebe Thomas. "Roeddwn i wedi meddwl gofyn i chi, syr, a fydde fo yn rhwbeth gynoch chi adel i mi gael gweld yr ysgol pan fyddwch chi gyd wrthi?"
"Wel, hwyrach y daw Mr. Lewis hefoch chwi i'r dosbarth am bump o'r gloch, Mr. Bartley."
"Diolch yn fawr iawn i chi, syr, a phnawn da rwan," eb Thomas.
Prin yr oeddym wedi gwahanu nag y trôdd Thomas ar ei sawdl, a gwaeddodd
"Mr. {{bar|3}} begioch pardwn, syr, oes gynoch chi ddim ffasiwn beth a ''matchen'' yn ych poced? Twbishwar. Wni ddim sut y dois i oddicartre heb yr un—"
Ni chlywais ychwaneg, ac yr oedd arnaf ofn troi fy mhen. Yr oeddwn yn berwi gan gywilydd, ac yn barod i fyned i'r ddaear, ac yr oedd Williams ymron hollti yn ei ganol pan ddywedodd Thomas, wrth ail ymuno a ni—" Na, doedd gyno fo run—dydio ddim yn 'u cario nhw, ne mi gywswn un a chroeso, roedd o'n deyd. Ond rhaid i mi gael tân yn rhwle rŵan ''just''—oes 'ma dŷ yn agos? Wyddoch chi be? dyn ffri, clên, ydi'r mistar ene. Mae'n gystal gen i â choron fod o wedi rhoi caniatâd i mi ddwad i'r ysgol i'ch gweld chi wrthimi fydd gen i gymin mwy i ddeyd wrth Barbara pan â i adre."
Yr oedd fy nyled i Thomas Bartley yn fawr, ond buaswn yn eithaf bodlawn i roddi y cyfan oedd ar fy helw am ei weled yn troi gartref y foment hono. Ar ol y caniatâd i ddyfod i'r dosbarth, ni wyddwn pa gywilydd oedd mewn ystôr i mi. Nid gwiw a fuasai i mi awgrymu wrtho nad oedd yn bosibl iddo ddychwelyd gartref y noson hono os deuai i'r dosbarth—buasai hyny yn ymddangos yn annghroesawgar Yn fy nghartref gallwn fwynhau digrifwch Thomas yn burion; ond yn y Bala yr oedd yn fy ngweyd yn druenus, a theimlwn fel pe buasai efe yn dad i mi. Er fy mod yn gwneyd ymdrech i ymddangos yn hoew, protestiai Thomas fy mod wedi altro yn arw, a'i fod yn sicr fy mod yn fecsio am rwbeth. O'r ochr arall yr oedd Williams yn anterth ei ddedwyddwch, ac yr oedd Thomas ac yntau yn chwip<noinclude><references/></noinclude>
kfd2hk7r0yuh27p5veqb5svujdryjz6
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/387
104
86190
166626
2026-06-18T18:19:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166626
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Williams gyda'u gilydd o ddewisiad. Ar ganiad y ceiliog bore dranoeth clywn Thomas yn cerdded yn ol a blaen gan waeddi—"Codwch bobol! mae hi'n berfedd o'r dydd!" ac ni chafwyd mynyd o heddwch nes ufuddhau o honom i'r alwad. Yr oedd raid i Thomas gael cyfarfod y trên cyntaf yn Ngorwen; a phan oedd y cloc yn taro chwech, yr oedd Thomas, Williams, a minnau yn croesi pont Tryweryn yn ngherbyd Mr. Rice Edwards. Cyn ffarwelio ag ef yn Nghorwen, cymerodd Thomas fi o'r neilldu, ac ebe fe, "Sut mae'r boced, machgen i?" "Nid ydyw wedi dyfod yn gledi arnaf, hyd yn hyn, Thomas," atebais. "Wel, dyma ti, cymer fenthyg hon am byth," ebe Thomas, a gwthiodd sofren 'i fy llaw yn erbyn fy ngwaethaf. Clod iddo, nid hon oedd yr unig sofren a gefais ganddo tra bum yn y Bala. Wedi rhoi siars benodol ar Williams i ddyfod i dreulio wythnos yn y Twmpath, aeth Thomas adref i adrodd hanes y Bala a'r Coleg. A'r fath hanes! Ar ol yr ymweliad, yr oedd Thomas, wrth gwrs, yn gwybod pobpeth ynghylch y ''students''. Gwyddwn ar ei waith yn gofyn—"Be fydd gynoch chi ar droed nos yfory?" y tybiai Thomas fod yr olygfa a welodd efe "a'i lygid 'i hun" y nos Lun hono yn y coleg, yn fynegai o'r hyn a gymerai le bob dydd. Bychan a wyddai Thomas na ddigwyddai "''trial''" cyffelyb i'r un a gymerasai le y noson hono ond unwaith bob dwy neu dair blynedd, ac mae'r peth a alwai efe "y peth mwya diflas chwyneb y ddaear," oedd ein gwaith cyson. Druan oedd Thomas! aeth ef adref gydag argraff ar ei feddwl, nad allodd neb ei dileu, mai un o'r pethau mwyaf difyr "ar chwyneb y ddaear" oedd bod yn ''student''; ac ni ddarfu i'r oriau hirion, y llafur caled, yr ofn a'r pryder ag y mae pob myfyriwr yn gwybod rhywbeth yn eu cylch erioed groesi ei feddwl diniwed.
Nid Thomas Bartley ydyw yr unig un, ysywaeth, sydd yn coleddu syniad cyfeiliornus am fywyd colegol. Yr wyf yn casglu oddi wrth amryw sylwadau a glywais hyd y wlad, fod rhywrai, a ddylent wybod gwell pethau, yn coleddu syniadau llawn mor ddigrifol er nad o'r un nodwedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
f9hmq7j04kw7jkp199ak70js23rik66
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/388
104
86191
166627
2026-06-18T18:50:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166627
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XXXVIII.
Cyfarfyddiad Ffortunus.}}}}
{{***|7}}
CAN belled ag yr oedd dysgeidiaeth yn y cwestiwn, yr wyf yn credu i mi fod mor "onest" â nemawr un a fu yn y coleg. Yn ystod y pedair blynedd y bum yno, gadewais i'r bechgyn eraill gymeryd yr holl wobrau. O herwydd nad oeddwn yn neillduol o dalentog, ac nad oedd y "cychwyn " a gefais yn ysgol Robyn y Sowldiwr o'r fath oreu, profais yn fuan nad gorchwyl hawdd oedd ymgystadlu â bechgyn a gawsant addysg dda cyn dyfod i'r Bala. Heblaw hyny, anghenrhaid a osodwyd arnaf i bregethu, ac yr oedd fy arosiad yn y coleg yn dibynu ar hyny. Pe peidiaswn bregethu, buasai raid i mi beidio bwyta; ac ar y pryd nid oeddwn yn gweled fy ffordd yn glir i wneyd y naill na'r llall. Yr oedd y teithiau Sabbothol gan amlaf ymhell, megys Trawsfynydd, Ffestiniog, Tanygrisiau, Maentwrog, Rhydymain, Corris, Aberllyfeni, Machynlleth, &c. Unwaith erioed y pregethais yn Llanfor, fel yr edliwiodd Edward Rolant i mi lawer gwaith (coffa da am yr hen gristion), a'r rheswm penaf am hyny oedd, am nad allwn fforddio, ac hefyd nad hoffus genyf oedd gweled dwsin o ''students'' yn dyfod i Lanfor i'r odfa yn lle myned i'r Ysgol Sabbothol yn y Bala. Yr oedd gan bob un o honynt ei linyn mesur. Y fath fun a gawsant un tro pan ddygwyddodd cyfaill i mi wrth bregethu yn Llanfor sôn am "Adda yn ei gyflwr o ''ddienwaediad''!" Ni chlywodd y cyfaill yr olaf am hyny tra bu efe yn y Bala. Beth a wyddwn i na allaswn innau ddyweyd rhywbeth ynfyd yn Llanfor, a fyddai fore drannoeth wedi ei ysgrifenu ar bob pared o'r coleg. Ond rhaid i mi beidio sôn am barwydydd "yr hen goleg "—''Mirabile visu!'' Ond dyna oeddwn i yn ei ddyweyd, fod y teithiau ymhell. Yr oedd pellder y daith yn cymeryd bore Sadwrn i feddwl am dano, a'r daith ei hun y cymeryd y prydnawn; y dychwelyd adref yn cymeryd bore Llun, a "mendio " ar ol y shegfa a gawsid wrth farchogaeth hen "sixteen" Mr. R. E. yn cymeryd y prydnawu Llun yn gwbl. Dyna ddau ddiwrnod wedi myned heb sôn am y Sabboth, tra yr oedd y bechgyn eraill nad oedd raid iddynt bregethu yn gweithio gyda'u llyfrau. Y pethau hyn, ynghyd â diffyg talent, a'm<noinclude><references/></noinclude>
8bo2regc38e80b44pq4n1wf4boef86g
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/389
104
86192
166628
2026-06-18T18:51:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166628
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cadwodd rhag enwogi fy hun yn yr arholiadau. Or ochr arall, darfu i'r drafferth a gymerasai Bob fy mrawd i fy hyfforddi, a fy ymegniad i fy hun, a fy mhenderfyniad i ddilyn y dosbarthiadau mor ddifwlch ag a allwn, fy nghadw rhag bod ar waelod y rhestr; a chawn y cysur nad oeddwn yn ''extreme man''; nid oeddwn un amser ar y top nac yn y gwaelod, ond tua'r canol! Ac yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun fy mod yn parhau felly, yn ceisio rhodio ar ganol llwybr barn. Ond at hyn yr wyf er ys meityn yn cyrchu: er na ddarfu i mi "wneyd fy marc" yn y coleg, yr wyf yn sicr i "farc" gael ei wneyd arnaf nad ellir byth ei grafu ymaith. Derbyniais lês dirfawr, a dysgais gannoedd a miloedd o bethau nad oeddwn yn eu gwybod o'r blaen, ac nad allaf yn awr roddi pris arnynt. Agorwyd byd newydd o flaen fy meddwl; ac er nad allwn i, fel y gallai eraill, dreiddio ymhell i'w ganolbarthau, eto yr oedd yn ddarganfyddiad i mi wybod ei fod yn bod. Yr oedd yn rhywbeth i mi gael gweled â fy llygaid fy hun y ddeilen ar y dŵr. Mae yn werth i fachgen fyned i'r coleg, os gall sut yn y byd, i gael gwybod gymaint sydd i'w wybod, ac i dynu y rhŵd, ac i ysgwyd ymaith y llwch a gasglodd yn ei gartref. Ni byddaf yn dyweyd llawer pan ddywedaf nad oedd yn yr eglwys y magwyd fi un bachgen, ac eithrio Wil Bryan, cryfach na fi o ran cynneddfau naturiol; ac ni fyddai ond rhagrith ynof ddyweyd na ddarfu i hyny beri i mi ffurfio syniad penodol am danaf fy hun. Ond pan aethum i'r coleg, ni fum yn hir heb ddeall nad oeddwn i yn ddim nac yn neb, ac y gallai ambell un o fy nghyd-fyfyrwyr fy rhoi yn mhoced ei wasgod. Buasai raid i fy nghroen fod can dewed a chroen yr hippopotamus i mi beidio derbyn llês wrth rwbio yn y rhai oeddynt yn rhagorach bechgyn na mi ymhob ystyr. Os gall gŵr ieuanc dreulio tair neu bedair blynedd yn y coleg, a dyfod adref heb fod wedi elwa llawer, arno ef y mae y bai, ac nid ydyw yn haeddu cael bwyd. Fy mhrofiad i fy hun ydyw, mai dyna y cyfnod mwyaf hapus a bendithiol ar fy oes; ac yr ydwyf yn edrych yn ol arno gyda hiraeth pruddfelus. Llawer cwlwm cyfeillgar a ffurfiais na ddattodir byth gan bellder nac amser. Heb ond ychydig ymegnïad, gall fy nghof y fynyd hon alw o flaen llygaid fy meddwl, yn fyw a chlir, wynebau fy holl gymdeithion. Pale y maent yn awr? Galwyd dau neu dri o honynt adref cyn gorphen eu hysgol, a dilynodd un neu ddau eraill hwynt cyn iddynt gael "gwneyd" ond ychydig. Ond y mae y nifer<noinclude><references/></noinclude>
p50q4m262jeqj4al8ych52rgpliyttz
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/390
104
86193
166629
2026-06-18T18:53:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166629
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mwyaf eto yn aros ar hyd a lled y byd. Amryw a alwyd i fugeilio eglwysi, ac ydynt eisoes yn weinidogion defnyddiol—rhai o honynt yn enwog—ac eraill a aethant yn ol at eu gorchwylion—ac eraill sydd yn ymdaraw oreu y gallant a byw fel y medrant wrth bregethu yma ac acw ar y Sabbothau, ac heb wneyd dim yn benodol ar hyd yr wythnos. Ac wrth son am hyny, yr wyf yn cofio, pan oedd yr adeg ymron dirwyn i ben i ni adael y coleg, mai dyna oedd y cwestiwn a ofynai rhai o honom i'n gilydd: Beth ydych am wneyd? Yr oedd yn gwestiwn pwysig, yn enwedig i rai o honom. Yr oeddem wedi gadael ein gorchwylion, ac erbyn hyn wedi anghymwyso ein hunain i raddau mawr i ail ymaflyd ynddynt. Nid oedd gan bawb o honom gartrefi cysurus i ddychwelyd iddynt, na theuluoedd cefnog i ddibynu arnynt; ac yr oedd amryw wrth weled yr adeg yn dynesu yn teimlo eu hunain mewn ''fix'' rhyfedd. Teimlwn i yn arbenig felly. Yn ystod y pedair blynedd y bum yn yr athrofa, buasai Miss Hughes yn hynod garedig tuag ataf drwy fy nghroesawu i'w thŷ i dreulio yr ''holidays''. Ond gwelwn y byddai yr amgylchiadau yn wahanol wedi i mi orphen fy addysg, neu yn hytrach wedi i mi adael y coleg. Hyd yn nôd pe buasai Miss Hughes yn barod i fy nerbyn drachefn i'w chartref, ystyriwn y buasai yn hyfdra digywilydd ynof gymeryd mantais ar hyny. Nid allwn oddef y drychfeddwl o fyw ar hyd yr wythnos fel darn o ŵr boneddig segur, a myned oddiamgylch i bregethu ar y Sabbothau. Yr oedd Williams, fy nghyd-letŷwr, yn yr un sefyllfa â mi yn union, a llawer ''confab'' difrifol a gawsom pa beth i wneyd. Ar adegau tröai Williams i gellwair uwch ben y cwestiwn. Ebe efe wrthyf un noswaith" Pa ryfadd, dywad, fod pregethwyr y Methodistiaid yn llygadu am hen wedan â digon o brês ganddi! Dyma ni: mi fyddwn yn gadal y Bala ymhen y mis, a be'dan ni'n myn'd i neyd i gael tamad? Mi wnaf lw na chaiff neb ddeyd am dana i nad ydw i'n gneyd dim ar hyd yr wythnos heblaw gwisgo ffroc côt. Yr ydw i'n gwelad fod gynat ti well siawns o lawar na fi. Mae pedar blynadd yn y ''college'' wedi andwyo 'nwylo i i feddwl ail ddechra yn y chwaral; ond am danat ti, mi elli di roi ''advertisement'' yn y ''Liverpool Mercury'':
WANTED—By a young man who has spent four years at ''college'', knows a little Latin and Greek and a lot of Divinity, a situation as draper's assistant. Can preach well. Salary no object, provided he<noinclude><references/></noinclude>
f9imqpaz59t6c9bc027aof9ivy0p0cn
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/391
104
86194
166630
2026-06-18T18:56:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166630
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gets his Saturdays to go to and his Mondays to return from his ''teithia.''
Ond am dana i wela i ddim yn agorad i mi neyd ond trio am le ar yr ''Railway'' fel ''ticket collector'', ne fynd at y Blacks, fel yr oedd dy hen gyfall Thomas Bartley yn deyd. Be bydaet ti, dywad, yn trio cribo i fyny i lewys Esgob Llanelwy, a finne neyd run peth hefo Esgob Bangor? Fydda fo ddim llawar o beth i ddau ysgellyn fel ti a fina gribo i fyny i lewys Esgob, achos mae nhw'n deyd i mi fod nhw yn llydain afnadsan lâs. Bydaen ni'n llwyddo, tybad ydan ni yn ddigon o sgolars heb ail ddechra ar y busnas yma eto yn Lampeter? Sgolor ne beidio, mi ffia i y pregetha ni yn well na'u hannar nhw. Be wt ti'n ddeyd? oes gynat ti well plan?"
Yr oedd cryn lawer o ''sly humour'' yn Williams; ac nis gallwn beidio chwerthin wrth ei glywed yn potrëadu ein dyfodol, er fod y pwnc yn bwysig, a fy nghalon innau yn drist. Fel yr oedd yr amser yn agosâu i ni ein dau adael y coleg, deuai y cwestiwn atom gyda mwy o ddifrifwch bob dydd—''Os rhaid i ni eto fyned yn ol at ein gorchwylion, i beth yn y byd mawr y daethom yma i dreulio pedair blynedd?'' Yr oeddym ein dau yn awyddus am gylch i weithio ynddo lle gallem deimlo yn ein helfen, a chredem pa un ai yn gam ai yn gymhwys—fod ynom ryw gymaint o gyfaddasder iddo. Ond ar y pryd, er ein bod—ac i mi ddyweyd y gwir yn onest—yn clustfeinio, nid oedd siw na miw nac argoel o unlle y gelwid un o honom i gymeryd gofal eglwys. Yr oeddem wedi ymroddi, ac yn gwylaidd gredu ein bod wedi ein neillduo i'r gwaith, a bod ein calon a'n hysbryd ynddo; ac yr oedd y meddwl am orfod myned yn ol at ein gorchwylion yn llethol ini. Ond can belled ag y gallwni fy hun weled, nid oedd dim yn ein haros ond hyny; oblegid yr oeddym yn benderfynol na fyddai i ni wagsymera wedi gadael y coleg. Yr oedd Williams yn fwy gobeithiol nag yr oeddwn i; a hawdd y gallai fod felly, oblegid gwyddwn ei fod yn ymwybodol ei fod yn bregethwr rhagorol. Yn wir, efe oedd y pregethwr goreu yn y coleg ar y pryd, yn ol fy meddwl i. Ac y mae yn rhaid fod "cyfeillion y lle" o'r un syniad â mi; canys pregethodd Williams ''ddwywaith'' yn y Bala ei hun yn ystod y pedair blynedd y bu efe yn aros yno, yr hyn oedd yn arwydd sicr er daioni, ac anffaeledig o ddyfodol dysglaer.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
98fy3s8uq66097e9ytipcjcv297ckfv
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/392
104
86195
166631
2026-06-18T19:00:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166631
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond er hyn oll gwir yw y gair, " y rhai olaf a fyddant flaenaf." Rai wythnosau cyn i mi adael y Bala, derbyniais ddau lythyr pwysig — hyny ydyw, pwysig i mi. Yr oedd Williams yn godwr bore, a minnau yn gysgwr bore. Wrth fyned heibio, onid ydyw y gallu i godi yn fore yn dalent? Yr wyf yn sicr ei fod. Yr oedd raid i Bob fy mrawd fyned at ei waith yn fore bob dydd; ond ni chododd efe erioed o'i wely heb gael ei alw ddwsin o weithiau gan fy mam. Ond gallai Bob aros i fyny y nos hyd y mynid. Yr wyf yr un fath ag ef yn union. Ond yr oedd gan Williams dalent i godi yn fore. Un boregwaith, ryw ychydig wythnosau cyn i mi adael y coleg, fel y dywedais, deuais i lawr y grisiau tuag wyth o'r gloch, a chefais fod Williams wedi myned allan i roi tro. Ar y bwrdd yr oedd dau lythyr yn fy aros. Adwaenais y ddwy ysgrifen—un fel yr eiddo Miss Hughes, a'r llall Eos Prydain. Rhoddwn y flaenoriaeth bob amser i lythyr Miss Hughes. Agorais ef, a chefais mai wedi amgau llythyr arall yr oedd hi, llawysgrifen yr hwn oedd ddyeithr i mi. Ysgrifenasid ef yn Saesonaeg, ac wele ryddgyfieithiad o hono:
{{r|Old Bailey, B{{bar|3}}
Mai 1af, 18{{bar|2}}}}
SYR,

Bore heddyw bu farw yn y carchar hwn ŵr o'r enw John Freeman. Chwech wythnos yn ol, wedi ei gael yn euog o herwhela, traddodwyd ef i dri mis o garchar gyda llafur caled. Nid oedd efe yn gryf ar y dechre, a thoc wedi dyfod yma cymerodd anwyd, a gwaethygodd yn gyflym. Ychydig amser cyn marw, amlygodd ddymuniad am gael siarad â mi yn gyfrinachol. Tybiwn o'r dechre ei fod yn "hen aderyn;" a chyfaddefodd wrthyf yn y diwedd mai ei wir enw oedd James Lewis. Erfyniodd arnaf — ac addewais innau—eich hysbysu am ei farwolaeth pan gymerai hyny le. Yr hyn y rhoddai efe bwyslais arno am i mi eich hysbysu oedd nad oedd pob peth a ddywedodd efe wrthych yn wir. Ni wyddai efe eich cyfeireb, ond credai y caffech y llythyr rywdro drwy ei gyfeirio yn y modd y gwnaethum. Yn awr yr wyf wedi cyflawni fy addewid i'r marw. Cleddir ef yfory. Buasem yn ei gladdu heddyw oni ba'i ein bod yn brin o eirch, ac na ddarfu i minnau feddwl y buasai yn marw mor fuan.
{{c|Yr eiddoch yn gywir,}}
{{c|{{bwlch|7em}}J. F. BREECE, Governor.}}
Rhys Lewis, Esq.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qlvd6zh5eqoo330r840ka5gdx1ldyhj
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/393
104
86196
166632
2026-06-18T19:02:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166632
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Darllenais ac ail ddarllenais y llythyr mewn syfrdandod. Fy ewythr James, fel yr wyf wedi dyweyd lawer gwaith yn yr hanes hwn, fuasai yr achlysur o'r rhan fwyaf o fy mhrofedigaethau, a chasawn ef yn fawr. Ac eto, pan ddarllenais am ei ddiwedd gwaradwyddus, ac am yr hyn a ddywedodd, teimlais bang na cheisiaf ei desgrifio. Daliwn y llythyr yn fy llaw, ac edrychwn yn syn drwy y ffenestr i Tegid Street—am ba hyd nis gwn yn fanwl—a rhedodd fy meddwl yn ol at y cof cyntaf am fy ewythr, pan alwn ef "y Gwyddel." Mae De Quincy yn sôn am rywun a syrthiodd oddiar fwrdd llong i'r môr; ni bu dan y dŵr ond ychydig eiliadau, a phan ddygwyd ef yn ol ar fwrdd y llong, a phan ddaeth ato ei hun tystiai fod holl amgylchiadau ei fywyd, a holl bechodau ei oes, wedi dyfod yn fyw 'w feddwl yn yr ychydig eiliadau hyny. Yr wyf yn credu na fum innau fwy na hanner awr yn edrych drwy y ffenestr; ond yn yr amser hwnw aeth heibio o flaen fy meddwl brif amgylchiadau fy oes yn ol y drefn y dygwyddasant. Gwyddwn fod Mrs. {{bar|3}} wedi bod yn yr ystafell yn parotoi brecwast, ac wedi dyweyd rhywbeth wrthyf, ond ni wyddwn beth, ac yr wyf yn cofio mai Williams a dorodd ar fy ''reverie'' drwy waeddi y tu ol i mi—"Wel, y saith gysgadur, wyt ti wedi codi? Pa newydd drwg heddyw? Rwyt ti'n edrach fel bydaet ti ar fedd dy nain!" Gwnaethum ymdrech i ymddeffro, ac i ymddangos yn gysurus, ac wedi dechreu ar y breçwast y cofiais am lythyr yr Eos. Darllenai fel hyn:
{{r|Mai 1af, 18{{bar|2}}}}
Anwyl Frawd,—Deallwn fod eich tymmor yn y Bala ymron ar ben. Ni raid i ni ddyweyd wrthych chwi sydd yn gwybod hanes ac amgylchiadau eglwys Bethel cystal a ninnau, fod yr achos yn dyoddef o herwydd diffyg rhywun i gymeryd gofal o hono, yn enwedig oddiar yr amser y bu farw eich hen feistr, Abel Hughes. Yr ydym er ys tro yn teimlo nad ydyw ein plant a'n pobl ieuainc yn cael y sylw a'r gofal a ddylent gael. Mae sôn a siarad wedi bod yn ein plith er ys amser am gael bugail; a'r wythnos ddiweddaf darfu i ni ein dau ddwyn y cwestiwn o flaen yr eglwys, a chymeryd yr hyfdra i grybwyll eich enw chwi fel un oedd ymron ar ben ei dymmor yn y Bala, ac fel un a fagwyd yn yr eglwys, ac felly a wyddai yn dda am danom. Cafodd ein hawgrymiad gefnogaeth led gyffredinol. Wrth gwrs, ni<noinclude><references/></noinclude>
guvqjml1xrrqtf5q5bngzfljjufbqeq
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/394
104
86197
166633
2026-06-18T19:09:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166633
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddarfu i ni gymeryd ''vote'', am na chawsom eto ganiatâd y Cyfarfod Misol; ond yr oeddym yn tybied mai doeth oedd eich hysbysu fod hyny yn ein bwriad yn wir, gellwch edrych arno fel ffaith—rhag i chwi yn rhy fyrbwyll addaw myned i rywle arall. Credwn na raid i chwi ofni i neb ddiystyru eich ieuenctyd yma. Dysgwyliwn chwi drosodd ymhen ychydig wythnosau, a chawn siarad ymhellach ar y mater. Hyd hyny, gan ddymuno pob llwyddiant, a chyda chofion caredig. Yr eiddoch dros yr eglwys,
{|style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;
| Dafydd Dafis
| rowspan=2|{{brace2|2|r}}Diaconiaid

| Alexander Phillips
(Eos Prydain)

Teflais y llythyr ar draws y bwrdd i Williams, a byth nid anghofiaf ei lawenydd. Yr wyf yn sicr nas gallasai ddangos mwy o lawenydd pe clywsai fod rhywun wedi gadael ystâd iddo ef ei hun. Yr oedd galwad i fugeilio yr eglwys y magwyd fi ynddi mor annysgwyliadwy i mi â dim a allasai ddygwydd, ac ystyriwn hi yn ''compliment'' mawr; ac oni b'ai am y llythyr arall y cyfeiriais ato, buaswn yn ystyried yr alwad yn destyn llawenydd hefyd. Ond yn ysgil y llythyr hwnw, yr oedd yn newydd prudd iawn i mi, meddiannwyd fi yn y fan gan fy hen glefyd—iselder ysbryd. Anfonais air ar unwaith at fy hen gyfeillion Dafydd Dafis ac Eos Prydain i ddiolch iddynt am eu llythyr caredig, gan ychwanegu y byddwn yn dychwelyd adref ymhen ychydig wythnosau. Wedi gwneyd hyn dywedais wrth fy nghydymaith
"Williams, peidiwch a sôn am hyn wrth y bechgyn nac wrth neb arall, oblegid nis gallaf ar un cyfrif dderbyn yr alwad."
"Paid a chyboli," ebe fe, mi soniaf wrth bob ''one'' a welaf. Beth sydd arnat ti? wyt ti ddim yn gall? ddim am dderbyn yr hyn yr oeddat yn ei ddymuno fwyaf? Yr oeddwn yn arfer meddwl na fedrat ti ddim rhodresa."
Pan fyddai ef a minnau yn chwareus, "ti a thithau" y galwem ein gilydd; ond pan fyddem yn siarad yn ddifrifol, "chwi a chwithau." Y bore hwnw yr oedd Williams yn llawen, minnau yn brudd; ac ebe fi wrtho
"Gwyddoch am yr ystori am y ''skeleton'' yn y cwpbwrdd. Mae genyf finnau fy ystori nad allaf ei hadrodd hyd yn nôd i chwi.<noinclude><references/></noinclude>
3gsw8evceon8brzmeouowvvj4dm077w
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/395
104
86198
166634
2026-06-18T19:11:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166634
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hwyrach y caf ei hadrodd ryw ddiwrnod, ond nid heddyw. Y mae fy ysbryd yn isel a thrist, a gwn y buasai yn dda genych gymeryd rhan o fy maich, ond nis gellwch heddyw. Y ffaith ydyw, rhaid imi fyned ymaith am ddeuddydd neu dri, a hyny heb ymdroi."
''"My dear fellow,"'' ebe Williams yn deimladol, oblegid yr oedd ganddo galon dyner iawn; "dydach chi'n deyd dim newydd i mi. Mi wyddwn er ys tro fod rhyw chwerwder cuddiedig yn eich hanes nad oedd genyf fi hawl i ofyn am eglurhâd arno. A allaf fi wneyd rhyw wasanaeth i chwi?"
"Gellwch, peidiwch a sôn dim am yr alwad yma; oblegid nis gallaf ei derbyn; ac, os gwelwch yn dda, ewch at R. E. a gofynwch iddo anfon cerbyd ar fy ol ar ffordd Corwen. Mae yn rhaid i mi fyned ymaith ar unwaith. Hwyrach y caf esbonio hyn i chwi rywdro."
Heb gymeryd dim gyda mi ond fy nghôt uchaf, a'r ychydig arian a feddwn, cychwynais ymaith; ac aeth Williams heb ofyn un gair arall i mi at R. E. i orchymyn y cerbyd. Yr oedd y siwrnai ymhell, a chymerai i mi ymron yr holl ddiwrnod i'w theithio; ond yr oeddwn yn benderfynol o fyned, canys yr oeddwn wedi blino gwisgo ''mask'' a byw mewn ofnau. Goddiweddwyd fi yn union gan R. E., a chludodd fi i Gorwen yn ddigon buan i golli'r trên. Wedi aros gryn amser, da oedd genyf gael unigrwydd y gerbydres, lle y gallwn bensynu heb orfod siarad â neb. Aeth cant a mil o bethau drwy fy meddwl. Darllenais lythyr Mr. Breece lawer gwaith drosodd. Weithiau tueddwn i gredu mai ffug ydoedd yr oedd fy ewythr yn ddigon o ddyhiryn i hyny. Ond pa ddyben a atebai y ffug, nid oeddwn yn gallu gweled.
Os oedd y llythyr yn mynegu ffaith, credwn fy mod yn deall beth oedd ystyr y frawddeg oedd ynddo, sef,—''"nad oedd pobpeth a ddywedodd efe wrthyf yn wir."'' Agorai y frawddeg hon bosiblrwydd o flaen fy meddwl a barai i fy nghalon oeri ynof, ac a wnai i mi benderfynu ar y pryd nad allwn dderbyn yr alwad i fugeilio eglwys Bethel. Yr oedd yn rhyfedd genyf feddwl fod eglwys—hanner aelodau yr hon oeddynt yn gydnabyddus â hanes fy nheulu yn rhoi galwad i mi i'w bugeilio. Ond yn yspaid dwy flynedd ar hugain y mae dynion yn anghofio wmbreth. Yn ystod yr yspaid hwnw,<noinclude><references/></noinclude>
qrw88rkqm8tgelpykt17yn7qnal4qnh
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/396
104
86199
166635
2026-06-18T19:17:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166635
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwnaed llawer o bethau yn hysbys i mi a wnai i mi dristâu, ond na wyddent hwy ddim yn eu cylch, er nad allwn i ddim wrth fy nghysylltiadau teuluol. A oedd "ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant" i gael ei gyflawni ynof fi? Ofnwn fod. A oedd Rhagluniaeth yn fy arwain i ymsefydlu yn fy nghartref i gael y dincod ar ol y grawn surion a fwytawyd gan fy mlaenoriaid? Pa fodd y gallwn feddwl am dderbyn yr alwad? ac eto pa reswm a roddwn am ei gwrthod? Nid oedd genyf unlle arall i fyned iddo, a hiraethwn am esgus i fyned yn ddigon pell—i Awstralia neu rywle. Eto nid oedd genyf na rhan na chyfran yn ngwneuthuriad fy anghysuron. Meddyliwn weithiau fy mod yn anferthu fy rhagolygon, ac yn ofni pethau na ddeuent byth i ben. Pa fodd bynag, yr oeddwn y diwrnod hwnw wedi ymddiofrydu cael hyny o oleuni ag oedd yn bosibl ar yr hyn oedd fel hunllef gwastadol arnaf, a hyn a obeithiwn ei gael cyn rhoddi hûn i'm hamrantau. Fy mwriad oedd ymweled â Mr. J. F. Breece, pwy bynag ydoedd. Os nad ffûg oedd y llythyr, gallai fod fy ewythr wedi dyweyd mwy o lawer nag a fynegai Mr. Breece. Gwelwn nad allai fy siwrnai fod yn hollol ofer pa fodd bynag y troai allan; ac yr oedd fy mhryder erbyn hyn wedi ei weithio i'r fath bwynt fel nad allwn ei ddal nemawr yn hwy. Os tröai pethau allan fel yr oeddwn yn ofni, yna yr oedd fy nyfodol eto wedi ei gymylu, ac nid allwn dderbyn yr alwad i fugeilio eglwys Bethel. Nid yn unig hyny; ofnwn, cyn y gallwn fod yn hapus, y byddai raid i mi adael gwlad fy ngenedigaeth. Ond, meddyliwn drachefn, pam oedd raid i mi wneyd hyn? Yr oeddwn wedi ceisio cadw cydwybod i Dduw, a phe deuai pethau i'r gwaethaf, nid allai neb rhesymol fy meïo i. Ond, meddwn, byddai pawb yn tosturio wrthyf, ac yn cydymdeimlo â mi, yr hyn a fyddai lawn can waethed. Beth! ai balchder fy nghalon oedd yn peri i mi ofni yr hyn oedd bosibl a thebygol? Ai onid oedd genyf ddigon o grefydd a nerth moesol i ddal unrhyw waradwydd nad oedd a fynwyf i yn bersonol âg ef fel ei achosydd? Ac eto mynai rhywbeth ddyweyd wrthyf fod gwaed yn gryfach na dŵr.
Ni buaswn erioed yn B{{bar||3}}, ac ni wyddwn ddim am dani ond drwy hanes—ffaith na thueddai i ysgafnhâu fy ysbryd. Yr oedd y diwrnod hefyd yn ddwl a thrymaidd, a'r gwlaw yn disgyn yn fân, yn gyson, a dibaid. Heblaw hyny yr oedd ffawd fel pe buasai yn fy erbyn; oblegid collais y trên eilwaith yn Nghaer, a bu raid i mi<noinclude><references/></noinclude>
f0vd4h5ryrh9zjx2hvit809ce8rrhej
166636
166635
2026-06-18T19:17:47Z
AlwynapHuw
1710
166636
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwnaed llawer o bethau yn hysbys i mi a wnai i mi dristâu, ond na wyddent hwy ddim yn eu cylch, er nad allwn i ddim wrth fy nghysylltiadau teuluol. A oedd "ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant" i gael ei gyflawni ynof fi? Ofnwn fod. A oedd Rhagluniaeth yn fy arwain i ymsefydlu yn fy nghartref i gael y dincod ar ol y grawn surion a fwytawyd gan fy mlaenoriaid? Pa fodd y gallwn feddwl am dderbyn yr alwad? ac eto pa reswm a roddwn am ei gwrthod? Nid oedd genyf unlle arall i fyned iddo, a hiraethwn am esgus i fyned yn ddigon pell—i Awstralia neu rywle. Eto nid oedd genyf na rhan na chyfran yn ngwneuthuriad fy anghysuron. Meddyliwn weithiau fy mod yn anferthu fy rhagolygon, ac yn ofni pethau na ddeuent byth i ben. Pa fodd bynag, yr oeddwn y diwrnod hwnw wedi ymddiofrydu cael hyny o oleuni ag oedd yn bosibl ar yr hyn oedd fel hunllef gwastadol arnaf, a hyn a obeithiwn ei gael cyn rhoddi hûn i'm hamrantau. Fy mwriad oedd ymweled â Mr. J. F. Breece, pwy bynag ydoedd. Os nad ffûg oedd y llythyr, gallai fod fy ewythr wedi dyweyd mwy o lawer nag a fynegai Mr. Breece. Gwelwn nad allai fy siwrnai fod yn hollol ofer pa fodd bynag y troai allan; ac yr oedd fy mhryder erbyn hyn wedi ei weithio i'r fath bwynt fel nad allwn ei ddal nemawr yn hwy. Os tröai pethau allan fel yr oeddwn yn ofni, yna yr oedd fy nyfodol eto wedi ei gymylu, ac nid allwn dderbyn yr alwad i fugeilio eglwys Bethel. Nid yn unig hyny; ofnwn, cyn y gallwn fod yn hapus, y byddai raid i mi adael gwlad fy ngenedigaeth. Ond, meddyliwn drachefn, pam oedd raid i mi wneyd hyn? Yr oeddwn wedi ceisio cadw cydwybod i Dduw, a phe deuai pethau i'r gwaethaf, nid allai neb rhesymol fy meïo i. Ond, meddwn, byddai pawb yn tosturio wrthyf, ac yn cydymdeimlo â mi, yr hyn a fyddai lawn can waethed. Beth! ai balchder fy nghalon oedd yn peri i mi ofni yr hyn oedd bosibl a thebygol? Ai onid oedd genyf ddigon o grefydd a nerth moesol i ddal unrhyw waradwydd nad oedd a fynwyf i yn bersonol âg ef fel ei achosydd? Ac eto mynai rhywbeth ddyweyd wrthyf fod gwaed yn gryfach na dŵr.
Ni buaswn erioed yn B{{bar|3}}, ac ni wyddwn ddim am dani ond drwy hanes—ffaith na thueddai i ysgafnhâu fy ysbryd. Yr oedd y diwrnod hefyd yn ddwl a thrymaidd, a'r gwlaw yn disgyn yn fân, yn gyson, a dibaid. Heblaw hyny yr oedd ffawd fel pe buasai yn fy erbyn; oblegid collais y trên eilwaith yn Nghaer, a bu raid i mi<noinclude><references/></noinclude>
a231qd440ftrmvzt8ix32gmv7vj4dxq
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/397
104
86200
166637
2026-06-18T19:21:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166637
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aros dwy awr cyn cael un arall. Gwelwn erbyn hyn y byddai yn hwyr arnaf yn cyrhaedd B{{bar|3}}, ac ofnwn nad allwn gael gweled Mr. Breece. Yr oeddwn yn glaf fy nghalon ddigon pan gyrhaeddais y dref fawr brysur. Tynai at ddeg o'r gloch pan neidiais ar y ''platform''. Deffrõais o fy mreuddwydion pan welais y lliaws lampau goleuedig, a'r cannoedd pobl yn gwau drwy eu gilydd yn y ''station''. A oedd hi yn rhy hwyr i mi gael gweled Mr. Breece? Wel, ni fyddwn waeth er ceisio. Cyfeiriais yn frysiog at y ''cab-stand'', a chyn i mi ei gyrhaedd daeth i fy nghyfarfod ŵr ieuance chwimmwth, ac ebe fe, "''Cab, Sir?''" a rhoddais innau nòd gadarnhäol. "Old Bailey," ebe fi wrth gymeryd fy eisteddle; ac ebe yntau, "Old Bailey? Know the place well, sir. Better to be outside than inside that place, as the worm said to the blackbird when he was about to be swallowed by him," a chauodd y drws ac ymaith â ni. Yr oedd trwst y cerbydau ar yr heolydd yn fyddarol i mi oedd newydd ddyfod o ddystawrwydd y Bala. Edrychwn allan o'r cerbyd, a synwn weled y llif diddiwedd o bobl oedd yn myned ac yn dyfod o bobtu yr heol. Wrth edrych ddim ond i un ochr am ychydig fynydau, gwelwn gannoedd o wynebau am y tro cyntaf a'r tro olaf; ac yr oedd gan bob un o honynt, meddyliwn, ei stori a'i brofedigaethau oedd mor ddyeithr i mi ag oedd fy stori innau iddynt hwy. Er fod y lampau a'r goleuadau yn lliosog, nid oeddynt ond megys yn dangos y niwl budr a lanwai yr ystrydoedd. Tybiwn fod hyny o fwg oedd wedi esgyn o'r simddeuau ar hyd y dydd wedi dyfod i lawr yn ei ol, i gadw cwmpeini i'r gwlithwlaw a barhai i ddisgyn yn gyson. Canfyddwn fod y prif fasnachdai yn gauedig, yr hyn a roddai arbenigrwydd ar y mân siopau lle y gwerthid tybaco, a'r tafarnau a'r ginshops, y rhai a ymddangosent yn brysurach ac yn fywiocach nag y gallasent fod ganol dydd goleu. Yr wyf yn meddwl nad aethum heibio i un vault na ginshop heb weled rhywrai yn myned i mewn neu yn dyfod allan. Allan o un deuai milwr yn ei gôt goch, ac wrth ei gwt fenyw heb yr un fonet, a shawl am ei phen wedi ei binio dan ei gên. Wrth fyned heibio un arall, gwelwn ŵr anhawdd dyweyd pa un ai hen ai ieuanc, cloff, carpiog, a chredwn nad oedd ganddo boced gyfan ar ei helw, a'i fod yn gorfod cadw ei brês yn ei ddwrn nes eu gosod ar y ''counter''. Wrth un dafarn pwysai gŵr ei gefn ar yr ystlysbost, a'i ên ar ei wasgod, a'i lygaid fel pe buasent yn cyfrif botymau ei falog; ac wrth un arall<noinclude><references/></noinclude>
nm77m3zakbtsmydmh17lsg79zge11cd
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/398
104
86201
166638
2026-06-18T19:21:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166638
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwelwn lipryn mewn ffroc côt wedi ei botymu at ei wddf i guddio lliaws o bechodau, ac yn sniffio yr arogl wrth y drws yn niffyg rhywbeth gwell. Y fath wynebau hyllion a welais y noswaith hono yn ngoleuni y tafarnau! A oedd eu perchenogion, hanner can' mlynedd yn ol, wedi eu cau i fyny mewn ystafell dywell i ddarn lewygu, ac yn ddiweddar wedi gallu dianc, rhai drwy y simdde, eraill drwy dwll y clo? Mor falch y teimlwn o'r Cymry gyda'u bochau cochion, iach, gonest! Hyn â redai drwy fy meddwl pryd y sylwais fod y goleuadau yn lleihâu. Edrychwn allan, ac nid oedd dim i'w weled ond ystordai mawrion, tywyll, a llonydd. Erbyn hyn nid oedd neb ymron i'w weled yn cerdded yr heol. Ni chlywn ddim ond trwst y cerbyd a rhywun yn chwibanu. Yr oedd y chwibanwr fel pe buasai yn fy nilyn. Rhoddais fy mhen allan i wrando, a deallais mai y gyrwr oedd y chwibanwr. Adwaenwn y dôn: yr hen "Gaersalem " ydoedd. Ni wyddwn hyd hyny fod y Saeson yn ei harfer. Deliais fy mhen allan, a theimlwn fel pe buaswn mewn Capel Cymraeg, a dychymygwn glywed y geiriau, "Diolch iddo, byth am gofio llwch y llawr." Penderfynais yn fy meddwl fod cabby yn arfer myned i'r capel. Yr oeddwn yn fuan mewn parth pruddaidd ar y dref. Dechreuais feddwl mor ynfyd y bum yn dychymygu cael gweled Mr. Breece ar y fath adeg. Yn union deg gwelwn wál fawr, uchel, a chadarn, a ymddangosai yn ngoleuni y lampau wedi duo gan henaint. Y mynyd nesaf safodd y cerbyd gyferbyn â drws llydan, a'i wyneb wedi ei guddio ymron a phenau hoelion. Wrth ei ochr yr oedd lamp fwy na chyffredin wedi ei sicrháu wrth y mur cadarn. "Here we are, safe and sound," ebe fy ngyrwr, ac agorodd ddrws y cerbyd. Safodd cabby a'i gefn at y goleuni, yr hwn a dywynai ar fy wyneb; ac yr oedd fel pe buasai ar fedr dal ei law allan am y tâl, pryd y ciliodd yn ol gan syllu arnaf mewn syndod, ac ebe fe,
"Wel yr hen ganfed! Ai ti wyt ti, dywed?" Rhoddodd fy nghalon dro ynof, a bu agos i mi ei gofleidio, oblegid nid oedd efe neb amgen na hen gydymaith fy ieuenctyd—Wil Bryan! Ond cyn i ni allu cyfnewid dwsin o eiriau agorwyd drws bychan yn nghanol y drws mawr yr old Bailey, a daeth allan ddyn mawr, cefngrwn, a chauwyd y drws yn glap ar ei ol. Yr oedd raid iddo ddyfod heibio i ni. Ni edrychodd arnom, eithr cadwai ei lygaid tua'r llawr. Ond<noinclude><references/></noinclude>
a0g5h70369koz5w34v1919o9jjed4tl
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/399
104
86202
166639
2026-06-18T19:24:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166639
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nid allai efe attal goleuni y lamp, a phan oedd efe allan o glyw ebe Wil,
''"I'm blow'd'', os nid yr hen Niclas ydi'r ''chap'' ene!"
"Rwyt yn iawn, Wil," ebe fi; "Niclas ydyw yn sicr, ac er fy mwyn i, dilyn o, a myn wybod i ba le y mae yn myn'd, pe cymerai hyny i ti ddwy awr; a thyr'd yn ol yma. Cei wybod y rheswm eto. Mi geisiaf innau wneyd fy neges, a pha un a lwyddaf ai peidio, mi arosaf yma nes i ti dd'od yn ol."
''"At your service as detective in chief,"'' ebe Wil, yn ol ei hen ddull o siarad, a neidiodd i'w gerbyd, ac ymaith ag ef. Edrychais ar ei ol 'am eiliad, ond collais yr olwg arno yn ebrwydd, a throais ar fy sawdl, a chenais gloch yr Old Bailey yn egnïol. Ond gwelaf y bydd raid i mi gymeryd pennod arall i adrodd am anturiaethau y noswaith ryfedd hono yn fy hanes.

{{c|{{mawr|PENNOD XXXIX.
Wil Bryan yn ei gastell.}}}}
Cenais gloch yr Old Bailey yn egnïol, fel y dywedais, a theimlwn yn gynhyrfus a phryderus, ac nid oedd ymddangosiad annysgwyliadwy Wil Bryan a'r Hen Niclas wedi lleihâu dim ar amlder fy meddyliau. Yn ddiattreg, clywn rywun yn dynesu yn brysur i ateb yr alwad, a dynodai trwst ei agoriadau ei swydd bwysig ond ddiwarafun. Y fynyd nesaf, agorwyd y drws, a thywynodd goleuni lamp yr agoriadur yn ffagl ar fy wyneb nes fy nallu ymron. "Pwy oeddwn?" "Pa beth a geisiwn?" A oedd y governor i mewn? "Oedd." A allwn i gael ei weled? "Gallwn, os oedd fy neges yn bwysig." 0, oedd. "Purion, dowch i mewn." Arweiniwyd fi i ystafell fechan, ysgwâr, yn yr hon nid oedd ond bwrdd, a dwy gadair, a gadawyd fi gan fy arweinydd, a thynodd y drws ar ei ol, yr hwn a glöai o hono ei hun. Nid oeddwn heb arswydo cael fy ngalw i wyddfod ceidwad y carchar, er mai gyda'r amcan hwnw y deuthwn yr holl ffordd yno. Mr. Prichard, ceidwad carchar Fflint, oedd yr unig ''jailer'' a welswn
<noinclude><references/></noinclude>
pbp2m4x1dwktupif09vr2j54gc9hl0r
166640
166639
2026-06-18T19:25:08Z
AlwynapHuw
1710
166640
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nid allai efe attal goleuni y lamp, a phan oedd efe allan o glyw ebe Wil,
''"I'm blow'd'', os nid yr hen Niclas ydi'r ''chap'' ene!"
"Rwyt yn iawn, Wil," ebe fi; "Niclas ydyw yn sicr, ac er fy mwyn i, dilyn o, a myn wybod i ba le y mae yn myn'd, pe cymerai hyny i ti ddwy awr; a thyr'd yn ol yma. Cei wybod y rheswm eto. Mi geisiaf innau wneyd fy neges, a pha un a lwyddaf ai peidio, mi arosaf yma nes i ti dd'od yn ol."
''"At your service as detective in chief,"'' ebe Wil, yn ol ei hen ddull o siarad, a neidiodd i'w gerbyd, ac ymaith ag ef. Edrychais ar ei ol 'am eiliad, ond collais yr olwg arno yn ebrwydd, a throais ar fy sawdl, a chenais gloch yr Old Bailey yn egnïol. Ond gwelaf y bydd raid i mi gymeryd pennod arall i adrodd am anturiaethau y noswaith ryfedd hono yn fy hanes.

{{c|{{mawr|PENNOD XXXIX.
Wil Bryan yn ei gastell.}}}}
Cenais gloch yr Old Bailey yn egnïol, fel y dywedais, a theimlwn yn gynhyrfus a phryderus, ac nid oedd ymddangosiad annysgwyliadwy Wil Bryan a'r Hen Niclas wedi lleihâu dim ar amlder fy meddyliau. Yn ddiattreg, clywn rywun yn dynesu yn brysur i ateb yr alwad, a dynodai trwst ei agoriadau ei swydd bwysig ond ddiwarafun. Y fynyd nesaf, agorwyd y drws, a thywynodd goleuni lamp yr agoriadur yn ffagl ar fy wyneb nes fy nallu ymron. "Pwy oeddwn?" "Pa beth a geisiwn?" A oedd y governor i mewn? "Oedd." A allwn i gael ei weled? "Gallwn, os oedd fy neges yn bwysig." O, oedd. "Purion, dowch i mewn." Arweiniwyd fi i ystafell fechan, ysgwâr, yn yr hon nid oedd ond bwrdd, a dwy gadair, a gadawyd fi gan fy arweinydd, a thynodd y drws ar ei ol, yr hwn a glöai o hono ei hun. Nid oeddwn heb arswydo cael fy ngalw i wyddfod ceidwad y carchar, er mai gyda'r amcan hwnw y deuthwn yr holl ffordd yno. Mr. Prichard, ceidwad carchar Fflint, oedd yr unig ''jailer'' a welswn
<noinclude><references/></noinclude>
oqtsneaxua9b6nx2voxttn5kcohqhmw
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/400
104
86203
166641
2026-06-18T20:06:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166641
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>erioed, a chofiwn fod yr olwg arno ef yn peri i hyd yn nôd ddyn dieuog grynu yn ei esgidiau. Y fath awdurdod broch oedd yn ei wyneb! Fel yr oedd ei lygaid gloew, gwyllt yn treiddio i mewn i un ac yn crafu asgwrn ei gefn! Ni chlywais am neb a anfonwyd i garchar Fflint nad oedd edrychiad Mr. Prichard yn gwneyd iddo arswydo, oddigerth yr hen Ned James. Pan anfonwyd Ned i'r Fflint am yr ail waith, gwaeddodd Mr. Prichard yn ei glustiau, "Wel, Ned! Ned!! Ned!!! ddois di yma eto?" "Fum i 'rioed yn lle'n y byd, Mr. Prichard, na chawn i fyn'd yno wed'yn," ebe Ned yn berffaith hunanfeddianol. Meddyliwn os oedd Mr. Prichard, ceidwad carchar Fflint, yn un â'r fath ddychryn yn ei drem, pa faint mwy felly ceidwad carchar yr Old Bailey? Agorwyd y drws, ac arweiniwyd fi i bresennoldeb Mr. Breece, a chrynai fy nghoesau. Ond ni fuasai raid iddynt; nid oedd Mr. Breece yn debyg i Mr. Prichard o gwbl. Gwr bychan, eiddil, a diniwed yr olwg oedd efe. Yr oedd Mrs. Breece yn yr ystafell, ac ar y pryd, yn gwau hosan. Dynes fawr, gnodiog, a boddlawn iawn o ymddangosiad oedd hi, ac edrychai ei harglwydd fel math o attodiad iddi. Ar fy mynediad i'r ystafell, cododd y ''jailer'' ar ei draed—edrychodd yn groesawgar arnaf dros ymylon ei yspectol felen, a pharodd i mi gymeryd cadair. Ebe fe" Mr. Lewis, yr wyf yn deall?"
"Ie, syr, ' ebe fi, "ac yr wyf yn erfyn eich maddeuant am aflonyddu arnoch ar y fath adeg."
"Peidiwch a sôn! peidiwch a sôn!" ebe fe, " os bydd busnes yn y cwestiwn, ni byddaf yn edrych faint ar y nos ydyw."
Wedi peth ymddyddan cyffredinol, yn yr hwn y sylwais fod gan Mr. Breece arferiad o fynychu yr un geiriau, ychwanegodd—"Esgusodwch fi, Mr. Lewis, a ydych yn y weinidogaeth?"
"Ydwyf, syr," ebe fi.
"Yr oeddwn yn dyfalu hyny," ebe fe, "ac felly chwi a gymerwch wydriad o win? I, os gwelwch yn dda, estynwch y {{bar|2}}
"Na thrafferthwch," ebe fi, "ni byddaf yn cymeryd gwin. Mae fy neges yn fèr a syml, ac ni flinaf chwi ond am ddau fynyd. Bore heddyw derbyniais lythyr oddiwrthych yn fy hysbysu am farwolaeth un o'r enw James Lewis, carcharor yn y lle hwn, ac y mae fy ymweliad i'w briodoli yn fwy i gywraingarwch na dim arall."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
rfvhg8p1hi51swug6xvx9o5b6nbp2mi
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/401
104
86204
166643
2026-06-18T20:13:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166643
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (Rhys, Wil a'r Hen Niclas ger y carchar).jpg|canol|500px]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
j2a8d9n7tqe5red53xgd5njktah2xt7
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/402
104
86205
166644
2026-06-18T20:15:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166644
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Oh!" ebe Mr. Breece, a newidiodd ei wedd y foment hono, ac edrychodd arnaf gyda llygaid main a threiddgar, ac ychwanegodd "Do, do mi ysgrifenais attoch, ac ni feddyliais fwy am y peth—fwy —am—y—peth. Eich tad oedd efe, mae'n debyg, eh?"
"Nage;" ebe fi, a theimlwn yn falch fy mod yn gallu dyweyd hyny, "ond yr oedd efe yn rhyw fath o berthynas i mi, nad oeddwn, gallaf eich sicrhâu, yn teimlo yn falch o hono. Fy neges ydyw cael gwybod, os gwelwch yn dda, a ddarfu iddo ef ddyweyd rhywbeth wrthych nad oedd yn cael ei gynwys yn eich llythyr? Mae genyf fy rhesymau dros ofyn hyn i chwi na fyddai o un dyben i chwi eu gwybod, nac o un dyddordeb i chwi."
"Yr wyf yn eich deall, yr wyf yn eich deall," ebe Mr. Breece, ac adfeddianodd ei hynawsedd blaenorol. "Naddo; naddo hyd yr wyf yn cofio, ni ddywedodd efe fwy nag a ysgrifenais attoch. A oes genych lawer o berthynasau, Mr. Lewis?"
"Hyd y gwn i, efe oedd yr olaf o mherthynasau," atebais.
"Ah!" ebe Mr. Breece mewn syndod.
"Wrth gwrs, claddasoch ef heddyw, fel yr oeddych yn dyweyd yn eich llythyr?" ebe fi.
"Naddo," ebe fe. "Naddo. Aroswch, a ddywedasoch chwi, Mr. Lewis, mai efe oedd yr unig berthynas a feddech?"
"Ar fy llw," ebe fi, canys gwelwn ei fod yn fy ammheu, "hyd y gwn i, efe oedd yr olaf o fy nheulu."
"Mae hyny yn rhyfedd," ebe Mr. Breece, "pe bae yn rhyfedd hefyd, oblegid yr ydym bob amser yn cael ein twyllo—bob amser; ond rhaid i mi gymeryd eich gair chwi fel gŵr eglwysig, ''(clergyman)'' ond bore heddyw, pan oeddwn newydd roddi gorchymyn am osod y marw yn ei arch, daeth yma ymwelydd, yr hwn a gymerai arno ei fod yn frawd i'r trancedig—(teimlwn yn anghyfforddus pan ddywedai Mr. Breece y geiriau hyn), er y rhaid i mi gyfaddef nad oedd ynddo ddim tebygrwydd i'r carcharor—yn wir yr oedd yn gymeriad rhyfedd, ac yr oedd yn amlwg yn ŵr arianog. Crefodd am gael rhoi arch weddus i'w frawd anffodus, fel y galwai efe ef, a rhoddodd bapyr pum' punt ar y bwrdd i dalu am dani—ar y bwrdd, syr. A allwn i ei wrthod, meddwch chwi? Syr, byddaf bob amser yn dyweyd—pan ddaw angeu i wneyd ei waith fod y gyfraith yn gorfod cilio yn ôl—cilio yn ol, syr. A wnaf fi gosbi dyn marw? Byth, byth! Byddai<noinclude><references/></noinclude>
26gbnqs2lylijthbpviengzgq467em4
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/403
104
86206
166645
2026-06-18T20:16:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166645
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyny, syr, fel pe bawn yn ymladd yn erbyn yr Hollalluog Dduw. Gorchymynais ar unwaith am wneyd arch dda i'r marw; ac y mae yn arch dda. Yn wir, mewn ffordd o siarad, mae yn resyn rhoi arch mor werthfawr yn y ddaear. Yr oedd y gŵr a dalodd am dani yn ei hoffi yn fawr; a phe buasech yma ddeng mynyd yn gynt, gallasech weled y gŵr rhyfedd hwnw—caritor—caritor hollol, syr."
Cyfodais i fyned ymaith, ac ebe fi—" Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi, Mr. Breece, am eich caredigrwydd, ac yn erfyn eto eich maddeuant am aflonyddu arnoch ar y fath adeg."
"Peidiwch â sôn, peidiwch â sôn," ebe fe. "Mae pethau fel hyn yn dygwydd weithiau. Dyma chwi? a ddymunech chwi weled yr arch? Yr wyf yn sicr yr hoffwch hi?"
"Os gwelwch yn dda, syr," ebe fi. Canodd Mr. Breece gloch oedd wrth ei benelin, ac yn y fynyd gwnaeth y gŵr a welswn o'r blaen ei ymddangosiad, ac ebe Mr. Breece.
"Gloom, a ydyw arch number 72 wedi ei scriwio?" "Dyna oeddym yn ei wneyd yrŵan, syr," ebe Gloom. "Cymerwch y boneddwr hwn i'w gweled. Nos dawch. Peidiwch â son, peidiwch â sôn, syr, mae i chwi groesaw."
Arweiniwyd fi ar draws buarth llydan, yna drwy ddrws â agorai i dramwyfa hir, a thrwy ddrws arall, ac arall, y rhai a glöent o honynt eu hunain; yna i lawr grisiau geryg, ac ar hyd tramwyfa arall, ac yr oedd rhywbeth yn yr awyr, y drysau tewion, a'r muriau llaith a barai i mi feddwl fod pawb yn y lle wedi marw er's oesoedd, oddigerth fy arweinydd, a Mr. Breece a'i wraig, gan mor brudd a diobaith oedd yr olwg ar bobpeth. O'r diwedd, deuthum i ystafell angeu, lle, fel y tybiwn ar y pryd, na fu erioed ronyn o awyr iach ynddo, a lle yr oedd y byw yn gorfod bod fel y marw—heb anadlu. Yr oedd nenfwd yr ystafell yn isel a'i muriau yn llwm a llaith, fel pe buasai malwod wedi bod yn ysleifio ar hyd—ddynt er's canrifoedd, ac yr oedd arogl marwolaeth yn dew ynddi. Pan euthum gyntaf i'r ystafell meddyliwn mai yr olwg danddaearol oedd ar y lle a barai i mi ddychymygu fy mod yn teimlo llygod mawr yn crafangu ar draws fy esgidiau a rhwng fy nghoesau, nes i fy arweinydd roi rhegfa a cheisio rhoi cic i un o honynt, yr hyn a'm sicrhâodd nad dychymygu yr oeddwn, a'i fod yntau yn cael ei flino gan yr un creaduriaid. Nid oeddwn wedi cymeryd nemawr luniaeth y diwrnod hwnw, a theimlwn<noinclude><references/></noinclude>
4jv7omckknb5gk78gyz33x6temitidx
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/404
104
86207
166646
2026-06-18T20:25:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166646
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn wanaidd a llesmeiriol. Ond ceisiwn ymwroli, canys nid oeddwn wedi dyfod yr holl ffordd yno i ddim yn y byd. Ymhen draw yr ystafell, yr hon oedd hir a chul, yr oedd bwrdd, ac arno yr "arch. dda;" ac wrth ei hochr ddyn yn llewys ei grys a chap papyr am ei ben, yr hwn—sef y dyn—pan glywodd efe fy arweinydd a minnau yn dyfod i mewn, a drôdd ei wyneb tuag attom, gan ddal screw driver yn ei law, ac yr oedd yr olwg arno yn gymwys fel pe buasai wedi ei ddal yn annysgwyliadwy yn yspeilio beddau. Cymerwyd trafferth i ddangos rhagoroldeb yr archi mi. Ond pa beth a ofalwn i am yr arch? Fy mhwnc i oedd cael gweled yr hwn oedd ynddi, a bu raid i mi roddi swllt i'r ''joiner'' am ei dadscriwio. Gan nad pa mor ynfyd oeddwn, yr oedd arnaf ofn mai wedi ''cymeryd'' arno marw yr oedd fy ewythr James, ac mai cynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod yn rhydd o'r carchar; ac y mae yn rhaid i mi gyfaddef y gwir fy mod yn dysgwyl yn bryderus, pan oedd y joiner yn tynu y screw olaf, ac yn symud cauad yr arch, weled fy ewythr yn cyfodi yn ei eistedd, a'i glywed yn tori allan i chwerthin. Ond nid felly y bu; a beied a feio, teimlais ollyngdod mawr. Dyna lle yr oedd efe yn ei hen ddillad yn ei arch can farwed â hoel. Efe yr hwn a andwyodd fy nhad—a ddygodd ar fy mam a minnau y rhan fwyaf o'n profedigaethau—a wariodd bob dimai a gasglaswn i fyned i'r coleg—yr hwn nad oedd dim yn rhy ddrwg ganddo i'w gyflawni a welwn y fynyd hono yn llonydd a diallu, wedi ei orchfygu gan y gorchfygwr mawr! Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt càn oered â'r muriau llaith oedd o'n cwmpas. Cyn y noswaith hono nid oeddwn wedi edrych ond ar ddau wyneb marw, sef yr eiddo Seth a fy mam. Y fath wahaniaeth oedd yma! Yr oedd y diafol wedi gadael ei farc arno, a chanfyddwn fod pangfeydd marwolaeth wedi bod yn rhywbeth ofnadwy iddo. Tybiwn fod y fath wahaniaeth rhwng yr olwg siriol a dymunol oedd ar wyneb Seth yn ei arch o'i gymharu â'r un oedd o fy mlaen, ag sydd rhwng nefoedd ac uffern! Yr oedd efe yn ewythr i mi frawd fy nhad; ond y mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen. Tra yr oeddwn yn edrych arno, teimlwn raddau o ofnadwyaeth; ac eto, meddyliwn fod pobpeth o amgylch yn cyfranu i ffurfio diweddiad priodol i fuchedd fuasai mor lygredig a phechadurus. Er fod fy nillad yn glynu ynof gan chwŷs oer, teimlwn ryw fath o ''chuckle''<noinclude><references/></noinclude>
tdu6hjk1fibm0g2isn8cptzwc50q4xo
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/405
104
86208
166647
2026-06-18T20:28:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166647
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nad allai efe fy mlino mwy. Gan nad pa brofedigaethau oedd yn fy aros, yr oedd y naill hanner o fy hunllef wedi diflanu, a phrysurais allan. Pan gefais fy nhroed tuallan i furiau yr Old Bailey, cymerais anadliad hir, a dywedais, megys heb yn wybod i mi fy hun—"O ryddid bendigedig!"
Yn y parth hwnw ar y dref yr oedd yr ystrydoedd yn ddystaw â llonydd, ac ni welais un creadur byw tra bum yn cerdded yn ol a blaen, fel milwr ar y wyliadwriaeth, a thra yr oeddwn yn dysgwyl am Wil Bryan. Cerddais a cherddais, a rhedai fy meddwl i'r Bala, â hiraethum am gael bod yno. Bychan a wyddai Williams, yr hwn oedd yn ei wely, fel y credwn, ymha le yr oeddwn y mynydau hyny, ac am y meddyliau a gyniweirient drwy fy nghalon. Pe gwybiasai ni chysgasai winc. Yr oedd wedi peidio gwlawio er ys meityn, ac yr oedd y lloer wedi codi, a da oedd genyf ei gweled—yr oeddwn yn ei hadnabod a chredwn ei bod hithau yn fy adnabod innau er pan oeddwn hogyn, a phan feddyliwn mai ni y Cymry oedd ei phiau. Yr oedd Wil yn hir yn dyfod, ac ofnwn weithiau fod rhywbeth wedi dygwydd iddo, ac na ddeuai efe o gwbl. Ar brydiau teimlwn mor newynog nes oeddwn ymron llesmeirio; ond yn ebrwydd anghofiwn fy newyn a thramwyai fy myfyrdodau dros ran fawr o fy mywyd. Wrth edrych yn ol, gwelwn law Duw yn fy nwyn yn ddiangol drwy lawer gyfyngder. Pa bwrpas oedd ganddo Ef yn fy nwyn yma? Yr oedd fy meddyliau yn ddyryslyd, ond a oedd y wawr ar dori? Yr oedd Wil yn hir yn dyfod, a chofiwn yr arferai fy mam ddyweyd mai hir yw pob ymaros. Dychymygwn glywed yn y pellder sŵn cerbyd yn nesâu, a gwrandewais yn astud. Ai cerbyd Wil ydoedd? Nage; yr oedd yn myned ffordd arall. Tarawodd cloc eglwys oedd gerllaw ddeuddeg o'r gloch. Yn y man meddylwn fy mod yn clywed rhywun draw yn cerdded ar y palmant, a theneuais fy nghlust i wrando. Oedd, yr oedd rhywun yn dynesu attaf. Cerddai yn gyflym gan chwibanu. Er mwyn arbed drwgdybiaeth, cerddais innau i'w gyfarfod, gan fwriadu dychwelyd wedi iddo ef fyned heibio. Pan oeddwn o fewn rhyw ddeugain llath iddo torodd allan i ganu rhan o ddeuawd a elwir, os wyf yn cofio yn dda, ''The Larboard Watch'', yr hon sydd yn holi ac yn ateb—''"Who's there?" " A friend." "The word?" "Good night." "All's well."'' Wil oedd y canwr; a pharodd clywed ei lais adnabyddus iachad i fy ysbryd. Ebe fe—
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hziyx9b4dxnpao9zp31i46qx3aajm0z
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/406
104
86209
166648
2026-06-18T20:33:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166648
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wel, yr hen huddugl i botes, wyt ti wedi blino gweitiad? Rhaid i ti fecsciwsio i am beidio dwad efo'r ''cab''—achos roedd y ''nag'' wedi blino'n sobor, a does gynon ni fawr o ffordd i'r ''crib'' acw. Rwan gad i ni gael tipyn o dy ''stranger than fiction di''. Mi wn ar dy gib di fod ti mewn rhw row. O ble'n y byd mawr y doist di? Wyst di be, rydw i wedi meddwl am danat ti filoedd o weithie, a wedi bod yn gofyn, tybed fase rhaglunieth yn ein tymblo ni ar draws ein gilydd rw dro? Ond rwan, ''thou weary pilgrim tell thy tale?''
"Yn gyntaf oll, Wil," ebe fi, "a ddarfu i ti gael gwybod i b'le yr aeth yr Hen Niclas?"
"Do, a mi gês chwech am hyny," ebe Wil. "Ar ol d'adel di y meddyliais i mor anodd oedd dogio ''chap'' a finne mewn ''cab'', a mi nyles yn syth ato fo a mi ddeudes 'step in, sir,' fel bydaswn i isio dim byd am i gario fo, wyddost, a mi gymrodd yr hen law y baet—'65 ''Gregg Street''," befo, a phan rois i o i lawr, mi roth i mi chwech. Fyddwn ni run dau fynyd hwy yn mynd heibio'r tŷ—mi dangosa i o i ti. Ond be ydi'r row? Be ydi'r ''meaning of all this''? spoutia."
Nid gorchwyl anhawdd na chwmpasog oedd egluro i Wil fy neges yn dyfod i B{{bar|3}}, oblegid gwyddai efe fwy o fy hanes i a fy nheulu na neb arall. Rhoddais iddo grynhodeb byr o'r hyn a ddygwyddasai i mi er pan wnaethai efe ei "''exit''," chwedl yntau, a gwrandawai Wil arnaf gyda dyddordeb dwfn. Gwyddwn y gallwn gyfrif ar ei ymddiried a'i gynorthwy. Yn wir, oni buasai i mi ei gyfarfod mor ragluniaethol ni buasai y naill hanner o fy neges yn B{{bar|3}} wedi ei chyflawni. Cerddem fraich am fraich, ac ni edrychwn i ba le yr oeddym yn myned, er fy mod yn ymwybodol fod Wil wedi fy arwain drwy amryw ystrydoedd, ac wedi troi ar y dde a'r aswy lawer gwaith. Yr oeddwn newydd orphen adrodd wrtho am yr hyn a welswn yn yr Old Bailey, pryd y safodd Wil ac y dywedodd yn ddystaw—" Dyma fo." Edrychais o'm cwmpas, a gwelwn ein bod mewn heol gul, lonydd. Yr oedd y tai yn uchel, ac, a barnu oddiwrth nifer y ffenestri, yn cynwys llawer o drigfanau. Yr oedd shutters ar y ffenestri isaf. Sibrydodd Wil drachefn—" Dyma'r tŷ—65 ''Gregg street''—i hwn yr aeth yr Hen Nic—well i ni ofyn ydi'r swper yn barod?" Daeth drosof deimlad rhyfedd, nas gallaf ei ddesgrifio. Yr oedd yn cael ei wneyd i fyny o ofn, meddyliau dyeithr, a chywreingarwch. Ymddangosai fod y trigolion wedi myned i orphwys;<noinclude><references/></noinclude>
48p877s5dfyqt7p4odptvkqx4cl4izp
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/407
104
86210
166649
2026-06-18T20:38:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166649
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond cyfeiriodd Wil fy sylw gyda'i fys at rimyn o oleuni uwchben I 65—a cherddodd cán ddystawed a châth at y ffenestr, a dilynais innau ef. Clywem siarad oddimewn, ond ni allem ddeall un gair. Yr oedd lintel y ffenestr yn isel. Gosododd Wil ei law ddeheu ar fy ysgwydd, a'i droed chwith ar y lintel, a chododd ei hun i'w lawn hyd gan geisio edrych dros ymylon y ''shutters''. Ond nis gallai; a disgynodd yn ddystaw gan amneidio ar i mi wneyd cais—oblegyd yr oeddwn oddeutu modfedd talach nag ef. Gwneuthum felly; ac yr oeddwn yn gallu gweled i mewn i'r ystafell. Ond yr oedd fy nghalon yn curo mor gyflym fel yr oeddwn ymron colli llewyrch fy llygaid. Pa fodd bynag, canfyddwn wely ymhen pellaf yr ystafell, a rhywun yn eistedd ynddo, ond nid allwn weled ei wyneb oblegid yr oedd Niclas, ffurf yr hwn a adwaenwn yn dda, yn sefyll rhyngof ag ef, ac ar y pryd yn tywallt o botel a ddaliai yn ei law ddeheu rywbeth i wydryn a ddaliai yn ei law chwith. Teimlwn yn awyddus i gael golwg ar wyneb yr hwn oedd yn y gwely, pryd y tynwyd fy sylw gan glic cyflym yn fy ymyl, cyffelyb i sŵn cloi, clo, clap. Edrychais, ac wele heddgeidwad tal, grymus, yn fy nerbyn yn daclus oddiar y lintel, a chyn i mi wybod fod fy nhraed ar y ddaear, yr oedd fy arddwrn yn rhwym mewn dolen o ''handcuffs'', dolen arall y rhai oedd eisoes am arddwrn Wil. Oddeutu hanner dwsin o eiliadau a gymerodd i'r swyddog i wneyd y gwaith hwn arnom, ac ni ynganodd air. Cadwodd ei afael yn ngholer fy nghôt tra yr oedd efe yn edrych yn fanwl ar rif y tŷ. Yr oeddwn ymron a syrthio gan ddychryn; ond adfeddiannodd Wil ei hun yn ebrwydd, ac efe oedd y cyntaf i dori gair. Ebe fe—
''"Officer, I must give you credit—you are a smart fellow."'' Gan edrych yn fyfyrgar arnaf fi a'r ''handcuffs'' bob yn ail, ychwanegodd ''just as it should be—we've always been attatched, even from childhood."'' Yna dechreuodd Wil ymresymu gyda'r swyddog, ond ni wrandawai efe ar ddim a ddywedai Wil—a'r unig air a gaem o'i enau oedd "''March!''" ac felly y gwnaethom. Cerddai y swyddog yn glos wrth ein sodlau heb ddyweyd dim ond "''right''" neu "''left''" pan ddeuem i gongl heol.
"Dyma'r tro tosta a weles i rioed am llygid, mi gymra fy llw," ebe Wil. "Yr ydan ni wedi braenu hi, a dydio ddim diben, wyddost, ymresymu efo'r gôt lâs. (Rhaid i ni siarad dipyn yn rammadegol,<noinclude><references/></noinclude>
1gumqmqr9lxbi14h9wdenuli88tejp8
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/408
104
86211
166650
2026-06-18T20:45:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166650
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>
ne mi dalltiff ni). Y pwnc ydi sut y down ni allan o honi Rhody
feddwl ar waith am agam go dda ran. Bewt ti'n crynu fel ene?
Does dim isio i ddyn dieuog grynu. Mi wyddost fod ni mor ddiniwed & mul William y glo. Bye the bye, ydi yr hen William yn fyw?
ydio yn dal i roi'r bai ar Satan Rhaid i ninne, mae gen i ofn, roi'r
bai ar yr hen law am y job yma. Sut y gwnawn ni 'i managio hi,
dywed Mi dyngiff y got las, wyddost, lot o bethe fory bore.
Siarada, waeth i ti heb roi dy galon i lawr."
"Does dim i'w wneyd ond dyweyd y gwir a chymeryd y canlyniadau," ebe fi. "Ond pa bryd bynag y caf ddyfod yn rhydd o afaelion y gŵr yma, mae'n rhaid i mi gael myned at y tŷ yna eto"
"Chredan nhw byth mo'r gwir," ebe Wil. "Bydae ni yn deyd y gwir, sef mae isio gweld pwy oedd hefo yr hen Nic yn tŷ ene roeddan ni, wyt ti yn meddwl y creden nhw ni? Ddim peryg! A mae llawer ffordd o ddeyd y gwir—mae isio siarad iaith ffugyrol weithie, wyddost. Os na naiff y gôt lâs balu llawer iawn o gelwydd, yr ydw i yn methu gweld y medra nhw neyd dim byd ini. Hwyrach y cawn ni bedwar—diwrnod—ar—ddeg; a mi fydd hyny yn andros o gwilydd hefo dau fachgen diniwed. Weles i rioed shwn biti! a finne wedi meddwl cael noswaith lawen i fynd dros yr hen bethe! Bydawn i yn gwbod nad ydi y gôt lâs ddim yn eithriad, mi dreiwn 'i freibio fo; ond does dim tryst, mae 5 mor ddystaw. Bydase ni wedi cymyd arnom fod yn feddw, pum swllt a'r coste fase hyny. Oes gynat ti run sgâm? Dywed rwbeth, waeth i ti heb roi fyny'r ysbryd. Yr ydw i yn trio peidio defnyddio gair Saesneg rhag i'r gôt lâs y nallti; a dydw i rioed yn cofio i mi siarad Cymraeg mor bur—yr ydw i yn synu ata fy hun. Gadini gael cyd-ddealltwrieth be ddeudwn ni, rhag i ni braenu hi efo'n stori. Be bydae ni yn deyd mai isio gweld y mrynion roeddan ni? Mae'n siwr i ti fod ene frynion mewn tŷ fel ene. Ond be bydae nhw yn gofyn i ni 'u henwe nhw? ac i ninne ateb—Ann a Marged. A be bydae nhw yn gofyn i ni ffasiwn wallt sy gynyn nhw? a ninne ddeyd—gwallt du. Ond be bydae henwe nhw yn troi allan yn Maud a Cesilia, a'u gwallt nhw yn goch? Sut y dryche ni'n dau? Na, thâl y stori ene ddim. Be ydi dy sgâm di? Wyst ti be? ddaru mi rioed feddwl fod gynat ti leied o blwc. Waeth i ti heb fynd i dy sgidia—fyddi di damed gwell. Run pryd, mae'n reit fawr gen i drosot ti. Dydw i yn hidio run ffig am danaf fy hun,<noinclude><references/></noinclude>
mzsnvi0vf49p673qnw4su9j850jgdpy
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/409
104
86212
166651
2026-06-18T20:49:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166651
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>achos mi drychiff rhw ''chum'' imi ar ol ynag. Ond yr idea! pregethwr Methodus yn y ''quod''! Wyst ti be, mi fu ''just'' i mi neyd barddonieth; ond dydi 'nag'a "quod" ddim yn clymu yn dda, ydyn nhw? Gobeithio'r brenin na ddo nhw ddim i wbod am y job yma yn y—yr athrofa— (dydi'r gôt lâs ddim yn dallt y gair ene, mi gymra fy llw). Mi fydde yn gebyst o beth iddyn nhw glywed yn y Bal. am hyn. Mi gollet dy Ddyddiadur yn syth! Ond dydio ddim iws i ti fory, wyddost, ddeyd mai R. L. ydi dy enw di. Rhaid i ti fod yn Gymro, a chymyd ffugenw. Bydae ti yn deyd mai dy enw di ydi Melltathraneorosllanerchrugog—wydde nhw ddim mygenach yma, wyddost. Yr ydw i yn bound o gymyd ffugenw, achos yr ydw i yn fardd—e. g. ''nag'' a ''quod.'' Oes gynat ti ddim byd i ddeyd?"
Bu Wil yn ddystaw am rai mynydau, ac ni ddywedais innau ond ychydig eiriau. Yn wir yr oeddwn yn rhy drallodus fy meddwl i gynnal ymddyddan ag ef; a synwn sut yr oedd efe yn gallu cymeryd yr amgylchiad mor ysgafn. Yr oeddwn ar fedr mynegu iddo fy ngofid, a fy ofnau i'r helynt ddyfod yn wybyddus yn y coleg ac yn fy nghartref, pryd y dechreuodd Wil drachefn.
"Rydw i'n methu'n glir a gweld ffordd i ddwad allan o'r ''row'' yma, achos mae'r ymddangosiad yn ein herbyn ni. Mae o ''just'' yn dibynu faint naiff y gôt lâs dyngu. Mae hwn ene yn odli, on dydio? Roedd o yn taro i meddwl i, a ydi rhaglunieth wedi penderfynu i bob un o'ch teulu chi gael y fraint o fynd i'r carchar am spel? Roedd rhai o honyn nhw, mi wyddost, ''quite at home'' yno; a dene dy frawd—un o'r bechgyn gore allan—mi gafodd ynte spel; a dyma tithe rwan. Ydach chi yn Ffynnon Elian, dywed? Ond y pwnc ydi, sut y medrwn ni ddangos ein diniweidrwydd? Aros di, fu Paul a Silas ddim mewn ''durance vile'' unweth? Yr ydw i yn slipio i siarad Sasneg heb gofio. Wel, yr ydan ni mor ddiniwed ag oeddan nhwthe'u dau. A sut y daethon nhw allan o'r row? Ai nid wrth ganu a gweddio? Wel, os gnei di weddïo, mi gana i nes bydd y lle yn speden, mi gyma fy llŵ!"
Pan ddywedodd Wil y geiriau olaf synwyd ni ein dau gan waith y swyddog yn tori allan i chwerthin yn uchel, ac ebe fe yn Gymraeg, "Fechgyn, beth oedd eich busnes wrth y tŷ yna?" "Holo! John Jones, o hen wlad fy nhade! lle mae'ch ''latch key'' chi i agor y ''cuffs'' yma? Oes y byd i'r iaith Gymraeg! Ie dyna fo! Cymry rhydd<noinclude><references/></noinclude>
cmge842czconpflm1s60dvf7nsfhue0
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/410
104
86213
166652
2026-06-18T20:53:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166652
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cymry fydd!" ebe Wil yn llawen tra yr oedd y swyddog yn ein rhyddhâu, yr hyn a wnaeth efe ar unwaith. Pan oedd y swyddog yn tynu yr ''hand-cuffs'' oddiam ein arddyrnau pentyrai Wil eiriau, canmoliaethus ar ei ben. Ymhlith y rhai mwyaf anrhydeddus yr oedd ''"trump," "old brick"'' "A1" &c., gan gyfrodeddu digrifwch diolchgarwch, ac esboniad llawn a boddhäol ar ein hymddygiad, a'r cyfan yn un llinyn, heb gymeryd ei wynt, gan ddiweddu trwy gynyg gwobrwyo y swyddog a phris cinio. "Na," ebe y swyddog, "mae'r 'gôt lâs' yn 'eithriad' ac ni chymer ei wobrwyo, Ewch adref yn blant da." "Rydach chi yn ''true to nature'', ac yn ''honour'' i'ch gwlad, a mi ddylech gael eich gneyd yn ''inspector'' ar unweth," ebe Wil. Wedi peth ymddyddan pellach gyda'r swyddog, ymadawsom ar delerau da, ac mewn natur dda.
Wyst di be?" ebe Wil, "ddeuda i byth eto fod y bobbies yn ''humbugs without exception''. Mae ene ''good sort'' yn'u plith nhwthe. Mi fydda yn meddwl weithie fod yn werth i ddyn fynd i ''scrape'' er mwyn y pleser mae o'n gael ar ol dwad allan o honi. Unweth erioed y bum i ymache y ''chaps'' ene o'r blaen—tua blwyddyn yn ol. Roeddwn i yn nabod geneth yn dre 'ma—doedd ene ddim byd ''definite'' rhyngom ni, wyddost, ond ein bod ni yn ''extra'' o ffryndie—ac un nosweth mi es i danfon hi gartre, a mi ês efo hi i'r tŷ, a mi fum yno spel—yn hwy nag oeddwn i'n feddwl—mi wranta i ti bod hi yn un-ar-ddeg. ''All of a sudden'' mi glywen y feistres yn dwad i lawr o'r ''sitting room'', a mi 'ddaru'r eneth—yn lle bod yn ''straight forward'', a deyd pwy oeddwn i—y ngwthio i rw bantri ne rwbeth, a roedd hi yn sobor o glòs yno. Wel i ti, mi glywn y feistres yn ordro'r eneth i'w gwely, ac wedyn mi clywn hi yn cloi drws y ffrynt a drws y cefn, ond ddylies i rioed fod hi yn cymyd y goriade efo hi. Wedyn mi glywn y ddwy yn mynd i fyny'r grisie, ond yr oeddwn i yn credu y doi'r eneth yn ol i ngollwng i allan. Roeddwn i ''just'' a mygu, a mi gores ddrws y pantri, ne beth bynag oedd o, a roedd y tŷ càn dwlled a bol buwch ddu, a wyddwn i ddim be i neyd. Wel, mi weities spel, a thoc mi glywn yr eneth yn dwad yn nhraed 'i sane, reit ddistaw. Fu rioed well gen i weld gole canwyll, a roeddwn i ar frys am gael mynd allan, achos mi wyddwn nad oedd o ddim yn right i mi fod yn nhŷ neb ar y ''sly''. Roedd yn reit fawr gen i dros yn eneth hefyd pan ddeudodd hi fod y goriade gan 'i mistres, ac nad oedd dim posib i mi fynd allan. Ond<noinclude><references/></noinclude>
5ygbhhfy9t7u5830ivhqm96w6meom44
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/411
104
86214
166653
2026-06-18T20:59:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166653
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr oeddwn i yn ''bound'' o gael mynd allan, bydaswn i yn gorfod tori twll yn y wal, achos doedd o ddim yn ''true to nature'', nac yn ''honourable'' i fod yn y tŷ drwy'r nos. Be fi wrth yr eneth—Be sy haws na mynd drwy ffenest y parlwr ffrynt? Wel ïa wir,' meddi hi, achos Cymraes oedd yr eneth; a mi rôth y ganwyll ar y bwrdd, a ffwrdd a ni i'r parlwr. Yr ydw i'n cofio o'r gore fod y lleuad yn twnuary ffenest. Roedd ene ''flower pot stand'' wrth y ffenest, ac yn y mrys mi dywles un o'r pots nes oedd o yn chwils. A chware teg i'r eneth, medde hi— Mi geiff y gâth y bai am nene.' Doedd y darn isa o'r ffenest, ddyliwn i, ddim wedi 'i agor ers gwn i pryd, ac wedi i mi godi o rw ddeng modfedd smude fo beg. Ond doedd dim i neyd blaw mwthio drwodd. Pan oeddwn i hanner y ffordd allan mi ês càn sowndied a chloch y Bala, a mi ddylies mai yno baswn i. Ond mi gês help. Mewn dau fynyd mi deimlwn rwfun yn 'y nhynu i allan, a mi deimlwn fotyme y ngwasgod yn cael 'u crafu i gyd i ffwrdd. Y ''bobby'' oedd yno—ac at hyny roeddwn i'n cyfeirio blaw mod in hir yn deyd fy stori. Pan welodd yr eneth y mod i yn llaw y ''bobby'', mi dorodd i grio yn sobor, a dene'r adeg y daru mi wbod bod hi yn ffond o hono i. Be fi wrthi—Peidiwch a chrio, Gwen bach—Gwen oedd 'i henw hi—mi ddo i edrach am danoch chi eto ar ol i mi ddwad o'r ''jail'',' a mi ath i grio yn waeth o'r hanner. Weles i moni byth ar ol hyny. Ond dene ydi'r point: mi wydde'r bobby hwnw yn riol nad oeddwn i wedi gwneyd dim drwg, ac eto roedd o isio pum swllt gen i am y ngollwng i'n rhydd. Ond ar ol llawer o ''argument'' mi tynes o i lawr i hanner coron. Ond y mae'u cyfloge nhw mor fychin, wyddost, mae rhaid iddyn nhw neyd rhw ''job'' felly weithie. Wyt ti wedi blino? ne wyt ti ddim mor heini ar dy droed ag a fyddet ti? Rwyt ti'n llusgo dy ''understandings'' yn rhyfedd. Oes. natur riwmatic ynat ti, dywed? Does gynon ni fawr o ffordd eto."
"Gore po leiaf," ebe fi, "oblegid yr wyf wedi blino yn enbyd. Ond a wyddost di, Wil? 65 ''Gregg street'' sydd yn fy meddwl o hyd Sut y caf fynediad i'r tŷ yna?" Yna adroddais wrtho am yr hyn a welswn cyn i'r heddgeidwad ein rhoi mewn ''hand-cuffs'', ac ychwanegais—"Mae'n rhaid i mi, cyn yr af o'r dref yma, gael ychwaneg o oleuni ar yr hyn a welais. Mae yn amlwg nad ydyw Niclas yn aros yno. Yr oedd ei het am ei ben, fel pe buasai efe ar gychwyn ymaith.<noinclude><references/></noinclude>
k1tjry67uy4tjsueletr0syw8qhrh7e
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/412
104
86215
166654
2026-06-18T21:04:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166654
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rwyt yn deall fy mhryder?" Wedi cryn lawer o ymgynghori rhwng Wil a minnau, ebe fe yn y man—
"I have it! Wyt ti'n cofioi mi roi siars arnat ti i beidio gwisgo cadach gwyn yn rhy fuan? ''But circumstances alter cases''—rhaid i ti ddechre fory. Mae 'ma ddynion yn dre 'ma sy'n cael 'u galw yn ''town missionaries''—dynion sy o hyd yn mynd o gwmpas i edrach, nid am 'u ffryndie, ond am rwfun sy'n sâl ne yn annuwiol, i drio gneyd daioni iddyn nhw. Mae nhw, rwsut, yn dod o hyd i bawb sy'n sâl, fel bydae nhw'n medryd 'u hogle nhw. Pedwar diwrnod y bum i'n sâl ers pan ydw i yma; a mi ddôth un ohonyn nhw i edrach am dana i dair gwaith mewn hyny o amser; a mi ddeudodd lot o bethe da wrtha i, bydaswn i yn 'u gneyd nhw. Dydw i ddim yn leicio dau beth ynyn nhw; yn un peth, mae nhw'n dysgwyl i ddyn gredu mewn mynyd, heb roi amser iddo gonsidro; a pheth arall, mae nhw'n pwffio gormod ar yr efengyl, yn ol y meddwl i. Dydyn nhw ddim run fath, wyddost, a'r Hen Gorph, yn meddwl fod yr efengyl yn rhy dda i'w phwffio, ac y daw y rhai sydd 'i hisio hi i'r capel i mofyn am dani. Na, mae'r ''town missionaries'' 'ma run fath a phobol y ''patent medicine'' yn ''advertisio'' bob dydd ac yn gadel papyr ymhob tŷ sy'n rhoi hanes am lot o bobol wedi 'u ciwrio. Y peth sydd yn y moddro i efo nhw ydi nad ydyn nhw byth yn y glums, fel y bydde dy fam a'r hen Abel, a rhai erill yn yr hen gapel adre y gwyddwn i oedd yn ''extra'' o dduwiol. Dim peryg! Mae'r ''town missionaries'' wastad yn ''jolly'', run fath a bydae nhw rioed wedi pechu! Migymra fy llŵ bod nhw yn bobol dda, achos ydyn nhw isio dim gan ddyn blaw gneyd daioni iddo fo. Ac eto mi fydda yn ffilio llyngcu sut mae nhw bob amser mor hapus. A mae nhw yn dysgwyl i bawb arall fod run fath. Mi fydda'n meddwl weithie bydase'r angel Gabriel 'wedi pechu cymin a fi—er iddo fo gael maddeuant, y base fo yn y ''glums'' weithie, hyd yn nod yn y nefoedd ei hun. Ond dydi'r ''town missionaries'' byth yn y ''glums''; a mae'r bobol gyffredin a'r bobol dlodion yn'u parchu nhw, ac yn gadael iddyn nhw ddwad i'w tai nhw i roi cynghor. Wyt ti yn gweld y ''plan''? Rwyt ti'n riol Sais, a does dim ar dy ffordd di i fynd i 65 ''Gregg street'' a mi fedri ladd dau dderyn efo'r un ergyd. Ond dyma'r ''crib''. Paid a dysgwyl cael lle smart—dydw i ddim wedi dechre cadw bwtler."
Cymerodd Wil agoriad o'i logell ac agorodd ddrws ei letty, ac<noinclude><references/></noinclude>
ojvfar73va5m3wihc247mkikzr67gfq
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/413
104
86216
166655
2026-06-18T21:08:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166655
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi i mi ei ddilyn i mewn, ac iddo gau y drws, yr oeddym mewn tywyllwch perffaith. Goleuodd Wil fatsen, yna gwelwn ar fwrdd bychan tu ol i'r drws ganwyllbren, a phan oleuâi Wil y ganwyll, ebe fe
"Y fi ydi 'r diwaetha yn dwad i mewn heno, ne mi gawset weld lot o gnwylle ar y bwrdd yma. Y mae'r tŷ 'ma y peth tebyca welest di 'rioed—canlyn di fi i fyny'r grisie, a phaid a gneyd mwy o drwst nag y ddylet ti, achos mae pawb yn snorio, —y peth tebyca welaist di rioed i focs clomenod. Mae 'ma gryn wyth ohonon ni yn lodgio 'ma; a mae gan bob un ohonon ni room iddo fo 'i hun, a does un ohonon ni yn gwbod eto ymha room y mae gwraig y tŷ, y ferch, a'r forwyn yn byw, ond y mae nhw yma yn rhwle. Dyma fy ''room'' i; a'r peth gore fedra i ddeyd am dani ydi bod hi'n lân. Gna dy hun gartre tra byddai i 'n ceisio'r ''grub'' yn barod. Dyma le i ti molchi yn fan yma, achos chei di ddim byta yn y nhŷ i heb molchi a tithe wedi bod yn handlo corph y ''son of a gun'' ene."
Yr oeddwn wedi fy synu, nid oedd yr ystafell o ran maint ond rhyw bedair llath bob ffordd; ond cynwysai wely, cwpbwrdd, dwy gadair, a bwrdd crwn, heblaw amryw bethau eraill angenrheidiol. Ar y bwrdd yr oedd llïan gwyn, glân, un gwpan a sowser, dau blât, a dwy gyllell a fforc. Wrth ochr y tân yr oedd tegell a ''coffee pot''. "Mi wela," ebe Wil, gan dynu ei gôt ac ymolchi, "fod ti 'n cymyd ''stock''. Bewt ti am dano, tê? ne goffi?"
"Wel, Wil bach, wyt ti wedi dyfod i hyn?" ebe fi, ac nid allwn beidio chwerthin.
"Dwad i be?" gofynai Wil, "i un ''room''? Rydw i'n dal fod o'n ''true to nature''; mae pob creadur gröodd Duw, blaw dyn, yn byw mewn un ''room'' ar ol iddo adel yr ''open air''; a dydio ddim ond ''humbug'' cael lot o ''rooms''. A sut y meder dyn fyw mewn mwy nag un ''room'' ar unweth? Mae hyny yn ''physical impossibility''. Rhaid i ti beidio meddwl mai ''hard up'' ydw i, fel y ca i ddangos i ti toc.
"Dywed y gair, të? ne goffi? "Tê," ebe fi, "''same here''," ebe Wil, gan ddadgloi y cwpbwrdd a thynu allan yr anhebgorion, a pharotoi y pryd gyda deheurwydd mawr.
"Does dim isio gwell gwraig na'r ''landlady'' 'ma," ebe Wil. "Weithie fyddai i ddim yn ei gweld hi am wythnos bwgilydd; a phan fydda i isio'r pethe, mi fydda 'n rhoi'r ''order'' ar y slaten ene,<noinclude><references/></noinclude>
jw2ba56v4cldmclzd2piomvbjybda4z
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/414
104
86217
166656
2026-06-18T22:13:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166656
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac yn rhoi'r prês ar y ''mantel piece'', ac erbyn y doi yma wedyn mi fyddan yn snug ar y bwrdd. Pan ddois i yma gynta doeddwn i namser yn cloi y cwpbwrdd, a rhaid i mi gyfadde y bydde ''my landlady'' yr adeg hono yn cymyd benthyg tipyn o'r pethe, rwan ac yn y man. Mi ddeuda i ti sut y daru mi dal hi. Roeddwn i'n fhindio fod y tê yn darfod yn sobor o'r buan, a be wnes i blaw dal gwibedyn byw a'i roi o yn y canistar, ac erbyn i mi agor o y tro wedyn roedd y gwibedyn wedi mynd. Roedd hyny yn certain proof. Ond arna i roedd y bai: roedd y wraig yn eitha gonest bydaswn i yn cloi y cwpbwrdd.
Hyn a ddywedodd Wil pan oedd efe ar ei liniau o flaen y tân yn broilio ham ar flaen fforc. Yn mhen ychydig fynydau, yr oedd y pryd yn barod, ac wedi pensynu ychydig ebe Wil—"Mi wela fod yma un ''drawback''—does yma ond un gwpan a sowser: ond am y tro, cymer di y gwpan, mi gyma inne'r sowser." Ac felly y gwnaethom; ac o'r dydd hwnw hyd heddyw nid wyf yn cofio i mi fwynhau mwy ar bryd o fwyd. Yn ddilynol, ar fy nymuniad i, adroddodd Wil withyf ei hanes. Er y gallwn, yr wyf yn credu, ei ail adrodd air am air, ymron, ni cheisiaf groniclo ond y prif ffeithiau, a hyny yn lled agos yn ei eiriau ef ei hun, y rhai oeddynt fel y canlyn.—

{{c|{{mawr|PENNOD XL.
Hunangofiant Wil Bryan.}}}}
"Mi wyddost," ebe Wil," be naeth i mi adel cartre; mi fedra i ddeyd o mewn dau air—stymog uchel. Y fi oedd wedi arfer dal y mhen mor uchel—wedi bod yn dreifio fel wild fury drwy'r strydoedd wedi bod yn actio'r ''gallant'' hefo'r genethod acw—na, fedrwn i ddim dyodde'r ''disgrace'' o ''liquidation'' y nhad. Roedd gen i dipyn o brês wedi'u celcio, ond dim digon i emigratio; a mi nyles i'r dre fawr yma gan feddwl y baswn i yn hitio ar ''job'' ymhen rhw deirawr ne beder. Ond wedi dod yma a gweld cymin o bobol, mi deimles yn unig a digalon, a roedd gen i ofn gofyn am ''jo''b, achos doeddwn i

<noinclude><references/></noinclude>
sscnmrkj36xim6ephgvldp4zx43d6we
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/415
104
86218
166657
2026-06-18T23:26:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166657
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi dysgu dim byd yn iawn blaw dreifio. Mi gnocies o gwmpas nes i mhrês i ddarfod; a welest di rioed ffasiwn wahanieth sy rhwng stymog uchel a stymog wag. Er's rhai diwrnodiau cyn i mhrês i ddarfod, roeddwn i wedi bod yn cogordroi o gwmpas y stablau i bigo tipyn o ''information'', achos roeddwn i'n gwel'd mai i hyny doi hi. Mi wyddost nad oeddwn i ddim mewn ''rags'', ac hwyrach fod yno 'i dipyn gormod o ''swagger'', ac ar y dechre roedd y ''cabbies'' yn gneyd bow i mi, fel bydaswn i yn rhwfun; a deyd y gwir, roedd gen i gwilydd'u gweld nhw yn gneyd hyny. Mi ath at y nghalon i pan fu raid i mi werthu'r ''quard'' gês i gan y mam pan oeddwn i yn ''eighteen''; ond be nawn i? Roeddwn i'n dal i fynd at y stablau, a rydw i 'n meddwl fod y ''cabbies'' yn credu mai mab i wr boneddig oeddwn i, wedi ffraëo efo'i dad, a roeddan nhw reit parchus o hono i. Roeddan nhw wedi spotio mod i'n ''hard up'', a roeddan nhw'n ffraëo am gael talu am lasied i mi, gan feddwl, ddyliwn i ti, na fase fo ddim byd gen i rw ddiwrnod, wedi i mi gymodi a nhad, dywlu papyr pum punt iddyn nhw. Roedd hyny'n riol, a be nawn i fynd i ddeyd fy hanes iddyn nhw? Mi bonies y nghòt ucha. Erbyn hyn yr oeddwn wedi dwad yn ''chum'' efo'r dyn oedd bia'r stablau, a'r ceffylau, a phobpeth. Roedd o'n ysgwyd llaw efo fi, ac ar y ''quiet'' yn trio pympio fy hanes i, ond yr oedd Wil yn rhy ddwfn iddo, ac yn parhau yn ''great mystery''. Un diwrnod—rydw i'n meddwl mae'r diwrnod yr ês i â fy ''watch'' i fewyrth ''(pawn)'' mi ofynes i'r gaffer am ''job'' fel ''cabby'', a mi chwerthodd nes oedd o ''just'' yn sâl, gan feddwl mai rhw ''hobby'' oedd gen i. Ond mi ddalies ato fo. Ymhen dau ddiwrnod, mi gymerwyd un o'r dynion yn sâl gan ''inflamation on the lungs'' ar ol bod allan y nos. Mi applies am i le fo nes iddo fendio, ac mewn fun mi ''cês'' o. Pan oeddwn i'n mynd allan ar y ''dicky'' roedd ene ''roars of laughter'' yn y buarth, a'r mistar oedd yn chwerthin fwya. Ond yr oedd Wil yn chwerthin yn i frest, ac yn gobeithio, mae gen i ofn, i'r dyn druan fod yn sâl yn hir, achos roedd hi reit caled arna i. Mi welson yn fuan y medre's ''young swell'', fel roeddan nhw'n y ngalw i, handlo ceffyl cystal â run o honyn nhw, a mi fum yn lwcus ryfeddol y diwrnod hwnw, a dranoeth, ac ar hyd yr wythnos, a mi setles am gyflog, a roedd y mistar yn chwerthin wrth ffidio fy ''hobby'' i, bygse fo. Wrth droi ymysg y ''cabbies'', mae'n ddrwg gen i ddeyd wrthat ti, mi ês i fyw run fath a nhw, ac i alw am yr ''everlasting twopen'th.''<noinclude><references/></noinclude>
mu5h0rk33amk9e7x2jlpacw378xjuzs
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/416
104
86219
166658
2026-06-18T23:35:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166658
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Doeddwn i ddim wedi fy sisno fel nhw, wyddost, ac un diwrnod, roeddwn i wedi cael gormod, a mi syrthies ar y mhen oddiar y ''dicky''. Mi ddaru'n fy nghario i'r gwely 'ma, a dyma lle bum i am bedwar diwrnod, pryd y dôth y ''town missionary'' i edrach am dana i, ac i roi cynghori mi. Mi ddalltodd ar fy siarad i nad oeddwn i ddim wedi magu yn China, a mi gymrodd interest ryfeddol yno i. Mi ymresymodd efof fi, a mi gowntiodd ar y slaten ene faint oedd y ''cabby'' yn dalu bob blwyddyn am baentio 'i drwyn yn goch ac yn lâs, blaw damnio 'i ened, a roedd y ''sum'' yn sobor. Mi benderfynes, cyn dod o'r gwely ene, na chai run ''twopen'th'' fynd i lawr ffordd goch Wil wed'yn, a 'daeth run byth. Wrth iti gofio ffasiwn un oeddwn i er's talwm, mi syni pan ddeuda i hyn. Ar ol i mi fynd yn ditót mi drois yn ''regular'' cybydd. Ar ol dechre casglu prês, a chael blâs, roedd gen i ofn gwario ceniog, a'r peth diwaetha fyddwn i'n neyd bob nos cyn mynd i ngwely oedd'u cyfri nhw. Ymhen ychydig wythnose roedd gen i rai punnoedd, a mi fyddwn yn'u rhoi nhw dan y mhen bob nos, ac yn'u cario nhw ymhoced frest fy ngwasgod y dydd, rhag ofn irwfun'u prigio nhw. Roedd gen i ofn 'u rhoi nhw yn y banc am rw reswm y cei di wbod o eto. Roeddwn i'n byw ar fara 'menyn a thê, a roedd yn well gen i roi chwe cheiniog yn y pwrs na chael ''relish'' efo fy swper. Un bore yn y stablau, roeddwn i dipyn ar ol efo'r ceffyl. Roedd dau gabbi arall wrth y mhen i yn aros i mi orphen. Roeddwn i wedi datod y ngwasgod ac yn plygu at draed y ceffyl, a mi syrthiodd y mhwrs i allan, a mi dymblodd gryn bymtheg punt hyd lawr. Mi fu agos i'r ddau ffeintio wrth weled cymin o arian, a mi gywson 'u conffyrmio mai mab i wrboneddig oeddwn i, a mod i'n werth milodd, a roedd y ddau yn synu fod gen i ffasiwn ''quier hobby''. Ddaru nhw sôn am ddim arall wrth'u ''chums'' y diwrnod hwnw, a dranoeth mi ddaru'r gaffer fy ''challengio'' i am fy ''anticedents''. Mi wydde nad oeddwn i ddim wedi robio fo—achos roeddwn i'n troi mwy o broffit iddo na'r un dyn yn 'i stablau. Mi cedwes nhw i gyd yn y ''dark'', a mi brynes ''swell suit'' yn bocede i gyd, a mi gospes fy hun am blwc i neyd i fyny y prês oeddwn i wedi dalu am dani, er na fase raid i mi ddim, achos roedd y cwsmeried yn y mhigo i allan am y modi yn ''respectably dressed'', a mi gês ambell ''extra fee''. Roedd gen i fwy o arian nag oedd yn sâff i'w cario yn y mhoced, a mi brynes ''lever lock'' i'w roi ar y bocs ene, a mi gosodes o<noinclude><references/></noinclude>
j2toem9f10icl0d67l2z7cywtng8jn1
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/417
104
86220
166659
2026-06-18T23:46:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166659
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy hun rhag i neb spotio. Mi gostiodd bedwar a chwech, a mi rois wyth geniog am wimbled, scriws, a ''screw driver''. Ar ol dwad adre'r nos mi fyddwn yn cael difyrwch wrth gyfri mhrês lawer gwaith drosodd, ag ono mi fyddwn yn fecsio wrth gyfri faint chwaneg fase gen i bydaswn i heb roi cymaint am y ''twopen'th''. Weithie mi fyddwn yn synu attaf fy hun ac yn amme ai fi oeddwn i, a roedd y nghydwybod i'n deyd mai ''humbug'' oeddwn i, ac nad oeddwn i ddim yn ''true to nature'', a'r ffordd y byddwn i yn rhoi ''shut up'' arni hi oedd galw i ngho lot o'r hen Fethodistied duwiol oeddwn i yn nabod yn dda oedd run fath a fi, a chofió fel bydde nhw yn ochneidio wrth madel a swllt. Erbyn hyn roeddwn i'n medryd sympatheisio efo nhw wrth gofio fel y bydde nhw yn shop y nhad yn troi'u cefne at y counter wrth fynd i'r pwrs i dalu am rwbeth, ac wrth gofio fel y byddwn i yn sylwi ar'u sgwydde nhw yn codi wrth ochneidio. Ac eto mi fyne y nghydwybod i ddeyd nad oeddwn i damed gwell na phan oeddwn i'n potio. Ond mi dysges hi i ddeyd gwell pethe. Roedd gen i ''idea'' o hyd am fynd ar fy ''hook'' fy hun, achos ddaru mi rioed ddygymod â'r meddwl mai gwâs oeddwn i. Mi wyddost mae nyleit i wastad oedd ceffyl, ac os gwn i am rwbeth, am geffyl y gwn i. A dene'r rheswm fod Mr. Edwards o Gaerwys a finne wastad ffasiwn ''chums''. Toc i ti—dywed pan fyddi di wedi blino ar fy stori—toc i ti, roeddwn i'n nabod agos bob ceffyl yn dre 'ma, ac yn gwbod am'u points nhw—''good and bad''. Roedd gan un ''chap'' yma geffyl ag oedd yn real ''good sort''—ceffyl ag asgwrn, wyddost. Ond roedd o yn 'i lwgu o. Roedd y ''chap'' yn ''three sheets'' o hyd, ac yn meddwl fod o'n rhoi ''feed'' yn y ''nosebag'' pan fydde fo'n galw am ''twopen'th''. Wyst di be, mi fydde nghalon i'n brifo dros y nifel, a llawer gwaith y bum i yn rhoi ''nosebag'' fy ngheffyl fy hun iddo o biti drosto. A roedd Bob—Bob oedd enw'r ceffyl—run enw a dy frawd—roedd Bob o'r diwedd yn fy nabod i cystal ag wyt tithe, ac hwyrach na chredi di mona i, ond mi gweles o pan fyddwn i yn dreifio i'w gyfarfod o, yn sefyll yn stond ar y stryt o barch i mi, ne fel bydase fo'n disgwyl rhwbeth gen i—wn i prun. Beth bynag i ti, roedd Bob yn gwaethygu bob dydd, ac o'r diwedd ''just'' yn ffilio dwad i fyny i'r ''scratch''. Roedd o mor llonydd a digalon fel, bydase rhwfun yn gollwng ergyd o fewn modfedd i'w glust o na fase fo ddim yn wincio. Un diwrnod, yn y ''cabstand'', mi âth i grynu'n sobor, a mi heliodd lot o bobol o gwmpas, a phawb yn<noinclude><references/></noinclude>
nqpihd9kanriw8mfc7onav53yo5894h
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/418
104
86221
166660
2026-06-19T00:16:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166660
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dysgwyl bob mynyd iddo syrthio. Mi ddaru'n i dynu o o'r I, ond swigie fo beg. Roedd pawb yn deyd mai setlo fo oedd y gore. Ond cyn iddyn nhw neyd hyny mi gnygies sofren am dano fo tel roedd o, a mi cês o. Mi gofies am un o rysêts Mr. Edwards o Gaerwys, a mi dywles fy ''rug'' drosto, a mi nyles i ''shop'' y ''druggist'' ar draws y stryt, a roedd gen i ofn iddo farw cyn i mi ddwad yn ol. Ond mi wyddwn mai isio bwyd oedd ar y ceffyl —achos roedd o'n gepio'n sobor—run fath a dyn isio bwyd. Erbyn i mi ddŵad yn ol, doedd Bob yn cymyd sylw o neb, a mi ddylies fod pobpeth drosodd, a roedd y ''''chaps'' yn gofyn i mi faint gymwn i am i groen o. Ond pan oedd o ar gano gepio mi lwyddes i roi'r ffisig iddo, a mi ofynes i'r ''''chap''s'' fy helpio i rwbio 'i goese fo—un ymhob coes—i gael ''circulation'', a ran sport mi ddarun. Wel, mi gymra fy llw, cyn pen deng mynyd roedd Bob yn adfywio ac yn dechre edrach be oeddan ni yn neyd. Roedd ene ganodd o bobol yn edrach ac yn chwerthin, a mi ddaru i un o'r ''''chaps'' oedd wrth i goese blaen o—Gwyddel oedd o, a ''chap witty'' ryfeddol neidio gryn bum llath a gwaeddi fod Bob wedi frathu o, a dyna ''roars of laughter''. Mi fydd yn anodd gynat ti nghredu i; ond ymhen hanner awr yr oedd Bob yn byta ''mash'' cynhes gystal ag y gweles i o rioed, a'r crowd yn bloeddio Hwre! Roedd y dyn oedd wedi gwerthu Bob i mi am sofren, bob amser yn edrach fel llô; ond erbyn hyn roedd o'n edrach fel het. Roedd o isio troi y fargen yn ol, ond ni ddaru'r crowd brotestio. Mi gês y gair fy mod yn ''sharp fellow'', ond be wydden nhw am Mr. Edwards o Gaerwys! Wel i ti, mi loges ''stall'' iddo fo, a mi dendies arno, a mi ffidies o, a mi slafies, a roedd Bob yn mendio bob dydd—achos doedd o ddim yn hen, wyddost, ac o'r diwedd roedd o'n cicio ac yn brathu pawb o'i gwmpas blaw fi; efo fi roedd o fel cristion. Rhwng pobpeth, roeddwn i'n cyfri fod o wedi costio rhwbeth fel pum punt, pan rois i wythnos o notis i mistar. Mi brynes second hand cab yn "chep," fel y bydda nhw'n deyd, a phan oeddwn i yn troi allan ar fy hook fy hun roedd Bob yn llond i groen, ac yn sgleinio nes oedd y ''''chap''s'' yn tyngu mod i wedi bod yn iwsio ''Bryant and May's Blacking'' arno fo! ''To a certain extent'' mi ês yn enwog, a roeddwn i yn cael faint a fynwn i o waith. Roedd y dyn ddaru werthu Bob i mi am sofren yn mynd ar i spri bob tro y gwele fo fi, ond dallwn i ddim wrth hyny. Mwya o brês gawn i mwya oedd gen i isio, a doeddwn i'n meddwl am ddim arall—<noinclude><references/></noinclude>
9eaiy0nw7aoyccipkyqj1pi7ddi8g80
166661
166660
2026-06-19T00:19:04Z
AlwynapHuw
1710
166661
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dysgwyl bob mynyd iddo syrthio. Mi ddaru'n i dynu o o'r I, ond swigie fo beg. Roedd pawb yn deyd mai setlo fo oedd y gore. Ond cyn iddyn nhw neyd hyny mi gnygies sofren am dano fo tel roedd o, a mi cês o. Mi gofies am un o rysêts Mr. Edwards o Gaerwys, a mi dywles fy ''rug'' drosto, a mi nyles i ''shop'' y ''druggist'' ar draws y stryt, a roedd gen i ofn iddo farw cyn i mi ddwad yn ol. Ond mi wyddwn mai isio bwyd oedd ar y ceffyl —achos roedd o'n gepio'n sobor—run fath a dyn isio bwyd. Erbyn i mi ddŵad yn ol, doedd Bob yn cymyd sylw o neb, a mi ddylies fod pobpeth drosodd, a roedd y ''chaps'' yn gofyn i mi faint gymwn i am i groen o. Ond pan oedd o ar gano gepio mi lwyddes i roi'r ffisig iddo, a mi ofynes i'r ''chaps'' fy helpio i rwbio 'i goese fo—un ymhob coes—i gael ''circulation'', a ran sport mi ddarun. Wel, mi gymra fy llw, cyn pen deng mynyd roedd Bob yn adfywio ac yn dechre edrach be oeddan ni yn neyd. Roedd ene ganodd o bobol yn edrach ac yn chwerthin, a mi ddaru i un o'r ''chaps'' oedd wrth i goese blaen o—Gwyddel oedd o, a ''chap witty'' ryfeddol neidio gryn bum llath a gwaeddi fod Bob wedi frathu o, a dyna ''roars of laughter''. Mi fydd yn anodd gynat ti nghredu i; ond ymhen hanner awr yr oedd Bob yn byta ''mash'' cynhes gystal ag y gweles i o rioed, a'r crowd yn bloeddio Hwre! Roedd y dyn oedd wedi gwerthu Bob i mi am sofren, bob amser yn edrach fel llô; ond erbyn hyn roedd o'n edrach fel het. Roedd o isio troi y fargen yn ol, ond ni ddaru'r crowd brotestio. Mi gês y gair fy mod yn ''sharp fellow'', ond be wydden nhw am Mr. Edwards o Gaerwys! Wel i ti, mi loges ''stall'' iddo fo, a mi dendies arno, a mi ffidies o, a mi slafies, a roedd Bob yn mendio bob dydd—achos doedd o ddim yn hen, wyddost, ac o'r diwedd roedd o'n cicio ac yn brathu pawb o'i gwmpas blaw fi; efo fi roedd o fel cristion. Rhwng pobpeth, roeddwn i'n cyfri fod o wedi costio rhwbeth fel pum punt, pan rois i wythnos o notis i mistar. Mi brynes second hand cab yn "chep," fel y bydda nhw'n deyd, a phan oeddwn i yn troi allan ar fy hook fy hun roedd Bob yn llond i groen, ac yn sgleinio nes oedd y ''chaps'' yn tyngu mod i wedi bod yn iwsio ''Bryant and May's Blacking'' arno fo! ''To a certain extent'' mi ês yn enwog, a roeddwn i yn cael faint a fynwn i o waith. Roedd y dyn ddaru werthu Bob i mi am sofren yn mynd ar i spri bob tro y gwele fo fi, ond dallwn i ddim wrth hyny. Mwya o brês gawn i mwya oedd gen i isio, a doeddwn i'n meddwl am ddim arall—<noinclude><references/></noinclude>
1tkx41blonj9jaarqkqkmz4qhcied0r
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/419
104
86222
166662
2026-06-19T01:15:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166662
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byth yn edrach ar lyfr na phapyr newydd. Mi wnes lot o arian hefyd wrth gymyd arna mod i yn dipyn o Fet. Wyt ti wedi blino ar fy stori?"
"Ers meityn Wil," ebe fi, "os nad oes genyt rywbeth gwell i'w adrodd, rho ben arni. Dwyt ti ddim yn debyg i ti dy hun."
"Cymer fynedd am fynyd," ebe Wil. "Prun ai yn dechre ai yn diwedd fyddi di yn deyd y pethe gore wrth bregethu? Os yn dechre dwyt ti ddim yn ''worthy of the craft''. Wel i ti, un nosweth, roeddwn i wedi gneyd diwrnod go dda, ac wedi credu cymyd chwarter o ''sausage'' i fy swper; ar ol cyfri mhrês mi gês y mod i'n werth ''forty eight pounds exclusive of the concern,'' a mi deimles rywsut yn hapus ac ''independent''. Y ''sausage'' naeth y ''job'' rydw i'n meddwl. Heb feddwl, mi ddechreues hwmian canu. A be ddyliet oedd y diwn? Yr hen "Flotyn Du," a dydw i ddim yn meddwl i neb erioed gael bendith wrth i chanu hi blaw fi. Wel, mi ddechreues arni i edrach oeddwn yn i chofio hi, a phan ddois i at y geiriau,
{{center block|
<poem>
Pa sut mae hynt fy mam am tâd
:Pa sut mae'r stâd yn styried?'
</poem>

mi gês ''break down'', a mi ddôth hireth sobor arna i, a mi grïes lond y mol. Mi ês i feddwl am yr hen bethe, yn enwedig am y mam, a ffasiwn ''selfish old devil'' oeddwn i yn casglu prês na wyddwn i ddim i be, a mi deimles, ddyliwn i, rwbeth tebyg arw i grefydd. Doeddwn i ddim wedi sgrifenu at yr hen bobol ers pan ês oddicartre, a wyddwn i ddim a oeddan nhw yn cael bwyd, ne a oeddan nhw'n fyw. ''This is not true to nature'' be fi, a mi grïes spel wed'yn, a mi ês ati i sgrifenu at y gaffer i ofyn oedd o'n fyw, a sut oedd hi yn dwad ymlaen, a faint oedd ''amount'' i ''failure'' o, a mi rois y llythyr yn y post y nosweth hono rhag y baswn i wedi altro erbyn y bore. Ar ol rhoi'r llythyr yn y post mi deimles fel bydaswn i ddim yn ''cabby'', ac mai Wil Bryan oeddwn i, a fedra i ddim deydi ti y pleser gês i pan deimles i fy hun yn dechre dŵad yn ei ol. Doeddwn i ddim wedi altro erbyn y bore, a roeddwn i ar dân isio ateb i'r llythyr, a mi cês o ''by return''. Yr hen wraig oedd wedi sgrifenu o, achos roedd y nhad, medde hi, yn rhy ''cut up''. Ond mi wyddwn mai ''dodge'' yr hen wraig oedd hyny, rhag ofn y base nhad yn deyd rhwbeth cas fase yn y ngyru i ''fifty''<noinclude><references/></noinclude>
k9fdgnyn7r64556ndxepch6hgttemca