Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.7
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Y Siswrn
0
12235
166676
81263
2026-06-19T22:37:33Z
AlwynapHuw
1710
166676
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Y Siswrn]]
| author = Daniel Owen
| translator =
| section =
| previous =
| next = [[/At y Darllenydd/]]
| notes = I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Y Siswrn (testun cyfansawdd)]]
}}
{{Wicipedia|Daniel Owen}}
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar [https://bookreader.toolforge.org/en/Y_Siswrn_Daniel_Owen.pdf#mode/2up| ''Bookreader'']
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Y Siswrn Daniel Owen.pdf" from=7 to=7/>
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Y Siswrn, Daniel Owen]]
[[Categori:Casgliadau o straeon byrion]]
[[Categori:Llyfrau 1886]]
[[Categori:Llyfrau'r 1880au]]
qt07j4iqz8bko5n0dm4y2j7haegx2i1
Categori:Y Siswrn, Daniel Owen
14
12256
166677
22993
2026-06-19T22:38:21Z
AlwynapHuw
1710
166677
wikitext
text/x-wiki
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Casgliadau o straeon byrion]]
[[Categori:Llyfrau 1886]]
[[Categori:Llyfrau'r 1880au]]
i4bgvd586mkcj9b88nazazdbx6o5qg3
Straeon y Pentan
0
15498
166671
29635
2026-06-19T22:30:48Z
AlwynapHuw
1710
166671
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Straeon y Pentan]]
| author = Daniel Owen
| translator =
| section =
| previous =
| next = [[/At y Darllenydd/]]
| notes = I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Straeon y Pentan (Testun cyfansawdd)]]
}}
{{Wicipedia}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Straeon y pentan.pdf" include=5 from=9 to=9/>
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Straeon y Pentan]]
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Hughes a'i Fab, Wrecsam]]
[[Categori:Llyfrau 1895]]
[[Categori:Llyfrau'r 1890au]]
ph1w5h62zzg7n3h1vtsrpb0apo3whnf
Categori:Straeon y Pentan
14
15514
166672
29000
2026-06-19T22:33:09Z
AlwynapHuw
1710
166672
wikitext
text/x-wiki
[[Categori:Straeon byrion]]
Daniel Owen
0ygk7veaq4z7xxvrmb0jaq8sko5tojj
166673
166672
2026-06-19T22:34:10Z
AlwynapHuw
1710
166673
wikitext
text/x-wiki
[[Categori:Straeon byrion]]
[[Categori:Straeon y Pentan]]
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Hughes a'i Fab, Wrecsam]]
[[Categori:Llyfrau 1895]]
[[Categori:Llyfrau'r 1890au]]
hidf7zddtepwushwmipsnsdh68fq10t
166674
166673
2026-06-19T22:34:33Z
AlwynapHuw
1710
166674
wikitext
text/x-wiki
[[Categori:Straeon byrion]]
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Hughes a'i Fab, Wrecsam]]
[[Categori:Llyfrau 1895]]
[[Categori:Llyfrau'r 1890au]]
cv77ilk1315gge6gzehnhitbawyd3rl
Straeon y Pentan (Testun cyfansawdd)
0
15521
166675
28606
2026-06-19T22:35:46Z
AlwynapHuw
1710
166675
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Straeon y Pentan]]
| author = Daniel Owen
| translator =
| section =
| previous =
| next =
| notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Straeon y Pentan]]
}}
{{Wicipedia|Straeon y Pentan}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Straeon y Pentan.djvu" from=1 to=157/>
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Straeon y Pentan]]
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Hughes a'i Fab, Wrecsam]]
[[Categori:Testunau cyfansawdd]]
[[Categori:Llyfrau 1895]]
[[Categori:Llyfrau'r 1890au]]
dv8tyyubcbcf1jlknj5sv89fcjhvd7s
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/420
104
86223
166663
2026-06-19T21:26:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166663
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''miles further'', achos mi wyddwn nad oedd yr hen Hugh ddim mor dyner i galon a hyny. Roedd yr hen wraig yn crefu fel cripal arna i ddwad gartre, ac yn deyd mor dda oedd ganddi glywed oddi wrth i mab afradlen. Roedd hi yn gneyd ''mistake'' yn y fan ene, does ene ddim ''analogy'' rhwng y mab afradlon a fi. Roedd tad y ''chap'' hwnw yn ŵr boneddig, a mi roth hanner i stât iddo, a mi wariodd yntau filodd o bunnau, a mi âth i dendio ar y móch, a mi ath adre mewn rags. Roedd y nhad i wedi tori i fyny, a ches i rioed mor chance i wario pum punt o'i brês o, a ddaru mi ddim lorio fy hun wrth dendio ar y môch, a dai byth adre mewn rags, mi gymra fy llw. Does ene ddim ''analogy at all''. Pedwar cant o bunau oedd failure yr hen law, a roedd y ''creditors'' wedi ''acceptio'' pum swllt y bunt, a fynte wedi talu nhw, ac yn dwad yn i flaen yn go lew, a wedi rhoi heibio ''speculatio'', medde mam. Ond ddyliwn dy fod ti yn gwybod y cwbl. A ''just'' ffansia gyfrwystra'r hen wraig, mae Sus. yn ferch ifanc o hyd,' medde hi. Fase'r gaffer byth yn meddwl am tactics fel ene, wyddost. Ac er y mod i'n gwybod mai cyfrwystra mam naeth iddi sôn am Sus, mi ffeithiodd yr arw arna'i, a'r mynyd hwnw mi faswn yn rhoi cymin oedd gen i am gip golwg arni. Ond er bod hireth sobor arna i, ac er mod i'n teimlo fy hun yn dwad yn ei ol—mi goncres fy hun, a mi ddeudes nad awn i byth gartre nes i nhad dalu pob ffyrling o'i ddyled, achos fedrwn ni ddim meddwl am fynd yno os na chawn i ddal y mhen yn syth. Mi yres atyn nhw mod i mewn lle da (wyddan nhw ddim eto mai cabby ydw i, a phaid dithe ''splitio'') a mi wnês fargen efo nhw y down i adre ar ol iddyn nhw dalu'r ddyled, ac y gwnawn i helpio nhw. A dene sy'n mynd ymlaen yrŵan er's talwm. Rydan ni wedi talu tua dau gant rhwng y ''composition''. Dyma rysêt gês i oddiwrth y gaffer bore heddyw am ten pounds—darllen o."
Estynodd Wil y llythyr i mi, ac wedi edrych arno, ebe fi, "Walter Bateson ydyw yr enw ar hwn Wil."
"Certainly," ebe Wil, "dene'r rheswm fod gen i ofn rhoi'r arian yn y bank. Doeddwn i ddim yn leicio i neb wybod fy enw i yma rhag iddyn nhw feddwl mai Gwyddel oeddwn i, ac am resymau eraill hefyd."
"Nid ydyw hyn yn deilwng o honot ti, Wil," ebe fi.
"Pa ''harm'' sy'n y peth?" ebe Wil, "drycha arnyn nhw yn<noinclude><references/></noinclude>
bo0ygu3kwh9gg9t5dynfy7khk8fwuc5
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/421
104
86224
166664
2026-06-19T21:40:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166664
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nghymru; does yno run dyn o ''note'' yn mynd wrth'i enw 'i hun. Mae mwy o reswm i mi alw fy hun yn Walter Bateson nag i rw John Jones alw i hyn yn Llew Twllylwl. ''What's in name? a rose''—mi wyddost am y geirie. Ac mae'r initials ''yours truly'' W. B. yn sefyll. Ond dydi'r hen bobol ddim yn i leicio fo ''at all''; a deyd y gwir, pan deimles fy hun yn dwad yn i ol, roedd gen flys rhoi ''fling'' iddo, bydaswn i'n gwbod sut." "Mi glywais pan oeddwn gartref," ebe fi, "fod dy dad yn talu ei ddyled, ac yn adenill ei hen sefyllfa yn brysur, ond bychan a wyddwn dy fod di yn ei helpio. Mae hyn yn glod mawr iti. Yr wyt yn gwneyd yn dda, ond mi waaet yn well pe'r elet adref i helpio dy rieni. Mae yn dda iawn genyf dy gyfarfod, Wil, ond goddef i mi ddyweyd, yr wyt wedi cyfnewid yn fawr. Mae dy glywed di yn sôn am arian ac {{bar|3}}"
''"Hold on!"'' ebe Wil." Mi wn i hyny fy hun. Mi wn y mod i wedi colli nhalent, ac na fedra i ddeyd dim yrŵan gwerth 'i wrando. Ond rhaid i ti gofio mai dwad yn fy ol ydw i—dydw i ddim wedi cyrhaedd fy hun eto, ond yr ydw i ''yn'' dwad. Does gen i ddim isio dwad yn rhy ffast, ond pan gyrhaedda i y ''real'' W. B. mi af adre, a mi ro' ''break''."
"Wil," ebe fi, "dwyt ti yn sôn dim am grefydd, na ''chap''el; fyddi di'n mynd i gapel neu eglwys?"
"Welest di rioed lai—waeth heb ddeyd celwydd. Mi wyddost na dda gen i mo'r eglwys. Mi ês unweth i gapel y ''dysentars'' 'ma—''Congregationalists'' mae nhw'n galw'u hunen—a mi steddes wrth y drws. Cymro ydi'r gweinidog o'r enw Price, a mae nhw'n 'i advertisio fo o hyd. Wel, o ran ''curiousity'' mi ês yno. A be ddyliet ti oedd i ''dext'' o? hen ''dext'' Morgan Dyffryn, am y llwynogod bychin—dydw i ddim yn cofio'r adnod, ond y mae hi yn rhwle yn yr Hen Destament, ond yr oeddwn i'n cofio lot o'r bregeth, achos roedd hi wedi nhiclo i ''above'' a bit. Wel aros di blewyn—be fi wrtha fy hun, fedri di ddeyd cystal a'r hen Forgan ar yr adnod ene? a mi seties fy hun i wrando. Ond mi spoties mewn deng mynyd mai ''translatio'' pregeth Mr. Morgan roedd ''my nabs'', a mi bolties hi, achos ydi'r dyn sy'n prigio pregeth ddim gwell na'r dyn sy'n prigio sofren, na chystal, achos mae o'n cael tal am y bregeth a'r llall yn cael 3 ''months''. Deis i le'n byd am blwc wed'yn. Ond by ''accident''—mi ês un nos Sul i gapel Wesleys yma, a roeddwn i yn leicio'r gweinidog yn gweddio yn ''first class''—<noinclude><references/></noinclude>
qqp2y8cfiszzrrbunkk1nc6znesfe8v
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/422
104
86225
166665
2026-06-19T21:48:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166665
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bydase fo'n cael llonydd; ond chlywes di rioed shwn beth! Roedd ene lot o'r gynnulleidfa yn pasio ''remarks'' yn uchel ar 'i weddi o, a wn i ddim sut oedd o heb ddrysu. Mi bregethodd am Pedr ar ol iddo slipio ai braenu hi, a roeddwn i dipyn yn ''well up'' yn yr hanes, ac yn cymyd ''interest''. Ond bydase Peder yn 'i glywed o fase fo ddim yn diolch iddo, achos roedd o yn i redeg i lawr yn sobor. Doeddwn i ddim yn leicio athrawiaeth y dyn chwaith. Roedd o'n deyd fod yn bosib i ddyn gael crefydd a'i cholli, a hyny lawer gwaith, a bod y cwbl yn dibynu ar y dyn i hun. Os felly mae hi, be fi, ''good bye i Wil Bryan''! Mi ymresymes — os oedd y dyn yn 'i bwnglo hi efo peth roeddwn i yn ''well up'' ynddo, sut y gwyddwn i a fydde fo yn ''right'' yn y peth na wyddwn i ddim am dano? Deis i byth yno wed'yn. Ddaru mi ddim spotio fod gan yr Hen Gorph gapel Cymraeg 'ma tan bythefnos yn ol. Mi ês yno. Dydio ddim tebyg i'r hen gapel adre. Lot o ''swells'' sydd yn sêt fawr. Wrth edrach o gwmpas, roeddwn i'n gweld ambell i Abel Hughes yma ac acw, ond ''swells'' oedd yn y sêt fawr. ''chap'' ifanc oedd yn pregethu. a ddyliwn ar i gyt o mai un o'r ''postage stamps'' o'r Bala oedd o, ''no offence'', cofia. Fyddi di ddim yn synu na fai ene sect newydd yn codi i gymryd i fyny ''good points'' yr holl enwade? Fel hyn rwan: iddyn nhw adoptio ''styl''e Eglwys Loegr—''smartness'' y Senters —''goaheadness'' y Wesleys; ac athrawiaeth yr Hen Gorph. Dydw i'n gwbod fawr am y Dipars, ond ddyliwn fod gynyn nhwthe'u ''good point''. Mae pob sect yn curo y lleill mewn rhwbeth. Mi fydda'n leicio ''style'' Eglwys Loegr—mae nhw mor ddefosiynol—ddim yn edrach o'u cwmpas nac yn siarad a'u gilydd yn 'reglwys; ond mi fydda'n meddwl fod nhw'n sobor o anwybodus. Wel, dene'r Sentars; drycha di mor smart ac mor ''witty'' ydyn nhw. Mae nhw yn glyfar ryfeddol, ond y mae ene ormod o hogle ''politics'' a steddfod arnyn nhw. Mae nhw agos i gyd yn medryd gneyd englyn, a mae gan ''just'' bob un o honyn nhw ffugenw, ond rhaid i mi beidio deyd dim am hyny. Dene'r Wesleys eto; drycha mor selog, mor gynhes, a mor ''jolly'' ydyn nhw. Ond mi fydda i yn meddwl fod nhw yn ddychrynllyd o ''clanish''. Mae nhw i gyd yn gweddïo run fath hefyd, ac yn rhy hy'—fel bydae nhw'n siarad efo dyn tŷ nesa. Wel dene ninne yr Hen Gorph. Yr ydw i'n deyd 'ninne' achos yr ydw i'n cyfri fy hun yn rhw fath o ''honorary member'' o hyd. Mi fydda'n meddwl mae'r Hen Gorph ydi John Bull<noinclude><references/></noinclude>
935j9afcdc96tjyt9a1kw9qn2ryafki
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/423
104
86226
166666
2026-06-19T21:53:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166666
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cymru. Neiff y Sentars, wyddost, ddim admittio hyny, ond waeth befo. Mae'r Hen Gorph yn gneyd i mi feddwl am ''chap'' tew, swrth, anodd i symud; dydio ddim iws trio 'i ogles o mae groen o rhy dew—rhaid iddo gael ei amser ei hun; ond pan smydiff o mae o'n symud fel elephant, a waeth gyno fo faint neyd di fachu wrtho, mi tyniff o i'w grogi. Rwyt ti'n dallt mae'n ffugyrol yr ydw i'n siarad? Mi wyddost am Duke, mul William y glô—wn i ddim sut mae o rŵan, ond ers talwm doedd ene run mul cryfach na fo yn y wlad; ond smyde fo beg tan leicie fo 'i hun, a doedd dim yn ffeithio arno blaw swmbwl yr hen William. Yn yr ha' roedd mulod erill yn cael cangen gollen yn'u pene i gadw'r gwibed i ffwrdd; ond be oedd Duke yn hidio am y gwibed? Doedd dim yn ffeithio arno blaw swmbwl yr hen William, a bydae nhw yn gneyd post mortem examination ar Duke, mi ffeindien 'i groen o fel box pupur, mi gymra fy llw. Ond mi weles Duke, pan leicie fo, yn tynu deuddeg cant o lo i ben y boncyn fel ''fly''. Yr ydw i'n edrach ar yr Hen Gorph yr un fath. Hwyrach y deudi di mod i'n dangos ''want of taste'' ac yn euog o ''anticlimax'', ond rhaid i ti gofio na fum rioed yn y ''college''. Dene ydw i'n feddwl—mae'r Hen Gorph yn rhy ''slow''; mae ganddo ddigon o ''power'' ond dim ''go''. Mae o'n rhy brudd hefyd, ac yn rhy debyg i gladigeth. Wel fydde dim posib codi enwad ffresh i gymyd i fyny ''good points'' yr holl enwade?
Bewt ti'n feddwl?"
"Meddwl yr ydwyf, Wil, dy fod yn dyfod yn ol,' ac nad wyt wedi colli dy hen bertrwydd. Ond gyda golwg ar godi enwad newydd, onid wyt ti'n meddwl mai gwell fyddai i ni geisio uno y rhinweddau y buost yn sôn am danynt yn ein personau ein hunain? Beth fyddyliet ti am ddechre ''bywyd'' newydd? Fyddi di ddim yn dyheu weithiau am rywbeth nad wyt yn ei feddu, ac wedi ei feddu na fyddai raid i ti fwrw ymaith fel y ''twopen'th''<nowiki>'</nowiki> a'r cybydd-dod. Yr ydwyt yn gwneyd yn dda wrth dalu dyled dy dad; ond beth am dy ddyled dy hunan? Rhaid i hono gael ei thalu gan rywun, mi wyddost. Mewn geiriau eraill beth wyt ti yn ei feddwl o'r dyfodol ofnadwy sydd yn dy aros di a minnau? Beth wyt yn ei feddwl erbyn hyn am grefydd?"
"Roeddwn i yn dysgwyl i ti sôn am bethe fel ene," ebe Wil yn ddifrifol, "a bydase ti heb neyd mi faswn yn meddwl nad oeddat ti ddim yn ffit i fod yn bregethwr. Yr ydw i'n credu mai nid ''cant'' ydi<noinclude><references/></noinclude>
a0doslop8wsjgvamtgonqgutxexokxw
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/424
104
86227
166667
2026-06-19T22:00:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166667
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>deirie di, a bod ti'n caru fy llês i; ond wn i ddim sut i atteb dy gwestiwn di.' Mi ddeudwn gelwydd pe deudwn i nad ydi crefydd ddim i lawr ar y mhrogram i; ond hyd yn hyn yn y ''second'' part mae hi. Yr ydw i'n cofio'r amser pan oedd hi'n isel iawn yn y ''second part'' yn nesa at ''God save the Queen''. Mi wnes y ''remark'' ene wrth y ''town missionary'', a mi gofia 'i air o byth: 'Bebydae chi,' befo, 'yn gorfod mynd allan yn yr ''interval''? Mi fu agos iawn i chi, pan ddaru chi syrthio ar eich pen oddiar y ''dicky'', fynd allan cyn diwedd y first part. Go lew fo, ynte? Wel i ti, ers peth amser yr ydw i'n meddwl fod crefydd wedi codi yn uwch yn y ''program'', a weithie mi fyddaf yn hiraethu am i'w thyrn hi ddwad. Er nad ydw i ond ''chap'' ifanc yr ydw i ''just'' a blino ar ''comic songs'' y mywyd; os wyt ti yn dallt y meddwl i. Yr ydw i agos wastad yn ''jolly'', ond fum i rioed yn hapus. Waeth pa mor ''jolly'' fydda i, mi fydda'n gwbod o hyd fod ene rwbeth yn drewi yn mwtri nghalon i. Mi fydda'n meddwl mai dyna ydi'r gwahanieth rhwng dedwyddwch y dyn annuwiol a'r dyn duwiol—does ene ddim byd yn drewi yn mwtri y dyn duwiol. Y peth ydw i isio wbod ydi, sut y medra i gael ''clean sweep'' i'r bwtri; achos ers pan ddois i i'r dre 'ma—waeth pa mor ''jolly'' fyddwn i wedi bod yn y dafarn, ne efo fy ''chums'', ne ar ol cyfri mhrês—gynted awnï i ngwely roedd ene hogle drwg yn dwad o'r bwtri. Wyt ti'n dallt y meddwl i?
"Yn burion, Wil," ebe fi, ac y mae yn dda gan fy nghalon fod yr arogl yn dy flino, ac fod dy feddwl yn dyheu am lanhâd a gwir ddedwyddwch. Raid i mi ddim dyweyd{{bar|2}}"
"Dyma ti," "ebe Wil," does gen i ddim isio pregeth—rydw i wedi clywed miloedd o rheiny, ond yr ydw i isio ''sound common sense'' cynghor. Trwy nad ydw i byth yn mynd i'r capel does gen i run ''chum'', a dydi hyny ddim yn ''true to nature''. Am y ''chaps'' yr ydw i'n troi hefo nhw bob dydd, does ene ddim byd yn'u pene nhw, a dydyn nhw'n meddwl am ddim blaw am ddiod. Er na chês i rioed grefydd iawn—achos dydw i ddim yn credu fod yn bosib i ddyn gael y ''real thing'' a'i golli o wedyn—mi fydda'n meddwl weithie y mod i wedi cael rhw fâth o nocylashyn yn yr hen gapel adre fel na chai byth mor frech wen yn drom. Migês rhw ''slight attack'' ohoni pan ddois i yma gynta, ond ddaru hi ddim gadael marcia dwfn—ydw i'n gobeithio. Wyt ti'n dallt y meddwl i?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gojc16xzt9925gc7u7dz2hnfmpriscq
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/425
104
86228
166668
2026-06-19T22:05:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166668
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wrth gwrs," ebe fi. "Yr ydym ein dau wedi ein dwyn i fyny o'n mebyd gyda chrefydd, ac er y cwbl wedi colli'r ffordd a chrwydro llawer; ond yr oeddwn yn gobeithio ohyd, Wil, nad oeddit wedi colli yr argraffiadau da, neu y 'nocylashyn' fel yr wyt yn ei alw."
"Ond mi ddaru dy nocylashyn di godi'n well na f'un i; rhaid i mi gael un ''fresh'' cyn y bydda i'n sâff," ebe Wil.
"Dôs at y Doctor ynte," ebe fi, "ymorol am y ''surgery''. Erbyn hyn yr wyt wedi 'spotio'r capel Gymraeg. Ni ddymunwn awgrymu nad ydyw enwadau eraill cystal â'r eiddom ninnau; ond y mae ein dygiad i fyny, ac hwyrach ein rhagfarnau, yn rhwystr i ni dderbyn cymaint o fendith gyda hwy, aga allwn ei dysgwyl gyda'r Hen Gorph. Beth sydd ar dy ffordd i fyn'd i'r capel yn gyson? Cei gyfeillion yno yn fuan, oblegid mae genyt y fath allu i ''introducio'' dy hun. A phwy a ŵyr na tharewi di ar y Cyfaill a lŷn.
"Yno y leiciwn i fod yn solet bob sul," ebe Wil. "Ond bydawn i yn mynd yno mi spotie'r gweinidog a'r blaenoried fi, a mi ofynen fy enw i, a lle ydwi'n byw, a mi fydde raid i mine ddeyd William Bryan, a number y tŷ, ne fod yn ''humbug''. Wel, mi ddoe'r gweinidog yma, a mi ofyne——Ydi Mr. William Bryan i mewn? a mi ddeude'r landlady—does yma neb o'r enw ene yn byw yma; a sut y drychwn i? Bydawn i yn rhoi ffug enw yn y capel mi dryche hyny fel bydawn i'n trïo ''cheatio'r'' Brenin Mawr, a nai byth mo hyny. Mi faswn yn medryd dŵad dros y ''difficulty'' wrth newid fy lodging bydase Walter Bateson heb i registro ar y cab, a wni ddim a ydyn nhw yn alowio initials. Ond yr ydw i'n gweled bob dydd wrth deimlo fy hun yn dwad yn 'i ol y bydd raid i mi ddropio yr 'alter' a'r 'ateson,' a sybstitutio illiam' a 'ryan' cyn y bydda i wedi cyrhaedd fi fy hun. Ond os na wela i ffordd go nêt i ddwad allan o honi mi dywla fy ''inverness'' i ffwrdd—mi ddangosa ''bold front'', a mi gymra sêt yn y capel—''take my word''. Ond dyma ti, os wyt ti isio bod mewn trim yfory i ymweled â'r cleifion rhaid i ni fynd i'r ''kennel'', achos mae hi rwan yn chwarter i dri.'
Nid oedd ond cam rhyngom â'r gwely, a da oedd genyf fod y siwrnai mor fêr. Cysgais yn galed: ac yr wyf yn cofio yn awr i mi fod am rai mynydau yn y bore rhwng cwsg ac effro yn methu gwneyd allan pa un ai teimlo bacon ai arogli rhywun yn fy ysgwyd yr oeddwn. Pan gwbl—ddeffroais cefais fod y ddwy ffaith yn bod ''vise versa''<noinclude><references/></noinclude>
6di23qs59kclbzxm4altfwzdr35wwkg
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/426
104
86229
166669
2026-06-19T22:14:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166669
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (Rhys yn ymweld a'i dad).jpg|canol|600px]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jw5usxdsmjuigugumank68lspq3auju
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/427
104
86230
166670
2026-06-19T22:19:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166670
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd Wil wrth fy mhen, ac wedi bod mewn trafferth fawr yn fy neffro, ac yr oedd arogl ''bacon'' a choffi yn llenwi yr ystafell. Tra yr oeddwn yn rhwbio fy llygaid, teimlwn fel pe buaswn wedi bod mewn breuddwyd, er fod yr ystafell a phobpeth yn cyfateb yn gymwys i'r breuddwyd, oddigerth fod dwy gwpan a sowser ar y bwrdd yn lle un. Treuliodd Wil a minnau rai oriau yn ymgomio am a fu cyn dechreu ar waith y diwrnod.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XLI.<br>Y tro cyntaf a'r olaf.}}}}
"Yrwan am y ''choker''," ebe Wil, "os rhaid i ti gael mynd i'r tŷ ene; ond bydaswn i yn dy le di mi faswn yn rhoi ''fling'' i'r ''idea'', achos faint well fyddi di? Mi mrola i am y ''choker'' mewn dau fynyd, a thra byddi di yn decio dy hun mi af i nol Bob, achos yr ydw i am roi heddyw i'r frenines."
Pan oeddwn hogyn arferai Wil fy llywodraethu, a theimlwn fy hun drachefn yn ei ddwylaw a than ryw fath o reidrwydd i wisgo y cadach gwyn, a dilyn ei gyfarwyddiadau. Yr oeddwn yn barod i ymostwng i unrhyw gynllun, ymron, i gyrhaedd fy amcan y bore hwnw, oblegid teimlwn dan ammod i'r un a garwn fwyaf, a phe collaswn y cyfleusdra, gwyddwn y buasai hyny yn fy mlino byth. Deallais fod Wil wedi benthyca trap, i'r dyben, fel y dywedai, iddo beidio cael ei "hailio." Er cymaint a glywswn am Bob y noswaith gynt, yr oeddwn yn rhy gythryblus fy meddwl pa fodd y tröai fy anturiaeth allan i gymeryd nemawr sylw o hono pan gefais fantais i'w weled wrth oleuni dydd. Ond yr wyf yn cofio i mi sylwi ei fod yn raenus yr olwg, ac fod Wil wedi dyweyd mai "Lazarus" y gelwid ef gan y ''chaps''." Ein rhaglen am y diwrnod oedd i Wil fy nwyn yn ei gerbyd i ''Gregg street'' a fy ngadael yno i wneyd fy neges; yna, ymhen hanner awr, iddo ddychwelyd i fy nghyrchu i dreulio y dydd yn y modd y gwelwn yn oreu. Ond nid eiddo dyn ei ffordd. Pan oeddym o fewn rhyw ganllath i'r fan lle y cymerwyd ni yn garcharion y
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
gtdb8z45y9hg1n25edmrqourz9md36l
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/428
104
86231
166678
2026-06-20T00:09:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166678
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>noswaith flaenorol, tynodd Wil yn yr awenau, ac ebe fe yn gyffrous—"Mi gymra fy llw! dyma'r bobby ddaru'n nabio ni neithiwr, a mae o'n nylu atton ni!" Dyna oedd y ffaith; ac yn y fynyd yr oedd y swyddog yn ein hymyl ac yn gorchymyn i ni sefyll. Yr oedd Wil, fel fy hunan, wedi cynhyrfu drwyddo. "Rhys Lewis," ebe'r swyddog, "dowch i lawr." Ufuddhëais; ac er fy mod yn ceisio ymddangos yn wrol teimlwn fy hun yn crynu, a gwyddwn fy mod yn gwelwi. Neidiodd Wil i lawr yr un fynyd, ac ebe fe, "Mi dy glyna di i ble bynag yr êi di bydae'r ''concern'' yn mynd i Fryn Eglwys," a thaflodd yr awenau ar gefn Bob. Gwenodd y swyddog, ac ebe fe, "Peidiwch A dychrynu. A ydych yn fy adnabod, Rhys Lewis?" Ysgydwais fy mhen. "Bryan, a ydych chwi yn fy adnabod?" "''To be sure'', ebe Wil," ond y chi rôth fenthyg pâr o gyffs i ni neithiwr. "Wil, ebe'r heddgeidwad," wyt ti ddim yn cofio i ti gael benthyg cansen gen i fwy nag unwaith?" Wedi edrych arno yn galed am eiliad neu ddau, ebe Wil, "Wel, bydawn i byth yn bren gwely! os nid i chi ydi ''Sergeant'' Williams! Doedd ryfedd i chi droi allan ffasiwn drymp neithiwr! Wel sut yr ydach chi, yr hen A1? Fedrwch chi ddim cael ''leave of absence'' am heddyw?" "Hwyrach y medraf, Mr. Bateson," ebe'r swyddog. Edrychodd Wil mewn tipyn o benbleth, ac ebe fe, "''true to nature'', ''Serjeant,'' rhaid i'r Cymro gael ffugenw—enw barddonol, wyddoch." "Ni wyddwn o'r blaen fod y ''cabbies'' yn enwog fel beirdd," ebe'r ''serjeant'', "''Hush!''" ebe Wil, "''least said, soonest mended''. Yr ydw i'n teimlo ''just'' fel bydawn i gartre: dyma fi fy hun, a Rhys Lewis, a ''Serjeant'' Williams; a does dim ond eisie William y glo, Duke, a'r hen ''thorough bred'' Thomas Bartley i ni fod yn ''compact''."
Ar y cyntaf parodd ymddangosiad ''Serjeant'' Williams anesmwythder mawr i mi, canys nid oedd genyf adgofion melus am dano; ond buan y chwalwyd fy ofnau. Ar ol tipyn o ymddyddan, neidiodd Wil i'w gerbyd, ac ymaith ag ef. Daeth y ''serjeant'' gyda mi at 65 ''Gregg street'', a churodd y drws. Agorwyd gan wraig fawr, wrrywaidd yr olwg, a gwelais ar unwaith fod y ''serjeant a'' hithau yn adnabod eu gilydd. Hysbysodd iddi fy neges, a gadawodd fi. Arweinwyd fi gan y wraig i'r ystafell y buaswn yn ceisio edrych iddi y noson gynt, ac wedi iddi ddyweyd "''the minister''" gadawodd hithau fi, gan gau y drws ar ei hol. Er pan ddeffroeswn y bore hwnw, yr oedd fy nghalon yn curo<noinclude><references/></noinclude>
16motnwi2rgkucyr534uv22zaq102uh
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/429
104
86232
166679
2026-06-20T00:18:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166679
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn gyflym, a theimlwn fod genyf orchwyl i'w gyflawni nad oedd bleserus i mi; ac eto nad allwn ei yagoi pe syrthiasai y nefoedd. Ger fy mron gwelwn yr hwn a welswn mewn rhan y noswaith flaenorol, ac yn yr un sefyllfa—yn eistedd yn ei wely. Ceisiais feddianu fy hun oreu y gallwn, a chyferchais ef yn Saesonaeg y fynyd gyntaf yr euthum i'r ystafell, er fod llu o feddyliau wedi rhedeg drwy fy nghalon cyn i mi siarad, a chyn iddo yntau atteb. Hwn oedd y tro cyntaf erioed i mi weled ei wyneb; ond yr oedd fy mynwes yn cario llwyth o'i hanes, a'r hanes hwnw yn bobpeth ond cysurus. Pan ofynais iddo pa fodd yr oedd efe yn teimlo, attebodd mewn un gair—"''Bad.''" Pan ofynais a oedd efe yn coleddu gobaith am adferiad, yagydwodd ei ben yn drist. Pan ofynais drachefn am ei feddyliau a'i ragolygon, ni wnaeth ond ysgwyd ei ben. Ceisiais arwain ei feddwl at Dduw a'i drugaredd i'r pechadur penaf, ac at gynifer ag a allwn gofio o addewidion y Beibl, ond yr unig atteb a gawn ganddo oedd ysgydwad pen a ddynodai y trueni mwyaf a'r anobaith dyfnaf. Wedi i mi ddyhysbyddu fy hun syrthiais innau i ddystawrwydd, a theimlwn fy hun yn cael fy nghario ymhell yn ol i ystafell wely yn nhŷ Thomas Bartley, a chlywn fy mam—at ei gwddf yn angeu—yn fy nghynghedu unwaith ac eilwaith-" Os byth y cyfarfyddi di o, a phwy ŵyr na wnei di, tria gofio fod o'n dad i ti—tria anghofio ei bechodau, ac os gelli di neyd rhw lês iddo-gwna." Yna thedai fy meddwl drachefn at y noswaith y bu farw Seth, pryd y cyfarfyddais a fy ewythr wrth goed y Plas, a phryd y dywedodd eiriau â agorodd fy llygaid i hanes fy nheulu, a phryd y darfu i Bob fy mrawd yr un noswaith, wedi i mi fyned i'r gwely, adrodd wrthyf yn ddystaw yn y tywyllwch, hanes fy nhad—ei ddirywiad, ei afradlonedd, a'i greulonderau at fy mam. A chofiwn fel yr oeddwn yn gorfod gwthio cynfas y gwely i fy safn rhag i mi waeddi allan pan adroddai Bob am fy mam yn gorfod cadw o'r capel am fod ganddi bâr o lygaid duon, ar ol i fy nhad ei churo. Cofiwn fel yr oeddwn yn synu aut yr oedd hi yn gallu gweddio drosto ac yntau newydd ei tharo, a thra yr oedd ei gwaed heb fferu ar ei ffedog. O fel y casawn ef y pryd hyny Mor falch y teimlwn na welswn ei wyneb erioed! Ond yn awr yr oeddwn wrth ei ochr, a chlywn y geiriau—nid fel adgof o'r gorphenol—ond fel pe buasent yn cael eu traethu am y waith gyntaf gan yr un genau—"Os byth y cyfarfyddi di o, a phwy ŵyr,<noinclude><references/></noinclude>
gjhyr65so5yzja45gj8ilffsa6yfkff
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/430
104
86233
166680
2026-06-20T00:28:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166680
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na wnei di, tria gofio fod o'n dad i ti—tria anghofio ei bechodau, ac os gelli di neyd rhw lês iddo—gwna." Oeddwn, yr oeddwn yn edrych arno, a phrin y gallwn sylweddoli y ffaith. Efe, yr hwn a fuasai unwaith yn ŵr grymus, a welwn o fy mlaen yn swp diwerth; ac nid oedd eisieu yr arogl whisky a lanwai yr ystafell i'm cynorthwyo i ffurfio syniad cywir am yr hyn ai dygasai i'r cyflwr truenus. Yr oedd fy ewythr ac yntau wedi rhedeg eu gyrfa yn lled gyfochrog. A wnawn i hysbysu fy hun iddo? A fyddai hyny yn ddoeth? A attebai hyny ryw ddyben da? Gwelwn yn amlwg fod ei einioes ymron dirwyn i'r pen; ac yr oeddwn wedi gwneyd yr hyn oedd yn fy ngallu i ddwyn ei feddwl i sylweddoli difrifwch ei sefyllfa, ac wedi ceisio gosod o'i flaen raslonrwydd yr efengyl, fel yr oedd yn dal gobaith o flaen y pechadur penaf hyd yn nôd yn yr awr olaf. Yr oeddwn wedi ei adgoffa am y rhai a alwyd ar yr unfed-awr-ar-ddeg, ac am y lleidr ar y groes, ond nid oedd dim a ddywedwn yn cyffwrdd a' deimlad nac yn enyn ynddo unrhyw ddyddordeb. Ceisiaswn gael gweddïo gydag ef, ac yr oedd yntau wedi gwrthod yn benderfynol. Pa beth yn rhagor a allwn i ei wneyd iddo? Ni welais neb erioed â golwg mor druenus arno, a hyderaf na chaf weled neb tebyg iddo. Ymddangosai fel un wedi ffarwelio â phob gobaith a chysur, ac yn prysur suddo i dywyllwch dwfn a dyeithr; ac nid oedd fy ngwaith yn sôn am addewidion y Beibl ond yn peri iddo wneyd ''plunge'' arall i'r dyfnder! Yr oedd yr adnodau a goffâwn iddo yn lle ei gysuro yn ei ddychrynu, fel hen gydnabyddion yr oedd arno arswyd eu cyfarfod, a sylwais ei fod gyda hyny o nerth oedd ganddo yn symud ymhellach oddiwrthyf, ac yn nês at y pared. Weithiau ymddangosai yn gynhyrfus fel pe buasai ei galon yn tanio, a gafaelai yn dyn yn nillad y gwely; bryd arall ymlonyddai fel pe buasai yn cymeryd siwrnai faith i lawr iddo ef ei hun, gan anghofio fy mod i yn yr ystafell. Ond buan y dychwelai, ac wedi edrych o'i gwmpas yn wyllt, a chanfod fy mod i yno fyth, gwnai ysgogiad anesmwyth drachefn tua'r pared. Gwyddwn fy mod yn faich arno, a'i fod mewn brys am i mi ymadael, oblegid estynasai ei law fwy nag unwaith at y botel whisky oedd ar fwrdd bychan wrth ei ymyl, ond tynai hi yn ol drachefn pan gofiai fy mod i yn edrych arno. Erbyn hyn ni chymerai nemawr sylw o'r hyn a ddywedwn, ac ofnwn nad allwn wneyd dim llés iddo, a chyfodais i fyned ymaith. Ond deuai y geiriau<noinclude><references/></noinclude>
1aeanm5w0m277u4mux81cjad7247e5v
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/431
104
86234
166681
2026-06-20T00:33:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166681
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eilwaith ataf—" Os byth y cyfarfyddi di o, &c.," fel pe deuent o'r byd arall. A fyddwn i wedi gwneyd fy ngoreu iddo heb siarad ag ef yn Gymraeg, ac heb ei hysbysu pwy oeddwn? Oni fyddai yn rhywbeth iddo gael gwybod fod fy mam wedi maddeu iddo ei ymddygiadau annynol tuag ati, pe na byddai hyny ond yr unig faddeuant a brofai efe byth? Penderfynais ddadguddio fy hun iddo, a cheisiwn weddïo am i hyny effeithio yn ddaionus arno. Ebe fi wrtho yn Gymraeg—"Robert Lewis, a wyddoch chwi pwy sydd yn siarad â chwi?" Dychrynodd wrth fy ngwestiwn, ac edrychodd arnaf yn galed, yr hyn na wnaethai o'r blaen. Cadwodd ei lygaid arnaf heb eu cau, y rhai oeddynt yn hynod ddysglaer—fel dwy lamp ar ei ffordd i dywyllwch ei anobaith, ac oeddynt, fel y tybiwn, i gael eu rhoi allan yn fuan wedi iddo ef fyned heibio. Dyfalwn fod ei feddwl yn teithio yn ol i chwilio am adgofion am danaf, ond yn aflwyddianus, wrth gwrs, ac ebe fi wrtho eilwaith
"Myfi yw eich mab, Rhys Lewis. Fy nhad, bydd yn dda genych glywed fod fy mam wedi maddeu y cwbl i chwi cyn iddi farw."
Edifarëais filwaith adail i'r ymadrodd ddisgyn dros fy ngwefusau. Nid oedd ond brawddeg fèr, ond achosodd fwy o boen i mi na dim a ddywedais erioed. Pe buaswn wedi taflu bwcedaid o dân am ei ben ni allasai yr effaith fod yn fwy arswydus. Ymgenglai ac ymnyddai yn yr arteithiau mwyaf annisgrifiadwy. Gwaeddai mewn gwallgofrwydd, a chyda nerth na thybiwn ei fod yn ei feddu, am i mi fyned o'i olwg. "Dos i ffwrdd! dos i ffwrdd!" a chiliai oddiwrthyf fel pe buaswn neidr. Ymwthiodd yn glòs at y pared, a phe gallasai buasai yn myned drwyddo. Wedi ei dychrynu gan ei oernadau, rhuthrodd gwraig y tŷ i'r ystafell, ac edrychodd arnaf fel llewes. Gofynai mewn cynddaredd pa beth a wneuthwn i'r claf, ac ofnwn iddi blanu ei hewinedd yn fy wyneb. Yr oeddwn yn rhy ddychrynedig i geisio rhoi eglurhâd iddi, â diengais am fy mywyd. Wrth adgofio yr olygfa daeth i fy meddwl lawer gwaith eiriau yr ysbrydion aflan, "A ddaethost ti yma i'n difetha ni cyn yr amser?" a geiriau Ellis Wynn o Lasynys—
{{center block|
<poem>
:"Yr ail olwg mi ni fynwn,
:Er bydoedd fyrddiwn,
Er nad oeddwn yn eu dyodde'."
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
jg2wam4dxbyrks3o7i76zi1xk2eyz6e
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/432
104
86235
166682
2026-06-20T00:38:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166682
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ni pharhâodd fy ymweliad ond rhyw ugain mynyd o amser, ond y mae yn ffurfio yr ysmotyn duaf yn fy hanes. Rhaid i mi gyfaddef na theimlwn yr ing a fuasai yn naturiol i fab wedi gweled ei dad yn y fath gyflwr, oblegid ni fuasai yn fy mynwes erioed serch tuag ato. ''Horror'' ydyw y gair cymwysaf i ddesgrifio yr hyn a lanwai fy nghalon. Yr oedd yr olygfa wedi fy ngwneyd yn druenus, a'r unig gysur a fedrwn ei dynu o honi oedd fy mod wedi cario allan, hyd eithaf fy ngallu, ddymuniad olaf fy mam.
Yr oedd y ''sergeant'' a Wil yn fy nysgwyl yn y fan benodedig. Adroddais wrthynt am ganlyniad fy ymweliad, a chefais gerydd gan Wil am na chymeraswn ei gynghor i roddi "''fling i'r idea.''" Erbyn hyn yr oeddwn mewn brys am gael dychwelyd i'r Bala, oblegid yr oedd yr arholiad i gymeryd lle yr wythnos ganlynol, yr hwn a fyddai yr olaf i mi. Dyfalwn fod gan y ''sergeant'' rywbeth i'w adrodd wrthyf, a dyfalwn yn gywir, oblegid ebe fe o'r neilldu, "Lewis a oes genych rywbeth i'w gelu oddiwrth Bryan?" "Dim," atebais. "Purion," ebe fe, ac ychwanegodd yn uchel, "Wel fechgyn lle cawn ni fynd?" " Yr wyf fi," attebais, "am gychwyn i'r Bala ar unwaith." "Dei di ddim oddma heddyw bydae raid i mi roi llyfethair am dy draed di, fel y byddei William y glô yn gneyd efo Duke rhag iddo ramblo." ebe Wil. Ond ni allai y ''sergeant'' na Wil fy mherswadio i aros. Dywedai Wil nad oedd trên i mi i'w gael am awr a hanner, a chymerais ei air. Arweiniwyd y sergeant a minnau gan Wil i westtŷ i gael pryd o fwyd, neu fel y galwai efe y peth "a last blow out on yours truly's account." Ni chymerais ond ychydig o'r ymborth, gan fy awydd i ddal ar bob gair a ddywedodd y ''serjeant'' Williams. A ganlyn sydd grynodeb o'i eiriau,—
"Mae llawer o flynyddoedd, Lewis, er pan welais chwi o'r blaen. Nis gwelais chwi er y noswaith y deuais i'ch tŷ i gymeryd eich brawd i'r carchar. Nid annghofiaf y noswaith hono tra byddaf byw. Mi wyddwn fod Bob yn ddieuog, ac eto yr oedd yn rhaid i mi ei gymeryd. Mae gwyneb gwelw eich mam wedi fy ''hauntio'' byth er hyny. Yr oedd Bob a minnau yn gyfeillion mawr, ac yr oeddwn yn adnabod eich mam yn dda. Yr ydych yn cofio, oblegid gwelais chwi yn dyfod or tŷ, am y ddau ddarfu ymosod arnom wedi i ni fyned allan o'r buarth? Chwi wyddoch pwy oeddynt. Mi dynghedais y plisman arall i beidio sôn am yr amgylchiad. Eu hamcan, fel y<noinclude><references/></noinclude>
lze9rv4luggmbn8tou4pj47tvd9jgpz
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/433
104
86236
166683
2026-06-20T00:47:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166683
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwyddoch, oedd rhoi cyfleusdra i Bob ddianc, pe buasai yn ei gymeryd. Drannoeth, sef y Sul, mi gyfarfyddais â gŵr y Plas pan oedd yn myned i'r eglwys, a dywedais wrtho fy mod yn sicr fod Bob, John Powell, a Morris Hughes, yn ddieuog, ac mai camgymeriad oedd eu cymeryd i fyny. Aeth yntau i dymher ddrwg, a dechreuodd fy rhegu, a galwodd fi yn ffŵl lawer gwaith drosodd. Dywedais innau wrtho am brysuro i'r eglwys i weddio. Mi wyddwn y mynyd hwnw fod fy nghynged wedi ei phenderfynu, ac ni orphwysodd y cnaf nes iddo fy symud. Yr ydych yn cofio y difrod a wnaed ar ei pheasants y noswaith yr anfonwyd Bob i garchar y sir? Y ''colliers'' gafodd y bai. Ai hwy fu wrthi? Dim perygl! Mi wyddwn yn burion fod yn y wlad ddau ddyn a mwy o ''daring'' ynddynt na'r glôwyr i gyd gyda'u gilydd. Fe wyddai Bob hyny, ac fe wyddai eich mam hyny, druan o honi! Nid y fi oedd y dyn i ddyweyd yr hanes wrth ŵr y Plâs; a phe gwelswn ei ''preserves'' i gyd ar dân, a gwybod y gallaswn eu rhoi allan wrth boeri arnynt, ni fuaswn yn gwneyd hyny, oblegid yr oedd bob amser wedi fy nhrin fel ci. Ar ol yr amgylchiad y cyfeiriais ato, teimlwn yn anhapus iawn, oblegid gwyddwn fy mod yn adgas yn ngolwg llawer, er nad allwn i ddim wrth y peth. Yn wir, yr wyf yn credu na fwriadwyd fi i fod yn blisman. Cyn yr helynt hwnw, yr oedd genyf amryw gyfeillion acw, ond oerodd pawb ataf, ac at bob plisman yn y lle. Nid oedd yn ddrwg genyf orfod ymadael. Yma yr wyf wedi byw er hyny, ac yr wyf yn lled gysurus. Tua thair blynedd yn ol, yn ddamweiniol iawn, tarewais ar eich tad. Dychrynodd yn fawr pan welodd efe fi, oblegid cofiai y gwyddwn i ei fod yn euog o rywbeth gwaeth na herwhela. Ond ni fuasai raid iddo ddychrynu, a dywedais hyny wrtho. Plisman brâf, onidê? Ond teimlwn fod arnaf gymwynas i'ch mam, ac i Bob, ac nid oedd genyf duedd i godi hen chwedlau i'r gwynt. Ar ol hyny cyfarfyddais ag ef lawer gwaith; a chyn iddo ymollwng yn slâf hollol i'r ddiod, bum gydag ef yn ei letty droion, yn ymgomio am ac i gael newyddion o'r hen gartre, oblegid mynych yr ymwelai efe a'ch ewythr â'r lle i helpu eu hunain o ''game'' yr hen squire. Nid oeddynt yn celu hyny oddiwrthyf, ac ni fuaswn yn hidio pe buasent yn dwyn pob ''pheasant'' oedd ar ystad y Plas, oblegid yr oedd genyf ''grudge'' i'r {{bar|3}} Hoffais i erioed eich ewyrth, ond gallwn wneyd yn burion gydach tâd. Hwyrach mai y rheswm am hyny oedd fod genym ein dau y<noinclude><references/></noinclude>
f7yyvkatq7g0i0c63hbd0vhdtmr5lii
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/434
104
86237
166684
2026-06-20T11:14:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166684
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fath elyniaeth farwol at yr hen ''squire''. Ni ofalai eich hewyrth pwy fyddai perchenogion y ''game'', am y gallai efe gael gafael arnynt, ond yr oedd eich tad yn cael dirfawr bleser wrth allu dyweyd uwch ben ei ysglyfaeth, "dyma ''game'' Gŵr y Plas! maent wedi costio iddo ddeg swllt y pen!" Yr oedd eich tad a'ch hewyrth yn pluo yr ystâd yn ''systematic'' drwy'r blynyddoedd, a phe baech yn fy rhoi ar fy llw, fedrwn innau ddim tyngu na fu rhai o'i ''pheasants'' ar fy mwrdd yn ystod y tair blynedd diweddaf, oblegid yr oeddwn yn ffrynd i'ch tâd. Plisman braf, onidê! Wrth fwyta ei ''pheasants'', yr oedd fy hen ''revenge'' yn well na ''sauce'' arnynt. Yr oeddwn yn synu sut yr oedd y ddau heb gael eu dal ar hyd y blynyddoedd, nes i mi gael esboniad. Yr ydych yn cofio Niclas y Garth Ddu? Efe oedd yn ''managio'r'' cyfan, ac yn eu llochesu. Dywedai eich tad wrthyf mai hen ''game dealer'' oedd Niclas, a'i fod yn adnabod hanner ''poachers'' y deyrnas, ac wedi gwneyd busnes gyda'r rhan fwyaf o honynt. Yr oedd wedi gwneyd swm mawr o arian yn y ffordd hono, ac yr oedd eich tad a'ch ewyrth wedi delio llawer ag ef cyn iddo ''retirio''. Eich tad perswadiodd ef i brynu y Garth Ddu—yr hwn le fu yn ddinas noddfa iddo ef ac i'ch ewyrth. Daliai y ddau ohebiaeth barhâus â'r hen Niclas. Fel y gwyddoch, nid oedd neb acw yn edrych ar Niclas yn ben llathen; ond dywedai eich tad wrthyf, os bu neb erioed yn ''37 inches to the yard'', mai Niclas oedd hwnw! Efe oedd eu ''scout'', ac yr oedd yn ymbleseru yn ei waith. Cerddai hyd yr hen ffyrdd, a thrwy goed y Plâs, a'r Berth Goch, bob adeg ar y nos heb i neb ei ddrwgdybio, ond yn hytrach ei ofni fel ''idiot''. Gwyddai ymha le y byddai y keepers yn gwylio bob nos drwy y flwyddyn. Yr oedd pobpeth a ddygwyddai yn y dref yn cael ei gario iddo gan Modlen y Garth. Fel y byddai eich tad yn chwerthin pan yn adrodd wrthyf am y nosweithiau llawen a gaent yn y Garth Ddu ar ol cael ysglyfaeth fawr! Ond y mae'r cwbl drosodd erbyn hyn! Mae'n debyg y gwyddoch fod Niclas wedi gadael y Garth Ddu? O ydyw, mae wedi gwerthu y lle er's tri mis, ac y mae yn byw yma yrwan, ac yn edrych yr un fath a phan welais ef gyntaf. Efe sydd yn cynnal eich tad. Pan fydd eich tad farw, nid oes neb a ŵyr ymha le y bydd Niclas dranoeth. Wel, rhaid i chwi gofio fod yr hyn a ddywedais, yn ''strictly confidential''."
Erbyn hyn, yr oeddwn wedi gwneyd fy neges yn B{{bar|3}}, ас<noinclude><references/></noinclude>
5lhmkz7rvjg2vz0wx45nekbrjeugz4k
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/435
104
86238
166685
2026-06-20T11:18:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166685
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi cael mwy o oleuni ar yr hyn oedd dywyll i mi nag a ddysgwyliaswn, ac yr oeddwn mewn brys am ddychwelyd. Daeth y ''sergeant'' a Wil gyda mi i'r orsaf, ac ebe yr olaf, yn berffaith ddiragrith, mi wyddwn, "Bydaswn i'n gwbod y baset ti'n mynd i ffwrdd mor swta chawset ti run ''drag through the sheets'' neithiwr; achos dydw i ddim wedi deyd y filfed ran o'r pethe ydw i isio ddeyd wrthot ti. Mae o run fath a phregethwr yn rhoi pen arni newydd ddwad i hwyl. Dydi peth fel hyn ddim yn ''true to nature'', ac erbyn y cyrhaedda i fi fy hun, a mynd adre, fyddi di ddim yno; achos erbyn hyny mi fyddi di yn weinidog yn Llanygogor ne yn rhywle, a fydd gen i run ''chum''."
"Wyddost di prun, Wil," ebe fi. "Beth debyget ti? (yr oedd y trên ar gychwyn) yr wyf wedi cael galwad i fugeilio eglwys Bethel, ac yrwan nid wyf yn gweled dim ar fy ffordd i'w derbyn." Edrychod d Wil yn llawen arnaf, ac ebe fe, "''Fact?'' (yr oedd y trên yn cychwyn) Wel, ''bye bye'', a chofia fod yn ''true to''—."
Ni chlywais y gair olaf, ond dyfalwn beth ydoedd, canys canoedd o weithiau y clywswn ef yn disgyn dros ei wefus. Pe gwybiaswn y mynyd hwnw mai dyna y tro olaf i mi glywed ei lais a gweled ei wyneb, buasai fy nghalon yn fwy trist nag ydoedd, oblegid er ei holl ddiffygion, yr oedd pertrwydd, gonestrwydd, a naturioldeb Wil, ynghyd a'i ffyddlondeb mawr i mi pan oeddwn hogyn, wedi gwneuthur iddo le yn fy nghalon nad allwn ei ddiystyru pe dymunaswn hyny, ac y mae arnaf hiraeth mawr am dano y fynyd hon! Tra yr oeddwn yn cyflymu yn ol, gwnawn ymdrech egnïol i anghofio y gorphenol a gosod fy mryd ar y dyfodol. Yr oedd fy natur wedi cael y fath ysgytiad, a fy meddwl wedi ei aflonyddu mor dost, nes oeddwn yn arswydo gweled dydd yr arholiad. Gwyddwn y byddai fy safle yn llawer îs nag a fuasai pe nas dygwyddasai yr hyn a groniclais
Achosai hyn boen fawr i mi. Gwelwn y byddai rhywrai yn barod i ddyweyd fy mod wedi diogi, ac nid allwn ddychymygu am gyhuddiad mwy adgas, na dim ag yr oeddwn yn fwy glân oddiwrtho, gan nad beth oedd fy niffygion. Yna dychwelai fy meddwl at fy nhad yn ei gyflwr truenus. Mor ofnadwy! Ac eto teimlwn ryw dawelwch cydwybod ddarfod i mi wneyd fy ngoreu iddo, a dychymygwn, os dychymygu yr oeddwn hefyd, glywed llais adnabyddus yn dyweyd wrthyf, —"Paid â gofidio, fy machgen, yr wyt wedi gwneyd dy ddyledswydd, fel y gwneuthum innau ato ef. Rhyngddo fo a<noinclude><references/></noinclude>
8rz6d3vlqknrh808xl4altrk6u1b4zt
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/436
104
86239
166686
2026-06-20T11:25:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166686
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Duw rwan." Tywynodd pelydr o oleuni i fy meddwl. Nid oedd fy nhaith i B{{bar|3}} yn ofer. Credwn fod fy nghyfarfyddiad â Wil Bryan wedi bod o fendith. Cawswn le i gredu nad oedd yn cael llonydd gan feddyliau difrifol am ei gyflwr. Rhoddasai ei air yr elai i'r capel, a gwyddwn nad ystyriai Wil neb a dorai ei air yn ''true to nature''. Heblaw hyny, teimlwn fy mod wedi cael gwaredigaeth fythol o'r hunllef â'm blinasai am flynyddoedd. Bellach cawn ymroddi i'r gwaith o bregethu heb ofni i fy enw gael ei ddwyn i warth. Yr hyn â'm blinai fwyaf, erbyn hyn, oedd yr arholiad. Gwyddwn y torwn ''sorry figure''. Ond cefais fy arbed. Pan gyrhaeddais y Bala, teimlwn yn rhyfedd. Meddyliwn fod yr hen dref wedi newid yn hollol mewn deuddydd. Ofnwn fy mod wedi camgymeryd ac nad yn y Bala yr oeddwn. Diolchwn ei bod yn hwyr ar y nos, oblegid crynai fy nghoesau, ac ofnwn i bobl feddwl mai meddw oeddwn. Cefais lawer o drafferth yn dod o hyd i fy llettŷ, ac yr oeddwn yn ammheu wrth agor y drws. Ond yr oeddwn yn iawn wedi'r cwbl, oblegid dyma Williams yn ysgwyd llaw a mi yn galonog. Nid oes genyf gof am ddim arall.
Ymhen naw neu ddeng niwrnod ar ol hyn, cefais fy hun yn fy ngwely. Yr oedd yn oleu ddydd, a cheisiais godi yn fy eistedd, ond nis gallwn. Yna gwelwn Williams wrth fy ochr, ac ebe fe, "Wel, fachgen, sut rwyt ti'n teimlo?" Ac ebe fi, "Beth ydi'r matter? Pwy sydd wedi fy maeddu? lle'r ydwyf wedi bod?" Gwelaf ei wyneb yn lloni pan ganfu fy mod yn dyfod attaf fy hun. Anogodd fi i fod yn llonydd, a dywedodd fy mod wedi bod yn sâl iawn. Pa ddiwrnod ydyw?" gofynais, "pryd mae'r Exam. i ddechreu?" "Mae hi drosodd er doe, was, ac felly chei di ddim bod ar y top nac yn y gwaelod y tro hwn. Rhaid i ti drïo bod yn dawel, rwyt wedi bod
mewn ffefar drom, ac yn codlo ddydd a nos am Wil Bryan a rhw ''serjeant'', ond yr wyt wedi troi ar fendio, a mae'n dda gen i o nghalon. O! dyma Doctor H{{bar|3}}. Wel, Doctor, mae rhw sens i gael ganddo heddyw," "Ydio wedi blino sôn am Wil Bryan? Mae'n amser iddo newid ei stori, bellach," ebe'r meddyg. Yr oedd Dr. H{{bar|3}} yn ŵr poblogaidd, hywaeth, a llawen, (yr oedd ynddo un bai: ni byddai byth yn anfon bill i ''student'') a chellweiriodd lawer â mi y diwrnod hwnw. Gofynais iddo, pa bryd y cawn fyned adref? Ac atebodd—"Rhaid i chwi fynd i Jerico yn gyntaf i aros i'ch<noinclude><references/></noinclude>
l0zdl33nhxmthzp4qx72p9lzoaxdqor
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/437
104
86240
166687
2026-06-20T11:30:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166687
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwallt dyfu." Teimlais fy mhen; och! yr oedd fy ngwallt wedi ei dori yn y gnec! Pruddhëais yn fawr, ac yr oeddwn yn falchach nag y tybiaswn fy mod. Ymholwn pa faint o amser a gymerai i fy ngwallt dyfu digon i mi beidio bod yn ddychryn i mi fy hun ac i eraill. Aeth wythnosau heibio cyn i mi fod yn ddigon cryf i fyned adref. Arosodd Williams bythefnos gyda mi, ac yr oedd ei garedigrwydd tu hwnt i ddesgrifiad. Rai dyddiau cyn i ni ffarwelio, adroddais wrtho sylwedd yr hanes maith yr wyf ymron a'i gwblhau; ac yr wyf yn credu nad oes neb byw yn ei wybod ond Williams, a Wil Bryan, ac os byth y gwel oleuni dydd, ar ol i mi fyned y ffordd ni ddychwelaf, mi bydd y ffeithiau yn ddyeithr iddynt hwy ill dau.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XLIL.<br>Gweinidog Bethel.}}}}
Rhaid i mi yn awr ddwyn fy Hunangofiant i derfyniad, am yr un rheswm, mewn rhan, ag a'm cymhellodd i'w ddechreu. Pa beth oedd hwnw? Mynegaf ef mewn ychydig eiriau. Yr wyf bellach wedi treulio rhai blynyddoedd yn Bethel yn y cymeriad o fugail. Pan ddechreuais ysgrifenu fy nghofiant, bwriadwn i hanes y blynyddoedd hyn ffurfio y rhan bwysicaf ohono. Yn awr—gwelaf fod hyny allan o'r cwestiwn, ac y mae yn edifar genyf dreulio cymaint o amser i sôn am bethau distadlach. Nid heb lawer o bryder yr ymgymerais, cyn bod yn dair-ar-hugain oed, a bugeilio yr eglwys y magwyd fi ynddi. Ofni yr oeddwn fy hunan ac nid yr eglwys, oblegid adwaenwn bob un o'r aelodau, ac yr oeddynt yn bobl hywaeth a charedig. Nid oedd eisieu amser i ymgartrefu. Wrth fyned at Miss Hughes i lettya yr oeddwn yn myned i fy hen gartref, a'r hyn oedd yn newydd i mi oedd y gwaith. Nid fy lle i ydyw dyweyd pa gynhwysder oedd ynof i'r gwaith; ond gallaf ddyweyd fod fy nghalon yn llawn ohono, a fy awydd i'w gyflawni yn y ffordd oreu, yn angerddol. Teimlwn fod fy ngwaith yn ymgymeryd â'r fath swydd yn tybio ymhoniad achel, a chywilyddiwn ynof fy hun yn fynych. Ond yr wyf yn
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
hnocemhpodgmffxswtte2xkwgrizus7
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/438
104
86241
166688
2026-06-20T11:34:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166688
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddwl i'r cyfrifoldeb oedd arnaf fy arwain i weddio mwy. Os methu a fyddai raid i mi, yr oeddwn yn benderfynol na fethwn oherwydd diogi, difaterwch a hunanddigonolrwydd. Gweithiais yn galed—hwyrach yn rhy galed—ond nid wyf yn cymeryd credyd am hyny—nid allwn ei helpio. Bychan oedd fy nghyflog; ond yr oedd yn ddigon; nid oedd fy anghenion yn fawr. Yn wir, yr wyf yn meddwl i mi gael cysur lawer gwaith wrth ystyried bychander fy nghyflog. Nid oedd yn ddigon mawr i beri anesmwythder meddwl i mi, ac yr oedd yn rhy fychan i neb fyned i'r drafferth o'i edliw i mi. Pe gwneuthai rhywun hyny, mae arnaf ofn mai ei wrthod a wneuthwn, am fod cryn lawer o'r annibyniaeth ffol oedd yn fy mam, ynof finnau hefyd. Ond ni ddarfu i neb ei edliw i mi. Ymdrechwn wneyd fy nyledswydd; ac yr oedd ynof uchelgais, neu egwyddor neu rywbeth, i roddi boddlonrwydd i'r rhai a wasanaethwn. Po galetaf y gweithiwn, tawelaf oedd fy meddwl, ac esmwythaf y gallwn gysgu'r nos. Y fynyd y dechreuwn laesu dwylaw, deuai fy hen elyn—iselder ysbryd ar fy ngwarthaf. Ni chefais lawer o achosion i gwyno er pan ydwyf yma; a phe cawswn, buasai yr amrywiol destynau i ddiolch a brofais yn rheswm dros i mi dewi a sôn. Ni esgeulaswyd fi gan y Cyfarfod Misol, a chefais fy newis i gael fy ordeinio yn llawer cynt nag a haeddwn. Cefais bob cynorthwy a chalendid gan Dafydd Datis a'r Eos, a charedigrwydd gan yr eglwys yn gyffredinol, yn enwedig gan y bobl ieuainc.
Oddeutu dwy flynedd yn ol, meddyliwn fod caredigrwydd pawb tuag attaf yn adfywio. Os byddai genyf daith o chwech i wyth milldir, mynai Dafydd Dafis gael rhoi benthyg ei geffyl i mi. Cymerai Miss Hughes ofal mwy na chyffredin ar fod genyf ddigon am danaf. Rhoddai Thomas Bartley siars feunyddiol i mi fwyta digon o gig a ŵyau, ac annogai eraill fi i gymeryd gofal o honof fy hun. Parodd y dyddordeb a gymerid ynof i mi feddwl a dyfalu am yr achos ohono. Gwyddwn nad oeddwn yn ei deilyngu. Pa beth oedd y rheswm am dano? Ni fum yn hir heb ei gael allan, ac wedi ei gael yr oeddwn yn ei ganfod yn edrychiad ac ymddygiad pawb o fy nghyfeillion tuag attaf. Yr oeddwn yn gwanychu. Eiddilaidd a fuaswn erioed, ac er ys peth amser, gwyddwn nad oeddwn mor gryf ag arferol, ond ni ddychymygais fod perygl. Yr oedd eraill wedi ei ganfod o fy mlaen. Pan sylweddolais y ffaith, syrthiodd fy ysbryd ynof.<noinclude><references/></noinclude>
th73vzrdje8as6x741ooxc3cn3h4bs4
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/439
104
86242
166689
2026-06-20T11:44:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166689
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ceisiai y meddyg fy nghalonogi, a dywedai nad oedd arnaf ond tipyn o wendid, ac eisieu newid awyr a gorphwysdra. I ba le yr awn? Hoffwn lan y môr. Na, ni chawn fyned at y môr; gwell i mi oedd myned i Drefriw. Deallais yr awgrym. Ie fôr! â thi y bu raid i mi ddechreu tori fy nghyssylltiadau daearol. A'r fath bang ydoedd! Er dy fod bob amser yn fy mhruddhau, hoffwn fod ar dy lanau. Teimlwn fod dy sŵn yn cyfateb i rywbeth oedd yn fy mynwes nad allwn ei fynegu. Teimlwn dy fod yn cario rhywbeth i mi o'r pellderoedd draw am yr ''Unknown''! Ond gwaharddwyd fi i ddyfod attat. Euthum i Drefriw, ac yno cyfarfyddais ag amryw o fy hen gyfeillion, ac yr oedd rhai o honynt yn ddigon ffol i fynegu ei syndod wrth fy ngweled wedi curio cymaint. Fodd bynag ceisient fy nghysuro a bod yn llawen gyda mi, a pheri i mi anghofio fy hun; ond dan ei llawenydd canfyddwn brudd dosturi drosof. Fel y cenfigenwn at eu cryfder au hoewder! Ond derbyniais lawer o les yn Nhrefriw, a chyn ymadael mwynhawn ychydig ar y difyrwch diniwed wrth y ffynnon, a thybiais fy mod yn troi ar wella, ac nis gallaf fynegu fy llawenydd, a'r dedwyddwch dwys a dwfn a deimlwn yn fy mynwes. Pan ddeuthum yn ol i Bethel yr oedd y cyfeillion yn synu at y cyfnewidiad ynof, ac yr oeddynt yn llawen. Pregethais y Sabboth canlynol heb deimlo blinder; ac yr oedd fy nedwyddwch yn fawr.
Aeth wythnosau heibio, a chefais fy hun wedi myned yn ol i'r hen farc, a meddyliwn nad oedd dim yn eisieu ond myned drachefn i Drefriw, ac nid allai neb fy attal. Euthum. Y dydd cyntaf o'r Hydref ydoedd. Hyd y gallwm ddeall, myfi oedd yr unig ymwelydd yn y pentref. Yr oedd y tywydd yn oer a gwlyb. Arhosais yn fy ystafell am bedwar diwrnod cyn dychwelyd—gartref yn waeth fy nghyflwr nag oeddwn cyn ei adael. Ofnwn nad oedd fy meddyg yn deall fy nghlefyd, a'r peth cyntaf, erbyn hyn, a ddarllenwn yn y newyddiadur, a fyddai ''advertisement y quack doctors''. Yn ddirgel gwariais lawer o arian cyn cael allan mai anwiredd oedd yr hysbysiadau, ac mai creadigaethau dychymyg y crach feddyg oedd y nifer mwyaf o'r llythyrau canmoliaeth. Nis gallwn gelu y ffaith oddiwrthyf fy hur fy mod yn gwanychu, canys teimlwn fod pregethu yn myned yn anhawddach imi bob Sabboth, ac yr oedd gwaith ambell flaenor caredig yn cynyg o hono ei hun ddechreu yr oedfa i mi yn fynegai o fy ngwir sefyllfa, ac yn fy mhruddhâu. Ar y dechreu, gwrthodwn y<noinclude><references/></noinclude>
fvbykatstmjz786k5nheqzn0sy0e40w
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/440
104
86243
166690
2026-06-20T11:47:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166690
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>caredigrwydd, ond yn ddilynol derbyniwn ef gyda diolchgarwch. Mae dros flwyddyn o amser er pan bregethais ddiweddaf; ond yr wyf yn meddwl y buaswn wedi dal ati yn hwy oni bae i mi ymgynghori a meddyg dyeithr, yr hwn a ddywedodd y gwir wrthyf, ac a orchymynodd i mi roddi y gwaith heibio ar unwaith. A ddylid dyweyd y gwir bob amser? Rhaid i mi ddyweyd y gwir hwn—i mi ofidio llawer am na fuasai y meddyg hwnw wedi cadw y gwir oddiwrthyf. Yr oedd yn wir ofnadwy i mi, a suddodd fy ysbryd i ryw ddyfnderau dychrynllyd. Nid oedd genyf flas i siarad â neb am amser. Deffrôdd ynof ryw ymafael milain mewn bywyd, nad oeddwn yn ymwybodol o hono o'r blaen. Teimlwn fel pe buaswn wedi fy nhwyllo gan yr hyn yr ymddiriedaswn fwyaf ynddo. Am ddyddiau a nosweithiau ffraewn yn fy meddwl â meddygon, â ffawd, â rhagluniaeth, ac, y mae arnaf ofn, â Duw. Gwelwn bob dydd, yn myned heibio fy ffenestr, ddynion hŷn lawer na mi, ysgwyddog, cryfion, llydain eu brestiau; ïe, yr oedd rhai o honynt yn rhegu, yn fflamio, ac yn meddwi; a minnau, druan gŵr! â fy mrest fel hen fasged! Pwy oedd yn trefnu pethau fel hyn? Ai cybolfa ddireswm oedd pobpeth? Yr oedd fy nghynlluniau i gyd yn ofer, a theimlwn nerth a mîn yr ymadrodd, "yna y derfydd am ei holl amcanion ef," yn dyfod attaf hyd adref. Yr oedd genyf amryw bregethau a'r angeu, a byd arall, a thestynau cyffelyb; ond mor ddiddym oeddynt i mi erbyn hyn! Mor oer a dienaid oeddynt! Pe cawswn gyfleusdra, gymaint gwell y gallaswn bregethu! Cymerodd i mi wythnosau i ddysgu ymostwng i'r anocheladwy, ac i roddi fy ''resignation'' i mewn. Mor galed oedd yr ymdrech! Erbyn hyn, ymddangosai pobpeth mewn gwedd newydd. Pethau yr arferaswn gymeryd dyddordeb dwfn ynddynt, megys gwleidyddiaeth, a llenyddiaeth, a gollasant eu holl swyn, a rhyfeddwn ddarfod i mi erioed ymhyfrydu ynddynt. Yr oedd nifer testynau fy myfyrdod yn lleihâu bob dydd, nes oedd fy meddwl o'r diwedd wedi ymroddi yn gwbl i'r cwestiynau a berthynent i fy nghynged ysbrydol. Bellach ni wnai y gwirioneddau y cawswn lawer o hyfrydwch wrth eu pregethu ond fy mhruddhâu a fy suddo i ddyfnderau o dristwch nas gallaf ei ddesgrifio.
Ond drwy râs y Nefoedd mi a gefais, yn y man, oruchafiaeth ar fy mhrudd—der. Deuthum i deimlo'n barotach i ymostwng dan law Duw, ac i ymdaflu i'w freichiau Ef. Ar adegau, cawn lygadau o<noinclude><references/></noinclude>
erd4dftgq4741ngry5d6wmc2a3dwbre
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/441
104
86244
166691
2026-06-20T11:50:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166691
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddedwyddwch dwys, a phlachiadau o oleuni ar drefn yr Efengyl, na phrofaswn erioed cyn fy nghystuddio. Ambell awr, byddwn yn gwŷnfydu yn ddystaw fy sefyllfa, a phrofwn ddyhead nerthol am berffeithrwydd a gogoniant y byd ysbrydol. Weithiau gallwn edrych ar fy nghorph a'i wendid fel rhywbeth ar wahân i mi fy hun, a chwerthin am ei ben. Yna ymlonyddwn i dawelwch mwynhäol, gan ddyfalu pa bethau anhyfryd y cedwid fi rhagddynt wrth gael gostwng fy nerth ar y ffordd. Pe cawswn fyw, hwyrach y buaswn yn cyfarfod â rhyw demtasiwn a fuasai yn fy ngorchfygu ac yn fy nwyn i a fy mhroffes i waradwydd. Meddyliwn am rai a adwaenwn; y fath drugaredd a fuasai iddynt gael marw yn ieuanc! Drachefn deuai tymhorau o brudd—der, ac ymollyngwn i fyfyrdodau morbid ac aflesol. Yn un o'r tymhorau hyn, tarawyd fi gan ddrychfeddwl rhyfedd: os oedd rhagluniaeth am fy nghymeryd ymaith yn nghanol fy nyddiau, oni allwn i chware cast & hi drwy ail fyw (yn fy meddwl) fy einioes, ac felly ei dyblu Oni allwn i, yn ol fel y caniatâi fy nerth, gyflwyno ychydig oriau bob dydd i fyned dros brif amgylchiadau fy mywyd! Cadwai hyn fi rhag pendroui gyda phethau allesol, a rhag bwyta fy hun i fyny cyn fy amser. Yn fy unfan yr oeddwn yn lled ddiboen, ac hwyrach y gallai ysgrifenu fy Hunangofiant fod yn lles i mi. Canlyniad y drychfeddwl yna ydyw yr ysgrif faith hon. Y mae wedi ei hysgrifenu gan ddyn prudd. Gall hyn ymddangos yn anhygoel wrth ystyried fod yn yr ysgrif gofnodiad atu amryw o bethau digrifol; ond nid ydyw hyny yn beth dyeithr yn y byd. Os oes yma ar y mwyaf o son, hwyrach, am Wil Bryan, yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun fod yma hefyd rai pethau ag y mae pob dyn difrifol—pob dyn a ddeffrowyd i gwestiynau mawr bywyd—yn gorfod pendroni uwch eu penau. Pe amgen, y tân fuasai y lle goreu i'r ysgrif.
Da genyf a fuasai gallu cofnodi rhywbeth mwy pendant a chysurus am Wil Bryan; ond ni chlywais ddim oddiwrtho er's amser. Yn ei lythyr olaf attaf, dywedai ei fod wedi gorphen talu dyled ei dad, ai fod yn dal i fyned i'r capel Cymraeg, ond ei fod eto "heb gyrhaedd ef ei hun." Fy llythyr olaf i ato ef, a ddychwelwyd, ac arno—left without address. Mae misoedd er hyny, ac ni chlywais mwy oddiwrtho. A ydyw Wil wedi myned gyda'r llauw? Na, mae ynof presentiment y bydd Wil ar gael.
Cefais siars, fel y dywedais, gan fy mam, pan oedd ar ei gwely<noinclude><references/></noinclude>
gw7u6hyw6y2n6zlr3klzjyma8jj2yr6
166692
166691
2026-06-20T11:51:49Z
AlwynapHuw
1710
166692
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddedwyddwch dwys, a phlachiadau o oleuni ar drefn yr Efengyl, na phrofaswn erioed cyn fy nghystuddio. Ambell awr, byddwn yn gwŷnfydu yn ddystaw fy sefyllfa, a phrofwn ddyhead nerthol am berffeithrwydd a gogoniant y byd ysbrydol. Weithiau gallwn edrych ar fy nghorph a'i wendid fel rhywbeth ar wahân i mi fy hun, a chwerthin am ei ben. Yna ymlonyddwn i dawelwch mwynhäol, gan ddyfalu pa bethau anhyfryd y cedwid fi rhagddynt wrth gael gostwng fy nerth ar y ffordd. Pe cawswn fyw, hwyrach y buaswn yn cyfarfod â rhyw demtasiwn a fuasai yn fy ngorchfygu ac yn fy nwyn i a fy mhroffes i waradwydd. Meddyliwn am rai a adwaenwn; y fath drugaredd a fuasai iddynt gael marw yn ieuanc! Drachefn deuai tymhorau o brudd-der, ac ymollyngwn i fyfyrdodau morbid ac aflesol. Yn un o'r tymhorau hyn, tarawyd fi gan ddrychfeddwl rhyfedd: os oedd rhagluniaeth am fy nghymeryd ymaith yn nghanol fy nyddiau, oni allwn i chware cast & hi drwy ail fyw (yn fy meddwl) fy einioes, ac felly ei dyblu Oni allwn i, yn ol fel y caniatâi fy nerth, gyflwyno ychydig oriau bob dydd i fyned dros brif amgylchiadau fy mywyd! Cadwai hyn fi rhag pendroui gyda phethau allesol, a rhag bwyta fy hun i fyny cyn fy amser. Yn fy unfan yr oeddwn yn lled ddiboen, ac hwyrach y gallai ysgrifenu fy Hunangofiant fod yn lles i mi. Canlyniad y drychfeddwl yna ydyw yr ysgrif faith hon. Y mae wedi ei hysgrifenu gan ddyn prudd. Gall hyn ymddangos yn anhygoel wrth ystyried fod yn yr ysgrif gofnodiad atu amryw o bethau digrifol; ond nid ydyw hyny yn beth dyeithr yn y byd. Os oes yma ar y mwyaf o son, hwyrach, am Wil Bryan, yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun fod yma hefyd rai pethau ag y mae pob dyn difrifol—pob dyn a ddeffrowyd i gwestiynau mawr bywyd—yn gorfod pendroni uwch eu penau. Pe amgen, y tân fuasai y lle goreu i'r ysgrif.
Da genyf a fuasai gallu cofnodi rhywbeth mwy pendant a chysurus am Wil Bryan; ond ni chlywais ddim oddiwrtho er's amser. Yn ei lythyr olaf attaf, dywedai ei fod wedi gorphen talu dyled ei dad, ai fod yn dal i fyned i'r capel Cymraeg, ond ei fod eto "heb gyrhaedd ef ei hun." Fy llythyr olaf i ato ef, a ddychwelwyd, ac arno—''left without address''. Mae misoedd er hyny, ac ni chlywais mwy oddiwrtho. A ydyw Wil wedi myned gyda'r llanw? Na, mae ynof ''presentiment'' y bydd Wil ar gael.
Cefais siars, fel y dywedais, gan fy mam, pan oedd ar ei gwely<noinclude><references/></noinclude>
9fqyjqzvvr6iedov2mbzrsyv52abvgv
Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/442
104
86245
166693
2026-06-20T11:56:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166693
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>angeu, i dalu y pwyth i Thomas a Barbara Bartley am eu caredigrwydd tuag atti hi; ond ni chefais gyfleusdra. Mae yr esgid ar y
troed arall. Mae caredigrwydd y ddau attaf fi yn ddiderfyn, a'u
cydymdeimlad & mi yn fy ngwendid yn ddifesur, a gwerthfawr iawn
genyf. Bychan yw eu dealltwriaeth, a bum yn gofyn lawer gwaith,
pa beth oedd dyben eu creadigaeth. Ac eto yr wyf yn cenfigenu
attynt. Maent yn iach a dedwydd, ac, yn ol pob golwg, yn debyg o
fyw am lawer o flynyddoedd. Pe rhoddent en penau ynghyd nis
gallent ddarllen adnod; ond y maent yn mwynhau crefydd, ac yn
ddiddadl yn meddu ei grym hi. Mae y fath debygrwydd ac undeb
rhyngddynt, fel yr wyf ymron a chredu y byddant farw yr un
diwrnod. Nis gallaf weled sut y gallai Thomas a Barbara fyw ar
wahan.
Os bydd i rywun fyned i'r drafferth o ddarllen yr hanes hwn, dichon
y bydd yn synu ddarfod i mi son cymaint am rai pethau ynglŷn â fy
nheulu nad oeddynt anrhydeddus, ac hwyrach y bydd yn gofyn, yn
ngeiriau Wil Bryan, a ydyw hyn yn ''"true to nature?"'' Ond pa
fodd y gallai yr hanes fod yn wahanol a bod yn gywir? Ac wedi i
mi fyned ymaith pwy a niweidir? Ni raid i neb ostwng pen, oblegid
myfi ydyw yr olaf o'r teulu.
Wrth edrych dros yr hyn a ysgrifenais gwelaf fy mod, drwy
anghof, wedi gadael rhai pethau heb eu cyfwrdd y dymunaswn ddy-
weyd rhywbeth yn eu clych; a phethau eraill a adawyd allan of
fwriad. Yn ol pob golwg, nid ydyw yn debyg y gallaf byth ddiwygio
y cofiant, canys y mae ysgrifenu y rhanau olaf o hono wedi bod i mi
yn feichus, ac ofnwyf mai yr un modd y bydd y darlleniad o hono,
Os felly y dygwydda, gall y darllenydd wneyd yr un peth a minnar
—ei roi heibio pan fydd wedi blino.
{{c|'''DIWEDD'''.}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
hj0ryl1onbjfpvkxv0trvyfcy7axwtf