Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.15
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/99
104
33417
170534
76024
2026-08-17T17:35:03Z
~2026-45103-59
4229
170534
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Cyn bod trwst traed y llanc ar y cerrig wedi llwyr ddistewi, clywodd y siryf dychrynedig sŵn dieithr arall, megis wrth ei benelin. Daeth chwys oer drosto, a theimlodd ei wallt, yr ychydig oedd ganddo, yn codi gan arswyd. Chwyddodd y sŵn, nes mynd yn rhuad a lanwodd yr ogof, a meddyliodd y truan bod ei awr ddiwethaf wedi dyfod. Ac ni bu erioed dywyllwch mor ddu.
Yr oedd yn rhy gynhyrfus i sylweddoli yn iawn beth oedd yn digwydd iddo. Ond teimlodd ei hun yn cael ei gipio a'i lapio megis gan enau anferth rhyw anghenfil arswydus, a'i ysgubo fel y gwynt na wyddai i ba le. Ni wyddai pa hyd y parhaodd y daith. Teimlai ryw hanner llesmair arno. Ond dadebrodd wrth weled eilwaith olau o'i gylch, ac wrth deimlo a'i gael ei hun yn disgyn fel boncyff o bren ar wyneb y llyn, ac yn ymgladdu yng ngwaelodion hwnnw.
Clywodd Ifan waedd, a rhedodd at fin y dŵr. Yr oedd mewn pryd i weld y siryf, mor wlyb a moel yr olwg â llygoden y dŵr, yn ymlusgo drwy'r hesg at ddernyn o graig. Rhoddodd help llaw iddo i ddyfod i dir, lle gorweddodd ar y glaswellt, wedi cael y fath ysgytwad i'w gorff a'i feddwl nes peri iddo grynu fel deilen.
"Sut y bu hyn?" gofynnodd Ifan. "Pa ffordd y daethoch chwi i'r fan yma?"
"Duw'n gwaredo!" meddai'r siryf, gan ysgwyd ei ben, a heb fedru egluro ymhellach.
Ac meddai'r llanc cyfrwys wedyn, "Welais i erioed y fath beth! Sut y daethoch chwi? Ni fuoch chwi ddim yn hir. A welsoch chwi rywbeth?"
"Nawdd y nef!" Daliai'r siryf i ysgwyd pen yn ddifrifol. "Nawdd y nefoedd fyddo drosom ni rai annheilwng! Bobol y ddaear!"
Yr oedd Catrin Parri wedi cynefino ag ymgeleddu trueiniaid wedi cyfarfod â thrychineb trwy ddŵr, a chafodd y siryf ddillad sychion yn ddioed. Eisteddai ar fainc wrth y tân, gan edrych fel bachgen wedi tyfu<noinclude><references/></noinclude>
c70qw0wlgpn9nhsmy6e795fwijkkpj1
Tudalen:Madam Wen.djvu/100
104
33418
170535
76025
2026-08-17T18:06:45Z
~2026-45103-59
4229
170535
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>trwy ei wisg, mewn dillad o eiddo Siôn Ifan. Yr oedd yr hen dafarnwr ei hun yn fawr ei rodres ynghylch yr helynt, ond nid oedd o un diben holi'r siryf. Eisteddai'n ddistaw yn y gornel, fel dyn wedi ei syfrdanu, gan sibrwd yn awr ac yn y man i'r simdde fawr, "Duw'n gwaredo ni!"
Bu yno deirawr cyn teimlo'n ddigon cryf i ddychwelyd i Gymunod. Ac yn y cyfamser yr oedd yr yswain wedi derbyn ymwelydd arall i'w dŷ, na wyddai neb ond yr yswain ei hun o ba le, neb amgen na'r hen ŵr y soniasai Madam Wen amdano wrth Twm Pen y Bont.

{{c|IX.}}
{{c|YR HEN WR O'R PARCIAU}}
WEDI hanner awr o gymdeithas yr hen ŵr o'r Parciau, daeth Morys i ddeall ei fod yn bur fethiantus, ac mor hynod drwm ei glyw fel mai blinder oedd ceisio ymddiddan llawer ag ef. Ac yn ôl pob arwydd teimlai yr hen ŵr ei hun mai blinder i arall oedd efe, ac ni ddymunai ddim yn fwy na chael llonydd, ac am hynny ni chymerai yn angharedig ar yr yswain wrth ei weled yn eistedd mewn distawrwydd, a'r ddau yn disgwyl y siryf yn ôl o'i hynt ysbiol.
Cyn hir aeth yr yswain i feddwl bod neges y siryf yn ei gadw yn hwy nag y dylasai, ac wrth weled oriau yn treiglo aeth i deimlo'n bryderus. Bychan a feddyliodd y gallasai'r "hen ŵr," pe dewisai, daflu golau ar achos yr oediad.
O'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, dychwelodd y gŵr dieithr, ond gyda llai o fywiogrwydd yn ei ysbryd a mwy o ddifrifwch yn ei wedd na phan gychwynnodd i'w daith. Yr oedd yn amlwg nad oedd popeth yn dda, ond gadawodd yr yswain hamdden iddo i adrodd ei helynt, os dymunai, yn ei amser ei hun.
{{nop}}

<noinclude><references/></noinclude>
f7zl33jq6s0w4izjo679pe5xz9ngh2o
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/1
104
88339
170536
2026-08-17T22:47:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170536
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Daniel Owen y Nofelydd.djvu|canol|600px|tudalen=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
30rkc2fnal98d3x8zkywo3b9t3z8fqi
170537
170536
2026-08-17T22:47:58Z
AlwynapHuw
1710
170537
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Daniel Owen y Nofelydd.djvu|canol|600px|tudalen=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gwyjg3n6htw5pggyipca1p0wvg4q3ss
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/2
104
88340
170538
2026-08-17T22:50:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170538
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmmm-mawr|DANIEL OWEN}}}}
{{c|{{mawr|Y NOFELYDD:}}}}

{{c|{{mawr|BYWGRAPHIAD}}
{{bach|GAN}}
{{Mm-mawr|ISAAC FOULKES.}}}}

{{c|LIVERPOOL:
CYHOEDDWYD GAN I. .FOULKES, 8, PARADISE STREET.
1903.}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9o3crgworjt97uubt627o729uq05cs1
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/3
104
88341
170539
2026-08-17T23:06:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170539
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGYMADRODD.}}}}
OEDWYD cyhoeddi y COFIANT hwn am flynyddau oherwydd prinder amser, amlder gorchwylion eraill, yn nghydag awydd i wneud Bywgraphiad teilwng o'r Nofelydd enwog. Nid wyf yn sicr a lwyddais, ar ol y cwbl, gyda'r amcan olaf; y darllenydd sydd i farnu.
Ni fwriedir y llyfr hwn ond fel Bywgraphiad syml o'r Awdwr, heb amcanu ond ychydig at ddadelfenu ei waith, a'i gyferbynu â ffughaneswyr eraill. Ceisir olrhain ei darddiad, ei amgylchoedd, ei ddadblygiad, mewn gair ei gyfodiad i'r safle anrhydeddus a gyrhaeddodd yn mhlith ei gyd-genedl fel ei phrif nofelydd.
Dymunaf gydnabod yn ddiolchgar y cynorthwy a gefais gan y Proffeswr ELLIS EDWARDS, M.A., cydefrydydd DANIEL OWEN; Mr. JOHN MORGAN ''(Rambler)'', ei gyfaill; Mr. ISAAC JONES, ei gyd-weithiwr y Parch. JOHN OWEN, ei weinidog; ac yn arbenig Miss JONES, ei lettyes, yr hon a roes imi lawer o wybodaeth am Mr. OWEN a fu o fawr wasanaeth er gwneud y gwaith yn gyflawnach.
Am gopiau o'r DARLUNIAU<ref>Nid oedd y darluniau wedi goroesi yn y copi o'r llyfr a sganiwyd ar gyfer defnydd yma,</ref> yr wyf yn ddyledus i Mr. DANIEL HUGHES, High Street, Wyddgrug, am yr un gyferbyn â'r Wyneb-ddalen a thudal 1, 95 a iv.<noinclude><references/></noinclude>
9pquddsvnslgqzldm1ap51hx1y6i0vx
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/4
104
88342
170540
2026-08-17T23:08:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170540
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>160; i Mr. L. E. PRICE, Cefn-y-Gader, Llanelidan, am y rhai gyferbyn â thudal. 17 a 104; ac i Mr. WILLIAM HUGHES O Gerrig y Drudion am ddarlun Toм POOLE, yr hwn a dynodd oddiar ei gôf, ac a ystyrir yn bortread pur gywir o'r crwydryn syml a diniwed.
Ac yn awr cyflwynir y gwaith i hynawsedd fy nghyd lenorion. Nid yw cystal ag y dymunwn, ond y mae cystal ag y medrai un o edmygwyr penaf y Nofelydd, ac un o'i gyfeillion llenyddol cyntaf, ei wneud.
:LERPWL,
::Awst, 1903.
{{c|OL-NODIAD.}}
ERBYN hyn y mae Saphir Lehman a grybwyllir tudal 45 wedi myn'd, ac nid oes yn aros ond Mr. Isaac Jones, o holl gydweithwyr DANIEL OWEN.
Digwyddodd dau wall ar dudal 115. Saith wythnos, ac nid 14 mis, oedd oed y bychan yr ysgrifenid ato; a Daniel nid David ydyw enw bedydd Mr. Hughes. Yn tudal. 3 hefyd yn Mai ac nid Medi y bu'r ddamwain fawr.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hldzfwb0g43brkks0i67obfsx3kk1es
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/9
104
88343
170541
2026-08-17T23:54:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170541
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm—mawr|DANIEL OWEN:}}
{{M—mawr|BYWGRAPHIAD.}}}}
{{lein|5em}}
{{c|{{mawr|PENNOD I.
YR HUNAN—GOFIANT.}}}}
Os oes ynof fymryn o dalent, yr wyf yn credu i mi ei etifeddu o ochr fy mam, gan nad oedd dim neillduol, am a wn i, yn fy nhad, ond ei fod yn gymydog da, yn ddyn gonest ac yn Gristion cywir. Brodor oedd Robert Owen, fy nhad, o Ddolgellau; ond yn Llanfair, ger Rhuthin, y ganwyd ac y magwyd fy mam. Yr oedd Thomas Edwards, tad fy mam, yn rhyw berthynas i Twm o'r Nant, ac yr oeddynt yn gyfeillgar iawn. Yr oedd tipyn o ddawn prydyddu yn fy nhaid, a chlywais fy mam yn adrodd fel y byddai Twm ac yntau yn cystadlu prydyddu yn ddifyfyr pan ddeuai y blaenaf i ymweled a'r teulu yn Llanfair. Pan yn hogen fach, bu fy mam laweroedd o weithiau yn gwrando Interliwdiau Twm o'r Nant. Mewn ysguboriau, meddai, y cynelid y cyfarfodydd hyn. Hyd yn nod wedi iddi adael ei phedwar ugain oed, byddai gan fy mam linell o Twm i setlo pobpeth. Clywais hi hefyd yn son, llawer am Interliwdiau, neu brydyddiaeth, nid wyf yn cofio'i enw yn iawn, rhyw Ellis y Cowper, ond ni wn i fawr am y gwr hwnw. Yn ei hen ddyddiau, yr hyn yr ymffrostiai<noinclude><references/></noinclude>
6f90d9ng1qc35a6tb7ujnlzgdic1vtd
170542
170541
2026-08-17T23:55:07Z
AlwynapHuw
1710
170542
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|DANIEL OWEN:}}
{{M-mawr|BYWGRAPHIAD.}}}}
{{lein|5em}}
{{c|{{mawr|PENNOD I.
YR HUNAN—GOFIANT.}}}}
Os oes ynof fymryn o dalent, yr wyf yn credu i mi ei etifeddu o ochr fy mam, gan nad oedd dim neillduol, am a wn i, yn fy nhad, ond ei fod yn gymydog da, yn ddyn gonest ac yn Gristion cywir. Brodor oedd Robert Owen, fy nhad, o Ddolgellau; ond yn Llanfair, ger Rhuthin, y ganwyd ac y magwyd fy mam. Yr oedd Thomas Edwards, tad fy mam, yn rhyw berthynas i Twm o'r Nant, ac yr oeddynt yn gyfeillgar iawn. Yr oedd tipyn o ddawn prydyddu yn fy nhaid, a chlywais fy mam yn adrodd fel y byddai Twm ac yntau yn cystadlu prydyddu yn ddifyfyr pan ddeuai y blaenaf i ymweled a'r teulu yn Llanfair. Pan yn hogen fach, bu fy mam laweroedd o weithiau yn gwrando Interliwdiau Twm o'r Nant. Mewn ysguboriau, meddai, y cynelid y cyfarfodydd hyn. Hyd yn nod wedi iddi adael ei phedwar ugain oed, byddai gan fy mam linell o Twm i setlo pobpeth. Clywais hi hefyd yn son, llawer am Interliwdiau, neu brydyddiaeth, nid wyf yn cofio'i enw yn iawn, rhyw Ellis y Cowper, ond ni wn i fawr am y gwr hwnw. Yn ei hen ddyddiau, yr hyn yr ymffrostiai<noinclude><references/></noinclude>
k2m1w8qwya1lfkfpnd8giqix6q4qchp
170543
170542
2026-08-17T23:55:26Z
AlwynapHuw
1710
170543
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|DANIEL OWEN:}}
{{M-mawr|BYWGRAPHIAD.}}}}
{{lein|5em}}
{{c|{{mawr|PENNOD I.
YR HUNAN-GOFIANT.}}}}
Os oes ynof fymryn o dalent, yr wyf yn credu i mi ei etifeddu o ochr fy mam, gan nad oedd dim neillduol, am a wn i, yn fy nhad, ond ei fod yn gymydog da, yn ddyn gonest ac yn Gristion cywir. Brodor oedd Robert Owen, fy nhad, o Ddolgellau; ond yn Llanfair, ger Rhuthin, y ganwyd ac y magwyd fy mam. Yr oedd Thomas Edwards, tad fy mam, yn rhyw berthynas i Twm o'r Nant, ac yr oeddynt yn gyfeillgar iawn. Yr oedd tipyn o ddawn prydyddu yn fy nhaid, a chlywais fy mam yn adrodd fel y byddai Twm ac yntau yn cystadlu prydyddu yn ddifyfyr pan ddeuai y blaenaf i ymweled a'r teulu yn Llanfair. Pan yn hogen fach, bu fy mam laweroedd o weithiau yn gwrando Interliwdiau Twm o'r Nant. Mewn ysguboriau, meddai, y cynelid y cyfarfodydd hyn. Hyd yn nod wedi iddi adael ei phedwar ugain oed, byddai gan fy mam linell o Twm i setlo pobpeth. Clywais hi hefyd yn son, llawer am Interliwdiau, neu brydyddiaeth, nid wyf yn cofio'i enw yn iawn, rhyw Ellis y Cowper, ond ni wn i fawr am y gwr hwnw. Yn ei hen ddyddiau, yr hyn yr ymffrostiai<noinclude><references/></noinclude>
lhwdhbyw67x7t6ibq3pskppqdxgf1ht
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/10
104
88344
170544
2026-08-17T23:56:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170544
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi fwyaf ynddo oedd ddarfod iddi gael y fraint, pan yn ddeuddeg oed, o adrodd pennod i Mr. Charles, o'r Bala, ac eilwaith pan yn dair-ar-ddeg oed. Yr oedd ganddi uwch syniad am Mr. Charles nag am neb arall, am y rheswm, y mae yn ddiamheu, ei fod wedi ei ffurfio pan oedd hi yn hogen mor ieuanc.
Dynes fechan oedd fy mam, ond yr oedd rhyw ddefnydd annghyffredin ynddi. Nis gwn pa fodd y daeth fy nhad a hithau i gydnabyddiaeth a'u gilydd. Ond yr wyf yn meddwl mai i Resycae, ger Rhosesmor, yr aethant i fyw gyntaf ar ol priodi. Ac i ddangos y defnydd yr oedd fy mam wedi ei wneud ohono, yr wyf yn adrodd i chwi yr hanesyn hwn—gallwn adrodd eraill llawn mor ryfedd:—Cerddodd Resycae i'r Wyddgrug a phlentyn ar ei braich. Cynorthwyodd fy nhaid a fy nain i gorddi ar ol cyrhaedd y Wyddgrug; yna cerddodd i Gaerlleon a'r plentyn yn ei breichiau. Yr oedd iddi chwaer yn gwasanaethu yn Nghaer, a chwaer arall yn gwasanaethu chwe' milldir tu draw i Gaer. Yr oedd y chwaer a wasanaethai yn Nghaer yn symud i wasanaethu at y chwaer arall y diwrnod hwnw, a chariodd y plentyn am y chwe' milldir. Wedi bod yno ychydig amser, a chael cwpaned o de, dychwelodd fy mam i'r Wyddgrug, gan gario y plentyn yr holl ffordd; a buasai wedi myn'd i Resycae y noson hono onibai i fy nhaid a fy nain el hatal. Felly yr oedd hi wedi cerdded, ar ddiwrnod gwresog, 44 milldir, ac wedi carlo y plentyn 38 milldir.
Mwnwr oedd fy nhad, ac yr oedd ef a'r teulu wedi symud i'r Wyddgrug pan anwyd fi, yr hyn a gymerodd le Hydref 20, 1836. Myfi oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Gweithiai<noinclude><references/></noinclude>
6phn5m59uev1jxdl8z2yhlko7745zse
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/11
104
88345
170545
2026-08-17T23:57:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170545
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy nhad, a dau frawd i mi, yn Ngwaith glo yr Argoed. Ffair Glamai, Medi 12fed, 1837, torodd y dwr yn y gwaith, a boddwyd fy nhad a'm dau frawd, ac amryw eraill. Gadawyd fy mam yn weddw gyda phedwar o blant—dau fab a dwy ferch—myfi yn blentyn saith mis oed. Amgylchiad ofnadwy oedd hwnw i fy mam, a bu agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos wedi claddu ei gwr a'i dau fab, ac agor y ffenestr, gan rhyw led-ddisgwyl eu gweled yn dyfod adref o'r gwaith. Yr oedd damweiniau o'r fath yn bethau lled annghyffredin y dyddiau hyny, a chynhyrfwyd y wlad drwyddi oll. Drwy ymdrechion y Parch. Roger Edwards, yr hwn oedd wr ieuanc newydd ddyfod i'r Wyddgrug, a'r Parch. Owen Jones, diweddar o Landudno, ac, yr wyf yn meddwl, y Parch. Thomas Jones, awdwr y "Noe Bres," ac eraill, casglwyd canoedd o bunau i'r gweddwon a'r rhai niweidiwyd yn namwain Gwaith yr Argoed. Rhoddwyd yr arian yn Manc Treffynon; ac yn ol y trefniadau, derbyniasai fy mam, fel eraill, 14s. yr wythnos hyd nes y buaswn i—y plentyn ieuengaf—yn bedair blwydd arṛddeg oed. Ond och yn mhen ychydig wythnosau, torodd y Banc a chollwyd yr holl arian. Brwydr galed a fu hi wed'yn ar fy mam i fagu ei phlant. Ni feiddiaf ddesgrifio i chwi fy mhrofiad, wedi i mi ddyfod i ddeall pethau—y cyfyngder a'r tlodi—mwyaf a feddyliaf am dano, mwyaf oll yr edmygaf ddewrder ffydd ac yspryd di—ildio fy mam. Ond beth yr ydwyf yn son, mi a geisiais bortreadu ychydig o'i phrofedigaethau yn Mari Lewis, mam Rhys Lewis, ond fy mod wedi ymatal rhag desgrifio ambell gyfyngder. Gwyddai Golygydd y<noinclude><references/></noinclude>
8w4y7f9kd6vawek47328dew7j2u5kas
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/12
104
88346
170546
2026-08-17T23:58:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170546
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Drysorfa" lle yr oeddwn arni yn burion. Oherwydd yr hyn wyf yn ei adrodd, ni chawsom ni fel plant ond y nesaf peth i ddim o addysg ystyriai fy mam fod cael bwyd a dillad i ni yn llawer mwy nag a allai hi ei fforddio. A dyna oedd y ffaith; ac am flynyddau ni chawsom haner digon o'r naill na'r llall. Pa fodd bynag, cawsom addysg Feiblaidd ac Ysgol Sul.
Nid oedd dim neillduol yn fy chwiorydd; ond yr oedd fy mrawd Dafydd yn sicr yn un o'r bechgyn mwyaf talentog— yn naturiol—yn Nghymru. Pe buasai genyf chwarter ei dalent, buaswn yn ddiolchgar. Ond—ie yr "ond " ydyw yr aflwydd!—ac nid oes eisiau son mwy am dano. Ni wnaeth efe niwed i neb ond iddo ei hun. Enillodd Andreas o Fon dair gini mewn bet arno am adrodd ystoriau. Gwastraffodd ei athrylith mewn cylchoedd na ddylasai. Ond cafodd—drwy hir gystudd—amser i edifarhau, a mi gredaf iddo gael trugaredd.
Er mai y fi ydyw yr unig un sydd wedi ei adael o'r teulu, ni bum erioed yn gryf o ran fy iechyd. Oherwydd fy ngwendid, pan yn dair-ar-ddeg oed, prentisiwyd fi yn delliwr gydag Angel Jones—y blaenor enwog—i'r hwn y canodd Glan Alun farwnad. Mae genyf lawer o achos diolch i mi gael myned dan ofal yr hen Angel, oherwydd cyn hyny yr oeddwn wedi dechreu ymhoffi mewn cwmni drwg. Yr oedd y rheolau yn fanwl gydag ef—byddai raid i mi fod dair gwaith yn y capel ar y Sul, ac yn mhob moddion ganol yr wythnos. Gweithiai ar y bwrdd gyda'r hen Angel haner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu yn fath o goleg i mi. Deffrodd ynof ryw gymaint o feddylgarwch. Darllenid ar y bwrdd bob gair o'r hen "Amserau"<noinclude><references/></noinclude>
jplbkjqsj46n9gijdcpjn4cge5ftad5
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/13
104
88347
170547
2026-08-17T23:59:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170547
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a mawr oedd y dyddordeb a gymerid yn "Llythyrau 'Rhen Ffarmwr," ac yn y ddadl fawr ar Ryfel rhwng "Meddyliwr" a "Phreswylydd Bryniau Cribog Cymru." Yr oedd haner y gweithwyr yn Wesles a'r haner arall yn Galfins, a llawer o ddadlu duwinyddol a gymerai le ar y bwrdd.
Yn y man daeth yno weithiwr newydd o Ddyffryn Clwyd, a'i holl fryd ar farddoniaeth. Dygodd hyn elfen newydd i'r bwrdd, a bu o ddyddanwch mawr, a chreodd ynof hoffder at farddoniaeth, a pharodd i mi golli ambell noswaith o gysgu i geisio prydyddu. Ac nid yn hollol ddifudd, oblegyd gallaf ddweyd yn onest i mi fod yn llwyddianus i enill y wobr gyntaf neu'r ail bob tro y cystadleuais. Ond byddwn yn lled ofalus pa bryd, yn mha le, ac ar ba destyn y cystadleuwn. Gwnaeth y bardd ieuanc o Langynhafal lawer o les i mi. Mae efe bellach yn wr teitlog ac enwog yn Nghymru.
Drwy ddylanwad Mr. Edward Griffith, Wyddgrug, a Mr. Peter Roberts, yn awr o Lanelwy, ac eraill, perswadiwyd Mr. Roger Edwards gychwyn y cyfarfodydd cystadleuol, y rhai a ddaethant wedi hyn i gael eu cynal yn mhob llan a chwm. Yr oedd hyn tua phymtheg mlynedd ar hugain yn ol neu ychwaneg, ac y maent wedi eu cynal yn y Wyddgrug o hyny hyd yn awr yn ddifwlch. Bu y cyfarfodydd hyn o fendith annhraethol i mi, ac yn gychwyniad ambell yrfa ddefnyddiol, megys yr eiddo y diweddar Barch. Robert Davies, Amwythig; W. Hinton Jones, Amwythig; Dr. Cynhafal Jones, Peter Roberts, a lluaws eraill. Enillais lawer o wobrwyon yn y cyfarfodydd hyn am gyfansoddiadau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth na fynwn er dim i neb eu gweled yn awr. Yn<noinclude><references/></noinclude>
q7b0zt9yauu0rexk1x338tqyw5960xs
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/14
104
88348
170548
2026-08-18T00:00:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170548
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>1864, os wyf yn cofio yn dda, cymhellwyd Mr. Ellis Edwards—yn awr Proffesor Edwards—a minau i ddechreu pregethu. Yr oeddwn yn anfoddlawn i ufuddhau, fel y gwyr y cymhellwyr sydd yn awr yn fyw. Gwelwn fod Mr. Edwards wedi ei fwriadu i'r gwaith mawr, a'i fod eisoes yn ysgolhaig gwych, tra yr oeddwn i yn ddiddysg a diddawn. O'r diwedd, ufuddheais fel math o gwmpeini i Mr. Edwards. Yn 1865, aethum i'r Bala, dan fil o anfanteision. Bum yn bur onest yno—ni ddygais lawer oddiyno. Dwy flynedd a haner y bum yn y coleg, pryd y gorfu i mi ddychwelyd adref oherwydd amgylchiadau teuluaidd. Deliais i bregethu hyd y flwyddyn 1876 yn weddol dderbyniol—ni byddai genyf byth Sabboth gwag, a bum yn pregethu yn mhob capel yn Lerpwl, Manchester, a phrif drefydd Gogledd Cymru.
Yn Mawrth, 1876, torais blood vessel yn yr ysgyfaint dair gwaith mewn ystod pythefnos. Ni feddyliodd neb y buaswn yn byw, a bum yn dihoeni am flynyddau. Bu Dr. Edwards, Wyddgrug, a Dr. J. Roberts, Caer, yn hynod ofalus ohonof y pryd hwnw. Yn y cyfnod hwn ysgrifenais saith o bregethau i'r "Drysorfa," o dan yr enw "Offrymau Neillduaeth." Wedi hyn, ysgrifenais ychydig frasluniau o gymeriadau i'r un cyhoeddiad, a chyhoeddais y pregethau a'r brasluniau yn llyfr. Yn ddi-gymhell, bu Dr. Edwards, Bala, garediced a chymeryd 60 o gopiau ohono, ac ysgrifenodd lythyr i'r "Goleuad" llawer rhy ganmoliaethol. Gwerthwyd yr argraphiad yn mhen rhyw ddeufis. Cymhellwyd fi gan Olygydd y "Drysorfa" i ysgrifenu nofel; ac er i mi wrthod yn bendant ymgymeryd a'r fath orchwyl, ni fynal Mr. Roger Edwards ei naccau,<noinclude><references/></noinclude>
4pw85xvzwjouvtk41wjhz1e19kv1rgy
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/15
104
88349
170549
2026-08-18T00:02:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170549
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac ar amlen y "Drysorfa" ddiwedd y flwyddyn gwelwn, yn mhlith llawer o addewidion eraill am y flwyddyn i ddyfodo: "Y Dreflan, gan Daniel Owen." Mr. Edwards bia'r teitl, ac ni wyddwn ar y pryd beth a ddysgwyliai. Nid oedd dim i'w wneud bellach ond dechreu arni. Ymddangosodd "y Dreflan" yn y "Drysorfa" am ddwy flynedd, a chyhoeddwyd y chwedl yn llyfr gan Mri. P. M. Evans, Treffynnon.
Ni chefais lonydd wedi hyn gan Mr. Edwards heb ddechreu chwedl arall, ac er mwyn heddwch dechreuais ysgrifenu "[[Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel|Rhys Lewis]]"—pennod ar gyfer pob mis, heb fod genyf air wrth gefn. Parhaodd am dair blynedd. Wedi ei chwblhau, cyhoeddals hi yn llyfr 4s., a gwerthais ddwy fil o gopiau—sef yr argraphiad—mewn chwe mis. Yna gwerthais y copyright i Mr. Hughes, Gwrecsam, a chyhoeddodd yntau ail argraphiad Cymraeg, ac yn ddilynol argraphiad Saesneg. Wedi hyn cyhoeddodd Mr. John Lloyd Morris, Wyddgrug, "[[Y Siswrn]]," o fy ngwaith, ac yn ddilynol ail argraphiad. Gwyddoch am y gweddill llenyddol cystal a minau.
{{c|DANIEL OWEN.}}
:Mehefin 4, 1891.<noinclude><references/></noinclude>
033h6rkhz6xwena99vgh38ol3rq9v1f
170551
170549
2026-08-18T00:09:26Z
AlwynapHuw
1710
170551
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac ar amlen y "Drysorfa" ddiwedd y flwyddyn gwelwn, yn mhlith llawer o addewidion eraill am y flwyddyn i ddyfodo: "Y Dreflan, gan Daniel Owen." Mr. Edwards bia'r teitl, ac ni wyddwn ar y pryd beth a ddysgwyliai. Nid oedd dim i'w wneud bellach ond dechreu arni. Ymddangosodd "y Dreflan" yn y "Drysorfa" am ddwy flynedd, a chyhoeddwyd y chwedl yn llyfr gan Mri. P. M. Evans, Treffynnon.
Ni chefais lonydd wedi hyn gan Mr. Edwards heb ddechreu chwedl arall, ac er mwyn heddwch dechreuais ysgrifenu "[[Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel|Rhys Lewis]]"—pennod ar gyfer pob mis, heb fod genyf air wrth gefn. Parhaodd am dair blynedd. Wedi ei chwblhau, cyhoeddals hi yn llyfr 4s., a gwerthais ddwy fil o gopiau—sef yr argraphiad—mewn chwe mis. Yna gwerthais y copyright i Mr. Hughes, Gwrecsam, a chyhoeddodd yntau ail argraphiad Cymraeg, ac yn ddilynol argraphiad Saesneg. Wedi hyn cyhoeddodd Mr. John Lloyd Morris, Wyddgrug, "[[Y Siswrn]]," o fy ngwaith, ac yn ddilynol ail argraphiad. Gwyddoch am y gweddill llenyddol cystal a minau.
{{c|DANIEL OWEN.}}
:Mehefin 4, 1891.
{{lein|5em}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5u5nn8xhahh83xq1s9kn0ubw8b7i6v5
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/16
104
88350
170550
2026-08-18T00:08:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170550
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>AR gais Gol. y ''Cymro'' yr ysgrifenodd DANIEL OWEN y cofiant cynwysfawr uchod; ac yn y rhifyn am Mehefin 11, 1891, o'r papyr hwnw, yr ymddangosodd gyntaf, gyda'r geiriau a ganlyn o'i flaen:—
"Mae yn fwy na thebyg y byddwch byw ar fy ol i, a hwyrach y bydd yr ychydig ffeithiau canlynol yn help i chwi wneud paragraph ar fy marwolaeth, os tybiwch y byddai hyny yn ddymunol. Cewch arfer eich doethineb pa ddefnydd i wneud ohonynt i'ch pwrpas presenol."
Dylwn hysbysu y darllenydd fod math o ddiofryd rhwng DANIEL OWEN a minau er's blynyddau fod i'r un ohonom gai fyw hwyaf wneud tipyn o gofiant am llall. Y diofryd hwnw a barodd i mi ymgymeryd â'r bywgraphiad yn union ar ol marwolaeth fy nghyfaill, ac a'm hataliodd wed'yn rhag rhoddi'r gwaith i fynu er's talm. Cynullais bentwr o ddefnyddiau ato, ddigon i wneud llyfr gymaint deirgaith a'r llyfr hwn; ond rywsut teimlwn yn anmharod i'w gyhoeddi, rhag ofn y buasai yn annheilwng o'r gwrthddrych ac yn anfoddloni ei gyfeillion a'i edmygwyr lluosog. Dyna'r achos na fuasai'r llyfr wedi ei gyhoeddi agos i saith mlynedd yn ol; a waeth egluro yr oediad yn y fan yma na'i grybwyll mewn dull mwy ffurfiol ar lun rhagymadrodd.
Y mae yr hyn a ddywed DANIEL OWEN uchod am dano ei hun yn cynwys lluaws o ffeithiau nad allasai bywgraphydd dd'od o hyd iddynt, a chredwn eu bod ar y cyfan mor gywir ag ydyw adgofion yn gyffredin.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
m7trt3l29rl1zlu9n8d8xmqhh7sxvnz
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/17
104
88351
170552
2026-08-18T00:21:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170552
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD II.
Ei Rieni a'i Berthynasau.}}}}
BRODOR O Ddolgellau, fel y dywedir yn yr Hunan Gofiant, oedd Robert Owen, tad y nofelydd. Yr oedd parthau amaethyddol y wlad cyn gynared a hyny yn methu cadw eu trigolion; a'u hieuenctyd o ddiffyg moddion cynaliaeth yn gorfod cyrchu i'r ardaloedd gweithfaol. Pa bryd y daeth Robert Owen o lanau'r Wnion i lanau'r Alun nid oes wybodaeth, ond gellir dyfalu mai yn lled ieuanc, gan ei fod yn goliar graddedig yn ol yr hanes sydd am dano. Ni wyddis ychwaith o ba linach i'r Oweniaid lluosog oedd yn ardal Dolgellau yr hanai; ac annichonadwy o'r herwydd, ar ochr ei dad beth bynag, seilio math yn y byd o ddamcaniaeth pa faint oedd o athrylith DANIEL OWEN yn etifeddol. "Cymydog da, dyn gonest, a Christion cywir," ydyw'r cymeriad a roddir ganddo i'w dad—oddiar dystiolaeth eraill, mae'n wir, gan na fu'r ddau yn cydoesi ond ychydig fisoedd—tystiolaeth ddiamwys ac uchel, ac wedi ei gwirio gan gymydogion, a chan y dyfyniadau a welir yn mhellach yn mlaen o waith ei gydnabod, y Parch. O. Jones, Llandudno. Ac y mae hyny gymaint gwerthfawrocach pan gofier nad oedd glowyr sir Fflint dri ugain mlynedd yn ol agos mor wareiddiedig a'u holynwyr y dyddiau hyn. Digon anhawdd, yn ddiau, oedd bod yn "ddyn da ac yn<noinclude><references/></noinclude>
fn7pe58n6s979a5aztjb5w18xta86c0
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/18
104
88352
170553
2026-08-18T00:22:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170553
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gristion cywir," a byw yn eu plith. Yr oedd oriau hirion tan y ddaear, llafur caled, cyflog prin, wedi eu caledu a'u gwneud, gydag ychydig eithriadau, yn afrywiog a garw, er yn bur lân-galon a charedig at eu gilydd a'u cymwynaswyr. Yr oedd Robert Owen yn ddyn a Christion cywir yn eu canol, tra annhebyg i dad ''Rhys Lewis'', portread y tybiodd rhai, ond yn hollol anghywir, o dad yr awdwr.
Yn Llanfair Dyffryn Clwyd y ganwyd, ac y magwyd am rhyw yspaid, Sarah Edwards, a ddaeth wedi hyny yn Sarah Owen, ac yn fam DANIEL OWEN. Yr oedd ei thad hi, Thomas Edwards, yn berthynas a chyfaill i Thomas Edwards ''(Twm o'r Nant)''. Y taid hwn o Lanfair, a'i gyfathrach o'r Nant, ydyw yr unig berthynasau a feddai DANIEL OWEN, hyd y mae son, â llenyddiaeth yn eu gwaed; ac fel y cawn ddangos yn mhellach, nid oedd athrylith Bardd y Nant a'r eiddo DANIEL OWEN yn annhebyg ar lawer ystyr i'w gilydd. Yr oedd Sali Owen yn tebygu o ran ei pherson i fam Rhinallt Tomas, yr hon a ddesgrifir yn Gwen Tomos, tudal. 8" Dynes fechan, lân, dwt oedd hi." Yr un modd yn yr Hunan Gofiant, dywed yr awdwr:—"Dynes fechan oedd fy mam." "Ond yr oedd rhyw ddefnydd annghyffredin ynddi," ychwanega, a chawn ganddo enghraifft nodedig o'i gwydnwch a'i nherth, yn cerdded bedair a deugain o filldiroedd ar ddiwrnod gwresog, gan gario plentyn ar ei braich ddeunaw-ar- hugain ohonynt, yn nghyd a helpu ei rhieni i gorddi ar ei ffordd o Resycae trwy y Wyddgrug; ac onibai am eu<noinclude><references/></noinclude>
1puppy2mdgbk3oerg65kjge4q30wfc3
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/19
104
88353
170554
2026-08-18T00:23:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170554
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>taerineb, buasai wedi cerdded gartref, wyth milldir yn mhellach, yr un noson. Daeth amryw ohebiaethau i'r ''Cymro'', yn dadleu amhosiblrwydd y dasg, a danfonwyd hwy i DANIEL OWEN; ond daliai ef fod pob gair a ddywedodd am dani yn llythrenol gywir, ac adroddai hanesion eraill o'r un natur. Gellir dweyd, beth bynag, er cadarnhau yr hanes, i Sarah Owen fyw i oedran teg, ac mai anfynych y gallech weled ei sioncach a'i chryfach hyd yn nod yn ei henaint.
Dywedai hen wragedd a fu yn byw yn ei hymyl yn Maes-y-dref am lawer o flynyddau wrthyf, yn fuan ar ol marwolaeth DANIEL OWEN, mai cymydoges "glên arw oedd Sali Owen, barod ei chymwynas, gynil a diwyd yn ei theulu; ac mai trwy lafur ei deg ewin, a chadw mochyn, y magodd ei phedwar plentyn yn barchus. Nid eithriad i'r rheol felly oedd fod gan y nofelydd. talentog fam ragorol. Ond yr hyn a'n rhyfeddodd fwy na dim ydoedd clywed mwy nag un o'i hen gymydogion yn tystio na "fedrai Sali Owen ddim darllen llythyren ar lyfr."
Y mae'r ''Hunan Gofiant a Rhys Lewis'' yn hollol gyson â'u gilydd pan ddywedant fod gan Sarah Owen a Mari Lewis gôf rhagorol, a hwnw wedi ei ddodrefnu â chyffelyb ddefnyddiau, sef llinellau lawer o interliwdiau Tomos o'r Nant, pennodau o Holwyddoreg Thomas Charles, ac adnodau dirif o'r Ysgrythyrau. Yr oedd Sarah Owen yn falch iddi gael y fraint pan yn lodesig o adrodd pennod ddwywaith wrth Mr. Charles; a Mr. Charles a'i debyg fu "pobol" Mari Lewis ar hyd ei hoes.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
opk3eyipwftl5aqdbcgq2b0ixudqu17
Tudalen:Daniel Owen y Nofelydd.djvu/20
104
88354
170555
2026-08-18T00:24:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170555
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Uwchben ei bedd, yn Nghladdfa y Wyddgrug, y mae'r argraph ganlynol:—
SARAH OWEN, yr hon a fu farw Awst 14, 1881, yn 85 oed.
{{center block|
<poem>
Dybenodd 'nawr dy boenau,—dy Gyfaill
::Da gefaist yn angau;
:Daw dwthwn y doi dithau—
:Pwy wyr! wedi llwyr wellhau,
</poem>

Gwaith DANIEL OWEN yn ddiau ydyw'r englyn er nad oes enw wrtho. Yn y bedd hwnw y claddwyd yntau bedair blynedd ar deg yn ddiweddarach. Yno hefyd y gorphwys ei chwaer Leah, a'i frawd Dafydd. Ganwyd Leah yn 1823, a bu farw yn ddibriod, Mawrth 31, 1890. Hi oedd yn gofalu am dŷ DANIEL OWEN ar ol marwolaeth eu mam, ac yr oedd anwyldeb mawr rhyngddynt. Ganwyd Dafydd yn 1827, a bu farw Chwefror 4, 1880, yn 53 oed.
Yn Mynwent y Plwyf y claddwyd Robert Owen y tad a'i fechgyn Thomas a Robert, a'r tri, fel y cawn ddweyd yn mhellach, wedi cyfarfod eu diwedd yr un amser yn namwain fawr Gwaith Glo yr Argoed.
Yr oedd chwaer arall i DANIEL OWEN, yr hon a briododd ac a aeth i fyw i Manchester, a'i merch hi a fu yn cadw ei dŷ, wedi marwolaeth ei chwaer Leah. Y mae hithau wedi marw; ond, er chwilio, ni chawsom nemawr ddim o'i hanes.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
t3mcvqa1h7zxbai86695fyp44utppuf