Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.16 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau 0 9777 170557 111414 2026-08-19T01:23:40Z AlwynapHuw 1710 170557 wikitext text/x-wiki {{Header | title = [[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] | author = John Owen, Y Wyddgrug | translator = | section = | previous = | next = [[/At y darllenydd/]] | notes = I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau (Testun cyfansawdd)]] }} {{wicipedia|Cofiant Daniel Owen: ynghyda Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau}} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Cofiant Daniel Owen.djvu" from=7 to=8 /> </div> {{PD-old}} [[Categori:Daniel Owen]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Cofiannau]] [[Categori:John Owen, Yr Wyddgrug]] [[Categori:Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] {{DEFAULTSORT:Owen, Daniel}} th9ldrpy502s4rind1kx0q42np4s1ji Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/16 104 9784 170563 29040 2026-08-19T01:42:15Z AlwynapHuw 1710 170563 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Craigysgafn" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|DANIEL OWEN}}}} {{lein|5em}}{{lein|5em}} GANWYD Daniel Owen ar yr 20fed o Hydref, 1836, yn Maesydrê, yr Wyddgrug. Enw ei dad ydoedd Robert Owen, ac enw morwynol ei fam ydoedd Sarah Edwards. Brodor ydoedd ei dad o Ddolgellau; ond yr oedd wedi symud pan yn lled ieuanc i weithio i'r mwnau yn Sir Flint. Cawn mai yn Rhesycae yr aeth ei dad a'i fam i fyw gyntaf ar ol priodi. Gyda golwg ar Robert Owen, dywed Daniel Owen yn y braslinelliad o'i fywyd a anfonodd i'r ''Cymro'' am Fehefin 1af, 1891, nad oedd dim neillduol yn ei dad am a wyddai ef, ond ei fod yn gymydog da, yn ddyn gonest, ac yn Gristion cywir. Yn yr hanes a ysgrifenwyd gan y diweddar Barch. Owen Jones o Landudno—yr Wyddgrug y pryd hwnw—am y trychineb a gymmerodd le yng ngwaith glô yr Argoed, pryd y collodd Robert Owen, yn ogystal a dau fab iddo,<noinclude><references/></noinclude> lek93hoormjcex8dy2yl2x5k1rug3cc Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/17 104 9786 170564 29041 2026-08-19T01:43:00Z AlwynapHuw 1710 170564 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Craigysgafn" /></noinclude>ywydau, dywedir am dano,—"Cawsai aml a blin gystuddiau yn y blynyddoedd diweddaf, ond yr oedd lle i feddwl ei fod yn ofni Duw yn fwy na llawer. Byddai yn ddyfal ac astud iawn yn yr arferiad o foddion gras; a'i ymdrech dwys yn ddiau oedd am ymddwyn yn addas i efengyl Crist." Ymddengys mai gŵr dysyml ydoedd, heb fod ynddo unrhyw arbenigrwydd o ran talent. Yn wir, sylwa ei fab,—"Os oes ynof fymryn o dalent, yr wyf yn credu i mi ei etifeddu o ochr fy mam." Ganwyd a magwyd ei fam yn Llanfair, ger Rhuthun. Yr oedd ei daid o ochr ei fam yn berthynas i Thomas Edward , ac yr oeddynt ar delerau cyfeillgar iawn. Byddai y ddau gâr yn fynych yn ymryson prydyddu. Bu ei fam pan yn eneth lled ieuangc yn gwrando laweroedd o weithiau ar interliwdiau Twm o'r Nant, a dysgodd lawer o honynt ar ei chôf, a gallai eu hadrodd yn ei hen ddyddiau, a dywed ei mab y byddai yn arfer settlo pob cwestiwn drwy ddifynu llinell o weithiau Twm. Ymddengys mai nid interliwdiau Twm oedd yr unig rai y bu yn eu gwrando yn nyddiau ei hieuengctid; yr oedd ei mab yn cofio ei chlywed yn son am eraill. Nid dyma'r unig ddylanwadau, pa fodd<noinclude><references/></noinclude> n3fvzdgntreiwzbcep67s7o5lairiun Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/18 104 9787 170565 29043 2026-08-19T01:44:22Z AlwynapHuw 1710 170565 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Craigysgafn" /></noinclude>bynnag, y daeth danynt ym moreu ei hoes, oblegid fe'i clywyd yn ymffrostio yn fynych ei bod wedi cael y fraint o adrodd pennod i Charles o'r Bala fwy nag unwaith pan yn lled ieuangc. Gwelwn felly yn hanes mam Daniel Owen gyd-gyfarfyddiad y ddwy ffrwd o ddylanwad a lifai drwy rannau o Ogledd Cymru oddeutu dechrau y ganrif hon. Dywed ei mab fod gan ei fam uwch meddwl o Charles o'r Bala na neb arall. Oblegid erbyn iddo ef ddod yn ddigon hen i sylwi, yr oedd Sarah Owen wedi cyfarfod â "throion chwith" a diau ei bod yn profi'r Ysgrythurau a ddysgodd, ac a adroddodd i Mr Charles, yn fwy o gysur ac o gynhaliad i'w meddwl na dim arall. Y mae ei mab wedi rhoddi desgrifiad lled fyw o'i fam yn y braslun y cyfeiriwyd ato uchod. Dyma fel y dywed, - "Dynes fechan oedd fy mam, ond yr oedd ryw ddefnydd anghyffredin ynddi. I ddangos y defnydd yr oedd fy mam wedi ei wneud o hono, yr wyf yn adrodd i chwi yr hanesyn hwn—gallwn adrodd eraill lawn mor rhyfedd: Cerddodd o Resycae i'r Wyddgrug â phlentyn ar ei braich. Cynnorthwyodd fy nhaid a fy nain i gorddi wedi cyrraedd yr Wyddgrug, yna cerddodd i Gaerllion a'r plentyn<noinclude><references/></noinclude> qpxuy9k9dij45ex7drw1d9qlxfnr55x Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/21 104 9790 170562 29090 2026-08-19T01:39:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i wirio */ 170562 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hen Gristion profiadol." Credwn mai efe oedd yr hynaf o'r ddau. Y mae Daniel Owen yn ei fras-linelliad o'i fywyd wedi desgrifio amgylchiadau ei gartre yn y geiriau dwys a ganlyn:— "Gadawyd fy mam yn weddw gyda phedwar o blant - dau fab a dwy ferch — myfi yn blentyn saith mis oed. Amgylchiad ofnadwy oedd hwnnw i fy mam, a bu agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos am amser wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan ryw led-ddisgwyl eu gweled yn dyfod adref o'r gwaith. Yr oedd damweiniau o'r fath yn bethau lled anghyffredin y dyddiau hynny, a chynhyrfwyd y wlad drwyddi oll." Gwnaeth yr amgylchiad trist hwn argraph annileadwy ar y plentyn ieuangaf. Agorodd ei ymwybyddiaeth megis o dan gysgod pruddaidd y trychineb ofnadwy. Bu boddiad ei dad a'i ddau frawd yn achos i bruddhau ffurfafen y cartre, ac arweiniodd y teulu i wybod beth ydoedd tlodi, os nad angen. Dyfynwn eiriau Daniel Owen ei hun,— "Drwy ymdrechion y Parch. Roger Edwards, yr hwn oedd ŵr ieuanc newydd ddyfod i'r Wyddgrug, a'r Parch. Owen Jones, diweddar o Landudno, ac yr wyf yn meddwl y Parch. Thomas Jones,<noinclude><references/></noinclude> hnvs6ao3feq3whx1viql6jc19p2t8zd Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/30 104 9801 170566 29103 2026-08-19T02:22:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i wirio */ 170566 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" />gofalai yr hen flaenor am i Daniel fynychu y cyfarfod hwn gyda chysondeb. Y mae yn amlwg i'r cyfarfod hwn adael argraph ddofn ar ei feddwl. Dyma fel y disgrifia seiat y plant yn Hunan-Gofiant Rhys Lewis:— "Pan oeddwn fachgen, un o'r sefydliadau crefyddol gwerthfawrocaf oedd y cyfarfod plant, neu yn ol yr enw arferol gan ieuangc a hen, y seiat plant. Cynnelid hi yn wythnosol yn ddifwlch haf a gauaf; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau nad oedd un bachgen na geneth, os byddai eu rhieni yn aelodau eglwysig, heb roddi eu presenoldeb ynddi yn gyson; oddigerth i afiechyd eu lluddias. Os absenolai un ei hun am fwy nag un noswaith yn olynol, heb fod rheswm digonol am hyny, byddai i Abel Hughes, cyn sicred a'r byd, alw y tad neu y fam i gyfrif yn y seiat ganlynol; ac os nad ellid rhoddi rheswm boddhaol, rhoddid cerydd cyhoeddus iddynt am yr esgeulustra." Ni fethem wrth ddweyd fod Daniel Owen yn ddyledus yn benaf am ei hyfforddiant crefyddol, fel y cydnabyddai efe ei hun, i ofal ei hen feistr caredig a chrefyddol Angell Jones. Bendith anrhaethol oedd iddo dd'od i gydnabyddiaeth agos, a than ddylanwad y fath un yng nghyfnod pwysicaf ei fywyd.</noinclude>gofalai yr hen flaenor am i Daniel fynychu y cyfarfod hwn gyda chysondeb. Y mae yn amlwg i'r cyfarfod hwn adael argraph ddofn ar ei feddwl. Dyma fel y disgrifia seiat y plant yn Hunan-Gofiant Rhys Lewis:— "Pan oeddwn fachgen, un o'r sefydliadau crefyddol gwerthfawrocaf oedd y cyfarfod plant, neu yn ol yr enw arferol gan ieuangc a hen, y seiat plant. Cynnelid hi yn wythnosol yn ddifwlch haf a gauaf; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau nad oedd un bachgen na geneth, os byddai eu rhieni yn aelodau eglwysig, heb roddi eu presenoldeb ynddi yn gyson; oddigerth i afiechyd eu lluddias. Os absenolai un ei hun am fwy nag un noswaith yn olynol, heb fod rheswm digonol am hyny, byddai i Abel Hughes, cyn sicred a'r byd, alw y tad neu y fam i gyfrif yn y seiat ganlynol; ac os nad ellid rhoddi rheswm boddhaol, rhoddid cerydd cyhoeddus iddynt am yr esgeulustra." Ni fethem wrth ddweyd fod Daniel Owen yn ddyledus yn benaf am ei hyfforddiant crefyddol, fel y cydnabyddai efe ei hun, i ofal ei hen feistr caredig a chrefyddol Angell Jones. Bendith anrhaethol oedd iddo dd'od i gydnabyddiaeth agos, a than ddylanwad y fath un yng nghyfnod pwysicaf ei fywyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ar09s507g2zjhyhhhjsd329fkg2gnyp Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/35 104 9806 170567 29108 2026-08-19T02:25:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i wirio */ 170567 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Prawfddarllenwyd y dudalen hon hwnw waith Charnock ar y Priodoliaethau Dwyfol. (Dygid cyfieithiad Cymraeg y Parch. Owen Jones — o Landudno ar ol hyn — o'r gwaith hwn allan yn yr Wyddgrug, gan Mr Hugh Jones, argraphydd), ac arhosais i fynu un noswaith ymron hyd doriad y dydd i ddarllen y bennod ar y pwnc am Arfaeth Duw, ac aethym i'r gweithdy drannoeth wedi ymwisgo goreu y medrwn yn arfogaeth y diwinydd cryf hwnw. Gosodwyd y ddadl ar safle uwch, ac amddiffynnid y golygiadau Calfinaidd â rhesymau newyddion — rhesymau nad oedd neb yn y gweithdy wedi eu clywed o'r blaen, na dychmygu am danynt. Teimlai pawb fod Arminiaeth, fel y cynrychiolid hi yno, yn cael y gwaethaf, ac yn gorfod tewi a myn'd yn fud. Nid oedd neb yn llawenhau yn fwy yng ngoruchafiaeth Calfiniaeth, nac yn edmygu ei hamddiffynnydd yn fwy na Daniel Owen; ond ni wyddai efe ar y pryd nad oeddwn i yn ddim ond genau trwsgl i Stephen Charnock. Synwn i ddim na fu'r dadleuon brwd hynny yn dipyn o help i'n clymu wrth ein gilydd mewn cyfeillgarwch, ac i dynu allan ac awchu rhywfaint ar ein meddyliau. Nid oes arnom gywilydd o'r hen ''<nowiki>'</nowiki>shop,''<nowiki>'</nowiki> yn hytrach yr ydym yn diolch am dani. Beth bynnag a ennillir gan fechgyn 'y llwyau<noinclude><references/></noinclude> 7s8cfq05k87rvqznkznghvu54he3bz2 Categori:Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau 14 9809 170560 18844 2026-08-19T01:32:57Z AlwynapHuw 1710 170560 wikitext text/x-wiki [[Categori:Daniel Owen]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Cofiannau]] [[Categori:John Owen, Yr Wyddgrug]] lh3f5le0hxkpqbdl97dfh6tuek0wpy8 Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/37 104 9810 170568 29111 2026-08-19T02:27:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i wirio */ 170568 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gŵr ieuanc o Langynhafal wedi ei lyngcu i fynu gan ysbryd barddoni, ac enynodd yr un ysbryd yn ei gydweithwyr, ac yn neb yn fwy na Daniel Owen, a daethant yn gyfeillion mynwesol. Y mae yn wir fod Daniel Owen wedi arfer rhigymu ychydig cyn hyny. Yr oedd yn ddiau wedi etifeddu y duedd hon oddi wrth ei fam, yr hon oedd wedi trysori cymaint o farddoniaeth ei châr Twm o'r Nant ar ei chôf, a darnau o ba un a adroddai yng nghlyw ei phlant; eto i'w gyfaill o Ddyffryn Clwyd yr oedd ein gwrthddrych yn ddyledus am hyfforddiant yn rheolau barddoniaeth. Dyma fel y cyfeiria Daniel Owen at y cyfnod hwn,— "Dygodd hyn elfen newydd i'r bwrdd, a bu o ddiddanwch mawr, a chreodd ynof hoffter at farddoniaeth, a pharodd i mi golli ambell noswaith o gysgu i geisio prydyddu." Ychydig flynyddoedd cyn hyn, yr oedd yna gyfarfod cystadleuol wedi ei sefydlu yn yr Wyddgrug, un o'r rhai cyntaf yng Nghymru. Cafodd y cyfarfod hwn ei sefydlu gan y Parch. Roger Edwards (yr hwn a weithredai fel beirniad am flynyddoedd). Gwnaed hyn yn bennaf ar gais dau neu dri o wŷr ieuainc yn y dref, sef y diweddar Mr Edward Griffith — yr hwn a fu<noinclude><references/></noinclude> 40d5ybw92nfkw23w92ks2r9qahetdve Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/66 104 9844 170556 34614 2026-08-19T00:33:46Z AlwynapHuw 1710 170556 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Craigysgafn" /></noinclude>y Cynghor Dinesig. Trwy ei fedr a'i natur dda yn benaf llwyddwyd i gael cydweithrediad hollol, a daeth cynrychiolwyr y gwahanol eglwysi i adnabod eu gilydd yn well. Profodd ei adnabyddiaeth drylwyr o'r dref a'i thrigolion, gwyddai am enw, ïe, llysenw y cymmeriadau y gwneid ymholiad yn eu cylch, a bu hyn, ynghyd â'i fedrusrwydd i roddi olew ar olwynion y peirianwaith, yn fantais arbenig yn y cyfwng hwn. <section begin="hwn"/><section end="hwn"/> <section begin="far"/>{{canoli|Ei Gystudd a'i Farwolaeth}} Yr oedd yn amlwg fod ei iechyd yn gwanhau ers dros flwyddyn; ond rywfodd, nid oedd hyn yn peri pryder i'w gyfeillion, yr oedd wedi bod i raddau yn wanaidd ei iechyd er's blynyddoedd. Pan ffurfiwyd y Cynghor Dinesig gyntaf, ac y ceisid ganddo fod yn gadeirydd, teimlai yn anhueddol i gydsynio, o herwydd sefyllfa ei iechyd, ond cymmerodd ei berswadio, pa fodd bynnag, i gymmeryd yr anrhydedd a gymhellid arno gan deimlad cyffredinol yr holl dref, a chyflawnodd ei ddyletswyddau newydd gyda yni a bywiogrwydd neillduol; ond dydd Gwener y Groglith cyntaf ar ol hyn, cymmerwyd ef yn glaf, a gorfu iddo ymgadw i'w ystafell; ond o dan ofal ei feddyg ffyddlawn gwellhaodd ddigon <section end="far"/><noinclude><references/></noinclude> i1ub5junwxdgelv687lomsydl68jn7r Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/149 104 9997 170561 19083 2026-08-19T01:37:08Z AlwynapHuw 1710 170561 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau (Testun cyfansawdd) 0 19133 170558 111415 2026-08-19T01:28:28Z AlwynapHuw 1710 170558 wikitext text/x-wiki {{Header | title = [[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] | author = John Owen, Y Wyddgrug | translator = | section = | previous = | next = | notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] }} {{wicipedia|Cofiant Daniel Owen: ynghyda Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau}} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Cofiant Daniel Owen.djvu" from=7 to=197 /> </div> {{PD-old}} [[Categori:Daniel Owen]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Cofiannau]] [[Categori:John Owen, Yr Wyddgrug]] [[Categori:Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] [[Categori:Testunau cyfansawdd]] {{DEFAULTSORT:Owen, Daniel}} srxixtteplcjy7h5ayzxag01k6o23ji 170559 170558 2026-08-19T01:29:19Z AlwynapHuw 1710 170559 wikitext text/x-wiki {{Header | title = [[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau (Testun cyfansawdd)]] | author = John Owen, Y Wyddgrug | translator = | section = | previous = | next = | notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] }} {{wicipedia|Cofiant Daniel Owen: ynghyda Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau}} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Cofiant Daniel Owen.djvu" from=7 to=197 /> </div> {{PD-old}} [[Categori:Daniel Owen]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Cofiannau]] [[Categori:John Owen, Yr Wyddgrug]] [[Categori:Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] [[Categori:Testunau cyfansawdd]] {{DEFAULTSORT:Owen, Daniel}} i78c9o3yzqlmhr3i5v6uqwo5jhx1mjn