Gangkhar Puensum
Oddi ar Wicipedia
| Gangkhar Puensum Himalaya |
|
|---|---|
| Llun | Gangkhar Puensum o Ura La, Bhutan |
| Uchder | 7,570 m. (24,836 troedfedd) |
| Gwlad | Bhutan / Tibet |
Gangkhar Puensum yw'r mynydd uchaf yn Bhutan a'r mynydd uchaf yn y byd sydd heb ei ddringo eto. Wedi i fynydda gael ei ganiatau yn Bhutan yn 1983 gwnaed pedair ymgais aflwyddiannus yn 1985 a 1986. Ers 1994 gwaharddwyd dringo unrhyw fynydd dros 6000 medr yn Bhutan.
Saif y mynydd ar y ffin rhwng Bhutan a Tibet, er fod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch union leoliad y ffin. Yn 1998 cafodd dringwyr o Japan ganiatad i ddringo'r mynydd o Tibet, ond tynnwyd y caniatad yn ôl wedi gwrthwynebiad gan Bhutan. Dringodd y tîm gopa is ar y mynydd, Liankang Kangri (7535 m.) y flwyddyn ganlynol.

