Novosibirsk
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
| Novosibirsk | |
|---|---|
| Oblast Novosibirsk | |
| Lleoliad Novosibirsk | |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 447.2 km² | 
| Uchder uwchben lefel y môr | 150 m | 
| Demograffeg | |
| Poblogaeth (Cyfrifiad 2002) | 1,425,508 | 
| Poblogaeth (amcangyfrif 2005) | 1,405,600 | 
| Gwleidyddiaeth | |
| Maer | Vladimir Gorodetsky | 
Dinas drydedd fwyaf Rwsia ar ôl Moskva a St Petersburg yw Novosibirsk (Rwsieg Новосиби́рск). Dinas fwyaf Siberia a chanolfan weinyddol Oblast Novosibirsk a Thalaith Ffederal Siberia yw hi hefyd. Lleolir yn ne-orllewin Siberia, ar Afon Ob, un o afonydd mwyaf Rwsia. Sefydlwyd ym 1893 fel croesfan ar gyfer y rheilffordd Draws-Siberaidd dros yr afon. Ei enw o 1895 tan 1925 oedd Novonikolayevsk.
[golygu] Hinsawdd
Mae'r hinsawdd yn gyfandirol gyda gwahaniaeth mawr rhwng tymheredd yr haf a thymheredd y gaeaf.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y ddinas ym 1893 fel yr oedd y rheilffordd Draws-Siberaidd yn cael ei hadeiladu drwy'r ardal. Ar y cychwyn, enw'r dreflan oedd Aleksandrovsk er parch i Sant Alexander Nevsky, noddwr nefol Tsar Alexander III. Ar ôl ei farwolaeth ym 1895, fe'i hailenwyd yn Novo-nikolayevsk er parch i Sant Nikolay Chudotvorets noddwr nefol y tsar newydd Niclas II. Dyrchafwyd y dreflan i statws dinas ym 1903, ac ar drothwy Chwyldro Rwsia ym 1917 roedd ei phoblogaeth wedi tyfu i ryw 80,000 o drigolion. Yn sgil y chwyldro, roedd Novosibirsk yn bencadlys pwysig i'r lluoedd gwyn yn y Rhyfel Cartref o dan Llyngesydd Aleksandr Kolchak, ond cipiwyd y ddinas gan y Fyddin Goch ym 1919. Ym 1921, symudwyd gweinyddiaeth y rhanbarth o Omsk i Novosibirisk, ac o hyn ymlaen hon oedd prifddinas y rhanbarth. Ym 1925, derbyniodd ei enw presennol Novosibirsk (Dinas Newydd Siberia). O'r 1930au ymlaen, newidiodd cymeriad y ddinas: datblygodd fel canolfan ddiwydiannol, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd symudwyd llawer o ffatrïoedd o orllewin Rwsia er diogelwch. Ym 1957, adeiladwyd argae i greu cronfa ddŵr a gorsaf drydan hydroelectrig yn agos at y ddinas (Cronfa Ddŵr Novosibirsk a Gorsaf Drydan Hydroelectrig Novosibirsk). Dwyshaodd erydiad pridd ar ôl i fforestydd gael eu torri er mwyn clirio tir o gwmpas y gronfa, gan arwain at llifogydd amlach a phroblemau ecolegol eraill. Yr un flwyddyn adeiladwyd Akademgorodok ar lannau'r llyn yn ymyl Novosibirsk. Sefydlwyd pedair ar ddeg o athrofeydd ymchwil a phrifysgolion yno mewn cyfnod byr, a lleolwyd pencadlys newydd cangen Siberia Athrofa Wyddorau Rwsia yno. Erbyn dechrau'r 1960au roedd poblogaeth y ddinas wedi tyfu i un miliwn. Dechreuwyd adeiladu metro ym 1979, a'r llinell gynta'n agor ym 1985.
 Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
   Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.






