Bernard, Esgob Tyddewi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bernard (bu farw 1148) oedd y Norman cyntaf i fod yn Esgob Tyddewi. Dechreuodd ei yrfa fel caplan i'r frenhines Matilda, yna daeth yn ganghellor iddi. Apwyntiwyd ef i'r swydd gan y Brenin Harri I o Loegr yn 1115. Dywedir ei fod yn ysgolhaig da, ond fel Norman nid oedd yn dderbyniol gan y Cymry ar y cyntaf, ac ymddengys iddo dreulio llawer o amser ymhell o'i esgobaeth. Ef a sefydlodd bedair archddiaconiaeth yr esgobaeth. Ar farwolaeth Harri, fodd bynnag, achubodd Bernard y cyfle i hawlio fod gan Dyddewi awdurdod dros esgobaethau eraill Cymru, ac y dylai fod yn Archesgobaeth. Cyflwynodd ei achos i chwech pab yn olynol, ond heb lwyddiant. Yn ddiweddarach, adfywiwyd yr hawl yma gan Gerallt Gymro.

