Yr Wyddfa
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
| Yr Wyddfa Yr Wyddfa |
|
|---|---|
| Llun | Yr Wyddfa a Llyn Llydaw |
| Uchder | 1,085m/3,560 troedfedd |
| Gwlad | Cymru |
Mynydd uchaf Cymru yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd) ac y mynydd uchaf ym Mhrydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban.
Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd; y copa yw canolbwynt ardal draddodiadol Eryri. Mae trên bach Rheilffordd Eryri yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded i fyny. Adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa ceir bwyty a siop sydd wrthi'n cael eu hadnewyddu.
Mae tua 350,000 o bobl yn cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn, a thua 60,000 arall yn cyrraedd y copa ar y trên bach.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr enw
Yn ôl Bedwyr Lewis Jones, daw'r enw o "gŵydd" ("carnedd") gyda "ma" ("lle") wedi ei gydio wrtho i roi "Gwyddfa". Oherwydd fod "gwyddfa" yn enw cyffredin, rhoddir "yr" o'i flaen i roi "Yr Wyddfa". Yn ôl traddodiad, bedd Rhita Gawr oedd y garnedd.
Mae'r enw Saesneg Snowdon yn tarddu o'r Sacsoneg 'snow' a 'dun' sef mynydd neu gaer yn yr eira.
[golygu] Daearyddiaeth a daeareg
Fel y rhan fwyaf o fynyddoedd Eryri, mae'r creigiau'r Wyddfa o'r cyfnod Ordoficaidd. Yr unig eithriad yw Moel Eilio, lle mae'r creigiau o'r cyfnod Cambriaidd.
[golygu] Cribau a chopaon
O gwmpas copa'r Wyddfa mae chwe chefnen hir. Nodweddir y llethrau sy'n wynebu'r gogledd a'r dwyrain gan glogwynau syrth ond mae'r llethrau sy'n wynebu'r de a'r gorllewin yn tueddu i fod yn llai syrth a chreigiog ac yn fwy agored a glaswelltog. Rhwng y cefnennau mae cymoedd wedi eu llunio yn ystod Oes yr Iâ, rhai ohonynt â llynnoedd ynddynt. Yr uchaf o'r mynyddoedd o amgylch yr Wyddfa yw Carnedd Ugain (1,065 m), Crib Goch (923 m), Y Lliwedd (898 m) a'r Aran (747 m).
Y ddwy grib uchaf yw'r grib sy'n arwain tua'r dwyrain dros Garnedd Ugain a Chrib Goch, a'r grib sy'n arwain tua'r de-ddwyrain o gopa'r Wyddfa ei hun dros Fwlch y Saethau i gopa Y Lliwedd. Mae'r ddwy grib yma yn amgylchynu Cwm Dyli. Mae'r grib hiraf yn ymestyn tua'r gogledd-orllewin o'r copa, dros Fwlch Cwm Brwynog i Moel Cynghorion (674 m), yna dros Foel Goch a Foel Gron i gopa Moel Eilio (726 m). Yr ochr arall i Gwm Brwynog mae crib yn ymestyn tua'r gogledd o'r copa tua Llanberis, gyda chlogwyni serth ar yr ochr ddwyreiniol i lawr i Fwlch Llanberis. Ar hyd y grib yma y mae Rheilffordd yr Wyddfa yn esgyn.
Mae crib arall yn arwain tua'r de dros Fwlch Main, ar hyd Allt Maenderyn a thros Fwlch Cwm Llan i gopa yr Aran, gyda Cwm Llan ei hun rhwng y grib yma a'r Lliwedd.
[golygu] Llynnoedd ac afonydd
Ceir cryn nifer o lynnoedd mawr a bach yn y cymoedd ar ochrau'r Wyddfa. Y mwyaf o'r rhain yw:
- Llyn Llydaw (110 acer)
- Llyn Dwythwch (24 acer)
- Llyn Glaslyn (18 acer)
- Llyn Ffynnon y Gwas (10 acer)
- Llyn Du'r Arddu (5 acer)
O gwmpas y llethrau isaf ceir llynnoedd eraill: Llyn Padarn, Llyn Peris, Llyn Gwynant, Llyn Cwellyn a Llyn y Gadair.
Mae nifer o afonydd yn tarddu ar yr Wyddfa, yn eu plith Afon Glaslyn, sy'n tarddu yn Llyn Glaslyn ac yn llifo trwy Llyn Llydaw ac i lawr i Nant Gwynant. Ym mhentref Beddgelert mae Afon Colwyn, sy'n tarddu ar lethrau Yr Aran ar ochr ddeheuol yr Wyddfa yn ymuno a hi. Ymhellach i'r gogledd-orllewin mae'r nentydd yn llifo i mewn i Afon Gwyrfai, tra mae'r nentydd ar yr ochr ddwyreiniol yn llifo i Nant Peris ac yn y pen draw i Afon Seiont.
[golygu] Tywydd
Mae llethrau'r Wyddfa yn un o'r lleoedd gwlypaf yng Nghymru ac ym Mhrydain, gyda chyfartaledd o dros 4,500 mm (180 modfedd) o law y flwyddyn. Ceir eira yn aml ar y llechweddau uchaf yn yr hydref, gaeaf a'r gwanwyn, a gall orwedd hyd fis Mehefin mewn ambell gwm cysgodol sy'n wynebu tua'r gogledd. Fodd bynnag mae'r eira ar yr Wyddfa wedi gostwng fwy na 55% ers 1994.
[golygu] Bywyd Gwyllt
Yn wreiddiol roedd coedwigoedd yn tyfu ar y rhan fwyaf o lethrau'r Wyddfa, heblaw y llethrau uchaf un a'r mannau creigiog. Y rhywogaethau nodweddiadol oedd derw, ynn, bedw, cyll a chriafolen. Erbyn hyn mae'r coed wedi diflannu oddi ar lawer o'r llethrau, ac mae pori gan ddefaid a geifr gwyllt yn eu cadw yn laswelltir. Ar y clogwyni lle na all y defaid gyrraedd, yn arbennig ar Glogwyn Du'r Arddu, ceir amrywiaeth ddiddorol o blanhigion arctig-alpaidd, rhai ohonynt yn eithriadol o brin. Yr enwocaf o'r rhain yw Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina), sydd yn tyfu ar glogwyni serth yn wynebu tua'r gogledd neu'r gogledd-ddwyrain. Ceir Grug mêl (Calluna vulgaris) a Llus (Vaccinium myrtillus) ar sgri gweddol sefydlog. Mae rhan helaeth o’r Wyddfa yn ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig (ADdGA).
Mae Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis) wedi ei henwi ar ôl y mynydd; dim ond yn Eryri y ceir y rhywogaeth yma. Dim ond ar yr Wyddfa ei hun y mae chwilen arall, Nebria nivalis wedi ei darganfod.
Erbyn hyn mae rhan helaeth o'r Wyddfa yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; prynwyd stad 1559 ha (3851 acer) Hafod y Llan ar ochr ddeheuol y mynydd yn 1998 yn dilyn apêl am arian. Bwriedir cymeryd camau i adfer y llysdyfiant naturiol. Un agwedd ar hyn yw difa Rhododendron ponticum sydd yn bla ar rai o lechweddau isaf yr Wyddfa.
[golygu] Llwybrau i'r copa
Mae cryn amrywiaeth o lwybrau i ben yr Wyddfa. Dyma rai o'r prif lwybrau:
- O Pen-y-pass mae tri dewis. Gellir dilyn Llwybr y Mwynwyr neu Lwybr Pen y Gwryd yn syth tua'r copa, neu gellir dringo'r Grib Goch gyntaf ac yna mynd ymlaen dros Garnedd Ugain i gopa'r Wyddfa. Y llwybr dros y Grib Goch yw'r anoddaf o'r llwybrau arferol i gopa'r Wyddfa, a rhaid cymeryd gofal mawr mewn tywydd drwg.
- O Lanberis, gellir dilyn llwybr sy'n rhedeg ochr yn ochr a thrac y trên bach y rhan fwyaf o'r ffordd. Dyma'r llwybr hiraf, ond gan nad yw mor serth a'r gweddill, mae'n un o'r llwybrau hawddaf. Gall fod yn beryglus pan fo rhew ac eira.
- Llwybr Llyn Cwellyn, yn cychwyn ger talcen yr hostel ieuengctid Snowdon Ranger ar lan Llyn Cwellyn.
- Llwybr Rhyd Ddu, o'r maes parcio gerllaw'r pentref.
- Llwybr Watkin, yn cychwyn ger Pont Bethania, gerllaw Beddgelert. Gan fod y man cychwyn yn is na man cychwyn y llwybrau eraill, mae mwy o ddringo i'w wneud, ac mae rhan olaf y llwybr ychydig yn anodd, ond mae'n un o'r llwybrau mwyaf diddorol.
- Mae Pedol yr Wyddfa, sy'n dechrau o Ben y Pas, yn cynnwys Y Grib Goch a'r Lliwedd yn ogysyal a'r Wyddfa ei hun.
[golygu] Rheilffordd yr Wyddfa
- Prif erthygl Rheilffordd yr Wyddfa
Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn rheilffordd bach sy'n rhedeg ar drac lled cul o bentref Llanberis i gopa'r Wyddfa. Y rheilffordd yma, sydd yn 4 milltir 1188 llathen (7.524 km) o hyd, yw'r unig reilffordd rac ym Mhrydain. Mae'n cychwyn yn Llanberis 108 m (353 troedfedd) uwwch lefel y môr, ac yn aros yng ngorsafoedd Rhaeadr, Hebron, Hanner Ffordd a Clogwyn cyn cyrraedd y copa. Os yw'r tywydd yn ddrwg, dim ond cyn belled a Clogwyn y bydd y trên yn mynd.
Adeiladwyd y rheilffordd rhwng Rhagfyr 1894 a Chwefror 1896, ar gost o £76,000. Agorwyd y rheilffordd i'r cyhoedd ar ddydd Llun, 6 Ebrill. Bu damwain ar y diwrnod cyntaf, pan neidiodd y trên oddi ar y trac. Neidiodd y gyrrwr a'r taniwr oddi ar y trên wedi iddynt sylweddoli nad oedd ganddynt reolaeth arni. Gwelodd un o'r teithwyr, Ellis Roberts o Lanberis, y ddau yn neidio, a neidiodd yntau. Clwyfwyd ef yn ddifrifol, a bu farw o ganlyniad.
[golygu] Adeiladau ar y copa
Codwyd yr adeilad cyntaf ar y copa yn 1820, pan adeiladodd tywysydd o’r enw Lloyd gwt cerrig. Ychydig yn ddiweddarach, yn 1838, cafodd mwyngloddiwr copr di-waith o’r enw William Morris y syniad o werthu bwyd a diod o'r cwt hwn. Erbyn 1847, roedd nifer o gytiau pren ar y copa, un yn perthyn i Westy’r Victoria, Llanberis, ac un arall i Westy Dolbadarn. Ail-adeiladwyd y rhain nifer o weithiau, ond erbyn y 1930au roeddent mewn cyflwr drwg, a phenderfynwyd codi un adeilad i gymeryd eu lle. Cynlluniwyd yr adeilad newydd gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis, ac agorwyd ef yn 1935.
Oherwydd y tywydd garw ar gopa'r Wyddfa, dirywiodd cyflwr yr adeilad yma hefyd dros y blynyddoedd. Un disgrifiad enwog ohono oedd un y Tywysog Siarl fel "y slwm uchaf yng Nghymru". Cytunwyd i adeiladu adeilad newydd i gymeryd ei le, a dechreuwyd ar y gwaith o dynnu'r hen adeilad i lawr yn 2006. Disgwylir i'r adeilad newydd, sy'n dwyn yr enw "Hafod Eryri", gostio £8.3 miliwn. Mae rhan o'r arian yma yn dod mewn grantiau o'r Undeb Ewropeaidd ar yr amod ei fod yn cael ei orffen erbyn haf 2008. Disgwylir y bydd yr adeilad ei hun wedi ei orffen erbyn hydref 2007; yna wedi seibiant dros y gaeaf gwneir y gwaith o'i baratoi ar gyfer yr agoriad swyddogol yng ngwanwyn 2008.
[golygu] Llên a thraddodiadau
Ceir llawer o chwedlau gwerin am y Wyddfa, nifer ohonynt yn ymwneud â'r Brenin Arthur. Dywedir i Rhita Gawr, oedd a mantell wedi ei gwneud o farfau brenhinoedd, hawlio barf Arthur. Gwrthododd Arthur, a bu ymladdfa rhyngddynt ar yr Wyddfa. Lladdwyd Rhita, a chladdwyd ef dan garnedd ar y copa gan filwyr Arthur, gan roi ei enw i'r mynydd.
Yn ôl chwedl arall, ar yr Wyddfa yr ymladdodd Arthur ei frwydr olaf; bu farw o'i glwyfau a chladdwyd ef ger Bwlch y Saethau, rhwng copa'r Wyddfa a'r Lliwedd. Dywedir fod ei filwyr yn cysgu yn Ogof Arthur mewn clogwyn ar y Lliwedd.
Hen bennill am yr Wyddfa:
- 'Hawdd yw dwedyd, "Dacw'r Wyddfa," —
- Ni eir trosti ond yn ara';
- Hawdd i'r iach, a fo'n ddiddolur,
- Beri i'r afiach gymryd cysur'.
(Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 10)
Yn y rhigwm Saesneg o ddiwedd y 18fed ganrif, mae'r Wyddfa (heb ei phobl!) yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Jones, Robert, The complete guide to Snowdon = Yr Wyddfa (Gwasg Carreg Gwalch, 1992) ISBN 0863812228
- Pardoe, H. S. a B.A. Thomas Planhigion yr Wyddfa ers y rhewlifau: hanes llysieuol (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1992) ISBN 0720003660
- Thomas, Dafydd Whiteside, Chwedlau a choelion godre'r Wyddfa (Gwasg Gwynedd, 1998) ISBN 0860741559
- Williams, Rol, Heibio Hebron: hanes trên fach yr Wyddfa (Cyhoeddiadau Mei, 1987) ISBN 0905775570
[golygu] Cysylltiadau Allanol
- Yr Wyddfa o Lyn Nantlle (c.1765) gan Richard Wilson (arlunydd)
- Webcams o'r tywydd ar yr Wyddfa
- Llwybrau i gopa'r Wyddfa: o wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
- Hanes dringo'r Wyddfa a'r adeilad ar y copa, o wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
| Y pedwar copa ar ddeg |
|---|
|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
|
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
|
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |

